Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/05/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Creu Swyddi yn Nwyrain De Cymru

1. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i greu swyddi yn Nwyrain De Cymru? OQ59573

Diolch am eich cwestiwn. Mae ein cenhadaeth economaidd, a gyhoeddwyd y llynedd, yn nodi’n glir y gwerthoedd a’r blaenoriaethau sy’n llywio ein penderfyniadau i gefnogi’r economi. Un enghraifft yw’r gwaith rydym wedi’i wneud i hyrwyddo a sicrhau buddsoddiad yn y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Nwyrain De Cymru. Mae hyn yn cynnwys, wrth gwrs, buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan KLA, a fydd yn sicrhau cannoedd o swyddi newydd sy'n talu'n dda.

Diolch am yr ateb yna.

Yn yr wythnosau diwethaf, cawsom y newyddion trychinebus y bydd dwy ffatri fawr yn fy rhanbarth yn cau—Tillery Valley Foods, ac yn fwy diweddar, Avara—gyda chyfanswm o fwy na 600 o swyddi'n cael eu colli. Gobeithiaf y bydd y Llywodraeth hon yn cymryd camau cyflym a chadarn mewn ymateb i’r ergyd drom i’r economi leol, a byddwn yn croesawu diweddariad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i helpu i liniaru’r colli swyddi. Rwyf hefyd yn awyddus i archwilio pa swyddi y gellir eu creu yn fy rhanbarth, yn benodol ym mhrosiect y Cymoedd Technoleg yng Nglyn Ebwy. Pan gafodd hwn ei lansio tua chwe blynedd yn ôl gan eich Llywodraeth, cafodd ei groesawu fel buddsoddiad o £100 miliwn a fyddai’n creu o leiaf 1,500 o swyddi mewn technolegau newydd a gweithgynhyrchu uwch. Dangosodd ymateb gan Lywodraeth Cymru i gais rhyddid gwybodaeth ym mis Mawrth eleni mai dim ond 29 o swyddi a grëwyd, er y gallai'r darlun hwn fod yn un anghyflawn. Mae llawer o bobl yn gofyn ble mae'r swyddi a addawyd. Mae'r wythnosau diwethaf wedi dangos gymaint y mae angen y swyddi hyn. A allwch gadarnhau, Weinidog, fod y prosiect hwn yn dal i fod ar y gweill ac na fydd yn cael ei anfon i'r ffeil 'Siom arall eto fyth i Flaenau Gwent'? Diolch.

Rwy'n gadarnhaol am ddyfodol rhaglen y Cymoedd Technoleg. Mae'n bwnc rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau uniongyrchol yn ei gylch ag Aelod etholaeth Blaenau Gwent ers imi ddechrau yn y swydd hon, am yr hyn rydym yn ei wneud, a sicrhau bod pobl yn meddwl am yr ardal teithio i'r gwaith hefyd, i wneud yn siŵr fod y buddsoddiad yn cael ei dargedu at Flaenau Gwent. Ac mae'r Aelod etholaeth wedi dweud yn glir iawn ei fod yn disgwyl gallu gweld yr arian yn cael ei wario o fewn yr etholaeth. Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yw sicrhau ein bod yn edrych ar fuddsoddiadau strategol, ac mae'r ffordd rydym wedi partneru â'r awdurdod a'r bwrdd ar hyn yn rhannau pwysig o hynny. Os edrychwch ar ble y bu’r buddsoddiad hwnnw’n gymorth i sicrhau, er enghraifft, y gwaith o amgylch Thales ym Mlaenau Gwent, dewis bwriadol, yr ychwanegwyd ato gan y Cymoedd Technoleg, y gwaith rydym yn bwriadu ei wneud gyda’r buddsoddiad yn TVR a sicrwydd swyddi ar y safle hwnnw, a'r buddsoddiad mewn eiddo, rwy'n credu y bydd gennym stori dda i'w hadrodd ar y Cymoedd Technoleg.

Ac yn fwy cyffredinol, wrth gwrs, ar y mater y dechreuoch chi gydag ef, a'r nifer sylweddol o swyddi sy'n debygol o gael eu colli yn Tillery Valley Foods a'r cyhoeddiad ddoe am Avara, ein pryder o hyd yw'r oddeutu 440 o deuluoedd yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad ddoe, a'r oddeutu 260 o deuluoedd yr effeithir arnynt gan Tillery Valley Foods. Ac rydym yn gobeithio mabwysiadu ymagwedd a fydd yn dod ynghyd â'r ddau undeb llafur— Community yn TVF, ac Unite yn Avara—yr awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru, ac asiantaethau o Lywodraeth y DU hefyd. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tasglu ffurfiol ar TVF y bore yma, a chyfarfûm â dirprwy arweinydd Cyngor Sir Fynwy y bore yma, sef yr aelod arweiniol ar ddatblygu economaidd yn y sir. Yn Avara, mae’n ffaith bod llawer o’r gweithlu yn Avara, sydd yn sir Fynwy, yn dod o Flaenau Gwent. Felly, rwy'n edrych ar sut rydym yn uno'r ymatebion gyda'r ddau awdurdod lleol, y ddau undeb cydnabyddedig, a chyfleoedd, os oes rhai, i geisio sicrhau busnesau gweithredol ar y safleoedd hynny, ac os nad oes rhai, beth y gallwn ei wneud â'r rhaglenni rydym yn eu hariannu—Cymunedau am Waith a Mwy a ReAct+—i geisio sicrhau cyflogaeth arall i bobl sy'n colli eu swyddi yn y sector hwn.

Adleisiaf bryderon fy nghyd-Aelod dros Ddwyrain De Cymru ynglŷn â'r hyn sy’n digwydd yn Nwyrain De Cymru ar hyn o bryd, o ran y swyddi a gollwyd. Mae chwe chant o swyddi yn llawer iawn o swyddi. Gwelsom Tillery Valley Foods yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yr wythnos diwethaf, a bellach mae gennym Avara Foods yn y Fenni. Byddai'n ddiddorol gweld pa gamau cadarnhaol rydych wedi'u cymryd hyd yn hyn ac amserlenni unrhyw beth rydych wedi'i wneud a beth rydych yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol. Mae’n wych eich bod yn dweud y byddwch yn ceisio gofalu am y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Ond mae angen inni wybod beth rydych am ei wneud i wella cyfleoedd gwaith yn ein rhanbarth wrth symud ymlaen, a sut rydych yn mynd i geisio diogelu rhagor o fusnesau rhag colli mwy o swyddi yn y dyfodol. Ni allwn gael sefyllfa lle rydym yn codi yn y Senedd  bob wythnos ac rydym wedi colli mwy o swyddi; ymddengys bod hon yn thema sy'n codi dro ar ôl tro ar hyn o bryd. Felly, Weinidog, a oes rhywbeth y gallwch ei wneud i ymyrryd yma ac i sicrhau bod llai o swyddi'n cael eu colli a mwy o gamau gweithredu cadarnhaol yn cael eu cymryd gan y Llywodraeth hon ar lawr gwlad, ac efallai ystyried ymestyn cyfleoedd gradd-brentisiaethau hyd yn oed, sy’n brin iawn yng Nghymru o gymharu â gweddill y DU? Bydd hynny hefyd, ynddo’i hun, yn ehangu cyfleoedd gwaith, ac yn uwchsgilio llawer o’r bobl yn fy ardal i. Diolch.

13:35

Gyda phob parch, ni chredaf fod gradd-brentisiaethau yn berthnasol iawn i'r heriau a wynebir gan Tillery Valley Foods, nac Avara yn wir. Rydym yn meddwl am sector sy'n cael ei effeithio'n uniongyrchol gan amrywiaeth o ffactorau. Mae amodau masnachu'n effeithio ar y ddau, a byddwch wedi clywed, yn ystod y problemau blaenorol ar Ynys Môn, fod Two Sisters o'r farn fod yr amgylchedd masnachu ar ôl Brexit yn rhan o’r rheswm pam eu bod yn teimlo na allent barhau.

Y ffactor cyffredin arall, fodd bynnag, yw realiti'r cynnydd mewn prisiau. Felly, mae'n argyfwng costau byw ac yn argyfwng costau gwneud busnes. Mae costau ynni'n ffactor sylweddol yn y sector hwn, ac mae Avara wedi nodi bod hynny’n bryder sylweddol iddynt. Maent yn awyddus i gydgrynhoi eu busnes, ac maent yn dweud eu bod hefyd yn edrych ar ddewisiadau buddsoddi mewn offer a pheiriannau. Ac mewn gwirionedd, yn y rhan hon o'r sector bwyd, mae cymorth buddsoddi cyfalaf ar gael gan Lywodraeth Cymru—hyd at 40 y cant o gymorth gyda chostau ar gyfer buddsoddiad cyfalaf. Rydym wedi cynnig hynny o'r blaen. Rydym wedi dweud yn glir fod cynnig yn dal i fod ar gael i Avara yn y gorffennol, neu yn hytrach, yn y gorffennol yn syth ar ôl eu cyhoeddiad, oherwydd ein ffocws ni yw a allwn gynnal y swyddi ac a allwn sicrhau busnes amgen ar y safle hwnnw. Os nad yw hynny'n bosibl, bydd angen inni edrych ar beth arall y gallwn ei wneud, ac rwyf wedi nodi hynny yn yr ymateb cynharach, ond hefyd mewn ymateb i'r cwestiwn amserol gan yr Aelod dros Flaenau Gwent ynglŷn â Tillery Valley Foods. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar hynny. Ac os af i ormod o fanylder ynglŷn â'r hyn a grybwyllwyd gan yr Aelod—beth yw'r heriau i fusnesau a beth y gallwn ei wneud?—credaf y bydd hynny'n arwain at drafodaeth ystrydebol ac anghytuno ynglŷn â dewisiadau a wnaed ar lefel y DU gyfan.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl ynglŷn â'r hyn rydym yn ei wneud gyda’r ddau fusnes a faint o swyddi a gollwyd, a’r dewisiadau amgen ar gyfer cyflogaeth yn ardal y de-ddwyrain, lle mae gennym gyfleoedd sylweddol ar gyfer y dyfodol mewn rhai sectorau. Credaf y bydd eraill o dan straen a phwysau cynyddol, a chredaf fod y ffigurau chwyddiant a gyhoeddwyd heddiw'n tanlinellu pa mor anghyson yw'r pwysau a’r heriau sy’n wynebu rhannau allweddol o’n heconomi ac ystod o swyddi sy’n dibynnu arnynt.

Rwy’n ddiolchgar i chi am eich atebion i’r cwestiynau hynny, Weinidog. Rwy'n ddiolchgar i chi hefyd am y gefnogaeth rydych wedi'i rhoi i bobl Blaenau Gwent dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r gwaith rydych wedi'i wneud yn arwain ar fuddsoddiadau'r Cymoedd Technoleg, sydd wedi arwain at y gwaith a wnaed yn Thales, yn sicr wedi cyflawni'r disgwyliadau a oedd gennym ar gyfer y rhaglen honno. Mae’r swyddi y clywsom y byddant yn cael eu colli yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn Tillery Valley Foods, a'r wythnos hon, yn Avara Foods, yn ergydion difrifol iawn i’r economi leol, ac i’r teuluoedd sy'n dibynnu ar y swyddi hynny. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithwyr yn y Fenni yn dod o Flaenau Gwent wrth gwrs. Ac rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru barhau â'r gwaith rydych wedi'i wneud dros yr wythnosau diwethaf. Mae ffair swyddi'n cael ei chynnal y bore yma yn Abertyleri, a hefyd, bûm yng nghyfarfod cyntaf y tasglu ar Tillery Valley Foods, ac yno, rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru gefnogaeth wych i’r awdurdod lleol ac i eraill, ac rydym yn ddiolchgar i chi am hynny.

Gan edrych ymlaen, Weinidog, mae'n amlwg fod angen inni fuddsoddi yng nghoridor yr A465, ac rydym yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r rhaglen honno ar gyfer y Cymoedd gogleddol a drafodwyd gennym. Rydych eisoes wedi cytuno i ddod i Flaenau Gwent i drafod y materion hyn, ac edrychaf ymlaen at eich ymweliad. Ond a gawn ni sicrhau bod y strwythur ar waith i sicrhau bod gennym y Cymoedd Technoleg, ein bod yn ymateb i'r swyddi a gollwyd, ond bod gennym hefyd y rhaglenni cymorth cyflogaeth, cymorth economaidd a chymorth busnes rhagweithiol y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu, y mae wedi'u darparu, ac rwy'n hyderus y bydd yn parhau i'w darparu ym Mlaenau'r Cymoedd?

Diolch am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Credaf ei fod yn newyddion da fod y tasglu wedi cyfarfod, gan ddod ynghyd â Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol, ac yn wir, rheolwyr lleol yr Adran Gwaith a Phensiynau, sydd wedi bod yn adeiladol yn hyn. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod rhan o Lywodraeth y DU yn ceisio bod yn rhan o’r ateb yn lleol. Ceir problemau sy'n ymwneud â sut rydym yn parhau â’n gwaith partneriaeth o fewn y sector bwyd, sydd, ar y cyfan, wedi bod yn llwyddiant. Ond rydym yn gweld heriau mewn rhai rhannau o'r gadwyn weithgynhyrchu, a dyna'n union a welwn ar hyn o bryd, ac mae'r heriau hynny ar hyn o bryd yn arwain at golli swyddi. Mae angen inni edrych ar y busnesau hynny, o beth y deillia’r bregusrwydd, a’r hyn y gallwn ei wneud, ac yn yr un modd, yr hyn y gallai eraill ei wneud hefyd.

Rwy'n awyddus iawn inni barhau i wneud y gorau o'r buddsoddiad rydym wedi'i wneud yn y seilwaith trafnidiaeth, ac rydych yn llygad eich lle ynglŷn â hynny. A dweud y gwir, rhan o'r rheswm pam fod cymaint o'r gweithwyr yn Avara Foods yn teithio yno o'ch etholaeth chi yw am ei bod yn daith fer iawn ar ddarn o rwydwaith—ar ddarn o rwydwaith sy'n bodoli eisoes. Ond hefyd, mae hynny'n rheswm pam ei fod yn safle cyflogaeth a chanddo ragolygon da, yn fy marn i, ar gyfer y dyfodol. Nawr, ni fydd hynny'n fawr o gysur i'r gweithwyr uniongyrchol hynny yno, ond mae'n safle sydd wedi'i wasanaethu'n dda gan seilwaith, sydd wedi'i gysylltu'n dda â chyfleoedd i weithluoedd, ac felly rwy'n obeithiol ynghylch yr hyn y byddwn yn gallu ei wneud mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Ac mae hynny'n dod yn ôl at eich pwynt ynghylch y strwythur a'r cyfle i barhau i fuddsoddi, ac nid yn unig yr ymateb uniongyrchol i heriau sylweddol, ond yr hyn y byddwn yn ei wneud, yn rhagweithiol, i fuddsoddi mewn cymunedau, boed yn sgiliau—. Dyna pam ein bod yn bwriadu sicrhau mwy o fuddsoddiad a pham ei bod mor bwysig ein bod yn adnewyddu ein cynllun gweithredu ar weithgynhyrchu. Rwy'n awyddus iawn i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan gynnwys prifddinas-ranbarth Caerdydd, ddeall ein bod yn disgwyl gweld ymdrech a buddsoddi rhagweithiol ym Mlaenau'r Cymoedd, ac nid yn rhan ddeheuol y brifddinas-ranbarth yn unig. Mae'n sgwrs barhaus. Rwy'n fwy na pharod i dderbyn gwahoddiad yr Aelod i ddod i ddigwyddiad priodol ym Mlaenau Gwent.

13:40

Diolch, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i chi am ganiatáu imi gyfrannu hefyd, ac mae llawer o'r cwestiynau wedi'u gofyn. Nid nawr yw'r amser i chwarae gwleidyddiaeth; nawr yw'r adeg y mae'n bwysig inni ddod ynghyd i gefnogi'r cymunedau a effeithir gan y bygythiad o golli swyddi. Rwy’n falch, Weinidog, eich bod eisoes wedi cael y cyfarfod cyntaf y bore yma gyda’r unigolion allweddol i ddod o hyd i ffordd ymlaen i fy nghymuned i a chymunedau cyfagos. Mae hynny’n hollbwysig. Rwyf mor bryderus am y bobl hyn. Mae ganddynt gartrefi, mae ganddynt forgeisi, mae ganddynt deuluoedd, ac mae'n rhaid eu bod mewn sefyllfa ofnadwy ar hyn o bryd yn gofidio am yr hyn sy'n eu hwynebu. Mae'n debyg mai fy nghwestiwn fyddai: sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i helpu'r bobl hyn drwy'r cyfnod anodd hwn? Ond yn fwy felly, sut rydym yn cydweithio i osod y sylfeini ar gyfer cyfleoedd swyddi yn yr ardal yn y dyfodol? A chan adeiladu ar yr arbenigedd gwych sydd gennym a'r amodau sydd gennym yn yr ardal, mae cyfle gwych yno ac mae angen inni ei fachu. Mae'r siociau hyn yn anodd eu dirnad, ond mae angen inni helpu'r bobl drwy'r cyfnod anodd hwn, ac rwy'n fodlon chwarae fy rhan yn yr hyn sydd ei angen nesaf.

Dyna gynnig defnyddiol ac adeiladol iawn gan Mr Fox. Edrychwch, byddwn yn dweud mai'r gwir amdani yw, pan fo busnes yn nodi bod cost i ynni a chwyddiant yn gyffredinol, ni ddylai hynny ein synnu. Ond wrth gwrs, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw ar fwyd a chwyddiant yn dangos cynnydd sylweddol, ac mae hynny am fod pwysau ariannol ym mhob rhan o'r gadwyn, o gost bwyd anifeiliaid, ac fe fyddwch yn ymwybodol o'ch menter eich hun hefyd fod costau bwyd anifeiliaid wedi cynyddu—. Golyga hynny, pan fydd dofednod yn mynd i mewn i Avara Foods, fod hynny am bris uwch, a chaiff y gost honno ei throsglwyddo ymlaen, ac mae yna her wedyn wrth i bobl benderfynu a ydynt yn dymuno prynu'r cynnyrch hwnnw ai peidio. Mae hynny’n ffactor allweddol yn y sefyllfa rydym ynddi. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod yn rhan o’r ateb. Dyna pam fy mod yn fwy na pharod i weithio gyda’r Aelod fel Aelod etholaeth, ac yn wir, ei gydweithiwr yn Senedd San Steffan, nad wyf bob amser yn gweld llygad yn llygad â hwy efallai, ond mae hwn yn fater sy’n ymwneud â’r etholaeth ac mae'n ymwneud â phobl y mae hyn yn effeithio'n uniongyrchol arnynt, ac mae a wnelo â sut y credaf y gallwn geisio gweithio gyda'r ddau awdurdod lleol, gan fod gorgyffwrdd rhwng buddiannau a phoblogaethau gwaith. Rwy'n fwy na pharod i gysylltu â'r swyddfa eto. Gwn na fu modd ichi sicrhau cyfarfod cyn y ddadl heddiw—deallaf fod gennych ddadl ar ddeddfwriaeth—ond rwy’n fwy na pharod i neilltuo amser i gael trafodaeth bellach gydag ef a phartneriaid eraill, er mwyn gweld beth y gallwn ei wneud, yn hytrach na beth na allwn ei wneud.

Weinidog, yn ddiweddar ymwelais â Shine Catering Systems, cwmni teuluol sy’n cyflogi oddeutu 65 o bobl yn Nwyrain Casnewydd. Maent wedi bod yn weithredol ers peth amser. Maent yn llunio, yn gweithgynhyrchu ac yn gosod offer arlwyo masnachol, ac mae eu cleientiaid yn cynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn a Google. Mae ganddynt hanes hir o gyflogi prentisiaid, Weinidog, ac un o’u problemau ar hyn o bryd yw eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn recriwtio prentis gweithgynhyrchu ar lefel 3, ac maent wedi bod yn y sefyllfa hon ers tro. Felly, fe wnaethant ofyn imi godi'r materion hyn a beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud, gan weithio gyda chyngor y ddinas a Choleg Gwent, i sicrhau bod prentisiaethau gweithgynhyrchu'n ddeniadol i'n pobl ifanc yng Nghymru.

13:45

Credaf fod parhau i godi’r mater yma a thu hwnt yn rhan bwysig o hyn. Mae gan y Llywodraeth waith i'w wneud, ond mae'r un peth yn wir am Aelodau, gyda'ch rhwydweithiau a'ch dylanwadau lleol eich hun, a'ch busnesau hefyd. Oherwydd rhan o'r her yw pan fydd rhywun yn ystyried eu gyrfa yn 16 oed, mae nifer o opsiynau eisoes wedi cau, felly mewn gwirionedd, mae'n rhaid inni wneud mwy i godi proffil cyfleoedd eraill yn gynharach yn eu bywyd, mewn addysg. Mae’n rhywbeth a drafodais eto ddoe gyda’r Gweinidog addysg.

Ond mae gan weithgynhyrchu ddyfodol cadarnhaol yma yng Nghymru. Dyma’r sector mwyaf o’n heconomi o gymharu â gweddill y DU—mae'n cynnwys dros 150,000 o swyddi, ac maent fel arfer yn swyddi da, sy'n talu ymhell uwchlaw’r cyflog byw. Mae'n ymwneud â sut rydym wedyn yn annog pobl i gadw eu meddyliau'n agored i’r cyfleoedd sy’n bodoli gan fod cymorth ariannol ar gael o hyd gan y Llywodraeth i gefnogi pobl drwy brentisiaethau. A chyda phethau fel Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, rydych unwaith eto'n gweld yr amrywiaeth o gyfleoedd. Rydym yn sicr ein bod am i fwy o bobl ymgymryd â phynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg a phrentisiaethau STEM. A gobeithio y bydd yr Aelod ac eraill, pan fydd hi'n wythnos gweithgynhyrchu yn yr hydref, yn manteisio ar gyfleoedd pellach i dynnu sylw at yr amrywiaeth eang o yrfaoedd. Nid Jack Sargeant yw'r unig un a chanddo ddiddordeb yn y maes hwn—credaf fod gan bob un ohonom ddiddordeb mewn gweld dyfodol disglair a chadarnhaol i weithgynhyrchu. A byddwn yn parhau i geisio darbwyllo pobl ifanc, ac eraill yn ddiweddarach mewn bywyd, fod prentisiaeth yn llwybr da iawn ar gyfer eu dyfodol ac y bydd hefyd yn ein helpu ni i sicrhau economi well, gryfach a thecach.

Lleihau Anweithgarwch Economaidd

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o lwyddiant ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau anweithgarwch economaidd? OQ59568

Rydym yn asesu pob maes o berfformiad y farchnad lafur fel rhan o'r trefniadau monitro sy'n sail i'n cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau. Rydym yn parhau i gymryd amrywiaeth o gamau i geisio sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei ddarparu mewn modd amserol i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu pobl economaidd anweithgar yma yng Nghymru.

Diolch am yr ateb, Weinidog.

Roedd ffigurau diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn peri cryn bryder, ac mae’n iawn i ddweud mai dim ond cipolwg y maent yn ei ddarparu fel ffigurau ar eu pennau eu hunain, a bod angen inni weld sut rydym yn gwneud dros yr ychydig fisoedd nesaf er mwyn cael darlun mwy llawn. Ond ni ellir gwadu bod y ffigurau hyn yn gwaethygu darlun sydd eisoes yn llwm o ran cynhyrchiant yng Nghymru. Nid yw gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru erioed wedi bod yn uwch na 75 y cant o gyfartaledd y DU ers datganoli, tra bo gwerth ychwanegol gros yr awr wedi aros yr un fath fwy neu lai, ar 83 y cant i 84 y cant o gyfartaledd y DU dros yr un cyfnod. Ar y ddau fetrig, rydym wedi bod ymhlith y rhai sy'n perfformio waethaf o blith 12 gwlad a rhanbarth y DU yn gyson.

Er bod gan Lywodraeth gyntaf Cymru dargedau penodol ar gyfer cau’r bwlch cynhyrchiant, cafodd strategaethau economaidd dilynol Llywodraeth Cymru wared ar unrhyw dargedau, ac ni chafwyd unrhyw welliant sylweddol ers 1998. Felly, beth yw eich atebion ar gyfer mynd i’r afael â hyn, Weinidog? Lansiwyd rhaglen Cymru'n Gweithio yn 2019 i helpu pobl economaidd anweithgar yn ôl i waith, ond faint sy’n cael ei fuddsoddi yn y cynllun hwn ar hyn o bryd? A allwn ddisgwyl gweld targedau penodol ar gynhyrchiant gan y Llywodraeth hon?

A dweud y gwir, mae ein hanes o ran cynhyrchiant a gweithgarwch economaidd drwy gydol y cyfnod datganoli yn un o welliant. Yr her yw bod llawer ar ôl gennym i'w wneud i lenwi'r bwlch. Mae’n her, ac os edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd cyn amser Ken Skates, yn ystod y cyfnod hwnnw, a nawr, rydym wedi gweld cynnydd. Yr her yw ein bod, yn ystod y pandemig, wedi gweld her wirioneddol sydd wedi gwneud y sefyllfa hyd yn oed yn fwy anwastad, felly, cafodd rai sectorau welliannau o ran cynhyrchiant; a chymerodd y rhan fwyaf o'r lleill, am resymau dealladwy, gam mawr yn ôl.

Nawr, ar Cymru’n Gweithio, nid hwy yw'r unig ysgogiad na'r unig asiantaeth sydd yno i'n helpu i ddatrys ein heriau cynhyrchiant. Mae'n ymwneud â rhai o’r meysydd cystadleuol iawn, er enghraifft, mewn perthynas â sgiliau a buddsoddiad yn y rheini. Mae o bwys fod gennym lai o arian ar gael i'w ddarparu yn lle’r hen gronfeydd Ewropeaidd—ariannwyd traean o’n rhaglen brentisiaethau drwy’r ffynhonnell honno, fel y gwyddoch. Mae cael Llywodraeth y DU yn cystadlu yn y meysydd hynny, gyda swm llai o arian, yn niweidiol, ac nid yw’n ein helpu i ganolbwyntio ar ble y gallem wneud gwahaniaeth ehangach ar wella cynhyrchiant mewn ystod eang o feysydd.

Mae'n ymwneud hefyd â'r pwynt a wnaeth John Griffiths yn ei gwestiwn cynharach hefyd: sut rydym yn cefnogi pobl i wneud ymyriadau, i fanteisio ar y cymorth a ddarparwn i wneud yn siŵr eu bod mewn gwell sefyllfa i sicrhau swyddi â chyflogau uwch? A sut rydym yn sicrhau bod busnesau hefyd yn buddsoddi yn eu gweithlu eu hunain? Nid her i gyflogaeth yn y sector cyhoeddus yn unig mohoni—mae'n ymwneud â'r gweithlu, yr arweinyddiaeth a’r rheolwyr, lle mae buddsoddi yn eu sgiliau a’u galluoedd bob amser yn gwneud gwahaniaeth i gynhyrchiant cyffredinol. Felly, rydym yn deall beth sydd angen i ni ei wneud; rydym yn deall y rhesymau cyffredinol pam nad ydym wedi gwneud cymaint o gynnydd ag y byddem yn ei ddymuno, a’r her i ni yw sicrhau bod digon o'r adnoddau cywir ar gael i ni er mwyn gwneud y math o wahaniaeth rydym yn dymuno ei wneud.

Weinidog, Cymru bellach sydd â'r gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd yn y DU. Mae chwarter y boblogaeth yn economaidd anweithgar, ond yr hyn sy'n peri mwy o bryder yw bod traean o’r boblogaeth yn anweithgar oherwydd salwch hirdymor. Pa drafodaethau a gawsoch gyda’r Gweinidog iechyd ynglŷn â'r effaith y mae amseroedd aros gormodol am driniaeth GIG yn ei chael ar weithgarwch economaidd Cymru?

13:50

Rydym yn edrych i weld a yw’r ffigurau’n cynrychioli dechrau tuedd newydd neu eithriad unigol mewn anweithgarwch economaidd. Rydym wedi gwneud cynnydd dros gyfnod o amser, fel rwyf wedi’i nodi, ac mae hynny’n ffaith ddiamheuol. Yr her, yn enwedig ar ôl y pandemig, yw ble rydym yn gweld mwy o anweithgarwch economaidd. Rhesymau sy'n ymwneud ag iechyd yw'r ffactor mwyaf y mae pobl yn eu nodi fel rheswm pam eu bod yn economaidd anweithgar, ac fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, y rheswm mwyaf o fewn y rhesymau iechyd hynny mewn gwirionedd yw iechyd meddwl a llesiant. Felly, mae gennych her nad yw bob amser yn gysylltiedig o reidrwydd ag amseroedd aros am driniaeth a chymorth. Rydym yn gwneud ystod o wahanol ymyriadau i geisio cynorthwyo pobl sy’n economaidd anweithgar i ddychwelyd i’r gwaith. Mae a wnelo â'r hyn rydym yn ei wneud ar ofal plant a mynediad at hyfforddiant. A’r realiti yw ein bod fel arfer yn cefnogi pobl sydd ymhellach i ffwrdd o’r farchnad lafur, sydd angen mwy o gymorth i ddod yn ôl i fod yn barod am swydd. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn llawer mwy tebygol o fod yn weithgar yn agosach at y farchnad lafur hefyd. A dweud y gwir, credaf y byddai mwy o gydgysylltu yn yr hyn a wnawn yn ddefnyddiol iawn. Mae’r agwedd gadarnhaol yn y berthynas â'r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch Tillery Valley Foods, er enghraifft, yn rhywbeth y byddai’n llawer gwell gennyf ei weld nid yn unig pan fo'n argyfwng, ond yn ein perthynas fwy rheolaidd. Roedd hynny’n cynnwys dewisiadau polisi a dewisiadau rheoli ymarferol, a dyna pam fy mod yn obeithiol am y sgwrs barhaus ynghylch rhyngweithio â’r system fudd-daliadau ar gyfer y dyfodol, gan y credaf y byddai’n gwneud gwahaniaeth i helpu i gefnogi pobl yn ôl i fyd gwaith.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Tom Giffard.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Yr wythnos hon, gwelsom Olew dros Gymru yn tynnu allan o’u perthynas ag Undeb Rygbi Cymru, gan nodi pryderon ynghylch eu llywodraethiant. Wrth gwrs, fe siaradoch chi â’n pwyllgor yn ddiweddar i fynd i’r afael â materion llywodraethu yn URC, ac un o’r prif bynciau trafod oedd y llythyr a gawsoch gan AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi, ar 9 Mai, yn nodi ei phryderon ynghylch honiadau o ddiwylliant dwfn o rywiaeth yn URC. Mewn ymateb i gwestiwn fy nghyd-Aelod Heledd Fychan yn gofyn beth roeddech chi'n ei wybod a phryd, fe gyfeirioch chi'n syth at lythyr Tonia ar 9 Mai, ac yna fe gyfeirioch chi at honiadau a oedd eisoes yn gyhoeddus, a dilyn hynny drwy ddweud,

'yn gyffredinol, dyna oedd hyd a lled fy ngwybodaeth'.

Fodd bynnag, rydym wedi gweld datgeliad rhyddid gwybodaeth gan eich swyddfa weinidogol sy'n dangos eich bod wedi ceisio cyfarfod â Tonia Antoniazzi wythnosau cyn derbyn ei llythyr. Anfonwyd yr e-bost ar 22 Rhagfyr gan rywun yn eich swyddfa breifat yn gofyn,

'a fyddech yn hoffi inni ddal yn ôl am y tro neu geisio cynnig slot hirach iddo'—

Steve Phillips—

'ddydd Mercher gyda'r bwriad y byddwch yn cyfarfod â Tonia cyn hynny, gobeithio?'

Nawr, mae’r bwriad i drefnu cyfarfod ag URC ar ôl cyfarfod â Tonia yn awgrymu eich bod yn ymwybodol o’i phryderon cyn ichi gael y llythyr hwnnw, rhywbeth na sonioch chi amdano yn eich ymddangosiad yn y pwyllgor. Felly, a wnewch chi gadarnhau bod y cyfarfod hwnnw wedi digwydd a pha ymwybyddiaeth a oedd gennych o bryderon Tonia cyn cael ei llythyr ar 9 Mai, a sut rydych yn cysoni’r dystiolaeth a roesoch i’r pwyllgor â’r wybodaeth newydd hon?

Mae’r cyfarfod a gefais gyda Tonia Antoniazzi wedi'i gofnodi, a byddai hwnnw wedi bod ar gael o’r cais rhyddid gwybodaeth, fel y dywedwch. Nid oes unrhyw gyfrinach am hynny. Credaf y byddai cofnodion y cyfarfod hwnnw wedi’u crybwyll yn y llythyrau, yn yr wybodaeth a roddais i’r pwyllgor, o’r cais dilynol am amserlen a manylion y cyfarfod hwnnw. Felly, roedd Tonia Antoniazzi wedi cysylltu â mi yn awyddus i drafod y materion hyn. Cefais y cyfarfod. Y rheswm pam roeddwn am ohirio’r cyfarfod gyda Steve Phillips oedd am fy mod yn gobeithio y byddai’r cyfarfod gyda Tonia Antoniazzi, y gofynnais iddi ysgrifennu ataf yn ei gylch wedyn, wedi darparu'r manylion roeddwn yn gofyn amdanynt, ac ni wnaeth. Dyna pam y gofynnais iddi ysgrifennu ataf, a phan ddaeth y llythyr, nid oedd y llythyr ychwaith yn cynnwys yr wybodaeth y dymunwn ei chael ynghylch y manylion.

Diolch, Weinidog. Nid yw hynny'n egluro pam na wnaethoch chi nodi hynny'n glir yn eich ymddangosiad yn y pwyllgor. Fe ddywedoch chi eich bod wedi derbyn y llythyr hwnnw; ni wnaethoch unrhyw gyfeiriad at gyfarfod blaenorol. Ond roedd y llythyr hwnnw a'ch ymddangosiad yn y pwyllgor yn canolbwyntio ar adolygiad nas cyhoeddwyd o gêm y menywod, ac yn yr ymddangosiad hwnnw, fe ddywedoch chi eich bod eisoes wedi galw am gyhoeddi'r adolygiad o gêm y menywod, rhywbeth y soniodd llythyr Tonia amdano hefyd. Ac yng nghyfarfod y pwyllgor, fe ddywedoch chi,

'Cefais sgyrsiau gydag URC ynghylch pam na chyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw'.

Felly, gofynnais am hynny hefyd, a gofynnais am yr holl drawsgrifiadau o’r cyfarfodydd rhwng URC a chi, rhwng yr adeg pan ddaethoch chi'n Ddirprwy Weinidog a phan ddarlledwyd rhaglen ddogfen y BBC. Felly, a wnewch chi egluro pam nad yw cofnodion manwl y cyfarfodydd hynny'n cynnwys unrhyw sôn amdanoch chi'n galw am gyhoeddi'r adolygiad cyn y darllediad?

13:55

Iawn. Felly, credaf mai'r hyn a ddywedais yn y pwyllgor—ac rwy’n fwy na pharod i fynd yn ôl dros y trawsgrifiad, ond yr hyn y gwn i mi ei ddweud yn y pwyllgor oedd fy mod yn cael sgyrsiau gyda’n holl randdeiliaid, boed gydag URC neu eraill, lle mae rhai ohonynt yn sgyrsiau ffurfiol a rhai ohonynt yn anffurfiol, rhai ohonynt yn cael eu cofnodi a rhai nad ydynt yn cael eu cofnodi, rhai ohonynt yn cynnwys swyddogion yn unig a rhai ohonynt yn fy nghynnwys innau. A chynhaliwyd nifer o'r cyfarfodydd hynny heb eu cofnodi, cyfarfodydd anffurfiol, os mynnwch, mewn gemau rygbi, pan oeddwn yng nghwpan y byd yn Seland Newydd, pan gawsom drafodaethau amrywiol pan oeddwn yn yr un man â Steve Phillips, a chynhaliwyd cyfarfodydd hefyd heb i mi fod yno, ond gyda swyddogion yn siarad ar fy rhan. Nawr, nid yw'r rheini'n gyfarfodydd a gofnodir. Ond ym mhob un o’r trafodaethau hynny, trafodwyd mater gêm y menywod a’r adroddiad ar gêm y menywod a materion eraill. Felly, nid yw pob un o’r rheini wedi'u cofnodi mewn cofnodion ffurfiol.

Diolch. Mae'n amlwg yn gyd-ddigwyddiad nad oes cofnod swyddogol ohonoch yn galw am gyhoeddi'r adroddiad hwnnw cyn i'r rhaglen ddogfen gael ei chyhoeddi—neu ei darlledu, dylwn ddweud. Fel y dywedaf, nid yw cofnodion y cyfarfodydd yn dweud ichi alw am hynny erioed. Ond er mwyn osgoi’r dryswch y credaf ein bod wedi dod ar ei draws yma, gallech fod wedi gwneud y galwadau hynny’n gyhoeddus, ac yn y pwyllgor, fe ddywedoch chi, 

'pe bawn wedi dweud rhywbeth yn gyhoeddus bryd hynny, byddai wedi bod ar y sail nad oedd URC yn gwneud unrhyw beth i fynd i'r afael â'r materion hyn, ond roeddent yn gwneud rhywbeth.'

Ond Weinidog, nid wyf yn siŵr a fyddai’r bobl a oedd yn dioddef yn sgil y diwylliant dwfn o rywiaeth yn URC yn cytuno â chi eu bod yn mynd i’r afael â’r mater yn ddigonol. A dweud y gwir, credaf efallai eich bod wedi bod yn rhy awyddus i ddiogelu enw da URC, hyd yn oed yn ystod eu cyfnod mwyaf tymhestlog. Gallech fod wedi dweud yn gliriach ac yn gynt eich bod yn ymwybodol o’r materion a godwyd gan Tonia Antoniazzi, ond ni wnaethoch. Gallech fod wedi galw’n gyhoeddus am gyhoeddi’r adolygiad o gêm y menywod, ond ni wnaethoch. A gallech fod wedi gwneud y galwadau hynny'n breifat, ond mae cofnodion y cyfarfodydd hefyd yn awgrymu na wnaethoch hynny. A allai fod yn wir, Ddirprwy Weinidog, fod Llywodraeth Cymru yn rhy awyddus i amddiffyn ei pherthynas glos ag URC, a bod menywod wedi gorfod dioddef drwy gydol eich diffyg gweithredu a’ch diffyg tryloywder?

Mae'n rhaid imi ddweud, Tom, credaf fod hwnnw'n gyhuddiad hollol warthus, i awgrymu y byddwn yn gwneud unrhyw beth yn weithredol naill ai i amddiffyn sefydliad a oedd yn gweithredu yn y ffordd y cawsom wybod wedyn eu bod yn gweithredu—. Yr hyn rydych yn sôn amdano oedd yr adroddiad ar gêm y menywod. Nid dyna’r adroddiad ar y materion a ddarlledwyd yn adroddiad y BBC. Roedd hyn yn ymwneud â gêm y menywod, ac roedd camau'n cael eu cymryd ar gêm y menywod. Fe wnaethant benodi Nigel Walker. Rhoddwyd contractau parhaol a chontractau rhyngwladol i fenywod, ac felly, am y tro cyntaf, roeddent yn broffesiynol. Roedd yr holl bethau hynny'n digwydd, a'r pethau hynny a oedd yn yr adroddiad ar gêm y menywod. Ni chafodd y materion a godwyd yn adroddiad y BBC eu crybwyll yn yr adroddiad hwnnw. Felly, hyd yn oed pe bai'r adroddiad hwnnw wedi’i gyhoeddi, a hyd yn oed pe bawn i wedi galw amdano, ni fyddai wedi datgelu'r wybodaeth a gawsom wedyn yn adroddiad y BBC. Felly, rwy'n meddwl o ddifrif, os ydych yn awgrymu fy mod i mewn unrhyw ffordd yn cydgynllwynio gydag URC i guddio hyn—credaf y dylech feddwl yn ofalus am hynny, a'i dynnu'n ôl.

Yr hyn y byddwn hefyd yn ei ddweud yw’r hyn a ddywedais wrthych yn y pwyllgor, sef fy mod yn ymwybodol o gymaint ag unrhyw un arall yn Siambr y Senedd hon a thu hwnt tan i raglen y BBC gael ei darlledu. Ni chefais unrhyw gwestiwn ysgrifenedig, cwestiwn llafar, llythyr nac unrhyw gyswllt gan unrhyw Aelod o’r Senedd hon, unrhyw AS heblaw am Tonia Antoniazzi, unrhyw aelod o’r cyhoedd, unrhyw aelod o staff URC, staff chwarae neu staff cyflogedig, yn codi unrhyw un o'r materion y soniwch amdanynt nawr gyda mi'n uniongyrchol. Nawr, yr hyn sydd gennyf i'w ddweud yw, pe bai pob un o'r materion hynny'n gyhoeddus yn y ffordd rydych chi'n awgrymu ac y dylwn fod wedi gwneud rhywbeth yn ei gylch, mae hynny'n berthnasol i bob un ohonoch yn y Siambr hon hefyd, gan fod pob un ohonoch yn gwybod cymaint â minnau.

Diolch. Fel y byddwch yn ymwybodol, ychydig dros fis yn ôl, cyhoeddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau'r Brycheiniog y byddai dim ond yn defnyddio'r enw Cymraeg o hyn ymlaen, gan nodi ei fod yn ffordd o ddathlu diwylliant a threftadaeth yr ardal. Mae hyn yn dilyn, wrth gwrs, Parc Cenedlaethol Eryri yn dilyn yr un trywydd, a hefyd Amgueddfa Cymru, sydd yn arddel yr enw Cymraeg, fel rhan o’u brand diweddaraf, yn unig. Yn bersonol, dwi'n croesawu’r newidiadau hyn yn fawr, er dydy o ddim yn newid yn bersonol imi, na nifer o bobl eraill yng Nghymru, oherwydd yr enw Cymraeg dwi wedi ei ddefnyddio drwy gydol fy oes.

Fe fyddwch yn ymwybodol, dwi’n siŵr, fod grŵp ymgyrchu lleol wedi ei ddechrau gyda thua 50 o fusnesau yn galw am yr enw Saesneg i gael ei adfer, a hynny er gwaethaf y parc cenedlaethol yn ei gwneud yn glir bod hyn dim ond yn berthnasol i’r parc ei hun a bod rhwydd hynt i unigolion arddel yr enw y dymunant ei ddefnyddio. Fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am dwristiaeth, sut ydych chi’n ymateb i’r ddadl sydd wedi ei rhoddi gan rai bod y defnydd o’r Gymraeg yn mynd i niweidio twristiaeth a busnesau lleol?

14:00

Wel, mae'n nonsens llwyr, wrth gwrs. Ac mae gan y sefydliadau hynny bob hawl i ddefnyddio'r enwau y maent yn credu sy'n briodol. Mae'r rhain yn sefydliadau Cymreig sy'n cynrychioli tirnodau Cymreig a pharciau cenedlaethol Cymreig, ac mae ganddynt enwau Cymraeg. Nid yw hynny'n rhwystro unrhyw un rhag defnyddio eu cyfieithiadau Saesneg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Felly, o'm safbwynt i, rwy'n credu bod gennym bethau pwysicach i boeni amdanynt nag a ddylai parc cenedlaethol Cymreig ddefnyddio enw Cymraeg i ddisgrifio ei hun.

Diolch yn fawr iawn. A diolch am yr ateb diamwys hwnnw, oherwydd dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig gwahaniaethu. Mae nifer o fusnesau sydd wedi galw am hyn sydd ddim yn arddel enwau dwyieithog eu hunain, chwaith, a dwi'n meddwl bod yn rhaid iddyn nhw, cyn galw, feddwl hefyd beth mae hynny'n ei olygu o ran eu rôl nhw o ran hyrwyddo'r ddwy iaith genedlaethol Cymru.

Gaf i ofyn, felly—? O edrych yn ehangach o ran hyrwyddo'r Gymraeg wrth hyrwyddo Cymru, fe fyddwch chi'n ymwybodol, Dirprwy Weinidog, fel pawb, gobeithio, yn y Siambr hon, fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf yn sir Gaerfyrddin. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i'w mynychu, a gobeithio eich gweld chithau yna hefyd. Ac ym mis Awst, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd. Fel rhan o strategaeth twristiaeth Llywodraeth Cymru, pa bwyslais sydd yn cael ei roi ar y gwyliau cenedlaethol hyn o ran hybu Cymru yn rhyngwladol? Ac oes mwy y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn fwy gweledol yn ymgyrchoedd Croeso Cymru er mwyn denu ymwelwyr i Gymru?

Unwaith eto, rwy'n credu bod y rhain i gyd yn heriau teg, Heledd, ac mae gennym strategaeth glir iawn ar hyrwyddo'r Gymraeg fel rhan o bopeth a wnawn ym maes twristiaeth, oherwydd rydym yn ystyried bod y Gymraeg yn rhan fawr iawn o'r hyn ydym. Nawr, yn bersonol, rwy'n gresynu na allaf siarad Cymraeg yn rhugl; rwy'n gallu deall mwy nag y gallaf ei siarad, felly pan ydych yn siarad Cymraeg a'ch bod yn meddwl nad wyf yn gallu eich clywed na'ch deall chi, rwy'n gallu. [Chwerthin.] Ni allaf ei siarad yn dda iawn dyna'i gyd. Ond mae'n un o'r pethau hynny. Mae'n wir gydag Eidaleg hefyd; rwyf wedi dysgu Eidaleg ac rwy'n gallu gwrando ar Eidaleg ac rwy'n gallu ei chlywed a'i deall, ond nid wyf yn gallu ei siarad. Rwyf angen gwybod sut y daw allan o fy ngheg yn iawn. Ond y pwynt rwy'n ei wneud yw ei bod yn gwbl hanfodol i'n cynnig twristiaeth. Ac mae'n un o'r pethau y mae pobl yn dwli arnynt pan fyddant yn dod i Gymru—mae'n ein gwneud yn wahanol i weddill y Deyrnas Unedig, onid yw. Mae pobl yn dod yma i gael profiad Cymreig. Mae gennym ein tirweddau cenedlaethol a'n traethau a'n llynnoedd a'n mynyddoedd a'r holl leoedd gogoneddus hyn i ymweld â hwy, ond mae gennym hefyd iaith unigryw iawn y mae pobl yn hoffi ei chlywed ac yn hoffi bod yn rhan ohoni. Felly, bydd hynny'n parhau i fod yn gwbl ganolog i'n gwaith yn hyrwyddo twristiaeth a'n marchnata. Ac fel chi, mi fyddaf yn yr Eisteddfod yr wythnos nesaf. Byddaf yn mynychu cynhadledd FelMerch ddydd Mercher, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny. Diolch yn fawr. 

Cefnogi Twristiaeth

3. Sut mae'r Gweinidog yn cefnogi busnesau twristiaeth yng nghanolbarth Cymru? OQ59551

Fe ddywedwn wrthych chi, pe gallwn ddod o hyd i fy ateb. [Chwerthin.] Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Russell.

Mae ein strategaeth, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025', yn nodi ein gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer y sector ledled Cymru. Mae gan ganolbarth Cymru le amlwg yng ngweithgareddau hyrwyddo Croeso Cymru ac yn ein rhaglen buddsoddi cyfalaf ar gyfer twristiaeth.

Diolch yn fawr am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn Wythnos Twristiaeth Cymru yr wythnos ddiwethaf, gan ymweld â dau fusnes yn fy etholaeth. Y cyntaf oedd Plas Robin Rural Retreats yn Llandysul, busnes newydd a sefydlwyd yn ddiweddar, sy'n cynnig llety o safon a chrefftwaith gwych, ac sydd â phwyntiau gwerthu unigryw i'w busnes. Hefyd, parc carafanau Smithy Park yn Aber-miwl, yr ymwelais ag ef o'r blaen. Mae wedi bod yno ers y 1960au. Pan godais yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'u blaenau gyda hwy, dywedodd y ddau fusnes wrthyf—heb unrhyw anogaeth oddi wrthyf fi, dylwn ychwanegu—eu bod yn bryderus am y dreth dwristiaeth. Felly, Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthyf sut y bydd busnesau fel y ddau fusnes hynny'n elwa o dreth dwristiaeth, oherwydd maent yn ofni mai dim ond anfanteision fydd yn deillio ohoni?

14:05

Wel, byddant yn elwa o ardoll dwristiaeth. Ardoll yw hon, Russell. A'r rheswm y byddant yn elwa o ardoll ymwelwyr yw y bydd yn cael ei defnyddio i wella'r amgylchedd y mae'r busnesau hynny'n gweithredu ynddo. Rydym wedi bod drwy hyn sawl gwaith. Gwn fod Aelodau o'ch meinciau chi yn codi ac yn gofyn yr un cwestiwn mewn gwahanol ffyrdd bob wythnos—[Torri ar draws.] Yn wir. Ond yr un cwestiwn sy'n codi bob wythnos: bydd Sam yn gofyn un yn nes ymlaen ac rwy'n siŵr y bydd yn cyffwrdd â'r un meysydd yn union, a chefais un gan Tom y tro diwethaf. Felly, wyddoch chi, gallwch barhau i ofyn y cwestiynau mewn cymaint o wahanol ffyrdd a chymaint o weithiau ag y dymunwch, ond mae'r ateb yn dal yn mynd i fod yr un peth.

Felly, byddwn yn cael ardoll ymwelwyr, oherwydd roedd yr ardoll ymwelwyr yn rhan o'n hymrwymiad maniffesto, mae'n rhan o'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, a bydd yn cael ei gyflawni. Ond rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir iawn nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud eto mewn perthynas â'r lefel y byddwn yn gosod yr ardoll, ac nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud eto ynglŷn â sut y caiff ei wario. Ond rwy'n sicr yn disgwyl i'r ardoll dwristiaeth honno gael ei neilltuo gan awdurdod lleol sy'n dewis ei chael—ac nid yw'n orfodol ar unrhyw awdurdod lleol—sy'n dewis cael ardoll ymwelwyr i gefnogi'r economi ymwelwyr yn yr ardal honno. Dyna yw ei diben.

Yn yr un digwyddiad y sonioch chi amdano, yr wythnos diwethaf, Russell, fe siaradais â gweithredwyr twristiaeth yno hefyd ac fe glywais safbwyntiau amrywiol. Ni chlywais y math o farn gyffredinol a glywn gan eich meinciau chi fod pawb yn y diwydiant twristiaeth yn gwrthwynebu hyn. Mewn gwirionedd, siaradodd un gweithredwr â mi mewn termau disglair iawn am yr hyn y credai ein bod yn ceisio ei wneud a pha mor uchelgeisiol ydoedd, a bod ei archebion wedi cynyddu 30 y cant mewn gwirionedd ar gyfer yr haf hwn o gymharu â chyn y pandemig. Felly, wyddoch chi, gadewch inni gael rhywfaint o gydbwysedd yn y ddadl hon oherwydd nid yw pawb yn y sector twristiaeth yn rhannu'r un farn â'r Aelodau ar eich meinciau chi.

