Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/07/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni gychwyn, os caf i roi gwybod i'r Aelodau, bydd y balot nesaf ar gyfer Biliau Aelodau yn cael ei gynnal ar 18 Hydref. Bydd gwybodaeth am y broses yna yn cael ei rhannu gyda chi fel Aelodau yn fuan—rhywbeth i chi feddwl amboutu dros yr haf.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Yr eitem nesaf, felly, fydd cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar y cynnig i sefydlu pwyllgor. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NNDM8336 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), a'r rhan o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8335 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 12 Goffennaf 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae'r cynnig wedi ei wneud yn ffurfiol. Y cynnig, felly, yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn, sydd yn caniatáu i ni gymryd y cynnig i sefydlu pwyllgor.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

1. Cynnig i sefydlu pwyllgor

Cynnig NNDM8335 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:

1. Yn sefydlu Pwyllgor Biliau Diwygio i graffu ar Filiau a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

2. Yn cytuno y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu naill ai:

a) pan fydd yr holl Filiau a gyfeiriwyd at y pwyllgor wedi cael Cydsyniad Brenhinol ac mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu na fydd unrhyw Filiau pellach yn cael eu cyfeirio at y pwyllgor; neu

b) pan fydd y Senedd yn penderfynu felly;

pa un bynnag sydd gynharaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae Lesley Griffiths wedi gwneud y cynnig yn ffurfiol. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn, sy'n caniatáu i ni symud ymlaen i'r cynnig o dan eitem 2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

2. Cynnig i ddyrannu Cadeirydd pwyllgor i grŵp gwleidyddol

Dyma'r cynnig i ddyrannu Cadeirydd pwyllgor i grŵp gwleidyddol. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yma'n ffurfiol.

Cynnig NNDM8337 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grŵp gwleidyddol y caiff Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio ei ethol ohono fydd grŵp Llafur Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i siarad ar y cynnig hwn. Mae fy ngrŵp, fel gwyddoch fel aelod o’r Pwyllgor Busnes, yn gwrthwynebu dyrannu’r Cadeirydd penodol hwn i’r grŵp Llafur, ar sail nifer y Cadeiryddion a ddyrannwyd eisoes gan y Senedd hon a’r Pwyllgor Busnes i’r grwpiau gwleidyddol yn y Senedd. Rydym o’r farn nad yw ein grŵp wedi’i gynrychioli'n ddigonol, ac ar y sail honno, byddwn yn gwrthwynebu’r eitem benodol hon heddiw.

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly fe fyddwn ni'n cynnal pleidlais yn syth ar y cynnig yma. Fe fyddaf i'n symud yn syth i'r bleidlais—[Torri ar draws.] Oes yna unrhyw Aelod yn gwrthwynebu ac yn gofyn i fi ganu'r gloch? Mae yna ddigon o Aelodau eisiau i fi ganu'r gloch i roi rhybudd i Aelodau am y bleidlais. Felly, fe ganaf i'r gloch, ac fe fydd y bleidlais yn cael ei chynnal ymhen pum munud.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:32.

13:40

Ailymgynullodd y Senedd am 13:40, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Rydym mewn sefyllfa nawr i gychwyn ar y bleidlais. Felly, i atgoffa Aelodau, bydd y bleidlais yma ar eitem 2. Yr eitem honno yw'r eitem i ddyrannu Cadeirydd pwyllgor i grŵp gwleidyddol. Ac er gwybodaeth i Aelodau, bydd angen dwy ran o dair o'r Aelodau sy'n pleidleisio i fod o blaid i'r cynnig yma gael ei gymeradwyo. Felly, dwi'n agor y bleidlais. O blaid 32, yn ymatal neb, 14 yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.

Eitem 2. Cynnig i ddyrannu Cadeirydd pwyllgor i grŵp gwleidyddol: O blaid: 32, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

3. Enwebiadau ar gyfer Cadeirydd pwyllgor

Yr eitem nesaf, felly, fydd yr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y pwyllgor sydd newydd gael ei ffurfio. Nawr, o dan Reol Sefydlog 17.2F, dwi'n gwahodd enwebiadau ar gyfer y gadeiryddiaeth yna. Jack Sargeant.

Mae David Rees wedi cael ei enwebu fel cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio—cadeiryddiaeth, wrth gwrs, sydd wedi'i ddyrannu nawr i Aelod o'r Blaid Lafur. A oes yna Aelod o'r Blaid Lafur yn eilio? Oes. Sarah Murphy.

Diolch yn fawr. Mae'r enwebiad felly ar gyfer David Rees wedi'i gynnig a'i eilio. A oes rhagor o enwebiadau gan Aelod o'r Blaid Lafur? Na. Does yna ddim enwebiad arall, ac felly mi wnaf i ofyn i David Rees a yw e'n derbyn yr enwebiad. Ydy. Felly, mae'r enwebiad wedi'i dderbyn. Ac a oes gwrthwynebiad i David Rees fel Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio? [Gwrthwynabiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad.

Felly, mi fydd yna bleidlais ar gyfer y gadeiryddiaeth yna, ac fe fydd y bleidlais honno yn cael ei chynnal drwy bleidlais gudd. Bydd y bleidlais yn un gyfrinachol, ac mi fydd hi'n cael ei chynnal yn ystafell friffio 13 yn y Senedd o tua 2 p.m ac yn cau am 4 p.m. y prynhawn yma. Bydd y bleidlais hefyd yn cael ei chynnal drwy gyfundrefn electronig ar gyfer y rhai sy'n gweithio'n rhithiol heddiw. Mi fyddaf yn cyhoeddi canlyniad y bleidlais yn ddiweddarach y prynhawn yma. 

4. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni, felly, yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Ken Skates.

Cyd-bwyllgorau Corfforaethol

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am greu cyd-bwyllgorau corfforaethol? OQ59820

Mae cyd-bwyllgorau corfforedig wedi'u sefydlu ac mae ganddynt ddyletswyddau statudol i ymgymryd â chynllunio rhanbarthol ar gyfer trafnidiaeth a defnydd tir. Mae gan y cyd-bwyllgorau bŵer eang hefyd yng nghyswllt lles economaidd. Gall cynghorau ddewis sut y byddant yn defnyddio'u cyd-bwyllgor corfforedig i weithio gyda'i gilydd i yrru datblygiad economaidd yn seiliedig ar eu dyheadau a'u huchelgeisiau rhanbarthol eu hunain.

13:45

Diolch, Weinidog. Mae’n dra hysbys fod llywodraeth leol yng Nghymru wedi’i diogelu'n well nag mewn mannau eraill yn y DU dros nifer o flynyddoedd, a bod cynghorau wedi ymateb yn dda i heriau COVID, cyni, paratoi ar gyfer Brexit a’r argyfwng costau byw. Wrth gwrs, mae creu cyd-bwyllgorau corfforedig yn rhoi cyfle inni gryfhau a grymuso awdurdodau lleol hyd yn oed ymhellach drwy weithio rhanbarthol. Felly, pa gyfrifoldebau a chyllidebau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu datganoli i gyd-bwyllgorau corfforedig?

Rwy’n ddiolchgar iawn am y cwestiwn a hefyd i Ken Skates am gydnabod bod cynghorau yng Nghymru wedi’u diogelu'n well dros nifer o flynyddoedd yng Nghymru, o gymharu â chynghorau yn Lloegr. A gallwch weld hynny, rwy’n credu, yn yr ymateb, fel y dywedodd Ken Skates, i’r hyn y gwnaethant ei gyflawni yn ystod y pandemig, ond hefyd nawr yn yr argyfwng costau byw, ac maent yn mynd y tu hwnt i’r galw bob dydd i wasanaethu eu cymunedau.

Ond fel y saif pethau, mae'n wir fod cyd-bwyllgorau corfforedig yn gymharol newydd, felly mae'n bwysig iawn eu bod yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau cychwynnol, yn enwedig o ran datblygu economaidd, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir, ac yn manteisio ar y rhyngddibyniaethau rhwng y swyddogaethau hyn.

Y tu hwnt i’r cyfrifoldebau hynny, rwy’n sicr yn credu bod lle i awdurdodau lleol ddadlau dros ddatganoli pwerau pellach iddynt gan Lywodraeth Cymru. Credaf, ar hyn o bryd, fod yn rhaid canolbwyntio ar sicrhau bod y cyd-bwyllgorau corfforedig yn gweithio—maent yn dal i fod yn newydd iawn—ond rydym yn amlwg yn agored i’r sgyrsiau hynny. Yn y lle cyntaf, byddwn yn awgrymu bod y sgyrsiau hynny’n agor rhwng yr awdurdodau lleol a’r Gweinidogion portffolio, ond credaf mai fy rôl i yw cefnogi’r sgyrsiau hynny a hwyluso a galluogi unrhyw bwerau pellach i gael eu datganoli. Ond fel y dywedaf, yn y lle cyntaf, mae a wnelo â gwneud i gyd-bwyllgorau corfforedig weithio, a sicrhau eu bod ar sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.

Wrth siarad yng Nghyfnodau 3 a 4 Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), dywedais, o ystyried eu rôl o ran seilwaith rhanbarthol a datblygu economaidd, fod y gallu i ganiatáu i Weinidogion Cymru fandadu creu cyd-bwyllgorau corfforedig yn tanseilio’r datganoli mewnol a’r gwaith partneriaeth lleol a sefydlwyd mewn ardaloedd gan gyrff fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru—cynghrair sy’n cynnwys y ddwy Lywodraeth, pob un o chwe chyngor y gogledd, y byd busnes a’r byd academaidd.

Fodd bynnag, er iddi gydnabod bod gan y prif gynghorau gyfoeth o brofiad yn cyflawni swyddogaethau economaidd, gan gynnwys ar lefel ranbarthol drwy, er enghraifft, y bargeinion dinesig a thwf, dywedodd y Gweinidog ei bod yn gobeithio y bydd rhanbarthau’n trosglwyddo eu trefniadau rhanbarthol presennol i’r cyd-bwyllgorau corfforedig ar ôl iddynt gael eu sefydlu. Sut, felly, y byddech yn ymateb i’r pryder a fynegwyd yng ngogledd Cymru fod y cyd-bwyllgorau corfforedig, yn hytrach, yn atgynhyrchu ac yn dadrymuso gwaith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a elwir bellach yn Uchelgais Gogledd Cymru, pan fo cyn-Weinidog yr economi a thrafnidiaeth yma bellach wedi ymuno â nhw a minnau i alw am ddatganoli mewnol i gorff trafnidiaeth yn y gogledd—[Torri ar draws.] Helo? [Chwerthin.]

Mae’n ddrwg gennyf, mae’n rhaid imi stopio chwerthin. Nid wyf yn chwerthin arnoch chi, Mark Isherwood, nac arnoch chithau, Rebecca, ond ar—. Ie. [Chwerthin.] Weinidog, i ymateb.

Felly, yn hytrach na thanseilio cydweithio a gweithio rhanbarthol, credaf fod y cyd-bwyllgorau corfforedig yn ei hwyluso, ac maent yn arf i awdurdodau lleol ei ddefnyddio. Ond ar y pwynt penodol ynghylch alinio â bargeinion dinesig a thwf, ar hyn o bryd, mae cyd-bwyllgor corfforedig Dwyrain De Cymru yn dechrau ei ymarfer codi a symud i symud eu trefniadau bargenion dinesig a thwf yn ffurfiol i’r cyd-bwyllgor corfforedig erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Ac mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig eraill wedi nodi y byddant yn dod â threfniadau llywodraethu eu bargenion dinesig a thwf ochr yn ochr â chynlluniau strategol eraill ar gyfer y rhanbarth. Mae’r amserlenni ar gyfer hynny’n parhau i fod yn aneglur ar hyn o bryd, ond maent yn drafodaethau rydym yn parhau i’w cael. Ond rwy'n cydnabod y pwynt sylfaenol ynglŷn â phwysigrwydd cydlynu ar draws y strwythurau.

Grantiau Trafnidiaeth Gyhoeddus

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cyllido grantiau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ59845

Rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gyda’r Gweinidog, gan gynnwys trafodaethau ar drafnidiaeth. Mae cymorth bysiau eleni eisoes wedi cynnwys dros £4.2 miliwn i Gyngor Abertawe ar ran rhanbarth de-orllewin Cymru. Yn 2023-24, rydym hefyd wedi darparu £5.5 biliwn i awdurdodau lleol ei wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol.

13:50

Diolch am yr ateb, Weinidog.

Bob dydd, mae awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i drigolion ym mhob un o'n cymunedau. Ar wahân i’r cymorth ariannol a gânt drwy’r grant cynnal refeniw, mae awdurdodau lleol yn dibynnu’n helaeth ar nifer eang o grantiau penodol sy’n helpu i ariannu ystod eang o brosiectau neu wasanaethau. Mae’r grant cynnal gwasanaethau bysiau, er enghraifft, yn un o’r pecynnau cymorth rheolaidd y mae awdurdodau lleol yn eu derbyn, sy’n eu helpu i sicrhau y darperir llwybrau bysiau nad ydynt yn ddeniadol o safbwynt masnachol. Ychydig wythnosau yn ôl, cefais gopi o lythyr gan arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot at eich cyd-Aelod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn nodi nad oeddent wedi cael dyraniad chwarter 1 a bod y cyngor yn gorfod talu er nad ydynt wedi cael y cyllid angenrheidiol. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi nad yw oedi cyn dyrannu cyllid i’w groesawu ar y gorau, heb sôn am mewn cyfnod anodd i’r diwydiant bysiau a chyda’r holl heriau presennol sy’n wynebu awdurdodau lleol. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa waith sy’n mynd rhagddo ar draws adrannau’r Llywodraeth i symleiddio’r system grantiau a sicrhau nad oes unrhyw oedi diangen yn atal arian rhag cyrraedd lle mae ei angen fwyaf? Diolch.

Rwy’n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, a byddaf yn sicrhau fy mod innau’n cael copi o’r llythyr a ddisgrifiwch ac yn cael cyfle i’w drafod â’m cyd-Aelod. Ond credaf fod y pwynt cyffredinol yn bwysig iawn, ac mae a wnelo â lleihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol. Dyna un o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, ac rydym wedi bod yn gwneud gwaith hollbwysig mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, yn archwilio sut y gallwn fynd ati i leihau'r baich gweinyddol hwnnw.

Pan siaradodd ein swyddogion â thrysoryddion ac eraill ym myd llywodraeth leol, roeddent yn glir iawn mai’r prif beth sy’n achosi beichiau gweinyddol yn eu barn nhw yw gweinyddu grantiau. Mae miloedd o grantiau’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru, felly rydym wedi gwneud gwaith i weld faint y gallwn ei symud i mewn i'r grant cynnal refeniw. Nawr, ni fydd hynny’n addas ar gyfer pob grant penodol, ond mae pob Gweinidog wrthi’n gweithio drwy'r grantiau y maent yn eu darparu i lywodraeth leol ac yn archwilio i ba raddau y gellir eu symud i mewn i'r grant cynnal refeniw, gan sicrhau, wrth wneud y gwaith hwnnw, eu bod hefyd yn cynnal asesiadau effaith i sicrhau nad ydym, yn anfwriadol, yn creu problemau i'r bobl fwyaf agored i niwed sydd fwyaf o angen y cymorth hwnnw. Felly, rwy'n llwyr gydnabod y pwyntiau a wnaed, ond hoffwn roi sicrwydd i’m cyd-Aelodau fod lleihau'r baich gweinyddol yn waith pwysig, ac rydym yn gwneud cynnydd da iawn ar hynny.

Weinidog, mae’r cyhoeddiad am y gronfa bontio newydd ar gyfer bysiau i’w groesawu, ond fel y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei nodi, ni fydd yn achub pob llwybr bysiau. Mae llawer o’r llwybrau sydd mewn perygl o gael eu diddymu yn gwasanaethu'r rhannau mwy gwledig o Gymru, ac maent yn achubiaeth hanfodol i’r bobl fwyaf difreintiedig, yn enwedig yr henoed. Mae etholwyr nad oes ganddynt gar at eu defnydd bellach mewn perygl o gael eu hynysu a gorfod wynebu caledi ariannol pellach gan fod yn rhaid iddynt ddibynnu ar dacsis i wneud teithiau hanfodol. Weinidog, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau, lle bydd llwybrau bysiau yn anhyfyw, y bydd arian cyhoeddus ar gael i ariannu ac efallai i gymell dewisiadau amgen yn lle bysiau?

Mae’r gronfa bontio ar gyfer bysiau i fod i ddechrau ar y pumed ar hugain o’r mis hwn wrth inni symud oddi wrth y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, a ddatblygwyd yn ystod y pandemig ac a fydd yn dod i ben ar y pedwerydd ar hugain. Bydd y gronfa newydd, a ddatblygwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a’r diwydiant bysiau yn disodli’r cynllun blaenorol, a bydd yn darparu’r cymorth hwnnw ar unwaith i weithredwyr bysiau yng Nghymru. Ond credaf mai’r peth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn fwy hirdymor yw ein dull o fynd i’r afael â’r problemau yn y diwydiant bysiau a achoswyd yn sgil dadreoleiddio’r diwydiant yn ôl yn yr 1980au, a’i gwnaeth yn bwysicach yn y diwydiant bysiau i chwilio am y llwybrau proffidiol yn hytrach na’r llwybrau sydd fwyaf o'u hangen ac sy’n gwasanaethu’r bobl sy’n dibynnu fwyaf ar wasanaethau bysiau. Felly, credaf y bydd y gwaith hwnnw’n wirioneddol bwysig, ond mae gwir angen inni gefnogi’r diwydiant bysiau hefyd fel ein bod yn cyrraedd ble mae angen inni fod yn y dyfodol heb amharu ar y gwasanaethau sydd ar gael i bobl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, gŵyr pob un ohonom fod teuluoedd yn cael eu heffeithio gan gostau byw cynyddol, ond mae llawer o fentrau bach a chanolig hefyd yn gorfod wynebu cost gynyddol gwneud busnes. Fel y gŵyr pob un ohonom, bu’n rhaid i’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch wynebu dwy flynedd o gyfyngiadau o ganlyniad i bandemig COVID. Er bod llawer o’r cyfyngiadau hynny’n angenrheidiol i ddiogelu pobl Cymru, mae’n bwysig nawr ein bod yn helpu i adfer y difrod a wnaed i’r sector, ac mae’n amlwg nad yw Cymru’n gwneud digon i apelio at farchnad ryngwladol, gydag oddeutu 2.5 y cant yn unig o ymwelwyr rhyngwladol yn ymweld â Chymru yn 2019. Gyda hynny mewn golwg, a all y Gweinidog egluro pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith eu treth dwristiaeth ar fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, oherwydd dylem fod yn sicrhau bod diwydiant twristiaeth Cymru yn cystadlu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn ogystal â gweddill y byd?

13:55

Wel, rwyf am ddechrau drwy gydnabod y pwynt ynglŷn â’r effaith a gafodd y pandemig ar fentrau bach a chanolig, ac yn enwedig, mewn mannau, ar y diwydiant twristiaeth, a dyna pam, oherwydd y ffordd y gwnaethom reoli ein cyllideb yn ystod y pandemig, y bu modd inni gefnogi busnesau ledled Cymru gyda phecyn cymorth mwy hael na’r hyn a oedd ar gael mewn mannau eraill yn y DU. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i gydnabod hynny.

Rydym hefyd wedi rhoi pecyn hael o gymorth ardrethi annomestig ar waith ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac yn wir, fel rhan o’r gyllideb ddrafft, rwy’n cadarnhau y byddwn yn darparu pecyn cymorth ardrethi ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf, a fydd yn costio dros £460 miliwn, ac mae hynny, mewn gwirionedd, yn ychwanegol at ein cynlluniau rhyddhad ardrethi parhaol, sy’n darparu oddeutu £240 miliwn o gymorth bob blwyddyn. Felly, mae’r cymorth a ddarparwn i’r sector busnes yn sylweddol iawn mewn perthynas ag ardrethi annomestig.

Ar yr ardoll ymwelwyr, wrth gwrs, rydym yn dal i weithio drwy’r manylion, gan nad yw rhai o’r pethau’n glir eto—er enghraifft, nid ydym wedi penderfynu eto ar ba bwynt y byddem yn codi’r ardoll ymwelwyr, felly tan y gwnawn hynny, mae rhai pethau na allwn eu cyfrifo o ganlyniad iddi. Ond mae’r ardoll ymwelwyr i fod yn offeryn i awdurdodau lleol benderfynu a yw’n rhywbeth y maent am ei ddefnyddio ai peidio, a’r nod yw y bydd yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy yn yr ardaloedd lleol. Felly, mae'n ymwneud â chefnogi'r diwydiant twristiaeth lleol a darparu'r amodau sy'n rhoi profiad gwych i dwristiaid pan fyddant yn dod i Gymru, fel eu bod eisiau dychwelyd dro ar ôl tro.

Diolch, Weinidog. Rydym yn croesawu’r cymorth a roddwyd i fusnes, ond mae’n amlwg fod pryder o hyd ynghylch y dreth dwristiaeth. Fel y gwyddoch, mae’r mwyafrif llethol o fusnesau yn y sector twristiaeth yng Nghymru yn gwrthwynebu cyflwyno treth dwristiaeth. Mae sefydliadau fel y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chynghrair Twristiaeth Cymru wedi nodi eu gwrthwynebiad i’r dreth dwristiaeth arfaethedig yn gyhoeddus. Mae’n hanfodol, felly, fod Gweinidogion yn gwrando ar bryderon y sector twristiaeth, gan sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r rhan hanfodol hon o’n heconomi yng Nghymru ac nid yn ei herbyn.

Felly, Weinidog, fy nghwestiwn yw: pa ymgysylltu y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud â’r sector ei hun ynghylch effaith treth dwristiaeth ar fusnes? Mae'n rhan sylfaenol o hyn—deall yr effeithiau a sut y bydd gweithredu'r dreth yn effeithio ar fusnesau, a sicrhau y gwrandewir ar eu pryderon.

Rydym yn ystyried pryderon a safbwyntiau’r diwydiant yn ofalus iawn yn wir. Felly, yn amlwg, fel y gwyddoch, mae hwn yn waith a wnawn mewn partneriaeth â Phlaid Cymru fel rhan o'n cytundeb cydweithio, a bu Cefin Campbell a minnau mewn digwyddiad ymgysylltu arbennig o ddefnyddiol. Roedd yn weithdy o fath, un o nifer a gynhaliwyd ledled Cymru, a gwn i’r Prif Weinidog ac Adam Price gael prynhawn defnyddiol yn un o’r digwyddiadau ymgysylltu eraill hefyd. Felly, cafwyd cyfleoedd enfawr a diddiwedd i'r sector roi ei farn ar hyn, ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i ymgysylltu wrth inni fwrw ymlaen â'n cynigion.

Dylwn ddweud bod Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyfarfod ag UKHospitality ar 29 Mehefin, ac unwaith eto, roedd yn gyfle i drafod yr ardoll ymwelwyr, a gwn iddi roi sicrwydd yn y cyfarfod hwnnw y bydd yr ymgysylltu’n parhau, gyda’r nod o wella’r cynnig twristiaeth yn lleol, a lliniaru effaith twristiaeth ar gymunedau pan ddaw’n anghynaliadwy.

Felly, credaf ein bod wedi cael llawer o ymgysylltiad da iawn, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar i'r sector am yr ymgysylltu y maent wedi'i wneud, hyd yn oed lle nad ydynt wedi rhoi eu cefnogaeth.

14:00

Diolch am hynny, Weinidog. Rwy'n falch fod ymgysylltiad yn digwydd. Y peth pwysig yw: a oes modd gwrando yn ogystal ag ymgysylltu, a sicrhau bod y materion allweddol hynny'n cael eu hystyried? Yr wythnos hon, daeth i'r amlwg fod diweithdra wedi codi eto i'w lefel uchaf mewn hanner degawd; cynnydd o 1.2 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yw'r cynnydd mwyaf sydyn yn unrhyw un o wledydd neu ranbarthau'r DU. Dyma'r trydydd mis yn olynol i gyfraddau diweithdra yng Nghymru gynyddu. Yn anffodus, er mai'r gyfradd ddiweithdra yw'r gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig, mae cyflogau'n parhau ar y lefelau isaf, a £2,500 yn is na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae hyn ar adeg lle mae teuluoedd ledled y wlad yn parhau i frwydro gyda chostau byw cynyddol.

Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi addo peidio â chodi cyfradd y dreth incwm ar bobl Cymru am y tro, ond rwy'n credu bod pobl Cymru'n haeddu addewid mwy hirdymor. Felly, Weinidog, a allwch chi roi addewid cadarn i bobl Cymru heddiw na fydd eich Llywodraeth yn cynyddu cyfradd treth incwm Cymru dros weddill tymor y Senedd?

Wel, fe fyddwch yn gyfarwydd â'r ffaith ein bod, bob blwyddyn, yn edrych o'r newydd ar gyfraddau treth incwm Cymru. Yn bendant, fe wnaethom benderfynu nad codi cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod flwyddyn ariannol hon oedd y peth iawn i'w wneud, gan gofio effaith yr argyfwng costau byw ar deuluoedd, a'r ffaith y byddai'n rhaid i chi godi'r gyfradd sylfaenol er mwyn codi unrhyw swm sylweddol o arian drwy gyfraddau treth incwm Cymru, a byddai hynny'n effeithio ar rai o'r gweithwyr tlotaf yma yng Nghymru ar adeg pan fyddant yn lleiaf abl i'w fforddio—gan gydnabod, mewn gwirionedd, fod llawer o'r anawsterau sy'n wynebu'r bobl dlotaf yn deillio'n uniongyrchol o weithredoedd Llywodraethau diweddar y DU, fel y gyllideb fach, sy'n amlwg yn cael effaith enfawr ar bobl dlotaf Cymru yn ogystal â'r rheini y mae eu morgeisi'n cynyddu. Felly, nid wyf yn credu mai nawr oedd yr amser. Rydym yn edrych o'r newydd ar hyn bob blwyddyn. Byddwn yn cael dadleuon yn y Senedd, byddwn yn pleidleisio yn y Senedd, ac rwy'n siŵr y bydd y dadleuon ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yr un mor fywiog â'r rhai a gawsom ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Diolch, Lywydd. Yn debyg i'r cwestiwn olaf:

'Gall trethiant datganoledig fod yn sbardun pwerus i ddylanwadu ar newid ymddygiad, yn ogystal â chynhyrchu refeniw i gefnogi gwariant cyhoeddus i ddiwallu anghenion Cymru, a'n galluogi i ddatblygu trethi mwy graddoledig.'

Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond geiriau datganiad cenhadaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ei chynllun gwaith polisi trethi ei hun ar gyfer 2021 i 2026. Mae Plaid Cymru yn cytuno'n llwyr ag ysbryd y geiriau hyn. Yn anffodus, mae'r fframwaith presennol ar gyfer trethi datganoledig yng Nghymru yn llawer rhy gyfyngedig ac yn ei hanfod yn tanseilio'r datganiad cenhadaeth. Rydym yn credu bod achos credadwy, blaengar dros ddatganoli pwerau treth incwm ymhellach i Gymru; yn syml, nid yw'r bandiau treth y mae Llywodraeth y DU yn eu gosod ar hyn o bryd yn addas ar gyfer natur y sylfaen drethu yma yng Nghymru. Mae tua 85 y cant o drethdalwyr Cymru yn y band cyfradd sylfaenol, sy'n golygu, o dan strwythur presennol y band, y byddai unrhyw ymgais i godi refeniw ychwanegol sylweddol drwy gyfraddau treth incwm Cymru yn anochel yn golygu codi trethi ar gyfer yr enillwyr incwm is. Mae hyn, wrth gwrs, wedi bod yn un o'r prif resymau pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi amrywio cyfraddau treth incwm Cymru eto, o gymharu â'r cyfraddau a osodwyd gan Lywodraeth y DU, er bod ganddi bŵer i wneud hynny ers 2019.

Yn yr Alban, mae pethau'n wahanol ac maent wedi gallu codi £456 miliwn mewn cyfraddau treth incwm ychwanegol yn ystod 2020-21. Mae natur raddoledig y bandiau yn yr Alban hefyd wedi golygu bod pobl sy'n ennill llai na £27,850, sef 52 y cant o drethdalwyr yr Alban, yn talu llai mewn treth incwm ar hyn o bryd. A allai'r Gweinidog amlinellu felly a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu comisiynu unrhyw ymchwil allanol ar oblygiadau datganoli pwerau treth incwm ymhellach i Gymru?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac mae'n rhywbeth rydym wedi gallu ei archwilio mewn rhai trafodaethau a gawsom gyda Llywodraeth yr Alban, ac roedd yn gwestiwn a gododd yn ein cynhadledd dreth hefyd. Mae'n rhywbeth y buom yn ei drafod wrth basio ein cyfraddau treth incwm Cymreig ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Yn bendant, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem edrych arno, y dylem ei archwilio, ond nid yw hynny'n golygu nad oes risgiau mawr ynghlwm wrtho hefyd. Pan edrychwch ar y sefyllfa yn yr Alban, mae'r effaith wedi golygu eu bod wedi cael addasiad negyddol i'w cyllideb o ganlyniad i gyfraddau treth incwm yr Alban. A hefyd rwy'n credu eu bod wedi gweld newidiadau ymddygiadol eithaf sylweddol, ac rydym yn ceisio archwilio'r rheini yn ogystal â gweld i ba raddau y byddent yn berthnasol yma yng Nghymru. Felly, o ganlyniad, rwy'n credu bod gormod o elfennau anhysbys. Mae llawer iawn o risg ynghlwm wrth hyn hefyd, a dyna pam rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud y math o waith sydd wedi'i ddisgrifio, a deall yn well beth yw'r risgiau hynny a sut y gallent fod yn berthnasol yma yng Nghymru, a dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban.

A hoffwn dynnu sylw cyd-Aelodau at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy'n dangos bod ffigurau alldro Cyllid a Thollau EF yn dangos bod y refeniw o gyfraddau treth incwm Cymru yn 2021-22 wedi cynyddu 11.4 y cant ers 2020-21. Felly, disgwyliwn y bydd effaith net cyfraddau treth incwm Cymru 2021-22 yn gadarnhaol, sy'n newyddion da i ni. Rwy'n tynnu sylw cyd-Aelodau at y datganiad ysgrifenedig hwnnw, o ystyried y lefel uchel o ddiddordeb sydd yna yng nghyfraddau treth incwm Cymru.

14:05

Diolch. Rwy'n credu mai'r pwynt yw bod angen inni archwilio'r pethau hyn i fynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau y gwnaethoch chi eu codi yno. Ac yn dilyn eich ateb, un mater nad yw'n cael llawer o sylw yn y Siambr hon, ond fe wnaethoch chi ei grybwyll nawr, yw effaith llusgiad cyllidol. Roedd y datganiad diweddaraf o ystadegau alldro treth incwm Cymru, fel y sonioch chi, ar gyfer 2021-22, yn gwthio cyfran o drethdalwyr Cymru i fandiau uwch ac ychwanegol o dreth incwm. Gyda Llywodraeth y DU yn rhewi trothwyon treth incwm tan 2027-28, mae'n debygol y bydd hon yn duedd weladwy ar gyfer y dyfodol y gellir ei ragweld. Byddai gennyf ddiddordeb mewn dysgu, felly, faint o refeniw ychwanegol a godwyd gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r llusgiad cyllidol ar gyfer 2021-22 a 2022-23, a sut mae hyn wedi'i gynnwys yng nghynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd ariannol nesaf. Ac o ystyried bod cyflogau'n parhau i gael trafferth cadw i fyny â chwyddiant a ysgogwyd gan y Torïaid, a yw'r Gweinidog hefyd yn cytuno bod hon yn enghraifft arall lle byddai'r gallu i osod bandiau treth incwm sy'n benodol i Gymru yn ffordd lawer tecach o reoli effaith llusgiad cyllidol?

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod gyda'r cyfrifiad penodol y mae wedi gofyn amdano y prynhawn yma. Ond rwy'n credu bod hwn yn un o'r pwyntiau a fyddai'n rhan o'r ystyriaeth o fanteision neu risgiau cael strwythur band gwahanol yma yng Nghymru, a bydd yn rhan o'r naratif, mae'n debyg, wrth wneud unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol ar hynny. Ond wrth edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban, carwn bwysleisio eto fod hynny'n cynnig rhybudd, sy'n golygu, rwy'n credu, y byddai'n rhaid inni fynd i mewn i hyn â'n llygaid yn llydan ar agor, a bod angen inni archwilio'r sefyllfa o bob ongl. Ac nid wyf yn credu ein bod mewn sefyllfa, ar hyn o bryd, i wneud penderfyniad y naill ffordd neu'r llall am hynny, o ran a yw'n iawn i Gymru ar gyfer y dyfodol. Ond rydym yn cadw meddwl agored.

Argyfwng Bysiau Cyhoeddus

3. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i'r angen am gymorth ychwanegol i awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r argyfwng bysiau cyhoeddus wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd? OQ59824

Bydd y gronfa bontio gwerth £46 miliwn ar gyfer bysiau a gyhoeddwyd ym mis Mai yn olynu'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau sydd gennym ar hyn o bryd, gan symud o'r cyllid brys cyfredol tuag at rwydweithiau bysiau sy'n gweddu'n well i'r patrymau teithio newydd rydym wedi'u gweld ers diwedd y pandemig a diogelu'r rhan fwyaf o lwybrau. 

Diolch. Mae llawer o sôn am fysiau heddiw; mae'n dangos pa mor bwysig yw hyn. Yn y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus ar fysiau, dywedodd gweithredwyr nad oes gan Trafnidiaeth Cymru arbenigedd i ddarparu gwasanaethau bysiau ar lefel ranbarthol. Mae gan awdurdodau lleol wybodaeth rheng flaen am eu bod yn gweithio gyda gweithredwyr yn ddyddiol ac maent wedi cronni blynyddoedd o brofiad. Maent yn mapio llwybrau sy'n addas ar gyfer cymunedau lleol yn rheolaidd hefyd. Felly, Weinidog, pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gydag arweinwyr awdurdodau lleol ynglŷn â chynlluniau i symud y ddarpariaeth fysiau i gyd-bwyllgorau corfforedig? Ac a fyddech chi'n ystyried sicrhau bod adnoddau ar gael i awdurdodau lleol fel y gallant sicrhau bod arbenigedd trafnidiaeth yn cael ei gadw a'i basio ymlaen drwy brentisiaid?

Wel, byddwn yn cytuno'n llwyr fod deallusrwydd rhanbarthol a lleol yn gwbl hanfodol i sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn gweithio, a dyna pam rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n arwain ar hyn, wedi cael trafodaethau helaeth gydag awdurdodau lleol am hyn. Ac fel y dywedais, ef sy'n arwain ar y gwaith hwn, felly efallai y byddai mewn sefyllfa well i roi diweddariad llawn i chi. Serch hynny, rwy'n gwybod, ar ôl cyfarfod diweddar y grŵp trawsbleidiol, eich bod hefyd wedi ysgrifennu ato gyda chrynodeb o'r trafodaethau a gawsoch yn y cyfarfod trawsbleidiol hwnnw, a gwn y bydd yn gallu mynd i'r afael â'r pwynt penodol hwn ynghylch ymgysylltu yn ei ymateb hefyd.

14:10

Yn rhy aml, rydym yn clywed y Dirprwy Weinidog yn dweud nad oes digon o ddefnydd o fysiau. Nawr, diolch i Lywodraeth Geidwadol y DU, £2 yn unig y mae teithwyr yn Lloegr yn ei dalu am docyn bws i unrhyw le. Mae ymchwil gan Transport Focus wedi datgelu bod 11 y cant o ymatebwyr yn defnyddio'r bws yn amlach, diolch i'r cap hwn, gydag 80 y cant yn cytuno bod y tocynnau £2 wedi eu helpu gyda'r cynnydd mewn costau byw. Mewn gwirionedd, mae'r polisi bellach wedi arwain at dorri rhai prisiau gymaint ag 87 y cant. Am fodel gwych yw hwnnw. Felly, tra bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn ariannu'r cynllun ar 5,000 o lwybrau, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cefnogi unrhyw lwybrau. Felly, a wnewch chi adolygu cyllideb 2023-24 gyda'r nod o sicrhau bod arian ar gael i gefnogi'r un cap ar brisiau tocynnau yng Nghymru? Diolch.

Wel, byddwn yn dweud bod y dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU wedi arwain, rwy'n credu, at oddeutu 8 y cant o lwybrau'n cael eu torri dros y flwyddyn ddiwethaf, ond yng Nghymru rwy'n credu bod y ffigur oddeutu 2 y cant. Felly, rwy'n credu y gallwch edrych ar wahanol ddulliau, ond yr hyn y ceisiwn ei wneud yng Nghymru yw diogelu cymaint o'r llwybrau hynny ag y gallwn. Wrth gwrs, hoffem fynd gam ymhellach i helpu pobl i gael mynediad at fysiau, ond mae'n rhaid inni wneud yr hyn a allwn gyda'r adnoddau sydd ar gael.

Dyletswyddau Awdurdodau Lleol

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn dwyn awdurdodau lleol i gyfrif am gyflawni eu dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Cymru? OQ59816

Mae Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn asesu perfformiad awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â materion a nodir, lle bo hynny'n briodol. 

Diolch. Wel, ar ôl i mi holi'r Prif Weinidog bythefnos yn ôl yma ynglŷn â'r dyletswyddau statudol a osodwyd ar awdurdodau lleol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, daeth y Prif Weinidog i'r casgliad bod

'awdurdodau lleol [yn p]arhau i gael eu dwyn i gyfrif am gyflawni cyfrifoldebau nad ydyn nhw'n rai i Lywodraeth Cymru ond iddyn nhw.'

Fodd bynnag, rwy'n parhau i glywed bron yn ddyddiol gan bobl niwroamrywiol neu bobl ag aelodau niwroamrywiol o'r teulu yn sir y Fflint y mae eu hawliau o dan y Ddeddf hon yn cael eu diystyru. Mae hyn yn cynnwys achosion lle mae etholwyr yn cael eu cyhuddo'n unochrog o dorri cytundeb taliad uniongyrchol, er bod yr etholwyr yn datgan na fu unrhyw adolygiad o'r cynllun gofal a chymorth, cytundeb taliad uniongyrchol na chynllun cymorth ar waith, ac mae'r ddeddfwriaeth yn datgan bod yn rhaid i awdurdod lleol fod yn barod i fod yn agored i syniadau newydd a bod mor hyblyg â phosibl. Wrth fynychu cyfarfod adolygu etholwr awtistig yn ddiweddar, gwelais hefyd chwalfa awtistig yn cael ei ysgogi gan fethiant swyddogion i addasu i anghenion fy etholwyr. Er nad yw chwalfa awtistig yn ymddygiad gwael, mae'r cyngor wedi beio'r etholwr ac wedi pennu sut y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol. Sut felly y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y modd y bydd awdurdodau lleol yn cyflawni eu cyfrifoldebau yn cael ei fontitro a'i werthuso'n effeithiol o ystyried nad yw'r ddeddfwriaeth Gymreig yn golygu dim heb hynny?

Wel, rwy'n credu y byddai'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu gwneud mwy o gyfiawnder â'r cwestiwn o ystyried bod hyn yn rhan o'i phortffolio hi, ond hoffwn geisio dangos y ffordd y mae Llywodraeth Cymru drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, wedi rhoi trefn berfformio newydd ar waith i sbarduno gwelliant mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Y nod yw sicrhau bod gennym ddiwylliant lle mae cynghorau yng Nghymru yn ymdrechu'n barhaus i wneud yn well a gwella'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Yn amlwg, mae'n ofynnol bellach i awdurdodau lleol ddal ati i adolygu'u perfformiad o dan y Ddeddf, gan gynnwys cyhoeddi hunanasesiad blynyddol o ba mor effeithiol y maent yn arfer eu swyddogaethau, ac mae'r adroddiadau hunanasesu cyntaf hynny bellach ar gael, ac mae hefyd yn ofynnol i gynghorau gynnal asesiad panel neu asesiad gan gymheiriaid unwaith ym mhob cylch etholiadol.

Felly, rwy'n derbyn nad yw'n ateb y cwestiwn penodol ynghylch gwasanaethau cymdeithasol, ond rwy'n credu y byddai Gweinidog gwahanol mewn sefyllfa well i wneud hynny, ond hoffwn bwysleisio, wrth gwrs, y dylid ymgysylltu â phobl ag awtistiaeth a phobl niwroamrywiol yn fwy cyffredinol mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a deall yr anghenion ychwanegol a allai fod ganddynt neu'r addasiadau rhesymol y gallent fod eu hangen. Felly, byddaf yn archwilio'r mater hwn ymhellach, ond mae arnaf ofn na allaf wneud cyfiawnder â'r cwestiwn oherwydd ei fod yn ymwneud â phortffolio Gweinidog gwahanol.

Heriau Staffio a Recriwtio

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag awdurdodau lleol ynghylch yr heriau staffio a recriwtio y maent yn eu hwynebu? OQ59839

14:15

Rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gydag arweinwyr awdurdodau lleol ac yn trafod nifer o faterion, gan gynnwys staffio a recriwtio. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau a'r sgiliau a'r arbenigedd sydd ar gael ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Tra bo'r argyfwng costau byw yn gwaethygu a thra bo cyrff sector cyhoeddus fel llywodraeth leol yn ei chael hi'n anodd cynnal y gwasanaethau hanfodol y maent yn eu darparu, cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru adroddiad yn ddiweddar yn pwysleisio mai heriau'r gweithlu oedd y prif risg ym maes gofal cymdeithasol, a gwn fod adrannau'r cyngor yn gyffredinol, fel addysg, cynllunio a thrafnidiaeth, yn cael trafferth recriwtio a chadw gweithwyr yn wyneb cystadleuaeth gan y sector preifat.

Mae Canghellor y DU, Jeremy Hunt, yn bendant mai'r sector cyhoeddus fydd yn ysgwyddo'r baich o glirio llanast economaidd y Llywodraeth Dorïaidd. Mae gwneud hyn ar ôl dros ddegawd o gyni yn golygu bod llawer o'r sector cyhoeddus dan bwysau mawr. Gwyddom fod cynghorau yng Nghymru wedi cael eu diogelu'n well oherwydd Llywodraeth Lafur Cymru yma, ac ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru, ond ar ôl 13 mlynedd o gamreoli Torïaidd trychinebus, beth arall y gallwn ei wneud fel Llywodraeth Lafur Cymru i ddiogelu gallu'r sector cyhoeddus, fel ein hawdurdodau lleol, i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn?

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n credu mai'r peth cyntaf a phwysicaf a wnawn yw sicrhau ein bod yn darparu'r gefnogaeth orau bosibl i lywodraeth leol. Felly, yn y gyllideb gyfredol hon, derbyniodd awdurdodau lleol godiad o 7.9 y cant, a oedd, ar y pryd, yn cael ei gydnabod fel codiad eithriadol o dda, ond nawr, yn amlwg, rydym yn cydnabod bod effeithiau chwyddiant wedi erydu budd y codiad hwnnw. Felly, rydym yn cydnabod y pwysau sydd ar awdurdodau lleol, wrth gwrs, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn cydweithio ar faterion fel recriwtio a chadw staff allweddol.

Fe wnaethom gynnal ymgyrch recriwtio ddwys dros fisoedd yr haf y llynedd, i ddenu pobl i faes gofal cymdeithasol, ac fe wnaethom ariannu hyfforddiant rhagarweiniol ar-lein am ddim i dros 500 o bobl a oedd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol. A hefyd, rydym wedi hyrwyddo ein prentisiaethau gofal cymdeithasol ac mae gennym ein cyfrifon dysgu personol wrth gwrs, sy'n bwysig iawn i helpu pobl i newid gyrfa neu uwchsgilio o fewn y gweithlu y maent ynddo ar hyn o bryd.

Yn amlwg, fe wnaethom fuddsoddi yn y cyflog byw gwirioneddol, ond rydym bellach yn comisiynu gwerthusiad annibynnol i archwilio effaith a llwyddiant y modd y cafodd ei weithredu, a bydd hwnnw'n ein helpu i ddysgu a gwneud gwelliannau ar gyfer y dyfodol hefyd. Ond wrth gwrs, mae angen inni barhau i weithio mewn partneriaeth ac archwilio beth arall y gallwn ei wneud o fewn ethos gwasanaeth cyhoeddus Cymru'n un, o ran dod o hyd i ffyrdd posibl o gefnogi pobl i symud ar draws y sector cyhoeddus, er enghraifft rhwng llywodraeth leol ac iechyd, mewn ffordd fwy di-dor.

Weinidog, fel sydd newydd gael ei gydnabod gan Jayne Bryant, mae'r cynghorau yng Nghymru yn wynebu argyfwng enfawr yn y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae 100 y cant o arweinwyr y GIG yn cytuno bod yna argyfwng yn eu hardal leol; mae 94 y cant yn credu bod yr argyfwng yn waeth na'r hyn ydoedd 12 mis yn ôl; mae 88 y cant yn disgwyl iddo ddirywio hyd yn oed yn fwy.

Weinidog, gan nad oes digon o staff i lenwi'r rolau, mae asiantaethau yn codi premiwm ar gyfer staff gofal cymdeithasol. Mae enghraifft berffaith o hyn yng Nghyngor Sir Fynwy. Maent wedi cyhoeddi eu bod wedi gorfod defnyddio £3.5 miliwn o'u cronfeydd wrth gefn ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23, i gefnogi gwariant ychwanegol ar wasanaethau fel staffio gofal cymdeithasol. Mae'r straen y mae hyn yn ei roi ar awdurdodau lleol yn aruthrol ac yn rhywbeth nad yw'n gynaliadwy yn hirdymor, fel rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno. Rydym yn croesawu'r camau recriwtio, fel rydych newydd amlinellu eich bod wedi'i wneud o'r blaen, ond pa gamau eraill rydych chi'n eu cymryd, gyda'r Gweinidog iechyd, i sicrhau nad yw argyfwng staffio gofal cymdeithasol yn gwaethygu i awdurdodau lleol, o ystyried y newid yn y sefyllfa economaidd, ac yn amlwg, yr angen brys? Diolch.

Wel, rwy'n credu bod cyfeiriad yr Aelod at ddefnyddio cronfeydd wrth gefn yn bwysig, oherwydd rwy'n aml yn cael fy meirniadu ar lawr y Senedd gan gyd-Aelodau i chi yn y Blaid Geidwadol am lefel y cronfeydd wrth gefn sydd gan awdurdodau lleol, ac am beidio ag ymyrryd ac atal rhai o'r lefelau hynny. Ond mae'n dangos un enghraifft o ble mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r cyllid sydd ganddynt mewn cronfeydd wrth gefn i leddfu rhywfaint ar y pwysau eithafol iawn y maent yn ei wynebu ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod, ar ôl siarad gydag awdurdodau lleol yr wythnos diwethaf am y pwysau penodol arnynt hwy, yn is-grŵp cyllid cyngor partneriaeth Cymru, mai gofal cymdeithasol i oedolion a gofal cymdeithasol i blant yw dau o'r pethau sy'n creu'r pwysau mwyaf a wynebant ar hyn o bryd.

Rydym wedi darparu cyllid rheolaidd i'r sector ar ffurf grant gweithlu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, ac rydym wedi gwneud yn siŵr fod y meini prawf ar gyfer y grant hwnnw'n cael eu gosod yn fras iawn i geisio rhoi'r hyblygrwydd mwyaf posibl i awdurdodau lleol ar gyfer ei ddefnyddio. Ond gwn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn trafod gwasanaethau cymdeithasol yn barhaus gydag awdurdodau lleol, a beth arall y gallem fod yn ei wneud i gefnogi'r staff sydd eisoes yn y sector, ond hefyd i recriwtio a chadw mwy o staff.

14:20
Ariannu Cynghorau yng Ngorllewin De Cymru

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cynghorau yng Ngorllewin De Cymru yn cael eu hariannu'n iawn? OQ59846

Rwy'n cefnogi cyllid priodol i awdurdodau lleol ledled Cymru drwy flaenoriaethu cyllid i lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus ym mhenderfyniadau cyllidebol y Llywodraeth, ac yn parhau i ddadlau dros ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn fy nhrafodaethau gyda Llywodraeth y DU.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae arweinydd Llafur ein cyngor lleol yn Abertawe, Rob Stewart, pan nad yw'n rhy brysur yn enwi ystafelloedd mewn adeiladau cyhoeddus ar ôl ei ffrindiau, yn dweud wrthym i gyd yn rheolaidd am beryglon cyni. Mewn gwirionedd, ym mis Hydref, dywedodd fod Cyngor Abertawe yn wynebu storm ariannol. Ond er iddo ddweud hynny, fe'i dywedodd mewn cyd-destun lle mae £130 miliwn yn fwy wedi'i gronni dros y pedair blynedd diwethaf mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio. Yn 2018, roedd £95 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio yng Nghyngor Abertawe. Ar ddiwedd 2022, roedd £228 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio. A thrwy'r adeg, mae cyngor Llafur Abertawe wedi bod yn cynyddu biliau treth gyngor pobl gyffredin sy'n byw yn Abertawe. Onid yw hynny'n anfoesol, Weinidog?  

Yn amlwg, mater i'r awdurdod lleol yw gosod y dreth gyngor ar draws Cymru, pa bynnag awdurdod lleol ydyw. Ond dywedaf eto, os ydym am edrych ar lefel y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan awdurdod lleol, dylem ddeall sut y bydd y cronfeydd wrth gefn hynny'n cael eu defnyddio. Nawr, rydych wedi gweld, fel finnau, ar draws Abertawe, y trawsnewidiad llwyr sydd wedi digwydd yn y ddinas, diolch i weledigaeth arweinydd Cyngor Abertawe. Ac rwy'n credu y bydd llawer o'r arian hwnnw o fewn cronfeydd wrth gefn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r ddinas a'r sir i ddatblygu'r ardal ymhellach, a hefyd i gefnogi'r bobl sy'n byw yn yr ardal drwy'r argyfwng costau byw. Felly, os edrychwch chi ledled Cymru, rwy'n credu y gwelwch fod yn rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio llawer o arian o'u cronfeydd wrth gefn i'w cefnogi, o ystyried effaith chwyddiant y credaf y bydd llawer ohonom yn deall ei fod yn deillio o benderfyniadau a wnaed gan Lywodraethau olynol y DU. 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent? OQ59849

Yn ogystal â grantiau penodol, bydd y cyngor yn cael £139.73 miliwn drwy'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2023-24—cynnydd o 6.5 y cant. Er y bydd yn rhaid i'r cyngor wneud penderfyniadau anodd o hyd yn wyneb y cyfraddau chwyddiant presennol, mae hwn yn setliad gwell na'r hyn oedd yr awdurdodau wedi'i ddisgwyl.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. A yw'n credu ei bod yn iawn fod gan ardal sydd â'r gyfran uchaf o blant mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru, gyda thraean ohonynt mewn tlodi cymharol a thros un rhan o bump ohonynt mewn tlodi absoliwt, y gostyngiad cymharol mwyaf yn yr asesiad o wariant safonol dros y 15 mlynedd diwethaf, y gostyngiad mwyaf yn y boblogaeth, y bandio treth gyngor gwannaf ac sydd ar waelod mynegai cymharol y DU, a bod y lle'n cael cynnydd o 6.5 y cant, o'i gymharu â chyfartaledd Cymru o 7.9 y cant? Nawr, fe ddywedodd y Gweinidog yn ei hateb cynharach ei bod yn credu ei fod yn eithaf hael. Mae pobl Blaenau Gwent angen ac yn haeddu cefnogaeth gan y lle hwn sy'n cyfateb i'r angen. Mae angen i Lywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghenion rhai o bobl dlotaf y wlad, fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu pobl Blaenau Gwent. 

Yn hollol, a chefais ymweliad da iawn â Blaenau Gwent yn ddiweddar pan gyflwynodd arweinydd y cyngor a phrif weithredwr y cyngor ddadl debyg iawn i'r hyn a gyflwynwyd gennych chi y prynhawn yma, mewn perthynas â phwysigrwydd y mesurau amddifadedd o fewn y fformiwla yn arbennig. Rwy'n gwybod bod yna heriau penodol ym Mlaenau Gwent o ran fod ganddynt boblogaeth gymharol hŷn, llai o bobl o oedran gweithio, ac yn y blaen. Gwn fod yr is-grŵp cyllid a'r is-grŵp dosbarthu oddi tano yn parhau i edrych ar sut rydym yn datblygu a mireinio'r fformiwla, ond gyda ffocws penodol ar y mesurau sy'n ymwneud ag amddifadedd, sef y mesurau penodol y credaf y byddant o ddiddordeb ym Mlaenau Gwent, wrth gwrs.

Weinidog, gwyddom fod amseroedd yn anodd mewn llawer o awdurdodau lleol ledled y wlad ar hyn o bryd. Roedd cyngor Blaenau Gwent wedi bod yn llunio rhestr hir o fesurau torri costau yn gynharach eleni, gan gynnwys cau pob ardal chwarae i blant. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, Weinidog, y byddai hyn yn gamgymeriad, a dylem fod yn hyrwyddo chwarae, chwaraeon a ffyrdd iachach o fyw. Diolch byth, mae Llywodraeth y DU wrth law i hybu cyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad, gyda Blaenau Gwent yn elwa o ddau o'i chynlluniau mwyaf. Mae cyrtiau tenis yn yr ardal wedi cael eu huwchraddio diolch i fuddsoddiad o £30 miliwn gan Lywodraeth y DU a'r Gymdeithas Tenis Lawnt, a bydd £23,000 yn cael ei wario ar wella maes hamdden a chwaraeon Tredegar. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r buddsoddiad gwych hwn gan Lywodraeth y DU i wella chwaraeon ar lawr gwlad ym Mlaenau Gwent?

14:25

Yn y pen draw, mae'n rhaid i chi ddweud, 'Wel, nid yw nac yma nac acw', wyddoch chi? Nid yw hyn ond yn wasgariad bach iawn o arian ar draws Cymru o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth y DU. Gadewch inni gofio bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £900 miliwn yn llai ar hyn o bryd na'r hyn ydoedd pan wnaethom gyflwyno ein cynlluniau. Mae gennym ddadl gan y Pwyllgor Cyllid y prynhawn yma, a byddaf yn egluro i gyd-Aelodau pa mor anodd yw'r penderfyniadau y byddwn yn eu gwneud yn y dyfodol, a sut y bydd yn rhaid inni ganolbwyntio ar wneud llai, yn y bôn, i gau'r bwlch yn ein cyllideb. Felly, pe bai Llywodraeth y DU o ddifrif eisiau gwneud gwahaniaeth ym Mlaenau Gwent ac mewn mannau eraill ledled Cymru, byddai'n sicr yn ceisio cynyddu ein cyllideb, o leiaf yn unol â chwyddiant, neu o leiaf yn rhoi'r hyblygrwydd inni ddefnyddio'r cyllid sydd gennym mewn modd mwy priodol.

Dyw Andrew R.T. Davies ddim yn y Siambr i ofyn ei gwestiwn 9 [OQ59842], ac felly, cwestiwn 10—Jack Sargeant. 

Cefnogi'r rhai sy'n Gadael Gofal

10. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cymru? OQ59828

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi cael blaenoriaeth gyson drwy ein proses gyllidebol. Mae hyn yn cynnwys ein cynllun peilot incwm sylfaenol blaengar gwerth £20 miliwn ar gyfer pobl sy'n gadael gofal yng Nghymru, sefydlu cronfa Dydd Gŵyl Dewi gwerth £1 filiwn, a'r cynlluniau gwerth £9.5 miliwn i blant sy'n derbyn gofal, sy'n cael eu hariannu drwy fuddsoddi i arbed.

Rwy'n ddiolchgar am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddom i gyd, mae pobl sy'n gadael gofal yn grŵp sydd dan anfantais ddifrifol. Byddwn yn trafod yr adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau a phwyllgor Jayne Bryant yn ddiweddarach y prynhawn yma, a byddwn yn trafod y gwahaniaethu a'r rhagdybiaethau y maent yn eu hwynebu nad oes rhaid i'r gweddill ohonom ymdopi â nhw. Ond maent hefyd yn wynebu ansicrwydd ariannol wrth ddechrau ceisio adeiladu gyrfa, dod o hyd i'w cartref cyntaf neu ymgymryd â rhyw fath o hyfforddiant i ddatblygu eu bywydau.

Mae beirniaid y cynllun peilot incwm sylfaenol blaengar wedi canolbwyntio ar gost y treial, ond hoffwn symud y sgwrs a siarad mwy am y buddion, gan gynnwys sut y gallai'r ymyrraeth hon alluogi'r derbynwyr i gyflawni mwy yn eu bywydau. Gwyddom fod tlodi yn arwain at bob math o bethau gwael, a gwyddom ei fod yn gostus i'r unigolyn ac yn gostus i'r wladwriaeth hefyd. Pa asesiad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gynnal wrth geisio gwerthuso'r cynllun peilot incwm sylfaenol blaengar?

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn, ac rwy'n falch iawn fod y data a gyhoeddwyd gennym o ran monitro, sy'n cwmpasu chwe mis cyntaf y cynllun peilot, yn dangos bod 92 y cant o'r bobl ifanc a oedd yn gymwys i gael mynediad at y cynllun peilot wedi cofrestru. Felly, gobeithio y gallwn gynyddu'r ffigur hwnnw, ond rwy'n credu bod hwnnw'n ddechrau da iawn.

