Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/03/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd ar ein hagenda ni'n gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen. 

Trafnidiaeth Rheilffordd

1. Pa asesiad mae’r Prif Weinidog wedi'i wneud o’r effaith ar Gymru yn dilyn oedi o ddwy flynedd ar ddarn llinell rheilffordd HS2 rhwng Birmingham a Crewe? OQ59295

Llywydd, fe gafodd y penderfyniad i ohirio rhannau o'r llinell HS2 ei wneud heb gyfeirio o gwbl at Lywodraeth Cymru na Thrafnidiaeth Cymru. Mae hyn yn chwalu'r myth mai prosiect Cymru a Lloegr yw hwn. 

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Nid wyf i eisiau ymhelaethu ar ladrad trên mawr Cymru sef HS2, ac nid wyf i eisiau ymhelaethu ar sylwadau Keir Starmer yn Llandudno yn ddiweddar, pan wrthododd ymrwymo i roi ei chyfran deg o HS2 i Gymru. Nid wyf i'n disgwyl i chi, Prif Weinidog, ysgrifennu maniffesto nesaf y DU—er fy mod i'n siŵr y byddai'n llawer gwell pe bai eich ôl bawd chi arno na rhai aelodau Llafur y DU—ond rwyf i eisiau canolbwyntio ar le y gallai cyllid ychwanegol fod o gymorth, lle byddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae'r arbenigwr trafnidiaeth Mark Barry wedi galw cyffordd Gorllewin Caerdydd yn Nhreganna yn dagfa. Byddai lleddfu'r dagfa honno yn galluogi pedwar trên yr awr ar linell y ddinas. Byddai hynny'n gweddnewid y rhwydwaith rheilffyrdd yn y brifddinas ac yn cynyddu cysylltedd â'r Cymoedd yn aruthrol. A wnewch chi, felly, Prif Weinidog, ymrwymo i ysgrifennu at Network Rail ac at Weinidog trafnidiaeth y DU i leddfu'r dagfa yn y gyffordd honno, ac efallai y gallai arweinydd yr wrthblaid wneud yr un peth? Diolch yn fawr. 

Wel, Llywydd, diolch i Rhys ab Owen am yr hyn y mae wedi ei ddweud. A bydd yn deall bod yn rhaid i mi fod yn ofalus i beidio â drysu'r cyfrifoldebau sydd gen i fel Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd. Yn rhinwedd y swydd honno, rwy'n gyfarwydd iawn â'r holl ddadleuon y mae Rhys ab Owen wedi eu cyflwyno, ac, yn rhinwedd y swydd honno, rwy'n ysgrifennu ar ran trigolion Caerdydd yn y modd y mae wedi ei awgrymu. Fel Prif Weinidog, mae'n rhaid i mi fod yn ofalus bob amser nad wyf i'n gweithredu mewn unrhyw ffordd sy'n awgrymu fy mod i'n defnyddio'r swydd sydd gen i yma yn y Senedd hon yn annheg i roi mantais i'r bobl sy'n byw yn fy ardal fy hun. Ond mae'r Llywodraeth yn ei chyfanrwydd yn gwbl sicr yn gwneud y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi, ac yn eu gwneud nhw am yr holl resymau y mae wedi eu cyflwyno. 

Prif Weinidog, mae'n amlwg bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn mwy ymarferol i'r cyhoedd, yn wahanol i'r sefyllfa yng Nghymru, lle mae'r Llywodraeth yn gorfodi pobl allan o geir ond heb roi opsiynau amgen cryf ar waith. Ni wnaf i wadu bod yr HS2 wedi cael ei oedi rhyw fymryn, ond yn y pen draw bydd yn cynyddu capasiti rheilffyrdd ac yn hybu twf. Mae gennym ni rwydwaith rheilffyrdd gwael dros ben yng Nghymru, gyda threnau'n aml yn rhedeg yn hwyr, neu weithiau ddim hyd yn oed yn ymddangos o gwbl. Dim ond yr wythnos hon, dywedwyd wrthym ni i ddisgwyl tarfu ar y rheilffyrdd ymhell i fis Ebrill yn dilyn cyfres o danau ar drenau dosbarth 175. Cafodd dros 100 o wasanaethau eu canslo neu eu gohirio o ganlyniad, a dywedwyd wrthym yn wreiddiol i ddisgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau wythnosau yn ôl. Ond dyma ni eto, Prif Weinidog, yn wynebu anhrefn parhaus ar ein rheilffyrdd. Felly, Prif Weinidog, onid ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cael trefn ar eich materion eich hun, ac efallai mai lle da i ddechrau fyddai trwy ddiswyddo'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd?

Waw. Allech chi ddim ei ddyfeisio, Llywydd, ond mae'n siŵr bod rhywun wedi gwneud hynny ar ran yr Aelod, oherwydd fe'i darllenodd ar lafar i ni. Edrychwch, nid oedd yr hyn yr ydym ni wedi ei glywed, hyd yn oed gyda'r deunydd mwyaf disylwedd, werth amser y Senedd. Mae'r syniad bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifrif ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, y syniad bod HS2 wedi cael ei oedi rhyw fymryn, pan fo bellach yn diflannu ymhell ar ochr arall yr etholiad cyffredinol—. Gadewch i mi ailadrodd y ffigurau. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi eu clywed nhw o'r blaen ar lawr y Senedd, ond maen nhw'n dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am hanes Llywodraeth y DU. Tra byddwn ni'n trydaneiddio, yn y rhannau hynny o'r rhwydwaith sydd o dan reolaeth y Senedd, dros 170 cilomedr o reilffordd yma yng Nghymru, i'r llinellau hynny sydd o dan reolaeth Llywodraeth y DU, tra yn y DU gyfan, mae 38 y cant o'r llinellau hynny wedi'u trydaneiddio, ac, yn Lloegr, mae dros 40 y cant wedi'u trydaneiddio, yma yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU wedi llwyddo i drydaneiddio 2 y cant—2 y cant ar gyfer Cymru, 40 y cant ar gyfer Lloegr. A yw'r Aelod wir yn meddwl bod hwnnw'n hanes y mae'n barod i'w amddiffyn?

13:35

Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwy'n ei alw'n lladrad trên mawr Cymru—dyna mae Llywodraeth San Steffan yn ei wneud i Gymru drwy honni unwaith eto, ac rydych chi wedi cyfeirio at hyn, bod HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr, sy'n golygu mewn gwirionedd y bydd Cymru yn colli gwerth £5 biliwn o gyllid. Ac yna, i roi sarhad ym mhen anaf, mae'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y bydd rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr yn cael ei ddosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr, heb yr un metr o drac yng Nghymru, yn golygu ein bod ni'n colli gwerth £1 biliwn arall o gyllid ar gyfer ein system drafnidiaeth. Am ffracsiwn o hynny, yma yng Nghymru, fe allem ni mewn gwirionedd wneud trafnidiaeth gyhoeddus am ddim ar gael, nid i blant o dan 25 oed yn unig, ond i'r boblogaeth gyfan. Ac mae hyn ar ben degawdau, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, Prif Weinidog, o danfuddsoddiad mewn rheilffyrdd. Er hynny, rwyf i eisiau meddwl yn adeiladol, ac rwy'n gobeithio, yn eich swyddogaeth a'ch perthynas, rwy'n gobeithio, gyda Keir Starmer, ac o gofio ei bod hi'n debygol y bydd Llywodraeth Lafur mewn grym nesaf yn y DU, a wnewch chi ddychwelyd y cyllid coll hwn i Gymru, neu, o gofio'r sylwadau diweddar gan Keir Starmer, a yw'r trên hwnnw eisoes wedi gadael yr orsaf? Diolch.

Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, mae'r Aelod yn cyfeirio at yr anhawster sylfaenol sydd wrth wraidd yr hyn yr ydym ni wedi ei weld gyda HS2, a bellach, yn wir, efallai gyda Phwerdy Gogledd Lloegr hefyd, sef gallu mympwyol Trysorlys y DU i wneud dosbarthiadau o'r mathau y cyfeiriodd Jane Dodds atyn nhw, ac sy'n arwain at ddynodi Pwerdy Gogledd Lloegr yn fath o fuddsoddiad Cymru a Lloegr. Mae'n amlwg nad yw hynny'n wir; mae'n nonsens awgrymu ei fod, ond y Trysorlys yw'r barnwr a'r rheithgor yn y mater hwn—mae'n pennu'r dosbarthiad, ac, os ydych chi'n dymuno ei herio, y Trysorlys, a wnaeth y dosbarthiad hwnnw yn y lle cyntaf, sy'n penderfynu a wnaethon nhw ei gael yn iawn ai peidio. Ac yn rhyfeddol ddigon, maen nhw bron bob amser yn dod i'r casgliad eu bod nhw wedi ei gael yn iawn. Felly, ceir annhegwch sylfaenol yn y system. Yn y trafodaethau a gynhaliwyd gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio peirianwaith y berthynas rynglywodraethol, llwyddwyd i gyflwyno elfen annibynnol i anghydfodau â Llywodraeth y DU, lle'r oedd Llywodraeth ddatganoledig yn dymuno codi mater, ac eithrio mewn penderfyniadau a wnaed gan y Trysorlys. Ac mae hynny oherwydd bod y Trysorlys ei hun wedi gwrthod, hyd yn oed yn Whitehall, a hyd yn oed o dan bwysau, fel y credaf, gan Swyddfa'r Cabinet, gwneud ei benderfyniadau yn destun unrhyw fath o drosolwg annibynnol. Ac mae'r diffyg sylfaenol hwnnw yn dal i fod yn weithredol, a hynny ar draul Cymru.

Rwy'n ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd yr Aelod am y siawns o Lywodraeth Lafur newydd. A phe baem ni'n rhan o wleidyddiaeth o ddifrif, byddem yn deall, os ydych chi'n paratoi ar gyfer Llywodraeth, nad ydych chi'n mynd i wneud cyfres o benderfyniadau untro mewn cyfweliad pan ofynnir y cwestiwn hwnnw i chi. Bydd Prif Weinidog sy'n paratoi ar gyfer Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau ar sail gytbwys; byddwn yn parhau i wneud y ddadl—wrth gwrs y byddwn ni—ynghylch HS2. Mae gwrthblaid aeddfed, sy'n paratoi ar gyfer Llywodraeth, yn mynd i orfod gwneud llu o benderfyniadau anodd ar sail gytbwys, ac nid ydych chi'n gwneud hynny drwy ymateb i geisiadau am symiau mawr o arian mewn cyfweliad.

A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, ei fod yn gryn agoriad llygad y byddai'n well gan y Ceidwadwyr Cymreig gefnogi Llywodraeth y DU na sefyll dros Gymru? Mae'n rhaid fy mod i wedi cael fy ngwersi daearyddiaeth yn ofnadwy o anghywir yn yr ysgol, oherwydd rwyf i newydd ddarganfod dros y penwythnos bod rheilffordd Huddersfield i Leeds yn gwasanaethu Cymru, a bod Crewe i Fanceinion yn gwasanaethu Cymru, ond dim ond os ydych chi'n Dori. Oherwydd yn y pen draw, pan fyddaf yn edrych i lygaid fy etholwyr, maen nhw'n gweld Llywodraeth Cymru yn chwilio am arian i fuddsoddi yn rheilffordd Glynebwy, fel y maen nhw ym Maesteg hefyd, ac maen nhw'n edrych ar draws y dyffryn yn Rhymni, maen nhw'n edrych draw at Ferthyr, maen nhw'n edrych draw at Aberdâr, maen nhw'n edrych draw at y Rhondda, lle mae seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, ac maen nhw'n gweld y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, buddsoddiad nad yw Llywodraeth y DU yn barod i'w wneud yng Nghymru. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi, os ydym ni'n mynd i roi terfyn ar ffars y Torïaid yn dweud wrthym ni fod Crewe, Manceinion, Leeds a Huddersfield yng Nghymru mewn gwirionedd, yna mae angen i ni ddatganoli'r holl gyfrifoldeb am fuddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd i Gymru a'i wneud yma ein hunain?

13:40

Wel, Llywydd, mae hanes Llywodraeth Cymru yn siarad drosto'i hun: dros £800 miliwn eisoes wedi'i fuddsoddi mewn datblygiadau metro ledled Cymru, £800 miliwn arall wedi'i fuddsoddi mewn fflydoedd trenau newydd ledled Cymru—trenau sy'n cael eu cynhyrchu yma, nawr, yng Nghymru. Am gyferbyniad â'r ffigyrau a roddais i chi ar drydaneiddio. Yr hyn sydd ei angen arnom ni, Llywydd, yw gweld datganoli'r seilwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru, ynghyd â setliad cyllid teg, a does dim pwynt cael y cyntaf os na chewch chi'r ail, ac mae gen i ofn, mai prin iawn yw'r hyder y mae'r hanes o ymdrin â Llywodraeth bresennol y DU yn ei roi i chi y byddech chi fyth yn cael bargen deg. 

Gweithwyr Iechyd

2. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu gweithwyr iechyd proffesiynol i weithio yng nghanolbarth Cymru? OQ59322

Llywydd, rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i gadw gweithwyr presennol, i recriwtio'n lleol ac i ddod â chlinigwyr newydd i'r ardal. Er bod heriau yn parhau, ac yn rhai go iawn, mae'r canolbarth yn parhau i fod yn lle deniadol i weithio, byw a hyfforddi ynddo. Mae gweithlu bwrdd iechyd lleol Powys wedi gweld cynnydd o dros 700 mewn swyddi llawn amser dros y degawd diwethaf.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Mae problem wirioneddol yn fy etholaeth o ran cael mynediad at feddyg teulu, yn aml mae rhai yn gorfod aros cryn amser i weld meddyg teulu, a cheir canlyniadau yn sgil hynny yn amlwg. Yr hyn y byddwn yn ei ofyn, Prif Weinidog, yw: beth ydych chi'n eu gweld yw'r rhwystrau rhag i feddygon teulu ac, yn wir, deintyddion, ddod i weithio yn y canolbarth a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hynny? Yn benodol, rwy'n meddwl am y rhestr perfformwyr. Ceir rhestr perfformwyr y mae'n rhaid i feddygon teulu, deintyddion wneud cais amdani er mwyn gweithio yng Nghymru, a hynny'n briodol, yn fy marn i, am resymau diogelwch cleifion. Ond rydym ni'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r broblem hirsefydlog, sef os ydych chi'n graddio neu'n byw yn Lloegr, gallwch wneud cais i fod ar restr perfformwyr Lloegr, ond ceir anghymhelliad wedyn i ddod i weithio yng Nghymru. Felly, a gaf i ofyn beth rydych chi'n ymwybodol ohono, o ran rhestr perfformwyr ledled y DU neu restr perfformwyr Cymru a Lloegr ar y cyd, neu, yn wir, cofrestru pobl yn awtomatig ar restr perfformwyr Cymru, os yw Llywodraeth Cymru yn fodlon â'r meini prawf yn Lloegr a'r broses yn Lloegr? Ond yn y pen draw, beth ellir ei wneud i gael gwared ar unrhyw rwystrau er mwyn caniatáu i ddeintyddion a meddygon teulu yn arbennig ddod i fyw a gweithio yng nghanolbarth Cymru?

Wel, diolch i Russell George am y cwestiynau ychwanegol yna. Cefais gyfle i drafod recriwtio ym Mhowys gyda phrif weithredwr bwrdd iechyd prifysgol Powys ddoe. Dywedodd wrthyf mai dim ond un practis a reolir sydd gan Bowys a bod gobaith realistig y bydd contractwyr newydd yn cael eu canfod, sy'n hapus i ddod i gymryd y practis hwnnw drosodd hefyd, ac er bod recriwtio yn heriol, fel y mae ym mhobman, mae'n cael ei gynnal yn ardal bwrdd iechyd Powys gyda rhywfaint o recriwtio diweddar mewn rhannau o'u cyfrifoldeb.

Siaradais â Carol Shillabeer am y rhestr perfformwyr. Nid wyf i'n cytuno y dylid cael un rhestr perfformwyr. Mae angen i chi wybod, os yw meddyg teulu yn ymarfer yng Nghymru, ei fod yn deall y ffordd y mae'r dirwedd polisi yn gweithredu yng Nghymru, y ffordd wahanol y caiff gwasanaethau eu cyflwyno ar lawr gwlad. Nid yw'n ddigon da i ddweud oherwydd eich bod chi'n iawn i ymarfer ar un ochr i'r ffin, y gallwch chi dybio'n awtomatig eich bod chi'n gymwys i ymarfer yn rhywle lle mae'r dirwedd yn wahanol iawn. Yr hyn yr wyf i'n ei gredu, fodd bynnag, yw y dylid gwneud y gallu i drosglwyddo mor benodol a hawdd â phosibl. Ni ddylai fod unrhyw rwystrau artiffisial yn atal pobl rhag gallu ymarfer yng Nghymru a Lloegr. Mae angen i chi fod yn siŵr ac yn hyderus bod rhywun sy'n ymarfer yng Nghymru yn gymwys i wneud hynny yng nghyd-destun Cymru, ac mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud rhwng GIG Lloegr a GIG Cymru i wneud yn siŵr ei bod mor hawdd â phosib cael cydnabyddiaeth y naill ochr i'r ffin a'r llall. Mae'n gweithio'r ddwy ffordd, gan fod llawer o bobl sy'n byw yn Lloegr yn cael eu gofal sylfaenol gan staff sy'n cael eu cyflogi yma yng Nghymru, ac yn yr un modd byddai system Lloegr eisiau gwneud yn siŵr bod pobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny yn cael eu cydnabod yn iawn fel pobl gymwys i wneud y gwaith y gofynnir iddyn nhw ei wneud.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, cyflwynodd y Canghellor ei gyllideb. Canolbwynt y gyllideb honno oedd y cynnig gofal plant a fydd wedi'i gyfyngu i Loegr, oherwydd, yn amlwg, mae'r pwerau a'r cyfrifoldebau hynny yn bodoli yma yn y Senedd a chyda'r Llywodraeth. Mae llawer o bobl wedi dod ataf i dros y penwythnos—mae'n dipyn o syndod faint o bobl sydd wedi cymryd sylw o'r polisi penodol hwn—gan dybio y byddai yma yng Nghymru hefyd. A allwch chi gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno polisi a fydd yn cynnwys cynnig gofal plant am naw mis i ddwy flynedd, ac yna, yn amlwg, yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn cael ei gynnig yma yng Nghymru?

Rwy'n gwbl siŵr, yn y sgyrsiau hynny, bod arweinydd yr wrthblaid wedi gallu esbonio i'r bobl hynny mai'r hyn yr ydym ni'n ei weld yw ymgais yn Lloegr i ddal i fyny â gwasanaethau sydd eisoes ar gael yma yng Nghymru. Yn sicr nid yw'r ffordd arall. Y cwbl y mae'r addewidion—y dyheadau, efallai y dylem ni ei ddweud—a gyflwynwyd gan y Canghellor, pob un ohonyn nhw wedi'u graddnodi'n ofalus i wneud yn siŵr eu bod nhw'n glanio yr ochr arall i etholiad cyffredinol, yn eu gwneud yw ceisio dal i fyny â'r gwasanaethau sydd eisoes ar gael yma yng Nghymru.

I blant tair a phedair oed, yma yng Nghymru, mae teuluoedd yn cael 30 awr o ofal plant am 48 wythnos o'r flwyddyn. Yn Lloegr, mae hynny'n 38 wythnos o'r flwyddyn; 10 wythnos yn llai yn Lloegr nag yr ydych chi'n eu cael yng Nghymru. Yma yng Nghymru, dim ond y llynedd, yn ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, rydym ni wedi ymestyn cyrhaeddiad y cynnig gofal plant i blant tair a phedair oed i bobl sydd ar drothwy cyflogaeth, ac mae 3,000 yn rhagor o rieni yn gallu manteisio ar y cynnig gofal plant hwnnw yma yng Nghymru dim ond o ran yr un agwedd honno.

Fy nealltwriaeth i yw bod y Canghellor yn dweud y bydd 60,000 yn fwy o bobl yn ymuno â'r gweithlu o ganlyniad i'w fuddsoddiad mewn gofal plant. Mae gennym ni 3,000 eisoes o ganlyniad i'r hyn a wnaethom ar gyfer plant tair a phedair oed yn unig y llynedd, ac mae ein hanes o ehangu gofal plant i blant dwy oed yn rhywbeth sy'n ddyhead yn unig yn Lloegr. Felly, y gwir ateb i'r bobl sy'n dod at arweinydd yr wrthblaid ac yn siarad ag ef yw: rydym ni eisoes yn gwneud llawer mwy yng Nghymru nag y maen nhw yn Lloegr, a byddan nhw'n lwcus iawn yn wir os byddan nhw'n dal i fyny gyda lle yr ydym ni eisoes.

Prif Weinidog, roedd yn gwestiwn syml: a ydych chi'n mynd i gyflwyno darpariaeth i blant un a dwy oed yma yng Nghymru? Rydych chi'n cael y symiau canlyniadol ar gyfer yr arian sy'n cael ei wario yn Lloegr. Mae'n gynnig realistig y mae pobl eisiau ei weld yn cael ei ddarparu yma yng Nghymru. Felly, gallai ateb syml gennych fod yn, 'Byddwn, mi fyddwn yn ei ddarparu, gan ein bod ni'n cael yr arian, a byddwn ni'n ei ddarparu erbyn y dyddiad hwn.' Felly, a allwn ni gael eglurder ynghylch y cwestiwn hwn? A wnewch chi ddarparu gofal plant i blant un a dwy oed?

Dyma ateb syml i arweinydd yr wrthblaid: byddwn yn buddsoddi £70 miliwn mewn buddsoddiad cyfalaf yn y sector hwn, fel y gall dyfu a dwyn mwy o blant i ofal plant. Nid oes ceiniog, dim un geiniog, yng nghyhoeddiad y Canghellor o fuddsoddiad cyfalaf yn y sector gofal plant yn Lloegr. Byddwn yn darparu rhyddhad ardrethi o 100 y cant i'r sector yma yng Nghymru: £10 miliwn mewn rhyddhad ardrethi i gynorthwyo'r sector. Nid oes yr un geiniog o ryddhad ardrethi ar gyfer y sector gofal plant yn Lloegr chwaith. Byddwn yn cyflwyno 2,500 o leoedd ychwanegol ar gyfer plant dwy oed yng Nghymru o fis Ebrill eleni, a 4,500 o leoedd newydd eraill ar gyfer plant dwy oed yng ngham 2 o fis Medi eleni.

Pan fyddwch chi'n adio'r ddau ffigur hynny at ei gilydd, rydym ni eisoes—eisoes—yn addo gwneud tair gwaith cymaint ag y mae'r Canghellor yn addo ei wneud yn Lloegr ar sail gymesurol. Dyna'r ydym ni'n ei wneud yng Nghymru. Nid wyf i'n copïo neb arall; Cymru ddatganoledig yw hon lle rydym ni'n gwneud ein penderfyniadau ein hunain. A bydd y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn gwneud llawer iawn mwy i lawer iawn mwy o deuluoedd, ac nid ar sail dyhead, nid ar y sail y gallai hyn ddigwydd rhywbryd yn y pellter pan fyddwch chi'n gwybod na fyddwch chi mewn grym; byddwn ni'n ei wneud yn nhymor y Senedd hon, gyda'r arian a'r penderfyniad y mae'r Senedd hon yn eu darparu ar ei gyfer.

13:50

'Darpariaeth wirioneddol', rwy'n clywed aelodau eich meinciau cefn yn ei ddweud. Yr hyn y mae pobl eisiau ei wybod yw: a fydd cynnig gofal plant cyffredinol i blant un a dwy oed a fydd yn cynnwys pobl nad ydyn nhw'n manteisio ar y 30 awr hynny o ofal plant am ddim? Mae'r arian yn dod i chi allu gwneud hynny. Enghraifft o ateb syml fyddai, 'Gwnawn, fe wnawn ni ei ddarparu, a bydd pobl ledled Cymru yn mwynhau'r budd hwn.' Dro ar ôl tro, am resymau ideolegol, rydych chi'n dewis peidio â dod ag arfer gorau yma i Gymru, fel y dreth stamp a'r dreth trafodiadau tir: £425,000 yn Lloegr yw'r man cychwyn ar gyfer treth stamp; £225,000 yw'r man cychwyn ar gyfer trafodiadau tir yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] O ran—

Ni allaf glywed arweinydd yr wrthblaid. A allwn ni ganiatáu i'r Prif Weinidog glywed arweinydd yr wrthblaid os gwelwch yn dda?

O ran cladin, dydych chi ddim yn gwneud y penderfyniadau er budd pobl sydd mewn blychau tân ac yn ofni mynd i gysgu gyda'r nos. Ac o ran ardrethi busnes, ni wnewch chi ddod â'r rhyddhad graddedig sydd ar gael mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond mae gennym ni'r ardrethi busnes uchaf o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. A nawr pan ddaw i ofal plant, rydych chi'n gwrthod cyflwyno cynnig cyffredinol ar gyfer gofal plant i gynorthwyo teuluoedd ar hyd a lled Cymru. Pam mae pobl yn teimlo nad ydych chi'n gwneud yr hyn sy'n iawn iddyn nhw yma yng Nghymru, Prif Weinidog?

Wel, gall arweinydd yr wrthblaid sloganeiddio cymaint ag y mynno. Rwyf i wedi rhoi'r ffeithiau iddo; y ffeithiau sy'n dweud bod gennym ni yma yng Nghymru gynnig gofal plant llawer mwy hael a chynllun i fod yn fwy hael fyth, y byddwn yn ei ddarparu, gan ein bod ni eisoes wedi dod o hyd i'r arian. Rydyn ni eisoes yn gwneud y buddsoddiad. A phan fydd arweinydd yr wrthblaid yn sloganeiddio tuag ataf am ryddhad ardrethi busnes, gadewch i mi ei atgoffa o'r hyn a ddywedais wrtho ychydig funudau yn ôl: os ydych chi'n rhedeg busnes gofal plant yng Nghymru, mae gennych chi ryddhad ardrethi o 100 y cant trwy benderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru—penderfyniad i gynorthwyo'r sector—oherwydd ni wnewch chi fyth dyfu gofal plant yn unrhyw le os nad oes gennych chi leoedd i blant fynd iddyn nhw a phobl yno i wneud y gwaith. Rydyn ni'n buddsoddi yn y lleoedd a'r bobl. Byddwn yn sicrhau cynnig ym mhob rhan o Gymru nad yw'n cyd-fynd â'r hyn sydd ar y bwrdd yn ddamcaniaethol yn Lloegr, ond a fydd yn cael ei weld ym mhob cymuned yma yng Nghymru.

Diolch, Llywydd. Roedd hi'n fraint gallu siarad yn gynharach ag aelodau o Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, sydd yma yn y Senedd heddiw. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf fod eu profiad o ymchwiliad COVID y DU wedi dwysau eu penderfyniad bod angen ymchwiliad ei hun ar Gymru, fel yr Alban. Yr unig elfen benodol i Gymru bwrpasol a addawyd hyd yma yw modiwl 2B, sydd wedi'i drefnu i bara am bythefnos a hanner yr adeg hon y flwyddyn nesaf. Nawr, mae hynny'n rhy ychydig o amser, siawns, i ni ddysgu'r gwersi angenrheidiol i Gymru; mae'n rhy hwyr, a bydd rhy ychydig o leisiau yn cael eu clywed. I roi un neu ddwy o enghreifftiau: nid yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gyfranogwr craidd. Mae yng Ngogledd Iwerddon. Rwy'n clywed nad oes unrhyw dystion arbenigol wedi cael eu penodi gan yr ymchwiliad sydd naill ai o Gymru neu â gwybodaeth benodol i Gymru. Ac mewn ymchwiliad pedair gwlad, heb os y risg fydd y byddwn ni'n cymharu ein hunain â chenhedloedd eraill y DU, er mai'r hyn y dylem ni fod yn ei wneud yw gwneud ein hunain yn destun cymhariaeth ryngwladol. Mae cymharu ein hunain â Boris Johnson a Matt Hancock yn gosod y bar yn isel iawn—a dweud y lleiaf.

Mae'n ddrwg gen i, wnes i ddim clywed y cwestiwn yn yr hyn a ofynnodd arweinydd Plaid Cymru i mi, ond rwyf i wedi nodi sawl gwaith y rhesymau pam mai'r ffordd orau o fynd ar drywydd yr atebion y mae teuluoedd yma yng Nghymru yn dymuno eu cael, yn gwbl briodol, yw drwy ymchwiliad sy'n gallu edrych ar y cydgysylltiad rhwng penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru a phenderfyniadau a wnaed mewn mannau eraill. Rwy'n meddwl ei bod hi'n ddyddiau cynnar iawn yn oes yr ymchwiliad i ddod i gyfres o gasgliadau beirniadol yn ei gylch. Mae'r ymchwiliad yn ei gyfnod ffurfiannol. Mae'r Barnwr Hallett yn parhau i glywed gan bobl sy'n credu y dylid mynd i'r afael â'i chylch gwaith mewn ffyrdd penodol, ac mae hi wedi bod yn eglur ei bod hi'n parhau i ystyried yr holl safbwyntiau hynny sy'n cael eu cyflwyno iddi ynglŷn â sut y dylai ei hymchwiliad weithredu. Pan fydd Aelodau yma yn teimlo bod ganddyn nhw safbwyntiau a fyddai'n berthnasol i'r ymchwiliad, dylen nhw eu cyflwyno i'r ymchwiliad.

13:55

Wel, a allwch chi amlinellu, Prif Weinidog, fel rydych chi wedi addo ei wneud, beth yw eich cynigion fel Llywodraeth o ran sut y gallai pwyllgor diben arbennig weithredu? Fe wnaethoch chi addo cyflwyno cynnig i'r Senedd, a dydyn ni ddim wedi derbyn hwnnw eto. Felly, pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny, byddem yn ddiolchgar iawn.

Nawr, un o'r rhesymau pam y mae angen i ni ddysgu'r gwersi yn gyflym yw'r posibilrwydd o bandemig arall. Mae Canolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop wedi dweud yn ystod yr wythnos diwethaf y gallai mwtaniadau i'r feirws ffliw adar awgrymu bod y potensial ar gyfer pandemig ymhlith pobl yn cynyddu. Dywedodd Dr Nicole Robb o Brifysgol Warwick ddoe nad yw capasiti profi'r DU yn ddigon datblygedig ar hyn o bryd i ymdopi â throsglwyddiad feirws H5N1 o adar i bobl. Mae prif wyddonydd newydd Sefydliad Iechyd y Byd, Jeremy Farrar, wedi dweud y dylai llywodraethau ledled y byd fod yn buddsoddi mewn brechlyn H5N1 ac yn cynnal treialon cam 1 a cham 2. Ac un o'r gwersi i ni o bandemig COVID oedd na allwn ni ddibynnu'n syml ar fframwaith parodrwydd y DU, Prif Weinidog. Felly, a allwn ni gymryd y camau hyn, a awgrymwyd gan y gwyddonwyr hynny, yma yng Nghymru?

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod y Barnwr Hallett ei hun wedi dweud droeon bod y rheswm ei bod hi'n dymuno cynnal ei hymchwiliad yn y ffordd y mae hi'n ei wneud—yr oedd arweinydd Plaid Cymru yn feirniadol ohoni yn ei gwestiwn cyntaf—yn union oherwydd ei bod hi eisiau gwneud yn siŵr bod gwersi o brofiad COVID ar gael mor gyflym â phosib, oherwydd gallai pandemig arall ddigwydd ac mae'n dymuno gwneud yn siŵr ein bod ni wedi gallu dysgu'r gwersi o brofiad COVID. Felly, rwy'n credu y dylai fyfyrio ychydig ar hynny yng ngoleuni ei gwestiynau cyntaf i mi.

O ran paratoi ar gyfer pandemigau'r dyfodol, yna wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru yn effro i'r perygl hwnnw. Rydyn ni'n dilyn Sefydliad Iechyd y Byd a safbwyntiau grwpiau arbenigol eraill yn y maes hwn. Rydyn ni'n cymryd rhan ein hunain mewn ymarferion i wneud yn siŵr, cyn belled ag y gallwch, eich bod chi'n sganio'r gorwel ar gyfer yr hyn a allai ddod yn ddiweddarach, a bydd gwersi o COVID yn rhan bwysig iawn o'r ffordd yr ydym ni'n gwneud hynny. 

O ran rhan gyntaf ei gwestiwn, y rhan yn ymwneud ag ymchwiliad gan bwyllgor y Senedd, rwyf i wedi cyfarfod ag arweinydd yr wrthblaid—roedd y cynnig gwreiddiol yn enw'r Blaid Geidwadol. Cefais ohebiaeth gyda'r Barnwr Hallett o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw. Derbyniwyd ateb, ac rwy'n obeithiol y byddaf yn gallu cyfarfod ag arweinydd yr wrthblaid eto cyn diwedd y tymor hwn, fel y gallwn ni barhau i archwilio'r hyn a allai fod yn bosibl yng nghyd-destun yr hyn sydd eisoes yn digwydd ar lefel y DU.

Prif Weinidog, byddwch wedi darllen yr adroddiadau crwner diweddar ar farwolaethau Gareth Roberts a Domingo David, yr oedd y ddau ohonyn nhw'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Canfu'r crwner eu bod nhw wedi marw o COVID a gafwyd yn y gwaith ac y dylid dosbarthu'r marwolaethau hyn fel marwolaethau o glefyd diwydiannol. Dadleuodd y bwrdd iechyd yn erbyn y dynodiad hwnnw. Rwy'n sylweddoli mai mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu a ddylid cydnabod COVID fel clefyd diwydiannol at ddibenion budd-dal anabledd diwydiannol, ond ar y cwestiwn cyffredinol, y canfu'r crwner o blaid y teuluoedd a'r undebau llafur yn ei gylch, y dylid ystyried COVID a gafwyd yn y gwaith fel clefyd diwydiannol, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru? Ac a ydych chi hefyd yn cytuno â'r undebau llafur, sydd eisiau gweld COVID hir yn cael ei gofrestru fel anabledd at ddibenion triniaeth deg a chyfartal?

O ran y cwestiwn cyntaf, rydym ni'n parhau i adolygu safbwyntiau'r crwner ac i gymryd cyngor gan y rhai sy'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar y materion hynny. O ran COVID hir, rwy'n credu bod y dystiolaeth yn dal i ddod i'r amlwg. Rwy'n meddwl ei bod hi'n rhy gynnar i ddod i benderfyniad o'r math y mae'r undebau llafur wedi awgrymu hyd yma. Nid yw'r holl dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu mewn gwirionedd bod COVID hir yn parhau i gael effaith mor ddifrifol ar iechyd rhywun cyhyd ag yr awgrymodd yr astudiaethau gwreiddiol. Felly, er bod y dystiolaeth yn parhau i fod ar y cam hwnnw o ddod i'r amlwg, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cael y ddadl, rwy'n credu y dylai safbwyntiau ein cydweithwyr yn yr undebau llafur yn sicr fod yn rhan o hynny, ond rydyn ni'n parhau i ddilyn yr wyddoniaeth a'r dystiolaeth, ac o ran COVID hir, mae hwnnw'n dal i fod yn ddarlun sy'n dod i'r amlwg yn hytrach nag un sefydlog.

14:00
Iechyd Meddwl

3. Pa gamau brys mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru? OQ59311

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae cyllid sylweddol a pharhaus gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru, o ehangu ymyriadau mynediad uniongyrchol haen 0 a haen 1 i wasanaethau arbenigol, er enghraifft mewn anhwylderau bwyta a seicosis.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Rwy'n siŵr eich bod chi wedi sylwi bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi yr wythnos diwethaf adroddiad helaeth ar drefniadau rhyddhau Cwm Taf Morgannwg o unedau iechyd meddwl i gleifion mewnol sy'n oedolion. Rwy'n falch o weld bod mwyafrif yr arferion yn briodol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er i broblemau gweinyddol gael eu nodi. Ond, yn destun pryder, daeth AGIC o hyd i broblemau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn benodol ynghylch cleifion a dderbyniwyd o Ben-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys diffyg achosion cydgysylltiedig o ryddhau. Yn benodol, roedd diffyg cyfathrebu rhwng yr uned cleifion mewnol a thîm iechyd meddwl cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys peidio â gwahodd staff Pen-y-bont ar Ogwr i gyfrannu at rowndiau ward fel y gallen nhw helpu i lywio gwaith cynllunio rhyddhau cleifion, a staff y tîm yn methu â chael gafael ar wybodaeth bwysig am gleifion. Arweiniodd hyn mewn gwirionedd at ryddhau cleifion o'r ysbyty heb unrhyw rybudd i'r tîm lleol. Ar ben hynny, mae pwysau o ran y gwelyau sydd ar gael wedi arwain at achosion o staff yn rhyddhau cleifion yn gynt na'r hyn a gynlluniwyd. Er bod y rhain yn gleifion yr ystyriwyd eu bod nhw'n ddiogel i'w rhyddhau, nid oedd digon o amser i gyfleu'r holl wybodaeth berthnasol i dimau cymunedol. Roedd staff hefyd yn rhwystredig ynghylch diwygio cynlluniau rhyddhau heb gyfathrebu na chytundeb rhwng yr holl dimau. Roedd gan ddau glaf a ryddhawyd o Ysbyty Brenhinol Morgannwg bryderon diogelwch sylweddol, gan gynnwys hunan-niweidio a niwed i eraill. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, a darparodd 40 o argymhellion i'r bwrdd. Nid ydym wedi clywed amdano gan y Gweinidog iechyd yn y Senedd hon eto. O gofio bod Cwm Taf yn dal i fod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu oherwydd gwasanaethau mamolaeth ac y rhoddwyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, pa gamau brys mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad oes unrhyw glaf yn dioddef niwed o ganlyniad i arferion rhyddhau gwael?

Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn gweld mai ar 7 Mawrth y cyhoeddwyd yr adroddiad mewn gwirionedd, yn hytrach na'r wythnos diwethaf. Mae gan y bwrdd iechyd, o dan y rheolau sydd wedi'u cytuno gydag AGIC, bedair wythnos i roi sicrwydd i AGIC bod y materion sy'n peri pryder, ac rwy'n cytuno â'r Aelod bod y materion a nodwyd yn destun pryder—. Bydd pedair wythnos i'r bwrdd iechyd roi sicrwydd i AGIC bod cynllun ar waith i ymdrin â nhw. Mae'r Gweinidog eisoes wedi cyfarwyddo uned gyflawni'r GIG i gyfarfod yn fisol gyda'r bwrdd, ar ôl i'r cynllun sicrwydd hwnnw gael ei gyhoeddi, i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei oruchwylio wrth ei weithredu. Yn gyntaf oll, bydd angen craffu ar ateb y bwrdd iechyd i wneud yn siŵr ei fod yn ymateb i'r materion a nodwyd yn adroddiad AGIC. Pan fyddwn yn fodlon bod y cynllun gweithredu hwnnw'n ddigonol ar gyfer y dasg, yna bydd adolygiad misol ohono gan yr uned gyflawni yn rhoi'r sicrwydd y bydd ei angen ar y Gweinidog ei fod yn cael ei roi ar waith yn briodol.

Safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran sicrhau dyfodol hir dymor safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych? OQ59323

Cyngor Sir Ddinbych a'u datblygwr penodedig sy'n gyfrifol am ddyfodol hirdymor y safle hwn. Mae'r cyngor, fel perchennog y safle, ynghyd â'u contractwyr, yn gwneud cynnydd gyda chymorth sylweddol o gronfeydd bargen twf y gogledd.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. I gynnig ychydig o hanes a chefndir, hen seilam iechyd meddwl yn Ninbych oedd Ysbyty Gogledd Cymru, a gaewyd amser maith yn ôl ym 1995 ar ôl gweithredu'r ddeddf gofal yn y gymuned, a ddaeth i rym yn y 1980au. Ers ei gau, mae wedi bod yn destun llawer o bethau fel ymosodiadau llosgi bwriadol, fandaliaeth ac archwilio trefol. Does ond angen i chi wneud chwiliad cyflym ar YouTube neu unrhyw gyfryngau cymdeithasol i weld tystiolaeth o hynny. Ond mae ymyl arian yn y ffaith fod safle Ysbyty Gogledd Cymru wedi sicrhau gwerth £7 miliwn o gyllid o fargen twf y gogledd, sydd, fel y gwyddoch, wrth gwrs, yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraethau'r DU a Chymru. O ran dyfodol hirdymor y safle, sydd bellach yn eiddo i Jones Bros o Ruthun, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, y prynhawn yma, beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i fanteisio i'r eithaf ar y gronfa hon a gwneud yn siŵr bod modd denu buddsoddiad canlyniadol i sicrhau hyfywedd hirdymor y safle, fel bod gan bobl Dinbych a Dyffryn Clwyd safle i ymfalchïo ynddo, ac i gynnal hanes cyfoethog yr adeilad yn y dref?

