Y Cyfarfod Llawn
Plenary
11/10/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r cyfarfod heddiw o'r Senedd. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.
1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynllun Cymru sy'n Falch o'r Mislif? OQ60076
Mae ein cynllun Cymru sy’n Falch o’r Mislif yn gynllun trawslywodraethol i sicrhau urddas mislif a dileu tlodi mislif. Cyhoeddwyd y cynllun yn ôl ym mis Chwefror eleni, ac ers hynny, mae cynnydd wedi’i wneud ar bob un o’r 10 cam gweithredu, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i adeiladu ar hyn.
Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, mae'n hynod bwysig fod plant a phobl ifanc, ac unrhyw un ar incwm isel, yn gallu cael gafael ar nwyddau mislif am ddim, yn enwedig pan fo pedair o bob 10 aelwyd yn rhedeg allan o arian yn rheolaidd ar gyfer hanfodion oherwydd yr argyfwng costau byw. Felly, credaf y dylai pob un ohonom gymeradwyo buddsoddiad Llywodraeth Cymru—oddeutu £12 miliwn, rwy'n credu—yng nghynllun Cymru sy’n Falch o’r Mislif ers 2018. Hoffwn ofyn i chi pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o un flwyddyn i'r llall ar leihau plastig mewn nwyddau mislif, gan fod llawer ohonynt yn cynnwys plastig, sy'n amlwg yn erchyll i'r amgylchedd. A pha gynnydd sy'n cael ei wneud ar gyflwyno nwyddau cynaliadwy, yn hytrach na rhai untro? Er enghraifft, sut y byddech chi'n annog merched i ddefnyddio Mooncups ar ôl iddynt ddod yn rhywiol weithredol? Nid ydynt yn addas o gwbl ar gyfer plentyn naw oed, ond pan fyddant yn dod yn rhywiol weithredol, buaswn yn disgwyl iddynt gael eu hannog i ddefnyddio Mooncups, oherwydd wedyn, mae’r nwyddau hyn ar gael drwy’r amser, yn hytrach na phan fyddant yn digwydd bod yn yr ysgol.
Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn. Gwn eich bod yn ymgyrchydd gweithgar iawn ac yn eiriolwr angerddol yn y maes hwn, ac rydych yn llygad eich lle ynghylch yr angen, yn fwy nag erioed, i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar nwyddau mislif, yn enwedig gan fod cymunedau ac unigolion yn teimlo gwir effaith yr argyfwng costau byw rydym yn dal i'w wynebu. Felly, fel Llywodraeth, rydym yn amlwg wedi ymrwymo i gael cydbwysedd rhwng hygyrchedd a dewis, ond rydym hefyd wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â'r heriau a achosir gan lygredd plastig, fel y nododd Jenny Rathbone, boed hynny ar draws y Llywodraeth yn ein gwaith, neu drwy gynllun Cymru sy’n Falch o’r Mislif. Ac ers inni gyflwyno'r grant, rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod angen i ganran benodol o'r nwyddau y maent yn eu prynu drwy'r grant fod yn rhai y gellir eu hailddefnyddio neu'n ddi-blastig. Ac mae'r cynllun ei hun yn nodi'r weledigaeth o wlad lle mae ystod ehangach o nwyddau mislif yn cael eu defnyddio, gan gyfyngu ar yr un pryd ar yr effeithiau amgylcheddol negyddol o ganlyniad i hynny. Felly, rydym wedi cynyddu'r targed o un flwyddyn i'r llall, o ran lleihau llygredd plastig, ond o ran yr ymdrech i annog hygyrchedd a mynediad at ddewis, mae cydbwysedd i'w gael, onid oes, er mwyn sicrhau bod dewis o nwyddau ar gael ar gyfer y gynulleidfa neu’r unigolyn mwyaf priodol, a bod nwyddau y gellir eu hailddefnyddio neu nwyddau di-blastig ar gael hefyd i’r rhai sydd eu hangen neu sy’n teimlo y gallent eu defnyddio hefyd. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith hwnnw, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth inni barhau i symud tuag at hynny—nid yn unig sicrhau bod pobl yn cael mynediad at y nwyddau sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt, ond eu bod yn gynaliadwy hefyd.
Rwy'n croesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ar dlodi mislif. Un o’r heriau eraill y mae llawer o bobl yng Nghymru yn eu hwynebu, yn anffodus, yw anymataliaeth. Mae oddeutu 150,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o anymataliaeth. Mae'n fater cudd na fydd llawer ohonom yn ymwybodol ohono. Ond golyga hynny eu bod hefyd yn wynebu heriau wrth ddefnyddio cyfleusterau cyhoeddus. Weithiau, efallai na fydd ganddynt nwydd sydd ei angen arnynt, ac yn aml iawn mewn cyfleusterau cyhoeddus, ni cheir biniau hyd yn oed iddynt allu rhoi eu nwyddau ynddynt ar ôl eu defnyddio. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ystyried sut y gallai helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn y mae cymaint o bobl yng Nghymru’n eu hwynebu?
Mae’r Aelod yn codi pwynt gwirioneddol bwysig ynglŷn â sut rydym yn cefnogi pobl yng Nghymru a allai fod yn dioddef o anymataliaeth, a chynnal eu hurddas a’u galluogi i fyw bywyd bodlon ac iach. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen Cymru gyfan ar anymataliaeth. Bydd y grŵp yn dod â chlinigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau at ei gilydd, ynghyd â chynrychiolwyr cleifion, yn bwysig iawn, llunwyr polisïau, a rhanddeiliaid eraill, i sicrhau ein bod yn datblygu cynllun cynhwysfawr sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwasanaethau ymataliaeth a'r cymorth a'r mynediad at y gwasanaethau hynny, boed hynny mewn lleoliadau cymunedol neu, fel y dywedwch, pan fyddwch allan yn y gymuned hefyd. Bydd allbwn y grŵp hwnnw’n sicrhau ein bod yn gwneud gwell defnydd o’r wybodaeth bresennol a allai fod yno i gyfeirio pobl at gymorth, addysg ac adnoddau o ansawdd uchel, neu hyd yn oed alluogi pobl i fanteisio ar apiau neu wefannau, er mwyn gwybod ble gallant gael cefnogaeth a chymorth o'r fath. Yn amlwg, fe fyddwch yn ymwybodol ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau lleol lunio strategaethau toiledau lleol, ac wrth wneud hynny, dylid annog awdurdodau lleol a lleoliadau cymunedol hefyd i sicrhau eu bod yn ymgysylltu â’r grwpiau cynrychioliadol hyn i sicrhau, fel y dywedwch, fod cyfleusterau y mae pobl eu hangen ac y dylent eu disgwyl wrth law.
Diolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn. Dwi'n llwyr gefnogol i weledigaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r ffaith ein bod ni'n trafod cynnyrch mislif mor agored rŵan yn beth cadarnhaol iawn. Dwi'n falch iawn o weld disgyblion ysgol Plasmawr yma. Ges i drafodaeth fywiog efo nhw yn gynharach heddiw ynglŷn â phwysigrwydd hyn a sut mae'r polisi’n gweithio yn eu hysgol nhw.
Un o'r pethau sydd wedi ei fwydo'n ôl i mi ydy ei fod yn dal yn parhau yn loteri cod post o ran cael mynediad i'r cynnyrch. Mae o'n ddibynnol yn aml iawn o ran sut mae ysgol yn mynd ati efo hyn, sut mae cymuned leol ac ati, ac mae yna'n dal achosion lle mae pobl, yn anffodus, sydd angen y cynnyrch yma yn dal i fethu cael mynediad. Gaf fi ofyn, felly, sut ydych chi'n parhau i asesu pa mor llwyddiannus mae'r polisi yma, fel mae o—y cynllun hwn? Ac a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i gyflwyno deddfwriaeth ar y mater yma, fel sydd yn yr Alban? A ydych chi'n parhau i drafod efo'r Alban o ran sut y mae’n gweithio o ran cael yr hawl yma yn rhan o ddeddfwriaeth yn hytrach nag yn rhan o gynllun gweithredu?
Diolch am y cwestiwn, Heledd Fychan, a chroeso i ysgol Plasmawr.
Tybiaf y byddwch wedi cael rhai o’r sgyrsiau a’r syniadau a’r mewnbwn a’r heriau gorau, a dweud y gwir, a gaf innau fel Aelod o’r Senedd gan bobl ifanc mewn ysgolion ac etholaethau ledled ein gwlad, a boed i'w lleisiau barhau i gael eu clywed. Hyd yn oed os nad ydynt yn ddigon hen i bleidleisio eto, mae ganddynt bob hawl i godi’r pethau hynny sy’n eu poeni gyda ni.
Os caf fynd ar drywydd y pethau a ddywedoch chi ynglŷn â sicrhau cydraddoldeb mynediad a chymorth mewn gwahanol leoliadau, mewn gwahanol ysgolion ledled Cymru, rydym yn ymwybodol iawn o hynny, fel Llywodraeth, a sicrhau bod gennym ddadansoddiad a thystiolaeth o sut mae cynllun Cymru sy’n Falch o’r Mislif a'r cyllid grant urddas mislif yn sicrhau darpariaeth gyfartal mewn lleoliadau ledled Cymru. Rydym wedi gwneud rhywfaint o waith gwerthuso ar hynny, ac edrychaf ymlaen at weld y canlyniadau hynny a gweld sut y gallwn sicrhau y ceir y cydraddoldeb hwnnw, a sicrhau, mewn gwirionedd, y gall sefydliadau eraill ddysgu gan eraill lle ceir arferion gorau hefyd. Ac ar yr adborth, os oes gennych unrhyw adborth anuniongyrchol gan y myfyrwyr y gwnaethoch eu cyfarfod heddiw a chan eraill yn rhinwedd eich swydd fel Aelod, rwy'n fwy na bodlon ichi gysylltu i roi'r adborth hwnnw inni allu ei ystyried yn rhan o’r gwerthusiad a sut yr adeiladwn ar y gwaith hwn wrth symud ymlaen. Oherwydd, fel y dywedoch chi, mae'n wirioneddol bwysig na fyddem, ddegawd yn ôl yn ôl pob tebyg, wedi bod yn siarad am hyn hyd yn oed yn y lle hwn, a chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod cynllun Cymru sy’n Falch o’r Mislif—. Credaf fod yr enw'n bwysig iawn hefyd, gan nad yw'n rhywbeth i fod yn swil ohono nac i fod ag ofn sôn amdano. Mae'n digwydd i ran sylweddol o'r boblogaeth, ac mae'n iawn ein bod yn ei drafod ac mae'n iawn inni gymryd y camau y gallwn eu cymryd i gefnogi pobl.
2. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r argymhellion a wnaed ynghylch anghenion penodol menywod mewn carchardai yng Nghymru yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol? OQ60046
Diolch am eich cwestiwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â sefydliadau partner i sicrhau cynnydd ar nifer o argymhellion a wnaed gan y pwyllgor. Enghraifft wych o hyn yw ein llwyddiant, yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, i sicrhau mynediad at Buvidal i fenywod o Gymru yng ngharchardai Eastwood Park a Styal.
Diolch, Weinidog. Er gwaethaf degawdau o drafod, roedd yr adroddiad pwysig gan y pwyllgor ym mis Mai yn dangos pa mor wael yw’r system gyfiawnder yng Nghymru i fenywod, gyda 70 y cant o fenywod yn bwrw dedfrydau byrrach na 12 mis, a llawer yn cael eu cadw yn y carchar am ychydig ddyddiau yn unig, heb fawr o sylw i'r tarfu enbyd ar eu bywydau nhw a'u hanwyliaid. Disgrifiodd un fenyw ei brwydr gyda llety ar ôl bod yn y carchar fel cael ei thaflu i'r siarcod. Nid yw’n syndod fod y gyfradd aildroseddu o fewn blwyddyn i ryddhau yn 56 y cant. Rwy'n croesawu'r treial ar gyfer y ganolfan i fenywod yn Abertawe, ac edrychaf ymlaen at glywed pryd y bydd y ganolfan honno’n agor, ond pa drafodaeth y mae’r Gweinidog yn ei chael gydag eraill i sicrhau nad yw’r system gyfiawnder yn parhau i wneud cam â menywod a phobl Cymru? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Wel, wrth gwrs, mae’r adroddiad ei hun yn dangos sut mae gan wasanaethau datganoledig, megis tai, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a chyflogadwyedd rôl enfawr i helpu menywod, i geisio eu hatal rhag mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, ac mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar hyn ar draws Llywodraeth Cymru. Roeddwn yn falch dros ben—fel y byddech chi hefyd, fel Aelod, rwy'n siŵr—o weld y Papur Gwyn ar dai ddoe gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n dweud,
'Newidiadau i ddyletswyddau craidd
'Gweithgarwch atal ar y cam derbyn',
fel ein bod yn dechrau mynd i'r afael â hyn gyda'n gwasanaethau datganoledig, a newid i statws carcharorion yn ystod eu dedfrydau o garchar. Bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fenywod. Ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw edrych ar ddewisiadau amgen, fel y dywedais, i atal menywod rhag mynd i'r carchar yn y lle cyntaf, gan gynnwys gwaith gyda dedfrydwyr i godi ymwybyddiaeth o effaith darfol dedfrydau byr o garchar i fenywod. Felly, rydym yn falch y bydd cynllun peilot y ganolfan breswyl yn mynd rhagddo. Mae'n ddewis amgen hanfodol yn lle carchar i fenywod yn ardaloedd Abertawe a gorllewin Cymru. Ond er ein holl waith partneriaeth effeithiol, a'n glasbrint cyfiawnder i fenywod, mae'n rhaid imi ddweud mai dim ond datganoli cyfiawnder fydd yn caniatáu inni gael dull gwirioneddol integredig o gefnogi menywod a merched yng Nghymru.
Weinidog, buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd ar argymhelliad 17. Mae digartrefedd yn parhau i fod yn un o achosion pennaf aildroseddu. Nid yw'n iawn ein bod yn parhau i daflu cyn-droseddwyr allan drwy'r drysau blaen heb unrhyw drefniadau tai addas ar eu cyfer. Felly, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac awdurdodau lleol ynghylch darparu tai addas ar gyfer cyn-garcharorion, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr. Mae hwnnw’n gwestiwn ac yn argymhelliad pwysig iawn yn adroddiad y pwyllgor. Rwyf newydd gyfeirio at y Papur Gwyn ar dai a gyhoeddwyd ddoe. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod cyfle gennym nawr i edrych ar hyn er mwyn sicrhau ei bod yn uchelgais gennym i wneud digartrefedd yn beth prin. Mae’r Papur Gwyn yn ystyried sut mae menywod o Gymru sy’n gadael y carchar—a dyna bwynt eich cwestiwn, ac argymhelliad y pwyllgor wrth gwrs—i gyd yn Lloegr, a gwn y bydd rhai ohonoch ar y pwyllgor wedi ymweld â charchardai Eastwood Park a Styal. Ond maent yn dychwelyd i Gymru, ac mae angen iddynt gael eu trin yn gyfartal â dynion sydd yng ngharchardai Cymru. Felly, bydd mwy o eglurder ynghylch cyfrifoldeb awdurdodau lleol tuag at bobl yn y system gyfiawnder, bydd yn mynd i'r afael â materion o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol, ac mae disgwyliadau clir ar anghenion tai, y dylid eu hystyried pan fo rhywun yn cyrraedd y carchar ac wrth i ddyddiad eu rhyddhau agosáu. Dylai hynny wella canlyniadau, yn ogystal â buddsoddiad parhaus yn y stoc dai.
Ond rwy'n dod yn ôl at fy mhwynt cyntaf mewn ymateb i’r cwestiwn gwreiddiol: rydym am atal menywod rhag mynd i'r carchar. Pan ymwelais â charchar Eastwood Park, cefais syndod pan ddywedodd y llywodraethwr, 'Mae'r menywod yn y carchar hwn, at ei gilydd, yn ddioddefwyr eu hunain', yn aml yn sgil cam-drin domestig, ac yn aml yn camddefnyddio sylweddau, ac yna cânt eu gwahanu oddi wrth eu plant. Mae'n rhaid inni unioni'r sefyllfa. Mae'n rhaid inni gael mesurau atal ar waith, mae'n rhaid inni agor canolfan breswyl i fenywod, ac rwy'n ystyried hwnnw'n ddewis amgen hanfodol yn lle carchar i fenywod ledled Cymru.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae pob plentyn yn haeddu dechrau da, ond yn ôl Achub y Plant, mae llawer o blant ifanc Cymru ar ei hôl hi gyda'u datblygiad cyn dechrau’r ysgol. Mae un o bob 10 ar ei hôl hi o ran gallu ieithyddol erbyn eu bod yn saith oed, ac i blant sy’n byw mewn tlodi, mae hyn yn dyblu i un o bob pump. Bythefnos yn ôl, beirniadwyd cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru yn hallt gan Gomisiynydd Plant Cymru, a nododd nad oeddent yn cynnwys uchelgais, eglurder na manylder. Aeth yn ei blaen i ddweud bod y diffyg manylder ar
'gamau gweithredu, amserlenni a thargedau cyflawnadwy'
yn golygu nad oedd unrhyw ffordd o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, gan ychwanegu:
'Rydym mewn cyfnod o argyfwng, mae arnom angen strategaeth tlodi plant gydlynol a chadarn.
'Rhestr o gynlluniau polisi ydyw nad yw'n nodi mewn gwirionedd beth, sut, pryd na phwy fydd yn cyflawni yn erbyn y gwahanol bolisïau er mwyn lleihau a dileu tlodi plant.'
Dywedodd comisiynydd plant blaenorol Cymru hefyd, yn 2019:
'Mae gan Lywodraeth Cymru Strategaeth Tlodi Plant… ond ar hyn o bryd does dim cynllun clir',
ac y dylai Llywodraeth Cymru lunio cynllun cyflawni newydd ar dlodi plant sy'n canolbwyntio ar 'gamau pendant, mesuradwy'. Rwyf wedi bod yma’n ddigon hir, fel chithau, i gofio pan gawsom ddadl debyg fwy na degawd yn ôl. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo felly i gyflawni nid yn unig strategaeth tlodi plant gydlynol a chadarn, ond un sy’n nodi’n benodol beth, sut, ble, pryd a phwy fydd yn cyflawni mewn gwirionedd?
Diolch yn fawr iawn. Blaenoriaeth hollbwysig i mi mewn perthynas â mynd i’r afael â thlodi plant, a datblygu ein strategaeth tlodi plant—. Mae gennym ymrwymiad, fel y gwyddoch—roeddech yma pan basiwyd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 gennym—dyletswydd i gyhoeddi adroddiad bob tair blynedd ar y cynnydd ar gyflawni ein hamcanion tlodi plant. Ac wrth gwrs, cyhoeddais adroddiad cynnydd ym mis Rhagfyr.
Felly, mae’r strategaeth ddiwygiedig hon yn seiliedig ar ymgynghoriad 12 wythnos. Ond yr hyn sydd bwysicaf yw na wnaethom gynhyrchu'r strategaeth ddrafft honno i gynnal ymgynghoriad arni o'r brig i lawr, ond yn hytrach, fe wnaethom ymgysylltu, fe wnaethom ei chreu ar y cyd gyda 3,300 o blant, pobl ifanc, teuluoedd a sefydliadau. Maent wedi ein helpu i ddatblygu’r strategaeth tlodi plant ddiwygiedig hon y gwnaethom ymgynghori arni. Rhoesom grantiau i sicrhau ein bod yn estyn allan at bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol; rhieni, gofalwyr a phlant; yn ogystal â phlant a phobl ifanc anabl. Dywedodd pobl ifanc wrthym beth fyddai'r gwahaniaethau yn ei wneud yn eu bywydau.
Felly, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hyn, gan weithio ar draws Llywodraeth Cymru, a chan ystyried canfyddiadau Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno, pan welwch—a byddaf yn ei chyhoeddi maes o law cyn diwedd y flwyddyn galendr hon—. Rydym wedi ymgynghori ar bum amcan, pum maes gweithredu blaenoriaethol drwy'r strategaeth. Fe welwch yr ymateb a gawsom—dros 150 o ymatebion—. Byddwn yn cyflwyno strategaeth a fydd yn creu newid. Ond yn y pen draw, treth a budd-daliadau yw'r dulliau wrth gwrs, ac mae'n rhaid inni weithio ar y dulliau a'r pwerau a'r cyfrifoldebau sydd gennym. A buaswn yn dweud bod cyflwyno prydau ysgol am ddim, prydau ysgol am ddim i bawb, gyda'n cytundeb cydweithio, wedi bod yn gwbl hanfodol yn y cam cyntaf o'r hyn y gallwn ei wneud gyda'n pwerau a'n hadnoddau, a chael y cynnig gofal plant mwyaf hael yn y DU hefyd.
Diolch, ond nid ydych wedi dweud wrthym o hyd a fydd hynny'n cynnwys pwy, beth, pryd, ble a sut, sef yr hyn y mae'r cyd-gynhyrchwyr a'r ymgyngoreion yn gofyn amdano.
Mae pobl anabl yng Nghymru bron ddwywaith yn fwy tebygol na phobl nad ydynt yn anabl o fyw ar aelwyd incwm isel, ac os oes plentyn anabl hefyd, mae’r gyfradd tlodi hyd yn oed yn uwch. Yn Lloegr, mae defnyddwyr cadeiriau olwyn, gan gynnwys plant, wedi gallu gwneud defnydd o’r cyllidebau personol ar gyfer cadeiriau olwyn, sy’n disodli cynllun talebau cadair olwyn y GIG. Mae'r gyllideb bersonol ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael i gefnogi dewis pobl o gadair olwyn, naill ai gyda gwasanaethau a gomisiynir gan y GIG neu fel arall. Mae cyllidebau personol ar gyfer cadeiriau olwyn yn ei gwneud hi'n bosibl cynnwys anghenion symudedd mewn cynlluniau gofal ehangach, a gallant gynorthwyo pobl i gael mynediad at ddewis ehangach o gadair olwyn. Mae'r gyllideb ar gyfer cadeiriau olwyn yn galluogi'r unigolyn i ddefnyddio'r arian hwnnw i helpu gyda chost y gadair y maent ei heisiau, gan roi llais, dewis a rheolaeth go iawn i bobl anabl. Ond nid yw GIG Cymru yn cynnig hyn, ac yn lle hynny, mae gwefan ei gwasanaeth cadeiriau olwyn yn nodi:
'Ni fyddwn ond yn dosbarthu offer lle ceir angen hanfodol o ran osgo neu symudedd. Mewn rhai achosion, gall hyn fod yn wahanol i'r disgwyl’,
sydd i bob pwrpas yn gwarafun y llais, y dewis a’r rheolaeth a ddylai fod gan bobl anabl yng Nghymru, ac yn gwarafun neu'n herio’r model cymdeithasol o anabledd.
Felly, o ystyried eich cyfrifoldeb dros hawliau anabledd yng Nghymru, pa drafodaethau a gawsoch neu y byddwch yn eu cael gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â rhoi polisi tebyg ar waith er mwyn rhoi annibyniaeth go iawn i bobl anabl yng Nghymru?
Diolch, Mark. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig a pherthnasol iawn oherwydd, wrth gwrs, rwy'n cyd-gadeirio tasglu hawliau pobl anabl. Rwy'n ei gyd-gadeirio gyda’r Athro Debbie Foster, a phobl anabl yw aelodau’r tasglu hwnnw, gyda phartneriaid sector hefyd mewn llywodraeth leol, yn y gwasanaeth iechyd, yn y trydydd sector. Felly, un o’r ffrydiau gwaith yn y tasglu hawliau pobl anabl yw byw’n annibynnol, o ran iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â mynediad at wasanaethau. Mae gennym weithgorau ar gyfer teithio, a phlant a phobl ifanc. Ac mae pob un o'r rhain yn seiliedig ar gydgynhyrchu; y dull gweithredu llais, dewis a rheolaeth; a'r model cymdeithasol o anabledd. Ond mae'n ymwneud i raddau helaeth â beth yw’r blaenoriaethau o ran hawliau pobl anabl. Felly, yn amlwg, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dod at ein tasglu hawliau pobl anabl—. Mae pob Gweinidog yn mynd ati i geisio cyflawni hyn, a byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr fy mod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r pwynt a godwyd gennych.
Diolch. Wrth gwrs, mae cydgynhyrchu'n ymwneud hefyd â monitro canlyniadau, cytuno ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a chytuno ar yr hyn y mae angen inni ei wneud yn wahanol. Gan aros ar hawliau anabledd defnyddwyr cadeiriau olwyn, a phwysleisiaf fy mod yn codi pwyntiau y gofynnwyd i mi eu codi gan rieni plant sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, rwy’n siŵr y byddai’r Gweinidog yn cytuno bod cadair defnyddiwr cadair olwyn yn ddarn hanfodol o offer i alluogi pobl anabl, gan gynnwys plant, i fod yn annibynnol.
Yng Nghymru, mae gwasanaethau cadeiriau olwyn wedi eu rhannu rhwng y gogledd a'r de. Mewn ateb ysgrifenedig i mi, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd fod 82 y cant o blant a atgyfeiriwyd at wasanaethau cadeiriau olwyn yn y gogledd yn cael eu cadair olwyn o fewn chwe mis, ond mai 60 y cant yn unig o blant a atgyfeiriwyd at wasanaethau cadeiriau olwyn yn y de sy'n cael eu cadair olwyn o fewn chwe mis. Rwyf hefyd wedi cael gwybod gan deuluoedd ledled Cymru fod yn rhaid iddynt gael eu hatgyfeirio yn ôl i’r gwasanaeth pan fydd eu plentyn yn tyfu ac angen cadair fwy arnynt, sy’n ychwanegu at hyd yr amser y byddant yn aros, er bod amhariad gydol oes ar eu plant sy'n golygu y bydd bob amser angen cadair olwyn arnynt.
Er bod cadeiriau olwyn plant yn aml yn cael eu creu'n bwrpasol, a fydd yn cael effaith ar hyd yr amser y bydd ei angen i weithgynhyrchu cadair, roedd 82 y cant o blant yn Lloegr a oedd angen cadair olwyn yn cael un o fewn pedwar mis a hanner. Felly, unwaith eto, o ystyried eich cyfrifoldeb gweinidogol dros hawliau anabledd, a wnewch chi ofyn i'r Gweinidog iechyd roi camau ymarferol ar waith i gynyddu effeithlonrwydd a lleihau'r amseroedd aros ar gyfer plant sy'n defnyddio cadeiriau olwyn yng Nghymru?
Wel, credaf fy mod wedi ymateb i hynny wrth ateb eich ail gwestiwn. Byddaf yn codi’r mater gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—yn amlwg, mae o fewn ei chyfrifoldebau portffolio hi—ond dywedaf hefyd fy mod yn croesawu’r dystiolaeth hon ac yn croesawu’r adborth a roddwch heddiw, gan ei fod yn ymwneud â chydgynhyrchu a chanlyniadau, fel y dywedoch chi. Y tasglu hawliau pobl anabl hwn sy'n llywio'r agenda. Wrth gwrs, mae'n ymwneud ag argymhellion ar gyfer gweithredu yn yr hinsawdd ariannol anodd iawn rydym ynddi o ganlyniad i'r pwysau yn sgil y diffyg cyllid gan Lywodraeth y DU, ond byddwn yn ystyried hyn, a diolch am eich cyfraniad.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ar sawl achlysur rydym wedi trafod peryglon pardduo grwpiau ymylol mewn cymdeithas—fod yr iaith y mae gwleidyddion yn ei defnyddio yn bwysig, ac y gall arwain at y canlyniadau mwyaf enbyd. Roedd yn gywilyddus, ond nid yn syfrdanol erbyn hyn yn anffodus, clywed enghraifft arall eto fyth o ddefnydd sinigaidd yr Ysgrifennydd Cartref Torïaidd o rethreg ymrannol a senoffobig i bardduo ac ymosod ar hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gyda ffocws penodol ar geiswyr lloches LHDTC+ a benywaidd.
Rydym wedi gweld canlyniadau niweidiol ideoleg wahaniaethol a pholisïau amhriodol Llywodraeth y DU yn Llanelli. Ddoe, daeth y newyddion calonogol na fydd Gwesty Parc y Strade bellach yn cael ei ddefnyddio i gartrefu ceiswyr lloches, ond yn union fel gyda gwersyll Penalun, mae’r Swyddfa Gartref, unwaith eto, wedi creu hafog ac wedi hollti cymuned, ac wedi caniatáu cyfle i grwpiau asgell dde eithafol bregethu casineb hiliol. Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dwyn yr Ysgrifennydd Cartref a Llywodraeth San Steffan i gyfrif am y methiannau mynych hyn a’u canlyniadau niweidiol a pheryglus i’n cymunedau?
Cytunaf yn llwyr â’ch datganiad a’r pwyntiau a wnaed gennych, o ran cynnydd yr elyniaeth hon, yn enwedig gan ein Hysgrifennydd Cartref, Suella Braverman. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â mudiad 'HOPE not hate' yn ddiweddar, ac rwy'n siŵr fod gennych chi, rwy'n gwybod, yn Llanelli—mae grwpiau 'HOPE not hate' wedi bod yn weithgar ledled Cymru. Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman—dyma a ddywedodd 'HOPE not hate’—
'un o'r areithiau mwyaf ymfflamychol gan AS Ceidwadol ers araith waradwyddus "Rivers of blood" Enoch Powell ym 1968.'
Dyna fesur—. Ysgrifennwyd hyn ganddynt cyn cynhadledd y Ceidwadwyr; roedd hyn mewn ymateb i'w haraith yn Efrog Newydd i'r American Enterprise Institute. Hoffwn ddweud mai’r peth gwaethaf a ddywedodd, mewn sawl ffordd, oedd ei hymosodiad ar gonfensiwn ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig 1951. Mae hwnnw'n un o gonglfeini cyfraith ryngwladol.
Ond mae’n rhaid inni weithio nawr ar sut y gallwn gefnogi pobl Llanelli. Rydym wedi gweld cynnydd annerbyniol mewn lefelau tensiwn a thrais, nid yn unig ger safle’r gwesty ond drwy'r gymuned, wedi’i ysgogi gan yr asgell dde eithafol. Felly, hoffwn roi sicrwydd i chi fy mod yn gofyn am sicrwydd ar frys gan y Swyddfa Gartref y byddant yn cymryd cyfrifoldeb llawn ac yn unioni'r niwed a achoswyd gan eu penderfyniadau mewn perthynas â Gwesty Parc y Strade. Ond i gloi, mae Cymru yn chwarae ei rhan lawn yng nghynlluniau lloches ac adsefydlu Llywodraeth y DU. Rydym yn parhau i helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau. Mae'n rhaid i'r Swyddfa Gartref weithio gyda ni nawr ar unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol ledled Cymru. Rhaid inni beidio â gweld yr hyn a ddigwyddodd yn Llanelli yn cael ei ailadrodd. Ni wnaethant ddysgu unrhyw wersi o Benalun ychwaith.
Diolch, Weinidog. Rwy’n cytuno’n llwyr ac yn cefnogi’r Llywodraeth yn hynny o beth. Unwaith eto, mae lefelau tlodi plant ac effaith yr argyfwng costau byw ar aelwydydd â phlant sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ledled Cymru wedi’u hamlygu gan adroddiad cenedlaethol newydd. Yn ôl adroddiad gan Plant yng Nghymru ar ei seithfed arolwg blynyddol o dlodi plant a theuluoedd, mae 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, gyda 95 y cant o ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol yn nodi bod y sefyllfa’n waeth eleni o gymharu â’r llynedd, os gallwch gredu hynny. Mae hyn yn atgyfnerthu canfyddiadau llawer o adroddiadau diweddar eraill ar dlodi plant ac rydym eisoes yn gweld tuedd ehangach, lle mae aelwydydd â phlant ifanc yn enwedig yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi.
Bydd llawer o rieni newydd yn ei chael hi'n anodd gyda’r pwysau ariannol a ddaw yn sgil cael babi, ac wrth gwrs, mae’r pwysau hynny hyd yn oed yn fwy acíwt bellach. Felly, yn y cyfnod hwn o bwysau ariannol enfawr, nid ydym wedi clywed unrhyw beth, ers imi ofyn i chi yn ôl ym mis Mai eleni, ynglŷn â chyflawni ymrwymiad eich rhaglen lywodraethu i gyflwyno bwndeli babanod ar gyfer bob babanod newydd-anedig, yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus. Dangosodd y cynllun peilot ar ddechrau 2021 sut y byddai bwndeli babanod yn galluogi teuluoedd i ddiwallu’r anghenion sylfaenol hynny, a hefyd, mae'n glir y gallent agor y drws ar gyfer mynediad at gyngor a chymorth—pwynt cyswllt cyntaf hanfodol yn y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf hollbwysig hynny ym mywyd plentyn. Fe ddywedoch chi wrthyf bryd hynny, Weinidog, mai’r nod oedd caffael a phenodi cyflenwr i gyflawni hyn erbyn diwedd eleni, ac y byddai’r gwaith o gyflawni’r prosiect yn dechrau yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi dechrau'r broses o gaffael cyflenwr ar gyfer y cynllun bwndeli babanod a phryd y bydd y broses o'u cyflwyno yn dechrau mewn gwirionedd?
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn gwbl hanfodol wrth fynd i’r afael â thlodi plant. Unwaith eto, roeddwn yn falch iawn o'r ffaith ein bod wedi cadw ein cynllun Dechrau’n Deg a'i ehangu eto mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru. Fe wnaethom ehangu’r ddarpariaeth honno o ofal plant wedi’i dargedu a’r holl gymorth a ddaw gyda Dechrau’n Deg. Mae Cychwyn Cadarn wedi hen fynd ers blynyddoedd gyda chyni yn Lloegr, ac fe wnaethom adeiladu ar Cychwyn Cadarn gyda’n cynllun ein hunain yng Nghymru, Dechrau’n Deg. Mae'n hanfodol ein bod yn buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar, ac wrth gwrs, rydym yn ehangu hynny.
Felly, ar y bwndeli babanod, y nod, drwy ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, yw eu cynnig i fwy o deuluoedd ledled Cymru. Rydym yn gobeithio cyflwyno rhaglen gymorth y flwyddyn nesaf, gan fod hyn yn ymwneud â chynnig cyfle i gael eitemau hanfodol. Hynny yw, dyma ddechrau bywyd plentyn, onid e? Rydym wedi cael cynllun peilot. Gwyddom fod llawer o sefydliadau ledled Cymru—banciau bwyd, pantrïau bwyd, elusennau—eisoes yn chwarae eu rhan yn ceisio sicrhau'r ddarpariaeth sydd ei hangen ar deuluoedd, rhieni a phlant yn y cyfnod cynnar hwn mewn bywyd.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dlodi tanwydd yng ngogledd Cymru? OQ60081
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Mae nifer y bobl sydd mewn dyled i'w cwmnïau ynni ac sy'n ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd yn dorcalonnus. Mae’r sefyllfa yn y gogledd a’r de wedi'i gwaethygu gan daliadau sefydlog uchel, anghyfiawnder y mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ac Ofgem fynd i’r afael ag ef ar frys.
Diolch ichi am eich ateb. Mae yna annhegwch ofnadwy yn y ffaith bod cartref yng ngogledd Cymru, ar gyfartaledd, yn talu £82 yn fwy bob blwyddyn mewn standing charges, o gymharu â chartrefi tebyg yn Llundain. Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl annerbyniol, nid yn unig am ei fod e'n cosbi pobl sydd ar incwm isel, mae e hefyd, wrth gwrs, yn cosbi pobl sydd yn trio, efallai, lleihau a thorri nôl ar eu defnydd o ynni. Ond mae e hefyd yn annheg, wrth gwrs, oherwydd rŷn ni'n cynhyrchu cymaint o ynni yng ngogledd Cymru, rŷn ni'n allforio ynni. Hynny yw, mae yna bobl yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio ynni sy'n cael ei gynhyrchu yng ngogledd Cymru ac rŷn ni'n talu mwy o standing charges am ddefnyddio'r ynni dŷn ni'n ei gynhyrchu.
Felly, gaf i ofyn pa drafodaeth rŷch chi fel Llywodraeth wedi'i chael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Ofgem a'r cwmnïau ynni i roi diwedd ar yr anghyfiawnder yma? Gan fod disgwyl i'r tywydd oeri dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf yma, beth ŷch chi'n ei wneud i gefnogi pobl wrth y bydd gofyn iddyn nhw nawr droi'r gwres i fyny ac wynebu'r goblygiadau hynny o safbwynt costau?
Diolch yn fawr. Wel, rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi codi'r cwestiwn hwn; fe'i codwyd ddoe gan Jack Sargeant, ac ymatebodd y Prif Weinidog yn llawn iddo, gan gydnabod yr hyn rydych chi wedi'i ddweud, fod taliadau sefydlog gogledd a de Cymru ymhlith yr uchaf ym Mhrydain. Fel y dywedwch, mae'n anghyfiawnder gwirioneddol, ac mae'n gwaethygu. A'r peth ofnadwy yw, o ran mesuryddion rhagdalu, os oes cyfnod o ddatgysylltiad—ac yn amlwg, mae hwnnw wedi bod yn rhywbeth rydym wedi'i herio, dan arweiniad Jack Sargeant—mae deiliaid tai sy'n rhagdalu mewn gwirionedd yn gorfod talu am yr holl ddyddiau pan nad yw'n bosibl cael cyflenwad ac mae hynny'n annheg. Sut y gall unrhyw un weld bod hynny—? Mae'n bolisi creulon.
Felly, hoffwn ddweud fy mod i wedi cyfarfod â'r Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan i drafod y mater—ac maen nhw'n dweud mai mater i Lywodraeth y DU ydyw, ond rwyf innau wedi eu cyfarfod; gallant ei godi a galw am newid—rwyf wedi cyfarfod â chyflenwyr ynni. Rwy'n eu cyfarfod eto'n fuan hefyd, oherwydd mae'n rhaid i loteri cod post taliadau sefydlog ddod i ben. Ac rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol—a chyfeiriodd y Prif Weinidog at ganfyddiadau'r Pwyllgor Diogelwch Ynni a Sero Net—eu bod nhw hefyd, grŵp trawsbleidiol sy'n cynnwys Ceidwadwyr, wedi galw am fynd i'r afael â hyn, o ran y taliadau sefydlog, sydd mor annheg. Ond pwynt eich cwestiwn yw, oes, mae'n rhaid inni wneud yr hyn a allwn o ran darparu cefnogaeth i'n teuluoedd a'n cartrefi incwm isaf. Mae ein partneriaeth â'r Sefydliad Banc Tanwydd yn hanfodol. Fe fyddwch yn gwybod am hwnnw; maent yn gweithio gyda'n banciau bwyd, gan ddarparu talebau. Hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod, drwy'r gronfa cymorth dewisol, yn darparu tanwydd ar gyfer aelwydydd oddi ar y grid, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, ac yn wir, y Sefydliad Banc Tanwydd hefyd. Ond mae ein gwasanaethau cynghori yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn cael y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Ac rydym yn gwybod bod llawer o bobl heb gael y budd-daliadau roedd ganddynt hawl iddynt ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd gan Lywodraeth y DU—20 miliwn, rwy'n deall—mae angen inni gael hwnnw yn ôl. Cyfarfûm ag elusen National Energy Action yr wythnos diwethaf, a dyna roedden nhw'n ei ddweud wrthyf, 'A ellir—?' Rydym yn galw am hynny, ynghyd â Martin Lewis a thua 600 o elusennau.
Rwy'n falch fod mater tlodi tanwydd yng ngogledd Cymru wedi'i grybwyll heddiw. Fel Aelod o ogledd Cymru fy hun, gallaf yn sicr weld a hyrwyddo manteision cartrefi diogel, cynnes sydd wedi'u hinswleiddio. Dyna pam fy mod yn arbennig o bryderus wrth weld Llywodraeth Cymru yn torri cynllun Arbed yn ôl yn 2021, cynllun a oedd yn sicrhau inswleiddio a'r defnydd o baneli solar, er enghraifft, i leihau tlodi tanwydd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Mae'r twll du hwn yn y cyllid wedi gadael fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd yn waeth eu byd oherwydd y Llywodraeth Lafur hon, sydd wedi gweld diswyddo staff heb fawr o eglurhad o Fae Caerdydd ynghylch pryd y bydd y cynllun hwn yn ailddechrau. Felly, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau y mae Aelodau Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'i gilydd, a pha drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cynllun Arbed a chynlluniau dilyniannol tebyg, p'un a fydd yn dwyn ffrwyth yn y dyfodol, a darparu eglurder i fy etholwyr? Diolch.
Wrth gwrs, rydych yn gwbl ymwybodol, oherwydd mae llawer o ddatganiadau wedi'u gwneud gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac ymgysylltu hefyd, ar ein cynllun Cartrefi Clyd newydd, olynydd Nyth, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddarparu cartrefi cynnes i aelwydydd mewn angen. Ond yr hyn sydd mor bwysig i'ch etholaethau ledled Cymru gyfan yw bod y rhaglen Cartrefi Clyd yn gweithredu fel ein prif fecanwaith i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Bydd hefyd yn cyfrannu at gyflawni Cymru sero net erbyn 2050, a galluogi'r trawsnewid hwnnw, gan fynd i'r afael â thlodi tanwydd a'r argyfwng hinsawdd, rhywbeth y mae eich Prif Weinidog wedi ei anghofio ar ôl iddo gefnu ar yr ymrwymiadau i sero net. Felly, yr hyn sy'n bwysig yw eich bod chi'n gweld, drwy Cartrefi Clyd, ein bod—. Mae'r cam nesaf yn ddull cartref cyfan o weithredu effeithlonrwydd ynni yn y cartref. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ei gefnogi—gwn fod y grŵp tlodi tanwydd trawsbleidiol yn ei gefnogi—oherwydd mae'n ymwneud â mynd i'r afael â chartrefi sy'n anos eu trin, lle mae effaith tlodi tanwydd—. Dyna'r olynydd i Arbed. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn targedu'r rhai sydd fwyaf o'i angen.
4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau perfformiad gwasanaethau tân ac achub? OQ60049
Mae yna angen a her amlwg i'r gwasanaeth tân ac achub addasu, ehangu ei rôl ac adnewyddu ei ffocws ar ddiogelwch diffoddwyr tân er mwyn cynnal gwasanaethau a gwasanaethu cymunedau yn y dyfodol. Mae ein prif gynghorydd tân ac achub wedi gwneud argymhellion pwysig yn y meysydd hyn, ac rwy'n disgwyl i’n gwasanaethau tân ac achub weithredu arnynt er ein budd ni oll.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Roeddwn yn bryderus iawn o ddarllen adroddiad ar WalesOnline ynglŷn â sut mae newidiadau polisi yn ymwneud â diffoddwyr tân wrth gefn, a wnaed gan Wasanaeth Tân ac Achub de Cymru, yn arwain at, ac rwy’n dyfynnu, 'ecsodus' o'r rolau rhan-amser hanfodol hyn. Mae hyn yn dilyn digwyddiad y llynedd yn Abercynon lle bu’n rhaid i un o fy etholwyr aros 21 munud poenus i injan dân gyrraedd ei chartref wedi i dân gynnau yno. Rwyf wedi cyfarfod ag Undeb y Brigadau Tân ac yn fuan byddaf yn cyfarfod â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ofyn am sicrwydd, ond pa drafodaethau a gawsoch chi am y newidiadau polisi hyn, a’u heffaith nid yn unig ar recriwtio ond hefyd ar gadw staff, a beth y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon?
Diolch i Vikki Howells am ei chwestiwn. Hoffwn ddweud, yn gyntaf oll, fy mod yn ymwybodol o’r tân a ddigwyddodd yn Abercynon y llynedd, ac er bod hwn yn fater gweithredol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rwy’n cydymdeimlo’n fawr iawn â’r teulu dan sylw a’r effaith a gafodd arnyn nhw ac ar y gymuned hefyd. Mae’r Aelod yn codi pwynt gwirioneddol bwysig ynghylch cynaliadwyedd hirdymor y gweithlu wrth gefn y mae cymaint o’n cymunedau yng Nghymru yn dibynnu arno. Mae problemau hirsefydlog o ran recriwtio a chadw diffoddwyr tân ar alwad ledled y DU. Rwy’n parhau i drafod y mater hwn yn rheolaidd gydag awdurdodau tân ac achub a chyda’r undebau cynrychiadol, gan gynnwys drwy’r fforwm newydd a sefydlais, fforwm partneriaeth ar gyfer cynrychiolwyr yr awdurdodau tân ac achub eu hunain a chynrychiolwyr y gweithlu.
Mae’r rhesymau dros yr her hon yn lluosog ac yn gymhleth, ac maent yn ymwneud â nifer o faterion o gontractau dim oriau i gymudo o bellteroedd hir, ac mae’r ffordd y mae pobl wedi newid ac yn byw eu bywydau hefyd yn cael effaith ar faint o amser a'r ymrwymiad y mae'n rhaid i unigolion ei wneud i fod ar gael am y nifer angenrheidiol o oriau. Yn ogystal â hynny mae gostyngiad yn nifer y digwyddiadau—sy’n beth cadarnhaol o ran tanau yn y cartref a’r effaith y mae’n ei chael ar gymunedau—y mae diffoddwyr tân yn darparu cymorth ar eu cyfer hefyd yn golygu efallai fod llai o alwadau, a llai o gyfle felly i gael eu talu a chael eu gwobrwyo am wneud eu swydd.
Nid yw’r rhain yn broblemau sy’n unigryw i dde Cymru. Mae her i bron bob gwasanaeth tân ac achub yn y DU y tu hwnt i ganolfannau trefol mawr. Felly, gallaf roi sicrwydd i’r Aelod ein bod yn parhau i gael y trafodaethau hynny, gyda’r cyflogwyr a chyda chynrychiolwyr y gweithlu, ac mewn gwirionedd, un o’r cyfleoedd i ddarparu cynaliadwyedd yn y dyfodol yw symud tuag at rôl ehangach ar gyfer diffoddwyr tân.
Hoffwn ddatgan bod fy mrawd-yng-nghyfraith yn ddiffoddwr tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o’r cyfle diweddar i aelodau o’r cyhoedd yn y gogledd gael dweud eu dweud am gynlluniau adolygu darpariaeth frys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ac wrth gwrs, gydag unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus mae’n bwysig fod lleisiau pobl yn cael eu clywed. Fe fydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn ymwybodol fod gostyngiadau posibl yn y lefelau staffio mewn gorsafoedd yn y Rhyl a Glannau Dyfrdwy o fewn y cynigion hynny, ac maent yn peri pryder mawr i mi. Ddirprwy Weinidog, rwy'n derbyn efallai y byddwch yn dweud bod unrhyw farn ar hyn, ac unrhyw benderfyniadau ar hyn, yn fater gweithredol i’r gwasanaeth tân ac achub lleol, ond fel y Dirprwy Weinidog, ar ba bwynt y byddech yn ystyried mai eich lle chi yw ymyrryd, yn enwedig pe byddech yn tynnu sylw at newidiadau mewn gwasanaeth tân ac achub sy’n ymddangos fel pe baent yn rhoi mwy o fywydau mewn perygl na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i ddiddordeb yn hyn. Gwn fod y mater wedi ennyn diddordeb lleol aruthrol, fel y byddwn yn ei ddisgwyl, dros yr ychydig wythnosau a’r mis neu ddau diwethaf, ac roeddwn yn falch fod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymateb i alwadau gan y cyhoedd a chan Undeb y Brigadau Tân i ymestyn yr ymgynghoriad ar ôl gwyliau’r haf pan na fyddai pobl yn ymgysylltu cymaint efallai, neu efallai eu bod i ffwrdd a heb amser i ymateb yn llawn. Gwn fod Aelodau wedi gweithio'n galed ar draws y Siambr hon, gan fy nghynnwys i, i annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw ac—[Torri ar draws.]
