Y Cyfarfod Llawn

Plenary

11/07/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf o fusnes heddiw fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.

Swyddi Zimmer Biomet

1. Pa sylwadau fydd y Prif Weinidog yn eu gwneud i Lywodraeth y DU i gefnogi'r achos dros gadw swyddi Zimmer Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OQ59813

Dirprwy Lywydd, mae cyfarfod yn cael ei drefnu rhwng Gweinidog yr Economi a'r Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes a Masnach i drafod y bwriad i gau ffatri Zimmer Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu cymaint o swyddi â phosibl.

Prif Weinidog, rwy'n falch iawn o glywed am yr ymgysylltiad gweithredol hwnnw, oherwydd, ar ôl cael ei galonogi gan werthiannau o bengliniau a chluniau newydd a chyfraddau triniaeth a oedd yn gwella, dechreuodd Zimmer Biomet eleni gyda,

'chwarter rhyfeddol lle'r aeth fwy neu lai popeth yn well na'r disgwyl',

yn ôl y Prif Swyddog Gweithredol, Bryan Hanson, yn ôl ym mis Mai. Adroddodd y cwmni gynnydd o 10 y cant mewn refeniw ac incwm net 16 gwaith yr hyn yr oedd flwyddyn ynghynt. Yn dilyn hynny, cynyddodd ei ragolwg o elw uchaf ac isaf ar gyfer 2023, gan ddisgwyl bellach i refeniw gynyddu 5 i 6 y cant, o'i gymharu â'i ddisgwyliadau blaenorol sef cynnydd o rhwng 1.5 a 3.5 y cant. Dyddiau braf i Zimmer Biomet. Felly, Prif Weinidog, rydym ni hyd yn oed yn fwy yn y tywyllwch ynghylch y rhesymau am y cyhoeddiad annisgwyl ganddyn nhw i ymgynghori ar gael gwared ar dros 540 o swyddi gweithgynhyrchu o'u canolfan hirsefydlog ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn amau mai penderfyniad a wnaed yn yr Unol Daleithiau, mewn ystafell bwrdd bell iawn, yw hwn. Felly, a allech chi a Gweinidogion wneud popeth o fewn eich gallu i annog Gweinidogion y DU i ymuno â'r galwadau i'r gorfforaeth fyd-eang hynod broffidiol hon, y mae'n ymddangos ei bod wedi colli ei chwmpawd moesol, ailystyried, dangos teyrngarwch i'r gweithlu a'r ardal sydd wedi dangos ei theyrngarwch ers degawdau? Ac os byddan nhw'n methu â gwrando, fel y maen nhw wedi methu ag ymgysylltu drwy gydol y saga hyd yma, yna a allwch chi sicrhau'r gweithwyr hyn y bydd pob cefnogaeth gan Cyflogadwyedd Cymru yn cael ei rhoi i sicrhau nad yw'r sgiliau hynny'n cael eu gwastraffu, bod eu blynyddoedd o brofiad yn cyfrif am rywbeth ac y gall y gweithwyr fynd ymlaen i gyflogaeth fuddiol gyda chwmnïau eraill a fydd, o bosibl, yn eu trin gyda'r parch a'r cwrteisi does bosib nad yw pob gweithiwr yn eu haeddu?

Wel, Dirprwy Lywydd, mae'r Aelod dros Ogwr yn codi cyfres lawn o bwyntiau pwysig iawn yn y fan yna ar ran y gweithlu teyrngar iawn a llwyddiannus iawn hwnnw, ac, yn wir, y synnwyr hwnnw o gwmni sydd wedi colli ei ffordd braidd yn ddiweddar o ran cynnal ei gysylltiadau yn briodol â Llywodraeth Cymru a chydag awdurdodau cyhoeddus eraill. Nid yn unig y mae'r Gweinidog wedi trefnu i gyfarfod â'r Gweinidog gwladol yn yr Adran Busnes a Masnach, ond ysgrifennodd at uwch is-lywydd y cwmni ar unwaith o glywed y newyddion, a chafodd gyfarfod gyda'r tîm rheoli yn y ffatri ar 6 Gorffennaf. Fel y dywedodd fy nghyd-Weinidog, Vaughan Gething, yma ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf, ein nod yw ceisio achub swyddi, yn hytrach na derbyn bod swyddi'n mynd. Ac yn hynny, mae adlais yn y llythyr a gawsom gan yr uwch is-lywydd, dyddiedig ddiwedd mis Mehefin, lle mae'n dweud ar ddechrau ei lythyr,

'Dydyn ni ddim wedi gwneud penderfyniad eto'.

Ac mae hynny'n bwysig iawn, oherwydd mae hynny'n rhoi chwe mis i ni ddeall cefndir y cynigion yn well ac yna ceisio dylanwadu arno i ddod i wahanol gasgliad. Byddwn wrth gwrs yn defnyddio'r holl gymorth sydd yno i weithwyr sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa hon, os bydd yr angen yn codi, ond yr hyn y byddwn ni'n canolbwyntio arno yn y dyfodol agos fydd sgyrsiau uniongyrchol gyda'r cwmni, gwell dealltwriaeth o'u sefyllfa, ac yna'r ymdrech i symud pethau i wahanol gyfeiriad.

Prif Weinidog, roedd cynigion Zimmer Biomet yn sioc enfawr i Lywodraeth y DU hefyd . Fel chi, nid oedd ganddyn nhw unrhyw wybodaeth flaenorol am fwriadau'r cwmni. Fel y dywedais wrth Weinidog yr economi yr wythnos diwethaf, mae'r swyddi hyn yn hanfodol i'm rhanbarth, ond mae'r cynhyrchion hefyd yn hanfodol i'n GIG, fel y nodwyd gan Huw—ac rwy'n ddiolchgar iddo am godi'r cwestiwn hwn. Mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i berswadio Zimmer i gadw'r swyddi yma yng Nghymru. A allwch chi ymhelaethu ar y trafodaethau yr ydych chi eisoes wedi eu cael, ac yn bwriadu eu cael, gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU am y sefyllfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac a wnewch chi addo i weithio'n adeiladol gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU i sicrhau bod pob llwybr posibl yn cael ei archwilio er mwyn cadw'r swyddi gweithgynhyrchu yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Diolch.

13:35

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pellach yna. Rwyf i wedi gweld y llythyr a lofnodwyd gan yr Arglwydd Johnson, y Gweinidog Buddsoddi yn yr Adran Busnes a Masnach, ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r cwmni, yn gofyn iddyn nhw fod ar gael ar gyfer cyfarfod cyn gynted â phosibl. Felly, does gen i ddim amheuaeth bod Gweinidogion y DU yn ymwneud â'r mater hwn, ac rwy'n credu pe bai unrhyw un yn edrych ar hanes y ffordd y cafodd ymateb ei roi i benderfyniad y Ford Motor Company i adael Pen-y-bont ar Ogwr, byddwch chi'n gweld yno ei bod hi'n ymdrech drawslywodraethol wirioneddol, gyda chymorth gan Lywodraeth y DU, gan Lywodraeth Cymru a chan yr awdurdod lleol hefyd. Ac, wrth gwrs, yn y cyfarfod y bydd Gweinidog Gething yma yn ei gael gyda'r Gweinidog Gwladol yn yr Adran Busnes a Masnach, bydd hwnnw'n gyfle i fapio sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd yn yr achos hwn hefyd.

Hoffwn ddiolch i Huw am godi hyn heddiw, ac wrth gwrs rwy'n un â'r gweithwyr sydd bellach yn wynebu ansicrwydd heb unrhyw fai arnyn nhw, fel rydym ni eisoes wedi clywed—Biomet yn cael amser gwell na'r disgwyl. Nawr, mae cynnig Biomet yn sôn am weithgynhyrchu, ond wrth gwrs mae swyddi eraill ar y safle, fel ymchwil a datblygu. Nawr, nid yw ymchwil a datblygu o reidrwydd angen cadwyn gyflenwi, felly pa sicrwydd mae'r Llywodraeth wedi ei gael, pe bai'r cynnig hwn yn digwydd, y byddai'r swyddi nad ydyn nhw'n rhai gweithgynhyrchu yn cael eu cadw ar y safle?

Ac mae'n rhaid i mi ddweud hefyd, Prif Weinidog, fel rhywun sydd yn ei ugeiniau hwyr, fy mod i'n bryderus iawn am ddyfodol fy nghenhedlaeth i a'r cenedlaethau ar ôl fy un i. Rydym ni'n sôn yn aml am gadw pobl ifanc yn ein cymunedau, ond mae hynny dod yn fwy anodd wrth i swyddi o ansawdd da barhau i ddiflannu. Rwy'n poeni, wrth gwrs, am gynnydd mewn agweddau ymhlith fy nghyfoedion mai'r opsiwn gorau iddyn nhw nawr yw symud allan o Gymru. Hyd yn hyn, ychydig iawn o dystiolaeth sydd o newid i'r rhagolygon ar gyfer fy nghenhedlaeth. Beth yn union mae'r Llywodraeth yn ei gynnig i bobl ifanc Cymru, oherwydd, o'n safbwynt ni, mae'r darlun yn parhau i fod yn llwm?

Llywydd, mae'r cwmni wedi cadarnhau y bydd logisteg ac ymchwil a datblygu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn parhau. Felly, mae gennym ni hynny yn uniongyrchol gan y cwmni. Nid wyf i'n rhannu'r un pesimistiaeth â'r Aelod am ddyfodol pobl ifanc yng Nghymru. Mae gan Gymru swyddi na ellir eu llenwi. Mae pobl ifanc yn nwydd y mae galw mawr amdano. Mae cyfleoedd i bobl ifanc ym mhob rhan o Gymru. Rwy'n deall pam, pan fo cyflogwr mawr mewn cymuned yn anfon arwydd o fod eisiau tynnu'n ôl, bod hynny'n anfon neges i bobl yn yr ardal honno. Wrth gwrs ei fod, ac wrth gwrs mae hynny'n cael effaith ar farn pobl eu hunain ar eu dyfodol. Ond os edrychwch chi ar economi Cymru yn gyffredinol, y prif broblem y mae llawer o gyflogwyr yn ei hwynebu yng Nghymru yw'r anhawster o ddenu pobl i ddod i weithio iddyn nhw ar gyfer swyddi y maen nhw eisiau eu gweld yn cael eu gwneud a lle na allan nhw ddenu ymgeiswyr sydd â chymwysterau priodol ac sydd ar gael. Felly, rwy'n credu bod pobl sy'n cael eu magu yng Nghymru heddiw yn wynebu dyfodol gwahanol i rai o'r bobl sydd wedi mynd o'u blaenau, a'r dasg i'r Llywodraeth yw gwneud yn siŵr bod y bobl ifanc hynny mor barod ag y gallan nhw fod ar gyfer y nifer fawr o gyfleoedd yr wyf i'n credu fydd yno iddyn nhw.

Diogelu Cynefinoedd a Chynyddu Bioamrywiaeth

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu cynefinoedd a chynyddu bioamrywiaeth? OQ59838

Gwn fod gennym ni lawer o ysgolion yma sydd wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau am y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Maen nhw yma yn y Pierhead, lle maen nhw wedi cael diwrnod bioamrywiaeth gwych, ac mae'n hyfryd—

A allai'r Aelod ofyn y cwestiwn ar y papur yn gyntaf, os gwelwch yn dda, ac yna ychwanegu'r cwestiwn atodol?

Diolchaf i'r Aelod am ei gwestiwn gwreiddiol, Dirprwy Lywydd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amrywiaeth o fentrau i ddiogelu cynefinoedd a chynyddu bioamrywiaeth. Mae hynny'n cynnwys gwella cyflwr a gwydnwch ein safleoedd gwarchodedig, adfer mawndir a chwblhau ein rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig. Mae diogelu cynefinoedd hefyd o fudd i bryfed peillio a rhywogaethau eiconig fel y gylfinir a'r môr-wyntyll pinc.

13:40

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â dau safle arbennig iawn yn fy rhanbarth, y mae'r ddau yn wynebu dinistr cynefin er mwyn diwallu anghenion sy'n cystadlu. Roedd y cyntaf ar ben mynydd Craig y Pal uwchben Glais, sy'n gartref i lawer o rywogaethau ar y rhestr goch, gan gynnwys barcutiaid coch, ystlumod a llu o fflora a ffawna. Ac eto, yn y rhuthr i sicrhau ynni adnewyddadwy, mae'r safle hwn ar fin cael ei ddinistrio i greu cartref i barc solar. Ychydig i lawr y ffordd, yn West Cross, ymwelais â chomin Clun a chefais fy syfrdanu'n llwyr gan ei amrywiaeth enfawr. O loÿnnod byw prin i fawnogydd, mae popeth ar y safle hwn: rhostiroedd sy'n gartref i nifer o adar prin, a gwlypdiroedd sy'n caniatáu i blanhigion prin ffynnu. Ac eto, unwaith eto, mae ar fin cael ei ddinistrio gan ddatblygwyr er mwyn bodloni'r galw am dai fforddiadwy. Prif Weinidog, sut gall Cymru ddweud ei bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a chadw at addewid COP15 os yw'n caniatáu dinistrio cynefinoedd mor hardd ac amrywiol yn ddiesgus? 

Wel, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i Altaf Hussain yn gyntaf am yr hyn a ddywedodd am y bobl ifanc sydd wedi bod yn y Senedd a'i chyffiniau heddiw—Her Hinsawdd Cymru yn dod â'r plant ysgol gynradd hynny i roi gwobrau? Mae'n hyfryd eu gweld nhw yma. Hoffwn ddiolch i'r holl ysgolion hynny sy'n cefnogi'r bobl ifanc hynny i gymryd rhan yn y gystadleuaeth honno. Fel y gwyddom, nid oes unrhyw bwnc y mae pobl ifanc yn ymateb iddo yn fwy angerddol na dyfodol Cymru mewn cyfnod o newid hinsawdd.

Diolchaf i Altaf Hussain hefyd, Dirprwy Lywydd, am dynnu sylw at y safleoedd y mae wedi ymweld â nhw. Dilynais yr hyn a ddywedodd ar lawr y Senedd dim ond wythnos neu ddwy yn ôl am ddychweliad dyfrgwn i Afon Cynon, ac mae ei frwdfrydedd ynghylch y pethau sy'n digwydd ar lawr gwlad yma yng Nghymru yn werthfawr iawn. Ond byddwn yn dweud hyn wrtho: nid oes mwy o fygythiad i rywogaethau o bob math na'r newid yn yr hinsawdd ei hun, ac mae'n anodd cydbwyso pethau. Mae'n rhaid i ni greu dyfodol ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru gan mai dyna'r ffordd yr ydym ni'n gwneud ein cyfraniad mwyaf at fynd i'r afael â'r risgiau a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd i bob rhywogaeth, gan gynnwys y ddynol ryw. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma yng Nghymru yw sicrhau'r cydbwysedd hwnnw yn y ffordd fwyaf gofalus. Mae'n rhaid i mi beidio â gwneud sylwadau ar faterion penodol sy'n rhan o broses gynllunio, ond gwn fod y broses gynllunio wedi'i dylunio i wneud yn siŵr ein bod ni'n cydbwyso'r angen am ddyfodol ynni adnewyddadwy Cymru, tra'n diogelu'r amgylcheddau gwerthfawr hynny sydd gennym ni ar y tir ac yn y môr. Tra bod pobl leol bob amser yn eithriadol o falch o'r natur sydd ganddyn nhw ar garreg eu drws ac yn awyddus iawn i'w diogelu ar gyfer y dyfodol, mae'r system gynllunio yno i wneud yn siŵr bod eu lleisiau a'u safbwyntiau yn cael eu clywed, a bod penderfyniad cytbwys yn cael ei wneud sy'n cydbwyso'r ystyriaethau lawer sy'n cystadlu y mae'n rhaid eu hystyried wrth i ni geisio, ar yr un pryd, chwarae ein rhan i greu'r dyfodol ynni adnewyddadwy hwnnw tra'n cynyddu bioamrywiaeth a diogelu cynefinoedd yn y ffordd y dywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn gwreiddiol.

Roedd nifer ohonom ni'n hapus pan oeddech yn dweud y byddech chi’n cyflwyno mesur ar adfywio natur a fyddai’n gosod llywodraethiant amgylcheddol annibynnol. Roedd siom am y ffaith na fyddai'r mesur yma’n cael ei gyflwyno eleni.

Felly, Prif Weinidog, a allech chi roi eich ymrwymiad, os gwelwch yn dda, y bydd datblygu Papur Gwyn ar y Bil hwn yn cael ei wneud yn flaenoriaeth yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac y bydd ymgysylltiad rhanddeiliaid ar ei gynnwys yn dechrau ar frys, os gwelwch yn dda, fel y bydd y Bil hwn, pan fydd yn cael ei gyflwyno—ac rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y bydd hynny'n digwydd yn 2024—yn cael ei adeiladu ar fewnbwn arbenigol a chyd-ddealltwriaeth ac, o ganlyniad, y bydd y Bil y byddwn ni'n ei gael yn cael cefnogaeth y Senedd ac yn cyflawni'r uchelgais yr ydym ni'n ei rannu o fynd i'r afael â'r argyfwng natur? Diolch.

13:45

Diolch yn fawr i Delyth Jewell. Fel yr esboniais i bythefnos yn ôl ar lawr y Senedd, roedd nifer fawr o Filiau roedd aelodau'r Cabinet eisiau eu cael yn y rhaglen am y flwyddyn ddeddfwriaethol nesaf, ac ar ddiwedd y dydd, roedd hi jest yn amhosibl i gael popeth i mewn yn y drydedd flwyddyn.

Ond rydym ni wedi ymrwymo i'r Papur Gwyn hwnnw fel rhagarweiniad i'r Bil ei hun, a fydd yn dod gerbron y Senedd, fel yr ydym ni wedi ei ddweud erioed, yn ystod tymor y Senedd hon. Gwnaeth Delyth Jewell, Dirprwy Lywydd, gyfres o bwyntiau pwysig iawn ynghylch sut y gellir defnyddio'r broses Papur Gwyn honno orau i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael y dadleuon a'r trafodaethau hynny gyda phobl a fydd â buddiant yn y trefniadau llywodraethu amgylcheddol ac yn y targedau bioamrywiaeth y byddwn ni'n eu cynnwys yn yr un Bil. Mae'r Gweinidog, rwy'n gwybod, wedi ymrwymo i ddefnyddio'r Papur Gwyn fel ffordd o ennyn diddordeb pobl yn y ddadl honno ac, felly, gwneud y Bil, pan ddaw gerbron y Senedd yn ystod dwy flynedd olaf tymor y Senedd, yn Fil mor llwyddiannus ag y gall fod, ac un a fydd yn cael y gefnogaeth ehangaf bosibl.

Prif Weinidog, i ddiogelu cynefinoedd, cynyddu bioamrywiaeth a mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur cynyddol, bydd angen i Gymru baratoi ar gyfer y dyfodol a sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â bylchau sgiliau presennol er mwyn cyflawni'r pontio teg hwnnw tuag at economi sy'n gadarnhaol o ran natur. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaeth natur i Gymru?

Diolch yn fawr iawn i Vikki Howells am y pwyntiau pwysig yna. Mae sicrhau bod gennym ni'r sgiliau, yr wybodaeth a'r capasiti cywir yn rhan hanfodol o sut y byddwn ni'n gallu mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd yn effeithiol. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cefnogi datblygiad gwasanaeth natur i Gymru. Rydym ni eisoes wedi darparu cyllid ar gyfer y cyfnod cwmpasu, ac roedd y cyfnod cwmpasu hwnnw'n cynnwys dylunio a datblygu achos busnes ar gyfer cyllid tymor hwy ar gyfer y cynllun. Mae gan yr achos busnes hwnnw nifer o ffrydiau ynddo, gan gynnwys darparu'r gwasanaeth natur hwnnw i Gymru ac, yn wir, manteisio ar brofiad arddangoswr gwasanaeth natur Parc Rhanbarthol y Cymoedd, y gwn y bydd yr Aelod yn gyfarwydd iawn ag ef. Rydym ni wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â hynny i gyd. Cafodd swyddogion gyfarfod â rhanddeiliaid sy'n arwain yr holl waith hwnnw yn ôl ym mis Mehefin, ac edrychwn ymlaen at yr arfarniad o'r achos busnes hwnnw ac at weld yr hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud o ganlyniad i'r gwaith sydd eisoes wedi cael ei fuddsoddi ynddo.

Ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf, fe wnaethom ni ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd a'r rhan hanfodol y maen nhw'n ei chwarae yn ein hecosystemau sy'n cefnogi bioamrywiaeth. Mae tair i bum gwaith yn fwy o garbon yn cael ei storio yn ein glaswelltiroedd nag yn ein coedwigoedd, ac, yn anffodus, collwyd 90 y cant o ddolydd yng Nghymru. Mae bywyd gwyllt yn dirywio ar raddfa ddigynsail, ac mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, a dyna pam mae angen i ni edrych ar roi amddiffyniadau ar waith ar frys a rheoli dolydd, ymylon, glaswellt amwynder a hyd yn oed ein gerddi ein hunain mewn ffordd wahanol. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i gynghorau sy'n cynnal ymylon a glaswellt amwynder i ganiatáu i amrywiaeth o rywogaethau ffynnu o dan ein partneriaethau natur lleol ac o dan eu hymgyrch Iddyn Nhw? Gall fod yn anodd iawn wrth wynebu agweddau negyddol ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae mor bwysig dod â phobl gyda ni.

Rwy'n talu teyrnged i'r gwaith y mae'r Aelod ei hun wedi ei wneud yn y maes hwn. Mae ymgyrch Iddyn Nhw i raddau helaeth yn ganlyniad i'w hymdrechion hi ei hun i ysgogi'r camau hynny gan awdurdodau lleol i newid y ffordd y mae glaswelltir amwynder ac ymylon yn cael eu rheoli ganddyn nhw.

Rwy'n credu ei bod hi'n werth ailadrodd un neu ddau o'r ystadegau a gynigiwyd gan Carolyn Thomas ar ddechrau ei chwestiwn atodol, Dirprwy Lywydd. Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. Collwyd 97 y cant o'r holl ddolydd glaswelltir iseldir traddodiadol yng Nghymru a Lloegr rhwng 1930 a 1987. Mae'n anodd ei ddychmygu, onid yw? Collwyd 97 y cant mewn cwpl o genedlaethau yn unig.

Allwn ni ddim ail-greu hynny i gyd drwy'r cam syml o ddychwelyd yr hyn a oedd yno o'r blaen, ond yr hyn y gallwn ni ei wneud yw defnyddio'r ymylon hynny, y dolydd hynny, y glaswelltiroedd hynny sydd mewn rheolaeth awdurdodau lleol, ac, yn wir, fel y dywedodd Carolyn Thomas, pethau y gallwn ni eu gwneud yn ein gerddi ein hunain, i geisio ail-greu rhai o'r cynefinoedd hynny sy'n caniatáu i adar, mamaliaid bach, amffibiaid, ymlusgiaid, yr holl bethau sydd fel arall mewn perygl, barhau i ffynnu yma yng Nghymru.

Rwy'n talu teyrnged i waith awdurdodau lleol a'r ffordd newidiol y maen nhw'n cyflawni eu cyfrifoldebau. Iddyn Nhw yw enw'r ymgyrch, ond mewn sawl ffordd, mae'n ymgyrch i bob un ohonom ni.

13:50
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf clywodd yr ymchwiliad COVID gennych chi a chan y Gweinidog iechyd ar y pryd, Gweinidog yr economi erbyn hyn, ar barodrwydd ar gyfer COVID. Clywsom gan yr Aelod dros Gwm Cynon fod parodrwydd yn agwedd hanfodol ar feddyliau unrhyw Lywodraeth wrth gyflwyno polisi; yn ei hachos hi, roedd hi'n eich holi am barodrwydd o ran natur. Pam na fyddai Gweinidog sy'n gyfrifol am y portffolio iechyd yn darllen ei bapurau, ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn gwneud y penderfyniadau mwyaf gwybodus i wneud yn siŵr bod Cymru yn cael ei diogelu a bod ganddi'r mesurau gorau ar waith pe bai pandemig yn ein taro?

Fel yr wyf i wedi esbonio i arweinydd yr wrthblaid yn y gorffennol, nid wyf i'n credu ei bod hi'n iawn ail-chwarae digwyddiadau'r ymchwiliad yma, na chynnig sylwebaeth barhaus ar yr ymchwiliad ei hun. Cwestiynau a ofynnwyd yn yr ymchwiliad oedd y rheini gan ddefnyddio'r pwerau cyfreithiol sydd ganddo. Rhoddir tystiolaeth o dan lw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig parchu'r ymchwiliad, a pheidio â cheisio rhagweld ei amcanion na'i ail-chwarae y tu allan i'w baramedrau ei hun.

Fe wnaf i ateb cwestiwn yr Aelod, serch hynny, yn y ffordd fwy cyffredinol hon: mae pob Gweinidog, pan fyddan nhw'n dod yn gyfrifol am bortffolio newydd, yn derbyn llawer iawn o wybodaeth gan eu gweision sifil. Mae'n crynhoi llawer iawn o'r hyn y bydd angen iddyn nhw ei wybod. Mae'n dangos iddyn nhw lle bydd angen iddyn nhw ddarllen ymhellach ac yn fwy manwl, ac mae Gweinidogion yn dilyn y cyngor hwnnw. Yn syml, nid yw unrhyw awgrym y gallai Gweinidog gychwyn ar ôl-gatalog o ddogfennau a luniwyd dros gyfnod o 15 mlynedd, ac ar yr un pryd cyflawni ei gyfrifoldebau bob dydd, yn adlewyrchu'r ffordd y mae Llywodraeth yn gweithio yng Nghymru nac yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.

Roedd y cwestiwn yn seiliedig ar dystiolaeth a roddwyd mewn ymchwiliad cyhoeddus. Mae'n gwbl resymol i Aelodau ddod i'r Siambr hon â gwybodaeth sydd yn y parth cyhoeddus a chwestiynu ymateb y Llywodraeth iddi. 

Heddiw, mae'r rhifau diweithdra wedi cael eu cyhoeddi. Gweinidog yr Economi, yn amlwg, sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau allweddol yn y portffolio hwnnw a fydd yn effeithio ar ragolygon economaidd a rhagolygon cyflogaeth pobl ar hyd a lled Cymru. Os yw wedi dangos mewn portffolios eraill nad oes ganddo reolaeth o'i friff, sut allwn ni fod yn hyderus ei fod yn mynd i allu ymdrin â'r darlun economaidd sy'n datblygu yma yng Nghymru?

Am y trydydd mis yn olynol, Cymru sydd â'r ffigurau diweithdra uchaf o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Felly, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r hyn sy'n batrwm sy'n dod i'r amlwg, sef mai Cymru sydd â'r diweithdra uchaf o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig? A phan edrychwch chi ar ogledd-ddwyrain Lloegr, lle'r ydym ni'n cael ein hystyried yn gyson fel cymaryddion economaidd, mae ganddyn ddiweithdra sy'n gostwng yno, a mwy o gyflogaeth. Felly, beth allwn ni ei ddysgu gan ogledd-ddwyrain Lloegr i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwella rhagolygon cyflogaeth pobl yma yng Nghymru?

Yr hyn yr ydym ni'n ei ddysgu o economi'r Deyrnas Unedig, ym mhob rhan ohoni, yw bod y Torïaid wedi chwalu'r economi a bod pobl ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig yn wynebu dyfodol lle mae Banc Lloegr wedi penderfynu cymell dirwasgiad er mwyn ymdrin â'r pwysau chwyddiant y mae ei Lywodraeth ef wedi caniatáu iddo ddatblygu y tu mewn i economi'r DU. Nid oes angen unrhyw wersi o rywle arall ar Weinidogion yma—Gweinidog yr economi nac unrhyw un arall—o ran sut i gyflawni ein cyfrifoldebau, pan ydym ni'n gweld costau morgais yn codi heddiw—[Torri ar draws.]

Un eiliad os gwelwch yn dda. A all aelodau'r meinciau cefn ar ochr y Llywodraeth ac mewn pleidiau eraill ganiatáu i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn a ofynnwyd iddo? Mae angen iddo weiddi oherwydd eich bod chi'n siarad gormod, i fod yn ddi-flewyn-ar-dafod. Gadewch i ni gadw pethau'n dawel, tawelu, a gadael i'r Prif Weinidog siarad.

13:55

Dirprwy Lywydd, mae'r pwysau y tu mewn i economi'r DU yn enfawr. Mae cyfraddau morgeisi heddiw wedi codi uwchlaw'r gyfradd yr oedden nhw yn nyfnderoedd argyfwng Liz Truss. Mae hynny'n cael effaith ar bob teulu ym mhob rhan o Gymru sydd â morgais i'w dalu. Ac o ran yr arwyddion mewn ffigurau diweithdra, cymysg fel y maen nhw heddiw, mae arweinydd yr wrthblaid bob amser yn dewis yn ddi-ffael yr un ffigur y mae'n credu fydd yn rhoi Cymru yn y goleuni gwaethaf posibl. Mae yna ffigurau eraill yn yr un gyfres sy'n dangos bod cyflogaeth wedi cynyddu yng Nghymru fis diwethaf, eto, ac ar gyfradd gyflymach nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae yna ffigurau yn yr un gyfres, a gyhoeddwyd heddiw, sy'n dangos bod anweithgarwch economaidd wedi gostwng fis diwethaf yng Nghymru eto. Mae'r darlun yn gymysg yma yng Nghymru, fel y mae mewn mannau eraill, ond mae'r cefndir iddo yn amlwg ym mhobman. Mae'r ffordd y mae economi'r DU yn cael ei chamreoli yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau teuluoedd ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, a'i blaid ef a'i Lywodraeth ef yn San Steffan sy'n gyfrifol am hynny. 

Chi, yn gwbl bendant, sy'n gyfrifol am gamreoli economi Cymru, Prif Weinidog, am 25 mlynedd o ddiffyg gweithredu i wella rhagolygon economaidd pobl yng Nghymru. Rwy'n sylweddoli bod gennych chi becyn cyflogaeth ar gael i greu 36 o wleidyddion ychwanegol yn y lle hwn, ac rwy'n sylweddoli bod Gweinidog yr economi yn ceisio gwella ei ragolygon gwaith ei hun trwy ymgyrchu i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, ond byddwn i'n argymell ei fod yn canolbwyntio ar ei swydd bresennol ac yn dechrau creu gwell rhagolygon gwaith i bobl yma yng Nghymru, fel y gallwn ni atal y cynnydd mewn diweithdra sy'n golygu mai ni sydd ar flaen y gad am yr holl resymau anghywir.

Gofynnaf i chi eto, Prif Weinidog: beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r sylfaen sgiliau a'r rhagolygon gwaith i bobl ledled Cymru? Dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd arolwg a oedd yn dangos bod Caerdydd, o'r 50 o ddinasoedd, wedi dod yn seithfed ar hugain a bod Abertawe wedi dod yn hanner canfed o ran rhagolygon gwaith a rhagolygon economaidd. Yn anffodus, diffyg sgiliau oedd yn dal llawer o'r darpar bobl hyn yn ôl rhag cael swyddi o ansawdd a allai yn y pen draw dalu cyflogau gwerth chweil. Felly, beth, ar ôl 25 mlynedd o Lafur yn difetha economi Cymru, mae'r Prif Weinidog a'i Weinidog economi rhan-amser yn ei wneud i atal y dirywiad hwnnw?

Mae arogl llosgi'r gannwyll yn hwyr dros y mathau hynny o wawdiau isel i'w ganfod ym mhobman yn y Siambr. Mae angen sgriptiwr gwell arno, a hynny ers amser maith. Y rheswm mae'r Blaid Lafur wedi bod yn gyfrifol am yr economi yng Nghymru ers 25 mlynedd, Dirprwy Lywydd, yw oherwydd bod pobl Cymru yn dychwelyd Llywodraethau Llafur mewn etholiadau olynol. Maen nhw'n gwybod beth yw neges y Torïaid i Gymru, bob amser: 'Pan ddaw i Gymru, mae'n waeth.' Dyna'r unig beth sydd ganddyn nhw i'w ddweud byth wrth bobl yng Nghymru, a bob tro, mae pobl yng Nghymru yn gwrthod yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud. Bydd ei berfformiad heddiw yn atseinio yng nghlustiau pobl ym mhob rhan o Gymru sy'n wynebu, fel y maen nhw, chwyddiant sydd allan o reolaeth, prisiau tanwydd ac ynni sy'n uwch nag erioed o'r blaen, dirwasgiad wedi'i gymell er mwyn ymdrin â'r llanast y maen nhw wedi ei wneud—dyna fydd pobl y tu allan yn ei glywed—a chyni cyllidol, sydd wedi dal eu cyflogau i lawr a rhoi eu budd-daliadau ar y lefel isaf mewn 50 mlynedd. Yr hyn y mae pobl y tu allan i'r Siambr hon yn ei wybod yw mai'r peth mwyaf a all ddigwydd i helpu economi Cymru yw Llywodraeth Lafur, a bydd popeth yr ydym ni wedi ei glywed heddiw yn helpu pobl i ddod i'r casgliad hwnnw.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mi hoffwn i ofyn cwestiynau ynglŷn â materion ehangach o gwmpas cyhoeddiad Zimmer Biomet am golli cannoedd o swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr—newyddion trychinebus i'r gweithlu lleol, wrth gwrs, ac i'r economi ehangach. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni ba waith rhagweithiol oedd wedi cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru cyn y cyhoeddiad hwnnw er mwyn dod i ddeall rhywfaint am hyfywedd a sefydlogrwydd y cwmni a lle oedd y gwaith yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ffitio i mewn i gynlluniau ehangach y cwmni yma?

Fel mae'r Aelod lleol wedi'i ddweud yn barod wrth y Senedd y prynhawn yma, roedd y cyhoeddiad gan y cwmni wedi dod fel sioc i'r bobl oedd yn gweithio i'r cwmni. Doedd dim byd wedi cael ei ddweud i ni yn y Llywodraeth yma yng Nghaerdydd, ond doedd dim byd wedi cael ei ddweud, fel rŷn ni wedi clywed oddi wrth Aelodau'r Ceidwadwyr y prynhawn yma, wrth y Llywodraeth yn San Steffan chwaith. So, heb gael dim byd o'r wybodaeth cyn beth oedd y cwmni wedi'i ddweud, doedd dim siawns gyda ni na neb arall i baratoi gyda'r cwmni am beth maen nhw nawr wedi awgrymu.

14:00

Mi glywais i beth ddywedodd yr Aelodau lleol, Luke Fletcher a Huw Irranca-Davies, ynglŷn â’r sefyllfa hon, ond dwi'n meddwl bod hi’n eithaf clir bod bys Llywodraeth Cymru ddim ar y pwls o ran cwmni a chyflogwr oedd mor bwysig. Ac mae'n digwydd yn rhy aml. Yn llythrennol, o Fôn i Fynwy, o'r 2 Sisters i Avara Food, a rŵan Zimmer Biomet, dŷn ni'n gweld cyflogwyr mawr yn tynnu allan a gadael creithiau economaidd dwfn, ac mae'r ffigurau diweithdra heddiw yn cadarnhau patrwm pryderus iawn.

Mae ffigurau heddiw yn dangos mai Cymru sydd â'r gyfradd ddiweithdra uchaf yn y DU, yr uchaf mewn pum mlynedd, yn codi am drydydd mis yn olynol. Ond, eto, gyda Zimmer Biomet, rydym ni wedi gweld yr hyn sy'n ymddangos fel diffyg ymgysylltiad gan Lywodraeth Cymru i gadw llygad am yr arwyddion rhybudd hynny. Mae angen y mecanweithiau rhybuddio hynny arnom ni. Ac mae'n codi cwestiynau hefyd am olrhain arian cyhoeddus a roddir i fusnesau. Derbyniodd Zimmer Biomet £700,000 o arian trethdalwyr yn 2016.

Nawr, ysgrifennais yr wythnos diwethaf am wrthwynebiad y Llywodraeth i graffu, ac roedd hynny yng nghyd-destun ei record COVID, ond yn yr un modd, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei hun graffu ar yr hyn sy'n digwydd yn economi Cymru. Felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd, yn rhagweithiol, ym mhob rhan o Gymru, gan fesur iechyd a hyfywedd busnesau allweddol, i osgoi Zimmer Biomet arall a dangos eich bod chi wedi dysgu o'r profiad hwn?

Wel, Dirprwy Lywydd, mae'n nonsens, onid ydyw? Nonsens llwyr. Fe wnaeth y cwmni ei benderfyniad i gyhoeddi ei fwriadau heb yr un gair i Lywodraeth Cymru, i'w weithwyr ei hun, i Lywodraeth y DU. Does dim bys ar unrhyw bwls sy'n mynd i ganfod cyhoeddiad y mae cwmni'n benderfynol o'i wneud ar ei delerau ei hun a heb hysbysu neb arall. Ac nid yw awgrymu, rywsut, bod gwybodaeth yno i'w chasglu pe bai rhywun ond wedi bod yn effro iddi yn adlewyrchu o gwbl yr hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn. Wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru, drwy ei threfniadau economaidd rhanbarthol, bobl ym mhob rhan o Gymru sy'n siarad bob dydd â chwmnïau ledled Cymru, weithiau am yr anawsterau y maen nhw'n eu hwynebu, weithiau am y cynlluniau ehangu sydd ganddyn nhw. Ac yn yr holl rannau hynny o Gymru, y sgyrsiau hynny yw'r ffynhonnell fwyaf cyfoethog o wybodaeth y gall Llywodraeth ei chasglu ynghylch ble mae anawsterau yn debygol o godi, a lle gellir gwneud buddsoddiad gan y Llywodraeth, o'r math a wnaed unwaith yn Biomet, i'r perwyl gorau. Dyna'r ffordd yr ydym ni'n cyflawni ein cyfrifoldebau. I awgrymu, pan fydd cwmni, ar ei delerau ei hun ac o fewn ei hawliau ei hun, yn penderfynu y bydd yn gwneud cyhoeddiad heb ymgysylltu ag unrhyw rai o'r trefniadau hynny ar lawr gwlad, rwy'n ofni mai nhw sy'n gyfrifol, a neb arall.

