Y Cyfarfod Llawn

Plenary

25/04/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, felly, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian. 

Trafnidiaeth Gyhoeddus

1. Pa gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi pobl yn Arfon sy’n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ59390

Llywydd, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Gan weithio gyda chyngor Gwynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn sylweddol i gynnal a gwella gwasanaethau bws i bobl Arfon. Mae trenau CAF newydd yn rhedeg ar linellau’r gogledd yn barod. Bydd comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru yn cynnig rhagor o ffyrdd o wella pan fydd yn adrodd yn yr hydref. 

Diolch am yr ateb. Mae etholwyr mewn nifer o gymunedau yn Arfon yn gwbl ddibynnol ar wasanaeth bysiau er mwyn cyrraedd eu gwaith, ac maen nhw'n pryderu'n arw am yr holl ansicrwydd o gwmpas dyfodol gwasanaethau bysiau. Mae rhai cymunedau yn mynd o un argyfwng i'r llall ac yn brwydro'n galed i gynnal lefel o wasanaeth sy'n annigonol yn y lle cyntaf. Mae yna etholwyr yn Gerlan, Llys y Gwynt, Tal-y-bont, Deiniolen, Rhosgadfan, Llanllyfni, Nebo, ac yn blaen, mewn perig o gael eu hynysu yn llwyr ar adegau pwysig o'r dydd. Mae'r undeb Unite yn galw arnoch chi fel Llywodraeth i drefnu uwchgynhadledd frys i drafod yr argyfwng bysiau, i gynnwys yr holl randdeiliaid allweddol. A wnewch chi gydnabod difrifoldeb y sefyllfa, ac a wnewch chi, plîs, drefnu uwchgynhadledd ar frys?

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y pwyntiau yna. Y broblem i bobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yw bod llawer o bobl eraill heb ddychwelyd i'r bws na'r trên ar ôl pandemig COVID. Mae trethdalwyr, drwy Lywodraeth Cymru, wedi talu miliynau o bunnoedd yn ychwanegol i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, ond mae'r arian sy'n cael ei gymryd mewn prisiau tocynnau yn dal i fod yn sylweddol i lawr, ac mae yna realiti newydd mae'n rhaid i ni ei wynebu. 

Mae'r Dirprwy Weinidog wedi cwrdd yn barod, yr wythnos diwethaf, gyda phobl yn y maes—y cwmnïau sy'n rhedeg y cwmnïau bws, aelodau'r awdurdodau lleol ac y blaen, ac, wrth gwrs, rŷn ni'n dal i siarad gyda'r undebau. Ac mae'r Dirprwy Weinidog wedi clywed beth mae'r Aelod wedi dweud y prynhawn yma am uwchgynhadledd. Os yw hynny'n ddefnyddiol, wrth gwrs, rŷn ni'n barod i siarad gyda phobl mewn fforwm fel yna. Ond mae trafodaethau yn dal i fynd ymlaen i gynllunio gwasanaethau bws y dyfodol yn y cyd-destun newydd. 

Rwy'n cefnogi Siân Gwenllian yn codi'r mater pwysig hwn heddiw. A, Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cydnabod hefyd bod y gogledd, yn ystod misoedd yr haf, yn dod â nifer enfawr o ymwelwyr i mewn, sy'n sicr yn rhoi hwb i'n cymunedau drwy greu swyddi a ffyniant. Yn wir, mae eich ffigurau eich hun yn dangos bod ymweliadau dydd twristiaeth â'r gogledd tua 22.7 miliwn bob blwyddyn. Ac un o'r pethau sydd wir ei angen arnom ni yn ystod y tymor brig hwnnw yw mwy o ddarpariaeth o drafnidiaeth gyhoeddus. I mi, mae'n annerbyniol bod rhannau o'r gogledd, wrth groesawu'r ymwelwyr niferus hynny, yn gorfod gweithio gyda system trafnidiaeth gyhoeddus sgerbwd. Nid yw'n deg ar y bobl sy'n byw yno, yn ogystal â'r ymwelwyr sy'n dod i fwynhau ein rhan ni o'r byd. Felly, Prif Weinidog, tybed sut gwnewch chi sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus briodol yn ystod misoedd yr haf yn y gogledd wrth i ni groesawu mwy o bobl yn ystod yr haf i ddod?

Wel, Llywydd, rydym ni'n gwneud hynny trwy barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau bysiau ar draws y gogledd, ac yn ardal Arfon, lle ceir dadl gref dros wneud hynny. Felly, rydyn ni'n parhau i ariannu gwasanaeth bysiau allweddol T2 TrawsCymru, sy'n cysylltu Bangor, Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau ac Aberystwyth. Disgwylir i'r gwasanaeth gael ei ail-dendro eleni, gyda chontract newydd ar gyfer gwell gwasanaethau yn cychwyn ym mis Medi. Ac yng nghyd-destun uniongyrchol twristiaeth, gwn y bydd yr Aelod yn falch o groesawu'r cyllid a ddarparwyd yn rhan o raglen metro gogledd Cymru—arian a ddarparwyd i Gyngor Gwynedd i'w caniatáu i wella rhwydwaith bysiau poblogaidd Sherpa'r Wyddfa ar draws parc cenedlaethol Eryri. Y canlyniad, ymhell o fod yn wasanaeth sgerbwd, yw bod bysiau mwy hygyrch bellach yn gweithredu ar draws yr ardal saith diwrnod yr wythnos, gan gysylltu prif drefi ac atyniadau i ymwelwyr, ac mae hynny'n newid sylweddol i'r ddarpariaeth ar gyfer trigolion ac ymwelwyr hefyd.

13:35

Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn cyfarwyddo dirywiad wedi'i reoli o'r rheilffyrdd yng Nghymru, tra bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella gwasanaethau? Ar ôl methu â buddsoddi mewn gwella ein rhwydwaith na rhoi cyllid canlyniadol i ni, maen nhw bellach yn gwneud perfformiadau yn waeth trwy orfodi Network Rail i gynllunio dirywiad pum mlynedd yn weithredol, gyda mwy o doriadau termau real i gyllid, o 2024 tan 2027, sy'n bryder enfawr. Gallai gymryd 10 i 15 mlynedd i'r rhwydwaith rheilffyrdd adfer yn sgil yr anffawd hon.

Diolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn atodol pwysig iawn yna, oherwydd bydd yn sicr o effeithio ar bobl yn Arfon sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd mae Llywodraeth y DU, ar ôl methu â buddsoddi i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd dros flynyddoedd lawer, bellach yn cynllunio'n weithredol i waethygu perfformiad y rhwydwaith rheilffyrdd sydd o dan ei rheolaeth ei hun. Mae cynlluniau rheoli asedau Network Rail ar gyfer y cyfnod pum mlynedd nesaf yn cynnig i Gymru yr ail setliad cyllid gwaethaf o unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Bydd gostyngiad mewn termau arian parod, heb sôn am ostyngiad mewn termau real, mewn cyfnod o chwyddiant rhemp—bydd gostyngiad mewn termau arian parod i'r cyllid sydd ar gael i Network Rail yng Nghymru dros y pum mlynedd o 2024 tan 2029. Mae cynllun Network Rail ei hun yn cyfeirio at gynnydd i fethiannau seilwaith yng Nghymru ac asedau sy'n dirywio, a fydd yn achosi i wasanaethau fod yn llai dibynadwy ac yn llai tebygol o redeg yn brydlon. Dyna mae Llywodraeth y DU yn bwriadu iddo ddigwydd yng Nghymru, ac mae Carolyn Thomas yn llygad ei lle i dynnu sylw ato fel cyd-destun hanfodol y mae'n rhaid i ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yma ddigwydd ynddo.

Prentisiaethau yn y Sector Adeiladu

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol y ddarpariaeth o brentisiaethau yn y sector adeiladu? OQ59414

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chyflogwyr a darparwyr dan gontract i gynyddu’r ddarpariaeth i brentisiaid ar draws y sector adeiladu. Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod prentisiaid yn cael eu hyfforddi i’r safon uchaf bosibl.

Diolch am hynny. Mae'n dda clywed eich bod chi wedi ymrwymo i weithio gyda darparwyr a chwmnïau preifat sy'n cynnig y cyfleon yma, oherwydd mae rhai o'r rheini wedi cysylltu â fi, yn siomedig eithriadol nad yw hi bellach yn bosib cynnig prentisiaeth lefel 2 i rai sydd eisiau dilyn gyrfa mewn peirianneg sifil. Nawr, mae'r safon mynediad, wrth gwrs, i wneud prentisiaeth lefel 3 yn gofyn am TGAU C a D, lle, wrth gwrs, o dan lefel 2, doedd dim yr un gofyniad. Nawr, canlyniad hynny yw ei fod e yn cau allan nifer o bobl a fyddai wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llewyrchus yn y sector yma. Mae e hefyd yn rhoi tipyn mwy o faich ar y darparwyr, y cwmnïau adeiladu a'r cwmnïau peirianneg sifil sydd yn darparu'r cyfleoedd yma, ac mae rhai ohonyn nhw'n dweud wrthyf i na fyddan nhw efallai, o ganlyniad, yn awyddus i barhau. Felly, gaf i ofyn i'r Llywodraeth ailystyried y penderfyniad yma, oherwydd efallai ar yr wyneb ei fod e'n edrych yn gam synhwyrol, ond, ar lefel ymarferol, mae e yn mynd i gael effaith negyddol?

Llywydd, dwi wedi clywed y pryderon sydd gan rai cwmnïau yn y gogledd, ond rŷn ni wedi diwygio cymwysterau dan arweiniad cyflogwyr yn y sector. Nhw sydd wedi awgrymu'r system newydd sydd gyda ni, ac maen nhw wedi gwneud hynny achos eu bod nhw'n meddwl y bydd y system newydd yn helpu i recriwtio prentisiaid sy'n gallu cwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus ac sy'n dod â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector. Dyna fwriad y system newydd—i helpu'r sector gyda'r bobl sy'n dod mas o'r colegau, sy'n cwblhau'r prentisiaethau, gyda'r sgiliau maen nhw'n gallu eu defnyddio yn llwyddiannus. A'r broblem i recriwtio pobl ar lefel 2 yw bod tystiolaeth yn dangos nad ydyn nhw, ar y cyfan, yn gwneud popeth mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud i fod yn llwyddiannus yn y sector. Ond mae'r bobl yn y colegau a'r bobl yn y system yn y gogledd wedi clywed pryderon rhai cyflogwyr yn y gogledd, ac mae'r Construction Industry Training Board—y bwrdd sy'n tynnu pobl at ei gilydd—yn mynd i siarad â'r cwmnïau i weld a oes rhywbeth rŷn ni'n gallu ei wneud i ymateb i'r problemau maen nhw'n meddwl y maen nhw'n wynebu. 

13:40

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod angen i ni gynyddu lefel y prentisiaethau yn y sector adeiladu ym mhob rhan o Gymru, ac rwy'n obeithiol y bydd y cyhoeddiad diweddar am borthladdoedd rhydd, sy'n enghraifft wych o Lywodraethau yn cydweithio er budd pennaf Cymru, yn rhoi rhywfaint o fomentwm i ddarparu mwy o gyfleoedd yn fy etholaeth i ac, yn wir, ar draws y gorllewin. Felly, a allwch chi roi gwybod i ni pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda rhanddeiliaid i sicrhau y bydd prentisiaethau ac, yn wir, gyrsiau sgiliau galwedigaethol eraill ar gael yn rhan o'r rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru?

A gaf i ddiolch i Paul Davies am y cwestiwn a'i groesawu yn ôl i'w le yma yn y Siambr y prynhawn yma? Hoffwn gytuno ag ef am y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn y rhaglen porthladdoedd rhydd, lle cytunwyd ar system o wneud penderfyniadau ar y cyd gwirioneddol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac a arweiniodd, ychydig cyn toriad y Pasg, at gyhoeddi dau borthladd rhydd yng Nghymru.

Nawr, roeddwn yn ddigon ffodus i fod yng ngholeg Penfro ddydd Iau yr wythnos diwethaf ac i gymryd rhan yn agoriad y cyfleuster peirianneg ac adeiladu newydd sydd ganddyn nhw yn y coleg, ac roedd yr holl sgwrs yn y digwyddiad hwnnw ymhlith pobl ifanc ac awdurdodau'r coleg a'r cyflogwyr a oedd yno am y cyfleoedd newydd a fydd yn bodoli yn y dyfodol i economi sir Benfro ac i bobl ifanc sy'n cael eu magu yn yr ardal honno. A chefais fy nghalonogi'n fawr o glywed nid yn unig am y cyfleusterau o'r radd flaenaf sydd bellach ar gael ar gyfer pobl ifanc yn y coleg, ond am y ffordd y mae cwricwla yn cael eu haddasu i wneud yn siŵr y bydd y sgiliau sy'n cael eu dysgu mewn diwydiannau traddodiadol yn paratoi'r bobl ifanc hynny ar gyfer y cyfleoedd newydd a fydd yno ym maes ynni adnewyddadwy drwy effaith y porthladdoedd rhydd ac ati. Ac roeddwn i'n ddigon ffodus, Llywydd, ar ôl y cyfarfod yn y coleg, i gael mynd ymlaen i gyfarfod â chyflogwyr ar wahân, ac i ymweld â'r porthladd yn Aberdaugleddau ac i glywed gan awdurdodau'r porthladd hefyd am y ffordd y mae pobl yn cydweithio i geisio cyflawni'r union nodau a'r uchelgeisiau y mae Paul Davies wedi eu mynegi y prynhawn yma.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu dros 20 o Wcrainiaid Caerffili sydd yn yr oriel heddiw, ac maen nhw, wrth gwrs, wedi cael eu dadleoli gan y rhyfel ofnadwy yn Wcráin ac mae croeso mawr iddyn nhw yma heddiw.

Hoffwn ddilyn yr un trywydd â chwestiwn Llyr Gruffydd, yn enwedig ynghylch prentisiaethau. Rwyf i newydd gael y fraint o gwblhau adroddiad i Lywodraeth Cymru, ar gais y Prif Weinidog a'r Gweinidog addysg, yr wyf i'n ei gyflwyno yr wythnos hon, ac un o'r pethau yr wyf i wedi gallu eu gwneud yw siarad gyda phobl ar draws y sector trydyddol. Ac un o'r pethau sydd wedi dod yn amlwg yw bod y sector yn eithaf tameidiog, a gwn y bydd gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ran i'w chwarae yn y gwaith o ddatrys hynny. Tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno. Ac edrychaf ymlaen yn y dyfodol wedyn at gyflwyno argymhellion pellach i'r Llywodraeth a fyddai'n helpu i ddatrys rhai o'r problemau a godwyd gan Llyr ac Aelodau eraill ar draws y Siambr hon.

Wel, Llywydd, a gaf innau hefyd groesawu ymwelwyr â'r Senedd y prynhawn yma? Ac a gaf i ddiolch i'r Aelod am y gwaith y mae newydd ei gwblhau, a gomisiynwyd gan y Gweinidog addysg i edrych ar y system fel y mae'n gweithredu ar hyn o bryd. Gwn faint o amser y mae'r Aelod wedi ei dreulio allan yno yn siarad â phobl sy'n darparu hyfforddiant a chyflogwyr sy'n dibynnu ar y sgiliau sy'n cael eu creu o ganlyniad i hynny. Roeddwn i'n falch iawn o glywed bod gan yr adroddiad gyfres o argymhellion ymarferol sy'n dangos lle y gellir cyflawni gwelliannau yn fwyaf rhwydd yn y sector. Edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad fy hun. Rwy'n credu fy mod i'n gwybod bod gan yr Aelod gyfarfod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach y prynhawn yma fel y gallwn ni ddechrau, cyn gynted â phosibl, gymryd y buddion ymarferol o'r gwaith y mae wedi bod yn ei wneud.

13:45

Yn yr ysbryd o groesawu pobl i'r oriel gyhoeddus y prynhawn yma, os caf i hefyd groesawu llefarydd a chlerc Senedd Tasmania i'n horiel gyhoeddus y prynhawn yma ac i'n Senedd yma yng Nghymru. Rwy'n gweld llawer o bobl ifanc yma yn yr oriel hefyd—croeso i chi i gyd. Rwy'n meddwl ei bod yn ddigon posibl fod Ysgol Comins Coch o Aberystwyth yn yr oriel, felly rwy'n eich croesawu chi yn arbennig. Diolch am roi'r cyfle hwnnw i mi. Rwyf i wedi addo i lefarydd Senedd Tasmania ein bod ni'n ymddwyn yn dda iawn yn y Senedd hon. Rwyf i ar fin galw arweinwyr y pleidiau gwleidyddol, felly gobeithio y gwnewch chi ein dangos i ni ar ein hymddygiad gorau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

I ffwrdd â ni—arweinydd yr wrthblaid, y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, daeth cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain allan dros y penwythnos a dweud nad yw'r GIG yng Nghymru yn gweithio. Byddai hynny'n achosi pryder dwys ymhlith pobl ble bynnag y maen nhw'n dibynnu ar y gwasanaeth iechyd i gyflawni ledled Cymru. Cyfeiriodd at dair enghraifft, un yn amseroedd ymateb ambiwlansys, yn ail, yr arosiadau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac yn drydydd, pobl nad ydyn nhw'n symud i fyny'r rhestrau aros, a fyddai'n meincnodi pa mor llwyddiannus yw'r GIG yma yng Nghymru. Yn anffodus, mae'n rhaid i bobl fynd dramor i gael y triniaethau hynny. A ydych chi'n cytuno â chadeirydd y BMA nad yw'r GIG yng Nghymru yn gweithio o ran y mesurau hynny?

Nid wyf i'n cytuno â'r hyn a ddywedodd cadeirydd y BMA o ran nad yw GIG Cymru yn gweithio. Wrth gwrs, rwy'n cytuno bod rhannau o'n GIG o dan y straen mwyaf enfawr oherwydd nifer y bobl sydd angen cael mynediad at y gwasanaethau hynny. Ond mae GIG Cymru, Llywydd, ar gyfer poblogaeth o 3 miliwn o bobl, yn ymdrin â 2 filiwn o gysylltiadau bob un mis gan bobl yma yng Nghymru. Nid wyf i'n credu y gallai system sydd â 2 filiwn o gysylltiadau â phoblogaeth Cymru bob un mis, mewn unrhyw ystyr deg, gael ei disgrifio fel system sy'n methu.

Roedd y pwyntiau a gyflwynais i chi, Prif Weinidog, yn ymwneud â meysydd penodol o'r GIG y gwnaeth cadeirydd y BMA eu hamlygu fel rhai nad ydyn nhw'n gweithio a phobl ddim yn gweld y canlyniadau sydd eu hangen arnyn nhw pan fyddan nhw'n ymgysylltu â'r GIG. Siawns na ddylai fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon wneud yn siŵr bod yr amseroedd ymateb hynny yn gwella, a phryd y mae pobl angen mynediad at y GIG, y gallan nhw ei gael yn amserol. A ydych chi'n cytuno â mi bod angen i hynny fod yn flaenoriaeth allweddol, ac mai'r hyn nad yw'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth yw ceisio talu'r £1,600 i bobl sydd heb gael statws sefydlog yn y wlad hon a gweithredu fel ffactor atyniadol i lenwi pocedi smyglwyr pobl yr ochr arall i'r sianel?

Yn gyntaf oll, Llywydd, rwy'n cytuno, wrth gwrs, bod mynediad at y GIG i bobl mewn argyfwng, neu i bobl sy'n aros am ofal a gynlluniwyd, yn flaenoriaeth bwysig iawn i'r Llywodraeth hon. Dangosodd y ffigurau a gyhoeddwyd yn ystod y toriad bod nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yn GIG Cymru yn parhau i ostwng, bod arosiadau hir yn gostwng, a bod perfformiad ein hadrannau brys yn rhagori ar berfformiad adrannau yn Lloegr am y seithfed mis yn olynol. Felly, rwy'n cytuno ag ef ynglŷn â'r flaenoriaeth ac rwy'n credu bod tystiolaeth o'r system yn ymateb.

O ran y sylwadau a wnaeth arweinydd yr wrthblaid am ein cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol, gadewch i mi fod yn eglur gyda'r Aelodau: cynllun treialu yw hwn sydd â'r nod o helpu rhai o'r plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Dyna yw pwrpas y cynllun treialu. Plant yw'r rhain sy'n dod allan o ofal awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Yn eu plith, ceir nifer fach iawn o bobl ifanc sydd yng ngofal awdurdod lleol oherwydd eu bod wedi dod i Gymru o rai o'r llefydd mwyaf rhyfelgar ar wyneb y blaned. Maen nhw'n cyrraedd gyda neb a gyda dim. Plant ar eu pen eu hunain ydyn nhw. Maen nhw'n derbyn gofal gan ein hawdurdodau lleol, a phan fyddan nhw'n gadael gofal yr awdurdod lleol, mae hon yn Llywodraeth—ac yn gyffredinol, Llywydd, mae hon wedi bod yn Senedd—sy'n dymuno gweld popeth yn cael ei wneud i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'r plant hynny. Dyna'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano: dyfodol plant agored i niwed. Rwyf i wedi meddwl dros 20 mlynedd bod hwnnw'n uchelgais cyffredin ar draws y Siambr hon, ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau felly yn y dyfodol.

13:50

Yn sicr, bydd yn gyffredin ar draws y Siambr hon, Prif Weinidog, oherwydd ni ddylem ni fod yn drysu'r ddau fater; dylem ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu—[Torri ar draws.] Dylem ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo'r rhai sydd angen cymorth a'r wladwriaeth i ymyrryd i'w cynorthwyo. Ond yr hyn na allwn ni ei gael—[Torri ar draws.]

Rwyf i angen clywed Andrew R.T. Davies, ac mae'r Prif Weinidog angen ei glywed. Os caf i ychydig o dawelwch.

Rwy'n gallu clywed y Dirprwy Weinidog trafnidiaeth yn mwmian, ond mae wedi dweud lawer gwaith nad yw'n gwybod beth mae'n ei wneud, ac ar y mater penodol hwn byddwn yn cytuno hefyd nad yw'n gwybod beth mae'n ei wneud. Ni all fod yn iawn ei bod hi'n bosibl y gallai mesurau a roddir ar waith weithredu fel atyniad a fyddai'n llenwi pocedi'r bobl ofnadwy hynny sy'n manteisio ar bobl agored i niwed ar yr ochr arall i'r sianel. Roedd fy mhwynt i chi ynghylch y blaenoriaethau sydd gan y Llywodraeth pan fo gennych chi gadeirydd y BMA yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gweithio, ac eto mae gennych chi dri Gweinidog yn gofyn am bwerau i roi arian i bobl nad ydyn nhw wedi cael statws wedi'i gadarnhau. Siawns nad dyna lle ddylai'ch blaenoriaethau chi fod, ac nid wyf i'n ymddiheuro o gwbl am ymhelaethu ar hynny a gwneud yn siŵr bod arian Llywodraeth Cymru yn cael ei wario ar flaenoriaethau'r bobl yma yng Nghymru.

Llywydd, mae arweinydd yr wrthblaid yn dweud wrthyf i na ddylwn i ddrysu dau fater, pan fo wedi fy ngwahodd i wneud yr union beth a dychwelyd at y thema honno yn ei gyfraniad olaf. Mae'n amlwg yn nonsens dychmygu bod rhyw blentyn druan mewn rhan ryfelgar o'r byd yn meddwl y bydd yn cychwyn ar y teithiau rhyfeddol o beryglus y mae pobl yn eu gwneud, i ddod i Gymru, oherwydd bod llond dwrn bach o blant ar eu mantais oherwydd ein cynllun yma. Pan ysgrifennodd Gweinidogion at Lywodraeth y DU, y cwbl y gwnaethom ni ei ofyn yw iddyn nhw weithredu eu cyfrifoldebau am gymorth cyfreithiol mewn ffordd nad oedd yn rhoi'r bobl ifanc hynny o dan fwy o anfantais fyth. Mae'n siom eithriadol i mi nad oedden nhw'n barod i wneud hynny, ond mae'n fwy cywilyddus fyth i wneud y plant hynny yn wrthrych ymgais wleidyddol noeth i wneud hwn yn fater chwiban ci arall ar gyfer y mathau o bleidleiswyr y mae'r Aelod yn anffodus yn ceisio apelio atyn nhw.

A gaf i ddweud, ar ran fy mhlaid, fy mod i'n meddwl bod dangos ymrwymiad i dosturi tuag at bobl ifanc agored i niwed sy'n ffoi rhag rhyfel a gorthrwm, yn dod yma—? Wyddoch chi, nid yw datganiad o genedl noddfa ynddo'i hun yn ddigon. Mae'n rhaid i ni ei ymarfer mewn gwirionedd, a dylai hynny fod yn flaenoriaeth i ni, oherwydd mae'n ganolog i werthoedd gorau ein cenedl.

A gaf i droi, Prif Weinidog, at fater arall? Ar 28 Chwefror, yn gynharach eleni, wrth gyfeirio at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fe wnaethoch chi ddweud:

'Daethpwyd i'r penderfyniad, ac mae'n benderfyniad gan Weinidogion, i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig oherwydd i ni gael ein cynghori mai dyna ddylem ni ei wneud gan yr archwilydd cyffredinol, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a chan swyddogion Llywodraeth Cymru'.

A ydych chi'n cadw at y datganiad hwnnw?

Rwyf i yn cadw ato, Llywydd, gan ei fod yn ymgais i nodi'r broses a ddefnyddir i naill ai uwchgyfeirio sefydliadau yn GIG Cymru o ran ymyrraeth neu eu hisgyfeirio. Rwyf i wedi ysgrifennu, Llywydd, atoch chi i gynorthwyo'r Aelodau i wneud y broses honno yn eglur.FootnoteLink Rwy'n gwybod eich bod chi'n bwriadu sicrhau bod y llythyr hwnnw ar gael i'r holl Aelodau. Rwy'n hapus iawn i'w grynhoi eto heddiw fel na ellir bod unrhyw amheuaeth ym meddyliau'r Aelodau ynghylch y ffordd y mae'r system yn gweithredu. Ceir tri cham ar wahân iddi. Mae'n dechrau gyda chyfarfod tair ochrog sy'n cynnwys swyddfa'r archwilydd cyffredinol, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru. Maen nhw'n trafod pa un a oes angen ymyrraeth ychwanegol ar sefydliad ai peidio neu a oes modd tynnu ymyrraeth yn ôl. Mewn ail gam sydd ar wahân, daw'r cyngor a roddir i Weinidogion gan weision sifil. Maen nhw'n manteisio ar y drafodaeth dair ochrog a gynhelir ar y cam cyntaf, ac maen nhw'n cynnwys ystyriaethau eraill hefyd. Y trydydd cam a'r olaf yw'r penderfyniadau gweinidogol. Dyna sut mae'r broses yn gweithredu. Dyna'r oeddwn i'n ceisio ei gyfleu pan atebais y cwestiwn hwnnw ddiwethaf, trwy fod yn eglur bod Gweinidogion yn penderfynu a bod cyngor yn dod gan weision sifil. Rwy'n hapus iawn i sicrhau bod hwnnw ar gael i'r Aelodau fel na all unrhyw ddryswch fodoli yn y dyfodol.FootnoteLink

13:55

Yn dilyn y penderfyniad i dynnu Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig, ysgrifennodd yr archwilydd cyffredinol at Lywodraeth Cymru ar 26 Tachwedd 2020 i ddweud ei fod yn

'annefnyddiol i'r gweinidog awgrymu ei fod wedi derbyn cyngor uniongyrchol gennyf i neu fy staff am statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd'.

Yn ei lythyr, mae'r archwilydd cyffredinol yn dweud bod nodiadau diwygiedig y drafodaeth dair ochrog yn ei gwneud yn eglur na ddigwyddodd hynny, ond yn anffodus ni wnaeth yr eglurder hwnnw drosglwyddo i'r datganiad gan y gweinidog nac yn wir y drafodaeth Cyfarfod Llawn a'i dilynodd. Mae'r archwilydd cyffredinol yn dweud, pe baen nhw wedi cael digon o gyfle ymlaen llaw, y bydden nhw wedi gofyn i'r datganiad gan y gweinidog gael ei ddiwygio. Pam na chafodd datganiad llafar neu ysgrifenedig ei wneud i'r Senedd i gywiro'r cofnod ar ôl derbyn y llythyr hwn?

Llywydd, nid oedd unrhyw gofnod i'w gywiro gan y bydd y Gweinidog wedi gweithredu ar sail y system yr wyf i wedi ei chyflwyno i'r Aelodau y prynhawn yma. Mae pob penderfyniad, pa un a i wneud mwy neu i wneud llai, yn dilyn y broses tri cham honno. Rwyf i wedi ei gyflwyno ar gyfer yr Aelodau. Nid wyf i'n meddwl y gallaf i helpu'r Aelod ymhellach ar y mater hwnnw.

Rhoddodd eich datganiad, Prif Weinidog, a datganiad eich cyd-Weinidog ar y pryd, yr argraff bod barn a rannwyd gan bawb o amgylch y bwrdd tair ochrog, ond mae'r archwilydd cyffredinol yn dweud wrthym ni, i'r gwrthwyneb, yng nghyfarfod y grŵp tair ochrog ar 13 Tachwedd 2020—ac rwy'n dyfynnu nawr—

'y mynegwyd gwahanol safbwyntiau ynghylch a ddylai'r bwrdd iechyd aros mewn mesurau arbennig'.

A wnewch chi gyhoeddi nodiadau'r cyfarfod hwnnw? A allwch chi gadarnhau bod Gweinidogion wedi cael gwybod am lythyr yr archwilydd cyffredinol? Ac a allwch chi hefyd gadarnhau bod yr archwilydd cyffredinol wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar sawl achlysur arall i godi pryderon tebyg?

Llywydd, yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelodau yw hyn: nid yw'n syndod, wrth gwrs, bod gwahanol safbwyntiau yn cael eu mynegi mewn cyfarfod o'r fath—dyna pam mae cyfarfod yn cael ei alw, er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwahanol safbwyntiau hynny i gyd ar gael. Ond nid yw'r cyngor sy'n mynd i Weinidogion—gadewch i mi fod yn eglur gyda'r Aelodau eto—yn dod yn uniongyrchol o'r cyfarfod tair ochrog, mae'n dod ar ail gam a cham ar wahân gan weision sifil. Dyna'r cyngor y mae Gweinidogion yn ei weld, dyna'r cyngor y mae Gweinidogion yn ei ddefnyddio, ond yn y pen draw Gweinidogion, ar y trydydd cam hwnnw, sy'n gwneud y penderfyniad. Dyna ddigwyddodd yn 2020, dyna sy'n digwydd bob tro mae'r system dair ochrog yn dod at ei gilydd. Mae'n gwneud hynny ddwywaith y flwyddyn. Mae'r system yn gweithredu fel yr wyf i newydd esbonio. Nid wyf i'n credu y gallwn i fod yn fwy eglur.

Gwerth Ychwanegol Gros Cymru

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gynyddu gwerth ychwanegol gros Cymru? OQ59379

Mae gwerth ychwanegol gros yn fesur o allbwn economaidd cenedl. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf economaidd trwy fuddsoddi mewn sgiliau a seilwaith. O'i gymryd ar ei ben ei hun, fodd bynnag, mae gwerth ychwanegol gros yn ganllaw amherffaith i iechyd unrhyw economi.

14:00

Diolch i'r Prif Weinidog am hynna. Mae'n ganllaw amherffaith, ond mae'n ganllaw, ac rwy'n meddwl bod gan yr economïau mwyaf llwyddiannus werth ychwanegol gros uchel. Er bod gan y rhan fwyaf o economïau yn Ewrop, Asia a Gogledd America dwristiaeth, amaethyddiaeth a'r economi sylfaenol yn rhan o'u heconomi, mae gan y rhai llwyddiannus—y rhai yr ydym ni'n gobeithio eu hefelychu—gyfran uwch o'u gweithlu ym meysydd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu uwch a gwasanaethau proffesiynol na'r hyn sydd gennym ni yng Nghymru. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda phrifysgolion ac eraill i gynyddu'r gwaith o hyrwyddo cyflogaeth â thâl uwch a sgiliau uwch yng Nghymru?

Wel, Llywydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno bod gwerth ychwanegol gros yn un mesur pwysig o berfformiad economi, a gwn y bydd Mike Hedges wedi sylwi yn y ffigurau diweddaraf sydd ar gael bod Cymru yn gwneud yn well nag unrhyw wlad arall yn y DU o ran cynyddu gwerth ychwanegol gros. Tyfodd gwerth ychwanegol gros y pen yn y cyfnod rhwng 2017 a 2020 3.5 y cant yng Nghymru, 2.6 y cant yn Lloegr a 2.2 y cant yn yr Alban. Rwy'n credu eich bod chi'n gweld yn y ffigurau hynny effaith y strategaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei dilyn.

Fel y dywedais, ein strategaeth hanfodol yw buddsoddi mewn pobl. Gan feddwl am y cwestiwn a gawsom yn gynharach y prynhawn yma gan Llyr Gruffydd, byddwch yn sicr o weld, er enghraifft, yn Airbus, yn rhan yr Aelod o'r gogledd, bod prentisiaethau gradd yn rhan mor annatod o'r ffordd y mae'r cwmni hwnnw yn cael llwyddiant mor eithriadol. Ond, rydych chi'n ei weld hefyd yn y diwydiannau creadigol; twf o 40 y cant yn nifer y bobl sy'n gweithio yn y sector yn ystod y degawd diwethaf, ac mae hynny'n adlewyrchiad pendant o'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru, drwy ein darparwyr addysg, wedi ei wneud mewn cynyddu sgiliau'r sector, gan ddenu cwmnïau i ddod yma a gwneud eu cynyrchiadau yng Nghymru.

Ar yr un pryd, rydyn ni'n buddsoddi mewn cyfleusterau—y ganolfan gweithgynhyrchu uwch yn y gogledd a'r ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer rheilffyrdd yma yn y de, y ddau'n fuddsoddiadau a fydd yn arwain at y math o weithlu â sgiliau ychwanegol y cyfeiriodd Mike Hedges atyn nhw, ond â'r seilwaith a'r offer sy'n galluogi'r sgiliau hynny i gynyddu cynhyrchiant mewn ffordd sy'n arwain at well gwerth ychwanegol gros.

Ac wrth gwrs, rydyn ni'n parhau, Llywydd, i fuddsoddi ochr yn ochr â chwmnïau sy'n dod â'r synnwyr hwnnw o ennill cynhyrchiant i economi Cymru. Cyfarfu Gweinidog yr Economi yn ddiweddar, er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau gyda KLA i drafod eu hehangiad gwerth $100 miliwn o'u cyfleuster yng Nghasnewydd, ac roeddwn i'n falch iawn o fod gyda Mike Hedges yn Abertawe ym mis Rhagfyr gyda Veeqo, cwmni lle y clywodd ef a minnau gan y bobl ifanc y maen nhw wedi eu denu i weithio yn y diwydiant hwnnw am y ffordd mai'r buddsoddiad mewn sgiliau, offer a chyfleoedd sydd wedi eu denu nhw yn ôl i Gymru, gan sicrhau'r cynnydd hwnnw mewn swyddi â sgiliau a chyflogau uchel sy'n arwain at y gwelliant i werth ychwanegol gros a oedd yn ganolog i'r cwestiwn hwn.

Diolch i Mike Hedges am godi'r pwynt pwysig hwn a rhannu'r broblem gyda gwerth ychwanegol gros yng Nghymru. Mae gennym ni 5 y cant o'r boblogaeth a 3.4 y cant o gyfoeth y DU, ac ers 1999, er gwaethaf yr hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei rannu, ni sydd wedi bod â'r gwerth ychwanegol gros isaf yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni'n gwybod bod sawl rheswm ynghylch hynny, ac mae'n galonogol clywed rhai o'r pethau da sy'n digwydd erbyn hyn, ond mae angen i ni weld camau mwy pendant i wella cynhyrchiant a thwf, gan hybu cyflogau a chyflogaeth. Prif Weinidog, tybed a allech chi roi rhai enghreifftiau i ni o dargedau ystyrlon y mae eich Llywodraeth yn eu gosod er mwyn gwneud yn siŵr bod Cymru ar y trywydd iawn i wireddu ei photensial llawnaf.

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno, ar y pwynt hwn, yn sicr, gyda Peter Fox, bod cynhyrchiant, a pharadocs cynhyrchiant segur, yn ganolog i'r her a wynebwyd gan economi'r DU. Os ydym ni'n mynd i weld, fel y byddem ni'n sicr eisiau ei weld, economi sy'n tyfu—cacen sy'n tyfu fel y gallwch chi rannu enillion twf—yna mae'n rhaid i well cynhyrchiant fod yn ganolog i hynny. Mae cynhyrchiant wedi arafu yn economi'r DU ers degawd erbyn hyn. Rwy'n credu mai'r peth sy'n gwahaniaethu'r economïau hynny mewn rhannau eraill o Ewrop lle mae twf yn parhau yw'r buddsoddiad yn y cyfarpar, y peiriannau a'r seilwaith sy'n caniatáu i weithwyr medrus iawn wneud eu cyfraniad mwyaf at y twf economaidd hwnnw. Pam y mae'n wir ei bod hi'n cymryd pum diwrnod i weithiwr gynhyrchu yr hyn y gall gweithiwr yn Ffrainc ei gynhyrchu mewn pedwar? Nid yw oherwydd bod y bobl yn wahanol, ac nid wyf i'n credu ei fod, ar y cyfan, oherwydd bod y lefelau sgiliau yn wahanol. Rwy'n credu mai'r ffaith yw bod gan bobl mewn mannau eraill set fwy modern o offer, o beiriannau, o fuddsoddiad gan ddiwydiant ar gael iddyn nhw, a dyna fyddai'n caniatáu ailddechrau twf cynhyrchiant y tu mewn i economi'r DU.

Bydd yr Aelod yn canfod yn ein cenhadaeth economaidd yr uchelgeisiau hynny yr ydym ni wedi eu cyflwyno ar gyfer manteisio ar y manteision cymharol sydd gennym ni yma yng Nghymru mewn llawer o sectorau: lled-ddargludyddion, seiberddiogelwch, gwyddorau bywyd, y diwydiannau creadigol, ynni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu uwch. Mae gennym ni yng Nghymru gymaint sydd o'n plaid wrth greu economi'r dyfodol. Mae angen i ni, gan weithio gydag eraill, gan gynnwys Llywodraeth y DU, greu'r amodau lle gall y bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau hynny wneud y cyfraniad mwyaf y gallan nhw at y math o economi dwf y byddem ni eisiau ei gweld yn y dyfodol.

14:05

Un sector o'r economi sy'n cyfrannu'n enfawr at werth ychwanegol gros Cymru yw'r sector lletygarwch. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn falch bod yr ymgyrch i ddod â Chyngres ac Expo Worldchefs i Gymru wedi bod yn llwyddiant, a bydd Cymru ar lwyfan coginio'r byd ym mis Mai 2026 ar ôl Singapore. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch y tîm sydd y tu ôl i'r ymgyrch, ond, yn bwysicach, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cefnogi'r digwyddiad trwy ddatgan 2026 yn flwyddyn bwyd a diod Cymru, gan hyrwyddo ein sector bwyd a diod i'r byd ac, mae'n siŵr, yn y tymor hir, gwella gwerth ychwanegol gros?

Mae sector bwyd a diod Cymru yn llwyddiant mawr arall yn economi Cymru, gan ragori o bell ar y targedau a bennwyd ar ei gyfer gan fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths pan nododd lwybr twf i'r diwydiant hwnnw gyntaf. Mae'n newyddion da iawn ein bod ni wedi denu'r gystadleuaeth honno yma i Gymru. Cawsom flas cynnar arni gyda chogyddion yn—mae'n ddrwg gen i, nid yw pawb yn sylwi ar y pethau hyn. [Chwerthin.] Cawsom synnwyr cynnar o hynny pan gawsom ni gogyddion o bedwar ban byd yng Nghasnewydd y llynedd. Rwy'n edrych ymlaen at 2026, ac mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol mewn trafodaethau gweithredol gyda chydweithwyr yn y sector bwyd a diod ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru wneud ein cyfraniad i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle a fydd yn dod yn sgil hynny.

Y Gwasanaeth Datblygu Hunaniaeth Rhywedd

4. Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag ad-drefnu'r gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd? OQ59400

Llywydd, mae'r cyfrifoldeb hwn yn nwylo Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ac fe'i cyflawnir drwy ei aelodaeth o fwrdd rhaglen GIG Lloegr ar gyfer gwasanaethau dysfforia rhywedd.

