Y Cyfarfod Llawn

Plenary

29/03/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.

Tlodi

1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i daclo tlodi ar Ynys Môn? OQ59349

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i atal tlodi a lleihau ei effaith ar ddinasyddion Ynys Môn a Chymru gyfan. Y flwyddyn ariannol hon, rydyn ni wedi darparu cymorth gwerth £1.6 biliwn, drwy raglenni i helpu teuluoedd sy’n wynebu caledi ac sy’n diogelu aelwydydd dan anfantais.

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n wynebu problemau tlodi difrifol ar draws llawer o Gymru. Yn 2017, mi wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi mai Ynys Môn oedd yr ardal efo'r gwerth ychwanegol gros isaf ym Mhrydain. Y llynedd, roedd Caergybi'n cael ei henwi fel y lle efo'r incwm net isaf yng ngogledd Cymru. Ac rydyn ni'n gwybod, pan fyddwn ni'n wynebu argyfwng, argyfwng costau byw fel sydd gennym ni rŵan, mai'r bregus a'r mwyaf tlawd sy'n cael eu taro fwyaf. Rŵan, fis diwethaf, mi wnaeth adroddiad diweddaraf Sefydliad Bevan danlinellu eto bwysigrwydd help ariannol uniongyrchol gan lywodraethau. Dwi'n poeni ein bod ni'n gweld colli nifer o elfennau o help—Llywodraeth Prydain ddim yn rhoi digon o addewid o ran cymorth efo costau ynni, rhaglen cynllun cymorth tanwydd Cymru wedi dod i ben ym mis Chwefror. Rŵan, dwi'n nodi wrth gwrs yr arian ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, y cynllun rhagorol i roi cinio ysgol am ddim er mwyn mynd i'r afael â theuluoedd sy'n byw mewn tlodi, ond a wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd popeth posib yn cael ei wneud gan y Llywodraeth i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd ardaloedd fel Ynys Môn, sy'n wynebu problemau dyfnion iawn o ran tlodi?

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig. Yn y cyfnod hwn o gostau byw heriol, nid yw'r rhagolygon yn dda i'r rheini a gaiff eu gwthio i dlodi, ac mae pobl yn wynebu penderfyniadau anhygoel o anodd. Fel y dywedwch, o ran y dyraniad cyllid gan Lywodraeth y DU—mae cymaint o'r pwerau a'r ysgogiadau gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs—mae'r dyraniad cyllid rydym wedi'i gael yn annigonol i'n galluogi i ailadrodd llawer o'r cynlluniau a ddatblygwyd gennym. Ond rwy’n falch ein bod yn gallu parhau â'n cronfa cymorth dewisol a'i chynyddu'n sylweddol, a hefyd, fel y dywedwch, mae hynny o ganlyniad i ran o’n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, y ffaith bod gennym yr ymrwymiadau hynny ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd gyda chyflwyno'r prydau ysgol am ddim. A gaf fi ddweud hefyd ei bod yn bwysig iawn fod hynny'n ymestyn i ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau, a'u bod ar gael i blant dros wyliau ysgol y Pasg a'r Sulgwyn, a bod hyd at £9 miliwn ar gael at y diben hwnnw.

Nawr, roeddwn yn falch iawn o ymweld ag Ynys Môn yn ddiweddar, ac fe fyddwch yn gwybod fy mod yn falch iawn o agor Canolfan Glanhwfa yn Llangefni, gydag Ieuan Wyn Jones, cyn gyd-Aelod a chyn Ddirprwy Brif Weinidog, a chlywed eu bod, gyda’u partner, Age Cymru, yn darparu man cynnes, paned a chacen, a sgwrs, bob dydd Mawrth, a bod plant eisoes yn cymryd rhan. Y peth pwysig yw bod hwn yn £250,000 a ddyfarnwyd gan raglen cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru, a £50,000 arall a ddyfarnwyd y llynedd hefyd—felly, mae'n cyrraedd pob cenhedlaeth, fel y gwelais pan ymwelais â'r ganolfan y diwrnod hwnnw.

Weinidog, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno mai’r ffordd orau, ac o bosibl, y ffordd fwyaf cynaliadwy o helpu i godi pobl allan o dlodi yw sicrhau bod swyddi o ansawdd da a busnesau yn ffynnu ar Ynys Môn i gefnogi’r swyddi hynny. A dyna pam fy mod mor falch o weld y newyddion diweddar—a groesawyd ddoe gan y Gweinidog hefyd—y bydd y porthladd rhydd a gyhoeddwyd ar gyfer Ynys Môn yn symud i'r cam nesaf, sy'n enghraifft o waith partneriaeth gwych ar draws llawer o grwpiau, yn enwedig rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i wireddu hynny. Felly, Weinidog, tybed sut byddwch yn gweithio, yn eich rôl, gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod pobl ar Ynys Môn yn gallu cael mynediad at y swyddi newydd hynny a ddaw yn sgil y porthladd rhydd?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn pwysig, yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf. Yn amlwg, mae gennym genhadaeth economaidd gref i drawsnewid economi Cymru, a bydd hynny’n creu dyfodol cryfach ond tecach, yn ogystal â gwyrddach. Ond credaf y dylid cydnabod, fel y gwnaethoch, fod y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn ein galluogi i symud ymlaen i gam nesaf y broses, ac mae'n adeiladu ar y buddsoddiadau a'r partneriaethau sylweddol rydym wedi'u gwneud yn yr ardaloedd hyn dros nifer o flynyddoedd. A chredaf ei bod yn bwysig nid yn unig ein bod yn creu economi a marchnad lafur gryfach, ond ei fod yn helpu i fynd i'r afael â'r agenda tlodi ac yn lleihau tlodi mewn gwaith yng Nghymru. Ac mae a wnelo â'r ffordd y cafodd contract economaidd Llywodraeth Cymru ei gynnwys yn y prosbectws, sy'n gwneud ein porthladdoedd rhydd yn wahanol i borthladdoedd rhydd eraill yn Lloegr a'r Alban, ond gan flaenoriaethu anghenion cymdeithasol ac amgylcheddol.

13:35
Sancsiynau Lles

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith sancsiynau lles ar hawlwyr? OQ59363

Diolch, Luke Fletcher. Mae dadansoddiad diweddar yn dangos tuedd bryderus yn y cynnydd mewn sancsiynau, sydd bron wedi dyblu ers y lefelau cyn y pandemig. Mae'r cyhoeddiad a wnaeth y Canghellor yn natganiad y gyllideb ar gryfhau'r drefn sancsiynau hefyd yn destun pryder. 

Diolch, Weinidog. Credaf y dylai pob un ohonom fod yn bryderus iawn ynglŷn â chynlluniau peilot diweddaraf yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Lloegr a’r Alban, sy’n gwneud presenoldeb wyneb yn wyneb am hyd at 10 diwrnod bob pythefnos yn orfodol i hawlwyr, gyda’r bygythiad o sancsiynau os nad yw hynny'n digwydd. Mae ardaloedd yn fy rhanbarth i yn gyson uchel ar fynegai amddifadedd lluosog Cymru, a phe bai’r cynigion hyn yn dod i Gymru—ac mae’n debygol iawn y gallai hynny ddigwydd—byddai hynny'n cosbi hawlwyr agored i niwed ac yn creu risg o'u gwthio i dlodi gwaeth. Mae'r rhain yn bobl a chanddynt gyfrifoldebau gofalu, pobl ag anableddau, a phobl heb lawer o opsiynau mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus. Mewn ymateb i fy nghwestiwn diwethaf i chi, Weinidog, fe ddywedoch chi eich bod yn awyddus i ailedrych ar y syniad o gynnull y bwrdd cynghori rhyngweinidogol Llywodraeth y DU-Cymru ar nawdd cymdeithasol. A ydych chi'n dal i obeithio bwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ac os felly, pa gamau a gymerir i wneud hynny?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn.

Mae'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod y dystiolaeth, a chynhaliwyd astudiaeth bum mlynedd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol o amodoldeb lles. Canfu fod sancsiynau fel arfer yn arwain at ganlyniadau gwael ac nad ydynt yn cymell pobl i gael gwaith. Cefnogais argymhellion gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus i ddweud y dylid atal sancsiynau, ac yn enwedig o dan amgylchiadau’r argyfwng costau byw hwn. Ac rwy’n cydnabod hefyd—a daeth hyn i'r amlwg yr wythnos diwethaf ar ôl cyhoeddiad y Canghellor—yr hyn y mae’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn ei ddweud, fod cyhoeddiadau’r gyllideb yn fwy o ffon nag abwyd, gan eu bod yn defnyddio dulliau cosbol fel sancsiynau, yn gorfodi rhieni i gael swyddi â chyflogau isel, ac yn cael effaith ar bobl anabl. Felly, a gaf fi ddweud fy mod yn parhau i bwyso am sefydlu'r pwyllgor cynghori rhynglywodraethol hwnnw, ond hefyd i sicrhau bod hynny'n digwydd yng nghyd-destun y gwaith a wnawn ar ymchwilio i ddatganoli gweinyddu budd-daliadau yn unol â'n cytundeb cydweithio?

Gellir datrys y rhan fwyaf o sancsiynau, gan gynnwys credyd cynhwysol, yn gyflym drwy fod hawlwyr yn aildrefnu a mynychu eu hapwyntiad nesaf, ac os ceir gwybodaeth am reswm da, gellir gwrthdroi’r sancsiwn ac ad-dalu’r arian. Rwyf wedi cael sicrwydd fod taliadau caledi ar gael fel amddiffyniad drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau, os gall hawlydd ddangos na allant ddiwallu eu hanghenion uniongyrchol oherwydd sancsiwn. A byddai'n esgeulus imi beidio â nodi bod cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth y DU wedi gwneud newidiadau sylweddol i helpu hawlwyr, gan gynnwys rhieni, i ddychwelyd i'r gwaith, er enghraifft, drwy dalu costau gofal plant credyd cynhwysol ymlaen llaw, yn hytrach nag fel ôl-ddyledion, gan adael pobl mewn dyled. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth y DU wedi ymestyn y ddarpariaeth o 30 awr o ofal plant yr wythnos am ddim i bob rhiant sy'n gweithio a chanddynt blant rhwng naw mis a phedair oed, rwy'n siomedig na fydd hyn yn digwydd yng Nghymru yn ôl eich Prif Weinidog. Felly, pa ymdrechion rydych yn eu gwneud i ymestyn y cynnig gofal plant am ddim fel y gall rhieni Cymru ddod oddi ar fudd-daliadau a chael dyfodol gwell?

Wel, rwyf eisoes wedi dyfynnu’r dystiolaeth gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ynglŷn â sut mae sancsiynau’n arwain at ganlyniadau gwael yn hytrach na chymell pobl i gael gwaith. Yr hyn sydd ei angen arnom yw system nawdd cymdeithasol sy'n canolbwyntio llai ar gydymffurfiaeth, a mwy ar helpu pobl—helpu hawlwyr i gael gwaith. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cymorth swyddi personol, nid sancsiynau. Dyma ble mae angen inni ddatblygu ein hymagwedd, a gofynnaf i’r Adran Gwaith a Phensiynau gyhoeddi eu hymchwil ar sancsiynau budd-daliadau fel y gallwn weld sut y gallant gyfiawnhau hynny.

Ond mae'n rhaid imi ddweud, o ystyried bod gennym gynnig gofal plant mwy hael, a chynnig gofal plant, gyda Dechrau'n Deg, sy'n llawer mwy hael i'r rheini sydd ei angen fwyaf hefyd, a rhieni'n dychwelyd i'r gwaith drwy addysg a hyfforddiant, nid yw hynny'n cael ei gynnig yng nghynnig gofal plant Llywodraeth y DU.

Ond gadewch imi fynd yn ôl at y sancsiynau. Mae’r ffaith y bydd yn ofynnol i brif ofalwyr plant mor ifanc â blwydd neu ddwy oed chwilio am waith hyd yn oed os oes un rhiant eisoes yn gweithio, ac unwaith eto, mae’r amodoldeb a’r sancsiynau’n berthnasol—. Mae'n anodd iawn i'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n cael eu taro galetaf gan sancsiynau. A gaf fi roi’r dystiolaeth o Gymru i chi? Ledled y DU ac yng Nghymru, mae nifer cynyddol o unigolion yn ceisio cyngor gan Cyngor ar Bopeth mewn perthynas â’r gofynion amodoldeb amhriodol hyn, ac mewn gwirionedd, gellir gweld, yn ddiweddar, rhwng 2021 a 2022, y bu cynnydd o 20 y cant yn nifer y bobl ar gredyd cynhwysol sy'n gofyn am gymorth gyda materion yn ymwneud ag amodoldeb, ymrwymiadau hawlwyr a sancsiynau. Nid gwladwriaeth les yw hon. Credaf hefyd y bydd yn anodd iawn o ran yr effaith ar bobl anabl sy'n ceisio cael mynediad at gyflogaeth a budd-daliadau'r wladwriaeth.

13:40

Rwyf wedi fy siomi'n fawr wrth glywed am sancsiynau, yn hytrach na thosturi, gan mai dyna rydym yn sôn amdano yma. Ac rwy'n gobeithio na fydd yr unigolyn sy'n credu bod hyn yn iawn byth mewn angen ei hun, gan y bydd yn gwybod wedyn sut mae hynny'n teimlo. Ond y pwynt roeddwn am eich holi yn ei gylch, Weinidog, yw pa sgyrsiau a gawsoch chi i geisio addysgu’r Torïaid yn San Steffan am ddarparu gofal plant priodol am ddim am 48 wythnos, er enghraifft. Rydych eisoes wedi sôn ei fod yn cynnwys cyfleoedd addysg a hyfforddiant yng Nghymru i helpu'r unigolion hynny i addysgu eu hunain neu ddod o hyd i hyfforddiant ar gyfer y math cywir o gyflogaeth ar gyfer eu maes. Ac er ein bod yn eu clywed dro ar ôl tro yn ceisio honni'r hyn na allant ei honni, fod eu cynnig yn well na'n un ni, ychydig o dosturi yn lle sancsiwn arall sy'n dweud 'Ni allwch gael hyn oni bai eich bod yn gweithio, ond ni allwch ei gael i'ch helpu i gael swydd'—.

Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Mae’n bwysig inni atgoffa ein cyd-Aelodau ymhlith y Ceidwadwyr Cymreig o'r hyn sy’n digwydd yng Nghymru mewn perthynas â gofal plant. Rydym eisoes yn buddsoddi'n helaeth i ehangu darpariaeth gofal plant a blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru—ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio. Rydym eisoes yn buddsoddi mwy na £100 miliwn y flwyddyn mewn gofal plant yng Nghymru. Mae ein cynnig gofal plant yn darparu 30 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos am hyd at 48 wythnos y flwyddyn ar gyfer plant tair a phedair oed. Gall rhieni mewn hyfforddiant ac addysg gael cymorth gyda chostau gofal plant, ac rydym eisoes yn cyflwyno gofal plant o ansawdd uchel i blant dwy oed ledled Cymru drwy ein rhaglen Dechrau'n Deg. Ac mae gofal plant a ariennir yn cefnogi, fel y dywedodd Joyce Watson—mae'n cefnogi—rhagor o rieni i ddychwelyd i'r gwaith, ond nid gyda grym sancsiynau ac amodoldeb, sy'n gorfodi pobl, fel y dywedodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, i mewn i swyddi ar gyflogau is. Gallem dreulio gormod o amser ar hyn, ond ar hyn o bryd, mae Lloegr yn cynnig 30 awr o ofal plant i rieni sy'n gweithio am 38 wythnos y flwyddyn, 15 awr o ofal plant a ariennir ar gyfer rhai plant dwy a thair oed, ac wrth gwrs, ni fydd y newidiadau arfaethedig yn Lloegr yn dod i rym yn llawn am o leiaf ddwy flynedd arall.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan Senedd Uganda ei bod bellach yn anghyfreithlon i hunan-adnabod fel LHDTC, ac yn drosedd i unigolion neu sefydliadau i hyd yn oed gefnogi hawliau LHDTC? Diolch.

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy’n siŵr y bydd pawb yn y Siambr hon yn cytuno ei bod yn arswydus gweld nid yn unig yr adroddiadau ar gyflwyno'r Bil gwrth-gyfunrywioldeb yn Uganda yn ddiweddar, ond yr hyn a welwyd yn Senedd Uganda. Rhaid imi ddweud fy mod wedi teimlo'n sâl wrth feddwl am sefyllfa ac ofn pur y gymuned LHDTC+ yn Uganda. Ac mae Cymru'n cydsefyll yn gadarn iawn mewn undod â chymunedau LHDTC+ ym mhobman, a gwyddom fod pobl LHDTC+ Uganda yn dioddef, a bydd y Bil newydd hwn yn gwaethygu'r naratifau sydd eisoes yn wahaniaethol ac yn gwthio pobl i'r cyrion a'r rhethreg ffiaidd yn erbyn pobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol sydd i'w gweld mewn gormod o gymunedau a gormod o wledydd ledled y byd.

Diolch am eich condemniad cryf, Ddirprwy Weinidog, ac mae fy ngrŵp a minnau'n rhannu'r teimladau rydych newydd eu mynegi yn llwyr. Fodd bynnag, o ystyried natur y Bil hwn a’r canlyniadau a fydd iddo, credaf ei bod yn gwbl briodol i’r Llywodraeth hon egluro nawr sut mae’n bwriadu diogelu'r bobl sy’n gwirfoddoli neu'n cymryd rhan mewn prosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn Uganda ac sy’n hunan-adnabod fel LHDTC, a Ddirprwy Weinidog, a ydych yn credu nawr y dylai’r sefydliadau Cymreig sy’n cael arian gan Lywodraeth Cymru barhau i anfon gwirfoddolwyr a staff i Uganda.

13:45

Mae gan bobl a Llywodraeth Cymru berthynas hirsefydlog â phobl a chymunedau yn nwyrain Uganda, fel y gŵyr yr Aelod, ac mae’n bwysig nodi'n glir nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw berthynas ffurfiol â Llywodraeth Uganda. Ac mae ein rhaglen Cymru ac Affrica, y gwn fod yr Aelod yn gyfarwydd â hi, yn gweithio mewn partneriaeth â phobl Uganda, ac nid Llywodraeth Uganda.

Ond mae'n codi rhai pwyntiau dilys iawn ynglŷn â diogelwch, nid yn unig diogelwch pobl LHDTC+ yn Uganda, ond hefyd diogelwch pobl sy'n teithio i'r wlad honno, ac yn amlwg, bydd cyngor yn cael ei ddarparu gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, y byddwn yn glynu wrtho'n agos iawn. Ac mae hyn yn rhywbeth rwyf fi a fy nghyfaill a’m cyd-Aelod, Jane Hutt, eisoes wedi trefnu i edrych arno i sicrhau bod y cymorth hwnnw ar waith, ac rydym yn ystyried y pethau hyn yn ofalus.

Diolch am eich eglurhad ar y mater hwn, Ddirprwy Weinidog ac fel rydych wedi nodi, gwelais rai o'r prosiectau yn Uganda fy hun yn ddiweddar, yn benodol y prosiectau sy'n ceisio helpu cymunedau drwy wella amaeth-goedwigaeth gynaliadwy. Ac roeddwn yn falch o weld sut maent hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Ond ni waeth sut yr edrychwch ar y sefyllfa hon, mae’r achos yn glir bellach na all sefydliadau partner sy’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru rannu ein gwerthoedd yn gyhoeddus.

Yr wythnos diwethaf, rhyddhaodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig am ymweliadau tramor gweinidogol yn gysylltiedig â Dydd Gŵyl Dewi, lle ailbwysleisiodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop tuag at bobl LHDTC+, ac rwy'n pryderu'n fawr fod hyn yn gwneud i Gymru edrych yn rhagrithiol. Mae’r Llywodraeth hon yn gwneud datganiadau ynglŷn â bod yn gyfeillgar tuag at bobl LHDTC, rydych yn condemnio Uganda, yn gwbl briodol, am eu safbwynt ynghylch pobl LHDTC, ond rydych yn berffaith hapus i dderbyn lletygarwch gan Qatar, gwlad sydd â’r gosb eithaf am gyfunrywioldeb, ac rydych yn berffaith hapus i wario arian ar gynnyrch yn Uganda, sy'n rhoi carchar am oes am gyfunrywioldeb ac sydd bellach wedi'i gwneud yn anghyfreithlon i hyd yn oed hunan-adnabod fel LHDTC. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Weinidog, sut y gallwch gyfiawnhau’n foesol fod arian trethdalwyr Cymru yn cael ei wario, ni waeth pa mor ychydig, mewn gwlad sy'n arddel safbwynt cwbl groes i’n gwerthoedd fel cenedl? Diolch.

Er fy mod yn croesawu diddordeb yr Aelod yn y maes hwn, nid wyf am dderbyn pregeth gan y Blaid Geidwadol ar gefnogaeth i'r gymuned LHDTC+. Ac yn amlwg, mae'n codi pryderon dilys iawn am y rôl rydym yn ei chwarae gyda'n hymgysylltiad diplomyddol a'n perthynas â gwledydd a sut rydym yn defnyddio ein dylanwad, lle mae gennym ddylanwad, ar gefnogaeth i'r gymuned LHDTC+ ym mhob rhan o'r byd. Ac rydych yn codi mater Qatar, ac mae'n rhan fawr iawn o'n cynllun gweithredu LHDTC+ i edrych ar y berthynas â gwledydd a'i hadolygu'n barhaus a sicrhau ein bod yn ei dadansoddi a'n bod yn gweithio mewn ffordd sydd nid yn unig yn ceisio dadlau dros y cymunedau hynny, ond yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n gwneud eu sefyllfa'n waeth. Ac rwy’n cydnabod, er bod y rhain yn gwestiynau i Lywodraeth Cymru, rwy’n gobeithio y gallai Joel James, tra bu'n ymweld ag Uganda, fod wedi ystyried y materion hyn, yn enwedig pan gyfarfu â sefydliadau a'r athrofa Anglicanaidd yno.

Diolch, Lywydd. Weinidog, ddoe—neithiwr—bu ASau yn trafod Bil Mudo Anghyfreithlon Torïaid y DU, ac mae’n sicr yn anghyfreithlon, gan ei fod yn Fil y mae dwsinau o sefydliadau hawliau dynol ac arbenigwyr cyfreithiol wedi’i alw'n anghydnaws â’r cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol y mae’r DU wedi'u llofnodi, gan gynnwys y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, confensiwn ffoaduriaid 1951 a Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948.

Weinidog, nid oes unrhyw amheuaeth nad yw’r Bil gresynus hwn yn tanseilio nod Cymru i fod yn genedl noddfa a’n dymuniad i ehangu yn hytrach na chyfyngu ar hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at wasanaethau. Pobl yw’r rhain, nid ‘problem’, fel y dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn ffiaidd, ar y cyfryngau cymdeithasol ddoe—nid rhai sy'n creu ‘anrhefn’, yn ei eiriau gwarthus ef, ond ein brodyr a'n chwiorydd, yn gofyn am ein cymorth. Pe bai gennym y pwerau, gallem sicrhau na fyddai’r Bil gwrth-ffoaduriaid annynol hwn yn berthnasol yng Nghymru. Gan nad yw hynny’n wir, yn anffodus, ddoe, cyflwynodd ASau Plaid Cymru welliant a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraethau’r DU a Chymru lunio canllawiau ar y cyd, yn nodi sut y gellid rhoi mesurau o dan y Ddeddf hon ar waith mewn ffordd sy’n gyson ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn genedl noddfa, lle na chaniateir i ganllawiau gael eu cyhoeddi oni bai eu bod wedi'u cymeradwyo gan y Senedd hon. Roedd yn siomedig nad oedd unrhyw un o ASau Cymreig y Blaid Lafur ymhlith y rheini a arwyddodd y gwelliant. Weinidog, a ydych yn cytuno â Phlaid Cymru fod y Bil hwn yn sarhad ar werthoedd pobl Cymru, yn mynd yn gwbl groes i gytuniadau hawliau dynol rhyngwladol ac yn groes i uchelgais datganedig Cymru i fod yn genedl noddfa? Ac os felly, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau, yn wahanol i deitl y Bil hwn, nad oes unrhyw un sy’n ceisio noddfa yng Nghymru yn anghyfreithlon?

13:50

Wel, diolch yn fawr, Sioned Williams, ac a gaf fi ddiolch o galon i chi am eich cwestiwn heddiw? Mae’r ffordd y mae'r Bil hwn yn gwneud ei ffordd—yn cael ei orfodi drwy’r Senedd, ei orfodi, heb graffu priodol, drwy’r Senedd—yn erchyll. Ac ysgrifennais at Robert Jenrick ar 14 Mawrth—rhannais fy llythyr—a dywedais yn y llythyr hwnnw na allwn gefnogi Bil y mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi’i alw'n gyfystyr â gwaharddiad ar loches ac a fyddai’n mynd yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid, a hefyd, yn bwysig—a chredaf fod yn rhaid trafod hyn pan fyddwn yn edrych ar hyn fel Senedd—mae'r Ysgrifennydd Cartref ei hun wedi datgan nad yw'n credu bod y Bil yn cydymffurfio â'r confensiwn hawliau dynol. Felly, mae’n Fil anghyfreithlon ynddo’i hun.

Fel y dywedwch, rydym yn ymdrechu i wneud Cymru yn genedl noddfa wirioneddol. Dywedais hyn wrth Robert Jenrick, fel y gwneuthum mewn perthynas â Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 o'i flaen. Mae’n tanseilio’n llwyr ein gallu i roi polisïau ar waith i gyflawni hyn, ac yn fwyaf arbennig, byddwn yn dweud, o ran y Bil hwn, mewn perthynas â phlant a phobl ifanc. Ac ar y pwynt hwnnw, mae gennym ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i gynnal hawliau plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches. Rydym yn falch o fabwysiadu ymagwedd sy'n eu trin fel plant yn gyntaf a mudwyr yn ail ac sy'n cynnal buddiannau a hawliau plant.

Diolch, Weinidog. Hoffwn innau sôn am y digwyddiadau, y digwyddiadau gwarthus, yn Uganda. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y cynllun gweithredu LHDTC+ i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop tuag at bobl LHDTC, ond mae’r cynllun hefyd yn ymrwymo, wrth gwrs, i arddangos dyletswydd ryngwladol Cymru i ddangos arweiniad ar gydraddoldeb. Mae pobl sy’n hunan-adnabod yn Uganda, fel y clywsom, mewn perygl o orfod treulio'u bywydau yn y carchar, a gallent gael y gosb eithaf mewn rhai achosion, ar ôl i’r Senedd basio'r Bil newydd yr wythnos diwethaf. Mae’r Bil yn cael ei ddisgrifio fel un o’r enghreifftiau llymaf o ddeddfwriaeth wrth-hoyw yn Affrica. Yn ogystal â gwneud hunan-adnabod fel hoyw yn anghyfreithlon am y tro cyntaf, byddai gan ffrindiau, teuluoedd ac aelodau o'r gymuned ddyletswydd i roi gwybod i'r awdurdodau am unigolion sydd mewn perthynas â rhywun o'r un rhyw. Mae Amnesty wedi dweud:

'Bydd y ddeddfwriaeth hynod ormesol hon yn sefydliadu gwahaniaethu, casineb, a rhagfarn yn erbyn pobl LHDTRh… ac yn rhwystro gwaith pwysig cymdeithas sifil, gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol, ac arweinwyr cymunedol.'

Wrth gwrs, fe wyddom am—ac ydym newydd fod yn trafod—y cysylltiadau niferus sydd gan Lywodraeth Cymru ag Uganda drwy raglen Cymru ac Affrica, gan weithio mewn partneriaeth ar brosiectau a rhaglenni amrywiol. Felly, Weinidog, sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y bobl sydd ynghlwm wrth y prosiectau hynny, a allai fod mewn perygl difrifol oherwydd y ddeddfwriaeth erchyll hon, yn cael eu hamddiffyn? Sut rydym yn mynd i’w diogelu, a sut rydych yn mynd i sicrhau bod rhaglen Cymru ac Affrica yn fwy cyffredinol yn gyson â’r ymrwymiadau rhyngwladol yn y cynllun gweithredu?

Wel, diolch hefyd, Sioned, am godi’r cwestiwn, ac yn amlwg, diolch i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol am ymateb mor llawn ac mor glir i’r cwestiwn gan Joel James yn gynharach. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud ein datganiad yma heddiw, ac mae'n ddatganiad sy'n dod o bob rhan o'r Senedd. A chydnabod, unwaith eto, fel y mae’r Dirprwy Weinidog wedi’i ddweud, fod rhaglen Cymru ac Affrica yn gweithio mewn partneriaeth â phobl Uganda, ac nid y Llywodraeth. A dylwn ddweud ein bod wedi bod yn annog pobl sydd wedi mynd i Uganda i drafod y materion hyn, i drafod materion sy'n ymwneud â hawliau pobl LHDTC+, gyda'r rhai sy'n eu croesawu. Ac mewn gwirionedd, gallaf ddweud fy mod innau wedi eu trafod ag ymwelwyr o Uganda. Mae’n gyfle allweddol ac yn gyfrifoldeb i drafod y materion hyn. Yn amlwg, mae hyn er mwyn ceisio hybu gwell dealltwriaeth a goddefgarwch ac estyn llaw at bobl sy'n dymuno clywed gennym, gan gynnwys pobl LHDTC+ yn Uganda. Nawr, yn amlwg, rydym yn aros i weld y Bil hwn. Mae wedi'i drosglwyddo'n ôl i'r Arlywydd Museveni. Mae ganddo 30 diwrnod i gydsynio neu ei anfon yn ôl i'r Senedd gyda newidiadau. Credaf ei bod yn bwysig ei fod yn cael sylw heddiw, ac fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, ein bod nid yn unig yn edrych ar hyn yng nghyd-destun ein perthynas waith â chyrff anllywodraethol yn Uganda, ond hefyd yn cydnabod, mewn gwirionedd, fod yn rhaid inni sicrhau y darperir cyngor teithio hefyd, i rybuddio unrhyw un sy'n ymweld ynglŷn â'u hanghenion a'u hawliau, a'n bod yn ystyried hyn hefyd gyda'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.

13:55
Mesuryddion Rhagdalu

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch gorfodi gosod mesuryddion rhagdalu? OQ59343

Diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant. Ysgrifennais at Grant Shapps, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddiogelu Ffynonellau Ynni a Sero Net, ar 13 Mawrth. Galwais unwaith eto am gael gwared ar fesuryddion rhagdalu a osodwyd yn orfodol drwy'r broses warantau anniogel hon dros y chwe mis diwethaf.

Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei dealltwriaeth gyson o ddifrifoldeb y mater hwn a'i chefnogaeth gyson i’r rheini ar fesuryddion rhagdalu. Unwaith eto yr wythnos hon, datgelwyd methiannau Llywodraeth y DU ac Ofgem i fynd i’r afael â'r sgandal mesuryddion rhagdalu. Dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Llun mai tri chyflenwr yn unig—Scottish Power, Nwy Prydain ac Ovo—a oedd yn gyfrifol am osod 70 y cant o fesuryddion yn orfodol drwy warantau llys. Weinidog, rwyf wedi dweud wrth Ofgem dro ar ôl tro fod y broblem hon yn ymestyn y tu hwnt i Nwy Prydain yn unig. Roedd hynny'n amlwg i mi o ystyried nifer y gwarantau a pha mor gyflym y'u rhoddwyd. Ond yn hytrach na cheisio darganfod faint ohonynt a osodwyd a bwrw ati i amddiffyn cwsmeriaid, dywedasant mai fy lle i oedd profi hyn. Drwy oedi a gwrthod gwrando ar y dystiolaeth o’u blaenau, maent wedi gadael trigolion bregus yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig i wynebu risg wirioneddol. Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes yn y Siambr hon, Weinidog, mae hyn yn fater lle mae bywyd yn y fantol.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod Pwyllgor Deisebau’r Senedd wedi cychwyn ymchwiliad seneddol yr wythnos hon, ac fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw rwy'n disgwyl i gadeirydd Ofgem a phrif weithredwr Ofgem, a swyddogion gweithredol y cyflenwyr hyn, fynychu sesiynau ac ateb cwestiynau gan aelodau'r pwyllgor. Weinidog, a wnewch chi fynegi fy rhwystredigaeth ynghylch maint y broblem a'r methiannau yn y sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda hwy? Ac a wnewch chi hefyd eu cyfarwyddo i ymgysylltu â'r ymchwiliad seneddol sydd ar y gweill?

Wel, diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant, ac am eich arweinyddiaeth barhaus yn y maes hwn. Rydych yn sefyll yma fel cynrychiolydd etholedig, yn cynrychioli eich etholwyr, sy'n amlwg wedi ymateb i chi yn yr arolwg pwerus hwnnw, sy’n ddylanwadol, ac yn wir, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau’n cyfarfod â’r prif weithredwr, Jonathan Brearley, yn yr ychydig wythnosau nesaf. Bryd hynny, byddwn ein dau'n mynegi ein pryderon unwaith eto ynglŷn â'r ffyrdd nad yw eich ymateb mewn cyfarfodydd ag Ofgem wedi'i drin gyda'r gydnabyddiaeth a'r parch priodol yn y gorffennol.

Ond unwaith eto, hoffwn i fy nghyd-Aelodau wybod beth sydd wedi digwydd, os caf ailadrodd yr hyn y mae Jack Sargeant wedi'i ddweud. Tri chwmni ynni yn unig—tri—sef Nwy Prydain, Scottish Power ac Ovo Energy, ac rwy’n eu henwi yma heddiw, sydd wedi gosod 70 y cant o'r mesuryddion gorfodol hynny. A dylid dweud bod nifer cyffredinol y mesuryddion gorfodol a osodwyd wedi cynyddu fwy na 40 y cant y llynedd, pan oedd biliau tanwydd yn codi i'r entrychion ac argyfwng tlodi tanwydd y gaeaf ar y gorwel. Scottish Power a osododd y nifer uchaf o fesuryddion rhagdalu o gymharu â nifer eu cwsmeriaid. Mae'n syfrdanol. Mae’n rhaid inni barhau, yn y Senedd hon, a chredaf ei bod yn bwysig fod gennym gefnogaeth gref ar draws y Senedd, i ddweud yn glir iawn nad ydym ni yng Nghymru yn mynd i oddef yr ymddygiad hwn, a byddwn yn dweud hyn yn glir iawn wrth Ofgem ac wrth Lywodraeth y DU, sydd â'r grym i wneud newidiadau yma. Ond a gaf fi ddweud fy mod yn croesawu’r Pwyllgor Deisebau, y pwyllgor trawsbleidiol, a gadeirir gan Jack Sargeant? Byddaf yn dweud—. Byddaf, gobeithio, yn rhoi tystiolaeth, a hefyd yn annog prif weithredwr a chadeirydd Ofgem i wneud hynny hefyd.

Yn eich datganiad ysgrifenedig ar yr argyfwng costau byw ac ynni ddoe, fe wnaethoch groesawu’r penderfyniad i gysoni taliadau’r rheini sy’n rhagdalu am eu hynni â thaliadau’r rheini sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol, a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU, a'r estyniad i waharddiad Ofgem ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol. Fe ddywedoch chi hefyd:

'ei bod yn drueni bod angen ymchwiliad gan y wasg i dynnu sylw at [y] broblem'.

A wnewch chi gydnabod, felly, fod yr Ysgrifennydd busnes ar y pryd, Grant Shapps, y cyfeirioch chi ato, wedi ysgrifennu at y cyflenwyr ynni cyn i ymchwiliad y cyfryngau dynnu sylw at y mater, gan ddweud y dylent roi’r gorau i orfodi cwsmeriaid agored i niwed i gael mesuryddion rhagdalu? Ac o ystyried eich cyfeiriad at annhegwch arall y tâl sefydlog y mae cwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu'n ei wynebu, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ac Ofgem ers i Lywodraeth y DU ofyn i Ofgem adrodd yn ôl ar opsiynau ar gyfer rhoi diwedd ar y taliadau sefydlog uchaf y telir amdanynt gan ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu?

14:00

Diolch, Mark Isherwood. Yn amlwg, roedd rhai agweddau ar y gyllideb yr oeddem yn eu croesawu. Fe wnaethom ni alw amdanynt. Fe wnaethom ni alw am atal y codiad i £3,000. Fe wnaethom alw amdano. Fe wnaethom alw hefyd, o ran Ofgem, na ddylai'r gwaharddiad ar osod mesuryddion yn orfodol ddod i ben ddiwedd y mis hwn. Mae i fod i ddod i ben ddiwedd yr wythnos hon, ond fe ddylai barhau. Yn wir, rwy'n dweud y dylai barhau am gyfnod amhenodol, a gobeithio y byddech chi'n fy nghefnogi ar y pwynt hwnnw.

Rwy'n cyfarfod â chyflenwyr ynni yfory. Rwy'n cyfarfod â chyflenwyr ynni ac rwy'n gobeithio y bydd yn cynnwys y tri chyflenwr ynni y soniwyd amdanynt eisoes heddiw sydd wedi gosod y lefelau uchaf o fesuryddion yn orfodol. Byddaf yn dwyn y taliadau sefydlog i'w sylw. Wrth gwrs, mae Mike Hedges yn codi hyn ar bob achlysur, fel y gwnaeth yr wythnos diwethaf yn y ddadl Aelodau. Mater i'r cyflenwyr ynni, a hefyd i Lywodraeth y DU yw gweithredu ar hyn.

Onid yw'n rhwystredig fod yn rhaid inni aros i'r Torïaid yn San Steffan nad ydynt yn enwog am hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol weithredu ar hyn? Ond efallai fod hynny'n fwy o gwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol ar ddatganoli cyfiawnder.

Fel y dywedais yn nadl Jack yn ddiweddar, gosod mesuryddion rhagdalu yn orfodol yw un o'r sgandalau cyfoes mwyaf yn ein cymdeithas ar hyn o bryd. Mae wedi golygu bod teuluoedd yn oer, pensiynwyr yn eistedd yn y tywyllwch ac yn anochel, pobl yn marw. Mae'n symptomatig o'r ffordd y mae pobl nad ydynt yn gefnog yn cael eu trin yn y DU. Mae'r un ymagwedd ac arferion ecsploetiol i'w gweld gan lawer o gwmnïau beilïaid tuag at bobl mewn dyled. Gyda hynny mewn golwg, a all y Gweinidog egluro pa ddylanwad a phwerau sydd ganddi nid yn unig i fynd i'r afael â dioddefwyr yr arfer o osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol, ond hefyd y rhai sydd wedi dioddef taliadau gormodol wedi'u gosod gan gwmnïau beilïaid? Rwy'n arbennig o awyddus i glywed am unrhyw ddiweddariadau ynghylch deialog gyda'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi.

Diolch yn fawr, Peredur. Ddoe, cefais gyfarfod defnyddiol ac adeiladol iawn gyda'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi. Yn dilyn cyfraniadau a sylwadau a wnaed yn y Siambr hon, roeddwn wedi cysylltu â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi ac wedi gofyn iddynt a allent chwarae rôl yn achredu'r rhai a oedd yn asiantaethau gorfodi ar gyfer cyfleustodau. Ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n falch iawn o glywed ganddynt, ac yn wir, cefais gyfarfod gyda Dŵr Cymru yn gynharach yr wythnos hon. Mae Dŵr Cymru yn gosod safon—gallwch ei gweld ar eu gwefan—yr amod safonol sydd wedi'i nodi nawr gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi. Mae wedi'i sefydlu fel bod yn rhaid trin y rhai sy'n destun camau gorfodi yn deg, a bydd yn darparu goruchwyliaeth annibynnol ar y diwydiant gorfodi, gan roi sylw arbennig i'r rhai sy'n cael trafferthion ariannol neu amgylchiadau eraill sy'n eu gwneud yn agored i niwed. Felly, mae Dŵr Cymru'n dweud bod 

'sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda nhw... yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl asiantaethau gorfodi sy’n gweithio ar ein rhan fod wedi’u hachredu gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi.'

Nawr, rwy'n credu bod hwnnw'n gam i'r cyfeiriad cywir a dywedodd y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi mai diolch i'r arweinyddiaeth yng Nghymru—y Llywodraeth a'r Senedd, byddwn i'n dweud—fod hynny, mewn gwirionedd, yn cael effaith o ran y cyfleustodau. Felly, rwy'n mynd i fod yn chwifio hyn yn wynebau, neu'n rhithiol, y cyflenwyr ynni ddydd Iau.

Gwirfoddoli

4. Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo gwirfoddoli yng Ngorllewin De Cymru? OQ59350

Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Fe ddof o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod pwysigrwydd y sector gwirfoddol yng Nghymru, ac rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod hefyd fod y sector gwirfoddol yng Nghymru yn eich rhanbarth chi wedi bod yn chwarae rhan allweddol. Mae'n edrych ar hyn mewn perthynas â'n rhwydwaith o gynghorau gwirfoddol sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac mae'r rhwydwaith hwnnw, wrth gwrs, yn cael ei ategu gan Gwirfoddoli Cymru, ein porth ar-lein rhad ac am ddim.

14:05

Diolch, Weinidog. Mynychais ddathliad canmlwyddiant yn is-adran Maesteg o Ambiwlans Sant Ioan Cymru. Roedd fy nghyd-Aelod Luke Fletcher yno hefyd. Is-adran Maesteg oedd yr uned Ambiwlans Sant Ioan gyntaf yng Nghymru, ac ers 100 mlynedd, mae plant a phobl ifanc o Faesteg a'r cyffiniau wedi dod yn gadetiaid Ambiwlans Sant Ioan Cymru. Mae'r cadetiaid yn darparu lle i ddysgu cymorth cyntaf, datblygu sgiliau arwain a chyfathrebu, a gwirfoddoli i helpu eraill. Maent yn darparu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr i bobl ifanc ac yn eu helpu i ddod yn ddinasyddion gweithredol. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch is-adran Maesteg, ac a wnewch chi weithio gyda'ch cyd-Aelod, y Gweinidog addysg i archwilio ffyrdd o hyrwyddo cyfleoedd cadetiaid Ambiwlans Sant Ioan Cymru i bobl ifanc?

Diolch yn fawr, Altaf, am ddod â newyddion i ni am y ganolfan wych hon ym Maesteg y buoch yn ymweld â hi gyda'ch cyd-Aelod. Os caf ddweud, mae'n esiampl ysbrydoledig, onid yw, o ysbryd gwirfoddoli ein plant a'n pobl ifanc. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw bod ein gwirfoddoli'n pontio'r cenedlaethau'n dda, ac mae'n cael ei gefnogi, wrth gwrs, gan ein cynghorau gwirfoddol sirol yn y ffordd a ddisgrifiais. Ond hefyd byddwn yn edrych—ac yn sicr byddaf yn edrych gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg—ar ffyrdd y gallwn ddysgu o'r enghreifftiau hynny, yn arbennig. Rwyf am nodi bod hyn yn rhywbeth lle byddwch chi'n cydnabod bod plant a phobl ifanc yn camu ymlaen mewn cymaint o ffyrdd i gefnogi ei gilydd, aelodau hŷn o'u cymunedau, ond hefyd yn dysgu sgiliau, ac mae hynny'n hanfodol i'w datblygiad.

Weinidog, yn gynharach y mis hwn, roedd yn bleser eich croesawu i fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er mwyn i chi ymweld â siop wych Sussed Cymru ym Mhorthcawl fel rhan o Bythefnos Masnach Deg. Mae Sussed yn cael ei rhedeg yn llwyr gan wirfoddolwyr, ac mae'n siop model cydweithredol, sy'n cynnig ystod eang o gynhyrchion, gan gynnwys dillad, bwyd ac ategolion, a phob un ohonynt yn fasnach deg a chyfartal. Rwy'n gwybod eich bod chi a minnau wedi mwynhau prynu rhai o'r cynhyrchion hynny yn fawr. Un o'r cyfryw yw Jenipher's Coffi, sy'n cael ei gynhyrchu gan sefydliad cydweithredol masnach deg Affricanaidd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Hyd yn hyn, mae Jenipher's Coffi wedi cefnogi 3,664 o ffermwyr a phlannu dros 25 miliwn o goed, i hyrwyddo gwaith tecach ac ymladd dros newid, ac rwy'n siŵr y bydd y Senedd yn ymuno â mi i ddweud bod hwnnw'n gynnydd rhyfeddol. Hefyd, roedd hi'n wych ein bod ni wedi cael Jenipher yma yn y Senedd yn ddiweddar hefyd i ddangos y coffi i bawb.

Ond nid y tu allan i Gymru'n unig y mae'n rhaid i fasnach deg ddigwydd. Yn 2008, Cymru oedd y genedl fasnach deg gyntaf yn y byd, ac ers hynny, dywedodd 83 y cant o ddefnyddwyr a holwyd gan Masnach Deg Cymru fod ganddynt ffydd mewn cynhyrchion masnach deg, ac mae 99 y cant arall wedi dweud eu bod am weld Cymru'n parhau i fod yn genedl masnach deg. Felly, Weinidog, tra bod masnach deg yn dod yn fwy a mwy cyffredin yng Nghymru, dim ond 34 o drefi masnach deg sydd ar ôl yng Nghymru allan o 63 ar y cychwyn. Er fy mod yn falch fod Porthcawl yn un o'r trefi sydd ar ôl, beth arall y gallwn ei wneud i hybu masnach deg ar draws Cymru, gwaith sy'n cael ei arwain yn bennaf gan ein gwirfoddolwyr, ymgyrchwyr ac aelodau cydweithredol gwych? Diolch.

Diolch yn fawr, Sarah Murphy. Pleser o'r mwyaf oedd ymweld â Sussed Cymru. A gaf fi annog Aelodau ar draws y Siambr hefyd i ymweld â'r siop fasnach deg wych hon ym Mhorthcawl, sy'n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr—yn ôl i'r cwestiwn blaenorol hefyd? Gwybod bod Sussed, y busnes masnach deg ym Mhorthcawl, wedi cael effaith enfawr ar y dref a'i gwneud yn dref masnach deg go iawn. Mae Margaret Minhinnick, sy'n un o'r bobl allweddol yn Sussed hefyd—rwy'n credu ei bod hi'n dweud wrthyf—naill ai wedi bod neu'n mynd i fod yn llywydd y siambr fasnach. Nawr, dyna'r math o ddylanwad sydd angen i ni ei gael i sicrhau bod masnach deg wedi'i gwreiddio yn ein trefi, oherwydd, mewn gwirionedd, mae gennym nifer o drefi masnach deg yng Nghymru, ond mae angen inni sicrhau ein bod yn symud ymlaen.

Rydym yn adnewyddu'r statws yn ffurfiol gyda Sefydliad Masnach Deg y DU, ac rydym yn parhau i ariannu Masnach Deg Cymru. Fe wneuthum gyhoeddi datganiad ar hyn ychydig wythnosau yn ôl. Ond nid wyf yn gwybod a yw cyd-Aelodau'n cofio ei bod yn bymtheg mlynedd ers i Gymru ddod yn genedl fasnach deg. Byddwn yn cael dathliadau yn ddiweddarach eleni ac fe fyddwn yn cyhoeddi meini prawf newydd a chryfach, ac rydym yn gweithio gyda'r Alban ar hyn, oherwydd rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gallu dysgu gyda'n gilydd, i gael mwy o bobl yng Nghymru i glywed am bwysigrwydd masnach deg. Yn wir, ddydd Gwener, rwy'n edrych ymlaen at feirniadu cystadleuaeth masnach deg y mae plant a phobl ifanc wedi'i chyflwyno, ar themâu masnach deg. Rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny yn fy etholaeth ddydd Gwener.