Weinidog, wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o'r cymorth ariannol sylweddol a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru i weithredwyr twristiaeth yng nghanolbarth Cymru dros nifer o flynyddoedd. Fel Russell George, ymwelais ag atyniadau pwysig yr wythnos diwethaf, atyniadau sy'n denu pobl i ganolbarth Cymru a gogledd Cymru, gan gynnwys castell y Waun, lle mae yna reolwr cyffredinol newydd gyda syniadau gwych ar gyfer creu gosodiadau newydd ar y safle, a hefyd Cae Ras Bangor-is-y-coed, a sicrhaodd grant pwysig iawn gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, yn wahanol i gaeau ras yn Lloegr, a gafodd gynnig benthyciadau'n unig gan Lywodraeth y DU. Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi y gallwn fod yn hyderus am ffyniant y sector twristiaeth yn y dyfodol os yw'r gefnogaeth gywir ar gael i alluogi gweithredwyr atyniadau i arloesi ac adnewyddu, fel ein bod yn denu mwy o ymwelwyr i'r canolbarth a rhannau eraill o Gymru yn y dyfodol?

Ie, diolch i Ken Skates am y cwestiwn atodol hwnnw, ac ydw, rwy'n hyderus iawn ac yn rhannu ei hyder. Rwy'n credu ei bod yn dda pan fo pobl fel chi, Ken, yn siarad am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru yn hytrach na'r math o agwedd gul a glywn oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr ynglŷn â sut rydym yn ceisio ymdrin â'r diwydiant twristiaeth a'i hyrwyddo a'i ehangu yng Nghymru. Mae Cymru, fel y gwyddom i gyd, yn gyrchfan antur, mae ganddi safleoedd treftadaeth y byd, mae ganddi dirweddau naturiol eithriadol, mae ganddi sîn ddiwylliannol ffyniannus, ac mae llety hefyd yn rhan o'r profiad hwnnw. Mae gennym fwyd a diod blasus.

Ac mewn gwirionedd, pan oeddwn ar Ynys Manaw yn ddiweddar ar gyfer y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i ddiwydiannau creadigol, fe wnaethom ymweld â distyllfa jin—ni wnaethom aros yn hir. [Chwerthin.] Fe wnaethom ymweld â distyllfa jin a oedd yn hollol wych. Distyllfa Fynoderee—dylwn eu henwi. Tra oeddwn yno, fe wnaethant holi a oedd rhywun o Gymru yn yr ystafell. Fe godais fy llaw, ac roeddent yn llawn clod am y cynnig bwyd a diod sydd gan Gymru, ac ym mhob sioe y byddent yn mynd iddi i hyrwyddo eu cynnyrch, ni allent gredu pa mor dda oedd cynnig bwyd a diod Cymru. Felly, mae'n hen bryd inni ddechrau brolio am hyn yn hytrach na'i fychanu, oherwydd rydym yn parhau i fuddsoddi mewn atyniadau twristiaeth yng ngogledd Cymru, ac mae Ken wedi enwi nifer yn barod. Hefyd, rydym newydd orffen giât fawreddog y Brenin yng nghastell Caernarfon—buddsoddiad o £4 miliwn—a buddsoddiad arall o £5.4 miliwn yn yr amgueddfa bêl-droed newydd yng ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi drwy ein Pethau Pwysig a'n cyrchfannau denu ymwelwyr. A chan eich bod yn Aelod yng ngogledd-ddwyrain Cymru, Ken, byddwn ar fai yn peidio â siarad am ein huchelgais ar gyfer Cymru wrth inni barhau â Blwyddyn y Llwybrau a gweithio'n rhyngwladol i wneud y mwyaf o'r ymwybyddiaeth a godwyd drwy Gwpan y Byd y llynedd a'r rhaglen Welcome to Wrexham

14:10
Strategaeth Lled-ddargludyddion y DU

4. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar strategaeth lled-ddargludyddion arfaethedig y DU? OQ59570

Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi cynnal trafodaethau swyddogol â Llywodraeth y DU, ond nid ar y lefel o fanylder y byddem wedi'i ddymuno. Rwy'n siomedig ynghylch y diffyg ymgysylltiad gweinidogol hyd yma, gan gynnwys ar ôl lansio'r strategaeth yn hwyr. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i weithio gyda ni i hyrwyddo sector lled-ddargludyddion Cymru, yn enwedig ein clwstwr cyfansawdd, er budd yr economi yma yng Nghymru a'i heffaith ehangach ar draws y DU. 

Diolch, Weinidog. Wythnos yn ôl i heddiw fe gyhoeddoch chi eich llythyr at Lywodraeth y DU yn mynegi'r farn fod buddsoddiad yng Nghymru mewn perygl oherwydd oedi parhaus Llywodraeth y DU i gyhoeddi strategaeth lled-ddargludyddion y DU. Weinidog, mae'n amlwg fod gennych ddylanwad yng nghoridorau 10 Stryd Downing, oherwydd lai na 48 awr yn ddiweddarach roedd y Prif Weinidog yn cyhoeddi strategaeth ei Lywodraeth ar led-ddargludyddion yn Japan. Serch hynny, mae etholwyr yn Islwyn sy'n gweithio yn y diwydiant hwn wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod wedi bod yn poeni'n ddifrifol am eu cyflogaeth yn y dyfodol gyda'r ansicrwydd parhaus—[Torri ar draws.]—rwy'n falch eu bod yn gweld hyn yn ddoniol—yn Newport Wafer Fab. Weinidog, mae cymunedau Cymoedd Gwent yn Islwyn yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol. Mae dinas Gwent, Casnewydd, yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel yn y sector hanfodol hwn, sy'n cynhyrchu rhannau ar gyfer microsglodion ym mhopeth o ffonau clyfar i dechnoleg filwrol. Ers cyhoeddiad y Prif Weinidog ac ymweliad Chloe Smith AS â Chasnewydd ddydd Gwener diwethaf, pa ddeialog ystyrlon y mae Llywodraeth y DU wedi'i chael gyda Llywodraeth Cymru ar y mater allweddol hwn, a beth yw asesiad cychwynnol Llywodraeth Cymru o'u strategaeth ar gyfer economi a phobl Cymru?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn a'r pwyntiau pwysig ynghylch dyfodol y sector lled-ddargludyddion yma yng Nghymru, a'i bwysigrwydd allweddol fel rhan o'r dyfodol i economi'r DU hefyd.

Rwyf am ymdrin yn gyntaf â'r mater penodol mewn perthynas â Nexperia. Mae'n fusnes sydd wedi'i leoli yn etholaeth Jayne Bryant, ond rwy'n cydnabod bod yr ardal teithio i'r gwaith yn berthnasol i nifer o'r Aelodau yn y Siambr hon, gan gynnwys Islwyn wrth gwrs. Nid wyf erioed wedi gofyn am yr wybodaeth a oedd yn sail i'r asesiad diogelwch cenedlaethol, oherwydd fe wyddwn na fyddai'n cael ei ddarparu i mi. Felly, roeddwn bob amser yn canolbwyntio ar fod eisiau penderfyniad a sicrwydd i'r sector a chynllun ar gyfer Nexperia a'u gweithlu. Ac ar ôl gwneud penderfyniad a chymryd amser hir i wneud y dewis, rwy'n siomedig na fu cynllun. Rwy'n credu bod yna ragdybiaeth naïf, pan fyddai'r safle ar gael i'w gwerthu, y byddai rhywun yn dod i mewn yn awtomatig ac yn ei brynu. Ac mewn gwirionedd, heb gynllun a dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd gyda'r contractau ar sail ehangach, nid yw hynny wedi digwydd. Mae angen i Lywodraeth y DU barhau i fod yn weithgar yn y maes hwnnw i sicrhau nad yw Cymru'n colli'r swyddi hynny. 

Ar y pwynt ehangach ynghylch cyhoeddi'r strategaeth lled-ddargludyddion yn hwyr, mae wedi bod ar fin digwydd sawl gwaith, ac nid wyf erioed wedi deall pam ei bod yn yr adran roedd ynddi, mewn unrhyw ystyr dda. Ond nawr bod gennym y strategaeth hon, mae'n rhoi rhywfaint o sicrwydd o leiaf. Serch hynny, y broblem yw, er bod £1 biliwn o fuddsoddiad yn swnio'n dda, £1 biliwn dros 10 mlynedd ydyw. Mae hynny'n rhy ychydig ac yn rhy araf. Ni fydd yn dal i fyny â'r dewisiadau buddsoddi sylweddol sy'n cael eu gwneud yn yr Unol Daleithiau ac ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Y perygl go iawn yw y byddwn yn gweld dewisiadau buddsoddi yn symud i rannau eraill o'r UE a'r Unol Daleithiau.

Yr ochr gadarnhaol, fodd bynnag, yw bod gennym asedau sylweddol yma. Dyna pam fod KLA, y soniais amdanynt yn gynharach, wedi gwneud eu buddsoddiad sylweddol yn y clwstwr. Y rheswm uniongyrchol am hynny oedd oherwydd ein bod yn weithgar a'n bod wedi helpu i alluogi eu buddsoddiad yn y sector. Rwy'n dal i feddwl bod mwy y gallwn ei wneud, ond rydym yn rhoi ein mantais gystadleuol i un ochr drwy beidio â buddsoddi'n iawn ynddo a sicrhau bod ymgysylltiad ystyrlon â Llywodraeth Cymru, a'r brifddinas-ranbarth yn wir. Nid wyf wedi cael unrhyw fath o drafodaeth weinidogol ar y rhan allweddol hon o'r economi a'r hyn y gallai ei olygu, ac nid yw'r brifddinas-ranbarth wedi cael trafodaeth o'r fath ychwaith. Siaradais yn uniongyrchol â Jane Mudd, arweinydd Casnewydd, ac Anthony Hunt, arweinydd Torfaen, sy'n gadeirydd y brifddinas-ranbarth. Rydym eisiau cael sgwrs bragmatig a synhwyrol am yr hyn y gall pob un ohonom ei wneud i hyrwyddo'r sector, ond dylai'r sgwrs honno ddechrau gydag un ohonynt yn dangos diddordeb mewn siarad gyda ni a gweithio gyda ni.

14:15

Diolch i Rhianon Passmore am ofyn y cwestiwn. Mae'n hanfodol ein bod yn croesawu'r cyfleoedd byd-eang y mae'r diwydiant lled-ddargludyddion uwch yn eu cynnig i Gymru yn y dyfodol, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU, yn siarad â gwledydd fel Japan. Bydd yn gwbl allweddol i'n strategaeth lled-ddargludyddion yn y dyfodol. Drwy hyrwyddo cynhyrchiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, drwy IQE yng Nghasnewydd, gan gysylltu â chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf Cymru, CSconnected, a phrif fuddsoddiad Llywodraeth y DU yn y Catapwlt lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf, mae Cymru mewn sefyllfa strategol i fod yn un o'r arweinwyr byd-eang yn y diwydiant hwn.

Fodd bynnag, Weinidog, roeddwn braidd yn siomedig wrth ddarllen eich 'Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru', nad oes llawer o ffocws uniongyrchol ar y maes lle byddwn wedi meddwl y dylai fod wedi bod yn fawr ac yn feiddgar. A thrwy gydol yr adroddiad, mae yna adrannau dro ar ôl tro yn datgan amcanion a chamau gweithredu, ond ni allwch ddod o hyd i unrhyw gamau gweithredu. Ac felly fy nghwestiwn i yw: yn y lle hwn, sut rydym yn monitro cynlluniau cyflawni gweithredoedd, fel symud ymlaen gyda'r strategaethau lled-ddargludyddion cyfansawdd? Sut rydym ni, a sut rydych chi, yn gwerthuso ac yn mesur cynnydd yn erbyn eich amcanion a'ch gweithredoedd? Oherwydd yr hyn a welaf ers imi fod yma, yn anffodus, yw bod y Llywodraeth yn rhagorol am ysgrifennu cynlluniau a strategaethau, ond ei bod yn aml yn wan mewn perthynas â chyflawni a sicrhau canlyniadau. Diolch.

Nid wyf yn credu bod hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl o ran ein cefnogaeth i weithgynhyrchu. Mae gennym sector sy'n fwy fesul pen o'r boblogaeth na'r sector ar draws y DU. Mae'n cynnwys 150,000 o swyddi, mae'n 16 y cant o'n gweithgarwch economaidd; tua 9 y cant ydyw yng ngweddill y DU. Ac os gofynnwch i'r sector eu hunain, maent yn cydnabod y gefnogaeth sy'n cael ei darparu gan y Llywodraeth hon a'r ffaith bod gennym ragolygon a chynllun ar gyfer y dyfodol.

Mae'r cynllun gweithredu gweithgynhyrchu cychwynnol, a gyflawnwyd gan Ken Skates fel Gweinidog yr Economi ar y pryd, wedi cael ei adnewyddu—ymgysylltiad uniongyrchol â'r sector—ac maent yn gadarnhaol am y cynllun sydd gennym i fynd i'r afael â nifer o heriau allweddol ac i sicrhau cyfleoedd. Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn rhan o hynny. Ond wrth gwrs, ni allem siarad am strategaeth benodol ar gyfer y sector, oherwydd roeddem yn dal i aros am strategaeth y DU ei hun. Roedd wedi bod ar y ffordd ers misoedd lawer cyn inni lansio'r cynllun gweithredu gweithgynhyrchu. Dylai fod wedi cael ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn flaenorol o leiaf.

Nawr, mae yna ganlyniadau uniongyrchol i'r ffaith bod Gweinidogion Llywodraeth y DU yn newid yn gyson, ac mae'n ddiymwad fod hyn yn un ohonynt. Nid ydym wedi cael cynllun gan Lywodraeth y DU i allu gweithio gydag ef. Mae hyd yn oed cynllun nad ydym yn cytuno ag ef yn well na pheidio â chael unrhyw gynllun nac unrhyw strategaeth o gwbl. Yr hyn rydym yn ei wneud nawr yw ceisio gwneud y gorau o'r hyn sydd gennym. Bydd lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r sector lled-ddargludyddion ehangach yn allweddol bwysig mewn ystod o feysydd gweithgynhyrchu. Rydym bob amser wedi cydnabod hynny. Mae hynny'n cael ei gydnabod yn y sector. Bydd mwy o sicrwydd ynghylch lefel y buddsoddiad wrth sefydlu'r sector yn helpu pob un ohonom i ysgogi a manteisio ar y cyfleoedd sydd gennym, ac i sicrhau ein bod yn gwneud hynny tra byddwn yn dal i fod mewn sefyllfa lle rydym yn arwain yn fyd-eang gyda'r sector cyfansawdd. Gellid dadlau nad oes unrhyw sicrwydd y byddwn yn dal yno ymhen tair blynedd, ac mewn gwirionedd, dyna pam fod cynllun y DU o fuddsoddi £1 biliwn dros 10 mlynedd yn wirioneddol bryderus, am ei fod yn rhy ychydig ac yn rhy araf. Gallem ildio ein manteision.

Nawr, ni ddylai fod lle i wleidyddiaeth bleidiol yn y drafodaeth honno; realiti cael cynllun nad yw'n cyfateb i anghenion buddsoddi'r sector yw hynny, a cheir rhannau eraill o'r byd i fynd iddynt. Felly, o ran y gyllideb, neu beth bynnag y maent yn galw datganiad yr hydref, rwy'n gobeithio y gwelwn lawer mwy o ran lefel realistig o fuddsoddiad a chymorth, i sicrhau bod yna swyddi da yma yng Nghymru, ac mewn rhannau eraill o'r DU yn wir.

Cysylltiadau Band Eang

5. Pa gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella cysylltiadau band eang i fusnesau yng Nghanol De Cymru? OQ59567

Diolch am y cwestiwn.

Nid yw cyfrifoldeb dros fand eang wedi'i ddatganoli i Gymru, ond mae busnesau ledled de Cymru eisoes yn elwa'n uniongyrchol o'n darpariaeth band eang gwerth £56 miliwn. Mae ein cynlluniau Allwedd Band Eang Cymru a chronfa band eang lleol hefyd yn darparu grantiau i helpu i wella cysylltiadau band eang i fusnesau.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Ond mae yna amryw o fusnesau yng nghanol tref Pontypridd wedi cysylltu â mi, fel un o'u Haelodau rhanbarthol, parthed diffyg band eang ar gael yng nghanol y dref, sydd wedi effeithio ar eu busnesau. Mae nifer o'r busnesau yma hefyd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd yn 2020. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymchwilio i mewn i hyn ac yn cadarnhau bod problem o ran isadeiledd, sy'n golygu bod yna ddiffygion a dim opsiwn ar gael i wella hyn. Felly, rydych chi wedi amlinellu bod rhai pethau ar gael. Gaf i ofyn yn fwy penodol o ran Llywodraeth Cymru, sut ydyn ni'n mynd i allu gwella darpariaeth mewn ardaloedd yng Nghanol De Cymru, gan gynnwys tref Pontypridd, sydd yn cael eu heffeithio gan hyn? Ac a oes bosib ichi, Weinidog, roi pwysau ar gwmnïau i barhau i wella darpariaeth, a hynny ar fyrder, fel bod gan bob busnes fynediad i’r cysylltiadau band eang angenrheidiol ar gyfer eu busnesau?

14:20

Wel, rydym yn amlwg yn poeni am y ddarpariaeth a'i ddiffyg, a'r buddsoddiad yn y seilwaith band eang. Mae hynny'n wahanol, wrth gwrs, i'r pris a delir gan y darparwr, ond y seilwaith ei hun yw'r broblem allweddol. Rydym yn gobeithio galluogi o leiaf 39,000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru gan ddefnyddio'r gronfa £56 miliwn y soniais amdani, ac rydym yn gweithio gydag Openreach i wneud hynny. Rydym hefyd wedi cael sgyrsiau uniongyrchol gyda Llywodraeth y DU, gyda'r Gweinidog Lopez, cyn iddi fynd ar absenoldeb mamolaeth, ac edrychaf ymlaen at fwrw ymlaen â'r rheini gyda'r sawl a ddaw yn ei lle dros ei chyfnod mamolaeth, i geisio sicrhau nad ydym, yn y cam nesaf o fuddsoddi mewn band eang, yn cael ein gadael gyda llwyth o waith y mae'n rhaid i ni ei wneud, nid oherwydd ei fod wedi'i ddatganoli, oherwydd nid yw wedi'i ddatganoli—fe wnaethom ddefnyddio adnoddau datganoledig sy'n werthfawr ac yn gyfyngedig oherwydd ein bod yn cydnabod y pwysigrwydd allweddol i gartrefi a busnesau.

Ac rwy'n credu bod 'cartrefi a busnesau' yn bwysig. Nid oes gennym ffigurau penodol ar y nifer gwirioneddol o fusnesau, oherwydd mae rhai pobl yn cyflawni gweithgarwch, neu rywfaint o'u gweithgarwch, o'u cyfeiriad cartref hefyd. Rydym yn gwybod bod nifer o gyfeiriadau amhreswyl yn cael eu gwella, felly o'r ffigur o 39,000 rwyf wedi'i roi, rwy'n credu y bydd o leiaf 10 y cant o'r rheini yn adeiladau amhreswyl. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol sy'n gallu gwneud cais i rai o'r cronfeydd y cyfeiriais atynt, i geisio mynd i'r afael â heriau lle rydym yn gwybod nad oes gennym seilwaith band eang digonol. Bydd yn her barhaus. Gallwn bob amser wneud mwy os bydd pwy bynnag sydd yn Llywodraeth y DU yn barod i gyflawni eu cyfrifoldebau'n llawn.

Busnesau Bach a Micro

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach a micro yng Ngogledd Cymru? OQ59546

Mae'r argyfwng costau byw a'r argyfwng costau busnes parhaus yn creu perygl gwirioneddol i ddyfodol nifer o fusnesau, gan gynnwys busnesau bach a microfusnesau. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o gymorth i fusnesau bach a microfusnesau ledled Cymru, gan gynnwys cymorth ar gyfer sgiliau, datblygu busnes, ymchwil a datblygu, ac allforion. Dylai unrhyw fusnes yng Nghymru sydd angen cymorth gysylltu â'n gwasanaeth Busnes Cymru i drafod eu hanghenion.

Diolch. Unwaith eto, rwy'n troi'n ôl at thema gynharach. Wrth ymateb i fy nghyd-Aelod Tom Giffard yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog

'Ni fydd unrhyw fusnes yn gorfod cau oherwydd nad yw'n gosod am 182 diwrnod.'

Sut rydych chi'n ymateb i'r perchnogion busnes hunanddarpar bach dilys y cyfarfûm â nhw ddydd Sadwrn diwethaf, yn ystod fy ymweliad Wythnos Twristiaeth Cymru â grŵp twristiaeth bryniau Clwyd, a ddywedodd wrthyf eu bod yn cael eu gorfodi i gau oherwydd nad ydynt yn gallu gosod am 182 diwrnod? Ac i etholwyr sir y Fflint sydd â busnes hunanddarpar o fewn cwrtil eu cartref eu hunain a anfonodd e-bost ataf i ddweud

'Mae premiwm y dreth gyngor ar gyfer llety gwyliau wedi'u dodrefnu nad ydynt yn cyrraedd y 182 diwrnod, a'r dreth dwristiaeth sy'n cael ei chyflwyno, yn hoelen arall yn arch darparwyr lletygarwch. Yn anffodus, rydym wedi penderfynu gwerthu. Rwy'n gobeithio nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud ein heiddo yn annymunol i brynwyr yn y dyfodol. Mae Llywodraeth bresennol Cymru wedi gwneud llanast o'n cynlluniau ymddeol a'n buddsoddiadau i'r graddau ein bod yn debygol o symud i Loegr. Mae'n sefyllfa drist pan fo'ch Llywodraeth yn ei gwneud hi mor anodd i chi ennill bywoliaeth yn y ffordd rydych chi eisiau, ac yn eich trethu yn y fath fodd fel ei fod yn ei wneud yn anymarferol yn ariannol."  

Mae'r niferoedd yn tyfu—

Y cwestiwn oedd—rwyf wedi'i ofyn yn barod: sut y byddai'r Gweinidog yn ymateb i'r etholwyr sydd wedi codi'r materion hyn gyda mi?

Rwy'n deall bod yna safbwyntiau gwahanol ar y pwnc hwn. Fe fyddwch yn deall ein bod wedi rhoi hyn yn ein maniffesto, ynghylch yr hyn y byddem yn ei wneud wrth symud ymlaen. Fe fyddwch chi hefyd yn deall, wrth gwrs, ei fod yn rhan o'n cytundeb cydweithio, ac felly rydym yn gwneud—efallai fod hyn yn anarferol i Geidwadwyr—yr hyn y gwnaethom ddweud y byddem yn ei wneud, ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny. 

Y pwynt a wnaeth y Prif Weinidog—a dylai pawb ddeall hyn yn iawn—yw, os nad ydych yn gosod am 182 diwrnod, nid yw'n golygu bod yn rhaid i chi gau eich busnes. Os ydych yn gweithredu busnes am lai na hanner y flwyddyn, mae'n golygu y byddwch yn talu'r dreth gyngor yn hytrach nag ardrethi busnes. Ac felly, dyna yw'r pwynt syml. Nawr, mae angen i bobl wneud dewisiadau bob amser ynglŷn ag a ydynt yn barod i dalu'r costau i weithredu eu busnes, ac a ydynt yn credu y gallant sicrhau digon o incwm i barhau i wneud hynny. Ond fel arall, mae pobl yn dewis rhwng y ddwy system mewn ffordd nad yw'n gwbl deg o safbwynt busnesau twristiaeth eraill.

Rydym yn gwneud yr hyn roeddem yn dweud y byddem yn ei wneud, ac wrth gwrs byddwn yn monitro'r effaith, ond rwy'n credu bod angen i Aelodau mewn seddi Ceidwadol gydnabod nad yw eu barn eu nhw'n wirionedd cyffredinol a dderbynnir gan bawb yn y wlad, heb sôn am y sector. 

Cymorth ar gyfer Arloesi

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer arloesi? OQ59544

Mae ein rhaglen cefnogi arloesi hyblyg ar agor i ymgeiswyr ar hyn o bryd. Byddwn yn lansio'r cyllid yn ffurfiol ar 8 Mehefin. Bydd cyllid yn cael ei dargedu tuag at weithgarwch a fydd yn helpu i gyflawni'r genhadaeth a nodir yn ein strategaeth arloesi newydd, 'Cymru'n Arloesi'. Bydd yr Aelod yn cofio iddi gael ei lansio ym mis Chwefror eleni. 

14:25

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb? Mae gan bob gwlad, cenedl a rhanbarth llwyddiannus dwristiaeth ac amaethyddiaeth; nid ydynt yn seilio eu strategaeth economaidd arnynt. Dau brif sbardun economi lwyddiannus yw arloesedd ac entrepreneuriaeth. Rwy'n croesawu'r rownd ariannu newydd, gwerth £10 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf, i gefnogi ymchwil wyddonol yng Nghymru drwy'r rhaglen Sêr Cymru a gydnabyddir yn rhyngwladol. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda phrifysgolion yng Nghymru i ddatblygu arloesedd a chyflogaeth ar gyflogau uwch?

Wel, ar y pwyntiau hynny, rwy'n credu bod gennym hanes da, ac mae ein cenadaethau'n tynnu sylw at yr hyn rydym am ei wneud i weithio ochr yn ochr â phrifysgolion i ddatblygu arloesedd a chyflogaeth ar gyflogau uwch. Mae'n rhan o'r rheswm pam ein bod yn chwilio am ymchwil y gellir ei gymhwyso. Bydd hynny, i fod yn deg, yn gweithio hefyd mewn rhai sectorau sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth a thwristiaeth. Yr hyn rydym yn ei ddweud yw bod angen inni gael cydbwysedd yn ein dull o weithredu ac mae'r cenadaethau'n nodi'r blaenoriaethau allweddol i ni. 

Rydym yn fwriadol yn edrych ar feysydd cryfder a chyfleoedd i dyfu. Wrth wneud hynny, bydd hi hyd yn oed yn bwysicach ein bod yn llwyddiannus, oherwydd fel y gŵyr yr Aelod, yn ei etholaeth ei hun, yn ei faes diddordeb ei hun ledled dinas Abertawe, mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn glir iawn y bydd y newidiadau—y newidiadau bwriadol—i gyllid Ewropeaidd yn costio mewn swyddi ymchwil—yn costio mewn swyddi gweddus—sy'n arwain at dyfu'r economi mewn gwirionedd; yr union fath o gyflogaeth ar gyflogau uchel y gwn ei fod am ei gweld nid yn unig yn Abertawe ond ar draws yr economi. Edrychaf ymlaen at ddatblygu mwy o'r cynlluniau gweithredu sydd wedi bod yn sail i'r strategaeth arloesi a'r ffordd y byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector prifysgolion i sicrhau bod eu gwaith ymchwil yn cael ei gymhwyso er budd economaidd.

Busnesau Hunanddarpar

8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y busnesau hunanddarpar sydd wedi cau, neu sydd mewn perygl o gau, oherwydd y trothwy 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau? OQ59554

Diolch i Sam Rowlands am y cwestiwn hwnnw. Cyhoeddwyd asesiad effaith rheoleiddiol Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth. Gall gweithredwyr nad ydynt yn bodloni'r meini prawf barhau i ddarparu llety hunanddarpar a chyfrannu at y gymuned leol drwy'r dreth gyngor. Bydd y rhai sy'n bodloni'r meini prawf yn cyfrannu drwy'r lefelau uwch o weithgarwch economaidd y maent yn eu cefnogi.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, cefais yr anrhydedd o noddi digwyddiad Wythnos Twristiaeth Cymru yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn sicr yn ddiolchgar am eich presenoldeb a'ch cyfraniad yn y digwyddiad hwnnw, Ddirprwy Weinidog; yn sicr, cafodd ei groesawu gan y diwydiant hefyd. Ond fel y clywsoch chi, roedd pryderon clir gan fynychwyr ynghylch rhai o'r pryderon sy'n wynebu'r sector, ac yn wir, mae'r trothwy 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau yn un o'u pryderon sylweddol, fel rydym eisoes wedi'i glywed y prynhawn yma hefyd.

Yn wir, mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi amcangyfrif, o ganlyniad i'r polisi hwn gennych chi, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, y bydd hyd at 84 y cant o lety gwyliau yng Nghymru yn cael eu gorfodi i gau, sy'n ystadegyn brawychus. Rwy'n sylweddoli nad yw'r Gweinidog, efallai, yn derbyn bod y camau sy'n cael eu cymryd gan y Llywodraeth hon yn gorfodi'r cwmnïau hyn i gau. Pan ystyriwch fod y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn gyfrifol am oddeutu un o bob saith swydd, mae hyn yn peri pryder difrifol.

Rhywbeth arall hefyd sydd i'w weld fel pe bai wedi'i anwybyddu yn hyn, ar wahân i effaith ariannol, yw'r ffaith inni glywed yr wythnos diwethaf gan y diwydiant am yr effaith ar iechyd meddwl unigolion sy'n rhedeg y busnesau hyn. Felly, yng ngoleuni'r pryderon gwirioneddol hyn, Ddirprwy Weinidog, a chyda'r eithriadau hynod gyfyngedig sydd wedi'u cynnwys hyd yn hyn, a oes unrhyw beth a fyddai'n gwneud i chi ailystyried y cynigion hyn? 

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Sam. Nid wyf am barhau i ailadrodd fy hun, ond wyddoch chi, rydym mewn sefyllfa lle nodwyd yn glir iawn yn ein rhaglen lywodraethu mai dyma beth roeddem yn mynd i'w wneud; rydym wedi nodi hynny'n glir iawn yn ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru; rydym wedi ymgynghori â'r sector ac rydym bellach yn gweithredu, ac mewn gwirionedd, digwyddodd y newidiadau, fel y gwyddoch, ar 1 Ebrill 2023.

Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn ystyried holl effeithiau posibl y ddeddfwriaeth. Mae'n wir dweud bod y sylfaen dystiolaeth yn gyfyngedig iawn, felly byddai gennyf fwy o ddiddordeb mewn gwybod o ble y daeth y ffigur o 84 y cant, oherwydd yn sicr nid yw hwnnw'n ffigur rwyf wedi'i weld yn unrhyw ran o'r gwaith rydym wedi'i wneud ar hyn. Ond rwy'n troi'n ôl at yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ac rwy'n troi'n ôl at yr hyn a ddywedodd Gweinidog yr Economi: nid oes neb yn gorfodi'r busnesau hyn i gau. [Torri ar draws.] Nid oes neb yn gorfodi busnes i gau. Yr hyn sy'n digwydd yw bod yn rhaid i fusnes nad yw'n gweithredu am fwy na 182 diwrnod y flwyddyn dalu'r dreth gyngor, fel y mae'r gweddill ohonom yn ei wneud. Mae rhai busnesau, peth eiddo gosod, nad yw ond yn cael ei osod am 10 wythnos o'r flwyddyn, ac mae hynny'n golygu nad yw perchennog yr eiddo hwnnw'n talu unrhyw drethi lleol o gwbl.

Mae'n bwysig deall pam ein bod wedi cyflwyno hyn. Mae'n rhan o ddull tair rhan o fynd i'r afael â'r broblem ail gartrefi a'r cyfraniad y mae'r ail gartrefi hynny'n ei wneud i'r gymuned leol a sut y gallai'r ail gartrefi hynny brisio cymunedau lleol allan o'r farchnad eiddo. Os yw'r unigolyn sy'n rhedeg y busnes hwnnw'n talu'r dreth gyngor ar fusnes nad ydynt yn ei osod am fwy na 182 diwrnod y flwyddyn, mae'n parhau i wneud mwy o gyfraniad i'r gymuned honno. Dyna'r pwrpas sy'n sail iddo, ac nid oes unrhyw beth rydym wedi'i weld yn yr asesiad effaith rheoleiddiol sy'n ein tynnu oddi wrth hynny. A hyd yn oed pe byddai, nid yw defnydd hanesyddol o reidrwydd yn ddangosydd o ddefnydd yn y dyfodol. Ond yr hyn rydym yn ei wybod yw ein bod eisoes yn gweld, yng Nghymru nawr, yn y mwyafrif o lety hunanddarpar, lefel defnydd o dros 50 y cant o'r amser—felly mae hynny'n fwy na 182 diwrnod. Mae hynny'n fwy na 50 y cant sydd eisoes yn bodloni'r meini prawf hynny. Mae'n rhaid i'r rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ystyried sut y gallant osod eu heiddo am 182 diwrnod neu fwy, neu bydd yn rhaid iddynt dalu'r dreth gyngor fel y mae'r gweddill ohonom yn ei wneud.

14:30
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Joel James.

Apwyntiadau Meddygfeydd

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod meddygfeydd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithredu i ganllawiau'r gwasanaeth meddygol cyffredinol drwy gynnig apwyntiad y tro cyntaf, bob tro?  OQ59549

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod disgwyliadau teg, cyfartal a chyson ar gyfer y modd y darperir gwasanaethau meddygol cyffredinol i bobl ledled Cymru, gan ddefnyddio ysgogiadau cytundebol a thrwy weithio gyda'r proffesiwn i ymgorffori ymrwymiad i fynediad y gwasanaeth meddygol cyffredinol, i sicrhau bod pawb yn cael eu cyfeirio at y gofal cywir i ddiwallu eu hanghenion, o'r tro cyntaf y byddant yn ffonio eu meddygfa.

Diolch, Weinidog. Mae etholwyr yn cwyno wrthyf nad ydynt wedi gallu gwneud apwyntiadau cyffredinol gyda Chanolfan Feddygol Forest View yn Nhreorci, gan ei chael hi'n anodd cael gafael arnynt hyd yn oed ar y ffôn, sy'n achosi cryn ofid i bobl sydd angen mynediad at wasanaethau meddygon teulu. Mae eu system apwyntiadau ar-lein a'u gwasanaeth ymgynghori dros y ffôn bron bob amser yn llawn, sy'n golygu bod yn rhaid gwneud apwyntiadau cyffredinol fwy na phedair wythnos ymlaen llaw. Clywais am achosion lle roedd cleifion angen apwyntiadau brys yn y pen draw oherwydd bod eu hiechyd wedi dirywio'n gyflym yn sgil methiant i gael apwyntiadau cyffredinol gyda meddyg teulu. Rwyf wedi ysgrifennu at brif weithredwr y bwrdd iechyd ac at y practis ei hun, ac mae eu hymatebion yn weddol gyffredinol, yn yr ystyr eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu ac yn ceisio gweithredu systemau gweithio gwell. Ond y gwir amdani yw, mae'r practis wedi'i lethu gan anghenion a maint y gymuned y mae'n ei gwasanaethu, a chaiff hyn ei adlewyrchu ymysg llawer o feddygfeydd eraill ledled fy rhanbarth. Rwy'n ymwybodol o ymdrechion gennych chi i hyrwyddo fferyllfeydd cymunedol a symleiddio gwasanaethau brysbennu a chredaf fod y practis yn gwneud pob ymdrech bosibl i weld cleifion. Ond gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i wella profiad cleifion o gael mynediad at wasanaethau apwyntiadau, a pha ystyriaeth a roddwyd i'r effaith ar forâl staff a chadw staff meddygfeydd sy'n ymdrin â niferoedd mor fawr? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Joel. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y galw ar ein meddygfeydd wedi bod yn cynyddu'n sylweddol yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf. Rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa benodol gyda meddygfa Forest View, a'r anhawster i bobl gael mynediad at yr hyn y dylent gael mynediad ato. Mae yna gontract newydd nawr; ceir disgwyliadau ar gyfer cyflawni'r contract hwnnw. Oherwydd bod yna rai enghreifftiau lle nad yw'r contract hwnnw'n edrych fel pe bai'n mynd i gael ei gyflawni—a pheidiwch ag anghofio bod y contract newydd ond wedi dechrau'n ffurfiol ym mis Ebrill—yr hyn sydd wedi digwydd, yn enwedig gyda'r practis hwn, yw y bydd disgwyliad y byddant yn cyflwyno diweddariadau rheolaidd ar eu cynllun gweithredu bob pythefnos. Rwy'n gwybod eu bod wrthi'n ceisio recriwtio meddygon teulu ac aelodau ychwanegol o'r tîm, a'u bod yn ceisio defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol i egluro i'w cleifion beth maent wedi'i wneud mewn ymateb i'w pryderon. Ond rwy'n bryderus o glywed am lefel y diffyg mynediad at feddygfa Forest View, a gallaf eich sicrhau y bydd fy swyddogion yn gwneud yn siŵr fod y bwrdd iechyd yn cadw llygad manwl ar hyn. 

14:35
Dementia

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia yn ne-ddwyrain Cymru? OQ59579

Rydym yn parhau i ddarparu bron i £3.9 miliwn i fyrddau partneriaeth rhanbarthol Gwent a Chwm Taf Morgannwg bob blwyddyn i gefnogi gweithrediad gweledigaeth y cynllun gweithredu ar gyfer dementia, ac i ddatblygu dull iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd o weithredu cymorth dementia.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, roedd hi'n Wythnos Gweithredu ar Ddementia, a oedd yn canolbwyntio eleni ar bwysigrwydd diagnosis cywir ac amserol. Mae ymwybyddiaeth o ddementia yn rhywbeth sy'n agos at fy nghalon, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sy'n agos at galon y Gweinidog hefyd. Amcangyfrifir bod tua 50,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, a gallai'r ffigwr hwn fod yn agos at 100,000 o bobl erbyn 2050. Mae diagnosis yn allweddol i hwyluso mynediad at ofal a meddyginiaeth sy'n cefnogi pobl i fyw'n dda gyda dementia. Mae naw o bob 10 o bobl sy'n byw gyda dementia a arolygwyd gan Gymdeithas Alzheimer's Cymru yn credu bod diagnosis wedi bod o fudd iddynt, gyda llwybrau a drysau'n agor. Mae cyfleu'r neges am ymwybyddiaeth o'r symptomau'n hanfodol. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ac eraill ei wneud i sicrhau bod pwysleisio'r angen am ddiagnosis cynnar yn chwarae rhan allweddol yng nghynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer dementia, a hefyd, yn ei chynlluniau ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol?

A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am y cwestiwn hwnnw, a chydnabod ei hymrwymiad hirsefydlog i ymgyrchu dros well gofal dementia? Rydych chi'n llygad eich lle am bwysigrwydd diagnosis cynnar, ac mae codi ymwybyddiaeth yn bwysig iawn i hynny. Mae wythnosau fel yr wythnos diwethaf—yr wythnos ymwybyddiaeth o ddementia—yn fentrau pwysig iawn ar gyfer codi ymwybyddiaeth. Fel y gwyddoch mae'n debyg, mae yna adnoddau defnyddiol ar gael gan nifer o'n partneriaid yn y trydydd sector, ac rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi'r fenter cymunedau sy'n deall dementia, a all godi ymwybyddiaeth, a helpu hefyd i fynd i'r afael â'r stigma.

Mae rhai o arwyddion cynnar a symptomau dementia yn cynnwys colli cof, anhawster i ganolbwyntio, cynllunio neu drefnu, problemau gydag iaith a chyfathrebu, camddeall yr hyn a welir, bod yn ddryslyd ynglŷn ag amser neu le, a hwyliau cyfnewidiol neu anhawster i reoli emosiynau. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ailadrodd, os oes rhywun yn poeni bod ganddynt hwy neu rywun agos y symptomau hyn, cysylltwch â'ch meddyg teulu i drafod hyn ymhellach ac i gael atgyfeiriad priodol. 

Hoffwn ddechrau drwy ddweud diolch wrth Jayne Bryant am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn y prynhawn yma. Gallaf siarad ar fy rhan fy hun, yn ogystal â'r holl Geidwadwyr Cymreig, pan ddywedaf ein bod ni 100 y cant y tu ôl i'r achos rydych chi wedi'i grybwyll heddiw. 

Weinidog, mae'n bwysig iawn nodi pwysigrwydd data hygyrch o ansawdd uchel i sicrhau bod pawb yn gallu cael diagnosis amserol a chywir, yn enwedig ar gyfer dementia. Ceir dros 100 o fathau o ddementia, ac er mai clefyd Alzheimer yw'r ffurf fwyaf cyffredin, mae yna fathau eraill hefyd fel dementia fasgwlaidd, cyrff Lewy a blaen-arleisiol. Fe glywn fwy hefyd am ddementia ymhlith pobl iau, pan fydd rhywun o dan 65 oed yn datblygu dementia. Canfu arolwg gan Gymdeithas Alzheimer's y llynedd nad oedd 17 y cant o bobl â dementia wedi cael diagnosis is-deip yn manylu ar y math penodol o ddementia a oedd ganddynt.

Nid yw GIG Cymru ar hyn o bryd yn casglu nac yn adrodd ar nifer y bobl sydd wedi cael diagnosis ffurfiol o ddementia yn ganolog, ac nid yw'n cyhoeddi data diagnosis yn ôl is-deip. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y bydd gwell mynediad at ddata diagnosis is-deip nid yn unig yn rhoi eglurder i ni ynghylch y darlun o ddementia yma yng Nghymru, ond bydd hefyd yn ein helpu i wneud y system ddiagnostig yn ddiogel ar gyfer y dyfodol, gan addasu triniaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i unigolion gael diagnosis is-deip cynnar a phenodol, er mwyn llywio opsiynau triniaeth wrth symud ymlaen?

Diolch, Natasha. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod dementia'n derm sy'n cwmpasu ystod eang o gyflyrau. Rydym yn anghofio hynny weithiau. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw data cywir ar ddiagnosis, ac mae canllawiau wedi'u rhoi i'r GIG yng Nghymru ar gofnodi'r gwahanol is-deipiau o ddementia. A hefyd, fel rhan o'r gwaith a wnawn drwy'r strategaeth, a thrwy ein cynllun gweithredu ar gyfer dementia, lle mae gennym bum ffrwd waith, gydag un ohonynt yn ymwneud â gwasanaethau asesu cof, mae yna ffrwd waith hefyd yn rhan o hynny sydd wedi'i chynllunio i wella casglu data. 

14:40

Dioddefodd fy mam-gu gyda dementia yn ei blynyddoedd olaf, felly rwy'n gwybod pa mor frawychus y mae'r broses yn gallu bod i rywun sy'n mynd drwy hyn ac i bobl o'u cwmpas os nad ydynt yn deall beth sy'n digwydd iddynt. Dyna pam fod cael diagnosis cywir ac amserol mor bwysig, fel y clywsom. Ond mae yna rwystrau, ac rydych chi wedi nodi hyn, Weinidog, yn atal pobl rhag cael y diagnosis, fel diffyg dealltwriaeth o'r symptomau. Mae pobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig, pobl nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, a phobl sy'n byw mewn ardaloedd tlotach i gyd yn llai tebygol o gael diagnosis yn gynnar, sy'n golygu y bydd y bobl hynny'n teimlo'n fwy unig, yn fwy caeth yn eu pennau, gyda theimladau nad ydynt yn eu deall neu'n eu hadnabod, ac yn fwy ofnus ac ar eu pen eu hunain. Felly, a ydych chi'n cytuno y dylai fod mynediad teg at ddiagnosis dementia i bawb? Ac a fyddech chi'n ystyried cyflwyno ymgyrch negeseuon ymwybyddiaeth gyhoeddus flynyddol, i dynnu sylw at y symptomau a lle gall pobl fynd am gymorth, fel y bydd llai o bobl yng Nghymru yn mynd drwy'r profiad yn teimlo'n ofnus ac yn unig, ac y byddant yn gwybod yn union ble i fynd am help? 

Diolch, Delyth. Rydych chi'n codi nifer o bwyntiau pwysig yno. Fel y gwyddoch mae'n debyg, roedd gennyf aelod o'r teulu sydd wedi bod drwy hynny, ac rwy'n gwybod pa mor drawmatig ydyw, a pha mor ynysig y gall fod i deuluoedd. Felly mae'n bwysig iawn cael diagnosis, cael y gefnogaeth o gwmpas pobl sy'n byw gyda dementia. Mae angen inni wneud mwy ynghylch diagnosis. Dyna pam mae gennym uned gyflawni'r GIG, sydd ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad sicrwydd sy'n rhoi cipolwg ar wasanaethau asesu cof ledled Cymru, ac mae'r adroddiad cenedlaethol yn dod i law naill ai y mis hwn neu'r mis nesaf. Dylwn ddweud hefyd ein bod wedi buddsoddi £3 miliwn ychwanegol i wella diagnosis ac i gefnogi pobl tra'u bod yn aros am ddiagnosis hefyd, ac mae hwnnw'n arian cylchol a ddarparwyd gennym. 

Ar yr hyn a ddywedoch chi am ymgyrch ymwybyddiaeth, rwy'n credu bod gan y rhan fwyaf o bobl ymwybyddiaeth resymol o symptomau dementia. Rwy'n meddwl bod yna fwy o broblem yn ôl pob tebyg gydag ofn a stigma sy'n rhwystro pobl rhag gofyn am help, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, gan i ninnau fynd drwy hynny fel teulu ein hunain. Ond rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny a beth arall y gallwn ei wneud gyda'n negeseuon cyhoeddus i annog pobl i ofyn am ddiagnosis ac yna i gael cymorth. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Darren Millar. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae pobl ar draws gogledd Cymru yn flin ar hyn o bryd am yr hyn sy'n digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cefais gopi dienw o adroddiad fforensig Ernst & Young o broblemau cyfrifyddu ar y bwrdd, ac mae'n rhaid imi ddweud ei fod yn hollol ddamniol. Mae ei ganfyddiadau'n cynnwys cyfrifyddu anwir a chamddefnydd o ddogfennau sy'n gyfystyr â thwyll. Roedd uwch-aelodau o staff y bwrdd iechyd, gan gynnwys y prif weithredwr a'r cyfarwyddwr cyllid, yn gwybod bod hyn yn digwydd. Cafodd y staff iau a wrthwynebodd yr arferion echrydus hyn eu diystyru gan eu huwch-swyddogion a chafwyd ymdrechion bwriadol wedyn i guddio'r gweithredoedd hynny oddi wrth Archwilio Cymru a'r ymchwilwyr fforensig o gwmni Ernst & Young. Mae'n drewi. Mae'r adroddiad yn dal i fod heb ei gyhoeddi—fe ddylid ei gyhoeddi—er gwaethaf y budd sylweddol i'r cyhoedd yn y materion hyn. Rwyf am wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i sicrhau bod pawb a oedd yn gyfrifol am yr ymddygiad a nodwyd yn yr adroddiad yn mynd i gael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd.

Diolch yn fawr. Roeddwn i'n un o'r ychydig bobl a welodd yr adroddiad yn gynnar, ac mae'n rhaid imi gytuno bod ei gynnwys yn sobreiddiol, ac mae gwir angen gweithredu arno. Fel y dywedwyd yn y Siambr hon ar sawl achlysur, nid ein hadroddiad ni oedd hwn, ac felly ni allaf ofyn iddo gael ei gyhoeddi. Roedd yn adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan y bwrdd iechyd, ac mae'n rhaid iddynt hwy benderfynu beth maent yn mynd i'w wneud. Rwyf wedi siarad â'r prif weithredwr dros dro a chadeirydd y bwrdd iechyd ynglŷn â'r camau a gaiff eu cymryd o ganlyniad i'r adroddiad hwn, ac maent wedi fy sicrhau bod y bwrdd iechyd yn bwrw ymlaen â rheoli'r materion a godir yn yr adroddiad yn unol â'u gweithdrefnau a'u polisïau presennol. Fy mlaenoriaeth drwyddi draw yw nad wyf am wneud unrhyw beth a fydd yn peryglu neu'n rhagfarnu gallu'r bwrdd mewn unrhyw ffordd i ddilyn y camau gweithredu y dylent eu cymryd, ac y mae angen iddynt eu cymryd.

14:45

Weinidog, mae pedwar mis wedi mynd heibio ers cyhoeddi'r adroddiad. Yn y cyfnod hwnnw o bedwar mis, ni allaf ddyfalu pam nad yw'r unigolion a oedd yn gyfrifol am y gweithredoedd hyn wedi cael eu diswyddo o'r bwrdd iechyd. Mae'r rhain yn arferion amhroffesiynol ar ran rhai a gofrestrwyd fel cyfrifwyr siartredig a chyda chyrff proffesiynol eraill, ac mewn gwirionedd mae'n mynd y tu hwnt i'r bwrdd iechyd ei hun. Fe wyddom, er enghraifft, fod dogfennaeth i gael nwyddau a gwasanaethau wedi'i ffugio er mwyn dyfarnu contract o bron i £1.8 miliwn i gwmni Lightfoot Solutions, a bod y cwmni hwnnw wedi cydgynllunio i newid dogfennau er mwyn cael y dyfarniad hwnnw. Gwyddom fod gorchymyn prynu wedi'i ddrafftio na ddylai fod wedi'i ddrafftio, wedi'i lunio'n fwriadol i fethu er mwyn osgoi craffu priodol, gan bennaeth gwasanaethau caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Nawr, nid wyf yn gwybod a yw'r unigolion hyn yn dal i fod yn eu swyddi neu'n destun ymchwiliad, ond mae'n ymwneud â mwy na Betsi Cadwaladr yn unig; mae'n ymwneud â'r diwylliant yn y GIG yn ehangach. Rwyf am wybod pa gamau sydd ar y gweill nawr i wneud yn siŵr fod Lightfoot Solutions, y cwmni a fu'n cydgynllwynio, sydd hefyd wedi cael contractau wedi'u dyfarnu iddo mewn rhannau eraill o Gymru, nid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn unig—. Beth sy'n cael ei wneud i sicrhau nad ydym byth yn ymgysylltu â'r sefydliad hwnnw eto? Beth sy'n cael ei wneud ynghylch rôl Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn y math hwn o ymddygiad? Mae'n ehangach na Betsi Cadwaladr yn unig, Weinidog. 

Diolch yn fawr. Fy nealltwriaeth i yw bod yr unigolion allweddol a enwir yn yr adroddiad hwn wedi'u hatal dros dro, ac yn amlwg, mae ganddynt hawliau cyflogaeth cyfreithiol. Y peth allweddol i mi yw bod yn rhaid inni ddilyn y broses gywir fel nad yw unrhyw system y mae angen ei dilyn yn cael ei thanseilio. Gallaf eich sicrhau, o'r adroddiad, nad oedd unrhyw fai ar Lywodraeth Cymru, nad oedd unrhyw awgrym fod Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â hyn mewn unrhyw ffordd. Ond rwyf wedi gofyn i fy nghyfarwyddwr cyffredinol sicrhau ein bod yn edrych ar yr adroddiad i weld pa gamau y mae angen inni eu cymryd fel Llywodraeth, os o gwbl, os oes unrhyw oblygiadau ehangach i ni fel Llywodraeth.

Mae'n amlwg fod yna oblygiadau ehangach. Mae'r adroddiad hwn wedi bod gyda chi ers pedwar mis, Weinidog—mae wedi bod yn gorwedd yn segur ers pedwar mis. A dweud y gwir rwy'n bryderus iawn eich bod chi ond yn dechrau cael y sgyrsiau hyn ynglŷn â goblygiadau ehangach pan fo'n amlwg iawn fod yr adroddiad yn awgrymu bod goblygiadau ehangach oherwydd bod hyn yn mynd y tu hwnt i Betsi Cadwaladr i mewn i sefydliad sydd â chontractau gwerth miliynau o bunnoedd ar draws GIG Cymru, a hefyd i galon Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, gyda'r pennaeth caffael—nid aelod iau o staff, pennaeth caffael—yn y sefydliad hwnnw yn drafftio anfonebau prynu yn amhriodol.

Rwy'n credu y bydd y cyhoedd, yn gwbl briodol, am gael sicrwydd fod Llywodraeth Cymru yn mynd i edrych ar bob bwrdd iechyd yng Nghymru nawr i wneud yn siŵr nad yw'r mathau o arferion—nas cyfyngwyd i un flwyddyn yn unig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr; mae'r adroddiad yn nodi bod hyn wedi digwydd dros gyfnod o ddwy flynedd ariannol fan lleiaf—a ddigwyddodd yno wedi digwydd mewn mannau eraill, oherwydd, a dweud y gwir, mae ymwneud pennaeth gwasanaethau caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn awgrymu y gallai hyn fod wedi'i ailadrodd mewn mannau eraill hefyd. Felly, pryd fyddwch chi'n cyhoeddi cynllun gweithredu ar y gwaith rydych chi'n mynd i'w gomisiynu nawr i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu harchwilio'n iawn, a lle bo angen, yn cael eu cyfeirio at yr heddlu ar gyfer ymchwiliad troseddol hefyd?