Diolch, Prif Weinidog. Roedd cwymp gwasanaeth rhywedd y Tavistock i blant wir yn ofnadwy. Fel y dywedodd Dr Hilary Cass wrth gynnal adolygiad o'r gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd, nid oedd yn opsiwn hirdymor na hyfyw. Diolch byth, cytunodd GIG Lloegr bod y gwasanaeth yn anniogel a chau'r gwasanaeth i lawr i gael ei ddisodli gan ddwy ganolfan ranbarthol sy'n darparu gwasanaethau i gleifion Cymru a Lloegr. Prif Weinidog, mae newyddiadurwr y BBC ac awdur y llyfr gwych am Tavistock, Hannah Barnes, wedi datgelu bod dau o'r uwch feddygon o Tavistock bellach yn gyfrifol am hyfforddiant uniongyrchol carfannau o staff yn y canolfannau newydd. Ar un cyfnod, ystyriwyd cynnwys cyfarwyddwr y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd ar y panel cyfweld ar gyfer y swyddi newydd. A ydych chi'n meddwl bod hyn yn dderbyniol, o ystyried canfyddiadau adolygiad Cass, a pha gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd wedi ei ailgyfansoddi yn ddiogel i gleifion Cymru?

14:10

Wel, Llywydd, gadewch i mi ddweud yn gyntaf oll bod Llywodraeth Cymru eisiau gweld yr hyn a ddywedodd adolygiad Cass: gwasanaethau sy'n ddiogel ac yn effeithiol, a'n huchelgais yw dod â mwy o'r gwasanaethau hynny yn agosach at adref. Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r busnes o bwy sy'n eistedd ar baneli cyfweld yn GIG Lloegr, ac mewn gwirionedd, ni allaf gael fy nhynnu i mewn i'r drafodaeth a nododd yr Aelod.

Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod atgyfeiriadau pobl ifanc i wasanaethau o'r fath wedi tyfu yn gyflym iawn dros y degawd diwethaf. Ddeng mlynedd yn ôl, cafwyd saith atgyfeiriad o Gymru i wasanaethau hunaniaeth rhywedd. Yn y flwyddyn ddiwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, degawd yn ddiweddarach, 159 o blant oedd y ffigur hwnnw. Rwy'n deall yn llwyr pam na ellid disgwyl i un gwasanaeth ymdrin â chynnydd i faint y galw o'r math hwnnw, gan fod y cynnydd hwnnw i'r galw yn cael ei adlewyrchu nid yn unig yng Nghymru ond mewn mannau eraill hefyd. Yn y tymor byr, bydd pobl ifanc o Gymru yn cael eu hatgyfeirio i un o'r ddwy ganolfan newydd a fydd yn cael eu sefydlu, ond y nod, fel yr wyf i'n ei deall, yw symud i hyd at wyth canolfan ranbarthol ar gyfer y gwasanaeth hwn. Byddwn eisiau gweld, fel yr ydym ni wedi ei weld yn llwyddiannus mewn gwasanaethau rhywedd i oedolion, mwy o'r llwybr yn cael ei symud mor agos at gartref i'r bobl ifanc hynny â phosibl. Byddwn yn aros am ganlyniad adolygiad Cass—nid yw wedi'i gwblhau o hyd—ac yna, byddwn yn gweithio gydag eraill i wneud yn siŵr bod gwasanaethau ar gael i bobl ifanc sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd sy'n ddiogel, yn effeithiol, ac yn cael eu llunio gan lais y bobl ifanc hynny, a gwasanaeth nad yw'n achosi stigma ac nad yw'n dibynnu ar lwybr meddygol hirfaith yn unig chwaith.

Darllenais yn ofalus y cyfraniad a wnaeth yr Aelod mewn dadl gynharach ar y mater hwn, ac roedd llawer iawn yn yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud yr oeddwn i'n cytuno ag ef. A gobeithio y bydd yn bosibl yng Nghymru i barhau i gydweithio i wneud yn siŵr ein bod ni'n darparu gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yn adolygiad Cass a'r ysbryd y byddem ni'n dymuno i bobl ifanc gael eu trin ag ef yma yng Nghymru.

Mesuryddion Rhagdalu

5. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o gynnig diweddaraf Ofgem i ganiatáu i gwmnïau ynni ailddechrau gorfodi aelwydydd i ddefnyddio fesuryddion rhagdalu? OQ59415

Mae'r newidiadau hyn yn wirfoddol ac yn sicr dydyn nhw ddim yn mynd yn ddigon pell. Ein barn ni yw y dylid gwahardd gosod mesuryddion rhagdalu yn orfodol yn llwyr. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyfarfod ag Ofgem yfory a bydd yn gwneud y ddadl dros weithredu pellach i ddiogelu aelwydydd yng Nghymru.

Diolch, Prif Weinidog. Nid yw'r dystiolaeth a ddarparwyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru yn ddeunydd darllen calonogol. Rydyn ni'n clywed am aelwydydd sy'n cael eu bygwth gyda mesuryddion rhagdalu, hyd yn oed yn ystod y moratoriwm honedig ar osod gorfodol; cwsmeriaid yn cael eu bygwth gyda mesuryddion rhagdalu, er eu bod nhw ar restr y cyflenwyr ynni o gofrestrau gwasanaeth blaenoriaeth, sy'n golygu eu bod nhw'n unigolyn agored i niwed; mae gennym ni weddw â mesurydd clyfar a newidiwyd i fesurydd rhagdalu heb ei chaniatâd, i grafu yn ôl dyled nad oedd hi hyd yn oed yn sylweddoli ei bod ganddi; ac mae gennym ni unigolyn sy'n gadael gofal â phlentyn sâl, a gafodd rybudd o ddeuddydd o newid trwy un neges destun—dim trafodaeth am fod yn agored i niwed, nac unrhyw drafodaeth am gynllun ad-dalu ar gyfer dyled o £5,000 nad oedd hi'n sylweddoli ei bod hi wedi ei chronni. Beth yw pwynt cod gwirfoddol pan fo cyflenwyr eisoes yn ei dorri cyn iddo hyd yn oed ddechrau?

Nid yw datgysylltu cyflenwad ynni i aelwydydd sydd ar fesuryddion talu wrth ddefnyddio byth yn digwydd heb i orchymyn llys fod ar waith, ac mae gennym ni'r cyflenwyr hyn yn gwneud elw enfawr ac yn defnyddio mesuryddion clyfar a mesuryddion rhagdalu i ddatgysylltu gwres a golau o aelwydydd a'r unig drosedd y maen nhw'n euog ohoni yw tlodi. Gan fod Ofgem yn deigr papur heb ddannedd, pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i orfodi cod ymarfer statudol, yn debyg i'r un y mae cwmnïau dŵr yn cydymffurfio ag ef?

14:15

Wel, Llywydd, rwy'n difaru'r ffaith nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau i'w gwneud yn ofynnol bod y camau y mae Jenny Rathbone wedi'u nodi yn cael eu gweithredu, oherwydd bod polisi ynni yn fater a gedwir yn ôl a gallan nhw ond cael eu gweithredu gan Weinidogion y DU. Mae'r achosion y mae Jenny Rathbone wedi'u hamlinellu yn dangos natur anfoddhaol barhaus y cynigion y mae Ofgem wedi'u cyhoeddi. Nawr, mae Jonathan Brearley, prif weithredwr Ofgem, yn dweud wrthym ni mai eu huchelgais nhw yw symud mor gyflym â phosibl i gael y cod hwnnw wedi'i droi o god gwirfoddol i ofyniad statudol ar y diwydiant, lle y byddai trwydded, wedi'i chyhoeddi gan Ofgem, yn dibynnu ar gydymffurfio â'r cod. Wel, hoffwn i weld y cod yn cael ei gryfhau, ac yn sicr rwyf i eisiau'i weld yn orfodol yn hytrach nag yn wirfoddol. 

A, Llywydd, gwnaeth yr Aelod bwynt pwysig iawn arall, sy'n cael ei anwybyddu'n aml, rwy'n credu, yn y ddadl am fesuryddion rhagdalu: pan fydd mesurydd rhagdalu yn cael ei osod drwy rym yn nhŷ rhywun, nid yw'n ymwneud â thalu am y trydan y mae'r aelwyd honno'n ei ddefnyddio yn unig, mae'n ymwneud ag adennill dyled. Felly, yr hyn sy'n digwydd yw bod y mesurydd yn cael ei osod fel bod hyd yn oed y bobl dlotaf yn y wlad yn cael llai o drydan fyth am eu harian na neb arall. Ac yn sicr, nad honno yw'r ffordd iawn o fynd ati. Rydyn ni wedi argymell—ac, ar y pwynt hwn, mae Ofgem yn cytuno â ni—system tariff cymdeithasol yn y diwydiant ynni. Hoffwn ni petai Gweinidogion Llywodraeth y DU yn dod at y bwrdd i wneud yn siŵr y gallai hynny ddigwydd.

Prinder Staff o fewn y Gwasanaeth Iechyd

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brinder staff o fewn y gwasanaeth iechyd? OQ59410

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Mae mwy o staff yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes—hanes sy’n ymestyn dros 75 o flynyddoedd. Pan fydd prinder staff, mae’r byrddau iechyd yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio bywiog, yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys recriwtio’r nifer mwyaf erioed o staff sy’n cwblhau eu hyfforddiant bob blwyddyn yng Nghymru.

Llywydd, nôl yn 2013, croesawodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, ein Prif Weinidog presennol, fuddsoddiad o £5 miliwn i ysbyty cymunedol Tywyn. Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad, dywedodd:

'Bydd cynnydd yn nifer y gwelyau ac integreiddio nifer o wasanaethau yma yn galluogi mwy o bobl i gael gofal yn agosach at eu cartrefi mewn amgylchedd sy'n addas i'r diben.'

Degawd yn ddiweddarach ac mae pethau wedi cymryd tro trawiadol er gwaeth. Mae'r uned famolaeth wedi'i chau, mae'r uned mân anafiadau wedi'i chau, a dim ond pythefnos yn ôl, a heb rybudd, cafodd y ward cleifion mewnol ei chau—ym mhob achos, dros dro, y maen nhw'n ei ddweud wrthym ni. Dyma'r union wasanaethau a gafodd eu hyrwyddo gan y Prif Weinidog nôl yn 2013. Mae'r gyfres hon o unedau'n cau yn bennaf o ganlyniad i fethiant i gadw a recriwtio staff, yn enwedig nyrsys. Mae'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn Nhywyn yn cael ei ailadrodd mewn mannau eraill. Er mwyn ailagor y ward cleifion mewnol, mae angen pedair nyrs ar fandiau 6 a 7, a phedair arall i ailagor yr uned mân anafiadau. Felly, pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gynorthwyo'r bwrdd iechyd i recriwtio nyrsys i Dywyn a'r gogledd fel y gall fy etholwyr i gael gofal yn nes at adref ac mewn amgylchedd sy'n addas i'r diben?

Llywydd, wel rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r datblygiadau yn ysbyty cymunedol Tywyn. Yr hyn y mae'r bwrdd iechyd wedi'i wneud, ar gyfer y tri mis nesaf, yw canolbwyntio ei adnoddau staff sydd ar gael yn Nolgellau fel bod modd cael gwasanaeth yn yr ardal honno. Yn ôl fy nealltwriaeth i, ar 12 Ebrill, pan gafodd y penderfyniad ei wneud, roedd wyth claf mewn gwelyau cleifion mewnol yn Nhywyn, pedwar ohonyn nhw i fod i gael eu rhyddhau adref, ac roedd pedwar o bobl i'w symud i Ddolgellau i gael eu gofal parhaus. Nawr mae gan y bwrdd iechyd gynllun i ailagor gwasanaethau yn Nhywyn. Mae hynny'n cynnwys recriwtio brwd, yn lleol ond hefyd, fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, yn rhyngwladol—400 o nyrsys wedi'u recriwtio i Gymru y llynedd o ffynonellau rhyngwladol, gyda chynllun i recriwtio 400 arall yn y flwyddyn bresennol. Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio gyda'i bartneriaid ar fodel newydd o wasanaeth ar gyfer Tywyn, model newydd arloesol a fydd yn defnyddio staff sy'n gweithio yn y gymuned ar hyn o bryd yn ogystal â staff sydd wedi'u lleoli yn yr ysbyty, gyda'r un nod ar y cyd—mae'n nod ar y cyd, yr Aelod, rwy'n gwybod, ond yn sicr y bwrdd iechyd hefyd—i adfer y gwasanaeth sydd wedi'i dynnu'n ôl dros dro yn yr ysbyty.

14:20

Prynhawn da, Prif Weinidog. Roeddwn i eisiau sôn am brinder deintyddion yn ein gwasanaethau GIG unwaith eto, ac mae hynny ar draws Cymru. Roeddwn i'n falch iawn o ddarllen bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn enwedig o ran therapyddion deintyddol a hylenyddion deintyddol yn gallu agor ac, yn wir, cau triniaethau, ac nad oes unrhyw rwystr rheoleiddiol rhag i hynny digwydd, a fyddai wrth gwrs yn cynyddu'r cyfleoedd i gael mwy o bobl i'n deintyddion GIG. Felly, byddwn i'n falch o glywed gennych chi ynghylch eich cynlluniau i sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru'n gallu cael y cyfle i fanteisio ar ddeintyddiaeth y GIG gan ddefnyddio'r argymhelliad hwn gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr i Jane Dodds.

Diolch iddi hi am roi'r cyfle i mi ailadrodd thema eto yr wyf i wedi ceisio'i datblygu ar lawr y Senedd dros gyfnod estynedig o ran deintyddiaeth, a dyna bwysigrwydd arallgyfeirio'r proffesiwn hwnnw. Deintyddion eu hunain yw'r adnodd mwyaf medrus a drud sydd gennym ni yn y maes hwnnw. Ni ddylai unrhyw ddeintydd fod yn treulio ei amser fel mater o drefn yn cyflawni gweithgarwch y gallai rhywun arall yn y proffesiwn hwnnw sydd wedi'i ryddfrydoli ei gyflawni yr un mor llwyddiannus yn glinigol. Mae angen yr oruchwyliaeth, wrth gwrs, gan ddeintydd sydd wedi cymhwyso'n llawn. Mae angen bod rhywun ar y safle rhag ofn y bydd archwiliad neu lenwad syml, er enghraifft, mewn gwirionedd yn fwy cymhleth na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Ond rydyn ni'n gwybod y gall y rhan fwyaf o weithdrefnau deintyddiaeth gael eu cyflawni yr un mor llwyddiannus gan bobl â chymwysterau mewn therapi deintyddol a hylendid deintyddol. Dyna pam mae gennym ni nifer sylweddol o leoedd therapi deintyddol newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddyblu nifer y myfyrwyr yno, ac rydyn ni hefyd wedi dyblu'r nifer—sori, hefyd mae gennym ni raglen hylendid deintyddol newydd ym Mhrifysgol Bangor. Drwy sicrhau ein bod ni'n hyfforddi'r amrywiaeth ehangach honno o weithwyr proffesiynol, gan weithio o dan gwmpas deintydd cymwysedig, byddwn ni'n cynyddu hygyrchedd deintyddiaeth y GIG ar draws Cymru. A bod yn onest, mae'r proffesiwn wedi bod yn araf yn croesawu'r agenda hon. Maen nhw ymhell y tu ôl i'r hyn y mae eu cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol eisoes wedi'i gyflawni, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru'n ysgogi ein huchelgais i weld, fel y dywedais i, weithlu sydd wedi'i rhyddfrydoli lle gallwn ni wneud mwy i sicrhau bod pobl yng Nghymru sy'n ceisio manteisio ar ddeintyddiaeth y GIG yn gallu gwneud hynny.

Llety Gwyliau

7. A wnaiff y Prif Weinidog nodi'r rhesymeg a'r dystiolaeth a ddefnyddir i bennu lleiafswm cyfnod rhentu o 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau i gael ei ddosbarthu fel llety hunan-arlwyo annomestig? OQ59385

Llywydd, y rhesymeg dros y trefniadau newydd yw sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i'w cymunedau lleol. Mae'r dystiolaeth y cafodd ei defnyddio wedi bod ar gael ers dros 12 mis. Cafodd ei chyhoeddi ochr yn ochr â chanlyniad ein hymgynghoriad ar y mater hwn ym mis Mawrth 2022.

Diolch. Ni wnes i glywed hynny i gyd, oherwydd y system sain, ond, fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae cryn bryder a dryswch ymhlith y farchnad llety hunanarlwyo annomestig yng Nghymru ynghylch cefnogaeth Llywodraeth Cymru i darged o ddefnydd 182 diwrnod o leiaf, gan mai dim ond cyfnod o 105 diwrnod o leiaf oedd y diwydiant ei hun wedi'i argymell, gan gredu ei fod yn cyd-fynd yn well â'r farchnad, o ystyried y tymor cyfyngedig yng Nghymru. Wrth siarad â chynrychiolwyr y sector twristiaeth, maen nhw'n credu na fydd y rhan fwyaf o'r llety hunan-arlwyo yr effeithir arnynt mewn ardaloedd â nifer fawr o ail gartrefi, ond byddant mewn ardaloedd gwledig lle mae perchnogion a busnesau, fel ffermydd, yn ceisio arallgyfeirio'u ffrydiau incwm er mwyn goroesi. Felly mae'n ymddangos y byddai'r polisi hwn yn annhebygol o gael unrhyw effaith sylweddol ar leihau nifer yr ail gartrefi, ond yn hytrach, fe fyddai'n cosbi busnesau sy'n ceisio ennill bywoliaeth yn unig. Os oes rhaid iddyn nhw, neu os oes pwysau mawr arnyn nhw, mae perchnogion yr eiddo hyn hefyd yn eithaf rhydd i rentu eu llety am swm enwol i ffrindiau neu deulu i gyflawni'r targed o 182 diwrnod o leiaf ac felly'n gymwys ar gyfer ardrethi busnes gan osgoi'r taliadau'r dreth gyngor ychwanegol, rwy'n dychmygu nad hwn oedd y canlyniad yr oeddech chi wedi'i ragweld. Felly, yn fy meddwl i, Prif Weinidog, a gyda chwilfrydedd gwirioneddol, pam ydych chi mor gefnogol i'r ddeddfwriaeth wael hon na fydd yn amlwg iawn yn cyflawni ei nodau datganedig? Diolch.

14:25

Wel, wrth gwrs rwy'n cefnogi'r rheoliadau a gafodd eu trafod ar lawr y Senedd hon ar gynnig i ddirymu, a chafodd y cynnig hwnnw ei drechu, felly rwy'n cyflawni polisi'r Senedd etholedig yma yng Nghymru. Nid ydw i'n cytuno â'r Aelod; rwy'n credu y caiff y polisi nifer o lwyddiannau pwysig iawn. I ddechrau, nid ydw i mor besimistaidd â'r Aelod ynghylch cyflwr y sector. Dangosodd yr arolwg galwedigaethau twristiaeth fod defnydd cyfartalog o eiddo hunanarlwyo yng Nghymru yn fwy na 50 y cant dros y tair blynedd cyn y pandemig. Mae llawer o weithredwyr ym mhob rhan o Gymru eisoes yn bodloni'r meini prawf newydd. Lle nad yw busnesau'n bodloni'r meini prawf newydd, bydd cymhelliant nawr ar gyfer cynyddu defnydd yr eiddo nad yw'n cael eu defnyddio'n ddigonol. Bydd hefyd yn cael effaith ar gystadleuaeth annheg, lle mae gosod achlysurol neu dros dro yn cael effaith ar fusnesau dilys, ac rwy'n credu y gallai'r Aelod fod wedi colli'r ffaith bod y Gweinidog wedi gwrando ar y ddadl, wedi gwneud newidiadau i sut y mae eiddo, megis ar ffermydd, nad oes modd ei osod drwy gydol y flwyddyn oherwydd cyfyngiadau cynllunio, yn cael ei drin. Mae hwn yn bolisi sydd wedi'i gynllunio i sicrhau bod busnesau dilys yn gallu manteisio ar ryddhad ardrethi busnesau bach. Nid yw pobl nad ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy yn mynd i'r wal; yn syml, mae'n rhaid iddyn nhw dalu'r dreth gyngor, fel pawb arall, ac mae hynny'n ymddangos i mi'n deg i bawb sy'n ymwneud â'r sector hwn.

Pensiynau Cyn-weithwyr Allied Steel and Wire

8. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch effaith cynllun cymorth ariannol Llywodraeth y DU ar gyn-weithwyr Allied Steel and Wire yng Nghaerdydd a'u pensiynau? OQ59393

Llywydd, rwyf i wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i wella'r cynllun cymorth ariannol a chynyddu ei chymorth ariannol a'i gwmpas. Mae hwn yn fater a gedwir yn ôl, ac rwy'n siomedig bod Llywodraeth y DU yn methu â sicrhau'r cyfiawnder pensiynau y mae'r gweithwyr hyn yn ei haeddu. 

Diolch yn fawr am eich ateb, Prif Weinidog, ac am eich cefnogaeth i'r gweithwyr. 

Mae 22 mlynedd wedi mynd heibio ers i'r cyn-weithwyr gael eu hamddifadu o'r pensiynau a oedd wedi'u hawdurdodi iddyn nhw. Roedd 140,000 o ddioddefwyr pensiwn yn y cynllun cymorth ariannol. Yn anffodus, mae 25,000 eisoes wedi marw. Bu farw llawer, fel Johnny Jones, cyn-weithiwr ASW a fu farw yn gynharach eleni, yn poeni na fyddai ei bartner yn gallu goroesi ar bensiwn llawer llai na'r hyn yr oedd wedi talu amdano'n ffyddiog yn ystod ei fywyd gwaith. Fel y gwyddoch chi, y prif fater yw nad yw'r pensiwn nawr, yn wahanol i'r cynllun gwreiddiol, wedi'i ddiogelu rhag chwyddiant, sy'n golygu eu bod yn derbyn tua thraean o'r hyn yr oedden nhw wedi'i ddisgwyl yn wreiddiol ac wedi cynllunio ar ei gyfer. Mae'r ymgyrchwyr yn feirniadol iawn o'r diffyg ymgysylltu â Llywodraeth bresennol y DU. Ysgrifennodd nifer ohonyn nhw at arweinydd yr wrthblaid fis Medi diwethaf, ond nid ydyn nhw eto wedi derbyn ateb. A yw'r Prif Weinidog wedi codi'r mater hwn gyda Syr Keir Starmer, ac a all warantu rhywfaint o chwarae teg i weithwyr ASW o dan Lywodraeth Lafur y dyfodol? Diolch yn fawr.

Wel, Llywydd, wrth gwrs fy mod i'n ymwybodol iawn o'r ymgyrch barhaus. Bydd llawer o Aelodau yma wedi derbyn y bwletin diweddaraf y mae John Benson, yr ymgyrchydd hirdymor hwnnw ar ran gweithwyr ASW, wedi anfon at yr holl Aelodau yma. Ac mae'n gwneud y pwynt, fel y mae wedi gwneud hynny'n aml, nad rhodd yw'r pensiynau hyn; maen nhw'n gyflogau gohiriedig. Cafodd y cyfraniadau eu gwneud yn ddidwyll gan weithwyr ASW, gan ddisgwyl y bydden nhw'n ddiogel ar ôl ymddeol.

Wrth ateb fy llythyr diwethaf, dywedodd Gweinidog y DU yn yr Adran Gwaith a Phensiynau wrthyf i fod y Llywodraeth yn fodlon â'r drefn bresennol i ddiogelu pensiynau. Wel, nid ydw i'n credu bod Aelodau yn y Siambr hon yn fodlon, pan fyddwch chi'n clywed am yr achosion y mae ein cyd-Aelod wedi'u hamlinellu y prynhawn yma. Rwy'n atgoffa'r Aelodau mai Llywodraeth Lafur a gyflwynodd y cynllun cymorth ariannol yn y lle cyntaf yn 2004, a'r gronfa diogelu pensiynau yn 2005. Ac rwy'n siŵr, ynghyd â rhestr hir iawn o bethau eraill y bydd angen eu cywiro gan y Llywodraeth Lafur nesaf, bydd tynged gweithwyr ASW, ac eraill tebyg iddyn nhw, ym meddyliau fy nghyd-weithwyr yn San Steffan wrth iddyn nhw baratoi, fel yr wyf i'n gobeithio y byddan nhw, ar gyfer Llywodraethu. 

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Mae tri newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, mae'r datganiad ar ffyniant bro a ffyniant gyffredin wedi cael ei symud yn ddiweddarach ar agenda heddiw. Yn ail, bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar arferion mabwysiadu hanesyddol. Ac yn olaf, mae'r amser sydd wedi'i ddyrannu i Orchymyn (Hepgor) Contractau Adeiladu (Cymru) 2023 wedi'i leihau i bum munud. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Gogledd o ran dyrchafiad Wrecsam i'r gynghrair bêl-droed, a'r mesurau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod yr ardal gyfan yn cael hwb ar draws chwaraeon, twristiaeth a'r economi, wrth gwrs. Gweinidog, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam yn haeddu llongyfarchiadau mawr ar eu llwyddiant gwych yn ennill teitl y penwythnos diwethaf. Mae'r chwaraewyr a'r staff, wrth gwrs, yn ysgrifennu pennod newydd yn hanes y clwb, ond nid ar y cae yn unig mae Wrecsam yn cymryd y camau hynny ymlaen; nid yn unig y mae buddsoddiad trawsnewidiol a chefnogaeth Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi rhoi'r tîm yn ôl yn y gynghrair bêl-droed, ond maen nhw wedi adfywio dinas Wrecsam a'r gogledd yn gyffredinol.

Byddwch chi'n gwybod, Gweinidog, drwy wrando o amgylch y stadiwm yn unig, bod y canolbwyntio byd-eang yn ddigynsail—ymwelwyr o bob cwr o'r byd yn ymweld â'r ddinas fel erioed o'r blaen, yn enwedig o'r Unol Daleithiau a Chanada. Ac mae'r holl ymwelwyr hyn o dramor yn chwarae rhan hynod gadarnhaol y mae mawr ei hangen yn creu swyddi a'r twf economaidd a fydd yn dilyn yn y gadwyn gyflenwi. Yn sicr, rwy'n gobeithio fel chi, y manteisir yn frwd ar y cyfle yma ar gyfer pobl dda Wrecsam a'r gogledd. Felly, datganiad, Gweinidog, gennych chi am y gwaith da yr wyf i'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau'r hwb i chwaraeon, y gogledd a thwristiaeth.

Ble i ddechrau? Yn sicr nid pedwar o'r gloch y bore ddydd Sul. [Chwerthin.] Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn, yn amlwg. Ni allaf i ddianc heb ddweud rhywbeth gwych iawn am fy nhîm pêl-droed gwych o Wrecsam. Mae hi'n 15 mlynedd ers i mi fod draw yn Henffordd pan aethom ni allan o'r gynghrair, ac mae dychwelyd ar ôl 15 mlynedd yn gamp anhygoel. Mae Phil Parkinson wedi gwneud rhywbeth yr oedd ychydig iawn o reolwyr o'i flaen yn gallu ei wneud. Ond rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn am yr effaith economaidd ar fy etholaeth, ac, yn amlwg, fel Aelod y Senedd dros Wrecsam, rwy'n ofalus iawn i rannu'r ddau beth. 

Yn amlwg, mae'r diddordeb byd-eang yn anhygoel. Nid oes modd ei brynu, nac oes? Ac mae bod â'r cyd-gadeiryddion sydd gennym ni, rwy'n credu, yn dangos y gefnogaeth—i mi, dyna beth yw diben pêl-droed. Ac mae'r ymrwymiad maen nhw'n ei ddangos i'r clwb yn eithriadol, o na byddai mwy o glybiau pêl-droed yn cael eu rhedeg felly. Ac, yn sicr, rydyn ni wedi cael ein perchnogion gwael iawn yn Wrecsam, ac rwy'n credu bod Wrecsam nawr yn ymhyfrydu'n haeddiannol yng nghlod a bri yr holl beth. Ond, rwy'n meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ymrwymiad mawr i Borth Wrecsam yn amlwg—wrth gwrs, mae stadiwm y Cae Ras yn rhan o'r porth hwnnw—drwy roi £25 miliwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac maen nhw'n amlwg yn ystyried sut byddan nhw'n rhannu'r £25 miliwn hwnnw.

14:35

Gaf i ddatganiad ynghylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu banc cymunedol? Yn anffodus, dros yr wythnosau diwethaf, mae sawl tref yn fy rhanbarth i wedi cael ergyd wrth iddyn nhw glywed y newyddion bod eu banciau yn cau. Er enghraifft, mae'r banc olaf yn Llandeilo yn cau ym mis Mehefin. Ym mis Awst, mae banc Lloyds yn y Tymbl yn cau, sy'n golygu na fydd dim un banc ar agor yng nghwm Gwendraeth gyfan. Ac yn Ystradgynlais, sy'n gwasanaethau rhyw boblogaeth o 8,000 o bobl, mae'r banc yna'n cau—yr un olaf—ym mis Medi eleni.

Nawr, does dim amheuaeth bod ein ffordd ni o fancio wedi newid; dŷn ni i gyd—wel, y rhan fwyaf ohonom ni—yn bancio ar-lein erbyn hyn. Ond mae pobl oedrannus, pobl fregus, pobl sy'n berchnogion busnesau bach, mudiadau, ac yn y blaen, yn moyn gweld mwy o wasanaethau wyneb yn wyneb. Felly, ydych chi'n gallu rhoi diweddariad i fi ar y sefyllfa o ran sefydlu banc cymunedol Cymru—banc Cambria—ac oes yna ymrwymiad i sefydlu canghennau ohono fe yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru? Diolch yn fawr.

Diolch. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad ysgrifenedig y gwnaeth Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ei gyflwyno yn ôl ym mis Chwefror eleni, pan ymrwymodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o'r Senedd cyn toriad yr haf. Nid oes gennyf i unrhyw fanylion ar hynny, ond gallaf i sicrhau Aelodau y byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni cyn toriad yr haf.

Rydyn ni'n mynd i fynd o uchafbwyntiau llwyddiant Wrecsam i siart gyflawni wahanol iawn, yn anffodus, yr oedd fy etholaeth i yn rhan ohoni dros gyfnod y toriad. Mae'n siart bryderus iawn, yn seiliedig ar ddata wedi'i ddarparu gan Dŵr Cymru, sydd ar gael i'r cyhoedd, ond a gafodd ei allosod wedyn gan Surfers Against Sewage, ac eraill, a edrychodd ar y nifer o ollyngiadau i afonydd ar draws y DU, gan gynnwys yma yng Nghymru, a hefyd gwnaethon nhw allosod wedyn beth oedd y gollyngiadau hynny'n ei olygu o ran nifer o ddyddiau, nifer o oriau. Rydyn ni'n sôn am un ollyngfa garthffosiaeth gyfunol lle y gwnaethon nhw allosod y gallai fod dros 320 diwrnod o garthion amrwd yn dod i mewn i un o'n hafonydd. Nawr, mae gennym ni rai o'r afonydd harddaf a bioamrywiol yn fy etholaeth i—afonydd Ewenni, Llynfi, Afon Ogwr, ac afonydd Garw Fechan—yn dod i mewn i, pob un yn llifo i mewn i Afon Ogwr, wrth iddi fynd allan i'r môr yn Aberogwr. Rwyf i wedi cyfarfod â Dŵr Cymru y bore yma, rydw i'n mynd i gyfarfod â nhw wedyn, ynghyd â Chris Elmore AS, i drafod hyn yn fanwl, a hynny ynghylch pob un biblinell. Ond un o'r heriau yma yw ei fod wedi cael ei adrodd ar wefan Top of the Poops yma—[Torri ar draws.] Ie, yn wir. Mae wedi cael ei adrodd fel ffaith, union allosodiad y data, ac nid ydw i'n glir fy hun a yw'r data hwnnw'n hollol ddibynadwy ai peidio. Felly, tybed, a gawn ni ddatganiad sydd wir yn egluro, nid yn unig y data sydd ar gael yn gyhoeddus, ond beth mae hynny'n ei olygu o ran oriau a dyddiau o ollyngiadau mewn afonydd unigol? Oherwydd fel arall, mae'r cyhoedd yn mynd i ddrysu'n lân. Ond y ffaith syml yw: mae angen i ni ddatrys hyn hefyd.

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud y peth hollol iawn trwy gyfarfod â Dŵr Cymru. A byddwch yn gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn, ac mae ganddo dasglu. Felly, o ran eich cais penodol am y datganiad, rydyn ni'n cynnig datganiad ysgrifenedig ar waith y tasglu—mae'n debyg y bydd tua diwedd y tymor hwn, ychydig cyn toriad yr haf, oherwydd byddai hynny 12 mis ar ôl cyhoeddi'r cynllun gweithredu gorlifoedd storm. Felly, mae'n debyg mai dyna fyddai'r amser gorau bryd hynny i ymdrin â'ch ymholiad, ond yn sicr, gwnaf i sicrhau fy mod i'n tynnu sylw'r Gweinidog Newid Hinsawdd at hwn. Fel y dywedais i, rwy'n siŵr y gall ei gynnwys yn y datganiad arfaethedig hwnnw, cyn toriad yr haf.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am fesurau diogelwch ar fysiau? Y rheswm am hyn yw oherwydd roedd etholwr i mi, 82 oed, yn teithio ar fws i'r Coed Duon yn ddiweddar pan yr oedd rhaid i'r gyrrwr gyflawni stop argyfwng oherwydd bod gyrrwr arall yn gyrru'n wael. Roedd fy etholwr yn eistedd ar y sedd ddwbl gyntaf ar flaen y bws, ac fe gafodd ei thaflu allan o'i sedd o ganlyniad i'r stop argyfwng. Gwnaeth hi lithro ar hyd y llawr cyn bwrw ei phen ar flaen y bws, gan dorri asgwrn yn ei gwddf. Mae hi'n gwella gartref ar hyn o bryd, ar ôl aros yn Ysbyty'r Faenor am wyth diwrnod. Mae pawb oedd yn rhan o'r digwyddiad, gan gynnwys fy etholwr, yn credu mai stop argyfwng oedd y cam cywir ar ran y gyrrwr. Fodd bynnag, mae'r digwyddiad hwn wedi tynnu sylw at bryder mawr am ddiogelwch gyda'r ddwy sedd ddwbl gyntaf ar flaen y bws. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi pe bai'r Dirprwy Weinidog yn gallu gwneud datganiad ynghylch sut mae'n gweithio gyda gweithredwyr bysiau i sicrhau bod mesurau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith i atal achosion ofnadwy fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

14:40

Diolch. Mae'n ddrwg iawn gennyf i glywed am eich etholwr ac rwy'n gobeithio ei bod hi'n gwella'n iawn gartref. Ac, rwy'n credu, yn amlwg, bod y profiad a gafodd hi yn rhywbeth rwy'n sicr bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ymwybodol ohono, ond yn sicr, gwnaf i ofyn iddo os yw'n gwneud unrhyw waith gyda gwasanaethau bws. Roeddwn i ar fws yng Nghaerdydd neithiwr, ac roedd nifer o bobl yn sefyll, ac roeddwn i'n ymwybodol iawn, wrth i'r bws arafu, nad oedd pobl efallai yn y mannau mwyaf diogel. Felly, rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth mae gwasanaethau bws yn ei ystyried yn ofalus.

Trefnydd, byddwn i hefyd yn croesawu datganiad gan y Llywodraeth yn ymwneud â llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam dros y penwythnos. Roedd hi'n gêm ryfeddol. Rwy'n gwybod eich bod chi'n bresennol. Roeddwn i'n bresennol. Miloedd lawer—. Gwnaeth dros 10,000 o gefnogwyr ymddwyn yn berffaith bob amser, ac yn yr un modd y chwaraewyr, a dylai clod arbennig fynd i ymddiriedolaeth bêl-droed Wrecsam. Trefnydd, ychydig iawn o bwerau sydd gennym ni o ran creu unrhyw wyliau banc i gydnabod llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam, ond efallai gallem ni sicrhau eu bod yn derbyn gwobr Dewi Sant y flwyddyn nesaf i nodi'r llwyddiant. A byddwn i'n croesawu diweddariad chwarterol ar gynnydd Porth Wrecsam, y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £25 miliwn ynddo, yn ogystal ag unrhyw syniad o sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi Wrecsam i ddathlu dyrchafiad ei thîm pêl-droed gwych.

Diolch, Ken. Rwy'n gwybod eich bod chi hefyd yn bresennol. Nid ydw i'n gwybod a ydych chi wedi cael y briff fel AS yr ydw i wedi'i gael heddiw, i ddweud na fu unrhyw arestiadau o gwbl. Felly rwy'n credu bod Heddlu Gogledd Cymru'n falch iawn o hynny, ac yn sicr, rwy'n falch iawn o hynny, ac rwy'n siŵr y bydd Ken hefyd, achos pan fo gennych chi 10,000 o bobl roedd yn llawenydd pur ac mae'n wych nad oedd unrhyw drafferth yn dilyn hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n dda hefyd i dalu teyrnged i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, er fy mod i'n datgan buddiant, yr oeddwn i'n gyfarwyddwr ar y bwrdd cyn cael fy ethol i'r lle hwn. Oherwydd heb yr ymddiriedaeth honno ni fyddem ni wedi cael clwb pêl-droed; mae'n amlwg iawn. Ac mae'r dathliadau sy'n digwydd nawr, rwy'n credu, yn cydnabod y cefnogwyr hynny sy'n cynnig eu hunain ymlaen fel rhan o'r ymddiriedolaeth. 

Rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynglŷn â gwobrau Dewi Sant—. Dim ond nos Iau ddiwethaf, roeddwn i'n falch iawn o fod yno gyda chyd-Weinidogion eraill i gefnogi'r Prif Weinidog yn ei seremoni gwobrau Dewi Sant blynyddol. Ac yn sicr mae gwobr chwaraeon bob blwyddyn, ac i fod yn blwmp ac yn blaen, yn sicr, byddaf i'n cynnig Clwb Pêl-droed Wrecsam ar gyfer y wobr honno. Mae'r pwynt am Borth Wrecsam yn bwysig iawn, oherwydd nid y clwb pêl-droed yn unig sy'n bwysig; mae'n ymwneud â chael gemau rhyngwladol yn ôl i Wrecsam. Byddem ni wrth ein bodd yn gweld ein tîm pêl-droed cenedlaethol, sydd, wrth gwrs, wedi gwneud mor dda. A gaf i gyfarch rhywun yn sydyn? Cafodd Merched Clwb Pêl-droed Wrecsam hefyd eu dyrchafu dair wythnos yn ôl.

Rwy'n teimlo er mwyn cydbwysedd, y dylwn i ddweud bod timau pêl-droed eraill ar gael. [Chwerthin.]

Ac efallai y gwnaf i wneud sylw ar Dref Aberystwyth ddydd Sadwrn, yn sicrhau eu bod yn osgoi cael eu diraddio o uwch gynghrair Cymru hefyd. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw. Nawr, pa dîm pêl-droed hoffech chi sôn amdano, Janet Finch-Saunders?

Hoffwn i gael datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ddyfodol y gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol rhwng Llandudno a Maes Awyr Manceinion. Bydd nifer y teithiau dros nos sy'n cael eu gwneud i'n tref ogoneddus yn cynyddu o 440,289 yn 2018 i 561,339. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni hyn mae angen i ni o leiaf gynnal y ddarpariaeth bresennol. Mae Llandudno yn ganolfan dwristiaeth fawr iawn yn y gogledd, ac fe gawsom ni—rwy'n credu, yr wythnos diwethaf—rhwng naw a 10 trên y dydd yn mynd yn uniongyrchol o Landudno ei hun i Fanceinion. Mae'r cyhoeddiad hwn wedi'i wneud nawr, sef y bydd yn rhaid i chi gael trên o Landudno i Gyffordd Llandudno ac yna o Gyffordd Llandudno i Fanceinion. Mae'n nonsens ein bod ni'n gweld gwasanaethau sydd wedi cael eu gweithredu gan y Dirprwy Weinidog trafnidiaeth hwn yn diflannu. Felly, mae'n debyg, mewn gwirionedd, bod angen i ni ofyn i ni'n hunain, y rhai sy'n cynrychioli'r gogledd, beth mae Llandudno wedi'i wneud o'i le o ran—. Dylem ni fod yn chwilio am fwy o ddarpariaeth trenau, yn sicr nid llai, ac yn sicr nid un lle mae gennyf i drigolion yn cyrraedd ein tref sy'n mynd i gael trafferth a dweud y gwir nawr, wrth orfod dal trên ychwanegol. Diolch. 

14:45

Diolch i chi. Wel, rwy'n cytuno yn llwyr fod Llandudno yn gyrchfan bwysig i dwristiaid yn y gogledd. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac felly'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn cael cwestiynau wythnos nesaf. Efallai y byddai hi'n werth codi hyn yn uniongyrchol gyda'r Dirprwy Weinidog. Ond un maes yr wyf yn gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn ceisio bwrw'r maen iddo yw cael mwy o seilwaith rheilffyrdd yn y gogledd, er mwyn i ni wella perfformiad y rheilffyrdd nid yn unig yn y gogledd ond ledled Cymru gyfan.