Rwy’n cydnabod bod unrhyw newid yn her a bod y gwasanaethau tân ac achub yn ceisio ymateb i ddarpariaeth gyfartal ar draws gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Cymru hefyd. Mae’r Aelod newydd ddweud ei bod yn her weithredol i’r awdurdod tân ac achub, maent yn gyrff ymreolaethol sy’n pennu eu cyllidebau eu hunain, ac fel y gwyddoch yn iawn, cânt eu hariannu gan eu hawdurdodau lleol cyfansoddol. Maent yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut mae eu gwasanaethau rheng flaen gweithredol yn cael eu cynllunio a'u darparu. Ond yn ystod yr ymgynghoriad, cyfarfûm â'r awdurdod tân ac achub ei hun yn ogystal â chynrychiolwyr Undeb y Brigadau Tân, a hoffwn eu hannog i weithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i ateb sy'n gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn deg i'r gweithlu ac i holl bobl gogledd Cymru.
Ymatebais innau hefyd i'r ymgynghoriad gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ar ran fy etholwyr yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Roedd gennyf bryderon penodol am effaith safle Glannau Dyfrdwy gyda'r tri opsiwn a gyflwynwyd gan yr awdurdod tân a'r effeithiau ar y gymuned ehangach. Unwaith eto, rwy'n deall drwy eich atebion yma heddiw a'ch atebion blaenorol ei fod yn fater gweithredol i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Fe ddywedoch chi yn eich ateb diwethaf y dylent fod yn ceisio gweithio gydag Undeb y Brigadau Tân i ddod o hyd i ateb sy'n gynaliadwy, ond a ydych chi'n cytuno hefyd, Weinidog, y dylent fod yn gweithio gydag Undeb y Brigadau Tân i gryfhau'r gwasanaeth tân ac achub ac nid ei wanhau?
Diolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn ac am ei ddiddordeb yn y maes, a gwn eich bod chi hefyd wedi cyfarfod ag Undeb y Brigadau Tân, nid yn unig mewn perthynas â'r mater hwn, ond yn ehangach mewn perthynas â rhai o'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth a'r rhai sy'n darparu'r gwasanaeth. A phan gyfarfûm â chynrychiolwyr Undeb y Brigadau Tân o ogledd Cymru yn ystod yr ymgynghoriad, un o'r pethau y gwneuthum gyffwrdd â nhw oedd yr angen i gynnwys cynrychiolwyr y gweithlu yn ehangach yn y broses o wneud y penderfyniadau gweithredol hynny, ac mae'n cyd-fynd yn fawr â'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yn y dyfodol pan fydd y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn dod i rym, a fyddai'n berthnasol i awdurdodau tân ac achub, ac sy'n llwyr gydnabod bod gweithwyr yn arbenigwyr oherwydd eu profiad, a rhai o'r heriau a wynebwn oherwydd yr amgylchiadau rydym ynddynt—13 mlynedd o gyni, cyfraddau chwyddiant cynyddol—fod penderfyniadau'n cael eu gwneud o fewn y cyd-destun hwnnw, ond mewn gwirionedd, gellir eu gwneud mewn partneriaeth, gan weithio gyda'r gweithlu, oherwydd bydd ganddynt syniadau da iawn ynglŷn â sut y gallwn ymateb i'r heriau cyffredin hynny gyda'n gilydd.
Mae cwestiwn 5 [OQ60039] wedi ei dynnu nôl. Felly, cwestiwn 6, Joel James.
6. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am waith Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru? OQ60078
Mae Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn benodiad annibynnol a wneir gan Lywodraeth y DU ac mae'n adrodd i'r Gweinidog Materion Cyn-filwyr ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae ei eiriolaeth ledled Cymru yn darparu llais pwysig, gan gynnwys ar faterion cyn-filwyr lle mae gennym gyfrifoldeb datganoledig.
Diolch am eich ymateb, Ddirprwy Weinidog, ac rwy'n rhannu eich teimlad am y rôl bwysig y mae Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn ei chwarae yn ei eiriolaeth dros gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru ac i dynnu sylw at yr heriau y mae cyn-filwyr Cymru yn eu hwynebu ar lefel genedlaethol, yn enwedig o ran darpariaeth iechyd meddwl a chyflogaeth.
Fel y cofiwch, fe wnaethoch chi groesawu penodiad Llywodraeth y DU o'r comisiynydd, ac rwy'n siŵr fod pawb yma wrth eu bodd gyda'r ymgysylltiad cadarnhaol sydd wedi bod gan Lywodraeth Cymru, ond gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Weinidog, gan weithio gyda'r comisiynydd, pa feysydd cymorth i gyn-filwyr sydd ar goll neu sydd angen adnoddau ychwanegol yn eich barn chi? Ac o gofio bod un o bob 25 o bobl yng Nghymru wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn y gorffennol, pa asesiad a wnaethoch o'u cyfraniad parhaus i gymdeithas Cymru? Diolch.
Diolch i Joel James am ei ddiddordeb yn y maes hwn, a gwn fod cefnogaeth i'n cyn-filwyr yng Nghymru yn un o'r meysydd lle gallwn ddod o hyd i dir cyffredin ar draws Siambr y Senedd ac ar draws cymunedau hefyd. Rwy'n gwerthfawrogi cyfraniad y comisiynydd i faterion cyn-filwyr yng Nghymru, ac mae'n eiriolwr pwysig ac yn ychwanegiad at dirwedd y cyn-filwyr yma.
Y tro diwethaf i mi gyfarfod â'r comisiynydd oedd pan fynychodd ein grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog ar 27 Medi, ac rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd ynglŷn â sut y gallwn ymateb i rai o'r pryderon y mae'n eu codi, a sut y gallwn gael blaenoriaethau ar y cyd, yn enwedig o ran mynediad at iechyd, achrediad meddygon teulu, rhywbeth rydym yn adeiladu arno—meddygfeydd sydd wedi'u hachredu ar gyfer cyn-filwyr—a hefyd o ran cymorth ar gyfer pontio, mynediad at gyflogaeth a gwasanaethau datganoledig eraill hefyd.
Ac rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn, Joel James, ar nifer y cyn-filwyr yng Nghymru, a nifer y dinasyddion Cymreig sy'n gwasanaethu o fewn y lluoedd arfog. Gwyddom ein bod yn darparu, mae Cymru'n darparu, 7 y cant o'r lluoedd arfog o 5 y cant o'r boblogaeth, ac rwy'n gwybod bod eich rhanbarth chi, sef Canol De Cymru yn ardal lle mae'r lluoedd bob amser wedi cael ôl troed eithaf mawr. Ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r comisiynydd ar ystod o faterion, boed yn bethau a nodwyd yn adolygiad Etherton a'i bwysigrwydd i gyn-filwyr yng Nghymru, ac rwy'n cefnogi'r ffyrdd hynny o weithio yn llwyr. Rydym yn gweithio'n agos iawn i sicrhau, pan fyddwn ni'n dod o hyd i dir cyffredin ar yr heriau hynny, ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd. Mae'r comisiynydd cyn-filwyr wedi bod yn gadarnhaol am y gwaith a wnawn, ond fel bob amser, rydym bob amser yn cydnabod gyda'n gilydd fod mwy y gallwn ei wneud i adeiladu ar y gefnogaeth honno hefyd.
7. Sut y bydd Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn helpu busnesau bach i dendro ar gyfer gwaith awdurdodau lleol? OQ60069
Mae’r ddyletswydd caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol yn y Ddeddf yn rhan allweddol o’r broses ehangach o ddiwygio cyfraith caffael yng Nghymru. Ochr yn ochr â’r ddyletswydd hon, mae Bil Caffael y DU yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio roi ystyriaeth ragweithiol i sut y gellid lleihau neu ddileu’r rhwystrau penodol sy’n wynebu busnesau bach a chanolig wrth dendro am gontractau sector cyhoeddus.
Diolch, Weinidog. Mae’n dda clywed hynny. Mater cyffredin ledled Cymru yw talu neu fethu talu is-gontractwyr. Yn aml, bydd prif gontractwyr mwy o faint yn ennill busnes gan awdurdod lleol, er enghraifft i gyflawni datblygiad tai. Yna maent yn is-gontractio’r gwaith hwnnw i is-gontractwyr lleol, masnachwyr unigol yn aml neu fusnesau bach iawn. Yna gall is-gontractwyr fynd heb dâl am eu gwasanaethau, gan ddinistrio eu busnesau yn y broses weithiau. Maent wedi gwneud y gwaith, ond nid ydynt wedi cael eu talu, oherwydd bod y prif gontractwr wedi mynd i’r wal. Mae hwn yn fater o bwys ac mae gwir angen mynd i’r afael ag ef. A allwch chi egluro, Weinidog—a fydd y canllawiau statudol ar ddyletswydd caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol y ddeddfwriaeth yn mynd i’r afael â’r mater a amlinellais? Pryd rydych chi’n rhagweld y byddwn mewn sefyllfa lle nad yw busnesau bach lleol ar eu colled o ganlyniad i’r ffaith bod prif gontractwyr sy’n gwneud gwaith i awdurdodau lleol yn mynd i’r wal?
Diolch i Russell George am ei gwestiwn. Mae'n faes pwysig iawn, ac rydym yn gwybod bod llawer o heriau wedi bod ynghlwm wrtho. Roedd llawer o’r argymhellion a gawsom cyn inni ddeddfu yng Nghymru yn y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn ymwneud â’r angen i ddeddfu ar faterion caffael i fynd i’r afael â’r heriau a’r materion niferus rydych wedi’u codi yn eich cwestiwn heddiw. Hoffwn gyffwrdd yn fyr, i ddechrau, â'r Bil Caffael ar lefel Llywodraeth y DU, a gwn fod mwy o dryloywder yn y ddeddfwriaeth honno a fydd yn ychwanegu at well rheolau mewn perthynas â thaliadau prydlon i helpu i sicrhau bod cyflenwyr yn enwedig yn cael eu talu'n brydlon, oherwydd bydd telerau talu 30 diwrnod yn berthnasol ar draws cadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus, boed hynny wedi ei gynnwys yn y contract ai peidio.
Ond gan droi at ein dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol fel rhan o ddeddfwriaeth Cymru, mae swyddogion bellach yn gweithio i ddatblygu’r canllawiau statudol hynny ac mae cymalau dehongli enghreifftiol yn rhan o hynny, i fynd i’r afael â’r heriau amrywiol y dywedwch eu bod yn bodoli, yn aml, o fewn y cadwyni cyflenwi hynny, a'r cadwyni cyflenwi y gwyddom eu bod yn arbennig o helaeth a chyffredin yn enwedig mewn rhai sectorau fel adeiladu. Y bwriad yw datblygu’r darnau hyn o waith mewn cydweithrediad ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid a phartneriaid cymdeithasol, i helpu’r awdurdodau contractio i ddatblygu strategaethau sy’n canolbwyntio ar anghenion lleol ac sy’n sensitif iddynt, a gwneud yn siŵr ein bod yn ymgorffori cymesuredd i sicrhau bod mentrau llai a chanolig, busnesau llai yng Nghymru, a busnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, yn gallu cael mynediad at y contractau hynny, yn gallu cael cymorth a’u bod yn cael eu talu’n brydlon fel maent ei angen, gan ymgorffori tryloywder gwell yn y gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru. Ond os oes gan yr Aelod unrhyw bryderon penodol eraill yr hoffech eu codi, ysgrifennwch ataf a gallwn wneud yn siŵr eu bod yn cael eu hystyried yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r canllawiau statudol hefyd.
8. Sut y mae'r Gweinidog yn cefnogi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ei gwaith? OQ60059
Rydym yn parchu rôl y comisiynydd pobl hŷn fel llais a hyrwyddwr annibynnol ar ran pobl hŷn, ac yn gweithio mewn partneriaeth i fwrw ymlaen â’i blaenoriaethau, gan gynnwys rhoi diwedd ar gam-drin pobl hŷn, diogelu hawliau pobl hŷn, cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar gredyd pensiwn, a chreu Cymru oed-gyfeillgar.
Diolch, Weinidog. Wel, hoffwn gofnodi fy nghanmoliaeth a fy niolch i Heléna Herklots am y gwaith rhagorol y mae’n ei wneud dros ein pobl hŷn yma yng Nghymru. Mae ei gweithgareddau helaeth yn cynnwys gwella cymorth a gwasanaethau i ddynion hŷn, hefyd, sy’n profi cam-drin domestig; ymgyrchu i wella mynediad at doiledau cyhoeddus ar ôl darganfod bod bron i ddwy ran o dair o bobl oed 60 a throsodd yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at gyfleusterau o’r fath; ac mae hi wedi bod yn gweithio'n galed iawn i roi diwedd ar ragfarn a gwahaniaethu ar sail oedran. Ar yr olaf o'r rhain, rwy'n ymwybodol iddi roi briff i chi ar ffyrdd y gallech chi fel Llywodraeth fynd i'r afael â rhagfarn ar sail oedran yn y gweithle drwy wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl hŷn. Mae rhagfarn ar sail oedran yn y gwaith yn effeithio ar tua 12 y cant o weithwyr hŷn yng Nghymru, felly mae angen dybryd i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fynd i’r afael â hyn. A allech chi egluro, Weinidog, pa ddulliau o fynd i’r afael â rhagfarn ar sail oedran y mae’r comisiynydd wedi rhoi cyngor i chi arnynt y bwriadwch symud ymlaen â nhw nawr? Diolch.
Diolch yn fawr, a diolch hefyd am gydnabod rôl bwysig ac annibynnol y comisiynydd pobl hŷn. Rydych chi wedi nodi llawer o'r cyflawniadau hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda'r comisiynydd pobl hŷn i fynd i'r afael â'r materion a godwyd ganddi, ac yn enwedig mewn perthynas â rhagfarn ar sail oedran yn y gwaith, a chyflogadwyedd gyda Gweinidog yr Economi. Wrth gwrs, mae hwn yn faes lle nad yw'r holl gyfrifoldebau mewn perthynas â chyflogaeth wedi'u datganoli, ond mae hyrwyddwyr pobl anabl a gyflogir gennym, er enghraifft, yn cael effaith wirioneddol oherwydd eu bod yn bobl anabl sy'n cefnogi pobl hŷn a phobl anabl i gael gwaith.
Hefyd, hoffwn gydnabod y gwaith a wneir ar y cyd ar gynhwysiant digidol a'r hyn y mae hynny'n ei olygu o ran mynediad at waith a sgiliau. Felly, mae'r comisiynydd pobl hŷn yn aelod o fwrdd y rhaglen cynhwysiant digidol a sgiliau. Felly, rydym yn ymgysylltu â hi ar yr holl faterion hyn, yn enwedig wrth ymateb i ragfarn ar sail oedran yn y gweithle.
9. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ymateb Llywodraeth Cymru i newidiadau parhaus yn rhwydwaith Swyddfa’r Post? OQ60044
Rydym yn cydnabod y gall swyddfeydd post lleol fod yn achubiaeth i bobl a busnesau bach ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae swyddfeydd post yn darparu mynediad at wasanaethau arian parod a bancio lle mae canghennau banc wedi cau, ac maent yn aml yn cael eu hystyried ac yn gwasanaethu fel asedau cymunedol pwysig.
Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb yna. Mae'n ddifyr eich bod chi'n nodi'r angen neu ddefnydd banciau yn y swyddfeydd post. Wrth gwrs, rydyn ni'n gwybod bod banciau wedi bod yn cau ar raddfa frawychus dros y blynyddoedd diwethaf. Y diweddaraf yn fy etholaeth i ydy cyhoeddiad Barclays eu bod nhw am gau cangen ym Mhwllheli. Ond, dwi wedi bod mewn trafodaethau efo pob un o'r banciau yma, ac ar bob un achlysur, fel rydych chi'n ei ddweud, Ddirprwy Weinidog, maen nhw'n dweud y gall eu cwsmeriaid fynd i'r swyddfa bost agosaf atyn nhw. Ond, rŵan, yn dilyn argymhellion y Financial Conduct Authority, mae yna gyfyngiadau ar faint o bres y gall busnesau ei roi i mewn i'w cyfrifon banc drwy'r Swyddfa Bost. Mae hyn yn effeithio'n arbennig o wael ar fusnesau bach gwledig, sy'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw gyfyngu faint o arian parod maen nhw'n ei dderbyn, neu eu bod nhw'n gorfod teithio pellteroedd maith gyda lot fawr o arian parod yn eu cerbydau. Mae hefyd am effeithio ar hyfywedd y swyddfeydd post gwledig. Mae hyn yn ei dro, yn naturiol, am effeithio ar ein heconomi wledig. Ydych chi wedi cael trafodaethau gyda'r FCA i dynnu'r mater yma i'w sylw nhw, a pha gymorth ydych chi'n ei roi er mwyn sicrhau bod swyddfeydd post, sy'n cynnig achubiaeth i sawl cymuned, am barhau yn hyfyw?
Diolch, Mabon ap Gwynfor. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig am fanciau a swyddfeydd post. Dwi'n cytuno.
Rydym yn cydnabod y rôl y mae swyddfeydd post yn ei chwarae mewn cymunedau, fel y dywedwch, yn enwedig pan fo banciau'n cau, ac rydym i gyd wedi wynebu hynny yn ein cymunedau ein hunain a'r ardaloedd a gynrychiolwn, ac yn dweud, 'Gallwch wneud y gwasanaethau hynny yn Swyddfa'r Post.' Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â Swyddfa'r Post a chyda chynrychiolwyr, ond rwy'n sicr yn gwneud ymrwymiad heddiw i godi'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud yn fy nghyfarfod nesaf, ac i fynd ar eu trywydd ac ysgrifennu yn ôl atoch, os yw hynny'n iawn gyda chi.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gynnydd o ran datganoli cyfiawnder i Gymru? OQ60071
Diolch am eich cwestiwn. Mae gennym nifer o brosiectau parhaus i feithrin ein dealltwriaeth o'r camau nesaf ymarferol tuag at ddatganoli'r swyddogaethau cyfiawnder y credwn fod gobaith da o'u gweld yn cael eu datblygu gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Roedd yn dda eich gweld chi dros y penwythnos, Gwnsler Cyffredinol, yn siarad yn y gynhadledd Lafur, ac yn enwedig yn nigwyddiad Hillsborough Law Now ddoe—digwyddiad hynod bwysig, ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn cytuno. Gwnsler Cyffredinol, rwy'n falch fod Keir Starmer wedi rhoi ei gefnogaeth i gyflwyno cyfraith Hillsborough yn gynnar yn ei dymor pan ddaw Llywodraeth Lafur i rym yn San Steffan, gobeithio. Rwyf hefyd yn falch o'i gefnogaeth mewn perthynas ag argymhellion adroddiad Gordon Brown, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â'r system gyfiawnder. Nawr, wrth inni aros am Lywodraeth Lafur yn y DU, ac wrth inni aros i ddod ag 13 mlynedd o anhrefn Torïaidd i ben yn San Steffan, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i baratoi ar gyfer datganoli pellach, gan gynnwys cyfiawnder?
Wel, yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i chi am y cyfeiriad at Hillsborough? Mynychais ddigwyddiad Hillsborough ynghyd â nifer o grwpiau ymgyrchu eraill—y rhai ar gyfer cyn-filwyr a oedd wedi dod i gysylltiad â phrofion niwclear, ac eraill yn wir. Ac wrth gwrs, y pwynt a wneuthum wrth eu hannerch oedd ein bod yn cefnogi cyfraith Hillsborough, ond y ffordd symlaf o ddatrys mater cyfraith Hillsborough yw cynnig cymorth cyfreithiol i bobl yn yr amgylchiadau trasig hynny. Byddai hynny'n golygu na fyddai angen cyfraith Hillborough mewn gwirionedd.
O ran paratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt a minnau yn gweithio'n agos ar y gwaith o baratoi'r mecanwaith ar gyfer mabwysiadu cyfrifoldeb dros gyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Mae hwnnw'n waith sy'n mynd rhagddo, ac mae'n rhan bwysig o'r system gyfiawnder rydym eisoes yn ymwneud â hi, ond rydym eisiau ymwneud ymhellach â hi.
Hoffwn ddweud hefyd, wrth gwrs, fy mod wedi mynychu cynhadledd Cymru'r Gyfraith yr wythnos diwethaf, ac roedd yn gynhadledd drawiadol iawn. Dau brif ustus, gan gynnwys y Prif Ustus newydd Sue Carr, a dreuliodd dridiau yng Nghymru, ac a ddaeth i'r Senedd. Cyfarfûm â hi, gan sôn yn benodol iawn am faterion cyfreithiol Cymru, ac rwy'n credu bod hwnnw'n ddatblygiad pwysig. Cafwyd y ddarlith gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd hefyd wrth gwrs—darlith Hamlyn y noson gynt. Ni allwn fynychu'r ddarlith honno, oherwydd roeddwn yn cymryd rhan yn agoriad practis cyfreithiol mawr newydd a oedd yn agor yng Nghymru. Ond fe wnaeth y pwynt, i'r rhai nad ydynt wedi cael eu hargyhoeddi eto efallai o'r angen i ddatganoli cyfiawnder, y dylent ddechrau cyflwyno'r achos a'r rhesymau pam, oherwydd mae'n amlwg i mi fod bron bawb rwy'n ymdrin â nhw sy'n ymwneud â'r system gyfiawnder yn cydnabod bod hwn yn gam pwysig ymlaen. A gaf fi ddweud hefyd mai un peth sy'n bwysig iawn gyda Chymru yn fy marn i yw ein bod ni'n trafod mater cyfiawnder yng Nghymru? Rydym yn arwain y ffordd drwy drafod, mewn ffordd nad yw wedi bod yn digwydd yn rhywle arall.
Gwnsler Cyffredinol, diolch yn fawr am eich ateb i gwestiwn Jack Sargeant. Fel y gwyddoch, cyfeiriwyd bron i draean o'r argymhellion yn adroddiad yr Arglwydd Thomas gan y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru tuag at Lywodraeth Cymru. Mae'n deg dweud nad oes dadl argyhoeddiadol yn erbyn datganoli cyfiawnder; nid ydym wedi clywed un hyd yn hyn, beth bynnag. Ond yn fy marn i, un ddadl bendant dros ddatganoli cyfiawnder fyddai'r ffaith bod gennym ni yn y Senedd arweinyddiaeth glir, atebolrwydd clir, ein bod ni'n cydweithio ag eraill, ac wedi llwyddo i gynnal diwygiadau o fewn ein grym. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni a dweud wrthym pa argymhellion sy'n ddibynnol ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd sydd wedi cael eu gweithredu o adroddiad yr Arglwydd Thomas? Diolch yn fawr.
Wel, a gaf fi ddweud bod un o'r argymhellion pwysicaf ac un o'r meysydd pwysicaf o ddatganoli cyfiawnder yr ydym yn gwneud cryn dipyn o waith arno yn ymwneud â'r tribiwnlysoedd, sydd hefyd yn rhan o'r system gyfiawnder sydd gennym ni? Ac wrth gwrs, rydym yn paratoi'r ffordd ar gyfer deddfwriaeth yn y maes hwnnw.
Rwyf wedi gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Cyfraith Cymru sydd newydd gael ei sefydlu, ac rwy'n credu ei fod yn ddatblygiad pwysig iawn. Ac rwy'n credu mai'r hyn sydd hefyd yn bwysig o ran datblygiad yw'r gwaith rwy'n ei wneud sy'n ymwneud â'r ffaith bod gan bron bob un o'r prif gyrff sy'n gysylltiedig â'r gyfraith, gyda chyfiawnder, gyda'r proffesiwn cyfreithiol, safleoedd yng Nghymru bellach—mae gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol a Chomisiwn y Gyfraith bresenoldeb. Rwyf wedi gweithio'n agos iawn ar fater awdurdodaeth, sy'n rhywbeth, unwaith eto, y cyfeiriodd comisiwn Thomas ato yn benodol iawn. Ac wrth gwrs rwy'n falch iawn o weld bod pwyllgor cenedlaethol Cymdeithas y Gyfraith yng Nghymru hefyd yn gwneud gwaith yn benodol ar hynny.
Rwy'n credu mai'r meysydd gwaith allweddol yr ydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd, fodd bynnag, yw'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid, wrth gwrs; dyna'r meysydd a nodwyd. Roedd y maes arall a argymhellwyd, wrth gwrs, yn ymwneud â mater dadgyfuno data, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei godi ar bob cyfle, yn enwedig yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyng-weinidogol dros Gyfiawnder sydd newydd gael ei ffurfio. Rwy'n credu ei bod yn arwyddocaol iawn ein bod bellach yn rhan o'r grŵp rhyng-weinidogol hwnnw ar gyfiawnder, ac rwy'n credu bod hynny ynddo'i hun, boed yn fwriadol ai peidio, yn gydnabyddiaeth o'r ffordd y mae'r system gyfiawnder yng Nghymru yn newid. Ceir llawer o feysydd eraill i weithio arnynt; rwy'n credu bod y meysydd allweddol, serch hynny, yn canolbwyntio ar newid gwirioneddol ac ymarferol y gellir ei wneud mewn gwirionedd.
2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud ynghylch a yw'r setliad cyfansoddiadol presennol yn gweithio er budd Cymru a'r Deyrnas Unedig? OQ60058
Rydym wedi bod yn glir fod angen diwygio'r setliad cyfansoddiadol presennol. Mae'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn datblygu opsiynau ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol. Edrychwn ymlaen at dderbyn adroddiad terfynol y comisiwn a chlywed ei gasgliadau ar ddechrau'r flwyddyn newydd.
Mae gennyf gwestiwn atodol annisgwyl, oherwydd tynnwyd fy sylw at rywfaint o gynnwys yr ymchwiliad COVID. Yn y dystiolaeth a roddwyd gan yr Athro Ailsa Henderson o brifysgol Caeredin, yn sgil cwestiynau gan gwnsler yr ymchwiliad, Andrew O'Connor—ac mae hyn yn berthnasol i'r setliad cyfansoddiadol—mae hi'n tynnu sylw at y cyferbyniad rhwng cyfres o lythyrau a gohebiaeth a chyflwyniadau gan Brif Weinidogion y gwledydd datganoledig at Lywodraeth y DU ar y pryd, yn galw am rythm rheolaidd a dibynadwy o gyfarfodydd, fel y caiff ei alw nawr—cyfathrebu, tryloywder, ymgysylltiad gwell ledled y DU. Mewn cyferbyniad, ac mewn ymateb i'r ceisiadau hynny, nodir bod tri Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU wedi rhybuddio na fyddai cyfarfodydd rheolaidd yn golygu, wrth gwrs, y byddai cytundeb llwyr, ond ymhellach, y gallai cyfarfodydd rheolaidd fod yn 'geffyl pren Caerdroea ffederalaidd posibl'. Mae hyn yng nghanol pandemig, wrth geisio mwy o gyfathrebu. Dywedodd yr Athro Henderson:
'Dyma'r ddogfen fwyaf rhyfeddol i mi ei darllen ers nifer o flynyddoedd.'
'Mae'n amlwg fod awydd i strwythuro cysylltiadau rhynglywodraethol am resymau ad hominem, felly ceir ymdrech glir i reoli neu drin un o'r Prif Weinidogion yn enwedig.'
Rwy'n tybio mai cyfeiriad at Brif Weinidog yr Alban ar y pryd oedd hwnnw. Meddai'r athro:
'Ceir ofn ffederaliaeth, ceir ofn datgelu answyddogol, ceir canfyddiad o natur wenwynig neu hunanol i gymhellion y gweinyddiaethau datganoledig, ac ni cheir unrhyw ystyriaeth y gallai hyn fod yn wir hefyd i'r holl weithredwyr, a dim mynegiant go iawn... y gallai wella'r broses o wneud penderfyniadau pe bai mwy o leisiau o fwy o rannau o'r DU yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau.'
O safbwynt cyfansoddiadol, mae hynny'n ddiddorol iawn. Gwnsler Cyffredinol, a gaf fi ofyn i chi beth yw eich meddyliau chi wrth glywed y dystiolaeth honno'n cael ei rhoi, ac a all pethau wella o'r hyn a welsom pan oedd y pandemig ar ei anterth?
A gaf fi ddweud yn gyntaf nad wyf am ddechrau sylwebaeth ar dystiolaeth sy'n dod drwy'r ymchwiliad yr eir ar ei thrywydd, a phan fydd tystiolaeth arall yn dod drwodd? Ond a gaf fi ddweud, ar natur yr archwiliad o dystiolaeth a dogfennau ac yn y blaen sy'n dod drwodd, rwy'n credu ei fod yn dangos pwysigrwydd cael ymchwiliad ar gyfer y DU? Oherwydd, fel arall, nid wyf yn credu y byddem yn gweld tystiolaeth fel hon a'r mathau hyn o ddogfennau o fewn yr amgylchedd cyfunol hwnnw, nac yn gallu eu dadansoddi yn y ffordd honno. Felly, rwy'n credu bod y ffordd y digwyddodd yn bwysig iawn.
Mae'n sicr yn wir, drwy gydol cyfnod COVID, fod cyfarfodydd, tystiolaeth, cyfarfodydd a gynlluniwyd, gwybodaeth ymlaen llaw ac ymgysylltu yn bethau a gâi eu codi'n gyson. Nid wyf yn credu ei bod yn briodol i mi wneud sylwadau pellach ar hynny, ac eithrio mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol cyffredinol wrth gwrs. Rwy'n credu bod rhai o'r materion hynny'n codi hefyd mewn perthynas â'n hymgysylltiad ar ddeddfwriaeth a'r broses o gyflawni deddfwriaeth, a'r pryderon a drafodwyd yma ar sawl achlysur ynghylch pam y gallai hynny fod.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gefnogaeth y cyhoedd i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio'r Senedd?
A gaf fi ddweud yn gyntaf mai cynlluniau'r Senedd ar gyfer diwygio yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio'r Senedd mewn gwirionedd? Fel yr eglurais mewn sesiynau craffu, a hefyd yn y Siambr hon ar sawl achlysur, nid Bil Llywodraeth yw hwn. Byddai'n amhriodol iddo fod yn Fil Llywodraeth. Mae'n ddeddfwriaeth sy'n dod o'r Senedd ei hun, a fy ngwaith i yw trosi argymhellion y pwyllgor diben arbennig yn ddeddfwriaeth sy'n ymarferol, yn effeithiol ac o fewn y cymhwysedd.
Ymgais dda, Weinidog, ond mae pawb yn gwybod mai'r cytundeb a gafodd ei daro rhwng cyn-arweinydd Plaid Cymru a'r Prif Weinidog oedd yr hyn a arweiniodd at yr argymhellion yn adroddiad pwyllgor diwygio'r Senedd. Cafodd y pwyllgor ei herwgipio gan y cytundeb hwnnw a'i orfodi i gyflawni'r argymhellion yn eu hadroddiad o ganlyniad. Ac wrth gwrs, mae eich deddfwriaeth yn gwneud mwy na chyflawni argymhellion y Prif Weinidog a chyn arweinydd Plaid Cymru, mae hefyd yn ychwanegu materion eraill na chyfeiriwyd atynt yn nogfen pwyllgor diwygio'r Senedd at y rhestr o bethau rydych chi am eu gweithredu, er enghraifft tymhorau pedair blynedd. Felly, ni waeth pa mor galed rydych chi'n ceisio esgus bod hyn yn rhywbeth y mae'r Senedd hon wedi gofyn iddo gael ei gyflawni, fe wyddom fod Aelodau Llafur ac Aelodau Plaid Cymru wedi cael eu chwipio i bob pwrpas i gefnogi'r fargen fudr a wnaed y tu ôl i ddrysau caeedig.
Gofynnais gwestiwn penodol i chi ynghylch pa asesiad rydych chi wedi'i wneud, fel Gweinidog, o gefnogaeth y cyhoedd i ddiwygio'r Senedd, ac rwy'n sylwi na wnaethoch ateb y cwestiwn hwnnw. A'r rheswm na wnaethoch chi ateb y cwestiwn hwnnw yw oherwydd fy mod i'n gwybod, rydych chi'n gwybod, ac mae pawb yn yr ystafell hon yn gwybod nad oes cefnogaeth eang ymysg y cyhoedd i unrhyw gynigion ar gyfer mwy o wleidyddion yn y Senedd. Mae pobl ledled Cymru eisiau mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon; nid ydynt eisiau rhagor o wleidyddion. Ac maent am i chi fuddsoddi'r £120 miliwn y dywed eich Llywodraeth eich hun y bydd yn ei gostio i weithredu'r diwygiadau hyn yn ein hysgolion, ein hysbytai, ein ffyrdd a'n gwasanaethau cyhoeddus. Felly, wrth gynnig cynyddu maint unrhyw senedd 60 y cant, a gwneud newidiadau radical i'r system bleidleisio, a ydych chi'n cytuno ei bod yn hanfodol cael cydsyniad penodol y bobl? Ac os felly, a wnewch chi dderbyn bod angen refferendwm ar y cynigion hyn er mwyn gallu eu gweithredu?
Rhoddodd Llywodraeth y DU bwerau penodol iawn i ni yn Neddf Cymru 2017 i reoli ac i allu diwygio ein system etholiadol ddatganoledig. Ni roddodd unrhyw ddarpariaeth yn ymwneud â refferenda. Rwy'n ymwybodol iawn hefyd fod Llywodraeth y DU ei hun, pan fu'n gwneud diwygiadau sylweddol iawn—er enghraifft i'r system etholiadol ar gyfer y meiri, ar leihau nifer yr Aelodau Seneddol, i ffiniau etholaethau—wedi dewis peidio â gweld yr angen am refferenda yn y materion hyn. Mae'r rhain yn faterion sy'n tueddu i gael eu rheoli'n fwy gan faniffestos. Ar yr ochr Lafur ac ochr Plaid Cymru, ac ochr y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd, rwy'n credu, mae gennym ymrwymiadau maniffesto. A dweud y gwir, pan wnaeth ei diwygiadau, fe aeth Llywodraeth y DU ati i'w gwneud heb unrhyw ymrwymiad maniffesto.
Ar gefnogaeth y cyhoedd, mae llawer o'r pethau hyn yn aml yn dibynnu ar ba gwestiwn a ofynnwch. Os dywedwch wrth bobl, 'A ydych chi eisiau democratiaeth well? A ydych chi eisiau llywodraeth fwy atebol? A ydych chi eisiau gwell craffu?', yr ateb i hynny'n anochel, rwy'n siŵr, yw 'ydym', a'r ffordd y gallwn gyflawni hynny yw trwy wella'r lle hwn a thrwy sicrhau bod ganddo'r gallu i gyflawni'r pethau y mae pobl eu heisiau.
Rwy'n nodi eich pryderon am y gost, ac wrth gwrs, byddai hyn yn llai na degfed ran o un y cant o'r gyllideb. Pan gyflwynwyd cardiau adnabod, sydd heb gyflawni dim heblaw atal pobl rhag gallu pleidleisio, cynllun a gostiodd tua £120 miliwn i'w weithredu yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, nodaf fod eich ochr chi o blaid hynny. Felly, dyma ni'n buddsoddi er mwyn gwella ein democratiaeth, ac eto ni wnaethoch gwyno o gwbl am y ffordd y buddsoddwyd arian sylweddol i danseilio democratiaeth.
Rwy'n nodi eich pryder ynglŷn â chwipiau. O ran y pwyllgor diben arbennig, y casgliadau y daeth iddo ac yn y blaen, o'm rhan i, nid yw hwnnw'n fater perthnasol i mi, oherwydd, fel y dywedais, fy swyddogaeth i yw trosi dymuniadau'r Senedd drwy'r pwyllgor hwnnw, pwyllgor a drafodwyd ac a sefydlwyd gan y Senedd hon. Felly, nid fy mandad yw mynd y tu ôl i'r argymhellion hynny, oherwydd byddai gwneud hynny'n tanseilio'r holl bwynt ei fod yn bwyllgor Senedd.
Rwyf am wneud un sylw terfynol, oherwydd roedd rhai o'ch sylwadau yn ddifrïol. Rwyf am ddweud y bydd angen mwyafrif o ddwy ran o dair ar ba ddiwygiadau bynnag a ddaw drwodd pan fydd y Senedd yn pleidleisio. Rwy'n falch o weld nad ydych yn cymeradwyo i Aelodau gael eu chwipio; rwy'n siŵr y gwnewch chi drosglwyddo'r neges honno i rai o'ch Aelodau pan ddaw'r mandad nesaf o brif swyddfa'r Ceidwadwyr.
Fel y prif chwip, fe fyddech yn disgwyl i mi gefnogi'r ddisgyblaeth sy'n angenrheidiol mewn Senedd yn llawn. Wrth gwrs, ar faterion mor bwysig, weithiau mae angen gallu cael pleidlais rydd. Gwn fod yna Aelodau ar eich meinciau eich hun yn anghyfforddus iawn gyda chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio'r Senedd, a gobeithiaf yn fawr y byddant yn cael mynegi eu barn ar y materion hyn, ac yn bwysicach, barn eu hetholwyr y gwn eu bod yn wrthwynebus iawn i'r cynlluniau hyn.
Fel rhyw fath o darian yn erbyn fy honiadau nad oes cefnogaeth ymhlith y cyhoedd, fe soniwch fod eich cynlluniau wedi cael y gymeradwyaeth oherwydd eu bod yn eich maniffesto chi a maniffesto Plaid Cymru, ond wrth gwrs, fe wyddom nad yw hynny'n wir. Ni chafwyd manylion yn y maniffestos hynny ynglŷn â'r newid i'r system bleidleisio, am nifer yr ASau ychwanegol ychwaith, na'r dull o'u hethol. Rydych chi'n dweud bod y diwygiadau hyn yn mynd i wneud y Senedd yn fwy atebol i'r cyhoedd, ond fe wyddom eich bod chi'n torri'r ddolen o ran atebolrwydd uniongyrchol Aelodau unigol i'r etholwyr a wasanaethir ganddynt, ac mewn gwirionedd yn trosglwyddo'r pwerau oddi wrth y bobl sy'n pleidleisio drosom i bleidiau gwleidyddol benderfynu pwy sy'n cael ei ethol.
Felly, gofynnaf i chi eto: os ydych chi mor argyhoeddedig fod yna gefnogaeth gyhoeddus, beth sydd gennych i'w ofni o gynnal refferendwm? Gwyddom y bydd o leiaf ddau gyfle yn ystod y 12 mis nesaf, mae'n debyg, pan fydd pobl Cymru yn mynd i bleidleisio fel gwlad. Dyna ddau gyfle pan ellid cynnal refferendwm ochr yn ochr â'r etholiadau hynny er mwyn sicrhau bod yna ffordd effeithlon o gael penderfyniad gan y cyhoedd ar y diwygiadau hyn. Felly, gofynnaf i chi: a wnewch chi roi'r cyfle hwnnw yn un o'r ddau gyfle etholiadol hynny yn ystod y 12 mis nesaf?
Rydym yn ddemocratiaeth seneddol. Rydym yn gweithio ar sail rhoi maniffestos i'r bobl. Mae'r bobl yn cefnogi'r maniffestos hynny. Ac rwy'n credu bod y bobl yn disgwyl i ni fwrw ymlaen â'r maniffestos hynny a chyflawni'r addewidion a wnaethom. Nid wyf yn credu bod gan yr Aelod ddiddordeb mawr mewn refferendwm o gwbl. Rwy'n credu ei fod yn gweld, os caiff ei ohirio ddigon, y gallai fod yn bosibl na fydd deddfwriaeth yn digwydd.
A gaf fi ymdrin â dau bwynt yr oeddwn wedi bwriadu mynd ar eu trywydd yn fy ateb olaf, dwy eitem ychwanegol, sef y tymor pedair blynedd a phreswyliad? Ar y tymor pedair blynedd, wrth gwrs, yr unig reswm y gwnaethom osod tymor pum mlynedd oedd am fod y Llywodraeth glymblaid wedi cyflwyno Deddf Seneddau Tymor Penodol 2011. Tan hynny, roedd bob amser wedi bod yn bedair blynedd. Mae diddymu'r ddeddfwriaeth honno yn golygu'n naturiol ein bod yn mynd yn ôl i dymhorau pedair blynedd, ond unwaith eto, mater i'r Senedd fydd penderfynu sut maent am ystyried hynny.
Rwy'n credu bod mater preswyliad yn un sy'n llifo'n naturiol yno. Ac rydych chi'n gywir, mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei ychwanegu—a yw'n briodol ai peidio y dylai pobl sydd yng Nghymru, sy'n gwneud cyfreithiau Cymru, fyw yng Nghymru a bod yn atebol i bobl Cymru. Mae'n ymddangos i mi fod hwn yn fater rhesymegol. Wrth gwrs, gallwch brofi'r dŵr ar hynny drwy gyflwyno gwelliant yn groes i hynny, os dymunwch, pan ddaw'r mater i lawr y Senedd. Yr hyn y buaswn i'n ei ddweud sy'n digwydd o fewn y Senedd hon ar hyn o bryd yw symudiad tuag at ddiwygio cyfansoddiadol i wella democratiaeth a chyflwyno cynigion sydd er budd gorau democratiaeth i bobl Cymru.
Roeddwn ar fai yn ystod y sesiwn gwestiynau honno yn peidio â galw'r Aelod Darren Millar i drefn am ei ddefnydd o'r term 'bargen fudr'. Rhaid i mi ddweud bod taro bargen yn rhan o'n gwaith democrataidd yn y Senedd hon. Weithiau mae'n digwydd rhwng gwleidyddion unigol, weithiau rhwng pleidiau gwleidyddol a Llywodraeth Cymru. Weithiau, cânt eu gwneud rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, weithiau rhwng y Ceidwadwyr a Llywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw fargen o'r fath yn fudr. Cytundebau ydynt ac maent yn sicrhau bod cynnydd yn ein democratiaeth yn parhau. Dylwn fod wedi eich galw i drefn. Nid wyf yn disgwyl clywed neb yn cyfeirio at daro bargen yn y ffordd honno yn y dyfodol.
Rwy'n derbyn eich dyfarniad, Lywydd.
Diolch am fod mor raslon â'i dderbyn, Darren Millar, ond rwy'n siŵr y bydd eich sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr oriau sy'n dilyn.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Dwi'n ddiolchgar am y dyfarniad hynny, ac am barodrwydd yr Aelod gyferbyn i dderbyn hynny.
Ddoe, mi oedd y Prif Weinidog wedi cadarnhau eich datganiad blaenorol chi, Cwnsler Cyffredinol, eich bod chi fel Llywodraeth yn cysidro cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol o ran sicrhau dosraniad teg o gyllid trafnidiaeth gyhoeddus i Gymru yn sgil y penderfyniad i ganslo estyniad HS2 i Fanceinion. A fedrwch chi roi ychydig mwy o wybodaeth i ni o ran y sail gyffredinol? Dwi ddim yn disgwyl i chi osod mas y dadleuon cyfreithiol i gyd, ond y sail gyfreithiol i’r her posib hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae fformiwla Barnett, gwaetha’r modd, yn anstatudol—dyw e ddim yn bodoli mewn Deddf—ac mi oeddwn i dan yr argraff bod y cytundeb rhynglywodraethol cyllid hefyd yn anghyfreithadwy. Efallai fy mod i’n anghywir yn hynny o beth, ond er mwyn tryloywder ac er mwyn galluogi craffu, a fedrwch chi osod mas y sail bosib ar gyfer unrhyw gamau cyfreithiol?
Wel, a gaf fi ddweud fy mod yn credu ei fod wedi'i dynnu o'i gyd-destun i ryw raddau? Oherwydd, yr hyn rwy'n edrych arno, yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn edrych arno, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn edrych arno, yw'r holl opsiynau sy'n agored, yn opsiynau rhynglywodraethol ac eraill, mewn perthynas â'r camau y mae angen inni eu cymryd i warchod ac amddiffyn buddiannau Cymru, yn gyfansoddiadol ac mewn ffyrdd eraill, wrth gwrs. Rwy'n deall bod cyfeiriad wedi'i wneud—nid oeddwn yma ddoe—at ateb ysgrifenedig a roddais, felly efallai y byddai'n werth ailadrodd yr hyn y mae'n ei ddweud mewn gwirionedd. Mae'n dweud bod y penderfyniad i ganslo, er enghraifft, HS2 Birmingham i Manceinion yn gwneud yr achos hyd yn oed yn gliriach ei fod yn brosiect ar gyfer Lloegr yn unig. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried yr opsiynau sydd ar gael i ni i herio'r penderfyniad, gan gynnwys llwybrau cyfreithiol, pe bai Llywodraeth y DU yn parhau i'w gategoreiddio fel prosiect ar gyfer Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, os na allwn ddod i gytundeb drwy'r trefniadau rhynglywodraethol, mae'r prosesau datrys anghydfodau a gyhoeddwyd fel rhan o'r cysylltiadau rhynglywodraethol â chi yn 2022 yn weithredol ac yn agored i ni.
A gaf fi ddweud mai'r ffordd rynglywodraethol yn sicr yw'r ffordd fwyaf uniongyrchol o geisio sicrhau canlyniad y mae pawb ohonom ei eisiau, gan gofio'r newid sylweddol iawn sydd wedi digwydd? Gallaf ddweud bod y Gweinidog cyllid, er enghraifft, yn disgwyl cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod y mater, ac os na allwn ddod i gytundeb drwy'r trefniadau hyn, ceir y broses datrys anghydfodau wrth gwrs. Maent yn weithredol, maent ar agor i ni. Felly, rwy'n credu mai'r cam cyntaf wrth godi anghydfod yw cyflwyno tystiolaeth fod pob cam wedi'i gymryd i ddihysbyddu datrysiad pragmatig. Os na fydd hynny'n llwyddiannus, byddwn am ystyried y sefyllfa ac edrych ar ba opsiynau a allai fod ar agor i ni.
Rwy'n deall y dulliau rhynglywodraethol a datrys anghydfod o ddatrys hyn. Yr hyn nad wyf yn glir yn ei gylch—ac mae'n rhaid imi ddweud nad wyf ronyn yn gliriach yn ei gylch—yw beth y gallai'r llwybrau cyfreithiol posibl y cyfeirioch chi atynt fod.
Gyda HS2, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf gwelsom nid yn unig un tro pedol, ond dau, oni wnaethom? Oherwydd nid canslo cyswllt Manceinion yn unig a wnaethant, ac o fewn 24 awr, ddiwrnod yn ddiweddarach, fe wnaethant ganslo'r ymrwymiadau buddsoddi amgen gwerth £36 biliwn nad oeddent yn ymrwymiadau mwyach, mae'n ymddangos. Y math hwnnw o sbin ôl-wirionedd a dauwynebogrwydd yw'r hyn sy'n gyfrifol am ostwng lefelau ymddiriedaeth mewn democratiaeth ledled y byd. Nawr, cefais ateb i hynny flynyddoedd hynny yn ôl yn San Steffan—y Bil Cynrychiolwyr Etholedig (Gwahardd Dichell)—a gafodd ei ailgyflwyno yn ddiweddar gan Liz Saville Roberts. Mae'n rhaid imi ddweud nad oedd llawer o bobl yn ei gefnogi yn San Steffan ar y pryd, ac yn ôl pob tebyg, ni fydd llawer yn ei gefnogi yn y dyfodol. Yn ddiweddar, cefais gadarnhad gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau y byddai cyflwyno Bil gwahardd dichell yma i Aelodau'r Senedd o fewn cymhwysedd y Senedd hon. Gwnsler Cyffredinol, a yw hynny'n rhywbeth y gallem ei archwilio yng nghyd-destun Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (Cymru), a phe bai'n cael ei gyflwyno fel gwelliant, beth fyddai safbwynt y Llywodraeth?
Wel, rwy'n credu bod unrhyw Fil sydd o fewn cymhwysedd y Senedd yn rhywbeth y gellir ei drafod yma drwy'r prosesau trafod unigol sydd gennym a'r gallu i fwrw ymlaen â deddfwriaeth Aelodau unigol. O ran beth fyddai'r safbwynt mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth, wel, rwy'n credu y byddai hynny'n dibynnu'n fawr ar sut y câi ei drafftio, beth fyddai ynddi, y materion sy'n ymwneud â chymhwysedd a sut y byddai'n gweithio mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu ein bod yn cau ein meddyliau i unrhyw beth a allai wella gweithrediad democrataidd.