14:50

Diolch. Wel, gallaf eich sicrhau nad yw'r adroddiad wedi bod yn gorwedd yn segur; cafwyd ymchwiliadau helaeth gan swyddfa gwrth-dwyll y GIG i weld a oedd angen unrhyw waith dilynol gan yr heddlu ar ffurf camau troseddol. Daethant i'r casgliad nad oedd angen gwneud hynny, ond yn amlwg, dim ond yn ddiweddar y daeth hynny i olau dydd, a dyna pam mai dim ond nawr y gallwn fynd ar drywydd hyn fel Llywodraeth Cymru, ac fel y dywedais, rwyf eisoes wedi cyfarwyddo fy swyddogion i edrych i weld a oes unrhyw beth sydd angen i ni ei wneud o ran dysgu gwersi.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod pobl yng ngogledd Cymru yn deall, er mor sobreiddiol oedd hyn, na chollwyd unrhyw arian i'r GIG—[Torri ar draws.]—ni chollodd y GIG unrhyw arian, ac rwy'n meddwl mai'r hyn y mae'r cyhoedd yng ngogledd Cymru yn poeni amdano ar hyn o bryd yw'r modd y darperir gwasanaethau. Ac rwy'n falch iawn o ddweud, mewn perthynas â darparu gwasanaethau, fy mod newydd allu anfon datganiad ysgrifenedig i sicrhau bod y cyhoedd yn deall, a'r cyhoedd yng ngogledd Cymru, ein bod ni heddiw wedi gallu cytuno ar gynnig cyflog gydag undebau llafur y GIG, cynnig cyflog y maent wedi'i dderbyn—cynnig cyflog dwy flynedd ar gyfer staff 'Agenda ar gyfer Newid'. Felly, rwy'n falch iawn fod y trafodaethau hynny, er eu bod yn heriol iawn, bellach wedi'u cwblhau a'n bod mewn sefyllfa lle bydd y cyhoedd yn deall bod y bygythiad o streiciau sydd wedi bod yn hongian drosom ers amser maith—mae problem o hyd gydag un neu ddau o undebau y mae angen inni barhau i drafod gyda nhw wrth gwrs—. Barn gyfunol yr undeb llafur yw y byddant yn derbyn y cynnig cyflog, ac rwy'n falch iawn o hynny.

Diolch, Lywydd. Unwaith eto heddiw, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar Betsi Cadwaladr. Bythefnos yn ôl, cododd Plaid Cymru bryderon yn y Siambr hon am oblygiadau adroddiad Ernst & Young—cododd yr un pryderon ag y clywsom amdanynt gan lefarydd y Ceidwadwyr nawr. O ystyried pa mor sobreiddiol y mae'r Gweinidog yn dweud oedd yr adroddiad hwnnw pan aeth ati i'w ddarllen bedwar mis yn ôl, efallai y gallai nodi pa gyngor y gofynnodd amdano ar unwaith gan swyddogion, ar ôl ei ddarllen. Ond nawr mae cyn-aelod annibynnol o'r bwrdd sy'n egluro ei fod wedi ymwneud yn agos â'r ymchwiliad gan Ernst & Young wedi galw am ymchwiliad gan yr heddlu, gan ddweud ei fod yn credu bod yna dystiolaeth glir a diamheuol fod nifer o droseddau wedi'u cyflawni. Mae'n gyhuddiad pwerus a damniol ynghylch sefyllfa Betsi Cadwaladr. Rwy'n croesawu'r datganiad gan Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod yn asesu'r sefyllfa. Rwyf innau hefyd yn galw arnynt i agor ymchwiliad llawn.

Nawr, fe ddywedodd y Prif Weinidog wrth y Senedd mai mater mewnol i Betsi Cadwaladr yn unig oedd hwn bellach am fod adran gwrth-dwyll y GIG wedi penderfynu nad oedd unrhyw drothwy troseddol wedi'i gyrraedd, ond o ystyried difrifoldeb yr honiadau a gyhoeddwyd erbyn hyn, ac o ystyried yr amheuon ynghylch gwrthdaro buddiannau posibl, gwrthdaro buddiannau y mae'r aelod annibynnol yn awgrymu ei fod yn ei gwneud hi'n amhosibl i Lywodraeth Cymru neu ei gwahanol asiantaethau iechyd allu gwneud sylwadau gwrthrychol, a wnaiff y Gweinidog gytuno nawr ei bod y tu hwnt i amheuaeth fod yn rhaid i'r heddlu ymchwilio hefyd, a bod yn rhaid i'r ymchwiliad hwnnw gael cefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru?

Diolch yn fawr. Bydd yr heddlu'n penderfynu a oes angen ymchwiliad troseddol, ac maent eisoes wedi dweud eu bod yn edrych ar hyn ac nid fi sydd i ddweud wrth yr heddlu a oes angen ymchwiliad troseddol; mae hyn yn rhywbeth y bydd angen iddynt hwy benderfynu yn ei gylch eu hunain.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod yna ddealltwriaeth o sut mae'r gwahanol sefydliadau yng Nghymru yn gweithio. Felly, mae gwasanaeth gwrth-dwyll y GIG yn weithredol annibynnol oddi ar Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, ond caiff ei gynnal gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn rhan o ymddiriedolaeth GIG Felindre. Felly, yn y bôn mae'n rhywle lle maent wedi parcio—mae'n rhaid i rywun wneud eu gwaith adnoddau dynol, mae'n rhaid i rywun wneud eu cyfrifyddu, mae'n rhaid i rywun wneud yr holl fanion eraill, ond maent yn weithredol annibynnol. Mae'r swyddfa gwrth-dwyll yn cynnwys tîm o ymchwilwyr profiadol, ac mae ganddynt lawer o brofiad o edrych ar achosion troseddau difrifol, cymhleth, ar raddfa fawr, ac maent yn rhoi adnoddau ymchwilio annibynnol arbenigol i fyrddau iechyd. Maent wedi dod i gasgliad. Os yw'r heddlu eisiau edrych arno a dod i gasgliad gwahanol, mater iddynt hwy fydd hynny, yn amlwg.

14:55

Rwyf wedi tynnu sylw at ble rwy'n credu a lle mae eraill yn credu bod y gwrthdaro buddiannau yma, ac unwaith eto ni allaf weld pam na fyddai Llywodraeth Cymru yn dweud, 'Byddem yn cefnogi ymchwiliad llawn gan yr heddlu fel modd o adfer ymddiriedaeth yn y system.' Effaith hyn i gyd, wrth gwrs, yw tanseilio hyder fwyfwy yn Betsi Cadwaladr. Mae'n effeithio ar forâl staff. Mae'n effeithio ar gleifion. Mae ein safbwynt yn glir ac mae wedi bod yn glir ers peth amser: rwy'n credu bod angen dechrau newydd. A all y Gweinidog ateb hyn? Ac rwy'n gwybod y byddai'n well ganddi osgoi ad-drefnu—fe fyddai'n well gennym i gyd osgoi hynny. Ond onid oes pwynt lle mae'n fodlon dweud, 'Digon yw digon'? Mae angen cynllun ar waith o leiaf ar gyfer strwythurau iechyd newydd yn y gogledd. Os yw hi'n gwneud hynny, gwych—gadewch inni o leiaf ddechrau ar y broses honno i ffurfio cynllun B. Os na, mae hynny'n fy mhoeni'n fawr. Ni allwn barhau fel hyn. Felly, er mwyn ein helpu allan o'r sefyllfa, mae'n rhaid inni ei deall. Rwyf wedi gofyn o'r blaen ac fe ofynnaf eto: onid yw'n bryd inni gael ymchwiliad annibynnol, ymchwiliad a all edrych yn dryloyw ac yn fforensig ar yr hyn sydd wedi digwydd yng ngorffennol Betsi Cadwaladr, fel y gallwn wneud cynlluniau ar gyfer ei ddyfodol, ond yn bwysicach, ar gyfer dyfodol y staff sy'n gweithio ynddo a'r cleifion sy'n ddibynnol arno?

Diolch yn fawr. Wel, rhan o'r rheswm pam y gweithredais fel y gwneuthum yw oherwydd fy mod yn credu bod angen dechrau newydd ar y bwrdd, a dyna pam y gwnaethom benodi aelodau annibynnol newydd i'r bwrdd. Mae 20,000 o bobl yn gweithio i'r bwrdd iechyd, ac mae'n rhaid imi ddweud wrthych fod y feirniadaeth gyson hon yn llethu eu morâl. Nid wyf yn mynd i ad-drefnu, Rhun. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd o dan fy ngoruchwyliaeth i. Gallwch barhau i ganu'r un hen dôn gron os dymunwch, ond nid yw'n mynd i newid fy meddwl. Rwy'n credu eich bod chi'n tanseilio'r bobl rydych chi'n eu cynrychioli—y 2,000 o bobl ar Ynys Môn sy'n ceisio bwrw ymlaen â'u gwaith bob dydd.

Nawr, rwy'n hapus i gael fy nwyn i gyfrif wrth gwrs. Rwy'n cael fy nwyn i gyfrif yn wythnosol yma, yn wahanol iawn, gadewch imi nodi, i'r sefyllfa yn Lloegr, lle, er bod ganddynt 21 o ysbytai yn yr hyn sy'n cyfateb i fesurau arbennig—21—hyd y gallaf ddweud, ni chafwyd cwestiwn ar lawr y tŷ yn Nhŷ'r Cyffredin erioed ar unrhyw un o'r rheini, ac rwyf fi yma wythnos ar ôl wythnos. Felly, rwyf am ymateb—[Torri ar draws.] Ond rwy'n—[Torri ar draws.] Ond rwy'n—[Torri ar draws.] Rwy'n atebol ac rwyf fi yma bob wythnos.

Y peth pwysig i mi yw ein bod wedi cael dechrau newydd a'n bod yn troi dalen newydd, ond ni allwn wneud hynny mewn gwirionedd nes inni gyrraedd pwynt lle mae'r holl sefyllfa ofnadwy yma a welsom yn y gorffennol yn Betsi Cadwaladr yn dod i'r amlwg, ac y gallwn wedyn gyrraedd pwynt lle—. Rydym yn falch iawn nawr fod gennym brif weithredwr dros dro newydd, ac o'r hyn rwy'n ei glywed, mae'r morâl o amgylch y bwrdd ar frig y bwrdd iechyd mewn lle gwahanol iawn.

Atgyfeiriadau Preifat

3. Pa effaith y mae hawl GIG Lloegr i atgyfeiriad preifat yn ei chael ar lywodraethu clinigol yng Nghymru? OQ59580

Rwy'n ymwybodol o adroddiadau diweddar y gallai rhai pobl fod yn cael presgripsiwn am feddyginiaeth bwerus yn dilyn asesiadau preifat ar-lein yn Lloegr neu rywle arall. Nid yw'n dilyn y byddai'r GIG yng Nghymru yn parhau i bresgripsiynu meddyginiaethau o'r fath, a byddai angen i feddyg teulu unigolyn fod yn fodlon ei bod yn ddiogel ac yn gywir i wneud hynny.

Diolch. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom wedi gweld y rhaglen Panorama yn ddiweddar a oedd yn datgelu'r canlyniadau niweidiol a ddaw yn sgil rhoi hawl i bobl atgyfeirio at ddarparwr preifat yn GIG Lloegr, sydd wedi arwain at gynyddu niferoedd cwmnïau preifat, yn Stryd Harley a mannau eraill, sy'n cynnig rhoi ateb ar unwaith i chi, ac yn cynnig cyffuriau drud i chi hefyd. Drwy gyd-ddigwyddiad, y diwrnod cyn i'r rhaglen honno gael ei darlledu, cysylltodd etholwr newydd â mi, etholwr a oedd wedi symud o Loegr yn ddiweddar, gyda phresgripsiwn ar gyfer cyffuriau yn dilyn diagnosis o ADHD, a dywedodd iddi gael syndod o gael gwybod gan y meddyg teulu newydd roedd hi wedi cofrestru gyda nhw na allai gael y cyffuriau hyn hyd nes ac oni bai ei bod yn cael diagnosis priodol gan weithiwr proffesiynol i ddangos bod ganddi ADHD mewn gwirionedd. Nid wyf am fynegi barn ynglŷn ag ai dyna'r feddyginiaeth gywir, neu'r diagnosis cywir yn wir, ar gyfer yr unigolyn, ond mae'n dweud wrthych fod yna—. Mae pobl yn defnyddio GIG Lloegr fel pe bai'n siop melysion, a mynd yno a dweud, 'Fe gymeraf i rywfaint o hynny'. Mae hyn yn ddifrifol iawn, gan ei fod yn codi pryderon enfawr ymhlith unigolion sy'n credu bod arnynt angen beth bynnag a bresgripsiynwyd iddynt ac mewn llawer o achosion, gofynnir iddynt dalu symiau enfawr i gael y cyffuriau hyn yn breifat. Mae yna bob math o ganlyniadau i hyn, a tybed sut mae GIG Cymru yn ymdrin â hyn, o gofio bod gennym ffin agored iawn.

15:00

Diolch yn fawr iawn. Wel, Jenny, rwy’n siŵr y byddwch yn deall na allaf wneud sylw ar achos unigol, ond byddem yn disgwyl parhad o ran gofal i unrhyw glaf sy’n symud i Gymru, wrth gwrs. Ond yn gyffredinol, meddyg teulu'r claf a fyddai'n penderfynu a ddylid rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn. Ac wrth gwrs, mae'r sefyllfa'n wahanol iawn i'r un yn Lloegr, gan fod ein presgripsiynau am ddim yng Nghymru, felly nid ydym yn hoffi eu rhoi allan fel losin. Credaf fod hynny'n bwysig iawn, ac yn amlwg, mae goblygiadau enfawr i hynny, yn enwedig o ran meddyginiaethau gwrthfiotig, a’r peth olaf rydym am ei wneud yw eu gorddefnyddio.

Ond mae gennyf bryderon gwirioneddol am y rhaglen Panorama a'r hyn a ddangosodd, fod unigolion yn cael eu—. Awgrymwyd bod ganddynt gyflyrau nad oedd ganddynt, a arweiniodd at oblygiadau difrifol i'r unigolion hynny, gan iddynt gael eu rhoi, efallai, ar feddyginiaeth nad oedd mo'i hangen arnynt. Felly, mae’n rhywbeth y bydd angen inni sicrhau ein bod yn cadw llygad arno, a’r goblygiadau i GIG Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

O ran cael eich cyfeirio at driniaeth breifat gan fwrdd iechyd neu’r GIG yng Nghymru, tybed a all y Gweinidog warantu nad oes loteri cod post yn hyn o beth ledled Cymru. A chyd-destun fy nghwestiwn yw bod un o fy etholwyr, ar ôl aros am gyfnod hir o amser am driniaeth ar y GIG, wedi penderfynu talu'n breifat, er na allent fforddio gwneud hynny mewn gwirionedd, ond fe wnaethant ddewis gwneud am fod eu hiechyd a'u hansawdd bywyd yn bwysig iddynt. Roeddent yn derbyn hynny, yn gyndyn, ond yr hyn a oedd yn eu cythruddo oedd darganfod, pan aethant i gael eu triniaeth, fod cleifion eraill a oedd wedi aros am yr un cyfnod o amser mewn rhannau eraill o Gymru yn cael eu hatgyfeirio am driniaeth breifat gan eu byrddau iechyd, a theimlent fod hyn yn arbennig o annheg. Felly, tybed a all y Gweinidog roi sicrwydd i'r Senedd fod pob bwrdd iechyd wedi mabwysiadu’r un dull o atgyfeirio cleifion o GIG Cymru neu fyrddau iechyd Cymru at wasanaethau iechyd preifat er mwyn osgoi’r hyn sydd, yn ôl pob golwg, yn loteri cod post.

Diolch yn fawr iawn. Wel, fe fyddwch yn ymwybodol fod y byrddau iechyd yn annibynnol. Maent yn gwneud y dyfarniadau hyn ar sail anghenion clinigol eu poblogaethau, ac un o’r pethau rwy'n gobeithio ichi sylwi arnynt yr wythnos diwethaf, ac rydym yn falch o’i weld, yw bod y swyddfa ystadegau bellach yn cynhyrchu amseroedd rhestrau aros ar sail byrddau iechyd unigol, sy’n llawer mwy ystyrlon i boblogaeth Cymru yn fy marn i. Felly, yr hyn y bydd yr Aelodau’n ei weld o hynny yw bod rhai byrddau iechyd yn perfformio’n llawer gwell nag eraill, sy’n golygu y bydd angen i rai, efallai, aros yn hirach nag eraill. Yn amlwg, mae gennym ddiddordeb, fel Llywodraeth Cymru, mewn ceisio osgoi loteri cod post, felly nid yw'n deg fod rhai pobl mewn rhai rhannau o Gymru yn gorfod aros yn llawer hirach nag eraill. Rhan o'r rheswm rydym wedi cadw £50 miliwn yn ôl yw sicrhau ein bod yn gweld gwell cysondeb, ond mae'n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gwobrwyo'r bobl nad ydynt yn gwneud yn dda ychwaith. Felly, mae'n eithaf anodd sicrhau cydbwysedd, ac mae'n rhywbeth rydym yn ceisio gweithio drwyddo.

Ond ar ymarfer preifat, mae angen inni glirio’r ôl-groniad. Ar hyn o bryd, credaf fod honno’n flaenoriaeth. Os yw rhai byrddau iechyd am ddefnyddio practisau preifat i helpu i glirio'r ôl-groniad, gallant wneud hynny. Yr hyn na allaf ei bennu yw pwy sy'n mynd i ble ar ba bwynt mewn perthynas ag atgyfeiriadau gan fwrdd iechyd penodol i bractis preifat penodol.

15:05
Lefelau Nyrsio Digonol

4. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau lefelau staff nyrsio digonol ar draws Gorllewin De Cymru? OQ59577

Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth i gadw'r nyrsys sydd gennym ar draws de-orllewin Cymru, i recriwtio’n lleol ac i ddenu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol newydd sydd wedi’u hyfforddi’n rhyngwladol i’r ardal. Er bod heriau recriwtio a staffio'n parhau, mae gweithlu nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar y lefelau uchaf erioed.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o gynllun diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i recriwtio 900 o nyrsys o dramor am bedair blynedd, yn enwedig o Kerala yn ne-orllewin India. Wrth gwrs, nid ydym yn gwrthwynebu recriwtio yn y ffordd hon mewn egwyddor, a deallaf hefyd fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i beidio â mynd â staff y GIG o’r ardaloedd sy'n ei chael hi anoddaf, ond mewn egwyddor, mae dadl foesol o hyd ynghylch yr effaith ar gleifion agored i niwed yn y gwledydd hynny y byddwn yn mynd â darpar staff y GIG ohonynt. Nid yw'n ateb cynaliadwy ychwaith i broblem staff nyrsio yng Nghymru sy'n gadael y proffesiwn ar hyn o bryd, gyda lleoedd hyfforddi'n aros yn wag o ganlyniad. Ar ben hyn, gwyddom ei bod yn broblem a allai waethygu gyda staff yn gadael y proffesiwn. Dywedodd adroddiad bwrdd iechyd fod gennym broffil gweithlu nyrsio sy’n heneiddio, gyda 1,322 o nyrsys a bydwragedd dros 51 oed ar hyn o bryd, a gallent ymddeol yn fuan iawn, neu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Felly, yng ngoleuni'r prinder nyrsio domestig, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau a'r heriau difrifol hyn gyda recriwtio a hyfforddi ac annog mwy o fyfyrwyr yng Nghymru i ymgymryd â nyrsio fel proffesiwn?

Wel, rwy’n falch o ddweud bod lleoedd hyfforddiant nyrsio wedi cynyddu 54 y cant dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, roedd 1,750 ohonynt yn 2017 a 2,701 yn 2023. Felly, rydym yn gweld cynnydd, ac mae hynny'n beth da. Y broblem yw bod pobl yn gadael y proffesiwn, fel y dywedwch. Nawr, fel chithau, roeddwn yn pryderu am y cyfyng-gyngor moesol hwn: a ddylem fod yn mynd â phobl o gymunedau tlotach yn India a lleoedd tebyg? Roeddwn yn ddigon ffodus i gyfarfod â Gweinidog iechyd Kerala yn ne India y llynedd, ac roedd hi'n ein hannog mewn gwirionedd, os oeddem yn awyddus i fynd â mwy o nyrsys, a fyddai hynny'n rhywbeth y gallai fod gennym ddiddordeb ynddo. Mewn gwirionedd, gofynnais iddi'n blwmp ac yn blaen: 'Pam eich bod yn gorhyfforddi pobl? Pam eich bod yn cynnig y bobl hyn? Onid oes gennych sefyllfa yn India y dylech fod yn mynd i'r afael â hi?', a dywedodd wrthyf yn glir iawn—meddai, 'Yn Kerala, rydym yn gorhyfforddi'n fwriadol gan fod hyn yn rhan o ddull datblygu economaidd'. Felly, mae 30 y cant o gynnyrch domestig gros Kerala yn dod o daliadau o dramor. Felly, fe wnaeth hynny newid fy safbwynt i raddau, ac roeddwn yn fwy cyfforddus nag y byddwn fel arall mewn perthynas â hynny.

Felly, rwy’n falch, y llynedd, fod 400 o nyrsys rhyngwladol wedi’u recriwtio drwy gam cyntaf y rhaglen genedlaethol, a bydd rhagor o recriwtio rhyngwladol yn digwydd eleni.

Cau Wardiau Ysbyty

5. Pa effaith ganlyniadol y mae cau wardiau ysbytai o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chael ar ddarpariaeth iechyd mewn rhannau eraill o'r ardal honno?  OQ59553

Rwy'n disgwyl i’r bwrdd iechyd weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod digon o gapasiti i ddiwallu anghenion y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y model clinigol, cyfluniad gwasanaethau, a chyfleusterau'n addas i'r diben ac yn darparu mynediad cyfartal er mwyn darparu'r gofal gorau posibl i bob claf.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rydym eisoes wedi clywed heddiw am y ffordd y mae’r bwrdd iechyd wedi cael ei redeg; yn syml, nid yw’n addas i'r diben ar gyfer pobl rwy'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru. Nid yn unig fod y driniaeth y mae pobl yn ei chael islaw'r safon, clywsom eto am yr adroddiad a ddatgelwyd yn answyddogol ac a ddangosai fod archwilwyr yn cael eu camarwain yn fwriadol a dogfennau’n cael eu ffugio gan uwch-swyddogion y bwrdd iechyd. Yr ymddygiad hwn sy’n cael effaith uniongyrchol ar y ddarpariaeth iechyd i’r bobl rwy'n eu cynrychioli ar draws y rhanbarth ac ansawdd y gofal a gânt, a chamreolaeth ariannol fel hyn sydd yn y pen draw yn arwain at gau wardiau ysbyty fel yr un yn Nhywyn. A chau'r ward yn Nhywyn yw'r hyn sy'n creu perygl o bwysau difrifol ar rannau eraill o'r gwasanaeth iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yn sicr, mae'n gwneud pethau'n anoddach i'n meddygon a'n nyrsys, ac yn y pen draw, i'r trigolion rwy'n eu cynrychioli yn fy ardal. A phan fydd fy nhrigolion yn gweld yr arian hwn yn cael ei wastraffu a dogfennau'n cael eu ffugio, a'r effaith a gaiff hynny arnynt hwy o ran y gwasanaethau a gânt, dyna sy'n eu cythruddo. Felly, Weinidog, pam y dylai trigolion y gogledd orfod ymdopi ag effaith negyddol cau’r wardiau hyn, a beth sy’n cael ei wneud i ddatrys y sefyllfa hon cyn gynted â phosibl?

15:10

Wel, roeddwn yn falch iawn o ymweld â chanolfan iechyd Tywyn ar 12 Mai, gan fy mod yn gwybod bod problemau gwirioneddol ddifrifol yno mewn perthynas â chau’r cyfleuster hwnnw dros dro. Ac fe fyddwch yn ymwybodol mai'r rheswm dros ei gau oedd heriau staffio, ac nid oherwydd bod unrhyw fwriad gan unrhyw un. A phrif gyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw cadw pobl yn ddiogel a sicrhau y cedwir lefelau staffio diogel. Roedd pwynt yn Nhywyn pan aethant yn is na'r lefelau staffio diogel, ac felly, roedd yn rhaid bod canlyniad i hynny.

Nawr, mae ceisio recriwtio'n anodd, ond yr hyn na allwch ei wneud yw dweud o hyd ac o hyd, 'Mae problem ym mwrdd Betsi Cadwaladr, mae problem ym mwrdd Betsi Cadwaladr, mae problem ym mwrdd Betsi Cadwaladr' a meddwl bod llu o bobl yn mynd i anfon eu ffurflenni cais i mewn, gan nad yw hynny'n mynd i ddigwydd. Mae canlyniad uniongyrchol i ddifrïo bwrdd Betsi Cadwaladr o hyd ac o hyd—

Nid oes gennyf wrthwynebiad i graffu, ond mae canlyniad uniongyrchol i hynny, sef ei bod yn mynd yn anoddach recriwtio o bosibl. Ac mae hynny'n rhywbeth—[Torri ar draws.]—ac mae'n gwbl gywir, ond mae canlyniad uniongyrchol, a chredaf ei bod yn bwysig fod pobl yn deall. A phan siaradais â’r pwyllgor gweithredu yno, roedd pobl Tywyn yn deall y neges honno, hyd yn oed os nad ydych chi.

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd tuag at integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol? OQ59562

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau sylweddol tuag at integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys ymgorffori’r ddyletswydd i gydweithredu mewn deddfwriaeth, sefydlu saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol a buddsoddi cyllid refeniw a chyfalaf yn y gwaith o ddatblygu modelau newydd integredig o iechyd a gofal cymdeithasol.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Nid wyf yn siŵr a yw’r Siambr yn gwybod, ond deallaf fod y Gweinidog iechyd wedi ymweld ag ysbyty Llandudno yr wythnos diwethaf. Nawr, roeddwn yn rhan—[Torri ar draws.] Beth bynnag, mae'n ddrwg gennyf na wnaethoch fy ngwahodd innau, ond dyna ni.

Felly, Ddirprwy Weinidog, roeddwn yn eistedd yma, fel sawl un ohonom, yn ystod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, os cofiaf yn iawn, ac yn y Bil hwnnw, roedd gobeithion mawr y byddem yn gweld iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu hintegreiddio'n well. Gofynnwch i unrhyw un â pherthynas neu etholwr sy'n ceisio dod â rhywun allan o'r ysbyty ar hyn o bryd—mae gennym system o hyd lle mae bylchau, os mynnwch, rhwng pobl yn dod allan, ac angen pecyn gofal arnynt, ac nid oes pecyn gofal ar gael. Ni chredaf fod iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy integredig heddiw na phan gafodd y Bil hwnnw Gydsyniad Brenhinol.

Nawr, fe fydd y Gweinidog yn gwybod, wrth ymweld ag ysbyty Llandudno, ei bod, o ganlyniad i'n galwadau am hyn, wedi comisiynu prosiect chwe mis mewn ward a gyfluniwyd yn arbennig yn Aberconwy. Y nod yn bennaf oedd lleddfu'r pwysau ar welyau yn y prif ysbytai acíwt, a gweithiodd yn dda iawn i ryddhau gwelyau yn yr ysbytai mwy o faint. Nawr, y gaeaf diwethaf—

Iawn. Roeddent yn awyddus i wneud hyn eto, ond er mwyn iddynt allu ei wneud gyda’r diffyg staff, mae’n debyg fod angen iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae hyn yn fy nrysu'n llwyr. Felly, Ddirprwy Weinidog, beth y gallwch ei wneud i sicrhau mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol? Ac os oes ward yn yr hyn yr arferent eu galw'n ysbytai bwthyn a fyddai'n gweithio'n dda er mwyn lleddfu rhywfaint o'r baich a phwysau ar yr ysbytai mwy o faint, a wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog iechyd efallai fel nad oes problem os oes angen iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru? Ond gadewch inni gael rhywfaint o synnwyr cyffredin mewn arferion lle caiff pobl eu rhyddhau o ysbytai a'u bod wedyn yn cael y driniaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt ar adeg pan fo ond ychydig iawn o becynnau gofal cymdeithasol ar ôl mewn llawer o etholaethau ledled Cymru. Diolch.

15:15

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Janet. Yn sicr, mae’r Gweinidog iechyd a minnau’n gweithio’n ddiflino ar y mater hwn. Byddwn yn herio’r hyn a ddywedwch ynglŷn â'r syniad nad oes unrhyw integreiddio pellach, oherwydd yn sicr, o ganlyniad i’r materion rydych wedi cyfeirio atynt gyda phobl yn aros i adael ysbytai, gan weithio gyda’r awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd, fe wnaethom greu bron i 700 o welyau ychwanegol a oedd naill ai’n welyau gofal llai dwys neu’n becynnau cymunedol i fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r mater y mae'n ei godi. Ac wrth gwrs, o ganlyniad i weithio tuag at fwy o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, rydym wedi creu'r gronfa integreiddio rhanbarthol, sy'n ariannu nifer enfawr o brosiectau yn cynnwys gwaith agos iawn rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn gwirionedd, mae gogledd Cymru'n gwneud yn dda iawn ar y prosiectau hyn. Roedd y rhaglen yn y gogledd yn cynnwys 40 o brosiectau ar draws y chwe model gofal cenedlaethol, a chyfanswm y buddsoddiad oedd £43 miliwn. Felly, byddwn yn sicr yn herio'r hyn a ddywed Janet ynglŷn â'r syniad na wnaed unrhyw gynnydd ar integreiddio. Ond gwyddom fod mwy gennym i'w wneud, rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Ond rydym ar y ffordd, ac rydym yn gwneud cynnydd.

Gwasanaethau Strôc y GIG

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau strôc y GIG yng nghanolbarth Cymru? OQ59548

Mae ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau strôc a gwella canlyniadau wedi’i nodi yn y datganiad ansawdd ar gyfer strôc. Adlewyrchir amgylchiadau unigryw canolbarth Cymru mewn cynlluniau sy'n cael eu datblygu gan y rhaglen strôc genedlaethol, dan arweiniad yr arweinydd clinigol ar gyfer strôc a bwrdd y rhaglen strôc.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol fod y canolbarth yn ardal brin ei phoblogaeth, ac o’r amser y mae’n ei gymryd i gyrraedd yr ysbyty, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau arbenigol fel gwasanaethau strôc, lle mae'n hanfodol fod cleifion yn mynd i’r ysbyty cyn gynted â phosibl. Gwyddom hefyd fod poblogaeth y canolbarth yn boblogaeth hŷn. Er bod y rheini yn nwyrain fy etholaeth yn agos at wasanaethau yn Lloegr, nid yw’r un peth yn wir am y rheini yn y gorllewin. Felly, o ystyried pwysigrwydd strategol gwasanaethau ysbyty Bronglais i bobl y canolbarth, a hefyd Brycheiniog a sir Faesyfed, sir Gaerfyrddin a sir Benfro, mae’n hanfodol, o ystyried pwysigrwydd darparu triniaeth strôc yn gyflym. Tybed a wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau pellach ar sut y bydd gwasanaethau strôc yn ysbyty Bronglais yn cael eu cynnal a’u datblygu? Mae hwn, wrth gwrs, yn wasanaeth hanfodol y byddai’r Llywodraeth, gobeithio, yn ei gefnogi yn unol â’r datganiad ansawdd ar gyfer strôc, fel y mae’r Gweinidog wedi’i grybwyll.

Diolch yn fawr iawn. Credaf ei bod yn bwysig mai clinigwyr sy'n arwain ar rai o'r pethau hyn. Felly, mae'n rhaid mai nhw sy'n penderfynu, 'Iawn, dyma'r ymateb mwyaf priodol yn yr ardal hon mewn amgylchiadau penodol.' Felly, fel gwleidydd, ni fyddai'n iawn ceisio dyfalu beth yw'r ffordd orau o wneud hynny. Felly, golyga hynny fod comisiynu lleol, cyflawniad gweithredol, yn parhau i fod yn nwylo’r bwrdd iechyd, ond yn amlwg, mae angen iddynt feddwl yn rhanbarthol, ac yn drawsffiniol, yn enwedig, yn yr ardal rydych chi'n ei chynrychioli. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig yma yw sicrhau'r risg isaf bosibl i bobl o bob oed. Felly, mae'n rhaid inni achub y blaen ar hyn lle gallwn er mwyn lleihau'r perygl y bydd pobl yn cael strôc yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid mynd ati i wneud gwaith atal. Dyna sut y byddwn yn—. Mae'n rhaid inni gydnabod y bydd pobl yn cael strôc, ond o ran rhoi buddsoddiad ymlaen llaw, dyna ble mae angen i'r clinigwyr roi arweiniad i ni ar y lle gorau i wneud ein buddsoddiad yn fy marn i.

Cymorth Iechyd Meddwl

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl? OQ59558

Rydym yn parhau i ddarparu cyllid parhaus i gefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl. Yn ogystal â’r dyraniad a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl, mae byrddau iechyd wedi cael £26.5 miliwn ychwanegol o gyllid iechyd meddwl rheolaidd dros y ddwy flynedd ddiwethaf i barhau i wella cymorth iechyd meddwl.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar â thîm '111 Dewis 2’ yng Nghwm Taf Morgannwg, lle dywedwyd wrthyf am y niferoedd uchel o bobl y mae'r gwasanaeth eisoes wedi’u helpu i gael cymorth iechyd meddwl. Roedd yn wych cyfarfod â'r tîm i ddysgu am y gwahanol sgiliau a gyfrannant i'w rolau ac i deimlo eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad i'r swydd wirioneddol bwysig hon. Roeddwn yn edmygu'r ffaith bod hyn oll yn digwydd drwy un pwynt cyswllt, gan leihau straen ar bobl sydd angen cymorth, a hefyd y ffordd organig y mae mynediad at y gwasanaeth wedi lledaenu ar lafar gwlad. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda byrddau iechyd lleol a phartneriaid eraill, i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth iechyd meddwl uniongyrchol sydd ar gael drwy '111 Dewis 2'?

15:20

A gaf fi ddiolch i Vikki am ei chwestiwn atodol a dweud pa mor falch yr wyf ei bod wedi cael cyfle i fynd i weld '111 Dewis 2’ ar waith? Rwyf wrth fy modd fod y gwasanaeth hwnnw bellach yn weithredol 24 awr y dydd ym mhob rhan o Gymru. Ar lefel genedlaethol, rydym eisoes wedi derbyn dros 12,000 o alwadau, ac yng Nghwm Taf yn unig, mae dros 650 o bobl wedi cysylltu â’r gwasanaeth eisoes. Dyma ddull 'dim drws anghywir' ar waith, a gwnaed hynny'n bosibl gan ymrwymiad y Llywodraeth hon i flaenoriaethu cyllid ar gyfer iechyd meddwl.

Mae’r Aelod yn llygad ei lle fod angen inni wneud yr hyn a allwn i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth newydd, ac mae ymgyrch gyfathrebu lawn wedi’i chynllunio. Byddaf yn gwneud datganiad arni yma yn y Senedd fis nesaf, a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i’w hyrwyddo. Mae’n un pwynt cyswllt, ond mae hefyd, yn hanfodol, yn un pwynt cyswllt ar gyfer gweithwyr proffesiynol hefyd, a all gysylltu os ydynt yn pryderu am iechyd meddwl rhywun. Felly, mae'n ymgorfforiad go iawn o'r dull 'dim drws anghywir' ar waith, ac rwy'n falch iawn fod yr Aelod wedi cael cyfle i fynd i'w weld drosti'i hun.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.45 i ystyried rhagor o welliannau i'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd

Rwyf wedi cael fy hysbysu bod y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru yn dymuno gwneud cynnig bod y Senedd yn ystyried rhagor o welliannau i'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.45. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig

Cynnig bod y Senedd, yn unol â rheol Sefydlog 26.45:

Yn cytuno i ystyried rhagor o welliannau i'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.45, gofynnir i’r Senedd gytuno i ystyried gwelliannau pellach i’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd, ac rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.

Deallaf mai’r rheswm dros osod y cynnig yw tynnu gwelliant 55, a gyflwynwyd yn fy enw i pan aethom drwy Gyfnod 3 y Bil amaethyddiaeth yr wythnos diwethaf. Er fy mod yn siomedig am hyn, rwy’n deall pam, ar ei ben ei hun, fod y gwelliant hwnnw’n peri rhywfaint o ofid i’r Llywodraeth, o ran cyflwyno'r Bil amaethyddiaeth. Diben y gwelliant oedd sicrhau bod y cynllun amaethyddol newydd yn gwahardd corfforaethau mawr rhag prynu tir amaethyddol yng Nghymru a chael arian cyhoeddus i blannu coed, a gwn y gallai fod pryder na fyddai newydd-ddyfodiaid yn cael eu cefnogi yn sgil derbyn y gwelliant hwn. Fodd bynnag, pe bai’r gyfres gyfan o fy ngwelliannau wedi’u pasio pan aethom drwy Gyfnod 2, rwy’n siŵr y byddid wedi gallu osgoi hynny, ond rwy’n deall y rheswm dros y cynnig hwn yma heddiw yn llwyr. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Diolch. Wel, do, fel y gŵyr Sam Kurtz yn iawn, yn dilyn y ddadl yng Nghyfnod 3, mewnosodwyd gwelliant 55, ac felly, gosodwyd darpariaeth newydd yn adran 9, paragraff 3, 'Darpariaeth bellach ynghylch cymorth o dan adran 8', yn y Bil. Mae’n achosi ac yn creu cyfyngiadau llym iawn ar gyfer ble y darperir cymorth ariannol, ac nid yn unig y senario y mae Sam Kurtz newydd ei disgrifio i’r Senedd. Bydd y darpariaethau'n arwain at ganlyniadau sylweddol i allu Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth i’r sector ffermio, ac mae hynny'n cynnwys newydd-ddyfodiaid, tiroedd comin, ffermwyr cyfran, yn ogystal â’r gadwyn gyflenwi ehangach a busnesau amaethyddol eraill.

Mae’n rhaid i Fil Amaethyddiaeth (Cymru) weithio, yn enwedig mewn perthynas â buddiolwyr sy'n gweithredu er budd gorau'r sector amaethyddol. Mae angen i’r Bil sicrhau y gellir darparu cymorth i’r bobl iawn, ac mae hynny’n cynnwys darparu cymorth i ffermwyr newydd ac i’r rhai a allai ddewis ffermio ar dir comin, ac wrth gwrs, ar denantir—mae hynny’n bwysig iawn, gan fod cymaint o'n tir yma yng Nghymru'n cael ei ffermio gan ffermwyr tenant—neu'n wir, ar dir y maent yn berchen arno'n gyfan gwbl neu'n rhannol.

Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau fy mod wedi cael trafodaethau manwl gyda rhanddeiliaid dros y dyddiau diwethaf, ac maent yn cytuno â safbwynt y Llywodraeth fod angen i’r Bil amaethyddiaeth weithio i bob ffermwr, nid creu rhwystrau i'r cymorth y gellir ei ddarparu. Diolch.

15:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Yma yn y Senedd hon, rydym yn aml yn trafod deisebau y mae 10,000 neu fwy o bobl wedi'u llofnodi i gefnogi achos. Dychmygwch ddeiseb â 390,296 o lofnodion, pob un gan fenywod, pob un ohonynt wedi llofnodi â llaw, o bob cymuned yng Nghymru, a’r cyfan wedi’i gasglu 100 mlynedd union yn ôl. Dechreuwyd y ddeiseb hon mewn cynhadledd gyhoeddus ar fenywod Cymru a heddwch byd, a gynhaliwyd yn Aberystwyth ddydd Mawrth 23 Mai 1923, 100 mlynedd yn ôl i ddoe. Llywydd y digwyddiad oedd Mrs Annie Hughes-Griffiths, Cadeirydd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru. Roedd y ddeiseb yn galw ar fenywod America i ymuno â menywod Cymru i

'drosglwyddo i’r cenedlaethau sy’n ein dilyn dreftadaeth glodwiw o fyd heb ryfel.'

Roedd pwyllgorau trefnu i gasglu llofnodion ym mhob sir, ac erbyn dechrau 1924, roedd dirprwyaeth o bedair Cymraes wedi mynd â’r ddeiseb i America ar daith heddwch ddeufis o hyd, gan gyflwyno’r ddeiseb i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Calvin Coolidge. Cadwyd y ddeiseb wedyn yn amgueddfa’r Smithsonian, a diflannodd ei hanes o’n cof cenedlaethol tan yn ddiweddar iawn, a chydag ymdrech sylweddol gan ymgyrchwyr heddwch a sefydliadau cenedlaethol, mae'r saith milltir o bapurau'r ddeiseb heddwch wedi’u rhoi yn ôl gan y Smithsonian i'r Llyfrgell Genedlaethol i nodi canmlwyddiant y cyfarfod. Bydd y llofnodion yn cael eu digideiddio dros y misoedd nesaf, a gallwn wirio a arwyddodd ein mam-guod neu ein modrybedd y ddeiseb ogoneddus honno dros heddwch 100 mlynedd yn ôl. Ac yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf, pan fyddwn yn dathlu canmlwyddiant mynd â'r ddeiseb i America, pam na chawn ddadl ar lawr y Senedd hon ar ddeiseb heddwch menywod Cymru yn 1923 a 1924? Mae mor berthnasol heddiw ag yr oedd bryd hynny.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Eleni, mae Cymdeithas Achub Ardal Hafren, a elwir hefyd yn SARA, yn nodi eu hanner canmlwyddiant. Elusen chwilio ac achub mewndirol a bad achub gwirfoddol ydynt, gyda saith bad achub a gorsaf achub ar lannau afon Hafren. Bob blwyddyn, caiff SARA eu galw allan dros 100 o weithiau. Mae hyn yn cynnwys galwadau yn Nwyrain Casnewydd, ar hyd yr aber ac afon Wysg tuag at ganol y ddinas, ac yn wir, heibio i fy swyddfa etholaethol. Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn yn falch o ymuno â thîm SARA i ddysgu mwy am eu gweithrediadau, eu cynlluniau ar gyfer yr hanner canmlwyddiant, a'u dyheadau wrth symud ymlaen.

Mae aber afon Hafren ac afon Wysg yn lleoedd peryglus, gyda cherhyntau cryf a llanw sy'n newid yn gyflym. Dyna pam fod gwirfoddolwyr SARA yn fedrus iawn ac yn cael eu hyfforddi ddwywaith yr wythnos, fel eu bod, pan fyddant yn ymateb i alwad, yn gwybod yn union beth sydd angen iddynt ei wneud.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn gofnodi fy niolch i bawb yn SARA, ac yn wir, i'w chwaer sefydliadau ledled Cymru, am bopeth a wnânt i gadw ein cymunedau'n ddiogel a'u hamddiffyn rhag perygl. Rwy'n dymuno hanner canmlwyddiant hapus i SARA, ac edrychaf ymlaen at weithio mwy gyda nhw yn y dyfodol.

Wel, Dirprwy Lywydd, mae pentrefi a threfi sir Gâr bellach yn blastr o goch, gwyn a gwyrdd, wrth i dref Llanymddyfri baratoi i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'r ardal wythnos nesaf. A gaf i gymryd y cyfle hwn, felly, i longyfarch y pwyllgorau apêl lleol ar draws sir Gaerfyrddin am eu hymdrechion diflino i godi arian i groesawu gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop i ddyffryn Tywi, gyda dros £300,000 eisoes wedi eu codi? A does dim dwywaith y bydd croeso heb ei ail i'w gael yn nhref Williams Pantycelyn, Twm Sion Cati a'r Ficer Pritchard, gyda'r tywydd yn edrych yn ffafriol iawn i groesawu Mr Urdd a degau o filoedd o gystadleuwyr ifanc o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Does dim dwywaith y bydd yr ŵyl yn hwb enfawr i Gymreictod y dref a’r sir, a hynny yn wyneb nifer o heriau i'r iaith yn ein cymunedau gwledig.

Ac wrth sôn am Lanymddyfri, byddai’n amhosibl peidio â llongyfarch clwb rygbi’r dref ar eu llwyddiant y penwythnos diwethaf wrth iddyn nhw gipio cwpan uwch-gynghrair Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes. Ac er i'r gêm gael ei chynnal yma yng Nghaerdydd, tîm y porthmyn enillodd, a dwi'n deall bod y dathlu yn parhau o hyd yn nhref Llanymddyfri. Felly, llongyfarchiadau gwresog i bawb, gan obeithio eich gweld chi i gyd yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf, lle bydd croeso cynnes yn eich aros chi yn sir Gâr.

15:30
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i alluogi dadl ar NNDM8276. A galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar.

Cynnig NNDM8277 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.10(ii) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8276 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Mai 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid atal y Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i ethol Cadeiryddion ac Aelodau Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ethol Cadeiryddion ac Aelodau i'r Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad COVID-19. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar.

Cynnig NNDM8276 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â Phwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.

2. Yn penderfynu, at ddibenion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru, y dylid dehongli cyfeiriadau yn y Rheolau Sefydlog at 'gadeirydd' pwyllgor i olygu 'cyd-gadeirydd' a bod yn rhaid i swyddogaethau cadeiryddion pwyllgorau a amlinellir yn y Rheolau Sefydlog gael eu harfer ar y cyd gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.

3. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) Vikki Howells (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Altaf Hussain (Ceidwadwyr Cymreig) ac Adam Price (Plaid Cymru) yn aelodau o Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru;

b) Joyce Watson (Llafur Cymru) a Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig) yn Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.

4. Yn penderfynu cyfarwyddo y dylai busnes cychwynnol Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ystyried y gweithdrefnau y mae'n bwriadu eu mabwysiadu i gyflawni'r dibenion y mae wedi'u sefydlu ar eu cyfer (gan gynnwys gweithredu’r trefniadau cyd-gadeirio) ac argymell unrhyw ddiwygiadau i'r Rheolau Sefydlog y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol neu'n fuddiol i hwyluso ei waith.

5. Yn nodi y bydd y Pwyllgor Busnes yn cynnig unrhyw ddiwygiadau i'r Rheolau Sefydlog y mae o’r farn sydd eu hangen i hwyluso gwaith Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru, gan ystyried unrhyw argymhellion ar gyfer diwygiadau a wneir gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Dim ond ychydig eiriau gen i. Mi gefnogwn ni'r cynnig yma heddiw, achos ni, wedi'r cyfan, wnaeth gyd-gynnig y cynnig yn gofyn am sefydlu pwyllgor o'r fath. Mae hi'n bwysig nodi, serch hynny, ein syndod ni eto fod sefydlu pwyllgor aml-bleidiol, a fydd yn gweithredu'n aml-bleidiol, wedi digwydd o ganlyniad i gytundeb rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr.

Er fy mod wedi cwestiynu'r amgylchiadau y gwnaed y fargen hon ynddynt, rwy'n nodi bod y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur wedi dewis ychwanegu'r gair 'budr', ac ymatebodd y ddwy blaid gan wadu bod cytundeb 'budr' wedi'i wneud—eu dewis hwy o eiriau. A nawr, wrth gwrs, gwelwn fod y cytundeb hyd yn oed yn cynnwys cyd-gadeiryddiaeth anarferol iawn. Nawr, rydym yn gwybod beth mae pobl yn ei ofyn: 'Beth mae'r Blaid Lafur, sy'n gyfrifol am ymateb COVID yng Nghymru, a'r Ceidwadwyr, sy'n gyfrifol am ymateb COVID yn y DU, yn ceisio ei gyflawni yma drwy gadw rheolaeth mor dynn ar y pwyllgor diben arbennig hwn?' Ond fel rwy'n dweud, roeddem yn cefnogi cael y pwyllgor; rwy'n gwybod y bydd Adam Price yn gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn i waith y pwyllgor; ac er nad dyma roeddem ei eisiau—rydym yn dal i gredu bod angen ymchwiliad COVID llawn annibynnol yng Nghymru—ein blaenoriaeth nawr yw chwilio am atebion i'r rhai sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i COVID, sy'n haeddu atebion, a sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn atgoffa pawb mai'r rheswm dros gyflwyno'r cynnig hwn heddiw yw oherwydd cytundeb yn y Pwyllgor Busnes trawsbleidiol, a dyna pam ei fod ar yr agenda. Ni chafwyd 'cytundebau budr', fel yr hoffai Rhun ap Iorwerth eu disgrifio; cafwyd dadl dryloyw yn y Siambr hon, a chytunwyd i fwrw ymlaen â gwaith rhwng arweinydd yr wrthblaid—yr unig wrthblaid, ychwanegaf—yn y Siambr hon a'r Prif Weinidog. Cynhaliwyd y drafodaeth honno, a chanlyniad y trafodaethau hynny oedd y dylid ffurfio'r pwyllgor hwn, ac y dylid cael trefniant cyd-gadeirio. Byddwn yn gwahaniaethu rhwng trefniadau cyd-gadeirio a threfniadau cadeirio pwyllgorau ar y cyd, sy'n rhywbeth y mae Plaid Cymru ei hun wedi gofyn amdano yn y gorffennol. Yn wir, mae Plaid Cymru wedi awgrymu yn y gorffennol y dylai'r Pwyllgor Cyllid gael ei gyd-gadeirio, er enghraifft, gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Felly, mae'r rhain yn drefniadau newydd. Hyderaf y bydd y pwyllgor hwn yn gallu bwrw ymlaen â'i waith. Mae yna lawer o gwestiynau, yn briodol ac yn ddealladwy, y mae teuluoedd sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i COVID a phobl eraill ledled Cymru angen cael atebion iddynt, a bydd y pwyllgor hwnnw, gan weithio gyda'r ymchwiliad ledled y DU, yn gobeithio cyflwyno'r atebion y mae pobl eu hangen.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru)

Eitem 5 heddiw yw dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru), a galwaf ar yr Aelod cyfrifol i wneud y cynnig. Peter Fox.

Cynnig NDM8271 Peter Fox

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru). 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi atgoffa'r Aelodau yn gyntaf o'm datganiad o fuddiant? Fel y gwyddoch, rwy'n ffermwr.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cynnig ar yr agenda yn fy enw i, ac agor y ddadl hon. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Comisiwn am y gefnogaeth a roddodd imi, a diolch yn benodol i Gareth Rogers, arweinydd tîm y Bil, Martin Jennings, Elfyn Henderson, Božo Lugonja, Samiwel Davies ac Aled Evans, a hefyd i fy nhîm fy hun, Tomos Povey, Jonathan Kelley-Edwards, a fy nghyn-aelod o staff, Tyler Walsh. Rwyf hefyd eisiau diolch i randdeiliaid a chydweithwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt, y mae llawer ohonynt wedi gwthio bwyd ar yr agenda dro ar ôl tro ers blynyddoedd, ac wedi parhau i fy nghefnogi i gyflwyno Bil a fydd yn annog datblygu gweledigaeth Gymreig ar gyfer y system fwyd, gan gyflawni ar y cyfoeth o dystiolaeth ac ymchwil sy'n dangos yn glir, fel y dywed Cynghrair Polisi Bwyd Cymru,

'Mae bwyd yn Sylfaenol ond mae ein System Fwyd yn anghyfartal—yn rhannol oherwydd diffyg cydlyniant polisi ac atebolrwydd'.