Prynhawn da, Trefnydd. Dim ond i gadw ein golygon ar filgwn, fel y gwyddoch chi, fe gawsom ni ddadl fywiog iawn yn y fan hon ynghylch gwahardd rasio milgwn, ac rwy'n ymwybodol eich bod chi'n bwriadu ymgynghori ar y mater penodol hwnnw. Felly, meddwl oeddwn i tybed, yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog materion gwledig, a allech chi roi diweddariad i ni ynglŷn â'r amserlenni sy'n gysylltiedig â'r ymgynghoriad a'r camau nesaf. Diolch i chi. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i chi. Nid oes gennyf i unrhyw wybodaeth arall eto ers i mi fod yn siarad yn y ddadl honno. Yr hyn a wnes i ymrwymo iddo bryd hynny, ac rwy'n ymrwymo iddo o hyd, yw mynd allan i ymgynghoriad eleni.

Gweinidog busnes, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Yn ddiweddar mae Llywodraeth y DU wedi dadorchuddio polisi newydd sy'n ceisio rhoi terfyn ar ddigartrefedd cyn-filwyr yn y DU. Diolch i'r Gwir Anrhydeddus Johnny Mercer AS, maen nhw wedi gwarantu arian i ariannu rhaglen newydd i roi diwedd ar hyn yn ein cymdeithas a sicrhau bod ein cyn-filwyr mwyaf agored i niwed yn cael gofal priodol. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog i amlinellu sut mae'r Llywodraeth Cymru hon yn gweithio gyda Chomisiynydd y Cyn-filwyr a Llywodraeth y DU i sicrhau mai Cymru yw'r wlad orau i fod yn gyn-filwr ynddi. Mae'r rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth i'n gwlad yn haeddu ein cefnogaeth, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, Gweinidog, ei bod hi'n hanfodol bwysig bod Llywodraethau datganoledig yn gweithio gyda Llywodraeth y DU yn hyn o beth.

Diolch i chi. Wel, rwy'n credu ein bod ni eisoes ar flaen y gad, mewn gwirionedd, yng Nghymru yn hynny o beth, ac rwy'n credu ein bod ni'n cynnig rhaglen i bob cyn-filwr o ran hynny eisoes.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl, neu'r diffyg ysbyty cymunedol i ogledd sir Ddinbych yn y dref honno, gan ei fod yn rhan o Ysbyty Brenhinol Alexandra? Fe gefais i'r pleser o ymweld yno dros doriad y Pasg yr wythnos diwethaf, yn fy etholaeth i. Fe gefais i fynd o amgylch yr ysbyty a gweld yr angen sydd yno am adeiladu cyfleusterau newydd. Ac yn rhan o'r cynlluniau, ddegawd yn ôl erbyn hyn, y maen nhw wedi bod yn aros amdanyn nhw hefyd yw rhywfaint o waith adfer, oherwydd mae'r ysbyty yn dyddio i ddiwedd y 1800au ac mae rhan ohono wedi cychwyn dadfeilio, yn enwedig felly'r islawr. Felly, roedd rhywfaint o'r arian hwnnw a neilltuwyd ar gyfer ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn cael ei wario ar y gwaith atgyweirio a'r gwaith pwysig o adfer hen adeilad i'w hen ogoniant, os hoffech chi. A'r gwir amdani yw ein bod ni wedi bod yn aros cymaint o amser i hyn ddigwydd. Roeddem ni mewn sefyllfa, yn ôl yn 2018-19, lle roeddem ni'n credu bod hynny ar ddigwydd. Fe gawsom ni weld y cynlluniau, ac fe welais innau nhw pan oeddwn i ar bwyllgor craffu partneriaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych, ac eto mae fy etholwyr i yn Y Rhyl a Phrestatyn yn dal i aros am weld rhaw yn y ddaear a dydyn nhw ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth weladwy o unrhyw gynnydd yn yr ystyr honno. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, yn manylu ar ba drafodaethau y cafodd hi gydag aelodau newydd y bwrdd ac, yn wir, gadeirydd newydd y bwrdd, a rhai o'r swyddogion gweithredol wrth wireddu'r syniad hwn er mwyn fy etholwyr i? Diolch i chi.

Diolch i chi. Wel, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd yn rheolaidd o ran ei chyfarfodydd hi gyda'r cadeirydd newydd ac aelodau annibynnol y bwrdd. Ac yn sicr, fe fyddaf i'n gofyn iddi hi a oes unrhyw beth i'w gael yn ychwanegol i'n diweddaru ar yr hyn sydd i ddod yn lle Ysbyty Brenhinol Alex, os gellir gwneud hynny ar yr un pryd.

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rhaglen Lifogydd 2023-24

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar raglen lifogydd 2023-24. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi cyhoeddiad y rhaglen i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer 2023-24. Mae'r rhaglen newydd o waith yn arddangos ein hymrwymiad ni i liniaru llifogydd a pherygl erydu arfordirol yng Nghymru. Rydym ni'n parhau i ddarparu'r cyfraddau uchaf erioed o gyllid i'n hawdurdodau ni sy'n ddiwyd yn rheoli risg er gwaethaf y pwysau anhygoel ar adnoddau'r sector cyhoeddus ar hyn o bryd.

14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Yn ein rhaglen lywodraethu, fe wnaethom ni osod nod uchelgeisiol i ni ein hunain i gynnig mwy o ddiogelwch rhag llifogydd i fwy na 45,000 o gartrefi yng Nghymru. Fe wnaethom ni ailadrodd yr ymrwymiad hwn yn ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, pan wnaethom ni addo:

'Buddsoddi mwy mewn rheoli a lliniaru llifogydd a chynllunio i ymateb i berygl cynyddol llifogydd.'

Ac nid oes unrhyw amheuaeth: mae angen y buddsoddiad hwn. Mae'r adroddiadau diweddar gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd a Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi ailddatgan yr angen am fuddsoddiad parhaus mewn lliniaru, addasu a gwydnwch i ymateb i heriau cynhesu byd-eang.

Ar ddechrau cyfnod y Llywodraeth hon, fe wnaethom ni ymrwymo i ddyraniad tair blynedd o £214 miliwn. Y llynedd, darparwyd dros £71 miliwn o gyllid i awdurdodau rheoli risg, sef ein gwariant mwyaf erioed, ar raglen llifogydd, ar y pryd. Eleni, fe aethom ymhellach eto ac fe fyddwn ni'n darparu mwy na £75 miliwn. Addawodd y Llywodraeth hon lefelau parhaus o fuddsoddiad. Rydym ni'n cadw'r addewid hwnnw, a mwy na hynny.

Yn anffodus, rhoddodd y gaeaf hwn enghraifft arall i ni o ba mor bwysig yw'r buddsoddiad parhaus hwn. Er na chawsom ni unrhyw storm ag enw arni yn effeithio ar Gymru'r gaeaf hwn, fe welsom ni gartrefi a chymunedau yn cael eu heffeithio gan lifogydd, serch hynny. Roedd y glaw trwm ar ddechrau mis Ionawr yn golygu bod rhai lleoliadau wedi gweld chwe wythnos o law mewn dim ond pythefnos. Mae newid hinsawdd yn achosi i'n tywydd fod yn fwy eithafol. Yn y dyfodol, mae'n rhaid i ni fod yn barod i wynebu hyrddiau hwy o law trwm yn fwy rheolaidd. Yn anffodus, profodd dros 80 o dai lifogydd ynghyd â thrafferthion trafnidiaeth sylweddol ar gyfer rhwydweithiau'r ffyrdd a'r rheilffyrdd yma. Rwy'n gwybod pa mor echrydus yw hi i gymunedau sy'n profi'r llifogydd ac, yn wir, mae fy meddyliau a'm cydymdeimlad gyda nhw wrth iddyn nhw lywio drwy ôl-effeithiau hynny.

Fe wyddom ni y byddai effaith llifogydd wedi bod yn waeth oni bai am ein rhwydwaith ni o amddiffynfeydd a gwaith diflino ein hawdurdodau rheoli risg. Dyna pam rydym ni'n parhau i ddarparu'r cyfraddau uchaf erioed o fuddsoddiad, i roi'r modd i'n hawdurdodau rheoli risg i adeiladu a chynnal y seilwaith yr ydym ni'n dibynnu arno i gadw ein cymunedau ni'n ddiogel rhag yr heriau a achosir gan newid hinsawdd. A, Dirprwy Lywydd, fe ddaw canlyniadau yn sgil ein buddsoddiad parhaus. Er enghraifft, mae ein hawdurdodau lleol gweithgar wedi cwblhau cynlluniau yn Llansannan, Y Fali, Aberdyfi a Phorthcawl, i enwi dim ond ychydig. Mae hyn dros ben nifer o weithiau bychain a ddarparwyd gan yr awdurdodau lleol ledled Cymru. Rydym ni'n amcangyfrif bod gwaith yr awdurdodau lleol, yn y flwyddyn ddiwethaf, wedi bod o fudd i dros 10,000 o dai, gan leihau'r risg i gartrefi a chymunedau boed yn bentrefi neu ddinasoedd, gan roi buddiannau ehangach i'r economi leol ar yr un pryd.

Yn y cyfamser, mae CNC hefyd wedi bod yn darparu cynlluniau ledled Cymru. Maen nhw wedi cwblhau cynllun gwerth £7 miliwn i ddiogelu'r gronfa yn Llyn Tegid ger y Bala, gan gynnal amddiffyniad rhag llifogydd i fwy na 800 eiddo. Cafodd mwy o waith diogelwch o ran cronfeydd dŵr ei gwblhau yn y Bont-faen ac yn Wydden ac fe fydd hwnnw'n rhoi amddiffyniad i 300 eiddo i gyd gyda'i gilydd. Mae CNC wedi cwblhau gwaith yn Llanfair Talhaearn hefyd, gan leihau'r risg o lifogydd i 33 eiddo mewn cymuned a gafodd ei ddinistrio gan lifogydd ym mis Chwefror 2020. Mae rhaglen graidd CNC wedi rhoi amddiffyniad rhag llifogydd i dros 1,000 o dai hefyd. Eleni, fe gyflawnwyd gwaith i gryfhau amddiffynfeydd presennol ledled Cymru, gan fod o fudd i leoedd fel Trefynwy, Gwynllŵg a Dinbych-y-pysgod.

Ac mae hi'n bwysig cofio nad yw ein buddsoddiad wedi ei gyfyngu i brosiectau adeiladu. Mae gan CNC gyfrifoldeb i rybuddio a hysbysu, a dyna pam maen nhw'n parhau i fuddsoddi mewn systemau modelu, telemetreg a rhybuddion llifogydd. At hynny, mae CNC yn parhau i ddatblygu prosiectau'r dyfodol mewn lleoedd fel Aberteifi a Phorthmadog, a strategaeth risg llifogydd ar gyfer Afon Taf. Fe fydd y gwersi a ddysgwyd gan storm Dennis yn 2020 yn dylanwadu yn fawr ar y strategaeth honno, ac fe fydd yn ein helpu ni i gynllunio a nodi unrhyw waith a fydd ei angen yn y dyfodol. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol hefyd i'n helpu ni i ddeall a chyfathrebu'r risgiau i'n cymunedau ni, gan eu gwneud nhw'n llawer mwy gwydn a pharod.

A'r math hwn, Dirprwy Lywydd, o gynllunio at y dyfodol sy'n hanfodol ar gyfer darparu rhaglen llifogydd effeithiol a chyflawni ein hymrwymiad i ddarparu mwy o ddiogelwch rhag llifogydd i fwy na 45,000 o gartrefi. Felly, rwy'n falch ein bod ni'n gallu rhoi, eleni, dros £75 miliwn i awdurdodau rheoli risg i leihau'r perygl sydd oherwydd llifogydd ac i'r arfordiroedd ar draws Cymru. O'r £75 miliwn hwnnw, mae £34 miliwn o gyllid cyfalaf wedi cael ei ddyrannu i'n hawdurdodau rheoli risg, ac fe gaiff hwnnw ei ddefnyddio i ddatblygu ac adeiladu cynlluniau rheoli perygl llifogydd ledled Cymru. Er enghraifft, eleni, fe fydd y gwaith adeiladu yn dechrau o ddifrif ar gynlluniau CNC ar raddfa fawr yn Rhydaman a Llyswyry yng Nghasnewydd. Fe fydd y cynllun yn Rhydaman yn cynnig mwy o ddiogelwch rhag llifogydd i 200 o dai. Yn y cyfamser, fe fydd y cynllun yn Llyswyry yn lleihau'r risg i dros 800 o dai, gan ei wneud yn un o'r cynlluniau mwyaf a adeiladwyd gan CNC erioed.

Yn ogystal â hynny, rydym ni'n rhoi £10 miliwn hefyd i awdurdodau lleol ar gyfer datblygu ac adeiladu cynlluniau newydd, gan gynnwys bron i £1.5 miliwn ar gyfer ddarparu mesurau gwytnwch tai rhag llifogydd i gymuned Dinas Powys, a gafodd ei dinistrio gan lifogydd yn 2020. Rwy'n falch hefyd o weld y galw parhaus am ein grantiau gwaith ar raddfa fechan ni, gyda £3.7 miliwn o gyllid yn cael ei roi i awdurdodau lleol er mwyn darparu datrysiadau i broblemau llifogydd lleol llai. Ac, yn unol â'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y Llywodraeth i ddarparu gwaith rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar fyd natur ym mhob un o brif ddalgylchoedd afonydd, rydym ni'n parhau i ymgorffori rheolaeth llifogydd naturiol yn rhan graidd o'r gwaith yr ydym ni'n ei gyflawni.

Rydym ni wedi dod â'n rhaglen beilot rheoli llifogydd naturiol tair blynedd i ben, a osododd gannoedd o fesurau naturiol yn eu lle dros 15 prosiect ledled Cymru. Er enghraifft, gosododd Cyngor Sir Powys 250 o argaeau sy'n gollwng dŵr ym mlaenau afon Tefeidiad yn unig. Mae rheoli llifogydd naturiol hefyd yn cael ei gynnwys yn ein rhaglen graidd ni ac, eleni, roedd 22 o brosiectau cyfalaf yn cynnwys mesurau rheoli llifogydd naturiol yn eu cynigion nhw. I gefnogi'r gwaith hwn ymhellach yn y byrdymor, rydym ni wedi agor rhaglen fuddsoddi newydd hefyd. Fe fydd y cynllun peilot buddsoddi hwn i gefn gwlad yn annog ac yn cefnogi rheoli llifogydd naturiol ymhellach dros y ddwy flynedd nesaf. Fe fydd yr hyn a fyddwn ni'n ei ddysgu o'r rhaglen hon yn cefnogi datblygu'r cynllun ffermio cynaliadwy hefyd.

Ond, Dirprwy Lywydd, nid prosiectau newydd yn unig sy'n bwysig. Eleni, rydym ni am roi dros £41 miliwn mewn cyllid refeniw, sy'n gynnydd cyffredinol o bron i £5 miliwn. Fe fydd awdurdodau rheoli risg yn defnyddio'r cronfeydd hyn i gynnal ein rhwydwaith sylweddol ni o amddiffynfeydd rhag llifogydd a pharhau â'u gwaith o godi ymwybyddiaeth, ymchwilio i lifogydd, rhybudd a hysbysu, a thalu costau staff. O'r refeniw hwn, fe fydd CNC yn cael £24.5 miliwn, cynnydd o £2 filiwn, tra bydd cyfanswm y dyraniad refeniw sydd ar gael i awdurdodau lleol yn codi i dros £5 miliwn hefyd. Mae hwn yn gam sylweddol i gyllid refeniw. Mae'n dilyn galwad ddiweddar gan ein pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer aneddiadau refeniw yn y tymor hwy, ac fe fydd yn galluogi dull mwy hirdymor o gynnal a chadw asedau llifogydd, staffio a'r holl waith arall sy'n cael ei ariannu gan refeniw.

Dirprwy Lywydd, bydd dadansoddiad llawn a map eleni o raglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan. Yn ogystal â hynny, rydym ni'n llunio map rhyngweithiol ar ein gwefan, MapDataCymru, pe byddai'r cyhoedd ac Aelodau'r Senedd yn dymuno craffu yn fanylach ar y rhaglen. Unwaith eto, rydym ni'n rhoi'r cyfraddau mwyaf erioed o gyllid i'n hawdurdodau rheoli risg wrth i ni barhau i ymdrechu i gadw ein cymunedau ni'n ddiogel rhag y perygl cynyddol oherwydd newid hinsawdd. Diolch.

14:55

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n credu mai da o beth bob amser yw dechrau gyda'r hyn sy'n gadarnhaol—mewn gwirionedd, mae sawl peth cadarnhaol yma. Rydym ni'n croesawu sawl pwynt heddiw, gan gynnwys y ffaith eich bod chi am ddarparu £75 miliwn o gyllid i awdurdodau rheoli risg, bod 22 o brosiectau cyfalaf yn cynnwys mesurau naturiol i reoli llifogydd yn eu cynigion nhw a'ch bod chi'n buddsoddi i helpu gyda'r sefyllfa o ran staffio. Fe wyddom ni, ym mis Rhagfyr, fod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad a oedd yn canfod bod prinder staff mor ddifrifol mewn awdurdodau lleol fel bod un awdurdod yn methu â chyflwyno ceisiadau am arian ar gyfer cynlluniau rheoli risg llifogydd nac am arian refeniw oherwydd bod ganddyn nhw swyddi gwag a oedd heb eu llenwi. Fel mae'r archwilydd wedi canfod, yn y byrdymor, diffyg gweithlu yw'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r sector llifogydd. Roedd adolygiad y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol o adnoddau yn egluro canlyniadau gweithlu annigonol, ac mae'r rhain yn cynnwys diffyg ymgysylltiad digonol ac ystyrlon â chymunedau; diffyg amser i awdurdodau rheoli risg gydweithio yn effeithiol â'i gilydd ac â sectorau eraill; cynnydd araf yn natblygiad sylfaen dystiolaeth o ran manteision y datrysiadau sydd ar sail naturiol, dulliau sy'n seiliedig ar ddalgylch a sut i addasu wrth ymateb i newid hinsawdd; a diffyg arloesedd a gweithio mewn partneriaeth i greu lles cymdeithasol ac economaidd ehangach, a sicrhau cyllid allanol ychwanegol ar gyfer cynlluniau rheoli risg llifogydd. Os ydych chi'n meddwl am y peth, mewn gwirionedd, economi ffals yw i awdurdod lleol beidio â llenwi'r swydd wag honno, oherwydd peth o'r arian y bydden nhw'n methu â manteisio arno.

Nawr, rwy'n credu bod y sector llifogydd yng Nghymru yn deall ei wendidau ei hun, ond mae ganddyn nhw brinder adnoddau dynol i ddatrys y problemau hyn. Cwestiwn 1, Gweinidog: rydych chi wedi egluro y bydd tua £41 miliwn yn cael ei roi mewn cyllid refeniw ac y gellir ei ddefnyddio i dalu costau staff. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod cyfleoedd yn bodoli ledled Cymru i unigolion gaffael y sgiliau y mae cymaint o angen amdanyn nhw ar ein hawdurdodau ni, oherwydd, pan welwch chi swyddi yn wag a heb eu llenwi, yn aml iawn nid yw sgiliau yn bresennol mewn maes arbennig? Fe wyddom ni fod un awdurdod wedi methu â gwneud cais am arian oherwydd swydd sy'n wag, felly a ydych chi wedi cysylltu gyda phob awdurdod rheoli risg yng Nghymru eich hun i sicrhau bod y swyddi hyn i gyd yn llawn er mwyn gallu gwneud ceisiadau pwysig? Yn ôl adolygiad a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhan o raglen ymchwil ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr, nid oes cyfeiriad strategol na dylanwad gan grwpiau llifogydd rhanbarthol yng Nghymru dros benderfyniadau rhanbarthol ehangach fel datblygu economaidd. Roedd yr adolygiad yn canfod bod yr aelodaeth heb aelodau o staff uwch ac yn aml nid oedd aelodau presennol yn gallu gwneud ymrwymiad corfforaethol. Ar ben hynny, nid oes fforwm ledled Cymru ar gyfer uwch arweinwyr i drafod rheoli risg llifogydd ac ysgogi newid strategol. Rydych chi wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynllunio i'r dyfodol ar gyfer darparu rhaglen llifogydd effeithiol, ond pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau perchnogaeth uwch o reoli risg llifogydd ar draws yr awdurdodau rheoli risg ac nad yw llifogydd yn cael eu trin mewn rhai ardaloedd fel blaenoriaeth is?

Fe wyddom ni fod yna ddarnau ar lan cyrsiau dŵr lle nad yw'r tirfeddiannwr torlannol yn hysbys i'r Gofrestrfa Tir, hyd yn oed. Fe welais i sefyllfa yn fy etholaeth i lle nad oedd y tirfeddianwyr torlannol eu hunain yn gwybod mai nhw oedd y tirfeddianwyr torlannol. Pan oedd gennym ni broblem arbennig mewn ardal, roedd y tirfeddiannwr ar un ochr yn ddigon hapus i wneud ei ran, ond wedyn roedd nifer fawr o berchnogion tai nad oedden nhw'n gwybod eu bod nhw'n dirfeddianwyr torlannol, ac roedd y rhain yn gofyn, 'Beth yw tirfeddiannwr torlannol?' Felly, sut allwn ni egluro hyn mewn gwirionedd, sef mai nhw sy'n gyfrifol am gyfran o'r tir ar lan yr afon?

Yn bryderus iawn, nid oes gan 61 y cant o rentwyr incwm isel yswiriant cynnwys cartref, ac ni fyddai 73 y cant o rentwyr incwm isel yn gallu talu bil annisgwyl o £500. Gweinidog, ni allwn ni orfodi pobl i dalu am yswiriant cartref, ond a oes yna obaith y gallech chi redeg, wn i ddim, ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol neu rywbeth o'r fath, oherwydd fe wn i ond yn rhy dda fod llawer gormod o etholwyr wedi colli pob dim yn y gorffennol, a phob tro mae hi'n glawio nawr maen nhw'n byw mewn ofn? Diolch i chi. 

15:00

Diolch i chi, Janet. Un o'r pethau rwyf i newydd ei gyhoeddi yw ein bod ni'n hapus iawn i grantiau gael eu defnyddio ar gyfer adnoddau staffio. Nid wyf i'n rhy siŵr beth rydych chi'n ei olygu pan ddywedwch chi nad oes cyfle i 'ddod at ein gilydd', oherwydd, yn sicr, mae Rebecca Evans a minnau'n cwrdd ag arweinwyr pob awdurdod lleol yng Nghymru yn rheolaidd iawn. Mae gennym agenda o bynciau treigl, ac yn sicr mae newid hinsawdd, y gallu i wrthsefyll newid hinsawdd, addasu i'r hinsawdd yn rhai o'r pynciau hynny. Felly, rwy'n credu bod fforwm ar gael i godi hynny, ac mae croeso mawr i unrhyw arweinydd awdurdod lleol neu brif weithredwr sy'n dod i'r cyfarfodydd hynny wneud felly. Mae gennym ni swyddogion yn cyfarfod hefyd gyda swyddogion yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ogystal â gyda phob awdurdod lleol. Felly, mae arnaf i ofn fy mod yn anghytuno â hynny. Rwyf i o'r farn bod pob cyfle ar gael i bobl sydd â materion o'r fath yna i'w codi.

Mae yna brinder sgiliau, yn ddiamau, ac rydym ni'n gweithio yn galed iawn i geisio sicrhau bod y rhaglenni hyfforddi cywir gennym ni yn eu lle; unwaith eto, mae cyllid drwy'r awdurdodau lleol yn ddefnyddiol iawn yn hynny o beth. Yn gyffredin â llawer o'r proffesiynau yn y sector cyhoeddus, mae agenda cyni wedi bod ag effaith fawr arnyn nhw, rwy'n ofni, felly mae'r rhaglenni hyfforddi a oedd yn arfer cael eu rhoi ar waith mewn awdurdodau lleol wedi cael eu heffeithio gan hynny, ac rydym ni'n gweithio yn galed iawn gyda nhw i geisio rhoi'r rhaglenni hyfforddi hynny ar waith unwaith eto.

Mae nifer o gynlluniau grantiau bychain ar gael hefyd i berchnogion torlannol ac eraill fanteisio arnyn nhw, a hefyd, wrth gwrs, rydym ni'n disgwyl i'r awdurdod rheoli risg perthnasol ystyried nifer y tai y gellir eu hamddiffyn gan unrhyw waith neu gynllun llifogydd naturiol penodol dan sylw. Os oes gennych chi fater penodol, efallai y gwnewch chi ysgrifennu ataf i a dweud wrthyf i ym mha le y mae hwnnw, ac fe allwn ni gael golwg arno.

Rwy'n glir iawn o ran bod hon yn rhaglen sydd wedi cael ei gwella yn sylweddol iawn, ac fe fydd yn rhoi llawer iawn mwy i awdurdodau lleol weithio gydag ef o ran gwydnwch a chynllunio dros y flwyddyn nesaf. Rwy'n eiddgar iawn i hynny weithio, oherwydd, fel chi, rwyf i wedi cwrdd â nifer fawr o bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd, ac mae'n beth cwbl ddinistriol. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu diogelu dros 10,000 o dai, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny gyda'r rhaglen hon.

Diolch, Gweinidog, am y datganiad hwn. Mae hyn mor bwysig, ond fe ddaw hi'n fwy hanfodol fyth i ni fynd i'r afael â'r peryglon i'n cymunedau a achosir gan newid hinsawdd wrth i'r frwydr fyd-eang yr ydym ni ynddi o ran yr argyfwng hinsawdd ddwysáu. Fe fydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd nawr yn penderfynu pa mor ddiogel yw ein cymunedau ni yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r rhaglen llifogydd hon yn gyfle sylweddol i ni newid pethau, amddiffyn, a blaenoriaethu diogelwch pobl a gwytnwch cynefinoedd yn y ffordd yr ydym ni'n byw. Felly, rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am ei hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r mater hwn ac am barhau i ddyrannu arian sylweddol tuag at y rhaglen llifogydd.

Fel roeddech chi'n dweud, roedd llawer o'r gwaith parhaus i fynd i'r afael ag effaith llifogydd yn bosibl drwy'r cytundeb cydweithio. Rwy'n awyddus i weld ein bod ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnoddau gan Gymru i ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli, ond ar y pwynt hwn, yn ogystal â chanmol Llywodraeth Cymru, rwyf i am gymeradwyo'r tîm y tu ôl i'r cytundeb cydweithio yn hyn i gyd, oherwydd nid oes llawer o faterion y gallaf i feddwl amdanyn nhw sy'n bwysicach na hyn i'n cymunedau ni, yn enwedig o ran y bobl sy'n cael eu heffeithio fwyaf.

Mae yna un agwedd yr hoffwn i bwyso arnoch chi'n arbennig i ddechrau, os gwelwch yn dda, Gweinidog. Pan ydym ni'n siarad am lifogydd, yn aml siarad yr ydym ni am adeiladau, am seilwaith, ffyrdd yn cau, pontydd na ellir eu croesi. Mae'r pethau hynny'n hynod bwysig—mae'r difrod sy'n cael ei wneud gan ddŵr i gartrefi pobl yn cael cymaint o effaith—ond nid yw hynny'n adrodd y stori i gyd. Oherwydd bod y staeniau mwyaf ystyfnig sy'n cael eu gadael pan fydd y dyfroedd yn cilio yn gallu bod yn rhai seicolegol. Fe all breuddwydion pobl fod yn llawn dŵr; mae'r syniadau hyn o ran yr hyn a fydd yn digwydd y tro nesaf y bydd hi'n glawio yn drwm yn creu panig iddyn nhw. Rwy'n poeni yn arbennig am y gost emosiynol ar blant sydd wedi gweld llifogydd yn eu cartrefi nhw. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi siarad am hyn o'r blaen pan godais i hyn yn y Senedd. Oherwydd ledled Cymru fe geir plant sy'n teimlo yn wirioneddol ofnus bob tro mae hi'n glawio drwm, achos maen nhw wedi bod drwy ryw fath o drawma.

Rwy'n pwyso ar y Llywodraeth i ddweud mwy wrthym ni, os gwelwch yn dda, o ran sut y gellir sicrhau bod y cyhoedd â hyder yn y mesurau i atal llifogydd. Sut bydd y rhaglen llifogydd yn sicrhau bod cymunedau yn rhan o'r broses o gynllunio a gweithredu'r mesurau hyn i liniaru risgiau llifogydd, ond o ran sicrhau bod yr ymdeimlad hwn o ddiogelwch ganddyn nhw hefyd? Felly, pe gallech chi ddweud mwy wrthym ynglŷn â hynny, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn, os gwelwch yn dda. At hynny, mae nifer o'm hetholwyr—ac, am wn i, etholwyr mewn rhanbarthau ledled Cymru—wedi codi pryderon ynglŷn ag arolygu mesurau atal llifogydd fel ceuffosydd, i sicrhau monitro effeithiol. Fe hoffwn ofyn i chi sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r pryderon hynny, os gwelwch yn dda.

Yn olaf, fe all codi amddiffyniadau rhag llifogydd fod yn achosi llawer o allyriadau carbon. Mae'n beth hanfodol, wrth gwrs—gan fy mod i'n gwybod eich bod chi wedi tynnu sylw at hyn hefyd—bod cyllid yn cael ei wario ar amddiffynfeydd llifogydd gwyrdd hefyd. Wrth i ni addasu'r ffordd yr ydym ni'n gweithio ac yn byw ynddi, fe fydd yn rhaid i effaith amgylcheddol popeth a wnawn ni fod yn ystyriaeth ganolog, felly sut mae'r Llywodraeth yn ystyried hyn o ran atal llifogydd, os gwelwch yn dda? Sut fyddwch chi'n sicrhau bod y rhaglen llifogydd yn cynnwys cyllid ar gyfer y mesurau atal ac amddiffyn gwyrdd wrth ymdrin â hyn o beth?

Mae'r rhaglen llifogydd hon yn rhoi cyfle tyngedfennol i newid pethau. Rwyf i am ailadrodd, os gwelwch yn dda, yr angen mawr am ystyriaeth sylweddol i effaith seicolegol llifogydd ar gymunedau ac unigolion, i fynd i'r afael â phryderon am wyliadwriaeth mesurau atal llifogydd, a buddsoddi mewn mesurau amddiffyn gwyrdd hefyd. Mae hwn yn ddarn sylweddol o waith, ac rwyf i wir yn cymeradwyo'r ffaith bod hwn wedi dod, unwaith eto, drwy Lywodraeth Cymru oherwydd y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Dyma un o'r pethau hynny a fydd, rwy'n gobeithio, yn newid ac yn gwella bywydau pobl ac yn grymuso gwydnwch ein cymunedau, felly rwyf i wir yn canmol yr hyn sy'n digwydd.

15:05

Diolch, Delyth. Rwy'n credu ei bod yn rhaglen i fod yn wirioneddol falch ohoni ac mae wedi bod yn rhagorol inni weithio gyda'n gilydd i roi'r rhaglen honno ar waith. Rydym ni wedi gweithio hefyd yn agos iawn gydag awdurdodau lleol, awdurdodau rheoli risg ledled Cymru, a gyda CNC, i roi'r rhaglen ar waith, ac yn amlwg, mae hi'n seiliedig ar farn arbenigol ynglŷn â lle mae'r angen mwyaf am y cynlluniau a'r mannau y byddan nhw â'r effaith fwyaf.

Rydym ni'n ymroddedig iawn, ac yn wir, rwy'n falch iawn fy mod wedi cyhoeddi'r cynllun peilot buddsoddiad i gefn gwlad, a fydd yn annog ac yn cefnogi rheolaeth naturiol o lifogydd dros y ddwy flynedd nesaf. Fe fyddwn ni'n gallu bwydo'r hyn a ddysgwn ni o hynny i mewn i'r cynllun ffermio cynaliadwy hefyd, felly fe fyddwn ni'n gallu lledaenu'r hyn a ddysgwn ni mewn gwirionedd. Rydych chi wedi fy nghlywed i'n pregethu am hyn o'r blaen, ond fe wnaf i hynny unwaith eto: mae'r cynllun llifogydd naturiol ar flaen afon Tawe wedi bod yn llwyr drawsnewidiol. Nid yn unig fod hwnnw'n amddiffyn Abertawe—yn etholaeth Mike Hedges y mae ef—a gwaelod cwm Tawe i gyd rhag llifogydd, a'r holl fannau poblog iawn sydd ar lan afon Tawe yno, gyda busnesau yn ogystal â chartrefi; mewn gwirionedd, mae cynnydd anferthol wedi bod o ran bioamrywiaeth. Mae'n hyfryd, os ewch chi i'w weld. Os ewch chi i'w weld pan fo llifogydd, mae'n fwy anhygoel fyth. Cors yw hi, yn y bôn, lle brwynog, gwlyptir, ac mae ganddi'r nifer fwyaf rhyfeddol o adar o bob math arni hi, yn ogystal â'i bod yn caniatáu i'r afon ollwng ei glannau mewn ffordd lawer fwy naturiol, gan ddiogelu'r holl anheddau a'r datblygiadau ar dir i lawr yr afon. Felly, fe allwch chi wir weld hynny ar waith yno.

Dyna yw ystyr rheolaeth llifogydd naturiol. Ond mae hyn hefyd yn ymwneud â chywiro rhai o gamgymeriadau'r gorffennol. Yn y gorffennol, rydym ni wedi ceisio rheoli afon trwy roi mesurau caled ar hyd ei glannau, ac mewn gwirionedd mae hynny'n gwneud i'r dŵr lifo yn gyflymach, ac mae'n dwyn cryn dipyn o'r bioamrywiaeth i ffwrdd, sy'n dibynnu ar welyau graean, afonydd troellog, ac yn y blaen, i fod yn wirioneddol fuddiol. Fe allai'r afonydd troellog hynny ymledu ychydig y tu draw i'w glannau arferol, ond nid ydyn nhw'n gwneud gyda llifeiriant aruthrol o ddŵr sydd wedi cael eu sianelu yn fwriadol i ardal lai o ran arwynebedd. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, rydym ni'n ailsefydlu afonydd troellog mewn gwirionedd, pan fu ceuffosydd arnyn nhw o'r blaen, am yr union reswm hwnnw: rydych chi'n taro ergyd ddwbl gyda'r hyn a wnewch chi. Bu'n rhaid i ni weithio yn agos iawn gyda'r tirfeddianwyr ar bob ochr i'r afonydd hynny—ffermwyr gan fwyaf. Mae hwn yn gynllun gwych—fe ddylech chi fynd i lawr i'w weld ef. Mae un ohonyn nhw yng Nghaerfyrddin, lle mae rhannau troellog yr afon wedi cael eu rhoi yn eu holau, unwaith eto, mae hynny wedi arwain at gynnydd enfawr mewn bioamrywiaeth. Mewn gwirionedd mae wedi caniatáu hefyd i anifeiliaid yfed mewn ffordd na allen nhw o'r blaen o afon â cheuffos, ar adegau o sychder. Ac, wrth gwrs, maen nhw wedi cael gwahanol gyfraddau o blannu coed a phethau eraill. Mewn rhai mannau, mae hi'n bwysig fod yna goed, mewn mannau eraill mae hi'n bwysig eu bod nhw'n cysgodi'r afon. Felly, mae hyn yn cael ei anelu yn benodol iawn. Mae'r rhaglenni hyn wir yn gweithio, ond maen nhw'n bethau i'r hirdymor, onid ydyn nhw, ac maen nhw'n darparu pethau eraill hefyd.

Gan droi at y mater ynghylch trawma pobl sydd wedi cael profiad o lifogydd, rwyf innau mewn gwirionedd wedi gweld hynny drosof fy hun yn uniongyrchol nifer o weithiau. Yn aml iawn, hyd yn oed os yw'r llifogydd wedi cael eu datrys, fe welwch chi farciau o hyd y tu allan i dai a siediau lle cyrhaeddodd lefel y dŵr. Mewn gwirionedd, fe ymwelodd y Dirprwy Lywydd a minnau ag un yn ei etholaeth ef—llifogydd dŵr mwynglawdd oedd hynny—lle'r oedd y marciau ar y waliau yn erchyll, onid oedden nhw, mewn gwirionedd, yn uwch na'ch pen chi, heb sôn am f'un i. Roeddech chi'n edrych i fyny a phrin y gallech chi gredu bod y dŵr yn cyrraedd y lefel honno. Effeithiwyd y bobl yno'n fawr iawn gan hyn, ond mewn gwirionedd, yn ddiddorol, ychydig iawn ohonyn nhw a wnaeth ofyn am ymadael. Yr hyn yr oedden nhw'n wir awyddus amdano oedd cymorth i'r gymuned allu dod at ei gilydd a mynd yn fwy gwydn. Roedden nhw'n dymuno cael cwnsela i rai o'r plant oedd yn cael hunllefau. Ac yna, yn benodol iawn, roedden nhw'n awyddus i fod ag amddiffyniadau. Roedden nhw'n dymuno gallu rhoi sicrwydd i'w plant na fyddai hynny'n digwydd eto. Mae cynllun peirianneg mawr a chynhwysfawr iawn—ychydig yn wahanol yn yr achos hwnnw, oherwydd llifogydd pwll glo oedd hyn—wedi cael ei roi ar waith yno i wneud hynny a rhoi sicrwydd i'r bobl yno eu bod nhw'n ddiogel.

Ac yna, fe geir llawer o'r materion eraill a gyhoeddais i heddiw, o ran rhybuddion llifogydd a gwydnwch CNC, yn ymwneud â sicrhau nad yw pobl yn teimlo yn ddiobaith yn wyneb bygythiad, ond mewn gwirionedd eu bod nhw'n deall yr hyn y gallan nhw eu hunain ei wneud i'w hamddiffyn eu hunain yn y ffordd orau, a'u heiddo nhw, yn wir, eu bywydau nhw a'u plant. Yn fy marn i, os rhowch chi'r gallu i bobl fel hyn, fod hynny'n gwneud iddyn nhw deimlo yn llawer llai diymadferth ac yn llawer llai tebygol o ddioddef poen meddwl. Mae hynny'n rhan fawr o'r rhaglen hon sef rhoi'r gallu i bobl yn yr ystyr bod ganddyn nhw rywbeth y gallan nhw eu hunain ei wneud i'w hamddiffyn eu hunain. Rhaglen hyfforddiant a gwydnwch yw hon, oherwydd fe fydd y math yna o wydnwch ac addasiadau yn mynd yn fwy angenrheidiol fyth wrth i ni wynebu'r argyfwng hinsawdd hwn. 

15:10

Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu datganiad heddiw yn fawr iawn. Oni bai ein bod ni'n canfod ffordd o newid y tywydd fel ein bod yn cael llai o law trwm, yna fe fydd problem llifogydd yn parhau. Mae cynhesu byd-eang wedi arwain at newid yn y tywydd yng Nghymru, o fod yn law mân cyson, ac rwy'n siŵr eich bod chi a'r Gweinidog yn cofio o ddyddiau ieuenctid, i'r hyn sydd gennym ni nawr, sef cyfnodau hir o sychder, a ddilynir gan law trwm iawn, sy'n achosi llifogydd. Roedd glaw trwm ar ddechrau Ionawr yn golygu bod rhai lleoliadau wedi gweld gwerth chwe wythnos o law mewn dim ond pythefnos. Nid yw hynny'n gynaliadwy. Fe geir barn mai'r cyfan y mae angen i chi ei wneud yw codi waliau uwch fyth eto. Nid wyf i'n cytuno â'r farn honno, ac rwy'n credu nad ydych chithau'r Gweinidog yn cytuno â hi ychwaith.

Mae gennyf i dri awgrym. Y cyntaf yw y dylid gofyn am ganiatâd cynllunio i gynnwys gerddi sydd â tharmac a deunydd arall nad yw'n amsugno. Mae llawer o'r problemau a gawn ni gyda llifogydd yn deillio o'r ffaith fod llawer o'r dŵr a arferai dreiddio i'r ddaear yn rhedeg oddi ar y ddaear erbyn hyn ac yn llifo i rywle arall. Yn ail, fe ddylid plannu mwy o goed a llwyni ar y bryniau a'r mynyddoedd. Ac yn drydydd, fod gorlifdir yn cael ei greu, fel sydd gennym ni yn Ynysforgan yn Abertawe, i ganiatáu i ddŵr lifo i rywle, ac fe soniodd y Gweinidog am hyn ychydig funudau yn ôl, a bod yr afonydd yn cael eu gwneud yn fwy troellog, neu beth bynnag yw'r gair cywir, fel maen nhw wedi gwneud hefyd gydag Afon Tawe yn Ynystawe ac Ynysforgan. O gofio adeg pan oeddem ni'n gweld rhywun yn gorfod cael cwch i ddod allan o lawr cyntaf tŷ ar Heol y Parc, mae sefyllfa gennym ni nawr lle nad oes llifogydd yn digwydd yno. Dyna waith da iawn, wir. Mae'n rhaid i'r dŵr fynd i rywle, ac mae'n well iddo lifo i ddarn o dir lle mae'n gallu bod o gymorth o ran bioamrywiaeth yn hytrach na llifo i mewn i dai pobl.

15:15

Ie wir, Mike. Rwy'n cytuno yn llwyr â hynny i gyd, ac fe glywsoch chi fi'n canmol rhinweddau Afon Tawe, ac rwy'n gwybod eich bod wedi fy nghlywed i'n gwneud hynny nifer o weithiau.