14:05

Yn gyntaf oll, Llywydd, rwy'n bendant yn cytuno â Gareth Davies am hanes cyfoethog safle Ysbyty Gogledd Cymru. Cyhoeddodd cyn-gydweithiwr i mi, a oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor, Pamela Michael, lyfr gwirioneddol ardderchog yn edrych ar ofal a thriniaeth pobl â salwch meddwl yn y gogledd dros ddwy ganrif, gan ganolbwyntio'n arbennig ar ysbyty sir Ddinbych, oherwydd, Llywydd, yn unigryw, yn yr holl gyfnod hwnnw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dim ond tri o bobl wnaeth erioed gofnodi derbyn pobl i'r ysbyty yn y llyfrau ysbyty hynny. Felly, yn unigryw, rwy'n credu, yn y Deyrnas Unedig gyfan, ceir cofnod o ganrif gyfan, yn eich caniatáu yn gwbl gyson i weld sut y daeth pobl i gael eu derbyn, y mathau o gefndiroedd yr oedden nhw'n dod ohonyn nhw, y mathau o afiechydon yr oedden nhw'n eu dioddef ac ati. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn bechod mawr gweld adeilad â hanes mor rymus yn dioddef wedyn y math o adfeiliedigrwydd sydd wedi bod yno yn y cyfnod mwy diweddar.

Y newyddion da, fel y dywed Gareth Davies, Llywydd, yw bod £7 miliwn bellach wedi'i neilltuo gan fargen twf y gogledd. Rwy'n credu ei bod hi'n deg nodi bod yr arian ychwanegol sydd wedi dod o fargen twf y gogledd oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cais i'r gronfa ffyniant bro gan Ddyffryn Clwyd. Pe bai'r cais hwnnw i'r gronfa ffyniant bro wedi mynd yn ei flaen, byddai £2.75 miliwn wedi bod ar gael i helpu gyda'r gwaith o ddymchwel y rhannau hynny o'r safle na fydd yn rhan o'i ddyfodol ac i drwsio'r rhannau hynny o'r adeilad a fydd yno. Fodd bynnag, daeth y cyfle hwnnw ac yna fe aeth, ac o leiaf nawr, trwy weithredoedd y cyngor sir, bwrdd uchelgais gogledd Cymru a'r datblygwr, mae gobaith gwirioneddol y bydd cam 1 datblygiad y safle yn cychwyn cyn diwedd y flwyddyn galendr hon ac yn cael ei gwblhau o fewn 12 mis, y bydd cam 2 yn dechrau cyn diwedd y flwyddyn nesaf, ac y bydd 300 o unedau tai yn cael eu darparu, a chyfleoedd busnes hefyd. Rwy'n falch iawn o weld y bydd fy nghyd-Weinidog, Gweinidog gogledd Cymru yw ymweld â'r safle yn ystod toriad y Pasg. Rwy'n credu y bydd hynny yn rhoi hyder i'r trigolion lleol hynny yn Ninbych, o'r diwedd, bod adeilad sydd wedi bod yn rhan mor falch o'r hanes hirdymor, ond wedi cael y fath gyfres o drafferthion yn ddiweddar, bellach ar lwybr at ddyfodol llwyddiannus.

Cyllideb Llywodraeth y DU

5. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru o gyllideb Llywodraeth y DU? OQ59282

Ni ddarparodd y gyllideb unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol na chyflogau sector cyhoeddus, a chynigiodd y cymorth ychwanegol lleiaf posibl i bobl a busnesau. Roedd yn blaenoriaethu petrol a thyllau yn y ffordd dros bobl a chyflog. Mae'r degawd truenus o Lywodraeth Dorïaidd yn dod i ben fel y dechreuodd, gydag esgeulustod cynhwysfawr o ran anghenion Cymru.

Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae bob amser yn cymryd ychydig oriau, ychydig ddiwrnodau, i bethau dawelu yn sgil yr hud ynghylch unrhyw ddatganiad cyllideb wrth y blwch dogfennau, ond rydyn ni'n gwybod bellach bod y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi dweud y bydd gennym ni, yn y flwyddyn i ddod, y sefyllfa wanaf o holl wledydd y G7. Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, bydd gennym ni'r cwymp mwyaf i safon byw ers i gofnodion ddechrau, Andrew R.T. Davies—eich Llywodraeth chi. Mewn termau real, rydyn ni £900 miliwn i lawr ar yr hyn a nodwyd yn adolygiad gwariant 2021. Ac ar ben popeth, maen nhw wedi rhoi'r codiad enfawr i ni o £1 filiwn mewn gwariant cyfalaf. Roeddwn i'n sefyll wrth ochr maes astrotyrff gyda Sarah Murphy neithiwr lle roedd £0.75 miliwn wedi cael ei wario ar yr un maes hwnnw. Mae gennym ni £1 filiwn i'w gwario ledled Cymru gyfan. Diolch yn fawr iawn yn wir. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno mai hwn yn gwbl wirioneddol, namyn dim, yw'r setliad cyllideb gwaethaf i Gymru yr ydym ni erioed wedi ei weld?

Un ffordd neu'r llall, rwyf wedi bod yn gysylltiedig â 23 mlynedd o gyllidebau Llywodraeth y DU, ac rwy'n cytuno â Huw Irranca-Davies—nid wyf i erioed wedi gweld cytundeb gwaeth i Gymru na'r hyn a welsom yr wythnos diwethaf. Mae'n gwbl annealladwy i mi y gallai Llywodraeth y DU, o edrych ar y pwysau a'r straen sydd ar y gwasanaeth iechyd ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, gredu bod hon yn gyllideb heb unrhyw gymorth ychwanegol i wasanaethau iechyd yn unman. Allwch chi ddychmygu? Dyma bymthegfed pen-blwydd a thrigain y gwasanaeth iechyd gwladol, ac er gwaethaf y pwysau—pwysau y mae gwleidyddion Ceidwadol yma yn y Senedd yn cyfeirio atyn nhw wythnos ar ôl wythnos—does dim byd o gwbl i helpu adeiladwaith y gwasanaeth iechyd, y gwasanaethau sy'n cael eu darparu, na chyflogau'r bobl hynny yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw.

Ac o ran yr £1 filiwn honno, mae'n ddilornus; mae'n hollol ddilornus. Dywedodd y Canghellor mai cyllideb ar gyfer twf oedd hon. Sut gallai fod wedi dod i'r casgliad y gellid diwallu holl anghenion cyfalaf Cymru—yr angen i foderneiddio ein system ysgolion, i fuddsoddi mewn offer yn y gwasanaeth iechyd, i ddarparu ar gyfer y gwasanaethau digidol y mae economi Cymru yn y dyfodol yn dibynnu arnyn nhw—o £1 filiwn? £1 filiwn yw'r ffigur; dyna'r arian ychwanegol sydd gennym ni yn ein cyllideb gyfalaf yn ail flwyddyn prosbectws y Canghellor. Mae'n syml, mae yno—gallwch edrych arno ym mhapurau'r gyllideb: mae gennym ni £1 filiwn yn fwy. Rydyn ni 8 y cant islaw lle yr oeddem ni mewn cyllidebau cyfalaf ddegawd yn ôl eisoes, a bydd hyn yn ein gwthio hyd yn oed ymhellach i lawr. Pan fo Huw Irranca-Davies yn dweud mai hon yw'r gyllideb waethaf i ni ei gweld erioed, o safbwynt dyfodol hirdymor economi Cymru, ni allai fod wedi ei gyfleu yn fwy plaen.

14:10

Rwy'n anghytuno â'r Prif Weinidog a Huw Irranca-Davies, gyda pharch. Roeddwn i'n teimlo bod cyllideb yr wythnos diwethaf yn un o optimistiaeth ac uchelgais, ac yn ganolog iddi roedd amddiffyn a chynorthwyo aelwydydd ledled Cymru, a'r DU gyfan yn wir. Croesawais yn arbennig, fel y gwnaeth fy arweinydd, ehangu 30 awr o ofal plant yn Lloegr i bob plentyn dan bump oed. Roeddwn i wedi gobeithio ein bod ni'n mynd i weld cyflwyno rhywbeth tebyg yma, ond o wrando ar yr ateb yn gynharach, mae'n amlwg nad ydym ni'n mynd i gael hynny. Rydyn ni hefyd yn croesawu talu costau gofal plant credyd cynhwysol ymlaen llaw, gan ymestyn y gwarant pris ynni ar £2,500 am dri mis, a rhewi treth tanwydd. Bydd y pwyntiau hyn yn sicrhau y bydd pob rhan o Gymru ar eu hennill. Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i adeiladu ar y mentrau cadarnhaol iawn hyn? Rydyn ni wedi clywed yr ystrydebau; rydym ni eisiau gweld gweithredu go iawn. 

Gadewch i mi ailadrodd rhywbeth a ddywedodd Huw Irranca-Davies yn ei gwestiynau atodol—bod dadansoddiad annibynnol o'r gyllideb yn dweud y bydd yn arwain at y cwymp mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau. Ai dyna y mae'r Aelod yn ei olygu wrth ddweud uchelgais? Ai dyna'r uchelgais sydd gan y Blaid Geidwadol ar gyfer y wlad hon—ei bod wedi bod yn gyfrifol am y cwymp mwyaf i safonau byw ers i gofnodion ddechrau? Nid wyf i'n gweld hynny yn achos i fod yn optimistig.

Tai Newydd

6. Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gynyddu'r nifer o dai newydd sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru? OQ59291

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad cyfalaf ar gael i gynorthwyo gwaith adeiladu tai. Mae'r diwydiant yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran chwyddiant costau adeiladu, prinder llafur a bylchau yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang. Cafodd y Gweinidog gyfarfod gydag adeiladwyr tai yng Nghymru yr wythnos diwethaf i drafod problemau sy'n wynebu'r sector.

Diolch. Prif Weinidog, mae prisiau tai cynyddol wedi gadael pobl ifanc yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu prisio allan o'r farchnad i bob pwrpas, gyda llawer yn poeni na fyddan nhw byth yn gallu cael eu traed ar yr ysgol dai. Mae'n amlwg i bawb bod y targed o adeiladu 12,000 o gartrefi y flwyddyn yma yng Nghymru wedi ei fethu dro ar ôl tro ers blynyddoedd. Dim ond 5,273 o dai wnaeth eich Llywodraeth eu darparu yn 2021-22, mae 90,000 yn dioddef ar restrau aros am dai cymdeithasol, a chwblhawyd llai na 1,000 o gartrefi ym mis Hydref i fis Rhagfyr y llynedd, yr ail lefel isaf ar gyfer y cyfnod ers dechrau targedau ym 1974. Mae dwy fil saith cant a thri deg naw o blant dibynnol 16 oed neu iau mewn llety dros dro. Rydyn ni'n sôn am sefydliadau gwely a brecwast, rydyn ni'n sôn am ystafelloedd gwesty, ac mae'r rhif hwn yn codi—mae wedi treblu o'i gymharu â blwyddyn yn ôl. Mae hwn yn fethiant ar lefel uchaf y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Felly, pa gamau brys ydych chi fel y Prif Weinidog ac, yn wir, eich Llywodraeth Lafur, yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r methiannau hyn? A gadewch i ni obeithio y gallwch chi ymateb mewn modd proffesiynol—[Chwerthin.]—sy'n dweud wrth bobl yng Nghymru bod modd gwireddu'r freuddwyd o berchnogi tai lleol o dan eich Llywodraeth Lafur yng Nghymru.

14:15

Wel, diolch i'r Aelod, wrth gwrs, am ei chwestiwn atodol. Rwy'n credu y bydd hi'n canfod, mewn gwirionedd, fod tai a gwblhawyd yng Nghymru yn y chwarter diwethaf yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig—[Torri ar draws.] Wel, mewn gwirionedd, mi oedden nhw. Na, mi oedden nhw. Gofynnodd yr Aelod i mi am ateb proffesiynol, a gadewch i mi ei sicrhau y byddaf wedi gwneud fy ngwaith cartref; mae'r ffigurau gen i o fy mlaen, bod adeiladu tai a gwblhawyd yng Nghymru, yn y chwarter diwethaf, yn uwch na'r chwarter union cyn y pandemig. Mae tai sy'n dechrau cael eu hadeiladu i lawr yn y chwarter olaf; maen nhw i lawr mewn 10 o'r 12 o wledydd a rhanbarthau'r DU, ac maen nhw i lawr, medd y sefydliad adeiladwyr tai, oherwydd effaith y gyllideb fach drychinebus ym mis Medi, sydd wedi cynyddu costau morgeisi, cynyddu costau llog ac wedi arwain, ledled y Deyrnas Unedig gyfan, i ostyngiad yn nifer y tai sy'n dechrau cael eu hadeiladu.

Mae'r Aelod yn gofyn beth fyddwn ni'n ei wneud yng Nghymru. Wel, gadewch i mi roi dim ond un enghraifft iddi. Yn Lloegr, mae Cymorth i Brynu bellach wedi'i ddiddymu. Dydy'r math hwnnw o gymorth ddim ar gael bellach; dydy e ddim wedi bod ers mis Hydref y llynedd. Yma yng Nghymru, mae Cymorth i Brynu—Cymru wedi ei ymestyn am ddwy flynedd arall. Cafodd ei nodi yn gadarnhaol iawn gan adeiladwyr tai yn y trafodaethau gyda'r Gweinidog ar 13 Mawrth. Ers i Cymorth i Brynu—Cymru ddechrau yng Nghymru, mae bron i 14,000 o bobl wedi gallu symud i gartrefi na fyddai wedi eu hadeiladu fel arall. Rwy'n falch iawn fod y cynllun hwnnw ar gael o hyd i brynwyr yng Nghymru, oherwydd mae'n golygu bod adeiladwyr tai yn gallu mynd ati i ddarparu'r cartrefi hynny. Rwy'n siŵr bod llawer o bobl yn Lloegr sy'n dymuno y byddai ar gael yn y fan honno o hyd hefyd.

Cynnal Pyllau Nofio

7. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal pyllau nofio? OQ59327

Llywydd, darperir cyllid ar gyfer pyllau nofio a chanolfannau hamdden i awdurdodau lleol drwy'r setliad llywodraeth leol. Er gwaethaf y sefyllfa ariannol heriol, rydym wedi cytuno ar fuddsoddiad ychwanegol sylweddol i lywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a bydd hynny'n galluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae eu hangen ar eu cymunedau.

Mae gennym hanner miliwn o bobl yn defnyddio ein pyllau nofio yng Nghymru ac felly, maen nhw'n adnodd pwysig iawn ar gyfer sicrhau bod pawb yn egnïol cymaint â phosibl. Ond dim ond os ydyn nhw'n defnyddio ynni adnewyddadwy i'w cynnal y mae cynaliadwyedd yn bosibl yn yr hirdymor. Byddwn wrth fy modd yn gweld Cymru'n dilyn esiampl pwll nofio Exmouth, gan ailgylchu gwres sy'n cael ei gynhyrchu gan fusnesau technoleg fel Deep Green. Nawr, cyhoeddodd y Canghellor £63 miliwn ar gyfer pyllau nofio Lloegr yn y gyllideb yr wythnos diwethaf, a allwn ni ddisgwyl swm canlyniadol i'w fuddsoddi mewn datrysiadau gwresogi cynaliadwy ym mhyllau nofio Cymru, neu a yw'r Trysorlys wedi penderfynu nad oes swm canlyniadol i Gymru, gan fod pobl Cymru'n rhydd i ddefnyddio pyllau Lloegr yn lle hynny?

Wel, diolch i'r Aelod am y pwynt olaf yna. Yn aml mae'n anodd datgysylltu ble mae arian sy'n dod i Gymru drwy gyllideb yn deillio, oherwydd bod arian yn cyrraedd trwy un llinell ariannu ac yn diflannu trwy doriadau mewn llinell arall. Yn y pen draw, Llywydd, fel y gwyddom, caiff y penderfyniadau ynghylch arian a ddaw i Gymru eu gwneud, nid yn Whitehall, cânt eu gwneud yma, lle y dylid eu gwneud. A bydd yr Aelodau yma yn clywed gan y Gweinidog cyllid sut mae hi'n bwriadu gwneud defnydd o'r symiau bach iawn o gyllid ychwanegol, refeniw a chyfalaf, sydd ar gael o ganlyniad i gyllideb y gwanwyn.

Mae pwyntiau cyffredinol yr Aelod, wrth gwrs, yn rhai pwerus, ac fe wnaethom ni drafod yr wythnos diwethaf yma brofiad Exmouth. Pan fyddwch chi'n dysgu ychydig mwy am yr hyn sydd wedi bod yn bosibl yn y cyd-destun hwnnw, rydych chi'n dod i'r casgliad y bydd ei ddyblygu'n hawdd yn her, oherwydd mae pwll Exmouth yn gallu defnyddio'r ffynhonnell wres y mae'n ei defnyddio—y ganolfan ddata—oherwydd ei bod yn agos iawn at ble mae'r pwll hwnnw i'w gael. Serch hynny, y pwynt cyffredinol mae Jenny Rathbone yn ei wneud yw'r un cywir—sef, os ydyn ni am allu parhau i gadw pyllau nofio sydd ar gael sy'n gwasanaethu llawer o gymunedau yng Nghymru, ac yn llwyddiannus iawn, yna mae'n rhaid i atebion gwresogi cynaliadwy fod yn rhan o'r dyfodol hwnnw. 

14:20

Un ar ddeg diwrnod yn ôl, ges i neges gan fwrdd gwirfoddol Hamdden Harlech ac Ardudwy yn cyhoeddi â thristwch eu bod nhw am orfod cau'r pwll nofio ar ddiwedd y mis yma. Daw'r cyhoeddiad yn sgil cynnydd dychrynllyd yn eu costau. Mae costau'r ganolfan wedi cynyddu o £4,000 y mis i £12,000 y mis, ac mae'r £12,000 yma'n cynnwys cynllun cefnogi ynni Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Mi fuasai buddsoddi mewn paneli solar a pheiriannau newydd yn help mawr yn yr hirdymor, ond mae'r argyfwng ar eu pennau nhw rŵan hyn. Chwarae teg i Gyngor Gwynedd, maen nhw wedi rhoi cymorth yn y tymor byr, sydd am gadw'r blaidd o'r drws, ond mae'n rhaid ffeindio cyfalaf ar frys er mwyn sicrhau hyfywedd y ddarpariaeth gymunedol bwysig yma. Felly, pa gymorth fedrwch chi ei roi i Hamdden Harlech ac Ardudwy yn y tymor byr, a pha gymorth all y Llywodraeth roi iddyn nhw i sicrhau hyfywedd y ganolfan yn yr hirdymor? 

Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn. Dwi wedi clywed am y problemau maen nhw'n wynebu yn Harlech, ac, wrth gwrs, rŷm ni'n agored i unrhyw drafodaethau fydd pobl leol eisiau eu cael trwy'r cyngor lleol, ac hefyd trwy Sport Wales. I ddechrau, rhywbeth lleol yw e, a'r trafodaethau cyntaf, mae'n bwysig iddyn nhw eu cael gyda'r awdurdod lleol. Os oes rhywbeth allwn ni ei wneud, wrth gwrs, rŷm ni'n fodlon edrych i mewn i unrhyw gais mae pobl leol eisiau'i wneud. 

Mynediad at Ofal Iechyd

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at ofal iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ59325

Llywydd, mae natur wledig etholaeth yr Aelod yn ei gwneud yn bwysicach fyth i'r bwrdd iechyd wneud y mwyaf o'r cyfleoedd clinigol a ddarperir gan dechnoleg heddiw i osgoi teithiau diangen, gwella effeithlonrwydd a darparu mynediad hyblyg at ofal iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. 

Prif Weinidog, mae rhestrau aros GIG Cymru yn parhau i ddominyddu fy mewnflwch. Mae un o fy etholwyr sy'n byw gydag osteoporosis a phump fertebra wedi torri wedi gorfod aros dwy flynedd i gael ei gweld gan arbenigwr poen. Rydyn ni'n dal i aros am y penderfyniad terfynol ar leoliad ysbyty newydd yn y gorllewin—adeilad na fydd yn cael ei gwblhau tan ddiwedd y degawd hwn ar y cynharaf. Tan hynny, pa gamau mae eich Llywodraeth chi yn eu cymryd i sicrhau bod rhestrau aros yn cael eu taclo ac nad yw etholwyr fel fy un i yn cael eu gorfodi i aros dros 24 mis mewn poen cyson i gael y driniaeth y maen nhw mor daer ei hangen? Diolch. 

Llywydd, diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y gwaith sy'n dal i ddigwydd wrth ymgynghori â'r cyhoedd ynglŷn â dyfodol ysbyty newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Roedd yna gyfarfod ymgynghori, rwy'n deall, yn Hwlffordd yr wythnos diwethaf, ac mae un wedi'i gynllunio yn Saundersfoot ddydd Gwener yr wythnos hon. Mae'n bwysig iawn bod y digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus hynny—. Gobeithio y byddant yn tynnu at ei gilydd gefnogaeth leol i'r cynlluniau y mae'r bwrdd iechyd wedi'u cyflwyno er mwyn creu'r cyfleoedd newydd hynny.

Yn y cyfamser, er bod Hywel Dda, fel pob rhan o Gymru, yn wynebu pwysau gwirioneddol wrth ddarparu gofal iechyd, fe welodd ostyngiad o 62 y cant yn nifer y bobl sy'n aros dros 52 o wythnosau am apwyntiad cyntaf i gleifion allanol yn ystod y flwyddyn galendr ddiwethaf. A phan fo arosiadau hirach, mae 80 y cant o'r rheiny mewn dau arbenigedd yn unig. Dyna'r arbenigeddau y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn rhoi pwyslais penodol arnyn nhw yn ei thrafodaethau â'r gwasanaeth. Alla i ddim cynnig, mae gen i ofn, atebion hawdd i etholwyr yr Aelod, ond yr hyn y byddan nhw'n ei wybod yw bod y system yn ei chyfanrwydd yn gwneud pob ymdrech y gall, wrth gael ei chynnal gan fuddsoddiad ychwanegol a'r pwyslais y mae'r Gweinidog yn ei roi ar y materion hyn, i ddod â rhestrau aros i lawr ac i ddarparu gwasanaethau yn y ffordd yr awgrymais i yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, yn y ffyrdd newydd hynny a fydd yn gwella mynediad i gleifion, yn arbennig mewn rhannau o Gymru wledig, gan ddefnyddio popeth yr ydym wedi'i ddysgu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

14:25
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny, Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, rwyf wedi ychwanegu datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddiogelwch adeiladau i'r agenda heddiw, ac yn ail, mae'r drafodaeth cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf fel y nodir yn y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Gweinidog, a gaf i alw am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, yr wythnos hon? Mae'r cyntaf ar safonau gofal strôc yng Nghymru. Yn ddiweddar, fe wnaeth y Gymdeithas Strôc ddosbarthu gwybodaeth a oedd yn dangos bod rhaglen archwilio sentinel strôc ddiweddaraf wedi nodi bod gwasanaethau strôc yng Nghymru wedi bod yn dirywio, ac mewn gwirionedd, yn y gogledd yn waeth nag yn unrhyw ran arall o'r wlad. Cafodd y rhan fwyaf neu lawer o'r ysbytai yn y rhanbarth eu graddio yn 'E', sef, yn anffodus, y radd waethaf o ran eu perfformiad. Doedd y rhan fwyaf o gleifion ddim yn cael eu derbyn i unedau strôc, does gan y rhan fwyaf o gleifion ddim mynediad at therapi lleferydd ac iaith, ac mae gennym ni'r mynediad gwaethaf at ffisiotherapi hefyd. Nawr, o ystyried, yn amlwg, y methiannau mewn mannau eraill o'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd ar hyn o bryd, yn gwbl briodol ac yn ddealladwy, mae pobl yn poeni ac eisiau gwybod sut y bydd y sefyllfa hon yn cael ei gwella. 

Yr ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn amdano yw'r diweddaraf ar brosiectau diogelwch ffyrdd yng Nghymru, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Yn amlwg, gwyddom fod yr adroddiad adolygu ffyrdd wedi argymell dileu neu ohirio nifer o brosiectau diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys dau ar gefnffordd yr A494 yng nghefn gwlad sir Ddinbych yn fy etholaeth i. Mae'r rhain yn brosiectau hanfodol y mae angen bwrw ymlaen â nhw. Dydyn nhw ddim yn mynd i niweidio'r hinsawdd, ond fe fyddan nhw'n achub bywydau pobl. Mae cyffordd  Maes Gamedd yng Ngwyddelwern, sydd ar dro, wedi bod ar restr Llywodraeth Cymru o bethau i'w gwneud ers ymhell dros ddegawd, ac addawyd hynny i bobl hyd at mor ddiweddar â 12 mis yn ôl. Yn ogystal â hynny, mae cyffordd Heol Corwen a Lôn Fawr ar gefnffordd yr A494 hefyd yn beryglus iawn, gyda chyflymderau uchel iawn a llawer o ddamweiniau. Nawr, mae'n amlwg bod y rheiny'n brosiectau sydd, beth bynnag yw ymrwymiad anrhydeddus Llywodraeth Cymru i'r amgylchedd a natur, angen eu datblygu. Felly, rwy'n credu mai'r hyn y mae'r cyhoedd eisiau ei wybod yw pryd y byddan nhw'n gweld camau gweithredu fel y gellir darparu'r mathau hyn o brosiectau cyn gynted â phosibl.

Diolch. Mewn ymateb i'ch ail gwestiwn, bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno datganiad cyn diwedd tymor yr haf ynghylch diogelwch ar y ffyrdd a'r adolygiad ffyrdd, ac fel y dywedwch chi, nid yw popeth wedi'i ganslo—yn amlwg, mae rhywfaint o waith adeiladu ffyrdd yn mynd yn ei flaen. 

O ran eich cwestiwn am ddatganiad am archwiliad y gwasanaethau strôc a ddarparwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r hyn y byddwn ni'n ei wneud, rydych chi'n ymwybodol iawn o'r hyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cysylltiad â'r bwrdd iechyd, ac yn amlwg, mae darn sylweddol o waith a fydd yn cael ei wneud gan y cadeirydd newydd a'r aelodau annibynnol newydd gyda llawer iawn o gefnogaeth a gwaith monitro gan swyddogion y Gweinidog a gan y Gweinidog ei hun, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n edrych ar yr adroddiad hwnnw'n fanwl. 

Diolch, Llywydd. Trefnydd, byddwch yn ymwybodol o'r trenau metro newydd gwych sy'n cael eu cyflwyno gan Merseyrail ar draws rhan helaeth o ardal metro rhanbarth dinas Lerpwl. Byddwn yn ddiolchgar iawn am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y trafodaethau gyda Merseyrail ynghylch y defnydd posibl o'r unedau Stadler newydd sbon hyn ar reilffyrdd sy'n gwasanaethu dinasyddion y gogledd, yn enwedig y rheilffordd o Wrecsam i Bidston. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n galed iawn i ddod â'r trenau dosbarth 230 i wasanaeth ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston. Ac rwy'n gwybod eu bod nhw hefyd mewn trafodaethau rheolaidd iawn gyda Merseyrail a Merseytravel am wasanaethau yn y dyfodol ar y rheilffordd honno o Wrecsam i Bidston, ac mae hynny'n cynnwys y posibilrwydd o wasanaethau uniongyrchol i Lerpwl hefyd, a'r modd gorau o'u darparu. 

14:30

Prynhawn da, Gweinidog. Hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar yr amserlen ar gyfer fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd. O fewn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rydym wedi codi'r mater yma ac wedi edrych ar bwysigrwydd bod ag amserlen glir ar gyfer y rhaglen hon, o ystyried ei phwysigrwydd, fel rwy'n siŵr y byddwch chi'n gwybod, i lawer o bobl ledled Cymru. Felly, tybed a allech chi roi rhywfaint o eglurder i mi—efallai y bu rhywfaint o eglurder yn y drafodaeth honno, ond byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad pellach. Diolch. 

Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae swyddogion wedi bod yn datblygu'r fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd, sydd, unwaith eto, fel rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn, wedi helpu miloedd lawer o bobl, gyda chymorth yng Nghymru i leihau eu biliau a'u defnydd o ynni. Ac yn wahanol i Loegr, rydym wedi cynnal cefnogaeth barhaus ar gyfer ôl-osod cartrefi dros y degawd diwethaf a mwy, lle mae ein pwyslais, mewn gwirionedd, wedi bod ar y rhai mwyaf agored i niwed a'r rhai sydd mewn perygl o dlodi tanwydd, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno datganiad cyn diwedd tymor yr haf. 

Gweinidog, rŷn ni'n clywed o wythnos i wythnos fan hyn, onid ydyn ni, ynglŷn â'r creisis cynyddol sy'n wynebu deintyddiaeth yma yng Nghymru. Nawr, mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, wrth gwrs, wedi rhybuddio y gall gwasanaethau ar yr NHS i bob pwrpas ddod i ben, oherwydd bod gymaint o ddeintyddion naill ai wedi rhoi i fyny, neu ar fin rhoi i fyny, ar eu cytundebau NHS. 

Nawr, Rhuthun yw'r ddeintyddfa ddiweddaraf i glywed yr wythnos yma y byddan nhw'n colli mynediad i wasanaethau NHS, ac dwi, er mwyn tryloywder, yn un o'r cleifion sydd yn defnyddio'r ddeintyddfa yna. Mi gawson ni ddatganiad wythnos diwethaf gan y Gweinidog iechyd ar ddeintyddiaeth yng Nghymru, ond mae hynny wedi fy ngwneud i hyd yn oed yn fwy gofidus ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth, oherwydd mae'n amlwg dyw hi ddim yn deall bod yna dair haen o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth: yn gyntaf, y rhai sydd yn medru fforddio gwasanaeth breifat; yn ail, y rhai sydd ddim yn medru fforddio gwasanaeth breifat ond sydd yn llwyddo i gael mynediad at wasanaethau NHS; ond mae yna drydedd haen, ac mae honno'n tyfu o wythnos i wythnos, ac o fis i fis, lle mae yna bobl sy'n methu â fforddio talu'n breifat a hefyd yn methu â chael mynediad i wasanaethau. Nawr, o'r 10 ddeintyddfa o fewn cyrraedd i Ruthun—er, wrth gwrs, dwi'n sôn am Wyddgrug, Wrecsam a thu hwnt—dim ond un sy'n derbyn cleifion ar yr NHS, ac mae yna restr aros o ddwy flynedd i lwyddo i gael i fewn i fanna. 

Felly, a gaf i wahodd y Llywodraeth, a'r Gweinidog iechyd yn benodol, i drio eto gyda datganiad arall, er mwyn profi i ni eich bod chi fel Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r broblem yma, oherwydd mae yn greisis, a, hyd y gwelaf i, dŷch chi ddim yn llwyddo i ddelio ag e?

Wel, fel y cyfeirioch chi ato eich hun, roedd datganiad yn y fan yma dim ond yr wythnos diwethaf ar ddeintyddiaeth, pan wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nodi'n glir iawn y gwaith sy'n cael ei wneud. Felly, fydda i ddim yn dyrannu rhagor o amser. 

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Cefais wybod yr wythnos diwethaf bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn talu ei gartref gofal ei hun 57 y cant yn fwy na chartrefi gofal sy'n cael eu rhedeg yn breifat sy'n darparu yr union yr un lefel o ofal. Mae Conwy yn dyfarnu £1,136 fesul preswyliwr yr wythnos i'w hun, tra bo'n talu dim ond ychydig dros hanner y swm hwnnw—£721—tuag at gostau gofal y preswylwyr sy'n agored i niwed mewn cartrefi preifat yng Nghonwy. Felly, hoffwn i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wneud datganiad ar y gwahaniaethu clir. Ac mae hwn yn gyngor, wrth gwrs, dan ofal Plaid Cymru, Llafur ac aelodau annibynnol. Sut gall hyn hyd yn oed fod yn foesegol?

Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei gael yw un gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y llwybr trin canser. Mae gormod o fy etholwyr yn methu'r targedau gan gynnwys y rhai hynny sydd â chanserau difrifol sy'n peryglu bywyd. Mae angen datganiad nawr i sicrhau y cedwir at y llwybr trin canser yn llym, oherwydd, mewn rhai achosion, gall hyn achub bywydau mewn gwirionedd. Diolch. 

Mewn ymateb i'ch cais cyntaf am ddatganiad, awgrymaf eich bod yn ysgrifennu at gyngor Conwy yn uniongyrchol ar hynny; dydw i ddim yn credu bod hynny'n fater i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Ac o ran amseroedd aros canser, sef yr hyn yr oeddech chi'n cyfeirio ato, byddwch yn ymwybodol iawn bod y GIG yn gweithio'n galed iawn i leihau amseroedd aros, yn enwedig i bobl pan fo amheuaeth bod ganddynt ganser, ac rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn gwasanaethau canser i wella'r broses o ganfod yn gynnar a darparu mynediad cyflym i ymchwiliad, triniaeth a gofal o ansawdd uchel. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gweinidog £86 miliwn ar gyfer cyfleusterau diagnostig a thriniaeth canser newydd. 

14:35
3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd—na, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Julie James.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o wneud y datganiad hwn mewn cysylltiad â Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a osodwyd gerbron y Senedd ddoe. Mae'r aer yr ydym ni'n ei anadlu, a'r synau sy'n cario arno, yn effeithio ar ein hiechyd a'n llesiant ni bob munud o bob dydd, hyd yn oed pan fyddwn ni'n cysgu. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio llygredd aer fel y perygl unigol mwyaf i iechyd amgylcheddol drwy'r byd, a llygredd sŵn yn ail i hynny yng ngorllewin Ewrop. Mae ein rhaglen lywodraethu ni'n cydnabod pwysigrwydd mawr gwella amgylchedd yr aer drwy'r ymrwymiad a roddwyd i gyflwyno'r Bil hwn, a elwid gynt yn Fil aer glân.

Nod y Bil yw cyflwyno mesurau a fydd yn cyfrannu at welliannau o ran ansawdd aer a seinwedd yng Nghymru, gan leihau'r effeithiau ar iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig ag amgylchedd aer gwael. Rwy'n gwybod bod hwn yn nod y byddwch chi i gyd yn ei gefnogi, yn dilyn trafodaethau defnyddiol gyda'r grŵp trawsbleidiol ym mis Tachwedd, a thrwy ymrwymiadau ar gyfer Deddf aer glân yn llawer o'ch maniffestos diweddar. Wrth ddatblygu'r Bil, fe wnaethom ni adeiladu ar gynigion yr ymgynghorwyd arnyn nhw drwy'r cynllun aer glân a Phapur Gwyn ar Fil aer glân. Rydyn ni wedi cynnwys cynigion sy'n gysylltiedig â sŵn a seinweddau hefyd, gan ddod yn rhan gyntaf o'r DU i gyflwyno deddfwriaeth o'r fath.

Mae angen ystyried y Bil mewn cyd-destun eang, nid ar wahân. Dyma un rhan o weithredu traws-sector sydd ar y gweill i fynd i'r afael â llygredd aer a sŵn. Mae'n adeiladu ar y ddeddfwriaeth bresennol a'r gyfres o gamau gweithredu i leihau llygredd aer a sŵn sydd yn ein cynllun aer glân i Gymru a chynllun sŵn a seinwedd. Nod y cynigion yn y Bil yw helpu i wella ansawdd ein hamgylchedd aer ledled Cymru, yn lleol ac yn rhanbarthol, a thrwy'r gymdeithas i gyd. Mae'r Bil yn cydnabod sŵn yn yr aer yn fath o lygredd aer hefyd, a sŵn yn fwy cyffredinol hefyd yn briodoledd allweddol i amgylchedd yr aer.

Rydym ni'n creu fframwaith ar gyfer Cymru gyfan i bennu nodau cenedlaethol ar gyfer ansawdd aer. Mae hyn yn cynnig mecanwaith cryf i gyflawni uchelgeisiau hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer aer glân a'r canlyniadau cysylltiedig o ran iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, ochr yn ochr â chefnogi camau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'r fframwaith yn ategu safonau ansawdd aer deddfwriaethol cyfredol. Mae pwerau i weithredu rheoleiddio yn y Bil yn caniatáu i Weinidogion bennu nodau i Gymru, sy'n benodol, ar sail tystiolaeth, o ran llygryddion aer. Drwy'r fframwaith, fe allwn ni bennu nodau mwy caeth o ran llygryddion yn yr aer a chyflwyno nodau ar gyfer risgiau llygryddion sydd newydd eu nodi, ar sail tystiolaeth wrth i'r rhain ddod i'r amlwg, gan gynnwys canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar ansawdd aer. Mae bod â nodau penodedig mewn rheoliadau, yn hytrach na deddfwriaeth sylfaenol, yn golygu y bydd hi'n haws eu diweddaru nhw ac ymateb i newidiadau yn y dystiolaeth.

Mae ein panel cynghori annibynnol ni ar aer glân wedi penderfynu bod y corff mwyaf argyhoeddiadol o dystiolaeth sy'n cysylltu llygrydd aer ag effeithiau ar iechyd pobl yn cynnwys deunydd gronynnol 2.5, y cyfeirir ato fynychaf fel PM2.5. O ganlyniad i hynny, mae'r Bil yn cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i bennu nod ar gyfer PM2.5 o fewn 36 mis i'r Cydsyniad Brenhinol. Drwy Gymru gyfan, fe fydd hi'n rhaid inni sicrhau bod camau parhaus yn cael eu cymryd i wella amgylchedd yr aer yma; felly, mae'r Bil yn diwygio Deddf yr Amgylchedd 1995, sy'n cynnwys y darpariaethau presennol yn ymwneud â'r strategaeth ansawdd aer genedlaethol. Fe fydd hyn yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn ymrwymedig i ymgynghori ar adolygiad neu addasiad o'r strategaeth bob pum mlynedd.

Fel soniwyd, Cymru yw'r rhan gyntaf o'r DU i gynnwys seinweddau mewn deddfwriaeth. Mae'r Bil yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar gyfer seinweddau bob pum mlynedd. Mae gofynion a llinell amser y ddwy ddogfen strategol hyn yn cyd-fynd â'i gilydd, er mwyn caniatáu i ni eu cyhoeddi nhw ar wahân neu ar y cyd, pryd bynnag y bo hynny'n fuddiol. Mae'r cynigion newydd ar gyfer y dogfennau strategol hyn yn sicrhau hefyd fod y cyhoedd, rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi â rhan yn y camau gweithredu yn y dyfodol i wella'r ansawdd aer a seinweddau sydd gennym ni. Ar lefel leol a rhanbarthol, fe fyddwn ni'n sicrhau bod y drefn leol i reoli ansawdd aer yn gweithredu yn rhagweithiol, ac yn ataliol, a chyda mwy o ganolbwyntio ar iechyd y cyhoedd.

Mae'r Bil yn cyflwyno gofyniad mwy pendant ar yr awdurdodau lleol i gynnal adolygiad blynyddol o ansawdd aer a rhwymedigaeth i fod â chynllun gweithredu ansawdd aer, sy'n cynnwys dyddiad a ragwelir ar gyfer cydymffurfio, y bydd yn rhaid cytuno arno gyda Gweinidogion Cymru. Bydd y Bil yn diwygio Deddf Aer Glân 1993 hefyd ar gyfer galluogi'r awdurdodau lleol i reoli a gorfodi allyriadau mwg yn well mewn ardaloedd rheoli mwg. Mae rheoli mwg yn cwmpasu rheolaeth ar lygredd yn sgil llosgi tanwydd solet o simneiau mewn cartrefi a busnesau o fewn ardaloedd rheoli mwg. Ar hyn o bryd, mae troseddau yn anodd eu gweinyddu ac yn anaml iawn y bydden nhw'n arwain at erlyniadau. Mae'r Bil yn cyflwyno cosbau ariannol sifil yn lle'r cosbau troseddol presennol, y gellir eu sefydlu gan awdurdodau lleol lle mae mwg yn cael ei ollwng o simnai o fewn ardal rheoli mwg.

Mae'r Bil yn dileu amddiffynfeydd statudol i helpu gorfodi'r drefn newydd o gosbau sifil. Os yw defnyddiwr yn defnyddio teclyn a gymeradwyir gyda thanwydd awdurdodedig, ni ddylai fod unrhyw allyriadau o fwg gweladwy. Trwy ei gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol orfodi'r ardaloedd rheoli mwg, rydym ni'n rhagweld y bydd troseddu yn prinhau, gyda swyddogion yn annog newid ymddygiad, ac, os yw hynny'n briodol, yn pennu cosbau ariannol. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi canllawiau statudol i gefnogi'r broses o weithredu. Mae gwelliannau i'r drefn rheoli mwg yn cyfrannu at ein polisi ehangach ni i leihau allyriadau oherwydd llosgi domestig, sy'n cael ei drin y tu allan i'r broses gyda'r Bil hwn, gan ddefnyddio ysgogiadau sy'n bodoli eisoes.

14:40

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

I gefnogi gostyngiadau o ran llygredd aer sy'n deillio o drafnidiaeth, mae'r Bil yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru lunio cynlluniau i godi tâl ar gefnffyrdd ar gyfer gwella ansawdd aer gerllaw cefnffyrdd. Mae'r Bil yn rhoi mwy o hyblygrwydd i Weinidogion hefyd o ran cymhwyso enillion net a ddaw o gynllun at ddibenion ansawdd aer, gan ehangu'r ddarpariaeth bresennol, sy'n cymhwyso enillion net i fesurau trafnidiaeth yn unig. Mae'r darpariaethau newydd hyn yn gwella'r pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru i weithredu parthau aer glân a pharthau allyriadau isel, lle bod angen. Fe allan nhw arwain at welliannau yn ansawdd aer yn lleol drwy annog newid ymddygiad. Nid oes cynlluniau i ddefnyddio'r pwerau hyn ar hyn o bryd, ond maen nhw'n ychwanegiad gwerthfawr i'n pecyn cymorth i wella ansawdd aer, lle bod angen.

