Y Cyfarfod Llawn

Plenary

09/05/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Alun Davies. 

Ailsefydlu Pobl o Wcráin

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailsefydlu pobl o Wcráin yng Nghymru? OQ59465

Llywydd, diolch i Alun Davies am y cwestiwn yna. Fel cenedl noddfa, rydym ni wedi croesawu ychydig yn llai na 6,900 o Wcreiniaid i Gymru, gyda 3,200 yn cyrraedd o dan gynllun nawdd Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n parhau i gefnogi gwesteion, gan eu helpu nhw i symud ymlaen i lety tymor hwy, lle gallan nhw fyw bywydau mwy sefydlog a chael eu cefnogi mewn cymunedau lleol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. Y prynhawn yma, rwy'n credu y dylem ni hefyd dalu teyrnged i waith Mick Antoniw, sydd wedi uno Aelodau ar draws y Siambr yn ei gefnogaeth i bobl Wcráin dros y cyfnod diwethaf. Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd, rwy'n credu, Prif Weinidog, wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i bobl y wlad honno. Mae wedi condemnio ymosodiad anghyfreithlon Putin, y troseddau rhyfel barbaraidd a gyflawnwyd yn erbyn pobl Wcráin, ac mae hefyd wedi estyn ei llaw allan mewn cyfeillgarwch i'r Wcreiniaid hynny sy'n ceisio dianc canlyniadau rhyfel Putin.

Ym Mlaenau Gwent, Prif Weinidog, mae dros 130 o bobl wedi cael eu hailsefydlu i gychwyn yn y fwrdeistref sirol. Rydym ni hefyd yn edrych ar sut y gallwn ni sicrhau bod cymorth ychwanegol i'r bobl hynny sy'n ceisio gwneud eu cartrefi eto ym Mlaenau Gwent. Mae'r awdurdod lleol ym Mlaenau Gwent, fel y gwyddoch, wedi bod yn rhagweithiol o ran estyn allan at bobl o Wcráin, ac wedi darparu adnoddau ychwanegol, ar ben y rhai a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU, a Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod pobl sy'n cynorthwyo ac yn rhoi llety i bobl o Wcráin yn gallu gwneud hynny, ond hefyd i sicrhau bod gan yr Wcreiniaid hynny sy'n ceisio symud ymlaen gyda'u bywydau y cymorth i wneud hynny. Prif Weinidog, mae pobl Blaenau Gwent ac awdurdod lleol Blaenau Gwent yn gwneud popeth yn eu gallu i gynorthwyo pobl Wcráin. A wnaiff y Prif Weinidog fy sicrhau i y prynhawn yma y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'r cymorth hwn i bobl Wcráin, wrth i ni barhau i gefnogi pobl Wcráin yn eu brwydr yn erbyn ymosodiad Putin?

Wel, Llywydd, diolch i Alun Davies am yr hyn y mae wedi ei ddweud am lwyddiant y rhaglen yma yng Nghymru. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau eisiau i mi gydnabod hefyd y rhan y mae ef wedi ei chwarae i wneud yn siŵr bod nwyddau o Gymru yn cyrraedd teuluoedd yn Wcráin, lle mae troseddau rhyfel yn parhau i gael eu cyflawni hyd heddiw. Diolchaf i'r Aelod lleol dros Flaenau Gwent am yr hyn mae wedi ei ddweud am lwyddiant y cynllun yn y fwrdeistref sirol honno. Mae wir wedi bod yn llwyddiant eithriadol. Mae gweithwyr yn nhîm cymorth awdurdod lleol Blaenau Gwent wedi gwneud gwaith rhagorol i helpu pobl o Wcráin, a ddaeth yn gyntaf oll i'r ganolfan groeso, i allu symud ymlaen i lety tymor hwy, pa un a yw hynny o fewn Blaenau Gwent ei hun, sydd wedi croesawu llawer o ddinasyddion Wcráin i'r llety symud ymlaen hwnnw, neu'n waith gydag awdurdodau lleol cyfagos. Yn wir, Llywydd, mae tîm Blaenau Gwent wedi cael cymaint o lwyddiant ein bod ni wedi gofyn iddyn nhw arwain yn genedlaethol o ran cynorthwyo awdurdodau lleol eraill yn yr ymdrech symud ymlaen honno, gan ddod â'r arbenigedd y maen nhw wedi ei ddatblygu, y sgiliau gweithredu sydd ganddyn nhw, i gynorthwyo pobl eraill i wneud gwaith tebyg. Ac, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru, gyda'r £40 miliwn yr ydym ni wedi ei neilltuo yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol i barhau i groesawu pobl o Wcráin, a orfodwyd i ffoi o'u gwlad eu hunain, sy'n chwilio am gyfle i ailsefydlu eu bywydau, yn parhau i weithio gyda'n holl bartneriaid i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynnig y llaw honno o gyfeillgarwch, i gyd-fynd â'n henw da am fod yn genedl noddfa, a gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i ailsefydlu eu bywydau yma yng Nghymru.

Ym mis Chwefror, adroddodd cyfryngau Cymru, ac rwy'n dyfynnu, bod

'Cannoedd o Wcreiniaid a gyrhaeddodd Cymru trwy gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru yn wynebu dyfodol ansicr wrth i ganolfannau croeso gau ac wrth i noddwyr barhau i fod yn amharod i ddod ymlaen.'

Ac er i Lywodraeth Cymru ddweud ei bod yn gweithio'n agos gyda chynghorau lleol i gael ffoaduriaid o Wcráin i mewn i lety tymor hwy, roedd ffoaduriaid yn honni mai dim ond un o bob 100 o landlordiaid wnaiff dderbyn rhywun o Wcráin. Ac, ym mis Mawrth, rhybuddiodd y Groes Goch Brydeinig bod angen gwell seilwaith i gynorthwyo Wcreiniaid i ail-adeiladu eu bywydau yng Nghymru, ac y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sefydlu cynlluniau i helpu Wcreiniaid i mewn i eiddo rhent preifat trwy dalu'r costau ymlaen llaw a gweithredu fel gwarantwyr lle mae angen. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn dal i ddisgwyl am eglurhad ynghylch y cyllid ailsefydlu gwerth £150 miliwn gan Lywodraeth y DU, ond pa gamau penodol mae eich Llywodraeth chi wedi eu cymryd ers hynny i fynd i'r afael â'r canfyddiadau hyn? A pha ffigurau sydd gan Lywodraeth Cymru o ran nifer yr Wcreiniaid yr effeithiwyd arnynt a beth sydd wedi digwydd iddyn nhw ers hynny?

13:35

Wel, Llywydd, y pwynt cyntaf i'w wneud, ac mae'n un pwysig, yw'r un am gau canolfannau croeso—gan fod y mewnlif o bobl newydd yn dod o Wcráin wedi arafu—nid oes yr un person wedi cael ei adael heb lety. Er gwaethaf y pryderon a fynegwyd, yn wir, mae dros 1,700 o westeion o Wcráin eisoes wedi cael eu symud ymlaen yng Nghymru i lety tymor hwy. Ac, o ran y camau penodol a gymerwyd, o'r £40 miliwn y soniais amdano funud yn ôl, Llywydd, mae £4 miliwn o hwnnw yn benodol i gynorthwyo ein partneriaid awdurdod lleol i sicrhau llety symud ymlaen ychwanegol, ac mae hynny, yn wir, yn rhoi sylw i rai o'r pwyntiau a wnaeth Mark Isherwood am gynorthwyo pobl sy'n gallu sicrhau rhywle mewn llety preifat gyda rhai o'r costau ymlaen llaw yr ydych chi'n eu hwynebu pan fyddwch chi'n ceisio sicrhau lleoedd yn y sector rhentu preifat. Ar yr un pryd, mae gennym ni raglen gyfalaf llety trosiannol fawr a roddwyd ar waith trwy Lywodraeth Cymru: defnyddiwyd dros £76 miliwn y llynedd i gynorthwyo awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol i ddarparu mwy o gartrefi i gynorthwyo'r holl bobl hynny sydd mewn angen tai. Mae'r cyllid hwnnw eisoes wedi darparu bron i 1,000 o gartrefi ychwanegol, ac mae llawer o bobl o Wcráin wedi gallu manteisio ar y rhaglen honno. Felly, rydym ni'n parhau i gydweithio yn agos â'n partneriaid, Llywydd. Does neb yn awgrymu ei bod hi'n hawdd dod o hyd i lety symud ymlaen yn yr hyn sydd eisoes yn farchnad lety gystadleuol, ond rwy'n credu bod yr hanes o lwyddiant yma yng Nghymru yn un a fyddai'n gwrthsefyll craffu gan unrhyw un. 

Sgiliau'r Rhai sy'n Gadael Ysgol

2. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod gan y rhai sy'n gadael ysgol y sgiliau angenrheidiol i lwyddo yn y farchnad gyflogaeth? OQ59496

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith yn orfodol o fewn y Cwricwlwm i Gymru newydd, ac mae Gyrfa Cymru yn rhoi cymorth i bob ysgol ledled Cymru feithrin cysylltiadau â chyflogwyr. Bydd diwygio cymwysterau a'n rhaglenni cyflogadwyedd yn paratoi pobl ifanc ar gyfer swyddi'r dyfodol.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Prif Weinidog, am yr ateb. Rwy'n gofyn y cwestiwn heddiw yng nghyd-destun arfogi ein pobl ifanc â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gystadlu mewn byd sy'n gynyddol fyd-eang. Ac, i'r perwyl hwnnw, nid yw'n gyd-ddigwyddiad mai'r gwledydd sy'n cynhyrchu'r canlyniadau gorau o ran cyrhaeddiad mathemateg yn aml hefyd yw'r gwledydd sydd ag economïau byd-eang newydd ac arloesol. Ac yn y DU, rwy'n credu, weithiau, mae gan rai ohonom ni dueddiad i ddiystyru pwysigrwydd mathemateg. Mae pobl yn aml yn cael hwyl am fethu â gwneud mathemateg, ond mae hynny yn rhywbeth na fyddem ni byth yn ei ddweud am ddarllen, er enghraifft, felly mae hynny yn rhywbeth yr wyf i'n falch bod y Prif Weinidog wedi ei nodi yn gywir fel problem sy'n ein gwneud ni'n llai cystadleuol yn rhyngwladol. Ac awgrymodd y gallai fod angen rhagor o ddysgu mathemateg yn ddiweddarach mewn addysg person ifanc i fynd i'r afael â'r broblem. Yn amlwg, nid oes un ateb ar gyfer pawb yma, Prif Weinidog, ond, o gofio bod addysg wedi'i datganoli yng Nghymru, ac, yn ôl canlyniadau diweddaraf y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, cyrhaeddiad mathemateg yng Nghymru oedd y gwaethaf o wledydd y DU, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i newid y sefyllfa hon ac i sicrhau bod gan bobl sy'n gadael yr ysgol y sgiliau mathemateg sydd eu hangen arnyn nhw fel y gallan nhw gyrraedd eu potensial llawn?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â Tom Giffard ynghylch pwysigrwydd mathemateg. Llawer o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru yw arfogi pobl ifanc ar gyfer y sgiliau digidol y bydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol lle bydd yr agwedd honno ar y farchnad gyflogaeth yn dod yn fwy a mwy pwysig. Yn anffodus, nid yw gweithredoedd Prif Weinidog y DU yn cyd-fynd â'r rhethreg yr ydym ni'n ei chlywed ganddo. Roedd yn gyfrifol am y rhaglen Lluosi drychinebus pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys—£100 miliwn wedi'i frigdorri o arian a oedd fod i ddod i Gymru ar gyfer rhaglen genedlaethol sydd wedi, mae gen i ofn, bod yn fethiant enfawr ar lawr gwlad. Yn sicr, nid yw wedi cyflawni'r hyn a addawyd yma yng Nghymru. Mae gen i ofn mai'r cwbl y mae'r rhaglen Lluosi yn ei wneud yw dangos yr anawsterau pan fo Gweinidogion yn Whitehall yn credu eu bod nhw'n gallu dylunio pethau ar lawr gwlad mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig lle nad oes ganddyn nhw unrhyw gyrhaeddiad o gwbl. Fe wnaethon nhw gynllunio eu rhaglen Lluosi heb yr un gair o drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru na gyda'r awdurdodau lleol y mae disgwyl iddyn nhw ei darparu. O ganlyniad, ni fu'n bosibl gwario'r arian a neilltuwyd i Gymru. Nid yw'r arian hwnnw wedi cael ei ryddhau i awdurdodau lleol eto fel y gallan nhw wneud pethau defnyddiol ag ef, gan gynnwys—ac rwy'n cytuno â phwysigrwydd y pwynt—i wella rhifedd ymhlith pobl sy'n gadael yr ysgol a phobl yn y gweithle sy'n dymuno gwella eu sgiliau rhifedd. Felly, er fy mod i'n cytuno â'r gosodiad sylfaenol, ni allaf gytuno bod y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi mynd ati i wneud hyn wedi dangos llwyddiant. Yn wir, mae gen i ofn, ei fod yn union i'r gwrthwyneb.

13:40

Prif Weinidog, mae gan ddisgyblion a phobl ifanc Cymru amrywiaeth mor eang o sgiliau a thalentau. O ran cyflogaeth yn y dyfodol, mae o fudd i bawb cael system ar waith sy'n caniatáu iddyn nhw gael mynediad at gyfleoedd addysgol sydd wir yn defnyddio ac yn cyd-fynd â'u cryfderau eu hunain, gan sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau ar gyfer swyddi. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn deall hyn, felly, ar y nodyn hwnnw, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o gynllun treialu'r rhaglen prentisiaethau iau, ac a fyddwn ni'n gweld mwy o ddisgyblion ledled Cymru yn cael eu galluogi i fanteisio ar gyfleoedd cadarnhaol o'r fath?

Diolch i Jayne Bryant am hynna. Mae'n cyfeirio at newid pwysig iawn yn y farchnad lafur, Llywydd, yr ydym ni wedi ei drafod ar lawr y Senedd o'r blaen. Yn ystod y rhan fwyaf o fy mywyd gwleidyddol, roeddem ni'n credu mai'r her fwyaf yr oeddem ni'n ei hwynebu yn economaidd oedd darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc lle byddai'r cyfleoedd cyflogaeth hynny yn brin. Roeddem ni'n meddwl bod gennym ni ormod o bobl ifanc a rhy ychydig o swyddi iddyn nhw eu gwneud. Mewn gwirionedd, y broblem sy'n ein hwynebu heddiw yw'r gwrthwyneb; mae gennym ni swyddi i'w gwneud a dim digon o bobl i'w gwneud nhw. Pan fyddaf i'n siarad â chyflogwyr, yn enwedig cyflogwyr blaengar, yr hyn y maen nhw'n siarad â fi amdano yw'r ymdrechion y maen nhw'n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw eu gwneud i fod mewn ysgolion o oedran cynnar i ddenu pobl ifanc i'r cyfleoedd a fydd yna ar eu cyfer nhw. Bydd y bobl ifanc dalentog hynny, rwy'n credu, yn gweld bod galw mawr amdanyn nhw ymhlith cyflogwyr. Yr hyn y mae hyn yn ei olygu yw na allwn ni fforddio gwastraffu talentau unrhyw unigolyn yng Nghymru.

Dyluniwyd y rhaglen prentisiaethau iau, rhaglen dwy flynedd sydd wedi'i hanelu at fyfyrwyr blynyddoedd 10 ac 11, mewn geiriau eraill disgyblion rhwng 14 a 16 oed, yn arbennig i ddarparu gwahanol fath o gyfle i bobl ifanc sy'n edrych fel pe na bai addysg gonfensiynol yn llwyddo i ddod o hyd i lwybr ar eu cyfer i'r dyfodol. Os ewch chi ar y rhaglen prentisiaethau iau, rydych chi'n astudio am 25 awr yr wythnos mewn coleg addysg bellach lleol, byddwch yn sefyll TGAU mewn mathemateg a Saesneg neu Gymraeg, ond ar yr un pryd byddwch yn astudio ar gyfer cymhwyster lefel 2 mewn amrywiaeth o lwybrau galwedigaethol. Felly, mae hyn er mwyn ail-ennyn diddordeb pobl ifanc a allent fel arall ganfod nad ydyn nhw'n llwyddo o fewn y system.

Mae'r dystiolaeth orau sydd gennym ni, Llywydd, o arolygiad a gynhaliwyd gan Estyn yng Ngholeg Penybont y llynedd. Fe wnaethon nhw adrodd, yn y pum mlynedd y mae'r rhaglen wedi bod yn rhedeg yn y coleg, bod cyfraddau cwblhau cymwysterau galwedigaethol yn llwyddiannus ymhlith y bobl ifanc hynny ar y rhaglen yn fwy na 95 y cant; bod canlyniadau TGAU yn cyd-fynd â graddau a ragwelwyd i ddysgwyr neu'n rhagori arnyn nhw; a bod dros 80 y cant o'r bobl ifanc a gwblhaodd y rhaglen prentisiaethau iau yn llwyddiannus wedi mynd ymlaen i gymwysterau ôl-16 pellach yn y coleg, neu i brentisiaethau, neu'n uniongyrchol i gyflogaeth. Rwy'n credu ei bod yn sicr yn dangos ei bod hi'n bosibl creu llwybrau i bobl ifanc sydd ar gyrion y system sy'n gallu ennyn eu diddordeb, rhoi'r profiadau, sydd eu hangen arnyn nhw, iddyn nhw a'u harwain ymlaen at ddyfodol llwyddiannus.

13:45

Gan droi at y rhai sy'n gadael yr ysgol sy'n manteisio ar gyfleoedd prentis adeiladu, Prif Weinidog, rwyf i wedi cael gwybod gan ddarparwyr addysg bellach yng Nghwm Cynon nad yw'r sgiliau economi werdd y byddem ni eisiau eu tyfu a'u meithrin o reidrwydd wedi'u hymwreiddio yn y cyrsiau hynny—er enghraifft, o ran gosod pympiau gwres neu ôl-osod ein stoc dai bresennol. Felly, Prif Weinidog, a allai Llywodraeth Cymru ymchwilio i hyn fel blaenoriaeth, i sicrhau bod gan y prentisiaid hyn y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo yn y farchnad gyflogaeth, i dyfu'r economi werdd ac i'n helpu fel cenedl i gyrraedd sero net?

Llywydd, cyfeiriais yn fy ateb gwreiddiol at ddiwygio'r cwricwlwm, ac mae Cymwysterau Cymru wrthi'n gwneud yn siŵr bod y cymwysterau sy'n cael eu cynnig yn ein colegau addysg bellach yn arfogi pobl ifanc gyda'r sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Mae hynny eisoes yn digwydd. Ymwelais â choleg addysg bellach yn y gogledd yn ddiweddar a threuliais fy amser yno yn siarad â grŵp o brentisiaid a oedd yn canolbwyntio ar gymwysterau modur, a cherbydau trydan oedd y rheini; nid cerbydau'r gorffennol oedden nhw. Roedden nhw'n cael eu harfogi gyda'r sgiliau ar gyfer y dyfodol yn yr economi werdd honno. Mae ein cynllun gweithredu ar sgiliau sero net, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Chwefror, yn nodi'r camau y byddwn ni'n eu cymryd, ochr yn ochr â'r sector addysg a chyflogwyr, i fagu hyder a gwybodaeth yn y maes hwn. Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi fuddsoddiad gwerth £2 miliwn mewn cyfrifon dysgu personol yn benodol i alluogi pobl i gael y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymwysterau y bydd eu hangen arnyn nhw i fod yn rhan o'r economi werdd honno. Mae'r cyrsiau am ddim, Llywydd, maen nhw'n hyblyg, maen nhw ar gael i bobl ifanc, ond yn bwysig, maen nhw ar gael i bobl sydd eisoes yn y farchnad gyflogaeth. Pan oeddwn i yn y coleg yn y gogledd, yn ogystal â chyfarfod pobl ifanc, fe wnes i gyfarfod hefyd â phobl ymhell i mewn i'w gyrfaoedd, yn gweithio mewn garejis yn y gogledd ac yn dod i mewn un diwrnod yr wythnos i wneud yn siŵr y gallen nhw hefyd loywi eu sgiliau a gwneud yn siŵr y bydden nhw hefyd ar gael i wneud y swyddi y bydd eu hangen yn y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n cytuno â'r safbwyntiau yr ydych chi newydd eu mynegi wrth ymateb i holwyr yn y cwestiwn diwethaf, na ddylid gadael yr un person ifanc ar ôl ac y dylem ni fod yn ceisio datgloi talent pawb. Yn anffodus, mae'r ffigurau o ran anghenion dysgu ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dynodi y bu gostyngiad o 18,000 yn nifer y bobl ifanc y nodwyd bod ganddyn nhw anghenion dysgu ychwanegol yn ysgolion Cymru dros y 12 mis diwethaf. Mae hwnnw'n ostyngiad sylweddol ac, os oedd yn ostyngiad am yr holl resymau cywir, yna, yn amlwg, byddem ni'n dathlu hynny. Ond rydym ni'n gwybod, gyda COVID, bod addysg llawer o bobl ifanc, yn amlwg, wedi cael ei difetha. Pa mor hyderus ydych chi, Prif Weinidog, bod y niferoedd hynny, i lawr o 92,000 i 76,000, yn adlewyrchiad cywir o'r cymorth a'r gefnogaeth a allai fod eu hangen ar gyfer pobl ifanc, oherwydd oni bai eu bod nhw'n cael yr asesiad anghenion dysgu ychwanegol hwnnw, yn amlwg, ni ellir rhoi'r cymorth hwnnw ar waith?

Wel, Llywydd, mae'n bwynt pwysig y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei wneud. Mae gennym ni system newydd yma yng Nghymru, fel y mae'n gwybod, a roddwyd ar y llyfr statud gan y Senedd ac sydd ar ei chamau cynnar o weithrediad llawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ymchwilio i'r ffigurau hynny yn ofalus. Rydym ni eisiau gweld system lle mae'n haws i bobl ifanc gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Weithiau bydd hynny'n golygu bod y cymorth hwnnw ar gael iddyn nhw o fewn yr ysgol ehangach heb fod angen dynodiad anghenion addysgol arbennig penodol. Ond y peth pwysig yw gwneud yn siŵr bod y ffigurau hynny wir yn adlewyrchu'r sefyllfa ar lawr gwlad a bod y bobl ifanc yr ydym ni'n pryderu amdanyn nhw yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Fel y dywedais, camau cynharaf y system newydd yw'r rhain. Ni ddylem ni roi gormod o bwys ar y ffigurau rhagarweiniol. Y peth pwysig yw bod yn ymwybodol o'r mater a gwneud yn siŵr, yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gydag Estyn a thrwy'r asiantaethau gwella, ein bod ni'n hyderus bod y system newydd yn gwneud yn siŵr bod ein pobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ac yn ei gael mewn ffordd sy'n hawdd cael gafael arno, wedi'i raddnodi yn iawn i'r amgylchiadau unigol ac wedi'i ddarparu yn effeithiol ar lawr gwlad.

13:50

Mae'r cynlluniau datblygu unigol yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, sy'n cael eu cefnogi ar yr ochr hon i'r Siambr, oherwydd, yn amlwg, maen nhw'n ei deilwra i'r dysgwr unigol—. Rydym ni i gyd, fel ASau a chyn hynny, ACau, yn gwerthfawrogi'r bagiau post sy'n dod i mewn ynghylch datganiadau mewn ysgolion, a bydd y cynlluniau datblygu unigol, yn amlwg, yn disodli'r datganiadau hynny pan ddaw'r dyddiad newydd 2025. Ond o nodi'r gostyngiad hwnnw i nifer y myfyrwyr sy'n cael eu nodi, o 92,000 i lawr i 76,000, mae'n rhaid i ni fod yn hyderus bod ysgolion yn gwneud yr asesiadau cywir, ac yn benodol, bod Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r ysgolion hynny i wneud yn siŵr bod y cyflwyniad newydd hwnnw o gynlluniau datblygu unigol yn digwydd a bod disgyblion sydd angen y cymorth hwnnw yn gallu ei gael. Felly, a allwch chi roi sicrwydd i ni heddiw, Prif Weinidog, bod y cyllidebau ar waith i gefnogi cyflwyniad cynlluniau datblygu unigol, ac yn benodol, bod y cyfyngiadau llwyth gwaith a amlygwyd gan weithwyr addysgu proffesiynol yn cael sylw fel y gallwn ni fod yn hyderus, gyda'r dyddiad newydd yn 2025, y gall plant gyrraedd eu potensial llawn ac, yn y pen draw, nad yw'r rhifau yr wyf i wedi eu dyfynnu i chi heddiw yn rhyw dalfyriad a bydd yn dynodi bod y cymorth ar gael yn rhwydd i fyfyrwyr sydd ei angen?

Wel, rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau hynny, Llywydd. Dyna'n union y mae'r Llywodraeth yn dymuno ei weld a dyna'n union pam y cymerodd y Senedd hon yr amser a wnaethom ni i wneud yn siŵr bod gennym ni system ddiwygiedig yma yng Nghymru. Gallaf roi sicrwydd i arweinydd yr wrthblaid bod arian yno yn y system. Mae'r arian a fuddsoddwyd yn dod mewn dau fath. Mae arian sy'n cael ei fuddsoddi i wneud yn siŵr bod y bobl hynny sy'n gyfrifol, nawr, am redeg y system newydd wedi'u hyfforddi yn iawn, â'r adnoddau iawn a'n bod ni'n cael y system ar waith, ac yna, mae arian ychwanegol yn ogystal â hynny i wneud yn siŵr bod gan system y dyfodol yr adnoddau sydd eu hangen arni.

Rwy'n deall y pwynt y mae cydweithwyr sy'n athrawon yn ei wneud am gyfyngiadau llwyth gwaith, ac roedd hyn yn rhan fawr iawn o'r trafodaethau a gafodd y Gweinidog addysg gydag undebau athrawon dros setlo'r mater o gyflogau yma yng Nghymru. Ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud hynny ac rydym ni wedi gwneud cyfres o ymrwymiadau ar gyfer ymdrin â materion llwyth gwaith yn yr ystafell ddosbarth. Yr hyn nad ydym ni'n barod i'w wneud yw ildio i'r alwad gan un undeb athrawon i ymestyn yr amserlen weithredu hyd yn oed ymhellach. Rydym ni wedi gwneud hynny unwaith yn barod mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed gan staff rheng flaen yng nghyd-destun COVID. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y system newydd hon yno, yn gweithio ac yn sicrhau'r manteision yr ydym ni'n credu y bydd yn eu sicrhau i bobl ifanc, ac yn fy marn i nid oedi pellach yn yr amserlen weithredu yw'r ffordd orau o sicrhau'r manteision hynny.

Mae bob amser yn ddefnyddiol pan fyddwch chi'n rhoi atebion mor llawn, Prif Weinidog, gan eich bod chi newydd gymryd fy nhrydydd cwestiwn—[Chwerthin.]—a oedd yn ymwneud ag ymestyn yr amserlen, ar bwynt difrifol, oherwydd yn amlwg, mae'r amserlen honno wedi cael ei hymestyn unwaith. Mae'n braf clywed nad yw honno'n mynd i gael ei hymestyn bellach, oherwydd mae'n bwysig iawn bod gan y proffesiwn addysgu fframwaith i weithio yn unol ag ef, ond yn bwysig, bod rhieni a myfyrwyr yn gwybod y bydd y system y byddan nhw'n cael eu cynorthwyo oddi tani yn weithredol erbyn 2025.

Ond, a ydych chi'n uniaethu â'r sylwadau eraill a wnaed ynghylch anghenion dysgu ychwanegol, ac yn benodol, y daith i'r cynlluniau datblygu unigol—bod y mater o fyfyrwyr newydd yn cael eu nodi ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn gallu cael mynediad at y cynlluniau unigol hynny yn peri mwy o broblemau? Ac yn wir, neu yn sicr ceir tybiaeth ymhlith rhieni bod y bar yn cael ei godi fel bod llai o bobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw mewn ysgolion, ac y byddai asesiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr union feini prawf a ddefnyddiwyd yn y system addysg yn cael ei groesawu fel y byddai parhad yn y cymorth hwnnw sy'n cael ei ddarparu ar draws holl gyfleusterau addysg Cymru, boed hynny'n gynradd neu'n uwchradd.

Wel, Llywydd, diben y system newydd oedd symud oddi wrth yr hyn a oedd wedi troi'n set elyniaethus o gysylltiadau, neu yr oedd tybiaeth eu bod nhw yn sicr, mewn llawer o leoedd, lle'r oedd rhieni yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw frwydro a brwydro i gael y cymorth ychwanegol a oedd ei angen arnyn nhw, ac rydym ni wedi trafod hynny droeon yma: sut allem ni ddylunio system lle roedd rhieni yn teimlo bod y gwasanaeth addysg ar eu hochr nhw, yn hytrach na rhywbeth y byddai'n rhaid iddyn nhw frwydro ag ef er mwyn cael y cymorth oedd ei angen arnyn nhw. Rhan o hynny oedd symud oddi wrth y syniad mai'r unig ffordd y gallech chi gael cymorth oedd trwy neilltuo label i'r plentyn, bod llawer o ffyrdd eraill ac ehangach y gallai'r system ysgogi cymorth ychwanegol i'r bobl ifanc hynny ar yr adeg yn eu bywydau lle byddai hynny yn angenrheidiol iddyn nhw lwyddo yn eu haddysg. Dyna oedd un o ddibenion ysgogol y system ac, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, nid wyf i'n credu y gall fod unrhyw un yma sy'n cynrychioli etholaeth neu gymuned ehangach nad yw wedi ymdrin â theulu sydd wedi teimlo y bu'n rhaid iddo frwydro i gael yr hyn sydd ei angen arno. Diben y system yw symud oddi wrth hynny, i'w gwneud yn wirioneddol gydweithredol. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae'r rhain yn gamau cynnar iawn o hyd o ran gweithredu'r system ar lawr gwlad ac rwy'n credu y bydd yn brawf—bydd yn brawf i'n hawdurdodau addysg lleol ac i arweinwyr ein hysgolion wneud yn siŵr nad yw system y dyfodol yn disgyn yn ôl i rai o'r nodweddion hynny a wnaeth i deuluoedd deimlo nad oedden nhw'n cael chwarae teg.

13:55

Yr wythnos diwethaf, yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, fe wnaeth dau gyn-aelod annibynnol o fwrdd Betsi Cadwaladr godi eu pryderon yn y newyddion bod Gwasanaeth Gwrth-dwyll GIG Cymru wedi terfynu eu hymchwiliad i afreoleidd-dra ariannol yn y bwrdd, gan benderfynu na fyddai unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd. Daeth yr adroddiad Ernst & Young gwreiddiol a sbardunodd yr ymchwiliad hwn i'r casgliad bod cyfrifon ariannol BIPBC wedi cael eu ffugio yn fwriadol, gyda miliynau o bunnoedd o wariant wedi'u postio yn anghywir yn 2021-22 er mwyn osgoi colli'r cyllid hwnnw ar ddiwedd y flwyddyn. Nawr, mae'r adroddiad yn dweud, 'Rydym ni wedi canfod bod costau wedi cael eu postio i'r flwyddyn ariannol anghywir, a bod y datganiadau yn fwriadol ac nad oedd y cam-ddatganiadau wedi'u cyfyngu i un unigolyn neu dîm.' Gan ei bod yn ymddangos bod hyn, trwy ddiffiniad bron, yn awgrymu twyll cam-ddatgan ariannol corfforaethol, pam y mae tîm ymchwilio twyll y GIG ei hun yn dod i'r casgliad na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach?