14:10
Ffoaduriaid o Wcráin

5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n helpu ffoaduriaid o Wcráin i geisio noddfa yng Nghymru? OQ59347

Diolch yn fawr, Ken Skates. Mae ein dull tîm Cymru wedi arwain at dros 6,500 o Wcreiniaid yn cael noddfa yng Nghymru. Rydym yn parhau i gefnogi gwesteion, gan eu helpu i symud ymlaen i lety mwy hirdymor a chael cymorth. Yn rhan o'n cyllideb 2023-24, rydym yn buddsoddi £40 miliwn pellach yn ein hymateb dyngarol.

Diolch, Weinidog. Mae hynny'n galonogol iawn i'w glywed, a byddaf yn cyfarfod â ffoaduriaid Wcreinaidd yn fy etholaeth ddydd Gwener. Rydym yn gwybod bod gwasanaethau lleol yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod ein gwesteion yn teimlo bod croeso iddynt a'u bod yn ddiogel yma yng Nghymru. Weinidog, roeddwn hefyd yn falch o weld yr arian ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i gyflawni'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hyn, gyda phecyn cyllid o £40 miliwn, gan gynnwys parhau â chludiant cyhoeddus am ddim wrth gwrs, ac mae hyn yn gwbl groes i benderfyniad siomedig Llywodraeth y DU i beidio â pharhau â chyllid tariffau i flwyddyn 2. A oes gennych chi unrhyw ddiweddariadau o gwbl gan Weinidogion Llywodraeth y DU sy'n rhoi eglurder ynglŷn â pha gyllid y byddant yn ei ddarparu nawr i gefnogi pobl Wcráin yma yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn, Ken Skates, ac mae'n bwysig ein bod wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw, sef y pecyn cyllid o £40 miliwn. Fe wnaethom yr ymrwymiad hwnnw mewn partneriaeth a thrwy ymgynghori â'n partneriaid awdurdod lleol, sydd wedi bod mor hanfodol, a'r trydydd sector, i ddarparu cymorth i ffoaduriaid Wcreinaidd yng Nghymru. Rydym yn disgwyl eglurder gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chyllid. Maent wedi cyhoeddi cronfa atal digartrefedd gwerth £150 miliwn, ond nid ydym wedi clywed beth fydd y dyraniad i Gymru. Ond rwyf wedi ysgrifennu, gyda'r Cynghorydd Andrew Morgan, sy'n arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ofyn am eglurder ar frys, oherwydd rydym eisiau cymorth ar gyfer symud ymlaen. Wrth gwrs, mae angen inni weld beth fydd ein cyfran, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi torri tariff integreiddio blwyddyn 2—byddwch wedi gweld hynny yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr. Felly, fe wnaethom golli £29 miliwn o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw yn unig.

Ond rwyf am ddweud fy mod yn falch ein bod wedi gwneud penderfyniad i ymestyn taliadau lletya i'r ail flwyddyn ar ôl cyrraedd ac i godi taliadau diolch i'r rhai sydd yn eu lletya i £500. Roedd hyn eto wedi cael ei dorri gan Lywodraeth y DU, yn yr ystyr fod ganddynt ffordd ddryslyd ymlaen gyda'r taliadau diolch hynny, peidio â'u rhoi i fwy o bobl, ond rydym ni'n mynd i wneud y taliad hwnnw. Ond rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidog Cartrefi i Wcráin y DU, Felicity Buchan, ac mae'n ddefnyddiol cael adborth gan y Senedd ar y cyfarfodydd hynny.

Y llynedd, croesawodd sir Ddinbych ffoaduriaid Wcreinaidd, a hoffwn ganmol fy etholwyr am eu haelioni tuag at Wcreiniaid. Ac rwy'n falch fod Ken Skates wedi codi'r cwestiwn hwn heddiw. Yn yr un modd, roeddwn yn falch fod Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol wedi cydweithio i chwarae ein rhan yn ymdrech y rhyfel. Ond mae rhai ffoaduriaid Wcreinaidd yn sir Ddinbych wedi penderfynu gadael yr ardal am rannau eraill o'r DU, oherwydd diffyg cysylltiadau trafnidiaeth a chyfleusterau da ar draws yr ardal, ac mae hynny'n ffaith, gan imi gyfarfod â rhai ohonynt yn ystod yr haf y llynedd. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud felly i sicrhau nad oes rhaid i ffoaduriaid o Wcráin ddod o hyd i rannau eraill o'r DU i fyw ynddynt?

Wel, rwy'n credu mai un o'r pwyntiau pwysicaf y byddwn i'n ei wneud yw ein bod wedi ymestyn y tocyn croeso—rydym wedi ymestyn tocynnau croeso y cynllun trafnidiaeth gyhoeddus tan 30 Mehefin eleni. Nid oes cynllun trafnidiaeth cymorth cyhoeddus o'r fath yn Lloegr, mae'n rhaid imi ddweud. Rwy'n dymuno'n dda i'r gwesteion Wcreinaidd sy'n amlwg yn mynd i fod yn symud ar draws Cymru, i Gymru a thu allan i Gymru, ond rwyf am ei gwneud yn glir i gyd-Aelodau, ac i chi ac i'r rhai rydych chi'n eu cynrychioli, fod gennym y tocyn croeso. Mae hwnnw wedi bod mor bwysig er mwyn i bobl allu cael gwaith a'u galluogi i symud o gwmpas, ac rwy'n gwybod ei fod wedi cael ei groesawu gan awdurdodau lleol ar draws Cymru.

Prynhawn da, Weinidog. I ddilyn y cwestiwn gan Gareth hefyd, fe wneuthum innau gyfarfod â gwesteion Wcreinaidd a'u lletywyr ym Mhowys yr wythnos diwethaf hefyd, yn Nhal-y-bont, ac un o'r problemau a nodwyd ganddynt oedd trafnidiaeth, yn enwedig mewn ardal wledig. Mae yna bryder ynghylch y pàs crwydro Cymru yn dod i ben ddiwedd Mehefin, felly fy nghwestiwn cyntaf yw: tybed a fyddech chi'n ystyried ymestyn hwnnw i ganiatáu iddynt barhau i gael cludiant bws am ddim. Ond roedd problem arall yn ymwneud â'u trwyddedau gyrru a'r gallu iddynt barhau i gadw'r trwyddedau gyrru hynny ar ôl blwyddyn o fod yn y DU. Y sefyllfa yw bod rhaid iddynt gael prawf gyrru'r DU ar ôl blwyddyn yma. Rwy'n siŵr y byddai llawer ohonom sy'n gyrru yn yr ystafell hon ar hyn o bryd yn arswydo wrth feddwl y  byddai'n rhaid i ni gael prawf gyrru yn y wlad hon. Felly, tybed a wnewch chi ystyried bod mewn cysylltiad â'ch cydweithwyr yn yr Adran Drafnidiaeth i weld a ellid ychwanegu Wcráin at y rhestr o wledydd lle gellir cyfnewid y drwydded yrru am drwydded yrru'r DU. Diolch yn fawr iawn.  

14:15

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae'n ddefnyddiol cael yr adborth hwn gan Aelodau ar draws y Siambr gan westeion Wcreinaidd. Mae'r adborth am y tocyn croeso yn bwysig, oherwydd roedd yn anodd iawn cael yr estyniad hwnnw gyda chyllid cyfyngedig, ond mae'n ddefnyddiol ar gyfer adborth. Byddaf yn codi'r materion hyn ynghylch mynediad at drwyddedau gyrru'r DU gyda Llywodraeth y DU; yn amlwg, mae o fewn eu pwerau. Gallant ddefnyddio'u trwydded bresennol i yrru ar ffyrdd y DU, fel y dywedwch, am y 12 mis cyntaf, ond y tu hwnt i hyn, mae'n rhaid iddynt drosi eu trwydded Wcreinaidd neu gael prawf gyrru'r DU. Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei godi gydag Adran Drafnidiaeth y DU, a byddaf yn dychwelyd at yr Aelodau. Rwy'n siŵr y bydd ein cyd-Aelodau ymhlith y Ceidwadwyr Cymreig yn dymuno codi hyn hefyd.

Roeddwn eisiau eich holi am drafferthion ffoaduriaid o Affganistan. Rydym newydd gael gwybod eu bod yn mynd i gael eu gorfodi i adael gwestai a symud i un cynnig o lety, neu fe fyddant ar y stryd. O ystyried eu bod wedi bod yma ers 18 mis ers tynnu'n ôl o Affganistan, mae yna bryder amlwg y bydd pobl mewn swyddi, bydd ganddynt blant yn yr ysgol. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gallu sicrhau bod y bobl hyn yn cael cynigion tai addas i beidio ag amharu ar y cysylltiadau y maent eisoes wedi'u gwneud, a'u hatal rhag bod yn ddigartref? A yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw wybodaeth i chi am arian i'w ryddhau i awdurdodau lleol, a fydd, yn sydyn iawn, â thon newydd enfawr o bobl yn dod yn ddigartref? 

Diolch yn fawr, Jenny Rathbone. Gallaf roi gwybod i'r Aelodau fod swyddogion yn Llywodraeth Cymru wedi cael galwad gan y Swyddfa Gartref a'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau brynhawn ddoe i siarad am eu cynlluniau, sydd bellach wedi'u cyhoeddi y prynhawn yma, i gau pob llety pontio i bobl o Affganistan. Gwnaed y datganiad gan Johnny Mercer, y Gweinidog materion cyn-filwyr, y prynhawn yma. Rydym yn ystyried ac yn amsugno'r wybodaeth honno, ond rydym yn deall y bydd yr holl lety pontio yn cau o fewn misoedd, a'i bod yn ymddangos y bydd tri mis o rybudd yn cael ei roi. Bydd yn rhaid aros i weld beth fydd hyn yn ei olygu o ran timau'r Swyddfa Gartref, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymweld â phob safle. 

Rydym yn rhagweld y bydd tua 400 o bobl yn cael eu heffeithio yng Nghymru. Rwyf eisoes wedi gofyn—ac rwy'n disgwyl galwad gan y Gweinidog—sut y byddai cyllid yn dod ar gael yng Nghymru. Nid yw'n eglur iawn. Rwy'n deall y gellid sianelu arian drwy awdurdodau lleol, ond nid yw hynny'n glir. Nid wyf wedi gweld datganiad eto. Felly, mae angen i ni gael mwy o syniad o beth fydd hyn yn ei olygu, ond rwy'n deall bod awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg a Phartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru wedi cael gwybod yr wythnos diwethaf. 

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

6. A wnaiff y Gweinidog wneud ddatganiad am ariannu Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru? OQ59362

Caiff awdurdodau tân ac achub yng Nghymru eu hariannu drwy godi cyfraniadau ar eu hawdurdodau lleol cyfansoddol. Yr awdurdodau tân ac achub eu hunain sy'n pennu hyn, ac nid yw'n destun cyfyngiadau allanol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau tân ac achub yn uniongyrchol, ac nid yw awdurdodau tân ac achub yn derbyn arian craidd gan Lywodraeth Cymru.

Diolch ichi am yr esboniad yna. Wrth gwrs, mae setliad cyflogwyr y gwasanaethau tân drwy Gymru a Lloegr gyda'r FBU, undeb y diffoddwyr tân, am gynyddu'r diffyg cyllid yn yr awdurdod tân yn y gogledd i £2.4 miliwn. Mae'n anodd credu fod y cytundeb wedi ei wneud heb unrhyw arian ychwanegol ar y bwrdd gan Lywodraeth Llundain. Mi fydd pontio'r bwlch ariannol yna yn golygu un o ddau beth: un ai cyfyngu ar wasanaethau, neu gynyddu’r lefi ar drigolion—roeddech chi'n sôn amdano fe—sy’n dal, nifer ohonyn nhw, i wynebu yr argyfwng costau byw. Gallai'r lefi i drethdalwyr gynyddu 20 y cant yn yr achos yma, os nad oes cymorth canolog. Felly, gaf i ofyn pa fewnbwn mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael i’r trafodaethau yma? Mae’n ymddangos bod awdurdodau tân yng Nghymru yn wynebu her enfawr oherwydd nad oes arian ar gael o Lywodraeth Llundain i gynnal cyflogau staff. Onid yw hyn yn ddadl unwaith eto dros ddatganoli cyfrifoldeb y gwasanaethau tan yn llwyr i Gymru?

14:20

Diolch i Llyr Gruffydd am ei gwestiwn. Yn amlwg, rydym yn falch fod cytundeb cyflog wedi'i gytuno ar gyfer diffoddwyr tân, ac wedi osgoi'r angen am weithredu diwydiannol, ond rwy'n cydnabod, fel y mae ef, fod hyn yn rhoi pwysau ariannol sylweddol pellach ar yr awdurdodau tân ac achub a'u hawdurdodau cyfansoddol hefyd. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei drafod yn fanwl nid yn unig ag Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ond gyda'r tri awdurdod ledled Cymru. Hefyd, yr wythnos diwethaf cyfarfûm â CLlLC i drafod effaith hynny. Rydym yn gweithio'n agos gydag Undeb y Brigadau Tân hefyd, oherwydd yn amlwg mae'r cyd-gyngor cenedlaethol yn gorff yr ydym yn ei gydnabod a'i barchu fel y cyngor trafod, ond rydym yn cydnabod bod hyn yn sicr yn rhoi pwysau pellach ar y gwasanaethau yng Nghymru. Rydym yn gweithio'n agos iawn i weld beth y gallem ei wneud yn y dyfodol i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hynny.

Rwyf wedi cyfarfod â'ch cyd-Aelod Luke Fletcher i drafod problemau a heriau o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac mae'r cynnig yno yn agored iawn i chi gael trafodaethau pellach yn dilyn ymlaen o heddiw am rai o'r heriau tymor canolig i fwy hirdymor sy'n wynebu awdurdod tân ac achub gogledd Cymru yn enwedig. Bydd y ddau ohonom yn gwybod yn iawn sut mae'r gwasanaeth tân wrth gefn yn chwarae rhan sylweddol ar draws gogledd Cymru hefyd.

Gwasanaethau Cyhoeddus i Bobl sydd wedi Colli eu Clyw

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl sydd wedi colli eu clyw? OQ59329

Diolch, Mike Hedges. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor i ganolbwyntio ar fynediad at wasanaethau fel rhan o'r tasglu hawliau pobl anabl. Mae'r gweithgor hwn yn hanfodol i hyrwyddo mynediad at bob gwasanaeth yng Nghymru, gan gynnwys i bobl sydd wedi colli eu clyw.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb. Mae'r gymuned fyddar a thrwm eu clyw yn cynnwys rhai sy'n cael eu geni gyda cholled clyw a'r rhai sydd wedi colli eu clyw wrth iddynt fynd yn hŷn. Mae llawer o bobl fyddar yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel eu prif fodd o gyfathrebu. Nid yw gwasanaethau ffôn yn unig yn gweithio i bobl sydd wedi colli eu clyw. 

Diolch, Mark. Efallai y gellid trosglwyddo'r neges honno i feddygfeydd sy'n mynnu bod pobl yn ffonio pan fo'n amhosibl iddynt wneud hynny yn y bôn. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod y rhai sydd wedi colli eu clyw sy'n ymdrin â chyrff sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru naill ai'n ymdrin â rhywun sy'n defnyddio BSL neu â modd o ddefnyddio dehonglwr?

Diolch am y cwestiwn hwnnw ac am gwestiwn ategol arbennig o bwysig, yn ymwneud â sut y gall pobl ddefnyddio ein gwasanaethau. Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny, Mike, o ran y rhai rydym yn eu hariannu i gyflawni ein hymrwymiad. Yn amlwg, mae'n ymrwymiad mewn perthynas â BSL. Mae gennym adroddiad newydd ddod drwodd o archwiliad Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain ar ddarpariaeth BSL yn Llywodraeth Cymru, gyda'r bwriad o lofnodi'r siarter BSL. Felly, mae hwn yn waith pwysig ar y cyd, ond mae'n adborth da i'w gynnwys yn hynny. 

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol? OQ59359

Diolch, Jayne. Ers i ni gyhoeddi ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol rydym wedi sefydlu ein strwythur llywodraethu, ac mae'r grŵp atebolrwydd allanol bellach yn weithredol i adolygu a monitro gweithrediad y cynllun a'r dull o adrodd ar y cynllun. Rwy'n cynnal uwchgynhadledd ym mis Mai i adolygu cynnydd a'r camau nesaf ar weithredu'r cynllun.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n braf clywed am y cynnydd ar hynny. Eleni mae'n 75 mlynedd ers i genhedlaeth Windrush gyrraedd y DU. Daeth llawer i Gymru a fy nhref enedigol, Casnewydd, a hyfryd oedd gweld yr arddangosfa 'Windrush Cymru—Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes' yn theatr Glan yr Afon Casnewydd yn gynharach yn y mis, fel rhan o'i thaith ledled y wlad. Roedd hi'n bleser clywed gan rai o'r rheini sy'n rhan o genhedlaeth Windrush ac sy'n arweinwyr yn ein cymunedau, fel Vernesta Cyril, bydwraig uchel ei pharch yng Nghasnewydd sydd wedi ymgyrchu'n angerddol dros gydraddoldeb ac yn erbyn hiliaeth ers blynyddoedd, ac sy'n parhau i wneud hynny. Mae cenhedlaeth Windrush a'u teuluoedd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy a pharhaol i Gymru. Daethant i'r DU i ateb y galw am weithwyr wedi'r rhyfel ac maent yn haeddu cydnabyddiaeth. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cenhedlaeth Windrush i nodi'r pen-blwydd arbennig hwn, a beth arall y gellir ei wneud i hyrwyddo cyfraniad pwysig hynafgwyr nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru?

14:25

Diolch yn fawr, Jayne Bryant. Fel y dywedwch, mae'n 75 mlynedd ers dyfodiad HMT Empire Windrush, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi gweithgareddau dathlu Windrush 75. Mae gennym gynllun grant Windrush 75 a fydd yn cael cyhoeddusrwydd yn fuan. Rydym wedi gweld yr arddangosfa 'Windrush Cymru—Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes'. Mae'n rhaid inni ddweud eto fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwaddol aruthrol cenhedlaeth Windrush—dynion a menywod o bob rhan o'r Gymanwlad a helpodd i adeiladu'r Gymru fodern a gwneud y wlad yn gartref iddynt.

Hefyd, mae'n bwysig cydnabod bod hyn yn rhan fawr o Hanes Pobl Ddu 365, nid mis Hanes Pobl Ddu yn unig—mae'n digwydd drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn freintiedig iawn i gael cymaint o ddinasyddion y Gymanwlad yn rhan o'n cymunedau, ond gan gydnabod cyfraniadau rhai o'r hynafgwyr hynny yn benodol—i chi, Vernesta Cyril, a oedd yn fydwraig y flwyddyn yn 2006. Treuliodd flynyddoedd lawer yn herio gwahaniaethu ac yn hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, ond fel bydwraig, mae'n rhaid imi ddweud eto, dros gyfnod o 30 mlynedd fe helpodd i eni dros 2,000 o fabanod ac enillodd deitl bydwraig y flwyddyn y DU, fel y dywedais, a dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaethau.

Rwy'n credu y byddwn i gyd yn chwarae rhan yn nigwyddiadau Diwrnod Windrush. Mae'r cynlluniau grant allan i Aelodau glywed amdanynt. Byddaf hefyd yn pwyso am weithredu adroddiad Wendy Williams yn llawn. Roedd yn cael ei lastwreiddio gan yr Ysgrifennydd Cartref, o ran rhai o'r argymhellion hynny, ac mae'n rhaid inni sicrhau eleni fod yr argymhellion hynny'n cael eu cefnogi'n llawn gan Lywodraeth y DU—yn sicr ddigon, rydym ni'n eu cefnogi. 

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.

Negeseuon Casineb Hiliol

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn ag unrhyw ddulliau cyfreithiol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn atal hyrwyddo negeseuon casineb hiliol? OQ59356

Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar hiliaeth, fel y dangosir drwy ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, sydd â'r nod o adeiladu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Nid oes lle yng Nghymru i hiliaeth na chasineb a rhagfarn o unrhyw fath.

Yn ddiweddar mae'r heddlu ym Mro Morgannwg wedi gorfod ymdrin â chriw bach o bobl yn dod i'r ardal yn y gobaith o berswadio trigolion lleol fod lletya ffoaduriaid yn eu cymuned yn risg i'w llesiant mewn rhyw ffordd. Nid yw wedi gweithio; i'r gwrthwyneb, mae pobl Llanilltud Fawr, ar bob lefel o'r gymuned, wedi datgan yn uchel eu bod yn cefnogi Cymru fel cenedl noddfa.

Ond twyllwybodaeth yw ffordd y grŵp asgell dde eithafol hwn o weithredu wrth iddynt fynd ati i berswadio pobl eraill i ddod i mewn i Gymru a phrotestio am unrhyw beth sy'n ymwneud â ffoaduriaid. Maent wedi bod yn weithredol iawn yng ngogledd Lloegr yn lledaenu twyllwybodaeth i bobl gyffredin a oedd wedi meddwl bod hyn yn mynd i effeithio arnynt hwy mewn rhyw ffordd. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y gyfraith yn erbyn casineb hiliol yn cael ei chynnal?

Yn gyntaf, a gaf fi gydnabod y gefnogaeth aruthrol a roddwyd gan y gymuned leol, yn y digwyddiadau y cyfeiriwch atynt ym Mro Morgannwg, wrth wrthwynebu'r unigolion asgell dde eithafol hynny—y bobl hiliol a ddaeth yno? Fe wnaeth safbwynt y clwb pêl-droed lleol gryn argraff arnaf, clwb sydd â nifer o ffoaduriaid yn chwarae iddynt mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei bod yn glod i gymuned pan fo'n dod at ei gilydd i sefyll dros safonau a hawliau.

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, wrth gwrs, yw bod yna lawer o gamwybodaeth ac mae llawer o negeseua pur annymunol yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Wrth gwrs, mae casineb hiliol yn drosedd, ac ysgogi casineb hiliol hefyd, ac rwy'n credu lle mae negeseuon o'r fath yn ymddangos a allai gyfrannu at ysgogi'r mathau hynny o ddigwyddiadau neu ysgogi casineb hiliol, dylid rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath i'r heddlu neu i'r awdurdodau perthnasol.

Mae'n rhaid imi ddweud nad yw rhai o'r sylwadau a pheth o'r negeseua sydd wedi bod yn dod gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar, a chwarae'r hyn y byddwn i'n ei alw'n 'gerdyn hil' er mantais wleidyddol, wedi bod o gymorth yn y sefyllfa hon ac yn fy marn i, mae wedi cyfrannu at y gamwybodaeth honno ac at dwf y grwpiau asgell dde eithafol hynny.

14:30
Diwygio Cyfansoddiadol

2. A fydd argymhellion terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn dylanwadu ar fewnbwn Llywodraeth Cymru i gynigion ar gyfer diwygio cyfansoddiadol yn y dyfodol? OQ59332

Diolch am y cwestiwn. Y gwir amdani yw wrth gwrs y bydd o—o, mae'n ddrwg gennyf. Credaf fod gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn, ac fe fydd, yn gyfraniad hanfodol i'r trafodaethau sydd eisoes yn digwydd yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Mae wedi fy nharo i ers tro fod rhai o'r cynigion mwyaf arloesol ar gyfer diwygiadau angenrheidiol i'r undeb yn dod o Gymru, yn hytrach nag o San Steffan a Whitehall ei hun. Ond boed hynny fel y bo, a fyddai'n cytuno â mi, os cyflwynir diwygiadau sy'n ceisio perthynas wahanol a pherthynas sy'n fwy modern rhwng gwledydd a rhanbarthau'r DU, y dylai pawb, nid yn unig y rhai ohonom yma yng Nghymru ond pawb yn San Steffan a mannau eraill ledled Lloegr, fanteisio ar y cyfle i ymgysylltu â chynigion o'r fath a allai gyflwyno undeb diwygiedig a chryfach mewn gwirionedd? Mae gan bob un ohonom farn wahanol yn y Siambr hon, ond mae'n sicr fod hynny'n hanfodol i unrhyw un sy'n credu nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.

Diolch. Rydych yn codi nifer o bwyntiau pwysig iawn. Mae'n debyg mai'r peth cyntaf y byddwn yn ei ddweud yw, tra bo'r drafodaeth ar ddiwygio cyfansoddiadol wedi datblygu'n dda yng Nghymru a'r Alban dros y ddau ddegawd diwethaf, ac yn wir yng Ngogledd Iwerddon, mae wedi bod braidd yn ddifywyd yn Lloegr, a'r hyn sy'n galonogol nawr yw'r ffaith bod yna gydnabyddiaeth o ba mor bwysig yw datganoli grym i rymuso pobl a chymunedau mewn gwirionedd, ac yn enwedig yn Lloegr.

Felly, mae'r sylwadau sydd wedi eu gwneud gan Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, mewn perthynas â gor-ganoli yn Llywodraeth San Steffan, a siarad am ddatganoli, a chomisiynu adroddiad Gordon Brown, yn hynod o bwysig. Oherwydd mae'r ddadl honno sy'n digwydd yn Lloegr yr un mor bwysig i ni hefyd, oherwydd mae'n gydnabyddiaeth o'r angen i gysoni'r strwythurau hynny a'u hail-gydbwyso. Mae ein comisiwn annibynnol ein hunain, wrth gwrs, yn ymwneud â'n barn am y math o ddyfodol rydym ei eisiau i Gymru, a sut y dylai'r berthynas honno newid—nid yw'n rhywbeth sy'n cael ei benderfynu yn rhywle arall. Ond wrth gwrs, ochr yn ochr â hynny mae adroddiad Gordon Brown, sydd hefyd yn cydnabod nifer o'r materion rydym yn ymwneud â hwy—sybsidiaredd a'n cydraddoldeb o ran pwerau o fewn yr Alban. Ac rwy'n credu mai'r pwynt pwysig a wnaed yn adroddiad Gordon Brown—ac mae Gordon Brown, wrth gwrs, wedi rhoi tystiolaeth i'r comisiwn annibynnol, fel y byddaf innau'n ei wneud, ac yn wir fel y bydd Gweinidogion eraill yn ei wneud maes o law mae'n siŵr—yw'r cyfeiriad at ymgysylltu adeiladol. Felly, mae'n ymwneud â chydnabod bod angen moderneiddio ein perthynas gyfansoddiadol, i sicrhau newid, ond hefyd fod yn rhaid iddo fod yn rhywbeth y ceir consensws yn ei gylch ymhlith y bobl yng ngwledydd a rhanbarthau'r DU gyfan.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Mae 'Canllaw Sefydlu GIG Cymru ar gyfer Aelodau Bwrdd Annibynnol' Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

'Y nod yw cael un set o werthoedd sy'n llywio sut rydym yn gweithio, sy'n newid diwylliant ac yn siapio'r ffordd rydym yn ymddwyn. Mae byw'r gwerthoedd hyn yn golygu bod yn ymreolaethol ac eto'n atebol, gan fod yn ddewr ac yn feiddgar a chreu diwylliant sy'n agored ac yn dryloyw...

'Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu er budd y cyhoedd yn unig.

'Rôl y Bwrdd yw... dal y Prif Weithredwr a’r uwch dîm rheoli yn atebol am eu perfformiad o ran cyflawni’r amcanion a’r targedau y cytunwyd arnynt drwy herio a chraffu pwrpasol'.

Ac

'Nid yw aelodau’r Bwrdd yn rhoi cyfarwyddyd i’r Prif Weithredwr nac i unrhyw aelod o staff ar faterion gweithredol ond maent yn gallu herio a chwestiynu'.

Yn y cyd-destun hwn, pa gyngor fel Cwnsler Cyffredinol y gwnaethoch chi ei roi i'r Gweinidog iechyd cyn iddi orfodi aelodau annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymddiswyddo?

A gaf fi ddweud y dylai cwestiynau am benderfyniadau a wneir gan y Gweinidog iechyd mewn perthynas â'i swyddogaethau fel Gweinidog gael eu cyfeirio'n briodol at y Gweinidog hwnnw yn hytrach nag ataf fi?

Wel, pa gyngor y byddech chi yn ei roi i'r Gweinidog iechyd nawr, yng nghyd-destun y datganiad rwyf wedi ei gael gan holl gyn-aelodau annibynnol y bwrdd iechyd—pobl uchel eu parch yng ngogledd Cymru—sy'n datgan,

'Credwn ei bod yn mynd â gofal iechyd yng ngogledd Cymru yn ôl ddegawd'.

Ac mae'n cynnwys hyn,

"Mae pob Prif Swyddog Gweithredol wedi dweud wrthym nad oes modd rheoli'r tîm gweithredol, a gwnaed hynny'n waeth gan y ffaith bod cefnogaeth adnoddau dynol y gweithlu'n aneffeithiol. Felly, fe wnaethom ofyn am gyngor swyddogion Llywodraeth Cymru. Ar bob achlysur, fel gyda phob mater yn ymwneud â'r tîm gweithredol, mae'n rhaid inni gael cefnogaeth a chymeradwyaeth benodol gan Lywodraeth Cymru. Mae rhai swyddogion gweithredol sydd â bwriadau da wedi cael eu pardduo a'u tanseilio gan ymddygiad eu cydweithwyr, i'r graddau bod y tîm ei hun wedi mynd yn gamweithredol ac aneffeithiol fel grŵp. Dywed y Gweinidog ei bod yn dirprwyo'r gwaith o redeg y bwrdd iechyd i'r aelodau annibynnol. Mae hyn yn anghywir. Llywodraeth Cymru a'r tîm gweithredol sy'n rhedeg y bwrdd iechyd, ac nid yw'r bwrdd ond yn ôl-ystyriaeth ar adegau. A thrwy ei gweithredoedd, mae'r Gweinidog wedi dileu cof y sefydliad. Mae'r rhai a frwydrodd i weld y sefydliad yn dysgu o fethiannau'r gorffennol wedi cael eu disodli. Mae staff da yn gadael, ac mae'r rhai sy'n weddill yn ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniadau sylfaenol hyd yn oed—

14:35

Bydd yn rhaid i mi eich atgoffa mai cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yw'r rhain. Rwy'n cael trafferth gweld i ba gyfeiriad rydych chi'n mynd gyda'r cwestiwn hwn, felly, os gallwch chi ddod at y cwestiwn. 

Na, na. Yr hyn roeddwn yn ei ddweud yn y bôn yw fy mod angen clywed eich cwestiwn, ac ni allwn weld i ble roeddech chi'n mynd gydag ef. 

A byddwn yn ddiolchgar felly pe bai'r Cwnsler Cyffredinol yn gallu ateb y cwestiwn a ofynnais ar y dechrau: pa gyngor y byddai'n ei roi nawr i'r Gweinidog iechyd yng nghyd-destun y datganiad pryderus hwn?

Wel, fe wnaeth y Gweinidog iechyd ymateb i gwestiynau tebyg a ofynnwyd ddoe. Esboniodd y penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud, a'r sail y gwnaed y penderfyniadau hynny arni. Mae'r rheini'n faterion i'r Gweinidog iechyd, a dylid eu cyfeirio at y Gweinidog iechyd. 

Wel, byddwn yn awgrymu ei fod yn mynd gam ymhellach na hynny. Ac mae hyn, mae'n rhaid imi ddweud, yn drewi o Lywodraeth anfoesegol, gyda'r Gweinidog yn dilyn ei rhagflaenwyr wrth geisio tawelu'r bobl sy'n dweud y gwir a cheisio claddu atebolrwydd. 

Fodd bynnag, gan symud ymlaen, mae fframwaith Windsor, a gytunwyd gan Brif Weinidog y DU a Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yn disodli hen brotocol Gogledd Iwerddon, gan ddarparu fframwaith cyfansoddiadol cyfreithiol newydd ar gyfer y DU. Mae'n galluogi Prydain a Gogledd Iwerddon i fasnachu nwyddau'n rhwydd drwy gael gwared ar unrhyw synnwyr o ffin ym Môr Iwerddon ar gyfer nwyddau sy'n aros o fewn y DU. Bydd y nwyddau hyn yn teithio fel arfer drwy lôn werdd newydd, heb fiwrocratiaeth nac archwiliadau diangen, ac mae'r unig archwiliadau sy'n parhau wedi'u cynllunio i atal smyglo neu droseddu. Ac er mwyn rhoi amser i fusnesau ac unigolion baratoi, bydd gweithredu'r cytundeb yn cael ei gyflwyno'n raddol, gyda rhai o'r trefniadau ar gyfer symud nwyddau, bwyd-amaeth, anifeiliaid anwes a phlanhigion yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach eleni, a'r gweddill yn 2024. 

Mae'r rheoliadau hyn yn gosod amserlen newydd yn Neddf Gogledd Iwerddon 1998, sy'n gweithredu'r agweddau hynny ar fframwaith Windsor sy'n ymwneud â chynnwys sefydliadau cytundeb 1998, ac roedd pob plaid a gynrychiolir yma yn y Senedd yn cefnogi'r fframwaith yn San Steffan. 

O ystyried eich cyfrifoldeb dros gydlynu gwaith ar y fframweithiau cyffredin, a Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 o fewn Llywodraeth Cymru, pa gyngor rydych chi wedi ei roi i gyd-Aelodau yn y Cabinet i baratoi eu hadrannau ar gyfer y newidiadau hyn?

Wel, nid yw ein pryder mwyaf mewn perthynas â fframweithiau yn ymwneud â chytundeb Windsor mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod cytundeb Windsor yn rhywbeth rydym ni fel Llywodraeth yn ei groesawu. Rydym yn aros i weld sut yn union y bydd yn gweithredu, ond mae unrhyw beth sy'n hwyluso'r cysylltiadau economaidd, y fasnach economaidd, a hefyd ailsefydlu Llywodraeth Gogledd Iwerddon, yn bwysig iawn i ni. 

O ran y fframweithiau, nid yw'r her fwyaf i'r fframweithiau yn ymwneud â chytundeb Windsor, mae'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, a hefyd Bil cyfraith yr UE a ddargedwir. Mae gan Fil cyfraith yr UE a ddargedwir oblygiadau sylweddol iawn o hyd, i Ogledd Iwerddon, i Gymru, ac i weddill y Deyrnas Unedig. Dyna lle bydd fy ffocws dros yr wythnosau nesaf, ac wrth gwrs, fe wneuthum ddatganiad ar hynny ddoe yn ystod y drafodaeth ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac wrth gwrs, byddaf yn cyflwyno datganiadau pellach maes o law. 

Diolch, Lywydd. Wel, rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi croesawu fframwaith Windsor fel sail i ailsefydlu'r rhannu pŵer yng Ngogledd Iwerddon. Rydym hefyd yn glir ei fod yn codi nifer o gwestiynau i Gymru, cwestiynau nad ydym eto wedi cael atebion boddhaol iddynt. Fel rydym wedi'i drafod yn y Siambr hon, mae'n codi cwestiynau penodol ynghylch rheoleiddio llif masnach drwy borthladdoedd Cymru sy'n ymwneud ag Iwerddon. Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan un o fy nghyd-bleidwyr yn Nhŷ'r Cyffredin, mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu y bydd y lôn werdd newydd a fydd yn cael ei chreu o dan y fframwaith yn berthnasol ar gyfer nwyddau sy'n teithio i Ogledd Iwerddon drwy Gaergybi a Dulyn. Nid wyf yn glir sut y gall hyn fod yn bosibl, pa rwymedigaethau rheoliadol newydd a allai ddeillio ohono a sut y byddai'n rhyngweithio â'r statws porthladd rhydd newydd a roddwyd i borthladdoedd yn sir Benfro ac Ynys Môn. A gaf fi ofyn pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith fframwaith Windsor ar Gymru? Ac yn benodol pa sgyrsiau a gafwyd gyda chymheiriaid Llywodraeth y DU ynghylch goblygiadau'r fframwaith i fynediad at y farchnad drwy borthladdoedd Cymru? Diolch.  

14:40

A gaf fi ddweud bod y rhan fwyaf o'r trafodaethau sy'n digwydd mewn perthynas â'r agweddau masnach hynny'n drafodaethau sydd wedi digwydd gyda Gweinidog yr Economi? Wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb cyffredinol ynghylch gweithrediad y fframweithiau. Ar hyn o bryd, mae'n dal i fod yn rhy gynnar i fod yn glir neu'n fanwl gywir ynglŷn â sut y byddant yn gweithio. Mae'n rhywbeth sy'n cael ei adolygu. Mae'n ddigon posibl y bydd yna broblemau sy'n peri pryder y bydd angen eu datrys. Mae'r rheini'n bennaf yn rhan o gyfrifoldeb portffolio Gweinidog yr Economi. Os oes materion cyfreithiol penodol, diau y bydd y Gweinidog yn ymgysylltu â mi mewn perthynas â'r rheini.

Mae'n debyg mai'r peth gorau y gallaf ei ddweud, wrth gwrs, yw'r pwynt a wneuthum yn y pwynt diwethaf: sef mai un o'r pryderon mwyaf sydd gennym yn deillio o hyn o hyd yw Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac i ba raddau y gallai danseilio neu ddiystyru'r fframweithiau, ac ynghyd â Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), nad ydym yn gwybod beth fyddai'r canlyniadau hynny. Felly mae'n dal i fod yn amhendant ar hyn o bryd, ond wrth gwrs, mae'n rhywbeth sy'n cael blaenoriaeth uchel, mae'n rhywbeth rydym yn rhoi sylw agos iawn iddo, a byddwn yn gwneud datganiadau pellach i'r Senedd hon maes o law, wrth inni ddod i wybod mwy a deall mwy am y prosesau. 

Diolch. Rydym angen eglurder ar frys ynghylch rheoleiddio masnach. Mater arall i Gymru, sy'n cael ei godi gan fframwaith Windsor, yw ddiffyg democrataidd. Yr wythnos diwethaf, cafodd brêc Stormont y fframwaith ei gymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin. Mae'n darparu ar gyfer yr hyn a allai arwain yn y bôn at feto unfrydol ar rai mathau o newid rheoleiddiol yng Ngogledd Iwerddon. Er y gellid dadlau bod Llywodraeth y DU bellach wedi gor-gywiro ar gyfer unrhyw ddiffyg democrataidd yng Ngogledd Iwerddon yn sgil protocol Gogledd Iwerddon, nid yw wedi dangos unrhyw bryder o gwbl am unrhyw ddiffyg o'r fath yng Nghymru, lle nad oes gan Lywodraeth Cymru rôl warchodedig wrth lywodraethu'r protocol. Mae hyn er gwaethaf yr effaith a gafodd yng Nghymru, gan gynnwys yr effaith ar fasnach drwy ein porthladdoedd. Nid yw fframwaith Windsor yn gwneud dim i fynd i'r afael â hyn.

Ymhellach, beth, os nad diffyg democrataidd, yw anallu Cymru i atal y mathau hyn o newidiadau ôl-Brexit i'w threfn reoleiddio sy'n debygol o ddeillio o Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir, ac sydd eisoes wedi deillio o Ddeddf y farchnad fewnol? A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ein bod angen brêc Senedd ar reoliadau newydd yr UE, gan gynnwys amddiffyn mynediad Cymru at farchnadoedd Ewrop, ac os felly, a wnaiff amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau un?

Diolch am hynny. Rydym i fod i gael rhyw fath o frêc Senedd mewn perthynas â confensiwn Sewel, ond nid yw'n frêc effeithiol iawn ac nid oes ganddo unrhyw statws barnadwy. Mae arnaf ofn mai dim ond drwy ymhelaethu, i ryw raddau, ar rai o'r pwyntiau a wneuthum yn gynharach y gallaf ateb y cwestiynau a ofynnwch. Hynny yw, ar hyn o bryd, rydym yn dal i geisio asesu sut y byddai hyn yn gweithio, beth yw'r goblygiadau i'r fframweithiau cyffredin a goblygiad Bil cyfraith yr UE a ddargedwir.

Rydych chi'n llygad eich lle nad yw'r ymgysylltu wedi bod yn dda ar hyn. Rwy'n gwybod bod ymgysylltu pellach yn digwydd, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidogion yn ymgysylltu â'u cymheiriaid nawr ar y materion hyn ar bob cyfle sy'n codi. Yr unig beth defnyddiol y gallaf ei ddweud mewn gwirionedd yw bod y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n agos iawn, a bydd datganiadau pellach yn cael eu cyflwyno wrth inni ddeall yn well beth sy'n digwydd a sut y bydd y rhain yn gweithio. Ac rwy'n credu bod hynny'n berthnasol i bawb sy'n cymryd rhan ynddo, ac wrth gwrs, rydym yn aros i weld beth fydd yn digwydd o ran safbwynt y DUP ar hynny a'r hyn a all ddigwydd wedyn o ran a fydd Llywodraeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon yn cael ei hailsefydlu ai peidio.

14:45
Y Bil Mudo Anghyfreithlon

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith eraill ynglŷn ag effaith Bil Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth y DU ar gaethwasiaeth fodern a hawliau dynol yng Nghymru? OQ59348

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn yn ei gwrthwynebiad i'r Bil creulon ac anghyfiawn hwn. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl lwybrau sydd ar gael i ni i wrthwynebu'r Bil hwn ac yn benodol yr effaith y bydd yn ei chael ar gaethwasiaeth fodern a diogelu hawliau dynol.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Rwy'n bryderus iawn, fel eraill yn y Siambr hon, am yr effaith y bydd Bil Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth y DU yn ei chael ar ymdrechion i frwydro yn erbyn caethwasiaeth ddynol ac amddiffyn hawliau dynol yng Nghymru os caiff ei basio yn San Steffan. Fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar fasnachu pobl, rwyf wedi gweld drosof fy hun sut mae caethwasiaeth fodern yn parhau i greu heriau enfawr yn ein cymunedau a'r effaith ddinistriol y mae'n ei chael ar y rhai sy'n cael eu dal ganddi. Rwyf wedi clywed y byddai'r Bil niweidiol a chreulon hwn yn tanseilio'r gwaith i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern ac yn atal goroeswyr rhag gallu rhoi gwybod am fasnachu pobl, ac yn bwysig, rhag cael cymorth. Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd cynghrair o fwy na 60 o sefydliadau, ac mae wedi'i grybwyll eisoes, yn cynnwys Sefydliad y Merched, Amnesty International UK, grŵp trawsbleidiol o Aelodau Seneddol ac academyddion at Brif Weinidog y DU i nodi eu pryderon a'u gwrthwynebiad dwfn i'r Bil hwn. A wnewch chi ymuno â mi a phawb sy'n sefyll dros ddioddefwyr caethwasiaeth fodern i annog y Llywodraeth i ddiddymu'r Bil echrydus hwn?

Diolch am y cwestiwn, ac unwaith eto, rwy'n cymeradwyo'r sylwadau a wnaed mewn perthynas â hyn gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn gynharach. Darparodd Llywodraeth y DU y Bil drafft ar gyfer Llywodraeth Cymru ar 6 Mawrth 2023, y prynhawn cyn iddo gael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn siomedig, ni roddwyd unrhyw hysbysiad blaenorol ynglŷn â chynnwys y Bil.

Mae'n debyg y gallaf ateb y pwynt a godwyd gennych yn y ffordd orau drwy ddweud, oes, rwy'n credu bod yna fwyafrif clir yn y Senedd hon sy'n llwyr gefnogi a chymeradwyo'r sylwadau a wnaethoch. Y man cychwyn, wrth gwrs, yw nad yw'r Bil yn cydymffurfio â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol ac mae bron yn sicr ei fod yn torri confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ffoaduriaid. Mae'r rheini'n faterion o gryn arwyddocâd, oherwydd ni allwn ddychmygu pam y byddai unrhyw seneddwr yn cefnogi deddfwriaeth, neu'n cymeradwyo ddeddfwriaeth, sydd, i bob pwrpas, yn anghyfreithlon. Yn anffodus, rydym wedi gweld gormod o achlysuron ar lefel Llywodraeth y DU lle mae mwyafrif o Aelodau Seneddol wedi bod yn barod i gefnogi deddfwriaeth anghyfreithlon yn eu Senedd eu hunain. Mae hynny'n peri pryder dwfn.

Rwyf am gyfeirio at dri sylw a wnaed sy'n ymdrin â'r pwynt a godwyd gennych. Dywedodd Beth Gardiner-Smith, prif swyddog gweithredol Safe Passage International, sefydliad trydydd sector, 

'Nid yn unig y mae cynlluniau'r Llywodraeth yn amddifad o bob moesoldeb, maent yn gwbl anymarferol ac ni fyddant yn atal ffoaduriaid rhag peryglu eu bywydau i geisio diogelwch yma. Yr un dull aflwyddiannus ydyw',

a galwodd ar y Llywodraeth i

'ganolbwyntio ar agor llwybrau diogel i ffoaduriaid'. 

Mae hwnnw'n bwynt, wrth gwrs, a godwyd gan Weinidog yr wrthblaid heddiw, a ddoe yn wir, yn Nhŷ'r Cyffredin gan Yvette Cooper, a ddywedodd,

'Wedi 13 mlynedd o fethiant, mae ffigurau heddiw'n tanlinellu'r llanast dychrynllyd y mae'r Ceidwadwyr wedi'i wneud o'r system loches.'

Dywedodd

'Mae'r Swyddfa Gartref yn dal i wneud traean yn llai o benderfyniadau bob blwyddyn nag a wnâi saith mlynedd yn ôl ac maent wedi gadael i'r ôl-groniad godi 60% pellach i'r ffigur uchaf erioed...160,000'.

Mae anghymhwysedd San Steffan wedi arwain at ymateb difeddwl mewn gwirionedd, sef, unwaith eto, chwarae'r cerdyn hil. Os ydych yn credu bod y dyfyniadau hynny'n bleidiol ac yn annheg, wel, gadewch inni gyfeirio at yr hyn a ddywedodd Theresa May yn ddiweddar, cyn-Brif Weinidog Ceidwadol. Dywedodd,

'Fy ofn gyda'r Bil Mudo Anghyfreithlon hwn yw y bydd yn sathru ar y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, gan amddifadu'r rhai sydd wedi cael eu hecsbloetio a'u caethiwo o gymorth, ac wrth wneud hynny, yn ei gwneud yn llawer anos i ddal ac atal y masnachwyr pobl a'r caethfeistri.'

Rwy'n credu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU sylweddoli bod eu deddfwriaeth yn anghyfreithlon, ond rwyf hefyd yn credu bod yn rhaid iddynt gydnabod na fydd yn cyflawni'r hyn y mae'n cynnig ei gyflawni na'n datrys yr heriau y maent hwy wedi eu nodi. Mae'n rhaid i chi ofyn y cwestiwn, felly, yn wleidyddol: pam eu bod wedi codi'r Bil hwn yn y ffordd hon, gyda'r holl sylw sydd iddo yn y cyfryngau cymdeithasol? Yr unig gasgliad y gallaf ddod iddo yw eu bod yn chwarae cerdyn hil mewn cyfnod lle mae gennych Lywodraeth y DU sy'n chwysu oherwydd bod yna etholiad cyffredinol posibl ar y gorwel.

14:50
HS2 a Northern Powerhouse Rail

4. Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch Llywodraeth y DU yn categoreiddio prosiectau HS2 a Northern Powerhouse Rail fel prosiectau Cymru a Lloegr? OQ59342

Wel rwy'n adleisio sylwadau Prif Weinidog Cymru a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd na ddylai Llywodraeth y DU ariannu Northern Powerhouse Rail yn yr un modd â HS2. Dylid categoreiddio Northern Powerhouse Rail fel prosiect i Loegr yn unig, gyda Chymru'n cael cyfran yn ôl poblogaeth o'r cyllid hwn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Mae'n amlwg, onid yw, fod y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan unwaith eto wedi twyllo Cymru, gan gategoreiddio prosiect arall ar gyfer Lloegr yn unig fel prosiect Cymru-Lloegr. Dylem fod wedi derbyn £6 biliwn—£6 biliwn—yn sgil prosiect HS2 a rhaglen Northern Powerhouse Rail. Gwnsler Cyffredinol, gallai hyn fod wedi chwyldroi rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, ond yn hytrach, mae'n enghraifft arall o'r modd nad oes gan y Blaid Geidwadol yn San Steffan unrhyw ddiddordeb yng Nghymru. Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â mi fod yna un ffordd o sicrhau bod pobl Cymru yn cael yr hyn sy'n ddyledus iddynt: etholiad cyffredinol a Llywodraeth Lafur yn y DU dan arweiniad Keith Starmer?