Mae segura llonydd cerbydau yn cyfrannu at ansawdd aer gwael a sŵn diangen hefyd. Rydyn ni'n dymuno cynyddu'r ataliaeth sydd yn y drefn gosbi wrth segura bresennol. Ar hyn o bryd, mae cosbau sefydlog am drosedd segura yn cael eu pennu ar ddim ond £20, sy'n codi i £40 os na chaiff ei dalu. Rydyn ni wedi cynnwys pŵer yn y Bil i wneud rheoliadau i alluogi Gweinidogion Cymru i bennu ystod o gosbau ariannol. Fe fydd awdurdodau lleol yn gallu cymhwyso swm o'r ystod a bennir yn y rheoliadau, a gallu cymhwyso cosbau uchaf yr ystod i fynd i'r afael â segura y tu allan i ysgolion ac ysbytai, lle bydd yn fwy tebygol yr effeithir ar rhai sensitif. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi canllawiau statudol i gefnogi'r broses o weithredu. Mae gan awdurdodau lleol swyddogaeth allweddol o ran cefnogaeth i gyflawniad y camau yn unol â'r cynllun aer glân a'r Bil hwn.

Rwy'n falch o gyhoeddi lansiad ein cronfa gymorth i reoli ansawdd aer yn lleol, a fydd yn sicrhau bod £1 miliwn o gyllid ar gael yn y flwyddyn ariannol 2023-24 i gefnogi awdurdodau lleol i wella ansawdd aer yn lleol. Mae hyn yn ychwanegol i'r £450,000 a ddyfarnwyd gennym ni dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf trwy gyfnodau treialu'r cynllun. Drwy'r grant, rydyn ni'n gwahodd ceisiadau ar draws tri chategori, sef atal, lliniaru ac arloesi. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio gydag awdurdodau lleol i gyflawni'r camau effeithiol hyn.

Ac yn olaf, mae'r Bil yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r effeithiau o ran iechyd a'r amgylchedd oherwydd llygredd aer, a'r ffyrdd y gellir lleihau neu gyfyngu ar hynny. Mae hi'n hanfodol bwysig ein bod ni'n sicrhau bod cyfraddau uchel o ymwybyddiaeth, er mwyn i ni i gyd ddiogelu ein hiechyd yn ogystal ag iechyd ein cymunedau lleol, yn arbennig y rhai sydd fwyaf agored i niwed oherwydd llygredd aer. Mae eleni, yn anffodus, yn nodi 10 mlynedd ers marwolaeth drist iawn Ella Kissi-Debrah, naw oed. Datblygwyd y ddyletswydd hon gan ddefnyddio argymhellion i atal marwolaethau yn y dyfodol yn dilyn y cwest i'w marwolaeth hi, a oedd yn canfod bod llygredd aer yn ffactor cyfrannol sylweddol. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â'r diffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd am ffynonellau ac effeithiau andwyol llygredd aer. Fe fyddwn ni'n gweithredu'r ddyletswydd hon drwy ddatblygu cynllun cyflawni gyda rhanddeiliaid, a fydd yn nodi camau i gynyddu ymwybyddiaeth o effeithiau a ffynonellau llygredd aer, yn ogystal â ffyrdd o leihau amlygiad iddo.

Drwy'r Bil hwn a'n cynlluniau aer a sŵn a seinwedd glân, rydyn ni'n nodi'r camau angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd. Rwy'n credu'n gryf y gallwn ni weithredu'r camau hyn ar y cyd drwy'r gymdeithas, gan sicrhau aer glân a seinweddau cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Fe hoffwn i ddiolch i'r llu o bobl sydd wedi ein helpu ni i gyrraedd y fan hon. Mae hi wedi bod yn ymdrech hynod gadarnhaol a chydweithredol. Mae pawb yn haeddu anadlu aer glân a phrofi amgylchedd sain o ansawdd da. Mae'r dyfodol yn ein dwylo ni. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyd wrth i'r Bil wneud ei ffordd drwy'r broses graffu. Diolch.  

Diolch yn fawr i chi, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn ar y Bil hwn heddiw. Yn ein plaid ni, rydyn ni'n llwyr gefnogi hyn, ac rydyn ni, dros y blynyddoedd, wedi galw yn selog lawer gwaith ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r Bil hwn a hynny ar fyrder. Roedd honno, wrth gwrs, yn addewid allweddol yn ymgyrch ac ym maniffesto'r Prif Weinidog. Felly, mae hi'n ychydig yn siomedig iddi gymryd rhyw bum mlynedd erbyn hyn i ddod gerbron y Senedd. Fe hoffwn i ddiolch ar goedd i Joe Carter am ei waith i Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint. Nid yw wedi ymatal rhag ein herio ni i gyd, yn Aelodau yn y fan hon, i sicrhau bod y Bil hwn yn dod drwodd a'i fod yn addas i'r diben.

Mae llygredd aer yn gyfrifol am 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, sy'n cyfateb i 6 y cant o'r marwolaethau i gyd. Mae llygredd aer yn lleihau disgwyliad oes cyfartalog saith i wyth mis. Amcangyfrifir bod llygredd aer yn costio £1 biliwn i Gymru bob blwyddyn o ran diwrnodau gwaith coll a chostau i'r gwasanaeth iechyd, ac rydyn ni i gyd yn gwybod am blant ledled Cymru sydd ag asthma o ganlyniad i anadlu aer nad yw'n addas i'r diben.

Mae hi'n bryderus iawn hefyd oherwydd i Lywodraeth Cymru ei hunan ganfod bod pobl yng Nghymru yn gyffredin iawn wedi mynd yn fwy agored i lygredd sŵn. Roedd nifer y bobl a oedd yn agored i lefelau sŵn rhwng 70 a 74 desibel, sef lefel sŵn cyfartalog y prif ffyrdd, o briffyrdd wedi cynyddu o 44,600 yn 2012 i 54,000 yn 2017. Mae nifer y bobl sy'n dod i gysylltiad â lefelau uwch na 75 desibel wedi cynyddu hefyd, gan godi o 4,000 yn 2012 i 6,600 yn 2017. Ac fe wnaeth nifer y bobl sy'n agored i lefelau uwch na 75 desibel o brif reilffyrdd—un i'r Dirprwy Weinidog yw hwn—gynyddu o 2,100 yn 2012 i 3,500 yn 2017. Gall colli clyw ddigwydd wrth ddod i gysylltiad â sŵn sydd dros 70 desibel yn barhaus. Dyma'r gost wirioneddol ac ariannol i bobl oherwydd yr oedi gan Lywodraeth Cymru. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ymddiheuro nawr am hyd yr amser a gymerodd hi i'r Bil hwn gael ei gyflwyno, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae llawer mwy o bobl wedi bod yn dioddef oherwydd effeithiau cynyddol llygredd sŵn a llygredd aer?

Yn yr ymgynghoriad, roedd ymatebwyr yn codi mater—[Torri ar draws.] Rwy'n falch eich bod chi'n credu bod hyn yn ddoniol. Mae hwn yn Fil pwysig iawn sy'n cael ei gyflwyno—cynigion penodol ar yr effaith ar unigolion incwm is. Amlygwyd hyn mewn ymateb i awgrymiadau o barthau allyriadau isel iawn a mesurau gwrth segura. Mewn ymateb i'r olaf, codwyd annhegwch y gallai hysbysiadau cosb benodedig gael eu hanelu at rai sydd ar incwm is. Roedd rhywfaint o ansicrwydd hefyd ynghylch pa gerbydau fyddai'n cael eu hystyried yn 'segura', gyda'r ymatebwyr yn holi a fyddai bws ysgol neu brif ffrwd mewn cyflwr o 'segura' mewn arhosfan ddynodedig. Felly, mae'n debyg ein bod ni'n gofyn am eglurhad ynglŷn â'r cerbydau hyn, yn ogystal â cherbydau eraill—er enghraifft, faniau sy'n dadlwytho nwyddau, neu dractorau y mae eu trelars nhw'n cael eu llwytho neu eu dadlwytho. Felly, er mwyn rhoi rhywfaint o eglurder i unigolion a busnesau, a fyddwch chi'n cytuno—yn amlwg, wrth i hynny gael ei gyflwyno—i ddiffinio 'segura' yn benodol, yn enwedig o ran cerbydau sy'n llwytho ac yn dadlwytho nwyddau?

Codwyd pryderon hefyd ynghylch y cynigion i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, gan ein bod ni wedi codi hyn sawl gwaith gyda chi hefyd, gyda nifer o'r ymatebwyr yn nodi'r angen am drafnidiaeth amgen sy'n gynaliadwy. Tynnwyd sylw at ardaloedd cefn gwlad yn benodol, gyda'r ymatebwyr yn nodi cymunedau a busnesau yn yr ardaloedd hyn sydd â llai o ddewisiadau o ran trafnidiaeth amgen. Ac fel gwelsom ni o'r ymateb eang i'r adolygiad ffyrdd, mae'r buddsoddiad hwn mewn dewisiadau amgen wedi bod yn brin yn anffodus gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.

Felly, yng ngoleuni'r argyfwng costau byw, a wnewch chi ail ystyried y syniad trychinebus i gyflwyno taliadau ffyrdd i gymudwyr, a fyddai'n cosbi eto'r bobl sy'n dioddef oherwydd toriadau i wasanaethau trafnidiaeth leol? Mae hi'n bwysig nad yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r Bil hwn i gosbi pobl Cymru. Gyda'r Bil arfaethedig i gynnwys darpariaethau i ganiatáu codi tâl ar ffyrdd, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ystyried bod gan bob awdurdod lleol yng Nghymru o leiaf 30 y cant o aelwydydd sy'n wynebu tlodi trafnidiaeth. Yn sicr, ni fyddwn ni'n cefnogi unrhyw gynlluniau i godi tâl ar gefnffyrdd wrth i ni gyflwyno ein gwelliannau ni i'r Bil hwn. Gweithwyr Cymru sydd â'r cyflogau lleiaf ym Mhrydain Fawr eisoes. Ni ddylai Llywodraeth Cymru fod yn caniatáu i'n modurwyr ni orfod talu costau ychwanegol eto. Felly, a wnewch chi sicrhau, Gweinidog, y bydd iechyd a chyfiawnder cymdeithasol yn ymwreiddio yn nibenion y Bil hwn, ac nad yw eich Bil chi'n rhoi'r baich mwyaf o ran lleihau llygredd ar y rhai lleiaf abl i fforddio hynny?

Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi, Gweinidog, wrth i'r Bil hwn ddod ymlaen. Rwy'n siŵr na fyddwn ni'n llwyddo i ddod â'n gwelliannau ni i gyd drwodd, ond gadewch i ni geisio cydweithio, yn drawsbleidiol, i sicrhau bod y Bil hwn yn addas i'r diben ar gyfer y 50, 100 neu 200 mlynedd nesaf. Diolch.

14:45

Diolch i chi, Janet. Rwy'n credu i mi ddod o hyd i dri chwestiwn yng nghwrs y chwe munud a hanner yna, ond efallai y byddwch chi'n rhoi gwybod i mi yn nes ymlaen os ydw i'n camgymryd. Roedd y cwestiwn cyntaf yn ddiystyr. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r Bil nawr. Y syniad ein bod ni'n yn mynd dros y ffaith mai nawr yr ydym ni'n ei gyflwyno—nid oeddwn i'n eich deall chi o gwbl yn hynny o beth. Rwy'n credu eich bod chi'n derbyn ein bod ni'n cyflwyno'r Bil nawr ac yn ei groesawu ef, felly rwy'n croesawu eich croeso chi iddo. Rwy'n cytuno â chi hefyd am Joseph Carter, sydd wedi bod yn huawdl iawn y bore 'ma, yn croesawu'r Bil hwn, yn gefnogol iawn. Felly, mae hynny'n braf iawn hefyd.

Yr ail beth yr wyf i'n credu yr oeddech chi'n ei ofyn i mi oedd ynglŷn â mesurau segura. Fe ddywedais i'n eglur iawn yn fy natganiad y byddem yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ynglŷn ag union weithrediad y mesurau, ond, yn amlwg, gellid rhoi mwy o gosb ariannol i bobl y gofynnwyd iddyn nhw ymatal rhag segura  yn ymyl pobl agored i niwed, megis wrth ysgol neu ysbyty, nag i rai sy'n segura mewn mannau eraill, ond y pwynt mwyaf yma yw rhoi gwers addysgol sef na ddylai pobl segura o gwbl. Felly, os yw eich car chi'n sefyll yn llonydd, fe ddylech chi ddiffodd yr injan. Mae'n rhywbeth eithaf syml i'w ddweud wrth bobl. Ni ddylai hynny godi. Os ydych chi'n dadlwytho lori, diffoddwch yr injan. Os ydych chi'n stopio eich car, diffoddwch yr injan. Pethau eithaf syml yw'r rhain. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ateb y cwestiwn hwnnw, ond fe fyddwn ni'n rhoi arweiniad ar ystod o fesurau gorfodi sifil, oherwydd yr orfodaeth sifil ar hyn o bryd yw £20, ac nid yw hwnnw wedi bod yn ataliad digonol, felly, yn amlwg, mae angen ataliad gwell yn hynny o beth. Rwyf i o'r farn mai hwnnw yw'r un.

O ran y pwyntiau ynghylch codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, rwy'n anghytuno yn llwyr â chi, fel pob amser. Janet, nid ydych chi'n gwneud dim ond siarad drwy'r amser am yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac eto bob un tro yr ydym ni'n gwneud unrhyw beth o gwbl ynglŷn â nhw, nid ydych chi'n dymuno gwneud y peth hwnnw. Mi fyddwn i wrth fy modd yn cael sgwrs gyda chi am yr hyn yr ydych chi'n credu y dylem ni ei wneud, oherwydd nid wyf i wedi dod ar draws unrhyw beth cadarnhaol erioed oddi wrthych chi. Y cyfan yr ydych chi wedi ei ddymuno erioed yw ymatal rhag gwneud rhyw bethau. Felly, rydym ni am wneud hyn, oherwydd mae hi wir yn bwysig iawn i bobl sy'n llygru ein haer ni dalu am wneud hynny. Nawr, yn amlwg fe fyddwn ni'n targedu busnesau a phobl sy'n gwneud y pethau sy'n llygru, ond, yn y pen draw, mae angen i bobl naill ai yrru'n arafach fel bod eu hallyriadau nhw'n gostwng, neu mae angen iddyn nhw allu uwchraddio eu car nhw—rwy'n derbyn na all cyfran sylweddol o bobl wneud felly. Fe fyddwn ni'n uwchraddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i gerbydau allyriadau isel; rydyn ni wedi bod yn gwneud hynny am amser maith iawn eisoes. Rydyn ni wedi bod yn uwchraddio, er enghraifft, y fflyd casglu gwastraff ar draws yr awdurdodau lleol ar gyfer gwneud hynny. Fe fyddwn ni'n helpu pobl i wneud hynny. Ond, yn y pen draw, os ydych chi'n gyrru yn arafach a'ch bod chi'n diffodd eich car pan fydd yn sefyll yn llonydd, fe fyddwch chi'n lleihau eich allyriadau chi'n sylweddol. Yn blwmp ac yn blaen, os byddwch chi'n methu â gwneud hynny, yna fe fyddwch chi'n talu arian am hynny yn y pen draw, oherwydd mae hynny'n gwbl gyfiawn. Mae angen i ni annog pobl i wneud y peth iawn.

Ond rwy'n pwysleisio mai ystyr hyn yw addysg a gwneud pobl Cymru yn ymwybodol o ba effaith mae eu hymddygiad nhw eu hunain yn ei chael ar yr amgylchedd. Rwy'n dweud hyn drwy'r amser: rydyn ni i gyd yn gwisgo llawer o hetiau, felly os ydych chi'n fam neu'n fodryb neu bwy bynnag ydych chi, a'ch bod chi yn eich amgylchedd lleol, fe allwch chi wneud rhai pethau ynglŷn â'ch ymddygiad chi eich hun. Ond fe allech chi fod wrth eich gwaith yno, yn aelod o gymuned leol hefyd, neu'n bob math o bethau eraill, a chyda phob un o'r hetiau hynny, fe allwch chi feddwl o ddifrif, 'Beth a wnaf i effeithio ar yr amgylchedd yma o ran y ffordd yr wyf i'n byw?' Felly, fe allwch chi fynd at eich cyflogwr, fe allwch chi sôn yn eich cymuned, fe allwch chi godi hyn gyda'ch awdurdod lleol, ac fe allwch newid eich ymddygiad chi pan fyddwch chi gartref. Pe gwnawn ni hynny i gyd gyda'n gilydd, fe wnawn ni wahaniaeth sylweddol iawn. 

14:50

Diolch, Gweinidog. Mae llawer i'w groesawu yn y datganiad hwn, ac mae hwn yn ddiwrnod pwysig iawn. Fe fyddwn i wir yn croesawu hyn oddi wrth y Llywodraeth. Rwyf i am fynd ymlaen i ddweud ychydig bach mwy am ba mor angenrheidiol yw hyn a hynny ar frys, ond rwyf i'n gyntaf am bwyso ychydig mwy ar y Llywodraeth i gael gwybod pam y mae enw'r Bil wedi newid. Rwy'n gwerthfawrogi'r pwynt a wnaeth y Gweinidog, sef bod cwmpas y Bil gymaint yn fwy eang. Y rheswm yr wyf i'n gofyn hyn yw oherwydd, pan gafodd yr ymrwymiadau eu gwneud am Ddeddf aer glân yn benodol, mae 'na ddadl y byddai hynny wedi esbonio ei hun yn dda iawn, fe fyddai hi wedi bod yn eglur i'r cyhoedd o ran deall pwysigrwydd cydsyniad y cyhoedd, ac fe fyddai wedi anfon y neges eglur honno. Felly, yn y cyd-destun hwnnw rwy'n gofyn pam mae wedi newid. Efallai fod y Llywodraeth yn dymuno i ni ystyried y Bil hwn fel gwnaeth Juliet y rhosyn, a gofyn, 'Beth sydd mewn enw? Siawns na fyddai Bil wrth unrhyw enw arall yn ymdrin ag arogleuon a llygredd mor rymus ag y byddai Bil aer glân.' Ond rwyf i am ddal at drywydd y cwestiwn hwn, oherwydd roedd y disgwyliad ynghylch y ddeddfwriaeth yn ymwneud ag aer glân yn benodol, sy'n rhywbeth y gallai pawb ei ddeall. Felly, fe hoffwn i wybod ychydig mwy, os yw'n bosibl, os gwelwch chi'n dda, am y broses o wneud y penderfyniadau ynglŷn â'r newid ac a gynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad ynghylch sut y gallai hynny effeithio ar yr ymgysylltiad â'r cyhoedd a'r hyn y gellid ei wneud i liniaru hynny, os felly. Oherwydd rydyn ni i gyd yn awyddus i osgoi unrhyw ddraenen yn y llwyn rhosyn, wrth gwrs, a'r colyn a allai ddeillio o'r ddeddfwriaeth heb newidiadau patrymau ymddygiad y mae'n rhaid i ni i gyd eu gweld, am fod angen y newid hwnnw mor gyflym, fel clywsom ni.

Mae tua 2,000 o bobl yng Nghymru yn marw cyn eu hamser bob blwyddyn oherwydd aer brwnt. Mae'r difrod mawr a achoswyd gan ddiwydiant trwm ar ein cymunedau glo a dur ni'n amlwg i'w gweld yn y cyfraddau uchel o asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chlefydau eraill—maen nhw'n effeithio ar ein hysgyfaint, maen nhw'n mygu ein hanadl. Mae bod yn agored i lygredd aer yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o broblemau pan fydd babanod yn cael eu geni—dyma'r hyn yr wyf i'n ei ystyried y peth mwyaf dychrynllyd yn hyn—fel pwysau geni isel, genedigaethau cyn-dymor, cyfraddau uwch o gamesgoriad, hyd yn oed achosion o ddiabetes a phroblemau gyda datblygiad niwrolegol mewn plant. Mae llygredd aer yn gysylltiedig ag achosi canser, hyd yn oed â gwaethygu problemau iechyd meddwl. Eto, dyma pam mae hwn yn ddiwrnod pwysig. Oes, mae gen i gwestiynau ac mae gen i rai materion yr hoffwn i eu codi, ond ni ellir gorbwysleisio'r ffaith ein bod ni'n gweithredu yn hyn o beth oherwydd pwysigrwydd gwirioneddol hyn. Yn aml iawn y cymunedau tlotaf sy'n dioddef fwyaf. Nid mater amgylcheddol nac iechyd cyhoeddus yn unig mo hwn; mae hwn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi, Gweinidog, sut fydd y mesurau i leihau llygredd aer yn cael eu hanelu at yr ardaloedd sydd â'r angen mwyaf am y gefnogaeth honno. Gan feddwl, er enghraifft, am gwm Afan, a effeithir gan y mygdarth gwenwynig sy'n cario o Bort Talbot, rwy'n gwybod bod camerâu cyflymder cyfartalog wedi cael eu gosod ar yr M4 drwy Bort Talbot a rhoddwyd mesuryddion safon aer yn eu lle, ond mae tarth gwenwynig yn parhau i gael ei ollwng weithiau. Neu o feddwl am Hafodyrynys, yn llawer nes at le rwyf i'n byw, fe gafodd tai eu dymchwel oherwydd llygredd aer, ond nid oes gwaith monitro yn digwydd ym mhob man. Fe allai fod mannau eraill fel Hafodyrynys yn y Cymoedd nad ydym ni'n gwybod amdanyn nhw, felly os oes mwy o fanylion y gallech chi eu rhoi i ni'n ychwanegol at yr hyn sydd yn y datganiad, fe fyddwn i'n ddiolchgar, os gwelwch chi'n dda.

Fe fyddwn innau'n adleisio rhai o bryderon Sefydliad Prydeinig y Galon nad yw'r Bil yn cynnwys popeth a addawyd yn y cynllun aer glân, fel ymrwymiadau i leihau llygredd deunydd gronynnol mân niweidiol neu PM2.5. A fyddwch chi'n mynd i'r afael â'r cynnydd yn PM2.5 sy'n gysylltiedig â llosgi domestig, os gwelwch chi'n dda, Gweinidog, ac a fyddwch chi'n ymrwymo i'w leihau yn unol â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd?

Ac fe fyddwn innau'n adleisio'r hyn a ddywedwyd yn ganmoliaeth i Joseph Carter, a rhai o'r cwestiynau a godwyd gan Asthma and Lung UK. Cwmpaswyd hynny'n rhannol yn y datganiad, yn bendant. Os oes unrhyw beth ychwanegol y gallwch chi ei ddweud, Gweinidog, ynglŷn â hyn, ac a fydd y Bil yn crynhoi monitro llygredd aer cenedlaethol a lleol at ei gilydd, ac a fydd canllawiau ar gael ynglŷn â pharthau aer glân allyriadau isel, pan fydd hyn yn cael ei gyhoeddi—. Ac eto, rwy'n deall bod rhywfaint o hyn wedi cael ei gwmpasu, ond yn daer, yn yr amser sydd gennyf i ar ôl, Gweinidog, a wnewch chi roi rhywfaint o eglurder i ni ynglŷn â sut y bydd effaith y Bil hwn yn cael ei fantoli, sut y bydd yn amddiffyn ein hiechyd a'n hamgylchedd ni, a pha fuddion sydd am ddod yn sgil cael dyletswydd statudol i hyrwyddo ymwybyddiaeth am effeithiau llygredd aer, sydd, eto, yn rhywbeth mor bwysig, ac rwyf i wir, wir yn croesawu'r ffaith bod hynny wedi cael ei gynnwys? Oherwydd nid yw hyn i gyd yn ymwneud ag enw; mae cymaint yma i'w groesawu, ac fe fyddwn innau'n adleisio'r hyn a ddywedwyd: rwy'n gobeithio y gallwn ni yn y Senedd weithio mewn ffordd drawsbleidiol i sicrhau bod y Bil hwn mor gadarn ag sydd ei angen ac y bydd â'r canlyniadau y mae gwir angen i ni eu gweld. Felly, diolch yn fawr iawn, Gweinidog, ac i'ch tîm chi am eich gwaith yn y cyswllt hwn.

14:55

Diolch yn fawr, Delyth, am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. Yn amlwg, rydyn ni'n sefyll gyda'n gilydd yn fras ynglŷn â'r materion hyn. Rwy'n falch iawn o fod yn cyflwyno hyn. Fe fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru. Fe fydd yn helpu ein hawdurdodau lleol ni hefyd wrth gyfeirio eu hymdrechion nhw, ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd, ac mae hynny'n gwbl ganolog i'r pwynt ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol yr ydych chi'n ei wneud, oherwydd yr hyn y bydd gofyn i'r awdurdodau lleol ei wneud yw llunio cynllun ar gyfer eu hardal nhw sy'n targedu ardaloedd penodol ar gyfer mesurau penodol. A dyna pryd y byddwn ni'n gwireddu rhai o'r pwyntiau a wnewch chi ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol.

Mae hi'n ffaith drist mewn bywyd—yn fy etholaeth i fy hun—yn aml iawn, y bobl dlotaf sy'n byw yn y lleoedd, ac yn fy etholaeth i'n benodol, lle mae'r aer yn ymgasglu mewn gwirionedd. Felly, os meddyliwch am lan y môr Abertawe, mae pobl yn gyrru cerbydau ar hyd y ffrynt, a'r aer yn codi i fyny ac yn gorwedd ar bennau'r bryniau, sef lle mae rhai o'r wardiau mwyaf difreintiedig yn economaidd gymdeithasol. Felly, fe geir diffygion gwirioneddol o ran cyfiawnder cymdeithasol, hyd yn oed yn y ffordd mae'r gwynt yn chwythu fel yna. Ac felly, fe ofynnir i'r awdurdod lleol edrych ar hynny a tharged hynny.

Ond mae angen i ni fod â data llawer mwy cadarn na'r hyn sydd gennym ni. Mae gennym ni lawer o ddata—ac mae Janet wedi darllen cryn dipyn ohonyn nhw i ni—ond, mewn gwirionedd, nid oes gennym ni gymaint â chymaint o ddata sy'n benodol i Gymru. Mae gennym lawer o ddata'r DU, mae gennym lawer o ddata ar gyfer Lloegr, ond nid oes gennym lawer o ddata ar gyfer Cymru. Felly, un o'r pethau y bydd hyn yn ei wneud yw caniatáu inni ddefnyddio cyfres gyfan o fesurau ledled Cymru i fesur y data, i fesur yr aer yr ydym ni'n ei anadlu. Dyna'r ateb i un o'ch cwestiynau chi hefyd: dyna sut y byddwn ni'n gwybod ei fod wedi gwella, oherwydd fe fyddwn ni'n defnyddio llawer mwy o dechnoleg, os hoffech chi, i allu gwneud hynny. Ac rwyf i wedi bod yn edrych yn arbennig iawn i weld sut y gallwn ni gael cyfres eang o dechnoleg y gellir ei hymestyn sy'n gwneud hynny. Felly, fe fyddwn ni'n dechrau gyda'r hyn y gallwn ni ei fforddio, ac yna, wrth i ni allu fforddio mwy, wrth i ni fod yn cydweithio gyda'n hawdurdodau lleol, fe fyddwn ni'n ei rhoi ar waith. Felly, fe fyddech chi'n disgwyl i awdurdod lleol fod yn targedu'r mannau hynny y mae hi'n hysbys eu bod â'r ansawdd aer gwaethaf.

Mae'r enw'n bwysig oherwydd, yn gyntaf i gyd, mae'n rhaid i ni gael cytundeb y Llywydd ar gyfer ei gyflwyno, ac, felly, mae'n rhaid i'r enw fod yn ddisgrifiadol o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac roeddem ni'n awyddus i gynnwys seinweddau am bob math o resymau perthnasol iawn yr wyf i'n credu eich bod chi'n cytuno â nhw. Ac yn ail, mewn gwirionedd, mae'n rhan o gyfres o ddeddfwriaeth sy'n cyd-fynd gydag ef. Felly, o ran mynediad at gyfraith Cymru, mae'n rhan o gyfres o Ddeddfau'r amgylchedd. Fe gaiff ei galw yn Ddeddf aer glân, yn anochel, ond mae teitl ffurfiol yn gweddu i'r gyfres o Ddeddfau y byddai disgwyl i bobl edrych arnyn nhw. Nid darn o ddeddfwriaeth annibynnol mohono; mae'n diwygio deddfwriaeth arall ac mae'n ffitio mewn cyfres. Felly, mae hi'n bwysig iawn nad yw pobl yn disgwyl dod o hyd i bopeth y maen nhw'n ei ddymuno mewn un Ddeddf unigol, fe fyddai angen iddyn nhw chwilio yn fwy eang. Ac felly, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod hyn yn bwysig. Ond rwy'n credu eich bod chi'n iawn, ar lafar gwlad, rwy'n credu mai ei henw fydd y Ddeddf aer glân.

15:00

Rwy'n croesawu'r Bil hwn yn fawr iawn, er fy mod i'n gobeithio y byddwn ni'n gallu dod o hyd i enw ag ychydig o naws y Daily Mirror iddo. Asthma yw'r trydydd achos mwyaf o farwolaethau ar ôl canser a chlefyd y galon, ac rwy'n fy nghysylltu fy hun yn llwyr â phopeth a ddywedodd Delyth Jewell ynglŷn â'r mater hwn. Anaml y bydd fy etholwyr sy'n byw ar fin y ffyrdd gorlawn sy'n mynd i mewn ac allan o'n prifddinas ni'n gwneud felly o'u dewis, ac os na allan nhw fforddio gwydr dwbl neu os nad ydyn nhw'n gallu cael mwy o awyr iach yng nghefn eu tai, mae'n debyg y dylid condemnio'r tai hynny am nad ydyn nhw'n ffit i fod yn gartref.

Rwy'n croesawu'r cosbau sifil y byddwch chi'n gallu eu rhoi i bobl sydd mewn cerbydau sy'n segura, yn arbennig y tu allan i ysgolion. Nid wyf i o'r farn fod hwn yn fater mor bwysig o gwmpas ysbytai, ond os felly, yna, yn amlwg, mae'r un mor resynus yno hefyd. Ond mae'n rhaid i hynny fod yn rhan o ddiwylliant sy'n gwneud yn siŵr nad yw pobl yn mynd â'u plentyn hyd at garreg drws yr ysgol, ond eu bod nhw'n teithio'r chwarter milltir olaf ar droed neu ar gefn beic.

Roeddwn i'n awyddus i wybod pa gynlluniau a allai fod yn y cyfundrefnau hyn o reoli ansawdd aer yn lleol ar gyfer sut ydym ni am gael lorïau cymalog i mewn ac allan o ganol dinasoedd mewn ffordd lai niweidiol i'r amgylchedd, oherwydd y maen nhw'n hynod o swnllyd, mae hi'n anodd iawn i fynd â nhw ar hyd strydoedd cul, ac mae angen cwblhau'r rhan olaf o'r broses ddosbarthu gyda cherbydau trydan—cerbydau trydan bychain—mae hi'n ymddangos i mi. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y timau—yn ddaearyddol leol—y timau gweithredu lleol, oherwydd yn amlwg, fe fydd y mesurau a fydd yn ofynnol yng Nghaerdydd yn wahanol i'r rhai yn Abertawe neu ym Maesteg neu yn unrhyw fan arall. Felly, y manylion sy'n allweddol bwysig gyda rhywbeth fel hyn, ond o leiaf rydyn ni wedi rhoi dechrau da iawn iddo, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddeddfwriaeth maes o law.

Ie, diolch i chi, Jenny. Felly, fel dywedais i, mae gennym ni strategaeth genedlaethol, ond mae gennym ni gynllun lleol a gaiff ei gyflawni yn lleol, ac mewn rhai achosion, mewn gwirionedd, mae cynllun rhanbarthol, lle bydd angen amlwg i Gaerdydd a'r cyffiniau weithio ar y cyd, fel gyda dinasoedd eraill ledled Cymru. Mae hwn yn ddarn tipyn mwy cymhleth. Nid Deddf sy'n sefyll ar wahân mohoni; ni allaf bwysleisio hynny'n ddigonol. Felly, fe sefydlwyd y strategaeth ansawdd aer genedlaethol ar draws tri darn annibynnol o ddeddfwriaeth sylfaenol. Felly, Deddf yr Amgylchedd 1995, Deddf yr Amgylchedd 2021 a'r Bil hwn. Gan hynny, mae hi'n bwysig iawn fod pobl yn deall nad yw hyn yn sefyll yn llwyr ar wahân. Mae hyn yn diwygio'r ddeddfwriaeth arall ac yn ei diweddaru i fod yn gyfredol gan gadarnhau'r dyletswyddau sydd ynddi. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn hefyd.

Rydyn ni'n disgwyl i awdurdodau lleol—. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi canllawiau statudol i'r awdurdodau lleol, ac rydyn ni'n disgwyl iddyn nhw eu dilyn. Rydyn ni'n eu cynorthwyo nhw gydag adnoddau, ac yna fe fyddwn ni'n disgwyl iddyn nhw greu eu cynlluniau eu hunain ar gyfer aer a seinwedd—yn unigol neu gyda'i gilydd; mae'r Bil yn fwriadol yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny gyda'i gilydd, pe byddai hi'n briodol gwneud felly. Ac yna fe fydd hynny'n targedu ystod o ansawdd aer amgylchynol.

Mae'r mater ynglŷn â deunydd gronynnol—rwy'n gwybod i Delyth godi hwnnw hefyd—yn un cymhleth. Nid oes unrhyw lefel ddiogel o ddeunydd gronynnol gennym ni, mae angen i ni ei leihau gymaint â phosibl. Fe fyddai dim o gwbl yn wych. Felly, nid oes unrhyw lefel ddiogel. Felly, yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw glanhau'r aer cymaint ag y gallwn ni o gwbl, ac rydyn ni'n dymuno bod â Bil—rwy'n credu bod Janet wedi gwneud y pwynt hwn—sy'n addas i'r dyfodol. Felly, nid ydym ni'n ei roi ar wyneb y Bil, mae gennym ni reoliadau sy'n ein galluogi ni i uwchraddio'r nod wrth i fwy o ddata ddod ar gael ac, a dweud y gwir, y bydd mwy o ffyrdd o lanhau'r aer ar gael i ni. Felly, fe fyddwn ni'n disgwyl ymdrech oddi wrth ein hawdurdodau lleol ni wrth ddodi'r cynlluniau at ei gilydd.

Ac yna'r pwynt a wnaethoch chi ynglŷn â'r mathau o sŵn a'r mathau o allyriadau yr ydym ni'n edrych arnyn nhw, fe fyddai disgwyl i hynny gael ei gynnwys yng nghynllun yr awdurdod lleol yn hyn o beth a'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn ei gylch. Felly, fe wyddoch chi'n barod fod danfoniadau nwyddau yn gyfyngedig i adegau penodol o'r diwrnod, er enghraifft, ni ddylid caniatáu i gerbydau segura, a phopeth o'r fath. Felly, fe fyddem ni'n disgwyl i bob awdurdod lleol fod â chynllun addas i'r diben i'w ardal ei hun, ac yna fe fydd hynny'n gorwedd o fewn y strategaeth genedlaethol sydd am dynnu'r cyfan at ei gilydd. Rydyn ni wedi rhoi pwerau i ni ein hunain i orfodi hynny, ond mewn gwirionedd ni allaf i ddychmygu y byddan nhw'n cael eu defnyddio fyth. Rydyn ni'n gweithio yn dda iawn gyda'n hawdurdodau lleol yn hyn o beth, ac maen nhw'n awyddus iawn i wneud y peth iawn hefyd.

Felly, rwy'n credu bod hwn yn gam enfawr ymlaen i Gymru. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu rhoi'r materion ynglŷn â seinweddau ynddo hefyd, achos mae hynny'r un mor bwysig mewn gwirionedd mewn sawl ardal yng Nghymru. A dim ond i wneud pwynt olaf, rydyn ni'n gwybod bod hyn wir yn gwella iechyd meddwl sef bod pobl yn gallu clywed synau'r byd naturiol, felly os allwch chi ddistewi'r sŵn amgylchynol fel eich bod chi'n gallu clywed côr y wig, fe wyddom ni fod hynny'n llesol iawn i bobl. Felly, mae hi'n bwysig iawn gwneud hynny. Efallai fod hyn yn ymddangos yn ansylweddol ond nid yw hynny'n wir o gwbl.

15:05

Prynhawn da, Gweinidog. Ydw, rwyf innau'n ymuno â llawer o bobl i groesawu hyn. Mae hi'n hen bryd, ond yn arbennig o dda cael dechrau ar bethau. Fe wyddom ni fod llygredd aer yn byrhau bywydau pobl, yn gwneud pobl, yn cynnwys ein plant ni, yn sâl, ac yn achosi straen enfawr ar ein gwasanaeth iechyd ni ac yn gwneud difrod i'r amgylchedd. Dim ond dau fater sydd gennyf i, os caf i, Gweinidog.

Y cyntaf yw eich bod chi wedi sôn am ddefnyddio technoleg, mewn ymateb i bwyntiau a wnaeth Delyth. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae hynny'n trosi wedyn i rywbeth ymarferol o ran y pwerau newydd hyn, oherwydd fel dywedodd Jenny Rathbone, rydyn ni'n awyddus i weld y manylion, mewn gwirionedd, o ran sut y caiff hyn ei ddeddfu mewn gwirionedd. Felly, dyna fy mhwynt cyntaf.

Yr ail yw nad Bil yn unig yw hwn ar gyfer yr ardaloedd trefol, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n adleisio hynny. Mewn ardaloedd gwledig fel y canolbarth a'r gorllewin, mae'r un heriau gennym ninnau. Yng Nghrucywel, yn y Trallwng ar y stryd fawr, mae angen canolbwyntio ar fonitro hefyd a fydd yn helpu pobl mewn ardaloedd gwledig i weld bod ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i ansawdd eu haer nhw. Felly, rwy'n gobeithio y caf i glywed ychydig bach mwy am hynny, ond diolch yn fawr i chi am eich gwaith chi i gyd a gwaith eich tîm hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Jane. Dim ond i egluro, felly, fel rwy'n dweud o hyd, rydyn ni'n diwygio'r ddeddfwriaeth bresennol yn y Bil hwn yn ogystal â chyflwyno pethau newydd, a'r rhan bwysig yr ydym ni'n ei diwygio yw ei bod hi'n ofynnol i awdurdodau lleol, nawr, adolygu ansawdd aer yn yr ardaloedd o bryd i'w gilydd. Yr hyn y bydd hyn yn ei wneud yw rhoi dyletswydd statudol arnyn nhw i wneud hynny yn gylchol, fel y bydd hi'n rhaid iddyn nhw wneud adolygiad blynyddol o ansawdd aer o hyn ymlaen, fel eu bod nhw'n cadw'r gwaith adolygu yn gyfredol. Dyna un o'r newidiadau mawr, mewn gwirionedd. Ac yna'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw defnyddio technoleg mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol mewn mannau lle maen nhw'n credu mai dyna fyddai fwyaf buddiol, ac yna rwy'n gobeithio y gallwn ni ddefnyddio hyd yn oed fwy o dechnoleg eto gyda threigl amser, wrth i ni gael y data i mewn ac y byddwn ni'n gwybod ymhle mae'r bylchau o ran data. Felly, fe gaiff ei gyflwyno dros amser, ond bydd yr awdurdodau lleol eisoes—.Mae yna lawer o orsafoedd monitro aer ar lawr gwlad yn barod, rwy'n prysuro i ddweud. Nid ydym ni'n cychwyn o fod â dim oll. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw galluogi cyflwyno hyn yn fwy eang, ac yna fe fydd hynny'n adlewyrchu cynllun yr awdurdod lleol, bydd y data yn dod yn ôl i mewn, ac rydyn ni'n disgwyl iddyn nhw wneud adolygiad blynyddol o hynny, ac ati. Felly, fe fyddech chi'n disgwyl cynnydd esbonyddol yn yr ansawdd wrth i'r data hwnnw ddod i mewn, ac fe all pobl addasu eu cynlluniau nhw'n unol â hynny. Rwyf i o'r farn fod hynny'n bwysig iawn.