Wel, Llywydd, mae gan arweinydd Plaid Cymru y fantais drosof i, oherwydd nid wyf i wedi gweld yr adroddiad. Rwy'n synnu'n fawr yn wir ei fod yn gallu dyfynnu ohono y prynhawn yma, o gofio nad yw'r bwrdd wedi cyhoeddi'r adroddiad chwaith. Felly, mae'n rhaid bod unrhyw gipolwg y mae wedi ei gael ar destun yr adroddiad wedi dod iddo mewn ffyrdd yn sicr nad ydyn nhw wedi bod ar gael i mi nac i unrhyw Aelod arall. Nid fy lle i yw esbonio pam mae adran gwrth-dwyll y GIG wedi dod i'r casgliadau y mae wedi dod iddyn nhw; maen nhw'n sefydliad cwbl annibynnol. Anfonwyd yr adroddiad atyn nhw. Fy nealltwriaeth i yw eu bod nhw wedi ei ymchwilio. Eu casgliad yw nad oedd angen gwneud unrhyw gyhuddiadau troseddol. Dyna gyfanswm eu cyfranogiad. Y trothwy y mae'n rhaid iddyn nhw ei bennu yw a oes ymddygiad troseddol wedi digwydd. Nid yw hynny'n golygu nad oes pethau yn codi o'r adroddiad y bydd angen i'r bwrdd ei hun fynd ar eu trywydd, a fy nealltwriaeth i yw bod camau disgyblu wedi cael eu sefydlu gan y bwrdd iechyd a bod camau yn deillio o'r adroddiad yn dal i fod yn bosibl iawn.

Anfonwyd yr adroddiad at y Llywodraeth; mae gennych chi gopi o'r adroddiad o 25 Ionawr eleni. A ydych chi'n dweud nad yw Gweinidogion wedi gweld yr adroddiad hwnnw? [Torri ar draws.] Wel, efallai y gallai'r Prif Weinidog ymateb pa un a yw Gweinidogion wedi gweld yr adroddiad hwnnw, oherwydd mae'n codi rhai materion difrifol. Mae'r adroddiad yn cofnodi twyll cam-ddatgan ariannol yng nghyswllt darparwr gwasanaeth a enwir, sy'n cynnwys swm saith ffigur, a briodolwyd yn fwriadol i'r flwyddyn ariannol anghywir. Mae'r adroddiad yn dweud, yn ôl yr wybodaeth sydd gen i, 'er mwyn cydnabod cofnod y cwmni yn y flwyddyn ariannol anghywir, lluniwyd archeb brynu ar 31 Mawrth 2022 â manylion anghywir, a ddyluniwyd yn fwriadol fel na fyddai'n cael ei anfon at y cwmni. Drafftiwyd yr archeb brynu gan aelod o dîm gwasanaethau caffael ar wahân y GIG, sydd y tu allan i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.' Nawr, mae tîm gwasanaethau caffael y GIG a Gwasanaeth Gwrth-dwyll GIG Cymru ill dau yn is-adrannau o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud sut y byddai'r gwrthdaro buddiannau hwn wedi cael ei reoli? Ac onid yw'r awgrym o gyfranogiad uniongyrchol gan dîm caffael canolog y GIG mewn ffug-ddatganiad yn destun pryder difrifol?

14:00

Wel, Llywydd, gadewch i mi ymdrin â'r pwynt cyntaf yn gyntaf. Nid wyf i wedi gweld yr adroddiad ac mae rheswm da am hynny. Pan gyflwynwyd yr adroddiad i Lywodraeth Cymru, roedd cyhuddiadau eisoes ar led—fe'u hailadroddwyd eto yn y cyfarfod PAPAC yr wythnos diwethaf—y byddai'r adroddiad yn cysylltu Gweinidogion Llywodraeth Cymru neu weision sifil â'r amhriodoldeb yr oedd wedi ei ddarganfod. Am y rheswm hwnnw, ni rannwyd yr adroddiad gydag unrhyw un a allai fod wedi cael ei enwi yn yr adroddiad hwnnw. Yn hytrach, aeth yn uniongyrchol i bennaeth adran moeseg a phriodoldeb Llywodraeth Cymru, na allai mewn unrhyw ffordd fod wedi cael ei gysylltu ag unrhyw beth a ddywedodd yr adroddiad.

Nawr, rwy'n falch iawn o allu dweud wrth yr Aelodau, ac i gywiro unrhyw gamargraff a allai fod wedi bodoli o ganlyniad i wrandawiadau PAPAC yr wythnos ddiwethaf, nad yw'r adroddiad, mewn gwirionedd, yn feirniadol mewn unrhyw ffordd o Weinidogion Llywodraeth Cymru na gweision sifil. Mae'r adroddiad yn cadarnhau yn benodol na ddaeth o hyd i unrhyw dystiolaeth nac awgrym o gydgynllwynio o'r fath. Wedi canfod hynny, mae'r adroddiad wedi ei weld gan y Gweinidog dan sylw bellach.

Rwy'n dweud hyn o ddifrif wrth arweinydd Plaid Cymru, y rheswm na ellir cyhoeddi'r adroddiad ar hyn o bryd yw y byddai'n anochel, o ystyried y nifer fach o bobl dan sylw, yn arwain at allu adnabod unigolion sydd o bosibl, fel yr wyf i eisoes wedi ei ddisgrifio, yn destun camau disgyblu bellach. Byddai'n gwbl annheg iddyn nhw, mewn unrhyw ymateb y bydden nhw'n dymuno ei wneud, i rannu'r adroddiad hwnnw. Rwy'n gobeithio na fydd unrhyw beth y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei ddweud y prynhawn yma, gan ddyfynnu o adroddiad na ddylai fod wedi ei weld, bellach yn niweidiol i'r camau y gallai'r bwrdd ddymuno eu cymryd yn erbyn unrhyw unigolion.

Rwyf i wedi bod yn ofalus iawn i beidio ag enwi unrhyw unigolion yn unrhyw beth yr wyf i wedi ei ddweud. Rwy'n gofyn cwestiynau dilys. Nid wyf i wedi gwneud unrhyw honiadau yng nghyswllt Gweinidogion Llywodraeth Cymru na gweision sifil. Y cwbl yr wyf i'n ei wneud yw codi cwestiynau dilys sydd wedi cael eu codi hefyd yn y pwyllgor PAPAC. Y ffordd, wrth gwrs, y gallwn ni gael rhywfaint o eglurder ynghylch hyn yw y gallwn ni gael rhyw ddealltwriaeth o'r gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd yn adroddiad EY a'r penderfyniad y mae Gwasanaeth Gwrth-dwyll GIG Cymru wedi ei wneud.

A gaf i ofyn, i gloi, mae rhai cwmnïau'n cael eu henwi—? Ceir cwmni a enwir yn adroddiad EY, na wnaf i roi ei fanylion, ond yr awgrym yn yr adroddiad yw eu bod nhw—y cwmni hwnnw—wedi diwygio dogfen gynnig ac felly wedi camarwain Archwilio Cymru yn y broses. A allwn ni gael sicrwydd nad yw'r cwmni hwnnw, o ganlyniad i'r awgrymiadau hynny, os canfuwyd bod yr awgrymiadau hynny yn gywir, nad ydyn nhw'n gyflenwr cymeradwy ar draws y GIG mwyach?

Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, i ailadrodd yr hyn a ddywedais: os oes gan yr Aelod bryderon ynghylch y penderfyniad a wnaed gan Wasanaeth Gwrth-dwyll GIG Cymru, mae'n rhaid iddo godi'r pryderon hynny gyda nhw. Nid fi sy'n gyfrifol amdanyn nhw, ac ni ddylwn i fod chwaith, ac ni ellir disgwyl i mi ateb cwestiynau am sut na pham y daethon nhw i'w casgliad. Maen nhw'n gwneud hynny yn gwbl annibynnol ac ar eu liwt eu hunain yn gyfan gwbl.

O ran cwmni a allai neu na allai fod yn rhan o'r adroddiad, yr anhawster gyda'r trywydd cwestiynu y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei ddilyn y prynhawn yma yw, er ei fod yn dweud nad yw wedi enwi unigolion ac na wnaiff enwi'r cwmni, mae arnaf i ofn, oherwydd bod nifer gyfyngedig o unigolion a chwmnïau a allai fod yn y sefyllfa honno, mae'n peri'r risg o fwrw amheuaeth ar yr unigolion hynny, neu'r cwmnïau hynny cyn iddyn nhw eu hunain gael cyfle i ymateb i unrhyw ran o gynnwys yr adroddiad hwnnw. Ar ôl i'r camau disgyblu hynny ac unrhyw faterion eraill yn yr adroddiad gael eu hymchwilio'n briodol, rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad ar gael i'r Aelodau ei ddarllen. Ond ni ddylai fod ar gael cyn bod pobl a allai fod â phethau i'w hateb wedi cael eu cyfle i wneud hynny'n iawn.

14:05
Cynllun Gweithredu LHDTQ+

3. Beth yw sail y derminoleg sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghynllun Gweithredu LHDTQ+ Cymru? OQ59494

Mae'r cynllun gweithredu yn dilyn terminoleg sy'n cael ei mabwysiadu yn gyson yng nghyhoeddiadau Llywodraeth Cymru a'r rhai a ddefnyddir yng ngeiriadur cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r cynllun yn cydnabod pwysigrwydd deall sut mae pobl yn cyfeirio atyn nhw eu hunain ac nid yw'n cynnig diffiniadau o gyfeiriadeddau a hunaniaethau y tu hwnt i ddiben y cynllun ei hun.

Diolch. Prif Weinidog, mae'n chwith gen i orfod gofyn i chi'n barhaus am rywbeth sy'n amlwg yn flaenoriaeth i chi a'ch Llywodraeth, ond nid yw'n flaenoriaeth i bobl Cymru pan fo gennym ni GIG sy'n methu, canlyniadau addysgol na allwch chi fod yn falch ohonyn nhw ac argyfwng tai. Ond mae'r hyn y ydych chi'n canolbwyntio arno yn cael effaith mor sylweddol ar hanner poblogaeth Cymru, mae'n rhaid i mi ofyn i chi, Prif Weinidog, rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd cadw i fyny â faint o newid meddwl y mae Syr Keir Starmer yn ei wneud, ond pa ddatganiad gan arweinydd Llafur y DU ydych chi'n cytuno ag ef? A ydych chi'n cytuno y gall dynion biolegol fod yn fenywod ac, felly, mynd i mewn i fannau agored i fenywod yn unig, ystafelloedd newid, a chymryd rhan mewn chwaraeon i fenywod yn unig, neu a ydych chi'n cytuno â'i ddatganiad na ddylid cael gwared ar hawliau menywod a merched biolegol, ac, felly, y byddwch yn ailysgrifennu eich cynllun gweithredu LHDTC, yn cefnu ar eich cynlluniau diwygio cydnabod rhywedd ac yn llunio addysg rhyw sy'n seiliedig ar ffeithiau yn ein hysgolion i adlewyrchu hynny?

Llywydd, yn syml iawn nid wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i'r ddadl fain a bwriadol rwygol y mae'r Aelod yn ceisio ei chodi yn barhaus ar lawr y Senedd hon. Oni welodd hi fod ei phlaid wedi colli dros 1,000 o seddi yn yr etholiadau yn Lloegr yr wythnos diwethaf? Nid wyf i'n credu ei bod hi'n ddoeth iddi ddod yma yn dweud wrthyf i nad yw fy mhlaid i yn deall blaenoriaethau pobl yng Nghymru. Mae eich plaid chi yn sicr wedi colli unrhyw hygrededd y gallai fod ganddi erioed ar y sail honno. Treuliodd yr Aelod a phobl debyg iddi fis Ebrill cyfan yn ceisio codi'r pryderon chwiban ci hyn a chanfod, fel y byddwn i wedi bod yn hyderus ohono o'r cychwyn, bod gan bobl allan yna lawer mwy o synnwyr o barch nag y mae'r Blaid Geidwadol fyth yn ei briodoli iddyn nhw. Does ganddyn nhw ddim diddordeb mewn ymosodiadau ar bobl draws, does ganddyn nhw ddim diddordeb mewn ymosodiadau ar bobl dduon, does ganddyn nhw ddim diddordeb mewn ymosodiadau ar geiswyr lloches—yr union fath o agenda y mae'r Aelod ei hun yn ei dilyn ac y mae ei phlaid yn ei dilyn. Peidiwch â dod yma a dweud wrthyf i nad wyf i'n deall blaenoriaethau pobl pan fyddwch chi'n dilyn agenda sydd wedi'i chynllunio i wneud dim ond gwahanu pobl, pan ddylai ein gwaith ni fod yn rhywbeth sy'n ceisio uno pobl i geisio sicrhau parch sylfaenol.

Hygyrchedd Etholiadau

4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wneud etholiadau mor hygyrch â phosibl? OQ59480

Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio etholiadau lleol i leihau'r diffyg democrataidd. Yn ogystal â'n Papur Gwyn diweddar ar foderneiddio gweinyddiaeth etholiadol, rydym ni'n noddi prosiectau arloesol i gael gwared ar rwystrau a chynyddu cyfranogiad.

Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, gwelsom yr etholiadau lleol yn cael eu cynnal dros y ffin yn Lloegr, ac er fy mod i'n siŵr bod y Siambr gyfan yn falch o weld democratiaeth ar waith, fe'i disgrifiwyd gan Unlock Democracy fel 'diwrnod tywyll i ddemocratiaeth Brydeinig'. Mae adroddiadau o bob rhan o'r wlad yn cadarnhau ein hofnau gwaethaf o effaith y polisi trychinebus hwn sydd wedi cael ei waethygu gan y ffordd anhrefnus iddo gael ei gyflwyno. Wrth gwrs, yr hyn y maen nhw'n sôn amdano yw bod pobl, yn frawychus, wedi cael eu troi i ffwrdd o orsafoedd pleidleisio neu ddim wedi mynd allan i bleidleisio gan nad oedd ganddyn nhw'r math priodol o brawf adnabod. Nid yn unig hynny, Prif Weinidog, ond canfu gwaith ymchwil a wnaed gan Swyddfa Gabinet Llywodraeth y DU ei hun, bod y rhai ag anableddau sy'n eu cyfyngu'n ddifrifol, y di-waith, pobl heb gymwysterau, a'r rhai nad ydyn nhw wedi pleidleisio o'r blaen, i gyd yn llai tebygol o feddu ar unrhyw fath o brawf adnabod â llun, ac o'r herwydd, gweithredwyd y ddeddfwriaeth ddiweddar hon sy'n cyfyngu ar fynegiant a hawl i hunan-benderfyniad y rhai nad ydyn nhw'n cael eu clywed yn aml, er gwaethaf yr hyn yr oedden nhw'n ei wybod eisoes.

Mewn cyferbyniad, rwy'n falch, yma yng Nghymru, yn ystod ein hetholiadau lleol, ein bod ni wedi treialu pleidleisio hyblyg, ac yn fy etholaeth fy hun, roedd gennym ni orsaf bleidleisio yn ysgol gyfun Cynffig fel y gallai disgyblion 16 oed a hŷn bleidleisio mewn amgylchedd yr oedden nhw'n gyfforddus ag ef. Felly, Prif Weinidog, pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad oes gennym ni'r anhrefn atal pleidleiswyr a welsom dros y ffin, a'n bod yn parhau i ddod â'r blwch pleidleisio yn agosach at bobl Cymru yn eu bywydau bob dydd? Diolch.

14:10

Diolch i Sarah Murphy am y cwestiwn atodol pwysig iawn yna, Llywydd. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl bod pobl mewn etholiadau lleol yn Lloegr yr wythnos diwethaf a wnaeth droi i fyny i fwrw eu pleidleisiau mewn gorsaf bleidleisio wedi methu â phleidleisio. Roedd cadeirydd y Comisiwn Etholiadol ei hun yn dyst i bobl yn cael eu troi i ffwrdd o orsafoedd pleidleisio, ac yn bryderus iawn, bu'n dyst i'r bobl hynny yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i gynnal etholiadau yn cael eu sarhau gan bobl a oedd yn teimlo bod eu hawliau democrataidd wedi cael eu gwarafun iddyn nhw yn annheg.

Rydym ni'n gwybod bod llai na hanner y bobl a holwyd wedi dweud y bydden nhw wedi gwneud cais am ryw fath o brawf adnabod pan nad oedd ganddyn nhw fynediad at y mathau o brawf adnabod a gydnabuwyd yn y gyfraith a basiwyd yn San Steffan. A Llywydd, nid oes gen i unrhyw amheuaeth o gwbl fod y Ddeddf honno yn rhan o agenda atal pleidleiswyr fwriadol sy'n cael ei dilyn gan y Llywodraeth Geidwadol. Y ffordd y maen nhw'n meddwl y gallan nhw ennill etholiadau yw dysgu'r gwersi gan y dde eithafol yn yr Unol Daleithiau, sef ei gwneud hi'n anoddach i bobl na fyddai efallai'n eu cefnogi i droi i fyny a bwrw eu pleidleisiau.

Gadewch i mi roi sicrwydd pendant i'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr na fyddwn ni'n dilyn y trywydd hwnnw yma yng Nghymru. Nod ein polisïau yw ei gwneud hi'n haws i bobl fwrw eu pleidlais, nid yn anoddach. Nawr bod gennym ni'r broses o gynnal etholiadau yng Nghymru—etholiadau awdurdodau lleol ac etholiadau'r Senedd—yn ein dwylo ein hunain, ni fyddwn yn cyflwyno cynigion i'w gwneud hi'n anoddach i bobl bleidleisio. Doedd dim un erlyniad ar draws y Deyrnas Unedig i gyd y llynedd am dwyll pleidleiswyr. Mae hwn yn ateb sy'n chwilio am broblem, problem nad yw'n bodoli. Y broblem sy'n cael ei chreu yw bod pobl sydd eisiau cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn cael yr hawl hwnnw wedi'i wrthod, ac ni fyddwn yn cydgynllwynio yn hynny yng Nghymru.

Diolch, Llywydd. Mae safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn ddirgelwch i mi. Mae hyn yn ymwneud â diogelwch a gonestrwydd ein hetholiadau. Rydym ni'n gwybod, ar draws gorllewin Ewrop gyfan, mai prawf adnabod gan bleidleiswyr yw'r norm, ac yn y rhan fwyaf o ddemocratiaethau gorllewinol, dyma'r norm. Ond mae'n ymddangos bod gennych chi broblem ag ef, efallai oherwydd hanes eich plaid eich hun o ran achosion o dwyll, sydd wedi digwydd mewn ardaloedd Llafur, fel twyll Tower Hamlets, twyll Birmingham hefyd, yn ôl yn 2004.

Nawr, rydych chi'n dweud nad oes gennym ni broblem; adroddwyd 1,386 o achosion o dwyll etholiadol i'r heddlu rhwng 2018 a 2022. Dyna'r realiti. Dyna y mae angen i ni ymdrin ag ef, a dyna pam ddywedodd y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop, ei Swyddfa ar gyfer Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol, bod absenoldeb prawf adnabod ffotograffig gan bleidleiswyr yn risg diogelwch i'n system etholiadol. Chi yw'r blaid a'i cyflwynodd yng Ngogledd Iwerddon, lle mae'n gweithio'n rhagorol o dda, ac mae ganddyn nhw'r nifer pleidleiswyr uchaf erioed yn y rhan fwyaf o etholiadau cyffredinol o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Er mwyn daioni, fe wnaethoch chi gyflwyno gofynion prawf adnabod fel y gallai pobl wylio Spider-Man yn ystod pandemig COVID; pam nad yw'n briodol y dylai pobl fod â phrawf adnabod ffotograffig sydd am ddim i bobl allu cael mynediad er mwyn cyflawni eu dyletswydd ddemocrataidd a throi i fyny i etholiadau? Mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein hetholiadau—

14:15

Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn, nawr, Darren Millar. Rydw i wedi bod yn hael iawn.

Mae angen i ni sicrhau bod ein hetholiadau'n ddiogel a bod gonestrwydd o'u cylch. Pam mae Cymru ar y cyrion o fewn y DU yn sgil eich penderfyniad?

Wel, Llywydd, mae gen i ffydd yn y system sydd gennym ni ac yn y bobl sy'n ei chynnal, bod y system eisoes yn ddiogel. Nid oedd un erlyniad ar gyfer dynwared pleidleiswyr y llynedd. [Torri ar draws.] Rwy'n credu ei fod yn —. Mae'r Aelod yn dweud wrthyf i nad yw'n bwysig nad oedd unrhyw erlyniadau. Wel, rwy'n dweud wrtho ef ei fod yn bwysig, oherwydd dyna'r dystiolaeth y mae'n rhaid i chi ddibynnu arno, nid ar gwynion—nid ar gwynion, ond ar erlyniadau gwirioneddol. Mae'r dystiolaeth mor denau ag y gall fod. Yn sicr, nid yw'n cyfiawnhau—[Torri ar draws.]

—pobl yn cael eu hawl ddemocrataidd i gymryd rhan mewn etholiad wedi'i gwrthod. Dyna'r hyn y gwnaethom ni ei weld yn digwydd yn Lloegr yr wythnos diwethaf, ac ni fyddwn ni'n cydgynllwynio i hynny digwydd yma yng Nghymru.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae'n eithaf cywilyddus, onid yw, bod y Ceidwadwyr yn parhau i rygnu ymlaen am y mater hwn. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl. Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi bod yn glir iawn, mewn gwirionedd: mae'r gyfraith adnabod pleidleisiwr wedi difreinio carfan enfawr o'n poblogaeth, ac rydw i wir yn gobeithio, gan droi at Lafur, os caf i, os oes Llywodraeth Lafur, y byddwch chi'n gwrthdroi'r gyfraith benodol honno yn y Senedd, oherwydd ei bod wir yn rhan o'n democratiaeth y dylai pawb fod â hawl i bleidleisio.

Ond hoffwn i symud i Gymru, os caf i ofyn i chi, Prif Weinidog. Un o'r materion eraill sy'n ymwneud â chael democratiaeth iach iawn yw y bydd pob pleidlais yn arwain at sedd, ac rwy'n gobeithio clywed gennych chi y byddwch chi'n rhoi sicrwydd pendant, yn union fel y gwnaethoch chi i Sarah Murphy, y byddech chi'n gallu gweithio ar draws y Siambr i ymchwilio i'r math gorau o gynrychiolaeth gyfrannol yn ein diwygiadau yn y Senedd, gobeithio, a dyna'r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Felly, rwy'n gofyn i chi: a fyddech chi'n gallu ystyried y syniad o edrych i mewn i hynny ac o bosibl welliannau i'r Biliau a allai fod yn cael eu cyflwyno? Diolch yn fawr iawn.

Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, ar y pwynt a wnaeth yr Aelod ynghylch y weithred gywilyddus o warafun hawliau democrataidd i bobl, yr hyn sydd wir yn gywilyddus am hyn, yw ei fod wedi'i wreiddio'n llwyr yn hunan ddiddordeb un blaid wleidyddol. Nid yw'n unrhyw beth i wneud â'r hyn yr ydyn ni wedi'i glywed gan y Ceidwadwyr yma yn y Siambr y prynhawn yma. Yn syml, fel sy'n gwbl amlwg o'r ffordd y mae'r Blaid Weriniaethol yn yr Unol Daleithiau wedi defnyddio mesurau atal pleidleiswyr y mae'r cyfan yn ymwneud â'i gwneud hi'n anoddach i bobl nad ydyn nhw efallai'n cefnogi plaid benodol i gael eu lleisiau wedi'u clywed. Ac mae mor dryloyw ag y gall fod, ac mae pobl yn ei ddeall am yr union reswm hwnnw.

Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yr ydw i fy hun, am ddegawdau lawer pan nad yw wedi bod yn ffasiynol yn fy mhlaid fy hun, wedi credu mewn cynrychiolaeth gyfrannol. Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflwyno Bil i lawr y Senedd sydd o leiaf mor gyfrannol â'r system sydd gennym ni ar hyn o bryd. Rwy'n cofio trafodaeth ar draws y llawr hwn gydag arweinydd blaenorol Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, pan wnaethom ni drafod y brif ddyletswydd ar bleidiau blaengar i ddangos y gallwch chi wneud cynnydd. Nid yw hynny bob amser yn golygu eich bod chi'n gallu cael yr ateb y gallai fod well gennych chi'n unigol yn ddelfrydol. Mae'n rhaid i chi allu dod â chynghrair at ei gilydd o amgylch gosodiad sy'n eich symud i'r cyfeiriad y byddech chi eisiau mynd iddo. Dyna fydd y ddadl y byddwn ni'n ei chael pan fydd Bil diwygio’r Senedd yn gwneud ei ffordd i lawr y Siambr, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddadl honno a'i chyfranogiad ynddi.

Rhaglen Diabetes Math 1 SEREN

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lwyddiant y rhaglen diabetes math 1 SEREN a ddatblygwyd yng Nghymru? OQ59476

Diolch i Joel James am y cwestiwn hwnnw, Llywydd. SEREN yw rhaglen addysgol GIG Cymru gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes math 1. Mae'r cydweithrediad Cymru gyfan hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda'r rhaglen yn cyflawni achrediad swyddogol ac yn ennill gwobr ledled y DU am rymuso pobl â diabetes.

14:20

Diolch. Rwy'n credu y bydd pawb yma yn cytuno bod rhaglen addysgol SEREN yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran helpu i gefnogi plant â diabetes math 1 a'u teuluoedd wrth symud o addysg gynradd i addysg uwchradd, ac mae'n stori lwyddiant wych i'r GIG yng Nghymru. Mae manteision y rhaglen hon wir yn anhygoel. Dangoswyd bod addysg strwythuredig ar y lefel hon yn lleihau lefelau HbA1c 1 y cant ar gyfartaledd, a fyddai, pe bai'r rhaglen yn rhedeg am 25 mlynedd, yn trosi'n arbediad amcangyfrifedig anhygoel o £60 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru, oherwydd y gostyngiad yng nghostau cyflyrau cysylltiedig. Mae cost cynnal y rhaglen hon yn cyfateb i £5.50 y mis yn unig ar gyfer pob plentyn sy'n dioddef o ddiabetes math 1, a gyda llai na 1,500 o blant yn dioddef yng Nghymru, byddai cyfanswm y gost yn llai na £100,000 y flwyddyn. Ond, yn drasig, y sefyllfa nawr yng Nghymru yw bod arian ar gyfer y rhaglen hon wedi dod i ben tua deufis yn ôl, sy'n golygu na fydd llawer o blant sy'n mynd o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd eleni yn derbyn y rhaglen addysg yma nawr. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod atal ariannu'r rhaglen hon, sydd wedi cael ei chydnabod yn rhyngwladol, sydd wedi ei mabwysiadu gan sawl gwlad ledled y byd ac mai dyma'r unig un o'i fath i gael ei chyflwyno yn yr iaith Gymraeg, nid yn unig yn anystyriol, ond y dylai gael ei hariannu gan GIG Cymru? Ac a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod cyllid parhaol i'r rhaglen addysgol hon yn cael ei rhoi ar waith? Diolch.

Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, diolch i Joel James am dynnu sylw at lwyddiant y rhaglen. Os gallaf i esbonio'r sefyllfa bresennol, rwy'n credu y bydd e'n gweld nad oes angen iddo fod mor besimistaidd am ei dyfodol ag y gallai fod wedi awgrymu. Roedd hon, yn wir, yn rhaglen genedlaethol wedi'i hariannu drwy gynllun cyflawni ar gyfer diabetes i Gymru. Roedd y cynllun cyflawni bob amser wedi'i gyfyngu o ran amser, ac mae ei gyfrifoldebau nawr yn cael eu cymryd gan rwydwaith clinigol cenedlaethol newydd sy'n gweithredu o fewn Gweithrediaeth newydd y GIG. Gofynnwyd i Weithrediaeth y GIG honno edrych ar y ffordd orau o gynnal y rhaglen a'r gwaith rhagorol y mae wedi'i wneud, gan gynnwys cadw ei deunyddiau'n gyfredol, a bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad llafar ar ddyfodol gwasanaethau diabetes a'r trefniadau newydd hyn o flaen y Senedd ym mis Mehefin.

Cynllun Arbed

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y problemau yn Arfon sydd wedi deillio o'r cynllun Arbed? OQ59492

Diolch i Siân Gwenllian. Llywydd, mae cyngor annibynnol sydd wedi cael ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru wedi cadarnhau aflwyddiant y system sydd wedi ei osod mewn peth eiddo yn Arfon, ac wedi nodi rhai achosion o waith gwael. Mae swyddogion wedi cael trafodaethau gyda chontractwyr, ac fe fydd y Gweinidog yn gwneud penderfyniad ar y camau nesaf yn fuan.

Mae'ch Llywodraeth chi'n parhau i wrthod darparu cynllun ar gyfer y rhai yn Arfon sydd ddim yn gallu gwneud hawliad i gontractwr na gwarantwr, ac mae hyn er gwaethaf y ffaith bod eu cartrefi nhw wedi cael eu gadael mewn gwaeth cyflwr ar ôl cymryd rhan yng nghynllun Arbed y Llywodraeth nag yr oedden nhw gynt. Rydyn ni hefyd yn dal i aros am ddiweddariad am yr achosion sy'n ymwneud â dau gwmni sy'n dal i fasnachu. Mae ymateb y Llywodraeth hyd yma wedi bod yn siomedig iawn. Hyd yn oed pan fo'r contractwr yn hysbys ac yn dal i fasnachu a phreswylwyr wedi dilyn y broses mae Llywodraeth Cymru wedi'i hawgrymu, mae yna bobl yn dal i aros i'w problemau gael sylw. Dwi'n deall beth rydych chi newydd ei ddweud rŵan ynglŷn â'r Gweinidog yn mynd i fod yn gwneud penderfyniad am hyn, ond mae'r Llywodraeth wedi llusgo’i thraed ar hyn. Pam mae o’n cymryd mor hir i gyrraedd at yr atebion, sydd yn rai hollol amlwg?

Wel, Llywydd, gallaf i ddweud wrth Siân Gwenllian ces i gyfle ddoe i drafod y mater hwn gyda'r Gweinidog, a dwi'n gwybod bod y Gweinidog am ddod o hyd i ddatrysiad i'r problemau. Mae yna gontractwyr, fel mae Siân Gwenllian wedi'i ddweud, ar lawr gwlad sy'n gyfrifol am ansawdd y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau. Mae'n wir ein bod ni'n treial dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol, ond, ar ôl y sgwrs ddoe, dwi'n gwybod bod y Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion ddod o hyd i ddatrysiad fyddai'n gallu dod â’r anawsterau a brofwyd gan drigolion sydd wedi cael eu heffeithio i ben.

14:25
Elusennau Cymunedol

7. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi elusennau bach, cymunedol yng ngorllewin Cymru? OQ59468

Diolch i Paul Davies, Llywydd. Mae ein grant cymorth trydydd sector yn darparu cyllid craidd i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sir ledled Cymru i ddarparu seilwaith ar gyfer elusennau bach yn y gymuned. Yn 2023-24, rydyn ni'n darparu grant sylfaenol o £6.98 miliwn, sef cynnydd o 10 y cant ar lefelau cyn y pandemig.

Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Nawr, yn ddiweddar, gwnes i ymweld â Megan's Starr Foundation yn Aberdaugleddau, yn fy etholaeth i, a gafodd ei sefydlu gan Nicola Harteveld er cof am ei merch 14 oed, Megan Evans. Nawr, mae Megan's Starr Foundation yn cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl a llesiant, a diolch i arian y Loteri Genedlaethol, mae wedi buddsoddi mewn fan goffi ac ysgytlaeth symudol yn ddiweddar i ymgysylltu â phobl ifanc yn y gymuned. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Nicola Harteveld am sefydlu'r elusen gymunedol hon, ac, o ystyried pwysigrwydd ei gwaith, pa gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i elusennau fel Megan's Starr Foundation i'w helpu nhw i ehangu i gefnogi cymaint o bobl ifanc â phosibl?