Fe wnaethoch chi godi nifer o bwyntiau mewn perthynas â'r sylwadau diweddar a wnaed ynglŷn â HS2 er enghraifft. Mae'r rheini'n bethau sy'n achosi pryder oherwydd, yn y bôn, mae'n ymddangos mai'r hyn sydd wedi digwydd yw, yn gyntaf, mewn panig munud olaf, wrth i HS2 gael ei ganslo wrth i'r Prif Weinidog fynd yr holl ffordd i Fanceinion i ddweud wrth Fanceinion ei fod yn mynd i ganslo ymrwymiad pwysig i godi'r gwastad, yn eu panig, yn y bôn, maent wedi cyflwyno cyfres gyfan o argymhellion, bron fel rhestr siopa o bethau. Cafwyd cyfarfod—'Rhowch restr i mi'. Mae'n fy atgoffa o Yes Minister, pan fo'r Prif Weinidog yn dweud wrth ei gynghorwyr, 'Nid wyf am wybod y gwir; rwyf am wybod rhywbeth y gallaf ei ddweud wrth y Senedd'. Mae bron felly, oherwydd y foment y cânt eu gwneud, yn gyntaf, mae'n ymddangos nad oes yr un ohonynt wedi eu hystyried yn iawn, nid oes unrhyw gynlluniau busnes priodol ac ni fu unrhyw ymgysylltiad ag unrhyw un o'r cyrff a fyddai'n ymwneud â'r gwaith. Yna, caiff rhai ohonynt eu tynnu'n ôl yn sydyn, a chawn ein hysbysu, 'O, dim ond disgrifiad darluniadol o'r mathau o bethau y gellir eu gwneud oedd hynny'. Nawr, rwy'n meddwl bod honno'n wleidyddiaeth wael tu hwnt—rwy'n credu ei bod hi'n wael iawn pan fyddwch chi'n dweud wrth gymuned na fydd buddsoddiad mawr a fyddai'n effeithio ar ansawdd bywyd ac economi eu hardal yn digwydd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddant yn edifar amdano yn ôl pob tebyg.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Ond ar y pwynt ehangach, rwy'n credu mai'r hyn rydych chi'n poeni amdano yw'r diffyg tryloywder a sut y gellid darparu ar gyfer hynny o fewn moeseg ein prosesau seneddol. Nid wyf yn credu ei fod yn rhywbeth sy'n hawdd, oherwydd mae gennym ddadleuon agored, rhydd a democrataidd, a bydd un person yn meddwl bod rhywbeth yn gywir, ac un arall yn anghytuno ac ati. Ond os gallwch gyflwyno cynigion ymarferol, rwy'n siŵr y byddant yn cael gwrandawiad ac yn destun dadl resymol yn y Senedd hon.
3. Sut bydd y Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau trwy ddeddfwriaeth bod y Senedd yn gwasanaethu Cymru'n well? OQ60065
Diolch am eich cwestiwn. Drwy ddeddfwriaeth diwygio'r Senedd, rydym yn creu Senedd fwy effeithiol, gyda mwy o allu a chapasiti i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, sydd hefyd yn adlewyrchu'r newidiadau enfawr i setliad datganoli Cymru ers 1999. Bydd y camau hyn yn helpu i wneud Cymru'n wlad fwy democrataidd.
Diolch. Mae'r achos dros ehangu'r Senedd bob amser wedi mynd law yn llaw â sicrhau cynrychiolaeth amrywiol a chyfartal. Mae wedi bod yn amlwg trwy gydol gwaith y panel arbenigol a'r pwyllgorau dilynol fod hyn yn allweddol i sicrhau gwell craffu, gwell polisïau a gwell deddfwriaeth i bobl Cymru, ac mae'r ddwy ddeddfwriaeth a gynlluniwyd yn adlewyrchu hyn. Rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y digwyddiad 'Lle i ni' ddydd Sadwrn 21 Hydref, pan fydd menywod yn meddiannu'r Senedd ar gyfer digwyddiad a gynlluniwyd i ennyn brwdfrydedd menywod i gamu i fyd gwleidyddiaeth. Ond nid yw brwdfrydedd yn ddigon.
Gallaf weld bod Janet Finch-Saunders ar fin codi pa mor hanfodol fydd mesurau fel rhannu swyddi i'w gwneud yn haws i ragor o fenywod gamu ymlaen, felly fe wnaf ganolbwyntio yn hytrach ar sut y bydd nodau'r ddeddfwriaeth yn cael eu cyflawni. Mewn datganiad ym mis Gorffennaf, dywedodd y Prif Weinidog fod y Llywodraeth
'wedi ymrwymo i gyflawni argymhelliad y Pwyllgor Diben Arbennig mewn perthynas ag annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant',
a byddai'r canllawiau hynny ar gael cyn etholiad nesaf y Senedd i gefnogi ac annog pleidiau i gyhoeddi'r strategaethau hyn. A ydych chi'n cytuno y dylid cyhoeddi'r canllawiau hyn cyn gynted â phosibl i annog pleidiau i weithredu mewn da bryd, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried mecanwaith annibynnol ar gyfer monitro cynnydd y pleidiau?
Diolch am y pwyntiau hynny, ac maent i gyd yn bwyntiau pwysig. Rwy'n credu eu bod i gyd yn bwyntiau lle mae diddordeb ar draws pob plaid wleidyddol yn y Senedd hon. Wrth gwrs, un o'r cyrff sydd eisoes â'r swyddogaeth benodol honno yw'r Comisiwn Etholiadol, ac mae ganddynt rôl benodol mewn perthynas ag etholiadau Cymru. Felly, maent yn gorff pwysig ac wrth gwrs, maent yn darparu llawer o ddadansoddiadau a thystiolaeth ar yr holl faterion hynny.
Rydych chi'n iawn—mae mater cydbwysedd rhwng y rhywiau yn rhywbeth sydd wedi cael lle blaenllaw yn y Senedd hon, ac mewn sawl ffordd, hoffwn ddweud bod llawer wedi'i gyflawni a llawer o gynnydd wedi'i wneud. Wrth gwrs, mae amrywiaeth yn ymwneud â mwy na rhywedd; mae hefyd yn ymwneud â materion fel anabledd a hygyrchedd, ac wrth gwrs, mae gennym y Bil etholiadau, sydd hefyd yn mynd i ymdrin â rhai o'r materion hynny a'r cymorth hwnnw. Felly, mae rhai pethau'n gorgyffwrdd rhwng, er enghraifft, diwygio'r Senedd a'r ddeddfwriaeth etholiadau yr ydym yn ei chyflwyno. O ran canllawiau amrywiaeth, credaf mai'r hyn sy'n glir yw bod angen inni gael hynny ar waith cyn gynted ag sy'n rhesymol bosibl. Fodd bynnag, mae angen i'r pethau hyn fod ar waith hefyd yn unol â chonfensiwn Gould, sef y dylent fod ar waith chwe mis fan lleiaf cyn etholiadau'r Senedd. Dyna bethau rwy'n awyddus iawn i ni eu gweithredu cymaint ag y gallwn, ar bopeth y gallwn, nid yn unig yn unol â Gould, ond cyn hynny, oherwydd mae'n ymwneud â'r gorchmynion ymddygiad hefyd, nid y ddeddfwriaeth yn unig, a'r holl waith y mae'n rhaid ei wneud gyda'r swyddfeydd cofrestru etholiadol, paratoi'r holl dystiolaeth, yr wybodaeth ac ati y bydd angen ei dosbarthu. Ac wrth gwrs, mae hwnnw'n waith sydd eisoes ar y gweill i raddau helaeth, ac rwy'n gwybod y bydd hyn yn destun trafodaethau pellach wrth inni fwrw ymlaen, ac efallai mewn perthynas â deddfwriaeth bellach a ddaw, mae'n siŵr.
4. Pa ystyriaeth a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i gynnwys trefniadau rhannu swyddi ar gyfer rolau gweinidogol ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)? OQ60062
Diolch am eich cwestiwn. Mae'r Bil yn rhoi cyfle i bwyllgor o'r Senedd gynnwys rolau gweinidogol wrth iddo ystyried rhannu swyddi yn y Senedd. Mae angen ystyried rhannu swyddi a'i oblygiadau ymarferol a deddfwriaethol mewn ffordd gyfannol, ac mae'r Bil yn darparu llwybr i gyflawni hyn.
Diolch. Mae'n rhaid imi ddweud yn onest fy mod yn anghytuno y gellir rhannu rôl Aelod etholedig neu rôl weinidogol. Rwy'n ei chael yn sarhaus braidd hefyd eich bod yn bwriadu bwrw ymlaen â threfniadau etholiadol a fyddai'n gweld gwahaniaethu cadarnhaol i fenywod, oherwydd yn fy marn i mae gennym dair menyw yma yn ein grŵp ni sydd wedi cyflawni hyn ar sail eu teilyngdod eu hunain a, hoffwn feddwl, ar draws y Siambr hon. Felly, rwyf am wneud y pwynt hwnnw.
Nawr, bydd y Senedd yn ymwybodol fod Ken Skates—[Torri ar draws.]
Hoffwn i'r Aelod orffen ei chwestiwn, os gwelwch yn dda—[Torri ar draws.]
Ie, ac rwy'n fenyw go iawn—[Torri ar draws.]
Hoffwn i'r Aelod orffen ei chwestiwn, Darren. Janet.
Diolch. Bydd y Senedd yn ymwybodol fod Ken Skates, y mae gennyf lawer o barch tuag ato, wedi datgelu'n ddiweddar y byddai'n dal yn y Cabinet pe bai caniatâd ar y pryd iddo rannu swydd, ac rwy'n credu weithiau fod y Cabinet ar eu colled am nad yw yno. Beth bynnag, er gwaethaf yr achos y mae'n ei gyflwyno, nid wyf yn credu y dylai fod unrhyw ran i rannu swyddi yn y trefniadau etholiadol ar gyfer y lle hwn, ac yn sicr, pan fyddaf yn trafod hyn gydag aelodau—etholwyr, hynny yw—maent yn ystyried bod yr holl syniad yn anymarferol. Mae angen i un Gweinidog fod yn atebol—yn wir, mae angen i unrhyw un Aelod a etholir fod yn atebol. O'r 1,300 o ymatebion i gwestiwn ar rannu swyddi yn y lle hwn, dim ond 34 y cant oedd yn cytuno ag argymhelliad y panel arbenigol, a 52 y cant yn anghytuno. Nawr, mae'n—
Bydd angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, Janet.
Iawn, o'r gorau. Diolch. Mae trigolion eisiau i Aelodau etholedig fod yn atebol. Felly, a allwch chi egluro, Gwnsler Cyffredinol, p'un a ydych chi'n dymuno rhannu swydd nawr, neu a ydych chi'n cytuno y dylai'r Aelodau fabwysiadu'r egwyddor eu bod ond yn ymgymryd â chyfrifoldebau gweinidogol os ydynt yn teimlo y gallant wneud hynny, ac fel y cyfryw y dylid cael gwared ar Ran 1 adran 7 o'r Bil mewn gwirionedd?
A gaf fi geisio diolch i'r Aelod am y cyfraniad hwnnw, ac am aneglurder y cwestiwn ei hun mae'n debyg? Dechreuodd gyda chyfeiriadau penodol at faterion yn ymwneud â rhannu swyddi a sut roedd hynny'n wahaniaethu cadarnhaol. Wel, gallai rhannu swydd ddigwydd rhwng dau ddyn; nid yw o reidrwydd yn fater rhywedd. Ond a gaf fi ddweud hefyd—a gwn fy mod wedi ailadrodd hyn sawl gwaith—nad oes deddfwriaeth wedi'i chynllunio, wrth gwrs, nad oes deddfwriaeth i geisio gweithredu rhannu swyddi yn mynd i fod yn dod ger bron y Senedd? Yr hyn a geir yw deddfwriaeth a fydd yn hwyluso dadl yn y Senedd nesaf. Bydd y modd y mae'r Senedd honno'n dewis dadlau am hynny, yr hyn y mae'n dymuno ei gynnwys, yr hyn y mae'n dymuno ei archwilio a'i ddadansoddi—a yw'n ymarferol, a yw'n gyflawnadwy, ar ba lefel y gallai fod yn ymarferol, beth allai fod yn fanteision, beth fyddai'r anfanteision, beth allai fod yn oblygiadau cyfansoddiadol i sefydliadau democrataidd—. I bob pwrpas, mae'r ddeddfwriaeth yn hwyluso cyflwyno cynnig i wneud dau beth. Adolygiad o ymarferoldeb y ddeddfwriaeth yw un, ond yn ail, i'r Llywydd gyflwyno penderfyniad i'w gwneud yn bosibl trafod y ddeddfwriaeth yn y Senedd. Rwy'n ei chael hi'n anodd deall pam na fyddech chi eisiau'r gallu i'w thrafod yn y Senedd. Mae'n amlwg yn fater o ddiddordeb. Mater i'r Senedd, ond nid i'r Llywodraeth, fydd lle mae'n mynd.
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch datganoli pwerau dros ddŵr yn llawn i Gymru? OQ60045
Diolch am hynny. Rwy'n trafod amrywiaeth o faterion gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd drwy ein cyfarfodydd rheolaidd. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i fynd ar drywydd y gwaith hwn yn ystod dwy ddadl ddiweddar yn y Senedd, ym mis Mehefin a mis Medi. Mae swyddogion wedi dechrau ystyried y camau nesaf, gan gynnwys cwmpasu'r goblygiadau llawn ar ddeddfwriaeth arall.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o glywed bod trafodaethau wedi cychwyn. Mi fyddwch chi'n deall yn iawn, wrth gwrs, fod hwn yn bwnc llosg ac yn bwnc emosiynol iawn i lawer iawn o bobl a chymunedau dwi'n eu cynrychioli yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, a bod rheolaeth dros yr adnodd hanfodol hwn yn fater o bryder arbennig iddyn nhw.
Fel cafodd ei ddatguddio yn gynharach eleni, dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi gwneud cais ffurfiol eto am ddatganoli pwerau llawn dros ddŵr, fel sy'n cael ei ganiatáu drwy adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017. Mae hynny yn siom enfawr i gymaint o bobl yng Nghymru, achos mae'r pwerau yma yn gwbl hanfodol i sicrhau bod pris teg yn cael ei roi am ddŵr Cymru, ei fod e'n ffordd i leihau biliau dŵr a glanhau ein hafonydd a'r moroedd.
Ym mis Mehefin eleni, fe basiodd y Senedd gynnig Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn am ddatganoli'r pwerau hyn. Rydym yn dal i aros, hyd yn oed wrth i Dŵr Cymru gyhoeddi codiadau sylweddol yn y prisiau. Felly, fy nghwestiwn i'r Gweinidog heddiw yw hwn: pa gyngor cyfreithiol a roesoch chi i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar hyn ac a yw'r cyngor hwn yn dangos unrhyw rwystrau cyfreithiol i ddatganoli pwerau dŵr ar unwaith? Os felly, beth ydynt? Ac yn olaf, a wnewch chi nodi pryd rydych chi'n disgwyl gweld y pwerau hyn yn cael eu datganoli'n llawn?
Diolch am y cwestiwn a'r dadansoddiad. Mae'r broses ddatganoli barhaus yn golygu bod gennym reolaeth eisoes ar ein dŵr yng Nghymru. Cyflawnwyd hynny yn bennaf drwy Ddeddf Cymru 2017. Mae creu Hafren Dyfrdwy yn 2018 yn golygu nad oes unrhyw gwmnïau dŵr bellach sy'n gweithredu'n bennaf yn Lloegr ac sydd hefyd yn gweithredu yng Nghymru. Felly, mewn geiriau eraill, mae prif ddiben y pwerau y cyfeirioch chi atynt, adran 48(1) o Ddeddf Cymru, eisoes wedi'i gyflawni heb fod angen cychwyn y ddarpariaeth. Ond er hynny, rydym wedi ymrwymo i fynd ar drywydd y gwaith hwn yn y ddwy ddadl ddiweddar yn y Senedd y cyfeiriwyd atynt eisoes. Mae swyddogion wedi dechrau'r broses o ystyried y camau nesaf, gan gynnwys cwmpasu'r goblygiadau llawn ar ddeddfwriaeth arall. Felly, byddai'n rhaid i unrhyw ddatblygiad sy'n cynnwys cyrchu dŵr o Gymru ddangos buddion economaidd ac amgylcheddol a'r buddion ehangach i bobl Cymru, yn ogystal â sicrhau bod digon o ddŵr i'r rhai sydd ei angen. Rhaid i gwmnïau dŵr sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru ddilyn egwyddorion arweiniol Llywodraeth Cymru, ac mae gan Weinidogion Cymru rôl statudol yn y broses gymeradwyo ar gyfer unrhyw gynlluniau busnes a datblygu. Wrth gwrs, mae gennym broses ddatblygu cynlluniau rheoli adnoddau dŵr. Yn amlwg, mae gan y cwmnïau rwymedigaeth i gynhyrchu'r cynlluniau hyn. Cyhoeddodd y cwmnïau dŵr eu cynlluniau ar gyfer 2024 i ymgynghori arnynt rhwng Tachwedd 2022 a Chwefror 2023, er mwyn rhoi cyfle i ystyried sut mae'r cynlluniau'n ateb y galw a'r angen yng Nghymru ar gyfer y 25 mlynedd nesaf.
6. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch statws cyfreithiol fformiwla Barnett mewn cysylltiad â HS2? OQ60048
Safbwynt Llywodraeth Cymru yw nad yw HS2 yn darparu unrhyw fudd cyffredinol i Gymru ac o'r herwydd, dylai ddenu cyllid canlyniadol fformiwla Barnett.
Diolch am yr ateb. Mae fy nghwestiwn atodol i yn dilyn o gwestiwn gan Adam Price ynghynt. Mae pob plaid yn y Senedd hon wedi galw ar i Gymru gael ei chyfran o arian HS2; wedi’r cyfan, mae ein trethi ni yn mynd i dalu am y prosiect, a phrosiect a fydd, mewn gwirionedd, yn cyfoethogi Llundain ymhellach ar draul cymunedau Cymru—wel, pam torri ar 800 mlynedd o draddodiad, wedi'r cyfan?
Yn ei araith i’r gynhadledd Lafur ddoe, fe neilltuodd eich arweinydd chi, Keir Starmer, adran gyfan i sôn am yr Alban. Fe gyfeiriodd at Ogledd Iwerddon ddwywaith, ond doedd yna ddim sôn o gwbl am Gymru yn ei araith, a phan ei fod o, Keir Starmer, wedi sôn am HS2 mewn perthynas â Chymru, mae e wedi gwrthod y syniad o roi cyfran deg i Gymru. Ydych chi'n rhannu ein siom ni yma nad ydy Starmer wedi ymrwymo i roi’r arian sy’n ddyledus i Gymru inni o HS2?
Wel, wrth gwrs, pan fo'n edrych fel pe bai'n debygol o ddod yn Llywodraeth, mae yna rôl i'r wrthblaid fod yn ofalus iawn ynghylch y materion y maent yn mynd i'w cyflwyno, yn enwedig pan nad ydynt eto wedi nodi'r maniffestos yn llawn ac yn y blaen. Rwy'n gwbl sicr ac yn argyhoeddedig, nid yn unig fod Cymru angen Llywodraeth Lafur yn y DU, ond mae cymaint o bethau yr ydym am eu gwneud yng Nghymru sy'n ymwneud â rhan o'n cyfrifoldebau datganoledig, o ran ein llesiant, ein sefyllfa ariannol, na ellir ond eu datrys gyda Llywodraeth Lafur, a dyna pam ei bod mor bwysig fod gennym Lywodraeth Lafur yng Nghymru.
A gaf fi ddweud ar hynny ein bod hefyd yn ceisio cyflawni canlyniad trwy ein dulliau ein hunain? Ac rwy'n cyfeirio at yr atebion cynharach a roddais—wrth gwrs, mae disgwyl i'r Gweinidog cyllid gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys; bydd y safbwyntiau mewn perthynas â HS2 yn cael eu cyflwyno. Mae gennym opsiynau o ran y prosesau datrys anghydfod sydd ar gael inni, ac yn y bôn, rydym yn mynd i gyflwyno'r achos hwnnw. Dyna fydd y ffordd fwyaf effeithiol, fwyaf effeithlon a chyflymaf o gael arian canlyniadol Barnett mewn perthynas â'r cyllid a gaiff ei wario.
Rydych chi'n iawn, yn amlwg roedd ffocws sylweddol iawn ar yr Alban, ond rwy'n credu bod hynny oherwydd bod yna ganlyniad isetholiad go arwyddocaol newydd ddigwydd i Blaid Lafur yr Alban, a chredaf fod hwnnw'n gyfeiriad eithaf naturiol ac yn fater a oedd yn mynd i gael ei godi yn y gynhadledd honno. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn croesawu'r Aelod Seneddol newydd ar gyfer yr etholaeth honno.
7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i reoli'r defnydd o dân gwyllt? OQ60051
Diolch am hynny. Mae'r defnydd diogel o dân gwyllt—ac eto, mae noson tân gwyllt yn agosáu—yn fater rydym o ddifrif yn ei gylch ac rydym yn cefnogi rheoliadau llymach i bwysleisio'r angen i'w defnyddio'n gyfrifol. Mae pwerau i reoleiddio a rheoli'r defnydd o dân gwyllt yn parhau gyda Llywodraeth y DU.
Diolch, Gwnsler. Fe fyddwch yn ymwybodol efallai fod dau fachgen ifanc yn fy rhanbarth wedi cael eu hanafu'n ddifrifol gan dân gwyllt a gyneuwyd mewn parc yn Hengoed yr wythnos diwethaf. Dyfynnwyd Rhydian Guzvic, un o rieni'r bechgyn, ar y BBC yn dweud bod 'angen cyfyngiadau llymach' ar dân gwyllt, a
'Naill ai dylai fod angen trwydded i'w prynu neu eu gwahardd yn llwyr.'
A gaf fi ofyn pa drafodaethau rydych chi fel Llywodraeth Cymru wedi'u cael, neu y byddwch chi'n eu cael gyda Llywodraeth San Steffan ynghylch cyfyngu ar werthu tân gwyllt, ac mewn ymgynghoriad â'r gwasanaethau brys, yn cyflwyno gwaharddiad ar eu defnydd a'u gwerthiant ac eithrio ar gyfer arddangosiadau proffesiynol? Pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl am unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn sgil unrhyw waharddiadau neu gyfyngiadau? Ac yn olaf, a oes gan Lywodraeth Cymru farn ar y cynigion a gyflwynwyd gan Gymdeithas Tân Gwyllt Prydain, yn cynnwys galwad am ddedfrydu llymach am gynnau tân gwyllt mewn man cyhoeddus. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i anfon ein dymuniadau gorau i deuluoedd y bechgyn bach a gafodd eu hanafu mor ddrwg yr wythnos diwethaf.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ategu'r pwyntiau olaf hynny? Yn yr oes y cefais fy magu ynddi, amser maith yn ôl, bron nad oedd unrhyw reoliadau yn gysylltiedig â thân gwyllt, ac fe welid anafiadau erchyll, felly, mae'n bryderus fod rhai o'r anafiadau hynny'n dal i ddigwydd. Rwy'n credu bod ein calonnau i gyd gyda'r teuluoedd hynny, y plant a'r rhieni, a'r pryderon sydd ganddynt. Rwy'n meddwl bod y pryderon eraill hefyd mewn perthynas â thân gwyllt, o ran lles anifeiliaid—. Rydym i gyd yn poeni am hynny mewn ffordd nad oedd yn digwydd flynyddoedd lawer yn ôl hefyd.
Un o'r pethau gyda thân gwyllt yw ei fod yn faes sydd wedi'i gadw'n ôl at ei gilydd. Os bwriedir gweithredu cyfyngiadau llymach ar werthu a defnyddio tân gwyllt, wrth gwrs, maent yn digwydd yng nghyd-destun y meysydd a gedwir yn ôl. Mae yna rai meysydd lle gallwn weithio ynddynt. Ond, er enghraifft, dyma ychydig o'r ddeddfwriaeth nad yw o fewn ein cymhwysedd: Deddf Tân Gwyllt 2003, Rheoliadau Tân Gwyllt 2004, Rheoliadau Eitemau Pyrotechnegol (Diogelwch) 2015, Deddf Ffrwydron 1875, Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987, ac yn y blaen. A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn meddwl bod pob un ohonom—? Mae llawer ohonom yn hoffi tân gwyllt, ond rydym yn eu hoffi o fewn amgylchedd rheoledig—amgylchedd cymunedol, diogel. Mae'n draddodiad, a chredaf mai dyna'r pryder: yr hygyrchedd a'r ffordd y gellir eu cam-drin.
Rydym bob amser wedi bod yn glir ein bod yn cefnogi rheoliadau llymach i ategu'r defnydd cyfrifol o dân gwyllt a'i oblygiadau ar gyfer materion datganoledig. Hynny yw, yn fwyaf arbennig, er enghraifft, ein cyfrifoldebau iechyd, lles anifeiliaid, sŵn ac—wrth gwrs—ansawdd aer. Mae'r pwerau i gyfyngu, fel y dywedais, yn nwylo Llywodraeth y DU. Mae Rheoliadau Tân Gwyllt 2004 yn gwahardd gwerthu tân gwyllt sy'n gwneud gormod o sŵn, a gwaharddwyd defnyddio tân gwyllt rhwng 11p.m. a 7 a.m. ac eithrio ar noson tân gwyllt, pan fo'n cael ei ymestyn hyd at hanner nos, neu Nos Galan, Diwali a'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, lle ceir eithriadau eraill.
Rwy'n meddwl ein bod i gyd—. Unwaith eto, rwy'n gwneud pwynt anwleidyddol, amhleidiol: mae hyn yn rhywbeth y credaf ein bod yn bryderus yn ei gylch ar draws pob plaid—yr anaf a'r gofid sy'n gallu digwydd, yn y bôn, yn sgil camddefnyddio tân gwyllt. Rydym wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau'n fwy diogel drwy leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu, ac ofn trosedd yn wir. Yn fwyaf diweddar, rydym wedi ymgynghori ar ein cynllun sŵn a seinwedd drafft ar gyfer 2023 i 2028. Mae'n amlinellu nad ydym yn credu bod y ddeddfwriaeth bresennol yng Nghymru a Lloegr yn ddigon i ddiogelu pobl ac anifeiliaid sy'n agored i niwed rhag effaith sŵn tân gwyllt. Rydym yn barod i weithio'n adeiladol gydag unrhyw weinyddiaeth o Lywodraeth y DU sy'n agored i wella'r cyfreithiau sy'n rheoli'r gwerthiant a'r defnydd o dân gwyllt yng Nghymru a Lloegr.
Hoffwn ychwanegu fy nghydymdeimlad a fy nymuniadau gorau i'r bechgyn a anafwyd yr wythnos diwethaf hefyd. Yn ystod y Senedd ddiwethaf, gelwais innau hefyd am reoleiddio'r gwerthiant o dân gwyllt domestig, yn dilyn digwyddiad yn fy etholaeth yng Nghasnewydd lle taflwyd tân gwyllt at griw ambiwlans pan oeddent yn ateb galwad 999. Mae hygyrchedd ac argaeledd tân gwyllt i'r cyhoedd yn parhau i fod yn bryder, ac mae'n ymddangos eu bod ar gael yn haws nag y buont erioed. Nid yn ein siopau lleol yn unig y cânt eu prynu; mae rhagor ohonynt yn cael eu prynu ar-lein, ac mae rhai o'r rheini sy'n cael eu prynu ar-lein wedi cael eu creu ar gyfer arddangosiadau tân gwyllt, a gellir prynu tân gwyllt masnachol ar raddfa fawr ar-lein yn hawdd iawn. Felly, mae angen inni sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ba mor beryglus yw'r tân gwyllt y maent yn eu prynu, ar-lein o bosibl, nid yn unig i bobl, ond i anifeiliaid hefyd, fel roeddech chi'n sôn, a'r perygl y gallant ei achosi a'r niwed. Wrth inni gyrraedd yr adeg pan fyddwn yn clywed rhagor ac yn gweld mwy o dân gwyllt yn cael eu gosod, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i dynnu sylw at y peryglon hyn. Gwnsler Cyffredinol, a allwch chi barhau i fynd ar drywydd y cyfyngiadau llymach hynny gyda Llywodraeth y DU fel rydych chi wedi dweud y byddwch yn ei wneud, ac a allwch chi helpu i hyrwyddo'r ymgyrch ynghylch gwerthu tân gwyllt a gwell defnydd o dân gwyllt mewn amgylcheddau diogel?
Diolch am hynny, a diolch am godi'r mater hwn yn aml ac am y trafodaethau a gawsom yn y gorffennol, a'r trafodaethau sy'n mynd i barhau, heb amheuaeth. Hynny yw, mae yna feysydd posib—. Er enghraifft, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban Ddeddf Tân Gwyllt ac Eitemau Pyrotechnegol (yr Alban) 2022 i dynhau amodau gwerthiant a defnydd. Rwy'n credu mai'r gwahaniaeth yno, wrth gwrs, yw bod eu setliad datganoli yn wahanol. Mae'n anffodus mai felly y mae, oherwydd rwy'n credu fel arall fod yna bethau y gallem eu gwneud a fyddai'n cyd-fynd â'n cynllun sŵn a seinwedd. Felly, rydym yn edrych ar bethau o onglau ychydig yn wahanol er mwyn ymdrin â hyn o fewn rhai o'r meysydd hynny sydd o bosibl o fewn ein cymhwysedd, ac rwy'n gwybod y bydd hynny'n parhau.
Y maes pwysig arall sydd wedi digwydd yw bod gwaith cyson yn mynd rhagddo gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru a chyda'r heddluoedd yn gyffredinol. Un o'r agweddau ar dân gwyllt, wrth gwrs, yw bod cysylltiad weithiau ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yn enwedig gyda choelcerthi, ac rydym wedi gweld y digwyddiadau annifyr hynny yn y gorffennol hefyd. Rwy'n cofio hynny'n glir pan ddeuthum i Gaerdydd am y tro cyntaf yn 1973; roedd coelcerth fawr yn arfer bod ger arglawdd Taf. Mae'n anffodus fod rhai o'r pethau hyn yn dal i ddigwydd.
Felly, rwy'n meddwl nad yw'n achos i un Gweinidog—. Yn sicr nid i mi'n benodol; gallaf yn amlwg wneud sylw mewn perthynas ag agweddau ar ddatganoli a threfniadau cyfansoddiadol, ond wrth gwrs, mae'n berthnasol i gyfrifoldebau gweinidogol eraill, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â gweithio ar y cyd trwy'r holl asiantaethau hynny ar hyn o bryd i geisio cyflawni'r canlyniadau gorau a sicrhau bod pobl sydd am fwynhau tân gwyllt yn gallu gwneud hynny, ond y gallant wneud hynny'n ddiogel a heb berygl o gael eu hanafu. Mae hyn yn rhywbeth y credaf fod yn rhaid inni barhau i'w fonitro, parhau i ymgysylltu yn ei gylch, a cheisio cyflawni deddfwriaeth well a llymach maes o law.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Jack Sargeant.
8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith defnyddio dulliau gwyliadwriaeth adnabod wynebau byw ar hawliau dinasyddion Cymru i breifatrwydd a’u rhyddid mynegiant? OQ60075
Diolch. Mae'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau byw yn benderfyniad gweithredol i'r heddlu. Mae plismona yn fater a gadwyd yn ôl ac yn gyfrifoldeb i'r Swyddfa Gartref.
Lywydd, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod dau glwb pêl-droed yn Llundain ar frig tabl yr Uwch Gynghrair, yn anffodus, ac yn wahanol i'r Cwnsler Cyffredinol, nid wyf yn cefnogi'r naill na'r llall. Ond fe nodais—mae fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, yn gefnogwr wrth gwrs—ond fe wneuthum nodi'r gêm, pan oeddent yn chwarae ei gilydd yn gynharach fis diwethaf, a hynny oherwydd y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau byw, a gâi ei defnyddio yn erbyn pobl nad oedd yn cyflawni unrhyw drosedd y diwrnod hwnnw heblaw gwylio gêm bêl-droed gyda'u ffrindiau a'u teulu. Nid dyma'r achos cyntaf lle mae technoleg adnabod wynebau byw wedi cael ei defnyddio, ac nid yn Lloegr yn unig; fe'i gwelsom yng ngêm Caerdydd yn erbyn Abertawe yn 2020; ym mis Mawrth 2018, gwelsom Heddlu De Cymru yn defnyddio technoleg o'r fath mewn protest heddychlon. Roeddwn mewn cyngerdd yma yng Nghaerdydd rai wythnosau yn ôl lle cafodd ei defnyddio eto. Weinidog, rwy'n deall bod hwn yn fater gweithredol i'r heddlu, ac o fewn cymhwysedd Llywodraeth y DU y mae ymyrraeth, ond pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau, pan fydd technoleg adnabod wynebau byw yn cael ei defnyddio yng Nghymru, ei bod yn cael ei defnyddio'n deg ac yn gymesur?
Wel, un o'r heriau mawr sy'n wynebu ein cymdeithas ac sy'n wynebu cymdeithasau democrataidd ledled y byd yw twf deallusrwydd artiffisial a'r math hwn o dechnoleg, oherwydd, ar y naill law, mae'n rhaid cydbwyso manteision technoleg yn erbyn rhyddid sifil, a hawliau a rhyddid unigolion. Felly, mae'n broblem, ac rydych chi'n gywir ei fod yn fater a gedwir yn ôl, ond rwy'n credu ein bod yn cydnabod bod gan lawer o bobl bryderon dilys ynglŷn â pha mor briodol yw'r cydbwysedd rhwng diogelwch y cyhoedd a hawliau unigol. Mae hyn yn rhywbeth y mae Gweinidogion wrthi'n ei archwilio; rydym yn ymgysylltu â Heddlu De Cymru i ddeall mwy ynglŷn â'r modd y caiff y dechnoleg ei defnyddio, ac wrth gwrs, rydych yn ymwybodol o'r camau cyfreithiol a gododd mewn perthynas â'r mater penodol hwnnw, a'r mesurau diogelu sydd ar waith i leihau'r effaith ar breifatrwydd pobl.
Yn ogystal, rydym yn cysylltu â Phwyllgor Cyfiawnder a Materion Cartref Tŷ'r Arglwyddi i ddeall mwy am y pwnc hwn, gan ddilyn eu gwaith manwl yn y maes. Os caf ddweud, mae gennyf ddiddordeb mawr hefyd, ac rwy'n edrych—ac rwy'n siŵr y bydd yn nodwedd arwyddocaol—ar y gwaith sy'n mynd rhagddo yn yr Undeb Ewropeaidd ar hyn? Oherwydd maent wedi mabwysiadu rheoliad drafft ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial, y Ddeddf Deallusrwydd Artiffisial. Bydd honno'n sail i destun y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn ei drafod gyda Chyngor yr Undeb Ewropeaidd—hynny yw, gyda'r aelod-wladwriaethau. Ac mae wedi bod yn ddadl a fu'n mynd rhagddi ers peth amser—dadl a gynigiwyd gyntaf ym mis Ebrill 2021 trwy'r Comisiwn Ewropeaidd, a mabwysiadodd y Cyngor Ewropeaidd y safbwynt yn 2022, mabwysiadodd Senedd Ewrop destun gyda rhai diwygiadau ym mis Mehefin 2023—a'r bwriad yw cael deddfwriaeth a fydd ar waith erbyn 2026 ar draws holl wledydd yr UE. Rwy'n credu bod y gwaith sy'n cael ei wneud yn rhywbeth y credaf ein bod yn sicr am ei rannu, am ei ddeall a gallai fod yn bwysig iawn i ni. Mae'n drueni mawr nad ydym yn rhan o'r broses honno i allu cymryd rhan ynddi. Ond serch hynny, gallwn fonitro a dysgu o hynny fel rhan o'r trafodaethau parhaus sy'n digwydd, nid yn unig ar hyn, ond ar holl oblygiadau eraill y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn ogystal.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 3 yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, ac mae cwestiwn 1 gan Peter Fox, i'w ateb gan Ken Skates. Peter Fox.
1. Beth yw'r costau a ragwelir i Gomisiwn y Senedd yn sgil diwygio'r Senedd? OQ60079
A gaf fi ddiolch i Peter Fox am y cwestiwn? Cyflwynir yr amcangyfrif gorau o gostau disgwyliedig diwygio'r Senedd i Gomisiwn y Senedd mewn asesiad effaith rheoleiddiol, sydd, fel y gŵyr yr Aelod, yn cyd-fynd â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) Llywodraeth Cymru. Dros yr wyth mlynedd y buom yn arfarnu'r costau, nododd Llywodraeth Cymru mai'r cyfanswm yw £88 miliwn i £106 miliwn. Mae'r costau hyn yn cynnwys addasiadau i'r ystad a chostau staff ychwanegol, yn ogystal â chostau dyfarniadau ychwanegol i Aelodau newydd eu hunain, ac i'w staff wrth gwrs. Mae'n siŵr y bydd y costau hyn yn cael eu mireinio wrth inni gynllunio ein cyllidebau, ac mae'r paratoadau ar gyfer cyllideb ddrafft 2024-25 y Comisiwn wedi arwain at gynlluniau wedi'u mireinio ar gyfer y flwyddyn honno o'u cymharu ag amcangyfrifon cost yr asesiad effaith rheoleiddiol.
Diolch, Gomisiynydd, ac rwy'n derbyn ein bod wedi cael y sgyrsiau hyn mewn fforymau eraill hefyd. Ond fel y gŵyr pawb ohonom, mae'r costau disgwyliedig presennol ar gyfer Comisiwn y Senedd, fel y nodwyd gennych nawr, yn sylweddol a dweud y lleiaf. Ac fel y nodoch chi, bydd yn costio £6 miliwn amcangyfrifedig i ehangu'r cyfleusterau sydd eu hangen a thua £100 miliwn dros wyth mlynedd i dalu'r costau eraill—staffio, lwfansau ac ati. Ond roeddwn yn bryderus ynghylch honiadau'r Prif Weinidog, ac rwy'n dyfynnu, ei fod wedi dweud:
'Fe fydd hi'n 2026 cyn bod rhaid talu unrhyw un o'r biliau hyn.'
Wel, rydym yn gwybod y bydd yna filiau ar y ffordd, ac mae'n siŵr y bydd yn rhaid eu talu. Ond mae hyn yn fy nharo i fel diffyg blaengynllunio, ac nid wyf yn siŵr ei bod yn ddoeth i drin y gost hon fel Klarna, i bob pwrpas, yn enwedig ar adeg pan ddywedwyd wrth Weinidogion am wneud toriadau i atal gwerth £900 miliwn o ddiffyg a ragwelir yn y cyllid. Gyda hyn mewn golwg, Gomisiynydd, pa mor sicr yw'r Comisiwn y bydd yr ehangu'n dod o fewn y costau a ragwelir, ac a oes gan y Comisiwn unrhyw bryderon na fydd digon o gyllid ar gael yn 2026, o ganlyniad i'r angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu gwasanaethau allweddol fel y GIG efallai, gan nad oes yr un ohonom yn gwybod eto o ble y daw'r arian? Pa gynlluniau wrth gefn a roddir ar waith?
Rwy'n credu bod Peter Fox yn codi nifer o gwestiynau pwysig yno. Yn gyntaf oll, y broses, sef cynllunio ar gyfer diwygio dros sawl blwyddyn ariannol. Wrth gwrs, fel Comisiwn rydym yn gweithredu ar gyllideb dynn iawn, ac fel y gwelir yn y gyllideb ddrafft y buom yn ei chyflwyno i bwyllgorau yr hydref hwn, mae'n anhygoel o anodd creu digon o le i fuddsoddi mewn meysydd yr hoffem fuddsoddi ynddynt, ond sydd, ar hyn o bryd, oherwydd y pwysau costau byw, yn gwneud hynny'n amhosibl.
Nawr, wrth inni edrych ar gostau diwygio'r Senedd yn y dyfodol, fel y gŵyr yr Aelod, cawn ein hystyried yn brif randdeiliad. Mater i'r Llywodraeth yw dadlau'r achos dros ddiwygio'r Senedd; Comisiwn y Senedd sydd i ymateb i gwestiynau gan y Llywodraeth ynghylch y costau amcangyfrifedig. Mae'r costau amcangyfrifedig y gall Llywodraeth Cymru eu cyflwyno yn seiliedig ar y data amrwd gan y Comisiwn. Rydym yn hyderus fod ein hamcangyfrifon, ein data, yn hollol gywir. Ond wrth gwrs, o ran cynllunio ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol, bydd ein cyllideb yn cael ei phennu i raddau helaeth gan y grant bloc y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael gan Lywodraeth y DU. Ac wrth gwrs, wrth inni fynd ar drywydd yr addasiadau hynny, y newidiadau sy'n angenrheidiol ar gyfer diwygio'r Senedd, fe fydd yn gwbl hanfodol ein bod yn cael digon o gyllid i'w wneud. Ond mater i Lywodraeth Cymru yn bennaf fydd hynny yn y blynyddoedd i ddod.
2. A oes gan y Comisiwn unrhyw wybodaeth am statws treth perchnogion ystâd Tŷ Hywel? OQ60054
Mae Tŷ Hywel yn eiddo i Equitix Tiger English LP, ac maent yn bartneriaeth gyfyngedig wedi'i lleoli yn Leeds, ond nid oes gennym unrhyw wybodaeth benodol am statws treth y perchnogion.
Iawn. Felly, Gomisiynydd, a yw'r Comisiwn yn cadw unrhyw wybodaeth o gwbl ynglŷn â lle mae perchnogion ystad Tŷ Hywel wedi'u lleoli, eu statws treth ac a ydynt yn gysylltiedig â gwladwriaethau nad yw'n weddus i'n Senedd genedlaethol fod yn gysylltiedig â nhw? Os na, pam ddim?
Un o'r problemau sydd gennym gyda Thŷ Hywel, fel y gŵyr yr Aelod, yw bod ei berchnogaeth yn newid dwylo yn eithaf rheolaidd, ac rwy'n ymwybodol o erthyglau newyddion yn ôl yn 2015, rwy'n credu, a nododd fod perchnogion Tŷ Hywel yn unigolion na fyddem o reidrwydd eisiau gwneud busnes â nhw. Ond bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol ein bod yn edrych, drwy ein rhaglen Bae Caerdydd 2032, ar nifer o opsiynau ar gyfer llety i Aelodau, gan gynnwys y potensial i brynu Tŷ Hywel, y potensial i ddatblygu Tŷ Hywel ar gyfer Aelodau ychwanegol. O ran y manylion treth, deallaf mai Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yw'r unig ffynhonnell wybodaeth am dreth nad yw ar gael i'r cyhoedd, gan ein cynnwys ni ein hunain, ac o bryd i'w gilydd fe'i darperir ar adeg llofnodi les, ond llofnodwyd ein les ni dros gyfnod sylweddol flynyddoedd lawer yn ôl. Ond os oes gan yr Aelod unrhyw wybodaeth y mae'n credu y byddai o ddiddordeb i'r Comisiwn, buaswn yn ei chroesawu'n fawr.
Cwestiwn 3 i'w ateb gan y Llywydd. James Evans.
3. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i gynyddu nifer yr ystafelloedd pwyllgora a’r ystafelloedd cyfarfod a all ddarparu ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau ar draws ystâd y Senedd? OQ60070
Ar hyn o bryd, mae'r Comisiwn yn cynnal adolygiad i'r defnydd o ystâd y Senedd. Fel rhan o hyn, gofynnwyd am farn Aelodau a rhanddeiliaid eraill am ddigwyddiadau a mannau cyfarfod ar yr ystâd, a sut gellid sicrhau'r defnydd mwyaf priodol ac effeithlon o'r lleoliadau seneddol. Ystyriodd y Comisiwn bapur materion cychwynnol ar 25 Medi 2023 ar hyn. Bydd papur pellach gyda chynigion ar sut i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd, a fframwaith ar sut i boblogi'r ystâd, yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn cyn diwedd eleni.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb. Un o'r rhesymau pam y cafodd ei godi gyda mi yw bod cynnal digwyddiadau gyda'r nos yma ar ystad y Senedd, am nad oes gennym ddigon o bobl i ddarparu'r cyfleusterau arlwyo a'r cyfleusterau diogelwch gyda'r nos ar yr ystad—felly, os oes gennym ddigwyddiad draw yn y Pierhead ac yma yn y Senedd ei hun. Felly, hoffwn wybod pa waith y mae'r Comisiwn yn ei wneud ynglŷn â hyn i sicrhau y gallwn gynnal sawl digwyddiad gyda'r nos. Oherwydd os nad ydym yn cynnal digwyddiadau yma—. Dyma yw pwrpas ein Senedd—gwella democratiaeth, rhoi sylw i elusennau a sefydliadau a ddaw atom i wneud hynny—a chredaf mai gwaith y Comisiwn yw ceisio hwyluso hynny gymaint â phosibl.
Rwy'n cytuno; rwyf wrth fy modd yn gweld gweithgarwch bywiog ar ystad y Senedd. Fel y nodais yn fy ymateb cynharach, mae'r Comisiwn yn ymwybodol fod yr Aelodau'n awyddus i ymwneud â'r modd y defnyddir ystad y Senedd yn y dyfodol, gan gynnwys y Pierhead wrth gwrs, a'r gallu i Aelodau a'n sefydliadau partner ddefnyddio ein hystad. Ac felly, mewn cyfarfod o'r Comisiwn yn y dyfodol agos iawn, fe fyddwn yn trafod yr adborth a gawsom gan Aelodau ac eraill dros y misoedd diwethaf ac yn cyflwyno cynigion ar gyfer y dyfodol. Ond mae angen imi roi un rhybudd wrth gwrs. Rydym mewn cyfnod lle mae adnoddau'n gyfyngedig, mae adnoddau ariannol yn gyfyngedig, ac felly, po fwyaf o ddigwyddiadau a gynhaliwn, y mwyaf o gostau a fydd i'r Comisiwn am staffio'r digwyddiadau hynny. Felly, mae'n bwysig cael y cydbwysedd yn iawn yn hynny i gyd a chyflawni dyheadau cynifer o'r Aelodau i gael mwy o weithgarwch a mwy o bresenoldeb ar ystad y Senedd. Ond cofiwch hefyd fod gennym bellach gyfleusterau hybrid sy'n golygu bod modd cynnal llawer o'n digwyddiadau—neu gyfarfodydd yn sicr—mewn lleoliad rhithwir hefyd, lle gall aelodau o'r cyhoedd a rhanddeiliaid gyfrannu o leoliadau sy'n bell o Fae Caerdydd. Ac rydym wedi buddsoddi'n eithaf helaeth dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod mwy a mwy o'n hystafelloedd pwyllgor ac ystafelloedd cyfarfod preifat yn gallu darparu ar gyfer digwyddiadau hybrid hefyd.
Mae cwestiwn 4 i'w ateb gan Joyce Watson—John Griffiths.
4. Sut y mae'r Comisiwn yn annog ffyrdd o fyw sy’n iach ac yn fwy egnïol ymhlith ei staff? OQ60072
Diolch am eich cwestiwn. Mae llesiant corfforol a meddyliol staff Comisiwn y Senedd, yn flaenoriaeth yn wir, gyda strategaeth lesiant ar waith sy’n amlinellu sut mae’r Comisiwn yn cefnogi hynny. Mae hynny’n cynnwys hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol, drwy ymgyrchoedd ymwybyddiaeth sy'n cael eu postio ar fewnrwyd y staff, a chylchlythyr llesiant mewnol, a gyhoeddir bedair gwaith y flwyddyn, ac mae gan bob un o feysydd gwasanaeth y Comisiwn ei gynllun gweithredu llesiant ei hun. Mae Comisiwn y Senedd yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau aelodaeth corfforaethol o gampfeydd a grwpiau ymarfer corff annibynnol, i annog staff i fod yn gorfforol egnïol, a gwella llesiant meddyliol a chysylltedd, gan ddarparu cymorth ariannol, sy’n adlewyrchu pedwar prif faes strategaeth llesiant y Comisiwn.
