Y Cyfarfod Llawn

Plenary

02/05/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso i'r sesiwn lawn heddiw. Yn gyntaf, cwestiynau i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Mike Hedges. 

Llygredd Afonydd

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau llygredd afonydd? OQ59418

Diolch i Mike Hedges, Dirprwy Lywydd, am y cwestiwn yna. Gyda chyd-Weinidogion, rwyf i wedi cadeirio dwy uwchgynhadledd, gan ddod â'r holl gyrff a sefydliadau hynny â chyfrifoldeb i leihau llygredd afonydd at ei gilydd. Mae'r cynllun gweithredu y cytunwyd arno yn ymrwymo'r holl gyfranogwyr i gyflymu'r mesurau ymarferol y gall pob un eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd yn ein dyfrffyrdd.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae llygredd afonydd yn broblem ledled Cymru, ond hoffwn siarad am Afon Tawe yn unig. Mae gennym ni ollyngiad carthion amrwd, llygredd amaethyddol a microblastigau. Rhai awgrymiadau: a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cymryd camau i atal dŵr ffo rhag cymysgu â charthion? Mae pethau yr wyf i'n credu allai helpu yn cynnwys plannu coed a llwyni, gan ei wneud yn amod cynllunio ar ddatblygiadau newydd na fydd gorchuddion anhydraidd yn cael eu caniatáu, ac eithrio dreif â lled cyfyngedig, i fod â mwy o reolaeth dros ddefnyddio gwrtaith ar dir fferm, ac i wahardd defnydd o microblastig yn llwyr mewn deunyddiau a ddefnyddir yn gyffredin fel colur.

Wel, Dirprwy Lywydd, diolch i Mike Hedges am ei awgrymiadau adeiladol bob tro ynghylch sut y gallem ni fynd i'r afael â melltith llygredd afonydd. Rwy'n credu ein bod ni eisoes wedi cychwyn ar nifer o'r pwyntiau y mae wedi eu crybwyll. O ran gwahanu dŵr ffo oddi wrth garthion, yna mae dyfodol systemau draenio cynaliadwy, rwy'n credu, yn hanfodol i wneud yn siŵr y gallwn ni, ar gyfer pob datblygiad adeiladu newydd, leddfu pwysau ar y rhwydwaith, gan ailgyfeirio ac arafu'r cyflymder y mae dŵr wyneb yn mynd i mewn i'r system garthffosiaeth.

Fe wnaeth yr Aelod nifer o bwyntiau am lygredd amaethyddol. Wrth gwrs, rydym ni wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod gennym ni fwy o reolaeth defnydd dros wrteithiau ar dir fferm, a bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cyfrannu at nifer o bwyntiau eraill a wnaeth Mike Hedges. Bydd yn cynnig cymorth i'r ffermwyr hynny sy'n dewis ei gymryd, i blannu coed, ar hyd glannau afonydd yn arbennig, ond hefyd yn fwy cyffredinol. Ac o ran y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch gwneud yr amod cynllunio ar ddatblygiadau newydd, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ymrwymo i ysgrifennu at bob awdurdod lleol, gan eu hatgoffa o'r pwerau gorfodi sydd ganddyn nhw eisoes yn hyn o beth. Ceir cyfyngiadau ar balmantu dros erddi ffrynt, ar gyfer parcio neu unrhyw ddiben arall, heb ganiatâd cynllunio. Ac mae Mike Hedges yn hollol gywir i gyfeirio at y ffaith bod y ffordd y mae pobl, yn gynyddol mewn ardaloedd trefol, wedi troi'r hyn a oedd yn erddi gynt yn arwyneb solet a mannau parcio, yn golygu bod mwy o ddŵr ffo yn llifo i garthffosydd, gan ychwanegu at y perygl o lifogydd ac effeithio ar ansawdd dŵr. Felly, rwy'n gobeithio y gall yr Aelod weld o hynny bod amrywiaeth o'r awgrymiadau y mae wedi eu gwneud yn cael sylw eisoes, ac mae syniadau eraill y mae wedi eu hawgrymu y prynhawn yma y byddwn ni'n gallu eu harchwilio a gweld a allan nhw ychwanegu at yr ymdrech draws-Lywodraeth gyffredinol honno.

Mae'n amlwg, ar hyn o bryd, eich bod chi wrthi'n llunio eich cynllun gweithredu. Mae'n deg dweud bod gan Lywodraeth Geidwadol y DU gynllun eglur nawr ar gyfer lleihau llygredd afonydd. Erbyn 2035—ydyn, maen nhw ymhell ar y blaen—bydd yn rhaid i gwmnïau dŵr wella'r holl orlifoedd storm sy'n gollwng i mewn i bob dŵr ymdrochi dynodedig, neu'n agos atyn nhw, a bydd yn rhaid iddyn nhw wella 75 y cant o orlifoedd sy'n cael eu gollwng i safleoedd natur â blaenoriaeth uchel. Erbyn 2050, bydd hyn yn berthnasol i'r holl orlifoedd storm sy'n weddill a gwmpesir gan ein targedau ni waeth beth fo'u lleoliad. Mae gan Gymru chwech o'r 20 o afonydd mwyaf llygredig yn y DU, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod 600,000 awr o waredu i'n dyfrffyrdd a'n hafonydd yng Nghymru yn gwbl annerbyniol. Felly, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi ac yn cefnogi safiad Llywodraeth Geidwadol y DU—y safiad y maen nhw wedi ei gymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn—trwy ddwyn cwmnïau dŵr i gyfrif, ac, os felly, pryd ydych chi'n mynd i wneud yr un peth yma yng Nghymru?

Wel, Dirprwy Lywydd, nid wyf i'n credu bod hwn yn faes lle ceir cystadleuaeth rhwng gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod angen i ni leihau llygredd afonydd yng Nghymru, ac rwy'n eithaf siŵr bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau yn Lloegr i wneud yr un peth. Mae'n uchelgais cyffredin, yn enwedig gydag afonydd sy'n croesi'r ffin, a dim ond camau cyfunol all gael yr effaith yr ydym ni'n ei dymuno. Mae llawer o'r pethau y mae'r Aelod wedi sôn amdanyn nhw yn digwydd yng Nghymru. Erbyn 2030, bydd Dŵr Cymru wedi lleihau eu llwytho llygredd ffosfforaidd ar ein hardaloedd allweddol 90 y cant, a bydd wedi ei leihau 100 y cant erbyn 2035. Wrth gwrs, mae llawer iawn mwy y mae angen ei wneud. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod nad yw gwaredu carthion i afonydd yn arfer derbyniol, a bod yn rhaid i'r diwydiant fuddsoddi mwy, ac yn gyflymach, i wneud yn siŵr ei fod yn mynd i'r afael â hynny. Rwy'n credu, yn Dŵr Cymru, bod gennym ni gwmni yng Nghymru, cwmni nid-er-elw, sy'n gallu buddsoddi yn seilwaith Cymru heb gymryd elw yn rhywle arall. Rwy'n credu ein bod ni'n ffodus bod gennym ni gwmni sydd wedi'i strwythuro yn y ffordd honno ac, yn fy marn i, sydd ag ymrwymiad gwirioneddol i chwarae ei ran i leihau llygredd afonydd.

13:35

Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwyf i'n byw yn y Gelli Gandryll. Afon Gwy yw'r ail afon fwyaf llygredig yng Nghymru, ar ôl Afon Wysg, ac Afon Tawe yw'r drydedd afon fwyaf llygredig yng Nghymru. Mae bagiau post llawer ohonom ni'n cael eu llenwi gan bobl yn ysgrifennu atom ni am gyflwr ein hafonydd. Ac rwy'n sylweddoli nad yw'n bwynt gwleidyddol, ond rwy'n siomedig iawn, unwaith eto, bod ASau Ceidwadol wedi pleidleisio yn erbyn cymryd safiad llymach yn erbyn gwaredu carthion gan ein cwmnïau dŵr, rhywbeth a fyddai wedi ein helpu ni ar draws y DU. Byddwn hefyd yn mynd i ddadl yma yng Nghymru ynghylch Dŵr Cymru. Mae swyddogion gweithredol Dŵr Cymru yn cael eu talu cryn dipyn o arian—rwy'n meddwl mai £600,000 oedd y taliad diwethaf i un o brif weithredwyr Dŵr Cymru. Mae hyn ar adeg pan fo biliau dŵr Cymru y rhai ail uchaf yn y wlad. A gaf i ofyn i chi, o ran carthion afonydd, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cefnogi mesurau i wneud gwaredu carthion yn anghyfreithlon?

Wel, Dirprwy Lywydd, wrth gwrs mae'r Aelod yn iawn yn ei phwynt ffeithiol syml am y ffordd y pleidleisiodd ASau Ceidwadol ar y mater hwn. Pe bai gwaredu carthion yn cael ei wneud yn anghyfreithlon, yna byddai'r cwestiwn yn codi o ran yr hyn sy'n digwydd pan fo gorlifoedd storm yn anochel yn achosi pwysau ar y system. Ac er fy mod i'n cytuno'n llwyr â'r Aelod o ran bod eisiau gweld hynny i gyd yn cael sylw o ddifrif a chyflym, y ffaith syml yw bod gorlifoedd carthion cyfunol yn gweithredu mewn ffordd sy'n golygu nad yw carthion yn dod trwy loriau busnesau preifat a chartrefi preifat. Felly, pe byddech chi'n ei wahardd yfory, yn syml iawn byddech yn dadleoli'r broblem ac yn gwneud y broblem, rwy'n meddwl, hyd yn oed yn llai derbyniol i ddinasyddion Cymru. Y gwir amdani, Dirprwy Lywydd, yw bod hwn yn fater cymhleth, lle gallwch chi wneud gwahaniaeth dim ond trwy gasglu'r holl wahanol gyfraniadau gan y rhai sydd â rhan i'w chwarae ynghyd. Dyna pam mae ein cynllun gweithredu'n cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, ond y rheoleiddwyr, y datblygwyr, yr undebau amaeth, y cwmnïau dŵr, a bydd angen i ni ei weld gan gymunedau eu hunain. Yn achos Afon Gwy, daw 72 y cant o lygredd yn Afon Gwy o ffynonellau amaethyddol. Felly, er fy mod i'n cytuno bod yn rhaid i Dŵr Cymru chwarae ei ran, a'i wneud yn effeithiol, oni bai eich bod chi'n barod i fynd i'r afael â'r ffynonellau eraill o lygredd afonydd, yna ni fyddwch yn gwneud y gwahaniaeth yr hoffai Jane Dodds a minnau ei weld.

Gwasanaethau Trên

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau trên sy’n rhedeg o Fangor ar hyd rheilffordd arfordir y gogledd? OQ59456

Diolch i Siân Gwenllian. Dirprwy Lywydd, cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw llawer o’r gwasanaethau ar y prif reilffyrdd ar draws gogledd Cymru, ac maen nhw’n cael eu darparu gan Avanti West Coast. Mae perfformiad gwael a lefelau gwasanaeth annigonol ar y llwybr hanfodol hwn wedi rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau rhanbarthol sy’n cael eu rhedeg gan Drafnidiaeth Cymru ac wedi rhoi profiad annerbyniol i deithwyr ar draws y gogledd.

13:40

Diolch yn fawr. Dwi'n cytuno efo'r dadansoddiad yna. Ond, ym Mangor, mae un o'r gorsafoedd trenau prysuraf yn y gogledd, ac mae yna gynlluniau ar droed i wella'r cyfleusterau. Ond y gwelliant mwyaf pellgyrhaeddol allai ddigwydd, er lles teithwyr y trên yn Arfon a thu hwnt, ydy trydaneiddio lein arfordir y gogledd. Byddai peth o'r arian sy'n ddyledus i Gymru yn sgil HS2 Lloegr yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer y trydaneiddio yma. Ond, yn ogystal â'r buddsoddiad, mae angen inni gael y pwerau dros isadeiledd rheilffordd a dod â'r pwerau yma i'r Senedd. A wnewch chi gyflwyno'r achos cryf dros ddatganoli'r isadeiledd rheilffyrdd i'r Llywodraeth—gwneud yr achos yna'n gryf i'r Llywodraeth yn Llundain—a hefyd i'ch plaid eich hun?  

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiynau ychwanegol, Dirprwy Lywydd. A dwi'n cytuno—mae'n rhaid i ni gael y pwerau, y pwerau llawn yn y maes rheilffyrdd, a hefyd y buddsoddiadau sydd yn mynd gyda'r pwerau. Mae rhai pwerau gyda ni yn barod. Rydyn ni wedi defnyddio'r pwerau, fel mae pobl yn gallu gweld yn y buddsoddiad yn y rheilffordd yn y Cymoedd ac yng Nghaerdydd. Os gallwn ni gael y pwerau yn llawn, gallwn ni wneud job sy'n tynnu popeth gyda'i gilydd i wneud gwaith gwell yma yng Nghymru. Ond i wneud hynny—. Pwerau heb y buddsoddiadau, dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd. Dyna pam mae'r pwyntiau mae Sian Gwenllian wedi eu rhoi at ei gilydd yn bwysig i ni yma yng Nghymru. 

Mae gorsaf Bangor eisoes yn ganolbwynt pwysig i fyfyrwyr prifysgol a nawr, gyda Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn ysgol feddygol, academi ddeintyddol ac Amgueddfa Lechi Cymru yn ei rhaglen lywodraethu, mae gorsaf Bangor wedi tyfu'n sylweddol mewn pwysigrwydd. A ydych chi'n rhannu fy siom o weld mai dim ond pum gwasanaeth y dydd fydd yna bellach rhwng y gogledd a Llundain o fis Mai 2023, a dim cynlluniau gan Lywodraeth y DU i adfer lefel y gwasanaeth cyn COVID? Trwy ddyfarnu contract chwe mis i Avanti, maen nhw'n oedi ailystyriaeth y mae wir ei hangen o'r gwasanaeth a ddarperir, ac ni fydd cynnig byrdymor o'r fath yn cymell Avanti i wella'r gwasanaeth na datrys unrhyw faterion eraill sydd angen sylw. Felly, rwy'n poeni braidd fod hon yn gic arall yn nannedd pobl y gogledd ac am geisio tyfu'r economi yno, ac i gael pobl i Fangor.

Dirprwy Lywydd, diolch i Carolyn Thomas am hynna. Mae hi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Gwnaed penderfyniad Avanti West Coast i leihau gwasanaethau rhwng y gogledd a Llundain heb unrhyw rybudd ymlaen llaw i Lywodraeth Cymru nac i Trafnidiaeth Cymru, er gwaethaf yr effaith ganlyniadol amlwg iawn ar y gwasanaethau rheilffordd lleol hynny. Nid yn unig y gwnaeth leihau'r gwasanaethau hynny yn fympwyol, ond, yn amlwg, roedd hynny yn ddigon da i Lywodraeth y DU, oherwydd, er gwaethaf hynny, maen nhw wedi bwrw ymlaen a dyfarnu estyniad contract o chwe mis i Avanti West Coast. Nawr, rwy'n clywed bod Avanti wedi ymrwymo i wella'r gwasanaeth hwnnw. Rwy'n falch o weld bod prif weithredwr newydd Avanti West Coast wedi cynnig cyfarfod gyda'n Gweinidog trafnidiaeth i nodi'r camau y maen nhw'n eu cymryd, ond y gwir amdani, Dirprwy Lywydd, yw bod y problemau ar y rheilffyrdd yn fwy sylfaenol nag unrhyw fasnachfraint unigol. Yn syml, nid yw'r ffordd y mae gwasanaethau rheilffyrdd wedi'u cynllunio a'u darparu ar draws y Deyrnas Unedig yn diwallu anghenion y cyhoedd sy'n teithio. Er mwyn cael adolygiad mwy sylfaenol, rydych chi angen yr hyn a ddywedodd Siân Gwenllian yn ei chwestiwn gwreiddiol—rydych chi angen i'r pwerau gael eu trosglwyddo i Gymru a'r buddsoddiad i fynd ochr yn ochr â nhw, ac yna, yn y ffordd yr ydym ni wedi cymryd y rhannau hynny o'r rheilffordd sydd o dan ein rheolaeth yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus, byddwn yn gallu gwneud hynny a gwneud darpariaeth lawer gwell o wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

Mae fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian yn hollol iawn i godi pryderon eto am y gwasanaethau rheilffyrdd yn y gogledd. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, Prif Weinidog, mae gennych chi Ddirprwy Weinidog trafnidiaeth gonest, sy'n galonogol iawn, y mae'n amlwg bod ganddo bryderon am gyflwr y gwasanaeth rheilffyrdd sy'n cael ei redeg gan Lafur yma yng Nghymru hefyd. Cafodd ei ddyfynnu yn ddiweddar yn dweud y gallai Trafnidiaeth Cymru fod yn 'ofnadwy' ac wedi bod yn 'eithaf llwm ers sbel'. A ydych chi'n cytuno ag ef, Prif Weinidog?

13:45

Yr hyn yr wyf i'n cytuno ag ef oedd y pwynt yr oedd y Gweinidog yn ei wneud mewn gwirionedd, gan ei fod yn cyfeirio at benderfyniad Llywodraeth y DU i gyflwyno dyfodol ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru na all ond fod yn un o ddirywiad a reolir. Dyna bolisi eich plaid a'r Llywodraeth yr ydych chi'n ei chefnogi. Dyna pam maen nhw wedi cytuno ar y cyfnod nesaf o fuddsoddiad ar gyfer Network Rail sydd â Chymru ar waelod isaf tabl y gynghrair. Mae pob rhanbarth arall heblaw un yn cael buddsoddiad gwell dros y cyfnod nesaf na'r hyn sy'n mynd i gael ei gynnig yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith bod buddsoddiad yng ngwasanaeth rheilffyrdd Cymru wedi bod yn druenus dros yr holl 13 mlynedd y mae eich Llywodraeth wedi bod wrth y llyw. Dyna oedd y pwynt yr oedd y Dirprwy Weinidog yn ei wneud, ac mae'n un rwy'n credu y byddai unrhyw berson sy'n cymryd golwg wrthrychol ar ffeithiau buddsoddiad mewn rheilffyrdd yng Nghymru yn ei gymeradwyo.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Symudwn ymlaen nawr i gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau, ac, yn gyntaf, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, cyhoeddodd COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru ddatganiad damniol, er tegwch, yn asesu'r ymgysylltiad hyd yn hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael ag ymchwiliad COVID y DU gyfan. Nawr, o'r meinciau hyn, rydym ni wedi dweud dro ar ôl tro y dylai fod ymchwiliad annibynnol Cymru gyfan; yn anffodus, mae'r meinciau Llafur wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig hwnnw, felly rydym ni yn dibynnu, yn amlwg, ar Lywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag ymchwiliad y DU i wneud yn siŵr bod yr holl ffeithiau yn cael eu cyflwyno ac y gall yr ymchwiliad hwnnw eu deall. A allwch chi roi diweddariad i ni ar sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r ymchwiliad COVID ar lefel y DU? Ac a ydych chi mor bryderus â mi ynghylch y farn sydd gan y teuluoedd mewn profedigaeth yn sgil COVID ar beidio â datgelu a phrydlondeb y dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyflwyno i'r ymchwiliad?

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n llawn ag ymchwiliad y DU. Rydyn ni'n derbyn nifer o geisiadau rheol 9 i Weinidogion ac i uwch swyddogion, a cheir cydymffurfiad â'r ceisiadau rheol 9 lluosog hynny. Dywedodd y cwnsler i'r ymchwiliad yn y gwrandawiad bod Llywodraeth Cymru wedi cydymffurfio â phob un o'r ceisiadau hynny. Roedden nhw wedi gofyn am rai arddangosion pellach, fel maen nhw'n cael eu galw—dogfennau ategol—i fynd ochr yn ochr â'r datganiadau a gyflwynwyd yn brydlon. Mae'r dogfennau pellach hynny wedi cael eu cyflwyno erbyn hyn. Mae'n rhan o filoedd ar filoedd o ddogfennau y mae Llywodraeth Cymru bellach wedi eu darparu i'r ymchwiliad.

Ar y pwynt a wnaeth y teuluoedd mewn profedigaeth am beidio â datgelu datganiadau tystion iddyn nhw, yn sicr nid yw hwnnw'n fater i Lywodraeth Cymru o gwbl. Unwaith y bydd y datganiadau yn nwylo'r ymchwiliad, mae'n benderfyniad i'r ymchwiliad annibynnol ei wneud o ran pryd y cyflwynir y datganiadau hynny i gyfranogwyr craidd eraill. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw lais yn hynny o gwbl, ac ni ddylai fod gennym ni chwaith. Felly, efallai fod gan y teuluoedd mewn profedigaeth bryder amdano, ond nid yw'n bryder y gellir ei osod wrth ddrws Llywodraeth Cymru.

Felly, er eglurder, Prif Weinidog, mae'r dogfennau y gofynnwyd amdanyn nhw gan yr ymchwiliad a'r gwaith papur a'r dystiolaeth arall sy'n ofynnol wedi cael eu cyflwyno yn brydlon, ac mewn gwirionedd yr ymchwiliad sydd ar fai am beidio â datgelu yn hytrach na Llywodraeth Cymru—neu a oes enghreifftiau gwirioneddol lle nad yw'r holl wybodaeth wedi cael ei hanfon drosodd gan Lywodraeth Cymru a bod hyn wedi achosi, yn amlwg, i'r ymchwiliad beidio â chyhoeddi'r wybodaeth gan eu bod nhw'n meddu ar wybodaeth rannol yn unig? Oherwydd mae'n bwynt pwysig deall pam yn union nad yw'r wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi i'r teuluoedd mewn profedigaeth yn sgil COVID, sydd â statws cyfranogiad craidd yn yr ymchwiliad, a disgwylir i fodiwl 1 ddechrau ymhen saith wythnos yn unig. Maen nhw angen y dystiolaeth honno i allu bod mewn sefyllfa i gyflwyno eu hachos yn amlwg.

Llywydd, yn gyntaf oll, mae'n amhosib i mi gytuno â'r syniad mai'r ymchwiliad sydd ar fai. Does dim bai yma; penderfyniad gan yr ymchwiliad yw hwn. Dywedodd arweinydd yr wrthblaid mai'r ymchwiliad oedd ar fai—dyna'r term a ddefnyddiodd; gwrandewais arno yn ofalus iawn—am beidio â datgelu dogfennau. Nid ei le ef na fy lle i yw rhoi'r bai ar yr ymchwiliad. Mae'r ymchwiliad yn annibynnol; mae'n gwneud ei benderfyniadau ynglŷn â phryd mae dogfennau yn cael eu rhyddhau i bawb sy'n gyfranogwyr craidd. Dydw i ddim yn credu—dydw i ddim wedi gwirio heddiw—dydw i ddim yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi gweld datganiadau cyfranogwyr craidd eraill eto, a byddwn yn rhoi tystiolaeth. Mae'r cyn-Weinidog iechyd a minnau ill dau yn cael ein galw fel tystion llafar i'r ymchwiliad ar fodiwl 1, a dydyn ni ddim wedi gweld datganiad neb arall eto chwaith. Penderfyniad i'r ymchwiliad ei wneud yw hwnnw. 

O ran y ddarpariaeth o wybodaeth, rwy'n credu mai'r gorau y gallaf i ei wneud yw darllen ar gyfer y cofnod yr hyn a ddywedodd y cwnsler i'r ymchwiliad yn y gwrandawiad modiwl 1 hwnnw.

'Dyma'r sefyllfa o ran Llywodraeth Cymru',

meddai'r CB,

'yn ei hymateb drafft, er bod yr ymateb yn llawn ac yn gyflawn, roedd arddangosion ategol yn absennol'.

Yna mae'n dweud ei fod wedi gofyn am yr arddangosion ategol hynny, ac, meddai,

'rydym ni wedi derbyn y deunydd.'

Yna mae'n dweud ar ddiwedd y cyflwyniad hir yr oedd yn ei wneud—. 'Felly', meddai wrth gadeirydd yr ymchwiliad,

'nid oes, bellach, unrhyw broblem wirioneddol o ran y ddarpariaeth o ddeunydd gan ddarparwyr perthnasol.'

Felly, dim ond i'w symleiddio, Dirprwy Lywydd: darparwyd yr hyn a ofynnwyd amdano gennym ni yn brydlon. Mae'r ymchwiliad, yn gwbl briodol, yn cwestiynu'r deunydd hwnnw ac yn gweld a oes unrhyw beth arall sydd ei angen arno. Gofynnodd i ni am ragor o ddogfennau ategol. Darparwyd y rheini. A byddwn yn parhau i gydweithredu â'r ymchwiliad, yn llawn, ar bob cam.

13:50

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Dydw i wir ddim yn ceisio eich baglu chi, ac rwy'n ddiolchgar am yr un frawddeg y gwnaethoch chi ei rhoi yn yr ymateb yna, sef bod yr hyn a oedd yn ofynnol gennych chi wedi cael ei gyflwyno yn brydlon. Rwy'n credu y bydd hynny o gymorth mawr, i deuluoedd mewn profedigaeth yn sgil COVID yn arbennig, ond eraill, i ddeall bod yr wybodaeth honno, yn eich geiriau chi, wedi cael ei chyflwyno yn brydlon.

Yr hyn yr hoffwn geisio ei archwilio gyda chi hefyd yn fy nghwestiwn olaf yw mater arall y tynnodd y teuluoedd mewn profedigaeth yn sgil COVID sylw ato fel mater: y tystion arbenigol a allai gael eu galw gan yr ymchwiliad i fyfyrio ar gamau a gymerwyd yma yng Nghymru. Fel yr wyf i'n credu ein bod ni i gyd yn deall, mae tystion arbenigol yn rhan bwysig iawn o waith casglu tystiolaeth a dealltwriaeth unrhyw ymchwiliad o'r sefyllfa.

A ydych chi'n hyderus bod gan y tystion arbenigol yr ydych chi'n deall y bydd yr ymchwiliad yn ymdrin â nhw neu'n galw arnyn nhw, yr arbenigedd digonol i ddeall y fframweithiau polisi, deddfwriaethol a gwneud penderfyniadau sy'n bodoli yma yng Nghymru i allu hysbysu'r ymchwiliad mewn ffordd ystyrlon, fel y gallan nhw ddod i gasgliadau sydd o fudd i'r prosesau gwneud penderfyniadau yma yng Nghymru, pe bai sefyllfa arall fel hon yn ymddangos ar ein gorwelion?   

Wel, Llywydd, rwyf eisiau bod yn ofalus yn yr hyn yr wyf i'n ei ddweud, gan fy mod i'n dyst i'r ymchwiliad. Yr hyn a wnes i oedd negodi gyda Llywodraeth y DU ar y pryd i wneud yn siŵr bod gan yr ymchwiliad yr holl bwerau sydd eu hangen arno i allu sicrhau tystiolaeth gan ba bynnag dystion y mae'n credu sydd eu hangen arno i allu archwilio'r ffordd y cafodd penderfyniadau eu gwneud yma yng Nghymru. Ni allaf i, fel tyst i'r ymchwiliad, geisio dylanwadu ar yr ymchwiliad wedyn o ran pwy y mae'n galw arnyn nhw i roi tystiolaeth arall. Felly, rwyf i'n ceisio bod yn ofalus iawn fy mod i'n ymddwyn yn weddus yma.

Yr hyn yr wyf i'n ffyddiog yn ei gylch yw, yn y trafodaethau a gynhaliais gyda Phrif Weinidog y DU ar y pryd, bod cylch gorchwyl ac arferion gwaith yr ymchwiliad wedi cael eu llunio mewn ffordd sy'n cynnig i'r ymchwiliad annibynnol hwnnw—bod yn rhaid iddo benderfynu gan bwy y mae eisiau clywed. Mae ganddo'r holl bwerau sydd ar gael iddo er mwyn gallu gwneud y gwaith pwysig—ac rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaeth arweinydd yr wrthblaid: mae'n bwysig bod yr ymchwiliad yn gallu gwneud hynny. Mae ganddo'r grym sydd ei angen arno, ac mae'n rhaid i ni ganiatáu iddo arfer y cyfrifoldebau hynny yn y ffordd gwbl annibynnol honno.

Dim ond i roi sylw i'r pwynt diwethaf yna, Prif Weinidog, os caf i—. Rwy'n derbyn mai darlun sy'n esblygu yw hwn; mae'n ymchwiliad byw. Ond, pan ofynnais i'r Farwnes Hallett yn benodol am dystion arbenigol ychydig dros fis yn ôl, cefais restr o'r tystion arbenigol a oedd wedi'u penodi erbyn y dyddiad hwnnw. Ac roedd—. Yn seiliedig ar y maes cyfarwyddyd a roddwyd i mi, nid oedd gan yr un ohonyn nhw unrhyw arbenigedd penodol yn ymwneud â Chymru. Onid yw'r Prif Weinidog, o leiaf—? Rwy'n deall y pwynt yr ydych chi newydd ei wneud nad eich swyddogaeth chi fel tyst i'r ymchwiliad yw dweud wrth yr ymchwiliad wedyn pa arbenigedd sydd ei angen arnyn nhw. Ond onid yw'n faes sy'n peri pryder dilys, yn sicr ar 23 Mawrth, nad oedd unrhyw dystion arbenigol wedi'u penodi bryd hynny, gyda dim ond ychydig fisoedd i fynd cyn dechrau modiwl 1, ag arbenigedd yn ymwneud â Chymru?

13:55

Llywydd, mae'r asesiad o ba un a oes gan y tystion y mae'r ymchwiliad wedi eu galw hyd yn hyn arbenigedd yn fater o farn, ac mae'r farn y mae Adam Price wedi ei mynegi yn farn iddo ef ei chyfleu. Roedd yn iawn i wneud ei bwyntiau yn uniongyrchol i gadeirydd yr ymchwiliad. Mae'r rheini iddi hi eu datrys, ac nid fi. A wyf i'n credu y dylai fod gan y pwyllgor yr holl arbenigedd annibynnol sydd ei angen arno ar gael iddo? Wrth gwrs fy mod i. Dyna pam y cefais i'r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU ar yr adeg yr oedd yr ymchwiliad yn cael ei sefydlu. Rwy'n credu bod y pwerau sydd eu hangen arno ganddo er mwyn gwneud hynny. Os oes unrhyw un yn credu, ac nad yw ef ei hun yn gyfranogwr craidd yn yr ymchwiliad, bod ffynonellau pellach o arbenigedd a allai helpu'r ymchwiliad yn ei waith, wrth gwrs gellir gwneud y pwyntiau hynny yn uniongyrchol i gadeirydd yr ymchwiliad. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price wrth agor, bod hon yn sefyllfa sy'n esblygu. Heb os, bydd yr ymchwiliad yn chwilio am dystiolaeth bellach ac arbenigedd pellach, ac, os oes unrhyw un yn credu y gellid gwneud mwy, dylid gwneud y pwynt hwnnw yn uniongyrchol i'r ymchwiliad ei hun.

Mae gan y cyfranogwyr craidd, rwy'n credu, fynediad ymlaen llaw at adroddiadau'r tystion arbenigol. Efallai y gallai'r Prif Weinidog fy nghywiro os wyf i'n anghywir, ond mae grŵp COVID bereaved families Cymru wedi gweld yr adroddiadau arbenigol hynny sydd wedi cael eu paratoi hyd yn hyn, ac fe wnaethon nhw ddweud yn y gwrandawiad rhagarweiniol—dywedodd eu cynrychiolydd—mai:

'Yr hyn sy'n amlwg o'r holl adroddiadau hyn yw bod y gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys Cymru, yn derbyn dadansoddiad annigonol ac mewn rhai achosion bron dim dadansoddiad o gwbl.'

Felly, nid fy marn i yn unig yw hi, dyna farn pobl eraill sydd wedi gweld yr adroddiadau a luniwyd hyd yn hyn. Yn seiliedig ar y ffaith, mewn gwirionedd, nad oes unrhyw arbenigedd penodol, yn yr wybodaeth sydd wedi cael ei rhannu â mi gan yr ymchwiliad, sy'n ymwneud â Chymru, nid yw hyn yn fawr o syndod.

Felly, a allwn i ofyn i'r Prif Weinidog hefyd—? Cefais fy hysbysu gan yr ymchwiliad bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi gwneud cais am statws cyfranogwyr craidd, ond gwrthodwyd hynny iddyn nhw ar draws yr holl fodiwlau. A ydych chi'n credu bod hwnnw'n benderfyniad annisgwyl o ystyried yr anghenraid o gael cyfranogwyr craidd o Gymru, fel y teuluoedd COVID, sy'n gallu gwneud pethau fel cwestiynu lefel yr arbenigedd sy'n ymwneud â Chymru?

Wel, Llywydd, mae gan holl gyfranogwyr craidd yr ymchwiliad gyfrifoldebau sy'n dod o fod yn gyfranogwr craidd, ac mae ganddyn nhw hawliau sy'n dod gyda hynny hefyd. Mae hynny yn rhoi hawliau i gyfranogwyr craidd weld dogfennau. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n synhwyrol o gwbl, Llywydd, ceisio rhagweld yr ymchwiliad cyn iddo glywed yn uniongyrchol gan yr un tyst. Diben yr ymchwiliad yw dod i'r casgliadau ar y materion y mae arweinydd Plaid Cymru wedi eu codi y prynhawn yma, ac mae ar odre'r gwaith hwnnw. Wrth gwrs, bydd gan gyfranwyr unigol at yr ymchwiliad safbwyntiau. Dyna pam maen nhw'n gyfranogwyr craidd. Ond i ddyfynnu safbwyntiau un sefydliad fel pe bai hynny'n ddiwedd ar y mater, pan fo'r ymchwiliad, mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r ymchwiliad yno i'w wneud yw cymryd y safbwyntiau hynny, eu pwyso a'u mesur yn erbyn safbwyntiau pobl eraill a dod i'r casgliad ei hun—dyna pam mae wedi cael ei sefydlu, dyna pam mae'n gweithio yn y ffordd honno.

Y prynhawn yma, nid wyf i'n credu bod ceisio dweud bod rhywbeth yn eglur oherwydd bod gan un cyfranogwr mewn ymchwiliad farn arno, yn deall y ffordd y bydd hwn yn cael ei gynnal. Nid fy lle i—nid fy lle i, Llywydd—yw mynegi barn chwaith ar bwy mae'r ymchwiliad yn dewis clywed ganddyn nhw. Bydd wedi pwyso a mesur y gwahanol geisiadau sydd ganddo. Os oes unrhyw un yn credu ei fod wedi gwneud y dyfarniad anghywir, yna'r person i siarad ag ef yw cadeirydd yr ymchwiliad, nid Prif Weinidog Cymru.

14:00

Wel, rwy'n credu ei fod yn sicr yn gasgliad rhesymol i ddod iddo bod gwrthod, hyd yn hyn, unrhyw dystion arbenigol ag arbenigedd penodol yng Nghymru, a gwrthod statws cyfranogwyr craidd i ddau sefydliad pwysig, yn dystiolaeth o blaid y gosodiad y mae llawer ohonom ni yma a'r tu allan i'r Siambr hon wedi ei gynrychioli: na fydd digon o bwyslais ar Gymru yn yr ymchwiliad hwn.

A gaf i droi at fater arall, Prif Weinidog? Mae Unite wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnull uwchgynhadledd frys ar ddyfodol llwybrau bysiau yng Nghymru, y maen nhw'n honni—gan adleisio pryderon yr ydym ni wedi eu mynegi ar y meinciau hyn—sy'n wynebu anrheithiad heb weithredu brys ar gyllid. Rwyf i wedi clywed posibiliadau y gellid dod o hyd i lwybr arall i ddatrys yr argyfwng hwn; y peth pwysig yw dod o hyd i'r ateb. Felly, a all y Prif Weinidog ein goleuo ni ar hynny, os yn bosibl, ac a wnewch chi wrando ar alwad Unite, ac ymgynnull yr holl randdeiliaid angenrheidiol i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy'n osgoi'r argyfwng cataclysmig o ran dyfodol gwasanaethau bysiau y byddem ni eisiau ei osgoi ni waeth beth fo'r gost?

Llywydd, dyna'n union y mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol yn ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru yn siarad gyda'r darparwyr bysiau, gyda'r awdurdodau lleol, gyda'r undebau dan sylw, yn yr union ffordd honno, yn chwilio am unrhyw syniadau y gallwn ni ddod at ei gilydd i gynnal rhwydwaith bysiau yma yng Nghymru. Ond fel yr esboniais i yr wythnos diwethaf mewn ateb i gwestiwn gan Siân Gwenllian, mae rhai ffeithiau sylfaenol ar lawr gwlad wedi newid. Nid yw nifer y teithwyr ar y rhwydwaith bysiau yng Nghymru wedi dychwelyd i'r lefelau cyn y pandemig. Felly, nid yw'r incwm sy'n dod i mewn i'r diwydiant gan deithwyr yr un faint ag yr oedd pan oedd y rhwydwaith presennol yn cael ei ddatblygu. Darparwyd cyllid brys i Lywodraeth Cymru tra bod y pandemig yn ei gyfnod argyfwng; nid yw'r cyllid brys hwnnw ar gael mwyach. Rydym ni'n sicrhau bod arian ar gael trwy gyllideb Llywodraeth Cymru ei hun, fel bod amser i'r diwydiant a'i bartneriaid gynllunio dyfodol y bydd yn rhaid iddo adlewyrchu'r niferoedd sy'n defnyddio'r gwasanaeth yng Nghymru. Ni allech fynd ati i wneud hyn mewn unrhyw ffordd arall, ac mae hynny'n fusnes anodd, gyda rhai penderfyniadau anodd y mae'r diwydiant, awdurdodau lleol ac eraill wrthi'n ymgymryd â nhw ar hyn o bryd, ac yn ymgymryd â nhw trwy rym cynnull Llywodraeth Cymru.

