Y Cyfarfod Llawn

Plenary

15/02/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Prynhawn da. Croeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Hefin David.

Treth Incwm

1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith posib o gynyddu'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm yng Nghymru? OQ59146

Byddai codi’r gyfradd sylfaenol yn golygu costau ychwanegol i'r rheini sy’n llai abl i’w fforddio ar adeg pan fo Llywodraeth y DU wedi rhewi trothwyon treth incwm, gan lusgo pobl sy’n ennill llai i mewn i'r system treth incwm.

Credaf mai'r pwynt allweddol a wnaed gan y Gweinidog yno yw, 'Ar hyn o bryd'. Rwy'n credu bod treth incwm yn rhywbeth y dylid ei ailystyried yn y dyfodol, ond mae'n llygad ei lle i ddweud nad nawr yw'r adeg i wneud hynny. Yr wythnos diwethaf, gwelsom welliant i gyllideb Llywodraeth Cymru gan Blaid Cymru a fyddai wedi costio £2.47 yr wythnos yn ychwanegol i bobl ar y gyfradd sylfaenol, yn ystod argyfwng costau byw. Yn bersonol, fy marn i yw na ddylai’r cytundeb cydweithio fod wedi caniatáu i’r gwelliant hwnnw gael ei gynnig, o ystyried ei fod yn berthnasol i'r gyllideb, ac roedd yn siomedig gweld hynny’n digwydd y tu allan i’r cytundeb cydweithio. Dylem weld Plaid Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am y grym sydd ganddynt yn Siambr y Senedd. A fyddai’r Gweinidog, serch hynny, yn fodlon adolygu’r sefyllfa hon yn y dyfodol, os yw'r amgylchiadau economaidd yn caniatáu ar ryw adeg?

Rwy’n ddiolchgar iawn i Hefin David am ei gwestiwn, ac am godi cyfraddau treth incwm Cymru y prynhawn yma. Ac rwy’n cytuno’n llwyr â’i asesiad nad nawr yw'r adeg gywir, mewn argyfwng costau byw, i ofyn i’r rheini ar yr incwm isaf un, ac yn wir, y rheini sydd wedi cael eu tynnu i mewn i’r system dreth incwm am y tro cyntaf erioed, fod yn talu mwy. A chredaf ei bod yn dra hysbys, er mwyn codi unrhyw swm sylweddol o arian i gynyddu'r adnoddau sydd gennym, y byddai’n ofynnol inni godi'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm. Credaf fod yn rhaid gwneud hynny mewn ffordd ystyriol a strategol. Wedi dweud hynny, bob blwyddyn, rydym yn asesu ein hopsiynau, o ran sut rydym yn defnyddio cyfraddau treth incwm Cymru, a byddem yn disgwyl edrych eto o’r newydd ar y mater hwn y flwyddyn nesaf, o ran baich treth cyffredinol a chyfraniad pobl, yn dibynnu ar y sefyllfa gyda Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, sefyllfa economaidd ehangach pobl. Ond yn sicr, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried o'r newydd ar gyfer pob cyllideb.

Fel y clywsom gan Hefin David, un o beryglon cynyddu treth incwm mewn cyfnod o drafferthion ariannol yw’r ffaith y byddai’n rhywbeth a fyddai wedi’i adeiladu ar draul pobl sy’n gweithio ledled Cymru. Ac mae'n gwbl briodol, yn fy marn i, ar y diwrnod yr ymddiswyddodd Nicola Sturgeon fel arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban, i gofio o ble yn union y cafodd Plaid Cymru y syniad hwn, gan eu bod yn etifeddu llawer o'u syniadau gan blaid o ran arall o’r Deyrnas Unedig—yr SNP. Oherwydd yn yr Alban, maent yn cynnig ychwanegu 1g at y cyfraddau treth uwch ac uchaf, ochr yn ochr â lleihau'r trothwy ar gyfer y gyfradd uchaf, o £150,000 i ychydig dros £125,000. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi rhybuddio y bydd hynny’n arwain at ecsodus o enillwyr uchel dros y ffin. Mae arweinwyr busnes yr Alban wedi dweud y byddai’n anfantais i’r Alban ac wedi dweud yn glir y byddai’n gwneud cystadlu â’r DU am dalent yn llawer anos. Ar ben y codiadau hynny, nid yw Confensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban wedi diystyru cynnydd o 10 y cant mewn trethi cyngor yno. Mewn arolwg, roedd hanner yr Albanwyr am i system bresennol y dreth gyngor ddod i ben. Dangosodd arolwg arall fod un o bob pum cartref yn yr Alban ar hyn o bryd yn byw mewn trafferthion ariannol difrifol, sy’n cyfateb i 1.2 miliwn o bobl; yn y DU gyfan, mae'n 17 y cant. Dyna weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer Cymru, Weinidog, ac mae’n weledigaeth sydd wedi’i hadeiladu ar drethu pobl sy’n gweithio. A ydych yn cytuno â mi fod honno'n flaenoriaeth gwbl anghywir, ar yr adeg anghywir, gan blaid sydd fwyfwy allan o gysylltiad â phobl Cymru?

Wel, byddwn yn atgoffa’r Aelod, o dan Lywodraeth Geidwadol y DU, fod y baich treth ar bobl yng Nghymru, a ledled y DU, bellach ar ei uchaf ers 70 mlynedd, o ganlyniad i’r penderfyniadau y mae’r Llywodraeth honno wedi’u gwneud. Ond credaf mai mater i Lywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban yw cyfraddau treth incwm yr Alban, ond nid yw hynny’n golygu na allwn ddysgu o’u profiadau, a dyna pam fod gennym gryn ddiddordeb yn y gwaith y mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydu yn ei wneud ar ddatblygu set ddata hydredol. Nawr, gobeithiaf y bydd hynny’n caniatáu inni gael dadansoddiad manylach o effeithiau ymddygiadol newidiadau i drethi, gan gynnwys ymatebion ynghylch mudo, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â HMRC i ddeall yn well y posibiliadau y gallai’r gwaith hwnnw eu rhyddhau.

Gwasanaethau Bysiau

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â chymorth Llywodraeth Cymru i leihau'r pwysau ariannol ar wasanaethau bysiau rheolaidd? OQ59129

Rwy’n ymgysylltu’n rheolaidd â fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet ar faterion cyllido. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi darparu dros £110 miliwn o gyllid i ddiogelu a thyfu gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Mae'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau hefyd wedi'i ymestyn i'r flwyddyn ariannol nesaf.

13:35

Yn ddiamau, Weinidog, mae gweithio trawslywodraethol, dod o hyd i’r arian ar gyfer cymorth brys i'r sector bysiau, a'i ymestyn nawr am yr ychydig fisoedd nesaf, wedi bod yn hollbwysig i sicrhau bod y diwydiant bysiau yng Nghymru yn goroesi, gan gynnwys gweithredwyr annibynnol, gweithredwyr teuluol bach ac ati sy'n rhedeg eu busnesau. Ond rydym yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar eich cyllideb, ond gwyddom hefyd fod hwn yn bendant yn fater cyfiawnder hinsawdd, a hefyd yn fater cyfiawnder cymdeithasol, fel y dywedir wrthym o hyd, yn gwbl briodol. A gallwn ailadrodd hyn yn dragwyddol hyd nes y bydd pobl yn sylweddoli nad oes gan 80 y cant o'r bobl sy'n defnyddio bysiau unrhyw ddewis arall. Felly, a gaf fi annog—nid gofyn am arian hud mohono—ond a gaf fi ei hannog o ddifrif, yn ei thrafodaethau â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a chyd-Weinidogion yn y Cabinet, i wneud popeth yn ei gallu i geisio dod o hyd i ffordd y gallwn gadw'r gwasanaethau bysiau hyn yn ein holl gymunedau—yn y Gymru wledig a'r Gymru drefol. Mae hynny'n hanfodol wrth symud ymlaen, yn enwedig ar ôl y cyhoeddiad ddoe am droi cornel i ffordd wahanol o geisio annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy.

Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn, ac yn cytuno’n llwyr â’r pwyntiau a wnaed am wasanaethau bysiau fel rhan hollbwysig o’n dull o sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yma yng Nghymru, ac wrth gwrs, maent yn rhan bwysig o’n dyheadau amgylcheddol hefyd. Credaf fod ein cymorth i’r diwydiant bysiau drwy gydol y pandemig a bellach ar yr ochr draw i’r pandemig wedi bod yn gwbl hanfodol i gynnal y gwasanaethau sydd gennym yng Nghymru. Ond cynllun brys ydoedd ar gyfer y sector bysiau, ac ni chredaf fod y lefel hon o gymhorthdal yn gynaliadwy yn hirdymor, a dyna pam ein bod yn edrych ar adolygu’r grant cynnal gwasanaethau bysiau, er mwyn symud y diwydiant oddi wrth y fath ddibyniaeth ar gyllid brys i rywbeth sy'n llawer mwy sefydlog yn y dyfodol. A bydd fy nghyd-Aelodau’n ymwybodol o’r cynlluniau uchelgeisiol y bwriadwn eu rhoi ar waith, o ran y Bil bysiau, er mwyn rhoi mwy o reolaeth yn ôl i awdurdodau lleol, a'r gwasanaethau a ddarperir. Felly, credaf mai dyna’r ateb mwy hirdymor, ond yn y cyfamser, mae ein cymorth yn wirioneddol bwysig i’r diwydiant.

Weinidog, ar sawl achlysur, rwyf wedi codi sefyllfa trigolion ar draws fy rhanbarth sydd wedi dioddef o ganlyniad i doriadau i wasanaethau bysiau rheolaidd. Y mater diweddaraf a ddygwyd i’m sylw yw cynnig gan First Cymru i dorri gwasanaethau i Resolfen yn fy rhanbarth. Mae llawer o bobl yn Resolfen, yn enwedig yr henoed, yn ddibynnol ar wasanaeth X7, gan fod eu swyddfa bost neu fanc agosaf dros 7 milltir i ffwrdd. Bydd unrhyw ostyngiad mewn gwasanaeth yn cael effaith wael ar gymuned fel Resolfen. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar gyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau 3, BES3, yn arwain at gyflymu’r toriadau i’r gwasanaethau bysiau hyn. Os bydd arian BES3 yn diflannu, bydd cwmnïau sy'n gweithredu gwasanaethau ym Mhort Talbot a Chastell-nedd yn datgofrestru'r rhan fwyaf o'u llwybrau teithio yn y fwrdeistref sirol. Weinidog, a wnewch chi ailystyried y penderfyniad i ddod â chyllid BES3 i ben ac edrych ar ffyrdd eraill o gefnogi diwydiant bysiau sy’n ei chael hi’n anodd ac sydd mor hanfodol i lawer o’n hetholwyr?

Carwn gyfeirio’r Aelod at y datganiad ar y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a wnaed ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Conffederasiwn Cludiant Teithwyr a Chymdeithas Bysiau Cymru yr wythnos diwethaf, a nododd fod estyniad cychwynnol o dri mis bellach ar waith sy’n rhoi sefydlogrwydd tymor byr i’r diwydiant, rhywbeth sydd ei angen arno wrth inni barhau i weithio gyda’r diwydiant gyda’n gilydd ar gynllunio rhwydweithiau bysiau sy’n gweddu’n well i’r patrymau teithio newydd a welsom ers y diwedd y pandemig.

Yna, cyfeiriaf yn ôl at y pwynt a wneuthum mai’r Bil bysiau yw’r cynllun mwyaf pellgyrhaeddol ar draws y DU, a'i fod yn gam cwbl hanfodol i wrthdroi’r difrod a welsom yn sgil dadreoleiddio'r diwydiant bysiau. Rydym yn awyddus i sicrhau bod gan bobl wasanaeth y gallant ddibynnu arno, un sy’n hawdd ei ddefnyddio ac sy’n rhoi pobl cyn elw, a bydd hynny’n gwbl ganolog i’n gwaith wrth symud ymlaen. Ond wrth gwrs, nid yw deddfwriaeth yn digwydd dros nos, felly, yn y cyfamser, rydym yn gweithio, fel y dywedaf, gyda'r diwydiant i archwilio pa welliannau cyflym y gellir eu gwneud i brofiadau teithwyr o'n bysiau, ac wrth gwrs, rydym wedi cyhoeddi cynllun bysiau Bws Cymru, sy’n nodi rhai o’r camau uniongyrchol hyn.

13:40

Weinidog, nid yw’r cyhoeddiad siomedig yn hwyr nos Wener fod y cynllun cyllid brys ar gyfer gweithredwyr i’w ymestyn am dri mis yn unig wedi darparu'r sicrwydd sydd ei angen ar y diwydiant. Ochr yn ochr â chostau cynyddol—tanwydd, cynnal a chadw a chyflogau, ac ati—nid yw lefelau defnydd lle telir am docyn ond wedi dychwelyd i oddeutu 65 y cant o’r hyn oeddent cyn COVID-19 ledled Cymru. Clywais gan gwmnïau yng ngorllewin Cymru sy’n darparu’r gwasanaethau bws rheolaidd hanfodol hyn ac sy’n pryderu efallai na fyddant bellach yn gallu gweithredu gwasanaethau hanfodol sy’n caniatáu i bobl fynd i apwyntiadau ysbyty neu at eu meddyg teulu, i fynd i siopa ac i ryngweithio â’r byd ehangach, neu hyd yn oed i deithio i'r ysgol. Mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, yn niweidiol i gydlyniant cymdeithasol a’r gallu i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, felly ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y gwasanaethau hyn mewn cymunedau gwledig yn arbennig. Felly, Weinidog, pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch diwedd cynllun BES, a pha asesiad a wnaethoch o'r effaith y bydd dod â'r cynllun i ben yn ei chael ar awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau?

Cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gyda’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Newid Hinsawdd i drafod y mater hwn a materion eraill sy'n ymwneud â phwysau yn y system drafnidiaeth yn gyffredinol. Roeddwn yn falch fod rhai sgyrsiau wedi'u cael gyda’r comisiynydd traffig i sicrhau bod y cyfnod datgofrestru bellach wedi’i gyfyngu dros dro i 28 diwrnod. Credaf fod yr estyniad i'r cyllid, er ei fod ar gyfer y tymor byr, ochr yn ochr â'r cyfnod hwnnw o 28 diwrnod, bellach yn golygu nad oes angen i weithredwyr wneud penderfyniadau ar unwaith ar ddyfodol eu rhwydwaith. Fodd bynnag, byddwn yn cydweithio’n agos â’r diwydiant bysiau a phartneriaid eraill, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru, i sicrhau’r rhwydwaith bysiau cryf a chynaliadwy sydd ei angen arnom yng Nghymru. Ond fel y credaf eich bod yn ei ddeall o’r cwestiwn, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n arwain ar y trafodaethau hynny, ac rwy’n ei gefnogi yn fy rôl fel Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

Prynhawn da, Weinidog. Gan barhau â’r thema bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mae’n teimlo i mi fel pe bai hwn yn un maes lle gall buddsoddi nawr a meddwl yn hirdymor fod o fudd i ni yng Nghymru, yn enwedig i'r rheini mewn ardaloedd gwledig. Felly, rhai bysiau yng Ngheredigion yr effeithir arnynt: gwasanaeth cylchol Tregaron, y llwybr o Benrhyn-coch i Ben-bont Rhydybeddau, a llwybrau Aberystwyth i Bontarfynach. Tri llwybr arall: mae bysus bellach yn rhedeg yn llai aml o Aberystwyth i Bonterwyd, i Benrhyn-coch ac i Lanbedr Pont Steffan drwy Dregaron. Ac mae Mid Wales Travel newydd gyhoeddi y bydd gwasanaethau ar dri llwybr o ganol tref Aberystwyth i gampws y brifysgol, i Borth ac Ynyslas, a llwybr cylchol Penparcau hefyd, yn cael eu haneru. Mae’r rhain yn effeithio'n fawr ar gymunedau yn ein hardaloedd gwledig. Mae'n apêl arall ein bod yn edrych ar y materion cyllidebol. O’r adolygiad ffyrdd ddoe, rwy'n gobeithio y cawn gyfle i edrych ar yr arian a arbedwyd o dorri’r gwaith o adeiladu ffyrdd i’n trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau bysiau. Gan mai chi sy'n gyfrifol am y gyllideb, tybed a allwch roi unrhyw wybodaeth i ni am gyllideb y flwyddyn nesaf o safbwynt cefnogi ac ariannu ein gwasanaethau bysiau. Diolch yn fawr iawn.

Rwy’n ddiolchgar iawn am y cwestiwn a hefyd, fel y mae Cefin Campbell wedi’i wneud, am gydnabod y rôl bwysig y mae bysiau yn ei chwarae'n gwasanaethu ein cymunedau gwledig yn arbennig. Fe ofynnaf i’r Dirprwy Weinidog roi mwy o ddiweddariadau wrth i’r trafodaethau hynny barhau oherwydd, fel y dywedaf, ef sy'n arwain ar y trafodaethau hynny, ond credaf mai un peth y byddai’n debygol o fod yn awyddus i dynnu sylw ato yw pwysigrwydd ein cynllun peilot Fflecsi. Bu'n gyfleuster hynod bwysig mewn rhai ardaloedd gwledig, gan gynnwys cynlluniau yn nyffryn Conwy ac yn sir Benfro, ond hefyd mewn rhai ardaloedd trefol, gan gynnwys Casnewydd a threfi llai fel Dinbych a Rhuthun. Credaf fod llawer i'w ddysgu o'r rheini, ond eto, nid yw hynny'n rhywbeth a fydd yn datblygu'n gyflym dros nos, ond yn sicr, mae'n rhywbeth y credaf fod ganddo ran bwysig iawn i'w chwarae yn y tymor hwy.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, rwy’n siŵr fod pawb yn y Siambr hon yn falch fod trafodaethau gyda’n hathrawon ac undebau ein GIG ynghylch cynigion cyflog diwygiedig yn edrych yn addawol ac wedi atal streiciau pellach gan athrawon ac unrhyw staff GIG am y tro. Gadewch inni obeithio y bydd y cynigion yn cael eu derbyn. Ond ers wythnosau, Weinidog, roedd Llywodraeth Cymru wedi honni nad oes arian ar gael, sy’n golygu y byddai unrhyw godiad cyflog arfaethedig wedi bod yn amhosibl. Felly, o ystyried y tro pedol a wnaed gan y Llywodraeth, Weinidog, a allwch rannu’r cyfanswm y bydd y cynigion cyflog uwch hyn yn ei gostio, ac o ble y daw'r arian ychwanegol? Ac a wnewch chi nodi pa feysydd gwasanaeth a fydd yn ysgwyddo'r costau a pha bethau sy'n debygol o gael eu gohirio o ganlyniad?

13:45

Wel, rwy’n rhannu eich gobaith y bydd aelodau’r undebau nawr yn derbyn y cynnig gwell a wnaed, sydd, i fod yn glir, yn uwch na'r cynnig a wnaed yn flaenorol pan wnaethom dderbyn argymhellion y cyrff adolygu cyflog annibynnol. Ein cynnig, wrth gwrs, yw 3 y cant ychwanegol yn y flwyddyn hon, a bydd 1.5 y cant o hynny’n cael ei gyfuno i mewn i'r flwyddyn nesaf. Felly, o ran ble rydym wedi gallu dod o hyd i'r arian, cyfeiriaf fy nghyd-Aelodau at yr ail gyllideb atodol, a gyhoeddwyd gennym ddoe. Ac mae honno'n nodi ein bod wedi dyrannu £130 miliwn i'r prif grŵp gwariant iechyd a £35 miliwn i'r prif grŵp gwariant addysg er mwyn talu am hynny, pe bai'n cael ei dderbyn o fewn y flwyddyn ariannol hon.

Fe welwch hefyd o'r gyllideb atodol ein bod bellach wedi tynnu popeth a allwn yn y flwyddyn ariannol hon i lawr o gronfa wrth gefn Cymru, sef £125 miliwn o refeniw. Nid yw honno’n sefyllfa gyfforddus i fod ynddi o gwbl—yn sicr, nid yw’n rhywbeth roeddwn i wedi bwriadu ei wneud ar ddechrau’r flwyddyn. Fe gofiwch, pan wnaethom osod ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ein bod wedi bwriadu tynnu llai na £40 miliwn i lawr, ac roedd hynny i gydnabod y ddwy flynedd anodd sy’n ein hwynebu, sy’n ein dilyn o ran y cyfnod adolygu gwariant tair blynedd. Felly, credaf ei bod yn sefyllfa anodd iawn nawr, o ran y gyllideb, ond yn sicr, dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Felly, i dawelu eich meddwl, pan fydd cyd-Aelodau'n pleidleisio ar y gyllideb atodol, byddant bryd hynny yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i wario'r arian sydd wedi'i ddyrannu. A hefyd, efallai y bydd tanwariant, y byddwn, yn amlwg, yn ei hybu nawr mewn gwahanol adrannau rhwng nawr a'r flwyddyn ariannol fel y gallwn sicrhau ein bod yn gallu talu am y dyfarniad cyfan hwnnw.

Diolch, Weinidog—diolch am yr eglurhad. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y Senedd yn deall y manylion. Gwn y bydd hynny wedi'i gynnwys yn y gyllideb atodol, ac edrychwn ymlaen at drafod hynny’n gynharach. Mae costau cyfle bob amser pan fydd yn rhaid addasu pethau fel hynny. Felly, mae'n bwysig ein bod yn deall goblygiadau'r penderfyniadau hynny.

Ond Weinidog, yn yr un modd o ran deall goblygiadau penderfyniadau Llywodraeth Cymru, fe fyddwch yn ymwybodol ei bod yn ddegawd cyfan eleni ers i'ch Llywodraeth gymryd rheolaeth gyfan ar Faes Awyr Caerdydd. Yn y cyfnod hwnnw, mae cannoedd o filiynau, yn llythrennol, o arian trethdalwyr wedi'i wario ar y safle, a chywirwch fi os wyf yn anghywir, ond credaf fod ymhell dros £200 miliwn wedi'i bwmpio i mewn i'r maes awyr, a hynny mewn refeniw a chyfalaf. Mae hyn yn codi'r cwestiwn ar gyfer beth arall y gellid bod wedi defnyddio’r symiau o arian a wastraffwyd dros y blynyddoedd—mae’r costau cyfle yn enfawr. Weinidog, a ydych yn gresynu at y symiau o arian y mae eich Llywodraeth wedi’u gwario ar y maes awyr dros y 10 mlynedd diwethaf, ac wrth edrych yn ôl, Weinidog, a ydych yn cytuno â mi ei fod yn benderfyniad gwael a chostus?

Wel, pe bai fy nghyd-Weindiog, Gweinidog yr Economi—mae'n ddrwg gennyf, y Gweinidog trafnidiaeth—yn ateb y cwestiwn hwn, gan mai rhan o'i bortffolio ef yw hyn, rwy’n siŵr y byddai’n eich cyfeirio at y ffaith bod gan y maes awyr gynllun penodol i sicrhau ei fod ar sylfaen gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Credaf ei bod yn bwysig fod gan y maes awyr gynllun cynaliadwy i ddod yn broffidiol, ond credaf ei bod yn bwysig fod gennym faes awyr yma yng Nghymru i wasanaethu pobl sy’n byw yng Nghymru. Yr hyn sydd gennym yn fy marn i yw sefyllfa broblemus lle mae'n ymddangos bod gan Lywodraeth y DU gryn ddiddordeb mewn cefnogi Maes Awyr Bryste ar draul Maes Awyr Caerdydd. Gwelsom hynny yn y dadleuon a gawsom ar ddatganoli’r doll teithwyr awyr yn y blynyddoedd diwethaf hefyd. Felly, credaf fod hynny’n peri pryder arbennig. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig fod gan Gymru faes awyr; mae'n bwysig fod ein maes awyr yn dod yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Wel, diolch, unwaith eto, Weinidog. Cymeraf o hynny nad ydych yn difaru’r buddsoddiad dros y 10 mlynedd, er ei fod yn swm enfawr o arian, a gwn y byddai llawer o Aelodau yma wedi hoffi gweld yr arian hwnnw’n cael ei wario mewn llawer o feysydd eraill, megis iechyd ac addysg, ac efallai wedyn na fyddem yn y sefyllfa wael rydym ynddi, ond dyna ble rydym. Yn anffodus, Weinidog, mae enghreifftiau o gyfleoedd a gollwyd o dan y Llywodraeth yn codi o hyd.

A nawr, rwy'n troi fy sylw, yn olaf, at Fferm Gilestone, lle mae Archwilio Cymru wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch penderfyniad eich Llywodraeth i wario £4.25 miliwn o arian trethdalwyr ar brynu'r fferm honno. Ond yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, mynegodd Aelodau eich meinciau cefn eich hun bryderon difrifol ynghylch y pryniant. A ydych yn cytuno â hwy, wrth edrych yn ôl unwaith eto, fod y penderfyniad i brynu’r fferm yn enghraifft arall o grebwyll gwael eich Llywodraeth a chamgymeriad ariannol?

13:50

Wel, credaf mai’r hyn sy’n wirioneddol glir o adroddiad yr archwilydd cyffredinol yw bod prynu Fferm Gilestone, er mwyn caniatáu i Ŵyl y Dyn Gwyrdd ddatblygu eu cynlluniau, yn dangos gwerth am arian, yn cyd-fynd yn briodol â’n huchelgeisiau economaidd, ac wedi dilyn y prosesau a’r cymeradwyaethau priodol. Ac i fod yn glir, mae adroddiad Archwilio Cymru yn tanlinellu nad oes amheuaeth ynghylch cywirdeb gweithdrefnol y broses o gaffael y fferm. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau cyfreithiol i gaffael eiddo neu asedau fel Fferm Gilestone, a gofynnwyd am gyngor annibynnol proffesiynol yn rhan o’r broses gaffael. A hefyd, mae’r archwilydd cyffredinol yn nodi'n glir fod y cyngor i Weinidogion wedi’i roi yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’n polisïau i gefnogi a hybu twristiaeth ac adfywio cymdeithasol ac economaidd. Credaf fod yr adroddiad hefyd wedi ychwanegu bod y cyngor a roddwyd i Weinidogion yn eang, ac yn darparu chwe opsiwn i Weinidogion eu hystyried, gan gynnwys yr opsiwn o beidio â bwrw ymlaen â’r cynnig polisi.

Ond wrth gwrs, ni fydd unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ddyfodol Fferm Gilestone hyd nes y bydd proses ddiwydrwydd dyladwy helaeth wedi’i chwblhau, ac os na fydd y cynllun busnes manwl yn bodloni gofynion Llywodraeth Cymru, neu os na fydd Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ymrwymo i les fasnachol arfaethedig, bydd gan Lywodraeth Cymru y fferm fel ased o hyd wrth gwrs, a bydd yn gallu ystyried opsiynau eraill ar ei chyfer.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, Weinidog, rwy’n siŵr y gallwch gofio Plaid Cymru yn dadlau ein hachos dros ddatganoli pwerau trethu ymhellach, gan roi’r gallu, yn yr achos hwnnw, i Gymru osod ein bandiau treth incwm ein hunain yn unol â’r pwerau sydd eisoes yn cael eu harfer yn yr Alban, wrth gwrs. Yn anffodus, fe wnaethoch chi a’ch cyd-Aelodau bleidleisio yn erbyn ein cynnig, er gwaethaf tystiolaeth gynyddol fod y bandiau treth incwm presennol, sy'n cael eu gosod, gadewch inni gofio, gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cymru, er gwaethaf y ffaith eu bod yn anaddas iawn ar gyfer sylfaen drethu Cymru. Nawr, yn ôl adroddiad diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig, pe baech yn dylunio system effeithlon o drethi incwm i Gymru, ni fyddai’r bandiau’n edrych fel y maent yn edrych nawr.

Fodd bynnag, yr hyn sydd hefyd yn amlwg, wrth gwrs, yw bod agenda bresennol Llywodraeth Cymru ar gyfer datganoli pwerau trethu ymhellach, sy’n cynnwys uchelgais i sefydlu treth ar dir gwag, yn cael ei thanseilio gan ddiffyg ymgysylltu a chydweithredu cyson gan Lywodraeth y DU. Rydych wedi disgrifio’r broses y cytunwyd arni ar gyfer datganoli cymhwysedd trethu i Gymru fel un ‘nad yw'n addas i'r diben’, felly a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau diweddar a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch adolygu a diwygio’r broses o ddatganoli pwerau trethu newydd? A pha argymhellion y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU yn hyn o beth?

Felly, cefais fy synnu gan ymateb arweinydd Plaid Cymru i fy ymateb i’w ddadl yr wythnos diwethaf, gan fy mod yn credu imi fod yn deg ac yn bwyllog iawn wrth nodi ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru ddeall goblygiadau priodol unrhyw bolisi penodol cyn inni ymrwymo iddo. A dywedais y bydd y comisiwn cyfansoddiadol yn gwneud gwaith pwysig sy'n edrych ar y rôl y gallai trethi ei chwarae yng Nghymru yn y dyfodol. Nodais hefyd fod rhai effeithiau negyddol sylweddol y byddai’n rhaid i ni eu hystyried hefyd, o bosibl. Y sefyllfa yn yr Alban yw bod y system dreth sydd ganddynt a’r dewisiadau y maent wedi’u gwneud yn golygu y bydd effaith negyddol net o £100 miliwn ar gyllideb yr Alban, er gwaethaf y ffaith bod trethdalwyr yr Alban yn talu £85 miliwn yn fwy o drethi. Felly, credaf fod yr holl bethau hynny’n bwysig i ni eu hystyried.

Ond drwy wrthod y cynigion yr wythnos diwethaf, credaf mai’r hyn roeddwn yn ei wneud oedd nodi na allwn wneud dewis polisi penodol cyn ein bod yn deall y goblygiadau’n iawn. Ac mewn ymateb i un o'r cwestiynau blaenorol y prynhawn yma, dywedais ein bod yn gweithio ochr yn ochr â Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi i ddeall y data hydredol hwnnw'n well, sy'n dod i'r amlwg nawr mewn perthynas â'r Alban, i ddeall effeithiau ymddygiadol gwahanol ddewisiadau mewn perthynas â chyfraddau treth incwm. Yr hyn roeddwn yn ceisio’i nodi yr wythnos diwethaf oedd ein bod am arfer ymagwedd ystyriol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sef y peth iawn i’w wneud yn fy marn i.

O ran datganoli pwerau trethu pellach, cytunaf â’r hyn a ddywedais eisoes a’r hyn rydych wedi’i ddyfynnu heddiw, sef nad yw’r system sydd gennym yn addas i'r diben. Ond rwy’n ceisio cyfarfod ag Ysgrifennydd Ariannol newydd y Trysorlys i drafod y mater ymhellach, a gobeithiaf gael y cyfarfod hwnnw cyn bo hir, ac rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

13:55

Byddai'n dda iawn cael y diweddariad hwnnw pan fydd ar gael, er bod eich ateb yn teimlo ychydig fel ateb blaenorol a roesoch i mi beth amser yn ôl.

Mae rhan gyntaf eich ymateb yn fy arwain at fy nghwestiwn nesaf, a dweud y gwir, gan fy mod yn mynd i gyfeirio at y ffaith i chi, yn eich ymateb i’n dadl yr wythnos diwethaf, ddweud bod angen ichi ddeall y newidiadau ymddygiadol yn well, ac y byddai hynny’n allweddol i ddatblygu ac aeddfedu agenda polisi treth Cymru, ac rwy’n amlwg yn cytuno â hynny; mae'n ffactor pwysig. Ond mae hefyd yn wir nad yw'r sylfaen dystiolaeth yno—mae'n ddiffygiol. Yn wir, roedd adroddiad yr wythnos diwethaf gan y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft yn mynegi siom nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad cynhwysfawr o ba effaith ymddygiadol y byddai codi, neu yn wir gostwng, cyfraddau treth incwm Cymru yn ei chael, a byddwn innau'n sicr yn adleisio barn y pwyllgor. Oherwydd os ydych yn awgrymu na allwch amrywio cyfraddau treth incwm Cymru heb ddeall unrhyw newidiadau ymddygiadol dilynol, yna heb wneud y gwaith hwnnw, bydd eich dwylo wedi'u clymu am byth. Felly, rwy’n cymryd eich bod yn cydnabod, yn gyntaf oll, fod angen amlwg i'r gwaith hwnnw gael ei wneud, fel y pwysleisiodd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac fel yr awgrymwyd gennych yn eich ateb blaenorol. Fe sonioch am y gwaith gan Gyllid a Thollau EF, efallai y gallech egluro a yw hynny mewn cyd-destun Cymreig penodol, gan fod darnau eraill o waith sy'n berthnasol i awdurdodaethau eraill ond efallai nad ydynt, yn amlwg, yn trosglwyddo'n uniongyrchol i'n profiad ni yma yng Nghymru. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r bwlch hwnnw yn y dystiolaeth, oherwydd fel arall, y risg yw y byddaf yn ôl yma y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn, yn gwrando arnoch yn rhoi'r un atebion i mi dro ar ôl tro.

Felly, o ran y sylfaen dystiolaeth rydym yn ei defnyddio ar hyn o bryd, rydym eisoes yn ystyried effeithiau ymddygiadol yn ein canllaw cyflym cyfraddau treth incwm Cymru, sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hwnnw'n dangos, er enghraifft, pe baem yn cynyddu'r gyfradd ychwanegol o gyfraddau treth incwm Cymru, mae’n debyg y byddem yn codi oddeutu £7 miliwn, ond mewn gwirionedd, dim ond oddeutu £3 miliwn fyddai’r effaith net, o ganlyniad i newidiadau ymddygiadol. Deallwn hynny ar sail astudiaeth yn y Swistir—cynghorodd swyddogion mai dyna'r procsi agosaf y gallwn ei ddefnyddio o dan yr amgylchiadau presennol yn absenoldeb unrhyw wybodaeth fanylach sydd gennym. Ond eto, mae hwn yn waith pwysig i’r comisiwn cyfansoddiadol.

Ond wedyn, byddwn hefyd yn cyfeirio cyd-Aelodau at y corff annibynnol sy'n cynghori Llywodraeth yr Alban ar ei chyllideb a'i dewisiadau treth—felly, eu fersiwn hwy, os mynnwch, o'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, sy'n cyflwyno gwybodaeth fanwl. Credaf y gwelwch, os edrychwch ar yr adroddiad diweddaraf hwnnw, pe bai Llywodraeth yr Alban yn cynyddu’r gyfradd uchaf 1g, y byddai hynny'n codi £30 miliwn, ond dim ond oddeutu £3 miliwn fyddai’r effaith net o ganlyniad i newidiadau ymddygiadol ac allfudo ac ati. Mae'r holl wybodaeth honno yno. Rydym yn ei hystyried drwy'r amser. Ond mae angen inni adeiladu sylfaen dystiolaeth briodol fel y gallwn wneud penderfyniadau gwybodus.

Parciau Cenedlaethol

3. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith cyllideb ddrafft y Llywodraeth ar ddyfodol parciau cenedlaethol? OQ59135

Fel rhan o adolygiad gwariant 2022-25, dyrannwyd £9 miliwn o refeniw ychwanegol ac yn agos at £90 miliwn o gyfalaf i wella mannau gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer parc cenedlaethol newydd. Mater i'r Gweinidog Newid Hinsawdd wrth gwrs yw penderfyniadau gwariant mewn perthynas â pharciau cenedlaethol.

Diolch am yr ateb yna. Roedd hi'n eironig iawn darllen datganiad y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus yn y Gymru wledig ac yntau yn sôn am y gwasanaeth Sherpa i'r Wyddfa fel enghraifft dda o'r math o system y dylid ei ledaenu ar draws Cymru. Yr eironi ydy, wrth gwrs, fel y saif pethau, gall y gwasanaeth yma fod o dan fygythiad oherwydd methiant y Llywodraeth i ariannu Parc Cenedlaethol Eryri yn iawn. Yn wir, mae’n debyg y bydd pob parc cenedlaethol yn gorfod edrych i dorri yn ôl ar wasanaethau, ac felly, ni chaiff llwybrau cerdded eu cynnal a'u cadw, bydd toiledau cyhoeddus yn cau, a llawer iawn mwy. Roedd y gyllideb ddrafft wreiddiol yn sôn am roi £0.5 miliwn yn ychwanegol i barciau cenedlaethol Cymru, ond mae'r arian yma wedi diflannu ac mae'r setliad fflat yn golygu bod y gyllideb heb godi dim mewn termau go iawn ers tua 10 mlynedd. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i o leiaf ailgyflwyno'r £0.5 miliwn yna i'r parciau cenedlaethol er mwyn iddyn nhw fedru cyflawni eu dyletswyddau yn llawn?

14:00

Wel, roedd cynnydd o 10 y cant i grantiau craidd awdurdodau'r parciau cenedlaethol, gan fynd ag ef i ychydig dros £10 miliwn yn 2021-22, ac mae hynny wedi'i gynnal yn 2022-23. A nod hynny oedd darparu mwy o wytnwch yn dilyn y pandemig a chynyddu effaith eu gweithgareddau'n ymwneud â bioamrywiaeth, datgarboneiddio a thwristiaeth gynaliadwy. Nawr, rwy'n deall y pwysau sydd ar barciau cenedlaethol, ac unwaith eto mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd â hyn yn ei bortffolio wedi cyfarfod â'r prif weithredwyr i drafod y pryderon hyn, ac mae swyddogion yn parhau i gysylltu â'r parciau cenedlaethol. Fel y dywedwch, mae'r parciau'n cynnal eu hymarferion ar hyn o bryd i ddatblygu cynlluniau arbed arian, ac rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn edrych ar y rheini'n agos iawn er mwyn gwneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol. 