Wel, Llywydd, yn sicr rwy'n ymuno â Paul Davies i longyfarch pawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â sefydlu Megan's Starr Foundation, ac rwy'n eu llongyfarch oherwydd eu bod wedi cael bron i £100,000 gan gronfa gymunedol y Loteri Genedlaethol. Rwy'n siŵr y bydd bod â fan goffi symudol yn caniatáu iddyn nhw fynd â'u gwasanaethau i amrywiaeth ehangach o gymunedau yn y rhan honno o'r gorllewin.

Yn achos elusennau bach, elusennau cymunedol, Llywydd, rhoddodd Llywodraeth Cymru £1 miliwn at y gronfa costau byw fis diwethaf, y mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn ei chynnal. Un o'r rhesymau dros wneud hynny yw cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru, er bod sefydliadau trydydd sector mawr a'r rhai ag adnoddau cymharol dda yn gallu ysgogi ceisiadau llwyddiannus ar gyfer grant cefnogi'r trydydd sector i Gymru neu'r rhaglen cyfleusterau cymunedol, roedd angen rhywbeth a fyddai'n cynnig symiau llai o arian i sefydliadau nad ydyn nhw yn yr un rhan o'r sbectrwm—yr elusennau bach yn y gymuned, fel y dywedodd Paul Davies yn ei gwestiwn gwreiddiol. Felly, o'r £1 miliwn hwnnw, bydd Sefydliad Cymunedol Cymru yn gallu cynnig grantiau o rhwng £2,000 a £5,000 i gefnogi gwaith yr elusennau cymunedol hynny, a phe bai Megan's Starr Foundation yn Aberdaugleddau yn dymuno gwneud cais amdano, yna rwy'n siŵr y bydd eu hanes o lwyddiant hyd yn hyn yn siarad drosto'i hun.

Costau'r Diwrnod Ysgol

8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu ysgolion yng Nghanol Caerdydd i ostwng costau'r diwrnod ysgol? OQ59497

Llywydd, mae ein grant hanfodion ysgol wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o deuluoedd incwm is ledled Cymru, gan helpu i leihau'r pryder sy'n gysylltiedig â phrynu gwisgoedd a chyfarpar ysgol. Mae cyllid o £13.6 miliwn wedi ei ddarparu ar gyfer y grant hwn yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am yr wybodaeth honno. Rwy'n siŵr ei fod yn cael ei groesawu'n fawr gan deuluoedd sy'n cael trafferth cynhesu a bwyta. Mae Ysgol Uwchradd Teilo Sant yr Eglwys yng Nghymru wedi ystyried yn ddwys sut yr ydyn ni'n gwneud gwisgoedd ysgol yn fforddiadwy, ac, ar ôl ymchwilio i'r mater, mae Eglwys Teilo Sant wedi penderfynu prynu gwisgoedd ysgol mewn crynswth er mwyn eu gwerthu am gost i'w disgyblion gan ddileu unrhyw elwa y gallai fod yn digwydd. Mae hynny, wrth gwrs, yn golygu elfen o risg ariannol i'r ysgol, ond un yr oedd llywodraethwyr yn barod i'w chymryd er mwyn cyfiawnder cymdeithasol. Felly, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i atal y bobl yn y canol rhag gwneud elw gormodol ar draul disgyblion yn aml y mae'n rhaid i'w teuluoedd brynu gan unig gyflenwr?

Wel, rwy'n diolch i Jenny Rathbone am hynna, ac yn llongyfarch ysgol Teilo Sant am y penderfyniad y maen nhw wedi'i wneud. Tybed a gaf i wneud y pwynt hwn cyn ateb sylwedd y cwestiwn atodol: fy nghred i yw bod yr ysgolion hynny sy'n gwneud ymdrechion gwirioneddol i wneud yn siŵr bod gwisgoedd ysgol yn cael eu hailgylchu yn ogystal â'u prynu'n newydd yn rhoi eu hunain yn rhan gywir y sbectrwm hwnnw. Gwnes i ymweld ag ysgol yn ddiweddar a chefais i fy nghalonogi'n fawr o glywed bod hyn yn cael ei ysgogi gan fyfyrwyr eu hunain, gan gredu, wrth ailgylchu gwisgoedd ysgol, eu bod yn chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd a heriau mawr eraill ein cyfnod.

Pan fydd angen gwisgoedd newydd—ac, wrth gwrs, y bydd eu hangen nhw—gwnaeth yr ymgynghoriad yr arweiniodd y Gweinidog ef yn ddiweddar ddarganfod bod 90 y cant o'r holl ymatebwyr yn cytuno y dylai ysgolion osgoi cytundebau un cyflenwr. Ac, o ganlyniad i hynny, mae'r canllawiau statudol—ac maen nhw'n ganllawiau statudol yr ydyn ni'n eu darparu i ysgolion—wedi eu diwygio i ddweud y dylai osgoi contractau cyfyngol, un cyflenwr; pan fo nhw yn eu lle, rhaid iddyn nhw fod yn destun cystadlaethau tendro rheolaidd; a bod yn rhaid cynnal y cystadlaethau hynny o leiaf bob pum mlynedd, fel y gall mwy nag un cyflenwr gystadlu am y contract. A dyna un o'r ffyrdd y gallwn ni sicrhau na fydd unig gyflenwyr yn gwneud elw gormodol yn y system sydd gennym ni yma yng Nghymru. 

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. A dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar y cynllun darparu ar gyfer 'Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio'. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru, yn enwedig o ran gwaith cynnal a chadw asedau cefnffyrdd heb ei drefnu? Felly mae dwy bont yn ardal Abergele yn fy etholaeth i, sy'n croesi'r A55. Ar hyn o bryd mae gan y ddwy ohonyn nhw reoliadau traffig dros dro yn eu lle, ac mae ganddyn nhw oleuadau traffig ar waith. Mae un set wedi bod yno ers 13 o flynyddoedd, sy'n cyfyngu'r defnydd o'r bont honno i un lôn ar y tro yn unig, ac mae'r llall wedi bod yno ers tro hefyd. Yn ystod y mesurau dros dro hynny sydd ar waith, mae dros £230,000 o arian trethdalwyr wedi'i wario. Rwy'n gwerthfawrogi bod angen gwneud gwaith ar y pontydd hynny er mwyn eu gwneud yn ddiogel i gerbydau modur basio, ond hoffwn i weld y gwaith hwnnw'n cael ei wneud yn gyflym, oherwydd yr anghyfleustra y mae modurwyr yn ei wynebu yn fy etholaeth i o ganlyniad i'r ddwy broblem hyn. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ar sut mae gwaith cynnal a chadw heb ei drefnu yn cael sylw yn y rhwydwaith cefnffyrdd, er mwyn i ni allu symud hyn ymlaen, oherwydd nid wyf yn credu y bydd trethdalwyr yn gwerthfawrogi bod tua £250,000 yn fuddsoddiad da iawn, o ystyried mai dim ond mesurau dros dro yw'r rhain hyd yma?

Diolch. Wel, fy nealltwriaeth i yw bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ateb hyn mewn cwestiwn ysgrifenedig. Nid wyf i'n siŵr os chi oedd dan sylw, ond gwnaf i'n siŵr bod gennych chi'r wybodaeth honno.

Trefnydd yn ddiweddar mae Rishi Sunak wedi dweud nad dyma'r amser i gael mwy o ddatganoli. Hoffwn i ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn ymateb i hynny, oherwydd mae'n debyg nad dyma'r amser, pan fo argyfwng ynni yn ein traflyncu, a gallai Cymru gael mwy o bwerau dros adnoddau naturiol ac Ystad y Goron; pan fo biliynau yn cael eu gwrthod i Gymru drwy'r iawndal y dylem ni fod yn ei gael oherwydd HS2 a Northern Powerhouse Rail, sy'n cael eu galw'n sarhaus yn brosiectau 'Cymru a Lloegr'; pan allai ein dŵr gael ei ddargyfeirio i Loegr unwaith eto, oherwydd mae'n rhatach gwneud hynny na thrwsio pibellau sy'n gollwng. Mae'n debyg nad nawr yw'r amser i roi mwy o bwerau i Gymru, oherwydd ei fod e'n credu bod San Steffan yn gwneud yn iawn gyda nhw.

Felly, a all y Llywodraeth wneud datganiad, os gwelwch yn dda, wrth ymateb i'r haerllugrwydd hwn y gwnaeth Rishi Sunak ei ddangos, sydd, fel pob Tori yn San Steffan, yn ymddangos mor daer i fygu potensial Cymru, a'n twf anochel ni fel cenedl? Oherwydd fel mae'r hen air yn ei ddweud, 'Ni fu erioed un genedl eto a wnaeth reoli un arall yn dda.'

Diolch. Nid ydw i'n credu y byddwn ni'n gwneud datganiad llafar mewn ymateb i rywbeth y mae Prif Weinidog y DU wedi'i ddweud, ond yr hyn rwy'n credu sy'n bwysig iawn yw bod Gweinidogion yn parhau i gael sgyrsiau gyda gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Felly, er enghraifft, rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cael trafodaethau ynghylch Ystad y Goron, ac a fyddai datganoli yn gysylltiedig â hynny, yn ogystal ag agweddau eraill, yn amlwg. A gobeithio, ar ôl yr etholiad cyffredinol, y bydd gennym ni Lywodraeth Lafur yn Rhif 10 y gallwn ni weithio gyda hi ynghylch mwy o ddatganoli. 

Gweinidog, heddiw yw Diwrnod Ewrop, pryd yr ydym ni'n gallu nodi pen-blwydd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop a threchu Natsïaeth yn 78 oed. Mae'n ddiwrnod pryd y gallwn ni gofio'r aberth y mae pobl wedi'u gwneud i ddod ag eraill at ei gilydd, ac, wrth gwrs, y prosiect heddwch mwyaf mewn hanes ac yn y byd yw'r Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni'n gwybod y manteision y mae Cymru wedi'u cronni o'r Undeb Ewropeaidd. Gweinidog, a gawn ni sicrhau bod dadl yn cael ei chynnal yma bob blwyddyn ar Ddiwrnod Ewrop i nodi Diwrnod Ewrop ac i sicrhau ein bod ni'n parhau i ddatblygu ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd?

Ac a fydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi gwybodaeth yn rheolaidd i ddangos trychineb Brexit a'r niwed sy'n cael ei wneud i bobl Cymru, cymuned Cymru, cyllid Cymru, economi Cymru a chyfleoedd pobl Cymru, i sicrhau bod pobl ar draws Cymru gyfan yn gwybod am y celwyddau a gafodd eu dweud wrthyn nhw rai blynyddoedd yn ôl a'u bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth y gallan nhw ddibynnu arni er mwyn gwneud penderfyniadau am ein dyfodol pan fo angen? Felly, mae'n bwysig cael dadl i nodi Diwrnod Ewrop a sicrhau bod pobl yn cael gwybod am y niwed mae Brexit yn ei wneud i'r wlad hon.

14:35

Diolch. Wel, fel y mae'r Aelod yn ei ddweud, yn wir, heddiw yw Diwrnod Ewrop, felly nid ydw i'n credu ein bod ni'n gallu cael datganiad gan y Llywodraeth heddiw, ond yn sicr, rwy'n derbyn eich pwynt chi am gyhoeddi gwybodaeth am y drychineb sef yr hyn yw Brexit i'n gwlad ni. Rydyn ni'n ei weld mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Fel y dywedwch chi, caiff ei gynnal bob blwyddyn, ac mae'n dathlu heddwch ac undod yn Ewrop. A'r trydariad cyntaf a welais i'r bore 'ma, pan edrychais i ar Twitter, oedd o'r Arlywydd Macron yn dathlu Diwrnod Ewrop. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cofio, ac mae'n bwysig iawn hefyd dangos yr ymrwymiad sydd gan Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu ag Ewrop drwy lawer o sefydliadau Ewropeaidd, drwy ein rhwydweithiau a drwy berthnasoedd cenedlaethol a rhanbarthol â blaenoriaeth. Rwy'n credu ei fod yn gyfle da hefyd—ac yn wir fe wnaethoch chi hynny yn eich cwestiwn heddiw i'r Prif Weinidog—i ddweud ein bod ni'n parhau i sefyll i gefnogi pobl Wcráin sy'n gwrthsefyll yn ddewr yr ymosodiad ar eu sofraniaeth, eu hannibyniaeth a'r hawl i hunanbenderfyniaeth.

Mi hoffwn i gael datganiad ar lafar neu yn ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog dros drafnidiaeth i egluro'n union yr amgylchiadau ynglŷn ag argymhellion gafodd eu gwneud dros 30 mlynedd yn ôl i ailosod yr hangers sydd yn dal ffordd pont Menai—pont y Borth—yn eu lle. Rydyn ni'n gwybod bellach fod yna 40 hanger newydd wedi cael eu gosod yn 1991, a bod adroddiad peirianwyr y llynedd wedi tynnu sylw at y ffaith bod argymhelliad wedi ei wneud bryd hynny, yn 1991, i newid yr hangers i gyd dros amser. Dwi eisiau gwybod beth ddigwyddodd i'r argymhelliad hwnnw. Pam na weithredwyd ar hynny? Achos, pe bai hynny wedi digwydd, fyddem ni ddim wedi wynebu'r sefyllfa lle gafodd y bont ei chau yn ddirybudd ym mis Hydref y llynedd.

Mi wnaf ddefnyddio'r cyfle yma i dynnu sylw at y ffaith ein bod ni'n dal angen cryfhau gwytnwch croesiad y Fenai. Mi gaewyd pont Britannia oherwydd damwain yr wythnos diwethaf. Beth welson ni yn croesi pont Menai oedd lorïau hyd at 40 tunnell a ninnau efo uchafswm pwysau o 7.5 tunnell. Mae'n rhaid symud ymlaen i roi cynllun mewn lle i ddeuoli ffordd y Britannia i sicrhau'r gwytnwch hwnnw, ond tra rydyn ni'n parhau i wneud yr achos hwnnw, mae'n rhaid cael atebion am pam ein bod ni wedi wynebu'r sefyllfa argyfyngus yma efo pont y Borth.

Diolch. Wel, roedd yr adroddiad cychwynnol y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn argymell y dylai'r hongwyr gael eu harchwilio, yn hytrach na'u newid yn awtomatig, ac roedd hynny fel rhan o raglen archwilio dreigl. Ac mae'r archwiliadau hynny wedi eu cynnal, ac yna cafodd 40 o'r hongwyr eu newid, fel y cyfeirioch chi atyn nhw, ac nid oedd yr archwiliadau yn argymell newid rhagor o hongwyr ar bont grog Menai. O ran y gwaith presennol, mae peirianwyr wedi cwblhau'r ymchwiliad cychwynnol i brofi'r hongwyr newydd i helpu i lywio cam nesaf y gwaith, ac, wrth gwrs, mae angen archwiliadau rheolaidd o'r gwaith dros dro, tra bod y gwaith newid hongwyr yn cael ei gynllunio. Cafodd yr archwiliad diweddaraf ei gynnal ar 26-28 Ebrill, ac er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd yn ddiogel yn amlwg roedd yn rhaid cau lôn, ond mae'n bwysig bod yr archwiliadau hynny'n digwydd. Rwy'n deall y bydd archwiliadau eraill bob chwe wythnos i wirio'r gwaith dros dro.

14:40

Hoffwn ofyn am gyfle i'r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau ar lawr y Siambr hon mewn cysylltiad â'r goblygiadau i Gymru o gamddefnyddio neu hyd yn oed gam-drin y Ddeddf Trefn Gyhoeddus 2023 newydd a dadleuol. Mae'r Heddlu Metropolitanaidd heddiw wedi mynegi gofid dros arestio chwe unigolyn yn Llundain dros y penwythnos, wedi i adolygiad ganfod nad oedd tystiolaeth bod y bobl dan sylw yn bwriadu defnyddio dyfeisiau clo ar hyd llwybr gorymdaith y coroni. Mae cyn-brif swyddog Heddlu Manceinion Fwyaf, Syr Peter Fahy, wedi dweud bod swyddogion yr heddlu wedi cael eu rhoi yn y sefyllfa anodd o orfod dehongli deddf a basiwyd ar frys, ychydig ddyddiau'n unig cyn y coroni. Ac mae'r AS Ceidwadol a'r cyn-Weinidog Cabinet David Davis wedi disgrifio'r ddeddfwriaeth fel un 'rhy eang' a 'rhy amrwd'. Eto i gyd, mae'r Ysgrifennydd Cartref yn cefnogi'r darn o gyfraith amrwd, brys, gorgyrhaeddol, gormesol, a dyfynnaf y Prif Weinidog Rishi Sunak, sy'n mynnu mai'r gyfraith yw 'y peth iawn i'w wneud', dyfynnaf.

Mae'n anodd iawn gwrthsefyll ymyrraeth wleidyddol mewn plismona o dan y gyfraith ddidostur hon, pan wnaeth dirprwy gadeirydd y Blaid Geidwadol, Lee Anderson, geryddu comisiynydd yr Heddlu Metropolitanaidd yn gyhoeddus ymlaen llaw, gan ddweud,

'Ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bryd i chi adael y tŵr ifori a mynd allan i Whitehall a rhoi trefn ar y bobl hyn?'

Mae'n iasol: 'rhoi trefn ar y bobl hyn'. Gweinidog, bydd gan nifer ohonom atgofion hir am gam-drin pŵer gwladol gan ddefnyddio'r heddlu fel estyniad o ddictad y Llywodraeth mewn gwrthdaro diwydiannol blaenorol o fewn cof.

Ar 27 Ebrill, galwodd Volker Türk, Uwch-gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r Bil Trefn Gyhoeddus hynod ofidus hwn. Y penwythnos hwn, cafodd 64 o bobl eu harestio yn Lloegr o dan y ddeddfwriaeth hon. Felly, a allem ddod o hyd i amser am gyfle, drwoch chi eich hun neu'r Pwyllgor Busnes neu'r Llywydd, i gwestiynu'r Cwnsler Cyffredinol ar oblygiadau i Gymru, fel na fydd, o leiaf hyd yn oed os nad yw'r gyfraith hollbresennol hon yn cael ei gwrthdroi gan Lywodraeth Geidwadol y DU, yn cael ei chamddefnyddio na'i cham-drin yma yng Nghymru a byddwn yn sicrhau bod ein prif gwnstabliaid, ein comisiynwyr yr heddlu yma yng Nghymru yn dehongli'r gyfraith wael hon mewn ffordd fel bod yr hawl sylfaenol i brotestio—rhan hanfodol o'n democratiaeth—yn cael ei hamddiffyn yn gadarn yma yng Nghymru, hyd yn oed os caiff ei thanseilio a’i dymchwel yn Lloegr?

Diolch. Ac mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonom yn hynod bryderus o glywed am arestio protestwyr heddychlon, i bob golwg, yn Llundain cyn coroni'r Brenin dros y penwythnos. Fel y gwnaethoch yn glir iawn, mae gorfodaeth a phlismona yn faterion a gedwir yn ôl, ac mae'r heddlu'n gweithredu'n annibynnol ar y Llywodraeth. Ond, yn amlwg, egwyddor ganolog o'n democratiaeth yw'r hawl i brotestio'n heddychlon. Gwelais Brif Weinidog y DU yn cael ei gyfweld neithiwr ar y newyddion, ac roeddwn i'n meddwl mai'r hyn yr oedd yn ei ddweud amdano oedd bod hwn yn fater gweithredol. Ar hyn o bryd, nid yw'n glir a yw'r broblem gyda'r Ddeddf Trefn Gyhoeddus—fel y dywedwch, a ddaeth i rym yn ddiweddar—neu a yw'r broblem yn fwy gweithredol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall amgylchiadau llawn yr achos, i sicrhau, os oes unrhyw broblemau gyda'r ddeddfwriaeth, eu bod yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael eu hunioni. Ni chawsom unrhyw arestiadau dros benwythnos gŵyl y banc yma yng Nghymru, sy'n galonogol iawn, ac rwy'n meddwl y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn hapus i wneud datganiad llafar i'r Siambr hon.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio Ap y GIG

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 3, sef y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar lansio ap y gwasanaeth iechyd, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Eluned Morgan.

Diolch yn fawr. Heddiw, rwy'n falch o gael rhoi diweddariad ar ap GIG Cymru a sut y bydd yn cyfrannu at drawsnewid y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ar 17 Ebrill, cyhoeddais fod ap GIG Cymru yn cael ei ddarparu i'r cyhoedd fel rhan o gam nesaf ei brofi. Caniataodd hyn i ni gasglu adborth ehangach gan bobl ledled Cymru er mwyn helpu i lunio datblygiad yr ap yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod yr ap ar gael i ddinasyddion Cymru i'w lawrlwytho nawr, gyda nodweddion ychwanegol ar gael mewn ffordd reoledig dros amser. Mae'r ap, sy'n cael ei greu gan wasanaethau digidol cleifion a'r rhaglen gyhoeddus yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn un rhan o gyfres ehangach o weithgareddau trawsnewid digidol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn benderfynol o drawsnewid yn ddigidol y ffordd y mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio.

Mae'r ap a'r wefan sy'n cyd-fynd ag ef yn cynrychioli'r pwynt mynediad unigol, sy'n wynebu'r claf ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol digidol yng Nghymru, a bydd yn llwyfan ar gyfer gwasanaethau digidol y dyfodol. Bydd adborth gan y nifer cynyddol o bobl sy'n defnyddio'r ap yn werthfawr wrth i ni ddatblygu'r ap ymhellach a chynhyrchu gwasanaethau ychwanegol. O'r dechrau, mae pobl wedi bod wrth wraidd datblygu'r ap.

Mae'r dull gweithredu sy'n cael ei fabwysiadu wrth ddatblygu'r ap yn gyson yn fwriadol, yn rheoli disgwyliadau defnyddwyr a rhanddeiliaid wrth i ni ei gyflwyno i bractisau meddygon teulu ac yn integreiddio'r nodweddion y mae cleifion a'r cyhoedd yn dymuno eu cael. Mae meddygon teulu yn cael eu cefnogi'n raddol ar y platfform ac, wrth i bob un o'r meddygfeydd ddod ar-lein, mae degau o filoedd yn fwy o bobl ledled Cymru yn gallu defnyddio'r nodweddion ychwanegol o fewn yr ap. Bu'r dull hwn yn llwyddiannus yn ystod cyfnod profi cynharach pan ddefnyddiodd 700 o bobl fersiwn gynnar o'r ap, gan roi adborth i lunio ei ddatblygiad a dangos tystiolaeth gref o bwysigrwydd dylunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr.

Erbyn heddiw, gall tua 97,000 o gleifion sydd wedi'u cofrestru yn y meddygfeydd ac sydd wedi troi'r ap ymlaen gael mynediad at eu cofnod iechyd cryno, gan roi golwg iddynt ar eu hanes iechyd, archebu presgripsiynau rheolaidd a gweld hen bresgripsiynau gan feddygon teulu, a threfnu, gweld a chanslo apwyntiadau penodol gyda staff practisau. Mae tîm DSPP yn gweithio gyda phractisau ledled Cymru i'w cefnogi er mwyn galluogi'r nodweddion hyn, ond, dros dro, gall y cleifion hynny nad ydynt wedi cofrestru gydag un o'r practisau hynny barhau i chwilio am gyngor meddygol gan wasanaethau ar-lein GIG Cymru 111, a gallant adolygu, diweddaru neu gofrestru ar gyfer rhoi organau a chofrestru i roi gwaed.

Rydym ni eisiau ei gwneud hi'n hawdd i bobl Cymru gael mynediad i wasanaethau yn y ffordd fwyaf cyfleus iddyn nhw. Nid yw'r ap yn disodli unrhyw un o'r ffyrdd presennol y gall pobl gael mynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ar wahân i Fy Iechyd Ar-lein, a fydd yn dod i ben yn fuan. Ac er ei fod wedi dechrau gyda gwasanaethau digidol meddygon teulu, fel symleiddio archebu apwyntiadau, cael mynediad at gofnodion meddygon teulu ac archebu presgripsiwn rheolaidd, bydd yn mynd yn llawer ehangach na gofal sylfaenol yn y dyfodol. Bydd hynny'n cynnwys gwell tryloywder i gleifion sydd ar restr aros, fel y gallant weld am ba hyd y byddai angen iddynt aros fel arfer am eu hymgynghoriad neu lawdriniaeth benodol yn ardal eu bwrdd iechyd, a rhoi gwybodaeth iddynt am sut i reoli eu cyflwr orau. Gall integreiddio gwasanaethau mesurau canlyniadau a gofnodwyd gan gleifion i'r ap er mwyn caniatáu i gleifion ymgysylltu â chlinigwyr gofal eilaidd cyn ac ar ôl llawdriniaethau sydd wedi'u cynllunio, gan osgoi'r angen am ailadrodd ymweliadau dilynol i'r ysbyty ar gyfer archwiliadau gan sicrhau bod problemau'n cael eu nodi'n gynnar, a hefyd ateb post hybrid i ddigideiddio'r holl lythyrau a gohebiaeth pan fo person eisiau eu derbyn fel neges yn yr ap.

Mae gwaith ar y gweill ym mhob rhan o'r NHS i'w galluogi i ddefnyddio'r ap fel drws ffrynt digidol i wasanaethau iechyd. Rŷn ni'n dechrau trafodaethau gyda chydweithwyr gofal cymdeithasol i weld beth sy'n bosibl o ran ymestyn yr ap fel bod pobl sy'n cael gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gallu elwa ohono hefyd. A byddwn ni'n gofyn am adborth gan y rhai sy'n defnyddio'r ap fel y gallwn ni ddal ati i'w wella. 

Trwy wneud e'n haws i gael gafael ar wasanaethau sy'n cael eu darparu'n ddigidol, rŷn ni'n gallu lleihau'r baich gweinyddol ar ein gwasanaeth iechyd, ac mae hynny yn ei dro yn rhyddhau mwy o amser i weld mwy o gleifion . Ond rŷn ni'n cydnabod nad yw pawb yn gallu nac eisiau defnyddio ein gwasanaethau'n ddigidol. Felly, mae'r tîm sydd tu ôl i'r ap wedi sicrhau eu bod nhw'n gweithio mewn ffordd gynhwysol a hygyrch o'r dechrau un. Mae'r ap yn hwylus ac mae'n gweithio gyda meddalwedd hygyrchedd ffôn sy'n bodoli eisoes. Dwi eisiau diolch i Gymunedau Digidol Cymru, sy'n cefnogi mynediad a chynhwysiant digidol mewn cymunedau ar hyd a lled yr wlad drwy 880 o hybiau digidol sydd ganddyn nhw. Mae'r hybiau hyn yn gwella llythrennedd digidol y cyhoedd, ac nid dim ond ym maes iechyd. Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi cytuno i helpu pobl i deimlo'n hyderus i ddefnyddio ap NHS Cymru.

Mae'r ffaith bod yr ap ar gael yn ehangach yn ddatblygiad cyffrous i ni yng Nghymru, ac, er mwyn sicrhau trawsnewid gwirioneddol, mae angen newidiadau mewn gwasanaethau ac mae angen mabwysiadu llwybrau ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae llawer i'w wneud o hyd i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd y mae’r ap yn eu cynnig, ond rŷn ni’n benderfynol o sicrhau ei fod yn rhoi mynediad digidol i bobl i’r gwasanaethau iechyd a gofal y maen nhw eu hangen, bryd bynnag a lle bynnag y maen nhw eu hangen nhw.

14:50

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwy'n falch iawn fy mod wedi gweld y datganiad hwn ar yr agenda. Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi cyfeirio droeon at ap Cymru ers sbel nawr ac, wrth gwrs, mae'r ap yn cael ei gynnwys ym mwndel technoleg GIG arfaethedig y Ceidwadwyr Cymreig hefyd. Ni allaf yn wir bwysleisio digon pa mor bwysig yw hi fod yr ap yma'n cael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl. Mae pob un ohonom yn berchen ar ffonau clyfar. Rwy'n dweud bod pob un ohonom yn berchen arnynt; mae'r rhan fwyaf ohonom yn berchen arnynt, ac mae ein ffonau clyfar yn rhedeg ein bywydau hefyd. Felly, mae'n debyg, i mi, fy mod wedi fy syfrdanu ei bod wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y pwynt hwn. Gallaf weld y Gweinidog yn cytuno â hynny ychydig, o bosibl. Roeddwn i am ddweud rhywbeth eithaf sylfaenol; nid yw'n sylfaenol, rwy'n gwybod, ond mae'n sylfaenol i ryw raddau. Cafodd llawer o bethau a thechnoleg eu datblygu'n gyflym iawn yn ystod y cyfyngiadau symud. Rwy'n gwerthfawrogi, wrth gwrs, fod y GIG yn enfawr, a'n bod wedi gorfod cysylltu practisau meddygon teulu â byrddau iechyd a chofnodion eraill hefyd. Ar y llaw arall, doedd hyn ddim yn chwyldroadol. Rydym ni y tu ôl i Loegr. Rydym ni y tu ôl i rannau eraill o Ewrop. Wrth gwrs, cyflwynodd Lloegr hyn, bedair blynedd yn ôl. Rydym wedi gwario £50 miliwn o arian y trethdalwyr ac rydym yn y cyfnod profi o hyd. Felly, gwnaeth Llywodraeth y DU lawer mwy o gynnydd yn gynnar na Llywodraeth Cymru wrth gael trefn ar bethau. Ond, mae'n debyg, i mi, dim ond i ddeall—oherwydd bod rhwystredigaethau, pan fydd pobl yn gallu gweld beth sy'n digwydd mewn mannau eraill, ledled y DU a ledled Ewrop—pam digwyddodd hyn? Pam fod Cymru ymhellach y tu ôl i genhedloedd eraill? A wnaeth Llywodraeth Cymru geisio bod yn rhan o ap y DU? Os na wnaeth hi, pam ddim? Ac fel rwy'n deall, mae'n defnyddio'r un cod ag ap NHS England. Felly, pam y mae angen ap ar wahân? Ac a ydym yn gwarantu y bydd y nodweddion yr un fath yn ap Cymru â'r rhai sy'n ap Lloegr? I mi, mae'n debyg mai'r rhwystredigaeth yn deillio o faint o amser y gellid fod wedi'i arbed, ymhlith staff clerigol a meddygon teulu. Byddai amser wedi ei harbed pe bai'r ap hwn ar gael yn gynharach, heb fod angen ateb ymholiadau gan gleifion, a fyddai wedi gallu cael yr wybodaeth yr oedd ei hangen arnynt ar yr ap.

Felly, rhai cwestiynau gennyf i. O ba oedran fydd oedolion neu blant, am wn i, yn gallu dechrau defnyddio'r ap? Ydy hyn yn rhywbeth a gafodd ei ystyried fel rhan o'r treialon? A fydd pob practis meddyg teulu yn cael ei gysylltu â'r ap, fel yn Lloegr? Mae'n debyg mai 'bydd' yw'r ateb, ond pryd mae hynny'n debygol o ddigwydd?

Dywedoch chi fod 97,000 o gleifion yng Nghymru yn gallu archebu presgripsiynau rheolaidd, gweld cofnodion meddygon teulu a threfnu apwyntiadau, ac ati, erbyn hyn. Ond y cwestiwn mawr y bydd pawb eisiau ateb iddo yw: beth am bawb arall yng Nghymru heblaw'r 97,000? Dyna'r cwestiwn mawr. Felly, rhowch rywfaint o syniad i ni, os gallech chi, o linell amser wrth symud ymlaen.

Roeddech chi'n sôn am nodweddion ychwanegol ar gael dros amser. Nawr, dydw i ddim yn disgwyl i chi ddweud, 'Rydym ni'n mynd i wneud hyn erbyn y dyddiad yma' ac yn cwmpasu pob agwedd ar yr hyn y bydd yr ap yn ei wneud yn y dyfodol. Ond allwch chi roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am y pethau sylfaenol? Pryd ydych chi'n meddwl y bydd pawb yng Nghymru yn gallu archebu'r presgripsiwn rheolaidd hwnnw? Pryd fydd pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad i'w cofnodion meddygon teulu? Rhowch ychydig o wybodaeth i ni o ran y llinell amser.

