Y Cyfarfod Llawn
Plenary
14/06/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Ar y cychwyn fan hyn, hoffwn hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw.
Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joel James.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y gweithwyr GIG sydd wedi cael mynediad at hyfforddiant drwy Academi Cymru? OQ59633
Diolch. Mae Academi Cymru yn darparu amrywiaeth o ymyriadau arweinyddiaeth i arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Yn 2022, roedd 2,502 o gynrychiolwyr i gyd, gydag 1,057 ohonynt yn staff y GIG. Ar gyfer chwarter cyntaf 2023, mae cyfanswm o 946 o gynrychiolwyr wedi cymryd rhan hyd yn hyn, gyda 292 o'r cynrychiolwyr hynny o'r GIG.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae Academi Cymru wedi’i chynllunio i drawsnewid y wlad hon drwy ragoriaeth mewn arweinyddiaeth, ond oherwydd pandemig COVID, mae arweinwyr ein sector cyhoeddus bellach yn wynebu heriau nad ydynt erioed wedi’u hwynebu o’r blaen. Rwy’n meddwl yn benodol am ein harweinwyr yn y GIG, a sut mae’n rhaid iddynt ymdrin â chymhlethdod cynyddol o anghenion iechyd, prinder gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn llawer o sectorau ac ardaloedd daearyddol, a phoblogaeth sy’n heneiddio, y mae gan lawer ohonynt gyflyrau iechyd cronig, i enwi ond ychydig. Mae Academi Cymru yn rhestru ystod o hyfforddiant arweinyddiaeth sy'n canolbwyntio ar fyrddau iechyd, datblygu staff a hyfforddiant rheoli, sy'n setiau sgiliau safonol y mae eu hangen ar arweinwyr. Ond nid yw'n ymddangos bod unrhyw hyfforddiant penodol ar gael ar ymdrin â'r heriau i'r GIG mewn byd ôl-COVID. Weinidog, a ydych wedi herio Academi Cymru i lunio’r math hwn o hyfforddiant, a beth yw dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr y GIG? Diolch.
Rwy’n ddiolchgar iawn i Joel James am y cwestiwn hwn y prynhawn yma, a hefyd am gydnabod Academi Cymru fel y ganolfan ragoriaeth ag ydyw o ran datblygu arweinyddiaeth yng Nghymru. Felly, mae gan Academi Cymru amrywiaeth o ymyriadau arweinyddiaeth, gan gynnwys hyfforddi, dosbarthiadau meistr, rhaglenni, ac ysgolion preswyl, ac edrychaf ymlaen yn fawr at yr ysgol haf yn Llanbedr Pont Steffan yn nes ymlaen eleni. Ond dylwn ddweud bod staff y GIG yn un o’r cynulleidfaoedd targed allweddol ar gyfer Academi Cymru, ac mae'n gweithio’n uniongyrchol gyda’r GIG ar gyfer rhai o’u rhaglenni, gan gynnwys, er enghraifft, hyfforddiant sefydlu aelodau annibynnol, ac mae hynny’n rhan o ymdrechion Academi Cymru i wella a chryfhau arweinyddiaeth ar lefel bwrdd ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Nid Academi Cymru yw’r unig le y bydd staff y GIG yn cael hyfforddiant wrth gwrs. Ceir ystod eang o hyfforddiant drwy’r GIG ei hun, gan gynnwys datblygiad proffesiynol ar draws ystod o lwybrau, gan gynnwys popeth o hyfforddiant seiliedig ar waith i gyrsiau arbenigol. Felly, credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod arweinyddiaeth o fewn ethos yr un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig hwnnw’n cael cryn dipyn o gymorth ac y darperir ar ei gyfer drwy Academi Cymru, ond yn sicr, mae gan y GIG ran bwysig i’w chwarae. Ac i mi, mae'n bwysig fod y ddwy ffordd o ddysgu a ffyrdd o gefnogi datblygiad arweinyddiaeth yn ategu ei gilydd. Ond diolch am eich cwestiwn—nid yn aml y cawn sôn am Academi Cymru ar lawr y Senedd. Mae’n un o feysydd mwy llawen fy mhortffolio, ac yn agenda wirioneddol gyffrous.
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am adeiladau gwag sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon? OQ59634
Gwnaf. Hen adeilad swyddfa Llywodraeth Cymru yng Ngogledd Penrallt yw’r unig adeilad gwag sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru yng Nghaernarfon. Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi ysgrifennu at gyngor sir Gwynedd ar y mater hwn, ac mae swyddogion mewn trafodaethau gyda’r cyngor ar hyn o bryd i sicrhau bod yr adeilad yn ôl mewn defnydd buddiol eto cyn gynted â phosibl.
Diolch yn fawr. Mae swyddfeydd y Llywodraeth ym Mhenrallt yn wag ers dwy flynedd, ac mae'r cyngor a chymdeithas dai leol yn awyddus i ddefnyddio'r adeilad ar gyfer cynnig llety dros dro i bobl sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref. Ym mis Mai, fe gyflwynodd 107 o bobl eu hunain yn ddigartref yng Ngwynedd. Mae'r sir yn gwario £6 miliwn ar lety anaddas, gan nad oes yna ddigon o lefydd dros dro ar gael. Mi fyddai yna le i dros 30 o bobl ym Mhenrallt, safle sydd yng nghanol tre Caernarfon. Onid ydy hi'n gwneud synnwyr, o ran y defnydd effeithiol o adnoddau cyhoeddus—sydd yn rhan o'ch portffolio chi, i sicrhau'r defnydd effeithiol o adnoddau cyhoeddus—yn ogystal â llu o rhesymau eraill, i symud ymlaen efo'r cynllun yma? A wnewch chi ymrwymo heddiw i wneud popeth yn eich gallu er mwyn prysuro'r cynllun yma yn ei flaen?
Rwy’n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwn y prynhawn yma hefyd, a hoffwn roi sicrwydd i Siân Gwenllian ein bod yn ceisio sicrhau bod unrhyw waith ailddatblygu ar y safle yn darparu tai newydd a fforddiadwy i leddfu’r pwysau presennol o ran tai yn yr ardal. Rydym yn ymwybodol iawn o’r effeithiau negyddol sylweddol y mae adeiladau gwag yn eu cael ar yr amgylchedd lleol, ac yn enwedig felly yng nghanol ein trefi.
Gallaf ddweud bod cyfarfod wedi’i drefnu rhwng uwch swyddogion Llywodraeth Cymru a phrif weithredwr cyngor sir Gwynedd, a’i swyddogion, ddydd Llun yr wythnos nesaf. Gobeithio y bydd hwnnw'n gyfle inni wneud cynnydd a chytuno ar ffordd ymlaen. Nid ydym wedi cael unrhyw argymhellion gan swyddogion ar y pwynt hwn mewn perthynas â gwaredu'r adeilad i gyngor sir Gwynedd, gan fod angen cynnig mwy manwl arnom na'r hyn sydd wedi'i gyflwyno hyd yma, a hynny oherwydd fy mod yn credu y bydd angen cymorth grant sylweddol ar unrhyw gynigion. Felly, mae’n rhaid i unrhyw geisiadau am gyllid o’r fath fynd drwy broses drylwyr iawn, a hynny i raddau helaeth er mwyn archwilio gwerth am arian.
Ond credaf ein bod yn cytuno bod angen i'r adeilad gael ei ddefnyddio cyn gynted â phosibl, ac yn cydnabod bod defnydd preswyl yn ddefnydd da iawn ar gyfer y safle hwnnw, a bod ei angen yn fawr. Felly, gobeithio y bydd y cyfarfod ddydd Llun yr wythnos nesaf yn gynhyrchiol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rwyf wedi sôn o’r blaen am faterion sy'n ymwneud â cham-drin gwleidyddion, yn benodol, cynghorwyr sy’n gwasanaethu mewn llywodraeth leol. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r adroddiadau ddoe fod dirprwy arweinydd cyngor Ynys Môn wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu,
'Dylai pob Tori gael ei saethu.'
Bydd pob un ohonom yn ymwybodol, wrth gwrs, fod dau AS wedi cael eu llofruddio yn eu rôl fel seneddwyr dros y saith mlynedd diwethaf yn y DU—un Llafur ac un Ceidwadol. Mae'n drais gwirioneddol a llythrennol, a dylid condemnio unrhyw ymgais o'r fath i annog trais o'r fath yn y termau cryfaf yn fy marn i. Byddwn yn dweud bod yr iaith a ddefnyddiodd Ieuan Williams yn anweddus, ac yn creu awyrgylch aflan o amgylch ein gwleidyddiaeth, yn enwedig gan rywun mewn rôl arweiniol, ac sydd bellach wedi rhoi’r gorau i'w swydd fel dirprwy arweinydd cyngor Ynys Môn, fel rwy'n dweud. Wrth gwrs, nid dyma'r tro cyntaf yn y misoedd diwethaf i gynghorydd wneud hyn. Clywsom yn gynharach eleni am gynghorydd Plaid Cymru yng Nghaerffili yn cael tynnu ei lun gyda gwn ac yn postio am saethu Saeson. Felly, Weinidog, a wnewch chi roi eich barn ar y mater penodol hwn ar Ynys Môn, a mater ehangach camdriniaeth mewn gwleidyddiaeth?
Ie, rwy’n ddiolchgar iawn i Sam Rowlands am godi hyn, ac mewn gwirionedd, mae’n bwnc y mae’n dychwelyd ato’n aml yng nghwestiynau’r llefarwyr, sy’n bwysig iawn yn fy marn i, gan ei fod yn bwnc sy'n mynd y tu hwnt i linellau pleidiau gwleidyddol, ac yn un lle mae'n rhaid i bob un ohonom sefyll ochr yn ochr yn erbyn unrhyw fath o gamdriniaeth. Mae dadl iach yn fendigedig; mae'n bwysig iawn gallu herio ein gilydd, ond gan wneud hynny hefyd mewn ffordd sy'n barchus.
A chredaf fod yr unigolyn dan sylw wedi gofyn i bwyllgor safonau’r awdurdod lleol edrych ar yr hyn a ddigwyddodd. Yn sicr, credaf mai dyna’r ffordd briodol ymlaen, gan fod prosesau ar waith i ymchwilio i achosion posibl o dorri codau ymddygiad, a chredaf ei bod yn bwysig fod y broses honno'n mynd rhagddi nawr. Ond mae sancsiynau am dorri'r cod ymddygiad, a gallant amrywio o gerydd i atal dros dro neu wahardd rhag bod yn gynghorydd am gyfnod o hyd at bum mlynedd. Felly, mae’n fater difrifol.
Mae’n rhoi cyfle imi ddweud ein bod yn ymgynghori ar god ymddygiad diwygiedig ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n addas i’r diben ar gyfer ennyn ymddiriedaeth yn y safonau ymddygiad uchaf ar gyfer cynghorwyr. Ac yn amlwg, hoffwn annog fy nghyd-Aelodau i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad hwnnw, a sicrhau'n enwedig ei fod yn addas i'r diben gyda phob un o'r gwahanol bethau y mae'n rhaid inni ymdrin â nhw y dyddiau hyn, er enghraifft bygythiadau ar-lein a chamdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Diolch am eich ymateb. I ymhelaethu ychydig ymhellach ar y mater, oherwydd yn y digwyddiad penodol hwnnw, ymddengys hefyd fod prif weithredwr y cyngor yn y cyfarfod lle gwnaed y sylwadau, ac mae'n ymddangos bod y prif weithredwr wedi gofyn i'r sylwadau hynny beidio â chael eu cynnwys yn y cofnodion. Byddwn yn dweud bod hyn yn syfrdanol, a dweud y lleiaf, oherwydd wrth gwrs, byddai pob un ohonom o blaid ac yn awyddus i bobl godi eu llais pan fydd pethau fel hyn yn digwydd, yn hytrach na cheisio eu cuddio. Rydych newydd sôn am yr ymgynghoriad ar god ymddygiad diwygiedig, ond a gaf fi ofyn tybed pa adnoddau a pha gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi staff a chynghorwyr pan fyddant yn ymdrin ag ymddygiad ymosodol a gelyniaeth, yn enwedig yn wyneb y digwyddiadau y clywsom amdanynt ddoe?
Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ond hefyd gydag Un Llais Cymru, gan y gwyddom fod lefelau camdriniaeth yn peri pryder cynyddol i aelodau cynghorau tref a chymuned yn ogystal â'r prif gynghorau. Ac rydym wrthi'n gweithio ar ddatblygu hyfforddiant ar y cod ymddygiad, fel bod awdurdodau lleol a’r rheini sy'n cael eu hethol i wasanaethu ar gynghorau yn ymwybodol o gyfrifoldebau’r partneriaid amrywiol sy’n cyflawni rolau ar y cyrff hynny, ond hefyd y ffyrdd y gallant gael cymorth, o ran CLlLC, yr adnoddau gan y cyngor lleol yn ogystal â'r mecanweithiau cymorth hynny y tu hwnt i'r cyngor ffurfiol hefyd. Felly, credaf fod ffocws cryf iawn ar hyn bellach, ac mae'n rhan bwysig iawn o waith fy swyddogion yn yr adran llywodraeth leol.
Diolch am eich ymateb unwaith eto, Weinidog. Yn sicr, rydym yn cefnogi ymdrechion i sicrhau bod ein staff a'n cynghorwyr mewn awdurdodau lleol yn cael eu paratoi'n briodol.
Hoffwn sôn yn fy nghwestiwn olaf am gynlluniau datblygu lleol. Rwy’n siŵr fod y Prif Weinidog wedi’i siomi ddoe fod fy nghwestiwn yn llawer rhy isel ar y papur trefn i allu codi cwestiwn ar hyn gydag ef ddoe. Ond Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o benderfyniad diweddar cyngor Wrecsam i beidio â chefnogi’r cynllun datblygu lleol a gyflwynwyd gerbron y cyngor. Sylwais fod y Prif Weinidog wedi gwneud sylwadau ar hyn yma yn y Siambr ychydig wythnosau yn ôl, a nodais fod y sylwadau hynny, yn ôl pob golwg, yn gwatwar penderfyniad y cyngor. Yn fy marn i, mae hynny’n gwbl amharchus tuag at ddemocratiaeth leol a’r mandad a gafodd cynghorwyr y llynedd yn yr etholiadau awdurdodau lleol. Fy marn i yw bod democratiaeth yn gweithio orau ar lefel leol, ac os nad yw awdurdod lleol yn dymuno cefnogi rhywbeth, dylai fod ganddynt berffaith hawl i beidio â'i gefnogi. Felly, yn eich barn chi, Weinidog, oni fyddech yn cytuno â mi fod cynghorau lleol a chynghorwyr yn haeddu parch fel y bobl ar lawr gwlad sy’n gwybod beth sydd orau ar gyfer eu cymunedau lleol? A pha gamau y byddwch yn eu cymryd i godi pontydd nid yn unig gyda chyngor Wrecsam, ond gyda phob cyngor i sicrhau eu bod yn cael y cymorth priodol wrth ddatblygu eu cynlluniau datblygu lleol?
Wel, Wrecsam yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru nad oes ganddo gynllun datblygu lleol ar waith, ac yn amlwg, mae honno'n sefyllfa wirioneddol siomedig iddynt fod ynddi. Wrth beidio â mabwysiadu cynllun, mae'n cael gwared ar sicrwydd i gymunedau, i fusnesau, ac i fuddsoddwyr yn Wrecsam. Fe wnaethom ystyried yr adroddiad cadarnhaol gan arolygwyr cynllunio yn dilyn y broses graffu statudol. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn ystyried bod hynny nawr yn ei gwneud hi'n bosibl i’r CDLl yn Wrecsam gael ei fabwysiadu, a gadewch inni gofio ein bod wedi cael 11 mlynedd o baratoi yn Wrecsam ar gyfer y cynllun hwn, a'i fod yn gynllun roedd y cyngor ei hun yn ei ystyried yn gynllun cadarn y gellir ei fabwysiadu, ond eto, nid yw hynny wedi digwydd. Gwn fod adolygiad barnwrol wedi’i lansio gan drydydd partïon yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol i beidio â mabwysiadu’r cynllun, ond mae Wrecsam wedi derbyn yr adolygiad barnwrol hwn yn llawn. Deallaf fod yr awdurdod i fod i ystyried hyn eto ar 14 Mehefin. Rwy'n edrych ar fy oriawr—mae hynny naill ai heddiw neu yfory.
Roeddwn yn mynd i ddarparu eglurder, ac yna sylweddolais nad oeddwn innau'n gwybod ai 13 neu 14 Mehefin yw hi.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Lywydd. Wel, Lywydd, rwy'n clywed pethau sy'n peri cryn bryder gan lywodraeth leol a'r sector digartrefedd ynglŷn â'u gallu i roi mesurau atal digartrefedd ar waith. Mae cynrychiolwyr o’r sector wedi dweud wrthyf fod llawer o gomisiynwyr a darparwyr cymorth wedi treulio’r ddau fis diwethaf yn trafod sut i leihau ac ailfodelu gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai gan nad oes ganddynt arian i barhau i ddarparu gwasanaethau ar yr un lefel ag y gwnaent y llynedd. Mae diffyg unrhyw gynnydd i’r grant cymorth tai yn gorfodi’r sector i dorri gwasanaethau er mwyn talu'r isafswm cyflog, ac mae’r ffigurau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yr wythnos diwethaf yn dangos bod dros 10,000 o bobl bellach mewn llety dros dro, sy'n achosi heriau enfawr i lywodraeth leol a'r sector yn gyffredinol. Mae'r sector bellach dan fwy o bwysau nag erioed. Mae’r gostyngiad tebygol mewn oriau cymorth a darpariaeth gwasanaethau yn peri pryder enfawr, a bydd yr effaith yn cael ei theimlo gan y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Felly, beth yw neges y Gweinidog iddynt hwy ac i'r gweithwyr gwych ar y rheng flaen mewn llywodraeth leol a’r trydydd sector sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd? Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ddarparu cyllid ychwanegol o ddatganiad y gwanwyn Llywodraeth y DU i gynyddu’r grant cymorth tai? A pha flaenoriaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi i’r grant cymorth tai, os gellir dod o hyd i'r arian ychwanegol neu arbedion yn ystod y flwyddyn?
Rwy’n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac am gael achub ar y cyfle hwn, fel y gwnaethoch chi, i gydnabod y gwaith pwysig y mae pobl mewn awdurdodau lleol a’r rhai sy’n rhoi'r cynlluniau hyn ar waith yn ei ddarparu. Fe ddywedaf mai cwestiwn polisi a chyllideb i’r Gweinidog Newid Hinsawdd yw’r cwestiwn hwn mewn gwirionedd. Byddaf yn sicrhau ei bod ymwybodol o’r pryderon hyn. Ond o’m rhan i, yn sicr, fe ddywedaf ein bod wedi cynyddu’r grant cymorth tai 30 y cant yn yr adolygiad o wariant tair blynedd a gynhaliwyd gennym y llynedd ar ddechrau'r cyfnod adolygu gwariant tair blynedd hwnnw, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gynnydd sylweddol.
Nid oedd yn bosibl gwneud rhywbeth tebyg yn ail flwyddyn yr adolygiad o wariant tair blynedd wrth gwrs am fod y ffordd roedd yr arian a ddaeth o San Steffan i Gymru wedi'i broffilio yn golygu ein bod wedi cael y rhan fwyaf ohono ym mlwyddyn 1; mae’n anochel y bydd blynyddoedd 2 a 3 yn llawer anoddach.
Roedd yr arian a ddarparwyd i Gymru drwy ddatganiad y gwanwyn yn hollol bitw. A gadewch inni gofio bod ein cyllideb eleni yn werth £900 miliwn yn llai na phan wnaethom osod ein cyllidebau, ac effaith chwyddiant yw hynny i raddau helaeth. Felly, ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu dyrannu cyllid ychwanegol i bethau newydd. Mae'n ymwneud i raddau helaeth â chael golwg glir ar y pwysau ar draws y Llywodraeth a'r effaith y mae chwyddiant yn ei chael ar ein cynlluniau presennol. Felly, nid wyf am gamarwain unrhyw un ynghylch ein gallu i ddarparu symiau mawr o gyllid ychwanegol ar gyfer pethau newydd, er y byddem yn dymuno gallu gwneud hynny, yn amlwg.
Diolch am eich ymateb. Wrth gwrs, ni sonioch chi am y cynnydd—[Anghlywadwy.]—roedd y gyllideb yn £139 miliwn yn ôl yn 2012, ac yn arian heddiw, mae hynny'n cyfateb i £186 miliwn. Felly, mewn termau real, dyna doriad o £20 miliwn y maent wedi'i gael dros 10 mlynedd i'r grant cymorth tai. Felly, byddai unrhyw arbedion yn ystod y flwyddyn yn cael eu gwerthfawrogi.
Dwi am droi y cwestiwn nesaf tuag at yr Undeb Ewropeaidd a'r pres sydd yn dod o'r Undeb Ewropeaidd. A dwi'n deall fod yna gyfanswm oddeutu £500 miliwn yn dal yn weddill i Gymru o ran y cyllid Undeb Ewropeaidd. Mae gennym ni tan ddiwedd y flwyddyn yma er mwyn sicrhau bod yr arian yma yn cael ei wario yn ei gyfanrwydd. Mae adroddiad diweddaraf Audit Wales ar y mater wedi cadarnhau bod yr arian yma wedi'i glustnodi ond bod angen pigo i fyny'r raddfa o wario yn sylweddol. Mae'r Gweinidog hefyd yn ymwybodol bod angen i fuddiolwyr yr arian yma i wneud yr hawliadau yn derfynol erbyn 7 Gorffennaf i'r Llywodraeth.
Felly, gaf i ofyn i'r Gweinidog, lle rydyn ni arno efo'r arian yma? Oes yna sicrwydd y bydd yr arian yma yn cael eu neilltuo a'i wario? Ac yn olaf, yng nghyd-destun yr hyn a ddywedais i ynghynt o ran rhaglenni aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd ac yng nghyd-destun tai, beth ydy asesiad y Gweinidog o'r effaith o ddiffygion cynnig San Steffan i Gymru o ran y rhaglen cyllid allan o arian Undeb Ewropeaidd a'r cymorth sydd ar gael i ddarparu ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Bydd yr Aelod yn gwybod bod Archwilio Cymru wedi dod i'r casgliad fod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru, er gwaethaf rhai heriau, gan gynnwys oedi a achoswyd gan bandemig COVID-19, wedi llwyddo i ymrwymo holl gyllid grant yr UE a mwy i brosiectau a buddiolwyr.
Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod gennym arian sylweddol ar ôl i'w wario yn ystod 2023, gan reoli risgiau sylweddol i wneud y mwyaf o'r cyllid y gellir ei dynnu i lawr. Gallaf ddweud, serch hynny, ers i'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi, ein bod wedi gwneud peth cynnydd pellach ac wedi gweld mwy o welliant yn y sefyllfa: gyda dim ond £320 miliwn o wariant o'r cronfeydd strwythurol—Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a rhaglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop—yn weddill bellach. Dyna oedd y data yn wythnos gyntaf mis Mehefin, felly byddwn yn disgwyl i'r sefyllfa fod wedi gwella eto ers hynny.
Mae'n amlwg fod y Gweinidog dros faterion gwledig a Gweinidog yr Economi, sy'n gyfrifol am y cynlluniau hyn, yn cadw llygad barcud ar hyn ac yn gyrru'r gwariant yn ei flaen yn y meysydd hynny. Yn amlwg, gallai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus fod â diddordeb yn hyn hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn parchu rôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn hynny o beth. Ond fel y dywedais, mae'r sefyllfa'n gwella, ac mae'n rhywbeth y mae'r ddau Weinidog penodol yn ymwneud yn weithredol iawn ag ef.
Mae'n wir, wrth gwrs, fod yr arian a ddaw i Gymru wedi inni ymadael â'r UE yn hollol bitw o gymharu â'r hyn y byddem wedi'i gael pe byddem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Credaf fod pawb, fwy neu lai, yn derbyn hynny bellach. Ond credaf fod hyn yn ymwneud â mwy na hynny, a bod rhan o'r problemau, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd ati i ddyrannu'r cyllid hwn. Mae mynd drwy lywodraeth leol, mewn rhai achosion, yn gosod rhai rhannau o dirwedd y bartneriaeth sydd gennym yng Nghymru yn erbyn ei gilydd. Rwy'n credu ei fod yn golygu bod y trydydd sector yn teimlo bellach nad yw'n cael effaith mor uniongyrchol ag yr arferai ei chael yn y gorffennol. Yn amlwg, mae'r math o gyllid yn torri allan, mae'n debyg, y ffordd naturiol rydym wedi ymgysylltu ag addysg bellach ac addysg uwch yn y gorffennol. Felly, mae wedi achosi problemau sylweddol yn y ffordd y byddem wedi rhagweld y byddai ein cyllid ôl-UE yn cael ei ddyrannu. Wedi dweud hynny, wrth gwrs y byddwn yn gweithio'n adeiladol, lle gallwn, i sicrhau bod y cyllid hwnnw'n gwneud y budd mwyaf posibl, a byddaf yn cael trafodaethau pellach gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pwynt penodol a godwyd gennych ynglŷn â thai cymdeithasol.
Cwestiwn 3, Rhys ab Owen. Dwi'n disgwyl i feicroffon Rhys ab Owen gael ei droi ymlaen.
Os gall rhywun—. Ie, dyna ni. Diolch, Rhys.
Dadfudais fy hun, Lywydd. [Chwerthin.]
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru ynghylch eu defnydd o bwerau benthyca i ariannu prosiectau cyfalaf? OQ59646
Rwy'n trafod amrywiaeth o faterion ariannol gydag awdurdodau lleol ledled Cymru drwy gyfarfodydd sefydlog rheolaidd a chyfarfodydd eraill. Mater i aelodau etholedig lleol yw penderfyniadau ynglŷn â'u defnydd o'u pwerau benthyca i fuddsoddi mewn blaenoriaethau lleol.
Diolch yn fawr, Weinidog. Yn un o gyfarfodydd diweddar Cyngor Cymuned Sain Ffagan, tynnodd y Prif Weinidog, a oedd yn bresennol yno fel Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd, sylw at y ffaith bod gan lywodraeth leol fwy o bwerau benthyca na Llywodraeth Cymru. Aeth y Prif Weinidog ymlaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn ystyried a allai llywodraeth leol ddefnyddio'r pŵer benthyca hwnnw, a bod Llywodraeth Cymru wedyn yn talu'r llog yn ôl ar yr arian a fenthycwyd. I mi, roedd honno'n swnio fel ffordd ddiddorol o ymdrin â'r diffyg cyllid teg i Gymru gan San Steffan ar hyn o bryd. Weinidog, a ydych chi mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar unrhyw rai o'r trafodaethau hyn? Diolch yn fawr.
Diolch am eich cwestiwn. Rydym wedi defnyddio benthyca â chymorth yn y gorffennol i gefnogi awdurdodau lleol gyda rhai o'u rhaglenni cynnal a chadw ffyrdd yn benodol, ac roedd hynny'n debyg iawn i'r model a ddisgrifiwyd gennych, lle byddai Llywodraeth Cymru wedyn yn darparu cymorth refeniw ar gyfer dyledion y benthyca hwnnw. Mae'n rhywbeth y gallwn barhau i gael trafodaethau yn ei gylch. Rydym wedi trafod gydag awdurdodau lleol i weld a allem ddefnyddio hyn ai peidio, er enghraifft ym maes canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol, ond oherwydd y rheolau sydd ynghlwm wrth y materion hyn, byddai'n rhaid iddo fod yn brosiect ym maes gofal cymdeithasol i raddau mwy nag iechyd, felly mae rhai pethau y byddai'n rhaid inni fynd o'u cwmpas er mwyn gallu cyflawni hynny. Wrth gwrs, mae ein diffyg cyllideb refeniw yn her ynddi'i hun.
Felly, rydym yn parhau i gael y trafodaethau penodol hyn gydag awdurdodau lleol. Nid oes gennym unrhyw gynigion pendant ar y bwrdd ar hyn o bryd, ond mae'r pwynt cyffredinol a godwch hefyd yn un pwysig iawn o ran awdurdodau lleol yn cael mwy o bŵer i fenthyca. Felly, caiff faint o fenthyca fforddiadwy y gallai awdurdod lleol ei wneud ei bennu drwy asesiad proffesiynol o'r hyn sy'n fforddiadwy, yn ddarbodus ac yn gynaliadwy ar gyfer amgylchiadau'r awdurdod hwnnw, ac yna caiff hynny ei gyfeirio at y cyngor llawn i'w gymeradwyo. Nawr, credaf fod hwnnw'n fodel a fyddai'n briodol i ni yn y Senedd. Byddai'n fater o Lywodraeth Cymru yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer benthyca darbodus, a'r Senedd wedyn yn craffu ar y cynlluniau hynny a chytuno neu beidio. Dyna'r model yr hoffwn ei weld, yn enwedig gan nad yw ein sefyllfa bresennol o ran ein terfynau benthyca blynyddol a'r swm cyfanredol yn briodol iawn, nid ydynt wedi newid ers 2016, ac nid ydynt wedi ystyried chwyddiant yn y cyfnod hwnnw.
Weinidog, mae pwerau benthyca yn offeryn defnyddiol pan gânt eu defnyddio'n gywir, i wella'r seilwaith, yn amlwg. Ym Mro Morgannwg, mae pentref Dinas Powys wedi cael cryn drafferth gyda'i seilwaith trafnidiaeth oherwydd y ffordd brifwythiennol o'r Barri, sef y dref fwyaf yng Nghymru, i Gaerdydd, sy'n ganolfan gyflogaeth fawr. A oes lle o fewn y pwerau benthyca i'r awdurdod lleol edrych ar brosiectau seilwaith trafnidiaeth mawr yn unochrog, a defnyddio'r pwerau benthyca hynny i ariannu datblygiadau seilwaith o'r fath yn y dagfa allweddol hon sy'n peri cymaint o drallod i drigolion Dinas Powys?
Byddai angen i'r awdurdod lleol fenthyca yn gyfan gwbl o fewn y fframwaith benthyca darbodus. Mae'n caniatáu i awdurdodau lleol fenthyca fel arfer at ddibenion buddsoddi cyfalaf, ac i ailariannu dyledion presennol, ac yna benthyca dros dro at unrhyw ddiben, os oes angen benthyca yn y tymor byr, er enghraifft, os ydynt yn disgwyl derbyn swm cyfalaf mawr. Yna, byddai'n rhaid iddynt gadw at yr arferion priodol a nodir yng nghod materion ariannol y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer cyllid cyfalaf mewn awdurdodau lleol, pan fyddant yn penderfynu ar eu terfyn benthyca. Gofyniad trosfwaol y cod hwnnw, fel roeddwn yn ei ddweud wrth yr Aelod, yw y byddai'n rhaid iddo fod yn ddarbodus, yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy, felly credaf mai mater i'r awdurdod lleol fyddai ystyried ei fenthyca o fewn y cyfyngiadau penodol hynny.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr angen i ddyrannu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i gefnogi trigolion bregus? OQ59662
Rydym wedi darparu dros £3 biliwn o gymorth i'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw, gan gynnwys cymorth a sianelwyd drwy awdurdodau lleol. Rwy'n parhau i ymgysylltu'n agos â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y mater hwn, gan gynnwys drwy ein gwaith fel aelodau o is-bwyllgor y Cabinet ar gostau byw.
Diolch am yr ateb, Gweinidog.
Mae'r diweddariad sydd ar y ffordd i'r strategaeth tlodi plant a drefnwyd ar gyfer yr hydref eleni yn gyfle i feddwl yn uchelgeisiol am y ffyrdd y gellir mynd i'r afael â'r broblem hirsefydlog hon. Wrth gwrs, mae hwn yn gyfrifoldeb a fydd yn ymwneud ag amrywiaeth o bortffolios a chyllidebau'r Llywodraeth. Nawr, gyda setliadau llywodraeth leol o dan bwysau, mae elusennau fel Barnardo's Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i glustnodi cyllid ar gyfer awdurdodau lleol wedi'i gyfeirio at gefnogi plant mewn tlodi, yn ogystal â buddsoddiad pellach mewn gwasanaethau a weinyddir gan lywodraeth leol fel Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Felly, gyda'r strategaeth newydd ar y gorwel, a ydych wedi trafod gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i weld a fydd adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu a'u clustnodi ar gyfer mesurau fel y rhain?
Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid, a chyda dros 3,000 o blant mewn gwirionedd, ar ddarparu'r strategaeth honno, ac yn gweithio hefyd gyda sefydliadau yn y sector. Mae'r strategaeth y byddwn yn ymgynghori arni yn nodi'r hyn rydym wedi'i glywed, yr hyn rydym yn ei wneud am y peth, a lle byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion yn y dyfodol. Y nod wedyn yw cynhyrchu'r strategaeth derfynol honno erbyn diwedd eleni a gweithio gyda phartneriaid i roi'r strategaeth honno ar waith.
Yr hyn y byddwn yn ei ddweud o ran clustnodi cyllid yw bod hynny'n mynd i gyfeiriad gwahanol i'r hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd, felly mae gennym ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i leihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol. Cynhaliodd swyddogion Llywodraeth Cymru nifer o gyfarfodydd pwysig gydag awdurdodau lleol. Rwyf wedi siarad ag arweinwyr, maent hwythau wedi siarad â Chymdeithas Trysoryddion Cymru, ac wedi dod i'r casgliad mai un o'r beichiau gweinyddol mwyaf ar awdurdodau lleol yw'r ffordd rydym yn ymdrin â grantiau. Felly, ar hyn o bryd, rydym wrthi'n adolygu ein grantiau yng Nghymru er mwyn ystyried a ellir symud y grantiau hyn i'r grant cynnal refeniw heb gael effaith ar ddarpariaeth, gan fod rhai o'r grantiau rydym yn ymdrin â nhw yn fach iawn ac yn anghymesur, mae'n debyg, o ran y gwaith a grëir er mwyn gweinyddu'r grantiau hynny. Felly, rydym yn mynd i gyfeiriad gwahanol; mae'n ymwneud mwy â'r berthynas o ymddiriedaeth sydd gennym â llywodraeth leol. Ond wedi dweud hynny, pan fyddwn yn ystyried grantiau unigol, rydym yn gwneud hynny ar ôl cael asesiad effaith llawn, oherwydd yn amlwg, nid ydym eisiau gwneud unrhyw beth sy'n peri niwed i'r bobl rydym yn ceisio'u cefnogi. Felly, mae hwn yn waith sydd newydd ddechrau, ond dylid nodi ein bod yn teithio, yn gyffredinol, i gyfeiriad dadneilltuo yn hytrach na chlustnodi.
Weinidog, yr wythnos diwethaf, dywedodd y comisiynydd pobl hŷn fod yr argyfwng costau byw yn golygu nad yw gweithgareddau sy'n helpu i atal unigrwydd bellach yn fforddiadwy i bobl hŷn. Dywedodd y comisiynydd fod cymorth i grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy'n gweithio i frwydro yn erbyn unigrwydd mor bwysig wrth inni wynebu'r argyfwng costau byw. Weinidog, pa ystyriaethau a roddwyd gennych i ddarparu cyllid wedi'i glustnodi i awdurdodau lleol i'w galluogi i gefnogi grwpiau cymunedol sy'n mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd, yn enwedig wrth i lawer o gynghorau barhau i dorri gwasanaethau fel canolfannau dydd a llyfrgelloedd?
Byddwn yn cyfeirio'r Aelod at y cwestiwn blaenorol mewn perthynas â'n dull o glustnodi cyllid a'r ffaith ein bod yn symud i gyfeiriad gwahanol, mewn gwirionedd, o ran sicrhau'r berthynas honno o ymddiriedaeth ag awdurdodau lleol, gan ddeall mai nhw sy'n adnabod eu cymunedau orau ac nad ydym am wastraffu amser swyddogion drwy ofyn iddynt lenwi ffurflenni pan fydd yn anghymesur i wneud hynny. Felly, rydym yn symud i ffwrdd o'r clustnodi hwnnw lle bo'n bosibl a lle mae'n briodol gwneud hynny—ni fydd yn bosibl ym mhob achos.
Ond mae'r pwynt rydych chi'n ei wneud yn ymwneud â sut rydym yn cefnogi pobl hŷn drwy'r argyfwng costau byw. Rwy'n credu mai un o'r pethau pwysig a wnaethom oedd cyflwyno'r cyllid grant i awdurdodau lleol allu sefydlu canolfannau clyd. Rwy'n gwybod eu bod wedi bod yn gwbl amhrisiadwy i bobl hŷn yn enwedig dros y gaeaf, ond mewn gwirionedd mae rhai o'r canolfannau hynny bellach yn parhau fel mannau croeso, ac maent yn parhau drwy'r haf a thu hwnt o bosibl, i ddarparu lle i bobl fynd iddo—pobl hŷn, wrth gwrs, ond eraill hefyd, i geisio lleddfu rhywfaint o'r unigrwydd a'r ynysigrwydd y mae pobl yn ei deimlo. Unwaith eto, gwn fod honno'n flaenoriaeth go iawn i'r Gweinidog.
5. Beth yw asesiad cyfredol Llywodraeth Cymru o gynnydd o ran cydweithio rhwng awdurdodau lleol? OQ59652
Rwy'n ddiolchgar i bartneriaid awdurdodau lleol am eu gwaith a'u cynnydd wrth sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig. Darparwyd ar gyfer y rhain gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i gefnogi gweithio rhanbarthol lle mae'n gwneud synnwyr i wneud hynny.
Diolch am hynny, Weinidog. Mae gwahanol ffurfiau ar waith, onid oes, mewn gwahanol rannau o Gymru, o ran cydweithio rhwng awdurdodau lleol, a gall fynd yn eithaf cymhleth. Yn ne-ddwyrain Cymru ac yn Nwyrain Casnewydd, Weinidog, mae gennym gomisiwn Burns gyda'i gynigion ar gyfer gwell trafnidiaeth integredig, sy'n bwysig iawn ar gyfer dyfodol yr ardal, ac yn Nwyrain Casnewydd mae hynny'n cynnwys Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy. Mae gennym hefyd y cyd-bwyllgor corfforedig a'r fargen ddinesig wrth gwrs. Gydag agenda mor bwysig â chomisiwn Burns, tybed beth yw rôl Llywodraeth Cymru wrth asesu effeithiolrwydd y cydweithio rhwng y gwahanol strwythurau sefydliadol, ac a yw'n symud ymlaen ar y cyflymder ac yn gwneud y cynnydd yr hoffai Llywodraeth Cymru ei weld?
Rwy'n ddiolchgar iawn i John Griffiths am y cwestiwn. Ar yr achlysur hwn, Lywydd, efallai y caf ofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth ddarparu ymateb manylach i hynny, oherwydd mae fy rôl mewn perthynas â chyd-bwyllgorau corfforedig yn ymwneud yn fwy â llywodraethu'r partneriaethau hynny. Yn ddiweddar, fe gafodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, a Gweinidog yr Economi a minnau gyfarfod gyda'r holl gyd-bwyllgorau corfforedig a buom yn siarad am eu rôl bwysig o ran cynllunio, trafnidiaeth a datblygu economaidd, gan sicrhau bod y pethau hynny'n cael eu cydgysylltu'n iawn a'u trin mewn ffordd gydweithredol a strategol. Ar y pwynt hwn, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am y diddordeb rydych wedi'i ddangos mewn cyd-bwyllgorau corfforedig yn enwedig. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed mwy am gasgliadau'r pwyllgor.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol imi fod â'r portffolio llywodraeth leol am naw mlynedd, cyn fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe gawsom wared ar dri chynllun llawn ar uno awdurdodau lleol. Ar y pryd, soniwyd y byddai awdurdodau lleol yn dechrau cydweithio'n agosach. Fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn 2004, yn y cabinet, rwy'n cofio sgyrsiau bryd hynny am gael system gyflogres yng ngogledd Cymru. Nawr, yn ddiweddar, rydym wedi colli gwasanaeth bws yn fy ardal i, gwasanaeth T19, a'r cyfan oedd ei angen arnom i gefnogi'r gwasanaeth bws hwnnw oedd cydweithrediad â chyngor sir Gwynedd, ond ni chawsom unrhyw gynrychiolaeth o gwbl ganddynt ar yr agwedd honno, ac o ganlyniad i hynny rydym wedi colli gwasanaeth bws gwerthfawr iawn. Felly, pa gynlluniau sydd ar waith i barhau â'r theori o fwy o gydweithio ystyrlon rhwng awdurdodau lleol yn y dyfodol? Diolch.
Rwy'n credu bod llawer iawn o gydweithio wrth symud ymlaen nawr ac rwy'n credu bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn dechrau gweithio'n dda iawn gyda'i gilydd bellach. Rydym wedi llwyddo i weithio gyda Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, i ymdrin â rhai o'r materion gweithredol allweddol a oedd yn wynebu cyd-bwyllgorau corfforedig, gan gynnwys mewn perthynas â TAW a materion trethiant ehangach. Cyflwynodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â'r materion hynny, oherwydd roedd cyd-bwyllgorau corfforedig eu hunain yn teimlo bod peidio ag ymdrin â'r materion trethiant hynny yn eu hatal rhag symud ymlaen gyda'i gilydd mewn gwirionedd. Felly, rwy'n falch fod y materion hynny bellach wedi cael eu datrys.
Rwy'n credu yr hoffwn sôn hefyd am waith y bûm yn ei wneud gyda Cefin Campbell drwy ein cytundeb cydweithio, sef adolygiad o'r dirwedd bartneriaeth ledled Cymru i wneud yn siŵr fod y dirwedd sydd gennym ar hyn o bryd yn addas i'r diben. Ac fel rhan o'r gwaith hwnnw—ac nid oedd yn cynnwys cyd-bwyllgorau corfforedig, ond roedd yn cynnwys byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau camddefnyddio sylweddau, a hefyd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac ystod eang o fyrddau eraill—fe wnaethom gyfarfod â phob un o gadeiryddion y rheini dros gyfnod o amser a chlywed am eu profiadau o ran y rhwystrau i gydweithio'n well. Felly, nawr rydym yn tynnu popeth a glywsom o'r sgyrsiau hynny at ei gilydd, a byddwn yn cyflwyno papur i gyngor partneriaeth Cymru ym mis Gorffennaf. Byddwn yn sicrhau bod y Senedd yn cael yr wybodaeth lawn am ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen hefyd.
Gan barhau â'r thema hon—
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus? OQ59647
Gwnaf. Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gyfryngau effeithiol ar gyfer cydweithredu ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Mae gan bob un ei gryfderau a'i flaenoriaethau ei hun. Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus bellach yn cyhoeddi eu cynlluniau llesiant lleol wedi'u diweddaru, ac rwy'n gweithio gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i ystyried y ffordd orau o gynorthwyo byrddau gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni'r rhain.
Diolch. Yn amlwg, mae gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rôl hanfodol wrth gyflawni'r saith nod llesiant a'r ffyrdd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Pa rôl, yn eich barn chi, y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â diogeledd bwyd, naill ai drwy feithrin busnesau ffermio a bwyd lleol, caffael bwyd lleol i ysgolion, ysbytai a chartrefi, neu sicrhau bod bwyd fforddiadwy ar gael yn lleol i bob cartref yng nghanol yr argyfwng costau byw?
Rwy'n ddiolchgar iawn i Jenny Rathbone am godi'r mater hwn, a chyn ei chwestiwn y prynhawn yma, oherwydd rwy'n gwybod pa mor angerddol yw Jenny ynghylch sicrhau diogeledd bwyd ac argaeledd bwyd o ansawdd da, rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar bob un o'r naw cynllun llesiant sydd wedi'u cyhoeddi gan y 13 bwrdd gwasanaethau cyhoeddus hyd yn hyn. Ac rwy'n falch iawn fod yr holl gynlluniau hynny wedi blaenoriaethu bwyd mewn o leiaf un o'u hamcanion, a bod y blaenoriaethau'n ymwneud â bwyd cynaliadwy, diogeledd bwyd, tlodi bwyd a chadwyni cyflenwi hefyd, yn dibynnu ar ffocws penodol y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus. Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi dysgu o brofiad fod cael gormod o amcanion, rwy'n credu, yn anodd yn y gorffennol. Felly, maent wedi lleihau nifer yr amcanion, ond rwy'n credu bod cael bwyd yn rhan o'r amcanion hynny ym mhob un o'r cynlluniau yn dangos y rôl bwysig y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu hunain yn cydnabod y gallant ei chwarae yn y gofod penodol hwn.
Rydym yn disgwyl i'r holl gynlluniau sy'n weddill gael eu cyflwyno'n fuan iawn, a'r bwriad wedyn yw cyhoeddi'r rheini fel cyfres gyda'i gilydd. Ond oes, rwy'n credu bod gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rôl bwysig iawn i'w chwarae. A chefais gyfle i siarad â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn gynharach yr wythnos hon. Gwn fod Jenny wedi cyfarfod ag ef yr wythnos diwethaf i drafod rhai o'r materion hyn hefyd. Felly, rwy'n credu ein bod i gyd yn gytûn ar hyn.
7. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen buddsoddi i arbed? OQ59628
Gwnaf. Ers ei chyflwyno yn 2009, mae'r rhaglen buddsoddi i arbed wedi cefnogi tua 200 o brosiectau, gyda gwerth cyfanredol o tua £200 miliwn. Yn fwyaf diweddar, mae wedi darparu cyllid ar gyfer tri phrosiect newydd, gan ein helpu i gyflawni ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Mae buddsoddi i arbed yn brosiect rwyf wedi'i gefnogi'n gyson. Bydd defnyddio buddsoddi i gynhyrchu arbedion hirdymor mewn ffordd fwy effeithlon yn cynyddu cynhyrchiant. Dyma'r ffordd ymlaen i'r sector cyhoeddus, gan gymryd na fydd gennym symiau di-ben-draw o arian yn y dyfodol. A wnaiff y Gweinidog wneud sylw am lwyddiant buddsoddi i arbed a'r modd y mae'r gwersi a ddysgwyd o brosiectau yn cael eu hefelychu gan sefydliadau eraill? Fel rydym wedi'i weld yn llawer rhy aml, yng Nghymru mae'n rhaid i bawb ddarganfod y manteision eu hunain fel pe bai am y tro cyntaf.
Yn hollol, ac rwy'n rhannu angerdd Mike Hedges, os hoffech, ynglŷn â buddsoddi i arbed a phopeth y mae hynny'n ei olygu ar gyfer y ffordd rydym yn ariannu gwahanol bethau ledled Cymru yn y dyfodol. Ac ar hyn o bryd, rwy'n cydnabod y gwaith y mae Jane Dodds wedi'i wneud yn hyn o beth hefyd, oherwydd mae'r gwaith rydym yn ei ariannu ar hyn o bryd yn dod fel rhan fawr o'r trafodaethau a gafodd Jane a minnau yn ystod trafodaethau a negodiadau'r gyllideb y flwyddyn cyn y llynedd. Felly, o ganlyniad i hynny nawr, mae gennym brosiectau sy'n ariannu gwasanaethau eiriolaeth i atal teuluoedd rhag chwalu; mae £1 filiwn wedi mynd i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i barhau â'u rhaglen Maethu Lles; a hefyd £4.4 miliwn i gefnogi Maethu Cymru a'u galluogi i ehangu eu darpariaeth fel y gallant wella gallu gwasanaethau maethu awdurdodau lleol i gadw a chefnogi gofalwyr maeth. Felly, rwy'n credu bod hynny i gyd yn bwysig iawn, ac rwy'n credu y bydd y dysgu'n lledaenu'n haws yn ôl pob tebyg ym maes plant sy'n derbyn gofal a gofalwyr maeth nag y mae wedi'i wneud mewn mannau eraill. Rwy'n gwybod bod un o bryderon gwirioneddol Mike Hedges, a minnau hefyd, yn ymwneud â sut mae wedi bod yn anodd symud y llwyddiant o'r prosiectau sydd wedi cael eu cefnogi drwy fuddsoddi i arbed i fod yn drefniant busnes fel arfer, gan ei wneud yn ddewis naturiol i fusnesau—i sefydliadau, mae'n ddrwg gennyf—ledled Cymru.
Fe wnaethom rywfaint o waith gyda Phrifysgol Caerdydd, Nesta, a oedd yn edrych ar pam fod anawsterau o ran lledaenu arferion da ledled Cymru drwy'r cynllun buddsoddi i arbed, ac rwy'n credu ein bod wedi gallu defnyddio'r gwersi a ddysgwyd o hynny i ddod o hyd i ffyrdd gwell o gefnogi peth o'r gwaith sydd wedi digwydd.