Cyn i mi symud ymlaen at yr egwyddorion cyffredinol y tu ôl i'r Bil, mae angen i mi fod yn glir fod y Bil hwn yn ymwneud â mwy na bwyd yn unig, ac rwy'n poeni nad yw rhai wedi deall hynny'n iawn. Mae rhai Aelodau wedi dweud fy mod wedi mynd llawer ymhellach gyda'r Bil hwn nag a nodwyd yn wreiddiol, ac awgrymwyd efallai y dylwn fod wedi rhoi llai ar wyneb y Bil. Ond pe bawn i wedi gwneud hynny, ni fyddai wedi cyflawni'r newid system ehangach sydd ei angen, ac ni fyddai wedi gwella llywodraethiant y system, rhywbeth sydd mor bwysig i'w ddatblygu. Fel y dywedodd cyngor Torfaen yn eu hymateb i'r ymgynghoriad, byddai'r Bil

'yn sicrhau bod mentrau lleol yn cyd-fynd ag ymrwymiadau cenedlaethol ac i'r gwrthwyneb, eu bod yn osgoi dyblygu, yn cynyddu effeithlonrwydd ac yn ychwanegu gwerth at ein cyfoeth cymunedol.'

Maent yn parhau:

'Mae'n anodd alinio ein gwaith â'r agenda polisi ehangach yng Nghymru heb Fil Bwyd neu bolisi cysylltiedig.'

Wedyn cafwyd drysu gan eraill rhwng bwyd ac amaeth—dau derm rhyng-gysylltiol iawn, yn amlwg, ond dau beth gwahanol iawn. Ac rwyf wedi clywed nad oes angen y Bil arnom oherwydd bod gennym y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) newydd yn mynd drwy'r Senedd, er bod y ddau Fil yn edrych ar wahanol ochrau i'r un geiniog—ni allwch ddarparu y naill heb y llall. Sut mae datblygu sector amaethyddol mwy cadarn yn economaidd, ac annog y cynhyrchwyr i weld gwerth buddsoddi mewn rheoli tir yn gynaliadwy? Wel, yn rhannol, drwy ddatblygu cadwyni cyflenwi domestig i ddarparu mwy o gyfleoedd i gynhyrchwyr. Sut mae dechrau gwneud hyn? Wel, drwy gael cyrff cyhoeddus i ddechrau canolbwyntio mwy ar eu rôl eu hunain o fewn y system fwyd, ac fel cam cyntaf, sicrhau bod cyfeiriad clir wedi'i osod gan y Llywodraeth. 

Wrth edrych yn ôl, efallai y dylwn fod wedi galw hwn yn 'Fil y system fwyd' yn lle 'Bil Bwyd (Cymru'), oherwydd roeddwn bob amser yn bwriadu iddo edrych ar y system fwyd yn ehangach. Yn syml, yr amcan y tu ôl i fy Mil yw adeiladu fframwaith sy'n galluogi dull trawsgymdeithasol cydlynol, cyson a strategol o ymdrin â pholisi ac ymarfer ar bob agwedd ar y system fwyd. Gydag egwyddorion gwytnwch, cynaliadwyedd a chydraddoldeb yn cael lle canolog, mae'r Bil hwn yn ceisio rhoi system fwyd Cymru ar sylfaen iachach, fel bod Cymru mewn sefyllfa gadarn i lunio polisïau blaengar, drwy uno gwahanol rannau o'r system fwyd gymhleth. A thrwy ddarparu fframwaith statudol hirdymor, gallwn alluogi'r system fwyd i ffynnu i ffwrdd oddi wrth bwysau gwleidyddol, ac o fewn lens y nodau llesiant a'r pum ffordd o weithio. I mi, mae'r rhain yn egwyddorion y dylai pob un ohonom allu eu cefnogi'n hawdd.

Ar y llaw arall, mae gwahaniaeth mawr rhwng bod yn gefnogol i egwyddorion o'r fath a gwneud rhywbeth i'n symud ymlaen wrth inni fynd ar eu trywydd, oherwydd, fel y gwyddom, nid yw Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r Bil, fel y mae pethau, ac oni bai bod y Gweinidog yn newid ei meddwl heddiw—ac rwy'n gobeithio y bydd yn gwneud hynny o hyd, ond ni wnaiff—. Unwaith eto, rwy'n ailadrodd fy awydd i weithio gyda'r Llywodraeth, ac yn wir, yr holl gyd-Aelodau yma, i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon mewn ffordd sy'n dderbyniol i'r Senedd. Ond ni allwn wneud hynny heb symud i Gyfnod 2 a phleidleisio dros y Bil hwn heddiw.

Felly, sut mae'r Bil yn cyflawni'r egwyddorion y soniais amdanynt ac yn gwneud y gwahaniaeth sydd ei angen? Wel, mae'r Bil yn sefydlu nod bwyd sylfaenol i ddarparu bwyd fforddiadwy, iach a chynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol i bobl Cymru. Dyma'r weledigaeth i Gymru y siaradais amdani yn gynharach. Er mwyn helpu i gyflawni'r weledigaeth honno, ceir nodau bwyd eilaidd gyda disgrifiadau manwl o'r hyn y dylid ei gyflawni a thargedau i'w cyflawni wedi'u pennu gan Weinidogion Cymru.

Bydd y Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud a chyhoeddi strategaeth fwyd genedlaethol. Roedd tystiolaeth a ddaeth o waith craffu ar y Bil yn ystod Cyfnod 1 yn gadarn iawn o blaid strategaeth fwyd genedlaethol. Ond mynegwyd barn gref hefyd fod yn rhaid i strategaeth fwyd genedlaethol gael ei hangori mewn deddfwriaeth i sicrhau y byddai'n ddyletswydd ar Weinidogion a Llywodraethau'r dyfodol i'w chyflawni yn fwy hirdymor. Yn yr un modd, roedd cefnogaeth eang i gynnwys cynlluniau bwyd lleol yn y Bil, sy'n deillio o'r nodau bwyd a'r strategaeth genedlaethol, a fyddai'n sicrhau bod polisi bwyd yn cael ei gyflwyno ar lefel leol mewn ffordd gyson ac wedi'i thargedu.

Er mwyn sicrhau atebolrwydd, mae'r Bil yn gosod dyletswyddau adolygu ac adrodd ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus. Bydd hyn yn sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud yn iawn, ac os nad ydynt, bydd esboniad o pam a sut y gellir newid hynny. Ac wrth gwrs, yn sail i hyn oll, bydd y Bil yn sefydlu comisiwn bwyd Cymreig, fel corff annibynnol i hyrwyddo a hwyluso'r gwaith o gyflawni'r hyn sy'n ofynnol yn y Bil. Byddai'r comisiwn bwyd hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad annibynnol i Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus ar eu dyletswyddau. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod ac yn deall nad oes cefnogaeth gyffredinol i bob elfen o'r Bil hwn. 

Mae hynny'n fy arwain at yr hyn a fydd yn digwydd os na fydd y Bil yn pasio. A allwn ni ddibynnu ar Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i wneud gwaith y comisiwn bwyd a argymhellir ar gyfer Cymru? Na, ni allwn wneud hynny. Nid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu'r polisi bwyd strategol a'r fframwaith cynllunio, fel sydd wedi'i nodi yn fy Mil. Nid yw'r un o'r nodau na'r dangosyddion llesiant yn cynnwys unrhyw gyfeiriad ystyrlon at fwyd. Dyma hefyd yw'r rheswm pam na all y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol newydd yn y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ymdrin â materion sy'n ymwneud â bwyd, ac mae yna berygl y bydd yn glastwreiddio bwriad y Bil hwnnw fel na cheir llawer o newid ystyrlon. Yn y cyfamser, mae swyddfeydd y comisiynydd eisoes dan bwysau o ran llwyth gwaith ac adnoddau. Mewn gwirionedd, roedd y cyn-gomisiynydd yn cefnogi'r angen am y Bil hwn yn fawr.

Dadleuwyd hefyd y gallai strategaeth bwyd cymunedol y mae galw mawr amdani gyflawni peth o'r hyn y mae'r Bil yn bwriadu ei gyflawni. Ond nid yw wedi pasio'r camau cychwynnol eto, ac ni fydd yn dod yn agos at yr hyn y bydd y Bil bwyd yn mynd i'r afael ag ef.

A allem ddibynnu yn lle hynny ar yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru? Unwaith eto, na allwn. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd o dan bwysau enfawr o ran adnoddau yn ymwneud â diogelwch a safonau bwyd y mae'n gyfrifol amdanynt, yn ogystal â rheoli'r dirwedd ar ôl gadael yr UE. Ydy, mae Deddf Safonau Bwyd 1999 yn galluogi'r Asiantaeth Safonau Bwyd i ddatblygu polisi sy'n ymwneud â diogelwch bwyd neu fuddiannau eraill defnyddwyr, ond nid yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhyngweithio â chyrff cyhoeddus am bethau fel targedau neu bolisïau bwyd lleol y byddai'r cynlluniau bwyd lleol yn eu hwyluso. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y gellid gwneud y geiriad ynghylch swyddogaethau Comisiwn Bwyd Cymru yn gliriach er mwyn osgoi gorgyffwrdd neu ddryswch anfwriadol gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant i'r perwyl hwn yng Nghyfnod 2. 

Yn olaf, nid yw'r status quo yn opsiwn. Mae'r cyfrifoldeb am bolisi bwyd wedi'i wasgaru ar draws portffolios gweinidogol Llywodraeth Cymru. Mae gwahanol Weinidogion yn gwneud pethau gwahanol mewn gwahanol rannau o'r system fwyd, ac mae'n amlwg bod angen fframwaith mwy atebol ar gyfer polisi bwyd. Er enghraifft, edrychwch ar yr enghreifftiau o lle nad yw'r polisi bwyd wedi'i gydlynu'n ddigonol, fel yr awgrymwyd gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru, er enghraifft, gan gynnwys yr anghysondeb rhwng y strategaeth ddiodydd, sy'n hyrwyddo'r diwydiant alcohol, a'r ymgyrch iechyd cyhoeddus i leihau'r defnydd o alcohol, neu'r anallu i gysylltu Big Bocs Bwyd â phethau fel y fenter bwyd a hwyl, Sgiliau Maeth am Oes a'r cynllun gweithredu pwyslais ar incwm. Cyflwynodd y Gweinidog restr o feysydd polisi ar fwyd yn un o'r pwyllgorau yn ystod y broses, ond nid yw yr un fath â strategaeth integredig a chydgysylltiedig ar gyfer y system fwyd.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bob pwyllgor am eu gwaith yn craffu ar y Bil. Roeddwn yn gwerthfawrogi'r ffordd y gwnaethant ryngweithio â mi a fy nhîm, ac rwyf wedi mwynhau'r broses yn fawr. Er na fyddaf yn gwneud hynny eto yma, rwyf wedi ymateb yn fanwl i bob argymhelliad ac rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen fy ymatebion. Rwyf wedi nodi, derbyn mewn egwyddor, neu wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion a wnaed yn dilyn hyn. Rwy'n bwriadu cyflwyno nifer o welliannau yng Nghyfnod 2 i ymateb i'r rhain. Er enghraifft, rwy'n croesawu argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i gryfhau'r nodau bwyd a'r mecanweithiau monitro a gwerthuso cysylltiedig. Rwyf hefyd yn croesawu adborth ac awgrymiadau adeiladol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar gyfer gwelliannau, a'u galwad am ganllawiau statudol i amlinellu sut y byddai'r Bil bwyd yn gweithio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwyf hefyd yn croesawu'r alwad gan y Pwyllgor Cyllid ar y Llywodraeth i wneud mwy i ddarparu gwybodaeth i'r Aelodau. Mae fy nhîm a minnau wedi gwneud ein gorau glas i amcangyfrif costau, ond mae'n anodd iawn gwneud hynny heb gael trafodaethau sylweddol gyda swyddogion llywodraethol, ac fe wyddom y byddai hynny'n galw am gymeradwyaeth weinidogol.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, y prynhawn yma, byddaf yn pleidleisio dros weledigaeth Gymreig o system fwyd sy'n diwallu anghenion cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol, system fwyd sy'n darparu gwytnwch, datblygiad cynaliadwy a chydraddoldeb. Rwy'n mawr obeithio y bydd yr Aelodau eraill yn gwneud yr un peth. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn a Bil Bwyd (Cymru) i'r Senedd.

15:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dyma'r ddadl gyntaf ar Fil Aelod yn y Senedd hon. Hoffwn agor fy nghyfraniad drwy ddiolch i Peter Fox, a'r tîm a'i cefnogodd e, am eu gwaith caled ar y Bil ac am eu cyfraniadau i waith craffu ein pwyllgor ni. Fel rhywun sydd wedi gweithio yn y gorffennol ar Fil Aelod, dwi'n gwybod yn union faint o ymdrech y byddan nhw wedi'i wneud i ddatblygu a drafftio'r Bil hwn. Mae'r pŵer i ddeddfu, a roddwyd i'r Senedd hon gan bobl Cymru, yn gyfrifoldeb mawr. Oherwydd hyn, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n defnyddio'r pŵer hwn yn ddoeth.

Os caf fentro i fyd cymariaethau sy'n ymwneud â morthwylion, mae deddfwriaeth yn ordd ac mae angen inni fod yn sicr nad ydym yn cracio cnau. Tra bo gennym bŵer i ddeddfu, mae angen inni edrych hefyd ar bob ateb posibl arall cyn defnyddio deddfwriaeth, er mwyn sicrhau ein bod yn osgoi dal morthwyl a thrin pob problem fel hoelen.

O'r herwydd, treuliodd y pwyllgor lawer o Gyfnod 1 yn archwilio'r angen am ddeddfwriaeth. Clywsom ddadleuon cymhellol iawn ynghylch manteision polisi bwyd cydgysylltiedig, a dadl buddsoddi i arbed y byddai'r Bil hwn yn lleihau beichiau ar wasanaethau cyhoeddus drwy ganlyniadau cadarnhaol megis lleihau gordewdra. Er enghraifft, clywsom gan Simon Wright o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Wright's Food Emporium, a ddywedodd wrthym fod deddfwriaeth a pholisi bwyd presennol yn faes lle mae'n credu bod gennym broblem ddifrifol mewn perthynas â gweithio mewn seilos.

Fodd bynnag, clywsom hefyd y gallai'r Bil fod yn or-fiwrocrataidd, ac yn ffordd ddrud o fynd i'r afael â'r materion y mae'n ceisio eu datrys ac efallai na fydd yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir. Ac felly, ar ôl archwilio'r holl dystiolaeth sydd ar gael i ni, er bod yr Aelodau wedi cefnogi amcanion polisi'r Bil yn unfrydol, ni allem ffurfio safbwynt unedig ar yr angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r amcanion hyn. O ganlyniad, ni all y pwyllgor roi argymhelliad i'r Aelodau ar sut y dylech bleidleisio heddiw.

Er na allai'r pwyllgor ffurfio safbwynt ar yr angen am ddeddfwriaeth, rydym yn cytuno bod polisi bwyd yn faes y mae angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio arno a'i flaenoriaethu. Roedd yn amlwg iawn o'r dystiolaeth a ddaeth i law fod yna ganfyddiad o leiaf o gamalinio polisi bwyd, gydag adrannau'n gweithio mewn seilos. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i wella ei dull o ymdrin â'r system fwyd. Fel y disgrifiwyd gan Peter, mae Bil Bwyd (Cymru) yn nodi cyfres o nodau bwyd. Mewn ymateb, anfonodd y Gweinidog lythyr at y pwyllgor yn amlinellu polisïau bwyd Llywodraeth Cymru yn erbyn y nodau hynny. Dyma'r tro cyntaf i aelodau'r pwyllgor weld polisïau bwyd Llywodraeth Cymru wedi'u nodi mewn un lle, ac roeddem yn gwerthfawrogi gweld polisïau Llywodraeth Cymru yn cael eu nodi'n glir yn erbyn nodau'r Bil. Roedd y pwyllgor hefyd yn croesawu'r ffaith bod nodau bwyd wedi'u cynnwys yn y Bil, er ein bod yn credu bod y nodau fel y'u drafftiwyd yn rhy sectoraidd. Byddai'r nodau hynny'n cael eu hategu gan dargedau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r pwyllgor hefyd yn cefnogi cynnwys y targedau yn y Bil. Fodd bynnag, teimlwn fod yn rhaid cael mecanwaith cryf ar waith i werthuso a mesur cynnydd.

Byddai'r Bil yn sefydlu comisiwn bwyd—ac ni fyddai honno'n dasg fach. Clywodd yr aelodau dystiolaeth gref o blaid ac yn erbyn y comisiwn bwyd ac ni allent ffurfio safbwynt cytûn ar ei sefydlu. Fodd bynnag, mae Aelodau'n teimlo'n gryf y dylid sefydlu rhywbeth i gydlynu polisi bwyd. Rydym yn cefnogi awgrym y Gweinidog o fwrdd mewnol Llywodraeth Cymru, neu fel arall swydd newydd yn swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol sy'n gyfrifol am oruchwylio'r system fwyd.

Un o feysydd allweddol y Bil y mae'r Aelodau'n gefnogol iawn iddo yw'r strategaeth fwyd genedlaethol. Er enghraifft, dywedodd Dr Robert Bowen o Ysgol Fusnes Caerdydd wrth y pwyllgor fod strategaeth ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yn hanfodol, yn enwedig o ystyried yr heriau y mae'r diwydiant yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd. Dyma oedd y maes yn y Bil a gafodd y gefnogaeth fwyaf gan randdeiliaid. Roedd hyd yn oed rhanddeiliaid nad oeddent yn cefnogi'r Bil yn gyffredinol yn cefnogi'r alwad am strategaeth fwyd genedlaethol o ryw fath. Felly, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru'n gwrando ar y safbwyntiau hynny ac yn ceisio sefydlu strategaeth fwyd genedlaethol gyda'r nod o greu polisi bwyd cydgysylltiedig.

Mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol gynhyrchu cynlluniau bwyd lleol. Mae'r Aelodau'n cefnogi cynnwys y cynlluniau bwyd yn y Bil ac wedi awgrymu gwelliannau i gryfhau'r broses o gaffael bwyd yn lleol a chyfranogiad sefydliadau cymunedol yn natblygiad y cynlluniau. Rydym yn gobeithio y byddai'r cynlluniau'n adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud ar lefel leol, er enghraifft gan bartneriaethau bwyd lleol ledled Cymru.

Mae'r Gweinidog wedi ei gwneud hi’n glir iawn y bydd hi ddim yn cefnogi'r Bil hwn. Wrth inni wneud ein gwaith craffu, roeddem yn ymwybodol iawn y byddai hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd y byddai’r Bil yn methu. Mae Peter Fox wedi datgelu rhai materion o bwys o fewn system fwyd Cymru. Byddai'n drueni mawr pe bai'r Bil yn methu a phe bai'r holl waith hwn, o bob rhan o'r sector, yn cael ei adael heb ei ddatrys.

O ganlyniad, mae ein hadroddiad yn gwneud argymhellion i wella'r Bil, a hefyd argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru y dylid bwrw ymlaen â nhw os bydd y Bil yn methu. Os yw'r Bil yn dod yn gyfraith neu'n methu, fe fydd system fwyd Cymru yn gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i waith Peter a'i dîm.

Hoffwn gloi, felly, Ddirprwy Lywydd, fy nghyfraniad heddiw drwy rannu rhai nodiadau o ddiolch. Yn gyntaf, dwi eisiau diolch i Darren Millar a Vikki Howells am gamu i mewn a chadeirio’r Pwyllgor am ran o Gyfnod 1 tra’r oeddwn i i ffwrdd. Hoffwn hefyd ddiolch i'r holl randdeiliaid a gymerodd yr amser i roi tystiolaeth werthfawr i'r pwyllgor ar gyfer ein hadroddiad; ac yn olaf, hoffwn ddiolch i'r tîm a gefnogodd y pwyllgor drwy ein gwaith craffu. Ac felly, dwi'n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill am y Bil hwn. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

15:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn i mi ymateb ar ran y pwyllgor, yn amlwg, gyda busnesau bwyd yn y newyddion ar hyn o bryd yn ne-ddwyrain Cymru, efallai y bydd y Bil hwn yn effeithio ar y busnesau hynny wrth symud ymlaen.

Ond fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid dwi yma heddiw, felly diolch am y cyfle, a dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl Cyfnod 1 yma ar y Bil arfaethedig cyntaf gan Aelod i gael ei gyflwyno yn y Senedd hon.

Daw ein hadroddiad i dri chasgliad ac mae'n gwneud saith o argymhellion. O gofio'r amser heddiw, byddaf yn canolbwyntio ar ein prif gasgliadau. Hoffwn hefyd ddiolch i Peter Fox am gyflwyno ei ymateb i'n hadroddiad cyn y ddadl heddiw. Fel y clywsom, Bil fframwaith ydy hwn a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru sefydlu comisiwn bwyd Cymru a datblygu strategaeth fwyd genedlaethol a chynlluniau bwyd lleol.

O ganlyniad, mater i Lywodraeth Cymru fydd cytuno ar faint a chwmpas nifer yr elfennau o'r Bil, felly fyddwn ni ddim yn gwybod beth fydd llawer o'r costau nes caiff y Bil ei roi ar waith. Oherwydd hyn, allwn ni ddim dod i gasgliad ynghylch a yw'r adnoddau sydd wedi'u cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn rhesymol.

Mae'r Aelod cyfrifol wedi dweud bod y Bil wedi'i ddrafftio'n fwriadol fel Bil fframwaith i roi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gweithredu darpariaethau allweddol. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn feirniadol o ddulliau tebyg a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth ddiweddar, ac ni allwn wneud eithriadau ar gyfer Bil Aelod, hyd yn oed pan fo'r Aelod yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid.

Dylai'r holl Filiau a gyflwynir i'r Senedd gyd-fynd â'r amcangyfrif gorau posibl o'r costau a'r buddion i'n galluogi i wneud penderfyniad ynglŷn ag a yw'r adnoddau'n ddigonol i gyflawni'r ddeddfwriaeth. Serch hynny, rydym yn cydymdeimlo â'r Aelod cyfrifol, gan ein bod o'r farn y gellid bod wedi cael mwy o ymgysylltiad â'r Gweinidog. Felly, rydym wedi argymell, yn y dyfodol, fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynorthwyo Aelodau neu bwyllgorau unigol sy'n cynnig deddfwriaeth drwy ddarparu gwybodaeth ariannol berthnasol cyn cyflwyno'r Bil. Mae'r cyfle i gyflwyno Biliau anllywodraethol mor brin fel nad ydym yn ystyried bod hwn yn ofyniad llafurus. Cyn troi at argymhellion penodol, hoffwn ei gwneud yn glir, pe bai'r Bil yn mynd rhagddo heddiw, y byddem yn disgwyl gweld yr wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael ei chynnwys mewn asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i ddiweddaru yn dilyn trafodion Cyfnod 2.

Amcangyfrifir y bydd cost sefydlu a gweithredu'r comisiwn bwyd rhwng £0.75 miliwn a £1.5 miliwn y flwyddyn. Mae hyn yn seiliedig ar ddeddfwriaeth debyg sy'n cael ei gweithredu yn yr Alban—Deddf Cenedl Bwyd Da (Yr Alban) 2022—a chost gyfartalog cynnal swyddi comisiynwyr presennol Cymru. Mae'r Gweinidog wedi mynegi pryderon y gall y costau fod yn rhy isel, yn seiliedig ar y cyfrifiadau diweddaraf a ddarparwyd yn Neddf yr Alban. Fodd bynnag, mewn ymateb i'r honiadau hynny, mae'r Aelod cyfrifol yn awgrymu na ellir mesur costau gweithredu meysydd polisi penodol y Bil drwy gymharu'n syml â'r ffigurau o'r Alban heb gymharu ffactorau eraill, megis sut y bydd gwahanol ddarpariaethau'n gweithio'n ymarferol. Ein barn ni yw bod ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i'r amcangyfrifon yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael. Felly, rwy'n falch fod yr Aelod cyfrifol wedi derbyn argymhelliad 2 ac y bydd yn ailasesu a diweddaru'r costau yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Lywodraeth yr Alban.

O dan y Bil, bydd Llywodraeth Cymru a'r comisiwn bwyd yn creu strategaeth fwyd genedlaethol ar y cyd ac yn ei chyflwyno. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn methu darparu'r arbedion cost o'r Bil, gan ddweud na fydd y rhain yn hysbys hyd nes y caiff polisïau a nodau'r strategaeth genedlaethol eu ffurfio. Dylai arbedion cost sy'n codi o'r Bil fod yn elfen allweddol o'r broses arfarnu opsiynau, ac mae'n siomedig nad yw hyn wedi digwydd. Felly, disgwyliwn asesiad effaith cadarn ochr yn ochr â'r strategaeth gydag ymrwymiad y bydd y Senedd yn cael cyfle i graffu ar y costau sy'n gysylltiedig ag ef.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, nid yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn cynnwys gwybodaeth ychwaith am y gost o roi cynlluniau bwyd lleol ar waith. Mae'r Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn rhan o argymhelliad 6 i ddiweddaru'r RIA drwy roi manylion y cyrff cyhoeddus sydd eisoes yn rhoi'r cynlluniau hyn ar waith. Er hyn, mae'n siomedig ei fod wedi gwrthod ail ran ein hargymhelliad i ddefnyddio'r wybodaeth hon i gyfrifo ystod y costau posib. Er ein bod yn sylweddoli y gall costau amrywio o'r naill awdurdod i'r llall, rydym yn credu y dylai'r Aelod sy'n gyfrifol geisio amcangyfrif ystod y costau o roi'r cynllun hwn ar waith. Diolch yn fawr.

15:55

Diolch, Dirprwy Llywydd. Rwy'n bwriadu siarad fel cadeirydd y pwyllgor yn gyntaf i ddechrau, a chloi gyda chyfraniad personol, os yw'n bosib. 

Cymerodd ein pwyllgor dystiolaeth gan Peter fel yr Aelod cyfrifol a chan y Gweinidog ym mis Ionawr, a chyflwynwyd ein hadroddiad ar 11 Mai. Gwnaethom 10 o argymhellion, naw yn benodol ar gyfer Peter. Ac a gawn ni fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Peter a'i dîm am ymddangos o'n blaenau? Nid yw'n hawdd ar unrhyw adeg i Aelod o'r meinciau cefn gyflwyno deddfwriaeth. Felly, diolch am hynny, ac i'r Gweinidog hefyd.  

Dilynasom ein dull safonol iawn o graffu, fel y mae'r cadeiryddion eraill wedi'i wneud. Felly, fe wnaethom geisio nodi sut y gellid gwella'r Bil fel cynnig ar gyfer deddf newydd, pe bai'n mynd yn ei flaen. Fel rhan o'r broses honno, fe wnaethom ystyried sut y byddai'r Bil yn rhyngweithio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, fel y nododd Peter, gan ein harwain i argymell y dylid diwygio'r Bil i nodi bod rhaid rhoi canllawiau statudol i gyrff cyhoeddus ar sut mae'r dyletswyddau a osodir arnynt gan y Bil yn rhyngweithio â'r dyletswyddau presennol o dan Ddeddf 2015.

Ar adrannau penodol o'r Bil, fe wnaethom dri argymhelliad ar y nodau bwyd sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys, yn benodol, y dylid dileu'r nod bwyd sylfaenol yn adran 2 ac y dylid darparu gwybodaeth gynhwysfawr i gyrff cyhoeddus am y nodau bwyd eilaidd a sut y dylid eu dehongli.

Fe wnaethom argymhellion pellach ar y targedau bwyd yn adrannau 4 a 5 hefyd. Argymhellwyd y dylid cyflwyno gwelliannau i'r Bil i gynnig bod yn rhaid gwneud a gweithredu rheoliadau o fewn dwy flynedd ar ôl i adran 4 ddod i rym, a hefyd i roi mwy o sicrwydd ynghylch pwy y dylid ymgynghori â nhw. Ymhellach, argymhellwyd y dylid cyhoeddi cynlluniau bwyd lleol o dan adran 17 o fewn tair blynedd yn hytrach na dwy flynedd ar ôl i'r Bil ddod i rym. 

Yn olaf, fe wnaethom ddau argymhelliad yn gofyn am eglurder ynghylch cyrff ymgynghori y gellid eu tynnu oddi ar y rhestr o gyrff cyhoeddus yn adran 22 ac y mae'r Bil yn berthnasol iddynt. Nodaf fod Peter wedi gwrthod y ddau argymhelliad diwethaf hyn, a'n hargymhelliad i ddileu'r nod bwyd sylfaenol o'r Bil, er ei fod wedi derbyn y gweddill i gyd. Gall yr Aelodau ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein hadroddiad.

Gadewch imi droi at rai myfyrdodau personol ar hyn, oherwydd mae bwyd a pholisi bwyd yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i lawer ohonom, gan gynnwys fi fel cyn Weinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a oedd yn chwarae rhan fawr yn hyn hefyd. Yn sicr, mae yna lawer o bethau da yn y Bil hwn, ond mae yna lawer yn y Bil hwn—mae yna lawer. Rwy'n canmol yr uchelgais yn fawr, ond—ac mae'n 'ond' mawr—gadewch imi fynd drwy rai ohonynt, a barn bersonol yw hon, nid barn Cadeirydd.

Fe wnaethoch chi anelu am y sêr gyda hyn, ac mae rhan o hynny'n ymwneud â'r ymgynghoriad, yr ymgysylltiad eang a gawsoch, ac mae pawb wedi dweud eu dweud, ac mae llawer o fewn y Bil. Mae hynny'n wych, ac mae'n uchelgais mawr—fe wnaethoch chi anelu am y sêr, ond mae'n achosi rhai cymhlethdodau a rhai anghysondebau hefyd. Mae'n gynhwysfawr; mae'n gwneud y cyfan, mae'n anelu i fod yn un fodrwy i'w rhwymo nhw i gyd, fel y byddai Tolkien yn ei ddweud. Ond rydych wedi siarad am y newid i'r system ac ailwampio trefniadau llywodraethu sy'n dod ochr yn ochr â hyn. Cafwyd ymgysylltiad eang, ac mae'n debyg fod mwy i ddod os bydd y Bil hwn yn mynd rhagddo fel ag y mae; mae'n cynnwys pob adran o'r Llywodraeth; mae'n draws-gymdeithasol, fel y dywedodd Peter yn briodol; mae'n cyffwrdd â Gweinidogion ym mhob adran; bydd yn edrych ar sefydlu comisiwn newydd, sy'n eithaf diddorol yn seiliedig ar rai o'r trafodaethau a gawsom am gomisiynau a rhinweddau a diffygion hyn, ond comisiwn newydd; bydd ganddo gyfrifoldebau a dyletswyddau cyhoeddus eraill. Mae gennym gostau aneglur, ac fel y crybwyllwyd, arbedion cost aneglur hefyd, a phe bai Bil fel hwn, ar y raddfa hon, yn cael ei gyflwyno, byddech yn disgwyl iddynt fod yno; mae'n gorgyffwrdd â chynlluniau a chamau gweithredu presennol i ryw raddau; efallai na fydd yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir, fel y crybwyllodd Paul yn ei gyfraniad gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig; ac mae'n debyg y bydd angen dargyfeirio cryn dipyn o adnoddau cyfredol o fewn y Llywodraeth a chwtogi ar rai camau gweithredu sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd—dyna'r goblygiadau.

Fodd bynnag—er gwaethaf hynny i gyd, mae yna lawer iawn o bethau da yn y Bil hwn, sy'n eithaf rhwystredig mewn rhai ffyrdd. Y peth cyntaf yw eich bod eisoes wedi symud y deial yn hyn o beth—rwy'n credu eich bod wedi rhoi'r mater hwn ar yr agenda wleidyddol yn gadarn, ac yn rhannol drwy ddod â'r gynghrair fawr honno at ei gilydd. Felly, rwyf am ddweud wrth y Gweinidog, os na fydd y Bil hwn yn mynd rhagddo, beth y gellir ei wneud yn gynt, a beth sydd eisoes ar y gweill y gellir ei gryfhau neu ychwanegu ato, gan gynnwys y strategaeth bwyd cymunedol, ond agweddau eraill y gellid eu datblygu heb unrhyw ddeddfwriaeth, ond gan godi'r pwyntiau da sydd i'w cael o fewn y Bil? Sut y gallwn ni weithio gyda'r gynghrair fwyd wych honno y tu allan sydd wedi'i hadeiladu nawr i adeiladu ar y momentwm hwn? Sut rydym yn diffinio'r hyn rydym ei eisiau o bolisi bwyd? Siaradais am yr anghysondebau—weithiau mae gan y gynghrair fawr rydych wedi'i hadeiladu amcanion sy'n cystadlu ac yn gwrthdaro o ran yr hyn y maent ei eisiau o bolisi bwyd. Un o'r pethau y mae angen inni ei wneud yw crisialu hynny ar sail Cymru a dweud, 'Dyma'r ffordd rydym yn cytuno i fwrw ymlaen', heb unrhyw anwadalu, heb unrhyw amwysedd, 'Dyma beth rydym yn bwriadu ei wneud.'

Felly, nodi'r hyn y gallwn ei wneud yn gyflym heb ddeddfwriaeth, gweithio gyda'r gynghrair, nodi lle gallai fod angen deddfau—a gadewch imi ddweud, gallai hynny ymwneud â'r hawl i fwyd; gallai ymwneud â materion cyfiawnder bwyd a mynd i'r afael â newyn bwyd, pethau rydym ni ac eraill a chi'ch hun—mae fy amser wedi dod i ben—a'r blaid gydweithredol wedi—. Felly, rydych wedi anelu am y sêr; rwy'n credu y byddwch yn cyrraedd y lleuad o leiaf gyda hyn, p'un a yw'n pasio heddiw neu beidio, ond rwy'n poeni am—. Bil Llywodraeth yw hwn; rydych wedi cyflwyno Bil Llywodraeth. Nid yw hwn yn Fil arferol gan rywun ar y meinciau cefn, ac rwy'n cymeradwyo'r uchelgais honno, ond onibai bod y Gweinidog yn dweud, 'Rydym am fwrw ymlaen â hwn ac ailgyfeirio polisi', mae yna heriau.

16:00

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i ymateb i adroddiadau'r pwyllgor a chyflwyno safbwynt Llywodraeth Cymru ar egwyddorion cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru).

Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i Peter Fox a diolch iddo am ei ymgysylltiad adeiladol gyda mi a chyda fy swyddogion drwy gydol y broses o ddatblygu'r Bil. Rwy'n credu bod Peter wedi dod ag egni go iawn i'r ddadl bwysig hon ar ddyfodol ein system fwyd, a gwn eich bod wedi dod â llawer o bobl ynghyd i rannu eu syniadau. Rwyf am sicrhau'r Aelodau fod yn rhaid inni adeiladu ar y momentwm y mae Peter ac Aelodau eraill sydd wedi ymgyrchu ers tro ar y materion hyn wedi helpu i'w greu, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o'r syniadau a gyflwynwyd drwy eich gwaith a'r ddadl yn y Senedd heddiw yn haeddu sylw pellach gan y Llywodraeth a'r llu o wahanol chwaraewyr yn ein systemau bwyd lleol a byd-eang.

Wrth ystyried y cynnig sydd gerbron y Senedd heddiw, fodd bynnag, credaf mai'r ffordd orau o adeiladu ar y momentwm hwnnw yw peidio â rhoi ystyriaeth bellach i'r Bil hwn. Rwy'n cefnogi amcanion cyffredinol y Bil, fel nifer ar draws y Siambr hon, a chredaf fod y nodau cyffredinol hynny'n gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a basiwyd gan y Senedd hon, deddf yr edrychir drwy ei lens ar bob penderfyniad a gymeraf fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru mewn perthynas â bwyd a phob mater arall. Fodd bynnag, byddai deddfwriaeth bellach yn y maes i wneud fframwaith manwl ar gyfer gosod cynlluniau'n ofynnol, fel y mae'r Bil hwn yn ei argymell, yn creu perygl o ychwanegu cymhlethdod a lleihau'r adnoddau sydd ar gael i fynd i'r afael â'r heriau y mae Peter ac eraill wedi'u nodi'n briodol. Nid yw'n ychwanegu at yr adnoddau sydd eisoes ar gael i fynd ar drywydd systemau bwyd sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Amlygodd yr adroddiadau gan bwyllgorau'r Senedd rai o'r tensiynau y byddai'n eu creu gyda deddfwriaeth bresennol a chyrff cyhoeddus. Rwy'n credu mai'r gweithredu sy'n rhaid inni ei wneud i fynd i'r afael â'r heriau ar draws systemau bwyd gyda'r brys sydd ei angen yw defnyddio'r pwerau sydd gennym eisoes, nid yn unig y pwerau sydd ar gael i'r Llywodraeth, ond gweithio gyda chyrff cyhoeddus, cymunedau, cynhyrchwyr bwyd a busnesau eraill, sydd oll yn dod â'u syniadau a'u galluoedd eu hunain at y bwrdd. Mae llawer o enghreifftiau o gymunedau, busnesau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ail-siapio'r system fwyd gydag effaith leol a byd-eang, ac rwy'n siŵr y gallai pob Aelod dynnu sylw at fentrau o'r fath yn eu hetholaeth neu ranbarth. Nid canlyniad cyfarwyddeb o'r brig i lawr yw'r ffordd y maent wedi siapio'r system fwyd, fe ddaw gan y bobl a'r amgylchiadau sy'n bodoli yn y cymunedau hynny. Credaf mai dull sy'n canolbwyntio ar y gymuned o ail-siapio'r system fwyd, gan ddefnyddio ein pŵer fel Llywodraeth i gynnull a'n gallu i gefnogi gweithredu lleol, yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r heriau a nodwyd. Gall hyn fod yn fwy pwerus nag y gellid ei gyflawni drwy ddibynnu'n ormodol ar ddulliau biwrocrataidd. Yn yr addewid o ateb deddfwriaethol perffaith, y perygl yma yw ein bod yn cael ein dargyfeirio oddi ar ffyrdd mwy uniongyrchol a chynhwysol o gyflawni ein nodau.

Mae'r ffordd y mae gwaith y Comisiwn Bwyd yn Lloegr wedi ei chael hi'n anodd symud ymlaen, tra bod tlodi bwyd wedi cynyddu, yn dangos yr anawsterau o fabwysiadu'r dull gweithredu a gyflwynwyd yn y Bil hwn. Yn amlwg, er mwyn i gynllun weithio, mae angen iddo ganolbwyntio ar her y mae ganddo rywfaint o obaith o'i goresgyn. Mae angen iddo ymgysylltu'n briodol â phawb y mae angen iddynt fuddsoddi yn ei lwyddiant. Er nad yw'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn meddu ar yr holl ddulliau i siapio'r systemau bwyd yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt yn eu cyfanrwydd, fe allwn ddylanwadu arnynt yn y penderfyniadau a wnawn, ac rydym eisoes yn gwneud hynny. Caiff systemau bwyd eu siapio i raddau helaeth gan ein cynhyrchwyr bwyd a busnesau eraill hefyd. Mae dewisiadau defnyddwyr a gweithredu cymunedol hefyd yn siapio'r ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu a'i rannu. Rwy'n cytuno bod cyfleoedd i ni fel Llywodraeth ddefnyddio ein galluoedd, mewn modd cydgysylltiedig, i siapio'r system fwyd, ac rwyf o'r farn nad lefel y manylder y gallwn ei gynhyrchu mewn cynllun sy'n pennu'r ffordd fwyaf pwerus y gallwn wneud hynny. Yn hytrach, mae'n ymwneud mwy â'n gallu i gefnogi gweithredu ar lefel gymunedol, gan gynnwys drwy ysgogi cefnogaeth y sector cyhoeddus a thrwy eu helpu nhw i weithio gyda'n cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru a'r sector bwyd ehangach. Mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi bod â diddordeb cyson mewn gwneud ein systemau bwyd yn decach, yn wyrddach ac yn gryfach.

Mae cyflawniad Cymru ar ailgylchu, sy'n arwain y byd, yn golygu mai ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i gael casgliadau gwastraff bwyd cyffredinol ar gyfer pob cartref, i sicrhau gostyngiadau allyriadau cynaliadwy ac i atal llawer iawn o wastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Roedd y llwyddiant hwn yn dibynnu ar fod Llywodraeth, diwydiant a chymunedau yn gweithio gyda'i gilydd, gyda phob un â rôl i sicrhau newid parhaol. Rydym wedi darparu prydau ysgol am ddim i bawb, ac yn ystod y pandemig, fe wnaethom greu'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a oedd yn cefnogi creu neu wella mannau gwyrdd mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae mynediad i fannau gwyrdd o ansawdd da yn gyfyngedig, ac mae hynny'n cynnwys cannoedd o brosiectau gwyrddu cymunedol. Mae'r rhain yn bolisïau sy'n cael eu hargymell gan lawer o'r rhai sy'n ymgyrchu dros system fwyd decach, ac yn adlewyrchu syniadau a gymeradwyir gan y Comisiwn Bwyd yn Lloegr, ac eto maent wedi'u cyflawni yng Nghymru heb ddibynnu ar fframwaith cymhleth ar gyfer cynllunio systemau bwyd.

Yn Lloegr, maent wedi blaenoriaethu cynhyrchu strategaeth fwyd genedlaethol, ac er iddynt gynnull comisiwn bwyd, maent wedi'i ddiddymu ers hynny. Eto i gyd, efallai y bydd yn rhaid iddynt aros am ddegawd neu fwy er mwyn i'r ymyriadau pwysig hyn yn ein systemau bwyd ni gael eu cyflawni yno. Ac mae'n amlwg fod y comisiwn wedi amsugno adnoddau helaeth ac eto nid oedd hynny'n eu galluogi i gyflawni newid yn y system fwyd. Yng Nghymru, yn wahanol i wledydd eraill yr UE, mae gennym gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, a'r ddeddfwriaeth sy'n sail iddo, ac nid wyf yn gweld angen am gomisiwn costus arall yma yng Nghymru. Yn syml, nid oes y lefel honno o gyllid ar gael. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i weld sut y gall ein helpu a'r hyn y gall ei wneud i edrych ar y system fwyd a bod yn ffrind beirniadol i ni yma yn y Llywodraeth.

Felly nid yw hyn yn fy arwain at y casgliad mai'r Bil hwn yw'r ffordd orau neu'r unig ffordd i ail-siapio ein system fwyd er gwell. Credaf fod cynnig y Bil wedi creu cyfle pwerus i'r cyhoedd a'r Senedd yng Nghymru drafod y materion hyn. Fodd bynnag, rwy'n credu ei fod yn dysgu'r wers anghywir o'r profiad yn Lloegr. Y wers y dylem ei dysgu yn fy marn i yw gweithio yn y ffordd Gymreig arbennig a chydweithredol honno i ganolbwyntio ar y bobl a'r sefydliadau ym mhob un o'n cymunedau, a'r hyn y gallwn ei wneud i hwyluso newid o'r gwaelod i fyny. Gall Cymru sicrhau newid cadarnhaol go iawn a pharhaol yn ein systemau bwyd ac ym mywydau pobl.

Gan dynnu ar y wers honno, ac ar sail gwaith a wnaed gan bwyllgorau'r Senedd wrth ymateb i gynnig Peter am Fil, os na fydd y Bil yn cael ei gymeradwyo heddiw, rwy'n ymrwymo i gyhoeddi a diweddaru dogfen draws-bortffolio gyfnodol ar gyfer rhanddeiliaid a fyddai'n crynhoi ein hystod eang o bolisïau bwyd a sut maent yn cydgysylltu ar draws meysydd polisi a'r nodau llesiant. Rwyf hefyd wedi cytuno â'r Prif Weinidog y bydd yn cadeirio fforwm trawslywodraethol fel y gallwn sicrhau bod yr ymdrechion a wnawn yn y Llywodraeth yn destun trosolwg priodol sy'n caniatáu inni gydgysylltu a chyfathrebu polisi'n well, ac adrodd yn ôl i'r Senedd. Oherwydd rwyf o ddifrif ynghylch y pryderon a godwyd yn ystod y broses graffu nad yw polisïau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â bwyd yn ddigon cydgysylltiedig a bod Gweinidogion yn gweithio mewn seilos. Gallwn edrych ar yr hyn y gallwn ei ddatblygu o'r fforwm trawslywodraethol a gweld beth y gallwn ei wneud mewn perthynas â strategaeth.

Credaf y gall hyn gefnogi diddordeb parhaus y Senedd yn y materion hyn a helpu i alluogi craffu cyhoeddus ehangach ar y ffordd rydym ni fel Llywodraeth yn gweithio i ddylanwadu ar systemau bwyd er gwell—nid gyda chynllun unigol canolog ar gyfer pob elfen o'n system fwyd, ond drwy alluogi mwy o graffu gan y Senedd ac ymwneud y cyhoedd. 

Felly yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn annog pob Aelod i barhau i ymgysylltu â mi a phobl Cymru ar y pwnc pwysig hwn fel y gallwn gyflawni mwy gyda'n gilydd, ac i ganiatáu inni gael y cyfle gorau i wneud hynny, credaf ei bod yn iawn i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y cynnig heddiw. Diolch yn fawr. 

16:10

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma, ond a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Peter Fox a'i dîm am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i'r ddeddfwriaeth hon? Golygodd ein bod wedi cael sesiynau pwyllgor diddorol iawn, a chraffu ar rywun oddi ar fy meinciau fy hun am y tro cyntaf, ond rhaid imi ganmol Peter am fod mor agored a gonest yn ystod y sesiynau hynny. Yn wir, yn ôl y ffordd yr atebai Peter gwestiynau yn y pwyllgor, byddai'n gwneud Gweinidog Llywodraeth Cymru da iawn. 

Felly, beth y credaf y mae Peter yn ceisio'i gyflawni wrth gyflwyno ei Fil bwyd? Rwy'n credu mai newid trawsnewidiol i'r system fwyd mae'n ei geisio—newid a fyddai o fudd i'r gadwyn gyflenwi bwyd gyfan o'r cynhyrchwyr i'r proseswyr, ac yn bwysig, i'r defnyddiwr. Drwy geisio datblygu fframwaith polisi bwyd cadarn, gallwn amddiffyn ein sofraniaeth bwyd yn well ac fel y clywsom eisoes y prynhawn yma, gallwn wella dewis defnyddwyr, dileu gwastraff bwyd diangen, mynd i'r afael â thlodi bwyd a chryfhau ein hymdrechion i ymladd newid hinsawdd.

Ac fel y dywedodd Peter yn ei sylwadau agoriadol, mae'n bryd gweithredu nawr. Mae ymosodiad anghyfreithlon a barbaraidd Putin ar Wcráin wedi dangos bod sofraniaeth bwyd yn hanfodol i wella diogelwch ein gwlad ein hunain. Rydym wedi gweld drosom ein hunain yr effaith y gall geowleidyddiaeth ei chael ar ein cadwyn gyflenwi ddomestig ein hunain, y cynnydd enfawr yng nghostau mewnbwn cynhyrchu bwyd, a chwyddiant bwyd yn taro 19.2 y cant, sy'n syfrdanol o uchel, pwysau a deimlir ar draws y byd gorllewinol, 21.2 y cant yn yr Almaen, 16.6 y cant yn Sbaen a 15.9 y cant yn Ffrainc. 

Mae'r heriau hyn yn arwain at ganlyniadau uniongyrchol i'n heconomi gyfan, o'r ffermwr sy'n ceisio tyfu eu cnydau i'r defnyddiwr yn yr archfarchnad. Os nad awn i'r afael â'r amgylchiadau hyn, mae ein methiant i weithredu, i gefnogi'r ddeddfwriaeth allweddol hon a'i nodau, yn creu perygl o danseilio cydnerthedd Cymru yn erbyn rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r wlad. A chredaf mai dyna pam mae Bil bwyd Peter Fox yn bwysig ac yn hynod o amserol.  Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau enfawr hyn, mae angen polisi fframwaith statudol hirdymor sy'n cydnabod cymhlethdodau ein system fwyd, sy'n ystyried pob un gweithredwr, o giât y fferm i'r plât. Dyna beth mae Bil bwyd Peter yn ei wneud.

Mae angen strategaeth weledigaeth bwyd gyfunol sy'n dod â'r holl bartneriaid ynghyd o amgylch y bwrdd gwneud penderfyniadau i sicrhau bod gennym fframwaith tryloyw sy'n ystyried cyfrifoldeb pob adran o Lywodraeth Cymru, boed yn Weinidog yr Economi, materion gwledig, cyfiawnder cymdeithasol neu newid hinsawdd. Dyna beth mae Bil bwyd Peter yn ei wneud.

Ac mae angen strategaeth fwyd genedlaethol sydd wedi'i hangori mewn deddfwriaeth, gyda mesurau diogelu statudol gwarantedig sy'n sicrhau bod gan bawb fynediad at gynnyrch Cymreig o'r safon uchaf. Dyna beth mae Bil Bwyd Peter yn ei wneud. Drwy weithio ochr yn ochr â Bil Amaethyddiaeth (Cymru) Llywodraeth Cymru a'r cynllun ffermio cynaliadwy, gallwn weithredu strategaeth fwyd hollgynhwysol sy'n diogelu ac yn sefydlogi cadwyn cyflenwi bwyd Cymru er budd pawb. 

Ar ôl eistedd drwy sesiynau pwyllgor a gwrando ar y tystion, mae'n amlwg fod yr holl dystiolaeth yn tynnu sylw at yr angen am newid trawsnewidiol i'r system fwyd. Er bod rhywfaint o anghytuno ynglŷn â sut y byddai hyn yn cael ei roi mewn grym, dadleuodd pob tyst fod angen i ryw fath o hyrwyddwr bwyd Cymreig fynd ar drywydd yr ymdrech hon, ffigwr blaenllaw i arwain stori fwyd Cymru, neu tsar bwyd i oruchwylio sut rydym yn caffael ein bwyd. Er bod syniadau gwahanol ynglŷn â sut y byddai comisiwn bwyd neu gomisiynydd bwyd yn gweithredu, neu ei strwythur, roedd hi'n amlwg fod angen i rywun fod yn hyrwyddwr, i fod yn ffigwr blaenllaw.

Felly, gyda'r Bil amaethyddiaeth yn agosáu at ddiwedd ei daith ddeddfwriaethol, gall Bil Bwyd (Cymru) fod yn ddarn olaf o'r jig-so, gan weithio un gyda'r llall i gryfhau eu hymdrechion cyfunol ar y cyd. Ers yn rhy hir, rydym wedi cymryd cynhyrchiant bwyd a diogeledd bwyd yn ganiataol ac wedi bod yn hunanfodlon ynghylch strategaeth fwyd i Gymru. Nid dim ond cyfle i newid cyfeiriad yw hwn, ond cyfle i ddatblygu'r strategaeth sy'n sicrhau ein sofraniaeth bwyd am genedlaethau i ddod. Gyda hynny, carwn annog pob Aelod i gefnogi Peter Fox y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

16:15

Mae'r Bil hwn yn ymwneud â mwy na chynhyrchiant bwyd yn unig; mae'n bendant yn ymwneud â dull system gyfan o weithredu, ac rwy'n diolch yn fawr i Peter Fox am yr holl waith y mae wedi'i wneud. Sut na allai unrhyw un fod o blaid y prif ddiben o ddarparu bwyd fforddiadwy, iach sy'n gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol?