Mae parc cenedlaethol Eryri yn mynd y tu hwnt i'r galw i gyflawni ei ddibenion statudol, a hoffwn gofnodi fy niolch am y ffordd y maent yn rheoli'r holl swyddogaethau sydd ganddynt, eu swyddogaethau statudol, gyda'r adnoddau sydd ganddynt. Fodd bynnag, mae'n peri pryder fod effaith chwyddiant ar gyllideb sylfaenol yr awdurdod tan ddiwedd 2024-25 oddeutu £1.1 miliwn, sy'n golygu toriad o 20 y cant yn y grantiau. Nawr, fe wyddom fod chwyddiant yn cynyddu i'r entrychion a bod eu costau'n codi, ond eto rydych chi eisiau darparu cyllideb sylfaenol o ychydig dros £5.4 miliwn. Nawr, mae hyn er gwaethaf y ffaith nad oes gan awdurdodau'r parciau fecanwaith cyllidol i gynyddu cyllid refeniw fel sydd gan gyrff cyhoeddus eraill. Mae parc cenedlaethol Eryri yn codi £2.8 miliwn ychwanegol bob blwyddyn er mwyn gallu cyflawni ei waith. Nawr, mae'r parc cenedlaethol yn gwneud popeth posibl i godi unrhyw arian y gall, ond mae ei waith yn cael ei danseilio'n llwyr gan doriadau parhaus mewn termau real gan Lywodraeth Cymru. Nawr, gan gofio y gallai parc cenedlaethol Eryri wynebu colli swyddi a gwasanaethau—ac fe wyddom fod y parc hwn yn chwarae rhan allweddol yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur—a wnewch chi brofi eich bod wedi ymrwymo i ddyfodol y parc cenedlaethol drwy gynyddu'r grant? Nid dyma'r tro cyntaf i mi godi'r pryderon hyn, ond ni allwch barhau i ofyn i'r sefydliadau hyn wneud mwy gyda llai o adnoddau. Diolch.

Wel, mae'n rhwystredig cael y cwestiynau hyn oddi ar y meinciau Ceidwadol pan nad yw ein cyllideb ein hunain wedi cael ei chodi yn unol â chwyddiant ond eto gofynnir i ni godi cyllidebau sefydliadau eraill yn unol â chwyddiant, sy'n amhosibl i ni ei wneud i bawb. Dim ond £1.2 biliwn o gyllid ychwanegol a oedd gennym dros y ddwy flynedd ariannol nesaf; nid yw hynny hyd yn oed yn dechrau lleddfu effaith chwyddiant ar ein cyllideb. Felly, yn anffodus, nid ydym wedi gallu darparu'r math o gynnydd y byddem eisiau ei roi i sefydliadau eraill o dan amgylchiadau arferol. Ac mae hynny'n wir yn gyffredinol am y pethau mae Llywodraeth Cymru'n eu cefnogi. Felly, yn anffodus, mae'r cyllidebau sydd gennym yn cyfyngu arnom. Er hynny, o ran cynnal cyllideb sylfaenol, mae'n golygu, pan welwch chi hynny, fod y cyllidebau hynny wedi cael eu diogelu rhag y toriadau y bu'n rhaid inni eu gweithredu i ailflaenoriaethu cyllid o bob rhan o'r Llywodraeth tuag at lywodraeth leol a'r GIG fel rhan o'n proses gyllidebol.

Llyfrgelloedd Cyhoeddus

Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru—

4. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi dyfodol llyfrgelloedd cyhoeddus yn Islwyn? OQ59143

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth llyfrgell. Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darpariaeth llyfrgelloedd lleol drwy gronfa grant cyfalaf a thrwy fuddsoddi mewn datblygu gwasanaethau arloesol ar gyfer cymunedau lleol. 

Diolch, ac rwyf am droi at fy nghwestiwn atodol. Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ddyletswydd i Lywodraeth Cymru

'oruchwylio a hybu gwelliant y gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus a ddarperir gan yr awdurdodau lleol... a sicrhau y cyflawnir mewn modd priodol... y swyddogaethau a roddwyd iddynt fel awdurdodau llyfrgell mewn perthynas â llyfrgelloedd'

o dan y Ddeddf. Weinidog, yn Islwyn yn 2023, mae llyfrgelloedd yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth galon cymunedau Cymru. Yr wythnos hon, ddydd Llun, cynhaliodd llyfrgell Trecelyn sesiwn arloesol lle ymunodd unigolion o Memory Lane â grŵp plant bach, diolch i'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, Dementia UK a Cyfeillion Dementia. Ymunodd rhyng-genedlaethau â'i gilydd mewn un gofod, lle mae cysylltiadau cymunedol yn cael eu meithrin a'u cryfhau, a thrwy ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mae llyfrgelloedd yn cael eu defnyddio fel mannau croesawus, hybiau cynnes a lleoedd ar gyfer cymunedau diwylliannol. Weinidog, sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi, hybu ac annog oedolion a phlant i wneud defnydd llawn o wasanaethau llyfrgell drwy holl gymunedau Islwyn?

14:05

Roedd yn hyfryd clywed yr enghreifftiau hynny o'r ffyrdd y mae llyfrgelloedd yn Islwyn yn arloesi, ac rwy'n ymwybodol o rai enghreifftiau eraill hefyd yn lleol yn eich ardal chi, gan gynnwys grŵp gweu a sgwrsio, grŵp plant bach, clwb Lego, a Blind Date with a Book, i ddathlu Dydd San Ffolant, ac mae ganddynt hynny yn fy llyfrgell fy hun hefyd, ac roeddwn i'n meddwl bod hwnnw'n syniad arbennig o hyfryd.

Yn amlwg, mae llyfrgelloedd yn Islwyn yn chwarae rhan bwysig wrth fod yn hybiau cynnes i gymunedau hefyd, a byddant yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Dechrau Da a gydnabyddir yn genedlaethol, cynllun blynyddoedd cynnar sy'n darparu deunydd am ddim a gwybodaeth i rieni a phlant bach yn yr archwiliad iechyd naw a 18 mis. Felly, mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan gwbl hanfodol yn ein bywydau ar draws y cenedlaethau i gyd. Felly, diolch i'r llyfrgelloedd yn Islwyn sy'n gwneud gwaith mor wych yno.

Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd i bawb ohonom genhadu ar ran llyfrgelloedd, oherwydd, os nad yw pobl wedi bod mewn llyfrgell yn ddiweddar, maent yn mynd i fynd i mewn a chael eu synnu'n fawr. Nid ydynt yn debyg o gwbl i'r hyn a gofiwn o'r dyddiau a fu, felly mae llawer yn digwydd, ac rwy'n meddwl eu bod yn hybiau gwych i'r gymuned nawr, felly rwyf am fachu ar bob cyfle a gawn i ddathlu llyfrgelloedd.

Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod o Islwyn a'r Gweinidog ar hyn. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn rhoi canlyniadau cadarnhaol i bobl a chymunedau mewn amrywiaeth o ffyrdd, y tu hwnt i ddarparu mynediad at lyfrau yn unig, fel rydych chi eisoes wedi'i nodi. Maent yn cyfrannu at ffurfio cyfalaf dynol a chynnal lles meddyliol a chorfforol, cynwysoldeb cymdeithasol a chydlyniant cymunedol yn ogystal ag addysgu a darparu llyfrau i'r rhai na allant eu fforddio—sy'n arbennig o bwysig pan welwn fod 44 y cant o ddisgyblion yn anaml neu byth yn darllen llyfrau, sy'n llawer uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU. Ac eto, mae cyngor Caerffili yn torri cyllid llyfrgelloedd 20 y cant; mae Cyngor Sir Fynwy yn torri cyllid ar gyfer llyfrau llyfrgell newydd 50 y cant. Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd a pha gymorth ariannol rydych chi'n ei roi i'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod y llyfrgelloedd hanfodol hyn yn cael eu cadw ar agor ac y gwneir defnydd da ohonynt?

Felly, mae'r rhan fwyaf o gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i lyfrgelloedd cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu drwy'r setliad craidd i lywodraeth leol, y bydd cyd-Aelodau'n cofio iddo gael ei godi 7.9 y cant yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ni fydd unrhyw awdurdod yn gweld cynnydd o lai na 6.5 y cant. Mae yna ffynonellau eraill o arian sy'n bwysig, fodd bynnag, gan gynnwys y gronfa cyfalaf trawsnewid i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, a'r cyllid rydym yn ei ddarparu ar gyfer y gwasanaethau llyfrgell digidol, sydd hefyd yn fuddsoddiad pwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod ein llyfrgelloedd yn addas i'r dyfodol.

Bydd angen i unrhyw doriadau posibl yn y gyllideb i wasanaethau llyfrgell gael eu monitro gan swyddogion yn yr adran ddiwylliant ym mhortffolio Dawn Bowden er mwyn sicrhau bod llyfrgelloedd cyhoeddus yn diwallu gofynion statudol. Rhaid i awdurdodau lleol ddangos na fydd unrhyw leihau ar wasanaethau yn amharu ar eu gallu i gydymffurfio â'u cyfrifoldebau statudol ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau rhwng swyddogion yr is-adran ddiwylliant a'r sector llyfrgelloedd i ddatblygu seithfed fframwaith safonau ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru, ond yn y cyfamser, mae gwasanaethau'n parhau i weithredu o dan fframwaith 6.

Parhad Cydwasanaethau

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi ac ariannu parhad cydwasanaethau? OQ59139

Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol i awdurdodau lleol sy'n gweithio ar y cyd i wella gwasanaethau a darparu gwerth am arian, gan gynnwys drwy gydwasanaethau. Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn cynnig cyfrwng newydd pwysig i gefnogi cydweithio rhanbarthol strategol rhwng awdurdodau.

Diolch. Weinidog, rwy'n gwybod y byddwch yn cydnabod y rôl bwysig y mae cydwasanaethau rhwng awdurdodau lleol yn ei chwarae er mwyn gallu fforddio gwasanaethau gwerthfawr i filoedd lawer o blant, gan wella eu profiadau dysgu. Mae faint o gymorth a roddir yn aml yn allweddol i hyfywedd a bodolaeth gwasanaethau hynod bwysig. Gyda siom y dysgais felly fod cyngor newydd sir Fynwy dan arweiniad Llafur yn bwriadu dileu eu cymorth grant o £100,000 i Gerdd Gwent, cydwasanaeth gwirioneddol wych sy'n gweithio gyda dros 8,000 o blant ar draws Gwent ac sydd wedi gwneud hynny ers dros 50 mlynedd. Gallai tynnu'r cymorth hwn yn ôl fod yn hoelen olaf yn arch y gwasanaeth gwych hwn. Weinidog, gan gydnabod y setliad cynyddol rydych chi'n ei ddarparu i gynghorau eleni, a chan gydnabod ymhellach y lefelau uwch o gronfeydd wrth gefn mae llawer o gynghorau wedi'u cronni, a ydych chi'n rhannu fy mhryderon fod cael gwared ar adnoddau hanfodol a thorri'r llinellau achub i gydwasanaethau fel Cerdd Gwent yn gam gwag ac yn niweidiol i brofiadau dysgu a bywyd ein pobl ifanc?

14:10

Wrth flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol, yn ein setliad cyllideb, rydym bob amser wedi bod yn glir ar bob cam y bydd yn dal i olygu cyfres anodd o benderfyniadau i lywodraeth leol eu gwneud. Rwy'n gwybod bod arweinwyr llywodraeth leol wedi bod yn ymgynghori ar ystod gyfan o bethau na fyddent fel arfer eisiau bod yn ymgynghori â'u hardaloedd lleol yn eu cylch o ran darparu gwasanaethau i'r dyfodol. Ond yn y pen draw, rydym wedi darparu'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Nid yw'n cyd-fynd â chwyddiant; nid yw'n diwallu'r holl anghenion y bydd yn rhaid i lywodraeth leol eu diwallu yn eu cymunedau lleol. Felly, rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac rydym yn parhau'r alwad arnynt i ddefnyddio datganiad y gwanwyn ar 15 Mawrth i ddarparu'r cynnydd ychwanegol mawr ei angen i wasanaethau cyhoeddus.

Cyllideb Ddrafft 2023-24

6. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24 ar awdurdodau lleol? OQ59141

Mae'r Llywodraeth yn darparu cyllid refeniw heb ei neilltuo o dros £5.5 biliwn a £180 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2023-24 i gefnogi gwasanaethau awdurdodau lleol. Er bod hwn yn setliad sylweddol well nag a ragwelwyd gan yr awdurdodau, bydd angen i awdurdodau wneud rhai penderfyniadau anodd o ystyried y lefelau uchel o chwyddiant.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr ateb a roddodd y Gweinidog i Peter Fox mewn cwestiwn cynharach hefyd. Fe allai'r ateb fod wedi cael ei roi gan Weinidog gwahanol ddegawd yn ôl, mewn gwirionedd. Mae awdurdodau lleol yn dioddef yn sgil pwysau ar gyllid, a'r bobl sy'n dioddef fwyaf yw'r bobl dlotaf a'r bobl fwyaf bregus. A'r awdurdodau lleol sy'n dioddef fwyaf yw'r awdurdodau lleol sydd leiaf abl i gael incwm ychwanegol drwy incwm ffioedd ac incwm masnachol arall, a rhannau tlotaf y wlad yw'r rheini'n tueddu i fod hefyd, llefydd fel Blaenau Gwent, a gynrychiolir gennyf. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i'r bobl hynny, ac os wyf fi'n hollol glir, Weinidog, nid yw dweud, 'Bai Llywodraeth y DU ydyw, nid ydym ni'n gwneud unrhyw beth' yn ddigon da. Mae'r dyddiau hynny wedi mynd. Yr hyn rwyf eisiau ei weld gan Lywodraeth Cymru yw gweithredu go iawn i sicrhau, efallai, fod cydwasanaethau fel rydych chi newydd eu trafod, yn cael eu taro, ond yn fwy posibl, aildrefnu llywodraeth leol i roi pobl yn gyntaf, i sicrhau bod gennym awdurdodau lleol sy'n gallu darparu'r gwasanaethau y gofynnwn iddynt eu cyflawni, a phartneriaid i sicrhau y gallwn fynd i'r afael â'r problemau cymdeithasol go iawn a wynebwn—problemau cymdeithasol ac economaidd a wynebwn—ar draws Cymru. Gêm ddoe oedd beio'r Torïaid. Rwy'n credu bod cyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru i bobl heddiw.

Rwy'n meddwl bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i fod yn onest wrth bobl Cymru ei bod hi'n ffaith nad yw ein cyllideb yn codi yn unol â chwyddiant, ac rwy'n meddwl bod hynny'n ffaith. Er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i flaenoriaethu a diogelu gwasanaethau cyhoeddus, a dyna pam y cynhaliwyd ymarfer poenus iawn ar draws y Llywodraeth i geisio ailflaenoriaethu cyllid tuag at lywodraeth leol a thuag at wasanaethau iechyd. A dyna pam ein bod wedi darparu o leiaf y swm o gyllid canlyniadol a gawsom mewn perthynas â gwasanaethau'r GIG a gwasanaethau llywodraeth leol i'r sectorau penodol hynny, gan gofio ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ein hunain. Mae'r sefyllfa ariannol rydym ynddi yn ffaith, nid esgus, ond byddwn yn cytuno gyda'r pwynt a wnaeth yr Aelod mai'r bobl sy'n dioddef fwyaf yn y cyfnod anodd hwn yw'r rhai tlotaf, a hefyd mae'n rhaid inni wneud yn siŵr fod ein setliad cyllido i lywodraeth leol a'r fformiwla sy'n ei yrru yn un sy'n dangos tegwch o safbwynt amddifadedd a hefyd o safbwynt teneurwydd poblogaeth, ac rwy'n meddwl bod y pethau hynny'n rhannau pwysig o'n setliad.

Cyllideb Cyngor Sir Ynys Môn

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllideb Cyngor Sir Ynys Môn? OQ59132

14:15

Yn 2023-24, bydd y Cyngor yn derbyn £123.7 miliwn drwy'r setliad llywodraeth leol—cynnydd o 7.9 y cant. Er y bydd yn rhaid i'r cyngor wneud rhai penderfyniadau anodd o hyd yn wyneb y cyfraddau chwyddiant presennol, mae hwn yn setliad gwell nag yr oedd yr awdurdodau wedi'i ddisgwyl. 

Diolch am yr ymateb yna. Mae cyllidebau yn dynn ar bob awdurdod, wrth gwrs, ond weithiau mae yna bethau’n codi sy’n rhoi straen aruthrol ar gyllidebau. Mae cyngor Môn yn wynebu hynny rŵan yn sgil cyhoeddiad cwmni 2 Sisters Food Group eu bod nhw’n ymgynghori ar gau gwaith yn Llangefni, lle mae dros 700 yn gweithio. Y flaenoriaeth, wrth gwrs, ar hyn o bryd yw gweld a oes modd newid meddwl y cwmni, ond does dim rhaid imi ddweud faint o arian y byddai ei angen ar gyngor i ymateb i golli swyddi o’r math yna ar raddfa o’r math yna, mewn ardal fel Ynys Môn. Mae nifer yr unigolion a’r teuluoedd a fydd angen cymorth yn fawr—angen cymorth ar wasanaethau tai, gwasanaethau plant, ac yn y blaen.

A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd hi’n barod i edrych ar roi cymorth ychwanegol i gyngor Môn, ar ben eu cyllid sylfaenol, er mwyn gallu ymateb i’r sefyllfa a’i galluogi nhw i roi cefnogaeth angenrheidiol i’r gweithwyr a’u teuluoedd?

Wel, gallaf gadarnhau bod swyddogion wedi cyfarfod â phrif swyddog gweithredol 2 Sisters ac yn parhau â'r ddeialog i wneud popeth sy'n bosibl i gynnig cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan y datblygiadau diweddar. Ac wrth gwrs, mae ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdod lleol. Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi wedi bod yn siarad â'r arweinydd hefyd.

Yn amlwg, mae'n newyddion trychinebus i'r gymuned wledig, ac ni ddylem fychanu'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus wrth ymateb iddo. Rydym bellach wedi cynnull y tasglu y cyfeiriodd Gweinidog yr Economi ato'n flaenorol, i geisio cynnig ein cefnogaeth lawn i'r gweithwyr yr effeithir arnynt, ac rydym hefyd yn gweithio gyda'r undeb llafur yn y ffatri. Rwy'n gwybod bod y tasglu bellach yn cyfarfod yn wythnosol i ganfod ffordd ymlaen, ac i ddeall y goblygiadau, ac i gynnig cymorth i'r gweithlu yr effeithir arno gan y cyhoeddiad yma. Felly, rwy'n credu mai'r cam rydym arno ar hyn o bryd mewn gwirionedd yw mapio beth y gallai'r effaith fod.

Cyfleoedd Prentisiaethau

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch cyllid i awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfleoedd prentisiaethau i ddysgwyr ifanc? OQ59131

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £36 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf, gyda'r nod o ddarparu 125,000 o brentisiaethau erbyn 2027. Cyfrifoldeb Gweinidog yr Economi yw'r polisi prentisiaethau.

Diolch am yr ateb, Weinidog.

Yr wythnos diwethaf, gofynnais i'r Gweinidog addysg am yr agenda sgiliau, a sut mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau o'i ben ef. Y pwynt allweddol a godais yn fy nghwestiwn yw ein bod yn ei chael hi'n anodd cadw dysgwyr ifanc, yn enwedig o aelwydydd incwm isel. Yng Nghymru, ceir diffyg data hefyd ynghylch cyrchfannau dysgwyr mewn addysg bellach a phrentisiaethau—data a allai, ochr yn ochr â chefnogaeth ariannol well, ein helpu i gydnabod a lleihau nifer y bobl sy'n gadael addysg bellach a phrentisiaethau.

A yw'r Gweinidog yn cytuno mai un hanner o hyn yw creu cyfle ond yr hanner arall yw cadw dysgwyr? Ac a oes mwy y gallai'r Llywodraeth ei wneud yn hyn o beth mewn perthynas â chasglu'r data a thargedu'r gefnogaeth ariannol?

Ie, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rwy'n credu, efallai, y byddai'n well ei gyfeirio at y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y maes hwn, ond fe wnaf fy ngorau a chyfeirio'r Aelod tuag at y gwaith pwysig rydym wedi bod yn ei wneud drwy'r warant i bobl ifanc, a byddwch wedi gweld o'r cyhoeddiad diweddar ei fod wedi helpu miloedd o bobl ifanc i mewn i waith neu hyfforddiant neu addysg bellach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy'n llwyddiannus iawn yn fy marn i. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r pedair partneriaeth sgiliau ranbarthol i wneud yn siŵr fod gan bobl ifanc y mathau o sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau lleol.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a'r Gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Heledd Fychan.

Gofodau Gwyrdd

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau ledled Canol De Cymru i gael mynediad at ofodau gwyrdd cymunedol? OQ59118

Mae mannau gwyrdd a pharciau o ansawdd uchel yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden iach, cefnogi bioamrywiaeth a lleihau llygredd aer. Mae rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, a'r grant galluogi adnoddau naturiol a lles, wedi ariannu'r gwaith o greu cannoedd o fannau lleol, ac mae cynllun gwobr y faner werdd hefyd yn hybu ansawdd. 

Diolch, Weinidog. Yn sicr, rydym ni i gyd yn gwybod, fel y gwnaethoch chi eu rhestru, y manteision mawr sydd yna o ran iechyd a lles, bioamrywiaeth, ansawdd aer, ac ati. Ond eto i gyd, mae nifer o ofodau gwyrdd yn diflannu, gan gynnwys mewn ardaloedd ledled ein prifddinas, oherwydd datblygiadau amrywiol. Fel y byddwch yn ymwybodol o gwestiynau blaenorol gan Aelodau eraill, mae nifer o ymgyrchwyr eisiau gweld buddsoddiad mewn parciau newydd i gyd-fynd â datblygiadau o'r fath, ynghyd â gofodau cymunedol i dyfu bwyd.

Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cynlluniau o'r fath yn rhan o'u cynlluniau datblygu lleol, ynghyd â'u hymrwymiad i weithredu o ran yr argyfwng hinsawdd?

14:20

Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn amlwg mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cael y trafodaethau hyn gydag awdurdodau lleol, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd yn gwneud hynny, gan wisgo'i het gynllunio, mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud am Leoedd Lleol ar gyfer Natur; mae'n dangos sut mae pobl yn gwerthfawrogi'r gallu i gael mynediad at fannau gwyrdd o garreg eu drws, os mynnwch, ac yn amlwg yn rhywle fel Caerdydd, mewn prifddinas, mae'n bwysig iawn cadw'r mannau gwyrdd sydd gennym, ac edrych hefyd a oes unrhyw gyfleoedd i gael rhai newydd.

Weinidog, yn ystod y pandemig, dangosodd gwaith ymchwil fod pobl ag anableddau wedi treulio llai o amser nag o'r blaen hyd yn oed allan mewn mannau gwyrdd ac yn mwynhau byd natur. Er bod gwarchod rhag COVID yn ffactor allweddol, canfuwyd hefyd fod llwyth gwybodaeth wedi cael effaith niweidiol, heb sôn am ddryswch ynghylch trefniadau cymdeithasol, megis faint o bobl a gâi gyfarfod ar un adeg, ac a oedd cyswllt corfforol fel cofleidio wedi'i ganiatáu ai peidio. Arweiniodd hyn i gyd at leihad cyffredinol yn hyder rhai pobl i fynd i fannau gwyrdd. Er bod hygyrchedd corfforol yn rhwystr pwysig y mae'n rhaid inni barhau i fynd i'r afael ag ef, mae angen inni fod mor ymwybodol ag erioed y gall rhwystrau i fynediad fod yn llawer mwy cymhleth a goddrychol. Felly, Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y gall ailadeiladu hyder pobl ag anableddau i ailgysylltu â byd natur a'n mannau gwyrdd? Diolch.

Diolch. Mae'r Aelod yn codi'r pwynt pwysig iawn, rwy'n credu, fod y pandemig COVID wedi arwain at lawer o niwed ar wahân i COVID ei hun, ac yn amlwg, fel y dywedwch, efallai nad oedd rhai pobl ag anableddau wedi gallu adnabod y terfynau a'r cyfyngiadau a gafodd eu rhoi ar bobl, yn yr awyr agored hyd yn oed, gyda faint o bobl a gâi ddod at ei gilydd i fynd am dro, er enghraifft. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ymchwil penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud—nid wyf yn siŵr pwy fyddai'r Gweinidog, mewn gwirionedd—ond yn sicr fe edrychaf ar hyn, ac os gwnaethpwyd dadansoddiad, fe ofynnaf i'r cyfryw Aelod ysgrifennu atoch.FootnoteLink

Datblygu Gwledig

2. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi datblygu gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wrth i gyllid yr UE ddod i ben? OQ59133

Mae ein dull o gefnogi'r economi wledig yn canolbwyntio ar gyflawni ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu. Rwyf wedi cyhoeddi dros £200 miliwn o gyllid ar gyfer cynlluniau buddsoddi gwledig i gefnogi gwytnwch yr economi wledig a'n hamgylchedd naturiol.

Diolch yn fawr i chi am yr ateb. Dros Gymru, fel rŷch chi'n gwybod, mae dros ryw 1,200 o brojectau sosioeconomaidd wedi cael eu cyllido dan y cynllun datblygu gwledig presennol, ac mae'r projectau hyn wedi cynnwys ystod amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys hwyluso mynediad at wasanaethau cymunedol hanfodol mewn ardaloedd gwledig. Mae sefydliadau yn fy rhanbarth i, wrth gwrs, wedi mynegi pryderon am eu dyfodol pan ddaw'r cyllid yma i ben. Er enghraifft, mae Planed yn sir Benfro yn edrych ar ddod â'i raglen hybiau bwyd cymunedol i ben, sy'n cefnogi rhyw 15 o hybiau bwyd lleol ar draws tair sir. Ym Mhowys, mae Ecodyfi yn wynebu'r posibilrwydd o ddiweddu dau broject mawr, sef Tyfu Dyfi a Thrywydd Iach, gyda sgil-effeithiau posibl i swyddi a lles cymunedol.

Nawr, rwy'n derbyn ein bod ni wedi cael llai o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig na'r hyn a gafodd ei addo. Rŷn ni'n cofio, wrth gwrs, 'dim ceiniog yn llai'. Ond rwy'n pryderu nad oes digon o gyllid datblygu gwledig newydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth. Felly, ydych chi, Weinidog, yn gallu esbonio sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu parhau i gyllido'r math yma o fentrau pwysig yng nghefn gwlad Cymru?

Diolch. Fel y dywedoch chi, cawsom addewid na chaem geiniog yn llai, ond yn anffodus, o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiad i roi cyllid llawn i Gymru yn lle cyllid yr UE, fe wyddom ein bod £1.1 biliwn yn waeth ein byd mewn gwirionedd. Ac yn amlwg, nid yw'n bosibl dod o hyd i'r swm sylweddol hwnnw o arian o fewn ein cyllideb ein hunain, felly rydym yn gwybod, yn sicr yn fy mhortffolio i, y bydd ein sector ffermio, ein heconomïau gwledig, oddeutu £243 miliwn yn brin o gyllid newydd yn lle cyllid yr UE dros y ddau gyfnod gwariant diwethaf.

Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i ariannu cymaint o brosiectau ag y gallwn, a chael cymaint o gynlluniau newydd ar gyfer y sector amaethyddol ac i'n heconomi wledig. Felly, fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyhoeddiad a wneuthum ynghylch y cynlluniau buddsoddi gwledig, er enghraifft, i gefnogi ein ffermwyr, ein coedwigwyr, ein rheolwyr tir a'n busnesau bwyd ar draws yr economi wledig. Felly, ceir nifer sylweddol o brosiectau o fewn hynny. Nid wyf yn gwybod a yw'r prosiect penodol y gwnaethoch chi sôn amdano yn gallu cael cyllid pellach, ond yn amlwg, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein heconomïau gwledig.

14:25

Rhan o ddatblygu gwledig hefyd, Weinidog, yw'r cynllun Glastir, ac yn ddiweddar fe gyfarfûm ag NFU Cymru yn fy etholaeth a dirprwy gadeirydd NFU Cymru ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, Rob Blaenbwch, a oedd am imi ofyn cwestiwn i chi'n uniongyrchol am gyllid Glastir. Rydym yn gweld yr arian Glastir yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn, gyda chontractau'n cael eu hadnewyddu. Yr hyn yr hoffai fy NFU lleol ei weld yw'r contractau hynny'n cael eu cyflwyno hyd at ddechrau'r cynllun ffermio cynaliadwy, er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r ffermwyr hynny o sefydlogrwydd a chyllid hirdymor. A yw hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud i sicrhau bod ein ffermwyr yn cael rhywfaint o sefydlogrwydd mewn cyfnod ansicr iawn?

Rwy'n ymwybodol iawn o beth hoffai'r NFU i mi wneud mewn perthynas â'r cynlluniau Glastir. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi cyhoeddi y byddant yn parhau hyd at ddiwedd 2023. Yn anffodus, oherwydd yr ansicrwydd yn ein cyllidebau ac yn y ffordd rwyf newydd ei ddisgrifio yn fy ateb i Cefin Campbell, nid wyf yn gallu gwneud yr hyn y byddech yn hoffi imi ei wneud. Ac mae'n gyfnod ansicr iawn, nad yw wedi ei wneud yn llawer haws drwy adael yr Undeb Ewropeaidd a chan y sefyllfa ariannol heriol iawn rydym ynddi. Gofynnais i swyddogion roi cyngor i mi ynghylch Glastir i weld a allaf roi unrhyw sicrwydd y tu hwnt i 2023, ac fe gaf hwnnw yn ystod y misoedd nesaf. 

Prynhawn da, Weinidog. I barhau â thema datblygu gwledig, gwyddom fod y gyfran fwyaf o'r rhaglen datblygu gwledig wedi dod o'r UE mewn gwirionedd, felly mae Brexit ynghyd â chytundeb masnach Awstralia a Seland Newydd yn dystiolaeth bellach, os oedd ei hangen arnom, fod y Torïaid yn newyddion drwg go iawn i ffermwyr ac i Gymru. [Torri ar draws.] A hoffwn pe baent yn ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am eu rôl yn ein tynnu allan o'r UE, a'r effaith ar ein cymunedau ffermio.

Mae'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn gyfle i newid pethau a chreu atebion ar gyfer Cymru a wnaed yng Nghymru. Mae angen cymhwyso'r un dull gyda'r rhaglen datblygu gwledig. Mae undebau wedi mynegi pryderon ynghylch llywodraethiant a gweithrediad y cynllun datblygu gwledig, ac yn wir, roedd eu pryderon yn rhai y gellid eu cyfiawnhau yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru yn haf 2020. Ni allwn fforddio gwneud y camgymeriadau hynny eto, yn enwedig ar adeg pan fo arian mor brin. Felly, tybed a gaf fi ofyn i chi pa gynlluniau sydd gennych i sicrhau bod y rhaglen datblygu gwledig yn gadarn ar gyfer y dyfodol, a beth yw eich gweledigaeth ar gyfer datblygu ein cymunedau gwledig. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr iawn. Gallaf sicrhau'r Aelod fod gwersi wedi'u dysgu, yn amlwg. Mae'n rhaid dysgu gwersi bob amser pan fo gennych chi'r adroddiadau a wnaethom. Fe fyddwch yn cytuno bod cryn dipyn o fonitro'n digwydd ar ein rhaglen datblygu gwledig, ac roedd galwadau ar y pryd i mi gael adolygiad annibynnol, er enghraifft, ond nid oeddwn yn credu bod hynny'n angenrheidiol. Yr hyn rwy'n credu sy'n bwysig iawn yw ein bod yn defnyddio'r holl gyllid rhaglen datblygu gwledig y gallwn ei ddefnyddio. Rwy'n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pob ceiniog yn cael ei gwario cyn y daw'r cynllun datblygu gwledig i ben. 

Soniais mewn ateb cynharach am yr arian sylweddol rydym wedi'i roi tuag at y cynlluniau buddsoddi gwledig, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym yn cael gwared ar y babi gyda dŵr y bath. Er nad oes gennym gyllid i allu cael yr un pethau ag a oedd gennym o'r blaen, mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw'r buddion a enillwyd gennym dros flynyddoedd y rhaglen datblygu gwledig wrth inni symud ymlaen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz. 

Diolch, Lywydd. Bob blwyddyn ers pum mlynedd, mae dros 10,000 o wartheg wedi cael eu difa, a dros 50,000 wedi marw oherwydd TB Gwartheg yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys gwartheg cyflo a laddwyd oherwydd prawf TB positif. Fe wnaeth ffermwr sôn wrthyf am yr adeg y gwyliodd eu buwch a oedd bron â dod â llo yn cael ei lladd ar y fferm gan ddefnyddio dryll 12 bôr i saethu rhwng llygaid yr anifail truan. Ar ôl marw, cafodd y fuwch gyflo sbasmau afreolus, gan beri i giât drom gael ei dinistrio, tra oedd y llo'n gwingo tu mewn i groth ei fam farw wrth iddo fygu i farwolaeth. Mae'n rhywbeth tebyg i wylio rhywun wedi'i wenwyno'n marw, meddent. Roedd yn erchyll i'w weld, ac roedd clirio'r holl waed a'r giât racs wedyn yr un mor boenus. Dyna sut y disgrifiwyd y peth gan y ffermwr—dim tosturi tuag at y fuwch, y llo, a dim at y ffermwr yn sicr. 'Gwell fy mod i'n cael mwy o ofid na fy muwch', ychwanegodd, 'rwy'n gallu cerdded oddi yno, yn wahanol iddi hi; dyna'r peth lleiaf y gallaf ei wneud.' Mae'r baich meddyliol trwm hwn yn cael ei roi ar ein ffermwyr, yn enwedig pan fo'n digwydd fwy nag unwaith. Dywedodd y ffermwr wrthyf sut y cafodd tair buwch gyflo eu saethu, un ar ôl y llall. 'Fe fu bron â fy lladd; ni wnaf byth anghofio beth a welais'—dyna sut y gwnaethant ei ddisgrifio. Mae trosglwyddiad TB yn y groth yn brin, felly pam y caniateir i'r digwyddiadau trawmatig hyn ddigwydd? A wnaiff Llywodraeth Cymru ddangos tosturi a newid ei pholisi i ganiatáu i wartheg cyflo sydd wedi cael prawf TB positif ynysu a geni lloi iach cyn cael eu lladd mewn modd trugarog?

14:30

Yn amlwg, fe wnaethoch amlinellu sefyllfa ofidus iawn, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed eich bod chi a'r ffermwr yn teimlo nad oedd tosturi. Mae hwn yn waith a wnaethom, bedair blynedd yn ôl mae'n debyg, lle gofynnais i'r prif swyddog milfeddygol ar y pryd a'i thîm weithio gyda ffermwyr i weld sut y gallem osgoi sefyllfaoedd fel yr un a ddisgrifiwch. Ar y pryd, barnwyd mai'r ffordd orau oedd parhau i ladd ar y fferm. O ran a allem edrych arno eto, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Fel y gwyddoch, rydym yn edrych ar y rhaglen i ddileu TB, a byddwn yn sicr yn hapus iawn i gael cyngor gan ffermwyr i weld a oes ffordd y gallwn osgoi'r sefyllfaoedd gofidus hynny.

Diolch. Nid wyf yn credu mai'r hyn a ddisgrifiais fyddai'r ffordd orau ymlaen, felly rwy'n eich annog yn gryf i gael golwg ar hyn eto. Rwy'n gwybod bod prif swyddog milfeddygol newydd yn dechrau ym mis Mawrth, ac rwy'n eich annog i weithio gydag ef i wneud yn siŵr fod yr arfer annynol hwn yn cael ei ddwyn i ben ac y gall y gwartheg hyn loia gydag ychydig o urddas.

Yn Sioe Sir Benfro y llynedd, fe helpoch chi i lansio'r hyn a oedd yn cael ei alw ar y pryd yn gynllun peilot TB sir Benfro, lle'r oedd ffermwyr lleol yn mynd i gymryd perchnogaeth, gan ddefnyddio data a dulliau a oedd ar gael eisoes, i ffurfio dull newydd o fynd i'r afael â TB, gan ddiddymu'r clefyd gweddilliol o'r fuches. Ers hynny, mae gwirfoddolwyr wedi cyfrannu cannoedd o oriau o waith caled at y prosiect, ac maent yn ysu i weld gwelliannau. Fe wnaeth y prif swyddog milfeddygol dros dro gyfeirio at y cynllun peilot hwn yn y pwyllgor hyd yn oed, gan bwysleisio sut y gallai Llywodraeth Cymru fod yn ystwyth gyda chyllid i gefnogi prosiectau TB lleol fel cynllun peilot sir Benfro. Mae'r prosiect hwn a'i gynnydd bellach wedi cael ei rwystro gan y Llywodraeth a'i phroses gaffael, gydag oedi o chwe mis fan lleiaf. Ni allaf fynegi wrthych y siom a deimlwyd gan y rhai a oedd ynghlwm wrtho.

Rydych wedi siarad am yr angen i ffermwyr gymryd perchnogaeth ar TB buchol, ac rwy'n cytuno. Ond pan ddaw'n fater o grŵp ymroddedig o ffermwyr a milfeddygon yn cydweithio i gymryd rheolaeth ar y sefyllfa, i wneud y peth iawn, nid yw Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn yr un cae. Nid ydym yn yr Undeb Ewropeaidd mwyach, felly ni ddylem orfod cadw at reolau caffael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r cyllid ar gyfer y prosiect hwn eisoes yn bodoli o fewn y cyllid TB. Dywedwch wrthyf beth sydd wedi mynd o'i le yma i olygu bod y fath oedi gyda'r prosiect hwn yr oeddech chi yno yn ei lansiad. 