Diolch yn fawr. Ddoe, roeddwn yn falch o drefnu digwyddiad rhedeg a cherdded llesiant ar gyfer Aelodau’r Senedd. Roedd James, sydd yn y Siambr, yn un a gymerodd ran, yn ogystal â’r Gweinidog iechyd, y Gweinidog addysg, Jane Dodds, ac eraill. Mae bob amser yn well peidio â dechrau rhestr, onid yw, gan eich bod bob amser yn anghofio rhywun. [Chwerthin.] Ond roedd yn dda iawn, ac roedd gennym Gymry o'r maes iechyd a'r byd chwaraeon yno hefyd, ac fe’i trefnwyd gan fenter ardderchog Parkrun Cymru. Roedd y cawodydd yn ddefnyddiol iawn wedyn hefyd, Gomisiynydd. Ac roedd yn dda iawn gweld rhai o staff y Comisiwn yn ymuno â ni, yn enwedig Helen McCarthy yn y tîm diogelwch, a oedd yn barod iawn i helpu gyda'r gwaith trefnu, a gwn ei bod hi, y tu allan i'r gwaith, yn gwneud gwaith gwych ar hyrwyddo gweithgareddau rhedeg ac ymarfer corff yn ne Cymru. Felly, ar ôl y digwyddiad, Gomisiynydd, soniodd nifer o staff y Comisiwn y byddent yn awyddus i sefydlu grŵp, boed yn ffurfiol neu’n anffurfiol, lle gallent ddod ynghyd a rhedeg neu gerdded gyda’i gilydd yn rheolaidd. Felly, tybed a allech chi roi rhywfaint o ystyriaeth i sut y gallai'r Comisiwn hwyluso hynny fel rhan o'r gwaith o helpu staff y Comisiwn i fyw bywydau mwy iach ac egnïol.
Wel, ymddengys i mi eich bod wedi cael llawer iawn o hwyl. Ni wneuthum ymuno â chi, ond nid rhedeg yw fy mhethau. Ond y pwynt mwy difrifol a wnewch yw ei bod bob amser yn dda i bobl ddechrau eu diwrnod mewn ffordd iach. O ran eich cwestiwn penodol, ynghylch y Senedd yn rhoi cymorth a chefnogaeth tuag at ffurfio grŵp, nid fy mhenderfyniad i'n unig fydd hynny, fe fydd yn benderfyniad i'r Comisiynwyr ei wneud ar y cyd, yn ogystal ag argaeledd unrhyw staff i hwyluso hynny. Felly, y cyfan y gallaf ei ddweud wrthych ar hyn o bryd yw y gwnaf nodi hynny, fe siaradaf â fy nghyd-Aelodau, ac fe gewch ateb i'ch cais maes o law.
Mae cwestiwn 5 i'w ateb gan Janet Finch-Saunders. Jenny Rathbone.
5. Pa gynnydd y mae'r Comisiwn yn ei wneud o ran datgarboneiddio ystâd y Senedd? OQ60077
Diolch. Gwn fod hyn yn rhywbeth sy'n agos iawn at eich calon, gan eich bod yn codi'r cwestiynau hyn, ac maent yn gwestiynau da iawn i'w gofyn. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Matthew Jones a’r tîm yn ein hadran gynaliadwyedd. Fel roeddem yn falch o'i nodi yn ein hadroddiad blynyddol diweddar ar gynaliadwyedd, y gobeithiaf fod pob Aelod wedi’i ddarllen, rydym yn gwneud cynnydd da gyda chamau gweithredu tymor byr ein strategaeth carbon niwtral. Rydym wedi bod yn gweithio ar yr arbedion effeithlonrwydd yn enwedig—y mesurau di-gost a chost isel, gan gynnwys newid ymddygiad. Mae gennym ystod o fesurau pellach yn yr arfaeth cyn 2030 a fydd yn mwy na haneru ein hôl troed carbon, cyn inni ddechrau edrych ar ei wneud yn niwtral net. Rwy'n falch o gyhoeddi bod ein cysylltiad â rhwydwaith gwres Caerdydd wedi dechrau, ond Cyngor Caerdydd fydd yn gwneud y gwaith o'i roi ar-lein. Mae mesurau'n cynnwys newid systemau awyru adeiladau yn ôl i fod yn rhai mwy naturiol; gosod paneli solar ffotofoltäig a phympiau gwres ffynhonnell aer; a thargedu allyriadau ein cadwyn gyflenwi ehangach. Ond mae'n rhaid inni beidio â cholli arnom ein hunain gan y bydd y rheini'n ymyriadau costus iawn. Y gaeaf diwethaf, roedd ein haddewid i leihau’r defnydd o nwy 15 y cant yn llwyddiant. Fe wnaethom leihau’r defnydd o aerdymheru yn yr haf, ac rydym yn targedu mwy fyth o fesurau dros y gaeaf hwn i leihau ein defnydd o gyfleustodau.
Diolch am eich ateb—diddorol iawn. Nid wyf wedi darllen eich adroddiad blynyddol ar gynaliadwyedd, ond fe wnaf. Byddaf yn bendant yn craffu arno, oherwydd yn amlwg, y peth pwysig yw bod pob ceiniog a wariwn ar ynni yn arian na allwn ei wario ar rywbeth arall. Rwy'n anghytuno â chi ein bod yn defnyddio cyn lleied â phosibl o aerdymheru, gan fy mod o hyd ac o hyd yn mynd i mewn i ystafelloedd lle mae'r aerdymheru wrthi fel lladd nadroedd, neb yn yr ystafell, ac mae hynny'n fy ngwneud yn rhwystredig. Anaml y bydd angen aerdymheru arnom yn y wlad hon a dweud y gwir, heblaw mewn ystafell gaeedig fel y Siambr, wrth gwrs. Ac rwy'n dal i weld goleuadau heb eu diffodd pan fydd yr haul yn tywynnu. Mae pobl yn eu rhoi ymlaen heb feddwl.
Felly, mae digon i'w wneud, ond rwy'n falch iawn o weld bod gennych gynllun a'ch bod yn ei roi ar waith, gan fod hynny'n hynod bwysig. Ni allwn ddweud wrth bobl am wneud pethau a pheidio â'u gwneud ein hunain. Felly, yng nghyd-destun yr holl arbedion y mae'n rhaid inni eu gwneud, yn union fel pob corff cyhoeddus arall, mae'n bwysig iawn ein bod yn lleihau ein costau ynni ac yn ymdrechu i gyrraedd sero net cyn gynted ag y gallwn.
Diolch, unwaith eto, ac ar y pwynt hwnnw, cefais fy synnu braidd wrth weld hyn, gan nad wyf erioed wedi mynd i mewn i fy swyddfa pan fydd y goleuadau ymlaen neu'r aerdymheru ymlaen, os nad oes unrhyw un yn y swyddfa. Mae gennym fecanweithiau ar waith a fyddai'n diffodd eich goleuadau a'ch aerdymheru ymhen tua 15 munud. Felly, efallai'n wir fod staff neu bwy bynnag, mewn rhai swyddfeydd, wedi'u gosod ar lefel uwch, felly, er nad oes mo'u hangen, mae’n dal ati i chwythu'n hapus braf.
Felly, mae yna argyfwng hinsawdd, ac rydym yn gwybod hyn, ond mae gan yr Aelodau ein hunain ystod eang o fesurau rheoli yn ein swyddfeydd, lle gallwn godi'r pwynt oeri fel nad yw'r aerdymheru yn dod ymlaen, a hefyd, gallwn ostwng y pwynt gwresogi yn y gaeaf i leihau'r defnydd o reiddiaduron. Mae Aelodau hefyd yn gallu diffodd goleuadau yn eu swyddfeydd, a chredaf ei bod yn ddyletswydd—. Pan fyddaf yn gadael fy swyddfa i fynd i ddigwyddiadau yn y prynhawn, ac os nad oes gennyf unrhyw un yn y swyddfa neu os ydym yn mynd allan gyda'n gilydd, byddaf bob amser yn diffodd fy ngoleuadau.
Rydym wedi lleihau’r defnydd o ynni drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, fel y dywedaf. Felly, rwy'n credu ein bod yn gwneud popeth a allwn. Mae mwy y gellir ei wneud bob amser, ond pe bai pob Aelod ond yn—. Fel sy'n digwydd yma fel arfer yn y gaeaf, rwy'n credu y bydd y tîm yn dod o gwmpas ac yn siarad â swyddfeydd gan ein bod yn gobeithio efallai y bydd yr Aelodau'n meddwl un radd yn llai, efallai, dros y gaeaf. Ni chredaf y byddwn yn sylwi ar yr un radd honno, a ninnau'n brysur yn rhuthro o gwmpas; efallai na fydd ein staff yn sylwi arni ychwaith. Ond mae'n rhaid inni roi cynnig ar y mesurau hyn gan fy mod yn cytuno'n llwyr na ddylai'r un ohonom yma—arian trethdalwyr yw hwn hefyd—fod yn gwastraffu dim o'n hadnoddau gwerthfawr. Diolch.
Mae cwestiwn 6 i'w ateb gan Joyce Watson. Mabon ap Gwynfor.
6. Pa gymorth y mae'r Comisiwn yn ei ddarparu i staff sy'n mynd drwy'r menopos? OQ60041
Diolch am eich cwestiwn. Mae Comisiwn y Senedd yn hyrwyddo diwylliant cefnogol sy’n codi ymwybyddiaeth am y menopos, lle caiff sgyrsiau amdano eu hannog.
Yn dilyn fy ymateb i gwestiwn ysgrifenedig Huw Irranca-Davies ar y pwnc hwn, rwy'n falch o ddweud fod Gwasanaeth Adnoddau Dynol Comisiwn y Senedd wedi adolygu’r canllawiau presennol fel eu bod yn cyd-fynd â safon newydd y Sefydliad Safonau Prydeinig ar y menopos yn y gweithle. Mae’r pecyn cymorth menopos, sydd hefyd yn darparu cymorth a chanllawiau ar y perimenopos, yn helpu i sicrhau ymwybyddiaeth ymhlith yr holl staff ac yn darparu cymorth i’r rhai yr effeithir arnynt. Mae’r cymorth hwnnw’n cynnwys newidiadau syml i’r amgylchedd gwaith, a gall wneud gwahaniaeth enfawr. Cynhaliwyd yr adolygiad mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn yr undebau llafur a’n rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle. A bydd y Comisiwn yn lansio ei ganllawiau newydd ar Ddiwrnod Menopos y Byd yr wythnos nesaf, ar 18 Hydref.
Wel, dwi'n falch iawn o gael yr ymateb yna; mae'n un cadarnhaol iawn. Fel rydych chi wedi'i ddweud, nôl yn 2017 ddaru Cyngres yr Undebau Llafur lansio'r toolkit yma sydd wedi bod yn rhan mor greiddiol o ddatblygu BS 30416 y British Standards Institution ddaru chi sôn amdano fo, sydd bellach yn mynd i gael ei weithredu mewn gweithleoedd ar draws y Deyrnas Gyfunol. Dwi'n falch clywed a nodi eich bod chi'n dweud eich bod chi'n cefnogi gweithwyr er mwyn deall diwylliant ac ymwybyddiaeth o amgylch y menopos, ond a gawn ni eich sicrhad chi fod y cyflogwr yma yn rhoi'r gefnogaeth a'r hyblygrwydd angenrheidiol ar gyfer menywod sydd yn byw efo'r menopos?
Credaf mai’r peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw, yn ôl yr hyn a ddeallaf, Comisiwn y Senedd fydd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu safon newydd y Sefydliad Safonau Prydeinig, a chredaf fod hynny’n siarad cyfrolau am ein hymrwymiad yn y maes hwn. Ac mae'r canllawiau diwygiedig yn darparu gwybodaeth sy'n ymwneud â'r perimenopos, mislif ac iechyd mislif. Bydd y canllawiau newydd yn ymgorffori offer defnyddiol gan gynnwys awgrymiadau i reolwyr llinell ar gyfer sut i gychwyn sgwrs a thempledi asesu risg ac addasiadau yn y gweithle. Mae canllawiau ar gael i Aelodau a’u staff ar fewnrwyd yr Aelodau, ac mae pecyn llesiant yn y gwaith ar gael sy’n cynnwys sesiynau a fyddai’n gefnogol i’r rheini sy’n mynd drwy'r menopos. Bydd y ddarpariaeth bresennol ar ddysgu a datblygu mewn perthynas â'r menopos sydd ar gael i staff y Comisiwn, Aelodau a staff cymorth yr Aelodau yn cael ei hadnewyddu yn unol â'r canllawiau newydd hynny. Bydd aelod o’r tîm amrywiaeth a chynhwysiant o Gomisiwn y Senedd yn cymryd rhan yn ‘Getting started with menstruation and menopause support in the workplace’, gweminar grŵp y Sefydliad Safonau Prydeinig y mis hwn, i rannu’r arferion gorau yn y maes, a bydd hynny'n cynnwys digwyddiad rhithwir yn rhan o'r wythnos gynhwysol ryngseneddol i staff. Mae’r cymorth hwnnw ar gael nid yn unig i’r menywod sy’n gweithio yma, ond hefyd, gan ddefnyddio'r dull croestoriadol, i fod yn gwbl gynhwysol i bobl anabl, pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol, yr effaith y gallai’r menopos ei chael ar ddynion, partneriaid pobl sy’n mynd drwy'r menopos, a hefyd pobl draws.
Mae cwestiwn 7 i'w ateb gan Ken Skates. Huw Irranca-Davies.
7. A yw Comisiwn y Senedd yn cymharu ei effeithlonrwydd gweithredol a'i effeithlonrwydd o ran cost â chyrff cyfatebol yn seneddau eraill yn y DU a thu hwnt? OQ60056
Er nad yw ein Seneddau'n ymgymryd â meincnodi ffurfiol, rydym yn rhannu arferion gorau ac yn gwneud cymariaethau ar berfformiad amgylcheddol a'r defnydd o ynni a gwasanaethau o fewn y Comisiwn. Mae gennym hefyd berthynas waith dda gyda'r cyrff cyfatebol yn neddfwrfeydd eraill y DU drwy rwydweithiau sefydledig.
Nawr, mae'n anodd cymharu Seneddau yn union ac yn fanwl o ystyried bod pob un wedi'i chyflunio'n wahanol, yn meddu ar flaenoriaethau gwahanol a bod pob un ar gam datblygu gwahanol. Ond mae dysgu oddi wrth ein gilydd yn rhywbeth rydym yn awyddus iawn i'w wneud.
Diolch am eich ateb. Mae'n dda gweld rhannu dealltwriaeth o beth yw'r arferion gorau mewn gwahanol fannau, ac ati. Ond er bod gennym ddatganoli anghymesur a chyrff anghymesur ledled y DU, tybed a oes potensial yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i edrych ar Seneddau o faint tebyg, rhai a chanddynt elfennau tebyg a lefelau tebyg o aeddfedrwydd hefyd, fel ein bod yn gallu gweld a oes cymaryddion y gellir eu cyfrifo. Dywedaf hyn gan y byddai’n dda rhoi sicrwydd i drethdalwyr wrth inni esblygu’r sefydliadau hyn ein bod yn gwario arian trethdalwyr yn effeithiol iawn. Felly, tybed a yw'n rhywbeth yr hoffech feddwl amdano wrth symud ymlaen, gan ei bod yn ymddangos bod lle nid yn unig i rannu arferion gorau, ond i ddatblygu rhywfaint o fetrigau ar gyfer cymharu hefyd.
A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn? Mae'n faes gwaith diddorol iawn, ac mae llawer o ymgysylltu'n digwydd, nid yn unig â Seneddau ym Mhrydain, ond y tu hwnt iddi hefyd. Er enghraifft, yn ystod COVID, cynhaliwyd cyfarfodydd fforwm parhad busnes gyda Seneddau eraill ledled y DU, ond hefyd gyda Chanada a Seland Newydd. Roeddent yn cael eu cynnal yn wythnosol, ac yn ddiweddar, fe fuom yn ymgysylltu â Chynulliad Gogledd Iwerddon i feincnodi ac ystyried strwythurau trefniadol pob Senedd. Yn y gorffennol, rydym wedi meincnodi rhai meysydd o’n gweithrediadau—er enghraifft, ein gwasanaethau dwyieithog a niferoedd staff—yn erbyn Seneddau eraill tebyg. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi bod yn digwydd ar sail reolaidd ers datganoli. Fe’i gwnaed ddiwethaf yn 2018, felly mae’n sicr yn rhywbeth yr hoffem edrych arno. Er hynny, mae’n defnyddio llawer o adnoddau, ac fel y mae’r Llywydd eisoes wedi nodi, mae ein cyllidebau'n hynod o dynn ar hyn o bryd.
Mae’r bwrdd taliadau annibynnol yn cymharu cyflogau a lwfansau’r Senedd â Senedd y DU a Senedd yr Alban, ac mae’r Comisiwn bob amser yn chwilio am werth am arian ac effeithlonrwydd yn ei weithrediadau. Cynhaliwyd adolygiad o gapasiti gennym yn 2022, cynhaliwyd un yn 2021, a chyn hynny, cafwyd adolygiad o gapasiti yn 2018 hefyd. Rydym yn rhan o rwydweithiau rhyngseneddol sy'n ymestyn y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig yn ogystal. Rydym yn cyflawni cymariaethau anffurfiol, ond fel y dywedaf gall meincnodi ffurfiol lyncu llawer iawn o adnoddau. Mae gwahanol setliadau datganoli ar waith mewn gwahanol Seneddau, ac nid yw'r pwerau bob amser yn union yr un fath, felly gall hynny ei gwneud yn anodd iawn llunio cymariaethau ystyrlon. Ond mae dysgu oddi wrth ein gilydd, sicrhau ein bod yn gwneud arbedion lle bynnag y bo modd, a sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am arian, yn rhywbeth yr ydym yn hynod awyddus i'w wneud bob amser.
Yn olaf, cwestiwn 8, Heledd Fychan.
8. Pa ystyriaeth y mae Comisiwn y Senedd wedi'i rhoi i'w anghydfod parhaus gydag undeb y PCS wrth baratoi ei gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25? OQ60084
Diolch yn fawr iawn. Mae cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2024-25, a osodwyd gerbron y Senedd ym mis Medi, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer codiad blynyddol—fel y gŵyr yr Aelodau—yng nghyflogau staff y Comisiwn o dan delerau ein fframwaith cyflogau presennol a negodwyd gydag ac a gymeradwywyd gan gynrychiolwyr ein hundebau llafur a chyda'r Comisiwn. Nid yw’n cynnwys darpariaeth ar gyfer unrhyw godiad cyflog ychwanegol y tu hwnt i’r symiau hynny, yn unol â gofynion cyllidebol. Rhaid imi ddweud y byddai’r Comisiwn yn wynebu effaith sylweddol ar ei allu i ddarparu gwasanaethau pe bai unrhyw hawliadau cyflog pellach yn codi, ond gan nad oes unrhyw geisiadau ffurfiol wedi’u gwneud ar gyfer 2024-25, nid oeddem yn gallu ystyried unrhyw symiau ychwanegol o fewn y cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.
Diolch am eich ymateb. Rwy’n deall, ac mae pob un ohonom yn deall, y pwysau y mae hynny wedi’i roi ar gyllideb y Comisiwn, a dyna pam y credaf ein bod yn awyddus i sicrhau nad yw’n effeithio ar y gallu i wneud pethau eraill. Yn amlwg, mae Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol wedi dweud yn glir iawn eu bod yn dal yn awyddus i negodi, oherwydd yn amlwg, mae'r argyfwng costau byw yn dal i effeithio ar staff, ac yn y blaen. Felly, sut mae cydbwyso'r angen i allu parhau i negodi, ond hefyd i fynd i’r afael â’r pwysau real a dybryd ar gyllideb Comisiwn y Senedd heb fod y ddarpariaeth honno ar waith?
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Mae’n tynnu sylw at yr anhawster a wynebwn wrth sicrhau bod gennym gyllideb a all ddarparu ar gyfer y gwasanaethau y mae’r Aelodau’n dymuno eu gweld yn cael eu darparu yn y ffordd orau sy'n bosibl, ond sydd hefyd yn talu cyflog teilwng i’n gweithwyr. Ac er nad oes trafodaethau wedi'u cynnal eto ynghylch unrhyw hawliad cyflog pellach ar gyfer unrhyw un o flynyddoedd ariannol y cytundeb cyflog cyfredol hwn, neu'n wir, y cytundeb cyflog newydd o 2025 ymlaen, rydym yn disgwyl i'r trafodaethau hynny ddechrau cyn bo hir.
Nid yw'r Comisiwn am achub y blaen ar gasgliadau'r trafodaethau, ac mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol hefyd o'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Ond pe bai cais sylweddol yn cael ei wneud, yna byddai'n rhaid inni droi at Lywodraeth Cymru am gymorth i sicrhau y gellid osgoi streic ac y gellid negodi cytundeb cyflog yn llwyddiannus. Nid oes gennym—fel y gŵyr yr Aelodau’n iawn—elfennau wrth gefn yn ein cyllideb ar gyfer digwyddiadau annisgwyl, ac felly mae’n ei gwneud yn hynod o anodd pan fo digwyddiadau annisgwyl yn codi ar yr un pryd â phenderfyniadau anodd sy’n rhaid eu gwneud mewn perthynas â'r pwysau costau byw y mae pawb yn eu hwynebu.
Mae’r Comisiwn wedi gwneud taliad i’r holl staff sy’n ennill llai na £32,000 yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23, ac rydym hefyd yn gwneud taliad pellach o £1,500 i’r holl staff hyd at lefel cyfarwyddwr ym mlwyddyn ariannol 2023-24, ond heb gynnwys lefel cyfarwyddwr. Mae’r anghydfod gydag Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol—fel y gŵyr y rhan fwyaf o’r Aelodau, rwy’n siŵr—yn un cenedlaethol sy’n ymwneud â chyflogau, pensiynau, sicrwydd swyddi a thelerau diswyddo, gydag elfennau sylweddol o dan reolaeth Llywodraeth y DU. Ond byddaf yn parhau i ymgysylltu ag Aelodau wrth i gymorth ar gyfer blynyddoedd ariannol pellach i aelodau Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, ac aelodau o undebau eraill yn wir, gael ei ystyried.
Diolch i'r Comisiynwyr.
Eitem 4 yw'r cwestiwn amserol, a galwaf ar Joyce Watson i ofyn y cwestiwn.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad y Swyddfa Gartref ynglŷn â rhoi'r gorau i gynlluniau i gartrefu ceiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli? TQ868
Diolch yn fawr iawn am ofyn y cwestiwn hwn. Ar ôl misoedd o darfu ar y gymuned leol, rwy'n croesawu'r eglurder a ddarparwyd gan benderfyniad y Swyddfa Gartref i beidio â defnyddio Gwesty Parc y Strade i gartrefu ceiswyr lloches. Rhaid i'r Swyddfa Gartref chwarae ei rhan lawn nawr yn y gwaith o ailadeiladu cysylltiadau cymunedol yn Llanelli.
Rwyf innau hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad hwn. Heb os, dyma'r penderfyniad cywir i bobl Ffwrnes ac i Lanelli. Rwy’n falch fod y Swyddfa Gartref wedi gwrando ar y gymuned o’r diwedd, ac rwy'n gobeithio y bydd y gymuned yn cael y lle sydd ei angen arnynt i ddod ynghyd ac ailadeiladu wedi digwyddiadau’r ychydig fisoedd diwethaf. Rwy'n croesawu'r adroddiadau a gyhoeddwyd y bore yma gan berchnogion y gwesty eu bod yn bwriadu ailagor y gwesty hwnnw ac y gall fynd yn ôl i gael ei ddefnyddio gan y gymuned honno.
Fel y gwyddoch, Weinidog, mae hyn wedi achosi gofid a rhwyg enfawr yn y gymuned leol, ac mae hefyd wedi golygu colli oddeutu 100 o swyddi pan gaewyd y gwesty hwnnw. Er bod llawer wedi’i ddweud, ac sy’n haeddu cael ei ddweud, ynghylch camreolaeth y Swyddfa Gartref o'r sefyllfa, fy nymuniad nawr yw y gellir adnewyddu’r gwesty a’i wneud yn addas i’w ailagor cyn gynted â phosibl; y gall y cyn-weithwyr gael eu hailgyflogi, os yw hynny'n briodol, neu fel arall, eu cefnogi i gael swyddi newydd; ac y gall y gymuned ddechrau gwella o'r holltau y mae'r ymyriad diofal hwn wedi'u creu ynddi. Weinidog, pa gymorth y gellir ei gynnig i’r gymuned yn y ffyrdd rwyf newydd eu disgrifio, ac a ydych wedi cael trafodaethau gyda’r Swyddfa Gartref i ofyn iddynt gynorthwyo’r gymuned i symud ymlaen?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiynau, Joyce Watson. Fel y dywedwch, mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i’r gymuned leol yn Llanelli. Roeddem yn hynod siomedig gyda’r ffordd yr ymdriniwyd â’r defnydd arfaethedig o Westy Parc y Strade, nid yn unig gan y Swyddfa Gartref, ond gan berchnogion y gwesty hefyd, gyda’r staff a gollodd eu swyddi yn cael fawr ddim rhybudd eu bod yn cael eu diswyddo a fawr ddim eglurder ar gynigion swyddi eraill.
Mae'n wirioneddol bwysig cydnabod na ddysgodd y Swyddfa Gartref unrhyw wersi o Benalun—dim gwersi o gwbl. Mae eu hymagwedd wedi arwain at fwy o densiwn cymunedol, protestiadau ac aflonyddwch yng Ngwesty Parc y Strade. Fel y dywedais, rydym yn ceisio sicrwydd ar frys gan y Swyddfa Gartref y byddant yn cymryd cyfrifoldeb llawn am unioni'r niwed a achoswyd gan eu penderfyniadau mewn perthynas â Gwesty Parc y Strade, a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn sir Gaerfyrddin. Siaradais â’r arweinydd ddoe, y Cynghorydd Darren Price, am y ffordd y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd ac yn gweithio gyda’r heddlu, sydd wedi ymwneud yn helaeth â hyn. Credaf fod angen inni ddiolch i bob un o'r partneriaid am y ffordd y maent wedi ymdopi â'r misoedd anodd diwethaf. Hefyd, rydym wedi dweud yn glir iawn wrth y Swyddfa Gartref fod yna ffyrdd gwell o wneud hyn, gan ein bod am chwarae ein rhan lawn ym mhroses loches ac adsefydlu Llywodraeth y DU. Rydym am barhau i helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau. Rhaid iddynt weithio gyda ni nawr ar benderfyniadau ar gyfer y dyfodol, gyda’n hawdurdodau lleol.
O ran rhai o’r cwestiynau rydych wedi’u gofyn, mae gennyf ddiddordeb mewn gweld beth fydd yr ymateb gan y gwesty mewn perthynas ag ailagor. Buom yn trafod hyn ddoe. Gwyddom fod y gymuned am iddi ailagor. Rydym am chwarae ein rhan gyda'r swyddi a gollwyd. Rydym eisoes wedi estyn allan i gynnig ein cymorth i ddod o hyd i gyflogaeth neu hyfforddiant newydd ar ôl y cyhoeddiad, a oedd mor ddinistriol. Felly, roedd rhaglen ReAct yno ac ar gael, ac yn wir, fe wnaeth Cymru’n Gweithio, Cymunedau am Waith a Mwy a’r Adran Gwaith a Phensiynau oll roi cymorth i’r gweithwyr yn ôl ym mis Gorffennaf.
Ond mae angen i’r Swyddfa Gartref ddeall effaith negyddol gwneud y diswyddiadau hynny gan y gwesty, nid yn unig ar y gweithwyr eu hunain ond o ran y tensiynau cymunedol ehangach. Felly, mae'n ymwneud ag iachâd, mae'n ymwneud â chydweithio. Rwy’n cyfarfod â’r Gweinidog mewnfudo yr wythnos nesaf, ac rwy’n mynd i roi manylion yr hyn sydd wedi mynd o’i le dros y chwe mis diwethaf iddo—dim cyfathrebu, dim gwybodaeth, ennyn camsyniadau, gwahodd yr asgell dde eithafol i mewn, eu gwahodd i mewn yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn amlach ac yn amlach. Ond byddaf yn datgan iddo ein bod yn dymuno chwarae ein rhan, y byddwn yn chwarae ein rhan, a'n bod eisoes yn chwarae ein rhan o ran ein cyfrifoldebau. Ac wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol yng Nghymru ar gynllun gwasgaru lloches y Swyddfa Gartref.
Roedd y dewis i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade i gartrefu ceiswyr lloches yn amlwg yn benderfyniad anghywir, a wnaed yn y ffordd anghywir ac am y rhesymau anghywir, ac yn un nad oedd o fudd i’r rheini sy’n chwilio am noddfa, na’r gymuned yn Ffwrnes ger Llanelli. Rwy'n croesawu tro pedol y Swyddfa Gartref, ond nid oes modd gwadu bod y sefyllfa gyfan yn gadael blas cas iawn a llawer o gwestiynau heb eu hateb, gan gynnwys, fel y clywsom eisoes gan Joyce Watson ar golli swyddi, dyfodol y gwesty ei hun, tensiynau cymunedol a'r hollt y mae'r bennod hon wedi'i chreu.
Er bod y Torïaid yn San Steffan wedi petruso rhag gwneud penderfyniadau ac wedi defnyddio platfformau cyhoeddus i bardduo ceiswyr lloches, hoffwn gofnodi fy niolch, fel rydych chi eisoes wedi’i wneud, Weinidog, i Gyngor Sir Caerfyrddin, o dan arweiniad Darren Price, sydd wedi bod yn llais rhesymol drwy gydol y broses hon, yn ceisio heriau cyfreithiol ac yn gweithio gyda phob un ohonom fel Aelodau etholedig a’r gymuned leol i ddod o hyd i ateb. A gaf fi ddiolch hefyd i’r grwpiau ymgyrchu lleol sydd wedi gweithio'n ddiflino i wrthwynebu’r cynllun trwsgl hwn, ac am y rhesymau cywir? Fodd bynnag, fy neges i’r rheini a ddaeth i Lanelli i fegino fflamau casineb a rhagfarn: nid oes croeso i’ch gweithredoedd yma.
Mewn byd o densiynau—ac rŷn ni'n gweld yr hyn sydd yn digwydd yn y dwyrain canol ar hyn o bryd—mae gyda ni ddyletswydd fel cenedl i warchod y rhai sydd yn ffoi caledi a thrais. Ac rwy'n gwbl glir bod sir Gaerfyrddin, fel siroedd eraill yng Nghymru, yn mynd i barhau i fod yn noddfa ddiogel i bobl sydd yn gadael rhyfeloedd ac erledigaeth. Fel rŷn ni wedi gweld gydag achos ffoaduriaid o Wcráin a Syria, mae'r model gwasgaru ar gyfer rhoi cartrefi i geiswyr lloches wedi gweithio yn dda dros nifer o flynyddoedd. Felly, fy nghwestiwn i i chi, Weinidog, yw hwn: beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud i sicrhau, wrth edrych ymlaen at y dyfodol, mai'r model gwasgaru yw'r model sydd yn cael ei ffafrio? A sut y gallwn ni sicrhau na fyddwn ni'n gweld ailadrodd y sefyllfa drychinebus a thruenus sydd wedi digwydd yn Llanelli byth eto?
Diolch yn fawr, Cefin Campbell. A gaf fi hefyd ychwanegu fy niolch, fel rwyf wedi’i wneud, i’r partneriaid a chwaraeodd eu rolau pwysig, y cyrff statudol? Ni soniais am Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, wrth gwrs, am sicrhau gorchymyn gwahardd ar yr adeilad, a oedd yn amlwg yn anaddas. Fel y dywedoch chi, dyma'r lle anghywir, y penderfyniad anghywir, y ffordd anghywir o'i roi ar waith ac am y rhesymau anghywir.
Yn benodol hoffwn ateb eich pwynt am ein hymrwymiad yng Nghymru ac ymrwymiad ein hawdurdodau lleol—arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r holl Aelodau etholedig a weithiodd yn agos iawn gyda'i gilydd, yn drawsbleidiol, ar y mater hwn. Rydym wedi ymrwymo i gynllun gwasgaru lloches y Swyddfa Gartref, a bydd hynny’n cynyddu nifer y gwelyau gwasgaru i dros 5,500—gan ddyblu’r niferoedd yng Nghymru i bob pwrpas. Rydym yn fwy na pharod i fwrw ymlaen â hyn gyda’n hawdurdodau lleol, ond y Swyddfa Gartref a’i darparwr llety, Clearsprings Ready Homes, sy’n gyfrifol am gaffael llety yng Nghymru.
Felly, dyna fy nhrafodaeth gyda'r Gweinidog Mewnfudo yr wythnos nesaf—Robert Jenrick—gan mai nhw sy'n gyfrifol am y caffael, sut y gallwn ni ddylanwadu ar hynny? Os caf ddweud, fe wyddom y gallwn wneud hyn—rydym wedi'i ddweud. Rydym wedi croesawu mwy na 7,000 o bobl o dan gynllun Cartrefi i Wcráin, gyda mwy na 3,300 yn cyrraedd o dan lwybr uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru—mae hwn yn llwybr diogel a chyfreithlon, sef yr hyn sydd ei angen arnom ar gyfer ceiswyr lloches—ac ymsefydlodd 800 o unigolion yng Nghymru o dan gynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan. Felly, fe wyddom y gallwn ei wneud, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i—. Ond hefyd, yn amlwg, byddwn yn cofio ac yn gweithio gyda'r bobl a'r sefydliadau a'r partneriaid yn Llanelli i helpu i wella ac ymadfer wedi'r profiad ofnadwy y maent wedi bod drwyddo dros y chwe mis diwethaf.
Fel y soniais wrthych yn gynharach, Weinidog, mae polisïau ffiaidd, gwahaniaethol, trychinebus ac amhriodol Llywodraeth Dorïaidd San Steffan yn cael eu harwain gan ideoleg ac nid gan dosturi, gan awydd i greu rhaniadau yn hytrach na meithrin cydlyniant cymdeithasol. A'r hyn a welwn dro ar ôl tro—a'r enghraifft ddiweddaraf yn unig yw Gwesty Parc y Strade—yw diffyg ymgynghori â chymunedau lleol, arweinwyr cynghorau lleol a Llywodraethau datganoledig. Gwn eich bod yn cytuno, Weinidog, fod angen system gwasgaru lloches effeithiol, gydag adnoddau priodol i gynghorau gefnogi pobl mewn angen yn y cymunedau. Felly, sut y byddwch chi'n ceisio sicrhau bod Llywodraeth y DU yn mabwysiadu'r model y mae arweinwyr lleol a chenedlaethol yn ei ffafrio yng Nghymru, er mwyn osgoi sefyllfaoedd fel yr un a welsom yn Llanelli rhag digwydd eto, a bod llety priodol yn cael ei drefnu sy'n cadw urddas a hawliau dynol y rhai sy'n ceisio lloches?
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Methiant y Swyddfa Gartref i ymgysylltu â'r awdurdod lleol, â'r gymuned leol, ag arweinwyr cymunedol lleol a gwasanaethau cyhoeddus a arweiniodd at y tensiwn cymunedol hwnnw, yr ansicrwydd hwnnw, yn ogystal cholli'r swyddi pan ddaeth y gwesty i feddiant Clearsprings. Felly, mae fy neges ddydd Mercher—yr wythnos nesaf, nid wyf yn siŵr pa ddiwrnod y byddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog Mewnfudo—yn ymwneud â sut rydym yn mynd i ymdrin â phenderfyniadau ynghylch lleoliad llety i geiswyr lloches gyda gofal ac ystyriaeth, fel nad ydym yn weld yr hyn a ddigwyddodd yn Llanelli yn cael ei ailadrodd. Rydym wedi dweud ein bod cefnogi'r cynllun gwasgaru, ac mae ein hymrwymiad yn glir, fel y mae wedi bod. Y ffaith amdani yw bod gennym hanes mor falch o groesawu ffoaduriaid, onid oes? A byddwn yn parhau i groesawu pobl i Gymru a'u helpu i greu bywyd newydd yma. Felly, dyna yw fy mwriad o hyn ymlaen, wrth gwrs.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 5 yw datganiadau 90-eiliad, ac yn gyntaf, Jayne Bryant.
Yr wythnos hon yw Wythnos Gofal Hosbis, ac felly rwyf am roi munud i dynnu sylw at waith gwych Gofal Hosbis Dewi Sant yn fy etholaeth yng Ngorllewin Casnewydd.
Ym 1979 sefydlodd Heulwen Egerton MBE, tiwtor nyrsio yn Ysbyty Brenhinol Gwent, grŵp prosiect hosbis Gwent. Roedd y grŵp yn cynnwys unigolion o'r un anian a oedd yn pryderu am y diffyg gofal lliniarol a oedd ar gael i bobl Gwent. O'u blwyddyn gyntaf o weithredu, yn gofalu am chwech o gleifion, mae Gofal Hosbis Dewi Sant wedi tyfu i fod yn ddarparwr gofal hosbis yn y cartref mwyaf y DU, ac mae'n gofalu am dros 3,200 o gleifion a theuluoedd bob blwyddyn. Y llynedd, cafodd dros 3,386 o gleifion a theuluoedd ofal gan staff ymroddedig, medrus a thosturiol Hosbis Dewi Sant—roedd mwy na 30 y cant ohonynt wedi cael diagnosis nad oedd yn ganser.
Rwy'n gwybod o brofiad fy nheulu fy hun fod y gofal a roddir ganddynt yn rhyfeddol. Mae'r uned wych i gleifion mewnol ym Malpas, a agorodd yn 2017, wedi'i lleoli yng nghanol tyfiant gwyrdd a'i gerddi ei hun. Mae ganddi 15 o ystafelloedd en-suite hardd sy'n edrych allan dros y caeau, ac mae'r gofod mor dawel ac yn caniatáu ar gyfer tawelwch meddwl llwyr. Mae'r staff yno i'r cleifion a'u teuluoedd, ac mae'r gefnogaeth, y caredigrwydd a'r empathi a ddangosant mor werthfawr. Mae'r holl ofal a ddarparant yn rhad ac am ddim ac mae eu gwasanaeth yn gwbl amhrisiadwy. Mae Wythnos Gofal Hosbis eleni yn canolbwyntio ar ei gweithlu, felly diolch o galon. Maent yn haeddu ein hedmygedd, ein cefnogaeth a'n dathliad llwyr o bopeth a wnânt i wneud gofal hosbis yng Nghymru yr hyn ydyw.
Cynhelir Gwledd Eirin Dinbych, digwyddiad blynyddol yn nhref Dinbych, er mawr syndod, ar ddydd Sadwrn cyntaf mis Hydref yn neuadd y dref Dinbych, a chefais y pleser o'i mynychu ychydig ddyddiau'n ôl, ddydd Sadwrn. Mae'r wledd yn dod â phobl leol, busnesau, manwerthwyr bwyd a diod lleol at ei gilydd i'r teulu cyfan allu mwynhau'r gorau sydd gan sir Ddinbych i'w gynnig. Un busnes sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad yw Vale Vineyard o Aberchwiler, sy'n cynhyrchu'r gwin gwyn Solaris gwych, y prynais botel ohono ar gyfer y Nadolig. Ond i'r rhai nad ydynt yn gwybod, efallai, eirin Dinbych yw'r unig ffrwyth sy'n frodorol i Gymru, ac mae ganddo statws gwarchodedig, gan fod gan yr eirin penodol hwn gnawd mwy suddlon a mwy gwydn nag eirin cyffredin yr archfarchnadoedd, a dyna sy'n ei wneud yn unigryw o atyniadol i gwsmeriaid doeth.
Trefnir y digwyddiad gan Nia Williams a Peter Plum, a fu'n trefnu'r digwyddiad ers nifer o flynyddoedd, ac mae'n parhau i fod yn atyniad poblogaidd i bobl yn nhref Dinbych a'r ardaloedd cyfagos. Mae gan Ddyffryn Clwyd lawer o gynhyrchwyr bwyd a diod o'r radd flaenaf, ac mae Gwledd Eirin Dinbych yn darparu llwyfan delfrydol i fusnesau arddangos eu cynnyrch i'r cyhoedd yn ehangach mewn digwyddiad hwyliog ac addas i deuluoedd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Nia, Peter a phawb a gymerodd ran am flwyddyn lwyddiannus arall yn cynnal y wledd eirin ddydd Sadwrn diwethaf a gobeithio y bydd yn parhau i fod yn ddigwyddiad blynyddol yn y rhaglen ar gyfer mis Hydref am flynyddoedd lawer i ddod. Y cyfan sydd ar ôl i'w ddweud yw: hir oes i eirin Dinbych.
Mae trallod y stryd fawr yn cael sylw unwaith eto, gydag unedau gwag ar hyd ein strydoedd mawr ni a siopau yn gorfod cau. Mae angen angor ar bob stryd fawr, adeilad neu wasanaeth neu siop ganolog sydd yn creu bwrlwm ac yn denu ymwelwyr.
Roedd adeilad Y Tŵr yn arfer bod yn angor i stryd fawr Pwllheli, ac rŵan mae menter gymunedol gydweithredol Y Tŵr yn edrych i brynu'r adeilad hynafol yma, gan ei ail-greu yn angor ac yn ganolbwynt cymunedol i’r dref. Mae yna fwriad i’w ailagor fel tafarn, bwyty a gwesty, ond mae’r weledigaeth yn llawer iawn mwy na hynny. Y gobaith fydd iddo fod yn hwb cymunedol ar gyfer gwahanol fentrau cymunedol, yn rhai amgylcheddol, yn hwb i grefftwyr ac yn hwb i fusnesau newydd lleol. Os nad ydy’r Llywodraeth am gamu i mewn i gynorthwyo stryd fawr Pwllheli, yna mae’n disgyn ar ysgwyddau pobl Pwllheli i wneud hynny. Felly, dymuniadau gorau i'r fenter yma, menter Y Tŵr ym Mhwllheli, a’r gwirfoddolwyr deinamig a brwdfrydig wrth iddyn nhw anelu i sicrhau dyfodol llewyrchus i dref
' "Benja," a "Largo" a "Thwm Pen Slag," / "Now Ostrelia," a "Siencyn Brawd Huw," / A "Ned Foreign Bird," a "Bo’sun Puw;" '.
Eitem 6 yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8368 Peredur Owen Griffiths
Cefnogwyd gan Delyth Jewell
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) hyrwyddo diogelwch cymunedol yn dilyn nifer cynyddol o ymosodiadau difrifol gan gŵn ledled Cymru gan gynnwys rhai marwolaethau trasig;
b) cyflwyno canllawiau a rheoliadau i unrhyw un sy'n dymuno bod yn berchen ar fridiau cŵn penodol, lle mae'n rhaid i berchnogion gyflawni meini prawf penodol i fod yn berchen ar gi a allai fod yn beryglus;
c) ymgynghori â rhanddeiliaid i sefydlu diffiniad o gi a allai fod yn beryglus;
d) gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu partneriaethau i weinyddu'r rheoliadau a chyflawni dull gweithredu cyson ar draws Cymru; ac
e) hyrwyddo mentrau lleol a chenedlaethol gyda'r nod o wella lles anifeiliaid, gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysgu'r cyhoedd ynghylch perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael gwneud y cynnig yma heddiw. Mae'n gynnig pwysig ofnadwy i'n cymunedau ni ar draws Cymru.
Mae Cymru yn genedl sy'n hoff o gŵn. Fe wnaeth yr hyn a oedd eisoes yn gwlwm arbennig rhwng y perchennog a'n cyfeillion pedair coes ddyfnhau yn ystod y pandemig coronafeirws gyda'r cyfyngiadau a ddaeth yn ei sgil. Daeth llawer o bobl yn berchnogion ar gŵn am y tro cyntaf hefyd yn ystod yr amseroedd tywyll hynny, yn bennaf oherwydd y gwmnïaeth gysurlon a gynigiai. Cefais fy magu o amgylch cŵn. Gweithiais ar ffermydd hefyd lle roedd cŵn yn fwy na dim ond anifeiliaid anwes, ond hefyd yn weithwyr hyfforddedig. Rwy'n derbyn nad yw'r mwyafrif helaeth o gŵn o unrhyw frîd yn achosi unrhyw broblemau cyhyd â'u bod yn cael eu hyfforddi a'u magu'n dda. Yn y dwylo anghywir, fodd bynnag, gall cŵn droi'n arfau peryglus, ac angheuol yn wir.
Mae'n ymddangos bod cydberthynas rhwng y cynnydd mewn perchnogaeth ar gŵn a nifer yr ymosodiadau gan gŵn. Yn gynharach yn yr haf, adroddodd ITV Wales ar nifer yr ymosodiadau gan gŵn yng Nghymru yn 2022. Fe ganfuwyd bod dros 3,000 o bobl yng Nghymru wedi mynd i'r ysbyty yn dilyn brathiad gan gi yn ystod y flwyddyn honno. O'r rhai a gofnodwyd, roedd un o bob pump yn blant o dan 17 oed. Mae'r cyfanswm hwn ymhell o'r ffigur gwirioneddol fodd bynnag am mai dim ond pedwar o'r saith bwrdd iechyd a wnaeth ymateb gyda ffigurau llawn.
Gan ddefnyddio data sy'n seiliedig ar 37 o ymatebion rhyddid gwybodaeth gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, gallwch weld bod patrwm cynyddol o ymosodiadau gan gŵn i'w weld ar draws y ddwy wlad. Roedd 21,918 o ymosodiadau gan gŵn yng Nghymru a Lloegr yn 2022, o'i gymharu ag 16,394 yn 2018. Gwelwyd cynnydd o 5,524 o droseddau mewn troseddau o'r fath, a ddiffinnir gan yr heddlu fel 'cŵn allan o reolaeth sy'n achosi anaf' yn ystod y cyfnod y darparwyd ffigurau ar ei gyfer. Yn fy rhanbarth yn Ne Ddwyrain Cymru, gwelwyd ymosodiadau erchyll sydd wedi arwain at farwolaethau. Mae marwolaeth Jack Lis a oedd yn 10 oed, a Shirley Patrick, a oedd yn 83 oed, wedi dinistrio eu teuluoedd, ac wedi achosi gofid mawr i'r gymuned ehangach yn yr ardal glos hon. Rwy'n deall bod mam Jack, Emma, yn yr oriel gyhoeddus yma heddiw i glywed y ddadl, ac rwyf am ganmol ei dewrder a'i phenderfyniad i sicrhau newid yn dilyn y galar a'r boen annirnadwy o golli Jack.
Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bobl y Senedd hon i esbonio'r hyn y gallwn ei wneud i wella bywydau'r bobl a gynrychiolwn. Mae amddiffyn ein hetholwyr a chynyddu diogelwch cymunedol, sy'n rhan o'r setliad datganoli, yn enghraifft o hynny. Oherwydd hynodrwydd y setliad datganoli, a'r hyn y credaf eu bod yn elfennau abswrd o'i fewn yng Nghymru, mae gennym rai pwerau at ein defnydd mewn perthynas ag anifeiliaid, ond cedwir pwerau allweddol eraill yn ôl i San Steffan. Mae unrhyw beth sy'n ymwneud â Deddf Cŵn Peryglus 1991 yn parhau i fod yn nwylo'r rhai sy'n eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Fodd bynnag, mae gennym bwerau dros les anifeiliaid. Os defnyddir dull deddfwriaethol i gefnogi cŵn hapus, iach, daw o fewn ein cymhwysedd yma yn y Senedd. Mae pwerau eang eisoes yn bodoli o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u defnyddio i ddatblygu dull polisi penodol i Gymru. Fodd bynnag, byddai unrhyw ddull deddfwriaethol gyda'r diben o wahardd neu reoleiddio mewn perthynas â chŵn peryglus yn cael ei gadw'n ôl.
Mae'n ddigon posibl bod fy nghynnig deddfwriaethol yn ei eiriad presennol y tu hwnt i ffiniau ein cylch gwaith yma yng Nghymru, ond mae hynny'n rhywbeth i'r arbenigwyr cyfansoddiadol a'r cyfreithwyr ddadlau drosto o bosibl. Fy mwriad wrth ddod â'r ddadl hon i'r Senedd yw edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru i roi mwy o gyfrifoldeb ar berchnogion cŵn i sicrhau eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i fagu a hyfforddi cŵn sy'n ddiogel ac yn iach yn eu cymuned. Mae addysgu perchnogion cŵn, yn enwedig y rhai sy'n awyddus i fod yn berchen ar gŵn mawr nerthol, yn rhywbeth nad oes rhaid inni aros i San Steffan roi caniatâd yn ei gylch.