Hefyd, roeddwn yn falch eich bod wedi dweud nad yw pawb eisiau, nac yn gallu, cael mynediad yn ddigidol. Rwy'n meddwl bod gennym fwy o bobl yng Nghymru nad ydynt yn gyfarwydd ag apiau digidol, ac wrth gwrs, mae yna lawer o bobl yng Nghymru nad ydynt yn gallu cael mynediad iddyn nhw oherwydd cysylltedd band eang neu ffonau symudol gwael. Felly, efallai y gallwch ddweud ychydig mwy wrthym am y gefnogaeth y bydd hybiau digidol yn ei darparu, drwy gefnogi pobl i ddefnyddio'r ap pan fydd ar gael.

Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n deall eich rhwystredigaeth. Yr un peth rwyf wedi ei ddysgu yn y swydd hon yw bod popeth yn ymwneud â'r byd digidol yn cymryd mwy o amser na'r hyn a fyddwn i'n gobeithio, ac mae bob amser yn ddrud iawn. Rwy'n credu ei fod yn heriol iawn, yn rhannol oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n anodd iawn dod o hyd i'r bobl sy'n gallu creu'r apiau hyn oherwydd bod pawb ar ôl y technegwyr hyn. Yr hyn a ddywedaf yw, ydy, mae wedi costio £15 miliwn, pan, yn y flwyddyn gyntaf, roedd ap Lloegr wedi costio £76 miliwn ac mae'n costio £13 miliwn y flwyddyn ar ôl hynny. Felly, yr hyn yr ydym yn ei wneud yw, rydym wedi rhoi mwy o bwyslais ar gamau rhagarweiniol y gwaith datblygu, a'r peth allweddol i'w gofio yw bod ein hap ni'n mynd i wneud popeth yn y diwedd. Felly, un platfform ydyw, ac mae hynny'n wahanol iawn i ap Lloegr, lle ceir sawl ap, ac felly rydym wedi creu ap sy'n mynd i fod y drws blaen i gleifion gael mynediad i'r GIG. Ac felly, ymhen amser, nid yn unig y byddwch yn gallu cael eich apwyntiad meddyg teulu, ond bydd yn cysylltu â'r ysbytai a bydd yn cysylltu â'r holl bethau eraill hyn. Felly, mae'n rhaid i chi gael y seilwaith a'r bensaernïaeth, y bensaernïaeth dechnegol, sy'n eithaf cymhleth, o'r cychwyn cyntaf, ac mae hynny, mae'n debyg, yn ddrud iawn. Felly, rwy'n meddwl bod hynny'n bwysig.

O ran pwy fydd yn ei droi ymlaen, yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu, a dyna pam rydym—. Mewn gwirionedd, dydw i ddim yn ymddiheuro am fod mor bell y tu ôl i Loegr, oherwydd, mewn gwirionedd, rydym wedi cael y cyfle i ddysgu o Loegr ac mae gwersi i'w dysgu, ac, i fod yn deg, rydym wedi cydweithredu â Lloegr yn eithaf agos ar hyn ac mae wedi bod yn eithaf defnyddiol i ni, ond, mewn gwirionedd, mae yn ein helpu yn yr ystyr eu bod yn dweud, 'Wel, peidiwch â gwneud hyn' a 'Ni weithiodd hyn.' Ac un o'r pethau a ddigwyddodd yn Lloegr pan lansiodd yr ap oedd fod bron pob un o'r gwasanaethau meddyg teulu newydd wedi diffodd y rhyngweithio â meddygfeydd meddygon teulu. Felly, rydym yn ceisio ei wneud yn araf bach, ei gyflwyno i feddygfeydd meddygon teulu fesul un, gan wneud yn siŵr eu bod yn deall beth sy'n mynd ymlaen, sut mae'n gweithio, magu'r hyder, ac rwyf wedi bod yn falch iawn y bore 'ma o gael siarad â meddyg teulu yng Nglyn Ebwy, Dr Helen Thomas, na allai ganu clodydd yr ap hwn yn ddigon, gan ddweud ei fod yn drawsnewidiol, mae'n mynd i liniaru'r dagfa am 8 o'r gloch y bore, y niferoedd sy'n ffonio'r feddygfa. Felly, mae hi wir yn gweld y potensial, ac wrth gwrs yr hyn yr ydym ni eisiau nawr yw i feddygon teulu eraill godi eu dwylo a dweud, 'Ninnau hefyd; rydym ni am ddefnyddio hwn hefyd.' Felly, rwy'n credu bod cymryd camau bach yn golygu y gallwn fagu'r hyder ac ni fydd gennym y dull hwnnw a welwyd yn Lloegr lle mae wedi cymryd llawer iawn o amser i fagu'r hyder unwaith eto. Hyd yn oed heddiw, dim ond tua 1 y cant o'r boblogaeth sy'n trefnu eu hapwyntiadau drwy'r ap mewn gwirionedd, ar ôl sawl blwyddyn. Felly, mae yna bethau y gallwn ni ddysgu, ac rydym yn falch iawn o ddysgu hynny.

A gofynnoch chi a fydd yn gallu gwneud beth mae ap Lloegr yn ei wneud. Ymhen amser, bydd yn gallu gwneud llawer mwy na beth mae ap Lloegr yn ei wneud, a dyna pam roedd y bensaernïaeth yma o'r dechrau mor allweddol, a gwneud yn siŵr y byddwn yn gallu ei gysylltu ag ysbytai a phethau, y gallwn ei wneud yn GIG Cymru fwy na thebyg yn haws nag y gallan nhw yn Lloegr. Does dim oedran diffiniedig, felly gall pawb ei ddefnyddio. Felly, rwy'n credu bod cyfleoedd go iawn ar gael yma.

Rhai o'r pethau eraill yr ydym yn gobeithio eu gwneud yw sicrhau y gallech chi, er enghraifft, weld gwybodaeth feddygol am ofal a gwneud yn siŵr bod gallu i gysylltu â thrydydd parti o bosibl. Felly, mae nifer enfawr o bethau ar y gweill. O ran y broses ar gyfer y map ffordd, mae pecynnau gwaith yn mynd i gael eu comisiynu pob tri mis fwy neu lai ac yna bydd yn cymryd tua thri mis i gwblhau'r rheini. Felly, bydd rhaglen dreigl nawr wrth symud ymlaen. Yr hyn y bydd yn rhaid i ni ei wneud yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf yw gweithio allan pa ddarnau rydym yn mynd i'w blaenoriaethu.FootnoteLink

14:55

Dwi wir yn ddiolchgar i’r Gweinidog am y datganiad yma heddiw yma. Dwi'n gwybod bod hwn yn faes sydd yn bwysig iddi hi. Mi ddywedodd hi'n fuan iawn ar ôl cael ei phenodi ei bod hi wedi synnu cyn lleied o waith oedd wedi cael ei wneud yn y maes digidol yn y blynyddoedd diwethaf a’i bod hi'n eiddgar i newid hynny, a dwi'n gobeithio bod hwn yn faes y gallaf i weithio efo hi arno fo. Dwi'n gwisgo het arall fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddigidol yma yn y Senedd, ac mae yna archwaeth go iawn, dwi'n meddwl, yma yn y Senedd i’n gweld ni'n gwneud i fyny am dir sydd wedi cael ei golli. Rydym ni wedi bod yn araf braidd yn symud ymlaen ar hyn. Felly, mae hyn yn newyddion da.

Mae llawer o’r cwestiynau wedi cael eu gofyn gan lefarydd y Ceidwadwyr yn barod, nifer ohonyn nhw roeddwn i eisiau mynd ar eu hôl. Un ohonyn nhw sydd ddim wedi cael ei ofyn ydy'r math o farchnata sy'n mynd i fynd ymlaen o gwmpas hwn. Mi oeddwn i'n un wnaeth drio cofrestru yn gynnar iawn. Doedd fy meddygfa i, yn digwydd bod, ddim wedi cael ei chofrestru eto. Felly, mae eisiau atgoffa pobl fel fi i fynd yn ôl a thrio eto. Felly, beth ydy'r gwaith sy'n mynd i gael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i drio gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu tynnu i mewn i ddefnyddio'r platfform yma gymaint â phosib?

Buaswn innau hefyd yn licio, os nad yn cael atebion heddiw, annog y Gweinidog i roi amserlen mor glir ag y gall hi inni mor fuan â phosib ynglŷn â pha bryd y gallwn ni ddisgwyl gweld rhai o'r nodweddion ychwanegol yn cael eu cyflwyno i'r ap. Mae yna elfennau cyffrous iawn i'r hyn sy'n cael ei baratoi. Mi fyddai'n dda gallu gwybod pa fath o amserlen mae'r Gweinidog yn ei rhagweld, er mwyn i ni gael ei dal hi i gyfrif hefyd ar ddelifro hynny.

Yn olaf, o bosib, mae'r Gweinidog yn hollol iawn yn cyfeirio at y rheini fydd ddim eisiau defnyddio'r ap—pobl sydd yn teimlo bod y dechnoleg y tu hwnt iddyn nhw—a dwi'n gobeithio'n arw y bydd Cymunedau Digidol Cymru yn gallu perswadio llawer o'r rheini i ddefnyddio'r dechnoleg yma. Ond, i'r rhai sydd ddim, i ba raddau mae hyn yn mynd i fod yn rhyddhau amser all gael ei fuddsoddi wedyn yn y bobl sydd yn wirioneddol yn ei chael hi'n anodd ymwneud efo technoleg ddigidol yn y ffordd yma?

Felly, dwi'n croesawu hwn. Mae o'n teimlo fel cam pwysig ymlaen. A dwi'n gwthio'r Gweinidog i fynd â'r agenda yn ei blaen mor fuan â phosib ar gyfer pawb—y rheini sy'n gallu defnyddio'r dechnoleg ei hun, a'r rheini o bosib all fanteisio ar y ffaith bod hwn yn rhyddhau amser o fewn y gwasanaeth iechyd.

15:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr, a diolch am eich brwdfrydedd chi, achos dwi'n gwybod bod hwn yn faes rŷn ni'n rhannu brwdfrydedd i symud ymlaen, achos dwi yn meddwl bod angen inni ddal lan. Dwi'n gwario lot o amser ar wthio'r gwasanaeth sifil yn y maes digidol yma, drwy gael cyfarfodydd misol i wneud yn siŵr bod yr agenda yn symud ymlaen yn gyson. Ac mae lot, lot fawr yn mynd ymlaen nawr yn ddigidol. Ond dwi yn meddwl bod hwn yn ddrws ffrynt, so mae'n bwysig ein bod ni'n ei gwneud hi'n iawn.

Jest o ran y marchnata, dwi'n meddwl bod rhaid inni fod yn rili ofalus. Dyna pam mae gwneud un cam ar y tro yn bwysig yn fan hyn. Beth dŷn ni ddim eisiau yw codi gobeithion pobl ac wedyn ffaelu delifro. Dyna pam, i fi, beth sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n cael y GPs i ymwneud â'r ap yma, a'r ffordd orau i wneud hynny yw trwy gael y GPs sy'n ei ddefnyddio fe eisoes i sôn am ba mor dda yw e, fel oedd Dr Helen Thomas yn dweud wrthyf i y bore yna. Nhw sy'n gorfod, mewn ffordd, gwneud y gwaith drosom ni, drwy sicrhau eu bod nhw'n rhannu'r neges yma, ond wrth gwrs mi fyddwn ni yn gwthio'r GPs nawr i geisio ymwneud â hwn, achos mi fydd hi'n eu helpu nhw, ac mae'n bwysig ein bod ni'n gwthio ar hynny.

Jest o ran yr amserlen o'r nodweddion ychwanegol, mae'r rhestr o beth sy'n bosibl yn hir iawn, iawn, felly y cwestiwn i fi nawr yw pa rai rŷn ni'n mynd i roi blaenoriaeth iddyn nhw. Un o'r pethau fydd yn dod ymlaen cyn bo hir, gobeithio, yn yr haf, yw'r e-prescriptions yma a gwneud yn siŵr bod ddim angen i GPs eistedd yno am oriau yn llofnodi. Os ŷn ni'n gwneud hynny ac rŷn ni'n cysylltu hynny gyda'r ap, mi fydd hwnna hefyd yn helpu'r gwaith. Yn arbennig, un o'r pethau dwi'n meddwl fydd yn help aruthrol fan hyn a sydd eisoes yn gweithio'n dda yw'r repeat prescriptions. Felly, mewn amser, dwi jest eisiau bod pobl yn gallu mynd ar yr ap, eu bod nhw hyd yn oed yn cael neges o'r fferyllfa i ddweud, 'Mae eich meddyginiaeth chi yn barod.' Felly, dwi'n meddwl bod yna real gobaith yn y fanno. Beth sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n cael y meddygfeydd yna—. Dyna yw'r cam cyntaf, ac wedyn edrych ar beth yw'r nodweddion. Mae gwaith technegol yn gallu mynd yn ei flaen yn y cefndir yn y cyfamser, wrth gwrs, so bydd yna flaenoriaethu yn digwydd cyn hir.

Jest o ran pobl sydd yn methu ymwneud â thechnoleg, roedd hwn yn gwestiwn gwnes i roi i'r meddyg y bore yma, a gofyn iddi am yr henoed, er enghraifft. Dywedodd hi mai'r henoed oedd rhai o'r rhai sydd yn fwyaf brwdfrydig yn y maes yma. Ambell waith, maen nhw wedi dod i mewn i'r feddygfa ac wedi gofyn am dipyn bach o help i fynd ar yr ap, ond maen nhw'n hapus iawn i'w ddefnyddio fe. Felly, dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn ofalus achos, yn aml, rŷn yn dweud mai hen bobl sy'n mynd i gael trafferthion. Actually, mae lot o hen bobl nawr yn gwario lot o'u hamser nhw ar yr aps yma. Ac fel y dywedais i yn fy agoriad i, beth sy'n bwysig yw bod help yna i bobl sydd angen help yn y maes yma. Ac, wrth gwrs, bydd wastad ffordd i bobl gael access at eu meddygfeydd beth bynnag. Felly, dwi yn meddwl bydd hi'n ddefnyddiol yn y dyfodol, ond cadw pwysau ymlaen a sicrhau ein bod ni'n blaenoriaethu beth sy'n bwysig i'r cyhoedd fydd yn bwysig.

15:05

Ddoe, soniodd un o fy etholwyr wrthyf am yr amgylchiadau gofidus pan gafodd lythyr am apwyntiad ysbyty pwysig bedwar diwrnod ar ôl y dyddiad a gynigiwyd ar gyfer yr apwyntiad. Gobeithio y bydd hyn yn gwneud ein gwasanaethau yn llawer mwy effeithlon wrth osgoi amgylchiadau mor ofidus, sy'n amlwg yn arwain at 'heb fynychu', ond hefyd fel y gallwn weld mwy o bobl.

Hoffwn fynd i'r afael â'r hyn rydych yn sôn amdano yn fras. Mae lleihau'r baich gweinyddol yn rhyddhau mwy o amser i fwy o gleifion, ond nid pawb sy'n gallu nac eisiau cael mynediad at wasanaethau yn ddigidol. Mae pobl hŷn gwell eu byd yn gallu fforddio gliniadur, ond mae ceisio defnyddio'r system drwy ffôn yn llawer anoddach oherwydd bod y bysellfwrdd mor fach, ac os ydych yn oedrannus neu os ydych ag anhawster iaith, ar hyn o bryd, mae'n anodd iawn, iawn cystadlu â'r prysurdeb am 8 o'r gloch y bore i gael apwyntiad meddyg teulu. Felly, tybed a allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd i ni, ar ôl i ni weld y rhan fwyaf o bobl yn fodlon defnyddio system ddigidol, gallwn wedyn neilltuo amser ar gyfer galluogi'r rhai sy'n fwy agored i niwed neu sydd ag anawsterau iaith i sicrhau eu bod yn cael gwasanaeth teg.

Diolch yn fawr, Jenny. Rwy'n deall yn llwyr y gofid y mae'n rhaid bod eich etholwr wedi'i deimlo. Mae'n dal i fod yn dipyn o syndod ein bod ni'n parhau i anfon llythyrau ar bapur yn y GIG heddiw. Felly, nid yw'n mynd i ddigwydd dros nos. Mae hyn yn rhan o'r trawsnewidiad y mae angen iddo ddigwydd. Mae'n dod, ond nid ydym wedi cyrraedd y fan honno eto.

Roeddwn i'n siarad â rhywun neithiwr yr oeddwn yn gwybod ei fod yn un o'r bobl oedd yn rhan o'r cynllun treialu yn ymwneud â'r ap hwn, ac roedd ei lawdriniaeth yn rhan ohono. A dweud y gwir, rwy'n gobeithio ymweld â'r feddygfa honno ddydd Gwener nesaf, i siarad wyneb yn wyneb â'r meddygon teulu, o ran yr hyn sy'n gweithio'n dda, y pethau nad ydyn nhw'n gweithio'n dda. Ond, un o'r pethau a ddywedodd oedd ei fod yn ddioddefwr asthma, ac roedd yn dweud wrthyf sut roedd ei feddygon teulu wedi mynd ati i anfon gwybodaeth ato i roi cyngor iddo ar yr hyn y gallai ei wneud i helpu gyda'i asthma. A dweud y gwir, roedd wedi newid y math o bwmp asthma yr oedd yn ei ddefnyddio fel nad oedd yn allyrru nwyon tŷ gwydr a phethau. Felly, roedd e wir, wedi gwirioni'n lân gyda'r ffordd yr oedd ganddo gyfleuster gwthio. Nid oedd yn ymwneud ag ef yn cysylltu â'r feddygfa yn unig – roedd yn ymwneud â'r feddygfa yn cysylltu ag ef. Felly, rwy'n credu y bydd hynny'n nodwedd bwysig.

Roeddech chi'n sôn am y prysurdeb am 8 o'r gloch y bore. Wel, dyna un o'r pethau rydym yn gobeithio y bydd hwn yn ei helpu, yn enwedig o ran apwyntiadau sydd wedi'u cynllunio—felly, nid apwyntiadau brys, ond apwyntiadau wedi'u cynllunio, apwyntiadau rheolaidd. Rwy'n credu y bydd hynny'n rhyddhau'r amser i feddygon teulu wedyn i allu—. Dylai'r holl bethau yna fynd i le gwahanol, bydd y cyfan yn mynd ar-lein, ac yna bydd yr achosion brys yn dod drwodd. Ac, wrth gwrs, ni ddylai fod tagfa am 8 y bore nawr oherwydd ein bod ni wedi newid y contract.

Y peth allweddol yw, drwy gydol y broses hon, fod hwn wedi bod yn ddyluniad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae wedi cael ei ddatblygu'n benodol i fod yn ystwyth ac i fod yn iteraidd, fel y gallwn ddysgu ac fel bod pobl sy'n cael eu herio yn gallu dweud wrthym, 'Dydy hwnna ddim yn gweithio i mi.' Ac rydym wedi ei addasu'n gyson wrth i ni fynd ymlaen. Felly, dydyn ni ddim wedi gwneud hyn yn sydyn—rydym wedi bod yn ei wneud yn raddol iawn, iawn er mwyn sicrhau ein bod yn ei gael yn iawn a'n bod ni'n gallu ei gyflwyno. Rwy'n credu bod hyn, yn wirioneddol, yn gwbl drawsnewidiol, ond nid yw'n mynd i ddigwydd dros nos.

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cymru: Cenedl Noddfa

Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, diweddariad ar Gymru fel cenedl noddfa. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.

15:10

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am gyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin a'n dyletswyddau ehangach o fod yn genedl noddfa yng Nghymru.

Mae Cymru wedi croesawu ychydig o dan 6,900 o Wcreiniaid yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin, sy'n gynnwys mwy na 3,200 yn rhan o'n llwybr uwch-noddwr. Mae'r niferoedd sy'n cyrraedd wedi lleihau, ond nid ydym ni'n sefyll yn ein hunfan. Mae sicrhau llety mwy hirdymor yn allweddol ar gyfer cefnogi'r rhai a gafodd eu dadleoli gan y rhyfel yn Wcráin. Mae hyn yn cynnwys cymysgedd o lety, yn cynnwys lletya, y sector rhentu preifat, a mathau eraill o lety trosiannol o ansawdd da. Gallaf adrodd bod tua 1,700 o bobl sy'n cyrraedd yn y dull uwch-noddwr wedi symud ymlaen i lety tymor hwy erbyn hyn. O'r rhain, mae tua 1,100 wedi ymgartrefu yng Nghymru, sy'n adlewyrchu ein swyddogaeth fel cenedl noddfa.

Bu ein hymateb ni'n bosibl oherwydd ein hymagwedd tîm Cymru, ac rwy'n ddiolchgar i'n partneriaid allweddol am sicrhau bod hynny wedi digwydd. Fe soniodd y Prif Weinidog yn gynharach am beth o'r gwaith rhagorol sydd ar y gweill ym Mlaenau Gwent, er enghraifft, lle mae tîm yr awdurdod lleol wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran diogelu llety tymor hwy i'r rhain yn ei ganolfan groeso. Rwy'n falch y bydd y tîm hwn yn rhan o dasglu cenedlaethol i gefnogi'r symudiadau o lety cychwynnol ledled Cymru, gan gynnig sgiliau a phrofiad gweithredol yn ogystal â gallu ychwanegol i'r awdurdodau lleol eraill. Mae ein hymgyrch ni i gynyddu nifer y bobl sy'n cadw gwesteion o Wcráin yng Nghymru yn mynd rhagddynt. Mae'r randdeiliaid allweddol i gyd, gan gynnwys yr awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector, wedi cael pecyn cymorth i ymgyrchu. Mae'r ymgysylltiad wedi bod yn gadarnhaol hyd yn hyn, ac rwy'n falch ein bod ni eisoes yn gweld cynnydd cyson yn y ceisiadau yn mynegi diddordeb.

Ar 19 Ebrill, roeddwn i'n bresennol mewn cyfarfod teirochrog gyda Felicity Buchan, Gweinidog Tai a Digartrefedd Llywodraeth y DU; Shirley-Anne Somerville, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cabinet Llywodraeth yr Alban; ac Emma Roddick, Gweinidog Cydraddoldeb, Mudo a Ffoaduriaid yr Alban. Fe fuom ni'n trafod cronfa atal digartrefedd Llywodraeth y DU, sy'n ceisio darparu cyllid newydd ledled y DU yn y flwyddyn ariannol 2023-24 i helpu awdurdodau lleol i gefnogi gwesteion o Wcráin gyda symud i lety tymor hwy a lleihau'r perygl o ddigartrefedd. Er y gymeradwyaeth a roddwyd i'r fethodoleg arfaethedig ar gyfer dosrannu'r gronfa o £150 miliwn, dydym ni byth wedi cael eglurhad ffurfiol gan Lywodraeth y DU ynghylch y dyraniad terfynol ar gyfer Cymru a'r amodau cysylltiedig. Rwy'n parhau i bwyso am hwn fel mater o frys.

Fe fuom ni'n trafod cyrsiau dwys Saesneg ar-lein newydd Llywodraeth y DU ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill a'u cynnig cyflogadwyedd, sy'n ceisio gwella sgiliau 10,000 o Wcreiniaid yn yr iaith Saesneg. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cytuno, ynghyd â Llywodraeth yr Alban, i weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU ar brawf o gysyniad prosiect Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill i'w gyflwyno yng Nghymru. Fe fyddwn ni'n gwerthuso llwyddiant y prosiect hwn er mwyn ystyried a ddylid datblygu cynlluniau tebyg yng Nghymru i ystod ehangach o geiswyr noddfa. Rydym ni wedi gwneud y penderfyniad i gyfranogi i'r cynllun byrdymor hwn gan Lywodraeth y DU, ac fe fydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn rhan o'i rheoli er mwyn lleihau unrhyw ddyblygiad neu ddadleoliad posibl yng Nghymru. Fe fydd hyn gyda'r ddealltwriaeth eglur gan Weinidogion y DU bod y cyfrifoldeb am addysg Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill a chyflogadwyedd wedi ei ddatganoli.

Mae ein gwaith ymateb i Wcráin wedi bod yn sylweddol ac mae'n torri tir newydd i ni. Er hynny, mae Llywodraeth y DU yn gweithredu cynlluniau ailsefydlu a gwasgaru eraill, ac rydym ni'n parhau i fod â rhan mewn cynllunio ac ymateb i anghenion y ceiswyr noddfa yr effeithir arnyn nhw. Dros yr wythnosau diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn cau pob llety pontio ar gyfer Affganistan, cau gwestai lloches wrth gefn ac agor safleoedd llety lloches ar raddfa fawr. Ar ben hynny, mae gan y Swyddfa Gartref gynllun ar waith eisoes a fydd bron yn dyblu nifer y ceiswyr lloches a gaiff eu gwasgaru yng Nghymru tra'u bod yn aros am benderfyniad ynglŷn â'u cais am loches. Er bod y systemau hyn yn cael eu harwain gan Lywodraeth y DU, rydym ni'n parhau i fabwysiadu ymagwedd tîm Cymru gyda'n partneriaid ni yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i sicrhau'r dull gorau sy'n bosibl i ni.

O ran Affganistan, fe gwrddais â Gweinidog materion cyn-filwyr y DU, Johnny Mercer, ar 19 Ebrill i drafod cau'r gwestai. Rydym ni'n disgwyl i'r cau ddigwydd ar ddiwedd yr haf. Rydym ni'n gofyn am eglurhad ar fyrder ynglŷn â'r cyllid sydd ar gael i lywodraeth leol i fodloni'r angen am dai o ganlyniad i hynny ac fe fyddwn ni'n gweithio yn agos gyda phob awdurdod lleol i geisio datrysiad a fydd yn addas ledled Cymru. Nid ydym ni'n dymuno gweld unrhyw un mewn gwesty am amser hwy na'r angen, ac mae rhai o'r teuluoedd hyn wedi treulio dros 18 mis yn disgwyl am lety hirdymor erbyn hyn. Ond rydym ni'n pryderu y bydd Llywodraeth y DU yn pennu dyddiad mympwyol ar gyfer cau gwestai i'r rhai a gefnogodd ein lluoedd arfog ni yn Affganistan. Fe wnes i ailadrodd pwynt i Johnny Mercer yr wyf wedi'i wneud i sawl Gweinidog yn y DU mai'r camau mwyaf defnyddiol y gallen nhw eu cymryd fyddai cynyddu cyfraddau'r lwfans tai lleol ac ystyried newidiadau i'r cap ar fudd-daliadau i wneud llety ar rent yn fwy fforddiadwy.

O ran lloches, fe gwrddais i â Gweinidog Mewnfudo'r DU, Robert Jenrick, ar 30 Mawrth. Fe eglurais i wrtho fod Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu defnyddio llongau neu ganolfannau milwrol i letya ceiswyr lloches yng Nghymru. Serch hynny, rydym ni wedi ymrwymo i ddod o hyd i ddatrysiadau yn y farchnad dai heriol iawn sydd gennym ar hyn o bryd. Rydym ni'n awyddus i weld gwasgariad ceiswyr lloches yn cael ei ehangu ledled Cymru, ond mae gennym ni ddyletswydd o ran gofal a sut mae hyn yn cael ei gyflawni. Mae'r heriau yr ydym yn eu gweld o ran llety yn cael eu gwaethygu gan agenda deddfwriaethol gwrth-loches Llywodraeth y DU. Ers i Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 gael Cydsyniad Brenhinol, mae'r amseroedd ar gyfer prosesu ceisiadau lloches wedi arafu yn sylweddol, gan adael llawer yn mynd yn angof yn ein cymunedau. Mae'r Bil Mudo Anghyfreithlon yn gwaethygu hyn eto hyd yn oed trwy gynnwys dyddiad ôl-weithredol o 7 Mawrth, lle bydd bron pob cais yn cael ei ystyried yn annerbyniadwy. Effaith hyn yw y bydd bron pob un sy'n cyrraedd y DU yn ystod y 12 mis diwethaf heb gael ystyriaeth i'w gais gan y Swyddfa Gartref, ac mae pob un o'r unigolion hynny'n byw mewn llety, yn methu â gweithio, yn methu ag ymdrin â'r trawma a welsant, ac yn methu ag integreiddio yn llawn â'u cymunedau.

Fe fydd yr Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi rhoi memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron o ran elfen benodol o'r Bil Mudo Anghyfreithlon. Hynny yw, y cymalau sy'n ymwneud â throsglwyddo plant ar eu pennau eu hunain ar gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Cartref. Yn y bôn, rydym ni o'r farn mai gweithwyr proffesiynol gwaith cymdeithasol yn ein hawdurdodau lleol yw'r arbenigwyr o ran penderfynu'r hyn sydd orau i'r plant hyn, a Senedd Cymru yw'r lle priodol i ddeddfu ar faterion gofal cymdeithasol plant, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi ein hargymhelliad ni o ran atal cydsyniad i Senedd y DU ddeddfu ar y materion hyn.

Dirprwy Lywydd, wrth ddiweddaru'r Senedd, rwy'n gallu adrodd ein bod ni'n diwygio ein strwythurau llywodraethu i sefydlu bwrdd gweinidogol cenedl noddfa mewnol wrth ehangu cwmpas ein tasglu ffoaduriaid presennol, i lunio tasglu cenedl noddfa allanol. Fe fydd ein gwaith mewnol yn cyd-fynd yn llawer nes trwy'r cynlluniau hyn i geisio nodi'r dulliau sy'n atgyfnerthu ei gilydd. Fe fyddwn ni'n parhau i ymgysylltu yn agos â Gweinidogion ac adrannau'r DU i chwilio am gyfleoedd i fynd i'r afael â'r heriau hyn gyda'n gilydd, ond ni fyddwn ni'n petruso rhag gwrthwynebu unrhyw gynlluniau anaddas, os cânt eu datblygu.

Fe hoffwn ni grybwyll y sefyllfa bryderus yn Sudan yn gryno iawn hefyd. Rydym ni'n cydymdeimlo ag aelodau'r gymuned Swdanaidd ac yn awyddus i'w cefnogi. Fel y deallwn ni, mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi diystyru llwybr i ailsefydlu ffoaduriaid, ond, ar ddiwedd 2022, roedd bron i 5,000 o geiswyr lloches Swdanaidd yn cael cymorth yn y DU, gan gynnwys tua 100 yn byw yng Nghymru. Roedd y mwyafrif o geisiadau o Sudan eisoes wedi cael eu derbyn cyn y cyfnod hwn o ymladd, felly rydym ni'n annog Gweinidogion y DU i ychwanegu Sudan at yn wlad wreiddiol ar gyfer y broses fwy syml o loches ar gyfer y bobl hynny yng nghyfundrefn y DU.

Dirprwy Lywydd, heddiw yw Diwrnod Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi dinasyddion yr UE i gael statws preswylydd sefydlog, a bod â chyfle cyfartal. Rydym ni wedi buddsoddi £2.7 miliwn yn ein gwasanaethau cyngor ar bopeth i ddinasyddion yr UE yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym ni'n awyddus i ddinasyddion wybod eu bod nhw'n cael eu croesawu a'u gwerthfawrogi o hyd oherwydd eu cyfraniadau nhw at fywyd yng Nghymru.

Rwyf i am orffen trwy sôn am y noson ysbrydoledig yr oeddwn i'n bresennol ynddi hi pryd y cyflwynwyd Gwobrau Cenedl Noddfa ar 29 Mawrth, ac rwy'n gwybod bod eraill yn y Siambr hon wedi cael y pleser o fod yno hefyd. Diolch i Gyngor Ffoaduriaid Cymru am drefnu digwyddiad mor wych. Mae'r gwobrau yn dangos bod mudo yn llesol i'n cenedl ni ac yn arddangos y croeso cynnes sydd yng Nghymru a'r posibilrwydd o gael aros yn barhaol. Mae hi'n dal i fod yn fraint i ni allu cynnig noddfa yng Nghymru. Diolch yn fawr.