Tai Cyngor

3. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynyddu nifer y tai cyngor yng Nghymru? OQ59452

Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi ymrwymo i gynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu huchelgeisiau tai. Ers 2021, mae awdurdodau lleol wedi gallu manteisio ar grant tai cymdeithasol, gan dreblu lefel y cymorth i Gyngor Sir y Fflint, er enghraifft, yn eu cynlluniau uchelgeisiol i gynyddu'r gwaith o adeiladu tai cyngor i drigolion lleol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Mae pobl angen tai diogel a dyna'n union yw tai cyngor. Os edrychwn ni dros y ffin yn Lloegr, maen nhw'n parhau i werthu mwy o dai cymdeithasol nag sy'n cael eu hadeiladu, gan roi pobl mewn sefyllfaoedd anhygoel o ansicr. Gwn, Llywydd, y bydd Aelodau sydd â diddordeb wedi darllen yr erthygl ddiweddar a ysgrifennais i Nation.Cymru am y trawma sy'n deillio o gael eich troi allan: bywydau pobl yn cael eu troi wyneb i waered wrth iddyn nhw gael eu symud oddi wrth eu hysgolion, eu teuluoedd, meddygon teulu, a'r rhwydweithiau cymorth ehangach hynny yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd â nhw.

Prif Weinidog, roedd hi'n 20 mlynedd yn ôl ddoe pan gafodd Dad ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr oedd, am y tro cyntaf, a gwn eich bod chi wedi gweithio'n eithriadol o agos ag ef fel Gweinidogion Llywodraeth Cymru i bennu a chyflawni targedau uchelgeisiol ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol, a byddwn yn gofyn i chi heddiw ymrwymo eto i bennu targedau o'r fath, ond gan fynd ymhellach ac edrych ar ddatblygu dull yn y dyfodol sy'n fwy ystyriol o drawma o ran polisi tai yng Nghymru.

14:05

Dirprwy Lywydd, diolch i Jack Sargeant am y pwyntiau pwysig yna. Mae'n iawn i gyfeirio yn yr achos hwn at yr hyn sy'n digwydd dros y ffin, lle mae ffigurau diweddaraf y Llywodraeth ei hun yn dangos bod un tŷ yn cael ei adeiladu ar gyfer pob dau sy'n dal i gael eu gwerthu drwy'r hawl i'w brynu.

Nawr, pan ddaeth Carl Sargeant yn Weinidog â chyfrifoldeb dros dai yng Nghymru yn 2016, fi oedd y Gweinidog cyllid, ac mae Jack Sargeant yn llygad ei le: un o fy sgyrsiau cyntaf fel Gweinidog Cyllid—roeddwn i yn y swyddfa yn union drws nesaf i Carl—oedd pan ddaeth drwy'r drws i ddweud wrthyf i fod angen llawer iawn o arian arno er mwyn cyrraedd targedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy wedi'u hadeiladu yn y tymor hwnnw yn 2016. Wrth gwrs, yn y pen draw, yn rhannol o ganlyniad i'r trafodaethau hynny, fe wnaethom ni ragori ar y targed hwnnw ac adeiladu 23,000 o dai fforddiadwy yn nhymor y Senedd honno. Ond yn ogystal â chymryd cyfrifoldeb am y rhaglen adeiladu tai, y rhaglen adeiladu tai cymdeithasol, Carl Sargeant hefyd oedd yn gyfrifol am gymryd y ddeddfwriaeth drwy'r Senedd a ddiddymodd yr hawl i brynu yma yng Nghymru. Darllenais yn ddiweddar y datganiad a wnaeth Rebecca Evans pan ddaeth hi â'r Bil i'w gamau olaf un yma mewn gwirionedd. Dywedodd yn ei datganiad, Dirprwy Lywydd:

'Hoffwn hefyd ddweud pa mor falch y byddai Carl Sargeant o weld y Bil yn cyrraedd y cam terfynol. Bu'n frwdfrydig iawn dros ddiogelu ein stoc o dai cymdeithasol ar gyfer y rhai sydd ei hangen fwyaf,'

a dyna'n union oedd y penderfyniad hwnnw yn ei olygu. Yma yng Nghymru, o'r ffigurau sydd gennym ni ar gael, rhwng 2008 a 2011 adeiladodd awdurdodau lleol yng Nghymru 128 o gartrefi. Yn y tair blynedd y mae'r ffigurau diweddaraf ar gael ar eu cyfer, 2019 i 2020, adeiladodd awdurdodau lleol 1,376 o dai—dros 1,000 yn fwy nag ar ddechrau'r cyfnod y mae Jack Sargeant wedi cyfeirio ato. Ac mae mwy i ddod, Dirprwy Lywydd, wrth i ni wneud yn siŵr yma yng Nghymru bod ein pwyslais ar adeiladu cartrefi ar gyfer y rhai sydd â'r angen mwyaf. Tai cymdeithasol oedd 82 y cant o dai fforddiadwy newydd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn Lloegr, 13 y cant oedd y ffigur hwnnw. Mae hynny'n crynhoi'r gwrthgyferbyniad rhwng ein pwyslais ni ar y rhai sydd fwyaf mewn angen a'r hyn sy'n digwydd dros ein ffin.

Cefais innau fy ethol yma am y tro cyntaf 20 mlynedd yn ôl hefyd, ac rwy'n cofio yfed diod gymdeithasol gyda'ch tad pan gyrhaeddodd y ddau ohonom ni. [Chwerthin.]

Ond mae adroddiadau annibynnol olynol wedi dangos bod Cymru angen 12,000 neu fwy o gartrefi newydd bob blwyddyn os ydym ni'n mynd i ddatrys yr argyfwng tai, nad oedd yn bodoli ym 1999. Mae ffigurau StatsCymru yn dangos bod nifer y cartrefi cymdeithasol newydd a ddarparwyd yng Nghymru yn ystod 12 mlynedd gyntaf Llywodraeth Lafur ddatganoledig 73 y cant yn is na nifer y cartrefi cymdeithasol newydd a ddarparwyd yng Nghymru yn ystod 12 mlynedd Llywodraeth Geidwadol y DU hyd at 1997. Dywedodd adolygiad tai 2012 mai Llywodraeth Cymru ei hun a roddodd flaenoriaeth is i dai yn ei chyllidebau cyffredinol, fel bod ganddi'r lefel gymesur isaf o bell ffordd o wariant ar dai o unrhyw un o bedair gwlad y DU. Hyd yn oed y llynedd, dim ond 5,065 o gartrefi newydd o bob deiliadaeth a gofrestrwyd yng Nghymru. Caniataodd Llywodraeth y DU dan arweiniad y Ceidwadwyr ar ôl 2010 i awdurdodau lleol adael y system cyfrifon refeniw tai a buddsoddi mewn tai cyngor newydd. Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Geidwadol y DU y gellid codi cap benthyg cyfrifon refeniw tai awdurdodau lleol. Dyna pam mae mwy o dai cyngor nawr. Ond sut gwnewch chi sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru yn gweithio gyda chymdeithasau tai i sicrhau y gall hyn nawr ddarparu'r nifer fwyaf posibl o gartrefi cymdeithasol newydd?

Dirprwy Lywydd, mae'r byd yn symud ymlaen, ac mae rhai o'r pwyntiau a wnaeth Mark Isherwood—. Rwy'n ei longyfarch, gyda llaw, ar ei 20 mlynedd yma yn y Senedd. Yn y ffigurau ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf sydd ar gael, 2021-22, gwariodd Cymru 2.8 y cant o wariant ein Llywodraeth ar dai, ac roedd y ffigur yn Lloegr wedi gostwng i 1.6 y cant. Felly, yn sicr, nid yw Cymru ar waelod y gynghrair wariant honno. Roeddem ni eisiau gweld mwy o dai yn cael eu hadeiladu yng Nghymru gan awdurdodau lleol a gan gymdeithasau tai i'r rhai sydd angen cartref fforddiadwy i'w rentu.

Yr wythnos diwethaf, roedd arweinydd Plaid Cymru a minnau yn Hwlffordd gyda'n gilydd, yn edrych ar rai o'r mentrau tai yr ymgymerwyd â nhw o ganlyniad i'r cytundeb cydweithio. Aethom ni i weld ystad lle mae'r awdurdod lleol, gan ddefnyddio arian gan Lywodraeth Cymru, wedi gallu sicrhau bron i 50 o dai a oedd yn cael eu defnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn gynt, ond a oedd yn cael eu rhentu yn y sector rhentu preifat. Byddan nhw'n gartrefi cymdeithasol nawr. Cawsom sgwrs gydag un o'r bobl gyntaf un i gael cynnig tenantiaeth yn un o'r cartrefi hynny, ac roedd yn llawer mwy huawdl nag y gallaf i fod am y gwahaniaeth yr oedd yn ei wneud cael yr awdurdod lleol fel ei landlord, oherwydd bod y rhent yn is, ar rent cymdeithasol, ond y sicrwydd yr oedd yn ei roi iddo ef a'i deulu. Mwy o'r math hwnnw o ddatblygiad yr ydym ni eisiau ei weld yma yng Nghymru.

14:10

Diolch i Jack am y cwestiwn. Wrth gwrs, un ffordd fedrwn ni ei defnyddio er mwyn datblygu tai fforddiadwy, rhatach, ac ar sgêl ydy defnyddio tai modiwlar. Dwi'n gwybod eich bod chi wedi bod mewn partneriaeth efo Grŵp Cynefin rhai blynyddoedd yn ôl i ddatblygu tai modiwlar, felly pa wersi ydych chi wedi'u dysgu o'r peilot yna ac unrhyw beilot arall sydd wedi bod yma yng Nghymru ar ddatblygu tai modiwlar? Ac a fedrwn ni edych ymlaen i'r dyfodol i weld mwy o dai o'r math yma yn cael eu hadeiladu?

Wel, diolch i Mabon ap Gwynfor, a dwi wedi darllen pethau ar y peilot sydd gyda ni i ddefnyddio, fel mae'n dweud yn Saesneg, modern methods of construction. Mae hynny'n cynnwys tai modiwlar, ond nifer o bethau eraill hefyd. Mae lot o ddiddordeb yn y maes yma yng Nghymru gan bobl dramor, er enghraifft cwmnïau o Japan sydd wedi bod draw yng Nghymru yn gweld sut maen nhw'n gallu ein helpu ni i ddefnyddio ffyrdd newydd i adeiladu tai i bobl, nid jest yng nghefn gwlad, wrth gwrs, ond dros Gymru i gyd. Mae tai modiwlar yn rhan o'r cynlluniau sydd gyda ni, ond yn fwy na hynny, mae'n rhan o'n huchelgais ni i ddefnyddio nifer o ffyrdd newydd sy'n gallu tynnu mwy o dai mas o'r buddsoddiadau rydym ni wedi eu rhoi yn y maes hwn ac yn mynd i'w rhoi drwy gyfnod y Senedd hon i gyd.

Dyfodol Maes Awyr Caerdydd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd? OQ59425

Diolch i'r Aelod am hynna, Dirprwy Lywydd. Rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i gynorthwyo'r maes awyr i adfer yn sgil effaith y pandemig a dod yn ddarn hanfodol hunangynhaliol o seilwaith cenedlaethol Cymru. Mae cyhoeddiadau diweddar o fwy o wasanaethau a hediadau yn dangos bod gan deithwyr Cymru gyfleoedd cynyddol i hedfan o le agosach i'w cartrefi.

Diolch, Prif Weinidog. Prif Weinidog, nid yw'n gyfrinach fy mod i'n credu'n gryf bod Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn wastraff enfawr o arian, gyda mwy na £200 miliwn o arian trethdalwyr wedi cael ei bwmpio iddo dros y blynyddoedd. O'm safbwynt i, y lle gorau iddo yn wir yw'r sector preifat lle gallai fod â rhywfaint o obaith o lwyddiant. Rhoddwyd bron i £43 miliwn i'r maes awyr gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'r pecyn achub ac adfer i'w helpu i ddod yn fwy proffidiol yn y dyfodol. Nid yw'r maes awyr wedi cyrraedd lefel o broffidioldeb blynyddol eto. Ar ôl i Wizz Air dynnu gwasanaethau yn ôl yn ddiweddar, dywedwyd wrthym ni y gallai llwybr y maes awyr i wneud elw fod yn hwy na'r hyn a ddisgwyliwyd ac a ragwelwyd yn wir. Prif Weinidog, mae hwn yn faes awyr sy'n methu. Ar ba bwynt y mae rhywun yn rhoi'r gorau i daflu arian da ar ôl drwg a galw amser marwolaeth y prosiect balchder penodol hwn gan Lywodraeth Cymru?

Wel, Llywydd, mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi bod yn elyn i'r maes awyr erioed. Maen nhw wedi bod ers iddo gael ei gymryd i berchnogaeth gyhoeddus, wedi'i achub o'r sector preifat. Wedi'i achub o'r sector preifat, lle'r oedd y maes awyr yn dirywio'n angheuol. Ers hynny, a hyd at ddechrau'r pandemig, roedd y maes awyr yn adfer y sefyllfa honno yn gyflym. Ac yn bell o fod yn faes awyr sy'n methu, beth ydym ni wedi ei weld yn ystod yr wythnosau diwethaf? Rydym ni wedi gweld hediad dyddiol newydd yn agor rhwng Caerdydd a maes awyr Orly ym Mharis, rydym ni wedi gweld 40,000 yn rhagor o leoedd gwyliau yn mynd o Gaerdydd o ganlyniad i fuddsoddiad TUI, ac rydym ni'n gweld llwybr newydd rhwng Caerdydd a Belfast yn ddyddiol o ganlyniad i hyder Ryanair yn y maes awyr. Mae gan weithredwyr meysydd awyr hyder yng Nghaerdydd; mae'n drueni na all Plaid Geidwadol Cymru fod yn rhan o hynny, yn hytrach na bychanu'r maes awyr yn barhaus.

14:15

Roeddwn i wrth fy modd, Prif Weinidog, yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd yr wythnos diwethaf wrth ddod yn ôl o Ddulyn, gan fy mod i wedi defnyddio Maes Awyr Caerdydd fis diwethaf i fynd i gyfarfodydd ym Mrwsel. Ydych chi'n cytuno â mi mai rôl llywodraethau yw buddsoddi yn ein seilwaith? Gwnaeth gwaith Ben Houchen, y maer Ceidwadol yn Nyffryn Tees, sydd wedi buddsoddi mewn gwariant gweithredol ym maes awyr Teesside, sydd wedi buddsoddi yng nghyfalaf maes awyr Teesside, sydd wedi cynnig cyfleuster benthyg i faes awyr Teesside, ac sydd wedi darparu cefnogaeth pandemig ychwanegol i faes awyr Teesside, argraff arnaf i. 'Polisi Ceidwadol da' gwnaeth ef ei alw. Mae'n rhaid i mi ddweud, ni wnes i dreulio llawer o amser yn gwylio cynhadledd y Ceidwadwyr dros y penwythnos—[Torri ar draws.] Llywydd, nid ydyn nhw wedi ennill yng Nghymru ers 1859, felly nid oeddwn i'n gweld y pwynt. Ond yr hyn y gwnaeth argraff arnaf i oedd Gweinidog trafnidiaeth y DU, Richard Holden, a longyfarchodd Ben Houchen ar ei fuddsoddiad ym maes awyr Teesside—polisi da, yn cefnogi cyfleusterau lleol, yn hytrach na chael ei ysgogi gan ideoleg sy'n cwestiynu. Ac ar gyfer y cofnod, mae gan faes awyr Teesside 173,000 o deithwyr ac mae'n cael yr holl gefnogaeth honno gan y Ceidwadwyr, ac mae gan Faes Awyr Caerdydd dros 900,000 o deithwyr bob blwyddyn ac nid oes ganddo unrhyw gefnogaeth gan y Blaid Geidwadol o gwbl.

Diolch i Alun Davies am hynna. Clywais i Aelodau o'r meinciau Ceidwadol yn gweiddi wrth iddo siarad; rwy'n deall nad ydyn nhw wedi arfer ag annerch cynulleidfaoedd mor fawr â'r Siambr hon, ond mae'n debyg nad oes angen gweiddi.

Nid ydw i'n credu y gallaf i wneud yn well na dyfynnu'r maer Ceidwadol Ben Houchen ei hun. Dywedodd ef:

"Ni allwch chi gilio rhag maes awyr a throi eich cefn ar y staff sydd wedi gweithio'n ddiwyd er mwyn cadw'r maes awyr ar agor dros y blynyddoedd'.

Rydyn ni'n cytuno ag ef. Mewn llefydd eraill, lle mae lleisiau mwy synhwyrol i'w clywed, mae pobl yn deall bod maes awyr rhanbarthol yn rhan hanfodol o seilwaith trafnidiaeth. Yn sicr mae'n bwysig bod gan Gymru fel cenedl Faes Awyr Caerdydd. Byddwn i'n parhau i fuddsoddi, byddwn ni'n parhau i gefnogi. Byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i gyd-Aelodau ar y meinciau Ceidwadol yma siarad â'u cydweithiwr yn Teesside.

Peilonau Bute Energy

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru ar gynigion Bute Energy ar gyfer peilonau yng nghanolbarth Cymru? OQ59435

Safbwynt Llywodraeth Cymru ar gynigion Bute Energy yw eu bod yn debygol o fod yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol. Gweinidogion Cymru yw'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau ar ddatblygiadau o'r fath, ac o ganlyniad, nid wyf i'n gallu gwneud sylw ar fanylion y cynnig hwn.

Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb. Ers cynigion Bute Energy a Green GEN Cymru i godi 60 milltir o beilonau ar draws fy etholaeth, mae llif o negeseuon e-bost wedi fy nghyrraedd oddi wrth etholwyr sy'n bryderus iawn am y cynllun. Fel y dywedoch chi, bydd y cais hwn, pan caiff ei gyflwyno, yn dod drwy'r broses datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol, ond mae llawer o fy mhreswylwyr yn poeni, gan fod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi diystyru pwyllgorau cynllunio lleol a'r arolygydd cynllunio yn y gorffennol gan ganiatáu ceisiadau yn erbyn cyngor cynllunio, fel fferm wynt Hendy, oherwydd iddyn nhw ddweud bod darparu ynni adnewyddadwy yn ystyriaeth berthnasol, ac nid oedd y Gweinidog yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr arolygydd cynllunio. Prif Weinidog, sut gall fy nhrigolion fod yn sicr y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrando ar gymunedau ac yn dilyn cyngor cynllunio wrth benderfynu ar ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol?

Mae unrhyw benderfyniadau mae unrhyw Weinidog Llywodraeth Cymru'n ei wneud yn y fath gyd-destun yn agored i her drwy'r llysoedd. Rydyn ni bob amser yn agored i adolygiad barnwrol os nad ydyn ni'n gweithredu yn unol â'r gweithdrefnau sefydledig. Yn sicr mae hynny'n golygu ein bod ni'n ystyried barn pobl yr effeithir arnyn nhw gan benderfyniadau cynllunio. Dyna'r hyder y gall pobl leol ei gael. Rydyn ni'n gweithredu drwy benderfyniadau agored, sydd ar gael, ac yn agored i her, ac rydyn ni'n gwneud hynny bob amser mewn ffordd sy'n ein gwneud ni'n ffyddiog ein bod ni'n cadw at holl ofynion y gyfraith.

14:20
Ansicrwydd Bwyd

7. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i daclo ansicrwydd bwyd yng Ngorllewin De Cymru? OQ59457

Diolch i'r Aelod am hynna. Ymdrinnir â diffyg diogeledd bwyd yng Nghymru drwy fuddsoddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, cefnogi amaeth a darparu cefnogaeth sylweddol i amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol.

Diolch am yr ymateb yna, Brif Weinidog.

Rwyf am ddatgan buddiant, Dirprwy Lywydd, fel aelod o Baobab Bach, rhwydwaith o bantrïau bwyd cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r sefyllfa bresennol o'r llaw i'r genau ar gyfer pantrïau cymunedol yn fy rhanbarth i ac mae prinder bwyd dros ben yn enbyd. Un pantri cymunedol sy'n gwneud gwaith trawsnewidiol yn fy rhanbarth i yw Baobab Bach, ac roeddwn i'n ddiolchgar am ymweliad y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol i'r pantri cymunedol ym Mhencoed. Maen nhw wedi nodi gostyngiad o unrhyw beth rhwng 50 y cant a 90 y cant i'w cyflenwad arferol o FareShare ledled eu holl bantrïau. Yn y cyfamser, mae'r galw 40 y cant yn uwch na'r adeg hon y llynedd. Nid yw FareShare wedi gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw na dweud wrthyn nhw am ba mor hir y bydd y sefyllfa'n parhau, sy'n golygu nad yw Baobab Bach a phantrïau cymunedol eraill yn gallu cynllunio ymlaen llaw ac maen nhw nawr yn defnyddio cronfeydd wrth gefn a heb gyfyngiadau i leihau'r diffyg. Pa gymorth arall sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pantrïau cymunedol o ran casglu bwyd? Oherwydd mae pob un yn ei chael hi'n anodd darparu bwyd fforddiadwy ar hyn o bryd. 

Mae'r wybodaeth y mae Luke Fletcher wedi'i chynnig i ni yn cael ei hailadrodd mewn sawl rhan o Gymru, lle mae cyfuniad o alw sy'n codi'n gyflym ac effaith chwyddiant ar gyllidebau cartrefi yn golygu bod rhoddion i fanciau bwyd a mathau eraill o fentrau cymunedol yn llawer anoddach eu cynnal. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn falch iawn o wneud yr ymweliad hwnnw, gyda'r Aelod lleol, Huw Irranca-Davies, hefyd, i glywed o lygad y ffynnon gan bobl ynglŷn â sut maen nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud yn iawn am y diffyg hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £19 miliwn mewn sefydliadau bwyd cymunedol ers 2019. Y llynedd yn unig, roedd y ffigur hwnnw bron i £6 miliwn, ac roedd £0.5 miliwn ohono'n uniongyrchol ar gyfer prynu bwyd, fel y gallai'r sefydliadau hynny sy'n ceisio darparu cymorth i bobl nad ydyn nhw'n gallu bodloni'r galw hwnnw drwy roddion neu drefniadau pantrïau bwyd gan ddefnyddio bwyd dros ben o ansawdd da ychwanegu at hynny gydag arian gan Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol. Rydyn ni'n parhau i adolygu'r sefyllfa honno drwy'r amser. Mae'n sefyllfa anodd iawn, iawn i lawer o deuluoedd yn ein cymunedau ni, ac mae'r systemau sydd wedi'u sefydlu i geisio rhoi cymorth iddyn nhw, heb os, yn ei chael hi'n anodd o dan y cyfuniad hwnnw o alw cynyddol a chymorth yn lleihau gan unigolion preifat sydd eu hunain o dan bwysau oherwydd yr argyfwng costau byw presennol.

Oes, mae'n ddrwg gennyf i. Fel y gwelodd llawer yn y Siambr hon eisoes, mae'r argyfwng costau byw—

Na na. Y cwestiwn yw, 'Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw i bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr?'

Costau Byw

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw i bobl ym Mhen-y-bont? OQ59420

Diolch. Rydw i wedi clywed y cwestiwn, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd sy'n agored i niwed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a ledled Cymru, i reoli'r argyfwng costau byw. Rydyn ni'n buddsoddi mewn rhaglenni i liniaru caledi ariannol, sicrhau'r incwm unigol mwyaf posibl a chadw arian ym mhocedi dinasyddion Cymru. 

Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwelodd llawer yn y Siambr hon eisoes, nid yw'r argyfwng costau byw wedi diflannu. Er bod Llywodraeth y DU yn hyderus y byddai chwyddiant yn dod i lawr i rifau sengl erbyn yr haf hwn, rydym yn dal i weld chwyddiant yn 10.1 y cant, yr uchaf mewn unrhyw genedl G7, yn ôl y mynegai prisiau defnyddwyr. Ac yn waeth byth, gwelwn ni fod chwyddiant bwyd ar ei lefel waethaf ers 1977, sef 19.2 y cant. Rydyn ni wedi clywed y bore yma sut mae hynny'n effeithio ar bobl ar lawr gwlad yn ein cymunedau ni. Mewn termau real, mae hyn yn golygu bod 1.3 miliwn o barseli bwyd brys wedi'u cofnodi a gostyngiad o 3.2 y cant mewn arian sy'n weddill ar ddiwedd y mis. Mae hyn yn dilyn gostyngiad o 3.1 y cant yn ystod y tri mis blaenorol, yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Er gwaethaf hyn, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cefnogaeth wirioneddol, p'un ai'n £600,000 o gyllid i'r undebau credyd i gefnogi benthyca, ymestyn Dechrau'n Deg, sy'n anhygoel, neu gynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg o £30 i £40, nad yw'n swnio'n llawer, ond sydd wir yn gwneud gwahaniaeth—mae'n mynd i gefnogi 700 o bobl yn fy etholaeth i. Felly, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi mai dim ond Llywodraeth Lafur Cymru sy'n gallu gwarchod pobl sy'n cael trafferth yn fy etholaeth i ac ar draws Cymru rhag yr argyfwng sy'n gwaethygu dros ein ffin? Diolch.

14:25

Diolch i Sarah Murphy am hynna. Mae hi'n iawn i gyfeirio at yr effaith wirioneddol y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar unigolion a theuluoedd yn ei hetholaeth. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu. Gadewch i mi sôn am ambell beth sy'n cael effaith ar deuluoedd gyda phlant yn arbennig, o ystyried mai hynny oedd thema'r hyn a ddywedodd Sarah Murphy. Mae ein grant hanfodion ysgol, sydd ar gael nawr ym mhob blwyddyn ysgol, o fudd i bron i 100,000 o blant ledled Cymru gyfan. Mae cynnydd yn y lwfans cynhaliaeth addysg—un o'r blaenoriaethau y gwnaethom ni eu cytuno â Phlaid Cymru fel rhan o'r trafodaethau cyllideb—yn golygu y byddwn ni'n gweld cynnydd o 33 y cant yng ngwerth y grant hwnnw, a Chymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig lle mae help o'r math hwnnw ar gael i'n pobl ifanc. Mae'r prydau ysgol am ddim cyffredinol yr ydyn ni wedi ymrwymo iddyn nhw yn golygu bod Pen-y-bont eisoes yn rhoi prydau ysgol am ddim cyffredinol i blant mewn dosbarthiadau derbyn ac ym mlynyddoedd 1 a 2. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig mae hynny'n golygu bod dros 3,400 o ddisgyblion newydd yn gymwys ar gyfer y math yna o gymorth. Yn llythrennol mae miliynau fwy o brydau wedi'u darparu ers i Siân Gwenllian a minnau ymddangos o flaen yr agorfa weini yn Ysgol Bro Preseli nôl ym mis Medi. Mae'r holl bethau hynny, ynghyd â'r pethau yr ydyn ni'n eu gwneud wrth ymestyn gofal plant, y cynllun mwyaf hael o gefnogaeth i fyfyrwyr yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, a phethau eraill hefyd, yn rhan o arddangos yn ymarferol yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru, ac yn parhau i'w wneud. Dim ond heddiw mae'r Gweinidog addysg wedi cyhoeddi canllawiau gwisg ysgol newydd i ysgolion—mesur ymarferol arall i gadw'r gost i'r teuluoedd hynny sy'n wynebu'r risg fwyaf o'r argyfwng costau byw mor hydrin ag y gallwn ni ei wneud.

Prosiect Porth Wrecsam

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed ar brosiect Porth Wrecsam? OQ59417

Diolch i Ken Skates am hynna. Mae Partneriaeth Porth Wrecsam wedi camu i'r adwy i gefnogi ailddatblygu'r Cae Ras a dychwelyd pêl-droed rhyngwladol cystadleuol i'r gogledd yn sgil methiant Llywodraeth y DU i wneud hynny. Mae gwaith i ddylunio cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus newydd yng ngorsaf Gyffredinol Wrecsam hefyd yn mynd rhagddo nawr.

Prif Weinidog, mae hynny wir yn newyddion ardderchog. Mae'n ddiwrnod arbennig iawn i Wrecsam heddiw. Bydd bws to agored yn mynd drwy'r ddinas gyda'r tîm ar ei fwrdd, gyda'r perchnogion, Rob a Ryan, gyda, heb os, cynrychiolwyr y clwb drwodd draw, a gobeithio, ymddiriedolaeth y cefnogwyr hefyd. Maen nhw i gyd yn haeddu diolch enfawr am yr hyn maen nhw'n ei wneud i'r ddinas. Prif Weinidog, a wnewch chi amlinellu'r hyn yr ydych yn ei gredu y bydd prosiect Porth Wrecsam, sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn ei wneud ar gyfer y ddinas a'r clwb pêl-droed o ran y manteision economaidd a manteision i fri Wrecsam ei hun?

Mae'r rhain yn ddyddiau gwych i Wrecsam—wrth gwrs, dyddiau gwych ym mhêl-droed, ond hefyd popeth y mae hynny wedi'i wneud i godi proffil y ddinas gyda'i statws dinas newydd ei ennill. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i brosiect Porth Wrecsam. Ddwywaith mae wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU, a nawr mae awdurdodau Cymru yn camu i mewn i wneud yn siŵr bod modd cwblhau ailddatblygu'r tir nid yn unig i'r safon y bydd ei angen ar gyfer dychweliad Wrecsam i'r gynghrair bêl-droed, ond ar gyfer chwaraeon rhyngwladol. Mae pêl-droed, rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair i gyd wedi cael eu chwarae yn rhyngwladol ar faes Wrecsam, ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod hynny'n bosibl i Wrecsam yn y dyfodol.

Ond nid y cae pêl-droed ei hun yn unig—mae'n ymwneud â phopeth sydd y tu ôl iddo. Yr holl flynyddoedd hynny o ymroddiad gan wirfoddolwyr ac eraill a gadwodd y clwb i fynd yn ystod y blynyddoedd anodd ac sydd nawr yn edrych ymlaen at yr hyn sydd o'n blaenau—stori sydd, rwy'n siŵr, â llawer o benodau llwyddiannus i ddod. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n holl bartneriaid yn Wrecsam er mwyn gwireddu ein huchelgais ar y cyd ar gyfer ailddatblygu'r rhan honno o'r ddinas, a'r neges y mae'n ei hanfon am y dyfodol llwyddiannus sydd o flaen Wrecsam ei hun.

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Diolch. Dim ond un newid sydd i'r busnes yr wythnos hon, a hynny yw egluro teitl y datganiad heddiw ar addysg uwch. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad ar effaith cyfradd uwch y dreth trafodiadau tir ar y farchnad dai yma yng Nghymru? Mae cwpl hŷn wedi cysylltu â mi yn fy etholaeth i, maen nhw'n berchen ar eu cartref eu hunain, ond maen nhw wedi bod ar restr aros am fflatiau mewn llety gwarchod ers dros saith mlynedd. Mae fflat ar gael erbyn hyn, ond nid ydyn nhw'n gallu, yn anffodus, ariannu £1,500 y dreth trafodiadau cyfradd uwch y mae'n rhaid iddyn nhw ei thalu erbyn hyn, oherwydd nad ydyn nhw wedi gwerthu eu heiddo presennol eto. Nawr, rwy'n gwybod, wrth gwrs, eu bod nhw'n gallu cael yr arian yna 'nôl ar ôl i'w heiddo gael ei werthu, ond mae angen iddyn nhw gael gafael ar yr arian yna ymlaen llaw. Nid ydyn nhw'n gallu cael benthyciad ar hyn o bryd oherwydd eu hoedran. Maen nhw wedi erfyn ar ffrindiau a theulu am arian ac wedi'i fenthyg ganddyn nhw, ond, yn anffodus, mae ganddyn nhw ddiffyg o hyd, ac maen nhw nawr yn wynebu'r posibilrwydd o orfod gwrthod cyfle'r eiddo hwn, dim ond oherwydd nad ydyn nhw wedi gwerthu eu heiddo eu hunain. 

Nawr, rwy'n gwerthfawrogi nad oedd Llywodraeth Cymru eisiau cynnwys pobl fel y cwpl hŷn hwn yn y ffordd benodol hon, a gallai fod yn ganlyniad anfwriadol i'r dreth. Felly, o ystyried bod y canlyniad anfwriadol hwn wedi codi, tybed a yw'n rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno datganiad yn ei gylch, dim ond i weld sut y gallwn ni osgoi y mathau hyn o broblemau, oherwydd fy mod i'n amau, er bod y cwpl hwn wedi cysylltu, bod eraill mewn sefyllfa debyg. 

Diolch. Nid ydw i'n credu bod angen datganiad arall. Yng nghefn fy meddwl, nid ydw i'n credu ei bod hi'n rhy hir ers i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wneud datganiad. Fy nealltwriaeth i yw bod gan eich etholwyr chi—ac efallai y gallwch chi gyfleu hyn iddyn nhw—mae ganddyn nhw dair blynedd i'w werthu. 

Dros y penwythnos, roedd ymosodiad arall gan gi ym Mhenyrheol, sef y trydydd un difrifol mewn llai na 18 mis. Gwnaeth y ddau flaenorol arwain at farwolaethau, gan hawlio bywydau Jack Lis, 10 oed, yn y digwyddiad cyntaf, a Shirley Patrick, 83 oed, yn yr ail ddigwyddiad. Y sawl a wnaeth ddioddef yr ymosodiad diweddaraf hwn oedd babi pum mis oed, a gafodd ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau nad ydyn nhw'n peryglu bywyd, ac rwyf i'n meddwl am y teulu, yn gweddïo drostyn nhw, ac, rwy'n siŵr, bod pawb yma, yn meddwl amdanyn nhw ac yn gweddïo drostyn nhw yn y cyfnod anodd hwn. 

Ddeuddydd yn unig cyn y digwyddiad yma, gwnaeth cynghorydd Plaid Cymru, Steve Skivens, gynnal cyfarfod ym Mhenyrheol i drafod yr angen i ymdrin â'r don o ymosodiadau difrifol gan gŵn yn y gymuned. Fe es i i'r cyfarfod, ynghyd â nifer o aelodau eraill o Blaid Cymru, yn ogystal â chynrychiolwyr o sefydliadau fel y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid a swyddogion y Cyngor, yn ogystal â Heddlu Gwent. Yn ystod y cyfarfod, daeth i'r amlwg gan yr heddlu bod yna fenter sy'n cael ei chynnal yn ardal Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â chŵn peryglus a pherchnogaeth anghyfrifol ar gŵn, sydd yn aml wrth wraidd y broblem. Nid yw'r fenter hon wedi cael ei chymhwyso ledled Cymru eto. 

Felly a gawn ni gael datganiad gan y Llywodraeth ar sut y gallwn ni wella diogelwch y cyhoedd a pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn, gyda dull gweithredu ledled Cymru sy'n cael ei gymhwyso'n gyson ledled ein gwlad, a hefyd, ddatganiad ar ba atebion deddfwriaethol y gall fod ar gael i ni yma yng Nghymru i ymdrin â'r mater hwn? Diolch. 

Diolch. Yn hollol, mae hwn yn ddigwyddiad brawychus, ac rydyn ni'n meddwl am deulu'r babi pum mis oed. Gwnaethoch chi gyfeirio at ddau ddigwyddiad blaenorol, ac yn amlwg, mae'n ymddangos bod rhyw fath o glwstwr, yn anffodus, o gwmpas ardal Caerffili. Ac nid ydy hi'n rhy bell yn ôl i mi gyfarfod â Hefin David a Wayne David, sy'n hynod bryderus am hyn. A diolch i chi am godi hwn heddiw. Yn amlwg, mae'n dod o fewn fy mhortffolio.

Mae llawer o'r ddeddfwriaeth ynghylch cŵn peryglus yn ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU, ac yn sicr, rwyf i wedi cael—wel, rwyf i wedi ceisio cael—gohebiaeth â'r Ysgrifennydd Cartref blaenorol, ac, hefyd, â Gweinidogion eraill Llywodraeth y DU am yr hyn y gallwn ni ei wneud ar lefel ddeddfwriaethol i geisio gwella hynny. Nid yw llawer ohono yn addas i'r diben—mae'n ganrifoedd oed, yn llythrennol—ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod hynny'n un peth y gallwn ni ei wneud. 