Ceir mentrau lleol fel Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn, LEAD, a lansiwyd yn ardal Caerffili yn ddiweddar, a bydd yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â chŵn yn ogystal ag anelu at wella diogelwch a lles cŵn. Mae hefyd yn ceisio cyfyngu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anystyriol gan unigolion sydd â chŵn er mwyn diogelu a thawelu meddyliau'r cyhoedd. Mae'r fenter yn caniatáu rhannu gwybodaeth ac mae ganddi gylch gwaith i gyhoeddi llythyrau rhybudd, contractau ymddygiad derbyniol ac yn y pen draw, i gymryd camau gorfodi os yw'n briodol.
Felly, ceir pocedi o arferion da yng Nghymru eisoes, ond mae'r dull o weithredu'n dameidiog. Rydym angen dull cyson ar gyfer Cymru gyfan o gynyddu diogelwch cymunedol yng nghyd-destun perchnogaeth ar gŵn. Y gwir amdani yw y gallai nifer fawr o fridiau cŵn fod yn angheuol yn y dwylo anghywir. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi cael ei gydnabod mewn gwledydd eraill, lle rhoddir blaenoriaeth i addysgu perchnogion cŵn ac mewn rhai achosion, gosodir cyfyngiadau ar berchnogion cŵn i sicrhau eu bod yn berchnogion cyfrifol. Mae honno'n ddadl y credaf ei bod yn werth ei chael yma yng Nghymru. Os gallwn wneud rhywbeth cadarnhaol a rhagweithiol yma yng Nghymru, o fewn y fframwaith cyfyngedig y gweithredwn o'i fewn, dylem achub ar bob cyfle i ddiogelu ein dinasyddion. Rwy'n credu'n gryf fod yr atebion i'r problemau sy'n ein hwynebu fel unigolion, fel cymunedau, ac fel gwlad ar eu gorau pan fyddant yn dod o'r tu mewn, o Gymru.
Os gallwn wneud unrhyw beth i wella diogelwch cymunedol, a thrwy hynny wneud y digwyddiadau erchyll a welsom yn ein cymunedau yn llai tebygol, gadewch inni gael y ddadl honno. Gadewch inni gael yr ymgynghoriad a gadewch inni wneud hyn ar ran y bobl a wasanaethwn. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr i Peredur Owen Griffiths am gyflwyno'r ddadl yma.
Lywydd, bydd Aelodau'r Senedd hon yn gwybod fy mod i wedi profi canlyniadau perchnogaeth anghyfrifol ar gŵn yn ddiweddar. Ymosodwyd yn dreisgar ar fy sbaengi Siarl, Coco, gan ddau ddaeargi tarw Staffordshire a oedd oddi ar eu tennyn. Lywydd, ar ôl y profiad enbyd hwnnw, dywedwyd wrthyf fod y ddau gi a ymosododd ar Coco eisoes wedi ymosod ar gi arall ychydig cynt ar yr un diwrnod. Nawr, dioddefodd Coco anafiadau difrifol i'w gwddf ac i'w chefn, cefn ei gwddf, yn ystod yr ymosodiad digymell arni. Bu'n rhaid i chwe aelod dewr o'r cyhoedd dynnu'r ddau gi llawer mwy o faint, a mwy pwerus oddi arni, tra oeddwn i'n gorwedd ar ei phen. Lywydd, rwy'n rhannu'r stori hon eto heddiw am fy mod yn ddigon ffodus i gael y platfform hwn, platfform i rannu fy mhrofiadau a'i ddefnyddio i alw am newid. Mae fy mhartner a minnau'n lwcus iawn fod Coco'n dal i fod gyda ni heddiw, diolch i raddau helaeth i'r aelodau o'r cyhoedd a ddaeth i'n hachub.
Ond er mor drawmatig ydoedd, er mor drawmatig ydyw o hyd, gallai'r digwyddiad fod wedi bod yn llawer gwaeth. Rydym wedi clywed eto yn y Senedd, yn agoriad Peredur Owen Griffiths, am amgylchiadau trasig a welwn yn llawer rhy aml, ac rwy'n meddwl am fy mhrofiad i ac yn gofyn y cwestiwn: beth pe bai plentyn wedi bod gyda Coco y diwrnod hwnnw? Neu efallai, beth pe na bai'r aelodau dewr o'r cyhoedd wedi gallu ein helpu y foment honno? Lywydd, fe wyddom y gall fod yn anodd rhagweld sut y bydd cŵn yn ymddwyn. Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar berchnogion i sicrhau bod eu ci dan reolaeth bob amser. Yn anffodus, mae gormod o berchnogion yn hunanfodlon. Mae llawer gormod ohonynt nad ydynt yn cymryd y camau neu'r rhagofalon angenrheidiol i sicrhau nad yw eu ci yn berygl i eraill.
Lywydd, credaf fod angen ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd arnom, un sy'n annog pobl i wneud y peth cyfrifol ac i ystyried yn ofalus iawn cyn dod â chi i'w cartref a ydynt mewn sefyllfa i'w hyfforddi ac i ofalu amdano'n iawn. Hoffwn weld unrhyw ddeddfwriaeth a gaiff ei chyflwyno yn ein hymrwymo i ganolfan wybodaeth ganolog, i fod ar gael ar-lein, lle gall darpar berchnogion cŵn a pherchnogion cŵn cyfredol weld y cyngor arbenigol diweddaraf, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod pobl yn gwybod ble i droi os ydynt yn gweld eu ci'n ymddwyn yn ymosodol, ac y gellir rhoi'r cymorth ar waith cyn ei bod yn rhy hwyr. Lywydd, yn llawer rhy aml gwelwn ymosodiadau treisgar gan gŵn gyda chanlyniadau difrifol. Mae angen newid, ac rwy'n gobeithio y bydd y cynnig hwn yn ei sicrhau.
Diolch i Peredur am ddod â'r ddadl yma ymlaen.
Mae Cymru wedi gweld nifer uchel o anafiadau'n ymwneud ag ymosodiadau gan gŵn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl ITV Wales, aeth dros 3,000 o bobl yng Nghymru i'r ysbyty y llynedd ar ôl cael eu brathu gan gŵn. Yng Nghaerffili dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gwelwyd rhai digwyddiadau erchyll, ac ar draws rhanbarth y de-ddwyrain. Yn 2022, fe wnaeth Heddlu Gwent gymryd meddiant ar 25 o gŵn; ym mis Chwefror eleni, cafodd 13 o gŵn eu cymryd i feddiant Heddlu Gwent yng Nghaerffili yn unig, ar amheuaeth o fod yn fridiau gwaharddedig. Mae'r Cynghorydd Steve Skivens yn yr oriel heddiw, aelod o ward Penyrheol, wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth yn y gymuned. Hoffwn ddiolch iddo am ei waith ar y mater, yn ogystal â chynrychiolwyr lleol eraill.
Rydym wedi cael dwy farwolaeth yn fy rhanbarth i: y bachgen ysgol Jack Lis, a Shirley Patrick. O'r ifanc iawn i aelodau hŷn ein cymuned, mae pobl wedi cael eu cyffwrdd gan y trychinebau hyn. Nawr, mae mam Jack, Emma, wedi dod yn ymgyrchydd ar y mater. Ym mis Mehefin, dywedodd:
'Ni allaf gredu ei fod wedi digwydd eto, dau ymosodiad ar ôl Jack yn yr un ardal.'
'Rwy'n teimlo na ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf, mae'n teimlo fel pe na bai neb wedi gwrando nac wedi dysgu o gamgymeriadau.'
'Ni ddylai unrhyw un fod yn colli aelod o'u teulu na'u plentyn yn y ffordd y gwnaethom ni. Rwyf angen iddo stopio.'
Hoffwn ddiolch i Emma am ei holl ymgyrchu dewr ar y mater ac am ddod i'r Senedd i wrando ar y ddadl. Diolch, Emma, am bopeth rydych chi wedi'i wneud. Ni allaf ddychmygu'r hyn rydych chi wedi bod drwyddo.
Ond mae ymosodiadau gan gŵn yn frawychus hyd yn oed pan nad ydynt yn angheuol. Cysylltodd etholwr o Grymlyn â fy nhîm ym mis Chwefror i ddweud bod ci troffi â phen mawr ar dennyn hir iawn wedi neidio arno, yn ymosodol, mewn man cyhoeddus yn Nhrecelyn. Dywedodd wrthyf hefyd ei fod wedi cael ei frathu gan gŵn mewn mannau cyhoeddus ledled y rhanbarth dros y blynyddoedd diwethaf, tra bod ei fab wedi cael ei frathu gan gi ar yr un llwybr troed yn Nhrecelyn yn ddiweddar. Nid yw'r ymosodiadau llai difrifol hyn yn cyrraedd y newyddion, ond maent yn cael effaith fawr ar y bobl sy'n dioddef, a'r peth gwallgof yw nad yw'r holl bwerau dros y mater hwn gennym yma yng Nghymru. Nid yw Deddf Cŵn Peryglus 1991 wedi'i datganoli, ond mae gan Lywodraeth Cymru, fel y clywsom, reolaeth dros fridio a gwerthu cŵn.
Gall Llywodraeth Cymru ymdrin â hyn mewn ffordd adweithiol hefyd, wrth atgoffa'r bobl sy'n berchen ar gŵn am eu dyletswyddau cyfreithiol i gadw eu hanifeiliaid nhw o dan reolaeth ym mhob man. Dwi'n gwybod y codwyd y cwestiwn o ail-gyflwyno trwyddedau cŵn yn y Senedd gan y Llywodraeth yn gynharach eleni. Buaswn i'n hoffi clywed diweddariad am hyn. Dwi'n meddwl bod consensws yma bod angen deddfwriaeth sy'n fwy llym. Mae'n siom nad oes gennym ni'r pwerau oll rŷn ni eu hangen yma i ymateb i'r galwadau sy'n dod o'r ymgyrchwyr ac o deuluoedd pobl sydd wedi colli pobl fel canlyniad i'r ymosodiadau, ond dwi'n gobeithio bydd hyn yn gam pwysig ymlaen. Hoffwn i eto longyfarch Peredur am sicrhau'r ddadl yma heddiw, ac hoffwn i gymeradwyo'r cynnig. Diolch.
Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf y gallwn ei ddysgu gan Gaerffili, gan fy etholaeth i, gan fy nghymuned i, yw y gall y camau hyn ddigwydd, a gall y camau hyn ddigwydd i wella bywydau'r bobl y mae'r ymosodiadau cŵn hyn yn effeithio arnynt. Roeddwn i yn angladd Jack Lis ym mis Tachwedd 2021, a gwelais y galar y tu mewn a'r tu allan i eglwys St Martin a hefyd y cariad a'r gefnogaeth i'r teulu—i Emma, a'r teulu a'r gymuned ehangach a fodolai yng Nghaerffili ar y pryd, ac sy'n parhau i fodoli nawr. A marwolaeth drasig Shirley Patrick, 83 oed, hefyd. Mae'r gymuned honno wedi dioddef y ddwy farwolaeth a nifer o ymosodiadau, ac mae'r camau rydym yn eu cymryd heddiw, yn drawsbleidiol, yn hanfodol i fynd i'r afael â'r materion hyn. Diolch i Peredur Owen Griffiths, diolch i Delyth Jewell—mae'r Cynghorydd Steve Skivens yn yr oriel, fel y clywais—a Wayne David AS, rydym yn dangos y gwaith trawsbleidiol hwnnw. Mae Wayne David wedi codi'r mater yn San Steffan ac mae wedi bod yn ddylanwadol iawn wrth sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gweithredu. Yn fwy lleol, yn y Senedd ac yn ein cymunedau, rydym ni, gyda'n gilydd, yn drawsbleidiol, wedi codi'r materion hyn.
Un o'r pethau a ddywedodd Peredur yn ei araith oedd ei fod yn credu efallai nad yw rhai o'r pethau y mae'n sôn amdanynt yn ei gynnig deddfwriaethol o fewn pwerau'r Senedd, ond tybed a yw hynny'n wir mewn gwirionedd. Os ydych chi'n sôn am reoliadau bridio, os ydych chi'n sôn am drwyddedu, os ydych chi'n sôn am ymgyrchoedd perchnogaeth gyfrifol, mae'r holl bethau hynny yn bethau y gall y Llywodraeth hon eu gwneud, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod y Gweinidog, Lesley Griffiths, wedi bod yn gefnogol iawn yn cyfarfod â mi, gyda grwpiau cymunedol, a chydag ymgyrchwyr i gefnogi menter LEAD yng Nghaerffili, a hefyd wedi trefnu uwchgynhadledd yr wythnos nesaf—ddydd Mercher nesaf, rwy'n credu, ac rwy'n bwriadu ei mynychu, a chredaf fod Peredur wedi cael gwahoddiad hefyd—i drafod sut y gallwn fynd i'r afael gyda'n gilydd â'r materion y mae Peredur wedi'u codi yn ei gynigion. Rwy'n deall hefyd, ar ôl cyfarfod â phrif swyddog milfeddygol Llywodraeth Cymru y bore yma, y bydd tasglu yn adrodd yn fuan—cyn y Nadolig, gobeithio, meddai—a gall hynny fynd i'r afael â rhai o'r pethau hyn. Felly, rwy'n credu mai'r wers rydym yn ei dysgu yw efallai na fydd angen inni fynd mor bell â deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae deddfwriaeth yn cymryd amser, ac fel y dywedodd yr Aelodau, mae angen mynd i'r afael â hyn yn gyflym, ac felly, rwy'n credu y gallwn ddysgu'r gwersi a gawsom o Gaerffili a'u lledaenu ledled Cymru. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd orau i fynd i'r afael â hyn gyda'n gilydd.
Cafodd menter LEAD, sef Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn, fel y dywedodd Peredur, ei fewnforio o Fwrdeistref Sutton yn Llundain, ac rydym wedi ei fabwysiadu yng Nghaerffili, drwy'r Uwcharolygydd Michael Richards a'i dîm, a'r gwleidyddion ac aelodau o'r gymuned, i'w wneud yn ymgais ddifrifol a rhagweithiol i ddatrys rhai o'r materion hyn. Felly, tra bo'n rhaid gwthio Llywodraeth y DU i ymdrin â'r mater drwy Ddeddf Cŵn Peryglus y DU 1991, rydym ni yma yng Nghymru eisoes wedi cymryd y camau hyn. Yr hyn yr hoffwn i'r Gweinidog ei wneud—ac rwy'n siŵr y bydd yn gwneud hynny mewn ymateb i'r ddadl hon—yw amlinellu sut y gellir atal y digwyddiadau trasig hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol, ac egluro pryd y bydd y tasglu'n adrodd a beth mae hi'n ei ddisgwyl o'r uwchgynhadledd yr wythnos nesaf.
Mae angen i chi orffen nawr, Hefin, os gwelwch yn dda.
Diolch iddi am y camau y mae hi wedi'u cymryd, ac rwy'n sefyll mewn undod gydag Emma, gyda theulu Shirley Patrick, a'r Aelodau yn y Senedd heddiw sydd wedi cyflwyno'r mater hwn.
Diolch i Peredur am gyflwyno y ddadl hon.
O ystyried yr hyn sydd wedi digwydd nid yn unig dros yr wythnosau diwethaf ond dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac wrth gwrs, y cynnydd yn nifer perchnogion cŵn dros y pandemig, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn cael y ddadl hon ac yn mynd i'r afael â'r mater ar frys.
Dechreuaf o'r syniad o dyfu i fyny gyda chŵn. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae gennyf filgi bach fy hun, roedd gan fy nhad-cu filgwn, ac yna fy nhad—. Felly, daeargwn tarw oedd y cŵn y cefais fy magu gyda nhw yn y tŷ, felly ar ben arall y sbectrwm yn llwyr i'r milgi bach tawel, diog a swil sydd gennyf heddiw. Roeddent yn gŵn hyfryd, ac rwy'n dweud hyn oherwydd fe allwch wneud i unrhyw gi fod yn ymosodol. Y gwahaniaeth, wrth gwrs, yw canlyniadau ymddygiad ymosodol mewn cŵn mwy o faint yn hytrach na rhai llai o faint. Ac mae'n rhaid imi ddweud, nid yw gwahardd bridiau yn mynd i ddatrys y broblem sylfaenol. Nid yw ymddygiad ymosodol yn rhywbeth sy'n perthyn yn benodol i frîd. Fel ninnau, mae ffactorau yn eich magwraeth, yr amgylchedd o'ch cwmpas, profiadau, i gyd yn cyfrannu at sut rydym yn gweithredu ac yn rhyngweithio â'r byd, ac mae'r un peth yn wir am gŵn. Felly, yr hyn a fydd yn datrys y broblem yw'r gwaith mewn perthynas â pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Wrth siarad â Jack Sargeant a'i brofiad gyda'r ddau gi Staffordshire—mae'n syfrdanol cynifer o weithiau y bûm allan gyda fy nghi a gweld cŵn oddi ar eu tennyn a neb yn eu galw atynt, neu gŵn oddi ar eu tennyn a'u perchnogion ar y ffôn, heb fod yn talu sylw i'r hyn sy'n digwydd, yn ogystal â phobl nad ydynt yn adnabod yr arwyddion cymdeithasol gan eu cŵn eu hunain, sydd, yn amlach na pheidio, yn gallu rhoi syniad i chi sut mae eich ci'n teimlo. Felly, mae hynny'n golygu rhoi'r adnoddau i bawb ddeall eu ci yn iawn, i roi bywyd da iddynt ac i ddiwallu eu holl anghenion.
Rwy'n credu'n wirioneddol fod pobl yn tanamcangyfrif yn ddifrifol faint o waith sydd ei angen i ofalu am gi. Wyddoch chi, nid ydynt yn debyg i gathod, lle maent yn annibynnol ac nid ydych yn eu gweld am ddyddiau bwy'i gilydd; mae angen llawer o sylw arnynt. Mae angen strwythur arnynt, mae angen trefn reolaidd arnynt, ac mae hynny i gyd, wrth gwrs, yn cymryd cryn dipyn o amser. Felly, rwy'n credu bod rôl yma i'r Llywodraeth archwilio'r ffordd orau o arfer perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Rwy'n credu bod llawer i'w ddysgu gan Gaerffili, fel y nodwyd eisoes gan Hefin David a Peredur a Delyth. Rwy'n credu y dylid archwilio trwyddedau hefyd. Mae gan bob brîd anghenion hyfforddi gwahanol er enghraifft. Ymarfer corff yn unig sydd ei angen ar rai; mae eraill angen ysgogiad meddyliol yn fwy nag eraill—hynny yw, nid oedd angen cymaint o ysgogiad meddyliol ar fy naeargi tarw wrth iddo dyfu ag y byddai ei angen ar gi defaid. Mae'n bwysig ein bod yn deall rhai o'r gwahaniaethau hynny hefyd yn anghenion y gwahanol fridiau.
Felly, i gloi'n gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd, byddaf yn cefnogi'r cynnig. Mae angen inni fynd i'r afael â'r mater sylfaenol yma, sef perchnogion anghyfrifol a diffyg dealltwriaeth ac addysg ynglŷn â sut y dylech ofalu am eich ci yn y lle cyntaf.
Rwy'n croesawu'r ddadl amserol hon yn fawr, ac mae'n frawychus clywed am yr ymosodiadau cŵn hyn a'u canlyniadau, a'r marwolaethau, yma yng Nghymru. Ac rydym yn gwybod mai dyma'r darlun ar draws y DU a llawer pellach i ffwrdd. Rydym wedi cael ymosodiadau gan gŵn yn Nwyrain Casnewydd—nid rhai angheuol, yn ffodus, ond ymosodiadau gan gŵn a arweiniodd at ganlyniadau i'r bobl a'u dioddefodd o ran y sioc a'r ffordd y teimlant wedyn ynglŷn â mynd allan a cherdded eu cŵn eu hunain efallai, neu fynd â'u plant i barciau lleol. Ac mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf yn credu bod is-ddeddfau'n cael eu gorfodi fel mater o drefn mewn parciau, er enghraifft. Rydych chi'n gweld arwyddion 'Rhaid cadw cŵn ar dennyn', ond mor aml, nid yw cŵn ar dennyn, neu hyd yn oed os ydynt, mae pobl yn gollwng y tennyn ac mae'r ci'n crwydro o gwmpas. Ac yn aml iawn, rwy'n gweld plant yn cilio rhag cŵn sy'n clecian eu dannedd arnynt tra bo'r perchennog yn dweud wrth y teulu, 'Peidwch â phoeni, ni fyddai'n brifo gwybedyn.' Wyddoch chi, mae rhai pobl mor afrealistig o ran y niwed y gall cŵn ei wneud. Mae gwir angen addysg a pherchnogaeth fwy cyfrifol ar gŵn.
Rwy'n credu mai un agwedd ar hyn hefyd, Ddirprwy Lywydd, yw bridio cŵn, a gwn fod y Dogs Trust, er enghraifft, yn meddwl bod mwy y gallwn ei wneud i dynhau bridio a gwerthu cŵn o ran y gallu i olrhain i gau rhai o'r bylchau sy'n bodoli, ac rwy'n credu bod hynny'n rhan sylweddol o'r darlun cyffredinol. Ond pan oedd gennyf gyfrifoldeb gweinidogol sawl blwyddyn yn ôl am yr agwedd hon ar gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, Ddirprwy Lywydd, gyda swyddogion ar y pryd, fe wneuthum ystyried hysbysiadau rheoli cŵn fel ymyrraeth gynnar iawn i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Lle roedd arwyddion cynnar o berchnogaeth anghyfrifol, y gobaith oedd y byddai mynd i'r afael â'r rheini drwy hysbysiadau rheoli cŵn y gellid eu gorfodi i'w gwneud yn ofynnol i'r perchennog a'r ci gael hyfforddiant wedi atal problemau pellach rhag codi. Ar y pryd, roedd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â gorchmynion ymddygiad gwrth-gymdeithasol, yr ystyrid eu bod yn mynd i'r afael â'r materion hyn, ond nid yw wedi digwydd felly, ac rwy'n credu o ddifrif fod gwir angen inni ddychwelyd at yr hyn y mae angen inni ei wneud o fewn ein pwerau yma yng Nghymru i fynd i'r afael â'r materion hyn, oherwydd a wyddoch chi fod yna amcangyfrifon fod rhywbeth tebyg i 600,000 o gŵn yng Nghymru? Mae'n ffigur eithaf anhygoel, onid yw? Ac mae'n dangos maint y problemau, ac rydym i gyd yn gwybod o'n profiad yn ein hetholaethau ein hunain fod yr ymosodiadau hyn yn digwydd. Maent yn destun pryder mawr. Mae gennym yr enghreifftiau brawychus hyn o ba mor bell y gall ymosodiadau fynd. Gallant achosi marwolaethau, ac mae angen mynd i'r afael â'r problemau hyn nawr a'u datrys yn y gwraidd ar y camau cynharaf i atal yr ymosodiadau difrifol a welwn.
Mae canolfannau achub cŵn yn llawn, ar ôl gorfod camu i'r adwy wedi i bobl brynu cŵn yn ystod COVID na allant ofalu amdanynt mwyach. Daeth cŵn yn nwyddau drud, a wnâi arian i'r perchennog, gan werthu am filoedd o bunnoedd, yn aml heb fawr o sylw i iechyd a natur y ci. Y bridwyr diegwyddor hyn sy'n gyfrifol am chwyddo niferoedd bridiau mawr, a datblygu'r llinach nesaf o gŵn mwy o faint nad ydynt wedi'u cynnwys yn Neddf Cŵn Peryglus 1991.
Mae llawer o gŵn wedi dod yn eitemau ffasiwn—yn ategolion heb lawer o ystyriaeth na gwybodaeth ynglŷn â sut y gall rhai ffyrdd o fridio wneud bywyd yn anodd iawn ac yn boenus iddynt. Mae angen i berchnogion feddwl am y math o frîd, a ydynt angen llawer o ymarfer corff, gofal cynnal a chadw, a'u natur cyn prynu ci. Rwyf wedi ymweld â llawer o ganolfannau achub cŵn, ac maent yn ceisio paru personoliaeth ac anghenion y ci â'r perchennog, ac yn aml iawn, mae'n rhaid iddynt newid canfyddiad perchnogion o ba fath o gi maen nhw'n meddwl y byddai'n gweddu i'w teulu gyda sut mae'r ci'n edrych.
Ar hyn o bryd, mae pedwar math o fridiau cŵn wedi'u gwahardd yn y DU, gan gynnwys daeargi pydew, ond nid oes llawer o orfodaeth os o gwbl. Mae awdurdodau lleol eisoes yn cael trafferth gydag adnoddau, a'r heddlu hefyd. Felly, mae angen inni atal yr achos sylfaenol, yn enwedig pan fo tystiolaeth yn dangos bod deddfwriaeth sy'n gwahardd mathau penodol o gŵn oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn beryglus yn methu amddiffyn diogelwch y cyhoedd ac yn arwain at lawer o gŵn yn dioddef yn ddiangen ac yn cael eu difa drwy ewthanasia.
Mae Sbaen wedi deddfu cyfraith lles anifeiliaid a ddaeth i rym ym mis Medi 2023, ac mae hyn wedi arwain at newidiadau enfawr, ac mae Cymru yn colli allan ar rai ohonynt oherwydd bod y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) wedi cael ei diddymu. Fodd bynnag, byddai rhai newidiadau yn arwain at fanteision ehangach o lawer i les anifeiliaid a chŵn a gedwir, yn yr ystyr y byddai'n rhaid i bob perchennog fod wedi cwblhau hyfforddiant, a byddai'r mater syml hwn yn golygu na fyddent yn gallu defnyddio'r esgus 'Nid oeddwn yn gwybod yn well'.
Rydym wedi siarad yn aml yn y Senedd am driniaeth milgwn rasio, a hoffwn weld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i ddiogelu'r creaduriaid hardd, addfwyn hyn sy'n cael eu hecsbloetio. Bob blwyddyn, mae miloedd o filgwn dros ben nad ystyrir eu bod yn ddigon cyflym i rasio yn cael eu difa drwy ewthanasia neu eu rhoi i'w mabwysiadu, ac rydym angen gwaharddiad graddol ar rasio. O'r cŵn nad ydynt yn llwyddiannus, bydd llawer ohonynt na fyddant byth yn gwella o'r niwed seicolegol o gael eu cadw mewn amodau erchyll a'u gorfodi i rasio.
Felly, i gloi, mae'n rhaid inni roi'r gorau i drin anifeiliaid fel nwyddau ar gyfer ein hadloniant, ac yn hytrach, annog perchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes gyda phwyslais ar ddiogelwch a lles. Ac fel cyn-bostmon a gafodd ei brathu sawl gwaith, rwy'n deall yn llwyr fod angen inni sicrhau perchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Peredur Owen Griffiths am gyflwyno'r mater pwysig a chymhleth hwn. Mae'r cynnig yn amserol iawn oherwydd, fel y clywsom, cyhoeddais yn ddiweddar y byddaf yn cynnal uwchgynhadledd ar y mater yr wythnos nesaf. Rydym yn gwybod ein bod wedi gweld llawer gormod o ymosodiadau a marwolaethau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae deddfau sy'n diogelu'r cyhoedd rhag cŵn peryglus yn faterion a gedwir yn ôl, ac rwyf wedi bod yn gofyn am gamau gan Lywodraeth y DU ar y mater ers 2017. Felly, rwy'n croesawu'n fawr, er ei fod yn hwyr yn y dydd, y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog i wahardd cŵn bully XL Americanaidd, a bydd fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'u swyddogion cyfatebol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Fel rydym newydd ei glywed gan John Griffiths ei hun, roedd yn flaenoriaeth iddo pan oedd yn y swydd hon, ac roedd yn ymwneud yn fawr â'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru). Ni chafodd y Bil hwn ei ddatblygu yn sgil cyflwyno Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Ond yn ogystal â'r gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar fridiau tebyg i bully XL, credaf fod angen iddynt edrych i weld hefyd a yw'r Ddeddf honno'n cyflawni'r amcanion a fwriadwyd.
Mae'r diffiniad o gi peryglus yn amlwg yn ddeddfwriaeth a gedwir yn ôl, unwaith eto, ond o'm safbwynt i, gall unrhyw gi, beth bynnag y bo'i frîd neu ei faint, achosi niwed ac arddangos ymddygiad ymosodol. Felly, mae perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn hanfodol i bob brîd, ac roedd yn un o fy meysydd ffocws allweddol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, ac mae'n rhan sylfaenol o'n cynllun lles anifeiliaid.
Rwy'n cefnogi'r egwyddorion y tu ôl i'r cynnig yn fawr iawn ac rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynglŷn â sut mae gwaith yn y maes hwn yn mynd rhagddo. Rwy'n credu'n gryf mai gweithio mewn partneriaeth yw'r ffordd orau o allu cyflawni ein hamcanion cyffredin.
Gellir cyflawni llawer o'r hyn a drafodwyd heddiw drwy orfodi deddfwriaeth gyfredol yn effeithiol a gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd, yn hytrach na chyflwyno Bil. Bydd cyd-Aelodau'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi prosiect gorfodi i awdurdodau lleol dros y tair blynedd diwethaf mewn perthynas â bridio cŵn a thrwyddedu gweithgareddau sy'n ymwneud ag anifeiliaid. Mae'r gwaith hwn yn mynd i'r afael â rhwystrau i orfodaeth, yn darparu hyfforddiant ac arweiniad i arolygwyr, ac yn gwneud y gorau o'r adnoddau sy'n bodoli eisoes yn ein hawdurdodau lleol. Mae ein gallu i ymchwilio ac atal bridio anghyfreithlon wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad uniongyrchol i'r prosiect hwn. Mae hyn wedi cynnwys arolygiadau ychwanegol mewn safleoedd bridio cŵn a chasglu gwybodaeth am fridwyr cŵn heb drwydded, gan arwain at fwy o erlyniadau.
O ran ymwybyddiaeth y cyhoedd, pwynt olaf eich cynnig, Peredur, rwy'n hapus i barhau i hyrwyddo mentrau lleol a chenedlaethol gyda'r nod o wella lles anifeiliaid. Mae cefnogi sefydliadau fel yr RSPCA, Dogs Trust, Hope Rescue ac ymgyrchoedd cenedlaethol sydd â'r nod o wella lles a rhannu arferion gorau yn rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon. Rwyf hefyd eisiau gweld gwell dealltwriaeth o gyfrifoldebau pobl mewn perthynas â'u cŵn, a beth yw'r cosbau os nad ydynt yn cyflawni eu rhwymedigaethau. Yn ogystal, dylai pobl wybod sut i roi gwybod am gŵn y teimlant eu bod y tu hwnt i reolaeth neu sy'n achosi pryder. Mae atal bob amser yn well na gwella, ac mae bob amser yn well mynd i'r afael â chi sydd y tu hwnt i reolaeth nag ymdrin â chanlyniadau unrhyw ymosodiad.
Felly, fel y nodais eisoes, yr wythnos nesaf byddwn yn cynnal uwchgynhadledd amlasiantaeth ar berchnogaeth gyfrifol. Nod yr uwchgynhadledd yw archwilio'r hyn a allai fod ar goll o ran gweithredu a gorfodi mewn perthynas â chŵn peryglus, a'r camau ychwanegol y gellir eu cymryd i hyrwyddo a gwella perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yma yng Nghymru. Bydd yr uwchgynhadledd hefyd yn edrych ar fater trwyddedu, y soniodd Delyth Jewell amdano. Fel y dywedodd, rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar hyn, ac mae'n gysylltiedig iawn â'r gwaith ynghylch perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Os byddwn yn penderfynu cyflwyno hynny, byddai angen ymgynghoriad llawn arno, yn amlwg.
Rydym yn cydnabod y newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r Ddeddf Cŵn Peryglus gan Lywodraeth y DU, ond rwyf eisiau i'r uwchgynhadledd ganolbwyntio ar ein dulliau ein hunain o wella, gan gynnwys pwysigrwydd addysg, negeseuon, gorfodi, a diogelwch y cyhoedd yn ogystal â lles anifeiliaid. Rwy'n gwahodd yr heddlu, awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector a'r rhai sy'n ymgyrchu dros les cŵn a diogelwch y cyhoedd i fod yn bresennol. Bydd llawer o'r awgrymiadau a gyflwynwyd gan Aelodau heddiw yn cael eu hystyried. Rwyf hefyd yn falch ac yn ddiolchgar iawn y bydd Emma Whitfield yn agor yr uwchgynhadledd i mi. Bydd rhai Aelodau wedi cael gwahoddiadau i'r uwchgynhadledd, ac rwy'n ddiolchgar am y gwaith partneriaeth trawsbleidiol hwnnw, a all fynd i'r afael â'r materion a godwyd ac ysgogi'r gwelliannau y mae pawb ohonom yn eu cefnogi ar y cyd. Byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau yn dilyn yr uwchgynhadledd yr wythnos nesaf. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Mae wedi bod yn ddadl hynod o barchus a rhagorol wrth ymdrin â mater y mae'n rhaid i ni i gyd fynd i'r afael ag ef yn ein holl etholaethau ac yn ein holl gymunedau, oherwydd y munud y dechreuwch chi siarad am hyn rydych yn sylweddoli ei fod yn effeithio ar bawb, ac mae pobl yn ei weld mewn gwahanol ffyrdd.
Clywsom y stori bersonol honno gan Jack am Coco, ac rwy'n cytuno, ymwybyddiaeth y cyhoedd, clywsom gan y Gweinidog fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei wneud. Delyth, mae'r pethau sy'n digwydd yng Nghaerffili yn bwysig, ond mae'n ymwneud â sut rydym yn gwneud hynny ledled Cymru, a sicrhau'r cysondeb hwnnw yn gyffredinol. Hefin, unwaith eto, yr un peth. Rydym yn gwybod beth sy'n digwydd yn ein cymunedau, rydym yn byw yn y cymunedau hyn ac rydym yn gwybod bod hyn yn digwydd, ac fel y dywedoch chi, bydd yr uwchgynhadledd y mae'r Gweinidog yn ei chynnal yr wythnos nesaf yn gam nesaf pwysig. Rwy'n teimlo mai'r ddadl hon yw'r cam nesaf ar daith tuag at weithio gyda'n gilydd. Luke, nid yw'r pethau gyda bridiau a'r gwahardd hwnnw'n gweithio o anghenraid, ac mae'n ymwneud â'r hyn rydym yn ei wneud sy'n gweithio a'r hyn y gallwn ni ei wneud yma, fel nad oes rhaid inni aros i leoedd eraill wneud pethau, a myfyrio ar rai o'r geiriau a ddywedodd y Gweinidog ar y diwedd yno am ba ddulliau y gallwn eu defnyddio a bod yn ymwybodol fod gan y perchennog gyfrifoldeb am y ci hwnnw. John, diolch a diolch am y gwaith rydych chi wedi'i wneud yn y gorffennol. Rwy'n gobeithio nad oes dim o hwnnw wedi cael ei golli fel nad oes rhaid i ni ddechrau o'r dechrau eto a'n bod yn gallu datblygu hwnnw a'i symud ymlaen. Rwy'n trethu amynedd y Dirprwy Lywydd yma, felly rwyf am symud ymlaen. Carolyn, fel cyn-bostmon, rwy'n siŵr fod gennych chi rai straeon. [Chwerthin.] Ac am fwy na chŵn, mae'n siŵr. Ond er mwyn mynd at wraidd yr achos a'r bridwyr, rydym angen dull amlochrog o weithredu ar hyn.
Unwaith eto, diolch i bawb. Weinidog, diolch am gynnal yr uwchgynhadledd yr wythnos nesaf. Roeddwn wedi gobeithio bod yno, ond rwy'n cadeirio'r Pwyllgor Cyllid ar yr un pryd, felly efallai y bydd yn rhaid i mi anfon aelod o staff i wrando, ond buaswn yn gwerthfawrogi sgwrs gyda chi ar ôl yr uwchgynhadledd i glywed beth y bwriadwch ei wneud nesaf. Ac mae'n bwysig ein bod yn cydweithio yn y ffordd honno. Rwy'n gobeithio bod y ddadl hon wedi helpu yn y gwaith rydych chi'n ei wneud. Mae yna gonsensws ar draws y Siambr hon. Nid geiriau cynnes yn unig mohonynt. A'r hyn a ddywedodd Delyth yn gynharach, gan adlewyrchu rhai o'r pethau a ddywedodd Emma yn gynharach yn y flwyddyn, 'Mae'n ymddangos nad oes neb yn gwrando', rydym yn gwrando, Emma, ac rydym yn ceisio gwneud rhywbeth amdano. Diolch yn fawr, bawb. Gobeithio mai dyma'r catalydd ar gyfer newid. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar gyllid canlyniadol HS2. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8375 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod HS2 yn brosiect i Loegr yn unig.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod darparu'r cyllid canlyniadol llawn y dylai Cymru ei gael o ganlyniad i HS2.
3. Yn gresynu hefyd fod Plaid Lafur y DU yn gwrthod cytuno y dylai Cymru gael y cyllid canlyniadol llawn.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i unioni’r cam hwn, a darparu'r cyllid sy'n ddyledus i Gymru ar unwaith, fel y gallwn fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith y mae'r Senedd hon yn dymuno eu blaenoriaethu, gan gynnwys trydaneiddio pob rheilffordd yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oedd HS2 byth yn mynd i fod o fudd i Gymru, ac ni all unrhyw ystum na thwyll newid y ffars honno. Rydym ni yng Nghymru wedi rhoi arian tuag at reilffordd sy'n ein gadael yn waeth ein byd, yn llai cysylltiedig, ac rydym wedi cael ein twyllo allan o filiynau o bunnoedd am y fraint wrthnysig honno. Mae biliynau o bunnoedd y gallem fod wedi ei wario ar wella ein gwlad wedi cael eu buddsoddi yn lle hynny ar ein gwneud yn dlotach fyth a'n gwthio i gefn y ciw diarhebol.
Rwyf wedi cael trafferth dod o hyd i'r geiriau i wneud cyfiawnder â'r sefyllfa hon, Ddirprwy Lywydd, felly rwyf wedi troi at ambell idiom yn lle hynny. Rydym yn sôn am brosiectau seilwaith chwyddedig fel eliffantod gwyn ac mae'n rhyfedd fod yr un creaduriaid yn dod i'r meddwl pan fyddwn yn siarad am rywbeth sydd mor chwithig, mor anghyfforddus fel bod pobl yn dewis anwybyddu'r gwirionedd ac yn gwneud i'w hunain esgus ei fod yn rhywbeth gwahanol i'r hyn ydyw. Maent yn gweld problem chwyddedig ac yn hytrach na'i hunioni, maent yn osgoi pob cydnabyddiaeth o'r eliffant lletchwith sy'n baglu o gwmpas mewn ystafell. A yw hynny'n swnio'n gyfarwydd, tybed? A yw'n atgoffa unrhyw Aelodau o unrhyw brosiect seilwaith lletchwith, costus sydd wedi cael ei anghofio yn ddiweddar iawn? Oherwydd dyna sydd gennym yma: eliffant gwyn, anferthol; prosiect seilwaith sydd, yn lle cuddio yng ngolwg pawb, wedi cael ei roi i gysgu o'i boen ac wedi diflannu'n llwyr—nid twyll llygaid, ond rhith celwyddog. Ond mae ein harian yn dal i fod yn nwylo'r cafflwr. A chan fod y cysylltiad â Crewe wedi mynd bellach, mae'n sarhad fod San Steffan yn dal i lynu wrth y twyll fod HS2 o unrhyw fudd o gwbl i Gymru. Prosiect i Loegr yn unig yw HS2, a'i nod yw gwella rheilffyrdd Lloegr. Wel, pob lwc iddynt, ond ni ddylai byth fod wedi bod ar ein traul ni.
Yn 2020-21, 3.7 y cant yn unig o reilffyrdd Cymru oedd wedi cael eu trydaneiddio, o'i gymharu â dros 43 y cant yn Lloegr a 32 y cant yn yr Alban. Gallai'r biliynau sy'n ddyledus i ni eisoes o linell Llundain-Birmingham gael eu defnyddio i drydaneiddio ein rhwydwaith rheilffyrdd cyfan. Yn ei araith, fe wnaeth Mr Sunak geisio honni y byddai prif reilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio, ond dangoswyd mai ystumiad yw'r addewid hwnnw hefyd, celwydd. Ni allwn ymddiried mewn un gair y mae'r Torïaid yn ei ddweud wrthym mewn perthynas â rheilffyrdd. Edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd gyda phrif reilffordd Great Western ac edrychwch unwaith eto ar yr hyn sy'n digwydd heddiw. Mae'n ddigon hawdd creu pennawd, ond pan ddaw'n fater o arian neu gynlluniau, maent yn taro'r cledrau—wel, o leiaf mae rhywun yn gwneud.
Mae'r gymhareb rhwng ymrwymiadau gwella rheilffyrdd Llywodraeth y DU yn Lloegr o gymharu ag yng Nghymru oddeutu 200:1. Rwy'n gwybod digon am gymarebau, Ddirprwy Lywydd, i wybod nad yw hynny'n hyfyw, ac mae hwn yn anghyfiawnder y bydd angen ei unioni gan bwy bynnag sydd mewn grym, oherwydd cyhyd â bod penderfyniadau ar ein cyfeiriad teithio llythrennol yn cael eu gwneud gan gwlad arall, nid ni fydd yn dewis y cyrchfan. Dylid gwneud penderfyniadau ynghylch prosiectau seilwaith mawr, ynghylch trafnidiaeth, yng Nghymru. Dylai pwerau dros yr hyn sy'n digwydd ar ein rheilffyrdd ein hunain, ein cledrau ein hunain, fod yn ein meddiant ni. Mae'r methiant i ddatganoli'r pwerau hyn i'r lle hwn wedi ein gadael yn swrth ac yn analluog i herio'r gwarth hwn. Mae'r Athro Mark Barry wedi disgrifio'r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i beidio â derbyn yr un pwerau rheilffordd â'r Alban pan wnaeth San Steffan eu cynnig iddynt yn 2004-05 fel y camgymeriad mwyaf ers datganoli.
Fel Plaid Cymru, rydym yn parhau i godi ein llais dros Gymru, dros degwch, dros uchelgais, dros gael pwerau llawn dros rwydwaith rheilffyrdd Cymru i ni yma yng Nghymru. Serch hynny, rwy'n nodi, fel y codwyd ddoe yn y Siambr hon, fod y Cwnsler Cyffredinol wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn agored i fynd ar drywydd her gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU am iddi wrthod rhoi ein symiau canlyniadol i ni, a buaswn yn croesawu hynny. Roeddwn yn siomedig ddoe fod y Prif Weinidog wedi methu cadarnhau y byddai llwybr o'r fath yn bendant yn cael ei ddilyn pe bai Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn methu ailddosbarthu'r prosiect hwn. Rwy'n nodi bod y Prif Weinidog wedi dweud y bydd Llywodraeth Lafur newydd yn wynebu llawer o alwadau am arian. Bydd yn wir. Ond nid prosiect damcaniaethol yn y dyfodol yw hwn, lle nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto a ddylid dechrau arno; mater o gywiro anghyfiawnder hanesyddol ydyw, camgymeriad sydd eisoes wedi'i wneud, tric sydd eisoes wedi'i chwarae. Mae'n brosiect ar gyfer rheilffordd nad yw'n dechrau lle roedd i fod i ddechrau, nac yn gorffen lle roedd i fod i orffen, ond nid yw Cymru wedi cael yr arian rydym yn ei haeddu ar unrhyw bwynt na chyswllt ar y siwrnai. Mae'n arian y mae'n rhaid i ni ei fynnu gan bwy bynnag sydd mewn grym yn San Steffan. Mae arnynt yr arian hwn i ni. Ein harian ni ydyw, ac mae angen iddynt ei dalu i ni.
Mae'r bleidlais hon heno yn ein Senedd yn gyfle arall i ni yng Nghymru gadarnhau bod Cymru'n mynnu'r arian sy'n ddyledus i ni o HS2, ac y dylai San Steffan dalu ein biliynau yn ôl i ni.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Natasha Asghar i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu y dylai Cymru dderbyn cyllid canlyniadol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud ers tro y dylai Cymru gael symiau canlyniadol o HS2, ac nid yw'r sefyllfa honno wedi newid. Mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi codi'r mater hwn gyda'n swyddogion cyfatebol yn San Steffan ar sawl achlysur yn y gorffennol a byddaf yn parhau i gyflwyno'r achos iddynt. Ni ellir gwadu y bydd y camau gweithredu a welsom gan ein Prif Weinidog yr wythnos diwethaf mewn perthynas â HS2 yn sicr yn dod â manteision mawr i Gymru. Fodd bynnag, fel y disgwylir, nid yw hynny'n ddigon da i Blaid Cymru. Ond unwaith eto, rydym yn disgwyl y bydd y cenedlaetholwyr yn ein beirniadu o'r cyrion yn ôl yr arfer—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ewch amdani.
Er eglurder, pa gyhoeddiadau a fyddai o fudd i Gymru?
Fel y mae'r Blaid Geidwadol, rydym yn aros am yr adolygiad o wariant, pan fyddwn, gobeithio, yn gallu cael mwy o eglurder ynghylch y gwariant y byddwn yn ei gael mewn perthynas â HS2, wrth symud ymlaen.
Gadewch i ni atgoffa ein hunain, drwy ddileu cymal Birmingham i Fanceinion o HS2, fod tua £36 biliwn wedi'i ryddhau, gyda Llywodraeth y DU yn ymrwymo i wario'r arian hwnnw ar brosiectau trafnidiaeth a fydd o fudd i lawer mwy o bobl mewn llawer mwy o leoedd, yn llawer cyflymach. Un o'r prosiectau hynny yw trydaneiddio'r brif reilffordd yng ngogledd Cymru, cam a groesawir gyda breichiau agored gan lawer yn yr ardal, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau o ogledd Cymru yn cytuno. Rwy'n byw yn, ac yn cynrychioli de-ddwyrain Cymru, ond ar ôl siarad â llawer o bobl sy'n byw yn rhanbarth gogledd Cymru dros y misoedd diwethaf, mae llawer wedi teimlo yn y gorffennol fod y weinyddiaeth Lafur yma, yn anffodus, yn anghofio bod gogledd Cymru yn bodoli hyd yn oed. Felly, mae'n wych gweld bod Llywodraeth y DU yn gwneud rhywbeth dros yr ardal. [Torri ar draws.] Gwnaf, ond hwn fydd yr olaf. Rwy'n rhoi cyfle i chi ofyn.
A ydych chi'n cytuno â mi ei bod wedi dod yn amlwg ers y cyhoeddiad cefn paced sigaréts hwnnw am reilffordd gogledd Cymru nad oes addewid o'r fath i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru? Roedd yn ymgais i gael pennawd sydd wedi diflannu ers hynny.
Nid wyf yn credu hynny o gwbl. Nid wyf yn credu ei fod yn gyhoeddiad cefn paced sigaréts o gwbl. Rwy'n credu bod gan y Prif Weinidog gynlluniau gwych wrth symud ymlaen: bydd £1 biliwn yn cael ei roi tuag at drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, a fydd yn sicr o fudd i bobl a thrigolion gogledd Cymru, yn ogystal â busnesau, yn ogystal â diwydiannau, a byddwn yn cael mwy o wybodaeth ffeithiol ynglŷn â'r dadansoddiad o sut y bydd yn edrych. Fe fyddaf yn onest; nid oes gennyf yr astudiaeth ddichonoldeb o'm blaen, mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd, ond byddwn yn darganfod mwy ymhen y rhawg.