Ar yr amcanion eilaidd, rwy'n cytuno bod yn rhaid inni ddatblygu sgiliau bwyd pobl, ac nid mewn ysgolion yn unig. Nid yw o leiaf chwech o bob 10 o bobl byth yn coginio pryd o gynhwysion sylfaenol, gan ddibynnu naill ai ar fwyd tecawê neu brydau parod. Beth yw'r broblem gyda hynny? Yn fyr, mae'n eich lladd. Mae bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn gaethiwus ac wedi'i lwytho ag ychwanegion naill ai i ymestyn ei oes silff neu i roi rhywfaint o flas ar gynhwysion o ansawdd gwael. Rydym yn bobl brosesedig iawn.

Felly, nid wyf yn synnu nad yw'r Ffederasiwn Bwyd a Diod eisiau'r Bil hwn, gan fod y rhan fwyaf o'u haelodau'n rhan o'r gêm brosesu dwys. Mae'r proseswyr a'r manwerthwyr yn gwario biliynau ar ddyfeisio ffyrdd newydd o wneud pobl yn gaethiwus i'w cynnyrch nhw, yn hytrach na chynnyrch cystadleuol, ac mae elw enfawr i'w wneud. Ond mae'r ychydig gwmnïau mawr sy'n dominyddu'r dirwedd—llawer mwy o faint nag unrhyw Lywodraeth Cymru—yn tueddu i beidio â rhannu'r gwobrwyon gyda'r ffermwyr, y bobl sy'n cynhyrchu'r bwyd.

Mae'n eithaf heriol prynu bwyd nad yw wedi ei ddifwyno mewn rhyw ffordd gydag ychwanegyn i ymestyn ei oes silff. Mae'n anodd diddyfnu pobl oddi ar eu caethiwed, oherwydd mae pobl yn bwyta mwy nag y dylent yn rhannol oherwydd ei nodweddion caethiwus, ond hefyd oherwydd bod bwyd heb faeth yn golygu bod pobl yn dal i deimlo'n llwglyd.

Mae'r GIG bellach yn gwario 12 y cant o'i gyllideb—dros £1 biliwn—ar ofalu am bobl â diabetes. Mae hynny wedi codi o 10 y cant ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae disgwyl iddo gynyddu i 17 y cant, felly mae hynny'n golygu dros £1.5 biliwn ar brisiau heddiw. Rwy'n siŵr y gallech chi i gyd feddwl am ffyrdd gwell o wario'r arian hwnnw, pe gallem atal yr epidemig hwn, a hynny cyn i chi ddechrau sôn am yr holl glefydau eraill sy'n gysylltiedig â bwyd. Ni allwn fforddio parhau fel hyn. Mae Bil Peter wedi tynnu sylw at y broblem ac wedi mynegi rhai o'r newidiadau sydd eu hangen. 

Ond rhaid i drechu ein hamgylchedd bwyd obesogenig fod yn waith i fwy na'r weinyddiaeth materion gwledig a'r rhaglen rheoli tir cynaliadwy. Mae'r her filltiroedd yn fwy na hynny, ac fel y nodwyd eisoes, mae hyn yn effeithio ar bob un Gweinidog ar y fainc flaen. Mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, maent yn gyfrifol am bolisi bwyd.

Felly, y Gweinidog addysg sy'n gwneud yr ymdrechion gorau ar hyn o bryd, ar ôl gwneud dechrau da iawn ar gyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb. Oherwydd mae hyn yn ymwneud â mwy na gweini bwyd sothach i'n plant fel eu bod yn cael rhywbeth, mae hyn yn ymwneud â chael bwyd maethlon, da i roi blas ar fwyd go iawn i blant, y genhedlaeth nesaf. Rwy'n canmol yn fawr ei gronfa i gefnogi cwmnïau lleol i annog awdurdodau lleol i gaffael cynhwysion ffres. Bwyd iach, cynaliadwy Cymreig ar blatiau plant—beth nad sydd i'w hoffi yn hynny? Ond yn syml, ni all wneud hyn ar ei ben ei hun.

Mae angen mwy o newydd-ddyfodiaid i arddwriaeth. Nid yw ffermwyr presennol yn arbennig o awyddus i ddysgu'r sgiliau newydd hyn, ac mae hynny'n golygu ei fod yn fater cynllunio—mae'n rhaid inni sicrhau bod Julie James yn gwneud yn siŵr nad adeiladir ar dir âr—ac mae'n rhaid iddo fod yn gynhwysyn pwysig yn yr economi sylfaenol. Mae angen sgiliau newydd arnom ac mae angen recriwtio pobl newydd i'r farchnad bwysig hon.

Rhaid ailadrodd y rhaglen ffocws ar brydau ysgol yn ein trefniadau caffael bwyd ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal. Os na, pam ddim? Mae'n galw am newid system gyfan, nad yw'n rôl i Fil Aelod preifat mewn gwirionedd. Yn syml, nid oes gennych allu i droi Llywodraeth o gwmpas yn llwyr. Gan y Prif Weinidog y mae'r pŵer hwnnw, a chredaf fod y newyddion ei fod yn barod i gynnull uwchgynhadledd i drafod y mater gwirioneddol arwyddocaol hwn yn bwysig tu hwnt.

Nid wyf erioed wedi cefnogi comisiwn bwyd; nid oes gennym amser ar gyfer hynny. Mae angen hyn ar frys. Mae gennym y comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol eisoes, a'u gwaith yw cydgysylltu'r dotiau. Yr hyn y credaf fod angen inni ei wneud yw defnyddio'r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru eisoes i benodi unigolyn i banel cynghori comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol gyda chylch gwaith penodol i fod yn hyrwyddwr bwyd, oherwydd byddai'r unigolyn hwnnw wedyn yn eistedd ochr yn ochr â'r comisiynydd plant, y comisiynydd bobl hŷn—

16:20

—a'r holl bobl eraill sy'n bobl arwyddocaol iawn. Os na fydd y Bil hwn yn mynd rhagddo, ni allwn ei ddefnyddio fel esgus dros ddiffyg gweithredu pellach. Rhaid inni sicrhau ein bod yn gweld newid system gyfan yn ein dull o ymdrin â bwyd.

Dwi am gychwyn fy nghyfraniad trwy longyfarch Peter Fox am lwyddo i ddod â'r Bil hwn i'r pwynt yma ar ei daith, a dwi am gymryd eiliad i fynegi ein cefnogaeth gyffredinol i'r Bil hwn unwaith eto. Mae Plaid Cymru eisiau gweld Cymru lle mae gan bawb fynediad hawdd at fwyd maethlon wedi ei gynhyrchu yn gynaliadwy ac mewn modd sy'n sicrhau incwm teg i ffermwyr a holl weithwyr y sector bwyd.

Rydym ni'n gwybod beth sydd angen digwydd i gyflawni hyn: mae angen dull systematig arnom sy'n mynd i'r afael â'r diffygion difrifol yn isadeiledd ein sector bwyd ar hyn o bryd. Ond y gwirionedd ydy bod y dirwedd polisi bwyd yng Nghymru yn rhy dameidiog ac nad oes gweledigaeth gynhwysfawr ar gyfer bwyd yng Nghymru, yn genedlaethol nac yn lleol. Dwi'n croesawu'r ymrwymiad i ddatblygu strategaeth fwyd gymunedol fel cam tuag at unioni hynny, ond, fel mae'n sefyll, strategaeth gymunedol fydd hon, ac felly erys bylchau yn y dirwedd polisi. Ymhellach, does dim strwythur cyflawni addas i bwrpas er mwyn gwireddu'r weledigaeth, gan fod gwahanol adrannau o'r Llywodraeth yn gwneud gwahanol weithgareddau mewn seilos.

Hyd y gwn i, does yna ddim un corff nac adran o fewn y Llywodraeth yn gyfrifol am gydlynu'n holistaidd ac yn strategol y gweithredu yn y maes yma. Dyna pam rydym ni ar y meinciau yma yn credu bod angen sefydlu comisiwn bwyd i hwyluso hyn, yn ogystal â'r ymrwymiadau eraill, rhai ohonynt yn gyson gyda'r Bil yma ger ein bron, er mwyn gwireddu ein gweledigaeth glir a hirsefydlog ar gyfer y sector bwyd yng Nghymru.

Mae'n rhaid i'r Bil yma sicrhau bod bwyta'n iach yn cael ei annog drwy fonitro mynediad at fwyd iach yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, a sicrhau bod y system fwyd yn cael ei chysylltu â sectorau eraill, er enghraifft drwy sicrhau bod coginio ar y cwricwlwm a bod hyn yn cynnwys cynhwysion lleol a ryseitiau iach. 

Yn ogystal, yn sgil cyflwyno prydau i ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, sydd i'w groesawu'n gynnes iawn, byddai'n briodol i system fwyd sy'n cael ei chreu yn sgil y Bil hwn sicrhau bod bwyd a'i gynhyrchiant yn cael eu gwreiddio ym mywyd ein hysgolion, gyda chytundebau’n cael eu caffael yn lleol pryd bynnag y bo modd, fel y gall plant ddysgu o ble y daw eu bwyd a datblygu’r arfer o fwyta bwyd maethlon wedi’i gynhyrchu’n lleol yn gynnar yn eu bywydau, sy’n golygu y byddant yn iachach, gyda budd i’r economi ac i’r amgylchedd.

Mae gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i’w chwarae yn y gwaith o newid diwylliant bwyd yng Nghymru, ac mi ddylai’r Bil hwn fod yn gyfle i wneud hynny. Un maes lle mae’n amlwg bod angen i hyn ddigwydd ydy ein sector pysgodfeydd, bwyd môr a dyframaethu. Mae gan sectorau pysgodfeydd, bwyd môr a dyframaethu Cymru gyfle i ddatblygu ac i gyfrannu at yr uchelgais i Gymru fod ar y blaen wrth gynhyrchu bwyd cynaliadwy. Mae Cymru wedi’i hamgylchynu gan y môr ac mae ein moroedd yn gyfoethog o gynnyrch, cynnyrch a allai fwydo’r wlad yn gynaliadwy, ond, ar hyn o bryd, mae’r sector ar ei gliniau. Yn anffodus, mi ydyn ni fel cenedl wedi colli blas ar gynnyrch maethlon a blasus ein moroedd, felly mae’r Bil yma yn rhoi cyfle i ailgodi’r sector yma.

Wrth inni drafod ehangu a chryfhau ein sector bwyd, mae rhaid inni ystyried yr anghenion o ran hyfforddiant hefyd. Mae’r posibiliadau o ran datblygu ein sector bwyd yng Nghymru yn niferus, ac mae ystod eang o gyfleoedd inni foderneiddio ein system fwyd drwy ddefnyddio technolegau newydd a buddsoddi mewn ymchwil a datblygiad. Er mwyn gwneud hyn oll, mi fydd angen gweithlu gyda’r sgiliau a’r profiad i gynnal y sector. Byddai’n dda clywed ymateb y Gweinidog i’r pwyntiau yma hefyd.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil hwn am y rhesymau niferus yr wyf wedi’u crybwyll yn fy nghyfraniad a rhagor. Fe hoffwn annog pob plaid sydd yn eistedd yma i gefnogi hynny hefyd, gan sicrhau ein bod yn gweithio ar y cyd ac yn bwydo i mewn i’r broses hon er mwyn sicrhau y gallwn greu system fwyd sy’n gweithio i Gymru a’n holl gymunedau. Mae’n glir dyw'r system bresennol ddim yn addas i bwrpas, ac mae gennym ni fel Senedd gyfle i newid hyn heddiw. Felly, gobeithio y gwelwn ni bawb yma yn cefnogi cynnig Peter Fox. Diolch.

16:25

Er eglurder, ni fydd y Gweinidog yn ymateb ymhellach, oherwydd yr Aelod sy'n gyfrifol fydd yn ymateb. Laura Anne Jones.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, ac a gaf fi ddechrau drwy dalu teyrnged i Peter Fox am yr holl waith caled y mae'r Aelod dros Fynwy wedi'i wneud hyd yma i gael y Bil i'r pwynt hwn?

Mae pwrpas y Bil i'w ganmol ac mae ei angen yn fawr. Ei nod yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yma yng Nghymru, rhywbeth y mae'r wlad wedi bod yn galw amdano ers peth amser, i annog meddwl cydgysylltiedig ymhlith y rhanddeiliaid hefyd, rhywbeth sydd wedi bod ar goll ers amser maith, yn anffodus. Mae'n nodi amcanion syml, a fyddai'n cael effaith gadarnhaol enfawr.

Fel Gweinidog yr wrthblaid dros addysg, fel rhiant, fel y mae eraill yn y Siambr hon eisoes wedi crybwyll heddiw, mae gennyf ddiddordeb mewn maeth plant a chynnwys prydau ysgol, ac rwy'n teimlo, yn anffodus, nad ydym yn buddsoddi yn ein plant fel y dylem yn hyn o beth. Mae prydau ysgol yn amrywio'n fawr rhwng ardaloedd awdurdodau lleol, ac mae'n bryd dechrau rhoi ystyriaeth go iawn i sut y gallwn gynnig bwyd mwy maethlon i'n plant a'n pobl ifanc, gyda'r llu o fanteision iechyd corfforol a meddyliol a fyddai'n dod yn sgil hynny, yn ogystal â chefnogi economïau gwledig lleol ar yr un pryd, cefnogi caffael lleol, fel bod gennym gig a llysiau o ansawdd uchel yn ein hysgolion, nid defnyddio chwilod. Byddai cefnogi ein busnesau a'n ffermwyr lleol a lleihau milltiroedd bwyd hefyd yn helpu'r amgylchedd, ac rwy'n croesawu nodau'r Bil hwn.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai defnyddio bwyd lleol yn ein hysgolion nid yn unig yn gwella addysg am darddiad ein bwyd, byddai hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd prynu'n lleol ac effaith amgylcheddol gadarnhaol gwneud hynny. Mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar y cynnyrch Cymreig lleol o'r radd flaenaf sydd o'n cwmpas i fwydo ein plant yn ein hysgolion, ac rwy'n credu bod defnyddio ansawdd yr hyn sydd gennym o'n cwmpas, lleihau milltiroedd bwyd, gwneud y system yn fwy cynaliadwy a'r manteision iechyd enfawr yn rhywbeth y mae plant ei eisiau hefyd. Byddai'n wych gweld mwy o gynnydd yn y maes hwn fel un o'r canlyniadau cadarnhaol niferus y gellir eu cyflawni o'r Bil hwn.

Rwy'n gwybod bod Jenny Rathbone—. Rydych eisoes wedi amlinellu'r pethau cadarnhaol yn hyn, ac fel rhywun sydd hefyd eisiau gweld hyn yn digwydd, rhaid eich bod yn gweld y cyfle y mae'r Bil hwn yn ei gyflwyno, ac rwy'n gobeithio, fel Jane Dodds yn ogystal, y byddwch yn cefnogi'r Bil hwn heddiw.

Mae llu o fanteision i'r Bil, fel y mae Peter ac eraill eisoes wedi'u hamlinellu, felly nid wyf am eu trafod eto, ar wahân i ddweud fy mod yn gwybod ein bod ni i gyd fel Ceidwadwyr Cymreig yn gweld y gwerth mawr o gael y Bil hwn drwy'r Senedd. Mae cefnogi amaethyddiaeth yn cael lle canolog yn y Bil hwn, ac fel merch fferm rwy'n falch iawn o hynny, ac rwy'n cefnogi'r nod hwnnw'n llwyr. Mae cyfle gwirioneddol gan y Bil i sicrhau ein bod yn gynaliadwy fel cenedl, gan gynyddu ein diogeledd bwyd ar yr un pryd. Mae angen inni symud i gael sicrwydd o wybod bod y cynhyrchiant bwyd yn gynaliadwy ac wedi'i leoleiddio i dorri gwastraff. Rwy'n credu y byddai'n drychineb inni golli cyfle i gael Bil yr Aelod i'r cam nesaf, neu o leiaf i weithio ar ei nodau a'u datblygu mewn ffyrdd eraill. Byddai'n sicr yn gyfle a gollwyd i beidio â phleidleisio drosto, gwrando arno a chymryd camau o'i herwydd, gan fod hwn yn gyfle i osod sylfeini ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn sicr, dyma pam ein bod i gyd yma, ac fel y nododd Peter yn gynharach, mae gweithredoedd yn siarad yn uwch na geiriau, ac rwy'n eich annog yn gryf i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.

16:30

Mae dau siaradwr ar ôl, ac mae ein hamser ar ben, ond rwy'n mynd i alw ar y ddau. Rwy'n gofyn iddynt fod yn gryno a chadw at yr amser, os gwelwch yn dda. Vikki Howells.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelod dros Fynwy am gyflwyno’r Bil hwn. Mae’n gofyn cwestiynau pwysig iawn ac mae wedi creu gofod inni allu eu trafod: cwestiynau ynglŷn â'n cyflenwad bwyd, sut rydym yn sicrhau ei fod yn gynaliadwy, sut rydym yn sicrhau ei fod yn ddiogel a sut rydym yn gwella'r dewis i ddefnyddwyr, gan sicrhau hefyd fod y dewisiadau hynny’n cyfrannu at lesiant a'r gwaith o ddiogelu ein hamgylchedd. Gwyddom fod gordewdra'n bryder mawr yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru, ond hefyd fod mwy a mwy o bobl yn defnyddio banciau bwyd am na allant fforddio bwyta. Yn amlwg, mae hyn oll yn awgrymu bod angen inni fabwysiadu ymagwedd newydd at fwyd.

Credaf hefyd fod hon yn drafodaeth amserol iawn, gan ei bod yn digwydd wrth inni ystyried Bil amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn edrych ar sut rydym yn cefnogi ein ffermwyr ac yn defnyddio ein tir. Rwyf wedi gwerthfawrogi'r cyfle i allu ystyried rhai o'r cwestiynau hynny fel Aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig pan oeddem yn craffu ar y Bil, a gwn fod hwnnw'n deimlad a rennir ymhlith aelodau eraill y pwyllgor hefyd. Hoffwn ddiolch hefyd i'r tîm clercio a phawb a roddodd dystiolaeth am wneud hwn yn ymchwiliad gwerth chweil. Yn ymateb yr Aelod i’n hadroddiad, rwy'n credu ei fod yn sôn am y lefel syfrdanol o ymgysylltiad gan randdeiliaid, a hoffwn adleisio’r sylwadau hynny. Diolch i bawb a ymgysylltodd.

Fodd bynnag, yn seiliedig ar y sesiynau tystiolaeth, ni fyddaf yn pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil ac iddo symud ymlaen i gyfnod nesaf y broses ddeddfwriaethol. Ar ei ffurf bresennol, nid wyf yn credu ei fod o reidrwydd yn darparu'r atebion i rai o'r cwestiynau y soniais amdanynt yn gynharach. Yn hytrach, ac ar ôl clywed gan bawb a ddaeth i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, rwyf wedi dod i'r casgliad fod hwn yn faes lle nad oes angen deddfwriaeth sylfaenol newydd. Mae barn y Gweinidog y byddai’r Bil fel y’i gosodwyd yn rhy fiwrocrataidd a drud yn gywir yn fy marn i, yn enwedig pan ystyriwn bopeth a wyddom am y pwysau ar gyllidebau a gwariant.

Yn hytrach, dylai ein blaenoriaethau ymwneud â datblygu strategaeth fwyd genedlaethol. Dylai gael ei chydgynhyrchu rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid, a dylai fod yn seiliedig ar ddadansoddiad trylwyr o unrhyw fylchau yn y targedau presennol. Gwyddom fod gwaith eisoes yn mynd rhagddo yn y maes hwn. Er enghraifft, mae'r rhaglen lywodraethu a’r cytundeb cydweithio eisoes yn ymrwymo i ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol i Gymru, i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at ddatblygu’r cynigion hyn ymhellach, yn seiliedig ar farn defnyddwyr a phobl sy’n ymwneud â mentrau bwyd cymunedol. Roedd hwn hefyd yn bwynt a godwyd yn ystod ein sesiynau craffu, gyda rhai tystion yn sôn am bartneriaethau bwyd lleol presennol. Mae angen ehangu rhywfaint o’r gwaith hwn, a thrwy ein helpu i wneud y galwadau hyn a chael y dadleuon hyn, mae Bil yr Aelod wedi gwneud cyfraniad sylweddol iawn.

Ond yn erbyn hyn, nid oes angen inni fwrw ymlaen â’r Bil er mwyn bwrw ymlaen â’r cynigion hynny. Gwyddom hefyd y gellir creu corff trosfwaol newydd eisoes, heb ddeddfwriaeth, i oruchwylio polisi bwyd yng Nghymru a bwrw ymlaen â pheth o'r gwaith ehangu. Unwaith eto, gallai hwn fod yn fwrdd mewnol, neu rwyf hefyd yn hoff o'r awgrym o wreiddio hyn yn swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Gallai hynny roi dannedd i’r cynigion. Drwy wneud hynny, byddai'n ein helpu i greu system fwyd sy’n gweithio ar ran defnyddwyr a chynhyrchwyr yng Nghymru. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, a byddwch yn falch o wybod y byddaf yn cadw fy sylwadau’n gryno iawn, Ddirprwy Lywydd.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Peter Fox am ddod â hyn i'r Senedd y prynhawn yma, ac am y gwaith rydych wedi'i wneud, nid yn unig yn y pwyllgor, yn amlwg, ond dros gyfnod hir o amser, gan fod llawer mwy na 12 mis wedi bod bellach, onid oes? Nid yw'n teimlo mor bell â hynny yn ôl ers inni gyfarfod yn Sioe Frenhinol Cymru a thrafod manylion y Bil bwyd hwn yn fanwl. Roeddwn yn falch iawn o'r cyfle hwnnw i’w weld ar lwyfan Sioe Frenhinol Cymru a gweld y croeso a gafodd gan y sector yn ystod yr wythnos honno. Roedd yn agoriad llygad i mi.

Yr hyn yr hoffwn ganolbwyntio arno, oherwydd yn y ddadl, rydym wedi trafod cryn dipyn yn y cyfnod hwn o amser, ond yr hyn yr hoffwn ganolbwyntio arno yw pwyntiau 196 a 197 ar y nodau bwyd, a’r cyfle a’r cwmpas sydd gan y Bil hwn i gyflawni lles economaidd. Yn amlwg, yn fy etholaeth i, Dyffryn Clwyd, mae gennym ddwy o'r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru gyfan, Gorllewin y Rhyl a Dinbych Uchaf, a chredaf fod cwmpas a phŵer y Bil hwn—. Pan fyddaf yn edrych ar Filiau, rwyf bob amser yn meddwl, 'Beth mae hyn yn ei olygu i fy etholwyr, a beth mae'n ei olygu i aelod o'r cyhoedd neu rywun ar y stryd?', a chyda chwmpas y Bil hwn a'r ymchwil a phopeth sydd wedi mynd i mewn iddo, credaf fod ganddo gyfle i gael ei deimlo gan bawb, o blant i bobl mewn gofal a lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone ynglŷn â chael bwyd o ansawdd da mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, oherwydd pan oeddwn ym myd ffisiotherapi, yn gweithio ym maes adsefydlu, roeddwn yn arfer meddwl, 'Wel, rydym yn disgwyl i gleifion gael eu hadsefydlu mewn lleoliadau eithaf acíwt, ac nid ydynt yn cael bwyd maethlon.' A rhan allweddol o adsefydlu yw eu bod yn cael eu maethu i safon dderbyniol, oherwydd yn amlwg, gyda phobl sydd wedi torri esgyrn a phobl ag anafiadau acíwt mewn ysbytai, mae angen yr adsefydlu arnynt, ond mae angen y maeth arnynt i gyd-fynd â hynny yn ogystal, gan fod angen y pecyn cyfan, a chredaf fod y Bil hwn yn cyflawni hynny.

Ac o ran ei rym a pha mor bell y gall fynd, ni allaf yn fy myw ddeall pam nad yw Llafur yn cefnogi hyn. Dywedant mai nhw yw plaid tegwch, wel, mae'r Bil hwn yn gwneud hynny, yn fy marn i. Mae'n creu'r tegwch hwnnw, ac, o'r pwyntiau rwyf wedi'u gweld yma, rwy'n credu ei fod yn Fil di-ddosbarth hefyd, gan fod ganddo bŵer i gael ei deimlo gan bawb yn y gymdeithas, a chredaf fod hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Felly, rwyf am gloi fy sylwadau drwy annog pawb i bleidleisio dros y Bil hwn heno. Diolch.

16:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bob un ohonoch am eich cyfraniadau? Mae wedi bod yn ddadl dda. Mae llawer iawn o waith wedi’i wneud ar hyn, ac nid ar chwarae bach y cafodd ei gyflwyno, fel y gwyddoch, a bydd newid trawsnewidiol bob amser yn ennyn dadl, ac roedd y Bil hwn yn ymwneud â thrawsnewid. Huw, nid wyf yn ymddiheuro am fod ag uchelgais. Dylai fod gan lywodraethau uchelgais. Dylai fod ganddynt uchelgais i ymestyn y tu hwnt i'w normau, i herio'r status quo, i fod yn ddewr, i fod yn feiddgar ar ran cenedlaethau'r dyfodol. Dyna rydym yn sôn amdano mor aml yn y lle hwn, am genedlaethau’r dyfodol, pa mor bwysig ydynt i ni, ac eto rydym yn cilio rhag gweithredu am ein bod yn clywed, 'Mae'n galw am adnoddau', 'Mae'n galw am arian' a 'Sut y gallwn fforddio hyn?' Nid yw hynny'n ddigon da. Dylai llywodraethau ysgwyddo'r cyfrifoldeb, a chodi uwchlaw rhethreg o'r fath, ac mae angen inni symud ymlaen, ac nid ydym yn gwneud hynny, yn anffodus.

Ond beth bynnag, rwyf am ystyried y cyfraniadau. Diolch yn fawr iawn i Gadeiryddion y pwyllgorau ac am yr ymatebion. Roeddwn yn croesawu'r her a mwynheais y broses, ac rwy’n cydnabod yr argymhellion a wnaethoch. Nid wyf am ailadrodd yr ymatebion—rydych wedi eu gweld. Fel rwyf wedi’i ddweud o’r cychwyn yn y pwyllgorau, nid fi fyddai’r un a allai gyflawni hyn—roedd hyn ar gyfer y Llywodraeth. Roedd yn rhaid iddo fod yn fframwaith. Pe bawn wedi ei wneud yn hollgynhwysol ac wedi rhoi popeth ar wyneb y Bil, ni fyddai byth wedi cael ei gyflwyno. Mae'r un fath â chymaint o Filiau fframwaith eraill a ddaw yma. Peredur, fel y gwyddoch, ar y Pwyllgor Cyllid, rydym wedi siarad am hyn yn rheolaidd, rhwystredigaeth y Biliau fframwaith, na allwch gael digon o fanylion yn yr asesiadau effaith rheoleiddiol. Rwyf wedi eistedd i mewn ar Filiau eraill yr un peth. Ac rwy’n derbyn hynny, ond nid fy lle i yw ehangu ar beth fyddai’r costau, gan y byddai’n dibynnu ar faint o ymdrech a phwysau a chwmpas y byddai’r Llywodraeth yn ei roi i'r gwaith. Ond diolch am eich sylw.

Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich ymgysylltiad? Gwn fod hyn yn anodd, yn enwedig pan ddaw ochr yn ochr â chymaint o ddeddfwriaeth arall rydych yn ceisio'i symud drwodd, a gall fod yn rhwystredig. Gallwn gydweithio ar hyn; gallem fod wedi llunio rhywbeth mor gadarnhaol, mor drawsnewidiol, a allai fod wedi cysylltu â phopeth sy'n digwydd. Rwy'n cydnabod yr hyn a gynigiwch ynghylch croesawu strategaeth, a fforwm rhynglywodraethol. Mae hynny'n wych, ond sut rydym yn dwyn hynny i gyfrif? Sut mae dwyn y system fwyd i gyfrif heb ddeddfwriaeth? Os yw hynny'n bosibl, pam nad yw wedi digwydd yn barod? Mae gennym wendidau enfawr yn y sector hwn, sydd wedi’u hamlygu gan gynifer o randdeiliaid, a dyna pam fod angen gwreiddio polisi mewn deddfwriaeth, fel y gellir ei ddwyn i gyfrif ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hynny mor bwysig.

Sam, diolch am eich cyfraniad cefnogol drwy gydol y broses, a’r gydnabyddiaeth fod angen hyn arnom i gryfhau gwytnwch ein gwlad.

Jenny, diolch am eich cefnogaeth. Rydych wedi bod yn ddadleuwr gwych ar ran y system fwyd yn y lle hwn, ac rwy'n cydnabod eich ymdrechion i geisio bwrw ymlaen â hyn yn fawr, a gwn fod hon yn sefyllfa anodd i chi hefyd, gan eich bod mor angerddol ynglŷn â sicrhau bod y pethau cywir yn digwydd o fewn y system fwyd. Ni allwn gael polisi gwasgarog yn codi yma ac acw yn y gobaith y gallai gysylltu â'i gilydd; mae angen ei gysylltu drwy rywbeth cymaint mwy na hynny er mwyn ei ddal a'i ddwyn ynghyd.

16:40

Iawn, mae’n ddrwg gennyf, Gadeirydd. Mae gennyf gymaint i'w ddweud, ond gwn na fyddaf yn gallu.

Mabon, diolch i chi a'ch grŵp am eich cefnogaeth barhaus ac am eich cydnabyddiaeth i gomisiwn. Fel rwyf wedi’i ddweud drwy gydol hyn, os oes elfennau rydym yn anghytuno yn eu cylch rhag gallu symud ymlaen, rwyf wedi gwneud consesiwn y byddaf yn hapus i’w diwygio er mwyn gweithio gyda chi i gyd i allu defnyddio hyn. Os byddwn yn gadael iddo fethu heddiw, ni fydd yn cael cyfle i anadlu eto, a byddwn yn parhau â'r status quo, a rhannais sut nad yw'r status quo yn gweithio, fel y mae cymaint o randdeiliaid wedi'i ddweud.

Felly, os gwelwch yn dda, heddiw, bob un ohonoch, meddyliwch am eich plant, a phlant eich plant, a sut y dylem roi cyfle i hwn anadlu yng Nghyfnod 2. Gall y Llywodraeth bob amser roi stop arno yn nes ymlaen—peidiwch â phoeni am hynny; fe ddônt o hyd i ffordd. Ond gadewch iddo fynd i Gyfnod 2 i brofi y gall hwn fod yn gymaint mwy na'r hyn y credwch ydyw. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—'Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol'

Eitem 6 sydd nesaf: dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jenny Rathbone.

Cynnig NDM8270 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol' a osodwyd ar 8 Mawrth 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dychmygwch blentyn yn ffarwelio â'u mam wrth giât yr ysgol yn y bore, ac yna'n cael gwybod na fydd yn dod i'ch casglu ar ddiwedd y dydd. Bob blwyddyn, bob dydd, caiff mamau eu hanfon i'r carchar am droseddau lefel isel, er mawr syndod i'w gweithwyr cymdeithasol hyd yn oed. Roedd 60 y cant o'r dedfrydau o garchar a roddwyd i fenywod yng Nghymru am gyfnodau o lai na chwe mis. Yr arhosiad cyfartalog i fenyw yng ngharchar Eastwood Park yw 42 diwrnod, a soniodd llywodraethwr carchar Styal fod un fenyw yno am wythnos, dros y Nadolig, 'i ddysgu gwers iddi'.

Mae canolbwyntio ar gosbi ac anwybyddu adsefydlu yn gamddefnydd syfrdanol o adnoddau cyhoeddus ac yn gamddefnydd o’r system cyfiawnder troseddol. Nid yn unig ein bod yn cosbi plant diniwed, mae dedfrydau byr yn rhy fyr i fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol, ond yn ddigon hir i golli'ch swydd, eich plant, a'ch cartref, yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae 70 y cant o fenywod sy'n cael dedfryd o garchar o lai na 12 mis yn aildroseddu o fewn blwyddyn—a yw hynny'n syndod? Mae’n rhaid bod ffyrdd gwell o wario £60,000, sef yr hyn y mae’n ei gostio i gadw rhywun yn y carchar am flwyddyn, ac yn sicr, mae ffyrdd gwell i'w cael. Mae dros 15 mlynedd bellach ers yr adroddiad nodedig gan y Farwnes Jean Corston, a amlygodd fod y rhan fwyaf o fenywod sy’n cyflawni trosedd yn agored iawn i niwed ac nad oes angen dedfryd o garchar arnynt i amddiffyn y cyhoedd rhag niwed. Dadleuodd—ac nid oes unrhyw Lywodraeth wedi anghytuno—ei bod yn ddiogel rhoi dedfryd gymunedol i’r rhan fwyaf o droseddwyr benywaidd, gan neilltuo dedfryd o garchar ar gyfer y troseddwyr mwyaf eithafol a threisgar yn unig. Mae’r cynnydd ar weithredu argymhellion Corston wedi bod yn boenus o araf, ac mewn rhai agweddau, rydym wedi mynd tuag yn ôl, oherwydd erbyn hyn, mae dwywaith cymaint o fenywod ym mhoblogaeth y carchardai â'r hyn a oedd 20 mlynedd yn ôl. Heb unrhyw garchardai menywod yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o fenywod Cymru sy'n cael dedfryd o garchar yn gorfod mynd i Eastwood Park yn swydd Gaerloyw neu garchar Styal y tu allan i Fanceinion. Mae'r ddau le'n anodd ac yn ddrud i'w cyrraedd, ac ar gyfartaledd, maent 100 milltir o ble mae teuluoedd yn byw.

Mae'r rhan fwyaf o fenywod sy'n cyflawni troseddau lefel isel yn fenywod agored i niwed a chanddynt anghenion cymhleth. Mae eu bregusrwydd yn cael ei waethygu gan drawma cael eu hanfon i’r carchar, ac fel y cawsom ein hatgoffa gan adroddiad Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi ar Eastwood Park ddiwedd y llynedd, yn syml iawn, nid oes gan garchardai allu i ymdopi â'r lefel o hunan-niwedio a salwch meddwl sy'n cael ei waethygu drwy fod yn y carchar, er ymdrechion gorau staff carchardai. Drwy anfon pobl o’r fath i’r carchar, rydym yn trosglwyddo niwed parhaus profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o un genhedlaeth i’r llall.

Hoffwn estyn croeso cynnes i gynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Nelson sydd yn yr oriel heddiw i wrando ar y ddadl hon, a chanmol y gwaith gwych a wnânt yng Nghaerdydd, yn Eastwood Park ac mewn mannau eraill ledled y wlad. Hoffai’r pwyllgor ddiolch i bawb a ymgysylltodd â ni yn ystod yr ymchwiliad hwn—y straeon a glywsom, yn enwedig gan fenywod a garcharwyd yn Styal ac Eastwood Park, a chan grwpiau ffocws cymunedol sydd wedi ein helpu i ddeall sut y gallem a sut y dylem fod yn mynd i'r afael ag ymddygiad troseddol yn wahanol iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i glercod y pwyllgor, y gwasanaeth ymchwil a’r tîm ymgysylltu â’r gymuned, gan na fyddai’r adroddiad hwn wedi bod yn bosibl heb eu gwaith nhw.

Mae'r glasbrint cyfiawnder i fenywod yn ganolog i ddull gweithredu Llywodraeth Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Ceir cefnogaeth eang i'r dull cydweithredol hwn o ymdrin â chyfiawnder menywod. Mae bwriadau a dyheadau’r glasbrint i gadw menywod allan o’r carchar, lle bo modd, i’w canmol. Fodd bynnag, ymddengys bod ymwybyddiaeth o'r uchelgais hwn yn dal i fod yn dameidiog. Dywedodd Cymdeithas yr Ynadon wrthym mai dim ond hanner yr ymatebwyr mewn arolwg diweddar o'u haelodau a oedd wedi clywed am y glasbrint, ac mae hynny’n rhywbeth y mae’n rhaid ei newid yn llwyr, gan mai rhain yw’r dedfrydwyr sy’n anfon menywod i’r carchar. Felly, mae llawer o waith i'w wneud er mwyn atal menywod rhag cael eu hanfon i'r carchar am droseddau y byddai'n llawer gwell ymdrin â nhw yn y gymuned, a hynny'n fwy effeithiol. Mae gennym bryderon ynghylch cyflymder y newid i gadw’r rhan fwyaf o fenywod allan o’r carchar, ac mae angen diweddariadau manwl arnom ar weithrediad y glasbrint. Mae'n rhaid i ddedfrydau o garchar fod yn ddewis olaf, nid yn ddewis diofyn. Ni ddylai menywod nad ydynt yn fygythiad i gymdeithas fod yn mynd i'r carchar am fân droseddau. Cyhyd â bod y dewisiadau amgen sydd ar gael ledled Cymru yn parhau i fod yn gyfyngedig, bydd menywod yn parhau i gael dedfrydau o garchar.

Gall canolfannau menywod yn y gymuned chwarae rhan allweddol wrth ddarparu dull cydweithredol sy'n ystyriol o drawma o gefnogi menywod a helpu i ddargyfeirio unigolion oddi ar y llwybr i mewn i’r system gyfiawnder. Dylid canmol Llywodraeth Cymru am y buddsoddiad y maent hwy a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi’i wneud yng Nghanolfan Menywod Gogledd Cymru yn y Rhyl, a’r ganolfan ddiweddaraf i fenywod yng Nghaerdydd, sy’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Nelson. Rwyf wedi ymweld â'r ddwy ganolfan ac wedi cael cipolwg ar y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yno. Rwy'n cymeradwyo Canolfan Menywod Gogledd Cymru yn y Rhyl am gael strategaeth i sicrhau nad gwasanaeth ar gyfer menywod sy’n byw ger y Rhyl yn unig yw hwn, ac am sefydlu gwasanaethau allgymorth ym Mangor a Wrecsam hefyd. Mae'n rhaid inni alluogi pob menyw ledled Cymru i allu cael mynediad at ganolfannau menywod, p'un a ydynt yn y system cyfiawnder troseddol ai peidio. Rydym yn croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru yn eu hymateb i weithio tuag at gael canolfan i fenywod ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru yn y pen draw. Ar y cwestiwn ynghylch pwy sy'n mynd i dalu amdanynt, dof yn ôl at hynny mewn eiliad.

Mae menter wirioneddol ragorol arall wedi bod yn mynd rhagddi dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ardaloedd heddlu De Cymru a heddlu Gwent, lle mae dros 2,000 o fenywod wedi elwa ar wasanaethau dargyfeirio sy'n ystyriol o drawma a gynlluniwyd i'w cadw allan o'r carchar. Nid yw'r gwerthusiad gan Cordis Bright wedi'i gyhoeddi eto, ond ceir tystiolaeth gadarnhaol fod y dull hwn yn gweithio. Dywedodd uwch-swyddog prawf am fanteision dull Cymru Ddiogelach yng Nghaerdydd: 'Mae'r gweithgareddau a gynigir yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol i fenywod, maent yn caniatáu i fenywod gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, i gael cymorth emosiynol ac i ddysgu sgiliau newydd. Mae hefyd yn cynnig ffordd wahanol i staff prawf ymgysylltu â'r menywod ar sail gyfannol, fel y gallwn siarad â nhw mewn cyd-destun nad yw'n ymwneud â throseddu, ac rydym wedi bod yn falch iawn o weithio ar y dull system gyfan hwn.' Mae dirprwy gomisiynydd heddlu De Cymru mewn trafodaethau gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ehangu’r dull braenaru system gyfan hwn ar draws heddluoedd Dyfed-Powys a Gogledd Cymru hefyd, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr.

Yn y gorffennol, rydym wedi trafod a rhoi rhywfaint o ystyriaeth i ganolfan arfaethedig i fenywod yn Abertawe hefyd. Mae wedi codi mewn cwestiynau, a byddai canolfan o'r fath yn cynnig dewis preswyl amgen i ddedfrydwyr yn hytrach nag anfon menywod i'r carchar. Teimlwn fod angen mwy o eglurder ynghylch y sail resymegol dros ganolfan breswyl i fenywod, ochr yn ochr â chyfres gynyddol o opsiynau dedfrydu cymunedol. Mae’r cynnydd ar y rhain wedi bod yn sglerotig yn yr ystyr fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r ganolfan breswyl beilot hon i fenywod yn 2018, ac yn wreiddiol, roedd i fod i agor yn 2021. Fodd bynnag, mae caniatâd cynllunio ar ddau safle gwahanol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i wrthod, ac mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn bellach yn y broses o apelio yn erbyn trydydd gwrthodiad ar gyfer canolfan 12 gwely yn Abertawe, yn y gobaith o agor dewis preswyl yn lle carchar erbyn y flwyddyn nesaf. Mae'r gwasanaeth carchardai a phrawf yn nodi safle presennol a gymeradwywyd ym Mryste a chanolfan breswyl arall i fenywod yn Birmingham fel modelau ar gyfer darpariaeth o'r fath yn Abertawe. Ac o edrych ar yr anawsterau i fenywod sy'n dod allan o'r carchar heb unman i fynd, gallaf weld y gallai cael canolfan breswyl fel ffordd o bontio i ailintegreiddio yn y gymuned, yn enwedig ar ôl cyfnod hir yn y carchar, fod o fudd i lawer iawn o fenywod. Ond credaf fod angen llawer iawn mwy—. A dywedodd y menywod y cyfarfuom â nhw yn y carchar fod cael eu rhyddhau o'r carchar fel cael eu taflu at y siarcod, gan y byddent naill ai'n ddigartref ar ôl cael eu rhyddhau neu'n cael eu rhoi mewn llety anaddas, lle byddent yn dod i gysylltiad â phobl eraill a allai ddod â nhw yn ôl i mewn i'r system cyfiawnder troseddol.

Yn olaf, hoffwn fynd i'r afael yn gryno ag ymylon garw'r system cyfiawnder troseddol. Ni wnaethom ystyried datganoli cyfiawnder troseddol yn fanwl. Fodd bynnag, ceir rhwystredigaeth amlwg ynghylch terfynau’r hyn sydd o fewn pwerau Llywodraeth Cymru, ac roedd holl aelodau’r pwyllgor yn argyhoeddedig fod datganoli cyfiawnder menywod wedi’i brofi fel achos. Pam yr ymddiriedir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i redeg eu systemau cyfiawnder troseddol, ond rywsut, yng Nghymru, nid ydym yn cael gwneud hynny? Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn gweld sut rydym yn mynd i wreiddio'r llwybr radical y credaf y dylem fod arno pan nad ydym yn rheoli'r holl ysgogiadau.

Yn ogystal, mae gennym fater y gost, a hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith bod y Prif Weinidog yn nodi ein bod, ar hyn o bryd, yn talu am wasanaethau y credwn sydd eu hangen ac mai dyna’r peth iawn i’w wneud yng Nghymru. Mae’r rhain yn wasanaethau y byddai cyllideb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn talu amdanynt yn Lloegr. A dyna'r perygl moesol rydym ynddo, ac felly mae'n rhaid inni fod yn glir iawn, pan fyddwn yn datganoli cyfiawnder troseddol i Gymru, ein bod yn cael yr adnoddau i gyd-fynd â hynny, gan fod yr holl arbedion i'w gwneud drwy beidio ag anfon pobl i'r carchar heb fod angen.

16:50

Hoffwn innau hefyd ddiolch i glercod y pwyllgor a’r holl dystion a wnaeth yr ymchwiliad hwn yn bosibl. Gadeirydd, rydych wedi bod yn wych o'r cychwyn cyntaf.

Edrychodd ein hymchwiliad ar y gefnogaeth a roddir gan Lywodraeth Cymru i fenywod yn y system cyfiawnder troseddol, ac wrth gasglu tystiolaeth, clywsom am rai profiadau gwirioneddol syfrdanol. Mae diffyg cymorth digonol wedi arwain at gyfraddau aildroseddu syfrdanol o uchel. Efallai nad yw cyfiawnder troseddol wedi’i ddatganoli, ond mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a thai, a diffygion yn y meysydd hyn sy’n helpu i gyfrannu at lefelau aildroseddu syfrdanol o uchel ymhlith carcharorion benywaidd Cymru. Mae diffyg gwasanaethau adsefydlu cyffuriau ac alcohol, yn enwedig gwasanaethau dadwenwyno preswyl—ac mae'n rhaid imi ddatgan buddiant yma, fel un o noddwyr Canolfan Adsefydlu Brynawel—yn cael effaith aruthrol ar gyfraddau aildroseddu.

Roeddwn yn siomedig iawn o glywed gan ein tystion fod cael mynediad at raglenni dadwenwyno bron yn amhosibl i lawer o fenywod yn y system cyfiawnder troseddol. Roedd hyn yn peri mwy fyth o syndod pan glywais fod cyllid haen 4 ar gyfer canolfannau adsefydlu preswyl yn cael ei roi yn ôl yn rheolaidd gan fyrddau cynllunio ardal—cannoedd o filoedd o bunnoedd a ddyrannwyd ar gyfer darparu gwasanaethau adsefydlu yn mynd yn ôl i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, ac eto, mae llawer o fenywod yn methu cael mynediad at ddarpariaeth o’r fath. Hoffwn ofyn i’r Gweinidog ystyried a yw’r gronfa weithredu ar gamddefnyddio sylweddau a Rehab Cymru yn gweithio fel y bwriadwyd iddynt wneud, ac ai defnyddio byrddau cynllunio ardal yw’r dull gweithredu cywir. Os ydym am atal menywod rhag mynd i mewn neu fynd yn ôl i mewn i’r system cyfiawnder troseddol, mae'n rhaid inni atal troseddu yn y lle cyntaf.

Fel y clywodd y pwyllgor, mae llawer o droseddu'n digwydd oherwydd materion yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau. Ceir tystiolaeth fod rhaglenni adsefydlu a dadwenwyno preswyl fel y rhai a gynigir ym Mrynawel yn mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau a chaethiwed yn hirdymor. Fodd bynnag, gwyddom ei bod yn anodd, bron yn amhosibl, i’r rhan fwyaf o fenywod yn y system cyfiawnder troseddol gael mynediad at wasanaethau o’r fath.

Fel rhan o’n hymchwiliad, ymwelodd y pwyllgor â charchar Eastwood Park, a dywedodd aelodau o dîm adfer cyffuriau’r carchar wrthyf fod menywod Cymru dan anfantais sylweddol wrth geisio sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaethau adsefydlu preswyl. Yn ystod ein hymweliad, clywsom fod cyfraddau aildroseddu ymhlith carcharorion o Gymru 10 gwaith yn uwch nag ymhlith carcharorion o Loegr. Er mwyn mynd i’r afael â chyfradd mor ofnadwy o uchel o aildroseddu, mae’n rhaid inni sicrhau bod carcharorion benywaidd o Gymru'n cael eu cefnogi’n llawn gyda'u hanghenion iechyd a gofal, yn ogystal ag addysg a thai.

Dywedodd llywodraethwr Eastwood Park wrthym fod tai yn bryder arbennig gan nad oes gan lawer o garcharorion Cymru unman i fynd. Mae eu tai cymeradwy agosaf ym Mryste, felly mae llawer o'r rhai sy'n gadael carchar yn dod yn ddigartref. Dywedodd menywod yn y carchar wrthym fod rhai yn aildroseddu er mwyn dychwelyd i ddiogelwch y carchar. Ni allwn garcharu pobl ddim ond am nad oes ganddynt unman arall i fynd. Nid yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli, ond mae tai yn faes sydd wedi'i ddatganoli. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i’r menywod hyn, dyletswydd i sicrhau eu bod yn cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen i'w hatal rhag aildroseddu. Fe'u hanogaf i gefnogi argymhellion 14 a 15 yn llawn, a rhoi argymhellion 17 a 18 ar waith ar fyrder. Diolch yn fawr iawn.

16:55

Ni fyddaf byth yn anghofio ymweld â CEF Eastwood Park fel rhan o’r ymchwiliad a arweiniodd at yr adroddiad hwn. Ni fyddaf byth yn anghofio'r menywod o Gymru y cyfarfûm â hwy yno—y menywod o Gymru sy'n byw ar ymylon garw datganoli, sydd mor ddifreintiedig, yn destun y fath wahaniaethu, ac wedi'u niweidio cymaint gan y ffaith nad oes gan Gymru bwerau dros ein system cyfiawnder troseddol.

Yn ein hadroddiad, mae ein pwyllgor yn nodi ac yn rhoi tystiolaeth o'r niwed—y niwed—i fenywod o ganlyniad i’r setliad datganoli presennol. Atgyfnerthwyd y dystiolaeth rymus a glywsom, hanesion dinistriol y menywod hyn, gan y farn arbenigol a glywsom fel pwyllgor. Dangosodd Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn glir i ni sut y mae’r ymylon garw o bwerau a chyfrifoldebau wedi'u datganoli a heb eu datganoli sy'n croestorri a heb eu halinio ond a rennir, y mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithredu drostynt yng Nghymru, yn un mor finiog i fenywod.

Mae Plaid Cymru yn falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 2 o'r adroddiad yn llawn, sef y dylai,

'ymdrechu i gael cyfrifoldeb datganoledig am gyfranogiad menywod yn y system cyfiawnder troseddol,'

gan gytuno yn ei hymateb i’n hadroddiad,

'y gallai canlyniadau ar gyfer menywod yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru gael eu gwella'n sylweddol drwy ddatganoli,'

a derbyn disgrifiad Dr Robert Jones,

'bod gallu llywodraeth ddatganoledig i weithredu fel lluniwr polisi effeithiol yn gyfyngedig ac, yn y pen draw, yn cael ei danseilio gan y ffaith bod Llywodraeth y DU yn rheoli'r rhan fwyaf o ysgogiadau polisi allweddol cyfiawnder troseddol.'

Dyma yw argymhelliad allweddol yr adroddiad a chanfyddiad allweddol yr ymchwiliad hwn, sy’n amlygu cwestiynau sylfaenol am ymarferoldeb llunio polisi cydgysylltiedig mewn tirwedd ddeddfwriaethol mor gymhleth, gyda dwy Lywodraeth yn rheoli gwahanol feysydd, ysgogiadau ac atebolrwydd, a chan ddangos yn glir beth yw effaith hyn ar rai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed.

Felly, pa gynnydd sy’n cael ei wneud tuag at hyn, Weinidog? Pa sgyrsiau a gawsoch gydag arweinydd Llafur y DU, Keir Starmer, ynglŷn â'r pwynt hwn, gan ein bod wedi cael negeseuon cymysg yn y gorffennol gan Lafur ar ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru? Hoffwn rywfaint o eglurder ar y pwynt hwn gennych chi a’r blaid rydych yn ei chynrychioli, yn enwedig o ystyried y gallai Llafur ddod i rym yn San Steffan yn y flwyddyn nesaf.

Mae cymaint o’n hargymhellion fel pwyllgor, o fynediad at wasanaethau adsefydlu teg i fenywod, mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau a chynorthwyo adferiad, i ddiwallu anghenion iechyd corfforol a meddyliol, yn dibynnu ar gydgysylltu polisi yn llwyddiannus—yr hyn a nodir ac sydd wedi'i ymgorffori yn nodau'r glasbrint cyfiawnder i fenywod. Er ei fod wedi'i groesawu at ei gilydd, dro ar ôl tro, gwelsom fod dull y glasbrint yn cael ei lesteirio neu hyd yn oed ei danseilio, a’r cynnydd ar ei nodau yn araf ac yn dameidiog.