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod. Rwy'n siŵr nad yw'n synnu fy nghlywed yn dweud hynny. Mae £5 biliwn yn ddyledus i Gymru o ganlyniad i HS2. Mae £1 biliwn arall yn ddyledus i Gymru o ganlyniad i Northern Powerhouse Rail. Felly, mae awgrymu bod y prosiectau Seisnig hyn o fudd i Gymru yn nonsens llwyr. Byddai'r arian yn drawsnewidiol i rwydwaith trafnidiaeth Cymru. Mae angen i Lywodraeth y DU wneud y peth iawn a thalu'r arian. Rwy'n credu eu bod yn cam-drin fformiwla Barnett yma mewn gwirionedd. Gallaf ddweud bod y materion hyn yn cael eu codi ar bob cyfle a thrwy'r peiriannau rhynglywodraethol presennol, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi anghofio amdanynt. 

Mae'r Torïaid yn ceisio gwadu realiti daearyddol gyda HS2 a Northern Powerhouse Rail ac yn ceisio honni y dylai prosiectau Lloegr yn unig olygu Cymru hefyd rywsut. Rwy'n ddigalon nad yw Keir Starmer wedi rhoi sicrwydd i ni y byddai'n cywiro'r anghyfiawnder hwn ac yn ad-dalu'r biliynau sy'n ddyledus i Gymru, ond beth bynnag, yn sicr mae'r llanast anghyfiawn hwn yn codi o'r ffaith bod trefniadau dros gyllid canlyniadol yn ddarostyngedig i fympwy San Steffan. A ydych yn cytuno â mi, Gwnsler Cyffredinol, y dylem sicrhau bod fformiwla Barnett neu, yn llawer gwell, fformiwla arall decach, yn cael ei hymgorffori yn y gyfraith fel nad oes rhaid inni ddibynnu ar ryw egwyddor 'hen fois da' a gobeithio y bydd San Steffan yn gwneud yr hyn sy'n iawn o ran cyllid, oherwydd, fel mae'r bennod hon a nifer o benodau eraill wedi dangos i ni, nid yw San Steffan yn gwneud yr hyn sy'n iawn i Gymru?

Wel, rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud wrth gwrs yw bod Barnett, er ei holl feiau, yn fformiwla ailddosbarthol, ac nid ydym eisiau cael gwared ar fformiwla ailddosbarthol; rydym eisiau fformiwla decach ac un sydd â chanllawiau a rheolau clir ar gyfer sut y dylai weithredu. Ni all fod yn rhywbeth sy'n ddarostyngedig i fympwy gwleidyddol Llywodraeth benodol ar unrhyw adeg benodol. Felly, rwy'n credu eich bod yn hollol iawn fod angen fformiwla newydd, fformiwla wedi'i hadnewyddu, a fformiwla sydd â statws cyfansoddiadol clir yn y ffordd y caiff ei gweithredu a'r ffordd y dylai unrhyw anghydfod dros weithrediad y fformiwla honno weithredu. 

Tribiwnlysoedd Cymru

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymateb diweddaraf Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Dribiwnlysoedd Cymru? OQ59355

Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn. Fel dywedais i yn y lle hwn yr wythnos diwethaf, rŷn ni wedi derbyn argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn eu hanfod, ac rŷn ni wedi ymrwymo i ddiwygio. Byddwn ni'n cyhoeddi Papur Gwyn yn y misoedd nesaf ac yn deddfu er mwyn gwneud y newidiadau.

14:55

Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol. Roeddwn i'n falch iawn i glywed y tribiwnlysoedd Cymreig yn cael eu trafod fan hyn yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Dyma ran bwysig o’r system gyfiawnder sy’n aml iawn yn cael ei hanghofio, ac, wrth gwrs, rhan o’r system gyfiawnder sydd wedi’i datganoli yn barod i Gymru. Yr hyn rôn i am ofyn ichi, Gwnsler Cyffredinol, yw beth yw’r amserlen ar gyfer y Papur Gwyn, a phryd ŷch chi'n gobeithio y bydd y system tribiwnlysoedd unedig a system apêl y tribiwnlysoedd—sy'n mynd i fod yn hanesyddol iawn; y system apêl gyntaf yng Nghymru ers canrifoedd—pryd ŷch chi'n gobeithio y bydd rheini'n cael eu sefydlu? Diolch yn fawr.

Wel, diolch am y cwestiwn atodol. Byddwn yn gobeithio y bydd amserlen ar gyfer Papur Gwyn ar gael yn fuan. Yn amlwg, lle'r Prif Weinidog yw gwneud datganiadau ar gyhoeddi'r rhaglen ddeddfwriaethol. Wrth gwrs, yn y papur 'Sicrhau Cyfiawnder', rydym yn cyfeirio'n benodol iawn at ddiwygio'r tribiwnlys, ac wrth gwrs, bwriad Llywodraeth Cymru yw deddfu o fewn y tymor hwn er mwyn gweithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith, yn amlwg, ar ôl ymgynghoriad y Papur Gwyn. Felly, rydym yn llawn fwriadu gwneud hynny, y byddwn yn diwygio'r tribiwnlysoedd. Rwy'n credu y bydd yn ddiwygiad cyfreithiol cyffrous a hanesyddol, gyda llawer o gyfleoedd o ran sut y gallai fod yn sylfaen embryonig ar gyfer datblygu system gyfiawnder Cymru ymhellach, ac wrth gwrs, byddaf yn gwneud datganiadau pellach heb fod yn y dyfodol rhy bell.

Datganoli Cyfiawnder

6. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd wrth baratoi ar gyfer datganoli posibl rhai neu pob un o'r swyddogaethau cyfiawnder i Gymru? OQ59335

Mae gennym nifer o brosiectau'n cael eu sefydlu i feithrin ein dealltwriaeth o'r camau nesaf ymarferol tuag at ddatganoli'r swyddogaethau cyfiawnder y credwn fod yna bosibilrwydd da y cânt eu datblygu gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol. Byddaf yn diweddaru'r Senedd ar ein cynnydd maes o law.

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol.

Nawr, wrth gwrs, nid oedd comisiwn Gordon Brown yn mynd mor bell ag y byddwn i neu chi wedi'i ddymuno ar ddatganoli cyfiawnder, ond er hynny, mae'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid yn agweddau pwysig iawn ar y system gyfiawnder. Ar gyfer hynny, mae angen inni feithrin capasiti a gallu o fewn Llywodraeth Cymru ac yn y Senedd hon i ymdrin â'r materion hynny. Gwnsler Cyffredinol, ai dyma'r amser i sefydlu gweinyddiaeth gyfiawnder Gymreig ac i mi ddod i'r Senedd hon ymhen rhai misoedd a chyfeirio atoch fel Gweinidog cyfiawnder yn hytrach na Chwnsler Cyffredinol?

Wrth gwrs, rydych yn drysu dau faes yno: rôl y Cwnsler Cyffredinol, a rolau Gweinidog cyfiawnder wrth gwrs. Yn aml iawn, maent yn swyddogaethau ar wahân ac mae'r rheini'n amlwg yn bethau i'w hystyried. Nid oes amheuaeth y bydd datganoli cyfiawnder pellach yn digwydd yn fy marn i, gan ddechrau efallai gyda'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid. Mae plismona, i raddau helaeth, bron yn gweithredu fel swyddogaeth ddatganoledig; i ryw raddau, diffyg y fframwaith deddfwriaethol i alluogi'r cydlyniant a'r hegemoni'n briodol o ran yr holl ffactorau ar gyfer gweithredu sy'n ein dal yn ôl. Ond mae'r rheini'n feysydd sydd nid yn unig yn agor y drws i ddatganoli cyfiawnder, maent hefyd, wrth gwrs, yn darparu fframwaith ar gyfer newid llwyr yn y ffordd y mae ein gwasanaethau cyfunol sy'n cyfrannu at y system gyfiawnder yn gweithredu mewn gwirionedd.

Mae'r pwynt rydych yn ei wneud ynglŷn â chapasiti yn un pwysig. Rwy'n credu bod y rhain yn bethau difrifol iawn a fydd yn cael sylw gan y Senedd nesaf, ac rwy'n gobeithio y byddant yn cael sylw mewn deddfwriaethau sydd i ddod. Rwy'n credu bod angen cynyddu nifer Aelodau'r Senedd a maint y Llywodraeth i alluogi hynny i ddigwydd, ac wrth gwrs, roedd yn un o argymhellion comisiwn Thomas. Un o'r pethau a wnaethom, yn y cyfamser mae'n debyg, wrth inni symud tuag at y sefyllfa honno, yw fy mod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, felly rydym yn cyfuno'r ddwy elfen honno, bron fel swyddogaeth gyfiawnder embryonig. Ond yn y Senedd nesaf, a chyda diwygio'r Senedd a chynyddu maint y Senedd, rwy'n credu'n sicr y bydd argymhellion comisiwn Thomas ar greu adran a gweinyddiaeth gyfiawnder, i bob pwrpas, yn dwyn ffrwyth ar y cam hwnnw.

Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

7. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r amddiffyniadau cyfreithiol y gall pobl Cymru eu colli o ganlyniad i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Llywodraeth y DU? OQ59338

15:00

Diolch am eich cwestiwn. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae effaith bosibl y Bil ar safonau rheoleiddiol ac amddiffyniadau y mae pobl Cymru yn elwa ohonynt ar hyn o bryd, a hefyd ar y setliad datganoli a sefydlwyd yn ddemocrataidd, yn niweidiol iawn. Rydym wedi ailadrodd ein pryderon yn gyson ar lefel swyddogol a gweinidogol i Lywodraeth y DU.

Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Fel y byddwch yn gwybod, mae datrys yr argyfwng natur a diogelu bioamrywiaeth yn faterion sy'n uchel ar fy agenda, ac o dan Fil cyfraith yr UE a ddargedwir Llywodraeth y DU, mae disgwyl inni weld rheoliadau ynghylch cynefinoedd, sy'n darparu amddiffyniadau i fyd natur yn erbyn bygythiadau gan ddatblygiadau adeiladu a phrosiectau eraill, yn cael eu diddymu gan y Torïaid. Felly, Gwnsler Cyffredinol, pa gyngor a roddwyd gennych i Lywodraeth Cymru ynghylch amddiffyniadau cyfreithiol i fioamrywiaeth yng Nghymru o ganlyniad i'r methiant hwn yn sgil Brexit? Diolch.

A gaf fi ddweud bod y pwyntiau rydych yn eu codi yn rhai pwysig iawn i'r trafodaethau sydd wedi digwydd, yn ddeddfwriaethol? I lawer o bobl, mae Bil cyfraith yr UE a ddargedwir Llywodraeth y DU yn swnio fel darn o ddeddfwriaeth dechnegol, ond mae'n llawer mwy peryglus mewn gwirionedd. Mae perygl y gallai gael gwared ar lawer o hawliau ac amddiffyniadau a enillwyd drwy waith caled, gan gynnwys, er enghraifft, absenoldeb rhieni, ond hefyd safonau bwyd a diogelu bywyd gwyllt, sef y pwynt rydych chi'n ei wneud, rwy'n credu. Mae ein cymdeithas, ein cymunedau, yn wynebu colli bioamrywiaeth ac ecosystemau'n methu, ac mae i hynny oblygiadau enfawr o ran ein cynaliadwyedd fel cymdeithas yn y dyfodol. Yr hyn y mae cyfraith yr UE a ddargedwir yn ei wneud yw—. Mae'r ddeddfwriaeth bresennol sydd gennym, cyfraith yr UE a ddargedwir, yn sail i nifer o'n hamddiffyniadau amgylcheddol sylfaenol ac amddiffyniadau eraill. Mae'n gwbl anghyfrifol fod y Bil sydd wedi'i gyflwyno, Bil cyfraith yr UE a ddargedwir, yn bygwth eu dileu, ac mae'n rhaid i unrhyw gynigion ar gyfer diwygio beidio â thanseilio'r amddiffyniad a roddir gan y rheoliadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wneud popeth yn ein gallu i gadw a gwella safonau yn yr holl feysydd hynny.

Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru

8. Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd fel rhan o'i waith o gyflwyno opsiynau ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru? OQ59352

Diolch am eich cwestiwn. Wrth gwrs, mae'r comisiwn yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac felly, mae sut maent yn ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch eu gwaith yn fater iddynt hwy benderfynu yn ei gylch.

Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Mae'n debyg, felly, y byddwn yn gofyn i chi beth yw eich asesiad o'r comisiwn annibynnol—neu'r comisiwn sy'n annibynnol yn ôl yr honiad—a sut y daeth i'w gasgliad mai'r unig dri opsiwn ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru yw mwy o ddatganoli, ffederaliaeth ac annibyniaeth. Hoffwn ofyn: beth am y safbwyntiau gwleidyddol eraill nad oedd y rhain yn eu cynnwys? Nawr, rydym yn gwybod bod arolygon yn dangos yn gyson fod y status quo yn opsiwn sy'n cael ei ffafrio, a bod 'diddymu' yr un mor boblogaidd ag annibyniaeth—ac nid wyf yn cytuno â'r naill opsiwn na'r llall, dylwn ychwanegu. Ond pa hygrededd y credwch a allai fod gan y comisiwn hwn pan fydd yn eithrio cymaint o safbwyntiau gwleidyddol eraill ledled Cymru? Os yw—. Os yw ei ymgynghoriad—. Os nad yw'r broses ymgynghori yn dangos bod ymgysylltiad digonol wedi bod ledled Cymru a'r farn gyhoeddus, beth yw eich asesiad o hynny?

Wel, diolch am y cwestiwn atodol. Ar yr ensyniad yn rhan gyntaf eich cwestiwn atodol, 'annibynnol yn ôl yr honiad', a gaf fi ddweud bod y comisiwn yn annibynnol? Mae ganddo gynrychiolwyr o bob lliw gwleidyddol yn ogystal â phobl nad ydynt yn perthyn i'r un lliw gwleidyddol o gwbl. Rwy'n credu ei bod yn gwbl amhriodol i ddweud 'annibynnol yn ôl yr honiad'. Mae'n annibynnol. Rhoddwyd y—[Torri ar draws.] Rhoddwyd statws annibynnol clir iddo ac mae'n anghywir i awgrymu fel arall. Nawr, yr hyn y byddwn yn ei ddweud ar eich sylwadau yw bod y comisiwn, wrth gwrs, wedi bod yn mynychu pob cynhadledd wleidyddol. Cafwyd cyfleoedd i ymgysylltu a chyfle i'r pwyntiau hyn gael eu gwneud gan bobl o bob lliw yn wleidyddol. Rwy'n deall eu bod wedi mynychu cynhadledd y blaid Geidwadol, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, a'r Blaid Lafur yn wir, i siarad am y gwaith y maent yn ei wneud. Nid oedd rhwystr na chyfyngiad o gwbl ar unrhyw beth y gellid ei ofyn. Hoffwn ofyn i bob un Aelod o'r wrthblaid hefyd, os ydynt yn teimlo yr un fath â chi, y dylent gyflwyno eu sylwadau eu hunain. Nid wyf yn gwybod; nid wyf am ofyn nawr—. Efallai y dylai unrhyw un sydd wedi rhoi cyflwyniad i'r comisiwn godi eu dwylo. Nid wyf yn gweld unrhyw ddwylo'n codi. Tybed a yw eich plaid wedi cyflwyno sylwadau. Gobeithio bod eich plaid wedi cyflwyno sylwadau.

Ond y pwynt a godwch, a sut mae'n adlewyrchu'r holl safbwyntiau y dywedwch eu bod allan yno—mae'n agored i bobl gyflwyno unrhyw sylwadau, a bydd y rheini'n cael eu hystyried gan y comisiwn. Ond nid fy lle i na lle Llywodraeth Cymru yw dweud wrthynt sut i wneud eu gwaith. Fe wnaethom osod y canllawiau, fe wnaethom ddarparu'r fframwaith y maent yn gweithredu o'i fewn, a byddant yn adrodd maes o law.

Fe adawodd yr adroddiad interim argraff fawr arnaf oherwydd, yn eithaf aml, y gwendid gydag adroddiadau interim yw eu bod yn adroddiadau interim sydd, yn y bôn, yn dweud wrthych beth fydd casgliad eu hadroddiad terfynol. Wel, ni wnaeth hwn. Gadawodd ystod hollol eang o gyfleoedd yn agored ar sut y gellir gwella democratiaeth o fewn Cymru. A gaf fi ddweud bod yna gyfle go iawn o hyd i chi gyfrannu at hyn, i roi mewnbwn iddo? Mae'n rhywbeth sydd wedi'i sefydlu gan y Senedd hon, drwy ewyllys y Senedd hon, a gobeithio y gwnewch chi roi'r clod iddi am hynny a chymryd rhan lawn ynddo.

15:05
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

9. Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â chyfraith a chonfensiynau rhyngwladol ar gydraddoldeb a hawliau dynol? OQ59333

Mae cydymffurfio â chonfensiynau cyfraith ryngwladol a hawliau dynol yn ganolog i bopeth a wnawn yng Nghymru. Nid ydym yn gweld y rhwymedigaethau hyn fel pethau ychwanegol dewisol, ond yn hytrach, rydym yn eu hystyried yn sylfaenol i weithrediad democratiaeth flaengar. Fel swyddog y gyfraith, rwy'n ystyried y rhwymedigaethau hyn yn ddifrifol iawn.

Rwy'n croesawu'r ymateb hwnnw, ac fe nodais ymateb cynharach y Cwnsler Cyffredinol i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, mewn perthynas â Bil Mudo anghyfreithlon Llywodraeth y DU, sydd â theitl addas. A gaf fi nodi pa mor rhyfedd o eironig yw hi fod Gweinidogion y DU yn tynnu sylw yn nheitl y Bil hwnnw at y ffaith bod llawer o awdurdodau rhyngwladol yn barnu bod y cynigion y maent yn eu cyflwyno yn anghyfreithlon drwy eu bod yn bygwth mynd yn groes i gyfraith a chonfensiynau rhyngwladol? Eto i gyd, nid dyma'r unig ddeddfwriaeth sy'n peri cyfyng-gyngor rhyfedd i Weinidogion y gwledydd datganoledig o gael eu gwahodd i fod yn rhan o'r swyddogaeth Weithredol, oherwydd cyfarwyddiadau gan Lywodraeth y DU, i gyflawni gweithredoedd anghyfreithlon. Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn teimlo ynglŷn â hynny, a sut mae ei gyd-Aelodau yng Nghabinet Llywodraeth Cymru'n teimlo am orfod bwrw ymlaen â phethau sy'n torri cyfraith a chonfensiynau rhyngwladol?

Wel, diolch am y cwestiwn atodol. Yn anffodus, ar gymaint o achlysuron, rydym wedi gweld hyn yn digwydd, ac rydym wedi gorfod ei drafod a'i godi yn y Siambr hon. Fe'i gwnaethom yng nghyd-destun Bil Protocol Gogledd Iwerddon, a oedd yn amlwg yn anghyfreithlon, ac wrth gwrs, rydym wedi gweld yr holl bethau blaenorol a ddaeth i ben yn y Goruchaf Lys, lle cafodd anghyfreithlonrwydd yr hyn a oedd yn digwydd yn Llywodraeth San Steffan ei herio, a hynny'n briodol. Mewn gwirionedd, yr eironi yw mai ymateb Llywodraeth y DU i'r heriau hynny oedd, 'Wel, sut y gallwn gyfyngu felly ar weithrediad y Goruchaf Lys ei hun?' Ac rydym yn gweld yn rhyngwladol beth sy'n digwydd pan fydd Llywodraethau'n ceisio tanseilio annibyniaeth y farnwriaeth a gweithrediad rheolaeth y gyfraith.

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, o ran ein cyflawniad yn y Senedd hon, a'n rhwymedigaeth o dan adran 108 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy'n ein hatal rhag pasio unrhyw reoliadau neu ddeddfwriaeth nad yw'n cydymffurfio â'r rhwymedigaethau rhyngwladol hynny, yw mai ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhan o'i chyfraith ddomestig; mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mabwysiadu egwyddorion nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig; mae hawliau plant wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, a gallwn fynd ymlaen ac ymlaen, ac fe wyddom, o ran y ddeddfwriaeth a basiwyd yn y lle hwn, fod hynny'n ailadrodd ac yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol.

A gaf fi ddweud mai'r hyn sy'n sylfaenol ofidus am y Bil mewnfudo a gyflwynwyd yn San Steffan, ac sy'n cael ei wthio drwy'r Senedd nawr, heb fawr iawn o ymgysylltiad priodol ac amser digonol i graffu arno, yw mai diben cael datganiad ar ei flaen yw i ddweud bod Deddf Hawliau Dynol 1998, y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, wedi cael ei hystyried a'i fod yn cydymffurfio â hwy, fod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio? Nid oes ffordd o osgoi hyn drwy ddweud, 'Wel, mewn gwirionedd, nid ydym yn credu ei fod yn cydymffurfio', ac ati. Rwy'n cwestiynu'n fawr a ddylid caniatáu cyflwyno deddfwriaeth os nad yw'n gallu cael datganiad gan swyddogion y gyfraith neu gan y Gweinidogion priodol i ddweud bod rhywbeth yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol. Fel arall, rydych yn cyflwyno deddfwriaeth sy'n dweud i bob pwrpas, 'Mae'r ddeddfwriaeth hon yn anghyfreithlon yn ôl pob tebyg, ond er hynny, rydym yn mynd i'w phasio.' Beth mae hynny'n ei ddweud am ddemocratiaeth seneddol a rheolaeth y gyfraith? Rwy'n credu ei fod yn ddatblygiad sy'n peri pryder mawr yn San Steffan, ac yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef o ddifrif o ran statws cyfansoddiadol y ffordd yr ymdrinnir â'r pethau hyn.

15:10
RFA Sir Galahad

10. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith Llywodraeth y DU ynglŷn â cheisiadau gan deuluoedd aelodau o'r lluoedd arfog yng Nghymru am ddadddosbarthu pob dogfen yn ymwneud ag ymchwiliad 1982 i suddo'r RFA Sir Galahad? OQ59341

Diolch am y cwestiwn penodol hwn. Mae materion amddiffyn a gweithredol yn dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ond byddwn yn annog Llywodraeth y DU i ryddhau'r holl wybodaeth mewn perthynas â'r ymchwiliad.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw ac am annog Llywodraeth y DU i ryddhau'r dogfennau hynny. Mae ymgyrchwyr wedi cysylltu â mi ar ran y teuluoedd a gollodd anwyliaid, sydd eisiau ac sy'n haeddu atebion. A wnewch chi ddefnyddio'r dylanwad nid yn unig heddiw ar lawr y Senedd, ond yn y cyfarfodydd yr ydych yn eu cael gyda Llywodraeth y DU, i'w hannog eto i fod mor dryloyw â phosibl a hefyd i ymuno â mi i alw arnynt, pan fyddwch yn cyfarfod â'r swyddogion hynny, nid yn unig ar lawr y Senedd heddiw, ond pan fyddwch yn cyfarfod â Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y DU, y dylent ryddhau'r holl ddogfennau sy'n gysylltiedig ag ymchwiliad 1982 i suddo'r Sir Galahad fel bod teuluoedd a gollodd anwyliaid a goroeswyr yn gallu cael yr atebion y maent eu heisiau'n fawr, ond y maent hefyd yn eu haeddu'n fawr? Diolch.

Wel, diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Anrhydedd fawr bob blwyddyn yw mynychu'r digwyddiad coffa ym mharc Ynysangharad mewn perthynas â'r Galahad. Mae'n ddigwyddiad teimladwy iawn, ac mae'n un y credaf ei fod yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn wrth inni gydnabod yn gynyddol beth yw gwir rôl personél y lluoedd arfog a'r aberth y mae unigolion yn ei gwneud, ac efallai fod digwyddiadau yn rhyngwladol yn gwneud hynny'n gliriach byth yn ein cof.

Rwy'n ymwybodol iawn fod swyddogion y Gwarchodlu Cymreig bellach wedi galw am ddigelu dogfennau'r Galahad, ac fel y dywedaf, nid yw'r rhain yn bethau sydd o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig, ond rwy'n credu ein bod bob amser wedi cefnogi, fel gydag Orgreave a digwyddiadau eraill, Hillsborough ac yn y blaen, cymaint â phosibl o dryloywder, didwylledd ac atebolrwydd mewn perthynas â digwyddiadau. Roedd digwyddiadau'r Galahad ym 1982, gryn dipyn o amser yn ôl, a byddai'n rhaid cael rhesymau eithriadol iawn dros beidio â digelu dogfennau. Rwy'n credu y byddem yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi digelu'r dogfennau hynny fel y gall teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau fod yn fodlon eu bod yn deall yn iawn beth a ddigwyddodd a bod unrhyw gwestiynau sydd ganddynt yn cael eu hateb yn llawn.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd y cwestiwn cyntaf yn cael ei ateb gan y Llywydd. Heledd Fychan.

Ymweliadau gan Blant a Phobl Ifanc

1. Sut mae'r Comisiwn yn sicrhau cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymweld â'r Senedd yn sgil y cynnydd mewn costau trafnidiaeth? OQ59365

Mae'r Comisiwn yn rhoi cyfle i ysgolion a cholegau o bob rhan o'r wlad i ddod i'r Senedd ar ymweliadau addysgol. Mae'r ymweliadau hyn gyda swyddog addysg yn ddwy awr o hyd, ac maent yn cynnwys taith a sesiwn addysgol yn Siambr Hywel. Mae cymhorthdal teithio o £1 y filltir ar gael os oes angen teithio dros 10 milltir i gyrraedd y Senedd. Mae'r cynllun ar waith ers dros 10 mlynedd, a chytunwyd ar y gyfradd uwch hon i ddenu ysgolion i ymweld â'r Senedd, ac mae'n uwch na'r ddarpariaeth safonol HMRC, wrth gwrs, sydd ond yn 40c y filltir.

15:15

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb hwnnw, ac rydyn ni i gyd, dwi'n siŵr, wedi bod yn rhan o ymweliadau rhagorol a gweld faint o gyfleoedd gwych sydd yna i'n plant a'n pobl ifanc ni a faint maen nhw a ni'n elwa o'r ymweliadau hyn.

Un o'r pethau sydd wedi bod yn fy mhryderu, o siarad ag ysgolion yn fy rhanbarth, ac o feddwl mai Canol De Cymru ydy'r rhanbarth, ydy bod mwyfwy yn gweld bod cost bysus yn benodol yn golygu eu bod nhw efallai yn dod â senedd yr ysgol, sef criw llai, sydd felly'n ffitio mewn dau gar, yn hytrach na rhoi cyfle i bob disgybl fedru dod. Ac felly, eisiau gofyn ydw i: oes yna asesiad wedi cael ei wneud o ran effaith cynnydd y gost sydd wedi bod mewn bysus yn benodol er mwyn sicrhau bod yna gyfleodd a'n bod ni hefyd yn pwysleisio i awdurdodau lleol pa mor bwysig ydy'r ymweliadau hyn, fel bod pawb yn elwa, nid dim ond criwiau bach o blant a phobl ifanc?

Wel, mae hwnna'n bwynt teg iawn, wrth feddwl bod y gyfundrefn sydd gyda ni mewn lle ers 10 mlynedd, fel y dywedais i, gyda'r cymorthdal o £1 y filltir ar gyfer teithio. Ond, wrth gwrs, rŷn ni'n ymwybodol iawn yn ystod y flwyddyn, 18 mis diwethaf yma fod cost trafnidiaeth a llogi bysus yn enwedig wedi mynd yn uchel iawn ar gyfer pob math o ddigwyddiadau. Felly, gwnaf i gymryd y cwestiwn rŷch chi wedi'i ofyn a gwnaf i ofyn i swyddogion i edrych i weld a oes yna batrwm gwahanol, llai, fel rŷch chi'n sôn amdano, o bosib, grwpiau llai o nifer yn dod i'r Senedd yma o ganlyniad i gost trafnidiaeth, ac fe fydd yn rhaid inni edrych ar hynny, os ydy hynny'n batrwm rŷn ni'n ei weld sydd yn amddifadu plant, o bob rhan o Gymru, rhag dod i elwa ar y profiad o ymweld â ni. Felly, diolch am y cwestiwn a gwnawn ni edrych mewn iddo fe.

Rwy'n gwybod eich bod yn cytuno â mi, Lywydd, ei bod yn hanfodol i ddemocratiaeth Cymru fod y Senedd yn hyrwyddo ei hun i bobl Cymru, ac yn enwedig i blant a phobl ifanc. Ac yn sgil costau trafnidiaeth, tybed beth arall y gallai'r Comisiwn ei wneud i sicrhau bod y Senedd yn manteisio ar ddigwyddiadau mawr, pan fyddant yn digwydd, pan fydd pobl eisoes ym Mae Caerdydd, yn enwedig ar benwythnosau. Felly, er enghraifft, rwy'n gwybod y penwythnos diwethaf fod y bae yn llawn o bobl ar gyfer y ras 10 cilomedr, a oedd yn cynnwys ras hwyl i blant, ac mae'n debyg fod y Senedd ar gau. Felly, wrth edrych ymlaen at ddigwyddiadau mawr eraill—er enghraifft, gyda choroni'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog ar y gorwel—a allwch chi gadarnhau y bydd y Senedd ar agor fel arfer ar gyfer y dydd Sadwrn a pha weithgareddau arbennig sy'n cael eu cynllunio i ddathlu'r coroni, ond hefyd i hyrwyddo ac ymgysylltu â theuluoedd dros y penwythnos hwnnw?

Wel, a gaf fi gadarnhau yn gyntaf oll fod y Comisiwn wedi gorfod cymryd y cam anffodus o orfod cau'r Senedd ar ddydd Sul oherwydd pwysau ariannol a'r alwad arnom gan Aelodau o bob rhan o'r Siambr, yn enwedig yn eich plaid chi, i edrych ar ostwng costau a gostyngiadau cyllidebol, ac felly, nid yw'r Senedd yn agored i'r cyhoedd ar ddydd Sul? Fe wyddoch, wrth gwrs, ein bod yn bwriadu lleihau ein cyllideb hyd yn oed ymhellach ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac felly, mae goblygiadau i hynny hefyd.

Pan fyddwch yn gwneud y galwadau hyn arnom, rwy'n siŵr eich bod yn gwneud y galwadau, gan ddeall y bydd angen mwy o arian i'w cyflawni ac felly, rwy'n gobeithio, pan fyddwn yn edrych nesaf ar gyllideb y Comisiwn, wrth inni fynd ymlaen dros y chwe mis nesaf, y byddwch yn meddwl wrth graffu ar y gyllideb honno, y byddwch yn meddwl beth yr hoffech chi i'r Senedd ei wneud ar sail yr hyn y bydd yn ei gostio i'r Senedd wneud hynny hefyd. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn ystyried eich dyhead chi, a fy nyhead innau hefyd, i fod ar agor saith diwrnod yr wythnos, ond mae i hynny oblygiadau o ran costau, a bydd angen inni gynyddu ein cyllideb er mwyn gwneud hynny.

Digwyddiadau ar Ystâd y Senedd

2. Sut mae'r Comisiwn yn symleiddio'r broses archebu ar gyfer cynnal digwyddiadau ar ystâd y Senedd? OQ59351

Mae'r Comisiwn yn adolygu’r broses archebu bresennol ar gyfer cynnal digwyddiadau a chyfarfodydd ar ystâd y Senedd, yn dilyn newidiadau yn nefnydd yr ystâd ar ôl y pandemig diweddar. Mae'r newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno ar unwaith yn cynnwys diwygio'r ffurflen archebu i greu categorïau ar wahân ar gyfer archebu ystafelloedd a digwyddiadau ac i fedru prosesu ceisiadau'n gynt. Bydd y ffurflen newydd yma yn cael ei threialu a'i rhoi ar waith yn ystod tymor yr haf. Mi rydym hefyd yn ymgynghori i gasglu sylwadau Aelodau ar unrhyw newidiadau posib eraill i'r dyfodol.

Diolch, Lywydd. Diolch am eich ateb. Rwy'n hapus iawn gyda'ch ateb, Lywydd. Fy mhryder yw, mae yna anhawster mawr i mi a fy swyddfa pan fyddwn yn ceisio cynnal digwyddiad yn y Senedd. Felly, yn aml, rwy'n cael gwybod bod oedi o chwe mis cyn bod modd trefnu unrhyw ddigwyddiad, ac ar adegau eraill rwy'n cael gwybod, 'Ni allwn ganiatáu'r dyddiad hwnnw am ei fod yn rhy bell i'r dyfodol.' Ond byddwn yn gwerthfawrogi ffordd lawer symlach i ASau a'u swyddfeydd allu cadw lle yn ystafelloedd cyfarfod y Senedd. Byddai'n ddefnyddiol gweld beth sydd ar gael, fel y gallwn edrych ein hunain a gwneud penderfyniadau, a'r ffordd honno, byddai'n ffordd lawer mwy didrafferth; mae'n ymddangos ei bod yn ffordd eithaf biwrocrataidd ar hyn o bryd. Ond rwy'n gobeithio y bydd modd symud ymlaen gyda'r newidiadau y sonioch chi amdanynt, Lywydd. Diolch yn fawr.

15:20

Rydym yn ymwybodol fod yna rwystredigaeth gyda'r system ar hyn o bryd ynghylch argaeledd ystafelloedd a chadw lle yn yr ystafelloedd hynny. Ac yng ngoleuni'r newidiadau sylweddol yn y modd y mae digwyddiadau a chyfarfodydd yn digwydd ac am barhau yn y dyfodol o ganlyniad i COVID, yn enwedig cyfarfodydd hybrid neu gyfarfodydd rhithiol yn rhan o'r hyn y gallwn ei gynnig nawr, yn ogystal â chyfarfodydd ar y safle, rydym yn cynnal ymarfer ymgynghori gydag Aelodau i wneud yn siŵr ein bod yn ateb dyheadau'r Aelodau am yr hyn y maent am ei weld yn digwydd ar yr ystad. Felly, gobeithio y bydd pawb yn ymgysylltu â'n swyddogion i weld beth sy'n bosibl a beth y gellir ei wneud i gyd-fynd â'r gwaith y mae'r Aelodau am ei wneud ar yr ystad.

A hefyd, y pwynt a wnaethoch yn eich cwestiwn i'w gwneud ychydig yn fwy agored i Aelodau a'u staff weld beth sydd eisoes wedi'i drefnu, ac a allwn barhau â'r syniad o wasanaeth cadw lle ar-lein ar gyfer rhai rhannau o'n hystad er mwyn dileu peth o'r rhwystredigaeth, ac i wneud y cyfan ychydig yn fwy effeithlon yn y dyfodol.

Endometriosis

3. Sut mae Comisiwn y Senedd yn cefnogi staff sy'n dioddef ag endometriosis? OQ59340

Diolch am eich cwestiwn, Jack. Mae Comisiwn y Senedd yn parhau i roi blaenoriaeth i iechyd corfforol a meddyliol ei staff—esgusodwch fi—gyda strategaeth lesiant ar waith sy'n amlinellu—esgusodwch fi—sut rydym yn cefnogi hyn.

A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am yr ateb hwnnw? A gaf fi hefyd ddiolch i Joyce Watson am ei chefnogaeth gyson i'r rhai sy'n dioddef o endometriosis a chyflyrau eraill, ac am bopeth a wnewch fel Comisiwn i hyrwyddo cydraddoldeb menywod? Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd, Ddirprwy Lywydd, i'r ymgyrchydd Beth Hales, sydd wedi cyflwyno deiseb i'r Senedd, am ei gwaith diflino a'i hymgyrchu ysbrydoledig yn y maes hwn. Mae'n Fis Gweithredu ar Endometriosis, ac fel cyflogwr, mae'n rhaid i'r Senedd fod yn fwy ymwybodol o endometriosis a chael rhagor o ddealltwriaeth o'r effaith ar weithwyr. A gaf fi ofyn ichi, Gomisiynydd, a wnewch chi geisio ymgysylltu â'r cynllun cyflogaeth endometriosis-gyfeillgar, a dod yn achrededig o dan y cynllun hwnnw o bosibl? Ac a wnewch chi edrych ymhellach hefyd ar beth arall y gall y Senedd ei wneud, ac y gall y Comisiwn ei wneud, i gefnogi staff sy'n dioddef gyda chyflyrau eraill?

Iawn, rwy'n gallu siarad nawr.

Mae gennym system ar waith lle rydym wedi hyrwyddo lles corfforol a meddyliol yn y gorffennol gydag ymgyrchoedd, ac un o'r ymgyrchoedd hynny oedd Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis y llynedd. Rydym yn cyfathrebu â staff ac yn cynnwys blog i staff yn rhannu profiadau personol o weithio gydag endometriosis, a thudalen we fewnol sy'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth benodol i'r rhai sy'n dioddef o endometriosis. Ac rydym yn gwybod bod 10 y cant o fenywod yn dioddef ac yn cael eu heffeithio gan y cyflwr hwnnw.

Ar eich cwestiwn ehangach ynglŷn ag a fyddwn yn dod yn hyrwyddwyr, rwy'n credu bod y Senedd yn eithaf da am hyrwyddo lles ei gweithlu, ond os bydd Endometriosis UK am gysylltu â ni, neu unrhyw gymdeithas arall, i helpu i'n goleuo er mwyn gwneud bywyd yn haws i bobl sydd â chyflyrau sy'n effeithio arnynt yn y gweithle, neu yn yr un modd, os oes unrhyw un yn y gweithle eisiau rhoi gwybod i ni lle gallwn wella, rydym bob amser yn agored i hynny.

15:25

Fel y dywedoch chi, Joyce, mae gan 10 y cant o fenywod endometriosis, ac roeddwn yn meddwl am hyn pan oeddwn ar yr orymdaith ddydd Sul, a sut y gallem gael trafodaethau ynghylch iechyd mislif gydag Aelodau benywaidd y Senedd a staff, oherwydd ceir llawer o bobl nad ydynt yn deall pam eu bod yn dioddef y ffordd y maent yn ei ddioddef gyda'u mislif, oherwydd nad yw pobl sy'n gweithio yma heddiw wedi cael budd o'r addysg cydberthynas a rhywioldeb rydym yn ei chyflwyno i bobl ifanc erbyn hyn. 

Rwy'n meddwl bod hwnnw'n bwynt teg, Jenny. Mae gennym lawer o wybodaeth, ond mae ar wahanol gyfnodau o fywydau menywod yn aml iawn. Nid endometriosis yn unig, ond y menopos, ffactorau eraill i wahanol bobl. Felly, rwy'n meddwl y byddai cynyddu'r wybodaeth honno lle gallwn—boed yn osod poster yn rhywle—yn beth da, a byddem yn agored i hynny.

Polisi Caffael

4. A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ynghylch y polisi caffael ar gyfer deunydd ar ystâd y Senedd? OQ59367

Mae polisi caffael y Comisiwn yn cyd-fynd ag egwyddorion datganiad polisi caffael Cymru. O ran prynu deunyddiau, bob tro y byddwn yn caffael nwyddau gwerth dros £25,000, byddwn yn cynnal asesiad risg cynaliadwyedd. Mae'r asesiad hwn yn ystyried prif effeithiau cylch bywyd y deunyddiau a brynwn.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Llywydd. Wythnos diwethaf, fe wnes i ofyn cwestiwn i’r Gweinidog amaeth ynghylch defnyddio grym caffael y Llywodraeth i ddefnyddio gwlân Cymru, er enghraifft mewn carpedi yn ein cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus. Yn yr un modd, pa ystyriaeth mae’r Comisiwn wedi’i rhoi i sicrhau bod gwlân Cymru yn cael ei ddefnyddio ar ystâd y Senedd, a bod polisi caffael yn nodi’r angen am wlân Cymru, er enghraifft, yn y ffabrig sydd i’w weld ar lawr y Siambr yma, neu ar hyd waliau’r Siambr yma, yn enwedig pan fyddwn ni’n gweld y Siambr yn ymestyn yn fwy o faint? Diolch.

Ie, dwi’n ymwybodol o’ch cefnogaeth ar gyfer y deunydd pwysig hynny, sef gwlân yng Nghymru. Dwi’n rhannu eich uchelgais chi ar gyfer y deunydd cynaliadwy iawn hynny. Dwi’n meddwl ein bod ni yn neunawfed blwyddyn y Siambr yma, ac mae’r gwlân sydd ar y welydd ac ar y llawr wedi para mor hir â hynny, sy’n dangos, wrth gwrs, pa mor dda yw’r cynnyrch yna. Fel y sonioch chi, fe fydd yna gyfnod, os bydd deddfwriaeth yn mynnu hynny, pan fydd angen ymestyn y Siambr yma ac, o bosibl, bryd hynny bydd angen rhoi ystyriaeth i weld a fydd y gwlân yn para ac angen cael ei brynu o’r newydd ar gyfer y Siambr yma. Ac os byddwn ni’n prynu gwlân bryd hynny, yna dwi’n gobeithio y bydd yn lliw mwy diddorol na’r llwyd yma a benderfynwyd arno 18 mlynedd yn ôl.

Cerbydau Trydan

5. A yw'r cynllun aberthu cyflog ar gyfer cerbydau trydan wedi cael ei gyflwyno ar gyfer staff cymorth Aelodau o'r Senedd a staff y Senedd? OQ59331

Ydy, rwy'n falch iawn o gadarnhau bod y cynllun wedi cael ei gymeradwyo'n ffurfiol ac wedi ei lansio heddiw. Mae rhagor o fanylion ar gael ar y safle mewnrwyd, a bydd gweminar ar gyfer Aelodau a staff yfory. Yn syth ar ôl toriad y Pasg, byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad ar y safle, ac yn amlwg, mae'r cynllun hwn yn cyflawni'r ymrwymiad a wnaethom yn ein strategaeth carbon niwtral i helpu i wneud cerbydau trydan yn fwy fforddiadwy. Byddant ar gael ar gyfer Aelodau, staff Aelodau a staff y Comisiwn, a bydd ystod dda o gerbydau ar gyfer yr holl raddfeydd cyflog.

Mae'n rhaid imi ddweud bod hynny wedi mynd â fy ngwynt yn llwyr. Nawr, byddaf yn disgwyl bob tro y byddaf yn gofyn cwestiwn yn y Senedd i fynnu rhywbeth, y byddai'n cael ei ddarparu ar unwaith. Felly, Weinidogion, cymerwch sylw o hynny. 

Ond o ddifrif, a gaf fi ddiolch i Ken a'r Comisiynwyr a'r holl staff am y gwaith y tu ôl i'r llenni sydd wedi'i wneud ar hyn? Ac os caf ofyn nawr am ymgysylltu gweithredol ag aelodau staff, yn enwedig aelodau staff ASau. Rydych wedi sôn am y gweminarau a'r gwaith ymgysylltu arall a fydd yn digwydd yn ystod ac ar ôl y toriad, nid yn unig i hyrwyddo manteision y cynllun o ran y nifer sy'n defnyddio cerbydau trydan, ond hefyd y rôl bwysig y gall hyn ei chwarae yn eu helpu i chwarae eu rhan fach eu hunain i wrthsefyll newid hinsawdd ac i wella ansawdd aer. A fydd yna ymgysylltu gweithredol ar hynny, Ken?

15:30

Diolch, Huw. Dylid dweud, ar-lein, ar dudalennau'r fewnrwyd, fod gwybodaeth eithaf cynhwysfawr ar gael i'r holl weithwyr, boed yn aelodau o staff y Comisiwn neu'r Aelodau eu hunain. Mae gwybodaeth hefyd gan y darparwr gwasanaeth am yr holl gerbydau sydd ar gael. Gan fod cymaint o alw am geir trydan, dylwn nodi y bydd angen amynedd ar gyfer rhai o’r cerbydau mwy egsotig a phoblogaidd, megis yr Audi e-tron. Mae cerbydau mwy diymhongar a hyfryd ar gael mewn ychydig wythnosau, fel y Funky Cat. Carwn annog pawb i edrych ar yr hyn sydd ar gael. Bydd y cynllun yn hynod bwysig wrth inni geisio annog pobl i newid i gerbydau hybrid a thrydan, ac mae ychwanegu cerbydau hybrid i'r cynnig yn helpu i ddarparu ar gyfer pobl nad ydynt o bosibl yn gallu gosod pwyntiau gwefru trydan yn eu cartrefi. Felly, rydym yn ceisio apelio at bawb, ni waeth beth fo'u hincwm neu eu hamgylchiadau gartref. Ac fel rhan o'r weminar yfory, a'r digwyddiad ar ôl toriad y Pasg, gallaf addo i chi, Huw, a'r holl Aelodau, y byddwn yn ymgysylltu'n frwd â phawb.

Twyllwybodaeth

6. Pa gamau mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i atal lledaenu twyllwybodaeth ar ystâd y Senedd? OQ59358

Mae gan y Comisiwn reolau caeth mewn perthynas â defnyddio ystâd y Senedd. Caiff pob digwyddiad ei adolygu i sicrhau eu bod yn bodloni ein gofynion, sy'n cynnwys atal gweithgareddau sy'n cael eu hystyried yn wahaniaethol neu'n dramgwyddus. Mae gan ein tîm cyfathrebu offer i fonitro'r cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol i adnabod twyllwybodaeth am y Senedd. Mae'r cynnydd mewn twyllwybodaeth yn risg, a dwi'n credu, fel Aelodau, bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i helpu i'w atal rhag lledaenu, yn ein Senedd ac yn ein cymunedau.

Diolch, Lywydd. Fe fyddwch yn cofio, rwy’n siŵr, ichi gynnal digwyddiad yn y Neuadd ar Ddydd Gŵyl Dewi i ddathlu’r cyfraniad a wnaed gan bobl sydd wedi dewis galw Cymru yn gartref, gan gynnwys pobl a oedd wedi ffoi rhag Natsïaeth pan oeddent yn blant, ac a oedd yn amlwg wedi mwynhau gweddill eu bywydau yng Nghymru. Ar yr un pryd, roedd rhywun y tu allan i ffenestri'r Neuadd yn hyrwyddo twyllwybodaeth am addysg cydberthynas a rhywioldeb, a oedd yn anffodus iawn mewn pob math o ffyrdd. Nid oedd unrhyw beth y gallai unrhyw un fod wedi'i wneud ynglŷn â'r peth ar y pryd, ond nid oedd yn dda o gwbl. Mae'n debyg y dylai'r porthorion fod wedi ymyrryd i ryw raddau ond gallaf ddeall yr anhawster o sicrhau na chawn ein gweld fel sefydliad sy'n atal gwybodaeth yr ydym yn anghytuno â hi.

Ar fater ehangach, mae gan GB News, y barnwyd eu bod wedi torri canllawiau Ofcom ynghylch brechlynnau COVID, lawer o eitemau sy’n darlledu twyllwybodaeth neu safbwyntiau atgas, ac mae’r sianel yn cael ei darlledu ar ein setiau teledu mewnol ar hyn o bryd. Tybed a roddwyd unrhyw ystyriaeth i ba mor briodol yw hi i sianel a allai barhau i ledaenu twyllwybodaeth gael ei darlledu drwy ein systemau i'n staff a'n Haelodau.