Mae'r cynllun peilot incwm sylfaenol yn cael ei werthuso'n ofalus gan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd. Wrth gwrs, ein hysgogiad polisi yw cefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i bontio'n gadarnhaol o ofal awdurdodau lleol, gan ddefnyddio incwm sylfaenol fel mesur i gyflawni hyn. Mae'n anodd cyfrif sawl gwaith y mae cyd-Aelodau o'r holl feinciau wedi sôn am bwysigrwydd atal yn y Siambr hon—wel, mae hwn yn fesur ataliol perffaith yn yr ystyr ei fod yn buddsoddi cyn i broblemau ddechrau codi o ran y canlyniadau anos y gwyddom eu bod yn bodoli ar hyn o bryd i rai sy'n gadael gofal. Felly, rwy'n credu bod gweithredu'n gynnar, cefnogi'r bobl ifanc hynny i ddilyn y trywydd gorau posibl a rhoi gwybod iddynt fod ganddynt Lywodraeth sy'n malio amdanynt yn bwysig iawn.

Grant Cynnal Refeniw

11. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod cyllid grant cynnal refeniw yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol? OQ59818

Rwy'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i ddeall y pwysau sy'n eu hwynebu ac yn parhau i sicrhau bod llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yn flaenoriaeth yn ein hystyriaethau cyllidebol. Rwy'n parhau i ddadlau dros ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn fy nhrafodaethau gyda Llywodraeth y DU.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Y rheswm pam rwyf eisiau codi'r cwestiwn hwn y prynhawn yma yw oherwydd bod cynghorau, ac yn enwedig fy nghyngor i, Cyngor Sir Ddinbych, yn dibynnu'n helaeth ar gyllid y grant cynnal refeniw gan Lywodraeth Cymru gan ei fod yn ffurfio cyfran fawr o'r arian sy'n cael ei godi a'i wario gan y cyngor. Tuag at ddiwedd y mis, yn aml iawn mae cynghorau, gan gynnwys fy un i, yn meddwl tybed pa gyfradd y byddant yn ei chael bob 12 mis. Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi y bydd sir Ddinbych a chynghorau ar draws gogledd Cymru ac ar draws y wlad yn cael cyllid grant cynnal refeniw cynaliadwy, yn hytrach na gorfod dod yn ôl at Lywodraeth Cymru bob 12 mis, â'u cap yn eu dwylo?

14:30

Y gorau y gallaf ei wneud o dan yr amgylchiadau hynny yw ymrwymo bob amser i roi sicrwydd pan fydd gennym sicrwydd. Ers nifer o flynyddoedd bellach, dim ond cyllidebau un flwyddyn a roddwyd inni gan Lywodraeth y DU, ac o dan yr amgylchiadau hynny, dim ond blwyddyn o sicrwydd y llwyddais i'w roi i lywodraeth leol. Ond yn ffodus erbyn hyn, rydym yng nghanol cyfnod adolygu gwariant tair blynedd; rydym ym mlwyddyn 2 ar hyn o bryd. Ar ddechrau'r cyfnod adolygu gwariant tair blynedd hwn, rhoddais ffigurau pendant i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn gyntaf, a ffigurau dangosol hefyd ar gyfer blynyddoedd 2 a 3. Felly, rydym ym mlwyddyn 2 nawr, mae awdurdodau lleol yn gwybod eu ffigurau, ac mae ganddynt ffigurau y gallant gynllunio arnynt ym mlwyddyn 3 hefyd. Pryd bynnag y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi sicrwydd inni ar ffurf cyfnod hirach ar gyfer adolygiad o wariant, byddwn bob amser yn ceisio trosglwyddo hynny i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am adolygiad o wariant sy'n cwmpasu sawl blwyddyn yn y dyfodol, oherwydd rwy'n cytuno ei fod yn caniatáu i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill gynllunio'n hyderus.

5. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Ken Skates.

Cefnogi Arloesedd Bwyd

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cynhwysfawr i gefnogi arloesedd mewn cwmnïau bwyd a diod ledled Cymru. Rydym yn ariannu Prosiect Helix, sydd wedi ennill gwobrau, a ddarperir gan rwydwaith o dair canolfan fwyd ledled Cymru, yn ogystal â chefnogi mynediad at y cynllun arloesedd SMART newydd hyblyg a lansiwyd yn ddiweddar.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae gennym arloeswyr gwych yn y diwydiant bwyd yma yng Nghymru, gan gynnwys yn yr ardal hon, gyda rhai fel Village Bakery ac eraill yn sbarduno datblygiadau newydd mewn cynnyrch a phecynnu. Gyda'r angen i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, mae gofyn inni leihau cadwyni cyflenwi a defnydd trwy arloesi, gan gynnwys trwy dechnegau cynhyrchu bwyd newydd sy'n lleihau ein dibyniaeth ar y cynhyrchion mwyaf niweidiol i'r amgylchedd. O stêcs a dyfir mewn labordai i ledr a gynhyrchir o fadarch, ceir cyfleoedd enfawr i fod yn arweinwyr mewn arloesi bwyd, ac i ddisodli cynhyrchion o anifeiliaid gyda deunyddiau llai drud-ar-garbon. A yw Llywodraeth Cymru wedi asesu gwerth cyllid arloesi bwyd ac wedi nodi'r busnesau a'r sefydliadau sydd ar flaen y gad o ran arloesi er mwyn brwydro yn erbyn newid hinsawdd?

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gweithio'n agos gyda'n busnesau, gyda'r tair canolfan arloesi bwyd ledled Cymru y soniais amdanynt yn fy ateb agoriadol ichi, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru, y credaf i chi ei hagor ychydig flynyddoedd yn ôl, a'r byd academaidd wrth gwrs, i nodi ffyrdd arloesol o frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Mae cyllid ar gael i gefnogi'r gweithgareddau hyn, ac mae cymorth wedi'i gynllunio i danategu ein hymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Amlinellais hyn hefyd yn fy ngweledigaeth ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yn ôl yn 2021. Mae enghreifftiau'n cynnwys y canolfannau bwyd sy'n cefnogi optimeiddio prosesau, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru, a hefyd rhaglen ffatri 4.0 i wella caffael data ac arbed ynni yn y broses gynhyrchu.

Nid wyf am holi am eirin Dinbych yr wythnos hon. Un elfen allweddol mewn arloesi bwyd o ansawdd da yw'r cynhyrchion bwyd sy'n cael eu cynnig i blant ledled Cymru. Gyda chyflwyno prydau ysgol am ddim i blant ysgolion cynradd, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru a'r cytundeb cydweithio yn eu cymryd i sicrhau bod y prydau a gynigir yn y cynllun yn iach, yn faethlon ac yn gydnaws â darparu addysg gyflawn i blant ledled Cymru?

Diolch. Rwy'n credu ei fod yn rhoi cyfle inni, gyda rhaglen prydau ysgol am ddim mor fawr yn cael ei chyflwyno ledled Cymru, i sicrhau bod gennym gymaint o gynnyrch Cymreig â phosibl. Rwy'n credu mai Cyngor Sir Fynwy sy'n adolygu eu prydau ysgol, a chredaf eu bod yn defnyddio cynhyrchwyr bwyd lleol yn gyfan gwbl yn eu prydau ysgol am ddim. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud y defnydd mwyaf, ac efallai'n wir, y gallai eirin Dinbych fod yn rhan o hynny.

Mi fydd y Gweinidog wedi fy nghlywed i yn sôn am y syniad o ddatblygu parc cynhyrchu bwyd ar Ynys Môn sawl gwaith erbyn hyn. Mi wnes i ymweld â Food Works yn Weston-super-Mare ychydig wythnosau yn ôl, lle mae yna ganolfan ddatblygu, canolfan technoleg bwyd, ochr yn ochr efo unedau busnes bwyd. Mae gennym ni'r ganolfan technoleg bwyd ar yr ynys yn barod yng Ngholeg Menai. Felly, beth rydyn ni ei eisiau ydy'r unedau yna efo'r gefnogaeth i fusnesau allu tyfu ynddyn nhw. Mi wnaeth y Prif Weinidog, yn ei sesiwn graffu yr wythnos diwethaf, gyfeirio at hanes enwog Môn Mam Cymru yn y sector fwyd a dweud bod rhaid i hynny barhau. Mi wnaeth o hefyd ddweud bod yna arian yna i'w wario yn y sector. Allaf i ddim meddwl am ddefnydd gwell o'r arian yna nag i ddatblygu parc cynhyrchu bwyd ar Ynys Môn, ac mae yna gwmni dwi wedi bod yn siarad efo nhw sy'n eiddgar i fod yn bartner mewn datblygiad o'r fath. Dwi ddim yn siŵr os mai sôn am y cynllun sbarduno busnesau bwyd oedd y Prif Weinidog, ond a ydy'r Gweinidog yn cytuno efo'r Prif Weinidog fod yna arian sydd ar gael i'w wario? Ac ydy hi neu ei swyddogion yn barod i drafod efo fi, y cyngor a'r datblygwr yma dwi'n siarad efo fo ar sut gallwn ni sicrhau bod yr arian yn cael ei wario yn Ynys Môn? 

14:35

Byddwn yn falch iawn o gael y sgwrs honno gyda chi. Rydym wedi cael trafodaethau blaenorol ynghylch parc cynhyrchu bwyd. Rwy'n credu bod gogledd-orllewin Cymru yn lleoliad da iawn i gael y fath beth. Rydym yn gwybod, onid ydym, os oes gennym gwmnïau yn datblygu, fod angen rhywle arnynt, a rhaid i'r lle hwnnw wedyn fod o ansawdd uned busnes bwyd er mwyn gallu bwrw ymlaen â hynny. Yn amlwg, mae gan y ganolfan arloesi bwyd unedau deori er mwyn iddynt allu dechrau, ond mae angen iddynt fynd i rywle arall wedyn. Felly, byddwn yn hapus iawn i gael cyfarfod pellach gyda chi. 

Mynediad Hamdden i Gefn Gwlad

Rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at fy rôl anrhydeddus hirsefydlog fel is-lywydd y Cerddwyr. 

2. Sut bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn darparu gwell mynediad hamdden i gefn gwlad? OQ59814

Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy sy'n cael ei gydgynllunio ar hyn o bryd yn cefnogi ffermwyr i wella mynediad uwchlaw eu gofynion cyfreithiol i helpu pobl i ryngweithio â'n diwylliant, tirweddau a threftadaeth wledig a chreu buddion iechyd sylweddol. 

Weinidog, gwn eich bod wedi cael llawer o sylwadau ac ymgysylltiad yn wir â Cyswllt Amgylchedd Cymru ac eraill ar fater penodol mynediad. Os yw'r cynllun ffermio cynaliadwy yn iawn, gall helpu i wella mynediad; os yw'r manylion yn anghywir, gallai waethygu mynediad i gefn gwlad. Ddoe, cawsom adroddiad cydgynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, a ryddhawyd gan y Gweinidog. Roedd rhai penawdau allweddol ynghylch mynediad yn hwnnw: nid oes gan 50 y cant o ffermwyr a gymerodd ran ddiddordeb yn y camau gweithredu ar fynediad cyhoeddus dewisol a argymhellwyd, ac nid oes gan 45 y cant ddiddordeb yn y camau gweithredu cydweithredol. Mae hynny ychydig yn bryderus i ymgyrchwyr ar hyn, oherwydd maent yn teimlo y gellid gweld mynediad fel rhan eilradd o'r cynllun ffermio cynaliadwy. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog, sut y gall hi sicrhau bod mynediad yn rhan allweddol o hyn? A fyddai hi, er enghraifft, yn ystyried gwneud mynediad yn rhan o'r camau gweithredu cyffredinol sy'n berthnasol i'r amgylchedd hanesyddol, treftadaeth a harddwch—felly, cael rhywbeth fel 'bydd angen i ffermydd â hawliau tramwy cyhoeddus a mynediad agored ar eu tir eu rheoli yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol' fel llinell sylfaen, a'r darnau eraill yw'r pethau sy'n ychwanegol i hynny? Sut y gallwn sicrhau bod mynediad yn cael ei wella ar gyfer y cyhoedd o hyn, yn hytrach na'i waethygu? 

Diolch. Cyflwynodd Cymdeithas y Cerddwyr eu hymateb i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn yr ymgynghoriad diwethaf a gawsom, ac yn amlwg fe wnaethant gyfrannu at y broses gydgynllunio, ynghyd â llawer o ffermwyr a rhanddeiliaid eraill, ac rwy'n ddiolchgar i bawb. Fel y dywedais yn y datganiad llafar ddoe, rwyf am wneud y cynllun mor ddeniadol â phosibl i bawb sydd am fod yn rhan ohono allu gwneud hynny. Rydym yn dal i fod yn y broses o gydgynllunio. Mae ymgynghoriad terfynol arall i'w gyflwyno ar ddiwedd y flwyddyn hon, felly, nid oes dim wedi ei sefydlu'n derfynol eto. Mae angen inni edrych ar awgrymiadau ynghylch y cynllun cyffredinol, fel y rhai rydych chi newydd eu cyflwyno. Fe ddywedais yn glir iawn ddoe fy mod am i bob ffermwr allu cael mynediad at y cynllun cyffredinol o'r diwrnod cyntaf, ac yna mae angen inni edrych, efallai, ar fynd i mewn i ddwy haen arall y cynllun—y dewisol a'r cydweithredol—yn nes ymlaen. Felly, byddwn yn sicr yn canolbwyntio ar ran gyffredinol y cynllun yn y lle cyntaf. 

Weinidog, yn eich sylwadau agoriadol i Huw Irranca-Davies, fe ddywedoch chi y bydd cael mynediad i gefn gwlad ar gyfer hamdden yn arwain at fanteision iechyd enfawr i'n poblogaeth, ond yr hyn y mae angen inni wneud pobl yn ymwybodol ohono yw'r cod cefn gwlad, a deall bod ein hamgylchedd gwledig hefyd yn amgylchedd gwaith. Os ydym am gael rhagor o bobl i gael mynediad i dir, mae angen addysgu pobl ar sut i barchu'r tir hwnnw'n iawn pan fyddant yn mynd heibio i fusnes rhywun. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi amlinellu pa raglenni y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu ledled Cymru i addysgu pobl ynglŷn â sut i gael mynediad i gefn gwlad mewn ffordd gyfrifol? 

Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn. Pan fydd pobl ar dir cyhoeddus yn y ffordd rydych newydd ei nodi, mae'n bwysig tu hwnt eu bod yn deall yn iawn mai busnes rhywun ydyw. Mae'n aml yn gartref i rywun, ac mae'n bwysig iawn eu bod yn deall hynny. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo'r cod cefn gwlad a materion eraill sy'n ymwneud â mynediad.

14:40

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth ystyried y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), fod galwadau am gynnwys adfer natur fel rhan o'r amcanion. Yn absenoldeb y geiriad hwnnw yn y Bil, fe wnaethoch gydnabod yn briodol iawn fod amaethyddiaeth gynaliadwy yn allweddol i gyflawni ein hymrwymiad i Gymru fod yn sero net erbyn 2050, gan gyfrannu felly at adferiad natur ac at ymrwymiadau bioamrywiaeth Cymru yn unol â fframwaith bioamrywiaeth Kunming-Montreal.

Felly, wrth inni ddechrau ar ail gam cydgynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, a wnewch chi amlinellu ar gyfer y Siambr sut y bydd y cynllun yn anelu at gyflawni'r dyletswyddau hyn, fel y'u nodir ym memorandwm esboniadol y Bil, i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffyrdd a fydd yn dechrau gwrthdroi colli natur erbyn 2030, a mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd?

Diolch. Wel, bydd y cynllun yn cefnogi'r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy, ochr yn ochr â'n rhwymedigaethau rhyngwladol hefyd, drwy gamau gweithredu sy'n cynnwys hyrwyddo atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer priddoedd byw iach, drwy'r adolygiad sylfaenol o gynefinoedd y buom yn siarad amdano ddoe yn y datganiad llafar, cefnogi ffermwyr i reoli o leiaf 10 y cant o'u tir fel cynefin lled-naturiol, adfer a rheoli pyllau dŵr, a diogelu bridiau brodorol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr—Samuel Kurtz.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, nododd eich diweddariad i'r rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021 y byddech yn:

'Datblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, gan gyflwyno cofrestr ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, bridwyr masnachol anifeiliaid anwes...ac arddangosfeydd anifeiliaid.'

Pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar hyn?

Wel, mae'n rhaglen bum mlynedd. Rwy'n credu y dylwn wneud hynny'n glir iawn o'r cychwyn cyntaf. Rydym ym mlwyddyn 3 erbyn hyn. Rydym wedi gwneud llawer iawn o gynnydd, yn enwedig gyda'n codau ymarfer a'n rheoliadau, yn enwedig mewn perthynas â chŵn. Rydym wedi canolbwyntio'n fawr ar berchenogaeth gyfrifol ar gŵn.

Rydym hefyd wedi bod yn gwneud pethau eraill ochr yn ochr â hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ddeiseb milgwn. Rydym wedi dargyfeirio adnoddau i edrych ar hynny hefyd. Fe wnaethom lawer iawn o waith ar y Bil anifeiliaid a gedwir na wnaeth Llywodraeth y DU fwrw ymlaen ag ef wedyn, yn anffodus. Felly, unwaith eto, rwyf wedi bod yn gofyn i swyddogion edrych ar y rhaglen honno i weld pa bethau y gallai fod angen inni eu gwneud, ar ôl gweld y Bil hwnnw bellach yn cael ei wrthod.

Diolch, ac rwy'n hapus i ddatgan fy mod yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygon Prydain i'r gofrestr buddiannau. Mae lles anifeiliaid yn bwysig iawn. Fe wnaethoch sôn am y Bil lles anifeiliaid a gedwir, ac mae llawer o'r gwaith da hwnnw'n mynd i barhau drwy is-ddeddfwriaeth, felly nid yw'n waith a wastraffwyd.

Ond un peth y gellid ei wneud gyda hyn yw defnyddio'r RSPCA. Mae arolygwyr yr RSPCA yn gwneud gwaith anhygoel yn sicrhau bod anifeiliaid yn cael gofal ac yn cael eu trin yn dda. Fodd bynnag, mae'r pwerau statudol yn nwylo arolygwyr awdurdodau lleol. Gallai'r RSPCA wneud y gwaith hwnnw'n hawdd, gan leihau'r baich ar ein hawdurdodau lleol a defnyddio'r sgiliau a'r arbenigedd sydd ar gael yn yr RSPCA. 

Y flwyddyn nesaf bydd yr RSPCA yn 200 oed. Felly, pa well anrheg i'w rhoi i'r elusen na chael y pwerau statudol hyn? Felly, a gaf fi ofyn, pa ddatblygiadau a wnaed gennych ar drosglwyddo pwerau gorfodi ac ymchwilio o ddwylo awdurdodau lleol i'r RSPCA i alluogi hyn i ddigwydd?

Mae hyn yn sicr yn rhywbeth roeddem yn edrych arno, yn ôl pob tebyg cyn tymor y Llywodraeth hon. Fe euthum gyda'r RSPCA a gweld gyda fy llygaid fy hun pa mor anodd oedd hi oherwydd nad oedd ganddynt ddigon o bwerau i allu ymdrin â phethau fel roeddent hwy'n eu gweld, ac wrth iddynt ddod ar eu traws. Felly, roedd yn rhywbeth roeddwn yn ei gefnogi'n fawr, ac rwy'n hapus iawn i barhau i weithio gyda'r RSPCA wrth symud ymlaen.

Rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn fod yr RSPCA wedi gwneud y penderfyniad i gael gwared ar y swyddfa oedd ganddynt yma yng Nghymru a'r staff oedd ganddynt yma yng Nghymru. Roedd gennym berthynas agos iawn gyda nhw—yn enwedig fy swyddogion. Yn anffodus, mae'n ymddangos ein bod wedi colli peth o hynny.

O ystyried bod ymrwymiad pum mlynedd i'r rhaglen lywodraethu, a fyddai pwerau statudol i'r RSPCA yn rhywbeth y byddech yn awyddus i'w gwblhau o fewn y pum mlynedd? Nid wyf am achub y blaen ar fy nghwestiwn olaf, ond yr hyn rwy'n ei gyrraedd yw bod cyfyngiadau symud COVID wedi arwain at gynnydd ym mherchenogaeth anifeiliaid anwes, ac yn anffodus, arweiniodd hynny at gynnydd yn nifer yr anifeiliaid anwes a gafodd eu gadael hefyd. Mae'r ffigyrau diweddaraf gan yr RSPCA ar gyfer Cymru a Lloegr yn dangos bod nifer yr anifeiliaid anwes a adawyd wedi cynyddu 25 y cant.

Mae microsglodynnu anifeiliaid anwes yn ffordd brofedig o helpu i leihau'r achosion hyn o adael anifeiliaid anwes, ond mae'n ymddangos, yng Nghymru, nad yw pob anifail yn cael cyfle cyfartal. Mae microsglodynnu cŵn bellach yn orfodol, ac yn Lloegr, o fis Mehefin nesaf, bydd microsglodynnu cathod yn orfodol hefyd. Er fy mod yn fwy hoff o gŵn, rhaid imi gyfaddef, rwy'n credu y dylai Cymru arwain y ffordd a gwneud yr un peth gyda phob anifail. Felly, beth a wnawn i sicrhau bod cathod a chŵn anwes yn gyfartal a pha gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno microsglodynnu cathod yma?

14:45

Ar ddiwedd eich cwestiwn olaf, ynghylch yr RSPCA, mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n awyddus iawn i barhau i fynd ar ei drywydd. P'un a fyddai'n cael ei wneud yn ystod tymor y Llywodraeth hon, oherwydd nid mater i Lywodraeth Cymru yn unig yw hwn, yn amlwg, byddai'n rhaid inni weithio gyda sefydliadau a chyrff eraill—. Ond, o'm rhan i, gallaf weld pwysigrwydd ymarferol rhoi'r pwerau hynny i'r RSPCA i allu ymdrin â materion y maent—. Yn amlwg, nhw yw'r ymatebwyr cyntaf, os mynnwch. Felly, yn sicr, mae'n rhywbeth rwy'n awyddus iawn i barhau i edrych arno.

Ar ficrosglodynnu cathod, fel chi, rwy'n fwy hoff o gŵn, ond nid yw hynny'n bwysig pan fyddwn yn edrych ar rywbeth mor bwysig â microsglodynnu. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, ac yn anffodus, rwy'n credu ein bod i gyd yn gweld mwy o gathod na chŵn yn cael eu lladd ar ein ffyrdd. Rydych yn aml yn clywed am hyn ar y ffordd, a byddai'n bwysig iawn microsglodynnu'r gath fel y gellid dod o hyd i'r perchennog o leiaf, oherwydd ni allaf feddwl am ddim byd gwaeth na pheidio â chael eich anifail anwes yn dod adref. Mae'n rhywbeth y byddwn yn ei wneud o fewn pum mlynedd y cynllun lles anifeiliaid. Fodd bynnag, dylwn ddweud bod modd gwneud hyn. Mae ar gael i bobl ei wneud. Nid yw'r ffaith nad ydym wedi dweud wrthych am ei wneud yn golygu na ddylech ei wneud, felly, er nad yw'n orfodol, gallwch ei wneud yn wirfoddol.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, fe ddywedoch chi wrthym ddoe nad oeddech wedi cael unrhyw fath o sicrwydd pendant o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer gweithredu'r cynllun ffermio cynaliadwy. Sut, felly, rydych chi'n cynnwys ansicrwydd ariannol yn rhan o'r ymgynghoriad sydd i ddod ac wrth ddatblygu'r cynllun, ac ar ba bwynt y bydd yn rhaid ichi gael yr ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth y DU er mwyn cyflawni'r cynllun yn llawn ac yn ôl y bwriad?

Rydych yn llygad eich lle, fe ddywedais hynny, ac mae'n hollol wir nad oes gennym sicrwydd ynglŷn â'n cyllideb y tu hwnt i 2025. Soniais ei bod yn hynod gymhleth ac yn anodd cynllunio cynllun pan nad ydych yn gwybod beth yw'r gyllideb. Felly, mae'n rhaid ichi ragdybio y bydd gennym y lefel o gyllid a oedd gennym dros y blynyddoedd diwethaf, ac, yn wir, y bydd gennym ar gyfer ein cynllun taliad sylfaenol, y byddwn yn ei barhau tan ddiwedd 2024.

Rwy'n gwybod bod ffermwyr eisiau sicrwydd. Yn anffodus, mae'n adeg ansicr iawn, ac os oeddech am gael y sicrwydd hwnnw, dylem fod wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, lle roedd gennym gylchoedd cyllid lle roeddem bob amser yn gwybod beth oeddem yn mynd i'w gael. Pan fo gennych gyllidebau un flwyddyn yn unig a bod gennych adolygiad cynhwysfawr o wariant wedyn, y mwyaf a gewch yw tair blynedd. Felly, rwy'n derbyn bod pobl am gael atebion ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy mewn perthynas â thaliadau a chyllid, ac ni allaf eu rhoi ar hyn o bryd. Fel y soniais ddoe, bydd gennym gynllunio cyllidebol yn yr ymgynghoriad terfynol fel y byddwn yn gallu cyflwyno rhywbeth mwy pendant y flwyddyn nesaf. Yn amlwg, byddwn yn gwybod mwy ar ôl datganiad yr hydref eleni mewn perthynas â'r cyllid.

Onid yw tybio y bydd yr arian yn dod gan Lywodraeth y DU yn eithaf peryglus, oherwydd mae gan Lywodraeth y DU hanes yn hyn o beth, lle maent wedi torri addewidion a wnaed yn y gorffennol i roi cyllid llawn yn lle cyllid yr UE i Gymru ar ôl Brexit? Oni fyddai'n fwy cyfrifol i fod o leiaf yn ymwybodol iawn o'r posibilrwydd nad yw'r cyllid yn mynd i ddod wrth i'r cynllun gael ei ddatblygu? Ac os oes diffyg, a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i lenwi'r bwlch cyllidebol hwnnw, neu a fydd yn rhaid i ffermwyr Cymru a'r amgylchedd ddioddef canlyniadau uchelgeisiau llai?

Gallaf eich sicrhau fy mod yn ymwybodol iawn—rwyf bob amser yn ymwybodol iawn o unrhyw beth lle mae'n rhaid ichi ystyried cyllideb. Bydd yn rhaid i mi a fy olynwyr eistedd o amgylch bwrdd y Cabinet a dadlau dros gyllid yn y ffordd y mae'n rhaid i bob Gweinidog ei wneud. Rydym yn cael ein cyllideb gan Lywodraeth y DU, fel y gwyddoch. Fe wyddom faint y mae'r gyllideb honno wedi crebachu mewn termau real. Felly, mae'n rhaid i unrhyw Weinidog droi at y Gweinidog cyllid i gael y cyllid hwnnw, wrth symud ymlaen, ac ni fydd yn wahanol. Fe wneuthum hynny'n glir iawn, pan ymgymerais â'r portffolio hwn am y tro cyntaf ychydig cyn refferendwm yr UE, mai felly y byddai—ni fyddai gennych y moethusrwydd o gael y cyllid yn cyrraedd o Frwsel yn syth heb unrhyw graffu. Ni fydd hynny'n wir i Weinidogion materion gwledig y dyfodol.

Anifeiliaid Anwes yn Wobrau

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i leihau nifer yr anifeiliaid anwes, fel pysgod aur, sy'n cael eu rhoi fel gwobrau? OQ59819

14:50

Diolch. Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru ar y mater hwn. Ysgrifennwyd at awdurdodau lleol yn flaenorol er mwyn casglu gwybodaeth. Mae gan gynghorau bŵer i wahardd yr arfer o roi anifeiliaid fel gwobrau ar eu tir, ac mae 12 o'r 22 eisoes wedi rhoi gwaharddiadau ar waith.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'n rhaid imi ddatgan buddiant: pysgodyn aur oedd fy anifail anwes cyntaf erioed ac fe'i enwais yn Dewin Dwl, ac fe'i enillais yn y ffair yn Sioe Môn. Enillais nifer o bysgod aur eraill yno dros y blynyddoedd ac yn Ffair Borth, ond yn anffodus, wynebodd pob un ohonynt yr un dynged o farw ychydig wythnosau wedi hynny. Yn ffodus, mae ein dealltwriaeth o bwysigrwydd lles anifeiliaid wedi cynyddu ers y 1980au, ac rydym yn deall yn well bellach pa mor greulon yw'r arfer o roi anifeiliaid anwes fel gwobrau. Fel y dywedoch chi yn eich ymateb, er bod awdurdodau lleol fel Bro Morgannwg wedi rhoi camau ar waith i wahardd arfer o'r fath ar dir y maent yn berchen arno, ni allant roi'r gwaharddiadau hyn ar waith ar dir nad ydynt yn berchen arno ac sydd mewn perchenogaeth breifat. Felly, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno deddfwriaeth ledled Cymru i wahardd rhoi anifeiliaid anwes fel gwobrau?

Rwy'n credu y dylwn innau ddatgan buddiant mae'n debyg; rwy'n cofio cael pysgodyn aur. Nid wyf yn meddwl bod fy un i wedi para ychydig wythnosau, mewn gwirionedd; rwy'n credu mai ychydig ddyddiau ydoedd. Ond fel y dywedwch, mae'n rhywbeth nad ydym, dros y blynyddoedd, yn ei dderbyn fel y ffordd ymlaen.

Fe ysgrifennais at Urdd Siewmyn Prydain Fawr yn ôl yn 2019, ac yn dilyn eich cwestiwn, gofynnais am gael edrych ar yr ymateb a gefais, oherwydd rwy'n cofio meddwl ar y pryd, 'O', ac mae'n draddodiad i roi'r pethau hyn yn wobrau. Ond braf iawn yw gweld RSPCA Cymru yn ymgyrchu ar hyn. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen i'r cyhoedd ei ddeall, ac mae fy swyddogion wedi cyfarfod â'r RSPCA i weld beth arall y gellir ei wneud yn y dyfodol heb ddeddfwriaeth; fe fyddwch yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth gynyddol sydd gennym yn y maes. Ond rwy'n credu bod mwy y gall cynghorau ei wneud. Soniais am y 12 o'r 22, ac fe sonioch chi am Fro Morgannwg. Rwy'n gwybod nad yw fy etholaeth fy hun yn Wrecsam, ynghyd â 10 cyngor arall, yn gwneud hyn, ac rwy'n credu ei fod yn hynod bwerus, ac fel y dywedais, rwy'n gobeithio y bydd y 10 arall yn gwrthod gadael i hyn ddigwydd lle maent yn gallu llogi'r tir, fel y dywedwch, a chael yr effaith honno.

Ond rwy'n sicr yn credu y dylem wneud popeth yn ein gallu i annog pobl i edrych ar wobrau amgen. Rwy'n gwybod bod yr RSPCA wedi bod yn dosbarthu taflenni i bobl ynglŷn â sut y gallant ofalu am bysgodyn aur os ydynt yn cael un. Ond roeddwn am eich sicrhau ein bod yn edrych o fewn y cynllun lles anifeiliaid i weld a oes mwy y gallwn ei wneud ar hyn.

Rwy'n dal i gael fy mhoenydio gan y ffaith bod fy mhysgodyn aur wedi para ychydig oriau'n unig, wrth imi ei drosglwyddo o'r bag plastig bach i'r bowlen yn y sinc, ac fe ddiflannodd i lawr twll y sinc. Roeddwn yn saith mlwydd oed pan ddigwyddodd hynny, gyda llaw, ac rwy'n gallu—

Rwy'n dal i'w gofio'n glir, ac fe ddaeth yn ôl i'r cof wrth ichi drafod hyn. Janet Finch-Saunders, unrhyw atgofion am bysgod aur?

Oes, llawer, mewn gwirionedd. Felly, cwestiwn da iawn gan Heledd Fychan, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am farwolaeth drist eich pysgodyn aur, sy'n digwydd yn rhy aml, mae arnaf ofn. Nawr, yn 2019, ystyriodd y Pwyllgor Deisebau alwadau i wahardd pysgod aur a roddir mewn ffeiriau. Bedair blynedd yn ddiweddarach, nid ydym wedi gwneud llawer o gynnydd, ac fel y dywed y Gweinidog, mae 10 cyngor neu awdurdod lleol yn dal i ganiatáu i hyn ddigwydd. Mae angen mwy o weithredu i ddiogelu anifeiliaid, pysgod aur yn bennaf, rhag yr arfer hwn. Nid yw derbyn pysgodyn aur ymdeimladol mewn bag plastig bach, sy'n aml yn cael ei gario o gwmpas am oriau, a thymheredd yn codi a disgyn, yn argoeli'n dda ar gyfer eu cludo adref i gynhwysydd addas a rhoi bywyd iddynt. Mae'n eithaf creulon mewn gwirionedd, os edrychwn ar sut rydym wedi symud ymlaen gyda materion lles anifeiliaid erbyn heddiw.

Felly, Weinidog, a fyddech yn ystyried—a hoffwn gefnogi'r hyn a ddywedodd Heledd Fychan—a fyddech chi'n ystyried edrych ar ddeddfwriaeth ledled Cymru nawr i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar hyn, boed ar dir preifat neu dir sy'n eiddo i'r cyngor? Ac a ydych chi'n meddwl efallai y gallech ysgrifennu llythyr at y 10 awdurdod, oherwydd mae'r holl sioeau ar y gorwel, a gwelais bysgod aur mewn bagiau yr wythnos o'r blaen ac roedd yn ddiwrnod cynnes iawn, ac roeddwn yn teimlo cymaint o drueni drostynt—a allech ysgrifennu at y 10 arall, a gofyn iddynt efallai am rywfaint o weithredu ar hyn?

Diolch. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd Janet Finch-Saunders o ran hynny. Nid wyf yn credu y gallaf roi ateb llawnach na'r ateb a roddais i Heledd Fychan, ond i dawelu eich meddwl, pan ofynnais i fy swyddogion ysgrifennu at bob un o'r 22 awdurdod lleol yn ôl yn 2019 i ganfod faint ohonynt oedd yn dal i ganiatáu iddo gael ei wneud, yn sicr fe wnaethom ddweud y byddem yn mynd ar drywydd hyn. Felly, rwy'n ymrwymo i ysgrifennu at y 10 arall i weld pa gamau sy'n cael eu cymryd, oherwydd, fel y dywedwch, mae tymor y sioeau ar y gorwel nawr hefyd, lle byddwn yn gweld llawer mwy o hyn.

14:55
Ffliw Adar

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i achosion o ffliw adar pathogenig iawn? OQ59844

Yng ngoleuni risg llai i ddofednod, codwyd y parth atal ffliw adar ar 4 Gorffennaf. Er nad oes parthau rheoli clefydau yng Nghymru ar hyn o bryd, rydym yn parhau i fonitro lefelau risg i ddofednod ac adar gwyllt, ac mae gwaharddiad ar grynoadau rhywogaethau adar risg uwch yn parhau i fod ar waith.

Wel, cafwyd achosion yn ddiweddar, ac mae'n destun pryder mawr. Mae'n rhywbeth a godais gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd yr wythnos diwethaf, a chefais fy nghyfeirio atoch chi ynghylch hyn i bob pwrpas, felly hoffwn ofyn pa gymorth a chyngor ychwanegol sy'n cael eu rhoi i ffermwyr dofednod yn yr ardaloedd penodol hynny. Soniais am aber yr afon Dyfrdwy, ac rwy'n gwybod, oddi ar arfordir Ynys Môn hefyd, fod pryderon enfawr yno ar hyn o bryd. Hefyd, pa gyfarwyddyd a chymorth y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi i awdurdodau lleol a swyddogion iechyd y cyhoedd i sicrhau eu bod yn hollol barod o ran eu hymateb i ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd, sydd, wrth gwrs, â rhan allweddol i'w chwarae yn hyn o beth?

Diolch. Maent yn sicr yn barod. Rydym wedi cael cyfanswm o wyth achos yng Nghymru. Mae'r cyfnod adrodd yn dechrau ar 1 Hydref, felly ers 1 Hydref 2022, rydym wedi cael wyth achos o ffliw adar wedi'u cadarnhau mewn adar a gedwir yng Nghymru. Roedd dau ar Ynys Môn, un achos yn sir y Fflint, a phum achos ym Mhowys. Fel y dywedais, oherwydd lle rydym arni ar hyn o bryd, fe wnaethom godi'r parth atal ar 4 Gorffennaf, ond yn anffodus mae gwaharddiadau ar grynoadau rhai rhywogaethau yn parhau i fod yn eu lle. Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa, nid yn unig yng Nghymru, nid yn unig yn y DU, nid yn unig yn Ewrop, ond rydym yn gwneud hynny ar lefel fyd-eang, yn ogystal ag effeithiolrwydd unrhyw fesurau rheoli clefyd. Felly, mae swyddfa'r prif swyddog milfeddygol yn gyfrifol am weithio'n agos gyda'n ceidwaid adar, gyda'n ffermwyr, a chyda'r awdurdod lleol ac iechyd y cyhoedd hefyd, a rhoddir arweiniad a chefnogaeth iddynt.

Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r risg i bobl o feirws y ffliw adar pathogenig iawn yn gymharol isel. Fodd bynnag, oherwydd natur garthysol rhai anifeiliaid, bu nifer cynyddol o heintiau mewn mamaliaid a oedd wedi bwyta adar heintiedig. Yn anffodus, ers mis Hydref 2022, nodwyd bod llwynogod coch ym Mhowys, dyfrgwn Ewrasiaidd yn swydd Amwythig, dolffiniaid cyffredin oddi ar arfordir sir Benfro, a morloi llwyd yng Nghernyw i gyd wedi'u heintio. Weinidog, er bod cyfraddau heintiau yn dal i fod yn gymharol isel, pa asesiad a wnaed o ba mor agored yw rhywogaethau mamalaidd i'r posibilrwydd o haint eang, a pha baratoadau a wnaed gennych i helpu i leihau heintiau? Diolch.

Diolch. Wel, rydym yn ymwybodol o'r adroddiadau o famaliaid sydd wedi'u heintio â'r ffliw adar a grybwylloch chi, ac mae swyddfa'r prif swyddog milfeddygol yn gweithio'n agos iawn gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, a chydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, wrth symud ymlaen, yn ogystal â chydweithwyr rhyngwladol hefyd wrth gwrs. Yn amlwg, mae unrhyw achos yn y ffordd rydych newydd ei ddisgrifio yn peri pryder, ac mae adroddiadau fod dolffiniaid a morfilod wedi'u heintio mewn rhannau eraill o'r byd, felly mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni gadw llygad barcud arno, ond nid oes tystiolaeth fod y canfyddiadau newydd yn dangos addasiad mamalaidd sylweddol i'r straen presennol o feirws ffliw adar yma yn y DU.

Lein Wrecsam i Bidston

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y llywodraeth ynglŷn â chynllun gwella Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer gwasanaethau ar lein Wrecsam i Bidston? OQ59829

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, ac mae hynny'n cynnwys y lein rhwng Wrecsam a Bidston. Rwy'n croesawu'r cynllun gwella y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i ddatblygu, a bydd Llywodraeth Cymru'n monitro'r gwaith o'i gyflawni'n fanwl.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y gwaith y mae'n ei wneud o dan ei chyfrifoldebau fel Gweinidog gogledd Cymru ac am gael y sgyrsiau hynny gyda'i chyd-Weinidogion Cabinet. Mae'n deg dweud, Weinidog, fod defnyddwyr lein Wrecsam i Bidston yn bobl amyneddgar—maent wedi gorfod bod, er tegwch iddynt. Ond yr hyn y maent yn chwilio amdano yn fwy na dim yw bod y cynllun gwella pum cam a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos ac yn cyflawni gwelliannau go iawn a hirdymor o ran dibynadwyedd y lein. Rwy'n meddwl bod y ddau ohonom wedi cael ein tagio mewn trydariad y prynhawn yma eto am y gwasanaeth. Felly, a gaf fi ofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynglŷn â sut mae'r cynllun yn gweithio, a gofyn i chi hefyd, boed hynny drwy swyddfa'r Dirprwy Weinidog, gyfarwyddo Trafnidiaeth Cymru i ddechrau trafodaethau rheolaidd gyda Chymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston fel y gallant weld y gwaith sy'n cael ei wneud ar sail reolaidd?      

15:00

Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch pobl yn bod yn amyneddgar. Rwy'n defnyddio'r lein honno fy hun, fel rwy'n siŵr eich bod chi, ac nid yw perfformiad y gwasanaethau ar y lein honno wedi bod yn ddigon da. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud hynny, a gwn fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ymweld â'r ardal yn ddiweddar. Roedd yn awyddus iawn i weld drosto'i hun y problemau roedd teithwyr yn eu hwynebu, a chyfarfu â grŵp defnyddwyr y rheilffordd y cyfeirioch chi atynt, a hefyd gyda chynrychiolwyr etholedig lleol.

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y Dirprwy Weinidog wedi herio Trafnidiaeth Cymru yn gadarn i sicrhau bod y perfformiad yn gwella, ac yn amlwg, mae ganddynt y cynllun pum pwynt y cyfeirioch chi ato. Cefais gyfle pan oeddwn yn teithio i Gaerdydd yr wythnos hon i—wel, roeddwn i'n meddwl ei fod yn gyfle, ond rwy'n siŵr nad oedd ef yn meddwl hynny—. Ond llwyddais i ofyn cryn dipyn o gwestiynau i un o uwch swyddogion Trafnidiaeth Cymru am y cynllun pum pwynt. Un o'r pethau yw lleihau nifer y gwasanaethau bysiau yn lle trenau. Nid oes dim yn waeth na mynd i orsaf i aros am drên a gweld llwyth o fysiau y tu allan, oherwydd fe fyddwch yn gwybod y bydd eich taith hyd yn oed yn hwy. Maent yn adolygu'r amserlen, maent wedi ymrwymo i sicrhau bod un o'u uwch swyddogion yn gweithio i roi gwell ffocws ar broblemau a chysylltu'n well â rhanddeiliaid.

Rydym yn buddsoddi £800 miliwn ar drenau newydd sbon ac wrth gwrs, bydd hynny o fudd i wasanaethau ledled gogledd Cymru wrth symud ymlaen, ac mae'r trenau hynny bellach yn dod yn weithredol. Ac rwy'n credu bod hynny mewn cyferbyniad llwyr â gweithredwr trenau Llywodraeth y DU, Avanti West Coast. Maent yn tynnu gwasanaethau yr haf hwn oddi ar yr amserlen ar fyr rybudd a heb ymgysylltu fawr ddim.

Growth Track 360, fel y gwyddoch, yw'r bartneriaeth gyhoeddus-breifat sy'n uno gogledd Cymru, Wirral, a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer gan weithio i wella cysylltedd trafnidiaeth trawsffiniol, gyda phwyslais penodol ar reilffyrdd. Wedi i bryderon lleol am ddarpariaeth wael ac oedi cyn cyflwyno'r gwasanaeth hanner awr a addawyd ers tro ar lein Wrecsam-Bidston ei gwneud yn ofynnol iddynt gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru, fe wnaethant groesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i wella gwasanaethau ar y lein hon ar y gororau.

Fodd bynnag, sut y byddwch chi'n ymgysylltu â chymheiriaid yn Llywodraeth Cymru ynghylch y pryder a fynegwyd wrthyf gan Gymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston ynglŷn â'r datganiad a roddwyd i mi gan brif weithredwr Trafnidiaeth Cymru fod y trenau dosbarth 230 wedi bod yn gweithredu'n ddibynadwy ar y cyfan, a'i bod yn ymddangos bod y prif broblemau technegol wedi'u datrys, lle maent hwy'n dweud yn lle hynny fod annibynadwyedd parhaus y trenau dosbarth 230 a'u hanallu i gadw at yr amserlen drwy gydol eu diagramau diwrnod llawn, yn awgrymu na fydd yr unedau hyn yn gallu cynnal gwasanaeth bob awr yr haf hwn, heb sôn am weithredu gwasanaeth bob 30 munud yn yr hydref?

Dechreuodd y trên dosbarth 230 newydd ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston ar 3 Ebrill, ac rwy'n credu ei bod unwaith eto yn deg iawn dweud bod yr oedi cyn eu cyflwyno wedi bod yn siomedig. Ac rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru wedi gorfod mynd ati'n drylwyr i sicrhau diogelwch a dibynadwyedd y trên yn sgil digwyddiadau yn ystod y profion cychwynnol. Rhaid i ddibynadwyedd y trenau hynny fod yn ffocws i Trafnidiaeth Cymru wrth symud ymlaen, ac rwy'n gwybod eu bod wedi buddsoddi yn y depo yn Birkenhead, ac nid oes rhaid i drenau deithio i Gaer mwyach i gael eu trin a'u hatgyweirio, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gam cadarnhaol iawn.

Cefnogi'r Diwydiant Diod

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant diod yng Nghymru? OQ59837

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r sector diodydd ledled Cymru, ac mae ganddi raglen gynhwysfawr o fesurau cymorth busnes ar waith. Mae hyn yn cynnwys clwstwr diodydd hynod lwyddiannus, sy'n hyrwyddo cydweithrediad ar draws y sector diwydiant.

Diolch, Weinidog. Rydym yn dwli ar ein bwyd a'n diod yng Nghymru, ac rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ddiodydd heddiw. Ac wrth gwrs, rwy'n mynd i fachu ar y cyfle hwn i roi ychydig o sylw i'r cwmnïau yn fy etholaeth i. Gwn eich bod wedi cyfarfod â Ferrari's Coffee; maent hefyd yn rhostio'r ffa ar gyfer coffi masnach deg Jenipher. Mae gennym Double Trouble Coffee, mae gennym Dog's Window, Bang On Brewery a The Coach Brewing Co i gyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ac mae gennym hefyd Bont Gin a Porthcawl Gin. Rydym hefyd yn gwybod bod pobl yn dwli—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod, rwy'n dangos fy hun nawr. Fe wyddom hefyd fod pobl wrth eu bodd yn prynu cynnyrch Cymreig. Felly, a oes rhywle ar hyn o bryd lle mae'r holl wybodaeth honno'n cael ei dwyn ynghyd, ar fap er enghraifft—diodydd, yn cynnwys coffi, gwirodydd, cwrw, a phopeth arall? 

A fy nghwestiwn arall oedd hwn: yn ddiweddar daeth etholwyr i gysylltiad â mi oherwydd pan fo Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo cwrw a diodydd alcoholig eraill, fe wnaethant ofyn a oedd hi'n bosibl cynnwys y rhybudd 'yfwch yn gyfrifol', nad yw bob amser wedi'i gynnwys, ac a allem gael cydbwysedd drwy awgrymu opsiynau di-alcohol hefyd, sy'n boblogaidd iawn y dyddiau hyn. Felly, mae gennym Drop Bear Beer Co. wedi'i leoli yng Nghymru, sy'n wych. Mae Tiny Rebel yn gwneud lager di-alcohol ac mae Gower Brewery hefyd yn gwneud un, felly, byddai hynny'n wych hefyd. Diolch.

15:05

Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr, rydym yn mwynhau ein bwyd a'n diod Cymreig yn fawr, ac mae'n wych dechrau ar dymor y sioe amaethyddol nawr oherwydd pa le gwell i ddangos y bwyd a'r diod gwych sydd gennym yma yng Nghymru, ac arddangos ein cynhyrchwyr sy'n gwneud cymaint o waith i gyflwyno'r rheini? Fe ymwelais â Ferrari's yn eich etholaeth, yn ôl yn yr hydref rwy'n credu. Ac rydych chi'n sôn—mae yna bob amser lawer o ffotograffau ohonoch chi ar y cyfryngau cymdeithasol—am amrywiaeth o gaffis a bwytai, yn hyrwyddo a chefnogi eich busnesau lleol.

Mae'r holl wybodaeth hon ar gael mewn un lle. Byddwn yn dychmygu ei fod ar wefan Llywodraeth Cymru, bydd yn rhaid i mi edrych, ond gwn fod yr wybodaeth yno, yn enwedig y cynhyrchwyr bwyd a diod rydym yn eu cefnogi. Fe fyddwch yn gwybod bod gennym Cywain, sef partner cyflawni busnes, a'r hyn y byddant yn ei wneud, yn enwedig yn Sioe Frenhinol Cymru—byddant yn ei wneud mewn cryn dipyn o sioeau—yw hyrwyddo busnesau newydd, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Mae bob amser yn fy synnu bod yna gynhyrchwyr jin newydd bob blwyddyn, mae yna gynhyrchwyr caws newydd; mae gennym y gofod hwnnw ar eu cyfer, ac maent yn gwneud yn dda iawn, ac o fewn blwyddyn i'w gweld mae'n debyg, maent yn allforio—maent yn fusnesau gwirioneddol lwyddiannus. Felly, fe fydd yn wych ymweld â'r neuadd fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru, a hoffwn annog unrhyw un sy'n mynychu'r sioe i wneud hynny.

Microsglodynnu Cathod

7. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno microsglodynnu gorfodol i gathod yng Nghymru, naill ai drwy ei rheoliadau ei hun neu drwy gydsyniad deddfwriaethol? OQ59815

8. A yw'r Gweinidog wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i gyflwyno microsglodynu gorfodol ar gyfer cathod yng Nghymru, naill ai drwy ei reoliadau ei hun neu drwy gydsyniad deddfwriaethol? OQ59848

Mae ein cynllun lles anifeiliaid yn ymrwymo i ystyried ymestyn microsglodynnu gorfodol i gynnwys cathod erbyn 2026. Er nad oes ymgynghoriad wedi'i gynllunio ar gyfer 2023, mae fy swyddogion yn ystyried adroddiad ar y cyd ar ficrosglodynnu i lywio'r gwaith hwn a monitro cynnydd y rheoliadau yn Lloegr, a wnaed ym mis Ebrill.

Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Anifeiliaid crwydrol yw cathod; dyna pam ei bod yn bwysig sicrhau bod cathod yn cael eu microsglodynnu rhag ofn y byddant yn cael eu colli neu eu lladd. Gall cathod gael eu microsglodynnu gan y rhan fwyaf o filfeddygon am rhwng £20 a £30, ac i bobl ar incwm is a budd-daliadau prawf modd, mae cymorth ychwanegol ar gael gan elusennau fel y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid a Cats Protection, ond nid yw pob cath yn cael ei microsglodynnu o hyd. A wnaiff y Llywodraeth weithredu ar frys i wneud microsglodynnu cathod yn orfodol? Siaradodd y Gweinidog am 2026; os cyflwynwch gynnig cydsyniad deddfwriaethol, gallech ei wneud yn gynt.

Wel, fe fyddwch wedi clywed fy ateb cynharach i Sam Kurtz, ac rydych chi'n hollol gywir i dynnu sylw at y ffaith nad yw pawb yn microsglodynnu eu cathod er ei fod ar gael, fel y dywedais—fe sonioch chi am y gost o'i wneud. Felly, nid yw'r ffaith nad ydym yn dweud wrth bobl am ei wneud ac nad yw'n orfodol yn golygu nad oes rhaid iddynt ei wneud. Ond rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar yr hyn y gallem ei wneud ar sail Rheoliadau Microsglodynnu Cathod a Chŵn (Cymru) 2023, a wnaed ar 25 Ebrill 2023, sy'n golygu y bydd angen microsglodynnu pob cath dros 20 wythnos oed a berchnogir erbyn 10 Mehefin 2024.

Wel, roeddwn yn meddwl bod y cais wedi dod oddi wrthych chi, Weinidog. Ond dyna ni.

Dyna ni. Fe gymerwn ei fod wedi dod, a fy mod wedi cytuno iddo, a gall Luke Fletcher ofyn ei gwestiwn atodol i gwestiwn 8.

Diolch, Lywydd. Fel y nododd Mike yn iawn, wrth gwrs, mae cathod yn crwydro mwy nag unrhyw anifail anwes arall, felly mae microsglodynnu eich cath yn gwneud synnwyr, ond nid y weithred o ficrosglodynnu yw diwedd y stori. Problem barhaus gyda chathod a chŵn yw nad yw'r wybodaeth yn cael ei diweddaru ar ficrosglodion. Ar fy ymweliad diwethaf â Cats Protection yn Heol-y-Cyw, roedd yr wybodaeth ar gyfer nifer o'r cathod yno yn hen ar eu microsglodion. Felly, ochr yn ochr â gwaith ar ficrosglodynnu cathod, pa waith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn cadw eu gwybodaeth yn gyfredol fel y gellir dod â pherchnogion a'u hanifeiliaid anwes yn ôl at ei gilydd?

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw waith penodol a wnawn mewn perthynas â sicrhau bod pobl yn diweddaru'r wybodaeth ar eu microsglodion. Synnais braidd wrth ddysgu ei bod yn hawdd iawn newid y wybodaeth ar y microsglodyn mewn gwirionedd, felly mae'n rhywbeth y byddaf yn gofyn i swyddogion edrych arno.

Datblygu Seilwaith Ynni

9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y Cabinet ynghylch effaith datblygu seilwaith ynni ar gymunedau yng ngogledd Cymru? OQ59830

15:10

Yn ogystal â thrafodaethau yn y Cabinet, trafodwyd effaith seilwaith ynni yn is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer gogledd Cymru, gan gynnwys seilwaith gwynt ar y môr, niwclear a hydrogen a welir ar draws y rhanbarth. Rydym yn glir iawn fod angen i gymunedau yng Nghymru elwa o fuddsoddiad seilwaith ynni newydd.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwyf am siarad yn benodol am gymuned Cefn Meiriadog yn sir Ddinbych, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Cefn Meiriadog yn gymuned wledig i raddau helaeth, ond mae nifer o ddarnau sylweddol o waith seilwaith ynni yn digwydd yno, sy'n mynd i newid y gymuned wledig honno'n sylweddol. Yn gyntaf oll, mae yna is-orsaf yno eisoes. Hefyd, ceir is-orsaf sy'n gysylltiedig â fferm wynt alltraeth Gwynt y Môr ar yr un safle. Rwy'n deall y bydd prosiect fferm wynt alltraeth Awel y Môr yn sbarduno estyniad i safleoedd is-orsafoedd presennol, a bydd angen safle 31 erw ychwanegol hefyd i gynnal is-orsaf ar gyfer fferm wynt arfaethedig Mona. Rwyf hefyd yn deall bod prosiect MaresConnect yn debygol o fod â chysylltiad â'r is-orsaf yno hefyd, ac rwyf hefyd yn deall bod cynigion ar gyfer fferm solar 80 erw o fewn y gymuned wledig fach iawn honno. Felly, gallwch ddeall bod pump neu chwech o brosiectau mawr yno mewn un ardal fach iawn. 

Rwy'n sylweddoli efallai fod llawer o'r rhain yn rhan o gyfrifoldebau'r Grid Cenedlaethol ccc ar lefel a gedwir yn ôl, ond o safbwynt cynllunio, a chan wisgo eich het gogledd Cymru, a gweithio gyda chyd-Weinidogion Cabinet, tybed sut y bydd y Cabinet yn ystyried effaith gronnol yr holl brosiectau ar rai o'r cymunedau gwledig hyn, a beth yw eich meddyliau ynglŷn â sut i leihau'r effaith ar y cymunedau gwledig hynny.

Diolch. Wel, mae'r materion rydych chi'n eu hamlinellu'n amlwg yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae hi wedi clywed eich cwestiwn. Fel y dywedais, rydym yn cynnal trafodaethau yn y Cabinet; cawsom drafodaeth dda iawn yn is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer gogledd Cymru ychydig fisoedd yn ôl mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, oherwydd gwyddom fod gan ogledd Cymru lawer o gyfleoedd yn yr ardal ar gyfer technolegau ynni arloesol iawn, a cheir llawer o gyfleoedd gyda hydrogen hefyd.

Rydych chi'n cyfeirio at brosiectau sy'n cael eu trafod—rwy'n meddwl eich bod chi'n sôn am sir Ddinbych yn bennaf—ac mae'n bwysig iawn pan—. Mae angen inni gael cymaint â phosibl o'n hynni o ynni adnewyddadwy, ond mae'n wirioneddol bwysig fod ein cymunedau'n elwa ohono hefyd. Felly, gwn fod sicrhau bod y cymunedau'n eu cefnogi yn flaenoriaeth i'r Gweinidog, ac mae'n bwysig iawn fod y datblygwyr yn cael y trafodaethau hynny cyn cyflwyno prosiectau.

Rwy'n cofio agor prosiect ynni dŵr yng Nghorwen pan oeddwn i'n Weinidog gyda chyfrifoldeb am ynni, ac roedd hi mor wych siarad â phobl leol, a oedd yn dweud eu bod yn gwybod, pan fyddent yn rhoi'r tegell ymlaen yn eu tŷ, eu bod yn cael manteision o'r ynni adnewyddadwy roeddent yn ei ddefnyddio.

TB Buchol

10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i ddileu TB buchol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ59835

Ym mis Mawrth, cyhoeddais ein cynllun cyflawni TB newydd, sy'n nodi camau y byddwn yn eu cymryd i ddileu TB buchol ledled Cymru. Roedd hwn yn cynnwys prosiect yn sir Benfro i fynd i'r afael â buchesi sy'n cael eu heintio'n gyson, ailgyflwyno profion cyn symud, ac ymestyn profion ar ôl symud mewn ardaloedd TB canolraddol. Byddaf yn rhoi rhagor o'r wybodaeth ddiweddaraf yn fy natganiad blynyddol ym mis Tachwedd.