Ac fel rwy'n dweud, nid oes unrhyw lefel sy'n ddiogel. Nid ydym yn ceisio ei gadw o dan lefel ddiogel, rydyn ni'n ceisio glanhau'r aer mor gyflym â phosibl. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn hefyd. Nid ceisio ei ostwng hyd at ryw nod arbennig yr ydych chi. Nid ydym yn ceisio ei fesur ym mhobman a dweud ei fod yn bendant yn is na beth bynnag fyddo'r nod. Dweud yr ydym ni, 'Ceisiwch gael yr aer hwn mor lân â phosibl ym mhobman,' ac yn amlwg gan dargedu'r mannau mwyaf trwblus yn gyntaf. Ac wrth i'r cynlluniau ymwreiddio a'r canllawiau statudol yn cael eu hanfon allan, fe fydd hynny fel caseg eira, i bob pwrpas, oni fydd? Dyna'r amcan. Rydyn ni'n gweithio yn agos iawn gyda'n hawdurdodau lleol. Maen nhw'n eiddgar iawn yn hyn o beth, ac maen nhw wedi gweithio ar y cyd â ni i'w gyflwyno. Mae hynny ar draws pob gweinyddiaeth ac ati; nid oes dim yn wleidyddol yn hyn. Rydyn ni i gyd yn cytuno ar werth hyn. Ac yna, mae'r dechnoleg yn newid, onid yw hi, hefyd, felly pwy a ŵyr beth fydd ar gael ymhen 10 mlynedd i wneud hyn, yn yr un ffordd ag y mae'r stwff sy'n rheoli allyriadau o gerbydau wedi newid yn ein hoes ni? Mae angen Bil sy'n ddigon hyblyg i allu ymdopi â hynny fel na fydd angen ailddeddfu drwy'r amser. Felly, mae angen i ni ddysgu'r gwersi hynny wrth i'r Bil hwn fynd trwy'r Senedd, i wneud yn siŵr bod yr ystwythder hwnnw ynddo i'r dyfodol sy'n sicrhau'r canlyniadau i ni o ran ansawdd aer sydd eu hangen arnom ni i gyd, ac rwyf innau'n eu rhannu nhw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwbl ddiffuant yn edrych ar yr ochr olau yma heddiw. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad, ond am ei hymgysylltiad hi hefyd, nid yn unig â'r grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân i Gymru, ond yr holl sefydliadau sy'n aelodau o hwnnw ac Aelodau'r Senedd, ar sail drawsbleidiol, sydd wedi bod yn ymgyrchu cyhyd dros hyn? Fe fyddai hi'n annheg i mi enwi rhai o'r rhain ond mae pobl fel Awyr Iach Cymru, Asthma and Lung UK Cymru, Cyfeillion y Ddaear, Living Streets Cymru a Chyswllt Amgylchedd Cymru. Mae cymaint o bobl ar gofnod yn croesawu'r cam hwn ymlaen heddiw, ac fe fyddai hi'n esgeulus ohonof i beidio â sôn am Joseph Carter, sydd mor wylaidd a diymhongar sydd wedi bod yn bod yn ymgyrch un dyn, yn gwthio hyn yn ei flaen ac yn ein cyrchu ni i gyd i'r fan.

Felly, dim ond un cwestiwn syml sydd gennyf i, Dirprwy Llywydd, a dyma ef: yn y Bil hwn a ailenwyd—tybed nawr a oes yn rhaid i ni ailenwi ein grŵp trawsbleidiol ni i adlewyrchu hynny—ond o fewn y Bil hwn a ailenwyd, a gaf i ond gofyn a yw'r Bil hwn, yn eich barn chi, Gweinidog, yn ddigon uchelgeisiol? A yw'n cyflawni'r ymrwymiadau a wnaethpwyd yn y cynllun aer glân a'r Papur Gwyn aer glân? Ac, yn olaf, wrth groesawu'r bwriad o ddod â'r Bil hwn ymlaen drwy ymgynghoriad, a chydweithredu, a yw hi am sicrhau y bydd hi'n parhau i ymgysylltu â'r ymgyrchwyr allanol hynny i gyd sydd â phrofiad bywyd hefyd, mewn ffordd drasig weithiau, ynghylch goblygiadau llygredd aer?

15:10

Ie, diolch yn fawr iawn, Huw. Felly, roedd hi'n bleser dod i'r grŵp trawsbleidiol, a byddwn ni'n sicr yn parhau i ymgysylltu â phawb.

Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw Bil sy'n gallu sicrhau buddion gwell dros amser. Felly, rwy'n meddwl ei fod yn ddigon uchelgeisiol ar gyfer lle'r ydym ni nawr. Efallai nad yw'n ddigon uchelgeisiol ar gyfer ble'r ydym ni eisiau bod mewn pum mlynedd, a dyna'r pwynt am ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol, ynte? Felly, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu symud gyda'r oes heb orfod dod yn ôl ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol drwy'r amser. Nid oes ganddo dargedau ar wyneb y Bil, yn gwbl fwriadol, gan ein bod ni eisiau i'r targedau hynny allu cael eu gwneud yn llymach wrth i amser fynd yn ei flaen. Byddai'n anodd iawn, beth bynnag, i daro ar darged, ac yna rwy'n credu bod rhai canlyniadau anfwriadol o hynny. Felly, y math yna o beth. Ac wrth i ni fynd drwy'r broses o graffu ar y Bil, gallwn archwilio hyn yn fanylach.

Rydym ni eisiau gallu gwneud rhai pethau eraill. Felly, rydym ni eisiau i'r Bil fod yn ddigon galluogol i allu gwneud hynny. Rydym ni hefyd eisiau iddo allu gweithio'n dda gyda'r ddeddfwriaeth arall yn y maes hwn. Nid Bil cydgrynhoi yw hwn. Felly, mae angen i ni ddiwygio'r ddeddfwriaeth arall yn iawn, ac rydym ni angen i hynny fod mor hyblyg â phosibl, wrth symud ymlaen, hefyd.

Ac yna, yn bennaf, rydym ni eisiau iddo osod dyletswydd arnom ni i gael y data ar ansawdd aer yng Nghymru, a dyna un o'r darnau mawr. Felly, mae'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud trefniadau ar gyfer caffael data am ansawdd aer yng Nghymru fel y maen nhw’n ei ystyried sy'n briodol i fonitro cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyrraedd targedau ansawdd aer sy'n cael eu gosod o dan y Bil. Felly, dyna ni—dyna yw'r hanes, ynte? Felly, mae'n rhoi'r cyfle i ni wella'r hyn sydd gennym ni eisoes. Nid oes gennym ni ddata gwych iawn yn hyn o beth, mewn gwirionedd, ac mae'n rhoi cyfres o ysgogiadau i ni, os mynnwch chi, y gallwn ni eu defnyddio i newid ymddygiad pobl, ac mae hynny pa un a ydym ni'n yrwyr neu'n gerddwyr, pa un a ydym ni'n berchnogion cartrefi neu'n weithwyr—mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae yn hynny.

Rydym ni, yn amlwg, yn gweithio'n agos iawn gyda'n diwydiannau yma. Rydym ni'n eithaf lwcus mewn gwirionedd—mae gennym ni ddiwydiant dur glân iawn, mor lân ag y gall dur fod, ac mewn gwirionedd maen nhw'n ymgysylltiedig iawn yn hynny. Mae gennym ni ddiwydiannau eraill yng Nghymru sydd wedi ymgysylltu yn yr un modd. Mae hyn yn ymwneud â'r aer rydym ni'n ei anadlu, mae hyn yn ymwneud ag iechyd pobl. Ond mae hyn hefyd yn ymwneud â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'n ymwneud â chreu planed sy'n addas i'r holl rywogaethau, onid yw? Felly, mae gen i lawer o—. Rwy'n credu bod gan y Bil hwn lawer o uchelgais. Mae gen i lawer o uchelgais ar ei gyfer, ac wrth i ni fynd drwy'r broses graffu, rwy'n gobeithio y gallwn ni ei wneud mor ddiogel ar gyfer y dyfodol â phosibl.

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol—diweddariad ar y gronfa integreiddio rhanbarthol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.

Diolch. Prynhawn da. Rydw i'n falch o fod yma i roi diweddariad ar ein cronfa integreiddio rhanbarthol.

Mae'r pwysau ar ein system iechyd a gofal yn parhau i'n herio, ac rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar dros ben am waith diflino ac ymroddiad ein partneriaid sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac, wrth gwrs, eu gweithlu anhygoel.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i bobl allu byw eu bywydau gorau mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau eu hunain. Mae gallu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i gydweithio fel system gyfan yn hanfodol wrth i fwy o bobl fyw yn hwy, weithiau'n ymdopi â chyflyrau iechyd lluosog a chydag anghenion gofal a chymorth amrywiol. Rwyf i wedi ymrwymo i ysgogi newid a thrawsnewid ac, er mwyn galluogi hyn, mae angen rhannu dysgu am arferion gorau ledled Cymru.  

Dyma'r rhesymau pam, flwyddyn yn ôl, ochr yn ochr â'm cydweithwyr gweinidogol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, y gwnes i lansio'r gronfa integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol rhanbarthol newydd pum mlynedd, uchelgeisiol, fel un o'r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trawsnewidiad y system iechyd a gofal cymdeithasol. Wedi'i reoli trwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol, dros y 12 mis diwethaf, buddsoddwyd bron i £145 miliwn. Er gwaethaf y pwysau sylweddol ar y system a gafwyd yn ystod y 12 mis diwethaf, a thirwedd ariannol gynyddol heriol, mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi parhau i adeiladu ar sylfeini 'Cymru Iachach' a chreu amgylchedd lle mae partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol yn croesawu ac yn cyflawni gwaith trawsnewid gwasanaethau yn weithredol. 

Mae dyluniad y gronfa integreiddio rhanbarthol yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed o dan y gronfa gofal integredig flaenorol a'r gronfa trawsnewid, a hefyd yn ymateb hefyd i'r argymhellion o'r gwerthusiadau annibynnol priodol ac adroddiadau Archwilio Cymru. Mae'r dysgu hanfodol hwn wedi ein helpu i lunio'r gronfa, sy'n cynnwys sawl nodwedd allweddol, fel mwy o bwyslais ar chwe model penodol o ofal integredig; fframwaith canlyniadau a mesur eglur; cyfleoedd i rannu dysgu trwy gymunedau ymarfer; a gorwel buddsoddi mwy hirdymor, gan wneud defnydd o ysgogiadau cyllid graddedig a chyfatebol i gefnogi prif ffrydio a chynaliadwyedd.

I'n byrddau partneriaeth rhanbarthol, mae'r flwyddyn gyntaf hon wedi bod yn un o drawsnewid, wrth i ni gyfuno ffrydiau ariannu a oedd ar wahân gynt i greu mwy o aliniad rhwng adnoddau, fel ein bod ni’n cael yr effaith fwyaf posibl ac yn lleihau baich gweinyddol. Mae pob bwrdd partneriaeth rhanbarthol wedi dylunio ei gynllun buddsoddi cronfa integreiddio rhanbarthol ac mae'n gwneud cynnydd da tuag at brofi a datblygu elfennau critigol o'n chwe model cenedlaethol o ofal. Wrth i ni weld tystiolaeth gynyddol o’r arferion gorau o bob cwr o'r wlad, bydd hyn yn cael ei ymgorffori mewn manylebau gwasanaeth cenedlaethol a fydd yn sicrhau mwy o gysondeb o ran safonau a phrofiadau ledled Cymru.

Er ei bod yn rhaglen drawsnewid mwy hirdymor yn bennaf, mae'r gronfa yn darparu ar gyfer pobl nawr. Dros fisoedd y gaeaf, mae prosiectau a ariannwyd wedi cyfrannu 360 o welyau gofal llai dwys ychwanegol i helpu pobl i adael yr ysbyty yn gyflym ac yn ddiogel a lleddfu pwysau ar y system yn rhan o'n rhaglen adeiladu capasiti gofal cymunedol. Mae enghraifft dda arall o effaith gadarnhaol y gronfa yn cynnwys prosiect osgoi derbyniadau bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg. Mae'r prosiect hwn wedi bod yn darparu cymorth cymunedol byrdymor ar lefel isel i bobl, fel tacluso cartrefi pobl i osgoi cwympiadau diangen yn y cartref, darparu cymorth i ofalwyr di-dâl a threfnu addasiadau i'r cartref er mwyn galluogi pobl i aros gartref cyhyd â phosibl.

Mae prosiect Get Me Home Plus bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a'r Fro yn enghraifft dda arall o lwybr carlam lle mae timau amlddisgyblaeth yn gweithio gyda chleifion sydd angen pecynnau mwy dwys o gymorth ac ail-alluogi gartref. Mae'r prosiect hwn yn cael ei adnabod yn lleol fel 'y fyddin binc', ac mae'n darparu un pwynt mynediad a chydgysylltu o fewn yr ysbyty ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau cymunedol sy’n gallu darparu lefel uwch o ofal canolraddol i bobl gartref, gan gefnogi rhyddhau cynharach tan i'r lefel gywir o gymorth tymor hwy gael ei drefnu. Dim ond dau o lawer o brosiectau cronfa integreiddio rhanbarthol yw'r rhain sy'n helpu pobl i fyw'n dda gartref, i osgoi derbyniadau i'r ysbyty, a chynorthwyo rhyddhau’n ddiogel a chyflym i’r cartref.

Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn parhau i ymrwymo dros 60 y cant o'u cronfa integreiddio rhanbarthol i fodelau gofal sy'n darparu mwy o gapasiti cymunedol ar gyfer nawr ac yn y dyfodol. Bydd y buddsoddiad dros y pedair blynedd sy’n weddill hefyd yn cefnogi ein huchelgeisiau yn fawr i symud yn gyflymach fyth tuag at system gofal cymunedol integredig i Gymru. Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol hefyd yn ein helpu i gyflawni blaenoriaethau allweddol eraill gan gynnwys y model NYTH/NEST. Mae hyn yn arwain dull system gyfan o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc. A chyda'r disgwyliad parhaus bod o leiaf 20 y cant o'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn cael ei fuddsoddi mewn darpariaeth drwy sefydliadau'r sector gwerth cymdeithasol, mae hefyd yn helpu i gefnogi ein hagenda ar ail-gydbwyso'r farchnad gofal a chymorth.

Rwy'n cydnabod bod byrddau partneriaeth rhanbarthol a'u partneriaid wedi bod yn gweithio i sicrhau'r effaith fwyaf posibl o'r gronfa ar adeg pan fo pwysau ehangach ar y system ac adferiad yn sgil COVID wedi effeithio'n enfawr ar adnoddau a chapasiti partneriaid statudol. Yn y cyd-destun hwn, ac ar gais ein partneriaid, adolygodd swyddogion Llywodraeth Cymru ofynion cyllid graddedig a chyfatebol y gronfa. Ym mis Rhagfyr, cytunodd Gweinidogion i lacio'r trefniadau hyn yn y byrdymor, ond heb golli golwg ar ddyheadau tymor hwy'r gronfa i sefydlu gwasanaethau prif ffrwd mwy hirdymor.

Mae dysgu a gwella yn rhan bwysig o'n hethos ar gyfer datblygu iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw ein bod ni, ar ôl proses dendro gystadleuol, wedi sicrhau gwasanaethau Prifysgol De Cymru, mewn cydweithrediad ag Old Bell 3 a phrifysgolion Bangor ac Abertawe, i gyflawni'r gwerthusiad o'n cronfa integreiddio rhanbarthol. Mae'n amlwg bod y gronfa integreiddio rhanbarthol yn ei blwyddyn gyntaf wedi dechrau hyrwyddo dull partneriaeth gwirioneddol o fuddsoddi mewn gwasanaethau integredig ar gyfer yr hirdymor. Byddaf yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â chadeiryddion y byrddau partneriaeth rhanbarthol i drafod cynnydd a byddaf yn cymryd diddordeb brwd i weld sut mae ein modelau cenedlaethol o ofal integredig yn parhau i esblygu dros y flwyddyn nesaf.

15:20

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad i'r Senedd y prynhawn yma.

Rwy'n sylw bod y rhaglen lywodraethu yn amlinellu 10 amcan llesiant y dylai'r holl weithgarwch a ariennir gan y gronfa integreiddio rhanbarthol fod yn ystyriol ohonynt a cheisio cyfrannu atynt, gan gynnwys darparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy. Wel, byddai hynny'n braf, oni fyddai, gan ei bod hi wedi bod yn amser maith ers i'r GIG, o dan y Llywodraeth hon, fod yn agos at gyd-fynd â'r disgrifiad hwnnw. Ond yr hyn sy'n ymddangos ychydig yn rhyfedd yw sut mae angen i arian y gronfa integreiddio rhanbarthol fod yn ystyriol o bob un o'r 10 amcan. Dylai'r un yr wyf i newydd ei grybwyll yn amlwg fod yn rhan o'r cyd-destun, ond mae eraill yn teimlo fel pe baen nhw'n gysylltiedig â meysydd polisi hollol wahanol, fel gwthio tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg ac ymwreiddio ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Onid oes perygl, trwy geisio ticio'r holl flychau hyn, Dirprwy Weinidog, bod gweithrediad y gronfa hon yn symud oddi wrth ei genhadaeth, gan fod yr ymgais i fodloni'r holl ofynion angenrheidiol yn golygu ei fod yn dod yn llai effeithiol ac cael ei wanhau, i bob pwrpas, o ran bodloni'r nodau pwysicaf a mwyaf perthnasol oll?

Yn wir, mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud llawer o synnwyr yn ddamcaniaethol. Trwy ddod â'r ddau at ei gilydd, rydym ni’n cael system llawer mwy effeithlon a ddylai fod yn gosteffeithiol dros amser. Fodd bynnag, fel yr ydym ni wedi ei weld mewn mannau eraill ar raddfeydd rhanbarthol, mae COVID wedi taflu’r gwaith oddi ar ei echel, gan ei gwneud yn eithriadol o anodd i'r arfer fodloni’r ddamcaniaeth honno. Mae hyn fwyaf amlwg yng nghyswllt oedi cyn rhyddhau cleifion. Er mai nod hyn yw gwneud y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan yn fwy didrafferth, heb fynd i'r afael â'r mater hwn, yn syml, bydd yn achos o daflu mwy o arian da i ganlyn arian drwg. Nid yw dod o hyd i'r diwygiad cywir yn hawdd, ond a yw’r Gweinidog wir yn hyderus y bydd y gronfa integreiddio rhanbarthol hon yn golygu newid mewn gwirionedd, neu a fydd yn fwy o'r un peth?

Yn olaf, mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn amlwg yn ymgysylltu ag uchelgais polisi Llafur a Plaid o wasanaeth gofal cenedlaethol. Os yw'r gronfa hon mor effeithiol ag mae'r Gweinidog yn credu y gall fod ac y dylai fod, a oes angen gwasanaeth cenedlaethol o'r fath? A oes modd darparu gwasanaeth gofal cenedlaethol o gwbl? Mae cynllun integreiddio i fod yn barod erbyn diwedd eleni, ond ni fydd ei weithrediad gwirioneddol yn digwydd dros nos. Gyda llai na hanner tymor y Senedd ar ôl, onid yw'n wir mai'r gronfa integreiddio rhanbarthol yw'r nod terfynol yma mewn gwirionedd? Oherwydd ni fydd gwasanaeth gofal cenedlaethol byth yn gweld golau dydd o dan y Llywodraeth Cymru hon. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i Gareth am y cwestiynau yna. Yn sicr, dywedais yn yr araith a wnes i ein bod ni wedi sefydlu chwe model cenedlaethol o ofal integredig, a dyna'r modelau y mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn gweithio yn unol â nhw. Y rheini yw: cydgysylltu cymunedol ataliol; gofal cymhleth yn nes at adref; hybu iechyd a llesiant emosiynol da; cymorth therapiwtig i blant sy'n derbyn gofal a helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd; adref o'r ysbyty; ac atebion sy'n seiliedig ar lety. Felly, rydym ni'n canolbwyntio'r arian yr ydym ni'n ei roi yn y gronfa integreiddio rhanbarthol ar y chwe maes hyn, ac ym mlwyddyn gyntaf y gronfa integreiddio rhanbarthol, rwy'n credu ein bod ni wedi gweld canlyniadau addawol iawn. Yn sicr, nid wyf i'n credu bod rhai o'r pethau y cyfeiriodd atyn nhw yn gwrthdaro â'r nodau hynny, fel miliwn o siaradwyr Cymraeg; rwy'n credu bod honno'n fantais fawr i'r math o waith yr ydym ni’n ei wneud yma, ac yn sicr dyma'r Gymru yr ydym ni eisiau ei gweld. Felly, nid wyf i'n gweld unrhyw wrthdaro yn hynny o gwbl.

Rydym ni’n integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae'r byrddau rhanbarthol yn rhywle lle mae gennym ni le mewn gwirionedd lle mae iechyd a gofal cymdeithasol wrth y bwrdd. Felly, mewn gwirionedd, mae'n gwneud penderfyniadau ar y cyd yn ogystal â chael elfennau eraill yno, fel tai, gyda'r trydydd sector a gofalwyr yn cael eu cynrychioli. Felly, dyma'r man lle gallwch chi wneud y penderfyniadau integredig gorau.

O ran oedi cyn rhyddhau cleifion, rydym ni wedi gweithio drwy'r gaeaf yn ceisio mynd i'r afael â'r mater o'r prinder sydd gennym ni o weithwyr gofal cymdeithasol a'r problemau y mae hynny wedi eu hachosi gydag oedi cyn i bobl ddod o'r ysbyty. Mae'n edrych fel pe bai'r oedi hwnnw cyn rhyddhau cleifion yn lleihau erbyn hyn. Mae'r gwaethaf o'r gaeaf, gobeithio, ar ben, ac mae'r oedi cyn rhyddhau cleifion lleihau. Ond gwnaed ymdrech enfawr i greu capasiti cymunedol, a chwaraeodd y gronfa integreiddio rhanbarthol ran fawr yn hynny.

O ran gwasanaeth gofal cenedlaethol, dyna yw uchelgais ar y cyd Llafur a Phlaid Cymru, ac rydym ni’n gweithio gyda'n gilydd yn y cytundeb cydweithio i wireddu hynny. Byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu erbyn diwedd eleni, lle rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gweld cynigion fesul cam i gyrraedd gwasanaeth gofal cenedlaethol. Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn dod â'r elfennau hynny at ei gilydd nawr, ac yn cyflawni nawr, ond ein cynllun yn y pen draw yw gwasanaeth gofal cenedlaethol.

15:25

A gaf innau ategu sylwadau'r Dirprwy Weinidog o ran ein diolch i'r gweithlu iechyd a gofal am eu gwaith diflino nhw? Diolch am y datganiad heddiw. Mae yna egwyddorion pwysig iawn yma y gallwn ni i gyd eu cefnogi, gobeithio—pwysigrwydd cefnogi pobl i fyw yn annibynnol yn eu cymunedau, a'r angen i drawsnewid gwasanaethau go iawn er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'r gronfa yma, wrth gwrs, yn cymryd lle yr integrated care fund, oedd wedyn yn olynydd i'r intermediate care fund, os dwi'n hollol iawn, oedd yn destun cytundeb flynyddoedd yn ôl rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Felly, mae yna egwyddorion sydd yn parhau yma ac yn cael eu datblygu.

Y cwestiwn ydy i ba raddau ydyn ni'n gweld y math o drawsnewid sydd ei angen. A bod yn deg, mae hi yn eithaf cynnar o hyd. Mae'r Gweinidog wedi disgrifio hwn fel cyfnod o symud i mewn i drefn newydd o weithredu, ond mae amser yn brin, wrth gwrs. Mae angen i ni fod yn gweld ôl y trawsnewid yna. Efo'r chwe model o ofal integreiddiol, er enghraifft, mi fuaswn i yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu rhoi diweddariad i ni ar y math o broffil gwario mae hi yn ei ragweld o ran delifro ar yr egwyddorion yna. Sut mae arian refeniw, arian cyfalaf prin yn mynd i gael ei wario ar ddelifro'r chwe model newydd sydd dal wrthi yn cael eu datblygu? 

O ran yr ail gwestiwn sydd gen i, dwi'n ymddiheuro dim am droi unwaith eto at yr angen am chwyldro mewn agweddau tuag at weithio yn ataliol i'n gwneud ni'n genedl fwy iach, helpu pobl i baratoi dros yr hirdymor i allu byw yn annibynnol o fewn eu cymunedau. Mi wnaeth Plaid Cymru gyhoeddi pum pwynt gweithredu ar gyfer iechyd a gofal yn ddiweddar, a'r elfen ataliol honno yn un o'r pum pwynt yna. Wrth lansio'r gronfa yma y llynedd, mi ddywedodd y Gweinidog bod atebion ataliol cymunedol eisoes yn cael eu datblygu. All y Gweinidog felly roi diweddariad i ni ar sut mae'r gronfa yma yn cael ei defnyddio i ddatblygu'r elfen ataliol hollbwysig yna? Achos oni bai ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â'r ataliol, fyddwn ni ddim yn gallu datrys y pwysau sydd ar y gwasanaethau iechyd a gofal yn y pen draw. Tueddu i droi rownd a rownd mewn cylchoedd mae rhywun mewn sefyllfa debyg i hynny. 

Diolch yn fawr iawn, Rhun, am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Mae hon yn sicr yn disodli'r gronfa gofal canolraddol a'r gronfa trawsnewid. Mae'n gyfuniad ac yn gwneud yn siŵr bod rhai o'r syniadau a'r prosiectau hyn sydd wedi bod mor llwyddiannus yn symud tuag at gyfuno, oherwydd rwy'n credu mai'r prif beth y mae'n rhaid i ni geisio ei wneud yw prif ffrydio'r prosiectau hyn. Rwy'n credu y gallaf i roi sicrwydd i chi bod rhai ohonyn nhw wedi bod yn drawsnewidiol, ond yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud nawr yw symud y tu hwnt i hynny a'u hymwreiddio fel eu bod nhw'n bresennol drwy'r system gyfan. Rydym ni'n dysgu ohonyn nhw. Ceir cymunedau ymarfer, cymunedau yn edrych ar bob wahanol faes yr ydym ni'n edrych arnyn nhw. Rydym ni'n ceisio gwneud yn gwbl sicr nad prosiectau ynysig yn unig yw'r rhain, ond eu bod nhw'n brosiectau sy'n cael eu rhannu ledled Cymru. 

O ran y gwariant, wel, roedd gwariant y llynedd bron i £145 miliwn, sy'n swm mawr o arian yr ydym ni'n ei gyfrannu, ac rydym ni'n cyfrannu hwnnw am bum mlynedd. Cafodd y ganran fwyaf o'r arian hwnnw ei wario ar adeiladu capasiti cymunedol, ac roedd tri o'r chwe model ar hynny. Felly, roedd gennym ni, er enghraifft, adref o'r ysbyty—aeth 18 y cant o'r cyllid ar hynny; gofal yn y gymuned, atal a chydgysylltu cymunedol—27 y cant. Rwy'n meddwl, ar y mathau hynny o brosiectau, y gwariwyd tua 60 y cant ar hynny. Felly roedd hynny, yn y bôn, yn fater o adeiladu'r capasiti, y capasiti gofal cymunedol, sy'n hollbwysig yn fy marn i. 

Ac mae llawer ohono'n ataliol, oherwydd y mwyaf y gallwn ni gynorthwyo pobl gartref i fyw bywydau annibynnol, i fyw'n llwyddiannus, dyna lle byddwn ni'n atal yr angen am orfod mynd i'r ysbyty, lle mae pobl yn mynd yn wannach, ac mae'n anoddach cael pobl gartref. Felly, mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu'r gwaith ataliol hwn yn y gymuned llawer mwy, ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau symud tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol, lle byddwn ni'n adeiladu ar yr holl waith hwn sy'n cael ei wneud nawr. 

15:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Nawr, Dirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad heddiw am rannu arferion da. Felly, tybed a allwch chi roi, neu efallai roi gwybod i ni ble'r ydych chi'n meddwl y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio orau yng Nghymru—rhowch wybod i ni pa fyrddau iechyd neu fyrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n gwneud orau, a hefyd, rhoi synnwyr i ni o ble'r ydych chi'n meddwl, neu pa fyrddau iechyd sydd angen gwella eu perfformiad. Efallai y byddai'n ddefnyddiol cael y synnwyr hwnnw gennych chi. 

A thra ein bod ni'n trafod byrddau iechyd, wrth gwrs, o ran bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fel y gwyddom ni, yn dychwelyd i fesurau arbennig o dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth, a allaf i gael synnwyr yn y fan honno a fydd gwaith yn cyflymu o ran integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, neu a yw i'r gwrthwyneb? A yw'n ffaith bod cymaint o rwystrau eraill i'w goresgyn y bydd hyn yn llai o flaenoriaeth?

Diolchaf i Russell George am y cwestiynau hynny. Mae gennym ni enghreifftiau da ledled Cymru gyfan, felly nid wyf i'n mynd i ddweud bod un bwrdd iechyd yn rhagorol ac nad yw un arall, oherwydd mae gen i restr o enghreifftiau o brosiectau yma o, fel y dywedais, bob rhan o Gymru. Wel, yn y gogledd, wrth gwrs, ceir prosiect FEDRA'I, sy'n ceisio cynorthwyo pobl ag anawsterau iechyd meddwl. Ac mae llawer o'r gweithgareddau cymorth hyn yn cael eu darparu gan ddarparwyr trydydd sector, gyda gwirfoddolwyr, a staff canolfannau cymunedol yn darparu cymorth llesiant meddwl, gyda chynllun ar waith i leoli pobl mewn meddygfeydd teulu i geisio mynd i'r afael â'r materion hyn. Felly, mae honno'n enghraifft dda iawn yn y gogledd, ac, yn sicr, ni fydden ni eisiau—.  Nid oes unrhyw gwestiwn o atal y mathau hyn o bethau rhag digwydd oherwydd bod Betsi Cadwaladr wedi mynd i fesurau arbennig. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gweithio ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol drwy Gymru gyfan.

Ac mae gen i enghreifftiau, fel y dywedais, o brosiectau ardderchog yma ledled Cymru gyfan. Ac yn sicr ni fyddem ni eisiau i unrhyw beth atal datblygiad y prosiectau hynny oherwydd unrhyw drafferthion mewn unrhyw fwrdd iechyd lleol. 

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cenhadaeth Ein Cenedl

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Eitem 5 sydd nesaf: datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar  genhadaeth ein cenedl. A galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol yn 2017. Ers hynny, rŷn ni wedi cymryd camau mawr ym myd addysg. Ymhlith llawer o bethau eraill, byddwn ni'n cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, gan weithredu system anghenion dysgu ychwanegol newydd, a sefydlu'r comisiwn addysg trydyddol ac ymchwil. Rwy'n falch o'r hyn rŷn ni wedi cyflawni, ond mae'n rhaid i ni barhau i edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n falch iawn o gyflwyno ein map trywydd newydd ar gyfer addysg—safonau a dyheadau uchel i bawb. Mae hyn yn amlinellu ein blaenoriaethau ni ar gyfer addysg, ac amserlen cyflawni y tymor Senedd hwn. 

Am y tro cyntaf, rŷn ni'n gosod map trywydd cydlynol a chydlynus, sy'n cwmpasu addysg i gyd yng Nghymru, ac ar gyfer Cymru, o flynyddoedd cynnar i ôl-16 a thu hwnt, oherwydd dylai ein system addysg fod yn gydol oes.

Dirprwy Lywydd, bwriedir iddo fod yn offeryn defnyddiol i ymarferwyr, gan ddarparu llinell amser ar gyfer ein cynlluniau a'n cydlyniad ar draws y portffolio. Nid yw ein huchelgeisiau ar gyfer addysg wedi newid: ein cenhadaeth genedlaethol yw sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb, a byddwn yn gwneud hyn drwy fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chynorthwyo pob dysgwr. Nid yw'r ddogfen yn mynd i'r afael â'r hyn yr wyf i'n ei ystyried yw'r problemau ym myd addysg yn unig. Trwy siarad ag athrawon a staff cymorth, darlithwyr a'n dysgwyr, gwn eu bod nhw'n awyddus i sicrhau llesiant, tegwch ac amrywiaeth ym maes addysg. Rydym ni hefyd wedi manteisio ar brofiad ac arbenigedd gwledydd a sefydliadau eraill, gan gaffael arferion gorau a syniadau gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Atlantic Rim Collaboratory, a chynlluniau o Estonia, Iwerddon, Seland Newydd, ac eraill. Ac rwy'n benderfynol o beidio â chaniatáu'r pandemig ac unrhyw ganlyniadau hirdymor posibl i waethygu effeithiau tlodi ar ganlyniadau addysgol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i hyn.

Byddwn yn sicrhau deilliannau teg i bob plentyn a pherson ifanc ym maes addysg. Gyda'r amcanion a'r camau a gyflwynir yn y ddogfen hon, rwy’n credu y byddwn ni’n cyflawni hyn. Y prawf o system deg a rhagorol yw bod pob dysgwr a dinesydd yn elwa o gwricwlwm eang a chytbwys. Mae hyn wedi'i ymgorffori yn y Cwricwlwm i Gymru a'i bedwar diben. Mae'r map trywydd yr ydym ni’n ei gyhoeddi nawr yn tynnu sylw at ein blaenoriaethau ar y cyd i sicrhau llwyddiant, safonau uchel a llesiant pob dysgwr. Mae'n nodi'r chwe amcan yr ydym ni'n credu fydd yn ein helpu i gyflawni'r blaenoriaethau hynny. Dyma nhw: dysgu am oes; chwalu rhwystrau; addysg cadarnhaol i bawb; addysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel; dysgu yn y gymuned; a Chymraeg i bawb.

Ni all y Llywodraeth gyflawni hyn ei hun. Byddwn yn gweithio gyda darparwyr a chyflogwyr, ac yn grymuso dysgwyr a chymunedau i ddatblygu cysylltiadau cryf â darparwyr addysg. Byddwn yn sicrhau dysgu a chymorth proffesiynol gydol gyrfa i'r holl staff, ac yn hybu llesiant a gwydnwch i bawb ym maes addysg. Rydym ni hefyd yn rhannu'r cyfrifoldeb o sicrhau dyfodol llewyrchus i'n hiaith. Rwy’n credu mai ysgolion a'r system addysg ehangach yw ein hadnodd mwyaf effeithiol ar gyfer creu siaradwyr newydd ac ail-ennyn diddordeb dysgwyr. Gyda chynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg awdurdodau lleol, mae gennym ni sylfaen gadarn ar gyfer cynllunio twf yn yr iaith am y degawd nesaf. Byddwn yn parhau i arloesi o ran defnyddio technoleg ddigidol, gan ei bod yn adnodd hanfodol o ran hyrwyddo dwyieithrwydd, cefnogi dysgu gydol oes, a chodi cyrhaeddiad.

Mae'n gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru. Rydym ni yng nghanol rhaglen ddiwygio o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11. Rydym ni’n canolbwyntio ar ei gyflwyno’n llwyddiannus a datblygu cymwysterau TGAU newydd i gefnogi'r cwricwlwm newydd. Mae cymwysterau galwedigaethol a'r cynnig 16 i 18 oed ehangach hefyd yn cael eu hadolygu. Mae'r diwygiadau trawsnewidiol i addysg ôl-16 hefyd ar y gweill, ac mae angen eu halinio fel y gallwn ni sicrhau'r budd mwyaf posibl i ddysgwyr yng Nghymru, o'r blynyddoedd cynnar i oedolion sy'n chwilio am ail gyfle. Mae hyn yn bwysig iawn wrth i ni symud tuag at sefydlu'r comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil. Bydd y comisiwn yn gyfrifol am gynllunio strategol a chyllid ar gyfer addysg ac ymchwil ôl-16, sy'n cynnwys dosbarthiadau chwech, colegau addysg bellach, addysg uwch, dysgu seiliedig ar waith, prentisiaethau, a dysgu oedolion. Bydd y dull system gyfan hwn o ymdrin ag addysg drydyddol yn ein helpu i leihau anghydraddoldebau addysgol, ehangu cyfleoedd, a chodi safonau. Bydd ein diwygiadau trydyddol yn cefnogi cryfderau gwahanol ond ategol pob sefydliad. Fel hyn, bydd gan ddysgwyr o bob oed fynediad at yr ystod lawn o gyfleoedd, a bydd yn gallu cyfrannu'n economaidd, yn academaidd, ac at ein cymunedau.

Rydym ni eisiau ac angen system addysg sy'n gweithio gyda'i gilydd, gan bontio o un cam o ddysgu i'r nesaf yn ddi-dor, gan addasu'n gyflym i newidiadau yn y byd ac mewn technoleg. Mae'r map trywydd newydd hwn yn tynnu ein polisïau a'n huchelgeisiau ar gyfer addysg ynghyd. Byddwn yn parhau i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac yn darparu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau i bob dysgwr fod yn ddinasyddion iach, addysgedig a mentrus Cymru a'r byd. Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, sy'n cynnwys parch mawr at ddysgu, ac rydym ni’n adeiladu ar hyn. Rwy’n credu bod y map trywydd hwn yn cryfhau'r sylfeini hynny, a fydd yn ein helpu ni i arwain at ddyfodol llewyrchus, tecach a chyfartal.

15:35

Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw—ein cenhadaeth genedlaethol. Fel rydym i'n gwybod, lansiodd Llywodraeth Cymru eu cenhadaeth genedlaethol addysg yn ôl yn 2017, a oedd â dyheadau mawr i bobl Cymru. Nod y genhadaeth genedlaethol oedd codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy'n destun balchder a hyder cenedlaethol. Ar yr ochrau hyn i'r meinciau, rydym ni’n rhannu'r dyhead hwn yn llwyr ac eisiau gweld y deilliannau addysgol gorau i bobl Cymru, ac, fel rydych chi'n ei ddweud yn eich datganiad, Gweinidog, mae'n rhaid i ni sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Yn ogystal â hyn, rydym ni’n cefnogi'r angen i sicrhau deilliannau teg i bob plentyn a pherson ifanc ym maes addysg, sydd hefyd yn cael ei godi yn eich datganiad heddiw.

Y pwynt cyntaf yr hoffwn ei godi heddiw, Gweinidog, yw ein bod ni, pan fyddwn ni’n edrych yn agosach ar safonau addysgol yng Nghymru, yn parhau i fod y tu ôl i'n cymheiriaid yn Lloegr. Ers cyhoeddi'r genhadaeth genedlaethol hon, rydym ni wedi parhau i weld y bwlch cyrhaeddiad yn ehangu, tra bod cynghreiriau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn dangos nad yw safonau addysgol yng Nghymru yn codi'n ddigon cyflym. Felly, Gweinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi, wrth symud ymlaen, y byddwn ni’n gweld canlyniadau mwy cadarnhaol o’ch cenhadaeth genedlaethol, yn arwain at well deilliannau addysg i bobl Cymru?

Yn ail, Gweinidog, un pryder ar ochrau hyn y meinciau fu cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Ar yr ochrau hyn i'r meinciau, rydym ni’n credu bod y cwricwlwm newydd hwn wedi cael ei ruthro allan yn rhy gyflym ac y dylid fod wedi ei ohirio. Yng ngoleuni hyn, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o gyflwyniad y cwricwlwm hwn, ac a oedd unrhyw wersi i'w dysgu?

Yn drydydd, Gweinidog, methiant allweddol yr ydym ni’n ei weld ar yr ochrau hyn i'r meinciau yw ymgais Llywodraeth Cymru i gyflawni diwygiadau o ran anghenion dysgu ychwanegol. Byddai llawer yn dadlau nad yw'r diwygiadau hyn wedi bod yn llwyddiannus. Yn anffodus, mae llawer o blant ledled Cymru yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn hwyrach nag y dylen nhw. Mae hyn yn arwain at roi plant ar restrau aros hir cyn cael mynediad at ysgolion sy'n darparu ar gyfer anghenion addysgol arbennig ac anabledd, dim ond i'r un ysgolion hynny ddatgan wedyn nad yw'r adnoddau ariannu sy'n angenrheidiol ganddyn nhw i ddarparu hyfforddiant digonol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Felly, Gweinidog, wrth symud ymlaen, pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd y rhaglen cenhadaeth genedlaethol hon yn sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ynghyd â'u teuluoedd, yn cael y cymorth a'r gefnogaeth y maen nhw’n eu haeddu?

Mae'r pwynt olaf yr hoffwn i ei godi heddiw, Gweinidog, yn ymwneud ag athrawon. Yn eich datganiad, rydych chi’n dweud eich bod chi’n siarad ag athrawon a staff cymorth, ac mae hynny bob amser yn rhywbeth i'w groesawu. Ond un o'm pryderon allweddol pan fyddaf i'n siarad ag athrawon a'r rhai mewn sectorau addysg eraill yw'r prinder athrawon mewn pynciau STEM allweddol, fel cemeg a ffiseg, yr wyf i wedi ei godi o'r blaen yn y Siambr hon. Fel yr wyf i'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi, Gweinidog, mae pynciau STEM yn hanfodol bwysig ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol a ffyniant ein gwlad, felly, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r prinder athrawon gwyddoniaeth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a Chymraeg, a pha gamau wnewch chi eu cymryd i'w ddatrys? Diolch.