Ar hyn o bryd, mae gennym yr arian buddsoddi i arbed wedi'i glustnodi o fewn y grŵp iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a hefyd o fewn y tîm plant sy'n derbyn gofal. Efallai yr ysgrifennaf at Mike Hedges gydag ychydig mwy o wybodaeth am y pethau hynny.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hwyluso'r gwaith o rannu arfer gorau a gwybodaeth rhwng cynghorau? OQ59656
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi sefydlu trefn gyflawni newydd dan arweiniad y sector i ysgogi gwelliant mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Er mwyn cefnogi'r broses o weithredu, rwyf wedi cytuno ar £800,000 o gyllid ar gyfer rhaglen wella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu ar gyfer dysgu ar y cyd a gwelliant corfforaethol ar draws cynghorau.
Diolch, Weinidog, mae hwnnw'n newyddion ardderchog. Mae'n ymddangos bod thema heddiw ar rannu arferion gorau a gwybodaeth rhwng ein cynghorau, ac mae'n rhywbeth rwy'n ei ystyried yn brin mewn meysydd polisi yn gyffredinol. Er mai cyfrifoldeb CLlLC yw rhannu arferion gorau a gwybodaeth rhwng cynghorau yn bennaf, fel rydych newydd ddweud, a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, fel sydd eisoes wedi'i amlinellu, mae'n siŵr mai mater i bob Gweinidog yw sicrhau bod y broses o gyflawni polisi'n digwydd ar draws y bwrdd ac yn digwydd i'r safon orau ar draws ein gwlad. Y ffordd orau o rannu hyn, wrth gwrs, o rai enghreifftiau o hyn, o ran yr hyn nad yw'n digwydd a'r hyn a ddylai fod yn digwydd, yw Prosiect Rhaglan yng Nghyngor Sir Fynwy, er enghraifft, neu gyngor sy'n rhagori mewn ailgylchu neu ddosbarthu bwyd iach yn ein hysgolion neu sy'n gweithredu strategaeth iechyd meddwl sy'n gweithio'n dda yn ein hysgolion. Nid yw'r math hwn o wybodaeth, y math hwn o rannu arferion da, yn cael ei rannu, ac ymddengys y byddai'n esgeulus i'r Llywodraeth beidio â sicrhau bod eu polisïau'n cael eu cyflawni'n briodol ar lawr gwlad. I'r perwyl hwnnw, Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, a phob Gweinidog yn eu cymryd, i weithio ochr yn ochr â CLlLC i sicrhau bod arferion gorau'n cael eu rhannu i bob cwr o Gymru? Diolch.
Wel, mae Gweinidogion a swyddogion yn ymgysylltu'n rheolaidd ag ystod eang o rwydweithiau a arweinir gan awdurdodau lleol mewn perthynas ag ehangder swyddogaethau'r sector. Felly, bydd y rheini'n cynnwys aelodau'r Cabinet, bydd yn cynnwys llefarwyr ar ran CLlLC a bydd swyddogion hefyd yn cyfarfod â'n swyddogion ni ar draws yr holl ystod o swyddogaethau, ac mae'r rheini'n gyfleoedd amhrisiadwy i ni rannu cyfleoedd a chlywed yr heriau, wrth gwrs, y mae awdurdodau lleol yn eu profi wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Byddwn yn dweud bod ein perthynas â llywodraeth leol yn un agored a gonest iawn. Credaf fod lefel yr ymgysylltiad sydd gennym yn eithaf rhyfeddol o ran nifer y cyfarfodydd sy'n digwydd rhwng Gweinidogion ac awdurdodau lleol, ond hefyd rhwng swyddogion. Ond os oes mwy y mae angen i ni ei wneud, neu os oes bylchau penodol lle nad yw'r rhwydweithiau hynny ar waith, byddwn yn amlwg yn ceisio cau'r rheini. Felly, os yw Laura Anne Jones eisiau rhannu rhai o'r pryderon manylach gyda mi, byddwn yn barod iawn i edrych arnynt.
Yn olaf, cwestiwn 9, Natasha Asghar.
9. Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymgysylltu â phreswylwyr ac yn cyfathrebu â hwy? OQ59631
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau roi strategaeth cyfranogiad ar waith. Rhaid iddi nodi sut mae'r cyngor yn bwriadu annog a galluogi pobl leol i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau a phrosesau craffu.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae etholwyr yn aml yn troi atom am gymorth yn eu hawr dywyllaf, ac fel arfer, ar ôl iddynt gael eu pasio o bared i bost gan awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill, maent yn dod atom gyda'u gofidiau a'u problemau. Nawr, mewn gwirionedd, mae llawer o'r etholwyr rwy'n eu helpu heb fod yn cael ymatebion i'r llythyrau a'r negeseuon e-bost y maent wedi bod yn eu hanfon at eu hawdurdodau lleol, ac mae un cyngor yn ne-ddwyrain Cymru yn arbennig o wael gyda'u hymatebion. Gallaf ddweud fy mod yn gwybod yn union sut maent yn teimlo, a minnau wedi ysgrifennu at y cyngor penodol hwn i godi problemau fy etholwyr ar nifer fawr o achlysuron. Weithiau byddaf yn cael ateb, er nad yw'n ddefnyddiol iawn, ond mae'n ateb serch hynny, Weithiau, gallech gael eich ailgyfeirio i fannau eraill, neu fel sy'n digwydd yn aml, bydd y llythyrau'n cael eu hanwybyddu. Mewn un achos, rwy'n dal i aros am ateb i lythyr a anfonais ar ran etholwr sawl mis yn ôl, er imi ofyn i'r awdurdod lleol am ymateb. Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod hyn yn annerbyniol? Ac a wnewch chi ysgrifennu at holl arweinwyr awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru, gan alw ar bob un ohonynt i adolygu'r prosesau hyn ar frys, i sicrhau bod etholwyr yn cael ymateb o fewn amser rhesymol, ac os yw'n digwydd, nad oes unrhyw wleidyddiaeth bleidiol ar waith?
Wel, mae protocolau lleol ar waith ar gyfer ymdrin â materion pan nad yw'r cyngor wedi gweithredu fel y dylai wrth gyflawni ei ddyletswyddau. Ond efallai y gallai'r Aelod naill ai gael sgwrs gyda mi neu ysgrifennu ataf wedi'r cyfarfod hwn, a gallaf edrych ar y mater penodol sy'n cael ei drafod y prynhawn yma.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu a rheoli bywyd gwyllt ym Mro Morgannwg? OQ59645
Rydym wedi mabwysiadu dull tîm Cymru o ddiogelu a rheoli bywyd gwyllt. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £1 filiwn ar gyfer prosiectau ym Mro Morgannwg, i gyflawni prosiectau sy'n seiliedig ar natur, galluogi gweithio mewn partneriaeth a gwella cysylltiadau rhwng cynefinoedd natur ym Mro Morgannwg.
Diolch, Weinidog. Rwyf wedi codi mater Model Farm, yn y Rhws, ym Mro Morgannwg, gyda chi o'r blaen, fferm sy'n tyfu ac yn gwerthu blodau gwyllt, ac mae dan fygythiad oherwydd cynlluniau i adeiladu parc diwydiannol ar ei dir. Mae'r teulu Jenkins wedi bod yn denantiaid ar y fferm ers bron i 100 mlynedd, a bydd y gwelliannau i hawliau ffermwyr tenant sydd wedi'u cynnwys ym Mil Amaeth (Cymru) yn dod yn rhy hwyr iddynt, os cânt eu troi allan. Nid eu gweithle'n unig yw hwn; dyma'u cartref, eu cartref ers cenedlaethau, ac mae'n cael ei ddinistrio. A'r hyn sy'n gwneud y stori hon hyd yn oed yn fwy trasig yw bod y teulu hwn hefyd wedi colli fferm arall yn y 1940au ar Epynt, pan gawsant eu gorfodi i adael ar ôl i'r fyddin Brydeinig feddiannu eu tir. Nid yw'r teulu wedi dychwelyd i Epynt, ac mae'r teulu Jenkins yn ofni nawr y byddant yn colli eu bywoliaeth a'u cartref unwaith eto, ond y tro hwn drwy ddatblygwr rhyngwladol yn hytrach na'r wladwriaeth Brydeinig. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i ddiogelu'r fferm, i amddiffyn ffermwyr fel y teulu Jenkins, a'r bywyd gwyllt y mae'n ei gynnal?
Diolch. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am brofiad y teulu Jenkins. Yn amlwg, mae ffermwyr tenant yn bwysig iawn i ni yng Nghymru. Mae canran sylweddol o'n ffermwyr yma yng Nghymru yn ffermwyr tenant. Yn amlwg mae yna amddiffyniad i denantiaid; yn amlwg, dylent drafod y mater gyda'u landlordiaid, a byddwn hefyd yn eu hannog i gysylltu â Chymdeithas y Ffermwyr Tenant, i weld a oes unrhyw beth y gallant hwy ei wneud i helpu. Ac os hoffech ysgrifennu ataf, er na allaf ymyrryd mewn achos unigol wrth gwrs, gallaf weld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i helpu hefyd.
Rwyf wedi codi mater Model Farm gyda gwahanol Weinidogion yn y Senedd hon. Mae ansawdd y tir sy'n cael ei warchod yn rhan o'r system gynllunio. Rwy'n sylweddoli nad yw o fewn eich portffolio chi, Weinidog, ond yn amlwg, dylai'r asesiad o ansawdd y tir, a diogelu'r bywyd gwyllt ar y tir hwnnw, fod yn ystyriaeth hanfodol yn y system gynllunio. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir, pan fo enghraifft fel Model Farm, lle mae'r awdurdod lleol ei hun yn hyrwyddo parc busnes nad oes ei angen—ac mae tystiolaeth yn dangos nad oes ei angen, hyd yn oed gan y datblygwyr eu hunain, sy'n dweud ei fod yn ddatblygiad hapfasnachol—ac eto, bydd dros 100 erw o dir amaethyddol o safon, sy'n gynefin i lawer o rywogaethau naturiol sydd i'w gweld ym Mro Morgannwg, yn cael ei golli. Felly, pa sgyrsiau a fu rhwng eich swyddogion a swyddogion y Gweinidog cynllunio i sicrhau bod camau goruchwylio ar waith o fewn y system gynllunio, nad yw tir amaethyddol o ansawdd da sydd hefyd yn gynefin naturiol o ansawdd da yn cael ei aberthu er mwyn datblygiadau diangen fel parc busnes Model Farm?
[Anghlywadwy.]—cryn dipyn o waith ac yn sicr, yn fy mhortffolio fy hun, rydym wedi edrych ar sut mae tir amaethyddol yn cael ei ddosbarthu, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n bwysig iawn ei fod yn cael ei ddiogelu cyn belled ag y bo modd ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwy a hefyd ar gyfer ein cynefinoedd pwysig. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw sgyrsiau penodol rhwng fy swyddogion a swyddogion y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn enwedig mewn perthynas â mater Model Farm rydych newydd ei ddwyn i fy sylw. Fel y dywedais yn fy ateb i Rhys ab Owen, os yw am ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny, byddaf yn sicr yn hapus i edrych ar y mater.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo bwyd a diod o Ogledd Cymru? OQ59655
Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan dyfu o ran graddfa ac o ran enw da. Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo bwyd yng ngogledd Cymru drwy ein gwyliau bwyd, sy'n cynnwys Gŵyl Fwyd Caernarfon, Gŵyl Fwyd Wrecsam, Gŵyl Fwyd Menai, Gŵyl Eirin Dinbych a Gŵyl Fwyd Llangollen, i enwi rhai yn unig, yn ogystal â'n sioeau amaethyddol.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Fel rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, mae gan ogledd Cymru beth o'r bwyd a diod gorau, sy'n cael eu mwynhau ledled y byd, ac yn sicr bydd ystod fwy o bobl yn eu mwynhau, diolch i'r cytundebau masnach a wneir gan Lywodraeth y DU, sydd bellach wedi cael ei rhyddhau o hualau'r Undeb Ewropeaidd.
Fodd bynnag, Weinidog, un o'r pethau y mae bragdai a busnesau tebyg eraill yng ngogledd Cymru yn bryderus yn eu cylch yw'r posibilrwydd y bydd gwydr yn cael ei gynnwys mewn cynllun dychwelyd ernes. Yn fy marn i, mae yna gynllun synnwyr cyffredin ar gyfer dychwelyd ernes sy'n eithrio gwydr, ac a fyddai'n golygu bod y cynllun a'i ofynion yn gyson ar draws y Deyrnas Unedig. Fe fyddwch yn ymwybodol fod bragwyr yn sicr yn bryderus iawn, ac mae'n bosibl y gallai bragdai fynd allan o fusnes os bydd hyn yn parhau. Felly, Weinidog, a allwch chi ymhelaethu ar yr hyn rydych chi'n ei wneud i helpu i gyrraedd y canlyniad synhwyrol hwn ledled y DU, yn hytrach na gwneud pethau'n wahanol heb fod angen? Diolch.
Rwy'n gweld eich bod yn copïo eich arweinydd. Sylwais ar ei drydariad am wneud pethau'n wahanol. Nid yw'n rhan o fy mhortffolio—mae'n rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd—ond roedd yn rhan o'm portffolio i o'r blaen pan lansiwyd ymgynghoriad gennym gyntaf ar gynllun dychwelyd ernes. Ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn credu mai Lloegr sy'n gwneud pethau'n wahanol heb fod angen. Yn sicr, pan oeddwn yn Weinidog â chyfrifoldeb, rwy'n cofio cael sgyrsiau gyda Thérèse Coffey yn ei swydd weinidogol flaenorol, ynghyd â'n swyddogion cyfatebol yn yr Alban, ac roedd gwydr yn sicr yn rhan o'r cynllun hwnnw. Felly, os oes unrhyw un yn gwneud pethau'n wahanol heb fod angen, rwy'n credu mai Lloegr sy'n gwneud hynny.
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwch am ogledd Cymru yn gartref i rai o'r cynhyrchwyr bwyd a diod gorau sydd gennym yma yng Nghymru. Rwy'n anghytuno'n llwyr â chi ynglŷn â'r ffaith bod y Llywodraeth wedi'i rhyddhau o hualau'r UE nawr, ac yn sicr, nid wyf wedi gweld unrhyw beth yn y cytundebau masnach sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth y DU a gwledydd eraill sy'n dangos unrhyw fuddion clir. Ond rwy'n derbyn bod pryderon gan rai o'r bragwyr, ac rwyf wedi cael trafodaethau, nid gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ond gyda Gweinidog yr Economi. Fe wnaethom gyfarfod â rhai o'r sector diod i drafod y pryderon hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Weinidog, tynnodd adroddiad diweddar Archwilio Cymru sylw at y ffaith bod £58 miliwn o'r rhaglen datblygu gwledig yn dal i fod heb ei wario ar ddiwedd mis Mawrth, ac mae'r dyddiad cau ar gyfer gwario'r arian hwn ar ddiwedd y flwyddyn. Pa mor hyderus ydych chi y bydd yr holl arian hwn yn cael ei wario, ac na fydd ceiniog yn cael ei ddychwelyd i'r UE?
Rwyf yr un mor hyderus â'r tro diwethaf i rywun ofyn y cwestiwn hwn i mi. Mae'n ymddangos bod llawer o Aelodau'r wrthblaid yn gofyn i mi'n gyson pa mor hyderus ydw i am y peth. Roeddech chi'n sôn am ffigur. Mae dros £765 miliwn o gyfanswm gwariant y rhaglen bellach wedi'i wario; mae tua 10 y cant yn weddill. Ac fel y dywedoch chi eich hun, mae gennym tan ddiwedd y flwyddyn hon i sicrhau bod yr holl arian hwnnw'n cael ei wario. Felly, ni allaf ond bod yn hyderus am yr hyn rwyf wedi'i wneud, a'r hyn rwyf wedi'i wneud yw ceisio sicrhau ein bod wedi gorymrwymo, oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid i chi ddysgu gwersi o raglenni blaenorol. Yn amlwg, rwy'n credu ei bod hi'n iawn inni orymrwymo, oherwydd yn aml mae yna danwariant, oherwydd heriau y mae buddiolwyr yn eu hwynebu—nid wyf yn beirniadu—ac yn amlwg mae hyd yn oed mwy o heriau wedi bod yn sgil COVID. Felly, yr hyn rwyf wedi bod yn glir iawn yn ei gylch gyda fy swyddogion yw bod yn rhaid iddynt weithio'n agos gyda'r buddiolwyr. Mae'n bwysig iawn fod y buddiolwyr, sy'n dweud wrthym y gallant wario'r arian hwnnw, yn gwneud hynny. Rwyf wedi gwneud yr hyn y gallaf ei wneud; rwyf eisiau iddynt hwy wneud yr hyn y gallant hwy ei wneud, ond hefyd os oes ganddynt unrhyw bryderon, rwyf eisiau iddynt dynnu sylw fy swyddogion atynt cyn gynted â phosibl.
Diolch am y sicrwydd hwnnw, Weinidog, ond os ydym yn bod yn onest, mae gan Lywodraeth Cymru ychydig o hanes brith wrth gyflawni'r cynllun datblygu gwledig. Ym mis Mehefin 2020, nododd Archwilio Cymru nad oedd agweddau allweddol ar gynllunio, gweithredu a goruchwylio'r gronfa datblygu gwledig yn ddigon effeithiol i wneud yn siŵr y byddai dyfarniadau grant yn sicrhau gwerth am arian. Dyna feirniadaeth ddamniol o berfformiad Llywodraeth Cymru. A hynny heb gyffwrdd â'r ffaith bod eich Llywodraeth wedi symud y swm mwyaf posibl o arian i ffwrdd o gymorth uniongyrchol i ffermwyr Cymru drwy golofn 1, drosodd i golofn 2 a'r cynllun datblygu gwledig—y swm mwyaf yn unrhyw le yn yr Undeb Ewropeaidd. Rydych wedi gwrthod ceisiadau lluosog gennyf fi a'r undebau i gynnal adolygiad annibynnol i gyflawniad y Cynllun Datblygu Gwledig, ac mae'r llong honno bellach wedi hwylio. Ond o ystyried pwysigrwydd cynlluniau'r dyfodol, a wnewch chi amlinellu pa wersi—ac fe sonioch chi am wersi a ddysgwyd—ond pa wersi sydd wedi'u dysgu o'r profiadau hynny, fel nad yw Archwilio Cymru yn ailadrodd yr un feirniadaeth yn y dyfodol agos?
Wel, unwaith eto, rwyf am ailadrodd yr hyn rwyf wedi'i ddweud lawer gwaith yn y Siambr, y gwersi a ddysgwyd, ac mae'n bwysig iawn fod gwersi'n cael eu dysgu; nid wyf yn diystyru hynny o gwbl. Mae canfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru 2020 eisoes wedi cael sylw, felly rydym wedi rhoi gwell rheolau dethol ar waith i sicrhau bod prosiectau'n cael eu dewis yn agored ac yn deg. Dewiswyd prosiectau yn nhrefn teilyngdod yn unol â'r weithdrefn sgorio gyhoeddedig, ac mae gwerth am arian yn faen prawf ar gyfer holl ddyfarniadau'r prosiect. Ac mae'r egwyddorion hynny wedi'u gwreiddio'n llwyr o fewn model arfarnu grantiau'r Rhaglen Datblygu Gwledig ac maent ar waith ar gyfer unrhyw gynlluniau buddsoddi gwledig presennol ac yn y dyfodol. Nid oedd angen ymchwiliad annibynnol arnom, oherwydd mae'r rhaglen hon yn cael ei harchwilio'n fanwl iawn. Mae llawer iawn o graffu'n digwydd mewn perthynas â'r rhaglen hon.
Diolch, Weinidog, a do, fe sonioch chi ei fod yn cael ei graffu, ac rydym yn ddiolchgar am y gwaith a wnaeth Archwilio Cymru yn ôl yn 2020 i ddod â hynny i'r amlwg.
Ond yn olaf, fe wnaethoch chi gyhoeddiad ar y cyd â'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ddiweddar ynghylch plannu coed yng Nghymru, sy'n nodi:
'bydd cyfraddau talu yn cael eu codi i dalu 100% o gostau gwirioneddol 2023'.
A gaf fi ofyn o ble y canfuwyd yr arian i dalu am y codiad? Gan eich bod i wneud datganiad ar y cynllun ffermio cynaliadwy fis nesaf cyn sioeau amaethyddol yr haf, a oedd y datganiad hwn ar y cyd gennych chi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn arwydd o bethau i ddod: coed dros bopeth arall? Oherwydd fe fynychais ddigwyddiad Regen Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Fferm Sealands ym Mro Morgannwg yr wythnos diwethaf i weld y gwaith da y mae ffermwyr eisoes yn ei wneud drwy ffermio ailwladychu, a dylid cefnogi hynny. Sylwaf nad oedd y Gweinidog yn gallu bod yn bresennol, ond roedd rhai o'ch swyddogion yno. Felly, pa warantau allwch chi eu rhoi y bydd y cynlluniau ffermio cynaliadwy yn cael eu teilwra mewn gwirionedd i gefnogi ffermwyr sy'n cynhyrchu bwyd ecogyfeillgar, boed yn denantiaid, yn ffermwyr ucheldir neu'n ffermwyr iseldir? Diolch, Lywydd.
Rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu mynychu digwyddiad Regen '23 yn Fferm Sealands. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â Fferm Sealands, cyn toriad yr haf gobeithio, neu yn sicr wrth inni fynd i mewn i wyliau'r haf, oherwydd rwyf wedi clywed am y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yno; fel y dywedwch, roedd rhai swyddogion yn gallu bod yn bresennol.
Yn amlwg, rydym yn dal i fod yng nghyfnod cyd-gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Byddaf yn cyflwyno datganiad cyn dechrau toriad yr haf. Fe wyddoch o'n trafodaethau niferus fod cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn gwbl ganolog i'r cynllun ffermio cynaliadwy, ond mae angen inni blannu mwy o goed. Rydym yn gwybod hynny. Rwy'n siŵr eich bod wedi cael cyfle i ddarllen adroddiad diweddaraf Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU sy'n dweud bod angen i'r coed hynny fod yno os ydym am gyrraedd ein targedau allyriadau carbon, yn enwedig ar gyfer amaethyddiaeth.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Llywydd. Wel, mae’n ddiwrnod braf a phoeth arall gyda’r haul yn tywynnu fel y mae wedi bod yn gwneud ers tua chwe wythnos bellach. Mae’n gynnar yn y flwyddyn i fod yn siarad am sychder, ond y gwir amdani ydy bod y gwair yn barod yn crino a ffosydd yn rhedeg yn sych, tra bod nifer o ffermwyr eisoes wedi cael eu first cut i mewn yn gynnar yn y flwyddyn. Mae’r diffyg glaw yn golygu y bydd twf gwair ar gyfer ail doriad am fod yn anodd, a fydd yn arwain at drafferthion porthiant, nid yn unig efo prinder gwair yn y caeau pori dros yr haf, ond hefyd efo gwellt yn dod yn brin wrth edrych ymlaen at y gaeaf hefyd. Bydd prisiau prynu gwellt i mewn yn cynyddu, yn ogystal â dŵr yfed yn rhedeg yn brin.
A wnaiff y Gweinidog, felly, roi asesiad inni o effaith y tymheredd uwch a’r cwymp yn y maint o law sydd yn disgyn yma ar amaeth, yn benodol cynaliadwyaeth cnydau a phorthiant? Hefyd, pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr a sicrhau gwytnwch ffermydd Cymru yn ystod y misoedd sych yma, a'r rhai sydd i ddod?
Wel, rydym yn sicr yn gweld effeithiau newid hinsawdd, onid ydym? Roeddwn yn meddwl, oherwydd rwy'n cofio Sioe Frenhinol—oddeutu pum mlynedd yn ôl bellach, mae'n debyg—lle roeddem mewn sefyllfa debyg iawn. Rydym i gyd yn gwybod beth oedd y tymheredd yn Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, a'r gwir amdani yw bod hyn bellach yn dod yn llawer mwy arferol na'r hyn roeddem yn ei wynebu ddegawd yn ôl hyd yn oed.
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol am gefnogaeth i'r sector amaethyddol. Rwy'n siŵr y daw, ac wrth inni nesáu at Sioe Frenhinol Cymru a'r sioeau amaethyddol eraill yn arbennig, rwy'n siŵr y bydd yn bwnc trafod. Rwy'n cofio cael uwchgynhadledd sychder mewn un Sioe Frenhinol oherwydd bod pethau wedi mynd mor wael. Ond fel y gwyddoch, mae popeth a wnawn drwy'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a thrwy'r cynllun ffermio cynaliadwy y byddwn yn ei gyflwyno yn digwydd er mwyn helpu ein ffermwyr i ddod yn fwy cystadleuol a gwydn wrth inni wynebu effaith newid hinsawdd.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Dwi am droi rŵan at Glastir. Mae Glastir, wrth gwrs, yn allweddol i nifer o ffermwyr Cymru—yn wir, mae'n gyfwerth â rhwng 10 y cant ac 20 y cant o drosiant nifer o'n ffermydd ni. Mae hi'n rhaglen bwysig, sy'n rhoi sicrwydd ariannol i nifer o ffermwyr wrth iddyn nhw ddelifro camau i warchod yr amgylchedd a helpu i adfer natur, megis gwella ansawdd dŵr, gwarchod bioamrywiaeth, plannu coed, gan ddatblygu cynefinoedd o bwys, ymhlith camau eraill. Ond mae ffermwyr wedi bod mewn cyswllt yn pryderu am sefydlogrwydd y taliadau yma wrth edrych ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Felly, yn wyneb y pryderon yma a phwysigrwydd Glastir i nifer o'n ffermwyr, tybed all y Gweinidog roi sicrwydd i'r ffermydd yna heddiw ynghylch y taliadau Glastir ar gyfer y flwyddyn nesaf, a sicrhau bod ffermwyr yn clywed beth ydy'r cynlluniau ariannu ar gyfer 2024.
Yn anffodus, ni allaf roi'r sicrwydd hwnnw heddiw. Fel y gwyddom, estynnais gontractau Glastir am flwyddyn arall, a fydd yn mynd â ni hyd at ddiwedd y flwyddyn hon. Rwy'n aros am gyngor ar yr hyn a wnawn mewn perthynas â'r flwyddyn nesaf. Yn amlwg, rydym yn edrych ar y cynllun ffermio cynaliadwy, a dyna fydd y trawsnewid, ac ni fydd yn digwydd, wrth gwrs, tan 2025, felly mae gennym fwlch yn 2024. Ond rwy'n ofni na allaf roi unrhyw fanylion heddiw.
3. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i sioeau amaethyddol yn Nwyrain De Cymru? OQ59657
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Chymdeithas y Sioeau a Sefydliadau Amaethyddol i gefnogi datblygiad y sector sioeau amaethyddol ledled Cymru gyfan.
Diolch, Weinidog. Mae ein sioeau haf a'n sioeau amaethyddol yn ymgorffori'r gorau o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig, ac rwy'n mwynhau eu cefnogi ar draws fy rhanbarth yn Nwyrain De Cymru, a thu hwnt, ac yn mwynhau'r cynnyrch o'r radd flaenaf y mae fy rhanbarth yn ymfalchïo ynddo. Mae angen inni hyrwyddo hynny ymhellach ar lwyfan byd-eang. Yn anffodus, siaradodd cadeirydd Cymdeithas y Sioeau a Sefydliadau Amaethyddol, Emlyn Jones, yn ddiweddar am yr heriau sy'n wynebu sioeau amaethyddol eleni. Dywedodd fod llawer o bethau i ymladd yn eu herbyn, fel nawdd a dynnir yn ôl. Dywedodd hefyd fod costau wedi cynyddu i'r rhai sy'n cadw da byw, sydd wedi achosi gostyngiad o 20 y cant i 30 y cant yn nifer y defaid, gwartheg a cheffylau. Eglurodd Aled Rhys Jones, prif weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, fod sawl agwedd ar y seilwaith sy'n gysylltiedig â chynnal sioeau yn costio llawer iawn mwy nag yn 2019. Gwelais hyn yn fy rhanbarth fy hun, gyda Sioe Sir Fynwy, sy'n 150 oed, yn cael ei chanslo oherwydd cyfyngiadau ariannol y llynedd. I mi, mae hyn yn dangos pa mor fregus yw ein sioeau mewn gwirionedd, a chymaint y maent angen ein cefnogaeth, ein hanogaeth, a'n cefnogaeth ariannol lle bo hynny'n bosibl yn ystod yr hafau nesaf. Felly, Weinidog, pa gymorth ac arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i'n sioeau amaethyddol, er mwyn sicrhau y gallant barhau i ddangos y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig am flynyddoedd i ddod?
Diolch. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth rydych chi'n ei ddweud am ein sioeau amaethyddol—maent yn bendant yn rhan o wead Cymru, ac rwyf innau hefyd yn mwynhau mynychu llawer ohonynt ledled Cymru. Mae'r swm sylweddol o gyllid, yn amlwg, yn mynd i'r Sioe Frenhinol, sy'n amlwg yn ffordd enfawr o arddangos yr hyn sydd gan y sector i'w gynnig yma yng Nghymru, ac rydym yn cefnogi sioeau eraill hefyd. Rwy'n gwybod bod rhai o'r sioeau amaethyddol yn eich rhanbarth chi wedi elwa o arian pan oedd gennym y gronfa arloesi yn ystod COVID, pan na ellid cynnal sioeau, yn anffodus. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am gefnogaeth y cyhoedd; mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn gofyn i ni'n hunain beth allwn ni ei wneud fel aelodau o'r cyhoedd i gefnogi'r sioeau. Gwelais yr hyn a ddywedodd Emlyn Jones, ac yn sicr rwyf wedi cael sawl trafodaeth gydag Aled Jones, wrth i'w Sioe Frenhinol gyntaf fel prif weithredwr nesáu. Rwy'n gwybod, er enghraifft, nad ydynt yn bwrw ymlaen gyda'r babell arddwriaethol, sy'n siomedig iawn yn fy marn i—mae ganddynt syniadau eraill, sy'n gyffrous ac yn arloesol iawn, ac rydym yn sicr yn eu cefnogi. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw nad oes gennyf lawer o arian, nid oes pwynt esgus fel arall, ond os oes unrhyw sioe—. Roedd yna un sioe yn eich etholaeth—ym Machen, rwy'n credu—a gafodd ychydig dros £200, a fu'n help mawr iddynt. Swm bach iawn o arian yw hynny o gymharu. Felly, os oes yna sioe sy'n teimlo y gallwn ni helpu mewn rhyw ffordd fach—a swm bach o arian fyddai—dywedwch wrthynt am ysgrifennu ataf, ac fe fyddaf yn sicr o edrych arno.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu a gwella bywyd gwyllt ar hyd cyrsiau dŵr yng Ngorllewin De Cymru? OQ59648
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adfer cynefinoedd dŵr croyw. Rydym wedi rhoi rheoliadau newydd ar waith, gyda chymorth cyllid a chyngor, i sicrhau ein bod yn cyfyngu ar nifer yr achosion o golli llygryddion o amaethyddiaeth i'r amgylchedd. Rydym yn adeiladu rhwydweithiau natur, yn diogelu bywyd gwyllt, yn gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, ac yn cyflawni ein cynllun ffermio cynaliadwy.
Diolch, Weinidog. Roeddwn wrth fy modd yn clywed bod dyfrgwn wedi cael eu gweld o amgylch rhannau o afon Cynon yn dilyn prosiect glanhau. Roedd nifer y dyfrgwn wedi gostwng oherwydd lefelau llygredd yn yr afonydd, ond mae eu dychweliad yn olygfa i'w chroesawu, a diolch i brosiect Afonydd i Bawb , sy'n ceisio gwella bioamrywiaeth gyda gwirfoddolwyr yn adfer ac yn monitro'r afonydd. Wrth gwrs, mae afon Cynon yn ffodus o fod wedi derbyn arian preifat a thîm o wirfoddolwyr i gyflawni'r gwaith glanhau. Nid yw afonydd yn fy ardal i mor lwcus. Weinidog, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i efelychu gwaith gwych prosiect Afonydd i Bawb ar draws Gorllewin De Cymru, i sicrhau bod dyfrgwn a bywyd gwyllt arall yr afon yn olygfa gyffredin unwaith eto?
Gwelais yr erthygl y credaf fod yr Aelod yn cyfeirio ati ar wefan y BBC, ac roedd yn dweud bod dyfrgwn yn dychwelyd i afon Cynon yn dilyn y gwaith glanhau y cyfeirioch chi ato. Yn sicr, yng ngogledd Cymru hefyd, rwyf wedi cael gwahoddiad i fynd i weld ardal lle mae dyfrgwn wedi dychwelyd. Yn amlwg, mae'n rhywbeth rwy'n credu y dylem ei annog yn gryf, ac os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud—. Mae gennym ychydig o botiau o arian, cynlluniau gwahanol, lle gallwn helpu i sicrhau bod hynny'n parhau i ddigwydd, a byddwn yn hapus iawn i edrych arnynt. Mae'r rhan fwyaf o'r cynlluniau ym mhortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ond rwy'n hapus i gael y drafodaeth honno gyda hi.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru a gaiff penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen â'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) ar Gymru? OQ59659
Diolch. Rwy'n hynod rwystredig a siomedig ynglŷn â phenderfyniad Llywodraeth y DU i ddatgymalu'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), ac rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn mynegi fy rhwystredigaeth. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn ystyried opsiynau Cymru ac yn gweithio'n gyflym i benderfynu ar y camau nesaf.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel chithau, rwy'n siomedig iawn o weld tro pedol diweddaraf Llywodraeth y DU. Gallai fod wedi ysgogi gwelliannau ym mywydau miliynau o anifeiliaid yn y DU. Rwy'n deall bod sawl elfen o'r Bil yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl, ond nodaf fod Llywodraeth Cymru wedi dweud o'r blaen y byddai'n ystyried cyflwyno memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, fel bod ei ddarpariaethau'n berthnasol i Gymru. Gyda hynny mewn golwg, a oes gennych unrhyw fwriad i gyflwyno eich cynigion eich hun yn y meysydd sydd wedi'u datganoli, megis cadw primatiaid fel anifeiliaid anwes, fel rhan o waith ehangach Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid yng Nghymru?
Diolch. Fel y dywedaf, rydym wedi gwneud llawer iawn o waith mewn perthynas â'r Bil hwn, oherwydd, yn groes i'r hyn y mae Sam Rowlands newydd ei grybwyll, ac y mae Andrew RT Davies yn trydar yn ei gylch, nid oes raid i ni wneud pethau'n wahanol. [Torri ar draws.] Ynglŷn â bod yn wahanol—rwy'n hapus iawn i weithio gyda Llywodraeth y DU os credaf ei fod er budd Cymru; nid wyf yn hapus i weithio gyda nhw os credaf eu bod yn amharchus neu heb fod yn gwneud y pethau y byddem ni eu heisiau.
Roeddwn yn hapus iawn i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y Bil hwn, oherwydd teimlwn yn gryf y byddai'n sicrhau manteision sylweddol i les anifeiliaid yma yng Nghymru, sy'n flaenoriaeth i mi, fel y gwyddoch, Vikki, ac fel y mae i chithau. Gallwn weld hyn yn dod. Roeddwn wedi cael nifer o sgyrsiau gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, a chyda'r Gweinidog Gwladol yn ein cyfarfodydd grŵp rhyngweinidogol rheolaidd. Roeddwn wedi ysgrifennu hyd yn oed, i geisio eu hannog—oherwydd gallwn weld bod hyn yn dod—ar ôl gwneud cymaint o waith, i beidio â chael gwared ar y Bil hwn.
Rwy'n deall gan fy swyddogion nawr fod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn bwriadu hyrwyddo rhai o'r darpariaethau yn y Bil, ac mae un ohonynt yn ymwneud â phrimatiaid, fel offeryn statudol o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Felly, byddaf yn sicr yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i weithio gyda nhw ar hynny. Fy nealltwriaeth i yw y byddent yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth erbyn diwedd eleni, ond eto, mae'n debyg fod hynny wedi dod gyda chafeat fod hon yn amserlen uchelgeisiol. Felly, a dweud y gwir, nid oes gennyf ffydd y gallant ei wneud. Mae'n bwysig iawn fod fy swyddogion yn edrych nawr i weld beth allwn ni ei wneud gyda'r darpariaethau—fe wnaethoch chi sôn am yr un am brimatiaid—a gwn fod swyddogion yn gweithio gyda chyfreithwyr ar hyn o bryd i benderfynu sut y gallwn symud ymlaen.
6. Sut mae'r Gweinidog yn helpu busnesau amaethyddol i arallgyfeirio? OQ59637
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o fathau o gymorth i gynorthwyo busnesau amaethyddol i arallgyfeirio. Mae'r cyngor, y mentora a'r hyfforddiant â chymhorthdal a ddarperir gan Cyswllt Ffermio yn ategu ein cynlluniau grant. Ochr yn ochr â'n grant arallgyfeirio pwrpasol, mae ein grantiau garddwriaeth a buddsoddi mewn busnesau bwyd yn cynnig cyfleoedd a chefnogaeth i fusnesau fferm allu ehangu.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Un maes rwy'n arbennig o bryderus amdano, ac rwy'n gwybod bod y gymuned ffermio yn pryderu amdano, yw pan fydd Llywodraeth Cymru'n annog busnesau ffermio i arallgyfeirio, a hynny'n ddigon priodol, maent wedyn yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi yn y pen draw gan benderfyniadau polisi penodol Llywodraeth Cymru—gyda'r dreth dwristiaeth yn un, er enghraifft—pan ofynnir i fusnesau fferm arallgyfeirio i'r mathau hynny o feysydd.
Ond y mater penodol roeddwn eisiau ei godi gyda chi, Weinidog, yw ymgynghoriad CNC ar adar hela. Mae'r gymuned ffermio yn sicr yn gobeithio, a chyd-Aelodau ar yr ochr hon hefyd, na fydd hyn yn datblygu'n waharddiad ar saethu adar hela, oherwydd ar wahân i'r manteision amgylcheddol, mae ei bwysigrwydd economaidd i'r sector yn sylweddol. Mae sawl busnes saethu yn bodoli oherwydd bod busnesau amaethyddol wedi arallgyfeirio. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog gyflwyno sylwadau yn y Cabinet i berswadio ei chyd-Aelodau, fel nad ydym yn gweld safbwynt polisi sy'n arwain at wahardd saethu adar hela a fyddai'n cael effaith wirioneddol ddinistriol ar lawer o fusnesau a chymunedau ffermio gwledig?
Yn sicr, nid wyf wedi cael cwynion gan y sector amaethyddol eu bod yn teimlo'u bod yn cael eu cosbi wedi iddynt arallgyfeirio. Ledled Cymru, rwy'n credu bod bron i 50 y cant o ffermydd nad ydynt yn ffermydd micro wedi gweld rhywfaint o arallgyfeirio bellach, felly rwy'n credu y gallwch weld pa mor bwysig yw hi i'n busnesau ffermio adeiladu'r gwytnwch y soniem amdano'n flaenorol ac sydd ei angen. Rwy'n credu ei fod yn rhoi cyfle go iawn i ffermwyr ddiogelu eu busnesau rhag effaith amrywio prisiau, er enghraifft.
Rydych chi'n cyfeirio at ymgynghoriad sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Ni fyddech yn disgwyl i mi achub y blaen arno. Nid yw yn fy mhortffolio. Ond mae'r pethau hyn yn dod yn bolisi, fel y dywedwch. Yn amlwg, rwy'n gwneud sylwadau, os oes angen, ond wrth edrych ar yr ymgynghoriad sydd ar y gweill, rwy'n credu bod angen inni aros am yr ymatebion.
7. A wnaiff y Gweinidog ymateb i adroddiad diweddar Archwilio Cymru ar gyllid y rhaglen datblygu gwledig a ddyrannwyd sydd heb ei wario? OQ59663
Mae gan Lywodraeth Cymru tan 31 Rhagfyr 2023 i wario ei holl gyllid UE yn llawn, ac rwy'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gyflawni hynny. Roeddwn yn falch o weld Archwilio Cymru yn cydnabod y camau rydym wedi'u cymryd i orymrwymo ein cyllid sydd ar gael er mwyn sicrhau'r gwariant gorau posibl yng Nghymru.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae hi'n siom fawr dwi a'r Gweinidog yn ei rhannu ein bod ni'n trafod gwario'r olaf o arian y cynllun datblygu gwledig, cynllun sydd wedi bod mor bwysig i ardaloedd fel fy etholaeth i, ac mi fydd peidio â bod yn rhan o'r gylched nesaf o gyllido yn ergyd drom. Dwi'n gwerthfawrogi'r heriau, wrth gwrs, sydd wedi wynebu'r Llywodraeth yn ddiweddar, chwyddiant yn un o'r rheini, ond yn croesawu'r newyddion yn yr adroddiad bod y Llywodraeth wedi gallu gwario cryn dipyn o'r gyllideb sy'n weddill yn 2023. Ond mae yna dal £58 miliwn ar ôl. Dwi'n cynrychioli ardal wledig. Dwi eisiau helpu'r Gweinidog i wario'r arian yma. Yr wythnos diwethaf, mi wnes i ymweld â Food Works yn Weston-super-Mare, sy'n fodel o'r math o barc cynhyrchu bwyd dwi wedi ei godi efo'r Gweinidog nifer o weithiau. Rhowch gyfle i ni. Mi helpwn ni chi i wario'r arian yna yn Ynys Môn ar gynllun o'r math hwnnw.
Nid arian sy'n hongian o gwmpas yw hwn. Mae'r holl arian wedi'i ymrwymo, ac rwyf wedi gorymrwymo, fel y dywedoch chi. Nid wyf yn credu eich bod yn y Siambr pan atebais dri chwestiwn gan Sam Kurtz ar y Cynllun Datblygu Gwledig ac adroddiad Archwilio Cymru y cyfeirioch chi ato. Yr hyn a ddywedais wrth Sam Kurtz, ac fe wnaf ei ailadrodd er eich mwyn chi, yw fy mod wedi gorymrwymo oherwydd ein bod wedi dysgu gwersi. Gwyddom fod yna danwariant yn aml oherwydd weithiau mae'n anodd i fuddiolwyr allu gwario'r arian oherwydd amrywiaeth o heriau. Rwyf wedi gwneud popeth yn fy ngallu i sicrhau ein bod yn cael cymaint o arian allan cyn gynted â phosibl. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y £58 miliwn. Mae hynny'n llai na 10 y cant o'r rhaglen gyfan. Mae ganddynt tan ddiwedd mis Rhagfyr o hyd i wario'r arian hwnnw. Yr hyn sy'n bwysig iawn, os oes unrhyw anawsterau gyda gwario'r arian, yw bod fy swyddogion yn cael gwybod amdanynt yn gyflym, fel y gallwn edrych i weld beth allwn ni ei wneud i helpu, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud y gorau o'r gwariant mewn ymateb i'r holl heriau a fu gennym. Mae angen inni weithio gyda'n gilydd, ond rwy'n ofni nad oes unrhyw arian y gallaf ei ddyrannu i unrhyw un arall nawr, oherwydd mae'r arian hwnnw wedi'i ddyrannu ers amser maith ac rydym wedi gorymrwymo. Ond rwy'n cytuno â chi ei bod hi'n siomedig iawn na fyddwn yn cael yr arian hwnnw mwyach.
Hoffwn bwyso ymhellach ar y Gweinidog ynglŷn â hyn. Mae'n dda iawn clywed eich bod wedi dweud bod yr arian hwn wedi cael ei orymrwymo a'ch bod yn hyderus y bydd yr arian yn cael ei wario, ond er budd yr holl Aelodau yn y Siambr, a wnewch chi amlinellu beth yw rhai o'r prosiectau hynny, ac a fyddech chi'n fodlon rhannu rhestr o'r prosiectau hynny â'r Aelodau, fel y gallwn i gyd weld bod Llywodraeth Cymru'n gwario'r arian ac nad oes dim o'r arian yn mynd i gael ei ddychwelyd i'r DU.
Iawn, fe wnaf ei ailadrodd eto: ni allaf wario'r arian; rwyf wedi dyrannu'r arian. Rwyf wedi gorddyrannu'r arian, ac rwyf wedi gwneud popeth a allaf—[Torri ar draws.] Erbyn hyn mater i'r—[Torri ar draws.] A ydych chi eisiau gwrando? Da iawn. Mater i'r buddiolwyr, sydd wedi dweud wrthym y gallant yn sicr wario'r arian, yw gwario'r arian hwnnw. Mae'n bwysig iawn eu bod yn dweud wrthym os oes unrhyw anawsterau fel y gall swyddogion weithio gyda nhw i wneud yn siŵr. Felly, er fy mod yn dweud fy mod yn hyderus, yn amlwg nid fi sy'n gwario'r arian hwnnw. Pe bawn i'n gwario'r arian, byddwn i'n fwy hyderus, oni fyddwn? Ond rwy'n hyderus fod yr hyn a wnaethom, trwy ddysgu gwersi o gynlluniau Rhaglen Datblygu Gwledig blaenorol, lle gwyddom fod yna danwariant bob amser, trwy orymrwymo'r cyllid, rwy'n gobeithio y byddwn yn sicr yn gwario cymaint â phosibl. Gallaf eich sicrhau nad wyf am anfon unrhyw arian yn ôl at Lywodraeth y DU, nac i'r Undeb Ewropeaidd cyn hynny. Mae'n bwysig iawn fod yr arian yn cael ei wario yma yng Nghymru. Yn sicr, o safbwynt masnachol, os gallaf ganiatáu i'r Aelodau gael mynediad at wybodaeth am y cynlluniau, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny, ond bydd yn rhaid i mi wirio hynny.
Prynhawn da, Weinidog. Rwyf am ganolbwyntio ar fusnesau bach a microfusnesau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Bydd llawer o'r rheini'n ficrofusnesau Cymraeg eu hiaith a chwmnïau teuluol bach. Mae'r Rhaglen Datblygu Gwledig wedi helpu rhai o'r busnesau bach a'r microfusnesau hynny, yn enwedig mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Rwyf eisiau gofyn am eich sicrwydd y bydd y cynllun wrth symud ymlaen—y Rhaglen Datblygu Gwledig newydd neu beth bynnag y bydd—yn edrych ar sicrhau bod y gefnogaeth yn parhau i'r busnesau bach a'r microfusnesau hynny, a sut y byddwch chi hefyd yn mesur hynny ac yn sicrhau bod yna effaith dda, yn enwedig ar ein cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Nid oes gennym Raglen Datblygu Gwledig newydd, oherwydd nid wyf yn siŵr pa gyllid a gaf gan Lywodraeth y DU, ac fel y gwyddoch, ein cynllun mawr fydd y cynllun ffermio cynaliadwy, ac mae'n bwysig iawn fod pob fferm yn gallu cael mynediad at hwnnw. Ond yn amlwg, rydych chi'n siarad am economi wledig, ac rwy'n credu unwaith eto ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i gydnabod pwysigrwydd dulliau a arweinir gan y gymuned, os mynnwch, i'r heriau y mae ein heconomi wledig yn eu hwynebu. Felly, bydd yn rhaid imi edrych ar y gyllideb. Mae cyfyngiadau gwirioneddol sylweddol yn cael eu gosod arnom ni fel Llywodraeth ar gyllid gan Lywodraeth y DU. Os edrychwch ar eu dull o weithredu'r gronfa ffyniant gyffredin er enghraifft, a'r gyllideb gyfyngedig sydd ar gael i ni, bu'n rhaid i mi flaenoriaethu fy ymrwymiadau craidd. Felly, os edrychwch ar y rhaglen LEADER er enghraifft, credaf fod hwnnw'n gynllun rhagorol a fu gennym yn ein cymunedau gwledig, ond yn syml, nid oes gennyf arian ar gael i barhau'r rhaglen honno. Ond yr hyn a wnawn—ac nid yn fy mhortffolio i yn unig, ond ar draws y Llywodraeth gyda fy nghyd-Weinidogion Cabinet—yw edrych ar ba faterion gwledig ehangach y gallwn eu cefnogi drwy gyflawni'r rhaglen lywodraethu.
8. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gadw primatiaid fel anifeiliaid anwes? OQ59629
Diolch. Roedd Bil Lles Anifeiliaid Llywodraeth y DU (Anifeiliaid a Gedwir) yn argymell gwahardd cadw, bridio, gwerthu a throsglwyddo primatiaid heb drwydded benodol. Cefnogais ei ddarpariaethau'n llawn ac rwy'n rhwystredig iawn ei fod wedi cael ei ddatgymalu.
Rwyf am ddweud yn ddiamwys iawn nad yw primatiaid yn addas i'w cadw fel anifeiliaid anwes, ac yn sicr nid yw cartrefi'n addas ar gyfer cadw primatiaid. Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid wedi gorfod achub mwncïod mewn perygl gan berchnogion yng Nghymru ac mae wedi dod ar draws achosion uniongyrchol o'r ffordd y gall perchnogaeth breifat ar brimatiaid arwain at ddioddefaint. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes da iawn mewn perthynas â lles anifeiliaid, a gobeithio y bydd hynny'n parhau. Yn dilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Vikki Howells yn gynharach, a wnaiff y Gweinidog ystyried cymryd camau i wahardd perchnogaeth breifat ar brimatiaid ac achub mwncïod dirifedi rhag bywyd o ddioddefaint mewn lleoliadau amhriodol?
Diolch. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i chi, yr hyn roedd y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) yn ei wneud oedd rheoleiddio a thrwyddedu'n well. Nid oedd yn edrych ar waharddiad llwyr, dim ond edrych ar y rheoliadau. Rwy'n gobeithio y byddai hynny wedi bod yn gam mawr i ble'r hoffem fod, yn dilyn y Bil.
Soniais wrth Vikki Howells fy mod wedi gofyn i swyddogion weithio gyda chyfreithwyr i edrych i weld beth allwn ni ei wneud mewn perthynas â hynny, ac os yw'r hyn a ddywedwyd wrth swyddogion yn gywir, fod DEFRA yn edrych ar wneud hyn drwy offeryn statudol, byddwn yn hapus iawn i weithio gyda nhw i wneud hynny, oherwydd rwy'n credu y byddent yn ymgynghori, ac fe allem edrych wedyn ar ddeddfwriaeth. Ac efallai mai dyna fyddai'r cyfle hefyd i weld a allem ei gryfhau i edrych ar waharddiad. Yn onest, nid wyf yn gwybod yr ateb i hynny, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gallem edrych arno.
Rwyf hefyd wedi gofyn am ddata o dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 gan ein hawdurdodau lleol i weld yn union faint o berchnogaeth breifat sydd yma yng Nghymru, oherwydd rwy'n credu y byddai'n dda gweld pa mor sylweddol, neu beidio, yw'r broblem.
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cynaliadwyedd bwyd yng Nghymru? OQ59660
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru mewn perthynas â chynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd, ac i sicrhau bod y diwydiant yn parhau i fynd i'r afael ag anghenion pobl Cymru.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, bydd cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn hanfodol yn ein hymdrech i sicrhau diogeledd bwyd yma yng Nghymru. Yn anffodus, nid wyf yn credu bod manteision angori diogeledd bwyd mewn deddfwriaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol wedi'u cydnabod yn ddiweddar. Fodd bynnag, erys y ffaith bod galw mawr ar y Llywodraeth i weithredu mewn ffordd sy'n ymestyn yn ehangach na'r Bil amaethyddol neu'r cynllun ffermio cynaliadwy neu unrhyw strategaeth fwyd gymunedol, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiadau rydych chi wedi'u gwneud hyd yma.
Fis diwethaf, gwnaeth Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig sawl argymhelliad i'r Llywodraeth. Un oedd cyhoeddi dogfen yn nodi holl bolisïau bwyd y Llywodraeth ar draws adrannau, gan ddangos sut mae'r rhain yn cyd-fynd ag amcanion cyffredinol allweddol y Llywodraeth mewn perthynas â bwyd. Weinidog, a all y Senedd ddisgwyl i ddogfen o'r fath gael ei chyhoeddi ac os felly, pryd fyddech chi'n rhagweld y bydd ar gael inni allu craffu arni?
Diolch. Fe all y Senedd ddisgwyl hynny. Rwy'n mynd i ddweud 'hydref eleni'. Fe ddywedaf 'hydref eleni', ond wyddoch chi, efallai y bydd yn ymestyn i mewn i'r gaeaf. Ond i chi gael gwybod, mae cryn dipyn o waith eisoes yn digwydd ar draws y Llywodraeth. Ac fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ymateb i'r ddadl ar eich Bil bwyd—mewn ateb i Jenny Rathbone, rwy'n credu—fod y Prif Weinidog yn mynd i gynnull yr holl Weinidogion, ynghyd â'n swyddogion, i edrych ar y gwaith polisi bwyd sylweddol a oedd yn digwydd ar draws y Llywodraeth er mwyn ceisio ei gydgysylltu. Cadeiriodd y Prif Weinidog y cyfarfod hwnnw ddoe, ac roedd yn ddiddorol. Fe ddysgais innau hyd yn oed am bethau a oedd yn digwydd ym maes bwyd. Mae bwyd yn fy mhortffolio i, ond roedd clywed am y gwaith sylweddol sy'n digwydd ar draws y Llywodraeth, gan bron bob Gweinidog, mewn perthynas â pholisi bwyd—. Felly, yr hyn y gofynnais i swyddogion ei wneud nawr yw dod â'r holl waith at ei gilydd mewn un ddogfen. Bydd rhywfaint ohono'n cyd-fynd yn llwyr â gwaith y strategaeth bwyd cymunedol rydym yn gweithio arni gyda Phlaid Cymru, fel y gwyddoch, yn rhan o'r cytundeb cydweithio er mwyn cyflwyno'r strategaeth bwyd cymunedol honno. Ni fydd modd cynnwys rhai o'r pethau eraill yn y strategaeth bwyd cymunedol, ond rwy'n credu y bydd yn bwysig dod â'r holl waith at ei gilydd yn y ddogfen rydych newydd gyfeirio ati. Felly, cam cyntaf y gwaith fydd dod â'r gwaith at ei gilydd. Rwyf wedi gofyn am wneud hynny erbyn diwedd y tymor hwn, felly ymhen ychydig dros bedair wythnos. Gellir edrych ar hynny wedyn dros yr haf, gan edrych ymlaen wedyn at gyflwyno'r ddogfen rydych newydd fy holi yn ei chylch. Felly, fel rwy'n dweud, rwy'n gobeithio y gellir gwneud hynny yn yr hydref, ond rwy'n credu ei bod yn ddiogel imi ddweud cyn y Nadolig.
10. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau beth yw'r camau nesaf ar gyfer cyflwyno CCTV gorfodol mewn lladd-dai? OQ59653
Rwyf wedi ymgynghori ar gynigion ac wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion y mis diwethaf. Mae swyddogion bellach yn datblygu rheoliadau i gyflawni ein hymrwymiad i ofyn am deledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy. Rwy'n bwriadu cyflwyno'r rhain erbyn gwanwyn 2024.
Mae'n dda clywed hynny, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno y dylid arfer y safonau a'r rheoliadau uchaf posibl ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu difa yng Nghymru. Ac a fyddech chi'n cytuno â mi fod yr ymgynghoriad yn dangos yn eithaf clir pa mor gryf yw barn y cyhoedd o blaid y safonau uchaf posibl? Fel Aelod o'r Senedd hon, lles anifeiliaid yw un o'r pethau sy'n cael fwyaf o sylw yn fy mag post, ac rwy'n siŵr fod hynny'n wir ar draws y Siambr. Felly, gyda'r cefndir hwnnw, Weinidog, rwy'n falch iawn o glywed y byddwch yn bwrw ymlaen â'r safonau newydd hyn, ac rwy'n gobeithio y gallwch wneud hynny'n effeithiol o ddiwrnod cyntaf eu gweithredu.
Ie, diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Pryd bynnag y bydd unrhyw fater neu ymgynghoriad mewn perthynas â lles anifeiliaid, mae fy mag post i yn sicr, fel Aelod o'r Senedd, bob amser yn chwyddo; rwy'n bendant yn meddwl bod yn well gan bobl anifeiliaid na phobl, ac mae bob amser yn fater o bwys mawr i'n hetholwyr. Ac wrth gwrs, mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth lwyr i mi fel Gweinidog ac i Lywodraeth Cymru, ac un o'r rhesymau pam y cyflwynais y cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd pan ddaethom yn ôl ar ôl yr etholiad ddwy flynedd yn ôl oedd er mwyn dangos cwmpas y gwaith y bwriadwn ei wneud ym maes lles anifeiliaid.
Cafwyd dros 16,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad, ac roedd y mwyafrif llethol ohonynt o blaid cael teledu cylch cyfyng yn ein lladd-dai, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae gan bob lladd-dy mawr yma yng Nghymru deledu cylch cyfyng yn barod. A dylwn ddweud na all teledu cylch cyfyng gymryd lle goruchwyliaeth uniongyrchol gan reolwr lladd-dy, na hyd yn oed y milfeddygon swyddogol y mae'n rhaid eu cael yno. Felly, rwy'n credu y dylem fod yn dawel ein meddwl fod safonau uchel iawn yn ein lladd-dai ledled Cymru.
Nid yw Janet Finch-Saunders yn y Siambr i ofyn cwestiwn 11, felly cwestiwn 12, Tom Giffard.
Ni ofynnwyd cwestiwn 11 [OQ59635].
12. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch twristiaeth mewn cymunedau gwledig? OQ59650
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda fy holl gyd-Weinidogion Cabinet ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys twristiaeth mewn cymunedau gwledig. Mae ein strategaeth, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r Economi Ymwelwyr 2020-2025', yn gosod ein gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer y sector ledled Cymru.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac am gyrraedd cwestiwn 12—nid oeddwn yn meddwl y cawn fy ngalw heddiw. [Chwerthin.]
Mae gennych Janet Finch-Saunders i ddiolch am hynny. [Chwerthin.]
Mae gennyf Janet Finch-Saunders i ddiolch iddi'n rheolaidd, Lywydd. [Chwerthin.]
A gaf fi godi mater y rheol 182 diwrnod a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru? Yn amlwg, y prif fath o lety i ymwelwyr mewn cymunedau gwledig fydd llety gwyliau hunanddarpar, felly fe wyddom y byddai unrhyw newidiadau treth posibl yn cael effaith anghymesur ar y cymunedau gwledig hynny. Felly, o'ch safbwynt chi, fel llais y cymunedau gwledig, os mynnwch, o gwmpas bwrdd y Cabinet, a oes asesiad effaith gwledig penodol wedi'i wneud ar yr effaith y gallai'r newidiadau hyn ei chael nid yn unig ar yr eiddo llety gwyliau hunanddarpar ei hun, ond ar y seilwaith ehangach—y dafarn leol, y siop leol ac ati—y bydd ymwelwyr yn aml yn gallu eu cadw ar agor. Felly, a wnewch chi gadarnhau a yw'r gwaith hwnnw wedi'i wneud ai peidio os gwelwch yn dda, a pha sylwadau penodol a wnaed gennych am y polisi hwn ar ran cymunedau gwledig?
Wel, yn amlwg, pan drafodir unrhyw bolisi o amgylch bwrdd y Cabinet, mae gan bob Gweinidog farn ac mae'n cyflwyno pwyntiau pwysig ar bolisi i'w phrofi. Bydd yr asesiad effaith economaidd wedi'i wneud. Nid wyf yn gwybod a fydd wedi edrych yn benodol ar gymunedau gwledig, ond yn sicr fe wnaf ofyn y cwestiwn hwnnw ac ysgrifennu at yr Aelod.FootnoteLink
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn amserol heddiw, a'r ddau yn cael eu hateb gan y Gweinidog economi, ac mae'r cyntaf o'r rheini gan Jayne Bryant.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod cwmni parseli Tuffnells wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? TQ794
Diolch. Mae'n newyddion trist fod cwmni parseli Tuffnells wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Digwyddodd hyn ddoe, a gwn y bydd yn ddinistriol i'r rheolwyr a'r staff. Byddwn yn canolbwyntio nawr ar gefnogi'r gweithwyr yr effeithir arnynt yma yng Nghymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y sonioch chi, mae un o'r depos hynny yn Nhŷ-du yn fy etholaeth yng Ngorllewin Casnewydd, a chadarnhawyd bod pob un o'r 75 o weithwyr yno wedi cael eu diswyddo. Mae hyn yn newyddion trychinebus i'r holl weithwyr hynny a'u teuluoedd, sydd yn y sefyllfa hon heb unrhyw fai arnynt hwy. Yn yr hyn sydd eisoes yn flwyddyn eithriadol o anodd i lawer, mae sydynrwydd y cyhoeddiad i'w weld yn arbennig o greulon.
Mae'n amlwg mai'r gweithwyr yw'r flaenoriaeth, ac maent wedi cael cam, ond mae busnesau ac is-gontractwyr eraill hefyd yn mynd i gael eu heffeithio gan hyn, gydag un busnes lleol â sawl anfoneb heb eu talu iddo. Weinidog, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru a'ch swyddogion bob amser yn gweithredu'n gyflym yn y sefyllfaoedd hyn, ond a allwch chi fy sicrhau y bydd cymorth yn cael ei drefnu ar gyfer y gweithlu fel eu bod yn cael y cyngor gorau ynglŷn â chysylltiadau posibl â chyflogwyr eraill a chyfleoedd ar gyfer hyfforddi? Mae nifer o fusnesau lleol eisoes wedi cysylltu â mi i gynnig eu cefnogaeth a'u help. Ac a oes gennych unrhyw gyngor i'w roi i'r busnesau lleol eraill yr effeithir arnynt ar sut y gallant gysylltu â'r gweinyddwyr am yr hyn sy'n ddyledus iddynt am eu gwasanaethau?
Diolch am y cwestiwn. Mae yna nifer o bwyntiau ymarferol pwysig iawn yno, ac rwy'n deall bod un o ddepos Tuffnells yn ei hetholaeth yn Nhŷ-du. Yr anhawster sydd gennym yn Llywodraeth Cymru yw na chysylltodd y cwmni â ni o gwbl ar unrhyw adeg i nodi ei fod mewn trafferthion, felly cawsom wybod pan wnaed y cyhoeddiad fod gweinyddwyr wedi'u penodi ddoe. Mae'n rhan o grŵp llawer mwy, gyda dros 2,000 o bobl yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Tuffnells, felly bydd yn sioc i'r gweithwyr hefyd. Nawr, mae'r her yn ymwneud â'r hyn y gallant ei wneud a sut maent yn cael y mathau hynny o gefnogaeth. Mae'r gweinyddwyr wedi rhoi eu manylion ar wefan Tuffnells—mae ganddynt fanylion cyswllt. Os ydych chi'n unigolyn, gall pobl gysylltu â Llywodraeth Cymru. Os bydd pobl yn cysylltu drwy eich swyddfa, gallwn fwrw ymlaen â'r cyngor hwnnw. Ond rydym eisiau gweithio gyda'r gweinyddwyr i sicrhau bod cyngor clir a dealltwriaeth o'r cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu, er enghraifft drwy ein rhaglen ReAct Plus neu ein rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, a chysylltiadau drwy Gyrfa Cymru o bosibl, i helpu pobl i ddod o hyd i waith arall. Mae gennym hefyd berthynas adeiladol gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ogystal ac am y math o gymorth y gallant ei ddarparu.
I unrhyw fusnesau yr effeithir arnynt, dylent yn bendant gysylltu â Busnes Cymru i ddeall beth allwn ni ei wneud i geisio eu cyfeirio ynglŷn â'u hawliau. Ond dylent hefyd gael cyswllt uniongyrchol â'r gweinyddwyr ac ynglŷn â ble maent yn y llinell gredyd a'r hyn y gallant ei wneud, os oes ganddynt anfonebau heb eu talu iddynt.
Rhan o'r her o ymdrin â'r gweithlu yw nad ydym yn credu bod undeb cydnabyddedig ar y safle yn etholaeth yr Aelod nac ar draws y busnes ehangach. Mae hynny'n golygu felly fod angen trefnu gweithwyr ar ôl i'r pethau hyn ddigwydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysicach fyth fod yna gyswllt uniongyrchol â swyddfa'r gweinyddwyr ac yn wir, fel y dywedais, drwy gydlynu swyddogion lleol. Felly, rwy'n hapus iawn i gyfarfod â'r Aelod i gael sgwrs ymarferol gyda hi a/neu Aelod Seneddol y DU i ddeall y math o alwadau am gyngor rydych chi'n eu cael gan yr oddeutu 70 o bobl sy'n cael eu cyflogi'n barhaol, neu a arferai gael eu cyflogi'n barhaol ar y safle, ac i sicrhau bod ganddynt fynediad hawdd at gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru neu'r Adran Gwaith a Phensiynau yn wir, fel y dywedais.
Hoffwn ddiolch i Jayne am ofyn y cwestiwn hwn; rwy'n adleisio'r sylwadau a wnaed ynglŷn â cholli'r swyddi hyn. Mae'n ergyd chwerw arall i'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, yn dilyn colli cannoedd o swyddi yn Tillery Valley Foods Ltd yng Nghwmtyleri ac Avara Foods yn y Fenni.
Weinidog, rydych wedi mynegi cryn bryder am y cynnydd diweddaraf mewn diweithdra yng Nghymru oherwydd, ar 4.8 y cant, mae bwynt canran cyfan yn uwch na chyfartaledd y DU. Rwy'n nodi ac yn croesawu'r pwyntiau a wnaed gennych ynglŷn â'r pecyn cymorth sy'n cael ei ddarparu i'r rhai a ddiswyddwyd gan Tuffnells. A wnewch chi ddweud wrthym, os gwelwch yn dda, p'un a ydych yn credu y gellid addasu'r safle ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth eraill? Ac a allwch roi syniad i'r Senedd o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r ffigurau hyn ar y cynnydd cenedlaethol mewn diweithdra, sy'n peri pryder gwirioneddol? Diolch.
Wel, â phob parch, nid wyf am ateb rhan olaf y cwestiwn, gan fod cwestiwn amserol pellach gan un o'ch cyd-Aelodau ar y ffigurau a gyhoeddwyd ddoe.
O ran y potensial yma i gefnogi ac i herio, rhan o'r newyddion da, i weithwyr sydd â sgiliau ac ym maes logisteg a meysydd cysylltiedig, yw bod angen pobl yn y sector hwnnw o hyd. Felly, rwy'n obeithiol iawn y byddwn yn gallu darparu cyfleoedd eraill i bobl weithio. O ran y safle, nid wyf yn gyfarwydd â'r safle ei hun, ond ar y pwynt mwy cyffredinol ynglŷn â safleoedd cyflogaeth, mae pob un o'n hawdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru yn wir, yn edrych ar safleoedd ar gyfer cyflogaeth. Mae'n debyg mai hon yw ochr orau'r hafaliad i'w gael mewn perthynas â'r galw am safleoedd cyflogaeth eraill, felly rwy'n awyddus iawn i'r safle hwn barhau i fod yn safle cyflogaeth. Rydym yn cael ymholiadau rheolaidd gan fusnesau sydd eisoes yma yng Nghymru ac sy'n awyddus i ehangu, yn ogystal â darpar fuddsoddwyr yng Nghymru, ac mae rhai a chanddynt safleoedd cyflogaeth sylweddol ar gael yn rhywbeth rydym yn bwriadu ei wneud i ehangu a chynnal y safleoedd hynny.
Soniodd yr Aelod am Tillery Valley Foods—cyfarfûm â'r tasglu, a fynychwyd gan yr Aelod etholaeth dros Flaenau Gwent, Alun Davies, unwaith eto y bore yma, ac unwaith eto, rydym yn glir ein bod am i'r safle cyflogaeth sylweddol hwnnw barhau i fod yn safle cyflogaeth, ac nid yn unig i helpu'r gweithlu presennol sy'n chwilio am swyddi eraill. Mae nifer sylweddol o bobl yn dal i chwilio am swyddi eraill, yn dilyn tranc Tillery Valley Foods, yn ogystal â sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth ar y safle hwnnw yn y dyfodol. Ac mae'n fwriad gwirioneddol rydym wedi gweithio'n adeiladol iawn arno gyda'r awdurdod lleol, gydag Aelodau etholaeth a mwy nag un blaid. Ac yn yr un modd, rydym hefyd yn edrych ar Avara Foods yn sir Fynwy, ac ar yr un pryd, fel y dywedaf, mae gennym berthynas ymarferol ac adeiladol gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i ddod o hyd i swyddi eraill ar gyfer y gweithlu yr effeithir arno'n uniongyrchol.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb i'r cwestiwn cyntaf yna. Luke Fletcher i ofyn yr ail gwestiwn.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau economaidd yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi ystadegau ONS mis Mehefin sy'n dangos patrwm o ddirywiad yng nghyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch economaidd Cymru? TQ795
Diolch am eich cwestiwn. Dylid dehongli data'r farchnad lafur yn ei gyfanrwydd gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y rheini sy'n edrych ar dueddiadau mwy hirdymor. Mae canlyniadau arolwg y gweithlu a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gymharol anwadal ynddynt eu hunain, gan fod maint y sampl yn fach ar gyfer Cymru. Mae ein hystadegwyr yn dweud na ddylid dibynnu ar ganlyniadau un mis fel darlun diffiniol o gyflwr y farchnad lafur yng Nghymru, er ein bod yn pryderu am nifer o rannau o'r economi yng Nghymru, ac mae hyn yn parhau i fod yn rhan o'r trafodaethau a gawn yn fewnol gyda busnesau, rhanddeiliaid undebau llafur, ac yn wir, gyda Llywodraeth y DU.
Diolch am yr ateb, Gweinidog.
Boed yn eithriad neu'n duedd, dylai'r Llywodraeth fod yn paratoi ar gyfer y canlyniad gwaethaf yn hytrach nag eistedd ar ei dwylo a pharhau fel pe bai popeth yn fusnes fel arfer. Fis diwethaf, pan wnaethom godi pryderon ynghylch cynnydd diweddar mewn cyfraddau diweithdra ac anweithgarwch economaidd, fe wnaethoch chi a'r Prif Weinidog ddiystyru'r ffigurau fel ciplun yn unig. Ers hynny, wrth gwrs, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi rhagor o ddata. Bellach, mae gennym y gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU gyfan, a'r gyfradd gydradd uchaf o ddiweithdra, sy'n uwch nag unrhyw le arall yn y DU ers y llynedd. Rydym wedi gweld cynnydd pellach yng nghyfradd anweithgarwch economaidd, sydd hefyd wedi cynyddu i raddau mwy yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf nag unrhyw le arall yn y DU.
Ac fel y soniais fis diwethaf, mae hyn yng nghyd-destun tangyflawniad hirdymor economi Cymru ar gynhyrchiant, nad yw wedi dangos unrhyw welliannau sylweddol ers 1998. Ar bron bob metrig ar gyfer cyflawniad economaidd a chyflogaeth, mae'r darlun yng Nghymru yn un o ddiffyg twf a dirywiad a reolir. O ystyried y ffigyrau diweddaraf hyn, o ystyried nifer y gweithleoedd y clywn amdanynt yn cau—cawsom gwestiwn ar gau Tuffnells bum munud yn ôl—ac o ystyried y pryderon mewn sawl sector o'r economi, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen asesiad llawer mwy gonest o gyflwr economi Cymru na'r un a ddarparodd fis diwethaf?
Na, ni chredaf fod hynny'n adlewyrchiad teg o weithredoedd y Llywodraeth na'r gyfres o ddatganiadau rwyf wedi'u gwneud am sefyllfa bresennol yr economi a'r rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Yn sicr, nid ydym yn eistedd ar ein dwylo nac yn ymddwyn yn hunanfodlon. Yr anhawster gonest sydd gennym yw bod ffigurau arolygon y gweithlu yn gymharol anwadal, ac mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn bwriadu adolygu arolwg y gweithlu ar gyfer gweddill y flwyddyn hon i ddarparu mwy o sicrwydd. Mae'r darlun mwy sicr sydd gennym yn llai amserol—yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth yw hwnnw, ac mae hwnnw'n dangos darlun eithaf gwahanol. Mae'n dal i ddangos bod lefelau diweithdra Cymru yn is na lefel y DU, mae'n parhau i ddangos ein bod, dros gyfnod datganoli—ac rwy'n gwrthod ei bwyntiau ynghylch cynhyrchiant yn llwyr—wedi gweld gwelliannau gwirioneddol mewn cynhyrchiant, yn ogystal ag mewn cyflogaeth. A hyd at y cyfnod ar ôl y pandemig, gwelsom welliannau yn y cyfraddau anweithgarwch economaidd hefyd.
Ac mae'n werth nodi bod y ffigurau talu wrth ennill, sy'n berthnasol i weithwyr cyflogedig yn hytrach na gweithwyr hunangyflogedig, mewn gwirionedd yn dangos gwelliant dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent yn dangos gwelliant dros y mis diwethaf o ffigurau sydd ar gael. Felly, mae'r dystiolaeth honno'n awgrymu bod cyflogaeth yn tyfu yng Nghymru, ac nid yw hynny'n seiliedig ar sampl arolwg bach, ac felly mae'n ddarlun sy'n peri dryswch. Mae'n bosibl fod rhywbeth cwbl wahanol yn digwydd yn sector hunangyflogedig yr economi, a chredaf ei bod yn onest dweud bod gennym her barhaus o hyd gydag anweithgarwch economaidd. Mae hynny'n wir hefyd mewn rhannau helaeth o weddill y DU. Credaf fod y prif ffigurau'n darparu her i anweithgarwch economaidd ynddo'i hun, gan ei fod yn dal i gynnwys myfyrwyr amser llawn. Ac yn amlwg, rydym yn disgwyl i'r rhan fwyaf o'r myfyrwyr amser llawn hynny gamu ymlaen i gyflogaeth.
Credaf mai'r pwynt ehangach yw—. A hoffwn atgoffa'r Aelod ac eraill yn y Siambr fy mod, pan fyddaf wedi sôn am ddyfodol yr economi, wedi bod yn glir iawn ynghylch rhai o'r risgiau rydym yn eu hwynebu, ac ynghylch rhywfaint o'r anwastadrwydd yn yr economi hefyd. Er y gallai'r DU osgoi dirwasgiad, bydd rhai sectorau yn wynebu diweithdra sylweddol drwy gydol y flwyddyn hon, a meysydd eraill lle ceir cyflogaeth a thwf gwirioneddol. Ac rydym yn dal i wynebu her o ran sicrhau bod modd paru'r gweithwyr sydd ar gael gyda'r swyddi sydd ar gael. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â'r gwaith rydym eisoes yn ceisio'i wneud i helpu pobl yn ôl i fyd gwaith pan fyddant yn economaidd anweithgar yn gyffredinol, ac mae hwnnw'n waith y gallem ei wneud mewn ffordd adeiladol ar y cyd â Llywodraeth y DU.
Felly, mae risgiau a heriau, oes, a chredaf fy mod wedi bod yn onest iawn yn eu cylch. Credaf y gallem weld gwyriad arall i'r cyfeiriad anghywir wrth i'r hyn sy'n weddill o'r cynllun cymorth biliau ynni i fusnesau gael ei dynnu'n ôl, ond bydd cyfleoedd o hyd, ac rwyf wedi gweld rhai ohonynt drosof fy hun heddiw wrth gyfarfod â Phorthladd Aberdaugleddau i edrych ar gyfleoedd presennol a chyfleoedd i ddod i gynyddu twf yn sylweddol yn y rhan honno o Gymru, a cheir cyfleoedd eraill hefyd. Edrychaf ymlaen at fod yn onest ac yn agored ynglŷn â ble rydym arni, ond yn sicr, nid wyf am ymddiheuro am fod yn obeithiol am y sectorau o'n heconomi lle mae yna botensial go iawn ar gyfer twf a ddylai fod o fudd i bob un ohonom.
Weinidog, ni waeth beth a ddywedwch, mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn peri cryn bryder. Gan fod y darlun economaidd wedi gwella mewn mannau eraill ledled y DU, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â pham fod patrwm o ddirywiad yma yng Nghymru, ac mae'n rhaid inni gael gwell dealltwriaeth o gynlluniau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon a'i gwella. Nawr, yn gynharach eleni, dadleuodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, fod polisïau economaidd Cymru ers datganoli,
'heb fod â digon o gydlyniant a chysondeb, ac nad yw'r uchelgeisiau wedi cael eu gwireddu oherwydd gweithredu aneffeithiol.'
Gadewch imi eich atgoffa, Weinidog, fod yr adroddiad hwnnw wedi'i gyd-ysgrifennu gan un o gyn-Weinidogion Llywodraeth Lafur Cymru. Felly, a allwch ddweud wrthym sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu creu swyddi yn nhymor y Senedd hon i sicrhau yr eir i'r afael â'r dirywiad? A allwch ddweud wrthym hefyd pa fesurau newydd a gyflwynir i gefnogi a meithrin mwy o entrepreneuriaeth yma yng Nghymru? Yn olaf, a allwch gadarnhau hefyd y byddwch yn adolygu cynllun gweithredu cyflogadwyedd a sgiliau'r Llywodraeth ar frys yng ngoleuni'r patrwm hwn o ddirywiad, o ystyried nad yw eich cynllun presennol yn gweithio, yn ôl pob golwg?
Wel, unwaith eto, rwy'n deall y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud o ystyried ei fod yn Aelod Ceidwadol a'i fod yn osgoi rhai o'r ffeithiau. Pan edrychwch ar gyfnod datganoli, mae cynhyrchiant wedi cynyddu yng Nghymru dros gyfnod datganoli. Fe ddechreuasom gyda chyfnod sylweddol o ddiweithdra uwch yng Nghymru na chyfartaledd y DU. Mae'r duedd hirdymor wedi bod yn is; dyna pam fod y ffigurau hyn yn peri cymaint o bryder, ac yn drysu'r data talu wrth ennill, fel y dywedaf, sy'n dangos bod nifer y bobl mewn gwaith uniongyrchol, cyflogedig wedi cynyddu yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi cynyddu yng Nghymru dros y chwarter diwethaf a'r mis diwethaf. Ffeithiau yw'r rhain, nid safbwyntiau.
O ran creu swyddi, rydym wedi siarad yn rheolaidd am yr hyn rydym yn ei wneud i gefnogi entrepreneuriaeth drwy ystod o'n rhaglenni. Mae gennym hefyd yr heriau gyda buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol, ac unwaith eto, mae hynny wedi bod yn rhan o'r sgwrs heddiw gyda busnesau. Ym mhob un o'r meysydd hyn, mae gan Lywodraeth Cymru gynllun a dull gweithredu y mae busnesau eu hunain yn eu croesawu. Ein her yw i ba raddau y gallwn ymdopi â maint yr her honno, a ph'un a oes gennym Lywodraeth y DU sy'n gweithio law yn llaw â ni ai peidio. Ceir adegau pan fo Llywodraeth y DU yn gymharol adeiladol, ac un enghraifft yw porthladdoedd rhydd. Ceir adegau eraill pan nad ydynt mor adeiladol: y sgyrsiau nad ydym yn eu cael yn iawn o hyd ynglŷn â dyfodol y sector dur, y gystadleuaeth fwriadol a gwastraffus ar ymyrryd mewn polisi sgiliau. Mae'r rhain yn feysydd lle gallem bob amser alw am well a bargen well i bobl Cymru, pe bai Gweinidogion Ceidwadol yn barod i weithredu mewn ffordd adeiladol a buddsoddi yn nyfodol ein heconomi, fel y byddwn ninnau'n parhau i'w wneud ar ran pobl Cymru.
Mae'n rhaid imi ddweud mai prin y clywais y fath nonsens gan y Ceidwadwyr yn y Siambr hon, ond mae'n amlwg nad yw Paul Davies wedi bod yn gwylio nac yn gwrando dros y 12 mis diwethaf, wrth inni gael dosbarth meistr mewn camreoli ac anghymhwysedd economaidd gan Elizabeth Truss, gan Boris Johnson a bellach gan Brif Weinidog presennol y DU. Yr unig beth sydd ganddynt yn gyffredin yw nad ydynt yn malio dim am y lle hwn, nac yn malio dim am y bobl sy'n talu eu cyflogau.
Weinidog, yr hyn rydym wedi'i weld dros y blynyddoedd diwethaf yw twf economaidd araf, twf araf cynnyrch domestig gros ledled y Deyrnas Unedig—mae hwnnw wedi bod yn arafach na'n holl brif gystadleuwyr. Ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae twf cynnyrch domestig gros wedi aros yn ei unfan bron. Ers i Brexit caled gael ei orfodi ar y wlad hon, rydym wedi gweld twf cynnyrch domestig gros yn aros yn ei unfan am y tro cyntaf ers degawdau, o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed yn Llundain. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, mai'r unig ffordd y bydd Cymru'n elwa o'r buddsoddiadau a wnewch yw os dychwelwn at y farchnad sengl, os dychwelwn at yr undeb tollau, ac os cawn Lywodraeth y DU sy'n credu mewn ailddosbarthu cyfoeth ledled y Deyrnas Unedig, ac sydd â dileu anghydraddoldeb yn un o amcanion craidd ei pholisi economaidd?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ond hefyd am ei ymwneud y bore yma ynghylch dyfodol aelodau o'i gymuned yn Abertyleri a'r gwaith rydym yn ei wneud, gydag Avara, lle mae llawer o'r gweithlu'n dod o Flaenau Gwent, yn ogystal â Tillery Valley Foods.
Pan fydd busnesau'n disgrifio'r heriau sy'n eu hwynebu, mae amodau masnachu newydd Brexit yn un o'r materion y maent yn eu codi'n rheolaidd, ynghyd â phrisiau ynni, sy'n dal i fod yn broblem sylweddol, a dyna pam fy mod yn poeni cymaint fod y cymorth ynni y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddarparu yn cael ei dynnu'n ôl. Mae chwyddiant yn parhau i fod yn bryder parhaus, ynghyd ag argaeledd gweithlu a buddsoddi mewn sgiliau. Ym mhob un o'r meysydd hynny, mae llawer o le i wella.
Yma yn Llywodraeth Cymru, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl i fasnachu gyda'r realiti presennol ar ôl Brexit, ac i geisio cefnogi'r busnesau hynny gyda'r ysgogiadau sydd ar gael i ni. Cytunaf yn llwyr y byddai gwell amodau masnachu gyda'n bloc masnachu agosaf, ein partneriaid Ewropeaidd, a fydd bob amser yn gymdogion daearyddol i ni, yn gadarnhaol iawn i economi'r DU a'r economi yma yng Nghymru. Mae masnach gyda'r UE yn rhan fwy o'n heconomi na rhannau eraill o'r DU, ac edrychaf ymlaen at sgwrs fwy aeddfed ynglŷn â'n perthynas â'r Undeb Ewropeaidd os bydd newid yn y Llywodraeth. Credaf y byddai hynny hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran buddsoddi yn nyfodol ein heconomi, o ran cydnabod anghydraddoldebau rhanbarthol, a cheisio gwneud rhywbeth yn fwriadol gyda phŵer Llywodraeth y DU i weithio gyda ni i fynd i'r afael â'r materion hynny yma yng Nghymru. Mae'n rhan o'r rheswm pam fy mod yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth bresennol y DU, yn ogystal â'r rhai a allai fod yn rhan o Lywodraeth y DU yn y dyfodol, i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu cydnabod pan ddaw buddsoddiadau i Gymru yn y dyfodol, i drawsnewid bywydau'r cymunedau y mae'n fraint eu cynrychioli yma yn Senedd Cymru.
Pwynt o drefn nawr gan Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn mewn perthynas â sylw a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos diwethaf yn y ddadl lle galwodd fy mhlaid ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi adroddiad Ernst & Young, y bu llawer o ddyfalu amdano a llawer o ddiddordeb ynddo ymhlith y cyhoedd yng ngogledd Cymru. Yn y ddadl ar yr adroddiad hwnnw, dywedodd y Gweinidog:
'Yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru, comisiynodd pwyllgor archwilio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Ernst & Young i gynnal adolygiad fforensig o reolaeth cyfrifyddu ar ôl i Archwilio Cymru roi barn amodol ar gyfrifon y bwrdd iechyd ar gyfer 2021-22 a nodi methiannau rheoli mewnol.'
Mae cyn-gadeirydd y bwrdd iechyd wedi gwrthwynebu'r honiad hwnnw, a ddywedodd fod y datganiad yn 'gamarweiniol ac yn anghywir'. Dywedodd hefyd na chafodd ei chomisiynu—yr adroddiad—yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru, ac yn ogystal â hynny, dywedodd cyn-is-gadeirydd pwyllgor archwilio'r bwrdd iechyd, y cyn-aelod annibynnol, Richard Micklewright,
'nad oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r penderfyniad mewn unrhyw ffordd, ac ni ofynnwyd am ei mewnbwn chwaith.'
Yn amlwg, mae yna anghydweld ynglŷn ag a yw'r datganiad hwnnw'n gywir ai peidio. Os nad yw'n gywir, y datganiad a wnaeth y Gweinidog, yna efallai ei bod wedi camarwain y Senedd hon yn anfwriadol. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn—o ystyried budd y cyhoedd yn y mater hwn, mae'n hanfodol ein bod yn cyrraedd y gwir—byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai'r Gweinidog roi sylw i'r pryderon hyn cyn gynted â phosibl.
Diolch am roi rhybudd i fi o'r pwynt yna o drefn, ac felly, ymhellach i'r pwynt yna o drefn, y Gweinidog iechyd, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Darren Millar am y cyfle i egluro'r sefyllfa. Siaradodd cyfarwyddwr cyffredinol y GIG yng Nghymru, Judith Paget, yn uniongyrchol â phrif weithredwr bwrdd Betsi ar y pryd, Jo Whitehead, yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru a ganfu honiadau o gamddatganiadau ariannol, gan argymell y dylai'r bwrdd iechyd gynnal ymchwiliad llawn i ddeall sut y gwnaed y camddatganiadau. Ni chomisiynodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad, ac nid wyf erioed wedi awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r adroddiad, ond mae'n debyg ei bod yn deg dweud na chafwyd sgwrs uniongyrchol, hyd y gwn i, rhwng Llywodraeth Cymru a phwyllgor archwilio bwrdd Betsi, ond fe gafwyd sgwrs, fel y nodais, rhwng prif swyddog gweithredol y GIG yng Nghymru a phrif swyddog gweithredol bwrdd Betsi, ac rwy'n fwy na pharod i gywiro'r cofnod ar hynny.
Yna, comisiynodd pwyllgor archwilio Betsi adroddiad Ernst & Young. Mae'n rhaid i fwrdd blaenorol Betsi gymryd cyfrifoldeb llawn am hynny, ac am yr holl delerau ac amodau sy'n gysylltiedig â'r adroddiad.
Diolch i Darren Millar am y pwynt o drefn ac i'r Gweinidog am ei heglurhad.
Fe awn ni ymlaen, felly, i'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf gan Jack Sargeant.
Diolch, Lywydd. Lywydd, fe gyfarfûm yn ddiweddar â James Hunt o Nanny Biscuit yn fy etholaeth, sy'n trefnu'r Grand Week in Wales, a nod y Grand Week in Wales yw dathlu hanes diwylliannol cyfoethog ein gwlad gan gefnogi amrywiaeth o elusennau lleol a chenedlaethol ar yr un pryd. Mae'r enw, y Grand Week in Wales, yn cydnabod cylchedd 1,000 milltir o hyd Cymru, Lywydd, ac mae'r trefnwyr yn gofyn i bobl ymuno a chodi arian drwy gymryd rhan yn un o'u heriau creadigol ar thema 1,000, boed hynny'n wneud 1,000 o weithredoedd da, 1,000 o weithredoedd caredig Cymreig, neu'n wir, gwneud 1,000 o gacennau cri. Bydd y Grand Week in Wales yn dod â phobl at ei gilydd ledled ein gwlad, gan godi arian ar gyfer elusennau a mentrau cymdeithasol anhygoel. Mae'n cael ei lansio yr wythnos nesaf, Lywydd, ar 19 Mehefin, a hoffwn ddymuno pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan ledled Cymru, ac rwy'n annog pob un ohonoch fel Aelodau i ddarganfod mwy ac i ystyried cymryd rhan yn un o'r heriau ar y thema 1,000.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Yr wythnos yma, rydym ni'n nodi marwolaeth y Dywysoges Gwenllian. Fe'i ganwyd yn 1282, blwyddyn bwysig iawn yn hanes Cymru. Pan oedd hi ond ychydig fisoedd oed, fe laddwyd ei thad, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog olaf Cymru, gan fyddin Edward I o Loegr. Roedd ei mam, Eleanor de Montfort, wedi marw yn fuan ar ôl i Gwenllian gael ei geni. Fe gipiwyd Gwenllian yn fabi bach o'i chynefin yn Arfon, a threuliodd weddill ei bywyd mewn lleiandy yn Sempringham, Lloegr, hyd at ei marwolaeth yn 54 oed.
Oedd hi'n gwybod pwy oedd hi? Dydyn ni ddim wir yn gwybod. Cafodd ei halltudio ymhell o'i gwlad a'i theulu fel na fyddai hi'n sbardun i wrthryfel gan y Cymry. Diolch i Gymdeithas y Dywysoges Gwenllian am gadw ei henw yn fyw. Diolch i fy rhieni i am roi ei henw i mi. Yn 2009, fe ailenwyd Carnedd Uchaf yn Eryri yn 'Carnedd Gwenllian'. Mae tref Bethesda gerllaw a, benwythnos diwethaf, cynhaliwyd gŵyl arbennig yn Nyffryn Ogwen i gofio'r Dywysoges Gwenllian, wedi'i threfnu gan Bartneriaeth Ogwen.
Mae'r bardd Roger Griffin wedi crynhoi'r stori hynod drist, ond efo thinc gobeithiol yn y diweddglo:
'Chi oedd ein tywysoges olaf, ond nid ein tywysoges a gollwyd. / Mae eich olion traed ar ein llwybr creigiog o hyd. / Goroesi yw sgil arbennig ein cenedl, / A dim ond hogi ein balchder ystyfnig y mae amser.'
Yr wythnos hon yw Wythnos Iechyd Dynion, ac mae'n ddigwyddiad rhyngwladol sy'n digwydd bob blwyddyn ym mis Mehefin. Nod yr Wythnos Iechyd Dynion yw annog dynion i gymryd camau rhagweithiol i wella eu lles corfforol a meddyliol. Yn ystod yr Wythnos Iechyd Dynion, mae sefydliadau amrywiol, gweithwyr iechyd proffesiynol a grwpiau cymunedol yn trefnu digwyddiadau, gweithdai a sgriniadau iechyd—rhaglen addysgol wedi'i thargedu'n benodol tuag at ddynion. Nod y gweithgareddau hyn yw darparu gwybodaeth ac adnoddau ar bynciau fel atal, ymarfer corff, maeth, iechyd meddwl, a phwysigrwydd cael archwiliadau a sgriniadau rheolaidd. Mae Wythnos Iechyd Dynion yn atgoffa dynion i flaenoriaethu eu hiechyd a'u lles, i fabwysiadu ffordd iach o fyw, ac i geisio cyngor meddygol amserol pan fo angen. Mae hefyd yn annog trafodaeth agored am faterion iechyd dynion, sy'n aml yn gallu cael eu hanwybyddu neu eu stigmateiddio. Drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth, nod Wythnos Iechyd Dynion yw gwella canlyniadau iechyd cyffredinol i ddynion a'u hannog i fyw bywydau iachach a hapusach. Diolch.
Diolch, bawb.
Eitem 5 y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, ymgyrch Warm This Winter. Galwaf ar Hefin David i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8275 Hefin David, Jack Sargeant, Jane Dodds
Cefnogwyd gan Alun Davies (Blaenau Gwent), Carolyn Thomas, Delyth Jewell, Heledd Fychan, Huw Irranca-Davies, Jenny Rathbone, John Griffiths, Joyce Watson, Mike Hedges, Rhianon Passmore, Rhys ab Owen, Sioned Williams, Vikki Howells
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfyngau lluosog, sef yr argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni, a'r argyfyngau hinsawdd a natur, a bod ymgyrch Warm This Winter yn cydnabod bod yr argyfyngau hyn yn gysylltiedig ac wedi'u hymblethu, a bod yr un ffactorau wedi'u hachosi a'r un atebion sydd iddynt.
2. Yn nodi bod ymgyrch Warm This Winter yng Nghymru yn galw am gymorth brys i'r rhai mwyaf bregus.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno buddsoddiad i gefnogi aelwydydd bregus y gaeaf diwethaf, ei bod wedi cyhoeddi cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, a chynlluniau effeithlonrwydd ynni ychwanegol ar gyfer ein cartrefi, ond bod angen gwneud mwy.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio i weithredu atebion ar gyfer llwybr gwirioneddol allan o'r argyfwng costau byw, drwy gydnabod bod camau allweddol i fynd i'r afael â diogelwch ynni a'r argyfwng hinsawdd—fel cynnydd mawr mewn effeithlonrwydd ynni a chyflwyno ynni cymunedol ledled Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi pryderon gyda Llywodraeth y DU am gost ynni, a'r angen i sicrhau bod cynlluniau cymorth y DU ar waith i sicrhau bod pobl yn gynnes y gaeaf hwn, a phob gaeaf i ddod.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth imi edrych i fyny drwy'r twndis ar yr awyr, gallaf weld bod yr awyr yn las, ac o bosibl, dyma un o'r diwrnodau cynhesaf, os nad diwrnod cynhesaf y flwyddyn. Efallai eich bod yn meddwl ei bod yn adeg anarferol i ddechrau meddwl am y gaeaf, ond mewn gwirionedd, dyma'r adeg iawn i ddechrau meddwl am y gaeaf a sut rydym yn amddiffyn ein haelwydydd tlotaf a mwyaf bregus wrth inni anelu, gyda newid hinsawdd, at yr hyn a allai fod yn aeaf oer a gwlyb.
Felly, rwy'n falch iawn o allu cyflwyno'r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch, wrth gwrs, i'm cyd-gyflwynwyr, Jack Sargeant a Jane Dodds, a fydd â phethau i'w dweud yn y ddadl hon, a phawb arall sydd wedi ei chefnogi. Ond credaf y dylwn sôn hefyd am rywun y mae llawer o hiraeth ar ei hôl yn y Siambr hon, sef Bethan Sayed. Rwy'n siŵr fod hiraeth gan Blaid Cymru amdani—yn sicr, mae hiraeth arnom ni amdani. [Torri ar draws.] Oes, mae'n rhaid ichi nodio. Mae'n rhaid ichi nodio. Mae Bethan yn enghraifft o wireb Tony Benn fod gennych fwy o amser i wleidyddiaeth ar ôl gadael y Senedd. Ac mae hynny'n sicr yn wir yn ei hachos hi. Mae wedi ein helpu i ddatblygu'r cynnig hwn. Mae wedi ein helpu i nodi rhai o'r meysydd ymgyrchu allweddol drwy ei gwaith gyda Climate Cymru, ac ar draws y DU, ymgyrch Warm This Winter, sy'n ymgyrch ardderchog, ac sydd wedi'i chynllunio i sicrhau newid yn y DU, ac yma yng Nghymru hefyd drwy Climate Cymru.
A'r hyn rwyf am ei wneud heddiw yw nodi rhai o'r pethau yr hoffem weld Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, rhai o'r pethau y maent wedi'u gwneud yn dda hyd yn hyn ac efallai wedi dechrau eu dirwyn i ben a hoffem weld ychydig mwy ohonynt y flwyddyn nesaf, a hefyd rhai o'r pethau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud. Ond gall y Ceidwadwyr ymlacio—nid wyf am ymosod arnynt; nid wyf am eich cynhyrfu fel Alun Davies. Fy mwriad, yn sicr, yw ceisio dod o hyd i fy—[Torri ar draws.] Hisht. Fy mwriad yn sicr yw ceisio dod o hyd i ffyrdd o ddod i gytundeb trawsbleidiol ar hyn, a gobeithio, i gael cefnogaeth lawn ar draws y Siambr i'r cynnig. Deallaf y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig. Mae gennyf rywbeth i'w ddweud am hynny mewn munud.
Felly, rydym yn byw drwy argyfwng hinsawdd, argyfwng costau byw ac argyfwng amgylcheddol. Mae'r holl bethau hyn gyda'i gilydd yn ychwanegu at y boen i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Ond wrth gwrs, maent wedi'u cyfuno, maent yn gysylltiedig, y materion hyn, ac rwy'n sicr fod ffordd o fynd i'r afael â'r materion hyn drwy rai o'r argymhellion a fydd gennym heddiw.