Diolch yn fawr ichi am yr ymateb yna. Mae pawb yn y Siambr yn ymwybodol iawn o'r effaith hynod o niweidiol mae TB mewn gwartheg yn ei chael ar y gymuned amaethyddol.

Ces i'r profiad yn ddiweddar iawn o ymweld â ffarm ym Mancyfelin yn sir Gaerfyrddin a gweld mewn ffordd drawiadol iawn sut oedd mynd lawr gyda TB wedi cael effaith niweidiol ar economi'r busnes ffarm yna, a hefyd yr effaith ar iechyd meddwl. Mae'r Gweinidog, siŵr o fod, yn ymwybodol o gynigion cafodd eu pasio yn ddiweddar gan gyngor sir Gaerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion, yn nodi'r pryder, weithiau am y ffordd mae'r Llywodraeth yn delio â ffermwyr sydd wedi mynd lawr gyda TB, ac efallai fod angen bod yn fwy sensitif ynglŷn â sut mae'r newyddion yn cael ei gyfleu.

Ond yn benodol, byddwn i'n licio cael gwybod gennych chi ynglŷn â'r brechlyn—y datblygiad diweddar am y brechlyn—i wartheg yn erbyn TB, ac mae yna ryw sinigiaid yn dweud, 'Wel, rŷn ni wedi clywed dros nifer o flynyddoedd, "O, mae bron â bod yna, bron â bod yna".' Felly, yn benodol, a allwch chi roi diweddariad inni am ymdrechion y Llywodraeth, yn arbennig ar y brechlyn, ac a oes yna obaith am gynnydd yn y dyfodol agos?

15:15

Diolch. Nid wyf yn bychanu effaith enfawr achosion o TB, yn ariannol ac ar les ffermwyr—. Neu hyd yn oed pan fyddant yn cael profion TB. Mae'n anhygoel o anodd iddynt. Fe gofiwch ein bod wedi cynnal ymgynghoriad yn ôl yn 2021, ac un o'r argymhellion a gyflwynwyd o'r ymgynghoriad hwnnw oedd bod angen i'r ffordd rydym ni fel Llywodraeth yn cyfathrebu fod yn llawer mwy sensitif nag y bu, ac roedd angen i'r iaith sy'n cael ei defnyddio fod yn fwy sensitif, yn ogystal ag yn fwy syml. Ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae fy swyddogion wedi gweithredu arno.

Ar eich cwestiwn penodol ynghylch y brechlyn, rwy'n cytuno'n llwyr. Dywedwyd wrthyf pan gefais y portffolio gyntaf ein bod bron yno, a saith mlynedd yn ddiweddarach, nid ydym yno. Felly, a ydym ni bron yno? Wel, yn sicr, mae'r byd academaidd a'r arbenigwyr yn dweud wrthyf y byddwn ni yno mewn blwyddyn neu ddwy arall efallai, felly byddai hynny'n rhywbeth i'w groesawu'n fawr yn 2025. Byddaf yn bendant yn sicrhau—. Nid oes gennyf unrhyw ddiweddariad ers fy natganiad yn gynharach eleni, ond byddaf yn sicrhau fy mod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fyddaf yn gwneud fy natganiad TB blynyddol ym mis Tachwedd.  

6. Cwestiynau Amserol

Eitem 6 yw'r cwestiynau amserol ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ac i'w ofyn gan Sioned Williams. 

Prydiau Bwyd Ysgol am Ddim yn ystod Gwyliau'r Haf

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad y Llywodraeth na fydd yn darparu prydiau bwyd am ddim i blant ysgol cymwys yn ystod gwyliau'r haf? TQ820

Roedd y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim dros y gwyliau yn gymorth am gyfnod penodol a gyflwynwyd gennym yn ystod y pandemig. Oherwydd y sefyllfa ariannol hynod o anodd y mae Cymru'n ei hwynebu, ni fu modd ymestyn y ddarpariaeth hon y tu hwnt i fis Mai.  

Diolch, Weinidog. Heb unrhyw ddatganiad i'r Senedd naill ai ar ffurf ysgrifenedig neu ar lafar, gydag ond ychydig wythnosau'n unig ar ôl o dymor y Senedd a chyn diwedd y tymor ysgol, clywodd elusennau plant, sefydliadau'r trydydd sector sy'n cefnogi teuluoedd, ynghyd â'r teuluoedd eu hunain, yn y cyfryngau na fydd prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol ar gael i'r plant mwyaf agored i niwed mwyach. Wrth i'r argyfwng costau byw wthio mwy fyth o deuluoedd Cymru i fyw mewn tlodi, mae elusennau plant yng Nghymru a Chomisiynydd Plant Cymru yn unfrydol eu barn y bydd y penderfyniad hwn yn arwain at blant yn mynd yn llwglyd dros yr wythnosau nesaf, ac mae Plaid Cymru'n cytuno.

Weinidog, pam eich bod chi wedi penderfynu peidio â dod o hyd i'r cyllid sydd ei angen i gefnogi'r ymyrraeth fawr ei hangen hon, sydd, yng ngeiriau cyfarwyddwr addysg a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru yn ei lythyr yn hysbysu awdurdodau lleol, wedi bod yn boblogaidd? 'Poblogaidd'—dewis rhyfedd o air i'w ddefnyddio am ddarparu bwyd; efallai fod 'hanfodol' yn fwy cywir. Rydym wedi clywed meinciau cefn Llafur yn awgrymu bod gan Blaid Cymru bŵer dros gyllideb Llywodraeth Cymru rywsut. O, na bai hynny'n wir. Dim ond rhan fach o'r gyllideb gyffredinol yw'r polisïau yn y cytundeb cydweithio, megis prydau ysgol am ddim i bawb.

Yn anffodus, nid yw'r cyllid hwn yn rhan o'r cytundeb hwnnw, ond os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am fynd i'r afael â thlodi plant a diffyg diogeledd bwyd, gallai flaenoriaethu'r gwariant sydd ei angen i sicrhau bod ein plant mwyaf difreintiedig yn cael mynediad at fwyd. Ddoe, wrth ateb sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r rhai sydd ei hangen pan fydd tymor yr ysgol yn dod i ben, cyfeiriodd y Prif Weinidog at y rhaglen fwyd a hwyl a sut y bydd yn cyrraedd mwy o blant nag erioed—30,000 ohonynt. Er bod croeso i'r cynllun hwn wrth gwrs, rydym yn gwybod bod nifer y plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o deuluoedd incwm isel yn fwy na theirgwaith hynny. Gwadodd y Prif Weinidog hefyd fod hyn yn digwydd ar fyr rybudd, ond ychydig o amser a gafodd rhieni i gynllunio, yn achos y rhai sy'n gallu cynllunio eu harian, ar gyfer y toriad hwn. 

Daw hyn hefyd ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi toriad o £100 yn y grant hanfodion ysgol o'r tymor nesaf ymlaen, ac ar adeg pan fo'r Llywodraeth wedi derbyn argymhellion gan un o bwyllgorau'r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i fynd i'r afael â diffyg diogeledd bwyd, gwella mynediad at brydau ysgol am ddim i blant difreintiedig, a gwella mynediad plant at fwyd. Ac rydych yn ymgynghori ar eich strategaeth ddrafft ar dlodi plant. Felly, Weinidog, pa werthusiad a wnaed o effaith y penderfyniadau hyn ar dlodi plant? Pam na roddwyd mwy o rybudd i deuluoedd a sefydliadau'r trydydd sector? Onid yw'r penderfyniad hwn yn mynd yn groes i'r uchelgeisiau a'r blaenoriaethau a nodir yn y strategaeth ddrafft ar dlodi plant, a beth yw eich ymateb i Achub y Plant Cymru, sy'n dweud bod hyn i gyd yn gam enfawr yn ôl yn y gwaith o fynd i'r afael â thlodi plant a diffyg diogeledd bwyd?  

Wel, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £900 miliwn yn llai oherwydd canlyniadau chwyddiant rheolaeth y Ceidwadwyr ar economi'r DU. Nid yw hwn yn benderfyniad y mae Llywodraeth Cymru am orfod ei wneud. Rydym yn Llywodraeth, wedi'r cyfan, sydd wedi cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, wedi cynyddu mynediad at y grant hanfodion ysgol, ac sy'n galw am ostwng cost y wisg ysgol. Y Llywodraeth hon a gyflwynodd brydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau, a hynny yn ystod y pandemig, a daethom o hyd i ffyrdd o barhau i'w ymestyn drwy ddod o hyd i danwariant o dro i dro. Rydym wedi ceisio gweithio gyda Phlaid Cymru. Fel y dywed yr Aelod, nid yw'n rhywbeth y gwnaeth Plaid Cymru bwyso i'w gael yn y cytundeb cydweithio, ac fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, nid yw ymhlith y prif flaenoriaethau a nodwyd gan Blaid Cymru ar gyfer cyllideb y tu allan i'r cytundeb cydweithio. Ond yn ystod cyfnod y cytundeb cydweithio fe fydd hi'n gwybod ein bod wedi bod yn awyddus i allu cydweithio ar hyn, ac fe wnaethom gyhoeddi datganiad ar y cyd ddiwethaf ym mis Mawrth, yn cyhoeddi ein bod yn ei ymestyn tan fis Mai, a chafodd hynny ei ariannu mewn gwirionedd o gyllideb y cytundeb cydweithio. Y tro hwn fe wnaethon ni ofyn i Blaid Cymru unwaith eto a allem geisio dod o hyd i arian gyda'n gilydd yn y cytundeb cydweithio, ond nid oedd Plaid Cymru am wneud hynny.

Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth wedi ariannu darpariaeth fwy o faint o gynlluniau bwyd a hwyl haf ar gyfer yr haf hwn, gan gyrraedd miloedd yn fwy o blant eleni, a nawr yn gweithredu ym mhob un o'r 22 ardal awdurdod lleol am y tro cyntaf, yn ogystal â'r cynllun Gwaith Chwarae sy'n cyrraedd bron i 40,000 o blant.

15:20

Mae'r newyddion diweddaraf yn arwydd o Lafur Cymru unwaith eto yn siarad llawer ond yn methu â gweithredu ar fater prydau ysgol am ddim yng Nghymru. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau gyda'r gweithgareddau gwyliau a'r rhaglen fwyd yn Lloegr, gan ddarparu cefnogaeth i blant bregus drwy roi prydau bwyd am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn syndod i bawb ohonom, fel y nododd Sioned Williams nawr, ond nid yw'n syndod i mi, Weinidog, gan eich bod wedi methu ariannu ysgolion yn iawn i ehangu eu ceginau er mwyn gallu cyflwyno'r cynllun prydau bwyd am ddim yn ystod y tymor ysgol, a nawr ein bod yn dod at ddiwedd y tymor, rydych chi eisiau torri'r cynllun yn gyfan gwbl. Yn syml, ni fydd eich cynllun bwyd a hwyl yn ddigon. Weinidog, pam rydych chi'n rhoi gydag un llaw ac yn bachu'n ôl â'r llaw arall drwy dorri prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol?

Wel, yn sicr nid yw'r cyhoedd yn gweiddi arnom i roi'r gorau i fwydo plant yn yr ysgol yn ystod argyfwng costau byw, nad yw'n farn y mae'r Aelod yn ei rhannu, yn sicr, ac yn Lloegr Geidwadol nid ydynt yn darparu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau mewn gwirionedd, ac nid ydynt ychwaith yn darparu prydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgol gynradd. Os yw pobl yng Nghymru yn edrych i weld pwy sy'n gyfrifol am y pwysau sydd arnynt ar hyn o bryd, ni fyddant yn edrych ar Lywodraeth Lafur Cymru sy'n gwneud popeth yn ei gallu i roi biliynau o bunnoedd ym mhocedi pobl ar adeg anodd; byddant yn edrych ar Blaid Geidwadol sydd wedi llywodraethu dros ddegawd a mwy o gyni, ynghyd ag argyfwng costau byw llesteiriol, cyfraddau llog cynyddol a diweithdra cynyddol nawr i deuluoedd ledled y DU. 

Rwy'n siomedig iawn nad yw'r Llywodraeth yn darparu prydau bwyd am ddim i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r haf. Yn anochel, bydd plant—a'u mamau i raddau hyd yn oed yn fwy, wrth iddynt flaenoriaethu eu plant—yn mynd yn llwglyd. Ymwneud â blaenoriaethau y mae Llywodraeth. Nid wyf yn deall pam y gellir dod o hyd i £4 miliwn ar gyfer weiren wib sy'n cael ei rhedeg gan gwmni preifat yn fy etholaeth yn hytrach na bwydo plant mewn teuluoedd anghenus. Mae'n hwyr iawn i'r Llywodraeth newid trywydd nawr. A gaf fi annog y Llywodraeth i ofyn i awdurdodau lleol ariannu prydau bwyd am ddim yr haf hwn o'u cronfeydd wrth gefn a thalu amdano yng nghyllideb y flwyddyn nesaf? Mae'n rhaid i fwydo plant sy'n dlawd fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur. 

Bydd Mike Hedges yn gwybod fy mod yn rhannu ei flaenoriaeth, a bydd hefyd yn gwybod ein bod wedi gwneud cyhoeddiad ym mis Mawrth a oedd yn nodi bod yr estyniad tan ddiwedd mis Mai. Bydd hefyd yn gwybod bod cyllideb y Llywodraeth yn werth bron i £1 biliwn yn llai ac o ganlyniad i hynny, mae'n amhosibl i unrhyw Lywodraeth fwrw ymlaen heb unrhyw effaith ar fywydau pobl. Nid ydym yn sôn am effeithiau ar restr o bethau y gallai pob un ohonom ddweud eu bod yn braf i'w cael. Rydym yn sôn am effaith hynny ar raglenni sy'n bwysig iawn i lawer o bobl. Dyna ganlyniad uniongyrchol methiant y Llywodraeth Geidwadol i reoli'r economi mewn ffordd sy'n gyfrifol, ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ddigonol yn Lloegr. Byddwn—[Torri ar draws.] Byddwn yn parhau i wneud—[Torri ar draws.] Byddwn yn parhau—[Torri ar draws.] Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r teuluoedd anghenus hynny. 

A gawn ni gymryd cam yn ôl a rhoi'r gorau i feio pobl? Oherwydd fe hoffwn wybod hyn: beth am yr oddeutu 50,000 o blant a fydd yn mynd yn llwglyd yr haf hwn—50,000 y gallem fod yn eu helpu ac a gafodd eu helpu gennym o'r blaen? Mae banciau bwyd yn poeni. Maent wedi cysylltu â mi. Rwyf wedi ymweld â nhw. Maent yn poeni eu bod eisoes yn gweld cynnydd yn y galw, a hynny gyda myfyrwyr mewn ysgolion a'r cynnydd mewn prydau ysgol am ddim, diolch i'r cytundeb cydweithio. Maent yn poeni, ac nid oes unrhyw gynllun yn ei le. Rydych chi wedi siarad am rai o'r plant hynny, ond rydym yn sôn am 50,000 posibl o blant a phobl ifanc yn mynd yn llwglyd yr haf hwn. Nid wyf am wybod pwy sydd ar fai, rwyf am wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau nad yw hynny'n digwydd a sut rydych chi'n gweithio'n ymarferol gyda phartneriaid ar lawr gwlad i sicrhau y bydd pawb yn gallu mynediad at fwyd yr haf hwn.

Hefyd, ar y grant hanfodion ysgol, hyd yn oed gyda'r cynnydd y llynedd, a groesawyd yn fawr gan nifer o deuluoedd, fe wyddom eisoes eu bod yn dal i gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae athrawon yn sôn am orfod codi arian, am orfod gweithredu cynlluniau cyfnewid gwisg ysgol, ond hyd yn oed wedyn, maent yn methu ateb y galw. Felly, rydym yn sôn am blant yn methu bwyta, methu cael dillad i fynd i'r ysgol. Mae hon yn sefyllfa mor drist, ac rydym yn pwyntio bysedd at bobl yn hytrach na dod o hyd i atebion. Felly, dywedwch wrthyf sut rydych chi'n gweithio gyda phobl i helpu'r plant a'r bobl ifanc hyn.

15:25

Rwy'n cytuno â'r Aelod mai'r ffordd briodol o edrych ar hyn yw ceisio dod o hyd i atebion yn hytrach na phwyntio bysedd a beio. Mae'n bwysig rhoi cyd-destun i ddangos pam y gwnaed y penderfyniad, sef y cwestiwn y gofynnwyd i mi ei ateb wedi'r cyfan. O ran yr help a ddarparwn, fe gyfeiriodd hi at y grant hanfodion ysgol. Mae hwn ar gael ym mhob blwyddyn ysgol nawr. Dyma'r gronfa uchaf o'i bath mewn unrhyw ran o'r DU. Mae costau ysgol yn sylweddol iawn i lawer o deuluoedd. Felly, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i ostwng y gost honno, ac rydym yn gweithio gydag ysgolion, yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad iddynt er mwyn gallu gwireddu hynny ar lawr gwlad. Ond mae hi'n iawn i ddweud bod llawer iawn o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd er gwaethaf hynny. Rydym bellach wedi ymestyn y cynllun fel ei fod ar gael ar gyfer pob blwyddyn ysgol, sy'n wahanol iawn i hyd yn oed ychydig flynyddoedd yn ôl, i gydnabod maint y pwysau y mae teuluoedd yn ei wynebu.

Rwyf wedi rhoi cyd-destun cyllideb sy'n werth £900 miliwn yn llai. Pan fydd hynny'n digwydd, mae'n rhaid inni edrych ar bob agwedd o'r gyllideb. Fel y bydd hi'n gwybod, ac fel y soniais yn gynharach, rydym wedi gallu ymestyn y cynllun dros dro o bryd i'w gilydd, yn fwyaf diweddar gan ddefnyddio arian o'r cytundeb cydweithio. Ni fu'n bosibl gwneud hynny y tro hwn, naill ai o'r gyllideb gyffredinol neu, gyda chytundeb Plaid Cymru, o gyllideb y cytundeb cydweithio, ond fel y mae'n dweud, byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd.

Diolch i'r Gweinidog.

Y cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ac i'w ofyn gan James Evans.

Dŵr Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gostwng sgôr Dŵr Cymru? TQ825

Gwnaf. Rwyf wedi bod yn glir iawn gyda Dŵr Cymru ein bod yn disgwyl i gwmnïau dŵr yng Nghymru ddarparu'r safonau gwasanaeth uchaf i gwsmeriaid ac i ddiogelu'r amgylchedd. Mae'r gostyngiad yn sgôr Dŵr Cymru yn peri pryder mawr. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda nhw a Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau'r gwelliant angenrheidiol yn eu perfformiad amgylcheddol.

Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb, Weinidog. Profiad sobreiddiol iawn oedd darllen am y cyhoeddiad diweddar fod Dŵr Cymru wedi cael ei israddio eto, am yr ail flwyddyn yn olynol, am fethu gwneud y gwelliannau angenrheidiol i lanhau ein dyfrffyrdd ledled Cymru. Mae'r cwmni'n cofnodi mwy a mwy o ddigwyddiadau llygredd difrifol, ac mae'n ymddangos nad oes dim yn cael ei wneud i'w hatal. Mae eu trefn adrodd eu hunain am y digwyddiadau llygredd difrifol hyn yn cael ei lleihau hefyd. Weinidog, cwsmeriaid Dŵr Cymru sydd â'r biliau ail uchaf yng Nghymru a Lloegr. Mae eu prif swyddog gweithredol ymhlith y prif swyddogion gweithredol sy'n cael eu talu fwyaf yng Nghymru, ac roedd eu bonws eleni yn £232,000. Mae'n gywilyddus na all Dŵr Cymru gael pethau'n iawn, ac rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd i'r Llywodraeth gamu i mewn yma. Felly, a wnaiff y Llywodraeth gamu i'r adwy a rhoi trefn ar Dŵr Cymru unwaith ac am byth fel y gallwn lanhau ein hafonydd a chyflwyno deddfwriaeth frys i lanhau ein dyfrffyrdd mewndirol yng Nghymru, sy'n gymhwysedd a ddatganolwyd i'ch Llywodraeth chi?

Nid wyf yn hollol siŵr beth y gofynnir i mi ei wneud. A ydych chi'n gofyn i mi wladoli Dŵr Cymru? Cwmni preifat nid-er-elw yw Dŵr Cymru. Nid yw'n cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru, felly nid wyf yn siŵr iawn a ydych chi'n gofyn i mi ei wladoli. Mae gennyf nifer cyfyngedig o ysgogiadau ar gael i mi. Mae llawer o'r ysgogiadau, wrth gwrs, yn nwylo Llywodraeth y DU. Cyfleustod a breifateiddiwyd yw hwn, felly mae—

Llygredd, ie, ond nid yw rheoleiddio cwmnïau dŵr wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, felly, gallech chi awgrymu'n ddefnyddiol iawn i Lywodraeth y DU nad yw'r fframwaith rheoleiddio yn addas i'r diben, fel rydym ni'n ei wneud, a—[Torri ar draws.]

Darren Millar, nid eich cwestiwn chi yw hwn. Rydych yn ceisio ymyrryd ar eich Aelod eich hun yma. Cwestiwn James Evans ydyw, ac mae'r Gweinidog yn ceisio ymateb iddo.

15:30

Felly, mae nifer o'r pethau a nododd James Evans—. Credaf fod pob Aelod wedi cael yr un wybodaeth ag a gefais innau fel Aelod o’r Senedd, gan Dŵr Cymru; os nad ydych, yna yn sicr, gallaf ei hanfon ymlaen atoch. Fel y dywedaf, nid fi sy'n rheoli Dŵr Cymru; nid yw’n ddiwydiant sydd wedi’i wladoli, mae’n gwmni preifat nid-er-elw. Ond rydym yn craffu ar Dŵr Cymru drwy'r amser, ochr yn ochr ag Ofgem, a Llywodraeth y DU yn wir. Rwy’n bryderus iawn ynglŷn â’r dirywiad yn eu perfformiad. Cytunaf yn llwyr â hynny. Ac mae rhan fawr o hynny oherwydd y ffordd y mae'r mecanwaith pris yn gweithio. Mae’r mecanwaith pris wedi’i osod ar lefel y DU, ar lwybr llithro pum mlynedd, fel y’i gelwir, ac yn anffodus, mae’r ffordd y caiff ei reoleiddio ar hyn o bryd yn golygu bod yn rhaid i filiau dalu am unrhyw welliant. Felly, nid wyf yn gwbl sicr beth mae’r Aelod yn ei ofyn i mi, a dweud y gwir, gan nad fi sy'n rheoli Dŵr Cymru. Felly, fe wnaf ymateb, fel y dywedais—[Torri ar draws.] Rwy’n dwyn Dŵr Cymru i gyfrif; mae’r Aelod yn fwy na pharod, rwy’n siŵr, i wneud yr un peth mewn unrhyw bwyllgor y mae’n rhan ohono, neu yn breifat, i ofyn am gyfarfod â nhw. Rydym yn gwneud hynny’n rheolaidd iawn. Rwy’n cyfarfod ag Ofgem, Ofwat yn rheolaidd iawn, a chyda Llywodraeth y DU. Byddaf yn dwyn Dŵr Cymru i gyfrif mewn perthynas â hyn. Ond y gwir amdani yw mai cyfyngedig yw eu gallu i fuddsoddi oherwydd y mecanwaith pris. Maent wedi egluro hynny i chi, a phob Aelod arall o'r Senedd, yn yr wybodaeth y maent wedi'i darparu.

Fe ddywedoch chi hefyd, os gwneuthum eich clywed yn iawn, James—maddeuwch i mi os wyf yn anghywir—ond credaf ichi ddweud bod nifer fawr o ddigwyddiadau llygru difrifol wedi bod. [Torri ar draws.] Wel, mewn gwirionedd, mae’r cynnydd mewn digwyddiadau llygru difrifol, er eglurder—ac nid yw'n dderbyniol—ond er eglurder, mae’n gynnydd o dri i bump. Felly, i fod yn eglur iawn. Mae’n gwbl siomedig gweld hynny, ac nid wyf yn credu ei fod yn ddigon da, ond dyna’r ffigurau. Mae gostyngiad pellach yn nifer y digwyddiadau hunangofnodedig, a chynnydd bach yn nifer y digwyddiadau categori isel—o 81 i 84. Nid yw’r un o’r pethau hyn yn dderbyniol, ond mae’n bwysig cael y ffigurau’n gywir. Felly, mae hefyd—. Nid oes unrhyw bwynt ysgwyd eich pen arnaf, dyna'r ffigurau—[Torri ar draws.] Dyna'r ffigurau. Felly, rwy’n cytuno nad yw’n ddigon da, a byddwn yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iddo. Nid wyf yn hapus o gwbl yn ei gylch. Ond nid wyf yn gwbl sicr i ble roedd eich cwestiwn yn arwain—maddeuwch i mi os nad wyf wedi’i ddeall yn iawn, ond ymddengys eich bod yn gofyn imi wladoli'r cwmni, ac mae’n amlwg nad yw hynny'n dderbyniol mewn gwirionedd.

Weinidog, mae’n siŵr fod rhan o’r hyn rydym yn ei weld yma, ac yn wir, gyda chynnydd mewn gollyngiadau carthion ledled y DU, yn ganlyniad i lywodraethu amgylcheddol gwannach yn sgil Brexit. Mae Cymru wedi aros yn rhy hir am drefniadau newydd i fynd i’r afael â’r broblem. Roedd rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd yn diogelu ac yn grymuso dinasyddion Cymru i adrodd ar achosion o dorri cyfraith amgylcheddol, gan ddwyn corfforaethau i gyfrif. Ers gadael yr UE, gyda’r Brexit caled trychinebus y mynnodd y Torïaid yn San Steffan fynd ar ei drywydd, mae pob gwlad ar wahân i Gymru wedi datblygu eu mecanweithiau llywodraethu amgylcheddol eu hunain. Ni, yn anffodus, yw’r unig wlad yn y DU o hyd nad oes gennym y trefniadau llywodraethu amgylcheddol cadarn hynny. Gwn eich bod yn rhannu fy rhwystredigaeth ynglŷn â’r sefyllfa.

A allwch ddweud wrthym, os gwelwch yn dda, yn y cyfnod interim hwn, pa bwerau sydd ar gael at eich defnydd i gymryd camau cyflym i fynd i’r afael â’r cynnydd hwn mewn digwyddiadau llygredd? Oherwydd pan fydd aelodau'r cyhoedd yn edrych ar hyn yn digwydd, credaf ei fod yn un o'r materion lle mae pobl yn anobeithio yn ei gylch, ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw un yn gallu, neu o leiaf, nid yw'n ymddangos bod yna eglurder ynghylch yr hyn y gellir ei wneud. Felly, a ydych chi'n cytuno bod rhan o hyn yn ganlyniad i’r bwlch llywodraethu amgylcheddol yn sgil y Brexit caled sydd gennym? A beth y gellir ei wneud i rymuso dinasyddion Cymru ymhellach ac i wella llesiant, ie, ein dyfrffyrdd, ond hefyd y bobl sy’n dymuno byw yn agos atynt, sydd am i’w plant allu chwarae mewn dyfrffyrdd, er mwyn inni allu ymgysylltu'n gywir a gallu cael hynny yn ôl yn ein bywydau? Diolch.

Diolch, Delyth. Credaf ei bod yn bwysig iawn cael y ffeithiau’n gywir. Felly, rwy’n cytuno’n llwyr â chi ynglŷn â’r Brexit caled ac anawsterau hynny, ond rwyf am fod yn glir iawn, a nodi i Aelodau’r Senedd sut yn union y mae hyn yn gweithio. Felly, caiff perfformiad ei fesur gan CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd, sy'n nodi targedau ar gyfer pob cylch cynllunio busnes, gyda'r hyn a elwir yn 'llwybr llithro', lle caiff safonau eu tynhau dros gyfnod o bum mlynedd. Felly, rydym yng nghyfnod 2020-25 ar hyn o bryd. Mae trothwyon y llwybr llithro pum mlynedd a osodwyd yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn ystyried perfformiad blaenorol cwmnïau dŵr dros gyfnod o dair blynedd, sef cyfnod 2016-18 ar gyfer yr asesiad hwn, a disgwyliadau gofynion amgylcheddol strategol y diwydiant dŵr. Felly, er enghraifft, ar gyfer digwyddiadau llygru difrifol, y targedau ar gyfer Dŵr Cymru yw un digwyddiad ar gyfer gwyrdd, dau neu dri digwyddiad ar gyfer oren a phedwar neu fwy ar gyfer coch. Ar gyfer cyfnod 2023-24, bydd un, dau a thri, ac ar gyfer cyfnod 2025, dim, un a dau. Felly, gallwch weld eu bod yn mynd i lawr. Felly, cânt eu dwyn i gyfrif ar safon uwch ar bob pwynt yn y llwybr llithro. Nid esgus yw hynny, gyda llaw; mae'n amlwg nad yw'n ddigon da, ond fel eich bod yn deall sut y cânt eu dwyn i gyfrif.

Fe wnaethom gynnwys canllaw ar gyfer y mecanwaith adolygu pris, felly fe wnaethom gynnwys ein blaenoriaethau. Mae mynd i'r afael â gorlifiadau’n ffocws allweddol yn ein gwaith ar wella ansawdd dŵr, ond unwaith eto, mae'n bwysig cael y ffeithiau'n gywir, ac nid wyf yn awgrymu bod hyn yn ddigon da, ond er eglurder: mae 44 y cant o'n hafonydd mewn statws amgylcheddol da, o gymharu â nifer llawer is yn Lloegr, ac mae gennym—er gwaethaf y ffaith bod gennym arfordir mwy—mae gennym gyfran uchel iawn o'n traethau mewn cyflwr amgylcheddol da o hyd. Felly, nid wyf am i’r cyhoedd boeni heb fod angen, a pheidio â manteisio ar arfordir Cymru dros yr haf sydd i ddod, er enghraifft. Ond nid yw'n ddigon da. Hoffwn iddo ddod yn llawer gwell na hynny. Felly, rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid cyflawni, rheoleiddwyr a'r sectorau perthnasol i roi atebion cynaliadwy ar waith. Mae’r holl gwmnïau dŵr wrthi’n datblygu eu cynlluniau busnes ar hyn o bryd, felly 2025-30, sef y mecanwaith adolygu pris roeddwn yn sôn amdano, a fydd yn cynnwys y rhaglen waith i fynd i’r afael ag unrhyw niwed amgylcheddol a achosir gan orlifoedd stormydd.

Nawr, mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n tybio eich bod yn cytuno â mi, Delyth, nad wyf yn deall sut nad yw gosod y seilwaith i gael yr ansawdd dŵr gorau yn y byd yn rhaglen fuddsoddi y mae’r Llywodraeth yn dyrannu cyfalaf ar ei chyfer. Nid wyf yn deall pam fod yn rhaid i dalwyr biliau ysgwyddo’r gost honno. Dewis gan Lywodraeth y DU yw hynny, ac nid yw’n ddewis rwy’n ei gymeradwyo, ac mae’n cyfyngu’n llwyr ar faint o fuddsoddiad y gellir ei wneud, oherwydd yn amlwg, ni allwn gael biliau dŵr anfforddiadwy ledled Cymru. Felly, mae'n benbleth anodd iawn, os ydych wedi'ch cyfyngu i'r swm o arian y gallwch ei godi ar eich talwyr biliau er mwyn gwneud y buddsoddiad. Yn fy marn i, dyma’r ffordd gwbl anghywir o wneud hyn. Ond fel y dywedaf, cwmni preifat yw Dŵr Cymru; mae’n gwmni nid-er-elw, ac rwy’n falch iawn o hynny, ond mae’n gwmni preifat nad yw dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

15:35

Diolch am yr holl wybodaeth honno, Weinidog, ac fel y dywedwch, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cael y ffeithiau’n gywir. Ond mae hefyd yn wirioneddol bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, gan fod prinder dŵr cynyddol ledled Ewrop, ledled y byd, ac felly, dylem fod yn defnyddio ein dŵr yn ddarbodus ac yn sicrhau ei fod o’r ansawdd gorau posibl. Felly, cytunaf â chi y dylai’r cyfan gael ei ariannu drwy drethiant, ond nid dyna sydd gennym ar hyn o bryd; mae'r gost yn cael ei throsglwyddo i dalwyr biliau. Ond credaf mai un o’r ffyrdd yr hoffwn weld cynnydd yw drwy sicrhau ein bod yn gallu troi baw yn arian, os gwnawn ei drin yn gywir. Gellir ei wneud yn—. Yn enwedig os yw'r dŵr yn cael ei wasgu allan ohono, gellir ei ddefnyddio i gyfoethogi ein priddoedd a gwella'r amgylchedd tyfu. Felly, yn eich sgyrsiau gyda Dŵr Cymru, tybed a allech siarad â nhw ynglŷn â sut y gallwn wella’r ffordd rydym yn trin gwastraff yn ein gweithfeydd carthion, fel y gallwn werthu mwy o’r hyn y maent yn ei gynhyrchu er budd y wlad, a bod llai ohono—llawer llai ohono—yn mynd i mewn i'n hafonydd a'n moroedd.

Jenny, mae hwnnw'n bwynt da iawn. Fel rhan o broses yr uwchgynadleddau, fel rydym yn ei galw, a’r gwaith ar y broblem ffosffadau—er mai dim ond un o’r problemau sy’n cael eu hystyried yw’r broblem ffosffadau—rydym yn edrych ar amrywiaeth o atebion, ac un ohonynt yw hynny: ceisio troi’r hyn sy’n wastraff anodd ar hyn o bryd yn gynnyrch sy’n gwneud arian a’i werthu, ac mae hynny’n bendant yn un o’r pethau rydym yn eu hystyried. Rydym hefyd wedi gwneud rhywfaint o ddosrannu ffynonellau ar gyfer hynny. Felly, rydym wedi comisiynu cwmni annibynnol i ddosrannu ffynonellau ar draws pob un o’r afonydd ACA—afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig—ar gyfer y naw ardal yng Nghymru. Gellir defnyddio’r modelau i bennu cyfraniad ffynonellau i grynodiadau ffosfforws yn yr afon a chynorthwyo i ddatblygu rhaglen i leihau’r mewnbynnau, a gwnawn hynny drwy’r byrddau rheoli gwella ansawdd afonydd a’r byrddau rheoli maethynnau. Mae gennym nifer o fyrddau wedi’u sefydlu i weithio ar y rhain, sy’n edrych ar eich pwynt chi hefyd. Ac yna, mewn gwirionedd, mae hyn yn ychwanegol at yr hyn roeddwn yn ei ddweud wrthych chi, Delyth, y gwn ein bod wedi'i drafod o'r blaen.

A dylwn ddweud, ac, unwaith eto, credaf fod y ffeithiau'n bwysig iawn yma—ac nid yw hyn yn tynnu oddi ar y ffaith bod angen i Dŵr Cymru berfformio’n llawer gwell, ond—defnydd tir gwledig yw'r prif gyfrannwr ffosffadau mewn chwech o'r naw afon ACA, gan gynnwys pedair o'r afonydd ACA sy'n methu. Mae hynny’n ffaith. Dyna yw’r gyfran fwyaf o ffosfforws sy’n mynd i mewn i afon Tywi, er enghraifft, ar 86 y cant, o gymharu ag 11 y cant o weithfeydd trin dŵr gwastraff, a 2 y cant o orlifoedd carthffosiaeth cyfunol. Gwnaf y pwynt hwnnw nid oherwydd bod 2 y cant o orlifoedd carthffosiaeth cyfunol yn iawn—nid yw’n iawn—ond mae'n rhaid inni gael rhyw synnwyr o gymesuredd i'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yma, a hyd nes y gwnawn ni dderbyn bod yn rhaid i bob un sector yng Nghymru wella eu perfformiad, gan gynnwys y cwmnïau dŵr—rhaid i bob un sector wella'u perfformiad—ni fydd gennym yr ansawdd dŵr rydym yn dymuno ei gael.

15:40

Rwyf am fod yn gryno yma. Fel eraill, cyfarfûm ag ymgyrchwyr llygredd dŵr y tu allan i’r Senedd ddoe, ac mae dryswch gwirioneddol yma, gan fod Dŵr Cymru yn dweud nad oes ganddynt arian i wneud peth o’r gwaith y maent i fod i’w wneud, ac eto—ac mae'n ddrwg gennyf fynd yn ôl at hyn—cafodd tri o'u prif swyddogion gweithredol daliadau bonws gwerth £931,000, gyda chyflog blynyddol y prif weithredwr yn £309,000. Clywaf yr hyn a ddywedwch, Weinidog, ynglŷn â’r ffaith nad ydynt o dan ein rheolaeth ni, ond pa hyder y gallwn ei roi i’r cyhoedd yng Nghymru—gan gynnwys yr ymgyrchwyr a oedd y tu allan i’r Senedd ddoe—ein bod yn eu dwyn i gyfrif mewn rhyw ffordd, ac y gallwn fod â hyder yn Dŵr Cymru a’n cwmni dŵr? Diolch yn fawr iawn.

Yr hyn sydd gennym yw cyfleustod wedi’i breifateiddio, i bob pwrpas, ac yn fy marn i, nid yw hwnnw’n fodel da iawn ar gyfer darparu unrhyw fath o gyfleustod hanfodol, ond dyna sydd gennym. Nid oes gennyf unrhyw rôl ffurfiol o ran pennu tâl swyddogion gweithredol cwmnïau dŵr Cymru, ond rydym yn monitro tâl a pherfformiad. Rydym yn disgwyl i'r pwyllgorau cydnabyddiaeth ariannol perthnasol fyfyrio'n ofalus ar berfformiad a chyflawniad yn erbyn holl heriau’r sector dŵr a'r heriau amgylcheddol presennol. Mae Ofwat hefyd wedi nodi'r disgwyliad i gwmnïau ddarparu esboniadau cadarn a chlir o dâl swyddogion gweithredol sy'n gysylltiedig â pherfformiad. Maent yn glir y dylai tâl swyddogion gweithredol sy'n gysylltiedig â pherfformiad ddangos cysylltiad ag ymestyn cyflawniad perfformiad i gwsmeriaid, sy'n cynnwys rhwymedigaethau ac ymrwymiadau amgylcheddol.

Nid wyf yma i ymddiheuro ar ran pobl y telir swm enfawr o arian iddynt. Mae’n swm enfawr o arian. Nid yw’n swm enfawr o arian o gymharu â rhai o’r cwmnïau dŵr eraill, ond nid wyf yn gweld sut mae hynny’n berthnasol, gan ei fod yn swm enfawr o arian. Dywedir wrthyf—nid oes gennyf unrhyw bŵer dros hyn—dywedir wrthyf fod y prif weithredwr a’r prif swyddog cyllid wedi ildio’u taliadau bonws gweithredol ar gyfer 2022-23. Ond carwn awgrymu, Lywydd, fod nifer o bwyllgorau yn y Senedd hon a allai wahodd Dŵr Cymru i roi cyfrif amdanynt eu hunain hefyd.

Diolch i’r Gweinidog. Mae’r cwestiwn nesaf i’w ateb gan Weinidog yr Economi ac i'w ofyn gan Jack Sargeant.

Y Prosiect Banc Cymunedol

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy i roi'r gorau i'r prosiect banc cymunedol? TQ830

Diolch. Mae’n siomedig fod Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn rhoi'r gorau i'w phrosiect banc cymunedol oherwydd newid yn yr amgylchedd economaidd. Nid yw’r ffordd tuag at sefydlu banc cymunedol yn syml, ond nid yw ein gweledigaeth wedi newid. Byddaf yn parhau i archwilio pob opsiwn er mwyn creu banc cymunedol sy'n cyd-fynd ag anghenion cymunedol.

Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei ateb a’r weledigaeth y mae wedi’i nodi. Rwy’n rhannu eich siom, Weinidog, ynghylch penderfyniad Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy. Rwyf wedi cael sgyrsiau gydag Aelodau trawsbleidiol sy'n rhannu'r siom honno hefyd. Mae’n wir na fu erioed fwy o angen am fanc cymunedol. Rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol o’r cyhoeddiad diweddar gan NatWest yn Shotton, yn fy etholaeth, a’u bwriad diweddar i gau banc stryd fawr, sy’n enghraifft arall o pam fod angen banc cymunedol. Gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o fy ymgyrch hirsefydlog i sefydlu cangen gyntaf banc cymunedol Cymru ym Mwcle, ac rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau dros nifer o flynyddoedd yn y lle hwn, a hyd yn oed heddiw, mae cefnogaeth wleidyddol amlwg o bob ochr i Siambr y Senedd ar gyfer sefydlu banc cymunedol i Gymru. Ond mae'n amlwg fod angen inni ddod o hyd i bartner newydd i allu cyflawni hynny, a chyflawni hynny yn nhymor y Senedd hon. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog ymrwymo adnoddau Llywodraeth Cymru i chwilio am y partner hwnnw, a hefyd, unwaith eto, i ddatgan ei ymrwymiad i ddarparu banc cymunedol i Gymru?

Rwy’n fwy na pharod i wneud hynny ac i gydnabod y gefnogaeth a’r diddordeb trawsbleidiol parhaus i ddarparu banc cymunedol yma yng Nghymru. Ni allaf addo y bydd cangen gyntaf y banc cymunedol ym Mwcle, ond gallaf addo y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i greu banc cymunedol.

Y newid yn yr amodau economaidd, yn enwedig yn y farchnad forgeisi, sy’n llywio penderfyniad Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy. O ystyried eu bod yn annhebygol o allu deall yn iawn sut olwg sydd ar y farchnad honno am flwyddyn arall o leiaf, ac ailgychwyn y gwaith wedyn, ni allwn ac ni fyddwn yn aros tan i hynny ddigwydd—aros am benderfyniad gwahanol gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy. Rwyf eisoes wedi cael sgwrs gyda’r gymdeithas gydweithredol sy’n rhedeg Banc Cambria. Cyfarfûm â nhw ddoe. Cyn hynny, cyfarfûm â Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Fel y mae’r datganiad ysgrifenedig yn nodi, rydym wedi cytuno y byddwn yn parhau i siarad â phartneriaid yn y sector cyllid i chwilio am bartner arall, o ystyried y gwaith rydym eisoes wedi’i wneud a’r ddealltwriaeth well sydd gennym, i weld a oes partneriaid eraill â diddordeb, a chyda'r gwerthoedd cywir i fwrw ymlaen â banc cymunedol. Daw hyn ar ôl i brif fanciau’r stryd fawr roi’r gorau i ddarparu gwasanaethau bancio manwerthol yn ein holl gymunedau.

Pan ddeuthum yn Aelod gyntaf, roedd pedwar banc ar y stryd fawr yn y dref rwy’n byw ynddi. Nid oes yr un ohonynt ar ôl bellach, ond mae dwy gymdeithas adeiladu a swyddfa bost ar y stryd fawr o hyd. Rwy’n tybio mai’r partneriaid sydd â fwyaf o ddiddordeb, yn ôl pob tebyg, yw cymdeithasau adeiladu, y sector cydfuddiannol, y bydd ein gwerthoedd yn cyd-fynd â’u rhai nhw, ac mae ganddynt rwydwaith y gallech adeiladu banc cymunedol ohono. Mae'n rhaid inni gael y sgwrs honno. Byddwn yn cysylltu'n ffurfiol â phartneriaid yn y sector cyllid. Y rheswm pam y soniais am y cwmnïau cydfuddiannol yw am y credaf ei fod yn rhywbeth sy’n annhebygol ar gyfer rhai o'r banciau sy’n herio’r prif fanciau—fel Starling, Monzo a Metro, er enghraifft. Her bwysig iawn yw'r ffordd y maent yn darparu gwasanaethau, ond ar gyfer gweledigaeth y banc cymunedol, rwy'n credu efallai nad nhw yw'r partneriaid y byddem yn chwilio amdanynt. Ond nhw sydd i benderfynu. Byddwn yn ysgrifennu’n ffurfiol at y sector, ac rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr ar ein gwaith ar chwilio am bartner newydd i’n helpu i fwrw ymlaen â gweledigaeth y banc cymunedol, ac yna i nodi sut y gallai hynny edrych yn y dyfodol. Mae’r ymrwymiad yn parhau mor gryf ag erioed, ac rwy’n tybio’n gryf nad yw’r awydd ar draws y Siambr i gael banc cymunedol wedi gwanhau ychwaith.

15:45

Weinidog, mae eich datganiad ar fancio cymunedol y bore yma’n ei gwneud yn glir eich bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i hwyluso gwasanaethau bancio cymunedol yma yng Nghymru. Felly, yng ngoleuni penderfyniad Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy i roi'r gorau i’r prosiect, efallai y gallwch ddweud wrthym sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwireddu ei gweledigaeth ar gyfer bancio cymunedol. Mae'n hanfodol nad yw'r momentwm y tu ôl i fanc cymunedol yn cael ei golli. Ychydig iawn o arian cyhoeddus sydd wedi’i ddefnyddio i gefnogi’r prosiect hwn, ac mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i archwilio pob opsiwn. Mae’r datganiad ysgrifenedig heddiw yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu sylfaen dystiolaeth gyfannol i lywio gweithredu yn y dyfodol. Rwy’n cytuno bod hynny’n hanfodol wrth symud ymlaen, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud mwy wrthym am y gwaith hwn, yr amserlenni sydd ynghlwm wrtho, a phwy fydd y Llywodraeth yn ymgysylltu â nhw, fel y gallwn gael ymdeimlad o beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei gyflawni.

Yn olaf, fel y mae’r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy wedi’i ddweud, mae’r angen am fanc cymunedol yn hollbwysig, o ystyried y nifer diddiwedd o fanciau sy’n cau yng Nghymru a’r heriau ehangach sy’n wynebu’r stryd fawr. Yn fy etholaeth fy hun, gwn fod un banc ar ôl y llall wedi cau ar y stryd fawr. Mewn gwirionedd, mae un banc stryd fawr yn y broses o gau cangen yn Nhyddewi, a fydd yn ergyd i’r ardal leol. Felly, wrth i natur bancio barhau i newid yn gyflym, mae rhai pobl yn cael eu gadael ar ôl, ac felly efallai y gallech ddweud mwy wrthym hefyd am y trafodaethau ehangach rydych yn eu cael gyda banciau ynglŷn ag effaith cau eu canghennau ar gymunedau ledled Cymru.

Er nad yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli, mae'n effaith uniongyrchol ar gymunedau. Nid ydym yn rheoli'r elfen reoleiddiol ohono. Ni allwn gyfarwyddo banciau. Ond rwy'n siarad â banciau, ac wedi siarad â nhw o ran eu persbectif manwerthol ond hefyd mewn perthynas â benthyca. Mae banciau, ar y cyfan, yn gadarnhaol am y dyfodol ac am y newid yn natur cwsmeriaid a'r galw gan gwsmeriaid. Gŵyr pob un ohonom, ym mhob plaid yn y Siambr hon, mai’r gwrthwyneb yn llwyr yw barn ein hetholwyr pan fydd banciau’r stryd fawr yn cau. Felly, mae yna sgwrs barhaus yn mynd rhagddi lle rwy'n nodi’n glir fod hon yn broblem i nifer o gymunedau, yn enwedig mewn perthynas â mynediad at wasanaethau ariannol hefyd. Dyna pam fod parhau i gynnal a chadw rhwydwaith o swyddfeydd post mor bwysig. Dyna pam fod y Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi yn y mudiad undebau credyd hefyd. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydym wedi rhoi mwy o arian i mewn i’r mudiad undebau credyd, a chafodd 2,000 o bobl fenthyciadau undebau credyd ar gyfradd fforddiadwy a lleol am y tro cyntaf y llynedd. Felly, mae amrywiaeth o wahanol bethau y mae angen inni eu gwneud i sicrhau bod gwasanaethau ariannol yn hygyrch ac yn fforddiadwy.

Mae’r banc cymunedol yn rhan o weledigaeth fwy hirdymor yn hytrach nag ateb ar unwaith i’r heriau real iawn y mae cymunedau’n eu hwynebu. Ond fel y dywedais mewn ymateb i Jack Sargeant, byddwn yn parhau i gael sgyrsiau gyda’r sector ehangach am yr hyn sy’n bosibl. Byddwn yn parhau i ymgysylltu, nid yn unig â’r sector cydfuddiannol, ond ag unrhyw bartneriaid sydd â diddordeb. Rydym eisoes yn deall bod rhai rhannau o’r sector cydfuddiannol wedi mynegi diddordeb ychwanegol, o ystyried bod y gwaith wedi’i wneud. Mae hwn yn faes lle mae pŵer cynnull y Llywodraeth, yn hytrach na gwario llawer o arian cyhoeddus, wedi caniatáu inni wneud pethau. Ond fel y dywedais wrth Jack Sargeant, rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr a’r Aelodau, boed hynny drwy ddatganiad ysgrifenedig neu lafar, wrth i’r gwaith hwnnw barhau, er mwyn rhoi mwy o siâp i’r cwestiynau a ofynnodd yr Aelod.

15:50

Diolch i Jack am godi hyn. Mae’n rhaid imi ddweud ar y cychwyn ei bod yn siomedig fod yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect hwn wedi dod drwy ddatganiad ysgrifenedig ar y diwrnod olaf cyn toriad yr haf. Mae’r prosiect hwn yn brosiect sylweddol, nid yn unig am fod y Prif Weinidog wedi nodi dro ar ôl tro ei fod yn flaenoriaeth iddo, ond hefyd oherwydd y gefnogaeth drawsbleidiol i fanc cymunedol yma yn y Siambr hon.

Byddai’r sinig ynof yn credu bod y ffordd y mae hyn wedi digwydd yn teimlo fel pe bai’r Gweinidog am beidio â thynnu sylw ato. Ond rhoddaf fantais yr amheuaeth iddo, gan fod hyn yn rhywbeth y mae pob un ohonom am ei weld. Mae mynediad at wasanaethau bancio, fel rydym eisoes wedi’i glywed, yn fater nad yw’n mynd i ddiflannu yn ein cymunedau. Mae banciau'n cau bob dydd bron. Byddai’n dda gennyf ddeall beth yw union oblygiadau’r oedi hwn, ac a fyddai’r Llywodraeth yn ystyried unrhyw fesurau interim i bontio’r bwlch rhwng ein cymunedau a gwasanaethau.

Mae’n hanfodol ein bod yn cyflawni hyn, felly gobeithio y bydd y Gweinidog yn cadw at ei ymrwymiad ac yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm ym Manc Cambria—beth bynnag y mae’n ei gymryd. Bydd pob un ohonom yma yn eich cefnogi hefyd. A dweud y gwir, yr wythnos diwethaf, fe fu Jack Sargeant, Paul Davies, Jane Dodds a minnau'n trafod potensial sefydlu grŵp trawsbleidiol i helpu, ac i’r perwyl hwnnw, i wthio’r agenda hon yn ei blaen. Felly, gadewch inni wneud iddo ddigwydd.

Ar yr amseru, ymhell o osgoi craffu, cawsom gyfarfodydd ddydd Llun a dydd Mawrth, ac nid oeddwn mewn sefyllfa i gwblhau datganiad ysgrifenedig tan yn hwyrach ddoe ar y cynharaf. Roedd angen imi wirio bod y manylion yn gywir. Felly, mewn gwirionedd, yn lle gwthio hyn ymlaen tan yfory, lle na fyddwn wedi cael cyfle i wynebu unrhyw fath o gwestiynau, fe wneuthum yn siŵr fod y datganiad ysgrifenedig ar gael fel bod cyfle i ofyn cwestiynau amdano, gan fy mod yn gwybod y byddai diddordeb ynddo. Felly, yn fwriadol, fe wneuthum yn siŵr y gellir craffu heddiw, a bod datganiad ysgrifenedig ar gael yn ystod y tymor. Pe bawn yn dymuno osgoi hyn, gallwn fod wedi aros am ddiwrnod arall, ac nid dyna'r dewis a wneuthum. Bob hyn a hyn, dylai sinigiaeth fwriadol yr Aelodau ildio i realiti amseru nad ydym yn ei reoli.

O ran y camau interim, rwyf wedi nodi'r pethau rydym yn eu gwneud ar gynhwysiant ariannol ac undebau credyd yn arbennig. Ni fyddwn yn gallu sefydlu banc cymunedol interim mewn gwahanol rannau o Gymru. Dyna'r ddealltwriaeth y mae angen i bob un ohonom ei chael ynglŷn â chael sefydliad ariannol newydd sy'n pasio'r prawf rheoleiddio ariannol fel ei fod yn sefydliad hyfyw a all ddechrau gweithredu wedyn, a goroesi a thyfu. Ni fyddwn yn gallu gwneud hynny o fewn yr ychydig fisoedd nesaf. Dyna pam fod y camau rydym wedi cytuno i'w cymryd gyda Banc Cambria yn arbennig o bwysig i ailbrofi pwy yn y sector ehangach sydd â diddordeb, ac mae rhywfaint o ddiddordeb yn hynny.

Ar gyfer y dyfodol, byddwn yn croesawu sefydlu grŵp trawsbleidiol, i sicrhau bod ffordd hawdd o ysgogi cyfathrebu rhwng ac o gwmpas, yn lle yma yn y Siambr neu mewn pwyllgor craffu, i sicrhau y ceir trafodaeth drawsbleidiol go iawn. Oherwydd rwy'n awyddus i sicrhau bod y gefnogaeth drawsbleidiol y tu ôl i'r syniad o fanc cymunedol yn arwain at ei greu, ac mae hynny'n parhau i fod yn ymrwymiad gan y Llywodraeth.

Diolch i Jack Sargeant am godi’r cwestiwn amserol pwysig hwn heddiw, gan fod cau banciau'n rhywbeth sy’n digwydd mewn llawer o ddinasoedd, trefi a phentrefi ledled y DU, ac yng Nghymru yn wir. Yn fy etholaeth i, mae cau nifer o fanciau ym Mhrestatyn a Dinbych mewn amser byr wedi cael effaith aruthrol ar fynediad pobl at arian parod mewn cymunedau arfordirol a gwledig, gyda’r banc diweddaraf yn cau ar 8 Awst, pan fydd banc HSBC yn Ninbych yn cau ei ddrysau, gwaetha'r modd. Ac yn anffodus, nid yw'r dref yn gymwys ar gyfer hwb bancio drwy wasanaeth Link.

Ond yn ddiweddar, rwyf wedi cael trafodaethau cadarnhaol gyda Swyddfa'r Post, yma yn y Senedd ac yn Nyffryn Clwyd, ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio gwasanaethau swyddfa'r post i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu cael arian parod mewn ardaloedd sy'n wledig a heb gysylltiadau trafnidiaeth da. Felly, gyda’r rhwystrau i arian parod mewn golwg, a yw’r Gweinidog yn cydnabod y rôl bwysig y mae swyddfeydd post yn ei chwarae mewn cymdeithas? Pa drafodaethau a gawsoch, Weinidog, i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi ar lefel y Llywodraeth i fod yn bresenoldeb cynaliadwy yn ein trefi wrth symud ymlaen?

15:55

Unwaith eto, nid yw Swyddfa'r Post a'i rheoleiddio yn rhywbeth sydd wedi'i ddatganoli i ni. Fe welwch o fy natganiad, y bydd pob Aelod wedi cael cyfle i edrych arno, nid yn unig ein bod yn croesawu’r camau y mae Link a Swyddfa’r Post yn eu cymryd gyda’i gilydd, ond hefyd ein bod yn gobeithio cael cyfleusterau undeb credyd ar gael drwy rwydwaith y swyddfeydd post hefyd. Mae’n rhwydwaith o leoedd y mae pobl yn ymddiried ynddynt. Mae'n frand y gellir ymddiried ynddo, o hyd. Mae ganddo fynediad at amrywiaeth o leoedd, o hyd. A hoffem gynnal y rhwydwaith yn hytrach na'i weld yn cael ei leihau, oherwydd, unwaith eto, os bydd eich banc yn cau a'ch swyddfa bost yn cau, mae'n fwy na'r mynediad ymarferol a chorfforol at y gwasanaethau hynny—mae'n wirioneddol bwysig ar gyfer ymdeimlad o le, ar gyfer lle mae cymuned a'i barn ei hun ar ei dyfodol. Felly, byddwn yn parhau i weithio'n adeiladol nid yn unig gyda Swyddfa'r Post ei hun, ond hefyd gyda Gweinidogion y DU, gan y gwn fod hyn yn digwydd ledled y DU. Yng Nghymru, rydym yn ceisio defnyddio dull a gefnogir yn drawsbleidiol i geisio llenwi rhywfaint ar y bwlch hwnnw, ond mae angen ateb mwy hirdymor, wrth gwrs.

Diolch i'r Gweinidog am yr atebion yna. Y cwestiwn nesaf, eto i'w ofyn i Weinidog yr Economi, ac i'w ofyn gan Natasha Asghar.

Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i chi, Lywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol hwn, a gyflwynwyd ar ôl y terfyn amser arferol o 10 a.m.—hoffwn i bawb wybod—gan fod Llywodraeth Cymru wedi dewis rhyddhau datganiad heddiw am 10 a.m. ar ei ben y bore yma.