Gan fod y Llywodraeth yn cytuno bod yn rhaid i ddedfrydau o garchar fod yn ddewis olaf un, mae’n rhaid i’r gwaith o sicrhau bod yna ddewisiadau amgen yn lle carcharu menywod drwy ddarparu opsiynau yn y gymuned ledled Cymru, a chodi ymwybyddiaeth o’r opsiynau hyn, symud ymlaen yn gyflym. Oherwydd heb hyn, bydd y sefyllfaoedd y clywsom amdanynt yn parhau—y dedfrydau dibwrpas, cosbol a all chwalu bywydau menywod yn llwyr a chael effaith mor ddwys a pharhaol ar eu plant. Mae'n gywilyddus ac yn annealladwy. Clywsom gan lywodraethwr Eastwood Park am y ddedfryd gyfartalog o 42 diwrnod a roddir i fenywod. Y ddedfryd o wythnos dros y Nadolig yng ngharchar Styal y soniodd Jenny Rathbone amdani—nid yn unig ei bod yn annealladwy ac yn gywilyddus, ond mae'n llym, yn llawdrwm ac yn greulon. Ni ellir caniatáu i hyn barhau.

Mae’r adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad manwl am y ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod yng Nghymru. Er y gall ddarparu dewis amgen mawr ei angen i'r dedfrydau o garchar preswyl y mae menywod Cymru yn cael eu gorfodi i’w bwrw filltiroedd oddi wrth eu teuluoedd ar hyn o bryd, yr hyn sy'n allweddol i Blaid Cymru yw bod yn rhaid inni gael mwy o eglurder ynghylch natur y dewis amgen hwnnw. Yn unol ag amcanion y glasbrint, adroddiad Corston, y dystiolaeth arbenigol a glywsom a thystiolaeth y menywod a rannodd eu profiadau â ni, mae'n hollbwysig nad yw hyn yn efelychu niwed y sefyllfa bresennol. Mae'n rhaid clywed llais Cymru ar hyn, felly tra bo'r broses gynllunio'n mynd rhagddi, hoffwn glywed gan y Gweinidog pa waith paratoi a wnaed ynghylch argymhellion 8, 9 a 10.

Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, y Cadeirydd, y tîm ymchwil a chlercio a phawb a roddodd dystiolaeth i’n hymchwiliad. Hoffwn ddweud wrth y menywod y cyfarfuom â nhw ein bod wedi eich clywed, ni fyddwn yn eich anghofio, ac fel pwyllgor, ni fyddwn yn caniatáu i'ch Llywodraeth eich gadael ar ymylon garw setliad datganoli annigonol.

17:00

Hoffwn innau hefyd ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau, y Cadeirydd a chlercod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith ar yr adroddiad hanfodol ac amserol 'Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol', yn ogystal â phawb a roddodd dystiolaeth ac a siaradodd gerbron y pwyllgor. Ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb naill ai drwy dderbyn argymhellion yr adroddiad, neu eu derbyn mewn egwyddor, ac edrychaf ymlaen at weld pa waith pellach a wneir i gefnogi'r menywod bregus hyn.

Cynigiais gynnal yr ymchwiliad hwn ar ôl i Lywodraeth y DU wneud llanast o gynigion i gael canolfan breswyl i fenywod ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl yn fy etholaeth, ac nid wyf yn bod yn ddiangen o wleidyddol wrth ddweud hynny; y teimlad yn drawsbleidiol oedd eu bod yn lleoliadau cwbl amhriodol, ac fe gafodd yr etholwyr a minnau a'r awdurdod lleol ein cyhuddo o wrthod y cynigion am ddim rheswm heblaw gwrthwynebiad i'w weld yn digwydd yn ein hardal ni, ond nid dyna ydoedd o gwbl. Ni chafwyd unrhyw ymgynghoriad, nid oedd unrhyw ddealltwriaeth o'r cynlluniau'n lleol, ac nid roddwyd unrhyw resymau, amcanion na dealltwriaeth glir pam ein bod yn cael hyn yng Nghymru hyd yn oed. Felly, rwy'n falch ein bod, drwy'r ymchwiliad hwn, wedi cael tystiolaeth lle rydym wedi cael rhai atebion i'r cwestiynau hyn. Byddwn yn dweud mai'r hyn a ddaeth drwodd mewn gwirionedd—rydych chi'n sôn am yr ymylon garw, Sioned Williams, ond mae'n hafn anferth, mae'n hafn anferth oherwydd y diffyg gweithio cydgysylltiedig ym mhob un o'r meysydd hyn, a'r diffyg gallu i'n Gweinidogion Llywodraeth Cymru atal y menywod hyn mewn gwirionedd, a rhoi'r gefnogaeth y maent ei hangen iddynt, a dyma'r menywod sy'n syrthio i'r hafn.

Canfûm hefyd efallai nad oes gennym fenywod wedi'u carcharu yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae rhai wedi'u carcharu ychydig dros ein ffin yn Lloegr, taith hanner awr. Ymwelais â Charchar Ei Fawrhydi Eastwood Park, ac mewn gwirionedd, menywod o Gymru yw dros hanner y carcharorion yno. A dyma'r menywod rwyf eisiau canolbwyntio arnynt heddiw, oherwydd rwy'n hynod o ddiolchgar iddynt am gyfarfod â ni, ac fel rydych chi wedi dweud, Sioned Williams, nid wyf am iddynt deimlo fel pe baem wedi mynd i mewn yno, wedi siarad â nhw, a bod dim yn dod o hyn wedyn, ac rwyf eisiau gweld gweithredu ystyrlon o hyn.

Felly, rhai o'r pethau a ddywedwyd wrthym: mynediad at ofal iechyd, nid oedd menywod Cymru yn cael Buvidal, dim ond methadon a gaent. Rwy'n credu bod hynny bellach wedi cael ei ddatrys. Nid oedd menywod Cymru yn cael mynediad ac arian i gael triniaeth adsefydlu pan fyddent yn dod allan, yn enwedig os mai dim ond am dri mis roeddent wedi bod yno ac nid oeddent wedi gallu gweld y budd o raglen adsefydlu, tra bod menywod o Loegr yn gweld budd. Mynediad at dai: roedd llawer ohonynt yn cael eu gadael allan ar y diwrnod y caent eu rhyddhau, a'u gadael i geisio cyrraedd gorsaf drenau Bryste—£40 oedd cost tacsi, ble roeddent yn cael arian ar gyfer hynny? A phan fyddent yn cyrraedd gorsaf Bryste, mae gwerthwyr cyffuriau yno sy'n gwybod yn union sut i'w targedu cyn iddynt ddal y trên yn ôl i Gymru hyd yn oed.

Mynediad at gynrychiolwyr etholedig: ni allant ddod i gysylltiad â'u cynrychiolwyr etholedig. Nid ydynt yn gwybod pwy fyddai'n eu cynrychioli hyd yn oed. Ai lle maent yn byw yn y carchar ar hyn o bryd, neu lle y dônt ohono? Ai ni, yn ôl yng Nghymru? Ac rwy'n gwybod ei fod yn dweud yn yr adroddiad fod Llywodraeth Cymru—mai cylch gwaith y llywodraethwr yw hwn, ond rwy'n gwybod, o gael un fenyw'n dod ataf i ddweud, 'A allwch chi gael fy Aelod o'r Senedd i gysylltu â mi?' fod yn rhaid iddynt roi eu cyfeiriad e-bost i chi, ac yna mae'n rhaid i'r Aelod Senedd anfon neges e-bost atynt, talu 50c, ac roeddent yn dweud wrthyf, 10 gwaith siŵr o fod oherwydd eu bod mor daer angen help, 'Gwnewch yn siŵr eich bod yn ticio'r blwch sy'n dweud fy mod yn cael ateb, oherwydd fel arall, ni chaf eich ateb hyd yn oed'. Felly, hoffwn wybod yn iawn sut—sut yn union y gall y menywod hyn gysylltu â ni? Oherwydd nid oedd yn ymddangos i mi fel pe bai yna unrhyw ffordd arall ar wahân i hynny.

Hoffwn ddweud er hynny fod yna bethau da yn digwydd gan Lywodraeth Cymru. Mae tua hanner y menywod sydd mewn carchardai yn famau, ac mae'r rhaglen Ymweld â Mam yn gweithio. Rwyf eisiau dweud hefyd fod canolfan Ymddiriedolaeth Nelson i fenywod yn wirioneddol—dim ond mynd i mewn yno a gweld beth rydych wedi'i wneud a gwybod y byddai gan y menywod le i fynd iddo a'r ffordd rydych wedi gwneud iddo deimlo'n ddiogel—. Ond rwyf eisiau pwysleisio hefyd fod rhaid cael arian i allu cefnogi menywod Cymru, oherwydd mae hynny i gyd yn flêr ar hyn o bryd. Pwy sy'n talu am hynny? Ac nid wyf am i chi, gwn nad ydych am orfod gwrthod menywod o Gymru ychwaith, oherwydd yr ymylon garw.

Mae yna gymaint yn yr adroddiad hwn—o ddifrif—ac rwy'n erfyn arnoch i'w ddarllen ochr yn ochr â chomisiwn Thomas, ochr yn ochr â'r glasbrint cyfiawnder menywod. Dywedodd comisiwn Thomas fod pobl Cymru yn cael cam gan y system gyfiawnder bresennol; mae hynny'n berffaith wir. Alun Davies, fe ddywedoch chi wrthyf ddoe fod hyn bron yn rhoi wyneb, wyneb dynol, i'r adroddiadau blaenorol hyn. A'r wyneb dynol rwyf am inni ei gofio heddiw yw'r hyn a ddywedodd llywodraethwr CEF Eastwood Park wrthyf: 'Yr unig ystadegyn rwy'n hapus i gael fy nyfynnu arno yw bod 100 y cant o'r menywod yn y carchar hwn yn ddioddefwyr'. Mae pob menyw yn y carchar hwnnw'n ddioddefwyr. Ni ddylai'r mwyafrif fod yno, ac mae fy nghyd-Aelodau wedi nodi pam. Felly, Sioned Williams, rwy'n cytuno â chi, mae angen y dulliau arnom i allu mynd i'r afael â'r materion hyn go iawn a rhoi'r gefnogaeth a'r cyfleoedd a'r gwaith atal yn eu lle i'r menywod, i'w hatal, fel y dywedoch chi, Jenny Rathbone, rhag parhau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Hyd nes y bydd hynny'n digwydd, ni allwn droi cefn ar hyn. Nid wyf am i hwn fod yn adroddiad sy'n mynd yn y drôr yn y pen draw, oherwydd efallai nad yw'r menywod hyn yma yng Nghymru ar hyn o bryd, ond nid ydynt allan o'r golwg ac nid ydym wedi anghofio amdanynt. A hyd nes y caiff cyfiawnder a phlismona eu datganoli, rhaid inni gadw llygad arnynt a sicrhau bod yr holl argymhellion hyn yn cael eu gweithredu. Diolch.

17:10

Hoffwn innau hefyd ddiolch i'r Cadeirydd, i aelodau fy mhwyllgor, ac i Ymddiriedolaeth Nelson, sydd yma y prynhawn yma—diolch yn fawr iawn.

Mae popeth yn eich erbyn. Rydych chi'n dlawd. Rydych chi'n byw mewn adeilad ofnadwy. Rydych chi wedi profi triawd gwenwynig iechyd meddwl gwael, trais domestig a chamddefnyddio sylweddau. Yna fe gewch eich anfon i'r carchar. Ni chewch unrhyw gefnogaeth yno. Nid oes gennych unrhyw beth sy'n eich helpu chi pan fyddwch yn cael eich rhyddhau. Ac felly, beth sy'n digwydd? Fe fyddwch yn mynd yno eto. Mae 56 y cant o fenywod sy'n cael dedfryd o garchar yn aildroseddu o fewn blwyddyn. Dylai hynny ein dychryn. Dylai hynny ein brawychu mewn gwirionedd, oherwydd nid yw carchar yn gweithio. Nid yw carchar yn gweithio i fenywod.

Roedd cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn yn anrhydedd, ond yn gwneud i mi deimlo'n drist iawn hefyd. Fel yr ymwelodd fy nghyd-Aelodau â charchar, euthum i ymweld â charchar Styal yn swydd Gaer. Rwy'n falch o weld bod argymhellion yr adroddiad wedi'u derbyn. Mae'r adroddiad hwn yn ein hatgoffa sut mae menywod yng Nghymru yn haeddu cymaint gwell na methiant sefydliadol system cyfiawnder troseddol Lloegr. Dyma ni, dros ddegawd ar ôl adroddiad Corston, a awgrymodd ddull cyfannol mor radical a blaengar, ac eto, mae menywod Cymru yn parhau i ddioddef dedfrydau byr o garchar sy'n para'n ddigon hir i ddifetha bywydau ond ddim digon i'w helpu i adsefydlu.

Mae gennyf bum peth i dynnu sylw'r Gweinidog atynt, os caf. Clywsom lawer o bethau, ond dim ond pump gennyf fi. Ynadon—clywsom ganddynt hwy. Mae angen iddynt fod yn fwy ymwybodol o'r glasbrint cyfiawnder menywod. Maent yn hollbwysig—yn hollbwysig—i'r llwybr i fenywod allu osgoi dedfryd o garchar.

Yn ail, mae angen cyllid cynaliadwy ac estynedig ar gyfer pethau fel Ymddiriedolaeth Nelson, ar gyfer cynlluniau braenaru i fenywod ac ar gyfer canolfannau cymunedol i fenywod.

Yn drydydd, fel y clywsom mor angerddol gan Sarah, mwy o ymwybyddiaeth o hawliau menywod i gael mynediad at aelodau etholedig. Pan fyddant mewn carchar, rydym yn anghofio amdanynt, ac rwy'n gwybod ei fod yr un peth gyda phobl ifanc mewn sefydliadau i droseddwyr ifanc. Os ydych chi'n eu rhoi yn rhywle, yn enwedig rhywle yng nghanol unman gyda ffens fawr o'i gwmpas, mae pawb yn meddwl eu bod yn iawn, ond nid yw hynny'n wir. Mae gennym gyfrifoldeb, a hoffwn i'r Gweinidog roi rhesymau penodol pam na allwn ni fel Aelodau'r Senedd ac fel Comisiwn y Senedd fod yn fwy gweithgar wrth estyn allan at lywodraethwyr a dweud, 'Gwnewch yn siŵr fod menywod Cymru yn ymwybodol o sut y gallant gael mynediad at eu haelodau etholedig.'

Yn bedwerydd, rydych chi wedi clywed—datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn llawn. Nid yw'n gam—. Nid ydym eisiau camau, dim byd tebyg i awgrym Gordon Brown o ryw haen denau o system cyfiawnder troseddol; rydym eisiau'r cyfan, oherwydd mae angen inni wneud yn siŵr fod menywod a dynion a phawb yng Nghymru yn gallu cael system decach a blaengar. Drwy hynny, rwy'n gobeithio y byddwn yn datblygu canolfannau amhreswyl, oherwydd rydym yn barod i gymryd risgiau. Ac yn olaf, yn bumed, ymagwedd fwy cydgysylltiedig a chyson tuag at famau yn y carchar.  

Hoffwn orffen yn gyflym iawn gyda dau beth, os caf. Rwy'n rhannu'r weledigaeth na allwn aros am ddatganoli mewn gwirionedd. Mae angen inni fwrw ymlaen â hyn nawr. Mae angen i hwn fod yn gam tuag at ddatganoli llawn. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu'r gefnogaeth a'r arweinyddiaeth gyson sydd eu hangen nawr tuag at ddod â'r cylch troseddu rhwng cenedlaethau i ben. Yn ail, mae yna ddywediad am garchardai, sef fod carchardai'n niweidio pobl ac wedi cael eu defnyddio erioed i reoli'r bobl sydd fwyaf ar y cyrion, ac mae arnaf ofn mai dyna rwyf wedi'i ddarllen a dyna rwyf wedi'i weld. Mae'n rhaid inni roi gobaith i'r menywod hyn. Gadewch inni fod yn fwy radical a blaengar, a gadewch inni ofalu amdanynt, nid eu rhoi yn ein carchardai. Diolch yn fawr iawn.

17:15

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Byddaf yn cadw fy sylwadau yn eithaf byr. Fe wnaeth Jenny Rathbone achub y blaen arnaf mewn gwirionedd drwy sôn am Ganolfan Menywod Gogledd Cymru yn y Rhyl, yn fy etholaeth i, oherwydd roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle yn y ddadl hon i dynnu sylw at y gwaith da y maent yn ei wneud i fenywod, nid yn unig yn fy etholaeth i, ond ar draws rhanbarth gogledd Cymru. Ac fel y sonioch chi hefyd, mae ganddynt ganolfannau allgymorth ym Mangor a Wrecsam hefyd, felly mae'n gadarnhaol iawn gweld y gwaith da y maent yn ei wneud. Euthum yno ddiwedd y llynedd—tua mis Tachwedd/Rhagfyr—ac roedd hi'n bleser mawr gweld y gwaith a wnânt, ac fe fynychais seminar yno, a buom yn siarad am y materion sy'n wynebu menywod yn lleol ac ar draws Cymru a gogledd Cymru hefyd.

Y thema gyffredin a ddaeth yn amlwg yn y seminar oedd datganoli'r system cyfiawnder troseddol i fenywod, a'r pwynt roeddwn am ei godi yn argymhelliad 2 yw'r cyfrifoldeb datganoledig hwnnw. I mi beth bynnag, mae popeth sydd o gwmpas ymylon y system gyfiawnder—pethau fel ysbytai, gofal iechyd, gofal cymdeithasol a thai hefyd—i gyd yn bethau datganoledig. Ac o gwmpas hynny yn ogystal, mae edrych ar y problemau sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, yn amlwg, rydym yn siarad yn y Siambr hon bob wythnos am fethiant diweddaraf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, prinder gweithwyr gofal cymdeithasol, gwasanaethau plant. Rydym yn sôn am hynny bob wythnos yma yn y Senedd, a hefyd am brinder tai. Felly, nid wyf yn rhy siŵr, yn bersonol, mai datganoli yw'r llwybr euraidd i wella cyfiawnder troseddol i fenywod. Ac o ran hynny, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'i gael yn iawn. Rwy'n fwy na pharod i gefnogi'r cynnig hwn wrth bleidleisio heno, ond roeddwn eisiau codi hynny, a dweud nad yw datganoli bob amser yn golygu gwell. Rwy'n credu ei fod yn golygu edrych ar y system bresennol ac edrych efallai ar sut y gallwn wella hynny, oherwydd, fel y dywedais, yn y pethau o amgylch yr ymylon sydd wedi'u datganoli, rydym yn siarad am eu methiannau cronig yma bob wythnos. Felly, gallem gael sefyllfa yn yr ystyr honno lle gallem fod yn gwneud anghymwynas â'n menywod bregus a'u gwneud yn fwy agored i'r pethau sy'n methu ar hyn o bryd o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghaerdydd.

Felly, dyna oedd fy sylwadau wrth ddarllen yr adroddiad y bore yma. Fe fwynheais ddarllen yr adroddiad, a diolch i aelodau'r pwyllgor a'r tîm staffio a gyfrannodd at hyn, a dim ond argymhelliad 2 roeddwn i am ei godi, gan fy mod wedi mwynhau'r adroddiad. A hoffwn gloi fy sylwadau drwy ddiolch i holl staff Canolfan Menywod Gogledd Cymru am y gwaith gwych y maent yn ei wneud, a gwnaeth fy ymweliad â'r lle yn fy etholaeth yn ddiweddar argraff fawr arnaf. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd. Un o freintiau swydd etholedig, wrth gwrs, yw ein bod yn cael cyfle i weld ac ymweld a siarad â llawer o wahanol bobl, a chawn gyfle i weld pethau ac i brofi pethau na fyddech o reidrwydd yn eu profi mewn swyddi eraill. Wrth imi edrych yn ôl dros gyfnod rhy hir yn y lle hwn, efallai, rwy'n credu mai un o'r pethau—. Rwy'n edrych ar y pethau sydd wedi effeithio fwyaf arnaf. A chyn cael fy mhenodi i swydd weinidogol gyda rhywfaint o gyfrifoldeb am gyfiawnder, mae'n rhaid imi ddweud nad oedd y system gyfiawnder erioed wedi croesi fy llwybr o ddifrif. Nid wyf wedi bod yn y carchar, nid oes yr un o fy nheulu wedi bod yn y carchar, ac nid wyf wedi cael profiad personol ohono. A chefais fy synnu gan yr hyn a welais pan ymwelais â'r ystad ddiogeledd yng Nghymru. Cefais fy synnu gan yr hyn y clywais ei fod yn digwydd i bobl yn fy etholaeth, o fy etholaeth, o'n cymunedau ledled Cymru, a hynny'n ddyddiol. Cefais fy synnu gan y ffordd y caiff pobl eu trin yn y system cyfiawnder troseddol a chan y system cyfiawnder troseddol, a bob tro, yn ddieithriad, mae'r methiannau a wneir i'r boblogaeth wrywaidd yn y carchar, ac ar yr ystad ddiogeledd mewn gwahanol ffyrdd, yn cael eu gwneud i fenywod i raddau llawer iawn mwy. Ni allaf feddwl am unrhyw achos—ac rwy'n credu bod dynion yn cael eu trin yn wael gan y system cyfiawnder troseddol—lle mae profiad menywod wedi dod unman yn agos at brofiad dynion. Ac mae honno'n feirniadaeth gref ohonom i gyd, ac mae'n feirniadaeth o bawb sy'n dadlau bod y system cyfiawnder troseddol fel ag y mae heddiw yn llwyddo i wneud unrhyw beth heblaw achosi creulondeb diangen i bobl a theuluoedd. Ac ym mhob achos, yn ddieithriad, mae profiad menywod yn llawer iawn gwaeth. Ac mae profiad menywod o Gymru yn waeth na phrofiad menywod yn Lloegr a'r Alban.

Sut y gall unrhyw un ddod yma—? Sut y gall unrhyw un ddod yma—? Ble bynnag rydych yn eistedd yn y Siambr hon, sut y gall unrhyw un ddod yma a dadlau dros barhad system sy'n methu ac sy'n gwneud niwed o un diwrnod i'r llall? Bydd menywod wedi cael cam, Gareth, tra oeddech chi'n gwneud eich araith a thra byddwch chi ar eich taith adref i'ch etholaeth yfory, a bydd pobl rydych chi'n eu cynrychioli'n cael cam, a bydd niwed yn cael ei wneud iddynt. Bydd niwed yn cael ei wneud iddynt hwy a'u teuluoedd. Ni allwn sefyll o'r neilltu a gadael i hynny ddigwydd. Ni allwn sefyll o'r neilltu a bod yn wylwyr. Ni allwn sefyll o'r neilltu a gwasgu ein dwylo ar brynhawn Mercher, a dweud pa mor ddrwg yw popeth, a gwneud dim byd a pheidio â dadlau'r achos dros newid. Darllenwch gomisiwn Thomas. Darllenwch ef. Darllenwch ef, a gweld beth mae'n ei ddweud—[Torri ar draws.] Nid wyf yn dadlau bod datganoli yn golygu bod popeth yn well, ac rwy'n derbyn y pwyntiau rydych chi'n eu gwneud am rai o'r gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru—rwy'n derbyn hynny—ond ni allwch sefyll o'r neilltu a gweld y cam systematig a wneir â menywod yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a gwneud dim. Nid yw hynny'n dderbyniol. Beth bynnag yw eich safbwynt, nid yw hynny'n dderbyniol.

Pan gyhoeddodd y Farwnes Corston ei hadroddiad, yn 2007 rwy'n credu, ni allai fod wedi dychmygu am eiliad y byddai pobl yn dal i'w drafod ymhen 15 neu 16 mlynedd heb iddo gael ei gyflawni yn ei holl ffyrdd allweddol. Pan wnaethom gyflwyno'r glasbrint ar gyfer cyfiawnder troseddol a menywod yn y system, yn 2019 rwy'n credu, roeddem yn edrych yn ôl ar ddegawd o fethiant yn barod. Dyna beth roeddem yn ei wneud. Ac roeddem yn rhoi plastr drosto—gadewch inni fod yn glir. Oherwydd yr hyn y mae angen inni allu ei wneud yw cyflwyno polisi mewn ffordd gyfannol. A'r hyn a wnaeth imi deimlo'n wirioneddol rhwystredig—yr hyn a oedd yn wirioneddol rhwystredig—oedd ymweld a siarad â menywod yn y system cyfiawnder troseddol yn yr Alban a gweld sut roeddent yn cael gwasanaethau wedi'u darparu ar eu cyfer. Ac nid yw bob amser yn dda; rwy'n derbyn hynny, Gareth. Nid yw bob amser yn dda, ac nid oes neb yn awgrymu mai dyma'r ateb i bob dim, ond roedd ganddynt agwedd gyfannol at bolisi yn wahanol i ni yma yng Nghymru, ac o ganlyniad i'r dull hwnnw o weithredu, mae menywod Cymru'n cael cam, ac nid yw menywod Lloegr yn cael cam, ac nid yw menywod yr Alban yn cael cam, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i chi a fi a phob un ohonom yma ei dderbyn. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.

17:20

Mae'n ddrwg gennyf. Nid oeddwn yn edrych ar y cloc. Rydym wedi clywed yn ystod y ddadl hon, ac rwy'n credu fy mod wedi clywed yn gywir, fod canlyniadau i fenywod o Loegr ar ôl cael eu rhyddhau o'r un carchar yn well na chanlyniadau i fenywod o Gymru a ryddhawyd o'r un carchar, lle mae'n debyg fod y menywod o Loegr yn ddibynnol ar wasanaethau ar ochr Lloegr i'r ffin, tra bod menywod o Gymru, wrth gael eu rhyddhau, yn ddibynnol ar wasanaethau  datganoledig ar yr ochr hon i'r ffin. Felly, rydych chi'n iawn fod angen newid, ac mae'n rhywbeth y bûm yn galw amdano ers blynyddoedd lawer, ond onid yw'r newid hwnnw yn nes at adref?

Na. Mae hwnnw'n fethiant sylfaenol, oherwydd mae menywod yn cael cam cyn mynd i'r carchar, yn ogystal â phan fyddant yn y carchar ac ar ôl iddynt ddod allan, ac mae angen agwedd gyfannol at bolisi. Y pwynt rydych chi wedi'i wneud yw bod agwedd gyfannol at bolisi yn cael effaith ar ganlyniadau, ac rwy'n falch eich bod chi wedi gwneud y pwynt hwnnw.

Ac rwyf am orffen—. Nid wyf am brofi eich amynedd, Ddirprwy Lywydd; rwyf wedi gwneud hynny eisoes, rwy'n gwybod. Rwyf am orffen gyda hyn: mae'n bwysig fod Llafur y DU o ddifrif ynglŷn â hyn, ac nid yw'n ddigon da i Lafur y DU wneud areithiau yn ei gylch a throi eu cefn ar y mater. Rwy'n disgwyl newid gan Lafur y DU ar y mater hwn. Nid ymarfer academaidd yw datganoli hyn, ond ymarfer hawliau dynol sylfaenol, a rhaid i gam-drin menywod yn y system ddod i ben, rhaid i'r niwed sy'n cael ei wneud i fenywod ddod i ben, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau bod hynny'n digwydd a'i fod yn digwydd nawr. Diolch.

17:25

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ac rwy'n croesawu'r ddadl heddiw ac yn diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ac aelodau'r pwyllgor am eu gwaith ar yr ymchwiliad pwysig hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella canlyniadau i’r rhai mwyaf agored i niwed, a dyma pam mae cymorth i fenywod yn y system gyfiawnder a’u teuluoedd mor bwysig. Ac rydym yn cydnabod bod llawer o fenywod yn y system cyfiawnder troseddol sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion cymhleth yn fenywod sy’n oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, fel y nodwyd gennych yn eich ymchwiliad. Siaradais mewn uwchgynhadledd ddiwedd mis Mawrth ynglŷn ag adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Menywod, 'Double standard: Ending the unjust criminalisation of victims of violence against women and girls’ a rhoddais yr ystadegau hynny: mae 57 y cant o’r menywod sy’n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd yn ddioddefwyr cam-drin domestig; mae 63 y cant o ferched a menywod ifanc sy'n cael dedfrydau yn y gymuned wedi dioddef trais rhywiol neu gam-drin domestig mewn perthynas bersonol â phartner. Felly, amgylchiadau menywod yn y sefyllfa hon—. Ac fel y dywedoch chi, gyda fy ymweliad â CEF Eastwood Park hefyd, fe glywsom y llywodraethwr yn dweud bod pob un o’r preswylwyr, pob un o’r rheini sydd yn y carchar hwnnw, yn ddioddefwyr eu hunain. Roedd y menywod hynny i gyd yn ddioddefwyr eu hunain.

Mae’r pwyllgor wedi chwarae rhan allweddol yn tynnu sylw at anghenion menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Mae'n amlwg heddiw hefyd yn y ddadl ac wrth gwrs, er mwyn gwella canlyniadau i fenywod Cymru yn y system gyfiawnder, fel y mae ar hyn o bryd o leiaf, mae angen gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Maent yn gyfrifol am y maes cyfiawnder troseddol a gadwyd yn ôl, ochr yn ochr â chynnydd a wnawn mewn meysydd polisi datganoledig allweddol, gan gynnwys tai, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Ond mae adroddiad y pwyllgor mor bwysig oherwydd ei fod yn tynnu sylw at uchelgais a chyflawniadau’r hyn a fu’n lasbrint cyfiawnder menywod, sef rhaglen arloesol, y cytunwyd arni ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a phlismona yng Nghymru, i drawsnewid canlyniadau i fenywod sy’n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad â'r system honno. Ac fel y mae Cadeirydd y pwyllgor wedi dweud heddiw, mae’r ymchwiliad yn cydnabod effaith gadarnhaol gwaith megis y dull braenaru system gyfan ar gyfer menywod a’r gwasanaeth ymyrraeth gynnar i rai 18-25 oed, sy’n darparu cymorth wedi’i deilwra i fenywod yn y system gyfiawnder. Awgrymodd gwerthusiad o effaith y cynllun braenaru, y rhannwyd ei ganfyddiadau allweddol gyda’r pwyllgor, ei fod yn gwella canlyniadau bywyd i fenywod ac yn cynyddu eu gallu i gael mynediad at wasanaethau. Bellach, mae gwasanaethau atal a dargyfeirio wedi sefydlu ledled Cymru drwy'r glasbrint.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y rhaglen Ymweld â Mam, sy'n cynorthwyo plant yng Nghymru i ymweld â'u mamau yn y carchar yn Lloegr. Mae’n darparu cymorth hanfodol i deuluoedd ac yn lliniaru effaith aflonyddgar, a diangen yn aml, dedfrydau o garchar i fenywod Cymru. A phan ymwelodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau ag Eastwood Park, fe gyfarfuom â buddiolwyr y cynllun hwnnw. Clywsom am y cysylltiadau cymunedol cryf y gall y teuluoedd hynny eu cael gyda’u teuluoedd yn ôl yng Nghymru. Ond rwy'n credu bod hyn yn cysylltu'n uniongyrchol â'r argymhellion y cyfeiriodd yr Aelodau atynt heddiw ynghylch pwysigrwydd ein gwaith gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru, oherwydd mae hwn yn ddewis arall. Mae'n mynd yn ôl at adroddiad gwreiddiol y Farwnes Jean Corston, a’r hyn a ddywedodd, yn ei hadroddiad, ymhell yn ôl bryd hynny, oedd:

'Dylai'r llywodraeth gyhoeddi... strategaeth glir o fewn chwe mis i gael canolfannau carchar bach, addas, amlswyddogaethol a gwasgaredig yn ddaearyddol yn lle’r carchardai presennol i fenywod o fewn 10 mlynedd.'

Felly, dyna pam mae hi mor bwysig ein bod yn bwrw ymlaen â’r cyfle i dreialu canolfan breswyl i fenywod yng Nghymru. Bydd yn darparu dewis arall yn lle carchardai. Bydd yn gweithredu fel man cychwyn i weledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau cyfiawnder i fenywod Cymru, a bydd y dull o weithredu yn seiliedig ar ddarparu cymorth a gofal mewn ffordd gyfannol sy’n ystyriol o drawma, ac sy’n hygyrch yn y gymuned. Ac rwyf wedi derbyn yr holl argymhellion, ac yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â'r ganolfan breswyl i fenywod, i ddeall beth y gallai'r dewis arall hwn ei olygu. Mae'r pwyllgor hefyd yn nodi ystod o feysydd pellach lle mae mwy o waith hanfodol i'w wneud, ac rydym wedi derbyn ei argymhellion. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig, o ran y ganolfan, y gwyddom ein bod yn mynd ar ei thrywydd gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, fod yna apêl, ac rydym yn disgwyl penderfyniad yn yr hydref i gadarnhau lleoliad y ganolfan. Ac wrth gwrs, gallwn weithio ar y model gweithredu wrth inni aros am y cadarnhad hwnnw.

Cafwyd cyfeiriad at y canolfannau amhreswyl i fenywod ledled Cymru, a'n prif flaenoriaeth yw datblygu dull cadarn o weithredu ar gyfer y canolfannau hynny—canolfannau fel canolfan menywod gogledd Cymru yn y Rhyl, y mae llawer ohonom wedi ymweld â hi. Rydym yn cydnabod heddiw y gwaith pwysig y maent yn ei wneud, a hefyd canolfan Ymddiriedolaeth Nelson yng Nghaerdydd, yn darparu ystod mor werthfawr o wasanaethau, gan gynnwys cymorth i reoli a goresgyn camddefnydd o sylweddau, cymorth gofal plant, mynediad at gynnyrch mislif, help gyda chostau byw, mynediad at ddiwylliant a lles, celf a chrefft, fel y gwelsom pan wnaethom fynychu agoriad canolfan Ymddiriedolaeth Nelson ym mis Ionawr. Mynychais yr agoriad gyda Jenny Rathbone. Gwelsom yr ystod lawn o wasanaethau, ac mae'n dda gweld Ymddiriedolaeth Nelson yn cael ei chynrychioli yma heddiw. Ond rwy'n credu ein bod wedi dysgu fwyaf gan y menywod sy'n defnyddio'r ganolfan honno, a siaradodd yn bwerus mewn gwirionedd—a siaradodd o flaen grŵp mawr amlasiantaethol a oedd yn bresennol—am effaith fuddiol y ganolfan ar bob agwedd o'u bywydau. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod gan fenywod fynediad at y cymorth hwn, ni waeth ble maent yn byw yng Nghymru, ac rydym eisoes yn datblygu gwaith yn y maes hwn gyda'n partneriaid.

Mae gwaith y pwyllgor hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol parhau i godi ymwybyddiaeth ymhlith y farnwriaeth ynghylch effaith dedfrydau o garchar ar fenywod Cymru, ac mae'r Aelodau wedi sôn a gwneud sylwadau ar hyn heddiw. Felly, mae arweinwyr y glasbrint eisoes wedi cyflwyno digwyddiadau ymgysylltu i ddedfrydwyr, y cyfeiriodd Jane Dodds atynt, ynadon, a chodi ymwybyddiaeth a hyder mewn opsiynau yn y gymuned—dyna lle mae'n rhaid ichi addysgu a dylanwadu ar yr ynadon, y dedfrydwyr. Cyrhaeddwyd dros 270 o fenywod drwy'r gwaith hwn. Ond canfu'r ymchwiliad fod hwn yn dal i fod yn faes lle dylai ymwybyddiaeth a hyder fod yn gryfach, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid y glasbrint, gan gynnwys Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF.

Rwy'n gobeithio mai'r hyn sy'n bwysig yw bod y pwyllgor wedi canfod y llwyddiant hwnnw wrth sefydlu cynlluniau ataliol a dargyfeiriol ledled Cymru, fod mwy i'w wneud, er mwyn sicrhau bod menywod Cymru sy'n cael eu cadw yn y carchar yn Lloegr yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt—yn y carchar ac wrth gael eu rhyddhau. Ac yn arbennig o bwysig mewn meysydd fel camddefnyddio sylweddau a thai, rydym yn bwrw ymlaen â gwaith brys, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, i sicrhau, er enghraifft—ac rwy'n cadarnhau—y gall menywod Cymru yng ngharchardai Eastwood Park a Styal barhau i ddefnyddio Buvidal, ac mae hwnnw'n bwynt allweddol a godwyd yn yr adroddiad.

Felly, rwyf am ddweud i orffen ein bod yn ystyried canfyddiadau allweddol y pwyllgor, a'r ymylon garw o dan y setliad datganoli cyfredol sy'n ei gwneud hi'n anoddach darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar fenywod. Ddirprwy Lywydd, mae gennym system lle mae cyfrifoldebau wedi torri—rydym wedi siarad am ymylon garw, rydym wedi siarad am hafn—ar draws dwy weinyddiaeth, mandadau gwahanol, na fydd byth yn cyflawni'r dull integredig, cyfannol sydd ei angen arnom yn ymarferol. Felly, rydym yn parhau ac fe fyddwn yn parhau i fwrw ymlaen â'r achos dros ddatganoli, a dyma'r gwaith rydym yn symud ymlaen yn gyflym arno. Y Cwnsler Cyffredinol: fe fyddwch wedi gweld ein datganiad ysgrifenedig ar y cyd, yn amlinellu ein gwaith, ar 25 Ebrill. Mae hwn wedi bod yn adroddiad mor werthfawr, a diolch i'r pwyllgor, ac rwy'n dweud, nid yn unig fy mod wedi derbyn yr holl argymhellion, ond rwy'n benderfynol y byddwn yn cyflawni'r argymhellion hynny. Diolch yn fawr.

17:30

Diolch am eich ymateb gwirioneddol galonogol, Weinidog—mae i'w groesawu'n fawr iawn, ac rwy'n talu teyrnged i'ch ymrwymiad personol i'r mater hwn.

Dim ond tri munud sydd gennyf, felly bydd yn rhaid imi frysio drwyddo. Soniodd Altaf Hussain am bwysigrwydd gwasanaethau adsefydlu preswyl, ac yn gywir ddigon, gofynnodd pam fod rhywfaint o’r gyllideb a ddyrennir ar gyfer gwasanaethau o’r fath yn cael ei rhoi yn ôl i Lywodraeth Cymru. Mae hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen inni ymchwilio iddo—nid yw'n rhywbeth y gwnaethom rywbeth yn ei gylch. Ond rwy’n gwbl ymwybodol fod Altaf Hussain yn gwybod cryn dipyn am y pwnc hwn, ac mae hefyd yn cwestiynu pam fod cyfraddau aildroseddu'n llawer uwch ar gyfer menywod yng Nghymru nag mewn mannau eraill. Felly, mae angen inni ymchwilio i’r pethau hynny. Yn amlwg, mae tai yn broblem fawr.

Roedd Sioned Williams yn dosturiol iawn yn ei hymagwedd at y menywod y cyfarfu â nhw yn y carchar, ac yn gwbl briodol, mae'n rhoi pwysau ar Blaid Lafur y DU i egluro cyflymder datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru. Esboniodd sut mae dedfrydau byr yn chwalu bywydau menywod, a'u bod yn greulon.

Gwnaeth Sarah Murphy gyfraniad angerddol hefyd am y menywod nad oes ganddynt fynediad at Buvidal, sy’n nodweddiadol o’r system cyfiawnder troseddol yn fy mhrofiad i. Nid oes unrhyw gysylltiad â'r gwasanaeth roedd rhywun yn ei gael pan oeddent yn y gymuned; pan fyddant yn mynd i’r carchar, maent yn cael gwasanaeth gwahanol, ac mae'r gwrthwyneb yn digwydd yn fy mhrofiad i, ac mae hyn yn wastraff arian cyhoeddus drwyddo draw. Credaf fod Sarah hefyd wedi crybwyll pwynt pwysig ynghylch sut mae menywod yn cael arfer eu hawl i gysylltu â’u Haelod o’r Senedd. Pwysleisiwyd hyn hefyd gan Jane Dodds, ac mae’n siomedig iawn ein bod eto i glywed gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai, sy’n gyfrifol am gefnogi menywod yn y carchar. Mae angen inni fynd ar drywydd hyn.

Credaf fod cynllun pum pwynt Jane Dodd—. Dim ond tri a ysgrifennais, ond serch hynny, roeddech yn llygad eich lle i bwysleisio bod yn rhaid inni gyrraedd yr ynadon a sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r glasbrint, a'u bod wedi ymrwymo iddo. Fel y dywedoch chi, mae carchardai bob amser yn cael eu defnyddio i reoli'r rhai sydd fwyaf ar y cyrion—yn bendant.

Gareth, rwy'n falch iawn eich bod yn parhau â gwaith da eich rhagflaenydd, Ann Jones, a oedd yn gefnogwr enfawr i ganolfan menywod gogledd Cymru. Credaf eich bod wedi camddeall i raddau, ac nid wyf yn deall pam rydych chi'n gwrthwynebu argymhelliad 2 pan fo'ch cyd-Aelod, sydd wedi clywed yr holl dystiolaeth, o’i blaid.

Mae bob amser yn fraint clywed gan Alun Davies, ac rwy’n cydnabod ei ymrwymiad gwirioneddol i’r mater hynod bwysig hwn, fel Gweinidog ac fel Aelod ar y meinciau cefn. Gwn eich bod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau nad yw menywod yn cael eu trin yn y ffordd rydym yn eu trin. A dynion yn wir. Os ydym yn mynd i ddileu hawl pobl i fyw yn y gymuned, mae’n rhaid inni sicrhau bod eu hamser yn y carchar yn bwrpasol, ac nid yw hynny’n wir ar hyn o bryd. Mae’n amlwg fod angen inni ailedrych ar gomisiwn Thomas, ac atgoffa Plaid Lafur y DU o’r hyn y mae angen iddynt ei wneud.

Mae'r Gweinidog yn llygad ei lle i dynnu sylw at raglen Ymweld â Mam; mae hynny'n hynod o bwysig i blant a'u mamau, ond yn amlwg, nid yw cystal â chaniatáu i'r fenyw fwrw ei dedfryd yn y gymuned a gallu parhau i fod yn fam. Ond rwy’n sylweddoli bod y Gweinidog a’r Cwnsler Cyffredinol ill dau'n ymrwymedig iawn i’r mater hwn.

A chredaf ei bod yn bwysig fod y Gweinidog hefyd wedi ein hatgoffa bod y ganolfan breswyl i fenywod yn argymhelliad gan Corston. Os ydym yn mynd i gau carchardai menywod, mae'n rhaid cael dewisiadau amgen bach ar gyfer rhai pobl a fydd yn ei chael hi'n rhy anodd bwrw dedfryd cymunedol effeithiol heb y rheolaethau o'u cwmpas. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld canlyniad i'r apêl ar y ganolfan breswyl i fenywod, ac mae’n rhaid i mi ein hatgoffa, os oes gennym ganolfannau preswyl i fenywod ym Mryste ac yn Birmingham, ac nad yw’r awyr wedi cwympo ar eu pennau, dylem allu gwneud i hynny weithio yng Nghymru hefyd.

Felly, diolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau, ac yn amlwg, mae'r gwaith hwn yn parhau. Nid dyma ddiwedd y stori.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deintyddiaeth y GIG

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 7 y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, deintyddiaeth yr NHS. Galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8272 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod ymchwiliad gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi canfod nad yw 93 y cant o feddygfeydd deintyddol yng Nghymru yn derbyn cleifion newydd GIG Cymru sy'n oedolion.

2. Yn cydnabod bod arolwg Cymdeithas Ddeintyddol Prydain o 250 o ddeintyddion yng Nghymru wedi canfod bod dros draean o ddeintyddion yn bwriadu lleihau eu contractau GIG yng Nghymru.

3. Yn mynegi pryder bod llawer o drigolion ledled Cymru yn aros dros ddwy flynedd i gofrestru gyda deintydd GIG yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i sicrhau bod contractau deintyddol GIG Cymru yn caniatáu i bractisau deintyddol gynyddu nifer eu cleifion; a

b) recriwtio mwy o ddeintyddion ar frys drwy wneud deintyddiaeth GIG Cymru yn yrfa ddeniadol, drwy ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n gweithio mewn practisau deintyddol GIG Cymru am bum mlynedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n dechrau drwy ddiolch i Darren Millar hefyd am gyflwyno’r ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig. Rydym wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw am ei bod yn amlwg fod deintyddiaeth yng Nghymru, ynghyd â llawer o rannau eraill o’r GIG, mewn argyfwng. Daw'r prif ffigur sy’n agor ein cynnig gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain, sy’n datgan nad yw 93 y cant o bractisau deintyddol yng Nghymru bellach yn derbyn cleifion newydd GIG sy’n oedolion. Dyma’r gyfradd waethaf yn y DU, a niferoedd fel hyn sydd wedi creu'r angen am y ddadl hon yn ein Siambr yma heddiw.

Nawr, gallem siarad am amser hir am y ffaith mai'r GIG hwn dan arweiniad Llafur yw'r gwaethaf yn y DU, gyda rhestr aros ddwy flynedd enfawr, a sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei gamreoli'n enbyd, ond rydym yma heddiw i dynnu sylw at ddeintyddiaeth yng Nghymru, sy'n cael ei rhedeg yn drychinebus o wael ac sy’n parhau yn nhraddodiad y Blaid Lafur o gamreoli’r GIG a chamreoli Cymru. Ac mae’r gamreolaeth hon i’w gweld yn glir ym mhwynt 2 ein cynnig, sydd am i’r lle hwn gydnabod bod dros draean o ddeintyddion yn bwriadu lleihau eu contractau GIG yng Nghymru, ac rwy’n siŵr fod hynny’n destun pryder i bob Aelod yn y Siambr hon.

Ac mae'r ystadegau cyffredinol hyn, wrth gwrs, yn destun pryder difrifol i ni, ond o fewn yr ystadegau hyn, mae profiadau unigol pobl ledled Cymru, ac efallai y dylwn ddatgan buddiant ar y pwynt hwn, gan na all fy nheulu innau gael deintydd y GIG, gan gynnwys fy mhlant. Yn wir, mae plant ledled Cymru yn cael eu hamddifadu o gyfle i gael deintydd GIG, gydag ystadegau diweddar gan fwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro yn dangos bod bron i 7,500 o blant yn dal i aros i weld deintydd. Dyma gyhuddiad damniol o'r ffordd y caiff deintyddiaeth ei rhedeg yng Nghymru, ac mae'n cael effaith ofnadwy ar iechyd deintyddol y plant hynny. Mae'n debygol fod problemau difrifol yn cael eu methu, ac o ganlyniad, byddant yn gwaethygu. Er enghraifft, gwyddom fod deintyddion yn chwarae rhan mewn sgrinio am bethau fel canser y geg, a heb archwiliadau rheolaidd, mae perygl y bydd problemau fel hyn yn cael eu methu.

Mae pob rhan o Gymru yn cael ei gwasanaethu’n wael, ac yn fy rhanbarth i, Gogledd Cymru, fel y rhannais rai misoedd yn ôl, penderfynais wneud rhywfaint o ymchwil fy hun, a gadewch imi eich atgoffa fy mod wedi cysylltu â 69 o ddeintyddion y GIG yn fy rhanbarth, gan siarad â 57 o’r practisau hynny, ac roedd y canlyniadau’n syfrdanol: yng Ngogledd Cymru, gyda phoblogaeth o 700,000 o bobl, nid oedd unrhyw un o bractisau deintyddol y GIG yn gallu derbyn cleifion newydd, gyda dim ond pedwar yn cynnig lle ar restr aros, a oedd yn debygol o fod dros ddwy flynedd.

Mae ein trigolion yn talu eu trethi a dylent ddisgwyl derbyn gwasanaethau cyhoeddus gweddus yn gyfnewid. Mae Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus gan Lywodraeth y DU am bob £1 a werir yn Lloegr. Ac mae'n amlwg, ar ôl 25 mlynedd, fod camreolaeth ac arweinyddiaeth wael Llafur wedi difetha deintyddiaeth ledled y wlad. Stori debyg yw hi ledled gweddill Cymru. Ym mis Hydref 2022, yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, dim ond 17 y cant o bractisau deintyddol yn sir Fynwy oedd yn derbyn cleifion GIG newydd. Ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, nid oedd unrhyw bractis deintyddol yn derbyn cleifion GIG newydd, gyda bwrdd iechyd Hywel Dda wedi colli 20 o ddeintyddion rhwng 2018 a 2022.

Mae Llafur yn methu yn y cyswllt hwn, ac mae angen cynllun cadarn ar waith i wella'r sefyllfa. Ac rydym wedi rhoi cynllun y Ceidwadwyr Cymreig gerbron yr Aelodau yma heddiw, cynllun sy'n cynnwys gweithio'n agos gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, yn gyntaf oll i sicrhau bod contractau deintyddol GIG Cymru yn caniatáu i bractisau deintyddol gynyddu nifer y cleifion, a recriwtio mwy o ddeintyddion ar frys drwy wneud deintyddiaeth GIG Cymru yn yrfa ddeniadol. Ac rydym wedi amlinellu sut y byddem yn gwneud hynny.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:40

Byddem yn gwneud hyn drwy ad-dalu ffioedd dysgu ar gyfer pobl sy'n gweithio am bum mlynedd ym mhractisau deintyddol GIG Cymru. Yr hyn rydym yn ei gynnig yw dull ymarferol a phragmatig o fynd i'r afael â’r argyfwng recriwtio y gwyddom ei fod o’n blaenau, ac mae taer angen syniadau arloesol fel hyn arnom i fynd i’r afael â’r broblem. Felly, Ddirprwy—o, mae'n ddrwg gennyf, Lywydd—[Chwerthin.] Felly, Lywydd, gan orffen ar nodyn cadarnhaol o ran yr opsiynau rydym yn eu cynnig i ddatrys y pethau hyn, galwaf ar bob Aelod o'r Siambr i gefnogi'r cynnig hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig, ac edrychaf ymlaen at glywed gweddill y ddadl. Diolch yn fawr iawn.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Y Gweinidog iechyd, felly, i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod adfer gwasanaethau deintyddol ar ôl pandemig y coronafeirws yn her hirdymor ar draws y Deyrnas Unedig.

2. Yn nodi bod cael gafael ar wasanaethau deintyddol yn parhau i fod yn heriol i rai pobl yng Nghymru.

3. Yn nodi bod mwyafrif llethol y practisau deintyddol â chontractau’r GIG yn cymryd cleifion GIG newydd y llynedd ac y byddant yn parhau i wneud hynny eleni.

4. Yn nodi bod 174,000 o bobl nad oeddent wedi cael gofal deintyddol y GIG yn hanesyddol wedi cael apwyntiad ac wedi cael triniaeth y llynedd.

5. Yn nodi bod lleiafrif o gontractau deintyddol wedi’u terfynu neu wedi’u lleihau o ran eu gwerth, a bod yr arian a ddychwelwyd yn cael ei gadw gan y bwrdd iechyd i ailgomisiynu gwasanaethau yn eu lle.