Rwy'n llwyr gydnabod yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud—nad yw busnesau weithiau mor dryloyw ag yr hoffem iddyn nhw fod. Ond rwy'n siomedig nad yw'r Prif Weinidog yn rhoi ei ddwylo i fyny ac yn dweud, 'Oes, mae angen i ni wneud mwy i gael ein bys ar y pwls a rhoi'r mecanweithiau rhybuddio hynny ar waith'. Fy ngweledigaeth i ar gyfer Cymru yw cenedl sy'n gydnerth yn economaidd, yn rhagweithiol o ran nodi risgiau a manteisio ar gyfleoedd.

Nawr, mae'r newid i sero net yn cynnig llawer o gyfleoedd. Yn sicr, rwyf i eisiau gweld camau o ddifrif ar ddatgarboneiddio ac ar gynorthwyo cwmnïau sydd eisiau diogelu a chreu swyddi trwy ddiogelu'r blaned. Nawr, rydym ni'n gwybod bod Prif Weinidog y DU, yn ôl un Gweinidog Torïaidd, yn apathetig ynglŷn â mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. 'Apathetig', i gadarnhau. Ac nid yw tro pedol Keir Starmer ar ei gynllun ffyniant gwyrdd yn argoeli'n dda pe bai Llafur yn dod i rym chwaith. Nawr, dylem ni i gyd fod yn nerfus dros ben o glywed clychau larwm yn canu yn Tata Steel yn ystod y dyddiau diwethaf. Felly, mae gennym ni Lywodraeth Dorïaidd y DU sydd ddim yn darparu'r mathau o addewidion ar gymorthdaliadau gwyrdd yn y dyfodol yr hoffai Tata eu clywed, mae gennym ni dro pedol Keir Starmer, ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud na all gamu i mewn. Pwy ddylai pobl ymddiried ynddo? Gadewch i mi ofyn hyn: o ystyried y tro pedol, sut byddai'r Prif Weinidog Llafur yma yn disgwyl i Lywodraeth Lafur y DU fynd i'r afael â thrafodaethau gyda Tata? Ac, a dweud y gwir, a yw'r Prif Weinidog yn hapus i'r ysgogiadau economaidd allweddol barhau i fod yn San Steffan?

14:05

Wel, Dirprwy Lywydd, nid oes unrhyw dro pedol ar ran fy nghydweithwyr yn San Steffan. Mae yna gronfa ffyniant gwyrdd; y bwriad yw y bydd yn codi i £28 biliwn y flwyddyn mewn buddsoddiad yn yr economi werdd, ac y bydd y Llywodraeth Lafur nesaf, pan ddaw hi—ac, wrth gwrs, rwy'n credu na all ddod yn ddigon buan—bydd yn anochel y bydd yn rhaid iddi ymdrin â chanlyniadau'r methiannau yr ydym ni'n eu gweld yn yr economi bob dydd. Nid yw penderfyniad Plaid Lafur y DU i fuddsoddi yn yr economi werdd honno ddim llai, ond bydd yn rhaid iddi ymdrin â'r amgylchiadau economaidd y mae'n eu hetifeddu.

Nid yw arwyddion rhybudd gan Tata, Dirprwy Lywydd, wedi dod i'r amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf; mae'n fisoedd ar fisoedd ers i mi gyfarfod â Gweinidog yr Economi â phennaeth Tata India yn ystod ymweliad â Chymru. Roeddwn i mewn gohebiaeth â Phrif Weinidog diwethaf y DU ond dau, rwy'n credu, yn gofyn i Lywodraeth y DU gymryd o ddifrif y rhybuddion yr oedd Tata India yn eu rhoi i ni am fuddsoddiad hirdymor sydd ei angen ar y safle Tata hwnnw ym Mhort Talbot. Nawr, rwy'n annog Llywodraeth y DU, fel y gwnes i pan siaradais ar y mater hwn â Michael Gove dim ond pythefnos yn ôl yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, i gymryd y rhybuddion hynny o ddifrif, i ddechrau trafodaethau pwrpasol gyda'r cwmni.

Mae dyfodol addawol i gynhyrchu dur yng Nghymru, ac ni all unrhyw wlad nad yw'n barod i fuddsoddi mewn diwydiant dur ddisgwyl cael ei chymryd o ddifrif fel grym economaidd byd-eang. Mae gan Gymru lawer iawn i'w gyfrannu at hynny, ond bydd angen adnoddau o fath sydd ond ar gael gyda'r grym y gall Llywodraeth y DU ei gynnig. Dyna pam mae'n dal yn synhwyrol i ni barhau i weithio gyda'r Llywodraeth y DU honno, gan fod lefel y buddsoddiad y bydd ei hangen ar y cwmni er mwyn creu llwybr, llwybr llwyddiannus i gynhyrchu dur ar gyfer y dyfodol, yn dibynnu ar drefniant teiran. Bydd y cwmni ei hun yn gwneud buddsoddiad mawr; bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y meysydd lle mae gennym ni gyfrifoldeb, mewn sgiliau, mewn ymchwil a datblygu, mewn gwneud yn siŵr bod y technolegau gwyrdd hynny yn cael eu cyflymu ar safle Tata, ac yna rydym ni angen Llywodraeth y DU sy'n barod i wneud y buddsoddiad hirdymor hwnnw, i ddangos ei bod o ddifrif am ddyfodol diwydiant dur i'r Deyrnas Unedig a diwydiant dur sy'n addas ar gyfer oes newid hinsawdd.

Pobl ag Anableddau Dysgu

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bobl ag anableddau dysgu fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus? OQ59851

Diolch yn fawr i Sioned Williams am y cwestiwn, Dirprwy Lywydd. Rydym yn dysgu'n uniongyrchol gan bobl ag anableddau dysgu, er mwyn i ni allu mynd i’r afael â'r rhwystrau maen nhw wedi wynebu am gyfnod rhy hir wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae gan y fforwm cydraddoldeb anabledd ffocws penodol ar deithio, a bydd ei ganfyddiadau yn cael eu hadrodd i Weinidogion.

Diolch, Brif Weinidog. 

Rwy'n falch o glywed eich bod chi'n gwrando ar bobl ag anableddau dysgu, oherwydd mewn cyfarfod a gadeiriais yn ddiweddar o grŵp trawsbleidiol y Senedd ar anabledd dysgu, clywsom dystiolaeth ofidus bod pobl ag anabledd dysgu wedi bod yn ei chael hi'n anodd adnewyddu eu pasys bws yn dilyn newid ymddangosol i'r ffordd y maen nhw'n cael eu dosbarthu gan awdurdodau lleol i Trafnidiaeth Cymru. Mae llawer o'r bobl hyn wedi meddu ar basys bws ers amser maith a dydyn nhw erioed wedi cael unrhyw broblem yn eu hadnewyddu nhw, ond wrth geisio eu hadnewyddu nhw'n ddiweddar, gwrthodwyd eu ceisiadau heb gael rheswm. Clywsom adroddiadau bod deiliaid wedi cael cais i brofi eu cymhwysedd eto, ymhell cyn y disgwylir i'w pasys ddod i ben. Clywsom hyd yn oed am yrwyr bysiau yn cymryd pàs bws rhywun oddi wrtho ac yn gwrthod caniatáu iddo deithio heb unrhyw esboniad dilys. Mae hyn wedi arwain at ofn ymhlith pobl ag anabledd dysgu na fyddan nhw'n gallu teithio'n ddiogel i'r man lle maen nhw angen bod.

Mae anabledd dysgu yn un gydol oes. Os oeddech chi'n gymwys o'r blaen, yna dylech chi fod yn gymwys nawr. Clywsom bryderon bod symudiad tuag at ddibynnu ar asesiadau'r Adran Gwaith a Phensiynau, sydd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o safbwynt model cymdeithasol o anabledd. Fis diwethaf, anfonodd Anabledd Dysgu Cymru gais rhyddid gwybodaeth at Trafnidiaeth Cymru yn gofyn pam roedd hyn yn digwydd. Fe wnaethon nhw wadu bod unrhyw newidiadau wedi bod i'r ffordd maen nhw'n cael eu cyflwyno. Pam felly, Prif Weinidog, y mae pobl ag anabledd dysgu neu niwrowahaniaeth yn ei chael hi'n anodd adnewyddu eu pasys bws? A wnewch chi roi sylw brys i hyn?

14:10

Wel, Dirprwy Lywydd, diolchaf i'r Aelod am y gwaith y mae'n ei wneud yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol hwnnw, ac rwy'n cytuno â hi: mae'n bwysig iawn yn wir ein bod ni'n clywed yn uniongyrchol gan y bobl hynny sydd â phrofiad bywyd o anabledd dysgu a mathau eraill o anabledd sy'n chwarae rhan bwysig o ran gallu defnyddio ein system drafnidiaeth ac, yn wir, y gwasanaethau yr ydym ni'n eu darparu mewn ffordd sydd ar gael mor hawdd â phosibl iddyn nhw. Rwyf innau hefyd wedi clywed sôn am bobl sy'n dweud bod yr arfer wedi newid o ran y ffordd y mae pasys bws wedi cael eu cyflwyno. Gadewch i mi fod yn glir iawn gyda'r Aelod: nid yw'r polisi wedi newid; mae polisi Llywodraeth Cymru yn parhau fel y bu erioed.

Rwyf innau hefyd wedi gofyn yn flaenorol am sicrwydd gan Trafnidiaeth Cymru nad yw'r arfer wedi newid chwaith, a dyna'n union y gwnaethon nhw ei ddweud wrthyf i, eu bod nhw'n parhau i weithredu'r system fel y maen nhw wedi ei wneud erioed. Ond, yng ngoleuni rhagor o wybodaeth gan bobl ag anabledd dysgu, o'r profiadau y maen nhw wedi eu cael, rwyf i wedi gofyn i swyddogion gael trafodaeth bellach gyda Trafnidiaeth Cymru a gwneud yn siŵr bod gennym ni'r sicrwydd sydd ei angen arnom ni eu bod nhw'n gweinyddu'r cynllun yn y ffordd yr hoffem ei weld yn cael ei weinyddu, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru a heb unrhyw gamau sy'n ymddangos fel pe baen nhw'n ei gwneud hi'n fwy anodd i bobl ag anableddau dysgu gael yr hawliau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw.

Mae arfer cyfatebol yn berthnasol i'r cerdyn teithio rhatach i berson anabl. Dylai'r model cymdeithasol o anabledd fod yn arwain popeth sy'n cael ei wneud gan ddarparwyr gwasanaethau ym mhob sector, gan gydnabod nad yw pobl yn anabl oherwydd eu namau ond oherwydd y rhwystrau i fynediad a chynhwysiant y mae cymdeithas yn eu gosod yn eu ffordd.

Mae ymchwil ar gyfer Adran Drafnidiaeth y DU wedi dangos bod pobl ag anghenion mynediad, gan gynnwys pobl anabl â namau gwybyddol, sy'n cwmpasu anawsterau dysgu, yn dal yn llai tebygol o deithio ac yn teimlo'n llai hyderus am deithio na phobl heb anghenion mynediad. Canfu adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o 2020, 'Trafnidiaeth hygyrch i bobl hŷn ac anabl yng Nghymru', nad oedd digon o bwysigrwydd yn cael ei neilltuo i ystyriaethau cydraddoldeb i bobl anabl o ran trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Canfu fod Llywodraeth Cymru wedi dangos dyheadau da ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a chynhwysol, ond bod y gweithredu hyd yma wedi bod yn wael.

Felly, pa ymgysylltiad ydych chi'n ei gael gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol, ynghylch y cerdyn teithio rhatach i berson anabl, i sicrhau bod strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhwysiant yn cael eu gweithredu? A pha gamau wnewch chi hefyd eu cymryd i gadarnhau bod holl bolisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â'r model cymdeithasol o anabledd?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n cytuno â'r Aelod am bwysigrwydd sylfaenol y model cymdeithasol o anabledd yn cael ei deimlo yn yr holl bolisïau yr ydym ni'n eu darparu, ac yna'r ffordd y caiff y polisïau hynny eu darparu. Dywedais yn fy ateb gwreiddiol bod y tasglu hawliau anabledd ei hun wedi sefydlu gweithgor teithio; mae'n cael ei gyd-gadeirio gan Cŵn Tywys Cymru, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr sydd â phrofiad bywyd o anabledd dysgu ar y grŵp hwnnw. Mae'r grŵp wedi cyfarfod bedair gwaith eisoes; cyfarfu ddiwethaf ar 28 Mehefin. Mae'n cyfrannu ei safbwyntiau at y tasglu yn ei gyfanrwydd, ac mae'r tasglu yn adrodd yn uniongyrchol i'm cyd-Weinidog Jane Hutt.

Rwy'n credu y byddai Mark Isherwood yn falch o weld, ar agenda'r cyfarfod diwethaf hwnnw ar 28 Mehefin, mai agwedd gyntaf un yr agenda oedd ailddatgan yr angen i ymgorffori cyd-gynhyrchu a chydnabod y model cymdeithasol o anabledd yng ngwaith y grŵp hwnnw ei hun. Clywodd yn uniongyrchol gan ddarparwyr trafnidiaeth yn y maes a bydd wedi manteisio ar y cyfle hwnnw i wneud yn siŵr bod profiad pobl ag anableddau sy'n defnyddio ein system drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei gyfleu yn uniongyrchol i'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau hynny yn y maes. Ac, yn y modd y dywedodd Sioned Williams yn ei chwestiwn gwreiddiol, mae gwneud yn siŵr bod safbwyntiau a phrofiadau uniongyrchol pobl yn yr amgylchiadau hynny yn cael eu clywed yn gwbl glir, yn y ffordd y darperir gwasanaethau, yn hanfodol i waith y tasglu anabledd hwnnw.

14:15

Prif Weinidog, rydyn ni'n gwybod bod pobl sydd ag anawsterau dysgu a phobl eraill sy'n wynebu rhwystrau sy'n eu hanalluogi mewn bywyd wir yn gwerthfawrogi presenoldeb a chymorth staff mewn gorsafoedd trenau. A fyddech chi'n cytuno â mi, felly, y bydd yn gysur iddyn nhw glywed nad oes gan Trafnidiaeth Cymru unrhyw gynlluniau o gwbl i leihau nifer y staff mewn gorsafoedd y maen nhw'n eu rheoli yma yng Nghymru, nac, yn wir, yn y rhai maen nhw'n eu rheoli yn Lloegr? Ac mewn cyferbyniad llwyr, mae'r Adran Drafnidiaeth yn Lloegr wedi cyhoeddi y bydd swyddfeydd tocynnau yn cael eu cau ar raddfa eang mewn gorsafoedd sy'n cael eu rheoli ganddyn nhw. 

Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Ken Skates wedi'i ddweud. Mae cyhoeddiad yr Adran Drafnidiaeth yn effeithio ar bron i 900 o swyddfeydd tocynnau yn Lloegr yn yr hyn y mae llawer o bobl yn ei ystyried yn fesur dialgar yn yr anghydfod diwydiannol parhaus nad yw Llywodraeth y DU yn llwyddo i'w ddatrys yn y diwydiant trafnidiaeth. Yma yng Nghymru, rydyn ni'n bwrw ymlaen, fel y mae'r Aelod yn gwybod, drwy bartneriaeth gymdeithasol, gan weithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur. Rydyn ni'n cyflawni llawer mwy drwy gydweithio na thrwy orfodi newidiadau fel rhan o anghydfodau diwydiannol parhaus.

Gallaf gadarnhau'n union yr hyn a ddywedodd Ken Skates, Dirprwy Lywydd; nid yw Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu gwneud newidiadau tebyg i swyddfeydd tocynnau yng Nghymru, nac yn wir i'r swyddfeydd tocynnau y maen nhw'n eu rheoli yn Lloegr—yng Nghaer, yn Henffordd ac yn Amwythig, er enghraifft—oherwydd rydyn ni'n gwybod, yn arbennig i'r bobl hynny a all ei chael hi'n anodd cael mynediad at wasanaethau i bobl nad ydyn nhw'n anabl, fod presenoldeb staff yn yr orsaf sy'n gallu ymateb yn uniongyrchol i'w gofynion yn rhan bwysig iawn o sut gallan nhw gael gafael ar wasanaethau yn y ffordd yr ydym wedi'i thrafod yma y prynhawn yma.

Gofal Iechyd

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bobl yng Ngorllewin De Cymru fynediad at ofal iechyd digonol? OQ59847

Dirprwy Lywydd, ynghyd â'r GIG, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella mynediad at wasanaethau, gan ddefnyddio datblygiadau mewn technoleg er mwyn helpu i wireddu hynny. Mae ymgynghoriadau fideo a gweithio o bell, er enghraifft, yn gwella mynediad, yn arbed amser ac yn lleihau costau theithio, gan ganiatáu i fwy o gleifion dderbyn gofal clinigol effeithiol yn agosach at eu cartrefi eu hunain.

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond un peth wnes i ddim clywed yn ei ymateb oedd cydnabyddiaeth o'r gwaith caled y mae staff y GIG yn ei wneud yn ddyddiol, ac mai nhw sy'n gwneud i'n GIG yng Nghymru weithio. Ond maen nhw'n cael eu siomi'n rheolaidd gan Lywodraeth Lafur Cymru sy'n camreoli ein GIG yma yng Nghymru. Arwyddair y Prif Weinidog ar un adeg oedd ein bod ni'n gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru. Wel, gadewch i ni weld y gwahaniaeth hwnnw. Mae gennym ni fwy na 31,000 o bobl yng Nghymru yn treulio dros ddwy flynedd ar restrau aros y GIG, ond yn Lloegr mae'r rhestrau aros hynny wedi cael eu dileu i bob pwrpas. Mae un o bob 289 o bobl sy'n cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys yn aros mwy na 12 awr. Yn Lloegr, mae hynny'n un o bob 1,278. Ac er bod Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario yn Lloegr i ariannu'r GIG, mae Llywodraeth Cymru yn dewis gwneud cam â'n gwasanaeth iechyd drwy roi £1.05 iddo. Ar bron bob mesur, mae'r GIG yng Nghymru o dan y Llywodraeth Lafur hon yn tanberfformio'n gyson o gymharu â gweddill Prydain. Mae'n sgandal genedlaethol. Pam, Prif Weinidog, ddylai hyn fod yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ddioddef oherwydd ein bod ni'n Gymry?   

Wel, Llywydd, maen nhw wrthi eto. Dim ond un neges sydd ganddyn nhw i bobl Cymru: 'Pleidleisiwch droson ni: rydyn ni'n meddwl eich bod chi'n ofnadwy. Pan ddaw i Gymru, mae'n waeth.' [Torri ar draws.] Na, na, na—nid 'rydyn ni'n ofnadwy' yw e. Yr hyn dydych chi ddim—[Torri ar draws.] Pe baem ni mor ofnadwy, fydden ni ddim yn ennill etholiadau dro ar ôl tro ar ôl tro. [Torri ar draws.]   

Dyna'ch neges chi i bobl yng Nghymru, ac roedd ef wrthi eto. Gwrandewch ar yr hyn a ddywedodd ef—gwrandewch ar yr hyn a ddywedodd ef—'Mae pobl Cymru yn cael'—yn cael—'£1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario yng Nghymru.' Am feddylfryd trefedigaethol sydd y tu ôl i'r ffordd honno o feddwl. Dyma ni, rhyw fath o wladwriaeth gleient o'i syniad ef o Deyrnas Unedig. Does dim rhyfedd—does dim rhyfedd—bod y Blaid Geidwadol yn y llanast y mae ynddo. Yn yr arolwg barn diwethaf hwnnw a wnaeth YouGov, ydych chi'n cofio pa ganran o bobl o dan 45 sy'n bwriadu pleidleisio dros eich plaid yn yr etholiad nesaf? Ydych chi'n cofio hynny? Saith y cant. Pobl sy'n defnyddio'r GIG bob dydd yma yng Nghymru yw'r rheini, ac maen nhw wedi penderfynu beth maen nhw'n ei feddwl amdanoch chi.

14:20
Argyfwng Costau Byw

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar Orllewin Casnewydd? OQ59855

Llywydd, rydyn ni'n cefnogi cartrefi yng Ngorllewin Casnewydd sy'n mynd i'r afael ag effaith penderfyniadau Llywodraeth y DU. Mae twf isel, cyfraddau llog uchel, chwyddiant sydd allan o reolaeth a pholisïau lles cosbol yn achosi niwed y mae modd ei atal. Yma yng Nghymru rydyn ni wedi darparu £3.3 biliwn i sicrhau bod pobl yn cael yr incwm mwyaf posibl ers i'r argyfwng hwnnw ddechrau.

Diolch am yr ateb hwnnw, Prif Weinidog. Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf ar swyddi gan y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth, ym mis Mehefin gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer swyddi newydd ers mis Rhagfyr 2020. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl y cawsant eu rhoi mewn swyddi parhaol gan asiantaethau recriwtio, a gwelwyd twf cyflog yn gostwng i'w gyfradd wannaf mewn mwy na dwy flynedd. Wrth i'r argyfwng costau byw barhau, heb unrhyw ryddhad mewn golwg i'r rhai sydd ar incwm isel, heb unrhyw ryddhad mewn golwg i berchnogion tai na'r rhai sy'n rhentu, a heb unrhyw ryddhad mewn golwg i economi sy'n cael ei tharo gan chwyddiant ac effaith Brexit, Prif Weinidog, pa obaith y gall Jeremy Hunt neu Rishi Sunak ei gynnig i bobl yn fy etholaeth i sy'n talu'r pris am fethiant Llywodraeth y DU? Oherwydd mae hynny'n sgandal genedlaethol.

Wel, does dim gobaith i'w gael o'r cyfeiriad hwnnw, fel y maen nhw eu hunain yn ei ddweud. Pa fath o neges y bydd pobl yng Ngorllewin Casnewydd wedi'i chael, Dirprwy Lywydd, pobl sy'n gweithio'n galed bob dydd i dalu'r £650 ychwanegol mewn trethi bob blwyddyn y byddan nhw'n ei dalu nawr ers mis Ebrill eleni, i dalu'r morgeisi y disgwylir iddyn nhw godi i'r cyfanswm uchaf ers blynyddoedd lawer, wrth weld yn Mansion House—yn Mansion House yn eu teis gwyn—Ganghellor y Trysorlys a Llywodraethwr Banc Lloegr yn dweud wrth bobl sy'n gweithio bod yn rhaid iddyn nhw fod yn barod i barhau i gael cyflogau y mae eu gwir werth yn cael ei erydu bob blwyddyn i dalu am gostau eu methiannau? Does dim rhyfedd bod pobl yng Ngorllewin Casnewydd yn gwybod nad oes gobaith o gwbl i'w gael o'r cyfeiriad hwnnw.

A'r hyn maen nhw'n ei wybod hefyd yw bod pethau ar fin gwaethygu. Dyma mae Andy Haldane, prif economegydd Banc Lloegr ychydig amser yn ôl, yn ei ddweud am strategaeth Canghellor y Trysorlys a Banc Lloegr: eu bod yn benderfynol o wasgu'r ychydig ddiferion olaf o chwyddiant, sy'n golygu

'aberthu miloedd lawer o swyddi am fuddiannau dibwys.'

'Dros ddegawd yn ôl, mewn ymgais i sicrhau dyled is, gwelwyd cyni cyllidol yn y DU. Daeth twf i ben ac roedd yn hunandrechol o ran dyled. Heddiw, wrth geisio sicrhau chwyddiant is, mae risg mai'r un fydd y dynged o ran y cyni ariannol',

gan beryglu diogelwch ariannol miliynau o bobl. Nid fy ngeiriau i yw'r rheiny, Dirprwy Lywydd, nid geiriau rhyw wleidydd Llafur, ond geiriau cyn-brif economegydd ym Manc Lloegr. Does dim rhyfedd nad oes gobaith i bobl yng Nghymru pan welan nhw eu bod yn wynebu dirwasgiad—dirwasgiad sydd wedi'i ysgogi'n fwriadol—er mwyn mynd i'r afael â methiannau 13 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol.

Prif Weinidog, os oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i helpu preswylwyr gyda phwysau costau byw mae'n rhaid ei groesawu, ac rwy'n falch o weld y gefnogaeth yr ydyn ni wedi'i chael gan Lywodraeth y DU, yn groes i'r gred boblogaidd yn y Siambr hon. Fodd bynnag, yn hytrach na helpu teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'n ymddangos i mi fod Llywodraeth Cymru yn gwneud pethau'n galetach mewn gwirionedd, ac fe wnaf i egluro pam. Mae eich Llywodraeth wedi gwneud toriadau sylweddol yn y grant hanfodion ysgol yn ddiweddar, sy'n rhoi cymorth i rai o'r teuluoedd lleiaf cefnog yn y wlad. Drwy dorri'r grant hanfodol hwn o £100 mae'n golygu bod yn rhaid i rieni nawr ddod o hyd i fwy o arian i dalu am wisg ysgol, dillad chwaraeon ac offer i'w plant. Mae rhai rhieni wedi rhybuddio na allan nhw fforddio anfon eu plant i'r ysgol bob dydd, ac mae'r toriad i'r grant hwn yn dod ar ôl i'r Llywodraeth yma yng Nghymru benderfynu atal prydau ysgol am ddim i'r rhai oedd eu hangen fwyaf. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi wyrdroi'r toriad hwn o £100 a rhoi'r gorau i gosbi rhieni?

Llywydd, roeddwn i'n falch iawn o fod yn Weinidog cyllid pan wnaethon ni gyflwyno'r grant hanfodion ysgol am y tro cyntaf. Fe wnaethon ni ei gyflwyno am flwyddyn yng ngyrfa ysgol plentyn, pan oedden nhw'n mynd i'r ysgol uwchradd. Pleidleisiodd y Blaid Geidwadol, gyda llaw, yn ei erbyn yn y gyllideb honno. Yna fe wnaethon ni ei ddyblu, fel ei fod ar gael mewn dwy flwyddyn ysgol, ac fe wnaethon nhw bleidleisio yn erbyn hynny. Yna, fe wnaethon ni bleidleisio i'w dyblu eto, i bedair o flynyddoedd ysgol plentyn. Nawr, mae e gennym ni ym mhob un flwyddyn ysgol—y math mwyaf hael o gefnogaeth i rieni gyda chostau'r diwrnod ysgol unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Dyna'r hyn mae rhieni'n ei wybod, a'r hyn maen nhw'n ei wybod hefyd yw, bob tro yr oedd cyfle i gefnogi hynny, fe bleidleisiodd eich plaid chi yn ei erbyn.

14:25
Prydau Ysgol am Ddim

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yng Nghaerffili? OQ59841

Diolch yn fawr i Hefin David am y cwestiwn, Dirprwy Lywydd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i ddarparu gwasanaeth prydau ysgol ardderchog i fyfyrwyr ar draws yr ardal. Bydd yn cwblhau'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd erbyn mis Medi eleni. Mae’r awdurdod ar flaen y gad yng Nghymru o ran defnyddio data i gysylltu hawliau ar draws gwasanaethau'r cyngor, gan gynnwys hawl i brydau ysgol am ddim.

Rwy'n falch iawn o ddweud y bydd adroddiad yn mynd i gabinet cyngor Caerffili heno—neu nos yfory, o bosibl—sy'n nodi y bydd Caerffili yn ariannu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r haf i'r bobl fwyaf agored i niwed. Rwy'n credu y dylai cyngor Caerffili gael ei longyfarch am gymryd hynny, am ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn i wneud hynny, ac y dylai cynghorau eraill gael eu hannog i wneud yr un peth. Ar ôl yr haf hwn, pa ffynonellau cymorth eraill sydd ar gael i'r plant mwyaf agored i niwed yn ystod y gwyliau, ac a yw'r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaeth, neu a oes ganddo unrhyw gynlluniau i gael unrhyw drafodaeth, gyda Phlaid Cymru ynghylch a oes unrhyw ryddid o fewn y cytundeb cydweithio i ariannu cymorth ychwanegol yn ystod gwyliau'r ysgol?  

Diolch i Hefin David am y cwestiynau eraill hynny. Fel y dywedais i, rwy'n credu bod cyngor Caerffili yn gwneud gwaith ardderchog o ran sicrhau bod y bobl ifanc hynny yn y fwrdeistref sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael yr hawl honno mor awtomatig â phosibl. Mae'n awdurdod blaenllaw o ran defnyddio data i wneud cysylltiadau awtomatig rhwng hawl i brydau ysgol am ddim a'r grant hanfodion ysgol. Rwy'n eu llongyfarch nhw ar yr hyn y byddan nhw'n ei wneud dros yr haf hwn, fel yr wyf i'n llongyfarch awdurdodau lleol ym mhob rhan o Gymru, am y gweithgaredd a fydd yn parhau i ymateb i anghenion ein pobl ifanc.

Y rhaglen bwyd a hwyl fydd y rhaglen fwyaf yr ydyn ni erioed wedi'i gweld yr haf hwn. Bydd yn digwydd ym mhob rhan o Gymru, a bydd miloedd mwy o blant yn elwa arni yr haf hwn nag a lwyddodd i elwa arni y llynedd. Y llynedd, cymerodd 38,000 o bobl ifanc ran ym mhrosiect gwyliau Gwaith Chwarae, sydd hefyd yn cynnig bwyd i bobl ifanc sy'n cymryd rhan ynddo, a bydd hwnnw ar gael ym mhob rhan o Gymru am y tro cyntaf—pob un o'r 22 awdurdod lleol yn cymryd rhan yn y ddau gynllun hynny.

Dirprwy Lywydd, rwyf hefyd yn canmol yr holl grwpiau ffydd a thrydydd sector hynny ym mhob rhan o Gymru sy'n chwarae eu rhan wrth helpu pobl ifanc yn ystod cyfnod gwyliau'r haf hwnnw. Bydd Undeb Rygbi Cymru yn helpu pobl ifanc, a bydd bwyd ynghlwm wrth hynny. Bydd yr Urdd yn gweithredu cynlluniau ym mhob rhan o Gymru, ac ym mhob etholaeth, byddaf i'n hyderus y bydd grwpiau ffydd yno, yn cynnig gwasanaethau i bobl ifanc sydd angen hynny.

Felly, er nad ydyn ni wedi gallu gwneud mwy nag y gwnaethon ni ei addo'n wreiddiol o ran prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol, nid yw hynny'n golygu nad oes cefnogaeth yno i bobl ifanc sydd ei angen. Y tro diwethaf i ni allu ymestyn prydau ysgol am ddim ymhellach yn ystod gwyliau'r ysgol oedd oherwydd ein bod ni wedi gallu defnyddio tanwariant yn y gyllideb prydau ysgol am ddim cyffredinol, sy'n rhan o'r cytundeb cydweithio.

Yn rhannol oherwydd llwyddiant cynghorau fel Caerffili, a fydd wedi llwyddo i ymestyn y gwasanaeth hwnnw i bob plentyn oed ysgol gynradd flwyddyn ynghynt nag mewn rhannau eraill o Gymru, nid oes unrhyw danwariant ar ôl yn y gyllideb honno i'w ddefnyddio at y diben hwnnw. Ond, wrth gwrs, rydyn ni bob amser yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda'n cydweithwyr ym Mhlaid Cymru—rwy'n gwybod bod Siân Gwenllian wedi cymryd rhan mewn trafodaethau o'r fath yr wythnos hon—i ddod o hyd i'r ffordd orau inni ddefnyddio'r cyllidebau sydd ar gael i ni.  

14:30
Nofio am Ddim yn ystod Gwyliau'r Haf

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ddarpariaeth nofio am ddim yn ystod y gwyliau haf i blant yng Nghaerdydd? OQ59834

Dirprwy Lywydd, fel sy'n wir am y 21 awdurdod lleol arall ledled Cymru, bydd Cyngor Caerdydd yn cynnig sesiynau nofio am ddim i blant a phobl ifanc drwy gydol gwyliau haf yr ysgolion.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Er fy mod i'n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda fy nheulu cyn iddyn nhw anghofio fy enw i—fel yr wyf i'n siŵr y bydd pobl eraill yn ystod y toriad—mae fy hwyliau wedi'u lleddfu gan y ffaith, o ganlyniad i'r argyfwng costau byw Torïaidd, na fydd o leiaf draean o deuluoedd yn fy etholaeth i'n gallu mynd ar wyliau i unman. Felly, dyna pam rwy'n ystyried bod y dewis nofio am ddim yn wirioneddol bwysig, oherwydd mae'n rhoi rhywbeth i blant ei wneud yn lleol.

Nawr, yn y gorffennol, mae'n rhaid i mi ddweud bod ceisio darganfod pryd roedd y nofio am ddim ar gael yn dasg anobeithiol—roedd fel un o gyfrinachau'r wladwriaeth. Ond rwy'n falch iawn o glywed, eleni, y bydd y chwe phwll nofio sy'n cael eu rhedeg gan Greenwich Leisure Limited ar ran Cyngor Caerdydd ar hyn o bryd yn cynnig sesiynau nofio am ddim am o leiaf bedwar diwrnod yr wythnos, ac, mewn dau achos, ym mhyllau Star a'r Dwyrain, y byddan nhw ar agor bob dydd yn ystod y gwyliau chwe wythnos. Mae hynny'n gyflawniad hollol wych. Gan mai nofio yw'r gamp y gall pawb ei gwneud, er gwaethaf yr anabledd neu'r cymhwysedd, a'i fod yn un o'r ffyrdd gorau y gallwn ni helpu i sicrhau bod y GIG yn parhau i fod yn rhad ac am ddim pan fo angen drwy aros mor iach â phosibl, a gaf i apelio at Lywodraeth Cymru, gan ei bod yn wynebu penderfyniadau ariannol anodd iawn, iawn, sydd wedi'u hachosi gan y tanariannu sy'n dod gan Lywodraeth y DU, y byddwch chi, cyn belled ag y bo modd, yn diogelu'r gwasanaeth hanfodol hwn i blant?

Dirprwy Lywydd, eleni, rydyn ni'n dathlu'r ugeinfed flwyddyn o nofio am ddim i blant yma yng Nghymru, a bydd cannoedd o filoedd o bobl ifanc wedi elwa ar hynny dros y cyfnod o 20 mlynedd. Rwyf innau hefyd yn falch iawn o weld, ar draws y chwe chanolfan hamdden hynny, y bydd cyfleoedd bob dydd i bobl ifanc yng Nghaerdydd gael nofio am ddim, am yr holl resymau y mae Jenny Rathbone wedi'u hamlinellu. Rwy'n credu bod modd gwneud mwy i roi cyhoeddusrwydd i'r sesiynau hynny, er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn rhoi gwybod i bobl ifanc am y cyfleoedd a fydd ar gael iddyn nhw. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Chwaraeon Cymru a gyda Nofio Cymru. Maen nhw'n nodi bod adferiad cryf wedi bod mewn nofio yn y cyfnod ers y pandemig, sy'n golygu, yr haf hwn, y bydd y cyfleoedd hynny yn fwy gwerthfawr byth. Ac rwy'n hapus iawn i gynnig sicrwydd i Jenny Rathbone y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi cyhoeddusrwydd i'r cynllun hwnnw ac i wneud popeth o fewn ein gallu ni i sicrhau ei fod ar gael i bobl ifanc ledled Cymru.

Tlodi Plant

8. Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu lliniaru tlodi plant yn Nwyrain De Cymru dros wyliau haf ysgolion? OQ59858

Dirprwy Lywydd, yr haf hwn, bydd ystod eang o brosiectau gwyliau ar gael i blant ledled Cymru. Rydym yn darparu bron i £6 miliwn o gyllid i ddarparu'r cynllun bwyd a hwyl, a bydd y prosiect gwyliau Gwaith Chwarae ar gael ym mhob un o'r 22 ardal awdurdod lleol am y tro cyntaf.

Diolch am yr ateb yna.

Ac wrth gwrs, y bwyd a'r hwyl, y pwynt ynghylch hynny yw efallai na fydd yn cyrraedd pawb sydd ei angen, felly mae'n rhywbeth y mae angen ei ystyried. Ac, yn amlwg, y mater arall ynghylch talebau prydau ysgol am ddim, y cyhoeddiad yn dod gyda dim ond tair wythnos i fynd, roedd hynny'n bryder hefyd. A phan ddaw hi i fater prydau ysgol am ddim o fewn y cytundeb cydweithio—. Ac, yn amlwg, roedd bwydo plant dros yr haf y tu allan i'r cytundeb cydweithio, ac fe gafodd ei ariannu drwy'r arian COVID a gafwyd.

Y gwir yw, Prif Weinidog, rydyn ni yng nghanol argyfwng costau byw. Y rhagolwg yw y bydd llawer o aelwydydd yn profi gostyngiad o 20 y cant mewn incwm aelwydydd, bydd pethau'n gwaethygu'n fawr cyn iddyn nhw wella, ac mae llawer o angen yn y cymunedau rwy'n eu cynrychioli. Dylen ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod plant yn cael eu bwydo yn ystod gwyliau haf yr ysgolion, sy'n ddrud i deuluoedd—ac mae Cyngor Caerffili i'w ganmol am ddod o hyd i'r arian hwnnw.

A fyddai'r Llywodraeth hon yn ystyried rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ddefnyddio cronfeydd arian parod, yn enwedig pan eu bod nhw yn werth cannoedd o filiynau o bunnoedd, er mwyn sicrhau bod plant yn cael eu bwydo dros yr haf? A lle nad yw hynny'n bosibl, oherwydd cyfyngiadau ariannol, a fyddai modd sefydlu cronfa argyfwng i awdurdodau lleol gael manteisio arni ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed?