Mewn gwirionedd, fe geir gwaharddiad o ran palmantu'r ardd ffrynt, ond nid yn aml iawn y caiff hwnnw ei orfodi. Fe wyddoch chi fod ein cydweithiwr ni, Joyce Watson, wedi bod yn hyrwyddo hyn ers blynyddoedd lawer. Rwy'n ddigon hapus i ysgrifennu yn ôl allan eto—rwyf i wedi gwneud hynny nifer o weithiau—i awdurdodau cynllunio, i'w hatgoffa na ddylech chi balmantu eich gardd ffrynt mewn gwirionedd, ar gyfer parcio neu at ddibenion eraill, heb ganiatâd. Ac mae'r rheswm y dylech chi geisio caniatâd yw'r union beth yr ydych chi'n sôn—bod hynny'n cynyddu llif y dŵr fwyfwy, mewn gwirionedd, ac mae pobl yn aml yn palmantu dros y clwt o dir lle dylai'r dŵr sy'n llifo i lawr o'r to hydreiddio i mewn iddo i socian i ffwrdd, ac felly mae'r dŵr yn llifo dros yr iard ac i mewn i'r gwteri. Rydych chi'n gweld hynny, mewn gwirionedd, yn aml iawn mewn rhannau o Abertawe yn fy etholaeth i, ac rwy'n gwybod bod Joyce wedi siarad am hyn droeon yn ei hetholaeth hithau, ac fe fydd unrhyw un sy'n byw mewn ardal sydd â strydoedd teras ac mae lle i barcio yn brin yn gweld pobl yn gwneud hynny lle gallan nhw, ac mae hynny wir yn cynyddu rhediad y dŵr. Mae hynny'n digwydd ac yn amlwg iawn i'w weld, felly, felly fe fyddwn i'n hapus iawn i ysgrifennu yn ôl allan at awdurdodau cynllunio, gan eu hatgoffa nhw y gallan nhw gymryd camau gorfodi.

A'r peth arall i'w ddweud yw bod digon o ddewisiadau amgen ar gael. Mewn gwirionedd, fe allech chi wneud lle yn yr ardal flaen, fel gelwid hi yn fy ieuenctid, i'r tai teras hynny, ar gyfer parcio heb wneud y darn yn anhydraidd i ddŵr. Mae digon o arwynebau eraill ar gael sy'n caniatáu i ddŵr ddraenio trwyddo, ac mae hynny'n bwysig iawn. Mewn gwirionedd, mae'r gwasanaethau hynny'n caniatáu, felly, creu hafan ar gyfer bywyd gwyllt, ac ni allwch ddod o hyd i unrhyw fath o hafan ar arwynebau caled. Felly, fe fyddaf i'n gwneud hynny hefyd, Mike.

Ac wedyn, fe siaradais i eisoes am yr aildroelli, fel gelwir hynny. Mae gennym ni bedair afon yn mynd drwy'r broses honno ar hyn o bryd, am yr union resymau yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw. Ac yna'r peth olaf i'w ddweud yw bod gennym ni gwpl o brosiectau yng Nghymru lle—rydw i wedi anghofio'r hyn y caiff y rhain eu galw—rhoddwyd cors mawn ucheldirol yn ei hôl unwaith eto ym mlaen yr afon, ac mewn gwirionedd, mae hynny'n rhyfeddol o amsugnol hefyd. Felly, fe fydd y math cywir o blannu ar hyd yr afon, ac yn enwedig yn ei tharddle, yn amsugno llawer iawn o ddŵr, a fydd yn atal y llifogydd wedyn. Ond y gwir trist amdani yw ein bod ni'n edrych ar batrwm hinsawdd a fydd yn wahanol iawn. Roedd yr haf diwethaf hwn yn enghraifft dda iawn, lle sychodd y tir yn llwyr, ac yna pan fydd hi'n glawio ni all y tir amsugno'r dŵr, felly mae'n rhedeg i ffwrdd mewn llifeiriant cryfach fyth. Bydd llawer o bobl yn gorfod newid llawer o arferion ar draws llawer, llawer o wahanol sectorau yn ein cymdeithas ni ar gyfer darparu at hynny.

Diolch i chi, Gweinidog, am ddatganiad cadarnhaol iawn mewn rhai agweddau, a chalondid i'r lleoliadau hynny y gwnaethoch chi eu crybwyll yn eich datganiad. Yn anffodus, ni chafwyd cymaint o galondid i'r cei yng Nghaerfyrddin a rhannau eraill o dref Caerfyrddin, nad ydyn nhw'n cael eu crybwyll yn eich datganiad chi heddiw. Dim ond yn y mis diwethaf, fe aeth Afon Tywi dros ei glannau unwaith eto, ac roedd y perchnogion busnes a'r staff hynny'n cael eu dal yn pryderu wrth holi a fyddai'r afon yn llifo i mewn i'w hadeiladau nhw. Nawr, mae cyfarfodydd wedi bod gyda CNC, bu cyfarfodydd gyda Chyngor Sir Gâr, a wnewch chi ddweud wrthyf i a chynnig rhywfaint o dawelwch meddwl i berchnogion y busnesau hynny sydd ar y cei beth arall y gellir ei wneud, beth arall y gallan nhw ei wneud, i gyflwyno achos dros yr angen am amddiffynfeydd llifogydd, naill ai ar lan y cei ei hun neu ymhellach i fyny'r afon yn nyffryn Tywi ei hun? Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.

Gwnaf, yn sicr. Diolch am hynna. Fe geir nifer o gynlluniau yng Nghaerfyrddin. Fe fyddwn i'n awgrymu eich bod chi'n edrych ar y wefan i weld pob un ohonyn nhw. Mae gennyf i restr yn y fan yma, ond rwy'n ceisio eu darllen nhw wysg fy ochr, yn anffodus. Y ffordd y mae hynny'n gweithio, yn y bôn, yw bod yr awdurdod rheoli risg yn cyflwyno ei gynlluniau sy'n flaenoriaeth i'w ardal, yr hyn y gall ei reoli'r flwyddyn honno, o ran capasiti ac o ran angen, am wn i—yr angen mwyaf. Ac rydym ni'n cymryd cyngor yr awdurdod rheoli risg i raddau helaeth iawn o ran yr hyn yr ydyn ni'n ei orlifo. Sgwrs yw honno rhwng fy swyddogion i, CNC, a'r awdurdod lleol. Felly, os oes gennych chi fusnesau yn yr amgylchiadau hynny ac nad yw'r cynllun wedi cael ei gynnwys hyd yn hyn, yna rwy'n awgrymu eu bod nhw mewn gwirionedd yn lobïo eu cyngor lleol ynghylch yr angen i gyflymu eu cynllun penodol nhw a faint o eiddo y byddai hynny'n ei amddiffyn. Mae hynny ar sail cost a nifer yr adeiladau a fyddai'n cael eu hamddiffyn am y gost, i bob pwrpas. Hynny yw, mae hi ychydig yn fwy cymhleth na hynny, ond dyna fyddwn i'n awgrymu i chi ei wneud, a dyna sut mae'r cynllun yn gweithio. Yr awdurdodau rheoli risg sy'n dwyn y cynlluniau yn eu blaenau.

Diolch, Gweinidog, am y cyhoeddiad pwysig hwn heddiw. Rwy'n falch iawn fod ein dwy blaid ni wedi gallu gweithio gyda'i gilydd, ac rwy'n gwybod bod etholwyr wrth eu boddau y bydd gwerth dros £14 miliwn o waith yn cael ei wneud yng Nghanol De Cymru, ac mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi eisoes. Er enghraifft, mae hyn yn rhyddhad mawr i'r cynghorwyr yn Ninas Powys o ran gweld y cyllid hwnnw'n cael ei ddyrannu.

Un cwestiwn sydd gen i yn ymwneud â'r strategaeth risg llifogydd ar gyfer afon Taf yn benodol, sy'n amlwg yn ei dyddiau cynnar iawn, ond sôn yr ydym ni am rai o'r cymunedau sydd wedi cael gwybod eu bod mewn perygl o farw yn eu cartrefi pe byddai llifogydd o'r fath yn digwydd eto. Yn amlwg, mae croeso i'r gwaith hwn ddechrau nawr, ond dim ond tair blynedd sydd ers y noson ddinistriol honno ym mis Chwefror 2020. Yr hyn y maen nhw'n poeni amdano yw eu bod nhw wedi cael gwybod bod yna broses ac y gallai honno gymryd hyd at saith mlynedd hyd y bydd unrhyw ddatrysiad. Felly, sut ydym ni am gefnogi'r rhain? Oherwydd gallen, fe allen nhw fod yn wydn mewn rhai cymunedau; fe geir pethau y gallen nhw eu gwneud a lliniaru'r risg. Ond, pan fo rhywun yn dweud wrthych chi y gallech chi farw yn eich cartref pe byddem ni'n gweld llifogydd o'r fath unwaith eto, sut ydym ni am eu cefnogi nhw, ac a oes yna ffordd o sicrhau bod prosesau, o ran modelu ac yn y blaen, yn gallu digwydd yn gyflymach yn yr achosion hynny lle maen nhw wedi cael gwybod am risg benodol, fel nad oes raid i ni ddilyn proses mor haearnaidd bob amser pan fo Cyfoeth Naturiol Cymru, hyd yn oed, yn gwybod na ellir achub y cartrefi hynny, yn y pen draw?

15:20

Ie. Felly, mae'n ddrwg iawn gen i glywed bod pobl yn cael gwybod pethau mor frawychus. Rwy'n hapus iawn—gadewch i ni siarad amdano all-lein, oherwydd rydw i wir yn meddwl bod angen i ni roi sylw i hynny. Mewn gwirionedd, dylai cymunedau ar y lefel honno o risg fod yn cael asesiadau unigol am yr hyn y dylen nhw ei wneud yn achos tywydd garw, felly gadewch i ni siarad am hynny ar wahân, oherwydd nid yw hynny'n dderbyniol. 

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Weithredu Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg

Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: diweddariad ar weithredu cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg. Galwaf ar y Gweinidog—Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae bron blwyddyn ers cyhoeddi cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg, a heddiw, rwyf am roi diweddariad ar rai o’r camau sydd wedi’u cymryd hyd yma, a’r camau sydd i’w cymryd yn y flwyddyn nesaf.

Bydd Aelodau'n cofio y bydd y cynllun yn cael ei gyflawni ochr yn ochr gyda chynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg awdurdodau lleol, ac mae'n nodi'r camau rŷn ni'n eu cymryd gyda'n partneriaid i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc, neu'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn ystyried sut y gallwn ni ddatblygu sgiliau Cymraeg ein gweithlu addysg a sicrhau bod ein harweinwyr yn meddu ar yr wybodaeth a'r sgiliau i ddatblygu'r Gymraeg yn eu hysgolion.

Mae cyflawni'r cynllun hwn yn hanfodol os ydyn ni am wireddu'n gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg, a'r uchelgais a gafodd ei nodi'n ddiweddar yn y Papur Gwyn ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg. Er bod angen amser i roi llawer o'r camau hyn ar waith, mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid wedi bwrw ati i gychwyn, heb oedi. Er mwyn cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg, rŷn ni wedi newid gofyniad mynediad rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon o radd B i radd C ar gyfer TGAU mathemateg a Chymraeg neu Saesneg. Rŷn ni wedi ariannu 20 lle arall i athrawon cynradd sydd am newid i fod yn athrawon uwchradd drwy’r cynllun pontio.

Cyn y Pasg, agorais i ail gylch y grant ar gyfer datblygu capasiti'r gweithlu cyfrwng Cymraeg, ac mae cyfanswm o £800,000 yn y gronfa. Mae hyn yn helpu ysgolion i ddatblygu ffyrdd arloesol o ddatrys rhai o'r heriau recriwtio.

Mae’r Brifysgol Agored wedi ymestyn ei llwybrau addysgu ar sail cyflogaeth, er mwyn cynnwys dylunio a thechnoleg a chyfrifiadureg o fis Medi 2023 ymlaen. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi sefydlu 'Cadw Cyswllt' sy’n hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr yn Lloegr ddychwelyd i Gymru i baratoi i addysgu. Bydd y coleg yn dechrau cynllun mentora i fyfyrwyr israddedig yn fuan hefyd. Bydd y myfyrwyr hyn yn cael eu cefnogi gan athrawon newydd gymhwyso i fynd i addysgu. Rŷn ni hefyd wedi comisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg i gynnal ymarfer cwmpasu, i ystyried llwybrau i addysgu ôl-16. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr adroddiad hwnnw maes o law.

Dirprwy Lywydd, fel yr amlinellir, rydym yn datblygu amrywiaeth o ymyriadau i geisio cynyddu nifer yr athrawon. Fodd bynnag, os ydym am gynyddu cyfanswm nifer yr athrawon, mae angen gweithredu er mwyn cynyddu'r nifer sy'n cael eu hyfforddi, yn ogystal ag annog athrawon i aros o fewn y proffesiwn. Felly, heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi bwrsariaeth cadw athrawon Cymraeg mewn addysg. Bydd y bwrsari o £5,000 ar gael i athrawon a enillodd statws athro cymwysedig o fis Awst 2020 ymlaen, ac sydd wedi cwblhau tair blynedd o ddysgu'r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y cyfnod uwchradd. Bydd y bwrsari ar gael tan hydref 2028 i ddechrau, fel bod gennym ddata i ddeall a fydd darparu bwrsariaeth cadw yn annog athrawon i ymuno â'r proffesiwn ac i aros yn y proffesiwn.

Gan droi at nodau eraill y cynllun. Mae mwy o waith i'w wneud i gynyddu nifer y cynorthwywyr addysgu a'r gweithwyr cymorth sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig i gefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed. Ond, rydym wedi gallu bwrw ymlaen â rhai camau, gan gynnwys cynllun peilot i roi blwyddyn ar leoliad i ddysgwyr sy'n gadael yr ysgol i ddod yn gynorthwywyr dysgu mewn clwstwr o dair ysgol gynradd yn Nhorfaen. Rydym wedi ariannu nifer o brosiectau i gynyddu nifer y cynorthwywyr addysgu drwy'r grant capasiti a lansiwyd gennyf y llynedd. Rwyf hefyd yn falch fod Cyngor Gwynedd yn bwriadu treialu swyddi amser llawn gyda rhai oriau yn gynorthwywyr dysgu a rhai oriau yn cefnogi gwasanaethau eraill, er enghraifft, gofal cymdeithasol, gofal plant neu gynlluniau chwarae dros wyliau'r haf. Y nod yw creu cynnig ffafriol, gan gynnig swydd drwy gydol y flwyddyn a 37 awr yr wythnos, gan apelio at weithwyr sydd â'r sgiliau iaith perthnasol. Byddwn yn penodi arweinydd gweithredu Cymraeg cenedlaethol i gefnogi datblygiad darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg a dysgu proffesiynol.

Rydym yn parhau i gefnogi athrawon mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i ddatblygu eu gallu i ddefnyddio ac addysgu'r iaith drwy'r cynllun sabothol. Rydym hefyd wedi ariannu swyddog cenedlaethol i weithio ar draws y consortia rhanbarthol, i ddatblygu rhaglenni cenedlaethol o ddysgu proffesiynol i gefnogi ymarferwyr. Mae'r gwaith hwn yn ei ddyddiau cynnar o hyd ar hyn o bryd, ond mae'n dod â'r cyfoeth o arbenigedd sydd gennym ledled Cymru at ei gilydd.

Byddwch yn cofio y gall ymarferwyr addysg gael mynediad i gyrsiau drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am ddim ers mis Medi. Yn ddiweddar, rwyf wedi cytuno ar gyllid i'r ganolfan benodi swyddog cenedlaethol i weithio gyda'r consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol a darparwyr cynlluniau sabothol, i ddarparu rhaglen gydlynol i ymarferwyr ddysgu Cymraeg.

Ochr yn ochr â'r gwaith yma, mae dau sefydliad arall yn rhan hanfodol o ddatblygu ein gweithlu. Rwyf wedi cytuno ar fwy o gyllid i’r Gymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg, CYDAG, i gefnogi ein hysgolion cyfrwng Cymraeg. Rwyf hefyd wedi cytuno i ariannu arweinydd iaith Gymraeg yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol i helpu gyda'n cynlluniau ni i gynyddu’r capasiti yn ein gweithlu a chefnogi pob arweinydd i gynllunio datblygiad y Gymraeg yn strategol yn eu hysgolion. Yr wythnos hon, byddwn ni’n cyhoeddi adnodd drafft a fydd yn helpu'r arweinwyr i werthuso eu taith i ddatblygu'r Gymraeg yn eu hysgolion.

I gyflawni'r cynllun yn llwyddiannus, rhaid inni barhau gyda'r dull partneriaeth yma. Rydw i wedi sefydlu grŵp gweithredu allanol, sy’n cynnwys yr holl sefydliadau sydd wedi cyfrannu at yrru'r cynllun yn ei flaen. Diolch yn fawr i aelodau'r grŵp, y sefydliadau rydych chi’n eu cynrychioli, ac i'r cadeirydd annibynnol, Dr Rhodri Llwyd Morgan, am eich holl gefnogaeth a'ch gwaith caled hyd yn hyn. Mae llawer eto i'w wneud, ond, gyda'n gilydd, mae gen i ffydd y gallwn ni gael effaith go iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio i gyflawni'r cynllun a symud tuag at ein huchelgais, Cymraeg 2050.

15:25

Diolch yn fawr am eich datganiad, Gweinidog. Rydym yn croesawu'r datganiad hwn heddiw yn fawr, mewn gwirionedd, er fy mod yn credu y gallai hyd yn oed fynd ymhellach eto, gan ei bod yn amlwg o ddata'r cyfrifiad diwethaf bod y Llywodraeth hon wedi bod yn mynd ar yn ôl o ran y Gymraeg ac, ar ôl 25 mlynedd mewn Llywodraeth, mae'n braf gweld y camau brys hyn yn cael eu cymryd nawr. Er fy mod yn cefnogi nodau a chyhoeddiadau'r datganiad yn llwyr heddiw, fel y bu'n rhaid ei wneud, os yw'r Llywodraeth hon wirioneddol o ddifrif am gael yr 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg hynny, mae gennyf rai cwestiynau am agweddau ymarferol a gwirioneddau hynny. Rydych wedi cynnwys llawer o'r pryderon roeddwn wedi eu hysgrifennu y bore 'ma, ac awgrymiadau, yn y datganiad hwn, sydd i'w groesawu'n fawr.

Fel y dywedoch chi, bydd y coleg hefyd yn dechrau cynllun mentora cyn bo hir i'r myfyrwyr israddedig gael eu cefnogi gan athrawon sydd newydd gymhwyso i fynd i faes addysgu, sy'n swnio'n wych, ond beth fydd y cymhelliant ar gyfer athrawon sydd newydd raddio ymuno â'r cynllun ac ychwanegu at eu llwyth gwaith sydd eisoes yn drwm? Mae gen i rai pryderon ynghylch hyn gan fod niferoedd yn broblem o bosibl heb gymhelliad i ymuno â'r cynllun mentora.

Yn ail, mae Llywodraeth Cymru'n dymuno cyrraedd y targed o 3,100 o athrawon cynradd sy'n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2021; rydych chi ond wedi cyrraedd 2,871. Eich nod oedd cyrraedd targed o 600 o athrawon ysgol uwchradd a oedd yn dysgu Cymraeg fel pwnc, ond dim ond 391 oedd gennych erbyn hynny. Mae methu â chyrraedd y targedau hyn yn gondemniad niweidiol o fethiannau'r Gymraeg ym myd addysg gan y Llywodraeth Lafur hon hyd yma. Heb os, mae argyfwng recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, sut gallwch chi fod yn sicr nad bwriad y targedau hyn rydych wedi'u cyhoeddi heddiw—sydd i'w croesawu—yw cael sylw yn y penawdau ac y byddwch yn eu cyrraedd y tro hwn? Ac a fyddwch yn barod, Gweinidog, i ddod yn ôl i'r Siambr hon yn fwy rheolaidd a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny?

Ac yn olaf, yn ôl y disgwyl, prin iawn yw'r athrawon Cymraeg eu hiaith yn y rhannau o Gymru sydd â'r nifer lleiaf o Gymry Cymraeg. Os yw'r ardaloedd hyn am ategu eu poblogaeth Gymraeg, yna mae'n hanfodol bod yr athrawon hyn sy'n siarad Cymraeg yn cael eu cymell i fyw a gweithio yn y cymunedau hynny. Ac oni bai fy mod i wedi ei golli yn y cynllun, sut mae'r cynllun hwn yn gwneud hynny mewn gwirionedd? Ac os nad yw'n cael ei gynnwys, a ydych chi'n cytuno bod angen ei gynnwys? Felly, Gweinidog, sut ydych chi a'r cynllun hwn yn mynd i gymell athrawon sy'n siarad Cymraeg i fyw a gweithio yn y cymunedau hynny lle mae llai o siaradwyr Cymraeg? Diolch. 

15:30

Diolch i Laura Anne Jones am ei chwestiynau yn gysylltiedig â fy natganiad. Mae hi'n iawn i ddweud bod heriau o ran gwneud yn siŵr bod gennym y niferoedd o athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hi hefyd yn gwybod bod heriau ehangach o ran recriwtio athrawon, nid yn unig yn y DU mewn gwirionedd, ond yn rhyngwladol. Mae'r cynllun, wrth gwrs, yn gynllun a gyhoeddais y llynedd, yn hytrach na chynllun newydd heddiw, a bydd hi'n cofio, o'r drafodaeth a gawsom bryd hynny, bod fy agwedd ato wedi tueddu i fod yn bragmatig iawn. Felly, rydym wedi cydweithio ar nifer o bethau, gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd wedi bod yn gweithio ar y cynllun mentora, fel y cyfeiriodd ati yn ei chwestiwn. Ac rwy'n credu bod pob un ohonom yn cytuno bod angen canolbwyntio ar yr elfennau hynny o'r cynllun y mae tystiolaeth yn dweud wrthym sy'n gweithio orau. Felly, os oes agweddau nad ydynt yn gweithio, byddwn yn rhoi'r gorau i'w gwneud nhw, ac os oes agweddau sy'n arbennig o lwyddiannus, gwnawn ni fwy o hynny. 

Felly, i raddau helaeth, ysbryd o gyflwyno ymarferol sydd wedi ysgogi gwaith pawb, ac rwy'n credu ei fod yn—. O fy safbwynt fy hun, mae dulliau creadigol iawn y mae'r cynllun yn eu gosod. Rwy'n credu ein bod wedi cyrraedd y cam lle mae'r her mor fawr bod angen i ni edrych arno o'r newydd. Fe welwch chi o fy natganiad fy mod wedi newid y cymwysterau sydd eu hangen i fynd i faes addysgu ac ati. Felly, mae'n debyg y byddai rhywfaint o hynny wedi bod yn fwy heriol mewn cyd-destun arall, ond, oherwydd yr heriau sy'n ein hwynebu, rydym wedi bod yn awyddus i fod mor greadigol â phosibl. 

Dydw i ddim yn cyhoeddi unrhyw dargedau newydd heddiw, ond mae'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud mewn perthynas â'r heriau lleol neu broffil recriwtio lleol yn gwbl gywir. Nid yw'n—. Byddwn i'n mynd ymhellach, a dweud y gwir; nid yw'n benodol hyd yn oed yn syml i'r ardaloedd hynny lle nad oes dwysedd o siaradwyr Cymraeg. Mewn gwirionedd—. Mae'n ddarlun cymhleth ledled Cymru, mewn gwirionedd. Ychydig iawn o ardaloedd lle byddech yn dweud yn hyderus nad oes problem o gwbl. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gydag awdurdodau—ac ar lefel ysgol hefyd a dweud y gwir, ond yn sicr gydag awdurdodau lleol—i ddeall proffil eu hardal leol. A bydd hi'n cofio o'r drafodaeth yn y Siambr hon y llynedd mai fy mwriad yw cyhoeddi, bob dwy flynedd, dargedau diwygiedig, ffigurau perfformiad diwygiedig, ac y bydd hynny'n cael ei wneud ar sail leol. Felly, y flwyddyn nesaf fydd yr amser ar gyfer cyhoeddi hynny, dwy flynedd ers sefydlu'r cynllun, ac rydym wrthi'n gweithio gyda grŵp o awdurdodau lleol ar hyn o bryd i ddeall y data a'r ffordd orau o gofnodi'r data, fel y gallwn gael cyd-berchnogaeth o'r her, os mynnwch chi.

Ond rwy'n glir iawn: os oes dulliau arbennig o greadigol y mae ysgolion am allu eu dysgu'n lleol, dylid eu galluogi i ystyried y rheini, hyd yn oed pan fydd yn rhaid i ni feddwl yn greadigol am sut i'w cyflawni. Ac mewn gwirionedd, bwriad y cyllid o £800,000, y soniais amdano yn fy natganiad, yw cefnogi rhai o'r dulliau arloesol hynny. Ac mae dulliau da wedi bod o ran ysgolion yn cydweithio, er enghraifft, a dylid annog hynny. 

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Yn amlwg, mae yna nifer iawn o bethau i'w croesawu fan hyn, ac, yn sicr, mae hon yn mynd i fod yn her i ni o ran yr uchelgais cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr, 'Cymraeg 2050', ond dwi'n falch o weld bod yna arian ar gael er mwyn gallu treialu hefyd. Dwi'n falch hefyd o'r pwyslais o ran cynorthwywyr dosbarth, oherwydd, yn aml, rydym ni'n sôn am athrawon, ond maen nhw'n chwarae rôl mor allweddol o fewn ein sefydliadau addysgol ni, felly, dwi'n falch o weld y pwyslais hwnnw. Ond, yn amlwg, bydd hi'n ddifyr gweld beth sy'n dod allan o'r treialon hynny, fel ein bod ni, gobeithio felly, efo modelau er mwyn i ardaloedd eraill fedru cael y budd. 

Yn amlwg, mae yna her hefyd o ran cadw athrawon, ynghyd â recriwtio. Wrth i fi fynd o gwmpas ysgolion yr wythnos diwethaf, mi oedd prifathrawon yn dweud wrthyf fi mai un o'r heriau mwyaf y maen nhw'n ei gael ydy recriwtio ar y funud, a bod pobl efallai eisiau gweithio'n fwy hyblyg, ac felly, mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn benodol, fod angen i ni fod yn sicrhau bod pethau fel hyn ar gael. Mi fydd hi'n ddifyr gweld pa effaith y mae hynny'n ei gael, a dwi'n siŵr y byddwch chi'n monitro'n agos iawn sut y mae'r cynlluniau yma'n gweithio, ac o ran y bwrsari, a faint o bobl fydd, gobeithio, yn cael eu denu felly oherwydd bod yr arian hwn ar gael.

Yn amlwg, tra bod y cynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg, a gyhoeddwyd bron i flwyddyn yn ôl, yn gam yn y cyfeiriad cywir, yn sicr, o ran gwireddu targedau presennol y Llywodraeth ar gyfer y gweithlu addysg, fel rydyn ni wedi sôn amryw o weithiau, rydyn ni'n gwybod ein bod ni ddim yn cyrraedd y targed hwnnw o 550 ar y funud, ei fod o ar tua 250, a bod hynny, felly, yn heriol dros ben. Mae gwireddu uchelgais, wrth gwrs, y Papur Gwyn rŵan, sydd hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol—mi fydd hi'n ddifyr gwybod beth ydy'r targedau o ran hynny. Oherwydd, os ydyn ni'n methu cyrraedd y 550 sydd eu hangen, pa gynlluniau ychwanegol sy'n cael eu datblygu i wireddu uchelgais y Bil hwnnw? Ac ydy'r Gweinidog yn gallu'n diweddaru ni o ran y niferoedd sy'n hyfforddi eleni, sef yn y flwyddyn academaidd bresennol, 2022-23, i ddysgu yn y sector Cymraeg, a sut mae'r niferoedd yn edrych ar gyfer y cwrs hyfforddi athrawon fydd yn cychwyn ym mis Medi 2023?

Mae'r Cyngor Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi targed o 30 y cant ar ddarparwyr, ac yn dweud:

'Mae’n ddisgwyliad gan Lywodraeth Cymru i bartneriaethau AGA weithio tuag at sicrhau bod 30% o'r myfyrwyr a dderbynnir yn paratoi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.'

Ond i ba raddau y mae'r darparwyr yn bwrw'r targed hwnnw ar hyn o bryd, a beth ydy'r cymhelliad iddyn nhw gyrraedd y targed, a beth sy'n digwydd iddyn nhw os ydy'n nhw'n methu'r targed flwyddyn ar ôl blwyddyn? Oherwydd, yn sicr, rydyn ni'n gallu cael y targedau hyn, ond os rydyn ni eisiau—a dwi'n gwybod ein bod ni eisiau—cyrraedd y targed yna o filiwn o siaradwyr Cymraeg, yna mae'r rhain yn heriau rydyn ni angen cael datrysiadau iddyn nhw. Ac a gaf i ofyn hefyd, o ran y cyfrifoldebau, maen nhw'n disgyn rŵan drwy wahanol—wel, ar wasgar buasech chi'n gallu ei ddweud, efo'r Llywodraeth, y cyngor gweithlu, darparwyr hyfforddiant cychwynnol, er enghraifft, y prifysgolion, awdurdodau lleol, y coleg Cymraeg, y ganolfan dysgu Cymraeg: ydy hyn yn arwain at ryw fath o strategaeth sy'n eithaf darniog ar adegau, neu ai'r bwriad ydy bod yna rywun efo'r cyfrifoldeb i arwain ar hyn?

Lot o gwestiynau, mae arnaf i ofn, Weinidog. Dwi'n meddwl bod yna nifer o bethau i'w croesawu, ond, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni weld beth sy'n gweithio, beth sydd ddim, ac, yn sicr, rydyn ni eisiau cael y neges yna allan bod yna broffesiwn sy'n werth chweil, a bod yna gyfraniad pwysig sy'n cael ei wneud gan athrawon a chynorthwywyr dosbarth sy'n dysgu ledled Cymru rŵan. Ond, yn sicr, rydyn ni eisiau cadw'r proffesiwn yn un atyniadol, ac mae yna gamau i'w croesawu yn y fan hyn.

15:35

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau—cwestiynau teg, oll. O ran y bwrsari, fel y gwnes i ei ddweud yn y datganiad, y cynllun yw cynnal y bwrsari am bum mlynedd a gweld beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. Os bydd e'n effeithiol, fe wnawn ni barhau, wrth gwrs, ond mae'n bwysig ein bod ni'n gweld beth sy'n gweithio'n ymarferol, felly dyna'r cynllun o ran hwnnw. Mi wnaf i ysgrifennu at yr Aelod, os caf i, ynglŷn â'r ffigurau sy'n dod eleni, ond mae'r trend wedi bod yn gadarnhaol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mi wnaf i ysgrifennu â'r manylder i'r Aelod yn hynny o beth, a chyhoeddi'r llythyr.

O ran cwestiynau ynglŷn â'r uchelgais yn y Bil sy'n cael ei ddisgrifio yn y Papur Gwyn, a sut y gallwn ni fynd i'r afael â hynny, roedd amryw o'r cwestiynau a oedd gan yr Aelod yn ymwneud â beth yw impact y Bil a beth yw'r cyfle sy'n y Bil i fynd i'r afael â hyn. Un o'r pethau rwy'n credu sy'n bwysig i ni ei wneud, ac sydd ar waith ar hyn o bryd, yw deall yn well beth yw proffil sgiliau'r gweithlu presennol. Felly, wrth gwrs mae mwy o bobl yn medru siarad y Gymraeg nag sydd yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion ni—mae pawb yn adnabod athrawon sy'n siarad Cymraeg ond yn dysgu pynciau mewn ysgolion Saesneg. Felly, mae'r gwaith hwnnw o ddeall y dosbarthiad, os hoffwch chi, o ble mae'r sgiliau a ble mae'r gweithlu, yn bwysig yng nghyd-destun gwireddu'r Bil newydd ac annog y rheini, efallai gydag ychydig yn fwy o hyder ac ychydig yn fwy o hyfforddiant, ychydig efallai o wersi, a fyddai'n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, hyd yn oed. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n bwysig ac mae hynny'n digwydd eisoes. 

O ran rôl y partneriaethau, rŷn ni wrthi, ar hyn o bryd—. Rŷn ni wedi gorffen y gwaith, fel mae'n digwydd; rŷn ni ar fin gwneud datganiad ynglŷn â gwerthuso sut mae'r partneriaethau yn cael eu trwyddedu, os hoffwch chi, i ddarparu'r gwaith maen nhw'n ei wneud, ac un o'r pethau rŷn ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw yw sicrhau bod y ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn gryfach. Felly, bydd honno'n elfen amlycach. Bydd datganiad yn dod maes o law am hynny yn gyffredinol. Ond, o ran rôl y partneriaethau, rôl y consortia, rôl Estyn, rôl y cyrff addysgiadol a thu hwnt, mae hynny'n dod ynghlwm, os hoffwch chi, yn y Bil arfaethedig sydd gyda ni ar y gweill ar y cyd, drwy'r cynllun cenedlaethol, fydd yn gyfle—mae hyn yn cael ei ddisgrifio yn y Papur Gwyn, fel mae'r Aelod yn gwybod—bydd yn gyfle i ddisgrifio cyfrifoldebau pob aelod, pob rhan, o'r system, os hoffwch chi, a bod hynny'n dod ynghyd mewn cynllun cenedlaethol bydd Gweinidogion yn ei gyhoeddi. Bydd y cynllun hwnnw hefyd yn gosod ffigurau ar gyfer recriwtio—targedau recriwtio—hefyd. Felly, bydd y cwbl yn dod ynghlwm yn hwnnw. Mae'r pwynt yn deilwng. Mae cyfrifoldeb mewn amryw rannau o'r system ar hyn o bryd. Mae gwaith y grŵp allanol wedi corlannu lot o'r bobl sydd yn gweithio yn y maes, ac mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Rwy'n bwriadu cwrdd â nhw ym mis Mehefin. Felly, dyna sut mae'r Bil yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau yma hefyd.FootnoteLink   

15:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae llawer i'w groesawu yn y datganiad yma heddiw, Weinidog, ond byddwch yn ymwybodol o'r pryderon ynglŷn â recriwtio athrawon, yn enwedig o ran sicrhau bod ein gweithlu addysgol o gefndir mor amrywiol â phosibl. Yn aml, mae athrawon cyfrwng Cymraeg yn addysgu yn yr un ysgol y buont yn ddisgybl ynddi, yn yr un pentref, gyda chydweithwyr mewn sefyllfaoedd tebyg iawn, ac, er bod hyn yn beth da mewn rhai ffyrdd, mae'n golygu weithiau bod diffyg amrywiaeth gwirioneddol yn y gweithlu. O ystyried hyn, sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod ein hathrawon o gefndir amrywiol? Diolch, Dirprwy Lywydd. 

Mae gyda ni mwy nag un cymhelliad ariannol i ddenu pobl i mewn i'r sector, er enghraifft o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ond hefyd rhai eraill, ac mae'n bosib cyfuno'r cymhellion hynny gyda'r cymhellion sydd ar gael ar gyfer dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond rwy'n gwybod bod ganddo fe ddiddordeb penodol mewn beth rŷn ni'n gallu ei wneud i ddenu pobl nôl i Gymru i weithio yma efallai sydd wedi bod yn astudio dramor neu astudio yn Lloegr. A dyna ran o'r gwaith mae'r coleg Cymraeg yn ei wneud ar ein rhan ni i greu perthynas, os hoffwch chi, gyda'r rheini sydd wedi bod yn astudio efallai dros y ffin, a'u hannog nhw i ddod nôl. Ond mae'r cymhelliad roeddwn i'n sôn amdano fe heddiw yn y datganiad, sydd ar gael i gynnal pobl yn y proffesiwn, ar gael i'r rheini sydd wedi'u hyfforddi yng Nghymru ac sydd efallai wedyn yn gymwys ar gyfer Iaith Athrawon Yfory fel cymhelliad, ond mae hefyd yn gymwys ar gyfer rheini efallai sydd wedi hyfforddi tu allan i Gymru lle mae'r cyngor gweithlu wedi cydnabod y QTS sydd ganddyn nhw. Efallai eu bod nhw ddim wedi'u hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg, ond eu bod nhw bellach yn gweithio yng Nghymru ac yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg—mae'r rheini hefyd yn gymwys ar gyfer y cymhelliad. Felly, gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod. 

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Strategaeth Ddiagnostig Genedlaethol

Symudwn ymlaen i eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar strategaeth ddiagnostig genedlaethol, a galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Profion neu weithdrefnau sy'n cael eu defnyddio i nodi clefyd neu gyflwr claf yw diagnosteg. Mae darganfod beth sy'n bod ar glaf yn hanfodol er mwyn eu trin. Gall diagnosis prydlon achub bywydau, arbed amser ac arian, a gall wella canlyniadau cleifion. Mae gan ddiagnosteg ran bwysig hefyd i'w chwarae mewn iechyd ataliol drwy ganfod clefydau a salwch cyn i symptomau mawr ddatblygu. Mae diagnosteg yn aml yn cael eu hisrannu'n gategorïau eang sy'n adlewyrchu eu nodweddion cyffredin. Mae enghreifftiau'n cynnwys delweddu, megis pelydrau-x, sganiau CT, MRI a PET; patholeg, megis dadansoddi gwaed, wrin neu biopsïau meinwe; ac endosgopi.

O tua 660,000 o bobl ar restrau aros yn y GIG yng Nghymru, rhagwelir y bydd angen o leiaf un prawf diagnostig ar gyfer tua 85 y cant i helpu i lywio eu rheolaeth glinigol, gyda thua 30,000 yn aros am brofion a nodwyd. O'r herwydd, mae blaenoriaethu diagnosteg fel elfen allweddol o'n system iechyd yn hanfodol i ddarparu gofal priodol i'n poblogaeth.

Rydym ni’n gwybod bod diagnosteg yn chwarae rhan bwysig wrth nodi cyflyrau meddygol yng Nghymru, a dyna pam, yn wahanol i Loegr, ein bod ni’n cynnwys arosiadau diagnostig yn ein ffigurau rhestrau aros, ac mae’r rhain yn cyfrif am tua 6 y cant o'n niferoedd ar restr aros cyffredinol.

Mae'n bwysig nodi, er heddiw ein bod ni’n cyhoeddi strategaeth ar gyfer diagnosteg, mae gennym ni eisoes nifer o gynlluniau datblygedig da sydd eisoes yn cyflawni ar gyfer rhai mathau o arbenigeddau diagnostig. Mae gennym ni raglenni cenedlaethol ar gyfer delweddu, patholeg, endosgopi, gwyddor gofal iechyd a genomeg sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o dechnegau diagnostig ar y cyd. Mae'r rhain wedi bod yn darparu arweiniad ac adnoddau i ddatblygu'r meysydd allweddol hyn, megis cynnal offer cyfredol a hyfforddiant y gweithlu proffesiynol sydd ei angen i gynnal y profion hyn.

Dros y bedair blynedd ddiwethaf, rydym ni wedi buddsoddi dros £55 miliwn ar gyfer offer ac i ddarparu diweddariadau ac offer newydd, ac ers 2016, rydyn ni wedi cynyddu nifer yr histopatholegwyr o 14 y cant, staff radioleg glinigol o 16 y cant, ac mae lleoedd hyfforddi radiograffydd diagnostig wedi cynyddu o 34 y cant. Ond rydym ni’n hynod ymwybodol o'r effaith a achoswyd gan y pandemig a'r angen i fynd ymhellach i helpu i adfer y gwasanaethau hanfodol hyn a sicrhau bod unrhyw ymyrraeth newydd yn gosod sylfaen i'n gweledigaeth o'r hyn y byddwn ni ei angen yn y blynyddoedd i ddod.

Rhaid i mi ddweud yn glir nad yw cymhlethdod a maint y mater hwn yn ddibwys. Er mwyn darparu gwasanaethau diogel ac effeithiol bydd angen cydbwysedd gofalus rhwng buddsoddi mewn offer, seilwaith a chyfleusterau, niferoedd digonol o bersonél sydd â chymwysterau priodol, a manteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau drwy ailgynllunio llwybrau clinigol. Gyda hyn mewn golwg rydym ni heddiw yn ymrwymo i strategaeth sy'n dwyn ynghyd ein huchelgeisiau hanesyddol o dan un strwythur llywodraethu i ddatblygu cynnydd cyflym, llawn effaith.

Ym mis Ebrill 2022, fe wnes i lansio'r cynllun trawsnewid a moderneiddio gofal oedd wedi'i gynllunio a lleihau rhestrau aros y GIG ar gyfer y GIG yng Nghymru. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu amcanion adfer a thrawsnewid ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yng Nghymru, i leihau amseroedd aros a symud tuag at wasanaethau dewisol a diagnostig cynaliadwy erbyn 2026. Heddiw rwy'n cyhoeddi'r strategaeth adfer a thrawsnewid diagnosteg newydd, a oedd yn un o brif amcanion y cynllun a lansiwyd y llynedd. Ei nod yw gwella mynediad at brofion diagnostig, gwella canlyniadau cleifion, a chefnogi'r gwaith o ddatblygu ein gweithlu diagnostig ar draws GIG Cymru. Mae'r strategaeth hon yn nodi sut y byddwn yn creu capasiti ychwanegol, symud i ddull cyfunol ar gyfer profion diagnostig, ac yn darparu arweinyddiaeth trwy raglen diagnosteg genedlaethol.