15:15

Wel, fel dywedais i pan oeddwn i'n noddi ac yn cynnal y digwyddiad Noddfa yn y Senedd yn 2016, ers amser maith, rydym ni wedi darparu hafan ddiogel i ddioddefwyr erledigaeth, trais, glanhau ethnig a hil-laddiad o bob cwr o'r byd, a hir y parhaed hynny, oherwydd pe byddai hynny'n mynd yn angof gennym ni, fe fyddem ni wedi colli ein dynoliaeth a'n gwir hunaniaeth.

Fel gyda phopeth, serch hynny, ac fel gwnaethoch chi nodi yn eich datganiad, yn y manylion y ceir y trafferthion. Fel y gofynnais i'r Prif Weinidog yn gynharach, gyda chanolfannau croesawu yn cael eu cau a ffoaduriaid yn dweud eu bod nhw'n wynebu dyfodol ansicr, pa gamau penodol ydych chi wedi eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhybuddion gan y Groes Goch Brydeinig, ym mis Mawrth, bod,

'angen seilwaith gwell i gefnogi Wcreiniaid i ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru'

ac y dylai Llywodraeth Cymru

'weithio gyda Llywodraeth y DU a CLlLC i sefydlu cynlluniau i helpu Wcreiniaid i mewn i dai ar rent preifat drwy dalu'r costau ymlaen llaw a bod yn warantwyr pan fo angen hynny'?

Ac o ystyried eich datganiad o ran bod tua 1,700 o bobl a gyrhaeddodd trwy'r llwybr uwch-noddwr wedi symud ymlaen i lety tymor hwy, faint sydd heb wneud felly, a beth sy'n digwydd iddyn nhw?

Dywedodd y BBC heddiw y bydd trigolion Llaneurgain, sir y Fflint, yn gwrthwynebu cynlluniau i gartrefu 400 o geiswyr lloches gwrywaidd sengl yng ngwesty Northop Hall gynt, sydd ar gam ymgynghoriad cyn gwneud cais. Maen nhw'n dweud bod hwnnw'n gynllun anaddas mewn lle anaddas. Dywedodd cadeirydd cyngor cymuned Llaneurgain:

'Bydd 400 o ddynion sengl yn cynyddu cyfanswm poblogaeth y pentref gan 25 y cant. Ni allaf i gredu na fydd galw pellach ar gyfleusterau cymunedol sydd eisoes dan bwysau.'

Gyda dim ond tri gwasanaeth bws yn y pentref bob dydd, ni fyddai gan bobl unman i fynd. Ac roedd un arall o'r trigolion yn dweud:

'Fe allen nhw fod o'r dref leol, fe allen nhw fod o'r Wyddgrug, does dim ots am hynny.'

Roedd hi'n poeni am yr effaith ar iechyd meddwl cannoedd o ddynion a fyddai'n byw ar bennau ei gilydd, yn methu â gweithio ac mewn ardal lle nad oes, rwy'n dyfynnu, 'unrhyw beth i'w gael yma'.

Pan ysgrifennodd fy nghydweithiwr Sam Rowlands a minnau at y Swyddfa Gartref ynglŷn â hyn, roedd yr ateb gan y Gweinidog Mewnfudo, Robert Jenrick, yn cynnwys y wybodaeth fod y Swyddfa Gartref yn cyfarwyddo darparwyr llety i sicrhau bod yn rhaid i bob safle sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer darpariaeth i geiswyr lloches anghenus fod â chynllunio priodol ar waith cyn symud neb i mewn iddo; y byddai darparwr y cytundeb llety lloches a gwasanaethau cymorth yn ystyried lleoliad y safle o ran y gallu i ddefnyddio gwasanaethau lleol, ac a yw hi'n briodol ceisio gweithredu datrysiad trafnidiaeth. Ac yn olaf, o ran y ddarpariaeth o ofal iechyd, y bydd y Swyddfa Gartref, ar gyfer y rhai sydd ar y safle arfaethedig, yn parhau i drafod y ffordd orau o gefnogi Llywodraeth Cymru ynghylch ei hymrwymiad o fewn y cynllun cenedl noddfa i sicrhau bod ceiswyr lloches yn gallu cael gafael ar wasanaethau iechyd drwy gydol y broses loches.

A phan wnaethom ni ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hyn, roedd eich ateb chi yn cynnwys y wybodaeth eich bod chi wedi cwrdd â Robert Jenrick ar 30 Mawrth ac wedyn arweinwyr awdurdodau lleol drannoeth i drafod llety lloches ac effaith gwasgariad lloches yng Nghymru, ac y byddech chi'n sicrhau y byddai Llywodraeth Cymru yn helpu i hwyluso'r ymgysylltiad ag awdurdodau lleol. Felly, pa ymgysylltu penodol ydych chi wedi'i gael ers hynny o ran y cynigion am lety lloches mewn lleoliadau fel gwesty Northop Hall? Pa lety arall ydych chi'n ei gynnig, a pha gamau, os o gwbl, ydych chi wedi'u cymryd o ran cynigion blaenorol ar gyfer tai modiwlar newydd?

Fe wnaethoch chi gyfeirio at Ddiwrnod Ewrop heddiw, ac at ailsefydlu dinasyddion yr UE. Mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, yn Wcráin heddiw ar ei phumed ymweliad ers i Putin lansio ei ryfel anghyfreithlon ar raddfa lawn. Fel yr UE, ar 8 Mai, roedd Wcráin yn dathlu diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop a'r fuddugoliaeth dros Natsïaeth, tra bod 9 Mai, sef heddiw, erbyn hyn yn Ddydd Ewrop yn Wcráin hefyd. A fyddech chi'n cytuno felly â fy natganiad i yn ystod y dadleuon ynglŷn â Brexit saith mlynedd yn ôl, beth bynnag yr oedd barn pobl am adael yr UE, nad oedd y DU am adael Ewrop, yng ngoleuni'r ffaith bod y rhyfel yn Wcráin wedi dangos sut y gall y DU a'i phartneriaid Ewropeaidd barhau i weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth gadarnhaol?

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o £20 miliwn o gyllid ar gyfer rhoi £1,600 y mis i geiswyr lloches ifanc pan fyddan nhw'n cyrraedd 18 oed, sut ydych yn ymateb i'r etholwr o Fôn a anfonodd e-bost y bydd y gangiau troseddol sy'n rhedeg y busnesau cychod ar y sianel wedi rhybuddio'r mewnfudwyr i ddinistrio eu dogfennau, ac i'r etholwr o sir y Fflint a wnaeth e-bostio, ac rwy'n dyfynnu, ei fod ef a'i wraig o oedran pensiwn ac yn cael llai na £1,100 y mis rhyngddyn nhw mewn budd-daliadau gwladol, a elwir hefyd yn bensiynau—dyna'r cyfan am dalu i mewn i'r system ar hyd eu hoes waith? Diwedd y dyfyniad. Ond yn ogystal â hynny, o ystyried ein bod ni'n siarad am blant yn aml sydd wedi dioddef trawma ac angen teimlo yn ddiogel a chael gofal, pa ddarpariaeth benodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ddiwallu'r anghenion hyn pan fyddan nhw'n dod i Gymru? [Torri ar draws.]

Rwy'n credu fy mod i'n clywed synau. Dyfynnu etholwyr yr wyf i, er enghraifft, o un pen i'r gogledd i'r llall, gyda'u cwestiynau. Eu cwestiynau nhw yr wyf i'n eu gofyn.

Pa asesiad a wnaethoch chi—

15:20

Pa asesiad a wnaethoch chi o niferoedd tebygol y ffoaduriaid o Swdan a ddisgwylir iddyn nhw ddod i Gymru? Ac yn olaf, pa ystyriaeth a wnaethoch chi ei rhoi i'r ddogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr o'r enw 'Love the Stranger', sy'n cynnig safbwynt ar lunio cenedl noddfa yng Nghymru ac yn fyd-eang?

15:25

Diolch, Mark Isherwood. Fe hoffwn ddechrau drwy ddiolch i chi am eich cefnogaeth i'r genedl noddfa, ac rwy'n gallu cofio'r gefnogaeth a roddwyd gennych chi pan lansiais i'r cynllun yn ôl yn 2019. Yr hyn sy'n hanfodol, wrth gwrs, yw rhoi cenedl noddfa ar waith, sy'n croesi meysydd polisi a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru i gyd—ond, i raddau helaeth iawn, mewn partneriaeth â'n hawdurdodau lleol, y GIG, a'r trydydd sector.

Mae'n bwysig ein bod ni'n symud ymlaen nid yn unig o ran croesawu ein gwesteion Wcreinaidd i Gymru—ac, yn wir, o ran y niferoedd a nodais i eisoes heddiw—ein bod ni'n eu croesawu nhw i'n canolfannau croeso llety cychwynnol, ond ein bod ni'n gweithio gyda nhw wedyn, ar sail tîm Cymru, gyda'n hawdurdodau lleol, yn enwedig, a'n trydydd sector, i sicrhau eu bod nhw'n gallu symud ymlaen i lety tymor hwy. Bydd cyfran o hwnnw'n llety cyfalaf trosiannol, sef, wrth gwrs, y llety modiwlar sy'n cael ei ddatblygu ledled Cymru erbyn hyn, gydag awdurdodau lleol yn gwneud ceisiadau am y cyllid hwnnw—y £76 miliwn y soniodd y Prif Weinidog amdano'n gynharach. Ond hefyd, mae hyn yn golygu cydnabod y bydd llawer yn dymuno dychwelyd i Wcráin, ond ar hyn o bryd, gydag ymosodiad Putin a dinistr parhaus cyrch Rwsia ar Wcráin, rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni gefnogi ein gwesteion Wcreinaidd cyhyd ag y maen nhw'n dymuno ac angen bod yma gyda ni. Fe fydd rhai, wrth gwrs, yn aros yng Nghymru, ac mae'r rhain yn gwneud eu rhan o ran addysg a mynediad at addysg—ein gwasanaethau lleol i gyd—ond maen nhw'n gweithio ac yn gwneud cyfraniad enfawr hefyd.

Rwy'n cwrdd yn rheolaidd nid yn unig ag arweinwyr yr awdurdodau lleol, ond y trydydd sector hefyd—gyda'r Groes Goch Brydeinig, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Housing Justice Cymru. Rydym ni'n eu hariannu nhw i'n helpu ni, gyda'r £40 miliwn a ddarparwyd yn y gyllideb eleni. O hwnnw, bydd £2 miliwn yn cael ei roi mewn llety mwy hirdymor. Rydych chi'n gwybod hefyd ein bod ni'n aros am ganlyniad y dyraniad trosiannol o £150 miliwn a wnaethpwyd i'r DU. Mae angen i ni fod â'n cyfran yn y fan hon oddi wrth Lywodraeth y DU, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n rhoi sylwadau gerbron Llywodraeth y DU, Mark Isherwood, i gefnogi Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn cael y cyllid sy'n ddyledus i ni.

Hefyd, fe wn i y byddech chi'n cydnabod bod yr awdurdodau lleol, mewn gwirionedd, mewn sefyllfa anodd iawn, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi lleihau'r tariff i'r dyfodiaid yn y flwyddyn ariannol hon. Mae'n hwnnw benderfyniad cibddall iawn. Fe wyddoch chi fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r taliad 'diolch' i'r gwesteiwyr hyd £500, mewn gwirionedd. Yn anffodus, fe wyddom ni nad yw hynny wedi ei wneud gan Lywodraeth y DU.

Rydym ni'n gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi ein gwesteion Wcreinaidd i symud ymlaen i'r llety tymor hwy fel hynny. Ond rydych chi'n nodi sylwadau heddiw o ran y sefyllfa gyda chynnig Northop Hall. Fe wyddoch chi, Mark, fod materion sy'n ymwneud â lloches a mewnfudo yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Nid ni'n sy'n gyfrifol, yn Llywodraeth Cymru, am gaffael a darparu llety i'r rhai sy'n cael eu gwasgaru i Gymru. Mae hynny'n cynnwys y gwestai a'r llety wrth gefn.

Yn amlwg, nawr, mae'r cynnig ar gam cynllunio cyn gwneud y cais, ac mae'n rhaid i hyn, mewn gwirionedd, fynd drwy'r broses gynllunio. Ond rwy'n ystyried barn Cyngor Ffoaduriaid Cymru, yn arbennig felly, ac fe wnaiff cydweithwyr ac aelodau o gwmpas y Siambr gydnabod y gosodiad bod yn rhaid i geiswyr lloches sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth gael eu trin ag urddas a pharch tra bod eu ceisiadau am loches yn cael eu prosesu.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig mynegi barn heddiw ynglŷn â'r urddas a'r parch yr ydym ni'n teimlo y dylai Llywodraeth y DU eu rhoi i'r bobl yn y sefyllfaoedd enbyd hynny, a dyna pam yr ydym ni'n credu y dylid cael cydnabyddiaeth o nodau cenedl noddfa yma yng Nghymru, a'r dull Tîm Cymru. Ac wrth gwrs, fe wnes i drafod hyn gyda Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ond rwy'n credu, yr hyn sy'n hanfodol bwysig, ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n fy nghefnogi i yn hyn o beth, yw ein bod ni mewn gwirionedd yn gofyn i Lywodraeth y DU gyflymu'r ceisiadau am loches. Mae'r sefyllfa, o ran ceisiadau am loches, sef bod miloedd gennym ni sy'n aros i'w ceisiadau gael eu hystyried. Mae gennym ni—. Mae hyn yn annerbyniol. Mae dros 160,000 o achosion yn aros am benderfyniad, ac mae 109,000 o'r rhain wedi bod yn aros am fwy na chwe mis. Ac rwy'n credu bod diffyg gwneud penderfyniadau gan y Swyddfa Gartref yn adlewyrchu sefyllfa enbyd y system loches. Mae'r Ysgrifennydd Cartref ei hun wedi dweud bod y system loches wedi torri, ond mae'n rhaid herio strategaeth amgylchedd gwrthwynebus Llywodraeth y DU nawr, wrth gwrs. Mae angen llwybrau diogel a chyfreithiol arnom ni i geiswyr lloches allu hawlio lloches o'r tu allan i'r DU, a chydnabod hefyd fod Llywodraeth y DU wedi tynnu'n ôl o gynllun Dubs, a oedd yn un llwybr diogel cyn i'r DU ymadael â'r UE.

Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi, unwaith eto, yn ymuno â ni i alw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â hyn, a chydnabod hefyd, o ran y Bil Mudo Anghyfreithlon—nid yn unig o ran y ffaith nad ydym ni'n rhoi cydsyniad, yn enwedig o ran yr effaith ar blant yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw—ond oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi methu â chadarnhau bod y Bil yn cyd-fynd â'r confensiwn hawliau dynol. Ac mae nifer o sefydliadau rhyngwladol blaenllaw yn pryderu nad ydyw'n cyd-fynd ag ef.

Felly, mae yna lawer o bethau yr wyf i'n gobeithio y byddwch chi'n tynnu sylw Llywodraeth y DU atyn nhw hefyd. Rydym ni'n gyfrifol am y rhai sy'n ceisio cefnogaeth a lloches a noddfa yma yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys y bobl ifanc i gyd sy'n dod yma, llawer ohonyn nhw wedi bod dan ofal ein hawdurdodau lleol ni ac rydym ni wedi cymryd cyfrifoldeb amdanyn nhw; rwy'n falch iawn ein bod ni'n cynnig cyfle hefyd i bob unigolyn ifanc yng Nghymru gymryd rhan yn ein cynllun treialu incwm sylfaenol. 

15:30

Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'n drasig nodi bod Diwrnod Ewrop, sydd i fod i ddathlu heddwch ac undod, yn ddiwrnod ble rydym yn dal i orfod trafod yr hyn y mae rhyfel a gormes yn ei greu—y dinistr a'r boen i fywydau pobl sy'n gorfod ffoi rhag trais ac erledigaeth ar gyfandir Ewrop a thu hwnt. Mae angen cefnogaeth yn ddirfawr ar y bobl hyn, o Wcráin a gwledydd eraill—llwybrau diogel, llety pwrpasol, brawdgarwch a chwaergarwch, nid rhethreg gan wleidyddion sy'n corddi ac yn hybu drwgdeimlad a rhaniadau. Mae Plaid Cymru yn rhoi ar gofnod ein condemniad o honiadau diweddar y Ceidwadwyr yma yng Nghymru, ac yn San Steffan, am geiswyr lloches a ffoaduriaid, a'r modd y mae eu hawliau dynol yn cael eu tramgwyddo gan ddeddfwriaeth. Ac rydym yn cytuno gyda chi, Weinidog, na ddylai'r Senedd gydsynio i'r Bil Mudo Anghyfreithlon anfoesol, annynol, annerbyniol y mae nhw am ei weld. 

Heb fod y grymoedd i sicrhau hynny wedi’u datganoli i Gymru, ydych chi'n cytuno, Weinidog, na fydd ein dyhead i fod yn genedl noddfa yn un gall gael ei wireddu'n llawn? Mae'r gefnogaeth ar gyfer awdurdodau lleol i sicrhau nad yw'r bobl fregus yma yn canfod eu hunain yn ddi-gartref, o du San Steffan, yn dal i fod yn aneglur ac yn annigonol. Ac mae lles y cannoedd o ffoaduriaid o Afghanistan y sonioch chi amdanyn nhw, sy'n wynebu dyfodol ansicr a newid byd disymwth iawn yn sgil cynlluniau Llywodraeth San Steffan i gau y gwestai yma, yn fater o bryder mawr. 

Ond dyw gosod cannoedd o bobl mewn gwesty, fel y cynllun arfaethedig yn sir y Fflint, heb ystyried eu hanghenion na'u hurddas, ddim yn dderbyniol chwaith. Dyw'r cynllun, fel y sonioch chi, yn ôl Cyngor Ffoaduriaid Cymru, ddim yn un addas yn yr achos yma, ac yn creu perygl i iechyd a iechyd meddwl pobl, yn ogystal â rhwystrau i bobl ail-adeiladu eu bywydau a dod yn rhan o gymuned. Beth yw barn Llywodraeth Cymru am hyn? Llywodraeth San Steffan sydd â grym dros hyn, ond, fel sonioch chi, mae gyda chi ddyletswydd gofal o ran lles y bobl sy'n dod i fyw yng Nghymru. Ac a allwch chi amlinellu sut y byddwch chi'n cyflawni'r ddyletswydd yna? Ydy'r Llywodraeth wedi pwyso am ymgysylltu llawn a phriodol gyda'r ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac awdurdodau lleol sy'n rhan o'r cynllun hwn? Rŷch chi'n sôn eich bod wedi'ch ymrwymo fel Llywodraeth i ganfod datrysiadau i'r heriau y mae'r farchnad dai yn eu cyflwyno. Oes modd i chi fanylu'n fwy ar yr hyn sy'n cael ei ystyried?

I droi at y cynllun ESOL, ydy'r cynllun yma yn ymgorffori dwyieithrwydd Cymru? A ydy Llywodraeth Cymru am sicrhau bod dysgu Cymraeg yn rhan o'r cynllun yma? Ac a fydd unrhyw gyllid sy'n dod gyda'r cynllun hwn gan Lywodraeth San Steffan yn cefnogi gwaith y ganolfan dysgu Cymraeg, sy'n darparu rhai cyfleon am ddim i ddysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches?

Ac i droi, yn olaf, at Sudan, mae disgwyl i nifer y ffoaduriaid o'r sefyllfa erchyll yno godi, ond mae Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod estyn llaw i bawb sy'n ceisio ffoi oddi yno, er y gwyddom fod miloedd o bobl ym Mhrydain â chysylltiadau â Sudan—dros 2,000 sy'n byw yng Nghymru wedi'u geni yn Sudan a De Sudan yn ôl y cyfrifiad diwethaf. Felly, pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o effaith y gwrthdaro ar ddinasyddion Cymru sydd efallai â theulu yno, a pha gefnogaeth sy'n cael ei chynnig iddynt? 

I orffen, hoffwn ategu eich llongyfarchiadau i bawb oedd yn ymwneud â Gwobrau Cenedl Noddfa ym mis Mawrth. Cafodd fy nghyd-Aelod Heledd Fychan a minnau'r fraint hefyd o fynychu'r noson a'n hysbrydoli'n llwyr o glywed sut mae rhai o ddinasyddion newydd Cymru yn cyfoethogi ein cymunedau a'n cenedl. 

15:35

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhannu cymaint o ran ein dyheadau, ein nodau, ein hegwyddorion, o ran yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn genedl noddfa. Rwy'n credu bod hynny wedi cael ei gyfleu yn gadarn iawn yn eich cyfraniad a'ch cwestiynau a'ch sylwadau chi heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn canolbwyntio ar Ddiwrnod Ewrop heddiw, oherwydd, fel rydych chi'n dweud, mae hyn yn ymwneud â chydnabod yr hawliau dynol, ein heddwch a'n hundod, y buom ni gymaint yn rhan ohonyn nhw ac rydym ni wedi ceisio cadw hynny hyd yn oed wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Ond yr hyn yr ydym ni wedi ceisio ei wneud, rwy'n credu, yn enwedig gydag ein Cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE, yw croesawu, a rhoi'r cyllid hwnnw i mewn i groesawu'r dinasyddion hynny o'r UE i fod â'r statws sefydlog hwnnw. A dim ond i roi'r ffigyrau diweddaraf, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 111,960 o geisiadau wedi eu gwneud gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru. O'r rhain, mae 61,270 wedi ennill statws preswylydd sefydlog, ac mae 38,940 wedi derbyn statws preswylydd cyn-sefydlog, ac mae tua 2,270 yn aros am benderfyniad o hyd. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod eu cyfraniad nhw. Ein dinasyddion ni ydyn nhw, dinasyddion Cymru, dinasyddion Ewrop, yr ydym ni'n teimlo ein bod ni'n ohono i raddau helaeth iawn. Felly, diolch i chi am y genedl noddfa.

Fe fyddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'n cyfrifoldebau a bwrw ymlaen â nhw, er nad yw mewnfudo yn fater sydd wedi'i ddatganoli. Felly, dros nifer o flynyddoedd, fe ddarparodd awdurdodau lleol Cymru gefnogaeth hanfodol i'r Swyddfa Gartref, gan fod gennym ni, o ran amrywiaeth o lety lloches wrth gefn, lleoliadau i bobl ifanc, gan ddod i'r adwy ar fyr rybudd, ac fe ddylai Llywodraeth y DU gydnabod ei dibyniaeth a'i pherthynas â Chymru sydd â Llywodraeth ddatganoledig ac awdurdodau lleol i gyflawni a chydnabod y gefnogaeth hirsefydlog honno. Ac rydym ni yn cefnogi rheolaeth dda o wasgariad llety lloches o ansawdd da, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr hefyd fod hwnnw'n llety addas. Rydym ni'n cefnogi integreiddio mudwyr o'r diwrnod cyntaf ar ôl cyrraedd Cymru hefyd. Yr hyn a welsom ni yn y gyfundrefn loches dros y blynyddoedd diwethaf yw system anhrefnus, anrhagweladwy sy'n achosi llawer o wastraff o ran ymdrech ac adnoddau. Mae'n hyn wedi arfogi'r adain dde eithafol, ac rwyf i o'r farn mai honno yw'r agwedd waethaf ar hyn. Mae wedi lledaenu gwybodaeth anghywir, mae wedi rhoi ofn ym mywydau a chymunedau pobl wrth i ni geisio diwallu'r holl angen tai wrth geisio bod yn Gymru ofalgar a thosturiol. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth yr ydych chi'n ei rhoi i'r ymagwedd honno.

O ran y cynllun Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill yr ydym ni'n ei ddatblygu gyda Llywodraeth y DU, fe fyddaf i'n adrodd hyn yn ôl o ran materion sy'n ymwneud â chaffael hynny o ran dull dwyieithog a chyfleoedd a fydd gennym ni ar gyfer hynny. A hefyd dim ond dechrau deall yr ydym ni sut y gallwn ni gefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan y gwrthdaro yn Swdan a'r ffoaduriaid hynny o Swdan a'r rhai sy'n byw yma yng Nghymru. Yn sicr, fe fyddaf i'n adrodd yn ôl i'r Senedd ynglŷn â'r datblygiadau hynny.

15:40

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw, Gweinidog; diolch yn fawr i chi amdano. Mae Casnewydd, wrth gwrs, wedi bod yn ddinas sydd wedi gweld mewnfudo sylweddol a gwasgariad ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Yn ddiweddar, gwnaeth cyngor y ddinas gyflwyno cynnig yn datgan ei uchelgeisiau o ran bod yn ddinas noddfa ac yn sôn am y gwahaniaeth cadarnhaol iawn a wnaeth y sefyllfa amlddiwylliannol hon yng Nghasnewydd i'r ardal, gan ei gwneud yn fwy difyr, amrywiol a goddefgar, fel roedd y cynnig yn ei nodi.

Yn rhan o hynny, yng Nghasnewydd, mae Ysgol Gynradd Maendy wedi cael ei henwi yn ysgol noddfa gyntaf Casnewydd. Mae ganddyn nhw dros 40 o ieithoedd yn yr ysgol, Gweinidog. Mae'r ysgol wedi ennill llawer iawn o gydnabyddiaeth haeddiannol o ran pa mor gynhwysol yw hi i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn ogystal â'r dalgylch amlddiwylliannol yn gyffredinol. Mae ganddyn nhw system lle mae'r plant yn cyfieithu negeseuon i rieni, mae ganddyn nhw gyfundrefn o gyfeillion sy'n ddehonglwyr ifanc ar gyfer croesawu disgyblion newydd yn iaith eu haelwydydd, a chyflwyno trefn ddyddiol yr ysgol a llunio adnoddau amlieithog. Mae'r pennaeth, Gweinidog, Joanne Cueto, wedi dweud—

Iawn. Diolch yn fawr iawn i chi, Dirprwy Lywydd.

'Rydym ni'n falch iawn o gael ein cydnabod yn Ysgol Noddfa,'

ac

'rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod croeso i bawb'.

Mae ein hymagwedd ysgol gyfan 

'o gariad, gofal a pherthyn wrth galon ein gwaith.'

Gweinidog, a fyddech chi'n cydnabod yr enghreifftiau hyn yn rhai yr ydym ni'n awyddus i'w gweld ledled Cymru gyfan o ran gwireddu statws Cymru yn genedl noddfa yn ein cymunedau ni i gyd?

Diolch yn fawr, John Griffiths. Efallai y caf i ddod i ymweld ag Ysgol Gynradd Maendy. Rwy'n edrych ymlaen at gael gwahoddiad. Llongyfarchiadau i Gasnewydd hefyd am gyflwyno cynnig i fod yn ddinas noddfa. Mae'n ymuno â 13 o siroedd, dinasoedd, pentrefi, cynghorau tref, cynghorau sir ledled Cymru sy'n ymgeisio am statws dinas neu sir noddfa hefyd, gan gynnwys, rwy'n falch o ddweud, fy sir fy hun ym Mro Morgannwg. Ond rwy'n credu mai'r hyn yr ydych chi'n ei wneud mewn gwirionedd wedi i chi wneud yr ymrwymiad hwnnw, a'r ysgolion, yr addysg—yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a'r hyn y mae Maendy yn ei wneud sy'n enghraifft mor ragorol o'r hyn y gallai ysgol noddfa ei olygu. Fe fydd hynny'n cael dylanwad enfawr ar y plant hynny sy'n tyfu i fyny yn yr ysgol honno, ac rydym ni wedi gweld hynny yn y gymuned, mewn gwaith, ac felly fe all Cymru fod y genedl gynhwysol yr oedd y pennaeth, wrth gwrs, mor falch o'i chydnabod.

Rwyf innau hefyd yn croesawu'r datganiad a wnaethoch chi heddiw, ac rwy'n cefnogi eich dull chi o weithredu yn gyfan gwbl. Hefyd, roedd hi'n anrhydedd mawr i mi fod yn y cinio a oedd yn cael ei gynnal gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru a chwrdd â llawer o bobl yno o sawl gwlad, ac roedd hwnnw'n achlysur ardderchog. Mae'n debyg, dim ond ar y pwnc hwnnw, fe hoffwn ymestyn allan i'r Ceidwadwyr, i Mark Isherwood, dim ond i ddweud: a oes cyfle i chi gwrdd â phobl sydd wedi dod draw ar y cychod hynny? Oherwydd pobl yw'r rhain, mewn gwirionedd, sydd â stori i'w hadrodd. Maen nhw'n dod o wledydd sy'n dal i fod mewn cyflwr o ryfel, felly mae ymagwedd eich Llywodraeth chi, yn sicr yn Llundain, yn eu difrïo yn llwyr ac yn eu condemnio nhw fel pobl sy'n godro'r wladwriaeth, a'u rhoi mewn llety gwael ofnadwy—rydym ni wedi clywed am gychod camlas, rydym ni wedi clywed am—[Torri ar draws.]

Ie, diolch i chi, John. Roeddwn i am atgoffa'r Aelodau i gyd mai cwestiwn i'r Gweinidog ar ei datganiad hi yw hwn, ac efallai y bydd hi'n dymuno rhoi cyd-destun i'r cwestiwn hwnnw, ond mae'n bryd dod at y cwestiwn nawr.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Ond rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig fy mod i'n gwneud y pwyntiau hyn hefyd, fel gwn i y bydd eraill hefyd. Rydym ni'n clywed am gychod camlas, rydym ni'n clywed am leoedd ofnadwy i'n ffoaduriaid ni fynd iddyn nhw, ac rwyf i wedi cwrdd â ffoaduriaid yn y canolbarth a'r gorllewin, ac mae hwnnw'n bryder gwirioneddol ac amlwg sydd ganddyn nhw. Maen nhw'n pryderu ynglŷn â'r llety y bydden nhw'n symud ymlaen iddo, a tybed a wnewch chi roi sicrwydd i ni na fydd unrhyw beth o'r fath i'w weld yma yng Nghymru, lle, mewn gwirionedd, rydym ni'n gweld llety fel hyn yn cael ei ddatblygu yn y DU, ac, mewn gwirionedd, pa gynlluniau hirdymor sydd gan Lywodraeth Cymru hefyd i gefnogi ein ffoaduriaid ni yma yng Nghymru. Fe wyddom ni, er enghraifft, pe byddai'r rhyfel yn Wcráin yn gorffen yfory, na fyddai'r bobl hynny'n gallu mynd yn ôl am gwpl o flynyddoedd, felly mae hi'n bwysig iawn fod gennym ni olwg i'r hirdymor, ac fe hoffwn i glywed sicrwydd na fyddwn ni'n ystyried y math o lety sy'n cael ei gynnig yn Lloegr. Diolch.

15:45

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Wel, mae gen i bob cydymdeimlad gyda'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich sylwadau agoriadol. Rwy'n teimlo, ac fel y dywedwyd, bod Llywodraeth y DU yn gwbl groes i'r bobl a'r poblogaethau yr ydym ni'n eu gwasanaethu o ran yr ymrwymiad a'r cydymdeimlad a welwn ni ymysg ein cenedl noddfa ni yma yng Nghymru, a'r integreiddio yn y dinasoedd a'r trefi a'r pentrefi sy'n ymuno hefyd i fod yn ysgolion a dinasoedd noddfa, gan arddangos beth mae hynny yn ei olygu o ran cyfoeth mewn diwylliant, amrywiaeth, fel gwelsom ni yn y seremoni i wobrwyo ffoaduriaid yng Nghymru.