Ar y pwynt—. Wel, rydych chi newydd godi dau bwynt arall yr oeddwn i eisiau sôn amdanyn nhw ynghylch perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Yn amlwg, mae hynny'n flaenoriaeth i mi fel y Gweinidog. Mae gennym ni ein cod ymarfer ar gyfer lles cŵn. Mae hynny'n amlinellu rhwymedigaethau ar berchnogion o ran perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, ac yn ei hyrwyddo, rwy'n credu. Gwnaethoch chi sôn am gynllun treialu y mae tîm troseddau gwledig y gogledd wedi'i gynnal. Gwnes i siarad yn y gynhadledd gyntaf ar fywyd gwyllt a throseddau gwledig ddydd Iau diwethaf, yn Llanelwedd, ac mae'n dda iawn gweld bod dau awdurdod heddlu arall yng Nghymru hefyd wedi cael eu timau troseddau gwledig eu hunain erbyn hyn, gyda dim ond De Cymru i fynd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n dysgu oddi wrth ei gilydd o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n parhau i adolygu'n gyson beth arall y gallwn ni ei wneud, oherwydd mae'n bwysig iawn, er bod llawer o fanteision o fod yn berchen ar gŵn, onid oes, yn amlwg, os oes gennym ni berchnogaeth anghyfrifol ar gŵn, dyna pryd yr ydym ni'n gweld y mathau hyn o ddigwyddiadau. Felly, mae'n rhywbeth rwy'n parhau i'w adolygu, a byddwn i'n hapus iawn i wneud datganiad, efallai ychydig nes ymlaen pan fydd gennym ni ragor o wybodaeth.

14:35

Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar gynllun lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru i gyflwyno microsglodynnu gorfodol ar gyfer cathod sy'n eiddo i rywun, a phryd bydd yr ymgynghoriad yn dechrau. Mae adroddiad cathod 2022, a gafodd ei gyhoeddi gan Cats Protection, yn dweud nad yw tua 160,000 o gathod yng Nghymru sy'n eiddo i rywun wedi cael eu microsglodynnu. Mae cathod yn anifeiliaid crwydrol, felly mae microsglodynnu cathod sy'n eiddo i rywun yn bwysig iawn, i ddod â chathod â'u perchnogion yn ôl at ei gilydd, o bosibl, neu i roi diweddglo i berchnogion cathod os yw eu cathod, yn anffodus, wedi marw oddi cartref.

Hoffwn i hefyd gael datganiad gan y Llywodraeth ar lesddaliad, gan gynnwys cefnogaeth i droi lesddaliadau preifat yn berchnogaeth gydweithredol gan y rhai sy'n byw yno. Mae prif rydd-ddeiliaid ac asiantau rheoli cysylltiedig wedi llwyddo i gyflwyno arferion sydd, yn fy marn i, yn annheg ac yn manteisio ar lesddeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys dyblu rhent tir bob 10 mlynedd; cytundebau yswiriant i roi difidendau mawr i asiantau rheoli; cwmnïau sy'n codi tâl gormodol am gynnal a chadw sylfaenol; a thaliadau gwasanaethau nad ydyn nhw'n dryloyw.

Diolch. Wel, gwnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud yn fy ateb cynharach i Peredur Griffiths ein bod ni wedi bod yn edrych ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn a'r cod ymarfer ar gyfer lles cŵn o fewn y cynllun iechyd a lles anifeiliaid. A'r cam nesaf nawr yw edrych ar ficrosglodynnu cathod yn orfodol. Mae'r cynllun yn amlwg yn gynllun pum mlynedd—rydyn ni nawr yn dod at ddiwedd yr ail flwyddyn—ond rwyf i wedi gofyn i swyddogion ystyried hyn fel mater o frys, oherwydd rwy'n credu ei fod yn ddilyniant naturiol, gan ddilyn ymlaen o'r gwaith yr ydyn ni wedi'i wneud gyda microsglodynnu cŵn.

O ran eich ail ymholiad, mae gan y Gweinidog Newid Hinsawdd gwestiynau yfory, ac fe allai fod yn dda codi hynny gyda hi yfory.

Rwy'n galw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, yn nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella triniaeth i bobl sydd ag asthma a chyflyrau'r ysgyfaint. Mae heddiw'n Ddiwrnod Asthma'r Byd, pan fyddwn ni'n taflu goleuni ar y 314,000 a mwy o bobl sy'n byw gydag asthma yma yng Nghymru. A dweud y gwir, ar ôl gwella o symptomau tebyg i COVID yn ystod wythnosau cyntaf y cyfyngiadau symud, pan nad oedd profion ar gael, cefais i ddiagnosis fy mod i'n un o'r rhain. Mae lansiad adroddiad Asthma and Lung UK Cymru heddiw, 'Codi'r Bar', yn y Senedd, yn tynnu sylw at y lefelau isel o bobl sy'n cael gofal asthma sylfaenol, yr orddibyniaeth sydd gan gynifer o bobl ar feddyginiaeth liniaru, yn hytrach na meddyginiaeth ataliol a'r ffaith bod modd atal dwy ran o dair o farwolaethau asthma. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.

Rwy'n galw hefyd am ddatganiad llafar neu ddadl gan Lywodraeth Cymru o ran datgelu'n hwyr ac oedi o ran Llywodraeth Cymru yn ymchwiliad COVID-19 y DU. Nawr, clywais i'r Prif Weinidog yn ymateb i arweinydd yr wrthblaid, ac arweinydd Plaid Cymru, yn gynharach ar hyn, ond mae tryloywder ac atebolrwydd yn galw am graffu llawn ar waith y Senedd. Yn dilyn y trydydd gwrandawiad rhagarweiniol ddydd Mawrth diwethaf ar gyfer modiwl 1 ymchwiliad COVID-19 y DU, dywedodd COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru y bydd oedi wrth ddatgelu yn cyfyngu ar eu hamser i adolygu a chwestiynu'r datganiadau a'r dystiolaeth sydd wedi'u cyflwyno ar ran Llywodraeth Cymru, ac er gwaethaf sicrwydd gan y Prif Weinidog, methodd Llywodraeth Cymru â gofyn am arbenigwyr Cymru yn y gwrandawiad. Ac yn nhrawsgrifiad y gwrandawiad yr wythnos diwethaf, nododd y bargyfreithiwr sy'n cynrychioli COVID-19 Bereaved Families for Jus Cymru fod methiant Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer pandemig COVID-19 wedi arwain at ganlyniadau catastroffig, a'i bod yn hanfodol bwysig bod llawn faint y methiannau hyn yn cael ei amlygu a'i nodi'n gyhoeddus fel bod modd dysgu'r holl wersi angenrheidiol, a bod rhaid i hyn ddigwydd cyn gynted â phosibl. Eto i gyd, dywedodd hi hyd heddiw nad oes yr un datganiad tyst wedi'i ddatgelu gan dyst ffaith yn gysylltiedig â Chymru, neu gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n galw am ddadl gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.  

14:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod Mark Isherwood wedi amlygu bod heddiw yn wir, yn Ddiwrnod Asthma'r Byd. Rwy'n siŵr bod sawl person yma yn y Siambr, fel y dywedwch chi, yn dioddef o asthma, yn ogystal â llawer iawn o'n hetholwyr. Rwy'n credu ei fod yn ddiwrnod pwysig iawn i gydnabod yr heriau y mae pobl yma yng Nghymru ac, yn wir, ar draws y byd, yn eu hwynebu wrth ymdrin ag effaith asthma. Nododd Llywodraeth Cymru, yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd, ein dull gweithredu o wella gwasanaethau gofal iechyd yn y datganiad ansawdd ar gyfer clefydau anadlol, a bydd hynny'n cael ei gefnogi gan sefydlu rhwydwaith clinigol clefydau anadlol cenedlaethol. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol bod gennym ni'r cynllun aer glân i Gymru a Bil Yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yn cael ei gyflwyno, a bydd hynny'n cefnogi camau i leihau effaith llygredd aer ar iechyd pobl, ac yn enwedig cyflyrau anadlol, fel asthma. 

O ran eich ail gais, rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi esbonio safbwynt Llywodraeth Cymru mewn ffordd berffaith, ac nid ydw i'n credu bod angen dadl arall. 

Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella llesiant meddyliol myfyrwyr addysg uwch? Heddiw, mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad er cof am Charlie McLeod, myfyrwraig cyfrifiadureg a wnaeth, yn anffodus, gyflawni hunanladdiad ym mis Chwefror. Mae'r myfyrwyr yn galw am wasanaethau llesiant gwell, diffiniad clir i sefydliadau addysg uwch a'u dyletswydd gofal, ac i wneud sefydliadau addysg uwch yn destun adolygiadau digwyddiad difrifol. Byddwn i'n croesawu datganiad gan y Gweinidog ar y materion hynny. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch. Wel, yn sicr, darllenais i'r hanes yn y wasg dros y penwythnos, fel y gwnaeth llawer ohonom ni, a'i chael hi'n gynhyrfiol ac yn ofidus iawn, yn enwedig, rwy'n credu, o ystyried sylwadau mam Charlie. Rwy'n ymwybodol o'r digwyddiad sy'n cael ei gynnal heddiw ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae atal hunanladdiad wir yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Fel y gwyddoch chi, rydyn ni wedi sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ar sut i wella cyfleoedd i fanteisio ar wasanaethau iechyd meddwl, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod gan brifysgolion ledled Cymru gefnogaeth gyson a hygyrch i fyfyrwyr.  

Trefnydd, byddwn i'n croesawu cyfle i drafod y datganiad ysgrifenedig a gafodd ei gyhoeddi gennych chi'r wythnos diwethaf ar reoli maethynnau. Rwy'n deall pam bod y Llywodraeth wedi oedi cyn gweithredu'r terfyn fferm gyfan 170 kg/ha nitrogen eto, ond mae'n hanfodol ein bod ni nawr yn cadw at y dyddiad cau hwnnw o 31 Hydref os ydyn ni eisiau cyrraedd ein nodau cynefinoedd amgylcheddol a bioamrywiaeth. Byddai'n dda cael y sicrwydd hwnnw a chael amserlen glir ar gyfer ystyried yr ymateb i'r ymgynghoriad a'r amser y bydd gan ffermwyr i baratoi ar gyfer y newidiadau hynny sydd i ddod. 

Diolch. Wel, yn sicr nid wyf i eisiau gorfod ymestyn y dyddiad eto, ond yr hyn yr wyf i eisiau yw amser i ystyried yr holl ymatebion oedd gennym ni i'r ymgynghoriad diweddar, a dyna fydd ein blaenoriaeth, a dyna fuodd hi ers tro i fy swyddogion, sy'n ystyried hyn. Ond, cyn gynted ag y bydd swyddogion wedi gorffen craffu ar yr ymgynghoriad hwnnw—sori, yr ymgynghoriadau hynny—a'u bod nhw wedi cyflwyno cyngor i mi, byddwn i'n hapus iawn i ddarparu datganiad arall. 

Prynhawn da, Trefnydd. Gaf i ofyn am ddatganiad heddiw am ffioedd cartrefi gofal, yn enwedig yn y gogledd a sir Ddinbych? Rwyf i wedi bod yn darllen erthygl heddiw yn y Rhyl Journal yn dweud bod Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, wedi ysgrifennu atoch chi eich hun am y gwahaniaeth rhwng y gogledd a'r de o ran cyllid cartrefi gofal. Yr hyn mae Fforwm Gofal Cymru yn ei ddweud yw eu bod, yn y bôn, yn colli cyfle o ran cyllid hanfodol hyd at tua £10,000 mewn rhai o'r achosion gwaethaf, ac yn arbennig ar gyfer fy etholwyr i yn sir Ddinbych, nid yw hynny'n newyddion da iawn, o ystyried bod gennym ni grynhoad mawr o bobl hŷn, yn enwedig yn y Rhyl a Phrestatyn, Ac nid yw'n gysur mawr i fy etholwyr i ddarllen y straeon hyn. Yng ngoleuni'r ffaith bod Mario Kreft wedi ysgrifennu atoch chi eich hun, a gaf i ofyn am ddatganiad a sylwadau mewn ymateb i hyn, gan nodi a ydych chi wedi derbyn yr ohebiaeth gan Fforwm Gofal Cymru, p'un a ydych chi wedi cael cyfle i ddarllen cynnwys yr ohebiaeth, beth yw eich barn am hynny, ac a ydych chi'n gweld y fantais o gael ymchwiliad i'r gwahaniaeth rhwng y gogledd a'r de o ran ffioedd cartrefi gofal ar draws fy ardal i? Diolch.

14:45

Diolch. Rwy'n ymwybodol o ohebiaeth cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, sydd wedi ei hysgrifennu ataf i yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog y Gogledd. Fel sy'n briodol bob amser gyda gohebiaeth Llywodraeth Cymru, mae hi nawr yn cael ei hystyried gan Julie Morgan, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am ffioedd cartrefi gofal. Bydd hi'n ymateb i Fforwm Gofal Cymru, ac yn amlwg byddaf i'n cael copi o'r ohebiaeth honno. 

Trefnydd, a gaf i ddatganiad ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol), ar yr ymateb gan Lywodraeth y DU i'r Senedd yn atal ei chydsyniad ar gyfer y Bil yr wythnos diwethaf, a'r camau nesaf y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd? Rwy'n gweld bod Matt Wrack o Undeb y Brigadau Tân wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, yn eich annog chi i drefnu uwchgynadleddau gyda'r undebau i gynllunio ymgyrch unedig o wrthsafiad. A wnewch chi, neu'r Prif Weinidog, gynnal uwchgynhadledd o'r fath, ac a fydd  Llywodraeth Cymru yn rhoi addewid, fel y mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi'i wneud, na fydd byth yn cyhoeddi na gorfodi un hysbysiad gwaith os daw'r ddeddfwriaeth hon yn gyfraith? Ac a wnewch chi'n annog Aelodau Seneddol Llafur San Steffan i gefnogi'r gwelliant o Dŷ'r Arglwyddi gan gyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas, a fyddai, pe bai'n cael ei fabwysiadu gan Aelodau Seneddol pan fydd y ddeddfwriaeth yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin, yn gweld y Bil dim ond yn berthnasol yn Lloegr, ac nid yng Nghymru? 

Diolch. Wel, nid ydw i'n ymwybodol bod y Cwnsler Cyffredinol—mae ef yn y Siambr ac yn gallu clywed eich cwestiwn—wedi cael unrhyw ymateb yn ôl gan Lywodraeth y DU yn dilyn yr eitem yn y Siambr yr wythnos diwethaf. Ond rwy'n credu mai'r hyn a wnaeth y Cwnsler Cyffredinol yn glir iawn yw, yn sicr, na fydd gennym ni ddim i'w wneud â'r ddeddfwriaeth hon. 

Trefnydd, gwnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu gwerthusiad annibynnol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ar ôl llawer o oedi, cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi, o'r diwedd ar ddiwedd mis Mawrth. Mae'r gwerthusiad yn nodi'r nifer o ffyrdd y mae'r hyn a gafodd ei galw'n ddeddfwriaeth flaenllaw wedi methu â chyflawni ei chanlyniadau arfaethedig. Fis yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymateb ysgrifenedig, ond byddwn i'n awgrymu nad yw hynny'n ddigonol. Rwy'n gofyn am ddatganiad llafar ar y mater hwn, fel y gall Aelodau'r Senedd brofi hyn ymhellach gyda'r Gweinidog.

Yn ail, mae 19 Mai yn nodi Diwrnod Clefyd Llid y Coluddyn y Byd. Nawr, rwy'n ymwybodol bod cleifion yn dueddol o aros yn hirach am ddiagnosis ar gyfer clefyd Crohn a cholitis, sef y ddau brif fath ar Glefyd Llid y Coluddyn. Un o'r pethau sy'n cyfrannu'n allweddol at hynny yw oedi cyn cael diagnosis a'r diffyg ymwybyddiaeth o symptomau. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad am hyn gan y Gweinidog, o ran helpu i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o symptomau clefyd Crohn a cholitis, os gwelwch yn dda? Diolch. 

Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynghylch gwerthuso'r adroddiad ar y Bil gwasanaethau cymdeithasol, a oedd yn wir yn ddeddfwriaeth flaenllaw—rwy'n credu mai tua 10 mlynedd yn ôl y daeth y ddeddfwriaeth honno drwy'r lle hwn—nid wyf i'n credu bod angen datganiad arall ar ben y datganiad ysgrifenedig sydd eisoes wedi'i gyhoeddi.

Ni allaf i gofio pa ddyddiad y dywedoch chi oedd y dyddiad ar gyfer diwrnod ymwybyddiaeth cyflwr llid y coluddyn, ond rwy'n credu bod llawer iawn o ddioddefwyr clefyd Crohn a rhai eraill, ac yn sicr gwnaf i ofyn i'r Gweinidog a oes modd iddi hi wneud datganiad ysgrifenedig i gyd-fynd â'r dyddiad hwnnw.

3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Coroni Ei Fawrhydi Brenin Charles III

Dyma ni'n cyrraedd, felly, eitem 3, a'r eitem yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar goroni Ei Fawrhydi Brenin Charles III. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud ei ddatganiad—Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Dros y penwythnos, bydd y Deyrnas Unedig yn dyst i ddigwyddiad na welwyd ei debyg ers 70 o flynyddoedd. Bydd coroni’r Brenin Charles yn ddefod bersonol ddwys i’w Fawrhydi y Brenin, a bydd yn achlysur pwysig i lawer ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r Deyrnas Unedig heddiw yn lle gwahanol iawn i’r wlad a welodd goroni’r Frenhines Elizabeth II yn 1953. Mae newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol y 70 mlynedd diwethaf wedi creu cymdeithas o wladwriaethau modern, amlddiwylliant ac aml-ffydd, ac ni allwn ond croesawu'r sôn am yr addasu a fu ar seremoni’r coroni er mwyn adlewyrchu’r gymdeithas fodern sydd ohoni ac i sicrhau cynrychiolaeth aml-ffydd.

Rhoddwyd ei lle i bob rhan o'r Deyrnas Unedig yn angladd y diweddar Frenhines a’r trefniadau ar gyfer proclamasiwn yr esgyniad, a hynny'n adlewyrchu'r tirwedd gwleidyddol newydd lle mae gwladwriaethau yn rhan o undeb o'u gwirfodd. Ac unwaith eto eleni, bydd y coroni yn adlewyrchu lle Cymru o fewn yr undeb, a bydd y Prif Weinidog a minnau yn mynychu'r seremoni yn Abaty Westminster i gynrychioli Llywodraeth Cymru.

Mae defnyddio'r Groes Cymru newydd, sy'n rhodd gan y Brenin i'r Eglwys yng Nghymru, wedi'i gwneud o ddeunyddiau o Gymru fel llechfaen, pren adferedig, ac arian o'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, i arwain gorymdaith coroni'r Brenin yn Abaty Westminster, yn rhoi lle blaenllaw i Gymru yn y seremoni. Fe fydd y coroni yn cynnwys cerddoriaeth hefyd gan gyfansoddwyr o Gymru a cherddorion o Gymru, sy'n adlewyrchu hoffter y Brenin o ddiwylliant Cymru a'i gefnogaeth i'r diwylliant hwnnw. Yn ymuno â cherddorfa'r Coroni, sy'n cynnwys cerddorion o gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, y bydd y delynores frenhinol, Alis Huws, a fydd yn perfformio trefniant newydd Syr Karl Jenkins o 'Dros y Garreg', cân werin Gymreig, sy'n cynnwys y delyn ynghyd ag offerynnau llinynnol eraill, a gomisiynwyd gan Dywysog Cymru fel yr oedd bryd hynny, dros ddau ddegawd yn ôl. Cafodd trefniant cerddorol o'r weddi 'Kyrie Eleison', 'Arglwydd, trugarha wrthym', ar gyfer y coroni, gan y cyfansoddwr o Gymru, Athro Paul Mealor o Lanelwy, ei gomisiynu yn benodol i'w ganu yn yr iaith Gymraeg, yn hytrach nag mewn Groeg fel sydd fwyaf arferol. Hwnnw fydd y perfformiad cyntaf yn y Gymraeg mewn gwasanaeth coroni, ac fe gaiff ei ganu gan Syr Bryn Terfel a chôr Abaty Westminster. Bydd y coroni yn foment i'r Brenin ddatgan ei ymrwymiad personol i wasanaeth y genedl. Er mai mewn swyddogaeth arall y bydd y gwasanaeth hwnnw, nid oes unrhyw amheuaeth am yr ymrwymiad a arddangosodd Ei Fawrhydi eisoes i'r genedl hon, ei ddiddordeb yn ei phobl a'i diwylliant, ac yn fwy diweddar yn ein sefydliadau datganoledig ni a'n Senedd ni.

Bydd yr aelodau yn cydnabod ei waith arloesol hefyd o ran yn ymgyrchoedd sydd wrth fodd ei galon. Bu ef yn hyrwyddwr achosion amgylcheddol ers llawer o flynyddoedd, gan rybuddio am risgiau i'n hinsawdd a'n cynefinoedd naturiol ymhell cyn i'r rhain fynd i'r brif ffrwd wleidyddol. Mae'r Frenhines wedi bod yn eiriol yn angerddol hefyd dros ddioddefwyr trais yn y cartref a cham-drin rhywiol, gan weithio gydag elusennau a phartneriaid, gan gynnwys Gwraig Arlywydd Wcráin, Olena Zelenska.

Mae'r penwythnos hwn yn gyfle i bob un ohonom ni ystyried a myfyrio ar ein hymrwymiadau personol i fywyd ein cymunedau. Gan ddechrau ar y dydd Llun wedi'r coroni, fe fydd digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn rhan o'r Help Llaw Mawr yn caniatáu pobl i fod â rhan wrth gefnogi gwaith grwpiau ac elusennau cymunedol lleol. Ni waeth faint o amser y mae pobl yn ei roi, mae cefnogi gwaith sefydliadau sydd yn aml yn gwneud cyfraniad allweddol i brofiadau llawer yn un ffordd y gallwn ni ddathlu bywyd ein cymunedau a'n cenedl. 

Fel sydd wedi digwydd yn aml gyda dathliadau cenedlaethol, fe fydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yn nifer o'n cymunedau ni ledled Cymru, y DU, a'r Gymanwlad hefyd. Rydym ni wedi bod yn gweithio yn agos gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau bod y coroni yn cael ei nodi yn briodol yng Nghymru. Sefydlwyd gweithgor y coroni i Gymru hefyd, sy'n cynnwys partneriaid allweddol fel Arglwyddi Raglawiaid, awdurdodau lleol, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, er mwyn sicrhau bod trefi a chymunedau ledled Cymru yn ymwybodol o'r cyfleoedd yn eu bröydd nhw. Bydd cyfleoedd i ymgasglu at ein gilydd a gwylio'r coroni ar sgriniau mawr yng Nghastell Caerdydd, Bae Caerdydd, Trefyclo a Llandegla. Bydd picnics, ciniawau, cyngherddau, a phartïon stryd yn cael eu trefnu yn Y Mwmbwls, Llangynydd, Tonteg, Magwyr, Aberhonddu, Aberporth a llawer o drefi eraill Cymru. Bydd sioe dân gwyllt yn cael ei chynnal ym Mhenarth. Bydd gwasanaethau diolchgarwch yn cael eu cynnal mewn eglwysi cadeiriol ac eglwysi ar hyd a lled Cymru ac o fewn cymunedau ffydd eraill hefyd.

Os byddwch chi'n dathlu dros y penwythnos i ddod, mwynhewch. Ond, yn anad dim, ar ran Llywodraeth Cymru ac ar ran pobl Cymru, dyma anfon ein cofion cynhesaf a'n llongyfarchion. Diolch, Llywydd.

14:55

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef heddiw ar ran Llywodraeth Cymru? Fe fydd yna rywfaint o fflagiau yn addurno fy nhŷ i'r penwythnos hwn, a baner jac yr undeb fawr, er mwyn nodi'r hyn sy'n achlysur hanesyddol iawn yn ein cenedl. Wrth gwrs, fe wyddom ni fod dros 70 mlynedd wedi mynd heibio ers i ni gael y cyfle diwethaf i weld coroni yn digwydd, ac rwy'n gwybod y bydd llawer o bobl yn ymgasglu mewn gwahanol fannau yn fy etholaeth i ac ar eu haelwydydd eu hunain i ddathlu coroni Ei Fawrhydi'r Brenin Charles ac yn wir Frenhines Camilla, y Frenhines Gydweddog.

A gaf i ddweud hefyd fy mod i'n credu bod hwn yn gyfle i hyrwyddo Cymru? Fe wnaethoch chi restru nifer o bethau a fydd yn ymddangos yn ystod y coroni o Gymru, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos bod Cymru wir wrth galon y Deyrnas Unedig hon—y deyrnas y bydd Charles wrth gwrs yn teyrnasu drosti. Fe wyddom ni fod y groes, yr ydych chi'n cyfeirio ati, yn groes arbennig iawn. Mae hi'n cynnwys crair o'r wir groes a roddwyd gan y Pab Francis i'w Fawrhydi'r Brenin, ac fe fydd honno wrth gwrs yn rhywbeth y bydd llawer o bobl, rwy'n siŵr, yn awyddus i'w gweld am flynyddoedd lawer i ddod pan ddaw hi'n ôl i Gymru—Croes Cymru—ar ôl y seremoni. Ond dyna yn llythrennol a fydd yn arwain y digwyddiad coroni hwn, ar flaen yr orymdaith, ac yna fe gawn ni sain beraidd telyn Cymru, cerddoriaeth o Gymru, lleisiau o Gymru hefyd a fydd yn canu.

A gaf i ofyn i chi, Gweinidog—? Un o'r pethau mae pobl yn ei ofyn i mi yw beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fanteisio ar y coroni fel y bydd gwaddol gennym ni wedi hynny, oherwydd, fe wyddom ni fod Cymru—. Mae gennym ni feddwl mawr o'r Brenin Charles. Fe roddodd wasanaeth hwyaf erioed fel Tywysog Cymru—am dros 64 mlynedd fe ddaliodd ef y teitl hwnnw—ac mae hynny'n golygu bod gennym ni gysylltiad arbennig gyda'n Brenin nad yw'r un fath yn Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon, oherwydd y gwasanaeth hir hwnnw. Felly, rwy'n credu y bydd diddordeb o'r newydd yng Nghymru, yn enwedig gan y rhai sy'n gwylio'r coroni o bell yn rhyngwladol, ac fe hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn sbarduno'r cyfle hwn er budd ein heconomi a'n heconomi ymwelwyr ni yn y dyfodol.

Wrth gwrs, mae gennym ni frenin, hefyd, sy'n siarad Cymraeg. Er efallai nad yw'n rhugl, clywsom ei Gymraeg ardderchog yma yn y Siambr pan ddaeth i siarad â ni ar ôl marwolaeth Ei diweddar Fawrhydi, y Frenhines Elizabeth. Mae hynny'n rhoi cyfle i ni, hefyd, feithrin diddordeb yn yr iaith Gymraeg ac ymgysylltiad â'r iaith Gymraeg. Felly, a gaf i ofyn i chi beth rydych chi'n ei wneud i fanteisio ar y cyfle hwnnw hefyd?

Yn ogystal â hynny, roeddech chi'n cyfeirio at ddiddordeb y Brenin Charles mewn newid hinsawdd a'r amgylchedd. Yn wir, mae ymhell ar y blaen i'r gromlin o ran ei ymgyrchu ynghylch y pethau hyn am ddegawdau lawer cyn iddo ddod yn Frenin. Mae hynny hefyd, rwy'n credu, yn rhoi cyfle i ni ymhelaethu ar y negeseuon pwysig iawn yr ydym ni, yn y Senedd, sydd wedi datgan argyfwng newid hinsawdd, yn ei roi i bobl Cymru, er mwyn i bobl adnewyddu eu hymdrechion o ran mynd i'r afael â'r mater arbennig hwnnw.

Nawr, fe wyddom ni y gallai rhai pobl fod yn gwirfoddoli am y tro cyntaf erioed gyda'r Help Llaw Mawr ddydd Llun ar ôl digwyddiadau'r coroni a'r Cinio Mawr ddydd Sul. Mae hwnnw hefyd, yn fy marn i, yn gyfle i ennyn diddordeb pobl mewn gwirfoddoli mwy rheolaidd yn y dyfodol. Ym mha fodd y mae Llywodraeth Cymru am fanteisio ar y digwyddiad hwn a'r cyfle enfawr y mae'n ei ddarparu i bawb ohonom ni?

Ddydd Sadwrn, yn ystod y coroni ei hun, rwyf i am fod yn gwylio llif byw ohono yn yr eglwys—Festival Church yn Nhowyn. Fe fydd gennyf i fy nghloch yn fy llaw yn barod i'w chanu i longyfarch y Brenin, oherwydd nid oes gennym ni gloch yn yr eglwys fel sydd gan rai eglwysi eraill, ac fe fyddaf i'n gweiddi ar dop fy llais, 'Duw gadwo'r Brenin' a 'Duw gadwo'r Frenhines', wrth iddyn nhw ddod i'r orsedd, ac rwy'n gwybod y bydd dathliadau ym mhobman.

Un o'r pethau diddorol eraill, yn fy marn i, na ddylem ni fyth mo'i anghofio, yw gwaith penigamp Ymddiriedolaeth y Tywysog, sydd wedi bod ar waith ers 1976. Fe wyddom ni fod dros filiwn o bobl wedi elwa ar gefnogaeth Ymddiriedolaeth y Tywysog. Dim ond y llynedd, rwy'n credu bod dros 60,000 o unigolion wedi cael eu cynorthwyo mewn gwirionedd o ran mynd i gyflogaeth neu sefydlu eu busnesau eu hunain. Dyna ased aruthrol. Ac un o'r pethau yr hoffwn i weld Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw buddsoddi yn Ymddiriedolaeth y Tywysog i wella ei chyrhaeddiad hi ledled Cymru, i wella'r ymgysylltiad â hi, fel y gallwn ni elwa hyd yn oed mwy ar ei gwaith yn y dyfodol.

Ac yn olaf, un cwestiwn olaf. A gaf i ofyn i chi pa gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i awdurdodau lleol a chymunedau lleol er mwyn cynorthwyo cydnabod y digwyddiad pwysig hwn fel y gallwn ni helpu i'w nodi mewn ffordd deilwng? Nid wyf i wedi gweld unrhyw wybodaeth o ran cyllid. Fe wn i fod llawer o awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned yn helpu i ariannu, yn eu ffordd fechan eu hunain, ddigwyddiadau ledled y genedl, ond fe hoffwn i wybod, ac rwy'n credu yr hoffai pobl Cymru wybod, pa fuddsoddiad a roddodd Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr y bydd y digwyddiad hwn yn llwyddiant ysgubol fel rydym ni gyd yn disgwyl y bydd y penwythnos hwn. Diolch i chi.

15:00

Yn gyntaf, diolch i chi am eich sylwadau, ac fe allaf i, wrth gwrs, ailadrodd y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill, ac fe gafodd Gweithgor y Coroni i Gymru ei sefydlu, sydd â chyfres eang o bartneriaid, ac mae'n siŵr eu bod nhw nid yn unig yn sicrhau bod nifer penodol o weithgareddau o amgylch Cymru, ond y bydd y rhain yn gadael eu hôl i'r dyfodol.

Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau pwysig, ac rwy'n credu beth bynnag yw barn pobl, boed hynny ar y frenhiniaeth ac ar y materion yn ymwneud â'r coroni, nid oes unrhyw amheuaeth, yn rhinwedd ei hen swydd yn Dywysog Charles, fod y Brenin wedi codi materion amgylcheddol yn gyson iawn dros nifer o ddegawdau.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig i unrhyw ddigwyddiad a gynhelir, ac, eto, beth bynnag yw barn pobl, eich bod chi'n chwilio serch hynny am ffordd i gymunedau ddod at ei gilydd, a defnyddio'r cyfleoedd hynny, boed yn gwirfoddoli, ond i gymunedau cyfan hefyd, yn enwedig o gofio ein bod ni newydd ddod allan o gyfnod COVID i ryw raddau, i ddod at ei gilydd a mwynhau digwyddiadau, mwynhau cwmni ei gilydd a chydweithio.

O ran y ffyrdd pwysig yr wyf i'n credu y gall Llywodraeth Cymru symud ymlaen, rwyf i o'r farn wirioneddol y bydd hyn yn ymwneud â materion ynglŷn â'r argyfwng costau byw y mae pobl yn ei wynebu. Ar hyn o bryd, ac ar hyd a lled y wlad, rydym ni'n gweld tlodi gwirioneddol ac anawsterau gwirioneddol y mae pobl yn eu hwynebu, ac efallai mai un o'r cyfleoedd a ddaw o wirfoddoli ac yn sgil digwyddiadau sydd ynghlwm â'r coroni, mae hi'n ddigon posibl, fydd canolbwyntio ar y rheiny sydd yn fy marn i â'r angen mwyaf ar hyn o bryd.

Diolch, Llywydd, ac roeddwn i'n hemian a hymian ynghylch a oeddwn i am siarad ynglŷn â'r datganiad hwn heddiw ai peidio, ond rwy'n falch fy mod i'n gwneud felly. Mae cyfran sylweddol ohonom ni yn y gymdeithas a fyddai'n gofyn nifer o gwestiynau ynghylch y seremoni hon, a chwestiwn moesol pwysig hefyd y mae angen ei ofyn. Rwy'n cynrychioli cymunedau, fel llawer o Aelodau yn y Siambr hon, sy'n aml iawn yn uchel ar fynegai amddifadedd lluosog. Rwy'n hanu o un o'r cymunedau hynny. Rwy'n dal i fyw yn y gymuned honno, lle rwy'n gweld pobl yn brwydro bob dydd. Ond beth yw'r ffigur yr ydyn ni'n ei wario nawr ar y coroni? Beth yw e—£100 miliwn, £200 miliwn? Dyna £100 miliwn, £200 miliwn, ar sbloet mewn cyfnod pan fo disgwyl i bobl mewn tai cymdeithasol fyw ag amodau byw sy'n niweidio eu hiechyd oherwydd nad yw cymdeithasau tai yn gallu fforddio trwsio'r cartrefi hynny, mewn adeg pan fo myfyrwyr yn rhoi'r gorau i'w haddysg oherwydd nad ydyn nhw'n gallu fforddio dysgu, mewn adeg pan fo pobl yn gwneud heb hanfodion er mwyn bwydo eu plant nhw neu ddim yn gallu rhoi bwyd ar y bwrdd neu danwydd yn eu ceir, neu dalu am docynnau bws neu drên, neu dwymo eu cartrefi nhw. Nid yw'r bobl hyn mewn gwlad bellennig—maen nhw'n byw yn ein cymunedau ni. Maen nhw'n byw ar ein strydoedd ni. Felly, dywedwch chi wrthyf i: sut allwn ni gyfiawnhau gwario ar y fath foethusrwydd, digwyddiad untro, a dyna gyflwr ein gwlad? Fe ddywedir wrthym ni y bydd hyn yn dod â phawb at ei gilydd, y gall pob un ohonom godi a gwneud adduned o deyrngarwch. Wel, os ydych chi'n awyddus i ddod â phawb at ei gilydd, sortiwch y problemau yr ydw i wedi eu hamlinellu; a gwnewch fywyd yn haws i'r miliynau sy'n brwydro i fyw bob dydd, yn hytrach na gwario swm echrydus o arian ar sbloet.

Nawr, Cwnsler Cyffredinol, fe hoffwn i ofyn pa drafodaethau a gafwyd ar ddyfodol digwyddiadau o'r fath, o ystyried y ffaith mai'r DU yw'r unig wlad yn y byd sy'n cynnal seremonïau coroni fel hyn, oherwydd gadewch i ni wynebu'r peth, ac rydych chi wedi amlinellu hyn eisoes, 70 mlynedd yn ôl oedd yr un diwethaf—maen nhw'n rhan o'r gorffennol, ac fe ddylen nhw aros yn y gorffennol.

15:05

Wel, diolch i chi am y sylwadau yna. Wrth gwrs, mae'r coroni yn fater a gedwir yn ôl. Nid penderfyniad i Lywodraeth Cymru yw'r gwariant ar y coroni. Yr hyn yr wyf i wedi ceisio ei wneud yn y datganiad a wnes i oedd dweud ein bod ni'n cydnabod y pwysau a'r materion sy'n bodoli nawr—rwyf eisoes wedi mynegi fy marn fy hun o ran Llywodraeth Cymru, o ran pwysigrwydd gwirfoddoli, cymunedau yn dod at ei gilydd, ond hefyd sut o bosib y bydd cyfleoedd i edrych ar sut yr ydym ni'n myfyrio ar yr argyfwng costau byw oherwydd hyn, sut y mae pobl efallai oherwydd digwyddiadau fel hyn yn dod at ei gilydd. Nid oes unrhyw ddewis ynglŷn â'r mater hwn gan Lywodraeth Cymru, ond yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw ceisio cydnabod ein cyfrifoldebau ein hunain o fewn y strwythur cyfansoddiadol fel mae'n bodoli. Hefyd, fe fyddwn ni wedyn yn ceisio cynrychioli, yn ein cymunedau ni, farn pobl Cymru i gyd ar gyfer ystyried sut y gall pobl Cymru ddod at ei gilydd, a gweld sut y gall pobl Cymru wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a allai ddod wrth ymdrin â'r materion sy'n bodoli yn eu cymunedau nhw eu hunain, yr heriau sy'n ein hwynebu ni, ond sut yr ydym ni yng Nghymru yn dod at ein gilydd yn genedl o ganlyniad i hynny. Diolch.