14:35

Wel, Dirprwy Lywydd, fel yr eglurais i'n gynharach, bydd y cynllun bwyd a hwyl yn cyrraedd miloedd yn fwy o blant yr haf hwn na'r haf diwethaf. Dim ond oherwydd awdurdodau lleol y mae'r cynllun bwyd a hwyl yn gweithredu. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sydd wedi arwain o ran sicrhau bod y cynllun hwnnw'n digwydd ledled Cymru, ac nid oedd cyhoeddiad tair wythnos yn ôl, oherwydd roedd Llywodraeth Cymru yn glir pryd yr oedden ni'n gallu ymestyn prydau ysgol am ddim yn y gwyliau, drwy'r Pasg a thrwy'r Sulgwyn, dyna oedd hyd a lled ein gallu i wneud hynny, ac roedd hynny fisoedd yn ôl, nid tair wythnos yn ôl.

Mae llawer o alwadau ar gyllidebau Llywodraeth Cymru. Rwy'n cofio, Dirprwy Lywydd, y tu allan i'r cytundeb cydweithio, fod Plaid Cymnru wedi nodi eu tair blaenoriaeth ar gyfer y gyllideb y tu hwnt i'r cytundeb cydweithio, sef cyflog sector cyhoeddus, ariannu bysiau ac ymestyn yr LCA—y lwfans cynhaliaeth addysg. Rydyn ni wedi datrys anghydfodau cyflog yn y gwasanaeth iechyd ac yn y gwasanaeth addysg, rydyn ni'n darparu £44 miliwn i gynnal gwasanaethau bysiau, ac rydyn ni wedi codi'r lwfans cynhaliaeth addysg o £30 i £40 yr wythnos. Dyna oedd blaenoriaethau Plaid Cymru, nid ymestyn prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau.

Nawr, gallwch chi fod yn sicr, ar yr ochr hon i'r Siambr, nad oes unrhyw beth y bydden ni eisiau ei wneud yn fwy na gwneud mwy nag y gallwn ni i helpu'r teuluoedd hynny drwy gydol yr haf, ond, yn y pen draw, mae'r cyllidebau sydd gennym ni'n gyfyngedig, a phan fydd pobl yn datgan blaenoriaethau, mae'n rhaid iddyn nhw fyw gyda'r blaenoriaethau y maen nhw wedi'u datgan. Byddwn ni'n gweithio gyda'n hawdurdodau lleol, gyda'r holl bethau sydd eisoes ar waith, gyda'r pethau ychwanegol y gallan nhw eu defnyddio gyda'r trydydd sector, a chyfraniadau ehangach sy'n cael eu gwneud i helpu pobl ifanc yng Nghymru drwy'r gwyliau ac, yn y modd hwnnw, byddwn ni'n sicrhau y gallwn ni gael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau'r bobl ifanc hynny.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yfory, bydd y Pwyllgor Busnes yn ceisio atal Rheolau Sefydlog i'n galluogi i ystyried tri chynnig sy'n ymwneud â phwyllgorau'r Senedd. Mae'r busnes drafft ar gyfer tair wythnos nesaf tymor yr hydref wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad yr wythnos hon? Yn ystod yr ychydig ddiwrnodau diwethaf, rwyf i wedi derbyn nifer o negeseuon e-bost gan etholwyr ynghylch adroddiadau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwario £620,000 gyda'r hyn sy'n ymddangos yn lefel amhriodol o graffu democrataidd. Mae'n ymddangos bod y craffu hwnnw wedi'i osgoi. Roedd hyn o ran sefydlu cae 3G newydd ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn. Nawr, wrth gwrs, rwy'n croesawu unrhyw fuddsoddiad yn fy etholaeth i, ond mae'n bwysig nad yw cynghorwyr lleol yn bod yn anghyfrifol gydag arian trethdalwyr, yn enwedig pan maen nhw wedi gorfodi'r cynnydd mwyaf erioed, sef 9.9 y cant, ar dalwyr y dreth gyngor yn ardal yr awdurdod lleol eleni. Rwy'n credu y byddai'n briodol cael datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch yr hyn y mae hi'n ei wneud i sicrhau nad yw prosesau democrataidd yn cael eu hosgoi yn y dyfodol.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ei phrosesau ymgynghori cyhoeddus? Cafodd datganiad ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf, gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, ar y cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr yng Nghymru. Roedd yn ddiweddariad i'w groesawu a roddodd adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau Llywodraeth Cymru. Cefais i fy synnu o ddarllen yn yr adroddiad hwnnw nad oedd unrhyw gyfeiriadau at y sylwadau a gafodd eu gwneud gan grwpiau ffydd ynghylch yr angen am eithriad ar gyfer llety sylfaenol a syml iawn—llety dros nos—sy'n cael ei ddarparu'n aml gan eglwysi, capeli a chymunedau ffydd eraill i'r rhai ar bererindod yng Nghymru. Yn bendant, roedd hwn yn fater y cyfeiriwyd ato mewn ymatebion gan wahanol aelodau o gymunedau ffydd ac, yn wir, gan y grŵp trawsbleidiol ar ffydd ei hun, ac eto nid oedd cyfeiriad ato o gwbl yn yr adroddiad a gafodd ei rannu gan y Dirprwy Weinidog. A gawn ni ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn yr ymgynghoriadau cyhoeddus hyn, oherwydd mae'n bwysig bod pobl yn teimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw a'u bod yn dylanwadu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Weinidogion y Llywodraeth? Diolch.

14:40

Diolch. O ran eich cais cyntaf, eich ymadrodd oedd 'lefel amhriodol o graffu democrataidd'. Wel, mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw hwnnw o ran sut maen nhw'n penderfynu gwario'r arian sy'n cael ei ddyrannu iddyn nhw. 

Mewn ymateb i'ch ail gwestiwn, gydag unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus y mae unrhyw Weinidog yn ymgymryd ag ef, mae ymatebion yn cael eu cyhoeddi bob amser, a byddwn i'n tybio y byddai'r ymatebion yr ydych yn cyfeirio atyn nhw gan grwpiau ffydd neu hyd yn oed eglwysi unigol yn rhan o'r ymateb hwnnw. Ond yn sicr, fe wnaf i gadarnhau hynny.

Trefnydd, gan fyfyrio ar yr holl sylwadau yr ydyn ni newydd eu clywed am bryderon ynghylch y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol, a gaf i ofyn am ddatganiad yn egluro pa gymorth sydd ar gael, sut y gallwn ni gyfeirio teuluoedd a hefyd eglurder ar gyfer banciau bwyd lleol sydd wedi cysylltu â mi, sy'n bryderus iawn bod stociau'n mynd yn isel, sydd ddim yn barod ar gyfer yr haf ac sy'n ansicr pa gyngor i'w roi i deuluoedd sydd eisoes mewn sefyllfa ddybryd? Oherwydd rwy'n credu os ydyn ni'n myfyrio ar y drafodaeth sydd newydd fod, mae'n dangos nad argyfwng costau byw yn unig ydyw, ond, yn wir, argyfwng mewn llawer o gymunedau, ac mae angen yr eglurder hwnnw, os gwelwch yn dda.

Ac, yn ail, yn gysylltiedig â hyn, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch tlodi mislif, ac yn benodol y cynhyrchion mislif a fydd ar gael dros yr haf. Maen nhw ar gael yn eang am ddim yn ein hysgolion, er bod pobl wedi wynebu rhai rhwystrau o ran cael gafael arnyn nhw. Rydyn ni wedi clywed gan nifer o ymgyrchwyr, fel ymgyrch Caru'ch Mislif, y gall gwyliau ysgol, yn arbennig, fod yn broblem. Felly, a gaf i ofyn i ni dynnu sylw at ble mae cynhyrchion am ddim ar gael ac, yn ogystal â sicrhau nad oes unrhyw blentyn neu berson ifanc yn llwgu yr haf hwn, ein bod ni'n sicrhau nad yw eu hurddas mislif yn cael ei wrthod iddyn nhw ychwaith?

Diolch. Wel, o ran y mater yr ydych chi'n ei godi am fanciau bwyd, mae'n sicr yn fater difrifol iawn, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gweld gyda banciau bwyd ar draws ein hetholaethau nad ydyn nhw wedi cael eu stocio cystal ag yr oedden nhw o'r blaen, oherwydd, yn amlwg, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb, ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi ein banciau bwyd ledled y wlad.

Rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei godi am dlodi mislif yn bwysig iawn, oherwydd, fel y dywedwch chi, mae'r cynhyrchion hynny ar gael am ddim mewn ysgolion, a beth sy'n digwydd yn ystod gwyliau ysgol. Fe ofynnaf i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sicrhau bod canllawiau yn cael eu rhoi o ran ble y bydd y cynhyrchion hynny ar gael, ac a fyddai efallai yn ystyried cyflwyno datganiad ysgrifenedig.

Yn anffodus, fis Medi diwethaf, collodd Glannau Dyfrdwy berson ifanc arall yn rhy fuan o lawer. Os ydw i'n gwbl onest, rwy'n cael trafferth dygymod â'r ffaith mod i wedi colli fy ffrind gorau Jamie Wynne fis Medi diwethaf. Ond mae tîm pêl-droed lleol Jamie, Clwb Pêl-droed Tref Cei Connah, wedi penderfynu eu bod nhw eisiau helpu pobl i siarad am eu hiechyd meddwl eu hunain, y stigma ynghylch iechyd meddwl, a'u cyfeirio at gefnogaeth pellach. Mae'r clwb wedi llunio taflen, gan dynnu sylw a chyfeirio pobl at y Samariaid, at Mind ac at Shout neu hyd yn oed at eu pencampwyr lles eu hunain o fewn y clwb. Trefnydd, byddwn i wrth fy modd yn gweld y fenter hon yn cael ei chyflwyno ledled Cymru. A gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru wneud datganiad ar sut y gallan nhw gefnogi mentrau o'r fath ledled Cymru?

Diolch. Rwy'n credu ei fod yn werthfawr iawn i sefydliadau fel Clwb Pêl-droed Tref Cei Connah sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o'r cymorth sydd eisoes ar gael. Rwy'n credu ei bod hi'n wych eu bod nhw'n gwneud hyn yn enw Jamie wrth symud ymlaen. Yn sicr fe wnawn ni ystyried, fel rhan o'r gwaith amlsectoraidd rydym yn parhau i'w wneud, sut y gallwn ni ehangu hyn ymhellach wrth i ni fynd ati i ddatblygu ein dull o atal hunanladdiad ymhellach.

Rwy'n galw am un datganiad gan Lywodraeth Cymru ar y profion modd ar iawndal milwrol y mae cymuned y lluoedd arfog yn ei gael. Yr wythnos diwethaf, lansiodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ei hymgyrch Credit their Service, gyda'r nod o fynd i'r afael â thrin iawndal milwrol fel incwm ar draws profion modd lles. Mae cant a hanner o filoedd o aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn derbyn iawndal milwrol wedi'i ddyfarnu i gefnogi costau parhaus salwch neu anaf y gwnaethon nhw ei gael wrth wasanaethu. O ganlyniad i brofion modd mae rhai o aelodau tlotaf cymuned y lluoedd arfog yn cael eu hamddifadu o filoedd o bunnoedd o gymorth, tra bod iawndal sifil fel ar gyfer anafiadau personol neu esgeulustod meddygol wedi'i eithrio rhag hyn. Yn 2011, addawodd Llywodraeth y DU gyfamod y lluoedd arfog—yn amlwg, gwnaeth Llywodraeth Cymru hyn hefyd—ac fe wnaethon nhw addo sicrhau na ddylai aelodau o gymuned y lluoedd arfog wynebu unrhyw anfantais o gymharu â dinasyddion eraill wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a masnachol. Felly, mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn annog awdurdodau lleol Cymru i ddefnyddio pwerau disgresiwn presennol i sicrhau na chaiff iawndal milwrol byth ei drin fel incwm mewn profion modd ar gyfer budd-daliadau sy'n cael eu gweinyddu'n lleol. Rwy'n credu bod rhai awdurdodau yn gwneud hynny, ond nid llawer ohonyn nhw, ac mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio rheoliadau budd-daliadau i sicrhau nad yw iawndal unrhyw aelod o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru—

14:45

—yn cael ei drin fel incwm gan unrhyw fudd-daliadau prawf modd. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny yng nghyd-destun y galwadau ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yma.

Diolch. Mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn ymwybodol iawn o ymgyrch Credit their Service y Lleng Brydeinig Frenhinol, ac rwy'n gwybod bod ei swyddogion wedi cwrdd â'r elusen, ac yn parhau i weithio'n agos gyda grŵp arbenigol y lluoedd arfog, swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, a'n holl bartneriaid ledled Cymru i gynnal egwyddor cyfamod y lluoedd arfog. Mae hwn yn fater ledled y DU, ond mae goblygiadau amlwg i feysydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu harwain, ac mae'r ymgyrch wir yn berthnasol i sawl maes polisi, a bydd angen i ni asesu'r materion a godwyd.

Hoffwn gael datganiad, os gwelwch yn dda, sy'n mynd i'r afael â phryderon a godwyd gan Marie Curie y bydd pobl â salwch angheuol yn wynebu gaeaf o straen cynyddol oherwydd biliau ynni uchel. Nid ydynt yn sicr o gael cefnogaeth gan y rhaglen Cartrefi Clyd a hoffwn weld hynny'n newid, os gwelwch yn dda. Dywed 94 y cant o nyrsys Marie Curie eu bod wedi gofalu am gleifion sy'n cael trafferth gydag arian ac y bydd y pryder hwnnw ynghylch sut y byddan nhw'n cadw'n gynnes yn ychwanegu baich arall ar bobl sy'n marw, sy'n mynd i dlodi wrth iddyn nhw farw. Mae'n ddrwg gen i fod honno'n ffordd ofidus o fynegi hynny, ond dydw i ddim yn credu y gallwn ni gilio oddi wrth y realiti llym yma. Mae bron i chwarter staff Marie Curie yn dweud eu bod yn ofni bod ansicrwydd ariannol wedi prysuro'r dirywiad yng nghyflwr rhai o'u cleifion. Nid yw'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y rhaglen yn nodi'n glir a fydd pobl yn y sefyllfa hon yn sicr o gael cymorth ychwanegol i'w gwneud yn gyfforddus yn yr hyn a fydd, i rai, eu hwythnosau neu fisoedd olaf. A allai datganiad ymdrin â hyn, fel y gall pobl sydd â salwch angheuol a'u teuluoedd gael y sicrwydd hwn bod hynny, o leiaf, yn un peth yn llai y mae'n rhaid iddyn nhw boeni amdano?

Diolch. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Gwyddom fod diagnosis o ganser yn aml yn dod â goblygiadau ariannol difrifol. Efallai na fydd pobl yn gallu gweithio ac efallai y bydd ganddyn nhw gostau ychwanegol am ynni. Fe wnaethoch chi sôn am ynni yn benodol, felly rydyn ni'n deall yn llwyr yr elusennau sy'n cyflwyno'r wybodaeth hon i ni, a'u pryderon. Yn amlwg, rydyn ni yng nghanol argyfwng costau byw, a byddwch chi'n ymwybodol o'r cymorth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl yng Nghymru i helpu gyda'r argyfwng costau byw, ond dim ond hyn a hyn y gallwn ni ei wneud.

Ddoe, ymwelais ag ystad goedwig Llywodraeth Cymru yng Nghoed Moel Famau, lle mae rhannau helaeth o goed llarwydd yn cael eu torri a'u clirio oherwydd clefyd llarwydd mewn mannau eraill yn y goedwig. Gohiriwyd torri'r coed oherwydd bod adar yn nythu. Mae chwe rhywogaeth o ystlumod a gweilch marth yn nythu. Mae'r ardal benodol hon yn llawn bioamrywiaeth gan ei bod yn cael ei rheoli'n gynaliadwy trwy goedwigaeth gorchudd parhaus, gan ddarparu llawer o ecosystemau fel atal llifogydd, rheoli erydu a diogelu bioamrywiaeth. Rwy'n pryderu y bydd torri coed yn ailgychwyn ym mis Medi trwy gontract Cyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn arwain at golli cynefin a llifogydd llednentydd sy'n arwain at afon Alun. Mae coedwigoedd gorchudd parhaus a reolir yn gynaliadwy hefyd yn fwy cydnerth i glefydau plâu a newid hinsawdd. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn nodi y bydd gwybodaeth leol, data am ledaeniad clefydau a data meteorolegol presennol i gyd yn cael eu defnyddio gan CNC, ond mae'n amlwg nad yw hyn yn cael ei ddilyn yn y fan yma gan fod yna ardaloedd mawr o goed llarwydd sy'n berffaith iach ac nad ydynt yn destun unrhyw hysbysiad iechyd planhigion statudol. Felly, gyda thorri coed ar raddfa eang i fod i ddechrau ym mis Medi—dyma pam y mae'n fater brys, ac rwyf wedi ei godi yma—os gwelwch yn dda a gaf i ofyn am ddatganiad ynghylch pam mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio i dorri ardaloedd o goed llarwydd iach ar hap yn ddiangen ar ystad y goedwig gyhoeddus? Diolch.

Diolch. Rwyf yn cydnabod gwerth ein coed a'n coetiroedd a'n gwrychoedd, ac, yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn, byddaf yn gwneud datganiad ar sefyllfa bresennol y cynllun ffermio cynaliadwy, lle bydd hynny'n cael ei gydnabod yn bendant. Maen nhw o bwysigrwydd enfawr i'n bioamrywiaeth wrth gysylltu ein cynefinoedd i helpu i adeiladu'r ecosystem gydnerth honno yr ydym ni i gyd eisiau ei gweld a lleihau effeithiau newid hinsawdd. Yn anffodus, mae clefyd P. ramorum mewn coed llarwydd yn parhau i fod yn her sylweddol i ni yma yng Nghymru, ac mae torri coed ar ystad goetir Llywodraeth Cymru yn cael ei wneud yn unol â safon coedwigaeth y DU, gyda safon y Llywodraeth ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy hefyd. Ac mae'r safon honno'n ei gwneud yn ofynnol ac yn rhoi arweiniad mewn perthynas ag amddiffyn dŵr, priddoedd, bioamrywiaeth ac ecosystemau eraill yn ystod y gwaith torri coed.

Mae rheoli coetiroedd ar ystad goetir Llywodraeth Cymru yn ystyried data am ledaeniad clefydau ac mae CNC yn gwneud gwaith gwyliadwriaeth i fonitro lledaeniad P. ramorum, ac weithiau mae angen hynny am resymau gweithredol, ac fel rhan o ddull rheoli coetiroedd sydd wedi'i gynllunio ac sy'n fwy effeithlon, fel y nodir yn strategaeth lleihau llarwydd CNC, i dorri coed hyd yn oed os nad ydynt yn dangos symptomau clefyd. Bydd y gostyngiad hwnnw mewn llarwydd hefyd yn cynyddu cydnerthedd y coetir.

14:50

Gweinidog, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi yn amlinellu'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer grantiau o raglen cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru. Rwy'n gofyn hyn yng ngoleuni penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod cais grant clwb pêl-droed Llandudno am gae 3G newydd, ac rwy'n gwybod bod gan yr Aelod dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, bryderon amdano hefyd. Mae'r penderfyniad yma wedi bod yn ergyd chwerw i glwb pêl-droed Llandudno. Chwaraeodd y clwb y rhan fwyaf o'u gemau cartref ym Mangor y tymor diwethaf ac roedden nhw'n edrych ymlaen at ddychwelyd i Landudno. Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru wedi arwain at y rheolwr yn gadael y clwb, ac mae llawer yn ofni am ddyfodol y clwb, er gwaethaf y cannoedd lawer o bobl y mae'n eu gwasanaethu yn y dref a'r cymunedau cyfagos. Mae'n ymddangos bod y penderfyniad hwn hefyd yn dilyn adborth cadarnhaol gan y panel cyllido, felly dydy'r clwb ddim yn deall o gwbl sut mae'r penderfyniad hwn wedi digwydd. Felly, er mwyn cael gwared ar rywfaint o amwysedd, hoffwn ofyn am ddatganiad yn amlinellu'r prosesau gwneud penderfyniadau ar gyfer grantiau o'r math hwn. Diolch yn fawr iawn.

Nid mater i Weinidog yr Economi yw hwn; mater i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip. Fodd bynnag, caiff pob cais ei asesu gyda meini prawf cymhwysedd llym iawn. Byddwn i'n meddwl mai'r ffordd orau ymlaen, mewn gwirionedd, fyddai i'r clwb—. Hynny yw, rwy'n gwerthfawrogi'r hyn y dywedoch chi am sut yr oedden nhw wedi cael adborth cychwynnol, ond byddai'n dda iddyn nhw ofyn am adborth. Efallai y byddai'n well i chi ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog, neu gall y clwb yn amlwg gysylltu â swyddogion i gael yr adborth hwnnw.

Gweinidog, hoffwn i gael datganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi teuluoedd sy'n derbyn y lwfans Cychwyn Iach. Canfu adroddiad diweddar gan warant bwyd i blant y Food Foundation nad oes unrhyw laeth fformiwla cyntaf ar gyfer babanod ar gael sy'n fforddiadwy gyda lwfans Cychwyn Iach Llywodraeth y DU, sydd ar hyn o bryd yn £8.50 yr wythnos i'r rhai hynny sydd â phlant o dan flwydd oed. Canfu'r ymchwil fod cost fformiwla powdr safonol yn amrywio rhwng £9.39 a £15.95 mewn archfarchnadoedd. Mae'r lwfans yno i helpu rhieni o deuluoedd incwm isel trwy ddefnyddio talebau i brynu ffrwythau, llysiau, llaeth a fformiwla—ac, fel y dangosir ar hyn o bryd o ran fformiwla llaeth, nid yw hynny mewn unrhyw ffordd yn ddigonol. Wrth gwrs, rydym yn gwybod na all pob baban gael ei fwydo ar y fron, ac mae methu â fforddio fformiwla cyntaf babanod yn peri risg wirioneddol i iechyd y baban, ac mae'r fformiwla yn cael ei gydbwyso'n benodol i gynnwys y swm cywir o faetholion a chalorïau. Gyda chostau mor uchel, mae yna ofnau y gallai rhieni deimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond naill ai torri'n ôl ar fwydo eu plant neu ei wanhau â dŵr. Rwy'n awyddus i wybod, Gweinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn, a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd prynu fformiwla cyntaf babanod. Mae angen cymorth ar y teuluoedd hyn yn fwy nag erioed. Mae'n ein hatgoffa'n glir sut mae costau byw a chwalfa'r economi yn cael effaith sylweddol mewn gwirionedd.

Diolch. Fel yr ydych chi'n ei nodi, nid yw'r cynllun Cychwyn Iach wedi'i ddatganoli, ond mae yn darparu cymorth ariannol tuag at brynu bwyd iach, llaeth a fformiwla. Mae'r taliadau ar gyfer plant dan un oed yn £8.50 yr wythnos, ond ar gyfer babanod rhwng un a phedair oed, mae'n £4.25 yr wythnos, felly efallai na fydd hyd yn oed yr £8.50 yn talu pris llawn fformiwla babanod. Ond mae'r cynllun Cychwyn Iach wedi'i gynllunio i helpu tuag at gost bwydydd a diodydd sydd wedi'u cynnwys, nid o reidrwydd i dalu cost bil bwyd iach teulu yn ei gyfanrwydd. Ond mae gennym ni rai pryderon ynglŷn â chyflawniad y cynllun. Mae'r Gweinidog yn dymuno adolygu'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru ac ystyried opsiynau posibl ar gyfer datganoli, wrth symud ymlaen. Mae gennym hefyd y niferoedd uchaf yn defnyddio'r cynllun o unrhyw wlad yn y DU yma, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y Gweinidog—ac rwy'n gwybod y bydd hi'n gwneud hynny—yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gynyddu mynediad ac ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth.

14:55

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth y prynhawn yma ynglŷn â'r defnydd o weirgloddiau blodau gwyllt gan awdurdodau lleol ledled Cymru, gan fod llawer o drigolion yn fy etholaeth i wedi cysylltu â mi o Gylch y Nant yn Rhuddlan, Fern Way yn y Rhyl ac ardaloedd eraill sy'n poeni am y defnydd o weirgloddiau blodau gwyllt gan Gyngor Sir Ddinbych? Nawr, ac nid wyf i'n gwrthwynebu gweirgloddiau blodau gwyllt mewn unrhyw ffordd, fel roedd y Prif Weinidog yn ei honni'r tro diwethaf i mi ei holi ef yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yn ddiweddar, os oes tystiolaeth o gynhyrchiant da o flodau a chynnydd ym mhoblogaeth gwenyn a bioamrywiaeth, sef bwriad y cynllun. Ond pan nad yw cnydau yn datblygu yn dda ac yn sychu ac yn crino mewn tywydd poeth a sych, ac ar dir hefyd yr oedd plant yn chwarae arno dros y blynyddoedd a'r cyhoedd wedi mwynhau'r llecyn, a all yr awdurdodau lleol ystyried ymdrin â hyn, gan fod achosion o ddifaterwch yn arwain fy etholwyr i gredu eu bod nhw'n cael eu defnyddio gan sir Ddinbych i arbed arian a thorri corneli, sy'n yn arwain wedyn at anfodlonrwydd gan fod trigolion lleol wedi gweld cynnydd yng nghyfraddau'r dreth gyngor ers datganoli ac nad ydyn nhw'n cael gwerth am arian? Felly, a allwch chi roi datganiad y prynhawn yma ar ba ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau lleol o ran defnyddio gweirgloddiau blodau gwyllt ac a oes unrhyw ystyriaeth yn y canllawiau hynny i helpu fy etholwyr i sydd wedi blino ar weld cnydau lluosflwydd gwael pob haf?

Wel, rwy'n sicr yn credu ein bod ni wedi gweld enghreifftiau gwych eleni o weirgloddiau a chylchfannau blodau gwyllt. Fe wn i, yn fy etholaeth i yn Wrecsam—ac efallai y caf i roi hysbyseb i hynny, achos fe wn i eu bod nhw mewn cystadleuaeth Cymru yn ei Blodau gyda'u cylchfannau yn Wrecsam heddiw, ac rwy'n credu bod y beirniadu yn digwydd heddiw, mewn gwirionedd—mae hi wedi hi bod yn wych i weld hynny. Nid wyf i'n siŵr beth yr ydych chi'n ceisio ei ddweud, oherwydd, yn sicr, mae hynny'n gwella bioamrywiaeth, ac nid oes raid i chi ond edrych i weld y gloÿnnod byw a'r gwenyn sy'n cael eu denu. Felly, rwy'n credu mai mater yw hwn i bob awdurdod lleol.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y ffaith fod Cymru'n genedl noddfa? Y rheswm pam rwy'n gofyn yw oherwydd fe hoffwn i'r Gweinidog egluro pwy y mae'r 'genedl noddfa', sy'n ymadrodd a ddefnyddir yn aml gan lawer o Weinidogion a gwleidyddion yn y lle hwn, yn cyfeirio ato mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod am y diffiniad geiriadurol o'r deunydd a anfonwyd at bob un ohonom ni, serch hynny, mae llawer o bobl yng Nghymru sydd wedi dod i'n cefnogi gyda swyddi, a chael addysg yma, a byw ac adeiladu eu bywydau. Y rheswm pam rwy'n gofyn am hyn yn benodol yw oherwydd fy mod i'n bersonol, yn blentyn i fewnfudwyr, wedi cael fy ngwawdio yn gyhoeddus a'm gwatwar gan Weinidogion a meinciau cefn yn y lle hwn am fod yn uchelgeisiol. A dyma'r bobl a oedd yn eistedd yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf yn sôn am dosturi a phwysigrwydd bod yn genedl noddfa, ac eto mae eu hagwedd nhw tuag ataf i'n bersonol—ac rwy'n siŵr y gallai hyn ymestyn at bobl eraill y tu allan i'r Siambr hon—yn rhywbeth sydd wir yn peri pryder i mi. Sut all Cymru fod yn genedl noddfa wirioneddol pan nad ydym ni hyd yn oed yn gefnogol ac yn croesawu ein gilydd yn y Siambr hon? A yw Cymru yn genedl noddfa i bobl fel fi, fy rhieni, pobl allan yna hefyd sy'n fewnfudwyr, plant mewnfudwyr hefyd sydd wedi bod yng Nghymru ers 50 mlynedd a mwy efallai, neu lai, efallai, hyd yn oed? Neu a yw'n achos o Lywodraeth Cymru yn gwneud dim ond dewis pwy y mae hyn yn gwbl berthnasol iddyn nhw? Fe fyddai eglurhad yn cael ei werthfawrogi yn fawr gan fy mod i'n bersonol yn dymuno gweld Cymru yn genedl noddfa i bawb, ac nid dim ond i'r ychydig rai, wrth symud ymlaen.  

Ac rwy'n credu mai hwnnw yw'r diffiniad yn gyfan gwbl: rydyn ni'n genedl noddfa i bob un sydd ei hangen hi. Rwyf i o'r farn mai siarad yn fwy cyffredinol yr ydych chi am ddiffyg parch yn y Siambr hon, ac rwy'n credu bod hynny'n digwydd yn rhy aml yn y Siambr hon, ac efallai fod angen i bawb ohonom ni edrych arnom ni ein hunain.

3. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio’r cynllun ffermio cynaliadwy

Eitem 3 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Galwaf ar y Gweinidog, Lesley Griffiths.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd heddiw ynglŷn â datblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy. Dyma'r fenter fawr gyntaf a danlinellwyd gan ein Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) ni a fydd yn nodedig cyn bo hir, ac mae'n adlewyrchu ei hamcanion o ran rheoli tir yn gynaliadwy i gefnogi ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Y cynllun ffermio cynaliadwy fydd ein prif fecanwaith ni i fod yn sail i fusnesau amaethyddol cydnerth, ac mae'n cydnabod swyddogaeth allweddol y ffermwyr hefyd fel stiwardiaid ein hiaith, ein treftadaeth a'n diwylliant Cymraeg.

Yn ystod yr haf y llynedd, fe gyhoeddais i'r gyfres fwyaf manwl o gynigion hyd yma ar y cynllun. Roedd y cynigion amlinellol hynny'n sail i'n hail gam o gyd-ddylunio. Gosodwyd y cynigion yn fwriadol ar lefel uchel er mwyn i ffermwyr a rhanddeiliaid rannu eu profiad a'u syniadau blaengar, i'n helpu ni i ddatblygu rhagor o fanylion. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi dau adroddiad ar yr allbynnau cyd-ddylunio. 'Cyd-ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy: adroddiad terfynol' yw'r adborth a gasglwyd o dros 1,600 o gyfraniadau, oddi wrth ffermwyr yn bennaf. Trwy gyfres o arolygon ar-lein, cyfweliadau a thrafodaethau grŵp, archwiliwyd parodrwydd ffermwyr a'u gallu nhw i ymgymryd â chamau'r cynllun arfaethedig. Mae'r ail adroddiad, 'Cynllun Ffermio Cynaliadwy—dadansoddiad o'r adborth i gynigion bras y cynllun', yn adlewyrchu ymatebion ehangach gan 100 o sefydliadau, grwpiau ac unigolion sy'n rhanddeiliaid. Y drydedd ddogfen yr wyf i'n ei chyhoeddi heddiw yw 'Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cynigion bras - Ymateb cyd-ddylunio.' Mae hwn yn cynnwys ein hystyriaethau ni o ran sut y byddwn ni'n defnyddio'r canfyddiadau hyn i ddatblygu cynllun uchelgeisiol a hygyrch sy'n cefnogi ffermwyr gweithredol. Rwy'n argymell bod y tri adroddiad yn cael eu darllen, gan eu bod nhw'n cynnwys tystiolaeth sylweddol ynglŷn â chymhellion, y cyfleoedd sydd ar gael ar ffermydd, a'r hyn y mae angen i ni ei ystyried i ddiddymu rhai o'r rhwystrau rhag gweithredu. Nid oes gennyf i amser i fynd i fanylder heddiw. Eto i gyd, fe hoffwn i roi rhai enghreifftiau o ganfyddiadau cyd-ddylunio, ac ymateb Llywodraeth Cymru.

Fe gawsom ni adborth ar nifer y newidiadau y bydd yn rhaid i rai ffermwyr eu gwneud, ynghyd â chais i roi digon o amser i ffermwyr ddeall a gweithredu'r newidiadau. Felly, rydyn ni'n ystyried dull gweithredu graddol. Fe allai hyn olygu ein bod ni'n canolbwyntio ar gyflwyno'r camau gweithredu cyffredinol, pan gyflwynir y cynllun yn 2025, cyn i ni gyflwyno'r camau dewisol a chydweithredol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Fe fyddai hyn yn rhwystro ein ffermwyr ni rhag cael eu llethu gan newidiadau niferus i gyd ar unwaith. Fe ddylem ni ganolbwyntio yn y cynllun ar gefnogi'r nifer sy'n manteisio i'r eithaf o'r cychwyn cyntaf fel bydd cynnal y manteision a gyflawnwyd eisoes drwy arferion cyfredol ffermio cynaliadwy, megis ein safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid, er enghraifft, trwy gylch o wella iechyd anifeiliaid, yn parhau i fod yn ganolog i'r cynllun. Wrth wneud hynny, ni fyddwn ni'n colli golwg ar ein huchelgeisiau tymor hwy ar gyfer ffermydd ffyniannus a chydnerth, er mwyn yr hinsawdd ac er mwyn byd natur. Ni fyddwn ni'n cyflawni'r rhain i gyd ar y diwrnod cyntaf, ond rydyn ni am osod y sylfeini yn 2025 i gymryd camau cadarnhaol pellach dros y cyfnod pontio dilynol.

Roeddem ni'n cynnig y byddai angen adolygiad llinell sylfaen cynefinoedd i bob fferm allu nodi cynefinoedd a'r rheolaeth sydd ei hangen cyn ymuno â'r cynllun. Er bod cyfranogwyr cyd-ddylunio yn gweld gwerth hynny, roedden nhw'n codi pryderon ynglŷn â chost a pha mor rhwydd yw cael gafael ar gynghorwyr. Rydyn ni, felly, yn archwilio sut y gallwn ni gynnal yr adolygiad hwn o gynefinoedd yn raddadwy ar gyfer yr haen gyffredinol, trwy ddefnyddio gwybodaeth sydd eisoes yn cael ei chadw yn annibynnol ar gyfer nodi cynefinoedd posibl ar fferm. Fe fyddwn ni'n gwneud hyn drwy brosesau cyfarwydd, drwy Daliadau Gwledig Cymru Ar-lein, gan ddefnyddio gwybodaeth gan y ffermwr i gadarnhau manylion ei fferm. Fe gaiff hyn ei ategu gan gynghorwyr dim ond pryd y bydd angen hynny.

Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein hymrwymiadau amgylcheddol. Er enghraifft, mae rheoli cynefinoedd lled-naturiol drwy'r cynllun yn fecanwaith allweddol i helpu i gyflawni nodau bioamrywiaeth 30x30. Roeddem ni'n cynnig y dylid rheoli 10 y cant o bob fferm fel cynefin lled-naturiol. Gwelodd llawer o gyfranogwyr cyd-ddylunio y gwerth o ran cydnabod rheolaeth dda ar gynefinoedd a choetir presennol sy'n rhagori ar y gofynion sylfaenol arfaethedig. Fe fyddwn ni'n archwilio cyfleoedd i nodi'r nodweddion presennol hyn yn well, gan gynnwys trwy fethodoleg talu.

Cynhyrchodd y cynigion o ran plannu coed lawer o adborth. Rydyn ni'n cydnabod y bydd sefyllfaoedd pan na fyddai plannu coed yn bosibl, megis ar denantiaethau cyfyngol neu gynefinoedd sensitif. Rydyn ni wedi darparu rhagor o fanylion am y sefyllfaoedd yr ydym ni o'r farn a fyddai'n rhwystro plannu. Rydym ni'n archwilio newidiadau felly nid yw'r camau gweithredu o reidrwydd yn golygu 10 y cant o'r ddeiliadaeth gyfan, ond 10 y cant o'r arwynebedd sydd ar ôl pan gaiff y llecynnau anaddas eu nodi. Fe fyddai'r gorchudd coed o 10 y cant yn cynnwys y gorchudd coed presennol.

Rwy'n diolch i bob un o'r ffermwyr a'r rhanddeiliaid a gyfrannodd eu syniadau a'u hamser gwerthfawr at gyd-ddylunio, y gallwch eu gweld o'r enghreifftiau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynigion y cynllun. Nid ydym ni erioed o'r blaen wedi gallu defnyddio mewnbwn ffermwyr wrth ddylunio cynllun yn y ffordd sydd gennym ni yn ystod ein dau gam o gyd-ddylunio. Mae hyn yn crisialu'r berthynas yr wyf i'n awyddus i'w meithrin gyda'n ffermwyr ni eto, ar gyfer bod yn fwy cynhwysol o syniadau a phrofiad gan y bobl sy'n gweithio yn ddiflino i roi bwyd cynaliadwy, iach a maethlon ar ein byrddau ni. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i Blaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, am eu cyfraniadau nhw yn ystod y broses hon o ddatblygu polisi.

Y cam nesaf yw i fy swyddogion gyfuno'r allbynnau o gyd-ddylunio a'r gweithgorau i helpu i lunio'r fersiwn nesaf o gynigion y cynllun, gan gynnwys methodoleg talu, i gynnwys hynny yn yr ymgynghoriad terfynol. Ni wneir y penderfyniadau dylunio terfynol tan ddiwedd yr ymgynghoriad nesaf. Yn y cyfamser, fe geir camau y gall ffermwyr barhau i'w cymryd tuag at fwy o gynaliadwyedd cyn cyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae ein cynlluniau buddsoddi gwledig ni'n rhoi cyllid ar gyfer amrywiaeth o gamau gweithredu ar fferm, fel y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Mae arian cyfalaf ar gael hefyd drwy'r grantiau bach a'r cynlluniau buddsoddi mewn rheoli maethynnau, a chyllid ar gyfer plannu coetir—coetir a fyddai'n cyfrif tuag at y gorchudd coed sy'n ofynnol gan y cynllun. Mae'r rhain yn gamau sydd o fudd i'n ffermwyr ni ac y gellir eu cysylltu yn eglur â'n nodau hinsawdd a natur, y bydd yn rhaid i ni barhau yn ymwybodol ohonyn nhw, i gyfiawnhau dyraniadau cyllideb yn y dyfodol—sefyllfa y gwyddom ni sy'n mynd yn gynyddol heriol.