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gau Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, sydd wedi arwain at ddileu £27.1m yng nghyfrifon Banc Datblygu Cymru ar gyfer 2022-23? TQ831

Dylwn ddweud iddo gael ei gyhoeddi am 10 a.m. gan fod y datganiad cyntaf ar gwestiwn amserol wedi'i gyhoeddi am 09:30, a dywedir wrthym fod canllawiau ynghylch rhoi digon o amser rhwng eu cyhoeddi fel y gall pobl eu gweld. Yn sicr, nid oes diddordeb gennyf mewn osgoi craffu.

Crëwyd Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru yn 2012. Mae buddsoddi ecwiti mewn cwmnïau cyfnod cynnar wedi cefnogi twf y sector, gan gynyddu cyfleoedd ar gyfer masnacheiddio ymchwil, datblygu ac arloesi ym maes gwyddorau bywyd. Mae’r gronfa hon wedi bod yn rhan o bortffolio o fuddsoddiadau risg uwch ac is, sy’n helpu i liniaru effaith y golled a adroddwyd.

Diolch, Weinidog. Hoffwn wybod pam y gwnaed y cyhoeddiad heddiw ar ddiwrnod olaf y Cyfarfod Llawn cyn toriad yr haf er bod eich datganiad ysgrifenedig yn nodi bod Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru wedi dod i ben ym mis Chwefror 2023. Gallai llawer ddadlau bod Llywodraeth Cymru yn osgoi cwestiynau er mwyn osgoi craffu.

Fel y gwyddom, Weinidog, yn wreiddiol buddsoddodd Llywodraeth Cymru £50 miliwn yng Nghronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru. Yn ôl eich datganiad, gwerth presennol yr asedau a drosglwyddwyd yw oddeutu £2.5 miliwn. Mae hyn ar ôl i fwrdd Banc Datblygu Cymru ddileu dyled o £27.1 miliwn yn eu cyfrifon ar gyfer 2022-23. Ond wrth edrych ar y mater yn fanylach, Weinidog, mae’n ddiddorol iawn. Pan roddwyd £50 miliwn o arian trethdalwyr i’r gronfa ar y cychwyn, dros 10 mlynedd yn ôl, câi ei chadeirio gan yr entrepreneur gwyddorau bywyd a’r lluosfiliwnydd Syr Chris Evans, sydd mewn gwirionedd yn gefnogwr amlwg ac yn rhoddwr—am syndod—i’r Blaid Lafur. Mae pryderon wedi’u codi yn y gorffennol ynglŷn â’r ffaith bod y gronfa gwyddorau bywyd, o dan ei gadeiryddiaeth ef, wedi gwneud nifer o fuddsoddiadau mewn busnesau a chanddynt gysylltiadau uniongyrchol â Syr Chris.

Ymlaen i 2023, Weinidog, ac unwaith eto, gwelwn wastraff arian aruthrol gan eich Llywodraeth Lafur. Mae cyhoeddiad heddiw yn brolio bod buddsoddiad £50 miliwn Gweinidog economi’r Blaid Lafur wedi helpu i ddiogelu neu greu 310 o swyddi. Ond digwyddodd hyn ar gost o dros £160,000 y swydd, ac mae wedi cymryd 10 mlynedd—sy'n dyst i ddiffyg darbodusrwydd ariannol y Blaid Lafur. Bydd pobl ledled Cymru unwaith eto'n credu na ellir ymddiried arian trethdalwyr Cymru i'r Llywodraeth Lafur hon. Yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni y ceir ymchwiliad llawn i’r diofalwch esgeulus ac ariannol sy’n amlwg wedi digwydd?

Rydym yn cael sgyrsiau rheolaidd yn y lle hwn, ac mewn pwyllgorau, yn wir, am barodrwydd y Llywodraeth i ysgwyddo risg i wneud pethau lle gallwch wneud gwahaniaeth, ac mae rhan o’r rheswm pam fod Llywodraethau’n aml yn dewis dulliau risg is yn ymwneud â chywair a chynnwys a’r iaith gyhuddgar sy’n gwbl anghywir yn ail ddatganiad yr Aelod. Y gwir amdani yw bod y cyllid hwn wedi helpu i dyfu’r sector, ac mae’r sector gwyddorau bywyd yn faes lle mae Cymru yn gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl. Roedd y gronfa hon yn rhan o'r broses o wneud hynny. Nid yn unig y swyddi a greodd—fe helpodd i ddenu dros £200 miliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat i'r sector gwyddorau bywyd. Yr hyn y gallem fod wedi’i wneud, wrth gwrs, yn lle defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol i helpu i gefnogi’r gronfa hon, yw defnyddio mecanwaith grant lle byddai’r holl arian wedi mynd allan ac ni fyddai dim o’r elw wedi’i wneud. Mewn gwirionedd, mae hyn wedi helpu i godi proffil y sector yn sylweddol, mae hynny wedi’i gydnabod gan adolygiad annibynnol yn 2016, ac roedd y rhan fwyaf o’r golled o ganlyniad i effaith anochel COVID. Rhoddodd nifer o gwmnïau gwyddorau bywyd, gan gynnwys canolfan Rutherford, y gorau i weithredu ar ôl COVID. Gwnaed cyhoeddiad ym mis Mehefin 2022 am ganolfan Rutherford ger Casnewydd. Felly, mae hyn wedi helpu i dyfu a rhoi hwb i’r sector hwn o’r economi. Mae gennym stori dda i'w hadrodd ym maes gwyddorau bywyd. Beth bynnag fydd y Torïaid am ei ddweud am Gymru a gwyddorau bywyd, rwy’n falch o’r gwaith rydym yn parhau i’w wneud, ac edrychaf ymlaen at fuddsoddiadau pellach a thwf y sector a’r swyddi y mae’n eu darparu mewn cymunedau ledled Cymru.

16:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Datganiad ysgrifenedig arall gan Weinidog yr economi, a chwestiwn amserol arall sydd ei angen ar ddiwrnod olaf busnes y Senedd. Yn seiliedig ar yr hyn a ddywedodd Natasha, efallai fod y sinig ynof yn iawn. Cafodd y gronfa fuddsoddi gwyddorau bywyd adroddiad eithaf damniol ar ei trefniadau llywodraethu cychwynnol gan Archwilio Cymru cyn belled yn ôl â 2016. Nid wyf am restru'r pwyntiau oherwydd cyfyngiadau amser, a dyna pam y dylai hwn fod wedi bod yn ddatganiad llafar, ond roedd yna ddiffygion sylweddol amlwg iawn o'r cychwyn, felly mae'n rhaid gofyn pa wersi a ddysgwyd o'r adeg honno.

Ymlaen at 2022, roedd y rhybuddion yn amlwg ar gyfer y gronfa fuddsoddi gwyddorau bywyd gyda datodiad grŵp Rutherford ar golled o £10 miliwn i Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hyn yn siarad cyfrolau am ddiffyg cynllunio strategol ehangach ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli'r economi, fel a ddangosir gan y penderfyniad, wrth lansio'r gronfa fuddsoddi gwyddorau bywyd, i osod rheolaeth y gronfa a gontract i gwmni allanol. Beth oedd y rhesymeg dros allanoli'r gwaith o reoli un o gronfeydd buddsoddi'r Llywodraeth i gwmni allanol, a beth oedd y gwersi a ddysgwyd? Oni fyddai wedi gwneud synnwyr i ddefnyddio'r hwb gwyddorau bywyd fel rheolwr ar gyfer cronfa o'r fath? Faint o gronfeydd buddsoddi presennol y Llywodraeth sy'n cael eu rheoli gan endidau allanol ar hyn o bryd? Ac o'r wyth cwmni arall a dderbyniodd fuddsoddiad o'r gronfa fuddsoddi gwyddorau bywyd, faint sy'n dal i fod wedi'u lleoli yng Nghymru?

Pan greodd Mrs Hart y gronfa yn 2012, roeddem mewn amgylchedd gwahanol i'r un rydym ynddo nawr, ac mae hi bob amser yn hawdd edrych yn ôl ar ddigwyddiad gyda doethineb, a dysgu pethau'n fwriadol yn hytrach na dweud, 'Mae popeth sydd wedi digwydd yn amlwg'—anaml iawn y mae hynny'n wir. Ac os edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r gronfa, fel y dywedais, mae elw wedi'i wneud ar ystod o'r buddsoddiadau. Pe byddem wedi cael cyllid grant, byddem wedi colli £50 miliwn. Hyd yn oed gydag amodau grant rydym yn eu cael yn rheolaidd ar gyfnod o bum mlynedd, ni fyddai dim o'r arian hwnnw wedi'i ddychwelyd; mae'r elw mwyaf wedi'i ddarparu gan Simbec-Orion, sydd wedi'i leoli ym Merthyr. Maent yn ganolfan treialu clinigol blaenllaw. Mae 140 o bobl yn dal i gael eu cyflogi mewn swyddi da yno ac ni fyddai hynny wedi digwydd heb y buddsoddiad hwn, ac mae'n sector sy'n cyflogi dros 12,000 o bobl.

Ac fel y dywedais, nid yw'r £200 miliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat ond yn un rhan ohono; mae'r gronfa hon wedi bod yn rhan o broffil a thwf y sector, ac rwy'n credu bod angen edrych ar hynny mewn cyd-destun ehangach. Roedd y gronfa'n cael ei rheoli'n allanol oherwydd nad oedd arbenigedd yma o fewn Llywodraeth Cymru i wneud y gwaith, a hefyd, bryd hynny, roedd Cyllid Cymru, fel y câi ei alw bryd hynny, mewn sefyllfa wahanol o ran ei gyfleoedd a'i allu i reoli'r cronfeydd eu hunain. Mewn gwirionedd, gyda Banc Datblygu Cymru, fel y mae nawr, ar ôl pum mlynedd o weithredu, pe bai gennym yr arian i wneud rhywbeth tebyg mewn unrhyw sector, byddem yn cael sgwrs wahanol am rôl y banc datblygu neu eraill i reoli'r arian.

Felly, mewn gwirionedd, mae ein harfau i wneud hyn wedi tyfu oherwydd arloesedd a buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn nyfodol yr economi. Y gwir amdani yw na fydd gennym gronfa o £50 miliwn i'w defnyddio oherwydd y gwirionedd plaen am ein sefyllfa ariannol. Ac fel y clywsoch yn gynharach gan y Gweinidog addysg a'r Prif Weinidog ddoe, mae ein cyllideb bellach yn werth £900 miliwn yn llai mewn termau real na'r hyn ydoedd ar ddechrau'r adolygiad o wariant. O'r pedwar buddsoddiad, fy nealltwriaeth i yw bod y pedwar ohonynt wedi'u lleoli yng Nghymru a Banc Datblygu Cymru sy'n rheoli'r buddsoddiadau hynny sy'n weddill. Bydd gwaith craffu parhaus ynghylch gwerth y buddsoddiadau hynny, y posibilrwydd o ddod allan o'r rheini, a gweld beth sy'n cael ei gynhyrchu, ond mewn gwirionedd, rydym yn datgelu'n agored yr elw a ddarperir yng nghyfrifon Banc Datblygu Cymru, ac yn hytrach nag aros i'r cyfrifon gael eu cyhoeddi, rydym yn tynnu sylw'r Aelodau a'r cyhoedd yn ehangach at hynny nawr. Mae hynny ynddo'i hun yn dangos tryloywder.

Wel, yn 2016, canfu adroddiad Archwilio Cymru ar gronfa fuddsoddi gwyddorau bywyd Cymru, er ei fod yn arloesol a bod iddo lawer o rinweddau, roedd

'llawer agwedd o sefydlu, llywodraethiant, arolygu a gweithrediad cynnar y Gronfa yn wallus a/neu wedi eu dogfennu’n wael.'

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, ni chewch eich synnu o glywed fy mod wedi cyfeirio'r mater hwn at y clercod am gyngor, ac maent yn gofyn am gyngor pellach ar hyn gan Archwilio Cymru. Ond pa ymgysylltiad a gawsoch gydag Archwilio Cymru, o gofio bod hyn yn cynnwys defnyddio a gweinyddu arian cyhoeddus yn fwriadol ac yn effeithiol, ac o ystyried eu diddordeb blaenorol yn y mater hwn?

Wel, fel y gwyddoch, yn 2016, roeddwn yn brysur gyda materion eraill fel Gweinidog iechyd. Yn 2016—

Yn 2016, pan ddarparwyd yr adroddiad hwnnw, ymdriniwyd ag ef gan y tîm gweinidogol ar y pryd. Rwyf bellach wedi bod yn ymdrin â'r gwaith o gau'r gronfa, a'r trefniadau sydd gennym ar waith a'r gwersi sydd angen eu dysgu ynglŷn â'r hyn y gallem ei wneud i gefnogi'r economi yn y maes hwn yn well yn y dyfodol.

Ac fel y dywedais, mae hwn yn faes sydd wedi tyfu'n sylweddol ers 2012, pan gyflwynwyd y gronfa: 12,000 o swyddi da, dros 360 o gwmnïau, ac oes lle y credaf y gwelwn fwy o dwf. Ac rwy'n credu, o ran awgrym Luke Fletcher mai'r gronfa fuddsoddi gwyddorau bywyd fydd y lle i reoli hyn—mewn gwirionedd, nid dyna yw ei rôl. Mae ganddynt rôl yn hyrwyddo'r sector, ac edrych ar ba arloesedd sy'n digwydd, ond nid ydynt yn faes lle byddech chi'n disgwyl iddynt reoli arian. Felly, mae yna wersi wedi cael eu dysgu, mae yna wersi pendant wedi'u dysgu o'r broses o gau'r gronfa, ac fel y dywedais, rwy'n credu bod y ffaith bod Banc Datblygu Cymru bellach yn cynnal y buddsoddiadau sy'n weddill yn tynnu sylw at realiti nid yn unig y gwersi sydd wedi'u dysgu, ond realiti'r arbenigedd sydd bellach ar waith i helpu i gynnal buddsoddiadau yn y dyfodol. Mae gan Fanc Datblygu Cymru hanes da iawn o gyflawni dros Gymru, hanes y mae sefydliadau yn Lloegr yn genfigennus ohono.

16:05

Rwy'n dal i fod heb gael esboniad gennych, Weinidog, pam na chafodd hyn ei ddatgelu'n gynt. Fe gawsoch chi'r wybodaeth hon ym mis Chwefror, rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau bod yn dryloyw ynglŷn â'r colledion a wnaed—degau o filiynau o bunnoedd y mae'n ymddangos eich bod yn ddi-hid iawn yn ei gylch, a dweud y gwir, ac arian trethdalwyr yw hwn, wrth gwrs, felly efallai mai dyna pam eich bod yn ddi-hid iawn yn ei gylch. Nid ydych wedi ateb y cwestiwn am y cysylltiadau â chadeirydd y gronfa a'r Blaid Lafur. Mae pobl eisiau gwybod, mewn ffordd dryloyw, pam yr oedi cyn ei ddatgelu, beth yw'r cysylltiadau rhwng Syr Chris Evans a'r Blaid Lafur, pam y gwnaethoch chi adael i'r gronfa honno fuddsoddi mewn busnesau sydd â chysylltiad agos â Syr Chris Evans, a pham fod gennych agwedd mor ddi-hid tuag at golli degau o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr yng Nghymru, a allai fod wedi cael ei wario'n well ar lawer o bethau eraill.

Wel, nid yw'n wir fod gennyf agwedd ddi-hid tuag at arian cyhoeddus. Mae'r Aelod yn gwybod nad yw hynny'n wir, ond unwaith eto, ac nid dyma'r tro cyntaf, mae'n barod i ddweud pethau y mae'n gwybod nad ydynt yn wir.

Ar gysylltiadau â phleidiau gwleidyddol a rhoddwyr, dylai edrych yn y drych—ef ei hun a'i blaid. O ran yr hyn sydd wedi digwydd o fewn y gronfa hon, rydym wedi nodi'r hyn sydd wedi digwydd, rydym wedi bod yn glir ynghylch hynny yn y datganiad ysgrifenedig, am yr arian a wariwyd, am y colledion a gronnwyd ac am y ffaith bod hon yn gronfa fuddsoddi risg uwch. Rydym wedi bod yn gwbl onest ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd. Ac yn dilyn cau'r gronfa, bu'n rhaid i mi dderbyn adroddiadau wedyn am natur y buddsoddiadau parhaus sy'n dal i gael eu rheoli gan Fanc Datblygu Cymru, ac rydym wedi adrodd, unwaith eto, yn ystod y tymor. Nid ydym wedi aros wythnos arall i osgoi craffu yn y Siambr, ac rydym wedi nodi hyn—[Torri ar draws.]—rydym wedi nodi hyn yn fanwl i'r Aelodau ei weld, a bydd yn cael ei ddatgelu yng nghyfrifon Banc Datblygu Cymru. Ac rwy'n llwyr ddisgwyl y bydd Banc Datblygu Cymru, a'r sefydliad hwn yn wir, yn craffu ymhellach ar fecaneg y gronfa, ac rwy'n gwbl gadarnhaol ynglŷn â hynny. Fel y dywedaf, mae'r sector hwn yn gryf—12,000 o swyddi mewn sector rydym yn disgwyl iddo dyfu—a byddwn yn parhau i fod yn falch o gefnogi twf gwyddorau bywyd yma yng Nghymru.

7. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch pob un o'r 11 o bobl ifanc sydd wedi'u dewis i gynrychioli tîm Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Trinidad a Tobago rhwng 4 ac 11 Awst eleni. Ers ei lansio yn 2000, mae Gemau Ieuenctid y Gymanwlad wedi parhau i dyfu ac mae'n rhoi cyfle unigryw i bobl ifanc brofi chwaraeon elitaidd ar y llwyfan rhyngwladol, yn ogystal â hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol a chreu cyfeillion gydol oes ledled y byd.

Hoffwn roi sylw arbennig i Sophie Lisk o glwb Cardiff Archers, sy'n byw yn fy rhanbarth yng Nghanol De Cymru, ac a fydd yn cystadlu yn y ras glwydi 100m ac yn y ras gyfnewid gymysg 4x100m. Sophie yw'r pencampwr byd dan do ac awyr agored ar gyfer ras glwydi sbrint ac mae hi hefyd yn bencampwr ysgolion Prydain ac Iwerddon, gan redeg safon gymhwyso ar gyfer y ras glwydi 100m dan 18 oed mewn amser syfrdanol, sef 13.73 eiliad—cyflawniad rhyfeddol. Mae Cymru'n un o'r 72 gwlad o bob cwr o'r Gymanwlad a fydd yn cystadlu ar draws saith camp yr haf hwn, ac rwy'n siŵr fod pawb yma yn anfon eu dymuniadau gorau i'n hathletwyr ifanc. Mae cynrychioli eich gwlad eich hun ar lwyfan rhyngwladol yn gyflawniad rhagorol, ac rwy'n dymuno pob lwc iddynt. Diolch.

8. Dadl y Pwyllgor Cyllid—Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2024-25

Eitem 8 yw dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2024-25. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Peredur Owen Griffiths.

Cynnig NDM8329 Peredur Owen Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2024-25, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau a ganlyn:

a) digwyddiad i randdeiliaid ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam;

b) gweithdy gydag Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru; ac

c) grwpiau ffocws ymgysylltu â dinasyddion.

Cynigiwyd y cynnig.

16:10

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser cael agor y ddadl hon heddiw gan y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y Llywodraeth ar gyfer 2024-25, y drydedd ddadl o’r fath yn y Senedd hon. Mae’r dadleuon hyn yn gyfle cynnar i’r Senedd ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth i’w flaenoriaethu yn ei chynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, cyn llunio a chyhoeddi’r gyllideb ddrafft yn ddiweddarach eleni. Dwi'n falch o ddweud ein bod wedi cynnal ystod o weithgareddau dros y misoedd diwethaf i gasglu safbwyntiau pobl o bob rhan o Gymru am yr hyn y maent eisiau ei weld yng nghyllideb nesaf Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom ni ddysgu llawer o’r sesiynau diddorol hyn, ac rydym yn mawr werthfawrogi’r amser a roddodd y bobl a ddaeth iddynt. Yr hyn sy’n gwneud y ddadl hon yn unigryw yw nad blaenoriaethau unigolion neu’r pleidiau gwleidyddol yw’r rhain, ond blaenoriaethau’r rhai a gymerodd ran yng ngweithgareddau ymgysylltu’r Pwyllgor Cyllid ydynt.

Ddirprwy Lywydd, roedd ein gwaith ymgysylltu ar gyllideb y flwyddyn nesaf yn cynnwys tair elfen: digwyddiad rhanddeiliaid ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam; gweithdy gydag Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru; a nifer o grwpiau ffocws gyda sefydliadau a dinasyddion ledled Cymru. Ar ran y pwyllgor, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn, ac rwy'n arbennig o falch o weld rhai cyfranogwyr o'r grwpiau ffocws yn yr oriel gyhoeddus heddiw, a gobeithio bod y ddadl hon yn adlewyrchu'r blaenoriaethau a fynegwyd ganddynt yn y sesiynau hynny.

Fodd bynnag, cyn troi at yr heriau a'r blaenoriaethau a nodwyd yn ystod ein hymgysylltiad, rwyf eisiau mynegi siom fod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi penderfynu gohirio cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, o bosibl tan mor hwyr â 12 Rhagfyr. Rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes a'r Gweinidog yn mynegi ein barn ar y mater hwn. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at y Gweinidog ar sawl achlysur am yr anawsterau ymarferol y mae amserlenni adrodd byrrach yn eu hachosi i bwyllgorau wrth gyflawni eu swyddogaethau craffu, yn ogystal â'r pwysau y mae'n ei roi ar randdeiliaid sy'n dymuno ymgysylltu â'n gwaith, yn enwedig pan fo tair wythnos o'r cyfnod hwnnw'n digwydd dros doriad y Nadolig.

Fel y gwyddoch, dyma'r bumed flwyddyn yn olynol lle nad yw'r broses ddau gam a nodwyd yn y protocol wedi cael ei dilyn. O ganlyniad, nid yw'r Aelodau a etholwyd yn 2021, fel fi, erioed wedi profi proses gyllideb ddau gam yn llawn, ac felly mae cais Llywodraeth Cymru i ohirio'r broses gyllidebol eto eleni yn awgrymu mai prin yw'r amgylchiadau y gellid eu hystyried fel blwyddyn arferol. Serch hynny, rydym yn croesawu parodrwydd y Trefnydd i ailedrych ar ddyddiadau cyhoeddi'r gyllideb ddrafft os yw dyddiadau digwyddiad cyllidol Llywodraeth y DU yn yr hydref yn ddigon cynnar i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer paratoi a chraffu.

Ddirprwy Lywydd, cyn trafod blaenoriaethau penodol, hoffwn drafod yr heriau a nodwyd gan y rhai a fynychodd ein digwyddiadau a'n gweithdai. Roedd yr argyfwng costau byw yn treiddio i'r mwyafrif helaeth o'n trafodaethau. Dywedodd rhanddeiliad wrthyf yn y digwyddiad yn Wrecsam nad yw'r argyfwng yn diflannu, a mynegwyd teimladau tebyg gan Aelodau o'r Senedd Ieuenctid a ddywedodd fod yr argyfwng yn gwaethygu. Roedd heriau eraill a nodwyd gan gyfranogwyr yn cynnwys diffyg buddsoddiad cyfalaf ar draws cyllideb Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael ei waethygu gan chwyddiant uchel, sy'n effeithio'n sylweddol ar welliannau a phrosiectau seilwaith a gynlluniwyd ledled y sector cyhoeddus. Mynegwyd pryder hefyd ynghylch y modd y bydd dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus yn cael eu hariannu, a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar gynlluniau ariannol strategol yn y tymor byr, canolig a hir.

O ran blaenoriaethau penodol, nododd Aelodau'r Senedd Ieuenctid iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, llywodraeth leol, tai a thrafnidiaeth fel meysydd blaenoriaeth ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Mynegwyd safbwyntiau tebyg yn y grwpiau ffocws i ddinasyddion lle roedd iechyd a gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth glir, wedi'u dilyn yn agos gan addysg a'r economi. Roedd themâu ynghylch ymdrin ag effaith amodau economaidd ac ariannol sy'n gwaethygu a'r ffyrdd y gellid cynnal gwasanaethau allweddol hefyd yn nodwedd arwyddocaol o'n trafodaethau â rhanddeiliaid yn Wrecsam.

Yng nghyd-destun yr heriau hyn, rydym wedi nodi'r meysydd blaenoriaeth allweddol canlynol i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth lunio ei chynigion cyllidebol. Yn gyntaf oll, mae angen dulliau arloesol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb, ar adeg pan fo llai o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a lefelau is o incwm aelwydydd. Clywsom fod atebion dan arweiniad y gymuned yn hanfodol i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb cymdeithasol, ond mai'r sefydliadau rheng flaen hyn sy'n colli cyllid ar adeg pan fo fwyaf o'u hangen, a bod cyllid ar gyfer mudiadau gwirfoddol yn arbennig yn ysbeidiol ac ad hoc.

Dywedodd cyfranogwyr wrthym hefyd y dylai dulliau arloesol, megis symud i wythnos pedwar diwrnod a'r cysyniad dinasoedd 15 munud gael eu harchwilio gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau fel eu bod yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen.

Er bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud o ran y cymorth sydd ar gael i aelwydydd, dywedodd pobl wrthym fod gan Lywodraeth Cymru ffordd bell i fynd cyn cyrraedd dull 'dim drws anghywir' ar gyfer cefnogi'r rhai sy'n dioddef effeithiau gwael tlodi ac anghydraddoldeb, ac mae hyn yn rhywbeth rydym ni fel pwyllgor eisiau cadw llygad arno am weddill y Senedd hon.

Yn ail, dywedodd nifer o bobl wrthym fod angen dulliau cydweithredol o ymateb i'r heriau ariannol sy'n wynebu'r sector cyhoeddus. Dywedodd y cyfranogwyr yn glir wrthym fod angen dull o'r fath rhwng sectorau i fynd i'r afael â gwendidau strwythurol o fewn gweithlu'r sector cyhoeddus. Yn fwyaf arbennig, dylid annog cydweithio rhwng y sectorau gofal iechyd ac addysg i lenwi bylchau staffio o fewn proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol, lle mae prinder staff yn arbennig o ddifrifol.

O safbwynt cleifion, argymhellwyd dull siop un stop, i ddod ag ystod o wasanaethau ynghyd, fel ffordd o ddod â chleifion a defnyddwyr gwasanaethau yn agosach at eu cymunedau. Fel y dywedodd un gweithiwr iechyd proffesiynol wrthym:

'Mae'n ymwneud â mwy ag ymateb i'r argyfwng sy'n ein hwynebu heddiw. Mae hefyd yn ymwneud ag ailstrwythuro iechyd a gofal cymdeithasol fel ein bod yn osgoi argyfyngau yn y dyfodol'.

Yn drydydd, dywedodd cyfranogwyr wrthym fod angen mwy o gymorth ariannol wedi'i dargedu ar gyfer y rhai sy'n astudio ac yn gweithio yn y sector addysg er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael. Clywsom fod disgyblion yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, yn academaidd ac yn gymdeithasol, a bod pandemig COVID yn taflu cysgod hir dros ddysgwyr a'r sector addysg yn ei gyfanrwydd.  Er bod ymestyn y polisi prydau ysgol am ddim wedi cael ei ganmol fel rhywbeth sy'n hanfodol i ddarparu ymrwymiad hirdymor i sicrhau chwarae teg a lleihau anghydraddoldeb ymhlith dysgwyr, mae'n amlwg fod yna ffordd bell i fynd, gyda nifer o fentrau'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar gyllid. Fel y dywedodd un unigolyn a gymerodd ran yn ein grŵp ffocws wrthym:

'Mae llawer o'r gwasanaethau ieuenctid y cefais fy magu gyda nhw bellach wedi mynd neu wedi cael tynnu'n ôl.'

Mae hynny'n arbennig o dorcalonnus ac mae angen gwneud mwy i helpu pobl ifanc i ymgysylltu â'u cymunedau a'r cyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt.

Mae ein pedwerydd maes blaenoriaeth yn ymwneud â llywodraeth leol, gan ei bod yn amlwg ar draws y sesiynau fod awdurdodau lleol yn allweddol ar gyfer darparu ystod eang o wasanaethau allweddol a bod angen lefelau cynyddol o gymorth ariannol arnynt yn wyneb pwysau cynyddol. Er bod llywodraeth leol wedi gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau, gan gynnwys mwy o bwysau polisi, megis cyflwyno parthau 20 mya, nodwyd nad oeddent wedi cael cynnydd cyfatebol yn eu cyllidebau.

Yn olaf, mae'n amlwg fod yr argyfyngau hinsawdd a natur yn flaenoriaeth barhaus i bob un ohonom, ac roedd gan gyfranogwyr yn ein sesiynau ymgysylltu ffocws gwirioneddol ar sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar fuddsoddiad sy'n gwireddu potensial Cymru ar gyfer ynni gwyrdd. Mae angen mwy o gyllid i hwyluso'r newid i ynni adnewyddadwy, yn enwedig gan y byddai ffynonellau ynni gwyrddach a mwy cynaliadwy yn lliniaru effeithiau costau byw uchel—thema allweddol a ddaeth i'r amlwg o'n trafodaethau.

Ddirprwy Lywydd, fel rhan o'n gwaith, clywsom hefyd safbwyntiau diddorol a gwerthfawr ar drethi Cymru. Er bod holl Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ymwybodol fod gan Lywodraeth Cymru bwerau i godi trethi, nid oeddent yn ymwybodol o'r trethi penodol—thema arall a ddaeth i'r amlwg mewn grwpiau ffocws. Mae hyn yn awgrymu y gallai'r Senedd a Llywodraeth Cymru wneud mwy i dynnu sylw at y trethi hyn ymhlith pobl ifanc a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Fodd bynnag, nid oedd hynny'n golygu nad oedd gan y bobl y buom yn siarad â nhw farn gadarn ar faterion treth. Awgrymodd Aelodau'r Senedd Ieuenctid yn gryf, pe bai Llywodraeth Cymru'n defnyddio'i phwerau i gynyddu trethi, y byddai angen iddi ddangos yn glir sut y byddai'r arian yn cael ei wario fel y gallai'r cyhoedd gael rhywbeth yn ôl a gweld manteision dull o'r fath. Roedd mwyafrif y cyfranogwyr yn y grwpiau ffocws eisiau codi'r dreth incwm i'r rhai a allai ei fforddio yn unig, ac roedd cydnabyddiaeth hefyd y byddai codi trethi yn yr hinsawdd ariannol bresennol yn anodd ac y byddai'n gwaethygu'r argyfwng costau byw.

Fel y gwyddom i gyd, mae'n hawdd iawn meddwl am restrau o bethau y byddem yn dymuno gwario arnynt, ond yn llawer anos nodi meysydd lle dylid torri gwariant. O ganlyniad, roeddem yn awyddus i glywed gan gyfranogwyr ar hyn. Mae'n amlwg o'n sesiynau fod pawb yn gweld hyn yn heriol, gyda'r cyfranogwyr yn nodi mai ychydig iawn sydd ar ôl i'w dorri o'r cyllidebau presennol. Serch hynny, pan wnaethom bwyso arnynt, nododd nifer fechan o gyfranogwyr bethau megis diwylliant, y celfyddydau, yr iaith Gymraeg a chysylltiadau rhyngwladol fel meysydd lle gellid torri cyllid, roedd cydnabyddiaeth hefyd fod meysydd o'r fath yn hynod werthfawr a bod cyllid parhaus yn hanfodol i gefnogi gwasanaethau yn y sectorau hynny. Yr hyn y mae'n ei ddangos efallai yw bod angen mwy o wybodaeth i egluro effaith penderfyniadau cyllido ar sectorau penodol, fel y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â lle y dylid blaenoriaethu arian. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae hwn yn faes sydd o ddiddordeb i'r pwyllgor ac yn un y byddwn yn dychwelyd ato wrth ystyried cynigion y gyllideb ddrafft yn ddiweddarach eleni.

Dirprwy Lywydd, cyn i mi adael i eraill siarad, hoffwn bwysleisio pa mor werthfawr fu’r sesiynau hyn o ran llywio ein barn. Dwi’n edrych ymlaen rŵan at glywed cyfraniad Aelodau eraill a chyd-Gadeiryddion pwyllgorau ar y materion hyn, ac yn gobeithio bydd y ddadl hon yn un gynhyrchiol ac adeiladol. Diolch yn fawr.

16:20

Mae'r gofynion ar y gyllideb bob amser yn fwy na'r arian sydd ar gael. Dyna pam mae'n bwysig i Lywodraethau flaenoriaethu gwariant. Mae gan bawb eu blaenoriaethau eu hunain. Fy mlaenoriaethau i yw iechyd, addysg a lleddfu tlodi. Nid yw plant sy'n llwglyd yn dysgu'n dda. Mae newyn a maeth gwael yn arwain at afiechydon a chyrhaeddiad addysgol gwael. Mae addysg yn gwella ansawdd bywyd ac o fudd i gymdeithas. Yn ogystal, mae'n cynyddu cynhyrchiant ac arloesedd, gan hyrwyddo entrepreneuriaeth yn sgil hynny. Felly, mae'n ffactor hanfodol yn natblygiad economaidd gwledydd ac yn gwella cydraddoldeb incwm cymdeithasau. A gaf fi ddweud, mae llwgrwobrwyo cwmnïau i sefydlu ffatrïoedd cangen yng Nghymru yn ddrud ac yn aneffeithiol?

Fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid, mynychais gyfarfod bord gron yn Wrecsam i drafod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Trafodwyd y meysydd canlynol yn ystod y drafodaeth: heriau sy'n wynebu'r sector addysg, heriau sy'n wynebu'r sector iechyd a gofal cymdeithasol, cefnogaeth i blant a phobl ifanc. Roedd y materion a godwyd yn cynnwys heriau y mae'r tri o'r rhain yn eu hwynebu. Cafwyd cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg. Cafodd hyn ei nodi a'i groesawu.

Byddai dull mwy strategol o weinyddu grantiau'n fuddiol. Mae gormod o grantiau llai a weinyddir yn hwyr yn y flwyddyn yn achosi anawsterau cynllunio i sefydliadau. Nid yw'n golygu nad ydynt eisiau'r arian, ond byddent yn hoffi ei gael yn gynharach yn y flwyddyn, neu byddent yn hoffi gallu ei gario ymlaen i'r flwyddyn ganlynol, y caniateir iddynt ei wneud o dan eu mesurau rheoli ariannol.

Roedd y ffaith bod addysg oedolion wedi cael ei danariannu'n barhaus yn bryder gwirioneddol. Nodwyd bod gan Gymru uchelgais i fod yn genedl ddysgu gydol oes. Mae diffyg cyllid wedi effeithio ar allu oedolion i wella eu sgiliau a datblygu rhai newydd. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn ffordd allan o dlodi, felly mae angen inni ehangu'r cyfle. Gadewch i bobl hyfforddi, gadewch iddynt gael mwy o sgiliau, a sgiliau gwell, fel y gallant ennill mwy o arian. Maent yn talu mwy mewn trethi, ond maent hefyd yn dod yn bobl hapusach ac mae eu teuluoedd yn ffynnu.

Nodwyd bod angen mwy o ffocws ar ddatblygu a hyrwyddo rhaglenni prentisiaethau. Nodwyd bod cynnydd mewn prentisiaethau lefel uchel yn bwysig. Rhoddwyd enghraifft o fwlch dawn mewn cyfrifyddiaeth, mewn prentisiaethau seiberddiogelwch i frwydro yn erbyn ymosodiadau seiber yn y GIG ac mewn sefydliadau eraill. Y cysylltiad pwysig rhwng y sector addysg a gweithlu'r dyfodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a'r angen i gael cymysgedd sgiliau yng ngweithlu'r dyfodol. Pwysigrwydd buddsoddi mewn myfyrwyr a hyfforddeion. Mae'r fwrsariaeth nyrsio wedi gwneud gwahaniaeth mawr, ac mae wedi cael ei chroesawu'n fawr gan nyrsys, wedi'i chroesawu'n fawr gan bobl yn y sector addysg sy'n hyfforddi nyrsys, ac wedi'i chroesawu'n fawr gan bobl yn y sector iechyd oherwydd nifer y nyrsys sy'n mynd i weithio i'r sector.

Ond er ei fod yn gymorth ariannol hanfodol, gellid ei ymestyn i gwmpasu proffesiynau eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd, fel ffisiotherapi a phroffesiynau eraill tebyg. Mae bylchau sylweddol mewn rhannau o'r ddarpariaeth gofal iechyd. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rhyngwladol sy'n cael eu recriwtio, gorddibyniaeth ar weithwyr asiantaeth a chynnydd yn y costau o ganlyniad i hynny. Mae gweithwyr asiantaeth yn straen enfawr ar adnoddau iechyd. Mae angen inni gyflogi'n fwy uniongyrchol, ac rwy'n siŵr pe bai'r Gweinidog iechyd yma y byddai'n dweud, 'Clywch, clywch' nawr. Ond mae gwir angen inni feddwl sut y gellir cyflawni hynny.

Gallai dyfarniadau cyflog ym maes iechyd gael effaith ar recriwtio i ofal cymdeithasol, wrth i weithwyr gofal cymdeithasol symud i swyddi eraill sy'n talu'n well mewn gofal iechyd. Mae hynny wedi digwydd yn barhaus. Mae pobl wedi symud o ofal cymdeithasol i ofal iechyd am rai miloedd o bunnoedd yn ychwanegol. Ond mae hynny'n golygu bod gennym brinder mewn gofal cymdeithasol. Er mwyn gwella rolau gofal cymdeithasol, bydd angen sgiliau lefel uwch ar ofalwyr a chodi cyflogau fel nad yw ond yn darparu gofal sylfaenol ond bod iddo fwy o ffocws ar atal ac ail-integreiddio cleifion yn y gymuned.

Mae iechyd, addysg a datblygu economaidd yn gorgyffwrdd, ac mae'n bwysig fod prifysgolion Cymru ar sail gyfartal wrth ymgeisio am ffrydiau cyllido allanol cystadleuol. Nid yn unig fod gan ymchwil o'r fath botensial i ddarparu triniaeth neu iachâd ar gyfer clefydau sy'n peryglu bywyd, ond mae cael y gwaith ymchwil hwn i ddigwydd yng Nghymru yn creu twf economaidd. Mae poblogaeth Cymru'n 5 y cant o boblogaeth y DU ond nid yw ond yn cael 2 y cant o wariant datblygu ac ymchwil y DU. Mae Cymru'n dioddef diffyg o tua £18 miliwn mewn cyllid sy'n gysylltiedig ag ansawdd, os yw'n mynd i gystadlu pro rata gyda Lloegr. Arian a ddaw'n uniongyrchol gan Lywodraeth y DU yw hwn. Ar ôl colli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, mae'n bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ym mhrifysgolion Cymru i hybu allbwn a chynhyrchiant yn ein heconomi. Mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu ymchwil a datblygu ar gyfer datblygu economaidd a chynaliadwyedd.

Roedd diffyg buddsoddiad cyfalaf yn bryder yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ystâd y GIG yn heneiddio ac mae angen gwelliannau seilwaith i sicrhau nad yw'n aneffeithlon o ran ei defnydd o ynni. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau sgwrs ehangach gyda'r cyhoedd am ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol a'r penderfyniadau anodd sydd angen eu gwneud.

Mae cefnogaeth i bobl ifanc yn bwysig fel bod pob plentyn yn cael cyfle i gyflawni ei botensial. Diolch.

16:25

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y sesiynau ymgysylltu am eu mewnbwn amhrisiadwy. Hoffwn hefyd gydnabod gwaith caled fy nghyd-Aelodau yn y pwyllgor a'r tîm clercio. Rydym yn ffodus iawn o gael swyddogion o'r radd flaenaf.

Fel y dywedais ddoe yn y ddadl ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru, mae llawer o bobl yng Nghymru yn disgwyl gweld newid go iawn a gweithredu go iawn, a hynny'n briodol; mae angen llai o siarad a mwy o fuddsoddiad arnom i fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i bobl Cymru. Mae angen inni hefyd fuddsoddi mwy o amser i helpu pobl i ddeall y problemau a rhoi gonestrwydd ac eglurder iddynt o'r hyn y gallant ei ddisgwyl a phryd. Yn amlwg, hoffem weld mwy o arian yn llifo i Gymru, ond yn y pen draw, mae gan Lywodraeth Cymru yr hyn sydd ganddi, a bydd angen blaenoriaethu.

Roedd yr adroddiad yn ddiddorol iawn, ac yn tynnu sylw at ystod eang o faterion a gyflwynwyd gan randdeiliaid, ac er bod llawer o faterion yn cael sylw yn yr adroddiad, hoffwn dynnu sylw at ambell un a arhosodd gyda mi. Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni fyfyrio ar yr ymatebion a gafodd y pwyllgor ynghylch yr angen i wasanaethau gydweithio er mwyn goresgyn yr heriau sy'n wynebu'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol. Nodwyd cynllunio'r gweithlu o fewn y sector gofal iechyd fel mater pwysig, gyda bylchau dawn sylweddol yn amlwg o fewn rhai proffesiynau. Nodwyd hefyd fod prinder staff wedi arwain at gynnydd mewn recriwtio rhyngwladol a gorddibyniaeth ar staff asiantaeth, gan arwain at gostau cynyddol. Mae'n amlwg fod angen neilltuo mwy o gyllid i staff rheng flaen ar gyfer recriwtio a hyfforddi, a chadw staff hefyd, byddwn yn dadlau. Mae'n amlwg ein bod angen mwy o gyllid ar gyfer gwasanaeth gofal iechyd, ond rydym hefyd angen cymorth wedi'i dargedu'n well, gan sicrhau ein bod yn cynnal asesiad o effeithlonrwydd gwariant o'r bôn i'r brig, er mwyn deall a yw rheolaeth a gwariant ym mhob bwrdd iechyd yn sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian.

Yn ail, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd datblygu a chyllido cynllun adfer ar gyfer myfyrwyr sydd wedi colli addysg yn ystod pandemig COVID-19. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny; mae ein plant wedi cael cam dros sawl blwyddyn, ac mae'r materion hyn—fel llawer o broblemau yng Nghymru—wedi cael eu gwaethygu gan bandemig COVID-19. Hyd yn oed cyn y pandemig, fodd bynnag, roeddem yn gwybod bod nifer yr athrawon mewn ysgolion cynradd ac uwchradd wedi gostwng yng Nghymru ers 2010. Unwaith eto, mae'n rhaid inni ddeall pam fod hyn yn digwydd. Yn amlwg, mae angen gwneud rhywbeth. Do, fe gafodd y pandemig effaith ar ein plant, ond mae gwreiddiau'r broblem yn ein system addysg yn ddyfnach na hynny.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr angen i sicrhau bod gan lywodraeth leol yr arian angenrheidiol er mwyn cyflawni cynlluniau a pholisïau Llywodraeth Cymru, megis gweithredu prydau ysgol am ddim a chost gweithredu terfynau cyflymder 20 mya yn gyffredinol. Os rhoddir mwy o gyfrifoldebau i awdurdodau lleol, mae'n hanfodol eu bod yn cael yr adnoddau a'r cyllid priodol i weithredu'r newidiadau hyn. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, mae angen adolygu'r ffordd y caiff awdurdodau lleol eu hariannu ac mae angen adolygu'r fformiwla ariannu, ynghyd â dealltwriaeth ddyfnach o'r sefyllfa mewn perthynas â chronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol sy'n cronni'n anghymesur ledled Cymru, a sut y gellid defnyddio'r arian hwn er budd cyhoeddus ehangach. Wrth symud ymlaen, mae angen inni sicrhau bod trethdalwyr ledled Cymru yn cael gwerth am yr arian sy'n cael ei wario yma. Rydym i gyd yn gwybod bod ein gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau cynyddol ac rydym i gyd yn gwybod bod angen gwneud mwy. Rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando, nid yn unig ar ein galwadau ni, ond ar alwadau rhanddeiliaid pwysig, ac yn ymgysylltu â ni mewn ffordd gynhyrchiol er mwyn sicrhau bod pobl Cymru'n cael y gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu haeddu. Diolch.

16:30

Fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid, rwyf am gofnodi hefyd fy ngwerthfawrogiad o waith gwych y pwyllgor, ei glercod a chyd-aelodau, Mike Hedges a Peter Fox. Hoffwn ddiolch hefyd i Gadeirydd y pwyllgor, Peredur Owen Griffiths, am y ffordd ddiwyd a chwrtais y mae'n cadeirio'r pwyllgor. Fodd bynnag, mae'r ddadl heddiw'n canolbwyntio ar adroddiad cryno ar ymgysylltu y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Fel y dywed y Cadeirydd yn ei ragair i'r adroddiad,

'Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn clywed yn uniongyrchol gan randdeiliaid a'r cyhoedd ledled Cymru ynghylch ble y dylai Llywodraeth Cymru fod yn blaenoriaethu ei gwariant.'

Er ein bod i gyd yn Aelodau etholedig o'r Senedd sy'n credu ein bod yn adnabod y bobl a gynrychiolwn, mae'n hanfodol ein bod ni bob amser yn ceisio sicrhau ein bod yn ymwybodol o heriau, dyheadau a dymuniadau cystadleuol ein dinasyddion, oherwydd dyma ddemocratiaeth ar waith. Felly, os caf, rwy'n mynd i ganolbwyntio ychydig o sylwadau ar waith y tîm ymgysylltu â dinasyddion. Arweiniodd hyn at gyfres o grwpiau ffocws diddorol iawn i gasglu barn pobl Cymru ynglŷn â ble y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu gwariant ar gyfer y flwyddyn gyllidebol nesaf. A hefyd, roedd canfyddiadau'r Senedd Ieuenctid yn cyd-fynd i raddau helaeth â'r prif ganfyddiadau allweddol hyn. Gan amlaf, roedd cyfranogwyr yn blaenoriaethu iechyd a gofal cymdeithasol, gydag addysg a'r economi, plant a phobl ifanc, trafnidiaeth, tai a digartrefedd yn dynn wrth eu sodlau. Ymhlith y meysydd y teimlai cyfranogwyr y gallent gael toriad mewn cyllid oedd cysylltiadau rhyngwladol a'r Gymraeg. Felly, o hyn, rwy'n gwneud y sylw syml fod pobl Cymru eisiau i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio, yn bendant iawn, ar faterion bara menyn sy'n effeithio ar fywydau bob dydd 24 awr ein dinasyddion.

Mae pobl Cymru am inni ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel a gwella cyfleoedd bywyd i'w teuluoedd. Ond gadewch inni fod yn onest: yn ystod cyfnod parhaus o lithro'n ôl a diffyg cynnydd, mae'r dewisiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yng nghyd-destun y DU, heb unrhyw ystwythder benthyca hyblyg, yn hynod o fach. Rydym ni, y Deyrnas Unedig, i gyd yn dioddef siociau economaidd seismig parhaus ac argyfwng anallu-i-fyw wedi'i achosi gan y Torïaid, nad yw'n dangos unrhyw arwydd o gilio, fel y mae eraill wedi dweud. Rydym i gyd yn gwybod—mae pob un ohonom yn gwybod, rwy'n credu—fod polisi cyni wedi methu. Mae'n arbrawf ffug-economaidd-gymdeithasol aflwyddiannus sydd wedi para 13 mlynedd ac wedi erlid ac erlyn y tlotaf oll a'r rhai mwyaf agored i niwed ar draws ein cymdeithas. Mae hefyd wedi methu yn ei brif amcan, ar ôl treblu dyled genedlaethol y DU. Yn fy marn i, ni welwyd enghraifft waeth o aflwyddiant ac esgeuluso dyletswydd gyhoeddus allweddol unrhyw Lywodraeth i amddiffyn ei phobl y ganrif hon.

Ond yr hyn a wyddom o'n hymgysylltu diweddar, o ganlyniadau etholiadau'r Senedd ac o arolygon barn, yw bod dinasyddion Cymru'n gwerthfawrogi eu gwasanaethau cyhoeddus yn fawr ac eisiau'r seilwaith cyhoeddus gorau i gefnogi ein cymunedau—yn sicr nid y gwrthwyneb. Gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn talu sylw manwl i'r adroddiad pwysig hwn gan y Pwyllgor Cyllid, ac mae gennyf bob hyder y bydd Llywodraeth Lafur Cymru, Ddirprwy Lywydd, yn parhau i glywed llais clir y galw parhaus am wasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel ledled Cymru.

I gloi, gwasanaeth iechyd gwladol Cymru yw ein cyflogwr mwyaf. Mae gwrthwynebwyr gwleidyddol a'r rhai sydd gyferbyn â ni yn y Siambr yn aml yn nodi hyn i fod yn feirniadol o Gymru. Nid yw hynny'n iawn. Mae dinasyddion Cymru yn hŷn o ran demograffeg ac o ganlyniad i'n gwaddol hanesyddol a'n gorffennol diwydiannol, yn fwy sâl o gymharu â phoblogaeth y DU. Mae dinasyddion Cymru yn iawn i fynnu bod eu Llywodraeth yn blaenoriaethu iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, mae'n iawn ein bod ni'n gwneud hynny, ac mae hefyd yn iawn mai dyma ein blaenoriaeth gyfunol ar gyfer Cymru yn y lle hwn. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

16:35

Nawr, mae'n ddigon posibl y bydd llawer o anghytuno heddiw ar sut i flaenoriaethu cyllid Llywodraeth Cymru, ond un peth y gall pob Aelod gytuno arno rwy'n credu yw mai swyddi o ansawdd da yw'r llwybr gorau allan o dlodi. Mae buddsoddi i gefnogi busnesau i greu swyddi o ansawdd da, diogelu cyflogwyr o ansawdd a allai fod angen cymorth tymor byr, a helpu pobl yng Nghymru i uwchsgilio fel y gallant ymgymryd â'r swyddi o ansawdd da hynny i gyd yn fuddsoddiadau mewn ateb hirdymor i oresgyn tlodi.

Mae adroddiad cryno ar ymgysylltu y Pwyllgor Cyllid yn ei gwneud yn glir fod llawer o randdeiliaid yn ystyried mai buddsoddi yn yr economi yw'r ateb i faterion iechyd ataliol, adferiad busnes, a'r ateb i gyfyngu ar broblemau cymdeithasol. Nawr, mae yna hefyd ddadl buddsoddi i arbed gref dros y gefnogaeth economaidd hon. Bydd cynyddu ansawdd swyddi ledled Cymru yn helpu dinasyddion Cymru i fod yn hapusach, yn iachach ac os ydynt yn ennill cyflog wrth gwrs, mae'r Trysorlys yn derbyn mwy mewn trethi.

Mae cymorth ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf i fusnesau yn faes lle gall Llywodraeth Cymru gyflawni nifer o'i hamcanion. Yng ngwaith y pwyllgor ar gostau byw a chost gwneud busnes, clywsom y byddai busnesau'n bachu ar gymorth buddsoddiadau cyfalaf i leihau eu defnydd o ynni. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Banc Datblygu Cymru wedi bod yn gweithredu cynllun peilot benthyciadau busnes gwyrdd, ac mae'r Gweinidog wedi dweud wrth y pwyllgor ei fod yn gweithredu'n dda. Mae'r Gweinidog hefyd wedi dweud nad oedd yr adnoddau a oedd ar gael wedi'u cyfyngu i'r buddsoddiad gwreiddiol o £10 miliwn, gan fod potensial i ehangu yn seiliedig ar lefel y galw. Felly, byddai'r pwyllgor yn awyddus i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun peilot benthyciadau busnes gwyrdd, oherwydd os yw'r rhaglen yn dal i fod yn llwyddiannus, byddai'n faes i Lywodraeth Cymru fuddsoddi ynddo ar gyfer rownd nesaf y gyllideb.

Mae helpu busnesau i ddatgarboneiddio yn un maes y mae'r pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei flaenoriaethu wrth gwrs, ond rydym hefyd yn credu bod angen gwneud mwy mewn perthynas ag ardrethi busnes. Yn ymchwiliad ein pwyllgor i fanwerthu, twristiaeth a lletygarwch, clywsom alwadau am amgylchedd ardrethi busnes mwy cefnogol i'r sectorau hynny. Mae'r diwydiannau hyn wedi wynebu heriau difrifol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn derbyn eu bod wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae diwygio ardrethi busnes yn faes sydd wedi cael ei drafod ers amser maith yn y Senedd, ac rwy'n derbyn nad oes ffordd syml ymlaen. Serch hynny, rwy'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil cyllid llywodraeth leol i ddiwygio ardrethi annomestig fel eu bod wedi'u halinio â newidiadau yn amodau'r farchnad. Er, fel y gŵyr yr Aelodau, mae deddfwriaeth yn tueddu i fod yn broses araf. Mae angen i gymorth fod ar gael yn y tymor byr ac yn hirdymor i greu amgylchedd ardrethu annomestig cefnogol o'r fath.

Bydd yr Aelodau'n gwybod bod datganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog yn nodi cynlluniau ar gyfer ardoll ymwelwyr a chynllun trwyddedu statudol ar gyfer darpariaeth llety ymwelwyr, ac mae gan y pwyllgor bryderon ynghylch y ffordd y bydd unrhyw arian a godir gan yr ardoll neu'r cynllun trwyddedu yn cael ei wario. Er enghraifft, a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i gefnogi busnesau economi ymwelwyr o ansawdd da a hyfforddiant i bobl sy'n gweithio yn y sector? Mae yna gymaint o gwestiynau am y polisi hwn, ac mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y bydd y polisi hwn yn cefnogi busnesau twristiaeth ledled Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r pwyllgor wedi gwneud llawer o waith yn craffu ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Mae'r Bil nodedig hwn yn creu ffordd newydd o gefnogi ffermwyr drwy gynllun ffermio cynaliadwy. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i randdeiliaid a'r pwyllgor yn ystod taith y Bil ac o ganlyniad, roedd modd iddo basio gyda chefnogaeth unfrydol. Nawr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi rhoi datganiad gyda rhagor o wybodaeth am y cynllun ddoe ddiwethaf, ond rwyf am ailadrodd ei bod yn gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynllun ffermio cynaliadwy wedi'i ariannu'n briodol i gefnogi ffermwyr, y gadwyn gyflenwi ehangach, yr amgylchedd a'n cymunedau gwledig, a bydd y pwyllgor yn sicr yn monitro hyn wrth symud ymlaen.

Wrth gwrs, byddwn ar fai yn peidio â sôn am waith yr Aelod dros Fynwy ar ei Fil Bwyd (Cymru). Er i'r Bil gael ei wrthod, tynnodd sylw at lawer o broblemau gyda'n system fwyd bresennol. Er na allai'r pwyllgor ddod i benderfyniad ar yr angen am ddeddfwriaeth, fe wnaethom gefnogi amcanion polisi'r Bil yn unfrydol. Felly, hoffwn weld ymrwymiad i wella ein system fwyd drwy weithredu'r argymhellion o'n hadroddiad ar y Bil yng nghyllideb nesaf Llywodraeth Cymru.

Felly, gyda hynny, Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i fod wedi cymryd rhan yn y ddadl hon fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ac edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ar flaenoriaethau cyllideb Llywodraeth Cymru. Diolch.

Diolch i'r Pwyllgor Cyllid am gynnal y ddadl yma. Fel nifer o'n cyd-bwyllgorau, mae gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol nifer o flaenoriaethau ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Hoffwn amlinellu tri o'r blaenoriaethau yma.  

Yn gyntaf, ein trysorau cenedlaethol. Does ond ychydig dros 10 mlynedd ers i dân mawr ddigwydd yn y llyfrgell genedlaethol yn Aberystwyth. Er na achoswyd niwed i drysorau dogfennol mwyaf arwyddocaol y genedl gan y tân, yn anffodus, fe ddinistriwyd rhai eitemau o'r casgliadau cenedlaethol. Yn y cyd-destun yma, hoffwn nodi pryderon y pwyllgor am waith angenrheidiol sydd ei angen er mwyn diogelu’r casgliadau cenedlaethol yn y llyfrgell ac yn yr amgueddfa genedlaethol. Rŷn ni wedi clywed, er bod y setliad cyfalaf i Amgueddfa Cymru yn rhesymol eleni a'r flwyddyn nesaf, fod y rhagolygon hir dymor yn fwy ansicr. Rŷn ni fel pwyllgor yn bryderus bod prinder buddsoddiad cyfalaf yn peri risg sylweddol i’r casgliadau yma. Rŷn ni’n erfyn ar y Llywodraeth i ailedrych ar y mater yma o ddifrif ar gyfer ei chyllideb yn y flwyddyn nesaf.

Ddirprwy Lywydd, efallai ei bod hi'n anodd mesur maint y golled os caiff y trysorau hyn eu colli; maent yn adrodd ein stori fel cenedl, a byddai'n golled anfesuradwy. Rwy'n cofio llinell yn Arcadia Stoppard, lle mae myfyriwr yn clywed am golli'r llyfrgell yn Alexandria, ac mae hi'n dweud wrth ei thiwtor, 'Yr holl lyfrau. Sut y gallwn gysgu yn ein galar?' Mae gwerth y rhain yn anfesuradwy; ni ellir rhoi ffigur arno, ac mae'n rhaid inni sicrhau eu bod yn cael eu diogelu.