15:40

Diolchaf i'r Aelod am ei gwestiynau. Bydd yn gwybod o fy natganiad ac o ddatganiadau eraill yr wyf i wedi eu gwneud bod cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y myfyrwyr hynny sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig a’u cyfoedion yn flaenoriaeth allweddol i mi, fel yr wyf i newydd ei amlinellu yn y datganiad. Mae'n camddarlunio braidd y profiad o ran y bwlch cyrhaeddiad ers cyhoeddi'r genhadaeth genedlaethol. Mewn gwirionedd, roedd cynnydd mewn ar nifer o bwyntiau cohort, y mae profiad COVID, yn anffodus, wedi ei atal, ac mewn rhai achosion, wedi ei wrthdroi. Mae effaith COVID wedi bod yn debyg mewn gwahanol rannau o'r DU, ac rwy'n mentro dweud yn rhyngwladol hefyd mae'n debyg. Ond yr hyn y bydd wedi ei weld yn y datganiadau a wnes i'r llynedd a'r diweddariadau yr wyf i wedi eu rhoi ers hynny—a bydd yn ymwybodol fy mod i’n rhoi diweddariad i'r Siambr yr wythnos nesaf o ran ein mentrau polisi yn y maes hwn—yw dull system gyfan o ganolbwyntio ar wneud yn siŵr bod pob un dysgwr, waeth beth fo'i gefndir, yn cael yr un mynediad at addysg ragorol ac yn cael ei annog nid yn unig i fod â safonau uchel, ond dyheadau uchel hefyd.

Mae'n cyfeirio at PISA. Bydd yn gwybod y bydd canlyniadau PISA 2022 yn llinell sylfaen y gallwn ni adolygu tueddiadau ohoni wrth symud ymlaen. Mae'n un rhan o raglen lawer ehangach o fonitro a gwerthuso; rhan bwysig, heb os, ond dim ond un rhan o hynny. Rydym ni’n edrych ar sut yr ydym ni’n mesur llwyddiant ar draws y system, fel y bydd yn gwybod, o ran yr hyn yr ydym ni’n ei werthuso, ac fe wnes i amlinellu ein dull o ymdrin â hynny a'r camau nesaf yr ydym ni’n eu cymryd i ymdrin â hynny, i'r Senedd ddiwedd mis Ionawr, fel y bydd yn gwybod.

Efallai ei fod wedi dymuno i'r Cwricwlwm i Gymru gael ei oedi; rwy'n credu nad yw hynny'n rhoi pwys digonol i'r brwdfrydedd a'r ymrwymiad sydd gan ysgolion ac athrawon a chynorthwywyr addysgu tuag at y cwricwlwm ledled Cymru gyfan. Bydd yn gwybod ein bod ni ar fin trafod, yn ddiweddarach y prynhawn yma, adroddiad Estyn ar gyfer 2021-22, a bydd yn gwybod o fod wedi darllen hwnnw, rwy'n siŵr, bod Estyn yn darparu asesiad o gyflwyniad y Cwricwlwm i Gymru ac yn dangos arferion ac ymrwymiad da o ran gwneud hynny. Yn ddealladwy, ceir lefel o amrywiad ar draws y system nad yw wedi'i ynysu yn gyffredinol o ran cyflwyno'r cwricwlwm, ond sy'n ymwneud â nodweddion eraill sydd wedi bod yn heriol i rai ysgolion hefyd, a bydd yr ysgolion hynny, fel y bydd yn gwybod, yn cael cymorth arbenigol o ran y meysydd penodol hynny.

Yn yr un modd, o ran cyflwyno'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol, sydd, rwy'n credu, wedi cael croeso eang dros ben, yn amlwg mae cyflwyno diwygiad o'r fath faint, sy'n golygu'r fath newid ar draws y system—mae llawer iawn o ymdrech y mae ymarferwyr a sefydliadau yn ei wneud i sicrhau bod y diwygiadau hynny yn llwyddiant, ac rwy'n talu teyrnged iddyn nhw am y gwaith a'r ymrwymiad anhygoel y maen nhw'n ei neilltuo i'r gwaith hwn. Rydym ni wedi cynyddu'r cyllid sydd ar gael i ysgolion yn sylweddol, fel y bydd yn gwybod, o safbwynt cyfalaf a refeniw, er mwyn helpu i wneud y trosglwyddiad yn fwy rhwydd, a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau yn y dyddiau nesaf ynghylch cymorth pellach yr ydym ni’n bwriadu ei ddarparu i ymarferwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod y diwygiadau ADY yn llwyddiant i bob dysgwr unigol, fel yr ydym ni angen iddyn nhw fod.

15:45

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Yn sicr, mi gewch chi ein cefnogaeth lwyr ni o ran y dyhead o ran sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Ac yn sicr, un o’r pethau rydyn ni wedi’i weld, ac rydych chi wedi sôn amdano'n barod, ydy bod yn rhaid i ni gydnabod y problemau sydd yn deillio o COVID, a’r effaith mae hynny yn ei chael ers y cynllun cychwynnol yn 2017. Un o’r pethau sydd fy mhryderu i, gan dydyn ni ddim wedi cael ymchwiliad annibynnol i COVID yma yng Nghymru yn benodol, ydy, yn amlwg, yn yr Alban maen nhw’n edrych ar effaith COVID ar addysg, a phobl ifanc wedi bod yn rhan fawr o hynny, a dwi yn credu dydyn ni efallai ddim yn deall y pictiwr llawn. Mae yna waith wedi’i wneud, ond nid i’r un graddau.

Dwi’n meddwl ein bod ni’n dal i weld effaith COVID mewn nifer o’n hysgolion ni rŵan. Mae meddygon teulu, er enghraifft, yn sôn am y pryderon sydd ganddyn nhw o ran plant a phobl ifanc sydd ddim yn mynd i’r ysgol, a’r effaith mae hynna wedyn yn ei chael, am bob math o resymau. Mae’n gallu bod oherwydd problemau iechyd meddwl sydd wedi dwysau yn ystod COVID, a dyw'r plant ddim wedyn yn teimlo’n gyffyrddus yn mynd i’r ysgol. Efallai dydyn nhw ddim wedi cael y gefnogaeth o ran anghenion dysgu ychwanegol, ac wedi colli allan. Mae yna lu o resymau, ac maen nhw’n gweld pryderon mawr o ran, yn benodol, y rhai mwyaf bregus yn ein cymuned ni, a’r effaith wedyn o beidio â mynd i’r ysgol.

Byddwch chi, wrth gwrs, yn ymwybodol hefyd o’r ymchwiliad y gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o ran absenoldeb, a dwi’n credu ei fod yn un peth, yr hyn rydyn ni’n gallu ei wneud o fewn ysgolion i gefnogi dysgwyr sydd yn yr ysgolion, ond, fel mae comisiynydd plant ac ati wedi sôn amdano, mae’n rhaid i ni gydnabod dyw lefelau presenoldeb ddim yn ôl i’r hyn yr oedden nhw cyn COVID ar hyn o bryd, a’i bod hi’n dal yn bryder bod nifer yn gweld ysgol fel bod yn opsiynol, a hefyd rydyn ni'n gweld bod yr argyfwng costau byw yn rhwystr i rai medru fforddio cyrraedd yr ysgol. Rydyn ni wedi cael cymaint o dystiolaeth gan bobl yn dweud dydyn nhw ddim yn gallu fforddio’r bws, a bod yna lu o resymau pam mae’n disgyblion neu ddysgwyr mwyaf bregus ni yn colli allan ar fynd i’r ysgol yn y lle cyntaf. Felly, tra’n cydnabod y gwaith gwych sydd yn digwydd yn ein hysgolion ni, dwi’n meddwl mai’r cwestiwn mawr rydyn ni heb ei ddatrys eto ydy: sut ydyn ni’n sicrhau bod y lefelau presenoldeb yna yn codi, a’n bod ni’n cael dysgwyr yn yr ysgol i fanteisio ar y cynlluniau hyn? Yn sicr, o ran rhai elfennau fan hyn o ran cau’r bwlch, yr hyn buaswn i’n ei ofyn ydy: mae gennym ni gynlluniau, ond sut ydyn ni am wneud hynny os oes yna ddal gymaint o rwystrau yn atal dysgwyr rhag bod yn yr ysgol?

Os caf i ofyn cwestiynau yn benodol o ran y cohort 16 i 25, sydd yn y map trywydd, rydych chi’n sôn ynglŷn â’r cyfleoedd iddyn nhw ddysgu sgiliau Cymraeg, neu ddefnyddio’r Gymraeg, ond does yna ddim lot o gyfeiriadau, o’r hyn roeddwn i’n ei weld, o ran datblygu prentisiaethau penodol yn y Gymraeg, ac rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig ydy galluogi’r cohort yna, yn benodol o ran defnyddio’r Gymraeg ym myd gwaith. Felly, fedrwch chi efallai roi mwy o wybodaeth o ran hynny? Rydych chi’n sôn hefyd am arweinyddiaeth, ac roeddech chi’n sôn yn eich datganiad bod hwn yn gyfnod positif, dwi’n meddwl, roedd y geiriau yr oeddech chi’n dweud, o ran addysg. Ond hefyd rydyn ni’n gwybod am yr heriau aruthrol sydd o fewn y sector. Rydyn ni’n gwybod bod athrawon a chynorthwywyr dosbarth wedi bod ar streic, wedi bod ymladd o ran tâl teg, ond hefyd yn sôn yn benodol am lwyth gwaith. Rydyn ni’n gweld bod niferoedd o ran y rhai sy’n ymgeisio am gyrsiau hyfforddiant athrawon—. Felly, sut ydym ni am sicrhau—? Mae pwyslais yn eich datganiad chi ynglŷn â sicrhau bod safonau a dyheadau uchel i bawb ynghlwm ag addysg, sydd yn cynnwys dysgwyr ond hefyd staff. Sut ydym ni am ddatrys hynny? Oherwydd mae yna yn dal i fod teimlad o anghydfod mewn nifer o ysgolion o ran y llwyth gwaith. Tra’n croesawu’n fawr, wrth gwrs, y cwricwlwm newydd—nid hynny—rwy'n poeni o ran y llwyth gwaith a’r holl heriau ychwanegol y maen nhw’n eu hwynebu.

Buaswn i hefyd yn hoffi gofyn i chi o ran Bil y Gymraeg mewn addysg. Rydych chi’n sôn bod y Gymraeg, yn amlwg, yn rhan bwysig o hyn. Ond, o ran cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, pa mor bwysig fydd cael Bil y Gymraeg mewn addysg o ran gwireddu hyn yn benodol? Y prif beth dwi’n meddwl sydd ynghlwm efo hyn—. Does dim byd i’w wrthwynebu yn yr hyn rydych chi’n ei ddweud, ond y peth mawr ydy: sut ydym ni am sicrhau cydraddoldeb o ran cyfleoedd i bawb? Dyw e ddim yn eglur i mi eto—o ran yr holl heriau sydd gennym ni o ran lefelau tlodi plant yn cynyddu, fel yr oeddwn yn sôn, ac efo absenoldeb mor uchel ymhlith rhai mewn ysgolion—sut ydym ni am wneud fel arall. Dwi’n ofni bod geiriau ar bapur, ond bydd yna lot o’n dysgwyr mwyaf bregus ni yn dal yn colli allan ar yr addysg sydd ei hangen arnyn nhw i ddatblygu i fod yn oedolion hyderus. 

15:50

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny ac am rhestru'r heriau. Rwy'n siŵr hefyd eu bod hi’n awyddus i ddathlu’r llwyddiannau yn ein system addysg ni, a’r holl waith sy’n cael ei wneud yn ein dosbarthiadau ni bob dydd i ddarparu’r addysg orau posib ar gyfer ein pobl ifanc ni. Rwy’n siŵr ei bod hi’n cydnabod hynny hefyd.

O ran y cwestiynau penodol, mi wnaf i fy ngorau i fynd i’r afael â rhai ohonynt, o leiaf. Mae impact COVID ar ysgolion, wrth gwrs, yn un sylweddol. Mae’r adroddiad Estyn, y byddwn yn ei drafod yn hwyrach y prynhawn yma, yn rhoi dadansoddiad o rai o’r effeithiau ar ein hysgolion ni.

Rŷm ni wedi gallu llwyddo, yn y flwyddyn ariannol sy’n dod, i gynyddu’r hyn yr oedden ni'n bwriadu ei gyfrannu i’r gronfa sy’n cefnogi ysgolion i ddelio gydag effaith COVID. Roeddwn yn disgwyl gorfod lleihau hynny, ond gan fod yr impact, wrth gwrs, mor sylweddol, rŷm ni wedi gallu cynnal y gronfa honno, ac mae’n glir, o’r dadansoddiadau sydd wedi cael eu gwneud ar draws y Deyrnas Gyfunol, fod yr arian a’r ffyrdd o wario’r arian yr ydym wedi’u darparu yma yng Nghymru tua’r ochr fwyaf hael, os hoffwch chi, o’r ystod o ymyriadau ar draws y Deyrnas Unedig, a'u bod hefyd wedi cael eu buddsoddi yn y ffyrdd mwyaf blaengar.

O ran presenoldeb, mae hon yn her sylweddol, fel yr oedd yr Aelod yn ei ddweud yn ei chwestiwn. Bydd hi’n gwybod am y gwaith yr ydym wedi’i wneud o ran yr adolygiad gan Meilyr Rowlands i edrych ar beth yn fwy y gallem ei wneud. Fel rhan o hynny, rŷm ni’n adnewyddu’r gofynion a’r canllawiau i ysgolion ynglŷn â sut i fynd i’r afael â hyn. Mae’r trothwy presennol ar gyfer cefnogaeth bellach i deuluoedd lle mae plant yn absennol yn uwch, efallai, nag y dylai fod yn y cyd-destun rydym yn gweithio ynddo ar hyn o bryd. Felly, un o’r pethau rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gallu ei wneud yw gostwng y trothwy cyn ein bod ni’n rhoi mwy o gefnogaeth i deuluoedd.

Bydd hi wedi gweld fy mod i wedi datgan yn ddiweddar fuddsoddiad pellach i helpu cynghorau lleol i gyflogi swyddogion pwrpasol ar gyfer gweithio gyda theuluoedd i’w hannog nhw i anfon eu plant nôl i’r ysgol ac i weithio gyda’r plant hynny eu hunain, wrth gwrs, i sicrhau bod y berthynas honno’n cael ei hadnewyddu ac i ddenu pobl ifanc nôl i’r ysgol ar ôl cyfnod sydd wedi bod yn anodd iawn. Felly, perthynas o ymddiried ac o gefnogaeth bwrpasol, bersonol dwi’n credu yw’r ffordd orau o sicrhau hynny, ond mae angen mwy o gefnogaeth ar y system i ddarparu hynny, a dyna yw pwrpas y buddsoddiad rwy’n cyfeirio ato.

O ran y ddarpariaeth ôl-16, mae hon, wrth gwrs, yn elfen bwysig. Gwnaf i jest ddweud nad bwriad y ddogfen hon yw rhestru pob polisi y mae’r Llywodraeth yn ymrwymo iddo fe, ond rhoi amserlen o’r prif bethau sydd â gofyniad i’r proffesiwn, os hoffwch chi. Bydd hi’n gwybod, wrth gwrs, o’r gwaith rŷm ni wedi bod yn ei wneud ar y cyd â Phlaid Cymru fel rhan o’r cytundeb cydweithio, fod buddsoddiad sylweddol yn mynd i mewn i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Un elfen o waith y coleg sydd mor werthfawr yw'r hyn maen nhw'n ei wneud i gynyddu darpariaeth prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ond wrth gwrs mae mwy i'w wneud yn hynny o beth.

O ran llwyth gwaith, wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud bod hyn yn destun gofid i nifer o athrawon. Rŷm ni wedi bod yn cydweithio'n greadigol ac yn gadarnhaol gyda'r undebau dysgu dros yr wythnosau diwethaf i allu gwireddu, os hoffwch chi, y cynlluniau sydd wedi bod ar waith ers amser i leihau llwyth gwaith a gwneud hynny mewn ffordd sydd yn cael ei gydlynu ar draws y system. Felly, rwy'n gobeithio y bydd aelodau'r undebau'n cymeradwyo'r cynnig sydd wedi cael ei wneud, ond mae gyda ni raglen o waith fydd, rwy'n ffyddiog, yn gwella'r sefyllfa o ran llwyth gwaith ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru.

Bydd hi'n gwybod eisoes, wrth gwrs, fod rôl bwysig gan Fil y Gymraeg mewn addysg yn darparu fframwaith gliriach o ran yr hyn mae cynghorau lleol yn ei ddarparu o ran strategaethau, a byddwn ni'n gallu dweud mwy am hynny ar y cyd gyda Cefin Campbell dros yr wythnosau nesaf.

15:55

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Ceir un neu ddau o bethau yr hoffwn i gyfeirio atyn nhw. Yn gyntaf, roedd yn braf iawn eich croesawu chi i Ysgol Gynradd Gymunedol Perthcelyn yn Aberpennar ychydig wythnosau yn ôl. Mae'r ysgol wedi derbyn ychydig dros £66,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru eleni ar gyfer amrywiaeth o welliannau allanol. Mae sicrhau datblygiad amgylcheddau dysgu cynaliadwy a chroesawgar i bawb yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru, felly sut ydych chi'n gweld hyn yn cyd-fynd â'r genhadaeth genedlaethol ac yn cael ei hymgorffori ynddi?

Roedd cyfle hefyd ym Mherthcelyn i weld rhywfaint o'r gwaith rhagorol y mae'r ysgol yn ei wneud o ran mynd i'r afael ag effaith amddifadedd, gyda'i hardal leol yn cael ei nodi fel un sy'n cael ei heffeithio gan amddifadedd dwfn, yn ôl mynegai amddifadedd lluosog Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu llawer o ymyriadau cadarnhaol i helpu gydag effaith tlodi, felly sut ydych chi'n sicrhau bod gwaith i hybu deilliannau cyfartal yn ganolog i'r genhadaeth?

Yn olaf, rwy'n nodi eich sylwadau am sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Gymraeg. I'r perwyl hwnnw, mae'n braf nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu £12 miliwn—[Anghlywadwy.]—estyniad—[Anghlywadwy.]—ar gyfer disgyblion a thyfu darpariaeth Gymraeg. Pa fesurau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i feithrin darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog?

Diolchaf i'r Aelod am ei chwestiynau. Ni wnes i glywed ei chwestiwn olaf yn ei gyfanrwydd, ond rwy'n credu fy mod ei wedi deall ei hanfod, felly byddaf yn gwneud fy ngorau i ymateb iddo. Diolch, yn gyntaf, am fy ngwahodd i fynd, gyda hi, i ysgol Perthcelyn. Roeddwn i'n credu ei fod yn ymweliad calonogol iawn, ac o gyfarfod y pennaeth a'r disgyblion a rhai o'r staff yno, gwelais ysgol a oedd wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob dysgwr unigol, a dyna rydym ni ei eisiau i'n holl blant yng Nghymru.

Mae hi'n iawn, wrth gwrs, i ddweud bod yr ysgol wedi elwa o fuddsoddiad cyfalaf yn yr hyn sydd eisoes yn ysgol sydd wedi'i dylunio'n hyfryd iawn, os caf i ddweud, a chyda phwyslais ar gynaliadwyedd. Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i’n gallu cyhoeddi pecyn o £60 miliwn—£50 miliwn i ysgolion, £10 miliwn i golegau—i wella cynaliadwyedd, effeithlonrwydd ynni a'u cyfraniad at yr uchelgeisiau sero-net sydd gennym ni. Maen nhw’n hanfodol i'n cenhadaeth genedlaethol.

Bydd yn gwybod y bydd pob buddsoddiad newydd mewn ysgolion sy'n cael ei ariannu drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy o 2022 ymlaen yn ysgol sero-net, sy'n bwysig iawn. Rwy'n gobeithio gallu dweud ychydig yn fwy yn ystod y dyddiau nesaf am ein her ysgolion cynaliadwy, sef y cyfle, bydd yn cofio, i awdurdodau wneud cais am gyllid i ysgolion gael eu dylunio a'u hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau naturiol, a'u dylunio—yn bwysig, o safbwynt ei chwestiwn—gyda dysgwyr yn ganolog, a bod swyddogaeth y dysgwyr o ran helpu i ddylunio'r ysgol yn gyfle cwricwlwm. Felly, ceir ffordd gyfannol y gall ymrwymiad i gynaliadwyedd fod yn ganolog i'n cwricwlwm, a bydd unrhyw un ohonom ni sy'n ymweld ag ysgolion yn ein hetholaethau yn gwybod pa mor angerddol yw pobl ifanc ynghylch materion yn ymwneud â chynaliadwyedd, mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, ac mae hynny yn amlygu ei hun mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Gofynnodd am yr ymrwymiad i ddeilliannau cyfartal, a hoffwn bwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n ymdrechu'n galetach, ar draws ein system addysg, i wneud yn siŵr bod taith pob dysgwr yn un o degwch yn ogystal â rhagoriaeth. Fe wnes i benodi yn ddiweddar, fel yr wyf i'n credu y bydd hi'n gwybod, grŵp o hyrwyddwyr cyrhaeddiad sydd wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i rannu arferion gorau ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd ynghylch strategaethau i fynd i'r afael yn effeithiol ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac rwy'n llawn cyffro am botensial hyn i'n helpu ni i ledaenu arferion gorau drwy ein system addysg gyfan. Nid oes pennaeth yng Nghymru nad yw wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob un dysgwr yn ei ofal, ond mae rhai yn cael hynny'n anoddach nag eraill am wahanol resymau, ac yn aml maen nhw'n resymau dealladwy iawn. Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n eu cynorthwyo nhw i gael y mynediad gorau at yr adnoddau a'r canllawiau sydd eu hangen arnyn nhw i ddarparu hynny i'w pobl ifanc.

Rwy’n meddwl bod ei chwestiwn olaf yn ymwneud â buddsoddi mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a bydd yn gwybod, yn rhan o'n cronfeydd cyfalaf, ein bod ni'n amlwg wedi buddsoddi yn sylweddol iawn yng ngwead ein hystâd cyfrwng Cymraeg, ond ceir cyfle, rwy’n meddwl, yn rhannol drwy'r Bil yr ydym ni'n gobeithio ei gyflwyno, gan gydweithio gyda Phlaid Cymru, i wneud yn siŵr bod profiad pob un person ifanc o addysg yng Nghymru, pa un a yw'n dewis ysgol Gymraeg, ysgol ddwyieithog, neu ysgol Saesneg, yn un y gallwn ni, dros amser, fod yn hyderus sy’n rhoi lefel o hyder i bob person ifanc o ran siarad Cymraeg, fel bod ein system, beth bynnag fo cyfrwng yr ysgol, yn unedig o ran y nod hwnnw o arfogi ein pobl ifanc â gallu yn un o'n hieithoedd cenedlaethol.

16:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y datganiad, Weinidog. Yn eich datganiad chi, rŷch chi wedi cyfeirio yn helaeth at rôl ganolog diwygiadau yn y sector ôl-16 i’r weledigaeth genedlaethol ar gyfer addysg, ac roeddem ni ym Mhlaid Cymru yn falch bod y camau i sefydlu’r comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil yn rhan o’n cytundeb cydweithio ni â’r Llywodraeth. Fe ofynnais ichi yr wythnos diwethaf i egluro'r oedi o ran penodi prif weithredwr i'r comisiwn newydd, gan fod cadeirydd a dirprwy gadeirydd wedi bod yn eu lle ers rhai misoedd nawr, ond ces i ddim ateb clir, ac roedd dyddiad cau ar gyfer y swydd honno nôl ym mis Tachwedd. Yn sgil pwysigrwydd mawr y rôl wrth siapio ffurf a gweledigaeth y comisiwn newydd, a fydd—yn eich geiriau chi—yn llywio yr ymagwedd system gyfan rŷch chi am ei gweld at addysg drydyddol, gan helpu i leihau’r anghydraddoldebau addysgol ac ehangu cyfleoedd a chodi safonau, wnewch chi gadarnhau pryd y  cawn ni gyhoeddiad am benodiad y prif weithredwr newydd, neu egluro pam nad yw hynny wedi bod yn bosibl eto?

Rwy'n cytuno â'r Aelod ar rôl bwysig y comisiwn, ac am y weledigaeth sydd gennym ni ar y cyd am gyfraniad y comisiwn i ddiwygio addysg ôl-16 ym mhob rhan o Gymru, ac fe wnaf i ei chyfeirio hi at yr ateb wnes i ei roi wythnos diwethaf ynglŷn â'r cwestiwn penodol mae hi wedi gofyn.

6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau

Eitem 6 yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddiogelwch adeiladau. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad hwn. Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i rannu diweddariad arwyddocaol ar gynnydd y gyfres o gamau yr ydym ni’n eu cymryd yn rhan o raglen diogelwch adeiladau Cymru. Ceir chwe ffrwd i'm diweddariad heddiw, yn amrywio o'n gwaith o wneud datblygwyr yn gyfrifol am unioni'r problemau gydag adeiladau y maen nhw wedi eu hadeiladu, i fwrw ymlaen â gwaith i adfer adeiladau amddifad ein hunain fel Llywodraeth, lle na ellir gwneud unrhyw ddatblygwr yn gyfrifol. Ynghyd â Phlaid Cymru, rwy'n ymroddedig i fynd i'r afael â diogelwch adeiladau yng Nghymru. Bydd ein rhaglen uchelgeisiol yn sicrhau y gall trigolion deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi.

Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi dadlau erioed y dylai'r diwydiant gyflawni eu cyfrifoldebau o ran materion yn ymwneud â diogelwch tân. Dylai datblygwyr unioni diffygion diogelwch tân ar eu traul eu hunain, neu beryglu eu henw da proffesiynol a'u gallu i weithredu yng Nghymru yn y dyfodol. Y cyntaf o'r ffrydiau hyn yw'r ymrwymiad datblygwyr sy'n rhwymo mewn cyfraith. Ym mis Hydref, cyhoeddais fod 11 o ddatblygwyr wedi llofnodi'r ymrwymiad datblygwyr. Mae'r ymrwymiad yn ymrwymiad cyhoeddus i'w bwriad i fynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau y maen nhw wedi eu datblygu dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae ein hymrwymiad wedi'i seilio ar ddogfennau sy'n rhwymo mewn cyfraith ac yn nodi ein disgwyliadau yn fanwl. Heddiw, rwy'n falch o gadarnhau bod y datblygwyr canlynol wedi llofnodi'r ddogfen hon yng Nghymru: Redrow, Lovell, Vistry, Countryside Partnerships, Persimmon, a McCarthy Stone. Rwy'n falch hefyd bod Taylor Wimpey, Crest Nicholson a Barratt Homes hefyd wedi cadarnhau eu bwriad i lofnodi. Rwyf i wedi ei gwneud yn eglur y byddaf yn manteisio ar bob cyfle, gan gynnwys deddfwriaeth ac ystyried gwaharddiadau ar ddatblygu, i sicrhau bod datblygwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau. Mae hyn yn parhau i fod yn wir.

Dirprwy Lywydd, rwyf i hefyd yn benderfynol o fanteisio ar bob cyfle y gallaf i amddiffyn lesddeiliaid. Dyna pam yr wyf i wedi darparu cyllid uniongyrchol i arolygon gael eu cynnal, gan ddefnyddio ymgynghorydd wedi’i gaffael gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu bod gennym ni adrodd annibynnol a chyson, sy'n nodi pwy sy'n gyfrifol am unrhyw faterion diogelwch tân. Dyna pam nad ydym ni eisiau cyfyngu atebolrwydd lesddeiliaid. Nid ydym ni eisiau i lesddeiliaid orfod talu o gwbl am rywbeth nad yw’n fai arnyn nhw. Fy mwriad, lle mae anghydfod gwirioneddol yn codi, yw y bydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd, yn hytrach na bod lesddeiliaid yn gorfod ysgwyddo'r costau hyn. Yn ein barn ni, dyna'r ffordd deg, dyna’r ffordd yng Nghymru. Dull Llywodraeth Cymru o weithredu yw y byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo lesddeiliaid.

Hefyd, yma yng Nghymru, nid yw'n cronfa ni wedi'i chyfyngu i adeiladau sydd â chladin anniogel. Amlygodd trychineb tân Grenfell fater ehangach diogelwch tân mewn adeiladau uchel yn fwy cyffredinol. Gwnaethon ni wahodd datganiadau o ddiddordeb gan bob person cyfrifol ar gyfer pob adeilad preswyl o 11m neu fwy o uchder. Fodd bynnag, ar fater cladin, mae pob adeilad uchel gyda deunydd cyfansawdd alwminiwm hysbys—neu gladin ACM, fel y mae’n cael ei alw—mae materion yng Nghymru naill ai wedi'u cywiro neu yn y broses o gael eu cywiro. Mae gennym ni raglen dreigl o arolygon. Hyd yn hyn, mae 137 wedi'u cwblhau ac mae 61 ar y gweill gyda'n contractwyr. Rwy'n parhau i annog personau cyfrifol i gyflwyno datganiad o ddiddordeb os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny. Dyma'r man cychwyn ar gyfer cael y cyfle i fanteisio ar gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Dirprwy Lywydd, yr ail linyn yw benthyciadau datblygwyr. Rydw i eisiau sicrhau bod unrhyw resymau dros oedi yn cael eu lleihau a bod datblygwyr yn gallu gwneud gwaith mor gyflym â phosib. Felly, heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynllun benthyciadau datblygwyr gwerth £20 miliwn. Bydd y cynllun yn rhoi benthyciadau dros gyfnod o hyd at bum mlynedd i ddatblygwyr. Nod y benthyciad hwn yw: lleihau nifer yr adeiladau preswyl canolig ac uchel sydd wedi'u amharu gan faterion diogelwch tân; i roi sicrwydd i lesddalwyr y bydd gwaith yn cael ei wneud mor gyflym â phosibl; i alluogi gostyngiadau mewn taliadau gwasanaeth a chostau yswiriant; ac i gael gwared ar rwystrau fel bod lesddalwyr yn gallu manteisio ar gynhyrchion ariannol fel morgeisi.

Mae'r cynllun benthyciadau datblygwyr yn hollbwysig wrth fwrw ymlaen â'n gwaith yng Nghymru yn gyflym. Bydd y benthyciadau ar gael i ddatblygwyr sydd wedi ymrwymo i'n dogfennau sy'n gyfreithiol rwymol, gan eu caniatáu i gyflymu'u gwaith i fynd i'r afael â diogelwch tân, fel y gallwn roi diwedd ar ddioddefaint lesddalwyr yng Nghymru. Gadewch i mi fod yn glir, Dirprwy Lywydd, mai benthyciad nid grant yw hwn a bydd disgwyl i ddatblygwyr sy'n dymuno manteisio ar y cynnig hwn ad-dalu, yn ddigon teg, bob ceiniog o'r arian i'r pwrs cyhoeddus o fewn pum mlynedd.

Dirprwy Lywydd, y trydydd llinyn yw adeiladau amddifad. Mae cwestiwn yr adeiladau amddifad hynny lle nad yw'r datblygwr yn hysbys neu nad yw'n masnachu mwyach yn parhau. Yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Ionawr, cyhoeddais fy mod i wedi cytuno i garfan gychwynnol o chwe adeilad o'r fath gael eu hadfer. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fy mod i wedi ymestyn y garfan gychwynnol hon o adeiladau. Byddwn ni nawr yn bwrw ymlaen â 28 o adeiladau, sy'n cynrychioli'r holl geisiadau cymwys ar gyfer ein cam cyntaf ar y gwaith. Ar gyfer pob un o'r 28 adeilad, mae'r datblygwr naill ai wedi rhoi'r gorau i fasnachu, yn anhysbys, neu cafodd yr adeilad ei ddatblygu dros 30 mlynedd yn ôl. Rydyn ni'n cysylltu â pherchnogion cyfrifol yr adeiladau i fynd drwy'r camau nesaf a threfniadau ar gyfer paratoi cynlluniau gwaith ac i'r gwaith gael ei wneud. Bydd hyn yn rhan o ail gam cronfa diogelwch adeiladau Cymru—£375 miliwn o arian Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar waith fel rhan o'r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a fydd yn cael ei ddefnyddio i ymdrin â materion diogelwch tân, gan gynnwys adfer yr adeiladau amddifad.

Y pedwerydd llinyn yw cynnydd yn y sector cymdeithasol. Ochr yn ochr â'r gefnogaeth yr wyf i wedi'i amlinellu sy'n cael ei ddarparu i'r sector preifat, mae gwaith sylweddol hefyd wedi'i wneud i adfer adeiladau preswyl canolig ac uchel yn y sector cymdeithasol. Hyd yma, mae'r gwaith wedi'i gwblhau ar 26 o adeiladau'r sector cymdeithasol ac mae ar y gweill ar 41 adeilad arall. Heddiw, rydw i hefyd yn cyhoeddi bod £40 miliwn wedi'i ddarparu i ymgymryd â gwaith diogelwch tân ar 38 adeilad arall yn y sector cymdeithasol.

Y pumed llinyn yw cynlluniau cefnogi lesddalwyr. Rwy'n falch o ddweud bod ein cynllun cefnogi lesddalwyr wedi'i gynllunio i helpu pobl yng Nghymru sydd yn dioddef caledi ariannol sylweddol, neu'n ei wynebu o ganlyniad uniongyrchol i'r materion diogelwch adeiladau hyn. Ym mis Ionawr, cyhoeddais fod adolygiad o'r meini prawf wedi ei gwblhau. O ganlyniad i hyn, mae ein staff trin achosion wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ymholiadau am y cynllun. Mae'n bleser gennyf ddweud wrthych chi fod yr eiddo cyntaf nawr yn bwrw ymlaen â'u gwerthiant ac, ar ôl ei gwblhau, bydd hyn yn caniatáu i'r lesddalwyr hynny symud ymlaen i gartrefi newydd. Rwy'n parhau i annog unrhyw lesddalwyr mewn trafferthion ariannol i gwblhau ein gwiriwr cymhwysedd, i weld a oes modd iddyn nhw gael cymorth drwy'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Y chweched llinyn yw benthycwyr. Rwy'n falch hefyd o gadarnhau bod Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig wedi cytuno i ymestyn eu canllawiau i werthwyr i gynnwys Cymru a Lloegr. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda nhw wrth ychwanegu'r wybodaeth ddiweddaraf at y canllawiau hyn gael eu diweddaru. Bydd y canllawiau hyn yn cynnig cysondeb yn y dull prisio ar gyfer eiddo yng Nghymru sydd wedi'u cynnwys yn y gwaith sy'n cael ei arwain gan ddatblygwyr, yr adeiladau hynny yn ein carfan adeiladau amddifad gychwynnol ni, neu lle'r ydym ni wedi gallu cadarnhau bod adeiladau naill ai'n is na 11m o ran uchder neu'n cael eu hystyried yn risg isel. Bydd hyn yn helpu i gefnogi cael gwared ar rwystrau a chaniatáu i lesddalwyr fanteisio ar morgeisi a chynhyrchion ariannol eraill. Rwy'n parhau i weithio gyda UK Finance i sicrhau bod benthycwyr yn cydnabod y sefyllfa yng Nghymru, fel y gall benthycwyr ddarparu morgeisi i'r rhai sy'n byw mewn adeiladau sydd wedi'u heffeithio arnyn nhw gan faterion diogelwch tân.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gael yn rheolaidd ar raglen diogelwch adeiladau Llywodraeth Cymru drwy ein cylchlythyr. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth am y cynnydd ac yn tynnu sylw at unrhyw gyhoeddiadau ffurfiol sydd wedi cael eu gwneud yn y Senedd am y pwnc hwn. Dirprwy Lywydd, rwy'n hapus iawn i roi manylion ynghylch sut i danysgrifio i'r cylchlythyr hwn os oes gan Aelodau neu eu hetholwyr ddiddordeb.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymdrin â diogelwch adeiladau yng Nghymru a byddwn ni'n parhau i fwrw ymlaen â'n rhaglen diogelwch adeiladau. Edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer cyflawni. Diolch.

16:10

Gweinidog, a gaf i ddiolch eto am gyflwyno'r datganiad hwn, yn arbennig y ffaith ei fod wedi cael ei gyflwyno yn gynt o lawer nag y cafodd ei nodi? Roedden ni'n disgwyl datganiad—nid o'r fath hon, byddwn i'n ei ddweud—ond roedden ni'n disgwyl clywed rhywbeth gennych chi rhwng y Pasg a'r haf, felly bydd y ffaith eich bod chi wedi gallu ei gyflwyno  heddiw, rwy'n credu, yn rhoi llawer o sicrwydd i lawer o denantiaid a lesddalwyr.

O ran cytundeb y datblygwyr sy'n gyfreithiol rwymol, mae'n dda mewn gwirionedd clywed bod 11 o ddatblygwyr wedi cofrestru. Rydych chi'n dweud eich bod chi'n falch bod Persimmon, Taylor Wimpey, Crest Nicholson a Barratt hefyd wedi cadarnhau'u bwriad i lofnodi. Rwy'n credu'n gryf bod 'bwriad i lofnodi' yn ddiwerth, felly rwy'n tybio mai'r hyn yr wyf i'n ei ofyn heddiw mewn gwirionedd yw: pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau eu bod nhw'n cofrestru, ac yn gyflym?

Fe wnaethoch chi sôn eich bod chi eisiau manteisio ar bob cyfle i ddiogelu lesddalwyr. Byddwch chi'n ymwybodol bod eich ymateb i gwestiynau fy llefarydd yr wythnos diwethaf wir wedi—. Nid ydw i'n hoffi defnyddio'r gair 'tanio', ond y mae wedi, ac wedi gwaethygu sefyllfa lle'r oedd lesddalwyr preifat yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl gyda miliynau sydd wedi'u gwario yn y sector rhentu cymdeithasol ar adfer. Roedd hon yn neges dorcalonnus ar Twitter y diwrnod o'r blaen, ac rwy'n gwybod eich bod chi'n dilyn Twitter:

'Annwyl @JulieJamesMS fy fflat i yw fy nghartref i hefyd. Y man lle'r ydw i fod i orffwys a theimlo'n ddiogel. NID yw'n "fuddsoddiad" i mi. Gwnes i a fy mhartner weithio 4 swydd rhyngom ni i'w fforddio! #EndOurCladdingScandal'.

Rydyn ni wedi cael negeseuon eraill tebyg yn dod i mewn, yn dweud, 'Mae'n rhaid i chi fod yn fwy o ran cydraddoldeb,' 'Dylech chi wir fod yn trin popeth yn gyfartal.' Yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi'r pwynt mai'r rheswm am hynny oedd oherwydd ei fod yn fuddsoddiad rhywun nad oedd o reidrwydd yr un fath â bod yn y sector rhentu cymdeithasol. Tŷ nad yw'n ddiogel i fyw ynddo—i mi, nid oes gwahaniaeth a yw'n cael ei rentu, yn gymdeithasol, neu a yw'r perchennog yn berchen arno, lesddaliwr preifat.

Mae'r adeiladau amddifad wedi bod yn fy mhoeni i, lle nad yw'r datblygwr yn hysbys neu wedi rhoi'r gorau i fasnachu. Lle'r oeddech chi wedi cytuno i garfan gychwynnol o chwe adeilad, mae hynny wedi cynyddu nawr i 28 o adeiladau, a sonioch chi fod perchnogion cyfrifol yr adeiladau yn cael eu cysylltu â nhw i fynd drwy'r cam nesaf. Cronfa diogelwch adeiladau Cymru: £375 miliwn o arian Llywodraeth Cymru. Rwy'n dal i geisio canfod faint o'r arian yna yr ydych chi wedi'i wario'n barod a'r hyn sydd ar ôl i'w wario.

Rydych chi'n symud ymlaen i gynnydd yn y sector cymdeithasol, ac nid dyna lle mae fy mhryderon i.

Rydych chi'n sôn bod yr eiddo cyntaf nawr yn bwrw ymlaen â'r broses o werthu, ac ar ôl ei gwblhau bydd hyn yn caniatáu i'r lesddalwyr hynny symud ymlaen i gartrefi newydd. Rwy'n siŵr y daw hynny fel sicrwydd enfawr iawn iddyn nhw. Fodd bynnag, fy nghwestiwn i eto yw: pryd fyddwn ni'n gwybod y niferoedd sydd eisoes wedi dangos diddordeb? Nid oedd y rhai yn y cyfarfod y cynhaliais i i'w gweld yn rhy ymwybodol o sut maen nhw'n gwneud hyn. Felly, allwch chi, yn ogystal â rhoi, 'Ewch i wefan Llywodraeth Cymru'—? Efallai y gallech chi wneud datganiad neu—rwy'n gwybod bod cyllideb fawr nawr yma yn Llywodraeth Cymru hon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol—defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol fel cyfrwng i gyfleu'r neges honno y gall pobl ddod atoch chi.

Rwy'n falch eich bod yn gweithio gyda UK Finance. Roedd yn rhaid i mi newid yr hyn yr oeddwn i'n disgwyl ei gyflwyno i chi heddiw. Ond rwy'n credu ei fod yn ddatganiad mwy rhagweithiol na'r hyn yr ydyn ni wedi'i glywed amdano'n ddiweddar. Nid ydw i eisiau ailadrodd, ond mae angen i mi wybod faint yr ydych chi wedi bod yn ei wario.