Bydd prynu yn ddiweddar hen adeiladau British Airways yn Llantrisant, gerllaw Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn galluogi Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddatblygu gwasanaeth rhanbarthol ar gyfer y de-ddwyrain i ddarparu diagnosteg i ffwrdd o leoliadau traddodiadol ysbytai, cynyddu mynediad i gleifion, dod â rhestrau aros i lawr, a sicrhau bod gan ein hysbytai y capasiti i helpu'r rhai sydd angen gofal brys. Rydym ni hefyd yn archwilio’r opsiwn o ddefnyddio'r safle i ddarparu ar gyfer uned endosgopi rhanbarthol, gyda dwy theatr y gellir eu defnyddio fel academi hyfforddi sgiliau clinigol.

Mae'r strategaeth yn amlinellu dull cyfun o alinio ymyriadau ar unwaith â rhagfynegiadau galw yn y dyfodol er mwyn hwyluso trawsnewid cynaliadwy yn y tymor hir.

Er mwyn sicrhau trawsnewid, mae’r strategaeth yn rhoi pwyslais mawr ar y gweithlu diagnostig aml-broffesiynol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru—er enghraifft, y 7,080 o wyddonwyr gofal iechyd sy'n fedrus wrth ddatblygu, treialu a gwerthuso technegau a ffyrdd newydd o weithio. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru, HEIW, yn datblygu cynllun gweithlu diagnostig i lywio'r llif hyfforddi. Bydd hyn yn cynnwys rolau ymarferwyr uwch fel gwyddonwyr biofeddygol a radiograffwyr sy'n adrodd, a chefnogaeth i rolau newydd, fel gwyddonwyr clinigol ymgynghorol, a fydd yn rhan annatod o'r gwaith o ailgynllunio'r gwasanaethau.

Wrth i gyfleuster genomeg newydd o'r radd flaenaf gael ei ddatblygu ym mharc gwyddorau bywyd Cardiff Edge, bydd sefydliadau partner sy'n darparu gwasanaethau ac ymchwil yn dod at ei gilydd yn gorfforol. Bydd hyn hefyd yn rhoi seilwaith a fydd yn helpu i greu amgylchedd sy'n hybu arloesi ac yn darparu cyfleoedd i gydweithio â diwydiant.

Yn y maes delweddu, mae capasiti'r offer sganio digidol sefydlog positron emission tomography, neu PET, yn cael ei ymestyn. Bydd hyn yn caniatáu i ni gynnal mwy o sganiau ar lefel fwy cywir a dibynadwy na'r offer sganio analog a symudol sydd ar gael ar hyn o bryd.

Yn y gogledd, rŷn ni wedi cyflwyno patholeg gellog ddigidol. Mae hyn yn cyflymu'r amser adrodd ac yn lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i roi diagnosis o lymffoma. Mae'r hyblygrwydd sy'n dod gyda gweithio'n ddigidol wedi helpu inni recriwtio patholegwyr ymgynghorol ac mae naw o rai ychwanegol yn gweithio ar draws bwrdd Betsi Cadwaladr erbyn hyn. 

Bydd y rhaglen trawsnewid diagnosteg yn datblygu cynllun gweithredu sy'n adeiladu ar y mentrau hyn er mwyn dylunio gwasanaethau gwell a fydd yn gwella canlyniadau iechyd cleifion, gan leihau anghydraddoldeb ledled Cymru. Bydd yn dod â'r holl raglenni diagnosteg cenedlaethol at ei gilydd o dan un weledigaeth strategol glir, gydag arweiniad gan fwrdd diagnosteg cenedlaethol sy'n cael ei arwain gan glinigwyr mewn partneriaeth â byrddau iechyd. Drwy hynny, byddwn yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael ac yn rhoi ffocws ar y cyd ar flaenoriaethau allweddol, gan fynd i'r afael ag uchelgeisiau y soniwyd amdanyn nhw o'r blaen. Mae hyn yn cynnwys mynd ati i greu modelau cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau bregus fel patholeg i yrru llif cleifion a sicrhau bod gwasanaethau i wella diogelwch cleifion yn cael eu hachredu'n llawn.

Yn olaf, rŷn ni'n cyflymu'r trawsnewid mewn modelau gwasanaethau diagnostig er mwyn gwella ac arloesi yn y ffordd rŷn ni'n trin cleifion, gan gefnogi ac annog cydweithio rhwng cyrff y gwasanaeth iechyd, y Llywodraeth, y byd academaidd, y trydydd sector a diwydiant. Heddiw, mae treial newydd yn cael ei lansio sy'n gwerthuso manteision defnyddio technoleg diagnostig biopsi hylif ar gyfer pobl sydd, o bosibl, â chanser yr ysgyfaint. Bydd yr astudiaeth, sy'n cynnwys mwy na 1,200 o gleifion, yn ystyried sut y mae defnyddio prawf gwaed sy'n llai invasive yn gallu lleihau'r amser rhwng diagnosis a thriniaeth.

I gloi, dwi'n cydnabod bod cael profion diagnostig yn brydlon yn hanfodol i ganlyniadau cleifion, a dyna pam rŷn ni'n lansio'r strategaeth hon heddiw. Bydd y strategaeth yn creu gwasanaethau diagnostig modern a chynaliadwy yn yr NHS ac yn gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru. Diolch yn fawr.

15:50

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw a'r copi ymlaen llaw, wrth gwrs, hefyd? Bydd unrhyw beth all helpu i wella gwasanaethau diagnostig ac, yn y pen draw, dod ag amseroedd aros i lawr yn sicr yn cael eu cefnogi gennyf i a'r Ceidwadwyr Cymreig. Rwy’n credu, o ran dod ag amseroedd aros i lawr, mae'n rhaid i hyn fod, wrth gwrs, y brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Weithiau, rwy’n meddwl bod y Llywodraeth, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi canolbwyntio ar feysydd eraill nad ydw i'n credu y dylid bod wedi eu blaenoriaethu fel y cawsant eu blaenoriaethu. Dyma ddylai fod y brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth, felly, yn yr ystyr hwnnw, byddwn i wedi hoffi i hyn fod wedi dod ychydig yn gynt, wrth gwrs.

Felly, diolch am eich cynllun, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, Gweinidog. Cwpl o'r pethau wnes i eu nodi: o ran data—mor bwysig. Yn y pwyllgor iechyd, rydyn ni'n clywed gan dystion yn gyson am y diffyg data—y diffyg data sydd ar gael—ac mae data mor bwysig er mwyn llywio penderfyniadau a pholisi'r Llywodraeth. Rwy’n ei weld yn cael ei grybwyll nifer o weithiau yn y ddogfen, ac mae'n debyg mai'r cwestiwn yw: ydych chi'n awgrymu, efallai, nad yw'r data, a chael y data hwnnw, wedi bod ar gael o'r blaen fel y dylai fod? Ai dyna pam mae'n ffurfio blaenoriaeth yn eich cynllun?

Mae llawer y gallaf gytuno arno yn y cynllun. Mae rhai pethau rwyf i’n meddwl amdanyn nhw, 'Iawn.' Mae un pwynt yn fan hyn, mae hyn yn y naw thema ffocws:

'Defnyddio ymchwil i ofyn cwestiynau pwysig a gwella canlyniadau.'

Felly, mae agwedd yma ynglŷn â bod yna ddatganiadau syml iawn, amlwg iawn yn y cynllun, ac rydw i’n cwestiynu: pam maen nhw yno os ydyn nhw mor syml? Ai oherwydd nad yw Llywodraeth yn gwneud y pethau hyn ar hyn o bryd? Mae pwynt yma am, 'gael mwy o bartneriaethau dibynadwy'. Wrth gwrs, mae hynny'n wych, i gael partneriaethau mwy dibynadwy. Onid yw Llywodraeth Cymru wedi cael digon o bartneriaethau dibynadwy o'r blaen?

Dyma'r cynllun trawsnewid ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, felly tybed a allwn ni ddisgwyl unrhyw beth mwy manwl, cynllun manylach yn cael ei gyflwyno o ganlyniad, neu, dim ond i egluro, ai dyma'r cynllun cyffredinol a fydd yn eistedd o'n blaenau ac na ddylem ddisgwyl unrhyw fanylion pellach mewn amser?

Yr hyn, wrth gwrs, oedd yn bryder mawr i ni i gyd yw y bu gostyngiad o 40,000 yn nerbyniadau ysbytai canser yn ystod cyfnod y pandemig. Yn wir, cafodd 1.3 miliwn o apwyntiadau a dros 50,000 o lawdriniaethau eu canslo rhwng Ebrill 2020 a Medi 2021. Rydym ni’n deall pam, wrth gwrs, ac rydym ni’n deall pam y cafodd llawer o wasanaethau diagnostig eu hoedi a'u stopio. Rydyn ni'n deall pam. Roedd hynny'n digwydd ar draws y DU ac ar draws y byd, ond tybed, Gweinidog, os oes unrhyw synnwyr gennych chi o ba wersi y gellid eu dysgu o ran pandemigau'r dyfodol, efallai. Cwestiwn mawr, am wn i, ond rhai safbwyntiau ac ystyriaethau cynnar y gallai fod gennych chi yn hynny o beth.

Faint yn rhagor o apwyntiadau sy'n cael eu colli ar hyn o bryd? Sawl apwyntiad sy'n cael eu colli nawr? Rwyf i wedi clywed cymaint o bobl—. Un o'r problemau mwyaf yn fy mag post i, fel y bydd i'r rhan fwyaf o Aelodau, yw pobl sy'n ei chael hi'n anodd cael mynd at feddyg teulu yn brydlon. Nawr, o ystyried bod y rhan fwyaf o'r apwyntiadau cyntaf i gleifion allanol yn cael eu sbarduno mewn ymateb i gais gan feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall mewn gofal sylfaenol a chymunedol i helpu gyda diagnosteg, a yw'n deg dweud bod yr anallu hwn i weld meddyg yn tyfu’n oedi sylweddol i'r llwybr diagnostig? Rwy'n sylwi yn eich cynllun eich bod chi'n siarad am fwy o arbenigwyr diagnostig. Mae hynny'n dda, ond nid yw hynny’n mynd i helpu, wrth gwrs, os nad oes modd i bobl gael eu cyfeirio atyn nhw gan eu meddyg teulu. Felly sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod gennym ni fwy o feddygon teulu i weld mwy o gleifion mewn modd mwy amserol er mwyn datrys y mater rwyf i newydd ei amlinellu? Byddwn i'n awgrymu cymryd golwg, wrth gwrs, ar gynllun mynediad meddygon teulu y Ceidwadwyr Cymreig.

Rwy'n falch o weld llawer o sôn am hybiau diagnostig yn eich cynllun, Gweinidog. Rydym ni wedi clywed llawer o ganlyniadau eithaf cadarnhaol o ran yr hybiau diagnostig. Maen nhw'n gwneud llawer o synnwyr, rwy'n falch o'u gweld yn y cynllun ac efallai y gallai'r Gweinidog amlinellu ble rydyn ni gyda hynny. Rwy’n credu bod ganddom ni bump yn ardaloedd y saith bwrdd iechyd, ond faint yn fwy allwn ni ddisgwyl eu gweld ac erbyn pryd y dylem ni eu disgwyl nhw? Ond rwy’n sylwi arnyn nhw yn y cynllun, sy'n dda i weld.

Yn olaf, dim ond i godi ap y GIG, rydyn ni wedi cael ychydig o wybodaeth, rwy'n credu, mewn datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf ar hynny. Fe wnaethon ni alw am hynny, fel Ceidwadwyr Cymreig, fel rhan o'n bwndel technoleg GIG. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn hefyd, ond, o ran eich datganiad heddiw a gwasanaethau diagnostig, a allwch chi roi ymdeimlad i ni a fydd y systemau diagnostig yn manteisio ar yr ap ac yn caniatáu i gleifion gael mynediad at gofnodion a diweddariadau drwyddo o ran eu taith diagnosteg, yn ogystal? Diolch.

15:55

Diolch yn fawr, Russell. Diolch. Hoffwn i ei gwneud hi'n hollol glir nad ydyn ni wedi bod yn eistedd o gwmpas yn troi’n bodiau am y ddwy flynedd ddiwethaf ers i'r pandemig ddechrau. Mae hon yn strategaeth sy'n dod â llwyth o raglenni cenedlaethol at ei gilydd sydd wedi bod ar y gweill ac sydd eisoes ar y gweill, gan gynnwys delweddu, genomeg, patholeg, gofal iechyd mewn gwyddoniaeth ac endosgopi. Felly, beth rydyn ni'n ceisio ei wneud, drwy dynnu'r rhain i gyd at ei gilydd—ac fe wnaethoch chi ofyn am ddata. Os ydym ni’n integreiddio'r data sy'n berthnasol i'r holl wahanol lwybrau hynny ar un platfform, yna rydych chi'n cael arbedion maint gwell, rydych chi'n cael gwahanol ddiagnosisau yn gallu cael eu cymharu â'i gilydd, gan sicrhau bod y rheiny'n cael eu hanfon i lawr y llwybr priodol. Felly, mae data'n bwysig, ond mae rhoi'r data hwnnw ar un llwybr er gwaethaf bod yr holl gynlluniau cenedlaethol hyn ar waith yn mynd i fod yn newid allweddol yn y dyfodol.

Dyma'r cynllun cyffredinol, ond y gwaith manwl o ran sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni—. Dydw i ddim yn bwriadu dod â hynny yn ôl i'r Senedd dro ar ôl tro, oherwydd rydw i wedi penodi bwrdd diagnostig cenedlaethol, sy'n mynd i gael ei arwain gan ddirprwy brif swyddog gweithredol y GIG yng Nghymru, gan ddod â'r arbenigwyr hynny o'r gwahanol feysydd arbenigol, i wneud yn siŵr ein bod ni’n glynu ac yn cyflawni'r cynllun hwn, oherwydd ei fod, fel rydych chi’n ei ddweud, yn hanfodol i gyflawni'r gostyngiadau hynny yn yr amseroedd aros.

Fe wnaethoch chi sôn bod rhesymau da dros ganslo cymaint o lawdriniaethau yn ystod pandemig COVID; rydym ni'n dal ar gyfnod o ddal i fyny. Un o'r pethau rydyn ni'n ceisio ei wneud yma yw nid dim ond ad-drefnu gwasanaethau, trwy, er enghraifft, symleiddio'r llwybrau, gwneud yn siŵr, pan fo hynny'n briodol, fod pobl yn mynd yn syth i gael eu profi, gan sicrhau bod gennym ni ganolfannau rhanbarthol. Ac ydych, rydych chi'n siarad llawer am eich hybiau, ac mae hwb yma yn dod yn Llantrisant. Holl bwynt hyn yw y gallwn ni eu cadw draw o'r canolfannau brys, fel y bydd y gwaith brys yn cario ymlaen ac na fyddwn yn atal y diagnosteg sy'n digwydd. Dydi hi ddim yn hawdd gwneud hynny. Os nad oes gennych chi sylfaen poblogaeth enfawr mewn dinasoedd mawr, fel maen nhw'n ei wneud mewn rhannau o Loegr—. Mae gennym ni ddwy ganolfan boblogaeth fawr yng Nghaerdydd ac Abertawe, lle mae gennych chi fwy nag un ysbyty mewn ardal benodol, lle gallwch chi wahanu gwaith ar wahân i waith brys. Ond dyna pam y bydd y canolfannau diagnostig annibynnol newydd hyn, rwy'n meddwl, yn ddefnyddiol.

O ran cael gafael, wrth gwrs, rydych chi wedi bod yn clywed, rwy'n siŵr, am y materion mewn perthynas â chael gafael ar feddyg teulu yn Lloegr. Rydyn ni wedi newid y contractau yma yng Nghymru. Mae'r rheiny wedi bod yn wirfoddol, er enghraifft, hyd at fis Ebrill, o ran y dagfa 8 y bore. Mae hynny bellach yn rhan ac yn ddisgwyliad o'r cytundeb newydd a ddechreuodd ym mis Ebrill, felly yn amlwg, byddwn yn dymuno plismona hwnnw i wneud yn siŵr bod pobl yn gweithredu hynny'n llawn ac yn parchu'r contractau hynny. Mae canolfannau diagnostig cyflym, rwy'n meddwl, ym mhob bwrdd iechyd—efallai nid Powys—eisoes, felly mae'r hyn rydyn ni'n siarad amdano yma yn gynnig gwahanol, ond wrth gwrs, bydd hynny i gyd yn cael ei fwydo i'r strategaeth gyffredinol hon.

O ran yr apiau—a byddwch chi’n gweld ein bod ni'n symud ymlaen â hynny—yr hyn sy'n debygol o ddigwydd gyda'r apiau yw y byddwn ni'n parhau i adeiladu ar yr ap, bydd pethau'n cael eu newid wrth i ni symud ymlaen gyda'r ap. Mae llwyfan lle gallwn ni barhau i ychwanegu pethau. Bydd disgwyl i gleifion allu gweld eu cofnodion. Yn sicr fe fyddan nhw'n gallu gweld, gobeithio, cofnodion meddygon teulu. I ba raddau y byddan nhw'n gallu gweld cofnodion gofal eilaidd, bydd yn rhaid i ni weithio hynny i gyd allan. Yn amlwg, mae yna lawer o faterion gwybodaeth a phreifatrwydd y mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod ni’n eu datrys hefyd.

16:00

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Heb os, mae’r Gweinidog yn iawn i bwysleisio’r angen am ddiagnosis cynnar. Y cynharaf ydy'r diagnosis, y mwya'r gobaith o gael triniaeth lwyddiannus. Mae o'n arbed bywydau; mae o'n codi safonau bywydau hefyd. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r rhyw hanner miliwn o bobl sydd ar restrau aros yn barod yn mynd i fod angen rhyw fath o brawf diagnosis, ac mae yna fwy a mwy yn cael eu hychwanegu at y rhestr yna bob dydd. Mae'n rhaid cofio hefyd, os ydyn ni'n edrych ar y ffigurau aros diweddaraf, mi oedd y niferoedd yn aros am therapeutics a diagnostics wedi cynyddu. Felly, mae’n amlwg bod yna waith i’w wneud er mwyn cynyddu capasiti, er mwyn gallu cynnig diagnosis cynnar i fwy o bobl. Dwi'n falch bod strategaeth newydd wedi cael ei datblygu; dwi'n croesawu'r cyhoeddiad hwnnw. Mae eisiau gofyn, wrth gwrs, pam nad oedd strategaeth bwrpasol cyn hyn, ond mi edrychwn ni ymlaen rŵan. Mae’r amcanion sy'n cael eu gosod yn rhai y gallwn ni i gyd eu croesawu—yr angen i gynyddu capasiti a darparu arweiniad clir yn genedlaethol ar ddelifro profion diagnostig ac ati.

Mae rhyw dri chwestiwn gen i. O ystyried nad ychwanegu at fomentwm dod â'r rhestri diagnostics i lawr ydyn ni—mae'r ffigurau wedi bod yn codi yn ddiweddar—sut mae'r Gweinidog yn mynd i weithio efo'r byrddau iechyd i gynllunio twf mewn capasiti rŵan mewn ffordd sydd yn mynd i arwain at ganlyniadau buan ar gyfer cleifion? Yn ail, mi fyddwn i'n licio clywed mwy gan y Gweinidog ynglŷn â'r gwaith sy'n mynd i fynd i mewn i ddatblygu'r gweithlu cynaliadwy sydd ei angen er mwyn delifro strategaeth o'r math yma. Heb weithlu, does yna ddim cynllun diagnostics na chynllun unrhyw beth arall o fewn y gwasanaeth iechyd. Felly, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi mwy o fanylion ar hynny. Ac yn olaf, dwi'n eiddgar i gael darlun ychydig bach cliriach gan y Gweinidog nag yr ydyn ni wedi ei gael yn barod ar sut mae gwasanaethau diagnostig yn mynd i gael eu datblygu mewn ffordd sy'n eu gwneud nhw'n hygyrch i bobl lle bynnag maen nhw yng Nghymru. Dwi'n ymwybodol o bryderon yng ngogledd Ceredigion, er enghraifft, ac yn ehangach ar draws y canolbarth, bod canolfan ddiagnostig frys Hywel Dda, er enghraifft, lawr yn Llanelli, tipyn o bellter oddi wrthyn nhw. Mae'n rhaid meddwl yn ofalus am ddyraniad daearyddol y ddarpariaeth sy'n mynd i gael ei datblygu gan y strategaeth yma. Mi fyddwn i'n croesawu sylwadau gan y Gweinidog a all roi rhywfaint o obaith i'r bobl hynny sydd mewn ardaloedd sy'n teimlo bod gwasanaethau yn mynd i gael eu datblygu ymhell ohonyn nhw bod y Gweinidog o leiaf yn ymwybodol o'r pryderon hynny. 

16:05

Diolch yn fawr. Rŷn ni'n ymwybodol iawn bod lot fawr o bobl yn aros i gael triniaeth ar yr NHS, ac mae'n wir bod mwy o bobl yn dod ar y rhestri aros, ond wrth gwrs mae mwy ohonyn nhw'n gadael y rhestri aros ar hyn o bryd. Felly, mae hwnna o leiaf yn mynd yn y cyfeiriad cywir. 

Pam dydyn ni ddim wedi gwneud hyn cyn hyn? Wel, achos ein bod ni wedi bod yn canolbwyntio ar y rhaglenni unigol yna—yr imaging, genomics, pathology, endoscopy. Felly, dyw e ddim fel bod dim gwaith wedi bod yn cael ei wneud. Mae lot o'r rheini eisoes wedi cael eu gwneud, ond beth rŷn ni'n ei wneud fan hyn yw dod â'r holl beth ynghyd. Fel rŷch chi'n dweud, beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n cynllunio'r twf gyda'i gilydd fel bod pethau ddim yn cael eu gweld fel pethau unigol yn y dyfodol, ond eu bod nhw'n gallu bwydo oddi wrth ei gilydd. I sicrhau bod y twf yna yn cael ei wneud yn y ffordd iawn, bydd yna gynrychiolwyr ar y bwrdd fydd yn ymwneud â'r strategaeth yma. Bydd yna gynrychiolaeth o'r categories gwahanol, o ran yr arbenigwyr, ond hefyd o'r byrddau iechyd. A bydd yna ddisgwyliad iddyn nhw gydweithio, achos yn amlwg rŷn ni mewn cyfnod o brinder, rŷn ni mewn cyfnod lle bydd hi'n anodd i ni gael mwy na thri o'r sefydliadau yma. Felly, fe fydd angen inni gael cydnabyddiaeth y bydd angen help, efallai, i bobl i ffeindio'u ffordd i'r canolfannau yma, achos bydd hi ddim yn bosibl inni gael canolfan ym mhob rhan o Gymru. O ran y canolfannau arbenigol yma, dwi'n meddwl ein bod ni mewn sefyllfa nawr lle dwi'n meddwl bod pobl yn barod i deithio tipyn bach ymhellach os bydd e'n cyflymu yr amser mae'n cymryd i gael eu hymyrraeth meddygol nhw. 

O ran cynllun y gweithlu, eisoes mae HEIW yn gweithio ar hwn, ac felly mae hwn yn rhan annatod o'r strategaeth, a byddwn ni'n disgwyl gweld hynny maes o law. 

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n croesawu'n gryf y defnydd da hwn o adnoddau prin. Mae'r rhain yn ddarnau drud iawn o offer, ac felly mae sicrhau eu bod nhw ar gael yn rhanbarthol yn ymddangos i mi yn ffordd gwbl resymegol o wneud pethau. Tybed a allech chi gadarnhau a fydd y gwasanaeth rhanbarthol hwn ar gyfer Cwm Taf Morgannwg, Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro, neu a yw'n cynnwys Bae Abertawe hefyd? Beth yw eich cynnig ynghylch hynny? 

Mae'n ymddangos i mi ei fod yn bwysig iawn, iawn i gleifion wybod a oes ganddyn nhw broblem ddifrifol ai peidio, oherwydd os nad oes ganddyn nhw yna gallan nhw roi'r gorau i boeni, ac os oes ganddyn nhw, yna gallwn ni ddarganfod yn gyflym beth allwn ni ei wneud i'w ddatrys. Allech chi esbonio'r amserlen o ran pryd ydych chi'n meddwl y bydd Cwm Taf Morgannwg, y gwasanaeth rhanbarthol yn Llantrisant, yn gallu mynd yn fyw, oherwydd rwy'n gwerthfawrogi bod yn rhaid i chi newid yr adeilad yr ydych chi newydd ei gaffael, a hefyd pryd ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n gwybod a allwch chi gael yr arian at ei gilydd ar gyfer uned endosgopi rhanbarthol ar yr un safle?

Yn olaf, yn unol â'r cwestiwn gan Rhun ap Iorwerth, a fydd cludiant ar gael i fy etholwyr sydd heb fynediad at gar?

16:10

Diolch yn fawr, Jenny. Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf cyffrous am y rhaglen hon mewn gwirionedd yw'r gallu i ni edrych i'r dyfodol, lle gall pethau newid yn eithaf cyflym yn y maes hwn. Un o'r pethau rydw i wedi bod yn wirioneddol bryderus amdano—. Fel y gwnaethoch chi sôn, mae'r offer hwn yn ddrud iawn, felly'r peth olaf rydw i eisiau ei wneud yw buddsoddi mewn llawer iawn o offer cyfalaf ac y byddwn ni’n ei weld yn dod yn ased nad yw’n cael ei ddefnyddio ymhen ychydig flynyddoedd. Ddydd Iau diwethaf, es i ar ymweliad ag ysbyty athrofaol Caerdydd, lle mae rhai menywod athrylithgar yn gweithio ar brofion biopsi hylifol. Yr hyn sy'n digwydd yw eu bod nhw’n cymryd sampl o'ch gwaed a gallan nhw ddadansoddi hynny drwy genomeg a dweud a oes gennych chi ganser a dweud pa fath o ganser, ac yna gallan nhw addasu pa fath o feddyginiaeth maen nhw’n ei roi i chi mewn ymateb i'r union ganser sydd gennych chi. Felly, rydyn ni'n mynd i mewn i dechnoleg fanwl go iawn yma. Yn amlwg, mae hynny'n llawer llai o ymyrraeth na defnyddio offer enfawr lle mae'n rhaid i chi fynd i mewn i beiriannau a phob math o bethau. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau, beth bynnag rydyn ni'n ei wneud, ein bod ni'n cadw un llygad ar y dyfodol a beth fydd orau yn glinigol i'r cyhoedd.

O ran y gwasanaethau rhanbarthol, rydym ni’n disgwyl y bydd un Cwm Taf yn gwasanaethu ôl troed de-ddwyrain Cymru, felly bydd hynny'n cynnwys Caerdydd a Chwm Taf ac Aneurin Bevan. Rydyn ni'n cynnig un arall, felly, ar gyfer y gorllewin, ac yn amlwg fe fydd un arall yn y gogledd. Dyna'r math o ffurfweddiad. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod ni’n deall bod yn rhaid i chi wneud llawer iawn o brofion i ddod o hyd i'r 5 y cant o bobl a allai fod yn dioddef. Er mwyn dod o hyd i'r 5 y cant o bobl a allai fod â chanser, mae'n rhaid i chi brofi'r 95 y cant arall o bobl.FootnoteLink Mae hyn yn llawer o brofion, ac yn amlwg tra byddwch chi'n aros mae hynny'n amser gwirioneddol bryderus a gofidus. Os allwn ni leihau'r galw ar y gwasanaeth, er enghraifft, drwy ddefnyddio profion gwaed yn lle profion drud, yna yn amlwg byddai hynny'n ffordd dda o symud ymlaen. Ond mae'r wyddoniaeth yn dal i ddatblygu yn y maes hwnnw. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol efallai y bydd angen i ni symud cyfeiriad yn gyflym wrth i'r wyddoniaeth ddatblygu.

O ran Cwm Taf Morgannwg, rwy’n gobeithio y byddwn ni'n cyrraedd rhywle erbyn diwedd eleni, sydd yn uchelgeisiol iawn, iawn. Dyna lle hoffwn i fod. Bydd y rhan endosgopi ohono, rwy'n credu, yn dod yn hwyrach, ond yn sicr, ar y diagnosteg ehangach, rwy'n eu gwthio'n galed iawn i weld pa mor gyflym y gallwn ni gael hynny yn ei le, yn ddelfrydol erbyn diwedd eleni. Bydd her o ran trafnidiaeth. Rydych chi'n gwybod pa mor brin o arian nid yn unig yw trafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd, ond hefyd y gwasanaeth iechyd, felly mae gen i ofn na fyddaf i'n gallu gwneud ymrwymiad o ran hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, mae datblygiadau newydd fel y biopsïau hylifol a amlygwyd gennych chi yn newyddion i'w groesawu. Mae unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i leihau poen a dioddefaint tra ar yr un pryd leihau arosiadau diagnostig i'w gymeradwyo. Ydych chi'n pryderu y byddwn ni'n gweld pocedi o ragoriaeth unwaith eto ond taw'r realiti yn y rhan fwyaf o'r byrddau iechyd fydd parhau i aros yn hir am waith diagnostig? Rydym ni wedi trafod yn y gorffennol arloesedd fel FibroScan, sy'n cael ei alw'n drawsnewidiol ym maes gofal yr afu, ond eto nid yw'r argaeledd yn gyffredinol. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr holl dechnegau diagnostig arloesol hyn ar gael i bob claf o Gymru sydd eu hangen? Er enghraifft, mae delweddu cyseiniant magnetig gwrthgyferbyniol deinamig wedi chwyldroi diagnosisau canser y prostad, ond nid yw ar gael i bawb. Yn olaf, Gweinidog, yr wythnos diwethaf, dywedodd bwrdd iechyd Bae Abertawe wrthyf i am eu cynlluniau i ehangu profion gwaed o wasanaeth tair wythnos i un pedwar diwrnod o hyd. Eu hamser aros cyfartalog am ganlyniadau ar draws yr holl safleoedd yw 13 diwrnod gwaith. Ydych chi'n meddwl bod hyn yn dderbyniol, a pha gamau allwch chi eu cymryd i gyflymu'r broses? Diolch yn fawr.

16:15

Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol iawn; mae pocedi o ragoriaeth bob amser, ac nid yw hynny o reidrwydd yn beth drwg, oherwydd os oes gennych chi bocedi o ragoriaeth gallwch chi ddenu gweithwyr allweddol ac arbenigol i'r lleoedd hynny. Felly, dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am ddatblygu tair canolfan ddiagnostig ranbarthol yr ydw i'n gobeithio y byddan nhw'n denu rhai gweithwyr rhagorol i'r cyfleusterau hynny. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud, serch hynny, yw sicrhau bod y bwrdd a fydd yn monitro hyn yn deall eu cyfrifoldeb i fonitro, i wneud yn siŵr nad oes rhwystr daearyddol i'r bobl hynny, ac nad yw'n gwahaniaethu i bob pwrpas ar sail daearyddiaeth. Ond mae rhai byrddau yn perfformio'n well na'i gilydd, ac rwy'n credu mai rhan o fy swyddogaeth i yw parhau i roi pwysau arnyn nhw. 

O ran y gwasanaeth gwaed, nid yw tridiau'r wythnos yn ddigon da, a dweud y gwir. Rwyf eisiau saith diwrnod yr wythnos yn y maes hwn. Rwyf eisiau saith diwrnod yr wythnos. Os ydyn ni'n gwario arian ar gyfarpar drud, rwyf eisiau ei weld yn cael ei ddefnyddio 24 awr y dydd. A'r cyfyngiad, rwy'n disgwyl, o ran pobl a niferoedd y bobl—felly dyna pam mae'n rhaid i ni gael yr agwedd hyfforddi yma ar y strategaeth yn hollol gywir. Ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu y gallwn ni fod ychydig yn greadigol hefyd. Felly, er enghraifft, wrth i ni ddigideiddio rhai o'r canlyniadau hyn, does dim rheswm pam na allwn ni anfon y canlyniadau, fel sydd eisoes yn cael ei wneud, i'w monitro a'u dadansoddi dros nos i Awstralia, sy'n effro, a gallan nhw ei anfon yn ôl. Felly, mae hynny eisoes yn cael ei wneud. Yr hyn hoffwn i ei weld yw llawer mwy o hynny, felly creadigrwydd yn cael ei ddefnyddio fel nad ydym ni'n gwneud pethau yn yr un ffordd â'r hyn yr ydym ni wastad wedi ei wneud. Felly, nid yw tridiau'r wythnos yn agos at fod yn ddigon da i mi, na.

6. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ffyniant Cyffredin a Ffyniant Bro

Eitem 6 yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: ffyniant cyffredin a ffyniant bro. Galwaf ar Weinidog yr Economi—Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

Rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw ynghylch ein dealltwriaeth bresennol o gronfeydd ffyniant cyffredin a ffyniant bro Llywodraeth y DU, a'u heffaith ar yr economi a sgiliau yng Nghymru.

Ers blynyddoedd lawer, mae cyd-Weinidogion a minnau wedi rhybuddio am y perygl i'n heconomi wrth i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen i ddefnyddio dull gweithredu'r cronfeydd disodli cyllid yr UE sy'n golygu bod Cymru ar ei cholled, sy'n wfftio anghenion ein rhanddeiliaid, ac sy'n diystyru tirwedd economaidd a luniwyd gan dros 20 mlynedd o ddatganoli. A gadewch i ni atgoffa'n hunain bod datganoli wedi'i gymeradwyo mewn dau refferendwm yng Nghymru a sawl etholiad democrataidd.

Dirprwy Lywydd, gyda gofid mawr y gwelwn nawr ganlyniadau yr oeddem wedi rhybuddio amdanyn nhw bellach yn gweithredu ar draws ein heconomi. Gyda chyllid i ddisodli cyllid yr UE fel y mae, nid yn unig y mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn gadael Cymru dros £1.1 biliwn yn waeth ei byd o'i gymharu â chronfeydd strwythurol a gwledig yr UE, ond mae Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen â dull sy'n osgoi Llywodraeth Cymru a gwaith chraffu gan y Senedd; nid yw'n cynnwys sectorau a phartneriaid twf allweddol gan gynnwys prifysgolion, colegau a'r sector gwirfoddol; mae'n atal prosiectau strategol ag effaith sylweddol; ac mae'n rhoi gofynion annerbyniol ar ein hawdurdodau lleol.

Mae'r cronfeydd disodli yn llai, yn llai hyblyg ac yn gulach o ran cwmpas na chyllid yr UE yr oedden nhw'n honni eu bod yn cymryd ei le. Yn y rownd bresennol o raglenni yr UE, buddsoddwyd £380 miliwn mewn ymchwil, datblygu ac arloesi. Roedd hynny'n cefnogi ehangu cyfleusterau ymchwil a chydweithrediadau mawr rhwng busnes a'r byd academaidd. Nid oes gan y gronfa ffyniant gyffredin hyd yn oed linyn ymchwil, datblygu ac arloesi o fewn ei blaenoriaethau buddsoddi. Mae hyn yn arwain yn uniongyrchol at golli swyddi ar raddfa enfawr a chau prosiectau allweddol mewn meysydd fel datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy a sgiliau diwydiannol. Mae tua 1,000 o swyddi ar fin cael eu colli ar draws prifysgolion Cymru a chyfleoedd ymchwil, datblygu ac arloesi ar raddfa fawr i fusnesau yng Nghymru o ganlyniad uniongyrchol i ddewisiadau Llywodraethau'r DU. Ar ben hyn, rydym yn gweld colli swyddi yn y trydydd sector a chau rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol ledled Cymru a oedd yn darparu arbenigedd go iawn wrth helpu pobl agored i niwed i symud ymlaen i gyflogaeth a hyfforddiant. Dirprwy Lywydd, dyma'r canlyniadau i Gymru oherwydd bod gan Gymru lai o lais dros lai o arian, canlyniadau addewidion maniffesto toredig gan Lywodraeth bresennol y DU.

Gwrthodwyd i Lywodraeth Cymru gael unrhyw fynediad i'r gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer rhaglenni cenedlaethol a oedd yn cael eu hariannu yn flaenorol gan yr UE, fel Busnes Cymru, prentisiaethau a Banc Datblygu Cymru. Mae hynny wedi golygu dewisiadau eithriadol o anodd i'n cyllideb, o ystyried y pwysau sydd eisoes arni a realiti gostyngiad mewn termau real yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Gellid bod wedi osgoi hyn i gyd pe bai Llywodraeth y DU wedi parchu datganoli a chaniatáu i ni reoli cyllid disodli llawn drwy ein fframwaith ar gyfer buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru. Cyd-gynhyrchwyd y model hwnnw gyda rhanddeiliaid yma yng Nghymru a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd at yr union ddiben hwn. Cefnogwyd y cynllun gan ymgynghoriad cyhoeddus a'i oruchwylio gan grŵp llywio cynrychioladol, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies.

Nid yw'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, drwy ddefnyddio'r pwerau yn Neddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, yn ymestyn datganoli, fel y mae rhai wedi honni'n ddoniol iawn; nid oedd gan awdurdodau lleol unrhyw rôl na barn ar ddyluniad y gronfa. Yn syml, maen nhw wedi cael y gwaith o weinyddu'n lleol yn erbyn cefndir o anhrefn a therfynau amser cynllunio a gwario amhosib. Dim ond ym mis Ionawr 2023 y derbyniwyd y cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23, ac fe wnaeth Llywodraeth y DU ddal £15 miliwn o'r dyraniad hwnnw yn ôl oherwydd y problemau cyflenwi cwbl ragweladwy gyda'u cynllun rhifedd oedolion, Lluosi. Nid yn unig mae Lluosi wedi'i ddylunio'n wael, mae'n ymosodiad annerbyniol arall eto ar ein setliad datganoli. Mae'n rhy gul o ran pwyslais ac mae'n peryglu dyblygu'r ddarpariaeth yma yng Nghymru. Mae'n brigdorri cronfeydd disodli cyllid y UE i gefnogi agenda Llywodraeth y DU, wedi'i chynllunio a'i chyflawni yn Whitehall, mewn maes sydd yn amlwg wedi'i datganoli. Ac wrth gwrs, mae'n ein hamddifadu ni o gyllid i gefnogi blaenoriaethau strategol fel Busnes Cymru, SMART Cymru a'n rhaglen brentisiaethau.

Rydym yn arbennig o bryderus bod Llywodraeth y DU wedi creu dull anghydlynol ar gyfer pobl a busnesau sydd eisiau mynediad i'r gronfa ffyniant gyffredin. Mae rhai prosiectau a grantiau ar gael mewn rhai rhannau o Gymru ond nid eraill, heb unrhyw resymeg i esbonio hynny. Mae hyn, eto, yn ganlyniad i ddull gweithredu wedi'i chawlio sy'n darnio'r dirwedd ariannu yma yng Nghymru. Mae'n torri'n deilchion ffyrdd sefydledig o weithio rhanbarthol ac yn trosglwyddo cyfrifoldeb i awdurdodau lleol i ymdrin â'r canlyniadau. Mae'r darlun o ran y gronfa ffyniant bro gystadleuol yr un mor ddigalonus. Mae awdurdodau lleol, sydd eisoes dan straen aruthrol yn gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin, wedi treulio llawer iawn o'u hamser i ddatblygu ceisiadau am brosiectau, y mwyafrif helaeth ohonynt wedi'u gwrthod gan Lywodraeth y DU. O'r 43 cais yn rownd olaf y gronfa ffyniant bro, dim ond 11 gafodd eu cymeradwyo. Ac nid yw pump o awdurdodau lleol yng Nghymru: sir y Fflint, Merthyr Tudful, sir Fynwy, Casnewydd a Bro Morgannwg, wedi derbyn unrhyw beth o gwbl o ddwy rownd gyntaf y gronfa ffyniant bro. Fel y gronfa ffyniant gyffredin, mae hwn yn gynllun arall lle mae oedi'n rhemp ac sydd wedi rhoi pwysau ychwanegol ar lywodraeth leol a chynyddu costau yn ystod cyfnod o chwyddiant cynyddol. Gyda dim ond 20 y cant o'r gronfa ffyniant bro yn weddill ar gyfer rownd derfynol y flwyddyn nesaf a phob prosiect cyfalaf yn gorfod cael ei gwblhau erbyn diwedd 2024, mae'r potensial ar gyfer yr hyn sydd ar ôl yn y gronfa hon yn gyfyngedig ar y gorau.