Nid oes unrhyw beth wedi mynd o'i le. Fel y dywed yr Aelod, mae fy swyddogion yn cynnal trafodaethau mewnol sylweddol ar hyn o bryd i gytuno ar baramedrau'r prosiect i ganiatáu ar gyfer ymarfer caffael llawn. Chi fyddai'r cyntaf i gwyno pe na bawn yn dilyn y rheolau priodol. Rwy'n ymroddedig iawn i brosiect TB sir Benfro. Rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn rhan ohono; fel y dywedwch, mae llawer o wirfoddolwyr wedi bod yn rhan ohono, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith hwnnw. Os ydym yn mynd i ymladd y lefelau heintio dwfn mewn rhannau o sir Benfro, rwy'n sicr yn meddwl bod angen gwneud hyn. Ond nid mater o rwystro yw hyn—nid dyna'r gair cywir o gwbl. Fe gawsoch chi a fi gyfarfod i drafod beth y gallem ei wneud am y peth, ond mae'n rhaid imi ddilyn proses gaffael lawn.

Mae'n drueni na chafodd y rheolau caffael llawn hynny eu dilyn pan brynwyd Fferm Gilestone. Mae'n ymddangos fel pe bai'n un rheol i un a rheol arall i'r llall.

Enghraifft arall sy'n dangos nad yw Llywodraeth Cymru yn yr un cae â ffermwyr yw nad oedd un fferm o Gymru wedi cymryd rhan yn nhreial brechlyn CattleBCG yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Pe bai Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â dileu TB, byddent wedi gweithio gyda'r diwydiant i nodi ffermydd i gymryd rhan. A nawr, gyda chyfnod 2 y treial ar y gweill, nid oes unrhyw fferm o Gymru'n cymryd rhan o hyd. Yr hyn rwy'n ceisio cyrraedd ato, Weinidog, yw ble mae'r gobaith i ffermwyr yng Nghymru? Mae'r afiechyd yma wedi rhwygo drwy ffermio yng Nghymru ers yn ddigon hir, ac mae ein ffermwyr wedi colli gobaith fod y Llywodraeth yma o ddifrif ynglŷn â'i ddatrys.

Rwy'n hapus iawn i ddatgan diddordeb yma, Lywydd, oherwydd yr wythnos nesaf, byddaf allan yn helpu fy nhad i gynnal profion TB. Fel teulu byddwn yn mynd drwy'r pryder a'r straen o obeithio, gweddïo am brawf TB clir. Nid polisi i mi yn unig yw hwn, Weinidog, mae hyn yn gymaint mwy. Felly, rwy'n eich gwahodd i ymuno â fy nhad a minnau, i ddod allan i weld beth sy'n digwydd ar y fferm yn ystod ein profion TB. Oherwydd yr hyn y mae'r diwydiant ei eisiau yw gobaith—nid gweld eu hanifeiliaid yn cael eu lladd o flaen eu llygaid, nid cael eu dal yn ôl gan fiwrocratiaeth pan fyddant eisiau bwrw ymlaen i wneud y peth iawn, ac yn sicr nid cael clywed eu bod ar fai am ledaeniad TB buchol. Os gwelwch yn dda, Weinidog, rhowch rywfaint o obaith i'r diwydiant. 

14:35

Nid wyf yn hollol siŵr sut rydych chi'n disgwyl i mi wneud i fferm fod yn rhan o brosiect peilot. Credwch fi pan ddywedaf fod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi ceisio'n galed iawn—[Torri ar draws.] Fe geisiodd yr asiantaeth yn galed iawn i gael ffermydd i fod yn rhan o gyfnod cyntaf y prosiect peilot, ac yn anffodus nid ydym wedi cael unrhyw un i gymryd rhan yn yr ail ran. Ond mae dweud nad ydym wedi ceisio yn hurt. Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi gwneud llawer iawn o waith i geisio cael rhai o'r ffermydd i fod yn rhan o'r prosiect peilot.

Rwyf wedi mynychu ffermydd pan fo profion TB yn cael eu cynnal—wrth gwrs fy mod. Rwy'n gweld hynny'n rhan bendant o fy rôl. Yn anffodus, ni fyddaf yn gallu mynychu eich fferm yr wythnos nesaf, ond wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi'i wneud. Rwy'n deall y gofid wrth aros am brofion yn llwyr—gallaf ddychmygu'r pryder—ac wrth gwrs, tra byddwch yn aros am y canlyniadau. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i ddileu TB. Ond mae gwir angen inni weithio gyda'n gilydd. Nid yw ond beio Llywodraeth Cymru yn dderbyniol. Ni fyddwn i byth ond yn beio ffermwyr. 

Diolch, Llywydd. Rydyn ni bellach ar ddechrau, neu, mewn rhai achosion, yng nghanol, y tymor wyna. Yn naturiol, felly, rydyn ni'n troi ein golygon at sicrhau diogelwch ein stoc rhag ymosodiadau. Mae data diweddaraf NFU Mutual yn dangos bod cŵn allan o reolaeth yn bygwth defaid yng Nghymru, gyda'r data yn dangos bod anifeiliaid gwerth tua £440,000 wedi cael eu niweidio yn ddifrifol neu eu lladd yng Nghymru yn 2022. Roedd hyn yn gynnydd o dros 15 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Mae'r adolygiad hefyd yn dangos bod 64 y cant o berchnogion cŵn yn gadael eu cŵn yn rhydd yng nghefn gwlad, a ffermwyr yn dweud bod y perchnogion yma yn canolbwyntio ar eu ffonau symudol yn hytrach nag ar eu cŵn. Mae'r Alban wedi cyflwyno dirwyon llawer iawn mwy llym yno, gyda dirwyon o hyd at £40,000. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gyflwyno camau ataliol llymach yma yng Nghymru, er mwyn sicrhau nad ydym ni'n gweld mwy o anifeiliaid yn dioddef yng Nghymru eleni? 

Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'n fater rydym o ddifrif yn ei gylch. Byddem yn annog ceidwaid da byw yn gryf i barhau i roi gwybod i'r heddlu am bob digwyddiad. Rwy'n credu y dylwn ddweud hynny ar y cychwyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod yr wybodaeth honno'n cael ei chofnodi. Ond wrth gwrs, rydym am weld cwymp a gostyngiad llwyr yn nifer yr ymosodiadau hynny. Rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn am ffonau symudol, nad oeddwn wedi meddwl amdano. Fel y gwyddoch, mae'r comisiynydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt newydd ryddhau fideos newydd fel rhan o ymgyrch, wrth inni nesáu at y tymor wyna, i rybuddio pobl i ofalu am eu hanifeiliaid, gan sicrhau nad yw eu cŵn yn rhedeg ar ôl defaid. Rwy'n gwybod mai lleiafrif o bobl ydynt, ond wrth gwrs, fel sy'n digwydd bob amser, maent yn ei ddifetha i'r mwyafrif ohonom. Fe ofynnaf iddo a yw wedi ystyried yr agwedd honno ar y defnydd o ffonau symudol yn ogystal, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n tynnu sylw pobl, ac nid ydynt yn edrych i weld beth mae eu cŵn yn ei wneud.

Rwy'n credu bod y gost, yn ariannol ac yn emosiynol, i'r rhai sy'n dod o hyd i dda byw sydd wedi'u hanafu neu wedi marw yn gwbl annerbyniol, ac mae llawer o oblygiadau lles anifeiliaid yn deillio o hynny hefyd. Mae'n debyg y byddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU yn cynnig y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir). Mae hwnnw'n argymell diddymu a disodli Deddf Cŵn (Diogelu Da Byw) 1953. Fel y gwelwch, mae'n hen ddarn o ddeddfwriaeth sy'n amlwg angen ei diweddaru iddi fod yn addas i'r diben. O fewn y Bil hwnnw, bydd set newydd o ddarpariaethau i fynd i'r afael ag ymosodiadau gan gŵn ac aflonyddu gan gŵn. Yn anffodus, mae taith y Bil wedi'i oedi. Cefais gyfarfod gyda Gweinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i weld pa mor gyflym y gellir cyflwyno'r Ddeddf honno, oherwydd rwy'n credu y bydd yn ein helpu, wrth edrych ar yr hyn y gall y llysoedd ei wneud, ac edrych ar gynyddu'r dirwyon efallai.  

Diolch, Weinidog, am yr ateb hwnnw.

Os gallaf newid i'r sector arall yn eich portffolio, o amaethyddiaeth i ddyframaethu a physgodfeydd, mae'r data diweddaraf ar y diwydiant pysgota yng Nghymru yn dangos i ni fod pysgod asgellog a physgod cregyn a ffermir wedi gweld gostyngiad enfawr o 82 y cant yn eu gwerth rhwng 2019 a 2021. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld glaniadau fflydoedd pysgota Cymru yn gostwng 75 y cant yn eu pwysau a 41 y cant yn eu gwerth. Mae eu proffidioldeb hefyd wedi gostwng yn sylweddol. Rydym yn gweld dirywiad un o'n sectorau hynafol—rhan o'n bywyd arfordirol a'n diwylliant a'n hunaniaeth yn diflannu o flaen ein llygaid. Nid yw'r darlun yn wahanol yn y sector prosesu. Erbyn 2021, dim ond 28 o swyddi cyfwerth ag amser llawn oedd gyda ni yn y sector prosesu yma yng Nghymru. Yn yr Alban ar y llaw arall, maent yn cyflogi 7,789 yn y sector prosesu. Weinidog, a yw hon yn sefyllfa dderbyniol, ac a wnewch chi edrych eto ar gynyddu'n sylweddol y buddsoddiad a'r cymorth i bysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru?

14:40

Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r sector pysgodfeydd. Rwy'n ymwybodol iawn o'r dirywiad a gofnodwyd. Rwy'n cydnabod eu bod wedi bod o dan bwysau digynsail yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, pandemig COVID, gorchwyddiant prisiau tanwydd yn fwy diweddar a achosir gan y rhyfel yn Wcráin, a'r argyfwng costau byw wrth gwrs. Rwy'n credu bod llawer o'r pwysau i'w deimlo ar draws ein holl sectorau cynhyrchu sylfaenol.

Rwyf wedi gofyn i swyddogion fonitro'r effaith ar farchnadoedd a chostau yn drylwyr, ac maent yn gweithio gydag Seafish i ddeall y tueddiadau'n well ac i nodi meysydd lle gellid lliniaru ac ymyrryd o bosibl i atal y dirywiad anffodus. Yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi lansio cynllun môr a physgodfeydd Cymru. Daeth y cyfnod ymgeisio am y cynllun mesurau marchnata i ben yr wythnos diwethaf, a bydd swyddogion yn gwerthuso'r prosiectau yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac mae gennym ail gyfnod ymgeisio—mewn gwirionedd, rwy'n credu y gallai hwnnw fod wedi newydd gau y mis hwn—y cyfnod ymgeisio ar gyfer y cynllun effeithlonrwydd ynni a lliniaru newid hinsawdd, y gofynnwyd imi ei gyflwyno'n gynharach. 

Ar yr ochr gadarnhaol, mae gennym bafiliwn Cymreig unwaith eto yn y Seafood Expo Global yn Barcelona ym mis Ebrill, lle gallwn hyrwyddo ein bwyd môr Cymreig. Mae bob amser wedi bod yn daith fasnach lwyddiannus iawn inni, felly roeddwn yn awyddus i'w chefnogi eto eleni i geisio gwneud yr hyn a allwn ar ran ein busnesau pysgota a dyframaethu.

Denu Pobl Ifanc i'r Byd Ffermio

3. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu pobl ifanc i yrfaoedd ym myd ffermio ac amaeth? OQ59144

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gefnogi ac annog pobl ifanc i fentro i'r diwydiant amaeth drwy raglenni fel Cyswllt Ffermio a Mentro. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig ar gael i bob math o ffermydd ym mhob rhan o Gymru ac yn cefnogi newydd-ddyfodiaid i sefydlu busnesau amaethyddol cynaliadwy.

Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, ffermio yw'r sylfaen y mae cadwyn gyflenwi bwyd a diod Cymru, sy'n werth £6 biliwn, wedi'i hadeiladu arni. Ffermwyr yw gwarcheidwaid ein hamgylchedd ac mae'r sector yn cyflogi 17 y cant o weithlu Cymru. Mae ystadegau diweddar gan Cymwysterau Cymru yn dangos bod gostyngiad o 14 y cant wedi bod yn y tystysgrifau cymwysterau galwedigaethol a ddyfernir yn y sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofal anifeiliaid o gymharu â 2021. Ar ben hynny, Cymru sydd â'r gostyngiad mwyaf o ran canran yng nghyfanswm y gweithlu amaethyddol o 2015 i 2021, sef 13.6 y cant, o'i gymharu â 2.4 y cant yn Lloegr a 3.1 y cant yn yr Alban. Weinidog, sut rydych chi'n gweithio gyda gweddill eich Llywodraeth i wrthdroi'r duedd bryderus hon a sicrhau ein bod yn cefnogi ffermio Cymru am genedlaethau i ddod?

Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb arbennig mewn newydd-ddyfodiaid, gan weithio gyda phobl i weld beth sy'n eu rhwystro rhag mentro i'r byd amaeth. Mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf yn credu bod addysg a sgiliau wedi bod yn un o'r rhwystrau a gafodd eu dwyn i fy sylw erioed. Rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar—. Soniais am Mentro yn fy ateb gwreiddiol i chi, a bu'n gynllun llwyddiannus iawn i helpu i baru ffermwyr a thirfeddianwyr sy'n awyddus i gamu nôl o'r diwydiant â newydd-ddyfodiaid sy'n mentro i'r byd amaeth. Rydym hefyd yn ceisio gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod eu ffermydd wedi eu gwarchod fel ffermydd fel bod modd iddynt gael eu defnyddio gan bobl, yn enwedig pan fyddant eisiau dechrau yn y byd amaeth. Efallai nad ydynt yn gallu fforddio prynu fferm, ond gallant rentu fferm ar brydles gan yr awdurdod lleol.

Y Diwydiant Wyau

4. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant wyau yn Nwyrain De Cymru? OQ59130

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i'r diwydiant wyau yn ne-ddwyrain Cymru. Mae arian ar gael drwy ein cynlluniau grantiau cyfalaf, gyda chyngor a chymorth uniongyrchol ar gael i fusnesau fferm a bwyd drwy ein timau Cyswllt Ffermio a Busnes Cymru.

Diolch am yr ateb yna.

Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd wedi bod yn siopa bwyd yn ystod y misoedd diwethaf wedi sylwi ar brinder wyau. Mae rhai cynhyrchwyr, sy'n wynebu costau cynyddol ac archfarchnadoedd sy'n gwrthod adlewyrchu hyn yn eu cytundebau, yn gadael y diwydiant os ydynt yn gallu. Cafodd hyn ei wneud yn glir i mi gan gynhyrchydd wyau yn fy rhanbarth yn ystod cyfarfod yn ddiweddar. Roeddent yn dweud wrthyf yn blwmp ac yn blaen fod y sector wyau mewn trafferthion mawr. Weinidog, beth y gellir ei wneud i gael cydlynu gwell yn y gadwyn gyflenwi i roi hyder i'n ffermwyr gynhyrchu ein hwyau Cymreig? Oni bai bod y mater hwn yn cael ei ddatrys, rydym yn wynebu mwy o fewnforio wyau i lenwi'r bwlch, heb unrhyw sicrwydd eu bod wedi cael eu cynhyrchu i'r un safon ac felly'n rhydd o facteria fel salmonela. Mae'n hanfodol fod wyau'n parhau i fod yn gwbl olrheiniadwy yn ogystal â fforddiadwy, a hoffwn wybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem fawr yn y sector.

14:45

Diolch. Mae hwn yn amlwg yn gyfnod heriol iawn i'n ffermwyr i gyd, ac rwy'n gwybod bod ffermwyr dofednod ac wyau'n arbennig o ddibynnol ar borthiant ac ynni, dau faes lle'r ydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y costau oherwydd chwyddiant amaeth. Mae'r diwydiant wyau—ac rwy'n credu eich bod yn cyfeirio at hyn yn rhan gyntaf eich cwestiwn—hefyd yn galw am ddiwygio contractau i atal cyflenwyr rhag cael eu clymu i sefyllfaoedd lle maent yn gwneud colledion ac i ddarparu rhywfaint o sefydlogrwydd i'r sector wrth symud ymlaen yng nghanol y prinder wyau parhaus. Ysgrifennais at Weinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Mark Spencer, ychydig cyn y Nadolig ynglŷn â'r mater hwn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn edrych arno ar sail y DU gyfan. Rwy'n aros am ymateb ganddo. Ond rwy'n credu y gallem wneud yn well os ydym yn gweithio gyda'n gilydd ar draws y DU, ac yn amlwg, gallai'r Gweinidog ffermio, pysgodfeydd a bwyd y cyfeiriais ato ddefnyddio ei bwerau o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i ymgynghori â'r diwydiant, i sefydlu a oes angen ateb deddfwriaethol i'w cefnogi wrth symud ymlaen. Rydym hefyd wedi gweld effaith achosion cyson iawn o'r ffliw adar dros y 18 mis diwethaf, sy'n amlwg wedi cael effaith hefyd.

Diolch i'r Aelod dros Ddwyrain De Cymru am godi hyn, ac rwy'n rhannu ei bryderon a phryderon y diwydiant, ac rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau fel ffermwr.

Mae cynhyrchwyr dofednod yng Nghymru wedi bod yn wynebu'r pwysau dwbl rydych yn ei gydnabod gyda ffliw adar a chostau cynhyrchu cynyddol ers cryn dipyn o amser. Yn dilyn cyfarfod gyda ffermwyr dofednod pryderus ar ddiwedd 2022, rwy'n credu bod NFU Cymru wedi ysgrifennu atoch, Weinidog, yn gofyn a fyddech yn ystyried defnyddio'r pwerau o dan Atodlen 5, Rhan 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, i ymchwilio i weld a ddylid gwneud datganiad o amodau marchnad eithriadol. Fel y cofiwch, rwyf wedi codi hyn o'r blaen yn y Siambr, a galwyd am hyn yng ngoleuni'r aflonyddwch difrifol yn y farchnad sy'n cael ei brofi gan gynhyrchwyr a defnyddwyr. A, Weinidog, rydych wedi ateb fy nghwestiwn yn rhannol, ond a wnewch chi ddweud wrth y Senedd pa drafodaethau a gawsoch chi a'ch swyddogion gyda'r diwydiant ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ers diwedd mis Tachwedd?

Diolch. Felly, fe'i crybwyllais yn ein grŵp rhyngweinidogol ym mis Rhagfyr ac yna ysgrifennais at y Gweinidog ffermio, pysgodfeydd a bwyd. Fel y dywedaf, yn anffodus, nid wyf wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw. Mae gennym gyfarfod pellach o'r grŵp rhyngweinidogol, ymhen pythefnos rwy'n credu, felly byddaf yn ei godi eto os nad ydwyf wedi cael ymateb. Rwy'n credu bod angen inni edrych ar sut y defnyddiwn y pwerau hynny ac fel y dywedaf, a gweld ai ateb deddfwriaethol fyddai'r ffordd orau ymlaen, ond yn amlwg, mae fy swyddogion yn parhau i weithio ledled y DU ar lefel swyddogol gyda grŵp monitro'r farchnad amaeth. Oherwydd ei fod yn gyflenwad mor integredig ledled y DU, rwyf wedi gofyn iddynt bwysleisio mai ateb DU gyfan fyddai'r ffordd orau ymlaen.

Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd

5. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ar y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd? OQ59136

Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn ganlyniad i sawl blwyddyn o ddatblygu polisi ar draws portffolios gweinidogol, sy'n cynnwys trafodaethau gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae swyddogion hefyd wedi bod mewn trafodaethau rheolaidd gyda chyd-Weinidogion i ddeall effaith y Bil ar raglenni sy'n bodoli eisoes a rhaglenni'r dyfodol, gan gynnwys adfer mawndiroedd. 

Diolch am yr ateb. Llwyddiant y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd yw ei gallu i gyflawni ar unwaith, ond mae wedi dod i fy sylw fod llawer o waith yn cael ei ddal yn ôl neu nad yw'n mynd rhagddo oherwydd bod tirfeddianwyr yn aros i weld a fydd hi'n ofynnol cynnwys mawn diraddiedig yn y cynllun ffermio cynaliadwy newydd, neu a fyddai'n well iddynt ymgymryd â'r gwaith drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy. Felly, a all y Gweinidog roi sicrwydd i reolwyr tir ledled Cymru na fyddant yn cael eu cosbi naill ai'n ariannol nac o ran cymhwysedd ar gyfer y cynllun am wneud gwaith adfer mawndiroedd drwy'r mecanweithiau sydd ar gael ar hyn o bryd?

Wel, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn cael ei lunio ar hyn o bryd. Rydym wedi mynd drwy broses sylweddol o gydgynllunio gyda'n rhanddeiliaid, felly ni allaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi fel y gofynnoch chi amdano, ond yn amlwg, rydym yn awyddus iawn i'r gwaith hwnnw gael ei wneud. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch am ffermwyr yn aros i weld, os mynnwch, ond byddem yn eu hannog i barhau i gyflawni'r camau sydd eu hangen arnom yn fawr yn rhan o'r rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r rhaglen honno wedi'i wneud yw darparu'r arweiniad roedd ei angen arnom ar gyfer y gwaith parhaus o adfer mawndiroedd, ond byddwn yn sicr yn ei ystyried—wel, rydym yn ei ystyried—yn ddyletswydd rheoli tir yn gynaliadwy. Felly, nid wyf yn gweld pam na fyddem yn ei wobrwyo. Ond rwy'n annog pobl i barhau o ddifrif gyda'r gwaith y maent wedi bod yn ei wneud wrth inni dywys y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) drwy'r Senedd ac wrth inni gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, a fydd yn disodli cynllun y taliad sylfaenol.

14:50
Lles Anifeiliaid

6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa effaith y mae costau byw cynyddol wedi'i chael ar les anifeiliaid? OQ59111

Wrth i'r sefyllfa economaidd waethygu, mae'r pwysau ar gyllidebau aelwydydd i gynnal amodau lles da i anifeiliaid anwes yn dod yn fwyfwy heriol. Mae fy swyddogion wedi gweithio'n agos gyda'r trydydd sector i fonitro'r sefyllfa ac yn falch o weld grwpiau lles anifeiliaid yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi ein perchnogion anifeiliaid anwes.

Mae costau byw cynyddol wedi arwain at y nifer uchaf erioed o anifeiliaid anwes yn cael eu gadael. Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yn amcangyfrif bod anifail anwes yn cael ei adael bob 15 munud yn y DU. Mae'r Dogs Trust wedi cofnodi'r nifer uchaf erioed o alwadau gan berchnogion sydd am roi'r gorau i'w cŵn, gan nodi rhesymau ariannol, ac mae arolwg gan YouGov yn dangos bod 48 y cant o ymatebwyr wedi cadarnhau y byddent yn ei chael hi'n anos rhoi popeth roedd ei angen ar eu ci. Mae elusennau fel Friends of Animals Wales, sy'n cael ei gweithredu gan wirfoddolwyr ac sydd â thair siop yn fy etholaeth, yn darparu banc bwyd anifeiliaid anwes fel nad oes rhaid i anifeiliaid anwes fynd heb fwyd, neu fel nad oes rhaid i berchnogion fynd heb fwyd er mwyn bwydo eu hanifeiliaid anwes. Ond nid yw pob etholaeth yn ddigon ffodus i gael y ddarpariaeth hon ac mae'n anodd cyrraedd pob perchennog anifail anwes. Pa gyngor y byddai'r Gweinidog yn ei roi i berchnogion anifeiliaid anwes yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd darparu ar gyfer eu hanifeiliaid anwes, a sut y gall Llywodraeth Cymru helpu elusennau fel Friends of Animals Wales i gyrraedd y rhai sydd angen cefnogaeth?

Wel, fel y dywedais yn fy ateb agoriadol, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau'r trydydd sector i weld beth arall y gellir ei wneud i helpu ein perchnogion anifeiliaid anwes sy'n ei chael hi'n anodd bwydo a gofalu am eu hanifeiliaid anwes yn y ffordd y byddent hwy a ninnau eisiau iddynt ei wneud. Yn anffodus, gwelsom gynnydd mewn perchnogaeth anifeiliaid anwes yn ystod pandemig COVID-19 ac yn amlwg, wrth i'r sefyllfa economaidd waethygu gyda'r pwysau ar gyllidebau aelwydydd, mae wedi dod yn llawer mwy heriol i gynnal amodau lles da i'n hanifeiliaid anwes.

Mae gennym grŵp Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru, ac maent yn trafod hefyd gyda sefydliadau'r trydydd sector, ac mae hynny'n cynnwys y Dogs Trust, fel y nodoch chi, y People's Dispensary for Sick Animals a Cats Protection, i fonitro'r sefyllfa bresennol ynghylch gofal milfeddygol fforddiadwy hefyd, oherwydd mae hynny'n amlwg yn rhywbeth arall a allai fod yn achosi pryderon i berchnogion anifeiliaid anwes.

Rydym hefyd yn dal i hyrwyddo ein hymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol—Aros, Atal, Amddiffyn—ac mae hynny'n atgoffa darpar brynwyr o'r angen i wneud eu hymchwil cyn iddynt brynu anifail anwes, oherwydd rydym yn gwybod bod perchnogaeth gyfrifol ar anifail anwes yn dechrau cyn ichi brynu anifail.

Roeddech yn cyfeirio at y banc bwyd i anifeiliaid anwes. Rwy'n gwybod bod y banc bwyd yn fy etholaeth i'n darparu ar gyfer anifeiliaid anwes hefyd. Felly, byddwn yn annog pobl eto i roi cynnig ar eu banc bwyd lleol os nad oes ganddynt fanc bwyd penodol ar gyfer anifeiliaid anwes yn y ffordd roeddech chi'n nodi yn eich etholaeth.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru argymell cynnydd ddeg gwaith drosodd yn y ffioedd am waredu dip defaid. Bydd hyn, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol, yn achosi rhwystrau rhag dileu'r clafr. Nawr, nodaf yn eich datganiad fis diwethaf eich bod wedi ymrwymo £4.5 miliwn o gyllid y cynllun buddsoddi gwledig i helpu i fynd i'r afael â'r clefyd, ond ni wnaethoch sôn a fyddai hyn yn gyllid blynyddol neu'n gyllid amlflwyddyn. Rwyf hefyd yn sylweddoli eich bod wedi dweud yn eich ymatebion i fy nghyd-Aelod Sam Kurtz y bydd y cynnydd yn y ffioedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ond yn effeithio ar ganran fechan o ffermydd, am mai 37 trwydded y flwyddyn yn unig a ddyrennir. Ond fel y mae NFU Cymru wedi nodi, mae'r cynigion hyn, meddant, yn ddifeddwl ac yn unllygeidiog. Maent yn gofyn am gyfiawnhad llawn gan CNC dros y cynnydd hwn. Felly, pa ddadansoddiadau eraill a welsoch a fyddai'n dangos bod hwn yn benderfyniad teg i ffermwyr sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda chostau byw?

Felly, yn amlwg, mae CNC yn dod o dan bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rwy'n gwybod y bydd hi'n cael cyngor gan CNC ynghylch y cynnydd yn y trwyddedau rheoleiddiol y cyfeirioch chi atynt. Rwyf wedi gwneud ychydig o ymchwil i hyn ar ôl cael gwybod mai dim ond 37 o drwyddedau a roddwyd, ac mae hynny'n gywir. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod nad yw CNC yn ceisio gwneud elw o hyn. Yr hyn y maent yn ceisio ei sicrhau yw bod costau'n cael eu talu, ac nid oes cynnydd wedi bod ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n derbyn ei fod yn gynnydd sylweddol ar un tro. Ond fel rwy'n dweud, mae'r Gweinidog yn dal i ddisgwyl cyngor arno.

14:55
Rasio Milgwn

7. Pa ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i wahardd rasio milgwn? OQ59110

Anfonais fy ymateb i'r adroddiad a gyflwynwyd ar y mater hwn ddoe at y Pwyllgor Deisebau a gadeirir gan yr Aelod, ac fel y nodwyd yn yr ymateb, bydd unrhyw newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ymateb yn gadarnhaol i Bwyllgor Deisebau'r Senedd ar yr adroddiad a alwai am waharddiad graddol ar rasio milgwn. Y rheswm y gwnaethom alw am waharddiad graddol ar rasio milgwn yw oherwydd bod y mwyafrif o'r Aelodau'n teimlo bod y dystiolaeth a glywsom yn llethol o blaid gwaharddiad graddol. Rwy'n deall safbwynt Llywodraeth Cymru y bydd yn rhaid iddynt ymgynghori ar unrhyw waharddiad, ac fe fydd ymgynghoriad yn cynnwys y safbwynt ar wahardd rasio milgwn. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr, Weinidog, ynglŷn â beth yw'r camau nesaf i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth.

Diolch, ac roeddwn yn falch iawn o allu derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion heblaw am un, ac edrychaf ymlaen yn fawr at y ddadl a gynhelir yn y Siambr hon ar 6 Mawrth, ac mae'n debyg mai dyna'r cam nesaf. Ac yna cawn olwg ar beth arall sydd angen inni ei wneud i gael golwg a gwneud yn siŵr fod ein milgwn yn cael eu diogelu gymaint â phosibl. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â pherchennog stadiwm Valley, sef yr unig stadiwm milgwn yma yng Nghymru, fel y gwyddoch, i drafod y materion lles a gafodd eu dwyn i fy sylw. Rwy'n awyddus iawn i weld yr archwiliadau'n parhau yn y stadiwm. Ond y cam uniongyrchol nesaf fydd y ddadl ar 6 Mawrth.

Diolch am eich ymateb i gwestiwn fy nghyd-Aelod Jack Sargeant. Fel y gwyddoch, ymhen rhai wythnosau, byddwn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar rasio milgwn, ac yn benodol ei brif argymhelliad y dylid gwahardd y gamp yng Nghymru. Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad hwnnw, fi oedd yr unig lais yn y pwyllgor sy'n credu y gellid gwneud mwy i orfodi a thynhau'r rheoliadau presennol yn gyntaf er mwyn gwella lles milgwn. Wrth gasglu tystiolaeth fy hun, cyfarfûm â Bwrdd Milgwn Prydain, GBGB, y rheoleiddiwr rasio milgwn trwyddedig ym Mhrydain, i drafod 'A Good Life for Every Greyhound', eu strategaeth les a aseswyd yn annibynnol y mae'n rhaid i bob trac GBGB gydymffurfio â hi. Rwy'n ymwybodol nad yw'n ymddangos bod gan draciau GBGB yr un lefel o broblemau'n ymwneud â lles anifeiliaid ag a welir yn unig drac Cymru, nad oes ganddo achrediad GBGB, a hoffwn i'r Llywodraeth hon wneud ymchwiliad mwy trylwyr i weld a allai rheoliadau GBGB ddatrys problemau lles anifeiliaid cyn deddfu am waharddiad. Gyda hyn mewn golwg—ac rwy'n ymwybodol nad wyf wedi gweld eich ymateb i argymhellion y pwyllgor eto—pa waith ymchwiliol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ddeall lles anifeiliaid yn briodol ar drac Valley ac ar draciau cofrestredig GBGB? Ac o gofio bod adroddiad y Pwyllgor Deisebau hefyd wedi galw am adolygu campau eraill yng Nghymru sy'n ymwneud ag anifeiliaid, rwy'n chwilfrydig i wybod pa resymeg fydd yn cael ei defnyddio i benderfynu pa gampau sy'n cael eu gwahardd a pha rai na chânt eu gwahardd, pe bai'r Llywodraeth hon yn cefnogi argymhellion adroddiad y Pwyllgor Deisebau. Diolch.

Felly, i ateb eich pwynt olaf—ac rwy'n derbyn nad ydych wedi gweld fy ymateb hyd yma—argymhelliad 5, sef y dylem hefyd edrych ar chwaraeon eraill lle mae anifeiliaid yn cystadlu, yw'r argymhelliad a wrthodais, oherwydd, yn amlwg, ffocws ar rasio milgwn yw hwn. Yr hyn y mae ein cynllun lles anifeiliaid, a gyflwynais yn ôl yn 2021—mae'n gynllun pum mlynedd—yn ei wneud yw cynnwys fframwaith ar gyfer gwireddu pedwar ymrwymiad lles anifeiliaid y rhaglen lywodraethu, ac mae hwnnw'n amlinellu sut y byddwn yn integreiddio ystod eang o waith polisi lles anifeiliaid parhaus.

O ran eich cwestiynau ynghylch traciau GBGB, fe fyddwch yn ymwybodol nad yw'r un trac sydd yng Nghymru yn drac GBGB. Rwyf innau hefyd wedi cyfarfod â GBGB i weld beth arall y gellid ei wneud, ac mae fy swyddogion yn edrych ar hynny. Nid wyf yn credu eu bod wedi ymweld ag unrhyw un o draciau eraill GBGB, ond yn sicr maent wedi cael trafodaethau gyda phrif weithredwr GBGB, rwy'n meddwl, i weld beth y gallwn ei ddysgu.

Mae rasio milgwn yn rhy aml yn hynod beryglus i'r milgwn, ac mae yna ystadegyn fod 2,000 o filgwn wedi cael eu hewthaneiddio yn y DU rhwng 2018 a 2020 yn syml o ganlyniad i gael eu rasio. Credaf yn gryf na ddylai unrhyw anifail ddioddef yn enw chwaraeon, ac mae hynny'n wir am bob camp sy'n defnyddio unrhyw fath o anifail ar gyfer adloniant pobl, felly rwy'n falch o'ch clywed yn dweud bod hynny dan ystyriaeth yn yr ymgynghoriad hwn. Mae 35,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb hon, felly nid yw'r ychydig leisiau yma'n lleiafrif; rydym yn cynrychioli sector enfawr o'r gymdeithas sy'n meddwl yr un fath. Felly, Weinidog, pan fyddwch yn ymgynghori, a hynny ledled Cymru, a fyddwch yn bwydo'r ymgynghoriad hwnnw yn ôl cyn gwneud unrhyw benderfyniadau a chyn rhoi camau ar waith?

15:00

Diolch. Wel, fel y dywedais, rydym eisoes wedi ymrwymo i ystyried trwyddedu rasio milgwn fel rhan o'n cynllun lles anifeiliaid. Y cam nesaf nawr yw cael y ddeiseb. Yr hyn rwyf wedi’i ddweud wrth y Pwyllgor Deisebau ac wrth Aelodau yn y Siambr yw y byddai’n rhaid i unrhyw beth y penderfynwn ei wneud fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, felly gadewch inni gael y ddadl ar 6 Mawrth, ac yna gallwn benderfynu ar y camau nesaf.

Gwella Rheolaeth Cŵn

Mae cod ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer lles cŵn yn rhoi gwybod i berchnogion am eu rhwymedigaethau o ran rheoli eu cŵn a’r ddeddfwriaeth sy’n eu llywodraethu. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno mesurau diogelu pellach drwy’r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).

Diolch, Weinidog. Mae etholwr wedi cysylltu â mi i ddweud bod ci mawr wedi ymosod arno’n ddiweddar ar lwybr cyhoeddus yn Nhrecelyn. Mae’n mynd yn ei flaen i ddweud ei fod wedi cael ei gnoi ddwywaith gan gŵn mewn mannau cyhoeddus dros y chwe blynedd diwethaf, a bod ei fab wedi cael ei gnoi hefyd. Crybwyllodd yr Aelod dros Gaerffili y pwnc hwn yr wythnos diwethaf, felly gwn eich bod yn ymwybodol o’r ddau achos trasig diweddar yng Nghaerffili, pan laddwyd bachgen 10 oed a dynes 83 oed ar ôl i gŵn ymosod arnynt. Rwy’n ymwybodol fod y Cynulliad Cenedlaethol blaenorol wedi ystyried cyflwyno Bil Rheoli Cŵn (Cymru), ond rhoddwyd y gorau i'r syniad yn 2013. A ydych yn cytuno, Weinidog, fod yr amser wedi dod i Gymru ailystyried y mater hwn a chyflwyno mesurau i sicrhau diogelwch pobl wrth iddynt adael eu cartrefi? Diolch.

Gwyddom y gallai unrhyw gi yn y dwylo anghywir fod yn beryglus, a’r hyn rydym yn ei wneud yw hybu perchnogaeth gyfrifol. Credaf fod yn rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth allweddol. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Mabon ap Gwynfor am y Bil anifeiliaid a gedwir y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno, ac mae hwnnw wedi arafu ychydig, yn anffodus, ond credaf fod darpariaethau y gallwn eu rhoi ar waith yno i'n helpu. Oherwydd gwyddom fod ymosodiadau gan gŵn yn difetha bywydau’n llwyr, a bod modd eu hosgoi os yw perchnogion cŵn yn sicrhau bod eu cŵn dan reolaeth bob amser, a’u bod yn berchnogion cyfrifol bob amser hefyd.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Un cwestiwn heddiw, a hwnnw i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ac i'w ofyn gan Delyth Jewell.

Y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau

1. Pa sicrwydd wnaiff y Gweinidog ei ddarparu na fydd symud i ffwrdd o gyllido’r cynllun brys ar gyfer bysiau yn arwain at gau llwybrau bysiau ac yn golygu bod gwasanaethau bysiau gwledig yn anhyfyw? TQ727

Mae estyniad cychwynnol o dri mis yn rhoi’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar y diwydiant yn y tymor byr tra byddwn yn parhau i weithio gyda hwy a chyda llywodraeth leol ar gynllunio rhwydweithiau bysiau sy’n gweddu’n well i’r patrymau teithio newydd rydym wedi’u gweld ers diwedd y pandemig.