Felly, mae ymgyrch Warm This Winter yn galw am gymorth ynni ledled y DU i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau ynni, cynllun cydlynol i ddod â dibyniaeth ar nwy ac olew i ben a chynyddu prosiectau adnewyddadwy. Yma yng Nghymru, mae Climate Cymru wedi addasu ymgyrch Warm This Winter i ofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi pobl fregus yng Nghymru gyda grantiau effeithlonrwydd ynni yn y cartref a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy cymunedol. Yr hyn roeddwn am ei wneud oedd edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud hyd yn hyn i ddechrau, a chodi rhai pethau ynghylch hynny hefyd, ar gyfer y dyfodol, ac edrych ar yr hyn yr hoffem ei weld.
Felly, hyd yn hyn, rydym wedi gweld taliad costau byw o £150 gan Lywodraeth Cymru. Cafodd hwnnw ei ddosbarthu gan gyngor Caerffili yn fy etholaeth, ac fe wnaethant ychwanegu ato hefyd. Rydym wedi gweld cynllun cymorth tanwydd Cymru gwerth £200. Rydym wedi gweld cyllid ychwanegol i'r gronfa cymorth dewisol, cynllun talebau tanwydd cenedlaethol gwerth £4 miliwn a chronfa canolfannau cynnes gwerth £1 filiwn. Roedd pob un o'r rhain yn bethau defnyddiol a wnaeth wahaniaeth i'r bobl yn ein cymunedau y gaeaf diwethaf. Hoffem weld ymgyrch tanwydd ar gyfer gaeaf 2023 yn debyg i'r un a gynhaliwyd yn 2022. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud a fydd hyn yn digwydd. Gyda'r Gweinidog—. Rwy'n credu bod y Gweinidog ar y sgrin. Hoffwn ddweud y byddai'n ddefnyddiol gwybod a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal naill ai ymgyrch debyg neu rywbeth tebyg iawn iddi.
Beth nesaf gan Lywodraeth Cymru? Wel, hoffem ganmol Llywodraeth Cymru am gynllun Nyth. Credaf ei fod wedi gwneud gwahaniaeth wrth arwain y bobl fwyaf agored i niwed at y gweithgareddau y gallant ymgymryd â nhw a'r lleoedd y gallant fynd am gymorth. Ond hoffem pe bai Llywodraeth Cymru yn addasu'r cynllun hwnnw ar gyfer y bobl ar yr incwm isaf er mwyn eu helpu i inswleiddio eu cartrefi. Mae yna lwybr at hynny. Credaf fod angen rhywfaint o gefnogaeth arnoch gan Lywodraeth y DU hefyd i wneud hynny, ond yn sicr, mae cyfle i ymestyn y cynllun hwnnw.
Rydym am i Lywodraeth Cymru gefnogi'r ymgyrch cyflog byw ac i feddwl, yn arbennig, am yr addewid a wnaethom i weithwyr gofal cymdeithasol, fod eu cyflogau—. Po isaf yr ânt, yr anoddaf yw darparu'r gwasanaeth hwnnw. A hoffem feddwl am y gallu i fynd y tu hwnt i'r cyflog byw hyd yn oed, i weithwyr gofal cymdeithasol. Hoffem roi cymorth ariannol ar gyfer costau byw i bob gofalwr di-dâl, nid y rhai sy'n derbyn lwfans gofalwyr yn unig—mae fy merch fach yn bum mlwydd oed, ac mae'n ofalwr i'w chwaer hŷn; mae sawl math o ofalu'n digwydd yn y cymunedau, a chredaf fod angen inni feddwl am hynny—a hefyd, dod â'r cymorth ychwanegol sy'n bodoli, y prydau ysgol am ddim, cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor a chynlluniau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu, o dan un ymbarél, un system gydlynol, fel ei bod yn hawdd i bobl ddeall a chael mynediad ati. Ac wrth gwrs, hoffem weld, maes o law, system fudd-daliadau fwy cydlynol, ond mae hwn yn gam tuag at hynny y gall Llywodraeth Cymru ei gymryd.
A gwn beth mae Jack Sargeant yn mynd i sôn amdano yn ei araith—mesuryddion rhagdalu. A yw hynny'n gywir, Jack? Rwy'n credu ei fod. Rhowch nod i mi os ydyw; ydy. A chredaf fod mesuryddion rhagdalu, a chyflwyno mesuryddion rhagdalu gorfodol yn y wlad hon, yn erchyll, a chredaf fod Jack Sargeant yn mynd i ddweud pam, ac mae'n mynd i ddweud wrthym yn nes ymlaen beth y gellir ei wneud amdano.
Rydym hefyd am i Lywodraeth Cymru lobïo Llywodraeth y DU i wneud iawn am y diffyg y bydd aelwydydd incwm isel a bregus yn ei ddioddef o ganlyniad i chwyddiant a'r anawsterau cynyddol y mae'r economi yn eu hwynebu. Ac unwaith eto, nid wyf am wneud ymosodiad gwleidyddol ar y blaid Geidwadol. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth y Ceidwadwyr yw: ymunwch â Llywodraeth Cymru i alw ar Lywodraeth y DU i lenwi'r bylchau yn y system nawdd cymdeithasol sy'n cael eu creu gan y chwyddiant afreolus a welwn ar hyn o bryd. Gweithio gyda'n gilydd, cael Llywodraeth y DU i lenwi'r bylchau hynny; fe all ddigwydd, ac fe ellir ei wneud.
Byddem hefyd—ac un o bolisïau'r Blaid Lafur yw hwn, ond byddwn yn dychmygu y byddai Plaid Cymru yn ei gefnogi hefyd—yn awyddus i osod treth ffawdelw go iawn ar gwmnïau ynni, a chael gwared ar gymelliadau i gynyddu gweithgarwch echdynnu tanwydd ffosil. Credaf fod hynny'n rhywbeth y byddem yn ei gefnogi; credaf y byddai o leiaf ddwy ran o dair o'r Siambr yn cefnogi hynny.
Beth y gall Llywodraeth y DU ei wneud i helpu Llywodraeth Cymru i ddarparu cartrefi diogel a chartrefi wedi'u hinswleiddio? Wel, gellir cynyddu'r gyllideb ddatganoledig i alluogi cyflwyno rhaglen inswleiddio cartrefi ar raddfa fwy. A'r ffaith yw, wrth ichi inswleiddio cartrefi yn y wlad hon, mae'n darparu arbedion yn y tymor canolig yn ôl i'r Trysorlys. Mae hwn yn gam buddsoddi i arbed y gallai Llywodraeth y DU ei gymryd, ond nid yw'n gwneud hynny, ac rydym yn teimlo y gallai hynny ddigwydd. Gallem weld darpariaeth ynni adnewyddadwy rhad yn cynyddu'n gyflym hefyd.
Ac yn olaf, nawr, mae hwn yn fater byw, yr un nesaf: Cartrefi Clyd. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â chynghorwyr arbennig Llywodraeth Cymru, a dywedir wrthyf ein bod yn disgwyl datganiad ar Cartrefi Clyd gan Lywodraeth Cymru heddiw. Felly, hoffwn ddweud wrth y Gweinidog: efallai y gallai wneud y datganiad hwnnw fel rhan o'i hymateb i'r ddadl hon—byddai'n ddefnyddiol iawn. Rwyf wedi gofyn i Alex yn fy swyddfa anfon neges ataf os caiff datganiad Cartrefi Clyd ei gyhoeddi. A yw wedi dod?
Na. Rwy'n aros amdano.
Rydym yn aros amdano. Mae Sioned yn aros amdano hefyd. Felly, rydym yn aros yn eiddgar, Weinidog, am y datganiad Cartrefi Clyd. Os oes gennych chi'r datganiad hwnnw, gadewch i ni ei gael—gadewch i ni ei wneud nawr. Beth fyddem ni'n hoffi ei weld yn y datganiad hwnnw? Hoffem weld rhaglen uchelgeisiol Cartrefi Clyd i Gymru, yn gyflym ac ar raddfa fawr. Dylai dargedu'r aelwydydd yr effeithir arnynt fwyaf yn gyntaf, blaenoriaethu gwella ffabrig y tŷ gyda mesurau sy'n effeithlon o ran ynni, a chyfuno dull fesul stryd a chefnogaeth ar alw i aelwydydd agored i niwed lle bynnag y maent. Dyna beth y galwn amdano yn y cynllun Cartrefi Clyd; rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y datganiad a'r hyn sydd i ddod nesaf.
Ac roeddwn eisiau dweud rhywbeth am Arbed hefyd, sydd bellach wedi dod i ben wrth gwrs. Cyngor Caerffili oedd yn rheoli'r buddsoddiad ym Mharc Lansbury yn fy etholaeth i, a welodd lawer o gartrefi ar yr ystad yn cael eu trawsnewid. Ond ni chafodd pob cartref ei gynnwys; roedd rhai'n teimlo nad oedd y cynllun yn mynd yn ddigon pell i rai o'r cartrefi ar yr ystad. A hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru pa wersi y gellir eu dysgu o gyflawniad y cynllun hwnnw, oherwydd roeddem yn gwybod bod cyfleoedd i gysylltu peth o waith Arbed â chartrefi presennol, a dywedwyd wrthym nad oedd gwneud hynny'n gosteffeithiol fel roedd y rhaglen yn bodoli ar y pryd. Felly, os yw Cartrefi Clyd yn cael ei gyflwyno, a allai hwnnw lenwi rhai o'r bylchau na wnaeth Arbed ei wneud efallai?
Fel gyda'r holl ddadleuon hyn, dadleuon Aelodau unigol, mater i'r Siambr—mater i'r bobl yn y Siambr hon, Aelodau yn y Siambr hon, yw dweud wrthym beth sy'n digwydd yn eu cymunedau a'r hyn yr hoffent ei weld o ran polisi. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed yr ymatebion hynny. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Ceidwadwyr yn cymryd rhan yn y ddadl—byddai hynny'n ddefnyddiol iawn i ni gyd. Rwy'n gwybod bod Plaid Cymru yn bwriadu cymryd rhan, a Llafur, a'r Democratiaid Rhyddfrydol. A hoffwn glywed beth arall y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i wneud y gaeaf hwn yn gynhesach i'r bobl fwyaf agored i niwed ac sydd ar yr incwm isaf yn ein cymdeithas. Felly, drosodd atoch chi nawr.
Mae gennyf lawer o siaradwyr, ac ymhell dros y terfyn. Fe geisiaf alw ar bawb, ond gallwch fy helpu drwy gadw at eich amser, os gwelwch yn dda. Jane Dodds.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydych wedi gosod her yno, felly fe wnaf fy ngorau i gadw o fewn fy amser.
Bob gaeaf, mae pobl yn marw yng Nghymru oherwydd cartrefi oer. Mae cymunedau gwledig, fel fy rhanbarth fy hun yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, yn dioddef tlodi tanwydd ac ynni i raddau llawer mwy na'r cyfartaledd cenedlaethol. Fel y clywsom, nid yw problemau y llynedd wedi diflannu, a hoffwn ddiolch i Hefin am gyflwyno hyn nawr. Mae'n hanfodol ein bod yn cynllunio ar gyfer y gaeaf o hyn ymlaen. Ni allwn adael i bobl aros ac aros, eisiau gwybod beth sy'n digwydd ynglŷn â chael cartrefi cynnes. Gall costau cynyddol y gaeaf hwn olygu bod llawer o'n preswylwyr yn gorfod gwneud y penderfyniad anodd rhwng gwresogi a bwyta.
Cymru sydd â'r stoc dai hynaf yn y Deyrnas Unedig, a'r gyfran isaf o anheddau yn y wlad sydd â sgôr tystysgrif perfformiad ynni o C ac uwch. Tai yng Nghymru yw rhai o'r rhai lleiaf effeithlon o ran ynni yn Ewrop. Yn ôl adroddiad pwyllgor y llynedd, mae'r rhaglen Cartrefi Clyd wedi methu ateb lefel yr angen yng Nghymru, ac mae wedi tanseilio ei nodau ei hun oherwydd ei bod wedi'i chynllunio a'i chyflwyno'n wael. Fel y nodais yn y Siambr o'r blaen, ar y gyfradd bresennol, byddai rhaglen Nyth yn cymryd 134 o flynyddoedd i inswleiddio pob cartref sy'n dlawd o ran tanwydd.
Mae ymgyrch Warm This Winter yn galw am gymorth brys i aelwydydd agored i niwed, boed hynny drwy gyfeirio'r anghenus yn awtomatig at gynlluniau effeithlon o ran ynni, neu drwy ehangu cymorth ariannol i gynnwys y rhai sydd wedi syrthio drwy'r bylchau. Ni allwn aros. Rhaid i'r Llywodraeth hon weithredu nawr.
Y tu hwnt i ryddhad ar unwaith, mae angen atebion arnom yng Nghymru yn gyflym ac ar raddfa fawr, i roi diwedd ar dlodi tanwydd a chreu dyfodol adnewyddadwy mwy diogel o ran ynni. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol, dod â'n dibyniaeth ar danwydd ffosil drud i ben, a helpu i uwchsgilio ein gweithlu ar gyfer trawsnewidiad gwyrdd. Dyna pam rwyf wedi bod yn galw, fel y mae eraill wedi bod yn ei wneud, am sicrhau bod gennym 'dreth bonansa', fel rwy'n ei galw, ar fonysau swyddogion gweithredol cwmnïau ynni, neu drwy ymgyrchu dros bontio i incwm sylfaenol cyffredinol. Mae'n rhaid inni atal pwll glo Aberpergwm nawr, a sicrhau bod camau gweithredu i gau Ffos-y-fran, fel sydd i fod i ddigwydd ar 28 Gorffennaf.
Drwy helpu'r tai yr effeithir arnynt fwyaf heddiw, a thrwy fuddsoddi mewn yfory adnewyddadwy, gall Cymru helpu i wneud tlodi tanwydd yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol. Yn ogystal â'r hyn a glywsom gan Hefin eisoes, a'r syniad o ddull ymbarél o helpu pobl i ddeall beth sydd ar gael, hoffwn siarad yn gyflym iawn am goelcerthi dyledion. Roedd coelcerthi dyledion yn argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'n ei gwneud yn glir fod hwn yn un offeryn a all helpu aelwydydd sy'n dioddef dan faich dyledion, ond a fydd hefyd yn cael gwared ar y straen a'r problemau iechyd meddwl sy'n mynd law yn llaw â hynny hefyd.
Edrychaf ymlaen at y ddadl a'r drafodaeth, a diolch, unwaith eto, i Hefin am gyflwyno hyn. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Rwy'n falch iawn o allu cyd-gyflwyno cynnig Hefin David heddiw, ochr yn ochr â Jane Dodds. Roedd yn bleser croesawu Climate Cymru ac ymgyrch Warm This Winter i'r Senedd ychydig wythnosau yn ôl, i Aelodau allu cefnogi ac ymrwymo i'w hymgyrch. Ac os nad yw'r Aelodau wedi gwneud hynny eto, rwy'n eu hannog i ystyried gwneud hynny. Ac mae Hefin David yn hollol gywir. Mae'r haul yn tywynnu y tu allan heddiw; mae'n berwi. Ond y gaeaf diwethaf, ni ddylem anghofio pa mor hir a pha mor ddiflas a pha mor anodd oedd hi i gymaint o bobl. Ac mae cymaint o'r rheini eisoes yn poeni ynglŷn â sut y byddant yn ymdopi y gaeaf nesaf. Ac rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau heddiw, a'r galwadau am gymorth brys i'n pobl fwyaf agored i niwed.
Ddirprwy Lywydd, nid yw Hefin David wedi darllen fy meddwl yn dda iawn; rwyf am siarad am fesuryddion rhagdalu, ond nid wyf am ofyn iddo am rifau'r loteri. Ni ddylai fod yn syndod fy mod am siarad am broblemau unigolion a theuluoedd agored i niwed, a sut y cawsant eu trin gan gyflenwyr ynni y gaeaf diwethaf. Roedd sgandal y mesuryddion rhagdalu a ddatblygodd y llynedd yn dangos methiannau llwyr Llywodraeth y DU, Ofgem a'r cyflenwyr—y cyflenwyr hyn sydd i fod i amddiffyn defnyddwyr agored i niwed a sicrhau nad yw eu hynni'n cael ei ddatgysylltu. Ond nid dyna a welsom. Gwelsom filoedd o warantau llys yn cael eu pasio ar unwaith ar gyfer gosod mesuryddion yn orfodol, heb i wiriadau gael eu gwneud i weld a oedd yr unigolyn yn agored i niwed ai peidio a sut y byddai hynny'n effeithio arnynt. Gwelsom y fideo ffiaidd, oni wnaethom, gan The Times, o asiantwyr dan gontract gan Nwy Prydain yn gorfodi mesuryddion rhagdalu ar gwsmeriaid hynod agored i niwed. Ac rwy'n ymwybodol o enghreifftiau eraill, o arolwg a wnaed gan fy swyddfa, lle mae pobl sydd angen trydan cyson ar gyfer eu dyfeisiau meddygol er mwyn iddynt allu goroesi yn cael eu gorfodi i newid neu wynebu'r posibilrwydd y byddai eu hynni'n cael ei ddatgysylltu.
Mae'r profiad wedi tanlinellu pa mor doredig yw ein marchnad ynni a sut y caiff ei threfnu'n llwyr er mwyn amddiffyn buddiannau'r cyflenwyr, eu cyfranddalwyr a'u swyddogion gweithredol. Ddirprwy Lywydd, fel Cadeirydd, cefais gyfle yn ddiweddar i holi rhai o brif swyddogion gweithredol y cyflenwyr ynni mwyaf cyffredin yn y DU, pan ddaethant i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deisebau. Ac mae'n rhaid imi ddweud imi deimlo (a) yn rhwystredig, a (b) wedi fy nghythruddo ar adegau gan eu hymatebion, ac euthum mor bell hyd yn oed, gyda chytundeb y pwyllgor—a gwelaf rai aelodau o'r pwyllgor yma o'm blaen—fel Cadeirydd, ag ysgrifennu at un swyddog gweithredol i awgrymu wrtho nad oedd yn briodol iddo ddod i bwyllgor yn Senedd Cymru ac awgrymu os na fyddai gan bobl fesuryddion rhagdalu y byddent yn rhoi'r gorau i dalu eu biliau ynni ac y byddent yn mynd ar wyliau. Rwy'n aros am ymateb gan y swyddog gweithredol. Byddwn yn ddiolchgar am ei eglurhad a'i dystiolaeth mewn perthynas â'r mater hwnnw, oherwydd—.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
A fyddech chi'n fodlon dweud wrthym pwy oedd hwnnw, pa gwmni oedd hwnnw? Neu, rwy'n deall os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.
Rwy'n hapus iawn i enwi'r unigolyn. Yr unigolyn oedd Andrew Ward, o Scottish Power. Mae wedi'i gofnodi'n gyhoeddus; mae yno i bobl ei weld ar Senedd.tv, os ydynt eisiau gwneud hynny. Bydd fy llythyr yn gyhoeddus hefyd, ac felly hefyd ei ymateb i'r pwyllgor. Oherwydd pobl sydd â safbwynt felly, ac unigolion sydd â barn o'r fath, sy'n ei chael hi'n anodd iawn cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed, onid e? A dyna'r broblem rydym yma i'w thrafod, ynglŷn â chefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed, sy'n byw ac yn goroesi mewn argyfwng ynni nad oes iddo le mewn cymdeithas o gwbl, a'r hyn a ddywedodd Hefin David yn briodol tuag at ddiwedd ei gyfraniad, fod gennym gyfrifoldeb ar y cyd i wneud rhywbeth yn ei gylch.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei harweinyddiaeth ar y mater hwn. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai hi, unwaith eto, ailddatgan safbwynt Llywodraeth Cymru ar wahardd gosod mesuryddion rhagdalu yn orfodol.
Mae'r ddadl hon, Ddirprwy Lywydd—a gwelaf fod amser yn dirwyn i ben yn araf—mae'r ddadl hon yn rhan o'r ateb sydd ei angen i amddiffyn trigolion Cymru y gaeaf nesaf. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Hefin David a'r Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig hwn. Rwy'n gobeithio y gall y Senedd gyfan ddod at ei gilydd i gytuno â'r cynnig. Mae'n un pwysig iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i Bethan Sayed a Climate Cymru am bopeth y maent wedi'i wneud i gefnogi trigolion agored i niwed. Ac fel y dywedais ar y dechrau, os nad yw'r Aelodau wedi arwyddo'r adduned, dylent wneud hynny. Diolch.
Hoffwn ddiolch i Hefin am gyflwyno'r ddadl Aelodau a hefyd i Bethan Sayed am ei holl waith—ein cyn gyd-Aelod yma ar feinciau Plaid Cymru wrth gwrs. Ac rwy'n falch o fod yn un o gefnogwyr y cynnig, ac mae Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig yn llwyr, gan ei fod yn cwmpasu'r camau gweithredu, fel y dywedwyd, sydd eu hangen nawr yn ystod cynhesrwydd yr haf i helpu aelwydydd yng Nghymru yn ystod y gaeaf oer ac anodd sydd i ddod. Er y gall ein biliau ynni fod ychydig yn is ar hyn o bryd, wrth i'r haul sychu ein dillad a chynhesu ein tai, nid ydynt yn normal o hyd. Mae gwir angen pwysleisio hyn: maent 80 y cant yn uwch nag ar ddechrau'r argyfwng ynni, ac maent yn dal i fod yn hollol anfforddiadwy i lawer gormod o deuluoedd.
O fis Gorffennaf ymlaen, pan ddaw cap pris Ofgem i rym, bydd y bil ynni blynyddol nodweddiadol yn £2,074. Mae hynny'n golygu y bydd 6.6 miliwn o aelwydydd mewn tlodi tanwydd ledled y DU. Mae wedi cynyddu o 4.5 miliwn ym mis Hydref 2021. Ac fe wyddom, o lawer o adroddiadau sydd wedi eu cyhoeddi hyd yma eleni, fod pryder mawr y bydd y gaeaf nesaf yn anodd—hyd yn oed yn anos na'r diwethaf mewn rhai achosion. Fel y dywed y cynnig, rydym yn wynebu argyfyngau lluosog, ac fel gyda chymaint o argyfyngau, y tlotaf yn ein cymunedau a'r rhai sydd ag anghydraddoldebau croestoriadol sy'n teimlo'r effaith fwyaf.
Dywedodd Barnardo's Cymru yn eu hadroddiad diweddar mai'r pryder mwyaf cyffredin i aelwydydd yng Nghymru yw talu costau gwresogi a bwyd oherwydd prisiau cynyddol. Rhaid darparu cymorth wedi'i dargedu i sicrhau bod y teuluoedd hyn yn goroesi'r gaeaf anodd iawn o'n blaenau. Mae ffigurau gan Cyngor ar Bopeth Cymru yn dangos bod pobl eisoes yn cael trafferth gyda dyledion, a chyngor ar ddyledion ynni yw'r mater mwyaf cyffredin y maent yn ymdrin ag ef. Rydym wedi clywed nifer o adroddiadau'n cael eu dyfynnu mewn dadleuon yn y Siambr hon mewn perthynas â'r angen i dargedu, cydlynu a darparu'r cymorth sydd ar gael yn well.
Cefnogodd y Senedd fy ngalwad am Fil i sicrhau bod pob £1 o gymorth Cymreig yn mynd i'r boced gywir ar yr adeg gywir, a hynny mewn modd mor hawdd a chyflym â phosibl. Rhaid i'r cymorth fod yn effeithiol, ac mae'n rhaid symleiddio'r modd y caiff ei ddarparu, ac eto nid oes gennym system fudd-daliadau Gymreig ar waith fel y mae Plaid Cymru wedi dadlau drosti ers amser maith, gydag elfen statudol i ddarparu'r taliadau cymorth hyn gan awdurdodau lleol. Gallai hyn sicrhau bod y cynlluniau cymorth y mae'n rhaid eu sefydlu y gaeaf nesaf yn cael eu gwneud hyd yn oed yn fwy effeithlon, gan sicrhau'r gefnogaeth honno i'r bobl sydd ei hangen. Mae angen inni ddysgu gwersi o'r gaeaf diwethaf i wybod faint o gymorth sydd ei angen a lle mae ei angen. Felly, pa werthusiad a wnaed, Weinidog, o raglen cymorth tanwydd Cymru, er enghraifft? Pa gynigion newydd sydd gan y Llywodraeth i helpu teuluoedd drwy'r gaeaf caled eleni? A pha gynnydd a wnaed i sicrhau bod y ffordd y gwnawn hynny'n gwella?
Mae'r rhaglen Cartrefi Clyd yn crynhoi amcanion ymgyrch Warm This Winter y gaeaf hwn mewn ffordd nad oes unrhyw fesur unigol arall yn ei wneud yn fy marn i, ac felly mae'n gwbl allweddol i'r ddadl hon. Mae'n peri pryder mawr fod yr iteriad nesaf o'r rhaglen wedi'i ohirio i'r fath raddau. Mewn gwirionedd, mae'n fwy na phryderus; rwy'n credu ei fod yn warthus, ac rwy'n credu ei fod yn anghyfrifol.
Am dros flwyddyn, fe gawsom ni ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr un ateb i'r cwestiynau a godwyd gennym yn ein gwaith ynghylch y cynigion newydd, er i'r ymgynghoriad ar y cynigion newydd hynny ddod i ben ym mis Ebrill 2022. Hoffwn rannu enghraifft o ba mor ofidus yw ymateb y Llywodraeth wedi bod ar hyn: pan gawsom atebion aneglur ar gynlluniau'r Llywodraeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ystod sesiwn graffu ar ddyledion a chostau byw, fe wnaethom ysgrifennu ati i ofyn am fwy o eglurder ar gynigion ac amserlenni, ac mewn ymateb, anfonwyd ateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i gwestiwn ysgrifenedig gennyf. Bu'n rhaid inni ysgrifennu eto cyn i ni gael yr ateb y mae llawer ohonom wedi bod yn ei gael ers misoedd bellach, nad oedd yn taflu llawer o oleuni ar y mater.
Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn waith hanfodol sy'n diwallu angen dybryd i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru, i'w gwneud yn lleoedd cynhesach, gwyrddach ac iachach i fyw, gyda biliau ynni sy'n is yn barhaol. Ac eto mae'n ymddangos nad yw wedi cael y ffocws y mae'n ei haeddu. Felly, mewn ymateb i'r ddadl, rwy'n gobeithio y byddwn yn cael yr ateb, y bydd yr e-bost yn ymddangos ym mewnflwch pob un ohonom, y bydd yr aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru yn cael ateb clir, yr ateb y maent yn ei haeddu, yr ateb a fydd yn rhoi hyder inni fod gan y Llywodraeth gynllun cydlynol a chyflawnadwy, a bod yr amserlen ar gyfer y gwaith yn llai annelwig.
Felly, Weinidog, beth yw'r llinell amser ar gyfer iteriad newydd y rhaglen Cartrefi Clyd? Pryd fydd yn weithredol? Nid pa fis, nid 'erbyn y gaeaf', a dim atebion 'diwedd y gaeaf', os gwelwch yn dda, a allai olygu dechrau'r gwanwyn nesaf. A allwch chi ddweud mwy wrthym am unrhyw newid yn y meini prawf cymhwysedd? Beth fydd trothwy unrhyw gap ar gymorth? Ac yn hollbwysig, sut ydych chi'n sicrhau na fydd y gwaith hwn yn llithro ymhellach? Diolch.
Mae mwy nag 80 y cant o aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru yn byw mewn cartrefi aneffeithlon, sy'n nifer uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU, gan dynnu sylw at bryderon National Energy Action Cymru nad yw'r cynlluniau presennol yn ddigonol i ymdrin â graddau tlodi tanwydd yng Nghymru, a'u galwad am gefnogaeth warantedig i'r rhai sy'n dioddef waethaf yn gyntaf. Mae angen gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru ar frys, gan gynnwys cartrefi perchen-feddianwyr a'r sector rhentu preifat, i'w gwneud yn lleoedd llawer cynhesach, gwyrddach ac iachach i fyw ynddynt, gyda biliau ynni sy'n isel yn barhaol.
Mewn llythyr yn ymateb i mi fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ym mis Ebrill, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ei bod yn disgwyl caffael cynllun newydd yn cael ei arwain gan y galw i ddisodli Nyth erbyn diwedd y flwyddyn galendr, gan ychwanegu y bydd hyn yn ei gwneud hi'n bosibl dyfarnu arian y cynllun newydd ar ddiwedd yr hydref a'i weithredu dros y gaeaf, gyda disgwyliad y bydd yn cael ei ddarparu o ddiwedd y gaeaf ymlaen. Mae'r grŵp trawsbleidiol yn credu ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar frys, gan sicrhau bod y cynllun newydd sy'n seiliedig ar y galw ar gyfer Nyth yn weithredol y gaeaf hwn gyda chymhwysedd a maint wedi'i gadarnhau.
Mae adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar dlodi tanwydd a rhaglen Cartrefi Clyd yn gwneud sawl argymhelliad i'w croesawu ynghylch iteriad nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd, gan gynnwys argymhelliad i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y rhaglen yn ymgorffori'r dull ffabrig yn gyntaf a gwaethaf yn gyntaf o ôl-osod gan dargedu'r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon; ei fod yn fwy o faint, gyda meini prawf cymhwysedd craffach, llai cyfyngol, ac yn wyrddach o ran ei ymyriadau; ei fod yn ceisio talu cost gwaith galluogi; yn dileu'r cap cais sengl i helpu i ddarparu ar gyfer mesurau lluosog ac yn llunio ffordd fwy deallus o gyfyngu ar gostau; a'i fod yn cael ei gefnogi gan fframwaith casglu data, monitro a gwerthuso cadarn gyda chyfundrefn sicrhau ansawdd addas i'r diben. Dyma'r ffordd orau o fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn barhaol, gan leihau faint o ynni y mae angen i aelwydydd tlawd ei ddefnyddio i wresogi eu cartrefi yn y lle cyntaf a darparu gostyngiad parhaol mewn biliau ynni.
Yn y blynyddoedd i ddod, bydd angen cefnogi'r cynllun a'r rhaglen nesaf gan gyllid cynyddol digonol os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei thargedau tlodi tanwydd 2035 a chyfrannu at ei hymdrechion i gyrraedd sero net. Ac os bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad polisi ar ei rhaglen Cartrefi Clyd heddiw, fel y clywsom gan Hefin David, mae'n hanfodol fod y cynllun yn weithredol cyn gynted â phosibl. Rhaid cadarnhau manylion pellach pwysig, yn cynnwys cymhwysedd a maint.
Cymerwyd camau digynsail gan Lywodraeth y DU i gefnogi pobl gyda chostau byw yn dilyn ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin a'i effeithiau enfawr ar brisiau bwyd a thanwydd byd-eang a'r pwysau ar yr economi a achoswyd gan y pandemig. Ymhlith pethau eraill, roedd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddyblu taliad y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf i £200 i aelwydydd cymwys i helpu gyda phrisiau tanwydd.
Wrth siarad yma fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni y llynedd, galwais am ymestyn meini prawf cymhwysedd y cynllun ac roeddwn yn ddiolchgar pan wnaeth y Gweinidog hynny wedyn. Fodd bynnag, wrth holi'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yma ym mis Ionawr, ac eto fis diwethaf yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru nad oedd yn parhau â'r cynllun tanwydd gaeaf y tu hwnt i 2022-23, gofynnais iddi a fyddai hwn yn cael ei ddileu'n llwyr, yn cael ei ddisodli gan y taliad gwreiddiol o £100 neu'n cael ei ddisodli gan rywbeth arall. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ateb hyn nawr.
Wrth ei holi ymhellach yma fis diwethaf, nodais ei chadarnhad i fy swyddfa, er bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod hyd at £90 miliwn ar gael ar gyfer taliadau i aelwydydd incwm isel cymwys o dan gynllun cymorth tanwydd y gaeaf 2022-23, ac wedi amcangyfrif y bydd tua 427,000 o aelwydydd yn gymwys, roedd llai na £65 miliwn wedi'i wario erbyn 28 Chwefror eleni pan gaeodd y cyfnod ymgeisio, gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru yn dweud mai dim ond 316,000 o aelwydydd oedd wedi gwneud cais ac mai dim ond 341,468 oedd wedi derbyn taliad. Gofynnais i'r Gweinidog a fyddai'r tanwariant hwn yn cael ei gario ymlaen felly, ac os na, pam? Fodd bynnag, ni chafwyd cadarnhad y byddai'r tanwariant yn cael ei gario ymlaen i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn perthynas â tlodi tanwydd. Unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ateb y cwestiwn hwn nawr.
Mae angen dysgu gwersi hefyd ar sut mae sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau yn y dyfodol. Fel yr ategwyd gan Sefydliad Bevan ym mis Ebrill, dylai Llywodraeth Cymru sefydlu system fudd-daliadau gydlynol ac integredig i Gymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau prawf modd y mae'n gyfrifol amdanynt.
Mark, mae'n rhaid ichi ddirwyn i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Byddwn yn cefnogi'r cynnig.
Mae'r haul yn tywynnu, ond nid yw mor boeth â hynny. Rwy'n synnu'n fawr fod y Grid Cenedlaethol wedi ailgomisiynu gorsafoedd pŵer glo er mwyn ateb y galw i alluogi pobl i gynnal systemau aerdymheru. Mae'n anodd credu'r peth. Nid yw'n 40 gradd, ond mi fydd os na newidiwn ein ffyrdd. Nid yw'r Grid Cenedlaethol wedi deall y sefyllfa o gwbl, ac nid yw poblogaeth y DU wedi deall y sefyllfa ychwaith, oherwydd nid yw pobl yn esbonio hyn iddynt. Ac os nad oes gennym dai wedi'u hinswleiddio'n well, bydd pethau'n parhau i fod fel hyn. Mae'n wallgofrwydd llwyr, ac mae fel pe na bai gennym argyfwng hinsawdd.
Mae gennym 600,000 o aelwydydd yn byw mewn cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd ac maent mewn sefyllfa amhosibl: nid oes ganddynt yr arian i inswleiddio eu cartrefi ac nid oes ganddynt opsiwn i newid i ynni adnewyddadwy. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn byw mewn cartrefi preifat wedi'u rhentu. Os mai dyna mae pobl sy'n berchen ar eu cartref eu hunain eisiau ei wneud, eu problem nhw yw hynny, ond ein problem ni yw'r rhai sy'n byw mewn tai rhent preifat nad oes ganddynt unrhyw opsiynau, oherwydd os byddant yn dechrau dadlau gyda'u landlord, byddant yn cael eu troi allan. Rydym ar waelod tabl cynghrair Ewrop, a Chymru sydd â'r cartrefi oeraf o'r holl gartrefi sydd gennym ar draws ein gwledydd a'n rhanbarthau.
Mae dros flwyddyn wedi bod ers adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar dlodi tanwydd, ac rydym yn dal i fod heb raglen Cartrefi Clyd newydd. Mae hyn yn ddifrifol iawn. Oherwydd nid yw yno i fynd i'r afael â beirniadaeth o'r rhaglen flaenorol, a nodwyd yn fanwl gan Archwilio Cymru ym mis Tachwedd 2021, a dyma ni, yn cael gwybod na fydd gennym un erbyn mis Tachwedd 2023 hyd yn oed. Fel y nododd Jane Dodds, byddai'n cymryd 134 o flynyddoedd i gywiro'r sefyllfa o ran gwaith inswleiddio ar gartrefi pobl. Felly rwy'n ofni'n fawr am y gaeaf nesaf, oherwydd ni fydd gennym y cymorth ychwanegol a roddwyd i aelwydydd gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru. Fe fydd yn drychineb go iawn. Felly, mae'n rhaid inni edrych ar atebion—rwy'n cytuno â chi, Hefin David, a diolch yn fawr iawn am drefnu'r ddadl hon.
Roeddwn yn edrych ar adroddiad roedd gennyf ran ynddo yn y bedwaredd Senedd gyda rhai o fy nghyd-Aelodau, gan gynnwys John Griffiths a Julie Morgan, yn ogystal â Llyr Huws Gruffydd. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016. Roeddem angen 'Dyfodol Ynni Craffach i Gymru', a'n hargymhellion oedd ein bod yn anelu at ddiwallu ein holl anghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy, yng nghyd-destun yr angen i leihau allyriadau carbon 80 y cant erbyn 2050, fel yr oedd ar y pryd, ac mae angen inni bennu dyddiad targed ar gyfer cyflawni hyn.
Pan edrychwch ar yr hyn a gyflawnwyd gennym mewn gwirionedd, mae'n eithaf truenus. Dyna'r dewis arall y mae angen inni ei gynnig i bobl: nid oes angen i chi gael y nwy a'r trydan drud y caiff ei bris ei bennu yn ôl pris hud y nwy y diwrnod hwnnw, nad yw ond yn warant i'r cwmnïau ynni sydd eisiau parhau i wneud yr un hen bethau sy'n achosi'r holl broblemau.
Y peth arall a argymhellwyd gennym oedd bod angen inni ddiwygio'r rheoliadau adeiladu ar frys i sicrhau bod pob tŷ newydd yn cael eu hadeiladu i safonau ynni 'bron ddim carbon'. Os gall yr Arglwydd Deben alw am ardoll ar bob adeiladwr tai sy'n adeiladu mwy na 100 o gartrefi i ad-dalu'r holl berchnogion tai sydd newydd gael cam yn sgil gorfod ôl-osod eu cartrefi oherwydd eu bod wedi cael eu hadeiladu mewn modd mor annigonol, yn sicr gall Llywodraeth Lafur Cymru feddwl am rywbeth mor gryf â hynny.
Ac yn yr un modd, rwy'n edrych ar yr hyn y mae Wcráin wedi'i gyflawni ers i Rwsia ymosod arni ym mis Chwefror y llynedd: fe wnaethant gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i bweru 200,000 o gartrefi 60 milltir o'r rheng flaen, gan gynhyrchu 114 MW o drydan. Cynhyrchodd Lloegr 1 MW o drydan gyda dau dyrbin gwynt ar y môr. A Chymru, sydd wedi—mae gennyf restr o'r holl raglenni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd, boed yn aelwydydd unigol, yn gymunedau, yn awdurdodau lleol neu—
Mae angen i chi ddirwyn i ben nawr, Jenny, os gwelwch yn dda.
Y cyfanswm yw 581 MW ar gyfer yr holl sefydliadau hyn drwy gydol yr holl flynyddoedd rydym wedi bod yn gwneud hyn. Mae gwir angen inni gael rhaglen ynni adnewyddadwy uchelgeisiol, ac mae'n argyfwng; nid rhywbeth y byddai'n braf ei gael—mae'n argyfwng.
Hoffwn i ddiolch hefyd i Hefin am gynnal y ddadl hon, ac i Climate Cymru a Bethan Sayed am eu gwaith gyda'r ymgyrch yma. Mae mor bwysig. Mae nifer o Aelodau wedi sôn am yr argyfwng costau byw, a fel dŷn ni wedi clywed, 'argyfwng' ydy'r gair gyda hynna, hefyd—y ffaith bod hyd yn oed cadw'n fyw nawr ar gyfer gymaint o bobl yn fater o greisis. Ac fel dŷn ni wedi clywed eisoes, nid mater o gadw'n gynnes ar gyfer y gaeaf sy'n dod yn unig ydy hyn. Mae'r ymgyrch wedi ffocysu ar yr angen i ffeindio datrysiadau mwy cynaliadwy i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur dŷn ni wedi clywed cymaint amdanyn nhw, i helpu pobl sy'n fregus nawr a chenedlaethau sydd dal i ddod.
Oherwydd mae'r argyfyngau hyn yn gorgyffwrdd. Mae yna ysgogiad cyfiawnder cymdeithasol yma i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd nawr, ac i atal trychineb hinsawdd rhag gwthio cenedlaethau'r dyfodol i fywyd o oerfel, dioddefaint a thywyllwch. Mae'r ymgyrch hon yn galw am gynnydd sylweddol mewn buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy fel ynni solar a gwynt, gan ganolbwyntio ar rymuso cynlluniau cymunedol a diogelu byd natur. Nawr, rwy'n ymuno â nhw—ac rwy'n sicr yn ddiolchgar iawn unwaith eto fod y ddadl hon yn digwydd—i alw ar Lywodraeth Cymru i ddyblu'r ymdrechion i sefydlu Ynni Cymru, ac i archwilio pa bwerau datganoledig pellach sy'n angenrheidiol fel y gall Cymru elwa o'n hadnoddau naturiol. Rydym yn wlad sydd mor gyfoethog yn yr adnoddau hynny, ond rydym ar hyn o bryd wedi ein cloi allan rhag elwa o'u potensial. Mae datganoli rhagor o bwerau dros ddŵr a thros Ystad y Goron yn ddau o'r newidiadau mawr sydd angen eu gweld ar frys.
Ac eto, o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol, mae'n hollbwysig ein bod yn cefnogi gweithwyr sy'n gweithio mewn diwydiannau drud ar garbon ar hyn o bryd fel y gallant ennill sgiliau newydd. Ni allwn sefyll yn ôl a chaniatáu i genhedlaeth arall o weithwyr yng Nghymru gael eu dadrymuso gan newidiadau mawr i'w diwydiant. Mae'r gwersi gan Thatcheriaeth yn dal i gael eu teimlo, felly dyma chwyldro, newid, symud radical yn y ffordd rydym yn cynnal ein bywydau, ac mae angen i hynny ddigwydd gyda'r bobl drwy rymuso pobl, nid trwy fynd â phethau oddi wrth bobl.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Rydych chi'n siarad am symud gweithwyr o ddiwydiannau drud ar garbon i ddiwydiannau gwyrdd, ac rydym wedi awgrymu y byddai incwm sylfaenol cyffredinol trosiannol yn un ffordd o wneud hynny. Nid wyf yn gwybod a fyddech chi'n cytuno â'r dull hwnnw o weithredu. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane. Rwy'n meddwl bod hynny'n sicr—. Dyma'r union fath o syniadau radical—wel, ni ddylai fod yn radical, ond syniadau radical, a meddwl y tu allan i'r bocs—beiddgar—y mae angen inni feddwl amdanynt, oherwydd fel sydd wedi—. Mae Jenny wedi gwneud y pwynt hwn; mae pobl eraill wedi gwneud y pwynt hefyd, os ydym yn parhau i wneud yr hyn rydym yn ei wneud nawr, wel, ni fydd planed ar ôl i ni ei hachub, a'r bobl yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus sy'n mynd i wynebu'r perygl mwyaf. Felly, yn sicr, os gallwn wneud unrhyw beth i rymuso pobl yn y sefyllfaoedd hynny, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny—
Diolch am hwnna.
—oherwydd mae'n rhaid inni newid y ffordd rydym yn byw. Mae'n rhaid inni droi ein cefnau ar y dyddiau pan oedd grymoedd y farchnad yn penderfynu pwy ddylai allu aros yn fyw yn gyfforddus. Mae'n hen bryd inni weld y newidiadau sy'n cael eu cynnig yma ac mae brys mawr amdanynt ar yr un pryd, felly rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelodau dros Gaerffili, Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Alun a Glannau Dyfrdwy am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Roeddwn yn falch o gefnogi'r cynnig, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad i'w gefnogi heddiw. Fel y mae'r cynnig yn nodi, mae pobl yn y cymunedau a gynrychiolir gennym yn wynebu cyfres ddi-baid o argyfyngau a heriau cydgysylltiedig. Effeithir ar bob un ohonom gan y pwysau cyfunol hwn. Fodd bynnag, ac fel y mae'r cynnig hefyd yn ein hatgoffa, y grwpiau mwyaf bregus yn ein cymdeithas sy'n cael eu heffeithio fwyaf. Er enghraifft, mae Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd yn nodi bod cynnydd mewn costau ynni yn debygol o effeithio ar yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yn fwy difrifol. Gwyddom fod cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd yn byw mewn eiddo sy'n llai effeithlon o ran ei ddefnydd o ynni, felly mae codiadau costau ynni yn debygol o fod yn llawer uwch na'r cyfartaledd iddynt hwy. A hynny heb archwilio troseddoldeb y mesuryddion rhagdalu, sy'n cosbi'r rhai mwyaf agored i niwed.
Rwy'n cymeradwyo'r alwad gan ymgyrch Warm this Winter, gan ei bod yn amlwg fod yn rhaid inni weithredu i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ystod o gynlluniau llwyddiannus sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl o'n cwmpas: cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, y taliad costau byw, cyllid ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, y cynllun talebau tanwydd a chyllid ar gyfer canolfannau clyd. Ar y rhain, hoffwn roi ychydig funudau i dalu teyrnged i'r gwirfoddolwyr yn fy etholaeth yng Nghwm Cynon sydd wedi ymateb i'r her. Cafodd rhwydwaith cadarn o ganolfannau croeso'r gaeaf ei ddatblygu ledled Rhondda Cynon Taf, gyda chefnogaeth y cyngor, ac maent yn cynnig rhywle cynnes a diogel i bobl leol fynd.
Os caf ddefnyddio tair enghraifft yr ymwelais â nhw yn ystod y gaeaf diwethaf, euthum i grŵp cymunedol Abercwmboi i weld y ganolfan glyd wythnosol y maent yn ei darparu yn nhafarn Cap Coch; mae eglwys Cornerstone yng Nghwm-bach yn cynnig canolfan glyd ddwywaith yr wythnos i bobl yn y gymuned; ac mae'r gwirfoddolwyr sydd wedi ennill gwobrau ym Mhwll Lee Gardens yn cynnal gwasanaeth croeso'r gaeaf wythnosol yng nghanolfan yr henoed Penrhiw-ceibr. Nawr, mae'r holl brosiectau hyn yn cynnig rhywle i bobl leol aros yn gynnes, i beidio â gorfod poeni am gostau ynni, ond maent yn gwneud llawer mwy na hynny hefyd. Mae'r canolfannau'n darparu bwyd i bobl sydd ei angen, yn cynnig rhywle i bobl gael sgwrs, cwmni, i fynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol. Roedd hyn i'w weld yn glir mewn gwirionedd ac roedd yn cael ei werthfawrogi'n fawr pan siaradais â phobl a oedd yn defnyddio'r cynlluniau hyn. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i'r holl wirfoddolwyr ledled Cwm Cynon a ledled Cymru sy'n ei gwneud hi'n bosibl i gynlluniau fel hyn ddigwydd.
Fodd bynnag, fel y mae'r cynnig yn ein hatgoffa, er mor bwysig ydynt, nid yw'r cynlluniau hyn yn cynnig ateb parhaol i'r treialon y mae ein cymunedau yn eu hwynebu. Rwy'n cefnogi galwad y cynnig ar Lywodraeth Cymru i weithio i weithredu atebion i oresgyn yr her yn uniongyrchol, gan ddefnyddio'r dulliau y mae'n eu rheoli a'r pwerau sydd gennym. Edrychaf ymlaen at glywed y Gweinidog yn nodi ei hymateb i'r pwynt hwn. Ond yn anad dim, efallai fod angen i Lywodraeth y DU gymryd camau i fynd i'r afael â'r farchnad ynni sydd wedi torri, er mwyn lleihau cost ynni. Er mai ond ychydig bach yn uwch na'r cyfartaledd Ewropeaidd yw'r prisiau a dalwn am nwy preswyl, rydym yn talu'r pris uchaf ond am ddwy wlad arall yn Ewrop am drydan preswyl. Dim ond tua hanner y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth yr Almaen yw'r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU i aelwydydd a busnesau i dalu costau ynni. Gall Gweinidogion yn San Steffan wneud mwy a rhaid iddynt wneud mwy. Felly, rwy'n gobeithio y gall pawb ohonom gefnogi'r cynnig hwn heddiw i anfon y neges gryfaf sy'n bosibl. Diolch.
Cyn imi alw'r siaradwr nesaf, gan fod cyfeiriad wedi bod at hynny sawl gwaith y prynhawn yma eisoes, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei datganiad ysgrifenedig ar y rhaglen Cartrefi Clyd, felly gallwch i gyd gael cipolwg arno ar e-bost os ydych chi eisiau. Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Hefin David am gyflwyno'r ddadl hon, un sy'n bwysig ofnadwy, fel sydd wedi cael ei amlinellu gan gymaint o Aelodau yn y Siambr yma'n barod, ac un dwi'n ofnadwy o falch o gefnogi. Heb os, mae'r ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma gan Climate Cymru yn un mae nifer ohonom ni wedi bod yn falch o gefnogi o'r cychwyn, a hoffwn innau ddiolch hefyd i bawb sydd ynghlwm efo'r ymgyrch a'r gwaith hyrwyddo gwych gan Bethan Sayed. Mae'n sicr wedi sicrhau bod pobl ar lawr gwlad hefyd yn rhan o hyn, bod pobl mewn cymunedau yn gallu gweld bod yna rywbeth ymarferol maen nhw'n gallu ei wneud a bod yn rhan o ymgyrch ehangach, a dyna pam fod cymaint yn ei chefnogi hi, wrth gwrs.