Yn ail, Dirprwy Lywydd, hoffwn i sôn am Gymru ac Iwerddon. Clywon ni’n ddiweddar am frwdfrydedd cydweithio rhwng partneriaid ar naill ochr môr Iwerddon fel rhan o raglen waith Cymru-Iwerddon, nawr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth i ni gyd ymfalchïo ynddo. Fodd bynnag, rŷn ni’n bryderus am yr her o ariannu’r gwaith yma o 2025 ymlaen. Mae’r terfyn ar raglenni cyllido gan yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i fod yn ergyd drom i’r cydweithio yma. Mae’r pwyllgor yn deall na all Llywodraeth Cymru wneud lan am yr arian yma—mae’r symiau’n enfawr—ond, fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i gefnogi'r cynlluniau ar gyfer 2025 a thu hwnt.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn sôn yn fras am ariannu’r diwydiant hamdden yng Nghymru. Mae’r wasgfa ariannol ddiweddar wedi cael effaith sylweddol ar y diwydiant yma. Clywsom gan sefydliadau yn y diwydiant fod cynnydd costau mewn rhedeg adnoddau hamdden, yn enwedig pyllau nofio, wedi creu sefyllfa argyfyngus. Mae’r pwyllgor yn barod wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu arian ychwanegol wedi’i dargedu i’r sector chwaraeon a diwylliant i helpu lleoliadau a sefydliadau sy’n wynebu’r posibilrwydd o orfod cau, ond sydd â dyfodol cynaliadwy y tu hwnt i’r argyfwng ariannol. Yn ogystal, eleni, fe dderbyniodd Llywodraeth Cymru tua £3.5 miliwn fel rhan o gyllid Barnett ar ôl gwariant yn y sector yn Lloegr. Rydyn ni'n dweud bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ar sut maent yn mynd i wario’r arian yma ar wasanaethau hamdden eleni, yn enwedig ar gyfer elfennau mwyaf bregus y diwydiant, megis pyllau cymunedol sydd yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr.

Gyda hynny, gwnaf i ddiolch eto i'r pwyllgor ac i'r Dirprwy Lywydd.

16:40

Rwy'n cytuno mai swydd yw'r llwybr gorau allan o dlodi, fel y dywedodd Paul Davies, cyhyd â bod tâl iawn amdani. Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n dioddef yn sgil y dilema gwresogi neu fwyta yn bobl sy'n gweithio, a dyna pam ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael pobl â sgiliau addas fel y gallant ennill cyflogau uwch. Felly, yn sicr, hoffwn weld hysbysebu gwell i'r opsiynau prentisiaeth a'r warant i bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc 18 i 25 oed, oherwydd rwy'n cyfarfod â llawer gormod o bobl ifanc nad ydynt yn gwybod amdanynt, ac felly nid yw colegau'n gwneud gwaith digon da yn eu hysbysebu.

Rwyf am siarad am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a sut rydym yn ymdopi â'r anawsterau y mae aelwydydd yn eu hwynebu, yn enwedig y gaeaf hwn, gyda'r dilema gwresogi neu fwyta, o ystyried y cynnydd sylweddol iawn ym mhris bwyd a phrinder bwyd lleol sy'n dda iddynt, yn hytrach na gwneud iddynt deimlo hyd yn oed yn waeth. Rwy'n credu ein bod yn awyddus iawn i weld mesurau cynaliadwy, yn hytrach na phlastr, ac rwy'n credu mai'r brif flaenoriaeth i ni yw deall ychydig yn well sut rydym am gael y rhaglen Cartrefi Clyd newydd i weithio'n fwy effeithiol. 

Y neges yw bod y cyhoeddiad a wnaed gan Julie James ar 23 Mehefin yn ddefnyddiol iawn o ran deall y bydd pob cartref yn gallu cael cyngor ar ddatgarboneiddio eu cartrefi, ond yn amlwg mae angen i'r rhai sydd ag arian fod yn talu am hynny eu hunain. Rwyf am archwilio'r hyn y gallwn ei wneud yn realistig i helpu ein dinasyddion tlotaf rhag rhewi y gaeaf hwn, o gofio nad oes gennym fynediad mwyach at yr arian yr arferem ei gael o gyllid Ewropeaidd a bod y cyfan wedi diflannu i ben arall yr M4.

Roedd mwyafrif yr aelwydydd a gefnogwyd gan Arbed mewn tair ardal awdurdod lleol: Rhondda Cynon Taf, sir y Fflint a Blaenau Gwent. Roedd cyfanswm yr aelwydydd a gefnogwyd gan Arbed yn llawer is na 2,000 yn yr ardaloedd hynny mewn gwirionedd, ac felly ymhell islaw 4,000 i gyd. Roedd yn ddiddorol na wnaeth rhai awdurdodau lleol gymryd rhan ym mhroses Arbed. Felly, ni chyflwynwyd cynigion ganddynt wrth gwrs.

Hefyd, testun pryder oedd sylweddoli na chyrhaeddwyd y targed i ostwng costau ynni cartrefi £425 y tŷ, ac mai dim ond £330 yr aelwyd a gyrhaeddwyd. Felly, yn amlwg, ni wnaeth y broses gyflawni'r hyn roedd i fod i'w wneud. Mae'n debyg mai'r peth mwyaf pryderus i ni yw nad ydym yn gwybod faint o fuddiolwyr y cynllun Arbed a oedd yn byw yn yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is mwyaf difreintiedig yng Nghymru—nid yw ar gael i'r cyhoedd ar hyn o bryd. Mae swyddogion wedi dweud wrthym nad oedd ganddynt amser i'w gyflawni cyn heddiw. Rwy'n deall hynny, ond mae gwir angen y ffigurau hyn arnom fel y gallwn ddeall a yw'r rhaglen Cartrefi Clyd yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf o angen yr help hwn.

Rydym yn gwybod llawer mwy ynglŷn â sut mae'r cynllun Nyth yn mynd i weithio, ac yn 2021-22, buddsoddodd y Llywodraeth £24.5 miliwn yn y cynllun Nyth, ond rwy'n pryderu bod tri chwarter y bobl a oedd yn elwa yn berchen-feddianwyr a bod llai na chwarter yn aelwydydd rhentu preifat.

Yr awdurdodau lleol i gael y budd mwyaf o Nyth, unwaith eto, oedd Rhondda Cynon Taf, ond hefyd Abertawe a sir Gaerfyrddin, sydd wedi ei hysbysebu'n briodol i'w poblogaethau, byddwn yn tybio. Ond y tri awdurdod lleol ar y brig o ran nifer yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd yw Gwynedd, Ceredigion a Phowys, ac felly mae'n siomedig gweld nad ydynt i'w gweld yn gwneud agos cystal ar hyrwyddo'r cynlluniau hyn i sicrhau bod y rhai sy'n gymwys i gael budd ohonynt yn eu cael. Unwaith eto, nid yw'r data gennym. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn gael y data'n gynnar yn nhymor yr hydref fel y gallwn ei archwilio'n iawn a chanfod sut y gellir gwario'r swm bach o arian—y gyllideb lawer llai sydd gennym nawr—yn y modd mwyaf effeithlon.

Yn fwyaf arbennig, mae angen inni wybod llawer mwy am raglen Arbed, oherwydd dyna lle gellir anelu'r rhaglenni ardal ar gyfer targedu'r canolfannau amddifadedd go iawn. Felly, rwy'n gobeithio y gellir sicrhau bod hyn ar gael cyn bod yn rhaid inni wneud penderfyniadau mewn cyfnod byr iawn o bedair wythnos yn unig.

16:45

Byddaf yn siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ailadrodd rhai o gasgliadau allweddol ein pwyllgor, yn dilyn ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft yn gynharach eleni. Mae'r rhain yn dal i fod yn faterion perthnasol a phwysig yr hoffem eu gweld yn cael blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf. Pan siaradais yr adeg hon y llynedd, pwysleisiais ein pryder ynghylch y nifer uchel o bobl sy'n byw mewn llety dros dro a phwysigrwydd blaenoriaethu cyllid i alluogi pobl i gael eu symud i lety parhaol hirdymor. 

Yn ein hadroddiad ar y gyllideb eleni, fe wnaethom groesawu'r cyllid refeniw ychwanegol o £10 miliwn ar gyfer atal digartrefedd, ond rydym yn parhau i bryderu nad yw hyn yn ddigonol i ymdrin â'r heriau a wynebir ar hyn o bryd. Ers hynny, tynnodd ein hadroddiad ar ddigartrefedd sylw hefyd at y nifer uchel o bobl sy'n dal i fyw mewn llety dros dro a'r angen i flaenoriaethu cyllid i helpu pobl i symud i gartrefi parhaol. Hoffwn bwysleisio, fel y gwneuthum y llynedd, y dylai sicrhau llety hirdymor mewn amgylchedd diogel fod yn flaenoriaeth allweddol yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Nodaf fod y gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid hefyd yn nodi bod tai a digartrefedd yn faes blaenoriaeth ar gyfer cyllid yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Rydym yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd ac i weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu tai priodol. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i adlewyrchu'r ymrwymiad hwnnw yn y gyllideb ddrafft drwy flaenoriaethu cyllid at y dibenion hyn.

Ar ochr llywodraeth leol, mae'r pwysau ariannol a wynebir gan awdurdodau lleol yn thema sy'n codi ei phen o hyd yn ein sesiynau ar y gyllideb. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gorwariodd awdurdodau lleol £200 miliwn a bu'n rhaid iddynt ddibynnu ar gronfeydd wrth gefn ar gyfer y gwariant hwnnw. Mae hyn yn amlwg yn anghynaladwy. Fe wnaethom groesawu'r cynnydd yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol eleni, er bod y cynnydd yn is na chyfradd chwyddiant. Gyda chwyddiant yn parhau'n uchel, mae awdurdodau lleol yn dal i wynebu penderfyniadau anodd a allai effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo unwaith eto i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus drwy ddarparu setliad sy'n galluogi cynghorau i ddarparu gwasanaethau mewn modd cynaliadwy.

Ddirprwy Lywydd, fe wnaethom fynegi pryder yn ein hadroddiad ar y gyllideb eleni fod y cyllid a ddyrannwyd i grant cyfalaf safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol, yn enwedig oherwydd ein bod wedi clywed ac wedi gweld yn ystod ein hymchwiliad i ddarpariaeth safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr fod angen gwaith cynnal a chadw neu ailwampio brys ar rai safleoedd awdurdodau lleol. Roeddem yn arbennig o bryderus am y diffyg gwariant o'r gronfa honno yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Rydym wedi dwyn ein pryderon i sylw'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac wedi annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw'r diffyg gwariant mewn blynyddoedd blaenorol yn arwain at sefyllfa lle bydd llai o gyllid ar gael y flwyddyn nesaf. Diolch yn fawr.

16:50

Dwi yn ymwybodol bod amser yn brin, felly mi wnaf i gyfyngu fy nghyfraniad. Diolch am y cyfle i gyfrannu yn y drafodaeth yma. Yn yr ychydig amser sydd gen i, dwi am bwysleisio tair elfen yn benodol, sef anghenion cymunedol, tai a'r gwasanaeth iechyd.

Mae pawb yma bellach yn ymwybodol bod ein hawdurdodau lleol yn wynebu amser anoddach hyd yn oed heddiw na'r hyn a wynebwyd yn ystod cyfnod llymder Cameron ac Osborne. Ein hawdurdodau lleol sydd yn darparu nifer fawr iawn o'r gwasanaethau rheng flaen hanfodol yr ydym ni mor ddibynnol arnyn nhw—o addysg i ofal cymdeithasol, heb sôn am wasanaethau hollbwysig fel maethu plant a darpariaethau hamdden. Yn llawer rhy aml, mae gofyn i lywodraeth leol wneud mwy efo llai. Gall hyn ddim parhau, felly mae'n rhaid ystyried o ddifri lefel cyllido ein llywodraeth leol a sicrhau eu bod nhw’n cael y cyllid angenrheidiol i ddarparu'r gwasanaethau yma.

Mae hyn yn clymu i mewn i dai. Mae niferoedd mawr iawn bellach mewn llety dros dro, ac mae hynny ar gynnydd, efo mwy yn wynebu digartrefedd. Yn anffodus, dydy'r grant cymorth tai ddim wedi gweld cynnydd go iawn mewn 10 mlynedd. Mae'n rhaid felly edrych i gynyddu yr arian yma ar frys, ac yr un modd taliadau disgresiwn, er mwyn galluogi pobl i ddod trwy y cyfnod anodd yma. Ond, yn yr hirdymor, mae angen dybryd am fuddsoddiad sylweddol uwch mewn adeiladu tai cymdeithasol os ydym ni am fynd i'r afael go iawn â'r argyfwng tai.

Ac yn olaf, y gwasanaeth iechyd, yr NHS. Os ydym ni am sicrhau parhad y gwasanaeth iechyd i'r dyfodol, yna mae'n rhaid edrych ar ôl y staff gwerthfawr sydd yno. Mae hyn yn golygu amodau gwaith teg, ond hefyd tâl teg. Heb hyn, mi fyddwn ni'n parhau i weld y gweithlu yn ymadael. Mae yna hefyd alw am fuddsoddiad cyfalaf, yn enwedig yn yr elfen ddiagnostig cymunedol, a dylid ystyried blaenoriaethu hyn wrth feddwl am wariant cyfalaf. Diolch.

Mae gennyf bedwar pwynt cyflym yr hoffwn eu gwneud yn fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae'r cyntaf yn ymwneud ag arian cyfalaf. Rwy'n credu y bydd argaeledd cyfyngedig cyllid cyfalaf yn sicr yn rhwystr sylweddol i gyflymder y newid trawsnewidiol y gellir ei gyflawni. Felly, rwy'n credu bod angen inni sicrhau bod yr arian cyfalaf sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol, ac rwy'n credu y bydd angen arweinyddiaeth a mecanweithiau ar waith i sicrhau bod yna aliniad rhwng portffolio'r Gweinidog, byrddau iechyd unigol a chyrff iechyd eraill hefyd. 

Mae'r ail bwynt yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â gofal cymdeithasol. Yn sicr, mae'r pwyllgor a minnau'n croesawu diweddariad chwe mis cyntaf y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol ar y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, ond credaf y byddwn yn awyddus i weld cynnydd pellach yn cael ei wneud ar adeiladu cynaliadwyedd y sector gofal cymdeithasol a'i weithlu. 

Mae'r trydydd pwynt yr hoffwn ei wneud yn ymwneud ag anghydraddoldebau iechyd, mater o bwys i'r pwyllgor iechyd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod unrhyw effeithiau gwahaniaethol dyraniadau cyllid ar wahanol grwpiau a chymunedau yn cael eu hasesu a'u hystyried wrth ddatblygu cynigion y gyllideb, nid ar ddiwedd y broses yn unig. 

Ac mae'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â pherfformiad ariannol y byrddau iechyd. Rwy'n credu ei bod yn annerbyniol fod byrddau iechyd yn parhau i fethu cyflawni eu dyletswyddau ariannol statudol yn 2022-23. Yn ein hadroddiad y llynedd yn y pwyllgor ar y gyllideb, fe wnaethom fynegi pryder ynglŷn ag a fyddai'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â hyn yn ddigonol, ac am allu Llywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynifer o fyrddau iechyd i wella'u sefyllfa ariannol. Diolch, Lywydd. 

16:55

Diolch. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i amlinellu paratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2024-25. Fe ddechreuaf drwy ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am yr ymgysylltiad adeiladol iawn rydym yn parhau i’w gael, a diolch i’r holl gyd-Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw. Rwy’n meddwl bod cael y cyfle cynnar hwn i feddwl gyda’n gilydd sut y gallwn gyflawni blaenoriaethau pobl Cymru yn wirioneddol bwysig, ac yn adeg bwysig o fewn y flwyddyn i ganiatáu i gyd-Aelodau nodi eu blaenoriaethau eu hunain. Felly, rwy’n meddwl ei bod wedi bod yn ddadl adeiladol iawn yn wir.

Rwyf am ddechrau, fodd bynnag, drwy nodi’n glir iawn, oherwydd y sefyllfa y mae Llywodraeth y DU wedi ein gosod ynddi, na fydd hon yn gyllideb lle y gallwn wneud mwy. Mae effaith chwyddiant a gwrthodiad Llywodraeth y DU i gynyddu gwariant yn golygu na fydd y cyllid sydd gennym yn cyrraedd mor bell â phan wnaethom osod ein cynlluniau’n wreiddiol. Felly, bydd hon yn gyllideb lle mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau pwysicaf. Bydd yn gyllideb a fydd yn golygu na fyddwn yn gallu cyflawni ein huchelgeisiau mewn rhai meysydd. Rwy'n meddwl bod y rheini'n ddatganiadau cryf iawn. Mewn rhai meysydd, ni fyddwn yn gallu cyflawni ein huchelgeisiau, a bydd hon yn gyllideb lle na allwn wneud mwy. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn fod pob un ohonom yn dechrau'r broses gyllidebol hon yn yr un lle gyda'r wybodaeth honno.

Rydym yn paratoi ar gyfer ein blwyddyn olaf o’r setliad aml-flwydd tair blynedd a nodwyd gennym yn 2021 ac a ddechreuodd gyda chyllideb 2022-23. Pan wnaethom osod y cynlluniau gwariant hynny, ni allem fod wedi rhagweld yr heriau sylweddol a wynebwyd gennym ac rydym yn parhau i’w hwynebu. Mae argyfyngau dwbl parhaus costau ynni a chostau byw uchel yn parhau i effeithio'n sylweddol ar ein cyllidebau, ac wrth gwrs, mae hyn wedi'i waethygu gan y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Geidwadol y DU o dan gyfres o Brif Weinidogion truenus.

Mae chwyddiant yn parhau i godi, gyda phrisiau bwyd ar eu huchaf ers 45 mlynedd, a bydd hyn, ynghyd ag ymateb Banc Lloegr i godi cyfraddau llog ymhellach, yn cynyddu trafferthion ariannol y rhai sydd eisoes mewn argyfwng. Ac wrth gwrs, ni allem fod wedi rhagweld y rhyfel anghyfreithlon yn Wcráin. Rwy’n hynod o falch o’n hymateb yng Nghymru i’r argyfwng dyngarol, ond unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth na allem fod wedi’i ragweld pan wnaethom osod ein cynlluniau gwariant yn wreiddiol yn 2021. Ac ochr yn ochr â’r pwysau, mae ein cyllideb yn parhau i erydu. Mae'n werth £900 miliwn yn llai nawr na phan osodwyd ein cynlluniau gwariant yn wreiddiol yn 2021. Yn wir, pe bai ein cyllideb ond wedi tyfu yn unol â thwf cynnyrch domestig gros o 2010 ymlaen, byddai gennym £2 biliwn yn fwy i'w wario.

Gadewch inni roi munud i feddwl am yr hyn y gallem fod wedi'i gyflawni gyda'r lefel honno o gyllid—y bobl, y cymunedau a'r gwasanaethau cyhoeddus y gallem fod wedi'u cefnogi ymhellach, a'r cyfleoedd y gallem fod wedi'u creu. Gallem fod wedi ariannu 41,000 o nyrsys band 5 neu 30,000 o athrawon dosbarth. Gallem fod wedi adeiladu 11,000 o gartrefi cymdeithasol tair ystafell wely neu 320 o ysgolion cynradd newydd neu 80 o ysgolion uwchradd newydd. A dim ond cipolwg bach yw hwnnw mewn gwirionedd o'r effaith enfawr y mae'r setliad cyfyngedig hwn yn ei olygu i bobl Cymru.

Roeddwn yn falch o weld cydnabyddiaeth i’r dirwedd ariannol heriol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru yn adroddiad ymgysylltu’r Pwyllgor Cyllid ac a bod yn deg, yng nghyfraniadau cyd-Aelodau y prynhawn yma. Mae llawer o’r pryderon a godwyd yn yr adroddiad yn rhai rwyf fi a’m cyd-Weinidogion yn eu rhannu: y diffyg buddsoddiad cyfalaf a’r angen i sicrhau cyflog teg i’n gweithwyr sector cyhoeddus; cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus; iechyd corfforol a meddyliol ein cenedl; ac effaith newid hinsawdd ar genedlaethau'r dyfodol.

Mae’r cyfyngiadau ar ein setliad a nodwyd gennyf yn golygu nad oes fawr ddim cyfle, os o gwbl, i ariannu gweithgarwch newydd. Mae gennym lai o gyllid ar gael i wneud yr holl bethau y byddai’n rhaid inni eu gwneud, heb sôn am wneud y pethau y byddem eisiau eu gwneud. Mae cymaint o bwysau ar ein cyllidebau fel ein bod bellach yn gorfod ystyried yr hyn y gallwn barhau i'w ariannu. Mae ein setliad presennol yn golygu y bydd yna bethau na allwn fforddio eu cefnogi mwyach, a hyn oll ar adeg pan fo fwyaf o angen ein cymorth ar bobl a chymunedau Cymru. Mae Llywodraeth y DU wedi methu ymateb i’r heriau hyn dro ar ôl tro. Maent wedi gwneud sefyllfa anodd yn waeth, gyda phenderfyniadau gwael sydd â goblygiadau enfawr i bobl Cymru.

17:00

A ydych yn ymwybodol fod pennaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi rhybuddio y byddai cynlluniau benthyca Llafur yn cynyddu chwyddiant ac yn codi cyfraddau llog, gan fod y ddau beth yn gysylltiedig? Mae gan Fanc Lloegr annibyniaeth i fynd i’r afael â chwyddiant, ac felly mae mwy o chwyddiant yn golygu cyfraddau llog uwch. Felly, oni ddylem fod yn gwrando ar bennaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid?

Wel, a ydych chi hefyd yn ymwybodol fod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a’r comisiwn twf drwy Ysgol Economeg Llundain wedi dweud mai’r ffordd i dyfu’r economi yw buddsoddi mewn seilwaith, buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac yn bennaf, buddsoddi mewn cyfalaf dynol drwy sgiliau? Ac rydym wedi cael cyfraniadau oddi ar eich meinciau eich hun y prynhawn yma yn dweud pa mor bwysig yw buddsoddi mewn sgiliau. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud hynny o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni.

Ymateb Llywodraeth y DU i’n galwadau am weithredu yw distawrwydd. Rydym wedi estyn allan am ragor o gyllid ar gyfer y GIG—dim ymateb clir. Rydym wedi estyn allan ar amseru cyhoeddiadau, fel y gallwn gynllunio'n effeithiol—dim ymateb clir. Rydym wedi estyn allan i dynnu sylw at y materion sy'n ein hwynebu a dangos sut yr effeithir ar y bobl rydym yn eu cynrychioli, ond ni chafwyd ymateb clir. Felly. Rwyf yma heddiw i nodi sut y gallwn gynllunio ar gyfer y cylch cyllidebol nesaf wrth inni aros i Lywodraeth y DU ddal i fyny. Fel rwyf eisoes wedi’i amlinellu, rydym ym mlwyddyn 3 o setliad aml-flwydd, ac felly mae gennym sail ar gyfer cynllunio ar gyfer y cyfnod cyllidebol sydd i ddod. Yn anffodus, mae natur ein setliad, lle darparwyd mwy o arian ar y cychwyn, yn golygu y bydd cynnydd llawer is yn y gwariant sydd ar gael y flwyddyn nesaf nag yn y blynyddoedd blaenorol, a phan fyddwch yn ychwanegu effaith negyddol barhaus chwyddiant at hyn, mae'n golygu dewisiadau anodd. Ac wrth gwrs, mae hyn hefyd yn wir am wariant cyfalaf. Fel y saif pethau, bydd cyfanswm ein cyllid refeniw ar gyfer 2024-25 1.4 y cant yn unig yn uwch mewn termau arian parod nag yn 2023-24, ac mae dyraniadau cyfalaf i lawr o un flwyddyn i'r llall yn nhermau arian parod. Mae hyn ar adeg pan fo chwyddiant, wrth gwrs, yn dal i fod yn uwch nag 8 y cant.

Mae’r swm cyfyngedig o gyllid yn golygu y bydd yn rhaid inni ganolbwyntio’n ofalus ar beth sy’n flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, a pha weithgarwch y mae'n rhaid i ni ei ymestyn, ei ohirio neu ei atal yn gyfan gwbl. Rwy'n gwrthod rhoi ein partneriaid yn yr un sefyllfa ag rydym ni ynddi, yn gweithio gyda gwybodaeth gyfyngedig ac ansicrwydd parhaus. Felly, rwyf wedi ymrwymo i ymgysylltu â'n partneriaid yn rheolaidd, i fod yn dryloyw ynghylch yr heriau sy'n ein hwynebu, ac yn agored am y penderfyniadau a wnawn.

Unwaith eto, fel rwyf wedi’i amlinellu, rydym yn wynebu ansicrwydd parhaus ynghylch amseriad cyhoeddiad cyllidol Llywodraeth y DU yn yr hydref, felly rydym wedi bod yn glir iawn ynglŷn â’n cyhoeddiad ni. Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu ein cyllideb ddrafft cyn diwedd y flwyddyn hon gyda’r nod o gyhoeddi ein cyllideb derfynol yn y gwanwyn, er mwyn sicrhau’r craffu a’r sicrwydd mwyaf posibl i’n partneriaid cyflenwi. Wrth gwrs, gwn fod yr amseru hwn yn llai na delfrydol ar gyfer Aelodau’r Senedd, ond unwaith eto, nid oes gennym unrhyw ymrwymiad cadarn gan Lywodraeth y DU ynghylch pryd y byddant yn gwneud datganiad yr hydref, felly, ar hyn o bryd, nid oes gennyf ddewis ond paratoi ar gyfer y cyfle olaf posibl i gyhoeddi yn ystod y tymor.

Hoffwn gydnabod yr adborth gan Gadeiryddion y pwyllgorau ynghylch natur y wybodaeth a gyhoeddwn ochr yn ochr â’r gyllideb, ac rwy’n ddiolchgar iawn eto i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ein trafodaethau rheolaidd ac adeiladol ar hyn. Rwy’n nodi’r cais am fwy o amser a gwell gwybodaeth i lywio gwaith craffu, ac yn amlwg, byddaf yn ystyried hynny’n ofalus iawn. Ond mae'n rhaid imi hefyd gydbwyso hyn gyda'r angen am amser i Lywodraeth Cymru wneud y gwaith y mae'n rhaid inni ei wneud i osod y gyllideb, a lefel yr wybodaeth y gellir ei darparu, o ystyried yr amser a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno’r gyllideb, ac mae’n rhaid i hynny fod yn gymesur.

Mae’r Prif Weinidog wedi sôn yr wythnos hon am yr anawsterau a wynebwn wrth geisio gwneud cynnydd sylweddol gyda’n rhaglen lywodraethu yn erbyn y blaenwyntoedd economaidd cryf. Bydd ein cyllideb y flwyddyn nesaf yn anodd, yr anoddaf inni ei hwynebu erioed, ac mae angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd i ymateb i’r her hon. Ond rwyf am barhau i wrando ar gyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn yr ysbryd hwnnw, a gweithio gyda nhw, ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl gyfraniadau heddiw.

17:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae wedi bod yn ddadl gynhyrchiol iawn, fel arfer. Diolch yn fawr.

Rwy’n ddiolchgar am y cyfraniadau y mae fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor wedi’u gwneud. Soniodd Mike, Rhianon a Peter am y gwaith a wnaethom yn ystod y sesiynau ymgysylltu, a braf oedd clywed bod pob un ohonom wedi nodi themâu tebyg, a braf oedd clywed y rheini a phwysigrwydd cydweithio a chyllid i dargedu meysydd fel dysgu oedolion. Nodaf hefyd bwyslais Rhianon ar bwysigrwydd grwpiau ffocws i’n gwaith a’r angen i ganolbwyntio ar wasanaethau allweddol megis iechyd, addysg a gofal cymdeithasol.

Rwyf hefyd yn croesawu cyfraniadau fy nghyd-Gadeiryddion pwyllgorau yn fawr. Soniodd Paul Davies am bwysigrwydd economi gref i sicrhau manteision cymunedol a’r effaith gadarnhaol y gallai hyn ei chael ar wasanaethau cyhoeddus os caiff arian ei dargedu yn y mannau cywir. Soniodd Delyth am y blaenoriaethau ar gyfer ei phwyllgor, gan gynnwys pa mor bwysig yw cefnogi’r gwaith hanfodol i ddiogelu ein trysorau cenedlaethol a’r angen am gronfeydd wedi’u targedu i gefnogi gwasanaethau hamdden, o ystyried y pwysau sy’n eu hwynebu. Rwy'n cymeradwyo sylwadau Jenny ynglŷn â sicrhau bod gan bobl ifanc sgiliau addas i fynnu gwell cyflogau ac rwy'n adleisio barn ei phwyllgor ar bwysigrwydd cyllid hirdymor a chynaliadwy i drechu tlodi a’i holl effeithiau andwyol. Soniodd John am flaenoriaethau ei bwyllgor, gan gynnwys pryderon ynglŷn â’r nifer uchel o bobl sy’n byw mewn llety dros dro a’r angen am lefelau digonol o gyllid i flaenoriaethu atal digartrefedd. Mae ein pwyllgor hefyd yn adleisio’r pryderon a fynegwyd am y pwysau a roddir ar awdurdodau lleol. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi cyfraniad Mabon, a soniodd am gynyddu cymorth i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a’r cyllid blaenoriaethol i sicrhau dyfodol cadarnhaol i’r GIG a’i weithwyr. Russell, fe sonioch chithau hefyd am bwysigrwydd lefelau parhaus o gyllid cyfalaf i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel a phwysigrwydd sicrhau bod y gweithlu gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn wydn.

Rwy’n cydnabod sylwadau’r Gweinidog a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn wynebu’r dirwedd ariannol anoddaf y maent wedi’i hwynebu ers nifer o flynyddoedd, ac y bydd angen torri’n ôl ar rai meysydd. Fodd bynnag, hoffwn ofyn i’r Gweinidog fod mor glir â phosibl wrth egluro i ni ac i’r cyhoedd yn gyffredinol ble fydd y toriadau hynny’n cael eu gwneud, a pha wasanaethau y bydd angen eu torri’n ôl fel y gallwn sicrhau bod digon o dryloywder yno i ddwyn eich penderfyniadau i gyfrif. Rwy'n gobeithio y byddwn yn parhau â’r un fath o feirniadaeth adeiladol gan y pwyllgor i’r Gweinidog wrth weithio yn y sefyllfaoedd heriol hyn. Yn amlwg, mae’r blaenoriaethau hyn, os cânt eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, yn golygu ein bod yn credu y bydd y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn llawer gwell.

O siarad efo pobl ar draws Cymru, mae angen rŵan yn fwy na dim i Lywodraeth Cymru wrando arnyn nhw a chanolbwyntio’i hadnoddau'n briodol i wneud y gorau o’r hyn sydd gennym, fel bod gennym wasanaethau sy’n gynaliadwy ac yn mynd i’r afael â phryderon a blaenoriaethau'r cyhoedd yng Nghymru. Rydym yn gobeithio gweld cynnydd ar y materion hyn pan fyddwn ni'n gwneud y gwaith craffu ar y gyllideb gyda’r Gweinidog yn gynnar yn nhymor yr hydref. Dwi'n gobeithio y bydd y pwyllgorau eraill yn gwneud yr un fath yn eu meysydd hwy.

Yn olaf, hoffwn i ddiolch i’r rhai sydd wedi gyrru ein dadl heddiw, sef y rhanddeiliaid a’r bobl a gymerodd ran drwy siarad â ni ledled Cymru. Hebddyn nhw, fydden ni ddim yn gallu gweld beth ydy’r blaenoriaethau ystyrlon i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r gwaith. I ategu beth ddywedodd ambell aelod o'r pwyllgor a, dwi'n gwybod, tu hwnt, mae'n rhaid inni ddiolch yn fawr iawn i'n clercod a'n swyddogion, sydd yn cadw pethau i fynd. Diolch yn fawr iddyn nhw am y gwaith maen nhw'n ei wneud ar hyd y flwyddyn. Felly, a gaf i symud y cynnig yma yn ei flaen? Diolch yn fawr, Llywydd.

17:10

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad ac, felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyn i fi symud ymlaen i eitem 9, mae canlyniad yr etholiad ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio gyda fi, ac fe fedraf i gyhoeddi'r canlyniad ichi. O blaid ethol David Rees yn Gadeirydd i'r pwyllgor 37 o bleidleisiau, yn erbyn hynny 14 o bleidleisiau, ac, yn ymatal, un bleidlais. Felly, mae David Rees wedi ei ethol i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio.

Datganodd y Llywydd fod David Rees wedi’i ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio.

9. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—Fframweithiau Cyffredin

Fe awn ni ymlaen, felly, i eitem 9, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r fframweithiau cyffredin, a dwi'n galw ar y Cadeirydd i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM8328 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, sef 'Fframweithiau Cyffredin', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mai 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae Llywodraethau’r DU wedi cytuno i sefydlu fframweithiau cyffredin i reoli ymwahanu a meysydd polisi datganoledig a oedd yn arfer cael eu llywodraethu gan yr UE. Mae’r DU a’r Llywodraethau datganoledig o’r farn eu bod yn angenrheidiol er mwyn rheoli ymwahanu o ran polisi rhwng y gwledydd gan fod y DU wedi gadael yr UE bellach, ac i fynd i’r afael â materion eraill, megis gweithrediad effeithiol marchnad fewnol y DU, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau rhyngwladol, ac i alluogi'r DU i negodi cytundebau masnach rhyngwladol newydd.

Mae fframweithiau cyffredin dros dro wedi bod ar waith ers i’r DU adael yr UE yn 2020, ond nid yw’r fframweithiau terfynol wedi’u cytuno eto. Oherwydd y rôl bwysig sydd gan fframweithiau cyffredin yn y gwaith o lywodraethu’r DU ar ôl Brexit, cytunodd Llywodraethau’r DU y dylid caniatáu i bob un o’r pedair deddfwrfa yn y DU graffu arnynt a gwneud argymhellion ar eu cynnwys i’w Llywodraethau priodol. Felly, ni fydd fersiynau terfynol cytundebau yn cael eu cytuno hyd nes y bydd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi'i sefydlu a'r gwaith craffu wedi'i gwblhau gan Gynulliad Gogledd Iwerddon.

Mae pwyllgorau polisi’r Senedd wedi bod yn craffu ar fframweithiau dros dro unigol, ac mae fy mhwyllgor wedi bod yn parhau i oruchwylio’r rhaglen fframweithiau cyffredin gyffredinol fel y mae’n gymwys yng Nghymru. Felly, ar y sail honno y cyhoeddwyd ein hadroddiad ar fframweithiau cyffredin ym mis Mai eleni, gan wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â materion trawsbynciol sydd wedi codi hyd yn hyn. Gyda’i gilydd, mae pwyllgorau’r Senedd wedi gwneud bron i 100 o argymhellion ar eu cynnwys.

Fe wnaethom 21 o argymhellion, ac rwy'n croesawu llythyr y Cwnsler Cyffredinol yn ymateb i’n hadroddiad, a diolch i Aelodau’r pwyllgor a’n tîm am eu diwydrwydd yn cyflwyno’r argymhellion hynny. Rwy’n cydnabod nad yw’r Cwnsler Cyffredinol yn gallu ymateb yn ffurfiol eto i’n hargymhellion hyd nes y bydd y gwaith craffu wedi’i gwblhau gan bob un o bedair deddfwrfa’r DU. Serch hynny, edrychaf ymlaen at glywed unrhyw sylwadau y gall y Cwnsler Cyffredinol eu gwneud heddiw yn rhan o’r ddadl hon.

Mae ein hadroddiad wedi edrych ar ystod o faterion: y goblygiadau ar gyfer llunio polisïau datganoledig, ymgysylltu â rhanddeiliaid, y berthynas â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, a rhwymedigaethau rhyngwladol, i enwi ond ychydig. Yn amlwg, nid oes gennyf amser heddiw i ystyried pob thema'n fanwl, ond mae rhai yr hoffwn dynnu sylw atynt. Gadewch imi droi yn gyntaf at y mater hwn. Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol oll wedi codi pryderon ynghylch y potensial i fframweithiau cyffredin gyfyngu ar rôl ymarferol Llywodraeth Cymru a'r Senedd ym maes deddfu a llunio polisïau i Gymru. Wrth adlewyrchu’r pryderon hyn, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro sut y bydd yn sicrhau na fydd y fframweithiau cyffredin hyn yn cyfyngu ar rôl Llywodraeth Cymru, y Senedd, na rhanddeiliaid, yn wir, yng Nghymru wrth ddeddfu a llunio polisïau i Gymru, ac rydym yn ailadrodd yr argymhellion a wnaed gan nifer o bwyllgorau’r Senedd.

Mae hwn yn bwynt arbennig o bwysig o safbwynt cyfansoddiadol, yn enwedig o ystyried sylwadau’r Cwnsler Cyffredinol ei hun fod gan fframweithiau cyffredin botensial i fod yn fecanweithiau llywodraethu parhaol, hyblyg a mwyfwy arwyddocaol ar gyfer y meysydd polisi a gydgysylltwyd ac a lywodraethwyd yn flaenorol ar lefel yr UE. Felly, rydym yn mawr obeithio y bydd yr hyblygrwydd y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn sôn amdano yn ei lythyr yn galluogi ymwahanu er mwyn adlewyrchu anghenion penodol gwahanol rannau o’r DU. Dyna pam yr argymhellwyd gennym hefyd y dylai Llywodraeth Cymru geisio cytundeb rhynglywodraethol fel bod pob fframwaith cyffredin yn nodi'n glir ym mha feysydd na fydd ymwahanu yn dderbyniol.

Yn gysylltiedig â thema rôl ymarferol Llywodraeth Cymru a’r Senedd ym maes deddfu a llunio polisïau i Gymru mae’r rôl a chwaraeir gan Ddeddf marchnad fewnol y DU, ac rwyf am droi at hynny nawr. A bydd llawer o Aelodau’n cofio iddi gael ei chyflwyno ar ôl i broses y fframweithiau cyffredin gael ei sefydlu. Drwy eu gwaith craffu, mae pwyllgorau’r Senedd wedi codi materion ynghylch y rhyngweithio rhwng Deddf marchnad fewnol y DU a’r fframweithiau cyffredin. Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi argymell y dylid diweddaru’r fframweithiau i gydnabod unrhyw ryngweithio â Deddf marchnad fewnol y DU. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi argymell y dylid cynnwys asesiad o effaith Deddf y farchnad fewnol ar ddeddfwriaeth Gymreig yn y meysydd fframwaith mewn adroddiadau blynyddol ar fframweithiau.

Mae Deddf marchnad fewnol y DU yn caniatáu i feysydd a lywodraethir gan fframweithiau cyffredin gael eu heithrio ohoni. Rydym wedi gweld sut y rhoddwyd hyn ar waith mewn perthynas â deunydd plastig untro a chynllun dychwelyd ernes Llywodraeth yr Alban. Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ill dau wedi nodi y dylid diweddaru'r fframweithiau i gyfeirio at y broses i Lywodraethau ofyn am, ac ystyried eithriadau o dan Ddeddf y farchnad fewnol. Roeddent yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gofyn am gytundeb rhynglywodraethol i gydnabod y broses hon. Yn yr un modd, mae Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi wedi datgan bod,

'Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 wedi niweidio cysylltiadau rhynglywodraethol. Golyga hyn ei bod yn bwysicach fyth fod y broses eithriadau, sy'n hanfodol ar gyfer lliniaru effeithiau'r Ddeddf, yn cael ei gwneud yn glir ym mhob fframwaith perthnasol.'

Felly, fe wnaethom ailadrodd safbwyntiau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y dylai Llywodraeth Cymru ofyn am gytundeb rhynglywodraethol i ddiwygio pob fframwaith cyffredin i gynnwys cyfeiriad at Ddeddf marchnad fewnol y DU a’r broses ar gyfer ystyried a chytuno ar eithriadau o’r Ddeddf mewn meysydd a gwmpesir gan fframwaith cyffredin.

A'r thema olaf roeddwn am ei thrafod, Ddirprwy Lywydd, yw tryloywder ac adolygu fframweithiau. O ran tryloywder, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith oll wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ofyn am gytundeb rhynglywodraethol i sicrhau yr eir ati i ymgynghori â rhanddeiliaid wrth adolygu pob fframwaith cyffredin a'i ddiwygio wedyn—safbwynt a fynegwyd gennym ninnau mewn un o’n hargymhellion eraill. Ac roedd argymhelliad arall gennym yn cymeradwyo barn pwyllgorau eraill y dylai Llywodraeth Cymru ofyn am gytundeb rhynglywodraethol i sicrhau bod pob fframwaith cyffredin yn darparu bod deddfwrfeydd yn cael eu hysbysu am anghydfod a uwchgyfeirir i lefel weinidogol ac yn cael eu hysbysu am ganlyniadau unrhyw anghydfod o'r fath.

Mae ein hadroddiad hefyd yn tynnu sylw at y modd y mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi nodi nad oes llawer o wybodaeth mewn rhai fframweithiau am y gwaith parhaus o gyflwyno adroddiadau i ddeddfwrfeydd a rhanddeiliaid. A thynnodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus sylw at y diffyg mecanweithiau i gefnogi’r gwaith o graffu ar fframweithiau pan fyddant yn weithredol. Nid deddfwrfeydd datganoledig yn unig sy’n codi’r pryderon hyn, Ddirprwy Lywydd; mae Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ'r Arglwyddi wedi dweud y dylid datblygu proses ‘ar frys’ ar gyfer cyflwyno adroddiadau yn barhaus i ddeddfwrfeydd.

Rydym wedi argymell, felly, yn unol â barn pwyllgorau eraill y Senedd, y dylai Llywodraeth Cymru ofyn am gytundeb rhynglywodraethol i sicrhau y cyflwynir adroddiadau rheolaidd i ddeddfwrfeydd ar weithrediad pob fframwaith cyffredin. Ac os na sicrheir cytundeb o'r fath, dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno adroddiad yn rheolaidd i'r Senedd ar weithrediad parhaus pob fframwaith.

Ddiprwy Lywydd, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym yng nghyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ym mis Chwefror fod y Llywodraethau wedi cytuno ar fodel ar gyfer adrodd yn y dyfodol i bwyllgorau deddfwrfeydd ar ôl i’r fframweithiau gael eu cwblhau’n derfynol. Fodd bynnag, fel y nodwyd eisoes, efallai na fydd y fframweithiau terfynol hynny ar gael am beth amser, ac mae’r fframweithiau dros dro ar waith ar hyn o bryd. Mae penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud gan y Llywodraethau drwy’r fframweithiau dros dro hyn—penderfyniadau ar gyfreithiau sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a’r amgylchedd, er enghraifft. Hysbyswyd y Senedd yn ddiweddar fod Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2003 yn dod o fewn cwmpas y fframwaith cyffredin adnoddau a gwastraff.

Ddirprwy Lywydd, gallaf weld fy mod wedi mynd dros amser yn barod.

17:15

Mae'n ddrwg gen i.

I gloi, credwn, er budd tryloywder, atebolrwydd a llywodraethu da, y dylai’r Cwnsler Cyffredinol hefyd ymrwymo i adrodd i’r Senedd ar y fframweithiau dros dro gweithredol yn rheolaidd fel mesur interim. Felly, rwy'n croesawu'r sylwadau a’r cyfraniadau y bydd eraill yn eu gwneud y prynhawn yma. A chyda'ch caniatâd, efallai y caf ddweud ychydig eiriau i gloi.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae rhinweddau cael Cadeirydd mor ddiwyd ar ein pwyllgor yn golygu bod llawer o'r hyn roeddwn am ei ddweud eisoes wedi cael ei nodi yn ystod yr wyth munud y bu’r Cadeirydd yn siarad. Ond hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd a holl Aelodau'r pwyllgor am y gwaith rydym wedi'i wneud ar hyn. Mae'n bwysig iawn, gan fod fframweithiau cyffredin yn rhan bwysig o'r ffordd y caiff cysylltiadau rhynglywodraethol eu rheoli yn y Deyrnas Unedig, yn dilyn ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Mae pedair Llywodraeth y DU wedi cydnabod y fframwaith fel enghraifft dda o sut y gall llywodraethau gydweithredu’n gadarnhaol i reoli ymwahanu a gwneud penderfyniadau polisi cyffredin.

Mae fframweithiau cyffredin yn bwysig am eu bod yn ymdrin â meysydd sy’n bwysig i fywydau pobl yma yng Nghymru, megis cymorth amaethyddol, iechyd y cyhoedd, diogelwch bwyd a'r amgylchedd—pynciau allweddol a phwysig iawn y mae angen rhoi sylw iddynt. Dyna pam fod y pwyllgor wedi bwrw ati o ddifrif i ymgymryd â'r dasg o graffu ar y fframweithiau hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyda'i gilydd yn gallu cefnogi’r holl argymhellion yn ein hadroddiad.

Mae llywodraethu effeithiol yn y DU yn dibynnu ar y pedair Llywodraeth yn gwneud y gorau o'r strwythurau rhynglywodraethol newydd y cytunwyd arnynt fel rhan o'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol. Rwy'n gobeithio felly y rhoddir ystyriaeth ofalus i argymhelliad y pwyllgor, sy’n galw am ddiweddaru pob fframwaith cyffredin i adlewyrchu’r broses osgoi a datrys anghydfod, fel y cytunwyd yn rhan o’r adolygiad.

Un maes a oedd yn peri pryder i’r pwyllgor oedd eglurder ac ansawdd rhai o’r dogfennau fframwaith. Nododd ein hadroddiad fod y pwyllgorau polisi, megis Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, wedi’i chael yn anodd deall rhai o’r dogfennau fframwaith, a galwodd am wneud fframweithiau mor syml a di-jargon â phosibl. Wrth iddi ystyried y fframweithiau terfynol, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n dilyn argymhelliad y pwyllgor y dylid cynnal ymarfer sicrhau ansawdd llawn ar gyfer pob fframwaith a dogfen.

Os cânt eu cynhyrchu a’u defnyddio’n llawn, mae potensial gan fframweithiau cyffredin i gyfrannu at gydweithredu effeithiol ac effeithlon ar lunio polisi a deddfau o fewn y Deyrnas Unedig, er budd pobl Cymru, a chredaf mai dyna rydym oll yma i’w wneud. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’n holl argymhellion, fel y'u hamlinellwyd gan ein Cadeirydd, wrth iddynt gwblhau eu gwaith ar y fframweithiau, oherwydd os cawn y pethau hyn yn iawn, credaf y gallwn ddeddfu'n well a gwella gweithio'n rhynglywodraethol ar draws ein Teyrnas Unedig. Diolch.

17:20

Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Arweiniodd ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd at nifer o bwerau a fu gan yr UE yn mynd yn ôl i’r DU. Roedd llawer o’r rhain yn croestorri â chymwyseddau o leiaf un o’r Llywodraethau datganoledig, felly mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi bod yn gweithio ar y cyd i ddatblygu fframweithiau cyffredin y DU, mecanwaith i’r DU a’r Llywodraethau datganoledig gytuno ar rywfaint o gysondeb rheoleiddiol ar gyfer meysydd polisi sector benodol lle mae pwerau sy’n dychwelyd o’r UE o fewn maes lle mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystyried y fframweithiau cyffredin dros dro ar gyfer taliadau hwyr a chaffael. Yn dilyn ein gwaith craffu, ystyriodd y pwyllgor y fframweithiau, a chododd bryderon gyda Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Ysgrifennodd y pwyllgor at y Gweinidogion eto ar 23 Mehefin y llynedd i amlinellu ei gasgliadau am y fframweithiau penodol yn ogystal â’r dull gweithredu ar gyfer y fframweithiau yn fwy cyffredinol. Fe wnaf grynhoi casgliadau’r pwyllgor.

Roedd ein prif bryder yn ymwneud â’r mecanweithiau datrys anghydfodau sy’n llywodraethu trefniadau’r fframweithiau cyffredin. Fel y dywedwyd, maent yn dibynnu ar gytundeb rhynglywodraethol, gyda thrafodaethau rhwng y pedair Llywodraeth yn hanfodol er mwyn rheoli’r ymwahanu rhwng y pedair gwlad. Er bod y ddau fframwaith yn cynnwys adrannau ar wneud penderfyniadau ac ar gyfer pennu prosesau i Lywodraethau wneud penderfyniadau ar y cyd mewn meysydd lle mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, maent yn llai clir ynghylch sut y dylid datrys ymwahanu o ran polisi ac anghydfodau. Mae’r pwyllgor yn pryderu ynglŷn â sut yr ymdrinnir â chwynion a dyfarnu ynghylch anghydfodau, yn enwedig gan fod y risg y bydd anghydfodau'n digwydd yn cael ei dwysau gan densiynau rhynglywodraethol sy'n gysylltiedig â threfniadau cyfansoddiadol ar ôl Brexit. Yn unol â hynny, credwn y dylid diwygio’r fframwaith i gynnwys rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut yr ymdrinnir ag anghydfodau ac i ganiatáu i Lywodraethau geisio cyngor annibynnol neu gyflafareddu drwy broses gryfach ar gyfer datrys anghydfodau. Fe wnaethom hefyd argymell i Lywodraeth Cymru ei bod yn nodi ei barn ynglŷn ag a ddylid pennu terfynau amser yn y broses neu’r prosesau osgoi anghydfod. Rydym yn pryderu am y rhyngweithio rhwng y fframweithiau a Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac yn credu y dylid diweddaru’r fframweithiau i gydnabod unrhyw ryngweithio â’r Ddeddf honno. Yn yr un modd, rydym yn pryderu am y diffyg eglurder ynghylch sut y bydd Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 yn effeithio ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru ac yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu'r sefyllfa hon. Ar fater ymwahanu, fe wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd yn sicrhau nad yw’r fframwaith caffael cyhoeddus yn cynnig llai o le i ymwahanu nag a fyddai wedi bod yn bosibl yn yr UE.

Mae’r dull o ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystyriaeth allweddol, a daethom i’r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid os caiff deddfwriaeth sydd o fewn cwmpas y fframweithiau ei chyflwyno i’r Senedd. Roeddem yn cytuno â Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r pwyllgor newid hinsawdd a seilwaith y dylai Llywodraeth Cymru ofyn am gytundeb rhynglywodraethol i sicrhau yr eir ati i ymgynghori â rhanddeiliaid wrth adolygu pob fframwaith cyffredin a'i ddiwygio wedyn.

Ar ofynion adrodd ac adolygu, argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru geisio cael cytundeb rhynglywodraethol hefyd i gyhoeddi unrhyw adroddiadau ar y cyd ar weithrediad pob fframwaith, ac os na sicrheir cytundeb o'r fath, y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei hadroddiadau blynyddol ei hun. Nodwyd gennym hefyd y dylai adroddiadau Llywodraeth Cymru gynnwys sylwebaeth berthnasol ar gysylltiadau rhwng y DU a'r UE a gweithgarwch rhyngwladol. Hefyd, fe wnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru gadarnhau bod proses wedi'i chytuno ar gyfer newidiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n gymwys o dan y fframweithiau, a beth yw’r broses honno.

Rydym yn nodi bod pedair Llywodraeth y DU wedi cytuno i adrodd yn flynyddol ar weithrediad pob fframwaith. Fodd bynnag, rydym yn pryderu bod llawer o'r fframweithiau sydd ar waith yn rhai dros dro, er gwaethaf anghytundeb parhaus rhwng y Llywodraethau ynghylch cyfres o faterion, gan gynnwys y rhyngweithio rhwng y fframweithiau a Deddf y farchnad fewnol. Rydym yn parhau i fod yn bryderus am y broses a’r ymagwedd at y fframweithiau hyn, ac yn pryderu am y potensial ar gyfer ymwahanu o ran polisi, y mecanweithiau datrys anghydfodau annigonol, a’r ymgynghori a’r ymgysylltu cyfyngedig â’r cyhoedd. O'r herwydd, bydd y pwyllgor yn parhau i fonitro'r materion hyn, a byddwn yn mynd ar drywydd y rhain gyda Llywodraeth Cymru os byddwn yn teimlo bod materion pellach i'w harchwilio. Diolch yn fawr.

17:25

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i fy nghyn-gyd-Aelodau ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, yr wyf yn falch o fod wedi bod yn rhan ohono? Yr hyn a ddaeth i’r amlwg yn fwyaf trawiadol i mi yn ystod y broses o lunio’r adroddiad hwn, ac yn wir, yn ystod y gwaith o graffu’n fwy cyffredinol ar seilwaith cyfansoddiadol Cymru, oedd y cytundeb ar draws y pwyllgor fod pobl Cymru yn cael eu gwasanaethu’n wael gan y trefniadau presennol. Rydym yn anghytuno ar y weledigaeth a ffefrir gennym ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru, ond fel pwyllgor, rydym yn teimlo ein bod wedi bod yn gyson glir nad yw’r status quo yn gweithio i ddiogelu buddiannau Cymru.

Pwynt hollbwysig i mi yw mai yn y Senedd y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru ac ar gyfer Cymru ac yma y dylid craffu ar y penderfyniadau hynny. Fel y mae’r adroddiad y buom yn ei drafod heddiw yn amlygu unwaith eto, mae Brexit wedi cyfyngu ar rôl Llywodraeth Cymru a’r Senedd yn gyson o ran deddfu a chreu polisi i Gymru. Mae Brexit wedi ei gwneud yn haws i San Steffan a Whitehall gipio pwerau a thanseilio datganoli’n gyson, ac nid wyf yn argyhoeddedig fod hyn yn debygol o gael ei wrthdroi gyda newid Llywodraeth yn San Steffan ychwaith.

Fel y gwelsom yn achos cynllun dychwelyd ernes yr Alban, Llywodraeth y DU sy'n penderfynu yn y pen draw pa fathau o ymwahanu a ganiateir o fewn marchnad fewnol y DU, ac mae hyn yn cyfyngu’n ddifrifol ar allu’r Llywodraethau datganoledig i weithredu polisi. Mae’n werth nodi, fel rwyf wedi’i wneud o’r blaen yn y Siambr hon, fod Llywodraeth yr Alban, yn yr achos hwn, wedi dilyn y broses fframweithiau cyffredin y cytunwyd arni ar gyfer sicrhau’r eithriad o dan Ddeddf y farchnad fewnol, ond newidiodd Llywodraeth y DU reolau'r gêm hanner ffordd drwodd.

Rydym wedi cael sicrwydd fod proses y fframweithiau cyffredin yn un sy'n seiliedig ar gonsensws ar draws y pedair Llywodraeth. Mewn gwirionedd, mae'n gweithredu i atgyfnerthu gwrit San Steffan fel barnwr a rheithgor ar benderfyniadau rheoleiddio allweddol a'r prosesau a ddefnyddir i wneud y penderfyniadau hyn. Fel y saif pethau, mae’r fframweithiau cyffredin yn rhoi llai o hyblygrwydd i ni na fframwaith yr UE y maent yn ceisio ei ddisodli, gan ei gwneud yn anoddach inni wneud y penderfyniadau sy’n iawn i Gymru mewn meysydd fel caffael, cynaliadwyedd ac iechyd y cyhoedd. Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu’r hyn y mae’n ei wneud i sicrhau bod fframweithiau cyffredin yn darparu’r hyblygrwydd sydd ei angen ar Gymru, ac efallai y dylwn ychwanegu, sut y byddai’r cyfyngiadau polisi hyn yn cael eu gwrthdroi gan Lywodraeth Lafur y DU.

Mae hyn hefyd yn ei gwneud yn glir fod rhanddeiliaid allweddol, ar draws pob sector, mewn perygl o gael eu cau allan o brosesau gwneud penderfyniadau o dan y fframweithiau cyffredin, a bod prosesau, gan gynnwys datrys anghydfodau, yn parhau i fod yn aneglur. Yma, mae gennym enghraifft bellach o'r mathau o ddirywiad democrataidd sydd wedi dod yn sgil Brexit. Ymhell o adfer rheolaeth, mae Brexit wedi golygu proses lunio polisi sy’n fwy canolog ac yn llai atebol, ac yma hefyd, mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys.

I gloi, hoffwn wneud un sylw terfynol. Cawsom sicrwydd gan y rheini a fu’n ymgyrchu dros Brexit ei fod yn ymwneud â lleihau biwrocratiaeth. Ni allaf ond synnu at y buddsoddiad o amser, egni ac adnoddau cyhoeddus y mae'r adroddiad hwn yn eu cynrychioli; faint o graffu ychwanegol sydd ei angen bellach ar brosesau cyfansoddiadol a llywodraethol ôl-Brexit, sydd eu hunain yn hynod gymhleth weithiau. Ymhell o leihau biwrocratiaeth, ymddengys i mi fod Brexit wedi cynyddu biwrocratiaeth, ac felly'r gost o wneud busnes, yn esbonyddol. Byddwn yn dadlau bod hyn oll yn ychwanegu at ddadl fy mhlaid y dylem geisio ailymuno â’r farchnad sengl Ewropeaidd ar fyrder. Yn fwy uniongyrchol, mae arnom angen gweithredu ar frys i symleiddio a lleihau baich prosesau, fel y fframweithiau cyffredin, y mae Brexit wedi’u hachosi. Diolch yn fawr.