Diolch, Weinidog. Rwy’n derbyn bod yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi bod yn eithriadol o brysur i chi. Mae'r ansicrwydd rydych wedi sôn amdano ynghylch y cyllid hwnnw yn y dyfodol yn achosi llawer iawn o bryder, ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi ymestyn y cyfnod pontio hwn am dri mis. Fodd bynnag, nid yw'r gohiriad dros dro'n mynd i wneud llawer i leddfu pryderon gweithredwyr bysiau. Rwy’n derbyn eich bod mewn sefyllfa anodd—gwn inni gyffwrdd ar hyn yn y Siambr ddoe—ond mae’r newid yn y negeseuon ar hyn wedi drysu pethau yn fy marn i, a hoffwn gael rhagor o wybodaeth am hynny. Gwnaed rhai datganiadau fod y cynllun i fod i ddod i ben ym mis Mawrth eleni, ond ymddengys bod hynny’n mynd yn groes i’r dystiolaeth weinidogol a gyflwynwyd ar y gyllideb ddrafft, yn ogystal, yn ôl yr hyn a ddeallaf, â chywair y trafodaethau y mae gweithredwyr bysiau wedi’u cael gyda Llywodraeth Cymru yn y misoedd cyn y newid hwn.

Weinidog, byddwn yn dweud eich bod wedi cymryd camau beiddgar yr wythnos hon tuag at wireddu dyfodol sero net. Mae'r ysgogiad y tu ôl i hynny'n un rwy'n ei groesawu'n fawr; credaf ei fod yn anhygoel o ddewr. Ac am y rheswm hwnnw, byddwn yn eich annog mai nawr yw'r amser pwysicaf i Lywodraeth Cymru fod yn edrych ar ddarparu sicrwydd o gyllid ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd os ydym am annog pobl i ddefnyddio llai ar geir, i sicrhau bod rhwydweithiau bysiau a threnau hyfyw yno ar eu cyfer, dyna'r ffordd o sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd lle mae angen iddynt fod—mewn mwy nag un ffordd, wrth gwrs. Felly, a fyddech cystal â dweud wrthym a oes unrhyw obaith, yn eich barn chi ar hyn o bryd, o sylfaen fwy cynaliadwy i gynllun fel hwn barhau, neu gynllun sy'n ei efelychu, gan gofio, wrth gwrs, mai cynllun ar gyfer COVID ydoedd?

15:05

Wel, diolch am godi’r cwestiwn, gan ei fod yn fater sy’n peri cryn bryder i ni. Yn amlwg, nid yw hon yn sefyllfa hapus. Mae gennym rwydwaith bysiau sydd wedi’i breifateiddio, sy’n dibynnu ar allu gweithredwyr masnachol i wneud elw. Yn amlwg, mae’r pandemig wedi troi’r model busnes hwnnw ar ei ben, a’n hymyrraeth ni, gyda £150 miliwn o fuddsoddiad cyhoeddus, a gadwodd y sector rhag mynd i'r wal. Roedd bob amser i fod yn gynllun brys; y bwriad oedd ei fod yn gynllun dros dro. Bob blwyddyn, rydym yn gwario £60 miliwn ar sybsideiddio tocynnau teithio rhatach i bobl hŷn, rydym yn gwario £2 filiwn arall ar sybsideiddio cynllun FyNgherdynTeithio ar gyfer pobl ifanc 16 i 21 oed, ac rydym yn darparu £25 miliwn o grant i awdurdodau lleol ar gyfer y grant cynnal gwasanaethau bysiau, ac mae oddeutu chwarter cyllidebau addysg awdurdodau lleol bellach yn mynd ar gludiant i'r ysgol. Felly, rydym yn darparu llawer o arian cyhoeddus, ac ar ben hynny, rydym wedi cael y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau.

Nawr, yn y gyllideb eleni, y bwriad bob amser oedd dirwyn hynny i ben. Un o'r pethau y mae'r diwydiant ei hun yn ei ddweud yw ein bod yn ffosileiddio—dyna'r gair y maent wedi'i ddefnyddio—rhwydweithiau bysiau ar lwybrau teithio a oedd yn gweddu i deithwyr cyn y pandemig, ond mae ymddygiad teithwyr wedi newid. Mae llai o bobl hŷn yn teithio, ceir mwy o deithiau hamdden nag a geir o deithiau cymudo. Felly, mae'n debyg ein bod yn dal i redeg patrwm bysiau'n seiliedig ar ymddygiad cyn-bandemig. Felly, doed a ddelo, mae angen ad-drefnu'r rhwydweithiau. Yn amlwg, byddai’n well gennym wneud hynny mewn ffordd drefnus. Nawr, rydym wedi bod yn ceisio cysoni setliad cyllideb anodd tu hwnt â'n dyheadau polisi, ac fel y gwyddoch, mae gennym uchelgeisiau mawr ar gyfer bysiau. Ond yn y bôn, oni bai ein bod yn barod i sybsideiddio'r diwydiant yn llawn, ni allwn wneud unrhyw beth i gadw gwasanaethau fel y maent. Ac mae hon yn broblem ledled y DU. Bydd chwiliad cyflym ar y rhyngrwyd yn dangos hyn ledled Lloegr a'r Alban. Maent oll yn wynebu'r un peth.

Nid ydym wedi gweld unrhyw arian ychwanegol yn dod gan y Trysorlys a’r Adran Drafnidiaeth a fyddai’n cynhyrchu unrhyw gyllid canlyniadol i ni ddarparu rhagor o arian eleni. Rydym hefyd yn gorfod wynebu pwysau sylweddol yn sgil costau yn y diwydiant rheilffyrdd. Felly, rydym mewn cyfyng-gyngor yma. Drwy'r wythnos diwethaf, drwy sgyrsiau adeiladol iawn gyda'r diwydiant a llywodraeth leol, fe wnaethom lwyddo i sicrhau gohiriad. Felly, mae'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau wedi'i warantu am dri mis arall, ac rydym yn gobeithio gweithio'n agos gyda hwy yn ystod y cyfnod hwnnw i geisio nodi pa lwybrau teithio y dylid eu cynnal o fewn yr amlen gyllideb bysiau sy'n lleihau er mwyn rhoi'r cyfle gorau inni gael gwasanaeth sgerbwd a fydd yn ein cynnal hyd at y fasnachfraint newydd, sy'n dal i fod ychydig o flynyddoedd i ffwrdd. Felly, bydd gennym broblem wirioneddol o ran pontio.

Ni fyddai unrhyw beth yn well gennyf na dod o hyd i’r arian i allu gwneud hyn yn iawn, ond mae ein hopsiynau’n gyfyngedig. Rydym yn ymwybodol o'r pwysau costau ar y Llywodraeth, a chyda’i gilydd, mae Llafur a Phlaid Cymru wedi blaenoriaethu ystod gyfan o gyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, ar gyfer yr argyfwng costau byw ac ar gyfer bargen gyflog i’r GIG. Nawr, ni ellir gwario'r arian hwnnw ddwywaith. Felly, yn syml iawn, nid oes arian yn hel llwch yng nghyllideb Cymru y gallwn ei wario ar hyn, er cymaint yr hoffwn wneud hynny. Felly, mae gennym her wirioneddol nawr i geisio sicrhau cyfnod pontio llyfn cystal ag y gallwn allan o'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau mewn ffordd sy'n achosi'r aflonyddwch lleiaf i deithwyr, gan gadw set graidd o rwydweithiau bysiau sy'n caniatáu i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a newid eu dulliau teithio, fel rydym am iddynt ei wneud. Ond ni allaf ddweud yn onest ein bod yn mynd i allu gwneud yr holl bethau rydym am eu gwneud, o ystyried yr arian sydd ar gael. Rwy’n mawr obeithio, a hoffwn apelio ar Lywodraeth y DU, gan eu bod hwythau'n wynebu'r problemau hyn hefyd, i roi arian ychwanegol yn y gyllideb drafnidiaeth ar lefel y DU er mwyn mynd i'r afael â’r argyfwng sydd yn Lloegr hefyd, a fydd yn arwain at gyllid canlyniadol ychwanegol i ni y gallwn ei roi tuag at y system fysiau wedyn a gweithio gyda'r diwydiant i greu rhwydwaith synhwyrol.

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, am godi hwn fel cwestiwn heddiw. Nawr, gyda phob parch, roedd diwedd mis Mawrth i fod yn bwynt terfyn ar gyfer BES 3, fel y’i gelwid yn gyffredin, a bellach, rydym yn darganfod ei fod, yn amlwg, yn cael ei barhau hyd at ddiwedd mis Mehefin, sy’n iawn. Felly, hoffwn wybod beth yn union sy'n mynd i ddigwydd pan fyddwn yn cyrraedd mis Mehefin, Ddirprwy Weinidog? Rydych wedi dweud yn flaenorol fod yn rhaid bodloni meini prawf er mwyn gallu cynnal rhai llwybrau bysiau penodol. Beth yw'r meini prawf hynny? Pa gymorth a fydd yn cael ei roi ar waith i helpu gwasanaethau bysiau Cymru, a pha gamau y byddwch yn eu cymryd fel nad yw ein cymunedau gwledig a’n haelodau sy’n byw yno'n teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso a’u hynysu wrth symud ymlaen? Gwta 24 awr yn ôl, fe gyhoeddoch chi yr adolygiad ffyrdd a’r cynllun trafnidiaeth—mewn modd brysiog braidd, sy’n iawn—lle rhoesoch lawer o bwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ar 31 Mawrth 2022, fe gyhoeddoch chi 'Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru', ac ynddo—a dyfynnaf—fe ddywedoch chi eich bod am greu

'opsiwn rhagorol ar gyfer teithio, lle a phryd bynnag mae angen hynny ar bobl, ledled Cymru'.

Ar y naill law, mae Llywodraeth Cymru am i fwy o bobl ddefnyddio mwy o fysiau a dod allan o'u ceir, ond ar y llaw arall, rydych yn cael gwared ar achubiaeth ariannol fawr ei hangen. Nid yw'n gwneud synnwyr i mi, Ddirprwy Weinidog. Os na chaiff cynlluniau ariannu eu rhoi ar waith drwy dorri cymorth ariannol ar gyfer bysiau, mae’r Llywodraeth hon yn mynd i achosi problemau mawr i bobl ddirifedi ym mhob cwr o Gymru. Rwy’n deall bod un gweithredwr bysiau mawr wedi rhybuddio y byddant yn paratoi i dorri chwarter eu gwasanaethau presennol, gan fod y cynllun ariannu ar fin dod i ben. Sut ar y ddaear y gallwch ddisgwyl i bobl ddefnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus pan fydd camau gweithredu’r Llywodraeth hon yn arwain yn y pen draw at dorri gwasanaethau bysiau? Mae dal bws yng Nghymru eisoes yn hunllef, felly os na ddarperir cyllid, nid yw’r penderfyniad hwn ond yn mynd i wneud pethau’n waeth. Rwy’n siŵr y byddwch yn dadlau, Ddirprwy Weinidog, nad yw bysiau’n cael eu defnyddio—fel rydych wedi'i ddweud yn flaenorol—fel roeddent yn cael eu defnyddio yn y gorffennol, felly fy nghwestiwn yw: beth rydych chi'n ei wneud i gynyddu argaeledd a defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus? Yn sicr, po fwyaf o bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, y mwyaf ariannol hyfyw y dônt, a bydd angen llai o gymorth gan y Llywodraeth. A ydych yn cytuno, Ddirprwy Weinidog, fod cael gwared ar y cyllid hwn wrth symud ymlaen yn gwbl groes i bolisïau eich Llywodraeth? A pha gymorth amgen y bydd eich Llywodraeth yn ei ddarparu i weithredwyr bysiau yng Nghymru o fis Mehefin 2023 ymlaen?

15:10

Wel, credaf fy mod wedi ateb yr holl bwyntiau hynny yn yr ateb i Delyth Jewell.

Mae gennym system fysiau sydd wedi’i phreifateiddio, fel rwyf wedi'i esbonio droeon, sy’n etifeddiaeth o breifateiddio'r Ceidwadwyr yn y 1980au, ac rydym yn byw gyda realiti hynny nawr, ac mae wedi methu—mae’r model busnes wedi methu. Mae methiant yn y farchnad yma, ac rydym yn mynd i weld toriadau a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn diflannu. Nid oes yr un ohonom yn dymuno gweld hynny, ond rydym hefyd yn byw mewn oes o gyni; unwaith eto, dewis gwleidyddol gan Lywodraethau ei phlaid, lle mae cyllid cyhoeddus wedi’i leihau y flwyddyn nesaf, ac yn syml iawn, nid oes cyllid ar gael inni barhau i fuddsoddi mewn cynnal cwmnïau preifat nad ydynt yn gallu rhedeg gwasanaethau masnachol hyfyw ar y gyfradd y bu modd inni ei wneud drwy'r pandemig. Rydym wedi gallu dod o hyd i rywfaint o arian ychwanegol eleni i ymestyn y cynllun dros dro, ond yn syml iawn, nid oes arian yn y gyllideb i allu parhau â hynny i’r dyfodol. Hoffwn pe bai; ond nid oes arian ar gael, mae arnaf ofn. Ac ni allaf ddianc rhag y realiti hwnnw, er cymaint yr hoffwn allu gwneud hynny.

Felly, rwy’n cyfaddef bod hon yn sefyllfa annymunol nad oes yr un ohonom am ei gweld, ond mae ein hopsiynau’n gyfyngedig. Y gorau rydym wedi gallu ei wneud yw sicrhau gohiriad ar gyfer y diwydiant, i weithio'n agos gyda hwy i geisio cynllunio cyfnod pontio mor llyfn ag y gallwn, ond ni allaf ddweud gydag unrhyw sicrwydd y byddwn yn llwyddo, ac mae perygl bob amser y bydd cwmnïau masnachol yn penderfynu eu hunain—ac maent yn rhydd i wneud hynny mewn system fysiau fasnachol sydd wedi'i dadreoleiddio—eu bod yn mynd i ddiddymu gwasanaethau, gan eu bod eisoes yn ei chael hi'n anodd recriwtio, cadw a hyfforddi gyrwyr bysiau, a gallu cadw at yr amserlen fel y mae'n cael ei hysbysebu.

Felly, mae’r diwydiant bysiau'n wynebu nifer o heriau gwahanol, ac mae’r ffaith nad yw teithwyr wedi dychwelyd i wneud y gwasanaethau masnachol hynny’n hyfyw yn her sylweddol, ond mae pen draw ar yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud â’r setliad cyllideb hwn gan ei Llywodraeth hi.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei ymateb, ac rwy’n rhannu ei ddadansoddiad o’r broblem. Ond mae Llywodraethau yn bodoli i ddatrys problemau, wrth gwrs, nid i'w hailadrodd. Ac i fy etholwyr i, ym Mlaenau Gwent, pan fyddant yn clywed Gweinidog yn sôn am wasanaeth sgerbwd, maent yn meddwl, 'Wel, mae hwnnw'n wasanaeth sy'n mynd i wasanaethu Caerdydd, Casnewydd, Abertawe ac ychydig o leoedd eraill, ond gwyddom na fydd yn gwasanaethu Cwm, ni fydd yn gwasanaethu Blaenau, ni fydd yn gwasanaethu Abertyleri, Tredegar na Glynebwy'. Ac nid yw hwnnw'n wasanaeth y gallwn ei dderbyn. Felly, yr hyn yr hoffwn ei glywed gan y Llywodraeth—a gwn ei bod yn sefyllfa anodd, a chredaf fod y camau yr wythnos hon i ymestyn y rhaglen am dri mis yn darparu rhywfaint o le i anadlu—ond yr hyn rwyf am ei weld gan y Llywodraeth yw cynllun gweithredu clir i ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus y dywedodd, pan safodd yn y Siambr hon ddoe, ei fod am i bobl eu defnyddio. Yn fy etholaeth i, nid yw’r gwasanaethau cyhoeddus hynny’n bodoli heddiw, ac os na fyddant yn bodoli ymhen chwe mis, sut mae pobl yn cyrraedd gwasanaethau cyhoeddus? Sut maent yn cyrraedd siopau? Sut maent yn prynu eu bwyd? Sut maent yn symud o gwmpas, yn mynd i gael hyfforddiant a gwaith? Ni allwn ganiatáu i’r sefyllfa hon barhau. Mae arnom angen cynllun ar gyfer bysiau ac mae ei angen arnom ar unwaith, ac os bydd y Gweinidog yn cyflwyno deddfwriaeth frys, byddaf fi'n sicr yn pleidleisio i’w deddfu cyn gynted â phosibl.

15:15

O na bai mor syml â hynny, Lywydd. Yn sicr, mae gennym gynllun ar gyfer deddfwriaeth, ac rydym wedi ymgynghori arno. Rydym yn gweithio drwy’r cynllun hwnnw ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio ei gyflwyno yn y Senedd yn ddiweddarach eleni, ac yn ogystal â hynny, rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol ar gynllunio’r rhwydweithiau bysiau gorau posibl ar gyfer eu cymunedau. Felly, bydd gennym rwydwaith bysiau integredig strategol, wedi'i gynllunio gyda thocynnau integredig rhwng trenau a bysiau. Bydd gennym safonau gwasanaeth cyffredinol. Bydd gennym gyflogau ac amodau ledled y wlad. Bydd gennym fframwaith llawer gwell er mwyn gweithredu gwasanaethau bysiau.

Ond yn absenoldeb refeniw teithwyr, a dyma’r broblem yma, yr unig ffordd i gadw’r gwasanaethau hynny i redeg yn y cyfamser yw drwy gefnogaeth uniongyrchol y cyhoedd, ac mae ein cyllidebau wedi’u torri ac rydym wedi blaenoriaethu pwysau costau byw, dyfarniadau cyflog a chinio ysgol am ddim a phethau eraill, a hynny’n gwbl briodol. Nid wyf yn gwrthwynebu hynny o gwbl, dim ond dweud wrth yr Aelodau eu bod wedi croesawu'r cyhoeddiadau hynny ynglŷn â lle bydd yr arian hwn yn mynd, a bod canlyniadau ariannol i ba adnoddau sydd ar gael. Dywed mai gwaith y Llywodraeth yw datrys problemau. Rwy'n cytuno ag ef. Credaf ein bod wedi llwyddo sicrhau rhywfaint o le inni anadlu wrth weithio gyda'r diwydiant i weld beth y gallwn ei wneud, ac os oes ganddo awgrymiadau eraill nad ydym wedi meddwl amdanynt, byddwn yn falch iawn o'u clywed.

Ddirprwy Weinidog, un o broblemau mawr y cyhoeddiad cychwynnol am dorri'r cyllid brys oedd y rhybudd cymharol fyr, a olygai nad oedd gan rai cwmnïau bysiau, yn enwedig rhai llai, gronfeydd ariannol wrth gefn sy'n angenrheidiol i gadw gwasanaethau amhroffidiol ond hanfodol, ynghyd â'r amser digonol i newid eu gwasanaethau er mwyn darparu ar gyfer y newidiadau, gan arwain at gryn dipyn o ansicrwydd a phryder. Yr wythnos diwethaf, Ddirprwy Weinidog, fe sonioch chi am bwysigrwydd llwybrau bysiau a chynnal gwasanaethau gwledig i ateb gofynion ein hôl troed carbon a lleihau ein dibyniaeth ar geir. Cafodd hyn ei ailbwysleisio ddoe yn eich cyhoeddiad ar yr adolygiad ffyrdd. Ond nid yw’r negeseuon anghyson gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynnal dyfodol hirdymor y rhwydwaith bysiau a’n llwybrau gwledig yn rhoi unrhyw sicrwydd i gwmnïau bysiau na’r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch y pwysigrwydd hwnnw.

Gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Weinidog, a ydych yn cydnabod bod yr anghysondeb hwn yn y negeseuon a'r camau gweithredu yn cael effaith andwyol, nid yn unig ar allu’r llwybrau bysiau i oroesi, ond ar y rhagolygon a’r cynlluniau mwy hirdymor ar gyfer gwasanaethau gwledig? Pa ymrwymiadau rydych yn eu gwneud i ymgysylltu'n well â chwmnïau bysiau a’r cyhoedd i sicrhau cyfnodau rhybudd hwy ar gyfer cyhoeddiadau cyllido yn y dyfodol? Diolch.

Wel, gadewch inni fod yn glir; y bygythiad mawr i'r diwydiant bysiau yw cyni'r Torïaid. Felly, gadewch inni beidio ag ymgilio rhag y ffaith honno, ac nid wyf yn mynd i adael i'r blaid gyferbyn daflu'r baich am y sefyllfa rydym yn ei hwynebu. Polisïau economaidd eu Llywodraeth hwy sydd wedi ein harwain i'r sefyllfa hon.

Nawr, nid wyf yn derbyn ei ddisgrifiad o'r cyfathrebu rhyngom a'r diwydiant bysiau, a ninnau wedi gweithio'n agos iawn â hwy drwy gydol y pandemig a thu hwnt. Ar ôl cyhoeddi'r gyllideb, cyfarfu swyddogion â gweithredwyr i drafod ei chynnwys a'i goblygiadau. Dilynwyd hyn yn ysgrifenedig, lle nodwyd yn glir mai drafft a oedd y gyllideb ac y gallai newid cyn iddi gael ei chwblhau. Am nad yw pobl hŷn wedi dychwelyd yn y niferoedd a welsom cyn y pandemig, dywedodd swyddogion hefyd ei bod yn bosibl nad yw'r tanwariant o brisiau siwrneiau consesiynol gorfodol ar gael fel cymorth i fysiau oherwydd pwysau cyllidebol eraill ar draws y Llywodraeth, a gofynnwyd i’r diwydiant gynllunio ar gyfer pecyn ariannu llai yn ystod y cyfarfodydd hyn. Felly, ni chredaf ei bod yn deg dweud bod hyn wedi'i gyflwyno iddynt yn ddirybudd. Roeddem yn gwybod bod BES yn dod i ben, roeddem yn gwneud ein gorau i geisio dod o hyd i adnoddau i’w ymestyn cyhyd â phosibl, ac rydym yn y sefyllfa rydym ynddi, ond rydym wedi siarad â’r diwydiant drwy gydol y broses.

Dydy'r Llywodraeth yma ddim yn gwneud eironi, mae'n rhaid. Ar yr un llaw, ddoe, roedd y Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi bod cynlluniau i adeiladu llawer iawn o ffyrdd gwledig Cymru am gael eu hatal, gan sôn bryd hwnnw am bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus a sut mae'r mwyaf difreintiedig, menywod, yr anabl a phobl bregus eraill sydd yn dibynnu fwyaf ar drafnidiaeth gyhoeddus a pha mor bwysig ydy o, felly. Yna, wrth drafod y cynllun argyfwng bysiau, fe ddywedodd yr un Dirprwy Weinidog na fyddai'r arian sy'n cael ei roi i fysiau Cymru yn ddigon i gynnal eu llwybrau a'r gwasanaethau presennol. Dydy o ddim mor hawdd neidio ar feic i seiclo i'r siop agosaf yn y Gymru wledig. Mae'n cymunedau ni bellteroedd oddi wrth ei gilydd, a gwasanaethau wedi cael eu canoli mewn ardaloedd ymhell i ffwrdd. Mae'n rhaid i bobl deithio pellteroedd mawr i weld meddyg, i weld deintydd, i dderbyn addysg, i siopa, i fynd i'r ganolfan hamdden, a llu o weithgareddau eraill. A bydd pobl oedrannus a bregus yn byw bywydau unig iawn yn sgil hyn.

Os na ariennir gwasanaethau bysiau yn iawn, yna mi fyddwch chi yn gorfodi mwy o bobl i ddibynnu ar geir preifat. Ac yn absenoldeb rhwydwaith o bwyntiau gwefru, yr hyn a welwn ni ydy gwlad fel Ciwba yn y Gymru wledig, efo pobl yn cynnal yr un hen geir tanwydd ffosil am ddegawdau i ddod. Ond, yn fyw na hynny, rydych chi'n rhoi hoelen arall yn arch y Gymru wledig, gan orfodi pobl i adael ein cymunedau i fyw yn rhywle arall oherwydd diffyg trafnidiaeth a mynediad at wasanaethau. Felly, a gawn ni sicrwydd y byddwch chi yn sicrhau bod y llwybrau presennol, o leiaf, yn cael eu cynnal, gyda buddsoddi go iawn yn digwydd yn y rhwydwaith fysiau yn y Gymru wledig pan ddaw y cyfle cyntaf posib?  

15:20

Wel, nid oes angen unrhyw bregethau arnaf ar bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus a’r rôl hanfodol y mae bysiau'n ei chwarae mewn ardaloedd gwledig. Nid wyf yn gweld pwynt sylwadau gwamal ynglŷn â phobl yn methu â beicio mewn ardaloedd gwledig. Pwy sy'n awgrymu hynny? Felly, gadewch inni drafod o ddifrif beth yw'r materion dan sylw yma. Mae pob un ohonom yn pryderu am hyn. Nid oes gan unrhyw blaid fonopoli ar hynny, a chredaf fod fy hanes o lwyddiant yn siarad drosto’i hun o ran deall a gwerthfawrogi pwysigrwydd bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Mae gennym broblem gyllidebol wirioneddol yma, ac mae ei blaid yn rhan o’r cytundeb cydweithio sy'n cytuno ar y blaenoriaethau ar gyfer y Llywodraeth. Felly, nid oes unrhyw ddiben iddo sefyll yno, yn pregethu wrthyf am ganlyniadau'r cyllid sydd ar gael a ninnau wedi cytuno, gyda'n gilydd, ar gyfres o flaenoriaethau cyllidebol, ac nid oedd hyn yn un ohonynt. Felly, mae canlyniadau i’r dewisiadau hynny. Mae llywodraethu'n golygu dewis, ac mae ef a'i blaid wedi bod yn rhan o'r broses honno, ynghyd â'n plaid ninnau.

Nawr, roeddem wedi gobeithio y byddai nifer y teithwyr wedi dychwelyd erbyn hyn, a byddai hynny wedi caniatáu i'r gweithredwyr adennill rhywfaint o arian, ac wedi caniatáu inni ddarparu'r cymhorthdal sylweddol rydym eisoes yn ei ddarparu, ond gan leihau cynllun BES yn raddol. Nid yw hynny wedi bod yn bosibl, ac nid oes arian ychwanegol wedi'i ddarparu gan y Trysorlys i allu llenwi’r bwlch hwnnw. Nawr, rydym yn dal yn obeithiol y gallai Llywodraeth y DU ymateb i’r pwysau sydd arni hi a darparu rhywfaint o gyllid brys, a fyddai’n caniatáu inni ymestyn y cymorth a roddwn i’r diwydiant, diwydiant rydym yn awyddus i'w ailgynllunio beth bynnag. Ond yn absenoldeb hynny, oni bai ei fod yn gwybod am arian i lawr cefn soffa'r gyllideb nad wyf yn ymwybodol ohono, credaf fod ein hopsiynau'n gyfyngedig, ac mae hynny'n torri fy nghalon.

A gaf fi ddiolch i Delyth am godi’r cwestiwn amserol hwn, a hefyd am y ffordd y’i cododd, pan fynegodd nid yn unig ei chefnogaeth i’r adolygiad ffyrdd ddoe, a’r egwyddorion y tu ôl iddo, ond gan wneud cysylltiad hefyd rhwng hyn ac ochr arall y geiniog honno, sef darparu’r mathau eraill o drafnidiaeth aml-ddull, cynaliadwy, y mae’r cwestiwn amserol hwn yn canolbwyntio arnynt heddiw?

Ni allaf roi unrhyw atebion hawdd o gwbl i’r Gweinidog, ac rwy'n deall y cyfyng-gyngor y mae ynddo. Ond a wnaiff ymuno â mi i annog pob Aelod o Siambr y Senedd hon sy’n mynnu mwy o arian i gynnal hyn y tu hwnt i’r ychydig fisoedd o le i anadlu rydym wedi'u cael, sydd i’w croesawu, i gefnogi sylwadau i Lywodraeth y DU, sy'n gweld cwmnïau bysiau'n bygwth cerdded i ffwrdd heddiw, nid ymhen tri mis? Ond hefyd, o ddifrif, i ddweud wrth Blaid Cymru: os oes ffordd y gallwn drefnu, ailnegodi, a thrafod manylion rhai o'r agweddau ar y cytundeb cydweithio a fyddai'n helpu'r Gweinidog i fynd drwy—[Torri ar draws.] Nawr, mae hwn yn gais gwirioneddol ichi edrych arno, oherwydd, os ydym o ddifrif ynglŷn â chynnal y rhwydwaith bysiau yng Nghymru, fel yr ymddengys bod pawb, mae angen i bopeth fod ar y bwrdd. Felly, a wnaiff ymuno â mi gyda'r galwadau hynny? Ond fel rydych wedi dweud yn glir, Weinidog, nid yw popeth yn ymwneud ag arian. Mae hefyd yn ymwneud ag ailreoleiddio ac unioni trychineb dadreoleiddio o dan y Llywodraeth Geidwadol.

Diolch. Credaf fod gennym y cynlluniau hirdymor cywir, o’r adolygiad ffyrdd i ailddyrannu cyllid yn y tymor canolig i'r tymor hir, ac ailreoleiddio’r diwydiant bysiau. Mae ein problem yn un fyrdymor, ac mae’r Aelod, yn gwbl gywir, yn nodi nad yw’r Llywodraeth yn Lloegr wedi ymestyn ei chymorth am dri mis fel rydym ni wedi'i wneud, ac felly, maent yn wynebu ymyl clogwyn yno ar hyn o bryd. Ac oherwydd natur y drefn fasnachol, gall y gweithredwyr ildio eu llwybrau teithio mewn ffordd gwbl ar hap a heb ei chydlynu. Yr hyn y ceisiwn ni ei wneud yw cael rhyw fath o drefn a rhywfaint o sefydlogrwydd fel y gallwn gael trafodaeth resymol ynglŷn â pha lwybrau y gellid eu hachub os nad yw arian tocynnau'n gwella, ac rydym yn dal yn obeithiol y gellir gwneud hynny. Ond yn absenoldeb cyllid ychwanegol, mae ein hopsiynau'n gyfyngedig iawn. Ond rydym yn mynd i geisio gwneud yr hyn a allwn yn yr amser sydd gennym a chyda'r arian sydd gennym i sicrhau'r canlyniad gorau posibl, gan groesi ein bysedd am setliad ariannu ar gyfer y DU gyfan sy'n caniatáu inni wneud mwy.

15:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am adael imi wneud sylwadau ar hyn. Ysgrifennodd prif weithredwr cyngor Castell-nedd Port Talbot ataf ynglŷn ag effaith ddinistriol bosibl penderfyniad y Llywodraeth ynghylch hyn ar nifer o wasanaethau bysiau lleol, a hoffwn wneud y pwynt fod hyn yn ymwneud â mwy na gwasanaethau bysiau gwledig yn unig, ond â gwasanaethau mewn siroedd fel Castell-nedd Port Talbot hefyd, ac mae hi'n arbennig o bryderus am yr effaith ar bobl ifanc sy'n mynychu ysgol neu goleg. Mae cludiant myfyrwyr i Goleg Castell-nedd Port Talbot yn cael ei ddarparu drwy'r rhwydwaith bysiau lleol, ac mae'r llwybrau'n gweithredu ar sail fasnachol. Mae hi o'r farn y bydd y llwybr hwn yn cael ei wneud yn anhyfyw, a fydd wrth gwrs yn arwain at ganlyniadau anfwriadol ar draws y rhwydwaith ehangach. Mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd gostyngiadau mewn cymorth refeniw yn effeithio ar wasanaethau cludiant o'r cartref i'r ysgol wrth i weithredwyr leihau eu capasiti, cau eu busnesau neu gynyddu prisiau contract i wneud iawn am yr arian a gollwyd. Yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, a hyd yn oed yn llythrennol cyn dod i'r Siambr, clywais gan drigolion sy'n dibynnu ar fysiau ac sy'n wirioneddol bryderus am hyn—mam yn pryderu am fws ei mab i'r ysgol, merch yn poeni am fws ei mam i'r ysbyty. Hoffwn wybod pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl Castell-nedd Port Talbot y bydd eu gwasanaethau bysiau yn parhau.

Wel, fel rwyf wedi'i egluro sawl gwaith bellach, nid wyf mewn sefyllfa i roi unrhyw sicrwydd y tu hwnt i’r tri mis ychwanegol rydym wedi gallu eu negodi. Ond rwy’n mawr obeithio y byddwn yn gallu llunio cynllun pontio, ond mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen arnom yw cyllid ychwanegol inni allu cynnal y rhwydwaith bysiau wrth i nifer y teithwyr ddychwelyd a thra byddwn yn symud i’n system fysiau reoledig newydd.

Diolch, Lywydd. Fel y gwyddoch, nid oeddwn yn mynd i siarad yn y ddadl hon, ond credaf fod tri pheth wedi codi nawr y teimlaf fod yn rhaid i mi eu nodi. I lawer o fy etholwyr—y rhan fwyaf o fy etholwyr, mewn gwirionedd—mae trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bysiau. Mae 80 y cant o gludiant yn digwydd ar fws. Mae Ysbyty Treforys, fel y gwyddoch, Lywydd, neu Ddirprwy Lywydd, yn anhygoel o anodd ei gyrraedd, ond mae’n iawn ar y bws, gan fod gennym y Rhif 4. Mae gennyf ddau gwestiwn i’r Gweinidog mewn gwirionedd. Pam mae trenau'n cael blaenoriaeth dros fysiau? I bobl dlotach, bysiau yw eu dull o deithio. Mae trenau ar gyfer bobl fwy cefnog. Ac rydych yn dweud: o ble y daw'r arian? Wel, rydych yn mynd i roi rhyddhad ardrethi ychwanegol i westai mawr, canolfannau siopa y tu allan i'r dref, siopau bwyd cyflym, archfarchnadoedd. Nid ydych erioed wedi gofyn i mi ynglŷn â hynny fel Llywodraeth. Mewn gwirionedd, pe baech chi wedi gofyn i mi, byddwn wedi dweud, 'Na, nid ydym yn gwneud hynny. Dylem ei wario ar wasanaethau cyhoeddus', a chredaf fod ystod eang o bethau y gallem beidio â gwario arian arnynt. Nid gwario arian ar ryddhad ardrethi i gwmnïau mawr sy’n broffidiol iawn yw fy syniad i o flaenoriaeth, ac yn sicr, nid yw’n flaenoriaeth sosialaidd.

Wel, rwy’n deall y pwyntiau hynny, yn amlwg. O ran blaenoriaeth gymharol bysiau yn erbyn trenau, yn amlwg, mae angen y ddau arnom. Mae angen system drafnidiaeth integredig arnom. Credaf ei bod yn anghywir disgrifio defnyddwyr trenau fel yr elît breintiedig, rywsut—nid yw hynny'n wir—ond yn sicr, mae'n wir mai bysiau sy'n cludo'r rhan fwyaf o deithwyr, ac fel yntau, bysiau yw fy mlaenoriaeth i. Mae gennym gynlluniau buddsoddi ar gyfer y gwasanaeth rheilffordd, a fydd o fantais sylweddol i deithwyr, ond maent yn costio arian. Mae'r arian wedi'i ymrwymo ac mae angen ei ddarparu, gan fod yno gymalau cosb ac ni fyddem yn creu unrhyw arbedion ystyrlon pe baem yn rhoi'r gorau i wneud hynny nawr. Felly, rydym ar lwybr i barhau i fuddsoddi yn y diwydiant rheilffyrdd, a fydd o gymorth sylweddol i'n huchelgais i newid dulliau teithio, ond mae'n dal yn wir, ac rwy'n cytuno, mai bysiau sydd â'r potensial mwyaf. Fel rwyf eisoes wedi'i esbonio, rydym wedi bod yn gweithio ar gynllun i geisio lleihau prisiau tocynnau bws er mwyn gwneud hynny—helpu teithwyr bysiau, teithwyr bysiau presennol, a denu rhai newydd. A chyn i gyllideb Liz Truss ddinistrio ein heconomi, roedd gennym obaith o allu gwneud hynny, ond bellach, nid oes gennym unrhyw obaith. Mae hynny’n destun gofid mawr i mi. Mae’n rhaid inni wneud y gorau o’r sefyllfa sydd gennym, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i geisio gweithio gyda’r diwydiant ac awdurdodau lleol i geisio cael y canlyniad gorau a allwn gyda’r arian sydd ar gael.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gyfeirio at y cytundeb cydweithio, gan ei fod wedi cael ei grybwyll nifer o weithiau? Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o'r cytundeb, gan gynnwys annog pobl i newid i drafnidiaeth gyhoeddus. A chredaf fod angen i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb, a sicrhau bod y blaenoriaethau yno, ond mae hyn yn rhan o’r argyfwng costau byw, gan fod pobl yn gwbl ddibynnol ar fysiau i allu cyrraedd gwasanaethau hanfodol. Mae'n braf cael bysiau pan fydd gennych gar, fel dull trafnidiaeth amgen, ond i'r rhan fwyaf o bobl rwy'n eu cynrychioli, nid yw'r dewis hwnnw ar gael iddynt—bws yw'r unig ddewis. Ac mae'n ddewis sydd wedi ei gymryd oddi arnynt.

Mae'n rhaid inni gofio hefyd fod nifer o bobl yn dal i fod yn ofn gadael eu cartrefi, pobl a fyddai wedi defnyddio bysiau yn draddodiadol—pobl oedrannus. Mae mynd i’r afael ag ynysigrwydd yn broblem enfawr. Gwn am bobl nad ydynt wedi mentro allan fwy nag unwaith yr wythnos, a hynny drwy dacsis, lle byddent wedi cael eu hannibyniaeth gyda bysiau yn y gorffennol. Felly, credaf fod problem gennym o ran deall pam nad yw pobl yn dychwelyd i ddefnyddio bysiau a sut y gallwn eu cefnogi. Oherwydd ni chredaf ei fod yn ymwneud â bod pobl sy'n gweithio mewn swyddfeydd heb ddychwelyd, gan fod ceir gan y mwyafrif o'r rheini, ac maent yn gallu eu defnyddio. Mae angen dealltwriaeth ddyfnach arnom.