Nid yw'r cronfeydd ffyniant bro a ffyniant cyffredin yn gronfeydd amlflwydd fel oedd rhaglenni'r UE. Mae'r dyraniadau blynyddol y mae dull Llywodraeth y DU yn eu cynnig yn arwain at amserlenni gwario tymor byr a risg o wariant diwedd blwyddyn gwael neu arian ddim yn cael ei wario o gwbl. Yn hytrach na diogelwch rhaglenni amlflwydd a oedd ar gael o'r blaen, mae gennym y sicrwydd cyfyngedig a'r cyllid rhannol a ddarparwyd gan y setliad adolygu gwariant am dair blynedd. Yn anffodus, oherwydd oedi a chamreoli gan Lywodraeth y DU, dim ond tua 18 mis o gyflawni gwirioneddol fydd yn digwydd yn y pen draw.

Rwy'n trafod ar lefel ranbarthol yr effaith y mae'r cronfeydd hyn bellach yn ei chael ar y tasgau ehangach y mae ein rhanbarthau economaidd yn eu dilyn. Mae cynghorwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi mynegi rhwystredigaethau sylweddol ynghylch y cyfleoedd coll y mae'r dewisiadau hyn yn y DU yn eu cyflwyno. Rwy'n awyddus i weithio gyda phob rhanbarth i ddeall realiti'r darlun presennol, i edrych ar sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i geisio goresgyn y difrod lle bo hynny'n bosib, ac i gefnogi blaenoriaethau cyffredin.

Dirprwy Lywydd, rydym wedi gweld beth sy'n digwydd pan fydd Llywodraeth y DU yn gwthio ei hun i feysydd datganoledig heb gydsyniad neu unrhyw fath o bartneriaeth ystyrlon. Dylid gwneud cymariaethau â'r ffordd y buom yn gweithio'n bragmataidd gyda'n gilydd ar sefydlu dau borthladd rhydd i Gymru a ddylai helpu i wasanaethu fel enghraifft gadarnhaol ar gyfer gwaith rhyng-lywodraethol yn y dyfodol.

Ni allwn ni ddadwneud canlyniadau addewidion toredig a'r dull gweithredu y mae Llywodraeth y DU wedi'i fabwysiadu o ran y cronfeydd hyn. Fodd bynnag, gallwn amlinellu gweledigaeth ar gyfer oes nesaf datblygiad rhanbarthol yng Nghymru sy'n atgyweirio'r difrod ac yn harneisio ein gwaith parhaus gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i integreiddio arferion gorau rhyngwladol o fewn datblygiad rhanbarthol Cymru. Yn hytrach na dull bach, tymor byr Llywodraeth y DU, mae'n hanfodol ein bod yn creu dull gweithredu mwy llewyrchus a chynhwysol ar gyfer yr economi gyda swyddi gwell, cydweithio â llywodraeth leol, busnesau, prifysgolion, a chymunedau lleol. Byddwn ni'n blaenoriaethu arloesi, entrepreneuriaeth, datgarboneiddio a datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol.

Mae ein model yn edrych yn debycach o lawer i'r dulliau llwyddiannus a weithredwyd mewn cenhedloedd eraill ac yn wahanol iawn i ddull y DU sydd wedi ennyn beirniadaeth gyson gan leisiau annibynnol, gan gynnwys pwyllgorau dethol Tŷ'r Cyffredin a'r Sefydliad Llywodraeth. Dirprwy Lywydd, wrth i'r rhybuddion hyn ddwyn ffrwyth ac rydym yn gweld y pris y mae Cymru'n ei dalu gyda swyddi, prosiectau a chyfleoedd coll, rydym yn galw eto ar Lywodraeth y DU i ddod â'r ddadl hon i ben, i ddychwelyd y cyllid a'r pwerau gwneud penderfyniadau i le maen nhw'n perthyn: yn Llywodraeth Cymru ac yn y Senedd hon. Dyna fydd ein galwad o hyd ar ran pobl Cymru.

Fe'i gadawaf hi'n y fan yna. Rwy'n hapus i gymryd cwestiynau a sylwadau gan Aelodau, Dirprwy Lywydd.

16:25

Fel y bydd Aelodau'n ymwybodol, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i gyllid datblygu rhanbarthol ar ôl ymadael â'r UE, gan adeiladu ar ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Cyllid. Mewn gwirionedd, rydym wedi cau ein hymgynghoriad ar y pwnc penodol hwn yn ddiweddar, ac felly, bydd y datganiad hwn yn sicr yn cyfrannu at yr ymchwiliad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at groesawu'r Gweinidog i'r pwyllgor maes o law.

Wrth gwrs, dydw i ddim am achub y blaen ar ganlyniadau'r ymchwiliad hwnnw, ond o ystyried bod y Gweinidog wedi cyflwyno'r datganiad hwn heddiw, mae'n gyfle da i gael ymateb y Gweinidog i rai cwestiynau ar ffyniant bro ac, yn wir, y gronfa ffyniant gyffredin. Nawr, mae'r Gweinidog yn gwybod fy marn i, os yw'r arian i'w ddarparu'n effeithiol, yna mae cydweithio yn gwbl hanfodol. Rydym wedi gweld y manteision y gall cysylltiadau rhyng-lywodraethol effeithiol eu cynnig. Mae'r datganiad heddiw yn tynnu sylw at y rhaglen porthladd rhydd fel enghraifft, ac felly rwy'n obeithiol y gellid canfod ffordd fwy adeiladol ymlaen yn y dyfodol.

Mae'r datganiad heddiw yn dweud wrthym fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithio'n ddwys gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a phartneriaid eraill i greu'r model cryfaf posib i Gymru o ran rhaglen fuddsoddi ar ôl ymadael â'r UE, a byddai'n ddefnyddiol i bob Aelod pe bai Llywodraeth Cymru'n gallu dweud mwy wrthym am y gwaith hwn a darparu'r wybodaeth honno er mwyn i ni allu gweld hynny drosom ein hunain.

Nawr, mae'r Gweinidog yn dweud wrthym fod tua 1,000 o swyddi ar fin cael eu colli ar draws prifysgolion Cymru, cwtogi cyfleoedd ymchwil a datblygu, colli swyddi yn y trydydd sector a chau rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol ledled Cymru o ganlyniad i'r gronfa ffyniant gyffredin, ac mae'n hanfodol ein bod yn gallu gweld tystiolaeth yr honiadau hyn; felly, efallai y bydd y Gweinidog yn cytuno i gyhoeddi unrhyw asesiadau effaith economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud o'r gronfa ffyniant gyffredin fel y gall pawb weld yn union pa effaith y mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y gronfa wedi'i chael ar dwf economaidd a swyddi yma yng Nghymru. Mae'r datganiad heddiw hefyd yn dweud wrthym y bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn golygu penderfyniadau anodd i Busnes Cymru, prentisiaethau a'r banc datblygu, ac efallai y gall ddweud wrthym yn union beth mae'n ei olygu o ran y penderfyniadau anodd hynny a'r hyn mae'n ei olygu i gyllideb Cymru.

Nawr, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at waith y fforwm strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, sy'n cael ei gadeirio gan yr Aelod dros Ogwr. Fel rwy'n ei ddeall, mae'r cyfarfodydd hyn wedi rhoi llwyfan i lywodraeth leol a sectorau eraill gyfnewid gwybodaeth am gynnydd y gronfa ffyniant gyffredin, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am waith y fforwm eleni a'r canlyniadau sydd wedi dod o unrhyw un o'i gyfarfodydd. Mae'r fforwm strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn ffordd ddefnyddiol o ddod â llywodraeth leol ynghyd i rannu gwybodaeth am rai o'r heriau a'r cyfleoedd y mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn eu cynnig, ac rwy'n awyddus i ddarganfod mwy am rai o'r gwersi y gellid eu dysgu ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael yr effaith fwyaf posibl.

Nawr, mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at y rhaglen Lluosi, ac un o'r themâu y bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn ymchwilio yn ei ymchwiliad yw'r rhwystrau a'r cyfleoedd posibl mewn cysylltiad â chyflwyno'r rhaglen hon. Rwy'n deall bod trafodaethau parhaus wedi bod gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r angen am hyblygrwydd gyda chyllid ar gyfer y rhaglen Lluosi, ac yn sicr mae angen i ni sicrhau nad yw arian yn cael ei danwario. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog roi diweddariad i ni ar y trafodaethau penodol y mae wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, yn ogystal ag unrhyw farn a gafodd gan awdurdodau lleol, ar y rhaglen Lluosi.

Gan symud ymlaen, Dirprwy Lywydd, i'r agenda ffyniant bro, rwy'n cytuno bod awdurdodau lleol wedi gweithio'n galed i ddatblygu ceisiadau, ac rwy'n falch o weld buddsoddiad yn cyrraedd rhannau helaeth o Gymru. Fel y dywedais o'r blaen, dylai'r agenda ffyniant bro gael ei harwain yn lleol, gydag awdurdodau lleol yn chwarae rhan uniongyrchol wrth gyflawni'r buddsoddiad hwnnw. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r ymchwiliad diweddar 'Levelling Up Locally' gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr, sy'n cynnig rhai syniadau ar sut i greu'r amodau ar gyfer ffyniant bro lleol, yn ogystal â phontio'r bwlch rhwng blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai ddweud wrthym beth yw barn Llywodraeth Cymru ar y canfyddiadau hynny a sut mae'n teimlo y gall yr adroddiad hwnnw gyfrannu at wella'r rhaglen ffyniant bro.

Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dweud fy mod yn edrych ymlaen at drafod y materion hyn ymhellach gydag ef a'i swyddogion fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i gyllid datblygu rhanbarthol ar ôl ymadael â'r UE? Diolch. 

16:30

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Mae'n dda croesawu Paul Davies yn ôl i'r Siambr, ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu ag ef yn y Siambr ac, yn wir, yn y pwyllgor. Rwy'n edrych ymlaen yn benodol at ymchwiliad y pwyllgor, lle gallwn roi mwy o fanylion yn gysylltiedig â nifer o'r cwestiynau y mae wedi'u gofyn, ond fe roddaf rai ymatebion cychwynnol heddiw. 

Does dim modd gwadu bod llai o arian ar gael yn y gronfa ffyniant gyffredin, a oedd fod i gymryd lle—. Ac, wrth gwrs, cawsom addewid na fyddai'r arian disodli yn golygu y byddai Cymru ar ei cholled un geiniog. Wel, mewn gwirionedd, mae Cymru wedi colli 110 biliwn o geiniogau oherwydd y brad pan fo'n dod at gyllid disodli. Rwy'n deall hefyd bod rhai sylwebwyr ar yr ymylon yn dal i fod—nid Paul Davies, i fod yn deg, ond sylwebwyr ar yr ymylon—yn gwneud honiadau anonest yn ddigywilydd bod mwy o arian ar gael, neu fod yr un arian ar gael, pan nad yw hynny'n wir yn amlwg. Mae rhai pobl hyd yn oed wedi cyhuddo Gweinidogion Llafur Cymru o ddweud celwydd yn y Senedd bob tro yr ydym yn atgoffa pobl o'r realiti ymarferol.

Rwy'n dweud hyn oherwydd mai'r her wrth ddod o hyd i ffordd adeiladol ymlaen yw y dylai'r lleisiau y mae Paul Davies yn eu cyflwyno i'r ddadl hon, a'r ffordd rwy'n siŵr y cawn ni drafodaeth y pwyllgor, ganiatáu llwyfan ar gyfer tystiolaeth a realiti i reoli'r trafodaethau a gawn, a'r ffordd wirioneddol adeiladol ymlaen yr wyf eisiau ei gweld. Bydd hynny'n cynnwys rhannu gyda'r pwyllgor rai o'r pwyntiau ynghylch gwaith y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd y maen nhw'n ei wneud gyda ni. Rwy'n credu y byddai honno'n ffordd ddefnyddiol o roi diweddariad, drwy'r pwyllgor, i Aelodau.

Yr hyn na allwn ac na fyddwn ni'n ei wneud yw cerdded i ffwrdd o'r lleisiau hynny sy'n gwneud honiadau di-sail, ac ni fyddwn yn dathlu'r ffaith bod rhywfaint o arian wedi'i gyhoeddi ond sy'n dal i arwain at golled sylweddol gyffredinol i Gymru. A dyna'r sefyllfa. Fe ddof yn ôl at rai o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod am y dystiolaeth ar gyfer yr honiadau yr wyf wedi eu gwneud. Pan ddaw at 1,000 o swyddi'n cael eu colli o'r sector addysg uwch, roedd Paul Boyle yn ddiymwad o glir ynghylch hyn yn ei sylwadau, a wnaed ar 24 Ionawr eleni. Cyfeiriodd at y 1,000 o swyddi, gan siarad ar ran y sector AU, sy'n cael eu colli. Mae enghreifftiau penodol yng Nghaerdydd, yn Abertawe, yn Wrecsam. Ym mhob prifysgol bron, mae pobl na fydd yn cael eu cyflogi yn y sector mwyach oni bai bod yna newid cyflym, a dydw i ddim yn credu, o gyllideb y gwanwyn, ein bod ni'n mynd i weld y math o gamau gweithredu y dylem ni eu gweld gan Lywodraeth y DU.

Pan ddaw i feysydd eraill, yn y sector gwirfoddol, mae Chwarae Teg yn diswyddo hanner eu staff oherwydd y ffordd y mae cronfeydd disodli cyllid yr UE wedi cael eu darparu. O ran y rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol, mae'r sector gwirfoddol, sy'n cael ei gydlynu drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, wedi darparu dros 23,000 o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl dan anfantais ers 2015. Mae'r rhaglenni hynny wedi cau. Felly, os ydych chi eisiau mesur effaith economaidd ehangach, byddwn i'n fwy na pharod i weld hynny'n cael ei wneud gyda'r pwyllgor i ddeall maint y golled sydd wedi digwydd.

Nid yw hyn yn ymwneud ag arian yn unig wrth gwrs, ond dyluniad y rhaglenni, oherwydd mae'n fwriadol yn osgoi, mewn gwirionedd, prosiectau adeiladol a strategol. Bydd Paul Davies yn gwybod, o'i rôl yn craffu yn y Senedd, bod pwyllgorau'r Senedd, ac, yn wir, pwyllgorau Tŷ'r Cyffredin, i gyd wedi gwneud sylw, yn oesoedd amrywiol rhaglenni Ewropeaidd ac arian Ewropeaidd yr ydym ni a rhanbarthau eraill o'r DU wedi'u cael, ein bod wedi symud o fod â phrosiectau llai, llai strategol i rai lle mae gennych chi nifer llai o brosiectau mwy a strategol gyda mwy o enillion. Y dull o weithredu yr ydym yn ei weld yn y gronfa ffyniant gyffredin a'r gronfa ffyniant bro yw mynd yn ôl i ffordd sydd â phrosiectau llawer llai, canlyniadau llawer llai ac sy'n ddefnydd gwael yn strategol o'r arian hwnnw. Rwy'n credu y gwelwch chi hynny yn y pwyllgor mae Huw Irranca-Davies yn ei gadeirio, ac rwy'n fwy na hapus, eto, i weithio drwy'r pwyllgor a drwy Aelodau'r Senedd i dynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud yno fel bod Aelodau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud.

Fe orffennaf i gyda Lluosi. Mae Lluosi yn ymyrraeth letchwith ar y cyfan nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr go iawn o gwbl mewn gwirionedd. Nid yn unig y mae rhifedd oedolion yn amlwg wedi'i ddatganoli, mae'n faes lle nad yw wedi bod yn bosib gwario'r arian arno, ac nid yw Llywodraeth y DU wedi trosglwyddo'r arian hyd yn oed. Bob tro y maen nhw'n addo gwneud penderfyniadau—. Roedd hyn i fod yn hydref y llynedd; ni wnaethon nhw benderfyniadau ar Lluosi tan fis Ionawr, yna roedden nhw'n dal arian yn ôl am eu bod yn gwybod nad oedd modd ei wario. Mae natur flynyddol y gronfa honno'n broblem wirioneddol, nid yn unig, fel yr amlygais yn y datganiad, oherwydd mae hi bron yn sicr na allwch chi wario'r holl arian yn iawn o fewn y flwyddyn neu rydych chi'n ei anfon yn ôl i'r Trysorlys yn y pen draw, ac nid dyna'r bwriad y tu ôl i'r arian hwn, ond hyd yn oed y cynllun cychwynnol, i gael y cyllid tair blynedd—ni fydd tair blynedd lawn o gyllid ar gyfer cyflawni. Ni allwch chi ddisgwyl i ddarparwyr baratoi i gyflawni rhaglenni rhifedd newydd i oedolion heb gael unrhyw sicrwydd ynglŷn â phryd y bydd yr arian yn cael ei ddarparu, heb ystyried sut y bydd wedyn yn cael ei wario a sut mae hynny'n gweithio yn erbyn cwmnïau sy'n gweithio ar gyfer eu dysgwyr eu hunain. Felly, mae gennych chi raglen y mae ei dyluniad yn milwrio yn erbyn ei gweithrediad effeithiol. Pe bai sgwrs wedi bod ynghylch sut y gallem wella sgiliau sylfaenol ar gyfer oedolion, rhifedd a llythrennedd, gallem fod wedi cynllunio rhywbeth a fyddai wedi gweithio a gwneud defnydd da o'r arian, a dyna'r cyfle sydd wedi ei golli.

Fe orffennaf i yn y fan yna, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n siŵr y bydd mwy o gyfle i gyfrannu gyda manylion adeiladol at ymchwiliad y pwyllgor. 

16:35

Rwy'n ymuno â'r Gweinidog i groesawu fy nghyd-Aelod ac Aelod cyfatebol yn y blaid Dorïaidd yn ôl. Rwy'n arbennig o falch o'i weld yn ôl yn y Siambr, ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at weithio gydag ef ar ymchwiliad y pwyllgor i'r union bwnc hwn, pan wy'n credu y byddwn yn gallu turio drwy'r manylion a chael llawer o'r atebion i'r cwestiynau yr ydym yn eu codi heddiw. Ond fe fyddwn i'n dechrau drwy ddweud ein bod yn gwybod ers cryn amser y bydd trefniadau cyllido Llywodraeth y DU ar ôl Brexit a weithredwyd yn anhrefnus iawn ac a ohiriwyd cyhyd yn gadael Cymru dros £1.1 biliwn yn dlotach, o gymharu â'i safle yn yr UE. Nawr, bydd hyn yn dod yn fwy amlwg fyth dros y misoedd nesaf wrth i fynediad Cymru at gronfeydd gwaddol yr UE ddod i ben ac rydym yn cael ein gadael i gasglu'r briwsion a daflwyd o fwrdd San Steffan.

Yn ystod rownd 2 o'r gronfa ffyniant bro roedd cyfran is fyth o geisiadau llwyddiannus gan Gymru nag yn rownd 1, gyda dim ond 11 o 43 o geisiadau yng Nghymru yn derbyn cyllid. Felly, mae hynny'n golygu mai dim ond 26 y cant o gyfanswm yr arian y gwnaeth awdurdodau lleol Cymru geisio amdano a gymeradwywyd.

O safbwynt ehangach, dylai'r £4.8 biliwn a neilltuwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant bro gael ei weld yng nghyd-destun y toriadau gwerth £10 biliwn i bŵer gwariant awdurdodau lleol ers 2010, sy'n ganlyniad uniongyrchol i agenda gyni'r Torïaid. Mae'r ffaith bod y trefniadau hyn, y mae llawer ohonynt yn gorgyffwrdd â meysydd cymhwysedd datganoledig, wedi'u cynllunio'n unochrog gan Lywodraeth y DU, gyda'r nesaf peth i ddim mewnbwn gan Lywodraeth Cymru, yn dangos unwaith eto bod cymryd rheolaeth yn ôl mewn gwirionedd yn golygu canoli rheolaeth. Wrth wneud hynny, maen nhw'n amharchu'r setliad datganoli, maen nhw'n amharchu dymuniadau democrataidd Cymru. Fel sy'n digwydd yn aml gyda'r Llywodraeth Dorïaidd allan o gysylltiad ac allan o reolaeth, nid yw ei rhethreg fombastig mewn unrhyw ffordd yn cyd-fynd â'i hanes o gyflawni gwirioneddol. Yn yr achos hwn, tanlinellir gwagedd ei huchelgais o ran ffyniant bro yn arbennig gan y ffaith ei bod yn parhau i warafun cyfran deg o gyllid canlyniadol Barnett o brosiect HS2 i Gymru, er gwaethaf y ffaith na fydd yr un llath o drac yn cael ei adeiladu yng Nghymru. Rydym wedi cael ein hamddifadu o gyllid canlyniadol prosiect Northern Powerhouse Rail. Mae hynny'n £1 biliwn arall ar ben y £5 biliwn o HS2. Dychmygwch beth allem ni ei wneud â'r arian hwnnw.

Mae'r ffaith fod y Torïaid a band teyrnged Torïaidd Keir Starmer wedi gwrthod ymrwymo i ddarparu cyfran deg i Gymru yn adrodd cyfrolau am y difaterwch llwyr yn San Steffan. Ac eto, mae'n fwy o brawf—os oedd angen mwy—nad yw San Steffan, ni waeth beth yw'r blaid mewn grym, yn gweithio i Gymru ac na fydd byth.

Gan ddychwelyd at awdurdodau lleol, Gweinidog, pa waith mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gefnogi awdurdodau lleol yn eu ceisiadau ac i helpu cydlynu ceisiadau? Fel rydych chi wedi nodi, mae nifer o awdurdodau lleol sydd eto i dderbyn cefnogaeth o'r gronfa ffyniant bro, fel y'i gelwir am ryw reswm, a sut y bydd y Llywodraeth hefyd yn sicrhau na fydd yn ailadrodd camgymeriadau Llywodraeth y DU? Mae rôl i'r strategaeth arloesi yma, ond mae'n dal yn aneglur sut, yn benodol, y bydd ei llwyddiant yn cael ei fonitro. 

16:40

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwyf eisiau gwneud pwynt am gronfeydd gwaddol, gan i Luke Fletcher sôn amdanyn nhw. Un o'r heriau o ran deall yr hyn sydd wedi'i hawlio ynghylch cronfeydd disodli yw bod gweinidogion Ceidwadol yn Llywodraeth y DU wedi ceisio honni y gallan nhw ddebydu yr arian rydyn ni wedi'i gael yn barod. Wel, nid dyna sut mae cronfeydd disodli cyllid yr UE wedi gweithio; byddem ni wedi cael mynediad i'r arian hwnnw yn y fan a'r lle, ac rydym ni yn dal ar ein colled. Rydym ar ein colled yn llwyr, a dyna pam yr ydym yn cyrraedd y ffigur £1.1 biliwn, ar yr un sail ag y mae Llywodraeth y DU yn cyfrifo'r materion hyn, ac mae'n cynnwys, wrth gwrs, golledion sylweddol i'r gefnogaeth i'r economi wledig.

Ynghylch Barnett a'r pwyntiau a wnaed, byddwn i'n croesawu Llywodraeth oedd yn dilyn y rheolau ac yn rhoi'r gorau i esgus bod rhai prosiectau yn brosiectau Cymru a Lloegr pan nad ydyn nhw o gwbl. Byddwn i'n croesawu Llywodraeth a fyddai'n edrych eto mewn gwirionedd ar ein terfynau benthyca ein hunain i gadw i fyny â realiti mewn gwirionedd.

A dydw i ddim yn cytuno â phresgripsiwn Luke Fletcher; dydw i ddim yn derbyn ei ddisgrifiad o'r ffordd mae mainc flaen yr wrthblaid a Phlaid Lafur y DU wedi edrych ar y materion hyn. Yn bwysicach fyth, wrth gwrs, nid yw pobl Cymru yn cytuno â Luke Fletcher chwaith. Bydd bobl yn cael dewis—rwy'n gobeithio cyn gynted â phosib—ynghylch dyfodol Llywodraeth y DU mewn etholiad cyffredinol. Ond ar y pwynt yna, gawn ni weld sut mae pobl Cymru'n pleidleisio. Rwy'n edrych ymlaen at Lywodraeth y gallwn weithio gyda hi, a chyhoeddiad diweddar Keir Starmer, pe bai'n Brif Weinidog, y byddai'r pwerau gwneud penderfyniadau dros gronfeydd yr UE yn dychwelyd i le y dylen nhw fod, a lle roedden nhw wedi bod am fwy nag 20 mlynedd tan i'r Torïaid ddwyn y pwerau hynny oddi ar Gymru. Yna, fe fyddem ni'n cael cyfle i wneud y dewisiadau hynny yn y Llywodraeth ac fe fyddai'r Senedd yn craffu'n llawn ac yn gywir ar hynny. Datganoli sy'n gweithio mewn Teyrnas Unedig gref yw'r hyn yr wyf i eisiau ei weld a dyna mae pobl Cymru eisiau ei weld. Mewn gwirionedd, rydw i'n siarad â chi o Frwsel, lle rydyn ni'n ymdrin â chanlyniadau ymarferol ymadael â'r Undeb Ewropeaidd; dydw i ddim yn credu bod yna awydd yng Nghymru i adael undeb y DU.

O ran y strategaeth arloesi, mae gwaith adeiladol yn cael ei wneud gyda'r sector, ac yn wir gyda Phlaid Cymru drwy'r cytundeb cydweithio. O ran mesur llwyddiant y strategaeth arloesi, dyna ran o'r gwaith rydyn ni nawr yn ei ddatblygu. Ac fe sylwch chi o'r strategaeth ei hun, yn y gwaith rydw i wedi bod yn ei wneud gydag arweinydd Plaid Cymru, ein bod ni mewn gwirionedd yn edrych ar sut rydyn ni'n dylunio ac yn cyflawni sut fydd hynny'n edrych ar gyfer pob un o'r ymgyrchoedd sydd gennym ni, a byddwn ni hefyd yn darparu adroddiad yn ôl mewn blwyddyn, yna tair blynedd a phum mlynedd y strategaeth arloesi. Bydd y flwyddyn gyntaf, rwy'n credu, yn arbennig o bwysig, oherwydd bydd yn nodi sut mae pethau wedi tawelu, nawr ei fod wedi cael ei dorri'n deilchion a'i daflu i'r awyr gan nifer o ddewisiadau Llywodraeth y DU. Yna, rwy'n credu y byddwn ni hefyd wedyn yn dechrau gweld rhai o effeithiau sut bydd pobl ar draws y dirwedd arloesi—dyna AU, AB ac yn wir y byd academaidd a thu hwnt—yn dod i arfer â'r hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud gyda dull mwy cenhadol. Rwy'n fwy na pharod i barhau i rannu sut mae hynny'n edrych, nid yn unig gydag Aelodau dynodedig yn y cytundeb cydweithio, ond hefyd i roi diweddariad i'r Siambr wrth i ni wneud mwy o waith ar hynny, oherwydd rwyf eisiau iddo gael ei weld yn glir, ei ddeall, a bod yn dryloyw.

16:45

Mae'r gronfa ffyniant gyffredin, fel y mae Luke Fletcher newydd ei chrybwyll, yn ein gadael £1.1 biliwn yn dlotach, o'i chymharu â chronfeydd strwythurol a gwledig yr Undeb Ewropeaidd. Yn y rownd bresennol o raglenni'r Undeb Ewropeaidd, buddsoddwyd £380 miliwn mewn ymchwil, datblygu ac arloesedd, a gefnogodd ehangu cyfleusterau ymchwil a chydweithio mawr rhwng busnes a'r byd academaidd. Nid oes gan y gronfa ffyniant gyffredin hyd yn oed ymchwil, datblygu ac arloesi ymhlith ei blaenoriaethau buddsoddi. Mae angen i'r gronfa ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin gynyddu'r gwerth ychwanegol gros a'r cyflog canolig yng Nghymru. Mae ymchwil a datblygu yn allweddol i ffyniant bro. Rwy'n sôn am y ddau Gaergrawnt, Cambridge Massachusetts a Chaergrawnt yn Lloegr, ac mae'r ddau ohonynt yn gwneud yn anhygoel o dda oherwydd bod ganddynt y buddsoddiad hwnnw yn y rhain. Edrychwch ar economïau llwyddiannus y byd, ac mae ymchwil ac arloesedd yn allweddol. 

Y ffordd arall y gallai Llywodraeth San Steffan helpu ffyniant bro yw trwy adleoli swyddi'r gwasanaeth sifil. Dyma a wnaeth Llywodraeth Lafur 1964-70. A oes unrhyw drafodaeth wedi bod gyda Llywodraeth San Steffan am adleoli swyddi ychwanegol yn y gwasanaeth sifil i Gymru? Yn olaf, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod yr addewid 'dim ceiniog yn llai' wedi'i dorri?

Iawn, diolch. O ran swyddi'r gwasanaeth sifil, does dim math o drafodaeth synhwyrol wedi bod gyda Llywodraeth y DU ar ystod eang o bynciau, ac mae hynny'n cynnwys adleoli swyddi'r gwasanaeth sifil. Rydym wedi gweld rhai swyddi yn y gwasanaeth sifil yn dod mewn i Gymru, ond yn fras maen nhw wedi bod mewn meysydd i geisio cystadlu â Llywodraeth y DU. Un enghraifft yw rhywfaint o'r gwaith ar Fasnach a Buddsoddi. Rwy'n credu ei bod yn hen ystryw fwriadol i herian pobl, i'r cais cynllunio ar gyfer swyddfa newydd yng Nghaerdydd fod â baner yr undeb enfawr arni, ond mewn gwirionedd yr her yw, mewn termau ymarferol, rydyn ni eisiau cael tirwedd sy'n gweithio i fusnesau.

Mae cymorth ar gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer allforwyr, mae cymorth ar gael i allforwyr gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi cael cynadleddau llwyddiannus iawn yn ddiweddar i allforwyr, un yn y de ac un yn y gogledd, gyda dros 100 o bell ffordd yn bresennol, llawer o fusnesau yno. Rydym yn mynd ati i geisio sicrhau bod y cynnig yn un agored, a byddwn yn cyfeirio pobl, boed hynny at Lywodraeth y DU neu at Lywodraeth Cymru, i gael cefnogaeth. Nid dyna'r ffordd y bu adrannau Llywodraeth y DU yn ymddwyn bob tro. Mae'n faes lle gallem elwa ar gydnabyddiaeth bragmatig o sut y gallwn helpu i gefnogi busnesau yn hytrach na'r dull presennol, sydd weithiau'n gystadleuol pan nad oes angen iddo fod felly.

O ran ymchwil, datblygu ac arloesi, rwy'n cytuno'n llwyr â Mike Hedges. Mae'n un o'r rhesymau pam y mae'r prif addewid i gynyddu cyllid ymchwil a datblygu y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr 40 y cant yn her. Mae wedi'i ganolbwyntio gymaint yn y rhan honno o'r DU ar hyn o bryd, byddai cynnydd o 40 y cant i Gymru yn golygu dim ond £9 miliwn ychwanegol o wariant erbyn 2030. O ystyried ein bod wedi buddsoddi dros £50 miliwn bob blwyddyn, ac rydych chi'n iawn, £380 miliwn dros saith mlynedd, o gronfeydd yr UE mewn ymchwil, datblygu ac arloesi, mae angen i ni weld buddsoddiad llawer mwy a mwy sylweddol mewn cronfeydd ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru. Dyna un o brif amcanion y strategaeth arloesi, a dyna pam rydw i'n cytuno ar gynllun gweithredu ar y cyd ag Innovate UK, er mwyn ceisio darparu mwy o arian ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru.

Ac, o'r diwedd, mae'n gwbl amlwg bod yr addewid 'dim ceiniog yn llai' wedi ei dorri. Fel y dywedais, mae £1.1 biliwn yn gyfystyr â, os yw fy mathemateg yn iawn, ac rwy'n gweld y Gweinidog cyllid ar y sgrin—nid un geiniog yw hynny, mae hynny'n 110 biliwn o geiniogau y mae Cymru'n eu colli dros y cyfnod hwn. 

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Fe wnes i nodi'n benodol yn eich datganiad, Gweinidog, y sylw ynghylch Cymru'n cael llai o lais ynghylch sut mae arian yn cael ei wario o ganlyniad i weithredoedd yma. Ond wrth gwrs, nid yw hyn yn hollol gywir, nag yw, oherwydd er efallai y bydd gan Lywodraeth Cymru lai o lais, mae gan bobl Cymru gyfle i gael hyd yn oed mwy o lais ynghylch sut mae'r arian yma'n cael ei wario, oherwydd wrth gwrs cynghorwyr wedi eu hethol yn lleol fydd nawr yn gwneud penderfyniadau ar ran eu cymunedau. Mewn gwirionedd, mae mwy o bobl yn cael dweud eu dweud, nid llai o bobl. Ac rydw i eisiau gallu ymddiried yn y cynghorau a'r cynghorwyr hynny i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ein cymunedau.

Felly, gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, nid wyf yn credu eich bod wedi ateb cwestiwn Luke Fletcher yn gynharach, pan ofynnodd pa gefnogaeth y byddwch yn ei darparu i gynghorau i helpu i sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei wario yn y ffordd orau bosibl. Felly, byddwn i'n ddiolchgar petaech chi'n gallu ateb hynny. Ond hefyd sut fyddech chi'n gweld rôl cyrff rhanbarthol yng Nghymru, boed yn gyd-bwyllgorau corfforaethol neu'n gyrff eraill, wrth iddynt weithio gyda chynghorau i ddarparu cefnogaeth unwaith eto i gyflawni'r prosiectau pwysig hyn? Diolch yn fawr iawn.

Diolch am y cwestiynau ar ddau faes eang. Fe ddechreuaf gyda'r un olaf, ac ymddiheuriadau am beidio ag ateb cwestiwn Luke Fletcher yn llawn, o ran y gefnogaeth i gynghorau. Dyna roeddwn i'n cyfeirio ato yn fy natganiad. Rwyf eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol, yn enwedig yn eu rhanbarthau, nawr ein bod wedi cael dwy rownd o'r gronfa ffyniant bro ac mae'r gronfa ffyniant gyffredin wedi cyflawni rhai dyraniadau mewn gwirionedd, er mwyn deall lle mae bylchau—ac mae bylchau mewn gwahanol rannau o Gymru yn amlwg—lle mae dyblygu posibl, a sut rydym mewn gwirionedd yn ceisio rheoli'r ffordd y mae'r cronfeydd hynny sydd wedi'u torri'n deilchion yn y ffordd sy'n achosi'r niwed lleiaf ac mewn gwirionedd manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n bodoli. Mae hynny'n ymarfer ymarferol y mae angen iddo ddigwydd. Dim ond oherwydd y ffordd y mae'r arian wedi'i reoli a'i gyflawni y mae angen iddo ddigwydd. Mae hynny'n mynd yn ôl at eich pwynt cyntaf sef a oes gan Gymru lai o lais dros lai o arian. Nid yw'n gwbl wir nad oes gan Gymru lai o lais dros lai o arian. Nid yw eich ymgais ddewr ond gwirion i geisio dweud oherwydd bod yr awdurdodau lleol bellach yn gweinyddu'r arian bod mwy o lais, yn dal dŵr mewn gwirionedd. Peidiwch â derbyn fy ngair i yn unig am hyn; derbyniwch air CLlLC a'u barn ar yr hyn sy'n digwydd gyda chronfeydd ffyniant bro.

Os edrychwch chi ar y gogledd, nid yw'r rhanbarth rydych chi'n ei gynrychioli, sir y Fflint, wedi cael yr un geiniog o'r gronfa ffyniant bro. Os edrychwch chi ar y gronfa ffyniant gyffredin, mae'r ffordd y mae wedi'i chyflawni mewn gwirionedd yn gosod beichiau ychwanegol ar awdurdodau lleol ac yn eu gwneud nhw y cig yn y frechdan pan fo rhannau eraill o sectorau allweddol, gan gynnwys ymchwil, gan gynnwys y trydydd sector, ar eu colled ac yna dywedir wrthynt gan ystod o gynrychiolwyr Llywodraeth y DU, 'Ewch i weld eich awdurdod lleol; mae'r arian ganddyn nhw nawr.' Mae'n frwydr annheg lle mae yna ymgais ddewr a bwriadol heb os gan Lywodraeth y DU i gyfeirio pobl at awdurdodau lleol oherwydd yr heriau a'r problemau y maen nhw wedi'u creu. Llywodraeth y DU sydd wedi penderfynu ar y fframwaith i gyd: y fformiwla ariannu, y fframwaith, natur flynyddol y peth, y dewisiadau gwael sy'n sicr o gael eu gwneud, diffyg cyfeiriad strategol—y cyfan wedi'u penderfynu gan Lywodraeth y DU. Yn hytrach na dychwelyd pwerau i Gymru, mae pwerau wedi cael eu cymryd oddi ar Gymru a'u defnyddio yn Whitehall, a nawr mae disgwyl i awdurdodau lleol ysgwyddo'r cyfrifoldeb. Byddwn i wedi meddwl, fel cyn-arweinydd mewn awdurdod lleol, y byddai gennych lawer mwy o ddiddordeb mewn cefnogi eich cyn-gydweithwyr mewn llywodraeth leol, yn hytrach na cheisio dweud eu bod, rhywsut, bellach mewn cyfnod newydd dewr yn cyflawni llai o lais dros lai o arian.

16:50

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad ac am eich gonestrwydd wrth esbonio i bobl Cymru sut mae trefniadau chwerthinllyd cronfa ffyniant gyffredin a chronfa ffyniant bro Llywodraeth y DU wedi siomi ein cymunedau. Fel y gwyddoch chi, mae'r rhain yn feysydd polisi yr wyf wedi bod yn cadw llygad barcud arnyn nhw yn rhinwedd fy swydd fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol, lle rydym wedi cymryd tystiolaeth gref yn aml o'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol ynghylch y niwed y mae'r cronfeydd carbwl hyn yn ei achosi ledled Cymru. Gweinidog, rydych chi wedi nodi prif ffigurau'r difrod sy'n cael ei wneud i'n sector ymchwil, datblygu ac arloesi hanfodol, ond a allech chi ehangu ymhellach ar y goblygiadau hirdymor yr ydym yn debygol o'u hwynebu, i'r sector addysg uwch oherwydd i Lywodraeth y DU wrthod rhoi cyllid disodli cronfeydd yr UE i ymchwil, datblygu ac arloesi?

Yn ail, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o'r difrod economaidd a achoswyd gan y ffaith, yn wahanol i ffrydiau ariannu'r UE, nad yw'r cronfeydd hyn yn amlflwydd eu natur, rhywbeth y mae'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol a'r Athro Steve Fothergill wedi rhybuddio Llywodraeth y DU dro ar ôl tro ei fod yn niweidiol i'r gwaith o gyflawni prosiectau llwyddiannus?

Yn olaf, Gweinidog, roeddwn i'n falch iawn o glywed arweinydd Llafur y DU, Keir Starmer, yn addo yng nghynhadledd ddiweddar Llafur Cymru y bydd Llywodraeth Lafur nesaf y DU yn adfer y pwerau economaidd coll hyn i Gymru. A wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r cyhoeddiad cadarnhaol iawn hwn?

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n cytuno'n llwyr fod pobl yng Nghymru wedi cael eu siomi gan ddull gweithredu'r Llywodraeth Geidwadol. Y Llywodraeth Geidwadol, nid yr undeb, sy'n siomi pobl, yn fy marn i. Rwy'n credu bod y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol wedi bod yn wirioneddol adeiladol wrth dynnu sylw at nid yn unig rai o'r heriau, ond hefyd wrth ddychmygu sut y gallai atebion mewn byd gwell edrych, ac yn arbennig rwy'n talu teyrnged i'r ffordd y mae Vikki Howells wedi siarad gyda swyddogion cyfatebol yn Senedd y DU, a cheisio sicrhau bod sgwrs gydgysylltiedig ynghylch beth y gallai a dylai ffurf a gwedd 'gwell' fod.

Yr anhawster gydag ymchwil addysg uwch yw y gall y golled fod yn barhaol. Mae'r bobl hyn yn symudol ac mae galw amdanynt, ac mewn gwirionedd does dim sicrwydd y byddan nhw'n aros yn y DU, heb sôn am aros yng Nghymru. Mae pobl eraill sy'n chwilio am bobl â sgiliau a thalent, ac efallai byddan nhw'n diflannu. Yr her yw nid colli'r swyddi hynny yn y sector yn unig, yr arian sydd ganddyn nhw a'r gwario mewn cymunedau lleol; mae hefyd yn ymwneud â'r hyn a allai ddigwydd o bosib wedyn pan fydd pobl yn gwneud dewisiadau eraill o ran datblygu busnes a lleoliad. Mae pobl yn aml yn chwilio am feysydd ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi, fel y nododd Mike Hedges. Pan fyddwch chi'n colli talp sylweddol o hynny, mae'n gwneud y prifysgolion o bosib yn llai deniadol, ac o bosib yn golygu bod cyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd yn llai deniadol hefyd. Rydym yn ceisio nofio yn erbyn y llif hwnnw a'r dewis bwriadol hwnnw gan Lywodraeth y DU. Y newyddion da yw bod gennym gryfderau allweddol y gallwn fanteisio arnyn nhw: gweithgynhyrchu uwch, y sector technoleg ariannol, lled-ddargludyddion hefyd a mwy—wrth gwrs, ynni adnewyddadwy. Byddai wedi bod cymaint gwell ac yn haws pe na bai ni wedi colli'r 1,000 o swyddi sy'n siŵr o adael Cymru yn fy marn i.