Ar ran gyntaf eich cwestiwn, roeddwn yno, a gwelais â'm llygaid fy hun y protestwyr y tu allan yn manteisio ar y ffaith mai ffenestri yw ein waliau, ac yn sicrhau bod y rhai ohonom a oedd yn eistedd y tu mewn yn gallu darllen eu placardiau. Dyna fantais ac yn anfantais ein hadeilad. Yn y foment honno, ni chredaf y gellid nac y dylid bod wedi gwneud unrhyw beth, er nad oedd yn sefyllfa arbennig o gyfforddus yn y Senedd ar y pryd.

Os caf ddod at eich ail bwynt, mae'n rhywbeth nad wyf wedi meddwl amdano o gwbl. Bydd angen imi ystyried y mater a godwyd gennych am GB News fel sianel newyddion—rwy'n credu mai sianel newyddion yw hi—sy'n cael ei darlledu yn y Senedd. Nid wyf am wneud unrhyw sylwadau ar y mater, gan nad wyf wedi rhoi unrhyw ystyriaeth iddo, ond fe wnaf ei ystyried gan eich bod wedi'i godi.

15:35
Epilepsi Ffotosensitif

7. Sut mae ystâd y Senedd yn darparu ar gyfer pobl ag epilepsi ffotosensitif? OQ59354

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn ymdrechu i fod yn Senedd sy'n hygyrch i bawb sy'n gweithio ar ein hystad neu'n ymweld â hi. Bu cynllunwyr adeilad y Senedd yn gweithio’n agos gyda grwpiau hygyrchedd i bobl anabl er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn cydymffurfio â’r arferion gorau ar gyfer hygyrchedd. Cynhelir asesiadau risg iechyd a diogelwch cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau ar y safle, ar gyfer staff sy'n defnyddio monitorau a sgriniau cyfrifiaduron, ac fel rhan greiddiol o asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer gwelliannau a gwaith ailwampio ar draws yr ystad.

Diolch. Drwy raglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal, rwy'n mentora ymgyrchydd gwych yn fy rhanbarth, Becci Smart, o bentref Coytrahen ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae Becci wedi trefnu digwyddiad rwy’n ei noddi yn adeilad y Pierhead fis nesaf i godi ymwybyddiaeth o anhwylderau cyn mislif, ac mae hefyd yn ymgyrchydd ers amser maith ar faterion epilepsi, cyflwr y mae hi ei hun yn byw gydag ef. Diben rhaglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal yw chwalu rhwystrau rhag cyfranogiad democrataidd, a gwella amrywiaeth cynrychiolaeth. Mae'n rhaid, felly, i ystad y Senedd ei hun chwarae ei rhan os yw’r Comisiwn yn cefnogi’r nodau hyn.

Mae gan Becci epilepsi ffotosensitif, sy'n golygu y gall gael trawiadau a achosir gan oleuadau sy'n fflachio. Er mwyn sicrhau mynediad cyfartal i adeiladau i bobl fel Becci, mae angen defnyddio goleuadau panel LED mewn adeiladau fel y Senedd, yn hytrach na mathau eraill o oleuadau, gan y gall eu fflachiadau achosi problemau hefyd i rai pobl awtistig a phobl sy'n cael meigryn. Gallai Comisiwn y Senedd helpu drwy sicrhau bod unrhyw oleuadau diffygiol yn cael eu diffodd cyn gynted ag y nodir nam, er mwyn sicrhau iechyd parhaus aelodau o'r cyhoedd sy’n ymweld sy’n agored i niwed, a gosod rhai newydd yn eu lle cyn gynted â phosibl, a sicrhau hefyd nad oes unrhyw fideo sy’n cael ei greu neu ei ariannu gan Gomisiwn y Senedd yn cynnwys delweddau sy'n fflachio.

A wnaiff Comisiwn y Senedd ymrwymo i roi’r camau hyn ar waith, ac ymgysylltu ag ymgyrchwyr epilepsi fel Becci i weld pa fesurau ychwanegol y gellir eu rhoi ar waith i wneud ystad y Senedd yn fwy cynhwysol?

Diolch yn fawr iawn. Mae unrhyw beth y gallwn ei wneud, ac unrhyw wybodaeth y gallwn ei chael i’n helpu i gefnogi ac annog y bobl hynny’n well, ni waeth pa gyflyrau sydd ganddynt, a rhannu’r wybodaeth honno gyda ni o fudd i ni, ac i'w groesawu'n fawr. Mae'r rhan fwyaf o'r goleuadau yn y Senedd yn oleuadau LED ar y nenfwd, ac mae'r adran reoli ystadau a chyfleusterau wrthi'n archwilio opsiynau i gael gwared ar y fflworolau stribed olaf yn ardal ddiogelwch y Senedd, ac ym mhrif neuadd y Pierhead, sef pwynt eich cwestiwn. Byddaf yn cael sgyrsiau, ac os gallwn gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad hwnnw a hwyluso’r newid hwnnw, byddwn yn sicr yn gwneud hynny. Nid oes gennym unrhyw oleuadau sy'n fflachio neu oleuadau strôb na phatrymau geometrig, ac nid oes gennym unrhyw oleuadau Nadolig, na goleuadau dros gyfnodau gŵyl, sy'n fflachio. Rydym yn defnyddio monitorau a setiau teledu sgrin fflat. Felly, rydym yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn, ond os oes mwy y gallwn ei wneud, rydym yn croesawu'r sgyrsiau hynny wrth gwrs, ac fe weithiaf gyda chi i'r perwyl hwnnw.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol a galwaf yn awr ar Gareth Davies i ofyn ei gwestiwn amserol.

Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd

1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr adran frys yn Ysbyty Glan Clwyd? TQ757

Mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn nodi gwaith caled ac ymrwymiad staff adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd, a bu rhai gwelliannau calonogol yn dilyn yr arolygiad blaenorol. Fodd bynnag, mae’n siomedig iawn nad yw llawer o’r materion wedi’u datrys yn llawn o hyd.

Rwy’n gwerthfawrogi eich ymateb y prynhawn yma, Weinidog, a hoffwn ddiolch i’r Llywydd am dderbyn fy nghwestiwn amserol y bore yma. Rwy’n falch iawn iddo gael ei dderbyn, gan fy mod wedi darllen adroddiad AGIC ar wasanaethau brys yn Ysbyty Glan Clwyd heddiw, ac rwyf wedi fy synnu. Rwy'n synnu mai dyma'r trydydd arolygiad o fewn cyfnod o 12 mis, a phrin yw'r dystiolaeth a welwn o unrhyw gynnydd ar yr argymhellion a ddarparwyd gan yr arolygiaeth. Gadewch imi nodi'n glir nad ymosodiad yw hwn ar y gweithwyr ar y rheng flaen yn yr adran, sy'n gweithio ymhell y tu hwnt i'w disgrifiadau swydd, ond diffodd tanau a wnânt, ymateb i ddigwyddiadau wrth iddynt godi, a chrynodiad uchel o gleifion sy'n ddifrifol wael, salwch staff a diffyg lle yn yr adran i ymarfer yn ddiogel. Ond pam fod staff gartref yn sâl? Ceir tystiolaeth dda fod staff gartref yn sâl am eu bod wedi'u gorweithio, o dan straen, wedi ymlâdd ac yn mynd yn sâl, ac mae'n gylch dieflig gyda'r mater heb ei ddatrys. Canlyniad hynny yw gorfod cyflogi staff asiantaeth drwy'r amser, sydd wedyn yn costio ffortiwn.

Fel y crybwyllais wrthych sawl gwaith o’r blaen yn y Siambr hon, Weinidog, mae pobl Dyffryn Clwyd, sir Ddinbych, Conwy, sir y Fflint a ledled y gogledd wedi cael digon o newyddion drwg ar ôl newyddion drwg yn y bwrdd iechyd hwn, ac maent wedi blino ar flynyddoedd a blynyddoedd o ddiffyg gweithredu a thaflu bai a diffyg atebolrwydd. Pan gyfunwch hyn â’r newyddion diweddar fod bwrdd Betsi Cadwaladr wedi ei wneud yn destun mesurau arbennig unwaith eto yn ystod y mis diwethaf, gyda chadeirydd y bwrdd ac aelodau annibynnol wedi eu gorfodi gennych i ymddiswyddo, yn hytrach na'r swyddogion gweithredol, prin y gallwch feio fy etholwyr am deimlo fel hyn. Ond hoffwn fod yn adeiladol gyda chi heddiw, Weinidog. Gan eich bod bellach wedi goroesi’r bleidlais o ddiffyg hyder yr wythnos diwethaf, ac wedi cael cefnogaeth a mandad gan y Prif Weinidog, rwyf am ichi ddod o hyd i ffordd allan o’r sefyllfa rydym yn ei hwynebu ar hyn o bryd yn y gogledd, a datrys rhai o’r problemau cronig hyn ym mwrdd Betsi Cadwaladr. Bydd hynny’n helpu pawb: fy etholwyr, cleifion, staff a’r diwylliant cyffredinol o fewn y bwrdd.

Mae gennyf rai cwestiynau yn fy nghwestiwn atodol yr hoffwn eu gofyn i chi y prynhawn yma os caf, Weinidog. Pa gyfathrebu rydych wedi’i wneud gyda chadeirydd newydd bwrdd Betsi Cadwaladr hyd yn hyn ynglŷn â’r mater hwn yn Ysbyty Glan Clwyd? A ydych chi'n fodlon fod ei nodau a’i amcanion ef a’r bwrdd newydd yn cyfateb i anghenion y problemau yn yr adran achosion brys? Rwy’n ymwybodol eich bod yn anfodlon eich hun â maint strwythurol presennol yr adran achosion brys—[Torri ar draws.]

15:40

Mae gennych un cwestiwn, i bob pwrpas, nid llwyth o gwestiynau, felly a fyddech cystal â chadw pethau mor fyr â phosibl, iawn?

Iawn. Rwy'n ymwybodol o'r materion strwythurol sydd gennych gyda'r adran, felly pa drafodaethau a gawsoch gyda'r tîm ystadau i wneud y mwyaf o'r capasiti hwnnw a chreu amgylchedd gwaith diogel i'r holl staff a chleifion?

Gyda’r problemau salwch staff yn yr adran, pa gyswllt rydych wedi’i gael gyda’r swyddogion gweithredol a’r adrannau gweithredol unigol i wella problemau a diwylliant staff yn y bwrdd? Efallai y byddwch yn dweud nad yw'r gallu i gyflawni hyn yn eich dwylo chi, ond gadewch inni gofio, Weinidog, fod y bwrdd iechyd bellach o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, felly mae mynd i’r afael â rhai o’r materion mewnol hyn yn rhan o'ch cylch gwaith chi a’ch adran, ac mae cysylltu â'r holl adrannau perthnasol yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon.

Pa asesiad y mae’r Gweinidog yn ei wneud o’r system frysbennu fewnol yn yr adran achosion brys i ystyried trawiadau ar y galon, strôc a sepsis, sy'n galw am driniaeth gyflym, yn hytrach nag amseroedd aros o hyd at ddwy awr? Pa lwybrau clinigol cymeradwy posibl a nodwyd gennych, mewn egwyddor ac yn ymarferol, wrth ymweld â safleoedd ysbytai, y gellid eu rhoi ar waith fel ateb i’r broblem hon? Ac yn olaf, Weinidog, a ydych chi wir yn credu—[Torri ar draws.]

Diolch yn fawr iawn. A ydych chi wir yn credu bod gan yr adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd botensial, yn hirdymor, i wella a bod mewn sefyllfa yn y dyfodol i leihau amseroedd aros a bod yn wasanaeth dibynadwy i gleifion yng ngogledd Cymru yn y dyfodol?

Rwy’n derbyn eu bod yn gwestiynau technegol, Weinidog, ond rwy'n gobeithio eu bod hefyd o gymorth i chi lunio syniadau i wella’r sefyllfa, gan fy mod wedi cael fy ethol gan fy etholwyr ar y sail y byddai'r sgiliau technegol a gefais yn fy amser yn y GIG yn effeithiol ac yn ddylanwadol i Weinidogion. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, nid wyf yn fodlon ar y cynnydd a wnaed yn Ysbyty Glan Clwyd, ac yn amlwg, cefais olwg ar yr adroddiad hwn cyn i mi eu gwneud yn destun mesurau arbennig. Roeddwn yn bryderus iawn, ac roedd yn un o nifer o ffactorau a achosodd imi weithredu fel y gwneuthum.

Mae staffio'n broblem wirioneddol. Nid yw’n broblem yn Ysbyty Glan Clwyd yn unig; mae'n broblem ledled y byd. Roeddwn mewn cynhadledd yn Nenmarc yn ddiweddar, ac roedd y gynhadledd gyfan yn ymwneud â pha mor anodd yw recriwtio pobl i’r gwasanaeth iechyd. Rwyf wedi bod yn siarad, heddiw, â chyfarwyddwr meddygol bwrdd Betsi Cadwaladr am ba gyfleoedd sydd ar gael i wella cyfleusterau staffio a recriwtio mwy o bobl i fwrdd Betsi Cadwaladr, ond yn benodol, i weld beth arall y gallwn ei wneud mewn perthynas â darparu cymorth ychwanegol yn Ysbyty Glan Clwyd.

Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi uwchraddio statws y cyfleuster penodol hwn o ymyrraeth wedi'i thargedu i fesurau arbennig; mae hynny'n golygu, yn amlwg, gyda'r mesurau arbennig, y byddwn yn dod yn fwy cyfarwyddiadol. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall nad yw hynny’n golygu ein bod yn rhedeg y bwrdd iechyd. Felly, mae’n wirioneddol bwysig fod pobl yn deall mai’r cadeirydd a’r prif weithredwr sy’n dal i fod yn gyfrifol am redeg y bwrdd iechyd; nid fi sy'n rhedeg y bwrdd iechyd. Mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall mai'r hyn rydym yno i'w wneud yw sicrhau ein bod yn eu cefnogi a'n bod yn dod yn gyfarwyddiadol ynghylch ein disgwyliadau.

Credaf ei bod yn bwysig iawn inni geisio sicrhau bod pobl yn deall bod y rhan fwyaf o bobl sy’n cael gofal, hyd yn oed yn yr adran achosion brys hon, yn dal i gael gofal da a phrofiad da, ond mae gormod o bobl nad ydynt yn cael y profiad da hwnnw. Un o'r pethau rwyf wedi bod yn awyddus iawn i'w gwneud yw sicrhau ein bod yn rhoi mwy o gymorth i ofal brys a gofal argyfwng, a dyna pam ein bod wedi clustnodi £25 miliwn ledled Cymru. Ond yn ogystal â hynny, gwnaed dyraniad penodol o £418,000 i adrannau brys ym mwrdd Betsi Cadwaladr, oherwydd fy mod yn deall nad yw hyn yn mynd i ddiflannu yn yr ystyr fod y galw'n gyson. Yn amlwg, mae gennym lawer o waith i'w wneud ar lif cleifion, ond rwyf am i bobl gael amser mwy dymunol wrth aros nag y maent yn ei gael ar hyn o bryd, a dyna pam ein bod yn rhoi hyblygrwydd a chymorth ychwanegol i'r cyfalaf a’r seilwaith mewn adrannau achosion brys.

Yn amlwg, mae llawer o waith i'w wneud ar ddiwylliant staff mewn perthynas â'r hyn sy'n digwydd yn yr adran achosion brys. Rwy'n siŵr fod yno lawer iawn o bobl alluog; mae yno bobl sy'n gweithio'n galed iawn. Ond hefyd, credaf ei bod yn bwysig nodi bod yr adroddiad hwn yn awgrymu nad oedd rhai o’r staff bob amser yn garedig ac yn gwrtais tuag at gleifion, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym ymagwedd dim goddefgarwch mewn perthynas â hynny. Mae’n amlwg fod angen i bethau newid mewn perthynas â'r diwylliant yn Ysbyty Glan Clwyd, ac yn enwedig yn yr adran achosion brys. Y tro hwn, rwy'n gobeithio y bydd y bwrdd iechyd yn rhoi sylw i’r adroddiad ac na fyddwn yn gweld adroddiad gwael arall gan AGIC.

15:45

Dyma ni eto, onid e—adroddiad damniol arall. Rydyn ni'n sôn am archwiliad oedd wedi rhoi adran frys Ysbyty Glan Clwyd ym mis Mai y llynedd o dan y dynodiad o fod yn wasanaeth o fod yn wasanaeth sydd angen ei wella yn sylweddol. Gadewch inni fod yn glir: dyma ydy'r haen uchaf o gonsyrn sy'n gallu cael ei godi. Ni allai dim byd fod yn fwy o ysgytwad, siawns, i Lywodraeth weithredu i sicrhau bod pethau yn gwella yn sylweddol.

Mi allwn ni edrych ar yr ochr bositif, a nodi bod yr adroddiad diweddaraf yma, ar ôl yr archwiliad diweddaraf, yn dweud bod pethau wedi gwella rhywfaint erbyn hynny, ond beth rydyn ni'n ei ddarllen, mae gen i ofn, ydy—a dwi'n dyfynnu—mai 'mân welliannau' ydy'r gwelliannau hynny. Rwy'n gobeithio fy mod i'n dyfynnu'r Gweinidog yn iawn pan ddywedodd hi: 

'[nad] yw llawer o’r materion wedi’u datrys yn llawn o hyd'.

Wel, nid ddim wedi cael eu datrys yn llawn mae'r materion yma; mân welliannau sydd wedi bod o gwbl. Mae un frawddeg sydd yn fy nharo i, sef, 'Bu'n rhaid i arolygwyr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru roi cymorth i un claf oedd angen help ond lle doedd yr un aelod o staff i'w gweld'. Pa mor ofnadwy ydy hynny—bod arolygwyr nid yn unig yno yn gallu gweld y diffygion, ond eu bod nhw'n gorfod camu i mewn i helpu? Mae o'n frawychus. 

Drwy'r cyfan, mae'r staff yn cael eu canmol, ac rydyn ni, fel Senedd yma heddiw, yn gallu canmol y staff. Mae eu perthynas nhw efo rheolwyr lleol yn cael ei chanmol hefyd; mae'n werth nodi hynny. Y broblem, a'r hyn rydyn ni'n gorfod gofyn eto heddiw ydy cwestiynau o'r uwch reolwyr hynny—y pwyllgor gweithredol—llawer ohonyn nhw sydd â'u diffyg dealltwriaeth nhw, rwy'n meddwl, o broblemau Betsi Cadwaladr yn deillio o'r ffaith eu bod nhw'n bell yn gorfforol, yn ogystal ag o ran lefel deallusrwydd o'r problemau ac o sefyllfa Betsi Cadwaladr—llawer ohonyn nhw yn swyddogion interim wrth gwrs. Rŵan, y cwestiwn ydy: pam bod y Llywodraeth wedi gadael i bethau lithro ymlaen mor hir? Copi ydy hwn o adroddiad o naw mis ynghynt. Os mai rhoi y bwrdd mewn mesurau arbennig oedd yr ateb, pam aros naw mis? Ond, rŵan eich bod chi, fel Llywodraeth, â gafael ar y bwrdd drwy'r mesurau arbennig yma, pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd i wneud yn siŵr bod y problemau o ran y staffio yn cael eu datrys—bod yna olwg o'r newydd ar sut i fynd i'r afael â phroblemau rotas y staff ac ati?

Yn anffodus, beth sydd gennym ni fan hyn ydy bwrdd sydd wedi dangos dro ar ôl tro ei fod o wedi torri a Llywodraeth sydd yn methu mynd i'r afael â'r sefyllfa trwy gymryd y camau dewr—cymryd y camau pellgyrhaeddol o roi dechrau o'r newydd inni yn Betsi Cadwaladr. Gall y Gweinidog ddim defnyddio cost fel esgus i beidio ag ad-drefnu oherwydd mae wedi costio mwy i drio rhoi trefn ar bethau a methu, a gall y Gweinidog ddim defnyddio fel esgus y ffaith y byddai hynny'n disruptive. Does yna ddim byd mwy disruptive na'r diffyg hyder yma—y diffyg ffydd sydd gan bobl a staff Betsi Cadwaladr rŵan yn y gallu i droi pethau rownd. Gadewch inni gael ddechrau ffres. A wnaiff y Gweinidog gytuno, neu gytuno i'n cwestiwn ni eto heddiw yma i roi cynllun B at ei gilydd achos mae gen i ofn fod hyder pobl yn plan A—cario ymlaen efo Betsi—wedi hen orffen?

15:50

Wel, dwi'n meddwl bod y Llywodraeth wedi gweithredu—rŷn ni wedi camu i mewn; rŷn ni wedi rhoi cyfle i'r bwrdd i weithredu, a beth welsom ni oedd ddim y math o welliannau y byddem ni'n disgwyl eu gweld. Dyw'r adroddiad yma ddim yn dderbyniol. Mae'r adroddiad yn canmol y staff i raddau. Mae rhai ohonyn nhw yn feirniadol o rai o'r staff ac mae'n bwysig ein bod ni'n cadw llygad ar hynny achos mae hwnna'n rhan o'r diwylliant sydd rhaid newid, yn arbennig yn Ysbyty Glan Clwyd. Dwi'n cytuno bod angen inni edrych ar beth yw rôl yr uwch reolwyr yn fan hyn a dwi'n gwybod bod y cadeirydd newydd yn edrych i mewn i'r pethau yma.

O ran staffio, dwi'n falch o ddweud eu bod nhw nawr mewn sefyllfa lle mae dau consultant newydd yn yr adran, felly mae e lan i'r full complement o ran beth sy'n ddisgwyliedig mewn emergency department. Hefyd, rŷn ni wedi gweld recruitment ar gyfer bands 4, 2 a 5, a nawr beth sy'n digwydd yw bod sesiynau misol yn digwydd lle mae rheolwyr yn gwrando ar y gofidion sydd gan staff ac yn gwneud yn siŵr bod gyda staff gyfle i ddweud beth sydd yn eu poeni nhw.

Rhannaf y syndod at y ffaith bod gennym adroddiad arall eto fyth ger ein bron sy’n ailadrodd llawer o’r un pryderon ag a welsom ddwywaith o’r blaen. Nodaf fod yr arolygiad hwn gan AGIC wedi'i gynnal ym mis Tachwedd y llynedd. Pam ar y ddaear ei bod wedi cymryd cymaint o fisoedd i’r adroddiadau hyn weld golau dydd? Ac mae'n ddigon posibl y bydd y Gweinidog yn dweud bod gwelliannau wedi bod, ac yn wir, ymddengys bod rhai gwelliannau wedi digwydd, yn sicr o ran cadw cofnodion, ond fe wyddom, o'n bagiau post ein hunain, fel Aelodau lleol o'r Senedd, fod problemau enfawr yn yr adran achosion brys honno o hyd. Yr wythnos hon, cysylltodd etholwr â mi i ddweud bod eu gŵr wedi'i gludo i Ysbyty Glan Clwyd mewn ambiwlans mewn cyflwr difrifol, ac na chafodd ei weld gan feddyg, i gael ei archwilio, am 28 awr—dros ddiwrnod. Mae hynny’n amlwg yn annerbyniol, ac o bosibl, wedi rhoi’r gŵr hwnnw mewn perygl difrifol o niwed.

Nid yw'r sefyllfa'n gwella o safbwynt y cleifion. Ymddengys ei bod ond yn gwaethygu. Hoffwn weld y gwelliannau hyn yn cael eu rhoi ar waith. Mae’n amlwg iawn yn yr adroddiad nad oedd y staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, a, dyfynnaf o’r adroddiad,

'[nid] oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan uwch-reolwyr y bwrdd iechyd.'

Rhain yw'r uwch-reolwyr rydych chi, Weinidog, wedi caniatáu iddynt gadw eu swyddi. Pryd y bydd gennym GIG atebol fel bod pobl fel hyn, sy'n methu datrys problemau hirsefydlog yn yr adran achosion brys—pryd y cânt eu diswyddo? Mae angen inni gael gwared arnynt. Ni fyddwn yn gweld gwelliannau cyn iddynt adael. Mae'n annerbyniol ac mae fy etholwyr ac eraill yn y gogledd yn haeddu llawer gwell na hyn.

Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, nid fy adroddiad i yw hwn i'w gyhoeddi, ond adroddiad AGIC, a hwy yw'r bobl sy'n pennu'r amserlen ar gyfer hynny. Edrychwch, rwy’n cydnabod bod problemau difrifol iawn o hyd, yn enwedig mewn perthynas ag Ysbyty Glan Clwyd, ac yn enwedig mewn perthynas â’r adran achosion brys. Dyna pam fy mod wedi cael trafodaethau difrifol gyda'r cyfarwyddwr meddygol i ofyn beth yn union sy'n cael ei roi ar waith. Wrth gwrs ei bod yn annerbyniol os nad yw rhywun yn gweld meddyg am gymaint o amser. Mae brysbennu, wrth gwrs, yn bwysig iawn, ond mae yna adegau pan fydd brysbennu'n cymryd gormod o amser hefyd.

Mae’n ddiddorol i mi ei bod yn ymddangos bod problem benodol yma gyda’r adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd, gan imi ymweld â’r adran achosion brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ddiweddar, ac roedd i'w gweld yn llawer mwy trefnus a than reolaeth, roeddent yn gwybod beth oeddent yn ei wneud, ac roedd mewn sefyllfa lawer gwell. Felly, un o'r pethau y credaf y dylem eu hannog yw dysgu arferion gorau gan yr adrannau brys eraill sy'n gweithio'n well ym mwrdd Betsi Cadwaladr.

Nid wyf yn gwybod sawl gwaith y gallaf ddweud hyn: nid oes gennyf allu i ddiswyddo pobl nad wyf yn eu cyflogi. Ni allaf ddiswyddo swyddogion gweithredol, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall y bydd y cadeirydd yn amlwg yn edrych ar yr hyn sydd angen ei wneud yn y maes hwn, a gwn ei fod yn edrych o ddifrif ar hynny.

15:55
5. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd Gemau Trawsblaniadau’r Byd yn cael eu cynnal am y pedwerydd tro ar hugain fis nesaf yn Perth, Awstralia. Ers cynnal y gemau cyntaf yn Portsmouth ym 1978, maent wedi cael eu cynnal ledled y byd, yn ddathliad o'r rhodd o ail gyfle i fyw, yn arddangosiad o lwyddiant llawdriniaethau trawsblannu, a hyrwyddo'r angen i godi ymwybyddiaeth o roi organau a meinweoedd, ac yn ysbrydoliaeth i dderbynwyr trawsblaniadau, rhoddwyr, teuluoedd a chefnogwyr.

Mae'r rhaglen saith diwrnod yn cymysgu chwaraeon heriol a llai heriol gyda digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol. Eleni, bydd 2,500 o gystadleuwyr o dros 60 o wledydd yn cymryd rhan, gan gynnwys Cerys O'Connell, merch 14 oed ysbrydoledig o Aberpennar. Pan oedd yn bedair oed, cafodd Cerys ddiagnosis o anemia aplastig difrifol. Yr unig driniaeth ar gyfer y cyflwr hwn, a all fod yn angheuol, oedd trawsblaniad mêr esgyrn. Yn ffodus, roedd gwaed ei chwaer Megan yn cydweddu, ac yn dilyn cemotherapi dwys, cafodd Cerys ei thrawsblaniad yn 2013.

Nid yw hyn wedi atal Cerys rhag bod yn nofiwr cystadleuol brwd. Ar ôl ennill tair medal aur a medal arian dros Gymru yng Ngemau Trawsblaniadau Prydain y llynedd, cafodd Cerys ei dewis yn rhan o dîm Prydain. Roedd angen i Cerys godi arian i dalu am gost ei thaith, ac rwy'n falch o ddweud iddi chwalu ei tharged JustGiving, diolch i haelioni pawb a gyfrannodd. Pob lwc i Cerys a thîm Prydain.

Yr wythnos hon yw Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd, sy'n ceisio helpu i newid agweddau tuag at bobl awtistig a’u teuluoedd. Fel rhan o'r flwyddyn a oedd yn nodi 60 mlynedd ers ei sefydlu, bu’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn cydweithio â phobl awtistig i greu gweledigaeth o gymdeithas sy’n gweithio iddynt hwy. Drwy gyfweliadau, gweithdai, y cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau creadigol dieiriau, gwahoddodd yr elusen bobl awtistig, eu teuluoedd ac arbenigwyr ar y pwnc i ddisgrifio byd sy’n gweithio i bobl awtistig.

Mae'r adroddiad a gynhyrchwyd yn sgil hynny, 'The Moonshot Vision', yn amlinellu pum realiti allweddol ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â cherrig milltir tymor byr, canolig a hir. Canfu fod cymdeithas sy’n gyfeillgar i awtistiaeth:

'Yn gwerthfawrogi unigolion awtistig. Yn deall ac yn gwerthfawrogi beth yw awtistiaeth a sut mae'n unigryw i bob unigolyn'.

Ac mae:

'Yn gwneud y mwyaf o bŵer awtistig'.

Mae’n grymuso pobl awtistig:

'i reoli'r modd y maent yn byw eu bywydau ac yn gwneud cyfraniadau nodedig sy'n dylanwadu ar y byd'.

Mae hefyd:

'Yn gwarantu cymorth. Yn darparu diagnosis, cefnogaeth a gofal di-dor i bobl awtistig o bob cefndir, ar bob adeg o angen drwy gydol eu hoes.

'Yn addasu mannau cyhoeddus a gwasanaethau'.

Ac mae'n sicrhau eu bod

'yn gynhwysol, gydag addasiadau hyblyg sy’n cydnabod nad yw pob unigolyn awtistig yn ffafrio’r un pethau’.

Ac mae:

'Yn rhydd o wahaniaethu. Yn gwrthod stereoteipiau a stigma, yn cael gwared ar y disgwyliad i guddio, a ddim yn derbyn bod rhaid ffitio i mewn'.

Mae o leiaf un o bob 100 o bobl yng Nghymru ar y sbectrwm, felly mae’n hollbwysig fod pob un ohonom yn ystyried y rhan y gallwn ei chwarae i wireddu’r weledigaeth uchelgeisiol hon. Diolch yn fawr.

16:00

Y Dinesydd yn 50 oed: pleser mawr i fi yn y Senedd yma yw nodi hanner canrif ers sefydlu’r papur bro cyntaf yng Nghymru, ac hynny yn ein prifddinas fan hyn. Gweledigaeth yr annwyl Mered oedd Y Dinesydd, ac roedd nifer o Gymry amlwg yn rhan annatod o'r Dinesydd ar y cychwyn, gan gynnwys yr hynod weithgar Shân Emlyn, yr unigryw David Meredith, a’r newyddiadurwr profiadol Vaughan Hughes. Yng nghanol prysurdeb eu bywydau bob dydd, mae llu o wirfoddolwyr wedi gweithio’n ddyfal ac yn aml yn hollol ddiddiolch i sicrhau bod Y Dinesydd yn dathlu hanner canrif. Gwireddwyd y freuddwyd yn y rhifyn cyntaf o gyfoethogi bywyd Cymraeg y brifddinas ac i ddod â Cymry Cymraeg at ei gilydd. Fe arweiniodd sefydlu’r Dinesydd at bapurau bro ledled Cymru a thu hwnt—ac, os ŷch chi'n meddwl ble mae'r 'tu hwnt', Yr Angor yn Lerpwl, dan olygyddiaeth D. Ben Rees, yw'r 'tu hwnt'—dros 59 o bapurau bro bellach, gan gynnwys Llais Ogwen, yr ail i cael ei sefydlu yn Hydref 1974, Tafod Elai yn ardal Pontypridd, Clochdar yng Nghwm Cynon a’r Gloran yng Nghwm Rhondda. Mae Caerdydd wedi elwa ar hyd y blynyddoedd o Gymry Cymraeg yn symud i’r brifddinas. Dyma, yn sicr, un enghraifft o leiaf o gyfraniad Caerdydd i fywyd Cymraeg ein gwlad. Prynwch, gyfeillion, y bumper edition mis nesaf. Diolch yn fawr.

6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog—Pleidleisio drwy ddirprwy

Eitem 6 y prynhawn yma yw’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, pleidleisio drwy ddirprwy, a galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Siân Gwenllian.

Cynnig NDM8240 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Pleidleisio Drwy Ddirprwy', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2023.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i siarad y prynhawn yma ar fater sy'n arwydd o gam pellach ar y llwybr at greu Senedd fodern, flaengar, gynhwysol, y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni hi. Mae’r Pwyllgor Busnes, ym marn y mwyafrif, wedi cytuno i gynnig nifer o newidiadau i gynllun pleidleisio drwy ddirprwy y Senedd. Mae’r Pwyllgor Busnes yn cynnig y newidiadau yma er mwyn diogelu’r opsiynau sydd ar gael i Aelodau yn y dyfodol, ac fel bod gan Aelodau sy’n absennol o’r trafodion, am resymau amrywiol, y modd i fynegi eu barn ar benderfyniadau gerbron y Senedd.

Mi oedd y darpariaethau dros dro cyfredol yn cynnwys absenoldeb rhiant, ond absenoldeb rhiant yn unig, ac mi ges i brofiad uniongyrchol o hyn, a chael dirprwyo pleidlais ar ran Adam Price yn y Senedd ddiwethaf, ac fe wnaeth Dai Lloyd ar ran Bethan Sayed hefyd. Felly, mae’n dda heddiw fod y Pwyllgor Busnes bellach yn cynnig bod y darpariaethau hyn yn cael eu gwneud yn rhai parhaol, ac, wrth wneud hynny, rydym ni hefyd yn cynnig bod hyd y pleidleisio drwy ddirprwy at y diben hwn yn cael ei ddiwygio i gyfnod o saith mis ar gyfer y ddau bartner.

Mae’r Pwyllgor Busnes hefyd yn cynnig bod y Senedd yn cytuno i ymestyn y bleidlais drwy ddirprwy i gynnwys achosion pan fo Aelod yn absennol o’r Senedd oherwydd rhesymau eraill—tri rheswm arall yn benodol. Yn gyntaf, yn absennol oherwydd salwch hirdymor neu anaf; yn ail, yn absennol oherwydd cyfrifoldebau gofalu, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo fo neu hi fod yn absennol o’r Senedd; ac, yn drydydd, am resymau profedigaeth.

Mae’r Pwyllgor Busnes yn cynnig bod pleidlais drwy ddirprwy am absenoldeb oherwydd salwch neu anaf hirdymor neu am resymau cyfrifoldebau gofalu yn un fyddai'n para am o leiaf bedair wythnos, ac uchafswm o chwe mis. Pe bai Aelod yn absennol oherwydd profedigaeth, mae hyd y cyfnod pleidleisio drwy ddirprwy i’w gytuno rhwng yr Aelod a’r Llywydd. Mi fyddai’r newidiadau arfaethedig yma yn sicrhau bod y darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy yn y Senedd yma yn mynd tu hwnt i'r darpariaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn unrhyw un o Seneddau eraill y Deyrnas Unedig. Dwi'n falch iawn o hynny, ac mae o'n arwydd clir o'n parodrwydd ni yma yng Nghymru i greu gweithle gofalgar a chynhwysol yn ein Senedd genedlaethol.

Mae'r pwyllgor hefyd yn cynnig y dylai'r Llywydd gadw'r disgresiwn i amrywio'r trefniadau pan fydd angen, er mwyn ymateb i amgylchiadau unigol. Mae'r pwyllgor hefyd o'r farn y dylai pleidleisio drwy ddirprwy gael statws cyfartal â phleidlais a fwriwyd gan Aelod yn uniongyrchol, ac, o'r herwydd, mae'n cynnig bod y cyfyngiadau ar y mathau o bleidleisiau yn cael eu dileu, a bod hawl i bleidleisio drwy ddirprwy ym mhob math o bleidleisio yn y Cyfarfod Llawn ac yn y Pwyllgor o'r Senedd Gyfan.

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i adolygu'r darpariaethau hyn cyn diwedd y chweched Senedd, felly dwi'n gofyn i chi gymeradwyo'r newidiadau yma i'r Rheolau Sefydlog.

16:05

Rwyf eisiau siarad yn erbyn y cynigion sydd ger bron y Senedd heddiw, nid oherwydd nad wyf yn cefnogi'r angen i hwyluso absenoldeb tymor byr a hirdymor i rieni, i'r rhai sy'n sâl neu wedi'u hanafu neu sydd â chyfrifoldebau gofalu neu oherwydd profedigaeth, ond oherwydd bod gennym system sydd wedi gwasanaethu'r Senedd hon ers dros ddau ddegawd, sydd wedi gweithio'n eithriadol o dda i ddarparu absenoldeb at y dibenion hynny. Yr enw arno yw'r system baru. Mae wedi gweithio mewn seneddau ers cannoedd o flynyddoedd, gan gynnwys yma yn y Deyrnas Unedig, ac yn wir, mae wedi bod o fudd mawr iawn i ni yng Nghymru.

Rwy'n meddwl ei bod hi'n werth cydnabod nad cyflogeion ydym ni; fel Aelodau o'r Senedd, rydym yn gynrychiolwyr etholedig. Cawn ein hethol i swydd gyhoeddus, ac nid wyf yn credu bod ceisio ein cymharu â chyflogeion yn y ffordd sy'n cael ei chynnig gan y diwygiadau hyn, os mynnwch chi, drwy roi hawliau penodol i Aelodau gael pleidleisio drwy ddirprwy, yn beth priodol i'w wneud. Felly, er fy mod yn llwyr gefnogi'r angen i hwyluso absenoldeb i rieni pan fydd ei angen arnynt, i'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu, ac i'r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth, rwy'n credu y gellir cyflawni'r pethau hynny ac maent wedi cael eu cyflawni'n llwyddiannus drwy'r system baru, ac am y rheswm hwnnw, rwy'n annog yr Aelodau heddiw i bleidleisio yn erbyn y cynigion diangen hyn.

Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Busnes, ac rydym wedi trafod y materion hyn o'r blaen, gan gynnwys safbwynt Darren Millar fod y system baru'n cyflawni'r pethau y ceisiwn fynd i'r afael â hwy. Nid yw'n mynd i'r afael â'r materion hynny nac yn cyflawni'r materion hynny i rywun fel fi, sy'n Aelod unigol. Ni allaf baru ag Aelod arall am gyfnod hir, oherwydd bydd yna adegau gwahanol ar gyfer pleidleisiau gwahanol. Felly, nid yw'n gweithio i Aelodau unigol, ac wrth symud ymlaen, mewn Senedd wedi’i hehangu, efallai y bydd gennym ragor o Aelodau unigol. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig hwn. Mae'n dod â ni i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. Bydd yn gwneud yn siŵr fod pobl sy'n ofalwyr, sy'n rhieni, sy'n ddarpar rieni, a'r rhai sy'n dioddef afiechyd, yn cael cyfle i gael amser gan y Senedd pan nad oes angen iddynt boeni am gynrychiolaeth neu am fusnes y Senedd. A dyna sut y dylai Senedd dosturiol, ofalgar fod. Felly, rwy'n croesawu'r cynnig hwn. Mae'n ymwneud â bod yn Senedd fodern, ac rwy'n eich annog i gyd i gefnogi cynnig y Pwyllgor Busnes yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, ac mi wnaf i ymateb i'r sylwadau ynglŷn â'r paru, achos dyma sydd wedi cymryd sylw yn y Pwyllgor Busnes hefyd. Trefniant anffurfiol ydy paru, wrth gwrs, lle mae Aelodau yn gallu paru a'r ddau yn peidio â phleidleisio o gwbl, felly does yna ddim cofnod o'u pleidlais nhw. Mae gwneud pleidlais drwy ddirprwy yn galluogi'r Aelod yna i gofnodi pleidlais drwy berson arall yn cofnodi drostyn nhw, felly mae o'n fwy democrataidd, yn fy marn i. Mae paru yn arferiad, ydy, ond dydy o ddim yn digwydd drwy'r amser. Mae o'n arferiad, dwi'n credu, yn y Senedd yma, fod y Llywodraeth a'r wrthblaid yn gallu gwneud trefniadau paru, ond, yn y Senedd diwethaf, doedd Aelodau Plaid Cymru ddim yn paru. Erbyn hyn, mi ydym ni. Oherwydd y cytundeb cydweithio, mae yna drefniadau paru ar waith. Ond dydy o ddim yn dilyn bod paru yn digwydd ymhob achlysur ac, wrth gwrs, pan fo gennyt ti Aelod unigol, wel dydy hynny efallai ddim yn mynd i fod yn bosib, er, wrth gwrs, mae modd gofyn am baru hynny hefyd. Dwi'n credu mai sôn ydym ni yn fan hyn am pan fo Aelodau i ffwrdd am gyfnod estynedig. Mae paru yn dal yn mynd i fedru bod yn arferiad ac yn gallu digwydd o wythnos i wythnos, ond pan fo angen i Aelod fod i ffwrdd am gyfnod estynedig am y rhesymau rydym ni wedi eu nodi, wel, mae pleidleisio drwy ddirprwy yn fecanwaith llawer iawn mwy cadarn, mae o’n fwy ffurfiol, ac mae o’n gydnabyddiaeth, onid yw, ein bod ni yn le sydd efo arferion gwaith modern. Dydyn ni ddim yn gyflogwr, nac ydym, ond does bosib ein bod ni angen gosod esiampl o'r ffordd yr ydym ni yn dymuno gweithio a thrin ein gilydd yn y lle yma.

16:10

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â phleidleisio drwy ddirprwy? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, gohirir y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Cynnig i addasu Rheolau Sefydlog—Newidiadau amrywiol

Eitem 7, cynnig i addasu Rheolau Sefydlog, newidiadau amrywiol. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Siân Gwenllian.

Cynnig NDM8241 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2023.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 6 yn Gymraeg, a Rheolau Sefydlog 8, 9, 26, 26A, 26B, 26C yn y ddwy Iaith, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Nid oes unrhyw siaradwyr ar gyfer yr eitem hon, felly y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â newidiadau amrywiol? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil twristiaeth Cymru

Eitem 8 sydd nesaf, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil twristiaeth Cymru, a galwaf ar Tom Giffard i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8232 Tom Giffard

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig i greu Bil twristiaeth Cymru.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai:

a) dirymu Gorchymyn Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Bwrdd) 2005;

b) creu bwrdd twristiaeth newydd i Gymru;

c) trosglwyddo swyddogaethau Croeso Cymru a grymoedd Llywodraeth Cymru cysylltiedig i'r bwrdd newydd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

i) annog pobl i ymweld â Chymru a phobl sy'n byw yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig i fynd ar eu gwyliau yno;

ii) annog darparu a gwella mwynderau a chyfleusterau twristiaeth yng Nghymru;

iii) hyrwyddo cyhoeddusrwydd;

iv) darparu gwasanaethau cynghori a gwybodaeth; a

v) sefydlu pwyllgorau i'w cynghori ynghylch perfformiad ei swyddogaethau.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gennyf heddiw gyflwyno fy nghynnig deddfwriaethol gan Aelod cyntaf i'r Senedd. Mae fy nghynnig deddfwriaethol yn rhywbeth sy'n agos at fy nghalon, ac at galonnau llawer yn y Siambr hon, rwy'n gwybod—ein diwydiant twristiaeth. Fe wyddom pa mor bwysig yw'r diwydiant twristiaeth i'n heconomi yma yng Nghymru, ac mae'n rhywbeth rydym angen ei feithrin a'i wella. Rwyf am i gymaint o bobl â phosibl o bob rhan o'r DU, a'r byd yn wir, brofi'r hyn sydd gennym i'w gynnig, o'n harddwch naturiol hollol syfrdanol i'r croeso Cymreig enwog. Mae gan Gymru gynnig heb ei ail. Ond nid ydym bob amser wedi'i werthu cystal ag y gallem fod wedi'i wneud. Meddyliwch am y ffordd y mae rhywle fel yr Alban yn gwerthu ei hun yn rhyngwladol—yn llawn chwedloniaeth, digwyddiadau mawr a harddwch digyffelyb. Nawr, rwy'n credu ein bod yn gwneud yr holl bethau hynny'n well yma yng Nghymru, ond eto, yn y flwyddyn cyn y pandemig, fe gawsant dair gwaith cymaint o ymwelwyr ag a gawsom ni. Ac un o'r rhesymau am hynny yw nad yw VisitScotland o dan adain y Llywodraeth. Nid yw'n rhywbeth sy'n cael ei redeg gan weision sifil mewn adran o'r Llywodraeth. Maent yn gorff hyd braich sy'n gallu bod â'r meddyliau gorau o fewn y diwydiant twristiaeth ei hun. A dyna beth mae'r cynnig hwn yn ceisio ei sefydlu yma yng Nghymru—corff twristiaeth sy'n cael ei redeg gan yr union bobl sy'n adnabod y diwydiant orau. Maent yn gwybod sut i farchnata, maent yn gwybod beth sy'n gweithio ac maent yn gwybod beth sydd gan Gymru i'w gynnig. Ac nid busnesau mawr yw'r rhain—mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi bod yn glir wrth ddweud bod y sector twristiaeth yn un sy'n cynnwys mentrau bach a chanolig yn bennaf. A dyna'r norm. VisitEngland, VisitScotland, VisitBritain—mae'r rhain i gyd wedi'u sefydlu yn y ffordd hon. Mae Llywodraeth Cymru wedi ein gwneud ni'n eithriad.

Felly, mae'r cynnig yn ceisio adfer neu greu corff twristiaeth hyd braich, yn rhydd o ddylanwad Llywodraeth Cymru. Byddai gan hwn fwrdd annibynnol, prif swyddog gweithredol, gyda llythyr cylch gwaith yn amlinellu gofynion polisi cyffredinol gan y Llywodraeth. Byddai corff annibynnol yn golygu bod aelodau o'r bwrdd yn agored i lefel uchel o dryloywder drwy, er enghraifft, adroddiadau blynyddol, cyfrifon blynyddol sy'n cael eu harchwilio gan yr archwilydd cyffredinol, a chynlluniau busnes blynyddol sy'n cynnwys cerrig milltir a thargedau. Byddent yn fwy na throednodyn mewn gwariant adrannol.

Gallai fod yn annibynnol ar gyllid y Llywodraeth. Mae VisitBritain a VisitEngland yn gallu defnyddio cyllid yn y sector preifat, felly gallai hyn olygu torri costau ynddo'i hun. Ac fe fyddai corff hyd braich uwchlaw gwleidyddiaeth a pholisïau, gan weithredu fel ffrind beirniadol i Lywodraeth Cymru yn lle hynny, a chydweithio a'i chefnogi lle mae'n cael pethau'n iawn, ond gan sefyll dros y diwydiant, yn hytrach na'r Llywodraeth, pan fyddant yn anghytuno. Nid yw'r cynnig heddiw yn ymwneud ag unrhyw bolisi unigol—mae hynny'n methu'r pwynt i raddau—ond gadewch imi roi enghraifft i chi o'r hyn rwy'n ei olygu. Mae VisitBritain yn gorff hyd braich ac fe ddaeth allan yn erbyn y polisi y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar ei drywydd, sef treth dwristiaeth, gan ei galw'n 'annoeth ar adeg pan fo'n sector yn canolbwyntio ar hybu nifer yr ymwelwyr yn sgil y pandemig'. A allwch chi ddychmygu Croeso Cymru yn ei strwythur presennol yn mynd yn groes i Lywodraeth Cymru yn y ffordd honno? Mae'n amhosibl dychmygu hynny. Ni wnaethant hynny am eu bod yn Llafur neu'n Geidwadol na dim byd arall; fe wnaethant hynny am eu bod yn codi llais dros eu diwydiant, pobl go iawn sy'n cynrychioli eu rhan hwy o'n heconomi am eu bod yn ei hadnabod mor dda ac am ei gweld yn ffynnu am genedlaethau i ddod.