A gaf i'n gyntaf ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ddatganiad heddiw? Mae hwn yn ddatganiad i'w groesawu yn fawr iawn wir, ac yfory fe gawn ni gyfle pellach i drafod y coroni, o ystyried y ddadl o eiddo'r Ceidwadwyr a fydd yn cael ei chynnal yn y Siambr, ac rwy'n siŵr y bydd aelodau ar draws y Siambr yn cymryd rhan yn honno.

Yn sicr, fe fydd y coroni yn ddigwyddiad cynhwysol iawn. Rwy'n falch iawn mai Paul Mealor fydd yn arwain y digwyddiad, o gofio ei fod yn hanu o Gei Connah yn wreiddiol—yn wir, yn agos iawn at y lle y cafodd ein cydweithiwr Hannah Blythyn ei magu, yn etholaeth Jack Sargeant. Fe fydd yn estyn cyfle i ni ddathlu'r hyn sydd orau yn niwylliant ein cenedl, ledled ein cymunedau amrywiol i gyd.

Fe hoffwn i ofyn dau gwestiwn heddiw. Yn gyntaf i gyd, ym marn Llywodraeth Cymru, ac mewn Teyrnas Unedig ddiwygiedig, fel mae'r cynigion gan Gordon Brown a'i arbenigwyr ef yn amlinellu, sut allai'r frenhiniaeth wasanaethu pob rhan o'r undeb yn fwyaf effeithiol yn y dyfodol? Ac yn ail, Cwnsler Cyffredinol, a fyddech chi'n cytuno y byddai hi'n briodol nawr i fod â mecanwaith ffurfiol yn ei le ar gyfer ymgynghori â'r teulu brenhinol ac, yn wir, ein holl gymunedau ni, o ran enwi tirnodau ar eu holau nhw? Pan oeddem ni'n adeiladu ffordd osgoi'r Drenewydd, fe fuom ni'n ymgynghori â'r gymuned o ran enwi elfennau allweddol o'r darn hwnnw o seilwaith, y pontydd yn arbennig felly, ac fe brofodd hynny'n boblogaidd tu hwnt; roedd yn rhoi perchnogaeth i gymuned o'r darn hwnnw o seilwaith. Rwy'n credu bod gwerth mawr mewn grymuso a galluogi pobl mewn ffordd fel honno. Felly, a fyddai hi'n iawn i ymgynghori â chymunedau o ran enwi seilwaith, gan gynnwys adeiladau, sydd i'w hadeiladu yn y cymunedau hynny, ac, wrth gwrs, i fod â mecanwaith ffurfiol i ymgynghori â'r teulu brenhinol cyn i enwi ddigwydd mewn gwirionedd? Diolch.

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod yn gyntaf am ei sylwadau a'r ddau gwestiwn a ofynnodd ef? Roeddech chi'n codi'r mater cyfansoddiadol o ran Teyrnas Unedig ddiwygiedig, ac mewn gwirionedd beth allai swyddogaeth y teulu brenhinol a'r Brenin fod o ran, rwy'n dychmygu, y dyheadau sydd gennym ni yng Nghymru yn benodol. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n ddiddorol iawn yw bod dau fath o ddigwyddiadau yn dod ar eich traws chi: weithiau, maen  nhw'n ddigwyddiadau a drefnir yn benodol gan Lywodraeth y DU, ac weithiau yn rhai a gafodd eu trefnu yn benodol ynghylch y teulu brenhinol mewn gwirionedd. Yr hyn sy'n eglur iawn—ac fe wnes i geisio gwneud hyn eglur yn fy natganiad—yw bod—. Roeddwn i'n bresennol, wrth gwrs, yn angladd diweddar y Frenhines Elizabeth II, a'r hyn a oedd yn amlwg iawn bryd hynny oedd swyddogaeth benodol iawn y gwledydd datganoledig o fewn hynny. Roedd ganddyn nhw swyddogaeth ffurfiol iawn; roedd yna gydnabyddiaeth yno. Ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n eglur iawn am y coroni yw y bydd yna fewnbwn penodol a nodir yn bendant iawn o ran Cymru, ei diwylliant a'i hunaniaeth o fewn i hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i'n gweld yr un gyfradd o gydnabyddiaeth yn digwydd yn nigwyddiadau Llywodraeth y DU na digwyddiadau rhyngwladol, lle, mae hi'n ymddangos i mi, o bryd i'w gilydd, fod Cymru naill ai ar yr ymylon neu wedi ei hallgáu, yn fwy na thebyg ar sail ideolegol. Felly, rwy'n credu bod rhywbeth cadarnhaol i'w gymryd o hynny.

Ac o ran y pwynt yr ydych chi'n ei wneud am enwau ac ati, wel, wrth gwrs, fe fu yna rywfaint o adrodd ynghylch y mater hwnnw'n fwy diweddar. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ymgysylltu. Rwy'n credu y gallem ni fod yn gwthio drws agored o ran y syniad y dylai popeth newydd sy'n agor gael rhyw fath o gysylltiad brenhinol yn hytrach na chysylltiad cymunedol a hyd yn oed gysylltiad hanesyddol weithiau, ac rwy'n credu y gallem ni fod, debyg iawn, yn gwthio drws sy'n agored yn barod, a bod barn gyffredin ar hynny, oherwydd ei bod yn rhoi budd, budd mwy eang, o ran hunaniaeth ein cymunedau ni a hunaniaeth cenedl Cymru, yn genedl sy'n cael ei chydnabod i raddau helaeth iawn yn y digwyddiadau cyfansoddiadol brenhinol penodol sy'n digwydd.

15:10

Rwyf i'n un o ymddiriedolwyr banc bwyd PANTRY ym Mhontardawe ac, yn wir, yng nghyfarfod ein hymddiriedolwyr ni'r wythnos diwethaf, fe glywsom ni fod banc bwyd PANTRY wedi cyflenwi 692 o barseli bwyd ers mis Ionawr—i fyny dros 40 y cant ers y llynedd. Roedd PANTRY yn arfer gwario cwpl o gannoedd o bunnau bob mis yn ychwanegu at y rhoddion gydag eitemau i'r parseli hyn; erbyn hyn, mae hynny ymhell dros £1,000 y mis. Ac fel clywsom ni mewn adroddiad wythnos diwethaf ynglŷn â'r defnydd o fanciau bwyd, Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn y defnydd o fanciau bwyd ymhlith holl wledydd y DU. Fe hoffwn ni ei gwneud hi'n glir mai hwnnw yw'r cyd-destun y mae seremoni'r coroni yn digwydd ynddo. Hyd yn oed os ydych chi'n cefnogi'r frenhiniaeth yn frwd, ni allwch chi wadu bod hynny'n amlygu'r rhaniadau economaidd a daearyddol dwys sydd yn ein teyrnas anghyfartal, anunedig. Mae hyn yn ymddangos i mi fel rhywbeth a wneir i dynnu sylw, yn ein hannog ni i droi ein golygon oddi wrth y rhaniadau enfawr yn ein cymdeithas a'r dioddefaint sy'n digwydd o ganlyniad i hynny ym mhob un o'n hetholaethau a'n rhanbarthau bob dydd.

Gweinidog, rydych chi'n codi, yn eich datganiad, swyddogaeth y Brenin newydd ym mywyd cenedlaethol Cymru. Rwy'n cytuno bod hyn yn codi materion sy'n berthnasol nid yn unig i genedlgarwch Cymru, o ran ein hunaniaeth a'n sofraniaeth, ond fe fyddwn i'n dweud hefyd o ran y math o gymdeithas yr ydym ni'n dymuno byw ynddi hi. Maen nhw'n dweud wrthym ni fod y litwrgi newydd, a awdurdodwyd gan Archesgob Caergaint ar gyfer y coroni, yn cynnwys sawl elfen newydd: cydnabod, dathlu, amrywiaeth ac undod cymunedau fydd wrth wraidd y seremoni. Rydym ni wedi clywed cyfeiriad at hynny heddiw. Cwnsler Cyffredinol, a ydych chi'n cytuno y gellir meithrin a hyrwyddo undod ac amrywiaeth drwy ddathlu system sy'n cynrychioli pinacl caeëdig cyfoeth a braint, sydd wedi ei gau yn gyfan gwbl i'r sawl nad ydynt yn rhannu tras enidol arbennig? Diolch.

Wel, diolch i chi am eich cwestiwn. Gadewch i mi ddechrau, yn gyntaf oll, gyda mater y banciau bwyd, ac rwy'n deall yn iawn y pwynt sy'n cael ei wneud o ran arian sy'n cael ei wario ac o ran y cyflwr enbyd rhai o'n cymunedau a'r ddibyniaeth gynyddol ar fanciau bwyd, a'r ddibyniaeth honno ar fanciau bwyd a thwf o fanciau bwyd, mae'n debyg, yw gwaddol, gwir waddol, y Llywodraeth Dorïaidd hon. Rwy'n awyddus i weld diwedd ar fanciau bwyd; nid wyf i'n dymuno gweld banciau bwyd ar waith. Rwyf i'n awyddus i weld gwladwriaeth les sy'n galluogi pobl i fyw yn weddus, ac rwy'n awyddus hefyd i bobl sy'n gweithio allu bod â safon byw gweddus.

Fe wnes i ymweld ag ysgol yn fy etholaeth i'n ddiweddar a thrafod yn y fan honno, gyda'r cynrychiolydd cyswllt teuluol yn yr ysgol, y ffaith bod gennych chi ysgol sy'n dosbarthu hamperi bwyd. Mae'n nodi lle mae'r angen i'r hamperi bwyd fynd, lle mae angen gwirioneddol am ddillad ar blant, mae'r sefyllfa hon gennym ni nawr lle, gan adeiladu ar fater y banciau bwyd, mae gennym ni ysgolion, mewn gwirionedd, yn cydnabod ei bod yn rhaid iddyn nhw fod â rhan nawr yn y gefnogaeth i rai o'r teuluoedd tlotaf yn yr ysgolion hynny. Ac nid dim ond mewn un ysgol y mae hynny; mae hynny'n digwydd ym mhobman yn ein cymdeithas. Mae hanfod datrys y broblem honno mewn gwirionedd yn ymwneud â pholisïau Llywodraeth y DU a'r ffordd y mae cyfoeth yn cael ei ddosbarthu yn ein gwlad ni, y ffordd y mae'r system fudd-daliadau wedi cael ei thanseilio. Mae'r system fudd-daliadau wedi arwain at doriadau, sydd wedi cynyddu tlodi mewn modd uniongyrchol. Y prif ysgogydd o ran mynd i'r afael â thlodi yn ein cymunedau yw drwy'r wladwriaeth les. Nid yw'r rhan fwyaf o'r ysgogiadau hyn gennym ni, nid yw'r ysgogiadau hyn ar gael i ni o ran adnoddau, ond nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i mai'r toriadau yn y system fudd-daliadau sydd wedi bod yn brif achos y ddibyniaeth hon ar fanciau bwyd, a'r economi ar sail isafswm cyflog am swydd sydd wedi arwain at bobl mewn gwaith hefyd yn mynd yn fwyfwy ddibynnol ar fanciau bwyd. Fe welwn ni rywfaint o'r ymateb i hyn nawr yn y gweithredu diwydiannol sy'n digwydd ledled Lloegr, yn bennaf, ar hyn o bryd.

Yr hyn a fyddwn i'n ei ddweud yw mai polisïau macroeconomaidd craidd y Llywodraeth sy'n ffactorau allweddol o ran gwneud yr hyn sydd ei angen i fynd i'r afael â mater tlodi yn ein cymdeithas, a symud hefyd tuag at ddiddymu'r angen am fanciau bwyd. Ond mae'r holl bwyntiau yr ydych chi'n eu codi o ran beth mae banciau bwyd yn ei olygu o fewn ein cymunedau, y ddibyniaeth arnyn nhw a'r ffaith bod cymaint o'n cymunedau ni mor gynyddol ddibynnol arnyn nhw, mae'r cydymdeimlad hwnnw'n un yr wyf innau'n ei lwyr ategu, fel rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl Cymru, ac rwy'n credu mai dyna pam mae pobl yn chwilio yn enbyd am newid Llywodraeth yn yr etholiad cyffredinol a ddaw.

15:15

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef y prynhawn yma. Rwy'n credu iddo amlinellu pwysigrwydd y digwyddiad yn effeithiol iawn o ran stori ein hanes cenedlaethol. Nid dyma'r amser i gael dadl ar strwythurau cyllid y Deyrnas Unedig, ond mae teyrnasiad newydd yn cynnig cyfle i fyfyrio. Roeddwn i'n teimlo bod y Brenin, yn ei gyfraniad yma fis Medi diwethaf, wedi rhoi araith deimladwy iawn i ni, ac mae'n amlwg ei fod ef hefyd wedi bod yn myfyrio ar ei swyddogaeth, a'r ffordd yr oedd ei swyddogaeth yn newid yn gyfansoddiadol, a sut y byddai'n ymagweddu at ei swydd newydd bryd hynny yn Frenin newydd arnom ni. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gael y sgwrs yna, ac yn reit aml, rwy'n meddwl, o ran stori datganoli, er enghraifft, bod y teulu brenhinol wedi bod yn llawer mwy eglur ar y newid yn y ddemocratiaeth o fewn y Deyrnas Unedig na'r rhan fwyaf o wleidyddion o'r ddwy blaid, a dweud y gwir, sydd wedi bod yn y Llywodraeth dros y cyfnod hwnnw. Yn sicr, roedd y Brenin yn ei hen swydd yn Dywysog Cymru bob amser yn eglur iawn ei fod yn awyddus i weld Cymru â chyfran lawn yn y Deyrnas Unedig ac mewn mannau eraill.

A yw hi'n bosibl nawr, yn eich barn chi, Gweinidog, i ni gael sgwrs ynglŷn â safle Cymru yn y deyrnas, os hoffech chi? Oherwydd fe wyddom ni fod anghydraddoldeb wedi ei adeiladu i mewn i'r ystyr o'r DU yn undeb rhwng teyrnasoedd Lloegr a'r Alban, ac nad yw Cymru yn yr un safle o ran y strwythur cyfansoddiadol hwnnw. Ac efallai ar ddechrau teyrnasiad newydd fe allwn ni edrych nawr ar y strwythurau hyn y gwnaethom ni eu hetifeddu o hanes ac edrych eto efallai ar sicrhau bod Cymru yn rhan lawn o'r Deyrnas Unedig, a bod Cymru yn cael ei chynrychioli ar fathodynnau ac arwyddluniau a baneri'r teulu brenhinol a'r DU yn gyffredinol.

Diolch i chi am y sylwadau yna. Mae'r pwynt a wnaethoch chi ar y diwedd, rwy'n credu, yn un pwysig iawn mewn gwirionedd. Yn sicr, mae gennym ni amrywiaeth fawr o safbwyntiau yn ein gwlad, ac mae'r holl arolygon barn yn dangos hynny, boed honno'n farn ar y frenhiniaeth ac ati. Ond y gwir amdani yw ein bod ni'n awyddus i'n pobl ni yng Nghymru a ledled y DU uno i bwrpas cyffredin, ac uno i chwilio am y cyfleoedd sydd ar gael. Ond y pwynt yr ydych chi'n ei wneud, wrth gwrs, yw ei bod ni mewn sefyllfa o fod â chyfres gyfan o anghysonderau hanesyddol, diwylliannol, economaidd, anghysonderau cyfansoddiadol, ac fe fydd angen unioni'r rhain ryw bryd.

I ryw raddau, dyna pam mae'r comisiwn annibynnol ar y cyfansoddiad wedi ei sefydlu gennym ni. Dyna hefyd pam y sefydlodd y Blaid Lafur gomisiwn Gordon Brown, oherwydd mae hi'n hysbys bod cyfres gyfan o wrthddywediadau yn bodoli. Mae rhai o'r rhain wedi eu hetifeddu, mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu gwaethygu gan y Llywodraeth hon yn San Steffan mewn gwirionedd, gan danseilio confensiynau a oedd yn bodoli i ganiatáu i bethau weithio—tanseilio confensiwn Sewel, er enghraifft. Am 20 mlynedd fe fu confensiwn Sewel yn gweithio, ni thorrwyd ef o gwbl; dim ond yn ystod eleni mae hi'n ymddangos y bu wyth toriad mawr o gonfensiwn Sewel. Felly, nid oedd unrhyw amheuaeth fod angen diwygio cyfansoddiadol, ond rwy'n credu bod hynny hefyd yn golygu y bydd angen ymchwilio i rai o'r arferion a'r traddodiadau a'r confensiynau etifeddol sy'n bodoli nawr, mae'n debyg, yn rhan o'r ymchwiliad hwnnw, ac fe fydd hwnnw'n digwydd pan fydd Llywodraeth Lafur nesaf.

Ond rwy'n credu mai'r ffaith hefyd yw bod nifer o bethau arwyddluniol, eiconig—fe wnaethoch chi sôn am yr herodr, y faner ac yn y blaen—lle nad oes darluniad i gynrychioli Cymru. Gadewch i ni fod yn gwbl onest am y peth: yn hanesyddol, mae Cymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig am iddi gael ei choncro. Roedd hi'n sefyllfa wahanol i'r hyn a ddigwyddodd gyda'r Alban, ac wrth gwrs mae sefyllfa Iwerddon wedi bod yn un o gymhlethdodau sylweddol hefyd. Ond y gwir amdani yw: ai'r achos yw bod Cymru yn well ei byd o ran bod â strwythur blaengar a democrataidd o ran y gyd-ddibyniaeth sy'n bodoli rhwng Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn wir, yn rhyngwladol? Barn y Llywodraeth hon yw, yn gwbl amlwg, mai dyna'r achos. Ond mae angen diwygio'r sefyllfa, ac mae angen newidiadau.

Rwy'n credu bod, yn amlwg, arwyddion a chyfleoedd i'r ymgysylltiad hwnnw â'r Brenin newydd. Rwy'n credu bod cyfleoedd o ran yr hyn y gwnaethoch chi sôn amdano'n gynharach am yr ymgysylltiad hwnnw, yn fwy eang, gyda'r teulu brenhinol, o ran y ffordd y mae pethau, yn draddodiadol, wedi cael eu henwi ac ati. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n fater a fydd yn sicr yn rhan, rwy'n credu, o'r trafodaethau ehangach a ddaw pan fydd adroddiad terfynol ein comisiwn annibynnol ein hunain gennym ni. Rwy'n edrych ymlaen at gael y dadleuon hynny yn y Siambr hon.

15:20
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddiwygio Trethi Lleol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio trethi lleol. Dwi'n galw ar y Gweinidog, Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith i ddiwygio'r trethi lleol yng Nghymru. Trethi yw'r tâl mynediad rydyn ni'n ei dalu i fyw mewn cymdeithas wâr, ac mae'r diwygiadau i'n trethi lleol yn cael eu llywio gan ein hegwyddorion polisi treth sef: codi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosib; cefnogi cyflawni ein hamcanion polisi ehangach fel Llywodraeth Cymru; sicrhau bod trethi'n glir, yn sefydlog ac yn syml, ac yn cael eu datblygu drwy gydweithio a chyfranogiad, a chyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 o greu Cymru sy'n fwy cyfartal.

Mae'r refeniw a ddaw i law drwy ein trethi lleol—mwy na £3 biliwn y flwyddyn—yn sefydlog, yn rhagweladwy ac yn gost-effeithiol. Mae'n ffurfio sylfaen gadarn i system sy'n gweithio—system sy'n cyfleu democratiaeth leol. Ledled ein cymunedau, gwelwn yr arian hwn ar waith, o ysgolion a gofal cymdeithasol i gasglu gwastraff. Mae'r trethi lleol rydyn ni'n eu talu yn ein hangori i'r llefydd rydyn ni'n byw ynddynt. Yn union fel y gwelwn waith rhagorol llywodraeth leol, ddydd ar ôl dydd, rydyn ni hefyd yn gwybod bod anghydraddoldeb cyfoeth yn parhau ar draws ein cymunedau. Mae angen i'n trethi symud gyda'r oes, neu mae perygl iddyn nhw ddyddio a bod yn annheg.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno diwygiadau i'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn ystod tymor y Llywodraeth hon, er mwyn eu gwneud yn decach ac yn addas i Gymru. Gan droi yn gyntaf at y dreth gyngor, cydnabyddir bod Cymru'n arwain y ffordd ar ddiwygio'r dreth gyngor. Mae sylfaen y dreth eisoes yn fwy diweddar yma nag mewn mannau eraill ac mae gennym fand treth ychwanegol ar gyfer yr eiddo gwerth uchaf. Rydyn ni wedi bod yn arloeswyr wrth fynd i'r afael â malltod tai gwag ac ail gartrefi drwy drethi. Ac rydyn ni wedi cynnal cefnogaeth genedlaethol i aelwydydd incwm isel, nad yw byth wedi'i thorri.

Ond rydyn ni'n gwybod bod mwy i'w wneud. Mae'r dreth gyngor yn dal i fod yn atchweliadol yn y ffordd y mae wedi ei chynllunio. Mae'n rhoi baich cymharol uwch ar y rhai sydd â llai o gyfoeth. Ac, er bod ein system yn fwy diweddar nag mewn mannau eraill, mae'n dal i fod wedi dyddio 20 mlynedd. Fe geisiais i farn yr haf diwethaf ar gynllun eang, ac ar draws y Senedd, cydnabuwyd yr angen am ddiwygio. Cynigiais dreth gyngor decach, gyda bandiau mwy blaengar yn adlewyrchu'r data diweddaraf; ailbrisiadau rheolaidd i sicrhau tegwch i'r dyfodol; ac adolygiad o'r holl drefniadau ar gyfer disgowntiau a gostyngiadau.

Croesawodd ystod eang o randdeiliaid y cynllun. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod rhai trethdalwyr lleol wedi codi pryderon. Dywedodd rhai pobl nad ydyn nhw'n gwybod beth mae eu treth cyngor yn talu amdano, felly byddwn ni'n gweithio gyda llywodraeth leol i wella gwybodaeth gyhoeddus, codi ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth. Roedd pobl hefyd yn ofni bod yr ymarfer hwn yn ymwneud â chodi mwy o dreth drwy'r diwygiadau. Felly, rwyf eisiau bod yn gwbl glir heddiw: nid yw hyn yn ymwneud â chodi yr un geiniog yn fwy mewn refeniw cyffredinol. Mae'n ymwneud â sicrhau bod yr arian rydyn ni'n ei godi yn cael ei godi mor deg â phosib, ar sail y gallu i dalu am wasanaethau cyhoeddus hanfodol sydd o fudd i bawb yng Nghymru.

Rwyf wedi bod yn gweithio i drosi'r cynllun eang hwn yn gamau gweithredu manwl, gan gydweithio'n agos ag aelod dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell, ar y flaenoriaeth gyffredin hon. Rwyf wedi comisiynu Asiantaeth y Swyddfa Brisio i wneud gwaith ailbrisio, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i asesu gwerth eiddo. Byddaf yn defnyddio'r wybodaeth hon i greu system newydd o fandiau o'r gwaelod i fyny, wrth i ni weithio tuag at dreth fwy blaengar. Byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth maes o law i bennu diweddariadau ailbrisio rheolaidd ar sail statudol. Fel y soniais yn gynharach, rydyn ni'n parhau i fod yr unig ran o'r DU sydd wedi mynd i'r afael â'r mater ailbrisio, a gadewch i ni beidio â thanbrisio faint o gyflawniad yw hynny. Mae fy swyddogion hefyd wedi bod yn cydweithio gydag awdurdodau lleol ac arbenigwyr eraill i adolygu pob categori o ddisgownt, esemptiad, a gostyngiad, ac rwyf eisiau diolch i bawb sy'n cyfrannu at y gwaith hwnnw.

Byddaf yn cyflwyno treth gyngor decach ym mis Ebrill 2025 ac, yn ddiweddarach eleni, byddaf yn amlinellu sut olwg fydd ar y system newydd. Rwy'n cydnabod bod y rhain yn newidiadau cymhleth, a bydd enillwyr a chollwyr. Bob blwyddyn y byddwn yn parhau gyda'r trefniadau presennol bydd mwy o annhegwch, yn aml yn cael ei brofi'n fwyaf dwys gan yr aelwydydd tlotaf. Mae'r dystiolaeth a'r arbenigwyr yn cytuno bod diwygio'r dreth gyngor yn un o'r camau mwyaf buddiol y gallwn ni ei gymryd i leihau anghydraddoldebau cyfoeth, a bydd y manteision i'w teimlo ym mhocedi'r rhai sydd â'r angen mwyaf erbyn diwedd tymor y Llywodraeth hon. Wrth i ni ddatblygu ein cynigion a'n gwaith modelu, byddaf yn ystyried a allai fod angen trefniadau pontio.

Gan droi yn awr at drethi annomestig: mae cyfraniadau busnesau a thalwyr ardrethi eraill yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus, ac mae busnesau hefyd yn elwa ar y Gymru gryfach, decach a gwyrddach yr ydym yn ei chreu. Rydyn ni gam yn nes at dreth sy'n fwy ymatebol, a byddaf yn awr yn gwneud newidiadau pellach i sicrhau ei bod yn addas i Gymru.

Mae defnyddio trethi annomestig i gefnogi datblygiad economaidd yn parhau i fod yn un o brif amcanion y Llywodraeth hon, ac mae hyn wedi'i adlewyrchu yn ein cynnig i sefydlu proses cadw ardrethi, i gefnogi dinas-ranbarthau a phorthladdoedd rhydd yng Nghymru. Mae ysgogi cydweithio rhwng partneriaid a chymunedau ar draws meysydd rhanbarthol yn hanfodol i dwf, ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i archwilio'r ffordd orau o ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael inni i gefnogi ein huchelgeisiau economaidd.

Ym mis Ebrill eleni, gwnaethom lwyddo i gyflwyno ailbrisiad ardrethi annomestig yn llwyddiannus. Mae hyn yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i fynd ati i greu treth decach sy'n adlewyrchu'r economi yn fwy cywir. Yn anochel, mae ailbrisiadau yn arwain at newidiadau treth i rai talwyr ardrethi, ond mae'r ffordd y gwnaethom gyflawni'r ymarfer hwn yn dangos yn glir dystiolaeth o'n hymrwymiad i gefnogi busnesau Cymru trwy ein pecyn cymorth o £460 miliwn, cynllun rhyddhad pontio teg a syml, ymrwymiad i rewi'r lluosydd, a chynllun rhyddhad manwerthu, hamdden a lletygarwch gwell.

Rydyn ni hefyd wedi gwneud camau sylweddol i wella'r system apelio ar gyfer talwyr ardrethi yng Nghymru, gan weithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i gyflwyno proses apelio newydd. Bydd hyn yn ymgorffori'r adborth a gawsom trwy'r ymgynghoriad a phrofiadau talwyr ardrethi trwy gydol y rhestr ardrethi flaenorol. Rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i wella'r broses apelio yn barhaus, ac rydyn ni'n parhau i weithio ar y cyd â thribiwnlys prisio Cymru i adolygu a gwella pob agwedd ar y daith apeliadau.

Gan ategu cyflawni yn llwyddiannus yr ailbrisiad diweddaraf a'r newidiadau diweddar a wnaed i'r system ardrethu annomestig, rydyn ni wedi dechrau ar y diwygiadau ehangach y buom yn ymgynghori arnynt ar ddiwedd 2022. Cafodd y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw ei gyhoeddi ym mis Chwefror eleni, ac rwy'n parhau i ganolbwyntio ar sefydlu pwerau newydd i osod cylchoedd ailbrisio, hyblygrwydd i wneud penderfyniadau ynghylch y lluosydd, a chyflawni cynlluniau rhyddhad wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer anghenion Cymru. Rydyn ni hefyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella gweinyddiaeth gyffredinol y dreth, gan ddilyn gwelliannau ar draws pob agwedd o'r system. Bydd y newidiadau hyn yn defnyddio cyfleoedd deddfwriaethol sylfaenol i greu treth leol sylfaenol well i Gymru, ac un sy'n parhau i gydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan dalwyr ardrethi.

Wrth feddwl am y tymor hirach, rydyn ni hefyd wedi gwneud cynnydd ar uchelgais tymor hwy, gan archwilio'r potensial i dreth ar werth tir lleol gymryd lle'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, gyda'r bwriad o gyhoeddi mwy o wybodaeth am ein gwaith erbyn diwedd y tymor hwn.

Rwy'n falch o fod yn sbarduno'r newidiadau hyn ar ran pobl Cymru, sy'n disgwyl inni fynd i'r afael â'r materion mawr gyda'r ysgogiadau sydd gennym. Rwy'n falch o'r berthynas waith gydweithredol ac adeiladol rhwng awdurdodau lleol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Llywodraeth Cymru i sicrhau newidiadau sylfaenol a blaengar i'r system dreth leol— newidiadau a fydd yn sicrhau manteision gwirioneddol i ddinasyddion a busnesau. Bydd ein gwaith yn trawsnewid y ffordd y mae trethdalwyr lleol yn cyfrannu mewn cymdeithas. Rydyn ni'n gwneud cynnydd mawr, ac rwy'n falch iawn o drafod y gwaith hwn gydag Aelodau heddiw.

15:30

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Rwy'n sicr yn gwerthfawrogi bod yr holl bwnc hwn yn heriol i Lywodraethau, nid yn unig yma yng Nghymru, ond mae'n fater pwysig, parhaus sy'n haeddu amser a sylw heddiw, oherwydd, wrth gwrs, mae'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn effeithio ar bobl ledled Cymru.

Mae yna ambell bwynt yr hoffwn i eu codi gyda chi y prynhawn yma, Gweinidog. Mae'r cyntaf ar y mater o godi refeniw. Fel y dywedoch chi y prynhawn yma, nid yw Llywodraeth Cymru yn ceisio codi mwy o arian o'r newidiadau sy'n cael eu cynnig. Er hynny, rydyn ni'n clywed llawer gennych chi neu Weinidogion eraill am ddiffyg arian, yn enwedig o fewn awdurdodau lleol hefyd, felly maddeuwch fy amheuaeth ryw ychydig os, gyda diwygiadau helaeth, hir a hirfaith, a yw'r canlyniad mewn gwirionedd yn mynd i fod yn niwtral o ran refeniw. Felly, a fyddech chi'n gallu ail-gadarnhau heddiw nad refeniw treth ychwanegol yw'r bwriad y tu ôl i'r diwygiad hwn?

Rydych chi hefyd yn cydnabod y bydd enillwyr a chollwyr. Hoffwn wybod pwy ydych chi'n meddwl y bydd yr enillwyr a'r collwyr hynny. Wrth gwrs, mae llawer o bobl yn mynd trwy gyfnodau anodd ar hyn o bryd. Rydyn ni'n gwybod am y pwysau oherwydd rhyfel anghyfreithlon Putin yn Wcráin, ac mae'n hanfodol ein bod ni'n amddiffyn pobl gymaint â phosib, yn lle creu mwy—i ddefnyddio eich gair chi—o gollwyr yn y system. Gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, a allwch chi roi unrhyw fanylion pellach ynglŷn â sut olwg y gallai fod ar unrhyw drefniadau pontio ar gyfer trethdalwyr sy'n cael eu dal mewn unrhyw newidiadau?

Hoffwn hefyd ofyn am yr ardrethi annomestig yn eich datganiad heddiw. Yn sicr mae croeso i'r rhannau sy'n ymwneud â hwyluso'r broses i fusnesau, ond rwy'n disgwyl y bydd y manylion yn datgelu problemau o ran llawer o'r hyn sydd i'w gynhyrchu. I fod yn glir, ar yr ochr hon i'r meinciau, rydyn ni'n credu bod ardrethi busnes yn dal i fod yn rhy uchel, a byddai lleihau'r ardrethi hynny'n ffordd wych o gefnogi busnesau Cymru ar adeg anodd, yn enwedig i fentrau bach a chanolig, y gwyddom mai nhw yw peiriannau twf ein heconomi. Rwy'n gwybod, Gweinidog, bod yna rywfaint o bryder ynghylch twyll ac osgoi ym maes ardrethi busnes, felly byddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n gallu ehangu ar yr hyn yr ydych chi a'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â rhywfaint o hyn hefyd.

Wrth fynd yn ôl i'r dreth gyngor, fe wnaethoch chi sôn yn fyr am esemptiadau yn eich datganiad, ac mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen eglurder arno ar frys, yn fy meddwl i, i dawelu meddyliau pobl. Rydym yn gwybod bod person sydd yr unig oedolyn mewn eiddo yn cael gostyngiad o 25 y cant ar ei dreth gyngor ar hyn o bryd. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth sy'n cefnogi amrywiaeth enfawr o bobl yng Nghymru, o bobl ifanc i bobl sengl sydd efallai'n oedrannus, efallai'r rhai sy'n weddwon ac yn byw ar eu pennau eu hunain. Mae hefyd yn cefnogi grwpiau fel mamau sengl, a'r 25 y cant hwnnw yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd eu bywyd a'u gallu i reoli costau byw o ddydd i ddydd. Wrth gwrs, os caiff yr esemptiad hwn neu lefel o gymorth ei dileu, bydd yn cyfateb i godiad o 33 y cant yn y dreth gyngor i'r cartrefi un person hynny, a fydd ar ben y cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor y mae pobl ledled Cymru eisoes yn ei weld gan awdurdodau lleol. Bydd yn ergyd uniongyrchol ar nifer fawr o bobl agored i niwed a gwaeth eu byd yng Nghymru. Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau heddiw y bydd yr esemptiad hwn, y lefel hon o gefnogaeth, yn aros yr un fath mewn unrhyw ddiwygiad? Diolch yn fawr iawn. 

Rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Rowlands am ei gwestiynau y prynhawn yma, ac am y dull adeiladol iawn y mae wedi bod yn ei gymryd o'r cychwyn o ran yr holl agenda o wneud gwelliannau i'n trethi lleol er mwyn sicrhau tegwch yn y system.

Fe ddechreuaf i drwy ateb y cwestiwn cyntaf hwnnw a gododd Sam Rowlands am niwtraliaeth refeniw. Dim ond i dawelu meddwl Sam Rowlands, a phawb sydd â diddordeb yn hyn, nid pwrpas yr ymarfer yma yw codi ceiniog yn fwy mewn treth gyngor ar bobl sy'n byw yng Nghymru. Yn hytrach, mae'n ymwneud â sicrhau bod y dreth rydyn ni'n ei chodi yn cael ei gwneud mewn ffordd llawer tecach. Rwy'n credu mai dyna un o'r negeseuon pwysig y mae angen i ni barhau i weithio arno, o ran y cyfathrebu hwnnw sydd gennym gyda'r cyhoedd, oherwydd roedd yn bryder a godwyd drwy'r broses ymgynghori. Mae rhai pobl yn poeni bod eu cartrefi wedi cynyddu mewn gwerth ers yr ailbrisiad diwethaf 20 mlynedd yn ôl; mae'n debyg bod hynny'n wir am bron pob eiddo. Ond eto, nid yw'n wir, dim ond oherwydd bod eich cartref wedi cynyddu mewn gwerth, y byddwch yn gweld cynnydd yng nghyfraddau eich treth gyngor, oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn sy'n bwysig yw sefyllfa gymharol eich cartref ar draws pob eiddo yng Nghymru, a hefyd, wrth gwrs, unrhyw ostyngiadau ac esemptiadau y gallech fod yn gymwys i'w cael.

Rwy'n gwybod bod Sam Rowlands yn holi am ein hadolygiad o'r gostyngiadau. Dim ond i gadarnhau, mae'r diwygiadau yn cynnwys adolygu a ellid gwella ein system o ostyngiadau, diystyriadau, esemptiadau a phremiymau mewn unrhyw ffordd, er mwyn helpu i gyflawni system decach ac wedi ei moderneiddio yn fwy. Bydd unrhyw gynigion sy'n cael eu cyflwyno yn destun ymgynghoriad, wrth gwrs. Mae gennym weithgor o swyddogion Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr ag ymarferwyr awdurdodau lleol, sydd wedi bod yn gweithio i adolygu pob un categori o ddisgownt, diystyriad, esemptiad a phremiwm. Maen nhw wedi cael cyfres o weithdai ac wedi cynnal adolygiadau cychwynnol, ar hyn o bryd, o bob un o'r 53 o wahanol gategorïau sydd gennym yn y fan yna, i benderfynu a ydyn nhw'n parhau i fod yn addas i'r diben, o safbwynt polisi a safbwynt gweithredol. Mae'r grŵp wedi dweud bod nifer o'r categorïau yn parhau i fod yn addas i'r diben, ac y bydd angen rhywfaint mwy o ystyriaeth ar eraill o ran sut maen nhw'n gweithio, neu efallai y bydd angen rhywfaint o arweiniad ychwanegol arnyn nhw i gynorthwyo eu gweithredu'n effeithiol. Ochr yn ochr â hynny, felly, bydd y grŵp yn ystyried a oes angen unrhyw ostyngiadau neu ddiystyriadau neu esemptiadau newydd. Yn amlwg, byddwn yn gofyn am farn gan randdeiliaid y tu hwnt i lywodraeth leol ar hynny. Y tu hwnt i hynny, nid oes unrhyw benderfyniadau penodol wedi'u gwneud o ran yr ystod honno o esemptiadau ac ati.