Nawr, rydych chi'n gwrthod atgynhyrchu adrannau 116 i 125, ac mae'n ddrwg gennyf i barhau i lafurio'r pwynt hwn, ond mae'n ffaith nad yw'r bobl sydd wedi'u dal yn hyn wir yn deall deddfwriaeth fel yr ydyn ni'n ei gwneud—y rhai sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru neu'r rhai yn y Senedd sy'n eich dwyn i gyfrif. Rydw i ond yn myfyrio ar pam na fyddwch chi'n caniatáu i lesddalwyr preifat Cymru gael yr un dulliau cyfreithiol â'r rheiny dros y ffin. Gallech chi gyflwyno deddfwriaeth yma sy'n atgynhyrchu adrannau 116 i 125 i raddau lle y gall barhau i gael hunaniaeth Gymreig. Gweinidog, a wnewch chi ystyried edrych ar adrannau 116 i 125 eto? Sut rydych chi'n ei wneud, nid wyf i'n credu bod gan bobl ddiddordeb yn hynny, ond os gallwch chi wir roi'r un amddiffyniadau hynny i'r bobl sy'n byw yma yng Nghymru, rwy'n credu y byddwch chi'n gwneud llawer iawn o bobl yn hapus iawn ac nid yn ofni byw yn eu cartrefi, fel y maen nhw heddiw. Diolch.

16:15

Diolch, Janet. Mae'r rhan 'bwriad i lofnodi' ond yn ymwneud â'r cwmnïau dan sylw yn cael y caniatâd i gynnal byrddau cwmnïau. Mae gennym ni lythyrau yn dweud eu bod nhw'n bwriadu llofnodi. Mewn gwirionedd nid yw'n ddiwerth, ac rwy'n disgwyl iddyn nhw lofnodi'n ffurfiol yn fuan iawn. Ond mae'n rhaid iddyn nhw fynd drwy broses bwrdd er mwyn gwneud hynny. Felly, dyna'n union beth ydyw. Ond maen nhw wedi cofrestru ac fe fyddan nhw'n gwneud y gwaith. Felly, nid ydw i'n meddwl y dylai pobl boeni am y darn yna ohono.

O ran lesddalwyr y sector preifat, nid wyf i wir yn gwybod sut mae esbonio hyn i chi. Rydych chi newydd ddweud nad gyda'r sector cymdeithasol y mae eich pryderon. Rwy'n siŵr nad dyna oeddech chi'n ei olygu. Mae yna wir wahaniaeth o ran gallu adnabod perchennog a pherson cyfrifol adeilad yn y sector cymdeithasol o'i gymharu â'r sector preifat. Mae  gwahaniaeth gwirioneddol. Mae'r gwahaniaeth yn syml iawn i'w ddeall. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi'u cofnodi, mae'n hawdd cysylltu â nhw, rydyn ni'n eu hariannu, ac mae mecanwaith yn ei le. Mae'n hawdd. Yn y sector preifat, mae'n gymhleth iawn yn wir. Rwy'n deall yn iawn y gallai pobl fod yn gweithio pedair swydd i gadw eu cartref, ac mae gennyf i bob cydymdeimlad â hynny. Nid ydw i eisiau iddyn nhw golli eu hecwiti. Ond yr ecwiti yr ydyn ni'n ei drafod, oherwydd gallen ni rhoi treth tir ar y cyfan a defnyddio hynny fel yr arian. Nid ydw i eisiau gwneud hynny. Rwy'n ceisio amddiffyn buddsoddiad caled lesddalwyr y sector preifat. Ond mae'r syniad nad oes cymhlethdod, achos mae'n siwtio pobl i ddweud hynny, ond yn nonsens. Mae pob adeilad yn wahanol. Mae pob person cyfrifol yn wahanol. Mae pob asiant rheoli yn wahanol. Mae'r prydlesi'n wahanol. Mae'r rhwymedigaethau atgyweirio yn wahanol. Mae pob adeilad yn wahanol. Nid oes modd osgoi hynny, a dyna'r gwahaniaeth. [Torri ar draws.] Dyna'r gwahaniaeth. 

Fe wnaethoch chi ofyn i mi'n benodol eto am adrannau 116 i 125. Mae adrannau 116 i 125 wedi'u hysgrifennu'n benodol ar gyfer y drefn diogelwch adeiladau yn Lloegr, nid yw'r un fath ag yma. Felly, ni allwch chi ond eu codi nhw a'u rhoi nhw i lawr yma, hyd yn oed os oeddech chi eisiau gwneud hynny. Ond dim ond i fod yn glir, nid ydw i eisiau gwneud hynny. Mae'r adrannau hynny'n cyfyngu ar faint o arian y mae'r lesddalwyr yn agored i'w dalu. Mae hynny'n golygu eu bod nhw'n agored i dalu rhywfaint o arian. Nid ydw i erioed wedi bod eisiau i'r lesddalwyr fod yn agored i dalu unrhyw beth o gwbl. Rydyn ni bob tro wedi cymryd y safiad yma na ddylai trigolion mewn adeiladau canolig ac uchel orfod talu am y gwaith hyn. Rydyn ni'n ei wneud yn wahanol yma. Nid oes angen i mi roi hawl i'r trigolion hynny erlyn rhywun a mynd yn sownd yn y llysoedd. Dangosodd eich tystiolaeth eich hun eu bod yn gwario miliynau ar ymgyfreitha. Nid ydw i eisiau i bobl fod yn y sefyllfa honno. Rydyn ni'n dirprwyo Llywodraeth Cymru i'r sefyllfa honno, felly os nad yw'r datblygwr yn gwneud yr hyn maen nhw i fod i'w wneud, ni fydd y bobl sy'n cymryd y risg gyfreithiol. Rwy'n credu bod hynny'n well. Nid wyf i'n gwneud unrhyw esgus o gwbl am hynny. Nid oes gennyf i unrhyw fwriad o gyflwyno'r adrannau yma a fyddai'n rhoi llai o hawliau i lesddalwyr nag yr ydyn ni'n bwriadu eu rhoi. Llywodraeth Cymru fydd yn cymryd y risg, nid y lesddalwyr. Nid ydw i'n gwybod sut i wneud hynny'n gliriach i chi.

O ran yr adeiladau amddifad, bydd yr holl adeiladau yr ydyn ni wedi'u nodi fel adeiladau amddifad sydd wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb nawr yn cael eu hadfer, oherwydd bod gennym ni fecanwaith i wneud hynny. Byddwn ni'n ysgrifennu atyn nhw i gyd yn fuan iawn a byddan nhw'n dechrau'r gwaith hynny cyn gynted â phosibl, yn sicr cyn yr haf hwn. Felly, byddan nhw i gyd yn dechrau ar y gwaith adfer, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd sawl un o'r adeiladau eraill. Rwy'n ymwybodol bod sawl adeilad nawr yn cael eu hadfer. Mae adeiladau yn fy ardal i fy hun sydd nawr yn cael eu hadfer ac rwyf mewn cysylltiad â'u lesddalwyr. Felly, yn fuan iawn, bydd pobl wedi symud o'r sefyllfa hon. Ond, lle maen nhw'n cael eu hunain mewn trafferthion, yna mae cynllun lle y byddwn ni'n prynu'r eiddo, ac rydyn ni nawr yn prynu eiddo pobl. Mae angen i chi roi cyhoeddusrwydd i hynny. Byddwn ni'n sicr yn ei roi ar y cyfryngau cymdeithasol unwaith eto. A dweud y gwir, nid yw llawer o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar y gwefannau ac rydyn ni'n ysgrifennu drwy Rhentu Doeth Cymru i dynnu sylw pobl ato ac ati. Os allwch chi fy helpu i gael hynny at bobl, yna mae croeso i chi wneud hynny. Dywedwch wrthyn nhw am wneud cais os ydyn nhw o dan yr amgylchiadau hynny oherwydd rydyn ni'n hapus iawn i'w helpu nhw.

Rwy'n hapus iawn gyda'r hyn yr ydyn ni wedi gallu'i wneud yma yng Nghymru. Mae hi wedi cymryd llawer yn rhy hir, rwy'n cytuno'n llwyr, ond mae hynny oherwydd, os yw pobl yn ei hoffi ai peidio, bod hyn wedi bod yn hunllef llwyr o gymhlethdod. Rwy'n credu ein bod ni wedi cyrraedd rhywle o'r diwedd. Yr unig bobl na fydd nawr yn y system yw'r bobl nad ydyn nhw wedi datgan ddiddordeb. Felly, gwnewch yn siŵr bod unrhyw un yr ydych chi'n siarad â nhw wedi gwirio bod eu hadeilad wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb. Mae hynny'n gwbl hanfodol; nid oes llwybr i daliad heb gyflwyno datganiad o ddiddordeb. Wedyn byddan nhw'n mynd drwy'r system. Os ydyn nhw'n adeilad amddifad, byddan nhw'n cael eu cynnwys, ac os nad ydyn nhw yna fe fyddwn ni'n cysylltu â'r bobl gyfrifol a chael yr arolygon wedi'u gwneud ac ati. Rydyn ni'n ad-dalu pobl am gost arolygon a gafodd eu cynnal cyn i ni ddod i mewn, ar yr amod eu bod yn cwrdd â'n gofynion, sef y gallwn ni ddibynnu ar yr arolwg, ei fod wedi'i dendro'n gywir ac ati, yr holl bethau y byddech chi'n eu disgwyl. Rwy'n edrych eto i weld a allwn ni ad-dalu pobl am gostau eraill maen nhw wedi'u hysgwyddo. Nid ydw i'n gallu dweud hynny eto oherwydd mae'n dibynnu ar sut yr aed i'r costau hynny ac ati.

Felly, mewn gwirionedd, Janet, rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud gwaith eithaf da. Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â'r bobl sydd wedi byw drwy hyn ers blynyddoedd a blynyddoedd a blynyddoedd, ond nawr mae gennym ni system lle y dylen nhw allu gwerthu eu tŷ, oherwydd gall pobl gael morgais arno, neu gallan nhw ei werthu i ni os ydyn nhw mewn caledi ariannol, neu'n wir maen nhw oedi ac aros a byddwn ni'n adfer yr adeiladau yn fuan iawn. Dyna lle'r ydyn ni, ac rwy'n falch iawn o ddweud. 

16:20

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yma heddiw. Mae'n ddatganiad pwysig yr ydym ni ar y meinciau yma yn croesawu, a fydd yn golygu ein bod yn gweld cam sylweddol yn cael ei gymryd ymlaen er mwyn mynd i'r afael â'r broblem ddifrifol yma. Mae'n dda gweld ffrwyth llafur y cytundeb yma rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ar waith, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl bob dydd.

Am yn llawer rhy hir rydym wedi gweld diwylliant o dorri corneli gan ddatblygwyr mawr, a hynny ar draul diogelwch y cyhoedd. Daeth hyn i'r amlwg yn y dystiolaeth ddiweddar bu'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ei gymryd, sydd yn edrych i mewn i ddiogelwch adeiladau, gyda thrigolion adeiladau yma yng Nghaerdydd ac yn Abertawe yn dangos yn glir fethiannau elfennol yn rhai o’r adeiladau yno, megis adeiladau Celestia ac Altamar. Ond ar ben y gwaith adeiladu diog a gwael yma, mae cysgod Grenfell wedi tywyllu bywydau pob un o’r trigolion yma ymhellach. Mae angen dangos na all cwmnïau mawr gael rhwydd hynt i weithredu fel a fynnon nhw er mwyn elw personol, ac mae’n rhaid newid diwylliant er mwyn diogelu pobl heddiw ac yfory.

Rydym yn gwybod fod yna 171 adeilad efo problemau diogelwch, yn cynnwys 28 adeilad amddifad yr ydych wedi cyhoeddi heddiw y byddwch yn edrych i’w cael wedi eu hatgyweirio. Tybed a all y Gweinidog felly roi syniad i ni o ganran yr adeiladau sydd y tu allan i sgôp y datganiad heddiw a chadarnhau pa waith sydd yn mynd yn ei flaen a’r camau nesaf ar gyfer preswylwyr yr adeiladau hynny, os gwelwch yn dda. Tra bod y datganiad yma i’w groesawu'n gynnes, y gwir ydy, tan i’r gwaith atgyweirio gael ei wneud er mwyn gwneud yr adeiladau yma yn ddiogel, bydd y preswylwyr yn parhau i fyw mewn gofid, ac mae'r cyhoeddiad am fenthyciad felly i'w groesawu. Hoffwn ofyn i’r Gweinidog, felly, pryd medrwn ni ddisgwyl cyrraedd pwynt ble y bydd pob adeilad yn ddiogel i’r preswylwyr heb iddyn nhw neu berchnogion orfod talu am y gwaith. Beth ydy'r amserlen?

Fel y soniais ynghynt, mae’r sefyllfa bresennol wedi galluogi datblygwyr i dorri corneli, gan arwain at oblygiadau difrifol i iechyd a diogelwch pobl. Mae’n gywilyddus fod rhai datblygwyr yn parhau i wrthod cymryd rhan yn wirfoddol gyda’r Llywodraeth ar y gwaith pwysig yma. Rhag eu cywilydd nhw. Dwi'n cefnogi’r Gweinidog wrth iddi ddweud y bydd yn edrych i fewn i bob opsiwn, yn cynnwys addasu deddfwriaeth ac atal datblygiadau, er mwyn sicrhau bod y datblygwyr yma yn byw i fyny i’w cyfrifoldebau. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi rhagor o fanylion ar yr opsiynau yma, os gwelwch yn dda, a chadarnhau os ydy hi’n edrych ar atal datblygiadau os ydy datblygwr anghyfrifol yn gwrthod cydweithio efo’r Llywodraeth? A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o ddatblygwyr sydd heb gymryd rhan hyd yma neu sydd heb fynegi parodrwydd i drafod efo’r Llywodraeth?

Mae’r drafodaeth gyhoeddus ar y sgandal yma wedi troi o amgylch pwy sydd yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio. Felly, fel cwestiwn terfynol, hoffwn ofyn i’r Gweinidog pa fecanwaith sydd mewn lle i ddatrys unrhyw anghydfod gyda datblygwyr ar faterion penodol mewn adeiladau penodol. Pwy fydd yn rheoleiddio'r broses anghydfod? Beth ydy’r mecanwaith ar gyfer datrys yr anghydfod? Ac o ran y dogfennau cyfreithiol a fydd yn cael eu rhoi fel rhan o’r broses yma, pa rym cyfreithiol go iawn fydd ganddyn nhw yng nghanol yr anghydfod? Diolch yn fawr iawn. 

16:25

Diolch yn fawr am y gyfres honno o gwestiynau. O ran adeiladau eraill, ydych chi'n golygu adeiladau dan 11m? Ai dyna oeddech chi'n ei olygu? Ydych. Nid ydyn ni'n gwneud dim am hynny ar hyn o bryd, oherwydd mae angen i ni sicrhau bod y rhai yn yr adeiladau risg uwch, sef y rhai a fyddai'n cael y drafferth fwyaf i ddianc, er enghraifft, yn cael eu hadfer yn gyntaf. Ar ôl i ni wneud hynny, byddwn ni'n troi'n sylw at yr adeiladau eraill. Ond fe ddywedaf i, wrth i ni fynd trwy'r broses hon gyda'r datblygwyr, ein bod ni wedi annog y datblygwyr a chael adborth da gan y datblygwyr y byddan nhw'n adfer eu holl adeiladau, nid dim ond y rhai sydd dros yr uchder. Ni allaf ddweud ei fod yn berthnasol i dai, rhaid i mi ddweud, ond adeiladau mewn amlfeddiannaeth, felly blociau o fath— yr ydyn ni wedi cael y drafodaeth honno amdanyn nhw. Ond byddwn ni'n troi'n sylw at hynny nesaf. Fesul darnau bach yr ydyn ni wedi gweithredu. Ac mae wedi bod yn seiliedig ar ddadansoddiad risg; mae'n rhaid i ni ddechrau yn rhywle.

Mae'r holl ddatblygwyr yr ydyn ni'n ymwybodol ohonyn nhw sydd â datblygiadau yng Nghymru nawr wedi cofrestru, neu wedi nodi eu bwriad i gofrestru ac yn mynd trwy eu prosesau mewnol er mwyn gwneud hynny. Rydyn ni wedi, o bryd i'w gilydd,—mae un ar hyn o bryd; ni wnaf i ei enwi—wedi dod ar draws rhai oedd yn meddwl nad oedd ganddyn nhw unrhyw adeiladau yng Nghymru, ac, mewn gwirionedd, rydyn ni'n meddwl ein bod ni nawr wedi dod o hyd i un a ddylai fod ganddyn nhw. Ond rwy'n eithaf siŵr y byddan nhw'n cofrestru, os ydyn nhw'n gallu sefydlu mai nhw sy'n gyfrifol am yr adeilad ac nad yw'n adeilad amddifad. Y naill ffordd neu'r llall, bydd y bobl yn yr adeilad yn cael y gwaith adfer y mae ei eisiau arnyn nhw. Nid oes gennyf i neb yn gwrthod cofrestru, felly mae hynny'n dda. Mae hynny'n dda iawn.

Y broblem fawr i ni nawr fydd faint o gadwyn gyflenwi a maint y gweithlu sy'n angenrheidiol i gael hyn i ddigwydd, a dyna pam yr ydyn ni'n awyddus iawn i weithio gyda nhw o ran llif arian. Dyna'r benthyciadau datblygwr yr ydw i newydd eu cyflwyno. Nid ydw i eisiau iddyn nhw beidio gallu'i wneud achos mae 'na fater llif arian. A hefyd o ran materion yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi a materion yn ymwneud â'r gweithlu, nid ydyn ni eisiau iddyn nhw i gyd gystadlu â'i gilydd a gyrru'r prisiau i fyny ac ati. Felly, rwy'n credu mewn gwirionedd bod gan y Llywodraeth rhan eithaf allweddol wrth sicrhau bod cyflenwad da o adeiladau'n dod ymlaen. Rydyn ni'n gwybod pa rai sydd angen beth wedi'i wneud iddyn nhw nawr. Mae'r dogfennau cyfreithiol yn sail i hynny. Nid ydw i'n mynd i fynd trwy'r holl ddarnau amrywiol o'r ddogfennau cyfreithiol, ond mae'n gadarn, mae yna fecanwaith anghydfod, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, ac fe fyddan nhw dod i'r llysoedd yn y pen draw, os nad ydyn nhw'n gwneud fel yr ydyn ni'n gofyn. Rydyn ni wedi gwneud hynny'n hynod o glir ac yn blaen.

Mae hi er budd y bobl yma nawr, on'd yw hi, i wneud y gwaith hwn, oherwydd gadewch i ni fod yn onest, mae eu henw da yn cael ei chwalu. A dweud y gwir, maen nhw'n eithaf pryderus i gael eu henw da yn ôl ac i bobl beidio dweud, 'Diwedd annwyl, dydw i ddim yn prynu hwnna' oherwydd cafodd ei adeiladu gan bwy bynnag. Nid ydy hynny'n lle da iddyn nhw fod. Maen nhw i gyd wedi cofrestru ar gyfer codau ymarfer amrywiol, maen nhw wedi ymrwymo i'r ombwdsmon cartrefi newydd. Maen nhw'n awyddus i gael eu hunain yn ôl i droed busnes da, ac yn briodol felly—dylen nhw fod â chywilydd o ran sut y gwnaethon nhw gael eu hunain i'r sefyllfa hon. Nid wyf i'n rhagweld unrhyw anhawster gwirioneddol heblaw'r gadwyn gyflenwi a materion crefftwyr medrus addas. Gwnawn ni weithio gyda'r datblygwyr i sicrhau bod gennym ni'r gadwyn gyflenwi honno ar y gweill a bod gennym ni linell o weithgaredd sy'n caniatáu i bobl fanteisio ar hynny yn y ffordd gywir, a bod y rheiny'n gwmnïau sydd â'r gweithlu medrus sydd eu hangen i unioni camweddau'r gorffennol, fel y gallwn ni fod yn sicr eu bod nawr wedi gwneud y gwaith adfer yn y ffordd gywir.

Rwy'n eithaf balch o'r hyn sydd gennym ni yn y diwedd. Mae'n wir ddrwg iawn gennyf i ei fod wedi cymryd cyhyd. Mewn gwirionedd, rydyn ni wedi bod yn gweithio arno'n barhaus ers blynyddoedd nawr—wel, ers digwyddiadau echrydus Grenfell. Y darn nesaf, na wnaethoch chi ofyn i mi amdano, ond y gwnaf i sôn amdano beth bynnag, Dirprwy Lywydd, gan brofi eich amynedd, yw bod angen i ni, yn amlwg, fod â'r Ddeddf newydd ar waith sy'n rhoi'r rhwymedigaethau ar y bobl gyfrifol gywir, fel na chawn hyn yn y dyfodol.

Rwy'n falch iawn ein bod ni'n cael y datganiad hwn heddiw. Fel y mae'r Gweinidog yn ymwybodol, mae wedi bod yn achos pryder i fy etholwyr sy'n byw yn Altamar a South Quay, ac mae wedi cynhyrchu llawer o e-byst a cheisiadau ar y datganiad busnes gennyf i am gyfnod hir. Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw a'r cynnydd sy'n cael ei wneud gyda'r datblygwyr. Dylai pawb deimlo'n ddiogel yn eu cartref. Rwy'n credu ei bod hi'n broblem mae'n rhaid i ni ddweud hynny, achos mae'n rhywbeth yr ydyn ni i gyd yn ei gymryd yn ganiataol.

Rwy'n croesawu'r ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi lesddalwyr. Mae gennyf i ddau gwestiwn, ac rwy'n hapus i gael ateb ysgrifenedig ar y ddau, oherwydd maen nhw'n mynd yn weddol fanwl. A yw South Quay yn SA1, a gafodd ei adeiladu gan Carillion, ar eich rhestr o adeiladau amddifad? Ac, o 20 Mawrth, mae'r cwmni rheoli Altamar yn dweud wrthyf na fydd Bellway yn ymgysylltu â nhw. A all y Gweinidog ymyrryd neu egluro sut y gall rheolwyr Altamar gael Bellway i ymgysylltu â nhw?

Diolch, Mike. Gwnaf i ysgrifennu yn ôl atoch ar y pwyntiau penodol iawn y gwnaethoch chi. Mae'n werth gwneud hynny oherwydd rwy'n credu ei fod yn fwy o ateb manwl nag yma. Ond dim ond i fod yn glir iawn, adeiladau sydd heb unrhyw un sy'n gyfrifol amdanyn nhw ar ôl—felly, mae'r datblygwr a phawb arall wedi mynd allan o fusnes; mae Carillion yn enghraifft dda iawn o hynny—bydd, cyn belled â'u bod wedi rhoi datganiad o ddiddordeb i fod wedi'i gynnwys ar y rhestr, ac ni allaf wybod o dop fy mhen, mae gennyf i ofn, os yw'r adeilad dan sylw wedi'i gynnwys neu heb ei gynnwys. Ond bydda i'n ysgrifennu nôl atoch chi ar y ddau bwynt. 

16:30

Diolch yn fawr am y datganiad hwn, ac yn dilyn ymlaen o'r hyn y gwnaeth Janet ei ddweud, rwy'n ei groesawu'n dod mor gyflym—diolch yn fawr i chi am hynny, Gweinidog. Rydw i, wir, ond eisiau canolbwyntio ar ddatblygwyr yn yr amser byr sydd gennyf i, ac rydyn ni wedi clywed gan fy nghyd-Aelod, Mabon ap Gwynfor am rai o'r materion yr oeddwn i eisiau eu cynnwys. Ond meddwl oeddwn i tybed pa amrywiaeth o sancsiynau oedd ar gael ar gyfer datblygwyr nad ydynt yn cydymffurfio wrth i ni fwrw ymlaen. Maen nhw wedi cael blynyddoedd, yn llythrennol flynyddoedd, i weithredu ac nid ydyn nhw wedi gwneud hynny, ac mae hyn wedi dod ar gost sylweddol i bobl sy'n byw yn y blociau fflatiau hyn. Felly, rwy'n credu bod fy nghydymdeimlad i'n cael ei ymestyn yn llwyr pan fo'n dod at feddwl bod modd rhoi mwy o hyblygrwydd iddyn nhw yma. Felly, a gaf ofyn i chi pa sancsiynau sy'n mynd i fod ar gael i ddatblygwyr nad ydyn nhw'n cydymffurfio? Er enghraifft, a ydych chi'n ystyried y dewis o'u gwahardd rhag adeiladu unrhyw ddatblygiadau eraill yng Nghymru, a sut fyddai hynny'n digwydd? 

Ac yn ail, rwy'n deall bod rhai datblygwyr sy'n ymwneud â gweithredu yn y llys yn erbyn lesddalwyr sydd wedi'u heffeithio arnyn nhw, ac felly mae'n ymddangos eu bod nhw mewn man lle maen nhw'n cytuno i un peth ond yn parhau i weithredu yn y llys yn erbyn rhai o'u lesddalwyr. Felly, mae eisiau ychydig mwy o fanylion, os caf i, Gweinidog, o ran sut yr ydyn ni'n mynd i fod yn ymdrin â rhai o'r datblygwyr hynny pe na baen nhw'n cydymffurfio wrth symud ymlaen. Diolch. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr, Jane Dodds, am y set yna o gwestiynau. Yr un olaf yn gyntaf. Ni allwn ni ymyrryd mewn achosion llys presennol; allwn ni ddim. Felly, os oes achos llys presennol yn mynd yn ei flaen, bydd yn rhaid i hynny ddilyn ei lwybr drwy'r llysoedd. Nid oes gennyf i unrhyw fanylion o gwbl o fy mlaen ynglŷn â pha achosion llys, na pha gam maen nhw arni, nac unrhyw un o'r dadleuon cyfreithiol y byddai angen i chi fod â dealltwriaeth ohonyn nhw i allu gwneud—. Nid oes  gennym ni ddim hawl i ymyrryd yn hynny, felly, mae gennyf ofn na allaf wneud dim am hynny. 

Rydyn ni wedi pwyso ar y datblygwyr i adfer yr holl adeiladau yr ydym ni'n ymwybodol ohonyn nhw, ond rwy'n ymwybodol o ddau adeilad o leiaf sydd mewn ymgyfreitha helaeth a fydd, mae'n debyg, yn gorfod gweld yr ymgyfreitha hwnnw hyd at ei ddiwedd, beth bynnag yw'r diwedd hwnnw. Nid oes gennyf i unrhyw syniad a oes modd cyrraedd setliad neu unrhyw beth arall, mae gennyf ofn. Yn rhannol, dyna pam nad oedden ni eisiau gweithredu'r adrannau sy'n cael eu trafod drwy'r amser, oherwydd pan fydd pobl yn dechrau gweithredu achos llys o dan yr adrannau hynny, yna mae'n dod hyd yn oed yn fwy cymhleth nag o'r blaen. Ac mewn gwirionedd, mae hyn yn ffordd syml iawn o wneud hynny—ein bod ni'n ymyrryd â'r datblygwyr, rydyn ni'n rhoi perthynas gytundebol i'n hunain gyda'r datblygwr hwnnw, ac mae'r datblygwr wedyn mewn perthynas gytundebol gyda ni, Llywodraeth Cymru, ac yna, os nad ydyn nhw'n cyflawni'r trefniant cytundebol hwnnw i'n boddhad ni, yna mae gennym ni seiliau cyfreithiol da i fynd ar eu holau nhw. A dyna'r union sefyllfa yr ydyn ni wedi bod eisiau mynd i mewn iddi, ac mae wedi cymryd amser i ni wneud hynny, ond rwy'n falch iawn ein bod ni yno nawr. Ac yna, fel y dywedais i wrth Mabon ap Gwynfor, yna bydd angen i ni hefyd sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn iawn gan bobl fedrus gyda'r gadwyn gyflenwi gywir, a'r cyfan.  

A dim ond i gael y rhif yma'n gywir—rwy'n credu bod Mabon wedi sôn am rif—. Byddwch yn amyneddgar â mi am eiliad. Oes, mae gennym ni dros 270 o ddatganiadau o ddiddordeb ar 163 safle. Felly, gallwch chi weld nad oes gennym ni'r gadwyn gyflenwi a'r gweithlu i wneud pob un ohonyn nhw’n sydyn, felly bydd yn rhaid i ni drefnu hynny'n ofalus. Byddwn ni'n ceisio cymryd agwedd y gwaethaf yn gyntaf, ac ati. Felly, mwy o fanylion am hynny i ddilyn, ond rydyn ni'n gofyn i'r datblygwyr wneud hynny mor gyflym â phosibl, a dyna pam rwy'n falch fy mod i wedi rhoi'r benthyciadau yn eu lle hefyd, oherwydd nid ydw i eisiau unrhyw esgusodion eraill. Felly, nid oes esgus; mae'r arian yno, mae'r arolwg yn cael ei wneud, rydyn ni'n gwybod beth sydd angen i'r gwaith ei wneud—y cyfan sydd angen i ni ei wneud nawr yw sicrhau bod y contractwyr medrus yn eu lle ac yn gallu cael y cyflenwadau sydd eu hangen arnyn nhw i wneud y gwaith, a byddwn ni'n gwneud hynny fel y cam nesaf. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi hefyd yn croesawu yr ymrwymiadau yn y datganiad yma fel rhan o'r bartneriaeth cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Dwi hefyd yn cytuno gyda sylwadau Mabon ap Gwynfor. Wrth ymweld â nifer o'r datblygiadau yma, mae'n anhygoel gweld gymaint o broblemau eraill sydd gyda rhai o'r datblygiadau yma, y tu hwnt i broblemau diogelwch tân. Felly, byddwn i'n gofyn yn gyntaf i chi: pryd welwn ni'r ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i'r Senedd i sicrhau bod datblygwyr ddim yn gallu parhau i ymddwyn yn y ffordd yma?

Roeddwn i'n falch iawn o weld eich bod chi wedi gofyn i ddatblygwyr lofnodi contractau wedi'u rhwymo mewn cyfraith i gwblhau'r gwaith. Roedd hwnnw'n un pryder a fynegwyd i mi o ran y cytundeb—na fyddai'r cytundeb ei hun yn rhwymol. Rwy'n sylwi na wnaethoch chi roi amserlen i'm cyd-Aelod Janet Finch-Saunders, ond pryd ydych chi'n disgwyl i bob un o'r 11 datblygwr fod wedi llofnodi'r cytundeb? Ac a gaf i weld a wnes i ddeall yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud wrth Mabon ap Gwynfor? A ydych chi'n dweud nad oes unrhyw ddatblygwyr yn ymgysylltu â chi ar hyn o bryd?

Roeddwn i hefyd eisiau trafod yr anghydfod rhwng datblygwyr a lesddeiliaid. Pa ran ydych chi'n rhagweld y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae mewn unrhyw anghydfod rhwng datblygwyr a lesddeiliaid yn y dyfodol? Ac nid wyf i eisiau achub y blaen ar y ddadl fer yfory, ond yr hyn y mae lesddeiliaid wir eisiau ei weld, a'r hyn yr ydym ni'n ei glywed dro ar ôl tro ganddyn nhw, yw mai'r hyn y maen nhw ei eisiau yw amserlen eglur. Rwy'n gwerthfawrogi efallai y bydd yn rhaid i amserlenni symud oherwydd prinder gweithwyr medrus neu adnoddau, ond pryd ydych chi'n disgwyl, Gweinidog, y bydd yr holl waith adfer yng Nghymru yn cael ei gwblhau? Diolch yn fawr.

16:35

Diolch yn fawr iawn am hynna. Mae'n amhosibl ateb y cwestiwn olaf yna ar hyn o bryd. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw piblinell, os mynnwch chi, o waith wedi'i gyflwyno'n briodol, fel bod gennym ni'r holl bobl fedrus y gallwn ni gael gafael arnyn nhw yng Nghymru yn gwneud y gwaith ar y lefel iawn, yn unol â'r fanyleb iawn, gyda'r gadwyn gyflenwi iawn. Yn sicr, ni allaf ddweud pa mor hir y bydd hynny'n ei gymryd. Fel y dywedais, mae gennym ni 163 o safleoedd i'w cyflawni, ond y broblem fawr yn hynny o beth yw ein bod ni wedi gwneud yn siŵr bod y lesddeiliaid hynny sydd eisiau symud ymlaen yn gallu symud ymlaen, oherwydd mae'n rhaid i ni sicrhau cefnogaeth benthycwyr gyda hynny; maen nhw'n deall beth fydd yn digwydd. Mae gennym ni'r cynllun cymorth i lesddeiliaid ar gyfer y bobl hynny sy'n ei chael hi'n anodd iawn dod o hyd i brynwr ar gyfer eu fflat oherwydd y problemau yno, y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu â nhw—rwyf i'n sicr eisiau caniatáu i bobl fwrw ymlaen â'u bywydau. Felly rydym ni wedi gweithio'n galed iawn ar agweddau eraill ar hyn er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Felly, mae gen i ofn nad wyf i'n mynd i ddyfalu ynghylch hynny. Dyfalu fyddwn i, ac nid wyf i'n meddwl bod hynny'n ddefnyddiol.

Ond rydym ni, wrth gwrs, yn annog y datblygwyr i fynd mor gyflym ag y gallan nhw, gan ddefnyddio eu gweithluoedd eu hunain a'u cadwyni cyflenwi eu hunain lle maen nhw'n ddigon medrus ac yn gallu bodloni'r manylebau a ddaw o'r gwaith arolygu. Ond mae'n bwysig iawn bod hyn yn cael ei wneud yn iawn. Yr hyn nad ydych chi eisiau yw siarad â mi, neu bwy bynnag fydd yn fy esgidiau yn y Senedd nesaf, yn dweud bod gennym ni'r un broblem eto. Yn syml, ni allaf dderbyn hynny, felly mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn iawn. 

O ran y gweddill, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw cyflwyno Bil sy'n addas i'r diben. Rydym ni wedi ymrwymo i wneud hynny yn ystod tymor y Senedd hon. Rydym ni wedi bod yn gwneud llawer o waith ar yr agwedd hon arno, wrth gwrs, ond rydym ni hefyd wedi bod yn gwneud gwaith ymgynghori helaeth ochr yn ochr â phobl gyfrifol, ac yn y blaen, ynghylch sut y dylai hynny edrych, pwy ddylai'r bobl gyfrifol fod, sut y dylen nhw gael eu henwi, beth ddylai eu rhwymedigaethau fod ar gyfer y cyfnod adeiladu, y cyfnod meddiannu ac, yn wir, y cyfnod dymchwel. Ni fydd yr adeiladau hyn yn para am byth. Felly, mae angen i ni wneud hynny'n iawn hefyd, ond byddwn ni'n bwrw ymlaen â hynny yn nhymor y Senedd hon a gwn fod pob Aelod, ar bob ochr i'r tŷ, yn awyddus iawn i weld hynny ar waith. Ond eto, mae angen i hynny fod yn addas i'r diben, onid oes? Mae angen cael y drefn arolygu gywir ac mae angen cael y drefn person cyfrifol gywir ynddo. Hoffwn wneud pethau'n iawn, nid yn gyflym. Byddwn yn ei gael yn iawn yn y ffordd gyflymaf bosibl, ond mae bod yn gywir yn bwysicach na chyflymder yn yr achos hwn, ac mae'n rhaid iddo weithio. Mae'n rhaid iddo fod yn rhwydd, ac mae'n rhaid iddo sicrhau bod adeiladwyr yn atebol o ran yr hyn y maen nhw'n ei adeiladu yn y dyfodol, fel nad ydym ni yn y sefyllfa hon eto yn y dyfodol. 

7. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023

Eitem 7 heddiw yw'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig, Rebecca Evans.

Cynnig NDM8228 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n cyflwyno'r cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023. Mae'r rheoliadau yn darparu ar gyfer ymestyn platfform digidol a phroses gwirio, herio, apelio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, i Gymru. Maen nhw hefyd yn galluogi'r newidiadau i wneud y trefniadau ar gyfer apelau i'r tribiwnlys prisio ar gyfer Cymru yn fwy effeithiol ac effeithlon.

Fe wnaeth ymgynghoriad a ddaeth i ben yn 2018 esbonio'r ddadl dros ddiwygio a gofyn am safbwyntiau ar newidiadau arfaethedig i'r system apelio yng Nghymru. Roedd yr ymgynghoriad yn gyfle i ystyried sut y gallwn ni wneud ein system apelio yn fwy cadarn, yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn adlewyrchol o'r sylfaen drethu yng Nghymru. Un o'r negeseuon allweddol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad oedd na ddylid gwneud unrhyw newidiadau rhwng ailbrisiadau. Bydd ein newidiadau yn dechrau ar 1 Ebrill felly, pan fydd y rhestr ardrethu newydd yn dod i rym. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi bod yn rhedeg y broses gwirio, herio, apelio yn Lloegr ers 2017. Wrth ymestyn y dull i Gymru, rydym ni wedi teilwra'r system i adlewyrchu natur unigryw ein sylfaen drethu ac adborth gan randdeiliaid. Yn benodol, mae rhanddeiliaid wedi croesawu ein penderfyniad i beidio â chyflwyno ffioedd ar gyfer apelau. Os bydd y diwygiadau eraill yn llwyddo i sicrhau bod nifer yr apelau diangen cyn lleied â phosibl, efallai na fyddai unrhyw fudd ychwanegol o drefn ffioedd yn cyfiawnhau'r costau gweinyddol.

Ar 29 Mawrth 2022, fe wnes i ddatganiad llafar yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio ardrethi annomestig yn ystod tymor y Senedd hon. Rydym ni wedi ymgynghori'n ddiweddar ar amrywiaeth o gynigion, gan gynnwys cynlluniau i symud tuag at ailbrisiadau amlach. Mae'r newidiadau yr ydym ni'n eu gwneud i'r system apelio yn gweithredu fel galluogydd critigol ar gyfer yr amcan hwn. Roedd drafft o'r rheoliadau yn destun ymgynghoriad technegol y llynedd. Ar 4 Tachwedd, cyhoeddais grynodeb o'r ymatebion gan gadarnhau y byddem ni'n bwrw ymlaen â'r diwygiadau i'r system apelio. Gwnaed nifer fach o welliannau i'r rheoliadau mewn ymateb i'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau, ac ni chodwyd unrhyw faterion. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.

16:40

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am agor y drafodaeth hon? Ni fydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r rheoliadau hyn, ond roedd gen i un neu ddau o gwestiynau yr hoffwn i'r Gweinidog roi sylw iddyn nhw, os yn bosibl, o ystyried bod gen i gyfle i'w codi.

Mae'r system prisio ac apelio newydd wedi'i seilio'n drwm ar blatfform digidol newydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio. A gaf i ofyn, felly, pa ystyriaeth a wnaed o'r rhai y gallai eu mynediad at y platfform digidol fod wedi'i gyfyngu? Rwy'n meddwl yn benodol, ond nid o reidrwydd yn unig, am y rhai nad oes ganddyn nhw rai sgiliau TG allweddol—ond mae problemau cysylltedd yn berthnasol i rai lleoedd o hyd—a'r bobl hynny, wrth gwrs, y gallai eu hanableddau olygu ei bod hi braidd yn anodd iddyn nhw gael mynediad ato. Yn yr un modd hefyd, pa sicrwydd allwch chi ei roi ynghylch y gallu i brosesu achosion trwy gyfrwng y Gymraeg? Rwy'n credu bod angen sicrwydd arnom ni y bydd hynny'n rhywbeth y gellir ei ddarparu ar gyfer y rhai sydd ei angen.

Yn olaf, mae llywydd Tribiwnlysoedd Cymru wedi argymell yn ddiweddar y dylid cynnwys Tribiwnlys Prisio Cymru o fewn system tribiwnlysoedd haen gyntaf ddiwygiedig. Nawr, pe bai diwygiad o'r fath yn cael ei wneud, pa newidiadau, os o gwbl, fyddai angen eu gwneud i'r cynigion hyn? Diolch.

Diolch yn fawr iawn i Llyr Gruffydd am y cwestiynau yna y prynhawn yma. Rydym ni wedi ystyried ac ymgynghori ar y diwygiad apelau dros sawl blwyddyn. O ran mynediad at gysylltedd digidol, ni chodwyd hynny fel rhwystr penodol i'n cynigion newydd o ran mynediad at blatfform digidol Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Gan gofio mai dyma'r system ar gyfer ardrethi annomestig, bydd gan y rhan fwyaf o fusnesau naill ai ryw lefel o gysylltedd digidol neu rywfaint o allu digidol.

Wedi dweud hynny, mae gennym ni agenda mynediad a chynwysoldeb digidol lawer ehangach o fewn Llywodraeth Cymru, a fydd, yn fy marn i, yn bwysig o ran mynd i'r afael ag unrhyw un o'r bylchau hynny sy'n parhau o ran sgiliau digidol. Ac wrth gwrs, rydym ni'n parhau i weithio ar ein materion band eang a chysylltedd yn ehangach. Felly, rwy'n credu y bydd defnyddio'r platfform digidol yn bwysig o ran sicrhau ei fod yn parhau i fwrw ymlaen â'r agendâu mynediad a chysylltedd digidol ehangach hynny. Felly, rwy'n sicr yn derbyn y pwyntiau a wnaed yn y fan yna.