Mae gennyf gymaint mwy y gallwn ei ddweud, ond dyna rai o'r rhesymau pam y cyflwynais y cynnig deddfwriaethol hwn heddiw ac rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau gan gyd-Aelodau yn ystod y ddadl hefyd. Diolch.

16:15

Dwi'n hapus i gefnogi'r cynnig deddfwriaethol yma, er mae'n bosib fe wnaf i egluro fy mod i'n dod ato fo o gyfeiriad ychydig bach yn wahanol i'r sawl sy'n ei gynnig o.

Mi wnaf i sôn am fy mhrofiad i fel newyddiadurwr yn ôl 20 mlynedd yn ôl. Dwi'n cofio yn y cyfnod hwnnw, yn gynnar yn fy ngyrfa i, yn y 1990au, o bosib, roedd yna sylw mawr, mawr o fewn y cyfryngau Cymreig, o fewn newyddion ac ati, i beth oedd yn digwydd o fewn y diwydiant twristiaeth. Roedd Jonathan Jones yn brif weithredwr ar Fwrdd Croeso Cymru. Roedd o'n ffigwr cyhoeddus amlwg iawn, yn siarad yn gyhoeddus yn gyson iawn ynglŷn ag elfennau technegol iawn o sut i yrru'r diwydiant twristiaeth yn ei flaen. Mi wnaf i ddatgan budd yn fan hyn. Dwi ddim yn meddwl fy mod i'n gorfod datgan budd am gyn-broffesiwn fy ngwraig, ond mi oedd fy ngwraig i'n gweithio ar un pwynt i Fwrdd Croeso Cymru.

Ond nid dweud bod Bwrdd Croeso Cymru'n gwneud popeth yn berffaith ydw i, ond mi oedd o'n gorff a oedd yn wynebu'r cyhoedd ac oedd yn deall y diwydiant. Dwi'n cofio beth ddigwyddodd ar ôl coelcerth y cwangos: mi ddiflannodd twristiaeth yng Nghymru i raddau helaeth oddi ar yr agenda cyhoeddus yng Nghymru. Dwi'n cofio ar y pryd gofyn, lle byddem ni wedi gofyn am gyfweliad efo prif weithredwr Bwrdd Croeso Cymru, mi oedd angen wedyn mynd drwy'r Llywodraeth a gofyn am gyfweliad efo'r Gweinidog a oedd â chyfrifoldeb am dwristiaeth, ac ar fater technegol, twristaidd, doedd y Gweinidog yn aml iawn ddim yn dymuno siarad. Doedd o ddim yn fater arbennig o wleidyddol; doedd o ddim yn fater o flaenoriaeth wleidyddol. Ond mi oedd yna golled yn fanna, dwi'n meddwl, o arbenigedd a thrafodaeth rhwng y rheolwyr twristiaeth yng Nghymru a'r cyhoedd yng Nghymru a chymunedau yng Nghymru, a dwi'n meddwl bod hynny'n rhywbeth sydd wedi cael ei golli. 

Byddwn i'n gweld budd mawr mewn cael corff sydd â swyddogaeth benodol iawn o ddatblygu twristiaeth yng Nghymru, a gwneud hynny mewn cydweithrediad â chymunedau Cymru. Dwi ddim yn beirniadu'r gweision sifil sydd yn ymwneud â thwristiaeth o fewn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ond mae yna fudd o gael carfan o bobl sydd yn datblygu arbenigedd dros flynyddoedd ac yn gallu arloesi.

Un o'r pethau byddwn i'n dymuno i'r corff newydd yma wneud ydy gweithio'n agosach efo cymunedau. Mae twristiaeth, yn fy etholaeth i gymaint â'r un arall, dwi'n meddwl, yn gallu bod yn arf economaidd cryf, yn gallu bod yn rym er gwell, ond mae twristiaeth wedi'i wneud mewn ffordd sydd ddim yn sensitif i anghenion, i ddyheadau, i werthoedd cymuned, yn gallu bod yn niweidiol tu hwnt. Byddem ni yn Ynys Môn yn dymuno gweld datblygu sgwrs llawer agosach rhwng y diwydiant a'r cymunedau, ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n meddwl y gallai'r corff yma ei wneud tra'n datblygu'r arbenigedd yna i arloesi mewn maes twristiaeth, a hynny er lles ein cymunedau ni.

Rwy'n falch iawn o'ch cefnogi chi, Tom Giffard, gyda'ch cynnig deddfwriaethol cyntaf, ac mae'n alwad dda iawn, am Fil twristiaeth Cymru. Mae'r diffyg meddwl cydgysylltiedig ar draws y diwydiant a pholisi twristiaeth yn glir i bawb ei weld, ac nid y gweithredwyr sydd ar fai am hynny. Mae holl gylch gwaith Croeso Cymru i fod i ymwneud ag ysgogi masnach ym maes twristiaeth. Wedi'r cyfan, mae'r diwydiant pwysig hwn yn cynnal un o bob saith swydd yng Nghymru, ac eto mae treth dwristiaeth Llywodraeth Cymru yn peryglu'r union swyddi hynny bellach. Ychydig iawn, os o gwbl, a welais o gefnogaeth gan Croeso Cymru i gondemnio'r dreth wrthdroadol hon.

Nawr, rydym yn ffodus iawn yng ngogledd Cymru. Mae gennym brif weithredwr Go North Wales neu brif weithredwr Twristiaeth Gogledd Cymru, Jim Jones. Mae ef ei hun wedi dweud ei fod yn ei hystyried hi'n syfrdanol fod Llywodraeth Cymru yn parhau i siarad am dreth dwristiaeth. Dywedodd

'Byddai treth ar dwristiaeth yn gam mawr yn ôl a fyddai'n niweidio diwydiant sydd eisoes yn gwegian ar ôl dioddef y pandemig.'

Mae nifer o berchnogion llety gwyliau hunanddarpar wedi cysylltu â ni i ddweud eu bod yn ystyried gwerthu a gadael y farchnad oherwydd biwrocratiaeth ychwanegol Llywodraeth Cymru. Nid yw 300 y cant o bremiwm treth gyngor ar gyfer ail gartrefi yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yng Nghymru. Gyda'i gilydd, byddai'r polisïau hyn yn drychineb i fannau twristiaeth lleol poblogaidd sy'n ffynnu. Dyma ergyd i fusnesau lletygarwch, ond o ran Croeso Cymru, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Rhun draw yno, rydym i gyd yn cofio dyddiau'r bwrdd twristiaeth. Yr hyn sydd ei angen arnom gan Croeso Cymru, yr hyn sydd ei angen arnom yw rhywbeth sy'n wynebu tuag allan, yn anghytuno â Llywodraeth Cymru ar brydiau ac yn amddiffyn yr union bobl a roddodd y cyfrifoldeb hwnnw yn eu dwylo mewn gwirionedd.

Ond i fod yn deg â'r Dirprwy Weinidog, rwyf wedi codi'r modd nad yw Croeso Cymru yn cynnig yr un nodweddion chwilio llety y mae VisitScotland neu Visit Northern Ireland yn eu gwneud, ac rwy'n gwybod ein bod yn cyfarfod yn fuan i edrych ar hynny mewn gwirionedd. Mae strwythur canolog presennol Croeso Cymru yn golygu bod ein gweithredwyr lleol, yn ogystal â'r rhai mewn rhannau eraill o Gymru, yn aml yn gallu teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl ac maent yn gweld Croeso Cymru fel rhan arall o Lywodraeth Cymru. Mae angen bwrdd newydd a fyddai uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol, a fyddai'n helpu i roi'r busnesau hynny yn sedd y gyrrwr yn uniongyrchol. Byddai hyn yn sicrhau bod gennym strategaeth wedi'i dyfeisio gan weithredwyr twristiaeth lleol, nid gan fiwrocratiaid a gweision sifil.

16:20

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwy'n gwybod bod amser yn brin, ond a fyddai'r Aelod yn cytuno â mi ei fod yn ymwneud â mwy na grymuso busnesau twristiaeth yn unig, ond â dyfeisio twristiaeth mewn ffordd sy'n gweithio, ie, i'r busnesau hynny, ond i'r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt?

Oes, mae'n rhaid inni gael twristiaeth sensitif, Rhun, ac nid ydym eisiau i bobl—. Fe wyddom gyda'r Wyddfa y gall gor-dwristiaeth olygu mewn gwirionedd y gallem golli ymwelwyr yn y pen draw oherwydd—. Felly, mae'n rhaid cael cydbwysedd teg, rwy'n cytuno â chi ar hynny.

Rwy'n credu y byddai'r cynnig hwn a bwrdd twristiaeth newydd i Gymru yn mynd yn bell tuag at ddatrys y problemau hyn, a gallaf hefyd eich sicrhau y byddwch yn gallu darparu llawer mwy am gryn dipyn yn llai. Diolch.

Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o'n heconomi; roedd yn 11.3 y cant o'r holl swyddi yn 2020, ac mewn ardaloedd gwledig fel yr un rwy'n ei chynrychioli, mae'r gyfran honno'n llawer uwch. Mae mwy na hanner y swyddi hynny'n rhan amser, cyfran lawer uwch na'r economi yn ei chyfanrwydd. Mae'n hanfodol, ond mae'n fregus. Mae llawer o'r swyddi mewn lletygarwch ac mae'n sector sydd wedi'i ddominyddu gan fentrau bach a chanolig—busnesau y gwyddom eu bod yn dal i ymadfer ar ôl COVID ac yn ei chael hi'n anodd ymdrin ag effeithiau Brexit. Wrth i COVID a Brexit adael eu hôl ar ein heconomi ac ar ein sector lletygarwch yn enwedig, rwy'n credu ei bod yn bryd inni gael trafodaeth o'r newydd ynglŷn â sut yr awn ati i gefnogi ein diwydiant twristiaeth.

Mae lefel hyder busnesau yng Nghymru ar ei hisaf erioed ac eithrio yn ystod y cyfyngiadau symud, gyda busnesau manwerthu a lletygarwch o dan bwysau arbennig. Nid oes modd gwadu'r ffigurau hyn: mae hyder busnesau bach ar ei lefel isaf ond dwy ers i Ffederasiwn y Busnesau Bach ddechrau ei olrhain bron i ddegawd yn ôl. Felly, rwy'n credu ei bod yn iawn inni ddechrau edrych ar sut mae darparu sector twristiaeth a lletygarwch cynaliadwy i fynd law yn llaw â busnesau yn ein cymuned ledled Cymru. Un enghraifft, heddiw yw Ystradgynlais, sef tref o 8,000 o bobl yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, lle mae'r banc olaf yn y dref, Banc Lloyds, yn mynd i fod yn cau. Banc Lloyds, a wnaeth elw y llynedd o £1.3 biliwn. Mae'r banc yn Ystradgynlais yn hanfodol, gyda siopau bach, i allu gwasanaethu ein sectorau twristiaeth a lletygarwch. Felly, mae'n rhaid inni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd.

Mae gennyf nifer o gwestiynau am y cynnig ac am y bwrdd sydd wedi cael ei awgrymu. Yn gyntaf, i bwy mae'r bwrdd yn atebol? Sut mae'n atebol i'r sector, ond hefyd i'r Llywodraeth ac i ni yma yn y Senedd? Pwy fyddai'n ffurfio'r pwyllgorau a argymhellir? Sut fyddai'r bwrdd yn cael ei ariannu? Mae'r rhain yn gwestiynau allweddol, ac rwy'n gobeithio clywed mwy am y rhain, oherwydd yr hyn y soniwn amdano yw dirymu deddfwriaeth a rhoi'r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i gorff newydd.

Rydym wedi gweld cynigion cymhleth yn cael eu cynnig mewn perthynas â thwristiaeth, ond ni fu edefyn drwy'r trafodaethau hyn am y profiad cyffredinol i ymwelwyr a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar ein cymunedau yng Nghymru. Mae twristiaeth a lletygarwch yn hanfodol i'n gwlad. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn wlad iach sy'n edrych tuag allan. Rwy'n cefnogi'n gryf yr angen i hybu twristiaeth yng Nghymru a'r brand Cymreig ar draws y byd, ac yn gobeithio bod hwn yn fan cychwyn i'n trafodaeth. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Rwy'n falch iawn o allu siarad i gefnogi cynnig rhagorol Tom Giffard i greu Bil twristiaeth Cymru, ac fel yr amlinellwyd yma eisoes heddiw, byddai'r Bil yn creu bwrdd twristiaeth newydd i Gymru, gan rymuso busnesau ein sector twristiaeth ar yr un pryd â datgloi eu hysbryd entrepreneuraidd. Fe wyddom—mae eisoes wedi cael ei grybwyll—faint o swyddi y mae twristiaeth yn eu cynnal yma yng Nghymru, a gadewch inni beidio ag anghofio'r mathau o swyddi y siaradwn amdanynt: rolau blaen tŷ yn ein gwestai ac atyniadau a mannau letygarwch, ond hefyd y rolau nad ydym yn aml yn eu hystyried efallai, megis rôl cyfrifwyr, cigyddion a'r rhai yn y gadwyn gyflenwi sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth yn ein cymunedau. 

Yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, Gogledd Cymru, mae twristiaeth yn cynnal 46,000 o swyddi ac fel arfer yn cynhyrchu tua £3.5 biliwn bob blwyddyn i'n heconomi leol. Yn fy marn i, bydd creu bwrdd twristiaeth annibynnol, a rhoi mwy o fewnbwn i fusnesau ynglŷn â sut y caiff Cymru ei marchnata fel cyrchfan twristiaeth o'r radd flaenaf, yn dda i'r busnesau hynny, ond i fynd ar drywydd pwynt Rhun ap Iorwerth hefyd, bydd hefyd yn dda i gymunedau, drwy sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud yn iawn wrth gefnogi'r cymunedau hynny, cefnogi'r swyddi hynny yn y cymunedau, creu swyddi, cynhyrchu'r cyfoeth rydym i gyd am ei weld a'r cymunedau hynny'n ffynnu. 

Yn fy marn i, bydd gan fwrdd annibynnol well dealltwriaeth o ble mae angen buddsoddi, sut y gall gael yr effaith fwyaf, a sut y gall polisi'r Llywodraeth gefnogi ein sector twristiaeth yn y ffordd orau. Efallai y byddai'n cael gwared ar rywfaint o'r tensiwn a welwn ar hyn o bryd gan Croeso Cymru, lle maent yn gwneud eu gorau, rwy'n siŵr, ond mae tensiwn yno gyda pholisi'r Llywodraeth gan mai cangen o'r Llywodraeth ydynt. Bydd bwrdd annibynnol yn gallu hyrwyddo'r arferion gorau ar gyfer hanfodion fel marchnata a chyhoeddusrwydd, rheoli cyrchfannau a gwell amwynderau, oherwydd fe wyddom fod pethau fel cynnal a chadw ein toiledau cyhoeddus, traethau tywodlyd a pharcio digonol i gyd yn ffactorau pwysig iawn i'n hymwelwyr a'n trigolion lleol fel ei gilydd.

Mae'r cynnig heddiw, wrth gwrs, yn cynnig trosglwyddo pŵer oddi wrth Croeso Cymru, rhan o Lywodraeth Cymru. Byddwn i'n meddwl ei fod yn rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru'n hapus i'w groesawu, oherwydd fe wyddom fod Cymru'n gartref i atyniadau a chyrchfannau twristiaeth o'r radd flaenaf, ac yn fy marn i, mae grymuso'r gorau a'r mwyaf disglair o'r rhain i hyrwyddo Cymru a phopeth sydd gennym i'w gynnig yn beth da. Dyma'r bobl sydd wedi bod yno, y bobl sydd wedi ei wneud, maent wedi sefydlu eu busnesau, maent wedi creu'r swyddi—gadewch inni eu grymuso i wneud eu gorau i hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd-eang hefyd.

Felly, gyda hyn i gyd mewn cof, hoffwn annog yr Aelodau heddiw i gefnogi'r cynnig hwn, i hyrwyddo ein sector twristiaeth, i hyrwyddo'r swyddi y mae'n eu creu, ac i hyrwyddo'r cymunedau ledled Cymru y mae'n eu cynnal hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau am gyfrannu at y ddadl hanner awr heddiw. Ni fydd yn syndod fy mod yn anghytuno â chynnig yr Aelod yn ei hanfod, ond mae ganddo hawl i gyflwyno ei gynnig. Dyna ran o bwrpas y Siambr hon. Fodd bynnag, roeddwn ychydig yn siomedig gyda'r cyfeiriadau dilornus at weision sifil yn yr agoriad. Mae economi ymwelwyr yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gyda diwydiant sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn cynhyrchu 5 y cant o werth ychwanegol gros Cymru, neu £3.4 biliwn yn 2020-21.

Mae gennym strategaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer yr economi ymwelwyr, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020-2025'. Mae ein cyllideb derfynol yn darparu dyraniad o £10.63 miliwn mewn refeniw a £5 miliwn o gyfalaf i gefnogi'r sector, a helpu i gyflawni'r strategaeth. Bydd hynny'n darparu cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf hanfodol, fel cronfa y Pethau Pwysig, i gefnogi buddsoddiad seilwaith ar raddfa fach, ynghyd â chymorth refeniw ar gyfer ymgyrchoedd marchnata, buddsoddi mewn sgiliau, mentrau recriwtio a sicrhau ansawdd drwy raddio. 

Hefyd, mae gennym bolisïau trawslywodraethol uchelgeisiol yn cael eu datblygu. Rwy'n cynnwys yr ardoll i ymwelwyr a'r cynllun trwyddedu statudol yn y rheini, yn ein maniffestos ac yn y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Nod y rhain yw gwella a chefnogi'r diwydiant ymhellach. Y tri ffactor—strategaeth, cyllideb a gweithio trawslywodraethol, traws-sector—yw conglfeini'r gwaith o lunio polisïau effeithiol sy'n greiddiol i'r Llywodraeth. Mae'r rhain yn cefnogi datblygiad y diwydiant twristiaeth yn uniongyrchol yma yng Nghymru.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol wrth gwrs fy mod i wedi cyhoeddi fis diwethaf fod y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden, yn arwain ar faterion yn ymwneud â thwristiaeth, ac mae'r sector twristiaeth a lletygarwch eisoes wedi dechrau gweithio'n gadarnhaol ac yn adeiladol gyda'r Dirprwy Weinidog. Mae hi eisoes wedi cael cyfle i weld enghreifftiau uniongyrchol o'r hyn y mae Croeso Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector. Mae hi wedi bod, er enghraifft, wrth lynnoedd Cosmeston ym Mro Morgannwg i weld gwelliannau seilwaith ar raddfa fach drwy gronfa y Pethau Pwysig, a'r modd y maent yn helpu i wella profiad ymwelwyr. Mae hi wedi bod ar Draeth Pentywyn yn sir Gaerfyrddin; mae atyniad i ymwelwyr gwerth miliynau o bunnoedd yno, cartref yr amgueddfa cyflymder—fe ddywedaf wrtho beth yw fy nghysylltiad teuluol â hynny ryw dro—yn ogystal â chyrchfan eco-wyliau newydd. Fe wnaethom gefnogi'r prosiect hwnnw drwy'r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth gyda chronfeydd blaenorol yr UE.

Mae Croeso Cymru yn creu adran un stop bwerus ac ymroddedig, gyda llai o wahaniaeth ffug rhwng llunio polisi a gweithredu. Mae ganddo'r màs critigol angenrheidiol a mwy o ffocws masnachol i greu meysydd polisi sy'n uniongyrchol addas i Gymru a'n heconomi. Ac ni ellir gwadu ein bod yn agos iawn at y sector yn y ffordd y gweithredwn. Yng Nghymru, mae'r gallu gennym i adnabod ein gilydd yn dda, i ymwneud â'n gilydd yn fynych. Nid yw hynny'n digwydd ym mhob gwlad. Rwy'n falch o ba mor agos rydym ni fel Llywodraeth i'r bobl a'r sefydliadau yma yng Nghymru, gan gynnwys yn yr economi ymwelwyr. Mae gennym ymgysylltiad uniongyrchol a gonest â chyrff y diwydiant a Gweinidogion, nid swyddogion yn unig. Nid yw'r syniad nad ydym yn deall beth sy'n digwydd ac nad oes corff diwydiant yn lobïo dros safbwyntiau a diddordebau yn un cywir. Mae'r fforwm economi ymwelwyr a'n partneriaethau twristiaeth rhanbarthol yn bwydo'n uniongyrchol i mewn i Croeso Cymru gyda busnesau'n egluro eu safbwyntiau'n glir iawn, yn cynnwys ar yr adegau pan fyddwn yn anghytuno. Ond rydym yn gwrando ar yr adborth, ac mae gennym ddiddordeb yn y cyngor gan y sector i lywio'r dewisiadau sydd angen i ni eu gwneud yn y Llywodraeth. Ond pe bai yna gorff hyd braich, gadewch inni beidio ag esgus y byddai rywsut yn rhoi'r dewisiadau hynny a'r cyngor hwnnw uwchlaw'r dadleuon gwleidyddol. Rydym i gyd yn gwybod na fyddai hynny'n digwydd.

Gallaf dynnu sylw hefyd at enghreifftiau go iawn o'r ffordd y mae'r ffaith bod Croeso Cymru yn rhan o'r Llywodraeth wedi bod o fudd i'r sector. Er enghraifft, yn ystod pandemig COVID, arweiniodd yr angen i weithio'n agos ar draws ystod o feysydd, a'r ymgysylltiad uniongyrchol â'r sector, Croeso Cymru a Gweinidogion, at ganllawiau a chymorth effeithiol, a gefnogwyd gan y sector twristiaeth, a lefelau digynsail o gyllid i gynnal busnesau'r economi ymwelwyr. Yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, gweithiodd ein cydweithrediad diweddar â Chymdeithas Bêl-droed Cymru—rwy'n falch iawn o'r canlyniad yr wythnos hon, wrth gwrs—yn ystod Cwpan y Byd FIFA yn arbennig o dda i hyrwyddo Cymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol, swyddfeydd rhyngwladol, ac i hyrwyddo'r Gymru fodern yn gadarnhaol, gan gynnwys yr iaith, diwylliant a blaenoriaethau Cymru wrth gwrs. Rwy'n credu bod Croeso Cymru mewn sefyllfa gref fel adran allweddol o fewn y Llywodraeth, tra'i bod yn dal i allu mynd ar drywydd gweithgarwch masnachol, er enghraifft i dargedu ymwelwyr rhyngwladol drwy bethau fel Expedia—unwaith eto, cawsom bartneriaeth gyda hwy drwy gwpan pêl-droed y byd—ac i weithio'n effeithiol gyda VisitBritain i hyrwyddo Cymru. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn yr ymyriad.

16:30

Rydych chi’n siarad llawer am y sector; ydych chi’n mynd i drafod y cysylltiad rhwng Visit Wales a’r cymunedau lle mae twristiaeth yn bodoli? Dwi ddim wedi eich clywed chi'n sôn am y cymunedau.

Mae hynny'n rhan o'r hyn rydym yn ceisio gwrando arno hefyd, oherwydd mae'r busnesau hynny'n cydnabod bod ganddynt ddiddordeb mewn gweld cymuned sy'n goroesi ac yn cefnogi'r sector. Dyna pam ein bod wedi cynnwys y gwaith a wnawn ar gydbwyso effaith yr economi ymwelwyr yn ein cytundeb cydweithio, i wneud yn siŵr ei fod yn rhywbeth cadarnhaol i'r cymunedau sy'n gartref i'r atyniadau ymwelwyr hynny, boed mewn rhannau gwledig ac arfordirol o Gymru, neu'r ymwelwyr sy'n dod i rai o'n dinasoedd hefyd, i ddeall sut mae'n ychwanegu at fywyd cymunedol yn y rhannau hynny o Gymru, yn hytrach na thynnu oddi arno.

Dylwn nodi hefyd efallai fod VisitBritain yn elfen hyd braich mewn theori; yn ymarferol, mae ganddo berthynas uniongyrchol iawn gyda Gweinidogion yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a'r ffordd y maent eisiau i VisitBritain ymddwyn. Mae'r ffaith bod VisitEngland yn rhan o VisitBritain, yn fy marn i, yn her. [Torri ar draws.] Rwy'n fodlon derbyn ymyriad arall ac yna byddaf yn ceisio dirwyn i ben.

Diolch. Rydych wedi fy nghlywed, yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn sôn am Go North Wales a Jim Jones. Mae'n adnabyddus iawn—mae fel seren yng ngogledd Cymru. A ydych chi wedi clywed am Go North Wales, ac a fyddech chi'n cytuno gyda mi eu bod yn rhedeg diwydiant cymorth effeithiol iawn ac ymarfer marchnata ar gyfer twristiaeth yn y gogledd? Yn bersonol, hoffwn ei weld yn cael ei efelychu ledled Cymru gyfan. Ond a ydych chi wedi clywed amdanynt ac a fyddech chi'n cytuno eu bod yn gwneud gwaith da iawn?

16:35

Rwy'n credu bod Go North Wales yn cyflawni llawer o bethau cadarnhaol, a phan edrychwn ar yr hyn a wnawn mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru i hybu Cymru, rwy'n credu bod yna straeon a gwersi da gan bob un ohonom. Rwy'n gwybod am Jim Jones wrth gwrs; mae ganddo safbwyntiau helaeth a phendant iawn ar amrywiaeth o bynciau.

Gyda Croeso Cymru, mae gennym ddull a model tebyg i Cadw a Cymru Greadigol. Rwy'n credu bod y modelau gweithredu hynny'n gweithio'n dda i ni. Bydd y Llywodraeth yn ymatal ar y cynnig sydd ger bron y Senedd heddiw, fel sy'n arferol pan fo'r cynigion hyn yn cael eu cyflwyno, ond rydym eisiau ei gwneud yn glir, i fod yn onest gyda'r sawl sy'n cyflwyno'r cynnig, ac eraill yn wir, nad ydym yn cefnogi'r cynnig sydd ger bron, ond serch hynny, rydym yn edrych ymlaen at weld mwy o fanylion yn y cynnig. 

Diolch yn fawr iawn ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heddiw? Fel y nododd y Gweinidog, mae'n debyg, ar ddiwedd ei gyfraniad, rwy'n credu mai dechrau sgwrs yw hyn ac nid diwedd sgwrs. Rwy'n ddiolchgar, er nad yw'n cefnogi'r cynnig heddiw, fod y Llywodraeth yn bwriadu ymatal ar hyn hefyd, ac rwy'n bwriadu parhau â'r sgwrs wrth i hyn ddatblygu.

Yn fy marn i, mae corff annibynnol hyd braich yn rhywbeth sydd ei angen yn ddirfawr i roi hwb i'n sector twristiaeth ar ôl cyfres andwyol o gyfyngiadau symud, mwy o gostau byw a phwysau arall sy'n wynebu'r diwydiant twristiaeth yn fwy cyffredinol ar hyn o bryd. Rwy'n ddiolchgar i rai o'r cyfranwyr a wnaeth eu dadleuon hefyd, yn enwedig Rhun ap Iorwerth. Rwy'n ddiolchgar am ei gefnogaeth, hyd yn oed os nad ydym yn edrych arno yn yr un ffordd, ond fel taith gerdded braf o amgylch penrhyn Gŵyr, nid oes ots o ble rydych chi'n dechrau—cyn belled â'ch bod yn gorffen yn yr un lle, nid oes ots mewn gwirionedd. [Chwerthin.] Ond mae'n bwysig iawn oherwydd nid yn unig y byddai'n gynrychioliadol o'r sector, byddai hefyd yn gweithio'n dda iawn gyda chymunedau hefyd, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn a wnaed yn dda.

Siaradodd Jane Dodds a Sam Rowlands am freuder busnesau bach sy'n rhan o'r economi dwristiaeth, a dwyn ynghyd y meddyliau gorau a mwyaf disglair i weithio arno. Jane, rwy'n credu eich bod wedi gofyn cwestiynau cwbl deg am y cyllid a strwythur y bwrdd. Un o anfanteision y dadleuon hanner awr hyn, am wn i, yw nad ydych yn cael digon o gyfle i fynd at wraidd y pethau hyn. Fy newis i fyddai cael model llywodraethu sy'n cael ei arwain gan y diwydiant a'r gymuned, a'i fod ar gael i'w ariannu drwy'r Llywodraeth, yn hytrach na'i fod, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, yn llinell yng nghyllideb adran o'r Llywodraeth, ond gyda'i gyllideb benodol ei hun wedi'i gosod, ond hefyd yn agored i allu cael cyllid sector preifat ac yn y blaen. Felly, mae hwn yn rhywbeth y gallwn siarad amdano efallai wrth i hyn ddatblygu yn y dyfodol, gobeithio.

Yna, fe soniodd Janet Finch-Saunders am y modd y gall Croeso Cymru ailffocysu cylch gwaith ar wella twristiaeth, yn ychwanegol at nodau Llywodraeth Cymru sy'n cystadlu. Rwy'n credu bod y Gweinidog, yn ei sylwadau clo, wedi siarad am lawer o bethau da y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud, ond onid dyna'r union reswm pam ein bod angen Croeso Cymru annibynnol—i wirio'r honiadau hynny? Gallai Croeso Cymru sydd y tu allan i'r Llywodraeth ategu'r holl bwyntiau a wnaethoch yn llawer mwy effeithiol nag y gallai Gweinidog eu gwneud o bosibl. Mae'n bosibl fod y ffaith bod y cyfrifoldeb am dwristiaeth wedi symud o un Gweinidog i'r llall yn ystod y misoedd diwethaf, fel y crybwylloch chi, Weinidog, yn dystiolaeth o hynny. Bob tro mae hynny'n digwydd, mae'n ganlyniad naturiol i hynny. Mae sicrhau bod gennym arbenigwyr yn aelodau o fwrdd—yn rhan o banel—sy'n gyfrifol am dwristiaeth yn hollbwysig ar gyfer y dyfodol.

Felly, yn gryno, Ddirprwy Lywydd—rwy'n ymwybodol o'r amser—mae'r Bil arfaethedig yn alwad o blaid ein diwydiant twristiaeth. Y pwynt yw bod y Llywodraeth yno i wrando yn hytrach na dweud, ac i gynnal y diwydiant allan o sefyllfa ansicr drwy syniadau polisi cadarn, a chyda ffrind beirniadol annibynnol a thryloyw. Yn fy marn i, maent yn haeddu hynny, fan lleiaf. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ariannu llywodraeth leol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 9 y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu llywodraeth leol. Galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8238 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi yr amcangyfrifir bod gan awdurdodau lleol £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.

2. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido sy'n eu hwynebu.

3. Yn gresynu at y ffaith bod y cynnydd cyfartalog yn y dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer 2023-2024 yn 5.5 y cant.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru;

b) gweithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl;

c) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig cynnydd gormodol yn y dreth gyngor yn cynnal refferendwm lleol a chael canlyniad cadarnhaol yn y bleidlais cyn gweithredu'r codiad arfaethedig.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch eto, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw ar gyllid llywodraeth leol. Fel y mae ein cynnig yn nodi yma heddiw, rydym yn argymell bod y Senedd, yn gyntaf oll, yn nodi bod gan awdurdodau lleol £2.75 biliwn amcangyfrifedig mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, yn cydnabod y rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido sy'n eu hwynebu, ac yn gresynu bod y cynnydd cyfartalog yn y dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn 5.5 y cant. Hefyd, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru, fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosib, a'i gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig cynnydd gormodol yn y dreth gyngor gynnal refferendwm a chael canlyniad cadarnhaol yn y bleidlais cyn gweithredu'r codiad arfaethedig. Gadewch inni fod yn glir iawn, mae ariannu cynghorau yng Nghymru i'w galluogi i ddarparu'r gwasanaethau y mae ein trigolion yn eu disgwyl yn nwylo Llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl, ac ar hyn o bryd maent yn dewis darparu tua thri chwarter y cyllid llywodraeth leol. Ar y cyfan, caiff y gweddill ei ariannu drwy ofynion y dreth gyngor, fel y gwyddom.

Mae hyn yn dangos yn glir iawn fod penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith fawr ar gyllid awdurdodau lleol Cymru, gyda Llywodraeth Cymru'n darparu ysgogiadau cyllid mawr i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu darparu eu gwasanaethau. Arwyddocâd effaith yr arian hwn ar ein cymunedau yw'r rheswm pam ein bod yn galw heddiw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu honno. Cofiwch mai dyma sy'n penderfynu faint o gyllid sy'n cael ei ddarparu i bob awdurdod lleol i'w galluogi i ddarparu'r gwasanaethau pwysig y mae ein trigolion yn eu disgwyl.

Wrth gwrs, mae'r Gweinidog a Gweinidogion blaenorol wedi cael adolygiadau llai manwl o dro i dro gyda llywodraeth leol eisoes. Roedd enghraifft ddiweddar o hyn yn ymwneud â gwledigrwydd, nad oedd wedi cael ei gyfrif yn briodol yn y gorffennol, ond mae peth gwaith wedi ei wneud i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond un mater yn unig yr edrychir arno yw hwnnw, nid yw'n adolygiad llawn. Fel enghraifft arall, rwyf wedi mynegi pryder yn y gorffennol am rywfaint o'r data sy'n cael ei ddefnyddio a pha mor ddiweddar yw'r data sy'n cael ei ddefnyddio i bennu'r cyllid hwnnw, oherwydd mae peth ohono wedi dyddio ers degawdau.

Mae yno rai mesurau hefyd y credaf nad ydynt yn cael eu hystyried yn briodol o hyd. Mae'r rhain yn cynnwys y lefel briodol o gyllid i gefnogi pobl hŷn. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod fformiwla ariannu Llywodraeth Cymru'n rhagdybio y bydd angen £1,500 yn ychwanegol y flwyddyn i gefnogi pob person dros 85 oed. Fodd bynnag, i bobl rhwng 60 ac 84 oed, mae'r ffigur yn gostwng i £10.72. Mae'n anghysondeb enfawr. Mae'r rhagdybiaeth fod darparu gofal ar gyfer unigolyn 84 oed yn costio llai nag 1 y cant o'r gost sy'n angenrheidiol i ofalu am unigolyn 85 oed yn dangos nad yw'r fformiwla ariannu yn briodol ar ei ffurf bresennol. Byddwn wedi meddwl y byddai'n llawer mwy synhwyrol fod y lefel dybiedig o gyllid sydd ei hangen i ofalu am ein henoed yn cynyddu'n raddol, nid ar ymyl clogwyn. Dyna enghraifft sydyn o'r math o beth y byddai adolygiad annibynnol yn ceisio ei herio, gan ei symud oddi wrth unrhyw fath o wleidyddiaeth plaid. Os yw'r fformiwla ariannu mor dda ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd, yr hyn sy'n peri penbleth i mi yw pam y byddai'r Llywodraeth eisiau gwrthwynebu adolygiad annibynnol? Does bosibl nad yw'r Gweinidog, heddiw, eisiau croesawu adolygiad annibynnol o'i fformiwla ariannu.

Yn olaf, rhaid i'r fformiwla ariannu ystyried lefelau'r cronfeydd wrth gefn a gedwir gan awdurdodau lleol. Soniais yn gynharach fod gan awdurdodau lleol tua £2.75 biliwn o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, ffigurau y byddai Llywodraeth Cymru yn breuddwydio am eu cael yn eu cronfeydd wrth gefn hi. Ni all fod yn iawn fod rhai cynghorau dros gyfnod o flynyddoedd wedi gallu casglu cronfeydd wrth gefn sylweddol, gyda rhai ohonynt yn agos at £300 miliwn, tra bod cynghorau eraill prin yn gallu goroesi. Mae'n ymddangos bod bwlch sylweddol yn lefelau'r cyllid y mae rhai cynghorau'n gallu eu mwynhau o'i gymharu ag eraill sy'n eu galluogi i gael y glustog ariannol hon. Rydym yn gwybod bod gan Gyngor Rhondda Cynon Taf tua £250 miliwn o arian yn eu cronfeydd wrth gefn, mae gan Gaerffili tua £233 miliwn o gronfeydd wrth gefn, ac mae gan sir Gaerfyrddin tua £230 miliwn. Er y bydd llawer o'r cronfeydd wrth gefn hyn yn cael eu cadw am reswm da, ni all fod yn iawn fod £3 biliwn o arian cyhoeddus yn cael ei roi heibio, heb gael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus mor bwysig y mae ein preswylwyr yn dibynnu arnynt. Felly, rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod y fformiwla ariannu llywodraeth leol yn ystyried y cronfeydd wrth gefn sydd gan awdurdodau lleol i gefnogi cyllid yr awdurdodau nad oes ganddynt gronfeydd wrth gefn helaeth yn well ac i annog yr awdurdodau sy'n eistedd ar gronfeydd wrth gefn helaeth i wneud gwell defnydd ohonynt.

Ar ôl canolbwyntio ar y fformiwla ariannu, rwyf am droi fy sylw'n fyr at y dreth gyngor. Ar gyfartaledd roedd y codiad i'r dreth gyngor eleni yn 5.5 y cant, gyda chwarter y cynghorau yn codi'r dreth 7 y cant neu fwy. Gall y cynnydd sylweddol hwn gael effaith wirioneddol ar gyllidebau aelwydydd pobl ledled Cymru. Mae'n bwysig fod y bobl hynny'n gallu lleisio eu barn. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i weld dinasyddion gweithredol sy'n cymryd rhan yn ein cymunedau, ac mae cyflwyno gofyniad i godiadau gormodol yn y dreth gyngor gael ei roi ger bron y cyhoedd mewn refferendwm yn gyfle gwych i gynyddu'r ymwneud hwnnw, felly rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn croesawu'r cynnig hwnnw yma heddiw hefyd. Bydd caniatáu i'r cyhoedd gael llais uniongyrchol dros godiadau mawr yn y dreth gyngor yn gwella ymddiriedaeth y cyhoedd yn y modd y mae eu cynrychiolwyr lleol yn gosod eu lefelau lleol o'r dreth gyngor a rhaid bod hynny'n beth da i ddemocratiaeth. 

Felly, rwyf am orffen fy nghyfraniad yno, Ddirprwy Lywydd. Edrychaf ymlaen at y cyfraniadau eraill gan Aelodau heddiw, ac rwy'n galw ar bob Aelod i gefnogi'r cynnig heddiw heb ei ddiwygio.

16:45

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod y dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n anghymesur ar ardaloedd tlotach ac yn croesawu'r ymrwymiad drwy’r Cytundeb Cydweithio i wneud y system yn decach ac yn fwy blaengar;

Yn cydnabod rôl hanfodol awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, y cynnydd sylweddol yn y setliad llywodraeth leol yn 2022-2023 a 2023-24 a'r heriau ariannu sy'n wynebu'r awdurdodau serch hynny.

Yn nodi bod treth gyngor band D ar gyfartaledd yng Nghymru £186 yn llai na'r cyfartaledd yn Lloegr.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) parhau i ddatblygu a chynnal fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru mewn partneriaeth â llywodraeth leol;

b) parhau i gydnabod pwysigrwydd gwneud penderfyniadau democrataidd lleol ynghylch cyllidebau cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau (b) ac (c).

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd cynnig:

Yn cydnabod bod y dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n anghymesur ar ardaloedd tlotach y wlad.

Yn croesawu'r ymrwymiad drwy Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i wneud y system dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nawr, rwy'n sicr yn croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon ac rwy'n credu, ar ddechrau blwyddyn ariannol newydd, ei bod yn iawn ein bod yn manteisio ar y cyfle i fyfyrio ar gyflwr presennol cyllid awdurdodau lleol a'r goblygiadau canlyniadol i drethi cyngor. A'r realiti yw y bydd cynnydd cyfartalog o 5.5 y cant yn y dreth gyngor ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn heriol i nifer o bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd am resymau rydym i gyd yn rhy gyfarwydd â hwy.

Ond a bod yn onest, rwy'n credu ei bod yn sicr yn ffuantus i'r Torïaid gwyno am y codiadau hyn yn y dreth gyngor heb gydnabod gwraidd y broblem, sef y ffaith bod 13 mlynedd o gyni ac anallu economaidd dan arweiniad y Torïaid wedi cael effaith ddinistriol ar awdurdodau lleol a'u gallu i gynnal gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae cyni, fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, yn ddewis gwleidyddol ac mae'n ddewis sy'n rhoi baich anghymesur ar y rhai tlotaf a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae hynny'n deillio—mae'r sefyllfa hon i gyd yn deillio'n uniongyrchol o dros ddegawd o doriadau a thanfuddsoddi sydd wedi gadael gwasanaethau cyhoeddus mewn cyflwr enbyd. A nawr, mae'r cylch diweddaraf o gyni Torïaidd sy'n cael ei orfodi ar Gymru—bydd yn arbrawf cwbl drychinebus ac mae'n gadael twll anferth o £30 biliwn yng nghyllid cyhoeddus y DU, sy'n—

Diolch. Rwy'n ei werthfawrogi, Llyr. Fe fyddwch yn cofio, yn y 10 mlynedd diwethaf, fod Llywodraeth y DU wedi darparu digon o arian i Lywodraeth Cymru rewi'r dreth gyngor am dair blynedd ac eto, ni chafodd hwn ei drosglwyddo i'r awdurdodau lleol i wneud hynny—

Wel, o'r gorau, fe wnaethoch y pwynt, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod datganoli'n ymwneud â chaniatáu i'r lle hwn wneud ei benderfyniadau ei hun, ac yn yr un modd, mae datganoli i lywodraeth leol yn ymwneud â chaniatáu iddynt hwy wneud eu penderfyniadau eu hunain hefyd—

Mae'n ddrwg gennyf, na. [Torri ar draws.] Edrychwch, nid wyf am ffraeo gyda chi. Eisteddwch, oherwydd rwyf wedi caniatáu i chi ymyrryd.

Dyna ni. Iawn, diolch. 

Felly, rwy'n credu ei bod yn werth nodi maint y pwysau ar gyllid awdurdodau lleol. Ac oes, mae yna heriau, yn amlwg, ond ni allwch ddweud eich bod yn gwbl ddiniwed yn hynny o beth. [Torri ar draws.]  

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel y gwyddom, wedi mesur llawer o'r pwysau cyllidebol hyn ar gynghorau Cymru. Maent wedi siarad am ffigurau sy'n fwy na £0.5 biliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ben £0.25 biliwn eleni. Gallwch wneud y fathemateg. Rydym yn gwybod beth yw'r sefyllfa a'r heriau sy'n wynebu awdurdodau yn fy rhanbarth i—Gwynedd, Conwy, sir y Fflint—a bydd yr holl Aelodau yma'n  gyfarwydd iawn â'r pwysau sy'n wynebu eu hawdurdodau lleol eu hunain hefyd. 

Felly, i droi at yr elfennau o'r cynnig sydd â gwerth yn fy marn i, mae'n hollol iawn ein bod yn cael dadl ac adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol. Fel plaid, rydym wedi dadlau ers peth amser dros yr angen i edrych eto ar y system ac edrych ar fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion ac sy'n cynnwys ystod o ffactorau, gan gynnwys tlodi a gwledigrwydd. Ond bydd yna enillwyr a chollwyr bob amser, ni waeth pa fformiwla y byddwch yn ei rhoi ar waith, a gallwch dorri'r gacen yn wahanol, ond rydym i gyd yn gwybod hefyd fod y gacen ei hun yn rhy fach, onid yw? Felly, nid oes ateb perffaith, ac nid wyf yn credu bod unrhyw un yn twyllo'u hunain yn hynny o beth. Ond ie, gadewch inni gael yr adolygiad, oherwydd nid oes unrhyw ddrwg mewn edrych ar opsiynau ac ailedrych ar y pethau hyn ar brydiau.

Ar gronfeydd wrth gefn, bydd angen bob amser i awdurdodau lleol gynnal lefel benodol o gronfeydd wrth gefn, ac nid wyf yn clywed unrhyw un yn cwestiynu hynny. Ond ar y ffigur hwn o £2.75 biliwn, rwy'n credu bod hynny'n gorsymleiddio darlun mwy cymhleth. Oes, mae yna sgyrsiau i'w cael, wrth gwrs, ynglŷn â sut y gall awdurdodau lleol ddyrannu eu hadnoddau'n effeithlon ac yn gyfrifol ar gyfer sicrhau'r canlyniadau gorau posibl. Yn bersonol, rwy'n credu bod hynny'n digwydd yn barod i raddau digonol. Mae awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r cyfrifoldeb hwnnw, ac wrth gwrs, eu cyfrifoldeb hwy ydyw. Rwy'n dod yn ôl at y pwynt am ddatganoli; mae'n ymwneud â'u rôl hwy, maent yn atebol—ac fe fyddant yn atebol, bob adeg etholiad, felly ni ddylem gilio rhag hynny. Ac rwyf newydd sylweddoli bod fy amser yn dirwyn i ben. Rwy'n cadw at yr un egwyddor, wrth gwrs, mewn perthynas â refferenda ar lefelau'r dreth gyngor, mae gan awdurdodau lleol rym i wneud y penderfyniadau hyn, ac yn eu tro, maent yn atebol i'w hetholwyr am y penderfyniadau hynny ar adeg etholiad—onid ydynt? Mae yna lethr llithrig yma; refferendwm ar gyfer pob penderfyniad y bydd cynghorau'n ei wneud.

Felly, rwy'n credu bod y ddadl y dylem ei chael yn ymwneud â newid natur anflaengar y dreth gyngor, ac rwy'n falch o ddweud fod y rhaglen waith honno ar y gweill yn rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Rydym yn ceisio datblygu treth gyngor decach. Mae cam cyntaf yr ymgynghoriad wedi digwydd ac mae'r ail gam yn dod yn fuan. Felly, nid wyf yn sefyll yma'n dweud, 'Cefnogwch welliant dileu popeth Llywodraeth Cymru'; nid wyf yn cytuno â hwnnw. Yr hyn rwy'n gofyn i gyd-Aelodau ei wneud yw cefnogi dau welliant Plaid Cymru, fel y gallwn fireinio cynnig y Ceidwadwyr. Diolch.

16:50

Rwy'n falch iawn o weld bod gennym gefnogaeth drawsbleidiol i gydnabod rôl hanfodol awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido sy'n eu hwynebu.

Mae'r cyfoethog, a'u cynrychiolwyr yma, y Blaid Geidwadol, yn casáu dwy dreth yn fwy na phob un arall: ardrethi a'r dreth gyngor. Ceir nifer cyfyngedig iawn o ffyrdd o osgoi'r trethi hyn. Er mai nod treth incwm yw bod yn flaengar, mae bylchau yn ein system dreth yn golygu ei bod hi'n hawdd lleihau atebolrwydd i dalu yn gyfreithiol. Ar gronfeydd wrth gefn amcangyfrifedig cynghorau, rwy'n tybio bod y ffigur hwn wedi'i gymryd o gyfrifon cyfunol cynghorau ac yn cynnwys cronfeydd wrth gefn ysgolion. Mae ychydig o dan 1,500 o ysgolion yng Nghymru, a fyddai'n gwneud £15 miliwn pe bai balans cyfartalog yr ysgolion yn £10,000, a £45 miliwn pe bai'n £30,000. Pam fod angen balansau ar ysgolion? Yn gyntaf, mae'n rhaid iddynt gael arian wrth gefn. Os ydynt yn colli niferoedd disgyblion yn ystod y flwyddyn, yna, yng nghyfrifiad blynyddol ysgolion ar lefel y disgybl, mae'n rhaid iddynt dalu'r arian yn ôl, cynilo ar gyfer adnewyddiadau a gwelliannau nad ydynt yn gyfrifoldebau i'r cyngor. Mae cynghorau'n defnyddio cronfeydd wrth gefn yn erbyn gorwariant adrannol posibl—gwasanaethau cymdeithasol drwy'r rhan fwyaf o Brydain. Hefyd gyda chronfeydd wrth gefn, mae cynghorau'n benthyg ar gyfer cynlluniau cyfalaf o'u cronfeydd wrth gefn, sy'n rhatach na benthyca ar gyfradd y farchnad, yn enwedig ar adegau pan fo cyfraddau llog yn isel, felly bydd arian yn ymddangos ar ddwy ochr y fantolen.