Beth bynnag, hoffwn barhau, os yw hynny'n iawn gyda chi, Ddirprwy Lywydd. Bydd y cynllun gwerth £1 biliwn, fel y soniais, i drydaneiddio'r brif reilffordd yn dod â rhannau o ogledd Cymru o fewn awr i Fanceinion. Fel y dywedais, fe fydd o fudd i'r trigolion lleol yn ogystal â busnesau. Nid yn unig hynny, bydd hefyd yn arwain at deithiau mwy prydlon, dibynadwy ar y llwybr rhwng Crewe, Warrington, Caer, Llandudno a Chaergybi. Mae'n werth nodi hefyd fod y gwariant ar reilffyrdd yng Nghymru ers 2010 wedi neidio i £2.136 biliwn yn dilyn y buddsoddiad diweddaraf hwn. Ac nid dyna'r cyfan: yn wahanol i'r weinyddiaeth Lafur yma, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn buddsoddi mewn seilwaith hanfodol. Bydd y buddsoddiad hwnnw yn ei dro yn arwain at gyllid canlyniadol i Gymru. Yn bersonol, hoffwn weld yr arian hwnnw'n mynd yn syth i Network Rail, ac rwyf wedi dweud hynny o'r blaen, ac nid i goffrau Llywodraeth Cymru, ond yn anffodus, ni fydd hynny'n digwydd.
A yw'n syndod fy mod yn poeni am y symiau enfawr hyn sy'n cael eu rhoi yng nghyfrif banc Llywodraeth sy'n fyrbwyll yn ariannol? Maent wedi bod yn gwastraffu miliynau o bunnoedd yn syth o'r pwrs cyhoeddus ar brosiectau porthi balchder fel terfynau cyflymder 20 mya, ehangu'r lle hwn, a phrynu ffermydd i ffrindiau. Er imi ofyn am sicrwydd gan y Dirprwy Weinidog yn flaenorol na fydd yn cael ei wastraffu yn ffordd arferol y Llywodraeth hon, ni wnaeth unrhyw ymrwymiad i hynny. Felly, lle mae'r arian ychwanegol hwn yn mynd i gael ei wario? Dyna'r hyn yr hoffwn ei wybod. Rydym i gyd yn gwybod na fydd yn cael ei wario ar adeiladu prosiectau ffyrdd newydd hanfodol fel ffordd liniaru'r M4, trydedd groesfan dros afon Menai, neu hyd yn oed ffordd osgoi Cas-gwent, wrth i'r Dirprwy Weinidog roi stop ar adeiladu ffyrdd fel rhan o'i ymgyrch eco.
Yr adeg hon yr wythnos diwethaf, roeddem yn y Siambr yn trafod bysiau a'r problemau sy'n wynebu'r diwydiant bysiau, felly pam nad yw'r Llywodraeth hon yn defnyddio rhywfaint o'r arian i gefnogi ein teithwyr bws hir-ddioddefus? Gallai'r Llywodraeth Lafur hon fod wedi ei ddefnyddio i annog pobl yn ôl ar y bysiau drwy gapio tocynnau ar £2, fel rwyf wedi galw amdano'n gyson dro ar ôl tro. Gallai'r Llywodraeth Lafur hon fod wedi ei ddefnyddio i greu mwy o fannau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru. Gallai'r Llywodraeth Lafur hon fod wedi ei ddefnyddio i ddarparu gwell cyfleusterau i yrwyr cerbydau nwyddau trwm ledled Cymru. Ac wrth gwrs, gallai'r Llywodraeth Lafur hon gael gwared ar ei hagenda gwrth-yrwyr a dechrau buddsoddi yn ein ffyrdd eto i ddarparu seilwaith trafnidiaeth addas i'r diben i Gymru. Ond rwy'n siŵr y bydd Gweinidogion Llafur yn diystyru fy holl awgrymiadau'n llwyr, ac yn dod o hyd i ddefnydd arall ar gyfer yr arian hwn, fel ei ddefnyddio i gynnal Maes Awyr Caerdydd, rhoi gweddnewidiad costus arall i Barc Cathays, neu wario miloedd o bunnoedd mewn bwyty crand yn Efrog Newydd unwaith eto.
Fel y dywedais, Ddirprwy Lywydd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gweld HS2 yn cael ei ailddosbarthu, gyda chyllid canlyniadol i Gymru, ond ni ellir ac ni ddylid anwybyddu'r manteision y bydd cael gwared ar gymal Birmingham i Fanceinion o HS2 yn eu creu i Gymru. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 2—Lesley Griffiths
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi rhaglen gynhwysfawr o fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru a fydd yn cael ei datblygu a’i chymeradwyo gan Fwrdd Rheilffyrdd ar y Cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod saga HS2 yn ymwneud â llu o wahanol bethau. Mae'n dweud popeth rydych chi angen ei wybod ynglŷn â sut i beidio ag ymdrin â rhaglen seilwaith fawr, sut i beidio ag addo gormod a thangyflawni, sut i beidio â throi un gymuned yn erbyn un arall, ac i'r Deyrnas Unedig hynod anghyfartal hon, mae'n ddathliad eisin-ar-y-gacen o sut i ddangos anghyfiawnder llwyr tuag at un o'i rhannau cyfansoddol.
Bydd y Ceidwadwyr yn aml yn dweud wrthych nad yw pobl yn poeni go iawn pwy sydd mewn grym, nad oes gan bobl ddiddordeb mewn materion cyfansoddiadol, ond gadewch imi ddadlau yn y termau cliriaf posibl mai'r hyn rydym wedi'i weld drwy saga HS2, a'r hyn y mae pobl Cymru wedi dod i'w ddeall, yw pam ei bod hi'n bwysig rhoi'r tegwch y mae'n ei haeddu i Gymru, yn ariannol, o ran polisi trafnidiaeth, ac mewn termau cyfansoddiadol.
Mae yna enghreifftiau eraill, wrth gwrs, fel yr anghyfiawnder o beidio â chael rheolaeth dros adnoddau Ystad y Goron. Mi allwn i sôn am y ffaith ein bod ni heb reolaeth dros ein hadnoddau dŵr fel enghraifft arall. Ond mae HS2 yn crisialu beth sy’n digwydd pan fo Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael gwneud beth fynnan nhw mewn perthynas â Chymru a sut mae datganoli anghyfartal yn effeithio yn negyddol ar bobl Cymru. Y broblem sylfaenol yn fan hyn ydy'r dynodiad o HS2 fel cynllun Cymru a Lloegr. Mae rheilffyrdd yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi eu datganoli, felly mi oedden nhw'n cael arian cyfatebol o ganlyniad i HS2—y rhan sydd wedi adeiladu yn barod, gadewch inni gofio hynny, Llundain i Birmingham, neu o leiaf sydd yn y broses. Ond mae rheilffyrdd Cymru a Lloegr yn cael eu cyfri fel un. Yn gyfansoddiadol, mi oedd hon yn rheilffordd i ni hefyd. Felly, er bod dim modfedd o HS2 yng Nghymru, mi oedd o'n gynllun i ni. Defnyddio gorsaf HS2 newydd Crewe—'Grêt, rydych chi yn y gogledd yn elwa'. Dwi'n addo ichi nad torri ychydig o funudau oddi ar y siwrnai o Crewe i Lundain ydy ein blaenoriaeth ni o ran trafnidiaeth rheilffordd yn y gogledd. Ac, wrth gwrs, mae cyswllt Crewe wedi diflannu erbyn hyn. Doedd HS2 ddim yn gynllun a fyddai o fudd i Gymru. Doedd o ddim erioed, ac mi wnaeth astudiaethau economaidd, fel astudiaeth KPMG, ddangos yn glir iawn y byddai HS2 yn niweidio economi Cymru. Ond eto, doedd yna ddim dimai o iawndal.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig atgoffa pobl ei fod yn ymwneud â mwy na'r ffaith na chawsom y biliynau o bunnoedd mewn cyllid canlyniadol a oedd yn ddyledus i ni. Roedd arian a allai fod wedi mynd tuag at brosiectau i wella rheilffyrdd yng Nghymru wedi'i glymu—ac mae wedi bod ers blynyddoedd—yn HS2, ac wrth i'r gwariant ar HS2 gynyddu, gwelwyd gostyngiad yn yr arian a oedd ar gael i'w wario ar reilffyrdd yng Nghymru. A daw hyn ar ben y tanwariant hanesyddol ar reilffyrdd Cymru. Dangosodd astudiaeth ddiweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi ei danariannu o dros £0.5 biliwn—£514 miliwn—rhwng 2011 a 2020, o ganlyniad uniongyrchol i'n diffyg pwerau datganoledig. Gallwn olrhain patrwm y tanfuddsoddiad dros gyfnod hwy. Yr Athro Mark Barry a ddangosodd sut mae rhwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi cael rhwng 1 y cant a 2 y cant o gyfanswm buddsoddiad gwella rheilffyrdd y DU dros yr 20 mlynedd diwethaf er ein bod yn 5 y cant o boblogaeth y DU a bod gennym 11 y cant o rwydwaith rheilffyrdd y DU. Gallwn barhau. Y diweddar—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch. Sylwais eich bod yn galw, yn eich cynnig heddiw, am drydaneiddio'r holl reilffyrdd yng Nghymru. Tybed a oes gennych ffigur wedi'i gostio ar gyfer hynny, neu ai ffigur arall oddi ar gefn paced sigaréts yw hwnnw?
A ydych chi eisiau dweud wrthyf faint y byddai trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru—[Torri ar draws.] Fe wyddom yn union faint mae trydaneiddio yn ei gostio o'r arian na chafodd ei wario pan addawyd ei wario ar y rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe. Rydym yn gwybod beth yw cost trydaneiddio. Dyma'r addewid cefn paced sigaréts a wnaed gan y Blaid Geidwadol, ac mae eisoes wedi diflannu. Gallwn barhau. Mae penderfyniad diweddar i gynnwys gwariant Network—[Torri ar draws.] Mae penderfyniad diweddar i gynnwys gwariant Network Rail yn nherfyn gwariant adrannol yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer Cymru wedi arwain at ddirywiad sylweddol yn y ffactor cymharedd ar gyfer symiau canlyniadol ehangach sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth, o 80 y cant i lai na 37 y cant. Yn syml, mae hynny'n golygu bod y modd y mae ein rhwydwaith rheilffyrdd adfeiliedig yn cael ei danariannu yn debygol o waethygu yn y blynyddoedd i ddod, gyda bwlch cynyddol rhwng lefelau cyllido seilwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru a'r rhai yn Lloegr a'r Alban. Beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol? Mae'n golygu £500 y pen ar wariant rheilffyrdd yn yr Alban yn 2019-20, £450 yn Lloegr, a £300 yma yng Nghymru—dyna'r realiti. Felly, pan fo'r Ceidwadwyr yn dweud mai dim ond anoracs cyfansoddiadol sydd â diddordeb yng nghyfyngiadau pwerau datganoledig Cymru, carwn awgrymu ei fod yn rhywbeth y mae gan bawb ddiddordeb ynddo.
I gloi, mae o er budd pawb i ddeall natur yr anghyfiawnder sy'n deillio o fethu cael cyfrifoldeb dros ein hisadeiledd trafnidiaeth ein hunain. Mae o'n teimlo'n anghredadwy bod y Llywodraeth Lafur yn ôl yn nyddiau cynnar datganoli wedi gwrthod derbyn cyfrifoldeb am ddyfodol ein rheilffyrdd—y camgymeriad mwyaf yn hanes datganoli, fel awgrymodd yr Athro Barry. Mae o'n anfaddeuol bod y Ceidwadwyr ddim am eiliad yn gallu gweld yr anghyfiawnder o gwmpas HS2. Mae'n rhwystredig i'r eithaf bod Llafur yn cytuno efo fi ar hynny ond yn gwrthod addo dad-wneud yr anghyfiawnder yna. Mi ddylen ni i gyd fod yn flin iawn am sefyllfa HS2. Mi ddylen ni i gyd ddefnyddio hynny fel yr ysgogiad sydd ei angen i frwydro dros degwch i Gymru—rhywbeth fydd Plaid Cymru wastad yn ei wneud.
Mae canslo HS2 a chyhoeddi £1 biliwn i drydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru yn ddatganiad breuddwyd gwrach, a wnaed heb unrhyw sail, gyda'r bwriad o greu penawdau, heb unrhyw raglen, strategaeth na chynllun, heb unrhyw drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru na'r rhai sydd wedi bod yn gweithio ar flaenoriaethau ar gyfer prosiectau rheilffyrdd, tra hefyd yn rhoi rhy ychydig o'i chyllid priodol i Gymru unwaith eto. O ystyried llanast HS2 a'r tueddiad cyffredinol sydd gan Lywodraeth y DU i dorri ei haddewidion, mae'n anodd credu y bydd yr addewid hwn yn cael ei wireddu o gwbl. Mae'n ddatganiad i ennill pleidleiswyr, ychydig fel y polisi gofal plant am ddim, lle bu diffyg buddsoddiad mewn seilwaith yn Lloegr dros nifer o flynyddoedd i'w alluogi i ddigwydd—nid yw wedi cael ei ystyried yn briodol.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, dywedwyd wrthyf y byddai trydaneiddio'r rheilffordd yn costio tua £1 filiwn y filltir, a'i bod yn amhosibl trydaneiddio arfordir gogledd Cymru i gyd—mae yna dwneli a heneb hanesyddol castell Conwy, efallai y bydd yn rhaid cael cyfuniad o drydan a batri, a bydd yn cymryd blynyddoedd o gynllunio a datrys problemau i oresgyn y problemau hynny. Felly, er nad pethau 'braf i'w cael' yw'r flaenoriaeth i sefydliadau a busnesau yng ngogledd Cymru, mae ceisiadau i Lywodraeth y DU am gyllid ffyniant bro ar gyfer seilwaith rheilffyrdd wedi cael eu gwrthod ddwywaith. Mae'r blaenoriaethau hyn yn cynnwys gorsaf parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, i alluogi mynediad rheilffordd at filoedd o swyddi y maent yn ysu i'w cael wedi'u llenwi, cludo nwyddau oddi ar y rheilffordd yn Hanson Cement yn Padeswood i alluogi mwy o deithiau teithwyr ar reilffordd Wrecsam-Bidston a phrosiect Porth Wrecsam. Roedd y ceisiadau'n gynhwysfawr a rhoddwyd llawer o amser ac adnoddau tuag at eu llunio. Roedd adborth y Llywodraeth ar lefel y DU yn dweud eu bod yn dda, ond roedd y cyllid ffyniant bro y DU a oedd ar gael yn gyfyngedig; nid oedd digon o arian ar gael, gan wneud y broses a'r penderfyniadau yn gystadleuol iawn.
Er mwyn galluogi cyflymder uchel a gwasanaeth mwy mynych yng ngogledd Cymru, bydd angen lifftiau, pontydd a mesurau diogelwch eraill yn llawer o'r gorsafoedd—yr un fath gyda rheilffordd Wrecsam-Bidston. Efallai y bydd angen cryfhau pontydd rheilffordd hefyd, er mwyn gallu cynyddu cyflymder mewn gwahanol ardaloedd. Ac yna mae angen mynd i'r afael â'r broblem capasiti yng ngorsaf Caer er mwyn galluogi mwy o wasanaethau i ogledd Cymru. Mae yna hefyd ymgyrch reilffordd Traws Link Cymru yng ngorllewin Cymru i adfer y rheilffyrdd—i gael rheilffordd yn mynd o Fangor yn y gogledd i Gaerfyrddin yn y de, ac fe gawsom gyfarfod yn ddiweddar gydag Elfed Wyn ap Elwyn yn y Senedd; cyflwynodd ddeiseb lle cerddodd yr holl ffordd o Fangor i Gaerfyrddin. Rwy'n credu y byddai hynny'n costio £1 biliwn hefyd, ac mae'n flaenoriaeth uchel i bobl sy'n byw yn yr ardal honno.
Mae angen mynd i'r afael â'r gwaith cynnal a chadw. Mae blynyddoedd o danwariant wedi bod ar reilffyrdd, ac mae Llywodraeth y DU ar fin gweld cwtogi difrifol ar dasgau cynnal a chadw wedi'u trefnu, gan wneud y rheilffyrdd yn llai diogel. Bydd Network Rail yn torri 1,850 o swyddi cynnal a chadw fel rhan o'r rhaglen foderneiddio cynnal a chadw. Mae llawer o'r rheilffyrdd mewn ardaloedd isel, yn ogystal ag ar hyd yr arfordir, a byddant yn wynebu llifogydd. Mae gennym glefyd coed ynn, ac yn ddiweddar creodd paill coed broblem gyda hidlwyr ar llinell Wrecsam-Bidston. Mae angen mwy o waith cynnal a chadw, nid llai.
Mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn chwarae gemau gwleidyddol cyn etholiad, yn hytrach na buddsoddi'n iawn yn nhrafnidiaeth gyhoeddus Prydain, ac maent yn benderfynol o ddal Cymru yn ôl drwy beidio â rhoi'r cyllid canlyniadol llawn sy'n ddyledus i ni. Diolch.
Hoffwn i gymryd y cyfle heddiw i siarad ar ran pobl Arfon. Mae'r etholaeth dwi'n freintiedig iawn i'w chynrychioli'n dioddef yn fawr oherwydd cysylltiadau trafnidiaeth annigonol, ac mae'r un peth yn wir am etholaethau ar draws Cymru: mae diffyg opsiynau cludiant cyhoeddus dibynadwy ac effeithlon yn rhwystro ein twf economaidd, yn ogystal ag yn effeithio ar fywydau bob dydd miloedd o'n hetholwyr ni.
Dirprwy Lywydd, mae'n bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gydnabod bod y sefyllfa bresennol o drafnidiaeth gyhoeddus yn Arfon ac yng Nghymru yn gwbl annerbyniol, ac mae'n bryd, felly, iddyn nhw ddarparu'r cyllid sy'n ddyledus i ni. Byddai ailddynodi HS2 yn brosiect i Loegr yn unig, a darparu'r cyllid canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru, yn gam anferth ymlaen o ran mynd i'r afael â'r diffygion trafnidiaeth presennol.
Yn Arfon mae'n system reilffordd yn hen ffasiwn ac yn annibynadwy. Mae tua 60,000 o bobl yn byw yn y gogledd, a dŷn ni'n cael ein gwasanaethu gan reilffordd arfordir y gogledd—nid y gorau o blith gwasanaethau trên. Dwi'n teithio arni yn aml—oedi, canslo, trenau oer neu boeth, toiledau budr, dim dŵr, dim sedd, ac yn y blaen. Mae hynny yn rhan o fywyd bob dydd defnyddwyr y gogledd. Ac mae'r Prif Weinidog wedi sôn am drydaneiddio rheilffordd yr arfordir yn y gogledd, ond bydd hynny ddim yn digwydd. Does yna ddim hyd yn oed achos busnes ar ei gyfer, ac erbyn hyn, enghraifft oedd lein y gogledd o'r hyn a allai ddigwydd yn sgil canslo HS2 o Birmigham.
Yn ogystal â'r system rheilffordd, mae angen dybryd am fuddsoddiad yn y rhwydwaith bysiau yn Arfon. Mae adroddiad y Sefydliad Bevan ar dlodi yn Arfon, a gyhoeddwyd yr haf yma, yn dilyn comisiwn gan fy nghyd-weithiwr Hywel Williams, yr Aelod Seneddol—mae'r Sefydliad Bevan, yn yr adroddiad, yn adnabod diffyg mynediad at drafnidiaeth fel un o blith nifer o heriau sy'n rhoi pwysau ar aelwydydd yn Arfon ac yn cynyddu eu tebygrwydd o fyw mewn tlodi. Mae'n hetholwyr ni'n dibynnu ar fysiau i gyrraedd y gwaith, yr ysgol ac i gael gofal iechyd, ond mae llawer o'r llwybrau bysiau yn gorfod wynebu cau oherwydd diffyg cyllid. A dyma ddywedodd un o fy etholwyr i, wrth siarad efo Sefydliad Bevan:
'Mae Ceri yn berson ifanc o Nantlle sy'n methu gyrru. Ar hyn o bryd, maen nhw'n dilyn cwrs yng Ngholeg Llandrillo Menai yng Nghaernarfon. Cynhelir y cwrs yn ystod y dydd, ac mae Ceri yn gweithio gyda'r nos mewn bwyty yng Nghaernarfon i ennill arian i'w cynnal wrth wneud y cwrs, ac i helpu eu teulu. Mae Ceri yn byw gyda'u teulu yn Nantlle, ond mae'r bws olaf i'r pentref yn gadael Caernarfon am chwarter wedi pump. Mae hyn yn golygu bod rhaid i Ceri ddibynnu ar lifftiau gan y teulu i gyrraedd adref gyda'r nos, neu os ydyn nhw'n methu â chael lifft, mae'n rhaid iddyn nhw aros gyda'u cefnder sy'n byw yng Nghaernarfon. Byddai'n well gan Ceri beidio â bod yn faich ar eu teulu, ond does ganddyn nhw ddim opsiwn ar wahân i leihau eu horiau yn y gwaith gan nad ydy'r arian y maen nhw’n ei ennill yn ddigon i rentu eu lle eu hunain yng Nghaernarfon.'
Mi fyddai ailddynodi HS2 yn brosiect i Lloegr yn unig, a byddai darparu'r cyllid canlyniadol yn newid byd i bobl yn Arfon ac ar draws Cymru hefyd, ac i filoedd o bobl fel Ceri o Nantlle.
I gloi, beth mae ffiasgo HS2 yn ei olygu? Wel, i mi, mae o'n tanlinellu tri mater o bwys i ni yng Nghymru: yn gyntaf, pa mor ddiffygiol ydy fformiwla Barnett; yn ail, pa mor siomedig ydy'r ffaith na dderbyniodd Llywodraeth Cymru y cynnig i ddatganoli'r rheilffyrdd yn llwyr pan oedd hynny ar y bwrdd; a rŵan, addewid gwag Rishi Sunak i wario biliwn ar lein y gogledd. Dim ymgynghori efo Cymru, mynd dros ein pennau yn llwyr efo rhywbeth sydd ddim yn mynd i ddigwydd, ac mae hynny'n tanlinellu pa mor wan a bregus ydy ein setliad datganoli mewn gwladwriaeth gyfalafol or-ganolog.
Wrth i drasicomedi HS2 rygnu ymlaen, mae'n bwysig ein bod yn ystyried effaith economaidd trafnidiaeth a gwarafun cyllid. Ac mae sawl ffordd o edrych ar hyn. Gallwn ddechrau gydag asesiad yr Adran Drafnidiaeth ei hun o effaith economaidd HS2, sy’n dangos ergyd net o £150 miliwn i gynnyrch domestig gros Cymru, sydd unwaith eto'n datgelu ffolineb llwyr dadl Llywodraeth y DU y bydd Cymru rywsut yn elwa o brosiect rheilffordd sydd wedi’i leoli’n gyfan gwbl yn Lloegr.
Fel y nodwyd gan rai fel y Sefydliad Cynhyrchiant, mae cydberthynas uniongyrchol rhwng cyflwr cysylltiadau trafnidiaeth a ffyniant economaidd. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod ardaloedd gwledig fel Powys, sydd â rhai o'r cysylltiadau trafnidiaeth gwaethaf yn y DU, hefyd yn dioddef o rai o'r lefelau cynhyrchiant isaf yn y DU. Mae'r rhesymau am hyn yn amlwg. Mae cysylltedd trafnidiaeth gwael yn atgyfnerthu gweithlu llai hyblyg a llai symudol, yn ogystal â rhwystro’r potensial ar gyfer twf busnes. Felly, nid yw’n syndod yn hyn o beth fod yr arolwg diweddar gan y Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dangos bod 63 y cant o’r ymatebwyr wedi nodi rhwystredigaeth gyda chyflwr presennol seilwaith trafnidiaeth Cymru, yn enwedig ei gyfraniad at gostau uwch, llai o elw a llai o gwsmeriaid.
Mae hefyd yn bwysig pwysleisio nad yw tanfuddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn rhywbeth sy'n bodoli ar ei ben ei hun. Fel y nodwyd gan yr Athro Mark Barry, dim ond 5 i 6 y cant o'r buddsoddiad yn adolygiad Llywodraeth y DU o'r farchnad agored, sydd ei hun yn ffactor hollbwysig wrth ddenu buddsoddiad economaidd pellach, sy'n mynd tuag at lwybrau rheilffordd Cymru, er bod ein rhwydwaith rheilffyrdd yn 11 y cant o gyfanswm rheilffyrdd y DU. Mae ystadegau diweddaraf Swyddfa'r Rheilffyrdd a'r Ffyrdd ar y defnydd o reilffyrdd rhanbarthol hefyd yn tanlinellu i ba raddau y mae rhwydwaith rheilffyrdd y DU wedi’i alinio i wasanaethu economi Llundain a’r de-ddwyrain, ar draul gweddill y gwledydd a’r rhanbarthau.
O’r 940 miliwn o deithiau trên a wnaed yn y DU rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, gwnaed 57 y cant naill ai yn Llundain, neu roeddent yn deithiau i neu o Lundain. Mae hyn yn codi i dros 75 y cant pan fydd teithiau o fewn, ac i neu o dde-ddwyrain Lloegr yn cael eu cynnwys. Yn y cyfamser, cafodd llai na 2 y cant o holl deithiau rheilffordd y DU naill ai eu gwneud yng Nghymru neu i ac o Gymru, sef y gyfran isaf ond un ar ôl gogledd-ddwyrain Lloegr, a dylid ystyried hynny, unwaith eto, yng nghyd-destun y ffaith bod gennym gyfran o 5 y cant o boblogaeth y DU ac 11 y cant o holl rwydwaith rheilffyrdd y DU.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, ar ei lefel fwyaf sylfaenol, mae a wnelo'r economi â'r cysylltiadau rhwng pobl, sefydliadau a Llywodraethau. Yn hyn o beth, mae cyflwr ein seilwaith rheilffyrdd—sy'n gwbl ddigyswllt ac wedi dadfeilio, a lle mae pob trac yn arwain i Lundain, yn hytrach na rhwng ein cymunedau ein hunain—yn cyfateb yn addas i iechyd gwael ein heconomi yn gyffredinol.
A galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl a'r cyfle inni gael dadl yn y Senedd hon ar y datblygiadau diweddaraf ym mholisi rheilffyrdd gwarthus y DU. A gaf fi ofyn, i ddechrau, i'r Ceidwadwyr: a oes unrhyw beth y byddai'r Llywodraeth hon yn ei wneud i Gymru na fyddent yn ei amddiffyn? Mae hon, yn ôl unrhyw fesur, yn set gwbl warthus o amgylchiadau. Nid oes gan hyn unrhyw ymyl arian i Gymru, ac rydych yn gwneud eich gorau glas i geisio dod o hyd i un. Ac mae arnaf ofn fod hynny'n tanseilio eich hygrededd yn llwyr pan fo'r ddadl rydych yn ceisio'i gwneud mor wan. Credaf fod hon yn sefyllfa y dylai pob un ohonom fod yn bryderus yn ei chylch o ran y modd y cyflawnir polisi cyhoeddus yn y wlad hon. Nid wyf yn cael unrhyw bleser o hynny o gwbl.
Gadewch imi ddweud yn glir: rydym am i reilffordd gyfan Cymru a’r gororau gael ei thrydaneiddio. Fe fuom yn gweithio ar sail drawsbleidiol yn y Siambr hon i wneud yr achos dros drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe, ac roeddem yn falch pan gytunwyd ar hynny, ac fe chwalodd hynny. Ac fe chwalodd am nad oedd Llywodraeth y DU na Network Rail wedi gwneud dim o'r gwaith paratoi y mae angen ei wneud i adeiladu achos dros fuddsoddi mewn rheilffyrdd. Ni wnaed unrhyw waith paratoi o gwbl, a chynyddodd y costau y tu hwnt i bob rheolaeth, a thorrodd Llywodraeth y DU ei haddewid. Ac nid ydynt wedi dysgu unrhyw beth o'r camgymeriad hwnnw. Maent yn gwneud yr un peth eto. Gwnaethant hynny gyda HS2, a dyna pam y gwnaethant dynnu cymaint o gymalau oddi ar HS2—mae bellach yn edrych yn debycach i ffon bogo—a nawr, maent yn awgrymu gwneud yr un peth ar gyfer prif reilffordd gogledd Cymru. Ychydig ddyddiau ar ôl iddynt wneud y cyhoeddiad hwnnw o nunlle, na wyddai Network Rail amdano, na wyddai Avanti Trains amdano, na wyddai Trafnidiaeth Cymru amdano, ac na wyddai'r Adran Drafnidiaeth ei hun amdano hyd yn oed—. Sioe wleidyddol Geidwadol ar gyfer eu cynhadledd oedd hon, heb unrhyw waith cynllunio y tu ôl iddi, heb unrhyw gefnogaeth gan y diwydiant, a heb unrhyw gydweithredu i'w gwneud yn ystyrlon mewn unrhyw ffordd.
Felly, rwy'n siomedig iawn fod y Ceidwadwyr yn y Senedd hon yn derbyn hyn ar ei olwg, er i Brif Weinidog y DU gyfaddef ychydig ddyddiau ar ôl gwneud y cyhoeddiad mai enghraifft yn unig ydoedd o'r hyn y gellid ei wario pe bai'r Llywodraeth Geidwadol hon yn goroesi'n ddigon hir i allu ei wario. Nid ydym yn siŵr o gwbl a fyddai unrhyw gyllid canlyniadol yn dod i Gymru, fel roedd Natasha Asghar yn ei honni'n hyderus—nid wyf yn gwybod sut y gall wneud hynny; rwy'n tybio ei bod yn dyfeisio'r cyfan, oherwydd yn sicr, nid yw'n safbwynt y mae'r Adran Drafnidiaeth wedi gallu ei gadarnhau. Nid oes gennym unrhyw syniad pa statws a fyddai'n cael ei roi i reilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr, ac a fyddai’n cael ei chategoreiddio, fel HS2, yn brosiect Cymru a Lloegr, a gynlluniwyd i’n twyllo o’n cyfran resymol ohono.
Dim ond 2 y cant o'r rheilffyrdd yng Nghymru a reolir gan Lywodraeth y DU—a gadewch inni fod yn glir, mae hwn yn gyfrifoldeb nad yw wedi’i ddatganoli—sydd wedi’u trydaneiddio, o gymharu ag oddeutu 40 y cant o reilffyrdd Lloegr. Ac fel y dywedodd Luke Fletcher yn gywir ddigon, mae’r system gyfan wedi’i chynllunio i gefnogi economi Llundain a de-ddwyrain Lloegr, yn hytrach nag anghenion teithwyr ledled Cymru. Mewn gwirionedd, mae cynlluniau diweddaraf Network Rail ar gyfer gwaith cynnal a chadw dros yr hyn y maent yn ei alw’n gyfnod rheoli 7, yn dangos bod y corff Llywodraeth y DU y mae Natasha Asghar mor awyddus i roi mwy o arian iddo yn hytrach nag i Lywodraeth Cymru, yn cynllunio ar gyfer dirywiad rheoledig rheilffordd Cymru—gostyngiad yn y gwariant ar gynnal a chadw a fydd yn arwain at fwy o signalau'n methu, mwy o oedi, cyflymderau arafach i drenau a gwasanaethau gwaeth i deithwyr. Felly, dyna eu blaenoriaeth i Gymru. Gallant gyhoeddi cymaint o addewidion mawreddog, gwag ag y dymunant ar y llwyfan ym Manceinion, ond mae'r gwir yn siarad drosto'i hun. Nid ydynt wedi buddsoddi. Maent wedi creu cynlluniau sy’n mynd ag arian o economi Cymru, fel y dywedodd Luke Fletcher, a nawr, maent yn cynnig cyhoeddiad ffantasïol heb unrhyw beth y tu ôl iddo. Peidiwch â chael eich twyllo. [Torri ar draws.] Rwy'n fwy na pharod i dderbyn ymyriad.
Beth fyddai'n ei gymryd i'ch bodloni, felly, o ran—? Gan Brif Weinidog y DU a ddywedodd, 'Rwyf am drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru’—beth fyddai'n ei gymryd? Dewch—byddwch yn onest, Ddirprwy Weinidog. Beth fyddai’n ei gymryd i greu argraff arnoch ac ichi groesawu rhywfaint o uchelgais dros Gymru?
Iawn, diolch. Diolch—
Ac yn ail hefyd—
Hoffwn fwrw drwyddi nawr.
—a ydych chi'n fodlon fod y cerbydau trên—
Hoffwn fwrw drwyddi nawr.
Gareth, rydych wedi gwneud eich ymyriad.
Iawn, iawn.
Yr hyn y byddai'n ei gymryd i greu argraff arnaf yw pe baent yn cadw at eu gair. Cawsom eu gair y byddent yn trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe; torasant eu gair. Rydych yn fodlon derbyn eu gair y byddant yn trydaneiddio’r rheilffordd i ogledd Cymru. Ni allwch ymddiried ynddynt, a'r rheswm y gwn na allwch ymddiried ynddynt yw am nad oes unrhyw waith cyfrifo wedi'i wneud arno. Byddai hyn yn cymryd o leiaf 10 mlynedd. Byddai’n costio o leiaf £2 biliwn. Nid oes unrhyw waith cyfrifo wedi'i wneud ar ei gyfer. Mae'n ffantasi llwyr.
Yn hytrach, rydym wedi bod yn gweithio’n aeddfed ac yn adeiladol gyda’r Adran Drafnidiaeth yn Llundain. Rwyf wedi cyfarfod â Huw Merriman, y Gweinidog rheilffyrdd, rwyf wedi cyfarfod â Mark Harper, yr Ysgrifennydd trafnidiaeth, ac roeddwn yn credu bod y ddau ohonynt yn ddynion da, anrhydeddus, ac rydym wedi cytuno, wedi gweithio gyda swyddogion ar set o flaenoriaethau ar y cyd y mae'r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru yn cytuno eu bod yn ffyrdd synhwyrol ymlaen o dan fwrdd rheilffyrdd Cymru, sydd ei hun yn argymhelliad gan y Pwyllgor Materion Cymreig, a arweinir gan y Ceidwadwyr. Mae’r bwrdd rheilffyrdd hwnnw wedi llunio rhestr o flaenoriaethau ar gyfer gogledd Cymru. Nid oedd trydaneiddio ar frig y rhestr gan nad yw'n rhywbeth y gellir ei gyflawni'n gyflym ac nid oes unrhyw waith cynllunio wedi'i wneud arno. Yn hytrach, mae pethau y gellid eu gwneud a fyddai'n helpu teithwyr yn y gogledd yn y tymor byr a chanolig, ac mae hynny'n cynnwys uwchraddio gwasanaethau rhwng Wrecsam a Lerpwl, datgloi cyfyngiadau capasiti yng Nghaer sy'n rhwystro gogledd Cymru, a gwella cyflymderau ar brif reilffordd y gogledd. Nawr, byddai hynny, mewn gwirionedd, yn golygu rhywbeth. Byddai hynny’n seiliedig ar gonsensws, byddai’n seiliedig ar ddadansoddi, byddai’n seiliedig ar gymeradwyaeth rhanddeiliaid, ac nid ydynt wedi gwneud dim o hynny. Yn hytrach, maent wedi creu menter drawiadol y gwnaethant gefnu arni o fewn dyddiau. Mae’n ffordd warthus o drin Cymru a’r bobl a gynrychiolir gan bawb ohonom, ac rwy'n credu ei bod yn warthus i’r meinciau hyn ei hamddiffyn am ddim rheswm heblaw'r ffaith mai eu plaid yn Llundain a'i cyhoeddodd, er nad oes unrhyw un yn ei chymryd o ddifrif, yn enwedig y diwydiant rheilffyrdd.
Yn hytrach, rydym wedi sefydlu comisiwn Burns. Mae wedi gwneud dadansoddiad pwyllog. Mae ar fin cyhoeddi ei adroddiad terfynol. Mae wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd ganddo restr o gynlluniau—ffyrdd, rheilffyrdd, teithio llesol—ar gyfer gogledd Cymru, a’r hyn y mae angen inni ei wneud nawr yw gweithio gyda’r rhanddeiliaid lleol, gyda Llywodraeth y DU, ar raglen fuddsoddi i gyflawni hynny. Dyna sydd ei angen ar Gymru, nid cyhoeddiadau breuddwyd gwrach heb unrhyw beth y tu ôl iddynt.
Galwaf ar Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Natasha a’r Ceidwadwyr yn dadlau'r achos i Lywodraeth y DU dros roi'r cyllid hwn i ni, er na allaf weld sut y byddai cyhoeddiadau Mr Sunak yr wythnos diwethaf o fudd i Gymru, yn enwedig pan fo'r cyhoeddiad ar brif reilffordd gogledd Cymru wedi syrthio'n ddarnau. Nid oes astudiaeth ddichonoldeb wedi'i chynnal, yn amlwg. Ni chredaf y bydd addewidion ar gyfer yfory byth yn dod yn realiti gan y Llywodraeth honno. Ond rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn dadlau'r achos hwn. Rwy'n gobeithio y byddant yn gwrando. Mae arnaf ofn na fyddaf yn dal fy ngwynt ar hynny. Ond cawsom ein hatgoffa gan Rhun o sut mae HS2 wedi bod yn enghraifft berffaith o sut i beidio â chyflawni prosiect seilwaith. Mae hyn, rwy’n cytuno, yn enghraifft o sut mae materion cyfansoddiadol yn berthnasol iawn i fywyd go iawn.
Mae colli cysylltiad Crewe yn amlygu beth roeddem ni oll wedi gwybod ers blynyddoedd—dydy Cymru byth yn flaenoriaeth i San Steffan. Dyw hi byth yn flaenoriaeth i bleidiau San Steffan.
Soniodd Carolyn am y cymhlethdodau niferus a allai ddeillio o brosiectau na chynlluniwyd ar eu cyfer ac a gyhoeddwyd ar frys. Dim ond un o'r prosiectau hynny oedd cyhoeddiad Mr Sunak ar brif reilffordd gogledd Cymru, ac mae eisoes wedi cefnu arno.
Soniodd Siân am y cysylltiadau trafnidiaeth annigonol yn Arfon ac fel mae hynny'n rhwystro twf economaidd. Oedi, canslo, trenau rhy'n oer neu'n rhy boeth, dim toiledau, dim dŵr—does ryfedd fod cyn lleied o bobl yn dewis defnyddio trenau mewn rhai rhannau o Gymru lle maen nhw ar gael. Byddai'r biliynau hynny'n gwneud cymaint o wahaniaeth.
I Luke, mae HS2 yn drasicomedi. A gallwn, fe allwn chwerthin am ben haerllugrwydd, ehofndra'r honiadau fod rheilffordd y tu hwnt i'n ffiniau o fudd i ni. Pe na baem yn chwerthin, byddem yn crio, ac efallai fod angen crio—cri gan Gymru, ein bod yn mynnu bod y galwadau hynny'n cael eu hateb.
Mae'n drueni, Ddirprwy Lywydd, am gynnig sydd wedi gwahodd ac uno pob un o'n pleidiau yn y Siambr hon, fod cyn lleied o Aelodau o bleidiau eraill wedi bod yn bresennol ar gyfer y ddadl. Ond rwy'n ddiffuant yn croesawu cyfraniadau'r holl Aelodau.
Nododd y Dirprwy Weinidog pam fod Llywodraeth y DU wedi parhau i dorri addewidion mewn perthynas â phrosiectau rheilffyrdd—am nad ydynt yn gwneud y gwaith cynllunio, neu efallai nad oedd bwriad erioed i gadw at y prosiectau. Ond mae'r ffaith bod cymaint o gyhoeddiadau a phenderfyniadau wedi'u gwneud a'u dad-wneud gan San Steffan heb unrhyw ymgynghori â'n Llywodraeth na'n Senedd yn fy nghynddeiriogi. Mae’n sarhad ar y ddeddfwrfa hon a’i holl Aelodau. Nawr, ni allwn ganiatáu i hynny gael ei normaleiddio na'i ddiystyru. Mae Cymru yn haeddu gwell na hynny.
Ni all fod unrhyw gyfiawnhad dros honiad San Steffan fod HS2 o fudd i Gymru. Dylai fod yr un mor hawdd dweud y dylai pa blaid bynnag sydd â’r grym i unioni pethau wneud hynny. Ond rwy'n dweud eto: dylai penderfyniadau sy'n pennu ein cyfeiriad teithio yng Nghymru, yn llythrennol ac yn drosiadol, gael eu gwneud yng Nghymru. Mae HS2 yn brosiect na fydd yn dechrau pan oedd i fod i ddechrau, ac na fydd yn cyrraedd y cyrchfan y bwriadwyd iddo ei gyrraedd. Mae'n drosiad sy'n ysgrifennu ei hun, ond sut y gallwn unioni anghyfiawnder y cyllid heb fynnu bod Llywodraethau San Steffan yn rhannu dyletswydd, rhwymedigaeth, i ddarparu'r biliynau sy'n ddyledus i ni? Os yw'n ddigon da i'r Alban, mae'n ddigon da i ni.
Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn, i ddweud yn glir ac yn ddiamod wrth San Steffan: rydym yn mynnu’r hyn y mae gennym hawl iddo.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly gohirir y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Eitem 8 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig—iechyd meddwl. A galwaf ar James Evans i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8374 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai dydd Mawrth 10 Hydref yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.
2. Yn croesawu sefydlu gwasanaeth 24/7 111 pwyso 2 GIG Cymru.
3. Yn gresynu:
a) bod hunan-niwed yn un o’r pum prif resymau am dderbyniadau meddygol a bod cyfraddau hunanladdiad ar gynnydd;
b) bod nifer y plant sy'n aros mwy na 4 wythnos am eu hapwyntiad iechyd meddwl cyntaf yng Nghymru ar gynnydd; ac
c) nad yw iechyd meddwl yn cael ei drin â'r un flaenoriaeth ag iechyd corfforol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno deddf iechyd meddwl newydd i Gymru i wella mynediad at gymorth a thriniaeth iechyd meddwl i gleifion a'u teuluoedd a sicrhau cydraddoldeb o ran iechyd meddwl ac iechyd corfforol;
b) sicrhau bod gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl a llesiant yn cynyddu mewn termau real bob blwyddyn er mwyn ateb y galw am wasanaethau iechyd meddwl;
c) ymrwymo i ddarparu uned anhwylderau bwyta benodedig ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru; a
d) sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl i’w staff.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Heddiw, rwy'n sefyll ger eich bron i fynd i’r afael â phwnc pwysig iawn, dadl i nodi mai 10 Hydref oedd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, a bod angen mwy o weithredu ar ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl o’r radd flaenaf yma yng Nghymru.
Nid mater meddygol yn unig yw iechyd meddwl a lles. Mae'n fater sy'n effeithio ar bob elfen o'n bywydau. Mae'n her a rennir y mae'n rhaid inni ei goresgyn gyda'n gilydd fel cymdeithas dosturiol a chefnogol, lle na ddylai unrhyw un ddioddef yn dawel na bod ag ofn gofyn am gymorth. Fel y bydd rhai ohonoch yn gwybod efallai, bydd un o bob pedwar ohonom yn wynebu problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau, felly mae cael y lefelau priodol o gymorth pan fo'i angen yn hanfodol bwysig. Yma yng Nghymru, gyda’n hanes cyfoethog a’n diwylliant bywiog, rydym yn genedl sy’n enwog am ei gwytnwch a’i hysbryd cymunedol. Ond hyd yn oed yn ein cymunedau clos, mae materion iechyd meddwl yn effeithio ar bobl ddirifedi, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Yn wyneb yr her hon, mae'n rhaid inni gyrraedd sefyllfa lle mae iechyd meddwl yn cael yr un statws ag iechyd corfforol a lle mae pobl yn barod i drafod eu heriau mewn cymdeithas agored a goddefgar.
Yn gyntaf, mae'n rhaid inni dorri’r stigma sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl, yn union fel y byddem yn ei wneud gyda rhywun sy’n dioddef o anhwylder corfforol. Byddai ymatal rhag stigmateiddio’r bobl hynny sy’n wynebu problemau iechyd meddwl drwy feithrin diwylliant o fod yn agored ac o dderbyniad, lle mae unigolion yn teimlo’n gyfforddus yn ceisio cymorth heb ofn na beirniadaeth, yn gam mawr ymlaen yn yr hyn y mae angen inni ei wneud yma yng Nghymru i newid y sgwrs honno’n gyfan gwbl. Rydym yn creu bod hyn yn dechrau gydag addysg, yn dechrau yn ein hysgolion, lle rydym yn addysgu ein pobl ifanc am iechyd meddwl, gwytnwch a phwysigrwydd ceisio cymorth, ac yn bwysicaf oll, am fod yn garedig tuag at ein gilydd.
Dylai pob un ohonom fod yn ymwybodol iawn o gyflwr presennol iechyd meddwl a lles ein pobl ifanc a sut maent yn allweddol yn eu datblygiad. Achosodd y pandemig broblemau difrifol i’n plant a’n pobl ifanc, ac mae effeithiau hirdymor hynny i’w teimlo nawr, felly mae angen inni sicrhau bod gennym y cymorth arbenigol sydd ei angen ar y plant hynny yn ein hysgolion. Fodd bynnag, er gwaethaf yr addewidion a faint o weithiau rydym wedi'u clywed, dro ar ôl tro, mae nifer y plant sy’n aros pedair wythnos neu fwy am eu hapwyntiad cyntaf gyda gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed a gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ar gynnydd, ac mae'n rhaid i'r duedd honno ddod i ben, gan na ddylai plant fod yn cyrraedd triniaeth gyda'r gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed. Mae atal ac ymyrryd yn fuan yn llawer gwell na chyrraedd y gwasanaeth acíwt hwnnw, ac mae angen cryfhau’r dull ysgol gyfan y mae’r Llywodraeth yn ei hybu i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu iechyd meddwl ein pobl ifanc. Mae'n rhaid inni hefyd sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael i’r rheini sydd mewn angen, a bod cyllid ar gyfer iechyd meddwl yn cynyddu mewn termau real i ateb y galwadau ar wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru.
Mae'n realiti anffodus nad oes gan bawb fynediad at y gwasanaethau iechyd meddwl sydd eu hangen arnynt. Dylai ein system gofal iechyd fod mewn gwell sefyllfa i ymdrin â materion iechyd meddwl, lleihau amseroedd aros a sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael heb gefnogaeth a chymorth pan fydd fwyaf o'u hangen arnynt. Yn ôl Prosiect HOPE, nid yw dwy ran o dair o bobl â chyflyrau iechyd meddwl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, felly mae'n rhaid i bob un ohonom wneud yr hyn y mae angen i ni ei wneud yma i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac mae angen inni sicrhau bod mwy yn cael ei wneud gyda'r trydydd sector a'r sector elusennol i sicrhau bod y cymorth hwnnw ar waith yn briodol gennym bob amser.
Wrth edrych ar ble rydym arni fel cenedl, rwy'n pryderu’n arbennig am y cynnydd mewn unigrwydd. Mae unigrwydd yn fygythiad cynnil ond peryglus ym maes iechyd meddwl, ac fel yr amlygodd arolwg cenedlaethol, canfuwyd bod 13 y cant o bobl Cymru yn unig. Mae'r ffigur hwn wedi aros yn gyson dros y ddwy flynedd flaenorol. Ac wrth inni agosáu at fisoedd y gaeaf, mae'n rhaid i ni gofio hefyd am anhwylder affeithiol tymhorol, neu SAD, neu iselder y gaeaf, fel y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei alw. Mae’n effeithio ar un o bob tri o bobl yn y DU, ac eto mae llawer o bobl yn osgoi gofyn am y cymorth sydd ei angen arnynt i ymdopi â hynny. Felly, credaf ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i hyrwyddo’r cymorth a’r gefnogaeth y gall pobl eu cael drwy fisoedd y gaeaf i sicrhau nad oes unrhyw un yn dioddef gartref ar eu pen eu hunain.
Yng Nghymru, gwnaed peth cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf, drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau yn y gymuned a darparu peth cymorth iechyd meddwl gwell ar gyfer problemau. Ac un peth rydym yn ei gefnogi ar y meinciau hyn yw gwasanaeth 'GIG 111 pwyso 2', a groesawyd gennyf fi a fy ngrŵp fel cam cadarnhaol gan y Gweinidog, ac rydym yn awyddus iawn i wybod sut yn union y mae'r gwaith ar ei gyflwyno'n mynd, a faint o bobl y mae'n ei gefnogi ledled Cymru. Fodd bynnag, mae llawer mwy o waith i’w wneud o hyd. Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i flaenoriaethu cyllid a chymorth iechyd meddwl gan fod llesiant ein dinasyddion nid yn unig yn rhwymedigaeth foesol, mae hefyd yn ffactor hollbwysig yn ffyniant cyffredinol y genedl.