17:30

Er bod y fframweithiau cyffredin i fod i annog cydweithrediad rhwng gwahanol Lywodraethau'r DU a gwahanol ddeddfwrfeydd y DU, mae'n dal i fod yn aneglur i mi sut y byddant yn effeithio ar bwerau'r Senedd a Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn sôn am effaith deddfwriaethau ymwahanol, ond datganoli yw hynny, ac onid yw ymwahanu o Lywodraeth bresennol y DU yn aml yn beth da, fel y gwelsom yn ystod pandemig COVID?

Fodd bynnag, ar fater arall, rwy'n cytuno â James Evans. Mae'r fframweithiau eu hunain wedi'u hysgrifennu mewn iaith sy'n anodd iawn ei deall, ac mae gwir angen i rywun arall eu prawf-ddarllen. Mae enghreifftiau o gamgymeriadau sylfaenol yn cynnwys diagram lliw wedi'i argraffu mewn du a gwyn, a chyfeiriadau at adrannau nad ydynt i'w cael yn y fframweithiau. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau ar y fframweithiau cyffredin ac unrhyw effaith bosibl y maent yn ei chael ar y setliad datganoli? Oherwydd, ar hyn o bryd, rwy'n credu bod yna ddiffyg tryloywder ac atebolrwydd o hyd a llawer gormod o gymhlethdod mewn perthynas â fframweithiau cyffredin. Diolch yn fawr.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei gyflwyniad buddiol o sylwadau pwyllgorau’r Senedd ar ddogfennau’r cytundebau fframwaith. O dan y protocol rhwng y pedair Llywodraeth ar gyfer sylwadau seneddau ar y cytundebau fframwaith, ni allaf, ar hyn o bryd, fynd i fanylder am argymhellion unigol. Bydd aelodau'r pwyllgor yn deall hynny. Rhaid aros tan y bydd Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi ailddechrau a than y cawn sylwadau Gweinidogion Gogledd Iwerddon, a fydd yn digwydd cyn bo hir, gobeithio. Er hynny, gallaf sôn am egwyddorion bras rhai o'r pynciau yn adroddiad y pwyllgor.

Mae'r fframweithiau cyffredin yn darparu enghreifftiau sy'n dangos bod gweithio rhynglywodraethol da yn bosibl, ac y gellir rheoli cydlyniant ac ymwahanu drwy gydweithio a deialog adeiladol. Rwy'n credu bod y pwyntiau hynny wedi'u gwneud gan yr holl siaradwyr heddiw, ac yn fy marn i, er gwaethaf y llwyddiannau hyn, mae angen defnyddio'r mecanweithiau y mae'r rhaglen fframweithiau'n eu darparu ar gyfer ymgysylltu cynnar yn fwy cyson.

Rwyf wedi pwysleisio dro ar ôl tro yng nghyfarfodydd y pwyllgor rhyngweinidogol y dylid atgyfnerthu'r pwynt hwn yn gadarnhaol i gyd-Aelodau ar lefel weinidogol ac ar lefel yr ysgrifennydd parhaol. Er enghraifft, rydym wedi profi problemau yn y gorffennol ar benderfyniadau ffiniol lle na ddefnyddiwyd y fframweithiau perthnasol, yn ogystal â diffyg ymgynghori wrth gyhoeddi, er enghraifft, y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) ar y pryd. Roedd cysyniad y fframweithiau cyffredin yn rhan hanfodol o'r Senedd yn rhoi cydsyniad i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 Llywodraeth y DU, yn seiliedig ar y cytundeb rhynglywodraethol cysylltiedig, ac mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd y fframweithiau cyffredin unwaith eto.

Felly, yn ogystal, bydd fy swyddogion yn monitro'r defnydd o'r broses eithriadau o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac mae'n hanfodol fod unrhyw geisiadau i eithrio yn cael eu hystyried a'u rheoli'n briodol mewn modd amserol a thryloyw. Mae angen eglurder ynghylch yr hyn sy'n cael ei ystyried, pa benderfyniadau sy'n cael eu gwneud, ar bob cam o'r broses. Bydd Aelodau'r Senedd yn ymwybodol o'r anghytundebau diweddar rhwng Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU ar bolisïau y cytunwyd arnynt mewn perthynas â chynllun dychwelyd ernes, gan gynnwys poteli gwydr a gwahardd weips, ac os caf, rwyf am ddarllen y sylwadau yn y llythyr a anfonodd y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Gwir Anrhydeddus Thérèse Coffey ar hyn. Fe ddywedodd:

'Dros y chwe mis diwethaf, rwy'n pryderu bod y grŵp rhyngweinidogol, fel elfen graidd o broses y fframweithiau, wedi dirywio, ac yn sylweddol felly. O ran y cynllun dychwelyd ernes, rwyf wedi ysgrifennu atoch ar wahân. Gwnaed datganiadau cryf gan Lywodraeth y DU ynglŷn ag anhawster unrhyw fath o ymwahanu.'

Fe gyfeiriaf efallai at y pwyntiau y mae Mark Isherwood wedi'u gwneud ar ymwahanu. Felly, mae Llywodraeth y DU yn gwneud datganiadau clir ynghylch osgoi ymwahanu rhwng y pedair gwlad, ond yna'n nodi bod yr anawsterau wedi codi o ganlyniad uniongyrchol i Lywodraeth y DU yn penderfynu'n unochrog i ymwahanu o safbwynt cyffredin pedair gwlad ar gwmpas materol y cynllun—un yr ymgynghorwyd arni ac a gytunwyd ar y cyd rhwng Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae'n rhaid i mi ddweud, a dweud y gwir, ei bod yn amhosibl cysoni ymddygiad Llywodraeth y DU yn yr achosion hyn ag egwyddor y fframweithiau cyffredin. Mae defnydd priodol o'r fframweithiau yn hanfodol ar gyfer gweithrediad marchnad fewnol y DU, a'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau cydweithrediad a chydlyniant rheoledig, ac nid yw hyn ond yn bosibl os glynir wrth y mecanweithiau y maent yn darparu ar eu cyfer. Nid pan fo Cymru neu'r Alban yn dewis gwneud rhywbeth gwahanol yn unig y mae ymwahanu'n digwydd, mae'r DU, ar ran Lloegr, hefyd yn ymwahanu wrth benderfynu gwneud rhywbeth yn unochrog. Ymwahanu yw hynny hefyd, ac mae hynny'n amlwg iawn yn ein dealltwriaeth o'r fframweithiau cyffredin a'r ffordd y dylent weithredu.

Mae'r rhaglen fframweithiau'n llwyddiant sylweddol ar lefel weithredol ac mae wedi gwella gweithio rhynglywodraethol, ond rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod mai dim ond mewn awyrgylch o barch cydradd y gall hyn barhau, lle mae pawb yn glynu wrth y cytundeb fframwaith sylfaenol a lofnodwyd yn 2017 ar bob achlysur. Ac efallai, mewn ymateb i sylwadau terfynol Peredur, a Rhys ab Owen yn wir, ar yr UE: efallai mai'r unig beth y gallaf ei wneud yw dyfynnu Nigel Farage, a ddywedodd, 'Mae Brexit wedi methu.' Diolch.

17:35

Diolch yn fawr, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, diolch am yr ateb hwnnw. Rwy'n credu bod y cyfraniadau heddiw wedi dangos sut mae fframweithiau cyffredin, hyd yn oed ar eu ffurf dros dro, yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn llywodraethiant y DU ar ôl Brexit, ac mae angen iddynt weithio a bod yn effeithiol—pwyntiau sydd wedi cael eu nodi gan lawer o Aelodau. Dyna pam fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a phwyllgorau polisi wedi ymgymryd yn ddiwyd â'r gwaith o graffu ar y fframweithiau hyn a datblygu argymhellion manwl ar gyfer eu gwella. Felly, rydym yn gobeithio, wrth wneud penderfyniadau ar fframweithiau terfynol, y caiff yr argymhellion hyn eu hystyried yn ofalus gan Lywodraethau'r DU, ac edrychwn ymlaen at yr ymateb llawn a manwl gan Lywodraeth Cymru maes o law. Yn y cyfamser, bydd pob un o'n pwyllgorau'n parhau i graffu ar weithrediad y fframweithiau hyn.

A gaf fi ddiolch i James Evans, Peredur a chyn-aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Rhys ab Owen, am eu cyfraniadau, ac wrth gwrs, fy nghyd-Gadeirydd Mark Isherwood hefyd? Mae'n dangos ein diwydrwydd wrth wneud y gwaith hwn, a diolch i'r holl bwyllgorau a'u timau am ystyried y fframweithiau cyffredin hyn. Rwy'n gobeithio, Ddirprwy Lywydd, y byddwch chi a nhw—os caf fanteisio ar y cyfle hwn—a hyd yn oed y Cwnsler Cyffredinol, yn cael rhywfaint o seibiant wrth inni fynd i mewn i'r toriad hefyd.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl ar y cyd y Pwyllgor Deisebau a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—Gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Eitem 10 heddiw yw dadl ar y cyd y Pwyllgor Deisebau a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Heddiw, rydym eisiau croesawu nifer o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, sydd wedi dod i wylio'r ddadl hon o'r oriel gyhoeddus. Croeso i chi i gyd. Ac yn eu plith mae llawer sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliadau gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deisebau, drwy rannu eu profiadau uniongyrchol o'r system ofal yma yng Nghymru, a phrofiadau eu teuluoedd a'u ffrindiau. A gaf fi ddiolch i chi i gyd am y cyfraniad hwnnw? Gobeithio y clywch chi eich lleisiau yn cael eu hadlewyrchu yn y cyfraniadau heddiw yn y ddadl.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i wneud y cynnig. Jayne Bryant.

17:40

Cynnig NDM8327 Jayne Bryant, Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ‘Cefnogi rhieni sydd wedi bod mewn gofal’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 02 Mawrth 2023 ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ‘Os nad nawr, pryd? Diwygio radical ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae heddiw yn ddiwrnod pan fo dau ddarn hanfodol o waith am blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn dod at ei gilydd. Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau eu hadroddiad, 'Cefnogi rhieni sydd wedi bod mewn gofal'. Mae eu hymchwiliad nhw a'n hymchwiliad ni yn rhyng-gysylltiedig. Rydym wedi siarad â rhai o'r un rhieni sydd â phrofiad o fod mewn gofal a rhanddeiliaid; rydym wedi archwilio rhai o'r un themâu megis trawma, gobaith ac uchelgais, ac rydym wedi dod i gasgliadau tebyg am rai materion. Felly, rwy'n falch iawn o siarad ochr yn ochr â Chadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant, yn y ddadl ar y cyd heddiw, ac rwy'n diolch i'r Llywydd a'r Dirprwy Weinidog am eu cefnogaeth i sicrhau bod y ddadl hon yn mynd rhagddi. Diolch. Rwyf wrth fy modd fod cymaint o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gweithwyr proffesiynol ac academyddion yn ymuno â ni yn yr orielau cyhoeddus. Rydym yn falch iawn eich bod yn gallu ymuno â ni. Diolch.

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi llywio'r gwaith hwn yn llwyr. Nhw yw ein rhanddeiliaid pwysicaf. Roedd yr hyn a ddywedasant wrthym wrth wraidd popeth a ysgrifennwyd gennym yn ein hadroddiad. Felly, gadewch imi ddweud hyn yn hollol glir: pan fyddwn yn trafod ein hadroddiad heddiw, rydym yn trafod faint o uchelgais sydd gennym ar eu rhan, rydym yn trafod a yw diwygio radical yn golygu rhywbeth mewn gwirionedd, ac a fydd pethau, y tro hwn, yn newid i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Oherwydd pan wnaethom siarad â phobl â phrofiad o fod mewn gofal, clywsom sinigiaeth ynglŷn ag a fyddai'r hyn roeddem ni ac eraill yn ei wneud yn newid unrhyw beth mewn gwirionedd. A fyddem yn gwneud rhywbeth i helpu y tro hwn? A fyddem yn set arall o oedolion a fyddai'n anghofio am y plant a'r bobl ifanc y gwnaethom eu cyfarfod? A fyddem yn troi ein cefnau ar bobl â phrofiad o fod mewn gofal, y mae llawer ohonynt yn wynebu mwy o adfyd yn eu plentyndod nag y dylai unrhyw un ei wynebu drwy gydol eu hoes? A dywedaf wrthych heddiw na fydd ein pwyllgor byth yn eich anghofio chi a'r pethau a ddywedoch chi wrthym.

Ar 24 Mai, fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad, yn nodi sut rydym yn credu y dylid diwygio gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal mewn modd radical. Wrth wraidd yr adroddiad, ceir casgliad cythryblus: mae rhianta corfforaethol fel y caiff ei ddeall yng Nghymru ar hyn o bryd yn siomi gormod o blant. Mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod llawer o bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael profiadau cadarnhaol yn y system ofal, ond yn anffodus, i lawer, nid yw hynny'n wir. Mae gormod o lawer yn cael eu pasio rhwng gweithwyr cymdeithasol, proffesiwn sy'n amlwg â gormod o waith a heb ddigon o adnoddau. Mae llawer gormod yn cael eu symud yn aml rhwng lleoliadau ac ysgolion, yn methu dod o hyd i rywle i ymgartrefu a'i alw'n gartref, ac yn ei chael hi'n anodd adeiladu rhwydwaith cymorth o'u cwmpas. Mae gormod o lawer yn cael cymorth iechyd meddwl gwael, neu ddim cefnogaeth o gwbl, i ddod i delerau â'r trawma y maent wedi'i brofi. Ceir llawer gormod nad ydynt yn gwneud cystal ag y gallent ei wneud yn yr ysgol, neu nad ydynt yn mynd i brifysgol neu goleg. Mae gormod yn ddigartref. Mae gormod o lawer wedi cael eu plant eu hunain wedi'u tynnu oddi arnynt, sy'n dystiolaeth ddirdynnol a phoenus o fethiant rhieni corfforaethol. Dylai unrhyw un sy'n honni bod y wladwriaeth yn gwneud ei gwaith rhianta corfforaethol yn dda ystyried a fyddent yn hapus i'r system honno ofalu am eu plentyn eu hunain.

Mae ein hadroddiad yn galw am 12 diwygiad radical. Mae'r rhain yn newidiadau mawr, uchelgeisiol i ail-lunio'r system yn sylfaenol o blaid pobl â phrofiad o fod mewn gofal. Er mwyn gweithredu'r diwygiadau radical hynny, a gwelliannau pwysig eraill, mae ein hadroddiad yn gwneud cyfanswm o 27 o argymhellion. Ac fel pwyllgor trawsbleidiol o'r Senedd, nid oes gennym ddiddordeb pleidiol o gwbl mewn cyflwyno unrhyw ddarlun penodol o'r system ofal. Felly, nid yw'n rhoi unrhyw bleser i mi ddweud bod fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor a minnau'n siomedig gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, ac fe wnaf amlinellu'r rhesymau pam mewn eiliad.

Ond cyn i mi wneud hynny, mae hefyd yn bwysig cydnabod cynnydd. Rydym yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am ei hymrwymiad i ymyrraeth gynnar. Clywsom ganmoliaeth wych i brosiectau fel gwasanaeth Babi a Fi Barnardo's a Phrosiect Undod y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, sy'n amlwg yn cael effaith wirioneddol ar fywydau teuluoedd sydd ar ffiniau gofal. Rwy'n gwybod y bydd Jack Sargeant yn trafod y materion hyn yn fanylach mewn eiliad. Rydym hefyd yn falch o weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r cynllun datrys problemau mewn llysoedd y credwn fod ganddo botensial i wneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd ar ffiniau gofal.

Ac mae'n galonogol iawn fod Llywodraeth Cymru yn barod i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i archwilio'r posibilrwydd o greu cofrestr genedlaethol o ofalwyr maeth cydnabyddedig a chymeradwy. Bydd y gofrestr yn helpu i greu gwell darlun o gapasiti maethu ledled Cymru, yn gwella trefniadau diogelu plant ac yn dyrchafu statws gofalwyr maeth. Ac rydym yn croesawu parodrwydd Llywodraeth Cymru i ystyried diwygiadau i ddeddfwriaeth tai a digartrefedd. 

Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio heddiw ar ein hargymhellion sydd â'r potensial mwyaf i sicrhau newid i gynifer o blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal â phosibl. Mae ein hadroddiad yn galw am ddeddfwriaeth i leihau llwythi achosion gweithwyr cymdeithasol. Rydym yn deall nad gosod un cap ar lwyth achosion gweithwyr cymdeithasol yw'r dull cywir, felly rydym yn argymell model deddfwriaethol lle byddai awdurdodau lleol yn cymryd camau i gyfrifo a chynnal nifer diogel o lwythi achosion ar gyfer gweithwyr cymdeithasol plant. Ac rydym yn argymell ymarfer cynllunio digonolrwydd y gweithlu cynhwysfawr i fwydo i mewn i'r ddeddfwriaeth honno, er mwyn sicrhau bod gennym y gweithwyr cymdeithasol sydd eu hangen arnom. 

Roedd profiadau pobl ifanc o weithwyr cymdeithasol yn dangos bod llawer o weithwyr cymdeithasol yn ei chael hi'n anodd darparu gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n seiliedig ar berthnasoedd. Cadarnhawyd y farn hon gan y dystiolaeth a gawsom gan randdeiliaid eraill hefyd, gan gynnwys cynrychiolwyr gweithwyr cymdeithasol eu hunain ac o'r data cyfyngedig sydd ar gael. Mae gan rai gweithwyr cymdeithasol lwyth achosion o hyd at 50 o deuluoedd. Mae rhai pobl ifanc wedi cael mwy nag 20 o weithwyr cymdeithasol. Mae tua hanner yr holl dimau gofal cymdeithasol yn weithwyr asiantaeth, ac mae cannoedd o swyddi gweithwyr cymdeithasol plant ledled y wlad yn wag yn barhaol. Meddyliwch am effaith yr holl ansefydlogrwydd hwnnw ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, a meddyliwch am ansefydlogrwydd hynny i gyd yn y gweithlu gofal cymdeithasol. Roedd cynrychiolwyr llywodraeth leol yn glir iawn mai'r argyfwng staffio sy'n wynebu gofal cymdeithasol plant yw'r un peth pwysicaf y gallwn fynd i'r afael ag ef i sicrhau y gallwn gyflawni diwygio radical.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhellion hyn. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd gwaith parhaus diweddar dan arweiniad Gofal Cymdeithasol Cymru ac eraill yn mynd i'r afael â'r materion hollbwysig hyn. Ac fe wnaethom ystyried y darnau hyn o waith wrth inni gasglu tystiolaeth. Daethom i'r casgliad, er eu bod yn werthfawr, nad oeddent am effeithio ar raddfa'r newid y mae gweithwyr cymdeithasol a phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn ei haeddu. Felly, a all y Dirprwy Weinidog gadarnhau a yw hi'n credu, a sut mae hi'n credu y bydd y gwaith presennol a nodir yn ei hymateb i'n hadroddiad yn cyflawni'r newid sylfaenol hwnnw yng ngwaith cymdeithasol plant y mae pobl ifanc a gweithwyr cymdeithasol yn galw amdano?

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein galwadau, a galwadau llawer o rai eraill, i Lywodraeth Cymru lobïo Llywodraeth y DU i wneud 'profiad o fod mewn gofal' yn nodwedd warchodedig. Ac mae wedi gwrthod ein galwadau i nodi cyfrifoldebau rhianta corfforaethol mewn deddfwriaeth, gan osod dyletswyddau penodol iawn ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac eraill i gydweithio a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Ymhlith pethau eraill, byddai'r dyletswyddau rhianta corfforaethol hyn yn rhoi hawl gyfreithiol i bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal gael cymorth iechyd meddwl therapiwtig arbenigol. Byddent yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i hyrwyddo addysg ôl-16 i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.

Dywedodd ymateb Llywodraeth Cymru y bydd ei siarter rhianta corfforaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dileu'r stigma a brofir gan lawer o bobl â phrofiad o fod mewn gofal, ac yn gwella'r gwasanaethau y mae plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn eu derbyn gan gyrff cyhoeddus yn sylweddol. Bydd Llywodraeth Cymru yn annog cyrff i lofnodi'r siarter yn wirfoddol, a bydd y siarter yn cael ei hategu gan ganllawiau ychwanegol yng nghod ymarfer Rhan 6. Fodd bynnag, dyma'r un cod ymarfer ag y clywsom, dro ar ôl tro drwy gydol ein hymchwiliad, gan bron pawb y gwnaethom siarad â nhw, nad yw'n cael ei ddilyn yn briodol. A pha sicrwydd y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i gael y bydd y siarter rhianta corfforaethol gwirfoddol, sydd wedi'i seilio ar ganllawiau nad yw cyrff cyhoeddus yn eu dilyn yn gyson eisoes, yn diwygio profiad plant, pobl ifanc a theuluoedd o'r system ofal yn radical?

Lywydd, mae cymaint mwy y gallwn ei ofyn. Mae cymaint mwy rydym yn awyddus i'w egluro, felly, heddiw, rydym wedi gwahodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Weinidog i ddod i'r pwyllgor ar ddechrau'r hydref i drafod ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ymhellach, ac rydym yn gobeithio y byddant yn ei fynychu. Ond am y tro, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau cyd-Aelodau ar draws y Siambr. Diolch.

17:50

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n fraint cael diolch i chi, ar ran Pwyllgor Deisebau'r Senedd, am y cyfle i gyflwyno ein hadroddiad y prynhawn yma, 'Cefnogi rhieni sydd wedi bod mewn gofal'. Fel y clywsoch eisoes gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Jayne Bryant, mae hon yn rhan o ddadl ehangach ynglŷn â sut rydym yn cefnogi ac yn gofalu am rai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Ategaf ddymuniadau da Jayne Bryant i'r Llywydd ac i'r Gweinidog am gytuno i gynnal y ddadl hon ar y cyd, ond a gaf fi hefyd ganmol arweinyddiaeth Jayne Bryant a'i phwyllgor, a'r timau clercio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau a'r pwyllgor plant a phobl ifanc, am wireddu hyn?

Tua awr yn ôl, Ddirprwy Lywydd, cefais y fraint o gyfarfod â rhai o'r bobl ifanc a'u gwylio'n cymryd rhan yn y sesiwn adrodd, lle roedd timau clercio'r ddau bwyllgor yn mynd drwy'r adroddiad yn fanwl, ac roedd gweld pa mor ymrwymedig oedd y bobl ifanc hynny yn ysbrydoli'n fawr. Os edrychwn tuag at yr oriel gyhoeddus nawr, ar brynhawn Mercher am bron i chwech o'r gloch, Ddirprwy Lywydd, mae mwy o bobl ifanc yn y rhan fach honno o'r oriel gyhoeddus nag sydd o Aelodau yn y Siambr. Dyma beth mae'r gwaith hwn yn ei olygu i'r bobl ifanc, ac rwy'n diolch yn fawr iddynt am eu cefnogaeth yn ein hymchwiliad.

Dechreuodd ein hymchwiliad gyda deiseb gan Nicola Jones, gofalwr maeth a oedd yn poeni am y canlyniadau i bobl ifanc sy'n dod yn rhieni tra'u bod yng ngofal yr awdurdod lleol, neu ar ôl gadael gofal yn ddiweddar. Mae'r ddeiseb yn galw am brosesau casglu data gwell er mwyn llywio gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd i rieni sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'u plant. Fel pwyllgor, roeddem eisiau dysgu mwy am brofiadau pobl ifanc. Fel y dywedais, roeddem yn hynod ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd, i bawb a roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad, ond yn enwedig y bobl ifanc hynny, y 25 rhiant â phrofiad o fod mewn gofal, a rannodd brofiadau personol iawn, a braidd yn boenus yn aml, gyda'r pwyllgor, ac fe wnaethant hynny er mwyn atal eraill rhag mynd drwy brofiadau tebyg. Mae'n ganmoladwy, Ddirprwy Lywydd.

Un person ifanc—. Gadewch imi roi'r enghraifft hon i chi, Ddirprwy Lywydd. Soniodd un person ifanc mewn tystiolaeth i'n pwyllgor am ei phrofiad o roi genedigaeth. Gadewch i mi ddyfynnu'r hyn a ddywedodd.

'Cefais driniaeth ofnadwy yn yr ysbyty. Roeddwn yn teimlo'n debycach i droseddwr na mam newydd, i fod yn onest gyda chi, roeddwn yn amlwg yn cael fy meirniadu.'

Wel, nid yw hynny'n dderbyniol. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn haeddu gofal caredig a thosturiol o safon.

Yn bryderus, mae ymchwil yn dangos bod pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn aml wedi eu gorgynrychioli mewn achosion gofal ac amddiffyn plant. Cawsom dystiolaeth gan Dr Louise Roberts o Brifysgol Caerdydd. Canfu ei hymchwil dystiolaeth bryderus yn ymwneud â chanlyniadau a lefelau gwahanu rhieni a phlant. Nododd arolwg ciplun o rieni â phrofiad o fod mewn gofal 258 o rieni, a dangosai fod 26 y cant o blant wedi'u gwahanu oddi wrth y ddau riant biolegol. Roedd yr ymchwil yn tynnu sylw at dystiolaeth o stigma, tystiolaeth o wahaniaethu ac anfantais mewn perthynas ag ymagweddau ac agweddau gweithwyr proffesiynol tuag at rieni â phrofiad o fod mewn gofal, y byddai eu profiad cyn gofal ac mewn gofal yn effeithio ar eu gallu i fod yn rhieni. Nododd fod y rhieni hyn yn cael eu hatgyfeirio'n rheolaidd at wasanaethau plant ar gyfer asesiadau rhianta. Nid dyma'r drefn arferol i bob rhiant ifanc.

Gwnaeth y Pwyllgor Deisebau chwe argymhelliad i Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau i rieni â phrofiad o fod mewn gofal. Derbyniwyd dau ac rydym yn croesawu'r ymrwymiad i sicrhau bod gan bob rhiant â phrofiad o fod mewn gofal ddarpariaeth tai addas. Ond rwy'n rhannu'r rhwystredigaeth na all Llywodraeth Cymru dderbyn yn llawn ac ymrwymo i'n holl argymhellion: ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus fabwysiadu'r siarter arferion da rhianta corfforaethol; sicrhau bod data'n cael ei gasglu fel mater o drefn, lle cychwynnodd y ddeiseb a'r ymchwiliad hwn, o'n hochr ni; parhau â gwasanaethau amlasiantaethol pwysig fel Prosiect Undod; a diweddaru deddfwriaeth i ddarparu cefnogaeth ataliol gofleidiol i rieni â phrofiad o fod mewn gofal.

Ond i gloi, gadewch imi fynd â chi'n ôl, fel bod yr Aelodau'n deall gwir annhegwch y sefyllfa o'n blaenau. Mae'r enghraifft hon wedi aros gyda mi byth ers i ni gael yr ymchwiliad hwn. Dywedodd un rhiant â phrofiad o fod mewn gofal wrthyf am ymweliad gan weithiwr cymdeithasol. Fe ddaeth y gweithiwr cymdeithasol i'w chartref. Gwelodd botel o win heb ei hagor ar y cownter—nid peth anarferol i'w gael. Agorodd y botel honno o win, a oedd wedi bod yno ers misoedd heb ei hagor, a'i harllwys i lawr y sinc. Dywedodd wrth y rhiant â phrofiad o fod mewn gofal, 'Os byddi di'n parhau fel hyn, fe fyddi di'r un fath â dy fam alcoholig yn y pen draw.' Ddirprwy Lywydd, ni fyddai hynny'n digwydd i chi na fi; ni ddylai ddigwydd i rieni sydd â phrofiad o fod mewn gofal ychwaith. Roedd yr unigolyn yn cael ei beirniadu am fod ganddi botel o win yn ei thŷ, ac roedd yr unigolyn yn poeni ei bod yn cael ei beirniadu mewn ffordd annerbyniol. Wel, mae ei phryderon yn gywir: roedd hi'n cael ei beirniadu mewn ffordd annerbyniol.

Weinidog, gwn y byddwch yn anesmwytho wrth glywed yr enghraifft benodol honno, yn union fel y gwnes i, ac fel y gwnaeth y pwyllgor hefyd. Rwy'n eich annog yn eich gwaith, oherwydd gwn fod gennych ymrwymiad hirsefydlog i'r rhai mewn gofal a chefnogi'r rhai mewn gofal, ond pan fyddwch yn gwneud eich gwaith a phan fyddwch yn ymateb i'r ddadl hon, rwy'n eich annog i edrych eto ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, i edrych ar y dystiolaeth y tu ôl i'r argymhellion a wnaethom, a'r un peth gydag adroddiad y pwyllgor plant a phobl ifanc, oherwydd cafodd yr argymhellion hynny eu hadeiladu ar brofiadau rhieni â phrofiad o fod mewn gofal, fel llawer o'r rhai a welwn o'n blaenau heddiw. Ein dyletswydd ni iddynt yw cael hyn yn iawn. Ein dyletswydd ni iddynt yw gwneud popeth a allwn i'w cefnogi, ac rwy'n eich annog i wneud hynny. Diolch yn fawr. [Cymeradwyo.]

17:55

Er gwybodaeth i aelodau yn yr oriel, nid ydym fel arfer yn clapio, rydym yn gadael i'r Aelodau siarad, iawn? [Chwerthin.]

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'n Cadeirydd gwych, Jayne Bryant, a thîm clercio'r pwyllgor plant a phobl ifanc, a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, yn ogystal â Jack Sargeant a'i bwyllgor, am eu hymrwymiad a'u gwaith caled wrth lunio ein hadroddiadau, sy'n tynnu sylw at y newid radical sydd ei angen. Roedd yr angen gwirioneddol i'r pwyllgor hwn gynnal yr ymchwiliad hwn yn deillio o sgyrsiau a gefais gyda chyn aelod o Gyngor Sir Fynwy, sy'n digwydd bod yn fam i mi, ac sydd yma yn yr oriel heddiw, a dynnodd sylw at ba mor hanfodol oedd hi ein bod yn ymgymryd â'r gwaith hwn heddiw, gan nodi diffyg cysondeb mewn gofal sy'n wynebu ein pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal a'r ffaith bod yn rhaid iddynt ail-fyw eu profiadau, dro ar ôl tro, rhywbeth y mae ein tystiolaeth hefyd wedi'i ddangos yn glir. Hoffwn ei chroesawu yma heddiw, wrth gwrs, ond hefyd grŵp o bobl sydd wedi gadael gofal a chynghorwyr personol profiadol o fy rhanbarth, yn ogystal â'r llu o bobl y gallwch eu gweld uwch ein pennau heddiw sydd wedi cyfrannu'n werthfawr at ein hadroddiadau.

Cynhyrchodd yr ymchwiliad hwn lu o emosiynau i bob un ohonom: tristwch, dicter, edmygedd, i enwi rhai. Rwyf fi, fel holl aelodau fy mhwyllgor, yn hynod falch o'n hadroddiad, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod ni i gyd, ar draws y pleidiau, yn teimlo'n hynod o siomedig o ganlyniad i ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwn, i'r pwynt ein bod bron â meddwl y dylai'r Llywodraeth dynnu'r ddadl hon yn ôl heddiw. Fel pwyllgor, rydym wedi gwrando. Mae tystiolaeth gref yn sail i'n hargymhellion. Mae bron yn teimlo fel pe bai'r Llywodraeth heb ddarllen yr adroddiad hyd yn oed.

Mae'r system bresennol wedi torri. Mae newid radical yn gwbl hanfodol, ac mae angen inni ddod â'r loteri cod post mewn perthynas â gofal i ben. Fel arall, mae'n glir fod y Llywodraeth hon yn derbyn—. Er fy mod yn gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn angerddol ynglŷn â hyn yn y gorffennol, mae'r ymateb heddiw yn awgrymu ei bod yn derbyn ei bod yn iawn i rai plant a phobl ifanc syrthio drwy'r rhwyd honno. Mae'r Llywodraeth wedi chwarae'n saff, ac nid yw'n adlewyrchu'r hyn y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud o'r blaen ynglŷn â phlant â phrofiad o fod mewn gofal. Mae ei brwdfrydedd dros ddiwygio wedi bod yn glir yn y gorffennol. Felly, mae'n ddryslyd, Weinidog. Hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog ailystyried ei hymateb yn ei gyfanrwydd heddiw.

Yn ogystal â hyn, ac i ychwanegu at y dryswch, mae maniffesto arweinyddiaeth y Prif Weinidog ei hun yn amlinellu bod angen diwygio radical ar gyfer plant â phrofiad o fod mewn gofal, felly ni all fod yn hapus gyda'r ymateb ar ôl dangos cymaint o ymrwymiad personol iddo. Ac fel y mae ein Cadeirydd newydd ei ddweud, mae ein pwyllgor bellach wedi gofyn am sesiwn graffu frys gyda'r Dirprwy Weinidog, hyd yn oed y Prif Weinidog efallai, ochr yn ochr â'n comisiynydd plant a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, sydd, yn fy marn i, yn gwbl angenrheidiol, o ystyried y sefyllfa unigryw hon rydym ynddi heddiw lle mae'r Llywodraeth, yn y bôn, wedi gwrthod 22 o'r 24 argymhelliad. Nid wyf erioed wedi gweld hyn yn ystod fy holl amser yma yn y Cynulliad, sydd bellach yn Senedd. Mae hyn yn taflu amheuon ar holl bwynt strwythurau pwyllgorau a chraffu o fewn y Senedd.

Gan symud at yr adroddiad ei hun, roedd argymhellion 1 a 2 yn ceisio cyflwyno lefelau gweithio diogel i weithwyr cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru eu hunain wedi gosod cynsail ar gyfer hyn drwy gyflwyno Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, felly gallwch fod yn sicr fy mod wedi cael sioc ac mewn dryswch wrth weld bod y Gweinidog wedi gwrthod yr argymhellion hyn, oherwydd ar un llaw, rydych yn dweud eich bod eisiau newid y naratif i broffesiynoli gwaith cymdeithasol, ond ar y llaw arall, rydych yn gwrthod polisi a fyddai'n rhoi'r rheini yn y lleoliadau hyn ar sail gyfartal â gweithwyr iechyd eraill. Er nad yw niferoedd achosion yn hawdd eu meintioli, gydag achosion yn amrywio o ran cymhlethdod, rwy'n erfyn ar y Llywodraeth i adolygu lefelau achosion er mwyn creu system o ddiogelwch i weithwyr.

Wrth symud ymlaen, rwy'n siomedig o weld bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 6, sy'n galw am fwy o gasglu data yn y sector hwn. Gwn y bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r dystiolaeth ysgubol a nodir yn yr adroddiad, sy'n dangos nad yw'r system bresennol yn addas i'r diben. O'ch swyddfeydd Llywodraeth, i ffwrdd o realiti, efallai eich bod yn credu bod y data sydd eisoes ar gael yn ddigonol, ond i'r arbenigwyr a'r rhanddeiliaid uwch ein pennau sy'n gweithio yn y maes nawr, mae'r darlun yn wahanol iawn. Er enghraifft, nododd adborth gan un o'n plant â phrofiad o fod mewn gofal fod y galw yn fwy na'r ddarpariaeth mewn perthynas â chynllun ardderchog Pan Fydda i'n Barod. Yn syml, mae angen mwy o ddata arnom i ddarganfod beth sy'n gweithio a beth sydd ei angen.

Rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth yn cydnabod y gwaith anhygoel a wnaed gan Babi a Fi Barnardo's yng Nghasnewydd ac yn fy rhanbarth i. Mae'n annirnadwy i mi na fydd cynllun o'r fath, y mae'r Dirprwy Weinidog ei hun wedi cyfaddef ei fod yn dangos tystiolaeth gref o ganlyniadau cadarnhaol, yn cael cyllid hirdymor. Mae cynlluniau fel hyn yn senario lle mae'r holl randdeiliaid ar eu hennill, ac rwy'n credu'n gryf fod yn rhaid i'r Llywodraeth ystyried o ddifrif diogelu cyllid i'r cynlluniau hyn ar gyfer y dyfodol. Weinidog, fe wnaethoch chi egluro y bydd yna adolygiad, ac rwy'n croesawu hyn, ond Weinidog, er mwyn sicrhau tryloywder a sefydlogrwydd i'r sector, rwy'n credu bod angen i'r adolygiad hwn gael ei adrodd yn ôl i'r pwyllgor, ac mae angen inni weld amserlenni. Yn rhychwantu cyfran fawr o'r ymchwiliad—

18:00

Iawn. Mae hynny braidd yn wael. Weinidog, nid yw gweithredoedd eich Llywodraeth—

Arhoswch eiliad. Fe wnaethoch sylw nad wyf am ei dderbyn. Dyrennir amser i chi. Rydych wedi mynd dros yr amser hwnnw. Mae gennym lawer o bobl sydd am siarad yn y ddadl hon, a gofynnaf ichi gadw at eich amser.

Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, nid yw gweithredoedd eich Llywodraeth yn y sector hwn ond yn system cynnal bywyd ar gyfer sector sy’n methu. Yng ngeiriau ingol y plant â phrofiad o fod mewn gofal y cyfarfu’r pwyllgor â nhw i gasglu tystiolaeth, 'Beth yw’r pwynt? Ni fydd unrhyw beth yn newid’, sy’n rhywbeth i’w ystyried, o gofio beth oedd eich ymateb i’r argymhellion hyn. Nid oes unrhyw beth wedi’i argymell. Nid ydych wedi argymell unrhyw newid radical. Weinidog, os nad nawr, pryd?

'Siomedig'. Rydym yn defnyddio’r gair yna'n aml iawn yn y Siambr hon wrth drafod datblygiadau neu ymatebion, ac rŷn ni'n ei orddefnyddio fe, efallai, ond siomedig yw’r unig fodd o ddisgrifio ymateb y Llywodraeth i’r adroddiad yma ar ddiwygiadau radical ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Roeddwn i'n hynod falch o fod yn aelod o’r pwyllgor tra roedden ni'n cynnal yr ymchwiliad yma, ac hoffwn ddiolch i’r tîm ymchwil gwych a’r tîm clercio gwych, a’m cyd-Aelodau am eu gwaith. Fe fydd y dystiolaeth a glywsom ni gan rai o'n dinasyddion ifanc mwyaf bregus, nifer ohonyn nhw gyda ni heddiw, sydd wedi cael y dechrau mwyaf anodd i’w bywydau, yn aros gyda fi wastad, ac roedd lleisiau’r bobl ifanc yma wrth galon ein gwaith, ac wrth galon ein hargymhellion.

Mae ein hadroddiad yn mynegi lefel yr uchelgais y mae’r bobl yma sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn ei haeddu, ac maen nhw, does gen i ddim amheuaeth, hefyd yn hynod siomedig gydag ymateb y Llywodraeth. Mewn ymateb i ymrwymiad y Llywodraeth yn ei rhaglen lywodraethol nhw eu hunain i ystyried diwygio gwasanaethau gofal i blant a phobl ifanc mewn modd radical a'u cymryd wrth eu gair, penderfynon ni, fel pwyllgor, y byddai'r ymchwiliad yma yn un dwfn, yn un treiddgar a fyddai'n cynnig argymhellion nad oedd yn hawdd eu derbyn—nid mân newidiadau fyddai'n gwella ryw ychydig ar ambell i beth, ond 12 diwygiad radical, wedi eu seilio yn gadarn ar dystiolaeth a data y buom am fisoedd yn eu casglu a'u hystyried. Ac o'r 12 argymhelliad a oedd yn cyflwyno'r newidiadau radical, derbyniwyd un—un. Drwy fethu â derbyn ein hargymhellion fel hyn, gall y Llywodraeth ddim honni am eiliad ei bod am gyflawni diwygiadau radical.

Yn adroddiad blynyddol y Llywodraeth a drafodwyd gennym yma ddoe, mae'r Llywodraeth yn sôn eu bod wedi cynnal yr uwchgynhadledd gyntaf ar ddiwygio'r system ofal a oedd yn rhoi pobl ifanc â phrofiad o ofal wrth wraidd y broses. O ganlyniad i hyn, dywed yr adroddiad, llofnododd y Prif Weinidog a'r llysgenhadon ifanc ddatganiad ar y cyd gan amlinellu gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau wedi’u gweddnewid i blant. Ydy'r llofnod yna werth unrhyw beth? Byddwn i'n dadlau nad yw e.

Cyhoeddwyd siarter rhianta corfforaethol i gyflawni'r datganiad y mis diwethaf—siarter wirfoddol, fel y clywon ni gan Jayne Bryant. Uwchgynhadled, datganiad, siarter—popeth yn iawn—ond a yw hyn yn arwyddo gweithredu radical? Yr hyn sydd angen yw cofleidio syniadau uchelgeisiol—gweithredu nid geiriau. Ni fydd geiriau yn arwain at unrhyw newid ystyrlon i fywydau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal: y rhai sy'n gorfod bygwth niweidio eu hunain cyn cael sylw gweithwyr cymdeithasol am fod llwythi gwaith y gweithwyr hynny mor fawr; y plant sy'n teimlo nad oes ganddynt unrhyw lais wrth i benderfyniadau cael eu gwneud am eu bywydau; y plant sy'n mynd ar goll o'r system am nad oes prosesau cadarn mewn lle.

Mae gen i rai cwestiynau penodol ar hynny. Clywon ni yn ystod ein hymchwiliad gan Gymdeithas y Plant a NYAS Cymru bod angen cysoni y modd y mae asiantaethau a gwasanaethau yn ymateb i achosion o bobl ifanc a phlant sy'n mynd ar goll o ofal. Ar hyn o bryd does dim gofyn statudol i gynnal cyfweliad dychwelyd adre i ddeall a dysgu pam yr aeth y plentyn neu bobl ifanc ar goll a pha gefnogaeth allai helpu osgoi hynny yn y dyfodol. Yn eu hymateb, mae'r Llywodraeth yn sôn bod ymchwil a gomisiynwyd yn Rhagfyr 2022 yn dangos bod creu gofyniad statudol i hyn ddigwydd yn gyfyngedig. Felly, hoffwn wybod, Weinidog, beth yn union yw disgwyliadau Llywodraeth Cymru gan randdeiliaid sy’n ymwneud ag ymateb i achosion o blant yn mynd ar goll o ofal? Sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod dull cyson o ymateb yn cael ei roi ar waith ledled Cymru? A phryd fydd adroddiad o'r gwaith ymchwil yma yn cael ei gyhoeddi? 

Clywsom ni dystiolaeth rymus, bryderus a thorcalonnus bod gweithwyr cymdeithasol dan gymaint o bwysau weithiau eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd meithrin perthynas dda â phlant a theuluoedd, ac wedyn bod llawer o bobl ddim yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Roedd gennym argymhellion uchelgeisiol a oedd yn ceisio datrys hyn—rŷn ni wedi clywed amdanyn nhw. Yn eu hymateb, mae'r Llywodraeth yn nodi ystod eang o waith yn cael ei wneud i wella'r amodau gwaith, yr hyfforddiant, yr opsiynau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol. Felly, pam mae'r realiti yn dweud stori wahanol?

Teitl ein hadroddiad yw 'Os nad nawr, pryd?' Mae'n gwestiwn rwy'n gobeithio eich bod yn ddwys ystyried. Dylai fod yn gwestiwn sy'n eich cadw chi'n effro gyda'r nos. Bydd lleisiau y bobl ifanc yma sydd yn cael eu gadael i lawr ar hyn o bryd yn fy nghadw i'n effro. Mae ein hadroddiad ni yn adlewyrchu realiti'r system ofal heddiw, realiti y plant a phobl ifanc sy'n byw yn y system honno a'r rhai sy'n gweithio yn y system honno—

18:05

Un frawddeg: y realiti yw, Ddirprwy Weinidog, nad yw eich Llywodraeth chi'n ddigon beiddgar, yn ddigon dewr, yn ddigon uchelgeisiol, ac efallai ddim yn ddigon abl i gyflawni diwygio radical. Rwy'n erfyn arnoch chi i ailfeddwl eich ymateb.

Diolch i’r pwyllgor, i Jayne Bryant, i Jack Sargeant, ond yn bwysicach fyth i’r rheini sydd yn yr oriel heddiw—i’r bobl ifanc a’u gofalwyr a’r rheini sy’n eu cefnogi. Mae’r pwyllgor hwn o ddifrif wedi dod â’r hyn a glywais yn fyw: na ddylai fod unrhyw newid amdanom ni hebom ni. Fe wnaethoch chi fodelu hynny drwy eich ymgysylltiad. Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog, gan y gwn eich bod wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ifanc a phlant yn cael y gofal gorau posibl, a dyna pam fy mod mor ddigalon pan ddarllenais eich ymateb i’r adroddiad hwn. Fe wnaethoch chi dderbyn 10 y cant o’r argymhellion. Rwyf wedi edrych yn ôl ar bwyllgorau eraill—68 y cant wedi’u derbyn yn yr adroddiad deintyddiaeth, 67 y cant wedi’u derbyn yn yr adroddiad diwylliant, 48 y cant wedi’u derbyn yn yr adroddiad iechyd meddwl, ac yn y blaen. Mae derbyn cyn lleied yn gywilyddus. Mae'n ddrwg gennyf, ond mae'n rhoi neges glir—wel, neges—nad oes a wnelo hyn ag uchelgais a diwygio radical.

Rwy'n cytuno â chi ynglŷn â rhai pethau, sef nad wyf yn cefnogi’r argymhelliad ynghylch pwysoli llwythi gwaith. Roeddwn yn weithiwr cymdeithasol am 27 mlynedd, ac am flwyddyn o hynny, roeddwn yn gweithio mewn system bwysoli llwythi gwaith. Roedd yn golygu ein bod yn canolbwyntio gymaint ar yr ochr weinyddol; mae angen inni ganolbwyntio ar y plentyn yma. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom yw mwy o uchelgais o ran sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn cael y cymorth cywir, fod ganddynt theori sy'n seiliedig ar ymarfer, yn seiliedig ar dystiolaeth, eu bod yn cael eu goruchwylio'n dda, ei fod yn therapi systemig, a bod gennym ymarfer myfyriol. I mi, nid yw pwysoli llwythi gwaith, rhoi terfynau ar lwythi gwaith, yn gweithio, ac ni fydd yn gweithio.

Rwy'n falch o weld gwasanaethau i gefnogi rhieni â phrofiad o fod mewn gofal, eiriolaeth ac asesiadau rhianta yn cael eu derbyn. Rwy'n falch iawn o weld y Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn cael ei dderbyn. Rwyf wedi gweithio gyda’r Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol, ac mae'n gweithio. Ac rwy'n falch iawn o weld yr adolygiad o leoliadau heb eu cofrestru a heb eu rheoleiddio. Felly, diolch am hynny. Ond mae cymaint yno rwyf mor siomedig yn ei gylch. Ac mewn gwirionedd, mae’r peth mawr rwy'n siomedig yn ei gylch yn ymwneud â rhoi llais sydd wedi'i gofnodi mewn darpariaeth statudol i blant a phobl ifanc, y gwelir llawer ohonynt yma heddiw.

Gadewch imi sôn am rai o'r rhain yn gyflym iawn. Eiriolaeth i fod yn gyfan gwbl o fewn ein fframwaith statudol. Rydych yn dweud y dylem gael strategaeth optio i mewn; gadewch imi ddweud wrthych sut beth yw strategaeth optio i mewn i blentyn pan fyddwch yn mynd â nhw i leoliad newydd. Rwyf wedi gwneud hynny droeon, yn anffodus. Mae plentyn, unigolyn ifanc, dan straen aruthrol, maent yn drist, maent wedi cynhyrfu, maent yn ddryslyd, ac yna rydych yn dweud wrthynt, 'A gallwch optio i mewn i'r broses eiriolaeth hon.' Nid yw'n gweithio fel strategaeth o gwbl. Mae angen ichi sicrhau bod hynny'n ofyniad statudol. Gallai’r unigolyn hwnnw fynd yn ôl a gofyn, 'A fyddech yn hoffi eiriolaeth?’, y diwrnod canlynol, yr wythnos ganlynol, y mis canlynol. Mae'n rhaid iddo fod yno. Mae hynny mor bwysig.

Hoffwn sôn am gyfweliadau dychwelyd adref ar ôl bod ar goll. Rwyf wedi gweithio yn y system honno, rwyf wedi gweithio yn unol â’r gofyniad statudol fod plant yn cael eu cyfweld. Mae'n gweithio. Gall ddigwydd, unwaith eto, y diwrnod canlynol, yr wythnos ganlynol, pan fydd y plentyn yn barod. Ond os yw'n ofyniad cyfreithiol, mae'n rhaid iddo ddigwydd. Mae hynny’n diogelu’r plentyn.

Ac yn olaf, hoffwn sôn am yr un sy'n peri cryn dipyn o ofid i mi, sef eich bod wedi gwrthod y cyfle i wneud profiad o fod mewn gofal yn nodwedd warchodedig. Mae gennym nodweddion gwarchodedig fel menywod, Weinidog, ac eto rydych yn gwadu hynny i’n pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, y mae llawer ohonynt yn wynebu gwahaniaethu mewn addysg, mewn cyfleoedd, mewn cyflogaeth. Byddai rhoi’r nodwedd warchodedig honno mor fuddiol iddynt. Mae gan lawer ohonom yma y nodwedd warchodedig honno. Rwyf o ddifrif am ichi ystyried hynny. Byddai hynny, i Gymru, yn ein rhoi ar y map. Weinidog, mae cymaint yn digwydd yng Nghymru i'n pobl ifanc y bûm mor falch o'i ddathlu—y cynllun peilot incwm sylfaenol, tynnu elw allan o ofal—ond eto, mae gennyf gymaint o gywilydd fod yr argymhellion hyn y credaf eu bod mor bwysig wedi cael eu gwrthod. Rwy'n adleisio'r hyn y mae pawb arall yn ei ddweud: os nad nawr, pryd? Diolch yn fawr iawn.

18:10

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan ac a fydd yn cymryd rhan yn y ddadl ar y cyd bwysig hon heddiw, ac rwy'n cymeradwyo'r rhai sydd wedi rhoi tystiolaeth ac sydd wedi siarad am eu profiadau o’r system ofal yng Nghymru. Mae’r ddau adroddiad heddiw’n gynhwysfawr ac yn dangos cymaint o waith sydd angen ei wneud o hyd i helpu i ddiogelu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Wrth fynd i’r afael â’r adroddiad ar gefnogi rhieni sydd wedi bod mewn gofal, mae’n hollbwysig ein bod yn cydnabod mater ymyrraeth gan y wladwriaeth sy’n pontio’r cenedlaethau. Mae’r ffaith bod 46 y cant o rieni sy’n rhoi eu plant i gael eu mabwysiadu yn bobl sydd wedi gadael gofal eu hunain yn arwydd clir fod diffygion sylweddol yn y profiad y mae'r rhai sy’n gadael gofal yn ei gael, sy’n parhau’r ymyrraeth barhaus hon gan y wladwriaeth. Ni allaf wneud sylw ar y seicoleg pam fod hyn yn digwydd, ond ymddengys bod angen gwell cysylltiad rhwng y rheini sydd â dealltwriaeth o ymddygiadau tebygol pobl sy’n agored i niwed ac sy’n aml yn dioddef trawma, a’r rheini sy’n gyfrifol am ddarparu’r gofal a brofir ganddynt. Yr hyn rwy’n ei olygu wrth hynny yw ei bod yn debygol fod yna sbardunau seicolegol a chyfuniad tebyg o brofiadau sy'n achosi’r ymyrraeth hon gan y wladwriaeth sy’n pontio’r cenedlaethau, heb i unrhyw un sylwi.

Bydd y rheini yn y Siambr yn gwybod fy mod wedi sôn am fy mhryderon ynglŷn â hyn o’r blaen, ond rwy’n bryderus iawn y gallai treial incwm sylfaenol cyffredinol Llywodraeth Cymru fod yn un o’r sbardunau hynny. Gwn na fydd llawer sy’n cefnogi’r treial yn cytuno, ond credaf y gallai rhoi £1,600 y mis i bobl sy’n gadael gofal am ddwy flynedd achosi ymdeimlad ffug o ddiogelwch i bobl sy’n gadael gofal. Gwyddom fod 25 y cant o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn rhieni pan fyddant yn gadael gofal, ac mae hyn yn codi i 50 y cant ar ôl dwy flynedd. Rwy’n poeni, pan fydd yr arian hwn yn dod i ben ar ddiwedd y treial, y gallai llawer iawn ohonynt fod mewn sefyllfaoedd ariannol anos byth. Mae’r ddau adroddiad sydd ger ein bron wedi dangos bod pobl sy’n gadael gofal yn wynebu trawma na fydd llawer ohonom byth yn ei brofi, ac os wyf yn onest, ni chredaf y dylai treial incwm sylfaenol cyffredinol Llywodraeth Cymru erioed fod wedi’i brofi ar grŵp mor agored i niwed. Os canfyddir bod y treial wedi cael effeithiau negyddol ar eu bywydau, rhywbeth y credaf y gallai’n hawdd fod wedi’i wneud, ni fyddai unrhyw iawndal na chymorth yn cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru.

Roeddwn yn falch o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 22, ac argymhelliad 23 yn rhannol, o adroddiad 'Os nad nawr, pryd?', gan ei bod yn amlwg i mi fod angen cymorth sylweddol ar bobl sy’n gadael gofal am gyfnod hwy o lawer nag y darperir ar ei gyfer ar hyn o bryd. Fe fyddaf yn onest, ni chredaf y byddwn wedi bod yn barod i adael cartref yn 18 oed pe na bawn wedi cael cefnogaeth barhaus fy rhieni hyd at y brifysgol a thu hwnt. Rhwng 18 oed a’n 20au cynnar, mae arnom angen cryn dipyn o arweiniad gan ein rhieni o hyd i’n helpu i wneud y dewisiadau cywir a’n harwain drwy fywyd, ac mae’n iawn ein bod yn darparu ar gyfer hyn yn achos pobl sy’n gadael gofal.

Dangosodd adroddiad ‘Ready or not’ Ofsted y llynedd fod mwy na thraean o'r rhai sy’n gadael gofal yn credu eu bod wedi gadael gofal yn rhy gynnar, heb fawr ddim i’w paratoi ar gyfer yr hyn a oedd yn aros amdanynt y tu allan i’r system ofal. Dangosodd yr adroddiad hefyd fod llawer o bobl sy’n gadael gofal heb fod yn ymwybodol o’u hawliau, heb gael fawr o hyfforddiant sut i reoli arian, ac mai ychydig iawn o ran a gawsant mewn unrhyw gynlluniau a wnaed ar eu cyfer, ac o ganlyniad, roeddent yn teimlo’n ynysig ac yn unig. Felly, cefais fy synnu, wrth ddarllen yr adroddiadau, nad oedd unrhyw sôn am unigrwydd yn y naill na’r llall. Credaf fod hyn yn drueni, gan y credaf ei bod yn debygol fod hynny’n un o’r sbardunau a allai fod yn peri i’r nifer uchel o bobl sy’n gadael gofal i gael plant cyn eu bod yn gadael gofal.

Gwyddom y gall pobl deimlo’n unig, hyd yn oed os oes ganddynt gylchoedd cymdeithasol mawr a rhyngweithiol, a’r rheswm am hyn yw bod unigrwydd yn cael ei achosi pan fydd pobl yn prosesu’r byd yn idiosyncratig, hynny yw, fel set unigryw o brofiadau sy’n benodol iddynt hwy, ac ni allant ddod o hyd i bobl eraill sy'n gallu uniaethu â'u profiadau a'u hamgylchiadau. Byddwn yn dadlau bod angen inni wneud llawer mwy i wella profiadau pobl sy’n gadael gofal ar wahanol gamau o’u gofal er mwyn atal y teimladau hyn o unigrwydd ac ynysigrwydd rhag cydio, fel y gallwn wella eu canlyniadau, ac y dylem fod wedi cydnabod amser maith yn ôl fod angen mwy o ofal, mwy o arweiniad a mwy o gefnogaeth ar y bobl agored i niwed hyn am lawer mwy o amser os ydynt am dorri’r cylch o ymyrraeth gan y wladwriaeth sy’n pontio’r cenedlaethau. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

18:15

Yn gyntaf, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor, Jayne Bryant, ac Aelodau eraill o’n pwyllgor, ac i’r pwyllgor arall sydd wedi cyflwyno hyn heddiw, am yr holl waith y maent wedi’i wneud ar hyn, ac i’r tîm clercio hefyd, am eu holl gymorth. Yn bwysicaf oll, credaf mai'r bobl i ddiolch iddynt yw'r arbenigwyr a'r bobl ifanc a gyfrannodd at yr ymchwiliad, gan eu bod wedi rhoi siâp i'r adroddiad hwn. Nid ni fel Aelodau a roddodd siâp iddo; chi wnaeth hynny. Rydych yn bobl anhygoel—yn bobl hollol anhygoel—a dyna pam ein bod wedi cyflwyno’r adroddiad hwn, fel y gallwn newid y ffordd y mae’r system yn gweithio yma yng Nghymru i helpu plant â phrofiad o fod mewn gofal, wrth symud ymlaen. Cyn inni edrych ar yr adroddiad, mae’n debyg fy mod yn ddall braidd i’r pethau a oedd yn digwydd. Euthum ar ymweliadau gyda’r pwyllgor i Lynebwy, a chymryd tystiolaeth, ac nid oeddwn yn deall lefel y gwahaniaethu y mae pobl yn ei wynebu, y barnu y mae plant â phrofiad o fod mewn gofal yn ei wynebu a’r stigma a ddaw yn ei sgil. Rwy’n cydnabod hynny, a dyna pam ein bod wedi llunio’r diwygiadau radical hyn i newid y system ofal yng Nghymru. Gwn ei bod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth, ond nid yw'r ymateb yn rhoi'r argraff ei bod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth.