Rwy'n gobeithio, gyda'i gilydd, y gall y Siambr hon a'n rhanddeiliaid ni ganolbwyntio ar ddarparu negeseuon sy'n gydgysylltiedig i'n ffermwyr gweithgar ni, eu teuluoedd a'u cymunedau nhw. Mae'r Ddeddf a'r cynllun ffermio cynaliadwy wedi cael eu cynllunio i gadw ffermwyr ar y tir, i gefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ar yr un pryd â mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, gan gynnwys lliniaru effeithiau'r argyfyngau hyn ar ein gallu ni i gynhyrchu bwyd yn yr hirdymor. Gadewch i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i wireddu hyn. Rwy'n edrych ymlaen at ddiweddaru'r Senedd ar yr ymgynghoriad tua diwedd y flwyddyn eleni. Diolch.  

15:05

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hir-ddisgwyliedig hwn cyn toriad yr haf a sioeau'r haf, wrth gwrs, ac am ganiatáu i mi gael bwrw golwg arno ymlaen llaw fore heddiw.

Fe wn i fod y Gweinidog wedi cael llawer o sgyrsiau ers iddi wneud datganiad ar y cynllun ffermio cynaliadwy'r adeg hon y llynedd, ac rwy'n ddiolchgar iddi hi a'i hadran am wrando ar y safbwyntiau hynny a gyflwynwyd, ond mae angen eglurder eto ynglŷn â rhai agweddau ar y cynllun. Yn syml, os nad yw ffermwyr yn ymuno â'r cynllun, os nad yw'r cynlluniau yn ddigon deniadol i ffermwyr gymryd rhan ynddyn nhw, yna fe fyddwn ni i gyd ar ein colled—bydd Llywodraeth Cymru ar ei cholled, ein ffermwyr ar eu colled, byd natur a'r amgylchedd ar eu colled, a'r cyhoedd yng Nghymru ar eu colled yn gyffredinol. Mae'n rhaid i'r cynlluniau fod yn ddigon deniadol i annog ffermwyr i fod â rhan ynddyn nhw. Ac am nad yw cyfraddau talu yn cael eu cynnwys yn natganiad heddiw—rwy'n gwybod y bydd hyn yn pryderu'r undebau ffermio, fel minnau—mae hi'n bwysig eu bod nhw'n ymddangos yn yr ymgynghoriad nesaf, gyda modelu economaidd llawn ac eglur. Mae angen i ffermwyr allu asesu hyfywedd mabwysiadu'r camau gweithredu cyffredinol, ond ni fyddan nhw'n gallu gwneud hyn hyd nes eu bod nhw'n gwybod beth fydd y cyfraddau talu. Fel dywedais i, a fyddan nhw'n ddigon deniadol i ddenu ffermwyr i gyfranogi?

Mae pryder yn parhau hefyd am nad yw penderfyniad o blaid capio taliadau wedi cael ei wneud eto, ac fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i gael gwybod a yw hwn ar ei ffordd, neu pa bryd felly. Mae hi'n bwysig bod y broses ymgeisio yn parhau i fod mor syml â phosibl, yn arbennig ar y lefel gyffredinol. Mae'r mecanweithiau cyfredol ar gyfer ymgeisio a thalu yn gweithio. Gweinidog, nid oes angen ailddyfeisio'r olwyn yn hyn o beth. Mae cyflwyno'r camau cyffredinol yn gyntaf yn gam cadarnhaol, a bod â bwlch cyn i'r camau dewisol a chydweithredol ddechrau—mae hyn i'w groesawu. Ond mae hi'n bwysig bod digon o ddyraniad cyllideb yn yr haen gyffredinol, ac fe fyddwn yn croesawu barn y Gweinidog ynglŷn â hynny.

Mae yna bethau cadarnhaol eraill yn y datganiad heddiw hefyd, gan gynnwys y broses adolygu gwaelodlin cynefinoedd. Serch hynny, mae plannu coed a'r nod yn parhau i fod yn fater dadleuol, ac mae'r Gweinidog yn ymwybodol fy mod i wedi codi hyn yn y pwyllgor yn ddiweddar. Fe allai dal ati gyda'r ffigur mympwyol hwn o 10 y cant ar gyfer gorchudd coed fod yn waelodlin na ellir ei chyflawni gan ffermydd am sawl rheswm. Mae'r Gweinidog wedi cydnabod y rhain, ac rwyf innau'n cydnabod bod rhywfaint o symudiad wedi bod yn hyn o beth ers yr haf y llynedd, gan gynnwys derbyn na fydd modd plannu coed efallai ar dir cynefin sensitif neu dan ddeiliadaeth. Ond a all y Gweinidog gadarnhau y bydd gwrychoedd yn cael eu cynnwys yn y ffigur o ran gorchudd coed, ac a oes hyblygrwydd pellach ar gael o ran y ffigur o 10 y cant, neu a yw hwn yn rhan annatod erbyn hyn o'r cynllun ffermio cynaliadwy? Hefyd, mae'r datganiad yn cyfeirio at, ac rwy'n dyfynnu,

'10 y cant o'r arwynebedd sydd ar ôl pan gaiff y llecynnau anaddas eu nodi.'

A yw hynny'n golygu bod y Gweinidog yn eiriol dros roi'r tir mwyaf cynhyrchiol i gynhyrchu bwyd i'w drosglwyddo i blannu coed? Oherwydd fe fydd unrhyw golled o dir sy'n cynhyrchu bwyd o ansawdd da yn peri pryder i ffermwyr ac yn effeithio ar ein gallu ni i gynyddu ein diogelwch bwyd.

Gweinidog, rydych chi'n ymwybodol hefyd pa mor awyddus wyf i i weld ffermwyr newydd ac ifanc yn ymuno â'r proffesiwn. Mae grŵp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru, a lansiodd eu hadroddiad yn y Senedd ddim ond fis diwethaf, yn fy sicrhau i fod y genhedlaeth nesaf o ffermwyr mewn dwylo diogel. Eto i gyd, mae angen i ni gydnabod na fydd gan lawer sicrwydd ar y tir y maen nhw'n ei ffermio yn yr hirdymor o ran bod â'r un cymorth ariannol ar gael ag sydd gan gymheiriaid hŷn, mwy sefydledig. Maen nhw'n gofyn i'r cynllun ffermio cynaliadwy ddefnyddio grantiau cyfalaf i gymell a hwyluso datblygiad busnesau fferm, gyda chyllid ar gael i ariannu gwelliannau cynhyrchiant ar ffermydd Cymru. Maen nhw'n argymell gosod cyfraddau ymyrraeth uwch ar gyfer ffermwyr ifanc hefyd. Gweinidog, fe fyddai hi'n dda gennyf i wybod pa gefnogaeth a ddaw yn sgil y cynllun ffermio cynaliadwy i'r rhai sy'n dechrau ym myd ffermio, a galwadau penodol grŵp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru.

Fy mhwynt olaf ond un: nid oes unrhyw beth yn y datganiad hwn ynglŷn â'r cynlluniau i ddilyn Glastir, ac mae ymyl y dibyn yn nesáu yn gyflym, dim ond ychydig fisoedd i ffwrdd. A all y Gweinidog roi unrhyw eglurder o ran Glastir heddiw, a fydd o leiaf yn llywio'r gymuned ffermio i gyfeiriad arbennig?

Yn olaf, a gaf i ofyn pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog a'i thîm i gynllun ffermio cynaliadwy sy'n cefnogi cynhyrchiant a chynhyrchu bwyd yn uniongyrchol yma yng Nghymru? Fel soniais i wrth agor fy ymateb, mae tymor y sioeau haf yn rhoi cyfle rhagorol i wyntyllu, gwasgu, troelli a gwirio'r cynllun ffermio cynaliadwy a'i gynigon i weld a ydyn nhw'n gadarn ac yn bosibl eu cyflawni. Mae pryder yn parhau ynglŷn ag eglurder a chyffro oherwydd y cyfleoedd newydd, ond mae angen i ymgynghoriad y cynllun ffermio cynaliadwy yn yr hydref ddarparu eglurder, sicrwydd a manylion i ffermwyr i'w galluogi nhw i gynllunio ymlaen llaw. Mae dyfodol hirdymor ffermydd teuluol Cymru a'r diwydiant ffermio cystadleuol ehangach yn dibynnu ar gyflawni'r cynllun ffermio cynaliadwy yn iawn. Rwy'n gobeithio y gallaf i sicrhau'r Gweinidog nad wyf yn ymagweddu at y pwnc hwn o safbwynt gwleidyddol, ond yn hytrach o safbwynt dyhead o fod â'r cynllun gorau posibl i'r ffermwyr a chymuned cynhyrchu bwyd Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at ymateb y Gweinidog. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

15:10

Diolch yn fawr iawn, a diolch i chi am y pwynt olaf yna. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n cymryd agwedd wleidyddol ynglŷn â hyn, a'n bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y cynllun hwn yn gwbl gywir. Rwyf i wedi dweud hynny drwy'r amser. Rwyf i wedi cymryd fy amser—mae rhai pobl wedi fy meirniadu i am gymryd fy amser—ond rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn ei fod yn gweithio i bob ffermwr ar bob math o fferm ym mhob cwr o Gymru. Mae'r cyd-ddylunio hwn wedi tynnu rhai pethau allan nad oeddem ni'n siŵr ohonyn nhw o bosibl ac wedi rhoi'r sicrwydd hwnnw i ni, ond codwyd materion heriol hefyd. Ac fel dywedais i yn fy natganiad, Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn i bob un sydd wedi rhoi o'i amser.

Rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynglŷn â'n dyhead i wneud hyn mor ddeniadol â phosibl ac rydym ni'n awyddus i gymaint o ffermwyr â phosibl fod yn rhan o'r cynllun hwnnw yn bwysig iawn. Yn sicr, fe fyddwn i'n hynod siomedig pe byddai gennym lai o ffermydd a ffermwyr ynddo nag yn y cynllun taliadau sylfaenol, er enghraifft. Rwyf i wedi herio swyddogion mai honno ddylai fod yn waelodlin wrth symud ymlaen. Nid yw rhai pobl yn rhan o'r cynllun taliadau sylfaenol; fe gwrddais i â chwpl o ffermwyr yr haf llynedd yn Sioe Frenhinol Cymru a oedd yn dweud wrthyf i na fydden nhw'n dymuno bod yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy dan unrhyw amgylchiadau, yn union fel nad oedden nhw'n rhan o'r cynllun taliad sylfaenol. Rwy'n parchu hynny, ac mae hynny'n wir bob amser. Ond, i mi, fe hoffwn i weld cynifer o ffermwyr â phosibl yn rhan o'r cynllun hwnnw, gan weithio gyda ni i sicrhau ein bod ni'n cyflawni ein blaenoriaethau.

Rydych chi'n sôn am wybodaeth am daliadau, ac, yn amlwg, nid yw hynny yn y datganiad hwn heddiw. Bydd methodoleg talu yn rhan o'r ymgynghoriad terfynol a fydd yn mynd allan; hwnnw fydd yr ymgynghoriad olaf. Fe glywais i chi'n dweud 'yr hydref'; rwy'n credu y bydd hi'n fwy tebygol o fod yn y gaeaf, ond, yn sicr, eleni fydd hi cyn i ni fynd i mewn i doriad y Nadolig. Ac rydyn ni'n llwyr fwriadu cynnwys manylion y fethodoleg talu arfaethedig yn yr ymgynghoriad hwnnw ar ddiwedd y flwyddyn. Ni fydd yn cynnwys y manylion llawn o ran taliadau, gan na fydd y camau gweithredu yn cael eu cwblhau nes bydd yr ymarfer ymgynghori hwnnw wedi cael ei gwblhau. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn gwneud y pwynt hwnnw.

Fe ddylwn i ddweud hefyd ei bod hi'n anodd iawn llunio cynllun pan nad ydych chi'n gwybod faint fydd y gyllideb, ac nid oes gennym sicrwydd o setliadau cyllideb ar gyfer 2025 a thu hwnt i hynny. Felly, mae'n rhaid i chi gadw rhywfaint o hyblygrwydd oherwydd mae hi'n heriol dros ben llunio cynllun pan nad ydych chi'n gwybod faint fydd y gyllideb. Yr hyn y gallwn i ei ddweud yw mai'r cynllun hwn fydd y brif ffynhonnell ariannu i ffermwyr wrth symud ymlaen. Fe fydd yn wahanol i'r cynllun taliad sylfaenol presennol. Y newid hanfodol yw fod cyfradd y taliad yn gysylltiedig â'r gweithgareddau y mae'r ffermwr gweithredol yn eu cyflawni.

Fe wnaethoch chi godi rhai cwestiynau ynghylch yr haen gyffredinol yn gyntaf, ac rwyf i am roi sicrwydd y gall ffermwyr fynd i mewn i'r haen gyffredinol ar unwaith cyn gynted ag y byddwn yn dechrau'r cynllun. Nid ydym ni wedi cael trafodaethau—ni wnaf i ond dilyn ymlaen o'r hyn yr oeddwn i'n ei ddweud ynglŷn â'n hanwybodaeth ni o ran ein cyllideb—o ran cyfrannau'r gyllideb a fydd yn mynd i mewn i ba gynllun, oherwydd rwyf i o'r farn ein bod ni gyd yn derbyn hynny, yn amlwg, rhywbeth cyffredinol ydyw yn ôl yr enw sydd arno—dyna lle bydd y mwyafrif o ffermwyr yn mynd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod ffermwyr yn gallu cael mynediad at hyn o'r diwrnod cyntaf.

O ran coed, nid yw gwrychoedd yn cael eu hystyried yn goed—gwrychoedd ydyn nhw, felly fe fyddan nhw'n rhan o'r cynefin. Pe byddai coeden gennych chi yn y gwrych, fe fyddai honno'n cael ei hystyried yn goeden. Fe eglurais i hynny'r wythnos diwethaf. Roeddwn i ar fferm yr wythnos diwethaf ac fe ofynnwyd y cwestiwn hwnnw i mi, felly fe ofynnais innau hwnnw i swyddogion a dyna'r ateb a gefais i. Rydyn ni'n gwybod bod nod heriol iawn gennym ni i greu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, a hynny i helpu i liniaru newid hinsawdd, ac fe wyddom ni mai ffermwyr yw'r bobl orau i'n helpu i wneud hynny, ac fe fyddan nhw'n cael eu talu i wneud hynny. Mae rhan sylweddol iawn ganddyn nhw wrth ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw, ac rwy'n awyddus i'w cefnogi nhw ym mhopeth y maen nhw'n ei wneud.

Nid oes hyblygrwydd ynghylch y ddau 10 y cant; gosodwyd y 10 y cant yn gadarn ynddo erbyn hyn. Ond fel dywedais i yn fy natganiad, fe fydd llawer o enghreifftiau lle na allan nhw roi 10 y cant o'r ddarpariaeth ar eu fferm. Felly, ar y fferm yr es i arni ddydd Iau diwethaf, fe es i yno'n benodol oherwydd fe ddywedwyd wrthyf i na allen nhw gyrraedd 10 y cant. Ar ôl cyrraedd yno, fe allech weld pam na allan nhw gyrraedd y 10 y cant. Felly mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gweld ffermydd, er mwyn i mi fynd i wrando ar y ffermwr yn dweud wrthyf i pam na all gyrraedd y 10 y cant hwnnw. Ac mae yna lawer o resymau hinsoddol pam nad yw'r ddarpariaeth o 10 y cant yn bosibl ar fferm. Felly, fe fyddwn ni'n gweithio trwy gyfrwng y ffermwyr. Na, wrth gwrs, nid ydym ni'n dymuno gweld tir cynhyrchu bwyd yn cael ei ddifetha, ond yn sicr, ar y fferm yr oeddwn i arni hi ddydd Iau, roedden nhw'n awyddus i weithio gyda ni i weld sut y gallen nhw gynyddu'r gorchudd coed.

Rydych chi'n holi am Glastir, ac yn amlwg, fe wnes i ymestyn cytundebau Glastir tan ddiwedd y flwyddyn eleni. Rwyf i wedi ymrwymo i wneud datganiad cyn Sioe Frenhinol Cymru. Rwy'n gwerthfawrogi bod amser yn brin, ond rwy'n credu y bydd hynny ar fy nesg yr wythnos hon. Rwy'n gobeithio gwneud datganiad cyn diwedd yr wythnos hon; efallai y bydd hynny'n rhedeg i mewn i'r wythnos nesaf, ond yn sicr fe fyddaf i'n gallu gwneud hynny cyn y sioe, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod pobl yn gweld yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, wrth symud ymlaen.

Rwy'n credu yn y Sioe Frenhinol, a sioeau amaethyddol eraill—gan fod yna lawer o sioeau amaethyddol yn digwydd ledled Cymru yn ystod y misoedd nesaf—ei bod hi'n bwysig iawn parhau i gynnal y sgyrsiau hynny. Fe gewch chi weld, y rhai ohonoch chi sydd am fynd i'r sioe, os dewch chi at stondin Llywodraeth Cymru, dyna fydd ein canolbwynt ni'n llwyr—y cynllun ffermio cynaliadwy yw ein canolbwynt mawr ni, ac rwy'n edrych ymlaen at gael y trafodaethau hynny.

15:15

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Dwi'n edrych ymlaen at graffu ar fanylion y cynllun ffermio cynaliadwy dros y cyfnod nesaf yma. Er cymaint o drafod sydd wedi bod ar y Bil Amaeth (Cymru), dwi'n credu mai nawr rŷn ni'n cyrraedd y glo mân, mewn gwirionedd. Os oedd y Bil yn heriol, yna dwi ddim yn amau y bydd y broses sydd o'n blaenau ni dipyn yn fwy heriol. Dyma, wrth gwrs, le mae'r uchelgais yn y Bil yn cwrdd â'r realiti ar lawr gwlad, a dyw troi'r weledigaeth yn weithredu byth yn broses hawdd. Ond dwi'n edrych ymlaen, yn sicr, i gyfrannu at y broses yna, ac i ymgysylltu â nifer o randdeiliaid er mwyn cyrraedd cynllun yn y pen draw sydd, gobeithio, yn gweithio i bawb.

Rŷch chi wedi sôn am eich nod parhaus chi o gadw ffermwyr ar y tir; wel, gwnaf innau hefyd ategu fy mlaenoriaeth i, sef, amddiffyn y fferm deuluol, oherwydd heb ffermydd teuluol hyfyw a llwyddiannus, yna fydd gennych chi neb i ddelifro ar yr uchelgais yn y Bil, na chwaith ar y bwriad o fewn y cynllun.

Mae hi'n siomedig nad ydych chi'n gallu dweud wrthym ni heddiw am y bwlch ariannu hwn rhwng diwedd y taliadau sylfaenol a dechrau'r cynllun ffermio cynaliadwy. A wnelo diwrnod neu ddau, rwyf i o'r farn y byddai hi wedi bod yn dda o beth i chi rannu hynny gyda ni heddiw er mwyn i ni allu codi ychydig o faterion, yn hytrach na gorfod ymateb yn y tywyllwch dros yr haf i Weinidog nad yw ger ein bron ni yn y Senedd. Ond dyna ni; dyna wleidyddiaeth y Sioe Frenhinol hefyd, mae'n debyg, ac angen Gweinidogion am bethau i'w cyhoeddi.

Mae'r strwythur cymorth a'r ecosystem gyfan ynghylch gweithredu'r cynigion, ac yn amlwg yr angen am adolygiad sylfaenol cynefinoedd ar gyfer pob fferm yn codi nifer o rybuddion amlwg, onid ydyw, o ran costau a chapasiti a chapasiti arbenigol yn arbennig. Nawr, rydych chi'n cydnabod hyn, ac rydych chi wedi cydnabod hyn, ond rwy'n credu mai'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn y bôn yw nad ydych chi wir yn gwybod a yw'r gallu yno i weithredu'r cynllun. Oherwydd fe wyddom ni efallai na fydd cynghorwyr, contractwyr, arolygwyr na hyd yn oed y gadwyn gyflenwi yn gallu ymdopi â'r camau newydd sy'n angenrheidiol. Os ydych chi'n dymuno bod â gorchudd coed o 10 y cant, a oes gennym ni ddigon o stociau coed, meithrinfeydd, contractwyr cysylltiedig i roi'r coed hynny yn y ddaear, ac ati, ac ati? Nawr, rydych chi'n dweud yn rhai o'r dogfennau cysylltiedig y gwnaethoch chi eu cyhoeddi nhw heddiw y byddwch chi'n cynnal asesiad o gapasiti. Rwy'n pendroni efallai pam nad yw hynny wedi digwydd yn gynt, o ystyried ein bod ni ar ein ffordd i gyfeiriad penodol, ac os ydych chi'n sylweddoli nad oes digon o gapasiti, wel, fe fydd angen mwy na 18 mis arnom ni, efallai 20 mis o ran cynyddu gweithlu arbenigol yn neilltuol felly.

Ond wrth gwrs, fe wyddom ni beth sy'n digwydd pan nad oes digon o gapasiti neu ddarpariaeth. Yn sydyn, mae costau yn codi, mae cyfraddau dyddiol yn codi, oherwydd deddfau sylfaenol cyflenwad a galw. Felly, sut ydych chi am gadw, er enghraifft, gostau ymgynghorydd a chostau eraill dan reolaeth ar ddechrau, yn arbennig, y broses hon, a phwy sy'n talu am y cyngor hwn? A fyddai hyn yn rhywbeth a fyddai'n cael ei dalu o gyllideb y cynllun ffermio cynaliadwy, neu a fydd honno'n gost ar y rhai sy'n dymuno dod i mewn i'r cynllun? Efallai y gallech chi esbonio ychydig ynglŷn â hynny.

Fe hoffwn i sôn am y gorchudd coed o 10 y cant hefyd. Mae cydnabyddiaeth nawr bod angen hyblygrwydd. Nid wyf yn siŵr pam roedd angen gweithgor arbenigol tenantiaid ffermwyr i dynnu sylw at ba mor anymarferol yw hyn i ffermwyr tenant, ond dyna ni, fe gafodd hynny ei gydnabod. Fe fydd rhai ardaloedd, fel gwyddoch chi, dros y trothwy hwnnw o 10 y cant eisoes. Ni fydd eraill, oherwydd yr hinsawdd a rhai heriau o ran cyflyrau, yn gallu cyrraedd hynny mewn unrhyw amgylchiadau.

Felly, rwy'n dod i gasgliad yn raddol, sut y gall cyfeiriad penodol at orchudd coed o 10 y cant barhau i fod yn ystyrlon, o ystyried bod hynny'n golygu rhywbeth hollol wahanol i bawb, yn dibynnu ar wahanol ffermydd, amgylchiadau amrywiol, eich lleoliad yn y wlad, yr hyn sydd gennych chi eisoes, ac ati? Pam ydych chi mor benderfynol o dynnu'r ffigur hwnnw o'r awyr? A wnewch chi ailystyried dal yn ddiysgog at y ffigur mympwyol hwnnw? Ac oni wnewch chi efallai, yng ngoleuni'r angen i fod mor hyblyg, ystyried cyflwyno'r angen am gynyddu gorchudd coed mewn ffordd ychydig yn fwy soffistigedig? Rwy'n credu nad yw'r label hwn o 10 y cant o gymorth i unrhyw un, ac mae'n creu dryswch pan ydych chi'n dweud nawr, 'Ond fe fydd hyblygrwydd'. Wel, nid dyna'r naratif sydd wedi bod yn datblygu dros y misoedd diwethaf.

Yn olaf, oherwydd fy mod i'n gwybod bod nifer o feysydd wedi cael eu cwmpasu eisoes, ac rydyn ni am fod yn siarad llawer am hyn dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, rwy'n falch eich bod chi'n dal i lynu wrth gyd-ddylunio. Mae hi'n amlwg fod hon yn egwyddor allweddol yr ydym ni i gyd yn awyddus i'w chefnogi. Ond a wnewch chi gadarnhau, neu sicrhau pob un ohonom ni, mewn gwirionedd, nad yw cyd-ddylunio yn llithro i ddylunio gwaith o gwmpas gweithredoedd cyffredinol ar gyfer gwahanol fathau o ffermydd, ac ati, yn hytrach na bod yn mireinio'r gweithredoedd cyffredinol eu hunain? Rwy'n credu bod perygl y bydd y grwpiau hyn yn mynd yn ffyrdd o weithio o gwmpas problemau yn hytrach na mynd i'r afael â rhai o'r materion sylfaenol sy'n bodoli o hyd.

15:20

Diolch yn fawr iawn i chi. Fe wnaethoch chi sôn am gyhoeddiad ar gynllun y taliad sylfaenol cyn y Sioe Frenhinol. Nid wyf i'n siŵr a oeddech chi'n cyfeirio at Glastir, oherwydd rwyf i wedi ymrwymo i barhau â chynllun y taliad sylfaenol tan 2024. Rwyf i wedi mynd i drafferth fawr i sicrhau pobl na fyddwn ni'n dod at ymyl y dibyn hwnnw cyn i'r cynllun ffermio cynaliadwy ddechrau. Y bwriad yw y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn dechrau yn 2025. Er hynny, os na fyddwn ni yn y sefyllfa honno, fe fydd yn rhaid i ni barhau â chynllun y taliad sylfaenol. Ond fe eglurais i'n fanwl iawn mai'r bwriad yw y byddwn ni'n symud oddi wrth gynllun y taliad sylfaenol i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ddi-dor.

Fodd bynnag, yr hyn sy'n peri ansicrwydd mawr yw nad ydym ni'n gwybod beth fydd ein cyllideb ni ar ôl 2025. Roedd y sicrwydd hwnnw gennym ni, onid oedd, gan yr Undeb Ewropeaidd? Nid sylw gwleidyddol o gwbl mohono; mae'n anwleidyddol iawn. Mae hi'n ffaith ddiymwad ein bod wedi newid o fod â'r sicrwydd hwnnw i fod yn gwybod am un flwyddyn efallai, am dair blynedd efallai, os cawn ni adolygiad cynhwysfawr o wariant. Felly, fel dywedais i yn fy atebion i Sam Kurtz, mae hi'n anodd iawn llunio cynllun pan nad oes gennych chi unrhyw syniad o ran y gyllideb. Ond mae'n rhaid i chi dybio y bydd yr un gyllideb gennym ni ag a gawsom ni dros y blynyddoedd diwethaf.

Y ffordd yr ydym am fynd o'i chwmpas hi, fel rydych chi'n dweud, y costau hynny ar gyfer ymgynghorydd yw drwy wneud yn siŵr—. Rwy'n meddwl mai Sam Kurtz a ddywedodd, 'Peidiwch ag ailddyfeisio'r olwyn.' Mae cymaint o'r data eisoes yn cael eu cadw; mae hi'n amlwg iawn faint o ddata sy'n cael eu cadw. Yr hyn mae swyddogion wedi bod yn gweithio yn galed iawn i'w wneud yw integreiddio pob un o'r gwahanol gronfeydd data sydd gennym ni, a'r holl wybodaeth honno sydd gennym ni—a deall pa orchudd coed sydd yna; deall pa ddarpariaeth sydd ar y ffermydd o ran cynefinoedd. Mae'r wybodaeth honno gennym ni, a'r hyn a fyddwn ni'n ei wneud yw rhoi'r wybodaeth honno mewn un bloc, os mynnwch chi, i'n ffermwyr, er mwyn iddyn nhw allu gwirio ei bod yn gywir. Rydyn ni'n archwilio sut y gallwn wneud hyn trwy brosesau ar-lein Taliadau Gwledig Cymru, lle rydym ni'n coladu'r holl wybodaeth honno eisoes. Mae honno'n gyfarwydd iawn i'n ffermwyr ni, y broses honno, felly fe fyddwn ni'n parhau i ddefnyddio honno. Fe fyddwn ni'n sicrhau bod canllawiau ar gael i helpu ffermwyr drwy'r broses o allu cadarnhau'r data sydd ganddyn nhw eisoes o ran cynefinoedd. Fe fyddai cynghorydd ar gael wedyn, pe byddai angen, i gynorthwyo. Rwy'n credu bod y gallu gennym ni, ond yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni edrych arno'n barhaus. Ond yr hyn yr wyf i am ei wneud yw, fel dywedais i, rhoi'r wybodaeth honno i'r ffermwyr a defnyddio eu harbenigedd nhw, oherwydd y nhw yw'r rhai sydd â'r arbenigedd hwnnw yn y lle cyntaf.

Ynglŷn â phlannu coed, rwy'n credu eich bod chi wedi defnyddio'r gair 'mympwyol', ac rwy'n credu i Sam Kurtz ddefnyddio'r gair 'mympwyol' hefyd. Nid mympwyol mohono. Fe wyddom ni'r nod sydd gennym ni o ran plannu coetir newydd. Fe wyddom ni nad ydym ni wedi bod yn plannu digon o goed—rwy'n credu mai chi fyddai'r un cyntaf i ddweud hynny—dros y blynyddoedd. Fe wyddom ni os ydym ni'n dymuno lliniaru newid hinsawdd, mae angen i ni blannu a chreu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030. Trwy ofyn i bob ffermwr greu coetir newydd a rheoli a chadw eu coetiroedd presennol, fe fydd hynny'n ein helpu ni i osgoi newidiadau defnydd tir ar raddfa fawr, ac nid wyf i'n credu y byddai unrhyw un yn dymuno gweld hynny, ac yn cadw ein ffermwyr ni ar y tir.  Felly, yn hytrach na gweld newid mawr fel hynny yn nefnydd tir, drwy ofyn i bob ffermwr ein helpu ni fel hyn i fod yn rhan o'r cynllun—cofiwch mai arian cyhoeddus yw hwn, ac mae angen y canlyniadau hynny arnom ninnau hefyd. Rwy'n llwyr dderbyn yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud am gynhyrchiant bwyd cynaliadwy. Ond fe wyddom ni mai'r argyfwng hinsawdd yw'r hyn a fydd yn effeithio ar gynhyrchiant bwyd cynaliadwy, nid yn unig yn awr, ond yn y tymor canolig ac yn hwy hefyd. Felly, rwy'n credu, drwy ofyn i ffermwyr ein helpu ni, y bydd hynny'n osgoi'r newid yn nefnydd tir ar raddfa eang. Fe fydd y coed hynny'n helpu i atal llifogydd hefyd, ac effeithiau llifogydd.  A gyda'r hafau cynyddol dwym yr ydym ni'n eu gweld, fe fyddan nhw'n darparu lloches i dda byw hefyd, wrth symud ymlaen. Rydyn ni'n rhoi amser i'n ffermwyr wneud hyn, nid ydym ni'n gofyn iddynt wneud hyn ar y diwrnod cyntaf; bydd sawl blwyddyn, efallai pum mlynedd, er mwyn gwneud hyn. Nid oes raid iddyn nhw wneud hyn ar ei union, ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda nhw i sefydlu'r goeden iawn yn y lle iawn yn y ffordd sy'n gweithio orau i'w fferm nhw.

Rwy'n awyddus iawn i barhau â'r cyd-ddylunio. Rwy'n credu bod yr ymgynghoriadau a gawsom ni a'r ddau gam cyd-ddylunio a gawsom ni wedi amlygu manteision gwneud hynny, ac felly rwy'n hapus iawn i barhau i wneud hynny.

15:25

Prynhawn da, Gweinidog. Yn amlwg mae yna lawer o bethau da sydd wedi deillio o'r broses hon, mae'r cyd-ddylunio a'r cyd-gynhyrchu wedi bod mor gadarnhaol. Ond i swnio fel record wedi torri yr ydych chi wedi ei chlywed eisoes, y canolbwyntio ar y gorchudd coed o 10 y cant; mae hynny'n ymddangos yn fympwyol iawn—10 y cant. Beth sy'n digwydd os bydd ffermwr yn cyrraedd 8 y cant, 9 y cant? Beth yw goblygiadau hynny? Mae hyn mor bwysig, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddadl yn parhau, oherwydd mae pobl yn codi hyn drwy'r amser. Mae angen i ni fod yn eglur iawn fod yna hyblygrwydd, ac nid wyf i'n siŵr o hynny. Nid wyf i'n siŵr fod yna farn a fyddwch chi'n gallu ei hamgyffred y gallai dadl fod ynglŷn â'r mater.

Rydyn ni i gyd yn awyddus i weld plannu coed, rydyn ni i gyd yn awyddus i weld y goeden iawn yn y lle iawn. Nid oes neb yn gwadu hynny, ond mae hyn yn ymwneud â'r gofyniad hwn bod 10 y cant o orchudd coed, ac nad yw hynny'n cynnwys gwrychoedd ar hyn o bryd. Mae angen i ni sicrhau bod y goeden iawn yn y lle iawn, ac rwy'n falch fod hwn yn ddiweddariad y gwnaethoch chi ei roi i ni, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n parhau i fwrw ymlaen â'r sgwrs, a'r cyd-ddylunio a'r cyd-gynhyrchu i'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Diolch i Jane Dodds am y pwyntiau a'r cwestiynau yna. Fe glywsoch chi'r hyn a ddywedais i yn fy atebion blaenorol i Sam a Llŷr ynghylch y 10 y cant o goed. Fe gawsom ni adborth, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, yn ystod y cyfnod cyd-ddylunio, y dylem ni gynnwys gwrychoedd o fewn y gorchudd coed o 10 y cant, er enghraifft. Fel dywedais i, ein cynnig presennol ni yw 10 y cant ar gyfer gwrychoedd mewn cynefinoedd a 10 y cant ar gyfer gorchudd coed hefyd. Rydyn ni wedi bod yn annog ffermwyr, ac rydyn ni wedi bod yn sicrhau bod cyllid ar gael drwy gynlluniau plannu coed nawr, oherwydd roeddwn i'n dymuno i ffermwyr beidio â meddwl ei bod hi'n rhaid iddyn nhw ddal yn ôl cyn i'r cynllun ffermio cynaliadwy ddod i mewn cyn iddyn nhw blannu unrhyw goed. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw y bydd unrhyw goetir a blannwyd cyn i'r cynllun ffermio cynaliadwy ddod i mewn yn cyfrif tuag at gamau'r cynllun ffermio cynaliadwy.

Felly, unwaith eto, rwy'n annog unrhyw ffermwyr, os ydyn nhw wedi cael cyfle i fanteisio ar y cynlluniau cyllido presennol, i wneud felly. Fel dywedais i, nid 10 y cant ychwanegol ydyw hwn; mae gan lawer o ffermydd 6, 7, 8, 9, 10 y cant a mwy na hynny eisoes, ac felly, os ydyn nhw'n awyddus i blannu mwy, fe fyddan nhw'n cael eu gwobrwyo am hynny. Rydyn ni'n darparu £30 miliwn o gyllid dros y ddwy flynedd nesaf i blannu coed drwy'r cynllun creu coetiroedd grantiau bach. Ac fel dywedais i, mae cynlluniau ar gael eisoes, felly dim ond er mwyn annog. Felly, rwy'n gobeithio y byddech chi'n cydnabod mai'r rheswm pam yr ydym ni wedi gwneud hyn yw oherwydd y 43,000 o hectarau hynny y mae angen i ni eu creu, y 43,000 newydd. Nid rhywbeth mympwyol mohono. Fe wyddom ni, trwy wasgaru hyn a gofyn i ffermwyr fod â rhan, y byddwn ni'n cyflawni hynny.

O mae'n ddrwg gennyf i, a'r pwynt olaf y gwnaethoch chi ei godi—y cam nesaf nawr fydd y trafodaethau hynny dros yr haf, ac yna, yn yr hydref, fe fyddwn ni'n cael yr ymgynghoriad terfynol. Mae'n rhaid i hwnnw fod yn ymgynghoriad ystyrlon—fe ellid gwneud newidiadau eto yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, a fydd yn mynd allan cyn diwedd y flwyddyn. Ac rwyf i'n awyddus i sicrhau pobl, yn hollol, cyn i'r cynllun ddod yn y flwyddyn ganlynol, yn 2025, fod digon o amser ar gyfer trafodaethau ac ystyriaethau gan bawb.

15:30

Gweinidog, fel cafodd ei grybwyll, hanfod llwyddiant hwn yw a yw'n ddigon deniadol i ffermwyr, ond yn ddigon heriol hefyd i fod yn fuddugoliaeth i ffermwyr, ond yn fuddugoliaeth i'r amgylchedd a bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn ogystal â hynny. Ac mae hi'n anodd taro'r cydbwysedd hwnnw'n iawn bob amser. Rwy'n nodi yn y datganiad—rwy'n croesawu hyn, gyda llaw, oherwydd fe fydd y manylion yn ddiddorol iawn iawn—fe allai'r dull graddol hwn godi braw ar rai allan yna, mai dull graddol fydd hwn, ond mae rhesymeg i hynny. Ond, wrth i ni edrych ar adolygiad gwaelodlin, beth yn rhagor sydd angen i ni ei wneud? Beth sydd ar ôl i'w fapio ac ati?

Deg y cant o ffermydd yn gynefin lled-naturiol—mae hynny'n ddiddorol iawn. Mae coetiroedd wedi cael eu crybwyll yn fyr, ond rwy'n tybio bod y 10 y cant, gyda phroblemau 10 y cant o dir priodol, gyda'r ffaith eich bod chi'n cynnwys gorchudd coed presennol, mae hynny'n arwydd i ffermwyr mewn gwirionedd mai'r peth lleiaf yw hynny—nid rhywbeth i anelu ato, megis 10 y cant yn unig; os oes gennych chi dir mwy priodol y gallwch chi roi coetir arno mewn gwirionedd, heb aberthu'r tir y gellir ei ddefnyddio ar gyfer diogelwch bwyd, yna fe allech chi wneud mwy.