Un llwybr y mae fy ngrŵp a minnau wedi bod yn gwthio amdano ers blynyddoedd lawer yw Deddf iechyd meddwl bwrpasol i Gymru. Byddai’r Ddeddf yn ein galluogi i weithio o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol unigryw sydd gennym yma yng Nghymru, gan ddarparu dull pwrpasol o wella’r darpariaethau iechyd meddwl sy’n fwy cydnaws â chyfraith a pholisi ehangach Cymru. Rwy'n awyddus i sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl i'w staff—mae hynny'n rhywbeth a ddylai fod yn ofyniad sylfaenol. A rhywbeth arall y credaf y dylai’r Llywodraeth edrych arno yw cryfhau Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, deddfwriaeth allweddol a gyflwynwyd yma gan Aelod Ceidwadol blaenorol, Jonathan Morgan. Roedd yn dda iawn ar y pryd, a chredaf fod angen edrych ar y mesur hwnnw eto, ar sut y gallwn ei gryfhau a’i wneud yn well ar gyfer y dyfodol. Ond un elfen yr hoffwn ei chrybwyll sy'n bwysig i mi a nifer o Aelodau yn y Siambr hon yw uned anhwylderau bwyta arbenigol ar gyfer cleifion mewnol yma yng Nghymru. Gwn fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad yn y maes hwn, a gwn fod y Gweinidog yn awyddus i fwrw ymlaen â hyn, felly hoffwn pe gallai ddarparu ymateb ar y mater i weld ble rydym arni gyda hyn, gan y credaf fod pobl wedi aros yn ddigon hir i’r gwasanaeth hwn gael ei ddarparu yma yng Nghymru.
I gloi, nid yw iechyd meddwl yn broblem y gellir ei hanwybyddu. Mae’n fater sy’n effeithio ar bawb, felly gadewch inni greu Cymru lle mae iechyd meddwl yn flaenoriaeth, lle mae unigolion yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu hannog i geisio cymorth, a lle rydym yn unedig yn ein hymrwymiad i wella iechyd meddwl a lles ein cenedl. Gyda'n gilydd, gallwn greu diwylliant o fod yn agored yng Nghymru, lle caiff pawb ledled ein gwlad gyfle i fyw bywyd boddhaus, yn feddyliol ac yn emosiynol. Diolch, Lywydd.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Y Dirprwy Weinidog dros iechyd meddwl i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) bod atal hunanladdiad a hunan-niweidio yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru;
b) mai iechyd meddwl yw'r maes gwario uchaf o hyd gan y GIG yng Nghymru.
Yn cytuno y dylai iechyd meddwl gael ei drin â’r un flaenoriaeth ag iechyd corfforol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol, ydy, mae'n cael ei gynnig.
Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliannau 2 a 3, felly.
Iawn, diolch.
Na, ddim yn ffurfiol, gelli di siarad iddyn nhw.
Dwi'n bwriadu. Diolch yn fawr iawn.
Croeso.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Mewnosod fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
y bu diffyg addysg a dealltwriaeth ynghylch iechyd meddwl
Gwelliant 3—Heledd Fychan
Mewnosod fel is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 4:
gwneud iechyd meddwl amenedigol yn flaenoriaeth yn Strategaeth Iechyd Meddwl newydd y Llywodraeth;
sicrhau bod gan bob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda menywod yn y cyfnod amenedigol y wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol o iechyd meddwl amenedigol;
sicrhau bod gan bob gwasanaeth mamolaeth isafswm o fydwragedd arbenigol amenedigol Band 7 cyfwerth ag amser llawn;
sicrhau bod pob gweithiwr mamolaeth proffesiynol yn gofalu am iechyd meddwl yr un graddau ag iechyd corfforol yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a chyfnod ôl-enedigol.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma, a diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno dadl sydd mor ofnadwy o bwysig.
Rwyf wedi siarad sawl tro yn y Siambr hon am bwysigrwydd allweddol seilio ein hymagwedd at ofal iechyd ar agenda ataliol gyfannol a chydlynol sy'n ystyried gwasanaethau rheng flaen fel un rhan o gyfanwaith ehangach, rhyng-gysylltiedig a rhyngddibynnol. Am y rheswm hwn, mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant sy’n galw am ffocws penodol ar iechyd meddwl amenedigol yn strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru.
Os ydym am fod o ddifrif ynglŷn â datblygu agenda ataliol gydnerth ac effeithiol, nid oes lle gwell i ddechrau nag yn llythrennol ar ddechrau bywyd. Mae llawer o ymchwil ddiweddar o sawl man wedi pwysleisio pa mor arbennig o agored i niwed yw rhieni newydd a darpar rieni i broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys gorbryder, iselder ac anhwylderau straen ôl-drawmatig. Mae cymaint ag un o bob pedair menyw yn wynebu problem iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu yn y flwyddyn gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth i'w babi. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 9,000 o famau newydd yng Nghymru bob blwyddyn. Mae oddeutu un o bob 10 partner hefyd yn wynebu problem iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn, ac mae'r gymhareb hon yn sylweddol uwch ar gyfer partneriaid menywod sydd â phroblemau iechyd meddwl eu hunain.
Mae'r 1,000 o ddiwrnodau cyntaf ym mywyd plentyn yn allweddol o ran ffurfio eu llesiant gydol oes. O’r herwydd, mae methiant i nodi ac ymateb i faterion iechyd meddwl amenedigol cyn gynted ag y dônt i’r amlwg yn ymestyn ac yn gwreiddio problemau iechyd meddwl, yn ogystal â phroblemau corfforol cysylltiedig, drwy gydol bywydau rhieni a phlant fel ei gilydd. Yn naturiol, mae goblygiadau niweidiol iawn i hyn, o safbwynt cymdeithasol ac o ran darparu adnoddau.
Mae'n hanfodol, felly, fod polisïau iechyd meddwl yn cydnabod yn llawn sut mae problemau'n datblygu ar draws perthnasoedd rhyngbersonol, a'r risgiau penodol o drosglwyddo problemau o genhedlaeth i genhedlaeth. Ac wrth gwrs, mae ymyrraeth i'w gwneud o ran y gweithlu ac adnoddau yma hefyd, a danlinellir gan y ffaith bod darpariaeth annigonol o gymorth iechyd meddwl yn golygu cost amcangyfrifedig o £8.1 biliwn am bob blwyddyn o fenywod yn rhoi genedigaeth. Po gyntaf y gellir datrys problemau, y lleiaf o bwysau a roddir ar gapasiti gwasanaethau iechyd dros y tymor hir.
Roeddwn yn ddigon ffodus i drafod y mater hwn dros yr haf gydag arbenigwyr amenedigol, a bwysleisiodd yr angen am fuddsoddiad parhaus a pharhaol yng ngwasanaethau amenedigol Cymru, ac i strategaeth iechyd meddwl Llywodraeth Cymru ddarparu llwybr clir ar gyfer gwreiddio sgiliau perthnasol yn y gweithlu.
Mae’r angen hwn wedi’i danlinellu gan y ffaith nad yw’r un o’r saith gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru ar hyn o bryd yn bodloni safonau cenedlaethol math 1 Canolfan y Coleg ar gyfer Gwella Ansawdd yn llawn. Canfu prosiect diweddar gofal iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru hefyd nad oedd 61 y cant o weithwyr iechyd proffesiynol wedi cael unrhyw hyfforddiant ar iechyd meddwl babanod. Gall ymagwedd ragweithiol yn y cyd-destun hwn fod yn elfen hanfodol o ymdrechion i fynd i’r afael â stigma ehangach ynghylch iechyd meddwl, yn enwedig mewn perthynas â bylchau yn ymwybyddiaeth y cyhoedd ac mewn addysg.
Mae’n amlwg, po hiraf y caiff materion iechyd meddwl eu hesgeuluso, yr anoddaf yw ymdrin â nhw ar y cyd, fel cymdeithas, mewn modd tosturiol a chynhwysol. Er bod cynnydd wedi’i wneud ar roi sylw i iechyd meddwl amenedigol, diolch i waith prosiectau fel iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru, fe allwn ac fe ddylem wneud mwy i sicrhau nad yw rhieni a phlant yn gorfod dioddef yn dawel, a'u bod yn gallu cael mynediad at y cymorth cywir pan fo'i angen.
Mae buddsoddi yn ein gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn llythrennol yn fuddsoddiad yn ein dyfodol. Os gallwn wneud hyn yn iawn, gan wreiddio’r agenda ataliol ar ddechrau bywyd, byddwn nid yn unig yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein gwasanaethau iechyd, ond gallwn hefyd wireddu’r uchelgais y gwn fod pob un ohonom yn ei rhannu ar draws y Siambr hon, i sicrhau rhagolygon iachach a hapusach i'n plant.
Yn olaf, mae ein gwelliant byr, gwelliant dau, yn mynd at wraidd y mater hwn: y diffyg dealltwriaeth syfrdanol mewn perthynas â salwch meddwl, gan y gwasanaeth iechyd ei hun, gan gyflogwyr, darparwyr addysg ac eraill. Mae'r diffyg dealltwriaeth hwn yn arwain at fwy o niwed hirdymor. Mewn gwirionedd, mae gwelliant y Llywodraeth ei hun yn arwydd o’r diffyg dealltwriaeth hwn. Mae'n nodi:
'mai iechyd meddwl yw'r maes gwario uchaf o hyd gan y GIG yng Nghymru.'
Mae hyn yn anghywir yn ôl ei fesur ei hun. Os dilynwn yr honiad hwn, gallem honni mai iechyd corfforol yw maes gwariant uchaf y GIG yng Nghymru. Nid un peth yn unig yw iechyd meddwl, fel y mae’r ddadl hon wedi’i brofi hyd yn hyn, ac os ydym yn driw i’r uchelgais o fynd i’r afael â’r gwahanol fathau o salwch meddwl, mae angen inni gydnabod y ffaith hon. Diolch.
Ddoe, fe wnaethom nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, diwrnod pan ydym yn dathlu cymaint o gynnydd y mae cymdeithas wedi'i wneud o ran trafod iechyd meddwl. Fodd bynnag, fe wyddom fod llawer mwy i’w wneud. Fel y mae James eisoes wedi'i nodi, bydd un o bob pedwar ohonom yn wynebu problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau, ac ni ddylai bobl deimlo unrhyw gywilydd wrth siarad am y peth ac am sut maent yn teimlo. Yn wir, mae siarad mor bwysig. Mae James hefyd yn iawn ynglŷn â’r stigma sydd ynghlwm wrth broblemau iechyd meddwl. Mae'n un sy'n parhau, ac mae'n rhaid inni wneud mwy fel cymdeithas i gael gwared arno.
Mae afiechyd meddwl, heb os, wedi'i waethygu gan y pandemig a heriau bywyd, fel costau byw a phryderon ariannol cysylltiedig. Mae ein cymunedau gwledig yn dioddef problem gynyddol gydag iechyd meddwl. Rydym yn gweld hyn yn enwedig yn y sector amaethyddol, gyda 36 o hunanladdiadau ffermwyr wedi’u cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn 2021. Mae hynny mor ofnadwy. Mae ffermwyr a’u teuluoedd yn wynebu llawer o heriau na fyddai llawer o bobl o gefndiroedd eraill yn eu deall, problemau fel TB buchol wrth gwrs, a’r effeithiau dinistriol y mae’n eu cael ar ffermwyr, eu teuluoedd a busnesau; gall ynysigrwydd gwledig, unigrwydd ynghyd â mynediad gwael at wasanaethau arwain at bwysau negyddol aruthrol ar bobl wledig, sy’n teimlo’n gaeth ac yn angof.
Yn fwy cyffredinol mewn cymdeithas, mae data wedi canfod bod y rhan fwyaf y bobl a holwyd yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu o ganlyniad i heriau costau byw, a bod nifer cynyddol o bobl yn teimlo'n fwy isel eu hysbryd. Fel y soniais yn gynharach, mae pwysau ariannol yn cael effaith enfawr ar les meddyliol llawer o unigolion, gan arwain at effeithiau andwyol arnynt eu hunain, eu teuluoedd a'r rheini sydd agosaf atynt.
Rhaid inni groesawu sefydlu ymyriadau fel llinell 24 awr saith diwrnod yr wythnos 111 y GIG. Mae camau o'r fath yn darparu cymorth da iawn, ac mae angen inni wneud mwy i'r cyfeiriad hwnnw. Ond mae'n rhaid gwneud mwy yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y ffaith, fel y nododd James hefyd, fod nifer y plant sy'n aros am eu hapwyntiad cyntaf gyda gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru wedi codi i 14 y cant ym mis Gorffennaf 2023.
Ailadroddaf y galwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig am Ddeddf iechyd meddwl yma yng Nghymru, a hoffem weld cynnydd mewn termau real yn y gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl a lles a sefydlu uned anhwylderau bwyta yng Nghymru. Mae angen un o'r rheini yma.
Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gofal tuag at eu staff, hefyd, yn enwedig mewn sectorau heriol. Dyma pam ein bod yn awyddus i sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl i staff. Mae’n amlwg fod angen mwy o gymorth rheng flaen yma yng Nghymru, a bod y cymorth sydd ar gael yn cael ei hyrwyddo er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith y rheini sy’n dioddef. Credaf y gall ac y dylai cyrff cyhoeddus fel cynghorau a byrddau iechyd wneud mwy i egluro pa gymorth sydd ar gael gan eu sefydliadau a helpu pobl i ymdrin â'r heriau y maent yn eu hwynebu. Mae’r rhyngweithio cychwynnol hwnnw â dinasyddion sy’n dioddef yn hollbwysig i’r ffordd y mae’r unigolion hynny'n mynd ati i ymdrin â’u sefyllfaoedd unigol.
Rwy'n cyfaddef bod camau’n cael eu cymryd i’r cyfeiriad cywir gan Weinidogion Cymru i ymdrin ag iechyd meddwl, ond mae cyflwr enbyd rhestrau aros ein GIG yn llesteirio unrhyw gynnydd ystyrlon. Mae angen i bob un ohonom fod yn onest ynglŷn â maint y broblem a’i hagweddau niferus a chydnabod bod mwy o fuddsoddiad mewn cymorth iechyd meddwl mor bwysig i les cymdeithas. Mae’r amser ar gyfer rhethreg wag ynglŷn â chymorth iechyd meddwl ar ben. Mae angen mwy o ymrwymiad a gweithredu, felly rwy’n annog pawb yma heddiw i bleidleisio gyda ni a chefnogi ein cynnig i gyflwyno Deddf iechyd meddwl newydd yng Nghymru.
Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac iechyd meddwl. Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yw’r profiadau dirdynnol neu drawmatig hynny sy’n digwydd yn ystod plentyndod ac sy'n achosi niwed parhaol, er enghraifft, cam-drin rhywiol a chorfforol neu dyfu i fyny ar aelwyd lle ceir trais domestig, ac maent yn achosi amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl—gorbryder, iselder, hunan-niwed, meddyliau hunanladdol, anhwylderau straen ôl-drawmatig, ymhlith llawer—a gall pob un ohonynt arwain at effeithiau parhaol a dinistriol fel camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Yn wir, nododd astudiaeth gyntaf Cymru o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a gyhoeddwyd yn 2016, y cysylltiad cryf rhwng trawma yn ystod plentyndod ac iechyd gwael gydol oes, gan gynnwys risg uwch o ymddygiadau niweidiol a lles meddyliol gwael, yn ogystal â datblygu clefydau cronig yn gynnar. Felly, mae atal a lliniaru profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan dorri’r cylch niwed, yn hollbwysig mewn unrhyw drafodaeth ar iechyd meddwl.
Hoffwn dynnu sylw at waith da Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r hyb profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, sy’n gweithio yn y maes hwn gyda’r nod o sicrhau bod Cymru’n arwain y ffordd ar blentyndod heb brofiadau niweidiol. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith hwnnw ac ymyriadau iechyd meddwl eraill, fel '111, pwyso 2' y GIG, a chymorth arbenigol drwy linell wrando a chyngor cymunedol C.A.L.L., a Meic.
Mae deddfwriaeth yn rhan o hynny; er enghraifft, roedd Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn cydnabod bod plant sy’n gweld, yn clywed neu’n dioddef effeithiau cam-drin domestig yn ddioddefwyr eu hunain, a oedd yn newid hollbwysig, yn enwedig pan ystyriwch fod un o bob pump o blant yn dyst i gam-drin yn y cartref. Ond mae cydnabyddiaeth heb gymorth yn ddiwerth, ac mae cyllid ar gyfer—ac felly mynediad at—gymorth cam-drin domestig arbenigol i blant yn dynn ac yn dameidiog. Y llynedd, comisiynais adroddiad gyda Cymorth i Fenywod Cymru ar y ddarpariaeth yma yng Nghymru, a chanfu ein canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn 'Dyletswydd i Gefnogi’, bocedi o arferion da, ond bylchau y mae’n rhaid eu llenwi. Ond yn fwy cyffredinol, caiff iechyd meddwl ei effeithio gan newidiadau mewn bywyd, amgylchiadau a digwyddiadau trawmatig, ac yn ei hanfod, mae a wnelo mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod â chyd-destun cymdeithasol ac economaidd ehangach bywyd teuluol.
Mae llinell gymorth argyfwng iechyd meddwl gyntaf Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth brys ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ac mae’r gwasanaeth wedi derbyn cyllid drwy’r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac mae Hwb Llesiant Bro Myrddin yn darparu darpariaeth iechyd meddwl bwrpasol 24 awr y dydd ar gyfer plant a phobl ifanc, yn yr amgylchedd cywir, ar yr adeg y maent fwyaf o'i angen. Mae Bro Myrddin yn darparu man diogel i blant a phobl sy'n wynebu argyfwng, gan atal derbyniadau trallodus a diangen i wardiau damweiniau ac achosion brys ac iechyd meddwl. Bydd ymarferwyr therapiwtig a chlinigol ymroddedig yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddarparu atebion ac ymyriadau arbennig i leihau ac osgoi'r angen am atgyfeiriadau i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd mewn amgylchedd tawel a diogel.
Yn ogystal â’r hyb newydd yng Nghaerfyrddin, mae’r bwrdd iechyd wedi cydweithio â Mind Sir Benfro ac Adferiad i ddarparu gwasanaethau noddfa i blant a phobl ifanc yn sir Benfro a Cheredigion, ac mae’r gwasanaethau hynny ar gael o ddydd Gwener i ddydd Sul o 5 o’r gloch tan 10 o’r gloch, ac maent yn darparu lle diogel i bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed sydd mewn argyfwng neu mewn trallod iechyd meddwl. Mae’r rheini’n enghreifftiau o gyfleusterau cymunedol rhagweithiol da iawn, Weinidog, ac rwy'n eu croesawu, ac rwy’n siŵr mai’r hyn yr hoffai pob un ohonom ei weld yw’r cyfleusterau hynny'n cael eu cynnig ledled Cymru mewn modd amserol ac ystyrlon.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy ngrŵp, y Ceidwadwyr Cymreig, am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, yn dilyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ddoe. Mae’n gyfle i bob un ohonom siarad am iechyd meddwl a pha mor hanfodol yw hi ein bod yn mynd i’r afael â’r argyfwng iechyd meddwl yng Nghymru. Ac mae llawer i'w wneud. Rwy’n cytuno â llawer o’r hyn a ddywedwyd heddiw yn y Siambr, ar draws y Siambr, ond yn enwedig yr hyn a ddywedwyd gan yr Aelod dros Fynwy a’r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed hyd yn hyn. Ond gan ganolbwyntio ar fy mhortffolio fel llefarydd, hoffwn ddweud, wrth imi ymweld ag ysgolion ledled Cymru, ar wahân i anghenion dysgu ychwanegol, fod iechyd meddwl yn faes sy’n peri cryn bryder. Roedd effaith y pandemig ar ein plant a’n pobl ifanc yn sylweddol. Ers hynny, mae llawer wedi’i addo gan y Llywodraeth hon, ond ychydig o gamau sydd wedi’u cymryd mewn gwirionedd—ni fu unrhyw gynllun na strategaeth. Addawyd arian sylweddol, ac wrth imi ymweld ag ysgolion, yr hyn a ddywedant wrthyf yw, 'Ble mae wedi mynd?' Oherwydd nid ydynt yn gwybod i ble mae wedi mynd.
Mae gan bob un ysgol yr ymwelais â hi ddull gwahanol a ffordd wahanol o ymdrin â hyn ac o gynorthwyo eu dysgwyr gyda phroblemau iechyd meddwl. Ceir rhai enghreifftiau gwych o arferion gorau—rwy'n meddwl am un ysgol benodol yng Nghasnewydd yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru. Mae rhai yn ymdrin ag ef yn fewnol, ac mae rhai hefyd yn dod â sefydliadau fel Mind i mewn i'r ysgolion.
Ond yn anffodus, ceir rhai ysgolion lle nad ydynt yn darparu’r cymorth sydd ei angen ar ein dysgwyr, a lle na cheir fawr o strategaeth os o gwbl. Ac fel y gwyddoch, Ddirprwy Weinidog, mae ymyrraeth gynnar yn allweddol. Nid oes gan ysgolion arian yn eu cyllidebau i fynd i’r afael ag iechyd meddwl yn iawn. Rydym yn gweld dwy ran o dair o blant 7 i 11 oed yn poeni am eu hiechyd meddwl a’u lles—63.2 y cant. Ac er ein bod yn poeni’n bennaf am ein plant oedran uwchradd, mae’n amlwg fod angen strategaeth ar gyfer plant oed cynradd hefyd.
Mae’r loteri cod post hwn o ofal a chymorth i bobl ifanc yn ein hysgolion sy’n ymdrin â phroblemau iechyd meddwl yn enghraifft o esgeuluso dyletswydd gan Lywodraeth Cymru. Mae angen unioni hyn cyn i'r broblem waethygu y tu hwnt i bob rheolaeth. Mae angen strategaeth genedlaethol mewn ysgolion ar gyfer hyn, a’r arian, yn bwysicaf oll, i gyd-fynd â hynny. Mae’n wych gweld cynllun '111 pwyso 2' y GIG, a fydd, gobeithio, yn mynd rywfaint o’r ffordd i helpu hynny, a byddai’n ddefnyddiol cael dadansoddiad o bwy sy’n defnyddio hwnnw wrth inni symud ymlaen. Fodd bynnag, fel y dywedodd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, nid yw hynny'n ddigon i ymdopi â’r argyfwng sydd gennym ar ein dwylo ac sy’n gwaethygu’n barhaus.
Fel y gwelsom yn y Rhyl heddiw ddiwethaf, oherwydd prinder arian yng nghyllideb yr ysgol, mae’r ffaith nad oes digon o adnoddau i ddarparu’r iechyd a’r cymorth i ddisgyblion wedi golygu bod yr ysgol wedi gorfod gwneud rhywbeth gwahanol drwy dorri oriau ysgol, sy'n amlwg yn bell o fod yn ddelfrydol. Mae’n hanfodol fod rhwydweithiau cymorth a chefnogaeth ar gael i bawb o bob oed ledled Cymru sydd eu hangen. Mae angen newid meddylfryd a blaenoriaethau ar ddatblygu strategaethau iechyd meddwl yn y gweithle, yn ein hysgolion, mewn cyfleusterau addysgol eraill. Ar hyn o bryd, nid yw iechyd meddwl yn cael parch cydradd â materion iechyd corfforol.
Mae angen mwy o addysg ac ymwybyddiaeth o beth yw’r materion sy’n aml yn arwain at bobl yn ei chael hi'n anodd, a rhoi strategaeth gyfeirio hawdd ar waith a hyfforddiant i bobl mewn sefydliadau ac ysgolion iddynt allu ymdrin â’r hyn y maent yn ei wynebu. A chredaf y bydd Deddf iechyd meddwl i Gymru yn mynd rywfaint o’r ffordd tuag at fynd i’r afael â hyn. Gyda niferoedd pryderus o uchel yn ymgyflwyno, fel y nodwyd eisoes ac yn ein cynnig, mae'n hanfodol ein bod yn cael uned anhwylderau bwyta benodedig ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru. Hoffwn weld hefyd fod gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn cael eu cadw ar wahân i wasanaethau oedolion yn yr uned honno, am resymau amlwg.
Rydym wedi cyrraedd pwynt lle dylai hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl fod yn gwbl safonol bellach i fusnesau, sefydliadau, ysgolion a cholegau ac yn rhan sylfaenol o hyfforddiant athrawon. Dylem hefyd fod yn edrych ar god absenoldeb iechyd meddwl, fel yr amlinellodd fy arweinydd, Andrew R.T. Davies, yr wythnos diwethaf, fel bod canllawiau priodol ar waith i gefnogi ein hysgolion ac fel y gellir cefnogi dysgwyr yn hytrach na’u cosbi.
Fel rhywun a ddioddefodd enedigaeth drawmatig ac na chafodd unrhyw gefnogaeth o gwbl, rwy'n falch iawn o weld, ac yn llwyr gefnogi, gwelliant Plaid Cymru heddiw ar ofal amenedigol. Mae angen inni wneud popeth a allwn yn hynny o beth. Mae angen mwy o hyfforddiant ar weithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymdrin â phobl ar ôl geni, gan fod ganddynt fynediad uniongyrchol at rieni ar yr adeg dyngedfennol honno, ac wrth gwrs, at y plant. Mae angen i’r cymorth fod yno, gan estyn allan at rieni sydd ei angen.
Mae arnaf ofn nad yw’r hyn a welsom hyd yma gan Lywodraeth Cymru ar iechyd meddwl yn cael fawr o effaith. Effaith ganlyniadol uniongyrchol hyn mewn addysg wrth gwrs yw absenoldeb, ac mae’r broblem yn gwaethygu. Ac wrth gwrs, rydym yn gweld mân broblemau iechyd meddwl yn troi’n rhai difrifol iawn oherwydd y diffyg cymorth pan fydd ei angen arnynt gyntaf.
Mae'r amser ar gyfer siarad bellach ar ben. Mae'n bryd gweithredu. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heddiw. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i’r Ceidwadwyr ac i James Evans am gyflwyno'r cynnig hwn. Ac a gaf fi hefyd ddiolch i Blaid Cymru am eu gwelliannau? Roeddwn yn arbennig o awyddus i drafod gwelliant 3, y tynnodd Mabon sylw ato hefyd, sef yr angen i flaenoriaethu iechyd meddwl amenedigol yn y strategaeth iechyd meddwl newydd. Mae’n amlwg fod gennym broblemau sylweddol mewn perthynas ag iechyd meddwl amenedigol. Rwy'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd, a Jenny Rathbone yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar fydwreigiaeth. Cawsom gyfarfod ar y cyd yn ddiweddar, i edrych ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf, ac ymunodd ymarferwyr ac academyddion â ni i edrych ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf hynny a pha mor bwysig ydynt. Fe wyddom fod y cyfnod cychwynnol hwn yn adeg o gyfle, a hefyd yn adeg pan fydd plentyn yn hynod o agored i niwed.
Mae problemau iechyd meddwl ymysg mamau yn gyffredin a gallant fod yn hynod o niweidiol, nid yn unig i famau ond i’r teulu ehangach. Ond mae iechyd meddwl y fam yn fater iechyd meddwl babanod hefyd. Mae iechyd emosiynol babanod yn dechrau cyn iddynt gael eu geni, yn enwedig yn ail a thrydydd tymor y beichiogrwydd. Mae cefnogi iechyd meddwl menywod beichiog yn helpu i osod y sylfaen ar gyfer datblygiad cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol hirdymor babi. Mae'r berthynas yn mynd y ddwy ffordd, ac mae'n hunanatgyfnerthol. Clywsom yn y grŵp trawsbleidiol am ddeugyfeirioldeb iechyd meddwl, rhwng y babi a’r fam. Gall perthnasoedd ymatebol, cyson, sensitif roi’r dechrau gorau posibl, gyda manteision sy’n parhau gydol oes, fel y nododd Mabon hefyd. Dyna pam fod y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf mor allweddol.
Peidied neb â chamgymryd; mae buddsoddi mewn iechyd meddwl amenedigol yn ymwneud ag achub bywydau hefyd. Dywedodd adroddiad y Gynghrair Iechyd Meddwl Mamau yn 2022 fod marwolaethau ymysg mamau oherwydd problemau iechyd meddwl ar gynnydd ledled y DU, a bellach, hunanladdiad, yn dorcalonnus—mae hyn yn frawychus, a gofynnais i fy ymchwilwyr wirio hyn ddwywaith—yw prif achos marwolaeth yn y flwyddyn ar ôl rhoi genedigaeth. Fe wyddom hefyd fod anghydraddoldebau sylweddol yn y risgiau y mae menywod yn eu hwynebu gyda'u hiechyd meddwl, gyda mamau ifanc mewn perygl arbennig o salwch meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth, ac mae iselder ôl-enedigol hyd at ddwywaith yn fwy cyffredin ymhlith mamau yn eu harddegau o gymharu â mamau dros 20 oed. Os ystyriwn y dreth ariannol yn unig, mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn amcangyfrif bod pob achos o iselder amenedigol yn costio £74,000 i gymdeithas. Ond y tu ôl i'r swm syfrdanol hwn o arian, mae straeon dirifedi o boen a dioddefaint.
I gloi, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’w gadw’n flaenoriaeth mewn unrhyw gynllun iechyd meddwl yn y dyfodol, ond mae'n rhaid inni wneud mwy ar iechyd amenedigol ac iechyd meddwl babanod hefyd. Os na wnawn ni ddarparu cymorth i famau yn ystod y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf hynny, gan gynnwys cyn rhoi genedigaeth, mae angen inni sicrhau bod gennym gymorth cynnar ar ôl beichiogrwydd. Gall yr effeithiau barhau drwy gydol bywyd plentyn, gan ansefydlogi teuluoedd a rhoi pwysau ar ein hymatebion gofal iechyd. Felly, os caf ofyn i'r Gweinidog amlinellu efallai pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod materion iechyd meddwl babanod a mamau yn cael sylw, a'n bod yn canolbwyntio ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf hynny. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Yn dilyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, pan godais gwestiwn ddoe ddiwethaf ar fy mhryderon ynghylch gallu fy etholwyr i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, hoffwn ddechrau gyda thri pheth cadarnhaol. Rwy'n croesawu sefydlu gwasanaeth 24 awr saith diwrnod yr wythnos '111 pwyso 2' GIG Cymru; y cynllun £84.5 miliwn i greu uned iechyd meddwl newydd ar gyfer cleifion mewnol yn Ysbyty Glan Clwyd; a gwaith anhygoel a wneir gan elusennau ledled Cymru ar iechyd meddwl. Mae gwasanaeth atgyfeirio at gwnsela cyfrinachol 24 awr Share the Load Sefydliad DPJ, sy’n gweithredu’n arbennig ar gyfer y rheini sy’n gweithio ym myd amaeth, wedi cefnogi dros 500 o ffermwyr ledled Cymru hyd yn hyn, ac mae taer angen y cymorth hwn. Mae—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
A ydych chi hefyd yn cydnabod y gwaith y mae’r Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol a Farming Community Network yn ei wneud yn y maes hwn? Oherwydd mae mwy o elusennau iechyd meddwl na Sefydliad DPJ yn unig ledled Cymru.
Ydw, yn sicr, ac mae'n rhaid inni gael y cymorth hwnnw. Mae angen canmol pob unigolyn sy’n helpu ein ffermwyr a’u teuluoedd, drwy adegau eithaf anodd yn ddiweddar. Diolch, James.
Mae dros 600 o wirfoddolwyr gan y Samariaid ledled Cymru, yn ymateb i alwadau am gymorth bob dydd o’r wythnos dros y ffôn, e-bost, negeseuon testun ac wyneb yn wyneb mewn canghennau a digwyddiadau ledled y wlad. Yn Aberconwy, mae gennym Conwy Mind, elusen a chanddi dros 35 mlynedd o brofiad o gefnogi gwell iechyd meddwl a lles ar draws sir Conwy. Mae ganddynt raglenni anhygoel: Mums Matter, grŵp naw wythnos cyfeillgar a hamddenol ar gyfer mamau newydd sy'n ei chael hi'n anodd ac sydd angen cefnogaeth; Byw Bywyd yn Llawn, cwrs saith wythnos rhad ac am ddim sy'n ceisio eich helpu i ddeall eich teimladau'n well, adeiladu gwytnwch a datblygu strategaethau ymdopi i'ch cefnogi gyda straen o ddydd i ddydd; a Monitro Gweithredol ar gyfer pobl ifanc. Rwy’n siŵr y gallai pob Aelod yn y Siambr hon restru enghreifftiau o gymorth iechyd meddwl ardderchog a ddarperir gan elusennau yn eu hardaloedd nhw hefyd.
Gofynnaf i chi ystyried hyn: dychmygwch gymaint yn waeth y gallai pethau fod yng Nghymru pe na bai gennym waith anhygoel y trydydd sector. Ar ran fy etholwyr, hoffwn ddiolch i’r holl elusennau sy’n darparu gofal. Ond buaswn yn falch o gael sicrwydd heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau cymorth cadarn iddynt a chydweithredu effeithlon rhwng y sector meddygol a’r trydydd sector. Yn rhy aml, mae’r elusennau hyn yn gweithio’n galed iawn gyda fawr iawn o arian a fawr iawn o gymorth gan Lywodraeth Cymru. Dyna’r adborth a gaf. Gyda disgwyl y bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau, gallai fod argyfwng difrifol yn y wlad hon. Oni ddylem rymuso ein trigolion i ddeall a brwydro yn erbyn afiechyd meddwl ar ei gamau cynnar? Pan fyddaf yn gweld teuluoedd yn ymgyflwyno yn fy swyddfa, mae'n dorcalonnus gweld plant yn poeni am bethau nad oeddwn hyd yn oed yn gwybod amdanynt yn eu hoedran nhw ond sydd mor gyffredin nawr.
Mae nifer y plant sy'n aros mwy na phedair wythnos am apwyntiad cyntaf gyda gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ar gynnydd. Cododd rhestrau aros gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed 14 y cant ym mis Gorffennaf 2023. Yng ngogledd Cymru, mae 33 y cant o lwybrau cleifion yn y gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a’r glasoed yn aros dros bedair wythnos am apwyntiad cyntaf. Ond mae gennyf bobl sy’n aros dros 12 mis hefyd, Ddirprwy Weinidog. Pan allant gael lle, mae trigolion ag anhwylderau bwyta yn cael eu hanfon o ogledd Cymru i Loegr am gymorth arbenigol. Ac mae hyn mor anodd iddynt a'u teuluoedd. Rydym yn gallu, ac mae'n rhaid inni wneud yn well. Ni allaf feddwl am unrhyw ffordd well i Senedd Cymru wella iechyd meddwl y genedl a sicrhau bod y strategaethau gorau posibl ar waith.
Rwy'n galw ac yn adleisio'r galwadau a wnaed heddiw am Ddeddf iechyd meddwl newydd i Gymru. Dylai gynnwys darpariaeth ar gyfer uned mamau a babanod yng ngogledd Cymru ar gyfer mamau â salwch meddwl ôl-enedigol difrifol. Rwy'n cymeradwyo pob aelod o dîm gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol bwrdd Betsi am gerdded 165 milltir er mwyn tynnu sylw at y pellter rhwng eu canolfan yn y gogledd a’r unig uned iechyd meddwl mamau a babanod arbenigol yn y wlad yn Abertawe. Nid yw eu hymdrechion a'u galwadau am gymorth yn y gogledd yn cael eu datrys gan uned a fydd yn agor y flwyddyn nesaf yn swydd Gaer. Dylai’r Senedd hon a’ch Llywodraeth Cymru anelu'n uwch. Mae’r trydydd sector yn darparu cymorth iechyd meddwl rhad ac am ddim i bob cwr ac etholaeth yn y wlad. Mae angen i chi wneud yr un peth. Ni allwn gael pobl â phroblemau iechyd meddwl yn gorfod teithio allan o Gymru nac yn aros misoedd am gymorth iechyd cyhoeddus. Diolch.
Diolch am gyflwyno’r ddadl hon, sy’n un ddiddorol iawn yn fy marn i. Mae'n ymddangos bod gan y Ceidwadwyr ychydig o obsesiwn â rhestrau aros gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Yn amlwg, mae angen gwasanaethau iechyd meddwl proffesiynol arnom pan fydd pethau’n mynd yn wirioneddol acíwt, ond yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen inni ymdrechu i helpu pobl ifanc i ymdopi â'u pryderon a’r trawma y mae cymaint o bobl ifanc yn tyfu i fyny yn dioddef ohono, heb gael y label o fod â salwch meddwl. Credaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Rydym am i'r ysgol fod yn hafan rhag gwrthdaro a allai fod yn digwydd gartref neu yn rhywle arall. Mae angen inni helpu pobl ifanc i wybod sut i gadw eu hunain yn ddiogel. Mae'r rhyngrwyd yn cynnig llawer o fewnwelediad cyffrous i'r byd y tu hwnt i'n cymunedau, ond mae hefyd yn cynnwys llawer o beryglon, boed yn bornograffi, ymddygiadau gorfodaeth obsesiynol, neu fwlio. Mae angen inni helpu pobl ifanc i gadw eu hunain yn ddiogel ac i osgoi'r peryglon hyn, a gwybod pryd i ymwrthod, tynnu’n ôl, neu geisio cymorth.
Soniodd Laura Anne Jones am loteri cod post mewn ysgolion. Teimlaf ei bod yn hawdd dweud hynny, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn herio ysgolion nad ydynt yn darparu cymorth llesiant, lle mae gennym dystiolaeth eu bod yn methu yn eu dyletswyddau llesiant—felly, p'un a ydym yn herio’r pennaeth, yn herio drwy Estyn, drwy’r arweinwyr addysg mewn awdurdodau lleol, neu pan fetho popeth arall, gyda’r Gweinidog addysg neu’r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl. Yn bersonol, gallaf gofio un ysgol yn fy etholaeth nad aeth ati i ymdrin yn dda ag unigolyn ifanc ag anhwylder bwyta, ac fe gafodd y sefyllfa ei chymhlethu gan y cyfyngiadau symud, yn amlwg, a phe bai hi ond wedi dibynnu ar yr ysgol, ofnaf y gallai pethau fod wedi bod yn wael iawn. Ond roedd ganddi wasanaethau cwnsela da iawn, diolch byth, ac mae hi bellach yn dilyn gyrfa lwyddiannus yn y brifysgol.
Ond credaf fod gwir angen inni fod yn ymwybodol o rai o'r pethau a all fynd o chwith. Pan oeddwn yn Lerpwl y penwythnos hwn, cyfarfûm â gormod lawer o bobl a oedd wedi colli anwyliaid i hunanladdiad, yn sgil y cywilydd a’r anobaith a achoswyd gan eu caethiwed i gamblo. A bydd llawer ohonoch wedi ymweld â’r sesiwn galw heibio y prynhawn yma, yn yr ystafell fwyta i fyny’r grisiau, a’r gwaith rhagorol y mae YGAM ac elusennau gamblo eraill yn ei wneud i geisio helpu pobl ifanc i wrthsefyll y peryglon hyn, sydd mor hawdd syrthio i mewn iddynt, o ystyried bod cymaint o gemau plant yn eich annog i gamblo, gan fod yn rhaid ichi gyrraedd brig y goeden bob amser, a gallwch brynu talebau i wella eich tebygolrwydd o gyrraedd yno, ac o'r fan honno, mae'n arwain at bethau eraill. Fe wyddom fod gamblo'n achosi llawer iawn o niwed, ac felly rwy'n falch iawn o weld y gwaith y maent yn ei wneud mewn ysgolion, i geisio diogelu plant. Rwy’n cofio un cwpl yn Lerpwl yn dweud bod eu mab wedi lladd ei hun ar ôl i’w rieni anfon rhywfaint o arian ato, yn ôl pob tebyg am ei fod yn teimlo gormod o gywilydd i ddweud wrthynt mai’r rheswm pam ei fod wedi rhedeg allan o arian oedd am fod popeth a gyffyrddai'n mynd ar gamblo. A chlywais straeon eraill am bobl yn gwario eu holl fudd-daliadau'n syth ar ôl eu cael. Felly, mae llawer iawn o fywydau'n cael eu dinistrio gan gamblo, ac mae hynny'n rhywbeth y teimlaf y dylem wneud rhywbeth yn ei gylch, ar ddiwrnod arall.
Ond yn y cyfamser, hoffwn dynnu sylw at wasanaeth sy’n bodoli yng Nghaerdydd a’r Fro, sef y Coleg Adfer a Lles, sef yr unig Goleg Adfer yng Nghymru. Mae’r Coleg Adfer yn cynnig hunangymorth i unrhyw un sydd wedi cael profiad o heriau iechyd meddwl, a gallai hynny fod yn rhywun sy’n ceisio cefnogi rhywun gyda phroblem iechyd meddwl, neu gallai fod yn rhywun sy’n gwybod bod angen help arnynt. A chan ei fod yn bolisi drws agored, mae'n golygu nad ydych ar restr aros; rydych chi'n ffonio, ac yn darganfod pa gwrs sy'n mynd i'w helpu i ymdrin â'r broblem sydd ganddynt. Ac rwy’n ystyried hwnnw’n wasanaeth hynod o werthfawr, ac rwy'n gobeithio y gallwn weld y Coleg Adfer yn cael ei ymestyn i rannau eraill o Gymru.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon, a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw.
Mae gennyf dri phwynt yr hoffwn eu codi gyda'r Dirprwy Weinidog. Yn gyntaf oll, ar yr hyn y mae Jenny Rathbone eisoes wedi siarad amdano—a llawer o rai eraill, o ran hynny—a'r angen am fwy o gymorth fel nad oes rhaid i bobl ifanc ddibynnu ar ofal CAMHS, y mis diwethaf cynhyrchodd y Pwyllgor Addysg yn San Steffan adroddiad pwysig iawn, adroddiad diddorol iawn, ynghylch absenoldeb, a daeth i'r casgliad fod angen rhoi mesurau sylweddol ar waith yn Lloegr i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc, a bod angen deddfwriaeth newydd. Buaswn yn croesawu unrhyw sylwadau a allai fod gan swyddogion y Gweinidog ar yr adroddiad hwnnw, oherwydd yn sicr mae'n cyd-fynd â'r hyn y gwnaethom ni ei ddarganfod yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch absenoldeb—y cysylltiad ag iechyd meddwl gwael. Ac yn y bôn, yr hyn sydd ei angen yw gwell cymorth iechyd meddwl cyn y pwynt lle mae'n rhaid i bobl ifanc gael cymorth gan CAMHS, a gall cwnselwyr hyfforddedig sydd wedi cymhwyso'n llawn ei ddarparu mewn ysgolion. Nid yw'r ffaith na fyddai'n briodol cyfeirio pob person ifanc at therapydd hyfforddedig yn golygu na ddylai therapydd fod ar gael i bob plentyn ifanc yn yr ysgol. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn cael unrhyw adborth gan Lywodraeth Cymru ar yr adroddiad hwnnw, sydd, fel y dywedais, yn cyd-fynd yn agos â'r adroddiadau a gynhyrchodd y pwyllgor plant a phobl ifanc yn y Senedd.
Yn ail, buaswn yn croesawu sylwadau'r Dirprwy Weinidog ar yr angen i gyflwyno deddfwriaeth ar lefel y DU yn Araith y Brenin ym mis Tachwedd. Mae gwir angen diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983, a buaswn yn croesawu unrhyw sylwadau ynglŷn â hynny gan y Dirprwy Weinidog. Yn wir, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru, os nad oes Bil iechyd meddwl newydd ar y ffordd, buaswn yn croesawu gweithredu yma yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at glywed pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith os na chaiff y Ddeddf Iechyd Meddwl ei diwygio.
Y Dirprwy Weinidog nawr i gyfrannu—Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Darren Millar am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Ddoe oedd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, cyfle i bob un ohonom fyfyrio ar beth arall y gallwn ei wneud i wella iechyd meddwl a lles, er, fel y dywedais wrth James Evans o'r blaen, mae pob diwrnod yn ddiwrnod iechyd meddwl i mi. Daw hyn ar adeg briodol, gan ein bod ar hyn o bryd yn datblygu ein strategaethau olynol ar gyfer 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a 'Beth am siarad â fi 2', ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed. Rydym eisoes wedi gwneud gwaith helaeth i asesu effeithiau'r strategaethau hyn, ac wedi gweithio gyda rhanddeiliaid, partneriaid a phobl sydd â phrofiad bywyd yn ystod y cyfnod cyn ymgynghori i wrando ar safbwyntiau ac i'n helpu i lunio'r strategaethau newydd. Rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi'r rhain ar gyfer ymgynghori cyn diwedd y flwyddyn, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith hyd yma.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r Aelodau am groesawu sefydlu '111 pwyso 2'. Mae'r gwasanaeth bellach ar gael ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, yn darparu cymorth iechyd meddwl brys i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae hwn yn drawsnewidiad sylweddol i wasanaethau i wella cymorth iechyd meddwl. Mae dros 30,000 o bobl wedi defnyddio'r gwasanaeth, ac mae 97 y cant o'r galwyr yn dweud bod lefel is o ofid yn dilyn yr alwad.
Hoffwn droi nawr i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau yn y cynnig gwreiddiol. Yn gyntaf, mewn perthynas â hunanladdiad a hunan-niwed, a gaf fi fod yn glir nad oes unrhyw beth yn bwysicach i mi nag atal pobl rhag marw drwy hunanladdiad? Pan fyddwn yn siarad am gyfraddau hunanladdiad, rwy'n ymwybodol iawn fod pob marwolaeth drwy hunanladdiad yn drasiedi aruthrol sy'n dinistrio teuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan. Nawr, er bod y data diweddaraf yn dangos cynnydd bach ers 2020-21, bydd ôl-groniadau yn nifer y cwestau'n effeithio ar hyn, yn enwedig yn ystod cyfnod y pandemig. Ac oherwydd bod y niferoedd dan sylw'n fach, diolch byth, mae'n golygu bod y ffigurau'n dueddol o amrywio o un flwyddyn i'r llall, ond y duedd gyffredinol yw bod y gyfradd yn gyson i raddau helaeth.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch am dderbyn ymyriad. Ar y pwynt ynghylch y blynyddoedd y sonioch chi amdanynt yno, yn anffodus iawn, yn fy nheulu i, fe wnaethom golli rhiant i un o fy rhieni i hunanladdiad yn ystod y pandemig COVID, a gadawodd lawer ohonom yn meddwl tybed pam ar y pwynt hwnnw. Felly, gyda'r enghraifft honno, gyda phandemig COVID yn benodol, a yw'r Llywodraeth eto wedi ystyried yn briodol effaith y pandemig, a'r mesurau a roddwyd ar waith yn y pandemig, ar iechyd meddwl ein dinasyddion, ac a allai rhai o'r pethau a welwn nawr fod wedi eu gwaethygu oherwydd y camau gweithredu yn ystod y pandemig. Tybed pa wersi y credwch y gallem fod wedi'u dysgu o ganlyniad i'n hymateb i'r pandemig, yn enwedig ar iechyd meddwl y dinasyddion a gynrychiolwn.
Wel, diolch am hynny, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed eich bod wedi colli aelod o'ch teulu i hunanladdiad. Rwy'n credu bod angen inni fod yn ofalus iawn wrth nodi rhesymau dros hunanladdiad, oherwydd mae hunanladdiad yn beth cymhleth iawn, ac anaml iawn y ceir un rheswm penodol pam y bydd rhywun yn cyflawni hunanladdiad. Un o'r pwyntiau roeddwn am eu gwneud heddiw yw bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i siarad am hunanladdiad mewn ffordd briodol a chyfrifol, ac roeddwn eisiau atgoffa'r Aelodau o'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Samariaid Cymru ar gyfer Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, sy'n gofyn i bob un ohonom fel Aelodau fod yn ofalus iawn ynglŷn â'r modd y siaradwn am hunanladdiad. Mae'r materion sy'n ymwneud â'r pandemig yn gymhleth a byddant yn cael sylw gan yr ymchwiliad cyhoeddus, ac yn sicr ni allaf wneud cyfiawnder â nhw yn y ddadl hon.