Hoffwn ofyn yn benodol, Ddirprwy Weinidog, pa sgyrsiau a gawsoch gyda chwmnïau a darparwyr bysiau ynghylch y prinder gyrwyr bysiau, a’r defnydd cynyddol o staff asiantaeth gan gwmnïau bysiau, sy’n golygu, gyda llawer o’r cyllid sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd drwy’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, fod yr elw mewn gwirionedd yn mynd y tu allan i Gymru, i’r asiantaethau hyn. Felly, gyda'r cyllid hwnnw, sut rydym yn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r prinder gyrwyr bysiau a sicrhau bod y buddsoddiad a wnewch, sy'n cael ei ymestyn, yn briodol, am dri mis, o fudd i ddefnyddwyr yn y pen draw, ac nad yw'n arwain at fwy o elw i'r asiantaethau hyn?

15:30

Wel, nid wyf am ailadrodd y pwyntiau a wneuthum am y blaenoriaethau cymharol a gytunwyd gennym ar y cyd—rwy'n credu bod y cofnod yn sefyll ar hynny, ac rydym ni fel Llywodraeth yn ei gefnogi hefyd. Yn syml, rwy'n tynnu sylw at y ffaith bod canlyniadau i gyllidebau eraill. Nid yw'r ffenomen fod pobl yn araf yn dychwelyd at drafnidiaeth gyhoeddus yn unigryw i'n gwlad—gwelwyd hynny ar draws y byd, ac mae'n arbennig o ddifrifol ymysg pobl hŷn, am resymau y credaf y gallwn i gyd eu deall a'u tybio'n eithaf cyflym. Felly, mae gennym sefyllfa debyg i feis, lle nad yw arian tocynnau wedi dychwelyd, ac mae gennym y ffaith enbyd fod gennym system wedi'i phreifateiddio yn ein gwlad, lle na fydd llwybrau nad ydynt yn fasnachol yn rhedeg heb gymhorthdal uniongyrchol.

Ar fater gweithwyr asiantaeth ac elw, o dan y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, mae gennym amodau llym ar gyfer y modd y caiff yr arian ei wario, faint o elw y gellir ei dynnu allan, ac mae gennym ddylanwad rhesymol ar y cwmnïau bysiau ynglŷn â'r penderfyniadau a wneir. Ond ni allwn wadu, pa ffordd bynnag y ceisiwn fframio'r ddadl hon, y broblem sylfaenol yw bod y galw wedi gostwng, mae'r costau gweithredu'n uwch, ac mae'r cymhorthdal cyhoeddus yn dod i ben. Ac mae'n sefyllfa anhapus, ni allwn wadu hynny, ac un y byddwn i'n dymuno'n daer ei hosgoi, os yn bosibl o gwbl. Ond fel y dywedais yn gynharach, mae gobaith, a gadewch inni obeithio y bydd yn digwydd, y gwnaiff Llywodraeth y DU ymateb i'w argyfwng bysiau ei hun ac y byddem ni'n gallu elwa o symiau canlyniadol. Ond yn absenoldeb hynny, rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant i geisio cael y setliad gorau sy'n bosibl.

4. Datganiadau 90 Eiliad
5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Felly, symudwn ymlaen at eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar lwfans cynhaliaeth addysg. A galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8187 Luke Fletcher, Mike Hedges, Adam Price, Jane Dodds, Heledd Fychan, Carolyn Thomas, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn wahanol i Lywodraeth y DU yn Lloegr;

b) nad yw gwerth y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru wedi newid ers 2004, ac nad yw'r trothwyon cymhwysedd wedi newid ers 2011;

c) er bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn fath pwysig o gymorth ariannol i ddysgwyr ôl-16, nid yw wedi cadw i fyny â phwysau costau byw.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried codiad sy'n gysylltiedig â chwyddiant i werth y lwfans cynhaliaeth addysg ac adolygiad o'r trothwyon.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb wnaeth gyd-gyflwyno. Dwi'n symud y cynnig.

Fe ddechreuaf fel rwy'n aml yn ei wneud wrth drafod y lwfans cynhaliaeth addysg, drwy ganmol y Llywodraeth, a chanmol y Gweinidog, am barhau i'w warchod. Mae'r ffaith bod gennym lwfans cynhaliaeth addysg yma yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono yn y lle hwn, ac mae'n rhywbeth y dylem i gyd fod yn barod i'w warchod.

Fel y gŵyr pawb ohonom, mae costau byw wedi cael effaith andwyol ar gymaint o'n hetholwyr; yn eu plith mae myfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr o aelwydydd incwm isel. Yr hyn a welsom ers 2004 yw toriad mewn termau real yn y lwfans cynhaliaeth addysg. Mae'r taliad wedi aros yr un fath, mae'r trothwyon wedi aros yr un fath, ers 2011, ac erbyn hyn, mae myfyrwyr incwm isel yn teimlo effeithiau hynny'n fwy nag erioed. Roedd fy £30 i yn mynd yn llawer pellach na £30 myfyriwr heddiw.

Nawr, mae hon yn ddadl bwysig i'w chael, oherwydd gall lwfans cynhaliaeth addysg a rhaglenni cymorth eraill ein helpu i gyrraedd ein nodau i fynd i'r afael â'r bylchau sgiliau sy'n bresennol yn ein heconomi drwyddi draw. Buddsoddiad yw hwn nid yn unig yn nyfodol pobl, ond yn ein cymunedau. Fe roddaf enghraifft: mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r bwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu, ac rwyf wedi defnyddio'r diwydiant adeiladu nifer o weithiau. Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn dweud wrthym fod 1,400 o fyfyrwyr o fewn y system addysg yn astudio cwrs adeiladu. Mae'r bwrdd hefyd yn hyderus, pe bai pob un o'r 1,400 myfyriwr, o un flwyddyn i'r llall, yn cwblhau eu cwrs, ni fyddai fawr o fwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu os o gwbl. Mae'r ffaith bod gennym fwlch yn arwydd nad yw pethau'n iawn. Mae hyn hefyd yn nodi problem, gyda llaw, gydag asesu cadw myfyrwyr, sef diffyg data ynghylch cadw myfyrwyr. Rhaid datrys hyn, wrth gwrs, ond mae'n rhaid i graidd ein dadl ynghylch y lwfans cynhaliaeth addysg ymwneud â chadw myfyrwyr.

Wrth gwrs, rwy'n cydnabod y cyfyngiadau ar y Gweinidog, a diolch iddo am gyfarfod â mi i drafod rhai o'r heriau hynny ddoe, a gobeithio y bydd ei allu i ailflaenoriaethu—. Ac mae'n debyg fy mod yn amddiffyn y Gweinidog yma—rwy'n siŵr y bydd yn falch o hynny—ond byddwn i'n dadlau, mewn gwirionedd, fod hyn yn mynd y tu hwnt i'r portffolio addysg; ni ddylai fod yn gyfrifoldeb iddo ef yn unig. Mae'r hyn y siaradwn amdano yma yn fater cyfiawnder cymdeithasol, a mae hefyd yn fater sy'n ymwneud â'r economi a sgiliau, a byddwn yn gobeithio bod Gweinidogion yn y portffolios hynny'n cydnabod hyn ac y byddant yn gwneud popeth yn eu gallu i weithio gyda'r Gweinidog addysg ar y mater hwn.

Nid mater ariannol yn unig yw cyflwr y lwfans cynhaliaeth addysg. Ceir problemau ymarferol: problemau y gellir eu datrys heb fawr iawn o fuddsoddiad, os o gwbl. Ers mis Medi, rwyf wedi ymdrin â nifer o achosion ar ran myfyrwyr sydd wedi gweld oedi sylweddol cyn iddynt gael eu taliadau. Yn yr achos gwaethaf, bu'n rhaid aros o fis Medi hyd fis Rhagfyr am daliad cyntaf, ac er bod taliadau'n cael eu hôl-ddyddio, dros y cyfnod hwnnw nid oedd unrhyw beth yn dod i mewn. Mewn rhai achosion, roedd hyn yn golygu nad oedd rhai myfyrwyr yn gallu mynychu'r ysgol neu'r coleg, a chafodd hynny effaith wedyn ar eu gallu i hawlio lwfans cynhaliaeth addysg yn y lle cyntaf—cylch dieflig—ac mewn achosion fel hyn, mae angen ystyried yr effaith ar bresenoldeb. Yn ofidus, roedd gennyf un achos penodol lle'r oedd tiwtor personol wedi cymryd yn erbyn myfyriwr, yn cofnodi eu presenoldeb yn y ffordd anghywir ac yn gwrthod unioni hynny.

Rwyf wedi siarad ar sawl achlysur am gymhlethdod y broses o ymgeisio am lwfans cynhaliaeth addysg—mater ymarferol arall sy'n lladd awydd myfyrwyr i ymgeisio am lwfans cynhaliaeth addysg yn y lle cyntaf. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef. A dyna pam fy mod hefyd yn credu bod angen adolygiad o'r brig i lawr o'r lwfans cynhaliaeth addysg, gan edrych ar y cyllid, ie, ond hefyd ar y rhwystrau i fyfyrwyr a sut y gallant eu goresgyn. Y gwir amdani, hefyd, yw mai ychydig iawn o lenyddiaeth sydd gennym yng Nghymru ynglŷn ag effeithiau lwfans cynhaliaeth addysg. Gwnaed gwaith gwych gan Sefydliad Bevan. Yn anffodus, mae llawer ohono wedi dyddio erbyn hyn, a dyna pam mae fy swyddfa wedi ceisio gwneud ein hadolygiad bach ein hunain o'r lwfans cynhaliaeth addysg, ond yr hyn sydd ei angen arnom wrth gwrs yw cefnogaeth y Llywodraeth i geisio gwneud hynny.

Rwyf am orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy gyfeirio eto at graidd y ddadl hon. Y craidd yw cadw myfyrwyr incwm isel, nid yn unig fel y gallant wireddu eu potensial eu hunain, ond hefyd er mwyn iddynt fod o fudd i'n cymunedau. I lawer o'r myfyrwyr hyn, rydym yn dweud wrthynt am weld addysg fel buddsoddiad hirdymor, ond i gymaint ohonynt, ni allant feddwl yn hirdymor. Y tymor hir yw yfory. Oni bai ein bod yn cefnogi'r myfyrwyr hyn nawr, byddwn yn parhau i weld problem gyda chadw myfyrwyr, gan na fydd gan nifer ohonynt ddewis ond chwilio am waith. Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau gan Aelodau eraill ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog. Diolch yn fawr.

15:35

Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg, ac fel pwyllgor, rydym yn croesawu'r cynnig a gyflwynwyd heddiw yn fawr, a'r cyfle y mae'n ei roi i ni drafod y lwfans cynhaliaeth addysg. Rwyf fi a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor wedi bod â diddordeb mawr yn y lwfans cynhaliaeth addysg ers inni ei ystyried yn gyntaf fel rhan o'n gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn 2022-23. Yn ôl bryd hynny, ym mis Ionawr 2022, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wrthym fod cost ychwanegol yn rhwystr allweddol i gynyddu cyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg o £30 yr wythnos, ac yn ymateb ysgrifenedig y Gweinidog i'n hadroddiad, rhoddodd fanylion pellach. Ysgrifennodd y Gweinidog fod adolygiad gan Lywodraeth Cymru yn 2014 wedi dangos y byddai 80 y cant o fyfyrwyr

'wedi cofrestru ar eu cwrs heb LCA ac mai dim ond i leiafrif o fyfyrwyr yr oedd yr LCA yn ffynhonnell hanfodol o gymorth ariannol.'

Wrth gwrs, roedd adolygiad 2014 wedi dyddio adeg craffu ar y gyllideb ddrafft y llynedd. Roedd llawer wedi newid rhwng 2014 a 2022, fel y gwyddom yn iawn. Erbyn inni wneud ein gwaith craffu ar gyllideb ddrafft 2023-24 fis diwethaf, yng nghanol argyfwng costau byw sy'n effeithio'n anghymesur ar blant a phobl ifanc, roedd adolygiad 2014 wedi dod yn ddall i raddau'r heriau ariannol a wynebir gan ddysgwyr a'u teuluoedd.

Rydym yn cymeradwyo penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadw'r lwfans cynhaliaeth addysg. Fodd bynnag, rydym yn pryderu i ba raddau y mae cynnal cyfradd a throthwy lwfans cynhaliaeth addysg ers 2011 wedi erydu gwerth y lwfans a thorri nifer y dysgwyr sy'n gymwys i'w dderbyn. O ganlyniad, fe wnaethom dri argymhelliad yn ymwneud â'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ein hadroddiad ar gyllideb ddrafft 2023-24.

Yn yr argymhelliad cyntaf, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r lwfans cynhaliaeth addysg, i gyflwyno adroddiad cyn mis Rhagfyr eleni. Ni fyddai 20% o'r myfyrwyr cymwys a gyfrannodd at adolygiad Llywodraeth Cymru yn 2014 wedi cofrestru ar eu cwrs heb y lwfans cynhaliaeth addysg. Nid ydym yn gwybod beth fyddai'r ffigur hwnnw heddiw. Nid ydym yn gwybod ychwaith sut mae'r lwfans yn effeithio ar ymwneud parhaus dysgwyr â'u hastudiaethau pan ddaw goblygiadau ariannol gwneud astudiaethau pellach yn glir, neu a yw'n eu helpu i reoli pwysau costau byw yn fwy cyffredinol. Credwn y dylai penderfyniadau polisi fod yn seiliedig ar wybodaeth gyfoes a chywir, ac adolygiad annibynnol o'r lwfans cynhaliaeth addysg yw'r ffordd orau o gael y data hanfodol hwnnw.

Yn ein hail argymhelliad, gofynnwn i Lywodraeth Cymru roi diweddariad i ni am y gwaith yr ymrwymodd i'w wneud ym mis Mawrth 2022 ar ddeall sut olwg fyddai ar gyfradd y lwfans a'r trothwyon incwm heddiw ar gyfer yr un gyfran o ddysgwyr wrth gymharu â 2004, a faint o gyllideb ychwanegol y byddai ei hangen ar gyfer hynny. Fe wnaethom groesawu ymateb adeiladol y Gweinidog yn ôl ym mis Mawrth y llynedd, ond yn anffodus rydym eto i weld canlyniad y gwaith hwnnw. Edrychwn ymlaen at ddarllen amdano yn ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ar y gyllideb ymhen rhai wythnosau.

Mae ein trydydd argymhelliad yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei phenderfyniad i gynnal y lwfans cynhaliaeth addysg. Wrth gwrs, rydym yn gwybod yn iawn na all y lwfans ddileu tlodi plant, ond o waith ein pwyllgor ac o'r gwaith a wnawn yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau, credwn y gall y lwfans cynhaliaeth addysg helpu i inswleiddio rhai pobl ifanc a'u teuluoedd rhag effeithiau dinistriol yr argyfwng costau byw. Nid yw'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ateb i bob dim, ond efallai mai'r cymhelliad ychwanegol hwn sydd ei angen ar rai pobl ifanc i gymryd y cam nesaf yn eu haddysg.

Er mwyn y bobl ifanc hynny a'u teuluoedd, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn ein hargymhellion ac edrych ar y mater pwysig hwn unwaith eto. Am y rheswm hwn, rwy'n croesawu'r ddadl hon yn llawn a byddaf yn cefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr.

15:40

Diolch, Luke, am gyflwyno'r ddadl hon ar bwnc sy'n allweddol bwysig fel rhan o fesurau gwrth-dlodi ac wrth gwrs mewn ymateb i'r argyfwng costau byw.

Nid yw hon yn broblem y byddaf yn cael etholwyr dirifedi'n cysylltu â mi yn ei chylch, ond i'r rhai sy'n gwneud hynny, rwy'n gwybod am y gwahaniaeth mae'n ei wneud, y gwahaniaeth mae'n ei wneud i'w teuluoedd ac i'r unigolion hynny.

O ran mesurau eraill, wrth gwrs nid cyfrifoldeb y Gweinidog addysg yn unig mohono, fel y dywedoch chi, yn gwbl briodol; mae'n gyfrifoldeb trawslywodraethol, traws-bortffolio, a chyfiawnder cymdeithasol yn sicr. Rydym wedi cael dadl ar fysiau a phwysigrwydd gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy. Ni fyddai cymaint o angen am y lwfans cynhaliaeth addysg ac am y cynnydd pe bai costau trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim i bobl ifanc, er enghraifft. Felly, ceir nifer o fesurau y gallem edrych arnynt, ac nid yw'n ymwneud â'r lwfans cynhaliaeth addysg yn unig. 

Fy mhryder i, yn ogystal â'r gwerth, ar hyn o bryd—. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith ein bod ni wedi ei barhau yma yng Nghymru. Rwy'n arswydo meddwl am y sefyllfa i'r bobl ifanc hynny pe na baem yn y sefyllfa hon. Ond yn amlwg, nid yw £30 yn mynd yn bell iawn o'i gymharu ag o'r blaen. Mae angen inni feddwl o ddifrif ynglŷn â sut y sicrhawn nad yw hyn bellach yn rhwystr i bobl ifanc sydd am gael addysg, os gallwn ei gynyddu yn gysylltiedig â chwyddiant, fel y dylid ei wneud, a dyna sydd yn y cynnig hwn. 

Mater rwyf am ganolbwyntio arno hefyd, fel y nododd Luke, yw mynediad at y lwfans cynhaliaeth addysg ar gyfer y rhai sy'n gymwys. Mae'n ofidus fy mod wedi gweld gwaith achos yn gysylltiedig â pheidio â rhoi'r arian i fyfyrwyr am reswm penodol. Yn y canllawiau, mae'n dweud:

'cyn belled â'ch bod yn bodloni gofynion presenoldeb, perfformiad ac ymddygiad eich ysgol neu'ch coleg.'

Wel, gellir dehongli hynny mewn nifer o wahanol ffyrdd. Hefyd, mae nifer o'r bobl ifanc hyn yn agored i niwed—mae ganddynt sefyllfaoedd teuluol cymhleth iawn ar adegau, efallai y bydd gofyn iddynt ofalu am riant neu ofalu am aelod arall o'r teulu, sy'n golygu y gallant golli rhai sesiynau, sy'n eu gwneud yn anghymwys wedyn ar gyfer y grant yn ei gyfanrwydd, sy'n golygu bod hynny'n cael sgil-effaith ar bresenoldeb yr wythnos ganlynol.

Rwy'n meddwl o ddifrif fod angen inni weithio gyda cholegau ac yn y blaen i sicrhau nad yw'r rhain yn rhwystrau, ac os ydych chi'n colli un sesiwn benodol, na chewch eich cosbi wedyn, oherwydd dylai'r system ddangos tosturi a chydymdeimlad. Yn yr un ffordd, os ydym yn methu sesiwn yma yn y Senedd am ba reswm bynnag, boed yn argyfwng teuluol, nid ydym yn colli cyflog, felly pam ein bod yn cosbi'r bobl ifanc mwyaf bregus?

Hefyd, ar ofynion ymddygiad, rydym wedi gweld llawer o dystiolaeth am effaith COVID ar iechyd meddwl, diffyg mynediad at wasanaethau ac oedi cyn cael mynediad at wasanaethau. Mae hynny hefyd yn cael effaith ar bresenoldeb ar adegau. Gwelsom rai colegau'n cynnig opsiynau rhithwir i ymuno, sy'n golygu y gall hynny gyfrif tuag at bresenoldeb, er nad yw colegau eraill yn gwneud hynny. Felly, mae'n sefyllfa eithaf cymhleth, rwy'n credu. 

Y peth allweddol yw sicrhau bod y rhai sydd angen y lwfans cynhaliaeth addysg yn ei gael, nad oes oedi cyn ei gael, a hefyd nad ydym yn cynnwys camau biwrocrataidd. Y gwir amdani yw y dylem fod yn cefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw, fel nad yw cyfraddau tlodi plant ar y lefelau y maent ar hyn o bryd. Mae angen inni wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy. Ond er bod angen atebion trawslywodraethol, mae hon yn elfen allweddol, ac rwy'n cefnogi cynnig Luke yn llawn. Byddai peidio â chael y lwfans cynhaliaeth addysg yn cosbi'r rhai sydd ei angen yn ddybryd, a bydd peidio â'i gynyddu ond yn rhwystr pellach i'r rhai sydd ei angen.

15:45

Roeddwn yn falch iawn o fanteisio ar y cyfle i gyd-gyflwyno'r cynnig pan ofynnodd Luke i mi wneud. Yn wir, fe atebais ar unwaith oherwydd rwy'n credu bod hyn yn hynod o bwysig. Rwyf am wneud dau bwynt—yn gyntaf am bwysigrwydd y lwfans cynhaliaeth addysg ac yn ail, am bwysigrwydd ei gynyddu yn unol â chwyddiant. Wrth gwrs, roedd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu hynny pan gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Lafur San Steffan. Dywedodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Phil Willis:

'Mae pethau cryn dipyn pwysicach i'w wneud ag £20m na rhoi bonws Nadolig i bobl ifanc.'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr, Chris Grayling:

'Dyma enghraifft amlwg arall o'r llywodraeth yn ceisio ffidlo'r ffigurau. Gallai llwgrwobrwyo pobl ifanc i gofrestru ar gyfer cyrsiau nad ydynt yn eu cwblhau o bosibl, wneud i dargedau gweinidogion edrych yn gyraeddadwy—ond nid ydynt yn gwneud dim o gwbl i helpu i ddatrys prinder sgiliau yn y wlad hon.'

Rwy'n credu bod hynny'n dweud wrthych beth mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan yn ei feddwl o'n pobl ifanc ni, ac am bobl sy'n llai cefnog. Ni wnaf ddefnyddio'r gair 'tlodi' oherwydd mae hwnnw'n derm cymharol, ond pobl sy'n llai cefnog. Anaml iawn y byddaf yn siarad amdano fy hun—rwyf bob amser yn teimlo ei fod ychydig yn sarhaus i fy rhieni os gwnaf hynny—ond mae llawer ohonom yn dod o gefndiroedd a oedd yn llai cefnog. Dim llawer yn y Siambr hon, ond llawer ohonom yn fy etholaeth a llawer o fy ffrindiau. 

Ychydig iawn o amser a gymerodd Llywodraeth San Steffan a chlymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol—dim ond tan 20 Hydref 2010 y cymerodd hi—i ddod â'r cynllun lwfans cynhaliaeth addysg i ben yn Lloegr, oherwydd nad ydynt yn credu ynddo. Nid ydynt yn credu mewn helpu pobl ifanc. Nid ydynt yn credu mewn helpu pobl ifanc nad yw eu rhieni'n gallu fforddio eu hanfon i ysgol fonedd. Dyma pam fod angen Senedd fwy cynrychioliadol, fel bod gennym bobl sydd â phrofiadau bywyd gwahanol, sy'n deall o'u profiad bywyd beth yw budd cymorth megis y lwfans cynhaliaeth addysg. 

Rwyf am longyfarch Llywodraeth Cymru am gadw'r lwfans cynhaliaeth addysg pan gafodd ei ddileu yn Lloegr. Byddai wedi bod mor hawdd ei ddileu. Roedd yn ffordd syml o arbed arian. Ychydig iawn o sŵn y byddai wedi ei greu gan nad y bobl sy'n cael y math yma o daliadau yw'r bobl sy'n ysgrifennu llythyrau at y Western Mail. Nid hwy yw'r bobl sy'n mynd allan i gwyno; hwy yw'r bobl sy'n dioddef ac yn cael problemau.

Hoffwn fynd drwy rai manylion am fy mhrofiad fel darlithydd coleg. Heb lwfans cynhaliaeth addysg, byddai llawer o fyfyrwyr wedi methu ymgymryd â'u hastudiaethau; byddai llawer mwy, oherwydd amgylchiadau economaidd eu teuluoedd, wedi gorfod rhoi'r gorau iddi ar ryw adeg. Cafodd llawer o fy nghyn-fyfyrwyr swyddi TGCh sy'n talu'n dda, gan eu helpu hwy a'r economi. Lwfans cynhaliaeth addysg oedd y gwahaniaeth rhwng diweithdra wedi'i ddilyn gan gyflogaeth sgiliau isel ar gyflogau isel a dod yn fedrus a chael cyflogau da. Roedd, ac mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn newid bywyd i lawer o bobl. Mae hefyd o fudd i'n heconomi, drwy gynyddu nifer y gweithwyr medrus. Buddsoddi mewn pobl ifanc yw hyn, buddsoddi yn ein heconomi ac efallai ei fod yn un o'r mathau gorau o fuddsoddiad mewn datblygu economaidd. Mae llwgrwobrwyo cwmnïau i ddod â'u ffatrïoedd cangen yma wedi methu ers cyhyd ag y gallaf gofio—nid oes ond raid sôn am LG.

A gâi ei gamddefnyddio ar y dechrau? Câi—gan fyfyrwyr yn dod ac yn gwneud dim. Cafodd hyn ei ddatrys drwy barhau â thaliadau ar ôl i gynnydd boddhaol gael ei wneud. Ac i ymateb i Heledd Fychan, o fy mhrofiad i fel darlithydd coleg, nid oedd unrhyw fyfyriwr a oedd yn mynychu'n rheolaidd a chanddynt reswm da dros beidio â bod yno ac a oedd yn gwneud cynnydd da yn mynd i gael eu rhwystro rhag cael eu lwfans cynhaliaeth addysg. Rwy'n siarad ar ran aelodau'r Brifysgol ac Undeb y Coleg—ni fyddem wedi gwneud hynny.

Yn ôl Sefydliad Bevan, byddai cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg 10 y cant yn ychwanegu £3 yr wythnos i bawb sy'n ei gael. Yn amlwg, nid yw £3 yr wythnos yn llawer. Ceir cydnabyddiaeth fod dysgwyr mewn addysg bellach yn wynebu pwysau ariannol lawn mor sylweddol â myfyrwyr addysg uwch, a gafodd gynnydd o 9.4 y cant yn ddiweddar, sydd, byddai'n well imi ychwanegu, yn fawr ei angen ac yn cael ei gefnogi'n frwd. I lawer yn y Siambr hon, mae £3 yn llai na phaned o goffi. I fyfyrwyr y lwfans cynhaliaeth addysg, gall fod yn ddau neu dri phryd o fwyd. Dyna ddau neu dri phryd allan o 14 pryd yr wythnos. Nid yw'r syniad fod pobl yn cael tri neu bedwar pryd y dydd yn wir i bobl sy'n dlawd. Yn allweddol, byddai'n sefydlu egwyddor bwysig o gynnydd blynyddol, gan gyfateb i gynnydd Llywodraeth y DU i'r rhan fwyaf o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol.

Mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif y bydd cost cynnydd sy'n gysylltiedig â chwyddiant oddeutu £1.7 miliwn. Byddai codi'r cymhwysedd i gynnwys 1,000 o fyfyrwyr eraill yn costio £1.1 miliwn. Mae hyn yn amlwg yn fforddiadwy o gyllideb Llywodraeth Cymru. Bu'r Pwyllgor Cyllid yn trafod hyn ac roeddent yn unfrydol o blaid cynnydd o'r fath, yn cynnwys yr Aelod Ceidwadol. Os oes unrhyw un yn amau ei fforddiadwyedd, edrychwch bob mis ar faint o arian ychwanegol sy'n cael ei ryddhau gan Lywodraeth Cymru i dderbynwyr da a haeddiannol: £1 miliwn yn y fan hon, £5 miliwn yn y fan acw, £300,000—rydych yn eu cael yn wythnosol bron. Fy nadl i yw bod myfyrwyr lwfans cynhaliaeth addysg yn dderbynwyr da a haeddiannol.

Yn olaf, diolch i'r Llywodraeth Lafur, a gadwodd y lwfans cynhaliaeth addysg; nawr yw'r amser i ddechrau ei gynyddu'n flynyddol.

15:50

Mae'r argyfwng costau byw yn mynd i wneud yr union beth a wnaeth argyfwng COVID. Clywais gymaint o dystion i ymchwiliadau a gynhelir gan y ddau bwyllgor rwy'n aelod ohonynt—cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a phlant, pobl ifanc ac addysg—yn ailadrodd hyn, neu eiriau i'r perwyl hwnnw, wrth gyfeirio at y dystiolaeth ddiymwad y bydd effaith yr argyfwng hwn eto'n ddyfnach yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, a fydd, wrth gwrs, yn dyblu cyfraddau marwolaeth y rhai sydd â llai o amddifadedd cymdeithasol, ond mae'r argyfwng costau byw'n gwaethygu yr un anghydraddoldebau a'r un bregusrwydd.

Yn fy marn i, dyna pam mae'n rhaid gweld yr argyfwng costau byw yn yr un termau ag argyfwng COVID. Dyna pam y dylai'r rhai sydd fwyaf agored i niwed posibl hefyd gael eu gwarchod gan y Llywodraeth yn yr argyfwng hwn. Fel yn achos COVID, y rhai yr effeithir arnynt waethaf fydd y rhai sydd eisoes yn dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol a grwpiau o bobl sydd eisoes yn wynebu rhwystrau mewn perthynas â thai, cyfleoedd cyflogaeth, bylchau incwm, anghydraddoldebau iechyd ac addysg. Mae tlodi'n effeithio ar bobl ifanc 16 oed a hŷn mewn ffordd unigryw. Mae costau bwyd cynyddol, costau trafnidiaeth a chostau offer yn gwneud addysg yn llai fforddiadwy i'r rhai o deuluoedd incwm isel. Nid yw pobl ifanc o gefndiroedd llai cefnog yn gallu troi at eu teuluoedd am gymorth ariannol ac mae nifer yn profi caledi gwirioneddol: dim gwres, fawr ddim i'w fwyta, rhai yn wynebu digartrefedd. Sut mae disgwyl iddynt ganolbwyntio ar astudio? 

Rwy'n credu y dylid mynd i'r afael yn llawn ag anghenion y grŵp hwn o bobl ifanc mewn strategaeth tlodi plant newydd gynhwysfawr, rhywbeth rydym wedi galw amdani ers amser maith, gyda thargedau a chanlyniadau mesuradwy. Wrth gwrs, nid oes gan Lywodraeth Cymru rym i atal biliau rhag codi'n aruthrol ac ni all sicrhau bod Llywodraeth Dorïaidd San Steffan yn cynyddu budd-daliadau fel nad oes rhaid i unrhyw un ddibynnu ar fanciau bwyd neu orfod cyfyngu ar wresogi. Ond mae'r cynnig hwn yn sôn am un weithred y gall ei chyflawni i helpu'r bobl sydd fwyaf mewn perygl o niwed yn yr argyfwng costau byw: pobl ifanc o deuluoedd incwm isel. Heb y cymorth sydd ei angen arnynt, y dylai ac y gallai'r lwfans cynhaliaeth addysg ffurfio rhan ohono, byddant yn cael eu niweidio gan ganlyniadau cael eu hamddifadu o'r cyfle i gyflawni eu potensial addysgol, fel y dangosodd Mike Hedges yn gywir, a bydd y bwlch cyfle sy'n parhau i blagio ein gwlad yn dyfnhau.

Ymateb Llywodraeth Cymru i alwadau ymgyrchwyr gwrthdlodi fel Sefydliad Bevan i gynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, o ran y lwfans ei hun ac o ran y trothwy cymhwysedd, yw nad yw'n fforddiadwy. Yr hyn na allwn fforddio ei wneud mewn gwirionedd yw cyfyngu ar botensial ein pobl ifanc mwyaf difreintiedig sydd eisoes yn cael llawer llai o gyfleoedd na dysgwyr mwy cefnog i fyw bywydau llewyrchus, iach a boddhaus. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.

15:55

Diolch i Luke Fletcher ac Aelodau eraill am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw a rhoi cyfle inni drafod mater pwysig iawn: sut mae cynorthwyo ein pobl ifanc i gael y gorau o'u haddysg. Mae'n dilyn ymlaen yn naturiol iawn o'r drafodaeth yr wythnos diwethaf ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am absenoldeb disgyblion, ac wrth gwrs mae'n amserol iawn a ninnau i gyd yn ymwybodol o'r pwysau costau byw y mae pob person yng Nghymru yn ei wynebu.

Fel man cychwyn ac fel mae rhan gyntaf y cynnig yn ein hatgoffa, mae i'w groesawu wrth gwrs fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad i gadw'r lwfans cynhaliaeth addysg yma. Roedd hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr, wrth gwrs, i Lywodraeth glymblaid Cameron-Clegg. Yn ôl pob golwg, un o'u gweithredoedd cyntaf fel Llywodraeth oedd cael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg i fyfyrwyr Lloegr. Caf fy atgoffa mai Michael Gove oedd yr Ysgrifennydd addysg a oedd yn gyfrifol am hynny, felly mae'n ddiddorol gweld bod ei ymrwymiad i ostwng y gwastad yr un mor gryf yn ôl yn 2010. Ers hynny, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi cael defnydd da gan bobl ifanc Cymru. Mae wedi darparu lefel ychwanegol o gymorth, gan eu galluogi i aros yn yr ysgol neu'r coleg, i barhau â'u haddysg neu hyfforddiant, er mwyn ceisio manteisio i'r eithaf ar eu cyfleoedd. Ac mae'n bwysig ein bod yn cofio nad ar gyfer pobl ifanc sy'n dilyn pynciau Safon Uwch neu BTEC yn unig y mae hwn, caiff ei ddefnyddio hefyd i gynorthwyo pobl ifanc sy'n byw yng Nghymru i fynd ar drywydd cymwysterau sgiliau byw annibynnol neu sgiliau sylfaenol hefyd.

Roeddwn yn dyst yn rheolaidd i'r effaith gadarnhaol a gâi'r lwfans cynhaliaeth addysg pan oeddwn yn dysgu. Fe wnâi wahaniaeth gwirioneddol a sicrhau y gallai pobl ifanc cymwys aros i barhau a chwblhau eu hastudiaethau a chyflawni eu potensial llawn. Roedd gan lawer o'r bobl ifanc a gâi'r lwfans cynhaliaeth addysg swyddi rhan-amser hefyd, a byddai'r rhain yn aml ar gytundebau dim oriau, gyda phwysau gan gyflogwyr i weithio oriau hirach a hirach, ac fe allai hynny wrth gwrs gael effaith niweidiol ar eu hastudiaethau. Gyda fy rôl fugeiliol, daeth hynny'n batrwm cyfarwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rwy'n gwybod o fy nhrafodaethau gydag ysgolion a cholegau yn fy ardal ei bod yn dal yn her i rai rhwng 16 a 18 oed, gyda'r angen neu'r awydd i ennill mwy yn gwrthdaro yn erbyn gofynion astudio. Mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn darparu'r ffynhonnell gymorth honno fel y gall pobl ifanc na allant ddibynnu ar gefnogaeth teulu ganolbwyntio ar eu cyrsiau.

Fel y mae'r cynnig yn ein hatgoffa hefyd, gwelodd 2011 newid cadarnhaol i'r lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru, lle daeth cyfradd sylfaenol o £30 i ddysgwyr i gymryd lle system flaenorol o fandio yn dibynnu ar incwm cartrefi. Fodd bynnag, fel y mae siaradwyr eraill wedi sôn, dyna'r un gyfradd sylfaenol â phan gyflwynwyd y lwfans cynhaliaeth addysg yn 2004 a'r un gyfradd sylfaenol a ddyfernir nawr. Mae hynny'n broblematig y fy marn i. Yn ôl yr hyn rwy'n ei amcangyfrif, o ran pŵer prynu, mae £30 yn 2004 yn cyfateb i ychydig o dan £59 heddiw, felly effeithiwyd yn sylweddol ar werth y lwfans cynhaliaeth addysg wrth i gostau fynd yn uwch ac yn uwch. Mae pethau yr oedd, ac y mae'r lwfans yn cael ei ddefnyddio ar eu cyfer wedi mynd yn ddrytach, fel na fydd y taliad yn ymestyn cyn belled. Bydd hyn wrth gwrs yn arwain at ganlyniadau i'n pobl ifanc a'r penderfyniadau a wnânt, fel y soniais yn gynharach. Bydd mwy a mwy o'n pobl ifanc yn wynebu dewisiadau anodd ac efallai y byddant yn gwneud penderfyniadau i beidio â pharhau ym myd addysg neu'n gorfod gweithio oriau hirach yn eu swyddi rhan-amser, a bydd hynny hefyd yn cael effaith ar eu hastudiaethau ac ar eu lles meddyliol. Efallai y bydd eraill yn gweld nad yw hyd yn oed yn galw am wneud dewis o gwbl, ac yn gorfod gadael addysg neu hyfforddiant yn gyfan gwbl.

Mae trothwyon ar gyfer incwm aelwydydd wedi aros yn sefydlog. O'r herwydd, hoffwn gymeradwyo'r awgrym yn ail bwynt y cynnig yn gryf. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried adolygiad o gyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg a'r trothwy ar gyfer ei ddyfarnu. Mae'n hen bryd ystyried adolygiad manwl o'r ffordd y mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gweithio er mwyn helpu i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth fel y gallwn benderfynu beth y gellir ei wneud, sut y gallwn gefnogi ein pobl ifanc 16 i 18 oed yn y ffordd orau a diwallu eu hanghenion fel y gallant barhau yn yr ysgol neu'r coleg. Rydym yn gwybod bod pwysau aruthrol ar adnoddau, ond mae lwfans cynhaliaeth addysg yn achubiaeth i lawer o'n pobl ifanc sy'n gymwys i'w gael. Rhaid canolbwyntio ar roi'r gefnogaeth gywir iddynt er mwyn iddynt lwyddo. Rwy'n edrych ymlaen at bleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw.

16:00

Diolch yn fawr iawn i Luke Fletcher am gyflwyno'r cynnig yma, ac i bawb a'i gefnogodd o.

Mae EMA wedi bod yn gymorth hanfodol i nifer fawr o fyfyrwyr yng Nghymru ers iddo gael ei gyflwyno gyntaf. Cafodd ei gyflwyno fel peilot nôl yn 1999 cyn iddo gael ei rolio allan ar draws y Deyrnas Gyfunol yn 2004-05. Mae'n gresyn bod Llywodraeth Lloegr wedi cael gwared ar y lwfans, ond mae’n arwydd o’i boblogrwydd a'i bwysigrwydd wrth i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, a Gogledd Iwerddon barhau â’r cynllun.