Wrth gwrs, mae'n wir y bydd enillwyr a chollwyr. O ran yr effeithiau hynny ar aelwydydd, rydym yn ymwybodol iawn y bydd newidiadau i'r dreth gyngor yn effeithio ar aelwydydd a'u cyllid mewn ffordd uniongyrchol iawn. Rydyn ni'n asesu'r goblygiadau ar hyn o bryd, ac yn ystyried yr opsiynau, a byddwn yn amlinellu mwy o fanylion yng ngham nesaf yr ymgynghoriad, yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ar hyn o bryd, rydyn ni yn y broses o dderbyn data newydd, a fydd yn ein helpu i ddylunio system. Pan fydd gennym y data hwnnw, a phan fyddwn wedi ei ystyried, ac wedi gwneud y modelu y mae angen i ni ei wneud, byddwn yn gwybod mwy wedyn am nifer yr aelwydydd a fydd yn elwa neu yr effeithir yn andwyol arnyn nhw gan y newidiadau. Rydyn ni'n archwilio a oes angen trefniadau pontio. Ond eto, nes ein bod ni wedi gwneud y modelu a gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut allai'r bandiau edrych yn y dyfodol, wedyn mae'n anodd mynd ymhellach nag ystyried pethau yn unig ar hyn o bryd.

Pan wnaethom ni'r ymchwil flaenorol, a gomisiynwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, a oedd yn 2019, fe wnaethon nhw amcangyfrif y byddai ailbrisio a chadw'r naw band presennol—mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd—yn symud 25 y cant o eiddo i fyny'r bandiau, byddai 26 y cant yn symud i lawr y bandiau, a byddai tua 49 y cant yn aros yr un fath. Wrth gwrs, nid yw hynny'n ystyried ein huchelgeisiau i gyflwyno bandiau newydd ac i ddiwygio'r system, ond mae'n rhoi blas, o leiaf, o'r newidiadau y gallai fod o ganlyniad i'r newidiadau.

Gan symud ymlaen i ardrethi annomestig a'r pwyntiau a wnaed yn y fan yna, roedd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym yn flaenorol yn cynnwys ystod eang o feysydd, gan gynnwys symud i ailbrisiadau amlach—rydym wedi ymrwymo i wneud hynny, i gadw'r system yn deg ac yn gyfredol; y potensial i amrywio'r lluosydd—rydyn ni'n ystyried sut olwg allai fod ar hynny, a beth allai'r gwahanol ddewisiadau fod yn y fan yna; pwysigrwydd gwella'r llif gwybodaeth—eto, mae hynny'n rhan annatod o'n dull o fynd i'r afael â thwyll ac osgoi; ac adolygu'r pecyn presennol o ryddhad ac esemptiadau, sydd, eto, yn bwysig iawn i wneud yn siŵr bod gennym system sy'n deg ac yn briodol.

Dim ond i roi diweddariad ar rywfaint o'r cynnydd yr ydym wedi bod yn ei wneud o ran mynd i'r afael â thwyll ac osgoi, mae gwybodaeth gan awdurdodau lleol yn awgrymu y gallai £10 miliwn i £20 miliwn gael ei golli drwy osgoi ardrethi bob blwyddyn. Yn amlwg, mae hynny'n gyllid sy'n hanfodol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Ac er mai dim ond lleiafrif bach o drethdalwyr sy'n ymgymryd ag osgoi, pan nad ydynt yn cyfrannu eu cyfran deg, yn amlwg, mae ar draul gwasanaethau lleol a'r gymuned ehangach, ac, wrth gwrs, trethdalwyr eraill hefyd. Yn 2018, fe gyhoeddom ni becyn o fesurau i fynd i'r afael â thwyll ac osgoi ardrethi annomestig, ac mae hynny'n gofyn am gyflwyno cymysgedd o ddeddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd. Ond rydyn ni wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn y maes hwnnw, er enghraifft o ran y rheoliadau newydd, sydd wedi bod yn gymwys am ryw flwyddyn bellach, i fynd i'r afael â chamddefnyddio rhyddhad eiddo gwag. Roedd hwnnw'n bryder gwirioneddol, rwy'n credu, i lywodraeth leol. Rydyn ni wedi ymestyn y cyfnod bellach y mae'n rhaid meddiannu eiddo cyn derbyn unrhyw gyfnod o ryddhad. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a gafodd groeso cynnes gan lywodraeth leol ac yn rhywbeth y bues i'n ei drafod mewn rhywfaint o fanylder gyda'r Comisiwn Elusennau hefyd. Rydyn ni'n gwneud cynnydd da iawn yn y maes hwnnw, ond rwy'n credu bod mwy y gallwn ni ei wneud o hyd. 

15:40

Diolch yn fawr i'r Gweinidog am ei datganiad. Dwi'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn, oherwydd mae e'n dangos ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad mae Plaid Cymru wedi bod eisiau i'r Llywodraeth yma symud ers blynyddoedd mawr, sef, wrth gwrs, tuag at greu system trethiant lleol tecach, llai regressive, rhywbeth sydd yn adlewyrchu yn well gallu trigolion i dalu. Dwi ddim yn rhannu sinigiaeth y Ceidwadwyr. A bod yn deg â'r Gweinidog, bob tro mae hi wedi codi ar ei thraed i sôn am dreth y cyngor mae hi wedi gwneud y pwynt bod y broses yma yn mynd i fod yn un niwtral o ran refeniw. Mae hi hefyd wedi gwneud y pwynt y byddai unrhyw gynnydd yn relative, o safbwynt gwerth tai a faint fyddai unigolion yn talu. A hefyd, wrth sôn am enillwyr a chollwyr, rŷn ni wedi clywed yr ystadegyn y bydd tua 75 y cant naill ai yn gweld gostyngiad neu ddim newid. Yn amlwg, mi fydd cyflwyno bandiau newydd, efallai, yn amrywio hynny ychydig bach, ond, yn fras, dwi'n meddwl ein bod ni yn sicr ar y llwybr cywir yn hyn o beth. 

Gwnaeth Plaid Cymru hi'n glir yn ein maniffesto yn etholiad y Senedd bod y dreth gyngor, fel y mae hi, wedi dyddio, yn atchweliadol ac yn afluniol. Wrth gwrs, mae gwerthoedd eiddo mewn gwahanol rannau o Gymru wedi newid mewn ffyrdd gwahanol iawn dros yr 20 mlynedd ers yr ailbrisiad diwethaf. Rwyf wedi clywed enghreifftiau ohono yn cynyddu mwy na dwywaith cymaint ym Mlaenau Gwent o'i gymharu â Wrecsam, er enghraifft, ac fe wyddom fod eiddo mewn bandiau treth cynyddol fympwyol. Gallwch fod â dwy aelwyd yn byw mewn eiddo o'r un gwerth yn yr un awdurdod lleol sy'n canfod eu hunain yn talu biliau treth sydd gannoedd o bunnoedd yn wahanol i'w gilydd, dim ond oherwydd, wrth gwrs, werth eu heiddo 20 mlynedd yn ôl. Yn ein maniffesto, fe wnaethom ni ymrwymo i ddiwygio'r dreth gyngor i'w gwneud yn decach ac yn fwy blaengar. Fe wnaethom ymrwymo i ailbrisio, cynyddu nifer y bandiau ac ati, ac yn y tymor hwy hefyd, nid dim ond y newidiadau cychwynnol hyn. Fe wnaethom ni ymrwymo i gyflwyno cynigion ar gyfer treth tir ac eiddo newydd a thecach. Mae'r datganiad hwn, fel y dywedais i, yn dangos ein bod yn cyflawni'r ymrwymiadau hynny fel rhan o'r cytundeb cydweithio. 

Gwnaf symud at ambell i gwestiwn penodol. Dwi jest yn chwilio am ychydig o eglurder. Rŷch chi'n dweud bydd y system newydd yma yn barod erbyn Ebrill 2025. A fydd e'n barod o ran y gwaith dŷn ni fel seneddwyr angen ei wneud, neu a fydd e'n cael ei gyflwyno ar lawr gwlad o Ebrill 2025? Pa mor uchelgeisiol ac ymarferol yw hynny? Gallwch chi ddweud wrthym ni, efallai. Ond mae e hefyd yn codi'r cwestiwn arall dwi eisiau gofyn ynglŷn â pha gefnogaeth rŷch chi am ei rhoi i awdurdodau lleol wrth gyflwyno a gweithredu y system newydd yma. Yn amlwg, mi fydd yna angen newidiadau gweinyddol, efallai i feddalwedd, ac yn y blaen. Yn sicr, rŷch chi wedi cyffwrdd â'r pwynt ynglŷn â'r angen i godi ymwybyddiaeth nid yn unig ynglŷn â beth mae'r dreth yma yn talu amdano fe, ond, wrth gwrs, ynglŷn â'r ffaith bod y newid yn mynd i ddigwydd. 

Rŷch chi wedi rhoi sicrwydd ynglŷn â gostyngiadau ac eithriadau yn parhau o fewn y gyfundrefn newydd, ac mae hynny'n bwysig. Mi oeddwn i'n siomedig i weld adroddiadau yn y wasg ynglŷn â'r posibilrwydd o ddiddymu'r gostyngiad i gartrefi un deiliad. Efallai y gallwch chi sôn yn benodol am hynny, oherwydd mae'n bwysig tawelu meddyliau yr unigolion hynny, ond hefyd distewi unrhyw rai sy'n trio codi bwganod o gwmpas y newidiadau arfaethedig. A allwch chi hefyd roi diweddariad i ni ar waith Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sydd yn gwneud y gwaith o ailbrisio eiddo domestig ar hyn o bryd? Ble maen nhw arni? Pryd ŷch chi'n disgwyl iddyn nhw gwblhau? Oherwydd dwi'n cymryd mai hwnnw fydd yn help i ni osod y gwaelodlin wedyn ar gyfer unrhyw fandiau newydd posib.

Yn olaf, mewn perthynas ag amserlen y diwygiadau ehangach, rŷch chi'n sôn am y dreth gwerth tir lleol. Rŷch chi'n sôn am wneud datganiad erbyn diwedd y tymor hwn. Rwy'n cymryd bod hynny'n golygu cyn yr haf. Ond beth yw'r uchelgais? Ydyn ni'n debygol o weld unrhyw newid ar lawr gwlad cyn diwedd y Senedd yma? Dwi ddim yn meddwl ein bod ni, efallai, ond gewch chi esbonio beth yw eich nod chi. Ydych chi'n gobeithio bydd y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau yn eu lle ar gyfer gweithredu yn ystod y seithfed Senedd, neu ydych chi ddim ond yn edrych i wyntyllu rhai syniadau ac efallai mynd â hynny i mewn i'r Senedd nesaf? Rwy'n credu byddai hi'n help inni gael syniad o hyd a lled y newidiadau mwy hirdymor. Diolch.

15:45

Rwy'n ddiolchgar iawn i Llŷr Gruffydd am y cwestiynau yna y prynhawn yma. Dim ond eto i godi y pwynt hwnnw am bwysigrwydd pob un ohonom yn gwneud yr hyn y gallwn ni i gyfleu bod hwn yn weithgaredd niwtral o ran refeniw, rwy'n credu, pan fyddwch chi'n cael y cyhoedd i ddeall hynny, yna gallwch chi ddechrau siarad am fanteision y dreth gyngor, oherwydd nodwyd hynny yn eithaf cryf yn yr ymgynghoriad nad oedd pobl wir yn deall beth oedd eu treth gyngor yn talu amdano, neu doedd rhai pobl ddim yn deall ac roedd rhai pobl yn poeni ei fod yn weithgaredd codi refeniw. Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau rydyn ni wedi penderfynu ei wneud—ac roedd hwn yn benderfyniad yr wyf yn gwybod yr wyf wedi'i drafod yn helaeth gyda Cefin Campbell—yn ymwneud â phwysigrwydd creu sefyllfa lle mae gwell cyfnewid gwybodaeth gyda'r cyhoedd, a rhyw le lle gallan nhw fynd i gael gwybod y ffeithiau, mewn gwirionedd, am y dreth gyngor a'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw yn lleol. Nodwyd hynny yn gryf yn yr ymgynghoriad, ac mae Cefin Campbell a minnau'n awyddus iawn ein bod yn ymateb i'r pwynt penodol hwnnw.

O ran y trefniadau llywodraethu ar gyfer yr holl brosiect, mae gennym weithgor diwygio trethi lleol, ac mae hwnnw'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol mewn llywodraeth leol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru, a hefyd ystod o gyrff cynrychioliadol eraill. Maen nhw'n ein helpu i ystyried goblygiadau pob penderfyniad y bydd yn rhaid i ni ei wneud ar y daith benodol hon. Ond o ran yr ailbrisio a'r ailfandio, wrth gwrs, ni yw'r unig le yn y DU sydd wedi diweddaru ei brisiadau ers cyflwyno'r dreth gyngor, sy'n golygu bod biliau'r dreth gyngor yn Lloegr a'r Alban mewn gwirionedd yn seiliedig ar brisiau 1991, felly mae'n ymgymeriad go iawn er mwyn gwneud y gwaith hwn. Mae tua 1.5 miliwn o anheddau domestig yng Nghymru sy'n atebol am y dreth gyngor, ac yn amlwg, maen nhw'n cael eu rhoi yn y bandiau hynny a osodwyd ar werthoedd eiddo ar 1 Ebrill 2003. Yn amlwg, ni all fod yn iawn i bobl gael eu trethu ar system sydd wedi dyddio 20 mlynedd.

Felly, o ran y gwaith yr ydym wedi comisiynu Asiantaeth y Swyddfa Brisio i'w wneud, ailbrisio yw hynny, a bydd hynny'n diweddaru band treth pawb o 1 Ebrill 2025 ymlaen, ar sail gwerthoedd eiddo 1 Ebrill 2023, oherwydd ar hyn o bryd, mae wedi'i osod mewn deddfwriaeth bod yn rhaid cael dwy flynedd rhwng dyddiad y rhestr brisio newydd sydd i ddod a'r newidiadau a allai ddigwydd o ran y dreth gyngor. Nawr, gallwn ni ystyried mynd i'r afael â hynny o bosibl yn y ddeddfwriaeth a fydd yn cael ei chyflwyno, ond ar hyn o bryd, mae hynny'n golygu mai ym mis Ebrill 2025 y byddwn ni'n symud i'r system newydd o dreth gyngor, felly dylai pobl ddechrau gweld y newidiadau hynny o ran treth gyngor decach erbyn diwedd y Llywodraeth hon.

Mae llawer o waith i'w wneud hefyd o ran yr effaith ar lywodraeth leol. Byddai'r diwygiadau yn amlwg yn newid natur y sylfaen dreth ym mhob ardal o Gymru, a chynigiodd ein hymgynghoriad cam 1 y byddem yn ailddosbarthu dyraniadau'r setliadau yn unol â hynny, ac mae llywodraeth leol a CLlLC wedi ymrwymo i'r egwyddor honno. Ond bydd ein hymgynghoriad cam 2, nawr, a fydd yn dod yn yr hydref, yn ystyried yr effeithiau hynny'n fanylach. Yn amlwg, bydd yn dal angen i gynghorau lleol ystyried yr holl ffynonellau cyllid sydd ar gael iddyn nhw yn lleol ac i bennu eu cyfraddau treth gyngor eu hunain, ond yn amlwg bydd yn rhaid iddyn nhw barhau i wneud penderfyniadau anodd fel y maen nhw ar hyn o bryd, ond eto, bydd y sylfaen dreth yn newid, felly mae angen i ni ddeall yn iawn beth yw effaith hynny ar bob awdurdod lleol, ac ystyried eto a oes unrhyw drefniadau penodol y mae angen i ni eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â hynny.

Ar fater y dreth gwerth tir, ar hyn o bryd, yn amlwg, rydyn ni'n ystyried disodli'r ddwy dreth leol dros amser gyda ffordd newydd o gynhyrchu cyllid ar gyfer gwasanaethau lleol. Mae trethu tir fel ased o bosib yn fwy blaengar a gall fod â rhai buddion ehangach, gan gynnwys y defnydd gwell o dir, er enghraifft, ond yn amlwg mae'n beth anoddach i'w wneud, ac mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud hynny'n iawn. Felly, nid wyf yn rhagweld y gwaith yn nhymor y Llywodraeth hon yn cynnwys mwy na'r gwaith paratoi, y gwaith archwiliol yn mynd ymhellach na'r gwaith a gyflawnodd Prifysgol Bangor i ni o ran ei asesiad technegol manwl yn ystod y tymor diwethaf. Mae angen i ni ddefnyddio ystod eang iawn o arbenigedd i ddatblygu dealltwriaeth o sut olwg allai fod ar y newid i Gymru, ond rydym wedi dweud y bydd yn cynnwys map ffordd posib ar gyfer sut y byddem yn cyrraedd yno. Felly, rwy'n dychmygu y byddai'r map ffordd hwnnw'n rhywbeth y byddem ni mewn sefyllfa i'w rannu erbyn diwedd, eto, tymor y Llywodraeth hon, oherwydd mae'r gwaith sy'n gysylltiedig â hyn yn aruthrol, a'r angen i ddeall goblygiadau'r dewisiadau enfawr iawn, iawn, a allai fod angen eu gwneud yn y maes hwnnw, yn ddifrifol iawn. Ond rydw i wir eisiau sicrhau bod y Senedd gyfan yn ymwneud yn llawn â'r holl waith hwn ac yn cael gwybod y diweddaraf, oherwydd rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni ddiddordeb cyffredin mewn gwneud y system yn decach ac yn fwy blaengar.

15:50

Rwy'n croesawu'r datganiad. Y dreth gyngor ac ardrethi busnes yw'r trethi sy'n cael eu casáu fwyaf gan y cyfoethogion. Maen nhw'n anodd iawn i'w hosgoi. Cymharwch y trethi hyn â threthi fel treth incwm a threth gorfforaeth, sy'n hawdd eu lleihau a'u hosgoi. Mae'r refeniw a ddaw i mewn gan ein trethi lleol yn fwy na £3 biliwn y flwyddyn—mae'n sefydlog, yn rhagweladwy ac yn gost-effeithiol. Mae'n debyg mai gwerth tŷ yw'r ffordd orau o nodi cyfoeth personol rhywun. A fydd y Gweinidog yn ystyried cynyddu nifer y bandiau, gan eu gwneud yn gulach, cynyddu nifer y bandiau uchaf, a newid y lluosydd, creu system lle mae cyfran o werth tŷ yn cael ei dalu yr un fath ar gyfer pob band, neu fel canran sefydlog o werth yr eiddo, a rhoi diwedd ar y gostyngiad o 25 y cant ar eiddo sydd ar hyn o bryd ym mand E ac uwch?

O ran ardrethi, mae'n bwysig bod busnesau yn talu i mewn i'r gwasanaethau cyhoeddus. A yw'r Gweinidog wedi ystyried dychwelyd ardrethi busnes i awdurdodau lleol? A yw'r Gweinidog wedi ystyried newid y system ardrethi i godi mwy gan archfarchnadoedd a warysau manwerthu ar-lein? Ac yn olaf, a yw'r Gweinidog wedi meddwl am effaith treth gwerth tir ar dai cymdeithasol mewn ardaloedd sydd â gwerth tir uchel iawn? 

Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike Hedges am y cwestiynau hynny ac am ei ddiddordeb parhaus yr wyf yn gwybod sydd wedi bod dros flynyddoedd lawer o ran gwella'r dreth gyngor.

Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod rhai manteision, yn sicr, o fod â chyfundrefnau treth eiddo sefydlog, rhagweladwy a chost-effeithiol. Mae gweinyddu'r dreth gyngor yn hynod o gost-effeithiol. Mae'n bosib i awdurdodau fod â dealltwriaeth tymor hirach, o leiaf, o'r math o refeniw allai gael ei godi'n lleol. Felly, yn sicr mae llawer i ganmol y dreth gyngor, ond y broblem sydd gennym yw ei bod yn atchweliadol ar ei ffurf bresennol, a dyna mewn gwirionedd y mae angen i ni fod yn mynd i'r afael ag ef a'r hyn y mae ein cynigion yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Felly, ydyn, mae'r syniadau y mae Mike Hedges wedi'u hawgrymu yn rhan o'n hystyriaethau, ac yn arbennig y rhai hynny am gynyddu nifer y bandiau. Felly, gallen ni, wyddoch chi—. Eto, mae'r holl bethau hyn yn bethau rydyn ni'n eu hystyried ar hyn o bryd, ond efallai y bydd gennym ni fwy o fandiau ar y pen uchaf ac ar y pen isaf, bod y bylchau rhwng y bandiau hynny'n llai. Felly, mae'r rhain yn bethau rydyn ni'n eu hystyried ar hyn o bryd. Yr hyn y mae wir ei angen arnom ar hyn o bryd yw ystyried y gwaith y mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi bod yn ei wneud i ni. Felly, pan fydd gennym y data hwnnw a'n bod wedi gallu edrych arno'n iawn, gallwn ni fodelu dewisiadau gwahanol sydd ar gael i ni, ac yna byddwn ni'n gallu deall beth fydd yr effaith ar wahanol fathau o aelwydydd, fel y gallwn ni wneud y dadansoddiad dosbarthiadol hwnnw a meddwl amdano ochr yn ochr, yna, mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud ar y disgowntiau, esemptiadau, premiymau, ac yn y blaen, i sicrhau bod y system sydd gennym wrth symud ymlaen yn llawer tecach ac yn fwy blaengar.

O ran y pwynt am ddatganoli ardrethi busnes i awdurdodau lleol, nid y bwriad yw datganoli ardrethi busnes i awdurdodau lleol; mae'n wir mewn gwirionedd, fel rwy'n gwybod bod Mike Hedges yn gwybod, mai dim ond nifer fach o awdurdodau sy'n talu mwy i'r pot mewn gwirionedd nag y maen nhw'n ei dderbyn. Felly, mae'r system sydd gennym ni ar hyn o bryd yn caniatáu inni ailddosbarthu'r cyllid a godir trwy ardrethi annomestig mewn ffordd effeithiol, deg a dibynadwy. Ond yr hyn rydyn ni'n ei wneud yw meddwl am ffyrdd y byddai'r bargeinion dinesig, neu borthladdoedd rhydd, er enghraifft, efallai, yn y dyfodol, yn gallu cadw rhai o'r ardrethi annomestig ychwanegol y maen nhw'n eu cynhyrchu o ganlyniad i'r busnes ychwanegol sy'n cael ei ddatblygu yn y meysydd penodol hynny oherwydd y dewisiadau a'r buddsoddiad y maen nhw'n eu gwneud. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried, ac yn rhywbeth yr ydym ni wedi cael rhai trafodaethau amdano o ran y dinas-ranbarthau.

Mae'r pwynt am dreth gwerthu ar-lein yn bwysig iawn. Roedd yn siomedig, ar ôl ymgynghori, bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu yn erbyn cyflwyno treth ar werthu ar-lein. Rwy'n credu bod hynny'n awgrymu nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon symud gyda'r oes. Mae cymaint o'r hyn y mae pobl yn ei brynu y dyddiau hyn yn cael ei brynu drwy fanwerthwyr ar-lein, ac nid wyf i'n credu y gallwn ni anwybyddu'r ffaith honno ac mae angen iddo fod yn rhan o'n hystyriaethau wrth symud ymlaen. Rwy'n credu ei fod wir yn adlewyrchu cymhlethdod hyn, ond rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU yn poeni am y cymhlethdod a'r risg o greu afluniad anfwriadol neu ganlyniadau annheg rhwng gwahanol fodelau busnes, ond rwy'n credu bod mwy, yn sicr, y mae angen ei wneud o ran meddwl am sut rydyn ni'n creu system sy'n adlewyrchu'r ffyrdd y mae pobl yn prynu pethau nawr.

Nid oes gennym y pŵer ein hunain i gyflwyno ein fersiwn ein hunain o dreth gwerthu ar-lein, felly mae'n rhywbeth y byddwn ni'n parhau, drwy ein swyddogion, i gael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU amdano. Rwy'n credu bod y berthynas yn dda rhwng swyddogion yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran y trafodaethau ynghylch ardrethi annomestig.

Unwaith eto, rwy'n credu y bydd y cwestiynau am dreth gwerth tir a sut y gallai hynny weithredu yn y dyfodol yn bethau y bydd angen i ni eu hystyried yn ofalus iawn wrth i ni symud ymlaen gyda'r gwaith hwnnw.

15:55

Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog, a diolch am y gwaith rydych chi wedi'i wneud i wneud y dreth gyngor yn decach a'r cynlluniau sydd gennych i'w gwneud yn decach eto. Un peth yr hoffwn ei godi gyda chi heddiw, Gweinidog, yw dull awdurdodau lleol yng Nghymru o gasglu ac adennill ôl-ddyledion y dreth gyngor, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n rhan o fod â system decach ac mae hynny'n rhywbeth y gellid mynd i'r afael ag ef, ac sy'n cael sylw, i ryw raddau, yn y fan yma nawr.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Senedd a Llywodraeth Cymru wedi gwneud hi'n drosedd bellach i beidio â thalu'r dreth gyngor. Rwy'n credu bod hynny'n hollol iawn. Tybed pa waith y gallech chi fod yn ei wneud, Gweinidog, gydag awdurdodau lleol i fod â'r hyn y byddwn i yn ei ddisgrifio yn ddull mwy goleuedig a chynhyrchiol o atal dyled, ac os yw pobl mewn dyled, er enghraifft, o ran eu treth gyngor, i adennill ôl-ddyledion. Oherwydd, rwy'n credu, er enghraifft, bod defnyddio beilïaid yn aml iawn yn wrthgynhyrchiol; mae beilïaid yn ychwanegu at y ddyled gyda'u taliadau, a gall hynny ei gwneud yn llawer anoddach i ad-daliad ddigwydd. Ac rwy'n credu, yn aml iawn, pan fo aelwydydd neu unigolion yn wynebu dyledion mawr, ni allant weld ffordd drwodd o ran gwneud ad-daliadau, ac weithiau, does dim yn cael ei adennill pan fyddai cynllun ad-dalu mwy realistig yn adennill arian.

Felly, tybed beth rydych chi'n ei wneud i weithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu cefnogaeth i bethau fel neilltuo cynghorydd arian i deuluoedd ac unigolion i'w helpu i roi gwell drefn ar eu materion ariannol, a hefyd, Gweinidog, a yw awdurdodau lleol yn cael eu hannog i ddefnyddio beilïaid sy'n rhan o'r cynllun cofrestru gwirfoddol sy'n mynd i'r afael â safonau ac ymddygiad y beilïaid hynny. Ac yn olaf, a yw awdurdodau lleol yn cael eu hannog i fod â pholisïau bregusrwydd a'u defnyddio i lywio adennill dyledion a'u hagwedd at y materion hyn.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i John Griffiths am godi'r pwyntiau pwysig hyn ynghylch casglu ac adennill y dreth gyngor. Mae gennym lefelau anhygoel o uchel o gasglu'r dreth gyngor yng Nghymru, sy'n bwysig yn fy marn i, ac mae'n adlewyrchu llwyddiant, rwy'n credu, ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sydd gennym ar waith ar hyn o bryd, sy'n cefnogi'r aelwydydd hynny sydd leiaf yn gallu talu trwy naill ai roi lefel o gefnogaeth iddyn nhw neu sicrhau nad ydyn nhw'n talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Mae cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn rhan o'n gwaith wrth edrych ar y rhaglen ddiwygio, gan archwilio a yw'r cynllun yn addas i'r diben a'r hyn y mae angen i ni ei wneud o ran adlewyrchu'r ffaith bod y credyd cynhwysol wedi'i gyflwyno. Mae pobl yn disgyn trwy fylchau weithiau, felly mae angen i ni sicrhau bod pawb sydd â hawl i gefnogaeth yn ei chael.

Ond rwy'n credu mai'r pwynt, mewn gwirionedd, yr oedd John Griffiths yn ei wneud oedd ynghylch sicrhau ein bod yn cyflawni'r protocol sydd gennym gyda llywodraeth leol o ran casglu'r dreth gyngor, y mae llywodraeth leol wedi'i hymrwymo iddo, ac mae'n ymwneud â bod â'r dull hwnnw sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o gasglu'r dreth gyngor. Mae hynny'n ymwneud â sicrhau ei fod yn ystyriol o drawma, mai'r reddf gyntaf bob amser yw darganfod beth sy'n digwydd ar yr aelwyd honno, pam maen nhw'n ei chael hi'n anodd, oes ganddyn nhw hawl i gefnogaeth nad ydyn nhw'n ei chael, oes angen i ni gynnal gwiriad budd-daliadau gyda'r teulu hwn—wyddoch chi, y mathau hynny o bethau, yn hytrach na bod ag agwedd llawdrwm. Fe wnaf godi'r pwynt y cododd John Griffiths ynghylch cynllun y gofrestr wirfoddol ar gyfer beilïaid. Rwy'n credu bod hwnnw'n un pwysig, felly, y cyfle nesaf a gaf i, byddaf yn gwneud y pwynt hwnnw gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol. Ond rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf rydyn ni'n ei ystyried yw sut rydyn ni'n cyflwyno, yn rhan o'r ddeddfwriaeth y byddwn ni'n ei chyflwyno, yw newid y gyfraith. Felly, ar hyn o bryd, pan fo aelwyd yn methu un taliad ar eu treth gyngor, maen nhw'n dod yn atebol yn awtomatig am y flwyddyn gyfan, ac yn amlwg mae hynny'n rhoi aelwyd sydd o bosib mewn sefyllfa anodd, mewn un llawer iawn anoddach. Felly, rydyn ni'n ystyried, ar hyn o bryd, sut y gallwn ni gael gwared ar hynny fel rhan o'n dull deddfwriaethol. Ac rwy'n credu ei fod yn dilyn rhai o'r pethau eraill yr ydym ni wedi bod yn ceisio eu gwneud i fod â mwy o ddealltwriaeth a chanolbwyntio ar yr unigolyn.

Felly, cyfeiriwyd at y ffaith nad yw bellach yn drosedd i fethu taliad neu beidio â thalu eich treth gyngor. Wel, rydyn ni hefyd wedi gwneud pethau, er enghraifft, fel sicrhau bod pobl sy'n gadael gofal yn cael eu hesemptio rhag y dreth gyngor tan eu bod yn 25 oed. A pheth arall rwyf eisiau ei ystyried, yn ein deddfwriaeth wrth symud ymlaen, yw rhywfaint o'r derminoleg a ddefnyddir. Felly, ar hyn o bryd, rydych chi'n gymwys i gael eich esemptio, o bosib, os oes gennych chi'r hyn sy'n cael ei alw'n 'nam meddyliol difrifol', ac rwy'n credu bod hynny'n ffordd ofnadwy o gyfeirio at bobl. Mae ganddo, ar hyn o bryd, statws cyfreithiol, a dyna pam mae'n cael ei ddefnyddio, ond bydd edrych eto ar rywfaint o'r derminoleg hon, rwy'n credu, yn bwysig yn rhan o'n deddfwriaeth hefyd.

16:00
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Raglen y Chwe Nod ar gyfer Gofal mewn Argyfwng

Yr eitem nesaf fydd eitem 5, a hwnnw yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am raglen y chwe nod ar gyfer gofal mewn argyfwng. A'r Gweinidog iechyd, felly, i wneud y datganiad yma—Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd a wnaed yn rhaglen y chwe nod ar gyfer gofal brys ac argyfwng yn y 12 mis ers ei sefydlu. Rwy'n falch o gyhoeddi adroddiad heddiw sy'n amlinellu'r cynnydd yn fanwl ac yn nodi'r cynlluniau ar gyfer 2023-24.

Rydym yn gwybod bod mynediad amserol at wasanaethau gofal argyfwng effeithiol pan fydd pobl eu hangen yn hynod bwysig i boblogaeth Cymru, ac mae cefnogi timau clinigol i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Nid yw hyn wastad wedi bod yn bosib dros y cyfnod diweddar, gyda nifer o bobl yn aros am gyfnodau hir am ymateb, asesiadau a thriniaeth, ac mae hynny'n rhannol oherwydd cynnydd aruthrol yn y galw. Er enghraifft, mae'r data diweddaraf yn dangos bod nifer y galwadau coch am ambiwlans—sef perygl i fywyd—93 y cant yn uwch ym mis Mawrth 2023 nag yr oedden nhw ym mis Mawrth 2019. Mae'r galw cynyddol sylweddol, wedi arwain at heriau ychwanegol i staff ymroddedig a medrus sy'n gweithio ar draws y llwybr gofal brys a gofal argyfwng. Dyma pam, ochr yn ochr ag ystod o randdeiliaid allweddol, fe wnaethom ddatblygu ein chwe nod polisi ar gyfer gofal brys ac argyfwng. Mae'r chwe nod yn gweithredu fel fframwaith system gyfan ar gyfer byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG, byrddau partneriaeth rhanbarthol a phartneriaid awdurdodau lleol, i'w harwain wrth ddatblygu eu cynlluniau integredig. Mae cyflwyno'r chwe nod polisi yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Er mwyn helpu byrddau iechyd a phartneriaid i gyflawni'r nodau, comisiynais raglen newydd, a lansiwyd ym mis Ebrill 2022, a chytunais hefyd i ddarparu £25 miliwn mewn cyllid cyson i alluogi cynnydd cyflym. Ym mlwyddyn 1 y rhaglen, gosodwyd sylfeini pwysig, gan gynnwys sefydlu bwrdd y rhaglen a strwythur llywodraethu cadarn; penodi cyfarwyddwr rhaglen genedlaethol ac arweinyddiaeth glinigol/broffesiynol yn cynrychioli gofal sylfaenol brys, meddygaeth frys, gofal cymdeithasol ac eiddilwch; a gweithredu rhaglenni chwe nod lleol gan fyrddau iechyd a benododd eu timau arwain eu hunain. Mae hyn wedi galluogi rhywfaint o sefydlogrwydd ar draws y llwybr gofal brys a gofal argyfwng. Felly, er y galw digynsail dros y gaeaf, mae perfformiad mewn adrannau brys mawr yng Nghymru wedi rhagori ar berfformiad Lloegr am y saith mis diwethaf ac wedi aros yn sefydlog, yn wahanol i bob rhan arall o'r Deyrnas Unedig.

16:05

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Fe wnaeth y bwrdd oruchwylio'r gwaith o gyflwyno cynllun rhaglen ym mlwyddyn 1 sydd wedi galluogi cynnydd go iawn ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol yn erbyn dau faes blaenoriaeth a meysydd cyflawnadwy allweddol eraill. Y flaenoriaeth allweddol oedd cefnogi sefydlu canolfannau a gwasanaethau gofal sylfaenol brys newydd sy'n helpu pobl i gael gofal brys yn eu cymunedau lleol, a lleihau'r pwysau ar wasanaethau meddygon teulu ac adrannau achosion brys yn ystod oriau agor. Ers dechrau'r prosiect hwn, mae 13 o ganolfannau gofal sylfaenol brys wedi eu sefydlu ar draws Cymru trwy fodelau ar ffurf clystyrau, cydweithredol, wedi'u cydleoli mewn ysbytai, ac maent yn gwasanaethu poblogaeth o 2.2 miliwn o bobl.

Mae data diweddaraf y GIG yn dangos bod 9,000 o bobl yn cael mynediad i ganolfannau gofal sylfaenol brys bob mis heb fod angen apwyntiad meddyg teulu traddodiadol neu ymgyflwyno mewn adrannau brys. Mae'r canolfannau newydd hyn wedi bod yn arbennig o werthfawr yn ystod cyfnod y gaeaf, pan oedd cyfuniad o weithgarwch strep A a COVID yn bygwth gorlethu'r system.

Yr ail flaenoriaeth allweddol oedd sefydlu a chynyddu mynediad at wasanaethau gofal brys yr un diwrnod—SDECS—i helpu pobl i gael mynediad at ddiagnosteg a thriniaethau a dychwelyd i gysgu yn eu gwelyau eu hunain yr un diwrnod. Erbyn hyn mae gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod yn gweithredu ar draws 12 safle yng Nghymru, yn ogystal â model arloesol newydd yn y gymuned. Bu estyniadau i oriau gweithredu a oedd ar gael ym mlwyddyn 1 y rhaglen, gyda rhai gwasanaethau bellach yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos. 