Ac fe fydd yn rhaid i Lywodraeth y DU dderbyn ei chyfrifoldeb i ystyried ei system loches unwaith eto, ac mae'n rhaid iddi, fel y dywedais i, fynd i'r afael â'r ôl-groniad o achosion ar fyrder, a chydnabod hefyd bod hyn yn gwbl groes i'r confensiwn ffoaduriaid, y mae Llywodraeth y DU wedi ei lofnodi. Ac mae cymaint o bwyntiau eraill y gallem ni eu gwneud, ond rwyf i am ddod yn ôl at eich cwestiwn chi: rydym ni'n arddangos, rwy'n credu, dull tîm Cymru gyda'n hawdurdodau lleol, gyda'n trydydd sector, o ran sut y gallwn ni groesawu ein ffoaduriaid Wcreinaidd, ein ffoaduriaid o Affganistan, a phawb hefyd sy'n dod i fyw yma drwy gynllun gwasgaru'r Swyddfa Gartref. Rydym ni'n eu croesawu nhw ac fe fyddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi nhw.

A dim ond o ran yr ailsefydlu o Affganistan a godwyd yn gynharach, mae'n rhaid i mi ddweud, a rhoi hynny ar y cofnod, bod Cymru wedi croesawu tua 800 o bobl o Affganistan erbyn hyn ac mae gwaith yn parhau i gynyddu'r niferoedd hynny eto. Ac fe wyddom ni, mewn gwirionedd, ac rwy'n falch iawn fod cefnogaeth, yn enwedig o ran yr Affganiaid, y rhai a weithiodd gyda'n lluoedd arfog ni, y polisi adleoli a chymorth i Affganistan, cynllun i ailsefydlu dinasyddion Affganistan, a'r holl waith hefyd a wnaethpwyd gydag ailsefydlu o Syria hefyd.

Ond ynglŷn â'n ffoaduriaid o Wcráin, a gaf i alw unwaith eto ar y Ceidwadwyr Cymreig i bwyso ar Lywodraeth y DU i godi'r lwfansau tai? Rydym ni wedi galw am hynny dro ar ôl tro, ac mewn gwirionedd, fe synhwyrais i rywfaint o gydymdeimlad oddi wrth rai o Weinidogion Llywodraeth y DU—nid wyf i am ddweud pwy oedden nhw—a oedd yn dweud, 'Ie, wel, fe hoffem ninnau weld hynny hefyd, Jane.' Felly, wyddoch chi, mae yna ryw achos cyffredin yma ar draws y Siambr hon, ond gadewch i ni gydnabod hefyd yr hyn y gallwn ni ei gyflawni gyda'n gilydd, a'r hyn a fydd Cymru, ac y mae, ac yn amcanu at fod, yn genedl noddfa.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, fe hoffwn i roi ar y cofnod fy anniddigrwydd i gyda'r camddefnydd a'r gamdriniaeth o'r cynllun treialu incwm sylfaenol a roddwyd at ei gilydd er mwyn y rhai sy'n gadael gofal, a phobl sy'n gadael gofal yw'r rhain, sydd ag angen am noddfa a thosturi ac ymateb, oherwydd nid oes unrhyw ddull arall ar gael iddyn nhw o ran cymorth, mewn rhai achosion. Felly, rwyf i o'r farn bod angen i'r Torïaid edrych arnyn nhw eu hunain, edrych yn y drych, a gweld cymaint o ddrygioni y maen nhw wedi ei wneud.

Ond rwyf i'n cefnogi—a diolch i chi am eich datganiad heddiw—ac yn adleisio popeth a ddywedwyd hyd yn hyn. Mae'n rhaid dweud bod y Llywodraeth Dorïaidd wedi gwneud llanast llwyr o'r gyfundrefn fewnfudo. Ni ellir rhoi'r Bil Mudo Anghyfreithlon ar waith. Ni wnaiff hwnnw glirio'r ôl-groniad o 160,000 o achosion lloches a'r miloedd o bobl nad ydyn nhw'n gallu hawlio lloches ac nad oes modd eu hanfon yn eu holau. I ble'r aiff y bobl hynny? A fydden nhw'n mynd i'r system loches yn y pen draw, neu gael eu dal am gyfnod amhenodol neu eu gadael yn ddiymgeledd mewn gwesty? Nid oes unrhyw atebion yno, ac mae'r cyhoedd ym Mhrydain wedi colli amynedd, ac mae canlyniadau'r etholiadau lleol wedi dangos hynny'n gwbl amlwg. Rydym ni'n bobl gynnes a hael—

Fe wnaf i hynny, diolch. Ac rydym ni'n barod i helpu'r bobl hynny sydd mewn angen, a diolch byth, mae gennym ni Lywodraeth yn y fan hon sy'n cefnogi'r farn honno.

Ond fe hoffwn i ofyn i chi am ddiweddariad, Gweinidog. Fe wnaethoch chi ein diweddaru ym mis Chwefror ynglŷn ag ymateb dyngarol Wcráin, ac fe fuoch chi'n siarad am yr apeliadau a wnaethoch yn Weinidogion Cymru a'r Alban i godi'r lwfans tai lleol, a'r gyfran o'r gronfa £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i Wcráin a fydd yn dod i Gymru. A ydych chi'n gallu rhoi unrhyw ddiweddariadau nawr, oherwydd mae honno'n elfen hanfodol pan fyddwn ni'n sôn am symud pobl ymlaen, o ran eu bod nhw'n gallu fforddio rhenti'r lleoedd y gallen nhw fod yn symud i mewn iddyn nhw?

15:50

Diolch yn fawr, Joyce Watson. Diolch am eich cefnogaeth chi i'r cynllun treialu incwm sylfaenol i'r bobl ifanc hynny i gyd sy'n elwa ar hwnnw—ein pobl ifanc ni yng Nghymru. Ein pobl ifanc ni ydyn nhw i gyd. A hefyd, diolch am gydnabod unwaith eto, fel y gwnes innau, yr angen i'n cenedl noddfa weithio i gefnogi pob un o'r ffoaduriaid hynny sy'n dod, y ceiswyr lloches sy'n dod yma i Gymru. Rydym ni wedi datblygu dewisiadau llety ar gyfer ein ceiswyr noddfa a'r ffoaduriaid sydd yma. Rydym ni wedi gwneud hynny i raddau helaeth gyda llwybr uwch-noddwr Wcráin, ac rydym ni wedi ymgysylltu â'n partneriaid ni i gyd.

Mae hi'n ddiddorol nodi ar y cofnod hefyd ein bod ni wedi agor a rheoli dros 40 o safleoedd llety dros dro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ran cynllun Wcráin, ac fe gafodd hynny ei wneud gyda chydweithrediad pawb sydd wedi ymgysylltu—fe wnaethom ni gydnabod yn gynharach waith y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, yn hynny o beth—a'r buddsoddiad mewn cydlyniant cymunedol ac ymgysylltiad â'r trydydd sector. Ond ni allwn ni symud—.

Mae angen i ni gael cefnogaeth gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n galw ar y Ceidwadwyr Cymreig i ymuno gyda ni hefyd i alw am y lwfansau tai estynedig hynny. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi galw amdanyn nhw, am ei bod hi'n anodd iawn cael mynediad i'r sector rhentu preifat. Rydym ni wedi rhoi arian i mewn i helpu, ac yn wir y £40 miliwn a'r arian a fyddwn ni'n ei gael, pan gawn ni hwnnw, o'r £150 miliwn i helpu gyda'r bondiau, y gwarantwyr, o ran mynediad i'r sector rhentu preifat, ond fe fydd y tai modiwlar a'r £76 miliwn a gaiff ei daenu ledled Cymru yn darparu'r llety hwnnw hefyd, am ein bod ni'n barod i ddod i'r adwy a derbyn ein cyfrifoldebau, ond mae Llywodraeth y DU yn methu â gwneud hynny ar bob lefel.

A hefyd, unwaith eto mae'n rhaid cydnabod eu bod nhw'n meithrin yr ofn hwn a gwleidyddiaeth sy'n apelio ar ragfarnau diarwybod pobl yn ddiddiwedd ynglŷn â 'chychod bychain', sy'n beth gwrthun i mi. Ac mewn gwirionedd, rwy'n credu bod hynny'n sefyll allan wir o ran yr hyn a ddigwyddodd ddydd Iau, pan gymerodd Llafur reolaeth ar gyngor Dover mewn gwirionedd.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar gynllun cyflawni 'Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio'

Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: diweddariad ar gynllun cyflawni 'Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio'. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r diweddariad blynyddol o gynnydd ynghyd â dadansoddiad ystadegol sy'n manylu ar sut yr ydym yn cyflawni'r uchelgais a amlinellir yn y strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio. Ein gweledigaeth ni yw creu Cymru o blaid pobl hŷn lle gall pawb edrych ymlaen at heneiddio ac y caiff oedran ei ddathlu. Mae'r cyfrifiad cenedlaethol wedi cadarnhau bod pobl yn byw i oedran hŷn, a bod Cymru yn gymdeithas sy'n heneiddio. Felly mae hi'n hollbwysig ein bod ni'n cynllunio heddiw ar gyfer dyfodol sy'n ddymunol i bawb ohonom.

Mae'r cyfrifiad a rhagamcanion eraill o ran y boblogaeth yn awgrymu y byddwn ni'n gweld cynnydd sylweddol iawn yn y rhai sydd dros 80 yn ystod y degawdau nesaf ac mae'n rhaid i ni, mewn ffordd gydgynhyrchiol, ddylunio a meithrin y gwasanaethau a fydd yn helpu i hyrwyddo heneiddio sy'n weithgar, hapus a llawn pwrpas. Drwy weithio ar y cyd â'n cydweithwyr ar draws y Llywodraeth, cyflawnwyd llawer ers cyhoeddi'r strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ym mis Hydref 2021. Mae adroddiad y diweddariad blynyddol cyntaf hwn yn nodi cynnydd a wireddwyd yn ôl nifer o gamau traws-bortffolio a geir yng nghynllun cyflawni'r strategaeth.

Ym mis Ebrill 2020, fe gyhoeddais i gyllid o £1.1 miliwn i awdurdodau lleol ledled Cymru ar gyfer cefnogi eu gwaith wrth fod yn oed-gyfeillgar. Gan adeiladu ar hyn, rwy'n falch fod yr arian hwn am barhau yn 2023-24, ac rwy'n dymuno sicrhau y bydd pobl hŷn yn parhau i fod â rhan yn y gwaith o ddylunio a chynllunio eu gwasanaethau lleol.

Bwriad y cyllid hefyd yw helpu'r awdurdodau lleol i weithio tuag at aelodaeth o rwydwaith byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o ddinasoedd a chymunedau oed-gyfeillgar. Caerdydd oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ymuno â'r rhwydwaith ym mis Mawrth 2022. Erbyn hyn, mae sir y Fflint ac Ynys Môn wedi cyflwyno eu ceisiadau nhw hefyd, gyda disgwyl i lawer o rai eraill wneud cais dros y ddwy flynedd nesaf wrth i ni ennill momentwm.

Mae swyddogion o blaid pobl hŷn yr awdurdodau lleol yn gweithio gyda phartneriaid a'r bobl hŷn yn eu cymunedau nhw, i sicrhau bod ymgysylltu yn cael ei hwyluso a bod llais pob unigolyn yn cael ei glywed. Ein bwriad ni yw sicrhau bod lleisiau unigolion sy'n llai hyglyw oherwydd nad ydyn nhw'n cymryd rhan mewn strwythurau mwy ffurfiol yn cael eu cydnabod hefyd.

Yn ogystal â hynny, mae gan bob awdurdod lleol gynghorydd lleol sydd wedi gwirfoddoli i fod yn hyrwyddwr lleol o blaid pobl hŷn, sy'n sicrhau y bydd modd rhoi sylw i faterion lleol sy'n effeithio ar bobl hŷn yn siambr y cyngor. Mae creu Cymru o blaid pobl hŷn yn flaenoriaeth strategol hefyd i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac rydym ni'n parhau i weithio yn agos iawn gyda'n gilydd i gyflawni'r uchelgais hon. Drwy'r gwaith hwn, rydym ni'n cefnogi pobl hŷn, cymunedau a darparwyr gwasanaethau i lunio gyda'n gilydd sut y gall eu cynefinoedd nhw fynd yn fwy oed-gyfeillgar.

Mae timau o bob rhan o Lywodraeth Cymru yn gweithio hefyd gydag aelodau fy fforwm cynghori gweinidogol i ynglŷn â heneiddio, Age Cymru a sefydliadau cenedlaethol pobl hŷn, ar gyfer: mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw; cynyddu'r nifer sy'n derbyn credyd pensiwn; gwella ein cysylltiadau trafnidiaeth; ac addasu ein cartrefi. Rwyf i o'r farn ein bod ni'n symud gyda'n gilydd, i'r cyfeiriad cywir, i fynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol yn ein cymdeithas sy'n heneiddio.

Hefyd, rwy'n awyddus i lunio o'r newydd y ffordd y mae pobl yng Nghymru yn ystyried ac yn teimlo am heneiddio. Nid problem i'w datrys yw pobl hŷn; maen nhw'n drethdalwyr, yn wirfoddolwyr, yn rhoi gofal, ac maen nhw'n rhoi cyfraniad hanfodol i fywyd fel y gwyddom ni amdano heddiw. Drwy ein gwaith i greu dinasoedd a chymunedau oed-gyfeillgar, rwy'n annog pawb i barhau i gyfranogi yn eu cymunedau lleol a gweithio gyda ni i herio'r stereoteipiau oedraniaethol sy'n portreadu pobl hŷn fel rhai sy'n godro cymdeithas.

Fe fydd yr heriau a'r cyfleoedd o ran cymdeithas sy'n heneiddio gyda ni am flynyddoedd lawer, wrth gwrs, ac nid ydym ni ar ein pennau ein hunain yn hyn o beth yn ein cenedl ni. Mae cymdeithasau eraill yn wynebu tueddiadau demograffig o'r fath, ac mae yna lawer y gallwn ni ei rannu gyda'n cymdogion yn y DU, Ewrop a thu hwnt o ran sut y gall pobl hŷn fod â rhan lawn yn ddinasyddion.

Rydym ni i gyd—dinasyddion ifanc, canol oed, hŷn—i wahanol raddau, yn byw mewn byd cymdeithasol rhyng-ddibynnol, sy'n dibynnu ar deulu, ffrindiau, y gymdeithas a'n rhwydweithiau o ddiddordeb i roi ystyr i'n bywydau. Mae'n rhaid i gefnogi a hyrwyddo'r syniad hwnnw fod gofal yn rhyng-ddibynnol dros y cenedlaethau fod yn uchelgais i ni. Mae'n rhaid i ddwyochredd gyfoethog a pharch rhwng y cenedlaethau a'i gilydd fod wrth hanfod ein gwerthoedd ni, y gallwn ni, rwy'n sicr, i gyd ymgasglu o'u cwmpas a hyrwyddo achos heneiddio cadarnhaol gyda'n gilydd.

Felly, rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i'r Senedd, ac yn mawr hyderu y gallaf i ddibynnu ar eich cefnogaeth barhaus, eich syniadau a'ch cyngor, ac unrhyw feirniadaeth adeiladol wrth gwrs, wrth gyflawni yn ôl yr elfennau lluosog yn ein strategaeth ni ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio yng Nghymru. Diolch.

15:55

A gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r datganiad heddiw ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio, y diweddariad blynyddol ar y cynnydd y prynhawn yma? Ac a gaf i ddechrau yn gyntaf drwy amlinellu hynny, pan wnaethoch chi gyflwyno eich strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio nôl ym mis Hydref 2021, ar yr ochr hon i'r meinciau, roedd gennych chi ein cefnogaeth ac mae hynny'n parhau? Rydyn ni'n rhannu'ch gweledigaeth yn llawn i greu Cymru oed-gyfeillgar lle mae pawb yn edrych ymlaen at heneiddio.

Fel y dywedwch yn eich datganiad, Dirprwy Weinidog, nid yw pobl hŷn yn broblem i'w datrys; maen nhw'n drethdalwyr, gwirfoddolwyr, rhoddwyr gofal, ac mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Mae pobl hŷn wedi chwarae rhan hanfodol yn y gymdeithas fel rydyn ni'n ei hadnabod, ac rydyn ni'n dal i weld y cyfraniad pwysig maen nhw'n ei wneud i fywyd heddiw. Fodd bynnag, yn anffodus, Dirprwy Weinidog, mae pobl hŷn yn y rheng flaen mewn llawer o faterion dybryd a welwn ar hyn o bryd heddiw. Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfres o gwestiynau ar y mater hwn y prynhawn yma.

Felly, yn gyntaf, Dirprwy Weinidog, mae i'w groesawu eich bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i gefnogi eu gwaith i fod yn fwy oed-gyfeillgar. Mae gan ein hawdurdodau lleol ran hanfodol i'w chwarae wrth wneud i hyn ddigwydd. Ac yn eich datganiad, Dirprwy Weinidog, fe amlinelloch chi mai Cyngor Caerdydd yw'r unig gyngor ar hyn o bryd sydd wedi ymuno â rhwydwaith byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o ddinasoedd a chymunedau oed-gyfeillgar, gyda chynghorau sir y Fflint a Môn wedi cyflwyno cais i ymuno. Yng ngoleuni hyn, Gweinidog, pa waith ydych chi'n ei wneud gyda'n hawdurdodau lleol i'w hannog nhw i ymuno? A phryd ydych chi'n rhagweld y gwelwn ni fwy o gynghorau yn cyflwyno ceisiadau?

Yn ail, mae i'w groesawu mai bwriad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu cyrraedd. Serch hynny, ac yn anffodus, gwelwn yn aml mai pobl hŷn sy'n fwy agored i dwyll a gwahaniaethu ar sail oedran. Yng ngoleuni hyn, Gweinidog, ac mae'n rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Altaf Hussain wedi'i godi gyda chi, pa ystyriaeth bellach ydych chi wedi ei rhoi i gynnal ymgyrchoedd pellach yn erbyn cam-drin yr henoed, gwahaniaethu ar sail oedran a sgamiau, i helpu i arfogi a rhoi gwybodaeth i'n poblogaeth hŷn?

Yn drydydd, swyddogaeth allweddol o ran sicrhau ein bod yn gwneud y strategaeth hon yn llwyddiant yw swyddogaeth Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a'i thîm. Felly, Gweinidog, pa waith ydych chi'n ei wneud gyda'r comisiynydd pobl hŷn i sicrhau bod y strategaeth hon yn llwyddiant, ynghyd â gweld mwy o hyrwyddwyr oed-gyfeillgar lleol?

Yn olaf, ar ddiwedd eich datganiad, rydych yn dweud eich bod yn croesawu cefnogaeth, syniadau a chyngor parhaus y Senedd, ac, wrth gwrs, beirniadaeth adeiladol wrth gyflwyno'r strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio yng Nghymru. Fel y byddwch yn gwbl ymwybodol, ar yr ochr hon i'r meinciau, rydym wedi galw'n gyson am ymgorffori hawliau pobl hŷn mewn cyfraith. Yng ngoleuni eich datganiad a'r angen clir am sicrhau hawliau pobl hŷn, ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i'r mater hwn? Diolch.

16:00

Diolch yn fawr, Gareth Davies, am y cyfraniad yna, ac unwaith eto, diolch yn fawr am eich cefnogaeth. Rwy'n falch iawn y gallwn ni gytuno i gydweithio ar y polisïau hyn. Rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud sef nad yw pobl hŷn yn broblem, a'u bod yn chwarae rhan hanfodol ac yn gwneud cyfraniad mor bwysig.

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn gwbl hanfodol er mwyn cyflawni'r polisïau hyn, ac fel y dywedoch chi, Cyngor Caerdydd yw'r unig gyngor sydd wedi cwblhau'r broses o ddod yn rhan o'r sefydliad yn llwyr. Es i i lansiad Cyngor Caerdydd wrth iddo o'r diwedd ymuno â'r sefydliad gyda'r comisiynydd pobl hŷn, a gyfrannodd o bell oherwydd ei bod i ffwrdd yn rhywle arall, ac roedd yn ysbrydoledig iawn i gwrdd â'r bobl yno, yn enwedig y bobl hŷn oedd wedi dod eu hunain. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle enfawr. Nid yw'n hawdd dod yn rhan o'r rhwydwaith, oherwydd mae'n rhaid i bob cyngor ddangos ei fod yn cyfrannu at yr wyth parth sydd yno ac yn gorfod rhoi enghreifftiau o'r hyn y maen nhw'n ei wneud i ddangos eu bod yn ystyried pobl hŷn yn eu polisïau trafnidiaeth, eu bod nhw'n gwrando ar bobl hŷn. Felly, nid yw'n beth hawdd i'w wneud.

Mae dau gyngor arall, fel y dywedwch chi, sir y Fflint ac Ynys Môn, wedi gwneud cais a bu eu ceisiadau'n llwyddiannus, ac rydym wir yn disgwyl llawer mwy i ymuno. Rwyf wedi gweithio'n agos iawn gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar hyn, oherwydd ei syniad hi oedd hwn yn wreiddiol ynghylch sut allem ni gyrraedd pawb yng Nghymru, pob awdurdod lleol. Yn ddiweddar iawn fe aethom i ddigwyddiad gyda'n gilydd yn yr ardd fotaneg genedlaethol yn sir Gaerfyrddin, ac rwy'n ei chyfarfod yn rheolaidd i drafod hyn, ond rydym wedi gweithio ar hyn gyda'n gilydd er mwyn ceisio cyrraedd mannau ledled Cymru ac annog cymunedau, trefi a dinasoedd sydd yn fwy oed-gyfeillgar.

Ar y mater o sut rwyf yn annog ac yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol, mae gan bob awdurdod lleol rywun wedi'i neilltuo sy'n gweithio fel arweinydd yn yr awdurdod lleol, ac mae gennym ni hefyd gynghorydd sy'n hyrwyddwr. Rydyn ni'n sefydlu rhwydweithiau ledled Cymru er mwyn i bobl gyfarfod gyda'i gilydd ac i rannu arferion da, y mae gennyf i ddiddordeb mawr ynddo, ac rydw i mewn gwirionedd yn mynd i fod yn bresennol yn eu cyfarfod—rwy'n credu ei fod ym mis Mehefin—pan fyddan nhw i gyd yn dod at ei gilydd a thrafod y materion hyn.

Felly, rwy'n credu ein bod yn gwneud cynnydd, a chredaf ein bod yn gwneud Cymru yn wlad fwy oed-gyfeillgar. Nid oes gennym gynlluniau ar hyn o bryd i ymgorffori hawliau pobl hŷn mewn cyfraith, ond rydym wedi cynnal ymgyrchoedd ar hawliau pobl hŷn, ac rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol ohonyn nhw, ac mae fy ngrŵp cynghori'r gweinidog ar gyfer pobl sy'n heneiddio wedi arloesi rhai dulliau radical iawn o ran beth yw hawliau pobl hŷn. Felly, diolch am eich cefnogaeth.

Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad ar y mater hwn heddiw. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio'n pwysleisio'n briodol y llwybr demograffig penodol yng Nghymru, lle mae gennym yr oedran canolrif hynaf o holl wledydd y DU. Mae hyn yn gofyn am ddull gweithredu wedi'i deilwra ar gyfer cefnogi a gwerthfawrogi ein dinasyddion hŷn.

Hoffwn ganolbwyntio ar agwedd benodol o'r strategaeth heddiw, sef y mesurau i gefnogi gofalwyr di-dâl. Yn seiliedig ar ddata diweddaraf y cyfrifiad, mae tua 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, sy'n cynrychioli dros 10 y cant o'r boblogaeth gyfan. Mae hon yn gyfran uwch o'i chymharu â Lloegr. Oherwydd y wasgfa mewn termau real i gyllid gofal cymdeithasol dros y degawd diwethaf, ni fu gwerth gofal di-dâl erioed yn amlycach yn ein cymdeithas. Mae gwaith ymchwil diweddar gan Carers UK a Phrifysgol Sheffield yn dangos bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru a Lloegr yn cyfrannu £445 miliwn at yr economi bob dydd. Mae hyn gyfystyr â swm anhygoel o £162 biliwn y flwyddyn. Mae hyn yn gynnydd o 29 y cant yng ngwerth gofal di-dâl o'i gymharu â 2011. Dylid rhoi hyn yng nghyd-destun y gostyngiad yng nghyfanswm y gofalwyr yn y sector yn ystod yr un cyfnod, sy'n golygu bod gofalwyr di-dâl yn gorfod gweithio oriau hirach nag erioed o'r blaen. Nid gor-ddweud, felly, yw dweud bod gofalwyr di-dâl yn un o golofnau hanfodol y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac nid yw dibyniaeth arnynt erioed wedi bod yn fwy.

Mae'n werth nodi hefyd bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn fwy tebygol yn ystadegol o fod yn fenywod, yn byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig ac mewn grwpiau oedran hŷn. Ar ben hynny, mae grwpiau oedran hŷn yn darparu'r oriau uchaf o ofal di-dâl yng Nghymru, gyda menywod rhwng 75 a 79 oed a dynion rhwng 85 ac 89 oed yn darparu'r ganran uchaf o 50 awr neu fwy o ofal di-dâl o'i gymharu â grwpiau oedran eraill. Er bod gan strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio uchelgais clodwiw o greu cymdeithas lle gall pawb edrych ymlaen at heneiddio o ran cysur a diogelwch, y gwir amdani yw, ar hyn o bryd, bod nifer uchel iawn o'n dinasyddion hŷn yn gorfod neilltuo oriau hir i ofalu am eu hanwyliaid. Mae hyn yn arbennig o bryderus o ystyried y niwed meddyliol a chorfforol sy'n dod gyda chyfrifoldebau gofalu.

Daeth astudiaeth ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i'r casgliad fod gofalwyr yn profi cyfraddau sylweddol uwch o gyflyrau iechyd tymor hir o gymharu â phobl heb gyfrifoldebau gofalu. Mae hefyd yn nodi bod gofalwyr yn wynebu rhwystrau anghymesur rhag ymgymryd â gweithgarwch corfforol yn rheolaidd. Yn hynny o beth, hoffwn i grybwyll rhai o nodau allweddol cynllun cyflawni 2021 Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr di-dâl. Sut mae'r cynllun yn cyfrif am y ffaith bod y baich mwyaf wrth ddarparu gofal di-dâl yn anochel yn syrthio ar ysgwyddau grwpiau oedran sy'n debygol iawn o fod angen gofal eu hunain? Allech chi hefyd egluro pa fesurau sy'n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo llesiant meddyliol a chorfforol gofalwyr di-dâl? Yn benodol, byddai gennyf ddiddordeb cael gwybod a allech chi ddiweddaru'r Senedd ynghylch y nifer sy'n manteisio ar y cynllun seibiant byr cenedlaethol i ofalwyr. Ac yn olaf, a yw Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu ag awdurdodau lleol i ddarparu cymhellion pellach i ofalwyr di-dâl i helpu i wella eu llesiant meddyliol a chorfforol? Diolch yn fawr.

16:05

Diolch yn fawr am y cyfraniad yna ac am eich cefnogaeth gyffredinol i'r strategaeth. Rwy'n falch iawn eich bod wedi tynnu sylw at swyddogaeth gofalwyr di-dâl a'r ffaith bod nifer o ofalwyr di-dâl yn hŷn eu hunain ac angen cefnogaeth yn fawr iawn. Wrth gwrs, yn ystod y pandemig, roedden ni mor ymwybodol o hyn. Ac mae'n hollol gywir yn y pwyntiau mae'n eu gwneud am y cyfraniad enfawr i'r economi a sut y maen nhw fel glud yn dal popeth at ei gilydd. Ac mae cymaint ohonyn nhw, fel y dywedodd. Ac, wrth gwrs, y peth pwysig i'w ddweud yw eu bod nhw, wrth gwrs, yn gwneud hyn oherwydd eu bod nhw'n caru'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Ac nid yw'r holl ofalwyr di-dâl yr ydw i wedi'u cyfarfod—ac rwy'n eu cyfarfod yn aml iawn—yn cwyno am yr hyn maen nhw'n ei wneud; maen nhw eisiau ei wneud ac mae fyny i ni roi cymaint o gefnogaeth iddyn nhw ag y gallwn ni. Fel y dywedoch chi, nhw yn bileri hanfodol cymdeithas ac yn sicr mae mwy o fenywod na dynion, felly mae'n fater sy'n bwysig iawn i fenywod, ac maen nhw hefyd yn treulio oriau hir yn gofalu.

Rydyn ni wedi cael cyfres o fentrau i geisio mynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu gofalwyr di-dâl. Rydyn ni wedi ceisio helpu'n ariannol, fel rwy'n credu eich bod chi'n gwybod. Y llynedd, fe wnaethom roi £500 i bawb oedd yn derbyn y Lwfans Gofalwyr er mwyn ceisio eu helpu gyda'r pandemig a'r argyfwng costau byw. Ac mae gennym ni gronfa hefyd o £4.5 miliwn, sydd yno, ar gael i unrhyw un sy'n gofalu i ymgeisio amdani, ac rydyn ni wedi gweld miloedd o bobl yn ymgeisio ar gyfer y gronfa honno. Ond y £9 miliwn rydych chi'n cyfeirio ato o ran y cynllun seibiant byr, sy'n cael ei redeg gan y sector gwirfoddol, rydyn ni eisiau i'r cynllun hwnnw ddiwallu anghenion y bobl hynny sy'n gofalu yn uniongyrchol, felly does dim model sefydlog—dyma'r hyn y maen nhw ei eisiau. Rwy'n credu eich bod wedi siarad am anghenion meddyliol a chorfforol pobl, a dyna'r math o bethau y gallwn ni eu cyflawni mewn gwirionedd trwy'r cynllun seibiant byr, oherwydd gallwn drefnu i gefnogi gofalwyr di-dâl i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, sydd bob amser yn hwb mawr, rwy'n credu, i'ch iechyd meddwl, Ac rydym wedi cydweithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol er mwyn i'r gydnabyddiaeth fod yno ar gyfer y gwaith mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud.

Ac wrth gwrs, mae gennym y gronfa integreiddio rhanbarthol, sy'n cynnwys yr awdurdodau lleol a'r cyrff iechyd a sefydliadau pwysig eraill, lle mae pwyslais arbennig ar ofalwyr ac mae'n rhaid gwario canran benodol o'r arian hwnnw ar ofalwyr di-dâl. Bob blwyddyn mae £1 miliwn yn mynd i'r byrddau iechyd i helpu pan fo gofalwyr di-dâl yn derbyn y person y maen nhw'n gofalu amdano adref o'r ysbyty, oherwydd mae llawer o bobl yn dweud eu bod nhw'n teimlo nad oedd y cyfathrebu adeg hynny wastad cystal ag y gallai fod. Felly, mae'r £1 miliwn y flwyddyn yma yn benodol ar gyfer y byrddau iechyd i wneud hynny.

Diolch yn fawr iawn i chi am dynnu sylw at swyddogaeth gofalwyr di-dâl; maen nhw'n gwbl hanfodol yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud.

16:10

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn fawr iawn. Mae gennym ni fyd sy'n heneiddio—ond nid ym mhob man. Yng ngwledydd diwydiannol Ewrop, Gogledd America ac Asia mae gennym boblogaeth o bobl dros 80 a 90 oed sy'n ehangu'n gyflym. Yn Niger, yr oedran canolrif yw 15. Mewn 11 gwlad arall yn Affrica mae o dan 18 oed.

Rwy'n cytuno â'r Gweinidog fod llawer wedi'i gyflawni ers cyhoeddi'r strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ym mis Hydref 2021. Mae creu Cymru sy'n oed-gyfeillgar hefyd yn flaenoriaeth strategol i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn gweithio gyda'r comisiynydd i gyflawni'r uchelgais hwn. Trwy'r gwaith, mae cymunedau pobl hŷn a darparwyr gwasanaethau ar y cyd yn llunio sut y gall y lle y maen nhw'n byw ynddo ddod yn fwy oed-gyfeillgar. Rwy'n croesawu cefnogaeth awdurdodau lleol a phenodiad hyrwyddwyr pobl hŷn.