Cafodd y cynllun ei arfarnu'n drwyadl yn ôl 15 mlynedd yn ôl, a’r gwaith ymchwil yn dangos yn glir bod y nifer o ddysgwyr a oedd yn ei dderbyn yn cynyddu, a bod nifer fwy o ddysgwyr yn aros ymlaen i barhau â'u cyrsiau. Roedd y canfyddiadau yma'n arbennig o wir am fyfyrwyr o gefndiroedd mwy difreintiedig. Mae'r lwfans yma'n arbennig o bwysig yn enwedig i blant mewn gofal.

Mae gen i ddysgwyr a oedd yn derbyn y grant sydd wedi mynd ymlaen i nifer o feysydd gwahanol. Roeddwn i'n siarad yn ddiweddar efo un merch a oedd wedi derbyn y grant ac wedi mynd ymlaen i nyrsio; dyma ichi enghraifft berffaith o bres cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio fel buddsoddiad yn ein pobl ifanc ac yn ein cymunedau. Diolch byth am y grant a diolch byth amdani hi. Felly, mae yna werth amlwg i’r cymhorthdal angenrheidiol yma. Ond, mae’r angen gymaint yn fwy acíwt, rŵan, wrth ein bod ni'n byw mewn argyfwng costau byw sydd yn effeithio ar y mwyaf tlawd a'r mwyaf difreintiedig yn waeth fyth.

Rŵan, dwi'n cydnabod ac yn canmol y Llywodraeth am gynnal y grant yma yng Nghymru, ond y gwir anffodus ydy fod llawer gormod o blant yn parhau i golli allan neu yn gadael addysg bellach, a hynny am ddwy brif reswm yn ymwneud â’r EMA, a sydd yn cael eu nodi yn y cynnig: dydy o ddim yn ddigonol, ac mae’r rhicyn ariannol er mwyn cael mynediad i’r grant yn llawer rhy isel.

Nôl yn 2010, roedd yn rhaid i aelwyd ennill llai na £31,000, neu £42,000 yng ngwerth y bunt heddiw, er mwyn cyfiawnhau mynediad at y grant. Erbyn heddiw, mae’r rhicyn yn bron i hanner hynny o ran gwerth, sef £23,000. Mae’r dystiolaeth yr wyf i wedi ei gweld yn dangos bod mwy o ddysgwyr yn holi am gymorth er eu bod nhw ar EMA. Mae angen cymorth gyda chostau cwrs, costau cinio ac offer technegol ar y myfyrwyr. Ac mae rhai siroedd yn gwrthod talu am drafnidiaeth i addysg ôl-16, felly yn yr achosion yma, mae’r EMA yn gwbl hanfodol er mwyn i ddysgwyr gael mynediad at eu haddysg. Hefyd, oherwydd tlodi o fewn y teulu mae yna nifer o bobl ifanc yn ei ddefnyddio fel modd o fyw o ddydd i ddydd—yn ei ddefnyddio i brynu bwyd, i deithio, prynu dillad, cymorth i ddysgu, ac yn y blaen. Mae rhai yn dibynnu arno oherwydd eu bod nhw'n gwbl annibynnol efo'u biliau ac efo'u rhent ac yn y blaen. Ac fel y soniais, dydy’r tâl, felly, ddim yn ddigonol; mae’n isel, gyda nifer o ddysgwyr yn gweithio hefyd er mwyn ennill arian i'w helpu i fyw. Mae hyn yn ei dro, fel rydyn ni wedi'i glywed, yn amharu ar eu haddysg.

Felly, unwaith eto, dwi am orffen drwy ddiolch i bawb, yn enwedig Luke am gyflwyno'r ddadl yma. Dwi'n croesawu'n gynnes yr ymrwymiad sydd gan y Llywodraeth i barhau â chynnal y lwfans, ond yn gofyn a wnaiff y Gweinidog, yn ei ymateb, edrych i newid y rhicyn mynediad, a phan ddaw'r cyfle, i gynyddu'r lwfans ymhellach. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd Aelodau'n gwybod o drafodaethau a chwestiynau blaenorol ar y pwnc hwn ein bod ni fel Llywodraeth yn cydnabod yr effaith bositif y mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gallu ei gael ar bobl ifanc, ac rŷn ni'n dal i ymrwymo yn unol â’r rhaglen lywodraethu i gynnal y lwfans. Ochr yn ochr gyda'n hymrwymiadau eraill i bobl ifanc ac â chyllideb flynyddol o £17 miliwn, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ei gwneud yn bosib i fwy na 18,000 o bobl ifanc barhau mewn addysg ôl-orfodol bob blwyddyn.

Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, rwy’n deall y pryderon nad yw'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi cynyddu ers peth amser, a chroesawaf y farn y mae Aelodau wedi’i mynegi ynghylch lle gallwn wella ein hymrwymiad i bobl ifanc ymhellach. Rwy’n sylweddoli bod pobl ifanc hefyd yn teimlo straen ariannol yr argyfwng costau byw presennol yn fawr iawn.

Rydym yn parhau i fodelu pa effaith y gallai newidiadau posibl ei chael, gan gynnwys o ran ymrwymiadau ariannol presennol ac yn y dyfodol, a bydd pob un ohonom yn awyddus i sicrhau y byddai unrhyw newid yn ystyrlon ac yn effeithiol, yn ogystal â fforddiadwy. Er gwaethaf ein cyfyngiadau ariannol difrifol presennol wrth ystyried cynnydd yng nghyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg, rydym wedi ehangu’r garfan gymwys i gynnwys rhai o’r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt gan Brexit, aelodau teuluol y rhai sydd â statws mewnfudo gwarchodedig, a phobl ifanc sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Bydd pob person ifanc yn dal i allu gwneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg ar unrhyw adeg yn y flwyddyn academaidd, a lle mae eu hamgylchiadau teuluol yn newid, gan arwain at ostyngiad mewn incwm, rydym yn annog pobl ifanc i wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg gydag asesiad incwm y flwyddyn gyfredol. Mae ein hysgolion a'n colegau'n gweithio'n agos gyda'u dysgwyr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

Mae gennym esemptiadau i brofion modd ar gyfer rhai o'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Bydd y rheini mewn cartrefi gofal a chartrefi maeth, y rheini ar fudd-daliadau penodol, y rheini sy'n gyfrifol am eu plentyn eu hunain a'r rheini yn y system cyfiawnder ieuenctid oll yn cael y lwfans wythnosol heb asesiad. Er mwyn annog ceisiadau ymhellach ac i symleiddio'r broses ar gyfer pobl ifanc, mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn datblygu system newydd ar gyfer ceisiadau i'w gwneud ar-lein ac ar gyfer uwchlwytho tystiolaeth ategol. Rydym yn rhagweld y bydd y system hon yn barod ar gyfer ceisiadau blwyddyn academaidd 2023-24. Bydd yr opsiwn ar gyfer cwblhau cais ar bapur hefyd yn parhau.

Fel grant ar sail prawf modd, mae angen llawer o wybodaeth ar y broses ymgeisio. Os yw myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi’i gorlethu neu'n digalonni oherwydd y broses ymgeisio, byddwn yn eu hannog i siarad â’u canolfan ddysgu gan y gallant eu helpu i lenwi’r ffurflenni a’r ceisiadau angenrheidiol. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw oedi wrth brosesu ceisiadau am y lwfans cynhaliaeth addysg, ond rydym yn deall y gall ceisiadau anghyflawn arwain at oedi, ac rwy’n ddiolchgar am y drafodaeth a gefais gyda Luke Fletcher mewn perthynas â rhai o oblygiadau ymarferol talu'r lwfans cynhaliaeth addysg ac ymrwymais i weithio ar unrhyw broblemau ymarferol y gellir eu datrys. Ar y llaw arall, bydd ceisiadau a ddaw i law o fewn 13 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs yn cael taliadau wedi’u hôl-ddyddio i ddechrau’r cwrs, hyd yn oed os cyflwynwyd y dystiolaeth yn hwyr, tra gall ceisiadau a ddaw i law ar ôl hynny barhau i gael taliadau o’r amser y cyflwynant eu ceisiadau. Mae angen i ddarparwr cyrsiau gadarnhau presenoldeb myfyrwyr—fel y nododd llawer o Aelodau yn y ddadl—i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr er mwyn i’r taliad gael ei ryddhau. Ond os ydynt wedi methu taliad, dylent siarad â'u canolfan ddysgu. Gyda chaniatâd y myfyriwr, yn ogystal â hyn, gall fy swyddogion hefyd siarad â thîm addysg bellach y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i fynd i'r afael ag unrhyw anawsterau neu oedi gyda cheisiadau.

Mae’n bwysig, yn y ffordd y nododd Mike Hedges yn ei gyfraniad, fod pobl ifanc yn trafod eu hamgylchiadau personol gyda thiwtor eu cwrs neu gydlynydd lwfans cynhaliaeth addysg eu darparwr. Nid oes angen i absenoldeb arwain at golli taliad bob amser. Mae’r cynllun lwfans cynhaliaeth addysg yn caniatáu disgresiwn i’r rheini na allant gynnal patrwm presenoldeb cyson, efallai oherwydd cyfrifoldebau gofalu neu ffactorau y tu hwnt i’w rheolaeth, ac yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi nodyn atgoffa newydd i bob canolfan ddysgu nodi lle gellir defnyddio'r disgresiwn hwnnw, a sicrhau bod myfyrwyr yn deall sut y gallant droi atynt am gymorth ychwanegol pan fo angen.

Gall pobl ifanc sy'n cael y lwfans cynhaliaeth addysg hefyd gael mynediad at ystod o gymorth ychwanegol. Gall ysgolion a cholegau gynnig offer TGCh ac adnoddau dysgu ar fenthyg, gan ddileu'r angen i wario eu lwfans cynhaliaeth addysg ar eitemau hanfodol ar gyfer eu cwrs. Efallai y byddant hefyd yn gallu cael cludiant am ddim neu gludiant am bris gostyngol yn ystod eu cwrs gan eu hawdurdod lleol. Yn ogystal, mae dros £6 miliwn yn cael ei ddarparu i sefydliadau addysg bellach ym mlwyddyn academaidd 2022-23 ar gyfer y gronfa ariannol wrth gefn. Y nod yw sicrhau nad yw dysgwyr ledled Cymru, gan gynnwys y rheini sy'n cael y lwfans cynhaliaeth addysg, yn cael eu rhwystro gan gyfyngiadau ariannol. Er enghraifft, gall dysgwyr cymwys gael arian ychwanegol tuag at ffioedd cyrsiau, deunyddiau cyrsiau, costau gofal plant, bwyd, ac eitemau eraill sy'n gysylltiedig ag astudio.

Hoffwn ddiolch i Luke Fletcher am y ddadl ac i’r Aelodau Llafur a Phlaid Cymru sydd wedi cefnogi’r cynnig ac wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon. I gloi, fel Llywodraeth, rydym yn parhau i ymateb i’r argyfwng presennol gyda rhaglenni pellgyrhaeddol o gymorth i aelwydydd a fydd yn cefnogi ein pobl ifanc a’u teuluoedd ar incwm isel. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig heddiw, gan gydnabod y cyfyngiadau ar ein gallu i weithredu, a rhinweddau adolygiad hefyd. I gydnabod cyfraniad Jayne Bryant, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor cyn bo hir mewn termau y gobeithiaf y bydd y pwyllgor yn eu croesawu. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i ddefnyddio pob ffordd sydd ar gael i ni i gefnogi ein pobl ifanc a sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i adlewyrchu’r egwyddor na ddylai arian byth fod yn rhwystr rhag cael mynediad at addysg.

16:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n debyg y gallwch ragweld erbyn hyn beth rwy'n tueddu i ofyn amdano yn y Siambr. Cefais wybod fy mod yn siarad am y lwfans cynhaliaeth addysg yn fy nghwsg, er mawr ddiflastod i fy ngwraig.

Ond wyddoch chi, pan fyddwn allan yn y gymuned, yr hyn a ofynnir i mi'n aml yw, 'Beth mae'r Senedd wedi'i wneud i ni?', a'r lwfans cynhaliaeth addysg yw un o'r pethau cyntaf rwy'n cyfeirio atynt bob tro. Cafodd ei ddiogelu gan y Llywodraeth, a charwn ailadrodd eto pa mor ddiolchgar rwyf fi, a pha mor ddiolchgar oedd y fersiwn iau ohonof hefyd i Lywodraeth Cymru am ei ddiogelu.

Credaf fod Vikki wedi nodi pwynt pwysig iawn. Dyma'r cyfyng-gyngor sy'n wynebu myfyrwyr incwm isel: 'A wyf yn aros mewn addysg, neu a wyf i'n mynd allan i ennill cyflog?' Dyna'r cwestiwn a ofynnais i mi fy hun, a phe bawn wedi mynd am yr ail ddewis, efallai na fyddwn yn sefyll yma heddiw, ac mae'n debyg y byddai hynny wedi gwneud bywydau llawer o bobl yn llawer haws, ond serch hynny, credaf yn gryf mai'r lwfans cynhaliaeth addysg a'm galluogodd i gyrraedd y pwynt hwn, ynghyd â chymorth arall a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

Ar y gwaith a wneir gan bwyllgorau, cyfeiriodd Jayne at y gwaith a wneir gan y pwyllgor pobl ifanc ac addysg—gwaith gwirioneddol wych a gwerth chweil. Gwnaed gwaith gan y Pwyllgor Cyllid; cyfeiriodd Mike at hynny—unwaith eto, gwaith gwych. Ac edrychodd fy mhwyllgor fy hun hefyd ar y lwfans cynhaliaeth addysg fel rhan o'n gwaith craffu ar y warant i bobl ifanc. Ymddengys bod consensws yn ffurfio, a dyna pam fy mod yn falch iawn hefyd fod y Llywodraeth yn fodlon cefnogi’r cynnig hwn, gyda’r cafeat, wrth gwrs, fod yna gyfyngiadau, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld ymateb y Gweinidog i bwyllgor Jayne ynghylch adolygiad o'r brig i lawr. Rwy’n hynod ddiolchgar hefyd y byddwn yn parhau i weithio ar yr elfennau ymarferol, ac edrychaf ymlaen at rannu rhywfaint o’r wybodaeth rydym wedi’i chael drwy fy swyddfa ar yr arolwg o brofiadau myfyrwyr, a gwn fod y Gweinidog wedi ymrwymo i weithio o ddifrif ar hyn.

Credaf fod Heledd, hefyd, yn llygad ei lle yn yr hyn a ddywedodd. Nid ydym yn cael ein gorlethu â gwaith achos sy'n ymwneud â'r lwfans cynhaliaeth addysg, ond rydym yn ymdrin â phobl agored i niwed. Rydym yn sôn am annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, ac mae Mike yn iawn; mae arnom angen mwy o bobl o gefndiroedd gwahanol. Rwyf bob amser wedi dadlau dros gael mwy o bobl ddosbarth gweithiol i ymwneud â gwleidyddiaeth. Nawr, pa ffordd well o ddangos bod y lle hwn yn werth ymwneud ag ef na thrwy ddarparu rhywbeth fel lwfans cynhaliaeth addysg a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar fyfyrwyr o gartrefi incwm isel yn enwedig, ond hefyd ar eu teuluoedd?

Rwy'n gwbl ymrwymedig i wneud i hyn ddigwydd. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda’r Gweinidog. Nid yw hon, i mi, yn unrhyw fath o ddadl bleidiol wleidyddol. Mae hyn yn rhywbeth personol. Rwy’n ganlyniad uniongyrchol i'r lwfans cynhaliaeth addysg, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn y Siambr hon yn gweithio’n drawsbleidiol ac yn gweithio gyda mi a’r Gweinidog i gynyddu’r taliadau a chynyddu’r trothwyon, oherwydd Duw a ŵyr, mae angen y cymorth hwnnw ar nifer o fyfyrwyr incwm isel ledled Cymru, nawr yn fwy nag erioed.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Oes, felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin

Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig—yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8204 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y mis hwn yn nodi blwyddyn ers ymosodiad anghyfreithlon Vladimir Putin ar Wcráin.

2. Yn condemnio'r ymosodiad ar Wcráin, a'r ymddygiad ymosodol parhaus yn ei herbyn, yn erbyn ei sofraniaeth ac yn erbyn ei chyfanrwydd tiriogaethol gan Ffederasiwn Rwsia.

3. Yn cymeradwyo gwytnwch pobl Wcráin yn wyneb creulondeb Rwsia.

4. Yn croesawu'r cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a ddarperir i Wcráin gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

5. Yn diolch i bobl Cymru am eu hymateb i'r gwrthdaro, gan gynnwys eu haelioni a'r croeso a roddwyd i ffoaduriaid o Wcráin.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun tymor hir i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy’n falch o wneud y cynnig hwn. Mae'r pedwerydd ar hugain o Chwefror 2023 yn nodi blwyddyn ers ymosodiad anghyfreithlon a barbaraidd Vladimir Putin ar ei gymydog sofran llai o faint, Wcráin. Ond mae gan y cymydog llai hwn galon llew, ac mae wedi rhuo'n ôl, er bod pobl Wcráin wedi teimlo effaith ymosodiadau parhaus gan Rwsia i'r byw. Bydd pob unigolyn gwaraidd yn arswydo bod Putin yn bwriadu dathlu'r achlysur erchyll hwn drwy lansio ymosodiad creulon ac annynol arall. Pe bai pobl waraidd Rwsia ond yn gallu gweld a chlywed yr erchyllterau y mae Putin a'i gyfeillion yn eu cyflawni yn eu henw, wrth iddo ffugio'r naratif a thawelu'r ddadl yn y wlad fawr honno.

Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf o Norwy, mae’r gwrthdaro wedi achosi anafiadau neu farwolaethau 180,000 o filwyr Rwsia a 100,000 o filwyr Wcráin. Mae ffynonellau gorllewinol eraill yn amcangyfrif bod y rhyfel wedi achosi 150,000 o golledion ar y ddwy ochr. Ddiwedd mis Ionawr, amcangyfrifodd y Cenhedloedd Unedig fod 18,000 o sifiliaid wedi'u lladd neu eu hanafu yn yr ymladd, ond dywedasant fod y ffigur go iawn yn debygol o fod yn llawer uwch, gyda ffynonellau gorllewinol yn nodi bod 30,000 i 40,000 o sifiliaid wedi marw yn y gwrthdaro. Dywed awdurdodau Wcráin fod o leiaf 400 o blant wedi cael eu lladd. Mae Kyiv hefyd yn honni bod Moscow wedi alltudio mwy na 16,000 o blant yn orfodol i Rwsia neu ardaloedd a reolir gan ymwahanwyr a gefnogir gan Moscow. Yn ôl Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, mae mwy nag 8 miliwn o bobl Wcráin wedi cael eu gorfodi i ffoi o Wcráin ers i’r rhyfel ddechrau—yr argyfwng ffoaduriaid mwyaf yn Ewrop ers yr ail ryfel byd. Mae'r gyfran fwyaf o'r ffoaduriaid hyn yng Ngwlad Pwyl, gyda mwy nag 1.5 miliwn ohonynt yn y wlad honno. Mae mwy na 5 miliwn o bobl wedi'u dadleoli o fewn i'r wlad ei hun.

Mae ffrwydron tir yn fygythiad i sifiliaid, ac mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r gwaith o gael gwared ar y ffrwydron tir gymryd degawdau. Yn ôl comisiynydd cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, mae oddeutu 65,000 o honiadau o droseddau rhyfel wedi cael eu hadrodd drwy gydol y rhyfel. Mae ymchwilwyr y Cenhedloedd Unedig wedi cyhuddo Rwsia o gyflawni troseddau rhyfel ar raddfa enfawr yn Wcráin, gan gynnwys bomio, dienyddio, artaith a thrais rhywiol. Yn ôl pennaeth lluoedd arfog Wcráin, mae’r rheng flaen weithredol o’r gogledd i’r de yn ymestyn dros 900 milltir o diriogaeth. Dywedodd Banc y Byd, ym mis Hydref, ei fod yn disgwyl i economi Wcráin grebachu 35 y cant yn 2022, a dywedodd ysgol economeg Kyiv ym mis Tachwedd fod y rhyfel wedi achosi mwy na £34 biliwn mewn colledion economaidd yn y sector amaethyddol, ac ym mis Ionawr, amcangyfrifwyd y byddai'n costio £138 biliwn i adnewyddu'r holl seilwaith a anrheithiwyd gan y rhyfel hwn.

Roedd ymweliad yr Arlywydd Zelenskyy â’r DU yr wythnos ddiwethaf yn dyst i ddewrder, penderfynoldeb ac ysbryd ei wlad, ac i’r cyfeillgarwch cadarn rhwng Wcráin a’r DU a’i gwledydd. Mae'r rheini sydd wedi astudio digwyddiadau yn y 1930au yn gwybod na allwn adael i Putin lwyddo. Fel y dywedodd Churchill,

'Dyhuddwr yw un sy'n bwydo crocodeil, gan obeithio y bydd yn ei fwyta ef yn olaf.'

Ers 2014, mae’r DU wedi darparu hyfforddiant hanfodol i luoedd Wcráin ac mae bellach yn ehangu hyn o filwyr i fôr-filwyr a pheilotiaid jetiau ymladd. Mae milwyr o Wcráin eisoes yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio tanciau Challenger 2, y disgwylir iddynt gael eu hanfon i Wcráin fis nesaf. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi sancsiynau newydd ar gyfer y rheini sydd wedi helpu Putin i adeiladu ei gyfoeth a chwmnïau sydd wedi elwa o’r rhyfel. Arweiniodd y DU y ffordd drwy roi sgwadron o 14 o danciau brwydro Challenger 2, gyda cherbydau adfer ac atgyweirio arfog, gan annog yr Unol Daleithiau, yr Almaen a chynghreiriaid Ewropeaidd eraill i anfon tanciau hefyd, i helpu Wcráin wrth iddynt frwydro i wthio lluoedd Rwsia a milwyr cyflog grŵp Wagner yn ôl.

Wrth i’r DU gynyddu’r cymorth i frwydr Wcráin am ei rhyddid, mae’n rhoi cannoedd yn rhagor o gerbydau arfog a cherbydau amddiffyn, gan gynnwys cerbydau Bulldog, 24 o ynnau Howitzer AS90, dwsinau yn rhagor o ddronau awyr di-griw, cannoedd o daflegrau soffistigedig, 100,000 o rowndiau gynnau mawr a phecyn £28 miliwn i helpu gyda'r gwaith pontio a chael gwared ar ffrwydron tir, ynghyd â chymorth arall.

Bydd y DU yn darparu £2.3 biliwn neu fwy o gymorth milwrol i ymgyrch Wcráin yn erbyn ymosodiadau Rwsia eleni, cymaint â'r llynedd neu fwy, pan anfonodd y DU fwy na 10,800 o daflegrau gwrth-danc, pum system amddiffyn awyr, 120 o gerbydau arfog, bwledi, dronau a mwy.

Mae sancsiynau wedi'u gosod ar dros 1,320 o unigolion ac endidau, a gwerth £275 biliwn o asedau wedi’u rhewi, gan daro economi Rwsia, cloffi strwythur milwrol ddiwydiannol Rwsia, a chosbi Putin a'i gynghreiriaid, gan gynnwys 120 o oligarchiaid sydd gyda'i gilydd yn werth dros £140 biliwn.

Mae 217,900 o fisâu wedi'u rhoi i helpu pobl o Wcráin ddod i'r DU. Ar 7 Chwefror, roedd hyn yn cynnwys 152,100 fisa a roddwyd fel rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin, a 65,800 a gyhoeddwyd drwy'r cynllun teuluoedd o Wcráin. Mae’r DU hefyd wedi darparu £1.5 biliwn o gymorth economaidd a dyngarol i helpu pobl Wcráin, gyda £1.3 biliwn i helpu i gynnal gwasanaethau cyhoeddus Wcráin, ac oddeutu £220 miliwn mewn cymorth dyngarol ar gyfer angenrheidiau sylfaenol.

Roedd ffigurau diweddaraf Llywodraeth y DU ar 7 Chwefror yn dangos bod 8,762 o fisâu wedi’u rhoi i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, a bod 6,437 o bobl Wcráin wedi cyrraedd Cymru, 53 y cant wedi’u cefnogi gan Lywodraeth Cymru a’r gweddill gan aelwydydd yng Nghymru. Mae rhagor o bobl wedi cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin. Sefydlodd Llywodraeth Cymru ei chynllun uwch-noddwyr i ddarparu cymorth llety a gofal yng Nghymru i 1,000 o bobl o Wcráin. Cafodd wared ar yr angen hefyd i ymgeiswyr gael eu paru ag unigolyn penodol cyn iddynt gael caniatâd i deithio i'r DU drwy'r system fisâu. Fodd bynnag, cafodd y cynllun ei oedi dros dro i geisiadau newydd ar 10 Mehefin y llynedd. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn rhoi amser i wneud trefniadau ar gyfer cam nesaf y llety, ac y byddai pob cais a wnaed cyn 10 Mehefin 2022 yn cael ei brosesu. Mae’n dal yn aneglur felly faint o’r 4,614 o fisâu a noddwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â cheisiadau a wnaed cyn 10 Mehefin 2022, a faint sy'n gysylltiedig â chynllun uwch-noddwyr a ailagorwyd ar ôl i Lywodraeth Cymru ystyried ei bod wedi gwneud trefniadau ar gyfer cam nesaf y llety.

Yn ei datganiad ar yr ymateb dyngarol ddoe, dywedodd y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol fod dros 1,300 o’r rheini y mae Llywodraeth Cymru wedi’u noddi bellach wedi symud i lety mwy hirdymor. Yn y cyd-destun hwn, rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth ymateb i ddatganiad y Gweinidog ddoe:

'Adroddir bod nifer o ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru wedi siarad â'r cyfryngau am yr anawsterau y mae nifer ohonyn nhw'n eu cael yn dod o hyd i lety a'i gadw. Er enghraifft, dywedwyd wrth ffoaduriaid o Wcráin y bu'n rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi nawdd nad yw canolfannau croeso yn opsiwn ar gyfer llety diogel, ac mae'n ymddangos bod landlordiaid yn amharod i dderbyn tenantiaid sy'n ffoaduriaid oherwydd pryderon ynghylch sefydlogrwydd enillion yn y dyfodol.'

Wrth ymateb i’r Gweinidog dair wythnos yn ôl, cyfeiriais hefyd at achos y fam a’r ferch a ffodd rhag yr ymladd yn Wcráin ond sydd bellach yn wynebu digartrefedd wrth i’w noddwr yng Nghymru dynnu’n ôl, ac nad ydynt yn gallu fforddio rhent preifat a'u bod yn ofni y gallai fod rhaid iddynt fyw ar y stryd. Sylwais ymhellach fod Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi y byddai’n darparu 700 o gartrefi modiwlar ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin eleni, gan gynnwys 200 ohonynt i letya 800 o ffoaduriaid o Wcráin, i'w hadeiladu erbyn y Pasg.

Ers 2003, rwyf wedi bod yn ymgyrchu gyda’r sector tai, gan rybuddio Llywodraeth Cymru fod Cymru’n wynebu argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd. Yn anffodus, fe wnaethant ein hanwybyddu, gan achosi’r argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy yng Nghymru heddiw. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr opsiwn hwn felly, sef opsiwn tai modiwlar, pan fydd yn cael ei chyfran o gronfa newydd Llywodraeth y DU o £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i bobl Wcráin. Yn y cyd-destun hwn, mae gwaith canolfan gymorth integreiddio Pwylaidd Wrecsam ar goridor dyngarol, yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, yn cynnwys cynigion ar gyfer adeiladu tai dros dro. Ymhellach, mae ffocws carchar Berwyn yn Wrecsam ar adsefydlu drwy waith yn cynnwys cynhyrchu tai modiwlar ecogyfeillgar.

Mae ymateb dyngarol Llywodraeth Cymru i'r sefyllfa yn Wcráin wedi dibynnu i raddau helaeth ar ymgysylltu â sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys Link International, sy'n dod â grwpiau cymunedol a ffydd a sefydliadau'r trydydd sector ynghyd, gan weithio gydag awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru, mewn cydweithrediad ag asiantaethau statudol eraill a Llywodraeth Cymru; canolfan gymorth integreiddio Pwylaidd Wrecsam, sy'n cefnogi plant o Wcráin, pobl hŷn, pobl anabl a milwyr; y Groes Goch, sy'n cefnogi ac yn rhoi cartrefi i deuluoedd y disgyblion y cyfarfu Laura Anne Jones a minnau â hwy yn sir Ddinbych ddydd Gwener diwethaf; clybiau Rotari sydd wedi rhoi dros £6 miliwn mewn arian parod ac mewn nwyddau ac wedi rhoi mwy na 100,000 o oriau gwirfoddol i gefnogi Wcráin a’i phobl dros y 12 mis diwethaf; yr ymateb i'r ymosodiad ar Wcráin gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr; a llawer iawn mwy.

Mae'n rhaid inni ddiolch ar y cyd i bobl Cymru am eu caredigrwydd, eu haelioni a’u penderfynoldeb i gefnogi ein ffrindiau yn Wcráin. Mae’r cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a ddarparwyd i Wcráin gan Lywodraethau’r DU a Chymru wedi bod yn hanfodol i gefnogi’r frwydr yn erbyn gormes. Ond ni allwn fod yn hunanfodlon nawr. Galwaf felly ar bob Aelod i gefnogi’r cynnig hwn, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun hirdymor i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru, i sicrhau y gall Cymru fod yn genedl noddfa go iawn. Diolch yn fawr.

16:25

Diolch i’r blaid Geidwadol am gyflwyno’r ddadl hon; mae'n amserol iawn, wrth gwrs, oherwydd yr wythnos nesaf, byddwn yn nodi blwyddyn ers cychwyn yr ymosodiad hwn. Ar adeg pan fo pobl yn ceisio creu rhaniadau mewn gwleidyddiaeth, credaf ei bod yn dda cael cyfle i ddod at ein gilydd hefyd. Roeddwn yn gwrando ar Mark Isherwood yn agor y ddadl, a sylwais fod dau air a ddefnyddiodd yn britho fy araith innau hefyd, yn fy nodiadau yma: y cyntaf yw ‘creulondeb’ a’r ail yw ‘haelioni’.

Pan welwch ddigwyddiad rhyngwladol fel yr ymosodiad ar Wcráin, rydych yn gweld creulondeb ar ei ffurf fwyaf amrwd, a'r adeg hon y llynedd, gwelsom y lluoedd yn cronni o amgylch Wcráin a chelwyddau Putin wrth iddo honni nad oeddent yn cynllunio i ymosod ar y wlad honno. Ers hynny, rydym yn sicr wedi gweld Vladimir Putin yn comisiynu troseddau rhyfel, ac mae angen iddo gael ei ddwyn i gyfrif am weithredoedd ei filwyr dros y flwyddyn ddiwethaf hon.

Ond rydym hefyd wedi'i weld ei ormes creulon ar ei wlad ei hun, yn Rwsia. Darllenais ddoe am stori myfyriwr a oedd wedi sôn ar ei chyfrif Instagram ei bod yn gwrthwynebu'r rhyfel yn Wcráin. Mae hi’n gwisgo tag electronig ac yn wynebu blynyddoedd o garchar, dim ond am ddweud ei bod yn gwrthwynebu’r Llywodraeth ar Instagram. Mae'n greulondeb tuag at Wcráin, ond mae hefyd yn greulondeb tuag at bobl Rwsia. Mae angen inni allu dweud gyda’n gilydd fel Senedd y byddwn yn sefyll yn erbyn y creulondeb hwn, ac y byddwn yn cydsefyll gyda haelioni pobl ledled Cymru ac ar draws y gymuned ryngwladol sydd wedi cefnogi pobl Wcráin, ac sydd wedi estyn llaw i bobl Wcráin.

Fe fu’r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, sydd wedi arwain ymateb yng Nghymru i’r ymosodiad hwn mewn ffordd anhygoel ac emosiynol, a minnau'n sefyll ar y ffin ar y ffordd i Lviv ym mis Rhagfyr, ac fe wnaethom sefyll yno am dair awr ymhlith cerbydau eraill yn llawn o gymorth a roddwyd gan bobl o wledydd eraill i bobl Wcráin. Gwelsom haelioni dynol, ymrwymiad dynol ac undod dynol yn y tryciau a'r faniau a'r ceir hynny, yn yr eira, yn aros i groesi'r ffin i roi popeth roeddent wedi gallu ei gasglu yn eu gwledydd eu hunain i bobl Wcráin—haelioni gweithredol, haelioni o ran ysbryd a haelioni o ran ymrwymiad ac undod.

Rydym yn meddwl nawr am yr wythnos nesaf, sy'n nodi blwyddyn ers cychwyn yr ymosodiad, a gwelwn unwaith eto y milwyr yn cael eu cynnull ar ffiniau Wcráin, a gwelwn eto fod Putin yn benderfynol o chwalu ysbryd pobl Wcráin. Felly, fe ddywedwn eto y byddwn yn cydsefyll gyda phobl Wcráin, a dywedwn eto y byddwn yn parhau i weithredu mewn ysbryd o undod i sicrhau bod pobl Wcráin yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, nid yn unig i wrthsefyll yr ymosodiad a'r creulondeb, ond hefyd i ailadeiladu eu gwlad wedyn.

Rydym wedi gweld, yn fy amser i yma yn ceisio helpu i gefnogi pobl Wcráin—. Gwelsom beth oedd hynny'n ei olygu i bobl yn Lviv ym mis Rhagfyr. Yfory, byddwn yn gadael eto i deithio i Kyiv yr wythnos nesaf gyda mwy o gymorth, mwy o gefnogaeth. Mae Aelodau ar bob ochr i’r Siambr hon, o bob plaid a gynrychiolir yn y Senedd hon, wedi gweithio gyda’i gilydd er mwyn darparu’r cymorth sydd ei angen i ddarparu’r gefnogaeth honno a’r ymrwymiad hwnnw i bobl Wcráin. Ac mae hynny'n dyst, yn fy marn i, i rym democratiaeth seneddol.

Rydym hefyd wedi gweld pwysigrwydd ein strwythurau diogelwch, ein strwythurau amddiffyn a’n ffyniant economaidd yn y gorllewin yn cael eu profi fel erioed o’r blaen. Yr wythnos hon, roedd yn bwysig gweld arweinwyr NATO yn cyfarfod ac yn ailymrwymo i sicrhau bod gan fyddin Wcráin yr arfau rhyfel sydd eu hangen arnynt i amddiffyn eu tiriogaeth. Ac mae angen inni ddweud yn y cynllun—ac rwy'n derbyn bod y Ceidwadwyr wedi gofyn amdano, a hoffwn innau ei weld hefyd—y byddwn yn cefnogi diwydiant amddiffyn Cymru i gynnal y gwaith o gynhyrchu'r arfau rhyfel y mae gofyn amdanynt er mwyn amddiffyn pobl Wcráin. Byddwn yn parhau i ddadlau dros y cerbydau, y tanciau a’r arfau sydd eu hangen i amddiffyn pobl Wcráin. Nid yw geiriau cynnes yn dda i ddim pan fyddwch yn ymladd yn erbyn unben. Yr hyn sydd angen inni allu ei wneud yw sicrhau bod gan Wcráin y bwledi a'r ffrwydron a'r arfau rhyfel i amddiffyn eu tiriogaeth hefyd.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae rhyfel yn effeithio ar bobl. Mae'n effeithio ar fodau dynol. Mae’r lluniau a welsom dros y flwyddyn ddiwethaf ar ein sgriniau teledu wedi bod yn wirioneddol dorcalonnus. Mamau a thadau'n crio dros eu plant. Plant yn crio dros eu tadau a'u mamau. Fis Rhagfyr diwethaf, gwelais i a’r Cwnsler Cyffredinol blentyn yn ffarwelio â thad mewn iwnifform, yn sefyll wrth y safle bws yn Lviv yn nhywyllwch ben bore, mewn dagrau, yn ffarwelio. Lluniau rydym wedi’u gweld o’r blaen, ond lluniau a welsom mewn du a gwyn, ac nid lluniau roeddem yn disgwyl eu gweld yn lliwiau llachar yr unfed ganrif ar hugain.

Mae llawer ohonom wedi treulio oes yn ymgyrchu dros heddwch ar y cyfandir hwn, ac wedi bod yn dyst i realiti hil-laddiad ar y cyfandir hwn yn ystod ein hoes. Y wers y mae'n rhaid inni ei dysgu o Wcráin yw ein bod yn darparu'r holl gymorth sy'n angenrheidiol i amddiffyn Wcráin, ei phobl, ei phoblogaeth. Rydym yn helpu ac yn gweithio gyda Wcráin i ailadeiladu'r wlad wedyn. Ac yna, rydym yn dwyn i gyfrif, mewn tribiwnlysoedd rhyngwladol, y bobl sydd wedi creu'r creulondeb a'r rhyfel hwn. Yna, mae'n rhaid iddynt dderbyn cyfrifoldeb am y bywydau y maent wedi'u chwalu a'r difrod y maent wedi'i wneud i Wcráin a'n Hewrop ni. Diolch.

16:30

I ddechrau, hoffwn ailadrodd a chymeradwyo'r geiriau sydd eisoes wedi cael eu llefaru, a hoffwn gofnodi ein diolch, fel Aelodau yma yn y Senedd, i'r rhai ohonoch sydd wedi bod draw i weld yr angen draw yno drosoch eich hunain. Credaf ei bod yn deg dweud mai'r rhai sy'n dioddef creulondeb y rhyfel erchyll hwn yn fwyaf poenus yw'r rhai sy'n amddiffyn eu mamwlad, y boblogaeth sifil a llawer iawn o fenywod a phlant. Bydd llawer wedi bod yn rhy ifanc i ddeall hyd yn oed pam fod eu bywydau wedi cael eu diwreiddio'n sydyn ac yn greulon.