Amlygodd ein hadroddiad lawer o feysydd lle roeddem yn credu y gallem newid y system. Rhan allweddol a oedd yn wirioneddol bwysig yn fy marn i oedd deddfu ar lwythi achosion gweithwyr cymdeithasol, er mwyn sicrhau ein bod yn amddiffyn ein staff gofal cymdeithasol, oherwydd os na wnawn amddiffyn ein gweithwyr cymdeithasol a’n staff, ni allwn weithredu’r system sydd ei hangen arnom i gefnogi’r bobl ifanc hynny ledled Cymru. Unwaith eto, gwrthodwyd yr argymhelliad hwnnw.

Un elfen o’r diwygiadau radical a oedd yn wirioneddol allweddol i mi oedd yr hawl statudol i ofal therapiwtig sy’n ystyriol o drawma, y gofal cofleidiol hwnnw i blant â phrofiad o fod mewn gofal, i sicrhau y gallant gael y cymorth iechyd meddwl y byddant ei angen mewn modd amserol, gan y gwyddom fod y plant hyn yn wynebu elfennau eithafol yn eu hiechyd meddwl, ac mae angen iddynt gael y gofal hwnnw cyn gynted ag y gallant er mwyn sicrhau nad yw’r problemau hyn yn gwaethygu. Roedd hynny’n rhan allweddol o’r adroddiad hwn, ac, unwaith eto, gwrthododd y Llywodraeth yr argymhelliad hwnnw.

18:20

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

James, a gaf fi egluro na wnaethom wrthod yr argymhelliad hwnnw? Fe’i derbyniwyd yn rhannol am ein bod yn llwyr gydnabod bod angen inni wneud mwy i gefnogi pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal mewn ffordd therapiwtig, ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i hynny. Y ddeddfwriaeth y galwyd amdani oedd yr hyn nad oeddem yn meddwl bod ei hangen. Felly, ni wnaethom ei wrthod, ac rwy'n dweud wrth yr holl bobl ifanc hynny y byddwn yn darparu’r cymorth therapiwtig hwnnw ar eu cyfer.

Mae'n dda clywed yr ymateb hwnnw gan y Llywodraeth, gan nad oedd yr ymateb a gawsom yn nodi hynny. Felly, mae'n dda, Lynne, eich bod wedi gallu egluro hynny fel Gweinidog y Llywodraeth.

Ond un peth roeddem hefyd yn dymuno ei weld oedd cymorth eiriolaeth yn cael ei roi mewn deddfwriaeth, a gall y Gweinidog wneud ymyriad eto os yw’n dymuno, gan na chafodd hyn ei dderbyn; cafodd hyn ei wrthod. Clywsom o ymateb y Llywodraeth fod rhywbeth ar waith ar gyfer cymorth eiriolaeth, ond fe wnaethom gasglu tystiolaeth gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, gan bobl ifanc a ddywedodd wrthym nad ydynt yn cael y cymorth eiriolaeth hwnnw. Nid yw hyd yn oed yn cael ei gynnig. Felly, mae arnaf ofn fod angen i rywbeth newid, a dyna pam ein bod am ei weld mewn deddfwriaeth. Ond cafodd hynny, unwaith eto, ei wrthod gan y Llywodraeth. Felly, byddwn wrth fy modd yn cael gwybod gan y Dirprwy Weinidog sut y bwriadwch sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt, gan nad yw hynny’n digwydd ar hyn o bryd.

Hoffwn wneud sylw ar yr ymateb cyffredinol gan Lywodraeth Cymru yn yr ychydig amser sydd gennyf ar ôl. Ers imi fod yn y Senedd hon, ni chredaf fy mod erioed wedi gweld adroddiad mor ddiystyriol ac allan o gysylltiad yn dod yn ôl gan y Llywodraeth i bwyllgor, ac fe wnaeth imi deimlo, wrth ddarllen yr adroddiad hwnnw, 'Beth yw pwynt bod yn Aelod o'r Senedd hon pan nad yw'r Llywodraeth yn gwrando ar argymhellion trawsbleidiol a wnaed gan bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yn y sector hwnnw?' Gwnaeth hynny fy siomi’n fawr—pam ein bod ni yma, pan nad ydych yn fodlon gwrando.

Rwyf am orffen nawr gyda’r 30 eiliad sydd gennyf ar ôl. Dywedodd unigolyn ifanc y cawsom dystiolaeth ganddynt wrthyf fi a Buffy Williams fod yr ymarfer ymgysylltu roeddent yn ei wneud yn wastraff amser llwyr. Roeddent wedi bod yma o'r blaen, roeddent wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog, roeddent wedi siarad â'ch swyddogion. Ni ddigwyddodd unrhyw beth. Dywedodd yr unigolyn ifanc hwnnw wrthyf, 'Fe fyddwch yn fy anghofio, fe fyddwch yn anghofio fy enw, fe fyddwch yn anghofio bod hyn erioed wedi digwydd, ac ni fydd unrhyw beth yn newid byth.' A hoffwn ddweud wrth yr unigolyn ifanc hwnnw, ‘Ni fyddaf byth yn dy anghofio, ni fydd y pwyllgor byth yn dy anghofio, a byddi yn ein calonnau cyhyd ag y byddaf yma ac am weddill fy oes, yn ôl pob tebyg, a bydd ein pwyllgor yn gwneud popeth a allwn i sicrhau eich bod yn cael y diwygiadau radical sydd eu hangen arnoch i wneud eich bywydau’n well, yn byw yng Nghymru.' Diolch.

Er y gall y profiad o fod mewn gofal fod yn drawmatig ac amharu ar les llawer, mae'r adroddiadau hyn yn dangos yn glir nad oes rhaid i hynny fod yn wir. Fel y dywedodd James Evans yn eithaf pwerus, mae angen inni fynd i’r afael â’r stigma. Mae angen inni fynd i’r afael â lefel anymarferol ac annynol y llwyth achosion y mae gweithwyr cymdeithasol yn eu hwynebu, a chyflwyno ffyrdd effeithiol o ymdrin â thrawma llawer o bobl ifanc sydd mewn gofal. Gall unrhyw un sydd wedi gweithio gyda phlant agored i niwed dystio i'r camau y mae llawer yn eu cymryd er mwyn cael sylw gweithwyr cymdeithasol sydd dan ormod o bwysau. Mae'r rhain yn cynnwys cyflawni troseddau, hunan-niweidio a cheisio cyflawni hunanladdiad. Fel y dywedodd un unigolyn ifanc, 'Mae'n rhaid ichi sefyll allan i wneud i rywbeth ddigwydd.' Pan fydd bron i 80 y cant o weithwyr cymdeithasol yn poeni na fyddant yn gallu cwblhau eu gwaith o fewn eu horiau contract, a ydym yn synnu mewn gwirionedd nad oes ganddynt amser i adeiladu'r berthynas briodol sydd angen iddynt ei chael ac sydd mor hanfodol rhyngddynt hwy a'r bobl ifanc yn eu gofal? Rwy’n derbyn arbenigedd Jane Dodds yn y mater hwn, a chytunaf â hi mai’r peth olaf sydd ei angen arnom yw tynnu sylw oddi ar y plant a chreu mwy o waith gweinyddol. Serch hynny, mae angen gwneud rhywbeth pan fo mor amlwg fod llawer o broblemau'n codi am fod staff o dan gymaint o bwysau.

Pan oeddwn yn arfer gweithio ym maes cyfiawnder ieuenctid, roeddwn yn teimlo’n euog iawn bob tro y gwelwn unigolyn ifanc mewn gofal o flaen y llys. Roeddwn yn aml yn dweud ei fod oddeutu 1:4; yn 2021, y ffigur oedd 21 y cant yng Nghymru. Maent hefyd yn llawer mwy tebygol o fod yn ad-droseddwyr yn y system cyfiawnder ieuenctid, ac yna, yn nes ymlaen, yn y system cyfiawnder troseddol oedolion. Mae gan Gymru nifer uchel o blant mewn gofal. Os caiff plant eu rhoi mewn gofal, mae'n ddyletswydd arnom i’w cefnogi. Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud cam â'n plant. Rydym yn creu niwed aruthrol a fydd yn cael ei deimlo am genedlaethau i ddod.

Mae yna ffyrdd eraill. Mae’r dystiolaeth o gynllun peilot y Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn addawol iawn, gyda chynlluniau peilot eraill ledled y byd yn dangos bod y llysoedd hyn yn gwella’r tebygolrwydd y bydd teulu’n cadw eu plant ac yn rhoi’r gorau i gamddefnyddio sylweddau. Roedd y dystiolaeth anecdotaidd yn y cynllun peilot fel pe bai’n dangos bod mwy o ymdeimlad o ymddiriedaeth yn cael ei feithrin rhwng teuluoedd a’u hawdurdodau lleol, ac mae synnwyr cyffredin yn dweud hynny. Os ydych yn trin pobl â pharch, caredigrwydd a dealltwriaeth, byddant yn cael canlyniadau llawer gwell nag os ydych yn eu stigmateiddio, eu hamharchu a'u hanwybyddu. Fodd bynnag, unwaith eto, rydym yn wynebu problem fawr diffyg data penodol am Gymru. Mae hyn yn cael ei godi dro ar ôl tro yn y lle hwn. Heb y data priodol, ni allwn wneud gwaith cynllunio a llunio polisi priodol. Fel yr amlygodd Laura Anne Jones, mae hyn yn warthus. Mae cymaint o fwlch yn y data ar gyfraddau troseddu, camddefnyddio sylweddau, iechyd emosiynol ac ymddygiadol, a chanlyniadau iechyd a datblygiad i bobl ifanc mewn gofal—rheswm cryf arall dros ddatganoli cyfiawnder, ond nid wyf am fynd ar hyd y llwybr hwnnw heddiw.

Yn olaf, mae’n destun pryder fod cynnydd wedi bod yn nifer y gorchmynion amddifadu o ryddid a roddir i bobl ifanc mewn gofal, yn enwedig y rheini mewn llety anaddas. Un rheswm y gwelais pam fod hyn yn digwydd yw i geisio cadw'r plant yn lleol. Wel, yn sicr, dylai'r awdurdodau lleol allu cynnig llety cofrestredig, wedi'i reoleiddio i amddiffyn pobl agored i niwed heb orfod eu hamddifadu o ryddid—nid dyna'r ffordd i gadw pobl yn lleol. Mae'r adroddiadau hyn yn ddigalon, ond nid ydynt yn syndod. Rydym wedi gwybod am y materion hyn ers degawdau. Mae Llywodraeth Cymru, y Prif Weinidog wedi gwybod am y materion hyn ac wedi siarad amdanynt ers blynyddoedd lawer.

'Siomedig' yw'r gair, fel dywedodd Sioned Williams.

Os yw’r Llywodraeth am gael rhaglen ddiwygio wirioneddol radical, mae’r adroddiadau hyn yn lle perffaith i ddechrau. Diolch yn fawr.

18:25

Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy’n ddiolchgar am waith Jayne Bryant a Jack Sargeant, aelodau a staff y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Deisebau, ar lunio’r adroddiad diddorol hwn. Fel y gwn, mae'r materion hyn wedi’u gwreiddio’n ddwfn ac mae angen llawer o amser a sylw i wneud cyfiawnder â nhw. Ac nid wyf yn aelod o'r naill bwyllgor na'r llall, ond rwyf yn dilyn y meysydd pwnc hyn gyda chryn ddiddordeb, felly rwy'n monitro’r trafodion. Fel y dywedaf, rwyf mor ddiolchgar am y gwaith a wnaed, ac i'r aelodau o'r cyhoedd sydd wedi dod i fonitro ein trafodion yma y prynhawn yma.

Rwy’n bwriadu cadw fy sylwadau’n weddol gryno y prynhawn yma, ac nid wyf yma i ailadrodd yr hyn a ddywedwyd eisoes, ac rydym wedi trafod llawer o bethau. Ond hoffwn ganolbwyntio’n benodol ar wasanaethau plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru, os caf, ac fel llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar wasanaethau cymdeithasol yn y Senedd, rwyf wedi mynegi fy mhryderon yn rheolaidd, ar sawl lefel, ynghylch cael gwared ar wasanaethau er elw ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, sef 80 y cant o’r ddarpariaeth i blant sy’n derbyn gofal ledled Cymru ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei fod yn syniad ideolegol yn erbyn y sector sy’n anwybodus ac yn gul, yn seiliedig ar ideoleg Llywodraeth Lafur Cymru ac Aelodau Plaid Cymru drwy’r cytundeb cydweithio, ac mae llawer o berchnogion busnesau ledled Cymru wedi cysylltu â mi hefyd i ddweud eu bod yn bryderus iawn am yr ideoleg hon, a’r diffyg strategaeth ac ymgynghori gan Lywodraeth Cymru.

Fel y disgrifiwyd, mae perchnogion busnesau’n poeni'n ofnadwy am eu dyfodol, ac nid ydynt yn cael gwybod am linell amser na llwybrau i gyflawni'r polisi hwn. Ni ellir ond dychmygu'r gofid a'r straen y mae hyn yn ei roi ar berchnogion busnesau, yn ogystal â gorfod ymdopi â natur anodd a heriol y gwaith o ofalu am rai o'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. A'r hyn sy'n bwysig i'w gofio yw’r gwahaniaeth rhwng gwneud elw a gorelwa. Ac yn yr amser rwyf wedi'i dreulio yn ymwneud â’r portffolio hwn, nid wyf wedi gweld fawr o dystiolaeth o unrhyw orelwa'n digwydd ar unrhyw lefel, sydd wedi fy arwain at y casgliad mai fendeta ideolegol yw hon yn erbyn y sector. Mae’r perchnogion busnesau y siaradais â nhw’n gweithredu ar elw bach iawn, a dylai unrhyw un wybod, er mwyn i fusnesau allu gweithredu, fod yn rhaid gwneud elw er mwyn ariannu gwasanaethau, gorbenion staff, a chyda biliau ynni’n codi, mae hynny’n lleihau eu helw ymhellach—

18:30

Diolch am yr hyn rydych wedi'i ddweud; wrth gwrs, nid wyf yn cytuno â chi. Ond tybed a ydych chi'n clywed lleisiau rhai pobl ifanc, a ddywedodd, 'Nid ydym eisiau i chi roi pris ar ein pennau'? Ac felly, nid yw'r ddadl hon yn ymwneud â thynnu elw allan o ofal, mae'n ymwneud â chanolbwyntio ar blant sy'n derbyn gofal. Felly, os gwelwch yn dda, gofynnaf ichi gyfyngu eich sylwadau i'r argymhellion yn yr adroddiad. Diolch yn fawr.

Wel, yr hyn sy'n sail i hyn i gyd, Jane—. Rydym wedi siarad am awr am wasanaethau plant a'r plant mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ond ble maent yn derbyn gofal? Mae oddeutu 80 y cant o'r sector, Jane. Felly, mae yna eliffant yn yr ystafell yma, ac mae'n dda rhoi—a thynnu sylw at y pethau sy'n sail i hyn. Realiti'r ffaith yw bod y Prif Weinidog wedi codi yr wythnos diwethaf ac wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei raglen lywodraethu, a soniodd eto am ei awydd i ddiddymu gwasanaethau er elw ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn ystod tymor y Senedd hon. Felly, mae angen bod yn radical iawn ynglŷn â'r hyn y maent yn ei wneud er mwyn gwrthdroi hynny yn y ddwy flynedd a hanner nesaf sydd gennym ar ôl o'r Senedd hon. Nid yw'n amser hir, ac mae'n 80 y cant o'r sector. Felly, mae'r cloc yn tician, ac mae angen atebion ar bobl er mwyn parhau i ddarparu'r gwasanaethau i blant yn y dyfodol.

Felly, rwyf am ddychwelyd at fy sylwadau. Mae biliau ynni cynyddol yn lleihau'r elw posibl ymhellach, mewn sector a reoleiddir yn drwm, sy'n naturiol yn arwain at lawer o gostau canlyniadol. Nid dadl yn erbyn rheoleiddio'r sector yw honno, ond yn hytrach, tynnu sylw at raddfa'r broblem a'r penderfyniad i wrthod gweithredu'r polisi o fewn y sector. Felly, yr hyn y byddwn yn ei werthfawrogi yn ymateb y Gweinidog yn nes ymlaen—wel, nesaf yn y trafodion—yw ymateb yn benodol i'r broblem hon, a chyfeiriad at yr ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gynnal yn y dyfodol gyda'r sector plant sy'n derbyn gofal ar ddiddymu gwasanaethau er elw ar gyfer plant, i fapio'r amserlen ar gyfer gweithredu, a sicrhau cyfathrebu gwell â'r sector. Lle nad yw hyn yn cael ei gefnogi gennyf fi na'r Ceidwadwyr Cymreig—

Rwy'n dirwyn i ben, Heledd, diolch yn fawr.

—o leiaf gall y Llywodraeth fod yn onest ynglŷn â sut mae'n bwriadu mynd ar drywydd yr agenda ideolegol hon. Diolch.

Hoffwn innau hefyd ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o waith y ddau bwyllgor, gan gynnwys, yn gyntaf oll, yr unigolion a'r sefydliadau a roddodd dystiolaeth amhrisiadwy i'n pwyllgorau. Roeddwn yn aelod o'r pwyllgor plant, a gynhaliodd yr ymchwiliad hwn, ac mae'n rhaid imi ddweud bod y pwyllgor wedi gweithio'n anhygoel o dda ar sail drawsbleidiol. Ac anaml iawn rydym yn mynd drwy broses mor heriol o ran yr hyn a glywsom, yr hyn a ddysgasom, a'r hyn a drafodwyd gennym. Ac rwy'n credu bod yr adroddiad a luniwyd gennym o ganlyniad i'n hymchwiliad yn rhywbeth y gallai pob aelod o'r pwyllgor hwnnw gytuno ag ef yn llawn.

Nawr, nid wyf am ailadrodd y dadleuon a gyflwynwyd gan Aelodau eraill heddiw, ond rwy'n falch iawn fod y Dirprwy Weinidog wedi ymateb mor gyflym i gais ein pwyllgor i ymuno â ni ar gyfer sesiwn graffu ar 14 Medi, lle rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu trafod pryderon Aelodau yn fanylach, a chlywed ymateb y Llywodraeth i'n hargymhellion eto yn fanylach. Mae o leiaf dair o'r pleidiau sy'n cael eu cynrychioli yn ein Senedd o blaid cael gwared ar elw o'r system ofal, ond byddwn yn dadlau na ddylai hyn fod yn ganolbwynt i ddiwygio radical. Rhaid i ddiwygio radical arwain at ganlyniadau gwell i bobl ifanc â phrofiad o ofal, ac yn y pen draw, caiff radicaliaeth y pecyn o gynigion a gyflwynir ei farnu'n unig ar sail y graddau y mae'n arwain at orfod derbyn llai o bobl ifanc i ofal. 

Hoffwn wneud un pwynt olaf. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, fel pwyllgor, ein bod yn ystyried hyn fel dechrau proses o geisio herio'n gadarnhaol a dylanwadu'n gadarnhaol ar bolisi Llywodraeth, a gall Gweinidogion fod yn sicr, os yw'r cynigion a gyflwynir yn wirioneddol radical ac os ydynt wedi'u cynllunio i wella cyfleoedd bywyd y bobl ifanc a gynrychiolir yma mor dda heddiw, yna gallant fod yn sicr o gefnogaeth drawsbleidiol i'r cynigion hynny. 

18:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma a diolch yn fawr iawn i'r Aelodau am eu sylwadau oherwydd rwy'n credu, ar y cyfan, eu bod wedi dangos eu hangerdd a'u pryderon am rai o'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed sydd gennym yng Nghymru. A hoffwn gadarnhau fy mod yn hapus iawn i fynychu'r pwyllgor, ac y byddaf yn hapus iawn i drafod ein hymatebion yn fanylach, a gall fod yn ymgysylltiad parhaus.

Felly, a gaf fi ddweud unwaith eto fy mod yn ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deisebau a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gynnal eu hymchwiliadau, ac yn arbennig i'r holl bobl a roddodd dystiolaeth ar sail eu profiad uniongyrchol? Ac rwy'n gwybod bod llawer ohonoch chi yma yn gwrando yn y Siambr heddiw, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am rannu eich profiadau gyda ni. Felly, diolch.

Rwy'n croesawu adroddiadau'r pwyllgorau, ac mae'r adroddiadau hyn yn rhannu ein huchelgais i drawsnewid gwasanaethau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'r ddau adroddiad yn tynnu sylw at nifer o'r materion allweddol y mae angen inni fynd i'r afael â nhw fel rhan o'n taith drawsnewid. Mae llawer iawn o dir cyffredin rhwng yr hyn y mae'r adroddiadau'n ei ddweud a'n rhaglen drawsnewid ein hunain. Er na fyddwn, efallai, yn gallu bodloni eich holl ddisgwyliadau, yn enwedig o ran yr angen am ddeddfwriaeth, gallaf eich sicrhau ein bod wedi gwrando'n astud ar yr hyn y mae'r ddau bwyllgor wedi'i ddweud, a bydd hyn yn sicr yn llywio ein meddylfryd wrth inni symud ymlaen. Yn yr ymateb, wrth gwrs, fe wnaethom dderbyn 20 o'r argymhellion naill ai'n llawn neu'n rhannol. Yng Nghymru, mae hi bob amser yn well gennym gydweithio a chydweithredu, a dibynnu ar set gyffredin o werthoedd a diben a rennir yn hytrach na deddfwriaeth, ac rwyf eisiau parhau i wneud hynny, gan fy mod yn credu bod angen inni gynnwys pobl o ddifrif, a sicrhau'r canlyniadau gorau. 

Nawr, ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru yw ein bod eisiau cefnogi plant i aros gyda'u teuluoedd, ac rydym eisiau gweld llai o blant a phobl ifanc yn mynd yn rhan o'r system ofal drwy ddarparu'r cymorth cywir ar yr adeg gywir i deuluoedd sy'n mynd drwy gyfnodau anodd. Ac i'r plant hynny sydd mewn gofal, rydym i gyd eisiau iddynt aros yn agos at eu cartrefi fel eu bod yn parhau i fod yn rhan o'u cymuned, yn aros yn eu hysgolion ac yn agos at eu grwpiau o ffrindiau. Rydym eisiau i wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc fod yn lleol, wedi'u cynllunio'n lleol ac yn atebol yn lleol. Ac mae'n rhaid inni roi'r math cywir o ofal ar waith ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc er mwyn diwallu eu hanghenion yn y ffordd orau, ac mae hyn yn golygu ein bod angen gwasanaethau mwy cydgysylltiedig gyda llinellau atebolrwydd clir. Mae'n rhaid inni ddarparu cymorth arbenigol a medrus iawn i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion mwy cymhleth, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn gofalu am y rhai sy'n gofalu am blant.

Yn fwyaf arbennig, mae Llywodraeth Cymru'n gwerthfawrogi gofal gan berthnasau'n fawr, ac mae hwn yn un o'r meysydd rydym yn eu datblygu. Rydym wedi sefydlu grŵp arbenigol ar warcheidiaeth arbennig a fydd yn edrych ar ddatblygu dull gwell a chyson sy'n seiliedig ar anghenion o gefnogi teuluoedd gwarcheidiaeth arbennig ledled Cymru. Yn ogystal, mae Maethu Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gofalwyr maeth sy'n berthnasau yn derbyn yr un gefnogaeth â gofalwyr maeth prif ffrwd, ac mae wedi lansio ei ymrwymiad cenedlaethol, sef pecyn o hyfforddiant, cymorth a gwobrau y cytunwyd arno sydd ar gael yn gyson i bob gofalwr maeth, prif ffrwd neu berthnasau yng Nghymru, drwy bob un o'r 22 asiantaeth faethu awdurdod lleol yng Nghymru. Rydym eisiau i bobl ifanc sy'n gadael gofal fod yn barod i fyw'n annibynnol pan ddaw'n amser i wneud hynny, a chynllunio ar gyfer eu dyfodol, gan gynnwys dechrau cyflogaeth, cael cartref i'w hunain, ac o bosibl, dod yn rhieni eu hunain a pheidio â dioddef y stigma y cyfeiriodd Jack Sargeant ato.

Mae'r rhaglen drawsnewid a ddechreuwyd gan y Llywodraeth i gyflawni'r newid hwn yn glir, ac yn seiliedig ar ein gwaith i gyflawni wyth o ymrwymiadau penodol y rhaglen lywodraethu, a'n 'Cynllun Plant a Phobl Ifanc', a gyhoeddwyd y llynedd. Mae yna fap ffordd clir a chynllun ar gyfer yr ystod eang hon o waith, gyda llawer iawn ohono eisoes ar y gweill, ac mae'n cynnwys datblygu fframwaith ymarfer cenedlaethol a fydd yn nodi sut rydym yn gweithio yng Nghymru mewn ffordd gyson sy'n rhoi plant yn gyntaf i sicrhau'r profiad gorau i'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Ac rwyf eisiau dweud wrthych fod y rhaglen drawsnewid hon—mae llawer o'r gwaith hwn ar y gweill drwy'r Llywodraeth, ac mae llawer o'r pethau rydych wedi cyfeirio atynt yn cael eu gwneud eisoes.

Yn rhan o hyn, rydym yn bwrw ymlaen â'n gwaith ar gael gwared ar elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, fel y trafodwyd yma y prynhawn yma, ac rwy'n falch ein bod yn gwneud hynny. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae plant wedi gofyn inni ei wneud. Mae hyn wedi dod gan blant eu hunain, ac fel y dywedodd Jane Dodds, dyna rydym eisiau gwrando arno—llais y plentyn. Felly, mae hwnnw'n beth radical i'w wneud, ac rydym yn ei wneud—

18:40

Nid oedd cael gwared ar elw o ofal yn rhan o'r pwyllgor hwn, a byddwn wrth fy modd yn clywed eich ymateb i rai o'r materion a godwyd gennym yn y Siambr ynghylch yr argymhellion yn yr adroddiad. Felly, tybed a allech chi ymateb i hynny.

Iawn, byddaf yn dod at hynny. Ond rwy'n credu, Jane, fy mod wedi dweud y byddaf yn dod at y pwyllgor ac yn mynd drwy'r pethau hyn yn fanylach, felly rwy'n credu mai dyna'r peth pwysicaf i'w wneud.

Felly, mae gwaith arall sy'n cael ei wneud yn cynnwys ehangu'r gwasanaeth eiriolaeth rhieni presennol ledled Cymru, y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad, drwy fuddsoddiad ychwanegol, a chyhoeddi'r siarter rhianta corfforaethol fis diwethaf. Nawr, mae'r siarter rhianta corfforaethol wedi'i grybwyll yma sawl gwaith heddiw, ac mae ein siarter rhianta corfforaethol yn pwysleisio bod gan bawb ran weithredol i'w chwarae yn gofalu am ein pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Ac rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth. Byddwn yn ei lansio'n gyhoeddus yn yr hydref a byddwn yn cael pobl, cyrff, sefydliadau i'w llofnodi, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod y siarter rhianta gorfforaethol honno'n cael ei datblygu. Yn ganolog i hyn oll—[Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn unrhyw ymyriadau nawr. Yn ganolog i'r holl waith hwn, ac yn bwysicaf oll, mae lleisiau plant a phobl ifanc.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol—ac mae wedi cael ei grybwyll—o'r uwchgynhadledd gyntaf ar bobl â phrofiad o fod mewn gofal, a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr y llynedd. Gwn fod y digwyddiad hwn wedi cael effaith ar fy nghyd-Weinidogion a oedd yn bresennol. Y datganiad uwchgynhadledd a ddeilliodd ohono yw'r cyntaf o'i fath yn y DU. Cafodd ei lofnodi gan y Prif Weinidog a phedwar o'r llysgenhadon ifanc mewn digwyddiad ar 10 Mai. Drwy lofnodi'r datganiad hwn, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'w gyflawni a'r uchelgais sy'n sail iddo, a chredaf y bydd pawb a fynychodd y digwyddiad ar 10 Mai yn ymwybodol o'r emosiwn a'r gefnogaeth ysgubol a gafodd. Byddwn yn cynnal uwchgynhadledd arall lle byddwn yn cael ein dwyn i gyfrif gan y plant a'r bobl ifanc pan fyddwn yn mynd atynt ac yn dweud wrthynt beth rydym wedi'i wneud. Rydym wedi gwneud yr ymrwymiad hwn. Mae gennym yr wyth cam ymlaen, y byddwn yn eu cyflawni ar gyfer y bobl ifanc, a byddwn yn cael ein dwyn i gyfrif gan y bobl ifanc hynny.

Mae gennym yr uchelgais ac mae gennym yr ysgogiad i gyflawni'r datganiad hwn, ac mae ei fodolaeth wedi denu sylw cenedlaethol at yr uchelgeisiau a osodwyd gennym, a hynny'n briodol. Ond rydym yn gwybod na fydd yn hawdd. Yn amlwg, mae gennym ymholiadau ynghylch pa mor bell y gallwn fynd i wneud yr hyn rydym yn ei ddweud, ac mae pobl yn siarad am gael adolygiadau a gwneud mwy o waith ymchwil a phob math o faterion tebyg, ond rwy'n teimlo'n gryf iawn ein bod yn gwybod beth sydd angen inni ei wneud ac rydym yn mynd i'w wneud. Rydym yn mynd i'w wneud yn rhan o'n hymrwymiad llwyr.

Wrth gwrs, rydym yn deall y bydd heriau mewn perthynas â'r gweithlu ac adnoddau, ac mae'r mater am y gweithlu wedi'i godi mewn pwyntiau heddiw. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn edrych ar heriau'r gweithlu ac yn cynllunio llwybr ymlaen. Fel gweithiwr cymdeithasol fy hun, rwy'n gwybod am y pwysau enfawr ym maes gwaith cymdeithasol, a gwn fod yn rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i helpu'r gweithwyr cymdeithasol, ac rydym yn cynllunio ar gyfer hynny. Mae gennym ddarnau o waith yn cael eu gwneud ar draws y Llywodraeth gyfan. Ond rwy'n croesawu'r ddadl hon, oherwydd mae'n pwysleisio ac yn tynnu sylw at yr holl faterion hynny, ac mae'n cefnogi'r hyn rydym eisiau ei wneud. Rydym eisiau cyflawni, rydym yn ei wneud, ac rydym eisiau cyrraedd sefyllfa lle gallwn gael adborth gan y bobl ifanc.

I gydnabod pwysigrwydd ein gwaith, rydym wedi cryfhau trefniadau llywodraethu i ddarparu cyfeiriad ac ymrwymiad i weithredu newid. Mae'r broses o drawsnewid y grŵp cyflawni ar gyfer plant, a'r bwrdd trosolwg gweinidogol bellach ar waith. Mae'r grŵp cyflawni, y mae ei aelodau yn cynnwys cynrychiolwyr awdurdodau lleol a'r trydydd sector, yn ogystal â phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, yn arwain ac yn llywio'r ddarpariaeth mewn ffordd gydgynhyrchiol. Mae pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn gweithio gyda ni er mwyn cyflawni ein cynlluniau. Mae'r bwrdd trosolwg gweinidogol yn darparu arweiniad a chyfeiriad gwleidyddol ar gyfer y rhaglen. Mae'r bwrdd yn cael ei gyd-gadeirio gan y Prif Weinidog a minnau.

Gwyddom fod llawer o waith caled o'n blaenau, ond rydym yn benderfynol o gyflawni hyn, a bydd adroddiadau'r ddau bwyllgor yn cefnogi ein taith i gyrraedd yno. Gwn ein bod i gyd yn gytûn ein bod ni eisiau'r gorau i'n plant a'n pobl ifanc yng Nghymru—ein plant i gyd, ni waeth beth fo'u cefndiroedd, o ble maent yn dod neu lle maent yn byw. Rydym eisiau i bob un ohonynt gael y profiad gorau posibl o blentyndod y gallwn ei roi iddynt a mynd ymlaen i fyw'r bywydau y maent eisiau eu byw.

Hoffwn gloi drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i hynny. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'n pobl ifanc, ac rydym yn gweithio tuag at roi'r cyfleoedd gorau y gallwn eu rhoi iddynt mewn bywyd. Gwn y bydd llawer o'r bobl ifanc sydd yma a llawer o'r bobl ifanc a roddodd dystiolaeth i'r ddau bwyllgor wedi bod drwy brofiadau dirdynnol. Rwyf wedi gwrando ar lawer o bobl ifanc, ac oherwydd ein bod wedi gwrando ar bobl ifanc rydym wedi ymrwymo'n llwyr yn y Llywodraeth i newid pethau. Gallaf roi fy ymrwymiad i chi heddiw.

18:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei hymrwymiad i fynychu ein pwyllgor mor gyflym ar ôl derbyn y gwahoddiad hwnnw yn gynharach heddiw. Rydym yn ddiolchgar iawn ac rwy'n gwybod y bydd hyn yn digwydd ar ôl y toriad. Clywais ei geiriau y bydd yn ddechrau ar drafodaethau ac y bydd y trafodaethau'n parhau yn dilyn hynny, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn falch iawn o fod yn rhan o hynny.

Rwy'n gwybod nad oes gennyf lawer o amser, Ddirprwy Lywydd, ond roeddwn eisiau dweud ein bod wedi dechrau hyn gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i archwilio diwygio radical, a geiriau Llywodraeth Cymru oedd y rheini, nid ein geiriau ni. Fe wnaethom ddechrau'r ymchwiliad oherwydd nad oeddem yn gwybod beth oedd yr ymrwymiad hwnnw'n ei olygu'n ymarferol. Nid oedd gennym agenda benodol, nac unrhyw reswm dros gyflwyno unrhyw farn benodol na gwneud unrhyw argymhellion penodol, ac rydym hefyd yn gwybod bod gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Weinidog ymrwymiad personol i'r agenda hon.

Ond roeddem yn sicr y byddem yn gwneud un peth yn arbennig—y byddem yn siarad â chymaint o blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ag y gallem a sicrhau bod ein hadroddiad yn ymateb i'r hyn a ddywedasant wrthym. Rwy'n mawr obeithio eu bod yn teimlo ein bod wedi gwneud hynny. Rwy'n sefyll yma heddiw gyda'r parch mwyaf tuag at yr holl bobl â phrofiad o fod mewn gofal a gyfrannodd at ein gwaith. Pan wnaethom siarad â nhw yn ystod ein hymchwiliad, a phan siaradais â nhw yn gynharach heddiw, a phan wyf yn eu gweld yn yr oriel gyhoeddus, rwy'n teimlo dyletswydd enfawr iddynt, oherwydd er gwaethaf popeth y maent wedi bod drwyddo'n unigol ac ar y cyd, er gwaethaf y trawma cynhenid a rennir gan bob plentyn a osodwyd yn y system ofal, er gwaethaf yr holl amseroedd y cawsant eu siomi, eu tanbrisio, eu diystyru, maent wedi dewis rhannu eu straeon gyda ni. Maent wedi dewis gwneud yr hyn y gallant ei wneud i ysgogi newid a gwella pethau. Maent wedi gwneud hynny gan wybod na all unrhyw ddiwygio newid yr hyn y maent hwy wedi bod drwyddo. I'r mwyafrif, gall fod yn rhy hwyr i newid eu profiadau o'r system ofal. Ond maent yn dal i frwydro dros newid, drostynt eu hunain, dros eu teuluoedd, eu ffrindiau, a thros unrhyw blant a phobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â'r system ofal. Rwy'n clywed eu lleisiau, ac rwy'n meddwl amdanynt yn aml, ac rwy'n gwybod bod Aelodau eraill yma yn gwneud hynny hefyd. 

Hoffwn gloi'r ddadl drwy ddiolch i bawb sydd wedi siarad â ni heddiw, a'n tîm clercio ac ymchwil gwych, dan arweiniad Tom Lewis-White a Sian Thomas, sydd wedi bod yn anhygoel drwy gydol ein gwaith. Ac i bawb sydd wedi cyfrannu at ein hymchwiliad, ac i'r plant a'r bobl ifanc yma heddiw, i'r rhai nad oeddent yn gallu dod, ac i bawb arall sydd â phrofiad o'r system ofal, p'un a ydynt wedi cyfrannu at ein gwaith ai peidio, nid dyma'r diwedd; efallai nad ydym wedi cyflawni popeth roeddem wedi gobeithio ei gyflawni, ond fel pwyllgor byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i bwyso am y diwygio radical rydych chi'n ei haeddu. Dim ond y dechrau yw hyn. Diolch yn fawr.

18:50

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiadau'r pwyllgorau? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl Plaid Cymru: Ystâd y Goron

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.

Cynnig NDM8326 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Ystâd y Goron, ar lefel y DU, wedi cofnodi elw refeniw net o £442.6m yn y flwyddyn ariannol 2022-23; a

b) bod gwerth asedau Ystâd y Goron yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd £603 miliwn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2021.

2. Yn credu y gellid gwireddu nodau sero-net Cymru yn fwy effeithiol pe bai ganddi reolaeth lawn dros ei hadnoddau.

3. Yn galw am ddatganoli pwerau dros reoli Ystâd y Goron a'i hasedau yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Cymru'n genedl sy'n llawn potensial, yn enwedig o ran ein hadnoddau naturiol—y llanw a'r gwynt, yr ynni sy'n gynhenid yn ein tir a'n dyfroedd. Ond mae cymaint o'r cyfoeth hwnnw'n cael ei dynnu oddi wrthym. Nid yw o fudd i'r bobl sy'n byw yn ein gwlad, ond yn hytrach mae'n cael ei ddefnyddio'n anuniongyrchol i leinio coffrau'r Brenin, i ychwanegu mwy fyth o gyfoeth at arian y Trysorlys filltiroedd lawer i ffwrdd yn Llundain. Fel y dengys ffigurau'r wythnos diwethaf i ni, mae'r cyfoeth hwnnw wedi cynyddu i lefel uwch nag erioed o elw refeniw net o bron i £433 miliwn ar draws y DU. Gwyddys bod gwerth asedau Ystâd y Goron yng Nghymru wedi cyrraedd mwy na £600 miliwn erbyn diwedd 2021—y symiau enfawr hyn o gyfoeth sydd wedi'u cloi rhagom.

Mae stori Dick Whittington yn sôn sut mae strydoedd Llundain i fod wedi'u palmantu ag aur. Yn y stori, mae'r cymeriad yn canfod bod y palmentydd yn llwyd a budr, ond ymddengys bod y syniad hwnnw'n fwy na throsiad bellach, oherwydd nid oes rhaid i bopeth sy'n aur ddisgleirio yn yr haul; weithiau, gall ei ddisgleirdeb fod yn guddiedig, wedi'i guddio mewn daeargelloedd o dan y palmentydd. Mae'r cyfoeth sy'n dod o'r tir o dan ein traed, o'n tir ni, yn cael ei dynnu o'r haul, yn cael ei dynnu o dan ein trwynau heb inni sylwi hyd yn oed.

Yn nyddiau glo, yr aur du a rwygwyd o'r ddaear o dan ein traed, byddem o leiaf yn gweld y wageni glo yn mynd i lawr y Cymoedd ac yn diflannu i'r dociau, ond nawr, nid ydym hyd yn oed yn gweld y cyfoeth wrth iddo ein gadael. Oherwydd mae'r stori hon am ein tir yn cael ei ddefnyddio i gyfoethogi eraill wrth i ninnau barhau i fyw mewn tlodi yn stori gyfarwydd i Gymru. Dyma yw stori pob tref a phentref yn ein Cymoedd sydd bellach yn cael eu galw'n 'ôl-ddiwydiannol', ac wedi'u diffinio gan yr hyn yr arferem fod, gan yr hyn a gymerwyd oddi wrthym, yn hytrach na'r hyn y gallwn fod. A dyna yw hanfod y ddadl hon—mae'n ymwneud â chynnig cyfle arall i'n cymunedau elwa o'r diwedd o'r tir sy'n eiddo i ni, a thir sy'n perthyn i'n dyfodol ni.

Mae yna hen ddywediad sy'n dweud nad ydym yn etifeddu'r ddaear gan ein hynafiaid, rydym yn ei benthyg gan ein plant—gwaddol sy'n cysylltu ein gorffennol â'r hyn sydd i ddod, os caniateir iddo ddod.

Fel y soniodd Gerallt Lloyd Owen yn ei gerdd 'Etifeddiaeth', 

'Cawsom wlad i'w chadw, / darn o dir yn dyst / ein bod wedi mynnu byw.'

Darn o dir sy'n dyst i'n hymdrechion, ein dyfalbarhad, ein gobeithion a'n huchelgais.

Ni ellir edrych ar y tir hwn yn oeraidd. Ni allwn ond ei weld drwy brism hectarau neu gynefinoedd, er mor hanfodol yw'r metrigau hynny. Ond mae tir Cymru yn rhan o'n treftadaeth ni hefyd. Fel y dywedodd R.S. Thomas, bardd y tir a Iago Prytherch:

'Dyma ei fyd, mae'r gwrych yn diffinio / Terfynau'r meddwl; dim ond yr awyr / Heb ffiniau'—

ond—

'Mae ei olwg yn ddwfn yn y pridd tywyll'.

Ein hetifeddiaeth, o'r de diwydiannol i rannau o gefn gwlad Cymru a'r holl dir sydd yn y canol, ein hased ni ydyw, ein tystiolaeth o'n hanes, o'n goroesiad, ac ni allwch edrych arno'n oeraidd.

Yn y cyd-destun hwnnw, gadewch inni edrych ar rai o'r metrigau hynny: 65 y cant o'n blaendraethau a'n gwelyau afonydd llanw, y mwyafrif o'n dyfroedd tiriogaethol, dros 50,000 erw o dir comin, gan gynnwys dyddodion mwynau—mae hynny i gyd yn cael ei ddosbarthu'n gyfreithiol fel eiddo etifeddol brenhinoedd Prydain hyd dragwyddoldeb. Mae'r cyfoeth a gynrychiolir gan yr adnoddau hynny yn enfawr. Fel y dywedais eisoes, roedd yn werth dros £600 miliwn yn 2020-21. Ond elfen fwyaf creulon y nonsens cyfansoddiadol hwn, lle nad oes ceiniog o'r elw hwnnw'n aros yng Nghymru, yw'r ffordd y mae'n cyfyngu ar ein potensial ac yn rhwystro ein gallu i gronni math arall o gyfoeth—cyfoeth gwyrdd, a ddylai fod o fewn ein gafael, ond sydd, yn hytrach, yn cael ei ddal yn bryfoclyd o'n cyrraedd.

Mae ymchwil Ystâd y Goron ei hun wedi dangos y gallai'r môr Celtaidd ddarparu 20 GW ychwanegol o gapasiti gwynt arnofiol ar y môr erbyn 2045, a allai ddod â £20 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf uniongyrchol i'n marchnad ddomestig. Ond yn dilyn hynny, gallai marchnad allforio fyd-eang agor, a allai fod yn werth £500 biliwn erbyn 2050. Rwyf wedi sôn am hyn o'r blaen yn y Siambr, Lywydd, oherwydd mae angen inni gadw ein traed ar y ddaear yn y ddadl—mae'n ddadl am y ddaear, wedi'r cyfan. Llofnodwyd y siec gyntaf gwerth £1 filiwn yn hanes y byd yn nociau Caerdydd ac ni wariwyd ceiniog o'r elw hwnnw yn y Cymoedd lle bu'r glowyr yn llafurio ac yn marw o'r llwch a adawyd yn ei sgil. Trodd yr holl aur du yn llwch.

A nawr dyma ni, yn sôn am y potensial ar gyfer cannoedd o filiynau o bunnoedd, ond waeth iddo fod yn llwch i ni, oherwydd fel mae pethau, mater i Lywodraeth y DU ac Ystâd y Goron yw sicrhau bod Cymru'n elwa o'r datblygiad mewn technoleg drwy annog datblygwyr i ddefnyddio cwmnïau wedi'u lleoli yng Nghymru—cadwyni cyflenwi lleol sydd eisoes wedi'u heithrio rhag budd ynni gwynt ar y môr confensiynol, wrth i waith cynhyrchu a gosod mawr gael ei wneud dramor. Pell o'r golwg, pell o'r meddwl—yn union fel yr elw o'r siec honno a adawodd y glannau hyn yr eiliad y cafodd ei chlirio.

Gydag Ystâd y Goron wedi'i datganoli i Gymru, byddai'n darparu'r potensial ar gyfer miloedd o swyddi; byddai'n ein galluogi i helpu ein cymunedau. Ond byddai hefyd yn rhoi cyfle inni gyfoethogi cenedlaethau'r dyfodol drwy ddefnyddio'r refeniw o'r asedau hyn i sefydlu cronfa gyfoeth i Gymru a ysbrydolwyd gan gronfeydd tebyg yn Norwy, ond wedi'i hadeiladu gydag elw ynni adnewyddadwy ac nid olew—aur nad yw wedi'i orchuddio â huddygl a llwch ein gorffennol, na'i staenio gan yr olew sy'n tagu ein presennol; aur na fydd yn palmantu strydoedd gwlad arall mewn cyfoeth, ond aur a fydd yn cael ei fuddsoddi yn y dyfodol a rannwn. Math o aur sy'n disgleirio gan yr addewid o obaith. Oherwydd rwy'n dod yn ôl at y syniad hwn, Lywydd, fod y gofod rydym yn byw ynddo, y tir rydym yn geidwaid arno er mwyn ein dyfodol, i bob pwrpas yn cael ei gadw dan glo oddi wrthym.

Mae'n sobreiddiol meddwl, pe baem yn ceisio harneisio potensial y tir hwnnw heb ganiatâd San Steffan na'r Goron, y byddem yn tresmasu—yn droseddwyr yn ein gwlad ein hunain, yn torri cyfraith nad yw'n cynrychioli natur na synnwyr cyffredin, llinell anweledig sy'n plotio ac yn tracio'r milltiroedd hyn, yr erwau hyn, ac yn eu gosod dan awdurdodaeth tir arall, gan herio daearyddiaeth a llinachau. Byddem yn tresmasu. Ond pwy sy'n dioddef y tresmasu mwyaf, y pechod mwyaf, o ystyried y bydd y bil yn cael ei dalu gan genedlaethau sydd eto i gael eu geni, ac o gofio bod y ddyled rydym yn ei chronni ar eu rhan yn cynyddu bob dydd?

Siaradais yn gynharach am Dick Whittington a'r palmentydd wedi'u leinio ag aur. Rwyf wedi sôn am aur du y glowyr yn troi'n llwch yn eu gyddfau. Mae yna gyfeiriad arall yr hoffwn ei wneud i gloi, cyfeiriad arall at gyfoeth euraidd dan draed, gyda gwers foesol efallai. Yn 'He wishes for the Cloths of Heaven', mae Yeats yn sôn am aur ac arian, am sut yr hoffai ledaenu holl gyfoeth y byd o dan draed yr un y mae'n ei charu. Mae'n dweud,

'A minnau'n dlawd, dim ond fy mreuddwydion sydd gennyf', 

ac felly mae'n lledaenu'r breuddwydion hynny o dan ei thraed, gan erfyn arni i droedio'n dyner arnynt. Efallai ein bod ni'n debyg i Yeats; gan ein bod ni'n dlawd, ni allwn ond breuddwydio am elwa o gyfoeth o'r fath o dan ein traed, ac ni allwn ond breuddwydio am ddyfodol o'r fath. Nid sidanau'r nef a droediwn, ond sidanau'r ddaear; y ddaear sy'n eiddo i ni, y ddaear sy'n perthyn i'n dyfodol. Ni ddylem orfod breuddwydio am drosglwyddo'r cyfoeth hwnnw iddynt.

Mae heno'n gyfle i ni hawlio'r hyn sy'n eiddo i ni, i ddweud, fel yr Alban, y dylid defnyddio'r elw o'n hadnoddau ein hunain er budd pobl Cymru, nawr a hyd dragwyddoldeb. Mae'n gyfoeth mwy nag unrhyw aur, a dylid ei fuddsoddi yn ein dyfodol.

19:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 1. Janet Finch-Saunders.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu cyfraniad cadarnhaol Ystâd y Goron tuag at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a chynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy drwy sefydlu sector ynni adnewyddadwy ar y môr blaengar.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu ag Ystâd y Goron a rhanddeiliaid eraill i gyflawni ei nodau sero net a chyflawni:

strategaeth hydrogen i Gymru;

cynllun datblygu morol cenedlaethol Cymru;

cynllun adfer carbon glas cenedlaethol i Gymru; a

cefnogaeth i brosiectau hydro ar raddfa fach.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr, Delyth, am agor hynny. Roedd yn farddoniaeth mor hardd, ond ni allaf gytuno â llawer o'r hyn rydych chi wedi'i ddweud. Rydym wedi defnyddio llawer o amser yn y Cyfarfod Llawn yn siarad am ddatganoli Ystâd y Goron. Lywydd, a gaf fi ei gwneud hi'n glir yma fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS, wedi dweud yn glir na fydd unrhyw bwerau pellach yn cael eu datganoli i Gymru? Fel y dywedodd Rishi, nid yw pobl eisiau mwy o ddiwygio cyfansoddiadol a 'thincera cyfansoddiadol'.

Blaid Cymru, mae'n deg dweud eich bod chi fel plaid braidd yn obsesiynol bellach ynghylch datganoli mwy o bwerau, ac Ystâd y Goron yn yr achos hwn. Mae'r ddadl ddiweddaraf hon yn rhan o gyfres o'u galwadau am reolaeth. Nawr, yr hyn sydd gan y Senedd hon i'w ofyn, unwaith eto, yw: a yw'r galwadau hyn am ddiwygio'n rhesymol? Yn bendant iawn, nac ydynt. Nid yw hanner cyntaf y cynnig ond yn dweud rhan o'r stori wrthym. Mae'r elw refeniw net wedi'i gynhyrchu ar gyfer cyllid y genedl. Mae'r cynnydd yn bennaf yn adlewyrchu incwm o ffioedd opsiwn i lofnodi cytundebau prydlesi ar gyfer chwe fferm wynt alltraeth drwy'r rhaglen brydlesu rownd 4 a chadernid refeniw yn ei lwybrau busnes eraill. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Ystâd y Goron wedi cyfrannu £3.2 biliwn er budd cyllid y genedl trwy reoli portffolio sydd wedi dyblu yn ei werth i bron i £16 biliwn.

Mae fy nghyd-Aelod, Siân Gwenllian yn gwybod na allai Llywodraeth Cymru reoli parc busnes Parc Bryn Cegin yn effeithiol, felly pam y byddech chi'n galw ar Lywodraeth Cymru i gael mwy fyth o reolaeth ar hyn? Mae Rhun ap Iorwerth yn gwybod na allai Llywodraeth Cymru reoli pont Menai yn effeithiol, felly pam y byddech chi'n galw arnynt i gael mwy o reolaeth? Ac mae Llyr Gruffydd, fy Aelod rhanbarthol yng Ngogledd Cymru, yn gwybod na allai Llywodraeth Cymru reoli Betsi Cadwaladr—

Na, ddim eto. Os bydd gennyf amser, yn bendant. Os bydd gennyf amser, fe wnaf.

Rydym wedi clywed dadl gynharach am bethau sy'n mynd o'i le yn y system ofal i'n plant. Felly, pam fyddech chi eisiau i Lywodraeth Cymru gael mwy o reolaeth mewn gwirionedd? Diolch i'r ffaith bod Ystâd y Goron yma, wyddoch chi, yn rhyw fath o reoli yng Nghymru, a'r Deyrnas Unedig, mae gennym sector gwynt sy'n mynd i fod yn arwain y byd. Mae Ystâd y Goron wedi addasu ei dull o weithredu i ganolbwyntio ar ddarparu hyd at 4 GW o gapasiti gwynt arnofiol mewn pedwar safle prosiect. Bydd y gwaith hwnnw'n unig yn darparu digon o ynni adnewyddadwy glân i bweru tua 4 miliwn o gartrefi. Felly, mae Cymru'n mynd i fod ar flaen y gad yn y prosiect, gyda'r môr Celtaidd yn gam cyntaf y datblygiad. Felly, yn hytrach na cheisio tanseilio Cymru, maent yn chwarae rhan flaenllaw mewn marchnad ynni adnewyddadwy fyd-eang.

Mae Llywodraeth y DU yn cyfrannu tuag at y llwyddiant hwnnw: cyhoeddwyd £160 miliwn o gyllid newydd ym mis Ebrill ar gyfer prosiectau peilot i adeiladu'r seilwaith porthladdoedd sydd ei angen i gefnogi ynni gwynt alltraeth arnofiol ymhellach. O gymharu, mae Llywodraeth Cymru wedi torri cyllid i ynni glân yng nghyllideb atodol gyntaf 2023-24. Felly, gofynnaf i Blaid Cymru, 'Unwaith eto, pam fyddech chi'n galw ar Lywodraeth Cymru i gael y rheolaeth hon—Llywodraeth Cymru sy'n methu cyflawni strategaeth hydrogen i Gymru ar hyn o bryd?'

Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi datblygu strategaeth sy'n nodi sut y bydd Llywodraeth Geidwadol yn gyrru cynnydd i gyflawni cynhyrchiant o 5 GW erbyn 2030. Mae gan yr Alban gynllun gweithredu hydrogen. Eto, yng Nghymru, rydym yn dibynnu ar lwybr sydd ond yn llywio gweithgareddau a fydd yn digwydd tan 2025.

19:05

Yn hytrach na gwastraffu amser ar newid cyfansoddiadol, gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd ar ganolbwyntio ar arloesedd gwyrdd, a'i ddatblygu. Dylai pob un ohonom fod yn awyddus i gael treial cymdogaeth hydrogen wedi'i gyflwyno, a chyn gynted â phosibl. Gellid creu cymhellion ar gyfer fflydoedd tacsis hydrogen yma yng Nghymru, ac mae gweithio gydag Iwerddon ar brosiect i gael fferïau hydrogen yn hwylio rhwng porthladdoedd Iwerddon a Chymru yn dal i fod yn bosibl. Yn hytrach na gwastraffu arian parod ar newid cyfansoddiadol, dylem fod yn buddsoddi amser mewn datblygu fframweithiau sy'n helpu Cymru i gyflawni ein nodau sero net ein hunain.

Mae'r Senedd eisoes wedi cefnogi ein galwadau am gynllun datblygu gofodol morol cenedlaethol i Gymru. Ond lle mae'r cynllun? Mae yna fethiant i gyflawni. Yn ddiweddar, clywodd y Senedd fi'n amlinellu potensial enfawr carbon glas. Ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Joyce Watson wedi'i godi yma sawl gwaith. Eto i gyd, nid ydych wedi buddsoddi mewn cynllun adfer carbon glas cenedlaethol ar gyfer Cymru.

Iawn, diolch. Hoffwn ddweud wrth Blaid Cymru, 'Rhowch y gorau i wastraffu amser y Senedd drwy swnian am fwy o ddatganoli; gadewch inni wneud defnydd o'r pwerau sydd gennym eisoes, a gadewch inni wneud Cymru'n llwyddiannus iawn.' Ar hyn o bryd, ein barn ni yw bod ystadau'r Goron mewn dwylo gwell o fewn Llywodraeth y DU. Diolch yn fawr.

Mae statws Ystâd y Goron yng Nghymru yn nodweddiadol o ba mor anwastad ac anghyfartal ydy sylfeini cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig sydd, yn ddieithriad yn fy nhyb i, wedi ein gadael ni efo briwsion yn unig oddi ar fwrdd San Steffan. Ac fel efo cyfiawnder, fel efo plismona, adnoddau dŵr, does yna ddim sail resymegol i Ystâd y Goron gael ei ddatganoli mewn un genedl o'r Deyrnas Unedig, ond nid yma yng Nghymru.

Does dim ond angen inni edrych ar yr Alban, lle mae Ystâd y Goron wedi'i ddatganoli ers 2018, am enghraifft o fanteision amlwg datganoli pellach i Gymru. Mae cyfrifon diweddaraf Ystâd y Goron yn yr Alban yn dangos bod £15.7 miliwn wedi’u cynhyrchu ar gyfer Llywodraeth yr Alban yn uniongyrchol yn 2021-22, ond mae hynny'n paratoi’r ffordd ar gyfer £25.5 biliwn o fuddsoddiad yn rhaglen economi glas yr Alban ar dechnoleg gwynt arnofiol. Mae'r prosiect ScotWind yn rhan ganolog o'r rhaglen yma a gododd bron i £700 miliwn ar gyfer cyllid cyhoeddus yr Alban yn 2022. Un ai y mae Janet Finch-Saunders yn meddwl bod yr Alban yn haeddu'r pwerau yma mewn ffordd nad ydy Cymru ddim, a bod yr Alban, rhywsut, yn gallu delio efo’u pwerau’n well na ni, neu mae hi yn gofyn am dynnu'r pwerau yma oddi ar yr Alban, a dwi ddim yn gwybod a fyddai y Ceidwadwyr yn dymuno gwneud sylw am hynny. A beth mae'r Aelod dros Aberconwy angen sylweddoli ydy bod cael rheolaeth dros hyn yn rhoi ffocws i Lywodraeth, o ba bynnag liw sydd mewn grym, ar sut i fanteisio i'r eithaf ar y grymoedd yma.