A minnau'n cynrychioli Canol De Cymru, dwi'n gwybod pa mor bwysig ydy'r ymgyrch hon. Wedi'r cyfan, dyma'r rhanbarth sydd wedi ei heffeithio gan yr argyfyngau hinsawdd a natur mewn ffordd real iawn yn y blynyddoedd diweddar, fel y gwelwyd, wrth gwrs, efo llifogydd dinistriol 2020 a'r bygythiad parhaus sydd i nifer o ardaloedd wrth inni barhau i wynebu tywydd eithafol. Dyma hefyd y rhanbarth gyda rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae tlodi plant a defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu. Yn wir, mae o yn torri fy nghalon o weld yn ddyddiol effaith dewisiadau gwleidyddol ar fywydau pobl, a dewisiadau gwleidyddol ydyn nhw, mae'n rhaid inni fod yn onest am hynny, polisïau megis llymder, peidio â pharhau gyda'r codiad i gredyd cynhwysol, ac, fel dŷn ni eisoes wedi clywed, caniatáu i gwmnïau ynni godi crocbris tra'n parhau i wneud elw aruthrol. Mae hyn yn anfoesol.
Mi oedd Jane Dodds yn sôn am bobl yn gwneud y dewis rhwng cael cartref cynnes neu fwyd, wel, rŵan, mae'r un o'r ddau i nifer o'n teuluoedd ni. Mae hi'n sefyllfa eithriadol, ac roeddem ni'n clywed Jack Sargeant yn dweud ynglŷn â'r math o sylwadau sarhaus y mae pobl yn mynd i fynd ar wyliau. Dydy pobl ddim efo'r arian ar gyfer pethau sylfaenol. Dyna'r realiti yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ni.
Rwy'n credu bod angen inni fod yn onest hefyd ynghylch y ffaith mai pobl sy'n byw mewn tlodi sy'n cael yr effaith leiaf ar yr amgylchedd yn yr argyfwng hinsawdd. Nid oes ganddynt geir am na allant eu fforddio. Nid ydynt yn gwastraffu ynni am eu bod yn cadw llygad ar bob ceiniog. Nid ydynt yn teithio dramor mewn awyren; maent yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle mae ar gael iddynt. Felly, pan fyddwn yn siarad am bobl yn gwneud newidiadau, mae angen inni sicrhau ein bod yn targedu'r bobl sy'n cael effaith ar yr amgylchedd. Ac nid wyf yn meddwl ei bod yn deg inni bregethu i bobl am yr angen i arbed ynni, ac yn y blaen—. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud popeth sy'n bosibl, a dyna pam mae pethau fel y cynlluniau Cartrefi Clyd a sicrhau bod ôl-osod yn digwydd yn gwbl hanfodol, gan nad yw pobl yn wastraffus gyda'u hynni.
Ac mae pobl yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Rydym newydd gael dangosfwrdd datgarboneiddio Cyngor ar Bopeth yn ein mewnflychau, a hoffwn dynnu sylw ato, oherwydd mae'n dangos bod angen gwariant cyfartalog o dros £15,000 ar bron i un o bob dwy etholaeth yng Nghymru, o'i gymharu â gogledd-ddwyrain Lloegr, lle mae llai nag un o bob pum cartref angen y lefel hon o wariant. Os edrychwch yn fanylach ar yr ystadegau, maent yn dangos bod un o bob 10 cwsmer ym mis Chwefror eleni ar ei hôl hi gyda'u biliau ynni, sef cynnydd o 175 y cant ers mis Ebrill 2020. Roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld ffigurau'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. Yn y Rhondda, mae angen lefel uchel o fuddsoddiad ar 65 y cant o gartrefi, cyfartaledd o £15,000, ac ar 63 y cant o gartrefi yng Nghanol Caerdydd. Mae pob etholaeth yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli ymhell dros 50 y cant. Felly, mae hyn yn arwyddocaol. Mae'r dadansoddiad gan Gyngor ar Bopeth hefyd yn ddiddorol o ran nifer y swyddi y gallai hyn eu creu. Yng Nghanol De Cymru yn unig, 10,095 o swyddi—sy'n nifer sylweddol iawn a ninnau wedi bod yn clywed am golli swyddi.
Roedd gennyf ddiddordeb hefyd yn y dadansoddiad fod y lleiafswm y gellid ei arbed i'r GIG drwy fuddsoddi mewn cartrefi yng Nghanol De Cymru yn unig rhwng £25 miliwn a £33 miliwn—mae hwnnw'n arbediad sylweddol. Felly, mae'n fater o geisio edrych ar y mater hwn—maent yn rhyng-gysylltiedig; rydym yn amlwg wedi cysylltu o ran yr argyfwng hinsawdd, gwresogi, ond o ran arbedion gyda'r GIG ac yn y blaen, mae gennym Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru. Dylai pob polisi fod yn gweithio gyda'i gilydd, ond nid ydynt yn gwneud hynny. Rydym yn sôn am osod cyllideb yn erbyn cyllideb. Mae'n rhaid inni wneud hyn yn iawn. Mae gennym gyfle, a phobl yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau sy'n dioddef os na chawn hyn yn iawn.
Rwy'n ddiolchgar i Hefin David am gyflwyno hyn ac i waith Climate Cymru yn dod â hyn i sylw cenedlaethol. Mae'n drasiedi lwyr. Mae'n drasiedi go iawn, ar ddyddiau cynhesaf y flwyddyn drwy'r haf, fod llawer o bobl rydym yn eu cynrychioli ym mhob rhan o'r wlad yn ofni'r hyn sydd o'u blaenau. Ofn y gaeaf, ofn yr oerfel y gwyddant y byddant yn ei deimlo pan ddaw'r gaeaf. Yn ofni effaith hynny. Plant sy'n methu cysgu yn y gwely yn y nos oherwydd eu bod yn oer ac yna'n methu dysgu y bore canlynol am eu bod yn oer. Pobl hŷn sy'n ofni rhoi'r gwres ymlaen oherwydd eu bod yn gwybod na allant fforddio talu'r biliau, a hyn yn yr unfed ganrif ar hugain. Dylem fod â chywilydd ohonom ein hunain, bawb ohonom.
Rwy'n cydnabod y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud. Hefyd, rwy'n cydnabod gwaith Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymateb i'r argyfwng rydym wedi'i wynebu dros y misoedd diwethaf. Ond nid yw'n iawn. Nid yw'n iawn fod Weinidogion, yma neu yn Llundain, yn beio'r sefyllfa yn Wcráin am y sefyllfa a wynebwn heddiw. Nid damwain hanes yw hyn; diffyg cynllunio a diffyg paratoi yw hyn, a diffyg dewrder i wneud penderfyniadau anodd am y dyfodol. Oherwydd nid yw'r argyfwng hinsawdd yn newydd, nid yw'r argyfwng cynhyrchiant ynni a dosbarthu ynni yn newydd. Methiant cynllunio sydd wedi creu'r sefyllfa sy'n ein hwynebu heddiw. Yn hynny o beth, y sefyllfa yn Wcráin yw'r catalydd ac nid achos yr argyfwng sy'n wynebu pobl ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid inni ddysgu gwersi'r argyfwng hwn, ac i mi, mae'r gwersi hyn yn ddeublyg. Yn gyntaf oll, er bod y cymorth a'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cael eu gwerthfawrogi gan y bobl sy'n dioddef o dlodi tanwydd heddiw, ni allwn ddibynnu'n barhaus ar yr hyn a fydd bob amser yn fesurau dros dro i gefnogi'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n rhaid inni newid y ffordd yr ymdriniwn ag ynni yn y Deyrnas Unedig, a dyna'r ail bwynt rwyf am ei wneud.
Mae angen inni gynllunio ar gyfer ynni yn y dyfodol. Mae angen rheolaeth effeithiol arnom. O'm safbwynt i ac yn ôl fy nadansoddiad i, dros y degawdau diwethaf mae Ofgem wedi methu rheoleiddio mewn ffordd a fydd yn sicrhau'r prisiau a diogelu ffynonellau ynni fel y mae gan y wlad hon hawl i'w ddisgwyl gan ei rheoleiddwyr. Methiant y farchnad reoledig ydyw i gyflawni'r buddsoddiad sydd ei angen ar y farchnad honno i ddarparu ynni am bris fforddiadwy i bobl ledled y wlad, ac mae angen inni allu dweud hynny. Ond mae angen i Lywodraethau fuddsoddi i ddiogelu ffynonellau ynni a chynaliadwyedd yn y dyfodol hefyd. Mae angen i Lywodraeth Cymru—a gobeithio y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â hyn—gefnogi buddsoddiadau mewn cynhyrchu gwasgaredig ac ynni niwclear dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Mae angen inni wybod y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r adweithyddion modwlar ar raddfa fach a allai ddarparu cyflenwad llwyth sylfaen ledled y wlad. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn bartner yno. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed gyda'r Aelod dros sir Fôn i gefnogi'r buddsoddiad yn Wylfa, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny, ond mae angen i ni gynllunio hyn hefyd.
Weinidog, rwyf am weld hefyd, yn eich ymateb, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cynhyrchiant gwasgaredig, cynhyrchiant ynni lleol ar raddfa fach, i gysylltu'r polisi hinsawdd â'r polisi cymdeithasol, â'r polisi economaidd. Nid yw'n anodd; dyma'r pethau sylfaenol. Mae'n cael ei wneud mewn gwledydd eraill ac mae angen ei wneud yn y wlad hon hefyd.
Hoffwn ddiolch i Hefin David a Climate Cymru am gyflwyno'r ddadl hon. Dywedodd y Canghellor heddiw fod llawer i'w wneud o hyd i dyfu'r economi a bod yn rhaid inni gadw at y cynllun i haneru chwyddiant. Daw hyn yn sgil diffyg unrhyw ymyrraeth i atal prisiau bwyd rhag codi a chyfraddau llog cynyddol, sy'n golygu cynnydd mewn morgeisi a benthyciadau eraill, a biliau ynni a bwyd llyffetheiriol. Gyda'i gilydd, mae'r biliau hyn yn fynydd amhosibl i'w ddringo bob mis i deuluoedd yn fy etholaeth. Mae teuluoedd sy'n gweithio a phlant yn wynebu byw mewn tlodi.
Mae costau bwyd cynyddol wedi arwain at alw yn ein banciau bwyd sy'n wahanol i unrhyw beth a welsom o'r blaen. Mae eglwysi, capeli, elusennau a grwpiau cymunedol wedi agor eu drysau i ddarparu mannau cynnes pwrpasol, pantrïau cymunedol a siopau arbennig, lle gall preswylwyr gael mynediad at fwyd am ddim neu am bris gostyngol. Ni ddylem fod angen y ddarpariaeth hon. Gyda llai o arian yn ein pocedi, cawn ein gorfodi i wneud dewisiadau rhatach, mwy afiach, gan arwain at argyfwng iechyd a allai fod yn gostus yn y dyfodol agos iawn.
Tra bo cwmnïau ynni'n cymryd mantais, gan ddosbarthu mwy i gyfranddalwyr nag y mae'r dreth ffawdelw bresennol wedi'i godi, y cyfan a warantwyd gan warant pris ynni'r Llywodraeth oedd bod y biliau ynni a laniai ar y mat yn fwy na dwywaith yr hyn oeddent ar ddechrau y llynedd. Yn fwy pryderus na hynny, bydd y cap newydd ar bris ynni yn dal i olygu bod trigolion Rhondda yn talu'r un symiau neu symiau tebyg iawn i'r gaeaf diwethaf, sy'n dal i fod dros ddwywaith yr hyn oeddent y flwyddyn flaenorol. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ei hateb i fy nghwestiynau ysgrifenedig ar dariff cymdeithasol ynni, ac rwy'n deall bod trafodaethau adeiladol yn parhau gyda Llywodraeth y DU. Yn sgil hynny, unwaith eto, hoffwn ofyn i'r Gweinidog barhau â'i gwaith gwych a pharhau i ddwyn pwysigrwydd hyn i sylw ei Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU, er mwyn sicrhau bod ein hetholwyr, fel fy rhai i yn Rhondda, yn gynnes y gaeaf hwn.
Galwaf nawr ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch yn fawr i chi i gyd. Rwy'n falch iawn. Rwy'n falch iawn fod y Senedd yn rhoi amser i drafod y mater pwysig hwn, a amlygwyd gan ymgyrch Warm This Winter a Climate Cymru. Mae'n rhoi cyfle i mi ymateb a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru a'n safbwynt. Wrth gwrs, mater trawslywodraethol yw hwn; gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, byddaf yn mynd i'r afael â'r materion rydych wedi'u codi yn y ddadl hon ac yn yr ymgyrch. Ond rydym i gyd yn cydnabod, fel y dywedoch chi, fod y pwysau economaidd a'r argyfyngau natur a hinsawdd a wynebir yng Nghymru wedi dod at ei gilydd yng Nghymru mewn ffyrdd nad ydym wedi'u gweld o'r blaen, gan waethygu'r problemau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu, ac arwain at y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers dechrau cadw cofnodion. A nododd Sefydliad Meteorolegol y Byd y mis diwethaf sut mae'r tebygolrwydd y bydd y byd yn cyrraedd 1.5 gradd o gynhesu yn y pum mlynedd nesaf bellach yn 66 y cant. Dair blynedd yn ôl yn unig, roedd yn llai nag 20 y cant. Ac yn union fel yr argyfwng costau byw sy'n effeithio fwyaf ar y rhai sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd, bydd yr argyfwng hinsawdd hefyd yn taro'r rhai mwyaf agored i niwed y galetach na neb arall. A diolch am yr holl gyfraniadau heddiw gan siaradwyr sydd wedi nodi a thynnu sylw at hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn, ac yn ddiweddar, fel y gwyddoch, fe wnaethom gyhoeddi galwad am dystiolaeth ar sut y gallwn fynd ati yn y ffordd orau i sicrhau pontio teg er mwyn osgoi'r problemau hyn, a bachu ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil newid. Bydd fy nghyd-Aelod, Julie James, yn dweud mwy am hynny maes o law.
Yn y cyfnod anodd hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r holl ffyrdd sydd ar gael i ni o helpu'r rhai mwyaf anghenus, drwy raglenni sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu i leddfu pwysau ariannol, gan gymryd camau i wneud y mwyaf o incwm, a mentrau sy'n helpu i ddarparu'r cyflog cymdeithasol i Gymru, gan gadw arian ym mhocedi pobl. Ac i roi ambell enghraifft yn unig, mae ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn darparu £244 miliwn o gymorth ariannol i bron i 270,000 o aelwydydd incwm isel a bregus. Ac o'r rhain, nid yw bron i 214,000 yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod ein hymrwymiad i ddarparu prydau ysgol am ddim wedi sicrhau bod dros 73,000 o blant yn cael o leiaf un pryd maethlon yn rhan o'r diwrnod ysgol. Yn rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, mae 45,000 o ddisgyblion dosbarth derbyn ychwanegol wedi elwa o gyflwyno'r rhaglen prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd.
Nawr, mae hefyd yn bwysig ac yn dda clywed gan yr Aelodau heddiw am y cynlluniau sydd gennym ar waith. Mae'n bwysig cydnabod y ffaith ein bod wedi darparu £244 miliwn o gymorth ariannol i'r aelwydydd mwyaf bregus ar yr incwm isaf, fel y dywedais. Ond hefyd fe wnaethom ddarparu cymorth y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, a gynorthwyodd gymaint o aelwydydd, 340,000 o aelwydydd mewn gwirionedd, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf—cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru.
Ond ni allwn barhau â'r cynllun hwnnw. Fel y gwyddoch, eleni, nid oedd ein dyraniad cyllid gan Lywodraeth y DU yn ddigon i'n galluogi i ailadrodd llawer o'r cynlluniau hyn, ond rwy'n falch fod partneriaeth Sefydliad y Banc Tanwydd yn parhau eleni i ddarparu talebau tanwydd a'r gronfa wres i gefnogi pobl ar fesuryddion rhagdalu, a bod ein canolfannau clyd—yr £1 filiwn rydym wedi'i ddarparu—wedi gwneud gwahaniaeth o ran y canolfannau croeso, a thynnodd Vikki Howells sylw at hynny.
Felly, fe wnaethom ganolbwyntio ar ein cronfa cymorth dewisol eleni, a darparwyd £18.8 miliwn ychwanegol ar gyfer honno—
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch am hynny, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y ffordd rydych chi'n rhoi cnawd ar esgyrn y ddadl heddiw. Rydym wedi cael y datganiad cartrefi clyd, ac rwy'n credu ei bod yn ddiogel dweud ei fod yn darparu rhywfaint o wybodaeth, ond mae'n gyffredinol iawn, ac rwy'n credu bod angen cyfle i'w gwestiynu yma yn y Siambr. A fyddech chi'n gallu rhoi sicrwydd i ni—? Fel y dywedoch chi'n gynharach yn eich datganiad y bydd Julie James yn darparu cyngor pellach, a wnewch chi roi sicrwydd i ni y bydd modd trafod hyn yn y Siambr hon ar ryw ddyddiad cyn y toriad?
Gwnaf, a Hefin, roeddwn yn mynd i fynd ymlaen at hynny gan fy mod yn sylweddoli bod y datganiad, datganiad ysgrifenedig, newydd ymddangos, felly dof at hynny'n gyflym iawn. Ac wrth gwrs, dyma'r datganiad a wnaed heddiw gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac yn amlwg, bydd angen i chi gael cyfle i'w drafod a holi cwestiynau yn ei gylch.
Felly, roeddwn i eisiau gwneud y pwynt ynglŷn â bod y gronfa cymorth dewisol yn flaenoriaeth bwysig iawn i ni, oherwydd mae'n helpu i roi cymorth brys i aelwydydd sy'n wynebu costau digynsail am y pethau mwyaf sylfaenol, fel bwyd a thanwydd. Rydych chi'n gwybod am y gwaith rydym yn ei wneud gyda sefydliadau bwyd cymunedol. Ac a gaf innau hefyd longyfarch a diolch nid yn unig i bawb sydd wedi siarad ac sydd wedi parhau i siarad am sgandal gosod mesuryddion rhagdalu yn orfodol, ond yn arbennig Jack Sargeant ac am y ddeiseb y mae'n bwrw ymlaen â hi? Hefyd, er inni gyflwyno sylwadau dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU, rhaid inni gydnabod bod y cynllun cymorth biliau ynni—rwy'n credu bod hyn wedi'i grybwyll hefyd—o £400, a oedd yn achubiaeth, wedi dod i ben ym mis Ebrill.
Felly, i fynd ymlaen at y materion ehangach o fewn ein cymhwysedd datganoledig, rydym yn chwalu'r rhwystrau i gyflwyno ynni adnewyddadwy er mwyn sicrhau budd lleol. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i sicrhau cynnydd o dros 100 MW yn y cynhyrchiant ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a mentrau cymunedol yng Nghymru rhwng 2021 a 2026. Rydym yn ariannu Ynni Cymunedol Cymru, y sefydliad di-elw i aelodau sy'n cefnogi ac yn cynrychioli grwpiau cymunedol ac sy'n datblygu prosiectau ynni yng Nghymru, a chawsant gryn dipyn yn fwy o gymorth i'w cynllun busnes tair blynedd cyfredol, a chymorth cynyddol i ynni cymunedol a lleol yng Nghymru. Fe wnaeth Alun Davies y pwynt hwnnw hefyd wrth gwrs.
Rydym wedi ailgontractio gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i gefnogi cymunedau yn y sector cyhoeddus i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, gan leihau eu biliau a chodi refeniw i ddarparu gwasanaethau lleol. Mae'r cyllid hwnnw'n galluogi grwpiau cymunedol i gyflogi staff, ariannu prosiectau ac archwilio cyfleoedd i fuddsoddi mewn prosiectau rhanberchenogaeth—eto, pwynt allweddol a wnaed yn y ddadl ac yn yr ymgyrch.
Felly, ym mis Hydref y llynedd, fel y gwyddoch, cyhoeddodd Julie James y byddwn yn sefydlu cwmni i ddatblygu datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr ar dir cyhoeddus, gan gynyddu gwerth prosiectau ynni adnewyddadwy a ddatblygir ar ystad Llywodraeth Cymru i Gymru. Rydym eisoes wedi gweld cymunedau'n elwa yn ystod COVID a'r argyfwng costau byw o'r cronfeydd cymunedol o ffermydd gwynt presennol ar yr ystad, ac rydym am adeiladu ar hyn a sicrhau gwahaniaeth gwirioneddol a hirdymor i gymunedau lleol.
Felly, Hefin, diolch am gyflwyno'r cynnig hwn. Mae'n bwysig iawn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd bellach wedi cyhoeddi manylion polisi'r cynllun Cartrefi Clyd newydd gyda'i datganiad ysgrifenedig, ac rydym yn disgwyl caffael y cynllun hwnnw eleni. Bydd yn parhau i ganolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni, gan adeiladu ar lwyddiant cynlluniau blaenorol, lle rydym wedi buddsoddi £420 miliwn, gan helpu dros 73,000 o aelwydydd ers 2010. Ac wrth gwrs, mae'n bwysig nad mesurau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi'n unig ydyw, mae hefyd yn gyngor am ddim ar effeithlonrwydd ynni.
Rwyf am fwrw ymlaen at y pwynt ynglŷn â'r cynllun ôl-osod er mwyn optimeiddio, oherwydd yn amlwg, mae'r cynllun Cartrefi Clyd o fewn y sector preifat, cartrefi perchen-feddianwyr, ond bydd y cynllun ôl-osod er mwyn optimeiddio yn parhau i wella effeithlonrwydd ynni yn y sector cymdeithasol, ochr yn ochr â'r newidiadau i'r system y mae safon ansawdd tai diwygiedig Cymru yn eu cyflwyno. Felly, ymgynghori, penderfynu'n derfynol—fel y mae llawer ohonoch yn gwybod ar y pwyllgorau, mae'r safon newydd i'w chyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae'n mynd i fod yn uchelgais beiddgar i sicrhau bod ein stoc tai cymdeithasol yn cyflawni'r lefelau uchaf posibl o effeithlonrwydd ynni. Bydd yn sicrhau bod gofynion gwrthdlodi'n parhau'n ganolog iddo, a bydd yn gwella effeithlonrwydd ynni. Ei nod yw cefnogi tenantiaid a llesiant, ac erbyn hyn rhaid i bob tŷ cymdeithasol newydd gael tystysgrif perfformiad ynni A neu safon gyfatebol; mae'n rhaid bod gan dai cymdeithasol sy'n bodoli'n barod lwybr ynni wedi'i dargedu ar waith i gael tystysgrif perfformiad ynni A erbyn 2033, neu erbyn dyddiad ar ôl 2033 sydd—
Weinidog, mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Rwy'n dod i ben. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â'r argyfyngau presennol. Ni allwn fynd i'r afael â'r rhain ar ein pen ein hunain; mae gan Lywodraeth y DU ran bwysig i'w chwarae. Ac rwyf am ddweud, ar y diwedd—a hyn, unwaith eto, mewn ymateb i Jack Sargeant ac eraill—mai fy ngalwad yw mandadu dileu mesuryddion rhagdalu a osodwyd drwy orfodaeth gan y broses bresennol dros y chwe mis diwethaf. Mae gennyf lythyr gan Ofgem yn fy llaw yn dweud wrthyf fod 5,647 o fesuryddion rhagdalu wedi'u gosod dan warant y llynedd, ac mae gan dros 460,000 o bobl yng Nghymru, aelwydydd, fesuryddion rhagdalu. Felly, fe gyhoeddaf y llythyr hwnnw. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at hyn, ac i Climate Cymru am eu hymgyrch. Byddwn yn cefnogi'r cynnig. Mae'r datganiad ysgrifenedig wedi'i wneud gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Hefin David i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog. Gallaf weld bod y datganiad wedi'i wneud. Os oes unrhyw un yn meddwl tybed pam fod gennym gyfrifiaduron yn y Siambr, mae'n ddefnyddiol iawn cael y datganiad yn syth i'r sgrin.
Rwyf am wneud un pwynt ynglŷn â'r datganiad. Mae'n gyffredinol iawn. Rwy'n credu bod angen gwybodaeth arnom o hyd am y llinell amser ar gyfer caffael gwasanaeth newydd. Mae angen datganiad ar y gyllideb—mae angen gwybodaeth arnom am y gyllideb—ac mae angen gwybodaeth arnom am gymhwysedd. Fe ddychwelaf at hynny mewn munud. Jenny.
A ydych chi'n cytuno â mi mai'r hyn ydyw mewn gwirionedd yw rhestr o'r gwahanol argymhellion sydd wedi dod gan Archwilio Cymru ac o'r pwyllgor newid hinsawdd a'r pwyllgor cyfiawnder cymdeithasol, nid polisi?
Roeddwn yn dod at hynny. Roeddwn yn edrych drwy'r ddolen sy'n cysylltu â'r datganiad ar y cyd, ac yno mae'n dweud:
'Nid yw gosod niferoedd mor sylweddol o foeleri tanwydd ffosil newydd yn gynaliadwy.'
Ac yna mae'n dweud,
'Drwy benderfynu mai dim ond y cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran ynni a oedd yn gymwys, nod Llywodraeth Cymru oedd sicrhau bod adnoddau cyfyngedig cynllun Nyth yn cael eu neilltuo i'r rhai sy'n wynebu'r risg uchaf o fod mewn tlodi tanwydd'.
Ac felly, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynglŷn â beth fyddai nod craidd Nyth, a meini prawf cymhwysedd yn y dyfodol. Felly, rydych chi'n troi at y datganiad, ac mae'r datganiad yn dweud—arhoswch eiliad. Mae'r datganiad yn dweud:
'Bydd y cynllun newydd yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a thlodi tanwydd. Yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau trosglwyddo teg i sero net, bydd yn canolbwyntio ar gefnogi'r cartrefi tlotaf, yn yr adeiladau sydd yn y cyflwr gwaethaf, yn y sectorau sy’n eiddo i berchen-feddianwyr, rhent preifat a chwmnïau cydweithredol.'
Mae hynny i gyd yn ymddangos yn gyffredinol iawn, ac rwy'n credu bod gennym gwestiynau dilys nawr ynglŷn â sut rydych chi'n canolbwyntio ar ddatrys y problemau y mae pawb ohonom wedi'u nodi heddiw yn y ddadl. Ac rwy'n credu bod angen cwestiynu'r datganiad, mae angen manylion.
Rwy'n credu y dylem groesawu'r ffaith bod cynllun Nyth yn mynd i gael ei ymestyn hyd nes y caiff y rhaglen newydd ei chaffael. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, oherwydd mae'n sicr yn rhoi'r ffenestr honno i ni, ond rwy'n credu bod angen y drafodaeth honno arnom, y ddadl honno. Ac rwy'n credu y gallwn ddweud ar y cyd yn y Siambr hon ein bod yn croesawu barn y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y bydd hyn yn cael ei drafod, ac rwy'n credu y byddem yn poeni pe na bai hynny'n digwydd. Dyna'r farn gyffredinol rwy'n ei chael o'r Siambr heddiw. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Rydym yn croesawu'r datganiad, ond rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei wneud yw codi mwy o gwestiynau nag y mae'n eu hateb, ac mae hwnnw'n bwynt allweddol, yn rhan sylfaenol o'r ddadl hon.
Felly, roeddwn yn mynd i grynhoi yn y ffordd arferol. Mae'n debyg nad oes gennyf lawer o amser—mae gennyf ddau funud a hanner mewn gwirionedd—ond Jane Dodds, fe ddywedoch chi eich bod chi eisiau treth bonansa. Treth bonansa—rwy'n hoffi hynny yn hytrach na threth ffawdelw. Y broblem yw bod unrhyw fath o dreth felly'n dreth untro, ac rwy'n credu bod yn rhaid ichi gael cynaliadwyedd wedi'i adeiladu i mewn hefyd. Ac rwy'n credu y gallem siarad am drethi ffawdelw, ond rwy'n credu, weithiau, fod y cyhoedd yn mynd ychydig yn amheus a dweud, 'Iawn, wel, beth wnewch chi wedyn?', a chredaf fod hynny'n sicr yn wir. Efallai mai incwm sylfaenol cyffredinol yw'r ateb, ond unwaith eto, mae angen cyllid ar hynny hefyd.
Jack—mesuryddion rhagdalu. Rwy'n credu mewn gwirionedd fod y Gweinidog wedi rhoi ateb cefnogol iawn i chi, ond mae angen gwneud mwy o hyd, a gwn fod eich pwyllgor yn gweithio ar hyn. Sioned, fe wnaethoch chi nodi nad yw biliau'n normal. Nid ydynt yn normal ar hyn o bryd, ac mae angen i gyngor ar ddyledion fod yn well, a chredaf fod hynny'n adleisio'r mater a godais, y byddai ymgyrch Warm This Winter yn hoffi gweld mwy o fanylion gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut maent yn mynd i gefnogi pobl y gaeaf hwn, 2023, hefyd.
A Delyth, roeddwn yn meddwl mai eich safbwynt chi, i grynhoi, yn fy marn i, oedd bod buddsoddi i arbed yn ymwneud â mwy na buddsoddi i arbed arian yn unig; mae'n fuddsoddi i achub bywydau, a dyna beth rydym yn siarad amdano yma. Roeddwn yn meddwl fy mod wedi ei roi fel y byddech chi'n ei roi, ac rwy'n credu'n bendant mai dyna rydym yn sôn amdano a pham rydym yn dweud, yn y Siambr hon, ein bod yn chwilio am ymrwymiadau gwario penodol. Bydd yr ymrwymiadau gwario hynny, dros gyfnod o amser, yn creu arbedion, ac o ganlyniad, yn achub bywydau.
Pwysleisiodd Vikki Howells rôl Llywodraeth y DU, ond aeth yn lleol wedyn, a siarad am ganolfannau clyd a bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ganolfannau clyd yn bwysig iawn. Gwnaeth Buffy, wrth fy ymyl, yr un peth a soniodd ynglŷn â sut mae costau byw a chwyddiant yn effeithio ar fanciau bwyd yn ei hetholaeth hi hefyd.
Heledd Fychan, roedd hwn yn bwynt arall y credwn ei fod wedi mynd at wraidd hyn: pobl sy'n byw mewn tlodi sy'n cael yr effaith leiaf ar newid hinsawdd, ond nhw sy'n dioddef fwyaf o'i herwydd, a chredaf fod honno'n wers fawr y mae angen inni dynnu sylw ati. Os yw'r datganiad gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol, os mai cyfiawnder cymdeithasol yw'r nod, mae'n rhaid ei dargedu at y bobl sy'n dioddef fwyaf oherwydd gweithredoedd y bobl sy'n ennill fwyaf.
Ac yn olaf, rwyf am ddod yn ôl at bwynt trosfwaol pwerus iawn Jack Sargeant ei fod yn ymwneud â mwy na mesuryddion rhagdalu'n unig; mae'n ymwneud â'r ffaith bod y bobl gyfoethocaf, y cyflenwyr, y cyfanddalwyr a'r swyddogion gweithredol, mor bell oddi wrth realiti fel nad ydynt yn deall sefyllfa pobl yn y cymunedau rydym yn eu cynrychioli yma yng Nghymru, a dyna sydd wrth wraidd y ddadl hon.
Hoffwn ddiolch i bawb am—. A phwynt Mark Isherwood hefyd. Roeddwn eisiau talu teyrnged iddo ef fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd a'r gwasanaeth hir y mae wedi'i roi yno, a'r cyfraniad gwerthfawr y mae wedi'i wneud o safbwynt ei brofiad a'i wasanaeth yn y Siambr hon, ac rwy'n credu y dylem i gyd barchu hynny, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb am y ddadl hon heddiw. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud ein pwynt, ac edrychwn ymlaen at y ddadl nesaf ar hyn yn y Siambr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Cynnig NDM8292 Jayne Bryant
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef 'Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn imi ddechrau, hoffwn ddweud, drwy gydol y ddadl hon, y byddwn yn siarad am faterion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. Mae siarad a bod yn agored am iechyd meddwl yn bwysig er mwyn chwalu stigma, ond rwy'n gwybod ac yn deall y gall beri gofid i rai.
Rwy'n falch mai'r ddadl heddiw yw'r gyntaf o'i bath yn y Siambr, rwy'n credu: dau Aelod Llywodraeth yn ymateb i un adroddiad pwyllgor. Oherwydd natur drawsbynciol yr adroddiad a'n hargymhellion, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig clywed gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Rwy'n hynod ddiolchgar fod y ddau ohonynt yn barod i dderbyn ein gwahoddiad i gymryd y cam arloesol hwn gyda ni, a bod y Llywydd hefyd yn gefnogol. Felly, diolch yn fawr. Gan fod pwyllgorau'n aml yn edrych ar faterion mewn modd eang a chyfannol, gan arwain at argymhellion trawsbynciol, rwy'n gobeithio mai'r cyntaf o nifer fydd yr ymateb ar y cyd heddiw.
Yn olaf, cyn imi sôn am yr adroddiad ei hun, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â'r pwyllgor, yn enwedig y myfyrwyr a ymatebodd i'n harolwg neu y cyfarfuom â nhw yn ystod ein hymweliadau â sefydliadau addysg uwch. Gwyddom y gall fod yn anodd rhannu rhai o'r profiadau hynny, ond gobeithiwn y gallwch weld y materion a godwyd gennych wedi'u hadlewyrchu yn yr adroddiad a'i argymhellion. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar i'r pwyllgor, a staff y brifysgol a helpodd i hwyluso ein hymwneud. Cawsom dystiolaeth ysgrifenedig a llafar o ansawdd uchel a'i gwnaeth yn llawer haws i'r pwyllgor nodi a thynnu ar argymhellion cadarn. Ac mae hefyd yn bwysig fy mod yn cofnodi fy niolch ar ran y pwyllgor i'r tîm clercio, dan arweiniad Naomi Stocks. Mae Naomi a'r tîm wedi bod yn wych. A hoffwn ddiolch hefyd i'm cyd-Aelodau ar y pwyllgor am gydweithio'n golegol ac yn sensitif ar fater y gwn ei fod yn bwysig i bob un ohonom.
Fel llawer o bwyllgorau eraill, rydym yn defnyddio ein cynllun strategol i'n helpu i flaenoriaethu'r gwaith a wnawn. Cafodd ein penderfyniad i wneud y gwaith hwn ei siapio gan ddwy flaenoriaeth benodol: lles emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc; a sicrhau bod ein gwaith craffu yn amserol ac yn adeiladol. Codwyd materion yn ymwneud â llesiant a lles myfyrwyr yn ystod ein gwaith craffu ar Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a dywedasom y byddem yn debygol o ailedrych ar y materion hyn ar ryw adeg yn ystod tymor y Senedd hon. Gwnaethom benderfyniad i wneud y gwaith hwn nawr am ei fod yn rhoi cyfle inni helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu'r fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer addysg uwch. Mae sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn newid mawr i addysg ôl-16, ac rydym am chwarae rhan adeiladol yn nyfodol y comisiwn, ac yn teimlo y gallai gwneud y gwaith hwn nawr siapio meddylfryd Llywodraeth Cymru a'r comisiwn yn y dyfodol.
Nawr yw'r adeg am newid sylweddol i gymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr. Cawsom enghreifftiau o arferion da yn y dystiolaeth a gasglwyd gennym, ac o ymdrechion i weithio ar draws sectorau ac ar draws ffiniau daearyddol i wella cymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr. Ond mae cefnogi myfyrwyr gyda'u hiechyd meddwl yn gymhleth am sawl rheswm. Gwnaethom 33 o argymhellion, a chredwn yn gryf, pe byddent yn cael eu rhoi ar waith yn llawn, y byddent yn arwain at newid sylfaenol yn y modd y darparir cymorth amserol a chynhwysfawr i fyfyrwyr.
Un o'r themâu clir o'r dystiolaeth oedd yr angen am fframwaith cyffredin sy'n nodi llinell sylfaen o'r hyn y gall myfyriwr ei ddisgwyl o ran cymorth di-dor i'w hiechyd meddwl, ni waeth ble maent yn astudio yng Nghymru. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i bob sefydliad ddarparu'r un math o gymorth, gan mai thema glir arall o'r dystiolaeth oedd yr angen i deilwra cymorth i gyd-destun y sefydliadau, gwahanol grwpiau o fyfyrwyr ac i anghenion myfyrwyr unigol. Byddai fframwaith o'r fath yn cydbwyso'r angen am gynnig cyson yn erbyn yr angen am gymorth wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion unigol. Roedd yn amlwg o'r dystiolaeth a gawsom gan sefydliadau eu bod yn credu bod fframwaith cyffredin o'r fath yn angenrheidiol ac yn gyflawnadwy.
Dyma'n union y mae argymhelliad 15 yn galw amdano, ac rwy'n falch iawn ei fod wedi'i dderbyn. Wrth ymateb, mae Llywodraeth Cymru yn nodi y bydd yr amodau cofrestru a chyllido newydd yn galluogi'r comisiwn i nodi disgwyliadau clir, ac y bydd y comisiwn yn ystyried ein hargymhellion wrth ddatblygu'r amodau hyn. Wrth wneud hyn, bydd y comisiwn yn adeiladu ar fframwaith presennol Stepchange a'r gwaith y mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru eisoes yn ei wneud. Dywedant y bydd hyn, i bob pwrpas, yn creu'r fframwaith cyffredin y mae'r pwyllgor wedi galw amdano.
Fodd bynnag, hoffwn wybod sut y bydd y pecyn gwaith hwn yn cael ei gyfathrebu i fyfyrwyr. A fydd yr holl waith hwn yn cael ei dynnu ynghyd i un lle sy’n nodi’n glir beth yn union yw’r fframwaith? A fydd yn hygyrch i fyfyrwyr, ac wedi’i osod mewn ffyrdd sy’n eu helpu i ddeall beth yn union y gallant ei ddisgwyl? A fydd yn darparu ffyrdd iddynt herio os nad yw eu sefydliad yn darparu hyn?
Mae cysylltiad agos rhwng yr argymhelliad hwn ac argymhelliad 25, sy’n galw am gyflwyno gwasanaeth cyswllt y prifysgolion ar gyfer materion iechyd meddwl ledled Cymru, yn sgil ei dreialu'n ddiweddar yng Nghaerdydd a’r Fro. Y dystiolaeth gan y sector oedd bod y cynllun peilot hwn wedi bod yn drawsnewidiol. Clywsom hefyd gan eraill ledled Cymru a fyddai wrth eu boddau'n gweld prosiectau tebyg yn eu hardaloedd eu hunain.
Ymddengys bod gwerthuso cynnar yn awgrymu bod y dull hwn yn llenwi bwlch y mae taer angen ei lenwi, ac yn mynd i’r afael â rhai o’r materion eraill a godwyd yn ein hadroddiad drwyddo draw. Mae’r materion hyn yn cynnwys yr angen am gydweithio agos rhwng y GIG a’r sector addysg uwch; datblygu iaith, trothwyon a diffiniadau a rennir; a datblygu protocolau clir ar gyfer rhannu gwybodaeth a data.
Unwaith eto, mae'n addawol gweld bod yr argymhelliad hwn wedi’i dderbyn mewn egwyddor, a bod CCAUC wedi dechrau cynllunio ar gyfer ei gyflwyno ar raddfa ehangach yn dilyn y gwerthusiad o’r cynllun peilot. Mae’r Llywodraeth wedi dweud y bydd angen cyllid mwy hirdymor er mwyn cyflwyno’r cynllun peilot hwn yn genedlaethol, a fydd yn y pen draw yn benderfyniad i’r comisiwn. Hoffwn annog y Gweinidog i wneud popeth i helpu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r dull hwn ledled Cymru. Ac rwy’n dychmygu bod hwn yn fater y bydd y pwyllgor yn parhau i’w fonitro’n agos wrth i’r comisiwn gael ei sefydlu.
Er mai'r ddau argymhelliad hyn a oedd wrth wraidd ein hadroddiad, roedd argymhellion eraill yn ymdrin â materion fel yr angen am well data a gwybodaeth, fel y gallwn gael gwell dealltwriaeth o'r problemau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu a pha ymyriadau sy’n gweithio. Mae'r angen am well data i fod ar gael i'r cyhoedd yn parhau i fod yn thema yn llawer o'n gwaith.
Fe wnaethom argymell hefyd y dylid datblygu cymorth penodol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, a allai wynebu heriau penodol yn ogystal â rhwystrau penodol i gael mynediad at gymorth. Ac rwy'n falch, unwaith eto, fod y ddau argymhelliad wedi'u derbyn.
Roedd argymhellion eraill yn ymwneud ag effaith y pandemig a’r argyfwng costau byw; yr angen am fwy o hyfforddiant ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl i staff a myfyrwyr; a'r angen am gyllid cynaliadwy sy'n cyfateb i lefel yr angen. Hefyd, fe wnaethom ystyried gwaith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, ac adroddiad pwyllgor iechyd meddwl a llesiant Senedd Ieuenctid Cymru, ‘Meddyliau Iau o Bwys’.
Cyn imi gloi, hoffwn ystyried adroddiad arall a lywiodd ein hystyriaethau: adroddiad 'Sortiwch y Switsh' gan Mind Cymru. Edrychodd ar y pontio rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed a gwasanaethau iechyd meddwl oedolion. Ac arweiniodd yr adroddiad hwn, a’r sesiwn dystiolaeth hynod bwerus gyda rhai o’r bobl ifanc a fu’n rhan o’r adroddiad, at argymhelliad 33, sy'n galw am weithredu argymhellion 'Sortiwch y Switsh' yn llawn.
Gwn y bydd y sesiwn dystiolaeth honno’n aros gyda mi a gweddill y pwyllgor am amser maith. Soniodd y bobl ifanc yn rymus iawn am eu profiadau a sut oeddent eisiau gwella pethau i bobl ifanc y dyfodol. Yn amlwg, nid yw pob myfyriwr yn 18 oed, ac ni fydd pob myfyriwr yn pontio i wasanaethau cymorth oedolion yr un pryd ag y byddant yn dechrau addysg uwch. Ond dyma’r realiti i nifer o bobl ifanc, a bydd rheoli’r ddau fath o bontio'n effeithiol yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau eu bod yn cael amser llwyddiannus mewn addysg uwch.
Hoffwn ddiolch i’r Dirprwy Weinidog am ymgysylltu â ni ar y mater hwn, gan gynnwys dod i roi tystiolaeth i’r pwyllgor a’i gohebiaeth ddiweddar. Ac er ein bod fel pwyllgor yn siomedig fod yr argymhelliad wedi’i wrthod, hoffwn ofyn i’r Dirprwy Weinidog a fyddai’n fodlon ymrwymo i roi diweddariad pellach i’r pwyllgor, i amlinellu pa argymhellion o 'Sortiwch y Switsh' nad ydynt yn cyd-fynd â'r rhaglen waith sydd eisoes ar y gweill i wella gwasanaethau pontio. Ac rwy'n sylweddoli mai ychydig iawn o amser sydd gennym heddiw i wneud hynny, felly byddai hynny'n ddefnyddiol ar ôl y ddadl hon hefyd.
Hoffwn ddiolch unwaith eto i bawb a gyfrannodd at y gwaith hwn. Mae’n amlwg fod ymrwymiad gan bawb yn y sector a Llywodraeth Cymru, ond mae angen inni sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei gyflawni’n gyflym ac yn arwain at newid gwirioneddol ar lawr gwlad fel bod myfyrwyr, ni waeth ble maent yn astudio na beth yw eu cefndiroedd personol, yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn, pan fydd ei angen arnynt. Edrychaf ymlaen at wrando ar y siaradwyr eraill heddiw, ac at glywed gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog, sydd mor allweddol i gyflawni ein cyfres o argymhellion. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch a thalu teyrnged i Gadeirydd gwych ein pwyllgor, Jayne Bryant, clerc ardderchog ein pwyllgor, a welaf yn y fan acw, a'r tîm plant a phobl ifanc cyfan, yn ogystal, wrth gwrs, â'm cyd-aelodau ar y pwyllgor am wneud yr adroddiad hwn yn bosibl, yn ogystal, wrth gwrs, â’r rheini a roddodd dystiolaeth, yn enwedig ein pobl ifanc, a ychwanegodd gymaint o werth at ein hadroddiad. Rwy'n cytuno â’n Cadeirydd; mae’n wirioneddol gadarnhaol y bydd y ddau Weinidog yn ymateb i’r ddadl hon heddiw, felly diolch iddynt hwythau.
Mae iechyd meddwl ein pobl ifanc yn rhywbeth y mae pob un ohonom, fel pwyllgor, yn rhannu pryderon yn ei gylch, felly gwn fod pob un ohonom yn ddiolchgar fod yr adolygiad hwn wedi'i gynnal. Canfu ein pwyllgor fod materion iechyd meddwl ymhlith myfyrwyr mewn addysg uwch wedi bod ar gynnydd yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n peri pryder, nid yn unig ynghylch canlyniadau addysgol, ond yn bwysicach, ynghylch llesiant ein pobl ifanc wrth gwrs. Dywedodd un o bob pedwar myfyriwr eu bod wedi cael diagnosis o broblemau iechyd meddwl, a nododd un o bob pedwar pellach fod ganddynt broblemau iechyd meddwl na wnaed diagnosis ohonynt. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf yw bod ystadegau UCAS wedi dangos cynnydd o 450 y cant yn nifer yr ymgeiswyr sy’n datgan bod ganddynt gyflwr iechyd meddwl fel rhan o’r broses ymgeisio, tuedd a adleisiwyd gan Brifysgol Caerdydd, sydd wedi gweld cynnydd o 89 y cant yn nifer y myfyrwyr sy’n datgan bod ganddynt gyflwr iechyd meddwl yn ystod y broses ymgeisio.
Nododd yr adroddiad bryder eang gan randdeiliaid fod bylchau sylweddol yn y data yng Nghymru, gan fod yn rhaid iddynt ddefnyddio data ar gyfer y DU gyfan yn aml i nodi pa broblemau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu. Mae’n hollbwysig fod gennym set o ddata ar gyfer Cymru gyfan, nid data ar gyfer y DU yn unig, fel y gallwn gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa yma yng Nghymru.
O ran effaith y pandemig, mae’n amlwg fod materion iechyd meddwl, wrth gwrs, yn bodoli cyn y pandemig, ond maent yn bendant wedi cael eu gwaethygu ganddo, gan effeithio er enghraifft ar y gallu i gymdeithasu, i weithio ac i fforddio bod yn y brifysgol. Rydym wedi gweld Prifysgolion Cymru a Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol yn amlygu pryderon ynglŷn â datblygiad cymdeithasol. Mae hyn yn rhywbeth y credaf fod arnom angen llawer mwy o ymchwil iddo, fel y canfuom yn y pwyllgor, fel y gallwn lwyr amgyffred ei ddifrifoldeb, ac roedd yn amlwg o’n gwaith casglu tystiolaeth ei fod wedi bod yn sylweddol. Mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi cael effaith ar staff yn ogystal â myfyrwyr. Mae'r effaith yn anfesuradwy, ac mae angen ymagwedd hollgynhwysol wrth ymdrin â'r mater hwn.
O ran pontio i addysg uwch, fel y mae ein Cadeirydd newydd nodi, mae ein hadroddiad wedi tynnu sylw at yr angen i wneud mwy yn gynharach yn y broses ymgeisio a derbyn i gefnogi’r pontio hwn. Mae angen tynnu sylw'n well at gymorth iechyd meddwl ar ddiwrnodau agored, ynghyd â bod sefydliadau addysg uwch yn darparu rhaglenni sy'n hybu iechyd a lles i fyfyrwyr cyn dechrau. Felly, rwy'n falch o weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth reolaidd ddwywaith y flwyddyn ac unrhyw ddata sydd ar gael ar gyflwyno'r dull system gyfan mewn addysg cyn-16, ac y byddant yn bwrw ymlaen â'r argymhelliad gan y sector addysg ôl-16 i ystyried ffyrdd y gall prifysgolion weithio gyda cholegau ôl-16 lleol ac ysgolion i gefnogi iechyd meddwl dysgwyr cyn iddynt bontio i addysg uwch.