A gaf i grybwyll unigrwydd? Mae'n broblem fawr i lawer iawn o bobl hŷn, ac fe wnaed hyn yn waeth gan COVID. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud er mwyn cynyddu'r cyfleoedd i bobl hŷn oresgyn eu hunigrwydd? I rai pobl, eu hunig gyswllt yw teledu, radio neu anifail anwes—dyna'r unig beth y maen nhw'n cael cyswllt ag ef. Clywais am bobl nad ydyn nhw'n siarad wyneb yn wyneb â rhywun am ddyddiau. Mae hyn yn broblem ddifrifol. Mae'n effeithio ar iechyd meddwl, ond mae hefyd yn effeithio ar iechyd corfforol.

Diolch i Mike Hedges am y pwyntiau hynod bwysig hynny. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd ar ddechrau ei gyfraniad yn ddiddorol iawn sef y gwahaniaeth enfawr mewn gwledydd o ran yr oedrannau—bod rhai gwledydd Affricanaidd yn arbennig mor ifanc, ac eto mae gan wledydd Ewrop a'n gwlad ni gymaint o bobl erbyn hyn yn eu hwythdegau a'u nawdegau. Yr hyn rydym ni eisiau ei wneud, rwy'n credu, yw sicrhau'n llwyr fod—. Er bod pobl yn byw'n hirach, mae eu bywyd iach yn llawer byrrach, ac mae gan lawer o bobl flynyddoedd o fywyd â llai o iechyd da. Dyna rydym ni wir eisiau ymdrin ag ef, rwy'n credu, sef sicrhau bod bywyd iach pobl, sef pryd mae eu llesiant yn hollbwysig—. Rydym eisiau gwneud y cyfnod hwnnw mor hir ag y gallwn.

Fe gododd y broblem o unigrwydd, ac rwy'n credu bod unigrwydd, fel y dywedodd, yn cyfrannu'n uniongyrchol at iechyd meddwl a phroblemau corfforol. Ac mae'n ddiddorol—os edrychwch chi ar fap o Gymru gyfan, rydych chi'n gweld bod amrywiaeth eithaf mawr mewn disgwyliad oes, sydd, rwy'n credu, yn gysylltiedig â'r pwynt hwnnw y mae'n ei wneud heb os, oherwydd rwy'n credu mai Gwynedd sydd â'r disgwyliad oes uchaf a Thorfaen yr isaf. Rwy'n credu bod bwlch o tua 13 y cant. Mae hynny, rwy'n credu, yn ymwneud â'r problemau meddyliol a chorfforol y mae pobl yn eu dioddef.

O ran ceisio annog pobl i fynd allan, pobl sy'n unig, mae cwymp sylweddol wedi bod yn nifer y bobl sy'n mynd allan i weithgareddau, ac mae gennym yr ystadegau hynny yn y dadansoddiad yr ydym wedi ei wneud. Mae hyn yn destun pryder mawr ac rydym yn gweithio, yn enwedig gyda'r sector gwirfoddol, i geisio annog pobl i fynd allan. Rwy'n credu yr hyn sy'n ddiddorol iawn hefyd yw'r ffaith bod y pàs bws yn hwb i bobl hŷn, ond nawr dydyn nhw ddim yn manteisio'n llawn ar y pàs bws. Felly, eto, mae hynny'n bryder mawr. Ond rydyn ni'n gweld bod swyddogaeth gan y prif swyddogion yn yr awdurdodau lleol a'r hyrwyddwyr yn yr awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod yr holl gyfleusterau sydd ganddyn nhw yn yr awdurdodau lleol yn cael eu defnyddio i geisio annog pobl i fynd allan eto. Ac, wrth gwrs, y comisiynydd pobl hŷn—rydyn ni'n gweithio law yn llaw â hi.

16:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, un peth yr ydw i'n credu oedd ar goll o'r datganiad mewn gwirionedd oedd diweddariad ar y gwaith rydych chi'n ei wneud gyda'r Dirprwy Weinidog chwaraeon ynghylch cadw pobl hŷn yn llawer mwy egnïol. Rydym yn ymwybodol iawn, os yw pobl hŷn yn cadw'n fwy egnïol, fod hynny'n fodd iddyn nhw fyw yn iachach, eu cadw allan o'r ysbyty ac mewn gwirionedd yn helpu i'r bobl hynny wella hefyd, os oes rhaid iddyn nhw fynd i'r ysbyty am unrhyw fath o driniaeth. Felly, os oes unrhyw ddiweddariad y gallwch chi ei roi ynghylch unrhyw gynlluniau neu fentrau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl hŷn i gadw'n heini, byddwn yn ddiolchgar iawn o gael gwybod beth maen nhw'n ei wneud. Diolch.  

Diolch yn fawr, James Evans, am y sylw pwysig yna. Ydym, rydyn ni'n meddwl yn benodol am y £9 miliwn yr ydym ni'n ei gyfrannu ar gyfer y seibiannau byr. Rydyn ni'n sôn am seibiannau byr, ond gall hynny fod er enghraifft, cymryd rhan mewn chwaraeon, neu efallai y bydd bobl eraill eisiau mynd i ddosbarthiadau celf. Fe wnes i ymweld â dosbarth celf lle yr oedd pobl yn paentio, ac roedd hynny wedi ei ariannu gan un o'n strategaethau. Felly, rydyn ni yn gweld seibiannau byr fel rhywbeth y gellir ei ddefnyddio mewn gwirionedd i fod yn egnïol. Ac rydych chi'n hollol iawn, y mwyaf egnïol ydych chi, y lleiaf tebygol ydych chi o fynd i'r ysbyty, a'r lleiaf tebygol ydych chi o gael cymhlethdodau.  Felly, o ran iechyd, rydym yn awyddus iawn i hyrwyddo a defnyddio mwy o swyddogion ailalluogi i gadw pobl hŷn yn egnïol. Yn amlwg, os oes rhaid iddyn nhw gael llawdriniaeth, os ydyn nhw mor egnïol ac mor gryf ag y gallan nhw fod, mae hynny'n golygu bod siawns llawer gwell iddyn nhw gael canlyniadau llwyddiannus. Felly, ydw, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ac mae hynny'n rhan o'r mater seibiant byr yma.  

6. Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Eitem 6 yw'r cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM8253 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 1-32;

b) Atodlen 1;

c) Adran 33;

d) Adrannau 35-41;

e) Adran 34;

f) Adrannau 43-45;

g) Adran 42;

h) Adrannau 46-52;

i) Atodlen 2;

j) Atodlen 3;

k) Adrannau 53-54;

l) Teitl Hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig. Fel y bydd Aelodau yn ymwybodol, yr arfer a ddilynir yw gwaredu gwelliannau i Filiau yn y drefn y mae'r adrannau a'r amserlenni y maen nhw'n ymwneud â nhw yn codi yn y Bil. Felly, gallai hyn olygu, yn yr achos hwn, na ellid gwaredu gwelliannau a drafodwyd yn rhan o grŵp cynharach tan yn ddiweddarach yn y trafodion.

Yn nhrafodion Cam 2 Bil Amaethyddiaeth (Cymru), penderfynodd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig amrywio'r drefn ystyriaeth, ac mae'r drefn a gynigiwyd gan y cynnig hwn yn dilyn y ffordd yr aed ati yng Ngham 2. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.

Nid oes unrhyw siaradwyr, Weinidog. A ydych yn dymuno ychwanegu unrhyw beth arall?

Hoffech chi ddweud unrhyw beth arall, Gweinidog? Does gennym ni ddim siaradwyr. Iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Symudwn ymlaen. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 7 ac 8—egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)—eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad.

7. & 8. Egwyddorion Cyffredinol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) a'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

Cynnig NDM8255 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru).

Cynnig NDM8254 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Lywydd. Dwi'n falch i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), ac i gyflwyno’r cynnig ar y penderfyniad ariannol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bwyllgorau’r Senedd, yr Aelodau a’u staff am eu gwaith gofalus yn craffu ar y Bil hyd yma. Cyn imi ymateb i argymhellion y pwyllgorau, hoffwn i grynhoi’r rhesymau dros gyflwyno’r Bil hwn i’r Senedd.

Mae'r Bil hwn yn rhannol mewn ymateb i newidiadau arfaethedig i gaffael cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig a gyflwynir gan Lywodraeth y DU. Wrth adael yr UE, penderfynodd Llywodraeth y DU yr hoffai ddefnyddio'r rhyddid newydd tybiedig sy'n ymwneud â chaffael i gyflwyno Bil caffael y DU ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau. Mewn cam ar wahân, cyflwynodd Llywodraeth y DU gynlluniau i fwrw ymlaen â dull newydd o gaffael gwasanaethau iechyd yn Lloegr, a elwir yn drefn dethol darparwyr. Hoffwn bwysleisio yma fod y Bil yn ymwneud bron yn llwyr â gwasanaethau iechyd ac nid â nwyddau iechyd.

Yn amlwg, rydyn ni'n byw am y pared â GIG Lloegr, felly mae cael llwyfannau caffael sy'n wahanol rhwng Cymru a Lloegr yn creu goblygiadau posib i ni o ran caffael gwasanaethau iechyd. Felly, nod y Bil hwn yw sicrhau nad yw caffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru dan anfantais o ganlyniad i gyflwyno trefn dethol darparwyr yn Lloegr, gan alluogi Gweinidogion Cymru i greu cyfundrefn newydd i'r GIG gaffael gwasanaethau iechyd a chaniatáu cyfle i ni—pe bai arnom ni eisiau—adlewyrchu'r drefn dethol darparwyr yn Lloegr, neu i fynd ein ffordd ein hunain os ydym ni'n anghyfforddus â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Nid yw'r Bil caffael wedi gorffen ei daith drwy Dŷ'r Cyffredin eto, ac nid yw'r rheoliadau sy'n ymwneud â'r drefn dethol darparwyr wedi'u cyhoeddi eto. Felly, ein rhagdybiaeth ar hyn o bryd yw yr hoffem ni gysoni ein trefn caffael iechyd ag un Lloegr, oni bai a hyd nes y gwelwn ni ein bod yn anghyfforddus gyda'r hyn y maen nhw wedi'i nodi yn eu rheoliadau. Yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud, fodd bynnag, yw sicrhau bod y bwlch amser lleiaf posibl yn bodoli rhwng cyflwyno rheoliadau Lloegr a'n rhai ni, er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r sefydliadau hynny sy'n caffael a darparu gwasanaethau.

Gan droi nawr at yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rwy'n falch bod y pwyllgor, yn eu hargymhelliad cyntaf, wedi cydnabod yr angen am y Bil hwn ac wedi argymell bod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil yma heddiw.

Mae rhan gyntaf argymhelliad 2 yn gofyn am sicrwydd sy'n ymwneud â thryloywder yn y drefn gaffael newydd. Hoffwn sicrhau Aelodau y bydd y drefn newydd yn gweithredu'n unol ag egwyddorion craidd tryloywder, yn ogystal â thegwch, cydymffurfiaeth a rheoli gwrthdaro buddiannau. Mae'r egwyddorion hyn wedi'u nodi ar wyneb y Bil a bydd y rheoliadau a gaiff eu datblygu ar ôl cymeradwyo'r Bil hwn yn rhoi manylion y darpariaethau hynny. Bydd hyn yn manylu ar sut mae awdurdodau perthnasol i weithredu yn ôl yr egwyddorion pwysig hyn, gan gynnwys tryloywder, a chefnogir hyn gan ganllawiau y bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru eu llunio ynghylch cydymffurfio â'r rheoliadau.

Mae argymhelliad 3 yn ymdrin â chwmpas yr hyn y gellir ei gynnwys yn y rheoliadau, o dan beth fyddai paragraff newydd 10A(1)(b) Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac felly, beth ellid ei gynnwys yn y drefn gaffael, yn benodol, lle gellir caffael nwyddau neu wasanaethau eraill ochr yn ochr â gwasanaeth gofal iechyd clinigol. Bydd rhai enghreifftiau lle mae hi bron yn amhosib darparu gwasanaeth heb ddarparu nwydd hefyd. Gallai darparu gwasanaeth trallwyso gwaed fod yn enghraifft o hynny, lle byddai modd comisiynu sefydliad i gynnig gwasanaeth, ond byddai angen ffiolau a thiwbiau profi i gludo a dal y gwaed. Gelwir hyn yn gaffael cymysg. Rwy'n deall pryderon y pwyllgor y bydd angen diffinio caffael cymysg o dan y drefn arfaethedig yn glir, ac ar ôl ystyried y dewisiadau, rydym ni'n teimlo mai'r lle gorau yw yn y rheoliadau, yn hytrach nag ar wyneb y Bil. Dyma'r un dull ag y mae'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei ddefnyddio ar gyfer eu trefn dethol darparwyr. Rwy'n ymwybodol y bydd trefn yr adran honno dim ond yn caniatáu cyfuno gwasanaethau gofal iechyd perthnasol gyda nwyddau neu wasanaethau eraill a gânt eu caffael fel arfer y tu allan i'r drefn dethol darparwyr, pan na ellir cyflenwi'r rhain yn rhesymol o dan gontract ar wahân, a lle mai'r elfen gwasanaeth gofal iechyd yw'r gwerth uwch o fewn y contract. Nawr, oherwydd ein hawydd i gadw'r dewis i gysoni ein cyfundrefn â Lloegr, nid ydym yn derbyn yr argymhelliad hwn.

Mae argymhelliad 4 yn ymwneud ag ystyried diwygiadau tebyg ar gyfer caffael gwasanaethau gofal cymdeithasol. Soniais yn ystod sesiynau pwyllgor bod y sefyllfa o ran caffael ar gyfer gofal cymdeithasol yn gymhleth, ac nid yw'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cynnwys gofal cymdeithasol yn eu trefn dethol darparwyr am sawl rheswm. Felly, nid ydym yn ystyried ehangu'r cwmpas i gynnwys gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, ond mae'n rhywbeth rydym yn hapus ystyried ei adolygu yn y dyfodol fel y gofynnwyd, ac felly rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn.

Mae argymhellion 5 a 9 gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd ag argymhelliad 4 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, i gyd yn ymdrin ag ymgynghori o ran y rheoliadau sydd i'w gwneud o dan adran newydd 10A Deddf GIG Cymru 2006, gan ei fod i'w fewnosod gan adran 3 o'r Bil. Mae elfen ymgynghori hefyd i argymhelliad 2 gan y pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n ymwneud yn benodol ag ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth gan yr awdurdodau perthnasol.

16:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae argymhelliad 9 yn ymdrin â sicrhau bod pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael eu cynnwys yn natblygiad y rheoliadau ac yr ymgynghorir â nhw. Bydd fy swyddogion yn archwilio hyn ymhellach; byddant yn ystyried swyddogaeth Llais ac ymgysylltu â grwpiau a sefydliadau cynrychioliadol fel rhan o'r ymgynghoriad ar egwyddorion gweithredol y drefn newydd. Felly, rydym yn hapus i dderbyn argymhelliad 9 gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae argymhelliad 5 gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac argymhelliad 4 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn argymell pethau ychydig yn wahanol ar yr un mater: ymgynghori mewn perthynas â'r rheoliadau. Nawr, mae'n arfer da ymgynghori, ac mae hyn yn rhywbeth rwyf eisoes wedi ymrwymo iddo, ond rwy'n deall y pwyntiau a wnaed gan Aelodau. Felly, er na allaf dderbyn y geiriad awgrymedig yn llawn yn y ddau argymhelliad, rwy'n hapus i dderbyn mewn egwyddor cyflwyno gwelliant yng ngham 2 sy'n gosod ymgynghori ar wyneb y Bil mewn perthynas â'r rheoliadau. Felly, gallaf gadarnhau ein bod yn derbyn mewn egwyddor argymhelliad 5 gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac argymhelliad 4 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Byddaf nawr yn ymateb i'r elfen ymgynghori o argymhelliad 2 Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fel y soniais ychydig yn gynharach, mae hyn yn wahanol i'r argymhellion eraill am ymgynghori, gan ei fod yn ymwneud ag awdurdodau perthnasol yn ymgynghori â chleifion a defnyddwyr gwasanaethau wrth wneud penderfyniadau caffael. Mae ystyried cleifion a defnyddwyr gwasanaethau yn bwysig iawn, ond mae angen i ni hefyd ystyried sut rydym yn cydbwyso hyn â'r ymarferoldeb o ddarparu contractau, yn enwedig pan mai un o nodau'r newidiadau hyn yw symleiddio'r system gaffael ar gyfer rhai mathau o gontractau. Yn ei gyfanrwydd, felly, rydym yn derbyn mewn egwyddor argymhelliad 2 gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gan gadw at y thema ymgynghori, mae argymhelliad 5 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ymwneud ag ymgynghori, ond mewn perthynas â'r canllawiau statudol fydd yn sail i'r rheoliadau. Nawr, rwyf eisoes wedi ymrwymo i gynnal ymgynghoriad ar yr egwyddorion gweithredol a fydd yn llywio datblygiad y rheoliadau a'r canllawiau sydd i'w gwneud o dan y Bil, ac rwyf hefyd newydd ymrwymo i gyflwyno gwelliant yn ymwneud ag ymgynghori mewn perthynas â'r rheoliadau. Caiff canllawiau eu datblygu gydag awdurdodau perthnasol, ac mae hyn, ynghyd â'r angen i barhau'n ystwyth ac ymatebol ynghyd â'r angen i ganiatáu i'r canllawiau gael eu diweddaru i adlewyrchu arferion gorau ac adborth defnyddwyr ar yr adeg fwyaf priodol, yn golygu mae gen i ofn nad ydym yn teimlo bod angen gosod gofyniad ymgynghori mewn perthynas â'r canllawiau ar wyneb y Bil, felly allwn ni ddim derbyn yr argymhelliad yma.

Mae argymhelliad 6 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol  yn ymwneud â sicrhau y caiff gofynion y drefn newydd eu cyfleu'n effeithiol i'r holl bleidiau perthnasol. Nodaf sylwadau'r pwyllgor ar hyn, ac rwy'n hapus i dderbyn yr argymhelliad hwn. Byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor i nodi'r manylion ynglŷn â sut y byddwn yn cyflawni'r nod hwn yn rhan o ddatblygu a gweithredu'r rheoliadau a'r canllawiau.

Mae argymhelliad 7 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd ag argymhelliad 4 gan y Pwyllgor Cyllid, yn ymwneud â monitro ac adolygu gweithredu'r Bil a'r drefn gaffael newydd. Mae sicrhau effeithiolrwydd unrhyw drefn gaffael newydd yn hollbwysig i'w llwyddiant. Nodaf sylwadau'r pwyllgor a byddaf yn ceisio sicrhau y cynhwysir ffiniau mewn canllawiau statudol ar gyfer y drefn newydd a fydd yn monitro ei defnydd a'i effeithiolrwydd.

Yn rhan o ddatblygu'r rheoliadau a'r canllawiau statudol, byddwn hefyd yn ystyried y ffordd fwyaf priodol o ymgysylltu er mwyn penderfynu sut mae'r drefn yn gweithio ac unrhyw welliannau y gallai fod eu hangen. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol fod angen i unrhyw gyfnod adolygu ddarparu hyblygrwydd i addasu ac i ymateb i newidiadau a gychwynnwyd gennym ni ein hunain neu'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y dyfodol o dan eu cyfundrefn dethol darparwyr arfaethedig. Fodd bynnag, rydym yn hapus i dderbyn yr argymhellion hyn a byddaf yn ysgrifennu at y ddau bwyllgor i nodi sut y bwriadwn fynd ati.

Mae argymhellion 8 a 10 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn am newidiadau i'r memorandwm esboniadol yn dilyn Cam 2 i egluro bod awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a sut mae angen i'r Bil ac is-ddeddfwriaeth fod yn gyson â nifer o faterion neu gyfrannu at nifer o faterion, gan gynnwys darnau eraill o ddeddfwriaeth, rhestrau aros y GIG, a thargedau bioamrywiaeth, ymhlith eraill. Felly, rydym yn hapus i dderbyn yr argymhellion hyn, a byddwn yn diwygio'r memorandwm esboniadol yn unol â hynny.

Mae argymhelliad 11 yn ymwneud â chynnwys asesiad ym memorandwm esboniadol y rheoliadau ynghylch a yw'r rheoliadau a wnaed o dan y Bil yn sbarduno Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac rydym yn hapus i dderbyn yr argymhelliad hwn.

Dwi eisiau symud nawr i argymhellion eraill y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Mae argymhelliad 1 yn awgrymu gwelliant i bennawd cymal newydd 116A o Fil Caffael Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy'n cael ei fewnosod o dan adran 2 o'r Bil hwn, i'w gwneud yn glir y byddai datgymhwyso yn gymwys hefyd i awdurdodau lleol. Nawr, dwi'n deall rhesymeg yr argymhelliad hwn, ond, wrth lunio’r geiriad, roeddem ni'n ofalus i wneud yn siŵr ein bod yn adlewyrchu dull gweithredu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'w gwneud yn glir bod y pŵer yr union yr un fath â'r pŵer ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y cymal blaenorol. Gallai newid y geiriad achosi dryswch ac awgrymu bod y datgymhwyso yn gymwys i bob gwasanaeth sy'n cael ei gaffael gan awdurdodau lleol. Hefyd, mae'r Bil yn ei gwneud hi’n glir bod awdurdodau lleol wedi'u cynnwys, gan eu bod wedi eu henwi yn y diffiniad o awdurdodau perthnasol o dan adran 10A, fel y nodir o dan adran 3 o'r Bil. Am y rhesymau hyn, allwn ni ddim derbyn yr argymhelliad hwn.

Mae argymhelliad 2 a 3 yn ymwneud â'r weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau o dan adran newydd 10A. Dwi eisoes wedi gwneud sawl ymrwymiad yma heddiw o ran ymgynghori ac ymgysylltu. Bydd rheoliadau a chanllawiau'n cael eu datblygu gyda'r gwasanaeth iechyd ac awdurdodau perthnasol ac yn cael eu llywio gan yr ymgynghoriad ar yr egwyddorion gweithredol, felly dwi ddim yn teimlo bod angen prosesau ychwanegol ar ben yr ymrwymiadau hynny a'r weithdrefn gadarnhaol arferol.

Yn yr un modd, y rheswm dros gyflymder y Bil hwn yw i gyd-fynd cymaint â phosibl â'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r gyfundrefn dethol darparwyr, y provider selection regime, yn Lloegr. Bydd hyn yn lleihau'r risg o fod â gweithdrefnau caffael gwahanol yng Nghymru a Lloegr o ran iechyd. Byddai'r gweithdrefnau ychwanegol hyn yn cynyddu'r risg honno heb lawer o fantais. Dŷn ni ddim felly yn derbyn yr argymhellion hyn.

Yn olaf, mewn perthynas â'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid, rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau fy mod wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gydag ymateb i'r argymhellion. Gallaf gadarnhau fy mod wedi derbyn argymhellion 2 a 4, a derbyn argymhellion 1 a 3 mewn egwyddor.

Dwi'n edrych ymlaen at glywed gan Gadeiryddion y pwyllgorau craffu a gan Aelodau eraill yn y Siambr ar y ddeddf yma.

16:30

Diolch. Mae cyd-destun y modd y bu'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn craffu ar Fil caffael y gwasanaeth iechyd wedi bod yn un cymhleth. Fel y nododd y Gweinidog, bydd newidiadau o Fil Caffael Llywodraeth y DU a Bil Partneriaeth Gyhoeddus a Chaffael Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn effeithio ar gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn ogystal, mae dibyniaethau allweddol rhwng y diwygiadau hynny, cyflwyniad tebyg y gyfundrefn dethol darparwyr yn Lloegr o dan Ddeddf Iechyd a Gofal 2022, a'r diwygiadau a ragwelwyd gan Fil caffael y gwasanaeth iechyd sydd ger ein bron heddiw.

Bil fframwaith yw'r Bil yr ydym ni'n edrych arno, wrth gwrs, yn hytrach nag un sy'n cynnwys unrhyw gyfraith o sylwedd ei hun, ac mae'n rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddatgymhwyso darpariaethau yn y Bil Caffael a chyflwyno trefn gaffael newydd, ar wahân, ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Rwy'n credu y bu'r Gweinidog yn glir mai cyflwyniad y Bil— er mai ei hamcan yw cael tegwch cyffredinol ym maes caffael y gwasanaeth iechyd ar gyfer yr awdurdodau perthnasol yng Nghymru, ni fydd yn gwneud penderfyniadau ar sut y gallai ddefnyddio'r pwerau yn y Bil nes iddi weld ffurf derfynol trefn dethol darparwyr Llywodraeth y DU yn Lloegr. Er ein bod ni fel pwyllgor yn deall amgylchiadau'r Bil hwn, nid ydym fel pwyllgor o'r farn ei fod yn arfer deddfwriaethol da cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i ddirprwyo pwerau eang a sylweddol heb eglurder ynghylch diben cyflwyno'r pwerau hynny.

Felly, rydym o'r farn y byddai wedi bod yn well i'r Gweinidog fod wedi gallu darparu mwy o wybodaeth am ei bwriadau a'i dewisiadau ar gyfer cwmpas a gweithrediad unrhyw drefn newydd o ran caffael gwasanaethau iechyd i Gymru. Er enghraifft, fel pwyllgor, does gennym ni ddim sicrwydd eto na ellid defnyddio unrhyw drefn newydd a sefydlir gan ddefnyddio'r pwerau hyn i hwyluso mwy o ran i'r sector preifat wrth ddarparu gwasanaethau GIG craidd yng Nghymru nag yr hoffem ei gweld.

Er hynny, credwn ei bod hi'n briodol i benderfyniadau am drefn caffael gwasanaethau iechyd i Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Ar ôl pwyso a mesur, felly, rydym wedi argymell y dylai'r Senedd gytuno ar egwyddorion y Bil.

Soniodd y Gweinidog am rai o'r—. Roedd hi'n eithaf anodd, achos rydyn ni'n sôn am dri phwyllgor gwahanol yn gwneud argymhellion, felly roeddwn i'n gwneud nodiadau fel y gallwn i, oherwydd dydyn ni ddim wedi cael ymateb ysgrifenedig eto i argymhellion y pwyllgor. Ond fe wnaeth y Gweinidog roi rhywfaint o sicrwydd pellach heddiw sut—. O ran argymhelliad 2 o'n heiddo, roeddem yn bryderus fel pwyllgor bod yna natur agored a thryloywder, ac roedd arnom ni eisiau rhywfaint o hyder yn argymhelliad 2 o'n heiddo o ran hyder i ddarparwyr a chleifion a defnyddwyr gwasanaethau, ac rwy'n credu bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw.

Gallai unrhyw drefn newydd sy'n cael ei rhoi ar waith ddarparu cyfleoedd i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n bodoli eisoes, ond bydd trefn newydd dim ond yn effeithiol os caiff ei chyfleu a'i gweithredu'n iawn. Ceisiodd argymhelliad 6 o'n heiddo gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â'r holl randdeiliaid perthnasol, gan gynnwys darparwyr a darparwyr posibl, ac fe ofynnodd argymhelliad 7 o'n heiddo am wybodaeth ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd unrhyw drefn newydd. Diolch i'r Gweinidog am egluro rhai o'r materion hyn heddiw yn ei sylwadau agoriadol.

Yn ystod ein sesiwn graffu, clywsom gefnogaeth gref gan randdeiliaid i nod Llywodraeth Cymru o ran integreiddio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Fe'n calonogwyd gan awgrym y Gweinidog mai ei bwriad yw y gellir caffael gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n gysylltiedig â gwasanaethau iechyd o fewn cyfundrefn newydd y Gwasanaeth Iechyd fel rhan o gaffael cymysg, ac rwy'n nodi sylwadau pellach y Gweinidog yn hyn o beth heddiw.

Diolch i'r Gweinidog am dderbyn argymhelliad 4; credaf fod y Gweinidog wedi derbyn hwnnw heddiw. Roeddem ni wedi clywed rhai awgrymiadau bod diwygiadau i gaffael gofal cymdeithasol—. Ac yn ein hadroddiad, roedd arnom ni eisiau rhywfaint o sicrwydd yn y fan yna o ran hynny, a gafodd eu hamlinellu yn argymhelliad 4.

Cyn cloi, hoffwn wneud sylw byr am y ffordd y cyflwynwyd y Bil hwn. Mae'n anffodus na lwyddodd Llywodraeth Cymru i roi mwy o rybudd i'r Senedd ei bod yn bwriadu cyflwyno'r Bil, yn enwedig gan fod ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddiwygiadau arfaethedig wedi ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2022, a derbyniodd y Ddeddf Iechyd a Gofal Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2022, ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori â rhai rhanddeiliaid yn anffurfiol yn ystod haf a hydref y llynedd.

Felly, mae'r diffyg rhybudd wedi amharu ar ein rhaglen waith arfaethedig, ac wedi golygu nad oedd gennym ni a rhanddeiliaid fawr o amser i baratoi. Yn ogystal, mae'r amserlen graffu frys wedi cyfyngu ar ein dull o graffu ar y materion technegol a chymhleth sy'n gysylltiedig â'r Bil hwn, ac mae wedi rhoi rhywfaint o bwysau arnom ni a rhanddeiliaid yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eisoes dan straen.

O dan yr amgylchiadau hyn, rydym ni'n arbennig o ddiolchgar i bawb sydd wedi gallu cyfrannu at ein gwaith. Roedd yn amlwg o'r trafodaethau a gawsom ni gyda rhanddeiliaid fod y graddau roedd Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â nhw hyd yma wedi amrywio'n sylweddol. Rydyn ni yn deall bod y cyd-destun anarferol ar gyfer y Bil, ei natur fframwaith, a natur dechnegol rhai o'r materion y mae'n mynd i'r afael â nhw, i gyd, wrth gwrs, yn cyflwyno heriau i ymgynghori ac ymgysylltu. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod trafodaeth rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid, a bod cynigion yn cael eu datblygu a bod paratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer y cyfnod ymgynghori ffurfiol o 12 wythnos y mae'r Gweinidog wedi ymrwymo iddo, ac y bu i ni seilio argymhelliad 5 arno. Rwy'n siomedig na chafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn yn llawn, ond fe'i derbyniwyd mewn egwyddor. Byddaf yn myfyrio ar y cofnod, o ran yr hyn a ddywedodd y Gweinidog heddiw, ac wrth gwrs aros am ymateb ffurfiol y Gweinidog cyn gwneud sylw pellach ar hynny efallai.

Ond, yn olaf, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am sicrhau bod ei swyddogion ar gael i ddarparu briff technegol i'r pwyllgor ar y Bil hwn ac am ymateb yn brydlon i'n hymateb am wybodaeth ysgrifenedig. A phe bai'r Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol heddiw, mae'r pwyllgor wrth gwrs yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n gadarnhaol gyda'r Gweinidog, wrth i'r Bil barhau ar ei daith drwy'r Senedd heddiw. Rwy'n cydnabod hefyd eich bod wedi derbyn argymhelliad 9 o'n heiddo hefyd. Felly, rwy'n edrych ymlaen, Gweinidog—mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen—at dderbyn eich ymateb ysgrifenedig ffurfiol, er mwyn i ni allu dadansoddi hynny ymhellach a chymryd barn fel pwyllgor. Diolch yn fawr.

16:40

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr—Huw Irranca-Davies.

Diolch, Lywydd. Rwy’n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y seithfed Bil gan Lywodraeth Cymru yn ystod y chweched Senedd. Er bod y Bil hwn yn un byr, yn cynnwys dim ond pum adran, mae'n codi rhai cwestiynau allweddol ynghylch dulliau Llywodraeth Cymru wrth ddeddfu yng Nghymru.

Nawr, bydd y Senedd yn gwybod y bu fy mhwyllgor yn cadw llygad barcud ar ddeddfwriaeth a fydd yn diwygio'r gyfraith gaffael yng Nghymru, sef y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), Bil Caffael Llywodraeth y DU, a nawr y Bil hwn.