O ran y newid posibl i swyddogaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a'r sefyllfa o ran hynny, rwy'n credu y byddaf yn cymryd rhywfaint o gyngor ar hynny ac yn ysgrifennu at Llyr Gruffydd yn dilyn dadl heddiw. Ond rwy'n credu, ar y cyfan, y bydd y diwygiadau hyn yn cael eu croesawu'n gynnes, gan gofio mai'r nod, mewn gwirionedd, yw gwneud y system yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol, heb roi'r beichiau diangen hynny ar drethdalwyr. Y nod, wrth gwrs, yw y bydd hyn yn rhyddhau adnoddau a fydd yn cael eu cyfeirio at brosesu apelau dilys yn gynt a gwella'r ddarpariaeth o wasanaethau. Mae'n bwysig hefyd bod y broses apelio yn ategu'r trefniadau sy'n cael eu datblygu yn rhan o'n diwygiad ardrethi annomestig ehangach, sy'n ymwneud mewn gwirionedd â chefnogi ailbrisiadau amlach. Felly, mae'r hyn yr ydym ni'n ei drafod heddiw, rwy'n credu, yn bwysig o ran rhoi cam pwysig ymlaen i ni i'r cyfeiriad penodol hwnnw hefyd.

Rydym ni'n canolbwyntio'n fanwl ar gael trafodaethau ystyrlon gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru, ac rwy'n cytuno ei bod hi'n bwysig bod y Gymraeg yn opsiwn i bobl o ran eu perthynas gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru, ac, wrth gwrs, mae gennym ni gytundebau lefel gwasanaeth pwysig gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n cynnwys amrywiaeth o safonau a dangosyddion, yn enwedig o ran ymdrin ag apelau yn brydlon. Ond, yn amlwg, mae'r Gymraeg yn bwysig yn hynny o beth hefyd.

16:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021-22

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.

Dadl ar adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021-22. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i wneud y cynnig. Mick Antoniw.

Cynnig NDM8224 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig.

Dwi'n falch o agor y ddadl hon ar adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021-22, adroddiad blynyddol olaf Syr Wyn Williams fel llywydd. Cyn sôn am yr adroddiad blynyddol, dwi'n siŵr y bydd yr Aelodau eisiau ymuno â mi yn diolch i Syr Wyn am ei gyfraniad sylweddol fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Syr Wyn oedd y cyntaf i ddal y swydd, a gafodd ei chreu gan Ddeddf Cymru 2017. Mae'n ymddeol o'r rôl ar ddiwedd mis Mawrth. Mae ef wedi chwarae rhan hanfodol yn cymryd y grŵp o dribiwnlysoedd ar wahân oedd ddim wedi eu cadw nôl i awdurdodaeth Cymru a Lloegr, ac a gafodd eu grwpio gyda'i gilydd fel tribiwnlysoedd Cymru. Drwy ei arweiniad ef, cafodd system o dribiwnlysoedd Cymreig ei chreu gydag annibyniaeth farnwrol gryf. Byddaf yn parhau yn Saesneg nawr.

Dirprwy Lywydd, mae pob rhan o'r system gyfiawnder ar draws y Deyrnas Unedig wedi wynebu heriau sylweddol iawn yn sgil pandemig y coronafeirws, ac nid yw tribiwnlysoedd Cymru wedi bod yn ddim gwahanol. Caniataodd y newid cyflym i ffyrdd o weithio o bell i dribiwnlysoedd Cymru weithredu'n llawn drwy'r pandemig, ac mae'r defnydd parhaus o'r ffyrdd hynny o weithio o bell, gan wrthod y temtasiwn i ruthro yn ôl i achosion wyneb yn wyneb yn unig, wedi golygu nad yw oediadau ac ôl-groniadau yn gysylltiedig â'r pandemig wedi digwydd yma. Mae hyn er clod enfawr i'r rhai sy'n arwain ein tribiwnlysoedd ac mae'n adlewyrchu y gall penderfyniadau a wneir yng Nghymru yng ngoleuni anghenion Cymru gynnal mynediad pobl at gyfiawnder yn briodol.

Mae hynny'n dod a mi at y mater o ddiwygio. Felly, er ei fod er clod i bawb sy'n ymwneud â'n tribiwnlysoedd eu bod nhw wedi gallu gweithredu'n llwyddiannus, byddai pethau wedi bod yn llawer mwy effeithlon pe bai gennym ni strwythur tribiwnlysoedd cydlynol â rheolau a gweithdrefnau wedi'u symleiddio'n briodol. Bellach, mae gennym ni argymhellion ar gyfer diwygio gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, yr oedd Syr Wyn wedi gwasanaethu arno fel comisiynydd, wrth gwrs, a chan Gomisiwn y Gyfraith, y bydd yr Aelodau yn gyfarwydd â'i adroddiad.

Yn ei adroddiad blynyddol, mae Syr Wyn yn ei gwneud hi'n eglur iawn, wrth fod yn ofalus i beidio â chrwydro i fyd dewisiadau gwleidyddol, nid yn unig bod diwygio ein tribiwnlysoedd yn ddymunol, ond yn angenrheidiol. Mae un o'r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a hefyd gan Gomisiwn y Gyfraith, yn ymwneud ag annibyniaeth strwythurol uned Tribiwnlysoedd Cymru. Nid yn unig y mae hwn yn fater sydd wedi bod yn thema gyson ym mhob un o adroddiadau blynyddol y llywydd, mae'n un y mae'r llywydd wedi ei ailadrodd yn bersonol gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Y tro diwethaf i'r llywydd ymddangos gerbron y pwyllgor oedd ar y trydydd ar ddeg o'r mis hwn, pan ddywedodd nid yn unig bod yn rhaid i gyfiawnder gael ei sicrhau ond bod yn rhaid gweld bod cyfiawnder yn cael ei sicrhau trwy wneud y gwaith o weinyddu cyfiawnder sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan uned Tribiwnlysoedd Cymru yn annibynnol ar y Llywodraeth, ac mae hwn yn safbwynt nad wyf i'n anghytuno ag ef. Fel y mae ein system o dribiwnlysoedd yng Nghymru o dan Ddeddf Cymru 2017 wedi datblygu, felly hefyd y mae swyddogaeth uned Tribiwnlysoedd Cymru o ran eu gweinyddu.

Wrth gwrs, mae Comisiwn y Gyfraith wedi darparu cyfres o argymhellion, a nododd ddiwygiadau strwythurol sy'n ofynnol i foderneiddio ein system tribiwnlysoedd. Yn 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', fe wnes i ein bwriad i ddeddfu i greu system dribiwnlysoedd integredig yn eglur. Mae ailfodelu'r broses o weinyddu cyfiawnder yn rhan hanfodol o'n taith tuag at adeiladu seilwaith cyfiawnder i Gymru sy'n gallu rheoli'r ymwahaniad cynyddol y gyfraith oddi wrth Loegr. Mae'n briodol, wrth ddatblygu cynigion deddfwriaethol, ein bod ni'n ystyried yr holl opsiynau ar gyfer annibyniaeth system tribiwnlysoedd newydd Cymru, ac rwyf i wedi dweud o'r blaen, ac fe wnaf i ailadrodd eto: annibyniaeth farnwrol yw'r egwyddor ganllaw ar gyfer y ffordd y mae sefydliadau barnwrol yn cael eu cefnogi yng Nghymru ac y byddan nhw'n parhau i gael eu cefnogi, ac ni fydd hyn yn cael ei golli yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ac yn paratoi i ddiwygio ein tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'r gwaith hwn, a byddaf yn cyflwyno cynlluniau maes o law trwy gyhoeddi Papur Gwyn yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd yr adroddiad blynyddol nesaf y byddwn ni'n ei dderbyn, wrth gwrs, gan lywydd newydd Tribiwnlysoedd Cymru—

16:50

Rwy'n gwrando ar eich dadleuon ar y mater hwn o ddiwygio, ac ni fydd yn syndod i chi fy mod i'n cytuno'n fawr iawn â chi. Mae o ddiddordeb i mi felly bod y Llywodraeth yn gofyn i ni bleidleisio yn erbyn gwelliant y Ceidwadwyr ar y mater hwn yn y bleidlais y prynhawn yma, ac mae'n ymddangos i mi bod yr hyn y mae gwelliant y Ceidwadwyr yn ei wneud yn debyg iawn i'r hyn yr ydych chi newydd ei ddisgrifio, felly byddai gen i ddiddordeb clywed pam na fyddech chi eisiau cefnogi'r gwelliant hwnnw.

Wel, fe wnaf i ddod at hynny. Mae'n un o'r eironïau hynny fy mod i'n falch iawn bod gwelliant, oherwydd mae'n dangos bod rhywun wedi darllen y papur a'i bwysigrwydd i'r Senedd hon, ac mae hefyd yn adlewyrchu un o'r safbwyntiau o ran annibyniaeth. Rwy'n credu mai'r pwynt yw, os ydym ni'n mynd i gael Papur Gwyn ac rydym ni'n mynd i gael ymgynghoriad, wrth gwrs mae modelau eraill o sut y bydd annibyniaeth y tribiwnlysoedd yn gweithredu, fy unig safbwynt yw, er fy mod i'n amau efallai y byddwn ni'n dod yn ôl at hynny, ei fod yn gynamserol ar hyn o bryd, rwy'n credu, i fwrw ein coelbren a dweud mai dyma'r system benodol. Efallai'n wir mai dyma fydd y system, ond mae systemau eraill, ac rwy'n credu bod angen i ni fynd trwy broses o ystyried y rheini'n briodol cyn i ni ei chyrraedd, yn enwedig mewn deddfwriaeth o'r math hwn, sy'n diwygio rhan o'r system farnwrol.

Felly, fel yr oeddwn i'n ei ddweud, rwyf i wrth fy modd mai Syr Gary Hickinbottom fydd llywydd newydd y tribiwnlysoedd, ac, wrth gwrs, mae ganddo brofiad sylweddol nid yn unig yn y llysoedd yng Nghymru, ond hefyd yn y Llys Apêl, ac edrychaf ymlaen at weithio ag ef wrth i ni symud ymlaen tuag at wasanaeth tribiwnlysoedd diwygiedig.

I gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y gwnaiff yr Aelodau hefyd ymuno â mi i ddiolch i lywydd Tribiwnlysoedd Cymru am ei adroddiad blynyddol, ac, wrth gwrs, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn dymuno'n dda iddo ar gyfer ei ymddeoliad—ei ymddeoliad haeddiannol.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi galwadau am lawer mwy o annibyniaeth i Uned Tribiwnlysoedd Cymru, a chreu adran anweinidogol i weinyddu Tribiwnlysoedd Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr. Wrth holi'r Cwnsler Cyffredinol yma ym mis Medi 2021, gofynnais iddo am ei ymateb cychwynnol i gynigion ym mhapur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, yn benodol, i ddiwygio uned Tribiwnlysoedd Cymru, y rhan o Lywodraeth Cymru sy'n gweinyddu'r rhan fwyaf o dribiwnlysoedd datganoledig ar hyn o bryd, i fod yn adran anweinidogol.

Holais y Cwnsler Cyffredinol yma ym mis Gorffennaf y llynedd ar adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith ym mis Rhagfyr 2021 ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, a oedd yn cynnwys,

'rydym wedi ein hargyhoeddi mai model yr adran anweinidogol yw’r un y dylid ei fabwysiadu ar gyfer gweinyddu’r system tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol',

ac a ddywedodd:

'Dylai’r gwasanaeth tribiwnlysoedd fod yn annibynnol yn weithredol ar Lywodraeth Cymru'.

Nodais hefyd, er nad oes athrawiaeth absoliwt o wahanu pwerau yn y DU, mae'r cysyniad o wahanu pwerau rhwng y ddeddfwrfa—h.y. y Senedd—Gweithrediaeth—h.y. Llywodraeth Cymru—a'r farnwriaeth, wedi bod yn berthnasol ers tro yn y DU ac ar draws y DU i atal canolbwyntio grym trwy ddarparu mesurau cadw cydbwysedd. A gofynnais i'r Cwnsler Cyffredinol:

'Pa gasgliadau y daethoch iddynt erbyn hyn ar ôl ystyried canfyddiadau Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â'r pwynt penodol hwn?'

Yn ei ateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol,

'mae'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn gwbl sylfaenol, sef bod yn rhaid i'r rhan honno o'r system gyfiawnder fod yn annibynnol ar y Llywodraeth...mae'n rhaid iddo fod yn fodel sy'n sicrhau gweithrediad annibynnol uned Tribiwnlysoedd Cymru'.

Gwelir hyn ar waith yn Yr Alban, lle mae barnwr yn cadeirio bwrdd yr adran anweinidogol yno.

Yn yr adroddiad yr ydym ni'n ei drafod heddiw, mae llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn Williams, yn tynnu sylw at ei gefnogaeth i naw argymhelliad mawr a wnaed gan y comisiwn, gan gynnwys y dylai gwasanaeth tribiwnlysoedd i Gymru gael ei greu fel adran anweinidogol, ac y dylai Gweinidogion Cymru ac eraill sy'n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder yng Nghymru fod yn destun dyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth tribiwnlysoedd Cymru. Ychwanegodd, fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhoi llawer mwy o annibyniaeth i uned Tribiwnlysoedd Cymru, nid yw wedi ymrwymo i greu adran anweinidogol i weinyddu tribiwnlysoedd Cymru. Fel y dywedodd wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, mae'n teimlo bod dinasyddion yn mynd yn nerfus pan fo'n ymddangos bod gormod o gysylltiad rhwng y Llywodraeth a'r farnwriaeth, felly bydd angen gwneud uned Tribiwnlysoedd Cymru yn annibynnol. Rwy'n cynnig gwelliant 1 yn unol â hynny, gan alw am fwy o annibyniaeth i uned Tribiwnlysoedd Cymru trwy greu adran anweinidogol i weinyddu uned Tribiwnlysoedd Cymru.

Hoffwn gloi trwy ddyfynnu datganiad Syr Wyn nad yw rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru  

'yn un fewnblyg ac ni ddylai fod...rwyf wedi cael budd mawr o barodrwydd cydweithwyr yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i rannu agweddau ar eu ffyrdd o weithio gyda mi'

a thrwy ddiolch iddo—i orffen—am ei chwe blynedd yn y swydd hon, a dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol yn ei fywyd wrth iddo symud ymlaen. Diolch.

16:55

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am drefnu'r ddadl mewn ffordd sy’n caniatáu i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ystyried yr adroddiad blynyddol.

Ac rwy'n ymuno, ar y cychwyn, â'r Cwnsler Cyffredinol ac eraill i dalu teyrnged i gyfraniad Syr Wyn, llywydd Tribiwnlysoedd Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Ac yn wir, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei ddweud, daeth i'n pwyllgor ni ddim ond wythnos i ddydd Llun diwethaf—ie, wythnos yn ôl, y dydd Llun sydd newydd fynd heibio—ac fe wnaethom ni drafod ag ef mewn cryn fanylder rhai o'r materion allweddol sy'n codi o'i adroddiad. Ac rwy'n cytuno â sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol yno: un o'r pethau sy'n eithaf nodedig yn yr adroddiad hwn a'i waith blaenorol yw'r annibyniaeth y mae wedi ei rhoi i'r swydd. A hefyd mae'n rhaid i mi ddweud y byddem ni ar y pwyllgor yn talu teyrnged i'r rhai sy'n cymryd rhan yng ngwaith y tribiwnlysoedd yng Nghymru hefyd. Mae ei gyfnod yn y swydd yn dod i ben y mis hwn ac rydym ni, yn wir, yn dymuno'n dda iawn iddo, ac yn diolch iddo am ei ymgysylltiad â'r pwyllgor. 

Cawsom drafodaeth gyda Syr Wyn ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygiadau i dribiwnlysoedd Cymru. Dywedodd wrthym, yn ei ffordd arferol, mewn ffordd ddeallus a chynnil iawn hefyd—pwysleisiodd i ni, yn ei farn ef, fanteision adran anweinidogol i weinyddu'r tribiwnlysoedd, pwynt a godwyd gan Mark ac eraill, ac Alun funud yn ôl, y pwysigrwydd bod uned Tribiwnlysoedd Cymru yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a manteision creu tribiwnlys apêl i Gymru i'r bobl hynny sy'n ceisio cael mynediad at gyfiawnder.

Nawr, rwy'n credu i mi glywed y Gweinidog yn cadarnhau—rwy'n credu—y byddai'r opsiynau hyn yno yn rhan o'r ymgynghoriad, ond tybed a allai gadarnhau y bydd y Papur Gwyn a'r ymgynghoriad yn ymdrin mewn gwirionedd ag awgrymiadau Syr Wyn, os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn dweud nad yw'n eu cadarnhau nac yn eu diystyru ar hyn o bryd, ond yn derbyn y ddadl dros annibyniaeth. Rwy'n credu bod Syr Wyn yn eithaf cynnil yn yr hyn a ddywedodd. Er iddo gefnogi'n llwyr y farn ei fod yn gweld mantais cael adran anweinidogol ar gyfer annibyniaeth ychwanegol, fe wnaeth gydnabod bod ffyrdd eraill y gallech chi ei wneud hefyd. Felly, rwy'n credu y byddem ni'n chwilio am y sicrwydd bod yr holl opsiynau hynny yn mynd i fod yn yr ymgynghoriad. Nodaf, Cwnsler Cyffredinol, eich bod wedi dweud, o ran yr egwyddorion, egwyddorion canllaw Llywodraeth Cymru ar hyn, bod annibyniaeth farnwrol yn gwbl hanfodol.

Byddwn yn ddiolchgar, hefyd, o glywed eich disgwyliadau, Cwnsler Cyffredinol, ynghylch pryd y mae'r ddeddfwriaeth i ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru yn debygol o gael ei chyflwyno, a tybed a allwch chi ymrwymo i'w chyflwyno yn y Senedd hon. Os ydym ni'n cydnabod ei bod hi'n bwysig gwella mynediad pobl at gyfiawnder, a fyddwn ni'n ei weld yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach?

Yn ystod ein sesiwn, clywsom hefyd asesiad Syr Wyn ynglŷn â pham roedd rhai o dribiwnlysoedd Cymru wedi derbyn cynnydd sylweddol i nifer y ceisiadau yn ddiweddar, tra bod eraill wedi gweld gostyngiad sylweddol. Er na rannodd â ni ei obaith nad oedd y gostyngiadau hyn yn awgrymu efallai nad yw pobl yn gallu cael mynediad at gyfiawnder—gallai fod rhesymau eraill—edrychwn ymlaen at glywed gan olynydd Syr Wyn ynghylch pa un a oes unrhyw berygl i'r ffigurau hyn droi'n duedd, a pha gamau fydd yn cael eu cymryd mewn ymateb wedyn.

Dywedodd Syr Wyn wrthym hefyd am rai o'r heriau a wynebir yn penodi aelodau o dribiwnlysoedd Cymru, a rhannodd ei farn gref iawn y gallai canolfan tribiwnlysoedd, wedi'i lleoli yng Nghymru, a llai ddod â'r bobl hyn at ei gilydd a rhoi'r màs critigol hwnnw, fod o gymorth mawr i helpu i oresgyn rhai o'r heriau hyn. Felly, byddwn yn croesawu safbwyntiau'r Cwnsler Cyffredinol ar hynny.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:00

Clywsom hefyd am y gostyngiad yn y defnydd o'r Gymraeg yn nhribiwnlysoedd Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf, sy'n peri pryder. Byddwn yn cadw llygaid barcud ar y mater hwn pan fyddwn yn cynnal sesiynau yn y dyfodol gydag olynydd Syr Wyn.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Syr Wyn eto am ei waith fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ac am ei barodrwydd i ymddangos gerbron fy mhwyllgor. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am y ddadl hon heddiw. Roeddwn i'n dirprwyo ar y pwyllgor pan drafodwyd yr adroddiad, a hoffwn hefyd ategu ein diolch ni i Syr Wyn Williams am ei gyfraniad yn y rôl bwysig hon.

Yn sicr, mae'n glod iddo ef a'i dîm eu bod nhw wedi cyflawni eu cyfrifoldebau gyda'r proffesiynoldeb a'r diwydrwydd mwyaf drwy gydol heriau digynsail y pandemig. Rydym wrth gwrs yn dymuno'n dda iawn i'w olynydd, Syr Gary Hickinbottom, a fydd yn ymgymryd â'r swydd ym mis Ebrill.

Ni wnaf i ailadrodd rhai o'r cwestiynau a ofynnwyd, ond rwy'n credu, o ran yr amserlenni, mae'n bwysig. Rydych chi wedi amlinellu heddiw yr ymrwymiad hwnnw o ran Papur Gwyn yn y misoedd nesaf, ond pe bai amserlen fwy penodol, rwy'n credu y byddai hynny'n cael ei groesawu.

Fe wnaeth Huw Irranca gyfeirio at y defnydd o'r iaith Gymraeg, ac yn sicr mi ddaeth hynny drwodd yn gryf iawn. Mae o ddim ond o ran materion sy'n ymwneud efo'r Gymraeg ar y funud, a dwi'n meddwl bod normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg a sicrhau bod pawb yn gwybod bod yr opsiwn o ran y Gymraeg yn rhywbeth sicr.

Mater arall oedd yn amlwg wrth inni drafod hefyd oedd o ran y gyllideb yn mynd rhagddi, bod yna ansicrwydd o ran y gostyngiad sydd wedi bod yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond hefyd ei bod yn aneglur ar y funud beth fydd y costau yn y dyfodol. Yn amlwg, mae wedi gallu cynnal y gwrandawiadau yn rhithiol wedi costio llai, ond dydyn ni ddim yn gwybod, wrth i bethau fynd ymlaen, beth fydd y galw o ran hynny. Mi oedd o'n awyddus iawn i bwysleisio efo ni, yn amlwg, dydyn ni ddim yn gwybod chwaith faint o achosion sydd ddim wedi dod gerbron yn ystod COVID, a bod yn rhaid inni fod yn sicr, felly, fod y gyllideb yn mynd i fod yn ddigonol er mwyn i'r gwaith fynd rhagddo. Felly, roeddwn i jest eisiau adlewyrchu ar hynny hefyd.

Yn amlwg, o ran y Papur Gwyn, mae o'n bwysig iawn ein bod ni'n gweld hwn yn mynd rhagddo.

Yn amlwg iawn, roedd Syr Wyn yn eglur yn ei gefnogaeth i argymhellion Comisiwn y Gyfraith, a fyddai'n galluogi Tribiwnlysoedd Cymru i fod yn fwy ymatebol i'r dirwedd ddeddfwriaethol ddatganoledig, felly rwy'n credu bod angen i ni weld cynnydd yn hyn o beth.

Yn olaf, hoffwn fyfyrio ar gasgliad cyffredinol Comisiwn y Gyfraith, a ategwyd gan Syr Wyn yn ei adroddiad, sy'n nodi bod y trefniadau presennol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru yn,

'gymhleth ac anghyson, ac mewn rhai achosion, anaddas i'w hymarfer',

ac nad ydynt yn adlewyrchu cwmpas cymwyseddau'r Senedd yn ddigonol. Mae barn o'r fath, wrth gwrs, yn berthnasol i'r system gyfiawnder bresennol yn ei chyfanrwydd yng Nghymru, nad yw, fel y mae comisiwn Thomas a nifer o ysgolheigion cyfreithiol wedi ei gydnabod, yn addas i'r diben mwyach yn yr oes ddatganoledig. Rwy'n gobeithio, felly, y bydd yr adroddiad hwn yn hoelio sylw ar yr angen ehangach am ddatganoli pwerau cyfiawnder yn llawn yng Nghymru, i roi terfyn ar y sefyllfa niweidiol y mae ein cenedl yn ei chael ei hun ynddi ar hyn o bryd, o'i chymharu â gweddill y DU. Byddwn hefyd yn gobeithio y bydd yn sbarduno Aelodau Llafur yn arbennig i berswadio eu cydweithwyr yn San Steffan nad yw cynigion adroddiad Gordon Brown, sy'n wanhad sylweddol o safbwynt swyddogol Llywodraeth Cymru ar ddatganoli cyfiawnder, yn ddigon da.

17:05

Rwy'n credu bod y mynediad at bob math o gyfiawnder yn aruthrol o bwysig, ac mae'r materion y mae tribiwnlysoedd yn ymdrin â nhw yn amlwg yn gwbl hanfodol i'r unigolion dan sylw. Dyma ni eto ar ymyl miniog y system gyfiawnder. Wrth ddarllen yr adroddiad blynyddol hwn, roedd yn ddiddorol iawn darganfod bod llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei gyflwyno gan Senedd y DU, tra bod y gweision sifil sy'n gweinyddu'r tribiwnlysoedd yn uned o fewn Llywodraeth Cymru.

£4.2 miliwn yw'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn bresennol hon. A yw hynny'n dod allan o gyllideb Llywodraeth Cymru neu gyllideb Llywodraeth y DU? Mae'r rhain yn faterion pwysig wrth i ni benderfynu sut yr ydym ni'n mynd i ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, ac i sicrhau bod gennym ni drosglwyddiad didrafferth, gyda'r cyllid i fynd gyda nhw. Sylwais fod Syr Wyn Williams wedi cyfarfod â'r Arglwydd Wolfson yn 2022 ynghylch y bil hawliau arfaethedig ar y pryd, rhywbeth a fydd efallai neu ddim yn ailymddangos yn y niferoedd diweddaraf o Weinidogion sydd wedi meddu ar y swydd hon, ond, yn amlwg, rhywbeth yr ydym ni i gyd yn mynd i fod eisiau lleisio barn arno maes o law os bydd yn digwydd.

Hoffwn ganolbwyntio gweddill fy sylwadau ar y tribiwnlys adolygu iechyd meddwl, sef y pwysicaf o'r holl dribiwnlysoedd yn amlwg, o ystyried y niferoedd sy'n mynd drwyddo. Yn gyntaf oll, hoffwn longyfarch Syr Wyn am gasglu data cywir, oherwydd ni allwn wneud penderfyniadau priodol oni bai ein bod ni'n gwybod yn union beth rydym ni'n ymdrin ag ef ac, yn ddiddorol, ei esboniad o pam mae'r niferoedd yn 2019-20, o 1,900 a rhyw fymryn, wedi mynd i lawr i 1,291 ym mis Ebrill i fis Rhagfyr 2022. Yn amlwg, nid yw hynny'n flwyddyn lawn. Ond os yw'r fethodoleg a fabwysiadwyd o dorri a gludo gweithgarwch tribiwnlysoedd yn atal gwallau dynol wrth ddyblygu pethau, mae hynny'n bwysig dros ben.

Roeddwn i eisiau mynegi fy mhryder ynghylch yr uchelgais i benodi dau aelod cyflogedig llawn amser o'r tribiwnlys adolygu iechyd meddwl, ac mae'n siomedig darllen nad oedd yn bosibl gwneud penodiad neu benodiadau o'r fath oherwydd safon yr unigolion a ymgeisiodd—yn syml, nid oedd y sgiliau angenrheidiol ganddyn nhw. Felly, byddai'n ddefnyddiol cael gwybod gan y Cwnsler Cyffredinol tybed ai'r ffaith na chawsant eu hysbysebu yn ddigon eang oedd y rheswm, neu nad oedd y tâl cydnabyddiaeth yn ddigonol i adlewyrchu dyletswyddau trwm iawn unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r broses o benderfynu a ddylid amddifadu rhywun o'i ryddid, naill ai oherwydd y risg iddyn nhw eu hunain neu i eraill.

Hefyd, nodaf nad oedd yn bosibl ailbenodi aelod Cymraeg ei iaith profiadol iawn o'r tribiwnlys adolygu iechyd meddwl oherwydd ei hoed, dim ond oherwydd bod yr Arglwydd Ganghellor wedi methu ag ystyried cymal yn Neddf Pensiynau ac Ymddeoliadau Barwnol 1993, na chafodd ei drosglwyddo draw wedyn yn Neddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022, sy'n dangos pam y mae angen dod â'r materion hyn ynghyd, wedi'u datganoli i Gymru, fel nad ydyn ni'n dod ar draws y fath sefyllfa eto. Yn amlwg, mae'r rhain yn faterion pwysig iawn sy'n cael eu trafod yma, ac rwy'n falch iawn bod yr adroddiad blynyddol hwn wedi cael ei gyflwyno y prynhawn yma.

Rydym ni'n aml yn trafod datganoli cyfiawnder yn y lle hwn, a byddwch yn clywed dadleuon yn dweud na allwn ni o bosibl gael awdurdodaeth gyfiawnder i Gymru, ond dyma ni. Heddiw mae gennym ni brawf bod awdurdodaeth fach i Gymru yng ngwasanaeth Tribiwnlysoedd Cymru sy'n ymdrin—fel y gwnaeth Jenny Rathbone ein hatgoffa ni—ag agweddau pwysig iawn ar fywyd bob dydd: iechyd meddwl; addysg; tai. Nawr, nid oes unrhyw gydlyniant o gwbl o fewn tribiwnlysoedd Cymru. Mae'r ffaith fod rhywfaint o gydlyniant erbyn hyn yn deillio o waith Syr Wyn, a hoffwn ailbwysleisio'r deyrnged a dalwyd iddo.

Un ddadl fawr o blaid datganoli cyfiawnder i Gymru yw ein bod ni'n gwneud yr hyn sydd gennym ni eisoes yn dda. Ni allaf ddweud y gallwn ni ddweud hynny am dribiwnlysoedd Cymru bob amser. Ailadroddaf yr hyn a ddywedodd Heledd Fychan: pwysigrwydd cyllideb briodol i dribiwnlysoedd Cymru yn y dyfodol. Er enghraifft, rydym ni'n aml yn beirniadu cyflwr llysoedd a thribiwnlysoedd yn y system a gadwyd yn ôl, ond y gwir amdani yw nad yw'r canolfannau o fewn tribiwnlysoedd Cymru yn dda iawn, a dydw i ddim hyd yn oed yn siŵr a oedd gennym ni rai canolfannau sefydlog ar gyfer rhai ardaloedd. Er enghraifft, roedd canolfan yn Nhŷ Southgate ers talwm, yma yng nghanol Caerdydd—yn gyfleus iawn ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus—ac mae honno bellach wedi cau. Gwn fod sôn am ddyfodol y ganolfan yng Nghasnewydd. Felly, hoffwn glywed, Cwnsler Cyffredinol, am yr hyn sy'n digwydd o ran canolfannau tribiwnlys Cymru.

Hoffwn glywed hefyd pryd ydych chi'n meddwl y byddwn ni'n cael tribiwnlys apêl yma yng Nghymru. Pryd fydd yn agor? Nid yn unig y bydd yn hanesyddol, ond hefyd bydd yn ei gwneud hi'n llawer haws i bobl wybod mwy am y system apelio, oherwydd mae'r cyfan yn blith draphlith ar hyn o bryd. Rwyf i o'r farn bod tribiwnlysoedd Cymru yn chwarae rhan hanfodol o ran mynediad at gyfiawnder, fel y soniodd Jenny Rathbone hefyd.

Does dim ffi gwrandawiad gydag achosion y tribiwnlysoedd; does dim angen cyfreithiwr arnoch chi ar gyfer achosion yn y tribiwnlysoedd. Mae wedi cael ei wneud fel ei fod yn rhwydd i bobl ei ddeall. Mae'n cael ei wneud mewn ffordd bod pobl yn cael eu cynghori lot. Mae'n lot llai adversarial na'r system llysoedd. Felly, beth yw cynlluniau'r Cwnsler Cyffredinol i ehangu hynny ac i'w wneud e hyd yn oed yn haws i bobl i ddod at dribiwnlysoedd Cymru?

Dim ond i gloi gyda'r pwynt annibyniaeth— ac rwy'n credu bod hyn yn bwysig—fel y dywedodd Syr Wyn Williams, mae'n rhaid gweld cyfiawnder yn cael ei weithredu. Mae uned Tribiwnlysoedd Cymru—fel y gwnaethoch chi sôn, ac fel y pwysleisiwyd ym mhob adroddiad blynyddol gan Syr Wyn—yn annibynnol, ond y ffaith amdani yw ei bod wedi'i lleoli ym Mharc Cathays, ym mhencadlys Llywodraeth Cymru, a allai fod yn barti mewn tribiwnlys. Pe bai hyn yn digwydd yn San Steffan, byddem ni'n protestio, a hynny'n gwbl briodol. Ni ddylai ddigwydd yng Nghymru, ac nid yw'n adlewyrchiad da o sut rydym ni'n gwneud pethau yma yng Nghymru. Felly, os nad adran anweinidogol, pa opsiynau eraill ydych chi'n eu hystyried, Cwnsler Cyffredinol? Diolch yn fawr.

17:10

Fel eraill yn y ddadl y prynhawn yma, hoffwn dalu fy nheyrnged fy hun i Syr Wyn Williams ar adeg ei ymddeoliad. Roedd yn braf gallu cael y sgwrs ag ef yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor. Rwy'n credu weithiau ei fod yn dangos y grym o fod yn bresennol gyda rhywun yn yr un ystafell, oherwydd rydym ni wedi cael sgyrsiau ar wahanol achlysuron gyda Syr Wyn sydd wedi bod ar y sgrin erioed, sgyrsiau rhithwir, ond yr wythnos diwethaf fe wnaethom ni lwyddo i gael y sgwrs wyneb yn wyneb honno, ac roedd yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig gan ei fod yn wrandawiad ymadawol mewn sawl ffordd, lle'r oeddem ni'n gwrando ar ei fyfyrdodau ar ei gyfnod fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, a lle'r oeddem ni'n gallu cael sgwrs gyda Syr Wyn, yn hytrach na gwrandawiad syml. Mae'n sicr yn rhywbeth yr oeddwn i'n teimlo oedd yn werthfawr iawn. Rwy'n siŵr bod aelodau eraill o'r pwyllgor a oedd yno o'r farn ei fod yn werthfawr hefyd. Mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n gallu cael y sgyrsiau hyn wrth i ni symud ymlaen i ddiwygio'r system.

Cefais fy nghalonogi'n fawr gan ymateb y Cwnsler Cyffredinol i'm hymyriad cynharach yn ei araith. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych i weld sut y gallwn ni sicrhau annibyniaeth tribiwnlysoedd—annibyniaeth briodol ar y Llywodraeth ac ar y lle hwn—a sicrhau ein bod ni'n cael sgwrs ynghylch sut rydym ni eisiau bwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt sydd newydd gael ei wneud gan Rhys ab Owen am yr angen am dribiwnlys apêl, i broses apelio gael ei rhoi ar waith, a fydd hefyd rwy'n credu yn cryfhau gwaith y tribiwnlysoedd.

Pan oeddwn i'n darllen adroddiad Syr Wyn, mae'n rhaid i mi gyfaddef i'm llygaid gael eu denu'n syth at y bennod olaf, lle mae'n dweud ei fod eisiau gwneud ambell i fyfyrdod. Rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn a ddywedodd, gan ddiolch i bobl a oedd yn ymddeol. Fel Gweinidog addysg, rwy'n cofio gwaith Rhiannon Walker, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gofnodi yma heddiw ddiolch iddi hi am ei gwaith yn ei hymddeoliad.

Mae'n bwysig hefyd edrych ar beth yw'r profiad yng Nghymru a sut mae modd rhoi'r profiad hwnnw ar waith ar gyfer y dyfodol. Cefais fy nharo'n fawr gan yr hyn a ddywedodd am effaith COVID a'r ffordd y mae hynny wedi herio ffyrdd o weithio, ac rwy'n credu o ran darparu cyfiawnder, mae'n bwysig ein bod ni'n edrych eto ar y cwestiynau y mae COVID wedi'u codi o ran ein rhagdybiaethau ynghylch sut y mae'r pethau hyn i fod i weithredu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych ar waith y tribiwnlysoedd o safbwynt yr unigolyn y maen nhw'n ei wasanaethu ac nid o safbwynt pobl sy'n gweinyddu neu'n rhedeg y tribiwnlysoedd. Rwy'n credu bod gan Syr Wyn nifer o bwyntiau diddorol iawn i'w gwneud ynglŷn â sut yr oedd effaith COVID wedi effeithio ac efallai cryfhau llais pobl sy'n dod i dribiwnlys.

Mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n edrych eto ar rai o'r strwythurau. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd y prynhawn yma am ddatganoli cyfiawnder. Yn sicr, rydym ni'n clywed rhai areithiau o'm hochr chwith yn y Siambr hon—o'm hochr dde yn wleidyddol—yn dadlau yn erbyn datganoli cyfiawnder, fel pe baem ni'n ceisio gyrru rhyw fath o hollt rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig, ein bod ni eisiau gwahanu, mewn rhai ffyrdd y—[Torri ar draws.] Dylech chi wrando ar yr hyn yr wyf i ar fin ei ddweud; byddech chi'n dysgu rhywbeth. O ran mynd i'r afael â sut rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd, yr hyn a ddywedodd Syr Wyn—[Torri ar draws.] Dydych chi ddim wedi darllen yr adroddiad. Yr hyn a ddywedodd yn y pwyllgor oedd bod y ffordd y mae'r tribiwnlysoedd yn gweithio gyda'i gilydd ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bwysig. Mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd. Mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu oddi wrth ein gilydd. Ond allwn ni ddim ond gweithio gyda'n gilydd a dysgu oddi wrth ein gilydd os yw'r rhyddid gennym ni i wneud penderfyniadau yn rhydd o'n gilydd hefyd. Dyna'r pwynt yr oedd rhywun sydd â llawer mwy o brofiad o'r materion hyn yn ei ddweud wrthym ni. Byddwn yn awgrymu y dylai'r Aelodau wrando ar y llais profiadol hwnnw.

Wrth groesawu Syr Gary Hickinbottom i'r swydd yn ystod yr wythnosau nesaf, nodaf ei fod yn etifeddu system sydd wedi bod mewn cyflwr da iawn, sydd wedi cael ei chynnal o ganlyniad i waith y llywydd sy'n ymddeol. Ond mae hefyd, wrth gwrs, yn etifeddu rhestr aruthrol o heriau. Mae'r diwygiad y siaradodd y Cwnsler Cyffredinol amdano yn bwysig. Siaradodd Syr Wyn hefyd am leoliad a strwythurau'r farnwriaeth a'r ffordd y mae aelodau barnwrol y tribiwnlys yn gallu cydweithio. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud rhai pwyntiau da iawn i'r pwyllgor, a byddwn yn annog y Cwnsler Cyffredinol i ddarllen y trawsgrifiad o'r pwyllgor hwnnw er mwyn adnewyddu ei safbwyntiau ei hun ar y materion hyn.

i gloi, Llywydd, mae'n amhosibl edrych ar y materion hyn a thrafod yr adroddiad hwn heb drosolwg o strwythurau llywodraethu. Mae'n amhosibl dod o hyd i unrhyw aelod uwch o'r farnwriaeth sy'n credu bod y strwythur presennol o lywodraethu cyfiawnder o unrhyw les o gwbl i Gymru a'i phobl. Gorau po gyntaf y caiff ei ddiwygio o'r brig i'r gwaelod, a gorau po gyntaf y bydd y materion hyn yn cael eu datganoli i'r wlad hon, y gorau y bydd hi i bob un ohonom ni.

17:15

Diolch, Llywydd. Rwy'n sylwi ein bod ni cyn pryd. Mae'r ffaith bod y pwnc pwysig hwn wedi cael cymaint o gyfraniadau yn tanio brwdfrydedd rhywun, felly rwy'n gobeithio y gallaf fanteisio ar yr amser sydd gen i geisio ateb rhai o'r cwestiynau yna.

Y peth cyntaf y gwnaf i roi sylw iddo yw pwynt Mark Isherwood, a'r pwynt a wnaeth pobl eraill, ar y mater hwn o'r model a'r annibyniaeth. Yn sicr, nid wyf i wir yn anghytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd; rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r amseru a'r broses yr ydym ni'n mynd drwyddi i'w gyflawni mewn gwirionedd. Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi, wrth gwrs, yn gweithredu ar sail model asiantaeth weithredol. Gallai'r math arall o fodel fod yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru a fyddai'n cyflawni'r swyddogaeth benodol honno.

Mae gen i farn weddol gadarn yn fy meddwl fy hun o ran pwysigrwydd adran anweinidogol. Mae hefyd wedyn yn arwain, wrth gwrs, at yr angen i greu, maes o law, adran gyfiawnder benodol yma a gweinidogaeth gyfiawnder, ac ati. Mae'n debyg mai materion ar gyfer y Senedd nesaf yw'r rheini. Dim ond meddwl ydw i ei fod yn gynamserol ar hyn o bryd, ar gefn yr adroddiad hwn, gyda llywydd newydd tribiwnlysoedd ar fin dechrau, cyn y Papur Gwyn, cyn i ni gyflwyno deddfwriaeth mewn gwirionedd, i ddweud, 'Dyma'r model rydyn ni'n mynd i'w gael'. Credaf pe bai'r gwelliant yn y bôn wedi cadarnhau pwysigrwydd yr annibyniaeth, credaf y byddai undod llwyr. Felly, nid anghytuno â chi ydw i o reidrwydd, ac rwy'n falch eich bod wedi cyflwyno gwelliant mewn gwirionedd oherwydd ei fod wedi agor y ddadl honno. Nid wyf i'n annog cefnogaeth iddo oherwydd rwy'n credu ei fod yn gynamserol am y rheswm penodol hwnnw.

Ar rai o'r materion eraill a godwyd, cododd Huw gryn nifer o faterion yn ymwneud â'r Papur Gwyn ac ymdrin â phob opsiwn. Bydd, bydd yn ymdrin â phob opsiwn, yn union hynny. Yn y bôn, mae'n rhaid iddo ystyried y rheiny, i ddadansoddi'r rheiny, ac yna mater i'r Llywodraeth fydd cyflwyno deddfwriaeth yn y pen draw, ac yna i'r Senedd ystyried hynny ac i drafod yr opsiynau hynny a'r model cywir ar gyfer hynny.