Canfu ein hadroddiad fod nifer a chymhlethdod cynyddol yr achosion yn rhoi straen ar y gallu i gefnogi myfyrwyr a bod problemau sylweddol o ran hyfforddi'r ymarferwyr hynny sydd, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn ymdrin ag iechyd meddwl myfyrwyr. Mynegwyd pwysigrwydd sicrhau bod hyfforddiant priodol ac amserol ar gael i staff darparwr. Mae angen fframwaith cenedlaethol i wella iechyd meddwl yn gyffredinol, ac mae’n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cyffredinol ar sut i fynd i’r afael â’r diffyg iechyd meddwl. Mae’n amlwg fod hyn ar goll, neu o leiaf yn brin, ar hyn o bryd.
Yn olaf, yn gyffredinol, mae llawer o waith i’w wneud i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r argyfwng iechyd meddwl presennol yng Nghymru. Mae arnom angen dull hollgynhwysol sy'n cael ei efelychu a'i ddefnyddio gan bawb fel nad ydym yn gweld amrywio yn y ddarpariaeth ledled Cymru. Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r rhan fwyaf o'n cynigion, ond hoffwn weld y Senedd hon yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar y broses weithredu. Mae angen gwneud llawer o waith, ond mae llawer o bethau hawdd y gall y Llywodraeth eu gwneud nawr i gyfrannu at iechyd meddwl mwy cadarnhaol, gan fod llesiant ein pobl ifanc yn bwysig.
Hoffwn i ddatgan budd, sef bod fy ngŵr yn gyflogedig gan Brifysgol Abertawe ac yn aelod o UCU. Hoffwn i hefyd adleisio’r diolchiadau sydd wedi cael eu gwneud. Roedd hwn yn ymchwiliad amserol a dadlennol o’r heriau unigryw mae myfyrwyr yn eu hwynebu o ran eu hiechyd meddwl a'u lles, sydd wrth gwrs wedi’u dwysáu gan y pandemig, a gan y cyd-destun economaidd anodd.
Roedd y dystiolaeth yn gwbl glir. Yn ôl UCMC, rŷn ni yng nghanol argyfwng iechyd meddwl o ran myfyrwyr yma yng Nghymru. Ym mhob prifysgol, roedd y data a’r dystiolaeth anecdotaidd yn gyson o ran y cynnydd sylweddol sydd wedi bod yn nifer y myfyrwyr sydd angen cymorth, a chynnydd hefyd yn nifer y myfyrwyr a oedd mewn argyfwng pan oedden nhw eisiau cael mynediad at gymorth.
Ein prif ganfyddiad, dwi’n meddwl, oedd nad oedd safon a lefel gyson o gymorth iechyd meddwl ar gael i bob myfyriwr ym mhob rhan o Gymru, ac felly bod pob myfyriwr ddim yn medru cael y gorau o’u haddysg yn y brifysgol. Mae’r mwyafrif o’n hargymhellion ni yn ymwneud â sut y gellir mynd i’r afael â hynny. Mae’n siomedig nad yw’r Llywodraeth wedi’u derbyn yn llawn, yn enwedig o gofio’r cynnydd yn niferoedd a chyfran y myfyrwyr yn cofrestru yn y naw prifysgol a’r tri choleg addysg bellach sy’n cael eu rheoleiddio gan CCAUC a ddatganodd gyflwr iechyd meddwl.
Hoffwn i ddiolch i’r myfyrwyr a rannodd eu profiadau mewn modd mor onest â ni. Roedd rhai o'r profiadau yn gwbl dorcalonnus ac yn creu pryder gwirioneddol am sut y mae potensial y myfyrwyr yma yn cael ei danseilio a'i gyfyngu. Torcalonnus ar lefel bersonol, wrth gwrs, ond rhywbeth a fydd yn ein gwneud yn dlotach fel cenedl.
Ond roedd yn galonogol, er gwaetha’r ystadegau brawychus, clywed am ddatrysiadau effeithiol oedd yn gwneud gwahaniaeth i’r sefyllfa, fel y cynllun peilot gwasanaeth cyswllt iechyd meddwl prifysgolion, er enghraifft, oedd ar waith yn ardal Caerdydd, oedd yn dangos yn glir sut bod modd cau’r bylchau niweidiol yna sy’n bodoli yn rhy aml rhwng darpariaeth gwasanaethau cefnogi a chymorth y sector addysg a’r sector iechyd. Mae’r argymhelliad yma yn un o nifer sy’n cael eu derbyn yn rhannol yn hytrach nag yn llawn, am fod yna oblygiadau cyllidol a fydd, maes o law, yn gyfrifoldeb i’r comisiwn addysg trydyddol ac ymchwil newydd. Rwy’n annog, felly, y Llywodraeth i annog y corff newydd i flaenoriaethu’r gwaith yma o ran cynllunio a chyllido, a hoffwn i glywed ymrwymiad heddiw gan y Gweinidog addysg ar hynny.
O ran datrysiadau, mae gweithio yn well ac yn agosach rhwng y sectorau addysg uwch ac iechyd ar draws ffiniau hefyd yn gwbl greiddiol. Mae rhai o’r argymhellion sydd gyda ni yn galw am newidiadau systemig, ond roedd rhai materion yn rhai sy’n ymddangos efallai’n fwy syml i’w datrys; er enghraifft, fe glywsom ni gan fyfyriwr oedd yn dweud bod angen cael tair llythyr gwahanol gan feddyg teulu, bob un yn costio £15, am nad oedd y geiriad yn unol â’r hyn yr oedd ei angen ar y darparwr addysg, yn unol â’u polisïau nhw. Felly, hoffwn i wybod gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a fydd yn mynd i’r afael â’r materion ymarferol fel hyn o fewn y gwasanaeth iechyd sy’n ychwanegu at faich iechyd meddwl ac economaidd myfyrwyr.
Un o’r sesiynau, fel y clywon ni gan y Cadeirydd, gafodd fwyaf o argraff arna i, oedd clywed gan bobl ifanc oedd yn rhan o ymgyrch 'Sort the Switch' Mind Cymru. Roedd eu profiadau nhw yn amrywiol, ond roedden nhw’n siarad ag un llais, o ran teimlo bod y system yn cael ei wneud iddyn nhw, a’u lleisiau nhw ddim yn cael eu clywed. Hynod, hynod siomedig, felly, oedd gweld bod y Llywodraeth yn gwrthod ein hargymhelliad i dderbyn argymhellion adroddiad 'Sort the Switch', a hoffwn i wybod yn well, Ddirprwy Weinidog, am y rheswm dros wrthod gwneud hyn. Mae’r ymateb i’r adroddiad yn dweud nad yw’r holl ofynion yma yn gyson gyda rhaglenni gwaith sydd ar y gweill. Felly fy nghwestiwn i yw: wel, pam hynny? Tybed a oes angen edrych eto ar y rhaglenni gwaith yn sgil hyn.
Yn olaf, roeddwn yn falch o weld bod y Llywodraeth yn derbyn ein hargymhelliad y dylai’r Llywodraeth a’r comisiwn trydyddol newydd weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda sefydliadau addysg uwch er mwyn sicrhau nad yw amodau gwaith yn tanseilio staff a’u gallu i ddarparu cefnogaeth effeithiol i fyfyrwyr, achos fe ddywedodd llywydd UCMC, Orla Tarn, wrthym yn rymus iawn yn gynnar yn ein hymchwiliad nad oedd modd arllwys o gwpan gwag. Hynny yw, dyw staff ein prifysgolion, sydd o dan straen yn sgil pwysau gwaith, amodau gweithio a thâl annheg, ddim yn y lle gorau felly i roi'r gefnogaeth sydd ei angen ar eu myfyrwyr. Mae'r anghydfod, fel ŷn ni i gyd yn gwybod, yn parhau, ac yn wir yn dwysáu, gyda sefydliadau addysg uwch yn gostwng cyflogau staff sy'n cymryd rhan yn y boicot marcio ac asesu gwbl gyfreithlon mewn modd sydd yn anghymesur ac yn anghyfiawn. Felly, Weinidog addysg, sut ydych chi'n gweithio fel Llywodraeth i ddatrys yr anghydfod yma sy'n debyg o chwalu'r cwpan hwnnw yn deilchion? Diolch.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau adleisio'r diolch a roddwyd. Heb ailadrodd yr hyn y mae fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor ac Aelodau eraill wedi’i ddweud, hoffwn godi dau bwynt yn ystod y ddadl heddiw sydd wedi fy mhoeni’n fawr ers ein gwaith ar lunio a chyhoeddi’r adroddiad.
Y cyntaf yw canfyddiad y prifysgolion o ba mor hawdd yw hi i fyfyrwyr a phobl ifanc ddod o hyd i gymorth iechyd meddwl a ddarperir gan brifysgolion. Roeddwn yn ffodus i gyfarfod â nifer o fyfyrwyr a staff iechyd meddwl y brifysgol. Hoffwn ddiolch iddynt am eu hamser. Buom yn trafod eu profiad o ddarparu a chael mynediad at gymorth iechyd meddwl yn y brifysgol. Roedd y sefyllfa a ddisgrifiwyd gan y staff yn dra gwahanol i brofiad y myfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol.
Roedd y staff yn galonogol ac yn gadarnhaol wrth amlinellu’r nifer o hysbysebion a oedd yn cyfeirio at sianeli y gall myfyrwyr eu defnyddio i gael cymorth, yn gwbl groes i’r myfyrwyr, a oedd yn teimlo ei bod yn aneglur at bwy ac i ble y gallent droi am gymorth—i'r fath raddau nes eu bod wedi sefydlu eu grŵp cymorth eu hunain oddi ar y campws.
Er mwyn sicrhau nad yw myfyrwyr sydd angen cymorth iechyd meddwl ar eu colled yn y dyfodol, byddai’n fuddiol i’r Gweinidog gael sgyrsiau adeiladol gyda’n sector addysg bellach ynglŷn â sut maent yn cyrraedd myfyrwyr a phobl ifanc. Gall arolwg iechyd a lles blynyddol neu ddwywaith y flwyddyn sy'n cynnwys iechyd meddwl fod o fudd.
Mae’r ail bwynt yr hoffwn ei godi'n ymwneud â myfyrwyr rhyngwladol. Yn Rhondda yn unig, mae dwsinau o fyfyrwyr rhyngwladol yn dweud wrthyf eu bod mewn sefyllfaoedd enbyd o ganlyniad i dwyll ac esgeulustod gan eu prifysgolion. Mae myfyrwyr yn cael eu recriwtio ar sail celwydd, a chânt eu gadael i ofalu amdanynt eu hunain ar ôl cyrraedd. A allwch chi ddychmygu gadael eich cartref i astudio yn y DU gyda'r addewid o lety i chi a'ch dibynyddion, a darganfod wedyn fod gennych fflat un ystafell wely, ac yn gorfod rhentu tŷ yn yr hinsawdd bresennol neu dalu am Airbnb, heb unrhyw gymorth gan y brifysgol?
Nid oes gan y myfyrwyr hyn unrhyw hawl i arian cyhoeddus. Oni bai am wirfoddolwyr fel Natalie a myfyrwyr fel Esther, sydd wedi bod yn gwirfoddoli ddydd a nos i gefnogi’r myfyrwyr hyn a’u teuluoedd gyda llety a bwyd, byddent yn cael eu gadael heb ddim.
Mae'r bobl hyn yn y sefyllfa hon o ganlyniad i addewidion gwag gan y brifysgol. Yn anochel, mae'n cael effaith ar eu hiechyd meddwl. Ond mae ceisio cael rhagor o gymorth gan y prifysgolion wedi bod yn ofer—i'r fath raddau fel y dywedodd un o’r myfyrwyr wrthyf na fyddent yn meddwl ddwywaith am ddod o hyd i’r traeth agosaf a cherdded i mewn i'r môr, a pheidio â dychwelyd.
Ni all pobl fyw fel hyn, ac mae arnaf gywilydd fod eu prifysgol Gymreig wedi gwneud iddynt deimlo fel hyn. Rwy'n annog y Gweinidog i fynnu newid gan ein prifysgolion, i fynnu bod cymorth yn cael ei gynyddu i’r myfyrwyr sydd wedi cyrraedd yn sgil eu celwyddau, ac i fynnu bod myfyrwyr sy’n cyrraedd yn y dyfodol yn cael gwybod popeth am yr hyn sy'n eu disgwyl pan fyddant yn cyrraedd. Diolch.
Hoffwn innau hefyd rannu sylwadau aelodau eraill y pwyllgor wrth ddiolch i’n tîm clercio ac i'n Cadeirydd, Jayne Bryant, am gadeirio’r pwyllgor yn rhagorol, a hefyd i’r holl bobl ifanc a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn. Cyn imi ddechrau ar fy mhrif gyfraniad, roeddwn am sôn am sesiwn dystiolaeth 'Sortiwch y Switsh’ a gawsom yma yn y Senedd. Credaf mai dyna un o'r sesiynau tystiolaeth mwyaf pwerus i mi eu cael ers imi fod yn Aelod o'r lle hwn, a hyd yn oed pan oeddwn yn gynghorydd. Roeddwn yn teimlo bod yn rhaid imi ymddiheuro y diwrnod hwnnw ar ran gwleidyddion Cymru am y ffordd roedd y bobl ifanc hynny wedi cael eu trin. Roeddwn yn teimlo cywilydd i fod yn Aelod o’r Senedd hon am y ffordd roeddem wedi gwneud cam â'r bobl ifanc hynny.
Ond yr hyn a oedd hefyd yn bwysig am y ddadl hon yn fy marn i, oedd—. Nodwyd gan randdeiliaid a nifer o bobl ifanc fod hwn yn fater roedd angen inni edrych arno, a gwn, gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl, a oedd yma pan oedd yn Gadeirydd y pwyllgor plant a phobl ifanc, fod hyn yn rhywbeth a oedd yn glir yn yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' a gafodd ei gyflwyno, ac rwy’n falch y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymateb i’r ddadl hon heddiw.
Yr hyn a oedd yn amlwg yn ystod y sesiwn dystiolaeth oedd bod diffyg data ar draws ein prifysgolion yng Nghymru, ac os ydym am gyflawni’r newid sydd ei angen arnom, credaf fod angen i brifysgolion a Llywodraeth Cymru gael y data hwnnw wrth law, fel y gallwn ddeall sut mae llawer o bobl ifanc yn ei chael hi'n anodd yn ein prifysgolion, er mwyn sicrhau y gallwn roi cymorth ar waith, a dyna oedd un o’n hargymhellion yn yr adroddiad.
Yr hyn a ddaeth i’r amlwg hefyd oedd y materion sy’n wynebu ein myfyrwyr rhyngwladol. Gyda'r aelod o'r pwyllgor, Sioned Williams, ymwelais â phrifysgol Glyndŵr Abertawe, a chlywsom yn uniongyrchol gan fyfyrwyr rhyngwladol yno am yr heriau roeddent yn eu hwynebu, yn bennaf oherwydd materion diwylliannol a'u teimlad nad oeddent yn cael cefnogaeth i roi gwybod am broblem, oherwydd pe baent yn datgelu rhywbeth, nid oeddent yn siŵr sut y byddai hynny'n cael ei drin gan eu teuluoedd gartref neu gan fyfyrwyr eraill yno. Felly, mae llawer o waith angen ei wneud i gefnogi ein myfyrwyr rhyngwladol ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi ac yn cael y cymorth sydd ei angen.
Mater arall a ddaeth i'r amlwg drwy’r adroddiad oedd y broses o bontio i addysg uwch, a myfyrwyr yn teimlo nad oeddent yn cael eu cefnogi wrth iddynt ddechrau mewn addysg uwch. Roedd llawer o fyfyrwyr â chyflyrau iechyd meddwl yn barod yn osgoi datgelu hynny i'r brifysgol, yn bennaf am nad oeddent yn teimlo bod cyfle i wneud hynny, ac mewn gwirionedd, nad oedd elfen iechyd meddwl y sesiwn sefydlu yn ddim mwy na sgwrs bum munud ar y diwedd. Dyna un sgwrs a gawsom, sef, 'Os oes gennych broblem, dewch i fy ngweld ar y diwedd,' ac nid oedd y myfyriwr dan sylw yn teimlo y gallent wneud hynny, gan y byddai hanner y dosbarth, a oedd yno, yn meddwl bod ganddynt broblem, ac nid dyna'r ffordd o wneud hynny. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn cynorthwyo ein pobl ifanc i bontio i addysg uwch, a gwn fod hynny'n argymhelliad arall yn ein hadroddiad.
Yr hyn a oedd yn glir drwy’r ymchwiliad yn fy marn i, oedd yr angen am waith trawsadrannol rhwng y Gweinidog addysg yma a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl. Rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 11, a byddai’n dda cael gwybod pa waith y mae’r Dirprwy Weinidog wedi’i ddechrau yn y gweithgor hwnnw a gweld sut rydych yn mynd i wella’r cymorth iechyd meddwl y mae ein pobl ifanc yn ei gael yn ein sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Roeddwn yn siomedig na dderbyniodd y Llywodraeth argymhelliad 13 yn llawn, lle roeddem yn galw am ddull system gyfan mewn addysg uwch, oherwydd pe baech yn dod â phopeth at ei gilydd, byddai’n helpu i ddarparu gwasanaeth gwell i’r bobl ifanc hynny yn ein sefydliadau, a hoffwn wybod mwy gan y Llywodraeth ynghylch pam nad ydynt yn credu bod angen hynny ar draws ein sefydliad yng Nghymru.
Rhywbeth arall a oedd yn sefyll allan i mi oedd y ddealltwriaeth rhwng sefydliadau addysg uwch a’n byrddau iechyd ynglŷn â sut maent yn gweithio gyda’i gilydd i helpu pobl, gan fod tystiolaeth arall a glywsom yn nodi bod y trothwyon o ran lefel yr ymyrraeth a chymorth rhwng sefydliadau addysg uwch a’r byrddau iechyd yn wahanol, a chredaf fod gwir angen mynd i'r afael â hynny, gan na allwn ddisgwyl i’n darlithwyr a’n hathrawon mewn prifysgolion ddod yn gwnselwyr ac yn weithwyr cymdeithasol i fyfyrwyr, pan ddylai'r cymorth sydd ei angen arnynt ddod drwy ein byrddau iechyd a'n gweithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi yno i ddarparu’r cymorth hwnnw. Felly, hoffwn wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau mwy o synergedd rhwng y ddau beth.
Felly, ar y cyfan, credaf ei bod yn amlwg nad yw gwneud dim yn opsiwn. Mae gennym ddyletswydd i gefnogi pobl ifanc yn ein sefydliadau addysg uwch ledled Cymru, gan fod eu hiechyd meddwl yn bwysig iawn i’w cyrhaeddiad addysgol, ond mae angen inni eu cefnogi i ddod yn unigolion cyflawn er mwyn cael yr addysg o ansawdd da sydd ei hangen arnynt, a’r cymorth sydd ei angen arnynt mewn addysg uwch, a hefyd i’n staff addysgu hefyd, i sicrhau eu bod hefyd yn cael eu cefnogi a’u hyfforddi’n briodol i helpu pobl sy’n ceisio cymorth, ac i ymdrin â'r bobl ifanc sydd angen y cymorth hwnnw. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'n Cadeirydd gwych, Jayne Bryant, y tîm clercio a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor. Rwy'n credu ein bod i gyd wedi gweithio'n anhygoel o agos gyda'n gilydd a chydag angerdd gwirioneddol fel unigolion ac ar y cyd ynghylch y mater dan sylw yn ystod yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i bob unigolyn a gyfrannodd yn ystod yr ymchwiliad. Yn fwyaf arbennig, fel y mae Jayne Bryant wedi'i ddweud eisoes, hoffwn ddiolch i'r bobl ifanc a siaradodd â ni gyda'r fath eglurder a phwrpas, a chyda'r fath fewnwelediad a phŵer. Roedd eu cyfraniad yn enfawr, ac rydym yn ddiolchgar tu hwnt am y drafodaeth onest a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad.
Rwyf am wneud ychydig o bwyntiau, os caf, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, mae parodrwydd ar gyfer pontio—pontio o unrhyw fath—yn gwbl hanfodol. Ac rwy'n dweud hyn fel rhywun sydd wedi profi afiechyd meddwl o ganlyniad i ddiffyg parodrwydd ar gyfer addysg uwch dros 20 mlynedd yn ôl. Nawr, mae ein hadroddiad yn amlinellu sut i wella parodrwydd dysgwyr, wedi'i lywio unwaith eto gan leisiau pobl ifanc a gyfrannodd at yr ymchwiliad. Ac os bydd Llywodraeth Cymru'n croesawu ac yn gweithredu'r hyn rydym wedi'i gyflwyno, rwy'n gobeithio y bydd parodrwydd yn cyrraedd y pwynt sydd ei angen ar gyfer sicrhau pontio di-dor i addysg uwch.
Nawr, rwy'n rhannu'r siom y mae eraill yn ei deimlo fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 33, a gafodd ei ffurfio, ei siapio a'i lywio'n glir iawn gan bobl ifanc eu hunain. Rwy'n siŵr y byddai Gweinidogion yn cytuno y dylai llais pobl ifanc fod yn ganolog yn y broses o lunio polisïau, lle bynnag a sut bynnag y mae polisi'n effeithio arnynt. Felly, fel y mae Jayne Bryant wedi gofyn, hoffwn glywed ymhellach beth yw'r rhesymeg dros wrthod argymhelliad 33. A hoffwn annog y Gweinidogion hefyd i gyfarfod â'r bobl ifanc a roddodd dystiolaeth fel rhan o 'Sortiwch y Switsh'.
Nawr, yn olaf, nid wyf yn credu bod unrhyw aelod o'r pwyllgor wedi disgwyl i Weinidogion gytuno â'n hawgrym y dylai'r ddau Weinidog ymateb heddiw. Rwy'n credu bod y ffaith eich bod yn ymateb gyda'ch gilydd yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio o ddifrif ar sail drawsbortffolio, a gobeithio y bydd eich blaengarwch yn gosod cynsail iach iawn i Aelodau eraill yn y Llywodraeth ei ddilyn. Diolch.
Diolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am ddod â'r ddadl bwysig iawn, iawn yma i lawr y Senedd y prynhawn yma. Fel llefarydd iechyd Plaid Cymru, fel rhan o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dwi, fel gymaint ohonoch chi, wedi treulio llawer iawn o amser yn trafod iechyd meddwl mewn cymaint o gyd-destunau gwahanol, ac yn eiddgar i ymestyn y drafodaeth i gyd-destunau gwahanol. Ond mae iechyd meddwl yn y cyd-destun yma heddiw yn un sy'n taro tant penodol iawn efo fi, nid oherwydd fy mhrofiadau i yn bersonol, ond oherwydd profiad erchyll teulu yn fy etholaeth i.
Mi oedd Mared Foulkes yn fyfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn astudio fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd pan gafodd hi e-bost awtomataidd gan y brifysgol yn dweud ei bod hi wedi methu ei harholiadau ac na fyddai hi'n cael symud ymlaen i'w thrydedd blwyddyn. Mi oedd y newyddion mor siomedig i'r ferch ifanc, alluog, ddisglair yma, y ffordd cafodd y newyddion ei dorri mor oeraidd, y teimlad bod y gefnogaeth gan y brifysgol yn amlwg mor annigonol, fod Mared wedi gweld dim opsiwn arall ond i gymryd ei bywyd hi ei hun. Dwi'n cofio Mared yn ferch fach, yr un oed â'm merch hynaf i. Mi oedd y digwyddiad yma nid yn unig yn dinistrio teulu a grŵp o ffrindiau, ond yn newyddion wnaeth dorri calonnau ar draws y gymuned yn Ynys Môn. Mi wnaeth o daro pawb, y tristwch o golli dynes ifanc mor dalentog, mor llawn o botensial, o dan amgylchiadau mor drychinebus, ac mae cymaint yn dal i gofio amdani hi.
Mi ddaeth wedyn yn amlwg bod y newyddion gan y peiriant awtomataidd wedi bod yn anghywir a'i bod hi, mewn gwirionedd, wedi pasio'r arholiadau, ac mae gwall oedd yr e-bost gwreiddiol, sy'n gwneud y stori'n fwy torcalonnus fyth. Ond mae achos Mared, fel lot o achosion o fyfyrwyr ifanc ledled Cymru, yn dyst o fethiant mewn dyletswydd i ofal, dwi'n credu. Pan fydd prifysgolion yn derbyn pobl ifanc i mewn i'w sefydliadau, mae'n rhaid sicrhau eu bod nhw yn deall mai pobl ifanc iawn, iawn ydyn nhw—ddim hyd yn oed yn 18 oed yn aml, fel dŷn ni wedi clywed yma y prynhawn yma—llawer yn symud oddi cartref am y tro cyntaf, a'r rhan helaeth yn dysgu sut i fyw yn annibynnol am y tro cyntaf. Ac mae'n rhaid i'r prifysgolion fod yna i'w cefnogi nhw drwy'r newidiadau yna.
Mae achos Mared, a sut y cafodd y newyddion ei dorri, heb unrhyw un o'r brifysgol yna i'w chefnogi hi ar y pryd, sut y cafodd newyddion sydd mor bwysig i fywydau pobl ifanc ei ryddhau heb ei siecio, i gyd yn enghreifftiau o fethiant i gael y lefel o ddyletswydd gofal yn ddigon gwydn. Mae'r teimladau, wrth gwrs, yn dal i fod mor gryf ag erioed i deulu Mared, ac mi fyddan nhw. A thra fy mod i'n croesawu bod prifysgolion yn trafod y testun yn fwy agored rŵan—a gwaith y pwyllgor, wrth gwrs, wedi annog cymaint ar hynny—mae yna'n dal cymaint i'w wneud. Dwi'n gwybod bod teulu Mared yn benderfynol y dylai model Bryste gael ei weithredu, fel bod cyfrifoldeb ar brifysgolion i roi gwybod i deulu os oes yna bryder am lesiant myfyriwr. Dwi'n gwybod bod yna safbwyntiau gwahanol ynglŷn â'r union fodel hwnnw, ond, y gwir ydy, mae'n rhaid i rieni a gofalwyr fod mor sicr ag y gallan nhw eu bod nhw yn rhoi eu plant nhw mewn amgylchiadau gofalgar pan fyddan nhw'n mynd i brifysgol.
Fe wnaf i grybwyll yn sydyn iawn rhai o'r elfennau yn ymwneud ag iechyd yn ehangach yn yr adroddiad. Dwi'n falch gweld bod y Llywodraeth yn agor i'r egwyddor o basborts, fydd yn galluogi pasio gwybodaeth iechyd meddwl heb orfod mynd trwy lwyth o rwystrau; falch hefyd fod y Llywodraeth wedi creu adroddiad am amseroedd aros CAMHS i bob un bwrdd iechyd, a'u bod nhw bellach yn creu cynlluniau datblygu. Mae'r rhain yn gamau cadarnhaol, dwi'n meddwl, sydd i'w croesawu. Ond i ni wir weld y newidiadau rydym ni'n dymuno eu gweld, mae'n rhaid gweithredu ym mhob maes o fewn y brifysgol, ac i wneud llesiant ac iechyd meddwl y myfyriwr yn ganolog i bob un penderfyniad, fel bod achosion fel un Mared ddim yn cael eu hailadrodd yma yng Nghymru eto.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi am ddiolch i'r pwyllgor am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw ac am lais y bobl ifanc yn yr ymchwiliad. Mae'r pwyllgor yn gwbl iawn bod yn rhaid inni sicrhau bod gan fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i gynnal iechyd meddwl da. Dyna pam byddwn ni'n gweithio i sicrhau bod gan bob prifysgol yr adnoddau angenrheidiol i gefnogi iechyd meddwl myfyrwyr, gan gynnwys gwasanaethau cwnsela a rhaglenni cymorth seicolegol.
Rŷn ni'n croesawu gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mewn partneriaeth â'r sector, i ddatblygu dull gweithredu strategol ac i ymgorffori iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl a dulliau mwy diogel rhag hunanladdiad yn eu polisïau a'u harferion. Rŷn ni newydd glywed gan Rhun ap Iorwerth ba mor bwysig mae'r gwaith penodol hwnnw.
Mynegodd adroddiad y pwyllgor bryderon nad oedd myfyrwyr yn cael mynediad at bopeth y mae ganddynt hawl iddo yn ariannol. Yn gynharach eleni, fe wnaethom gyhoeddi £2.3 miliwn ychwanegol i gefnogi strategaethau iechyd a lles prifysgolion. Rydym i gyd yn gwybod sut mae pwysau ariannol yn effeithio ar iechyd meddwl, felly gofynnwyd i CCAUC flaenoriaethu datblygu a hyrwyddo cyngor a gwasanaethau ariannol, a chydweithio gydag undebau myfyrwyr i adolygu'r cymorth a ddarparir. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi costau byw myfyrwyr o ddydd i ddydd, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau i gyd wedi gweld, ac yn falch o fod wedi gweld, ein bod wedi gallu cynyddu'r cymorth cynhaliaeth 9.4 y cant ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Amlygodd adroddiad y pwyllgor bwysigrwydd cefnogaeth i bontio i addysg uwch, ac mae James Evans a Ken Skates wedi codi hynny eto yn y ddadl heddiw. Rydym yn cydnabod yr heriau a wynebir yn ystod y cyfnod pontio rhwng camau addysg, a dyna pam ein bod wedi ariannu pob prifysgol, gan gynnwys y Brifysgol Agored, i gydweithio i ddatblygu Barod ar gyfer Prifysgol, set unigryw o adnoddau ar bontio i addysg uwch. Fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor, fe wnaethom gomisiynu gwerthusiad effeithiolrwydd hefyd o gyllid cysylltiedig â COVID-19 a ddyrannwyd yn flaenorol ar gyfer addysg ôl-16, ac rydym yn aros am ganlyniadau'r adroddiad hwn.
Mae sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn rhoi cyfle inni fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu iechyd meddwl myfyrwyr ar draws addysg bellach ac uwch. I ymateb i'r pwynt a wnaeth Sioned Williams, yn mynegi ei siom nad ydym wedi derbyn pob argymhelliad yn llawn, rydym wedi cadw mewn cof yn ein hymateb i'r argymhellion y bydd y cyfle i gymryd camau pellach yn rhannol yn fater i'r comisiwn pan fydd yn gwbl weithredol y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn ymwybodol, yn ystod taith Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, fod y pwyllgor ei hun wedi pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod y comisiwn yn gweithredu hyd braich o Lywodraeth Cymru, ac yn amlwg rydym yn cytuno â hynny fel Llywodraeth. Ond rwy'n siŵr y bydd y dasg o fynd i'r afael â'r cwestiynau a gododd Jayne Bryant, a rhai o'r pwyntiau y gofynnodd Sioned Williams yn eu cylch, yn ystyriaethau pwysig i'r comisiwn.
Serch hynny, oherwydd yr heriau a nodwyd gan y sector ac ymgyrchwyr ynghylch iechyd meddwl myfyrwyr, ni oedd y genedl gyntaf yn y DU i ddeddfu, y llynedd, i sicrhau bod gan ddarparwyr addysg drydyddol brosesau, gwasanaethau a pholisïau priodol ar waith i gefnogi lles, llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Bydd yr amod cofrestru ac ariannu newydd yn cael ei ddatblygu gan y comisiwn, ac rydym yn rhagweld, wrth wneud hynny, y bydd yn gweithredu nifer o'r argymhellion yn yr adroddiad, gan gynnwys rhannu arferion gorau, annog cyflwyno hyfforddiant priodol, a gwella prosesau ar gyfer datgelu a chofnodi cyflyrau iechyd meddwl myfyrwyr, ac mae pob un ohonynt wedi cael eu crybwyll mewn gwahanol ffyrdd heddiw.
Ar y pwynt a gododd Jayne Bryant mewn cysylltiad ag argymhelliad 15, disgwyliwn y bydd hyn yn creu fframwaith cyffredin ar gyfer cymorth iechyd meddwl ar draws addysg drydyddol, gan ei gwneud yn glir i fyfyrwyr beth yw'r llinell sylfaen y gallant ei disgwyl gan ddarparwyr yn y maes hwn. Dylwn ddweud y bydd y comisiwn hefyd yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau mwy o gydlynu wrth ddarparu gwasanaethau rhwng darparwyr addysg a gwasanaethau gofal iechyd. Gwnaeth Buffy Williams a James Evans bwynt pwysig mewn perthynas â myfyrwyr rhyngwladol. Mae gan brifysgolion gyfrifoldeb i sicrhau bod gwybodaeth a chyngor a ddarperir gan asiantwyr dan gontract yn glir ac yn gyfredol, fel y gall darpar fyfyrwyr wneud penderfyniadau cwbl wybodus. Mae hwn yn fater rwyf wedi cyfarfod â'r is-gangellorion i'w drafod. Rydym hefyd yn gweithio gyda CCAUC i sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau cyn derbyn lle mewn prifysgol, fel y gellir gwneud y penderfyniadau hynny mewn ffordd wybodus.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn edrych ymlaen at fwrw ymlaen â'r rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.
Ac yn awr, galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i chi am y cyfle i siarad yn y ddadl hon, ac a gaf fi hefyd achub ar y cyfle i ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith yn yr ymchwiliad pwysig hwn? Mae'r Gweinidog addysg a minnau wedi mabwysiadu agwedd gyd-weinidogol tuag at hyn. Mae gennym ein bwrdd trosolwg ar y cyd, sy'n canolbwyntio ar ddarparu dull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant emosiynol mewn ysgolion, ac yn ddiweddar cynullais a chadeiriais grŵp cynghori'r gweinidog ar iechyd meddwl mewn addysg bellach ac addysg uwch, i archwilio cyfleoedd i wella'r cynnig o fewn lleoliadau addysg uwch ac addysg bellach, ac i lywio'r gwaith o ddatblygu ein strategaeth iechyd meddwl olynol i Gymru.
Roeddwn yn falch o weld argymhellion y pwyllgor sy'n cydnabod rôl y grŵp hwn, a hefyd yr argymhelliad fod myfyrwyr ôl-16 yn rhan annatod o'n strategaeth iechyd meddwl newydd, ac rwy'n hapus i ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw heddiw. Rwyf wedi ymrwymo i barhau i gryfhau ein polisi yn y maes hwn a chynnal ein buddsoddiad ym maes iechyd meddwl er mwyn sicrhau bod pawb, gan gynnwys myfyrwyr, yn gallu cael gafael ar gymorth pan fo angen. Yr wythnos nesaf, byddaf yn gwneud datganiad ar weithredu ein gwasanaeth 111 dewis 2 ar gyfer cyngor a chymorth iechyd meddwl brys. Mae'r gwasanaeth newydd hwn yn drawsnewidiol, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu i'r sectorau addysg uwch ac addysg bellach, fel y gallant godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth a chymorth iechyd meddwl arall ymysg eu myfyrwyr. Mae hwn yn un datblygiad pwysig mewn perthynas â gwella mynediad, ond rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy o waith mewn perthynas â myfyrwyr. Rydym wedi derbyn ystod o argymhellion mewn egwyddor i helpu myfyrwyr i gael mynediad at ofal sylfaenol ac i rannu gwybodaeth iechyd, ac mae sawl Aelod wedi cyfeirio at hynny heddiw.
O gofio bod amser yn brin, hoffwn ddefnyddio'r amser sy'n weddill i ymateb i ychydig o'r pwyntiau a wnaed yn uniongyrchol yn y ddadl. Mae sawl Aelod wedi crybwyll gwasanaeth cyswllt iechyd meddwl y prifysgolion, a derbyniwyd yr argymhelliad hwnnw mewn egwyddor oherwydd y gwaith sy'n mynd rhagddo gyda'r comisiwn. Ond er mwyn sicrhau'r Siambr fy mod wedi ymweld â'r gwasanaeth; rwy'n credu ei fod yn wasanaeth ardderchog. Rwy'n credu bod rhywbeth yno ynglŷn â dal gafael ar y bobl ifanc hynny, a gwyddom fod pontio i'r brifysgol yn adeg fregus i bobl ifanc, ac mae'r ddau ohonom wedi ailddatgan yn ein hymateb ein hymrwymiad i weld y gwasanaeth hwnnw'n cael ei gyflwyno. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod llwyddiant y gwasanaeth yng Nghaerdydd hefyd yn dibynnu ar y partneriaethau sy'n bodoli gyda'r bwrdd iechyd lleol. Felly, mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid inni weithio ar ei efelychu.
Laura, fe gyfeirioch chi at adrodd ar waith y dull ysgol gyfan. Hoffwn egluro ar gyfer y cofnod mai'r hyn rydym wedi ymrwymo i'w wneud yw rhoi diweddariadau blynyddol i'r pwyllgor ar hynny, i gyd-fynd â'r flwyddyn academaidd. Hoffwn ailadrodd ein bod wedi cynnig cyfle i'r pwyllgor anfon y Cadeirydd i fod yn rhan o'n dull ysgol gyfan newydd a'n bwrdd cyflawni dull system gyfan, a fydd yn derbyn diweddariadau manwl ar yr holl feysydd gwaith hyn, ac mae'r opsiwn hwnnw'n agored iawn i'r pwyllgor.
James, fe wnaethoch ofyn am ddiweddariad ar y gweithgor. Mae'n ddyddiau cynnar ar y gweithgor; rydym wedi cyfarfod ddwywaith. Mae'r ffocws ar geisio sefydlu enillion cyflym gyda'r materion rydym wedi tynnu sylw atynt, ond hefyd, yn hanfodol, nodi materion sy'n codi yn y strategaeth newydd.
Os caf fi droi nawr at 'Sortiwch y Switsh', fe ddywedodd Ken nad oes dim yn bwysicach na lleisiau pobl ifanc, ac rwy'n cytuno'n llwyr, a dyna pam y deuthum i'r pwyllgor mor gyflym i wrando ar yr hyn roeddech chi wedi'i glywed gan y bobl ifanc hynny. Hefyd, fe wnaethom gomisiynu ein gwaith ein hunain gan Tros Gynnal Plant gyda phobl ifanc, a roddodd yr un negeseuon i ni. Ac roeddwn yn hollol glir gyda'r pwyllgor ein bod yn gwybod bod mwy o waith i'w wneud ar bontio, ac rwyf wedi ymrwymo 100 y cant i wneud y gwaith hwnnw. Rydym wedi cynnal y gweithdai gyda'r byrddau iechyd. Byddaf yn cyfarfod â phobl ifanc i siarad am y pasbort i bobl ifanc, ac rwy'n rhoi fy ymrwymiad i chi y byddwn yn gwella pontio rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a gwasanaethau iechyd meddwl oedolion.
Ar wrthod yr argymhelliad hwnnw, hoffwn ddweud bod 'Sortiwch y Switsh' yn adroddiad pwysig iawn, sy'n cyd-fynd â'r adroddiadau eraill y cyfeiriais atynt, ond roedd yr argymhellion yn llawer mwy cyffredinol na'n cynllun gwaith presennol, sy'n cael ei flaenoriaethu i ganolbwyntio ar y meysydd a fydd yn cael yr effaith fwyaf. Ac enghraifft o hynny yw'r argymhelliad ynghylch ymestyn eiriolaeth statudol, sy'n rhywbeth rydym eisiau ei wneud ond ni allwn ei wneud fel blaenoriaeth ar unwaith.
Roeddwn eisiau rhoi gwybod i'r pwyllgor hefyd fod swyddogion yn gweithio'n agos gyda Mind Cymru, sy'n cefnogi ein rhaglen waith bresennol. Ac ers iddynt gyhoeddi eu hadroddiad, maent wedi ailffocysu'r alwad ar Lywodraeth Cymru yn bedair galwad allweddol: gwrando ar leisiau pobl ifanc mewn gwasanaethau CAMHS arbenigol a gweithredu arnynt, ac rydym yn gwneud hynny; sicrhau bod canllawiau cenedlaethol yn cael eu darparu, a dywedais yn glir wrth y pwyllgor fod hyn yn ymwneud â gweithredu a sbarduno'r gweithredu hwnnw nawr; cefnogi pobl ifanc pan fyddant yn gadael gwasanaethau CAMHS arbenigol; a newid y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu rhedeg i gynnwys lleisiau pobl ifanc yn well. Ac rwy'n credu y bydd y gwaith rydym yn ei wneud a'r sicrwydd rwyf wedi'i roi i'r pwyllgor ynghylch monitro a fframwaith newydd i fonitro'r ddarpariaeth yn y maes hwn yn sicrhau bod y pethau hyn yn cael eu cyflawni.
Ac er mwyn sicrhau'r pwyllgor a'r Aelodau yn y Siambr, rydym yn gwbl benderfynol o gael hyn yn iawn, a byddwn wedi bod yn ddig iawn wrth y pwyllgor pe bai wedi gwneud math gwahanol o argymhelliad, ond gobeithio bod hynny wedi egluro ein safbwynt ar hynny. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Jayne Bryant, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch unwaith eto i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Rydym yn werthfawrogol iawn, ac i gynifer o Aelodau—neu i'r holl Aelodau, rwy'n credu—yn y Siambr hon, rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth rydym i gyd yn malio'n fawr amdano. Rwy'n sylweddoli nad oes gennyf lawer o amser i fynd drwy'r holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud heddiw, ond fe glywsom gan—. I ddechrau, clywsom gan Laura a siaradodd am bwysigrwydd nifer y myfyrwyr yn y prifysgolion sydd wedi cael diagnosis ac sydd heb gael diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl, a phwysigrwydd y setiau data i gael gwell dealltwriaeth o'r sefyllfa hefyd. Felly, diolch am y cyfraniad hwnnw, Laura.
Soniodd Sioned am y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a rhai o'r cyfleoedd yno, yn ogystal â sôn am yr enghreifftiau cadarnhaol y clywsom amdanynt, ac fel y gwnaethom nodi mor gryf yn adroddiad ein pwyllgor a'n hargymhelliad ar wasanaeth cyswllt iechyd meddwl y prifysgolion. Roeddem yn croesawu hwnnw'n fawr ac edrychwn ymlaen at weld sut mae hwnnw'n datblygu—byddwn yn dilyn hwnnw'n agos iawn.
Clywsom hefyd gan Buffy, a siaradodd am fyfyrwyr rhyngwladol, a siaradodd Buffy'n angerddol iawn am rai o'r profiadau y mae myfyrwyr rhyngwladol wedi'u rhannu gyda hi. Mae hyn yn rhywbeth rydym wedi'i glywed gan eraill hefyd, fel pwyllgor, ac roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog yn cyffwrdd ar hynny yn ei ymateb hefyd.
Soniodd James am 'Sortiwch y Switsh' a lleisiau pwerus y bobl ifanc y clywodd pawb ohonom ganddynt, a hefyd ymweliadau'r holl Aelodau ledled Cymru i siarad â phobl ifanc. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth roeddem yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r bobl ifanc a siaradodd â ni yn eu mannau astudio hefyd. Soniodd James am y gwaith trawsadrannol hefyd.
Rhun—rwy'n ddiolchgar iawn am eich cyfraniad, a hefyd am rannu amgylchiadau trasig marwolaeth Mared. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr eich bod wedi codi hynny gyda ni heddiw, ac rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Mared. Hefyd, mae'n bwysig fod prifysgolion yno i ofalu a chefnogi, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i brifysgolion ei gofio—rhoi iechyd meddwl a llesiant eu myfyrwyr wrth wraidd popeth.
Diolch felly i'n Gweinidogion am ymateb. Fel rwy'n dweud, roeddent yn ddiolchgar iawn am heddiw, a dyma'r tro cyntaf—nid wyf yn teimlo ein bod yn gweld pethau'n digwydd am y tro cyntaf yn y Siambr yn aml, ond roedd heddiw'n un o'r rheini. Diolch i chi am eich ymatebion manwl yn yr amser byr a gawsoch eich dau, felly rydym yn gwerthfawrogi hynny. Siaradodd y Gweinidog addysg am ddull strategol, a hefyd sut mae'r comisiwn yn darparu cyfle nawr, a hefyd am y llinell sylfaen y bydd myfyrwyr yn dod i'w disgwyl o ran iechyd meddwl a llesiant, a'r hyn y mae prifysgolion yn ei gynnig. Diolch am y geiriau a ddywedoch chi am fyfyrwyr rhyngwladol hefyd, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.
Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, unwaith eto, diolch i chi am siarad am y dull cyd-weinidogol. Nid wyf yn credu bod unrhyw beth yn dangos hynny'n fwy na'r ymateb heddiw. Ac mae'n bwysig, unwaith eto, fod pawb, gan gynnwys myfyrwyr, yn cael gwybod pa gymorth sydd ar gael, a'u bod yn cael y cymorth hwnnw pan fo angen y cymorth hwnnw arnynt. Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn gwasanaeth cyswllt iechyd meddwl y prifysgolion, a byddwn yn cadw llygad barcud ar hyn. Ni allaf ddweud digon cymaint y teimlwn mor angerddol â chi ynglŷn â pha mor dda ydyw, ac edrychwn ymlaen at ei weld yn cael ei gyflwyno, gobeithio. Rydym yn clywed yr hyn rydych wedi'i ddweud am y gwaith sydd angen ei wneud mewn perthynas â phontio. Rydym yn cytuno ac yn rhannu eich ymrwymiad yn hynny o beth, felly diolch yn fawr, a diolch i bawb am gyfrannu heddiw. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar anghenion dysgu ychwanegol, a galwaf ar Laura Anne Jones i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8294 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi gostwng ers cyflwyno diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol y llynedd;
b) bod oedi a heriau wrth gyflwyno diwygiadau ADY yn achosi loteri cod post mewn mynediad at gymorth ADY i ddysgwyr ledled Cymru; ac
c) bod ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi canfod bod 94 y cant o arweinwyr ysgolion yn dweud nad yw cyllid i ymdrin â phob agwedd ar ddeddfwriaeth ADY newydd yn ddigonol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal adolygiad brys o weithredu diwygiadau ADY;
b) cymryd camau brys i sicrhau bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at gymorth yn gynt; ac
c) darparu cymorth ariannol ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n fraint cael agor y ddadl hanfodol ac amserol hon y prynhawn yma a gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Rwy'n falch fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gallu defnyddio'u hamser i gynnal y ddadl hon heddiw. Rwyf wedi datgan fy mhryderon wrth y Gweinidog yn y pwyllgor ac ar lawr y Senedd hon sawl gwaith mewn perthynas â'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad yn ein hysgolion gyda gweithredu'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol (ADY) newydd—a mawr eu hangen, rydym yn cytuno—a'r diffyg darpariaeth ADY. Nid dadl ynglŷn ag a oedd angen diwygio yw hon—rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno fod angen diwygio—ond dadl i dynnu sylw at y sefyllfa gynyddol enbyd sydd gennym yn ein hysgolion, ac nad yw'r plant sydd angen cymorth ADY arbenigol un i un ar frys yn ein hystafelloedd dosbarth yng Nghymru yn ei gael.
Lywydd, nid ambell ysgol yn unig sy'n cael eu heffeithio gan hyn. Nid ambell blentyn yn unig ydyw. Mae'n cael effaith ar bob ysgol a channoedd o blant. Fel Senedd, ni allwn dderbyn bod dewis rhieni i'w plant fod mewn addysg brif ffrwd yn cael ei wadu iddynt oherwydd diffyg darpariaeth a diffyg cymorth ADY i'r rhai sydd ei angen. Dewis rhieni yw addysg yn y cartref, ac mae llawer o blant yn ffynnu wrth gael addysg o'r fath, ond nid yw'n iawn gorfodi rhieni i ddarparu addysg yn y cartref am nad yw'r adnoddau angenrheidiol ar gael lle mae eu hangen mewn addysg brif ffrwd i helpu ein plant a'n pobl ifanc.
Weinidog, mae Aelodau ar eich meinciau eich hun yn rhannu’r pryderon hyn ynglŷn â'r cynnydd yn y nifer sy'n gadael addysg brif ffrwd oherwydd y rhesymau hyn. Mae pob ysgol yr ymwelais â hi ledled Cymru, yn ddieithriad, wedi nodi eu pryderon wrthyf ynghylch diffyg arian i ddarparu’r cymorth ADY sydd ei angen yn eu hysgolion, ysgolion cynradd ac uwchradd fel ei gilydd.