Mae data NHS yn dangos bod tua 75 y cant o gleifion sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn yn derbyn y gofal maen nhw ei angen ac yn mynd adref heb fod angen eu derbyn i'r ysbyty. Dylai hyn helpu i roi'r profiad a'r canlyniad gorau posibl iddyn nhw, gan hefyd ryddhau capasiti gwelyau i bobl eraill sydd angen aros yn ysbyty am resymau clinigol. Rŷn ni hefyd wedi gweld cynnydd gwirioneddol o ran datblygu a gweithredu llwybrau clinigol allweddol yn y gymuned.

Dyma rhai enghreifftiau. Yn ogystal â'r llinell gymorth 111, mae llwybr argyfwng iechyd meddwl '111—pwyswch 2' yr NHS yng Nghymru, sy'n helpu wyth o bob 10 o bobl i osgoi'r angen i gael gwasanaeth gofal brys neu argyfwng. Mae yna dechnoleg ymgynghori fideo newydd sy'n cyfrannu at lefelau uchel iawn—hyd at 15 y cant—o gleifion 999 yn cael eu rhyddhau'n ddiogel ar ôl asesiad clinigol o bell. Rŷn ni wedi darparu 687 o welyau cam i lawr ychwanegol neu becynnau gofal cyfatebol yn y gymuned drwy gydweithio rhwng llywodraeth leol a phartneriaid y gwasanaeth iechyd drwy'r pwyllgor gweithredu gofal, sy'n cael ei gefnogi gan dîm y rhaglen chwe nod. Rŷn ni wedi cyflwyno fframwaith newydd ar gyfer llif cleifion optimal mewn ysbytai, sy'n cyfrannu at wella a lleihau arosiadau hir yn ôl data newydd y gwasanaeth iechyd. Ac mae gyda ni system newydd i gasglu data am ryddhau cleifion o'r ysbyty, yn sicrhau bod gennym ni ddata perthnasol, cymharol a chywir wrth symud ymlaen. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i wneud cynlluniau o ran ble mae cleifion yn y system a beth yw eu hanghenion nhw. 

Mae fferyllfaoedd cymunedol hefyd yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn ein hymateb i'r galw cynyddol am wasanaethau'r NHS. Rhwng Tachwedd a diwedd Mawrth y gaeaf yma gwnaeth fferyllfaoedd cymunedol ddarparu mwy na 100,000 o apwyntiadau i bobl â mân anhwylderau cyffredin, cynnydd o 46 y cant o'i gymharu â'r un cyfnod y gaeaf cynt. Er ein bod ni'n cydnabod nad oes un ateb hawdd i oresgyn yr heriau mae cleifion a staff yn eu hwynebu bob dydd, rŷn ni'n disgwyl gweld rhagor o effaith gadarnhaol a gwelliant parhaus yn unol â mesurau allweddol y rhaglen a fydd mewn lle ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae'r cynllun wedi'i esblygu eleni i ganolbwyntio ar rai egwyddorion allweddol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi byrddau iechyd i ddarparu’r capasiti cywir mewn meysydd gwasanaeth allweddol yn y cyfnodau y tu allan i oriau arferol; darpariaeth saith diwrnod; a sicrhau ein bod ni'n cael y peth sylfaenol yn iawn mewn meysydd fel cynllunio i ryddhau cleifion.

Ar ben hyn, byddwn ni'n datblygu ac yn gweithredu llwybrau clinigol allweddol sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl, gofal deintyddol brys a gofal diwedd oes. Byddwn ni'n datblygu model gofal brys integredig bob awr o bob dydd, fydd yn cynnwys NHS 111 Cymru, canolfannau gofal sylfaenol brys, llinellau cyngor ac arweiniad arbenigol, gofal sylfaenol y tu allan i oriau arferol, ac unedau mân anafiadau.

Byddwn ni'n lleihau yn ddiogel nifer y bobl sy’n cael eu cludo mewn ambiwlans i adrannau brys yn dilyn galwad 999. Byddwn ni'n cynyddu nifer y cleifion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod ac yn mynd adref yr un diwrnod. A byddwn ni'n lleihau nifer y cleifion sy’n aros dros saith diwrnod, a hefyd y rhai sy’n aros 22 o ddiwrnodau yn yr ysbyty.

Bydd y byrddau iechyd yn parhau i gael bron i £20 miliwn o gyllid ychwanegol i helpu i wireddu’r blaenoriaethau hyn, a bydd £5 miliwn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu offer newydd, comisiynu cynlluniau peilot cenedlaethol a phrofi newidiadau fel bo modd gwneud cynnydd yn gyflymach. Ym mlwyddyn 2, dwi’n disgwyl i gynlluniau cenedlaethol a chynlluniau rhaglen gael mwy o effaith ar brofiadau pobl sy’n defnyddio’r NHS yma yng Nghymru. Diolch.

16:10

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y diweddariad, wrth gwrs, cyhoeddwyd y chwe nod, rwy'n credu, ddwy flynedd yn ôl? Mae staff a chleifion mewn gofal argyfwng yn y cyfnod yna wedi cael cyfnod anodd iawn. Rwy'n credu bod hynny'n danddatganiad mae'n debyg ac yn rhywbeth wrth gwrs yr ydym yn ei weld yn rheolaidd yn y newyddion.

Felly, cofnododd GIG Cymru ei amseroedd aros gwaethaf erioed o ran damweiniau ac achosion brys, yn ogystal â'i amseroedd ymateb arafaf gan ambiwlansys a'i restr driniaeth hiraf hefyd. Felly, hyd yn oed wrth edrych ar yr ystadegau diweddaraf, gwelwn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn methu â gweld bron i 40 y cant o gleifion o fewn y targed pedair awr, a phrin y gwelodd y Faenor yng Ngwent hanner y cleifion damweiniau ac achosion brys yn yr amser hwnnw.

Byddwn i hefyd yn nodi'r 10,000 a mwy o gleifion ar draws Cymru sy'n aros am dros 12 awr am driniaeth argyfwng ym mis Mawrth yn unig—10,000 o gleifion dros 12 awr ym mis Mawrth yn unig. Mae hynny'n 11 y cant o'r holl dderbyniadau. Dyna chwe gwaith y gyfran yn Lloegr. Felly, rwy'n clywed y Gweinidog yn cyfeirio at rai o'r ystadegau yn Lloegr, a dyna sut fyddwn i'n ymateb i hynny.

Felly, mae hwn yn sicr yn faes, rwy'n credu, lle mae angen i'r Gweinidog Iechyd a Llywodraeth Cymru weithredu, gan nad ydw i'n credu ein bod ni wedi gweld y cynnydd digonol sydd ei angen. Wrth gwrs roeddem i fod i weld amseroedd ymateb ambiwlans ar gyfartaledd o ran galwadau coch ac oren yn gwella o flwyddyn i flwyddyn. Dydyn ni ddim wedi gweld hynny, yn anffodus, a'r unig reswm pam efallai y gwelwn ni welliant blynyddol o hyn ymlaen yw oherwydd eu bod nhw wedi cael eu gostwng mor isel—felly, gweithio o sylfaen isel.

Nawr, er tegwch, gan edrych yn gymharol, mae'n ymddangos bod Cymru a Lloegr yn perfformio'n weddol gyfartal pan ddaw hi at amseroedd ymateb cyfartalog i alwadau coch—fel arfer dim ond ychydig eiliadau i ffwrdd o'i gilydd. Ond o ran galwadau oren, mae'r rhai yn Lloegr yn cymryd hanner awr i gyrraedd, ac mae'r rhai yng Nghymru yn cymryd dwywaith yr amser. Felly, yn syml, rwy'n gofyn pam mae hynny'n digwydd. Rwy'n credu bod angen i ni ddeall y 'pam' er mwyn ysgogi gwelliant.

Ar nodau 5 a 6, er gwaethaf addewidion y byddai cleifion iach yn cael eu rhyddhau'n ddiogel ac yn briodol mor gyflym â phosib, y gaeaf diwethaf gwelwyd cannoedd o gleifion yn gorfod aros yn yr ysbyty oherwydd diffyg pecynnau gofal cymunedol. Rwy'n nodi'r nod cynharach o sicrhau bod mwy o ambiwlansys ar gael, ond wrth gwrs y gwir broblem yw bod pobl yn yr ysbyty pan nad oes angen iddyn nhw fod yno. Ar 3 Ionawr, roedd gan fwrdd iechyd Bae Abertawe 280 o gleifion a oedd yn ddigon da yn feddygol i adael yr ysbyty, ond doedd dim modd iddyn nhw fod gartref yn annibynnol ar y pryd. Roedd nifer cyfatebol hefyd yn Ysbyty Singleton. Dridiau'n ddiweddarach, roedd nifer y cleifion a oedd yn aros i adael yr ysbyty ar draws Cymru yn 1,800, felly dyna 3,500 o bobl nad oedden nhw yn y lle iawn. Roedd hwn yn ôl-groniad enfawr bryd hynny, felly mae'n debyg y byddwn yn gofyn cwestiwn i'r Gweinidog nawr: ai'r ôl-groniad enfawr hwn a'r angen i gyflawni'ch amcanion arfaethedig a wnaeth i Lywodraeth Cymru gynghori byrddau iechyd i ryddhau cleifion er nad oedd pecyn gofal yn ei le, yn erbyn cyngor, wrth gwrs, y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, ac roedd teuluoedd cleifion yn teimlo bod hynny'n gam negyddol?

Ac, unwaith eto, yn ein Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ein gwaith rhyddhau, o ysbytai, roedd cyfathrebu'n broblem fawr iawn, gyda chleifion a theuluoedd cleifion heb gael gwybod mewn modd amserol eu bod yn cael eu rhyddhau. Felly, tybed a all y Gweinidog wneud sylw ar unrhyw ddiweddariad yn hynny o beth.

Rwy'n nodi hefyd, fod Llywodraeth Cymru wedi ymfalchïo'n fawr yn lansiad y ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl 24/7. Mae hynny'n dda. Rwy'n croesawu hynny, ond dim ond newydd ddigwydd nawr mae hyn, dair blynedd ar ôl Lloegr. Tybed a allai'r Gweinidog ddweud wrthym a oedd hi'n ystyried gweithio gyda GIG Lloegr yn lle oedi mynediad i'r gwasanaeth hanfodol hwn yn enw dyblygu.

Mae hyn yn dod â fi at ap y GIG. Un o'r chwe nod yw cydlynu cynllunio a chefnogaeth i boblogaethau sydd mewn mwy o berygl o fod angen gofal brys neu argyfwng. Ond er mwyn cyflawni hyn, mae'n hanfodol, wrth gwrs, bod meddygon teulu a meddygon ysbyty yn gallu cyfathrebu'n rhwydd ac yn gyflym â'i gilydd a rhannu gwybodaeth am glaf. Er mwyn cyflawni hyn, mae gofal sylfaenol ac eilaidd, byddwn i'n awgrymu, angen TG a thechnoleg sy'n gallu cyfathrebu â'i gilydd, ac yn rhannol, mae hyn yn golygu bod ag ap GIG Cymru ar waith. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym pryd mae'r ap yn mynd i symud o'i gyfnod treialu i gyfnod gweithredol, a hefyd a fydd yr ap hwnnw mewn gwirionedd yn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol eu hunain i gyfathrebu â'i gilydd.

Yn olaf, sylwais eich bod yn siarad llawer am lif ysbyty. Hoffwn ofyn i chi am rôl deallusrwydd artiffisial. Rwy'n ymwybodol bod technoleg yn cael ei phrofi ar hyn o bryd mewn ysbytai ym mwrdd iechyd Hywel Dda, sy'n rhagweld pryd y bydd cleifion yn barod i adael yr ysbyty ar ôl iddynt gyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys, ac roeddwn yn darllen gyda diddordeb bod y feddalwedd yn dadansoddi data, gan gynnwys oedran, cyflyrau meddygol, arosiadau blaenorol, i amcangyfrif am ba hyd y bydd claf angen gwely. Gall rheolwyr ysbyty wedyn, wrth gwrs, rybuddio gwasanaethau gofal ymlaen llaw am y dyddiadau pan fo disgwyl i gleifion gael eu rhyddhau, gan ganiatáu i welyau gofal neu becynnau gofal cymunedol ac ati, gael eu paratoi. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog, os yw'n ymwybodol o'r cynllun treialu hwn, yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun treialu hwn i'r Senedd, ac a oes unrhyw ystyriaeth o ran cyflwyno hwn ymhellach, a pham nad oedd sôn am ddeallusrwydd artiffisial o gwbl yn y cynllun. Diolch.

16:15

Diolch yn fawr. Mae'n debyg mai dyma'r gaeaf mwyaf heriol i'r GIG ei weld erioed, ac un o'r rhesymau am hynny yw ein bod ni wedi gweld galw na welwyd ei debyg erioed o'r blaen. Tra bod yr Aelod eisiau edrych ar wydr hanner gwag, rwy'n ceisio edrych ar ddarlun mwy positif. Nawr, rwy'n gwybod ei bod hi'n heriol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod ein rhyddhau pedair awr yn well ac wedi bod yn well na Lloegr am y saith mis diwethaf, a bod swyddogion y GIG yn Lloegr, mewn gwirionedd, yn dod i Gymru i edrych ar ein rhaglen chwe nod, oherwydd, mewn gwirionedd, roedd ein system ni yn sefydlog tra bod eu system nhw wedi mynd fwy neu lai allan o reolaeth. Felly, maen nhw'n dod atom ni i ddarganfod ac i ddysgu o'r hyn rydyn ni wedi'i wneud.

Mae'r galw wedi cynyddu ym mhob man, yn Lloegr ac yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n werth canolbwyntio ar y cynnydd hwnnw o 93 y cant yn nifer y galwadau coch ers 2019. Felly, er cymaint y byddem ni wedi paratoi, rwy'n credu y byddai wedi bod yn anodd iawn, iawn i ni ragweld y math yna o gynnydd yn y galw. Ond yr hyn rydyn ni wedi'i wneud yw recriwtio 350 o staff ambiwlans ychwanegol dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi helpu i leddfu'r sefyllfa honno, a hefyd, wrth gwrs, parhau i fuddsoddi mewn ambiwlansys eu hunain, ond hefyd yn y cyfarpar y mae ambiwlansys yn ei ddefnyddio. Ac rwy'n credu ei bod hi'n werth pwysleisio bod y gallu newydd hwn i asesu claf o bell gyda chamerâu, gydag offer newydd, yn golygu ein bod wedi rhyddhau 15 y cant o bobl trwy'r un dull hwnnw, a fyddai fel arall wedi cael eu cludo i'r ysbyty. Felly, mae technoleg newydd yn ein helpu ni yn hynny o beth.

O ran nodau 5 a 6, fel y nodwyd gennych, yr hyn sydd gennym ni yw pwyslais manwl ar y ffordd yr ydym yn darparu dewisiadau amgen i ofal ysbyty, ac rwy'n awyddus iawn i ganolbwyntio ar atal. Felly, os nad yw pobl yn dod i mewn yn y lle cyntaf, yna does gennym ni ddim y broblem o lif. Felly, mae darparu'r gefnogaeth yn y gymuned yn hollbwysig, a bydd gennyf i fwy i'w ddweud am ein huchelgeisiau yn y maes hwnnw yn fuan iawn. Ond un o'r prif bethau rydyn ni wedi newid yw'r ffaith ein bod ni wedi ailgyflwyno ffordd newydd o gasglu data. Felly, cyn y pandemig, roedd gennym ni ddata, ond roedd pawb yn ei gasglu'n wahanol, felly doeddech chi ddim yn gallu gwneud y cymariaethau. Mae hynny i gyd wedi newid erbyn hyn fel bod pawb yn casglu ac yn adrodd am ddata yn yr un ffordd, a fydd yn ei dro yn ei gwneud hi'n haws i ni, ymhen amser, nodi nid yn unig lle mae'r cleifion, ond beth sy'n bod arnyn nhw a beth yw'r rhwystr yn y system, a bydd pawb yn adrodd yn yr un ffordd. Felly, mae hynny'n newid sylweddol hefyd. Byddwch yn ymwybodol hefyd bod y 687 o'r gwelyau hynny a ddatblygwyd gennym mewn partneriaeth â llywodraeth leol dros y gaeaf wedi arbed degau o filoedd o ddyddiau gwely ysbyty, ac roedd hynny'n ymdrech enfawr, ac rwy'n credu bod honno'n ymdrech gymeradwy iawn gan bawb.

O ran rhyddhau, dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am ofyn i bobl gael eu rhyddhau os yw'n glinigol ddiogel iddyn nhw gael eu rhyddhau. Felly, roeddem ni'n glir iawn pan wnaethom ni roi cyfarwyddyd i fyrddau iechyd bod rhaid iddo ddigwydd pan fo'n glinigol ddiogel. Ond tro ar ôl tro, mae adroddiad ar ôl adroddiad wedi dweud mai'r peth gorau i'w wneud yw cael pobl gartref a gwneud yr asesiad gartref. Mae pobl yn fwy cyfforddus gartref, a bob dydd maen nhw mewn gwely ysbyty, maen nhw'n colli ffyrfder cyhyrau a màs cyhyrau. A dydy hynny ddim yn llesol. Rwyf newydd glywed gan rywun nawr sy'n edrych ar ôl rhiant gwael iawn sydd newydd ddal COVID. Rydych yn llai tebygol o ddal COVID os nad ydych mewn ysbyty. Felly, mae'n gwneud synnwyr llwyr i ni gael pobl gartref cyn gynted ag y gallwn ni, cyn gynted ag y mae'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny, ond darparu'r gefnogaeth honno o fewn y gymuned.

Ac o ran '111 Dewis 2', rwy'n credu y dylem fod yn falch iawn o gyflymder cyflwyno hwn ar-lein, ac rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Weinidog yn gwneud datganiad manylach ar hyn yn fuan iawn. Materion digidol: o, rwy'n treulio llawer o fy amser yn ceisio ysgogi newid digidol o fewn y GIG, ac nid yw byth yn gyflym, mae gen i ofn. Ond rydyn ni'n cyrraedd y nod gydag ap y Gwasanaeth Iechyd. Mae'n cael ei ddefnyddio'n ymarferol, mewn llawer o feddygfeydd yn barod, ond bydd gennyf i ddatganiad eto i fanylu mwy ar hynny yn fuan iawn. Ac yn amlwg, rydym yn cyflwyno e-ragnodi mewn canolfannau gofal sylfaenol; mae hynny'n dod yn fuan hefyd. Ond ni allwch weithredu deallusrwydd artiffisial oni bai bod eich casgliad data yn gadarn. Felly, casglu'r data cywir, gwneud yn siŵr bod cysondeb yw'r cam cyntaf tuag at hynny.

16:20

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma. Dwi, wrth gwrs, yn cytuno ar yr angen i roi rhaglen waith mewn lle i gryfhau a thynnu pwysau oddi ar wasanaethau brys ysbytai yn benodol. Mae’r Llywodraeth yn iawn i wneud hynny; mae'n addas ein bod ni'n mesur cynnydd flwyddyn ar ôl lansio hyn.

Mewn rhai ffyrdd, mae'n rhaid dweud, rydyn ni yn gallu gweld bod yna gynnydd arwyddocaol wedi bod yn erbyn rhai o’r addewidion wnaed, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith o ganolfannau gofal sylfaenol brys, gan gynnwys un yn fy etholaeth i yn Ysbyty Penrhos Stanley. Un cwestiwn yn ymwneud â hynny: mae'r ystadegau ynglŷn â'r ganolfan benodol honno yn dangos bod canran uchel iawn, iawn o'r cleifion sydd wedi cael eu cyfeirio yno yn dod o ddwy syrjeri sydd wedi bod mewn trafferth yn y blynyddoedd diwethaf. Mae llond llaw yn cael eu cyfeirio yno o'r rhan fwyaf o feddygfeydd Ynys Môn a channoedd o feddygfeydd Longford Road a Cambria. Dydy hynny ddim yn rhoi'r argraff bod y canolfannau yma yn rhywbeth sydd yn gynaliadwy. Mae o'n rhoi'r argraff eu bod nhw yna ar gyfer diben firefighting, mewn ffordd. Tybed a all y Gweinidog wneud sylw ynglŷn â sut mae sicrhau bod y canolfannau yma yn dod yn rhan gynaliadwy o'r gyfundrefn iechyd drwyddi draw.

Dwi'n deall yn iawn fod y Gweinidog yn eiddgar i roi'r darlun gorau posib o'r sefyllfa, ond dwi'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno mai'r fersiwn orau posib o sefyllfa sy'n dal yn enbyd o wael o ran gofal brys yng Nghymru ydy hyn. Dwi'n nodi bod y Gweinidog yn dweud bod Cymru yn perfformio llawer iawn gwell na Lloegr. Mi wnaf i sylw ynglŷn â hynny. Mae'r Gweinidog yn gwneud hynny yn aml. Mae'r Ceidwadwyr yn leicio tynnu sylw at y ffaith bod Lloegr yn well na Chymru. Mi fydd y Gweinidog yn sylwi nad ydw i'n treulio gormod o amser yn cymharu Cymru â Lloegr yn benodol. Dwi eisiau cymharu Cymru, ie, efo Lloegr, os yn berthnasol, ond efo'r llefydd gorau yn y byd o ran darpariaeth iechyd.

Felly, efallai fod rhai o'r ystadegau ynglŷn â gwasanaethau brys yn edrych yn well na Lloegr ar hyn o bryd, ond maen nhw'n wael. Y ffigurau am y rheini sydd yn cael eu trin mewn llai na pedair awr—llawer gwell na'r sefyllfa yn Lloegr, meddai'r Gweinidog. Ond y gwir amdani ydy bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod yna gynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer sydd yn aros mewn adrannau brys—rhyw 14.7 y cant yn fwy ym mis Mawrth nag yn y mis blaenorol. Mae yna lai wedi cael eu trin o fewn pedair awr, a mwy wedi aros dros wyth awr. Felly, dyna ydy'r cefndir i'r ffigurau yma. Gadewch inni beidio cael ein tynnu i mewn i gymharu Cymru efo Lloegr pan yw'r sefyllfa yn Lloegr yn amlwg yn ofnadwy o wael. Dydy'r sefyllfa yng Nghymru ddim digon da, a dyna ydy'r gwir amdani.

Y pryder arall sy'n dod allan o'r ystadegau o'm mlaen i ydy pryderon ynglŷn â'r gweithlu. Mae'r cyfrifiad o'r gweithlu meddygaeth frys yng Nghymru yn dangos unwaith eto fod yna heriau sylweddol yn ein wynebu ni o ran denu a chadw staff. Does yna ddim llawer o gyfeiriad wedi bod gan y Gweinidog heddiw at y gweithlu gofal brys yn benodol. Tybed a all y Gweinidog felly ddweud wrthym ni beth ydy'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'r datganiad yma heddiw i sicrhau bod y nifer cywir o'r bobl gywir yn y lle cywir, er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu darparu gwasanaethau brys o safon ac yn effeithiol yng Nghymru. Diolch.

16:25

Diolch yn fawr. Un o'r rhaglenni rŷn ni wedi bod yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn deall y system newydd yw'r rhaglen 'Help Us to Help You', ac mae yna bobl ar draws Cymru—. Os nad yw pobl wedi ei gweld hi, rŷch chi wedi bod yn byw mewn ogof, achos mae hi wedi bod bobman yn ystod y gaeaf yma, fel bod pobl yn deall bod yna lefydd eraill i fynd, a beth sy'n dda yw bod pobl yn dechrau defnyddio'r rhain: 10,000 o gleifion y mis yn defnyddio urgent primary care centres, 4,500 o bobl yn defnyddio same-day emergency care centres, 78,000 o alwadau i 111 ym mis Mawrth, 338,000 o bobl yn ymweld â gwefan 111. Felly, mae hynny i gyd yn helpu i osgoi pobl yn mynd tuag at ein hadrannau brys ni. Felly, mae hi'n sefyllfa sydd yn anodd, ond dro ar ôl tro rwy'n meddwl, 'Diolch byth ein bod ni wedi cyflwyno hyn cyn ein bod ni wedi gweld y gaeaf welon ni yn ddiweddar.'

Dwi'n diolch ichi am gydnabod y cynnydd arwyddocaol—a dwi'n meddwl ei bod hi. Dyw hi ddim drosodd, a beth sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n mynd ymhellach gyda'r urgent primary care centres, er enghraifft. Rydych chi'n gofyn sut ydym ni'n mynd i wneud hyn yn gynaliadwy a pha wahaniaeth sy'n mynd i fod, yn enwedig os yw pobl yn cael eu hanfon yno o GP surgeries—ydy hynna actually yn help? Wel, rhan o'r rheswm am hynny yw achos ambell waith mae cit yn yr urgent primary care centre sydd ddim gyda'r GP surgeries, ac felly dŷn nhw ddim yn gallu diagnosio pethau yn y GP surgeries, ond maen nhw'n gallu yn yr urgent primary care centres. Hefyd, wrth gwrs, mae lot o'r urgent primary care centres yma yn gweithredu eisoes tu fas i'r oriau mae GP surgeries yn gweithio, ac un o'r pethau rŷn ni eisiau sicrhau yw ein bod ni'n gweld 24-hour coverage o ran urgent primary care centres, a bod hynny, unwaith eto, yn cymryd y pwysau oddi wrth yr adrannau brys.

O ran gofal, beth dwi'n awyddus i'w wneud yw gweld os allwn ni weld y sifft yna i'r gymuned, i stopio pobl rhag mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Mae yna ychydig o waith gyda ni i'w wneud, dwi'n meddwl, gyda'n poblogaeth ni yng Nghymru i'w cael nhw i ddeall nad yr ysbyty yw'r lle cywir bob tro. Mae yna waith gyda ni i gyd i'w wneud, achos os mai eich rhiant chi sydd yn sâl, rŷch chi eisiau gwneud y gorau drostyn nhw, ac rŷch chi efallai'n ystyried ambell waith mai'r peth gorau iddyn nhw yw mynd i'r ysbyty. Yn aml, dŷn nhw ddim eisiau mynd i'r ysbyty, ond rŷn ni eisiau gwneud y gorau drostyn nhw. Felly, dwi'n meddwl bod gwaith gyda ni i gyd, achos does neb eisiau marw yn yr ysbyty. Mae'n rili bwysig ein bod ni'n dechrau cydnabod ein bod ni i gyd yn marw rhywbryd, a bod yn rhaid inni ddysgu pobl sut i farw'n dda, ac mae hynny'n gam anodd iawn, achos dŷn ni ddim, fel cymdeithas, yn siarad am farwolaeth mewn ffordd iach. Mae hynny'n swnio'n od, ond dwi'n meddwl bod angen inni gael y drafodaeth, sy'n sensitif ac yn anodd.

O ran yr ystadegau, yr ymateb ar gyfartaledd i alwad coch yw wyth munud a 24 eiliad. Hwnna yw'r average response time. Mae 80 y cant o alwadau coch yn cael ymateb o fewn 15 munud. Felly, mae'n rili bwysig, dwi'n meddwl, achos mae lot o sôn am does dim ambiwlans yn dod. Os yw'n wasanaeth coch, mae'n mynd i ddod. Efallai dŷn ni ddim yn cyrraedd y targed, ond beth dwi ddim eisiau ei wneud yw gweld bod pobl ofn galw'r ambiwlans, achos bydd hi'n dod, ond efallai ddim digon ar hyn o bryd o fewn y cyfnod rŷn ni wedi'i roi fel her, fel targed. Ond maen nhw'n dod, a'r average response time yw wyth munud a 24 eiliad.

O ran y cleifion sy'n mynd i'r adrannau brys, yr amser cyn triage, ar gyfartaledd, yw 23 munud, a'r amser ar gyfartaledd cyn bod asesiad gan feddyg priodol yw tua awr a hanner. Felly, hwnna yw'r cyfartaledd, ac mae'n rili bwysig bod pobl yn deall. Wrth gwrs, mae yna enghraifft ar ôl enghraifft o bobl yn aros lot hirach na hynny. Mae lot o waith da wedi cael ei wneud yng Nghaerdydd yn arbennig. Maen nhw wedi cadw y tu mewn i'r pedair awr rŷn wedi'i osod fel targed am fisoedd nawr, ac felly rŷn ni'n anfon pobl o'r byrddau iechyd eraill i edrych ar beth mae Caerdydd yn ei wneud a dysgu oddi wrthyn nhw.

Mae'r gweithlu yn broblem. Rŷch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi recriwtio mwy nag erioed o'r blaen, yn arbennig yn y gwasanaeth ambiwlans. Mi fyddwn ni'n recriwtio mwy o bobl i 111 fel bod mwy o bobl yn gallu defnyddio'r gwasanaeth yna. Mae yna raglen gweithlu sy'n mynd law yn llaw gyda hyn, ac wrth gwrs mae honno’n cael ei datblygu gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru. 

16:35

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae'n canolbwyntio ar sicrhau bod pobl sydd angen gofal iechyd brys neu sydd heb ei gynllunio yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau gorau un sy'n bwysig iawn i fy etholwyr yng Nghwm Cynon, felly mae'n dda gweld cynnydd o ran cyflawni hyn, a hefyd yr ymrwymiad newydd i gyflawni gwelliannau pellach dros y 12 mis nesaf.

Mae'r canlyniadau cadarnhaol y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn sgil cyflwyno'r gwasanaeth '111 Dewis 2' sy'n cefnogi 80 y cant o ddefnyddwyr rhag gorfod cael mynediad at wasanaeth gofal brys neu argyfwng arall i'w groesawu'n fawr. Yn wir, rwy'n bwriadu ymweld â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddysgu mwy am y cynllun cyflwyno'n lleol yr wythnos nesaf, mae'n rhywbeth rwy'n edrych ymlaen ato'n fawr. Pa fath o ymyriadau ydych chi wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fod o ansawdd uchel ac yn gallu ateb y galw, yn enwedig gan ein bod yn gwybod mai dyma'r math o wasanaeth y bydd pobl yn ceisio ei gyrchu ar adegau o argyfwng?

Fy ail gwestiwn a'r olaf. Roeddwn yn falch o glywed sôn am unedau mân anafiadau yng nghyd-destun mynediad at ddarpariaeth gofal brys 24/7, sy'n flaenoriaeth ar gyfer ail flwyddyn y cynllun. Rydw i wedi bod yn trafod gyda'r bwrdd iechyd ynglŷn â'u cynlluniau ar gyfer yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon, i ehangu'r ddarpariaeth i gynnwys mân anafiadau a gwasanaethau salwch y tu allan i'r trefniant oriau agor swyddfa bresennol a saith diwrnod yr wythnos. Fel y gwyddoch chi efallai, mae Llais wedi awgrymu mai YCC yw'r lleoliad mwyaf canolog ar gyfer cyflwyno hyn. Felly, pa sgyrsiau ydych chi'n eu cael gyda'r byrddau iechyd am ehangu'r math hwn o ddarpariaeth mewn ffordd gynaliadwy, ac yn benodol ynghylch sicrhau'r lefelau staffio diogel, a oedd yn ffactor allweddol pan gafodd gwasanaethau eu cyfyngu o'r blaen?

Diolch yn fawr, Vikki. Fel y soniais i, rwy'n gobeithio y bydd fy nghyd-Weinidog Lynne Neagle yn gallu rhoi llawer mwy o fanylion ar wasanaeth '111 Dewis 2' yn fuan iawn. Cefais sesiwn friffio yr wythnos diwethaf arno, a rhaid i mi ddweud bod y canlyniadau eisoes yn hynod drawiadol. Mae'n wych clywed hynny. Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau eich ymweliad, oherwydd rwy'n credu bod yna gefnogaeth dda iawn ac o ansawdd uchel. Mae'n amlwg iawn bod y mwyafrif llethol o bobl sy'n ffonio'r gwasanaeth hwnnw yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ac wedyn ddim yn gorfod cael eu gwthio i rywle lle mae angen rhagor o gymorth arnyn nhw.

O ran yr uned mân anafiadau, rwy'n wir yn credu bod angen i ni ddechrau deall bod y newid hwn i ofal cymunedol yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni i gyd ei gofleidio, bod y model gofal yn mynd i orfod newid ychydig yng Nghymru, oherwydd, mewn gwirionedd, fod proffil ein poblogaeth yn newid; mae gennym boblogaeth hŷn gyda phroblemau mwy cymhleth ac amlweddog y bydd angen i ni fynd i'r afael â nhw. Dydyn nhw ddim o reidrwydd, eto, yn cael y cymorth gorau o fewn lleoliad ysbyty. Os ydym yn mynd i wneud y newid i'r gymuned, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod nad oes mwy o arian, felly rydyn ni'n mynd i orfod gweld y symudiad yn digwydd o'n gofal eilaidd i'r gymuned. Mae hynny'n mynd i fod yn anodd, ond rwy'n credu mai dyma'r cyfeiriad cywir. Yn sicr mae pob un o'r adroddiadau academaidd yr wyf wedi bod yn eu darllen ynghylch hyn yn awgrymu yn bendant mai dyma'r cyfeiriad teithio y bydd angen i ni ei fabwysiadu. Mi fydd yna, rwy'n siŵr, dipyn o sŵn ynghylch hyn rywbryd, ond mae hynny'n sicr yn rhywbeth rwy'n benderfynol o'i weld. Mae lefelau staffio yn mynd i fod yn allweddol, ond rydyn ni'n mynd i orfod, gobeithio, gweld ychydig mwy o'r symudiad yna o ran tynnu pobl allan o ysbytai ac i'r cymunedau.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y datganiad hefyd, Weinidog. 

Rwyf eisiau canolbwyntio ar y chweched nod, sef lleihau'r risg o aildderbyn ar ôl i gleifion gael eu rhyddhau o'r ysbyty. Mae'r rhain i gyd yn gwau gyda'i gilydd, on'd ydyn nhw, yn enwedig ar ôl yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud wrth Vikki Howells, ac mae hynny ynghylch gofal cymdeithasol. Yn eich datganiad ym mis Gorffennaf y llynedd, fe wnaethoch chi amlinellu her i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i greu 1,000 o leoedd gofal cymdeithasol i leihau'r risg o gleifion yn gorfod aros mewn ysbytai. Ac wrth gwrs, mae'r cytundeb cydweithio rhyngoch chi a Phlaid Cymru wedi ymrwymo i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, ond ychydig iawn rydyn ni wedi'i glywed am gynnydd o ran yr ymrwymiad hwn. Tybed a gaf i ofyn am ddiweddariad a phryd ydych chi'n bwriadu cyhoeddi cynllun gweithredu o ran y cynnydd i integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Diolch yn fawr. Mewn gwirionedd, rwy'n credu mai'r hyn wnaethom ni dros y gaeaf hwn, a oedd yn drafodaeth ddwys iawn gyda llywodraeth leol—. Wyddoch chi, bob pythefnos fe wnaethom ni gyfarfod a dweud, 'Iawn, sut ydym ni'n mynd i gyflawni'r gwelyau cymunedol hyn?' Dechreuom ni'n gynnar iawn—dechreuom ni ym mis Medi. Wnaethom ni ddim cyrraedd y 1,000; fe gyrhaeddom ni 687, a oedd fel cyfran yn llawer mwy na wnaethon nhw yn Lloegr. Tra'r oedden nhw'n siarad amdano yn Lloegr ym mis Ionawr, roedden ni eisoes wedi cyflawni'r rhan fwyaf o'n rhai ni. Ac nid yw'n hawdd cyflawni'r rhain, oherwydd y peth allweddol gyda hyn yw staffio. Byddem ni'n cyrraedd pwynt pan fyddai awdurdod lleol yn dweud, 'Ydym, rydyn ni'n fodlon gwneud hyn', bydden nhw'n recriwtio rhywun ac yna bydden nhw'n ei golli. Felly, nid yw'n syml o gwbl, ac mae breuder ein system gofal cymdeithasol, fel y gwyddoch chi, yn rhywbeth sy'n eich poeni chi, rwy'n gwybod, a phob un ohonom.

Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud, yn amlwg gyda'r grŵp arbenigol, a roddodd eu hargymhelliad ar ofal cymdeithasol a dyfodol hwnnw. Mae angen i ni weld integreiddio pellach. Byddwch yn ymwybodol bod yna eisoes £144 miliwn na ellir ei wario gan fyrddau iechyd neu awdurdodau lleol oni bai eu bod yn gweithio gyda'i gilydd drwy raglen benodol. Yn sicr, gallaf anfon mwy o wybodaeth atoch am hynny, os byddai'n ddefnyddiol, ond mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud ar ba mor bell y gallwn ni fynd, yn sicr o edrych ar ddyfodol hirdymor gofal cymdeithasol. Nid yw'n mynd i fod yn hawdd, oherwydd does dim llawer o arian yn y system ar hyn o bryd. Yn amlwg, yma yng Nghymru, rydym wedi cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol, ond pan welwch chi'r gystadleuaeth a'r chwyddiant sy'n digwydd, a'r ffaith bod cymaint o bobl o ddwyrain Ewrop a oedd yn gweithio yn y sector hwnnw wedi mynd adref, mae'n her enfawr heb os.