Yn olaf, mae rhai cynghorau'n defnyddio rhan o'u cronfeydd wrth gefn i ffurfio yswiriant yn erbyn tân ysgol sy'n dinistrio'r adeilad. Deallaf hefyd fod cynghorau wedi bod yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i gefnogi gwariant eleni. Fodd bynnag, dim ond unwaith y gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwariant refeniw ac mae'n creu bwlch ariannu ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Nawr, rwyf am droi at y dreth gyngor. Gosodwyd gwerthoedd band ar 1 Ebrill 2003. Mae yna bobl yma a oedd yn yr ysgol bryd hynny. Mae'n anflaengar; roedd i fod yn anflaengar. Band A yw eiddo hyd at £44,000; band D £91,000 i £123,000; band H, £324,000 i £424,000. Mae'r dreth gyngor wedi ei gosod ar fand D ac mae'r holl daliadau band eraill yn seiliedig ar hwnnw. Mae eiddo ym mand A yn talu 75 y cant o'r swm sy'n cael ei godi ar fand D. Mae eiddo ym mand H yn talu ddwywaith y swm a godir ar fand D. Dyma lle mae'n mynd yn anflaengar. Bydd perchennog tŷ gwerth £40,000 yn gorfod talu dwy ran o dair o'r dreth gyngor am dŷ gwerth £120,000, er nad yw ond traean o'i werth. Bydd perchennog tŷ gwerth £420,000 yn gorfod talu ddwywaith cymaint â thŷ gwerth £120,000, er ei fod yn werth dros dair gwaith cymaint. A bydd—. Dyma lle mae'n mynd yn annheg; mae'n anflaengar, ond lluniwyd y system i fod yn anflaengar, oherwydd cafodd ei chyflwyno ar ddiwedd treth y pen, ac roeddent yn dal i fod eisiau i bobl mewn eiddo isel ei werth dalu—

Fel yr amlinellwyd gennych, natur y modd y caiff y dreth gyngor ei chodi ar hyn o bryd—a ydych chi'n awgrymu, felly, y dylai fod treth gyfrannol uniongyrchol ar eiddo yng Nghymru?

Roeddwn ar fin dweud hynny. Diolch, Sam. Byddwn yn ffafrio gweld pob tŷ'n cael ei ailbrisio a bod y dreth gyngor yn ganran sefydlog o werth yr eiddo. Byddaf yn galw eto naill ai am fwy o fandiau a newid i'r lluosydd, neu brisiad pris cyfredol, gyda phob eiddo'n talu'r un ganran o'i werth.

Os caf symud ymlaen at yr asesiad o wariant safonol, sy'n darparu ein cyllid allanol cyfun, mecanwaith y Llywodraeth ydyw ar gyfer dyrannu grant yn seiliedig ar gyfrifiad o'r hyn y mae angen i bob awdurdod lleol ei wario i ddarparu lefel safonol o wasanaeth ar gyfradd gyffredin o dreth gyngor. At ddiben cyfrifo dyraniadau asesiadau o wariant unigol, mae llywodraeth leol yn cael ei rhannu'n 55 o feysydd gwasanaeth tybiannol. Pan oeddwn yn ymwneud â chynnal a chadw priffyrdd, aeth o 52 y cant poblogaeth a 48 y cant hyd ffordd i 50 y cant o bob un. Efallai y byddwch yn ystyried hwnnw'n newid bach. Symudodd rai cannoedd o filoedd o bunnoedd o Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd i Bowys, sir Benfro a Gwynedd. Unwaith eto, efallai y byddwch yn meddwl bod hwnnw'n syniad da.

Mae asesiadau o wariant safonol y pen ar gyfer pob cyngor yn amrywio rhwng £2,520 ym Mlaenau Gwent i £2,049 yn Nhrefynwy. Mae dull ar wahân o ddosbarthu yn bodoli ar gyfer pob elfen gwasanaeth, er mwyn dosbarthu'r cyfanswm ar draws awdurdodau. Mae'r dull dosbarthu'n perthyn i ddau gategori: yn seiliedig ar fformiwla ac yn seiliedig ar ddosbarthiad. Rwy'n siŵr fod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cael llond bol arnaf yn gofyn am hyn, ond pam na allant gyhoeddi'r cyfrifiadau? Dangoswch sut mae asesiad o wariant safonol pob awdurdod lleol yn cael ei gyfrifo. Mae'n rhaid ei fod gennych, neu ni fyddech yn gweithio arno. Mae'r cyllid allanol cyfun yn cael ei gyfrifo o'r asesiad o wariant safonol a derbyniadau treth gyngor bras y cynghorau. Unwaith eto, mae'r ffigurau'n cael eu cyhoeddi, ond nid y cyfrifiadau.

Yn olaf, yr hyn y byddech yn ei ddisgwyl yw y byddai'r cynghorau sydd â fwyaf o eiddo ym mandiau A a B yn cael y swm mwyaf o gyllid allanol cyfun, ac y byddai'r rhai sydd â fwyaf o eiddo ym mand D ac uwch yn cael y swm lleiaf, sef yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd. Felly, rwyf am ddirwyn i ben gyda fy nghais, ac mae'n debyg y byddaf yn ei wneud yn y cyfarfod nesaf hefyd, pan fyddwn yn trafod hyn: a wnaiff y Llywodraeth gyhoeddi ei chyfrifiadau?

16:55

Rwy'n ffodus iawn fy mod yn gallu cynrychioli hanner bwrdeistref sirol wych Conwy, ond yn anffodus, mae trigolion y fwrdeistref sirol honno yn wynebu'r cynnydd uchaf erioed yn eu biliau treth gyngor eleni, ac wrth gwrs, dyma'r uchaf eleni ar draws Cymru gyfan, sef 9.9 y cant. Mae hwnnw'n gynnydd annerbyniol yn fy marn i, ar adeg pan fo pobl yn wynebu pwysau costau byw, ac mae'n arbennig o sarhaus fod pobl yn fy etholaeth yn wynebu'r math hwnnw o gynnydd pan edrychwch ar y cannoedd o filiynau o bunnoedd sy'n cael eu cronni gan rai awdurdodau lleol yn ne Cymru, oherwydd pe bai'r adnoddau hynny'n cael eu rhyddhau, byddai mwy o arian i fynd o gwmpas i helpu teuluoedd gweithgar i allu talu'r biliau hyn. Dyna pam rwyf o blaid gweld fformiwla ariannu ddiwygiedig sy'n ystyried lefel y cronfeydd wrth gefn sydd gan awdurdodau lleol, yn ogystal â mireinio'r fformiwla fel ei bod yn decach i bobl hŷn, oherwydd, a dweud y gwir, maent yn cael eu diystyru ar hyn o bryd yn y ffordd y mae'r fformiwla ariannu'n gweithio. Mae gennym broblem hefyd, wrth gwrs, gyda theneurwydd poblogaeth mewn llawer o awdurdodau lleol gwledig. Nid yw'n ymddangos eu bod yn cael yr un math degwch ag awdurdodau lleol trefol gyda'u cyllid, ac mae hwnnw hefyd yn rhywbeth sydd angen ei newid.

Gwrandewais gyda diddordeb ar y sylwadau gan Llyr Huws Gruffydd, pan oedd yn gwrthwynebu unrhyw fath o honiad y dylai'r cyhoedd—Duw a'n gwaredo—gael hawl i ddweud eu barn drwy refferendwm os cynigir cynnydd gormodol yn y dreth gyngor. Gwn fod Plaid Cymru'n ei hystyried yn wrthun i ofyn barn y cyhoedd ar unrhyw beth, yn enwedig pan fo annibyniaeth mor amhoblogaidd yng Nghymru, ond y gwir amdani yw bod y system o alluogi refferenda ar gyfer codiad gormodol yn y dreth gyngor yn gweithredu fel cymhelliant i gynghorau yn Lloegr gadw eu biliau'n isel, a dyna pam fod ganddynt godiadau is ar gyfartaledd yn Lloegr ers cyflwyno'r rheol nag a welsom yma yng Nghymru.

Nawr, rwy'n disgwyl y bydd y Gweinidog, yn ei hymateb i'r ddadl hon yn nes ymlaen, yn cyfeirio at y ffaith bod trethi cyngor, ar gyfartaledd, yn is yng Nghymru nag y maent yn Lloegr a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond rhaid inni beidio ag anghofio hyn: fel cyfran o'n hincwm, oherwydd bod pecynnau cyflog yn llawer is yng Nghymru, rydym yn talu mwy o dreth gyngor nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig mewn gwirionedd, a hynny oherwydd bod yr economi yma yng Nghymru wedi cael ei chamreoli'n ddybryd dros ddau ddegawd gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r rhai sydd wedi eu cynnal yn y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Felly, mae'n rhaid inni ail-gydbwyso’r pethau hyn.

Rwy'n credu mai cael refferenda i sicrhau pleidlais gadarnhaol cyn i unrhyw godiadau sylweddol gael eu cyflwyno yw'r cam cywir ymlaen. Ni ddylai pobl Conwy orfod talu codiad o 9.9 y cant a hwythau eisoes yn ceisio cadw dau ben llinyn ynghyd. Ac rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU—. Nid prinder arian ydyw—mae'n ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o arian i allu anfon £155 miliwn yn ôl a gwario £0.25 biliwn ar faes awyr a dal i wario cannoedd o filiynau yn ychwanegol, hyd yn oed, ar system fetro heddiw, fel y clywsom. Maent yn gallu dod o hyd i'r arian hwnnw i lawr cefn y soffa, ond eto ymddengys nad ydynt yn gallu dod o hyd i'r adnoddau i rewi'r dreth gyngor yn ystod blwyddyn pan fo pobl angen i'r biliau hynny gael eu rhewi. Felly, nid wyf yn derbyn nad oes digon o arian ar gael. Mae'r arian gennym; mae angen i ni fwrw ati i rewi biliau'r dreth gyngor yma yng Nghymru.

17:00

Yr argraff y mae’r ddadl hon yn ei rhoi yw bod gan lywodraeth leol arian ychwanegol rywsut yn gorwedd o gwmpas y lle, ond y gwir amdani, ar ôl degawd o gyni Ceidwadol, wedi'i ddilyn gan bwysau chwyddiant enfawr a achoswyd gan Lywodraeth Liz Truss, yw bod awdurdodau lleol mewn sefyllfa enbyd. Mae'r dyfodol hefyd yn llwm o dan Rishi Sunak, gan nad oedd cyllideb y gwanwyn yn cynnwys unrhyw beth i wasanaethau cyhoeddus. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, methodd y Canghellor wneud y pethau mwyaf sylfaenol y mae twf yn dibynnu arnynt, gan arwain at gwymp o gymharu ag unrhyw beth a gyflawnwyd yn y 60 mlynedd diwethaf, gan adael teuluoedd ledled y DU yn waeth eu byd. Fel cynghorydd, cofiaf y Canghellor George Osborne yn gwneud toriad ar ôl toriad i wasanaethau cyhoeddus, gan ddweud bod rhaid talu am y diffyg. Ac eto, o dan Lywodraethau Torïaidd olynol, mae’r diffyg wedi tyfu allan o reolaeth.

Na, rwyf am barhau. Clywsom y bore yma yn y pwyllgor fod darparwyr gwasanaethau’n ofni y gallem fod ar fin cychwyn ar gyfnod arall o gyni enbyd. Fel cyngor, gwnaethom drefnu ac ailstrwythuro, gan wneud gwerth bron i £100 miliwn o arbedion dros y 10 mlynedd hynny. Aethom o chwe depo i un, gan ad-drefnu bron i 40 y cant o staff, a thorri adrannau 30 y cant flwyddyn ar ôl blwyddyn. Pan na allem dorri rhagor ar wasanaethau hanfodol, megis gofal iechyd cymdeithasol ac addysg, aethom ag arian oddi ar y gwasanaethau stryd, ac unrhyw beth yr ystyrid ei fod yn anstatudol. A bellach, rydym yn wirioneddol bryderus am wasanaethau hamdden, fel y buom yn ei drafod yn y pwyllgor.

Ddeng mlynedd yn ôl, arferai’r dreth gyngor fod yn 24 y cant o’r gyllideb—dôi'r gweddill gan y Llywodraeth. Ond nawr, ar gyfartaledd, mae oddeutu 30 y cant o'r gyllideb. Fe wnaeth rhai cynghorau dan arweiniad y Ceidwadwyr dorri cyllid i wasanaethau yn hytrach na chodi’r dreth gyngor, a chofiaf gyngor Conwy'n torri cyllid addysg a gwasanaethau eraill yn hytrach na chodi’r dreth gyngor yn sylweddol, ac yn fy mlwyddyn gyntaf fel Aelod o'r Senedd, cofiaf ymweld ag ysgol ym Mae Colwyn a oedd yn ei chael hi'n anodd iawn oherwydd y toriad i gyllid addysg. Gadawyd y pot yn wag ar gyfer y weinyddiaeth newydd yn dilyn yr etholiadau y llynedd. Ni allent ddarparu gwasanaethau hanfodol, ac felly mae’r dreth gyngor wedi gorfod codi i helpu i’w darparu, gan gynnwys addysg unwaith eto, ac i helpu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed.

Nid wyf am eu derbyn—rwyf am barhau. Mae gennyf lawer i'w ddweud yma, iawn.

Mae awdurdodau eraill wedi torri swyddogion a gwasanaethau yn hytrach na chodi’r dreth gyngor, sy’n golygu bod ganddynt bellach brinder swyddogion i ddarparu gwasanaethau craidd, fel cynllunio neu ofal iechyd cymdeithasol, a swyddogion priffyrdd technegol i wneud cais am gyllid grant Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol. Rhoddir mwy o bwysau ar gynghorau bellach oherwydd y ffordd y mae’n rhaid i awdurdodau lleol wneud ceisiadau am gyllid yn lle cyllid yr UE, sy’n fater arall.

Ni ellir defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer cyllid refeniw parhaus, oherwydd, ar ôl iddynt gael eu defnyddio, dyna ni, ac fel y dywedodd Mike yn gynharach, mae cyllidebau’r ysgolion yn rhan o’r cronfeydd wrth gefn. Mae'n hanfodol fod rhywfaint o gronfeydd wrth gefn yn cael eu cadw pe bai difrod stormydd i seilwaith a gynhelir gan y cyngor. Rydym wedi gweld tirlithriadau ac ymsuddiant yn achosi cryn ddifrod dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i lawiadau tebyg i law monsŵn. Mae eira trwm yn golygu gwaith graeanu costus am gyfnodau estynedig. Mae cludiant i'r ysgol wedi cynyddu 40 y cant, ac mae’n ansefydlog iawn. Ac os bydd gweithredwr yn mynd i'r wal, mae'r pris yn codi'n sylweddol, wrth i gystadleuaeth leihau. Ac os bydd teulu ag anghenion gofal sylweddol yn symud i'r ardal yn ystod y flwyddyn, gall gostio cannoedd o filoedd o bunnoedd i awdurdod lleol. Dyna pam fod angen y cronfeydd wrth gefn hyn arnynt, yn enwedig yr awdurdodau mwy.

Rwyf eisoes wedi gofyn i’r Gweinidog ac rwyf wedi gofyn yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai o'r blaen am i’r fformiwla ariannu gael ei hadolygu, a’r ymateb oedd y byddai hynny'n digwydd. Un maes y mae angen ei adolygu, efallai, yw cyllid ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, yn seiliedig ar oedran cyfartalog poblogaeth. Mae gan Gonwy, er enghraifft, y lefel uchaf o bobl dros 80 oed yng Nghymru. Cafwyd galwadau am gyllid fesul y pen, ond wedyn byddai’r rheini mewn ardaloedd mwy gwledig ar eu colled yn sylweddol; mae'n gydbwysedd gofalus. Yn aml, cynghorau yw ein cyflogwyr mwyaf, er bod y gweithlu wedi'i leihau, ac maent yn darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae ein cymunedau a’n heconomi yn dibynnu arnynt. Maent yn addysgu, yn darparu gwasanaethau cynllunio, tai, trafnidiaeth a’r holl wasanaethau cymorth sy’n tynnu pwysau oddi ar ein GIG. Ni chânt eu gwerthfawrogi ddigon gan y Torïaid, ac mae angen newid Llywodraeth y DU, a Thrysorlys sy’n parchu ac yn gweld gwerth yr hyn y mae ein cynghorau'n ei wneud. Diolch.

17:05

Mae'n bleser gennyf gyfrannu at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, yn enwedig gan y bydd llawer o bobl ledled Cymru yn cael eu biliau treth gyngor newydd mewn ychydig ddyddiau. Credaf, felly, fod rhaid i bawb ohonom gofio—gan aralleirio un o arlywyddion gwych America yn wir—fod Llywodraeth wedi'i chreu o'r bobl, gan y bobl ac ar gyfer y bobl. Dylem sicrhau felly fod talwyr y dreth gyngor yn cael y gwerth gorau am arian wrth iddynt gefnogi gwasanaethau lleol hanfodol.

Felly, a ydym yn cael gwerth am arian? Wel, nac ydym. Yn Abertawe, a arweinir gan Lafur, bydd cynnydd aruthrol o 5.95 y cant yn y dreth gyngor o fis Ebrill ymlaen, gan gostio £1,893 i eiddo cyfartalog band D yn yr ardal dros y flwyddyn nesaf—mae hynny'n deirgwaith yr hyn y byddent wedi'i dalu ym 1999. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a arweinir gan Lafur, bydd cynnydd o 4.9 y cant yn costio £2,052 i eiddo band D—cynnydd o 217 y cant o gymharu â 1999. Ac yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'n 4.5 y cant; yn Rhondda Cynon Taf, mae'n 3.9 y cant—gwell, ond mae'n dal i ychwanegu costau i'r cartref cyffredin mewn cyfnod anodd. Rwyf wedi clywed meinciau Llafur a Phlaid Cymru yn dweud nad eu bai hwy yw hyn, mae'r cyfan i'w wneud â chyni, ac nad oes ganddynt unrhyw arian ar ôl, ac eto, gyda'i gilydd, mae'r cynghorau rwyf wedi'u crybwyll yn eistedd ar werth dros £0.75 biliwn o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio. Mae bron i ddwy ran o dair o'r ffigur hwnnw ym meddiant dau ohonynt, Abertawe a Rhondda Cynon Taf. RhCT, gyda £270 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn, sydd â'r lefel uchaf yng Nghymru.

Yng ngoleuni’r ffigurau hyn yng Ngorllewin De Cymru, mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn cytuno â chyn-arweinydd Llafur Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pan ddywedodd, a dyfynnaf, mai'r 'opsiwn hawdd a diog mewn perthynas â llywodraeth leol yw beio cyni a'r Torïaid. Yn rhy aml mae'n anwybyddu ffactorau eraill, megis penderfyniadau gwael ynghylch cyllidebau a darparu gwasanaethau.' Dyna ddyfyniad gan gyn arweinydd Llafur cyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef, yn enwedig pan fo arian ar gyfer gwasanaethau'n cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau porthi balchder, targedau anfforddiadwy a chyfrifyddu gwael, a Llywodraeth Cymru sydd wrth wraidd hyn.

Mae a wnelo hyn â'r ffaith bod bron i £100 miliwn mewn dyledion wedi'i ddileu gan gynghorau Cymru dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys ardrethi annomestig, costau llys ac anfonebau ar ben y dreth gyngor; y ffaith bod RhCT yn lleihau casgliadau bagiau du i unwaith bob tair wythnos er mwyn osgoi dirwy o £420,000 gan Lywodraeth Cymru os nad yw'n cyrraedd targedau ailgylchu; y ffaith, ar ôl datgan argyfwng hinsawdd yn 2019, fod cyngor Abertawe wedi amcangyfrif y byddai'n costio £187 miliwn iddynt gyrraedd sero net erbyn 2030 o dan dargedau Llywodraeth Cymru, ac mae wedi cyllidebu £4 miliwn ar gyfer gwneud hynny.

Diolch byth, cafodd ymdrechion gan gynghorwyr dinas Abertawe i enwi ystafelloedd ar eu hôl eu hunain yn arena newydd gwerth £50 miliwn y ddinas eu hatal y llynedd. Fodd bynnag, mae’r diffyg cyfrifo darbodus hwn yn cyrraedd y lefel uchaf o Lywodraeth yma yng Nghymru. Nid yn unig fod Llywodraeth Cymru yn gwastraffu symiau enfawr o arian parod ar derfyn cyflymder cenedlaethol amhoblogaidd a digroeso o 20 mya, ond oherwydd COVID, methodd wario £155 miliwn mewn arian cyhoeddus oherwydd rheolaeth wael ar gyfrifon, a bu’n rhaid ei dalu’n ôl i’r Trysorlys—[Torri ar draws.] Roedd hwnnw'n arian y gallai busnesau bach a chynghorau fod wedi'i ddefnyddio i aros ar sylfaen sefydlog a hyd yn oed i drosglwyddo'r arbedion i drethdalwyr yn y cyfnod hwn o angen.

Gwn fod arweinydd Plaid Cymru wedi dweud o’r blaen fod y dreth gyngor yn ffordd anflaengar o drethu, ond nid yw hynny’n ystyried setliad ariannu llywodraeth leol, sydd mor hael yn rhoi’r lefel uchaf o arian wrth gefn i’r awdurdodau lleol hynny, gan adael eraill sy'n mantoli eu cyfrifon i wneud iawn am y diffyg gyda chynnydd hyd yn oed yn fwy yn y dreth gyngor. Nid yw'r fformiwla ariannu llywodraeth leol, sy’n gymhleth ac wedi dyddio, yn rhoi bargen deg i gynghorau na threthdalwyr. Y math gorau o dreth gyngor flaengar, yn lle’r un a amlinellwyd yn y cytundeb cydweithio ac ym maniffesto Plaid Cymru ar gyfer 2021, fyddai un a fyddai’n mynd â llai o arian o bocedi pobl yn y lle cyntaf. Efallai y dylem fod o’r farn y dylai cynyddu trethi fod yn ddewis olaf, yn hytrach na dewis cyntaf. Felly, ydw, rwy'n credu y dylid adolygu’r fformiwla llywodraeth leol yn annibynnol, ac y dylai cynghorau sicrhau bod eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio yn cael eu defnyddio i helpu talwyr y dreth gyngor.

Lywydd, ni welaf unrhyw beth sy'n flaengar yn niwygiadau Llywodraeth Cymru i’r dreth gyngor. Pan fydd busnes bach sy’n ceisio goroesi ar ôl dwy flynedd o gyfyngiadau symud yn cael ei daro nawr gan y posibilrwydd o godiad treth gyngor o 300 y cant os nad ydynt yn bodloni rhyw darged mympwyol o 182 diwrnod o ddefnydd, dyma’r pethau a dyma’r adeg pan fo'n rhaid inni sefyll yn gadarn. Felly, rwy’n llwyr gefnogi’r cynnig ger ein bron heddiw, gan fod angen i rywbeth newid. Diolch yn fawr.

Mae'n amlwg nad oes gan y Blaid Geidwadol gyferbyn unrhyw syniad beth yw dyletswyddau a chyfrifoldebau llywodraeth leol, felly diolch am ymhelaethu ar hynny. Felly, codaf i gefnogi’r gwelliannau a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths. Rydym bellach wedi dioddef mwy na degawd o gyni Torïaidd, a fydd yn cyrraedd ei arddegau ym mis Mai. O David Cameron i Theresa May i Boris Johnson, Liz Truss a Rishi Sunak nawr—ideoleg asgell dde wedi'i seilio ar leihau'r wladwriaeth sydd wedi dinistrio gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr.

Nid yw setliad cyllid presennol Llywodraeth Cymru, sy’n dod yn bennaf gan Lywodraeth y DU, yn ddigon. Nid yw’n ddigon i ddiwallu’r holl bwysau eithriadol y mae Cymru’n ei wynebu nawr, heb sôn am bob un o’n blaenoriaethau ar gyfer pobl Cymru yn 2023-24. Hyd yn oed ar ôl y cyllid ychwanegol yn natganiad yr hydref, mae ein setliad yn dal i fod yn werth hyd at £3 biliwn yn llai mewn termau real, a hyd at £1 biliwn yn llai y flwyddyn nesaf. Cyllid cyfalaf affwysol i Gymru a dim trydaneiddio i Gymru. Er hyn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £227 miliwn yn ychwanegol—yn darparu £227 miliwn yn ychwanegol er gwaethaf hyn—yn 2023-24, a £268 miliwn yn 2024-25, i’r setliad llywodraeth leol yng Nghymru. Dyma’r realiti, felly hoffwn i hynny gael ei glywed.

Mae hyn yn adeiladu ar y cyllid a amlinellwyd yn rhan o adolygiad o wariant Llywodraeth Cymru yn 2022, a bellach yn darparu—[Torri ar draws.]—a bellach yn darparu £1 biliwn hyd at 2024-25. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn y Senedd, yr wythnos diwethaf, a gwn, o siarad ag arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan a dirprwy arweinydd y cyngor, Jamie Pritchard, fod awdurdod lleol Islwyn yn gwerthfawrogi’r berthynas waith adeiladol yn fawr—y berthynas waith adeiladol—sydd ganddo â Llywodraeth Cymru a’r Gweinidogion.

Felly, gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2023-24 yn cynyddu—dyma’r realiti—7.9 y cant ar sail debyg am debyg, o gymharu ag eleni, ac ni fydd unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai na 6.5 y cant. Cafodd Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gynnydd o 6.9 y cant. Ond gŵyr pob un ohonom nad yw hyn yn ddigon, a'i fod yn creu heriau gwirioneddol, a diolch i Lywodraeth y DU, dyma y gofynnir i lywodraeth leol ei wneud: gweithio gyda dim digon. Dyma'r realiti. Ac wrth weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, mae partneriaid yn parhau i hyrwyddo achosion blaengar, i'r setliad gynnwys cyllid i alluogi awdurdodau i barhau i dalu costau ychwanegol cyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal a’r galw am gyflogau uwch, rhywbeth y gwn y bydd yn cael ei groesawu’n fawr—ac unwaith eto, nid yw'n ddigon, ac i weithwyr gofal, nid yw'n ddigon—tra bo Llywodraeth Cymru wedi darparu £20 miliwn o gyfalaf bob blwyddyn i alluogi awdurdodau i ymateb i'r flaenoriaeth a rennir gennym i ddatgarboneiddio er mwyn cyflawni sero net—a naratif dryslyd iawn o ran yr hyn y mae’r blaid gyferbyn yn dymuno i awdurdodau lleol ei wneud ynghylch hynny.

Felly, mae gennyf gwestiwn difrifol i feinciau’r Ceidwadwyr gyferbyn. Ac os ydynt o ddifrif—yn wirioneddol o ddifrif—ynglŷn â diwygio treth yn y wlad hon, efallai yr hoffent fynd yn syth i'r lefel uchaf. Yr wythnos diwethaf, darparodd Rishi Sunak grynodeb o’i incwm a’i enillion, a’r hyn a ddangoswyd oedd bod y Prif Weinidog cyfoethocaf y mae Prydain erioed wedi'i gael—[Torri ar draws.]—os caf orffen—yn talu—[Torri ar draws.]

17:10

Felly, mae’r Prif Weinidog cyfoethocaf y mae Prydain erioed wedi’i gael—[Torri ar draws.]—hoffwn orffen—yn talu cyfradd is o dreth na phobl sy’n gweithio, sy’n wynebu’r baich treth uchaf ers 70 mlynedd. Sut mae hynny'n deg? Sut mae hynny'n deg i drethdalwyr Cymru, sut mae'n deg i weithwyr gofal cymdeithasol, sy'n talu eu ffordd?

Yr un hen—. A ydych chi'n dweud nad oes gan weithwyr gofal cymdeithasol uchelgais?

Yr un hen Dorïaid: un rheol i'r cyfoethog a rheol arall i'r gweithwyr. Ac mae'n briodol fod y BBC wedi gwneud addasiad newydd o Charles Dickens ar gyfer nosweithiau Sul, gan fod y Llywodraeth Dorïaidd bresennol yn mynd â'r DU yn ôl i oes Fictoria—ac nid fi yn unig sy'n dweud hyn; ewch i siarad â'r Gronfa Ariannol Ryngwladol.

Felly, Ddirprwy Lywydd, dim ond—[Torri ar draws.] Yn amlwg, nid ydynt yn ei hoffi. Dim ond drwy ethol Llywodraeth Lafur yn y DU yn y dyfodol y gallwn obeithio adfer ein hannwyl wasanaethau cyhoeddus sydd dan warchae yn y wlad hon, ac mae'n hen bryd inni wneud hynny. Diolch.

Rwy’n falch iawn o gefnogi’r cynnig hwn, gyda fy nghyd-Aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig. Yn Lloegr, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol, awdurdodau tân a chomisiynwyr heddlu a throseddu benderfynu a yw'r dreth gyngor y maent yn bwriadu ei chodi yn ormodol. Mae ein Hysgrifennydd Gwladol yn gosod trothwyon i fesur gormodedd, a elwir yn 'egwyddorion refferendwm' ar gyfer gwahanol ddosbarthiadau o awdurdodau. Pe bai’r un rheol ar waith yng Nghymru, byddai refferendwm wedi’i sbarduno yng Nghonwy yn sicr. Byddai hynny wedi caniatáu i bobl ddweud eu barn ar y cynnydd o 9.9 y cant a gyflwynwyd gan Grŵp Annibynnol Conwy yn Gyntaf, Llafur Cymru a Phlaid Cymru. Ac mae gennym Aelodau dros ogledd Cymru yma o Blaid Cymru a Llafur sy'n cefnogi hyn.

Mae pob un ohonom yn ymwybodol o rym refferenda i wneud gwahaniaeth. Mae hyn hefyd yn wir mewn perthynas â'r dreth gyngor. Er enghraifft, cynhaliwyd refferendwm gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu swydd Bedford, a gynigiodd gynnydd o 15.8 y cant yn y dreth gyngor yn 2015-16. Cynhaliwyd pleidlais ar 7 Mai 2015, lle roedd 30 y cant o bleidleiswyr yn cefnogi’r cynnig, a 69.5 y cant yn ei wrthwynebu. Nid yw Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn rhoi’r un ysgogiadau democrataidd i drigolion Cymru ddwyn cynghorau fel Conwy a Llywodraeth Cymru i gyfrif, pan fo'n sôn am gynnydd gormodol yn y dreth gyngor. Nid oes cymaint â hynny er pan oeddwn yn gyfrifol am y portffolio llywodraeth leol, Sam, ac rwy’n dweud wrthych nawr: roedd yna gap. Rwyf bob amser yn cofio bod yna gap a oedd yn—[Torri ar draws.] Rydym wedi defnyddio’r cap o’r blaen. Felly, rwyf innau hefyd yn cymeradwyo'r syniad o refferendwm ac yn dweud y dylem ailgyflwyno’r cap yma.

O ganlyniad i hyn, mae penderfyniad cyngor Conwy i godi’r dreth gyngor 9.9 y cant, y cynnydd mwyaf yn unrhyw le yng Nghymru, bellach yn faich sy’n peri pryder i lawer o bobl sydd o dan bwysau—

17:15

Diolch. A ydych chi'n derbyn bod y cynghorau hyn yn wynebu cyfyng-gyngor enfawr rhwng naill ai ddinistrio’r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu darparu, gan adael pobl agored i niwed ar drugaredd Duw a ŵyr beth, neu gynyddu trethi cyngor? Felly, a ydych chi'n dweud, wrth wrthwynebu'r cynnydd, y byddech chi, fel Ceidwadwr, o blaid dinistrio gwasanaethau mewn gwirionedd?

Na, yr hyn rwy'n ei ddweud—. Yr hyn rwyf wedi’i glywed yn uchel ac yn glir yw eu bod yn awyddus i weld y math o gynnydd yn y dreth gyngor y mae fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands—. Llai na 3 y cant. Dyna oedd y dreth gyngor—[Torri ar draws.] Wel, ie. Ond fel Aelod, rydych yn cynrychioli Conwy. Ni ddylech fod o blaid 9.9 y cant.

O. Golyga hyn y bydd y dreth gyngor yn awdurdod lleol Conwy wedi cynyddu 224.16 y cant, sy'n syfrdanol, ac mae fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, yn—. Hynny yw, cyfran fach iawn o hynny. Llafur-Plaid Cymru oedd y gweddill. Dyma’r cynnydd canrannol mwyaf—o, a rhai aelodau annibynnol—gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd y cynnydd mewn cyflog rheolaidd ymhlith gweithwyr ym Mhrydain yn 6.4 y cant rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2022. Nid oes unrhyw amheuaeth na ellir cyfiawnhau’r codiad o 9.9 y cant, yn enwedig pan fo Torfaen—[Torri ar draws.] Na. Byddwn wedi gwneud, wyddoch chi, ond ni wnewch chi. Pan fo Torfaen wedi llwyddo i gael cynnydd o 1.9 y cant. Ond gwyddom pam fod Torfaen wedi llwyddo i gael cynnydd o 1.9, pan welwn yr holl arian wedi cronni a’r adnoddau sydd ganddynt o ran eu cronfeydd wrth gefn.

Yn hytrach na gweithredu ar wariant neu reolaeth wastraffus, mae ein cyngor bellach yn disgwyl i drethdalwyr lleol dalu’r bil. Felly, mae £155.5 miliwn wedi’i roi'n ôl i Lywodraeth y DU. Gallai rhywfaint o'r swm hwnnw fod wedi dod i Gonwy. Ni fydd yr un ohonoch yma wedi wynebu’r bobl a’r busnesau hynny pan gawsom y cyfyngiadau symud ychwanegol am dair wythnos gan Lywodraeth Lafur Cymru. Roedd llawer o'r busnesau hynny ar eu gliniau. Gallai’r arian hwnnw fod wedi mynd iddynt hwy. Gallai’r arian hwnnw fod wedi mynd tuag at ofal cymdeithasol, lle, unwaith eto—mae’n drueni fod y Gweinidog iechyd a gofal cymdeithasol—. Unwaith eto, byddent wedi elwa’n fawr pe bai'r arian hwnnw wedi'i roi tuag at eu cyllidebau. Mae'n warthus fod arian wedi dod yma gan Lywodraeth y DU—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Joyce, na. Mae'n warthus fod arian wedi dod yma i'w wario yn ystod argyfwng a phandemig COVID, ac yn hytrach na'i wario neu ei ddarparu neu ei ddyrannu lle roedd ei wir angen, fe eisteddoch chi arno, gan feddwl efallai na fyddai Llywodraeth y DU yn ei adfachu. Ond y cyfan a ddywedaf yw bod angen ichi gael yr un uchelgais a dyhead fel Llywodraeth yma ag sydd gan Brif Weinidog y DU. Diolch.

17:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oeddwn wedi bwriadu defnyddio’r ddadl hon i addysgu’r Aelodau am gyfrifon cyfunol 2020-21, ond fe ddechreuaf gyda hynny, gan ein bod wedi cael nifer o gyfraniadau sydd wedi bod mor ffeithiol anghywir, mae’n anodd iawn eu hanwybyddu. Felly, rydym yn sôn yma am flwyddyn y pandemig. Yn amlwg, roedd honno’n flwyddyn eithriadol. Daeth llawer o arian ychwanegol i ni yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol honno. Yr hyn a wnaethom fel Llywodraeth oedd gweithredu o fewn rheolaeth gyllidebol gyffredinol ein llinell wariant adrannol, a osodwyd gan y Trysorlys, ac wrth gwrs, dylem fod wedi cael rhywfaint o hyblygrwydd i newid rhwng rheolaethau refeniw a chyfalaf. Gwnaed ein penderfyniadau i wneud y mwyaf o’n gwariant cyfalaf gan ystyried y rheolau yng nghanllawiau'r Trysorlys ar gyfer y gyllideb gyfunol, a ddywedai y gellir newid cyllidebau refeniw i gyfalaf, ac mae hynny'n rhywbeth rydym wedi’i wneud droeon yn y gorffennol i reoli ein sefyllfa ariannol. Ac yn ôl yr hyn a ddeallem gan y Trysorlys, fe allem wneud hynny, ac y byddai'n cael ei reoli ar ddiwedd y flwyddyn. Ar ôl cryn dipyn o ohebu â’r Trysorlys, gwnaed penderfyniad na fyddent yn caniatáu hynny wedi’r cyfan.

Ond er eglurder, ac er mwyn gwneud y cymariaethau hyn: roedd cyfanswm y tanwariant gan holl adrannau Llywodraeth y DU yn y flwyddyn honno yn £25 biliwn. Tanwariodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei hun dros 9 y cant, gan roi £18.6 biliwn o arian heb ei wario yn ôl i'r Trysorlys. Yn gyffredinol, rhoddodd adrannau Llywodraeth y DU bron i 6 y cant o’u cyllid yn ôl i’r Trysorlys y flwyddyn honno. Yng Nghymru, dim ond 1 y cant o'r adnoddau a oedd ar gael i ni oedd y ffigur a roddwyd yn ôl. Byddai'r gyfran Barnett, pe baem wedi rhoi ein cyfran Barnett yn ôl o’r hyn a roddwyd yn ôl gan adrannau Llywodraeth y DU, dros £1 biliwn. Fel y bu, roedd yn swm o £155 miliwn, ond ni fyddai wedi bod yn unrhyw beth o gwbl pe baem wedi cael caniatâd i wneud y newid hwnnw o refeniw i gyfalaf. [Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad ar hynny, gan fy mod wedi nodi’r ffeithiau.

Nawr, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i aelodau etholedig a staff llywodraeth leol ar draws yr holl awdurdodau am y gwaith hollbwysig a wnânt ar ran cymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru. Ac mae wedi bod yn gyfnod hynod o brysur i lywodraeth leol. Mae cynghorau ledled Cymru yn parhau i gyflawni, ac rydym yn parhau i'w cefnogi i wneud hynny. Rydym wedi eu cefnogi ac wedi gweithio'n agos iawn gyda hwy drwy gyfnod anodd cyni, drwy lifogydd a'r pandemig, a bellach, rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda hwy drwy'r argyfwng costau byw. Yn wyneb chwyddiant o dros 10 y cant, bydd awdurdodau'n wynebu heriau gwirioneddol wrth ddarparu gwasanaethau a mantoli eu cyllidebau gan barhau i gefnogi eu cymunedau lleol drwy gadw'r cynnydd yn y dreth gyngor mor fach ag y gallant. Ac mae wyneb meinciau’r Ceidwadwyr yn cwyno am gynnydd i'r dreth gyngor pan fo Llywodraeth y DU wedi ceisio amddifadu gwasanaethau cynghorau a gweddill y sector cyhoeddus o adnoddau dros nifer o flynyddoedd yn gwbl warthus.

Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â darparu unrhyw gyllid o gwbl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn natganiad y gwanwyn y tu hwnt i eiriau. Felly, mae'n rhaid inni wneud yr hyn a allwn gyda’r ysgogiadau sydd gennym, ac mae ein cyllideb wedi blaenoriaethu’r gwasanaethau rheng flaen hynny. Yn y flwyddyn ariannol hon, cafodd llywodraeth leol yng Nghymru gynnydd o 9.4 y cant yn eu cyllideb, sy’n adeiladu ar y 7.9 y cant a gawsant y llynedd. Mae’r rhain yn godiadau da ac maent yn adlewyrchu’r flaenoriaeth a roddwn yn ein cyllideb i wasanaethau cyhoeddus rheng flaen.

Serch hynny, mae chwyddiant yn taro cyllidebau cartrefi a gwasanaethau awdurdodau lleol ledled Cymru, ac mae cynghorau wedi gorfod gwneud y penderfyniadau anodd hynny wrth osod eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ac wrth gwrs, byddant wedi ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael iddynt wrth wneud y penderfyniadau hynny. Byddant wedi edrych ar ba wasanaethau y gallant eu torri ymhellach heb effeithio ar y rhai mwyaf anghenus. Byddant wedi edrych ar wasanaethau cyffredinol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt, a gweld a ellir eu gwneud yn fwy effeithlon. A byddant wedi ystyried pa ffioedd y gallant eu codi, neu ble gallant gyflwyno ffioedd newydd, a byddant wedi edrych ar bris tanwydd wrth gwrs, a'r rhagolygon ar gyfer chwyddiant yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, byddant wedi mynd ymlaen i amcangyfrif pa mor bell y gallant ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn i helpu gyda phob un o'r penderfyniadau hyn heb beryglu eu sefyllfa hirdymor.

Ac ar gronfeydd wrth gefn, mae'n werth ystyried, mewn gwirionedd, mewn perthynas â chyllideb gyffredinol llywodraeth leol, ar lefel Cymru gyfan, mai'r dehongliad ehangaf o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio yw 26 y cant o gyfanswm y gwariant blynyddol, felly dyna ddarpariaeth tri mis o holl gostau llywodraeth leol. Ond mewn gwirionedd, dim ond am 10 diwrnod y byddai cronfeydd wrth gefn cyffredinol neu heb eu dyrannu yn para, a chredaf fod hynny'n rhoi persbectif gwahanol iawn.

Wrth gwrs, bydd cynghorau'n ystyried y cronfeydd wrth gefn yn ofalus iawn. Er bod rhai cyd-Aelodau wedi dweud bod £2.75 biliwn yn swm mawr, mae’n rhy syml inni dderbyn y disgrifiad technegol o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, sydd, fel y dywedodd Mike Hedges, yn cynnwys cronfeydd wrth gefn ysgolion unigol a chronfeydd wrth gefn y cyfrif refeniw tai, yn ogystal â grantiau ar gyfer prosiectau penodol, a chymryd yn ganiataol y gellir gwneud hynny oll er mwyn gwneud i’r penderfyniadau anodd hyn y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu ddiflannu heb orfod poeni am y flwyddyn nesaf.

Yn amlwg, bydd cynghorau wedi meddwl yn ofalus am effeithiau cynnydd yn y dreth gyngor ar eu cymunedau, ac mae’r penderfyniadau hynny ynghylch gwasanaethau, cronfeydd wrth gefn a chodiadau’r dreth gyngor, yn gwbl briodol, yn cael eu gwneud gan aelodau a etholwyd yn lleol yn ddemocrataidd, a chan bobl sydd o ddifrif ynglŷn â'u cyfrifoldebau ac sy'n wynebu'r bobl y maent yn gwneud penderfyniadau drostynt bob dydd yn eu cymunedau. Mae’r dreth gyngor yn rhan hanfodol o ariannu llywodraeth leol, gan godi dros £1.8 biliwn y flwyddyn. Ond nid ydym yn gosod cap artiffisial ar y penderfyniadau hynny yma yng Nghaerdydd, a fyddai’n effeithio ar gymunedau ledled Cymru, ac nid ydym yn gosod cost a baich ychwanegol refferenda lleol ar gyfer codiadau uwchlaw lefel a ddewisir yn ganolog, fel y gwnânt yn Lloegr.

Gwnaed nifer o gyfeiriadau at awdurdodau lleol penodol, ond y dreth gyngor gyfartalog band D yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yw £1,879, felly mae hynny £186 yn is na’r cyfartaledd dros y ffin yn Lloegr. Nid wyf yn cytuno â Darren Millar; nid yw'n bosibl gwneud y cymariaethau uniongyrchol hynny am nifer o resymau, yn anad dim gan fod cymorth ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn fwy hael ac yn llawer ehangach yma yng Nghymru mewn gwirionedd.

Yn amlwg, bydd angen i gynghorau ystyried y goblygiadau ar gyfer y blynyddoedd i ddod wrth ddefnyddio cronfeydd wrth gefn neu osod y dreth gyngor. Yng Nghymru, mae cynnydd o 1 y cant yn y dreth gyngor yn cyfateb i £18 miliwn, felly gallai penderfyniad i osod cyfradd o 1 y cant yn is dros dair blynedd olygu bod cyngor yn derbyn colled o £54 miliwn dros y cyfnod hwnnw. Credaf mai enghraifft ddefnyddiol i dynnu sylw at y gwahanol ddewisiadau a'r hyn y mae hynny'n ei olygu dros amser fyddai edrych ar Gonwy, sydd wedi cael ei grybwyll sawl gwaith y prynhawn yma. Pe bai’r awdurdod lleol hwnnw wedi gosod lefelau band D ar yr un lefelau â Gwynedd ym mhob blwyddyn yn y degawd diwethaf, byddai’r cyngor wedi casglu £63 miliwn yn ychwanegol. Pe baent wedi gosod eu band D ar yr un lefel â sir Ddinbych, byddent wedi casglu £44 miliwn yn ychwanegol. Fodd bynnag, mae trigolion yng Nghonwy wedi talu £1,218,000 yn llai o dreth gyngor dros y cyfnod hwnnw o gymharu â thrigolion Gwynedd, neu £865,000 yn llai dros y cyfnod o 10 mlynedd o gymharu â sir Ddinbych. Felly, rydym bellach yn gweld effaith gronnol hynny yn y sefyllfa bresennol.

Felly, dylid meddwl am y dreth gyngor yn ehangach, a chydnabod y gwaith pwysig rydym yn ei wneud gyda Phlaid Cymru, gan fod y dreth gyngor yn ffurf anflaengar ar drethiant, sy'n effeithio'n anghymesur ar ardaloedd tlotach ac aelwydydd tlotach, a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i weithio gyda Phlaid Cymru i wneud system y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar. Rydym yn sicr yn arwain y ffordd wrth wneud hynny, a byddaf yn adrodd yn ôl i'r Senedd yn rheolaidd iawn ar y cynnydd a wnawn ar yr ymrwymiad hollbwysig hwnnw.

17:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb am gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma? Rydym oll yn gytûn wrth ganmol awdurdodau lleol a'r gwaith gwych a wnânt, ac nid oes a wnelo hyn â'r hyn a wnânt hwy; mae a wnelo â’r system ariannu a sut mae angen iddi fod yn decach i dalwyr y dreth gyngor a’r cynghorau eu hunain.

A gaf fi ddiolch i Sam am agor y ddadl, a rhannu eto fod £2.75 biliwn ar gael mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio? Rwyf wedi gwneud llawer o waith ymchwil ar hyn, ac mae £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn yn gynnydd o £600 miliwn yn y cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Nid y cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn unig yw'r cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio; maent yn cynnwys cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd hefyd. Oes, mae cyfran ohonynt yn falansau ysgolion, sy’n rhan fach iawn o’r £2.75 biliwn. Mae cyfran o gyfalaf yno hefyd, sy'n swm cymharol fach. Mae'r potiau mwyaf yn gyffredinol yn y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, ac yn aml mae'r rhain wedi'u chwyddo, neu heb gynlluniau i'w defnyddio dros y blynyddoedd nesaf neu'n flaenorol. Felly, yn sicr mae angen adolygu’r sefyllfa honno.

Mae’n rhaid inni ddygymod â'r ffaith bod gwerth £2.75 biliwn o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ar gael i gynghorau tra bo gennym godiad cyfartalog o 5.5 y cant yn y dreth gyngor. Fy nadl i yw bod rhywbeth o’i le yn sylfaenol ar fformiwla sy’n galluogi rhai cynghorau i ddarparu eu gwasanaethau gan gronni lefelau enfawr o gronfeydd wrth gefn, tra bod eraill yn ei chael hi'n anodd cael digon i ddarparu eu gwasanaethau statudol. Mae'r fformiwla wedi dyddio, ac nid yw'n ddigon da am gydnabod pethau fel gwledigrwydd, teneurwydd poblogaeth a chostau cyflenwi unedol mewn siroedd mawr a gwledig.