Roedd athrawon ac arweinwyr ysgolion yn amlwg yn siomedig nad oeddent yn gallu rhoi'r cymorth y maent ei angen i'w plant am fod eu cyllidebau o dan ormod o bwysau. Mae hyn, yn rhannol, o ganlyniad i gyfarwyddeb ar ôl cyfarwyddeb gan y Llywodraeth Cymru hon heb arian i'w canlyn i sicrhau bod pethau y mae eu hangen yn fawr yn ein hysgolion ac ym myd addysg yng Nghymru yn cael eu darparu. Mae’r diffyg arian mewn ysgolion i gyflawni dysgu ychwanegol yn effeithio nid yn unig ar y rhai sydd angen cymorth arbenigol, ond ar bawb—pob athro, pob disgybl yn yr ystafell ddosbarth honno.
Wrth aros am amser hir i ddatganiadau plant ddod yn ôl, mae athrawon yn gorfod ymlafnio i addysgu dosbarth llawn o ddisgyblion yn ogystal â gorfod rhoi sylw i anghenion penodol iawn un, dau, tri o blant yn y dosbarth hwnnw. Mae honno’n sefyllfa bron yn amhosibl, sy’n golygu y bydd pob disgybl ar eu colled mewn rhyw ffordd neu'i gilydd heb unrhyw fai ar yr athro. Ddirprwy Lywydd, mae plant a phobl ifanc yng Nghymru eisoes wedi colli digon o addysg oherwydd y pandemig ac wedi dioddef digon o ganlyniad i gymorth iechyd meddwl annigonol yn ein hysgolion. Mae’r sefyllfa hon gydag ADY yn rhoi straen diangen ar ein hathrawon, gan effeithio ar eu hiechyd meddwl, gan gynyddu eu llwythi gwaith, sy'n rhywbeth y mae’n rhaid i’r Gweinidog ei ystyried.
Mae’r Gweinidog yn datgan bod tegwch yn bwysig yng ngwelliant y Llywodraeth—mae'n bwysig i bob un ohonom, ond yn sicr mae cyfle cyfartal i gael yr addysg orau bosibl yn sail i bob dyhead wrth wneud penderfyniadau addysg yng Nghymru. Mae angen inni sicrhau bod gan bob ysgol yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddarparu'r addysg orau bosibl. Nid yw'n gynaliadwy cael sefyllfa lle mae cyfarwyddebau parhaus yn cael eu rhoi i ysgolion heb arian i'w dilyn. Ni ddylai cyllidebau ysgolion fod mewn argyfwng, lle na ellir darparu’r hanfodion i sicrhau’r addysg orau am na ellir fforddio staff ADY hanfodol. Credaf hefyd y dylai Llywodraeth Cymru edrych o ddifrif ar ymgorffori hyfforddiant ADY fel elfen sylfaenol o hyfforddiant athrawon yn y dyfodol, er mwyn inni allu defnyddio ein gweithlu’n well.
Hoffwn ganolbwyntio nawr ar welliannau Plaid Cymru, y byddwn yn eu cefnogi wrth gwrs, a diolch am godi pwynt mor bwysig â'r angen am gymorth dwyieithog gydag ADY. Rydym ninnau hefyd yn cydnabod yr angen dybryd i roi sylw i hyn, a Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd y meinciau Llafur yn ymuno â ni i gefnogi’r gwelliannau hyn, gan gefnogi’r ddarpariaeth Gymraeg yn hyn o beth.
Gan symud at welliant Llafur, yn anffodus, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant Llafur heddiw, nid am nad ydym yn croesawu’r diwygiadau newydd—fel y dywedais, nid dadl am hynny yw hon—ond oherwydd methiant Llywodraeth Cymru i gydnabod bod oedi eithriadol a chynyddol a’r heriau wrth gyflwyno diwygiadau ADY, ynghyd â’r galw cynyddol am ADY, yn achosi loteri cod post o ran mynediad at gymorth ADY i ddysgwyr ledled Cymru. Mae'n rhaid imi nodi ein siom nad yw eich gwelliant i bwynt 1 yn ein cynnig yn cydnabod y realiti hwn sy’n peri cymaint o bryder mewn ysgolion ledled Cymru. A dweud y gwir, byddwn yn herio’r Gweinidog i ymweld ag unrhyw ysgol ledled Cymru lle nad yw'r ddarpariaeth ADY yn un o’u prif flaenoriaethau a’u prif bryderon.
Drwy beidio â diwygio pwynt 2 yn ein cynnig, rwy’n cymryd bod y Gweinidog addysg a Llywodraeth Cymru yn cydnabod y brys ac y byddant, felly, yn cefnogi ein galwadau i gynyddu cyllid uniongyrchol i ysgolion Cymru er mwyn cau’r bwlch amlwg yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd. Mae ymestyn gweithrediad y Ddeddf a’r cyllid ychwanegol i bartneriaid addysg ar gyfer gweithredu ADY tan 2025 yn gam i’w groesawu, ond a allai’r Gweinidog nodi'n glir yn ei ymateb pwy yw’r partneriaid addysg hyn ac i ble'n union y mae’r arian hwn yn mynd? Diolch.
Ddirprwy Lywydd, y broblem fawr a’r rhesymau dros y ddadl hon yw bod angen i arian, adnoddau ac arbenigedd fynd i’r rheng flaen nawr er mwyn sicrhau bod plant yn cael eu nodi ac y gwneir datganiadau ar eu cyfer yn ddigon cyflym, a'u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Golyga hynny, i ysgolion, sy'n gallu nodi'r plant hyn yn gyflymach nag unrhyw un arall; maent yn adnabod eu plant, maent yn ymwybodol o'u hanghenion, maent yn gwybod sut i helpu, cyn i unrhyw ddiagnosis swyddogol gael ei wneud. Mae pob un ohonom yn cydnabod bod diwygiadau ADY newydd yn gwneud cynnydd cyson, ac wrth gwrs, mae'n naturiol y bydd y cyfnod pontio'n anodd, ond Weinidog, beth am y dysgwyr sy’n llithro drwy’r rhwyd nawr? Beth am yr holl blant a phobl ifanc nad ydynt yn cael yr addysg y maent yn ei haeddu nawr? Beth am yr holl darfu ar addysg pob disgybl a’r effaith ar les athrawon a’u gallu i addysgu? Mae’r sefyllfa bresennol yn ein hysgolion yn peri pryder, ac felly mae’n siomedig ei bod wedi cymryd dadl gwrthblaid i gymell gweithredu go iawn ar hyn. Ond o leiaf, os yw’r Llywodraeth yn dweud eu bod yn cydnabod yr angen, gobeithio y gwelwn weithredu go iawn ar hyn wrth symud ymlaen.
Fel y nodir yn ein cynnig, heb gynnydd sylweddol mewn cyllid yn ychwanegol at yr hyn a addawyd eisoes, yn uniongyrchol i ysgolion, bydd mwy a mwy o effaith negyddol ar addysg ein plant. Dyma’r peth olaf rydym am ei weld yn digwydd yng Nghymru. Ochr yn ochr â’r cyllid a’r hyfforddiant hollbwysig, mae arnom angen adolygiad brys o weithrediad presennol y diwygiadau ADY, ac rwy’n falch fod y Gweinidog wedi dweud mewn llythyr ddoe y bydd yr adolygiad hwn yn mynd rhagddo. Edrychaf ymlaen at adolygiad thematig Estyn ym mis Medi 2023, a fydd hefyd yn dangos a yw anghenion ADY yn cael eu diwallu, ond mae angen i’r Llywodraeth gydnabod hefyd fod angen rhoi camau brys ar waith nawr. Ni allwn aros i glywed canfyddiadau’r adolygiad hwnnw, fel y gallwn fynd at wraidd y problemau y mae ysgolion yn eu hwynebu gyda gweithredu, a llenwi’r bylchau i sicrhau ein bod yn rhoi’r cyfleoedd gorau posibl i’n plant yng Nghymru lwyddo. Felly, edrychaf ymlaen at glywed areithiau o bob rhan o’r Siambr heddiw ac at ymateb y Gweinidog, ac rwy'n gofyn i bob un ohonoch gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod
Estyn wedi canfod bod cynnydd cyson tuag at roi’r diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael eu croesawu'n gyffredinol.
ymchwil yn canfod bod y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY yn hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i bob dysgwr.
cyfnod gweithredu’r diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl, a’r cyllid gweithredu wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr unigol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Ffurfiol.
A galwaf ar Heledd Fychan i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Mewnosoder ar ddiwedd is-bwynt 1(b):
gyda phrinder penodol o ddarpariaeth Gymraeg.
Gwelliant 3—Siân Gwenllian
Mewnosod fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
cymryd camau ar unwaith i leddfu pryderon gan ddarparwyr cyfrwng Cymraeg ynghylch argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY, a sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac dwi’n falch o glywed y bydd y Ceidwadwyr yn cefnogi'r gwelliannau hynny. Dwi hefyd yn ddiolchgar iawn eich bod chi wedi cyflwyno’r ddadl. Mae o’n bwnc eithriadol o bwysig i nifer o’n hetholwyr ni. Yn wir, mi ges i ddau deulu ddoe yn cysylltu efo fi, a ddim yn gwybod bod y ddadl hon yn digwydd heddiw yn y Senedd. Mae o’n fater sy’n fyw iawn. A siarad gyda nifer o’m cyd-Aelodau, dwi’n gwybod bod gennym ni i gyd waith achos yn gysylltiedig â hyn a’r diffygion sydd yna o fewn y system bresennol. Ac fel roedd Laura Anne Jones yn ei amlinellu, rydym ninnau, hefyd, yn cefnogi’r diwygiadau gan Lywodraeth Cymru. Mae dirfawr eu hangen nhw, ac rydym ni yn deall bod yna heriau aruthrol o ran cyrraedd yr uchelgais; rydym ni’n gwybod bod gweithlu yn her aruthrol, ond rydym ni hefyd yn credu bod yna le i wella’r ddarpariaeth, a bod yn onest, o ran rhai o’r methiannau sydd ar y funud.
Heb os, er gwaethaf y diwygiadau yma, mae yna bryderon dybryd gan nifer o deuluoedd, athrawon, undebau, a’r sector addysg ehangach ynglŷn â darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. Dwi’n clywed yn aml am ddiffygion o ran y gefnogaeth sydd ar gael, problemau mae ysgolion yn eu cael efo cael y cyllid digonol i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol, fel yr amlinellwyd yn barod, ac, mewn rhai achosion, fod rhieni wedi gwneud y penderfyniad i addysgu o gartref oherwydd bod y system addysg yn methu â diwallu anghenion plentyn neu berson ifanc. Mae o'n rhywbeth rydym ni wedi bod yn ei drafod o weld absenoldebau ysgol yn mynd yn uwch ac ati. Pan oedden ni’n trafod dysgu o adref dim ond wythnos diwethaf yn y Siambr, mae hwn yn broblem, ac mae o’n effeithio fwyaf ar ferched, sydd yn gorfod rhoi’r gorau i’w swyddi ac ati i fod yn addysgu o gartref. Mae o’n fater o gydraddoldeb hefyd, a dwi’n meddwl bod yn rhaid inni edrych arno o ran hynny.
Fel y soniwyd yn barod, hefyd, mae’r ddarpariaeth ar y funud yn un sy’n digwydd ar hap, sy’n ddibynnol ar eich cod post, ac mae hynny’n arbennig o wir pan fo’n dod i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, gyda’r mynediad at ddarpariaeth a chefnogaeth anghenion dysgu ychwanegol addas yn amrywio’n fawr hyd yn oed o fewn y rhanbarth dwi’n ei gynrychioli yng Nghanol De Cymru.
Fel nodwyd yn y papur a gyhoeddwyd ar y cyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a’r Comisiynydd Plant Cymru ar 1 Mehefin—dwi’n gobeithio y bydd y Gweinidog efallai yn gallu ymateb i’r papur hwnnw; dwi’n siŵr eich bod wedi ei weld o ers iddo fo gael ei gyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd—o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae gan blant yr hawl i dderbyn addysg yn eu hiaith eu hunain, ac maen nhw’n mynd ymlaen i ddweud yn yr adroddiad fod tystiolaeth yn dangos bod ffordd bell i fynd er mwyn sicrhau cyfundrefn addysg ADY cyfrwng Cymraeg, ac mae’n nhw’n dweud bod yna heriau sylweddol. Ond yr hyn dwi’n meddwl oedd yn frawychus, ond ddim yn sioc i neb ohonom ni, oherwydd ei fod o'n rhywbeth rydym ni wedi ei glywed yn yr adroddiad, ydy, os caf i ddyfynnu:
'Naill ai mae disgyblion cyfrwng Cymraeg yn gorfod derbyn cefnogaeth drwy gyfrwng y Saesneg, yn methu â chael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt, neu mae’r dysgwyr sydd ag ADY mwy cymhleth yn dewis addysg cyfrwng Saesneg o’r cychwyn gan eu bod eisoes yn ymwybodol o ddiffyg cefnogaeth cyfrwng Cymraeg.'
Wel, yn chwe mis diwethaf, mae tri theulu gwahanol wedi dod ataf i fel Aelod rhanbarthol i godi'r union fater hwn. Mae un teulu wedi symud ysgol a derbyn addysg cyfrwng Saesneg yn erbyn eu hewyllys oherwydd eu cred bod y gwasanaeth cyfrwng Saesneg yn fwy addas, ac mae eraill wedi gorfod newid iaith yr aelwyd neu symud i ardal awdurdod lleol arall. Dydy hyn ddim yn dderbyniol. Gwyddom hefyd fod tystiolaeth bod plant sydd ag anghenion cyfathrebu mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys BSL ac iaith arwyddo, hefyd yn dioddef o ddiffyg darpariaeth digonol.
Fel roeddwn i'n ei ddweud ar y dechrau, rydym ni'n gwybod bod yna heriau o ran y gweithlu ac ati, ond un o'r problemau rydym ni hefyd yn ei chael—a dwi dal i'w glywed o pan fyddaf yn cael ymatebion gan rai awdurdodau lleol—ydy does yna ddim galw am y ddarpariaeth yma yn y Gymraeg. Dwi'n gwrthod derbyn bod hynny'n wir, oherwydd dydy'r gwaith achos sydd yn dod i fy swyddfa ddim yn adlewyrchu hynny. Dwi'n meddwl bod yna heriau daearyddol ac ati, ond y gwir amdani os nad ydym ni'n rhoi'r cyfle cyfartal i bawb—mae'r Gweinidog yn aml yn dweud bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb, ac mae hi, ond os ydym ni eisiau sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cael mynediad at yr iaith, yna mae diwallu'r anghenion hyn o ran y dewis iaith yn eithriadol o bwysig. A dwi'n meddwl pan ydym ni'n sôn am bobl yn gorfod symud i awdurdod lleol arall neu newid iaith yr aelwyd, mewn Cymru fodern, lle mae gennym ni darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni gael datrysiadau iddo fo.
Felly, diolch i chi am ddod â hyn gerbron. Mae yna waith i'w wneud, ond, yn fwy na dim, dwi eisiau gwybod beth ydy'r datrysiadau a sut rydym ni'n mynd i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.
Cefais fy nghymell i ymuno â’r ddadl hon gan y credaf fod y Ceidwadwyr Cymreig yn ei fframio yn y ffordd hollol anghywir. Wrth gwrs fod nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n cael cymorth ADY wedi gostwng, oherwydd mae'r system rydym yn ei defnyddio i'w werthuso wedi newid. Nid oes unrhyw gymhelliant gwrthnysig bellach i dreulio llawer iawn o amser a chanolbwyntio adnoddau ar geisio cymorth ariannol, yn llenwi ffurflenni ac yn cael un asesiad ar ôl y llall, gan nad dyna'r ffordd rydym yn gwneud hyn mwyach. Felly, mae’n rhaid i ysgolion gydnabod y disgyblion sydd ganddynt, ac nid oes unrhyw gyfiawnhad o gwbl dros barhau i fynd ar ôl yr arian, yn hytrach na bwrw ymlaen â gwneud addasiadau rhesymol i anghenion unigol disgyblion.
Rydych yn dadlau yn eich cynnig fod yna loteri cod post ar gyfer cymorth i ddysgwyr. Nid wyf wedi clywed y dystiolaeth eto, a hoffwn ei gweld, oherwydd yn amlwg, pe bai hynny'n wir, byddai angen inni fod yn bryderus iawn. Rydych yn dyfynnu adroddiad sydd bron yn ddwy flwydd oed, fod 94 y cant o arweinwyr ysgolion yn dweud nad oes digon o arian ar gyfer hyn, ond hoffwn eich atgoffa bod cyllideb Llywodraeth Cymru £1 biliwn yn brin eleni, ac felly nid oes swm enfawr o arian newydd ar gael.
Rwyf eto i ddeall yr angen am adolygiad brys mor fuan ar ôl sefydlu’r system ADY. Wedi’r cyfan, dim ond ers 18 mis a phum tymor y mae’r system newydd hon wedi bod ar waith, ac yn sicr, mae llywodraethwyr ysgolion yn dal i ddod i ddeall eu cyfrifoldebau newydd. Rydym yn clywed gan Estyn fod rhai aelodau staff, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, yn aneglur ynghylch eu cyfrifoldebau unigol, ac mae hynny'n amlwg yn bryder os nad yw addysgu a dysgu wedi'u llunio'n briodol i ddiwallu anghenion y disgyblion sydd o'u blaenau.
Felly, rwy'n hollol—. Nid dyna fy mhrofiad i fel llywodraethwr ysgol ers blynyddoedd lawer—25 mlynedd, rwy'n credu. Ymddengys i mi fod—. Nid yw rhai staff yn sylweddoli bod darpariaeth ar gyfer ADY—Estyn yw hyn—yn gyfrifoldeb ar bawb. Os nad yw athrawon yn trefnu eu dosbarthiadau ac yn addysgu'n wahaniaethol i sicrhau bod anghenion gwahanol ddisgyblion a gwahanol ffyrdd o ddysgu'n cael eu hystyried, yn amlwg, mae yna faterion yn codi o ran dysgu a hyfforddi sy'n galw am eu datrys.
Ond gallaf eich sicrhau, yn yr ysgol lle rwy'n llywodraethwr, allan o 1,500 o ddisgyblion, mae gennym 120 o bobl ifanc yn dilyn llwybr pwrpasol. Mae naw disgybl yn cael hyfforddiant unigol yn unig, gan nad yw eu hiechyd meddwl neu drawma arall yn eu galluogi i gymryd rhan mewn sefyllfa ddosbarth. Rydym eisoes wedi nodi 10 disgybl yn y flwyddyn 7 nesaf y bydd cynllun datblygu unigol ar waith ar eu cyfer. Mae gennym bum disgybl nad ydynt wedi dychwelyd i’r ysgol o ganlyniad i’r trawma y gwnaethant ei ddioddef yn ystod COVID, a hynny er gwaethaf ymdrechion gorau’r ysgol i geisio eu hannog i ddod i’r ysgol ym mha bynnag ffordd y gallant, ac mae gennym o leiaf un disgybl sydd wedi dewis dysgu cartref-ysgol am eu bod yn mynd allan i weithio i ychwanegu at incwm y teulu ynghanol yr argyfwng costau byw.
Mae’r pethau hyn yn bwysig iawn, yn wirioneddol ddifrifol, ond ni chredaf fod y dystiolaeth nad yw’r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol yn gweithio ar hyn o bryd wedi'i chyflwyno yma y prynhawn yma, neu hyd yn hyn, ac fe arhosaf i glywed gan bobl eraill a yw hynny'n wir.
Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac i dynnu sylw at yr angen i sicrhau bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi’n ddigonol drwy’r system addysg. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol yn effeithio ar oddeutu un o bob pump disgybl, a gwyddom fod canlyniadau addysgol yn waeth i’r dysgwyr hynny o gymharu â gweddill y boblogaeth ddisgyblion, ac felly roedd gwir angen diwygiadau, ac a bod yn deg, gwnaeth diwygiadau ADY Llywodraeth Cymru rai newidiadau cadarnhaol iawn sydd wedi’u croesawu gan randdeiliaid a’r proffesiwn addysg. Fodd bynnag, ceir rhai pryderon difrifol iawn hefyd—pryderon ynglŷn ag adnoddau a phryderon ynglŷn â gweithredu, yn enwedig o ystyried bod y diwygiadau hyn wedi cyd-daro â phandemig COVID, cwricwlwm newydd, a diwygiadau ôl-16 hefyd.
Bydd pob athro yng Nghymru, ar ryw adeg yn eu gyrfa, yn gweithio gyda phlentyn y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt, ac mae’n hanfodol fod ganddynt y sgiliau a’r hyfforddiant i sicrhau eu bod yn gallu darparu’r cymorth gorau posibl yn yr ystafell ddosbarth. Efallai fod yr Aelodau’n ymwybodol o’r ddeiseb a ddechreuwyd gan Clare-Anna Mitchell sy’n galw am hyfforddiant gorfodol mewn anghenion dysgu ychwanegol i bob athro a chynorthwyydd addysgu, a chredaf fod Ms Mitchell yn llygad ei lle. Gwyddom mai’r cam cyntaf ar gyfer gwella profiadau a chanlyniadau addysgol plant ag anghenion dysgu ychwanegol yw gwella’r hyfforddiant y mae athrawon yn ei gael, felly rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru'n gwrando'n astud ar y pryderon a godwyd gan rieni fel Ms Mitchell, ac rwy'n gobeithio bod camau ar y gweill i gefnogi eu plant yn well.
Rwy’n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi darparu £12 miliwn o gyllid i gynyddu’r adnoddau i ysgolion weithredu’r system ADY newydd ac arwain strategaethau ysgol gyfan i ymgorffori addysg gynhwysol. Mae’r cyllid hwnnw’n allweddol i sicrhau bod gan ysgolion y dulliau sydd eu hangen arnynt i gefnogi dysgwyr unigol yn well, ac felly mae’n gwbl hanfodol fod y cyllid hwnnw’n cyrraedd cynifer o ysgolion â phosibl. Er enghraifft, mae cymorth iaith Gymraeg i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn enbyd o brin, fel y clywsom gan Heledd Fychan, ac i rai rhieni, nid oes adnoddau ar gael i’w plentyn gael cymorth drwy ysgol brif ffrwd cyfrwng Cymraeg.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu ei hymdrechion i sicrhau bod adnoddau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, fel bod rhieni’n gallu anfon eu plentyn i ysgol o’u dewis yn eu hardal leol. Yn wir, efallai y gwnaiff y Gweinidog achub ar y cyfle i ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod plant yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.
Mae ein cynnig yn cydnabod bod nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael cymorth anghenion dysgu ychwanegol wedi gostwng ers cyflwyno’r diwygiadau a wnaed y llynedd, ac mae rhai pryderon gennym ar yr ochr hon i’r Siambr. Credwn fod angen adolygiad brys o'r broses o weithredu diwygiadau ADY i sicrhau eu bod yn effeithiol a bod dysgwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Ceir ofn gwirioneddol fod yna blant yng Nghymru sydd angen cymorth ychwanegol ond nad ydynt yn ei gael. Ceir anghysondeb o hyd ledled Cymru o ran faint o gymorth sydd ar gael i blant niwroamrywiol mewn ysgolion, yn ogystal ag amrywiadau yn ansawdd y darpariaethau, ac nid yw hynny’n ddigon da.
Ac felly, hoffwn ddatgan fy nghefnogaeth i'r galwadau i adolygu'r diwygiadau ADY, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y pwyntiau yn ein cynnig y prynhawn yma o ddifrif. Mae'n rhaid inni ymdrechu i wella, a sicrhau bod dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol yn gallu cael cymorth priodol mewn ysgolion, ac mewn colegau yn wir. Ac mae'n rhaid inni sicrhau bod plant yn gallu cael y cymorth hwnnw yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Ac yn olaf, Lywydd, hoffwn atgoffa'r Aelodau imi gyflwyno Bil Awtistiaeth (Cymru) chwe blynedd yn ôl i heddiw, gyda phwrpas clir i wella gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth yng Nghymru. Gwyddom fod gan rai plant ag awtistiaeth anghenion dysgu ychwanegol, a gallai Bil awtistiaeth fod wedi mynd ymhell i’w cefnogi drwy’r system addysg. Ond cafodd y ddeddfwriaeth honno ei hatal, ac eto, mae’r problemau y mae’r plant hyn a’u teuluoedd yn eu hwynebu yn dal i fodoli chwe blynedd yn ddiweddarach. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn, ac i ddatgan heddiw fod y Senedd hon yn fodlon blaenoriaethu’r mater hwn a sicrhau bod dysgwyr ag anghenion ychwanegol yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Diolch.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rwy’n datgan buddiant fel rhiant i blentyn sy’n awtistig iawn ac sy’n elwa o’r ddeddfwriaeth hon. Mewn gwirionedd, cawsom gyfarfod fel rhieni gyda’r athrawon ychydig wythnosau yn ôl, ac mae’r gwaith paratoi ar gyfer y cynllun datblygu unigol yn anhygoel. Mae'n gynhwysol, mae'n cynnwys mwy nag un athro, mae'n cynnwys y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol, ac mae'n rhaid imi ddweud, fe wnaeth wahaniaeth enfawr i mi fel rhiant allu cynllunio ar gyfer dyfodol fy merch—cynllunio rhyw dair, pedair, pum mlynedd ymlaen llaw. Rwy'n credu bod natur cyflwr fy merch mor glir fel ei bod ychydig yn haws gweld ei chyfeiriad yn y dyfodol. Mae hi mewn darpariaeth adnoddau arbenigol ar hyn o bryd ac wedi gwneud llawer o gynnydd, ac mae ei dyfodol yn dechrau dod yn gliriach, ac rwy'n dechrau ei ddeall. Ac mewn araith a wneuthum ychydig flynyddoedd yn ôl, gofynnais, 'A fydd hi byth yn gallu dweud wrthyf ei bod hi'n fy ngharu?' Wel, bellach, mae'n dweud wrthyf ei bod yn fy ngharu, ac rwy'n dweud wrthi hi fy mod yn ei charu hi'n ôl, felly rwy'n falch iawn ei bod yn gallu gwneud hynny.
Un peth roeddwn yn dymuno'i ddweud yw: er mwyn gwybod i ble rydym yn mynd, mae'n ddefnyddiol gwybod o ble rydym wedi bod. A byddaf yn aml yn myfyrio ar ba fath o gymorth y byddwn wedi'i gael pe byddai cyflwr fy merch wedi bod arnaf fi pan gefais fy ngeni. Ac mae gennyf sampl o Hansard o 13 Gorffennaf 1970, sef Ail Ddarlleniad Deddf Addysg (Plant dan Anfantais) 1970, ac roedd yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Gwyddoniaeth, Mr William van Straubenzee, AS Torïaidd, yn cyflwyno'r Ail Ddarlleniad, ac fe ddywedodd,
'Gwn y bydd ailgyflwyno darpariaethau Cymal 1 gan y Llywodraeth ar yr adeg gynharaf bosibl yn rhoi sicrwydd i lawer o bobl sy'n poeni am fuddiannau plant dan anfantais feddyliol, yn enwedig eu rhieni a’r rhai sydd â’r ddyletswydd bwysig o’u haddysgu mewn canolfannau hyfforddi plant iau ac mewn ysbytai ar gyfer pobl dan anfantais feddyliol.'
'Ar ôl y trosglwyddiad a ddeddfir gan y Bil, bydd y canolfannau hyfforddi plant iau yn cael eu rhedeg gan awdurdodau addysg lleol fel rhan o'r ddarpariaeth addysg arbennig. Bydd yr awdurdodau addysg lleol hefyd yn gyfrifol am ddarparu addysg i blant mewn ysbytai ar gyfer pobl dan anfantais feddyliol, yn yr un modd ag y maent yn darparu addysg ar hyn o bryd i blant sydd mewn ysbytai am resymau ar wahân i anfantais feddyliol. Wrth gymryd y cyfrifoldeb hwn, bydd awdurdodau addysg lleol yn gallu adeiladu ar y sylfaen wych o waith addysgu plant dan anfantais feddyliol sydd eisoes wedi'i gosod gan awdurdodau ysbytai.'
Felly, gallwch weld yn glir iawn mai’r cyfeiriad y mae’r Llywodraeth wedi mynd iddo gyda hyn i raddau helaeth yw trosglwyddo'r cyfrifoldeb oddi ar y gwasanaeth iechyd ac ar ysgolion. Dychmygwch y profiad o gael eich plentyn yn cael eu haddysgu mewn ysbyty am nad oedd unman arall iddynt fynd.
Roedd yna raglen ddogfen a edrychai ar Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 a’r effaith a gâi ym 1973, dair blynedd ar ôl cyflwyno’r Bil hwn, ac roedd llawer o blant y byddem yn eu nodi heddiw fel plant awtistig yn cael eu cadw yn yr ysbyty ac yn cael eu dosbarthu, yn dilyn Deddf Iechyd Meddwl 1959, fel 'difrifol o isnormal'. Nawr, fy mhryder i yw, pe bai fy merch wedi cael ei geni bryd hynny, byddai hi yn yr ysbyty, heb fawr o obaith dod allan, ac yn cael ei haddysgu yn y lleoliad hwnnw.
Felly, i ddeall ble rydym arni erbyn hyn, mae'n ddefnyddiol deall y cynnydd rydym wedi'i wneud. A phediatregydd o’r enw Dr Derek Ricks, a fu farw’n ifanc iawn ym 1988, a ddechreuodd wneud y newidiadau angenrheidiol. A chredaf fod y Llywodraeth yn adeiladu ar waith gwych a wnaed eisoes yma wrth symud tuag at y ddarpariaeth hon. Roeddwn ar y pwyllgor a gyflwynodd y Ddeddf ADY, ac rwy’n falch iawn o’i gweld ar waith. Yr her iddi yw lle ceir mannau llwyd. Felly, rwyf wedi dweud bod fy merch yn amlwg yn awtistig a bod ganddi anghenion clir iawn. Mae rhai rhieni'n teimlo bod gan eu plant anghenion yn y man llwyd hwnnw: a oes angen iddynt fod mewn darpariaeth adnoddau arbenigol, a ddylent fod mewn dosbarth prif ffrwd, a ddylent fod mewn ysgol arbennig? A dyma lle mae pethau'n mynd yn arbennig o anodd, a lle mae'r system dan bwysau.
Mae Martin a Sarah Humphreys yn rhieni yn fy etholaeth, ac maent wedi sôn am eu mab, Luke, a’r hyn y maent wedi’i ddweud wrthyf yw, 'Bob tro y gofynnwn am i Luke brofi cwricwlwm mwy amrywiol, rydym wedi wynebu gwrthwynebiad a rhwystrau, oedi a gwrthodiadau. Treuliodd Luke ei addysg gynradd mewn ysgol brif ffrwd gyda chynorthwyydd un i un, a chyflawnodd ei dargedau fel gweddill y dosbarth.' Mae bellach yn trafod, drwy system y cynlluniau dysgu unigol, i ble fydd yn mynd nesaf. Yn wahanol i fy merch, nid yw'r sefyllfa mor glir, a dyna ble mae'r her. Ond byddwn yn dweud bod y Llywodraeth yn mynd i'r afael â hynny, ac rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd Jenny Rathbone.
Fel rhiant i blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol, a rhywun sy’n eu cefnogi yn fy etholaeth, mae’r system hon yn gweithio, a bydd bob amser yn wynebu heriau, ond credaf fod angen inni roi amser iddi weithio ac i ddilyn hynny drwodd. Credaf fod y Llywodraeth yn gwneud y peth iawn, a byddaf yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth i’r cynnig heddiw.
Bydd yn rhaid imi ddatgan buddiant hefyd, gan fod gennyf nai sy'n aros am ddiagnosis o awtistiaeth.
Cytunaf â rhai o’r pwyntiau a wnaeth Laura Anne Jones, a Hefin David, fod y diwygiadau'n angenrheidiol, gan nad oedd yr hen system yn addas i’r diben, roedd yn rhy gymhleth ac nid oedd yn hawdd ei defnyddio, ac rwy’n falch fod y diwygiadau'n digwydd. Fodd bynnag, mae canfyddiadau diweddar yn dangos datblygiadau sy'n peri pryder yn null Llywodraeth Cymru o gyflawni'r newid i fframwaith newydd, ac mae'n creu risg i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Nid wyf am drafod yr holl fanylion; soniodd Paul Davies am lawer o’r pwyntiau rwyf am eu gwneud.
Ond rwy’n mynd i lawer o ysgolion yn fy etholaeth, ac o brofiad personol fy nheulu, mae nifer o bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru na allant gael cymorth, am nad ydynt wedi cael diagnosis i allu cael mynediad at y lefelau cymorth sydd eu hangen arnynt. Mae gennyf bennaeth yn un o fy ysgolion ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed sy'n treulio 90 y cant o'i hamser yn gofalu am blentyn ag ADY. Maent yn gwybod bod gan y plentyn ADY, ond ni allant gael mynediad at y cymorth am nad yw’r plentyn wedi cael diagnosis eto. Ac os ydynt wedi cael diagnosis, mae llawer o'r ysgolion yn dweud nad yw'r cyllid yn dod drwy'r system. Maent yn gorfod gwneud newidiadau radical i'w hysgol naill ai drwy beidio â llenwi lleoedd neu beidio â gwneud datblygiadau ac adnewyddu'r ysgol, er mwyn ariannu'r anghenion dysgu ychwanegol sydd eu hangen.
Gwn fod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yma, a gwn fod yr elfen ADY o gael diagnosis yn ei phortffolio hi, a chredaf ei bod yn bwysig iawn nawr ein bod yn canolbwyntio ar gael y bobl ifanc yn ein hysgolion sydd angen diagnosis i gael y cymorth sydd ei angen arnynt drwy'r system. Mae miloedd o bobl ifanc yn aros am ddiagnosis o awtistiaeth neu gyflwr niwroamrywiol. Maent yn bobl ifanc yn ein hysgolion sydd angen y cymorth ac nid ydynt yn ei gael. Dywedwyd wrthyf am eraill—. Gwnaf, fe wnaf dderbyn ymyriad, Jenny. Rwy'n eich gweld yn codi.
Mae diagnosis yn bwysig, ond yn y pen draw, mae’n rhaid i’r ysgol lunio darpariaeth sy’n diwallu anghenion y plentyn, a dim ond arwydd fydd y diagnosis. Mae'n rhaid i ysgolion gydnabod y disgyblion sydd ganddynt, a sicrhau eu bod yn gwneud yr addasiadau angenrheidiol i ddiwallu anghenion plant unigol. Yn amlwg, mae dadl i'w chael rhwng rhieni a'r plentyn ai ysgol brif ffrwd neu uned arbenigol sy'n briodol, ond yn y pen draw, y ddarpariaeth, nid y diagnosis, sydd bwysicaf.
Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedwch, Jenny: mae'n bwysig iawn fod ysgolion yn cydnabod y disgyblion sydd ganddynt, ac mae'r ysgolion hynny am i'r disgyblion hynny gael eu cydnabod gan eu hysgol. Ond yn anffodus, i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, mae angen diagnosis arnynt, gan fod y cyllid yn dilyn diagnosis. Ac mae ysgolion sy'n brin o arian parod, am eu bod wedi cael eu tanariannu ers blynyddoedd gan y Llywodraeth—dyma'r unig Lywodraeth sydd wedi torri'r gyllideb addysg ledled y DU—nid oes ganddynt gyllid yn eu hadnoddau i ariannu hynny, felly mae angen y diagnosis arnynt i wneud hynny.
Felly, yr hyn yr hoffwn ei wybod gan y Llywodraeth yw: beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y bobl ifanc hynny’n cael y cymorth sydd ei angen arnynt, drwy sicrhau y ceir y diagnosis, fel y gallant gael y cymorth sydd ei angen arnynt mewn ysgolion? Oherwydd dyna'r ffordd y byddwch yn datrys llawer o'r problemau hyn. Mae gormod o bobl yn cael eu tynnu allan o’r ysgol am na allant gael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac mae gormod o athrawon—rwy’n mynd i orffen, Hefin; mae'n iawn—ac mae gormod o athrawon yn gwneud swyddi gofalu pan ddylent fod yn helpu ein pobl ifanc i ddatblygu eu haddysg.
Pwrpas y ddeddfwriaeth, wrth gwrs, oedd symud i ffwrdd o'r sefyllfa y mae James Evans newydd ei disgrifio. Mae pob plentyn angen ac yn haeddu'r un cyfle i gyrraedd eu potensial llawn, beth bynnag yw eu hanghenion penodol o ran eu haddysg. Mae gan bob plentyn yr un hawl i addysg sy'n diwallu'r anghenion hynny ac yn eu helpu ac yn eu galluogi i ffynnu a mwynhau ysgol neu goleg—nid yn unig i gael eu haddysgu, ond i fwynhau'r addysg honno. Ac yn rhy hir, mae rhieni wedi gorfod ymdrechu, ymladd, ymgyrchu—flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn—heb y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar eu plant. Roedd yn fraint wirioneddol arwain y ddeddfwriaeth hon drwodd fel Gweinidog, ac rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar i Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr ar y pryd, a oedd yn rhannu'r un weledigaeth a'r un uchelgais dros blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Roeddem yn anghytuno ar rai pethau, ond roeddem yn cytuno ar lawer mwy. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod y cytundeb hwnnw ar draws y Siambr o ran yr hyn rydym eisiau ei weld.
Ond rwyf eisiau sicrwydd, Weinidog, ein bod yn cyflawni'r uchelgais honno. Oherwydd yr un peth rwyf wedi'i ddysgu dros y blynyddoedd diwethaf yw bod anghysondeb yn y modd y caiff y polisi ei gyflawni. Mae fy mhrofiad yn wahanol i brofiadau pobl eraill. Fy mhrofiad i yw bod rhieni'n dal i orfod brwydro'n rhy galed i gael y gefnogaeth sydd ei hangen ar eu plentyn. Rwyf eisiau sicrwydd bod gweithredu'r polisi yn cyflawni'r weledigaeth. Rwy'n cydnabod ein bod yn diwygio'r cwricwlwm, ac mae honno'n flaenoriaeth bwysig. Rwy'n cydnabod hefyd fod y pandemig wedi cael effaith hynod aflonyddol ar ein sefyllfa bryd hynny a beth oedd ein hamserlenni cyn hynny. Rwy'n cydnabod hynny i gyd. Ond rwyf eisiau sicrwydd gan y Llywodraeth fod yr ymrwymiad i ddull gweithredu cyson yn parhau i fod mor gryf â'r hyn ydoedd pan gafodd y ddeddfwriaeth ei rhoi ar waith. Kirsty Williams oedd y Gweinidog addysg ar y pryd wrth gwrs. Rwy'n cofio ei phenderfyniad, ac rwy'n cofio'r ffordd y siaradodd am y ddeddfwriaeth hon, a'r penderfyniad fod pob plentyn yn bwysig, a bod yn rhaid diwallu anghenion pob plentyn mewn ffordd gyfannol. A dyna yw'r grym ysgogol o hyd, gobeithio—a gwn y bydd yn parhau i fod yn rym ysgogol i bolisi gyda'r Gweinidog addysg presennol.
Ond mae cysondeb yn bwysig. Mae'n gysondeb drwy'r daith, drwy'r ysgol, i'r coleg, ac wrth droi'n oedolyn. A yw'r gefnogaeth yn mynd i gael ei darparu dros amser? A yw'n gyson yn ddaearyddol? Mae'n llawer haws cael yr arbenigedd sydd ei angen mewn dinas fel Caerdydd na mewn rhannau eraill o'r wlad. A yw pob un o'n cymunedau yn cael yr un lefel o gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddarparu'r un addysg gyfannol? [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt rydych chi'n ei wneud, Alun, am y ffaith ein bod angen dull cyson ar draws y wlad gyfan—yn sicr nid yw hynny'n wir. Mewn gwirionedd, un o'r problemau y mae etholwyr wedi'u codi gyda mi yw, pan fo pobl yn symud o un ardal awdurdod lleol i'r llall, yn aml iawn maent yn gorfod datod y gefnogaeth a oedd yn ei lle o'r blaen, dechrau o'r dechrau, a brwydro gyda'r awdurdod lleol newydd y maent wedi symud iddo. A yw hynny'n rhywbeth rydych wedi'i brofi yn eich etholaeth chi?
Dylai'r cynllun datblygu unigol fod yn ddogfen gludadwy wrth gwrs, a dylai allu dilyn yr unigolyn drwy wahanol ysgolion a gwahanol gyfleoedd a gwahanol leoedd. Ac felly, dyna oedd un o amcanion y ddeddfwriaeth. Os nad yw'n cael ei gyflawni, mae angen inni ddeall pam.
A'r pwynt arall am gysondeb yw'r un am yr iaith Gymraeg. Unwaith eto, fy mhrofiad i yw nad oes cefnogaeth ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn y ffordd y mae ar gael drwy gyfrwng y Saesneg. Ac mae hynny'n golygu bod yna blant yn yr ysgol heddiw sy'n cael eu hamddifadu o'r math o gymorth addysgol sydd ei angen arnynt am eu bod yn siarad Cymraeg. Nid yw hynny'n ddigon da, ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny.
Mae angen inni sicrhau bod hyfforddiant ar gael i athrawon er mwyn sicrhau eu bod yn gallu darparu'r addysgu sydd ei angen arnynt. Ac mae angen inni sicrhau bod yr arian ar gael. Y siaradwr agoriadol oedd—. Laura, dylwn ddweud eich bod chi ar eich cyfnod sabothol o'r lle hwn pan aeth y ddeddfwriaeth drwy'r lle hwn, ac fe wnaethom roi llawer iawn o gyllid ar waith. Bydd y bobl a oedd yn aelodau o'r Pwyllgor Cyllid yn cofio'r trwbl y glaniais ynddo pan na wnaethom roi'r cyllid ar waith yn wreiddiol. Ac fe roddwyd y cyllid ar waith. Rwyf eisiau gweld lle mae'r cyllid hwnnw wedi mynd a sut mae'n cael ei ddarparu. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau bod gennym ddull sy'n canolbwyntio ar unigolion a dull cyfannol o ymdrin ag addysg, un sydd wedi'i wreiddio mewn penderfyniad i sicrhau cydraddoldeb i bob plentyn a pherson ifanc, lle bynnag a sut bynnag y cânt eu haddysgu.
Rwyf am gloi ar y pwynt hwn, Lywydd. Rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymgynghori ar y materion hyn ar hyn o bryd, ac rwy'n credu y byddai'n enghraifft dda iawn o sut y gall pwyllgorau yn y lle hwn adolygu deddfau ar ôl iddynt gael eu pasio gan y lle hwn, ar ôl iddynt ddod yn gyfraith, i sicrhau bod y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol yn archwilio sut y gweithredir deddfau'n ymarferol yn ogystal â'u hamcanion.
Rwy'n cytuno'n llwyr ag Alun. Mae mynediad at gyfleoedd dysgu yn hawl sylfaenol ac ni ddylid eithrio unrhyw un rhag yr hawl honno. Mae ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi awgrymu bod 94 y cant o arweinwyr ysgolion yng Nghymru o'r farn nad yw'r cyllid y maent yn ei gael yn ddigonol ar gyfer gofynion y ddeddfwriaeth ADY. Ar ben hynny, dywedodd traean eu bod yn gorfod ariannu cymorth ychwanegol, gan nad oedd cymorth ar gael, neu am nad oedd modd cael mynediad ato gan iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r bobl ifanc hyn yn haeddu'r rhyddid i ddysgu a manteisio ar yr un cyfleoedd â'u cyfoedion.
Er bod gan oddeutu un o bob pump dysgwr yng Nghymru ADY, mae'n destun pryder mawr fod Cymru wedi gweld gostyngiad aruthrol mewn cymorth ADY. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad yn nifer y staff yn ogystal â buddsoddiad i ysgolion, oedi cyn gwneud atgyweiriadau neu waith adnewyddu, a thorri'r gyllideb gynnal a chadw. Yn sgil y gostyngiadau sylweddol hyn, nodwyd bod 18,000 yn llai o bobl ifanc angen cymorth ADY yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan greu loteri cod post i bobl ifanc sydd eisiau cymorth ADY. Mae'r ffigurau hyn hyd yn oed yn fwy brawychus mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae diffyg cefnogaeth parhaus wedi golygu bod teuluoedd yn teimlo'u bod yn brwydro ar bob cam o'r broses o gael y cymorth angenrheidiol, gan arwain at sefyllfa lle nad ydynt yn gwybod lle i droi am gymorth a chyngor, sy'n golygu bod pobl ifanc yn cael trafferth o'r rhwystr cyntaf.
Yn anffodus, y tu ôl i'r ystadegau hyn mae straeon go iawn pobl sydd wedi cael cam yn sgil y diffyg cefnogaeth. Rydym i gyd wedi clywed gan etholwyr yn disgrifio'r angen am gymorth ychwanegol ar eu taith addysgol, yn enwedig mewn perthynas â rhai sydd â syndrom Down. Mae etholwyr wedi tynnu sylw at ddiffyg cymorth preswyl arbenigol i fyfyrwyr â syndrom Down sy'n ystyried gadael cartref a byw gyda'u ffrindiau. Mae'r diffyg cymorth hwn yn cyfyngu'n ddifrifol ar opsiynau myfyrwyr sy'n ceisio manteisio ar yr un cyfleoedd ag y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.
Ar hyn o bryd, mae gan y Senedd ddeiseb ar y mater, gyda dros 4,500 o lofnodion, yn galw am adolygu anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion ac am gynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i'r plant sy'n cael trafferth gydag anghenion o'r fath. Mae'r galw am y gefnogaeth yno, ac mae'n rhaid i ni fel cynrychiolwyr etholedig wrando. Felly, mae'n hanfodol fod y Llywodraeth Lafur yn cynnal adolygiad brys o'r modd y caiff diwygiadau ADY eu gweithredu, yn rhoi camau ar waith ar frys i nodi a darparu mynediad at gymorth i blant ag ADY, ac yn darparu cymorth ariannol ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Diolch yn fawr.
Rwyf am gadw fy nghyfraniad yn gryno yn ystod y ddadl hon, gan gofio bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrthi'n casglu tystiolaeth ar hyn o bryd ar gyfer ein hymchwiliad i fynediad cyfartal at addysg a gofal plant i blant a phobl ifanc anabl.
Yn ystod fy nghyfnod ym myd addysg, gweithiais gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n deall pa mor anodd oedd hi yn y gorffennol, nid yn unig i'r plant a'r bobl ifanc, ond i'w teuluoedd ac i'w hysgolion, boed wrth geisio cael datganiad neu'r broses hir o geisio llunio'r pecyn dysgu a gofal gorau posibl, sy'n gallu bod yn anodd iawn, fel y gwyddom i gyd.
Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Ddeddf ADY newydd yn helpu i leddfu rhai o'r rhwystredigaethau hyn i rieni, athrawon a'n pobl ifanc. Rwyf wedi clywed ar lawr gwlad fod cynlluniau datblygu unigol yn gam enfawr i'r cyfeiriad cywir. Ond rydym yn gwybod bod gwaith i'w wneud o hyd ac mae angen cyfathrebu pellach er mwyn sicrhau cysondeb.
Mae gennyf gysylltiadau agos â'r ysgolion yn fy etholaeth ac rwyf am sicrhau fy mod yn derbyn diweddariadau'n uniongyrchol ar gynnydd yr ADY newydd yn rheolaidd. Mae gennyf arolwg sy'n agored i drigolion Rhondda sy'n dymuno rhannu eu profiadau hyd yma, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r 60 a mwy o rieni a gwarcheidwaid sydd wedi cwblhau'r arolwg hyd yma. Bydd eich llais yn cael ei glywed, a bydd eich profiad yn helpu i greu profiadau cadarnhaol yn y dyfodol. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn barod i wrando a gweithio gyda chi i gael hyn yn iawn. Diolch.
Y Gweinidog Addysg nawr i gyfrannu i'r ddadl. Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Ochr yn ochr gyda'r Cwricwlwm i Gymru, bwriad ein system anghenion dysgu ychwanegol newydd ni yw sicrhau bod pob dysgwr sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael cymorth sydd wedi'i gynllunio a'i ddiogelu yn briodol, a bod hyn yn gyson ar draws Cymru. Gallaf i roi'r ymrwymiad hwnnw i Alun Davies, ac rwy’n rhannu ei angerdd e i sicrhau hynny, a hefyd sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad at yr addysg orau posib, ac yn cael eu hysbrydoli, eu hysgogi, eu cefnogi i gyflawni eu potensial yn llawn.