Dim ond cwpl o gwestiynau eraill, yn gyflym iawn, Cadeirydd—yn gyflym iawn, iawn.

Roeddem ni allan yn ddiweddar gyda Gemma Haines, fel dywedais i, yn trafod ffermio tenant a newydd-ddyfodiaid yn benodol iawn; mae hi'n hyfryd gweld bod Coleg Penybont yn rhan o'r gweithgor. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â hynny. Ac yn olaf, nid oes unrhyw sôn am fynediad—ni allwn i eistedd i lawr heb sôn am fynediad.

Diolch i chi. Rwyf i newydd sylweddoli, pan soniodd Huw Irranca-Davies am newydd-ddyfodiaid, fod Sam Kurtz wedi fy holi i am newydd-ddyfodiaid hefyd, ac ni wnes i ateb y cwestiwn hwnnw. Mae hi'n gwbl hanfodol fod y cynllun yn gweithio i newydd-ddyfodiaid, oherwydd, os nad ymgeiswyr newydd gennych chi, ni chawn ni syniadau newydd, ni fydd yr egni entrepreneuraidd hwnnw ar gael i ni sydd mor bwysig i'r diwydiant. Felly, rydyn ni wedi cael gweithgor ynglŷn â newydd-ddyfodiaid, ac maen nhw wedi bod yn archwilio beth yw rhai o'r prif rwystrau o ran mynediad at dir, at gyllid, ac, i raddau llai, fe fyddwn i'n dweud sgiliau, oherwydd rwy'n credu—. Roeddech chi'n sôn am Goleg Penybont, ac mae hi'n wych gweld y sgiliau hynny'n cael eu haddysgu yno. Ac mae hi'n debygol y bydd rhai o'r prif atebion i'r rhwystrau y mae newydd-ddyfodiaid yn eu hwynebu yn gynwysedig yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Ni fydd rhai o'r rhwystrau ynddo a welsom ni rhag cymorth mewn cynlluniau blaenorol wrth symud ymlaen, er enghraifft, fel cwota, neu hawliau ar sail cyfnod cyfeirio blaenorol. Felly, y grŵp newydd-ddyfodiaid—. Fe fyddwn ni'n parhau—mae hi'n debyg y dylwn i fod wedi dweud hynny—i weithio gyda'r gweithgorau. Yn wir, rydyn ni wedi dod â gweithgor newydd i mewn. Er ein bod ni wedi gorffen y cam cyd-ddylunio hwnnw, rydym ni newydd ddod â gweithgor newydd i mewn ynglŷn â dangosyddion perfformiad allweddol, er enghraifft, ac efallai y bydd angen gweithgorau eraill arnom ni. Ond rydyn ni'n gweithio gyda'r gweithgor tir comin hefyd—'does neb wedi codi hynny, ond, yn amlwg, mae tir comin yn bwysig iawn, ond mae hi'n debyg y bydd hynny'n mynd i lawr hyd at y lefel cydweithio, wrth symud ymlaen.

Fel roeddech chi'n dweud, mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud hyn mor ddeniadol â phosibl. Ac rwy'n awyddus iawn i wneud pethau mor syml â phosibl hefyd, oherwydd mae hi'n amlwg bod biwrocratiaeth yn rhywbeth y mae ffermwyr—fel rydyn ni i gyd, onid ydym ni, ond ffermwyr yn fwyaf arbennig—yn ei gasáu, felly mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud hynny.

O ran mynediad, yn amlwg, mae awdurdodau lleol yn cadw eu cyfrifoldebau o ran hawliau tramwy cyhoeddus, a'r hyn y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn ei wneud yw ariannu camau ychwanegol sydd goruwch y rheoliadau presennol, ac fe fydd cymorth ar gyfer mynediad gwell yn gorwedd o fewn haenau dewisol a chydweithredol y cynllun ffermio cynaliadwy.

Diolch, Cadeirydd. A Gweinidog, fe hoffwn i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw. Mae gennyf i ddiddordeb yn y cynllun ffermio cynaliadwy, pa amddiffyniad fydd gan ffermwyr gweithredol a'r ffermwyr sy'n denantiaid yma. Oherwydd yr hyn nad ydym ni'n dymuno ei weld yw cwmnïau rhyngwladol mawr neu dirfeddianwyr mawr yn troi tenantiaid allan o'u ffermydd, eu gyrru nhw oddi ar y tir, er mwyn gallu bod ar y cynllun ar gyfer mynnu eu credydau carbon ac er mwyn rhoi hwb i'w cymwysterau gwyrdd. Felly, fe fyddai hi'n dda gennyf i wybod beth sydd yn y cynllun i ddiogelu'r ffermwyr hynny rhag y cwmnïau rhyngwladol hyn. 

15:35

Diolch. Wel, dydw i ddim yn credu y gallaf i fod yn fwy clir mai cynllun i ffermwyr gweithredol yw hwn. Yn sicr, dydw i ddim am weld unrhyw gwmnïau rhyngwladol yn dod i mewn ac, fel rydych chi'n ei ddweud, yn taflu tenant oddi ar ei dir, a dyna'n union pam mae gweithgor tenantiaid yn cael ei sefydlu. Mae'r cyllid hwnnw—y cynllun ffermio cynaliadwy—yno i gymryd lle'r cynllun taliad sylfaenol ac mae hynny ar gyfer ein ffermwyr gweithredol. Felly, wrth symud ymlaen, yn sicr bydd yn rhaid i ni asesu a fydd hynny'n digwydd, oherwydd rwy'n derbyn llawer o wybodaeth anecdotaidd bod hyn yn digwydd a dydw i ddim yn gweld llawer o dystiolaeth ohono, a gallaf i ddim dweud wrth ffermwr i bwy y dylai werthu ei dir. Yn sicr, os oes gennych chi landlord a bod ganddo ef denant, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio gyda thenantiaid, ac fe fyddwch chi'n gwybod bod yr amddiffyniad hwnnw yn y Bil i denantiaid wrth symud ymlaen. 

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 4, sef datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd, a dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.  

Diolch, Cadeirydd. Mewn llai na deufis, bydd pob ysgol yng Nghymru yn addysgu'r Cwricwlwm i Gymru. Fel yr wyf i bob amser wedi pwysleisio, bydd hi'n cymryd amser i drawsnewid addysg, ond, flwyddyn ar ôl ei gyflwyno, dylai'r darlun sy'n dod i'r amlwg roi hyder i ni. Dylai'r proffesiwn fod yn falch o hyn. Dydy hi ddim wedi bod yn flwyddyn hawdd, ac mae ysgolion a'u staff wedi ymateb i ystod o heriau, yn enwedig yr argyfwng costau byw.

Yn ddiweddar, rwyf wedi cyhoeddi ein canllawiau newydd ar bresenoldeb ar gyfer ymgynghori arnynt. Mae cysylltiad clir rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad addysgol. Rydym yn gwybod y gall colli cyfnodau hir o ysgol fod yn risg i gyrhaeddiad plentyn ac y gall ymddieithrio'n fwy o'i addysg. Yn hyn o beth, mae'r ffordd y mae ysgolion a lleoliadau wedi defnyddio'r cwricwlwm i ennyn diddordeb dysgwyr mewn ffyrdd arloesol ac, yn hollbwysig, i godi dyheadau ar gyfer pob un o'u plant, wedi creu argraff fawr arnaf. Rwyf am i bob plentyn a pherson ifanc yn ein system addysg gredu y gall gyflawni ei botensial ac y bydd ei ddyheadau yn cael eu cefnogi. Mae ein cwricwlwm, sy'n anelu at rymuso pob plentyn i gyrraedd y potensial hwnnw, a'n hymdrechion ehangach i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, yn ganolog i gyflawni safonau uchel a dyheadau i bawb.

Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddais ein hail adroddiad blynyddol. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y cynnydd cadarnhaol iawn rydym wedi'i wneud eleni. Mae uwch-arweinwyr yn fwy hyderus yn y cynnydd y mae eu hysgolion yn ei wneud ac mae ymarferwyr yn cael eu grymuso'n fwy gan y cyfleoedd i ddylunio eu cwricwlwm. Ar draws ysgolion, mae mwy o ffocws wedi bod ar gydweithio o fewn ac ar draws lleoliadau, sy'n ganolog i wella safonau. Mae mwy o bwyslais wedi cael ei roi hefyd ar addysgeg a dulliau sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, ac mae'r ffocws hwn ar anghenion dysgwyr yn hanfodol wrth godi dyheadau i bawb. Mae arweinwyr ysgolion hefyd yn manteisio ar y cyfle i wella tegwch a chynwysoldeb ar gyfer eu dysgwyr ac i wneud y gorau o'r diwygiadau o ran anghenion dysgu ychwanegol sy'n mynd rhagddynt hefyd. Mae'r cwricwlwm yn galluogi athrawon i ganolbwyntio ar anghenion dysgwr unigol er mwyn helpu pob dysgwr i wneud cynnydd, ac rydym yn gweld yr arferion hyn yn dod i'r amlwg nawr mewn ysgolion.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cefnogi ysgolion i ddatblygu eu dulliau gweithredu o ran cynllunio'r cwricwlwm, cynnydd ac asesu. Mae'r rhain yn flociau adeiladu sy'n hanfodol i'r cwricwlwm. Drwy darparu'r gefnogaeth yma, rydym yn rhyddhau creadigrwydd ysgolion. Ond, yn fwy na hynny, bydd safonau'n cael eu codi. Pan fyddwn yn cefnogi ysgolion i ddewis cynnwys cwricwlwm heriol ac ystyrlon, byddwn ni'n sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei ymestyn. Pan fydd ymarferwyr yn canolbwyntio'n ddi-baid ar gefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd mewn ffyrdd allweddol, byddwn yn helpu pob dysgwr i gyflawni ei botensial. A phan fydd ysgolion yn defnyddio dulliau asesu blaengar, byddwn yn sicrhau bod pob dysgwr yn gwybod beth sydd angen iddo ei wneud nesaf, ac mae'r egwyddorion hyn yn berthnasol ledled Cymru. Dyma sut rydym yn sicrhau ansawdd cwricwlwm pob ysgol. Wedi'r cyfan, Cwricwlwm i Gymru ydyw.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn ni'n gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau bod cefnogaeth gyffredin i'r agweddau sylfaenol hyn ar y cwricwlwm, sy'n hygyrch i bob gweithiwr proffesiynol, a bod dulliau a disgwyliadau clir a rennir ledled Cymru.

Gan ddefnyddio arbenigedd rhyngwladol, mae'r prosiect Deall trwy Ddylunio wedi tynnu sylw at y cyfle i fanteisio ar gymorth ychwanegol i helpu ysgolion i ysgogi safonau cydlynol wrth gynllunio a chyflawni. Bydd allbynnau'r prosiect hwn yn cael eu rhannu o'r hydref ymlaen  gefnogi pob ysgol.

Rydym hefyd yn gwybod bod cynnydd wedi bod yn faes lle mae ysgolion wedi gofyn am gefnogaeth ac wedi'i chroesawu. Yn bwysig, mae cydweithio o fewn clystyrau yn cael ei ddefnyddio fwyfwy i hybu a chefnogi cynllunio ar gyfer cynnydd, ac eleni rydym wedi egluro disgwyliadau ynghylch hyn. Mae prosiect Camau i'r Dyfodol yn rhan allweddol o'n gwaith parhaus i gefnogi dealltwriaeth o gynnydd, a byddwn ni'n cyhoeddi allbynnau i gefnogi ymarferwyr o fis Medi ymlaen.

Rydym hefyd wedi parhau â'n hymdrechion i sicrhau bod y cwricwlwm yn galluogi pob dysgwr, waeth beth fo'i gefndir, i gael mynediad i'r cwricwlwm. Eleni, lansiais ein pecyn cymorth llafaredd a darllen, sy'n cydnabod y rôl hanfodol y mae'r sgiliau hyn yn ei chwarae fel pyrth ar gyfer dysgu a chyrhaeddiad. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hyn hefyd yn yr hydref ar ôl adolygu tystiolaeth o arfer effeithiol. Byddwn hefyd yn ceisio ehangu'r dull cadarn hwn o addysgu rhifedd, gan ei gydnabod, yn amlwg, fel sgil hanfodol arall i ddysgwyr.

Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da ar yr argymhellion pwysig a gafodd eu gwneud gan y grŵp a gadeiriwyd gan yr Athro Charlotte Williams i ystyried cyfraniadau cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn y cwricwlwm. Dwi’n ymfalchïo o gael dweud y bydd yr argymhellion hyn i gyd wedi’u gweithredu erbyn yr hydref. 

Dwi hefyd wedi cyhoeddi ein cynllun i werthuso’r cwricwlwm erbyn hyn. Mae hwn yn nodi ein cynigion ni i asesu beth sy’n gweithio ac i’w gwella i’r dyfodol. Mae’r gwerthusiad hwn yn ganolog i ddeall yr effaith ar ddysgwyr, eu cynnydd nhw a safonau ledled Cymru.

Yn nes ymlaen eleni, fe fyddwn ni’n gweld canlyniadau PISA Cymru am y tro cyntaf ers y pandemig. Er nad yw’r rhain wedi asesu’r dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru, fe fyddwn ni’n defnyddio’r adborth i lywio ymhellach ein cefnogaeth i’r cwricwlwm.

Mae cefnogi dysgwyr y tu hwnt i addysg yn parhau’n flaenoriaeth. Yn ddiweddar, dwi wedi cyhoeddi y byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu canllawiau ar ddysgu 14 i 16 a fydd yn cydnabod pob profiad, sgil a gwybodaeth sy’n dod i ffordd pobl ifanc drwy eu hysgolion, ac i ni eu helpu nhw yn eu camau nesaf. 

Mae cymwysterau, wrth gwrs, yn dal i fod yn rhan bwysig o hyn, ac fe fyddwn ni’n parhau i weithio gyda Cymwysterau Cymru wrth i fanylion cymwysterau newydd ddod i’r amlwg, yn benodol, cefnogi athrawon i allu cyflwyno’r dysgu ar eu cyfer.

Un o elfennau pwysicaf y cwricwlwm yw’r cyfle i roi’r sgiliau i ddysgwyr ar gyfer dyfodol sydd yn newid ac nad oes modd ei ragweld. Mae datblygiadau diweddar mewn deallusrwydd artiffisial a thechnolegau eraill sy’n dod i’r amlwg yn tanlinellu pwysigrwydd paratoi ein pobl ifanc ni ar gyfer y dyfodol hwn. Fe fyddwn ni’n cydweithio, felly, gydag ymarferwyr, arbenigwyr a gyda Llywodraethau eraill i ymateb i'r cyfleoedd a’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu yn sgil y datblygiad cyflym hwn mewn technolegau newydd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rŷn ni wedi gweld ymwneud cadarnhaol iawn gyda’r rhwydwaith cenedlaethol, ac mae’r sgyrsiau drwy gydol y flwyddyn wedi dangos ymrwymiad i wneud amser i ystyried a gwella. Fe fyddwn ni’n parhau, felly, i esblygu ac ehangu’r rhwydwaith i wneud yn siŵr bod ymarferwyr yn helpu i ddatblygu’r gefnogaeth i’r proffesiwn ar gyfer y dyfodol.

Mae’r flwyddyn academaidd hon wedi bod yn flwyddyn nodedig o ran ein camau diwygio, a dwi’n teimlo balchder dwfn yn yr hyn y mae ein hathrawon a’n staff cymorth wedi’i gyflawni i sicrhau hyn. Dwi am ddiolch iddyn nhw am eu hymrwymiad ac am eu brwdfrydedd wrth groesawu’r Cwricwlwm i Gymru.

Rŷn ni’n parhau i fod ar daith, ac allwn ni ddim anghofio graddfa’r dasg. Mae'n dal i fod yn hollbwysig ein bod ni'n darparu'r cyfle a'r amser a'r gefnogaeth i ysgolion allu cydweithio er mwyn codi safonau a rhoi'r cyfle i bob plentyn wneud y cynnydd i gyflawni ei botensial.

15:45

Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am eich datganiad y prynhawn yma. Gweinidog, mae llawer o ysgolion yr wyf i wedi ymweld â nhw yn fy etholaeth ac ar draws Cymru yn croesawu'r Cwricwlwm newydd i Gymru a'r hyblygrwydd y mae'n ei roi i ysgolion ddylunio'r cwricwlwm hwnnw ar gyfer eu dysgwyr, i sicrhau ein bod ni'n cael y canlyniadau gorau i ddisgyblion, a'i fod yn cael ei ddylunio mewn ffordd sy'n gweddu i'r ysgol unigol honno. Un rhan allweddol o lwyddiant y cwricwlwm newydd fydd rhannu arfer gorau ledled Cymru, felly, Gweinidog, allwch chi amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol ac ysgolion i rannu arfer gorau ledled Cymru ac i sicrhau bod ein hysgolion yn cael yr holl wybodaeth y gallan nhw ei chael i sicrhau ei fod yn cael ei ddatblygu ledled Cymru?

Rhywbeth arall y mae angen i ni ei wneud i sicrhau ei fod yn cael yr effaith orau yw sicrhau bod gennym ni athrawon yn ein hystafelloedd dosbarth i gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Mae recriwtio athrawon yn broblem ar draws y DU, a dydw i ddim am wneud pwynt gwleidyddol ar hynny, ond yr hyn yr hoffwn i ei wybod, Gweinidog, yw: beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer yr athrawon ledled Cymru, oherwydd bydd hynny hefyd yn hanfodol bwysig os ydym am gyflwyno'r cwricwlwm newydd hwnnw? Roeddech chi'n sôn yn eich datganiad bod cynnydd wedi'i wneud a bod cydweithio o fewn clystyrau yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynllunio a chynnydd. Yr hyn yr hoffwn i ei wybod am hynny yw: allwch chi amlinellu pa gyllid sydd ar gael i ysgolion i'w helpu i ddatblygu'r cydweithio hwnnw o fewn clystyrau, oherwydd mae ysgolion rwy'n siarad â nhw wedi dweud y byddai rhywfaint o gyllid refeniw yn helpu i wneud i hynny ddigwydd?

Mater arall rwy'n credu sy'n hynod bwysig yw dysgu 14-i-16, ac rwy'n credu ei bod yn rhan bwysig iawn ein bod ni'n datblygu sgiliau sydd wir yn helpu ein pobl ifanc a'r genhedlaeth nesaf. Felly, hoffwn i wybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chyflogwyr a'r sector busnes ledled Cymru i sicrhau ein bod ni'n annog pobl ifanc i lenwi'r bylchau sgiliau hynny, y sgiliau sydd eu hangen arnom, yn y cwricwlwm newydd hefyd, i sicrhau bod gennym gyflogaeth lawn yma ledled Cymru.

Gweinidog, os yw'r cwricwlwm newydd hefyd am fod yn llwyddiant, mae angen i ni sicrhau bod ein dysgwyr mwyaf agored i niwed ledled Cymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Ymwelais ag ysgol yr wythnos diwethaf sy'n methu â chyflwyno'r cwricwlwm newydd oherwydd ei bod yn gorfod dargyfeirio arian a ddylai gael ei wario ar ddysgwyr i ddarparu cymorth ADY i ddisgyblion eraill. Felly, hoffwn i wybod: oes digon o gyllid i gyflawni'r diwygiadau ADY newydd ledled Cymru? Oherwydd, os ydym am sicrhau bod pob un o'n hathrawon yn cyflwyno'r cwricwlwm newydd, rydym eisiau sicrhau bod yr arian yn cyflawni hynny mewn gwirionedd ac nad yw'n cael ei wario mewn meysydd eraill, i gynnal cymorth ADY mewn ysgolion, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi ac i Aelodau eraill yn y Siambr hon.

Fe wnaethoch chi sôn am rifedd, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n addysgu rhifedd, ond mae hefyd yn bwysig iawn ein bod ni'n addysgu addysg ariannol yn ein hysgolion ac yn addysgu ein pobl ifanc am arian a sut maen nhw'n mynd i ddefnyddio'r arian hwnnw pan fyddan nhw'n gadael yr ysgol ac yn mynd i'r amgylchedd gwaith. Hoffwn i wybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gydag ysgolion a chlystyrau, i sicrhau bod addysg ariannol yn cael ei rhoi ar waith ar draws ein hystadau ysgol?

Yn olaf, Gweinidog—. Un cwestiwn arall. Y prif sbardun allweddol ar gyfer llwyddiant neu fethiant y cwricwlwm newydd hwn yw cyllid. Pan lansiwyd y cwricwlwm, derbyniodd ysgol y siaradais â hi doriad mewn cyllid ar yr un pryd, ac fe wnaeth ddweud y byddai hyn yn cael effaith fawr ar ei gallu i gyflwyno'r cwricwlwm newydd a rhoi'r cyfleoedd sydd eu hangen arni mewn gwirionedd i uwchsgilio'r dysgwyr hynny a chyflwyno'r cwricwlwm y mae ei eisiau. Gweinidog, ni all unrhyw un yn y Siambr hon wadu bod angen cyllid ychwanegol ar ysgolion, ac rwy'n gwybod bod cydbwyso cyllideb yn anodd iawn, iawn, ond mae'n dibynnu ar ddewisiadau gwleidyddol a sut mae Llywodraeth Cymru eisiau gwario ei chyllideb. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw: yn y rownd nesaf hon yr ydych yn mynd drwyddi ar hyn o bryd, fwy na thebyg, i baratoi'r gyllideb gyda chydweithwyr yn y Cabinet, sut ydych chi'n blaenoriaethu cyllideb Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn llwyddiant i'n holl ddysgwyr ledled Cymru? Diolch, Cadeirydd.

Diolch am y cwestiynau rheini.

Fe wnaf fy ngorau i fynd i'r afael â—. Roedd amryw o gwestiynau yno, felly efallai mai ateb byr y byddaf yn ei roi, ond byddaf yn ceisio ateb pob un. Rwy'n cytuno â'r Aelod bod cydweithio ar draws y system yn hanfodol er mwyn gwneud cynnydd, oherwydd mae'n hollbwysig bod dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar draws y system. Felly, mae gweithio mewn clwstwr yn agwedd bwysig iawn ar hynny; ochr yn ochr â'r sgyrsiau rhwydweithio cenedlaethol thematig hynny y soniais amdanyn nhw, mae'r rhwydweithiau lleol hynny hefyd yn bwysig iawn. Fe fydd yn gwybod o'i drafodaethau gydag ysgolion, lle mae gan ysgolion glystyrau da, nad oes ganddyn nhw ddim byd ond pethau da i'w ddweud am allbynnau hynny. Felly, rydym am sicrhau ein bod ni'n mynd ati i rannu'r gorau o'r hyn sy'n gweithio yn y maes hwn. Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi cyfres o ffilmiau sy'n dangos y ffordd y mae ysgolion yn gweithio mewn clystyrau, fel y gall ymarferwyr weld yr hyn y mae'n ei olygu yn ymarferol, gweld hynny ar waith, sut mae'n cael ei wneud, y manteision i ymarferwyr, ond, yn hollbwysig, yn amlwg, i ddysgwyr hefyd. Rydym wedi defnyddio enghreifftiau yn Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Ysgol Gynradd Parc y Jiwbilî, felly mae amrywiaeth o adnoddau yn y system, ond mae'r consortia yn gyfrifol am sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei wneud mewn clystyrau yn gweithio'n dda hefyd. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn nodi, er bod y Cwricwlwm i Gymru wedi'i ddatganoli i ysgolion i raddau helaeth, fod ganddo fframwaith cenedlaethol cryf. Mae gennym un cwricwlwm i Gymru, un cod cynnydd, un set o ganllawiau statudol, un arolygiaeth genedlaethol, ac mae'r elfennau hynny'n bwysig iawn wrth sicrhau cysondeb ar draws y system.

Fe soniodd e' am yr angen am athrawon. A dweud y gwir, mae'r darlun yng Nghymru, byddwn i'n dweud, yn iachach nag ydyw mewn rhai rhannau eraill o'r DU. Dydw i ddim yn ceisio gwneud pwynt gwleidyddol. Felly, yn arbennig, ar lefel gynradd. Ac, ar lefel uwchradd, mae ein cyfraddau cadw yn well yng Nghymru, ond mae'n amlwg bod gwaith i'w wneud i sicrhau ein bod ni'n parhau i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn deniadol. Rydym yn gwneud gwaith da ar hyn o bryd gydag undebau athrawon ac awdurdodau lleol ar leihau rhywfaint o'r llwyth gwaith ychwanegol hwnnw nad oes yr un cyfiawnhad drosto nawr ag yr oedd pan gafodd ei roi ar waith. Beth arall y gallwn ni ei wneud i symleiddio a lleihau, lle y gallwn, y disgwyliadau sydd ar ysgolion heb gyfaddawdu'r gwerthoedd pwysig hynny o atebolrwydd ac yn y blaen yr ydym i gyd yn amlwg eisiau eu gweld? Mae gennym ystod o gymhellion, y bydd yn gwybod amdanyn nhw, sy'n canolbwyntio, yn bennaf, ar feysydd lle mae pawb yn cael trafferth recriwtio athrawon, felly, rhai meysydd pwnc—does dim angen i ni eu rhestru; rydym yn gwybod pa rai ydyn nhw. Mae gennym ymgyrch, drwy Addysgwyr Cymru, sydd, yn fy marn i, yn marchnata'r proffesiwn mewn ffordd ddeniadol iawn. Ond rwy'n credu bod mwy i'w wneud, ac rwy'n credu bod y ffordd rydym yn cynnal y ddadl—a hoffwn ddiolch iddo am y ffordd y mae wedi geirio'r cwestiynau heddiw—mae'r ffordd rydym yn cynnal y mathau yma o ddadleuon yn bwysig. Mae pobl yn gwrando ar yr hyn rydym yn ei ddweud. Ac er ei bod yn amlwg yn bwysig mynd i'r afael â'r heriau, mae hefyd yn bwysig eu rhoi mewn cyd-destun. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r ffordd y mae wedi geirio'r cwestiynau.

O ran cyllid, mae'n gwbl hanfodol, wrth gwrs. Mae pwysau ar gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus ym mhob rhan o'r DU oherwydd dewisiadau sy'n cael eu gwneud mewn mannau eraill. Fodd bynnag, byddwn ni bob amser yn blaenoriaethu gwariant ar addysg yng Nghymru. Fe fydd yn gwybod bod y swm canlyniadol, a gawsom gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar, wedi'i drosglwyddo'n uniongyrchol i lywodraeth leol er mwyn iddyn nhw ariannu ysgolion. Fe fydd yn gwybod hefyd ein bod ni wedi gallu cynyddu cyllideb llywodraeth leol yn sylweddol, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn y ddau setliad diwethaf. Dydw i ddim am eiliad yn esgus nad yw cyllidebau ysgolion, cyllidebau llywodraeth leol, fel cyllideb Llywodraeth Cymru, o dan bwysau anhygoel oherwydd costau byw. Ond o safbwynt y cwricwlwm, rydym yn buddsoddi £21 miliwn y flwyddyn yn y system, ac mae'r mwyafrif helaeth o hynny'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion ar gyfer eu dysgu proffesiynol, ar gyfer eu hadnoddau, ar gyfer amser i ymgysylltu ag ysgolion eraill, ar gyfer amser i ymgysylltu â'r rhwydwaith cenedlaethol. Mae gennym £35 miliwn yn y system eleni, fel yr oedd gennym y llynedd, sy'n ariannu 2,400 o athrawon a chynorthwywyr addysgu cyfwerth ag amser llawn yn y system i ddelio ag effeithiau parhaus COVID. Rydym wedi cynyddu lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer grantiau amddifadedd disgyblion. Felly, mae llawer iawn o ffyrdd yr ydym wedi gwneud cymaint â phosibl i gefnogi ysgolion trwy'r cyfnod heriol hwn.

Byddaf yn sôn yn fyr am y pwynt a wnaeth am 14 i 16 ac yn ei gyfeirio at y datganiad y gwnes i'n ddiweddar iawn yn y Siambr ar hynny, yr wyf yn siŵr y bydd yn ei gofio. Fe ofynnodd i mi am gyllid ADY hefyd. Mae'r ffordd y caiff y cyllid hwnnw ei ddyrannu yn y pen draw yn fater i lywodraeth leol. Efallai ei fod wedi gweld—os nad ydyw, byddwn i'n argymell ei fod efallai'n edrych ar y bwletin ystadegol a gyhoeddwyd gennym ddiwedd mis Mehefin, sy'n nodi, ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, sut maen nhw'n dyrannu eu cyllidebau i ysgolion ar gyfer anghenion addysgol arbennig yn ehangach, sy'n cynnwys, yn amlwg, ADY yn rhannol hefyd. Ond rydym yn darparu, i awdurdodau lleol, £26 miliwn y flwyddyn ar gyfer trawsnewid ADY. Mae hynny'n gynnydd o £4.5 miliwn ers y llynedd, felly rydym yn parhau i ystyried sut gallwn ni gefnogi'r system. Ond, unwaith eto, maen nhw'n ddiwygiadau heriol, ac rwy'n cydnabod bod pwysau ar ysgolion i ddelio â nhw.

Yn olaf, fe ofynnodd i mi am addysg ariannol. Wrth gwrs, fe fydd yn gwybod bod honno'n elfen o'r Cwricwlwm i Gymru yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Fe fydd yn gwybod, fel yr wyf i'n ei wybod o'm hetholaeth fy hun, am y gwaith da sy'n digwydd mewn ysgolion, gydag undebau credyd ac eraill, gyda chlybiau cynilo, lle gall pobl ifanc ddysgu nid yn unig am bwysigrwydd arian, er mor hanfodol yw hynny, ond hefyd am rifedd, mathemateg, cyfrifoldeb, gwneud penderfyniadau a gweithio mewn tîm. Gall yr holl sgiliau hanfodol hynny sydd eu hangen arnom i ffynnu mewn bywyd gael eu haddysgu trwy lens y rhan honno o'r cwricwlwm.

15:55

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Mae James Evans wedi gofyn nifer fawr o gwestiynau, felly dwi wedi gallu croesi rhai oddi ar fy rhestr, ond dwi innau hefyd yn meddwl ei fod o'n bwysig ein bod ni'n cydweithio ar hwn. Mae'r cwricwlwm newydd yn gyffrous; mae gweld o ar waith wedi bod yn wych mewn nifer o ysgolion dwi wedi ymweld efo nhw, ac fel llywodraethwraig hefyd. Dwi'n meddwl bydd gweld y cyfoeth o brofiadau bydd plant a phobl ifanc yn eu cael yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr.

Wrth gwrs, mae James wedi cyffwrdd ar rai o'r heriau, ac mi wnaethoch chi hefyd yn eich datganiad, pethau fel y pethau ychwanegol mae athrawon yn gorfod eu hwynebu hefyd ar y funud, sef, fel rydych chi'n crybwyll, delio efo'r argyfwng costau byw a phresenoldeb a faint o waith sy'n gorfod mynd mewn o ran trio cefnogi teuluoedd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn dod i'r ysgol oherwydd amryw lu o resymau, fel rydyn ni wedi'u trafod droeon. Yr heriau o ran anghenion dysgu ychwanegol—gwnaethoch chi gyfeirio at y bwletin a gyhoeddwyd sy'n dangos amrywiaeth mawr o ran faint o wariant sydd yna efo awdurdodau lleol efo anghenion dysgu ychwanegol. Rydyn ni wedi clywed gan rai cyrff eu bod nhw fel loteri cod post o ran faint o gefnogaeth sydd. Rydyn ni hefyd wedi clywed bod rhai teuluoedd yn teimlo eu bod nhw'n methu cadw plant a phobl ifanc mewn ysgol oherwydd y diffyg cefnogaeth, ac rydyn ni wedi gweld cynnydd hefyd efo nifer yn dewis dysgu o adref, sy'n golygu bod nifer o'r plant a phobl ifanc yma—. Yn amlwg, dewis ydy addysg, ond pan fo yna rwystrau'n golygu eu bod nhw'n dewis tynnu eu plant allan o'r ysgol ac ati, dwi'n meddwl ein bod ni'n dal angen deall hynny yng nghyd-destun cwricwlwm newydd a faint o golli allan fydd yna o ran plant a phobl ifanc os oes yna rwystrau yn eu stopio nhw rhag gallu dod i'r ysgol.

Buaswn i'n hoffi gofyn cwestiwn yn benodol, jest o edrych ar yr adroddiad neu'r ymchwil a gyhoeddwyd yn edrych ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru, adroddiad cam 1 yn Ebrill. Mi oedd, o fewn hwnnw, nifer o bryderon mae ysgolion yn eu hwynebu o ran llwyth gwaith yn benodol, o ran dod â'r newidiadau yma i rym, a sôn am ddiffyg amser i dreialu dulliau newydd, i ddirnad canllawiau'r cwricwlwm ac i gynllunio a mapio. Roedd sôn hefyd am ddiffyg cyllid digonol ar gyfer staff cyflenwi i ryddhau ymarferwyr i gymryd rhan mewn cyfarfodydd clwstwr, dysgu proffesiynol a rhyngweithio, a bod hyn yn her barhaus iddynt. Roedden nhw'n sôn hefyd yn hwnnw ynglŷn â chapasiti ymarferwyr o ran lles yn y gweithlu oherwydd y galw cynyddol yma. Felly, rydych chi hefyd wedi gweld, dwi'n siŵr, fod UCAC a rhai o'r undebau eraill wedi pwysleisio faint o effaith o ran llwyth gwaith a'ch annog—. Dwi'n gwybod eich bod chi wedi rhoi amser ychwanegol o ran dyddiau hyfforddiant mewn swydd, ond bod yna alw o hyd i gael mwy o hynny er mwyn galluogi hyn. Felly, gaf i ofyn sut ydych chi wedi ymateb i'r adroddiad cam 1 penodol hwnnw a rhai o'r heriau yna, er mwyn i ni sicrhau bod pawb yn gallu diwallu hyn?

O ran yr heriau ariannol roedd James yn eu crybwyll, rydyn ni'n gwybod bod hyn yn broblem. Rhai o'r heriau sydd wedi'u crybwyll efo fi yw rhai o'r pethau ymarferol. Oherwydd y cwricwlwm newydd, yn amlwg mae yna anogaeth i fod allan mwyfwy y tu hwnt i ffiniau'r ysgol er mwyn rhoi cyfoeth o brofiadau i blant a phobl ifanc. Rydyn ni'n gwybod am gostau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys bws ac ati. Os medrwch chi gael gafael ar fws ar gyfer trip, ydych chi'n gallu ei fforddio fo? Felly, gaf i ofyn, pa gefnogaeth sydd yna i ysgolion yn benodol sydd efallai ddim efo pethau o fewn cyrraedd, megis llyfrgell ac ati, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu diwallu'r holl anghenion? Oherwydd mae yna amryw o bethau, onid oes, yn y cwricwlwm newydd, yn dangos sut rydych chi'n gallu dysgu ystod o bynciau o fewn lleoliad y tu hwnt i'r ysgol ac ati, a sicrhau ein bod ni'n gallu diwallu, fel roeddwn i'n dweud, yr holl bethau sydd yn gyffrous yn y cwricwlwm newydd, tra'n hefyd sicrhau bod pob plentyn yn gallu manteisio ar hynny.

Felly, amryw o gwestiynau, ond gobeithio mewn ffordd gadarnhaol wrth i ni weithio drwy rai o'r heriau.

Diolch. Na, mae'n bwysig cael trafodaeth agored am y pethau yma; dyna pam mae'r adroddiad yn agored ac yn edrych ar y pethau rŷn ni'n moyn eu dathlu, wrth gwrs, ond hefyd rhai o'r heriau. Roedd cwestiynau pwysig gan yr Aelod. Jest un peth dylwn i ddweud, o ran y bwletin gwnes i gyfeirio ato fe, sy'n dangos sut mae cyllideb anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei dyrannu gan gynghorau lleol, yr awgrym yw bod y balans rhwng ysgolion a'r hyn sy'n cael ei ddarparu'n ganolog yn amrywio. Felly mae'r mix yn wahanol ym mhob lle, ac mae'n bwysig ein bod ni'n edrych nid jest efallai o safbwynt yr ysgol, ond yn ehangach o ran footprint yr awdurdod o ran beth sy'n cael ei ddarparu.

O ran absenoldeb a phresenoldeb, wrth gwrs, mae hon yn her sylweddol iawn. Rŷn ni'n ymgynghori ar hyn o bryd ar ganllawiau i ysgolion, i'w cefnogi nhw. Un o'r prif bethau rŷn ni'n edrych arno yw a oes achos—rwy'n credu bod achos—i ostwng y trothwy cyn bod cefnogaeth bellach yn cael ei chyflwyno. Ar hyn o bryd, mae hynny'n 20 y cant o ran absenoldeb. Rwy'n disgwyl barn pobl ar ostwng hynny i 10 y cant, fel bod y gefnogaeth yn gallu dod i mewn yn gynt. Rŷn ni'n ariannu family liaison officers ac education welfare officers er mwyn cefnogi hynny hefyd.

O ran pobl yn penderfynu tynnu eu plant allan o'r ysgol, sydd yn gwestiwn gwahanol i absenoldeb pan fo plant, fel petai, i fod yn yr ysgol, mae cynnydd wedi bod, ac mae e'n bwysig ein bod ni yn deall, ond ar hyn o bryd, tua 1 y cant o blant Cymru sy'n cael eu haddysgu o'r cartref. Dyw'r prif reswm ddim yn ymwneud o gwbl â'r cwricwlwm; mae hi'n ymwneud â dewis ffordd o fyw neu athroniaeth fywyd neu ideoleg. Dyna'r brif reswm mae pobl yn ei roi am y dewis hwnnw. Ac, wrth gwrs, mae gyda ni raglen arall i gefnogi'r rhai sy'n gwneud y penderfyniad hwnnw.