Rydych yn hollol gywir o ran y tribiwnlysoedd, a'r pwyntiau eraill a wnaeth Rhys, ac eraill, o ran y lleoliad. Rwy'n mynd i weld safle'r tribiwnlys sydd gennym yng Nghasnewydd yn Oak House. Er hynny, rwy'n credu o bosibl gan edrych ymlaen at ddatganoli meysydd cyfiawnder eraill hefyd, efallai y bydd angen i ni edrych yn ehangach o ran lleoliad gwasanaeth llys a gwasanaeth tribiwnlys i Gymru y tu allan i adeiladau'r Llywodraeth, yn enwedig yn sgil y sylwadau rydw i wedi'u gwneud yn y gorffennol am sefyllfa a chyflwr y ganolfan cyfiawnder sifil, ac ati. Dim ond pethau rwy'n cyffwrdd â nhw i'w harchwilio yw'r rheiny, ond rwy'n credu efallai fod opsiynau'n bodoli.

O ran materion a gododd Jenny Rathbone o ran y Tribiwnlys Iechyd Meddwl, wrth gwrs, mae'n arwyddocaol iawn o ran niferoedd. Mae'n rhaid i'n system tribiwnlys ymdrin â'r galw sydd yno. Fe welwch chi, er y buont yn wrandawiadau ar-lein yn bennaf, bod llawer o ddewis wedi'i roi i alluogi unigolion i ddewis pa fodel yr hoffen nhw. O ran y ddau aelod cyflogedig, mae'r rhain yn swyddi barnwrol pwysig a sylweddol. Maen nhw'n swyddi barnwrol chwe ffigur. Rwy'n credu ei bod hi'n ddigon posib bod y mater yn un o eglurder ynghylch beth yn union yw'r swydd, beth yw cartref y barnwyr i bob pwrpas, ac mae'n debyg yr agwedd o hysbysebu hynny. Rwy'n hyderus y bydd hynny'n cael ei ddatrys, ond mae'n adlewyrchu pwysigrwydd yn enwedig sefyllfa'r tribiwnlys iechyd meddwl.

O ran y Gymraeg, rwy'n ymwybodol iawn o hynny. Rwy'n credu mai mater mawr yn hyn o beth yw datblygu hyder pobl i gymryd rhan mewn gwirionedd yn y system llysoedd, yn y system tribiwnlys. Mewn sawl ffordd, maent yn fodel delfrydol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg o fewn hynny, oherwydd bod ganddynt lai o ffurfioldeb penodol. Ond mae'n bwysig bod hynny'n cael ei annog a'i gefnogi. Mi grybwyllais hynny pan gwrddais i â Syr Wyn Williams sef bod yna fater pwysig yna. Mae'n hyderus, mewn gwirionedd, bod ganddyn nhw'r cadeiryddion a'r gallu i ddarparu ar gyfer hynny mewn gwirionedd. Yr hyn sy'n bwysig yw'r anogaeth a'r gefnogaeth i gynnal rhai o'r tribiwnlysoedd hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Llywydd, rydych chi wedi bod yn hael iawn gyda mi; mae'n siŵr gen i fy mod i wedi mynd ymlaen am lawer rhy hir ar rai o'r agweddau hyn. Y cwestiwn pwysig, wrth gwrs, sydd wedi ei godi, yw o ran amserlen, ac ati. Mater i'r Prif Weinidog yw gwneud datganiad, rwy'n credu ym mis Gorffennaf, o ran y rhaglen ddeddfwriaethol. Ond rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn glir bod angen y diwygio yng nghyfnod y Senedd hon. Bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno. Bydd, mae'n siŵr, gyhoeddiadau maes o law. Wrth gwrs, gall y Papur Gwyn barhau beth bynnag, ac rwy'n siŵr y bydd rhagor o fanylion yn y dyfodol agos iawn.

Un peth yn unig i gloi, sef, wrth gwrs, y cyfeiriad at gomisiwn Thomas ar ddatganoli cyfiawnder, ac ati. Yn amlwg, rydyn ni mewn amgylchedd sy'n newid. Mae'r holl ymagwedd, rwy'n credu, at gyfiawnder, sicrhau cyfiawnder a sicrhau cyfiawnder yn well wrth wraidd hynny. Mae'r sefyllfa sydd gennym ni gyda thribiwnlysoedd yn rhoi'r cyfle i greu'r strwythur embryonig hwnnw, mewn gwirionedd, gyda chyfres o dribiwnlysoedd, rhan o'r system farnwrol weinyddol sydd wedi dod atom pan oedd angen hynny. Yr hyn yr ydym yn ei wneud yw creu nid yn unig system farnwrol a fydd o'r rhagoriaeth uchaf, ond bydd hynny hefyd yn creu, fel y dywedoch chi, y strwythur apeliadol cyntaf erioed yn hanes Cymru. Diolch, Llywydd. 

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 1, ac felly byddwn ni'n gohirio'r bleidlais o dan yr eitem yma yn gyfan gwbl i'r cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2021-22

Eitem 10 sydd nesaf. Y ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn yw'r eitem yma. Dwi'n galw ar y Gweinidog addysg i wneud y cynnig. Jeremy Miles. 

Cynnig NDM8227 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2021-22 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2023.

2. Yn nodi arddeliad yr adroddiad sef, er i nifer o'r materion a gododd yn ystod y pandemig ddechrau dangos arwyddion o welliant graddol, bod heriau yn parhau.

3. Yn croesawu casgliad yr adroddiad bod darparwyr addysg a hyfforddiant wedi ymateb yn dda i'r heriau, gan osod dysgwyr wrth galon eu gwaith.

4. Yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad bod pob darparwr wedi canolbwyntio'n briodol ar les dysgwyr a staff, gyda'r darparwyr cryfaf yn parhau i hunanwerthuso yn agored ac yn onest a rhoi ffocws di-flino ar addysgu a dysgu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Hoffwn i agor y ddadl hon trwy ddiolch i Owen Evans, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru, am ei adroddiad blynyddol. Mae'n rhoi disgrifiad annibynnol o sut mae ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant yn perfformio ac yn helpu ein dysgwyr i ddatblygu. Mae'r adroddiad yn cynnig ffynhonnell werthfawr o dystiolaeth, gan helpu llywio datblygiad polisi cenedlaethol.

Hoffwn i ddechrau drwy groesawu'r dull newydd y mae Estyn wedi’i ddefnyddio ar gyfer ei adroddiad blynyddol eleni—wedi ceisio cynyddu ei effaith gymaint â phosib drwy gyhoeddi negeseuon interim ym mis Medi, a rhoi cipolwg cynnar o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd angen ei gryfhau. Cafodd yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi ym mis Ionawr gyda chyfres o gwestiynau ac adnoddau hunanfyfyrio, ac mae'r prif arolygydd wedi rhannu gyda fi fod yna fwy o ymgysylltu wedi bod eleni o ran canfyddiadau'r adroddiad blynyddol. Da yw clywed hyn.

Mae'n werth nodi bod yr adroddiad blynyddol hwn yn tynnu ar dystiolaeth uniongyrchol ers i’r gwaith arolygu ailddechrau yn nhymor y gwanwyn 2022. Mae’n ein hatgoffa ni o effaith barhaus y pandemig ar ein dysgwyr a'r gweithlu addysg. Rŷn ni’n gwybod bod effaith COVID ar sgiliau iaith a darllen yn dal i gael ei deimlo gan lawer o ddysgwyr; dyna pam dwi wedi buddsoddi mewn rhaglen a fydd yn cefnogi dros 2,000 o blant i wella eu sgiliau iaith, sgiliau cyfathrebu a sgiliau darllen. Mae'r rhaglen 10 wythnos, a arweinir gan Brifysgol Bangor, yn darparu rhaglen iaith a llythrennedd ddwys a rhyngweithiol i blant saith i 11 oed. Rŷn ni hefyd wedi sefydlu, a byddwn ni’n parhau i ariannu, rhaglen gyllido bwrpasol i gefnogi ysgolion wrth iddyn nhw ddelio gydag effeithiau parhaus y pandemig. Rŷn ni hefyd yn monitro effeithiau’r pandemig ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc dros y tymor canolig a'r tymor hir. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg yn cael eu nodi'n gynnar, a bod camau lliniaru priodol yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym.

Roeddwn yn falch o ddarllen, er gwaethaf yr heriau yn sgil y pandemig, bod yr adroddiad yn cydnabod bod darparwyr addysg a hyfforddiant wedi ymateb yn wrol ac i sefydliadau nesáu at eu dysgwyr a'r cymunedau y maen nhw'n yn eu gwasanaethu. Rwy'n ddiolchgar o hyd, Llywydd, i bawb sy'n gweithio yn y sector addysg am bopeth y maen nhw wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud i gefnogi ein dysgwyr. Rwy'n falch o weld bod darparwyr ar draws sectorau wedi rhoi pwyslais cryf ar gefnogi llesiant. Fel y dywedais yn y gorffennol, pan fydd dysgwyr yn hapus, wedi'u cefnogi gan weithlu addysgu diogel, diddig, maen nhw'n fwy tebygol o fod yn hyderus ac yn frwdfrydig wrth ddysgu. Nid yw'n syndod bod yr adroddiad, oherwydd y pandemig, yn amlygu y bu galw cynyddol am lesiant a chymorth iechyd meddwl. Rydyn ni'n cydnabod yr angen hwn.

Fe wnaethom ni gyhoeddi ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant a chynyddu'r gyllideb sydd ar gael i helpu diwallu anghenion disgyblion a chymuned yr ysgol. Rydyn ni hefyd wedi clustnodi cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol, i fyrddau iechyd ac i sefydliadau yn y trydydd sector, gan gydnabod pwysigrwydd y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ehangach sy'n cydweithio i ddarparu cymorth uniongyrchol i ysgolion. Yn 2022-23, fe wnaethom ni hefyd neilltuo cyllid ychwanegol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant yn y sector addysg bellach. Fodd bynnag, wrth gwrs mae mwy y gallwn ni ei wneud. Mae'r pandemig wedi dangos pam, yn fwy nag erioed, mae arnom ni angen ein Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi llesiant wrth wraidd yr hyn y mae arnom ni ei eisiau i'n dysgwyr, gan roi'r offer iddyn nhw fod yn fentrus, i addasu ac ymateb i fyd sy'n newid yn barhaus.

Mae canfyddiadau'r adroddiad yn rhoi sylw defnyddiol i feysydd diwygio'r cwricwlwm sy'n gweithio'n dda, a rhai agweddau i ganolbwyntio arnynt. Mae'r rhain yn cyd-fynd yn agos â'n dealltwriaeth o sut mae'r rhaglen newid sylweddol hon yn symud ymlaen, a sut y dylid cefnogi ysgolion a lleoliadau eleni a'r flwyddyn nesaf. Bûm yn glir erioed, Llywydd, y bydd y cyflwyno hwn yn cymryd amser. Yn wir, dim ond o'r mis Medi hwn y bydd pob ysgol yng Nghymru yn dysgu'r cwricwlwm newydd, a dim ond o 2026 y bydd yn ymestyn i bob blwyddyn ym mhob ysgol. Rwy'n cydnabod yn llwyr pa mor amrywiol yw hi o ran datblygu addysgu a dysgu er mwyn cyd-fynd â'r cwricwlwm i Gymru. Nid yw hyn yn newydd nac yn wahanol i ddiwygio'r cwricwlwm, ond er hynny, rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif ledled y system. Yn wir, codais y mater hwn yn fy adroddiad blynyddol ar y cwricwlwm fis Gorffennaf diwethaf.

Rwy'n glir y dylai ysgolion fod yn derbyn cefnogaeth bwrpasol i'w helpu i gyflwyno eu cwricwlwm. Rydyn ni hefyd wedi darparu adnoddau i gefnogi dilyniant ac asesu, wedi parhau i ddod ag ymarferwyr at ei gilydd fel rhan o rwydwaith cenedlaethol i sicrhau bod lleisiau athrawon yn greiddiol i'n diwygiadau, ac rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau gwella ysgolion fel sail i'r cwricwlwm newydd.

Llywydd, mae'r adroddiad yn rhoi cipolwg ar y cynnydd cyson a'r ymrwymiad cryf ledled Cymru i ddiwygio anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn gyson â'r adborth gan yr arweinydd gweithredu cenedlaethol anghenion dysgu ychwanegol a'r grŵp llywio. Yn rhan o'r rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol, rydyn ni wedi buddsoddi mewn pecyn cynhwysfawr o weithgareddau codi ymwybyddiaeth i gefnogi datblygu'r gweithlu. Mae hyn yn cynnwys cynnig dysgu proffesiynol i bob athro neu athrawes er mwyn hyrwyddo arferion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a dysgu gwahaniaethol i gau bylchau rhwng dysgwyr ac ymateb i anghenion dysgwyr.

Yn olaf, Llywydd, hoffwn gyfeirio at y canfyddiadau yn yr adroddiad, bod y pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar blant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Roedd presenoldeb gwael mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, ac ymhlith ein dysgwyr mwyaf difreintiedig, yn bryder allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad blynyddol. Mae hyn yn bryder enfawr i mi. Fel y gwyddoch, yn anad dim arall, ein cenhadaeth genedlaethol yw gwella safonau a dyheadau i bawb drwy fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Mae'r adroddiad blynyddol yn ddefnyddiol iawn yn amlygu nodweddion allweddol o waith darparwyr sydd wedi bod yn effeithiol wrth fynd i'r afael ag effaith tlodi ac anfantais ar eu dysgwyr. Mae angen i ni ddysgu gan y darparwyr hyn a rhannu hynny ar draws y system. Bu gan y grant datblygu disgyblion ran allweddol wrth gefnogi'r agenda hon, a byddwn yn adeiladu ar arferion effeithiol sy'n bodoli eisoes drwy sicrhau ein bod yn targedu'r cyllid mor effeithiol â phosibl. O flwyddyn i flwyddyn, rydyn ni wedi ymestyn y grant datblygu disgyblion, gyda chyllid ar gyfer 2023-24 bellach tua £130 miliwn. Yn ogystal, mae ysgolion bro hefyd wrth wraidd ein hagenda i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Ein huchelgais yw i bob ysgol yng Nghymru fod yn ysgolion bro, yn ymateb i anghenion eu cymunedau, adeiladu partneriaeth gref gyda theuluoedd, a chydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill. Rydyn ni hefyd wedi bod yn cynyddu nifer y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd sy'n cael eu cyflogi gan ysgolion er mwyn canolbwyntio ar wella presenoldeb disgyblion.

Llywydd, mae yna lawer o ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol. Rwyf wedi dewis dim ond ambell un i ddechrau ein dadl. Rwy'n ddiolchgar, unwaith eto, i'r prif arolygydd am gynhyrchu'r adroddiad hwn. Dim ond trwy grisialu a rhannu dysgu o'r fath, a mynd i'r afael â materion a heriau, y byddwn yn parhau i adeiladu'r system addysg orau ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru.

17:30

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon heno ar adroddiad blynyddol Estyn 2021-22. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'n haelodau staff ymroddedig ar hyd a lled y wlad, sy'n gweithio'n galed, o ddydd i ddydd, er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn cael y cyfleoedd dysgu gorau posibl.

Dyma adroddiad blynyddol cyntaf Estyn ers dechrau'r pandemig sy'n rhydd, gan fwyaf, o ddylanwadau'r cyfnodau cyfyngiadau symud sy'n effeithio ar Gymru neu, yn wir, y DU ehangach. Fodd bynnag, roedd yn bryderus fod rhai effeithiau parhaol y gellir eu hadnabod o'r amser hwnnw wedi codi yn yr adroddiad, gan fod 2021-22 wedi'i nodweddu ym mhob sector gyda'u hymdriniaeth o effeithiau parhaus y pandemig. Rhai o'r canlyniadau negyddol, megis y niwed a wnaeth i sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr, yn enwedig o ran sgiliau llefaredd disgyblion iau, yn ogystal â'u cyfraddau gwella araf ers hynny. Ac na foed inni anghofio ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar i fandadau mygydau mewn ysgolion ddod i ben yn gynt, ac yn hytrach, roedd y Llywodraeth Lafur hon yn caniatáu iddyn nhw aros yn eu lle yn hirach na'r angen, ac felly'n mygu cyfranogiad dosbarth a datblygiad cymdeithasol.

O ran y cwricwlwm newydd, mae'r adroddiad yn honni bod y mwyafrif o ddarparwyr yn cydnabod pwysigrwydd addasu a gwella eu haddysgu, yn ogystal â chynnwys eu cwricwlwm. Fodd bynnag, wrth i mi barhau i glywed fy hun ar daith o amgylch ysgolion lleol yn fy etholaeth, fod arweinwyr yn parhau i fod yn bryderus am yr asesiad a'r dilyniant a sut beth ddylai cynnydd drwy'r cwricwlwm fod.

Canfuwyd hefyd bod cefnogaeth a dderbyniwyd gan ysgolion gan awdurdodau lleol a chonsortia yn aml yn rhy gyffredinol, yn hytrach na phwrpasol ar gyfer anghenion pob ysgol. Nid oedd gweithredu'r cwricwlwm i Gymru yn gyfyngedig i sectorau penodol chwaith. Mewn gwirionedd, mae'r adroddiad yn nodi'n benodol mai ychydig iawn o ysgolion cynradd a ddefnyddiodd ganllawiau'r cwricwlwm yn hyderus, a dim ond hanner yr ysgolion uwchradd sydd eisoes wedi dechrau cyflwyno'r cwricwlwm i Gymru. Trwy bwyso am ddiwygio'r cwricwlwm, mae Llywodraeth Cymru wedi achosi i ysgolion flaenoriaethu dyluniad y cwricwlwm dros wella effeithiolrwydd addysgu, ac wedi methu â chydnabod yn ddigonol yr effaith sylweddol a gaiff gwella ansawdd yr addysgu ar sicrhau cynnydd disgyblion. Eto i gyd, mae Llywodraeth Cymru wedi torri £2.2 miliwn mewn termau real ar ddatblygiad a chymorth athrawon yn y gyllideb, a dydy hynny ddim yn gwneud synnwyr.

Roeddem ni yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ohirio cyflwyno'r cwricwlwm fel y byddai gan ysgolion yng Nghymru amser i ganolbwyntio ar adferiad o'r pandemig ac i gynyddu niferoedd athrawon, yn hytrach na chael eu hymdrechion a'u sylw wedi eu dargyfeirio ar adeg mor dyngedfennol. Rydw i a chydweithwyr yn y Siambr, ar wahanol achlysuron, wedi galw am amcan terfynol mwy pendant ac i'r Gweinidogion fynd i'r afael â phryderon ynghylch asesu a dilyniant, a beth yn union fydd canlyniad cynnydd. Mae'n amlwg iawn bod gennym ni broblem â gormod o hyblygrwydd ac o ran yr anghenion dysgu ychwanegol y soniodd y Gweinidog amdanynt, a'r diwygiadau diweddar, nododd yr adroddiad fod dealltwriaeth aelodau unigol o staff am eu cyfrifoldebau o ran cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn amrywiol.

Rydyn ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod y gwnaeth adroddiad Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru o fis Tachwedd 2021 dynnu sylw at y ffaith bod 92 y cant o arweinwyr ysgolion o'r farn nad oedd cyllid ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn eu hysgolion yn ddigonol, a bod 94 y cant yn credu nad oedd y cyllid yn ddigonol i ddiwallu anghenion diwygiadau, ac felly yn galw am gynyddu'r cyllid i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn eu hysgolion. Mae arnom ni eisiau i Lywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod plant yn cael eu hadnabod fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn llawer cynt nag y maen nhw ar hyn o bryd, fel y gallan nhw ymuno â'r rhestrau aros yn gynt, a chael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw'n gynt. Nid yw'n gymhleth, ond mae'n cael effaith enfawr ar ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a'r rhai nad oes ganddynt yr anghenion, mewn ystafelloedd dosbarth ar hyd a lled Cymru.

Fel gydag adroddiadau blaenorol, cadarnhaodd arweinwyr eu bod yn parhau i wynebu heriau sylweddol ynghylch recriwtio a chadw staff sydd â chymwysterau a phrofiad addas. Dyma argyfwng staffio Llywodraeth Cymru sydd ond yn ymddangos fel pe bai'n gwaethygu, nid yn gwella, a rhywbeth yr ydym ni, unwaith eto, wedi ei grybwyll yn y Siambr hon droeon.

Mae yna gymaint yn fwy o bwyntiau o'r adroddiad yma y gallwn i ddal sylw arnyn nhw, o'r materion difrifol yn addysg Gymraeg i'r argyfwng iechyd meddwl sy'n ysgubo drwy ein hysgolion, ond gwelaf fod amser yn prysur brinhau. Ar y cyfan, mae gennym ni adroddiad sy'n dangos yn glir fod gan addysg yng Nghymru ffordd bell i fynd i adfer o'r difrod y mae'r pandemig wedi'i achosi. Fodd bynnag, ar ôl 25 mlynedd o fethiant ac esgeulustod gan y Llywodraeth Lafur hon a ategwyd gan Blaid Cymru, a chyllideb sy'n torri cyllid addysg mewn termau real ac arian parod, nid wyf yn rhy obeithiol.

17:35

Diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon heddiw. Yn amlwg, mae hi'n cyd-fynd efo'n dadl neu drafodaeth flaenorol ni o ran gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg. Hoffwn innau ategu fy niolch i i Owen Evans, a dwi'n meddwl bod yr adroddiad yn sicr yn gynhwysol. Dwi'n croesawu hefyd y fformat newydd, fel y soniwyd gan y Gweinidog, a dwi'n meddwl bod adroddiadau thematig, yn benodol, yn rhoi darlun clir inni o ran rhai o’r heriau anferthol y mae ein hysgolion yn eu hwynebu.

Dwi'n meddwl hefyd ei fod yn cyferbynnu, efallai, gyda rhai o’r pethau yr oeddem ni'n eu trafod yn gynharach o ran bod yna bictiwr positif o ran addysg yng Nghymru. Oherwydd un o’r pethau rydych chi'n edrych arno fo o ran yr adroddiad ydy'r heriau gwirioneddol hynny. Yn amlwg, un o'r pethau positif yn yr adroddiad ydy ei fod o'n cynnig datrysiadau hefyd ac yn sôn am rôl cymaint o bartneriaid ac ati o ran y cyfraniad. Ond dwi'n meddwl un o’r cwestiynau sy’n aros gyda mi ydy, o ran y Gweinidog, mae yna gymaint, gymaint o heriau yn yr adroddiad hwn—mae o'n adroddiad onest iawn o ran yr heriau hynny, fel rydych chi wedi cyfeirio ato'n barod o ran yr effaith anghymesur ar blant a phobl ifanc yn benodol. Mi oeddem ni mewn sefyllfa heriol cyn COVID; mae hwn yn creu darlun sydd yn dangos yn glir yr heriau ychwanegol hynny sydd wedi'u creu.

Yn amlwg, un o'r pethau rydyn ni'n gwybod sydd yn her fawr i'r Llywodraeth ydy o ran cyllidebau. Ydych chi'n credu bod gennych chi'r adnodd i wirioneddol fynd i'r afael efo'r holl heriau sydd wedi eu hamlinellu fan hyn? Yn amlwg, mae yna arian yn mynd mewn i nifer o feysydd, ond yn gyffredinol, mae yna gymaint—gymaint—o bethau rydyn ni angen gwella yn fan hyn er mwyn gallu cyrraedd y weledigaeth wnaethoch chi sôn amdani yn gynharach o ran rhoi'r cyfle gorau posib i bob un o'n dysgwyr ni. Dwi'n meddwl ei fod o'n gyfle inni adlewyrchu fan hyn o ran sut rydyn ni'n cydweithio ac yn sicrhau bod yr holl bethau yn mynd i ddod ynghyd.

Rhai adlewyrchiadau. Yn amlwg, rydyn ni wedi trafod o'r blaen yr elfen o ran un o'r themâu o ran aflonyddu rhywiol, ond o ailddarllen yr adran yna, mae'r ffaith bod gan hanner y disgyblion—a'r mwyafrif y merched—brofiad personol o aflonyddu rhywiol; bod tri chwarter yr holl ddisgyblion wedi gweld disgybl arall yn dioddef aflonyddu rhywiol—mae'r rhain yn ystadegau brawychus yn ein hysgolion ni rŵan. A dwi'n meddwl mai un o'r pethau eraill yr hoffwn ei weld ydy sut ydym ni'n mynd i sicrhau bod amgylchedd ysgol yn ddiogel i bob un o'n dysgwyr ni? Ac mae'n cyd-fynd, yn amlwg, efo'r gwaith rydyn ni'n trio ei wneud o ran sicrhau bod Cymru yn wlad sydd yn rhoi cyfle cyfartal i bawb, ond mae o'n fy mhryderu i mai dyma ydy profiad dysgwyr mewn sefydliadau addysgol rŵan.

Hoffwn hefyd jest cyfeirio at rhai o'r pethau sydd o ran hyfforddi athrawon, rydych chi wedi cyfeirio atynt yn benodol, ond dwi'n meddwl mai un o'r pethau oedd yn yr adroddiad oedd o ran yr anghysondeb o ran profiad hyfforddiant ac ati. Dwi jest eisiau gweld sut rydych chi'n credu ein bod ni'n mynd i allu mynd i'r afael â hynny.

Rydych chi wedi cyfeirio hefyd, ac fel sydd yn amlwg yn yr adroddiad, at effaith y pandemig o ran iechyd meddwl—rydyn ni eisoes wedi trafod o ran presenoldeb—a'r arian ychwanegol sydd wedi mynd. Ond un o'r pethau y mae ysgolion yn sôn amdano ydy'r heriau o ran eu cyllidebau nhw ar y funud o ran gallu parhau gyda rhai o'r pethau ychwanegol y maen nhw'n gallu eu cynnig. Er enghraifft, cwnsela o fewn ysgolion; rydyn ni'n gwybod bod rhai ysgolion yn darparu hynny, a rhai eraill yn gyfan gwbl ddibynnol ar wasanaethau y tu hwnt i'r ysgolion, megis CAMHS. Sut ydyn ni am sicrhau bod y profiad yna o ran mynediad at wasanaethau yn gyson lle bynnag eich bod chi'n byw yng Nghymru? Ac yn sicr, mae yna ddatrysiadau yn fan yna o ran presenoldeb ac ati, a'n bod ni'n gweld lle mae o'n bosib cael y gwasanaethau yna, a bod ysgol yn gweithio o ran gallu gwneud mwy nag ysgol gonfensiynol o ran cynnig y gefnogaeth yna a'i fod o'n gallu gwneud gwahaniaeth, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae efallai problemau cymdeithasol sy'n golygu bod effaith anghymesur.

Hoffwn gyffwrdd hefyd o ran y Gymraeg. Rydyn ni wedi gweld yn benodol yn yr adroddiad yr anghysondeb o ran y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae yna lot o bwyslais yn mynd i fod ar y Bil addysg Gymraeg yn sicr o ran hynny, ond ydych chi'n credu bod y feirniadaeth yna yn deg ar y funud? Ydych chi'n credu bod yna ddigon o bethau yn mynd i fod yn y Bil addysg Gymraeg o ran mynd ati—? Mae cyngor gyrfaoedd yn sicr yn beth arall lle dwi'n meddwl buaswn i'n hoffi gweld sicrwydd bod hynny'n rhywbeth mae'r Llywodraeth yn mynd i fod yn mynd ar ei ôl ymhellach. 

Dwi'n gweld fy mod i allan o amser. Mae hwnna jest yn dangos faint o bethau sydd o bwys yn yr adroddiad hwn, a dwi'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cydweithio fel Senedd i sicrhau ein bod ni'n gallu gwireddu'r argymhellion hyn a sicrhau bod yr arian gan y Llywodraeth hefyd i fynd ati, oherwydd, yn amlwg, mae yna heriau gwirioneddol o ran addysg sy'n cael eu hamlinellu fan hyn, ac mae i fyny i ni i gael datrysiadau rŵan. 

17:45

A minnau'n gyn-athrawes, darlithydd ac aelod cabinet cyngor dros addysg a chadeirydd consortia, rydw i'n hen gyfarwydd ers blynyddoedd lawer â'r heriau addysgol sy'n wynebu ein hathrawon bob dydd, ddydd ar ôl dydd, ond byth mewn amgylchiadau economaidd a chymdeithasol mwy heriol. Mae athrawon, yn ogystal â ni, yn wynebu'r anghydraddoldeb mwyaf yn y DU ers i gofnodion ddechrau, wrth i'n hysgolion fynd i'r afael â thlodi ar lawr gwlad a'i effaith ar gyrhaeddiad bob dydd. A minnau wedi dysgu unwaith yn y rhan fwyaf o ysgolion cynradd ac uwchradd Islwyn, rwyf hefyd hyd yn hyn eleni wedi ymweld â nifer o ysgolion, gan gynnwys ysgolion uwchradd Trecelyn ac Islwyn ac ysgolion cynradd Markham a Bryn, er mwyn i mi allu deall o lygad y ffynnon, ar lawr gwlad, y sefyllfa fel y mae heddiw.

A, Gweinidog, er nad oedd erioed yn fwy heriol, bu ymroddiad a brwdfrydedd myfyrwyr, athrawon, staff ysgolion a llywodraethwyr yn amlwg ac wedi disgleirio yn wyneb yr her honno. Er hynny, nid oes angen i'n hathrawon a'n llywodraethwyr ac arweinwyr ysgolion gael eu cystwyo gan wleidyddion ac awtocratiaid, ond eu cefnogi, eu meithrin a'u galluogi gan ragoriaeth ac asiantaethau strwythurol. A heddiw, yn ogystal â her wirioneddol, ceir cyffro gwirioneddol am addysg yng Nghymru, ar drothwy dadeni newydd o ran canlyniadau, dan arweiniad nid modelau hen a llipa, ond yn hytrach yr arfer gorau un yn rhyngwladol, wedi'i ganmol gan y Sefydliad dros Gydweithio a Datblygu Economaidd yn rhyngwladol, ochr yn ochr â Seland Newydd, Iwerddon ac Estonia. Ac mae'n arbennig o gefnogol pan fyddwn ni'n oedi ac yn ystyried, dim ond tair blynedd yn ôl, fod pob ysgol ledled Cymru yn cael eu cau yn nannedd pandemig byd eang COVID.

Mae Islwyn ei hun yn falch dros ben o adroddiadau rhagorol Estyn sydd wedi'u cyhoeddi yn ddiweddar ar gyfer Ysgol Gynradd Cefn Fforest, Ysgol Gynradd Markham ac Ysgol Gynradd Pontllanfraith. Ac rwy'n nodi o'r adroddiad blynyddol y parhawyd i deimlo effaith pandemig COVID-19 drwy gydol y flwyddyn academaidd. Rhaid canmol athrawon ac arweinwyr ysgolion Islwyn am yr ystwythder mwyaf a'r meddwl arloesol a ddangoswyd ganddynt yn ystod cyfnod gwirioneddol eithriadol. Felly, diolch. Dywed Estyn y bu cynnydd nodedig, fodd bynnag, yn y galw am lesiant a chymorth iechyd meddwl. Mae hyn yn cyflwyno her sylfaenol i ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ynghylch sut y bydd angen mynd i'r afael â hyn. Mae'n debyg bod angen pwysleisio hyn a'i ail ystyried, gan y bydd yn anochel yn un o etifeddiaethau mwyaf dwys y pandemig. Mae dyletswydd arnom ni i'n plant i ddiwallu'r anghenion hynny. Er hynny, cefais fy nghalonogi o ddarllen bod Estyn yn dweud bod y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gryfder yn y mwyafrif o'r ysgolion uwchradd. Mae ein hysgolion uwchradd nawr yn dod yn llawer mwy medrus wrth ymateb i anghenion unigol y dysgwr sydd o'u blaenau, gan greu cymuned ddysgu gynhwysol. Mae hynny'n newyddion ardderchog, a dylem ni ddathlu hynny.

Rwy'n mawr obeithio bod sylwebaeth Estyn ynghylch arwain, gwerthuso addysgu, yn golygu y bydd Estyn ei hun yn ymgymryd â rhywfaint o waith datblygu ar hyn, gan ei fod yn awgrymog o fater sylfaenol sy'n gofyn am ddealltwriaeth gyffredinol o'r materion a'r ffyrdd posib ymlaen. Mae'n bwysig gwybod beth yw 'da'. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyfathrebu clir rhwng athrawon, dysgwyr ac arweinwyr ysgolion o ran beth sy'n gyfystyr ag addysgu a dysgu effeithiol, ac mae hyn yn parhau ynghylch asesu, hyfforddiant cychwynnol athrawon, y cwricwlwm newydd a diwygio anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n hanfodol y gwneir y gwaith hwn mewn modd tringar a blaengar. Does ond rhaid i ni edrych ar amgylchiadau trasig arolygiad diweddar Ofsted yn Newbury a welodd farwolaeth drasig iawn y pennaeth Ruth Perry i wybod bod yn rhaid i bawb sy'n ymwneud â gwneud dyfarniadau gyfathrebu mewn modd atebol a chlir â'r rhai y maent yn eistedd mewn barn arnynt.

Yn olaf, hoffwn ddatgan fod athrawon yn fodau dynol sydd wedi cynnig eu bywydau, eu hegni a'u gyrfaoedd nid yn unig i genedlaethau'r dyfodol ond i Gymru a'n holl ddyfodol cyfunol. 

Diolch, Llywydd, a diolch i bawb am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Mae'r ddadl wedi bod yn gyfle pwysig i Aelodau allu mynegi barn ar yr adroddiad blynyddol. Fel mae mwy nag un cyfrannwr wedi'i ddweud, mae addysg yng Nghymru yn newid, ac rŷm ni'n gweithredu diwygiadau mawr o ran y cwricwlwm ac anghenion dysgu ychwanegol ac mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae yna nifer o heriau o ran sut rŷm ni'n lleddfu effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad ein pobl ifanc, ac mae mwy nag un cyfrannwr wedi sôn am bwysigrwydd hynny heddiw yn y drafodaeth ar yr adroddiad blynyddol. Mae'r adroddiad yn dangos bod gyda ni lawer i ymfalchïo ynddo yn ein system addysg. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr heriau y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw.

Rwy'n cytuno, Llywydd, bod hyn yn cynnwys nifer o'r eitemau a godwyd gan yr Aelodau heddiw. Soniodd Gareth Davies am bwysigrwydd buddsoddi mewn llefaredd, ac er fy mod yn anghytuno ag ef fod yr ateb i hynny yn syml mewn dull polisi o ymdrin â mygydau, ac o'r farn bod yr heriau yn llawer, llawer mwy dwys na hynny, soniais yn fy sylwadau agoriadol am y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud mewn llefaredd ac o ran cefnogi pobl ifanc mewn ffyrdd arloesol iawn, ond mae hon yn her sylweddol iawn, fel y mae yntau'n cydnabod yn ei sylwadau.

Gwnaeth yr alwad unwaith eto am ohirio'r diwygiadau i'r cwricwlwm. Ar ôl bod trwy gyfnod yn ystod COVID pan oedd pwyslais y system ysgolion gyfan ar ddulliau mwy creadigol o addysgu a dysgu, gan roi llesiant wrth galon popeth y mae'r ysgol yn ei wneud, roedd hynny'n ymddangos i mi yn sylfaenol gyson â gwerthoedd y cwricwlwm newydd, ac roedd parhau â'r cyflwyno pan wnaethom ni, fis Medi diwethaf, yn adlewyrchu'n fawr faint o frwdfrydedd oedd yn y system ysgolion, nad wyf yn credu iddo adlewyrchu yn ei sylwadau. Ac os ydym ni'n chwilio am dystiolaeth o hynny, pan roddwyd y cyfle i ysgolion uwchradd ohirio cyflwyno'r cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd, penderfynodd bron i hanner ohonyn nhw beidio â gwneud hynny ond pwyso ymlaen fis Medi'r llynedd. Credaf fod hynny'n rhoi arwydd clir i ni o faint yr ymrwymiad ar draws y system a'r gwerthfawrogiad sydd gan athrawon o werth y cwricwlwm newydd.

Fe wnaeth nifer o Aelodau bwyntiau pwysig iawn ynglŷn â sicrhau adnoddau, a gallaf gadarnhau mewn ymateb i Heledd Fychan, bod a wnelo hynny â'r cyllid recriwtio, adennill a chodi safonau, neu gyllid y grant amddifadedd disgyblion neu'r buddsoddiad mewn mentrau iechyd meddwl a llesiant y cyfeiriwyd atynt yn briodol fel hanfodol ganddi hi a Rhianon Passmore, mae'r gwaith a wnaeth Lynne Neagle a minnau gyda'n gilydd wedi golygu y bu cynnydd sylweddol i faint gyllid sydd ar gael i gefnogi'r dull gweithredu ysgol gyfan, a bydd hynny'n cynnwys ymestyn gwasanaethau cwnsela i ddiwallu'r hyn sy'n alw cydnabyddedig a chynyddol mewn cysylltiad â hynny hefyd.

Llywydd, wrth i ni gychwyn ar y diwygiadau hyn, credaf ei bod hi'n bwysicach nag erioed cael arolygiaeth annibynnol i archwilio cynnydd a rhannu'n onest â ni beth yw cryfderau a gwendidau'r system ac mae gwneud hynny yn y ffordd yr oedd Rhianon Passmore yn ein hatgoffa mor bwysig, sef gwneud hynny mewn ffordd sy'n gefnogol o'r proffesiwn a'r dysgwyr. Felly, hoffwn ddiolch i Estyn a'r holl dîm o arolygwyr am eu gwaith parhaus a'u hymroddiad yn darparu dadansoddiad gwrthrychol ac annibynnol o berfformiad y—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

17:50

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. Clywsom gan yr Aelod o Islwyn am y drasiedi yn Lloegr, yn amlwg, gyda'r brifathrawes yn terfynu ei bywyd. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'r arolygiaeth Gymreig i wneud yn siŵr bod yna ofal bugeiliol a'r ddealltwriaeth honno? Rwy'n deall bod gennym ni system wahanol, ond mae yna wahanol fathau o bwysau a straen sy'n amlwg yn rhoi baich enfawr ar ein penaethiaid ac uwch dimau rheoli a llywodraethwyr. Rwy'n credu y byddai hi, yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol, yn dda deall pa drafodaethau rydych chi fel y Gweinidog wedi'u cael gyda'r arolygiaeth i ddeall pa fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith.

Wel, dyna bwynt pwysig iawn. Mae'n rhan o'n trafodaethau parhaus gyda'r arolygiaeth. Bydd yn gwybod bod y diwygiadau y mae'r arolygiaeth wedi ymgymryd â nhw yng Nghymru wedi cael gwared ar y pwyslais atebolrwydd mewn ysgolion o'r dyfarniad unigol, crynodol hwnnw, sef lle mae rhai o'r tensiynau, yn aml, wedi codi, ac rydym ni, rwy'n credu, wedi gweld rhai o ganlyniadau hynny mewn mannau eraill. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod o'r trafodaethau hynny yw bod penaethiaid a'r arolygiaeth wedi gallu cael sgyrsiau llawer mwy ystyrlon, llawer mwy cefnogol, gan gydnabod y cryfderau a'r meysydd her i ysgol, a'u bod, pan gyhoeddir yr adroddiadau hynny, yn adlewyrchu ehangder y darlun hwnnw yn hytrach na chanolbwyntio ar un neu ddau air yn aml. A chredaf fod hynny wedi creu, ac yn dechrau creu, diwylliant llawer mwy adeiladol yn ein hysgolion, y gwn i y byddai ef hefyd yn cefnogi. 

Rwy'n falch ein bod wedi gallu cynyddu'r cyllid i Estyn er mwyn galluogi'r arolygiaeth i gwblhau'r gwaith o arolygu pob ysgol yn y cylch presennol erbyn mis Gorffennaf 2024. Ac i gloi, Llywydd, fel y mae'r ddadl heddiw wedi adlewyrchu, rydyn ni i gyd wrth gwrs yn ymwybodol o heriau parhaus y pandemig, a phwysigrwydd lliniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Yn union yn y ffordd y mae nifer o siaradwyr wedi dweud heddiw, dim ond trwy gydweithio ar bob lefel o'r system addysg, a hefyd yn y Siambr hon, y byddwn yn llwyddo i roi'r addysg orau bosibl i bob un dysgwr yng Nghymru. 

17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar y cynnig yna tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n dod nawr at y cyfnod pleidleisio. Ac felly, oni bai bod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud at y bleidlais. Ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl ar adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. A dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 yn gyntaf—gwelliant 1, wedi'i gyflwyno gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 1 wedi ei wrthod, felly. 

Eitem 9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021-22. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Y bleidlais nesaf ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Y cynnig yna, felly, wedi ei dderbyn. 

Eitem 9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021 – 2022. Cynnig: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, mae yna 13 yn ymatal a neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn hefyd. 

Eitem 10. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2021-22 : O blaid: 39, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig

A dyna ni ddiwedd ar y pleidleisio, a diwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:58.