Rwy’n croesawu’r cyfle heddiw, felly, i roi gwybod i chi am y cynnydd sylweddol sydd wedi cael ei wneud i weithredu’r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol, er gwaetha’r pwysau—dyna’r gwirionedd. Mae’r adroddiad blynyddol gan Estyn yn dangos bod darparwyr yn croesawu’r newidiadau. Mae dealltwriaeth dda o anghenion dysgu ychwanegol ymysg y staff sy’n arwain arno. Mae dysgu proffesiynol a’r gwaith o sefydlu rolau statudol newydd wedi cael eu croesawu. Mae arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael eu rhoi ar waith ar draws y byd addysg.
Mae ymchwil ddiweddar ar y Cwricwlwm i Gymru yn dangos ei fod yn caniatáu i uwch arweinwyr hyrwyddo a chanolbwyntio ar gynhwysiant i ddysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol, a dysgwyr agored i niwed, i raddau pellach na’r cwricwlwm blaenorol, ar adeg pan fo hynny, wrth gwrs, yn hanfodol. Er mwyn ymateb i’r pwysau gwaith sy’n wynebu ysgolion a lleoliadau, ac yn arbennig cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol, yn ddiweddar fe wnes i ymestyn yr amserlen ar gyfer gweithredu'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol am flwyddyn er mwyn caniatáu rhagor o hyblygrwydd—[Torri ar draws.]
Gwnaf.
Diolch. Dechreuodd y daith hon 20 mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes, ac roeddwn i a fy ngwraig newydd fod yn brwydro i gael datganiad ar gyfer un o fy mhlant. Felly rwyf wedi bod yno, wedi'i wneud, ac rwy'n gwybod yn union beth yw hyn. Ond yr wythnos diwethaf, ar eu cais, fe gyfarfûm ag undeb athrawon. Nid wyf yn cael eu henwi—ond mae'n undeb athrawon o bwys. Ac un o'r pethau a ddywedasant—hoffwn ofyn i chi sut rydych yn ymateb i'r datganiad hwn ganddynt; dim ond dyfyniad byr iawn ydyw—oedd, 'Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad brys o effaith llwyth gwaith cynyddol ar yr holl staff addysgol. Mae cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol, athrawon dosbarth a chynorthwywyr addysgu oll yn cael eu heffeithio gan y methiant i fuddsoddi'n briodol yn y diwygiadau ADY'.
Diolch i Mark Isherwood am yr ymyrraeth honno. Rŷn ni ar hyn o bryd yn edrych ar y cwestiwn penodol hwnnw o lwyth gwaith, yn enwedig ymhlith cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol. Dwi ddim yn gwybod pa undeb sydd yn dweud hyn wrthych chi, ond yn sicr byddan nhw ynghlwm â’r gwaith hwnnw, a bydd hwnnw’n adrodd nôl atom ni ar ddiwedd y flwyddyn hon fel ein bod ni’n gallu gweld a oes angen i ni ymateb mewn ffyrdd amgen i’r hyn rŷn ni’n ei glywed yn sgil yr adolygiad pwysig hwnnw.
Mae cynnig y Ceidwadwyr yn dyfynnu ymchwil Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, neu’r NAHT, ar gyllid. Os yw’r Torïaid wedi cael sgyrsiau diweddar gyda'r undeb honno, fe fyddan nhw'n gwybod yn iawn fod y Llywodraeth yn San Steffan, yn anffodus, yn parhau i danariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ddifrifol, ac mae hyn, wrth gwrs, yn cael effaith andwyol ar ysgolion ym mhob rhan o'r Deyrnas Gyfunol a gwasanaethau ehangach hefyd. Mae'r cynnig yn galw am fwy o gyllid yn benodol i gefnogi diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol. Dyma'n union beth rŷn ni wedi gwneud drwy gynyddu'r cyllid grant gweithredu anghenion dysgu ychwanegol eleni o £6.6 miliwn i £12 miliwn, a, dros y tair blynedd diwethaf, dros £62 miliwn o gyllid refeniw yn unig er mwyn helpu ysgolion i greu mwy o gapasiti ac amser i gyflawni ar draws lleoliadau ysgolion cyfan. Mae dros £12 miliwn yn cael ei ddefnyddio i helpu ysgolion i gyflawni ymyriadau lles, rhoi hyfforddiant i staff—rŷn ni wedi clywed am bwysigrwydd hwnnw heddiw—a sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, CAMHS, ar gael o fewn ysgolion. Mae £9.1 miliwn o gyllid hefyd wedi cael ei gynnal er mwyn ymateb i faterion cymdeithasol ac emosiynol sy'n wynebu dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Rwy'n hollol argyhoeddedig bod ansawdd system addysg yn dibynnu’n llwyr ar ansawdd ei gweithlu. Rwy'n hynod falch o'r gweithlu ymroddedig sydd yma yng Nghymru a'i ymrwymiad i barhau i ddysgu. Rŷn ni wedi datblygu llwybr dysgu proffesiynol ar anghenion dysgu ychwanegol er mwyn i athrawon ac ymarferwyr eraill allu datblygu eu sgiliau i gefnogi dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol. Mae 84 o athrawon yn datblygu eu sgiliau anghenion dysgu ychwanegol ymhellach drwy raglen gradd Meistr cenedlaethol mewn addysg. Mae arweinwyr ysgolion a chydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol yn rhannu profiadau ac arferion effeithiol drwy raglen ddiwygiadau'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Bydd cyflwyno diwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol yn creu cyfle i'r proffesiwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
Mae'r cynnig hefyd yn galw am adolygiad i'r ffordd y mae'r Ddeddf wedi ei rhoi ar waith, a sawl Aelod wedi sôn am hyn. Rwy'n cytuno bod hyn o werth. Dyna pam mae Estyn yn cynnal adolygiad thematig o weithredu'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol eleni, gydag adroddiad i ddod ym mis Medi 2023. Mae hyn yn ychwanegol at y wybodaeth sy'n codi o raglen reolaidd Estyn o arolygu ac adolygu.
Mae gwerthusiad ffurfiannol o'r system anghenion dysgu ychwanegol ar waith. Bydd yn asesu effeithlonrwydd y broses weithredu, yn nodi rhwystrau neu elfennau sy'n hwyluso, ac yn nodi unrhyw effeithiau disgwyliedig neu sy'n codi o'r system newydd. Rŷn ni'n disgwyl cyhoeddi'r canfyddiad cynnar erbyn diwedd mis Tachwedd eleni.
Rŷn ni'n gwrando ar farn rhieni dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu ddysgwyr anabl drwy ariannu digwyddiadau rhieni a gofalwyr SNAP Cymru ledled y wlad. Mae dros 300 o bobl, o bob cwr o Gymru, wedi mynd i'r digwyddiadau hyd yma, ac mae'n cynnig ffordd i godi ymwybyddiaeth am y diwygiadau a chael adborth.
Mae'r cynnig yn sôn am ostyngiad yn y nifer sy'n derbyn cefnogaeth. Dwi ddim yn derbyn hynny. Mae data'r cyfrifiad disgyblion blynyddol yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth monitro, ac mae dadansoddiad diweddar yn dangos bod cyfanswm nifer y plant sydd ar hyn o bryd yn cael eu cydnabod fel rhai ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol yn gostwng. Ond dydy gostyngiad yn y niferoedd ddim yn golygu nad yw'r dysgwyr yn cael y cymorth cywir. Wedi'r cyfan, nid jest rhifau haniaethol yw'r rhain; maen nhw'n ymwneud â dysgwyr unigol ag anghenion penodol.
Yn ystod hydref y llynedd, ar ein cais ni, cynhaliodd Estyn adolygiad thematig cryno o'r broses weithredu, a nododd bod gostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion a nodwyd fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn gyffredinol, nododd Estyn fod cynnydd parhaus dysgwyr yn cael ei fonitro'n briodol mewn llawer o ysgolion a'u bod yn parhau i dderbyn cefnogaeth addas wedi'i thargedu. Rŷn ni yn disgwyl i'r duedd hon barhau o bosib wrth i blant gydag anghenion addysgol arbennig ar lefel gweithredu gan ysgolion gael cymorth drwy addysgu gwahaniaethol ac arferion cynhwysol. Gallai nifer y dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol wedyn ddechrau codi i adlewyrchu nifer cynyddol y dysgwyr gydag anghenion cymhleth.
Mi wnaeth Heledd Fychan ac eraill sôn am system ddwyieithog, ac mae angen sicrhau bod hyn ar gael ym mhob rhan o Gymru. Rwyf wedi sicrhau bod cynllunio darpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg yn rhan allweddol o’r WESPs. Erbyn yr hydref, bydd gennym ein harweydd ADY ar Gymraeg cenedlaethol yn ei le, a byddwn ni'n parhau, drwy Adnodd, i greu adnoddau cyfrwng Cymraeg newydd er mwyn helpu gydag addysgu a dysgu’r cwricwlwm, ac adnabod a chomisiynu adnoddau a fydd yn rhoi gwell cefnogaeth i ddysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy’n hyderus, Llywydd, fod ein diwygiadau i’r cwricwlwm ac anghenion dysgu ychwanegol yn parhau i ailddiffinio a chyflawni ein huchelgais am system addysg gynhwysol.
Tom Giffard i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i holl Aelodau'r Senedd sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ac am yr ystod ddiddorol o safbwyntiau rydym wedi'u clywed ar draws y Siambr? Rwy'n credu bod y ffaith bod cymaint o Aelodau unigol eisiau siarad yn y ddadl hon yn dangos bod hwn yn fater sy'n cyffwrdd pob un ohonom, a'i fod yn rhywbeth y bydd llawer ohonom wedi dod ar ei draws naill ai o brofiad personol neu wrth weithredu ar ran ein hetholwyr. Fel rhywun sydd wedi gweithio yn y sector hwn o'r blaen—roeddwn i, fel y bydd llawer ohonoch chi'n gwybod, yn gynorthwyydd cymorth dysgu un i un i blentyn ifanc ag ADY—rwy'n gwybod y gwahaniaeth y gall y ddarpariaeth benodol honno ei wneud. Dechreuodd Laura Anne Jones drwy ddweud bod darpariaeth ADY o fudd i bawb yn yr ystafell ddosbarth, nid dim ond y rhai sydd angen y cymorth ADY penodol hwnnw, sy'n rheswm arall pam fod angen i ni gael hyn yn iawn. Ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ymateb, ac rwy'n credu bod Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn canmol y ddarpariaeth ADY a gafwyd a'r newidiadau a wnaed hyd yma. Ac fel y gwnaeth Hefin David ein hatgoffa, rydym wedi dod yn bell, rwy'n credu, o ran ein dealltwriaeth o anghenion cymorth dysgu ac yn y blaen dros y blynyddoedd. Rwy'n credu ichi roi dyfyniad o 1970, ac rwy'n ddiolchgar iawn nad ydym yn y sefyllfa honno heddiw.
Cyfeiriodd Paul Davies at ddeiseb, sy'n fyw ar hyn o bryd, gan Clare-Anna Mitchell. Credaf y bydd llawer o fy nghyd-Aelodau Llafur yn adnabod Clare-Anna Mitchell, a oedd yn ymgeisydd Llafur yn etholiadau diwethaf y cyngor yn Abertawe, sy'n dangos nad neges wleidyddiaeth plaid rydym yn ceisio ei chyfleu yma; mae'n rhywbeth sy'n wirioneddol bwysig i bobl, ac mae'r ddeiseb honno, a oedd yn casglu llofnodion wrth imi eistedd yma'n gwylio'r ddadl hon, yn dangos mewn ffordd, gobeithio, ein bod wedi cyflwyno rhai dadleuon argyhoeddiadol sydd wedi annog mwy o bobl i lofnodi'r ddeiseb honno. Ond mae llawer o'r hyn y galwn amdano yn ein cynnig heddiw—adolygu'r polisïau anghenion dysgu ychwanegol, a gwella dealltwriaeth ein hathrawon a'n cynorthwywyr addysgu, o ran beth i chwilio amdano, beth i'w nodi, a sut i helpu pobl ag ADY—.
Dywedodd Alun Davies mai pwrpas y ddeddfwriaeth oedd symud i ffwrdd o'r angen penodol am ddiagnosis, a chredaf fod hwnnw'n bwynt a wnaeth yn dda, ond dywedodd James Evans nad oedd hynny'n wir yn yr un ffordd ledled y wlad. Awgrymodd Jenny Rathbone fod angen symud y cyfrifoldeb ar ysgolion, fod angen iddynt hwy fod yn gyfrifol am eu disgyblion. Rwy'n cytuno; maent yn sicr yn gyfrifol, ac rwy'n credu ei fod yn gyfrifoldeb y maent o ddifrif yn ei gylch. Ond yn amlwg, mae'r ysgolion hyn yn bodoli o fewn y fframwaith a osodir ar eu cyfer gan Lywodraeth Cymru, lle mae'r cyllid yn dilyn y diagnosis, fel y dywedodd James Evans, a chyda miloedd yn aros am ddiagnosis—a soniodd Buffy Williams y gall hynny gymryd llawer o amser—mae angen i ysgolion ddod o hyd i gyllid o gyllidebau sy'n bodoli'n barod yn y cyfamser, sy'n gallu creu tensiynau i ysgolion hefyd.
Soniodd Alun Davies, Altaf Hussain a Darren Millar am anghysondeb y dull o weithredu rhwng un awdurdod lleol a'r llall, weithiau hyd yn oed rhwng un ysgol a'r llall, o ran gweithredu rhai o'r pethau hyn. Unwaith eto, nid dyna oedd bwriad y ddeddfwriaeth, a dyna pam fod angen ein cynnig ni heddiw. Ac mae angen gweithredu nawr i sicrhau nad oes unrhyw blentyn ar eu colled, ac yn enwedig, nad oes unrhyw blentyn ar eu colled ni waeth pa iaith y maent am gael eu dysgu ynddi, fel y gwnaeth Heledd Fychan, rwy'n credu, ei nodi'n dda iawn ar ddechrau ei chyfraniad yn cyflwyno gwelliant Plaid Cymru, gwelliant y byddwn yn ei gefnogi. Oherwydd os yw'r Gymraeg yn rhywbeth sy'n perthyn i bob un ohonom, mae gwir angen inni olygu hynny, ac mae hynny'n wir am bawb, p'un a ydych chi angen cymorth ADY ai peidio. Felly, fel rwy'n dweud, rwy'n gobeithio'n fawr nad yw'r hyn y mae ein cynnig heddiw'n galw amdano yn hynod o ddadleuol yn wleidyddol; mae'n rhywbeth y credaf ei fod yn cwmpasu llawer o'r pryderon a glywsom ar draws y Siambr heddiw—sef bod llawer o ganmoliaeth i'r hyn sydd wedi digwydd eisoes, ond nid yw'n gyson ac mae angen golwg arall arno er mwyn ei gael yn iawn, gobeithio, oherwydd os cawn hyn yn iawn mewn gwirionedd, fe fydd yn newid trawsnewidiol. Felly, rwy'n gobeithio y gwnewch chi gefnogi ein cynnig heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe awn ni yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Felly, mae'r bleidlais y prynhawn yma ar eitem 7, sef yr union ddadl rŷn ni newydd ei chlywed—[Torri ar draws.] Ie, ocê, mi ddof i at hynna nawr. Eitem 7 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar anghenion dysgu ychwanegol. Fe fyddwn ni'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn gyntaf. Felly, dwi'n agor y bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Darren Millar.
Fe wnaf i gymryd pleidlais lafar oddi wrth Mabon ap Gwynfor. Sut wyt ti'n pleidleisio, Mabon, ar y cynnig heb ei ddiwygio? Mae pleidlais Mabon ap Gwynfor wedi ei gyflwyno, felly. Fe wnaf i gau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi ei wrthod.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Anghenion dysgu ychwanegol. Cynnig heb ei ddiwygio, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 15, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn, a gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Anghenion dysgu ychwanegol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Felly, pleidlais yn olaf ar y cynnig—. Na, mae'n ddrwg gen i, mae yna welliant 3. Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 3. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 3, yn enw Siân Gwenllian. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Anghenion dysgu ychwanegol. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM8294 fel y'i diwygiwyd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) Estyn wedi canfod bod cynnydd cyson tuag at roi’r diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael eu croesawu'n gyffredinol.
b) ymchwil yn canfod bod y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY yn hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i bob dysgwr.
c) cyfnod gweithredu’r diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl, a’r cyllid gweithredu wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr unigol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal adolygiad brys o weithredu diwygiadau ADY;
b) cymryd camau brys i sicrhau bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at gymorth yn gynt;
c) darparu cymorth ariannol ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt; a
d) cymryd camau ar unwaith i leddfu pryderon gan ddarparwyr cyfrwng Cymraeg ynghylch argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY, a sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. Dyna ddiwedd ar y pleidleisio.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Anghenion dysgu ychwanegol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Fe fyddwn ni'n symud ymlaen i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer heddiw gan Delyth Jewell a gofynnaf iddi gyflwyno'r pwnc ar gyfer y ddadl fer.
Ac os gallai'r Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel.
Diolch, Lywydd. Mae fy nadl heno yn ymwneud â'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig â diagnosis, triniaeth a chanlyniadau canser yng Nghymru. Ac rwy'n falch o roi munud yr un o fy amser i John Griffiths, Joel James, Heledd Fychan, Mark Isherwood, Rhun ap Iorwerth a Jack Sargeant.
Rwy'n ddyledus i Cancer Research UK a'r grŵp trawsbleidiol ar ganser, a'u hadroddiad 'Pob Peth yn Gyfartal?'
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Mae tlodi'n rym ysgogol sy'n pennu a fyddwch chi'n cael canser, pa mor gyflym y byddwch chi'n cael triniaeth, a'ch gobaith o oroesi. Roeddwn eisiau dod â'r ddadl hon i'r Senedd oherwydd yr anghydraddoldebau creulon y mae cynifer o'r ardaloedd rwy'n eu cynrychioli yn y Cymoedd bob amser wedi gorfod ymgiprys â nhw. Anghydraddoldebau yw'r rhain a achoswyd i bobl, sef gwaddol y diffyg buddsoddiad yn ein cymunedau dros ddegawdau, sydd ag effeithiau cymhleth, anrhagweladwy yn aml. Pan gaeodd y pyllau glo, gadawsant lwybr o anghyfiawnder ar eu holau, anghyfiawnder y gellir ei olrhain drwodd i'r achosion cynyddol o glefydau anadlol sy'n effeithio ar bobl heddiw, y beichiau iechyd meddwl a'r diffyg ymddiriedaeth mewn systemau cyhoeddus sy'n gallu atal pobl rhag ceisio cymorth, a diffyg buddsoddiad mewn swyddi a gwasanaethau cymorth, sy'n golygu bod trigolion yn fwy tebygol o syrthio drwy'r bylchau. Felly, gadewch inni ddechrau gyda nifer yr achosion o ganser yn yr ardaloedd hyn.
Fel y mae adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn dangos yn glir, os ydych chi'n byw mewn ardal sy'n fwy amddifad o adnoddau economaidd a chymdeithasol, rydych chi'n fwy tebygol o gael canser. Mae rhai o'r rhesymau dros hyn yn gymdeithasol, gan gynnwys cyfraddau uwch o ysmygu a gordewdra. Yna ceir rhwystrau sy'n sefyll rhwng trigolion a gwasanaethau cymorth. Mae ymchwil yn awgrymu y bydd pobl sy'n byw yn yr ardaloedd a nodais yn llai tebygol o gael amser i ffwrdd o'u gwaith i fynd i apwyntiadau meddygol. Byddant yn llai tebygol o fod â thrafnidiaeth breifat at eu defnydd, gan eu gadael ar drugaredd gwasanaethau bysiau sy'n aml yn annibynadwy. Ni ddylai lle mae rhywun yn dod ohono gyfyngu ar eu bywydau mewn ffordd mor llythrennol â hyn. Ddirprwy Lywydd, rwy'n hynod o falch fy mod yn dod o'r Cymoedd, ac mae'n fy nghorddi fod cymaint o annhegwch yn wynebu'r cymunedau rwy'n hanu ohonynt heb unrhyw fai arnynt hwy.
Mae data a gasglwyd gan Cancer Research UK ar gyfer 2020-21 yn dangos bwlch amddifadedd yn y nifer sy'n manteisio ar sgriniadau canser, bwlch o 19 pwynt canran ar gyfer sgrinio'r fron, bwlch o 15 pwynt canran ar gyfer sgrinio'r coluddyn, bwlch o 12 pwynt canran ar gyfer sgrinio serfigol—ac unwaith eto, dyna'r bwlch rhwng y grwpiau mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Nawr, y gair 'amddifadedd', gwn fod iddo ystyr cymdeithasol-wyddonol benodol iawn. Mae iddo arwyddocâd nad wyf yn eu hoffi'n fawr iawn, ond rwy'n ei ddefnyddio am mai dyma'r gair y mae'r data'n ymwneud ag ef, a hoffwn atgoffa unrhyw un sydd yr un mor anghysurus ynglŷn â'r cysylltiadau hynny i ystyried y ffaith bod 'amddifadedd' yn golygu mynd â rhywbeth oddi wrth rhywun. Mae pobl sy'n byw yn ein hardaloedd wedi cael eu hatal rhag byw bywydau mwy diogel, ac rwy'n gweld hynny'n annheg iawn.
Rwy'n gwybod gan Cancer Research UK am yr amrywio rhwng perfformiad byrddau iechyd, ac rwyf am ei gwneud yn glir yma na fwriedir i fy sylwadau fod yn feirniadaeth o aelodau staff, y gwn eu bod yn malio'n fawr ac yn gweithio'n anhygoel o galed i ofalu am bobl pan fyddant ar eu mwyaf bregus. Ond am yr holl resymau y byddwn yn eu trafod yn y ddadl hon, mae pobl sy'n byw mewn rhai cymunedau yng Nghymru yn wynebu'r risgiau cynyddol hyn. Ar gyfer Cwm Taf, mae'r gyfradd achosion o bob canser yn gyfunol 8 y cant yn uwch na gweddill Cymru. Mae cyfraddau canser yr ysgyfaint 20 y cant yn uwch na chyfartaledd Cymru. Bydd cymaint o ffactorau'n bwydo i mewn i pam mae'r darlun hwn mor llwm. Unwaith eto, nid mater o feio unrhyw un yw hyn. Mae'n ymwneud â deall pam mae'r gwahanol ddarnau'n dod at ei gilydd i greu'r darlun hwnnw.
Gall rhwystrau i wasanaethau, fel gallu pobl i gyrraedd apwyntiadau, gael eu heffeithio gan broblemau teithio a gwaith, fel rwyf eisoes wedi sôn. Ac mae trefniadau rhai triniaethau canser yn heriol. Canfu arolwg profiad cleifion canser Cymru fod pobl sy'n byw mewn rhai ardaloedd yn poeni mwy am y pellter sydd angen iddynt ei deithio i gyrraedd ysbyty. A beth am ar ôl ichi gael y diagnosis? Gall amseroedd aros am driniaeth hefyd fod yn waeth os ydych chi'n digwydd byw yn un o'r ardaloedd hyn. Ym mis Mawrth 2023, dangosodd amseroedd aros canser y GIG mai dim ond 55.3 y cant o gleifion a ddechreuodd eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r amheuaeth gyntaf fod ganddynt ganser. Dyma'r perfformiad gorau ers dechrau 2023. Mae'n dal i fod ymhell islaw'r targed perfformiad ar gyfer llwybrau lle'r amheuir canser, sy'n anelu at 75 y cant. Mae'n darged nad yw wedi'i gyrraedd.
Mae amseroedd aros gwasanaeth diagnosteg a therapi'r GIG yn dangos, unwaith eto ym mis Mawrth eleni, fod tua 91,400 o gleifion yn aros am un o saith prawf diagnostig allweddol yng Nghymru. Roedd bron i 40 y cant o'r cleifion hynny wedi bod yn aros am fwy nag wyth wythnos. Gyda chanser, yn fwy nag unrhyw ddiagnosis arall o bosibl, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gofio beth fydd yr amseroedd aros hynny'n golygu. Cawn ein magu i ofni'r diagnosis hwnnw—a hynny'n aml iawn am nad ydym yn deall digon am gyfraddau goroesi, ac mae pethau'n gwella gydag ymchwil drwy'r amser. Ond y llaw fer sydd gennym yw bod canser yn rhywbeth a fydd yn eich cael chi, a dyna pam mae cymaint o bobl yn rhy ofnus i ofyn am help. Ac os yw pobl, ar ôl gwneud y naid honno a gofyn am help, sydd mor bwysig—a dylai pobl bob amser ofyn am help os oes ganddynt unrhyw symptomau nad ydynt yn siŵr amdanynt; mae hi bob amser yn well gofyn am help—ond ar ôl gwneud y naid honno, os oes rhaid iddynt aros am wyth wythnos i gael ateb, maent mewn limbo uffernol lle byddant yn disgwyl y gwaethaf, sy'n nodwedd o'r natur ddynol, cyn iddynt allu cael unrhyw atebion, cyn y gallant ddechrau ar y daith i ddechrau gwella. Nawr, mae'r amseroedd aros hyn yn ymestyn poen pobl. Mae cost ddynol amseroedd aros yn anfesuradwy yn fy marn i, oherwydd ni allwch fesur y niwed a wneir.
Nid wyf yn bwriadu i ddim o'r hyn rwy'n ei ddweud gael ei weld fel beirniadaeth o staff rheng flaen na'r Llywodraeth; ple ydyw, oherwydd collais bobl rwy'n eu caru oherwydd canser; bydd pawb sy'n eistedd yn y Siambr hon wedi profi hynny. Mae hwn yn bwnc na fydd neb yn edrych arno'n ddi-hid—rwy'n gwybod hynny.
Rhai o'r cwestiynau yr hoffwn eu gofyn i'r Gweinidog eu hystyried, os gwelwch yn dda, yw a all y Llywodraeth ymrwymo i adroddiad blynyddol i'r Senedd ar ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau canser yng Nghymru. Wrth weithredu'r cynllun gwella gwasanaethau canser, hoffwn ofyn a all Rhwydwaith Canser Cymru nodi sut y gall mentrau newydd naill ai helpu i leihau'r anghydraddoldebau hyn, neu nodi'r hyn sy'n rhaid digwydd er mwyn sicrhau nad yw'r anghydraddoldebau'n gwaethygu. Hoffwn ofyn i'r Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ymrwymo i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, wedi'u targedu'n arbennig efallai at y grwpiau sydd angen y cysylltiad hwnnw'n fwy na neb, i geisio mynd i'r afael â'r ffactorau risg sy'n gwneud pobl yn fwy agored i risg o ganser, ac ymgyrchoedd sydd hefyd yn mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal cymaint o bobl rhag gwneud y naid, naill ai i gael eu sgrinio neu i fynd i apwyntiad.
Ar y materion trafnidiaeth a nodais, hoffwn wybod a ellid cynnal adolygiad brys o opsiynau trafnidiaeth cleifion i gyrraedd profion a thriniaethau canser. Mae yna fentrau gwych o'r fath eisoes yn cael eu rhedeg gan Cancer Aid Merthyr Tydfil Ltd, sy'n darparu gwasanaeth trafnidiaeth o ddrws i ddrws am ddim i fynychu apwyntiadau canser. Mae'n ffordd bell o Ferthyr Tudful i Felindre, er enghraifft, ac maent yn darparu'r gwasanaeth hwn, sy'n achubiaeth. A allai adolygiad edrych ar sut y gellid gwella neu gefnogi mentrau o'r fath, os gwelwch yn dda, ac a wnewch chi ymrwymo i ehangu targedau presennol ar gyfer sgriniadau canser, fel eu bod yn cynnwys targedau ar gyfer cynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt yn y grwpiau sy'n llai tebygol o wneud hynny?
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog, rwy'n ddiolchgar i bawb sy'n mynd i fod yn siarad, ac yn wir, i bawb sy'n mynd i fod yn rhan o'r ddadl hon. Ac yn yr ychydig amser sy'n weddill gennyf, cyn aros i glywed yr hyn sydd gan bawb arall i'w ddweud yn y ddadl hon, rwyf am bwysleisio eto fy mod yn gwybod bod hwn yn fater sy'n effeithio—. Bydd gan bob un ohonom o leiaf un stori a fydd wedi effeithio arnom yn ddwfn. Bydd rhai ohonom wedi cael profiad personol o hyn. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae pawb eisiau ei gael yn iawn. Felly, ple yw hyn mewn gwirionedd, mewn ffordd drawsbleidiol iawn, ac rwy'n croesawu clywed mwy yn y ddadl. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Delyth Jewell am ganiatáu imi gyfrannu at y ddadl fer bwysig hon heddiw, a llongyfarch Delyth ar y ffordd y cyflwynodd yr achos mor effeithiol a phwerus. Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ysmygu ac iechyd, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ar ysmygu, y soniodd Delyth amdano, gan ein bod yn gwybod ei fod yn ffactor arwyddocaol iawn am fod cyfraddau uwch yn ysmygu mewn cymunedau mwy difreintiedig. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod yr ystadegau diwethaf yn dangos bod cyfraddau ysmygu bedair gwaith yn uwch yn y cymunedau mwyaf difreintiedig o gymharu â'r rhai lleiaf difreintiedig. Ac mae dros 2,000 o achosion canser y flwyddyn yng Nghymru yn cael eu priodoli i amddifadedd, gyda bron eu hanner yn gysylltiedig â chanser yr ysgyfaint. Felly, mae'n eithaf clir pa mor bwysig yw ysmygu, canser yr ysgyfaint a chlefydau eraill sy'n deillio o ysmygu o ran anghydraddoldebau iechyd.
A'r hyn sydd angen inni ei wneud, rwy'n credu, yn ogystal â mynd i'r afael â'r ffactorau amlddimensiwn a grybwyllodd Delyth, sy'n gymhleth iawn—ac yn amlwg, bydd unrhyw beth sy'n cael ei wneud ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag amddifadedd yn helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd hyn, gan gynnwys canser yr ysgyfaint—mae angen inni wella gwasanaethau hefyd a'u targedu'n fwy effeithiol yn ein cymunedau mwy difreintiedig. Bydd unrhyw beth sy'n lleihau cyfraddau ysmygu'n gyffredinol yn helpu, ond bydd unrhyw beth sy'n targedu ein cymunedau mwy difreintiedig a'n cyfraddau ysmygu yn benodol yn arbennig o ddefnyddiol. Ac rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod am y ddeddf wrthgyfartal sy'n golygu, at ei gilydd—fel y crybwyllodd Delyth unwaith eto—fod y cymunedau sydd â'r anghenion iechyd mwyaf yn tueddu i dderbyn llai o wasanaethau, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef os ydym yn mynd i wneud y math o gynnydd sy'n rhaid inni ei wneud wrth fynd i'r afael â'r materion hyn.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod Delyth Jewell am roi munud o'i hamser i mi siarad am bwnc mor bwysig. Yn yr ychydig amser sydd gennyf, hoffwn fynd i'r afael ag un argymhelliad penodol yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol, sef yr angen cynyddol i Lywodraeth Cymru weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Rhwydwaith Canser Cymru, i ymrwymo i gasglu a chyhoeddi data ar anghydraddoldebau canser, gan gynnwys ethnigrwydd, oedran, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol ac anabledd.
Roedd adroddiad y grŵp trawsbleidiol wedi'i gyfyngu i amddifadedd economaidd-gymdeithasol, oherwydd dyma'r unig ddata oedd ar gael. Nid yw hyn yn ddigon da. Mae angen casglu data'n fwy trylwyr, oherwydd dyma'r unig ffordd y gallwn wella dealltwriaeth o anghenion dioddefwyr canser a'r effaith y mae'n ei chael ar eu bywydau. Ar ben hynny, mae angen inni wella ein dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ganlyniadau canser. Credaf o ddifrif y gellir gwneud ymyriadau cymharol fach ar adegau allweddol ar daith dioddefwr canser a fydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol i'w canlyniadau a'u lles. Ond bydd y rhain yn parhau i fod allan o'u cyrraedd hyd nes ein bod yn deall pob agwedd ar fywydau dioddefwyr canser yn iawn. Felly, er mwyn i Lywodraeth Cymru, Gweithrediaeth GIG Cymru, Rhwydwaith Canser Cymru a byrddau iechyd barhau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau canser, gofynnaf i Lywodraeth Cymru fod o ddifrif ynghylch yr argymhelliad hwn ac ymrwymo i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Rhwydwaith Canser Cymru ar gasglu data ar anghydraddoldebau canser yng Nghymru yn well. Heb ddata mwy cynhwysfawr, ni allwn fynd i'r afael ag anghydraddoldebau canser yn briodol a sicrhau bod profiadau'r grwpiau mwyaf ymylol yn gyfartal. Diolch.
Gaf i ddiolch o galon i Delyth Jewell? Mi ydym ni, fel roedd Delyth wedi sôn, i gyd wedi adnabod pobl oedd yn rhy hwyr, yn anffodus, yn cael y diagnosis hwnnw. Mae'r anghyfartaledd—cymaint o bobl rŵan ddim eisiau bod yn niwsans, yn anwybyddu'r symptomau hefyd. Ac mae hi'n anodd eithriadol os does gennych chi ddim, fel gwnest ti amlinellu, fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, yn ddibynnol ar aelod o deulu i fynd â chi oherwydd dydy rhywbeth ddim cweit yn teimlo'n iawn. Neu, i'r rheini sydd—nifer ohonyn nhw yn ein hetholaethau ni—yn byw ar eu pennau eu hunain, lle does ganddyn nhw ddim arian ar gyfer y tacsi hwnnw lle does yna ddim trafnidiaeth gyhoeddus ac ati. Ac mae hwn yn fater o gydraddoldeb—y cydraddoldeb hwnnw, eich bod chi'n gallu cael y mynediad at y meddyg—os ydych chi'n gallu cael trwodd at y meddyg—wedyn, eich bod chi yn cael y diagnosis hwnnw. Mae'n rhaid inni sicrhau—. Yn amlwg, yr ardal dwi'n ei gynrychioli—gwnest ti grybwyll Cwm Taf Morgannwg—mae yna gymaint o anghydraddoldebau yn y fan yna; pobl yn marw'n ddiangen ar y funud. Mae'r wyddoniaeth yn parhau i wella, ond mae'n rhaid inni gael y neges yn glir: dydy pobl ddim yn bod yn niwsans os ydyn nhw'n mynd at y meddyg; peidiwch ag anwybyddu'r symptomau; ac mae gan bawb yr hawl i fynd at y meddyg. Gobeithio medrwn ni rhoi y neges yna'n glir, eich bod chi angen mynd, os ydych chi'n cael symptomau.
Rwyf innau hefyd yn diolch i Delyth Jewell am ganiatáu imi gyfrannu at y ddadl fer hon. Roedd yn ofid dysgu ymhellach am y rhwystrau y gallai pobl o gymunedau difreintiedig fod yn eu hwynebu yn ystod eu taith ganser, yn bwysicaf oll wrth nodi arwyddion a symptomau canser. Mae adnabod y rhain yn hanfodol i geisio cymorth gan feddyg teulu, cael diagnosis cynnar a dechrau triniaeth, lle gall unrhyw oedi gael effaith niweidiol ar ganlyniadau iechyd. Yng ngoleuni hyn, rwy'n annog y Gweinidog iechyd i ystyried argymhelliad yr adroddiad i ehangu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth canser presennol, gan dargedu'n benodol y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i fuddsoddi mewn ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth canser rheolaidd i fynd i'r afael â'r rhwystrau i ddiagnosis y mae pobl o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn eu hwynebu? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o symptomau wedi'u targedu yn cael eu cyflwyno, er mwyn sicrhau nad yw pobl o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru'n cael eu gadael ar ôl?
A gaf i ddiolch Delyth am ychydig o'i hamser hi yn y ddadl fer bwysig yma? Ychydig eiliadau cymraf i, a dwi eisiau diolch i'r grŵp trawsbleidiol ar ganser am ei adroddiad ar yr anghydraddoldebau o fewn diagnosis a thriniaeth canser.
Mae darllen yr adroddiad yn dod â'r sgandal yn fyw, onid ydy—yr anghydraddoldeb dwfn yna sy'n bodoli rhwng cyfleon bywyd a chyfleon byw pobl mewn cymunedau ac o gefndiroedd breintiedig o'i gymharu â phobl o gefndiroedd difreintiedig. Mae'r raddfa farwolaeth mewn ardaloedd difreintiedig 55 y cant yn fwy o'i gymharu ag ardaloedd mwy cyfoethog—55 y cant yn fwy. Mae'n rhaid i ni siarad am hyn. Mae'n rhaid i ni weiddi am hyn. Mae'n rhaid i ni weithredu polisi sy'n sicrhau bod y gwirionedd erchyll yma'n dod yn rhan o'n hanes ni, yn hytrach na phresennol Cymru'r unfed ganrif ar hugain.
Rwy'n hynod ddiolchgar i Delyth am ganiatáu imi wneud hyn. Roeddwn eisiau rhoi amser i nodi'r ymchwiliad i ganser gynaecolegol y mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei gyflawni ar hyn o bryd, yn enwedig y dystiolaeth a glywsom gan y claf canser Claire O'Shea—mor ddewr, mor bwerus, mor ysbrydoledig. Ac rwy'n dal i ddod yn ôl—a bydd Rhun yn ymwybodol o hyn—at y term 'dibwyllo meddygol', ac mae'n fater y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef. Hoffwn annog yr Aelodau i fynd i edrych ar Instagram Claire—mae hi'n dogfennu ei thaith. Ac mae'n rhaid i ni fel pwyllgor wrando ar brofiadau'r cleifion hynny, gwneud argymhellion yn eu sgil, ac rwy'n gobeithio—. Rwy'n gwybod na all y Gweinidog ateb hyn nawr, ond pan fyddwn yn cyflwyno adroddiad ein pwyllgor, ac yn ei osod ger bron y Llywodraeth, rwy'n gobeithio y byddant yn gwrando ac yn gweithredu'r camau a'r profiadau hynny, oherwydd mae profiad Claire O'Shea a chleifion tebyg iddi yn anhygoel, ac mae hi mor ddewr yn camu ymlaen fel y gwnaeth.
Nawr, galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Delyth Jewell am gyflwyno'r ddadl fer hon ar ganser ac anghydraddoldeb, ac yn arbennig, diolch i'r grŵp trawsbleidiol am ei waith ar yr adroddiad 'Pob Peth yn Gyfartal?'. Gwn fod y dirprwy brif swyddog meddygol wedi bod yn rhan o lansio'r adroddiad ar 8 Mehefin, ac rydym yn rhoi ystyriaeth ofalus i'w argymhellion.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn canolbwyntio ar y mater, ac rwy'n anghyfforddus iawn fod lle mae pobl yn byw, eu hamgylchiadau, eu hoedran, eu hil, eu rhywedd, y gall hynny i gyd gael effaith sylweddol ar eu tebygolrwydd o gael canser a'u gobaith o oroesi canser. Nawr, yn 2015, ysgrifennodd y prif swyddog meddygol yn helaeth yn ei adroddiad blynyddol, 'Adfer Cydbwysedd i Ofal Iechyd', ynglŷn â sut mae'n rhaid inni weithio mewn partneriaeth i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol, a'i effaith ar ganlyniadau iechyd yn benodol. Rwyf wedi treulio llawer o amser yn siarad â Syr Michael Marmot am ei safbwyntiau ar anghydraddoldebau iechyd. Rwy'n credu ein bod hefyd yn cydnabod pwysigrwydd hyn yn ein polisi sydd eisoes wedi'i ddatblygu, gyda'r datganiad ansawdd ar gyfer canser, sy'n cynnwys tegwch mewn gofal canser, ac yn bwysig, canlyniadau canser, fel ei adran gyntaf.
Felly, rydym yn disgwyl i wasanaethau'r GIG gael eu cynllunio a'u darparu mewn ffordd sy'n lliniaru'r anghydraddoldebau hyn. Mae ymateb y GIG i'r datganiad ansawdd, y cynllun gwella gwasanaethau canser, wedi ei fframio drwyddo draw gan ffocws ar anghydraddoldeb. Nawr, bydd grŵp anghydraddoldebau iechyd newydd y GIG yn canolbwyntio ar nifer fach o feysydd sy'n anelu at wneud cymaint â phosibl o gyfraniad y GIG a cheisio gwneud y GIG yn batrwm enghreifftiol. Mae'r grŵp yn gyfrifol am oruchwylio, cydlynu a sbarduno gwaith ar y lefel genedlaethol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Bydd yn cynnwys nodi a chynyddu arferion gorau er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf. Mae meysydd blaenoriaeth yn cynnwys adolygu setiau data a gweithredu i ymateb i fylchau, ynghyd â phrif ffrydio. Felly, y pwynt a nodwyd gan Joel James am ddata, rwy'n cytuno'n llwyr—data, data, data. Mae angen inni wybod beth sy'n digwydd, ac rwy'n credu'n gryf iawn fod data'n gwbl hanfodol yn hynny o beth.
Mae gan fyrddau iechyd gyfrifoldeb am eu poblogaethau hefyd, ac o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae ganddynt ddyletswyddau i fynd i'r afael â phenderfynyddion iechyd yn hirdymor. Felly, fe siaradodd llawer o bobl am ysmygu. Mae gordewdra hefyd yn broblem go iawn o ran cynyddu risgiau canser. Mae byrddau iechyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol i fynd i'r afael â'r materion traws-sectoraidd hyn. Nawr, mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol ystyried sut y gallai eu penderfyniadau helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol, megis penderfynu ar flaenoriaethau a gosod amcanion. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn ymgorffori iechyd ym mhob gwaith polisi ar draws Llywodraeth Cymru, ac mae gwaith eisoes ar y gweill ar ddatblygu rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodedig gynnal asesiad o'r effaith ar iechyd mewn amgylchiadau penodol. Mae hyn yn wirioneddol arloesol. Mae'n rhywbeth rwy'n gwybod bod gan Sefydliad Iechyd y Byd ddiddordeb mawr ynddo, a gweld sut mae hynny'n newid pethau yng Nghymru, sut mae'r ffocws rydym yn awyddus i'w weld ar draws y Llywodraeth a thu allan i'r Llywodraeth yn gweithio yn ymarferol.
Rŷn ni'n cymryd nifer o gamau cenedlaethol i roi sylw i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd: er enghraifft, y rhaglen Dechrau'n Deg; y camau i fynd i'r afael â thai gwael a llygredd aer; ein cynllun cyflogadwyedd; a hefyd ein cynlluniau i daclo gordewdra a tybaco. Rŷn ni wedi cyhoeddi cynllun gwrth-hiliaeth a'r cynllun gweithredu LGBTQ+, sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r annhegwch mae'r grwpiau hyn yn ei wynebu. Mae hon yn gyfres gynhwysfawr o ofynion sydd ar waith ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus, a hynny dros y tymor hir, i roi sylw i'r ffactorau a allai achosi afiechydon, gan gynnwys canser. Mae'n hanfodol ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i atal canser ymysg ein cymunedau mwyaf difreintiedig, a dyna fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran taclo'r diffyg cydraddoldeb mewn iechyd.
Ysmygu a gordewdra, fel mae nifer wedi sôn amdano, yw'r prif ffactorau sy'n achosi canser ac sy'n bosib i atal. Felly, yn amlwg, mae nifer o bobl yn datblygu canser a dŷn nhw ddim yn ysmygu a dŷn nhw ddim yn ordew, felly mae yna amryw o resymau pam mae pobl yn cael canser, ond dŷn ni'n gwybod bod y gyfradd yn cynyddu os yw'r rheini yn ffactorau.
Y rheswm rhannol pam rŷn ni'n gweld mwy o achosion o ganser a llai o bobl yn goroesi mewn rhannau o'n cymunedau difreintiedig yw'r cysylltiad rhwng bod yn ddifreintiedig ac ymddygiad sy'n niweidiol, fel ysmygu. Felly, rhoi'r gorau i ysmygu yw'r cam mwyaf positif y gall pobl ei gymryd i wella iechyd, ac dŷn ni wedi gweld cynnydd sylweddol o ran lleihau cyfraddau ysmygu ledled Cymru. Ond dŷn ni'n gwybod bod angen gwneud mwy os ydym ni am gyflawni ein uchelgais yng Nghymru. Rŷn ni wedi cymryd camau i wneud bod yn ddi-fwg yn norm ym mhob rhan o'n cymdeithas, ac rŷn ni'n canolbwyntio ar leihau ysmygu ymhlith mamau, oherwydd ein bod ni eisiau gweld mwy o blant a phobl ifanc yn mwynhau plentyndod di-fwg. Rŷn ni hefyd yn targedu'r grwpiau hynny lle mae'r nifer uchaf o bobl yn ysmygu er mwyn eu hannog nhw i gefnogi a manteisio ar y gwasanaethau NHS sydd yna i'w helpu nhw.
Bydd angen hefyd i ni gefnogi pobl i gyrraedd pwysau iach. Bydd taclo diffyg cydraddoldeb mewn iechyd yn parhau i fod yn ffocws hollbwysig i ni. A jest i gyffwrdd ar rai o'r pwyntiau mae pobl wedi cyffwrdd arnynt yn y ddadl—
Delyth, diolch i chi am fod mor angerddol ac mor bwerus yn eich cyflwyniad. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn rhywbeth y bydd yn rhaid inni fod o ddifrif yn ei gylch, ac rwy'n ymwybodol iawn ei bod hi'n bwysig cael ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth. Mae'r gwaith y mae sefydliadau fel Menter Canser Moondance yn ei wneud ar dargedu'r ardaloedd difreintiedig hynny'n ddiddorol iawn. Rwy'n clywed yr hyn rydych chi'n ei ddweud am drafnidiaeth. Felly, yr hyn rydym yn mynd i'w weld yw crynodiad. Oherwydd y problemau sy'n ymwneud â phethau fel gweithlu a'r ffaith bod cyfarpar yn ddrud, rydym yn mynd i weld crynodiad mewn ardaloedd penodol, a bydd yn rhaid i bobl deithio i'r ardaloedd hynny. Ond rwy'n cydnabod bod yn rhaid inni sicrhau, yn enwedig i bobl o ardaloedd tlotach, fod ganddynt ffordd o gyrraedd yno. Fel y dywedwch, mae yna rai mentrau da iawn yn bodoli; mae angen inni wneud yn siŵr fod y mentrau hynny ar gael ledled y wlad.
John, rwy'n gwybod eich bod chi'n teimlo'n angerddol iawn ynghylch ysmygu, a diolch i chi am y pwyntiau a gyflwynwyd gennych mewn perthynas â hynny. Canser yr ysgyfaint—yn ddiddorol, rydym wedi dechrau ar brosiect sy'n targedu canser yr ysgyfaint, oherwydd y broblem gyda canser yr ysgyfaint yn aml iawn yw nad ydych yn ei weld tan yn eithaf diweddar, a phan fyddwch yn ei weld, mae'n anodd iawn mynd i'r afael ag ef. Nawr mae gennym ddull biopsi hylifol rydym yn ceisio edrych arno, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld beth fydd canlyniadau'r peilot hwnnw, i weld a oes mwy y gallwn ei wneud yn y gofod hwnnw.
Heledd, roeddech chi'n siarad hefyd am drafnidiaeth gyhoeddus. Rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn gwbl ymwybodol fod hyn yn rhywbeth sydd ar ein hagenda, fel y ceisiais ei nodi. A Jack, diolch yn fawr iawn am gyfeirio at Claire O'Shea unwaith eto. Rwy'n cydnabod ei bod yn bwysig iawn inni ganolbwyntio ar y maes hwn. Mae problem wirioneddol gyda chanser menywod. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ganolbwyntio ar hynny. Rwy'n ymwybodol eich bod chi'n gwneud adroddiad arno, rwy'n edrych ymlaen at weld argymhellion yr adroddiad hwnnw, ond nid wyf yn aros am yr adroddiad, oherwydd, am bob diwrnod y bydd pobl yn aros, mae hynny'n broblem i rywun sy'n dioddef. Felly, rydym wrthi, rydym yn ceisio gweithio gydag ef. Cawn ein herio ar hyn o bryd; nid oes amheuaeth fod yna her aruthrol i'r GIG yng Nghymru, ond mae problem benodol gyda chanser menywod, ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â hynny. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog. A Delyth, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ganser, hoffwn ddiolch i chi am siarad ar yr adroddiad pwysig hwn.
A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:56.