Ac ar gyllid amlflwydd, rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn. Un o fy mhrif feirniadaethau erioed yw hyd yn oed gyda swm llai o arian os yw'n amlflwydd rydych chi'n mynd i gael mwy o fudd ohono. Bron bob amser mae angen treulio amser yn dylunio rhywbeth, i weithio gyda phartneriaid, i ddeall sut y bydd yn cael ei gyflawni, i wneud yn siŵr eich bod yn gallu deall sut mae'r sicrwydd yn digwydd ac yna i fwrw ymlaen a'i gyflawni. Os oes rhaid i chi wneud hynny i gyd o fewn blwyddyn, mae eich ffrâm amser i wneud rhywbeth strategol yn llawer byrrach, yn llawer llai tebygol o gael ei wario'n dda, ac mae rhan ohonof i hyd yn oed yn fwy rhwystredig oherwydd, o safbwynt Llywodraeth y DU, mae'n rhywbeth bach i'w weithredu ond byddai'n gwella'r gwerth am arian y bydd y rhaglen honno'n ei chyflawni. Rwy'n ffyddiog pe byddai Llywodraeth Cymru'n dewis peidio mabwysiadu dull gwario amlflwydd pryd y byddai'n bosib gwneud hynny, y byddem ni'n cael ein beirniadu'n gadarn gan y pwyllgorau pwnc ac, yn wir, cynrychiolwyr cyfrifon cyhoeddus a fyddai'n edrych ar y gwerth am arian, a byddwn i'n galw eto ar Lywodraeth y DU, os dim byd arall, i edrych eto ar natur amlflwydd y cronfeydd hyn.

Ac, wrth gwrs, rwy'n sicr yn croesawu datganiad diweddar Keir Starmer. Dyma'r math o bartneriaeth sydd ei hangen arnom rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a allai, ac a ddylai sicrhau dyfodol gwell i bobl ym mhob cwr o'n gwlad. 

16:55

Gweinidog, bûm yn ymweld â phrosiect gwerth £38 miliwn a ariannwyd gan yr UE o'r enw TRAC, a ddarparwyd gan Goleg Llandrillo, a oedd yn cefnogi pobl ifanc sy'n datgysylltu o addysg ac sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Yn anffodus, dyma enghraifft o brosiect rhanbarthol gwerthfawr a ddaeth i ben ar ôl Brexit. Roeddwn i'n gobeithio y byddai'n parhau o dan ffrydiau ariannu newydd ac rwyf wedi bod yn cadw golwg arno. Ac yn ddiweddar darllenais ddatganiad i'r wasg bod awdurdodau lleol yn y gogledd wedi cael dyraniad o arian ffyniant cyffredin dros gyfnod o dair blynedd ac roedden nhw'n gofyn am geisiadau. Mae'n debyg, er hyn, bod y meini prawf yn gymhleth ac mae'n rhaid gwario arian unrhyw brosiectau erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. Felly, nid prosiect tair blynedd mohono. O brofiad yn y gorffennol o wneud cais am grantiau a'u darparu, gan gynnwys gwneud ymchwil, costau, ymgynghoriadau cyhoeddus, astudiaethau dichonoldeb, cyflogi a chyflawni, mae hyn yn mynd i gymryd amser ac ni fydd cynaliadwyedd wedi'i gynnwys ynddo os yw am flwyddyn yn unig. Ac fe ddywedodd sir y Fflint eu bod wedi dileu ceisiadau am gyllid ffyniant bro o gynllun y cyngor nawr, ar ôl ceisio ddwy waith ac wedi methu. Roedd angen llawer o adnoddau prin sylweddol, a'r adborth gan Lywodraeth y DU oedd bod y ceisiadau'n dda iawn, ond ei bod yn rhy gystadleuol. Felly, Gweinidog, ydych chi'n cytuno nad dyma'r ffordd orau o sicrhau gwerth am arian, a bod angen i Lywodraeth y DU wneud llawer mwy i gefnogi prosiectau, fel TRAC, dros y tymor hir? Diolch. 

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr fod hyn yn ffordd wael iawn o geisio sicrhau twf economaidd cynaliadwy, ac nid yw natur flynyddol y dewisiadau cyllido yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl os ydych chi eisiau cyflawni gwerth da am arian. Mae'n bwynt nad dim ond fi sy'n ei wneud; mae'n bwynt sydd wedi cael ei wneud gan bwyllgorau dethol Tŷ'r Cyffredin, er enghraifft. Ac, wrth gwrs, mae'n bwysig yn hyn o beth i gofio mai grwpiau trawsbleidiol yw'r rhain gyda mwyafrif o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr arnyn nhw; eu bod nhw eu hunain yn cydnabod ei fod yn ffordd wael o wario arian. 

Ac mae'r pwynt bod y meini prawf yn gymhleth hefyd yn rhan o'r anhawster yr ydym yn ei wynebu. Ond nid dyna'r unig beth. Ond, yn rhywfaint o'r feirniadaeth am yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r gronfa ffyniant bro, nododd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus ym mis Mehefin y llynedd, yn y ffordd y cafodd dewisiadau eu gwneud gan Weinidogion y DU, fe wnaeth Gweinidogion gwblhau'r egwyddorion ar gyfer dyfarnu arian dim ond ar ôl iddyn nhw wybod pwy oedd y cynigwyr ar y rhestr fer a'u sgorau. Nawr, dydy hynny ddim yn edrych fel ffordd wrthrychol o gyflawni ffyniant bro. Mae'n edrych yn debyg o hynny bod gan Lywodraeth y DU Weinidogion yn penderfynu ar enillwyr ar feini prawf nad ydyn nhw'n wrthrychol nac yn deg ac yn sicr nid ydynt yn strategol. Byddwn i wir yn hoffi bod â pherthynas wahanol gydag unrhyw arlliw o Lywodraeth y DU: un sy'n seiliedig ar dystiolaeth, un sy'n seiliedig ar realiti pragmatig ac adeiladol rhwng ein dwy Lywodraeth i geisio gwneud gwahaniaeth gyda holl bobl Cymru ac ar eu cyfer. Yn syml, nid yw hynny'n bosib gyda'r dull gweithredu presennol gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn croesawu dull gwahanol o weithredu, hyd yn oed i'r un presennol, os na, mae'n ddigon posibl y bydd yn rhaid i ni aros tan fod etholiad cyffredinol yn rhoi cyfle i bobl Cymru a'r DU newid cwrs ar lefel y DU. 

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Arferion Mabwysiadu Hanesyddol

Eitem 7 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar arferion mabwysiadu hanesyddol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.

17:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu gwneud datganiad i'r Aelodau heddiw am arferion mabwysiadu hanesyddol yng Nghymru. Daw hyn yn dilyn ymchwiliad y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol i brofiadau menywod di-briod a'u plant a fabwysiadwyd yn ystod y 1950au, y 1960au a'r 1970au. Edrychodd y pwyllgor a oedd prosesau mabwysiadu yn parchu hawliau dynol, fel rydyn ni'n eu deall nawr, y mamau a'r plant yr effeithiwyd arnyn nhw. Archwiliodd hefyd ganlyniadau parhaol yr arferion hyn ar eu bywydau. Rwy'n falch iawn bod mamau, plant sy'n oedolion ac eraill a effeithiwyd gan arferion hanesyddol, yn ymuno â ni yn yr oriel heddiw.

Yn gynharach eleni, yn y Sgwrs Fawr ar Fabwysiadu yng Nghymru, cynigiais fy ymddiheuriadau fy hun am yr hyn a ddigwyddodd gan gydnabod yr effaith gydol oes y cafodd mabwysiadu gorfodol ar fywydau llawer o bobl. Mae arferion mabwysiadu gorfodol yn rhagddyddio datganoli yng Nghymru, ond maen nhw'n parhau i effeithio ar y rhai a'u profodd—rhieni, plant ac aelodau ehangach o'r teulu. I lawer, mae'r teimladau o golled, galar, dicter a phoen yn parhau.

Ar yr adeg pan ddigwyddodd yr achosion mabwysiadu hyn, roedd llawer o'r menywod yn ifanc, yn agored i niwed ac yn profi argyfyngau personol. Nid oedden nhw bob amser yn cael gwybod am unrhyw hawliau cyfreithiol i ofalu am eu plentyn eu hunain nac yn cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt i wneud hynny. Gwnaed i rai deimlo'n annigonol, yn anfoesol ac nad oedden nhw'n haeddu cael magu eu babanod eu hunain. Cyflwynwyd mabwysiadu fel yr unig opsiwn oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol a chefnogaeth arall, a'r stigma a oedd yn gysylltiedig â genedigaeth siawns a mamolaeth heb fod wedi priodi. Hyd yn oed nawr, mae nifer o'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw yn ei chael hi'n anodd iawn siarad am y torcalon gydol oes y maen nhw wedi ei gadw i'w hunain rhag ofn iddyn nhw gael eu barnu o hyd.

Mae'r loes a ddioddefwyd gan yr arferion hanesyddol hyn yn ymestyn y tu hwnt i berthynas y fam enedigol â'i phlentyn. Mae rhai plant a gafodd eu mabwysiadu o dan yr amgylchiadau hyn wedi dioddef oes o ansicrwydd a phryder, er i'w rhieni mabwysiadol eu caru a gofalu amdanynt. Mae gan rai deimlad parhaus fod rhan ohonyn nhw ar goll ac yn parhau i gwestiynu pam na wnaeth eu rhieni genedigol edrych ar eu holau a'u magu eu hunain. Mae'r galar sy'n gysylltiedig â pheidio â gwybod pwy ydyn nhw'n gyffredin ymhlith y plant hyn ac yn ymwneud â cholli hunaniaeth, diffyg gwybodaeth am eu gwreiddiau, o'r ddau riant genedigol, ac i lawer, gan gynnwys plant rhieni o leiafrifoedd ethnig, colli eu cefndir diwylliannol ac ethnig ehangach.

Er bod trawma mabwysiadu gorfodol wedi'i gofnodi'n dda o safbwynt mam a phlentyn, mae'r effaith ar y tad yn aml yn cael ei anghofio. Yn gyffredinol, diystyrwyd tadau geni a'u beio am lygru merched diniwed. Ychydig iawn o lais a oedd ganddyn nhw yn yr hyn a fyddai'n digwydd i'r babi ar ôl cael ei eni, gan eu gadael yn teimlo'n ddiymadferth ac yn methu cefnogi eu partneriaid. Yn aml iawn, maen nhw'n dod yn gymeriadau anghofiedig y cafodd eu lleisiau eu hanwybyddu. Rwyf felly eisiau cydnabod profiadau tadau o ran yr arferion hanesyddol hyn hefyd.

Roedd yr arferion hyn yn anegwyddorol, yn anfoesol ac efallai mewn rhai achosion wedi bod yn anghyfreithlon, ac rwyf eisiau cofnodi heddiw fy nghydymdeimlad dwys â phawb yr effeithiwyd arnyn nhw gan fabwysiadu gorfodol hanesyddol. Beth bynnag yw pwysau cymdeithasol neu normau cymdeithasol y dydd, ni ddylai arferion annynol o'r fath fyth fod yn rhan dderbyniol o'n cymdeithas yng Nghymru. Mae'r niwed a wnaed i'r unigolion hyn yn fawr, ond fel Llywodraeth, mae'n ddyletswydd arnom i roi bob cyfle iddyn nhw fyw gweddill eu bywydau mor rhydd o drawma a gwewyr â phosib.

Ni allwn newid yr hyn sydd wedi digwydd, ond gallaf roi sicrwydd bod deddfwriaeth ac arferion mabwysiadu wedi'u gwella'n sylweddol ers hynny. Caiff mabwysiadu bellach dim ond ei ystyried pan fydd pob opsiwn arall wedi'i archwilio'n llawn. Mae gwasanaethau wedi'u cynllunio i helpu teuluoedd geni i aros gyda'i gilydd pryd bynnag y bydd hynny'n bosib, a phan nad yw'n bosib, mae mabwysiadu yn rhoi diogelwch, sefydlogrwydd a'r cyfle i ffynnu i blant. Hoffwn hefyd gydnabod a rhoi ar y cofnod y cyfraniad pwysig y mae rhieni mabwysiadol yn parhau i'w wneud ar ran plant trwy eu derbyn nhw i'w cartrefi ac i'w calonnau. Rydyn ni, Llywodraeth Cymru, yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am roi'r cariad a'r cymorth y mae pob plentyn ei angen. Diolch.

Fel Llywodraeth, rydyn ni'n gwrando ar brofiadau a straeon pobl er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth gywir a'r cwnsela proffesiynol i'r rhai yr effeithir arnyn nhw ar gael yn rhwydd. Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi datblygu tudalen we yn benodol ar gyfer y rhai hynny a effeithiwyd gan fabwysiadu hanesyddol. Mae hon yn darparu llu o wybodaeth sy'n ymwneud â chefnogaeth mabwysiadu a chwnsela, mynediad at gofnodion a gwasanaethau cyfryngol. Bydd hefyd yn gallu cyfeirio unigolion at wasanaethau eraill, gan gynnwys grwpiau cymorth cymheiriaid ac eiriolaeth, gwasanaethau cymorth ôl-fabwysiadu a ariennir gan Lywodraeth Cymru a darparwyr gwasanaethau eraill nad ydynt yn rhan o'r Llywodraeth.

Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau gweithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ystyried y materion a amlinellir yn adroddiad y cyd-bwyllgor a datblygu gwasanaethau cymorth a fydd yn mynd i'r afael ag anghenion penodol y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan yr arferion hyn. Yn ddiweddar rydym wedi cynnal digwyddiad ymgynghori sy'n cynnwys rhieni biolegol a effeithiwyd gan arferion mabwysiadu hanesyddol. Roedd hwn yn darparu lle diogel i wrando a chlywed barn ac i lywio datblygiad ein gwasanaeth.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r mamau hyn wrth i ni ddatblygu ein gwasanaethau. Mae swyddogion a'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi dechrau cwmpasu'r newidiadau rheoleiddio y gellid eu cyflwyno yng Nghymru i gefnogi'r materion sy'n ymwneud â'r prinder cwnselwyr sy'n gallu darparu cymorth ôl-fabwysiadu ochr yn ochr ag ystyried ein gwasanaethau cyfryngol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i archwilio'n llawn gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt yr heriau allweddol y maen nhw'n eu hwynebu o ran cofnodion mabwysiadu. Ar hyn o bryd, rydym yn cwmpasu sut olwg allai fod ar well wasanaeth mynediad cenedlaethol i gofnodion i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan yr arferion hanesyddol hyn yng Nghymru.

Wrth i ni wynebu heriau'r dyfodol, byddwn yn cofio gwersi gwahanu teuluol ac yn parhau i ddiogelu hawliau sylfaenol plant a phwysigrwydd eu hawl i gael gofal gan riant. Dyna pam, fel rhan o'n gwaith i ddiwygio gwasanaethau plant yng Nghymru yn sylweddol, rydym wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu gwasanaethau a all gefnogi teuluoedd sy'n agored i niwed i aros gyda'i gilydd.

Hoffwn gyfleu fy nghydymdeimlad ac edifeirwch dwysaf i bawb yr effeithiwyd arnyn nhw. Oherwydd bod cymdeithas wedi eich methu chi, rydych chi wedi gorfod dioddef arferion hanesyddol arswydus iawn yng Nghymru, ac am hyn, mae'n wirioneddol flin gan Lywodraeth Cymru.

17:05

A gaf i ddiolch i chi, yn gyntaf, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw ar arferion mabwysiadu hanesyddol, sy'n dilyn ymchwiliad y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol i brofiad menywod di-briod a'u plant a fabwysiadwyd yn ystod y 1950au, y 1960au a'r 1970au?

Fel yr ydych yn sôn yn eich datganiad, Gweinidog, roedd llawer o arferion mabwysiadu hanesyddol yn anegwyddorol, yn anfoesol ac, mewn llawer o achosion, yn anghyfreithlon. Yn ogystal â hyn, mae'r arferion hyn yn parhau i effeithio ar lawer a'u profodd, a hefyd, i lawer, mae'r teimladau o golled, galar, dicter a phoen yn parhau. Roedd hon wir yn sefyllfa gwbl erchyll—un na ddylai fod wedi digwydd ac na ddylai fyth ddigwydd eto. Yng ngoleuni hyn, Gweinidog, ar yr ochr hon o'r Siambr, fe hoffai grŵp Senedd y Ceidwadwyr Cymreig uniaethu â'r ymddiheuriad sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru heddiw. Bydd llawer o bobl yn gallu cydymdeimlo â'r effaith ddinistriol y gwnaeth y mabwysiadu gorfodol hyn ei hachosi. A gan fy mod yn dad i ddau o blant fy hun, byddai'n boen na fyddai byth yn dod i ben.

Dirprwy Weinidog, os caf i, hoffwn godi ambell gwestiwn gyda chi ynglŷn â'ch datganiad heddiw. Fe ddywedoch chi, Dirprwy Weinidog, nad oedd llawer a fu'n rhan o'r arferion mabwysiadu hyn bob amser yn cael gwybod am unrhyw hawliau cyfreithiol i ofalu am eu plant eu hunain nac yn cael yr help yr oedd ei angen iddyn nhw i wneud hynny. Wrth gwrs, mae hyn yn hynod bryderus, Dirprwy Weinidog, felly a gaf i ofyn pa waith sy'n cael ei wneud bellach i sicrhau bod pawb sy'n cysylltu ag arferion mabwysiadu yn cael gwybod am eu hawliau cyfreithiol?

Yn ail, Dirprwy Weinidog, rydych chi'n dweud bod rhai plant a gafodd eu mabwysiadu yn yr amgylchiadau hyn wedi dioddef oes o ansicrwydd a phryder, er eu bod yn cael eu caru ac yn cael gofal gan eu rhieni mabwysiadol. Yng ngoleuni hyn, Gweinidog, pa waith pellach sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw yn cael cefnogaeth lawn?

Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi sôn bod digwyddiad ymgynghori wedi'i gynnal yn ddiweddar, yn cynnwys rhieni geni yr effeithiwyd arnyn nhw gan arferion mabwysiadu hanesyddol. A gaf i groesawu'r ymgynghoriad hwn a gofyn a oes unrhyw asesiad cychwynnol wedi'i wneud o'r ymgynghoriad cychwynnol hwn, ac a fydd rhagor yn cael ei wneud yn y dyfodol agos? Ac i ailadrodd yr hyn a nodais ar ddechrau fy ymateb, hoffwn ddiolch i chi am gyflwyno'r datganiad heddiw ac rwyf yn ailadrodd ein cefnogaeth i'ch gweithredoedd y prynhawn yma. Diolch. 

17:10

Diolch yn fawr i'r Aelod am ei gyfraniad. Diolch am gysylltu eich hun gyda'r ymddiheuriad rwyf wedi ei roi ar ran Llywodraeth Cymru heddiw. Gwerthfawrogir hynny'n fawr. Yn amlwg, fe godoch chi rai pwyntiau pwysig iawn. Rydym yn gweithio i sicrhau bod plant sy'n cael eu mabwysiadu nawr a mamau plant sy'n cael eu mabwysiadu, rhieni plant sy'n cael eu mabwysiadu, yn gwbl ymwybodol o'u hawliau cyfreithiol ac yn cael y cyfle i gael y cymorth a'r cyngor proffesiynol sydd ei angen arnynt. Mae mabwysiadu, fel y dywedais i yn fy araith, bellach yn cael ei ystyried fel y dewis olaf, a gwneir pob ymdrech i gadw plant gyda'u teuluoedd ac i roi cefnogaeth iddyn nhw gartref. Dyna pam mae gennym ni'r rhaglen, fel y gwyddoch chi, o geisio trawsnewid gwasanaethau plant yn sylweddol, sy'n rhoi cymaint o gefnogaeth i geisio cadw plant yn eu teuluoedd ac yn eu cymunedau. 

Mae'r pwynt am blant mabwysiedig yn aml yn profi ansicrwydd a phryder yn rhywbeth sydd wedi'i gofnodi'n dda, ac rydyn ni'n rhoi adnoddau ar gyfer cymorth ar ôl mabwysiadu. Mae cryn dipyn o gymorth ar ôl mabwysiadu bellach yn digwydd yng Nghymru. Yn wir, rwy'n credu yn y baromedr, lle mae wedi'i restru sut mae gwahanol rannau o'r DU yn rheoli eu gwasanaethau, mae Cymru'n sgorio'n uchel iawn o ran y gefnogaeth y mae'n ei rhoi i deuluoedd yng Nghymru. Felly, mae gennym wasanaethau ôl-fabwysiadu yn benodol sy'n ymdrin â'r trawma. Oherwydd rwy'n credu yn y gorffennol roedden ni'n meddwl bod gennych chi orchymyn mabwysiadu a dyna ni ac mae pawb yn byw'n hapus am byth ar ôl hynny, ond yn amlwg dydy hynny ddim yn wir. Yn y bôn, mae'n oes, mewn gwirionedd, o ddod i delerau â'r trawma a allai fod wedi digwydd o'r blaen ac o ymdopi â'r teimladau sydd wedi arwain at beidio â gwybod, weithiau, beth oedd eich gwreiddiau, a hefyd y straen sydd wedi'i adael gyda'r mamau a'r bobl eraill oedd yn rhan o hynny na chafodd eu babanod eu rhoi i'w mabwysiadu ond fe'u cymerwyd. 

Ac yna, yn olaf, yr ymgynghoriad. Rydym wedi sefydlu grŵp ymgynghori, sy'n cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd o'r arferion hyn. Gobeithiwn y bydd hyn yn ffurfio grŵp parhaol y gallwn weithio gydag ef fel y bydd ein hymatebion yn cael eu paratoi at yr hyn a ddymunir a'r hyn sydd ei angen. Rydyn ni eisiau bod yn sicr ein bod ni'n dod â phobl sy'n ymwybodol o'r hyn ddigwyddodd iddyn nhw mewn gwirionedd a'r effaith y mae wedi'i chael ar eu bywydau er mwyn i ni allu ymateb yn y ffordd gryfaf bosib. Diolch yn fawr am y gefnogaeth. 

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad hynod o bwysig yma. Mae hyn yn rhywbeth sydd yn gwneud inni adlewyrchu pam ei bod hi'n bwysig bod gennym ni ein Senedd ein hunan yma yng Nghymru, a'n bod ni'n gallu unioni rhai o gamweithredau'r gorffennol a rhoi'r ymddiheuriad pwysig yna—geiriau bach a hawdd i'w dweud, ond mor anodd weithiau bod pobl yn gorfod brwydro mor galed. Rydyn ni'n gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau o'r farn nad oes angen y math yma o ymddiheuriad, ond mae'n bwysig ein bod ni yn cydnabod beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

Hoffwn i gysylltu fy hunan a Phlaid Cymru gyda'r ymddiheuriad a'ch sylwadau chi heddiw. Mae hwn yn ddatganiad a moment bwysig. Dwi'n gobeithio hefyd y bydd o'n rhoi cysur i'r rheini sydd yn dioddef trawma a dioddefaint parhaus. Dydy o ddim yn mynd i unioni beth ddigwyddodd, dydy o ddim yn mynd i gael gwared â'r trawma hwnnw, ond yn sicr mae cael y gydnabyddiaeth yna eu bod nhw'n haeddu ymddiheuriad yn beth pwysig iawn, a dwi'n falch o weld hyn yn digwydd yma yn ein Senedd genedlaethol ni. 

Yn sicr, mi oedd hi'n foment bwysig hefyd gweld yr Alban yn gwneud hyn, ac mae yna nifer o wersi i'w dysgu. Mi fyddwn ni i gyd, dwi'n siŵr, wedi cyfarfod â phobl sydd wedi dioddef oherwydd y polisi creulon hwn, a chreulon oedd o—yn greulon i bawb oedd ynghlwm. Ac mae'n bwysig iawn bod pethau yn wahanol, rŵan, a chael y sicrwydd gan y Dirprwy Weinidog bod pethau yn wahanol erbyn hyn ac ein bod ni wedi dysgu'r gwersi hynny. Ond yn sicr, mae hi'n rhywbeth parhaus inni fod yn cadw golwg arno fo a sicrhau, felly, bod yr holl gefnogaeth angenrheidiol ar gael i unrhyw deulu neu unigolyn sydd yn y sefyllfa anodd honno.

Yr un peth fyddwn i'n hoffi gweld—. Roeddwn i'n gweld yn eich datganiad chi, a hoffwn eglurder, jest o ran y cymorth fydd ar gael, rŵan, oherwydd, yn amlwg, mi all glywed yr ymddiheuriad godi crachen a chodi'r holl deimladau yma i nifer o bobl. Mi oeddech chi'n cyfeirio at gwnsela. Mi oedd Llywodraeth yr Alban wedi datgan £145,000 yn benodol ar gyfer rhoddi cymorth arbenigol a chwnsela ar gyfer y rhai sydd wedi eu heffeithio. Felly, a gaf i ofyn a oes yna arian penodol er mwyn cefnogi hyn, neu sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael? Oherwydd, yn amlwg, mi fydd yna nifer o bobl yn gwylio'r datganiad hwn heddiw, ac mi fyddai'n dda cael y sicrwydd o ran sut maen nhw'n mynd i allu cael gafael ar y gefnogaeth yna. Felly, dyna fy unig gwestiwn, ond diolch i chi am hyn. Fel dwi'n dweud, mae'n foment bwysig i'n Senedd ni, a dwi'n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn heddiw.

17:15

Diolch yn fawr iawn am y cyfraniad yna ac am gysylltu Plaid Cymru gyda'r ymddiheuriad. Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod wedi ein huno ar draws y Senedd i gyd wrth gefnogi'r ymddiheuriad hwn, ac rydym yn gobeithio y bydd yr ymddiheuriad hwn ynddo'i hun yn dod â rhywfaint o ryddhad i'r bobl yr ydw i'n gwybod eu bod wedi ymgyrchu cyhyd er mwyn cael ymddiheuriad, ac mae'n dda bod gennym ni ddatganoli a gallwn wneud y penderfyniad hwnnw yma, a'n bod ni wedi penderfynu bod yn rhaid i ni ymddiheuro'n ffurfiol i'r bobl sydd wedi rhoi gwybod i ni beth mae wedi ei olygu iddyn nhw'r holl flynyddoedd hyn—yr arferion hanesyddol hyn a oedd mor wael. Rwy'n credu bod Heledd Fychan yn gwbl gywir wrth ddweud mai polisi creulon oedd hwn, a dylem ni gydnabod hynny nawr. Ac mae'n wahanol nawr—rydyn ni wedi dysgu gwersi—ond mae'n rhaid i ni gadw llygad ar hynny a gweld yn union beth sy'n digwydd, a gobeithio bod hynny wedi ei adeiladu i'r system gennym er mwyn cynnal yr oruchwyliaeth honno.

O ran yr hyn y byddwn ni'n gallu ei ddarparu, mae prinder cwnselwyr, ac rydyn ni'n edrych ar ffyrdd o newid y rheoliadau efallai er mwyn gallu sicrhau bod mwy o gwnselwyr ar gael, ond rydyn ni'n gwneud hyn i gyd mewn ymgynghoriad â'r grŵp yr ydym wedi'i sefydlu. Felly, dydw i ddim wir yn gallu dweud y byddwn ni'n gwneud rhywbeth penodol neu'n gwario swm penodol o arian, oherwydd rydyn ni eisiau ei wneud yn gydgynhyrchiol gyda phobl sydd wedi cael y profiad bywyd mewn gwirionedd.

Fel y dywedais i mewn ymateb i'r cwestiwn cynharach, mae gan Gymru hanes da o ran cefnogaeth ôl-fabwysiadu erbyn hyn, oherwydd ein bod wedi rhoi adnoddau sylweddol ynddi, felly mae gennym lefydd i gyfeirio pobl, ond rydym yn gobeithio, drwy wneud yr ymddiheuriad cyhoeddus hwn, drwy ei wneud mor gyhoeddus ag y gallwn, y bydd yn cyrraedd y bobl hynny nad ydyn nhw wedi bod yn yr ymgyrchoedd mewn gwirionedd ond sydd wedi bod â'r gyfrinach hon ers blynyddoedd a blynyddoedd, ac wedi methu â chael y cyfle i'w fynegi. Felly, rwy'n gobeithio ein bod ni'n mynd i gyrraedd rhai o'r bobl hynny, ac yn amlwg, bydd yn rhaid i ni ymateb i unrhyw gais a gawn mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yr ymddiheuriad ynddo'i hun yn bwysig iawn, ond rwy'n gwybod ei fod yn arwain at yr angen i wneud pethau eraill.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn am eich arweiniad ar y mater hwn. [Torri ar draws.] Diolch yn fawr iawn am eich arweiniad ar y mater poenus iawn hwn. Wrth fyfyrio pan oeddwn i'n fenyw ifanc yn y 1960au a'r 1970au, gallaf ddweud yn wirioneddol nad oeddwn i'n gwybod am hyn. Roeddwn i'n fenyw radical a oedd yn camymddwyn yn fawr, a phe bawn wedi gwybod, byddwn i wedi gwneud rhywbeth am y peth. Yn hytrach, roeddwn i'n ymgyrchu dros hawl menywod i ddewis. Doedd dim dewis gan y menywod hyn, ac mae'n sicr bod yr arferion hyn yn anegwyddorol, yn anfoesol a—bron yn sicr—yn atal eu hawliau dynol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ofyn i ni'n hunain sut mai'r sefydliadau hyn sydd wedi atal yr wybodaeth hon rhag cyrraedd y cyhoedd yn ehangach ers rhyw 30 mlynedd—dim ond yn y 1980au a'r 1990au y dechreuodd y materion hyn gael eu trafod yn gyhoeddus—. A beth oedd y rhai a oedd yn gweld y cyfan a oedd yn mynd ymlaen yn ei wneud? Pam na wnaethon nhw godi eu lleisiau? Mae'r rhain yn bethau y mae'n rhaid i ni eu gofyn i ni'n hunain yn sicr.

O ran y lliniaru yr ydych chi'n ymdrechu i unioni o ran y niwed a wnaed i'r menywod hyn—mamau a thadau—yn ogystal â'u plant, mae'n ymddangos bod angen brys i bobl gwrdd â'u rhieni cyn iddyn nhw farw. Ac, felly, mae'n hanfodol ein bod yn cyflymu'r broses o alluogi pobl i weld eu cofnodion a rhoi pob cymorth iddyn nhw geisio olrhain eu perthnasau. Felly, fe glywais i chi'n dweud eich bod chi'n meddwl newid y rheoliadau—haleliwia, gadewch i ni wneud hynny, oherwydd mae'n rhaid i'r bobl hyn gael rhywfaint o gyfiawnder, cau pen y mwdwl ar yr hyn sy'n ddigwyddiad ofnadwy a fydd wedi amharu ar eu bywydau i gyd. 

17:20

Diolch i Jenny Rathbone am y cyfraniadau yna. Y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol—os ydych chi'n darllen eu hadroddiad, mae'n rhoi rhywfaint o hanes yr hyn sydd wedi digwydd, a sut y digwyddodd, felly mae hynny'n werth ei ddarllen yn wir. Rydym yn dechrau edrych a allem fod â ffordd Cymru gyfan o gael mynediad at gofnodion, oherwydd rydyn ni'n clywed rhai straeon digon gofidus am anhawster cael mynediad at gofnodion, o sut mae'n aml yn cymryd amser hir iddyn nhw, ac nad yw'r gefnogaeth bob amser yno pan fo pobl yn cael mynediad at y cofnodion hynny mewn gwirionedd. Felly, rydyn ni'n sicr yn edrych ar hynny.

A gydag arferion mabwysiadu newydd, rydyn ni'n ceisio sicrhau bod pobl ifanc a phlant sydd wedi'u mabwysiadu yn gallu, os yw'n bosibl o gwbl, os ydyn nhw'n cael eu mabwysiadu, i gadw cysylltiad â'u teuluoedd cyntaf, oherwydd wedi siarad â llawer o bobl ifanc sydd wedi'u mabwysiadu a'u hadnabod, maen nhw eisiau bod â'r cysylltiad hwnnw. Ac os ydyn ni'n gallu ei adeiladu mewn ffordd fwy naturiol, reit o'r dechrau, os nad yw'n bosib i'r plant fyw gartref gyda'u teuluoedd, a mabwysiadu yw'r opsiwn gorau, os gallwn ni gynnwys mabwysiadu gyda chysylltiad â'u teuluoedd cyntaf, rwy'n credu mai dyna beth rydyn ni'n symud tuag ato. Ac rwy'n credu bod hyn yn eithaf cyffredin mewn rhai gwledydd eraill—yn llawer mwy cyffredin nag y mae yma. Oherwydd, rydyn ni eisiau symud i ffwrdd o sefyllfa lle mae popeth yn cael ei wneud yn gyfrinachol, a phan fo'n bosib, rydyn ni eisiau i'r cyswllt hwnnw fod yno, fel nad oes gennym ni sefyllfa lle mae pobl yn ceisio cysylltu â'u rhieni a methu eu cyrraedd. 

Felly, rwy'n credu bod llawer o bethau ymarferol y gallwn ni eu gwneud a fydd yn ei gwneud yn llawer haws i bobl yn y sefyllfa hon, ac rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr yn Llywodraeth Cymru i wneud popeth posibl i leddfu'r gofid llwyr sydd wedi'i achosi gan yr arferion hyn a ddigwyddodd rai blynyddoedd yn ôl. 

Hoffwn dalu teyrnged i'r bobl hynny yr effeithiwyd arnyn nhw gan yr arfer hollol wrthun hwn. Rwy'n talu teyrnged i'r pwyll a'r urddas rydych chi i gyd wedi ei gyfrannu i'r ddadl hon a'r drafodaeth hon, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn sefyll yma'n ostyngedig, mewn gwirionedd, yn llawn parch atoch chi, ond hefyd, mewn cywilydd o'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol. Fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant, rwy'n cysylltu fy hun gyda'r ymddiheuriad, ac rwy'n diolch am hynny. Gallaf weld pa mor bwysig yw hi i'r Llywodraeth hon, gyda'r Prif Weinidog yma yn y Siambr, a llawer o aelodau'r Cabinet hefyd, yn cysylltu eu hunain gyda Llywodraeth Cymru a safbwynt pobl Cymru ar ymddiheuro i'r bobl hynny yr effeithiwyd arnynt. Ni allaf ddychmygu'r erchyllterau yr aethoch drwyddynt, a diolch i chi am ddod â hyn i'n sylw. A diolch i chi, fel goroeswyr hyn, mae angen ein hatgoffa'n gyson o'r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a sut y gallwn ei wella ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr iawn, Jane, am gysylltu'r Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r ymddiheuriad hwn. Felly, mae hynny'n golygu bod yr holl bleidiau yn y Siambr yn gadarn y tu ôl i'r ymddiheuriad hwn. Felly, rwy'n credu mai dim ond dechrau'r gwaith yr ydyn ni'n mynd i'w wneud ar y mater hwn yw hyn, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod o'r diwedd yn cydnabod yr hyn a ddigwyddodd i'r menywod ifanc hynny gymaint o flynyddoedd yn ôl, ac nad ydym yn anghofio hynny, nad ydym yn anghofio'r gofid ofnadwy yr aethant drwyddo o ran rhoi genedigaeth i fabi, eisiau ei gadw, a'i weld yn cael ei gymryd oddi arnoch chi a hynny yn cael ei dderbyn fel sefyllfa arferol ar y pryd. Rhaid i ni byth, byth adael i unrhyw beth fel yna ddigwydd eto, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru'n gallu ymddiheuro heddiw ac ymrwymo i wneud popeth posibl yn y dyfodol i helpu.

17:25

Diolch, Llywydd. Rydw i, fel Jane, eisiau mynegi fy edmygedd o'r dewrder y mae'r menywod sydd wedi cyflwyno hyn wedi ei ddangos, oherwydd dydy hynny ddim yn hawdd, ac roedd yn angenrheidiol—dyna'r broblem. Pan fyddwn ni'n sôn am y 1950au, 1960au a'r 1970au, dydyn ni ddim wir yn sôn am gyfnod sydd mor bell yn ôl. Cafodd fy mhlant i eu geni yn y 1970au, ac roeddwn i'n fam ifanc fy hun, ac ni allaf ddychmygu'r boen a'r torcalon yr oedd y menywod hynny'n ei ddioddef. Roedd gen i ffrind wnaeth ddioddef hynny, ac ni wnaeth hi byth ddod drosto, byth, a doedd hi ddim yn gwybod ble roedd ei phlentyn a sut oedd y plentyn. Roedd ei rhieni—ei rhieni—yn credu eu bod nhw'n gwneud y peth iawn, oherwydd y byddai'r stigma y byddai hi wedi ei brofi, felly roedden nhw'n ei gredu, yn fwy na cholli ei phlentyn. Wrth gwrs, roedden nhw'n anghywir, ond fe wnaethon nhw hynny am y rhesymau cywir. Fe ddywedodd hi ei stori wrthyf ddegawdau lawer yn ôl am garu ei mab, am wau pethau er mwyn iddyn nhw fynd gydag e, am brynu teganau, ac am yr archoll enfawr, y golled, pan adawodd y plentyn hwnnw'r ystafell am y tro olaf. Fe wnaeth hi fyw gyda hynny. Felly, roeddwn i'n gwybod amdano, mewn gwirionedd, ers y 1980au.

Felly, dydw i ddim yn credu bod cymdeithas wedi gwasanaethu unrhyw un yn dda yn y fan yma achos nid y mamau a'r tadau yn unig, sydd wedi cael eu crybwyll, oedd hyn ond y teulu cyfan, y teulu a gafodd eu gorfodi, mewn ffordd, i wneud yr hyn yr oedden nhw'n meddwl oedd y peth iawn i'w merched a'r holl stigma a oedd yn mynd gyda hynny. Ac, wrth gwrs, roedd y wladwriaeth yn rhan o hyn. Gallai'r wladwriaeth fod wedi helpu; gallen nhw fod wedi cefnogi'n ariannol pe bydden nhw wedi dewis gwneud hynny yn lle stigmateiddio menywod ifanc—weithiau, nid bob amser yn fenywod ifanc, ond dim ond menywod nad oedd yn briod, nad oedd yn ffitio'r norm. Felly, rwy'n eich cymeradwyo chi heddiw, a bydd pawb yma yn eich cefnogi, wrth roi'r ymddiheuriad hwnnw. Mae'r hyn y gallwn ni ei wneud, wrth symud ymlaen, i'r menywod hynny a'u plant—a bydd wyrion nawr hefyd—yn hynod bwysig.

Diolch, Joyce, am y geiriau yna. Rwy'n credu bod Joyce yn ein hatgoffa nad oedd hyn yn bell yn ôl, mewn gwirionedd, pan ddigwyddodd hyn. Roeddech chi'n sôn am y 1980au, felly dydy e ddim yn bell iawn yn ôl o gwbl. A hefyd i'n hatgoffa ni fod yna wyrion ac wyresau, felly mae yna doreth gyfan o bobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan hyn, a bydd yr effeithiau'n mynd ymlaen am gyfnod hir. Felly, unwaith eto, diolch yn fawr iawn am y gefnogaeth a roddwyd yma yn y Senedd heddiw, a diolch, yn anad dim, i'r bobl hynny, y mae rhai ohonyn nhw yma gyda ni yn yr oriel heddiw, am ymgyrchu a dwyn hyn i'n sylw ni, y cyhoedd, y Llywodraeth, ac unwaith eto, mae'n flin iawn gan Lywodraeth Cymru. [Cymeradwyo.]

8. Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023

Yr eitem nesaf, felly, bydd y Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma. Julie James.

17:30

Cynnig NDM8244 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mawrth 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Bwriad y Gorchymyn hwn yw cael gwared ar y risg o gwmnïau dŵr yn talu am gamau gwaith anorffenedig ac i bobl sy'n talu biliau dŵr, sy'n ariannu cwmnïau dŵr, orfod talu am hyn drwy eu biliau dŵr. Ei ddiben yw caniatáu i brosiectau caffael uniongyrchol, neu DPCs, a reoleiddir gan Ofwat, rheoleiddiwr economaidd y diwydiant dŵr, fod y tu allan i rai o ofynion Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Bydd yr eithriad yn berthnasol i gytundebau rhwng cwmnïau dŵr a chwmnïau penodol sy'n gwneud cais am gontractau ac sy'n ennill contractau o dan y mecanwaith caffael uniongyrchol, fel prosiectau seilwaith ar raddfa fawr. Ar hyn o bryd, dim ond un cytundeb o'r fath sy'n cael ei gynnig i Gymru, sef gwaith trin dŵr newydd.