A gaf fi ddiolch i Llyr am ei gyfraniad? Yn anffodus, rydym wedi clywed llawer o hyn heddiw, beio cyni, beio Llywodraeth y DU, ond y ffaith amdani yw bod hyn yn rhywbeth sydd wedi’i ddatganoli ers 25 mlynedd. Mae’r arian sy’n llifo i Gymru yn gyllid heb ei neilltuo. Golyga hynny y gellir ei wario mewn unrhyw ffordd y mae'r Llywodraeth yn dymuno. Mae wedi’i ddatganoli’n llwyr, a gellir gwneud dewisiadau. Mater i’r Llywodraeth yw dewis sut i dorri a rhannu'r gacen honno. Efallai nad yw'r gacen yn ddigon mawr, ond y gwir amdani yw bod y system bresennol yn rhoi briwsion i rai a darnau mawr o gacen i eraill. Mae hynny'n foesol anghywir. Mae angen inni wneud rhywbeth i newid hynny, wrth symud ymlaen.

Roedd Mike yn llygad ei le, a soniais am rywfaint o hynny yn fy sylwadau agoriadol ynglŷn â balansau ysgolion ac elfennau eraill o’r cronfeydd wrth gefn. Mae Mike hefyd yn llygad ei le fod angen inni ddeall sut y caiff yr asesiad o wariant safonol ei lunio fel y gallwn ei herio a’i ddadansoddi ymhellach.

Nid oes gennyf unrhyw beth ond parch ac edmygedd at ein cynghorau. Mae'r gwaith a wnânt yn rhyfeddol. Fel cyn arweinydd am 13 mlynedd, gwn pa mor anodd y mae pethau wedi bod iddynt, ac mae’n fy mrifo pan fyddaf yn clywed pobl fel Rhianon yn gweiddi nad ydym yn deall llywodraeth leol. Rydym yn deall llywodraeth leol yma, a dyna pam ein bod yn cyflwyno’r ddadl hynod bwysig hon heddiw.

Tynnodd Janet sylw unwaith eto at yr angen am refferendwm, gan nodi'r materion yng Nghonwy, gyda’r codiadau uchel, fel y gwnaeth Darren, gan gydnabod nad yw’n oddefadwy. Mae arnom angen cyfle i’r cyhoedd allu dwyn i gyfrif drwy refferendwm i herio’r codiadau hynny.

Tynnodd Tom sylw at yr angen am werth gorau, a dangosodd sut nad yw sawl rhan o Gymru o reidrwydd yn cael y gwerth gorau am yr arian y maent yn ei godi. Y ffaith amdani yw bod y fformiwla ariannu bresennol yn galluogi amrywio annerbyniol rhwng sefyllfaoedd y cynghorau ac yn caniatáu i lefelau annerbyniol o gronfeydd wrth gefn gronni gan sawl cyngor ar adeg pan fo teuluoedd yn wynebu heriau ariannol enfawr. Mae hyn yn foesol anghywir. Iawn, ni ddylid gwario cronfeydd wrth gefn yn ddi-hid, ac ni ddylid eu defnyddio ar gyfer costau parhaus ychwaith, ond ni ddylid eu gadael i gronni ar adeg o angen mawr. Roedd gennym gynllun yn y gyllideb ar gyfer sut y gallem ddefnyddio cronfeydd wrth gefn gormodol i greu terfyn isaf ar gyfer y sector cyfan, i alluogi pob awdurdod i gynnal y dreth gyngor ar lefel isel am ychydig o flynyddoedd drwy’r cyfnod anodd hwn, ac ni roddwyd ystyriaeth i hynny. Gallem fod wedi gwneud hyn; gallem fod wedi cyflawni rhywbeth yma.

Mae arnom angen i Weinidogion Llafur sefyll dros bobl Cymru drwy gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru fel y gellir sicrhau dyfodol cynaliadwy i gynghorau a’u trethdalwyr. Mae arnom angen i Lywodraeth Cymru adolygu lefelau’r cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ac a glustnodwyd a gweithio gyda’r sector i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn gormodol i gadw lefel y dreth gyngor cyn ised â phosibl yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yn y pen draw, pobl weithgar Cymru fydd yn gorfod wynebu baich cynnydd aruthrol yn y dreth gyngor, a dyna pam ein bod hefyd yn credu y dylai fod yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal refferenda lleol wrth gynnig cynnydd gormodol yn y dreth gyngor cyn gweithredu cynnydd o’r fath.

I gloi, Lywydd, mae angen inni weld newid ar fyrder yn y system ariannu llywodraeth leol, i sicrhau bod pobl yn cael gwerth am arian o'u trethi. Felly, Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein cynnig heddiw.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Os caf atgoffa’r Aelodau hefyd, os ydych wedi cymryd rhan mewn dadl, mae’n bwysig eich bod yn aros yn y Siambr neu ar Zoom i wrando ar yr ymateb i'r ddadl, oherwydd efallai’n wir y cewch eich enwi yn yr ymateb hwnnw, ac efallai'n wir y byddwch chi, weithiau, yn dymuno ymateb eich hun. Credaf fod pob un ohonom yn gwybod am bwy rydym yn sôn. Os nad yw rhai ohonoch yn gwybod, meddyliwch am y peth.

10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gofal lliniarol

Eitem 10 sydd nesaf, dadl y Ceidwadwyr, unwaith eto, ar ofal lliniarol, a dwi'n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8239 Darren Millar

Cynnig bod Senedd Cymru:

1. Yn nodi'r adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol ar brofiadau gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19.

2. Yn cydnabod bod gofal hosbis a gofal lliniarol wedi chwarae rôl hanfodol yn ystod pandemig COVID-19, a bod y gofal hwnnw wedi mynd uwchlaw a thu hwnt o ran cefnogi cleifion a'u teuluoedd.

3. Yn gresynu at y ffaith bod rhai pobl wedi wynebu anawsterau yn ystod pandemig COVID-19, o ran cael mynediad at ofal diwedd oes yn y cartref ac mewn cartrefi gofal, er gwaethaf ymdrechion gorau'r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

4. Yn cydnabod y rhagwelir y bydd y galw am ofal lliniarol yn y gymuned yn dyblu erbyn 2040 a bod y pandemig wedi rhoi cipolwg o sut y bydd y system iechyd a gofal cymdeithasol yn ymdopi o dan bwysau tebyg yn y dyfodol agos.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda'r sector gofal lliniarol i ddysgu o bandemig COVID-19, a sicrhau bod gofal lliniarol wrth wraidd cynlluniau ar gyfer pandemigau posibl yn y dyfodol;

b) blaenoriaethu datblygu gallu gofal lliniarol yn y gymuned, uwchraddio arferion da sy'n bodoli eisoes, a dal pawb sy'n agos i gleifion, gan gynnwys plant;

c) sicrhau bod penderfyniadau gweithlu a chyllid yn blaenoriaethu llesiant, staffio, addysg ac anghenion hyfforddi'r rhai sy'n gweithio ar draws y sbectrwm llawn o ofal lliniarol a diwedd oes.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae ein cynnig heddiw'n nodi adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar ofal hosbis a gofal lliniarol ar brofiadau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19 yng Nghymru. Mae’r cynnig wedi’i seilio’n gyfan gwbl ar yr adroddiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth a ddeilliodd o hyn, a oedd yn ceisio rhoi llais a phlatfform i bobl a sefydliadau ar reng flaen y pandemig. Mae’r adroddiad yn crynhoi’r ymatebion ysgrifenedig a llafar a ddaeth i law, a oedd yn manylu ar brofiadau pobl o ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y cartref ac mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig. Rhoddodd y rhan fwyaf o ymatebwyr dystiolaeth yn seiliedig ar eu profiad unigol, personol a phroffesiynol eu hunain fel aelodau teuluol, gofalwyr di-dâl, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys a meddygon.

Mae’n amlwg o’r cyfraniadau hynny fod pandemig COVID-19 wedi troi byd gofal lliniarol ar ei ben, gan darfu’n ddramatig ar fywydau unigolion ar ddiwedd eu hoes, eu hanwyliaid, a’r gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a fu'n eu cefnogi. Rwy'n diolch i'r teuluoedd, y gofalwyr, y nyrsys, y meddygon a llawer o bobl eraill a rannodd eu hadroddiadau torcalonnus ond ysbrydoledig a chraff hefyd am ofalu am rai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed mewn cyfnod eithriadol o anodd. Roeddem am ddysgu o’u profiadau o ofal diwedd oes yn y cartref ac mewn cartrefi gofal fel y gallwn fod yn fwy parod ar gyfer unrhyw drychineb yn y dyfodol, a bod mewn gwell sefyllfa i fynd i'r afael ag effeithiau parhaus COVID a'r argyfwng costau byw. Credwn fod hyn yn bwysicach nag erioed, o ystyried y rhagwelir y bydd y galw am ofal lliniarol yn y gymuned bron yn dyblu erbyn 2040, ac mae’r pandemig wedi rhoi cipolwg i ni ar sut y bydd ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn ymdopi o dan bwysau tebyg yn y dyfodol heb fod yn rhy bell. Mae ein cynnig heddiw'n ymgorffori hyn, ac yn cydnabod bod gofal hosbis a gofal lliniarol wedi chwarae rhan hollbwysig yn ystod pandemig COVID-19 ac wedi mynd y tu hwnt i’r galw wrth gefnogi cleifion a’u teuluoedd.

Mae canfyddiadau allweddol o'r ymchwiliad yn cynnwys y ffaith bod cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal a lleoliadau eraill wedi achosi poen a thrallod aruthrol, gan adael llawer o gleifion a’u teuluoedd wedi'u hynysu ar ddiwedd eu hoes, gan arwain at achosion o brofedigaeth gymhleth. Roedd llawer o bobl wedi cael profiadau torcalonnus o ofalu am anwyliaid gartref, ac wedi'i chael hi'n anodd cael mynediad at gymorth gofal lliniarol digonol. Roedd pobl ar ddiwedd eu hoes yn wynebu trosglwyddiadau anodd a thrasig rhwng y cartref, yr ysbyty a chartrefi gofal. Sbardunodd ymatebion i'r pandemig chwyldro mewn cydweithredu, gweithio creadigol a'r defnydd o dechnoleg cyfathrebu ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a oedd yn darparu gofal lliniarol. Roedd staff cartrefi gofal a’r rheini a oedd yn gweithio gyda hwy'n pryderu ar brydiau ynglŷn â rhyddhau cleifion o’r ysbyty i gartrefi gofal, a’r defnydd o benderfyniadau i beidio â darparu triniaeth ddadebru gardio-anadlol’.

Roedd prinder eang o staff, cyfarpar diogelu personol—PPE—a meddyginiaeth diwedd oes, a gafodd effaith ar y ddarpariaeth o ofal lliniarol hanfodol. Ychwanegodd mesurau atal a rheoli heintiau mewn cartrefi at y tarfu, gan ei gwneud yn ofynnol yn aml i breswylwyr hunanynysu yn eu hystafelloedd am gyfnodau hir. O ganlyniad, wynebodd nifer ohonynt ynysigrwydd cymdeithasol, gan arwain, yn aml, at ddirywiad sylweddol yn eu lles meddyliol a chorfforol. Gwnaeth y defnydd o fasgiau amddiffynnol yr ychydig gyswllt a gaent gyda gofalwyr a phreswylwyr yn anos. Roedd hyn yn arbennig o ddinistriol i'r rheini a chanddynt anawsterau cyfathrebu neu nam gwybyddol, ac effeithiwyd yn anghymesur ar y bobl hynny.

Canfu ein hadroddiad fod diffyg cyfarpar diogelu personol a phrinder meddyginiaeth diwedd oes, yn enwedig yn nyddiau cynnar y pandemig, yn broblemau cyffredin a nodwyd gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a fu'n darparu gofal lliniarol yn y gymuned. Mewn llawer o achosion, roedd gweithwyr gofal lliniarol a gofal cymdeithasol yn ddibynnol ar roddion neu eitemau cyfarpar diogelu personol, fel feisorau, sgrybs a masgiau o'r gymuned leol, a gwnaethant ddisgrifio sut y teimlent yn ofnus am eu diogelwch. Cyfeiriodd tystiolaeth gan Marie Curie at astudiaeth lle soniodd bron hanner yr ymatebwyr gofal iechyd yng Nghymru am brinder cyfarpar diogelu personol a hyfforddiant annigonol ar sut i’w ddefnyddio, gan effeithio ar eu gallu i ddarparu gofal i gleifion. Canfu’r un astudiaeth fod ymatebwyr o Gymru'n fwy tebygol o brofi prinder meddyginiaeth o gymharu â rhannau eraill o’r DU, gyda mwy na 40 y cant yn nodi prinder o feddyginiaeth diwedd oes.

Mae ein hadroddiad yn argymell felly y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn ganolog i gynlluniau ar gyfer pandemigau posibl yn y dyfodol, a gweithio gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol i adolygu sut y gellid rhoi rheoliadau ymweld yn y dyfodol ar waith mewn ffordd fwy tosturiol a chyson i’r rheini sydd angen gofal lliniarol, a bod yn rhaid i ganfyddiadau ac argymhellion ymchwiliad COVID-19 y DU gael eu llywio gan brofiadau pobl yng Nghymru, a chydnabod yr effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar systemau gofal iechyd y genedl, yn enwedig i bobl ar ddiwedd eu hoes.

Er bod yr ymateb ffurfiol i’n hadroddiad, a ddaeth i law gan Lywodraeth Cymru ddoe, wedi derbyn y cyntaf o’r argymhellion hyn, mae’n achos pryder nad yw'r testun cysylltiedig ond yn cyfeirio’n uniongyrchol at ‘ymgynghori’ â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol â phrofiadau personol o'r tu allan i leoliadau’r GIG, yn hytrach na gweithio gyda hwy i adolygu sut y gellid rhoi rheoliadau ymweld yn y dyfodol ar waith mewn ffordd fwy tosturiol a chyson ar gyfer y rheini sydd angen gofal lliniarol.

Er bod ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw’r ail o’r argymhellion hyn yn berthnasol iddynt, maent yn dweud eu bod yn ei gefnogi, ac yn nodi bod ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 y DU wedi ymrwymo’n llwyr i gasglu gwybodaeth am brofiadau pobl yng Nghymru a ledled y DU yn gyffredinol. Fodd bynnag, mynegodd COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru eu pryder parhaus wrthyf yn y Senedd yr wythnos diwethaf y bydd fformat ymchwiliad y DU yn ei atal rhag cael ei lywio'n llawn gan eu profiadau.

Canfu ein hadroddiad hefyd fod y pandemig wedi arwain at gynnydd aruthrol yn y galw am ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned, gyda marwolaethau yn y cartref yn cynyddu dros 30 y cant, ac yn parhau ar y lefel hon heddiw, tra bo marwolaethau mewn cartrefi gofal ac ysbytai wedi dychwelyd yn agosach at y lefelau cyn COVID, ar ôl cyrraedd uchafbwynt ar ddechrau'r pandemig; fod gofal lliniarol wedi'i flaenoriaethu a'i ailgyfeirio mewn cymunedau i ddiwallu'r cynnydd yn y galw; fod gwasanaethau gofal hosbis a gofal lliniarol a oedd wedi’u hintegreiddio ac yn canolbwyntio mwy ar y gymuned cyn COVID mewn gwell sefyllfa i ymdopi â heriau’r pandemig; fod pobl, er gwaethaf ymdrechion anhygoel gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, yn dal i wynebu diffyg cymorth gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn eu cartrefi, ac yn dibynnu’n helaeth ar deuluoedd a ffrindiau ar ddiwedd eu hoes; a bod cartrefi gofal, ar adegau, wedi wynebu heriau wrth gael mynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes, ac yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi cymaint â lleoliadau gofal iechyd cydnabyddedig.

Clywodd y grŵp trawsbleidiol adroddiadau a oedd yn peri cryn bryder, ynglŷn â rhai cartrefi gofal yn cael eu cymell i dderbyn cleifion a chanddynt COVID, neu yr amheuid bod ganddynt COVID, yn ogystal â dryswch ynglŷn â'r lle gorau i ofalu amdanynt. Dywedodd staff cartrefi gofal fod sefyllfaoedd o’r fath wedi'u rhoi dan bwysau aruthrol, ac wedi creu pryderon gwirioneddol i breswylwyr a’u teuluoedd. Gwnaeth profiadau o’r fath iddynt deimlo bod y sector cartrefi gofal a’i breswylwyr wedi cael eu hanghofio, ac yn cael eu hystyried yn llai gwerthfawr yn neges ehangach y Llywodraeth i ddiogelu'r GIG.

Mae ein cynnig yn gresynu at y ffaith bod rhai pobl, yn ystod pandemig COVID-19, wedi wynebu anawsterau wrth gael mynediad at ofal diwedd oes gartref ac mewn cartrefi gofal, er gwaethaf ymdrechion y rheini a oedd yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd ein hargymhellion yn cynnwys argymhelliad y dylai’r adolygiad o'r cyllid ar gyfer gofal diwedd oes roi blaenoriaeth i ddatblygu capasiti gofal lliniarol yn y gymuned, gyda’r nod o wneud gofal yn y cartref ac mewn cartrefi gofal yn gyfartal o ran blaenoriaeth i ofal cleifion mewnol, gan ddechrau gyda gwella cymorth y tu allan i oriau, a sicrhau bod gan bobl un pwynt mynediad at ofal cydgysylltiedig. Hefyd, y dylai bwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ddatblygu cynllun gweithredu manwl ar gyfer y datganiad ansawdd newydd ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes sy’n sicrhau bod blaenoriaethau pobl ar gyfer mannau darparu gofal yn cael eu hadlewyrchu wrth gynllunio'r gweithlu a buddsoddi ar lefel leol. Ac y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn rhan annatod o ddatblygiad y gwasanaeth gofal cenedlaethol newydd a’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol, a chynnwys pobl a chanddynt brofiadau personol a phroffesiynol yn y broses hon.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn, nid yw’r testun cysylltiedig yn cydnabod bod yn rhaid i ddarparwyr gofal hanfodol anstatudol yn y gymuned, gan gynnwys hosbisau a chartrefi gofal, ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o lunio a darparu gwasanaethau cysylltiedig yn y dyfodol. Mae ein cynnig yn gofyn i’r Senedd alw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r sector gofal lliniarol, i ddysgu o bandemig COVID-19, a sicrhau bod gofal lliniarol yn cael lle canolog yn y cynlluniau ar gyfer pandemigau posibl yn y dyfodol. Ac i flaenoriaethu datblygiad capasiti gofal lliniarol yn y gymuned; a sicrhau bod penderfyniadau ynghylch y gweithlu a chyllid yn blaenoriaethu'r rheini sy'n gweithio ar draws y sbectrwm llawn o ofal lliniarol a gofal diwedd oes.

Fel y dywedodd Marie Curie wrthym, mae angen cymorth sylweddol a pharhaus i sicrhau bod gofal lliniarol yn cael y gweithlu sydd ei angen arno yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

17:45

Diolch am gyflwyno’r cynnig heddiw, Mark Isherwood. Dwi'n falch iawn o gael cymryd rhan yn y ddadl yma, ac yn ddiolchgar iawn am y gwaith gafodd ei wneud gan y grŵp trawsbleidiol gofal hosbis a lliniarol yn creu yr adroddiad fu’n sail i'r cynnig yma o'n blaenau ni heddiw. Ac, wrth gwrs, mae eisiau cofio am bob un unigolyn fu’n rhan o'r broses ymgynghori am rannu eu profiadau cyn ac yn ystod y pandemig. Fel mae'r adroddiad yn ei ddweud, mae mor, mor bwysig bod y ffordd rydym ni'n darparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes, y ffordd rydym ni'n cynllunio’r ddarpariaeth, yn newid o ganlyniad i ddysgu o brofiadau y pandemig. Mi wnaeth y pandemig danlinellu mewn ffordd glir iawn y problemau mawr sydd gennym ni ar hyn o bryd efo’r system ofal lliniarol a gofal diwedd oes sydd gennym ni yng Nghymru. Nid yn unig oedd diffyg gwytnwch y ddarpariaeth i'w weld yn blaen, a'r diffyg blaengynllunio ar gyfer senario pandemig, er enghraifft, yn arwain at brofedigaethau ofnadwy o anodd—profiadau mor anodd i deuluoedd ym mhob cwr o Gymru, ond mi welwyd hefyd, wrth gwrs, bod y model cyllido elusennol hefyd yn fregus tu hwnt. Ond dwi'n ofni nad ydym ni yn gweld y mathau o wersi y byddem ni'n dymuno gweld y Llywodraeth yn eu dysgu.

Roedd yn siomedig iawn gweld y cyhoeddiad na fydd hosbisau plant yn cael cynnydd mewn cymorth ariannol ar gyfer darparu gofal diwedd oes fel rhan o gyllid cam 2, a heb unrhyw amserlen ar gyfer cychwyn cam 3, mae'r hosbisau'n dod yn fwyfwy rhwystredig a phryderus am y dyfodol. Apeliaf ar Lywodraeth Cymru eto heddiw i gofio’r gwerth y mae hosbisau’n ei gynnig, ac mae hynny'n golygu gwerth ym mhob ystyr y gair—gwerth ariannol, ond hefyd, yn bwysicach fyth, y gwerth o wybod ein bod yn rhoi’r gofal gorau ar yr adegau anoddaf.

Gwnaeth y pandemig ein hatgoffa hefyd wrth gwrs o’r potensial gwych sydd gennym i ddarparu gofal diwedd oes yn ein cymunedau. Roedd y meddylfryd cyfunol a amlygwyd gan y pandemig ym mhob un ohonom yn golygu, ar adeg pan oedd adnoddau a lle yn gyfyngedig, y gallem barhau i ddarparu math o ofal i bobl yn eu dyddiau a'u hwythnosau olaf. Ond ni allwn ac ni ddylem orfod cael system iechyd sy'n dibynnu'n ormodol ar ewyllys da. Fel y dywed yr adroddiad, gallem weld y galw am ofal lliniarol bron yn dyblu erbyn 2040—dyblu—ac felly, nid yn unig fod angen inni weld cynnydd yn y ddarpariaeth yn ein systemau presennol, cynnydd yn y capasiti sydd gennym ar hyn o bryd, ond mae'n rhaid inni ystyried hefyd sut y gallwn wneud pethau’n wahanol yn y dyfodol, sut y gallem ddefnyddio cymunedau i ddarparu gofal diwedd oes lliniarol mewn ffordd gyfannol sy’n gyfforddus, yn darparu cysur nid yn unig i’r claf, ond wrth gwrs, i'w teuluoedd. Bydd angen arloesi, bydd angen meddylfryd newydd, a dyna pam fod adroddiad fel hwn gan y grŵp trawsbleidiol mor bwysig. Ond yn anochel, bydd angen cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd, gan gynyddu adnoddau, a chymorth ariannol i deuluoedd sy'n tynnu pwysau oddi ar ysbytai.

Nawr, o ran polisi, caniataodd y pandemig fwy o reolaeth i arbenigwyr yn eu maes dros bolisi'r Llywodraeth. Os oes gennym fwriadau go iawn i sicrhau bod gofal lliniarol nid yn unig yn cael lle canolog mewn cynlluniau ar gyfer pandemigau yn y dyfodol, ond hefyd yn flaenoriaeth ar gyfer gwell gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gyffredinol, mae'n rhaid inni ddysgu gwersi gwerthfawr ynghylch yr effaith gadarnhaol y gall arbenigwyr ei chael, yn ysgogi syniadau wrth wraidd y system, wrth arwain a chyflawni ym maes iechyd yng Nghymru.

I gloi, fel dywedais i, mae'r ddadl yma yn gyfle eto, onid ydy, i edrych ar y problemau penodol fu yng Nghymru yn ystod cyfnod y pandemig. Ond allwn ni ddim deall y problemau yna'n iawn, allwn ni ddim dysgu gwersi sy'n deillio o'r profiadau yna, oni bai bod penderfyniadau cafodd eu cymryd yng Nghymru yn cael eu sgrwtineiddio yn iawn yma yng Nghymru, a dyna pam ein bod ni ar y meinciau yma yn dal i alw am ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru. Ac, efo adroddiadau heddiw yn tanlinellu y broblem honno—y newyddion mai dim ond tair wythnos fydd yn cael eu rhoi i Gymru yn ymchwiliad y Deyrnas Unedig—sut allwn ni ddisgwyl i'r holl wersi sydd angen cael eu dysgu, yn cynnwys y maes gofal diwedd oes, gael eu trafod a'u dysgu?

17:50

Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw. Ac yn gyntaf, a gaf fi dalu teyrnged i waith fy nghyd-Aelod Mark Isherwood a'r gwaith y mae wedi'i wneud yn ystod ei amser yn y lle hwn, i roi llais ar bwnc sy'n aml yn anodd ac yn emosiynol i'w drafod? Ychwanegaf hefyd fy nghanmoliaeth i’r staff gweithgar a gyflogir ar reng flaen y sector gofal lliniarol, sydd naill ai’n gweithio mewn hosbisau neu’n darparu gofal diwedd oes yng nghartrefi cleifion.

Mae fy etholwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn ffodus i gael eu gwasanaethu gan ddarparwyr gofal hosbis a gofal lliniarol rhagorol. Y darparwyr cenedlaethol, ie, ond maent hefyd yn cynnwys darparwyr lleol Paul Sartori a Tŷ Cymorth, a gwn fod y staff yn Paul Sartori wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr i adroddiad y grŵp trawsbleidiol.

Mae hwn yn bwnc a fydd yn agos at galon nifer ohonom a'n teuluoedd—gan gynnwys fy un i. Mae'r ffaith y rhagwelir y bydd y galw am ofal lliniarol yn y gymuned yn dyblu erbyn 2040, fel y nododd Rhun—dyddiad sy’n dal i swnio ymhell yn y dyfodol ond sydd lai na dau ddegawd i ffwrdd. Dim ond drwy sicrhau ein bod yn edrych ar arferion newydd, yn cynnig hyfforddiant newydd ac yn recriwtio ac yn hyfforddi gweithlu newydd y gellir sicrhau capasiti i ateb y galwadau hyn. Mae adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn crybwyll atebion i lawer o’r materion hyn. Mae’r gwaith a ddeilliodd o’r ymchwiliad yn sicr yn drawiadol, ac rwy'n cymeradwyo'r holl Aelodau a’r rhanddeiliaid a gyfrannodd ato. Cyn canolbwyntio ar rai materion penodol o adroddiad y grŵp trawsbleidiol, mae pwyllgor iechyd San Steffan wedi clywed tystiolaeth yr wythnos hon i'w hymchwiliad i farwolaeth â chymorth, hunanladdiad â chymorth. Clywsant gan y Farwnes Meacher, cadeirydd mudiad Dignity in Dying, a wnaeth y datganiad llwm fod

'rhai pobl yn gorfod dewis rhwng hunanladdiad, dioddefaint a'r Swistir'.

Datganiad emosiynol, ond un y teimlaf ei fod yn wir i nifer o bobl ar gamau olaf eu bywydau yma yng Nghymru. Mae urddas mewn marwolaeth yn ganolog i ganfyddiadau’r adroddiad hwn. Yn anffodus, pan oedd pandemig COVID ar ei anterth, roedd yna adegau pan na fu hyn yn bosibl. Bydd gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Gweinidog, Ddirprwy Weinidog, ynglŷn â pha wersi a ddysgwyd o’r profiadau hyn dair blynedd yn ôl, fel ein bod yn gwella’n barhaus ac yn rhannu a gweithredu arferion gorau.

Roeddwn yn bryderus wrth glywed bod penderfyniad wedi’i wneud i aros tan 2024 a chwblhau adolygiad arall o gyllid cyn mynd i’r afael â’r pwysau costau byw uniongyrchol sy’n bygwth gwasanaethau hosbis ar hyn o bryd. Mae costau staff yn cynyddu’n barhaus, gyda chodiad cyflog disgwyliedig y GIG, sy’n debygol o gostio o leiaf £4.4 miliwn y flwyddyn i hosbisau Cymru. Mae’n destun pryder hefyd na wnaed penderfyniad i gymeradwyo argymhelliad bwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes am daliad untro o £1 filiwn i gefnogi costau ynni a thanwydd ar gyfer gwasanaethau hosbis yn y sector gwirfoddol.

Lywydd, nid yw gwasanaethau hosbis a gofal lliniarol bob amser yn cael y flaenoriaeth a’r sylw y maent yn ei haeddu, ond i lawer, maent yn darparu gwasanaeth hanfodol yn nyddiau olaf eu bywydau. Felly, hoffwn glywed sail resymegol y Llywodraeth dros wneud y penderfyniadau hyn, o ystyried yr effaith ar weithrediad hosbisau yng Nghymru yn y dyfodol. Yn olaf, yn yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld achos cyhoeddus iawn lle rhoddodd ysbyty y gorau i roi bwyd a dŵr i glaf â chyflwr angheuol am 28 diwrnod, gan gyflymu eu marwolaeth, arfer y cyfeirir ato fel llwybr Lerpwl, nad yw'n cael ei arfer ers 2014. Mae'r arfer hwn yn dileu urddas yr unigolyn wrth iddynt wynebu marwolaeth. A all y Gweinidog amlinellu pa fesurau diogelu sydd ar waith i sicrhau bod cleifion sydd ar eu taith o fywyd i farwolaeth yn gallu cwblhau’r daith honno ag urddas a pharch? Diolch, Lywydd.

17:55

Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw. Credaf fod pob Aelod yn ymwybodol iawn o werth gofal lliniarol a gwasanaethau diwedd oes yn eu hardaloedd eu hunain, ac mae hynny’n sicr yn wir o'm rhan i. Rwy’n gyfarwydd iawn â Gofal Hosbis Dewi Sant; rydym yn ffodus yng Nghasnewydd a’r cyffiniau fod gennym wasanaeth diwedd oes a gofal lliniarol o’r ansawdd uchaf drwy Gofal Hosbis Dewi Sant. Mae'n hosbis cleifion mewnol a arweinir gan feddygon ymgynghorol, gydag uned 15 gwely, a all gefnogi pobl a chanddynt anghenion cymhleth o ran rheoli symptomau, ac yn amlwg, mae'n darparu'r gofal diwedd oes hwnnw a gofal seibiant weithiau. A hyd cyfartalog arhosiad yno yw pythefnos. Mae’r hosbis yn darparu ar gyfer cleifion o Flaenau Gwent, Caerffili, sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen, yn ogystal â chanolbarth a de Powys. Ac wrth gwrs, yr hyn y mae llawer iawn o bobl yn ei werthfawrogi'n fawr yw'r gofal yn y cartref sy'n galluogi pobl i farw ag urddas gartref, fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud, ac fel y gwyddom, dyna'r dewis i lawer iawn o bobl—marw yn eu cartrefi eu hunain, gyda'u teuluoedd o'u cwmpas. Ac mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn darparu’r gwasanaethau o safon sy’n galluogi hynny i ddigwydd.

Gwn fod yna faterion yn codi ar hyn o bryd wrth gwrs, ac mae gan Gofal Hosbis Dewi Sant 18 o nyrsys ar gontractau parhaol. Maent yn talu’r un gyfradd i’w nyrsys â nyrsys y GIG, ac wrth gwrs, os yw cyflogau nyrsys y GIG yn codi, bydd yn her fawr i'r hosbis wneud yr un peth. Felly, credaf fod angen inni edrych ar sut y gallwn gefnogi hosbisau fel Gofal Hosbis Dewi Sant yn yr amgylchiadau hynny, a hefyd, gyda biliau ynni blynyddol—ar gyfer Gofal Hosbis Dewi Sant, flwyddyn yn ôl, roeddent yn £125,000; maent bellach oddeutu £400,000 y flwyddyn. Felly, yn amlwg, cynnydd sylweddol iawn, ac unwaith eto, angen amlwg am gymorth gyda’r costau hynny.

Lywydd, mae Tŷ Hafan hefyd yn elusen boblogaidd iawn sy’n darparu gofal a chymorth sy’n newid bywydau i blant a chanddynt gyflyrau sy’n byrhau eu bywydau, a'u teuluoedd wrth gwrs. Maent yn darparu’r gwasanaethau arbenigol hynny mewn amgylchedd cyfforddus a chroesawgar iawn, ac maent yn gweithio’n agos gyda’r teulu cyfan, yn asesu anghenion rhieni, brodyr a chwiorydd, ac aelodau eraill o’r teulu, yn ogystal â’r plant sydd â'r cyflyrau penodol. Ac mae'n ymwneud â chynnig cymorth personol, i roi cryfder i gleifion a theuluoedd, ac i greu atgofion hapus a gwella ansawdd bywyd. Ers iddynt agor yn 1999, maent wedi cefnogi dros 1,100 o blant â chyflyrau sy'n byrhau bywyd.

A chredaf ein bod hefyd yn ffodus yng Nghymru, Lywydd, fod gwaith da yn mynd rhagddo ar y gwasanaethau diwedd oes hyn. Mae Aelodau wedi sôn am y cynnydd disgwyliedig yn yr angen am ofal diwedd oes yn rhan o'r gymdeithas sy'n heneiddio sydd gennym, a chredaf fod cryn dipyn o waith wedi’i wneud ar hynny. Edrychodd y Sefydliad Materion Cymreig, er enghraifft, ar farw’n dda yng Nghymru, ac o’r 34,000 o bobl sy’n marw yng Nghymru bob blwyddyn, byddai o leiaf 75 y cant yn elwa o ryw fath o ofal lliniarol, ond am nifer o resymau gwahanol, ni fydd 25 y cant o'r bobl hyn yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Yng nghyd-destun y galw cynyddol y gwyddom y byddwn yn ei wynebu, mae gwir angen inni fynd i'r afael â'r sefyllfa honno. Ac mae gennym hefyd y llwybr cenedlaethol ar gyfer gofal mewn profedigaeth, sef manyleb enghreifftiol a ddatblygwyd i wella mynediad at ofal o ansawdd i bobl mewn profedigaeth ac er mwyn lleihau anghysondebau lleol a chenedlaethol. Credaf ei bod yn werth edrych yn fanwl ar hynny yn nhermau'r hyn a awgrymir er mwyn sicrhau bod gofal o'r ansawdd uchaf ar waith ledled ein gwlad.

Lywydd, i gloi, mae gofal lliniarol yn cael ei werthfawrogi’n aruthrol gan y rheini sy’n elwa o'r gwasanaethau hanfodol hyn a’u teuluoedd a’u ffrindiau, ac mae'n rhaid inni barhau i weithio gyda hosbisau yng Nghymru i roi pob cymorth iddynt ar gyfer y gwasanaethau hollbwysig hyn.

18:00

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw. Mae marw yn rhywbeth rydym i gyd yn ei wneud, ond mae marw'n dda, yn anffodus, yn rhywbeth y mae llawer gormod o bobl yn cael eu hamddifadu ohono. Mae angen i hyn newid, a dyna pam fy mod yn falch o fod yn aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol. Fel y darganfu ein grŵp trawsbleidiol, cafodd y pandemig effaith ddramatig a real iawn ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes. Er bod effaith y pandemig ar ofal diwedd oes yn ddealladwy yn ystod cyfnod y pandemig, mae ei effaith barhaus wrth i COVID droi'n endemig yn llai dealladwy.

Mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol yn ddiweddar, clywsom fod mynediad at wasanaethau y tu allan i oriau yn parhau i fod yn eithriadol o wael. Fe wnaeth gofalwr gymryd dros 20 awr i fynd drwodd i wasanaeth 111 dros benwythnos, a hynny'n unig er mwyn trafod meddyginiaeth. Nid oes fawr o ryfedd, felly, fod un o bob 14 claf sy'n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yn gleifion diwedd oes. Mae angen inni wella gwasanaethau diwedd oes yn y gymuned yn sylweddol fel nad yw cleifion, gofalwyr a chartrefi gofal yn cael eu gorfodi i ddefnyddio gwasanaethau iechyd acíwt. Dyna pam fy mod yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn ein hymchwiliad, a pham y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw.

Os ydym am baratoi ar gyfer y pandemig nesaf a sicrhau y gallwn ateb y galw cynyddol am ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned, mae'n rhaid inni wneud pethau'n wahanol. Er na allwn ddewis pryd i farw, dylai pob un ohonom gael dewis lle i farw. Ni fyddai'r rhan fwyaf ohonom yn dewis treulio ein dyddiau olaf mewn lleoliad ysbyty acíwt. Er i bandemig COVID-19 arwain at weld traean yn fwy o bobl yn marw mewn cartrefi preifat, cyfeiriodd tystion i'n hymchwiliad at y ffaith bod mynediad at ofal lliniarol yn amhosibl weithiau. Roedd cleifion a'u teuluoedd yn aml wedi'u hynysu, ac roedd diwedd oes yn fwy trawmatig nag yr oedd angen iddo fod.

Roedd tystiolaeth Marie Curie yn dweud llawer, gan iddynt gyfeirio at y ffaith nad oedd cleifion wedi cael y gofal roeddent ei angen mewn 75 y cant o farwolaethau yn y cartref. Roedd hyn er gwaethaf ymdrechion arwrol timau lleol hosbis yn y cartref a thimau gofal lliniarol yn y gymuned. Aeth y timau hyn ymhell y tu hwnt i'r galw i ddarparu gofal mawr ei angen yn ystod y pandemig. Ac ar y pwynt hwn, carwn gofnodi fy niolch i'r holl dimau hynny am eu gofal a'u hymroddiad. Ond ni ddylem orfod dibynnu ar ewyllys da ac ymdrechion gwych staff ymroddedig sy'n mynd y tu hwnt i'r galw. Mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym system sydd wedi'i staffio a'i hariannu'n ddigonol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned. Nid dyna sydd gennym ar hyn o bryd. Mae ein grŵp trawsbleidiol wedi cael gwybod bod llawer gormod o weithwyr rheng flaen yn cael trafferthion gyda gorflinder, gorweithio a'r niwed emosiynol o ddarparu gofal drwy'r pandemig. A disgwylir y bydd y galwadau ar staff yn saethu i fyny yn y blynyddoedd nesaf. Pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd os yw H5N1 yn gwneud y naid o adar i bobl? Nid ydym wedi paratoi. Nid ydym wedi dysgu gwersi o'r hyn a ddigwyddodd gyda COVID. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru felly i nodi adroddiad ein grŵp trawsbleidiol a derbyn yr holl argymhellion, yn enwedig mewn perthynas ag ariannu yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

18:05

Diolch yn fawr am gael cymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma. Diolch i Mark Isherwood am ei gadeiryddiaeth o'r grŵp trawsbleidiol a'r adroddiad gwych sydd wedi gerbron. 

Rwy'n gwybod ein bod ni wedi clywed ychydig am hosbisau plant gan Rhun, ac fe gawsant eu crybwyll gan John Griffiths, ond hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar y gofal lliniarol gwych sy'n cael ei ddarparu gan Tŷ Hafan yn y de a Tŷ Gobaith yn y gogledd. Mae'r ddau le yn hafan i blant a'u teuluoedd yn ystod yr amseroedd anoddaf y gallech eu dychmygu. Cefais y fraint o ymweld â Tŷ Hafan yn Sili, ac roedd yn brofiad hynod o emosiynol. Ar y pryd, roeddwn yn rhan o'r ymgyrch i gynyddu eu cyllid gan y wladwriaeth a sicrhau eu bod yn cael yr un faint â'u cymheiriaid yn Lloegr, ac rwy'n falch o ddweud bod yr ymgyrch yn llwyddiannus ac fe gawsant gryn dipyn o gymorth ariannol ychwanegol. Felly, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am wneud hynny.

Fodd bynnag, rwy'n deall bod costau cynyddol a chwyddiant wedi bwyta i mewn i lawer o'r arian ychwanegol hwnnw a gawsant. Hoffwn i'r Llywodraeth sicrhau bod gan Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith ddigon o arian i barhau i ddarparu gofal ar gyfer plant sy'n ddifrifol wael a'r seibiant y mae eu teuluoedd ei angen yn ddirfawr. Rwy'n deall, mewn gohebiaeth â Gweinidogion, fod hosbisau'r plant wedi tynnu sylw at y ffaith nad oes unrhyw sôn na chydnabyddiaeth wedi bod o'r pwysau chwyddiant sy'n wynebu'r hosbisau plant. Mae hyn yn golygu bod cytundeb ariannu 2020 bellach yn werth llawer llai na phan y cafodd ei gyhoeddi gyntaf. Rwy'n deall eu bod wedi ei gwneud yn glir eu bod yn credu y byddai'r cam blaengar a syml hwn wedi bod yn ganlyniad amlwg i'r adolygiad ail gam. Mae'n ymddangos yn amlwg i'r hosbisau plant y dylid bod wedi cynyddu cyllid yn unol â chwyddiant; yn sicr mae'n ymddangos yn amlwg i mi ei fod yn gam amlwg i Lywodraeth Cymru ei gymryd. Byddwn yn gwerthfawrogi pe bai'r Dirprwy Weinidog yn gallu amlinellu yn ei hymateb heddiw sut y cynhaliwyd yr asesiad o flaenoriaethau ariannu, a pham nad oedd cyllido hosbisau plant yn ddigon o flaenoriaeth i sicrhau nad oeddent yn dioddef toriad mewn termau real. A wnewch chi ymrwymo yma heddiw i sicrhau y bydd y cyllid hanfodol ar gyfer ysbytai plant yng Nghymru yn cael ei ailasesu er mwyn sicrhau bod ganddynt ddigon o adnoddau?

Yn olaf, wrth edrych tuag at y dyfodol a'r adolygiad trydydd cam o ofal lliniarol a diwedd oes, yn yr ohebiaeth y soniais amdani yn gynharach, rwy'n deall bod yna bryderon nad yw gwersi'n cael eu dysgu o gyfnodau cynharach. Mewn gwirionedd, y pryder yw bod y diffygion a rwystrodd adolygiad cam 2 rhag cyflawni unrhyw ganlyniadau o bwys nac ar amser bellach yn cael eu cynnwys yn null cam 3 o'r dechrau. Heb neilltuo adnoddau ychwanegol sylweddol i gydlynu'r adolygiad, a heb gynnwys hosbisau plant a phartneriaid eraill yn y broses yn llawn, ni allant weld sut y gellir darparu'r gwaith sylfaenol i'r safon a ddymunir yn yr amserlen hon. Byddent yn croesawu sicrwydd buan ynglŷn â sut y caiff y broses ei chynnal, sut olwg sydd ar yr amserlenni manwl, a lle a sut y gallant hwy fod yn rhan o'r broses. Maent yn mynd rhagddynt i nodi—ac rwy'n adleisio eu pwyntiau—os yw achosion yn y gorffennol yn brawf o unrhyw beth, gallai hwn fod yn gyfle unwaith mewn degawd, unwaith mewn cenhedlaeth hyd yn oed, i gael hyn yn iawn.

Rwy'n gwybod bod hosbisau plant eisiau cefnogi'r Llywodraeth i gyflwyno cynllun a strwythur a fydd yn gwrthsefyll prosesau craffu a phrawf amser. Gydag ymrwymiad cadarn gan yr hosbisau plant yng Nghymru, a wnaiff y Gweinidogion wneud yr un ymrwymiadau fel bod plant a theuluoedd sy'n wynebu'r amseroedd mwyaf torcalonnus ac anodd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt? Diolch yn fawr.

18:10

Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch a fy ngwerthfawrogiad diffuant i'r holl ofalwyr a gweithwyr gofal lliniarol a weithiodd yn ddiflino yn ystod pandemig COVID ac a wnaeth aberth bersonol enfawr i sicrhau bod y rhai roeddent yn gofalu amdanynt yn cael y gofal diwedd oes gorau posibl. Fe wnaeth y pwysau gwaith eithafol a ddaeth yn sgil COVID ddisgyn ar ysgwyddau nifer gymharol fach o bobl yn anffodus, a rhaid inni beidio ag anghofio bod llawer o bobl wedi dioddef yn waeth na nifer ohonom ni.

Rydym i gyd yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn erbyn cynnal ymchwiliad COVID penodol i Gymru oherwydd nad yw eisiau cyfaddef bod camgymeriadau wedi'u gwneud, ac mae ganddi ofn ystadegyn damniol arall a fydd yn dangos mai Cymru a berfformiodd waethaf yn y DU. Ond y gwir amdani yw nad yw'r camgymeriadau hynny ond yn gamgymeriadau go iawn os nad ydym yn dysgu ohonynt, a'r unig ffordd y gallwn ddysgu ohonynt yw drwy wybod a deall sut a pham y cawsant eu hachosi a pha atebion gwell y gellid bod wedi'u darparu yn lle hynny. Roedd COVID yn gyfnod digynsail mewn hanes diweddar. Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru'n poeni sut y bydd eu perfformiad yn cael ei weld yn y cyfryngau, ac oherwydd hyn, fe gollir cyfle i ddeall yn iawn pa welliannau sydd angen eu gwneud. Roedd COVID yn brawf straen enfawr i'n GIG ac i'r systemau a'r ffyrdd o weithio a oedd gennym ar waith. Rwy'n credu y byddai'n ffôl peidio ag asesu'r ymateb gan Lywodraeth Cymru yn drylwyr gydag ymchwiliad ar gyfer Cymru'n unig, gan fod cyd-destun y pandemig yng Nghymru yn wahanol i wledydd eraill y DU. Mae angen inni symud ymlaen gyda chynlluniau gweithredu, fel y rhai ar gyfer gofal lliniarol, a fyddai'n ein helpu i ymateb yn well pe bai pandemig byd-eang arall yn digwydd.

Mae'r ddadl hon heddiw yn eithriadol o bwysig. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau am gynhyrchu adroddiad mor drylwyr. Un o'r arsylwadau mwyaf trawiadol i mi oedd bod llawer o bobl wedi dioddef yn ddiangen oherwydd nad oedd systemau rheoli heintiau ar gyfer symud ac ynysu cleifion wedi cael eu pennu ymlaen llaw, ond yn hytrach, caent eu pennu gan ganllawiau a oedd yn cael eu diweddaru'n gyson, a olygai fod teuluoedd cleifion a'r rhai a oedd yn cael gofal lliniarol wedi eu gadael i brofi effeithiau dinistriol ynysu yn ddiangen. Dyma pam ei bod yn hanfodol fod y Llywodraeth yn gweithio'n agos gyda'r sector gofal lliniarol nawr i ddysgu o bandemig COVID-19 a sicrhau bod gofal lliniarol yn cael lle canolog yn y cynlluniau ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol.

Nodwedd arall o'r adroddiad sydd wedi peri pryder i mi yw'r amcanestyniad o'r angen am fwy o ofal lliniarol yn y dyfodol. Mae'r adroddiad yn dangos nad oeddem yn disgwyl y lefelau o anghenion gofal lliniarol a gafwyd yn ystod y pandemig tan 2040. Er y gallaf weld na allem ragweld o reidrwydd y byddai'r angen am ofal lliniarol yn cyrraedd y lefel hon, mae'n datgelu, at ei gilydd, fod angen systematig erbyn hyn i gynnwys opsiynau o fewn y system gofal lliniarol ar gyfer cynyddu capasiti'n gyflym a gwella llythrennedd marwolaeth o fewn y cymunedau yng Nghymru drwy annog lefelau uwch o gynllunio ar gyfer diwedd oes, ochr yn ochr â gwella cymorth i deuluoedd mewn galar.