6. Yn croesawu y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i:

a) gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddatblygu a negodi contract deintyddol newydd sy'n gwneud deintyddiaeth y GIG yn ddewis deniadol; a

b) gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac israddedigion deintyddiaeth i ddeall beth fyddai'n eu cymell i weithio yng Nghymru ar ôl graddio.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Mae'n cael ei gynnig yn ffurfiol. Rhun ap Iorwerth nawr, i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu fel is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 4:

adolygu amodau cytundebol ar gyfer deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol i'w gwneud yn fwy cynaliadwy a deniadol yn y tymor hir;

meithrin gallu hyfforddi deintyddol, gan gynnwys drwy archwilio'r posibilrwydd o sefydlu ysgol ddeintyddol newydd yn y gogledd;

datblygu strategaeth cadw'r gweithlu.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i’r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl yma i'r Senedd y prynhawn yma. Mae'r cynnig ei hun, dwi'n meddwl, yn adlewyrchu yn eithaf clir difrifoldeb yr heriau mae deintyddiaeth yn eu hwynebu, a dydy hi ddim yn gor-ddweud, dwi'n meddwl, i gyfeirio at ddeintyddiaeth gyhoeddus fel gwasanaeth sydd ar ei liniau yng Nghymru. Rydyn ni'n gwybod faint sy'n methu â chofrestru, rydyn ni'n gwybod pa mor anodd ydy recriwtio a chadw staff i sector lle mae'r pwysau gwaith mor uchel a'r arian, y buddsoddiad, y tâl ac ati yn annigonol. Rydyn ni'n gwybod faint o ddeintyddion sy'n penderfynu fod ganddyn nhw ddim dewis ond dod â'u cytundebau NHS i ben a chynnig gwasanaethau preifat yn unig. Mae buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf, rydyn ni'n clywed, yn anodd. Ac o gymryd y rhain a ffactorau eraill at ei gilydd, beth sydd gennym ni ydy sefyllfa lle mae yna fethiant i allu cynnig triniaeth sydyn a thriniaeth sylfaenol i'r bobl sydd ei angen o.

Mi wnaethom ni, fel pwyllgor iechyd yn y Senedd yma'n ddiweddar, gael ein dychryn gan rai o’r ystadegau a gafodd eu cyflwyno inni wrth inni ymchwilio i gyflwr deintyddiaeth. Ond efallai mai'r peth mwyaf trawiadol oedd ei bod hi'n amhosib rhoi ffigwr ar faint o bobl a oedd ar restrau aros ar gyfer triniaeth NHS. Mae hynny'n ddiffyg data ar y lefel fwyaf sylfaenol y cewch chi, ac yn ei gwneud hi mor anodd i gynllunio gwasanaethau mwy cynaliadwy.

Dwi'n nodi bod gwelliant y Llywodraeth heddiw yn sôn am y pandemig a’r effaith negyddol amlwg, wrth gwrs, y cafodd hynny ar wasanaethau deintyddol, ond i fod yn glir, mae'r trwch o broblemau yr ydym yn sôn amdanyn nhw heddiw yn rhai a oedd yn bodoli ymhell cyn i'r pandemig gyrraedd ac mi fethodd y Llywodraeth â datrys y problemau yna bryd hynny. A beth sy’n rhwystredig, wrth edrych ar rai o’r problemau amlwg yna, ydy ein bod ni'n edrych ar bethau sydd yn gwbl sylfaenol, ac mae sicrhau gweithlu cynaliadwy yn rhywbeth sy’n allweddol ym mhob rhan o’n gwasanaethau iechyd a gofal ni. Mae hynny’n golygu recriwtio a hyfforddi; mae’n golygu dal gafael ar beth sydd gennym ni; sicrhau bod deintyddion a staff atodol eraill yn parhau i ddarparu gwasanaethau NHS. Mi wnaeth 52 deintyddfa dod â thriniaethau NHS i ben rhwng 2019 a'r llynedd—dwi'n ofni y gwelwn ni fwy eto eleni.

Wrth gwrs, fel yn achos cymaint o weithwyr iechyd a gofal, dydy codiad cyflog sydd ymhell o dan raddfa chwyddiant ddim yn helpu, ond ychwaith does yna ddim cynllun yn ei le, hyd y gwelaf i, ar sut i gadw deintyddion yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ar ôl graddio. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth fod yn arloesol wrth fynd i’r afael â’r broblem yma. Rydyn ni angen hyfforddi mwy. Un awgrym yn ein gwelliant ni heddiw, a rhywbeth dwi wedi'i gefnogi ac wedi galw amdano fo'n gyson—fel oeddwn i'n gefnogol i sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd—ydy sefydlu ysgol ddeintyddol yn y gogledd. Mae adroddiad diweddaraf y pwyllgor iechyd yn adleisio’r awgrym yna.

Mae’n hollol amlwg i mi yn y nifer y llythyrau ac e-byst dwi'n eu derbyn gan etholwyr—dwi'n gwybod fod hynny’n wir am lawer o Aelodau eraill ar draws y gogledd—bod yna broblemau mawr efo mynediad at ofal deintyddol. Mae yna ardaloedd yn y gogledd—. Ar Ynys Môn, er enghraifft, dim ond pedwar deintyddfa cyhoeddus sydd yna ar ôl, a'r gweddill wedi mynd yn breifat achos eu bod nhw'n methu â gallu delio efo'r gofynion o fewn y cytundeb NHS oherwydd y straen, meddan nhw, a oedd yn cael ei roi ar y staff ac ati. Ac er bod yna ddim byd yn anghyffredin, ers blynyddoedd lawer, mewn gweld deintyddion yn gweithio yn y sector preifat, mae'r hafaliad, mae’r cydbwysedd rhwng y preifat a'r NHS yn hollol allan o'i le ar hyn o bryd.

Mae gennym ni system tair haen. Gadewch inni atgoffa ein hunain beth ydy'r tair haen: y rhai sy’n gallu fforddio gofal preifat, y rhai sy'n cael gofal NHS, a’r rhai sy'n methu â fforddio mynd yn breifat a methu â chael mynediad at wasanaeth NHS. Ac yn anffodus, mae’r haen ddiwethaf yna yn tyfu’n sydyn ledled Cymru. Lle mae yna broblemau mewn gwahanol ardaloedd, mae eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n bwydo deintyddion i mewn i'r ardaloedd hynny. Ac mae'r gogledd, fel rydyn ni'n gwybod, yn un o'r ardaloedd lle mae yna broblemau.

Mae angen gweithio ar frys ar y cytundebau er mwyn sicrhau bod amgylchiadau gwaith deintyddion yn rhai sydd yn ddeniadol. Mae eisiau adeiladu capasiti. Does dim rhaid i'r sefyllfa, dwi'n siŵr o hynny, fod fel hyn. Mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i fynd ati i ddatrys y problemau gwirioneddol yma rŵan, a dwi wir yn ofni ein bod ni'n rhedeg allan o amser.

17:50

Yn gyntaf oll, hoffwn ymhelaethu, mae’n debyg, ar yr hyn y mae Rhun ap Iorwerth wedi’i amlinellu mewn perthynas â’r system dair haen sydd gennym ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn gyntaf oll, mae gennym bobl sy'n gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG. Nhw yw'r grŵp ffodus o bobl. Yna, mae gennym bobl sy'n talu i fynd yn breifat. Mewn gwirionedd, mae dwy set o bobl yno. Mae gennych y rheini sy’n gallu fforddio gwneud hynny'n hawdd ac yna'r rheini na allant fforddio gwneud ond sy'n talu’n breifat beth bynnag, gan mai'r unig ddewis arall yw peidio â chael gofal deintyddol o gwbl. Felly, maent yn gwneud dewisiadau bywyd sy’n caniatáu iddynt dalu’n breifat, sy’n eu rhoi mewn sefyllfa anodd, wrth gwrs. Yna, mae gennym y trydydd grŵp o bobl na allant fforddio talu'n breifat, felly nid ydynt yn mynd yn breifat, ac ni allant gael mynediad at ddeintydd y GIG ychwaith. Dyna’r bobl sydd yn y sefyllfa anoddaf oll, a dyna pam fod gennym system ddeintyddol dair haen ar waith yng Nghymru.

Cofiaf yn ôl i'r llynedd, pan adroddodd y BBC ar un o fy etholwyr, Dafydd Williams o’r Drenewydd, a oedd yn teithio o’r Drenewydd i Telford—100 milltir i ffwrdd—i gael deintydd, taith gron o ddwy awr a hanner. Rwy'n meddwl am un arall o fy etholwyr yn teithio i Aberhonddu. Mae arnaf ofn nad yw trigolion Powys yn wahanol i'r rhan fwyaf o drigolion eraill ledled Cymru, oherwydd yn sir Powys, nid oes unrhyw ddeintyddion yn derbyn cleifion GIG newydd. O leiaf, dyna oedd y sefyllfa pan wnaed y cais rhyddid gwybodaeth rai misoedd yn ôl. Ond nid yw Powys ar ei phen ei hun yn hynny o beth. Mae naw ardal awdurdod lleol arall hefyd yn yr un sefyllfa. Ac wrth gwrs, mae yna bobl ffodus—. Rwy'n dweud 'ffodus'—yr un etholwr sy'n mynd i Aberhonddu, Dafydd yn mynd i Telford. Rwy'n dweud 'ffodus' gan y gallant wneud eu ffordd eu hunain yno. Ond bydd llawer o fy etholwyr yn methu gwneud y daith honno am nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol ar gael. Felly, carwn awgrymu, Weinidog, fod yna anghydraddoldebau enfawr ynghlwm wrth hyn.

Nawr, bydd y Gweinidog yn dweud y bydd y contractau GIG newydd gyda deintyddion yn arwain polisi tuag at ehangu mynediad i gleifion. Wel, digon teg—dyna rydym oll am ei weld, ynte? Ond dywed Cymdeithas Ddeintyddol Prydain fod y cytundebau GIG newydd hyn, sy’n rhoi pwyslais ar weld cleifion newydd, yn fargen wael i’r rheini sydd eisoes wedi cofrestru mewn practis. Mae deintyddion lleol wedi dweud wrthyf yn uniongyrchol am eu rhwystredigaethau a'u pryderon ynglŷn â'r anhawster o gael y taliad am waith deintyddol wedi'i gadarnhau pan fydd yn rhaid iddynt dalu eu gorbenion. Mae hyn yn rhoi pwysau enfawr a straen ariannol enfawr, gan eu gadael heb unrhyw ddewis ond lleihau nifer y cleifion GIG y maent yn eu derbyn, ac mae hyn yn ei gwneud yn anoddach fyth i gleifion ddod o hyd i ofal deintyddol fforddiadwy.

Credaf mai dyma'r broblem fawr i mi. Rydym wedi sôn am sgandal, neu argyfwng, os mynnwch—argyfwng mewn deintyddiaeth yng Nghymru. Credaf y gall pob un ohonom gytuno ar hynny. Rwy'n gobeithio y bydd hyd yn oed y Gweinidog yn cytuno bod gennym argyfwng deintyddiaeth. Ond nid ydym yn ymwybodol o faint yr argyfwng. Mae hynny'n arwyddocaol, oherwydd sut y gallwn ddatrys y broblem os nad yw'r Llywodraeth yn gwybod faint o bobl sydd ar restrau aros y GIG? Dyma sy'n rhaid i ni ei ddatrys. Dylai fod rhestr aros ganolog. Mae hyn yn gwbl hanfodol hefyd. Er mwyn datrys y problemau, mae angen inni wybod faint o bobl sy’n aros.

Fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi'i nodi, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi gwneud gwaith ar ddeintyddiaeth. Fe wnaethom hynny y llynedd, ac fe wnaethom adrodd ym mis Chwefror. Dyma ein hadroddiad o fis Chwefror. Byddwn yn trafod hwn ar lawr y Senedd ymhen ychydig wythnosau a dweud y gwir, ym mis Mehefin. Byddaf yn rhoi mwy o fanylion bryd hynny am yr argymhellion a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fe wnaethom 16 o argymhellion i gyd. Felly, o ran beth yw'r atebion i'r Llywodraeth, byddwn yn dweud: edrychwch ar yr 16 argymhelliad, edrychwch ar y cynllun a amlinellwyd gan Sam Rowlands heddiw, a dyma'r dechrau er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad enfawr sydd gennym.

Beth arall oeddwn i'n mynd i'w ddweud?

Os felly, edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw, ond yn fwyaf arbennig, os nad ydych wedi gwneud hynny, darllenwch ein hadroddiad ar ddeintyddiaeth, mae'n rhywbeth i gladdu'ch dannedd ynddo.

17:55

Rwyf am osgoi chwarae ar eiriau. Ynghyd ag Aelodau eraill o’r Senedd, cyfarfûm â’r pwyllgor deintyddol lleol yng Ngorllewin Morgannwg. Rwyf am ddechrau a gorffen gyda’r un cais—fod y Gweinidog yn ymgysylltu’n uniongyrchol â chorff cynrychiadol deintyddion y GIG, yn hytrach na bod eu barn yn cael ei hidlo drwy’r prif swyddog deintyddol, y dywedir wrthyf nad yw erioed wedi gweithio mewn practis deintyddol y GIG, ac nad oes ganddo unrhyw gynghorydd sy'n gweithio mewn practis deintyddol y GIG.

Mae'r deintyddion sy'n gwneud gwaith y GIG wedi ymrwymo i egwyddorion y gwasanaeth iechyd gwladol. Roedd y materion a godwyd ganddynt yn cynnwys y ffaith bod y contract newydd 25 y cant yn seiliedig ar unedau o weithgaredd deintyddol, a 75 y cant ar fetrigau newydd. Ymrwymodd deintyddion i'r contract heb y manylion, a ddaeth i'r amlwg yn ddiweddarach. Roedd hon i fod yn flwyddyn ddysgu drugarog, ond ymddengys nad yw hynny wedi digwydd. Mae rhaglen ar waith i annog deintyddion sydd wedi’u hyfforddi yng Nghymru i aros yng Nghymru drwy gynnig bwrsariaeth ar gyfer aros ac i symud i ardaloedd gwledig hefyd, sy’n dda yn fy marn i.

A gaf fi ddweud bod angen ysgol ddeintyddol newydd yng Nghymru? A gaf fi awgrymu Prifysgol Abertawe fel safle posibl? Er, rwy'n siŵr y bydd pobl yma yn awgrymu Bangor. Ond credaf ei bod yn bwysig fod gennym ganolfan ddeintyddol arall. Mae hynny’n bwysig. Os nad oes gennym ddigon o ddeintyddion, beth am hyfforddi mwy? Ymddengys bod hyn yn rhywbeth nad ydym erioed wedi'i feistroli'n iawn.

Mae nifer o faterion wedi dod i'r amlwg sy'n effeithio ar ofal deintyddol, ac fe allant olygu bod llawer o ddeintyddion yn gadael y contract ym mis Ebrill. Dywedodd oddeutu 75 y cant o ddeintyddion a holwyd gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain nad oedd y contract yn gweithio iddynt hwy. Mae'r cyfarfodydd cydgynhyrchu ar y contract wedi cynnwys llai a llai o gydgynhyrchu. Dywedasant hefyd nad yw'r gyllideb ar gyfer deintyddiaeth y GIG ond yn cwmpasu 50 y cant o'r boblogaeth. Mae gwaith preifat yn sybsideiddio eu gwaith GIG ar hyn o bryd. Ac mae'r rhain yn bobl sydd wedi ymrwymo i ddeintyddiaeth y GIG. Nid ydynt yn bobl sydd yn ei erbyn. Nid dyma'r rhai a neidiodd ar y cyfle cyntaf posibl pan welsant y gallent wneud mwy o arian drwy wneud gwaith preifat; aethant hwy i gyd 10 i 15 mlynedd yn ôl.

Ym 1948, cyflwynwyd deintyddiaeth y GIG fel rhan o'r gwasanaeth iechyd gwladol a oedd newydd ei ffurfio. Roedd yna dair egwyddor sylfaenol: ni ddylai unrhyw un byth orfod poeni am fethu fforddio gofal meddygol angenrheidiol; byddai gofal yn cael ei ddarparu am ddim yn y man lle caiff ei ddarparu; a byddai gofal yn seiliedig ar angen clinigol. Mae'r contract deintyddol wedi mynd drwy lawer o newidiadau. Ffi fesul eitem oedd y system dalu wreiddiol, lle roedd deintyddion yn cael eu talu am bob triniaeth a gâi ei darparu ganddynt. Yna caent eu talu fesul pen, lle telid swm penodol i ddeintyddion am gleifion, ni waeth beth fo'r driniaeth. Defnyddiwyd y system hon rhwng 1951 a 1990, ac roedd yn gweithio'n dda.

Newidiwyd y system ym 1990, gan olygu bod deintyddion yn cael ffi am bob triniaeth a ddarperid, yn ogystal â lwfans ar gyfer cofrestru cleifion sy'n oedolion a phlant. Cyflwynwyd yr unedau o weithgaredd deintyddol yn 2006. Roedd y bandiau'n golygu bod deintyddion yn cael eu talu am nifer penodol o weithgareddau deintyddol y flwyddyn, gyda nifer penodol o unedau'n cael eu neilltuo i bob band triniaeth. Cyflwynwyd y system brototeip A a B yn 2011 fel treial ar gyfer system gontract newydd. Roedd dau brototeip yng Nghymru. Un oedd y cynllun peilot ansawdd a chanlyniadau, a'r ail oedd y cynllun peilot ar gyfer plant a phobl ifanc. Cafodd y ddau wared ar yr unedau o weithgaredd deintyddol, a rhoi rhyddid clinigol i wneud dyfarniad clinigol ynglŷn â'r hyn sydd orau i’r claf.

Cyflwynwyd y system gontract ddiweddaraf yn 2019, ac fe'i galwyd yn 'ddiwygio’r contract'. Bob tro y clywaf y termau 'diwygio' neu 'foderneiddio', rwy'n mynd yn chwys oer. O dan y system, telir deintyddion am nifer penodol o unedau o weithgaredd deintyddol y flwyddyn, gyda'r pwyslais ar ofal ataliol a chanlyniadau cleifion, sy'n dda. Ond mae adfachu wedi peri pryder enfawr i bractisau deintyddol.

Awgrymodd y deintyddion rai atebion: fod yr un gyfradd yn cael ei thalu i gontractwyr deintyddol am bob eitem o driniaeth a ddarperir ganddynt; fod angen ystyried cynllun fesul pen wedi'i bwysoli—cofiwch, dyna oedd yn arfer digwydd; ac y dylid gwobrwyo deintyddion am weld cleifion risg coch ac oren yn fwy rheolaidd.

Mae Cynllun Gwên wedi gweithio'n dda iawn, ac wedi lleihau'r galw am driniaeth ddeintyddol i blant. Dylem fod yn ei weld yn gweithio'i ffordd drwodd i oedolion a fu'n rhan o Gynllun Gwên pan oeddent yn blant, a ddylai fod yn gofalu am eu dannedd o hyd. Bydd rhai'n methu—mae hynny'n anochel—ond mae'n sicr wedi sefydlu dull da o symud ymlaen.

Weinidog, fe wnaethoch etifeddu hyn gan eich rhagflaenwyr. Nid wyf yn eich dal yn gyfrifol am ddim o hyn. Digwyddodd hyn oll cyn ichi fod yn Weinidog, felly dim ond gofyn ichi geisio'i ddatrys rwy'n ei wneud.

A gaf fi orffen fel y dechreuais, drwy ofyn i’r Gweinidog ymgysylltu’n uniongyrchol â chorff cynrychiadol deintyddion y GIG, sydd wedi ymrwymo i ddeintyddiaeth y GIG, er mwyn dod o hyd i ateb, yn hytrach na bod eu barn yn cael ei hidlo drwy bobl eraill? Rydym am i ddeintyddiaeth weithio. Credaf fod hynny'n un peth y gall pob un ohonom gytuno arno yma—rydym am i ddeintyddiaeth weithio. A Weinidog, mae gennyf hyder ynoch chi i'w ddatrys.

18:00

Diolch i fy nghyd-Aelod, Russell, am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon ac rydych chi'n iawn, Russ, i ddweud bod deintyddiaeth y GIG mewn argyfwng, er gwaethaf yr hyn y byddai Llywodraeth Cymru eisiau i chi ei gredu. Mae'n argyfwng a ddechreuodd ymhell cyn COVID, ond a wnaed yn llawer gwaeth gan y pandemig a newid Llywodraeth Cymru i'r contract taliadau deintyddion.

Nos Iau diwethaf, gyda Mike a Sioned, fe fynychais gyfarfod arbennig gyda Phwyllgor Deintyddol Lleol Morgannwg. Fe wnaeth bron i 50 o ddeintyddion lleol, rheolwyr practisau, nyrsys deintyddol, hylenwyr a therapyddion dreulio noson yn esbonio i ni wleidyddion pam mae deintyddiaeth y GIG yn dioddef ym mwrdd iechyd bae Abertawe. Cefais fy syfrdanu gan ddyfnder y teimlad eu bod yn cael eu siomi gan Lywodraeth Cymru, ond cefais fy nghalonogi gan ymrwymiad llwyr pawb a oedd yn bresennol i gynnal darpariaeth ddeintyddol y GIG.

Mae deintyddion yn teimlo nad ydynt yn cael eu clywed, ac fe gafodd pryderon eu codi yn y cyfarfod ynglŷn ag addasrwydd y cyngor sy'n cael ei roi i Lywodraeth Cymru. Roedd y ffaith nad oedd y prif swyddog deintyddol erioed wedi gweithio mewn practis deintyddol y GIG yn peri pryder i'r deintyddion sy'n gweithredu ar y rheng flaen. Mae hyn wedi arwain at gontract deintyddol sy'n gwbl anaddas i ddeintyddion, ac yn waeth i gleifion. Fel y dywedodd un deintydd, mae'r contract yn wael i ddeintyddion, ond yn erchyll i gleifion. Mae'n gontract anffurfiedig, yn hytrach nag un diwygiedig. Mae llawer o bractisau wedi cael eu gorfodi i ddibynnu ar gleifion preifat er mwyn sybsideiddio eu cleifion GIG wrth i'r contract gael ei gapio. Dywedodd un practis wrthym fod ganddynt 13,000 o gleifion, ond dim ond arian am hanner y nifer hwnnw a gawsant. Mae'r contract deintyddol yn cael ei lywio gan dargedau, gan ffafrio niferoedd dros ansawdd. Mae hyn yn gorfodi llawer o ddeintyddion i roi'r gorau i gontractau'r GIG neu ymddeol yn gyfan gwbl.

Ar draws fy mwrdd iechyd lleol, 40 y cant yn unig o ddeintyddion sy'n gwneud gwaith GIG erbyn hyn. Gyda disgwyl i nifer mawr o ddeintyddion ymddeol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd y ffigur hwn yn gwaethygu'n fawr. Dim ond 38 y cant o ymgyrchoedd recriwtio i gael deintyddion newydd yn eu lle a fu'n llwyddiannus. Mae gan fae Abertawe 16 o bractisau hyfforddi, a dros y pum mlynedd diwethaf, maent wedi hyfforddi 70 o ddeintyddion sylfaen, ond naw yn unig sydd wedi aros yn yr ardal. Nid yw Ysgol Ddeintyddiaeth Caerdydd ond yn hyfforddi 70 o fyfyrwyr deintyddol a llond llaw o fyfyrwyr therapi deintyddol bob blwyddyn—nid yw hyn yn agos at fod yn ddigon i staffio ein practisau yn llawn i ddarparu triniaeth ddeintyddol i'r cyhoedd yng Nghymru. Ond pan ystyriwch y gall myfyriwr adael yr ysgol ddeintyddol a mynd yn syth i weithio i bractis preifat, gan wneud gwaith cosmetig heb orfod mynd drwy'r blynyddoedd ychwanegol o hyfforddiant sylfaenol, gallwch weld pam ei fod yn opsiwn deniadol, yn enwedig o ystyried y gallant ennill llawer mwy nag y byddent yn ei wneud yn y GIG. Dyna pam mae ein cynnig yn galw am ddiwygio'r contract deintyddol, yn ogystal ag ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n gweithio am bum mlynedd ym mhractisau deintyddol GIG Cymru. Mae'n rhaid inni gymell pobl i ddilyn gyrfa mewn ymarfer deintyddol y GIG. Mae'r deintyddion a siaradodd â ni yr wythnos diwethaf wedi ymrwymo'n llwyr i'r GIG, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am eu hymroddiad. Gadewch inni eu helpu i ofalu am iechyd deintyddol y genedl drwy sicrhau mai GIG Cymru yw'r lle gorau yn y byd i ymarfer meddygaeth ddeintyddol. Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr iawn.

Yn amlwg, nid fi yw'r unig Aelod sydd wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ar draws gogledd Cymru. Mae fy swyddfa wedi cysylltu ac wedi siarad â 97 y cant o'r holl bractisau deintyddol ar draws y gogledd, ac o'r rhai y gwnaethom siarad â hwy, 11 y cant yn unig sy'n derbyn cleifion GIG yn y 12 mis nesaf. Roedd yr amser aros am le yn y GIG yn ddwy flynedd ar gyfartaledd. Ychydig dros eu hanner sy'n derbyn plant fel cleifion GIG, a gall yr amseroedd aros GIG ar gyfer plant fod yn unrhyw beth rhwng tri mis a thair blynedd, gyda'r cyfartaledd yn ddwy flynedd. Nawr, mae hynny'n ddamniol, ac mae'n datgelu pa mor wael yw cyflawniad y Blaid Lafur ar wasanaethau deintyddol.

Mae'r ffigurau yn ddamniol, ac mae e'n ategu rhywbeth dwi'n meddwl mae'r Gweinidog wedi gwrthod cydnabod yn y gorffennol, ond efallai fod rhaid wynebu hyn nawr. Mae yna dair haen wedi datblygu o fewn y gwasanaeth, fel rŷn ni wedi clywed. Mae yna rai sydd yn cael mynediad i wasanaeth NHS, ac maen nhw'n lwcus iawn erbyn hyn, ac maen nhw'n mynd yn brinnach. Mae yna rai sydd ddim yn cael mynediad i wasanaeth NHS ond sydd yn gallu fforddio gwasanaeth preifat. Mae'r rheini yn ffodus, ond, fel rŷn ni wedi clywed, rhai efallai ddim, mewn gwirionedd, yn medru fforddio, ond fawr ddewis ganddyn nhw. Ond mae yna rai—ac mae hon yn garfan sydd yn cynyddu o wythnos i wythnos, o fis i fis—sydd ddim â mynediad i wasanaethau NHS ac sydd ddim yn gallu fforddio talu am wasanaethau preifat. A dyw'r Llywodraeth ddim wedi llwyddo i fynd i'r afael â hynny, a nhw yw'r rhai fydd yn talu'r pris nid yn unig o safbwynt iechyd deintyddol, ond hefyd o safbwynt iechyd meddwl. Achos dwi'n dod ar draws achosion nawr, yn y gwaith achos dwi'n ei gael, o bobl, a phobl ifanc yn enwedig—rhai yn aros am wasanaethau orthodontist—wedi bod yn aros am yn hir ac sydd yn dechrau teimlo bod hwnna yn cael effaith ar eu hiechyd meddwl nhw, a dwi yn meddwl bod rhaid inni gydnabod hynny.

Felly, byddwn i yn annog Aelodau i gefnogi gwelliant Plaid Cymru i'r cynnig yma am ein bod ni yn annog y Llywodraeth i adolygu cytundebau deintyddol, ein bod ni yn edrych i'r Llywodraeth i gryfhau darpariaeth hyfforddiant deintyddol ac, wrth gwrs, fod angen datblygu strategaeth er mwyn cadw y gweithlu presennol oherwydd, fel rŷn ni'n gweld gyda meddygon teulu, maen nhw'n gadael mewn niferoedd llawer rhy uchel, ac mae hynny'n gwneud sefyllfa ddrwg yn waeth.

18:05

Fe wnaeth ymchwiliad gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain y llynedd ddarganfod nad oedd 93 y cant o bractisau deintyddol yng Nghymru bellach yn derbyn cleifion GIG newydd sy'n oedolion. Dyna gynnydd o 8 y cant ers 2019. Yn 2021-22, cofnodwyd bod 1,420 o ddeintyddion yn gwneud gwaith i'r GIG yng Nghymru—86 yn llai o ddeintyddion nag yn 2018-19. Ac i goroni'r argyfwng, canfu arolwg Cymdeithas Ddeintyddol Prydain o 250 o ddeintyddion yng Nghymru fod dros draean ohonynt yn bwriadu lleihau eu contractau GIG yng Nghymru ymhellach.

Nawr, Weinidog, rydych wedi disgrifio i ni fod mynediad at wasanaethau deintyddol yn 'heriol' i rai pobl yng Nghymru. Yn Aberconwy, mae'n amhosibl. Mae etholwyr dirifedi wedi dweud wrthyf eu bod yn mynd yn breifat, ac mae rhai'n ei chael hi'n anodd mynd yn breifat hyd yn oed, oherwydd y pwysau sydd ar ymarfer preifat bellach oherwydd nad oes gennym unrhyw fynediad at y GIG. Gwn am rai sy'n gorfod teithio cymaint â dwy awr i Ddolgellau i gael gofal deintyddol y GIG. Yr hyn sydd gennym yn Aberconwy yw tystiolaeth glir fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn iawn fod yna system dair haen yn bodoli: pobl sy'n gallu cael mynediad at driniaeth breifat; pobl sy'n gallu cael mynediad at driniaeth y GIG; a phobl sydd ar ôl, yn methu cael mynediad at yr un ohonynt, ac mae'n warthus.

Felly, er mwyn helpu fy etholwyr lleol, rwyf wedi bod yn cysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Maent wedi fy nghynghori bod sawl practis yn ystyried ehangu ac yn ystyried bod model ymarfer yr academi yn ffordd dda o wneud hyn. Mae'n eu galluogi i ddenu cydweithwyr i ddod i weithio yn y practis, gan y gallant gynnig mwy i staff na dim ond darparu deintyddiaeth gyffredinol i'r boblogaeth. Yn gynharach eleni, fe anfonodd y bwrdd iechyd eu cynigion atoch chi, at Lywodraeth Cymru, ar gyfer proses dendro. Bydd y broses gaffael ar gyfer gweithgarwch ychwanegol mewn practisau presennol neu ar gyfer sefydlu practisau newydd ac rwy'n credu bod ganddo gyfanswm gwerth cyfunol o £1.3 miliwn y flwyddyn sy'n gyllid rheolaidd. Diolch byth, mae'r ymarfer caffael yn nodi ardaloedd o angen blaenoriaethol am fynediad y bwrdd iechyd, sy'n cynnwys nifer o fewn fy etholaeth i, a'r ardaloedd hynny yw tref Conwy, Betws-y-coed a Llandudno. Felly, byddwn yn falch o glywed hefyd, Weinidog, a oes gennych yr wybodaeth ddiweddaraf am gynllun £1.3 miliwn bwrdd iechyd gogledd Cymru a allai helpu Aberconwy ac ardaloedd blaenoriaeth eraill: Dwyfor Meirionnydd, Ynys Môn, sir y Fflint, Abergele, Pensarn, Glannau Dyfrdwy a'r Rhyl.

Gweithred arall i'w groesawu yn yr ardaloedd blaenoriaeth yw defnyddio uned ddeintyddol symudol yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Dylid darparu rhaglenni iechyd y geg hefyd drwy ysgolion. Wyddoch chi, cawsom ein magu i gredu bod yn rhaid inni gael archwiliadau rheolaidd, ac yn y dyddiau hynny, roedd cadair y deintydd yn arfer bod braidd yn frawychus, ond bob chwe mis, caem ein tywys i gael archwiliadau ac unrhyw ddeintyddiaeth roeddem ei hangen. Mae gennyf blant pump a chwech oed nad ydynt erioed wedi gweld deintydd, ac rwy'n credu ein bod yn eistedd ar fom amser, oherwydd bydd y plant hynny'n tyfu i fyny gyda dannedd sy'n pydru, ac wrth iddynt dyfu'n oedolion, ni fydd ganddynt hyder oherwydd—. Rwy'n credu, yn yr oes hon—. Mae'n 2023, ac mae gennyf blant nad ydynt erioed wedi gweld deintydd. Mae'n frawychus. Mae'n anghywir fod 80 y cant o athrawon eisoes yn darparu past a brwsys dannedd i ddisgyblion, gyda 25 y cant yn dweud bod ganddynt ddisgyblion sy'n colli ysgol oherwydd problemau hylendid y geg, a 40 y cant yn dweud bod ganddynt fyfyrwyr—myfyrwyr—sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol oherwydd problemau hylendid y geg.

Fe allai ac fe ddylai Cymru fod yn gwneud yn well. Rydym wedi dibynnu ar ewyllys da'r sector ers gormod o amser, felly mae'n rhaid inni weithio ar draws y pleidiau i gyflawni'r gofynion deintyddol hyn. Mae practisau deintyddol yn cwyno am gynnydd biwrocratiaeth, felly gadewch inni ymrwymo i dorri'n ôl ar hynny. Yn gyffredinol, mae hylenwyr a therapyddion deintyddol yn cael eu his-gontractio i'r deintydd, yn hytrach na bod yn weithwyr y GIG eu hunain, felly gadewch inni edrych ar ba fuddion y gallai'r GIG eu cynnig iddynt hwy. Nid yw contract cyfeintiol y gwasanaeth deintyddol cyffredinol na'r unedau hŷn o weithgarwch deintyddol yn gweithio, felly mae angen adolygiad arall. Mae 50 y cant o raddedigion deintyddol o Gymru yn dewis gadael ar ôl graddio er mwyn sicrhau enillion gwell ar eu buddsoddiad.

Mae yna ddewis, ac rydych wedi dweud wrthyf, wrth inni sôn am ysgol feddygol gogledd Cymru ym Mangor—. Yn y gorffennol, Weinidog, rwy'n gwybod eich bod wedi sôn y bydd deintyddiaeth wedi'i chynnwys yn hynny. Rwy'n credu y byddai diweddariad ar hynny heddiw yn rhoi sicrwydd i bawb ohonom yng ngogledd Cymru. Rwy'n credu y dylai gynnig cyrsiau cysylltiedig gwahanol, gan gynnwys baglor mewn llawfeddygaeth ddeintyddol a'r radd angenrheidiol ar gyfer deintyddion cofrestredig yng nghanol yr ardaloedd blaenoriaeth y soniais amdanynt yng ngogledd-orllewin Cymru.

18:10

Rwy'n dod i ben nawr. Mae'r sector deintyddol mewn argyfwng, ond rwy'n glir y gellir gwneud llawer i ddadwneud niwed a sicrhau sefydlogrwydd i weithwyr proffesiynol a chleifion. Diolch yn fawr.

Ddeunaw mis yn ôl, lansiais arolwg o drigolion Canolbarth a Gorllewin Cymru, i edrych ar eu profiadau o ddeintyddiaeth, ac ehangais hwnnw 12 mis yn ôl ar gyfer pobl Cymru, i'w gwblhau drwy ein gwefan. Mae gennyf un neu ddau o achosion roeddwn eisiau tynnu eich sylw atynt, oherwydd mae hyn i gyd yn ymwneud â'r bobl rydym yn eu cynrychioli. Y cyntaf yw:

'Oherwydd nad oeddwn yn gallu cael mynediad at ddeintydd GIG, ac am y tro cyntaf ers 38 mlynedd rwyf bellach yn gymwys i gael triniaeth am ddim oherwydd fy incwm a fy oedran, roedd fy nant wedi chwalu a chefais fy ngorfodi i ddod o hyd i bractis preifat. Costiodd £75—£75 a allai, i mi, fod wedi mynd tuag at fy miliau ynni a fy miliau bwyd.'

Yr ail un:

'Rwy'n ysgrifennu atoch yn y gobaith o ganfod beth yw'r sefyllfa mewn perthynas ag apwyntiadau bresys i blant. Mae fy merch yn 14 oed ac mae hi wedi aros 18 mis i gael ffitio brês.'

Ac yn wir, cyfeiriodd Llyr at hyn yn gynharach.

'Rydym bellach wedi gorfod mynd i weld orthodontydd yn Henffordd, taith o tua awr, ac mae'n rhaid i ni fynd yno bob wythnos am gyfnod o rhwng pedair a chwe wythnos. Mae'n debygol y bydd yn gwisgo brês am tua dwy flynedd a hanner, a bydd yn rhaid i ni barhau i deithio yno.'

Gwn nad yw'r sefyllfaoedd hyn yn anghyffredin. Ac os caf, Weinidog, hoffwn nodi tri mater, ac rwy'n gwybod ein bod wedi siarad llawer am hyn yma yn y Senedd, ac rwyf wedi codi hyn, fel y mae nifer o bobl eraill wedi'i wneud dros y blynyddoedd. Y mater cyntaf, o'r tri mater roeddwn eisiau eu codi, yw rôl y sector preifat. Ceir problem ychwanegol lle mae gwasanaethau'n cael eu darparu gan sefydliadau corfforaethol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Gall cau un ddeintyddfa'r GIG arwain at golli gwasanaethau'r GIG i bob pwrpas dros ardal eang, oherwydd mae'n annhebygol y bydd practis arall ar gael sy'n barod i dderbyn y cleifion sydd wedi colli eu deintyddfa. Felly, hoffwn glywed gennych chi, Weinidog, beth yw eich barn ar rai o'r sefydliadau corfforaethol mwy hynny a sut y gallwn barhau i'w cadw o fewn gwasanaethau deintyddol ein GIG.

Rwyf am gyffwrdd yn gyflym ar restrau aros, y mae Russell a Rhun wedi'u crybwyll. Gofynnais i'r holl fyrddau iechyd ledled Cymru beth oedd rhestrau aros eu deintyddion, a dim ond dau ohonynt a allai ddweud wrthyf fod ganddynt restr aros. Felly, nid ydym yn gwybod pwy sy'n aros yn lle, am ba hyd, a ydym yn comisiynu gwasanaethau mewn un lle neu'r llall, lle sydd orau i dargedu ein recriwtio, lle sydd orau inni anfon cleifion sydd angen gofal brys. Fel y clywsom, mae hyn yn groes i bob agwedd ar ein gwasanaethau iechyd, ac yn sicr mae angen inni gael rhestr aros ganolog a fydd o gymorth i chi, gobeithio. Felly byddwn yn croesawu diweddariad ar ddatblygu rhestrau aros.

Ac yn olaf, ar gymysgedd sgiliau ein gwasanaethau deintyddol, rydym yn gwybod bod angen mwy o ddeintyddion y GIG arnom, ond gwyddom hefyd fod angen pobl fedrus eraill fel hylenwyr deintyddol a therapyddion deintyddol. Un o'r pethau y gwn ei fod wedi'i drafod yn aml yw gallu hylenwyr deintyddol a therapyddion deintyddol i ddechrau a gorffen triniaeth. Tybed a oes gennych ddiweddariad i ni ar hynny, Weinidog, oherwydd byddai hynny'n ein helpu ledled Cymru i allu sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gael y gofal deintyddol hwnnw.

Hoffwn orffen drwy ddweud bod camau go iawn wedi'u gwneud, ac rwy'n ddiolchgar i chi am y gwaith rydych wedi'i wneud. Gwn ein bod wedi gallu gweithio tuag at gael deintydd ychwanegol yn Llandrindod, er enghraifft. Ac mae yna lawer o bethau, llawer o ffactorau, y gwyddom eu bod wedi arwain at golli ein deintyddion. Rwyf am ddweud bod Brexit yn un ohonynt, oherwydd fe wnaethom golli llu o ddeintyddion yr UE, ac roedd llawer ohonynt yn eithriadol. Fe aethant yn ôl, ac mae angen i'r rhai a bleidleisiodd dros Brexit fyfyrio ar y ffaith eich bod wedi pleidleisio dros golli deintyddion o Gymru. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn barhau i wneud cynnydd, a hoffwn glywed gennych chi mewn perthynas â'r tri maes hwnnw. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

18:15

Mae'n debyg mai deintyddiaeth yn anad yr un elfen arall sydd wedi symud i ffwrdd o syniad Bevan, ac egwyddorion sylfaenol y gwasanaeth iechyd gwladol. Rwy'n hapus i gael fy nghywiro gan Mike Hedges o leiaf—

Rwy'n iawn—dyna ni. A phan edrychwn yn ôl ar hynny, Llywodraethau Llafur a Cheidwadol sydd wedi gwneud hynny. Y Blaid Lafur a gyflwynodd daliadau am ddeintyddiaeth yn ôl ym 1951, ac roedd y Ceidwadwyr yn awyddus i beidio â chael eu trechu ac felly fe wnaethant gyflwyno mwy o ddeddfwriaeth ym 1952. Un o weithredoedd cyntaf y Llywodraeth Geidwadol honno wedi'r rhyfel oedd cynyddu taliadau deintyddol a chynyddu costau i bobl a oedd eisiau cael mynediad at y gwasanaeth iechyd. O leiaf maent wedi bod yn gyson dros y blynyddoedd. A phan edrychwch yn fanwl ar yr hyn y mae'r ddwy blaid wedi ei wneud—ac rwyf wedi clywed llawer gan y Ceidwadwyr am fethiannau'r Llywodraeth hon—mae angen i chi edrych hefyd ar gyflawniad Llywodraethau Ceidwadol dros y blynyddoedd nad ydynt wedi cyflawni unrhyw beth heblaw costau uwch a gwasanaethau gwaeth ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol.

Ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn dwyn y Llywodraeth hon i gyfrif, ac rwy'n gresynu weithiau pan welaf Lywodraeth Cymru yn cynnig gwelliannau 'dileu popeth' mewn dadleuon ar brynhawn Mercher, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn gallu edrych ac adolygu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni rhai o'n gwasanaethau, ac mae'n amlwg fod anawsterau'n wynebu deintyddiaeth ledled Cymru. Nid oes rhaid i chi eistedd ar feinciau'r gwrthbleidiau i gydnabod y problemau sy'n wynebu deintyddiaeth yng Nghymru. Yn sicr, fel rhywun sydd wedi cynrychioli canolbarth a gorllewin Cymru a Blaenau Gwent, os edrychaf yn ôl ar fy amser yma, mae deintyddiaeth yn un o'r materion hynny sydd wedi bod yn broblem gyson ym mhob rhan o'r wlad a gynrychiolais, boed yn rhannau o ogledd Cymru, neu heddiw, yng Nghymoedd de Cymru. Mae yna anawsterau gyda mynediad, ond mae'r anawsterau hynny'n waeth heddiw nag oeddent ddegawd yn ôl, ac mae angen inni gydnabod hynny.

Mae'r anhawster i gael mynediad at ddeintyddion y GIG yn ddifrifol. Mae'n broblem go iawn i bobl. Y llynedd, penderfynodd practis deintyddol yng Nglyn Ebwy fynd yn breifat a chodi tâl o £20 y mis ar bobl, rhai o bobl dlotaf y wlad hon, i gael mynediad at ddeintyddiaeth. Yn syml iawn, ni allai pobl ei fforddio. Roedd yn codi arswyd arnynt. Roeddent yn cael eu hamddifadu o wasanaeth y dywedodd Bevan wrthynt y byddai'n para am oes, ac roeddent yn cael eu hamddifadu ohono dan Lywodraeth Lafur, ac mae angen i ni gydnabod hynny. Ac mae angen i ni gydnabod bod darparu'r gwasanaethau hyn yn rhan o'r gwasanaeth iechyd gwladol y penderfynasom ei fod yn rhan allweddol o'r hyn rydym yn bodoli i'w gyflawni, ac nid yw'n digwydd heddiw.

Mae Jane Dodds yn hollol gywir. Rwy'n clywed meinciau'r Ceidwadwyr yn gwneud yr holl sylwadau hyn am fethiannau Llywodraeth Cymru. Mae Brexit wedi achosi anawsterau—[Torri ar draws.] Wel, rwy'n barod i dderbyn ymyriad, Janet. Rwy'n gwybod nad ydych wedi'i sgriptio, ond rwy'n hapus i dderbyn ymyriad. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad os ydych—

18:20

Iawn. A wnewch chi roi un enghraifft i mi lle mae Brexit wedi achosi'r broblem hon mewn gwirionedd er mai'r Llywodraeth Cymru hon sydd wedi bod mewn grym ers 25 mlynedd gyda help gan Blaid Cymru? Yn y pen draw, rydych chi'n cael y pecyn ariannu—

—o £1.20, yn hytrach na £1 yn Lloegr, ac eto mae'r problemau ym maes deintyddiaeth yma yng Nghymru.

Janet, mae'r ffaith bod deintyddion wedi cael eu colli o ganlyniad i Brexit wedi cael ei ddisgrifio'n dda—

—ac wedi cael ei ddisgrifio gan ddeintyddion ar hyd a lled y wlad. Mae'n cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU hefyd, felly nid dim ond casglwyr ffrwythau rydym wedi'u colli, rydym wedi colli darparwyr gwasanaethau pwysig, go iawn. Mae angen i chi gydnabod hynny, ac mae angen i chi gydnabod y niwed y mae hynny'n ei wneud i bobl yn y wlad hon ac yn ein cymunedau. Felly, nid yw sefyll yma a siarad mawr ar brynhawn Mercher yn datrys y problemau hynny.

Ond gadewch imi ddweud hyn—yr hyn rwyf eisiau ei ddweud wrthych chi, Weinidog, yw nad yw'r broses bresennol o negodi contractau'n datrys y sefyllfaoedd rydym yn eu hwynebu. Nid yw'n datrys y sefyllfa. Rwy'n siarad â deintyddion yn rheolaidd yn fy etholaeth, ac maent i gyd yn dweud wrthyf nad yw'r problemau presennol gyda chontractau yn darparu'r gwasanaethau y mae pobl eu hangen. Rydym angen dull gwahanol o ymdrin â hynny, rydym angen dull gwahanol o negodi contractau, ac rydym angen dull gwahanol o ymdrin â'r contractau sy'n cael eu cyflawni.

Mae deintyddion yn dweud wrthyf fod yna bwysau enfawr o ran nifer y bobl sy'n aros am wasanaethau sylfaenol. Wrth gwrs, pan fyddant yn cael y gwasanaethau hynny o'r diwedd, mae angen mwy o ymyriadau arnynt am fod eu dannedd a'u hylendid deintyddol wedi dirywio mwy wrth aros am wasanaethau. Mae'n costio mwy i ni gadw pobl yn aros nag y byddai'n ei gostio i ddatrys y sefyllfa mewn gwirionedd. Felly, mae angen inni ddatrys y contractau, mae angen inni sicrhau ein bod yn hyfforddi deintyddion. Mae angen inni sicrhau ein bod yn egluro bod angen mwy o wasanaethau arnom. Mae angen inni sicrhau bod y broses o negodi contractau yn digwydd mewn ffordd sy'n brofiad cadarnhaol, yn hytrach na'r profiad cyfredol, negyddol i ddeintyddion.

Ac mae angen inni sicrhau ein bod yn cadw uchelgais a gweledigaeth Bevan mewn cof. Rydym yn mynd i fod yn dathlu—ac fe fyddwn yn dathlu, rwy'n credu, ar yr ochr hon i'r Siambr, o leiaf—pen blwydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn 75 oed ym mis Gorffennaf. Pan fyddwn yn gwneud hynny, gadewch inni ddathlu, nid yn unig y sefydliad, ond y bobl a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu ar gyfer pobl ledled Cymru. Gallaf weld Altaf yn nodio'i gytundeb, ac rydym yn cydnabod eich gwasanaeth i bobl Cymru, ac rydym yn diolch i chi amdano, gadewch imi ddweud hynny. Ar draws y Siambr rydym yn diolch i chi am hynny. Felly, gadewch inni sicrhau ein bod yn nodi 75 o flynyddoedd ers sefydlu'r GIG drwy ddyblu ein hymdrechion i gyflawni dyheadau uchelgeisiol Bevan ar gyfer pobl y wlad hon.

Rwyf wedi bod yn glaf i ddeintydd GIG drwy gydol fy 51 mlynedd ar y ddaear hon tan y mis hwn. Dywedodd fy neintydd yn Abertawe wrthyf fi a 9,000 o bobl eraill fel fi na chawn dderbyn triniaeth GIG yn fy neintyddfa mwyach. Nid yw fy mab sydd yn ei arddegau wedi cael archwiliad ers 2019, nid yw wedi gweld deintydd. Ar eu gwefan, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn datgan yn ddefnyddiol, 

'Ledled Cymru ar hyn o bryd mae galw mawr gan gleifion sy'n chwilio am ddeintydd GIG. Nid yw'r bwrdd iechyd yn cadw rhestr o bractisau sy'n cymryd cleifion y GIG ymlaen'.

Mae'n dweud wrth unrhyw un

'sy'n chwilio am ddeintydd GIG i gysylltu â nifer o bractisau yn eu hardal leol ac os na ellir cynnig apwyntiad iddynt, i ofyn am gael eu rhoi ar restr aros y practis.'

Gallwch roi eich cod post i mewn i wneud hyn, ac fe wnes i hynny, ac o'r pum opsiwn a ymddangosodd, roedd tri ohonynt ond yn derbyn plant, roedd yr amseroedd aros ar eu cyfer i gyd yn amrywio rhwng dwy a phedair blynedd—pedair blynedd.

Mae straeon fel fy un i yn cael eu hailadrodd filoedd o weithiau ledled Cymru. Rydym wedi clywed llawer ohonynt y prynhawn yma. Mae llawer o fy etholwyr sydd bod â deintydd GIG ers blynyddoedd yn methu deall pam na allant weld eu deintydd, neu mae'r rhai sydd wedi colli eu deintyddion GIG yn methu deall pam na allant gael mynediad at un arall. Maent yn teimlo fel pe baent wedi cael eu gwthio i gefn y ciw. Rwyf wedi cael cymaint o ohebiaeth ar hyn: pâr priod a fu'n gleifion mewn practis GIG yng Nghastell-nedd ers dros 10 mlynedd heb weld deintydd ers 2019. Llwyddodd etholwr arall o Gimla i fynd ar restr GIG o ddeintyddion ym Mhort Talbot am na allai fforddio tâl misol ei deintydd preifat oherwydd yr argyfwng costau byw. Ond am nad oes ganddi gar, mae'n gweld bod teithio yno yn anodd iawn ac yn gostus. Nid yw hi wedi cael ei gweld ers tair blynedd ychwaith, ond mae'n teimlo'n rhwystredig iawn ac nid yw'n gallu deall pam fod yr un practis yn hysbysebu apwyntiadau ar gyfer cleifion newydd, rhai nad ydynt erioed wedi bod yn gleifion y GIG.

Os oes gennych angen brys, fe allwch ffonio 111 am gymorth i ddod o hyd i ddeintydd brys ac mae'n rhaid i chi fod mewn poen difrifol, poen na ellir ei wella drwy feddyginiaethau lleddfu poen, neu chwyddo, neu wlserau nad ydynt wedi gwella o fewn wythnos. Ond rwyf wedi cael pobl yn dweud wrthyf am ddannoedd sy'n gallu cael ei leddfu gan feddyginiaethau lleddfu poen, ond sy'n cael effaith enfawr ar eu gallu i gysgu, gweithio a chymdeithasu. Os byddwch yn colli cap neu lenwad, ni chaiff ei ystyried yn argyfwng, ond fel y nododd Llyr, gall eich hyder yn eich ymddangosiad gael effaith seicolegol enfawr arnoch chi a'ch gallu i weithio neu gymdeithasu, a phan fyddwn yn codi'r achosion hyn, mae deintyddion yn dweud wrthym fod cleifion hanesyddol y GIG yn wynebu oedi o'r fath am yr hyn sy'n cael ei ystyried yn waith nad yw'n waith brys yn sgil canlyniadau metrigau newydd y contract diwygiedig, gyda'i bwyslais ar dderbyn cleifion newydd. Wrth gwrs mae hynny'n rhywbeth rydym eisiau ei weld, ond yn hollol briodol, fe ddywedoch chi, Llyr, fod yna anghydbwysedd yma, a chyfeiriodd Rhun at hyn hefyd, am yr hafaliad hwn nad yw'n cydbwyso rhagor rywsut.