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Addysg Uwch

Eitem 6 sydd nesaf, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, diweddariad ar addysg uwch. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon yn credu y dylai addysg uwch fod ar gael i bawb, ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio yr holl ysgogiadau sydd ar gael i sicrhau y gall hynny ddigwydd. Rydym yn gwybod y gall costau byw fod yn rhwystr gwirioneddol rhag cael mynediad i brifysgol. Dyna pam rydyn ni'n cynnal cysylltiad rhwng lefel y cymorth cynhaliaeth i israddedigion a'r cyflog byw cenedlaethol, sy'n golygu bod gan Gymru'r lefel uchaf o gymorth cynhaliaeth sydd ar gael yn y DU. Er gwaethaf pwysau parhaus ar y gyllideb, rydym wedi sicrhau bod gwerth cymorth cynhaliaeth i israddedigion yn cynyddu'n sylweddol, 9.4 y cant yn y flwyddyn academaidd 2023-24 i fyfyrwyr newydd a'r rhai sy'n parhau ar gwrs a ddechreuwyd ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Mae cymorth ariannol sylweddol hefyd ar gael i ddysgwyr rhan-amser ac ôl-raddedig, dull sydd mewn gwirionedd yn unigryw yn y Deyrnas Unedig. Yn wir, mae'r diwygiadau hyn wedi arwain at gynnydd o 14 y cant yn nifer yr israddedigion yn astudio'n rhan amser yn ystod y pum mlynedd diwethaf a chynnydd o 38 y cant mewn ôl-raddedigion.

Mae'r dull blaengar hwn o ran cyllid myfyrwyr wedi golygu bod gan fyfyrwyr israddedig Cymru lai i'w ad-dalu, ar gyfartaledd, na'u cyfoedion yn Lloegr, gan eu bod yn cael lefel warantedig o gymorth cynhaliaeth, ni waeth beth yw incwm eu haelwydydd. Yn gynharach eleni, fe gyflwynodd Llywodraeth y DU drefniadau ad-dalu cyllid myfyrwyr newydd. Er bod system ad-dalu Cymru yn hanesyddol wedi'i halinio â Lloegr, fy marn i yw nad yw'r system newydd yn Lloegr yn gytundeb da i fyfyrwyr. Mae diwygiadau Lloegr o fudd i'r enillwyr uchaf ac yn gwaethygu'r sefyllfa i raddedigion ag enillion canol ac is. Effeithir yn anghymesur ar fenywod hefyd. Rwyf i yn sicr na ddylem ni fod yn gofyn i athrawon, nyrsys a gweithwyr cymdeithasol dalu mwy, tra bod yr enillwyr uchaf yn talu llai. Felly, rwy'n cyhoeddi heddiw na fyddwn yn symud i'r system a fabwysiadwyd yn Lloegr, ond y byddwn yn cadw'r system bresennol. Mae hyn yn golygu y bydd graddedigion o Gymru yn parhau i ad-dalu benthyciadau o dan y cyfnod ad-dalu 30 mlynedd yn hytrach na chyfnod ad-dalu 40 mlynedd Lloegr.

Rwy'n cydnabod yr effaith y gall yr argyfwng costau byw ei chael ar fyfyrwyr a sut y gall poeni am gyllid gael effaith andwyol ar iechyd meddwl a llesiant, ac mae'r ddau beth yn hanfodol er mwyn i fyfyrwyr fanteisio i'r eithaf ar eu hamser yn y brifysgol. Rwy'n falch o allu darparu £2.3 miliwn o gyllid ychwanegol drwy CCAUC i fuddsoddi yn y cymorth hwn ac ymestyn y gronfa galedi i helpu i leddfu'r pwysau ariannol ar fyfyrwyr. Rydym wedi gwneud hyn mewn partneriaeth ag undebau myfyrwyr, a thrwy weithio mewn partneriaeth yr ydym yn gallu sicrhau bod yr effaith fwyaf yn cael ei theimlo gan fyfyrwyr.

Hoffwn fynegi fy nghefnogaeth i ymgyrch 'Troi fyny' UCM. Mae pleidleisio yn rhan allweddol o ddinasyddiaeth, mae'n rhoi pŵer, dylanwad a rhan mewn cymdeithas, ac mae annog myfyrwyr i bleidleisio a gwneud pleidleisio yn arfer oes yn rhywbeth, yn amlwg, rwy'n ei gymeradwyo. Rydym wedi cynyddu'r etholfraint yma yng Nghymru ac yn annog pobl i bleidleisio yn hytrach na rhoi rhwystrau ar eu llwybr i'r bwth pleidleisio.

Fel y dywedais i, mae iechyd meddwl myfyrwyr yn bwysig a dyna pam rydym yn adolygu ein strategaeth iechyd meddwl. Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn gadeirydd grŵp cynghori ar gyfer iechyd meddwl mewn addysg bellach ac addysg uwch, gan ddod â gweithwyr proffesiynol ar draws y sectorau trydyddol ac iechyd ynghyd. Bydd y grŵp yn nodi ac yn cefnogi gweithredu er mwyn gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i fyfyrwyr ôl-16 oed a sicrhau cysondeb ar draws sefydliadau adnoddau hygyrch i gefnogi atal a/neu ymyrraeth gynnar. Bydd gwaith y grŵp yn helpu i lywio gwaith datblygu amodau cofrestru ac ariannu newydd y comisiwn sy'n gysylltiedig â lles a llesiant dysgwyr.

Ar fyfyrwyr mae'r prif ffocws wedi bod heddiw, ond, cyn i fi gloi, hoffwn i droi at ein sefydliadau addysg uwch. A gaf i ddweud ar y cychwyn fy mod i'n deall y pryderon ariannol? Mae pob sector, boed gyhoeddus neu breifat, yn teimlo'r pwysau cynyddol sy'n dod o'r chwyddiant uchel rŷn ni i gyd yn ei wynebu. Mae setliad Llywodraeth Cymru i fyny at £900 miliwn yn llai mewn termau real na'r hyn a ddisgwylid yn 2021, ar adeg yr adolygiad gwariant. Yn sgil hynny, mae angen ystyriaeth ofalus o sut i fynd i'r afael â hyn.

Rŷn ni i gyd yn gwybod nad yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud ar ei phen ei hun. Mae sefydliadau yng Nghymru yn gweithredu o fewn system ar hyd y Deyrnas Gyfunol sydd o dan bwysau ym mhob rhan o'r Deyrnas Gyfunol. Rwyf wedi cwrdd â'r is-gangellorion i drafod â nhw sut allwn ni fynd i'r afael â hyn ar y cyd.

Hoffwn i gloi gan ddiolch i'n prifysgolion am eu hymrwymiad i'r ymateb dyngarol yn sgil yr ymosodiad ar Wcráin, eu bod nhw'n brifysgolion lloches yn ein cenedl lloches. Mae pob prifysgol yn parhau i weithio gyda CARA, cyngor academyddion mewn risg, ac yn cefnogi academyddion sydd yn ceisio lloches rhag gwrthdaro yn Wcráin, Afghanistan a thu hwnt. Maen nhw hefyd yn cefnogi nifer sylweddol o fyfyrwyr gan dalu eu ffioedd dysgu a chostau llety, gan ganiatáu iddyn nhw barhau â'u dysgu.

Mae ein prifysgolion ni yn parhau i gefnogi'r creisis yn Wcráin drwy fod yn ganolfannau croeso i newydd-ddyfodiaid a hefyd darparu llety ar gyfer y cynnydd uchel ar draws Cymru. Dyma i chi addysg uwch sydd yng Nghymru, ar gyfer Cymru, ac ar gyfer y byd. Addysg uwch sydd ar gael i bawb ac sy'n cefnogi pawb yn ystod eu hastudiaethau, ac yn creu dinasyddion iach a hyddysg a fydd yn gallu cyfrannu tuag at ddyfodol Cymru a thu hwnt. Diolch yn fawr.

16:45

Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am eich datganiad heddiw.

A gaf i groesawu'r rhan fwyaf o'r teimladau a fynegwyd yn eich datganiad heddiw, er y byddaf yn dod yn ôl yn hwyrach i rai meysydd lle efallai yr ydym yn teimlo y gallech fod wedi mynd ymhellach? Ond a gaf i ddechrau drwy gysylltu fy hun a fy ngrŵp â'ch teimladau ynghylch cefnogi academyddion o Wcráin, Affganistan a mannau eraill sydd wedi wynebu erledigaeth, y mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu?

Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy ddweud bod unrhyw beth sy'n helpu myfyrwyr o bob cefndir i gymryd rhan yn y brifysgol ac adeiladu dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain gydag incwm uwch o ganlyniad, i'w groesawu? O ganlyniad, rydym eisiau gweld mwy a mwy o fyfyrwyr yng Nghymru yn talu'r benthyciadau hynny'n ôl yn llawn, oherwydd mae hynny'n arwydd cliriach o economi gyflog uchel bywiog, yr ydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn dyheu am ei gweld yng Nghymru. Rydyn ni'n gwybod bod cyflogau cyfartalog Cymru ar ei hôl hi'n sylweddol o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n creu problem, nid yn unig i'n heconomi, ond i'n cymdeithas ni hefyd. Ar ôl 25 mlynedd o ddatganoli yma yng Nghymru, mae'n werth cofio bod gweithwyr o Gymru a'r Alban yn ennill tua'r un peth adeg hynny, ond mae gweithiwr o Gymru heddiw yn ennill £3,000 yn llai nag un o'r Alban ar gyfartaledd. Felly, sut ydych chi'n gweithio gyda Gweinidog yr economi i wyrdroi hanes y Llywodraeth hon a sicrhau cyflogau yng Nghymru sy'n debycach i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig?

Fel y dywedais i, rwy'n credu bod diffyg uchelgais yn y datganiad hwn heddiw o ran addysg uwch, ac o ystyried bod llawer o'r pwerau yma wedi'u datganoli, mae'n drueni mawr nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd ymhellach. Yn ffodus, mae gennym ni rai awgrymiadau i wyrdroi'r hyn sy'n ddraen dawn anffodus yr ydym wedi'i weld yng Nghymru a darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, gallech fod wedi cyhoeddi rhai o'n cynlluniau i ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n dewis gweithio am o leiaf bum mlynedd fel meddygon, nyrsys neu athrawon yng Nghymru wedi i'w hastudiaethau ddod i ben. Gallech hefyd fod wedi mabwysiadu ein cynlluniau i dorri ffioedd dysgu yn hanner ar gyfer myfyrwyr o Gymru sy'n astudio pynciau STEM ac iaith dramor fodern ym mhrifysgolion Cymru. Felly, ble mae'r weledigaeth gyffredinol ar gyfer addysg uwch yng Nghymru? A beth yw eich cynllun i gymell cyrsiau STEM sgiliau uchel ac annog mwy o bobl nid yn unig i astudio yng Nghymru, ond i aros yng Nghymru ar ôl iddyn nhw raddio?

Fe wnaethoch chi hefyd grybwyll y gefnogaeth i fyfyrwyr o ran eu hiechyd meddwl yn eich datganiad, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig. A gyda'r pwysau sy'n cael ei roi ar fyfyrwyr heddiw yn fwy acíwt nag erioed, yn enwedig ar ôl y pandemig, mae hynny'n wirioneddol bwysig. Ac er fy mod yn falch o'ch clywed yn sôn bod y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn cadeirio grŵp cynghori ar iechyd meddwl mewn addysg bellach ac addysg uwch, y gwir yw mai gweithredu sy'n bwysig. Felly, pryd gawn ni glywed canlyniadau a chynnydd y grŵp cynghori y gwnaethoch chi sôn amdano, er mwyn i ni wneud gwahaniaeth amlwg i helpu i gefnogi iechyd meddwl myfyrwyr yng Nghymru? A gan aros gydag iechyd meddwl, un o'r pethau rwy'n credu sy'n cael ei anwybyddu'n aml, yn sicr o fy mhersbectif fy hun a ffrindiau a raddiodd yn yr un cyfnod â mi, yw'r pontio o'r brifysgol i fyd gwaith ar ddiwedd gradd. Mae llawer heb baratoi, er enghraifft, ar gyfer y gwahaniaeth rhwng byd gwaith a byd addysg, yn enwedig addysg uwch, ar ôl iddyn nhw ddewis dod â'u hastudiaethau i ben. Ac efallai gall y pwysau o fethu â dod o hyd i'r swydd a ddychmygoch chi, er enghraifft, achosi straen sylweddol ar iechyd meddwl unigolyn. Felly, Gweinidog, a fyddech chi'n ymrwymo i ofyn i'r Dirprwy Weinidog gynnwys yr unigolion hynny yn y blynyddoedd ar ôl gadael AB ac AU yn ystyriaethau ei grŵp cynghori ar iechyd meddwl fel nad ydych chi'n creu'r ymyl clogwyn hwnnw o ran lle mae cymorth iechyd meddwl yn bodoli?

Ac yn olaf, ar ddiwedd eich datganiad, fe wnaethoch chi gyfeirio at iechyd hirdymor ariannu prifysgolion yng Nghymru. Ac, ar y pwnc ariannu, fe fyddwn ar fai am beidio â sôn am fy nadl fer ddiweddaraf a oedd yn ymwneud â mynediad at gyllid ymchwil i brifysgolion Cymru, sy'n dal ar ei hôl hi'n sylweddol o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Fel y dywedais i bryd hynny, ac yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, o dair gwlad ddatganoledig y DU a phob un o naw rhanbarth Lloegr, mae gan Gymru, fel cyfran, y gwariant isaf ar ymchwil a datblygu, a'r perfformiad isaf o 12 gwlad a rhanbarth y DU. Er bod gan Gymru 5 y cant o'r boblogaeth, rydyn ni'n cyfrif am 2 y cant yn unig o'r gwariant ar Ymchwil a Datblygu yn y DU a dim ond 3 y cant o gyllid cystadleuol. Yn wir, disgrifiwyd Rhwydwaith Arloesi Cymru gan Richard Wyn Jones, cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru a deon materion cyhoeddus Prifysgol Caerdydd, fel un hynod fach. Fe wnaethoch chi sôn am y cyllid—y cyllid diogelwch tymor hir hwnnw—yn amlwg, mae cynnydd yng ngallu ein prifysgolion i geisio cyllid ymchwil yn rhan annatod o hynny. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod prifysgolion yng Nghymru yn gallu cael y cyllid angenrheidiol ar gyfer ymchwil fel bod gan ein prifysgolion fynediad llawn i'r cyllid sydd ei angen arnynt a'u bod yn gallu rhoi'r gorau i berfformio ar lefel is na'r hyn a ddisgwylir ganddynt? 

16:50

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. O ran y pwynt ar iechyd meddwl, gofynnodd pryd y byddai adroddiad cynnydd ar waith y grŵp cynghori, bydd hynny'n digwydd pan fydd gwaith y grŵp cynghori wedi ei gwblhau. Rwy'n cytuno ag ef: mae'n bwysig, on'd yw e, ein bod yn osgoi ymylon clogwyni artiffisial rhwng y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr, pobl ifanc, ar unrhyw adeg yn eu gyrfaoedd. Bydd yn cydnabod bod hynny yn rhannol y tu ôl i'r dull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant, y mae Llywodraeth Cymru yn ei argymell ac yr wyf i'n cydweithio'n agos arno, fel y mae'n ymwybodol, â'r Dirprwy Weinidog. Felly, nid yw hyn yn adranedig yn y ffordd rwy'n credu bod ei gwestiwn yn tybio; mae'n ddull llawer mwy cyfannol, ac rwy'n siŵr y byddai'n cytuno mai dyma'r unig ffordd go iawn o allu darparu lefel y gefnogaeth y mae unigolion ei hangen, ac yn briodol, yn ei disgwyl.

O ran y ddau bwynt arall sy'n ymwneud ag ymchwil, rwy'n ei ganmol am ei feiddgarwch wrth fod mor ymosodol mewn cysylltiad â thirwedd ymchwil yng Nghymru sy'n ganlyniad i'r ffordd y bradychodd y Ceidwadwyr bobl Cymru yn ystod ymgyrch Brexit. Cafodd addewidion eu gwneud mewn cysylltiad â chronfeydd strwythurol yng Nghymru, sydd, fel y bydd yn gwybod, yn brif ffynhonnell cyllid ar gyfer ymchwil mewn sefydliadau Cymreig, ac yn syml maen nhw wedi'u torri. Felly, efallai y gallai fyfyrio ar beth arall y gall ei wneud gyda'r Llywodraeth y mae'n ei chefnogi yn San Steffan. Rwy'n gwybod y bydd yn teimlo'n gryf bod ei gydweithwyr yn San Steffan yn gwneud y peth iawn, felly efallai y gall fod yn atebol am y camau hynny pan fydd yn myfyrio nesaf ar y sefyllfa y mae prifysgolion yn cael eu hunain ynddi mewn cysylltiad ag ymchwil. Rydym ni fel Llywodraeth yn cymryd pob cyfle yn gyson i annog y Llywodraeth Geidwadol i ildio ac i gadw ei haddewidion fel nad yw'r sefyllfa y mae'n ei disgrifio yn gwaethygu, ac, yn wir, fel y gallwn weld bod yr arian ar gael i brifysgolion y dywedwyd wrthym y gallem ei ddisgwyl. 

O ran y polisïau y mae'n awgrymu y gallem ni eu hystyried fel dewisiadau amgen, rwy'n ofni bod angen i ni edrych ar yr hyn y mae Llywodraethau Ceidwadol yn ei wneud yn ymarferol os ydym eisiau gweld sut mewn gwirionedd mae cyllid myfyrwyr yn edrych o safbwynt y Ceidwadwyr. Rydyn ni'n gweld cynnydd o 2.8 y cant yn y cyllid y flwyddyn gan Lywodraeth Geidwadol, 9.4 y cant gan Lywodraeth Lafur Cymru. Rydyn ni'n gweld Llywodraeth Geidwadol yn ceisio ei gwneud hi'n haws i'r rhai sy'n cael eu talu'n uwch i ad-dalu eu benthyciadau myfyrwyr, ac yn anoddach i'r rhai ar incwm canol ac is i wneud hynny. Rydyn ni'n gweld Llywodraeth Geidwadol yn dechrau'r cyfnod ad-dalu ar gyfer benthyciadau myfyrwyr ar drothwy is na Llywodraeth Lafur. Rydym yn gweld absenoldeb unrhyw ymrwymiad i grantiau myfyrwyr fel sydd gennym yma yng Nghymru, a dim ymrwymiad i ddileu, fel sydd gennym yng Nghymru, lle mae'r £1,500 cyntaf o'r ddyled yn cael ei ddileu. Felly, does dim un byd lle mae ateb Ceidwadol i gyllid myfyrwyr yn fwy blaengar. Mae pob un darn o dystiolaeth sydd gennym, mae gen i ofn, yn dweud wrthych chi fod Llywodraeth Geidwadol yn ymarferol yn mynd ar ôl polisi atchweliadol yn y maes hwn. Mae Llywodraeth Lafur Cymru—rwy'n hollol fodlon cefnogi ein gweithredoedd—wedi ymrwymo erioed i'r drefn gyllid myfyrwyr fwyaf blaengar sydd ar gael, fel y mae cyhoeddiad heddiw yn ei ddangos.

16:55

Hoffwn ddatgan y budd fod fy ngŵr yn gyflogedig ym Mhrifysgol Abertawe ac yn aelod o UCU. Rwy'n diolch i'r Gweinidog am y datganiad ac yn croesawu'r gydnabyddiaeth fod angen gwneud mwy i gefnogi myfyrwyr wrth iddyn nhw wynebu heriau anferthol yn ystod yr argyfwng costau byw, ac hefyd o ran y gefnogaeth sydd ei hangen o ran eu hiechyd meddwl nhw.

I droi at hynny'n gyntaf, rôn i'n rhan o ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i effeithiolrwydd cymorth iechyd meddwl yng Nghymru mewn addysg uwch, ac roedd y dystiolaeth glywon ni gan fyfyrwyr eu hunain yn dangos yn glir bod angen mwy o gydweithio rhwng darparwyr addysg uwch a gwasanaethau statudol yng Nghymru i sicrhau lefel gyson o gymorth. Er bod holl brifysgolion Cymru wedi ymuno â fframweithiau StepChange a Suicide-Safer Universities, Universities UK, ac mae'n rhaid i bob un o ddarparwyr addysg uwch Cymru fod â siarter myfyrwyr, fe glywon ni am achosion torcalonnus a phryderus sy'n golygu nad yw ein pobl ifanc yn medru elwa yn llawn ar gyfleon addysg, ac yn wir bod rhai ohonyn nhw mewn perygl. Dim ond ddoe, wrth gwrs, glywon ni am achos trist myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Charlie McLeod, a fu farw drwy hunanladdiad ym mis Chwefror. Felly, hoffwn wybod a fydd y Llywodraeth yn derbyn argymhellion yr adroddiad—33 ohonyn nhw—yr ydym ni fel pwyllgor yn grediniol y bydd yn helpu sicrhau nad oes neb yn colli'r cyfle i wireddu ei botensial yn y brifysgol oherwydd iechyd meddwl.

Hoffwn dynnu sylw'n benodol at fyfyrwyr rhyngwladol, sy'n wynebu pwysau gwahanol i eraill—roedd hwn yn rhywbeth wnaethon ni ei weld yn yr ymchwiliad—ac anghenion hefyd myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal, neu rai oedd eisoes â phroblemau iechyd meddwl cyn dechrau ar eu taith addysg uwch. Felly, a fydd gwaith y grŵp dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Weinidog yn edrych ar y grwpiau penodol yna o fyfyrwyr? A allwch chi roi gwybod a fydd gan fyfyrwyr eu hunain lais yn y grŵp hwn?

Wrth gwrs, yn yr adroddiad hwnnw, fe soniwyd nad oedd modd arllwys o gwpan gwag, hynny yw nad yw staff yn y sector addysg uwch, sydd dan straen aruthrol eu hunain ac mewn anghydfod gyda'u cyflogwr er mwyn mynnu tâl ac amodau teg, yn y safle gorau bob tro i fedru cynnig y cymorth a’r gefnogaeth sydd angen ar eu myfyrwyr nhw yn sgil y pwysau sydd arnynt hwythau. Mae UCU Cymru wedi galw bwriad y sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i leihau cyflogau staff sy’n cymryd rhan yn y boicot marcio ac asesu cwbl gyfreithlon, mewn modd sy’n gosbol, yn ymosodol ac yn anghymesur. Ŷch chi’n cytuno y bydd agwedd y prifysgolion at hyn yn peryglu dwysáu’r anghydfod, a hefyd yn gwbl anghyfiawn, ac, os felly, a wnewch chi annog is-gangellorion Cymru i ailfeddwl, ac i gorff y cyflogwyr, yr Universities and Colleges Employers Association, i ddychwelyd i’r ford negodi?

O ran Wcráin, hoffwn hefyd ddiolch i'r prifysgolion am eu hymateb a'r croeso sydd wedi cael ei estyn i academwyr a myfyrwyr sydd wedi dod i Gymru i barhau eu hastudiaethau. Rŷch chi’n cofio, efallai, i fi godi o’r blaen gyda chi achos Lisa Veta, myfyriwr o Dnipro sydd wedi dod i Brifysgol Abertawe i astudio gwaith Dylan Thomas. Mae ei fisa hi yn dod i ben ar 9 Mai ac, er iddi wneud cais i’w ymestyn, dyw hi ddim wedi clywed dim gan UK Visas and Immigration. Ydy’r gefnogaeth sy’n cael ei estyn i fyfyrwyr o Wcráin gan ein prifysgolion ni’n cael ei fonitro gan y Llywodraeth o gwbl, ac a oes yna rywbeth y gallwch chi fel Llywodraeth ei wneud i geisio arbed Lisa, ac eraill fel hi, rhag dioddef rhagor o bryder ac ansicrwydd am eu dyfodol wrth geisio parhau nawr â'u hastudiaethau, ar ôl bod yma am gyfnod?

Ar gyllid myfyrwyr, wedyn, rwy’n croesawu bod y Llywodraeth yma yng Nghymru yn dilyn trywydd gwahanol i Lywodraeth San Steffan, gan ystyried yr effaith yna ar grwpiau gwahanol o fyfyrwyr, ac yn annog pobl i ymgymryd â’r mathau o swyddi rŷn ni’n dirfawr eu hangen, fel nyrsys, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, ac yn wir, darlithwyr ac ymchwilwyr. Ond, Weinidog, a fyddai codi’r trothwy ar gyfer ad-daliadau yn fwy buddiol, efallai, yn y cyd-destun presennol?

A byddwn hefyd yn gofyn a ydy Llywodraeth Cymru yn cefnogi tro pedol arweinydd Llafur y Deyrnas Gyfunol, Keir Starmer, a ddatgelwyd yn ddiweddar, na fyddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cefnogi galwadau myfyrwyr i leihau neu ddileu ffioedd dysgu yn gyfan gwbl, rhywbeth y mae ef ei hunan wedi dweud yn y gorffennol sy’n gosod baich annioddefol ar bobl ifanc ac wedi galw’r ddyled y mae’n achosi yn sgandal genedlaethol. Diolch.

17:00

Diolch i Sioned Williams am yr ystod o gwestiynau hynny. A gaf i ategu a chydnabod yr hyn mae hi wedi dweud ynglŷn â’r myfyriwr yn Aberystwyth? Amgylchiadau trist iawn. Mae’r gwaith mae StepChange a suicide-safer yn gwneud yn waith pwysig iawn, ac mae hynny'n ein hatgoffa ni o pa mor bwysig yw'r gwaith hwnnw. Ŷn ni, wrth gwrs, yn gweithio, ac wedi gweithio, gyda sefydliadau i’w cefnogi nhw yn y gwaith y maen nhw'n gwneud dros iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gyda chefnogaeth ariannol drwy law HEFCW, fel y gwnes i sôn yn y datganiad.

O ran yr argymhellion, byddwn ni, wrth gwrs, yn ymateb yn swyddogol i'r rheini, ond mi wnes i a’r Dirprwy Weinidog gael cyfle, wrth gwrs, i roi tystiolaeth o flaen y pwyllgor, ac rŷn ni wedi bod yn dilyn trywydd y trafodaethau gyda diddordeb agos, ac, yn sicr, mae’r dystiolaeth rŷch chi wedi clywed fel pwyllgor yn dystiolaeth bwysig iawn, a byddwn ni eisiau cymryd hynny i mewn i lawn ystyriaeth. Yr argraff oedd gyda fi o’r drafodaeth gawsom ni yn y pwyllgor oedd bod nifer o’r blaenoriaethau sydd gyda ni yn flaenoriaethau ar y cyd, ac felly rwy'n edrych ymlaen i allu ymateb yn llawnach i hynny.

O ran y cwestiynau penodol ynglŷn â gwaith y grŵp ymgynghori, bydd llais myfyrwyr yn rhan o hynny, ac mae gyda ni ddealltwriaeth bod sefyllfa myfyrwyr rhyngwladol yn sefyllfa benodol, ac mae’n amlwg, dwi’n credu, fod prifysgolion yn deall efallai fod myfyrwyr o dramor yn ei ffeindio hi’n anoddach i allu ymgymryd â’r gefnogaeth sydd ar gael, oherwydd pryder ynglŷn â phethau fel fisas, fel y gwnaeth hi sôn am brofiad un myfyriwr fanna. Felly, mae gan sefydliadau ffocws penodol, dwi’n credu, ar ymateb i hynny. Rŷn ni yn gweithio gyda'r prifysgolion i fonitro'r hyn maen nhw’n gwneud fel sefydliadau i gefnogi myfyrwyr ac academyddion o Wcráin, fel y gwnaeth hi ofyn yn ei chwestiwn.

Ac, yn olaf, o ran lle ŷn ni gyda cefnogaeth i fyfyrwyr, rŷn ni’n browd iawn fel Llywodraeth mai egwyddor flaengar sydd yn llywio’r hyn rŷn ni'n ceisio gwneud, i sicrhau bod pob myfyriwr o Gymru yn cael elfen o grant. Mae nifer yn cael y rhan fwyaf o'u cefnogaeth ariannol yn y brifysgol o'r grant, ac mae hynny'n rhywbeth rŷn ni'n falch iawn ohono fe. Fe wnes i glywed Keir Starmer yn dweud ei fod e'n credu nad yw'r system gyfredol yn system deg. Buaswn i'n cytuno gydag e am hynny ac mae gyda ni enghraifft yma yng Nghymru o sut allwn ni, o fewn y system sydd gyda ni, hyd yn oed, weithio i gael y canlyniadau mwyaf blaengar, ac mae'r datganiad wnes i heddiw yn enghraifft o hynny.

17:05

Mae llawer wedi tynnu sylw at natur anghynaladwy incwm a gwariant prifysgolion Cymru. Yn wir, mae dau sefydliad addysg uwch yma yng Nghaerdydd mewn diffyg—Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod gwerth gwirioneddol ffioedd dysgu sy'n gostwng yn sylweddol wedi gosod prifysgolion Cymru mewn sefyllfa ariannol beryglus, ac, os felly, beth mae'n bwriadu ei wneud am y peth?

Mae rhai prifysgolion wedi llwyddo i ddenu nifer o fyfyrwyr rhyngwladol i hybu eu hincwm. Dangosodd ymchwil Prifysgolion Cymru y cynhyrchwyd un swydd ar gyfer pob dau fyfyriwr rhyngwladol ym mhrifysgolion Cymru. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod dyletswydd arnom ni fel cenedl i roi i fyfyrwyr rhyngwladol y croeso a'r amgylchedd maen nhw'n ei haeddu pan fyddan nhw'n dod i astudio yma yng Nghymru? Mae rhai o fy etholwyr yma yng Nghaerdydd sy'n aelodau o Gymdeithas y Myfyrwyr Affricanaidd wedi ysgrifennu ataf, yn pryderu am yr amodau tai gwael maen nhw'n eu dioddef wrth astudio yma. Mae rhai landlordiaid yn gofyn am rent blwyddyn o flaen llaw. Gan na all y myfyrwyr gynnig dinesydd Prydeinig i fod yn warantwr, mae rhent blwyddyn ymlaen llaw yn amhosib i'r mwyafrif helaeth o fyfyrwyr rhyngwladol ac, felly, mae hynny'n golygu eu bod nhw a'u teuluoedd, yn eithaf aml, yn byw mewn llety dros dro, fel Airbnbs a gwestai eraill.

Rwy'n siŵr y gallwch chi gytuno â mi, Gweinidog, nad yw hyn yn ffordd o drin unrhyw fyfyriwr, heb sôn am fyfyrwyr rhyngwladol, sy'n cyfrannu cymaint at hyfywedd ein prifysgolion, ond sydd hefyd yn llysgenhadon posibl dros Gymru ac yn gallu sôn am ar draws y byd am y croeso Cymreig y cawson nhw. Pa anogaeth allwch chi ei rhoi, Gweinidog, i brifysgolion iddyn nhw wedyn weithredu fel gwarantwyr fyfyrwyr rhyngwladol? Diolch yn fawr.

Mae'r ddau gwestiwn yna'n bwysig iawn a gallaf gynnig rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod gobeithio eu bod y ddau yn destun trafodaeth ddiweddar a gefais, hefyd yn ymdrin â phynciau eraill, gydag is-gangellorion. Yr awgrym yn ei gwestiwn, rwy'n meddwl, yw y byddai'n beth da peidio â chyfyngu ffioedd dysgu i le maen nhw. Mae gen i ofn nad ydw i'n rhannu'r farn honno, os mai dyna'r awgrym roedd e'n ei wneud. Ond rwy'n cydnabod, fel y nodais yn fy natganiad, fod pwysau ariannol gwirioneddol iawn y mae sefydliadau'n eu hwynebu, ac rwy'n trafod yn frwd iawn gydag is-gangellorion ac eraill o ran y ffordd orau o fynd i'r afael â rhai o'r pwysau hynny. Does dim atebion syml, fel y gwn i y bydd yn sylweddoli, mewn perthynas â hynny.

Ac mae'r ail sylw a wnaeth hefyd yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei drafod. Rwy'n cytuno ag ef, yn gyson â'n gwerthoedd mewn cymaint o feysydd eraill, mae'n bwysig iawn i ni yng Nghymru allu darparu'r croeso hwnnw i fyfyrwyr o dramor pan maen nhw'n dod yma i astudio. Mae hynny'n rhywbeth yr hoffem ni weld pobl yn ei wneud—mae'n ein helpu ni i greu rhwydwaith o berthnasau ledled y byd yr ydym ni'n falch iawn, iawn ohonyn nhw, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd Cymru wrth ddewis dod yma i astudio.

Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth rwy'n credu mewn perthynas â rhai sefydliadau yn benodol—y bu profiad rhai myfyrwyr yn sicr yn destun pryder mawr iawn, ac yn gwbl anfoddhaol. Ac rwyf wedi cael trafodaeth dda iawn gydag is-gangellorion mewn perthynas â hyn i sicrhau bod myfyrwyr sy'n dod i Gymru i astudio yn deall y cyd-destun y maen nhw'n gwneud hynny ynddo ac yn deall y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw pan fyddan nhw'n dod yma i fyw—ac efallai fod ganddyn nhw deulu sydd efallai eisiau dod yma i weithio—fel bod ganddyn nhw ddealltwriaeth glir iawn o hynny cyn iddyn nhw wneud y dewis i ddod i astudio yma. Ond fe ddylen nhw wybod bod ganddyn nhw Lywodraeth sydd, fel gyda phobl eraill sy'n dewis dod i fyw yng Nghymru am ba mor hir bynnag, sydd bob amser yn hapus i estyn llaw i'w croesawu nhw.

17:10

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, mae'n bositif iawn i weld—[anhyglyw.]—y grŵp cynghori, ond un peth yr hoffwn i ei wybod gennych chi—. Yn amlwg, bydd argymhellion yn deillio o hynny ac yn amlwg bydd goblygiadau adnoddau i hynny, felly fe hoffwn i wybod pa fath o ddadansoddiad cyllidebu rydych chi wedi'i wneud yn eich adran i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ariannu rhai o'r ymyriadau y bydd y grŵp cynghori hwnnw'n eu cyflwyno.

Wel, dydym ni ddim yn gwybod beth ydyn nhw eto, felly mae'n amhosib mesur ar hyn o bryd pa adnoddau fydd eu hangen er mwyn mynd i'r afael â nhw, ond bydd gennych fy sicrwydd y bydd y Dirprwy Weinidog a minnau'n edrych yn gadarnhaol iawn ar argymhellion y mae'r grŵp yn eu gwneud, a'r rhai y teimlwn ni y gallwn ni eu cefnogi, yn amlwg, byddwn ni hefyd yn darparu adnoddau ar eu cyfer.

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth

Y datganiad nesaf a'r un olaf y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y rhaglen gwella niwrowahaniaeth. Y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad—Julie Morgan.

Diolch, Llywydd, a diolch yn fawr iawn i chi am y cyfle i ddiweddaru'r Aelodau ar y cynnydd rydym ni'n ei wneud ar gyflawni ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i wella gwasanaethau a chefnogaeth i bobl niwrowahanol.

Fe wnaethom ni ddarparu'r cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth ym mis Medi 2021, ac rydym ni nawr yn mynd ymhellach o lawer i sicrhau y darperir y seilwaith i ddarparu gwelliannau go iawn mewn cymorth gwasanaethau niwrowahanol.

Mae'r galw am asesu a chefnogi wedi codi'n sydyn iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i'r ymwybyddiaeth gyffredinol o gyflyrau niwrowahanol gynyddu, gan arwain at ymestyn amseroedd aros ar gyfer asesu. Rydym ni wedi cynnal adolygiad galw a chapasiti o'r gwasanaethau presennol ac, mewn ymateb, rwyf wedi darparu buddsoddiad ychwanegol o £12 miliwn dros dair blynedd i leihau'r pwysau aruthrol yn y system, i wella amseroedd aros ar gyfer asesu ac i fynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth bresennol yn y gwasanaethau plant ac oedolion. Er mwyn deall yr heriau presennol yn y system yn llawn, mae uned gyflenwi'r GIG yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau er mwyn canfod beth arall y gallwn ni ei wneud i wella gwasanaethau'n gyflym ac i leihau amseroedd aros.

Hoffwn bwysleisio bod y rhaglen, yn bwysig iawn, yn cael ei chyd-gynhyrchu yng ngwir ystyr y gair. Rydym yn cydweithio â phobl sydd â phrofiad o fod yn niwrowahanol, a'u teuluoedd, a gydag ymarferwyr sy'n darparu gwasanaethau ac yn darparu cefnogaeth werthfawr y mae ei dirfawr angen. Rydym hefyd yn ariannu'r tîm awtistiaeth cenedlaethol, sy'n ehangu ei swyddogaeth i weithio ar draws cyflyrau niwrowahanol. Rydym yn cefnogi swyddogaethau newydd yn y tîm i hwyluso'r gwaith trawsnewid hwn ac i ddod ag arbenigedd ychwanegol i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn ogystal, mae'r grŵp cynghori gweinidogol niwrowahanol hefyd yn arwain ein gwaith. Caiff ei gyd-gadeirio gan dri unigolyn niwroamrywiol, ac mae gennym ni gynrychiolaeth o bob rhan o'n cymunedau i wneud yn siŵr y clywir llais pawb. Rydym yn sicrhau bod yr holl waith datblygu yr ydym ni bellach yn ei wneud mewn ffrydiau gwaith, grwpiau rhanddeiliaid a grwpiau clinigol yn cael ei ddylanwadu a'i siapio gan bobl sydd â phrofiad byw a'u teuluoedd.