Gwnaeth yr Aelod ofyn cwestiynau penodol ynglŷn â'r gwaith canfyddiadau cynnar. Roedden nhw'n adlewyrchu ein dealltwriaeth ni, ar y cyfan, o beth oedd angen mwy o bwyslais o ran cefnogaeth neu ddealltwriaeth. Mae amryw o bethau—o ran dysgu proffesiynol, o ran darparu adnoddau pwrpasol, o ran canllawiau a chyngor, rhyw elfen o arian ychwanegol—wedi dilyn yr hyn rŷn ni wedi deall o hynny. Dwi ddim yn edrych i ychwanegu eto at ddyddiau INSET. Rydym ni wedi ymestyn y cyfnod pan fydden ni'n darparu diwrnod ymhellach, wrth gwrs, ar gyfer y cwricwlwm ac ar gyfer approaches perthnasol.

O ran tripiau ysgol, mae adnoddau ar gyfer yr ysgol yn ddewis i'r awdurdod lleol, sy'n deall cyd-destun a chynefin yr ysgol wrth wneud y penderfyniadau hynny. Ond, jest i fod yn glir, dwi ddim yn credu mai jest trwy drefnu tripiau drud mae darparu'r cwricwlwm o ran gweithgaredd tu allan i'r ysgol—a dwi'n gwybod doeddech chi ddim yn awgrymu hynny, gyda llaw. Bues i mewn ysgol yn etholaeth Huw Irranca-Davies yn ddiweddar, ac roedd y pennaeth yna'n dangos yr holl ystod o bethau mewn cymuned nad oedd yn gymuned oedd yn ffynnu yn ariannol—ffyrdd o ddysgu'r cwricwlwm newydd ar y trothwy, ar y stepen drws. Felly, mae yna ffyrdd creadigol o wneud hynny hefyd.

16:00

Diolch, Cadeirydd. Rydych chi a minnau, Gweinidog, wedi gweld drosom ni ein hunain y ffordd y mae ysgolion yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymgysylltu â'r cwricwlwm newydd, felly mae'n wych cael y datganiad hwn heddiw.

Un o'r pethau na welwch chi, ac mae croeso i chi ddod lawr i'w weld—. Fe wnaethoch chi sôn yn gynharach am rôl undebau credyd. Yn wir, mae Undeb Credyd Achubwyr Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, yr wyf wedi bod yn aelod ohono ers 25 mlynedd, yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag ysgolion ac yn hyrwyddo cynilo cyfrifol gyda phobl ifanc, ond hefyd gyda'u rhieni, sy'n wych.

Tybed a allwch chi roi diweddariad byr i ni, sy'n gysylltiedig â hynny, ar brosiect peilot Robert Owen, oherwydd yr hyn sy'n ddiddorol yn ein barn ni—ac rydych chi, fel cyn-gadeirydd y grŵp cydweithredol yma yn y Senedd hefyd, rwy'n gwybod, yn angerddol am hyn—yw mynd ati i feithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o gwmnïau cydweithredol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, tri i 16 oed. Mae'n wych clywed bod hynny'n digwydd, felly byddwn i wrth fy modd yn cael diweddariad.

Ac, yn olaf, allwch chi sôn am rôl consortia a phartneriaid eraill wrth ddiwygio'r cwricwlwm hefyd, wrth i hyn fynd yn ei flaen? Diolch yn fawr.

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yn sicr, byddai gen i ddiddordeb mewn edrych ar y gwaith sy'n digwydd rhwng undebau credyd ac ysgolion yn eich etholaeth chi; rwy'n credu bod hynny'n ddatblygiad pwysig iawn o safbwynt ein pobl ifanc.

Mae prosiect Robert Owen yn ddarn o waith sydd wedi'i gynllunio i wella dealltwriaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru o rolau cwmnïau cydweithredol mewn cymdeithas. Bydd yr Aelod yn cofio'r gwaith llwyddiannus rydym wedi'i wneud i addysgu pobl ifanc am rôl undebau llafur o safbwynt gweithredu cymdeithasol, gwaith teg a hawliau yn y gweithle. Gan fabwysiadu model tebyg, rydym nawr yn cyflwyno rhaglen i'w haddysgu am gwmnïau cydweithredol. Mae'n perthyn i'r rhan gyrfaoedd a phrofiad cysylltiedig â gwaith o'r cwricwlwm ond, mewn gwirionedd, bydd yn ehangach na hynny yn y pen draw; bydd yn cyffwrdd â gweithredu cymdeithasol ehangach, egwyddorion amgylcheddol, gwaith teg, a gwerthoedd cydweithredol eraill, os mynnwch chi. Y bwriad yw y bydd deunyddiau ac adnoddau ar gael i bob ysgol yng Nghymru yn ddigidol ac yn ddwyieithog, yn amlwg, ac yna y bydd athrawon yn cael eu galluogi i gynnal y sesiynau hynny i fyfyrwyr a defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel adnoddau ar eu cyfer hefyd. Felly, mae'n rhan integredig dda iawn o'r cwricwlwm, ac rwy'n gobeithio y cawn ni'r un llwyddiant â hynny ag y cawsom gyda'r prosiect undebau.

O ran rôl y consortia a phartneriaid addysg eraill, fe wnes i sôn yn fyr yn fy ateb i James Evans am y gwaith y maen nhw'n ei wneud o safbwynt gweithio mewn clystyrau, ond, yn amlwg, mae ganddyn nhw rôl lawer ehangach fel gwasanaethau gwella ysgolion. Ac yn wir, yr hyn yr ydym wedi'i weld, o ystyried lefel y diwygiadau yn y system dros y blynyddoedd diwethaf, yw bod angen i ni edrych o'r newydd erbyn hyn ar rolau a chyfrifoldebau'r partneriaid addysg yn yr hyn yr ydym yn ei alw'n haen ganol, ac mae hynny'n cynnwys y gwasanaethau gwella ysgolion. Felly, yn fuan iawn, iawn, a dweud y gwir, byddaf yn cyhoeddi adolygiad o rolau a chyfrifoldebau ein partneriaid addysg, a sut y gall trefniadau gwella ysgolion—ac maen nhw'n wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, mewn gwirionedd—gefnogi'r genhadaeth genedlaethol honno ym maes addysg. Felly, rwyf wedi rhoi gwybodaeth newydd iddo am yr hyn y byddaf yn ei gyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf. 

16:05
5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Cenedl Masnach Deg—Nodi 15 mlynedd

Fe symudwn ni ymlaen nawr felly i eitem 5, sef datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cenedl Masnach Deg—nodi 15 mlynedd. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt. 

Diolch yn fawr. Eleni bydd Cymru yn nodi 15 mlynedd ers dod yn Genedl Masnach Deg, y Genedl Masnach Deg gyntaf yn y byd. 

Eleni rydym yn dathlu pymtheng mlynedd ers i ni ddod yn Genedl Masnach Deg, Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd. Dyma daith ryfeddol a ddechreuodd yn 2002 pan ddaeth Rhydaman yn dref fasnach deg gyntaf Cymru gyda Chaerdydd yn dilyn i fod y brifddinas fasnach deg gyntaf yn 2004, gyda Chymru yn ennill statws Cenedl Masnach Deg yn 2008. Daeth yr awydd i wneud Cymru'n Genedl Masnach Deg gan nifer fawr o bobl ledled Cymru sydd ag angerdd am degwch, gartref ac yn fyd-eang. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl ymgyrchwyr a gwirfoddolwyr masnach deg sydd wedi gweithio mor galed i hyrwyddo masnach deg a chyfiawnder masnach, gyda 64 o leoedd yng Nghymru yn cofrestru eu cymuned gyda'r Sefydliad Masnach Deg. Hefyd, hoffwn ddiolch i'r cannoedd o filoedd o siopwyr sy'n dewis cynhyrchion masnach deg bob dydd.

Mae'r cysyniad o fasnach deg yn seiliedig ar sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a budd i'r ddwy ochr. Mae Masnach Deg yn rhoi cyfleoedd i gynhyrchwyr a ffermwyr gyflawni gwell safon byw iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd trwy eu hymdrechion eu hunain, a gydag urddas. Mae'n helpu i sicrhau bod pris teg yn cael ei dalu i ffermwyr tlawd ofnadwy nad oes ganddynt fawr o ddylanwad na phŵer yn draddodiadol yn strwythurau'r farchnad fyd-eang. Mae'n system sy'n caniatáu i'r ffermwyr gael mwy o reolaeth dros eu bywydau a datblygiad eu cymuned. Un o'r uchafbwyntiau ers ennill statws Cenedl Masnach Deg oedd y gynhadledd Trefi Masnach Deg Ryngwladol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2019, a groesawodd dros 400 o bobl o 41 o wledydd. Roedd yn wych gweld y brwdfrydedd dros fasnach deg a gwybodaeth yn cael ei rhannu ymhlith y rhai a oedd yn bresennol.

Bob blwyddyn, mae ein meddyliau yn canolbwyntio'n arbennig ar fasnach deg gan Bythefnos Masnach Deg, pan fydd pob grŵp yng Nghymru yn cynyddu eu gweithgaredd, o'r difrifol i'r gwirion. Y thema eleni ar gyfer Pythefnos Masnach Deg oedd 'Bwyd—gwneud y newid bach', ac fe wnaeth gwahanol rannau o Gymru gyflwyno'r thema hon mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Cynhaliodd Blaenau Gwent gystadleuaeth pobi pice ar y maen, cynhaliodd Dinas Powys gystadleuaeth celf masnach deg i bobl ifanc, cynhaliodd eco-bwyllgor Ysgol Gynradd Hendrefoelan yn Abertawe gynulliad ar fasnach deg a sut mae hi'n system decach i bobl ar waelod y gadwyn gyflenwi; ym Mangor cynhaliwyd digwyddiad gyda Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru ar effaith newid hinsawdd ar ddiogelwch bwyd. Dechreuodd Ffyrdd Masnach Deg Cymru Bythefnos Masnach Deg gyda thaith gerdded o Landelio i Ddryslwyn. Gydag aelodau'r cydweithfa a phlant o bedair ysgol a phobl o'r gymuned ehangach yn ymuno, roedd y daith gerdded yn gyfle i sbarduno sgwrs ar bopeth ynghylch masnach deg a dyfodol bwyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn aml yn noddi ymwelydd â Chymru i siarad a chyflwyno rhaglen lawn o ddigwyddiadau. Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf rydym wedi croesawu ffermwyr coffi o Frasil ac Uganda, ffermwr cotwm o India, cynhyrchwyr olew olewydd o Balesteina, ffermwr siocled o Ghana, mwynwr arian o Beriw, ffermwr bananas o Golombia a llawer mwy. Mae pob un ohonynt wedi rhannu straeon am y manteision y mae masnach deg wedi'u cynnig i'w teuluoedd a'u cymunedau o gannoedd lawer o bobl. Y cysylltiad hwnnw rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn.

Eleni, ymwelais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ynghyd â Cymru Masnach Deg. Yn ddiweddar, enillodd Met Caerdydd y wobr gyntaf yng nghynllun prifysgolion cynaliadwy, People & Planet, allan o 153 o brifysgolion y DU. Dyma ddangos yn glir eto, gallu Cymru i fod yn arweinydd gwirioneddol yn y maes hwn. Es i hefyd i ymweld â'r siop fasnach deg Sussed ym Mhorthcawl. Mae'r siop hon yn cefnogi Cymru Gynaliadwy a'i sefydlodd yn y lle cyntaf, ac mae'n fenter gydweithredol gymunedol sy'n cael ei staffio'n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr—man lle mae gan bawb lais cyfartal, gan hyrwyddo democratiaeth yn y gweithle.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'n cefnogaeth i Jenipher's Coffi, a bydd llawer ohonoch wedi cwrdd â Jenipher a Nimrod ar un o'u hymweliadau diweddar â Chymru. Mae ein rhaglen Cymru ac Affrica wedi gweithio gyda'u cydweithfa goffi organig a masnach deg ardystiedig ers blynyddoedd lawer. Aethom â'n cefnogaeth ymhellach pan wnaethom ymrwymiad i brynu eu coffi i'w werthu yn safleoedd Llywodraeth Cymru pan grëwyd Jenipher's Coffi, sydd bellach yn fusnes annibynnol yng Nghymru yn gweithio ochr yn ochr â Ferrari's Coffee ym Mhontyclun. Mae'r bartneriaeth hon yn mewnforio coffi organig a masnach deg ardystiedig o'r radd flaenaf i Gymru ac mae'n helpu ffermwyr i weithio mewn cytgord â natur.

Roeddwn yn falch iawn o weld nifer ac amrywiaeth y grwpiau yn y Neuadd heddiw o bob cwr o Gymru yn arddangos eu cynnyrch masnach deg. Roedd yn hyfryd gweld yr amrywiaeth o nwyddau sydd ar gael i'r cyhoedd. Roedd hefyd yn bleser gweld cyd-Aelodau yn y digwyddiad i ddathlu'r garreg filltir 15 mlynedd, a chlywed y trafodaethau ysbrydoledig yn digwydd.

Fodd bynnag, dim ond y dechrau yw'r garreg filltir hon, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Masnach Deg Cymru am flynyddoedd lawer i ddod wrth i ni wynebu bygythiad cynyddol newid hinsawdd. Er mwyn ymateb i'r her honno'n well, mae meini prawf y Genedl Masnach Deg yn cael eu hadnewyddu i adlewyrchu uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol yn well. Byddwn yn mesur lefelau ymwybyddiaeth, ymgysylltu ag ymgyrchoedd, defnyddio a chynhyrchu nwyddau masnach deg, ymgysylltu gwleidyddol â'r mater ac ymgysylltu â materion cyfiawnder masnach ehangach i adlewyrchu yn well byd sydd wedi newid cymaint yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.

Datblygwyd y meini prawf newydd hyn, ynghyd â chanllawiau manwl, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol, ac ochr yn ochr â phartneriaid Masnach Deg Cymru yn yr Alban, a ddilynodd arweiniad Cymru, gan ddod yn Genedl Masnach Deg 10 mlynedd yn ôl. Bydd y meini prawf newydd hyn yn caniatáu i genhedloedd eraill ymuno â ni i gefnogi byd tecach i gynhyrchwyr bach. Diolch i'r arweiniad a ddangoswyd gan bobl ein cenedl fach, edrychwn ymlaen yn hyderus at gael ymuno â Chenhedloedd Masnach Deg eraill yn y dyfodol. Diolch, Llywydd dros dro.

16:10

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r rhai sy'n gweithio'n ddiflino i hyrwyddo ac annog busnesau i werthu cynhyrchion masnach deg. Heb os, yr ymddygiad hwn sy'n annog gweithgynhyrchu a chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau masnach deg yn gynaliadwy sy'n caniatáu i bawb elwa ar y farchnad hon.

Mae hefyd yn rhaid dweud bod pawb yma yn y Siambr hon yn fythol ddiolchgar i'r holl fusnesau a chwsmeriaid hynny sy'n gwerthfawrogi ac yn prynu cynhyrchion masnach deg yn barhaus, gan helpu rhai o gymunedau tlotaf y byd. Rwy'n hynod falch o ymuno i ddathlu pymtheng mlynedd ers i Gymru ddod yn Genedl Masnach Deg, ac adnewyddu Sefydliad Masnach Deg y DU, gan ei fod yn gyfle perffaith i fyfyrio ar y gwaith sydd wedi'i wneud, ac i fyfyrio ar y gwaith sy'n angenrheidiol wrth symud ymlaen. Mae'n bwysig cofio ein bod yn dal i fod ar ddechrau taith, sydd ei hangen, i fynd i'r afael â'r ffordd rydym yn defnyddio nwyddau fel cenedl ac fel byd, a dylid croesawu unrhyw ymdrech a wneir i wella bywydau'r rhai sy'n cynhyrchu ac yn creu i ni bob amser. 

Yn eich datganiad heddiw, Gweinidog, sonioch chi am feini prawf cryfach. Credaf ein bod i gyd yn croesawu ymdrech o'r newydd i ddeall yr awydd presennol am gynhyrchion masnach deg a helpu pobl i ymgysylltu ag ymgyrchoedd, a'ch ymgysylltiad gwleidyddol ar y mater hwn. Gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i gomisiynu gwaith i ddeall gwir botensial cynhyrchion masnach deg yng Nghymru trwy fapio eu marchnad bosibl ledled y wlad? Bydd yr wybodaeth hon yn helpu busnesau i ddeall y cynnydd posibl mewn masnach a allent ei fwynhau pe baent yn stocio cynhyrchion masnach deg ac yn creu gwell amodau marchnad ar gyfer cyflenwi ystod fwy.

Mae yna faes amlwg o dwf masnach deg yng Nghymru o fewn y sector cyhoeddus pan fyddant yn prynu nwyddau. Felly, hoffwn wybod pa ymdrechion penodol yr ydych wedi'u gwneud i integreiddio cynhyrchion masnach deg i'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Pa argymhellion ydych chi wedi'u rhoi i fusnesau sy'n derbyn cyllid Llywodraeth Cymru ynghylch yr angen i brynu cynhyrchion masnach deg lle bynnag y bo modd?

Gan droi at yr ystod o gynhyrchion sydd gennym ar gael i ni fel masnach deg yng Nghymru, rydyn ni, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r rhai proffil uchel fel te, coffi, siocled a ffrwythau, ond beth sy'n cael ei wneud i annog cyflwyno cynhyrchion eraill i'r farchnad? Fel y gwyddoch, er mwyn cyflwyno mwy o gynhyrchion masnach deg, mae'n rhaid i chi greu'r ymwybyddiaeth a'r farchnad ar eu cyfer, felly, pa fuddsoddiad ydych chi wedi'i wneud wrth helpu i hyrwyddo cynhyrchion masnach deg llai amlwg ar lefel genedlaethol?

Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol iawn bod cynhyrchion masnach deg yn dod o wledydd hemisffer y de yn bennaf, ac mae'n un o'r sectorau mwyaf arwyddocaol o brynwriaeth foesegol hemisffer y gogledd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gofio, gyda hyn, bod ôl troed carbon uwch yn sgil prynu nwyddau o bellteroedd o'r fath, yn enwedig pan fydd rhai o'r cynhyrchion hyn ar gael yn llawer agosach at gartref. Er enghraifft, sut y gall rhywun gyfiawnhau hyrwyddo cynhyrchion gwlân masnach deg o Chile neu Nepal, gydag ôl troed carbon uwch, ac nid hyrwyddo cynhyrchion gwlân a wneir yn lleol yng Nghymru sy'n dod o ddefaid Cymru? Nid yw hyn yn beirniadu cynhyrchion masnach deg; pan fydd yn rhaid i ni brynu nwyddau o dramor, mae'n amlwg ei bod yn well prynu cynhyrchion masnach deg, ond mae pryderon moesegol dilys eraill y mae'n rhaid i ni eu hystyried. Y ddadl resymegol wedyn fyddai helpu i annog creu marchnadoedd masnach deg yn agosach at y wlad wreiddiol. Gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o allu Llywodraeth Cymru i wneud hyn? Rydych chi wedi sôn yn y gorffennol eich bod wedi bod yn gweithio gyda fforwm masnach deg yr Alban i rannu arferion gorau ac i ganfod y ffyrdd gorau o symud ymlaen gyda masnach deg, ond sut mae'r bartneriaeth hon wedi bod o fudd i greu marchnadoedd masnach deg newydd?

Mae Cymru'n falch, yn gwbl haeddiannol, o fod yn Genedl Masnach Deg, ond ni all hyn fod yn arwydd symbolaidd yn unig o hyrwyddo'r busnesau sy'n gwerthu masnach deg; rhaid iddo fynd yn llawer dyfnach. Mae'n rhaid cael ymdrech i greu newid ar raddfa fwy. Rydych wedi sôn am y meini prawf newydd ar gyfer mesur ymwybyddiaeth, ond nid ydych wedi crybwyll unrhyw beth ynghylch strategaeth i wella gwerthiannau masnach deg yn y tymor hir, a gobeithiaf y gallwch fynd i'r afael â hyn yn eich ymateb.

Mae'n ymddangos ein bod yn edrych yn rhyngwladol tuag at farchnadoedd masnach deg parod oherwydd yr agwedd brandio, ond mae'n ymddangos ein bod yn anwybyddu'r cyfleoedd hynny ar gyfer annog masnach deg ar ein stepen drws. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag ef wrth symud ymlaen. Diolch.  

16:15

Diolch yn fawr, Joel James, am y cwestiynau yna ac am y datganiad cryf iawn o gefnogaeth i fasnach deg. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod hefyd yn dathlu pymtheng mlynedd ers i Gymru ddod yn Genedl Masnach Deg.

Rydych chi wedi codi cwestiynau pwysig iawn am y newidiadau sydd wedi digwydd dros y 15 mlynedd diwethaf. Ymdriniwyd â hyn yn sylweddol yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn y Senedd y bore yma, pryd roeddem yn edrych i'r dyfodol, yn enwedig mewn cysylltiad ag adnewyddu meini prawf, ond gan edrych hefyd ar beth yw ein pwerau, yn amlwg, o gofio, mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddatblygu rhyngwladol. Ond mae gennym yr ymateb Cymreig hwn i gyfrannu at ddatblygiad rhyngwladol, pan ddaw at ein cefnogaeth i fasnach deg. Rwy'n credu bod cysylltiad mawr rhwng hyn, pan ddechreuon ni ar hyn 15 mlynedd yn ôl, â'r ffyrdd yr oeddem yn edrych tuag at gyflawni nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, a'r degawd o weithredu tuag at agenda 2030. Mae'r rheini'n dal yn gryf iawn ac yn glir, o ran ein cymhellion.

Un o'r tri nod craidd a nodir yn ein strategaeth ryngwladol yw sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Rwy'n falch iawn o'r gwaith yr ydym yn ei wneud i gyflawni'r ymrwymiad hwn, ond mae'n rhaid i ni edrych tuag allan at y gwledydd hynny lle rydym yn teimlo y gallwn ddeall ein swyddogaeth ni ein hunain yn well yn y byd, dysgu oddi wrth ein gilydd ac edrych i weld sut y gallwn greu cyfleoedd ar gyfer bywydau tecach a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac annhegwch iechyd wrth i ni wneud hynny. A dyna mewn gwirionedd lle mae cymdeithas sifil, busnes, fel y dywedwch, a phawb sy'n ceisio cofleidio'r amcanion masnach deg mewn gwirionedd a dangos y gallwn helpu i gofleidio datblygiad llwyddiannus, cynaliadwy drwy hyn—.

Nawr, mae'n bwysig ein bod yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud o ran sicrhau'r cyfrifoldeb byd-eang hwnnw a chaffael moesegol. Rwy'n credu bod hynny'n cael ei gryfhau'n sylweddol gan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Rydym wedi partneru, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, â Masnach Deg Cymru a gyda grŵp o sefydliadau i sicrhau bod cyfrifoldeb byd-eang a chyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol yn cael eu cynnwys yn y gyfraith ar gaffael cyhoeddus sydd bellach wedi'i phasio, gyda'r gwaith teg yng Nghymru.

Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar bwysigrwydd caffael ar gyfer masnach deg. Mae'n fudiad hynod lwyddiannus, ond mae'n rhaid i ni edrych arno o ran y system ardystio i weld bod set o safonau yn cael eu bodloni, gyda mwy o barch at yr amgylchedd trwy gwmnïau cydweithredol, pwyllgorau gweithwyr, a menywod sy'n cymryd rhan weithredol. Ond, o edrych ar y cyfleoedd sydd gennym o ran ein gwariant caffael blynyddol o tua £8 biliwn, mae gan sector cyhoeddus Cymru, fel y dywedwch, ran enfawr i'w chwarae wrth helpu i ysgogi defnydd a chynhyrchu cynaliadwy mewn cysylltiad â nod datblygu cynaliadwy 12.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod Masnach Deg Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda'n pwyllgor cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, yn enwedig mewn cysylltiad â chofleidio'r cyfleoedd caffael o fewn masnach deg. Felly, rydym yn datblygu meini prawf newydd, ac mae hyn yn iawn o ran y ffordd ymlaen. Rwy'n credu, i wneud cwpl o bwyntiau am y meini prawf newydd yna—rwyf wedi sôn amdanyn nhw yn fy natganiad—mae'n rhaid i ni godi ymwybyddiaeth ehangach o fasnach deg. Mae'n rhaid i ni ymgysylltu â gwahanol sectorau o gymdeithas, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod cefnogaeth ac ymgysylltiad gwleidyddol â masnach deg a'n bod hefyd yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn masnach a chymdeithas fyd-eang, a'u bod yn cael eu herio gan fasnach deg. Felly, mae hyn yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni edrych ar hyn, gan gydnabod yn benodol bod hyn yn rhywbeth lle gallwn gael dylanwad, a gallwn weithio gyda masnach deg, fel yr ydym, yn wir, gyda'n cydweithwyr yn yr Alban, nid yn unig y Llywodraeth, ond yn Senedd yr Alban hefyd.

16:20

Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'n destun llawenydd gwirioneddol i ddathlu 15 mlynedd ers i Gymru ddatgan ei bod yn Genedl Fasnach Deg. Mae Plaid Cymru yn ymuno gyda chi, Weinidog, yn eich balchder o'r holl waith y mae Masnach Deg Cymru wedi ei gyflawni a'r effaith bositif y mae hi wedi ei chael, a hynny wrth dyfu'r mudiad masnach deg yng Nghymru ac wrth ddatblygu a hybu partneriaethau rhyngwladol. Mae'r logo bach enwog yna ar nwyddau a bwydydd yn golygu cymaint, onid yw e, yn symbol mor arbennig o sicrhau tegwch i gynhyrchwyr, lleddfu tlodi, sicrhau amodau gwaith gwell a hawliau gwell i weithwyr, sicrhau prosesau cynhyrchu cynaliadwy i helpu'r amgylchedd ac ymrymuso cymunedau ar y cyrion a rhai penodol o'r gymuned sydd dan anfantais economaidd fel menywod.

Mae'n dod yn fwyfwy amlwg ac yn fwyfwy angenrheidiol ein bod ni angen sicrhau newidiadau sylweddol i ymddygiad cwsmeriaid a defnyddwyr a masnach rhyngwladol sy'n niweidiol i'r hinsawdd ac yn niweidiol i gydraddoldeb. Mae newid arferion masnachol cyfalafiaeth sy'n dibynnu ar greu elw drwy system sy'n creu anghydraddoldeb yn gwbl greiddiol. Ond sut all fasnach deg a Chymru fel Cenedl Fasnach Deg gyfrannu at hynny? Mae'n galonogol bod ymwybyddiaeth o a galw cynyddol am gynnyrch cynaliadwy, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae yna heriau sylweddol wedi bod i'n nod o fod yn Genedl Fasnach Deg, a'n rhan wrth ddatblygu masnach deg yn rhyngwladol, yn eu plith, effaith Brexit ar fasnach, effaith yr argyfwng newid hinsawdd ar ffermwyr a chynhyrchwyr ar draws y byd ac, wrth gwrs, yn ddiweddar, effaith yr argyfwng costau byw, nid yn unig ar arferion cwsmeriaid, ond hefyd ar y rhai sy'n cynhyrchu bwyd a nwyddau.

Yn ôl adroddiad gan Endangered Aisle, sy'n cynnal arolwg o siopwyr i weld sut mae newid yn yr hinsawdd yn debygol o lywio arferion archfarchnadoedd i'r dyfodol, dywedodd 50 y cant fod pris yn rwystr i siopa'n gynaliadwy, ac y byddent yn chwilio am yr opsiwn rhataf bob tro. Mae'r argyfwng costau byw, felly, mewn perygl o rwystro pobl rhag medru gwneud y dewis yna, medru dewis opsiynau masnach deg. Mae un o benaethiaid y Sefydliad Masnach Deg, Anna Barker, wedi dweud am effaith bosib yr argyfwng costau byw a bod hynny hefyd yn rhywbeth y gall effeithio ar ffermwyr, gan ddweud ein bod yn mynd i weld ffermwyr yn ystyried a ydyn nhw yn y diwydiant iawn os nad ydyn nhw'n gallu gwerthu cynnyrch am bris sy'n cwrdd â'r cost cynhyrchu.

Mae yna obaith, fodd bynnag, y bydd masnach deg yn goresgyn y wasgfa economaidd, gyda rhai archfarchnadoedd, roeddwn i'n falch o weld yn ddiweddar, yn sicrhau bod eu nwyddau rhataf, y budget ranges nawr, hefyd yn cynnwys nwyddau masnach deg, gan roi dewis go iawn i'r siopwyr yna sy'n ei chael hi'n anodd i ymdopi gyda’r naid mewn prisiau bwyd. Ond ydy’r archfarchnadoedd a’r siopau wrth wneud hynny, tra ar yr un pryd yn cynnig dillad, bwyd a nwyddau sydd wedi’u cynhyrchu gan weithwyr sy’n cael eu gorthrymu a’u hecsploetio yma a thramor, neu masnachu gyda chwmnïau sy’n cyfrannu at ddatgoedwigo a llygredd, sut maen nhw’n gallu cyfiawnhau y ddau beth? Sut allwn ni gadw golwg ar y pethau hynny?

Weinidog, heb y grymoedd i reoli y modd y mae nwyddau sy’n ein cyrraedd yn cyfrannu at nod Cenedl Fasnach Deg, sut mae’r Llywodraeth yn gweithio gyda chwmnïau Cymreig i warchod a hybu hawliau ffermwyr, cynhyrchwyr a gweithwyr sy’n rhan o’u cadwynau cyflenwi mewn modd sy’n ystyrlon ac yn holistaidd, ac nid yn docenistaidd? A pha asesiad ydy’r Gweinidog wedi ei wneud o’r argyfwng costau byw, a’r effaith ar ein nod o fod yn Genedl Fasnach Deg? Mi wnaethoch chi sôn yn eich datganiad a nawr yn eich ateb am y criteria newydd yma. A oes modd cael mwy o fanylion am sut y bydd y criteria yna a’ch gweledigaeth chi o sut ddylai’r criteria yna adlewyrchu y newid sydd wedi bod yn ein cymdeithas a’n byd dros y 15 mlynedd diwethaf a’r sefyllfa wleidyddol yn y Deyrnas Gyfunol?

Ac yn olaf, mae’r sefydliad masnach deg wedi amlygu pryderon ynghylch adolygiad gan y Comisiwn Annibynnol ar Effaith Cymorth—yr ICAI—o ddull cymorth ar gyfer masnach y Deyrnas Gyfunol, gan ddatgan nad yw’r Deyrnas Gyfunol yn gwneud digon i gyrraedd y rhai mwyaf anghenus o fewn cymunedau, gan gynnwys y sector coco. Mi wnaeth yr ICAI rhoi sgôr amber coch i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ei adolygiad diweddaraf, oedd yn asesu pa mor dda y mae cymorth ar gyfer ymyriadau masnach wedi cefnogi gwledydd incwm isel i ehangu eu masnach a chyfrannu at dwf economaidd a lleihau tlodi. Fe ddywedodd Mike Gidney, prif swyddog gweithredol y Sefydliad Masnach Deg, ers i’r Llywodraeth gymeradwyo toriadau i gyllideb cymorth y Deyrnas Gyfunol, mae wedi dod yn bwysicach nag erioed bod ein cymorth tramor yn cael ei wario’n dda ac yn cael ei gyfeirio at y rhai sydd ei angen fwyaf.

Felly, Weinidog, tra’n bod ni wedi’n clymu i benderfyniadau annoeth ac ideoleg gwrthun Llywodraeth San Steffan, a heb y grymoedd i sicrhau bod Cymru yn medru sicrhau cyfiawnder masnach, a sicrhau canlyniadau cynaliadwy i bobl o ran yr amgylchedd, sut allwch chi sicrhau bod masnach deg Cymru yn medru llwyddo yn y cyd-destun hwn?

16:25

Diolch yn fawr, Sioned Williams, ac a gaf i ddiolch i chi, yn arbennig, am dynnu sylw at y newidiadau byd-eang, y newidiadau o ganlyniad i Brexit, yr argyfwng costau byw, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar ein huchelgeisiau, ac yn wir, yr heriau sydd gennym nawr i ddatblygu masnach deg fel partneriaeth ystyrlon gyda'r rhai yr ydym yn gweithio gyda nhw, i ddarparu'r cyfleoedd hynny yr ydym am eu cyflawni hefyd, i gefnogi'r cynhyrchwyr a'r ffermwyr hynny a'u teuluoedd i gyflawni safon byw well?

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod o ran newid hinsawdd—. Roedd hyn yn anad dim yn canolbwyntio ar y Pythefnos Masnach Deg, a bydd llawer ohonoch o bob rhan o'r Siambr wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau, yn ogystal â'r plant a'r bobl ifanc a ymgymerodd ag ysgrifennu cerddi a thynnu lluniau, gwneud dyluniadau ar y thema, y neges fod gwneud newid bach i fasnach deg yn cefnogi cynhyrchwyr i ddiogelu dyfodol rhai o'n bwydydd mwyaf poblogaidd a'r blaned. Felly, roeddent yn gwneud y cysylltiad hwnnw, ac yn y cwricwlwm hefyd, yn amlwg iawn, y plant a'r bobl ifanc hyn, fel y gwelsom o'r caneuon gwych a glywsom gan Ysgol Gynradd Dinas Powys, mae'n rhaid i mi ddweud, yn fy etholaeth i, a ddaeth â'r bwyd masnach deg y maen nhw i gyd yn ei garu ac yn hoff iawn o'u fwyta a'i rannu gyda nhw.

Ond mewn gwirionedd, mae newid hinsawdd yn gwneud cnydau fel coffi, bananas—a chodwyd hynny hefyd gan Joel James—a siocled yn mynd yn anoddach i'w dyfu, gymaint yn anoddach i'w brynu. A gallwch weld yr effaith y mae costau byw yn ei chael ar ein ffermwyr masnach deg, ond hefyd ar ein cymunedau hefyd yng Nghymru o ran cefnogi'r materion hyn. Hynny yw, mae mwy o bobl yn dewis masnach deg, mewn gwirionedd yn golygu, ydi, incwm, pŵer a chefnogaeth ychwanegol i'r cymunedau hynny, ac mae'n helpu i gefnogi cynhyrchwyr, ond o ran diogelu dyfodol rhai o'n hoff fwydydd a'r blaned, dyna'r neges ym Mhythefnos Masnach Deg yr wythnos hon.

Diolch i chi am dynnu sylw at adroddiad ICAI, y byddaf yn edrych arno'n ofalus, ond, rwy'n credu eich bod hefyd wedi tynnu sylw at swyddogaeth bwysig iawn menywod o ran masnach deg; y tyfwyr coffi fel Jenipher, Jenipher's Coffi, enghraifft ymarferol iawn o fasnach deg ar waith—mae'n rhaid i mi ddweud, siaradodd Jenipher ei hun yn COP26; rwy'n disgwyl y bu'r Gweinidog Newid Hinsawdd yno pan siaradodd hi, ac eraill yma heddiw—helpu ffermwyr, gan weithio mewn cytgord â natur, ond, fel ffermwr dan arweiniad menywod, gan arwain y ffordd i fenywod a'u cymunedau.

Rwy'n credu bod gennym gyfleoedd nawr gyda'r meini prawf newydd, gan adnewyddu'r meini prawf masnach deg i adlewyrchu uchelgeisiau masnach deg yn well ar gyfer y dyfodol, ond mae hynny'n ymwneud a gweithio gyda'n partneriaid mewn gwirionedd, a'r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw, yn enwedig trwy raglen Cymru ac Affrica, mae'n cryfhau'r dull cydweithredol hwnnw a sicrhau y gellir cymhwyso'r meini prawf newydd i weinyddiaethau yn rhyngwladol, gwella prosesau monitro meini prawf Cenedl Masnach Deg hefyd.

Dyma lle mae angen i ni weithio gyda'n gilydd. Ac mae'n ddiddorol, ym mhob rhan o Gymru, ac yn rhai o'r ardaloedd a'r cymunedau mwyaf difreintiedig lle, mewn gwirionedd, y gallai masnach deg fod yn fwy costus, bod cymunedau'n ymgysylltu ac yn ceisio prynu masnach deg, i gefnogi masnach deg, o ddisgyblion Ysgol Gynradd Hendrefoelan, yr eco-bwyllgor, gan gydnabod bod system decach i bobl ar waelod y trên cyflenwi; i Ysgol yr Hendy yn sir Gaerfyrddin ac ysgol gynradd Fochriw ym Margod yng Nghaerffili, yn cynnal bore coffi masnach deg, a chydnabod bod hwn yn ddewis, hyd yn oed yn y cyfnod anodd iawn hwn. Ond rwy'n gobeithio y byddwch yn gweld bod hon yn sgwrs barhaus a datblygol gyda'n partneriaid mewn masnach deg, a chysylltiad mawr iawn, unwaith eto, fel rwyf wedi'i ddweud, â'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y bobl sydd wedi bod yn gweithio ar ganllawiau statudol yn cynnwys Maint Cymru, Amnest Cymru, Cytûn, WWF Cymru, Oxfam Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

16:30

Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Mae'n hollol briodol ein bod yn dathlu Cymru fel Cenedl Masnach Deg ers 15 mlynedd bellach, ac roeddwn yn falch iawn o gynnal y digwyddiad yn y Senedd heddiw.

Yn ôl yn 2008, mewn gwirionedd, roeddwn yng Nghasnewydd pan gydnabuwyd mai Cymru oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf, a gwnaethom rannu'r hyn a ddysgom, mewn gwirionedd, ag ymgyrchwyr byd-eang o lawer o wledydd. Rwy'n credu bod hynny'n dangos bod masnach deg yn un rhan o Gymru sy'n cael ei chysylltu â gweddill y byd, un rhan o'n rhyngwladoliaeth, sydd, yn fy marn i, yn beth iach iawn yn wir. Ac mae gennym bellach Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ein trefi, ein dinasoedd a'n pentrefi, ysgolion, cymunedau a busnesau yn cefnogi ein hymdrechion masnach deg ac yn helpu ein hymdrechion masnach deg. Gwyddom, o ymchwil y llynedd, Gweinidog, fod pobl yng Nghymru, mewn gwirionedd, yn fwy tebygol o brynu cynhyrchion yn seiliedig ar ymgysylltiad cwmni â thlodi byd-eang nag unrhyw le arall yn y DU, sy'n dangos pam ei bod mor bwysig bod ein gwleidyddion yng Nghymru, fel y gwnânt, yn cefnogi ac yn hyrwyddo masnach deg.