Bydd prosiectau a thaliadau DPC yn cael eu strwythuro mewn ffordd debyg i fodel buddsoddi cydfuddiannol Llywodraeth Cymru. Mae cwmnïau dŵr yn prynu gwasanaeth gan y contractwr, sy'n cynnwys dylunio, adeiladu a chyllid ased. Yn unol â'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol a modelau cyllid prosiect eraill, ni fydd y contractwr fel rheol yn derbyn taliad tan fod gwaith adeiladu'r prosiect i gyd, neu ran ohono, wedi'i gwblhau ac yn gallu darparu gwasanaeth. Gall hyn gynnwys taliad ar ddiwedd y gwaith o adeiladu'r prosiect yn unig a hefyd taliadau fesul tipyn pan fydd rhannau o brosiectau yn cael eu cwblhau, gan ddarparu gwasanaeth. Bydd efelychu'r Gorchymyn eithrio ar gyfer y model buddsoddi cydfuddiannol a modelau cyllid prosiect yn caniatáu i'r cwmni dŵr deilwra ei delerau talu DPC i'w brosiect i sicrhau'r gwerth gorau am arian i'r cwsmer.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i daliad gael ei wneud am waith adeiladu wrth iddo fynd rhagddo ac nid ar ôl ei gwblhau. Mae'n berthnasol i'r cytundeb rhwng y darparwr a benodwyd yn gystadleuol a'r cwmni dŵr. Ni all y strwythur prosiect caffael uniongyrchol weithredu oni bai fod eithriad o weithredu'r agweddau hyn ar y Ddeddf adeiladu. Diben gwneud y Gorchymyn hwn yw caniatáu talu ar ôl cwblhau a darparu gwaith y cytunwyd arno, yn hytrach na gwaith nad yw'n arwain at ddarpariaeth. Mae hyn yn cael gwared ar y risg o gwmnïau dŵr yn talu am gamau gwaith sydd heb eu gorffen ac i dalwyr biliau dŵr, sy'n ariannu cwmnïau dŵr, orfod talu am hyn drwy eu biliau dŵr. Diolch.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni ystyried y Gorchymyn drafft hwn ar 27 Mawrth, a arweiniodd at rywfaint o ohebiaeth ychwanegol gyda'r Gweinidog, ac rydym yn diolch iddi am yr ymateb a gawsom. Mae ein hadroddiad ar y Gorchymyn drafft yn cynnwys un pwynt adrodd ar sail rhagoriaeth yn unig, ac mae'r pwynt adrodd ar sail rhagoriaeth yn eithaf manwl, a bydd yr Aelodau yn falch o'm clywed i'n dweud y gallan nhw ddod o hyd i'r manylion hynny yn ein hadroddiad, yn hytrach na'u darllen ar lafar.

Felly, y prynhawn yma, fe wnaf i ei grynhoi yn unig trwy ddweud nad oedd yn eglur i ni yr adeg y gall taliadau gan gwmnïau dŵr gael eu gwneud o dan gontract perthnasol. Gwnaeth yr ymateb cychwynnol a gawsom gan Lywodraeth Cymru gryn dipyn i ychwanegu eglurder pellach, ond ni wnaeth ddatrys ein pryderon yn llwyr. Ac yn benodol, roedd yn dal yn aneglur i ni sut mae erthygl 3(1)(d) y Gorchymyn drafft yn cyd-fynd â'r amod Ofwat, fel y'i disgrifiwyd ym mharagraff 4.9 o'r memorandwm esboniadol, sy'n awgrymu mai dim ond ar ôl i brosiect adeiladu gael ei gwblhau y gellir talu. Mae ymateb y Gweinidog yn nodi bod canllawiau Ofwat yn rhagweld y gallai fod angen gwahanol ddulliau talu ar gyfer gwahanol brosiectau ac mai bwriad erthygl 3(1)(d) yw darparu digon o fanylion i gontractau perthnasol gael eu nodi, ond i ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd hefyd o ran trefniadau talu. Nawr, yn ein barn ni, ceir diffyg eglurder o hyd yn y memorandwm esboniadol o ran yr hyblygrwydd hwn ynghylch amseriad taliadau. Fodd bynnag, os yw Ofwat a'r diwydiant yn fodlon bod hyn yn ddigon eglur, yna ni fyddem yn gwneud unrhyw sylw pellach. Diolch yn fawr.

Diolch, Llywydd. Dim ond i ddweud, fel y gwnaethom ni ei nodi i'r pwyllgor, bydd gan bartïon sy'n ymgymryd â chaffaeliadau DPC wybodaeth lawn am y telerau, gan gynnwys y bydd taliad yn cychwyn dim ond ar ôl i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Felly, y pwynt, mewn gwirionedd, yw nad ydym ni'n credu y byddai'r cwmni o dan unrhyw anfantais, a beth bynnag, Llywydd, dim ond un sydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, rydym ni'n argymell bod yr Aelodau yn pleidleisio dros y Gorchymyn.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Yr eitem nesaf yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol). Galw ar Weinidog y Cyfansoddiad i wneud y cynnig yma. Mick Antoniw.

Cynnig NDM8243 Mick Antoniw

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Ac rwy'n ddiolchgar am waith y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad a phwyllgor yr economi, masnach, a materion gwledig ar y mater hwn, ac am yr adroddiadau y maen nhw wedi eu cyhoeddi. Rwy'n falch bod mwyafrifoedd ar y ddau bwyllgor yn cytuno yn fras gyda'r safbwynt a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol.

Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac adroddiadau'r pwyllgorau yn ei gwneud yn eglur pam ddylai'r Senedd hon fod yn bryderus ynghylch goblygiadau'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol), oherwydd cynnwys sawl gwasanaeth cyhoeddus datganoledig o fewn ei gwmpas, a hefyd oherwydd pwerau Harri VIII ysgubol sy'n rhoi'r cyfle i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau yn y dyfodol a allai arwain at oblygiadau sylweddol i Gymru, i ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio gan y Senedd hon ac i'n gwasanaethau cyhoeddus.

Nid yw'n gyfrinach bod Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r Bil hwn. Mae'r Bil hwn yn ymosodiad ar hawliau gweithwyr ac undebau llafur. Roedd hi'n 123 o flynyddoedd yn ôl pan wnaeth gweithwyr rheilffordd ym Mhontypridd weithredu'n ddiwydiannol a oedd yn anghyfreithlon yn ôl Tŷ'r Arglwyddi. Ac arweiniodd hyn at Ddeddf Anghydfodau Llafur 1911, a sefydlodd yn y gyfraith yr hawl i weithredu'n ddiwydiannol. Mae'n hawl sydd wedi'i hymgorffori ar draws y byd rhydd ac yn gonglfaen i gonfensiynau rhyngwladol a chyfraith ryngwladol a hawliau dynol. Mae'r Bil hwn yn ceisio gwrthdroi dros 100 mlynedd o gynnydd. Llywydd, pan edrychwch chi ar draws y byd a thrwy hanes, y Llywodraethau hynny sy'n sefyll yn erbyn democratiaeth sy'n cyfyngu ar hawliau undebau llafur, ac ni all fod unrhyw gyfiawnhad dros drin ymosodiad ar yr hawliau hyn y brwydrwyd mor galed amdanyn nhw fel stỳnt wleidyddol gyfleus.

Fe wnaeth cyflwyno Deddf Undebau Llafur y DU arwain at alwadau gan y sefydliad llafur rhyngwladol i'r ddeddfwriaeth honno gael ei hadolygu. Ac mae'n hurt nawr bod Gweinidogion y DU yn dadlau bod eu dull newydd o weithredu yn ceisio ein rhoi yn yr un sefyllfa â chenhedloedd eraill. Bydd yr Aelodau hefyd wedi gweld bod Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi ei gwneud hi'n eglur, mewn ffordd gyhoeddus iawn, na fyddai'n dilyn cyfarwyddiadau a gyflwynwyd yn y Bil streiciau, gan ddangos unwaith yn rhagor sut mae ymosodiadau ar hawliau gweithwyr yn niweidio ein henw da byd-eang. Llywydd, mae'r Bil hwn yn gwneud darpariaethau a fydd yn cael effaith niweidiol ar ddatganoli a'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae'r rhain yn wasanaethau sy'n cael eu goruchwylio ar sail mandadau a ddarperir gan bobl Cymru, ac mae'n sarhad ar ddatganoli y dylai Gweinidogion y DU geisio arfer pwerau a fydd yn effeithio ar y gwasanaethau hyn heb unrhyw fandad etholiadol na chydsyniad y Senedd hon. Felly, galwaf ar holl Aelodau'r Senedd hon i sefyll dros ddemocratiaeth ac i wrthod eu cydsyniad i'r Bil atchweliadol a dadunol hwn.

Nid yw'n ymwneud â'r maes cysylltiadau diwydiannol neilltuedig yn unig, mae hefyd yn ymwneud â'r ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu, ac mae'n tanseilio yn sylfaenol partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru, sydd wedi gweithio mor dda rhwng busnesau, undebau llafur a'r Llywodraeth. Mae'r cysyniad o lefelau gwasanaeth gofynnol, hyd y gellir eu hystyried yn syniad cydlynol sy'n dal y Bil hwn at ei gilydd, wedi'i seilio ar syniad mai Llywodraeth y DU yn unig ddylai bennu lefelau gwasanaethau, gan gynnwys mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i'r Senedd ac yn cael eu goruchwylio gan Weinidogion Cymru. Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU yn cyfaddef anghydlyniad y dull hwn. Yn ei dogfennau ymgynghori ei hun, mae Llywodraeth y DU yn cyfaddef bod gwasanaethau yn cael eu rhedeg yn wahanol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban a'u bod yn gyfrifoldeb i Lywodraethau Cymru a'r Alban yn briodol, ac eto ni wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori â ni cyn i'r Bil gael ei gyflwyno yn San Steffan.

Ar draws yr holl wasanaethau datganoledig sydd o fewn cwmpas y Bil hwn, mae gan Gymru ei dulliau strategol a gweithredol ei hun, ac ni ellir ysgaru'r rhain oddi wrth y darpariaethau yn y Bil, sy'n ymyrryd yn uniongyrchol â datganoli ac a fydd yn tanseilio'r model y mae Llywodraeth Cymru wedi ei fabwysiadu gyda chyflogwyr ac undebau llafur ar draws y gwasanaethau hynny. Nid yw Gweinidogion y DU, sy'n gwybod dim am y modd y mae gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn cael eu rhedeg yng Nghymru, nad ydyn nhw'n atebol yn ddemocrataidd am eu darpariaeth, ac nad oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth uniongyrchol am amgylchiadau lleol, mewn unrhyw sefyllfa i benderfynu ar lefelau gwasanaeth gofynnol yng Nghymru. Ac mae'r canlyniadau ohonyn nhw'n ymddwyn fel hyn nid yn unig yn anghywir ond yn hynod beryglus. Gadewch i ni ystyried gwasanaethau tân ac achub, dim ond un o nifer o enghreifftiau y gallai Gweinidogion eu rhoi. Byddai unrhyw ymgais i sefydlu lefel gwasanaeth ofynnol yn gofyn am wybodaeth leol fanwl am danau a risgiau eraill. Byddai'n gofyn am wybodaeth am leoliadau a chyfleusterau, fel purfeydd olew, porthladdoedd, adeiladau preswyl tal, lle mae'r peryglon ar eu huchaf. Byddai'n gofyn am wybodaeth am natur cyfansoddiad ac argaeledd presennol criwiau, offer ac asedau arbenigol sydd ar gael i ymateb, a gwybodaeth am sut mae'r risgiau hyn yn amrywio yn ystod y flwyddyn oherwydd ffactorau tymhorol. Nid yw'n bosibl cyffredinoli am yr holl ffactorau hyn, nac i awgrymu pennu lefelau gwasanaeth gofynnol yn seiliedig ar ganran or-syml o staff diffodd tân, ac mae'n haerllugrwydd peryglus i feddwl y gall y ffactorau cymhleth hyn gael eu cynllunio'n ganolog yn Whitehall rywsut.

Mae hwn yn Fil sy'n cael ei ruthro drwy Senedd San Steffan, a dyna pam mae gennym ni Fil fframwaith sy'n cynnwys pwerau Harri VIII i Weinidogion Llywodraeth y DU—pwerau iddyn nhw wneud bron iawn unrhyw beth y mynnon nhw. Fe ddywedaf i hynna eto: pwerau iddyn nhw wneud bron iawn unrhyw beth y mynnon nhw. Mae'r rhain yn bwerau annerbyniol, gwrth-ddemocrataidd a didostur, na allwn ac na ddylem ni gydsynio iddyn nhw—nid pan fo cymaint o'n gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn cael eu cwmpasu gan y Bil hwn.

Gadewch i mi ddweud hefyd, yn groes i'r gwyrdroad a'r chwedloniaeth sy'n cael eu disgrifio gan Lywodraeth y DU bod y pwerau hyn yn cyfateb i rai gwledydd diwydiannol eraill, mewn ymgais ofer i geisio cyfreithloni'r ddeddfwriaeth hon, byddaf ond yn dweud hyn—mae'n gwbl anwir. Mae'n gwbl anwir. Mae'r pwerau hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i ddeddfwriaeth Ewropeaidd a rhyngwladol arall, ac rwy'n galw ar holl Aelodau'r Senedd i wrthod eu cydsyniad, ac rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i gymryd sylw o'r ddadl hon, i gymryd sylw o'r teimladau cryf a fynegwyd, ac i weithredu yn unol â hynny. Diolch, Llywydd.

17:40

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Bydd y Cwnsler Cyffredinol ac Aelodau'r Senedd yn gwybod mai swyddogaeth ein pwyllgor yw edrych ar yr agweddau cyfansoddiadol a chyfreithiol ar hyn, a rhoi'r materion gwleidyddol neu bolisi yr wyf i'n siŵr y bydd Aelodau eraill yn eu trafod o'r neilltu.

Felly, Llywydd, fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn ar 30 Mawrth. Fe wnaethom ni ddod i un casgliad ac gwnaed un argymhelliad gennym. Fe wnaethom ni nodi asesiad Llywodraeth Cymru o'r darpariaethau yn y Bil sydd angen cydsyniad y Senedd, fel y nodir yn y memorandwm. Roedd mwyafrif o'r pwyllgor yn cytuno â Llywodraeth Cymru, ac yn wir y cyngor cyfreithiol a roddwyd gerbron y pwyllgor, bod cymalau 1 i 3 y Bil, a pharagraffau 1 a 2 Rhan 1 yr Atodlen i'r Bil angen cydsyniad y Senedd yn wir, eu bod nhw'n rhan o feysydd cymhwysedd y Senedd.

Roedd mwyafrif o'r pwyllgor hefyd o'r farn bod cymalau 4 i 6 o'r Bil hefyd angen cydsyniad y Senedd. Mewn gwirionedd, mae hynny'n groes i farn Llywodraeth Cymru. Roeddem ni o'r farn hon oherwydd bod y cymalau hyn yn darparu ar gyfer y graddau, dechreuad a'r teitl byr sy'n ymwneud â'r holl ddarpariaethau yn y Bil, y bydd angen cydsyniad ar rai ohonyn nhw lle maen nhw'n ymwneud â materion datganoledig—yn wir, y materion hynny y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu crybwyll, sef iechyd ac addysg, pethau fel tân ac achub, ac yn wir rhai gwasanaethau trafnidiaeth. Mae pob aelod yn cytuno â Llywodraeth Cymru nad oes angen cydsyniad y Senedd ar gyfer paragraffau 3 i 10 yn Rhan 2 yr Atodlen.

Felly, mae ein casgliad unigol yn yr adroddiad yn adlewyrchu'r safbwynt ar gydsyniad yr wyf i newydd ei amlinellu. Mae Cymal 3 y Bil yn rhoi grym rheoleiddio i'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud gwelliannau canlyniadol pellach sy'n deillio o'r Bil. Cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol at hyn yn ei sylwadau agoriadol. Gall rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth ganlyniadol ddiwygio, ddiddymu neu ddirymu deddfiad a basiwyd naill ai cyn y Ddeddf neu'n ddiweddarach yn yr un sesiwn o'r Senedd â'r Bil. Felly, trwy wneud hyn, mae cymal 3(5) yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio Deddf neu Fesur Senedd Cymru. Fodd bynnag, byddai'r grym yn cael ei arfer heb unrhyw swyddogaeth ar gyfer y Senedd hon. Nid ydym o'r farn bod hyn yn dderbyniol. Hwn eto yw safbwynt mwyafrifol y pwyllgor.

Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi bod Llywodraeth y DU yn credu bod y darpariaethau yn y Bil yn ymwneud â phwerau wedi'u cadw'n ôl yn unig, ac nad yw wedi gofyn am gydsyniad y Senedd. O ystyried y farn hon, fe wnaethom ni argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol, cyn y drafodaeth ar gynnig heddiw, egluro felly pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i ddatrys y gwahaniaeth barn sydd ganddi â Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Awgrymodd ein hargymhelliad y dylai ymateb y Cwnsler Cyffredinol gynnwys sut mae'r gweithdrefnau datrys anghydfod rhyng-lywodraethol newydd a gytunwyd ym mis Ionawr 2022, yn dilyn adolygiad, yn cael eu defnyddio, ac, o ganlyniad, pa gamau pellach, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd. Cawsom ymateb i'n hargymhelliad ddoe a nodwn y sylwadau a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol, gan gynnwys cyfnewid gohebiaeth â Llywodraeth y DU, a diolchwn iddo am hynny. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

Rwy'n credu bod safbwyntiau'r Siambr hon yn eglur iawn o ran y Bil hwn ac wedi cael eu mynegi gan bob plaid mewn dadleuon blaenorol. Fodd bynnag, nid wyf i wedi cael fy mherswadio o hyd gan unrhyw un o'r dadleuon a gyflwynwyd ganddyn nhw, ac rwy'n dal i gredu bod y Bil streiciau lefelau gwasanaeth gofynnol nid yn unig yn iawn i bobl y Deyrnas Unedig, ond hefyd yn iawn i bobl Cymru, gan ddiogelu gwasanaethau hanfodol yn ystod cyfnodau o anghydfod diwydiannol sy'n cynorthwyo ein pobl fwyaf agored i niwed.

Wedi dweud hynny, o ran cymhwysedd deddfwriaethol, hyd y gwelaf i, mae'r Bil yn amlwg yn gwneud newidiadau o ran rheoleiddio hawliau a dyletswyddau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol, ac nid oes amheuaeth nad yw hyn yn rhan o gymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Ni fydd y Ddeddf hon yn effeithio ar bolisïau datganoledig addysg, iechyd na thrafnidiaeth. Rydych chi wedi datgan eich safbwynt, Gweinidog, bod angen cydsyniad i'r graddau bod cymal 1 yn cyflwyno Atodlen sy'n caniatáu i reoliadau gael eu gwneud yng nghategorïau gwasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau tân ac achub. Ond, ac mae'n rhaid i chi gytuno, mae'r Llywodraeth hon eisoes yn cydymffurfio â'r rheoliadau yn y meysydd hyn o dan gyfreithiau presennol y DU, fel Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, felly mae eich pwynt yma yn hollol ddi-sylwedd mewn gwirionedd. Yn fy marn i, gallech chi ond defnyddio'r ddadl hon os nad oedd unrhyw rannau o'r gwasanaethau iechyd, addysg, tân ac achub neu drafnidiaeth yn cydymffurfio ag unrhyw ddeddfau'r DU, ac nid felly y mae hi.

Fodd bynnag, mae angen i ni ddod o hyd i'r pwyntiau yr ydym ni'n cytuno arnyn nhw, ac rwy'n credu y gallwn ni i gyd gefnogi'r syniad ei bod hi'n anghywir mai pobl agored i niwed, yn enwedig plant, yw'r rhai sydd fwyaf agored i golli gwasanaeth yn ystod anghydfodau diwydiannol. Mae angen i ni gydnabod yr angen am system fwy cadarn ar waith a fydd yn golygu nad yw plant yn colli eu haddysg a'r gwasanaethau cymorth sy'n cydblethu â hi, ac nad yw pobl sydd angen triniaeth feddygol yn cael eu gadael yn aros ar restrau aros sy'n ymestyn yn barhaus yng Nghymru. Ethos y Llywodraeth hon yw annog newid ymddygiad cadarnhaol, ond yn syml, ni fydd hyn yn cael ei gyflawni os nad yw pobl yn gwbl hyderus y gallan nhw ddibynnu bod ysgolion ar agor, bod apwyntiadau hir-ddisgwyliedig yn cael eu darparu a bod trafnidiaeth gyhoeddus yn ddibynadwy. Y gwir amdani yw na wnaiff pobl dderbyn unrhyw beth ond dibynadwyedd llwyr. Felly, tan y bydd gennych chi'r dibynadwyedd hwn, ni fyddwch chi byth yn cael y newidiadau ymddygiad y mae'r Llywodraeth Cymru hon yn dymuno eu cael.

Rydym ni i gyd yn cytuno y bydd anghydfodau diwydiannol yn digwydd, ac rydym ni i gyd yn cytuno bod tynnu llafur yn ôl yn hawl sylfaenol wrth geisio sicrhau amodau gwaith tecach a mwy diogel. Yn wir, rwy'n eithriadol o falch o record fy mhlaid wleidyddol yn y maes hwn. Nid yn unig y mae ein diwygiadau wedi democrateiddio undebau llafur drwy sicrhau bod pob aelod yn cael pleidlais, rydym ni hefyd wedi cyfreithloni undebau llafur yn y gyfraith ac rydym ni wedi gwahardd gweithrediad undebau caeedig. Rydym ni hyd yn oed wedi cyflwyno diwygiadau llafur arloesol, fel sicrhau bod gweithwyr a chyflogwyr yn gyfartal yn y gyfraith mewn contractau llafur, bod gweithwyr yn cael contractau cyflogaeth a gwyliau â thâl, a bod y gweithwyr hynny ag anableddau yn cael eu diogelu yn llawn ac na ellir byth gwahaniaethu yn eu herbyn ym maes cyflogaeth.

Yn amlwg, rydym ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i amddiffyn a gwella hawliau gweithwyr. Felly, rwy'n awyddus i wybod, Gweinidog, pam eich bod chi'n credu ei bod hi'n dderbyniol y gall pobl golli eu swyddi neu orfod defnyddio eu hawl werthfawr i wyliau, y brwydrwyd mor galed i'w chael, oherwydd na allan nhw gyrraedd y gwaith yn ystod streic trafnidiaeth gyhoeddus, neu y gall plant sydd wedi bod drwy bandemig COVID golli mwy o addysg fyth gan fod eu hysgol ar gau. Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod y system hon, ar y cyfan, ar waith gennym ni eisoes, gan y gellir cytuno ar lefelau gwasanaeth gofynnol gwirfoddol cyn streiciau. Ond, fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, nid yw'r rhain yn cael eu defnyddio'n helaeth ar draws sectorau allweddol, a lle maen nhw yn cael eu defnyddio gall eu defnydd fod yn anghyson yn aml, a dyna pam mae'n iawn defnyddio deddfwriaeth i'w gorfodi.

Dyma pam mae angen y Bil hwn arnom ni. Trwy gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol trwy reoleiddio, nid ydym yn cymryd unrhyw beth oddi wrth weithwyr sy'n streicio—mae gweithwyr yn dal i allu parhau i arfer eu hawl sylfaenol i streicio—a gallwn helpu i liniaru effaith gweithredu diwydiannol ar y rhai nad ydyn nhw'n rhan uniongyrchol o'r anghydfod. Dyna pam mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn annog pawb yma i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

17:45

Ni fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr hon y byddaf i'n gwrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar ran Plaid Cymru. Gan roi o'r neilltu cynnwys y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol penodol hwn, rydym ni'n gwrthwynebu'n sylfaenol yr egwyddor o San Steffan yn ymyrryd mewn datganoli. Dim eithriadau, dylid gwneud pob penderfyniad sy'n ymwneud â meysydd cymhwysedd sydd wedi eu datganoli yn y lle hwn, yn unol â dymuniadau democrataidd y bobl yng Nghymru. Dyma'r ddiweddaraf mewn cyfres faith o enghreifftiau o San Steffan yn ystwytho'i chyhyrau gwrth-ddatganoli, ac am enghraifft ffiaidd y maen nhw wedi ei chynhyrchu y tro hwn. Mae'r Bil didostur hwn wedi cael ei ddrafftio gyda'r unig fwriad o danseilio hawliau hirsefydledig gweithwyr a'r undebau llafur sy'n eu cynrychioli. Trwy fygwth gweithwyr sectorau allweddol gyda diswyddiad os byddan nhw'n methu â chydymffurfio â hysbysiadau gwaith, mae'r Torïaid yn dangos eu dirmyg llwyr tuag at yr union bobl a glodforwyd ganddyn nhw fel arwyr drwy gydol pandemig COVID. Mae gweithwyr allweddol eisiau parch, maen nhw eisiau cyflog teg, nid camau gwag gan Lywodraeth ddideimlad.

Mae gan y DU rai o'r cyfreithiau llafur mwyaf cyfyngol yn Ewrop eisoes. Ar adeg pan fo gweithwyr llawn amser drwy'r sector cyhoeddus cyfan yn ei chael hi'n anodd fforddio byw oherwydd cyflogau segur a chwyddiant esgynnol, mae'r hawl i streicio yn bwysicach nag erioed. Gyda'r Undeb Addysg Genedlaethol yn cyfrifo y bu gostyngiad o 23 y cant mewn termau real i gyflogau i athrawon ers 2010, a gostyngiad o 27 y cant i staff cymorth dros yr un cyfnod, yr hawl i streicio yw'r erfyn olaf a'r unig erfyn fel rheol. Er gwaethaf yr hyn y byddai llawer ym mhapurau newydd Llundain yn eich arwain i gredu, mae'r gweithredu diwydiannol a welwyd gan grwpiau amrywiol o weithwyr yn rhesymol, yn gymesur ac yn gyfreithlon.

Mae Plaid Cymru yn sefyll mewn undod gyda phob un gweithiwr sy'n strecio am gyflog teg ac amodau gwaith diogel, ond beth am y ddeddfwriaeth ei hun? Dywedodd y pwyllgor polisi rheoleiddio, sy'n grŵp annibynnol o fusnesau ac arbenigwyr academaidd a chyfreithiol, a gynullwyd gan y Llywodraeth, bod y Bil hwn yn wan a ddim yn addas i'r diben. Awgrymwyd ganddyn nhw hefyd bod rhai ffynonellau a oedd yn sail i'r dadansoddiad a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth y DU yn ddegawd oed. Hefyd, mae nifer o ysgolheigion cyfreithiol wedi tynnu sylw at y ffaith fod y Bil hwn yn mynd yn groes i erthygl 8 Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol 1966, y mae'r DU wedi ei lofnodi, gan gadarnhau hawl pawb i ffurfio undebau llafur ac ymuno ag undeb llafur o'u dewis. Mae'r Bil hefyd yn amlwg yn tynnu'n gwbl groes i amcanion gwaith teg Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yma yng Nghymru, sy'n mynd i'r afael yn briodol â'r angen am gyfranogiad agosach undebau llafur ym mhenderfyniadau'r Llywodraeth.

Digon yw dweud bod y Llywodraeth Dorïaidd hon wedi mynd i drafferth fawr i bardduo enw da San Steffan am ddeddfwriaeth grefftus dros y blynyddoedd diwethaf. Trwy wrthod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, gall Aelodau'r Senedd roi neges eglur i Sunak a'i griw na fydd gennym ni unrhyw beth i'w wneud â'u dulliau gwael, eilradd a byrbwyll o lywodraethu. Diolch yn fawr.

17:50

Pan fo amodau gwaith mor wael y dyddiau hyn, gyda phobl yn gorfod gweithio patrymau shifft ofnadwy, oriau hwy, anghymdeithasol nad ydyn nhw'n cyd-fynd â theuluoedd neu ofal plant, am yr un faint o arian neu, mewn termau real, llai oherwydd pwysau chwyddiant, yr unig rym sydd gan weithwyr yw gwneud safiad mewn undod a streicio. Bydd y mesurau didostur y mae'r Bil hwn yn ceisio eu gorfodi yn golygu y gallai gweithwyr gael eu diswyddo am weithredu a gytunwyd mewn pleidlais ddemocrataidd. Byddai undebau llafur yn cael eu gorfodi i sicrhau nad yw aelodau sy'n pleidleisio dros weithredu diwydiannol yn cymryd rhan yn y gweithredu hwnnw, gan ofyn iddyn nhw danseilio eu streic a gytunwyd yn ddemocrataidd eu hunain ac i groesi'r llinell biced—sy'n mynd yn sylfaenol groes i hawliau gweithwyr.

Mae'r TUC hefyd wedi rhybuddio bod y Bil yn wrthgynhyrchiol. Rydym ni i gyd yn gwybod bod gwasanaethau cyhoeddus eisoes yn ei chael hi'n anodd recriwtio, a bydd y risg sylweddol o ddiswyddo gweithwyr sy'n codi llais am eu cyflog ac amodau yn gwneud dim i ddatrys prinder staffio. Rwy'n credu'n gryf na ddylai'r Bil hwn fod yn berthnasol i wasanaethau cyhoeddus datganoledig. Nid yw Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gyfrifol am wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, ac ni ddylid rhoi'r hawl iddyn nhw orfodi lefelau gwasanaeth gofynnol arnyn nhw. Byddai'n niweidio cysylltiadau diwydiannol yng Nghymru ac yn ei gwneud hi'n anoddach darparu gwasanaethau cyhoeddus, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Am y rhesymau hyn y byddwn i'n annog pob Aelod i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn ac amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru. Diolch.

Mae'r Bil hwn yn enghraifft arall o ddeddfu gwael gan San Steffan. Ar wyneb y Bil, nid yw'n eglur sut y byddai'n cael ei weithredu, ac dylem ni wastad fod ar ein gwyliadwriaeth pan fo Gweinidogion yn gofyn trwy Fil am bwerau i ddiwygio Deddfau Seneddol y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU yn dweud nad yw'n brysio'r Bil hwn, ond os yw hynny'n gywir, pam mae'r pwerau ysgubol hyn yn angenrheidiol? Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn nad ydyn nhw'n gwybod pa newidiadau y bydd angen iddi eu gwneud ar ôl pasio'r Bil hwn. Dyna pam mae Gweinidogion yn cael pwerau mor eang i ddiwygio, diddymu neu ddirymu darpariaethau sy'n cael eu gwneud o dan ddeddfwriaeth sylfaenol y gorffennol neu'r dyfodol, gan gynnwys Deddfau yma yn y Senedd. Pa ddiben sydd i ni yma yn y Senedd, neu Aelodau San Steffan, neu'r arglwyddi, graffu ar ddarnau o ddeddfwriaeth yn y dyfodol, dim ond iddyn nhw gael eu diwygio, eu diddymu neu eu dirymu gan un o Weinidogion y DU? Siawns na allwn ni i gyd gytuno bod hyn yn ddeddfu ofnadwy ac yn tanseilio datganoli yng Nghymru.

Un rhan allweddol o'r Bil, fel yr ydym ni wedi ei glywed eisoes, yw'r lefelau gwasanaeth gofynnol, ond nid ydym ni'n cael ein hysbysu o gwbl yn y Bil beth fydd y lefel gwasanaeth gofynnol ar gyfer pob gwasanaeth. A dweud y gwir, nid ydym ni hyd yn oed yn gwybod pa wasanaethau fydd yn cael eu cynnwys. Ceir categorïau cyffredinol, fel iechyd ac addysg—eang iawn—felly dydyn ni ddim yn gwybod pa feysydd fydd yn cael eu cynnwys yn y Bil hwn.

Hefyd, does gen i ddim syniad sut y bydd yn gweithio yn ymarferol. A fydd gwahanol lefelau gwasanaeth ar gyfer gwahanol ddiwrnodau, er enghraifft, penwythnosau neu wyliau banc? Mae'r Bil yn cymryd amddiffyniadau oddi wrth weithwyr sydd â'r hawl i streicio ar hyn o bryd. Mae'n dweud hynny yn eglur yn nodiadau esboniadol Llywodraeth y DU, ac rwy'n dyfynnu:

'nid oes unrhyw amddiffyniad awtomatig rhag diswyddiad annheg i gyflogai a nodir mewn hysbysiad gwaith dilys ond sy'n cymryd rhan yn y streic'.

Felly, ni fydd pobl sydd wedi'u diogelu ar hyn o bryd yn cael eu diogelu o dan y Bil hwn. Caiff yr hysbysiad gwaith ei benderfynu drwy'r lefel wasanaeth ofynnol, ac fel yr wyf i wedi ei nodi, nid yw honno wedi ei phenderfynu eto ac mae'n amwys iawn.

A fyddai Llywodraeth Cymru yn gwrthod gweithredu darpariaethau'r Bil yn erbyn cyflogeion yn y sector cyhoeddus datganoledig? Oherwydd mae'r penderfyniad i gyhoeddi gorchmynion gwaith yn nwylo'r cyflogwyr. Gallai ymdrech ar y cyd yng Nghymru wneud y Bil hwn yn gwbl anymarferol yng Nghymru. Mae'r syniad hefyd y bydd yn rhaid i undebau llafur blismona'r hysbysiadau gwaith yn eu rhoi mewn sefyllfa hurt ac anghynaladwy. Byddai'n golygu y byddai'n ofynnol i undeb sicrhau bod rhai o'i aelodau yn croesi'r llinell biced ar ddyddiau streic, ac y byddai undeb nad yw'n cymryd camau rhesymol i sicrhau hyn yn wynebu achos llys. Eto, gan ddilyn y patrwm o aneglurder, nid yw'r camau rhesymol y bydd angen i undeb llafur eu cymryd yn cael eu hesbonio yn y ddeddfwriaeth na'r nodiadau esboniadol.

Diben y Bil hwn ar y dechrau—neu'r Bil rhagflaenol—oedd amddiffyn diogelwch y cyhoedd. Ac eto mae diogelwch y cyhoedd wedi cael ei ddileu'n llwyr o wyneb y Bil hwn. Fel y dywedais yn y Senedd yn y gorffennol, gallai Ysgrifennydd Gwladol sy'n eistedd yn Whitehall atal streic oherwydd yr effaith y mae'n credu y bydd y streic yn ei chael ar y cyfnod brig yng Nghaerdydd, neu gallai atal streic oherwydd y gallai o bosibl arwain at ganslo apwyntiad ysbyty, neu gallai o bosibl arwain at darfu ar ddosbarthiadau. Yn y bôn, i bob pwrpas, gallai Ysgrifennydd Gwladol sy'n eistedd yn Whitehall atal pob streic yma yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hyn fel y dyddiau cyn datganoli, pan oedd y Torïaid yn meddwl mai San Steffan a Whitehall oedd yn gwybod orau i Gymru. Pam mae'r Aelodau gyferbyn yn credu mai dyna'r ffordd orau o lywodraethu pobl Cymru heddiw yn 2023?

Rwy'n anghytuno â Llywodraeth y DU bod y Bil hwn yn gydnaws ag erthygl 11 y confensiwn hawliau dynol. Mae hon yn enghraifft arall o ddeddfu gwael gan Lywodraeth y DU ac yn erydiad pellach o hawliau dynol yn y wlad hon. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn annheg, yn anghyfiawn, ac yn annemocrataidd, a dyna pam y dylem ni fel Senedd wrthod cydsyniad. Diolch yn fawr.

17:55

Diolch, Llywydd. I mi, y rheswm pam rwyf i'n credu y cyflwynwyd y ddeddfwriaeth hon yw oherwydd anallu llwyr Llywodraeth y DU a'i hanallu llwyr i ymgysylltu â gweithwyr sector cyhoeddus. Dyna pam mae'r Bil hwn gennym ni—mae bron yn anallu i gael bargeinio ar y cyd priodol, ymgysylltu priodol, ymgynghori priodol a thrafodaethau priodol. Ac mae'n rhaid i chi ofyn pam mae angen y Bil hwn arnom ni yng Nghymru pan fo gennym ni drefniadau eisoes—perthynas dda â'n busnesau a chyda'n hundebau llafur yn ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol.

Felly, mae'n rhaid ei gweld hefyd, rwy'n credu, o fewn agenda sydd hefyd yn ymwneud â chyfyngu ar hawliau sifil. Rydym ni eisoes wedi cael deddfwriaeth sy'n cyfyngu ar yr hawl i brotestio. Rydym ni eisoes wedi cael deddfwriaeth sy'n cyfyngu ar yr hawl i bleidleisio, a byddwn yn sylwi ar rywfaint o hyn yn ystod yr etholiadau llywodraeth leol. Rydym ni eisoes wedi cael deddfwriaeth sy'n cyfyngu ar hawliau undebau llafur. Mae gennym ni gynigion i gyfyngu ar adolygiadau barnwrol ac i gyfyngu ar reolaeth y gyfraith. Ac rydym ni bellach yn siarad am Fil mewnfudo yn y dyfodol, lle mae'r Llywodraeth yn dweud y bydd yn ystyried cynnwys y gallu i fynd yn groes i'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Mae hyn yn rhan annatod o agenda sy'n ymwneud â chyfyngu ar hawliau a rhyddid sifil. Mae'n gynnyrch Llywodraeth gynyddol awdurdodaidd ac annemocrataidd sydd y tu hwnt i'w hamser, ac rwy'n falch bod yr wrthblaid Lafur—y Llywodraeth Lafur nesaf, na all ddod yn rhy fuan—eisoes wedi ymrwymo y bydd yn diddymu'r ddeddfwriaeth hon.

Hoffwn wneud dau sylw o ran yr ymatebion a wnaed i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwy'n cytuno'n llwyr gyda llawer o'r pwyntiau a wnaed. Ac, wrth gwrs, codwyd hyn—codwyd y materion hyn ar lefel ryng-weinidogol, rhan o'r cynigion rhyng-lywodraethol. Maen nhw wedi cael eu codi yn gyson mewn gohebiaeth, ac mewn gwirionedd, ceir gwelliannau yn San Steffan a gyflwynwyd sy'n ceisio eithrio Llywodraeth ddatganoledig o'r ddeddfwriaeth hon. Y cwbl y gallaf i ei ddweud sy'n siomedig am eich pwyllgor, mae gen i ofn, Huw, yw ar rywbeth sydd mor sylfaenol—am hawliau sylfaenol—nad oedd modd cael safbwynt unfrydol, ac rwy'n credu bod hynny'n siomedig.

O ran y sylwadau a wnaed, yr ymatebion a wnaed—mewn gwirionedd, y sylwadau gwangalon, ac yn fy marn i, gwan ac anobeithiol braidd a wnaed gan yr wrthblaid—. Ac mae'n ddiddorol, onid yw, mai dim ond un person a geisiodd yn wangalon iawn sefyll o blaid hyn mewn Llywodraeth wan dros ben, gan ddweud bod gennym ni system eisoes a bod gennym ni reidrwydd eisoes i gyflwyno deddfwriaeth, pan, mewn gwirionedd, nad oes unrhyw sail dystiolaethol i hynny. Mae gen i ofn eich bod chi'n cydnabod eich hunain wendid safbwynt Llywodraeth y DU—pa mor anghywir yw'r ddeddfwriaeth hon. Ac mae'n siom fawr fod gennym ni Blaid Geidwadol yng Nghymru nad yw, ar rywbeth sy'n ymwneud â hawliau sifil sylfaenol, yn barod nac yn gallu sefyll dros bobl Cymru.

Peredur, o ran y sylwadau a wnaethoch chi, a ydych chi'n gwybod o bwy yr oeddech chi'n fy atgoffa? Pan fyddwch chi'n clywed gwleidyddion Ceidwadol yn sôn am y ffordd y maen nhw'n edmygu Thatcher ac yn y blaen, a ydych chi'n cofio geiriau Thatcher ei hun? Gweithwyr, y glowyr, oedd y 'gelyn mewnol'. A gadewch i ni ei wynebu, y nyrsys, y meddygon iau, y gweithwyr sector cyhoeddus, cyn belled ag y mae'r Llywodraeth hon yn y cwestiwn, yw'r gelyn mewnol. Ac rydym ni'n clywed hynny ac rydym ni'n gweld hynny ar bob cam penodol.

Llywydd, i gloi, ni allwn gydsynio i'r Bil hwn ac rwy'n argymell yn gryf i'r Senedd ei wrthwynebu'n llwyr. Gan roi o'r neilltu sut y mae Llywodraeth y DU wedi camdrafod y Bil hwn a'i ddiffyg unrhyw barch at gonfensiwn Sewel, roedd Rhys yn hollol gywir: mae hwn yn Fil sydd wedi'i ddylunio'n wael ac wedi'i lunio'n wael. Mae'n Fil sy'n cael ei orfodi ar Gymru, Bil sy'n gwneud darpariaethau o ran yr hyn sy'n faterion datganoledig eglur iawn, Bil sy'n tresmasu ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru, mae'n tarfu'n helaeth ar ein gwasanaethau cyhoeddus mewn ffyrdd na fyddai unrhyw Lywodraeth gyfrifol yn gallu eu cefnogi, ac felly rwy'n gofyn i Aelodau wrthod cydsyniad ar gyfer y Bil hwn.

18:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, bydd yna bleidlais ar y cynnig yma ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud yn syth i'r bleidlais.

10. Cyfnod Pleidleisio

Felly, y bleidlais gyntaf a'r unig bleidlais y prynhawn yma yw'r bleidlais ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol). Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig yma, a gyflwynwyd yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

18:05

Eitem 9—cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol): O blaid: 15, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:05.

Llythyr gan y Prif Weinidog ar 24 Ebrill 2023.

Llythyr gan y Prif Weinidog 26 Ebrill 2023.