Fodd bynnag, mae cynhesrwydd a haelioni cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig wedi ein dangos ar ein gorau. Hyd yn oed yn fy etholaeth i, ar draws Aberconwy, roedd pobl leol yn gyflym iawn i fod eisiau cynnig cymorth, eu cartrefi fel to dros bennau'r rheini sy'n ffoi rhag rhyfel erchyll Putin yn Wcráin. Fe wnaethant ddangos y caredigrwydd a'r cynhesrwydd hwnnw—yr un caredigrwydd a chynhesrwydd sydd bob amser wedi bod yn rhan o'r ysbryd Prydeinig.

Fodd bynnag, mae rhai problemau o hyd gyda setlo o ddydd i ddydd a'r cynlluniau integreiddio, ac am y rheini yr hoffwn siarad heddiw, fel Gweinidog tai yr wrthblaid, oherwydd mae'r materion llety hyn yn fy mhoeni. Mae llawer o ffoaduriaid Wcreinaidd wedi siarad â chwmnïau newyddion, fel WalesOnline, am yr anawsterau y mae llawer ohonynt yn eu hwynebu nawr i ddod o hyd i dai, ac i allu cadw eu llety. Ceir miliynau o bobl wedi'u dadleoli sy'n dal i fod, hyd heddiw, yn symud o un lleoliad dros dro i'r llall, yn ansicr pryd y byddant yn dychwelyd adref.

O'r 8 miliwn o bobl a wnaeth ffoi o Wcráin, daeth 7,000 i Gymru. Mae hanner y ffoaduriaid yng Nghymru yn cael eu noddi gan gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cynllun hwnnw. Maent wedi treulio'r rhan fwyaf o'u harosiadau, fodd bynnag, mewn gwestai a lleoliadau tebyg, na chawsant erioed mo'u cynllunio ar gyfer arosiadau hirdymor a bod yn onest. Mae'r hanner arall wedi dod drwy'r cynllun nawdd Cartrefi i Wcráin. Mae ffoaduriaid Wcreinaidd sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi nawdd wedi cael gwybod nad yw canolfannau croeso'n opsiwn fel llety diogel os oeddent wedi cyrraedd y DU fel rhan o'r cynllun uwch-noddwyr. Felly, gydag awdurdodau lleol yn eu cynghori i edrych ar y farchnad rhentu preifat, mae'n ymddangos bod rhai landlordiaid yn amharod i rentu i denantiaid sy'n ffoaduriaid oherwydd pryderon ynghylch sefydlogrwydd enillion yn y dyfodol.

Siaradodd ffoadur arall o Wcráin am y profiad, gan ddweud,

'yn y dechrau i mi roedd popeth yn ormesgar a gallai'n hawdd dorri person cyffredin... Mae'r system i ryw raddau yn tramgwyddo ac yn bychanu urddas ffoadur ac yn darparu cyfle i noddwr.'

Mae rhai o'r noddwyr hynny'n landlordiaid sydd, ar unrhyw adeg,

'yn gallu troi'r tenant allan ar y stryd neu'n gallu trefnu amodau annioddefol, a hawl i ymyrryd ym mywyd personol rhywun. Mae'n system sy'n gallu ennyn nodweddion dynol annerbyniol fel trahauster, haerllugrwydd ac agweddau negyddol eraill'

y mae rhai Wcreiniaid bellach yn eu profi. Felly, rwy'n gobeithio, yn yr ymateb, y gallwch roi sicrwydd i ni ynglŷn â sut rydych chi wedi bod yn ymdrin â hyn.

Mae'n amlwg fod yna ddiffyg cydlynu cydgysylltiedig o hyd ynghylch gweithredu cymorth ac integreiddio cynlluniau ar gyfer ffoaduriaid Wcreinaidd. Ond craidd y broblem yma yng Nghymru yw nad oes gennym ddigon o gartrefi. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd llai na 50 y cant o'r targed ar gyfer anheddau newydd yn flynyddol, felly mae angen inni edrych ar hyn o ddifrif. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol eisoes yn berchen ar dir y gellid codi tai'n gyflym arno, ac rwy'n cymryd y pwynt a nododd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood yn gynharach am dai modiwlar. Mae'r amser wedi dod i ffurfio tasglu adeiladu cartrefi i yrru prosiectau cyflym fel tai modiwlar wedi'u gwneud mewn ffatri ar dir sy'n eiddo cyhoeddus. Mae gennym argyfwng tai mawr sydd bellach yn golygu bod ffoaduriaid yn gaeth mewn gwestai, nid cartrefi. Mae'n bryd i bawb ohonom gydweithio i oresgyn y fiwrocratiaeth sy'n ein dal rhag rhoi to uwchben yr unigolion mwyaf bregus hyn. Mae llygaid y byd yn ein gwylio ac mae'n rhaid inni wneud hyn yn iawn. Diolch.

16:35

Mae Plaid Cymru yn sefyll mewn undod llwyr â phobl Wcráin am ddangos gwytnwch rhyfeddol yn wyneb ymosodiadau creulon parhaus Rwsia. Ac mae'n fy nigalonni, flwyddyn ers goresgyniad anghyfreithlon a barbaraidd Putin—fel y dywedodd Sioned Williams ddoe—yn Wcráin fod y rhyfel yn parhau. Mae troseddau rhyfel erchyll yn cael eu cyflawni a dylai swyddogion Rwsia sy'n arwain y rhyfel, gan gynnwys Vladimir Putin, fod ar brawf am droseddau rhyfel. Mae rhyfel anghyfreithlon Putin a pharhad yr ymosodiad ar Wcráin, ei sofraniaeth a'i chyfanrwydd tiriogaethol yn dangos diffyg parch llwyr tuag at siarter y Cenhedloedd Unedig a hunanbenderfyniaeth cenhedloedd eraill.

Hoffwn bwysleisio pwynt 3 y cynnig wrth gymeradwyo gwytnwch a chryfder a dewrder holl bobl Wcráin yn wyneb y creulondeb hwn. Ac er gwaethaf y creulondeb, a thra bod Wcráin yn parhau i amddiffyn ei hun yn erbyn Rwsia, rhaid cofio hefyd fod y wlad yn dal i chwarae rhan allweddol yn rhyngwladol. Mewn ymateb i'r daeargryn dinistriol ar ffin Twrci-Syria, ni phetrusodd Wcráin rhag anfon staff brys a pheiriannau achub bywyd i gynorthwyo'r ymdrech achub, gan chwarae rhan gyfrifol yn fyd-eang fel gwlad.

Rwy'n annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu cymorth dyngarol ac ariannol i Wcráin. Ac mae'n drist clywed, yn ôl Swyddfa'r Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol, ar 30 Ionawr, fod 7,155 o sifiliaid wedi marw, a 438 ohonynt yn blant. Ar ben hynny, dywedir bod 11,662 o bobl wedi cael eu hanafu, ac maent wedi nodi y gallai'r niferoedd go iawn fod yn llawer iawn uwch. I mi, mae hyn yn pwysleisio trasiedi rhyfel a'r angen i ddod o hyd i ffyrdd heddychlon o ddatrys gwrthdaro. Mae'n rhaid inni wneud ein gorau glas i osgoi marwolaeth a dinistr pellach, ond yn y pen draw, mae dod â'r rhyfel i ben yn heddychlon yn dibynnu ar Rwsia.

Ni allwn anghofio mai nod Putin yw dinistrio gwladwriaeth Wcráin a sefydlu cyfundrefn byped, ac mae'n afrealistig disgwyl i drafodaethau ddigwydd ar y telerau hynny. Nid yw caniatáu i wledydd gael eu concro a'u hiselhau gan ormeswyr yn rhywbeth y gallwn adael iddo ddigwydd. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn glir fod unrhyw arfau'n cael eu cyflenwi er mwyn i Wcreiniaid amddiffyn eu hunain, a rhaid inni fod yn wyliadwrus o unrhyw risg o ddwysáu'n rhyfel ymosodol. Dylem edrych ar bob dull arall i helpu pobl Wcráin ar hyn o bryd. Er enghraifft, dylem edrych ymhellach ar barhau ac ymestyn sancsiynau yn erbyn economi Rwsia. Rhaid i'r sancsiynau hyn hefyd leihau'r perygl o ymgyrchoedd gan Rwsia yn y dyfodol. Fe wnaeth cydfeddiant Crimea yn 2014 arwain at sancsiynau economaidd, ond nawr gwyddom nad oeddent yn ddigon i atal cymhelliad Rwsia i oresgyn Wcráin ymhellach y llynedd.

A hoffwn alw ar bob un ohonon—. Rydym eisoes wedi nodi bod Cymru yn genedl noddfa, ond fel y nodwyd yn ystod cyfraniad Sioned Williams ddoe ac ymateb y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ni allwn ganiatáu i elyniaeth barhau yma yng Nghymru. Rwyf wedi dychryn ac yn drist iawn o weld tudalen Facebook yn cael ei sefydlu—anfonwyd dolen ataf—sy'n ysgogi casineb a phrotest arfaethedig yn Llanilltud Fawr fis nesaf. Nid yw hyn yn cyd-fynd â'n gwerthoedd fel cenedl, a hoffwn annog pob un ohonom i ystyried yr iaith a ddefnyddiwn ac i ystyried sut y caiff ei chlywed gan bawb a gynrychiolwn. Grŵp Facebook agored yw hwn, ac o edrych arno, mae'r sylwadau'n hiliol, maent yn senoffobig, maent yn llawn casineb. Nid dyna'r gymdeithas rwyf am i Gymru fod, ac rwyf wedi fy nhristau.

Ni allaf ddweud wrth y bobl Wcreinaidd sydd wedi bod drwy gymaint, ac eraill—. Nid yw pobl yn dewis bod yma. Hoffent fod yn ddiogel yn eu cartrefi, ond eto maent wedi cael eu gorfodi i fyw yma ac maent yn gwneud eu gorau. Mae'r casineb a wynebant wedyn pan fyddant yn cyrraedd yma, yn hytrach na chael eu croesawu, yn rhywbeth a ddylai ddychryn pob un ohonom. Ac o ystyried yr ymosodiadau a welsom yn Lerpwl yr wythnos diwethaf, mae meddwl bod yr un grŵp yn ysgogi protest yma yng Nghymru yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried yn ofalus yn y ddadl hon. Os yw Cymru i fod yn genedl noddfa go iawn, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ei bod hi, a chael gwared ar y casineb hwn ar unwaith.

16:40

Rwy'n ddiolchgar fy mod yn gallu cymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig hon heddiw ar y cynnig ar yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Hoffwn atgoffa Aelodau o fy nghofrestr buddiannau mewn perthynas ag ymddiriedolwyr elusennau.

Yn gyntaf, rwyf am adleisio sylwadau a wnaed o bob rhan o'r Siambr wleidyddol heddiw. Maent yn dangos undod gyda phobl Wcráin, ynghyd â phawb sy'n darparu cymorth hefyd. Ac fel yr amlinellwyd eisoes heddiw, mae'r golygfeydd a welsom yn Wcráin dros y 12 mis a mwy diwethaf wedi bod yn gwbl erchyll, yn dorcalonnus, gyda goresgyniad gwaedlyd a barbaraidd Putin ar Wcráin yn parhau, mwy o deuluoedd yn cael eu chwalu a'u gorfodi i ffoi o'u cartrefi er diogelwch. Mae'r goresgyniad hwn wedi brawychu'r byd ac wedi uno cenhedloedd democrataidd yn eu condemniad o weithredoedd creulon yr Arlywydd Vladimir Putin yn erbyn un o'n cynghreiriaid Ewropeaidd. Mae'r erchyllterau a welwn yn Wcráin yn mynd â ni yn ôl i gyfnod tywyll, cyfnod y credem ei fod yn gadarn yn y gorffennol ar gyfandir Ewrop, ond yn anffodus, nid yw hynny'n wir. 

Rwyf eisiau gallu defnyddio fy amser heddiw i dynnu sylw'r Aelodau at bwynt 5 y cynnig heddiw. Hoffwn innau hefyd ddiolch i bobl Cymru am eu hymateb, am eu cefnogaeth ac am y cyfeillgarwch a ddangoswyd tuag at bobl Wcráin. Yn sicr, o ystyried pwyntiau Heledd Fychan nawr, mae yna bocedi o bobl yng Nghymru nad ydynt yn rhannu'r un gefnogaeth a llaw cyfeillgarwch, ond mae llawer o bobl ledled Cymru yn cynnig llaw cyfeillgarwch yn briodol i bobl sy'n ffoi o Wcráin.

Yn fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio'n arbennig ar grŵp o bobl a sefydliadau sy'n parhau i gefnogi ffoaduriaid Wcreinaidd yn gadarn, sef ein heglwysi a'u cynulleidfaoedd ledled Cymru, ni waeth beth fo'u henwad. Soniodd Mark Isherwood wrth agor am nifer o grwpiau ffydd a'r gwaith y maent yn ei gyflawni. Pan edrychwn ar eglwysi yn gyffredinol, dros y 12 mis diwethaf, drwy'r rhwydwaith Welcome Churches yn unig, sef sefydliad sy'n cynorthwyo eglwysi i gefnogi ffoaduriaid, mae dros 1,000 o eglwysi wedi croesawu bron i 18,000 o ffoaduriaid ledled y DU, gan ddarparu cymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd gymaint o'u hangen.

Pan siaradwn am gefnogaeth i ffoaduriaid o Wcráin, rydym yn siarad am gefnogi'r unigolyn cyfan. Soniodd Alun Davies am hyn yn ei gyfraniad ychydig funudau'n ôl—mae'n ymwneud â chefnogaeth i bobl ac mae'r unigolyn cyfan yn cynnwys ei ffydd, yn enwedig yn ystod cyfnod o drawma a chaledi. Mae hyn yn hynod bwysig i'n ffrindiau yn Wcráin, oherwydd mae tua 85 y cant o bobl yn Wcráin yn nodi bod ganddynt ffydd Gristnogol, gyda bron i un o bob pump yn Wcráin yn mynychu gwasanaeth eglwysig bob wythnos. Felly, mae'n hollbwysig fod eu rhyddid crefyddol, a'u mynegiant ohono, yn gallu parhau tra'u bod yma yng Nghymru.

Cyn y ddadl hon, rwy'n siŵr fod aelodau o bob rhan o'r Siambr wedi derbyn briff gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr ynglŷn â'r gefnogaeth y maent hwy wedi bod yn ei ddarparu, sy'n sicr yn rhywbeth y dylem ei groesawu. Yn fwyaf arbennig, gan weithio gyda'r Eglwys Gatholig, mae Rhwydwaith Gweithredu Cymdeithasol Caritas wedi gwneud gwaith gwych yn cefnogi gwaith adleoli ffoaduriaid ar draws y DU, ond hefyd yn benodol yma yng Nghymru. Ar ben hyn, gwelwn sefydliadau fel CAFOD ac eraill yn cynnig cymorth ymarferol ar lawr gwlad yn Wcráin, fel darparu prydau bwyd a chymorth arall hefyd.

Hoffwn ganmol a diolch i eglwysi a'r eglwys yn ehangach, a grwpiau ffydd eraill, am gamu ymlaen yn ystod y cyfnod hwn a sicrhau bod y rhai sy'n cael cysur a noddfa mewn ffydd yn cael eu croesawu i gymunedau eglwysig gyda breichiau agored. Mae cymaint o eglwysi'n gwneud hyn gyda gwirfoddolwyr yn dawel ac yn ostyngedig, gan alw ar bob un ohonom i groesawu'r dieithryn. 

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gwneud cymaint i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Mae wedi bod yn sobreiddiol clywed cyfraniadau o bob rhan o'r Siambr hyd yma y prynhawn yma. Dyma'r amser i bob un ohonom barhau i fod yn unedig a gwneud yr hyn a allwn i gefnogi ein ffrindiau o Wcráin, gan ddwyn Putin a'i gynghreiriaid i gyfrif am eu hymosodiadau barbaraidd a diwahân ar sifiliaid diniwed Wcráin. Diolch yn fawr iawn.

16:45

Mae'n anodd credu ei bod hi wedi bod yn flwyddyn ers inni gael ein dadl olaf yma yn y Senedd, ar ddechrau'r rhyfel. Mae'n anodd credu bod blwyddyn wedi mynd heibio ers hynny. Rwy'n meddwl ei bod yr un mor anodd deall y creulondeb a'r dioddefaint sydd wedi digwydd yn Wcráin ers hynny. Dyma'r argyfwng hiwmanitaraidd mwyaf yn Ewrop ers yr ail ryfel byd, gyda miliynau wedi'u dadleoli, dros 7,000 o sifiliaid Wcráin wedi'u lladd, bron i 500 ohonynt yn blant. Mae dinasoedd cyfan, gan gynnwys Mariupol a Bakhmut, pentrefi a threfi dirifedi wedi cael eu chwalu i'r llawr gan luoedd Rwsia. Cafwyd cannoedd o filoedd o farwolaethau ac anafiadau ar ochr Wcráin a Rwsia. Ond rhaid inni beidio ag anghofio bod Wcráin yn wladwriaeth sofran, sydd wedi creu ei llwybr democrataidd ei hun ers iddi ddod yn annibynnol oddi wrth yr Undeb Sofietaidd dros 30 mlynedd yn ôl. Mae ganddi hawl i hunanbenderfyniaeth. Ein dyletswydd ni felly, o un Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd i'r llall, yw cefnogi'r sifiliaid diniwed a ddaliwyd yn y rhyfel barbaraidd a dibwrpas hwn. Rwy'n credu bod pob un ohonom yma'n teimlo'n ostyngedig iawn wrth weld dewrder dinasyddion cyffredin yn amddiffyn eu gwlad.

Mae hefyd wedi bod yn wythnos ers i ddatganiad hanesyddol Llundain gael ei arwyddo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Wcráin. Fe wnaeth ailddatgan ymrwymiad y DU i helpu i dynnu lluoedd Rwsia o diriogaeth Wcráin a chefnogi adferiad a dyfodol hirdymor Wcráin, gan gynnwys gwaith i atgyweirio difrod i gyflenwadau ynni a gweithio gyda'n gilydd i helpu i sicrhau bod grawn Wcráin yn cyrraedd marchnadoedd y byd unwaith eto. Mae'r datganiad yn ffurfioli cynllun strategol i helpu Llywodraeth Wcráin a'i phobl yn ôl ar eu traed yn y tymor hir. Rwy'n falch iawn o weithredoedd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hyd yma i helpu pobl Wcráin i ennill eu gwlad yn ôl, o drefnu sancsiynau rhyngwladol i hyfforddi milwyr Wcráin i ymrwymo £4.6 biliwn mewn cymorth milwrol dros ddwy flynedd i ddarparu bron i 0.25 miliwn o fisas i Wcreiniaid sy'n ceisio dod i'r DU a £1.3 biliwn mewn cefnogaeth gyllidol. Mae'n amlwg ein bod yn barod i wynebu'r ymosodwyr hyn gyda'n gilydd. Rwyf hefyd yn falch fod cymaint o Gymry wedi agor eu cartrefi i ffoaduriaid, fel y nodwyd gennym yn barod, ond rwy'n meddwl bod mwy y gallwn ei wneud yma i gadw'r croeso'n gynnes wrth inni nesáu at flwyddyn ers i'r gwrthdaro ddechrau.

Rwy'n pryderu wrth glywed bod hanner y ffoaduriaid o Wcráin sy'n cael eu noddi gan gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru wedi treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yma mewn gwestai neu leoliadau eraill na chawsant eu cynllunio ar gyfer aros ynddynt yn hirdymor. Mae ffoaduriaid Wcreinaidd sydd wedi ei chael hi'n anodd gadael eu cartrefi nawdd wedi ei chael hi'n anos fyth dod o hyd i lety addas, gan eu bod yn honni bod landlordiaid yn amharod i adael iddynt rentu oherwydd diffyg sefydlogrwydd a'u henillion. Mewn gwirionedd, fe gysylltodd un ffoadur o Wcráin â mi yn gynharach heddiw gyda'r union broblem honno: roeddent yn poeni am adael y gwesty roeddent wedi bod yn aros ynddo, roeddent yn poeni y gallent orfod symud o un lleoliad i'r llall a'r effaith y gallai hynny ei chael ar addysg eu plentyn, am eu bod newydd gofrestru mewn ysgol yng Nghymru, rhywbeth a oedd i'w groesawu'n fawr. Ond mewn gwirionedd, os cânt eu symud i leoliad gwahanol, efallai y bydd yn rhaid iddynt ddadwreiddio a newid unwaith eto, sy'n bryder gwirioneddol iddynt. Felly, er bod yr ewyllys yno ar y dechrau, mae'n rhaid inni fynd ychydig pellach i sicrhau bod yr Wcreiniaid sydd wedi gwneud y daith hon i Gymru yn cael eu cefnogi drwy gydol y rhyfel, fel y gallant naill ai ddewis aros yma yn y diwedd, os mai dyna y dymunant ei wneud, neu ddychwelyd adref pan fydd hi'n ddiogel iddynt wneud hynny.

Yma, gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo cynghorau i baratoi ar gyfer grwpiau mawr o bobl drwy ryddhau tai a darparu addysg a gofal iechyd fel bod cyn lleied o aflonyddu â phosibl i deuluoedd sy'n aros yma. Mae posibilrwydd hefyd o weithio gyda landlordiaid preifat a chymdeithasau tai i ryddhau llety addas yn y tymor hir. Rydym yn cytuno felly fod angen i Lywodraeth Cymru lunio cynllun hirdymor, gan nad ydym yn gwybod pryd y gwelwn ddiwedd ar y rhyfel, yn anffodus, ac ni wyddom pa mor hir y bydd yn ei gymryd i helpu i ailadeiladu Wcráin yn y dyfodol.

Ond i orffen ar nodyn cadarnhaol, mae gennyf enghraifft wych o bartneriaeth gymunedol gyda ffoaduriaid Wcreinaidd yn Abertawe. Rai misoedd yn ôl, fe wnaeth ffoaduriaid o Wcráin wirfoddoli i dacluso a dechrau prosiect ym muarth yr uned blastig a llosgiadau yn Ysbyty Treforys. Mae'r gwytnwch, yr ysbryd cymunedol hwn a'r awydd i roi rhywbeth yn ôl yn rhywbeth y dylem ei gofio ac y dylem ei gefnogi, yn enwedig o ystyried bod y ffoaduriaid hyn wedi gadael eu mamwlad heb fawr ddim. Oherwydd am bob gweithred o ddrygioni yn y byd hwn—ac mae'r rhyfel hwn wedi tynnu sylw at rai o'r pethau mwyaf anfad y gallwch eu dychmygu—rhaid inni beidio ag anghofio bod llawer iawn mwy o weithredoedd o garedigrwydd sy'n arddangos y gorau o'r ysbryd dynol, ac nid oes unrhyw wlad, yn fy marn i, yn arddangos hynny'n fwy yn y byd na'r hyn a welsom gan Wcreiniaid dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n ddiolchgar am gael cyfrannu yn y ddadl hon. Sláva Ukrayíni.

16:50

Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad yn y ddadl hon. A gaf fi hefyd ddechrau drwy ailadrodd fy niolch i'r Cymry ac i'r Senedd hon am y gefnogaeth ysgubol i Wcráin a'r gydnabyddiaeth nad rhyfel i Wcreiniaid yn unig yw hwn, ei fod yn rhyfel i amddiffyn rheolaeth y gyfraith, democratiaeth a chyfraith ryngwladol? A gaf fi fynegi fy niolch hefyd am y gefnogaeth anhygoel i deuluoedd o Wcráin sydd wedi gorfod ceisio lloches yma, am y croeso a gawsant ledled Cymru, ac yn arbennig am waith y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, sydd yn fy marn i, wedi ychwanegu gwir ystyr i enw da Cymru fel cenedl noddfa, nid yn unig i Wcreiniaid ond i bob ffoadur ac i bawb sydd wedi gorfod ffoi o'u mamwlad.

Bydd yr wythnos nesaf yn un emosiynol i mi. Bydd yn flwyddyn ers ymosodiad Rwsia ar wladwriaeth annibynnol sofran. Bron i flwyddyn yn ôl yr aeth arweinydd Plaid Cymru a minnau i Kyiv i ddangos undod a chefnogaeth i bobl Wcráin. Ers hynny, rydym i gyd yn gweld bellach effaith y goresgyniad hwnnw ddydd ar ôl dydd: tua 15 miliwn o bobl wedi'u dadleoli'n fewnol neu'n allanol; degau o filoedd o sifiliaid wedi'u lladd, wedi'u llofruddio, eu harteithio, eu treisio, eu bomio; ysbeilio, dinistrio seilwaith dinesig, mewn modd ac a'r raddfa nad ydym wedi'i weld ers yr ail ryfel byd; y 6,000 o blant a gipiwyd sydd wedi'u gwasgaru i wersylloedd hidlo ar gyfer eu hailaddysgu, gyda'r ieuengaf ohonynt yn bedwar mis oed.

Mae'r rhyfel hefyd yn rhyfel o hil-laddiad cenedl Wcráin. Mae gennyf gyda mi heddiw gerdyn estron fy nhad o'r adeg pan oedd yn ffoadur yn y wlad hon. Hyd at 1960, bu'n rhaid iddo gofrestru gyda'r heddlu. Rwy'n cofio'r sarjant a arferai ymweld yn wythnosol. Ar y cerdyn, mae ei genedligrwydd wedi'i nodi fel 'ansicr'—'U' yw'r nod, 'uncertain'—a hynny oherwydd mai fel Wcreiniad y byddai'n disgrifio ei hun, ond wrth gwrs, nid oedd Wcreiniaid yn cael eu cydnabod yn gyfreithiol. Felly, aeth heb unrhyw ddynodiad o'i genedligrwydd ar wahân i'w ddisgrifiad ei hun. Pe bai Putin yn llwyddo, mae yna oddeutu 44 miliwn o bobl a fyddai hefyd yn colli eu hunaniaeth genedlaethol, a fyddai'n cael eu nodi fel 'U'—mewn gwirionedd, ni fyddent yn cael eu nodi fel 'U', byddent yn cael eu nodi fel 'R', fel Rwsiaid, a'u hiaith a'u diwylliant wedi eu dinistrio. Dyna pam rwy'n dweud bod hwn hefyd yn rhyfel o hil-laddiad ac o ddifodi diwylliannol. Un cam yw Wcráin, wedyn mae'r gwledydd Baltig, Estonia, Latfia, Lithwania, Georgia, a Gwlad Pwyl wrth gwrs.

Yr wythnos nesaf, byddaf fi ac Alun Davies, ar ran holl bleidiau gwleidyddol y Senedd hon ac ar ran pobl Cymru, yn dosbarthu cyflenwadau a cherbyd i fataliwn Wcreinaidd ac i undeb glowyr Wcráin, sydd â nifer o'i aelodau'n brwydro ar y rheng flaen a nifer ohonynt eisoes wedi dioddef. Mae'n rhan o gyfraniad Cymru i'r ymgyrch unedig a rhan o'n cyfrifoldeb hanesyddol a rhyngwladol i gefnogi pobloedd gorthrymedig ledled y byd—yn Syria, Affganistan, Palesteina, pobl Uyghur yn Tsieina, ac mewn llawer o lefydd eraill yn anffodus. Rydym yn cefnogi Wcráin a democratiaeth yn Ewrop gyda'n cymorth materol ac ariannol. Mae Wcreiniaid yn cefnogi'r un ddemocratiaeth â'u bywydau. Rwy'n argyhoeddedig y bydd Wcráin yn ennill. Слава Україні! Героям слава! Gogoniant i Wcráin a gogoniant i'n harwyr. 

16:55

A gaf fi ychwanegu Moldofa at y rhestr honno, Gwnsler Cyffredinol? Rydym wedi cyfarfod â llysgennad Moldofa, ac mae honno'n amlwg yn wlad arall dan fygythiad.

Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau—ac rwy'n siŵr y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Siambr gyfan yn wir am i mi ddechrau—drwy ddiolch i Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, am ei gyfraniad i'r ddadl hon heddiw? Diolch iddo am ei ddewrder a'i ymrwymiad ac am rannu ei brofiad personol a theuluol, wrth inni sefyll gyda'n gilydd gyda Mick, ar draws y Siambr gyfan rwy'n credu, yn dyst i'r ymateb a'r ffordd y mae wedi ein harwain yn ein hymateb i'r ymosodiad erchyll ar Wcráin gan Putin bron i flwyddyn yn ôl.

Mae'r cynnig yma rydych wedi'i gyflwyno yn bwysig heddiw, a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am ei gyflwyno i'w drafod. Ond rwy'n credu ein bod ni i gyd ar draws y Siambr hon unwaith eto yn diolch i bawb yng Nghymru sy'n chwarae rhan mor bwysig yn yr ymateb dyngarol hwn, ac sydd wedi chwarae'r rhan honno dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod pwynt 1 y cynnig yn mynegi'r gwirionedd sylfaenol fod holl boen a dioddefaint pobl Wcráin dros y 12 mis diwethaf yn ganlyniad i oresgyniad anghyfreithlon Putin. Mae'r Siambr wedi ei huno ac yn tynnu sylw'n gadarn at y ffaith, ac rwy'n croesawu ei fod wedi cael ei fynegi yma eto, fel y gwnaethom ddoe ar risiau'r Senedd.

Mae pob un ohonom wedi cael ein syfrdanu gan greulondeb yr hyn a welsom ac a glywsom o Wcráin ers dechrau'r goresgyniad. Ni fydd yr un ohonom yn anghofio cyflafan Bucha, y defnydd o bwerdai niwclear fel tarian, y defnydd o garcharorion fel ymladdwyr, a llawer o erchyllterau eraill. Byddwn yn parhau i annog ein gwesteion Wcreinaidd i ystyried ymgysylltu ag ymchwiliad troseddau rhyfel y Llys Troseddol Rhyngwladol i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfrif.

Er ei bod yn amlwg i'r cyhoedd yng Nghymru a llawer o'r byd yn gyffredinol fod Putin wedi ymosod ar genedl sofran, nid yw'r anghyfiawnderau hanesyddol dyfnach a'r ymddygiad ymosodol parhaus a gyfeiriwyd tuag at Wcráin wedi eu deall cystal. Dyna pam ein bod wedi coffáu Holodomor ym mis Tachwedd y llynedd, a byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth yn ystod 2023. Byddwn yn cofio'r dioddefwyr ac yn annog mwy o undod gydag Wcreiniaid sydd bellach yn cael noddfa yma yng Nghymru.

Er gwaethaf holl ddioddefaint pobl Wcráin a'r trawma a brofwyd gan Wcreiniaid a groesawyd i'n cymunedau, mae un peth wedi nodweddu eu brwydr yn fwy na dim arall, sef dewrder. Fel y nododd y Prif Weinidog pan wnaethom goffáu Holodomor ym mis Tachwedd, yn hytrach na thorri eu penderfynoldeb, mae'r rhyfel hwn wedi gwneud cewri o bobl Wcráin yn llygaid y byd.

Mae'r gymuned ryngwladol wedi dangos undod rhyfeddol mewn perthynas â'r cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a roddwyd i Wcráin. Mae Llywodraethau’r DU a Chymru wedi gweithio’n galed i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i Wcráin hyd eithaf ein gallu, er gwaethaf yr argyfwng costau byw difrifol rydym ynddo. Rydym wedi bod yn falch o ddarparu cymorth ariannol drwy'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau i ddarparu offer lle bo angen, i agor y llwybr uwch-noddwyr i helpu dinasyddion Wcráin i gyrraedd diogelwch yn gyflymach. A byddwn gyda chi ac yn meddwl amdanoch, Mick Antoniw AS, ein Cwnsler Cyffredinol, Alun Davies, a'ch partner [Anghlywadwy.] Thomas, a fydd yn mynd â'r offer hwn—y daith rydych yn mynd arni i ddarparu offer hanfodol i Wcráin, gyda chefnogaeth drawsbleidiol.

Felly, mae pobl Cymru wedi bod yn ddiwyro yn eu cefnogaeth i'r bron i 7,000 o bobl rydym wedi’u croesawu dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal ag i’r aelodau o'r gymuned Wcreinaidd a oedd eisoes yn galw Cymru’n gartref, a’r rheini sy’n byw ac yn ymladd yn Wcráin. Rydym yn bobl dosturiol sy'n darparu cymorth anhygoel, fel y mynegwyd heddiw. A Ddirprwy Lywydd, sefydlodd Llywodraeth Cymru y llwybr uwch-noddwyr am ein bod am leihau'r risgiau diogelu a lleihau'r rhwystrau i Wcreiniaid—menywod a phlant yn bennaf, sy'n ffoi rhag y gwrthdaro angheuol hwn ac yn ceisio noddfa. A dros flwyddyn yn ôl, fe gofiwch inni ymrwymo, i ddechrau, i gefnogi 1,000 o Wcreiniaid drwy'r llwybr uwch-noddwyr, ond rydym bellach wedi croesawu dros 3,000 o Wcreiniaid i Gymru, ac mae gan 1,500 arall fisâu wedi'u noddi gennym. Nid ydynt wedi cyrraedd eto, ond fe ddywedaf eto heddiw y byddwn yn rhoi croeso cynnes iddynt pan fyddant yn cyrraedd.

A chredaf ei bod yn bwysig cydnabod bod hyn yn ymwneud â sut rydym yn mynd ati wedyn i ddarparu'r cymorth hwnnw yn ein canolfannau croeso, sydd wedi bod mor bwysig. Mae’r canolfannau croeso hynny wedi bod yn hollbwysig o ran y cymorth rydym wedi’i ddarparu ar gyfer ymgartrefu yng Nghymru: gwasanaethau cyfieithu i’r rheini nad ydynt yn siarad Saesneg; cyfleoedd i ddechrau dysgu Saesneg a Chymraeg; y gwasanaethau iechyd sydd ar gael; plant yn cofrestru mewn ysgolion lleol; y cyngor sydd ar gael i helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd mewn gwlad newydd; cymorth gydag arian, budd-daliadau a mynediad at waith. A hefyd, wrth gwrs, ar ôl y cyfnod cychwynnol hwnnw yn llety cychwynnol ein canolfannau croeso, cynorthwyo'r bobl sy'n cyrraedd i gael llety mwy hirdymor.

A dyma pam fy mod am ddweud eto—ac wrth gwrs, cefais gyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ddoe yn fy natganiad—fod sicrhau llety mwy hirdymor yn allweddol i ddarparu cymorth i'r rheini sydd wedi'u dadleoli gan yr argyfwng yn Wcráin. Mae'n cynnwys cymysgedd o lety, gan gynnwys llety gan unigolion, y sector rhentu preifat a mathau eraill o lety trosiannol o ansawdd da. Ac mae hynny'n cynnwys tai modiwlar, cynigion a chynlluniau a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys fy awdurdod lleol fy hun, cyngor Bro Morgannwg. A chredaf ei bod yn bwysig dweud eto yn y ddadl hon fod hyn o ganlyniad i’r rhaglen gyfalaf llety trosiannol, rhaglen bwysig sydd hefyd wedi’i chynyddu o £65 miliwn i £89 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gyda chefnogaeth gan Blaid Cymru, i sicrhau y gallwn ddarparu’r tai o ansawdd da hynny ar unwaith—y llety trosiannol hwnnw. Ac fe welwch hyn yn cael ei ddarparu ledled Cymru mewn partneriaeth â'n hawdurdodau lleol, cymdeithasau tai a chan weithio'n agos iawn ar y cyd â'n landlordiaid cymdeithasol hefyd.

Bydd ein cynllun hirdymor i gefnogi Wcreiniaid yng Nghymru yn dilyn yr egwyddorion a nodir yn ein cynllun 'Cenedl Noddfa', ond byddwn yn dweud bod angen rhai atebion arnom i gwestiynau na all ond Llywodraeth y DU eu hateb. Ac fel y dywedais ddoe, mae'n bwysig ein bod yn pwyso a'n bod yn cael eich cefnogaeth i ofyn i Weinidog y DU, Felicity Buchan, ddatblygu llwybr tuag at ymgartrefu ar gyfer Wcreiniaid sy'n dymuno aros yn hirdymor, a gwyddom fod angen inni wneud hynny mewn partneriaeth â Llywodraeth yr Alban hefyd, ar ôl cyflwyno ein gweledigaeth hirdymor.

Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi gwahodd Aelodau o’r Senedd o bob plaid i’r digwyddiad i nodi ymosodiad Putin ar Wcráin ar 27 Chwefror, i gyfarfod â gwesteion, gwesteiwyr a phartneriaid o lywodraeth leol a’r trydydd sector ledled Cymru. Mae Llywodraeth y DU hefyd newydd gyhoeddi munud o dawelwch am 11 o’r gloch ar 24 Chwefror, a byddwn yn nodi hynny. Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwneud safiad cryf gyda'n gilydd y prynhawn yma i anrhydeddu a chefnogi pobl ddewr Wcráin. Sláva Ukrayíni, heróiam sláva.

17:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, ac yn enwedig Mick, yn amlwg, sydd â chysylltiadau personol mor gryf ag Wcráin? Hoffwn ddweud nad ydym byth am weld yr 'U' honno eto. Mae gennych wlad o'r enw Wcráin. Ni ddylai fod yn rhaid i chi byth gael dogfen a fyddai'n dweud 'anhysbys' neu 'heb gartref sefydlog'. Mae gennych wlad a chanddi ffiniau a gydnabyddir yn rhyngwladol, a dyna pam fod y Deyrnas Unedig wedi cydsefyll â phobl Wcráin, a dyna pam y daeth Arlywydd Wcráin yma yr wythnos diwethaf, wrth ymweld â gweddill Ewrop, i ddangos cryfder y gefnogaeth a'r gwerthfawrogiad o bobl Wcráin yn eu hawr gyfyng. Wrth inni agosáu at flwyddyn ers dechrau'r ymosodiad, wythnos i ddydd Gwener, roedd llawer ohonom yn meddwl na fyddem byth yn ei weld yn para mor hir, ac yn y pen draw, y byddai rhyw synnwyr cyffredin yn tawelu Putin ac y byddai’n parchu'r ffiniau rhyngwladol hynny, ac yn y pen draw, y gallai Wcráin barhau i fod yn genedl-wladwriaeth—yn genedl-wladwriaeth falch.