Gweinidog, pan oeddwn ym Mbale yn Uganda, gwelais yn uniongyrchol werth y premiwm masnach deg pan siaradais â theulu a oedd yn ymwneud â'r gydweithfa goffi y mae Cymru'n ei noddi trwy fasnach deg. Dywedon nhw wrthyf i, oherwydd bod ganddyn nhw incwm o'u haelodaeth o'r gydweithfa honno erbyn hyn roedden nhw'n gallu talu i un o'u plant fynd i'r brifysgol, pryd cyn hynny roedden nhw'n ffermwyr ymgynhaliol—

Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. A fyddech chi'n cytuno â mi, felly, Gweinidog, os awn ni allan a gweld effaith ymarferol Cymru fel Cenedl Masnach Deg yn y gwledydd rydyn ni'n eu helpu, rwy'n credu, y byddwn ni'n gweld gwir werth yr ymdrechion hyn?

Diolch yn fawr, John Griffiths. Wrth gwrs, rwy'n siŵr ein bod ni yno gyda'n gilydd ar yr achlysur gwych lle buom yn dathlu Cymru fel y Genedl Masnach Deg gyntaf, rwy'n credu. Rwy'n cofio'r digwyddiad; Rhodri Morgan, rwy'n cofio. Rwy'n credu bod Hilary Benn wedi dod i lawr i'r digwyddiad hefyd. Mae rhai ohonom ni wedi bod yno. Roeddem yn cydnabod ein bod yn gwneud rhywbeth ac roedd yn rhaid i ni ei wneud yn ystyrlon o ran beth oedd bod yn Genedl Masnach Deg. Rwy'n credu ei fod yn cael ei ddangos gan y dwsinau o grwpiau cymdeithas sifil bach ledled Cymru. Rydych chi wedi sôn am awdurdodau lleol, ysgolion. Rydyn ni wedi—. O ran ysgolion, rydyn ni'n gwybod bod Sefydliad Masnach Deg—. Rhestrir bod 44 o ysgolion yng Nghymru ar un o dri cham masnach deg meini prawf ysgolion. Ac mae ysgolion yn gwneud llawer o weithgareddau ac yn rhoi gwobrau, a hefyd dim ond cydnabod, hyd yn oed drwy'r cyfnod anodd, eu bod nhw eisiau cydnabod, drwy'r pandemig, mai digwyddiad pwysig oedd Pythefnos Masnach Deg.

Ond mae hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid yn Affrica, fel y dywedwch, ar addysg, mentrau newid hinsawdd, prosiectau iechyd, chwaraeon a diwylliant. Felly, rwyf eisiau cydnabod y ffaith eich bod wedi ymweld â Mbale. Byddwch yn gwybod, fel y soniais, fod llawer wedi cyfarfod â Jenipher Sambazi a Nimrod Wambett o gydweithfa Mount Elgon, a daethant yma, i Dŷ Hywel, yn gynharach eleni, a buom yn trafod masnach deg a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael, ac roedd llawer o Aelodau'r Senedd yn cymryd rhan yn hynny. Ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni nawr, fel cenedl, yn mewnforio'r coffi masnach deg ac organig o'r safon uchaf hwnnw a dyfir gan y ffermwyr hynny sy'n plannu coed. A hefyd, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, buom yn dathlu prosiectau grymuso menywod, a ariannwyd trwy Hub Cymru Africa.  

16:35

Prynhawn da, Gweinidog, ac rwy'n llongyfarch pobl Cymru am eu ffydd barhaus mewn cynhyrchion masnach deg a'u hymrwymiad parhaus i Gymru fod yn undeb masnachu moesegol a chyfrifol, ac rwy'n diolch i chi am eich gwaith a'ch ymrwymiad ar hyn hefyd.

Mae'n wych clywed hefyd y bydd meini prawf newydd a fydd yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at fynd i'r afael ag argyfyngau ecolegol mwy, gan gael effaith wirioneddol ar fywydau a bywoliaeth cynhyrchwyr bach. Fodd bynnag, gwyddom mai egwyddor allweddol defnyddio cynhyrchion cyhoeddus cyfrifol yw sefyll i fyny yn erbyn y cenhedloedd hynny sy'n torri hawliau dynol neu sy'n cam-drin eu gweithwyr. Yn gynharach eleni, gwrthwynebodd Llywodraeth Cymru welliant a gyflwynais i'r Ddeddf caffael cyhoeddus a fyddai wedi gwneud ymrwymiad penodol tuag at gyfrifoldeb byd-eang o ran caffael cyhoeddus yma yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth a gyflwynwyd gan sefydliadau fel Maint Cymru, ac rwy'n gwybod eu bod wedi bod gyda ni heddiw yn y Neuadd. Rhaid i ni sicrhau bod gennym yr ymrwymiadau hyn i gaffael sy'n gyfrifol yn fyd-eang, felly mae gennyf i ddiddordeb ym mha ystyriaeth y byddech chi'n ei rhoi, Gweinidog, tuag at gyflawni'r ymrwymiad hwn i fod yn Gymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang fel rhan o bontio tuag at ein meini prawf masnach deg newydd. Diolch yn fawr iawn, Llywydd dros dro.

Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch am ein cefnogaeth barhaus, gan gynnwys yr ymgysylltiad sydd gennych â chymunedau a busnesau masnach deg yn eich rhanbarth. Rwy'n llwyr gydnabod y pwyntiau a godwyd gennych yn ystod gwaith craffu ar drafodaeth y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. Rwyf eisiau sicrhau, unwaith eto, bod y dyletswyddau caffael yn y Ddeddf honno nawr, yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio ymgorffori'r egwyddor datblygu cynaliadwy trwy eu holl wariant caffael, ac mae hynny'n cynnwys nod Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang, a gwn fod y Gweinidog wedi ymateb i chi, pan wnaethoch chi godi'r pwynt hwn yn y ddadl. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y craffu hwnnw wedi ein galluogi i edrych ar gryfhau'r agwedd hon ar y Bil. Rydym mewn gwirionedd yn edrych ar ffyrdd y gallwn sicrhau y gallwn ymgorffori'r flaenoriaeth hon o fewn canllawiau statudol, ac mae hynny'n golygu y bydd deddfwriaeth sylfaenol yng Nghymru yn cryfhau'r polisi presennol ar gaffael moesegol, a dyna fu ein blaenoriaeth polisi ers blynyddoedd lawer, ac mae'n dod â'r Genedl Masnach Deg a'n nodau a'n partneriaeth â masnach deg i'r amlwg.

Ond fe ddywedaf i orffen, yn 2017 fe wnaethom gyhoeddi ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Bellach mae ganddo dros 500 o sefydliadau wedi llofnodi o bob sector, ac mae ei ganllaw ar fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol yn cynnwys adran ar fasnach deg. Felly, fe wnaethoch chi helpu i ddylanwadu ar y ffordd ymlaen o ran datblygu'r ymrwymiadau pwysig hyn.

Mae gan Gymru hanes cryf mewn masnach deg foesegol, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, Jane Hutt, am y rhan y mae hi wedi'i chwarae yn hynny, a diolch hefyd am y datganiad heddiw a'r pwyslais ar y nodau datblygu cynaliadwy a chydraddoldeb.

Mae masnach deg nid yn unig o bwysigrwydd i gydweithredwyr yn yr ystafell hon, yr wyf yn un ohonynt ond fel cyn-gadeirydd ac ysgrifennydd cymdeithas gydweithredol Islwyn, rwyf i, ochr yn ochr â llawer o fy aelodau, wedi ymfalchïo mewn llawer o gyfleoedd i farchnata a chynnig nwyddau masnach deg i'r cyhoedd, dim ond oherwydd ein bod yn gwybod mai masnach deg yw'r hyn y mae'n ei ddweud ar y tun, neu'r botel, neu'r pecyn: mae masnach deg yn dda i bawb sy'n gysylltiedig, gan ddarparu caffael moesegol, cadwyni cyflenwi moesegol a thaliad teg mewn byd cynyddol dlawd. Ond, yn anffodus, mae rhai monopolïau byd-eang yn canolbwyntio ar ecsbloetio cynhyrchiant gweithwyr fel rhan annatod o'u strategaethau twf, ac yn arbennig ym maes masnach mwyngloddio yn fyd-eang, gyda defnydd cyffredin o lafur plant ac amodau annioddefol, ond y mae eu cynhyrchion terfynol yn darparu ein iPhones a'n gliniaduron sgleiniog byd cyntaf a batris ceir trydan eco, gwyrdd. Felly, Gweinidog, sut y gallwn ni yng Nghymru hyrwyddo agenda ac ymwybyddiaeth o fasnach deg ymhellach a gweithio i ennyn masnach fwy cyfartal a diogel i bawb o fewn cadwyn gyflenwi foesegol ar gyfer ein technoleg unfed ganrif ar hugain yr ydym yn dymuno ei chael?

16:40

Diolch yn fawr, Rhianon Passmore. Rwyf eisoes wedi ymateb, yn enwedig mewn cysylltiad â'r cod cadwyni cyflenwi moesegol o ran cyflogaeth foesegol, sy'n hanfodol bwysig, ac, yn wir, mae hynny hefyd yn gweithio gyda'n canllaw i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol sydd, fel y dywedais i, ag adran ar fasnach deg.

Rwyf eisiau dweud i gloi, ar y pwynt hwn, ein bod yn rhan o gynllun treialu Cyfiawnder Masnach Cymru. Mae hynny wedi gweithio i sicrhau, mewn gwirionedd, fod polisi masnach a chytundebau masnach newydd y DU yn ceisio cefnogi uchelgeisiau Cymru ar gyfer adferiad gwyrdd a theg yn unol â'n nodau llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac mae wedi dwyn ynghyd sefydliadau ac academyddion sydd â diddordeb mewn gwahanol feysydd cyfiawnder masnach, ac wedi ymgyrchu dros lais i gymdeithas sifil Cymru ym mholisi masnach y DU. Rwy'n gwybod bod Masnach Deg Cymru wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Comisiwn Masnach a Busnes y DU i ddatganoli a ffyniant bro, fel enghraifft. Felly, mae angen i ni edrych ar y cynllun treialu Cyfiawnder Masnach Cymru, a'r rhai sy'n ymwneud ag ef, i gydnabod y pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud. A gawn ni ddiolch i'r nifer fawr o gydweithredwyr yn y Siambr hon, sy'n sicrhau bod masnach deg ar flaen y gad yn eu dewisiadau bywyd, ac, yn wir, eu hymrwymiad i'r gwasanaeth cyhoeddus a gwleidyddol y mae masnach deg yn ei grynhoi?

Diolch. Wel, rydych chi'n sôn am Rydaman yn dod yn dref fasnach deg gyntaf Cymru yn 2002, a Chaerdydd y brifddinas fasnach deg gyntaf yn 2004, ond, wrth gwrs, Wrecsam oedd y sir fasnach deg gyntaf yn y byd yn 2003. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch a dathlu'r gwaith a gyflawnwyd gan TCC—Trefnu Cymunedol Cymru—wedi'i leoli yn Wrecsam, ond yn gweithio ledled y gogledd-ddwyrain, a ymgyrchodd dros y statws sir masnach deg gyntaf honno, Wrecsam, a ddaeth â'r gynghrair fasnach deg honno ynghyd, a ddaeth â gwahanol rannau o'r gymuned ynghyd i arwyddo'r siarter masnach deg yno, ac yna sefydlu clymbleidiau masnach deg mewn siroedd eraill ar draws y gogledd a thu hwnt a chael y siarter at ei gilydd a dod â'r gwahanol asiantaethau ynghyd i'w llofnodi? Llofnodais lawer o'r rheini gyda phleser ac ymrwymiad mawr fy hun hefyd, ac rwy'n credu bod eu gwaith yn ffactor enfawr, craidd, canolog wedi cyfrannu at sicrhau mai Cymru oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf yn 2008. Felly, rwy'n siŵr nad yw'n hepgoriad bwriadol, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech eu cynnwys yn eich diolchiadau a'ch llongyfarchiadau.

Byddaf yn gwneud hynny yn sicr, Mark Isherwood—yn dathlu ac yn diolch i Wrecsam am fod ar flaen y gad o ran dod yn Genedl Masnach Deg nôl yn 2003, a'r sefydliadau a ymgysylltodd â hynny. Felly, yn sicr, hoffem anfon ein llongyfarchiadau. Hynny yw, mae hwn yn gyfle, onid yw e, heddiw, unwaith eto, i gryfhau'r partneriaethau hynny, y mae llawer ohonynt wedi dioddef, rhai ohonynt wedi cael anhawster gwirioneddol o ran symud ymlaen, ond rydych wedi tynnu sylw at lawer o waith da y maent wedi'i wneud yn y gogledd. A gaf i sôn am fusnes pwysig arall yn y gogledd, lle, mewn gwirionedd, mae coffi Jenipher's Coffi yn cael ei stocio, sef Canolfan Arddio Camlan, Siop Fferm a Chaffi yn Ninas Mawddwy, a leolir ym Mharc Cenedlaethol Eryri?

6. Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 6 ar ein hagenda, sef Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig—Julie James.

16:45

Cynnig NDM8324 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n symud y cynnig.

Diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith yn craffu ar yr offeryn statudol hwn. Mae angen y rheoliadau hyn fel bod cynhyrchwyr deunydd pacio yn casglu ac yn adrodd data ar faint a'r math o ddeunydd pacio y maent yn ei roi ar y farchnad. Maent yn cefnogi ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu ar gyflwyno cyfrifoldeb cynhyrchwyr. Mae angen y data hwn i gyfrifo'r ffioedd y bydd cynhyrchwyr yn eu talu o dan y diwygiadau deunydd pacio. Bydd y rheoliadau hyn ar waith am gyfnod dros dro cyn cael eu disodli gan y rheoliadau sy'n gweithredu'r cynllun ehangach.

O dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007, mae'n ofynnol i gynhyrchwyr sydd â throsiant blynyddol o £2 filiwn, sy'n trin mwy na 50 tunnell o ddeunydd pacio bob blwyddyn, adrodd data. Mae'r rheoliadau newydd hyn yn cadw'r trothwy hwn, ond bydd yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr adrodd data mwy gronynnog ac yn amlach. Yn ogystal, bydd y rheoliadau yn creu trothwy de minimis newydd. Bydd yn ofynnol i gynhyrchwyr sydd â throsiant blynyddol o £1 miliwn, sy'n trin mwy na 25 tunnell o ddeunydd pacio y flwyddyn, gasglu data ond nid ei adrodd. Er mwyn lleihau effaith y rheoliadau hyn ar fusnesau bach, ni fydd yn ofynnol i gynhyrchwyr nad ydynt yn trin mwy na 25 tunnell o ddeunydd pacio ac nad oes ganddynt drosiant o fwy na £1 miliwn y flwyddyn, gasglu neu adrodd data. Mae rheoliadau copïo wedi'u gwneud yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn galluogi'r cynllun i weithredu'n esmwyth ar draws y DU.

Gosodwyd a thynnwyd y rheoliadau hyn yn ôl ym mis Mawrth 2023, oherwydd sylwadau a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar ddrafftio technegol y testun. Ochr yn ochr â hynny, cawsom wybod bod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a'r cenhedloedd eraill yn bwriadu cyflwyno rheoliadau diwygio i fynd i'r afael ag eglurder a bwriad polisi. Rydym wedi ystyried yr adborth gan y PDCC a'r eglurhad polisi a wnaed gan DEFRA yn y drafft hwn.

Fel rhan o'u hadroddiad ar y rheoliadau, nododd y PDCC y tri chamgymeriad drafftio bach canlynol: yn rheoliad 2(1) yn y testun Saesneg, nid yw'r termau Cymraeg cyfatebol wedi'u cynnwys mewn llythrennau italig a bracedi ar ôl y diffiniad o 'Ddeddf 2003', a 'deunydd pacio wedi'i frandio'; yn rheoliad 16(6), yn y testun Cymraeg, mae'r gair 'data' ar goll o gyfieithiad yr ymadrodd 'cyfnod casglu data'; ac yn Atodlen 1, ym mharagraff 15(1)(b), dylai'r cyfeiriad at 'is-baragraff (a)' gyfeirio at 'baragraff (a)' yn lle hynny. Mân wallau yw'r rhain nad ydynt yn newid gweithrediad y rheoliadau ac, o'r herwydd, byddant yn cael eu cywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud.

I grynhoi, mae'r rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno i gefnogi gweithredu'r cynllun cyfrifoldeb estynedig am ddeunydd pacio, un o'n hymrwymiadau rhaglen lywodraethu, sy'n gam pwysig wrth gyfrannu at symud tuag at economi carbon sero net gylchol. Bydd nid yn unig yn helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu Cymru ymhellach a mynd i'r afael â sbwriel, ond hefyd yn helpu i sicrhau bod deunyddiau yn parhau i gael eu defnyddio wrth leihau'r defnydd o ddeunyddiau crai heb eu prosesu, sbardun allweddol yr argyfwng hinsawdd. Diolch.

Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Cadeirydd, a diolch, Gweinidog, hefyd. Gwnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn ar 3 Gorffennaf. Mae ein hadroddiad yn cynnwys 13 pwynt adrodd—pum pwynt technegol ac wyth pwynt rhinwedd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hymateb.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol mai dyma'r drydedd fersiwn o'r rheoliadau hyn i'w gosod gerbron y Senedd. Roedd fersiynau cynharach wedi cael eu tynnu'n ôl o'r blaen ar ôl cael eu hystyried gan ein pwyllgor ac ar ôl i ni nodi nifer o faterion ynghylch y fersiynau blaenorol o'r rheoliadau. Nawr, mae'r rheoliadau hyn, fel y dywedodd y Gweinidog, yn gosod gofynion ar gynhyrchwyr a sefydlwyd yng Nghymru i gasglu data am y deunydd pacio y maent yn ei gyflenwi i eraill, ac maent yn dod o dan gwmpas y fframwaith adnoddau a gwastraff cyffredin.

Felly, mae pedwar o'r pum pwynt adrodd technegol wedi'u gwneud oherwydd ein bod yn ystyried bod ffurf neu ystyr rhai elfennau o'r rheoliadau angen esboniad pellach. Mae'r pwynt adrodd technegol arall yn amlygu anghysondeb, fel y dywedodd y Gweinidog, rhwng ystyr y testun Saesneg a'r Gymraeg. Felly, Gweinidog, mewn ymateb i dri o'r pwyntiau hyn, dywedoch wrthym y byddech yn ceisio cywiro'r gwallau yr oeddem wedi'u nodi cyn gwneud y rheoliadau, yn amodol ar y Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau y prynhawn yma, ac rydym yn croesawu hynny. Dywedoch wrthym y byddech yn tynnu sylw'r Senedd at y materion hyn, eich bod wedi gwneud hynny, ac rydym yn ddiolchgar amdano.

Gweinidog, siaradodd fy nghyd-Aelod, Alun Davies, ar ran y pwyllgor yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf, yn ystod y ddadl ar Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023, ac yn y drafodaeth honno, tynnodd sylw at y ffaith bod ein pwyllgor wedi cael gwybod y byddai gwallau yn y rheoliadau hynny hefyd yn cael eu cywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud. Ymrwymodd y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd i ysgrifennu at fy mhwyllgor yn amlinellu'r newidiadau a wnaed, felly, Cadeirydd, edrychwn ymlaen at dderbyn yr ohebiaeth honno hefyd. Yn yr un modd, byddem yn croesawu cadarnhad ysgrifenedig o'r newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r rheoliadau hyn, Gweinidog, dim ond er mwyn i ni fod yn ymwybodol ohonynt.

Yn olaf, gadewch imi siarad ychydig am y pwynt olaf yn ein hadroddiad, Rhif 13. Yn y pwynt adrodd hwnnw, rydym yn tynnu sylw at y llinell amser ar gyfer y gwahanol fersiynau o'r rheoliadau hyn, a nodi nad oedd yn glir pam y bu oedi o dri mis rhwng tynnu fersiwn 2 yn ôl ac yna gosod y rheoliadau hyn yr ydym yn eu hystyried y prynhawn yma, yn enwedig o gofio bod newidiadau eithaf cyfyngedig wedi'u gwneud i ffurf y rheoliadau o'u cymharu â'r fersiwn flaenorol a osodwyd. Nawr, mewn ymateb dywedwyd wrthym, Cadeirydd, fod

'Yn y cyfnod rhwng tynnu’r Rheoliadau yn ôl a’u hailosod, aethom ati i drefnu prosesau sicrhau ansawdd digonol o ran drafftio cyfreithiol a chyfieithu er mwyn lleihau gwallau sylweddol.'

Ac rydym yn croesawu hynny. Nododd ymateb Llywodraeth Cymru hefyd ei bod wedi cysylltu â llywodraethau eraill y DU i egluro agweddau ar y polisïau er mwyn cynnal aliniad rheoleiddiol, ac rydym yn croesawu hynny. Mewn gwirionedd, rydym yn croesawu'r sylw difrifol a roddwyd i'r rheoliadau sydd ger ein bron y prynhawn yma. Ond, Gweinidog, rydych chi'n adnabod ein pwyllgor—rydyn ni bob amser wedyn yn gofyn y cwestiwn dilynol.

Felly, mae'r ymateb i hwnnw a'ch difrifoldeb o ran hwnnw, wedi ein harwain i gwestiynu pa brosesau sicrhau ansawdd a ddefnyddiwyd o'r blaen, wrth baratoi'r fersiynau cynharach o'r rheoliadau. Mae'r ymateb yn sôn am leihau camgymeriadau sylweddol hefyd, yn hytrach nag atal pob gwall, cymaint â bod hynny'n bosibl. Gwnaethom godi hynny hefyd oherwydd bydd y Gweinidog yn ymwybodol y gall hyd yn oed camgymeriadau cymharol fach gael effaith ar rywbeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei gymryd o ddifrif, sef hygyrchedd cyfraith Cymru. Felly, codwyd rhai o'r materion hyn, mewn gwirionedd, gyda'r Cwnsler Cyffredinol brynhawn ddoe, ymhlith casgliad enfawr o faterion a godwyd gennym gydag ef—chwarae teg i stamina'r Cwnsler Cyffredinol yn y sesiwn honno—ac rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd i'r materion hyn maes o law. Ond, Gweinidog, diolch i chi am fynd i'r afael â'r materion hynny a'r pwyntiau a gododd ein pwyllgor.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

16:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn, Huw, am eich cyfraniad. Fel yr amlinellais yn fy sylwadau agoriadol, unig ddiben y rheoliadau yw galluogi casglu ac adrodd data i gynorthwyo gyda chyfrifo ffioedd cynhyrchwyr yn y cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am becynnu. Byddwn yn gwneud y mân ddiwygiadau y soniais amdanyn nhw, ac rwy'n hapus iawn i ddweud y byddaf yn cadarnhau'r gwelliannau yn ysgrifenedig i'ch pwyllgor.

O ran yr amseru, gwn fod Cadeirydd y pwyllgor yn gwybod yn iawn ein bod yn ceisio cyd-fynd â chenhedloedd eraill y DU, a bod hynny wedi achosi materion sicrhau ansawdd a materion amseru yr ydym ni bellach wedi'u cywiro trwy wneud pethau yn ein ffordd ein hunain. Byddaf yn dweud hefyd—er na ofynnodd hyn yn benodol, ond dim ond i Aelodau o'r Senedd fod yn ymwybodol—mae'n golygu bod peth anghysondeb gyda'r cyfnodau adrodd data, ac rydym yn disgwyl iddyn nhw gyd-fynd y flwyddyn nesaf. Felly, mae cyfnod bach lle mae anghysondeb wrth i ni gael y rheoliadau i gyd-fynd â phedair gwlad y DU, o ganlyniad i'r nifer o weithiau bu'n rhaid diwygio'r rheoliadau hyn mewn gwahanol ddeddfwrfeydd. Felly, rwy'n gwybod bod y Cadeirydd yn ymwybodol o'r problemau bach hynny. 

Fel y dywedais i, Dirprwy Lywydd, mae'r cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am becynnu yn un o'n hymrwymiadau yn ein rhaglen  llywodraeth a bydd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, a chyfrannu at greu Cymru garbon sero-net gylchol. O'r herwydd, cynigiaf y cynnig a'i gymeradwyo i'r Senedd. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 3 yn enw Darren Millar.

Eitem 7 yw dadl y Llywodraeth: adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru—cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig. Mark Drakeford.

Cynnig NDM8325 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi:

a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2022/23;

b) y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen ddeddfwriaethol.

Cynigiwyd y cynnig.

Dirprwy Lywydd, wythnos diwethaf cyhoeddwyd ail adroddiad blynyddol tymor y Senedd hon, gan nodi'r cynnydd rydym yn parhau i'w wneud tuag at ymrwymiadau'r rhaglen llywodraethu. Roedd yr heriau a wynebwyd yn ystod y flwyddyn diwethaf yn ddigynsail—cyfuniad o bwysau economaidd a chyllidebol a gynhyrchwyd gan un o'r sefyllfaoedd ariannol anoddaf mae'r wlad hon erioed wedi'i phrofi.

Mae hynny i gyd yn golygu, Dirprwy Lywydd, bod yn rhaid i mi ddechrau'r prynhawn yma drwy ddweud, er y bu cynnydd yn ail flwyddyn ein rhaglen yn sylweddol, mae'r flwyddyn bresennol eisoes yn llawer anoddach, a bydd y flwyddyn ariannol nesaf yn  fwy anodd fyth. Eleni, mae ein setliad werth hyd at £900 miliwn yn llai mewn termau real na'r disgwyl pan gafodd ei osod gan Brif Weinidog presennol y DU, a oedd ar y pryd yn Ganghellor y Trysorlys, ym mis Hydref 2021. Bydd ein cyllideb gyfalaf 5 y cant yn is mewn termau real y flwyddyn nesaf na'r llynedd, oherwydd methiant anesboniadwy Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus ar adeg pan oedd cyfraddau llog yn isel. Mae gan hyn oll ganlyniadau uniongyrchol, anochel ac anffafriol ar gyfer cyflawni ein rhaglen lywodraethu.

Dirprwy Lywydd, gyda'r cefndir hwn o gyni o'r newydd, rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni yn ail flwyddyn ein rhaglen. Rydym yn parhau i ddatblygu'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, a byddwn yn cyhoeddi'r ail adroddiad blynyddol ym mis Rhagfyr. Edrychaf ymlaen at weithio gydag arweinydd newydd Plaid Cymru i barhau i gyflawni ein rhaglen uchelgeisiol ar y cyd.

Rwy'n troi nawr at yr adroddiad blynyddol ei hun, ac mae'n ganolog i'n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu ein bod yn creu Cymru lle mae pobl yn teimlo bod ganddyn nhw ddyfodol a bod y dyfodol hwnnw yn cael ei ddiogelu. Mae buddsoddi yn y lleoedd lle mae pobl yn byw yn ffordd allweddol o gyflawni hyn, ac mae cyfres o gamau gweithredu yr ydym ni wedi'u cymryd yn y maes tai, i gyd wedi'u nodi yn yr adroddiad blynyddol. Fe wnaethom ni ddarparu 2,500 o gartrefi i'r sector rhentu cymdeithasol yn 2021-22, ac rydym ni'n gwario'r symiau mwyaf erioed ar dai, er bod y lefelau chwyddiant ystyfnig yn golygu na fydd ein harian yn mynd mor bell ag yr oedd cyn i'r argyfwng costau byw daro. Rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu'r cartrefi y mae pobl eu hangen, ac mae hynny'n cynnwys dod ag eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd a buddsoddi £76 miliwn i greu bron i 1,000 o gartrefi tymor hwy o ansawdd da ar gyfer pobl sydd angen tai. Ac rydym ni'n cymryd camau radical hefyd, Dirprwy Lywydd, camau sy'n arwain y DU, i fynd i'r afael â phroblemau gormod o ail gartrefi sy'n wynebu gormod o gymunedau Cymru. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi dod i rym, gan helpu i wneud rhentu yn decach drwy roi mwy o amddiffyniad cyfreithiol i denantiaid—amddiffyniad cyfreithiol angenrheidiol yn y cyfnod anodd hwn.

Mae'r pwyslais ar le hefyd yn siapio ymrwymiad y rhaglen lywodraethu bod croeso i bobl yng Nghymru, beth bynnag fo'u cefndir, o ble bynnag y dônt, fel dinasyddion Cymru. Yng nghanol yr argyfwng costau byw parhaus hwn, mae pobl ym mhob rhan o'n cenedl wedi dangos trugaredd a dynoliaeth ddiwyro i'r rhai sy'n ffoi rhag gwrthdaro ledled y byd. Gwelwyd hyn yn fwyaf amlwg, wrth gwrs, yn yr ymateb i'r rhyfel yn Wcráin, gan fod miloedd o bobl wedi agor eu cartrefi yma yng Nghymru i eraill yn dianc rhag yr ymladd—enghraifft wirioneddol o'n huchelgais i fod y genedl noddfa honno ar waith. Hoffwn ddiolch i bawb am y ffordd y maen nhw wedi croesawu pobl i'n gwlad sy'n chwilio am ddiogelwch a noddfa. Mae'n dweud cymaint am y lle yr hoffem ni i Gymru fod, fel y mae ein haddewid i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb, addewid sydd wedi'i hymgorffori yn ein cynllun gweithredu LHDTC+ gan hyrwyddo ein nod o fod y genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+, a'r cynnydd yr ydym yn ei wneud yn gweithredu 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol' hefyd.

Dirprwy Lywydd, mae'r adroddiad blynyddol yn dangos bod lleoedd o'r fath ac uchelgeisiau o'r fath yn llwyddo pan gânt eu cefnogi gan ein gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'r adroddiad blynyddol yn dangos sut rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau hynny, fel eu bod yn cyfateb i anghenion y Gymru gyfoes. Yr wythnos diwethaf, dathlodd y GIG ei ben-blwydd yn saith deg pump, ac rydym yn haeddiannol falch o'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol hwnnw a'r degau o filoedd o staff sy'n guriad calon iddo. Hyd yn oed yn ystod y cyfnod anoddaf hwn, rydym ni wedi ymrwymo mwy na £1 biliwn mewn cyllid ychwanegol yn ystod tymor y Senedd hon i'w helpu i adfer o'r pandemig ac i leihau amseroedd aros. Diolch i waith caled staff ledled Cymru, mae'r arosiadau hir hynny yn gostwng. Rydym ni wedi gweithio gyda'n cymuned meddygon teulu i wella mynediad i apwyntiadau ac wedi lansio gwasanaeth '111 pwyswch 2' y GIG ledled Cymru, ledled Cymru i gyd ar hyn o bryd, gan ddarparu mynediad at gymorth iechyd meddwl pryd bynnag y bydd ei angen ar bobl.

Ochr yn ochr â'n gwasanaeth iechyd, rydym yn falch ein bod wedi darparu'r cyflog byw go iawn i'n gweithlu gofal cymdeithasol hefyd. Ar yr un pryd ag yr ydym wedi ehangu ein cynnig gofal plant, gan wneud mwy o deuluoedd yn gymwys i gael gofal plant wedi'i ariannu, rwy'n falch iawn ein bod wedi lansio'r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, y cynllun mwyaf helaeth o'i fath yn y byd.

A, Dirprwy Lywydd, ni fuom ni'n llai uchelgeisiol wrth ddarparu rhaglenni addysg yn y flwyddyn a gwmpesir gan yr adroddiad blynyddol, oherwydd rydym ni am i'n pobl ifanc fod yn rhan o'r dyfodol hwnnw yr ydym ni'n ei greu ar gyfer ein gwlad. Roedd y flwyddyn a drafodir gan yr adroddiad yn flwyddyn bwysig, wrth i'r Cwricwlwm newydd i Gymru gael ei gyflwyno ym mhob un o'n hysgolion cynradd a gyda hanner ein hysgolion uwchradd eisoes yn cymryd rhan, a'r ysgolion sy'n weddill yn ymuno â'r daith hon ym mis Medi eleni.

Mae Cymru wedi cael, Dirprwy Lywydd, y lefel uchaf o gyllid adfer COVID mewn ysgolion yn y Deyrnas Unedig gyfan. Y cyllid ychwanegol hwnnw sydd wedi ein galluogi i benodi mwy na 2,400 o staff ychwanegol, gan ddarparu'r hwb hwnnw i'n plant yn y cyfnod hwnnw o adfer o COVID. Ac ochr yn ochr â hynny i'n pobl ifanc, mae cyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd wedi gweld mwy na 5 miliwn o brydau ychwanegol yn cael eu darparu ers mis Medi 2022, cyfnod lle mai ni oedd yr unig ran o'r DU i godi'r lwfans cynhaliaeth addysgol i £40 yr wythnos, yn union fel yr ydym ni wedi cadw presgripsiynau am ddim, parcio am ddim mewn ysbytai a theithio bws am ddim i bobl dros 60 oed a'r bobl anabl cymwys.

Rydym wedi datblygu ac ariannu gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16 i 25 oed, wrth i ni barhau i weithio tuag at ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae ein gwarant arloesol i bobl ifanc yn helpu pobl o dan 25 i sicrhau dyfodol gwell, gan gefnogi mwy na 20,000 o bobl ers ei lansio yn 2021, a darparu mwy na 28,000 o brentisiaethau pob oed ers etholiad diwethaf y Senedd.

Dirprwy Lywydd, gadewch i mi droi nawr at her ddiffiniol ein cyfnod, sef newid hinsawdd. Erbyn hyn mae tystiolaeth ddiymwad bod yr argyfyngau hinsawdd a natur yn cael effaith arnom ni nawr. Nid problemau mohonyn nhw ar gyfer diwrnod arall neu grŵp arall o bobl i'w datrys. Mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol ein bod yn trin newid hinsawdd gyda'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu. Dyna pam y gwnaethom ni gomisiynu'r adolygiad ffyrdd annibynnol, ac er na fyddwn yn rhoi'r gorau i adeiladu ffyrdd yng Nghymru, mae'n golygu bod y bar ar gyfer gwneud hynny yn llawer uwch nag mewn cenedlaethau blaenorol, wrth inni gydbwyso'r blaenoriaethau a'r rhwymedigaethau hynny—ein rhwymedigaethau economaidd a'n cyfrifoldebau at yr hinsawdd—ar yr un pryd. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi mewn llwybrau teithio llesol i annog pobl i gerdded neu feicio ar gyfer teithiau byr yn lle defnyddio eu car, a Chymru fydd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i newid y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd preswyl i 20 milltir yr awr, gan helpu i wneud strydoedd yn fwy diogel i blant ac i ddefnyddwyr eraill y ffordd.

Ac yn y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad blynyddol, Dirprwy Lywydd, wrth i ni fwrw ymlaen gyda'n huchelgais i greu coedwig genedlaethol i Gymru, byddwn yn ariannu 100 yn fwy o goedwigoedd bach o amgylch ein gwlad brydferth, yn dilyn yr arweiniad a roddwyd yn y Barri, lle'r oeddwn i'n ddigon ffodus i fod yn ddiweddar yn gweld coedwig fechan eisoes yn tyfu o flaen llygaid pobl yn y rhan honno o Gymru. Ochr yn ochr â hynny mae'r 300,000 o goed ychwanegol hynny a blannwyd wrth i ni gynnig coeden am ddim i bob cartref yng Nghymru ei blannu.

Dirprwy Lywydd, ni allaf obeithio gwneud cyfiawnder â phopeth yn ein hadroddiad blynyddol y prynhawn yma. Nid wyf hyd yn oed wedi sôn am y rhaglen ddeddfwriaethol a wnaeth ei ffordd i'r llyfr statud yn y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad, y ddeddfwriaeth nodedig honno a fydd yn gwahardd gwerthu rhai o'r plastigau untro mwyaf cyffredin, y Bil cydgrynhoi Cymreig cyntaf erioed i'w basio'n unfrydol ar lawr y Senedd.

Ond gadewch i mi orffen lle y dechreuais i, trwy ddychwelyd i'r heriau sy'n ein hwynebu fel Llywodraeth yn ystod eleni a'r flwyddyn nesaf. Mae'r storm o bwysau ariannol ac economaidd arnom ni nawr. Bydd yn golygu effeithiau digynsail ar gyflawni, ac rydym yn paratoi, fel y mae'n rhaid, ar gyfer y dewisiadau anodd y bydd  angen eu gwneud. Pan ysgrifennwyd y rhaglen lywodraethu, a adlewyrchir yn yr adroddiad blynyddol, roedd yr hinsawdd economaidd yn wahanol iawn. Doedd dim argyfwng costau byw. Nid oedd Liz Truss a'i chyllideb fach annoeth wedi chwalu'r marchnadoedd arian bron, gan ysgwyd cyllid cyhoeddus. Nid oedd hi'n flwyddyn o dri Phrif Weinidog gwahanol, ac nid oeddem ni ar fin gweld chwalfa newydd mewn morgeisi. Dyna'r cyd-destun lle mae'n anochel yr ysgrifennir y trydydd adroddiad blynyddol.

Dirprwy Lywydd, mae'r dyfodol yn edrych yn anodd i deuluoedd ac i'r Llywodraeth hon hefyd, ond byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gyflawni'r addewidion a wnaethom i bobl Cymru ac i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach am y dyfodol. Diolch yn fawr.