Ym mis Tachwedd 2022, aethom ati i ymgysylltu'n drylwyr â rhanddeiliaid ledled Cymru i ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer y rhaglen wella niwrowahaniaeth, ac rwy'n falch o ddweud i ni gael cefnogaeth eang i'n cynlluniau, a oedd yn cydnabod y materion cymhleth y mae plant, pobl ifanc, oedolion a'u teuluoedd yn eu profi.

Mae gen i ddiddordeb mawr iawn sicrhau ein bod yn darparu'r gefnogaeth mae pobl niwrowahanol yn dweud wrthyf i fod arnyn nhw ei hangen. Rwyf wedi cwrdd â llawer o deuluoedd a chlywed am y trafferthion y maen nhw'n eu profi wrth gael cymorth a chefnogaeth i awtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, a syndrom Tourette. Dyna pam y bu hi mor bwysig i mi, ym mis Mawrth, gyfarfod â Chomisiynydd Plant Cymru i roi sicrwydd ynghylch canfyddiadau ac argymhellion eu hadroddiad diweddar, 'Dull Dim Drws Anghywir i Niwroamrywiaeth: llawlyfr profiadau', sy'n nodi'n glir yr anawsterau y mae teuluoedd yn eu hwynebu bob dydd.

Mae llawer o deuluoedd wedi mynegi i mi yr angen i allu rhannu eu pryderon ac y byddai cael rhywun sy'n gallu gwrando arnyn nhw heb farnu yn gwneud gwahaniaeth i'w bywydau a'u lles. Mae'n dda gen i ddweud y buom ni'n gwrando ac ein bod ni'n gweithredu. Mae'n bleser gen i gyhoeddi y buom ni, o fis Ebrill ymlaen, yn treialu ehangu ein llinell wrando cyngor cymunedol C.A.L.L. llinell gymorth iechyd meddwl i Gymru i ddarparu gwasanaeth gwrando cyfrinachol 24 awr, i gefnogi pobl niwrowahanol a'u teuluoedd. Mae'r staff sydd eisoes yn fedrus a phrofiadol wedi cael hyfforddiant ychwanegol ar niwrowahaniaeth gan y tîm awtistiaeth cenedlaethol. Byddwn yn adolygu'r gwasanaeth, ac rwy'n gobeithio y daw yn wasanaeth llwyddiannus a gwerthfawr y bydd defnydd mawr arno.

Mae teuluoedd hefyd wedi dweud wrthym ni fod angen mwy o hyfforddiant a datblygiad i staff, a bod gan lawer o bobl gyflyrau eraill efallai sy'n bodoli ar yr un pryd sydd angen cefnogaeth benodol ar eu cyfer. Unwaith eto, rydym yn gweithredu i wella sgiliau'r gweithlu, ac, ar 18 Mai, rydym ni wedi trefnu digwyddiad cenedlaethol i ddod ag ymarferwyr at ei gilydd i rannu arferion da ac i weithio ar y cyd ar wella gwasanaethau. Bydd hyn yn sail i rwydwaith niwrowahanol cenedlaethol a chymuned ymarfer parhaus i blant.

Rydym ni hefyd yn gweithio'n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu hyfforddiant cyn-gymhwyster ac ôl-gymhwyster ar gyfer y gweithlu, gan ehangu gallu ein gweithlu hefyd i roi diagnosis.

Rydym ni hefyd wedi cymryd camau breision i fynd i'r afael â llawer o fylchau mewn gwasanaethau awtistiaeth yn benodol, y mae'n rhaid i ni nawr adeiladu arnyn nhw i ddatblygu ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau niwrowahanol cynaliadwy. Ers 2016, rydym ni wedi cefnogi gweithredu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn llwyddiannus, ac mae'r dysgu hanfodol o hyn wedi helpu i lunio'r rhaglen newydd hon, gan ganolbwyntio ar sawl nodwedd allweddol sy'n sail i newid. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu mesurau canlyniadau cadarn, darparu gwasanaethau mewn modd cyfunol, cefnogaeth dan arweiniad cyfoedion, a graddio'r arferion gorau i greu model cenedlaethol cadarn ar gyfer gwasanaethau'r dyfodol—model y bwriedir iddo nid yn unig fynd i'r afael ag amseroedd aros diagnostig, ond hefyd bydd yn llenwi'r bylchau a nodwyd mewn cefnogaeth ar gyfer cyflyrau niwrowahanol eraill, megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd a syndrom Tourette. Yn wir, bydd yn mynd ymhellach fyth na hyn wrth i'n harbenigedd ddatblygu.

Ac er ein bod yn cydnabod y bydd ar lawer o bobl eisiau asesiad meddygol, rydym ni am i'r cymorth a'r gefnogaeth gynnar fod ar gael mewn nad yw'n ddibynnol ar dderbyn diagnosis yn unig. Dylai fod cefnogaeth wrth aros am asesiad, ac wedi hynny, waeth a wneir diagnosis o awtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd neu gyflyrau niwrowahanol eraill. Mae'r pwyslais ar gymorth cynnar yn hanfodol, ac yn ddiweddar cefais y pleser o ymweld ag A.S.D. Rainbows, gwasanaeth elusennol i blant awtistig, ac roeddwn yn falch o glywed sut maen nhw'n darparu therapïau ymyrraeth gynnar, a'r gwahaniaeth mae'r gwasanaeth hwn yn ei wneud i deuluoedd. Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu gwasanaethau arloesol eraill drwy'r rhaglen wella niwrowahanol wrth iddi fynd yn ei blaen.

Mae teuluoedd hefyd yn dweud wrthym ni fod ysgolion yn hanfodol wrth adnabod materion yn gynnar, ac wrth ddarparu cymorth a chefnogaeth gynnar. Felly, rydym ni'n cymryd agwedd systemau cyfan i weithio traws-Lywodraethol. Rydym ni hefyd yn ymgysylltu â gwasanaethau i sicrhau eu bod yn asio, yn enwedig o ran cyfeirio ar gyfer asesiadau a darparu cefnogaeth mewn ysgolion a darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol. Ac mi wnes i gyfarfod â Lucy Marie Phillips yn ddiweddar iawn, person ifanc sydd wedi ysgrifennu llyfr am sut mae syndrom Tourette yn effeithio ar ei bywyd, oedd yn llyfr trawiadol iawn, sy'n dangos y gwir broblemau sydd gan bobl ifanc wrth ymrafael gyda chyflwr fel syndrom Tourette. A'r mwyaf y gallwn ni godi ymwybyddiaeth o effaith niwrowahaniaeth, gorau oll y gellir helpu dealltwriaeth pawb a lleihau rhwystrau y gallai pobl eu hwynebu fel arall.

Felly, heddiw, rwyf wedi disgrifio ein dull gweithredu a dim ond rhai o'r camau yr ydym ni'n eu cymryd i sicrhau gwelliannau ystyrlon i fywydau pobl niwrowahanol a'u teuluoedd, a'r gwelliannau yr hoffem ni i gyd eu gweld ar gyfer ein cymunedau lleol. Diolch.

17:15

Er mwyn bod yn agored, fe wna i ddatgan diddordeb, gan fod aelod o fy nheulu'n aros am ddiagnosis awtistiaeth. Hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad heddiw, ac rwy'n croesawu unrhyw ymdrechion gan y Llywodraeth i gynyddu cefnogaeth ac adnoddau i helpu i gyflawni gwelliannau i wasanaethau niwrowahanol yng Nghymru. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn siarad am hyn ers rhai blynyddoedd bellach, ac er fy mod yn cydnabod y bu cynnydd enfawr mewn galw am wasanaethau, maen nhw'n dal i gwympo ymhellach ac ymhellach ar ei hôl hi. Mae dros 9,000 o blant yn aros am asesiad awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, traean o'r rheini wedi bod ar y rhestr aros am dros flwyddyn dim ond er mwyn derbyn y diagnosis. Yn ystod yr oedi hwn, ac oherwydd diffyg diagnosis, nid yw'r plant hyn yn derbyn y gefnogaeth a'r cymorth y mae cymaint o'u hangen arnynt. Mae llawer yn rhoi'r gorau i addysg prif ffrwd o ganlyniad. Roeddwn i'n siarad ag etholwr yn lled ddiweddar y bu i'w merch, yn 14 oed, roi'r gorau i'r ysgol ac ni chafodd erioed unrhyw gysylltiad gan yr ysgol nac unrhyw wasanaethau cymorth ac nid yw wedi derbyn eto, mewn gwirionedd, ei diagnosis.

Felly, Dirprwy Weinidog, hoffwn wybod beth rydych chi'n ei wneud i leihau'r amseroedd aros, ac a ydych chi'n credu y bydd y £4 miliwn yma o'r £12 miliwn ychwanegol a ddarparwyd gennych chi yn ddigon i fynd i'r afael â'r problemau hyn? A hoffwn i wybod pa waith rydych chi'n ei wneud gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau, os yw pobl yn rhoi'r gorau i'r ysgol, y gallan nhw fynd yn ôl i addysg prif ffrwd neu addysg briodol cyn gynted â phosib fel nad yw pobl ifanc yn colli allan ar unrhyw elfen o'u haddysg.

Mae diagnosis yn bwysig i lawer, ond nid dyma'r allwedd hud i ddatgloi'r holl wasanaethau. Ar ôl aros cryn dipyn am ddiagnosis, mae nifer o etholwyr a phobl ledled Cymru yn dweud wrthyf i fod yna frwydr bellach i gael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth. Does dim syndod pan fydd yr adroddiad yn nodi methiannau mewn sawl maes, o strwythurau staffio i fannau clinigol, felly a allwch chi roi gwybod i'r Senedd a minnau heddiw sut rydych chi'n bwriadu cynyddu arbenigedd yn y maes hwn i ddatrys yr heriau recriwtio sydd gennych chi? Credir bod gan un o bob 20 o bobl anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, a chredir bod gan un o bob 100 o blant syndrom Tourette. Ni ddylai fod wedi cymryd mor hir â hyn iddo gael ei wireddu, ac mae angen ehangu'r strategaeth niwrowahanol i gynnwys meysydd eraill hefyd, a chyflyrau—nid yw'n ymwneud ag awtistiaeth yn unig. Fe wnaethoch chi amlinellu yn eich araith eich bod chi'n ceisio ehangu'r strategaeth, ond hoffwn wybod sut a phryd rydych chi'n mynd i wneud hyn.

Rwy'n eich annog i ymgymryd ag argymhellion yr adroddiad ac mae'n rhaid i unrhyw ddatblygiadau ganolbwyntio ar fod yn ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac fe wnaethoch chi godi hynny drwy eich araith, felly rwy'n cydnabod hynny. Ond nid yw llawer o unigolion yn ffitio i'r gwasanaethau neu'r labeli presennol, ac mae'n rhaid cael dull cyfannol, cynhwysfawr. Ac rwy'n cymeradwyo'r Llywodraeth am wneud hynny.

Mae'r adolygiad yn nodi y bu methiannau pellach o ran adnabod ac ymgysylltu'n effeithiol â rhai grwpiau, fel merched awtistig, a'r etholwr hwnnw y soniais wrthych chi amdano a aeth i gael cefnogaeth ac fe ddywedwyd wrthyn nhw mewn gwirionedd, 'Oherwydd eich bod yn ferch does gennych chi ddim awtistiaeth.' Fe gawson nhw wybod hynny gan berson proffesiynol. Mae gen i ofn nad yw hynny'n iawn ac mae angen gwneud tipyn o addysgu ynghylch hynny. Gwelaf y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ysgwyd ei phen. Rwy'n ddigon hapus i rannu'r achos yna gyda chi. Rwy'n siŵr y byddai'r etholwr hwnnw hefyd.

Felly, Gweinidog, ynghylch awtistiaeth yn benodol, ydych chi nawr yn credu ei bod hi'n bryd ac yn briodol fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Deddf awtistiaeth, yr un math o Fil y gwnaeth fy nghyfaill a'm cyd-Aelod Paul Davies o Breseli Penfro eirioli drosto yn y fan yma, i wneud yn siŵr y gallwn ni gael rhywfaint o'r cymorth sydd ar gael i'r bobl hyn cyn gynted â phosibl? Diolch yn fawr iawn.

17:20

Diolch yn fawr iawn am y cyfraniad yna, a diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth gyffredinol i'r cynigion rydw i wedi'u cyflwyno heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n sefyllfa gymhleth ac rydym yn dechrau ar y rhaglen wella hon, a fydd, yn fy marn i, yn sicrhau canlyniadau pendant. Fe wnaethoch chi holi am yr hyn rydym ni'n ei wneud yn benodol i leihau amseroedd aros cael asesiadau niwroddatblygiad i blant. Felly, rydym ni'n gweithio gydag uned gyflenwi'r GIG, sy'n cynnal ymarfer mapio i geisio deall cymhlethdodau'r broses asesu i blant a phobl ifanc yn well, oherwydd mae gennym ni ffigyrau o'r holl wahanol fyrddau iechyd, ond maen nhw'n amrywio'n aruthrol. Er enghraifft, nid yw rhai yn dangos bron unrhyw oedi, ac eraill yn dangos cannoedd o achosion o oedi. Ac felly mae'n anodd iawn cael darlun clir o hynny. Felly, rydym ni eisiau mynd i'r afael yn glir â'r rhwystrau a chanolbwyntio ar gael cefnogaeth frys i deuluoedd, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y data'n gywir gennym ni. Felly, mae uned gyflenwi'r GIG yn mynd i edrych ar hynny.

Ac yna, fel y dywedais i, mae gennym ni £12 miliwn ychwanegol yr ydym yn ei gyfrannu dros y cyfnod o dair blynedd, ac fe wnes i ddyrannu £1.4 miliwn cychwynnol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol i gefnogi angen brys ac i annog arloesi, ac rydym yn gwerthuso canlyniadau'r gwaith hwnnw. Rydym ni wedi sefydlu grŵp cynghori clinigol i roi cyngor arbenigol ar ddatblygu gwasanaethau ac i edrych ar y rhestrau aros. Ac rydym ni hefyd yn datblygu rhwydwaith ymarferwyr niwroddatblygiadol plant. Nid yw'r amseroedd aros yr hyn rydym ni eisiau iddyn nhw fod, rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, ac maen nhw'n amrywio cymaint fel ein bod ni wir yn meddwl bod yn rhaid i ni gael golwg dda arnyn nhw a gweld beth yw'r sefyllfa, fel ein cam cyntaf tuag at fynd i'r afael â'r amseroedd aros, i gael y dystiolaeth wirioneddol.

Rhai o'r cwestiynau eraill a godwyd gennych—credaf ichi ddweud fod popeth wedi'i ganolbwyntio ar awtistiaeth, ac y dylem ni ddatblygu hynny i sicrhau bod gennym ni' sbectrwm cyfan, ac rydym ni'n bwriadu symud tuag at hynny. Rydym ni wedi dechrau gydag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd a syndrom Tourette, ac rwyf wedi cael cryn dipyn o gyfarfodydd gyda theuluoedd sy'n ymwneud â'r cyflyrau hynny, a does dim amheuaeth o gwbl yn fy meddwl i bod angen i ni ddatblygu gwasanaeth niwrowahanol sydd y tu hwnt i awtistiaeth ac sy'n cwmpasu'r holl gyflyrau. Felly, dyna'n bendant y byddwn ni'n ei wneud.

Yna'r mater am ferched—ydw, rwy'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn, oherwydd does dim amheuaeth nad yw merched wedi cael diagnosis o awtistiaeth oherwydd bod eu symptomau ynghudd. A chredaf fod hynny wedi digwydd oherwydd bod merched, efallai mwy na bechgyn, yn yr ysgol, er enghraifft, wedi bod mewn grwpiau cyfeillgarwch lle maen nhw wedi copïo ymddygiad merched eraill, felly dyw e ddim wedi cael ei gydnabod. Ond nawr rwy'n credu ein bod ni mewn gwirionedd yn dechrau deall hynny, ac yn y gwasanaeth awtistiaeth integredig rydym ni nawr yn cael mwy o ferched yn cael eu cyfeirio na—wel, mwy o fenywod na dynion, yn y bôn, oherwydd mae hynny'n bennaf ar gyfer oedolion. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi deall hynny, ac mae'r clinigwyr yn ymwybodol iawn o hynny.

Ac yna, o ran y Ddeddf awtistiaeth, rwy'n credu bod angen i ni fwrw ymlaen â'r hyn rydym ni'n ei wneud nawr mewn gwirionedd, a dydw i ddim yn credu bod unrhyw ddiben, mewn gwirionedd, ailedrych ar y mater hwnnw. O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rwy'n credu bod gennym y dyletswyddau sydd eu hangen arnom ni er mwyn mynd i'r afael â'r holl faterion cymhleth hyn. Ac rwy'n credu ein bod ni'n hollol—. Dim ond i gwmpasu un o'r pwyntiau roeddech chi'n eu gwneud am addysg, mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gweithio'n agos iawn gydag addysg, oherwydd dyna lle mae'r amodau hyn yn aml yn cael eu gweld gyntaf, ac mae angen i ni weithredu'n gyflym iawn a gwneud yr hyn y gallwn ni.

17:25

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad yma—sawl diweddariad digon defnyddiol yn y fan yna, a dwi'n croesawu sawl elfen, yn croesawu'n sicr y bwriad i ymestyn y llinell alw iechyd meddwl. Mi fyddwn i'n croesawu, gan y Gweinidog, ychydig yn rhagor o fanylion ynglŷn â sut mae'r prosiect peilot hwnnw yn mynd i gael ei rolio allan i fod yn rhywbeth ehangach. Dwi'n croesawu hefyd yr ymrwymiad i ddarparu mwy o gyfleon hyfforddiant i bobl sy'n gweithio yn y maes yma. Eto, mi fyddwn i'n croesawu mwy o fanylion, yn benodol faint o weithwyr ydych chi'n rhagweld fydd yn gallu mynd drwy gynlluniau hyfforddiant o'r math yma, a dros ba fath o gyfnod. A hefyd, wrth gwrs, mae angen denu mwy o bobl i mewn i'r maes yma i weithio, felly mi ofynnaf i hefyd beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gyrfaoedd yn y maes cyflyrau niwrowahanol yn ddeniadol a bod digon o bobl newydd yn dod i mewn i'r sector sydd eisiau gweithio yn y maes yma, yn ogystal â'n bod ni yn gwellau sgiliau y rhai sydd yn y maes yn barod.

Ac un cwestiwn olaf eithaf sylfaenol, am wn i. Rydym ni'n clywed eto yn y datganiad yma fod galw am wasanaethau wedi cynyddu yn fawr a'r broblem fawr ydy bod galw yn fwy na'r ddarpariaeth sydd ar gael. Wel, a gaf i ofyn, felly, pa bryd mae'r Gweinidog yn disgwyl y bydd y capasiti gennym ni i ddarparu ar gyfer y bobl sydd yn chwilio am wasanaethau, pa un ai yn asesu, yn y lle cyntaf, neu yn gefnogaeth a thriniaeth maes o law? Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi amserlen uchelgeisiol gan y Gweinidog fyddai'n dweud wrthym ni pa bryd rydym ni'n ystyried y gallem ni fod mewn sefyllfa gynaliadwy, achos mae'n berffaith amlwg nad ydy'r sefyllfa yn gynaliadwy ar hyn o bryd.

Diolch i Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad ac am ei groeso i rai o'r elfennau yn fy natganiad. Mae hi'n ddyddiau cynnar iawn; dim ond ar ddechrau mis Ebrill y dechreuodd y broses, felly caiff ei werthuso, felly gobeithio y bydd gennym ni lawer mwy o wybodaeth y gallwn ni ei rhoi i chi'n fuan. Ond mewn gwirionedd, fe wnaethom ni hyn mewn ymateb uniongyrchol i'r hyn a ddywedodd teuluoedd, oherwydd cwrddais â llawer o grwpiau o deuluoedd, a oedd yn gyfarfodydd trallodus iawn, oherwydd roedden nhw wedi brwydro'n ofnadwy i gael cydnabyddiaeth a chymorth gyda'r cyflwr yr oedden nhw ynddo. A dyma un o'r pethau roedden nhw eisiau. Felly, rydym ni wedi sefydlu hyn. Mae'n wasanaeth 24 awr, mae'n gyfrinachol, mae'r bobl sydd wedi bod yn gweithio ar y llinell iechyd meddwl wedi cael hyfforddiant penodol mewn cyflyrau niwrowahanol ac yn awyddus iawn i wneud yr hyn y gallan nhw i bobl sy'n ffonio. Rwy'n credu bod gennym ni rai ffigyrau—rwy'n credu, dros yr wythnos gyntaf, fod tua 40 o deuluoedd wedi cysylltu â'r llinell, yn enwedig ynghylch niwrowahaniaeth. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ddechrau da, ond, yn amlwg, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y llinell yn adnabyddus, a byddwn ni'n ei gwerthuso cyn—rydym ni'n gobeithio—y daw yn nodwedd barhaol, a fydd ar gael i bawb.

Oes, mae angen i ni uwchsgilio'r gweithlu, ac mae angen i ni roi cymaint o gyfleoedd hyfforddi ag y gallwn ni. Felly, caiff amrywiaeth o hyfforddiant pwrpasol ei ddatblygu ar gyfer grwpiau proffesiynol penodol, megis pobl sy'n gweithio yn CAMHS, gweithwyr cymdeithasol. A chaiff yr holl adnoddau a ddefnyddir eu cyd-gynhyrchu gydag unigolion ag ystod o gyflyrau niwrowahanol. A dyna un o'r prif bethau rydym ni'n ceisio ei ymgorffori yn ein harfer nawr, yw gweithio ar y cyd, mewn ffordd gydgynhyrchiol, gyda phobl sydd â phrofiad byw go iawn. Felly, mae'r tîm awtistiaeth cenedlaethol wedi cyflwyno dau fodiwl e-ddysgu, ynghylch deall awtistiaeth a deall cyfathrebu effeithiol. Mae awdurdodau lleol wedi rhoi croeso gwresog i'r rheini, ac mae'r rhan fwyaf o ardaloedd wedi gwneud trefniadau i fanteisio ar yr hyfforddiant yma. Mae gan Tourettes Action hefyd fodiwl e-ddysgu sydd ar gael yn rhwydd. Ac rydym ni'n gweithio'n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, a gobeithiwn ddatblygu hyfforddiant cyn-gymhwyster ac ôl-gymhwyster ar gyfer y gweithlu. Gall ysgolion ac addysg bellach gael mynediad at y dysgu gyda phecynnau hyfforddiant awtistiaeth, drwy'r tîm awtistiaeth cenedlaethol. Felly, rydym ni'n ceisio, mor eang â phosib, i gyflwyno rhaglenni hyfforddi.

Credaf ei fod yn gwneud sylw pwysig am sut rydym ni'n mynd i ddenu pobl i'r gwasanaeth, ac mae hynny'n rhywbeth rydym ni'n gobeithio, pan fydd pobl sy'n ymwneud â'r math yma o waith yn sylweddoli'r buddsoddi rydym ni'n ei wneud yn y gwasanaeth a'r angen sydd yna, y cânt eu denu i wneud hynny. Ond, yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth sydd angen i ni weithio arno yn y dyfodol. Dydw i ddim yn credu ei bod hi'n bosib dweud pryd fydden ni byth yn dweud, 'Iawn, mae gennym ni bopeth sydd ei angen arnom ni, ac rydym ni wedi cyrraedd y sefyllfa lle rydyn ni wedi'i ddatrys', oherwydd rydym ni'n dal yn y cyfnod, mewn gwirionedd, lle, fel rwy'n dweud, mae gennym ni uned gyflenwi'r GIG yn ymchwilio i weld beth yn union yw'r ffigyrau a lle mae'n bodoli. Mae cymaint mwy o ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd, sy'n wych yn fy marn i, ond mae'n amlwg yn dod â mwy o alw. Felly, dydw i ddim yn meddwl y gallwn ni fyth ddweud pan fydden ni wedi cyrraedd adeg y bydden ni'n dweud, 'Ie, rydyn ni wedi llwyddo i ddatrys y cyfan.'

17:30

Fel y gwnaeth James Evans, byddaf yn datgan diddordeb yma, gan fod fy merch yn awtistig, ac mae hi'n derbyn gofal cyhoeddus ar hyn o bryd—mae hi mewn canolfan adnoddau. Rwyf wedi byw'r heriau y soniodd y Dirprwy Weinidog amdanyn nhw heddiw, ac rwy'n teimlo bod llawer o'r hyn sydd wedi cael ei ddweud heddiw yn ymateb i rai o'r pethau a godais yn fy nadl fer flwyddyn yn ôl—flwyddyn yn ôl y mis hwn. Ac rwy'n teimlo bod y Dirprwy Weinidog wedi gwrando'n astud ar yr hyn a ddywedais i, o ystyried bod y cynnydd rydym ni wedi'i wneud yn y flwyddyn honno wedi dilyn llwybr y datganiad mae hi wedi'i wneud, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Byddwn i'n dweud wrth James Evans: dydw i ddim yn meddwl bod deddf yn mynd i'n helpu ni; rwy'n credu y bydd y cynnydd sy'n cael ei wneud yma ac sy'n cael ei ddangos yn helpu mwy. Ac o ran a fyddwn ni'n datrys hyn, rwy'n credu bod clinigwyr yn dysgu drwy'r amser am niwrowahaniaeth, ac felly mae'n amhosib nodi pwynt terfynol, oherwydd ein bod yn dysgu drwy'r amser.

Un peth y byddwn i'n ei ddweud wrth y Dirprwy Weinidog y gellid ei wella, a rhai cwestiynau fyddai gen i yw: mae mwy i niwrowahaniaeth nag awtistiaeth; mae yna hefyd ddyslecsia, dyspracsia, dyscalculia, a'r pethau ychwanegol hynny sy'n digwydd yn yr ysgol. A theimlaf fod yna rywbeth ar goll; mae paragraff yn y fan yna am ysgolion, ond credaf fod y cysylltiad gydag addysg ar goll. Ac os yw am fod yn ddull system gyfan mewn difrif, rwy'n credu bod angen cynnwys addysg, ochr yn ochr ag iechyd a gofal cymdeithasol, yn fwy trwyadl. A hefyd, os cymerwch chi hynny gam ymhellach, tybed pam na allwch chi gael hyfforddiant gorfodol i ysgolion wrth ddelio â chyflyrau niwrowahanol. Rwy'n credu y byddai hynny'n gam pellach ymlaen. A hoffwn ddysgu yn y dyfodol mwy am sut y bydd y Dirprwy Weinidog yn gweld y cysylltiad gwell hwnnw ag addysg, i wella'r cynnydd y mae hi'n amlwg yn ei wneud yn y maes hwn.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Hefin am ei gyfraniad ac am yr holl waith mae wedi ei wneud yn y maes yma, oherwydd rwy'n credu y bu'n hyrwyddwr yma, yn codi llais. Ac rwy'n cydnabod yn llwyr y ddadl a wnaethoch chi o'r blaen a rhai o'r newidiadau a fu ers hynny. Oherwydd nid wyf i'n ceisio cuddio'r ffaith—rydym ni'n gwneud cynnydd, ond mae angen llawer o amser ac ymdrech arno er mwyn cyflawni'r cynnydd hwnnw. Ac yn sicr dyslecsia, dyspracsia, yr holl gyflyrau eraill, rydym yn bwriadu darparu gwasanaeth a fydd yn cwmpasu'r holl gyflyrau hynny. Yn amlwg, fe ddechreuon ni gydag awtistiaeth a'r holl ganolbwyntio ar awtistiaeth. Mae gennym ni syndrom Tourette ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd nawr lle rydym ni'n rhoi rhywfaint o bwyslais, ac mae hynny oherwydd y galw sydd wedi dod atom ni, yn y bôn. Ond rydym ni eisiau edrych ar yr holl gyflyrau eraill hynny hefyd, a byddwn ni'n dîm. Nid dyma fydd y tîm awtistiaeth cenedlaethol; bydd yn dod yn dîm a fydd yn cwmpasu'r holl gyflyrau hynny, a bydd yn rhaid i ni ddysgu o'r cod awtistiaeth statudol. Bydd angen rhai codau eraill arnom ni, neu bydd angen i ni drosi hynny i god a fydd yn cwmpasu'r holl amodau. Felly, diolch yn fawr iawn am wneud y pwynt pwysig hwnnw.

Ac ydy, mae'r cysylltiad yma gydag addysg yn gwbl hanfodol. Rydym yn gwneud ein gorau glas i wella'r cysylltiadau rhwng iechyd ac addysg, ac rydym yn ymwybodol o'r rhwystrau a'r prosesau sy'n gwneud gor-gymhlethu llwybrau cyfeirio. Yr hyn y byddem yn ei wneud drwy sefydlu'r rhwydwaith ymarferwyr y byddwn yn ei sefydlu yw ein bod eisiau dangos y modelau arfer gorau sy'n bodoli eisoes mewn rhai ardaloedd ac mewn rhai ysgolion, yn enwedig yng Nghasnewydd ac yng ngorllewin Cymru, lle mae llwybrau cyfeirio cymorth cynnar rhwng addysg, iechyd, gofal cymdeithasol a theuluoedd sy'n hynod effeithiol, am eu bod yn tynnu pob elfen ynghyd. Rwy'n gwybod, mewn rhai ysgolion, ar yr adeg adnabod cynharaf bod yr ysgol yn cymryd rhan ac yn gweithio gyda'r plant a'r bobl ifanc gyda chynlluniau datblygu unigol ac yn parhau i weithio gyda nhw, ac os yw'r angen wedyn yn dod i iechyd gymryd rhan, mae addysg yn rhan o'r hafaliad ac yn gweithio gydag iechyd. Mae enghreifftiau da iawn, ond maen nhw'n enghreifftiau gwasgaredig, a'r hyn rydym ni eisiau ei wneud yw ceisio gwella'r system gyfan.

17:35

Ceisiais i hefyd gyflwyno Bil awtistiaeth cyn Paul Davies, ac mae'n rhaid i mi anghytuno, yn seiliedig ar fy ngwaith achos dyddiol, gyda'r Gweinidog pan ddywedodd nad oes diben ailedrych ar y mater hwn, oherwydd rwy'n eich sicrhau, lle mae arfer da yn bodoli mae'n ganmoladwy, ac mae'n dda i'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny, ond mae arferion drwg yn cael parhau i fodoli oherwydd nad oes gennym y dyletswyddau cyfreithiol o hyd a fyddai wedi'u cyflwyno gan fy Neddf i ac yna Deddf Paul. Ddylwn i hefyd ddatgan bod gen i aelodau o fy nheulu sydd â chyflyrau niwrowahanol.

Mae cyflyrau niwroddatblygiadol yn dod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol deall ac addasu i bobl y gwyddys neu y credir bod ganddyn nhw gyflyrau niwroddatblygiadol gydol oes, gan gynnwys cyflyrau sbectrwm anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac awtistiaeth. Fodd bynnag, er eich bod yn datgan

'Rydym yn cydweithio â phobl sydd â phrofiad o fod yn niwrowahanol, a'u teuluoedd,'

a bod y

'pwyslais ar gymorth cynnar yn hanfodol',

rwy'n clywed bron yn ddyddiol gan bobl niwrowahanol, eu teuluoedd a'u gofalwyr, sy'n dal i orfod brwydro am y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw i'w galluogi i fyw bywydau annibynnol, dim ond i uwch-swyddogion sy'n gwrthod deall naill ai eu niwrowahaniaeth neu eu dyletswyddau cyfreithiol dan y Ddeddf Cydraddoldeb, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac wrth gwrs y cod statudol y cyfeirioch chi ato.

Sut ydych chi felly'n ymateb i—? Byddaf ond yn rhoi un enghraifft, enghraifft o etholwr o sir y Fflint sydd â chyflyrau sydd wedi cael diagnosis, gan gynnwys awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, a wnaeth fy e-bostio yn y pythefnos diwethaf, gan siarad ar ran ei hun a'r nifer cynyddol o deuluoedd eraill yn sir y Fflint mewn sefyllfa debyg, sy'n gorfod cefnogi ei gilydd, ac fe wnaeth hi e-bostio fel a ganlyn:

'Rydym ni'n pryderu am nifer y plant sy'n cael eu tynnu allan yn lle bod gwasanaethau ataliol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y teuluoedd hynny sydd angen cymorth. Rwy'n siŵr y byddaf yn tynnu sylw at fy hun drwy ddweud hyn, felly waeth imi wneud sioe iawn ohoni, o ystyried eu hymddygiad dibwyllo, gwahaniaethu, anghyfreithlon a llygredig. Rydym ni wedi blino ar y bwlio a'r methiannau wrth iddyn nhw esgus bod yn ystyriol o awtistiaeth dan gochl gwasanaeth awtistiaeth integredig y gogledd. Maen nhw'n beryg i gymdeithas ac wedi trawmateiddio llawer, ond yr hyn sy'n ei wneud yn waeth yw nad ydyn nhw'n dangos unrhyw edifeirwch, dim tosturi a dim arwydd o newid.'

Sut fyddwch chi'n gwrando ar y bobl hyn y mae eu profiad byw yn arswydus i wrando arno yn ddyddiol, ac wrth gwrs, nid dim ond drallodus, ond yn hynod boenus iddyn nhw, ac mewn rhai achosion yn arwain at ganlyniadau sy'n frawychus ac mewn rhai achosion yn anghredadwy i'r teuluoedd hynny?

17:40

Diolch yn fawr iawn, Mark, am y gyfres honno o gwestiynau. Unwaith eto, rwy'n gwybod y buoch yn eiriol dros awtistiaeth yn enwedig yn y Siambr hon. Fel y dywedais trwy gydol y datganiad hwn, nid wyf mewn unrhyw ffordd yn gwadu'r profiadau anodd y mae pobl yn eu cael ac wedi eu cael. Rwy'n credu bod yr hyn a ddisgrifiwyd gennych chi yn nhermau eich etholwyr am wahaniaethu a bwlio ac am blant yn cael eu tynnu ymaith, rwy'n credu bod hynny'n frawychus ac rwy'n credu y byddai angen i mi weld mwy o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yno er mwyn mynd i'r afael â'r materion hynny, oherwydd yn sicr nid wyf yn credu y dylai unrhyw beth fel yna fod yn digwydd yn y gwasanaethau yr ydym ni'n eu darparu.

O ran pobl yn cefnogi ei gilydd, rwy'n credu bod hynny'n ffordd effeithiol iawn o lwyddo i ddyfalbarhau, yn y bôn, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r sector gwirfoddol, sy'n ymwneud yn arbennig â chyflyrau niwrowahanol, ac maen nhw'n ein cynghori, maen nhw ar ein bwrdd cynghori, ac rydym yn credu bod grwpiau cymorth yn bethau yr ydym ni wir eisiau eu hannog, ac mae'n golygu cymaint. Yn y grwpiau rwyf wedi eu cynnal, credaf y bu hi'n hollol wych gweld sut mae'r rhieni—yn bennaf—yn y grwpiau wedi cefnogi ei gilydd wrth ddisgrifio'r gweithgareddau maen nhw wedi bod trwyddyn nhw, a chredaf y mwyaf y gallwn ni ei wneud i helpu hynny, fe wnawn ni.

O ran cydweithio, rydym ni wedi ymrwymo i gydweithio, i gyd-gynhyrchu, ac rwy'n cydnabod bod hynny'n rhywbeth nad yw'n hawdd ei wneud, oherwydd yn amlwg i gydweithio i wir gyd-gynhyrchu mae'n rhaid i chi gynhyrchu pethau gyda'ch gilydd ac mae'n cymryd llawer mwy o amser er mwyn gwir gyd-gynhyrchu. Rydym, fel rwy'n credu i mi ddweud yn yr araith, yn ymwneud â llawer o bobl sydd naill ai yn niwrowahanol eu hun neu sydd â phobl yn y teulu sy'n cael eu heffeithio, ac mae gennym ni nifer o'r bobl hynny ar ein grŵp cynghori. Mae gennym ni grŵp rhanddeiliaid ehangach ac rydym ni'n gwrando ar eu lleisiau ac maen nhw'n rhan o'r hyn rydym ni'n ei wneud. Felly, hoffwn ei sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gydweithio â phobl sydd wedi cael y profiad byw hwnnw, yn sail i'r cynnydd y bwriadwn ei wneud.

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yna. Dyna ni felly yn dod at ddiwedd ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr i chi i gyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:43.