Rŵan, mae cymaint o'r sgiliau ac adnoddau gennym ni yma sydd eu hangen i wneud yn fawr o'r potensial sydd gennym ni. Dwi'n meddwl am long ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, sydd â'i chartref yn ysgol gwyddorau eigion y brifysgol ym Mhorthaethwy—llong sy'n cario pob darn o dechnoleg allwch chi ei ddychmygu, er mwyn gallu mapio holl wely'r môr oddi ar arfordir Cymru, a'r holl fanteision economaidd ac ecolegol fyddai'n dod yn sgil hynny. Ond mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod yr adnoddau yma'n cael eu defnyddio yn dda a'u hariannu'n iawn, a dwi'n gofyn eto heddiw i Lywodraeth Cymru fuddsoddi ynddi hi a chomisiynu'r gwaith rydym ni angen ei wneud. Felly, rydym ni'n barod i fynd fel cenedl; mae gennym ni y sgiliau a'r adnoddau, ond beth rydym ni ei angen ydy'r pwerau i wneud y defnydd gorau ohonyn nhw.

Dwi'n falch bod Aelodau Llafur yn cefnogi'n cynnig ni heddiw a fydd yn anfon neges drawsbleidiol—dwy, efallai tair plaid, os nad pawb—a honna'n neges gadarn gan y Senedd. Ond, efo Cymru'n cael ei thrin mor ymylol gan y wladwriaeth Brydeinig, yn anffodus fydd hynny ynddo'i hun ddim yn ddigon. Os mai Llafur fydd yn Downing Street ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf, allwn ni ddim aros iddyn nhw yn y fan honno i roi'r pwerau yma i ni. Mi fydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos eu bod nhw o ddifrif am hyn, drwy orfodi hyn ar yr agenda gan eu meistri Llafur, a hynny ar frys. Dyna pam y byddem ni'n gwerthfawrogi'n fawr pe bai'r Gweinidog heddiw yn amlinellu'r ffyrdd mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu ag arweinyddiaeth y Blaid Lafur hyd yma ar ddatganoli Ystâd y Goron yng Nghymru.

Rydym wedi dod yn gyfarwydd â hynny, onid ydym, dros y blynyddoedd diwethaf, yn anffodus, yn gyfarwydd â Keir Starmer yn bod yn hollol fud bron â bod am yr hyn sydd ganddo i'w gynnig i Gymru, ond dyma adeg arall pan nad yw hynny'n ddigon da a phan fo angen brys, fel y pwysleisiodd Delyth wrth agor y ddadl. Ac fel y nododd fy nghyd-bleidiwr Ben Lake yn Nhŷ'r Cyffredin yn ddiweddar, mae yna frys gwirioneddol, er enghraifft, yn yr angen i gyflymu datblygiad gwynt ar y môr. Mae ei angen arnom oherwydd ein hanghenion ynni nawr, oherwydd ein hanghenion hinsawdd, ac ar gyfer cyfleoedd economaidd hefyd. Ond heb y pwerau i ddylanwadu'n uniongyrchol ar gyflymder a datblygiad y sector ynni gwyrdd hanfodol hwn yng Nghymru, rydym mewn perygl o gael ein curo gan gystadleuwyr mwy ystwyth a grymus, ond wrth gwrs, yn bwysicach, rydym mewn perygl o fethu cyrraedd ein nodau sero net.

Mae arnaf ofn ein bod wedi arfer â dirmyg Llywodraeth Geidwadol y DU, ond mae Cymru'n haeddu gwell na'r driniaeth dawel hon gan Keir Starmer hefyd. Ac er mwyn ein cymunedau, mae angen i bwy bynnag sydd yn Stryd Downing fod yn effro i pam mae angen i Ystâd y Goron gael ei datganoli yn ddi-oed.

19:10

Dadl ddiddorol iawn—diolch yn fawr iawn, Blaid Cymru—a diddorol iawn darllen adroddiad blynyddol Ystâd y Goron. Ychydig o hanes yma: yn amlwg, penderfynodd y Goron, o dan Siôr III, drosglwyddo'r tiroedd hyn i'r Senedd a chael incwm gwarantedig gan y wladwriaeth yn gyfnewid amdanynt. Nid wyf yn gwybod pwy gafodd y fargen orau, ond felly mae hi. Ond o ddarllen yr adroddiad blynyddol, nid yw'n glir i mi beth yn union yw'r berthynas rhwng y Goron a'r incwm y mae Ystâd y Goron yn ei gynhyrchu, ac a oes unrhyw gysylltiad erbyn hyn.

Yn ôl cylchgrawn Fortune, mae'r Goron yn cael 15 y cant o'r incwm o Ystâd y Goron. Nid wyf yn gwybod a yw hynny'n gywir—daw hynny o gylchgrawn Fortune—oherwydd yn syml, nid wyf yn gwybod. Ond mae'n ddiddorol y gallai fod ganddo'r cysylltiad llinyn bogel hwnnw o hyd. Darllenais hefyd fod Charles wedi dweud nad oedd am gael yr incwm o'r ffermydd gwynt newydd hyn y sonnir amdanynt fel y gweithgaredd mwyaf arwyddocaol yn ôl pob tebyg yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf—rwy'n credu mai 8 GW o ynni adnewyddadwy ydyw, a fydd yn ddigonol i bweru 7 miliwn o gartrefi. Felly, mae hyn yn bwysig i'n hymdrechion i ddod yn garbon niwtral, ac yn sicr yn fwy nag unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Hynny yw, mae'r syniad fod hyn yn cael ei redeg gan Lywodraeth y DU, Janet Finch-Saunders, yn anghywir. Nid nhw sy'n ei redeg; mae'n cael ei redeg yn annibynnol gan bobl eraill. Felly, mae hynny'n ddirgelwch i mi, ac nid yw'n glir i mi, felly os gall unrhyw un egluro hynny, byddai'n wych iawn. Ond rwy'n meddwl ei bod hi'n ddiddorol fod Charles yn dweud y dylid gwario'r incwm o'r ynni adnewyddadwy hwn ar helpu pobl yn yr argyfwng costau byw—nad yw eisiau dim ohono, mai dyna sut y dylid ei wario. Ac unwaith eto, nid wyf yn gwybod a yw'r Goron yn dal i feddu ar bwerau i ddweud ar beth y dylid defnyddio'r incwm. Mae'r rhain yn faterion cyfansoddiadol diddorol, ac nid ydynt yn amherthnasol i'r hyn y mae Plaid Cymru yn ei argymell yn y cynnig hwn.

Gallaf weld bod y Llywodraeth glymblaid a barhaodd tan ar ôl refferendwm Brexit wedi pasio'r Ddeddf hon yn yr Alban, a daeth i rym yn 2017. Gallaf weld bod hynny'n eich annog i feddwl ein bod yn sydyn yn mynd i gael cytundeb tebyg os cawn newid yn y Llywodraeth yn Llundain. Yn sicr, nid ydym yn mynd i gael unrhyw beth o gwbl gan Lywodraeth y DU sydd gennym ar hyn o bryd, oherwydd nid ydynt hyd yn oed yn rhoi beth y dylai fformiwla Barnett fod yn ei roi i ni. Felly, nid yw hynny'n mynd i ddigwydd mewn unrhyw ffordd. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â Delyth Jewell na allwn ganiatáu i'r hyn a ddigwyddodd i Gymru gyda'n diwydiant glo, lle na chawsom ddim o'r elw a'r holl anfanteision yn sgil niwmoconiosis a'r tomenni slag, y mae Llywodraeth Cymru gyda'i chyllideb denau yn dal i orfod defnyddio adnoddau i'w gwneud yn ddiogel—y tomenni glo a allai fod yn peryglu cymunedau o ganlyniad i'r newidiadau yn ein hinsawdd. Mae hynny'n hollol warthus.

Yr hyn rwyf am ei weld yw ymgysylltu a thrafod gydag Ystâd y Goron. Oherwydd ar hyn o bryd, nhw yw'r unig rai y gellir troi atynt yn rhesymol, o weld ei fod yn glanio ar glustiau byddar gyda Llywodraeth y DU, onid yw? Felly, rwyf am weld y bydd Cymru'n elwa o'n hadnoddau naturiol, er mwyn i'n cymunedau arfordirol yn enwedig, gyda'r datblygiadau alltraeth a all ddod o Ystâd y Goron, y cymunedau sy'n byw o amgylch yr ardaloedd arfordirol hynny, elwa ar gyfleoedd gwaith, a sicrhau hefyd fod busnesau lleol yn cael cyfle teg yn sgil unrhyw opsiynau caffael. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.

19:15

Diolch am ildio. Tybed a ydych chi'n cytuno â mi nad mater o wneud yn siŵr fod Cymru'n cael cyfran deg o elw a wneir o'n hadnoddau naturiol yn unig mohono, ond byddai datganoli Ystâd y Goron yn ein hannog i greu mwy o fudd yn y lle cyntaf, a chadw hynny i gyd yma yng Nghymru.

Wel, mae hynny'n bosibilrwydd, ond nid wyf yn siŵr y bydd hynny'n digwydd. Felly, yr hyn sy'n rhaid inni ei sicrhau yw bod ein rheoliadau ynghylch pethau fel Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn cael eu cymhwyso i'r gweithgareddau sy'n digwydd yng Nghymru. Dylai hynny sicrhau y byddwn yn cael cyfran deg o'r busnesau y bydd eu hangen i adeiladu'r araeau gwynt alltraeth hyn.

Rwy'n anghytuno'n llwyr â'r gwelliant Torïaidd. Byddwn yn sicrhau y byddwn yn dod yn sector ynni adnewyddadwy ar y môr sy'n arwain y sector, oherwydd mae gennym y gwynt ac mae gennym ddyfnder y cefnfor, cyfoeth y cefnfor, a fydd yn ein galluogi i sicrhau bod llawer o gyfoeth yn cael ei greu, er budd pobl Cymru. Ac fel y mae Delyth yn ein hatgoffa, dim ond benthyg adnoddau'r byd gan ein plant a wnawn, ac mae'n rhaid inni sicrhau nad ydym yn eu hanrheithio a chreu hyd yn oed mwy o broblemau iddynt eu datrys yn y dyfodol.

Felly, dadl ddiddorol iawn. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru dasg anodd o'u blaenau, ond mae'n rhaid inni sicrhau nad ydym yn ailadrodd hanes y diwydiant glo.

Rwyf am siarad am yr hyn y mae Ystâd y Goron yn ei symboleiddio, ac efallai ateb rhai o'r cwestiynau a gododd Jenny am berthynas y Goron ag Ystâd y Goron. Mae'r ffaith bod rhannau mor helaeth o adnoddau ein cenedl yn cael eu cadw ym meddiant personol parhaol unigolyn a chanddo statws a chyfoeth oherwydd ei linach hynafol, tra bod miloedd o'n cyd-ddinasyddion yn cael trafferth fforddio hanfodion dyddiol, yn dyst i'r anghydraddoldebau dosbarth dwfn sy'n treiddio drwy ein cymdeithas. Dywedir wrthym dro ar ôl tro fod y Goron yn symbol o undod—clywn hynny am y DU fel gwladwriaeth yn ogystal—barn sydd ond yn bosibl os anwybyddir hanes y wladwriaeth Brydeinig o ecsbloetio trefedigaethol ac ar sail dosbarth, honiad hollol chwerthinllyd y gellir meithrin undod a'i hyrwyddo drwy system sy'n cynrychioli pinacl dethol cyfoeth a braint, ac sy'n gyfan gwbl gaeedig i bawb nad ydynt yn rhannu llinach enetig benodol.

Mae'n werth cofio hefyd, er nad yw'r brenin Prydeinig yn elwa'n uniongyrchol o asedau'r Goron yng Nghymru, caiff y grant sofran sy'n cael ei ariannu gan drethdalwyr y DU i dalu costau'r osgordd frenhinol—pob un ohonynt—ei bennu fel cyfran o elw net blynyddol Ystâd y Goron, sydd ar hyn o bryd wedi'i osod ar 25 y cant, ar ôl codi o 15 y cant yn 2018. Mae hyn yn golygu y bydd y teulu brenhinol a'r holl osgordd frenhinol yn derbyn cyfanswm o £110.65 miliwn fel grant sofran ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, sef y swm uchaf erioed. 

Ar adeg pan nad yw'r argyfwng costau byw yn dangos unrhyw arwydd o gilio i gynifer o aelwydydd Cymru, gyda phlant yn byw mewn tlodi ym mhob ward cyngor ledled Cymru, mae'n werth myfyrio ar y pwynt hwn, ac ystyried beth arall sydd angen ei ddweud cyn i'r achos clir a diamwys dros ailddosbarthu cyfoeth yn radical ledled y DU gael ei gymryd o ddifrif gan sefydliad San Steffan a'r dosbarth y mae'n ei wasanaethu. Oherwydd dyma'r 'pam', Janet Finch-Saunders. Nid tincera cyfansoddiadol mo hyn. 

Mae Delyth eisoes wedi siarad am werth asedau Ystâd y Goron yng Nghymru a'r elw a gofnodwyd, y dylid ei osod yng  nghyd-destun y pwysau parhaus ar gyllid cyhoeddus Cymru. Mae'r storm berffaith hon o chwyddiant ystyfnig o uchel, camreolaeth Dorïaidd ar economi'r DU ac effaith barhaus Brexit wedi golygu—ac rydym yn clywed hyn bob dydd yn y Siambr hon—fod cyllid Cymru dan fwy o bwysau nag erioed o'r blaen, gyda dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun yn awgrymu y gallai ei phŵer gwariant gael ei leihau fwy na £1 biliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf. Clywsom yn gynharach heddiw nad oes ganddi arian i fwydo plant sydd mewn perygl o fynd yn llwglyd dros yr haf. Gadewch inni adael i hynny suddo i mewn am eiliad.

Ar ben hynny, fel y dangosodd asesiad diweddar y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o ddatganiad gwanwyn Llywodraeth y DU, mae incwm gwario aelwydydd arferol ar y trywydd i aros yn is erbyn diwedd y degawd na'r hyn ydoedd ar ddechrau'r degawd. Yn nhermau arian parod, mae hyn yn golygu y rhagwelir y bydd yr aelwyd gyfartalog £1,800 yn waeth ei byd erbyn 2027-28. Mae angen ystyried pwysau cyllidebol ar awdurdodau lleol hefyd—a chlywn am hynny bob dydd—pwysau y mesurodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddar y bydd yn £527 miliwn ar gyfer 2023-24. O ystyried y pwysau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, a oedd yn agos at £257 miliwn, byddai'r pwysau cronnol yn £784 miliwn erbyn diwedd 2023-24.

Felly, gyda'i gilydd, ni allwn fforddio diystyru cyfleoedd i elwa'n uniongyrchol o adnoddau fel y rhai a ddaw o fewn portffolio Ystâd y Goron, fel y gallwn hwyluso'r broses hanfodol o adfer ein cyllid cyhoeddus sydd wedi'i erydu. Bydd oedi pellach rhag caffael y pwerau perthnasol ond yn golygu bod symiau mwy enfawr byth yn cael eu llyncu gan Lywodraeth y DU, yn hytrach na mynd yn syth i economi Cymru, lle maent i fod. Oherwydd os ydym eisiau tegwch i'n pobl, os ydym o ddifrif yn credu mewn cydraddoldeb, mae datganoli pwerau dros reolaeth Ystâd y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei fynnu, ac yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei gyflawni. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig.  

19:20

Lywydd, efallai y byddwch yn gallu fy cywiro, ond dywedir wrthyf fod y Brenin Charles wedi gwneud y datganiad canlynol yn ei gyfarfod cyntaf o'r Cyfrin Gyngor: 

'Rwy'n manteisio ar y cyfle hwn i gadarnhau fy mharodrwydd a fy mwriad i barhau'r traddodiad o ildio'r refeniw etifeddol, gan gynnwys Ystâd y Goron, i fy Llywodraeth er budd pawb, yn gyfnewid am y Grant Sofran, sy'n cefnogi fy nyletswyddau swyddogol fel Pennaeth y Wladwriaeth a Phennaeth y Genedl.'

Fel y nododd Jenny Rathbone, mae hyn wedi bod yn wir ers 1760. Ac i ateb cwestiwn Jenny, roedd yn fargen dda i Siôr III gan iddi glirio ei holl ddyled bersonol. Gyda Brenin bellach sy'n fodernydd hunanaddefedig, a yw'n bryd diwygio Ystâd y Goron erbyn hyn? Nid yw'n syniad chwyldroadol y dylid rheoli Ystâd y Goron a'i hasedau yng Nghymru er budd pawb yng Nghymru. Nid y nonsens cyfansoddiadol presennol hwn, fel y disgrifiodd Delyth Jewell y status quo yn briodol, ac fel y nododd Sioned Williams. Rwy'n siŵr y byddai'r Brenin, y dywedir ei fod yn amgylcheddwr brwd, yn croesawu gweld Llywodraeth Cymru yn cael pŵer i sefydlu cronfa cyfoeth sofran a fyddai'n sicrhau y byddai buddion amgylcheddol Ystâd y Goron yn llifo i gefnogi cymunedau Cymru. Gallem yn hawdd roi rhestr o brosiectau iddo eu cefnogi. Wedi'r cyfan, ar ddechrau'r flwyddyn, fel y dywedodd Jenny, adroddwyd bod y Brenin wedi gofyn am ddefnyddio elw o gytundeb fferm wynt Ystâd y Goron gwerth £1 biliwn y flwyddyn er budd y cyhoedd yn ehangach, yn hytrach na fel cyllid ychwanegol ar gyfer y frenhiniaeth.

Er bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau penodol mewn perthynas â chaniatâd cynllunio ac ystyriaethau amgylcheddol, lle cyfyngedig iawn sydd ganddi i lunio polisi ynni yng Nghymru, ac mae hyn yn cael effaith andwyol enfawr ar ddyfodol ein gwlad. Mae hyn yn digwydd nid yn unig oherwydd methiant i ddatganoli pwerau perthnasol, ond hefyd oherwydd y ffordd y caiff y system ynni ei gweithredu yn y Deyrnas Unedig, gyda sector preifat mawr a throsolwg cyfyngedig gan reoleiddwyr llywodraeth. Mae hyn wedi cael ei deimlo'n boenus gan filiynau yn ystod yr argyfwng costau byw.

Mae polisi ynni yng Nghymru hefyd yn cael ei effeithio gan y ffaith nad oes gennym grid trydan annibynnol ein hunain, ac felly mae'n anodd edrych ar bolisi trydan o fewn Cymru ar sail gyfannol. Yn 2022, dywedodd Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, David T.C. Davies, y byddai'n edrych gyda diddordeb ar Fil Ystâd y Goron (Datganoli i Gymru) Liz Saville-Roberts, ond nawr, ag yntau'n aelod o Gabinet y DU, lle gallai gyflwyno'r achos dros ddiwygio, mae'n dweud bod gormod o risg ynghlwm wrth hynny. Ond fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, os eir â'r ddadl a wnaed gan y Ceidwadwyr ynghylch darnio a chymhlethdod i'w phen draw rhesymegol, mae'n ddadl yn erbyn unrhyw fath o ddatganoli o gwbl o fewn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae datganoli yn bodoli, ac mae Ystâd y Goron eisoes wedi'i datganoli i'r Alban. Mae datganoli yma i aros, ac nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl fod Ystâd y Goron wedi'i datganoli mewn un rhan o'r Deyrnas Unedig ond nid mewn rhan arall.

Nid yw hyn yn gonsérn i wleidyddion yn unig. Nid mater cyfansoddiadol diddorol i anoracs yn unig yw hyn, Janet Finch-Saunders. Wrth ymweld â phorthladd Caerdydd nôl yn 2021 gyda Heledd Fychan a Luke Fletcher, dywedodd rheolwyr y porthladd i ni y byddai datganoli Ystâd y Goron yn creu potensial enfawr yn y maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Y consérn mawr iddyn nhw, a chonsérn mawr i fi, yw ein bod ni'n mynd i golli cyfle anhygoel fan hyn yng Nghymru tra bod gwledydd eraill yn manteisio yn llawn. 

Mae enghraifft yr Alban, sydd wedi llamu o flaen gweddill y Deyrnas Unedig ym maes ynni adnewyddadwy, yn dangos yr hyn sy'n bosibl pan fydd llywodraeth yn fodlon gweithredu ac yn gallu gwneud hynny.

Roedd araith Delyth Jewell yn fy atgoffa o'r llwch du a welais yn dod allan o geg cyn-löwr 93 oed yn Ynys-hir, heb fod ymhell o'r domen a ddisgynnodd yn ddiweddar. Roedd llwch glo wedi bod yn ei ysgyfaint ers degawdau. Bydd Ystâd y Goron Gymreig yn rhoi mwy na llwch i bobl Cymru. Bydd yn rhoi'r modd ariannol a hirdymor i Gymru fuddsoddi yn ein dyfodol sero net. Bydd yn gam go iawn ymlaen ar y daith i wneud Cymru'n genedl ynni glân. Heb hynny, rwy'n ofni y bydd targedau'n parhau i gael eu methu, dim byd ond geiriau gwag a dim gweithredu, a bydd cenedlaethau'r dyfodol yn dioddef. Diolch yn fawr. 

19:25

Mae’r rhanbarth yr wyf yn ei chynrychioli wedi’i bendithio â rhai o’r arfordiroedd mwyaf prydferth yn unrhyw le yn y byd. Drwy gydol ein hanes, mae Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd wedi cysylltu Cymru â llwybrau masnach byd-eang, wedi darparu bwyd ac adnoddau i ni, wedi cynnal amrywiaeth anhygoel o anifeiliaid a phlanhigion, ac wedi bod yn ffynhonnell llawer o’r mythau a’r chwedlau sy’n cyfoethogi ein hiaith a’n diwylliant a'n llenyddiaeth. 

Heddiw, mae gan y moroedd hyn y potensial i wneud Cymru yn genedl ffyniannus, drwy fod yn arweinydd y byd ym maes ynni adnewyddadwy, a chyfrannu'n gadarnhaol at yr argyfwng newid hinsawdd. Fodd bynnag, mae ein gallu i wneud y gorau o'r cyfleoedd hyn, a'u harneisio i wella bywydau'r bobl dwi'n eu cynrychioli, yn cael ei rwystro gan y diffyg rheolaeth sydd gennym fel cenedl dros ein dyfroedd tiriogaethol ni ein hunain.  

Ymhell o fod yn elwa ar fanteision ei daearyddiaeth anhygoel, mae'n destun llawer o rwystredigaeth i mi fod Canolbarth a Gorllewin Cymru yn lle hynny dan anfantais yn rhy aml oherwydd y ddaearyddiaeth honno. Mae harddwch ein harfordir yn aml wedi teimlo fel mwy o felltith na bendith, gan ddenu niferoedd uchel o bobl sy'n ceisio prynu tai gwyliau, gan godi rhenti a phrisiau tai, a gorfodi pobl ifanc allan o gymunedau arfordirol. Mae hyn yn gwagio'r cymunedau hynny ac yn creu perygl dirfodol i'r Gymraeg. Mae cyfraddau isel o gyflogaeth a diffyg cyfleoedd, amddifadedd cymdeithasol ac allfudo, yn enwedig pobl ifanc, yn broblemau cronig yn fy rhanbarth. Fis diwethaf, fe wnaethom ddysgu mai Ceredigion sydd â'r lefel uchaf ond un o dlodi plant o holl awdurdodau lleol Cymru, ar 30 y cant. Ac mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y farchnad lafur yng Nghymru yn dangos i ba raddau y mae ardaloedd gwledig yn cael eu taro gan gyfraddau ystyfnig o uchel o anweithgarwch economaidd a'r fagl cyflog isel ddinistriol. Felly, yn erbyn y cefndir digalon hwn, ledled y rhanbarth, mae awdurdodau lleol hefyd yn cael eu gorfodi i wneud toriadau i'w gwasanaethau allweddol ar ôl mwy na degawd o gyni a orfodwyd gan y Torïaid.

Nawr, rwy'n dweud hyn am reswm. Mae'n hollol alarus, o'i osod yn erbyn yr hyn a wyddom am werth asedau Ystâd y Goron yng Nghymru—fel y clywsom eisoes, dros £600 miliwn ar ddiwedd 2021, heb gynnwys y miliynau o bunnoedd o elw a wneir ar yr asedau hyn. Roedd portffolio morol Ystâd y Goron yng Nghymru yn werth £550 miliwn yn 2021, a bydd y rownd brydlesu gwynt ar y môr arnofiol sydd ar y ffordd yn esgor ar elw sylweddol pellach. Ni fydd yr un geiniog o'r arian hwnnw'n aros yng Nghymru. Nawr, a allwch chi ddychmygu pa fath o wahaniaeth y byddai'r arian hwnnw'n ei wneud i fywydau'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn y rhanbarthau arfordirol hynny? A pha genedl—ac rydym wedi clywed hyn gan lawer o siaradwyr—a fyddai'n caniatáu i'r cyfoeth hwn lifo allan o'u gwlad i gyfoethogi eraill sydd eisoes yn byw bywydau breintiedig? Mae'n sgandal lwyr yn fy marn i na fu unrhyw rôl warchodedig i Lywodraeth Cymru wrth benderfynu ar y rhan y dylai gwerth cymdeithasol ei chwarae yn y rownd brydlesu hon. Cawn ein gorfodi felly i ddibynnu ar addewidion Llywodraeth y DU ac Ystâd y Goron y bydd cymunedau'n elwa o wynt alltraeth arnofiol yn y môr Celtaidd, ac y bydd cadwyni cyflenwi a swyddi lleol yn cael eu diogelu. Maddeuwch imi am fod ychydig yn sinigaidd, ond rwy'n ei chael hi'n anodd eu cymryd ar eu gair, ac nid yw'r awyrgylch cyfredol o gwmpas hyn yn galonogol. Yn allweddol, dylai penderfyniadau ynghylch diogelu a dosbarthu gwerth cymdeithasol gwynt alltraeth arnofiol fod yn fater i'w benderfynu yng Nghymru.

Am gyfnod rhy hir, mae daearyddiaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn rhwystr i ddatblygiad economaidd. Heddiw, mae cyfle hanesyddol i'r rhanbarth ddod yn bwerdy i'r chwyldro diwydiannol gwyrdd. Yr unig ffordd y gallwn ni sicrhau ein bod yn achub ar y cyfle hanesyddol hwn, a sicrhau bod ei fuddion yn llifo i gymunedau lleol, yw drwy ddatganoli Ystâd y Goron yn llawn a'n bod ni'n gwneud hynny ar unwaith. Diolch yn fawr iawn. 

19:30

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon, ac rwy'n croesawu'r cynnig gan Blaid Cymru, y bydd y Llywodraeth yn ei gefnogi'n llawn. Fel y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, rydym yn gweithio i ostwng ein hallyriadau carbon a harneisio pŵer ein hadnoddau naturiol i adeiladu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach. Mae gennym adnoddau naturiol eithriadol yng Nghymru, fel y mae llawer o bobl wedi nodi, ac rydym am allu defnyddio'r rheini er budd pobl yng Nghymru trwy fuddsoddi mewn cymunedau a chefnogi swyddi gwyrdd, medrus ym mhob rhan o Gymru. 

Mae'n glir iawn o'r adroddiad blynyddol diweddaraf a'r cyfrifon fod Ystâd y Goron yn elwa'n sylweddol o'i hasedau yng Nghymru a'n dyfroedd morol. Mae hefyd yn amlwg fod y Deyrnas Unedig gyfan yn elwa o'r incwm sy'n cael ei gynhyrchu a'r buddsoddiad y mae Ystâd y Goron yn ei gefnogi. Ond yn anffodus, nid yw'n glir o gwbl faint yn union y mae Cymru'n elwa o'r incwm a gynhyrchir, a'n barn ni yw ein bod angen mwy o reolaeth ar Ystâd y Goron yng Nghymru i sicrhau bod maint ei gweithgareddau yn cynhyrchu llawer mwy o fudd i Gymru ac yn alinio rheolaeth ar ei hasedau a'i hadnoddau yng Nghymru yn llawer agosach â'n hadnodd polisi Cymreig neilltuol. 

Fel y nodir yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, rydym yn cefnogi datganoli pwerau pellach a'r adnoddau sy'n cyd-fynd â hynny sydd eu hangen ar Gymru i ymateb yn fwyaf effeithiol i gyrraedd sero net, ac mae hyn yn benodol yn cynnwys rheoli Ystâd y Goron a'i hasedau—'ein' hasedau, dylwn ddweud—yng Nghymru. Mae yna nifer o feysydd lle byddai datganoli yn dod â buddion ychwanegol i ddinasyddion yng Nghymru, Janet, y gallech fod yn arbennig o awyddus i gymryd sylw ohonynt. Byddai datganoli rheolaeth dros Ystâd y Goron yn rhoi mwy o hyblygrwydd inni ddewis pa mor bell a chyflym y defnyddiwn ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac yn wir, byddai'n caniatáu inni sicrhau bod y budd economaidd lleol a fyddai'n cronni o hynny yn cronni i Gymru, oherwydd, yn wahanol i'r Torïaid, nid ydym bob amser yn mynd am y budd economaidd byrraf posibl, ac mewn gwirionedd, rydym am fuddsoddi yn y budd economaidd hiraf, ehangaf a dyfnaf posibl.

Mae'r manteision hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i gyrraedd ein targedau hinsawdd. Maent yn cynhyrchu economi werdd, sgiliau gwyrdd, ffyniant a chyfoeth i bawb. Fel y cytunwyd yn y Siambr hon gwta fis yn ôl, mae gan reolaeth gwely'r môr rôl allweddol i'w chwarae yn diogelu'r carbon glas a geir yno, a byddai datganoli Ystâd y Goron yn sicrhau y gellir gwneud llawer mwy o benderfyniadau sy'n effeithio ar garbon glas yng Nghymru, a gellid defnyddio'r incwm a gynhyrchir er budd pobl Cymru. 

Lywydd, ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan Darren Millar i'r cynnig, gan mai datganiad yn unig ydyw o'r sefyllfa bresennol, ac i mi, nid yw hynny'n ddigon da i bobl Cymru. Rydym eisoes yn gweithio'n agos iawn gydag Ystâd y Goron, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i sicrhau buddion i Gymru. Ond nid yw hyn yr un peth â chyfran deg o'r adnoddau a gynhyrchir. Rwyf wedi cyfarfod â phrif swyddog gweithredol Ystâd y Goron ar sawl achlysur, gan gynnwys yn fwyaf diweddar gyda'r Prif Weinidog, ochr yn ochr â'r cyfarwyddwr cyntaf erioed ar gyfer Cymru, rwy'n falch o ddweud, dynes ddymunol iawn yn wir sy'n deall yr agenda Gymreig yn llwyr. Ac i fod yn glir, mae gennym berthynas dda iawn gyda Dan a'i dîm cyfan, ond nid yw hyn yr un fath â chael swyddfa Ystâd y Goron yng Nghymru neu reolaeth dros y ffordd y maent yn defnyddio'r adnoddau hynny.

Rwy'n llwyr gydnabod y gwaith sylweddol y mae Ystâd y Goron wedi bod yn ei arwain ar gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy morol, yn enwedig. Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Ystâd y Goron eu bod wedi rhoi trwyddedau gwely'r môr i 8 GW o brosiectau gwynt ar y môr. Mae hyn yn cynnwys prosiect 1.5 GW Mona oddi ar arfordir gogledd Cymru. Mae hon yn garreg filltir bwysig tuag at y nod o gyflawni'r prosiectau hyn erbyn diwedd y degawd. Roeddem hefyd yn falch iawn fod Ystâd y Goron yr wythnos diwethaf wedi cadarnhau eu cynlluniau i brydlesu hawliau gwely'r môr ar gyfer hyd at 4 GW o ynni gwynt newydd ar y môr arnofiol yn y môr Celtaidd.

Bydd y cynhyrchiant newydd yn ein helpu i gefnogi ein targedau ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion trydan yn llawn o ynni adnewyddadwy erbyn 2035, a'n huchelgeisiau sero net ehangach, er na fydd hynny'n digwydd—eto, Janet, er gwybodaeth i chi, yn enwedig—oni bai fod Llywodraeth y DU yn ysgwyddo'i chyfrifoldeb i fuddsoddi yn y grid yng Nghymru, rhywbeth y mae'n methu'n llwyr â'i wneud ar hyn o bryd. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar iawn yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, nid oes unrhyw bwynt mewn cyrraedd glan y môr gyda phlwg a darganfod nad oes soced i'w roi ynddo. Felly, gallaf ddweud yn gadarn iawn wrthych beth fyddai manteision datganoli Ystâd y Goron, oherwydd gallem ddefnyddio'r adnoddau i fuddsoddi yn y grid. 

Rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gydag Ystâd y Goron ar ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen i sicrhau y gellir defnyddio ynni adnewyddadwy ar y môr mewn modd sensitif drwy reolaeth barhaus ar yr amgylchedd morol. Mae rhaglen dystiolaeth a newid gwynt ar y môr gwerth £50 miliwn yn ychwanegu gwerth sylweddol at ein dealltwriaeth o'r materion sy'n codi. Ond rwyf hefyd wedi bod yn glir iawn yn fy nhrafodaethau gydag Ystâd y Goron, fel y mae'r Prif Weinidog, fod angen canolbwyntio llawer mwy ar sut y bydd eu gweithgareddau yng Nghymru o fudd i'n busnesau a'n cymunedau. Rydym yn glir fod yn rhaid i'r newid i sero net fod yn un teg, ac ni allwn fod mewn sefyllfa eto lle mae adnoddau naturiol Cymru yn cael eu hecsbloetio heb fawr o fudd parhaol i bobl Cymru, fel y nododd Delyth yn huawdl iawn. Rwyf wedi bod yn glir iawn gydag Ystâd y Goron fod angen iddynt ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael iddynt i gefnogi newid economaidd a chymdeithasol parhaol yng Nghymru.

Mae proses brydlesu gwely'r môr yn gwbl sylfaenol i'r gallu i sicrhau ymrwymiadau parhaol gan ddatblygwyr ar fuddsoddiad cadwyni cyflenwi lleol gan sicrhau swyddi lleol a dod ag incwm newydd i'n cymunedau. Ac eto, mae'n parhau'n wir, gwaetha'r modd, nad oes gan Ystâd y Goron broses sy'n cymell y manteision lleol hynny'n ddigonol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud hefyd, Janet, os ydych chi'n wirioneddol bryderus ynghylch hynny, o ystyried methiant absoliwt y rownd gontractau ar gyfer gwahaniaeth yn ddiweddar, lle na welodd prosiect Erebus yn dda i wneud cais am fod y pris wedi'i osod mor isel, mae'n dangos y gwahaniaeth sylfaenol rhwng mynd ar ôl enillion tymor byr a'r hyn y gellir ei ennill os oes gennych broses sy'n gwneud y mwyaf o swyddi a chadwyni cyflenwi lleol a buddsoddiad yn y dyfodol. Felly, fe ofynnoch chi pam ein bod eisiau iddo gael ei ddatganoli—dyna pam.

Mae'r cynnig sydd ger ein bron yn cyfeirio'n briodol at yr incwm sylweddol y mae Ystâd y Goron yn ei gynhyrchu o weithgarwch yng Nghymru. Cylch gwaith Ystâd y Goron yn bennaf yw cynhyrchu incwm i Drysorlys y DU drwy'r broses lle mae'r Goron yn ymwrthod â'i hawl. Ar adeg o bwysau anhygoel ar gyllid cyhoeddus, rwy'n deall yr angen i gynhyrchu incwm o reoli ystadau'r Goron, ond mae'r cylch gwaith yn rhy gul ac yn methu rhoi cyfrif am y manteision economaidd, cymdeithasol a chymunedol ehangach a allai ac a ddylai godi o fuddsoddiad yng Nghymru, lle mae pobl yn haeddu cyfran deg o'r adnoddau naturiol o'u cwmpas.

Lywydd, rydym yn glir ynghylch yr achos dros ddatganoli Ystâd y Goron. Ceir tystiolaeth eisoes ar fanteision y modd y mae Ystâd y Goron ddatganoledig yn gweithredu yn yr Alban, lle maent wedi bod yn llawer mwy arloesol wrth sicrhau buddion economaidd a chymdeithasol o'u prosesau prydlesu gwely'r môr—enghraifft arall o anghymesuredd y setliad datganoli, ac rwy'n falch fod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi nodi ynni fel maes i'w ystyried ymhellach yn eu gwaith. Mae angen inni ystyried datganoli Ystâd y Goron yn erbyn ein pwerau datganoledig ehangach, gan gynnwys ym maes ynni. Mae angen inni sicrhau hefyd fod datganoli cyfrifoldebau ychwanegol yn arwain at drosglwyddo adnoddau priodol. Yn yr Alban, roedd gan Ystâd y Goron swyddfa'r Alban eisoes, felly nid oedd angen trosglwyddo staff i'r Alban wrth ddatganoli. Fel rwyf eisoes wedi dweud, rydym yn falch iawn fod cyfarwyddwr wedi'u penodi ar gyfer Cymru, ond mae angen buddsoddiad pellach mewn swyddfa ar gyfer Ystâd y Goron yng Nghymru.

Rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli Ystâd y Goron, ac rydym yn galw hefyd am drosglwyddo'r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau bod Ystâd y Goron yn gweithredu ac yn parhau'n ddi-dor ar bwynt datganoli. Lywydd, gallem sicrhau wedyn y byddai Ystâd y Goron i Gymru yn cyflawni ein polisi neilltuol yng Nghymru i ddarparu buddion cynaliadwy i holl bobl Cymru yn economaidd, yn amgylcheddol ac o ran llesiant. Mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig yn llawn ac yn galw ar yr holl Aelodau i'w gefnogi heb ei ddiwygio. Diolch.

19:40

Diolch, Lywydd. Beth sydd wrth wraidd y ddadl hon? Beth yw craidd ein galwadau am ddatganoli Ystâd y Goron? Mae'n egwyddor syml ond pwysig: dylai adnoddau naturiol Cymru fod yn eiddo i Gymru a chael eu rheoli gan Gymru er budd ei chymunedau. Mae'r rhan fwyaf ohonom yma yn dadlau y dylem rymuso ein cymunedau. Yn ei hanfod, dyma fersiwn fwy o faint o'r awydd hwnnw.

Nawr, hoffwn ddiolch i bob Aelod am eu cyfraniad, a'r Gweinidog am ei hymateb, ond mae'n debyg y dylwn ddechrau drwy sicrhau bod Janet yn sylweddoli nad oedd Rishi yn gwylio ei chyfraniad. Cyfeiriodd Delyth at linell enwog gan Tolkien. Rwy'n hoff o Tolkien—nid wyf yn siŵr a yw'r Aelodau'n gwybod hynny—ond roedd cyfraniad Janet yn ffantasi fwy na'r 'Ddaear ganol' ei hun. Hynny yw, os yw'n iawn i'r Alban, pam nad yw'n iawn i Gymru? Dyna gwestiwn nad yw'r Torïaid wedi ei ateb eto. Fe roddaf gyfle iddynt wneud ymyriad nawr. 

Onid ydych chi'n cydnabod bod Llywodraeth yr Alban wedi gwerthu'r hawliau ar y prosiectau ynni ar y draethlin am bris a oedd £60 biliwn yn rhy isel dros oes yr hawliau hynny? Dyna un rheswm da iawn dros beidio â datganoli i Gynulliad Cymru yma, oherwydd mae angen profiad arnoch i gael y gorau o'r adnoddau hynny ar gyfer y Trysorlys. Mae'r arian hwn yn mynd i'r Trysorlys er budd holl bobl y Deyrnas Unedig. 

Nid wyf yn hollol siŵr sut i ateb hynny, yn enwedig o ystyried bod arweinydd yr wrthblaid yn canolbwyntio mwy efallai ar fwyta'r bwyd yn ei geg nag ar gymryd rhan yn y ddadl hon. 

Fe ddof yn ôl at Delyth. Tynnodd Delyth sylw at rywbeth pwysig iawn: swm y cyfoeth sydd eisoes ar gael fel rhan o Ystâd y Goron, yn ogystal â'r potensial y bydd gwynt alltraeth arnofiol yn ei gynnig. Fe geisiaf ailadrodd ei phwyntiau, er nad mewn ffordd mor huawdl ag y gwnaeth hi efallai. Nawr, yn 2020-21, roedd asedau Ystâd y Goron yng Nghymru yn werth £600 miliwn. Mae'r ffigur hwnnw'n debygol o fod yn fwy, o ystyried y cyhoeddiad diweddar fod Ystâd y Goron wedi llofnodi cytundebau prydlesu ar gyfer chwe phrosiect gwynt ar y môr, a fydd, gyda'i gilydd, yn arwain at bron i £1 biliwn y flwyddyn. Bydd un o'r chwe safle wedi'i leoli oddi ar arfordir gogledd Cymru. Mae'r elw a gynhyrchir o'r asedau hyn wedi cynyddu i'r entrychion yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chyfrif Ystâd y Goron ar gyfer 2022-23 yn dangos yr elw net uchaf erioed o dros £440 miliwn. Nawr, y sgandal: nid oes yr un geiniog o'r elw hwnnw'n aros yng Nghymru. Mae'n mynd yn syth i Drysorlys y DU. Mae'r syniad mai dyna'r lle gorau iddo, o ystyried hanes diweddar Llywodraeth y DU ar gyllid a'r economi, yn gwbl syfrdanol.

Roedd Sioned yn iawn i gyfeirio at y cyd-destun presennol. Mae rhannau helaeth o'n hadnoddau yn cael eu cadw gan frenin neu frenhines dros y ffin sy'n byw mewn palas a chanddo oddeutu 600 o ystafelloedd, tra bod miloedd yn ei chael hi'n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd, gwresogi eu cartrefi, a bellach yn cael trafferth fforddio eu morgeisi ac mewn perygl o golli eu cartrefi. Os oedd angen gwneud achos dros ailddosbarthu cyfoeth erioed, dyma'r enghraifft i wneud hynny, ond mae'n mynd yn ddyfnach eto gyda'r potensial o wynt alltraeth arnofiol. Mae ymchwil Ystâd y Goron ei hun wedi dangos bod gan y môr Celtaidd botensial i ddarparu ar gyfer hyd at 20 GW ychwanegol o gapasiti llif erbyn 2045, y tu hwnt i'r rowndiau prydlesu presennol. Mae'r cyfle y byddai hynny'n ei gynnig i'n cymunedau, a manteision yn fyd-eang o ran ymchwil ac arloesi a datblygu, yn syfrdanol. Pe bai ystadau'r Goron yn cael eu datganoli i Gymru, byddai'n gyfle i gryfhau'r cadwyni cyflenwi lleol hynny, i gyfoethogi ein cymunedau, i feddwl am berchnogaeth gymunedol.

Mae gennym darged eisoes yng Nghymru o 1 GW o drydan adnewyddadwy mewn perchenogaeth leol erbyn 2030. Meddyliwch faint y gallai'r potensial hwn ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw a rhagori arno, ond meddyliwch hefyd am yr hyn y byddai'n ei olygu i roi cyfran i'n cymunedau yn y modd o gynhyrchu. Nid oes unrhyw le gwell i gyfeirio ato na Phort Talbot yn fy rhanbarth i, sy'n cael ei weld fel hyb i ddiwydiant trwm yn ne Cymru, ac eto nid oes dim ohono'n eiddo i'r bobl sy'n byw yno. Ond gall hynny newid gyda gwynt ar y môr a datganoli ystadau'r Goron. Mae Port Talbot yn allweddol i'r chwyldro diwydiannol gwyrdd, a dylai ei drigolion gael rhan yn y chwyldro hwnnw.

Lywydd, nid oes angen inni edrych yn bell am enghreifftiau o'r hyn y gallai datganoli ystadau'r Goron ei gynnig. Mae Rhun eisoes wedi nodi fod ystadau'r Goron wedi'u datganoli i'r Alban, fel y mae cyfiawnder, plismona ac adnoddau dŵr: ScotWind, rhaglen economi las yr Alban—dim ond blas o'r hyn y gallem ei wneud pe bai elw ystadau'r Goron yn llifo'n uniongyrchol i Drysorlys Cymru. I'r Gweinidog, rydym yn falch fod y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig. Gorau po fwyaf unedig yw ein llais yma, ac edrychaf ymlaen at weld y Gweinidog yn argyhoeddi Starmer ac at weld hyn ym maniffesto'r DU.

Nawr, mae hyn, yn ei gyfanrwydd, yn dod â mi'n ôl at fy mhwynt cychwynnol. Dylid cadw elw a wneir o adnoddau naturiol Cymru yng Nghymru i hybu ein heconomi. Dylai fod mor syml â hynny. Dyna pam ein bod yn galw am ddatganoli'r pwerau hynny. A ydym eisiau ymateb i her newid hinsawdd? A ydym eisiau grymuso ein cymunedau? Os mai 'ydym' yw eich ateb, mae'n dechrau heno gyda'r Senedd yn pleidleisio dros gynnig Plaid Cymru i fynnu pŵer dros ystadau'r Goron.

19:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig yna tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor

Felly, nesaf, y cynnig nesaf fydd i ethol Aelodau i bwyllgor y Pwyllgor Biliau Diwygio, a dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar.

Cynnig NNDM8338 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Sarah Murphy (Llafur Cymru), Darren Millar (y Ceidwadwyr Cymreig) a Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Biliau Diwygio.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig wedi'i wneud yn ffurfiol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Y cynnig nesaf fydd i ethol Aelod i bwyllgor, a dwi'n galw ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud yn cynnig yma eto. Darren Millar.

Cynnig NNDM8334 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Buffy Williams (Llafur Cymru) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn lle Sarah Murphy (Llafur Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig wedi ei symud. Y cynnig yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Y cynnig nesaf yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Darren Millar.

Cynnig NNDM8332 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol mai’r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yw’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu trafod NNDM8331 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Wedi ei wneud. Y cynnig yw i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig i atal y Rheolau Sefydlog wedi ei dderbyn. 

19:50

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog—Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru

Sy'n ein caniatáu ni nawr i gymryd y cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar y Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad COVID-19. Darren Millar i wneud y cynnig yn ffurfiol. 

Cynnig NNDM8331 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2023.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn ychwanegu Rheol Sefydlog 35 newydd, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith yn dilyn penderfyniad gan y Senedd y dylai’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ddod i ben, neu pan gaiff y Senedd hon ei diddymu, pa un bynnag sydd gyntaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Ydy, mae'r cynnig wedi ei wneud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

13. Cyfnod Pleidleisio

Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch—a dwi'n mawr obeithio nad oes yna dri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch—yna fe wnaf i symud yn syth i'r bleidlais. Ac felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl rŷn ni newydd ei chlywed, dadl Plaid Cymru ar Ystâd y Goron. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

Eitem 11. Dadl Plaid Cymru - Ystâd y Goron. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

A dyna ddiwedd ar ein pleidleisiau ni am y prynhawn yma—neu'r noson yma. Felly, dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio, ond mae yna un darn o waith yn weddill, a'r darn hynny o waith yw'r ddadl fer. 

14. Dadl Fer: Pwysigrwydd holl Aelodau'r Senedd yn dysgu CPR

Dwi'n galw ar Russell George i gyflwyno'r ddadl fer ar y pwnc o bwysigrwydd dysgu CPR i holl Aelodau'r Senedd. 

Ac os gall yr Aelodau adael yn dawel a chyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr. Russell George, gallwch ddechrau pan fydd yr Aelodau wedi gadael y Siambr. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael fy newis ar gyfer dadl fer olaf y tymor Senedd hwn, ac rwy'n nodi y byddaf yn rhoi munud o fy amser i'm cyd-Aelod, James Evans. Roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle hwn i annog pob Aelod o'r Senedd hon i ddysgu adfywio cardio-pwlmonaidd, CPR, dros doriad yr haf, neu efallai ar ôl dychwelyd i'r Senedd, gyda chefnogaeth Comisiwn y Senedd. Gwn fod Ken Skates, fel y Comisiynydd sy'n gyfrifol, wedi anfon rhywfaint o wybodaeth am hynny allan heddiw, ac rwy'n deall y bydd Ken Skates yn ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma—neu heno bellach, dylwn ddweud.

Gweithdrefn achub bywyd mewn argyfwng yw CPR, a dylid ei pherfformio pan fydd calon rhywun yn stopio curo, a elwir hefyd yn ataliad ar y galon. Nawr, mae tua 2,800 o ataliadau ar y galon yn digwydd y tu allan i'r ysbyty ledled Cymru bob blwyddyn, ond mae'r gobaith o oroesi yn isel iawn. Yng Nghymru, dim ond un o bob 20 sy'n dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty fydd yn goroesi. Y rheswm am hyn yn rhannol yw nad ydym fel cenedl yn teimlo'n hyderus iawn i roi CPR. Nawr, amcangyfrifir bod diffibrilwyr yn cael eu defnyddio mewn llai na 10 y cant o ataliadau ar y galon y tu allan i'r ysbyty, ac mae diffibrilwyr wedi'u cynllunio fel nad oes angen i chi gael hyfforddiant i'w defnyddio, ond yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, mae tri chwarter y bobl yn dweud na fyddent yn teimlo'n ddigon cyfforddus i weithredu pe baent yn gweld rhywun yn cael ataliad ar y galon. 

Mae ataliad ar y galon yn argyfwng meddygol ac mae pob munud sy'n pasio heb CPR neu ddiffibrilio yn lleihau'r gobaith o oroesi hyd at 10 y cant. Felly, byddwn yn awgrymu bod angen i bawb ohonom deimlo'n ddigon hyderus i roi CPR a defnyddio diffibriliwr, oherwydd os gellir rhoi CPR a diffibrilio ar unwaith, gall gobaith person o oroesi fwy na dyblu. 

Nawr, ychydig fisoedd yn ôl, darllenais stori newyddion ysbrydoledig o fy etholaeth fy hun, lle gwnaeth Jason Morrissey, tad o'r Drenewydd, achub bywyd ei ferch 16 oed. Cafodd merch Jason, Kirsten, ataliad ar y galon pan oedd hi gartref gyda'i thad a'i chwaer Niamh, a defnyddiodd Jason CPR tra ffoniodd Niamh y gwasanaethau brys, ac fe wnaeth hynny achub bywyd Kirsten. Mae hi bellach yn gwneud yn dda ac yn astudio ar gyfer ei Safon Uwch ar ôl cael cyfres o lawdriniaethau ar y galon.

Felly, straeon fel y rhain sy'n pwysleisio'r angen i bawb ohonom ddysgu CPR a'i ymarfer yn aml. Yn 2021, fe wnaeth fy nghyd-Aelod o grŵp y Ceidwadwyr Cymreig Suzy Davies lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod CPR yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd yng Nghymru, ac o fis Medi ymlaen, dylai disgyblion ysgolion uwchradd gael cyfle i ddysgu CPR, gan greu cenhedlaeth o achubwyr bywyd. Ond carwn awgrymu y dylem i gyd fod yn achubwyr bywyd.

Felly, rwyf i'n sicr wedi ymrwymo i adnewyddu fy hyfforddiant CPR dros y misoedd nesaf. Gan ddefnyddio ap Sefydliad Prydeinig y Galon, gallwch ddysgu CPR gartref mewn 15 munud. Gyda chlustog cadarn yn lle dymi CPR, bydd yr ap yn eich dysgu sut i roi CPR, defnyddio diffibriliwr ac achub bywydau llawer o bobl yn y pen draw—neu achub bywyd rhywun. Mae'n bosibl nad oes llawer ohonom a fyddai'n gallu cyflawni CPR pe bai argyfwng yn adeilad y Senedd yma, neu yn ein swyddfeydd etholaeth, neu yn ein cartrefi. Felly, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i'r rhai o'n cwmpas i ddysgu'r sgiliau achub bywyd sylfaenol hyn. Diolch yn fawr, Lywydd.  

19:55

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod yng nghanolbarth Cymru, Russell George, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Rwyf am gymryd munud o'ch amser i dynnu sylw'r holl Aelodau sy'n bresennol yn y Siambr hon at y ffaith fy mod yn trafod gyda Sefydliad Prydeinig y Galon ynglŷn â chael digwyddiad yn y Senedd i'r Aelodau, fel y gallant ddysgu hyfforddiant CPR. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod holl Aelodau'r Senedd yn gwbl ymwybodol o hyfforddiant CPR, a phe bai digwyddiad ar yr ystâd, byddai pob Aelod yn gwybod sut i achub bywyd.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu ymateb ar ran y Comisiwn i ddadl fer Russell George, a hoffwn ddiolch iddo ef ac i James Evans am gyfrannu ati.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd y ddau Aelod. Dylem i gyd ddysgu CPR fel mater o drefn, ac rwyf wedi mynd drwy'r broses honno drwy gynllun Ambiwlans Sant Ioan, a oedd yn ardderchog. Ond fel Russell George, rwy'n awyddus i ddiweddaru fy sgiliau yn y maes, oherwydd mae'n hanfodol ein bod i gyd yn hyderus ac yn gymwys mewn CPR.

Nawr, nid yw'r Comisiwn yn mandadu hyfforddiant penodol ar gyfer Aelodau, ond mae gennym raglen o weithgaredd hyfforddi ar gael i bawb, gan gynnwys staff. Mae'r hyfforddiant hwn yn cynnwys cymorth cyntaf ar gyfer argyfwng yn y gwaith. Mae'n dysgu technegau a gwybodaeth achub bywyd y gellir eu defnyddio yn y gweithle a thu hwnt. Mae'r cwrs hwn wedi cael ei gynnig ddwywaith yn y flwyddyn ddiwethaf, ar y safle yn Nhŷ Hywel.  Mae'n cynnwys: rolau a chyfrifoldebau swyddog cymorth cyntaf; asesu sefyllfa argyfwng yn y ffordd fwyaf diogel posibl; CPR a'r defnydd o ddiffibriliwr; rhoi cymorth cyntaf i rywun sy'n tagu; a hefyd ymdrin â sioc, llosgiadau, sgaldiadau, gwaedu a mân anafiadau. Felly, mae'n eithaf cynhwysfawr.

Nawr, cyflwynir cyrsiau gan ACT Training, a lle mae chwech neu fwy o fynychwyr wedi'u cofrestru ar eu cyfer, byddant yn digwydd yn yr adeilad. Lle mae llai na chwech o bobl â diddordeb yn y cwrs, gellir trefnu i fynychu cwrs gydag Ambiwlans Sant Ioan. Gellir gwneud hynny'n lleol, yng Nghaerdydd, Wrecsam, Abertawe, Casnewydd, Abergele neu Ben-y-bont ar Ogwr. Nawr, yn yr hydref, er mwyn codi ymwybyddiaeth o weithdrefnau cymorth cyntaf ar y safle, gallaf sicrhau'r Aelodau y bydd y Comisiwn yn darparu sesiynau galw heibio ym Mae Caerdydd. Byddwn yn gwneud hyn hefyd yn ystod toriad yr haf, a byddwn yn darparu sesiynau hyfforddi byr a fydd yn cynnwys CPR a'r defnydd o ddiffibrilwyr. Byddant yn agored i Aelodau'r Senedd, i staff cymorth, i staff y Comisiwn ac i gontractwyr ar y safle.

Wrth gwrs, fel y nododd Russell George, mae yna adnoddau hyfforddi eraill i'w cael yn y maes. Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn cynnig cwrs hyfforddi CPR rhyngweithiol ar-lein rhagorol am ddim. Ac fel y dywedodd Russell George, dylid annog pawb i edrych ar yr ap.

Gallaf sicrhau'r holl Aelodau fod y Comisiwn wedi ymrwymo i reoli'r ddarpariaeth cymorth cyntaf, gan gynnwys pecynnau cymorth cyntaf, diffibrilwyr, ystafelloedd cymorth cyntaf a hyfforddiant ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf, i sicrhau bod holl staff y Comisiwn a defnyddwyr adeiladau ar ystâd y Senedd—ac nid yng Nghaerdydd yn unig; yng ngogledd Cymru hefyd—gan gynnwys Aelodau a staff cymorth, contractwyr ac ymwelwyr, yn cael cymorth cyntaf yn ôl yr angen. Mae gennym ddiffibrilwyr cludadwy, sy'n cynnwys cyfarwyddiadau gweledol a chlywadwy ar sut i'w defnyddio'n ddiogel, sy'n cynorthwyo yn ystod argyfyngau. Mae dwy ystafell cymorth cyntaf ym Mae Caerdydd ar gael i'w defnyddio—un yn Nhŷ Hywel a'r llall yn adeilad y Senedd ei hun—ac mae gan swyddogion diogelwch ddau fag ymateb sy'n dal pecynnau cymorth cyntaf a diffibrilwyr, ac mae citiau cymorth cyntaf a stoc ychwanegol yn cael eu storio ar y safle. Nawr, i gynorthwyo ac annog yr Aelodau i fanteisio ar y cyfleoedd i gael hyfforddiant CPR, byddaf yn dosbarthu gwybodaeth gynhwysfawr i bob Aelod ar ran y Comisiwn, ac rwy'n eu hannog i'w rhannu gyda'u staff. Diolch yn fawr iawn.

20:00

Diolch yn fawr, Ken Skates. Ac fe orffennwn ar y nodyn hwnnw o undod. Os nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gorffen y bocs Celebrations, fe gaf fi losin i ddathlu diwedd ein tymor Cyfarfod Llawn [Chwerthin.]

Pob hwyl i bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 20:01.