17:05

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cynnydd parhaus a wnaed fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi nifer o bolisïau trawsnewidiol ar waith fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yr adroddiad blynyddol a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau angenrheidiol i sicrhau gwelliannau ystyrlon a chynaliadwy i fywydau pobl Cymru, bod yn rhaid i ni barhau i gyflwyno'r achos dros bwerau ychwanegol ond, yn y pen draw, mai annibyniaeth yw'r ffordd fwyaf ymarferol o sicrhau Cymru wyrddach, decach a fwy ffyniannus.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac wrth inni ddod at ddiwedd tymor Senedd, bron i hanner ffordd drwy'r chweched Senedd, mae'n amser da i werthuso sefyllfa bresennol Cymru ac i ofyn i'n hunain fel Aelodau yn agored ac yn onest: ydyn ni'n gwneud popeth allwn ni i hyrwyddo buddiannau pobl Cymru? Mae'n hawdd ffocysu ar y pethau negyddol, ond, fel rhywun sydd wastad yn ffafrio dathlu'r pethau positif am Gymru, mi fyddai'n well gennym ni os nad oedd rhaid inni edrych ar y negyddol.

Ond dwi am ddechrau, felly, ar nodyn positif, yn adlewyrchu ar y llwyddiannau sylweddol sydd wedi dod o ganlyniad i'r cytundeb cydweithio efo'r Llywodraeth. Bron i ddwy flynedd erbyn hyn i mewn i'r cytundeb, mae'r ffordd aeddfed yma o wneud gwleidyddiaeth, yn rhoi'r wlad o flaen ein pleidiau mewn llawer ffordd, yn parhau i ddwyn ffrwyth. Rydyn ni wedi cymryd camau bras ymlaen o ran sicrhau ein huchelgais nad ydy plant ysgolion Cymru yn mynd yn llwglyd yn yr ysgol. Mae ehangu'r rhaglen o ofal plant am ddim yn parhau i ennill tir, lle mae yna oedi yn San Steffan. Rydyn ni'n ennill tir ar integreiddio iechyd a gofal, sydd mor bwysig i ddyfodol y sector yna. Rydyn ni'n gweithio ar wneud Cymru y wlad fwyaf LGBTQ+ garedig yn Ewrop.

O gynnig deddfwriaethol, buom yn gweithio gyda'r Llywodraeth i gyflawni'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus i ymwreiddio arferion gwaith teg a sicrhau bod busnesau Cymru yn elwa ar gaffael cyhoeddus. A bydd y Bil amaeth, wrth gwrs, yn diogelu dyfodol ein diwydiant ffermio hanfodol yn y byd ansicr hwn ar ôl Brexit. A bydd Bil diwygio'r Senedd a gyflwynir cyn bo hir, wrth gwrs—y pecyn diwygio mwyaf sylweddol i'n democratiaeth mewn chwarter canrif—yn sicrhau bod datganoli yng Nghymru yn aeddfedu o'r diwedd. Yr hyn y mae hyn yn ei ddangos yn bendant, rwy'n credu, yw nad yw Plaid Cymru yn cilio oddi wrth yr heriau mawr sy'n wynebu ein gwlad—rydym yn eu hwynebu yn uniongyrchol gydag uchelgais yn ein gwythiennau a brwdfrydedd yn ein calonnau i gyflawni dros bobl Cymru, ni waeth a wnaethon nhw bleidleisio drosom ni ar y meinciau hyn ai peidio. Yn syml, pan fo gan Blaid Cymru sedd wrth fwrdd y Llywodraeth, mae Cymru gyfan yn ennill.

Ond ni all y cytundeb cydweithio, er ei holl lwyddiant o ran sicrhau buddion pellgyrhaeddol i bobl Cymru, ond fynd â ni beth o'r ffordd, ac mae'n wirionedd anochel bod llawer i'w ddifaru am gyflwr y genedl yn 2023. Gydag amseroedd aros ystyfnig o uchel, prinder staff difrifol a diffygion flwyddyn ar ôl blwyddyn ym mwrdd Besti Cadwaladr, nid gor-ddweud yw honni bod y GIG yng Nghymru yn wynebu argyfwng dirfodol yn saith deg pum mlwydd oed. Nid yw'r argyfwng costau byw, sy'n gadael cymaint o aelwydydd yn cael trafferth fforddio'r hanfodion moel, yn dangos unrhyw arwydd o leihau 13 mlynedd o gyni creulon Torïaidd yn ddiweddarach. Mae'r hinsawdd economaidd yng Nghymru hefyd yn llwm—diweithdra ar gynnydd, cyfraddau anweithgarwch uchel yn barhaus, ychydig neu ddim gwelliant o gwbl ar gyfraddau cynhyrchiant, gan ein gadael yn y sefyllfa rhy gyfarwydd o lawer fel y perthynas tlawd yn yr undeb hwn o anghyfartaledd. Yn y cyfamser, mae'r argyfwng hinsawdd yn parhau i'n bygwth wrth i ni agosáu at yr adeg dyngedfennol i'n planed.

Ac, wyddoch chi, yr edefyn cyffredin sy'n rhedeg trwy'r holl faterion hyn yw diffyg asiantaeth sylfaenol Cymru i lunio ei dyfodol ei hun. Rwyf am weld Cymru decach, sy'n hapusach, sy'n llewyrchus, sy'n hunanhyderus, ond allwn ni ddim aros i eraill adeiladu'r dyfodol mwy disglair hwn i ni. Mae'n rhaid i ni gymryd ein tynged yn ein dwylo ein hunain. Ac rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi mai'r peth cyntaf yw cael gwared ar y Llywodraeth Dorïaidd hon yn y DU, y mae ei chamreoli trychinebus o'r economi wedi costio mor ddrud i ni. Ond, er bod y Prif Weinidog wedi rhoi ei ffydd ym mhotensial adferol Llywodraeth Lafur y DU, mae'r holl dystiolaeth hyd yma yn darogan mwy o'r un peth gan Keir Starmer, a welwyd yn y cynigion a nodir yn adroddiad Gordon Brown ar gyfer diwygio cyfansoddiadol—gan gynnig dim i Gymru y tu hwnt i fersiwn lastwredig iawn o safbwynt y Llywodraeth Lafur hon ar ddatganoli cyfiawnder a phlismona. Coch neu las, nid yw lliw y blaid lywodraethol yn Downing Street yn newid y ffaith y bydd Cymru bob amser yn ôl-ystyriaeth i San Steffan. Fy mhle i'r Prif Weinidog yw bod yn fwy uchelgeisiol i Gymru.

Mae arnaf i eisiau'r gorau i Gymru. Er mwyn cael y gorau i Gymru, mae angen i ni ehangu ffiniau ein gallu i lywodraethu ein hunain, a'r gyrchfan naturiol ar gyfer y daith honno yw bod yn genedl annibynnol. Ac rwy'n gofyn i Gymru gyfan ymuno â ni ar y daith honno, i archwilio'r potensial, hyd yn oed os nad ydych chi wedi eich perswadio eto o'r gyrchfan olaf honno. Mae'r Gymru yr ydym ni ei heisiau o fewn cyrraedd, ond dim ond os oes gennym ni'r ewyllys a'r uchelgais i wneud iddo ddigwydd ein hunain.

17:10

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yr adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at fethiannau sylweddol Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r pwysau sydd ar y systemau iechyd ac addysg, sydd ill dwy wedi derbyn toriadau tymor real yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r bwlch mewn cyflog mynd adref rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â'r ffaith mai gan Gymru y mae cyfradd gyflogaeth isaf y DU.

Yn gresynu at y ffaith na fydd y rhaglen ddeddfwriaethol yn cyflawni'r newid sydd ei angen ar Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Cynigiaf y gwelliant hwn yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Pan ddarllenais adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru, cefais fy siomi. Roeddwn i'n synnu'n fawr, mewn gwirionedd. Byddai unrhyw un yn meddwl bod pethau'n iawn yma. Roedd diffyg dirnadaeth go iawn, ar lawr gwlad, o sut roedd pethau yng Nghymru mewn gwirionedd yn eithaf syfrdanol. Mae'n destun pryder bod y Llywodraeth fel pe bai'n credu ei rhethreg ei hun am gyflwr Cymru. Y gwir amdani yw nad yw nifer enfawr o bobl yng Nghymru yn gweld yr un Gymru ag y mae Gweinidogion Llafur yn ei wneud. Sut allai unrhyw un gredu'r llinellau, er enghraifft, ar gyflwr y GIG yng Nghymru—gwasanaeth sydd, yn anffodus, yn gwegian o ganlyniad i 25 mlynedd o fethiant Llafur. Ac nid wyf yn beirniadu'r staff gwych sydd gennym ni'n gweithio ynddo. Mae un o bob pedwar o bobl yn dal ar y rhestr aros yng Nghymru. Ac rwy'n gwybod bod y ffigurau hyn yn anghyfforddus, ac mae'n rhaid i ni barhau i'w hailadrodd oherwydd eu bod yn real. Ac i wneud pethau'n waeth, mae 31,000 o bobl yng Nghymru ar restr aros am ddwy flynedd. Mae hyn yn llawer mwy na'r cyfanswm o 500 o bobl yn Lloegr. Mae mynediad i ddeintyddiaeth hefyd yn enbyd, gyda rhai cleifion yn aros hyd at 26 mis cyn cael apwyntiad. Lle mae hyn yn cael ei grybwyll yn yr adroddiad? Hyn oll er gwaetha'r ffaith—ac fe wn i fod hwn yn safiad amhoblogaidd—mae Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario yn Lloegr, ac rydym ni'n gwybod gan yr archwilydd cyffredinol yn ei adolygiad annibynnol cyn COVID mai dim ond £1.05 oedd yn cael ei wario.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod ar Lywodraeth Cymru eisiau gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd hyd yn oed gwell i fyw a gweithio ynddyn nhw—clodwiw iawn. Ond, y gwir amdani yw bod cyflogau yng Nghymru yn parhau i fod ymhell y tu ôl i weddill y DU—swm rhyfeddol o £2,500 islaw mewn mannau eraill yn y DU. Mae busnesau yn parhau i gael eu taro gyda'r cyfraddau busnes uchaf ym Mhrydain Fawr, ac mae diweithdra yng Nghymru ar y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig.

O ran addysg, mae Llywodraeth Cymru'n mynnu bod arnyn nhw eisiau, ac rwy'n dyfynnu, 

'Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi.'

Fodd bynnag, mae'n gwbl amlwg bod myfyrwyr Cymru, o dan Lafur, yn disgyn ymhell y tu ôl i'w cyfoedion ledled y Deyrnas Unedig. Dan Llafur yng Nghymru mae nifer yr athrawon mewn ysgolion cynradd ac uwchradd wedi gostwng ers 2010, tra bod dros 24,000 yn rhagor o athrawon yn Lloegr. Ac o dan Llafur mae gwariant fesul disgybl yng Nghymru £100 yn llai nag yn Lloegr, pan ddylai fod 20 y cant yn fwy o leiaf, sy'n golygu bod myfyrwyr yng Nghymru yn colli allan ar gannoedd lawer yr un.

Gan droi at newid hinsawdd a honiad Llafur i ymgorffori eu hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnânt, er bod y Senedd yn datgan argyfwng hinsawdd, mae'n amlwg nad yw Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn ffordd gydgysylltiedig. Rydym ni'n gweld gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd—[Torri ar draws.] Wel, mae'n teimlo fel gwaharddiad i'r rhan fwyaf o bobl. Ac rydym ni wedi gweld gweithredu terfynau cyflymder 20 milltir yr awr diofyn ar waith ledled Cymru, i gyd o dan gochl newid hinsawdd, yn ogystal â diogelwch. Rydym yn cael ein hannog i newid i drafnidiaeth gyhoeddus neu i symud i gerbydau trydan, ond nid yw'r drafnidiaeth gyhoeddus yn bodoli mewn sawl man, ac o ran cerbydau trydan, nid oes gennym ni agos at ddigon o'r seilwaith sydd ei angen arnom ni. Y gwir amdani yw bod polisi seilwaith yng Nghymru yn ddarniog ac yn wael ei ddyluniad.

Rwy'n gwybod mai'r ateb stoc—ac rydym ni wedi ei glywed sawl gwaith heddiw—fydd, fel arfer, i feio Llywodraeth y DU, er gwaethaf y ffaith mai Llywodraethau Llafur olynol, am 25 mlynedd, sydd wedi gadael Cymru yn y cyflwr yr ydym ni ynddo nawr. Byddem i gyd yn hoffi cyfran fwy, ond mae gennym yr hyn sydd gennym ni yma. Yn fy holl flynyddoedd yn arweinydd cyngor, nid unwaith y gwrandawyd arnaf ynghylch cwynion roedd gen i am gyllid gan Lywodraeth Cymru. Roedd Gweinidogion olynol yn disgwyl i mi gyflawni gyda'r adnoddau oedd gennyf ar gael i mi, ac fe wnes i. Doeddwn i ddim yn gallu parhau i fwrw bai. Dyna pam nad yw'n cyfrif llawer i mi, Dirprwy Lywydd.

Mae Cymru, yn gwbl briodol, yn disgwyl newid go iawn, gweithredu go iawn, nid mwy o'r osgoi craffu neu'r rhethreg ddi-sylwedd, ond Llywodraeth Cymru sy'n barod i dderbyn ei bod yn siomi cymaint o bobl, mewn cymaint o ffyrdd, mewn cymaint o feysydd. Mae angen i'r Llywodraeth yma lunio adroddiad blynyddol gonest sydd hefyd yn tynnu sylw at ei diffygion ac yn dweud wrth y bobl sut bydd hi'n unioni pethau. Felly, dywedaf wrth fy nghyd-Aelodau Llafur: derbyniwch gyfrifoldeb ac ewch i'r afael ar frys â'r materion sydd bwysicaf i bobl Cymru. Diolch.

17:15

Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n credu bod gan ein Llywodraeth Lafur Cymru record gref dros y flwyddyn ddiwethaf, hyd yn oed yn wyneb anawsterau a grëwyd gan Lywodraeth y DU—yr argyfwng costau byw, camreoli ac, yn wir, chwalu'r economi, chwyddiant cynyddol a thaliadau llog cynyddol, gan gynnwys i bobl â morgeisi sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae'r record honno yn y DU wedi arwain at wariant cyhoeddus yn gallu prynu llawer llai nag o'r blaen, oherwydd effeithiau chwyddiant, Dirprwy Lywydd, ac wrth gwrs mae hynny ar ben cyni ers 2010, gan erydu grym gwario Llywodraeth Cymru yn gronnol, ac, wrth gwrs, awdurdodau lleol ac ystod eang o wahanol sefydliadau. Dyna'r realiti y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyflawni yn ei erbyn, ac mae eraill wedi bod yn cyflawni yn ei erbyn, dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n falch o ddweud, hyd yn oed yng nghanol hynny i gyd, y bu Llywodraeth Cymru, rwy'n credu, yn glir am ei blaenoriaethau, a nhw yw'r blaenoriaethau cywir—blaenoriaethau cyfiawnder cymdeithasol yn ogystal ag ymateb i heriau newid hinsawdd.

O ran newid hinsawdd, Dirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn bod Casnewydd wedi gallu chwarae rhan gref wrth wneud ein system drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy gwyrdd. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd a darparu cyllid i ddatgarboneiddio ein bysiau i wneud trafnidiaeth mor wyrdd â phosibl. Yn ddiweddar, ymwelais â CAF yn fy etholaeth, lle bydd llawer o'r trenau newydd yn cael eu hadeiladu, ac rydym yn falch iawn o gael y cyfleuster hwnnw yn Nwyrain Casnewydd. Mae Casnewydd hefyd yn arwain y ffordd o ran datgarboneiddio ein rhwydwaith bysiau, gyda chyflwyno 12 bws trydan yn lle bysiau petrol neu ddisel hŷn i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cyflawni ei rhwymedigaethau newid hinsawdd.

Rwy'n falch iawn hefyd bod Cymru'n parhau i fod yn un o'r gwledydd ailgylchu gorau yn y byd. Yn ôl yn 1998-99, y gyfradd ailgylchu oedd 4.8 y cant. Nawr, diolch i £1 biliwn o fuddsoddiad ers datganoli mewn ailgylchu trefol, cyrhaeddodd y gyfradd 65.2 y cant ym mis Tachwedd y llynedd, gan ragori ar y targed statudol, sef 64 y cant. Mae 16 o 22 awdurdod lleol Cymru wedi rhagori ar y targed statudol o 64 y cant, gyda rhai awdurdodau lleol wedi rhagori ar darged 2024-25 o 70 y cant. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n gosod Cymru'n gyda'r arferion gorau unrhyw le yn y byd.

Felly, Dirprwy Lywydd, rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol, hyd yn oed yn wyneb y cyfyngiadau ar wariant cyhoeddus a'r anawsterau ariannol a grëwyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Ond mae un peth rwy'n credu sy'n gwbl glir—gallai Llywodraeth Cymru wneud cymaint mwy. Gallai Cymru fod gymaint yn well pe bai gennym ni Lywodraeth Lafur yn y DU, gyda gwir bartneriaeth wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol ac wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid hinsawdd ar ddau ben yr M4. Rwy'n obeithiol iawn y byddwn yn y sefyllfa honno cyn hir.

17:20

Prif Weinidog, mae nifer o feysydd o gytundeb rhwng ein pleidiau, a nifer o agweddau ar y fargen lywodraethu a chydweithio lle gwelwn gytgord. Rwy'n croesawu'r cynnydd rydych chi wedi'i amlinellu, yn enwedig mewn perthynas â phethau fel y cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer ein pobl ifanc â phrofiad o ofal, rhoi diwedd ar elw mewn gofal, cyfyngu ar adeiladu ffyrdd, ymateb i'r sefyllfa yn Wcráin a oedd mewn gwirionedd yn gwbl wych yn ystod y flwyddyn gyntaf honno, a phrydau ysgol am ddim, ymhlith eraill. Ond gobeithio nad oes ots gennych chi, mae fy nghyfraniad byr iawn ychydig fel brechdan—mi wnaf i'r darn braf, yna'r darn yn y canol, a allai fod ychydig yn feirniadol, ac yna fe ddof yn ôl i'r darn braf.

Felly, a gaf i godi ambell i fater, os yw hynny'n iawn, lle credaf fod angen cynnydd pellach arnom ni—gofal iechyd a deintyddiaeth? Rydym ni wedi gwneud cynnydd mawr. Rydym ni wedi gweld y ddadl yma yn y Siambr yn edrych ar ddeintyddiaeth a'r hyn y gallwn ei wneud i'w wella. Ond rydym ni'n dal i wybod bod miloedd o bobl yng Nghymru nad ydyn nhw'n gallu cael apwyntiad deintydd o hyd. Cefais y ffigurau ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ddiweddar, ac maen nhw wedi cynyddu. Rydym ni bellach yn gweld 5,000 o bobl ym Mhowys yn aros am ddeintydd, gyda 300 a mwy ohonyn nhw'n blant. Felly, mae gennym ni ychydig o ffordd i fynd o hyd gyda deintyddiaeth.

O ran newid hinsawdd, fe sonioch chi am hynny, Prif Weinidog, sef her fwyaf y Senedd hon, ac yn wir yr holl seneddau ledled y byd. Ac eto fe ddywedodd adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd nad yw Cymru ar y trywydd iawn eto i gyrraedd ei thargedau ar gyfer ail hanner y degawd hwn a thu hwnt. Mae gennym ni broblem yma gyda phyllau glo yng Nghymru sy'n dal i gloddio, gyda Ffos-y-fran a Glan Lash, a byddai'n wych gweld mwy o gynnydd ac ymatebion llawer cryfach i'r pyllau glo hynny sy'n dal i gloddio glo.

Ac yna cartrefi, cartrefi cymdeithasol. Mae'n wych gweld y 2,500 o gartrefi cymdeithasol, ond mae hynny'n is na'r angen. Mae angen i ni weld llawer mwy o ymateb ac yn llawer cyflymach. Mae angen i ni weld bod yna ymatebion effeithiol i bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd. A byddai'n wych gweld, cyn gynted â phosibl, ail-ddechrau y rhaglen Cartrefi Cynnes yn y dyfodol. Mae gennym ni sefyllfa gyda'n cartrefi lle nad ydyn nhw wedi'u hinswleiddio o hyd. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen: byddai'n cymryd 135 mlynedd i inswleiddio pob cartref lle mae tlodi tanwydd yng Nghymru ar gyfradd y ddarpariaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae gwir angen i ni gyflymu hynny.

I orffen, rwy'n falch ac yn hapus o fod yn Aelod o'r Senedd hon, lle rwy'n teimlo bod gwleidyddiaeth yn fwy caredig, lle mae pobl yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau newid i bobl Cymru, a lle mae arnom ni eisiau bod yn fwy uchelgeisiol, mae arnom ni eisiau bod yn ysbrydoledig, ac mae arnom ni eisiau bod yn gadarnhaol. Mae angen i ni gysylltu'n well â'n pleidleiswyr, a dyna pam rydw i'n mynd i orffen gyda'm hoff bwnc o ddiwygio etholiadol. Rydym yn edrych ymlaen at system bleidleisio llawer gwell yma yn y Senedd. Nid yw cystal ag y gall fod, fel y gwyddoch chi—a byddaf yn dal i siarad am y bleidlais sengl drosglwyddadwy a sut mai dyna'r un gorau—ond bydd yn cyflwyno, gobeithio, system llawer mwy cyfrannol a bydd, gobeithio, yn cyflwyno Senedd gytbwys o ran rhywedd yma y flwyddyn nesaf hefyd. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Diolch i'r Prif Weinidog a'r Llywodraeth am gyflwyno hyn heddiw, i gael y cyfle i drafod adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru cyn toriad yr haf, bron hanner ffordd drwy'r tymor pum mlynedd hwn yn y Senedd—onid yw amser yn hedfan—ac, o bosib, gyda chynigion diwygio'r Senedd, yn y Senedd ddiwethaf i'w llunio fel yr ydym yn ei hadnabod ar hyn o bryd, ac yr ydym ni wedi ei hadnabod, ers ei sefydlu yn 1999.

Yn bersonol, mae'r dadleuon hyn yn ddefnyddiol i mi, gan ei fod yn gyfle gwych i aelodau meinciau cefn fel fi gael cyfle i drafod gyda'r Llywodraeth rai o'r materion mwyaf sy'n wynebu Cymru. Er bod gwrthwynebwyr i'r egwyddor o ddatganoli mewn rhai carfanau o gymdeithas, dydw i ddim yn un ohonyn nhw. Fy ymateb syml i'r syniad hwnnw yw bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y materion sy'n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl ledled Cymru, o iechyd a gofal cymdeithasol, ein cynghorau lleol, ffyrdd, trafnidiaeth, trenau, bysiau, tacsis, darpariaeth gofal plant—gallwn fynd ymlaen—ond y pwynt rwy'n ei wneud yw bod egwyddor datganoli, a'r penderfyniadau allweddol sy'n cael eu gwneud yn agos at adref, yn syniad gwych ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno â hynny. Ond y peth mawr am hyn oll yw ein bod wedi cael yr un bobl yn gyfrifol am Gymru ers cychwyn datganoli, er mawr anfantais i'r rhan fwyaf o'r boblogaeth y mae'r fan yma yn ei wasanaethu.

O dan 24 mlynedd o Lywodraeth Lafur, wedi'i gynnal gan Blaid Cymru, rydym ni wedi gweld amseroedd aros y GIG yn cynyddu, safonau addysg yn dihoeni ar waelod tablau cynghrair y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ar draws gwledydd y DU, lefelau gwael o adeiladu tai er gwaethaf poblogaeth gynyddol dros y chwarter canrif ddiwethaf, a seilwaith ffyrdd yn methu â chadw i fyny â gofynion modern. Gallaf gyfeirio at y ffaith mai dim ond dwy fwrdeistref yn Llundain—ie, dwy fwrdeistref yn Llundain—sydd â mwy o bwyntiau gwefru ceir trydan na sydd gan Gymru gyfan, er gwaethaf y cynnydd yn y defnydd o gerbydau trydan ar draws y wlad. Fel y dywed Peter Fox, yn syml, nid yw'r cyhoedd yng Nghymru yn derbyn yr esgus o ddal i bwyntio eich bysedd i lawr yr M4 i San Steffan a beio 'y Torïaid cas' am holl ddiffygion y Llywodraeth.

Pleidleisiodd y cyhoedd yng Nghymru dros ddatganoli yn 1997; fe wnaethon nhw hefyd bleidleisio dros bwerau deddfu yn 2011. Ond yr hyn y gwnaethon nhw bleidleisio drosto hefyd yw'r atebolrwydd sy'n dod gydag awdurdod, ac yn syml, dydyn nhw ddim yn gweld tystiolaeth o gyflawni hyn. Ac yn etholiadol, mae'n dangos: ers 2007, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ennill a chynnal llawer o etholaethau a rhanbarthau'r Senedd—yn fwyaf diweddar, fy etholaeth yn Nyffryn Clwyd yn 2021. Ac fel yr wyf wedi crybwyll mewn dadleuon blaenorol, mae hyn oherwydd bod y Cymry'n gweld, drostynt eu hunain, ddiffygion y Blaid Lafur yng Nghymru ac yn eu gwrthod yn bendant ledled y wlad, ar wahân i, wrth gwrs, eu cadarnleoedd yn ne Cymru a'r Cymoedd. Ond nid yw hyn yn ein rhwystro. Nid yw hynny'n dileu uchelgais fy mhlaid i roi gwybod i'r cyhoedd yng Nghymru am realiti Llafur yng Nghymru a sut maen nhw'n ein siomi ym mron pob cymhwysedd datganoledig.

Rwy'n gallu gweld hyn fy hun yn fy etholaeth fy hun wythnos ar ôl wythnos, gyda phroblemau Betsi Cadwaladr flwyddyn ar ôl blwyddyn, sydd yn ôl dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ers mis Chwefror. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, cysylltodd etholwr â mi i roi gwybod i mi am aros 55 awr—ie, 55 awr—am wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae hynny'n amser ofnadwy i ddisgwyl. Rydym ni wedi gweld prif weithredwyr yn mynd a dod, aelodau'r bwrdd yn cael eu diswyddo gan y Gweinidog iechyd, cyfrifyddu twyllodrus gan rai o'r swyddogion gweithredol ar y cyflogau brasaf yn y wlad, yr adroddiad fasgwlar gwael yn ddiweddar, camdriniaeth mewn unedau iechyd meddwl, adroddiad y Gwasanaeth Cynghori Iechyd a Gofal Cymdeithasol, adroddiad Donna Ockenden, a'r methiant i adeiladu ysbyty gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl ar ôl degawd o dorri addewidion i fy etholwyr yn y Rhyl, Prestatyn a'r ardaloedd cyfagos. Ac mae'r Blaid Lafur yn meddwl tybed pam eu bod wedi colli ffydd ar draws y gogledd.

Nid wyf am ddefnyddio hyn fel amser dim ond i feirniadu; mae angen atebion arnom ni hefyd ac mae angen datrysiadau. [Torri ar draws.] Dyma'r darn gorau. Yr hyn y mae angen i ni ei weld yw bod gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol yn dod yn fwy deniadol i ddarpar ymgeiswyr trwy hyfforddiant, goresgyn rhwystrau a rhagolygon gyrfa i'r rhai sy'n dyheu am symud i fyny'r graddfeydd cyflog a gwella'r gofal a dderbynnir, a strwythur dibynadwy yn y sector i gefnogi'r uchelgeisiau hynny. A lle mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnydd yn y cyflog byw go iawn, credwn fod angen i hyn fynd ymhellach, denu pobl i'r sector, poblogi'r gweithlu gyda darparwyr gofal cymdeithasol, a helpu'r GIG i ryddhau gwelyau llawn a lleihau amseroedd aros, gan fod cysylltiad cynhenid rhwng y ddau sector. Yr hyn y mae angen i ni ei weld yw llai o rethreg gan y Llywodraeth, cysylltu'r ddau sector a darparu cynllun pendant ar gyfer y dyfodol ar sut y bwriedir cyflawni hyn. Ac rwy'n deall yn llwyr yr heriau wrth wneud hynny: mae 99 y cant o'r ddarpariaeth gofal iechyd ledled Cymru yn dod o dan y sector cyhoeddus, tra bod gofal cymdeithasol wedi ei rannu rhwng y sector preifat, trydydd sector ac elusennol. Felly, dyna'ch her. Mae hynny'n esbonio'r rheswm dros fod angen mwy na geiriau yn unig, ond camau gweithredu ar sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r broblem hon, a fydd ond yn cynyddu dros amser gyda ni yn gymdeithas sy'n heneiddio.

Felly, i gloi fy sylwadau, Dirprwy Lywydd—

17:30

Wnaf i ddim trethu eich amynedd ymhellach. Mae'n bryd wynebu'r her, torchi llewys, a dysgu realiti'r heriau amrywiol a dwys y mae Cymru'n eu hwynebu yn 2023 a thu hwnt. Diolch.

Mae'r heriau y mae pobl Islwyn a Chymru yn eu hwynebu, mewn blwyddyn, rwy'n credu, bellach o dri Phrif Weinidog trychinebus ar y DU, yn real ac yn llethol. Maen nhw'n llethol o ran amser, o ran straen, o ran iechyd meddwl, ac o ran oriau gwaith a ddioddefir gan ein dinasyddion. Ac rydym ni i gyd yn dioddef argyfwng byw Torïaidd, neu argyfwng anallu-i-fyw, o olyniaeth dila, drychinebus o Lywodraethau hunanol a di-sylwedd y DU. Mae cyflwr y cenhedloedd a'n pobol mewn argyfwng, ac nid damwain mohono—mae'n ganlyniad i gyfres o bolisïau dethol y DU, newidiadau polisi bwriadol a wnaed gan Dorïaid San Steffan sy'n cael eu gyrru gan ideoleg.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau, serch hynny, i fod ar flaen y gad o ran cefnogaeth a gobaith i'm hetholwyr, a dyma rwy'n ei glywed bob dydd. Mae 2,500 o gartrefi fforddiadwy; 1,000 o gartrefi nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn cartrefi o ansawdd da; 35,000 o bobl wedi cefnogi llety dros dro ers mis Mawrth 2020; 28,000—

Os hoffech chi wrando, Janet—. Mae 28,000 o brentisiaethau pob oed; mae 20,000 o bobl ifanc wedi cael cefnogaeth ar warant y person ifanc; prydau ysgol am ddim cyffredinol mewn ysgolion cynradd, gan ddechrau gyda'r ieuengaf; a'r rhaglenni ysgolion mwyaf uchelgeisiol, delfrydgar, yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer ein pobl ifanc, er gwaethaf £1 miliwn affwysol o gyfalaf ar gyfer eleni. Ac yn wahanol i Jeremy Hunt a Michael Gove—rwy'n eich cyfeirio at y pamffled a ysgrifennon nhw ddim mor bell yn ôl—Llywodraeth Lafur Cymru sy'n amddiffyn syniad gwleidyddol Llafur o ofal iechyd cyffredinol yn rhad ac am ddim lle mae ei angen. Dyma ni. Mae record Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn ganmoladwy, o dan y cyni anoddaf a grewyd gan y DU.

Ond rydym ni i gyd yn gwybod bod cymaint mwy i'w wneud, ac mae angen y fformiwla gyllidol gywir, a hefyd y parch—y parch—i Gymru wneud hynny. Mae ein rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys cymaint o Filiau a fydd o fantais uniongyrchol i fywydau trigolion Islwyn, ac, yn arbennig, y deddfau diwygio ynghylch diogelwch tomenni glo a thomenni gwastraff. Bydd y cynnig hwn gan Lywodraeth Cymru yn sefydlu cyfundrefn gyntaf yn y byd ar gyfer rheoli tomenni segur yn oes newid hinsawdd. Ac rwy'n gwybod hefyd o'r ohebiaeth a gaf i am yr awydd i ddod â'r elw o ofal i ben, a'r angen brys am Fil bysiau arfaethedig Llywodraeth Cymru—mae angen i'r olwynion ar y bysiau hynny droi eto.

Gweinidog, er cymaint y gall Llywodraeth Lafur Cymru—i gloi—effeithio er gwell ar fywydau pobl Cymru, mae'n dal i weithredu o fewn fframwaith pneodol, hynafol, gyda Llywodraeth Dorïaidd adweithiol yn y DU, y mae ei pholisïau ariannol wedi achosi'r anallu hwnnw i fyw, o'r math mwyaf difrifol a welwyd mewn cof byw. Yr anrheg fwyaf, rwy'n credu, y gallai Prif Weinidog y DU fyth ei rhoi i bobl Cymru fydd, ie, galw etholiad cyffredinol democrataidd, a chaniatáu i bobl Cymru ethol Llywodraeth y DU a fyddai'n rhoi cyfle teg i Gymru a'i phobl, Llywodraeth Lafur i wneud i'r olwynion ar ein bws yn y DU fynd rownd a rownd unwaith eto, ac i wirioneddol—wirioneddol—wir ddiwallu anghenion pobl ein Teyrnas Unedig a Chymru. Diolch, Llywydd.

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. A gaf i ddiolch i'm cyd-Aelodau Llafur John Griffiths a Rhianon Passmore am y ffordd y gwnaethon nhw sôn am gyflawniadau'r Llywodraeth Lafur hon, ym maes trafnidiaeth, ailgylchu, tai, iechyd, diogelwch tomenni glo a'r holl bethau eraill hynny sy'n wirioneddol atseinio ym mywydau pobl ledled Cymru? 

A gaf i ddweud diolch hefyd i Rhun ap Iorwerth am beth y dywedodd e, am y nodyn positif y gwnaeth e ddechrau arno am y pethau rŷm ni yn rhannu yn y rhaglen deddfwriaethol? 

Bydd y Llywodraeth yn derbyn y gwelliant cyntaf a gynigiwyd yn enw Heledd Fychan y prynhawn yma, Llywydd. Mae'n nodi'r cynnydd rydym ni wedi'i wneud yn y cytundeb cydweithio, ac rydym yn falch o'i gefnogi. Dechreuodd yr ail welliant mor dda hefyd, cyn taflu ei hun oddi ar y dibyn yn ei hanner brawddeg olaf, gan gymryd, mae arnaf ofn, gweddill ei phlaid i lawr y pydew hwnnw o annibyniaeth, a hyrwyddir mor aml gan Blaid Cymru, ond byth mewn ffordd sydd wedi argyhoeddi poblogaeth Cymru i'w dilyn.  

17:35

Yn gynharach y prynhawn yma, fe wnaethoch chi sôn am rym y DU. Fe wnaeth hynny wneud i ni feddwl 'Ble mae grym y DU o ran arbed swyddi yn yr holl lefydd hynny y mae swyddi wedi'u colli yn ddiweddar, wrth achub teuluoedd Cymru rhag yr argyfwng costau byw a'r cynnydd mewn morgeisi?' Ble mae'r grym yna y gallem fod yn gyfrifol am reoli ein hunain yma yng Nghymru? 

Felly, mae grym y DU, Llywydd, yn bodoli yn y potensial ar gyfer y Llywodraeth Lafur nesaf honno. Dyna lle roeddwn i'n anghytuno cymaint ag ef. Mae e wedi wfftio'r Llywodraeth Lafur nesaf cyn iddi gael ei hethol hyd yn oed. Mae eisoes yn siomedig ynddi cyn iddi fynd drwy'r drws hyd yn oed. [Chwerthin.] Wel, dydw i wir ddim yn rhannu'r ymdeimlad yna o besimistiaeth benderfynol—[Torri ar draws.] Wrth gwrs. 

Felly, yr hyn rydych chi'n ei ddweud yw: gadewch i etholwyr Lloegr benderfynu ar ein tynged.

Na. Rwy'n dweud gadewch i bobl y Deyrnas Unedig ethol y Llywodraeth Lafur nesaf honno a bydd pobl Cymru yn gwneud y cyfraniad mwyaf i'r Llywodraeth honno o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Dyna pam rydym ni'n falch o fod yn y blaid rydym ni ynddi ac i fod yn y wlad rydym ni ynddi hefyd. 

Dirprwy Lywydd, gadewch imi orffen gyda chyfraniadau gan y Blaid Geidwadol. Gareth Davies, o blaid datganoli ond nid democratiaeth. Mae'n gyfuniad gwych. A Peter Fox, wel, bod mor siriol sy'n ei gadw i fynd. [Chwerthin.] Rydyn ni'n gwybod hynny. Y gyfres drist honno o chwedlau gweigion y cawn ni gan y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n credu, Llywydd, rhywle yng nghrombil swyddfa Plaid y Ceidwadwyr Cymreig, fod araith a ysgrifennwyd ar felwm, mae'n debyg, mae mor hen erbyn hyn, sy'n cael ei dwyn allan yn flynyddol ar gyfer y ddadl hon. Mae'r un peth yn cael ei dweud bob blwyddyn. Yr unig beth sy'n wahanol ynddo yw lle mae'n rhaid iddyn nhw groesi '10 mlynedd o Lywodraeth Lafur', '15 mlynedd o Lywodraeth Lafur', '20 mlynedd o Lywodraeth Lafur' [Chwerthin.] Dyna'r unig beth sydd ganddyn nhw i'w ddweud bob blwyddyn. Maen nhw wedi dweud hynny eto y flwyddyn hon. Bydd yn cael yr un effaith. Byddwn yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn ac yn galw ar y Senedd, wrth gwrs, i gefnogi'r cynnig o'ch blaen y prynhawn yma. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio, a gohiriaf bob pleidlais bellach o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn awr yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Pleidleisiwn yn awr ar eitem 7, a galwaf yn gyntaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 16 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i dderbyn. 

17:40

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 38, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn, felly mae gwelliant 2 wedi'i wrthod. 

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, felly mae gwelliant 3 wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM8325 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

1. Yn nodi:

a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2022/23;

b) y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen ddeddfwriaethol.

2. Yn croesawu'r cynnydd parhaus a wnaed fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi nifer o bolisïau trawsnewidiol ar waith fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru. Cynnig (wedi'i ddiwygio): O blaid: 39, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 17:42.