Rydym ni yng Nghymru wedi datblygu gwyliadwriaeth hunanladdiad amser real, a gallaf sicrhau'r Aelodau fod marwolaethau drwy hunanladdiad yn cael eu monitro'n fisol, sy'n llywio ein dull ataliol, ond sydd hefyd yn hwyluso ymateb cyflym os oes angen. Y llynedd, cynullais ein grŵp atal hunanladdiad a hunan-niwed trawslywodraethol, sy'n cefnogi datblygiad y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed newydd. Ein nod yw darparu cymorth yn gynt i atal sefyllfa rhag gwaethygu, ond nid wyf mewn unrhyw ffordd yn hunanfodlon ynghylch hunanladdiad a hunan-niwed. Dyna pam ein bod yn datblygu'r strategaethau newydd.
Ar amseroedd aros plant, mae'r ffigurau perfformiad diweddaraf ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol ar gyfer mis Mehefin yn dangos bod 69.9 y cant o'r asesiadau iechyd meddwl wedi'u cyflawni o fewn 28 diwrnod i atgyfeirio ar gyfer pobl o dan 18 oed. Dyna gynnydd o 12.4 pwynt canran o'i gymharu â'r mis blaenorol, a chynnydd o 19.6 pwynt canran o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Ar CAMHS arbenigol, ar ddiwedd mis Awst, mae 74.5 y cant o blant a phobl ifanc ar lwybrau cleifion ar y rhestr aros bresennol yn aros llai na 28 diwrnod o gael eu hatgyfeirio. Roedd nifer y plant a phobl ifanc a oedd yn aros am apwyntiad cyntaf sCAMHS ddiwedd mis Awst yn is nag unrhyw fis ers dechrau cadw cofnodion ym mis Awst 2019, a Janet, nid wyf yn credu y gallai fod gennych unrhyw blant sy'n aros blwyddyn, ac os oes, ysgrifennwch ataf ac fe af ar drywydd hynny.
Felly, rydym wedi gweld gwelliannau, ond rwy'n deall yr angen i sicrhau bod byrddau iechyd yn cyrraedd y targedau ar sail gynaliadwy. Maent oll wedi datblygu llwybrau sy'n cynnwys mynd i'r afael ag amseroedd aros a gwella perfformiad, ac mae'r rhain yn cael eu monitro'n drylwyr bob mis gan weithrediaeth y GIG. Rwy'n cytuno'n llwyr y dylid rhoi'r un flaenoriaeth i drin iechyd meddwl ag i drin iechyd corfforol. Rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn iechyd meddwl yng Nghymru. Mae gennym strategaeth gyhoeddedig sy'n nodi ein hymagwedd at welliannau, ac mae fy swydd fy hun fel Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn dangos yn glir pa mor bwysig yw'r maes hwn i ni.
Ar gyllid fel rhan o'n hymrwymiad rhaglen lywodraethu i flaenoriaethu buddsoddiad mewn iechyd meddwl, rydym wedi buddsoddi adnoddau ychwanegol o £50 miliwn y llynedd gan godi i £75 miliwn yn ychwanegol eleni, a hynny ar ben y gyllideb sydd wedi'i chlustnodi ar gyfer iechyd meddwl i fyrddau iechyd lleol, sy'n £774 miliwn.
Mae'r cynnig yn galw arnom i gyflwyno Deddf iechyd meddwl newydd i Gymru. Fel y dywedais wrth y Siambr eisoes , roeddem am gymryd rhan yn newidiadau Llywodraeth y DU i'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae hyn yn bwysig oherwydd, ochr yn ochr â newidiadau i swyddogaethau iechyd meddwl datganoledig, mae'r Bil drafft a gyhoeddwyd yn cynnwys newid i feysydd a gadwyd yn ôl, fel y rhai sy'n ymwneud â chyfiawnder troseddol. Ac yn anffodus, Ken Skates, nid ydym bellach yn disgwyl i'r ddeddfwriaeth honno fynd yn ei blaen, felly rydym wedi dechrau gweithio gyda'n partneriaid i nodi ffyrdd amgen o ddatblygu argymhellion o adolygiad Wessely.
Os caf droi nawr at anhwylderau bwyta, ar hyn o bryd mae dros 90 y cant o bobl sydd angen triniaeth yn cael eu gweld yng Nghymru, a lle bynnag y bo'n bosibl, yn eu cymunedau eu hunain. I'r nifer fach o bobl sydd angen gofal mwy arbenigol, rydym wedi sefydlu trefniadau gyda darparwyr gofal iechyd yn Lloegr. Rwyf wedi comisiynu Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i adolygu'r ddarpariaeth anhwylderau bwyta yng Nghymru ac i archwilio opsiynau ar gyfer uned arbenigol yma. Fodd bynnag, rydym hefyd yn datblygu ateb dros dro, ac rwy'n disgwyl y bydd gwelyau anhwylderau bwyta i oedolion ar gael yng Nghymru yn fuan.
Gan droi nawr at welliannau Plaid Cymru, rwy'n gofyn i chi eu gwrthod. Yn gyntaf, ar addysg, er bod addysg a dealltwriaeth wedi bod yn ddiffygiol yn y gorffennol, mae'r Llywodraeth wedi rhoi camau parhaus ar waith ar hyn dros gyfnod estynedig. Mae hyn yn cynnwys ein dull ysgol gyfan, sy'n ceisio gwreiddio lles emosiynol a meddyliol da yn ysgolion Cymru drwyddi draw; ein cwricwlwm newydd, sy'n rhoi lle canolog i iechyd a lles; a'n cefnogaeth barhaus i'r ymgyrch Amser i Newid—yr ymgyrch genedlaethol i roi diwedd ar y stigma a brofir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl. A Laura, rwy'n synnu eich clywed mor hallt eich beirniadaeth o'n dull ysgol gyfan, a chithau, fel aelod o'r pwyllgor, yn ymwybodol ein bod yn gwario ymhell dros £12 miliwn y flwyddyn—mae gan bob person ifanc o 6 oed i fyny hawl i gwnsela mewn ysgolion yng Nghymru, yn wahanol i Loegr; rydym wedi cyflwyno timau mewngymorth y gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed i bob ysgol yng Nghymru. Felly, rwy'n cwestiynu trylwyredd eich ymchwil ar hyn. Rwy'n derbyn yn llwyr fod yn rhaid inni ddarparu mwy o gysondeb, ac mae hynny'n rhywbeth rwyf fi a'r Gweinidog yn gweithio arno.
I gloi, rwy'n cytuno'n llwyr ynghylch pwysigrwydd iechyd meddwl amenedigol, a Jane, rydych chi'n ymwybodol o fy angerdd dros iechyd meddwl babanod, a bydd y ddau beth yn flaenoriaeth yn ein strategaeth newydd. Fodd bynnag, mae'r ymagwedd anhyblyg tuag at staffio a gefnogir gan welliant Plaid Cymru yn cyfyngu ar allu byrddau iechyd i wneud y defnydd gorau o'u hadnoddau, a gall fod yn wrthgynhyrchiol, a dyna pam ein bod yn ei wrthwynebu heddiw.
Felly, mae iechyd meddwl yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Edrychaf ymlaen at ymgynghori ar ein strategaethau newydd yn ddiweddarach eleni, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn y Siambr yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw. Diolch.
Galwaf ar Sam Kurtz nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Ac yn gyntaf, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniad heddiw. Yn wir, dyma un o'r rhesymau pam yr euthum i fyd gwleidyddiaeth—i allu trafod mater difrifol fel hwn yn yr hyn y buaswn yn ei galw'n ffordd aeddfed a threfnus, a chan barchu difrifoldeb yr hyn a drafodwn.
Wrth agor ei ddadl y prynhawn yma, soniodd James Evans mai ddoe oedd Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd—a bod pob dydd, mewn gwirionedd, yn ddiwrnod iechyd meddwl y byd, oherwydd mae'n effeithio arnom i gyd, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, fel y dywedodd James. Bydd chwarter ohonom yn cael problem iechyd meddwl, ac mae angen inni sicrhau bod cymorth yno i'r rhai sydd ei angen pan fydd ei angen arnynt. Dylid rhoi'r un statws cyfartal i iechyd meddwl ag i iechyd corfforol—ac mae hynny'n rhywbeth sy'n atseinio go iawn o ran y stigma sy'n dal i fod yn gysylltiedig ag iechyd meddwl ar hyn o bryd, yn anffodus. Felly, nododd James ystadegyn, nad yw dwy ran o dair yn cael yr help sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt. Mae hynny'n dweud llawer ynglŷn â difrifoldeb hyn. A siaradodd Peter Fox yn ei gyfraniad am ba mor bell y daethom ar y daith o ran trafod iechyd meddwl a chwalu'r stigma, ond yn wir, pa mor bell y mae'n rhaid inni fynd o hyd i allu cefnogi'r rhai sydd angen cymorth pan fydd ei angen arnynt.
Cafwyd llongyfarchiadau unfryd a chroeso cynnes i gynllun '111 pwyso 2'; Rwy'n credu bod hwnnw wedi bod yn llwyddiant mawr. Roedd un Aelod yn gofyn am y data sy'n ymwneud â'r gwasanaeth hwnnw, a gallaf weld y Dirprwy Weinidog yn nodio. Rwy'n credu y byddai'r data ynghylch gwasanaeth '111 pwyso 2' a phwy sy'n ei ddefnyddio ar ba adegau o'r dydd ac ati yn helpu i baentio darlun o iechyd meddwl Cymru ar hyn o bryd.
Soniodd Mabon ap Gwynfor am system gyfannol ac ataliol o wasanaethau yn ymwneud ag iechyd meddwl, gan ganolbwyntio'n benodol ar iechyd meddwl amenedigol fel blaenoriaeth. Rwy'n falch o ddweud y byddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru y prynhawn yma. Rwy'n meddwl ei bod hi'n hollol hanfodol fod rhieni newydd—. Yn yr eiliad honno o lawenydd llwyr a all ddod gyda genedigaeth plentyn, mae yna bob amser berygl o gysgod, cwmwl sy'n eu dilyn ar ôl y fath hapusrwydd a llawenydd. Ac rwy'n credu bod angen inni sicrhau bod y gwasanaeth ar gael i famau a thadau newydd bryd hynny, a bod y sgiliau yno yn y gweithlu i wneud yn siŵr fod hynny'n digwydd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n ddiddorol fod Mabon wedi gwneud y pwynt hefyd ynglŷn â dosbarthiad gwariant ar iechyd meddwl a gwariant ar iechyd corfforol. Rwy'n credu mai'r rheswm pam na fyddwn yn cefnogi'r gwelliant Llafur heddiw yw oherwydd ein bod yn credu bod y dosbarthiad yn annheg o ran y modd y caiff y gwariant hwnnw ei ddyrannu. Ac fel y dywedodd Mabon, rydym am weld plant hapusach ac iach, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf y gallwn i gyd gytuno yn ei gylch yma.
Gan ddychwelyd at gyfraniad Peter Fox, rhoddodd sylw i amaethyddiaeth, rhywbeth sy'n hynod o agos ataf fi yn fy mhortffolio ac yn fy mywyd personol. Soniodd Janet a James am Sefydliad DPJ, Farming Community Network, y Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol, a hoffwn ychwanegu Tir Dewi hefyd—pedair elusen sy'n gwneud gwaith aruthrol yng nghefn gwlad Cymru yn rhoi cefnogaeth, yn ddwyieithog, i ffermwyr sydd, fel y dywedodd Peter, mewn amgylchiadau ynysig, yn gweithio gyda pheiriannau trwm, peryglus, lle weithiau, yn anffodus, mae pethau yn eu dwylo a all ymddangos yn fwy hygyrch iddynt, a gwneud iddynt benderfynu dod â'u bywydau i ben. A diolch i waith yr elusennau hynny am yr hyn a wnânt drwy ddarparu'r gefnogaeth honno.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus iawn i ildio.
Gan gyfeirio at elusennau, wrth siarad â mi yn y Sioe Frenhinol a'u digwyddiad yn y Senedd ddoe ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, dywedodd Adferiad, yr elusen iechyd meddwl dan arweiniad aelodau, wrthyf—ac rwy'n dyfynnu, oherwydd rwyf am fod yn gywir—fod angen inni symud i ffwrdd o weithredu gan yr heddlu i'r model gweithredu Right Care Right Person a ddatblygwyd gan Heddlu Humberside, sy'n newid y ffordd y mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i alwadau'n ymwneud â phryderon am iechyd meddwl. Fodd bynnag, er eu bod yn gweithio gyda chyrff trydydd sector a statudol a bod hyn yn cael ei weithredu ledled Lloegr, roeddent yn dweud nad yw ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd, ond maent yn siarad â Llywodraeth Cymru yn ei gylch. A wnewch chi ymuno â mi i annog Llywodraeth Cymru i ymateb yn gadarnhaol i'r cais i Gymru gyflwyno'r model hwnnw?
Yn sicr, ac rwy'n hapus iawn i gefnogi unrhyw elusen sy'n gweithio yn y sector hwn ac sy'n darparu gwasanaethau hanfodol tuag at hynny. Rwy'n credu ei fod yn cyffwrdd â'r hyn a ddywedodd Laura Anne Jones yn ei chyfraniad hi am argaeledd arferion gorau; os oes arferion gorau mewn unrhyw gornel o Gymru, neu unrhyw gornel o'r Deyrnas Unedig, dylem fod yn agored i dderbyn yr arferion gorau hynny i sicrhau y gellir eu cyflwyno'n gyffredinol ledled Cymru, fel nad oes gennym loteri cod post yn y ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i Joyce Watson hefyd am ei gwaith ar gam-drin domestig a bod yn eiriolwr dros y rhai sydd wedi dioddef cam-drin domestig. A'r ystadegyn llwm fod un o bob pum plentyn yn dyst i gam-drin domestig—mae hynny'n erchyll. Mae hynny'n dangos bod gennym ni, fel cymdeithas, fwy i'w wneud yn cefnogi'r craidd teuluol, yn cefnogi ein gilydd ac yn bod yn esiampl ar gyfer bod yn bobl well, ac mae hynny'n dechrau yn y Siambr a gobeithio y gallwn hyrwyddo hynny ar draws ein cymunedau. A phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd, a'r astudiaeth yn 2016 y soniodd Joyce amdani ar y cysylltiad rhwng salwch ehangach wrth i chi fynd yn hŷn a thrawma y mae plentyn yn ei ddioddef. Rwy'n credu bod hynny'n berthnasol. Os gallwn leihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod neu hyd yn oed gael gwared arnynt yn gyfan gwbl, mae hynny'n arwain at boblogaeth iachach a hapusach yma yng Nghymru. Ac yn amlwg, y prosiect Hwb Bro Myrddin a grybwyllodd Joyce, sydd yn fy etholaeth innau hefyd, sef hyb iechyd meddwl 24 awr y dydd i bobl ifanc—darpariaeth wych sy'n cael ei defnyddio a'i gweithredu'n dda, diolch i'r rhai a'i lansiodd ac sy'n ei rhedeg.
Jane Dodds, yn eich cyfraniad chi, roeddech yn canolbwyntio ar iechyd meddwl amenedigol a'ch gwaith fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gyfer plant a theuluoedd, ac ar gysylltu â Jenny Rathbone fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar nyrsio a bydwreigiaeth. Y mil o ddyddiau cyntaf. Nawr, mae hynny'n rhywbeth nad wyf wedi'i glywed o'r blaen, mae hynny'n rhywbeth y mae angen imi dreulio amser yn ei ddysgu. Nid wyf yn rhiant fy hun, ond y mil o ddyddiau cyntaf a'r berthynas ddwy ffordd rhwng rhiant a phlentyn a sut y gallant fwydo oddi ar egni ei gilydd, fel petai, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn ac yn dangos yr angen am gysylltiadau teuluol cryf ac mae'r craidd y mae'n ei ddarparu i'r plentyn yn hynod o bwysig. A chost iselder ôl-enedigol, £74,000, cost gymdeithasol—mae'n erchyll ein bod yn gallu rhoi cost ar fater iechyd meddwl, ond mae'n dangos realiti llwm y peth.
Unwaith eto, dathlodd Janet Finch-Saunders, waith '111 pwyso 2' a thynnodd sylw at yr elusennau ledled Cymru ac yn ei rhan hi o'r byd gan dalu teyrnged arbennig i rôl y trydydd sector, ac rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig. Roedd un o'r trafodaethau o'r ochr hon i'r Siambr y prynhawn yma yn nodi'r loteri cod post, y mynediad, y pellter at wasanaethau a thriniaeth, ac rwy'n credu bod Janet wedi cyffwrdd â hynny'n huawdl ac os oes angen triniaeth ar rywun, mae angen eu teulu o'u cwmpas, eu rhwydwaith cymorth, eu rhwyd ddiogelwch. Os yw'r gwasanaeth hwnnw'n rhy bell i ffwrdd ac os na allant ddibynnu ar y teulu neu grwpiau ffrindiau i roi cymorth iddynt, mae hynny'n aml yn gwaethygu rhai o'r problemau sy'n dod gyda darpariaeth iechyd meddwl.
Rwy'n credu bod pwynt Jenny Rathbone ynglŷn â CAMHS a rhestrau aros ac ymyriadau cynnar yn un diddorol iawn. Nid ydym am ddibynnu'n unig ar fod CAMHS yno fel man galw cyntaf, ond mae angen inni ddeall hefyd y gellir ymdrin â rhai pethau trwy ymyrraeth gynnar, ond mae'n dal i fod angen gwasanaeth CAMHS ar gyfer y rhai sydd ei angen arnynt ac sydd ag anghenion penodol. Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen ymyrraeth gynnar arnom, ond nid yw hynny'n golygu nad oes angen CAMHS arnom hefyd, ac rwy'n credu y byddai Jenny yn cytuno â hynny.
Os caf godi'r pwynt unwaith eto, yn bendant, ynghylch y rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol a'r mynediad sydd gan blant atynt. YGAM heddiw—cefais drafodaeth ddiddorol iawn gyda nhw wrth iddynt gynnal eu sesiwn galw heibio. Rwy'n credu ei bod yn berthnasol iawn ein bod yn edrych ar yr hyn y gall plant ei gyrchu ar-lein, yn enwedig mewn perthynas â gamblo, boed hynny'n dechrau ar lan y môr yn y peiriannau slot bach 2g y tro—y modd y gall hynny ddechrau perthynas â gamblo yn y dyfodol.
Unwaith eto, wrth gloi'r ddadl, soniodd Ken Skates, fel y soniodd Jenny Rathbone, am gymorth i bobl ifanc nad ydynt angen mynediad at CAMHS a pha ddeddfwriaeth y gall Llywodraeth Cymru fynd ar ei thrywydd mewn perthynas â Deddf iechyd meddwl yma yng Nghymru.
I gloi, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod y Dirprwy Weinidog o ddifrif ynglŷn ag iechyd meddwl ac wedi ymrwymo i wella iechyd meddwl yma yng Nghymru. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynglŷn â'i hymrwymiad i hynny. Rwy'n credu bod y ddadl hon yn dangos ein bod ni ar bob ochr i'r Siambr yn sefyll ochr yn ochr â chi i sicrhau bod hyn cystal ag y gall fod, mor gryf ag y gall fod i'r genhedlaeth hon ac i genedlaethau'r dyfodol. Dyna pam rwy'n annog y Siambr i bleidleisio gyda'r Ceidwadwyr Cymreig a gwelliannau Plaid Cymru heno. Diolch, Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i'r pleidleisio. Prynhawn yma mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar gyllid canlyniadol HS2. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio. Agor y bleidlais. [Anghlywadwy.] O blaid 10, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Cyllid canlyniadol HS2. Cynnig heb ei ddiwygio, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Felly, gwelliant 1 fydd y bleidlais nesaf—gwelliant 1 yn enw Darren Millar. Os bydd gwelliant 1 yn cael ei basio, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Cyllid canlyniadol HS2. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 sydd nesaf, gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Cyllid canlyniadol HS2. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 34, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig yma fydd ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM8375 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod HS2 yn brosiect i Loegr yn unig.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod darparu'r cyllid canlyniadol llawn y dylai Cymru ei gael o ganlyniad i HS2.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi rhaglen gynhwysfawr o fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru a fydd yn cael ei datblygu a’i chymeradwyo gan Fwrdd Rheilffyrdd ar y Cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Cyllid canlyniadol HS2. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 48, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Y pleidleisiau o dan eitem 8 fydd nesaf—dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd meddwl. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl. Cynnig heb ei ddiwygio, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24 a neb—. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Felly, dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Ac felly canlyniad y bleidlais yw bod 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 fydd nesaf, gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. [Anghlywadwy.] Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 2. Ac felly canlyniad y bleidlais yw 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 3, felly. Galw am bleidlais ar welliant 3, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Mae canlyniad y bleidlais yma eto yn gyfartal, felly mi wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 3. Ac felly y canlyniad yw 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 3 hefyd wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gan fod y gwelliannau i gyd wedi eu gwrthod a'r cynnig heb ei ddiwygio, does dim byd wedi ei basio o dan yr eitem yna.
Ac felly, dyna ddiwedd ar ein cyfnod pleidleisio ni, ond dim dyna'r diwedd ar ein gwaith ni y prynhawn yma, oherwydd fe fyddwn ni'n mynd ymlaen at y ddadl fer. Os gwnaiff Aelodau adael yn dawel.
Os gallaf gael yr Aelodau i adael yn dawel ar gyfer gweddill ein busnes.
Yr eitem nesaf o fusnes fydd y ddadl fer, a bydd y ddadl fer heddiw yn cael ei chyflwyno gan John Griffiths.
Diolch, Lywydd.
Cyn i chi ddechrau, John Griffiths, rwy'n credu, Aelodau, os gwelwch yn dda, os gallwch adael yn dawel, byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan eich cyd-Aelod. John Griffiths.
Diolch, Lywydd. Effaith defnyddio e-sigaréts ar draws Cymru, Lywydd—ac fe gawn gyfraniadau gan Jayne Bryant a Joel James. Mae fepio wedi dod yn nodwedd gyfarwydd a chynyddol o'n bywydau. Yn wir, ar draws y byd, mae cymylau anwedd ac amrywiaeth o arogleuon yn halogi'r aer. Ar draws y byd mae yna bryder, a nifer o wahanol ffyrdd o fynd i'r afael â'r pryderon hynny a'r niwed a achosir. Yn hytrach na llosgi tybaco, mae e-sigaréts yn gweithio trwy wresogi hylif sy'n cynnwys nicotin. Mae hyn yn golygu nad yw elfennau mwyaf niweidiol mwg tybaco—tar a charbon monocsid—yn cael eu cynhyrchu, a chredir bod llai o risgiau i iechyd.
Caiff fepio ac e-sigaréts eu defnyddio gan rai fel offer i helpu i roi'r gorau i ysmygu. Mae eu ffurf ddiweddaraf—podiau fepio tafladwy—yn llai o faint ac yn datblygu cyfran o'r farchnad. Ni ddylai cetrisen fêp gyfreithiol ddal mwy na 2 ml o hylif, sy'n caniatáu tua 600 pwff. Fodd bynnag, mae rhai cynhyrchion anghyfreithlon ar werth mewn siopau ac ar-lein ar hyn o bryd a all gyrraedd 9,000 pwff. Ar-lein, roedd un fêp anghyfreithlon a oedd yn rhoi 4,500 pwff ar gael am £10 yr un, neu ddau am £17. Mae hyn yn golygu eu bod yn hawdd i bobl ifanc eu fforddio'n unigol, neu mewn grŵp.
Er ei fod yn cael ei ystyried yn llai niweidiol nag ysmygu, gall fepio gael effeithiau negyddol ar y galon a'r ysgyfaint, ac nid ydym yn gwybod eto beth yw'r niwed o ganlyniad i ddefnydd hirdymor. Mae'r risg o ddibyniaeth ar nicotin yn amrywio rhwng cynhyrchion e-sigaréts, gyda phodiau fêps tafladwy yn gadael i lefelau arbennig o uchel o nicotin gael eu hanadlu i mewn, ac felly'n creu mwy o risg. Mae plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o ddatblygu dibyniaeth ar nicotin nag oedolion a gall nicotin effeithio ar ddatblygiad eu hymennydd. Hefyd, wrth gwrs, ceir pryderon amgylcheddol difrifol cynyddol yn y DU, gydag amcangyfrif o 1.3 miliwn o fêps untro yn cael eu taflu bob wythnos, sef tua 5.4 miliwn y mis. Mae hynny'n cynnwys 10 tunnell o lithiwm, sy'n cyfateb i 1,200 o fatris ceir trydan. Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol fod fêps untro bron yn amhosibl eu hailgylchu, ac wedi'u llunio fel un uned, felly nid oes modd gwahanu batris o'r plastig. A chanfu Material Focus, sef sefydliad dielw sy'n rhedeg ymgyrch Recycle your Electricals, fod mwy na 700 o danau mewn lorïau bin a chanolfannau ailgylchu yn y DU wedi'u hachosi gan fatris a oedd wedi'u rhoi mewn gwastraff cyffredinol.
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Yma yng Nghymru a'r DU, mae'r ddadl ar fepio'n dwysáu, wrth i brofiad dyfu a thystiolaeth o effeithiau barhau i ddod i'r amlwg. Yn ôl yn 2016, pleidleisiodd gwrthbleidiau'r Cynulliad ar y pryd yn erbyn deddfwriaeth y weinyddiaeth Lafur i roi fepio ar yr un sylfaen ag ysmygu tybaco drwy gyfyngu ar eu defnydd mewn mannau cyhoeddus caeedig a mannau cyhoeddus eraill. Pe bai'r bleidlais honno wedi mynd y ffordd arall, byddem wedi osgoi llawer o'r niwed a ddioddefwyd ers hynny. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, cawsom gyfle yng Nghymru i wneud rhywbeth gwahanol a fyddai wedi diogelu pobl ifanc rhag y risgiau a ddaw yn sgil defnyddio fêps ac e-sigaréts. Fodd bynnag, mae angen inni edrych tua'r dyfodol nawr a mynd i'r afael â'r heriau sy'n codi nawr ac yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
Fel llawer o Aelodau eraill, credaf fod y defnydd cynyddol o fepio'n dod yn broblem gynyddol ledled Cymru a'r DU gyfan, yn enwedig ymhlith ein pobl ifanc mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Dangosodd arolwg ieuenctid Action on Smoking and Health Prydain yn 2023 fod cynnydd wedi bod yng nghyfran y bobl ifanc 11 i 17 oed sy'n arbrofi gyda fepio, i fyny o 15.8 y cant yn 2022 i 20.5 y cant yn 2023. Ac mae ffigurau pellach gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn dangos bod 5 y cant o ddisgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru yn fepio o leiaf unwaith yr wythnos. Rwy'n siŵr nad wyf ar fy mhen fy hun yn cael etholwyr yn dod â phroblem fepio gan bobl ifanc yn yr ysgol neu mewn mannau cyhoeddus i fy sylw—pobl ifanc sy'n amlwg yn rhy ifanc i fod yn gwneud hynny, ac mae cwestiynau'n cael eu codi'n briodol ynglŷn â sut maent yn gallu cael gafael arnynt.
Yn ddiweddar, ymwelais ag un o fy ysgolion lleol a chefais sesiwn holi ac ateb gyda disgyblion blwyddyn 6. Cefais fy synnu gan ba mor gyfarwydd oedd y disgyblion â fepio ac yn wir, roedd ganddynt nifer o straeon i'w hadrodd am y ffordd y mae plant eu hoed yn gallu cael fêps, fel dod o hyd i rai sydd wedi'u taflu ar lawr y mae'n dal i fod modd eu defnyddio a phlant yn mynd â nhw o'u cartrefi os yw eu rhieni'n eu defnyddio.
Ar ôl hynny, siaradais â'r pennaeth, a ddywedodd eu bod wedi cael rhai digwyddiadau y tu allan i amser ysgol a bod hwn yn fater sy'n effeithio ar lawer o ysgolion cynradd ar draws Dwyrain Casnewydd, a hynny o fewn yr ysgol a'r tu allan, ac mae disgyblion yn dechrau eu haddysg uwchradd yn gaeth i fêps, gyda'r holl broblemau sy'n dod yn sgil hynny, fel aflonyddwch ac ymddygiad gwael. Yn wir, dywedodd pennaeth uwchradd lleol wrthyf ei fod yn mynd â fêps oddi ar ddysgwyr mor ifanc â 13 oed yn ddyddiol ac roedd y nifer sy'n eu defnyddio y tu allan i gatiau'r ysgol yn cynyddu'n gyflym. Er gwaethaf cyswllt â rhieni, y bydd rhai ohonynt wedi prynu'r fêps i'w plant, teimlai nad oeddent yn cael fawr o effaith ar y problemau hyn ac roedd yn bryderus iawn ynghylch iechyd y plant. Roeddent hefyd wedi cael digwyddiadau gyda dysgwyr oherwydd bod arnynt arian am fêps ac roeddent yn poeni y gallai fod cysylltiad rhwng hynny â chamfanteisio troseddol ar blant agored i niwed.
Ym mis Ebrill y llynedd, gwn fod llythyr wedi ei anfon at rieni yn sir Gaerfyrddin gan 11 pennaeth lleol yn annog rhieni i siarad â phlant am yr ymddygiad niweidiol a ddeilliai o hyn, a bod ysgolion yn gorfod buddsoddi cryn dipyn o amser staff i atal disgyblion rhag fepio—amser a fyddai'n cael ei dreulio'n llawer gwell ar fentora a chefnogi lles disgyblion.
Rwy'n credu bod hyn yn dangos yn glir yr heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu ar lefel gynradd ac uwchradd ledled Cymru, ac mae gwir angen inni ddyblu ein hymdrechion i ddod o hyd i ateb, a dyblu ein hymdrechion i addysgu rhieni a allai fod yn gwybod bod eu plant yn fepio, ac mae angen inni herio'r awgrym nad yw fepio'n peri fawr o risg i iechyd, a'r agweddau sy'n dweud nad yw mor ddrwg ag ysmygu ac felly, nad yw'n broblem. Diolch byth, cyhoeddodd y Gweinidog addysg gyngor mawr ei angen i ysgolion am fepio y mis diwethaf, a gwn fod y Gweinidog yn deall y problemau hyn yn llawn, ac yn wir, yn ei etholaeth yng Nghastell-nedd mae wedi cadeirio cyfarfod bwrdd crwn, gan ddod â'r cyngor lleol, ysgolion, y cyngor ieuenctid, yr heddlu ac elusennau ynghyd, fel y gallai glywed yn uniongyrchol am faint y broblem. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai llawer o Aelodau eraill y Senedd yn gwneud yr un peth, ac yn sicr mae'n rhywbeth rwy'n bwriadu ei wneud.
Yn anffodus, os yw plentyn yn benderfynol o gael fêp, neu unrhyw gynnyrch arall â chyfyngiad oedran, gwyddom fod yna oedolion yn barod i'w prynu ar eu rhan, neu'n fwy pryderus, siopau sy'n barod i'w gwerthu i bobl ifanc dan oed. Rydym wedi gweld nifer cynyddol o siopau sydd ond yn gwerthu fêps ar y stryd fawr ar draws ein cymunedau. Yn wir, yn yr ardal leol o amgylch fy swyddfa etholaethol, sydd wedi'i lleoli ger canol y ddinas yng Nghasnewydd, ceir 11 o siopau sydd ond yn gwerthu fêps, ac nid yw'n cynnwys siopau cornel neu archfarchnadoedd sy'n eu gwerthu. Y llynedd, cynhaliodd Cyngor Dinas Casnewydd ymgyrch orfodi tybaco anghyfreithlon i ymchwilio i weld a oedd rhai siopau fêps yn gwerthu nwyddau i bobl o dan yr oedran cyfreithiol. Canfu fod pedair o'r 11 siop yn gwneud hyn, a daethpwyd o hyd i 220 o gynhyrchion anghyfreithlon mewn pum siop ar draws y ddinas. Mae'r nifer hwnnw wedi cynyddu i 620 yn dilyn camau pellach gan swyddogion y cyngor.
Mae arolwg ieuenctid ASH GB yn 2023 wedi datgelu bod 16 y cant o bobl ifanc 11 i 17 oed yn credu ei bod yn 'hawdd iawn' cael gafael ar fêps, ac mae 22 y cant yn credu ei bod yn 'hawdd' gwneud hynny. O ystyried yr holl gefndir pryderus hwn, mae yna ddadlau cryf ynglŷn â beth yw'r camau gorau i ni eu cymryd i ddiogelu ein pobl ifanc a phobl o bob oed. Ar y naill law, mae yna rai sy'n cefnogi gwaharddiad ar werthiannau, ond er mwyn gwneud y gorau o effeithiolrwydd hynny, byddai galw am adnoddau a phwerau digonol i gyrff gorfodi. Mae yna 29 o wledydd ledled y byd sydd wedi penderfynu gwahardd masnach fanwerthu unrhyw offer sy'n ymwneud â fepio, ac mae hynny'n cynnwys Brasil, India a Gwlad Thai. Yn y cyfamser, mae 14 gwlad wedi penderfynu gwahardd fepio mewn mannau cyhoeddus, gweithleoedd caeedig neu led-gaeedig ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae yna wahanol raddau o orfodaeth. Rwy'n credu bod angen inni astudio profiadau'r gwledydd hyn yn fanwl iawn ac edrych ar yr effaith y mae'r mesurau hyn yn ei chael.
Mae rhai o'r bobl sy'n dadlau dros waharddiad yn awgrymu y gall fepio fod yn borth i ysmygu, ac mae yna fepwyr nad ydynt yn ysmygu ac na fyddent yn ysmygu, ond sy'n fepio am nad ydynt yn credu ei fod yn creu risg sylweddol i iechyd. Safbwynt arall yw y byddai gwaharddiad ar werthu yn wrthgynhyrchiol i'r ymgyrch i leihau cyfraddau ysmygu ymhellach, o ystyried y gall fepio fod yn effeithiol ar gyfer ysmygu llai neu roi'r gorau i sigaréts. Cyfaddawd posibl yma fyddai sicrhau bod fêps ar gael mewn fferyllfeydd ar bresgripsiwn yn unig fel dull o roi'r gorau i ysmygu, er y gellid dadlau bod yna lawer o ysmygwyr na fyddent yn defnyddio'r gwasanaeth hwnnw ond a fyddai'n prynu dros gownter y siop. Mae llawer o'r bobl a fyddai'n gyndyn i osod gwaharddiad yn awgrymu mai cyfyngiadau ar farchnata a hyrwyddo cynhyrchion fepio, yn enwedig i blant a phobl ifanc, yw'r hyn sydd ei angen. Ac wrth gwrs, ceir cwestiynau'n ymwneud â blasau sydd wedi'u hanelu'n amlwg at blant, fel blas uncorn neu lus, mafon. Yn hytrach na bod ganddynt flasau generig fel mintys neu fenthol, pam fod fêps ar gael sy'n cael eu marchnata'n amlwg i fod yn ddeniadol i'n pobl ifanc? Ac yn aml caiff fêps eu harddangos yn amlwg ym mlaen y siop er mwyn annog pryniant mympwyol yn hytrach na bod dan gaead, fel y mae tybaco heddiw. Yn amlwg, mae angen rheoleiddio llawer cryfach i ddod â'r arferion hynod ddiegwyddor a niweidiol hyn i ben.
Mae'n ymddangos bod rhai datblygiadau a allai fod yn ddefnyddiol ar y gweill ar lefel Llywodraeth y DU: y posibilrwydd o wahardd fêps untro a'r cyhoeddiad sydd i'w groesawu i godi'r oedran cyfreithiol ar gyfer prynu sigaréts o un flwyddyn bob blwyddyn. Mae'n iawn ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau y gall y genhedlaeth nesaf dyfu i fyny yn ddi-fwg a heb fod yn ddibynnol ar nicotin. Ac rwy'n croesawu ymateb y Prif Weinidog yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, pan amlinellodd y ddadl bresennol a'r gwahanol ddulliau o weithredu, ac un ffordd o daro'r cydbwysedd rhwng lleihau niwed fepio ac e-sigaréts, gan gydnabod eu rôl yn helpu ysmygwyr i roi'r gorau i ysmygu neu gwtogi eu defnydd o sigaréts, yw drwy ganiatáu eu defnydd ar bresgripsiwn drwy fferyllydd yn unig.
Lywydd, ceir safbwyntiau gwahanol ynglŷn â'r ffordd orau ymlaen a dadl fywiog sy'n datblygu, ond yn bendant mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i ddiogelu ein pobl ifanc a phobl o bob oed rhag niwed fepio ac e-sigaréts.
Hoffwn ddiolch i John Griffiths am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heno ac am ganiatáu munud o'ch amser i mi. Diolch, John. Rydych chi wedi siarad am bwysigrwydd ac effaith fepio ar blant a phobl ifanc, a dyna rwyf am ei ystyried yn fy nghyfraniad.
Rydym wedi gweld yn gyflym iawn sut mae'r farchnad hon wedi dod yn fwyfwy deniadol i blant a phobl ifanc, ac er bod cyfraddau tueddiadau ysmygu oedolion wedi gostwng, mae cyfraddau fepio ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu, er nad ydynt erioed wedi ysmygu o'r blaen. Ac rydym wedi gweld hyn drwy—. Digwyddodd drwy hysbysebu ar y teledu, a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol yn enwedig. Mae'r cynnwys a welant yn dangos triciau gydag ysmygu, gan wneud iddo edrych yn ffasiynol i bobl ifanc. Ac fel y mae John wedi sôn, rydym wedi gweld y cynnydd yn nifer y siopau fêps yn ein cymunedau. Mae'r farchnad yn gorlifo o flasau sy'n apelio at bobl iau, fel y gwnâi alcopops, a gwyddom fod ymwybyddiaeth plant o hyrwyddiadau fêps wedi tyfu hefyd, yn enwedig mewn siopau lle mae mwy na hanner yr holl blant yn dweud eu bod wedi gweld e-sigaréts yn cael eu hyrwyddo, ac ar-lein, lle mae bron i draean wedi gweld hyrwyddiadau e-sigaréts.
Rydym yn gweld tuedd frawychus ymhlith pobl ifanc. Mae angen inni fwrw ymlaen a helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o'r sgil-effeithiau posibl. Gwyddom y gall defnydd plant a phobl ifanc o nicotin arwain at effeithiau negyddol hirdymor parhaus ar ddatblygiad yr ymennydd yn ogystal â dibyniaeth. Ac fe wnaeth un ysgol yn fy etholaeth osod synwyryddion fêps i'w rwystro, ond yn lle hynny, fe ganodd 112 o weithiau ar y diwrnod cyntaf. Dywedodd y pennaeth, 'Mae rhai pobl ifanc mor gaeth i'r fêps, ni allant bara gwers neu awr o amser'. Felly, mae mynd i'r afael â'r pryderon hyn a hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig â fepio'n hanfodol i ddiogelu iechyd a lles y cyhoedd yng Nghymru. Rydym yn gwybod mai plant a phobl ifanc yw'r dioddefwyr. Diolch.
Diolch i chi, John, am gyflwyno dadl mor bwysig ac am roi munud o'ch amser i mi. Fel y clywsom, mae'r defnydd helaeth o fêps mewn ysgolion a'r effaith y mae'n ei chael ar blant a'u hymddygiad yn destun pryder mawr, ac un o'r prif bethau y mae angen tynnu sylw atynt yw bod fepio'n darparu dos sylweddol uwch o nicotin o'i gymharu ag ysmygu. Yn wir, mae'r sigarét gyffredin yn darparu tua 1 i 2 mg o nicotin, tra bod fepio'n darparu unrhyw beth rhwng 8 a 20 mg y fêp—sydd rhwng 400 a 2,000 y cant yn fwy o nicotin y fêp. Mae'n ddos mawr iawn. Mae gan fêp tafladwy gyda chryfder o 35 mg/ml a 12 ml o e-hylif 420 mg o nicotin, ac wrth edrych ar-lein, gallwch brynu hyd at 10 o fêps tafladwy am gyn lleied â £10. Mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol hefyd o faint o gynhyrchion fepio llygredig sy'n dod ar gael yn haws ar y farchnad ddu, a chyda phobl yn gallu cymysgu eu e-hylif eu hunain, gan gynyddu'r dosau nicotin yn fwy byth, a yw'n syndod ein bod yn profi cynnydd mewn problemau ymddygiad ymhlith disgyblion, a thrais tuag at athrawon? Diolch.
Dwi'n galw nawr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl. Lynne Neagle.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i John Griffiths am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac am y pwyntiau a wnaeth ar fepio, a diolch hefyd i'r Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu. Fel yntau, rwyf wedi bod yn bryderus iawn ers peth amser ynghylch y cynnydd yn y defnydd o fêps, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc. Mae llawer o'r cynhyrchion hyn yn cynnwys nicotin ac nid oes iddo le yn nwylo plant a phobl ifanc. Mae'n bwysig cydnabod mai'r bwriad gydag e-sigaréts oedd eu defnyddio fel offer i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, ac mae llawer o bobl yn dal i ddewis eu defnyddio ar gyfer hynny.
Fe wyddom mai tybaco yw prif achos marwolaethau cynamserol yma yng Nghymru, ac mae'n cael effaith ddinistriol ar unigolion, eu teuluoedd a'n cymdeithas. Gan fod ysmygu yn llofrudd mor ddiwahân, y llynedd, fe wnaethom nodi ein huchelgais i Gymru fod yn ddi-fwg erbyn 2030, sy'n golygu cyflawni cyfradd ysmygu o 5 y cant. Rydym wedi gwneud cynnydd gwych i atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu ac wedi helpu dros 89,000 o ysmygwyr i dorri eu dibyniaeth drwy ein gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu, Helpa Fi i Stopio, ledled Cymru. Yn ôl ein harolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru, rydym bellach yn gweld lefel is nag erioed o ysmygu, sef 13 y cant. Mae'n gyflawniad gwych, ac mae'n rhaid canmol ein GIG, timau iechyd cyhoeddus, y trydydd sector ac awdurdodau lleol i gyd am eu rhan yn newid y ffordd y mae ein cymdeithas yn ystyried ysmygu. Nid ydym bellach yn byw mewn gwlad lle mae ysmygu'n cael ei ystyried yn normal ac fel rhywbeth y mae'n rhaid inni ei dderbyn er nad yw'r rhan fwyaf ohonom yn ysmygwyr.
Mae'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf i gynyddu'n raddol yr oedran y gellir gwerthu tybaco yn newid pethau'n llwyr i bolisi iechyd cyhoeddus, ac yn un rwyf wedi'i gefnogi'n gyfan gwbl ers i Javed Khan wneud ei argymhellion yn dilyn ei adolygiad annibynnol y llynedd. Gallaf sicrhau'r Aelodau felly fy mod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, a gweinyddiaethau datganoledig eraill, i ystyried ymgynghori ar y cyd ar gynigion ar gyfer cenhedlaeth ddi-fwg newydd, ac ar fesurau i fynd i'r afael â phobl ifanc yn fepio. Oherwydd rwy'n credu ein bod ar fin dod â'r epidemig tybaco i ben a'r dinistr y mae wedi'i achosi i'n gwlad. Ond rwy'n credu bod mwy i'w wneud, a dylem fynd ymhellach. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn dal i ystyried cyflwyno ardoll 'y llygrwr sy'n talu' ar y diwydiant tybaco, er enghraifft, gan eu bod wedi cael gwneud elw enfawr dros amser llawer rhy hir o gael pobl yn gaeth i'w cynhyrchion marwol.
Ond wrth inni wneud cynnydd ar ddileu ysmygu yng Nghymru, mae fêps yn creu bygythiad real iawn o greu cenhedlaeth newydd sy'n gaeth i nicotin. Er fy mod yn cydnabod y gallant fod o gymorth i rai wrth iddynt roi'r gorau i ysmygu, a bod yn rhan o'u taith i roi'r gorau iddi, mae eu defnydd cynyddol gan blant a phobl ifanc yn destun pryder mawr. Felly, rwy'n falch iawn y byddwn hefyd yn gweithio ar sail y pedair gwlad i atal y cynhyrchion hyn rhag cael eu marchnata i blant drwy eu delwedd liwgar a'u blasau deniadol. Rwyf hefyd am eu gweld allan o'r golwg mewn siopau yng Nghymru, fel na all plant eu gweld mwyach a bod eisiau rhoi cynnig arnynt. Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod ni, ynghyd â gwledydd eraill y DU, wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â fêps untro. Mae'n amlwg i mi fod y rhain nid yn unig yn cael eu defnyddio gan bobl ifanc, ond eu bod yn ddefnydd gwastraffus o'n hadnoddau, ac yn niweidio ein hamgylchedd. Mae tua 1.3 miliwn o fêps tafladwy'n cael eu taflu bob wythnos—ni allwn ganiatáu i hyn barhau.
Er fy mod am weithredu'n gyflym ar dybaco ac e-sigaréts, rwyf am weithio'n agos â gwledydd eraill y DU fel ein bod yn dyblu ein hymdrechion i fynd i'r afael â marchnadoedd anghyfreithlon a'r holl droseddau cysylltiedig a ddaw yn sgil hyn. Mae mewnforio a gwerthu cynhyrchion peryglus didrwydded yn anghyfreithlon hefyd yn rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono. Bydd yr Aelodau wedi gweld adroddiadau ar y cyfryngau am atafaelu cynhyrchion e-sigaréts anghyfreithlon y canfuwyd eu bod yn cynnwys tocsinau niweidiol a metelau trwm y caiff pob un ohonynt effaith niweidiol ar iechyd. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr safonau masnach o bob rhan o awdurdodau lleol Cymru i gefnogi gorfodaeth a chamau pellach i atafaelu cynhyrchion peryglus anghyfreithlon.
Wrth fynd ar drywydd newid deddfwriaethol, mae'n dal i fod pethau rydym yn eu gwneud nawr ar fêps. Rydym wedi cynhyrchu canllawiau i rai mewn ysgolion uwchradd i helpu dysgwyr i ddeall effaith fepio ar eu hiechyd a'u lles, yn ogystal â darparu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i athrawon a staff ysgolion. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi bod yn gwneud gwaith manwl gyda rhanddeiliaid yng Nghymru drwy eu grŵp ymateb i ddigwyddiadau fepio ymhlith plant a phobl ifanc, i gasglu tystiolaeth a data ar ddefnydd pobl ifanc yng Nghymru. A byddwn yn edrych ar argymhellion ynglŷn â ble y gallwn gymryd camau tymor byr i fynd i'r afael â'r risgiau. Mae'r gwaith hwn ar fin dod i ben a bydd ei argymhellion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, a byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf amdano.
Rhaid inni gydnabod hefyd fod cynnydd mewn fepio'n debygol o arwain at gynnydd yn nifer y bobl yng Nghymru sy'n gaeth i nicotin, sydd, fel y gwyddom i gyd, yn sylwedd caethiwus iawn. Felly, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych ar sut y gellir ehangu ein gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu, Helpa Fi i Stopio, i gefnogi pobl sy'n gaeth i nicotin ar ei holl ffurfiau, gan gynnwys drwy fepio. Ddoe, tynnodd y Prif Weinidog sylw at esiampl Awstralia lle mae e-sigaréts ar gael ar bresgripsiwn yn unig i'w defnyddio fel cymorth i roi'r gorau i ysmygu. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw gynhyrchion e-sigaréts yn cael eu hystyried yn gyfredol gan y rheoleiddiwr meddyginiaethau, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, i'w defnyddio'n benodol ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu dan oruchwyliaeth yn y DU, ond pan gymeradwyir cynnyrch o'r fath, byddwn yn edrych ar ei le fel cynnyrch sydd ar gael ar bresgripsiwn.
Yn olaf, hoffwn ddiolch eto i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl fer hon. Rwy'n gwybod bod llawer o'r Aelodau'n pryderu'n fawr ynglŷn â fepio ymhlith pobl ifanc, ond hefyd yr effaith y mae tybaco yn ei chael ar barhau anghydraddoldebau iechyd yn ein gwlad. Byddaf yn ymdrechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith arloesol hwn, sydd mor hanfodol i gefnogi Cymru iachach i bob un ohonom. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:57.