Roeddwn yn y cyfarfod gydag Altaf Hussain a Mike Hedges a'r deintyddion sy'n gweithio yn fy mwrdd iechyd lleol, ac maent yn teimlo nad yw'r Llywodraeth yn gwrando arnynt, a hefyd, yn syml, nid oes digon o arian o fewn y system yn eu barn nhw i ddarparu'r gwasanaeth y mae Llywodraeth Cymru ei eisiau. Mae'r contractau'n anghynaladwy, mae'r disgwyliadau'n afrealistig, ac rydym wedi clywed manylion am hynny eisoes. Yn bryderus, roeddent hefyd yn pwysleisio'n eithaf pwerus sut mae graddedigion deintyddol newydd bellach yn dewis ymarfer preifat, oherwydd tanariannu deintyddiaeth y GIG, er bod teimlad nad oeddent yn barod am hyn yn glinigol i raddau helaeth. Roedd y deintyddion o'r farn y dylai fod gofyniad i weithio o fewn y GIG am nifer gofynnol o flynyddoedd, er mwyn diwallu angen, ie, ond hefyd i gael y profiad clinigol angenrheidiol ar gyfer darparu gofal o ansawdd da.

Mynegwyd rhwystredigaeth nad oes mwy o'r llefydd cyfyngedig yng Nghaerdydd yn cael eu llenwi gan fyfyrwyr o Gymru. Siaradodd un deintydd lleol mewn anobaith am y ffaith nad oedd yr un o'r nifer o fyfyrwyr A* lleol a oedd wedi mynychu sesiynau profiad gwaith gyda hi cyn gwneud cais i Gaerdydd wedi cael cynnig cyfweliad hyd yn oed. Fel y mae'r cynnig yn awgrymu, mae'n rhaid inni edrych ar hyfforddiant, gan archwilio'r posibilrwydd o sefydlu ysgol ddeintyddol newydd yn y gogledd—ie. A byddwn i, gyda Mike Hedges, yn gofyn i'r Gweinidog edrych ar Brifysgol Abertawe hefyd, lle mae'r cwrs meddygaeth mynediad i raddedigion yn darparu model o'r math o ddull y gellid ei fabwysiadu. Diolch.

18:25

Diolch yn fawr, Lywydd. Gwta 10 wythnos yn ôl, fe wneuthum ddatganiad llafar yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddeintyddiaeth y GIG, ond rwy'n cydnabod bod hwn yn parhau i fod yn fater pwysig i bobl ledled Cymru. Rwy'n sicr yn cael cymaint o e-byst ar hyn ag unrhyw fater arall yn fy mag post, a gwn fod hwn yn destun pryder mawr i'r Aelodau yma yn y Siambr, ond yn bwysicach, i'r etholwyr rydym ni i gyd yn eu cynrychioli.

Fe fyddwch i gyd yn ymwybodol fod y pandemig wedi rhoi pwysau ychwanegol ar sefyllfa a oedd eisoes yn heriol mewn perthynas â mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru. Felly, mae'r rheolau newydd hynny sy'n diogelu deintyddion rhag heintiau posibl a drosglwyddir drwy'r awyr wedi golygu na fyddwn yn gallu dychwelyd i lefelau cyn y pandemig heb gynnydd mewn capasiti neu ddull newydd o weithredu. Ond rydym yn gwella. Nawr, mae llawer ohonoch wedi siarad heddiw, ac nid yw'n swnio fel pe baech chi'n teimlo bod y sefyllfa'n gwella, ond mae'n gwella. Cafodd miliwn o gleifion ofal deintyddol y GIG yng Nghymru y llynedd—mae hwnnw'n gynnydd o 32 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. A chafodd 1.3 miliwn o gyrsiau triniaeth eu cyflawni—dyna gynnydd o 30 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Rwyf am droi at y cynnig nawr, a'r hyn rwy'n ei gydnabod yw bod gennym ffordd bell i fynd gyda'r mater hwn. Mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud. Ni chaiff ei ddatrys dros nos, ac a dweud y gwir, mae angen llawer o arian i'w ddatrys, ac mae hwnnw'n brin iawn ar hyn o bryd. Felly, ni fydd dim o hyn yn hawdd. Rydym i gyd eisiau iddo ddigwydd, ond ni fydd yn digwydd dros nos, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn onest â phawb ynglŷn â hynny.

Nawr, rwy'n deall bod Cymdeithas Ddeintyddol Prydain a'r BBC wedi cynnal yr ymchwiliad hwnnw yr haf diwethaf, ac mae arnaf ofn nad wyf yn cydnabod y canlyniadau a adroddwyd, oherwydd 2022-23 oedd y flwyddyn gyntaf lle roedd mwyafrif llethol y practisau yng Nghymru yn gweithredu o dan y trefniadau diwygiedig newydd: roedd yn ofynnol i 78 y cant o bractisau, a oedd i gyfrif am 89 y cant o'r gwariant, weld cleifion newydd—roedd yn ofynnol iddynt wneud hynny. Nid yw hynny'n rhywbeth sydd yn y contract deintyddol yn Lloegr, ond mae'n rhan o gontract Cymru bellach. Ac fe wnaethant hynny. Y gwir amdani yw eu bod wedi gweld 174,000 o gleifion newydd y llynedd. Felly, ni all fod yn wir na wnaeth 93 y cant o bractisau dderbyn claf newydd a oedd yn oedolyn.

Nawr, mae'n anochel fod contractau'n terfynu ac yn amrywio, mae hynny bob amser wedi digwydd, ac mae pobl yn ymddeol; maent yn gadael am resymau eraill. Ac mae'n wir ein bod wedi gweld mwy nag yr hoffem yn ddiweddar efallai, ond mae'n dal i fod yn nifer cymharol fach—dim ond 5 y cant o gontractau a gafodd eu dychwelyd y llynedd, sef 21 contract allan o 413. Nawr, rydym ar fin dechrau ail-negodi’r contract newydd. Ond rwy'n meddwl ei bod hi'n werth tynnu sylw at y ffaith bod yna adegau—ac nid yw'n ddelfrydol, ond mae yna adegau—pan fo'r ymatebion hynny'n cynnig cyfleoedd mewn gwirionedd, yn rhannol oherwydd nad yw'r contractau, y niferoedd o bobl sydd gennym i'w trin, yn lleihau, cânt eu hailddosbarthu i ardaloedd eraill, dyna'i gyd. Nawr, weithiau mae hynny'n achosi problem ddaearyddol ac mae angen i bobl deithio ychydig ymhellach.

Ond er enghraifft, yng ngogledd Cymru, yr academi ddeintyddol newydd, un o'r rhesymau pam y llwyddwyd i roi honno at ei gilydd yw oherwydd bod rhai o'r contractau wedi'u terfynu a bu modd inni eu cyfuno. Felly, bellach mae gennym ddeintyddiaeth gyffredinol, deintyddiaeth gymunedol ac addysg, hynny i gyd, yn dod at ei gilydd oherwydd bod rhai o'r contractau hynny wedi'u terfynu. Ac rwy'n credu y bydd yr academi'n darparu safle newydd a fydd yn gwasanaethu cleifion yn ardal Bangor am flynyddoedd lawer i ddod—15,000 y flwyddyn pan fydd yn gwbl weithredol. Ac fe fydd Alun Davies, rwy'n siŵr, yn falch o glywed bod practis newydd yng Nglyn Ebwy yn agor ym mis Gorffennaf—cleifion y GIG i gyd. Ac mae hwnnw, unwaith eto, wedi'i ariannu oherwydd bod contract mawr yn yr ardal wedi'i roi yn ôl. Felly, ar amrywiadau, mae rhai contractau wedi lleihau—rhaid inni gydnabod hynny wrth gwrs—ond rydym wedi gweld mwy o gontractau'n cynyddu yn eu gwerth nag a gafwyd o gontractau sy'n lleihau.

Nawr, nid yw'r dewis ynglŷn â chynnig gwasanaeth GIG yn rhywbeth y gallaf ei wneud—mater i'r deintydd yw hynny. Ar y cyfan, ymarferwyr annibynnol yw'r rhain. Felly, ceir tri math o ddeintyddiaeth, ac ymarferwyr annibynnol at ei gilydd yw'r rhai sy'n gwasanaethu'r cyhoedd. Ni ellir eu gorfodi i weithio i'r GIG. Felly, mae rhai'n amlwg yn teimlo bod darparu gwasanaeth i gleifion preifat yn unig yn rhoi hyblygrwydd iddynt ddarparu ystod ehangach o wasanaethau deintyddol ac esthetig. Ac weithiau mae'n fwy manteisiol yn ariannol iddynt ac mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt weld llai o gleifion. Ond nid yw'r incwm wedi'i warantu a dyna pam mae'r sicrwydd y mae gweithgaredd GIG yn ei gynnig yn parhau i fod yn ddeniadol i gynifer o ddeintyddion.

Rwyf am egluro rhai camsyniadau ynghylch cofrestru. Nid oes cofrestru ym maes deintyddiaeth y GIG, ac ni fu ers 2006, pan gyflwynwyd y contract uned o weithgaredd deintyddol. Nawr, nid yw hynny'n golygu na ddylai fod cofrestr, a dyna pam y clywsom beth mae'r pwyllgor wedi gofyn i ni ei wneud. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru sydd wedi bod yn ein gwthio ar fater cael cofrestrfa ddata ganolog, ac rwy'n gobeithio y bydd honno'n weithredol erbyn diwedd eleni. Oherwydd rydych chi'n hollol gywir: mae angen inni wybod maint y broblem er mwyn gallu deall, 'Iawn, beth yn union sydd angen inni ei wneud i unioni'r sefyllfa?'

Nawr, ni allwch gael y bobl hyn yn eu lle dros nos. Fe glywsoch fod Brexit wedi achosi problem. Ac felly mae'n mynd i gymryd amser hir inni hyfforddi pobl. Felly, dyna reswm arall—rhaid imi fod yn onest gyda chi—pam nad yw hyn yn mynd i gael ei ddatrys dros nos. Ac rwy'n gofyn yn gyson i Addysg a Gwella Iechyd Cymru, 'Edrychwch, gadewch inni adeiladu rhywfaint o amodoldeb i mewn i hyn. Os ydym yn gwario £0.25 biliwn ar hyfforddi pobl yng Nghymru, gadewch inni wneud yn blydi siŵr eu bod yn aros yng Nghymru.' Felly, mae hynny'n rhywbeth rwy'n gofyn i AaGIC ei ystyried yn gyson.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig hefyd fod yna ddealltwriaeth ynglŷn â thaliadau. Y ffaith amdani yw mai dim ond am dair blynedd y bu deintyddiaeth y GIG yn rhad ac am ddim, a hynny rhwng 1948 a 1951, felly mae taliadau GIG wedi bodoli ers 1951. Ond rwy'n credu ei bod yn werth nodi bod yr hyn a godwn yng Nghymru yn sylweddol is na'r hyn a godir yn Lloegr. Felly, ym mand 1—[Torri ar draws.] Ym mand 1, mae Lloegr yn codi £25, ac yng Nghymru mae'n £14.70. Ym mand 3, £306 yn Lloegr; £203 yng Nghymru—gwahaniaeth o £100. Nawr, mewn argyfwng costau byw, mae hynny'n gwneud gwahaniaeth.

Rŷn ni eisiau cyrraedd sefyllfa lle mae pawb yng Nghymru sydd eisiau gofal deintyddol yn gallu cael gofal deintyddol. Rŷn ni'n amcangyfrif bod tua 20 y cant o'r cyhoedd yn defnyddio deintyddiaeth breifat cyn y pandemig. Rŷn ni'n deall bod rhai yn teimlo fel eu bod nhw wedi cael eu gwthio i'r sector preifat, achos eu bod nhw wedi cael anhawster i gael gafael ar ddeintydd NHS, ond does dim 100 y cant yn galw am ddeintyddiaeth NHS yma yng Nghymru. Nawr, wedi dweud hynny, mae yna fwlch, a dwi eisiau cydnabod bod yna fwlch ac mae'n mynd i gymryd sbel inni wneud rhywbeth am y bwlch yna. Felly, rŷn ni wedi gwneud cynnydd, ond mae yna ffordd eithaf pell i fynd.

Felly, rŷn ni yn mynd i geisio diwygio'r contract fel bod gwaith NHS yn fwy deniadol i'r gweithlu presennol. Rŷn ni hefyd, drwy gynyddu nifer y llefydd hyfforddi ar draws y tîm deintyddol cyfan, hynny yw, nid jest deintyddion ond therapyddion deintyddol hefyd—. Cyn hir, byddwn ni yn dechrau ar y drafodaeth dairochrog am y contract deintyddol newydd. Bydd hyn, gobeithio, yn rhoi sicrwydd i'r proffesiwn ynglŷn â dyfodol deintyddiaeth yng Nghymru. Rŷn ni hefyd yn hyfforddi mwy o nyrsys, hylenwyr a therapyddion nag erioed o'r blaen, ac mae hyn i gyd yn gofyn am fuddsoddiad newydd, sy'n anodd gyda'r cyfyngiadau ariannol presennol. Nawr, mae hwn yn bwnc sydd yn bwnc pwysig inni i gyd, ond mae'n werth cydnabod bod y cyfyngiadau ariannol yma yn rhannol o achos y Llywodraeth Dorïaidd, ond mae'n bwysig hefyd cydnabod doedd hwn ddim yn rhywbeth oedd ar y rhestr o bethau pwysig Plaid Cymru: dim ceiniog—dim ceiniog—o'r partneriaeth yn dod o Blaid Cymru i helpu gyda'r sefyllfa yma. Rŷn ni hefyd yn ceisio adnabod a chreu cyfleoedd arloesol i uwchsgilio a gwella llwybrau gyrfa mewn deintyddiaeth. Er mwyn datblygu gwasanaeth effeithiol, mae angen defnyddio cymysgedd o sgiliau i gael tîm deintyddol cytbwys.

18:35

Felly, yn anffodus dŷn ni ddim yn gallu derbyn y motion gwreiddiol. Gwnes i wario'r penwythnos yn ailddarllen adroddiad y pwyllgor, a dwi'n meddwl bod lot o bwyntiau dilys ynddo, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n dilyn i fyny ar y rheini. Felly, yn anffodus, dwi ddim yn gallu derbyn y motion fel mae e, achos mae yna ambell i ffaith sydd yn anghywir ynddo. Diolch yn fawr.

Rwy'n credu efallai fod y Gweinidog wedi defnyddio gair yn ei chyfraniad nad oedd hi wedi bwriadu ei ddefnyddio—

Na, roedd hynny'n ddrwg iawn. Bydd fy mam yn ddig iawn gyda fi. Rwy'n ymddiheuro.

Ni fyddai eich mam yn hapus gyda'r defnydd o'r gair hwnnw, ac fe wnaethoch ei ddweud mor dyner fel nad wyf yn credu bod y rhan fwyaf o bobl wedi sylwi, felly fe wnawn ei ystyried—. Fe awn yn ein blaenau a symud ymlaen at Darren Millar, i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl bwyllog ar y cyfan, ac mae'n eithaf amlwg fod gennym argyfwng deintyddiaeth ledled y wlad.

Roeddwn ychydig yn siomedig gydag ymateb y Gweinidog. Fe swniai'n hunanfodlon iawn i mi. Mae'r Gweinidog, fel arfer, yn hoffi ceisio trosglwyddo'r bai i ben arall yr M4 am rywbeth sydd wedi ei ddatganoli i Gymru ers dros chwarter canrif—dros chwarter canrif. Rwy'n clywed pobl yn gwaredu bod Brexit wedi achosi'r argyfwng hwn. Mae hynny'n nonsens llwyr. Ni ddylem orfod mewnforio deintyddion i Gymru. Dylai ein Llywodraeth fod wedi cynllunio ei gweithlu'n well i sicrhau bod gennym niferoedd digonol yn cael eu hyfforddi a'u talu'n iawn i aros yn ein system. Ac rwy'n sylweddoli bod y Gweinidog wedi etifeddu twll mawr iawn y mae'n rhaid iddi geisio dringo allan ohono, o ran y llanast a gafodd gan y Gweinidogion blaenorol yn Llywodraeth Cymru a fu'n gyfrifol am y portffolio hwn, ond mae ganddi lawer iawn mwy o waith i'w wneud na dim ond beio rhywun arall. Mae angen iddi dderbyn mwy o gyfrifoldeb am gyflwr y GIG yng Nghymru, gan gynnwys y mater hwn, er mwyn inni allu ei ddatrys. 

Nawr, clywais y Gweinidog, unwaith eto, yn awgrymu bod ymhell dros 100,000 o gleifion newydd wedi cael eu gweld yng Nghymru o ganlyniad i ddiwygio'r contract. Gwyddom fod Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi dweud bod y Llywodraeth yn camarwain pobl drwy ddyfynnu'r mathau hyn o ffigurau. Roeddent yn dweud eich bod wedi bod yn camliwio'r ffeithiau o ran y ffordd rydych chi wedi bod yn disgrifio pethau i Siambr y Senedd hon. Ac maent wedi dweud hyn—fe ddywedodd Russell Gidney, o bwyllgor ymarfer deintyddol cyffredinol Cymru Cymdeithas Ddeintyddol Prydain:

'am bob claf newydd a welir, gallai dwsin o gleifion hanesyddol golli mynediad at ddeintyddiaeth y GIG'

oherwydd bod practisau deintyddol yn cau. Felly, os oes gennych chi un o bob 20—. Mae hyd yn oed y Gweinidog yn dweud bod un o bob 20 wedi cau yn ystod y 12 mis diwethaf. Fe ddywedoch chi fod 5 y cant o bractisau wedi rhoi eu contractau yn ôl; mae hynny'n un o bob 20. Rydych chi'n swnio'n hunanfodlon iawn i mi ynglŷn â'r peth. Ond os yw'n un o bob 20 a bod gan bob un o'r rheini 9,000 o gleifion, dywedwch, fel sydd gan bractis Sioned Williams, ac fel sydd gan Ddeintyddfa Rhuthun yn fy etholaeth i, pobl sydd i gyd bellach heb ddeintydd GIG, rydych chi'n siarad am gannoedd o filoedd o bobl, nid yr oddeutu 100,000 y dywedoch chi eu bod wedi llwyddo i ddod o hyd i ddeintydd. Pobl ydynt sy'n hofran o amgylch y system ar ôl cael eu dad-gofrestru mewn un lle, ac sy'n chwilio'n daer am un arall. Ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dal heb gael hyd i ddeintydd GIG. Felly, rwy'n credu bod angen inni fod yn llai hunanfodlon, a'r hyn sydd ei angen arnom yw set glir o gamau gweithredu i chi eu cymryd. 

Nawr, a dweud y gwir, mae'r contract newydd hwn yn drychineb llwyr. Nid yw'n gweithio. Roedd hi i fod yn flwyddyn ddysgu y llynedd, ac roedd y symiau a'r gofynion, y targedau roeddech chi wedi'u gosod ar gyfer practisau, i fod i gael eu haddasu'n seiliedig ar y flwyddyn ddysgu honno ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol rydym ynddi nawr. Ac oherwydd na chafodd y rhan fwyaf o'r rheini eu haddasu mae mwy a mwy o ddeintyddion bellach yn rhoi eu contractau yn ôl ac yn dweud, 'Nid ydym yn barod i wneud gwaith deintyddiaeth yn y GIG.'

Roeddwn yn meddwl bod Mike Hedges wedi gwneud pwynt hynod o bwysig, sef, os oes gennych chi brif swyddog deintyddol nad oes ganddo unrhyw brofiad o ymarfer deintyddiaeth y GIG, ni fyddwch yn hyderus iawn mai nhw fydd y person gorau i arwain y trafodaethau ar ddatblygu contract newydd. Ac rwy'n meddwl bod profiad pobl ar draws Cymru nawr yn siarad drosto'i hun. Nawr, nid wyf yn adnabod y prif swyddog deintyddol; rwy'n dymuno'r gorau i'r cyfryw unigolyn wrth iddynt geisio datrys y llanast. Ond rwy'n credu bod y ffaith nad yw'n ymddangos bod gan y proffesiwn lawer iawn o hyder yn yr unigolyn hwnnw'n rhywbeth y dylai'r Gweinidog ei ystyried. 

Nawr, rwy'n clywed y brefu—rwy'n clywed y brefu drwy'r amser nad oes gan Lywodraeth Cymru arian i'w fuddsoddi mewn deintyddiaeth GIG. Rydym i gyd yn gwybod—mae wedi cael ei ailadrodd yma heddiw; soniodd Janet Finch-Saunders amdano, a Sam Rowlands—, am bob £1 sy'n cael ei wario ar gysylltiad deintyddiaeth y GIG yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20 i'w wario yma. Ar ben hynny, gwyddom hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi dychwelyd £155 miliwn na allai ddod o hyd i rywbeth i'w wario arno yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Ac rydym yn gwybod eu bod wedi arllwys bron i £0.25 biliwn i lawr y draen ar faes awyr wedi'i wladoli, arian nad oedd ganddynt i'w wario. Felly, pan fydd pobl yn brefu—[Torri ar draws.]—pan fydd pobl yn brefu nad oes gennych adnoddau, mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, nid yw'r ddadl honno'n dal dŵr mewn unrhyw ffordd o gwbl.

Nawr, hoffwn ganmol gwaith Russell George a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r adroddiad a wnaethant ar ddeintyddiaeth, y cefais gyfle i edrych arno, yn glir iawn. Nid yw'r rhain yn broblemau a ddechreuodd oherwydd y pandemig. Mae'n ei gwneud hi'n gwbl glir fod angen mwy o fuddsoddiad, fod y problemau wedi dechrau amser maith yn ôl, a bod angen strategaeth i ddod allan o'r twll rydym ynddo bellach, fel y disgrifiais yn gynharach. A'r unig ffordd o wneud hynny yw drwy feintioli'r broblem. A dyna pam mae sicrhau ein bod yn gwybod faint o bobl sy'n aros i gofrestru gyda deintydd mor hanfodol bwysig, ac ni allaf gredu ei bod yn cymryd adroddiad pwyllgor i'ch cael i wneud hynny. Mae'n ymddangos i mi fel synnwyr cyffredin—mae'n rhaid i chi ganfod beth yw maint y broblem cyn y gallwch gynllunio i ddod allan ohoni.

Nawr, mae yna rai arwyddion o welliant, os gallwn eu galw'n hynny. Iawn, rydych chi wedi clywed am rai o'r datblygiadau arloesol yng ngogledd Cymru y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders atynt gyda'r academi ddeintyddol. Gwyddom hefyd fod gwaith da'n mynd rhagddo ar sefydlu cyfleusterau newydd ym Mangor. Mae'r rheini i gyd yn bwysig iawn, ond oni bai ein bod yn denu pobl i mewn, nid ydym yn mynd i weld unrhyw wahaniaeth.

Pan siaradais â Deintyddfa Rhuthun ynglŷn â pham eu bod wedi penderfynu rhoi eu contract yn ôl, gyda 9,000 o bobl yn nhref Rhuthun yn cael eu gadael heb ddeintydd, roeddent yn dweud ei bod yn broblem driphlyg. Roeddent yn dweud, un, eu bod yn cael trafferth recriwtio pobl i ddeintyddiaeth y GIG. Fe wnaethant hysbysebu am bum mis ac ni chawsant unrhyw ymatebion. Cyn gynted ag y dywedasant, 'Rydym yn mynd i fod yn bractis preifat', a hysbysebu, o fewn wythnos fe gawsant ddwsinau o geisiadau, oherwydd ni chaiff pobl eu cymell i weithio yn y GIG am nad yw system y contractau'n gweithio. Ac mae eich diwygiadau i'r contract yn achosi i fwy byth o bobl droi cefnau ar yrfa yn y GIG.

Yr ail beth a nodwyd ganddynt oedd effaith diwygio contractau GIG Cymru. Roeddent yn dweud bod y targedau a osodwyd iddynt yn gwbl afrealistig ym mlwyddyn un—y flwyddyn ddysgu—ac ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, rhoddwyd yn union yr un targedau afrealistig iddynt, er iddynt gael gwybod y dylid eu haddasu. Felly, yn amlwg, roeddent yn teimlo mor ddigalon fel eu bod eisiau rhoi'r contract yn ôl.

Y trydydd peth roeddent yn ei ddweud oedd yn broblem fawr oedd biwrocratiaeth gynyddol y GIG. Felly, yn ogystal, y contract newydd a roddwyd—sydd â rhai nodau canmoladwy, mae'n rhaid i mi ddweud, a chredaf fod Llyr wedi cyfeirio at rai o'r nodau canmoladwy yn y contract—y broblem yw, os ydych chi'n ei gysylltu â gormod o fiwrocratiaeth, mae'n gorbwyso'r manteision y gallent eu gweld yr ochr arall i bethau. Felly, un enghraifft a roddwyd i mi oedd eu bod yn dweud bod y cysylltiadau cyfredol yn 10 munud neu 15 munud yr un, eu bod yn archwilio dannedd pobl, ac yna'n symud ymlaen, o dan yr hen gontract. Mae'r contract newydd yn rhoi 20 munud iddynt, ond wedyn mae ganddynt 10 munud o waith papur i'w wneud i ddilyn y cysylltiad â'r claf. Nawr, yn amlwg, mae angen gwell cydbwysedd i sicrhau ein bod yn cael y pethau hyn yn iawn.

18:45

Un o'r materion a godwyd yn y pwyllgor pan gawsom dystiolaeth ar hyn oedd y byddai deintyddion yn dweud, 'O, mae gennym ormod o fiwrocratiaeth', ond byddwn i'n dweud ac yn dadlau'n ôl, 'Oes, ond mae angen y data hwnnw arnom. Rydym eisiau mwy o ddata." Ond yr hyn a ddywedasant oedd, 'Mae yna lawer o ddyblygu'n digwydd.' Felly, oherwydd nad oes gennym y systemau TG ar waith, yr hyn a welant yw eu bod yn rhoi'r data i mewn, ac yna mae'n rhaid i ddeintydd neu gynorthwyydd deintyddol roi e-byst, cyfeiriad, rhifau ffôn i mewn eto ar ffurf newydd. Felly, mae angen gwneud hynny'n llawer symlach a sicrhau bod gennym system a all weithio ledled Cymru ac ar draws practisau deintyddiaeth.

Dyna'n union sydd ei angen arnom a gobeithio y bydd rhywfaint o'r arloesedd a welwn gyda'r defnydd o dechnoleg yn y GIG nawr, gyda'r ap rydym yn ei gael o'r diwedd ar ôl gwario £15 miliwn, yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a'i wneud yn symlach, oherwydd rwy'n cydnabod y pryderon hynny pan fyddaf yn siarad â deintyddion yn fy ardal fy hun.

Felly, clywsom fod problemau yn Abertawe, clywsom fod problemau yn y gogledd, yng ngorllewin Cymru—ledled y wlad—yn y canolbarth hefyd gyda sylwadau Jane Dodds. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r broblem hon unwaith ac am byth. Oes, mae angen cymhellion arnom i bobl hyfforddi yng Nghymru. Oes, mae angen cymhellion arnom i weithio yn y GIG pan fyddant wedi'u hyfforddi. Oes, mae angen inni wybod faint o bobl rydym eu hangen er mwyn inni allu cynllunio i'w hyfforddi, a dyna pam mae'r rhestr hon mor bwysig, a dyna pam mae'n rhaid inni fuddsoddi mwy o arian yn y system er mwyn gwneud i'r peth weithio.

Os caf orffen gydag apwyntiadau deintyddol brys. Felly, yng ngogledd Cymru, dywedir wrthych, 'Nid oes gennych ddeintydd, peidiwch â phoeni, mae yna linell ffôn ddeintyddol frys.' Cefais yr anffawd o fwyta un o samosas fy mam dros yr haf. [Aelodau'r Senedd: 'O.'] Ie, wel, nid ydych wedi eu blasu. Roedd yna bysen i mewn ynddi a oedd mor galed nes iddi gracio fy nant. Felly, ffoniais y llinell ddeintyddol frys, oherwydd, yn anffodus, roedd hi'n digwydd bod yn benwythnos gŵyl y banc, a chael gwybod—. Roedd yn ddolurus iawn, yn finiog iawn, ni allwn—. Yn hollol. Felly, dywedwyd wrthyf fy mod yn gymwys i gael apwyntiad. Cefais rif ffôn i'w ffonio. Bu'n rhaid i mi ddeialu'r rhif hwnnw 100 gwaith cyn llwyddo yn y diwedd i fynd drwodd at fod dynol. Nawr, wedi imi fynd drwodd, cefais fy apwyntiad, cafodd ei ddatrys. [Torri ar draws.] Rwy'n siŵr ei bod. Llwyddais i'w gael wedi'i ddatrys. Ond mae'n dangos i chi fod cymaint o bobl eraill mewn sefyllfa debyg, felly mae angen inni gynyddu capasiti'r gwasanaethau deintyddol brys yn y tymor byr, hyd nes y cawn ddigon o gapasiti yn y practisau. Diolch am eich amynedd, Lywydd.

18:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly gwnawn ni symud i'r cyfnod pleidleisio ar gyfer y bleidlais ar yr eitem yna ac eitemau eraill.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Os nag oes tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Ac mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.45 i ystyried rhagor o welliannau i'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, 15 yn ymatal, 1 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.45 i ystyried rhagor o welliannau i'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd: O blaid: 34, Yn erbyn: 1, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Gadewch imi oedi am eiliad.

Y bleidlais nesaf fydd y bleidlais ar eitem 5. Y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru) yw hon. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Peter Fox. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, 1 yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 5. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru): O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Eitem 7 fydd y pleidleisiau nesaf. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddeintyddiaeth y gwasanaeth iechyd yw'r pleidleisiau yma. Yn galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 35 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn—wedi'i wrthod, mae'n ddrwg gen i.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Deintyddiaeth y GIG. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Un foment o lwyddiant yno, Darren Millar. Fe gywirais fy hun.

Gwelliant 1 fydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Yn galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Ac felly, mae'r gwelliant yn cwympo, o 25 i 26 pleidlais.

18:55

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 fydd nesaf. Galwaf am bleidlais felly ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, ac felly mae'r gwelliant yn cwympo, o 25 pleidlais i 26. Mae gwelliant 2 hefyd heb ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Does yna ddim byd wedi ei dderbyn yn y gyfres yna o bleidleisiau. Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio, felly.

9. Dadl Fer: Coffadwriaeth barhaol i'w diweddar Fawrhydi Brenhines Elizabeth II

Byddwn ni'n symud ymlaen nawr i'r ddadl fer. Ac mae'r ddadl fer y prynhawn yma yn enw Tom Giffard, ac fe wnaf i ofyn i Tom Giffard i gychwyn ei ddadl unwaith y bydd Aelodau wedi gadael.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n gadael yn dawel, os ydynt yn gadael, ac yna fe ofynnaf i Tom Giffard ddechrau'r ddadl fer.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n anrhydedd cael dod â'r ddadl fer hon i'r Siambr heno, a gwn y byddwch chi, fel fi, Lywydd, yn edrych ymlaen at glywed gan Laura Anne Jones, Altaf Hussain, Natasha Asghar, a James Evans, sydd wedi cael munud yr un o fy amser. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed eu cyfraniadau, yn ogystal ag ymateb y Gweinidog wrth i'r ddadl hon fynd rhagddi.

Roedd Ei diweddar Fawrhydi Elizabeth II yn ymgorfforiad o ymroddiad anhunanol i ddyletswydd. Yn ddim ond 25 oed, gosodwyd cyfrifoldeb enfawr  arni, un na allai unrhyw un, cyn i'w hewythr ymddiorseddu, fod wedi disgwyl y byddai'n rhaid iddi ei wynebu rhyw ddydd. Ac eto, ei theyrnasiad hi oedd yr hiraf erioed yn ein gwlad, ac fe gyflawnodd ei gwaith fel na allodd fawr neb yn hanes ein gwlad erioed. Roedd hi yno i wasanaethu'r genedl, cydnabyddiaeth ein bod i gyd yn rhan o rywbeth mwy nag unrhyw unigolyn. Fel y dywedais pan ddaethom at ein gilydd i gynnig gair o gydymdeimlad y llynedd, hi roddodd y 'mawr' ym Mhrydain Fawr. Ac roedd yn anrhydedd i mi allu cyfarfod â hi pan ddaeth i agor y Senedd, ac mae'n foment nad anghofiaf byth.

Ac yn y ddadl honno, dywedais hefyd ei bod yn:

'adeiladwr pontydd, oherwydd p'un a wnaethoch chi bleidleisio i'r blaid Lafur neu'r blaid Geidwadol roedd gennych chi un Frenhines; p'un a gawsoch chi eich geni yn y DU neu ddod yma i adeiladu bywyd gwell, roedd gennych chi un Frenhines; yn arddel ffydd neu beidio, yn hen neu'n ifanc, yn cefnogi Dinas Abertawe neu Ddinas Caerdydd; p'un a ydych chi'n unoliaethwr neu'n ymwahanwr; p'un a ydych chi'n frenhinwr neu'n weriniaethwr, roedd gennych chi un Frenhines.'

Rwyf wedi dyfynnu fy hun yno mewn ffordd na allai neb ond Mark Isherwood ei wneud. [Chwerthin.] Ac o'r ohebiaeth helaeth a gefais, gwn faint oedd y Frenhines Elizabeth yn ei olygu i gymaint o bobl ledled Cymru. Mae hi a'r Brenin yn ymgorfforiad o ymroddiad hirsefydlog i Gymru, i'n hanes, i'n diwylliant ac i'n gwerthoedd. O'i hymrwymiadau brenhinol rheolaidd, i'w chyfarfodydd gyda chymaint o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol gwych, i gysylltiad personol iawn â chymuned Aberfan, yn dilyn eu galar a'u trasiedi, mae'n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd Ei diweddar Fawrhydi i ni yma yng Nghymru.

Ac nid i Gymru neu'r Deyrnas Unedig yn unig ychwaith. Fel pennaeth y Gymanwlad, sefydliad y rhoddodd gymaint o'i hamser a'i gofal iddo, parhaodd yn ffigwr poblogaidd. Safodd uwchlaw anghydfodau gwleidyddol y dydd, a pharhaodd yn ffigwr a oedd yn uno, hyd yn oed pan oedd dadlau gwleidyddol ynghylch y frenhiniaeth a'r Gymanwlad yn torri ar draws, arhosodd y Frenhines uwchlaw'r ffrae bob amser. Er enghraifft, yn Awstralia, pa bynnag ochr i'r ddadl weriniaethol oedd pobl, câi'r Frenhines Elizabeth II ei chroesawu â breichiau agored a chalonnau cynnes gan y cyhoedd bob amser.

Ac felly, pa ffordd well o ddathlu ei bywyd anhygoel na sicrhau coffâd parhaol iddi hi a'i gwaddol, i'w chofio mewn ffordd barhaol a fydd yn atgoffa pobl o'r ymdeimlad enfawr o ymroddiad i ddyletswydd a goleddai, ffordd o ategu'r holl brofiadau, atgofion a theyrngedau unigol mewn modd a ddaw â phobl ynghyd, ffordd i bob un ohonom gydnabod ein bod yn rhannu'r un ymdeimlad o ddyletswydd, yr un ymdeimlad o rywbeth mwy na ni ein hunain, yr un ymdeimlad o onestrwydd a gwasanaeth ag a ymgorfforai. Yn y pen draw, mae cofebau'n bodoli i ddathlu bywydau unigolion amlwg a gyflawnodd gymaint ac a wnaeth lawer o wahaniaeth trawsnewidiol i fywydau pobl. Mae tystiolaeth cynifer o unigolion a grwpiau yn dystiolaeth berffaith o'r effaith a gafodd y Frenhines ar gymaint o bobl. Byddai'n gyfle i bob un ohonom roi rhywbeth yn ôl i rywun a gysegrodd ei bywyd i'n cynrychioli a'n gwasanaethu ni, yma a thramor, am gymaint o flynyddoedd.

Yn hanesyddol mae coffáu brenhinoedd a breninesau wedi digwydd mewn amrywiaeth eang o ffyrdd ar hyd y canrifoedd. Cafodd niferoedd mawr o baentiadau, tapestrïau, brodwaith, cerfluniau, cerfiadau ac adeiladau eu creu, eu cysegru neu eu hailenwi ar ôl bywydau ein gwahanol frenhinoedd a breninesau. Ac er y gall yr amseroedd newid a bod yr union ffurf ar goffád wedi esblygu i adlewyrchu'r oes fodern, yr un ysbryd o fod eisiau cydnabod y da a wnaed sy'n cysylltu â'r gorffennol. Oherwydd wrth gwrs roedd marwolaeth Ei diweddar Fawrhydi yn gyfnod trasig. Arweiniodd yr angladd at lawer o alaru, a oedd yn profi cymaint y gwnaeth hi gyffwrdd â bywydau pobl. Ond wrth gwrs, ar ôl y tristwch gallwn edrych ymlaen nawr at foment gadarnhaol, a dathliadol, gobeithio, i edrych ar fywyd y Frenhines Elizabeth a'r cof amdani.

Mae yna amrywiaeth o opsiynau y gellid eu harchwilio, boed yn gerflun, fel yr un a gomisiynwyd i goffáu'r Fam Frenhines. Ariannwyd y cerflun efydd hwnnw gan Philip Jackson gan ddarn £5 a gynhyrchwyd gan y Bathdy Brenhinol. Er bod hwn yn ymgymeriad drud, mae gan lawer o gerfluniau efydd bris cychwynnol o £1,500, felly nid oes angen i ystyriaethau ariannol fod yn rhwystr. Ond gellid ystyried cael cerflun tebyg wedi'i gomisiynu ar gyfer y Frenhines yn rhan o gyfres y menywod dylanwadol a welodd gerfluniau o fenywod dylanwadol yn cael eu codi ledled Cymru. Er bod y gyfres hon yn canolbwyntio'n bennaf ar fenywod dylanwadol o Gymru, roedd y Frenhines yn ddylanwadol yn ei rhinwedd ei hun yng Nghymru, gan ddod yn Frenhines ar oedran mor ifanc, yn enwedig mewn cyfnod pan oedd dynion yn dominyddu i'r fath raddau.

Mae gardd fyfyrio neu ardd goffa yn ffordd dda o anrhydeddu pobl ddylanwadol mewn cymuned. Yn fy marn i, byddai gardd goffa'n addas iawn ar gyfer y Frenhines gan ei bod yn berson dylanwadol mewn cymaint o gymunedau. Mae'n cysylltu'n arbennig â phrosiect Canopi Gwyrdd y Frenhines, a lansiwyd ar gyfer y Jiwbilî. Byddai hynny'n ei gwneud hi'n bosibl cofio am y Frenhines gyda chymunedau lleol a gwneud cyfraniad tuag at fynd i'r afael â newid hinsawdd. Byddai ei wneud naill ai'n brosiect y Senedd neu'n brosiect lleol gan y gymuned yn helpu ardaloedd awdurdodau lleol sy'n bwriadu gwerthu tir oherwydd y costau cynyddol o'i gynnal, yn ogystal â galluogi cymunedau lleol i deilwra'r prosiect i weddu i'w hanghenion nhw.

Byddai'r coffâd cyhoeddus yn fwy na'r strwythur ffisegol ei hun. Wrth gwrs, mae cerfluniau, gerddi ac adeiladau a enwir yn fath pwysig o deyrnged, ond mae'n cynnwys y meddwl y tu ôl i'r coffáu sy'n rhoi mwy o ystyr iddynt. Oherwydd yn y pen draw, maent yn ymgorfforiad ffisegol o'r teimladau o gynhesrwydd, anwyldeb a chariad a oedd gan gymaint ohonom tuag at ffigwr mor ysbrydoledig.

Felly, i gloi, fel ein brenhines a roddodd gymaint o wasanaeth i'r wlad, byddai'n ymddangos y byddai rhyw ffurf ar goffâd parhaol yn ffordd gwbl addas i ddathlu bywyd ac amseroedd y Frenhines Elisabeth II. Gan ddychwelyd at fy sylwadau cynharach, boed yn unoliaethwyr, yn genedlaetholwyr, yn frenhinwyr, yn weriniaethwyr, yn Geidwadwyr, neu'n perthyn i Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru, rwy'n gobeithio y gallwn i gyd gydnabod y gwasanaeth anhunanol a ymgorfforwyd ganddi. Oherwydd pethau i ni fynd ar eu trywydd drwy ddadleuon cyhoeddus yw rhaniadau gwleidyddol o ddydd i ddydd yn y pen draw. Rydym yn herio ein gilydd ynghylch polisi iechyd, addysg, yr economi a'r cyfansoddiad wrth gwrs. Fodd bynnag, gyda marwolaeth y Frenhines Elizabeth, rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau'n camu'n ôl o'i gweld fel brenhines gyfansoddiadol gyda rôl sy'n destun dadl wleidyddol a chyfansoddiadol ac yn hytrach, yn ei gweld fel unigolyn a wnaeth gyfraniad hanesyddol i'n bywyd cenedlaethol, ac unigolyn sy'n deilwng o goffâd cyhoeddus parhaol yma yng Nghymru.

19:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Yn gyntaf, diolch i Tom Giffard am ddod â'r ddadl hon i lawr y Senedd. Cysegrodd Ei diweddar Fawrhydi ei bywyd a'i theyrnasiad i bobl y Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad. Fe ffurfiodd ymlyniad heb ei ail gyda'n cenedl. Safodd yn gryf ac yn ddiysgog, gan gynnal a hyrwyddo popeth sy'n wych am ein gwlad am 70 mlynedd. Roedd hi bob amser yno, yn olau tywys cyson a pharhaol drwy amseroedd da a drwg.

Ar ôl ei marwolaeth roedd yna ymdeimlad dwys o golled ac roedd pobl eisiau ffordd o'i chofio hi a'i bywyd o wasanaeth i'n cenedl. Mae cyfle yma i anrhydeddu Elizabeth II, a barhaodd yn ffyddlon i'w haddewid hyd ei marwolaeth, ac mae arnom hynny iddi fan lleiaf un fel cenedl. Byddai'r rhan fwyaf o bobl, rwy'n siŵr, yn cefnogi ystyriaeth o'r fath. Gwn y byddai llawer o fy etholwyr a minnau wrth ein boddau'n cael lle neu gofeb barhaol i nodi bywyd Ei diweddar Fawrhydi a chael ein hatgoffa ohoni. Rwy'n llwyr gefnogi fy nghyd-Aelod Tom Giffard heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd y syniad sy'n sail i'r ddadl fer yn dwyn ffrwyth.

19:05

Diolch i Tom am gyflwyno'r ddadl hon ac am fod mor garedig â chaniatáu munud o'i amser i mi. Wrth dyfu i fyny yn Kashmir, mae rhai o fy atgofion plentyndod mwyaf annwyl am Ei diweddar Fawrhydi. Dau o'r pethau a drysorai fy nhad fwyaf oedd fflasg Thermos arbennig i goffáu'r coroni a set radio. Ar adeg coroni'r Frenhines Elizabeth, roedd bod yn berchen ar radio yn Kashmir yn anghyfreithlon. Ond cadwodd fy nhad un yn gyfrinachol, a gallasom wrando ar y seremonïau a oedd yn digwydd yn y Deyrnas Unedig, gan yfed te o'i Thermos werthfawr, sydd ei hun yn rhywbeth prin yn Kashmir. Bu'r fflasg Thermos, gyda'i phortread o'r Frenhines, gyda ni am flynyddoedd lawer. Mewn ffordd, fe allech chi ddweud fy mod i wedi tyfu fyny gyda'r Frenhines, gan ei bod hi bob amser gyda'n teulu ni. Gyda'i marwolaeth, rhaid inni ddod o hyd i ffordd o goffáu'r ddiweddar Frenhines yn barhaol a chofio'r cysur enfawr a roddodd i filiynau o bobl ledled y byd. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Tom Giffard am gyflwyno'r ddadl fer bwysig hon y prynhawn yma. Heb os, roedd ein diweddar Frenhines yn fodel rôl ac yn ysbrydoliaeth i filiynau o bobl yma yn y DU ac ar draws y byd. Gwelsom i gyd pa mor galed y gweithiai o ddydd i ddydd, ac roedd ei chariad at ei gwlad a'i phobl yn ddiwyro. Heb os, bydd cyfraniad Ei Mawrhydi i'r Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad yn darparu gwaddol barhaol.

Roedd y Frenhines yn bresenoldeb cyson ym mywydau llawer ohonom, gan deyrnasu drosom am dros 70 mlynedd, ac mae oes o ymroddiad a gwasanaeth ymroddedig ein diweddar Frenhines yn haeddu cael ei gydnabod yn barhaol. Rwy'n gwybod bod llawer o'r Aelodau ar draws y meinciau, o'r fan hon, o bob ochr—efallai fod rhai'n bresennol, efallai na fydd rhai'n bresennol ar hyn o bryd—yn cael pleser mawr o gyfarfod, cyfarch a threulio amser gyda'i Mawrhydi pan ymwelai â Senedd Cymru. Ac rwy'n gwybod, wedi dweud hynny, ei bod hi'n sicr wedi creu hanes ym mhob ystyr o'r gair. Ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn i gyd weld coffâd parhaol i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yma yng Nghymru yn y dyfodol agos iawn i nodi ei chyfraniad, ei hymrwymiad a'i chariad at bobl Cymru.

Hoffwn ddiolch i fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod Tom Giffard am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Roedd Ei diweddar Fawrhydi y Frenhines yn unigolyn rhyfeddol, yn unigolyn eithriadol, ac ar draws y Deyrnas Unedig y ffordd rydym yn nodi pobl eithriadol yw drwy roi cofeb sefydlog iddynt. Rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol ein bod yn rhoi cofeb sefydlog i'w diweddar Fawrhydi y Frenhines Elizabeth II er mwyn i genedlaethau'r dyfodol yn y wlad hon edrych i fyny arni a'r gwasanaeth rhyfeddol a roddodd i'n gwlad, ac nid dim ond y wlad hon, ond y Gymanwlad a'r byd ehangach. Mae gennyf gwestiwn yn uniongyrchol i'r Gweinidog: pa sgyrsiau a gawsoch gyda'r osgordd frenhinol ynglŷn â chael cofeb sefydlog yma yng Nghymru? Hoffwn wybod a fydd hynny'n cael ei ariannu'n rhannol gan yr osgordd frenhinol hefyd, oherwydd credaf y byddai hynny'n mynd yn bell i'n helpu i gael hyn wedi'i wireddu. Diolch yn fawr iawn.

Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i’r ddadl. Dawn Bowden.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pan ddywedodd y Prif Weinidog air o gydymdeimlad yn y Senedd ar farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elisabeth II ym mis Medi y llynedd, siaradodd am ei hoes o wasanaeth, dyletswydd a hunanaberth, a'i hymrwymiad personol i Gymru a'i sefydliadau democrataidd. Rwy'n siŵr fod pawb yn y Siambr yn cydnabod y gwerthoedd hynny, a'r parch oedd gan gynifer o bobl yng Nghymru tuag ati o'u herwydd. Felly, a gaf fi groesawu'r ddadl fer heddiw gan Tom Giffard, sydd wedi rhoi cyfle i bawb ohonom fyfyrio unwaith eto ar fywyd a gwasanaeth y ddiweddar Frenhines? Ac i feddwl am goffâd cyhoeddus, sydd wrth gwrs yn ganolog i'r ffordd rydym yn cynrychioli ac yn cydnabod ein hanes, yn hyrwyddo ein gwerthoedd, ac yn dathlu ein cymunedau.

Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol fod trafodaethau ar y gweill ynghylch ffyrdd posibl o goffáu'r ddiweddar Frenhines yn Llundain ac mewn mannau eraill yn y DU, a byddwn yn talu sylw manwl i'r trafodaethau parhaus hynny. Rwyf hefyd wedi gwrando'n astud ar y ddadl y prynhawn yma i gael syniad o sut y gallai'r Senedd hon fynd i'r afael â'r mater, er yn amlwg, nid ydym wedi clywed gan bob ochr i'r ddadl, o ystyried y nifer sy'n bresennol yma heno. Fodd bynnag, mae mentrau lleol dan ystyriaeth mewn rhannau o Gymru, yn ogystal ag mewn mannau eraill yn y DU, fel y soniais, i nodi teyrnasiad a gwasanaeth y ddiweddar Frenhines Elisabeth II.

Gall ein coffâd fod ar sawl ffurf wrth gwrs ac nid oes rhaid iddo fod, dyweder, yn gerflun traddodiadol yng nghanol y ddinas, sef y pwynt roedd Tom yn ei wneud. Yn Northumberland, er enghraifft, ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus, penderfynwyd sefydlu teithiau cerdded coetiroedd a gwneud gwelliannau i'r parc er cof am y ddiweddar Frenhines. Ond ar gyfer unrhyw goffâd cenedlaethol yng Nghymru, byddai'n bwysig bwrw ymlaen ar sail consensws cyn belled ag y bo modd, oherwydd rhaid i goffâd ymdrechu bob amser i fod yn urddasol yn hytrach nag ymrannol. Dylai coffâd priodol ac addas gyfuno'r gwerthoedd arwyddocaol iawn a nodweddai'r ddiweddar Frenhines â gwerthoedd Cymru heddiw, fel cenedl flaengar, gynhwysol, mewn ffordd sy'n urddasol ac yn briodol.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n ddiweddar ar goffáu cyhoeddus yng Nghymru, sef canllawiau i helpu cyrff cyhoeddus i ddod i benderfyniadau gwybodus ynglŷn â choffáu cyhoeddus, a bydd yn helpu'r cyrff hynny i chwarae eu rhan wrth wneud Cymru'n genedl wrth-hiliol a dathlu unigolion o bob rhan o'n cymdeithas sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Cymru. Bydd yn cael ei gyhoeddi yn y misoedd nesaf. Mae'r canllawiau hyn yn nodi bod gwneud penderfyniadau cynhwysol yn hanfodol ar gyfer unrhyw goffáu cyhoeddus. I ddyfynnu'r canllawiau,

'Yn ddelfrydol, bydd y dewis o ba hanes i'w goffáu yn ein gofodau cyhoeddus a sut rydyn ni'n gwneud hynny’n fynegiant o werthoedd a delfrydau sy'n cael eu rhannu gan bawb.' 

Wrth ddilyn egwyddorion y canllawiau hynny, felly, dylem sicrhau bod safbwyntiau cymunedau'n cael eu hystyried, yn ogystal â barn Aelodau'r Senedd hon wrth gwrs, heddiw ac yn y dyfodol. Unwaith eto, fel y soniodd Tom Giffard, mae Cymru eisoes yn elwa o Canopi Gwyrdd y Frenhines, sy'n cynnwys plannu coed ar draws y Deyrnas Unedig. Crëwyd y prosiect hwnnw i goffáu Jiwbilî Platinwm y ddiweddar Frenhines ac mae wedi cael ei ymestyn er cof amdani.

Yr haf diwethaf, rhoddodd Prif Weinidog Cymru lasbren o dderwen hanesyddol Pontfadog i Dywysog Cymru ar y pryd i nodi Jiwbilî Platinwm y Frenhines, fel rhodd ar ran pobl Cymru. Roedd y Brenin a'r Prif Weinidog yn bresennol wrth i'r glasbren gael ei blannu ar ystad Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Wrecsam fis Rhagfyr diwethaf—un o'i ymweliadau cyntaf â Chymru ar ôl dod yn Frenin. Felly, gallai menter debyg i Canopi Gwyrdd y Frenhines, a fyddai'n creu manteision i Gymru gyfan, fod yn goffâd addas a pharhaol i'w diweddar Fawrhydi, ond fe allai fod dulliau eraill, yr un mor briodol o nodi ei degawdau o wasanaeth. 

A gaf fi orffen fy nghyfraniad heno felly drwy ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau a dweud fy mod i wrth gwrs yn croesawu trafodaethau pellach gyda nhw ar y mater arbennig o bwysig hwn?

19:10

Daeth y cyfarfod i ben am 19:13.