Yn olaf, yn sgil fy nghwestiynau ddoe ynghylch yr angen i wella digideiddio o fewn y GIG, rhywbeth y teimlwn fod y Prif Weinidog wedi ei ddiystyru, o ran gofal lliniarol, hoffwn grybwyll bod angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu cofnod electronig i gleifion ar fyrder gyda dewisiadau a phenderfyniadau gofal uwch a gofal yn y dyfodol. Mae teuluoedd y rhai sy'n cael gofal lliniarol yn aml mewn gofid mawr, a bydd sicrhau bod dewisiadau gofal wedi eu cofnodi cymaint â phosibl ymlaen llaw yn hanfodol er mwyn helpu i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd yn y ddadl hon a'r holl alwadau y mae'n eu gwneud, a hoffwn annog pawb yma i'w gefnogi hefyd. Diolch.

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r mater pwysig hwn i'r Siambr a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu i'r ddadl heddiw. Rwyf wedi gwrando'n astud ar bob siaradwr, ac mae yna lawer o bwyntiau pwysig wedi'u gwneud.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod y gall gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl sy'n wynebu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd, gan eu helpu i farw gydag urddas, a hwyluso proses alaru iach i'r rhai sydd ar ôl. Dyna pam ein bod yn parhau i fuddsoddi dros £10.5 miliwn bob blwyddyn ac mae gofal diwedd oes yn parhau i fod yn ymrwymiad allweddol yn y rhaglen lywodraethu. Mae gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau y dylai unrhyw un sydd angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru allu cael y gofal gorau posibl.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen ffocws eang ar draws y sbectrwm iechyd a gofal cymdeithasol a darpariaeth y trydydd sector i wneud i hyn ddigwydd fel  ymdrech system gyfan. Mae'r weledigaeth wedi'i nodi yn ein datganiad ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022. Mae'n nodi bwriad polisi lefel uchel Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes ar gyfer plant a phobl ifanc ac oedolion. Mae'r gwaith o weithredu'r datganiad ansawdd yn cael ei oruchwylio gan fwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes, ac mae rhaglen waith ar gyfer 2023-24 yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd. Mae gan y rhaglen waith integredig nifer o themâu trawsbynciol wedi'u hymgorffori ym mhob ffrwd waith, gan gynnwys y Gymraeg, cydraddoldeb, amrywiaeth a phrofiad. Mae cynllunio'r gweithlu yn fater allweddol o fewn y ffrydiau gwaith a bydd hyn, ochr yn ochr â'r drafodaeth ar lefel leol, yn allweddol wrth weithredu'r camau gweithredu o fewn y datganiad ansawdd.

Rydym yn croesawu ymchwiliad y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol i brofiadau gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19. Mae'r ymchwiliad yn cefnogi ein nod o ddarparu gofal lliniarol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a byddwn yn bwrw ymlaen â hyn mewn cydweithrediad â bwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymateb ar wahân i gadeirydd y grŵp trawsbleidiol, gan nodi ymatebion i bob un o argymhellion yr adroddiad.

Cyflwynodd pandemig COVID-19 heriau anhygoel o anodd i ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes, ac rwy'n canmol pawb a aeth gam ymhellach wrth gefnogi cleifion a'u teuluoedd. Roedd yn gyfnod o bwysau eithafol, a byddwn yn parhau i ymgynghori â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol i wella'r profiad o ofal lliniarol, pe bai angen tynhau cyfyngiadau yn y dyfodol. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau profedigaeth yn ystod ac ers y pandemig, ac wedi cynnal nifer o weithgareddau i wella gofal mewn profedigaeth. Mae hynny'n cynnwys cyhoeddi ein fframwaith profedigaeth cenedlaethol ym mis Hydref 2021, a lansio llwybr profedigaeth penodol ym mis Awst y llynedd i gefnogi pobl yr effeithiwyd arnynt gan farwolaeth sydyn neu drawmatig person ifanc 25 oed neu iau. Rydym hefyd yn darparu grant cymorth profedigaeth o £3 miliwn i 21 sefydliad trydydd sector dros y cyfnod o dair blynedd rhwng 2021 a 2024. Rydym hefyd yn cydnabod bod nifer y bobl sydd angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn cynyddu, ac fe amlygodd y pandemig yr angen mwy dybryd i fynd i'r afael â darpariaeth gofal lliniarol a gofal diwedd oes y tu allan i oriau ac yn y gymuned. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, darparodd Llywodraeth Cymru dros £13 miliwn o gyllid brys drwy gydol y pandemig.

Wrth gyflawni cam 1 ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i adolygu cyllid hosbisau gwirfoddol, rydym hefyd wedi darparu £2.2 miliwn ychwanegol bob blwyddyn ar gyfer hosbisau Cymru sy'n darparu gwasanaethau gofal lliniarol a gofal diwedd oes craidd ers mis Ebrill 2023. Mae ail gam yr adolygiad hwn yn cynnwys argymhellion i gynyddu capasiti nyrsio ardal y tu allan i oriau ac arbenigwyr nyrsio clinigol cymunedol ar benwythnosau a gwyliau banc. Bydd hyn yn gwella gofal craidd yn ystod y dyddiau a'r wythnosau olaf o fywyd, ac yn cryfhau'r gefnogaeth i bobl sydd eisiau aros yn eu cartrefi eu hunain. Mae hyn yn cyd-fynd â'n gwaith ehangach ar adeiladu gwasanaethau gofal cymunedol integredig sy'n canolbwyntio ar ein poblogaeth fregus, ac yn ceisio cryfhau capasiti yn y gymuned. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i'r adroddiad a'r argymhellion hyn gael eu hystyried yn rhan o'r gwaith hwn.

Yn ogystal, er mwyn deall yr angen am ofal lliniarol pediatrig, rydym wedi cynorthwyo hosbisau plant yng Nghymru i gomisiynu astudiaeth o niferoedd i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am anghenion gofal lliniarol pediatrig yng Nghymru. Rhaid inni hefyd ddeall yr effaith y mae'r boblogaeth sy'n heneiddio yn ei chael ar ofal diwedd oes, yn y tymor canolig ac yn fwy hirdymor. Bydd hyn yn rhan o gam olaf yr adolygiad cyllido, a fydd hefyd yn edrych ar ba gymorth pellach sydd ei angen ar hosbisau.

Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu'r gwersi a ddysgwyd o bandemig COVID-19, ac mae swyddogion yn gweithio gyda'r tîm parodrwydd pandemig i sicrhau bod gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn elfen allweddol o'n gwaith i gynllunio ar gyfer pandemig yn y dyfodol. I gloi, hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am godi'r pwnc pwysig hwn a rhoi sicrwydd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes o safon uchel ledled Cymru. Diolch, Lywydd.

18:20

Diolch. A gaf fi ddiolch i'r grŵp trawsbleidiol am eu gwaith a'r adroddiad hwn? Wrth gwrs, diolch yn arbennig i Mark Isherwood, fel cadeirydd. Rwyf am ddechrau drwy grynhoi sylwadau agoriadol Mark Isherwood—ei agoriad 11 munud—a oedd yn amlinellu'r pwyntiau cryno yn yr adroddiad. Fe wnaeth gofal hosbis a gofal lliniarol chwarae rhan hanfodol yn yr ymateb i'r pandemig, ac fe gefnogwyd hynny gan don o ymgysylltu a gweithredu cymunedol, ond datgelodd y cynnydd enfawr yn y galw am ofal yn y gymuned wendidau yn y cynlluniau cyn y pandemig. Fe wynebodd llawer o bobl anawsterau rhag cael mynediad at ofal diwedd oes yn y cartref ac mewn cartrefi gofal, gan gynyddu'r anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli gyda hynny—rhywbeth rwy'n gwybod ein bod yn canolbwyntio'n fawr arno yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—gyda phrofiadau dinistriol yn aml wrth gwrs.

Mae'n bwysig dweud hefyd, fel y gwnaeth Sam Kurtz ei nodi hefyd, rwy'n credu, aeth gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y tu hwnt i'r galw yn ystod y pandemig i gefnogi cleifion a'u teuluoedd ar ddiwedd eu hoes, ac rydym yn diolch yn ddiffuant iddynt.

I grynhoi rhai o'r pwyntiau eraill yn y ddadl heddiw—. Cyn imi symud oddi wrth Mark Isherwood, dylwn ddiolch yn fawr i Mark Isherwood am ei rôl yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol hwn. Mae gan y grŵp trawsbleidiol nifer fawr o aelodau o bob plaid ar draws y Siambr hon, ac mae bron bob grŵp trawsbleidiol llwyddiannus yn cael eu cefnogi gan ysgrifenyddiaeth, ac rydym yn diolch hefyd i Hospice UK am eu cefnogaeth i'r grŵp.

Soniodd Rhun, wrth gwrs, am gynllunio ymlaen llaw cyn y pandemig, gan dynnu sylw at y pwynt hwnnw hefyd, ac ynghyd ag ambell Aelod arall—Peredur, yn ogystal â Rhun, rwy'n credu—soniodd am faint o gefnogaeth sydd ei hangen ar hosbisau plant ledled Cymru, a chyfeiriodd Peredur at y materion sy'n codi mewn perthynas â chostau chwyddiant a'r pwysau ychwanegol yn hynny o beth.

Diolch i John Griffiths am ei gyfraniad. Rwy'n credu ei bod mor bwysig, onid yw, fod gofal yn y cartref yn gallu bod mewn amgylchedd cyfforddus gyda'r teulu'n bresennol. Mae hyn yn bwysig i bob rhan o Gymru, ond mae'n debyg ei fod yn arbennig o bwysig i mi fel cynrychiolydd etholaeth wledig, lle mae'n bwysicach fyth fod y cyfleusterau hynny ar gael yn y cartref gan fod opsiynau eraill yn aml yn bell i ffwrdd o'r cartref.

Diolch i gyd-Aelodau eraill hefyd a siaradodd yn y ddadl. Gwn fod Altaf a Joel James wedi siarad hefyd; Altaf yn tynnu sylw, rwy'n credu, at sut mae un o bob 14 o bobl, rwy'n credu, yn marw mewn adran ddamweiniau ac achosion brys.

Rwy'n credu ein bod ni heddiw wedi cael—. Dyma'r ddadl olaf cyn toriad y Pasg ac rydym wedi cael dwy ddadl arall gan y Ceidwadwyr Cymreig—un heddiw ac un yr wythnos diwethaf—lle na chafwyd consensws, ond rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a'r Dirprwy Weinidog am beidio â cheisio diwygio'r cynnig heddiw ac am nodi eu cefnogaeth i'r cynnig hefyd, rwy'n credu. Mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr iawn, ac rwy'n credu ei fod yn nodyn cadarnhaol i orffen arno cyn toriad y Pasg.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni yn cyrraedd, felly, y cyfnod ar gyfer pleidleisio ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi wneud hynny, fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. A'r bleidlais gyntaf yw'r un ar eitem 6, a'r cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar bleidleisio drwy ddirprwy yw hwn. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

18:25

Eitem 6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Pleidleisio drwy ddirprwy : O blaid: 36, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8; hon yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar Fil twristiaeth Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Tom Giffard. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, 11 yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.  

Eitem 8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil twristiaeth Cymru: O blaid: 24, Yn erbyn: 13, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9; dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu llywodraeth leol yw hon. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, ac, os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. O blaid 24, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Ac felly dwi yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 1. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol Ô Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Sydd yn golygu nawr fod yna bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian: O blaid: 36, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 3 fydd nesaf, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn. 

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian: O blaid: 36, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8238 fel y'i diwygiwyd

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi yr amcangyfrifir bod gan awdurdodau lleol £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.

2. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido sy'n eu hwynebu.

3. Yn gresynu at y ffaith bod y cynnydd cyfartalog yn y dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer 2023-2024 yn 5.5 y cant.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.

5. Yn cydnabod bod y dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n anghymesur ar ardaloedd tlotach y wlad.

6. Yn croesawu'r ymrwymiad drwy Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i wneud y system dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei wrthod. 

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A dyna ni, dyna ddiwedd ar y pleidleisio am heddiw, ond dyw ein gwaith ni heb orffen. 

12. Dadl Fer: Endometriosis a'r cynllun iechyd menywod yng Nghymru

Fe fyddwn ni'n symud ymlaen nawr at y ddadl fer, ac mae dadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Huw Irranca-Davies. 

Diolch, Lywydd. A gaf fi ofyn, gan fy mod i'n ymuno â chi o bell—gan fy mod yn sâl—a allwch chi fy nghlywed i'n iawn?

Gallwn, gallwn eich clywed. Rwyf am ofyn i chi oedi am eiliad tra bod y Siambr yn aildrefnu neu tra bod rhai pobl yn gadael, er mwyn inni gael rhywfaint o dawelwch yma. Ie, iawn. Ewch amdani. 

Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn Fis Ymwybyddiaeth Endometriosis, felly gadewch imi ddechrau'r ddadl hon drwy ddiolch i'r nifer fawr o fenywod ledled Cymru sydd wedi cysylltu â mi dros y dyddiau a'r wythnosau diwethaf i rannu eu straeon personol am yr heriau y maent wedi eu hwynebu gyda'r diagnosis a'r driniaeth ar gyfer endometriosis. A diolch hefyd i'r sefydliadau sy'n ymgyrchu ac sy'n cynnwys pobl â phrofiadau uniongyrchol, megis Endometriosis UK a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, sydd wedi cyfarfod â ni yma yn y Senedd ac mewn cyfarfodydd rhithiol, ac maent wedi rhoi rhagor o wybodaeth i ni cyn y ddadl hon. A hefyd sefydliadau fel Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr, a Plan International, sydd cefnogi'r ymgyrch llesiant mislif. Ac yn olaf, diolch i fy nghyd-Aelodau am eu cefnogaeth eang ar draws y Siambr, ac yn enwedig i Jenny Rathbone, Joyce Watson, Jane Dodds a Jack Sargeant, a fydd yn siarad, os caniatewch iddynt wneud hynny, am ran o fy nyraniad amser heno, Lywydd.

18:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Felly, pam ydw i'n siarad heddiw, pan fo menywod yn gallu ac yn siarad yn bwerus ar hyn eu hunain? Y rheswm am hynny yw bod angen i ddynion hefyd fod yn barod i hyrwyddo iechyd menywod ac endo hefyd. Ni ellir rhoi hwn yn y bocs 'rhy anodd' neu 'amhriodol' neu 'rhy sensitif' i ddynion ymdrin ag ef. Mae ein teuluoedd a'n ffrindiau, ein gwragedd a'n merched, ein nithoedd a'n modrybedd, angen i bob un ohonom siarad ag un llais, a dyna pam rwy'n falch iawn o siarad heddiw, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelodau eraill yn y Senedd.

Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un o bob 10 menyw, merch, a phobl a bennwyd yn fenywod ar adeg eu geni. Eto i gyd, mae'n cymryd naw mlynedd ar gyfartaledd—naw mlynedd, ar hyn o bryd—i wneud diagnosis o endometriosis. Mae un fenyw, a rannodd ei stori gyda mi, yn dweud wrthyf am ddiagnosis o endo yn 2015 ar ôl bron i 20 mlynedd o fislif poenus, gwanychol; tair blynedd o broblemau ffrwythlondeb; o feddygon teulu dro ar ôl tro yn gwrthod atgyfeirio'r cyflwr at arbenigwyr; o amau bod endometriosis arni; ac o orfod dod o hyd i driniaeth breifat yn y pen draw. Hi, gyda llaw, yw un o'r rhai sy'n trefnu deiseb i bwyllgor Jack Sargeant, deiseb sydd eisoes wedi casglu 6,000 o lofnodion ac sy'n tyfu. Dywedodd wrthyf, 'Mae'r rhan fwyaf o'r cleifion y siaradwch â hwy yn gorfod brwydro i gael gofal, a hyd yn oed pan gânt ofal, mae'r amseroedd aros yn enfawr. Ac er bod y nyrsys endo'—meddai—'yn adnodd gwych, nid oes ganddynt ddigon o lawfeddygon arbenigol i allu atgyfeirio cleifion atynt, ac ni allant ein rhyddhau, gan fod hwn yn salwch cronig parhaus.'

Mae eraill sydd wedi cysylltu â mi yn disgrifio sut y teimlant eu bod wedi bod yn destun yr hyn a alwant yn ddibwyllo meddygol, a sut mae'r gefnogaeth yn amrywio cymaint o ardal i ardal. Mae Powys yng nghanolbarth Cymru, gyda llaw, wedi cael sylw arbennig gan rai fel lle sy'n destun pryder arbennig. Ac mae'r straeon yn gallu bod yn ddirdynnol. Mae un fenyw wedi dweud wrthyf am yr effaith ddinistriol y mae endometriosis wedi'i chael ar ei bywyd: sut mae hi dan ofal nifer o feddygon ymgynghorol, gan gynnwys arbenigwyr endometriosis, meddygon ymgynghorol y colon a'r rhefr, meddygon ymgynghorol wrolegol, meddygon ymgynghorol ym maes rheoli poen a chyffredinol; sut mae hi wedi cael 15 llawdriniaeth ar gyfer endometriosis, gan gynnwys cael tynnu ei choluddyn mawr, gan ei gadael gydag ileostomi parhaol, bag stoma, cathetr hirdymor, a fydd yn wrostomi cyn bo hir, ail stoma, oherwydd bod ei phledren yn methu, triniaeth symbylu'r nerf sacrol, a hysterectomi radical a'i gadawodd yn wynebu menopos llawn yn 28 oed. Mewn anobaith, mae wedi gwario miloedd ar lawdriniaethau a thriniaeth breifat. Meddai, 'Mae'r clefyd hwn yn difetha bywydau. Mae'n gwanychu, yn ddi-ildio, ac yn newid bywydau'n syfrdanol.'

Clywais straeon tebyg gan fy etholwyr fy hun. Cefais fy llorio'n llwyr gan raddau'r effeithiau meddygol a chymdeithasol a phersonol ac ariannol y gall hyn eu cael os na chaiff ei ganfod yn gynnar a chael diagnosis a thriniaeth effeithiol. A dyna'r ffordd ymlaen: canfod a diagnosis cynnar, a sicrhau bod ystod eang o driniaethau a gofal a chymorth ar gael ar draws Cymru cyn i'r cyflwr ddatblygu. Rydym yn gwybod bod llawer o syniadau'n cael eu hystyried fel rhan o gynllun iechyd menywod, ond dyma rai o'r cynigion gan y menywod sy'n wynebu'r heriau hyn yn ddyddiol a chan y sefydliadau ymgyrchu.

Yn gyntaf, mae'r nyrsys endo yn ddatblygiad mawr, ond nid oes digon ohonynt, ac mae'n ymddangos bod pob bwrdd iechyd yn gwneud pethau hollol wahanol. Mae angen mynediad cyfartal at wasanaethau a darpariaeth ar draws y wlad ble bynnag rydych chi'n byw. Yn ail, dylai pob menyw sydd ag endo allu cael mynediad at nyrs endo, neu berson tebyg sydd â gwybodaeth arbenigol am endo, os oes ganddynt unrhyw gwestiynau, ni waeth a ydynt, gyda llaw, yn bwriadu mynd drwy'r GIG neu'n breifat neu'n gymysgedd gyda'u triniaeth. Mae deall, er enghraifft, yr holl wahanol driniaethau hormonau ac opsiynau llawdriniaeth yn gymhleth, ac amser cyfyngedig sydd gan feddygon ymgynghorol i drafod y pethau hyn, gan gynnwys y risgiau sydd ynghlwm wrthynt. Felly, byddai grwpiau cymorth, wedi'u trefnu gan nyrs endo, neu arbenigwr tebyg, y gallai menywod eu mynychu ledled Cymru, yn ddefnyddiol tu hwnt. Ac mae angen i fyrddau iechyd gydweithio mwy, a rhannu gwybodaeth yn fwy effeithlon. Gall triniaeth endo gynnwys arbenigwyr mewn llawer o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, gan gynnwys yn Lloegr, felly mae rhannu data cleifion yn amserol ac yn effeithiol a thriniaeth gydgysylltiedig yn hollbwysig.

Mae gwir angen inni weithredu argymhellion adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar endometriosis yn 2018 yn llawn, ac roedd hwn yn cynnwys yr angen i ymgorffori gwybodaeth am iechyd mislif o fewn y system addysg, ac mae'n rhaid datblygu adnoddau i gefnogi hyn ar gyfer Cymru gyfan. Nawr, rydym wedi cael cam mawr ymlaen yn 2021, gydag addysg lles mislif orfodol wedi'i chynnwys yn y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd—rhan o'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae hynny'n dda. Felly, mae angen inni sicrhau nawr fod addysg lles mislif yn cael ei darparu'n drylwyr.

Mae angen gwneud endometriosis yn flaenoriaeth wrth hyfforddi meddygon teulu, ac mewn datblygiad proffesiynol parhaus. Mae gormod o bobl wedi dweud wrthyf am y diffyg dealltwriaeth, neu weithiau, yr hyn sy'n cael ei ystyried yn ddibwyllo gan feddygon teulu ac eraill. A dylai'r wybodaeth hon gynnwys symptomau llai cyffredin, fel poen ac anesmwythyd ysgerbydol, a hyrwyddo manteision ystod eang o driniaethau, gan gynnwys ffisiotherapi'r pelfis, a deall y driniaeth ar gyfer faginismws, yn ogystal â materion gynaecolegol eraill hefyd.

Rhaid cynnwys gofal eilaidd yn rhan o weithredu canllawiau diweddar y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i gryfhau'r llwybrau gofal i fenywod. Rhaid i lwybrau atgyfeirio at ofal trydyddol ar gyfer Cymru gyfan gael eu gwneud yn eglur a'u gweithredu ar frys, a bod yr wybodaeth ar gael i glinigwyr a chleifion. Ac mae'n rhaid cynyddu capasiti gofal trydyddol a sicrhau digon o adnoddau ar ei gyfer. Mae'n rhaid inni hefyd gefnogi'r gwaith o weithredu canllawiau NICE yn llawn ar ddiagnosis a rheoli endometriosis yng Nghymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad gorchwyl a gorffen ar endometriosis. Mae rhywfaint o waith wedi'i wneud ac ar y gweill ar weithredu safonau NICE, ond mae mwy o waith i'w wneud. A Weinidog, mae angen asesu capasiti gofal endometriosis cyfredol eto a mynd i'r afael â hynny, yn unol ag argymhellion yr adroddiad gorchwyl a gorffen ar endometriosis.

Cyhoeddodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr adroddiad y llynedd—yr adroddiad 'Left for too long'—a ganfu, ym mis Rhagfyr 2021, fod rhestrau aros gynaecolegol yng Nghymru wedi cynyddu 62 y cant ers dechrau'r pandemig. Gellir priodoli'r amseroedd aros hir yn rhannol i ddiffyg gwasanaethau arbenigol ar gyfer endometriosis yng Nghymru, felly mae angen cynllunio strategol i sicrhau bod digon o ganolfannau endometriosis arbenigol yng Nghymru, o ystyried pa mor gyffredin yw'r clefyd a'r amseroedd aros cyfredol ar gyfer diagnosis a gofal parhaus. Ac mae angen mwy o gapasiti arnom i gael gwared ar yr ôl-groniad ers COVID.

Felly, edrychwch, rwy'n cyflwyno'r ddadl hon heddiw ar ran yr holl fenywod dewr ledled Cymru sydd wedi dweud eu stori wrthyf, gan gynnwys, mae'n rhaid i mi ddweud, fy nith, sydd wedi bod yn aros am ymhell dros ddegawd, er pan oedd hi yn ei harddegau, am driniaeth archwiliol ar gyfer endo posibl. Fis diwethaf y cafodd ei MRI. Dywedodd wrthyf, 'Nid tan 15 mlynedd yn ddiweddarach y gwrandawyd arnaf o'r diwedd. Cefais ymgynghoriad ffôn 20 munud o hyd gyda meddyg ymgynghorol. Fe griais, oherwydd roeddwn i'n teimlo fy mod i'n cael fy nghlywed, a fy symptomau wedi'u dilysu o'r diwedd. Rwyf wedi cael y sgan MRI erbyn hyn ac rwyf ar y rhestr aros am laparoscopi.' Neu un arall a ysgrifennodd ataf i ddweud, 'Mae fy merch yn saith oed ac nid wyf am i'w chenhedlaeth hi orfod wynebu'r un anawsterau ag y bu'n rhaid i mi a llawer o rai eraill eu hwynebu.'

Felly, i bawb o'r rheini, yr un o bob 10, mae angen inni adeiladu ar y camau rydym wedi'u cymryd, ond mae angen inni wneud yn well a hynny'n gyflymach. Fel y mae Carly Crocker—os caf roi sylw iddi hi, fel sylfaenydd, cadeirydd ac arweinydd grŵp o grwpiau cymorth endometriosis yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr—yn dweud wrthyf, 'Er bod newidiadau mawr wedi'u gwneud, mae'n rhaid inni fynd cymaint ymhellach.' Felly, Weinidog, edrychwn ymlaen at eich ymateb ar ôl i ni glywed gan leisiau eraill yn y Siambr, ac o bob rhan o Gymru. Diolch yn fawr iawn.

18:35

Wel, mae llawer o gynnydd wedi'i wneud, ond mae andros o waith i'w wneud o hyd. Pan fo 1.5 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o endometriosis, pam nad ydym yn gwybod beth sy'n ei achosi? Felly, mae llawer iawn o ymchwil i'w wneud, gan y cleifion arbenigol a'r clinigwyr.

Yr wythnos diwethaf, cadeiriais drafodaeth ar-lein gyda phanel o arbenigwyr, gan gynnwys dau feddyg ymgynghorol profiadol iawn—Nahid Gul, llawfeddyg, a David Rowlands, gynaecolegydd—y ddau â diddordeb arbenigol mewn endometriosis, a'r ddau'n hyfforddi mewn llawdriniaethau sy'n creu archoll mor fach â phosibl, gan gynnwys llawdriniaeth endo. Gyda'i gilydd, maent yn adeiladu'r tîm sydd ei angen i weithredu tair uned ddiagnostig a chanolfan lawfeddygol ar gyfer y boblogaeth a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae tîm arbenigol arall yn cael ei ddatblygu yn Abertawe, sy'n lleddfu'r baich ar Gaerdydd, sef yr unig uned eilaidd a thrydyddol yng Nghymru tan nawr.

Mae'r nyrsys endo arbenigol yn gwella addysg meddygon teulu a gynaecolegwyr, fel nad yw menywod bellach yn gorfod aros wyth mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis hyd yn oed. I lawer o fenywod, mae endo'n dominyddu eu bywydau ac ar yr EndoMarch ddydd Sul diwethaf, cyfarfûm â Karla Edwards, y mae ei chyflwr endo yn cyfyngu'n ddifrifol ar weithgareddau bob dydd y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Ond mae telathrebu modern yn ei galluogi i fod yn rhan o'r tîm ymchwil rhyngwladol, dan arweiniad Dr Nezhat, y llawfeddyg endo mwyaf profiadol yn y byd a sylfaenydd yr EndoMarch byd-eang. Mae ei ap risg endometriosis yn helpu menywod i adnabod endo yn gyflymach. Ac yn Hwngari, mae'r ymgyrchydd endo Adrienn Salamon wedi datblygu ap mislif o'r enw Lucy, gyda'r gynaecolegydd Dr Bokor. Ni fydd yr apiau hyn yn gwella endometriosis, ond maent yn helpu menywod i ddadlau drostynt eu hunain mewn apwyntiadau meddygol, lle mae pobl yn cael eu dibwyllo.

Mae'r rhan fwyaf o driniaethau'n cynnwys hormonau neu lawdriniaeth ymyrrol i gadw endo dan reolaeth. Nid oes unrhyw un yn gwybod pam y datblygodd, a ac nid yw'n eu gwella. Yn ddiddorol—

18:40

—yn Hwngari, mae triniaeth adsefydlu gan ddefnyddio ffynhonnau thermol, ffisiotherapi, technegau anadlu a thylino'r abdomen ar gael i fenywod Hwngaraidd. Maent yn pwyso a mesur ei lwyddiant ar hyn o bryd yn ôl y cyfraddau ffrwythlondeb a gyflawnir gan fenywod sy'n cael anhawster mawr i feichiogi.

Hoffwn ddiolch i'r holl fenywod sydd wedi rhoi a rhannu eu straeon, a'r arbenigwyr sydd wedi rhannu platfformau gyda ni. Ac rwyf eisiau siarad yn arbennig am Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, a'r hyn y dywedwyd wrthym yw nad oes yr un o'r meddygon ymgynghorol gynaecolegol sy'n ymweld yn arbenigo mewn endometriosis neu â diddordeb yn y cyflwr. Mae hwnnw'n ddatganiad difrifol, mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid i'r bobl hynny deithio i fyrddau iechyd eraill Cymru a dros y ffin. Ac ni allwn gael pethau ym mhob man, ond y broblem yma yw ei fod yn loteri cod post, ac ni allwn gael cyflwr sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw, lle mae'r menywod hynny'n dweud wrthym ei fod yn loteri cod post, yn gyntaf oll i gael gweld arbenigwr, hyd yn oed o wybod ble mae'r arbenigwyr hynny, a pha driniaethau sydd ar gael. A'r peth pryderus i mi, er bod y nyrsys yn ardderchog, ar y gwe-gamera roeddem arno y diwrnod o'r blaen, dywedodd y nyrs endometriosis yn Abertawe nad oedd y meddygon teulu'n gwybod ei bod hi'n bodoli. Felly, rwy'n meddwl bod gwaith i'w wneud ar hynny. Diolch.

Diolch yn fawr iawn i Huw am gyflwyno'r ddadl fer hon, ac rwyf am ddiolch i eraill yma a arhosodd yn y Siambr, o'r ddau ryw, ac ar draws y pleidiau i gyd. Diolch am aros gyda ni i wrando ar hyn oherwydd mae'n cael ei werthfawrogi.

Rwyf eisiau cyffwrdd hefyd ar y ffaith nad oes gwasanaethau arbenigol lle rwy'n byw ym Mhowys, ac mae'n rhaid inni deithio dros y ffin. Yng ngogledd Cymru, mae'r ganolfan arbenigol endometriosis agosaf yn Lloegr ar hyn o bryd, ac er bod trefniadau'n bodoli ar gyfer atgyfeiriadau ar draws y ffin, maent yn anodd i'w cael. Yn Betsi Cadwaladr yn y dyfodol, gobeithio y byddant yn cynnwys cynlluniau ar gyfer llawdriniaethau endo yn y cynllun tymor canolig integredig nesaf.

I'r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod am yr effaith y gall ei chael ar fywydau pobl, mae fy ngŵr yn gweithio gyda rhywun sydd ag endo, ac mae'n dweud ei bod mewn poen mawr yn ddyddiol, ac weithiau'n methu sefyll. Ychydig iawn sydd ar gael iddi a dim triniaeth, ond mae'n parhau i ddod i'r gwaith ac mae'n parhau i gael cefnogaeth. Ond yr hyn sydd ei angen arni, a'r hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru i bob menyw, yw'r gallu i gael ein hatgyfeirio, ac i'r driniaeth ddod mor gyflym â phosibl, a'r gefnogaeth barhaus. Diolch yn fawr iawn.

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw? Rwyf innau hefyd yn talu teyrnged i'r ymgyrchydd Beth Hales a ddechreuodd ddeiseb i'r Senedd ar endometriosis yng Nghymru. Mae ymgyrchwyr fel Beth yn codi proffil cyflwr sy'n effeithio ar gymaint o bobl, ond eto nid yw'n cael ei gydnabod na'i ddeall yn eang. Fel y dywedodd Huw a chyd-Aelodau, mae'n llawer rhy anodd i ddioddefwyr gael diagnosis, ac yn amlwg mae angen i hynny newid.

Lywydd, siaradais yn gynharach yng nghwestiynau'r Comisiwn am fy uchelgais i weld y Senedd yn gyflogwr endometriosis-gyfeillgar, ond dyna'r union fath o gynllun y dylai Llywodraeth Cymru ei hyrwyddo drwy eu dull partneriaeth gymdeithasol. Fel y dywedodd Beth wrthyf ar risiau'r Senedd wrth drosglwyddo'r ddeiseb—ac i gloi, Lywydd—nid mater iechyd yn unig yw endometriosis, mae hefyd yn fater cyfiawnder cymdeithasol.

18:45

Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar iawn i Huw Irranca am gyflwyno'r pwnc hynod bwysig hwn ar gyfer y ddadl fer heddiw. Gwellhad buan i chi, Huw. Diolch yn fawr iawn am dynnu sylw at yr achosion anodd sydd gennych. Rwy'n credu ei bod yn hollol iawn nad menywod yn unig sy'n arwain y frwydr ar hyn—mae'n bwysig iawn fod dynion yn deall sut mae hyn yn effeithio ar fywydau cymaint o fenywod.

Mis Mawrth yw Mis Gweithredu ar Endometriosis, ac rwy'n croesawu'r cyfle i dynnu sylw at yr heriau y mae menywod yn parhau i'w hwynebu, ac i ailadrodd fy ymrwymiad i gyflwyno newidiadau i'r ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu yma yng Nghymru, oherwydd ers gormod o amser mae anghydraddoldebau dwfn wedi gwreiddio yn y gofal iechyd a ddarperir i fenywod. Mae'r anghydraddoldebau hyn i'w gweld mewn llu o ffyrdd, gan gynnwys y ffordd y caiff profiadau a phryderon menywod eu gweld a sut y gweithredir ar symptomau, a hynny'n arbennig felly yn achos problemau a chyflyrau sy'n unigryw i fenywod.

Mae endometriosis yn gyflwr cronig sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw. Er ei fod fel arfer ar ei waethaf yn ystod y cyfnod rhwng y glasoed a'r menopos, gall ei effaith bara am oes. Mae union achos endometriosis yn destun dadlau meddygol, ond mae ei effeithiau'n glir. Mae'n digwydd lle mae celloedd tebyg i'r celloedd endometriaidd sy'n amwisgo'r groth i'w canfod mewn mannau eraill yn y corff, lle na ddylent fod. Mae'r celloedd hyn yn parhau i fislifo'n fisol, ond ni cheir llif allanol, a gall hynny achosi llid, meinwe craith, problemau ffrwythlondeb a phoen sylweddol, sy'n gallu bod yn gwbl wanychol ar adegau, fel y clywsom.

I lawer o fenywod, gall fod yn anodd gwneud diagnosis o endometriosis a gall gymryd blynyddoedd i'w adnabod a'i drin yn gywir. Mae endometriosis yn effeithio ar fenywod o bob cefndir cymdeithasol ac ethnig, ac er bod nifer o symptomau cyffredin, mae graddau'r cyflwr a difrifoldeb ei symptomau'n amrywio'n sylweddol rhwng unigolion. Yn anffodus, er mor gyffredin yw endometriosis, mae tystiolaeth yn awgrymu ei bod yn cymryd naw mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis yng Nghymru. Mae hyn yn aml yn dilyn nifer o ymweliadau â meddygon ac ysbytai, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae'n bosibl na fydd symptomau'n cael eu hadnabod, neu mewn rhai amgylchiadau cânt eu diystyru hyd yn oed. I lawer o fenywod, yn enwedig menywod sy'n cael symptomau endometriosis o oedran ifanc, efallai na fyddant yn sylweddoli nad yw'r hyn y maent yn ei brofi yn normal. Dylai'r cam cyntaf o gredu menywod, ac adnabod a chydnabod y gallai poen mislif difrifol fod yn endometriosis, arwain at archwiliadau priodol heb oedi.

Yn ganolog i drafodaethau am amseroedd aros, mae yna fenywod sy'n aml yn dioddef mewn tawelwch, gyda'u bywydau'n cael eu heffeithio'n ddirfawr. Nid oes unrhyw beth yn dangos hyn yn fwy na phrofiad ymgyrchydd iechyd menywod sy'n cefnogi'r gwaith rydym yn ei ddatblygu, ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar amdano. Mae'n swnio'n debyg iawn i'r enghraifft a roddwyd gennych chi, Huw. Rwy'n credu ichi roi enghraifft o 20 mlynedd. Wel, fe gymerodd 23 mlynedd i'r fenyw benodol hon gael diagnosis o endometriosis. Cafodd ei symptomau a'i phryderon eu diystyru dro ar ôl tro gan feddygon fel pethau'n deillio o straen neu o drothwy poen isel. Dywedwyd wrthi fod ei phryderon yn ei phen ac yn gynnyrch iselder a gorbryder. Ond eto, er gwaethaf y labeli anghywir hyn, ni chafodd ei hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl. Cafodd difrifoldeb ei symptomau a'r ansicrwydd a ddeilliodd o ddiffyg gofal a chymorth clinigol priodol effaith sylweddol ar ei bywyd personol a bu bron iddynt arwain at wneud iddi golli ei swydd. Dyna brofiad un fenyw, ond fe fydd yn swnio'n gyfarwydd iawn i lawer gormod o fenywod.

Menywod yw hanner y boblogaeth, ond yn hanesyddol maent wedi bod dan anfantais oherwydd diffyg ymchwil a data am gyflyrau, gan gynnwys endometriosis. Mae hyn wedi cyfyngu ar ein dealltwriaeth gyfunol o'r clefyd, ein gallu i wneud diagnosis o'i bresenoldeb yn gyflym ac yn derfynol, yn ogystal â chynnig triniaeth a dulliau o'i reoli'n brydlon ac yn effeithiol. Gall fod amheuaeth o endometriosis—

18:50

Diolch yn fawr iawn, Weinidog iechyd. Rydych chi'n disgrifio arwyddion a symptomau'r cyflwr yn dda iawn. Mae endometriosis yn gyflwr sy'n effeithio ar yr holl organau, nid y groth yn unig—felly y tiwbiau ffalopaidd, y bledren, y coluddyn. Felly, mae'n gyflwr annelwig iawn i wybod amdano, ac mae angen ymdrech tîm. Diolch am adael imi wneud ymyriad. 

Diolch yn fawr. Mae'n debyg fod hynny'n rhan o'r rheswm pam fod cymaint o bobl yn cael camddiagnosis neu ddim yn cael diagnosis, oherwydd mae'n eithaf anodd deall hynny. Dyna pam rwy'n credu bod hyfforddiant i feddygon yn hollbwysig. 

Gall amheuaeth o endometriosis ddeillio o hanes symptomau'r unigolyn neu drwy sganiau, ond y weithdrefn lawfeddygol ymyrrol a elwir yn laparoscopi yw'r brif ffordd o gadarnhau bod symptomau i'w priodoli i endometriosis, a chaniatáu triniaethau llawfeddygol i leddfu symptomau a chymhlethdodau. Mae arbenigedd a chapasiti'n cael eu datblygu ar draws Cymru i fynd i'r afael â'r angen am wasanaethau o'r fath. Mae angen amlwg hefyd am waith ymchwil pellach ar ddulliau diagnostig cyflymach ar gyfer endometriosis, fel y gellir ei adnabod yn gynt.  

Mae triniaeth gynnar drwy drin hormonau yn effeithiol iawn i leihau poen a chymhlethdodau, gan gynnwys problemau llawfeddygol a ffrwythlondeb, ond mae hyn, wrth gwrs, yn dibynnu ar ddiagnosis cynnar. Mae'n destun pryder fod ymateb y gwasanaeth iechyd i'r pandemig, er yn angenrheidiol, wedi effeithio'n negyddol ar fynediad at ofal yng Nghymru ac ar draws y DU ar gyfer ystod o gyflyrau, gan gynnwys endometriosis. Yn anffodus, mae penderfyniadau anodd wedi ychwanegu at yr amserlen estynedig y mae menywod eisoes yn ei hwynebu cyn gwneud diagnosis a rhoi triniaeth. Mae cyfrifoldeb ar fyrddau iechyd i ddarparu gofal o ansawdd uchel i'w poblogaethau lleol a chymorth o ansawdd ar gyfer rheoli endometriosis. 

Mae gan Gymru ddwy ganolfan arbenigol endometriosis wedi'u hachredu'n llawn—Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Singleton—yn ogystal â chanolfan arbenigol endometriosis yn Ysbyty Brenhinol Gwent sy'n aros am achrediad. Rwy'n deall bod rhywfaint o symud yn Betsi Cadwaladr hefyd. Wrth gwrs, ceir arferion da ledled Cymru, ond nid pob clinigwr sydd â'r hyder a'r arbenigedd i adnabod symptomau endometriosis yn gywir a'u priodoli i'r cyflwr, yn ogystal â darparu gofal a chefnogaeth barhaus. Felly, mae'n amlwg fod angen gwella hyfforddiant, sgiliau ac ymwybyddiaeth, yn ogystal â mynediad at gyngor a thriniaeth arbenigol, lle mae angen hynny. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd sawl datblygiad pwysig yma yng Nghymru yn y gwaith o hyrwyddo'r gefnogaeth a'r gofal sydd ar gael i'r rhai sy'n dioddef o endometriosis. Sefydlwyd y grŵp gorchwyl a gorffen gennym. Ar ôl iddo gyflwyno ei adroddiad yn 2018, cafodd y grŵp gweithredu ar iechyd menywod ei greu er mwyn bwrw ymlaen â'i argymhellion. Arweiniodd hynny at benodi nyrsys endometriosis a chydlynwyr iechyd y pelfis ym mhob bwrdd iechyd. Roeddent yn mynd ati i dreulio amser gyda chleifion mewn clinigau a chysylltu â'u timau amlddisgyblaethol i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau endometriosis ledled Cymru. 

Datblygwyd gwefan arbennig ar gyfer cleifion a chlinigwyr. Mae Endometriosis Cymru yn cynnwys straeon 'byw gyda'r cyflwr' gan Gymry a thraciwr symptomau, sydd â'r potensial i fod yn adnodd diagnosis i gleifion a chlinigwyr gyflymu ymyrraeth ar gyfer diagnosis cynnar a thrin endometriosis. Crëwyd adnoddau ychwanegol, fel gwefan Mislif Fi, i ddarparu arweiniad ar sail tystiolaeth a helpu i normaleiddio sgyrsiau ynghylch iechyd mislif.

Er y datblygiadau hyn, mae'r amseroedd aros cyfredol ar gyfer diagnosis a thriniaeth a'r straeon pwerus rydym i gyd yn parhau i'w clywed gan fenywod ledled Cymru sy'n dioddef o endometriosis yn dangos bod angen gwneud llawer mwy. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau gwelliannau i'r menywod hyn, a dyna rydym yn gweithio tuag ato.  

Dwi wedi bod yn glir bod rhaid i ni newid y ffordd rŷm ni'n darparu gofal iechyd i fenywod a merched yng Nghymru. Mae angen gwneud hynny fel eu bod nhw'n gallu cael y gofal yn brydlon, fel bod yr NHS yn ymateb i'w dewisiadau a'u anghenion nhw, ac fel bod gwaith ymchwil a datblygu yn adlewyrchu profiad byw menywod a merched. A dyna pam ein bod ni yma yng Nghymru wedi ymrwymo i ddod â’r holl faterion pwysig yma at ei gilydd mewn cynllun iechyd menywod sy’n cael ei ddatblygu a’i berchnogi gan ein NHS yma yng Nghymru. Rŷn ni eisoes wedi cymryd camau pwysig tuag at greu’r cynllun.

Ym mis Gorffennaf, gwnes i gyhoeddi’r datganiad ansawdd iechyd menywod a merched. Mae hwn yn nodi beth mae disgwyl i’r NHS ei wneud i sicrhau gwasanaethau iechyd o ansawdd da i gefnogi menywod a merched drwy gydol eu bywydau. Mae disgwyliad clir yn cael ei roi ar fyrddau iechyd i sicrhau lefelau priodol o ofal, triniaeth a chefnogaeth i fenywod sy’n profi endometriosis i gael gofal mor agos â phosibl at gartref, heb amser aros sylweddol.

Yna, ym mis Rhagfyr, gwnaeth cydweithrediad y gwasanaeth iechyd gyhoeddi adroddiad ar ganfod sylfeini cynllun iechyd menywod. Mae hwn yn adrodd o safbwynt mwy na 3,800 o fenywod a merched o bob cwr o Gymru, ac yn tynnu sylw at yr hyn sy’n cael ei wneud i weld y bylchau yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd. Mae’r ddogfen yn nodi cyfleoedd i wella gofal iechyd menywod, gan gynnwys mynediad at gymorth a thriniaeth endometriosis. Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu rhoi ar waith trwy gynllun iechyd menywod 10 mlynedd NHS Cymru. Mae cyhoeddi cam cyntaf y cynllun iechyd menywod yn nodi dechrau sgwrs a chytundeb gyda menywod dros y 10 mlynedd nesaf, gan ddefnyddio dull cydgynhyrchu sydd wedi’i nodi yn ‘Cymru Iachach’. Mae’n dangos ymrwymiad clir y dylai’r cynllun iechyd menywod gael ei gyrru gan leisiau menywod a merched Cymru.

Bydd y cynllun yn ceisio mynd i’r afael ag unrhyw annhegwch neu rwystrau yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd, gan ddefnyddio dull cwrs bywyd i wneud yn siwr bod gwasanaethau iechyd o ansawdd da ar gael i fenywod trwy gydol eu bywydau. Gan ddilyn y fframwaith clinigol cenedlaethol, mae’r rhwydwaith iechyd menywod yn cael ei greu eleni, a bydd yn helpu creu ffordd mwy strategol a systematig o gydlynu, cyflenwi a sicrhau darpariaeth iechyd menywod ar draws Cymru. I helpu mynd i’r afael â’r diffyg ymchwil a data am gyflyrau iechyd menywod, mae fy swyddogion yn gweithio i sefydlu cronfa ymchwil iechyd menywod.

Cyflwr meddygol yw endometriosis yn ei hanfod, ond mae ganddo oblygiadau eang. Mae angen dull wedi’i fodelu yn gymdeithasol i sicrhau bod menywod yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses o gael diagnosis a rheoli’r cyflwr. Mae angen i’r NHS fabwysiadau’r dull yma fel cyflogwyr i wneud yn siwr eu bod yn gwasanaethu eu gweithlu eu hunain yn y ffordd orau, ac yn hybu lles a chynhyrchiad. Dyna’n union beth rŷn ni’n gwneud yn Llywodraeth Cymru. Mae Jack Sargeant wedi dweud bod angen i ni ddangos y ffordd yna—dyna yn union beth rŷn ni’n ei wneud. Dwi’n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd y camau cyntaf pwysig ar y daith yma yn barod trwy lofnodi addunedau menopos ac endometriosis y gweithlu, a phenodi pencampwyr. Mae hyn yn golygu bod y sefydliad yn ymrwymo i ddatblygu amgylchedd gwaith a diwylliant sy’n helpu menywod i gyrraedd eu potensial llawn. Dwi’n ffyddiog ein bod ni ar y llwybr cywir i daclo’r diffyg cydraddoldeb sy’n effeithio menywod mewn gofal iechyd, ond mae’n bwysig cydnabod maint y newidiadau sydd eu hangen, ac na fyddan nhw’n digwydd dros nos.

Rŷn ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau partner a grwpiau cynrychioli, ac yn bwysicaf oll, menywod a merched Cymru i sicrhau bod yr NHS yn ymateb go iawn i’w hanghenion. Yn ystod Mis Gweithredu Endometriosis, yn ogystal â’r misoedd i ddod, ein ffocws yw creu newid sylfaenol yn y ffordd mae’r gwasanaeth iechyd yn delio gydag endometriosis ac iechyd menywod, a sicrhau newid parhaol i fenywod yma yng Nghymru. 

18:55

Diolch i'r Gweinidog, a diolch, bawb. Daw hynny â'n busnes heddiw, a'r tymor hwn, i ben.

Gobeithio y caiff pawb doriad diogel a seibiant fel ein bod i gyd yn dychwelyd yn barod i fynd unwaith eto. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:59.