Nawr, fel y dywedodd y Gweinidog eisoes, diben cyntaf y Bil hwn yw caniatáu i Weinidogion Cymru ddatgymhwyso darpariaethau Bil Caffael Llywodraeth y DU mewn amgylchiadau pendant. Nid yw'r Bil Caffael wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol o hyd, a dywedodd y Gweinidog wrthym ni, yn wir, nad oedd 'yn ddelfrydol' bod y Bil ger ein bron heddiw, yn anarferol, yn diwygio'r ddarpariaeth nad yw eto ar y llyfr statud.

Ail ddiben y Bil yw diwygio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno eu trefn gaffael eu hunain ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru drwy reoliadau, a darparu y dylen nhw hefyd gyflwyno canllawiau ar sut i gydymffurfio â'r rheoliadau hynny. Felly, awgrymodd y Gweinidog i ni y bydd cynnwys y darpariaethau hynny yn y Bil hwn yn darparu ar gyfer llyfr statud hygyrch—ac rydyn ni'n hoffi llyfrau statud hygyrch ar ein pwyllgor—a bydd y rhai sydd â diddordeb yn y ddeddfwriaeth, mewn dyfyniadau, yn 'gwybod ble i fynd'. Ond bydd y Gweinidog yn gwybod bod miloedd lawer mewn gwirionedd o ddiwygiadau rhagorol i ddeddfwriaeth ar safle deddfwriaeth yr Archifau Cenedlaethol, ac felly rydym ni unwaith eto wedi cwestiynu a fydd dull Llywodraeth Cymru o ddeddfu ar gyfraith gaffael fel hyn yn wir yn arwain at gyfraith hygyrch i bawb.

Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen sawl gwaith yn y Siambr hon, mae fy mhwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun sy'n cwmpasu'r holl ddiwygiadau i'r gyfraith gaffael yng Nghymru, yn hytrach na chytuno i gynnwys darpariaethau helaeth o fewn Bil Caffael Llywodraeth y DU ac yna gorfod gwneud gwaith adferol drwy ddeddfwriaeth Senedd. Roedd ffordd wahanol i'w wneud e. Ond—ond—rydyn ni lle rydyn ni, ac yn ein hadroddiad rydyn ni yn cydnabod yr angen am y Bil hwn.

Felly, byddaf nawr yn troi'n fyr at yr argymhellion a wnaethom ni yn ein hadroddiad, ac, wrth wneud hynny, byddwn yn nodi nad ydym ni eto wedi cael ymateb ffurfiol i'n hargymhellion i helpu llywio'r ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil, felly rwyf wedi gwneud nodyn o rai o'r sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud.

Mae ein hargymhelliad cyntaf yn galw ar y Gweinidog i geisio diwygio'r Bil i newid pennawd o adran newydd yn Neddf GIG Cymru i'w fewnosod gan y Bil i egluro y gallai darpariaethau'r Bil Caffael, a'u deddfu, gael eu datgymhwyso o ran sefydliadau'r GIG ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn caffael gwasanaethau iechyd. I ni, nid yw'r pennawd fel y'i drafftiwyd, sydd dim ond yn cyfeirio at gaffael gan y GIG yng Nghymru, yn rhoi'r eglurder angenrheidiol ar y ddarpariaeth hon, credwn. Nawr, efallai y bydd rhai yn dweud ei fod yn bwynt amherthnasol, ond credwn ei fod yn ffordd ddefnyddiol o egluro cwmpas y Bil hwn.

Mae'r ail a'r trydydd argymhelliad yn adlewyrchu ein barn y dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori'n llawn ac yn eang ar fanylion ei threfn gaffael newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd. Cyffyrddodd y Gweinidog ar hyn yn ei sylwadau. Dylai unrhyw reoliadau sy'n rheoli sut y gwerir ar wasanaethau a ddarperir ar ran sector cyhoeddus Cymru fod yn arwyddocaol ac yn destun gwell craffu, ac felly rydym yn argymell y dylai'r Gweinidog rannu fersiynau drafft y rheoliadau hyn er mwyn ymgynghori cyn eu cyflwyno yn y Senedd. Ar ôl eu cyflwyno, dylem ni, Aelodau'r Senedd, gael digon o amser i graffu arnynt yn fanwl, ac felly rydym hefyd yn argymell y dylai'r Bil ddarparu ar gyfer 60 diwrnod o graffu ar y rheoliadau.

Ac yn olaf, credwn y dylai'r Bil hefyd gynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â'r rheoliadau a'r canllawiau a fydd yn mynd gyda nhw. Unwaith eto, cyfeiriodd y Gweinidog at hyn yn ei sylwadau agoriadol. Adlewyrchir y gred hon o'n heiddo yn y ddau argymhelliad terfynol a wnawn yn ein hadroddiad. Nawr, dywedodd y Gweinidog yn wir wrthym ni ei bod hi'n arferol gwneud hyn, ond bydd cynnwys y dyletswyddau hyn o fewn deddfwriaeth yn syml yn sicrhau yr ymgynghorir â rhanddeiliaid, a bydd hefyd yn cyd-fynd â dyletswyddau tebyg eraill yn y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).

Felly, rydym yn croesawu sylwadau adeiladol y Gweinidog o ran rhai elfennau o ymgynghori, er enghraifft, a materion eraill y cyfeiriodd atyn nhw yn ei sylwadau agoriadol, mewn perthynas ag adroddiad ein pwyllgor ac adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd angen i ni fyfyrio ar fanylion sylwadau'r Gweinidog heddiw, ac edrychwn ymlaen at dderbyn yr ymateb ysgrifenedig yn fuan iawn hefyd. Ond rydym yn croesawu'r ymgysylltu adeiladol ar rai o'r argymhellion hynny, hyd yn oed os nad yw pob un wedi'i dderbyn.

Rwy'n diolch fel arfer, wrth gloi, i aelodau ein pwyllgor, clerciaid, a'n tîm cyfreithiol ac ymchwil am eu gwaith craffu diwyd unwaith eto. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. 

16:45

Diolch, Llywydd. Dwi'n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw. Yn ein hadroddiad, gwnaethon ni wneud tri chasgliad a gwnaethon ni bedwar argymhelliad. Diolch yn fawr i'r Gweinidog am ei hymateb i adroddiad y pwyllgor.

Fel y clywsom, y sbardun allweddol ar gyfer y Bil yma yw lliniaru’r risg sy’n gysylltiedig â threfniadau caffael y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gweithredu o dan gyfundrefn wahanol i Loegr. Dyma hefyd gyfiawnhad y Gweinidog dros ddilyn amserlen gyflym. Fodd bynnag, nid oedd y ddadl hon yn darbwyllo’r pwyllgor. Yn benodol, rydyn ni’n credu y gallai’r Gweinidog fod wedi cyflwyno cynigion deddfwriaethol i fynd i’r afael â’r mater hwn yn gynt. 

At hynny, er bod angen proses ddeddfwriaethol gyflym i sicrhau chwarae teg rhwng Cymru a Lloegr, mae’r Gweinidog yn dal i ragweld bwlch o ran y cydweddu. Nid yw’n glir i ba raddau y bydd hyn yn effeithio ar randdeiliaid yng Nghymru, felly gwnaethon ni argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu asesiad o’r risgiau a’r effaith ariannol o gael dwy gyfundrefn wahanol ar gyfer caffael y gwasanaeth iechyd dros dro yng Nghymru a Lloegr. 

Er i’r argymhelliad hwn gael ei dderbyn mewn egwyddor, mae ymrwymiad y Gweinidog yn gyfyngedig i edrych ar a oes modd meintioli effaith y ddwy gyfundrefn mewn ffordd ystyrlon. Mae’r diffyg gwybodaeth ar y mater hwn yn arbennig o siomedig, o ystyried ar ba sail y gofynnwyd am yr amserlen i gael ei chwtogi.

Yn anffodus, oherwydd diffyg gwybodaeth sydd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, nid ydym ni wedi gallu dod i gasgliad a yw'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni uchelgais y Senedd yn ddigonol ac yn rhesymol. Mae hyn wedi dod yn thema reolaidd o ran ein gwaith craffu yn ystod y Senedd hon, o ystyried nifer y Biliau fframwaith a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n siomedig felly imi fod yn gwneud yr un pwynt unwaith eto yn ystod y ddadl hon.

Gan fod y Bil yn rhoi'r pwerau i Weinidogion Cymru lunio rheoliadau i sefydlu trefn caffael newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd, ni fydd goblygiadau ariannol llawn y drefn newydd yn hysbys nes caiff y manylion polisi eu datblygu a'u cyflwyno mewn rheoliadau. Rydym yn disgwyl i'r asesiadau effaith rheoleiddiol gynnwys amcangyfrif gorau o'r costau a'r buddion sy'n gysylltiedig ag is-ddeddfwriaeth ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol, gan fod angen i ni ddeall effaith ariannol y Bil yn ei gyfanrwydd. Mae'n siomedig nad oedd yr wybodaeth a ddarparwyd yn caniatáu inni wneud hynny y tro hwn.

Fe wnaethom ni alw ar y Gweinidog i ddarparu asesiad effaith rheoleiddiol llawn a chadarn ar gyfer unrhyw reoliadau yn y dyfodol a rhoi digon o amser i'r Senedd ystyried unrhyw oblygiadau ariannol cysylltiedig. Mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i gyhoeddi'r asesiad effaith rheoleiddiol ochr yn ochr ag unrhyw reoliadau a wneir yn y dyfodol o dan y Bil hwn, gan ddefnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael. Fodd bynnag, bydd yr amserlenni ar gyfer craffu yn cael eu cyfyngu gan y weithdrefn gadarnhaol ac ni fydd yn ddarostyngedig i'r un faint o graffu â'r rhai a gynhwysir ochr yn ochr â'r Bil ei hun.

Nid yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn asesu goblygiadau ariannol parhaus cyfundrefn newydd, er ei fod yn nodi amcangyfrif gorau'r Gweinidog am y gost o ddatblygu'r drefn a'i gweithredu cychwynnol. Mae hyn yn cynnwys £3.4 miliwn mewn costau trosiannol i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru dros gyfnod o arfarniad o dair blynedd. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn awgrymu mai awdurdodau lleol fydd yn ysgwyddo costau ymgyfarwyddo a gweithredu mewn sefyllfaoedd pryd y byddan nhw'r prif awdurdod caffael. Fodd bynnag, yn anffodus, nid yw'r costau i awdurdodau lleol wedi cael eu hamcangyfrif. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol hefyd yn nodi costau sy'n gysylltiedig ag effaith bosibl newidiadau ar ddarparwyr gwasanaethau iechyd, ond disgrifir y rhain fel rhai anfesuradwy. Mae disgwyl i'r Bil ganfod arbedion effeithlonrwydd ac arwain at arbedion, ond does dim ymdrech wedi'i wneud i amcangyfrif y manteision hyn.

Mae'r amwyseddau hyn yn siomedig ac yn siomi ein disgwyliadau braidd fel pwyllgor. O ganlyniad, galwodd ein trydydd argymhelliad ar y Gweinidog i nodi sut y bydd yn archwilio gyda rhanddeiliaid y costau ymgyfarwyddo a gweithredu i awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau; yn ail, arbedion cost; ac yn drydydd, costau parhaus y drefn. Er bod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn mewn egwyddor, mae ymateb y Gweinidog yn cyfeirio'n syml at wneud dadansoddiad pellach o gostau fel rhan o ddatblygiad manwl rheoliadau'r dyfodol. Rydym yn disgwyl i'r Gweinidog ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth sefydlu'r costau a'r arbedion hyn.

Llywydd, rydym wedi galw’n gyson am i bob Bil gynnwys adolygiad ôl-weithredu cadarn. Felly, rydyn ni’n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i gynnal adolygiad ôl-weithredu, fel y gall y Senedd barhau i asesu effaith y Bil ar ôl iddo ddod yn Ddeddf.

Gofynnodd ein hargymhelliad terfynol am eglurhad ynghylch yr amseru a’r dull ar gyfer monitro ac adolygu gweithrediad y Bil. Er i’r Gweinidog dderbyn yr argymhelliad hwn, mae’n ddrwg gen i ddweud bod y dull gweithredu a’r amserlenni’n parhau i fod yn aneglur. Diolch yn fawr.

16:50

Fel Aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Cawsom dystiolaeth eithaf helaeth gan randdeiliaid a'r rhai sy'n ymwneud â'r Bil, mewn sesiwn gyhoeddus a sesiwn breifat. Credaf mai'r thema gyffredin yr ydym ni i gyd wedi sylwi arni yn ystod y ddadl hon ac yn ystod tystiolaeth y pwyllgor iechyd yw'r cymhlethdod ynghylch rhai o'r pethau yr ydym yn sôn amdanyn nhw a'r goddrychedd hefyd.

Hoffwn ddiolch i glerciaid y pwyllgor, y tîm ymchwil, yr holl staff a'r holl randdeiliaid a ymgysylltodd â ni oherwydd mae yn Fil cymhleth. Rydyn ni wedi gorfod cymryd llawer o dystiolaeth ac arweiniad gan y bobl broffesiynol er mwyn gwneud synnwyr o'r Bil yn iawn, ac rwy'n falch ein bod yn ei drafod ar lawr y Senedd yma prynhawn yma, i agor y ddadl ac agor y drafodaeth a dysgu mwy wrth iddo fynd ar ei hynt drwy'r Senedd, ac rwy'n falch o gymryd rhan. Ac eto, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y Bil hwn hyd yn hyn.

Ers cyflwyno'r Bil hwn, mae'r Gweinidog wedi dweud yn glir mai ei bwriad yw sicrhau chwarae teg ym maes caffael iechyd i awdurdodau perthnasol. Yn ogystal, ni fydd yn gwneud penderfyniadau ar sut y bydd yn defnyddio'r pwerau yn y Bil nes cyhoeddi cyfundrefn derfynol dethol darparwyr Llywodraeth y DU yn Lloegr. Gan fod y Bil yn cynnig hyblygrwydd ar gyfer amgylchiadau sy'n newid, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn aros am y penderfyniadau a wnaed yn Lloegr cyn bwrw ymlaen yma yng Nghymru.

Nid wyf yn beirniadu'r cyd-destun na'r amgylchiadau y cyflwynir y Bil ynddyn nhw. Fodd bynnag, nid wyf yn credu ei bod yn arfer da cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i ddirprwyo pwerau heb sicrwydd ynghylch sut gaiff pwerau o'r fath eu defnyddio. Credaf y dylai'r Gweinidog fod wedi gallu darparu mwy o wybodaeth am ei chynlluniau a'i meddyliau ar gwmpas a gweithrediad unrhyw drefn gaffael newydd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac nid wyf eto wedi fy argyhoeddi y bydd y Bil hwn yn sicrhau na fydd pwerau a roddir gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu mwy o ddylanwad yn y sector preifat wrth ddarparu gwasanaethau craidd y GIG.

Er hynny, rwy'n gytûn fod y Bil hwn yn sicrhau y gwneir penderfyniadau yng Nghymru ynghylch sut mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn caffael. Penderfyniad y Ceidwadwyr Cymreig felly yw y dylai'r Senedd gytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil. Fodd bynnag, byddwn yn annog y Gweinidog i ddefnyddio ei hamser yma heddiw i ddiweddaru'r Senedd gydag eglurder pellach—yr ydych chi wedi'i wneud i raddau hyd yn hyn, ond wrth ymateb i'r ddadl yn ddiweddarach—i sicrhau bod trefniadau digonol o ran caffael gwasanaethau iechyd newydd i sicrhau ei fod yn gweithio mewn modd agored a thryloyw, ac mewn ffordd sy'n amddiffyn ein GIG orau. Mae hyn oherwydd fy mlaenoriaeth i yw sicrhau bod y Bil hwn yn gallu gwasanaethu cleifion a darparwyr mewn ffordd deg. A hoffwn ddod i ben drwy ddiolch i bawb eto y prynhawn 'ma. Diolch.

Rydw innau'n falch o gael cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw yma. Dwi, fel sawl un arall yn y Siambr yma, yn wynebu tipyn o gyfyng gyngor dros y Bil yma. Rydyn ni'n sôn am Fil Cymreig sydd yn ymateb uniongyrchol i ddeddfwriaeth newydd yn Lloegr. Mae'r ddeddfwriaeth honno yn Lloegr yn cael ei gyrru gan agenda wleidyddol i allanoli mwy a mwy o wasanaethau'r NHS, i gyflwyno mwy a mwy o breifateiddio yn yr NHS. Mae'r Bil rydyn ni'n ei drafod, yn ôl y Llywodraeth, i fod i'n gwarchod ni rhag hynny, ond y gwir amdani ydy bod y Bil ei hun hefyd yn agor y posibilrwydd o agor y drws i mwy o breifateiddio yn yr NHS yng Nghymru. Mae o'n fater dyrys ac mae o'n fater i bwyllo yn ei gylch o. Mi ydym ni fel pwyllgor wedi clywed tystiolaeth sy'n codi'r union bryderon hynny, ond wrth gwrs rydyn ni hefyd wedi clywed pryderon gwirioneddol, yn cynnwys gan y Llywodraeth a nifer o gyrff eraill o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, pryderon gwirioneddol y gallai cyfundrefn gaffael wahanol ar ddwy ochr Clawdd Offa roi NHS Cymru dan anfantais. Ac mae'n rhaid cymryd y pryderon hynny o ddifri, wrth reswm.

Mi glywon ni bryderon y gallai rhai darparwyr gwasanaethau sydd eisoes yn dod o'r sector breifat ar hyn o bryd—. Achos, wrth gwrs, mae'r sector breifat yn darparu gwasanaethau o fewn yr NHS, a gwasanaethau arbenigol iawn, rhai ohonyn nhw. Y pryder yw y gallan nhw benderfynu peidio mynd am gytundebau yng Nghymru os ydyn nhw'n gweld y gyfundrefn yma yn fwy cymhleth neu'n fwy trwsgl, ac y gallai hynny fod yn anfantais i ni wrth geisio darparu'r gwasanaethau hynny. Rhaid dweud, ar ôl gofyn am dystiolaeth, am enghreifftiau o le mae'r risg hwnnw yn ymarferol, pa wasanaethau y gallan ni eu colli, ddaeth y dystiolaeth honno ddim yn gadarn iawn mewn difri, ac mae'r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi gwneud yr un pwynt, yn gofyn am asesiad go iawn o le yn union mae'r risg.

Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn cael gymaint o amser ag y dylen ni i allu ystyried y materion yma. Os oedd y Llywodraeth wir yn gweld risg yn fan hyn, pam na fydden nhw, fel dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, wedi cyflwyno deddfwriaeth mewn da bryd, yn rhoi amser digonol i gael at wraidd rhai o'r materion yma a dod i gasgliadau pwyllog ynglŷn â goblygiadau deddfwriaeth newydd yn Lloegr i ni yng Nghymru? Rydym ni fel pwyllgor yn nodi ein siom ein bod ni'n gorfod mynd drwy broses fast track, mewn difri, yn ddiangen. Sgrwtini ydy ein gwaith ni, a dyma ni eto yn cael ein gorfodi i dorri corneli.

Pryderon am sgrwtini ydy un arall o'r elfennau hynny o gyfyng gyngor rydyn ni'n eu hwynebu heddiw hefyd. Deddfwriaeth fframwaith ydy hon, a drwy reoliadau byddai'r Llywodraeth yn cyflwyno proses gaffael newydd yma yng Nghymru. Ydy, mae'r Gweinidog yn addo cyfnod sgrwtini llawn, cyfnod ymgynghori llawn ar y broses o gyflwyno unrhyw reoliadau, ond dydy'r broses honno ddim yn cynnig yr un lefel o sgrwtini â phroses ddeddfu lawn, a fydd dim cyfle i gynnig gwelliannau ac ati. Mae hyn yn rhywbeth ddylai ein pryderu ni i gyd, a dwi'n ategu yn sicr sylwadau Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth ynglŷn â'r angen i ymestyn i'r eithaf y math o ymgynghori all ddigwydd, yn cynnwys cyflwyno rheoliadau drafft ac yn y blaen. Mae'n rhaid inni fod yn bwyllog ar bob cam o'r ffordd.

Mi fyddwn ni ar y meinciau yma yn cymeradwyo bwrw ymlaen i Gyfnod 2 y ddeddfwriaeth heddiw, a hynny am ddau brif rheswm, am wn i: un y pen draw, ein bod ni'n credu y dylai unrhyw ddeddfwriaeth sydd yn effeithio ar Gymru gael ei llunio yng Nghymru—mae o'n egwyddor eithaf clir i ni—ond hefyd oherwydd trwch y dystiolaeth sy'n cefnogi cyflwyno hyn fel math o bolisi yswiriant, rhag ofn. Ond mi fydd yna waith sylweddol i'w wneud yn y cymalau i ddod, i geisio sicrwydd gan y Llywodraeth mewn sawl elfen yn gysylltiedig â'r Bil. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi tynnu sylw at y ffaith ein bod ni yn y tywyllwch i raddau helaeth ynglŷn â chostau cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Mi fyddaf yn chwilio am fwy o wybodaeth am y costau tebygol, yn chwilio am fwy o dystiolaeth am y risg, fel dwi wedi cyfeirio ato fo. Mi fyddaf angen sicrwydd am brosesau llywodraethiant clir a thryloyw fyddai ynghlwm â deddfwriaeth derfynol, er mwyn ceisio gwarchod a gochel rhag caniatáu, neu hyd yn oed hybu, yr agenda preifateiddio. Mi fyddaf eisiau gweld os oes modd annog cydweithio mwy rhwydd efo'r sector wirfoddol, neu'r trydydd sector, mewn ffordd adeiladol, heb agor y drws i ganiatáu mwy o elw yn y sector breifat. Mae hon yn ddeddfwriaeth sydd efo arwyddion rhybudd ar ei hyd i gyd.

Yn fy eiliadau olaf, efallai beth sydd gennym ni yn fan hyn ydy arwydd arall o'r budd fyddai annibyniaeth yn dod i Gymru, lle byddem ni ddim mor agored i niwed drwy fod ynghlwm wrth system wladwriaethol sy'n ffafrio cymydog mawr drws nesaf ar draul gwlad fach. Ond mi wnaf adael hynny am y tro.

Beth bynnag y cwestiynau ehangach, gadewch i ni gofio’r ymarferoldeb sydd dan sylw fan hyn. Pam bod angen hyn? Pa broblem ydyn ni'n ceisio'i hateb? Beth ydy'r peryglon? Wrth inni ganiatáu mynd ymlaen i Gyfnod 2 heddiw, gadewch i ni fod yn glir bod yna lawer o gwestiynau sydd angen eu hateb o hyd.

17:00

Fel aelod dros dro o'r pwyllgor iechyd pan oedd y Gweinidog yn rhoi tystiolaeth, bu gennyf rywfaint o ddiddordeb yn y mater hwn, ac rwy'n cytuno i raddau â Rhun ap Iorwerth, ar wahân i'w sylwadau ar annibyniaeth. Rwy'n credu bod llawer o gwestiynau heb eu hateb, ac mae hynny'n rhannol oherwydd nad ydym ni'n gwybod eto beth sydd yn y drefn dethol caffael hon y mae Llywodraeth y DU yn addo i ni. Ac o ystyried rhai o'r darnau deddfwriaeth gwael mae wedi eu cyflwyno ar frys ar faterion eraill, rydyn ni'n iawn i fod yn bwyllog. Fel y mae Dr Mary Guy wedi nodi—arbenigwr ar Gyfraith Gyhoeddus ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl—mae'n ddoeth cydnabod y posibilrwydd o effeithiau negyddol ar gaffael yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a gweithredu yn unol â hynny. Felly, mae'n teimlo ychydig bach fel smonach, ac ein bod yn rhoi'r drol o flaen y ceffyl, ond rwy'n deall pryderon y Gweinidog.

Rwy'n credu mai'r peth yr wyf i eisiau ei ddeall yw sut y bydd hyn yn lleihau cymhlethdod. Dywedodd y diwydiant fferylliaeth ei fod yn bryderus am hynny, ac mae'n rhaid i ni gofio bod GIG Lloegr yn dal i fyny heddiw o ran defnyddio fferyllfeydd yn fwy effeithiol fel ffyrdd o gael gofal i bobl. Os oes gennym ni gontractau ar wahân, sut y maen nhw'n mynd i ryngweithio â Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), yr ydym ni'n aros am y Cydsyniad Brenhinol ar ei gyfer? Sut mae'n mynd i effeithio, o bosib, ar ofal iechyd darbodus, y mae angen iddo fod yn elfen greiddiol ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud o ran atal ac ymyrraeth gynnar? Sut y bydd yn effeithio ar gydweithio, arloesi a holl ofynion eraill Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?

Yn bersonol, hoffwn sicrhau bod gennym ni gyfundrefn sy'n grymuso clystyrau o feddygon teulu i allu caffael microbartneriaethau o wasanaethau sy'n gweddu i anghenion maes penodol. Mae angen i ni sicrhau nad yw'r drefn dethol caffael hon yn ordd i'n hatal rhag gwneud hynny. Ac yn y pen draw, mae'n amlwg bod angen gofal iechyd a chymdeithasol di-dor arnom ni. Dyna un o ddadleuon gwell Llywodraeth y DU—y byddai'n ddibwrpas cael dau gytundeb ar gyfer unigolyn penodol nad yw'n gwasanaethu'r claf na'r trethdalwr. Ond credaf fod llawer o gwestiynau heb eu hateb yma, ac, felly, mae angen i ni roi sylw penodol o hyn allan i sicrhau bod hyn yn wir yn gwneud lles i Gymru, ac nad ydym ni'n gwneud rhywbeth dim ond er mwyn gwneud rhywbeth.

Diolch yn fawr. Mi wnes i ddefnyddio llawer o fy amser yn fy sylwadau agoriadol i wneud yn siŵr fy mod i wedi ymateb i holl argymhellion y pwyllgorau. 

Byddaf yn ysgrifennu, yn amlwg, ymateb ffurfiol i bwyllgorau o ran tystiolaeth ysgrifenedig ar ôl y cyflwyniad hwn heddiw. Diolch am eich cefnogaeth o ran yr egwyddorion. Bil fframwaith yw hwn, felly bydd y gwaith diddorol ar hyn yn cael ei wneud yn y cam rheoleiddio.

Mae'n ddrwg gen i nad oeddem yn gallu, Russell, rhoi mwy o rybudd, ond fel yr ydym ni wedi ceisio egluro, mae hwn yn Fil sy'n ymateb i'r hyn a ddigwyddodd yn San Steffan, a'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan, ac nid ydym wedi gorffen eto. Yr hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud yw sicrhau nad oes bwlch. Felly, nid wyf eisiau ymddiheuro am y ffaith ein bod ni mewn gwirionedd yn cyrraedd sefyllfa ble, beth bynnag maen nhw'n ei ddyfeisio, byddwn ni'n gallu ymateb mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Heb y cytundeb fframwaith hwn, efallai y byddwn yn sownd mewn system na fydd yn gweithio i ni. Felly, diolch am ddeall y cyd-destun anarferol ac, yn amlwg, byddwn yn cael y cyfnod ymgynghori arferol ar gyfer y rheoliadau.

Huw, o ran pwyllgor y cyfansoddiad, nid yw'r ffodd yr ymdriniwyd â hyn yn ddelfrydol. [Torri ar draws.] A dydych chi byth yn fodlon, chwaith. Ond fel y dywedaf, mae hon yn amserlen y cawsom ein taflu iddi, bron â bod. Diolch i'r Senedd am ddod o hyd i'r bwlch bach hwn yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar ein cyfer, ond hoffem wneud yn siŵr fod bwlch mor fyr â phosib rhwng beth bynnag a gyflwynwyd yn Lloegr a beth bynnag yr hoffem ni ei gyflwyno yng Nghymru.

Peredur, un o'r rhesymau pam rŷn ni'n poeni o ran y risg yw achos y bwlch yna. Os yw'r bwlch yna'n eang, mae'r risg yn ehangu, a byddai'n fwy anodd inni lenwi'r bwlch. Felly, dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig bod y mudiadau sy'n ymgymryd â chaffael yn y gwasanaeth iechyd wedi ei gwneud hi'n glir bod risg i gael fan hyn, a dyna pam maen nhw'n glir eu bod nhw eisiau gweld y Bil yma.

Mae'n anodd rhoi asesiad effaith rheoleiddiol hollol gywir heb wybod beth fydd hyd a lled y rheoliadau. Dyna'r cyfyng gyngor yr ydym ni ynddo heddiw, a hyd nes i ni weld beth fydd cwmpas y rheoliadau yn Lloegr, mae'n anodd gwneud asesiad effaith rheoleiddiol manwl iawn. Ond er i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddweud wrthym ni na allen nhw amcangyfrif cost gweithredu, mae'r GIG wedi rhoi amcangyfrif i ni, ffigur tybiedig o'r hyn maen nhw'n credu y gallai fod. Ond mae hyd yn oed hynny, y byddwn i'n dadlau, yn eithaf anodd iddyn nhw.

Rhun, os bydd y rheoliadau o'r Deyrnas Unedig yn gyrru i gyfeiriad preifateiddio, yn amlwg bydd yn rhaid inni ystyried os ydym ni eisiau dilyn y trywydd hwnnw. Ond, ar y llaw arall, dwi'n meddwl bod yna, efallai, fanteision y gallwn ni eu gweld o ran caffael ar gyfer y trydydd sector neu'r sector wirfoddol wrth roi cytundebau hir. Gallwn ni roi, efallai, cytundebau hirach i'r rheini sydd, ar hyn o bryd, yn flynyddol. Felly, dwi'n meddwl bod yna fwy o lygedyn o obaith i rai o'r bobl efallai y byddem ni eisiau eu gweld yn ymgymryd â rhai o'r gwasanaethau yma.  

Jenny, dim ond o ran yr effaith negyddol posib os nad oes gennym y modd i ymateb, rwy'n credu y byddai'r problemau go iawn yn dod pe na bai gennym ni fframwaith. Pe bai bwlch, dyna lle fyddai'r gwir broblemau. Mae'n rhaid i ni gofio bod gennym ni broblem ffin ddifrifol iawn yng Nghymru. Rydym ni'n caffael pethau ar sail Cymru-a-Lloegr ar hyd y ffin, felly mae hynny'n fater dilys, a hefyd gwasanaethau arbenigol—mae llawer o wasanaethau arbenigol nad ydynt ar gael yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni gaffael yn Lloegr. Ac oherwydd ein bod ni'n sôn am wasanaethau arbenigol iawn, ychydig iawn o bobl sy'n cael y gwasanaethau hynny, mae'n rhaid i chi ofyn a fyddai gwasanaethau yn Lloegr eisiau mynd trwy drefn dethol caffael wahanol, neu a fydden nhw'n dweud, 'Edrychwch, mae'n ormod o drafferth i ni, mae hynna'n rhy gymhleth, mae'n gam yn rhy bell, gadewch i ni beidio â thrafferthu gyda hynna' a byddem mewn sefyllfa lle na fyddai unrhyw ddarpariaeth ar gyfer rhai pobl sâl iawn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.

Felly, wrth gau, dwi eisiau diolch i'r holl bwyllgorau sydd wedi craffu ar y Bil hwn, y bobl a'r cyrff hynny wnaeth roi eu hamser i rannu eu barn gyda'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod Cyfnod 1, a holl Aelodau'r Senedd a staff y Comisiwn sydd wedi cyfrannu mewn ffordd mor adeiladol. Dwi'n annog yr Aelodau i gefnogi'r Bil hwn a'r penderfyniad ariannol yma heddiw. Diolch.

17:05

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 7 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae hynny'n caniatáu inni fynd ymlaen i ystyried y cynnig o dan eitem 8. Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig yma? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Ac felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

17:10

Mae hynny'n golygu nad oes angen cyfnod pleidleisio arnom ni y prynhawn yma, ac mae'r cyfarfod ar ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:10.