Ond mae’r sylwadau a wnaeth Alun Davies ynglŷn â 'chreulondeb’, ‘haelioni’, a hefyd, byddwn yn ychwanegu 'undod’, yn nodweddiadol o’r hyn y dylai’r ddadl hon ymwneud ag ef. Tynnodd Mark Isherwood sylw yn ei sylwadau agoriadol at y sylwadau ynghylch y creulondeb, y marwolaethau, y dinistr i eiddo. Clywsom am blant yn gorfod mynd o wlad Wcráin i wersylloedd—gwersylloedd. Rydym yn sôn am Ewrop. I lawer o bobl yn yr oes fodern, pan soniwn am Wcráin, maent yn meddwl am luniau o bencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd yn cael eu chwarae yno, a mynd yno ar wyliau. A hefyd, o safbwynt amaethyddol, mae gennyf ddealltwriaeth dda o’r potensial amaethyddol sylweddol sydd gan Wcráin, fel y crybwyllodd Tom Giffard am y cyflenwad bwyd sy'n cael ei ddarparu. Cyfeiriodd Sam Rowlands at y cymorth cymunedol sy'n amlwg wedi’i gynnig ledled y wlad hon, a hefyd yng ngweddill y DU a gweddill y byd hefyd, sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr pan feddyliwch am symudiad torfol pobl—mae 7 miliwn, 8 miliwn, 10 miliwn a mwy o bobl yn symud ac yn cael eu dadleoli oherwydd y gwrthdaro hwn. Gadewch inni beidio ag anghofio, nid ydym wedi gweld unrhyw beth o'r fath ers yr ail ryfel byd. Byddai rhai ohonom sydd â chof digon hir yn cofio creulondeb argyfwng y Balcanau a’r hyn a ddigwyddodd yno, ac roedd hynny'n enghraifft ofnadwy a damniol o fethiant diplomyddiaeth, ond mae hyn ar raddfa hollol wahanol.

Ac mae wedi'i ddweud yn y Siambr hon nad yw pob Rwsiad yn euog. Maent yn wladwriaeth sydd wedi'i chaethiwo gan Putin a'i ffrindiau. Nid oes a wnelo hyn â bod yn erbyn pobl Rwsia. Mae hyn yn ymwneud â'r gyfundrefn y mae Putin yn ei harwain a'r unbennaeth y mae'n ei gweithredu o fewn ffiniau Rwsia. A soniodd Heledd Fychan am yr enghraifft ddigalon honno yn Llanilltud Fawr a'r dudalen Facebook. Mae'n rhaid inni bob amser gael gwared ar y lefel honno o gasineb a’r lefel honno o wenwyn sy’n bodoli ym meddyliau ychydig iawn o bobl, a threchu hynny gyda’r ysbryd hael rydym wedi’i ddangos fel gwleidyddion, ond hefyd fel gwlad gyfan. Ond hefyd, ymateb y Gweinidog. Rwy'n talu teyrnged i’r hyn y mae’r Gweinidog wedi’i wneud yn ei rôl ym maes cyfiawnder cymdeithasol, ond gan dynnu sylw hefyd—y pwynt a wnaeth Janet Finch-Saunders—at yr angen am dai, y gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol ohono, ond oherwydd bod y rhyfel hwn yn parhau, yn anffodus, a bydd pobl wedi'u dadleoli am amser hirach nag yr hoffai unrhyw un ohonom ei weld, bydd hynny gyda ni am flynyddoedd lawer i ddod, os nad degawdau i ddod. A phan fydd pobl yn meddwl am addysg ac ymgartrefu mewn cymunedau, mae angen iddynt allu galw lle'n gartref, gan y bydd hynny'n hollbwysig er mwyn dod â chydbwysedd yn ôl i fywydau pobl.

Felly, mae fy mhwyntiau heddiw yn ymwneud â'r creulondeb—rydym wedi clywed am hynny yn y ddadl hon; yr haelioni—rydym wedi clywed am hynny yn y ddadl hon heddiw, haelioni pobl Cymru a Phrydain; ac yn anad dim, yr undod o ran sut rydym oll yn cydsefyll gyda phobl Wcráin wrth inni nesáu at 12 mis ers dechrau'r ymosodiad. Mae pob un ohonom am i’r rhyfel ddod i ben, ond drwy gydsefyll gyda phobl Wcráin a dweud mai ein hymrwymiad cadarn yw ein bod am weld ffiniau rhyngwladol Wcráin yn cael eu parchu, fe wnawn lwyddo, fe wnawn ennill, ac yn y pen draw, bydd gan bobl Wcráin le i'w alw'n gartref: cenedl-wladwriaeth Wcráin. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

17:10

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Eitem 7 y prynhawn yma yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg. Galwaf ar Altaf Hussain i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8205 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi ymchwil gan Cŵn Tywys Cymru sy'n awgrymu y byddai 2,000 o blant â nam ar eu golwg yn elwa o hyfforddiant sefydlu.

2. Yn nodi ymhellach bod hyfforddiant sefydlu yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau byw'n annibynnol, symudedd personol a llywio ar gyfer plant â nam ar eu golwg.

3. Yn siomedig nad yw nifer o awdurdodau lleol Cymru yn cynnig hyfforddiant sefydlu, er gwaethaf eu dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu cynllun gweithlu ar frys ar wasanaethau sefydlu; a

b) sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflogi o leiaf un arbenigwr sefydlu i bob 100 o blant â nam ar eu golwg.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cael cynnig y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Yn anffodus, nid yw gwneud plentyndod yn gyfartal yn rhywbeth rydym wedi rhagori arno. Mae Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn nodi bod

'rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti roi mesurau effeithiol a phriodol ar waith, gan gynnwys drwy gymorth gan gymheiriaid, i alluogi pobl ag anableddau i gael a chynnal annibyniaeth lawn, gallu corfforol, meddyliol, cymdeithasol a galwedigaethol llawn, a chynhwysiant a chyfranogiad llawn ym mhob agwedd ar fywyd. I'r perwyl hwnnw, mae'n rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti drefnu, cryfhau ac ymestyn gwasanaethau a rhaglenni sefydlu ac adsefydlu cynhwysfawr, yn enwedig ym meysydd iechyd, cyflogaeth, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, yn y fath fodd fel bod y gwasanaethau a'r rhaglenni hyn:

'a) Yn dechrau ar y cam cynharaf posibl, ac yn seiliedig ar asesiad amlddisgyblaethol o anghenion a chryfderau unigol;

'b) Yn cefnogi cyfranogiad a chynhwysiant yn y gymuned a phob agwedd ar gymdeithas, yn wirfoddol, ac ar gael i bobl ag anableddau mor agos â phosibl at eu cymunedau eu hunain, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig.

'2. Mae'n rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti hybu datblygiad hyfforddiant cychwynnol a pharhaus ar gyfer gweithwyr proffesiynol a staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau sefydlu ac adsefydlu.

'3. Mae'n rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti hybu argaeledd dyfeisiau a thechnolegau cynorthwyol, a'r wybodaeth a'r defnydd ohonynt, a gynlluniwyd ar gyfer pobl ag anableddau, fel y maent yn ymwneud â sefydlu ac adsefydlu'.

Er gwaethaf y ddyletswydd amlwg hon i ddarparu cymorth sefydlu, nid yw rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig unrhyw gymorth o gwbl. Yn ôl Cŵn Tywys Cymru, mae'r ddarpariaeth o hyfforddiant sefydlu yn wael iawn mewn rhannau helaeth o Gymru. Credant fod yna oddeutu 2,000 o blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg a fyddai’n elwa o hyfforddiant o’r fath.

Ond am beth y soniwn yma? Beth yw hyfforddiant sefydlu? Yn y bôn, mae’n ffordd o ddysgu'r sgiliau y mae pob un ohonom yn eu datblygu’n gynnar i blant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg. Mae plentyn neu unigolyn ifanc sy’n gallu gweld fel arfer yn datblygu ystod o sgiliau annibyniaeth wrth iddynt dyfu i fyny gyda’u teulu. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys gallu symud o gwmpas heb frifo'u hunain a gallu cyrraedd lle maent yn dymuno bod yn ddiogel. Mae sgiliau annibyniaeth yn cynnwys sgiliau ymarferol a chymdeithasol fel ymolchi, gwisgo, bwyta, yfed, siopa, coginio a gwneud ffrindiau. Mae plant a phobl ifanc sy'n gallu gweld yn dysgu'r sgiliau hyn o fewn eu teuluoedd, yn bennaf drwy wylio aelodau eraill o'r teulu. Ni all plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg wylio a dysgu yn yr un ffordd â phlentyn sy'n gallu gweld. O ganlyniad, efallai na fydd llawer o sgiliau sylfaenol allweddol yn cael eu dysgu heb gymorth a chefnogaeth ychwanegol. Mae hyfforddiant sefydlu'n darparu ffyrdd amgen o ddysgu, gan ddefnyddio synhwyrau eraill y plentyn neu'r unigolyn ifanc, sef eu synhwyrau cyffwrdd, clywed, blasu, arogli a chydbwysedd. Mae'r dull hwn yn datblygu sgiliau symud cynnar plentyn ac yn ddefnyddiol i blant ag ystod o olwg, neu blant heb olwg o gwbl. Mae sefydlu yn y blynyddoedd cynnar hefyd yn helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth plant o'u cyrff eu hunain, yn ogystal ag ymwybyddiaeth y plentyn o'r gofod o'u cwmpas pan fyddant yn llonydd neu'n symud a'r defnydd o'u synhwyrau. Mae arbenigwyr sefydlu'n gweithio'n agos gyda rhieni, staff ysgol a gweithwyr proffesiynol eraill, yn ogystal ag ar sail un i un gyda'r plentyn. Maent yn gymwys i addysgu strategaethau a sgiliau ymarferol i sicrhau cymaint â phosibl o annibyniaeth, ac maent yn gweithio mewn lleoliadau prif ffrwd ac arbenigol, yn ogystal ag yn y cartref ac allan yn y gymuned. Mae hyfforddiant sefydlu'n darparu cymaint â phosibl o annibyniaeth bersonol i blentyn neu unigolyn ifanc a chanddynt anghenion gweledol, yn ogystal â helpu i'w paratoi ar gyfer camu ymlaen fel oedolyn ifanc annibynnol i goleg, prifysgol, prentisiaethau neu waith.

Fis Hydref diwethaf, cefais y pleser o gyfarfod ag Amy, menyw ifanc sydd wedi elwa o gymorth sefydlu gan Cŵn Tywys Cymru. Dywedodd Amy wrthyf fod y cymorth a gafodd wedi rhoi hyder iddi fynd i’r brifysgol, a'i bod hyd yn oed yn cynllunio taith i America, breuddwyd gydol oes na fyddai wedi bod yn bosibl heb gymorth sefydlu. Mae sefydlu'n galluogi’r bobl ifanc hyn i wneud y pethau y mae pob un ohonom yn eu cymryd yn ganiataol, pethau y mae pob un ohonom yn eu gwneud heb feddwl ddwywaith, pethau y dylai pawb allu eu gwneud, boed yn fynd allan i chwarae gyda ffrindiau neu fynd i deithio yn eich arddegau hwyr.

Heb gymorth sefydlu i blant a phobl ifanc Cymru, sut y gallwn gael unrhyw obaith o greu Cymru gyfartal? Os nad oes gennym gyfle cyfartal, nid oes gennym gydraddoldeb. Yn anffodus i blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg yng Nghymru, mae ble rydych yn byw yn cael effaith enfawr ar eich cyfleoedd. Mae loteri cod post ar gyfer gwasanaethau sefydlu. Mae’r ddarpariaeth yn brin ar draws gogledd Cymru, lle mae un arbenigwr yn gwasanaethu ardal fawr iawn. Yng Ngheredigion, Conwy, Merthyr Tudful a sir Benfro, nid oes gwasanaeth o gwbl. Dim ond 11.4 o arbenigwyr sefydlu cyfwerth ag amser llawn sydd ar gael ledled Cymru, sy’n llawer is na’r hyn sydd ei angen i ddarparu o leiaf un arbenigwr fesul 100 o blant â nam ar eu golwg. Fel y mae ein cynnig yn galw amdano, mae angen inni roi cynllun gweithlu ar waith ar fyrder, ymrwymiad strategol i sicrhau ateb hirdymor. Wrth inni betruso ac oedi, mae plant dall a rhannol ddall yn colli cymorth arbenigol hanfodol i'w galluogi i gyflawni eu potensial llawn. Gall gweinidogion ddod o hyd i ychydig filiynau o bunnoedd i lawr cefn soffa Trysorlys Cymru i achub maes awyr sy’n methu, ac eto, nid ydynt yn gwneud unrhyw beth i gefnogi miloedd o bobl ifanc â nam ar eu golwg yng Nghymru.

Rwyf hefyd yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig gwelliant i'n cynnig i drosglwyddo'r baich i lywodraeth leol. Ers blynyddoedd, mae Gweinidogion Cymru wedi cael gwybod bod darpariaeth sefydlu arbenigol wedi bod yn ddiffygiol, ac eto, ni chymerwyd unrhyw gamau, ni roddwyd unrhyw gynlluniau ar waith. Ni allwn adael cynllunio cenedlaethol i awdurdodau lleol. Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod cynghorau’n cydymffurfio â’u dyletswyddau, yn ogystal â sicrhau bod gan Gymru’r gweithlu sydd ei angen i ddarparu cymorth sefydlu i’n pobl ifanc. Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i sefyll dros bobl ifanc â nam ar eu golwg drwy gefnogi ein cynnig heddiw a gwrthod gwelliant y Llywodraeth.

Gyda’r cynllun cywir ar gyfer y gweithlu ar waith a digon o arbenigwyr sefydlu wedi’u cyflogi i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg, gallwn wneud plentyndod yn gyfartal. Drwy gael gwared ar rwystrau—nad ydym ni, sydd heb nam ar ein golwg yn eu gweld, yn eironig ddigon—gallwn sicrhau bod pob plentyn â nam ar eu golwg yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal ac yn cael ffynnu. Diolch yn fawr.

17:15

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

3. Yn galw ar holl awdurdodau lleol Cymru i gynnig hyfforddiant sefydlu, yn unol â’u dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod â rhanddeiliaid perthnasol i helpu i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer gwasanaethau sefydlu i blant â nam ar eu golwg, gan gynnwys ystyried eu hanghenion o ran hyfforddiant a sut i’w diwallu.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Mae Plaid Cymru yn croesawu’r ddadl hon heddiw, a byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, a hynny oherwydd ei bod yn amlwg fod llawer o’n pobl ifanc a’n plant yng Nghymru sydd â nam ar eu golwg yn cael cam yn yr ystyr nad ydynt yn cael eu cefnogi i fyw mor annibynnol a rhydd ag y mae ganddynt hawl i fyw, fel y nodir yn erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Rydym ni yng Nghymru yn falch ein bod yn arwain y ffordd o ran hawliau plant. Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac mae erthygl 23 yn dweud bod

'gan blentyn ag anabledd hawl i fyw bywyd llawn a gweddus gydag urddas, ac i fod mor annibynnol ag y bo modd, ac i chwarae rhan weithredol yn y gymuned.'

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gamau blaengar i sicrhau hawliau pobl anabl. Nod datganedig eu tasglu hawliau anabledd yw cael gwared ar yr anghydraddoldebau a wynebir gan bobl anabl, ac mae plant a phobl ifanc yn un o feysydd blaenoriaeth y rhaglen waith honno.

Byddech yn meddwl, felly, y byddai canfyddiadau erthygl yn y British Journal of Visual Impairment a ysgrifennwyd gan Guide Dogs UK, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Bangor fod darparu hyfforddiant sefydlu'n allweddol i rymuso a chefnogi plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg i gyflawni eu potensial yn cyd-fynd yn llwyr â gweledigaeth y Llywodraeth. Mae’n siomedig clywed felly gan Cŵn Tywys Cymru y gallai fod 2,000 o blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg a fyddai’n elwa o ddarpariaeth well o hyfforddiant sefydlu nad yw’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Canfu'r ymchwil y mae'r erthygl yn seiliedig arni fod 37 y cant o'r rhieni a holwyd yn dweud nad oedd eu plentyn wedi cael hyfforddiant symudedd o gwbl yn ystod y flwyddyn flaenorol. Yn yr un modd, yn 2019, awgrymodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall fod cymaint â thraean o blant â nam ar eu golwg yn dioddef o ganlyniad i ddiffyg arian yng nghyllidebau cynghorau i dalu am y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt. Roedd hyn yn wir hyd yn oed cyn ystyried yr argyfyngau chwyddiant a chyllidebol sy’n wynebu ein hawdurdodau lleol ar hyn o bryd.

Felly, credwn ei bod yn amlwg fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy o waith ochr yn ochr â’n hawdurdodau lleol i sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn cael ei ddarparu i’r plant a’r bobl ifanc sydd ei angen er mwyn caffael y sgiliau byw’n annibynnol a nodir yn y cynnig, y byddai pob Aelod, rwy’n siŵr, yn eu cefnogi fel rhai hanfodol bwysig, ac fel yr amlinellwyd gan Altaf Hussain.

Hoffwn dynnu sylw’n gryno hefyd at rai pwyntiau eraill a wnaed gan yr RNIB mewn perthynas â’r mater y gallai’r Ceidwadwyr, efallai, bwyso ar gyd-aelodau eu plaid yn San Steffan i gymryd camau yn eu cylch os ydynt o ddifrif yn poeni am fuddiannau pobl ddall a rhannol ddall. Oherwydd, hyd yn oed cyn yr argyfwng costau byw hwn, dywedodd un o bob pump o bobl ddall a rhannol ddall eu bod wedi cael rhywfaint o drafferth neu gryn drafferth cael deupen llinyn ynghyd, sefyllfa sydd ond wedi gwaethygu bellach yng ngoleuni’r pwysau economaidd presennol. Mae pobl sydd â nam ar eu golwg ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn byw ar aelwyd sydd â chyfanswm incwm o £1,500 y mis neu lai, ac o’r gwanwyn hwn ymlaen, byddant yn gwario mwy nag 16 y cant o gyfanswm eu hincwm ar ynni. Mae llawer yn lleihau'r defnydd o oleuadau a thechnolegau cynorthwyol, sy'n hanfodol, wrth gwrs, i'w diogelwch ac yn cefnogi byw'n annibynnol o ddydd i ddydd. Ni fydd rhai pobl ddall a rhannol ddall yn gymwys bellach eleni ar gyfer y gostyngiad Cartrefi Cynnes ychwaith.

Yn eu harolwg costau byw diweddar, canfu’r RNIB fod mwy na thraean o’r ymatebwyr yn dweud eu bod yn aml yn mynd heb brydau bwyd. Dywedodd un, 'Rwy'n mynd heb bryd bwyd heddiw. Rwy'n cael dysgl fach o rawnfwyd, yna'n mynd heb ginio ac yn cael rhywbeth rhad gyda'r nos fel ffa pob ar dost. Dyma'r unig ffordd rwy'n goroesi. Rwyf hefyd yn cael llai o gawodydd nawr, sy'n gwneud imi deimlo'n fudr ac yn anghyfforddus.' Mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn fwy dibynnol ar fudd-daliadau gan mai dim ond un o bob pedwar o bobl o oedran gweithio sydd wedi'u cofrestru'n ddall a rhannol ddall sydd mewn gwaith. Felly, wrth gefnogi eich cynnig heddiw, ac wrth alw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i gefnogi plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg a sicrhau eu bod yn ariannu ac yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu'r cymorth hwnnw sydd ei angen ar gyfer sefydlu a gwasanaethau eraill, mae Plaid Cymru yn gofyn i'r Ceidwadwyr alw hefyd ar eu Llywodraeth yn San Steffan i gefnogi pobl anabl yn briodol drwy’r system fudd-daliadau. Oherwydd, Lywydd, ni ddylai unrhyw un yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain, yn enwedig pobl ag anableddau, orfod mynd heb bryd bwyd neu deimlo na allant fforddio cadw’n lân. Diolch.

17:20

Roeddwn am ddechrau drwy ddweud, er fy mod yn cydnabod bod darparu ar gyfer cymhlethdod yr anableddau sy’n bodoli yng Nghymru yn heriol, fy mod yn dal i synnu, serch hynny, o ystyried yr holl wybodaeth sydd gennym am effaith gadarnhaol helpu pobl ag anableddau i gael annibyniaeth ac i fyw bywydau llewyrchus a boddhaus, a sut y gall hynny arwain at gyfraniadau cadarnhaol i'r gymdeithas ehangach, fod pobl yn dal i orfod brwydro am y cymorth y mae ganddynt hawl llawn iddo, ac yn gorfod gweithio mor galed i wneud i'r rheini mewn grym fod o ddifrif ynghylch eu hanghenion.

Yn wir, rwy'n synnu bod gennym ni, yng Nghymru, loteri cod post o ran gwasanaethau sefydlu. Yn syml, nid yw’n iawn nad yw rhai awdurdodau lleol yn darparu’r cymorth hwn, ac mae’n gwbl annheg i’r rheini a’u teuluoedd sydd wedi gorfod dod o hyd i’r gwasanaethau hyn ar eu pennau eu hunain ar un o’r adegau mwyaf anodd, dirdynnol ac ansicr yn eu bywydau. Nid yw'n iawn ychwaith fod y rheini sy’n ddigon ffodus i fod ag awdurdod lleol sy'n eu cefnogi yn gorfod mynd drwy'r felin i'r fath raddau cyn iddynt gael y gwasanaethau hynny.

Er bod cytundeb ynghylch pryd y mae angen mynediad at sefydlu, mae profiad y rheini sydd angen y gwasanaeth yn dal yn wael iawn. Maent yn gweld nad oes fawr ddim dealltwriaeth o'r hyn y mae sefydlu'n ei olygu, pam fod ei angen, ac am ba hyd y mae angen y cymorth. Mae'r broses o dderbyn hyfforddiant sefydlu wedi bod yn destun cryn bryder, ac yn parhau i fod.

Gwyddom ei bod yn well dechrau sefydlu cyn gynted â phosibl pan geir diagnosis o nam ar y golwg, a’i fod yn arbennig o bwysig i blant yn y blynyddoedd cynnar, gan ei fod yn helpu plant nid yn unig i ddatblygu ymwybyddiaeth o’u cyrff eu hunain a’u cyflwr, ond hefyd ymwybyddiaeth o’r gofod o'u cwmpas, wrth i'w synhwyrau eraill barhau i ddatblygu. Felly, mewn sawl ffordd, mae’n hollbwysig yn nhermau amser i’r gwasanaethau hyn fod ar gael, ac i bobl eu cael cyn gynted â phosibl. Mae gorfod treulio sawl mis neu flynyddoedd hyd yn oed yn aros am gymorth sefydlu nid yn unig yn gwneud pethau'n anos i unigolion, ond mae’n wrthgynhyrchiol, oherwydd yn aml, mae'n golygu bod angen y gwasanaethau hyn am lawer hirach.

Yn rhyfeddol, mae ymchwil yn dangos mai po hynaf yw unigolyn, y lleiaf tebygol ydynt o gael cymorth sefydlu. Felly, nid yw’n dderbyniol, mewn nifer o ardaloedd awdurdodau lleol, nad yw pobl ifanc â nam ar eu golwg yn cael hyfforddiant symudedd ac annibyniaeth ar adeg allweddol yn eu haddysg. Mae'r gwahaniaeth y gall cymorth sefydlu ei wneud yn sylweddol. Gall ddatgloi cymaint o botensial i blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg. Bydd yn eu galluogi i ymgysylltu’n llawn â’u haddysg ac yn eu helpu i baratoi ar gyfer y byd o’u cwmpas, megis symud i goleg neu brifysgol, gwneud cais am brentisiaethau neu waith, a byw fel oedolyn ifanc annibynnol.

Yn ogystal, gwyddom fod buddsoddiad yn arwain at elw cymdeithasol sylweddol, ac am bob £1 a werir ar wasanaethau sefydlu, fod £7.13 yn cael ei greu mewn gwerth cymdeithasol. Er bod rhywfaint o'r gwerth yn ymwneud â rhieni, mae'r rhan fwyaf o'r gwerth yn seiliedig ar y plant a'r bobl ifanc eu hunain. Yn wir, mae gwasanaeth sefydlu'n creu £5.72 am bob £1 a werir, yn sgil canlyniadau defnyddwyr gwasanaethau'n unig.

Yn olaf, hoffwn gloi drwy dynnu sylw at fanteision sefydlu a deimlir gan bobl. Mae’r cynnydd mewn hyder a’r gallu i gyflawni tasgau drostynt eu hunain yn newid bywydau, ac mae hyn yn ei dro yn gwella lles emosiynol ac iechyd meddwl a chorfforol, sy'n rhywbeth y mae ei angen arnynt yn daer. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn annog pawb yma i gefnogi’r cynnig hwn yn llawn. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae angen iddynt helpu i gael gwared ar y straen a'r gofid i'r rhai yr effeithir arnynt drwy leihau biwrocratiaeth a'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu. Ac mae angen iddynt hefyd roi arweiniad mawr ei angen ar hyn, er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu'r gwasanaethau y mae dyletswydd arnynt i'w darparu. Diolch.

17:25

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. A minnau'n dod o gefndir adsefydlu ym maes ffisiotherapi yn y GIG, mae’n braf gweld y gwaith sy’n mynd rhagddo i wella sgiliau symud o gwmpas, byw’n annibynnol a symudedd plant, er mwyn gwella bywydau pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg. Credaf y dylid dathlu hynny.

Rwyf hefyd yn falch o weld cefnogaeth Cŵn Tywys Cymru i'r syniad y tu ôl i'r cynnig hwn, gan fy mod o'r farn fod rôl cŵn tywys yn cefnogi pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg yn rhyfeddol, a bod angen dathlu hynny hefyd. Mae'n eithaf anhygoel, a dweud y gwir, pa mor amryddawn yw cŵn yn eu hyfforddiant i ddod yn gŵn tywys, a'r ffordd y maent yn gallu addasu i'w hamgylchedd, sy'n rhywbeth i'w ddathlu ynddo'i hun, gan ei fod yn cefnogi llawer o'r bobl sydd fwyaf o'u hangen. Mae'r rhan fwyaf o'r cŵn sy'n cael eu hyfforddi i fod yn gŵn tywys yn Labradoriaid ac yn adargwn, a gallant fod y bridiau cŵn mwyaf cariadus, gofalgar—barus, ond teyrngar—y dowch ar eu traws, ac maent yn gwasanaethu pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg mor dda yn eu dyletswyddau.

Rwyf fi a’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu’n gryf fod pawb yng Nghymru yn haeddu byw eu bywydau gyda chymaint o annibyniaeth â phosibl, gan gynnwys pobl ag anableddau megis dallineb a nam ar eu golwg. Fel y soniais, cŵn tywys yw'r ffordd orau yn aml i bobl â nam ar eu golwg fynd allan i fyw eu bywydau bob dydd. Mae hyfforddiant sefydlu'n galluogi pobl ifanc i fod yn bobl ifanc drwy allu dod o hyd i ffrindiau newydd a gwneud pethau normal gyda hwy, fel mynd allan i fwyta, siopa a chwarae, i nodi rhai pethau'n unig. Yn yr un modd, mae hefyd yn galluogi pobl ifanc i barhau â'u hannibyniaeth drwy addysg bellach a chyflogaeth.

Mae'n bwysig nodi hefyd fod y Ceidwadwyr Cymreig yn parchu ac yn edmygu rhieni'r bobl ifanc hyn, sef yr hyfforddwyr sefydlu cyntaf, ac maent yn gwneud gwaith gwych. Fodd bynnag, mae angen i ymarferwyr proffesiynol ddarparu hyfforddiant cymwysedig sy’n cefnogi’r bobl ifanc, a'r rhieni hefyd yn wir, ac mae’r gost o hyd at £600,000 am ddarparu o leiaf 20 o arbenigwyr sefydlu'n bris gwerth ei dalu yn fy marn i, i sicrhau bod y Senedd hon yn credu mewn rhoi annibyniaeth a’r bywyd rhwyddaf posibl i bobl ifanc Cymru. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio y prynhawn yma. Diolch.

17:30

Bûm yn ffodus iawn ers cael fy ethol fy mod wedi gallu gweithio'n eithaf agos gydag Andrea Gordon. Nawr, mae hi'n gweithio i Cŵn Tywys Cymru, a thrwyddi hi, gallais gyfarfod â nifer o unigolion sydd â nam ar eu golwg ac mae wedi gwneud imi ddeall llawer mwy am eu hanghenion a'r hyn sy'n rhaid iddynt ei gael mewn bywyd. Mae rhai o'r pethau nad ydym hyd yn oed yn meddwl amdanynt yn gallu bod yn rhwystrau enfawr i bobl a phlant sydd â nam ar eu golwg, ac mae'n hanfodol ein bod ni fel Aelodau o bob plaid yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud pob agwedd ar ein cymdeithas yn hygyrch i'r rhai sydd â nam ar eu golwg, a rhai sydd ag anableddau hefyd.

I mi, hyfforddiant sefydlu yw'r allwedd i helpu i gefnogi plant a phobl ifanc am weddill eu bywydau. Mae'n mynd yn bell i'w helpu i fyw yn annibynnol, ac mae hefyd yn helpu i'w paratoi, fel y soniodd fy nghyd-Aelodau, ar gyfer coleg, gwaith, prentisiaethau, prifysgol yn y pen draw, a bywyd wedyn hefyd. Byddai hyfforddiant sefydlu'n dysgu sgiliau hanfodol y byddai plant eraill wedi'u dysgu'n draddodiadol drwy allu gweld i'r rhai sydd ag anghenion gweledol. Mae RNIB Cymru yn amcangyfrif bod yna 265 o blant sydd â nam ar eu golwg ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, a byddai pob un ohonynt yn elwa'n fawr o hyfforddiant sefydlu.

Nawr, fel y soniais, mae hyfforddiant sefydlu, sy'n rhan hanfodol o ddatblygiad addysgol plant, yn rhoi sgiliau gwrando, sgiliau cymdeithasol, hyfforddiant toiled, sgiliau gwisgo, adnabod arian, a hyd yn oed sgiliau siopa i bobl ifanc. Gall hefyd ddysgu pobl sut i deithio'n annibynnol, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, asesu risg, a pharatoi eu prydau eu hunain hefyd. Rwy'n siŵr y bydd pawb yma'n cytuno yn y pen draw fod y rhain yn sgiliau hanfodol y dylai pob person a phlentyn eu cael yn yr oes sydd ohoni.

Ni allwch roi pris ar ryddid ac annibyniaeth person. Fel y soniodd fy nghyd-Aelodau Gareth Davies ac Altaf Hussain, byddai cyflogi o leiaf 20 o arbenigwyr i gynnig hyfforddiant i'r oddeutu 2,000 o blant â nam ar eu golwg yng Nghymru yn costio tua £600,000 ar y mwyaf. Pan fyddwch chi'n cymharu hynny â rhai o'r symiau enfawr y mae'r Llywodraeth wedi'u gwario ar brosiectau gwamal—ac nid wyf yn mynd i ailadrodd yr hyn y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i ddweud—fel fferm Gilestone, a Maes Awyr Caerdydd, diferyn bach yn y môr ydyw mewn gwirionedd.

Mae'n hollbwysig fod y Llywodraeth hon yn cyflwyno cynllun ar gyfer y gweithlu ac yn ymgysylltu â chynghorau ledled Cymru i wneud yn siŵr fod ganddynt o leiaf un arbenigwr i bob 100 o blant sydd â nam ar eu golwg. Rydym angen sicrhau cydraddoldeb a thegwch, oherwydd nid oes dim yn fwy torcalonnus i mi ei glywed na bod plentyn yn cael ei amddifadu o wasanaethau hanfodol oherwydd system loteri cod post. Heb os, mae rhai elusennau anhygoel i'w cael, sy'n cefnogi plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg wrth symud ymlaen, ond nawr mae'n bryd i'r Llywodraeth gamu ymlaen a gweithredu. Gallwn i gyd wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau miloedd o blant â nam ar eu golwg ym mhob rhan o Gymru, felly gobeithio'n fawr y bydd pawb ohonoch yn cefnogi ein cynnig yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i'r Blaid Geidwadol am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar gymorth sefydlu i blant sydd â nam ar eu golwg yng Nghymru. Rhaid imi ddweud, rwy'n cytuno â'r teimlad yn y cynnig fod mwy y dylid ei wneud ar gyfer y grŵp hwn o blant. Nodaf ymchwil Cŵn Tywys Cymru sy'n datgan y gallai 2,000 o blant â nam ar eu golwg elwa o gael mynediad at hyfforddiant sefydlu yma yng Nghymru, ac mae llawer ohonoch wedi nodi hynny yn eich cyfraniadau. Mae hwnnw'n bwynt pwysig. Fodd bynnag, mae'n bwysig deall yr angen am wasanaethau sefydlu ac adsefydlu yn eu cyfanrwydd hefyd.

Mae darparu ar gyfer gofal cymdeithasol ac anghenion cysylltiedig eu poblogaethau lleol yn gyfrifoldeb lleol pwysig. O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gydweithio drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol i asesu, cynllunio a diwallu anghenion gofal a chymorth eu poblogaeth, gan gynnwys mewn perthynas â nam ar y synhwyrau.

Drwy weithredu'r Ddeddf, rydym wedi nodi hawliau a chyfrifoldebau clir a diamwys mewn perthynas â gofal cymdeithasol a materion cysylltiedig. Mae hynny'n cynnwys awdurdodau lleol yn ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau pan fyddant yn cyflawni eu swyddogaethau. Mae'r disgwyliadau a nodir yn y fframwaith statudol o dan y Ddeddf hefyd yn cynnwys dyletswyddau awdurdodau lleol i sefydlu a chynnal cofrestr o bobl â nam ar eu golwg, a darparu gwasanaethau sefydlu iddynt. Mae'r dyletswyddau hyn yn berthnasol i bawb—plant yn ogystal ag oedolion. 

Er mwyn helpu i ddeall y sefyllfa mewn perthynas ag oedolion, ariannodd Llywodraeth Cymru Gyngor y Deillion Cymru i gwmpasu ac ystyried y gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd eu hangen yn y sector hwn, ac fe wnaethant ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru i ystyried gwelliannau i wasanaethau. Roedd yr adroddiad terfynol yn pwysleisio'r angen am gynlluniau lleol a chenedlaethol gyda'r nod o ddarparu hyfforddiant i swyddogion adsefydlu newydd yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi swyddogion presennol drwy becynnau hyfforddiant datblygu proffesiynol.

Yn dilyn hyn, ym mis Mai 2022, cyfarfu'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol â Fforwm Golwg Cymru i drafod rhai o'r materion sy'n ymwneud â darparu cymorth adsefydlu a sefydlu ledled Cymru. Ers y cyfarfod hwn, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi parhau i ymgysylltu â chynrychiolwyr Cŵn Tywys Cymru i geisio deall mwy am rai o'r heriau sy'n bodoli o ran mynediad at y math hwn o gymorth i blant a'u teuluoedd yma yng Nghymru, gan glymu'r gwaith hwn wrth y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud mewn perthynas â gwasanaethau oedolion.

O'r gwaith hwn, rydym yn cydnabod, mewn rhai achosion, y gall mynediad at hyfforddiant sefydlu fod yn hanfodol i alluogi plentyn i ddatblygu sgiliau symudedd personol, symud o gwmpas a byw'n annibynnol. Mae swyddogion sefydlu'n gweithio gyda'r plentyn, ond maent hefyd yn gweithio gyda'r teulu estynedig i'w cefnogi a dysgu sgiliau iddynt er mwyn eu galluogi i gynorthwyo'r plentyn yn effeithiol i ddysgu sgiliau bywyd allweddol, drwy wrando a chyffwrdd.

Rydym yn gwybod bod y ddarpariaeth o arbenigwyr sefydlu yn amrywio ledled Cymru, gyda rhai o ardaloedd awdurdodau lleol yn cael gwell mynediad at y gwasanaeth hwn nag eraill. Deallwn hefyd, fel nifer o rai eraill yng Nghymru, fod y gwasanaethau hyn wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan y pandemig. Yn wir, deallaf fod Cŵn Tywys Cymru wedi bod yn rhoi ychydig o gymorth i ardaloedd heb lawer o fynediad, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y maent wedi gallu ei chynnig hyd yma.

Felly, gan ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a thrafodaethau pellach ar lefel swyddogol, roedd llythyr a anfonwyd gan y Dirprwy Weinidog at Fforwm Golwg Cymru fis Tachwedd diwethaf yn nodi y byddai Llywodraeth Cymru yn awyddus i hwyluso ymgysylltiad pellach â chynrychiolwyr y fforwm i nodi ffyrdd o ddatblygu gwelliannau ym maes sefydlu. Credwn ei bod yn bwysig, i adlewyrchu ysbryd y ddadl hon, fod y gwaith hwnnw'n cynnwys ystyriaeth i anghenion hyfforddiant plant a phobl ifanc, a sut orau i ddiwallu'r rhain. Ond nid wyf yn credu ei bod hi'n ddoeth gwahanu cynlluniau'r gweithlu oddi wrth asesiad o angen, na mynd â'r swyddogaeth o ddatblygu'r cynlluniau hyn oddi wrth y rhai sydd â chyfrifoldeb a phrofiad ymarferol ar lawr gwlad o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn fy ngwelliannau i'r cynnig a gyflwynwyd.

Wrth gloi, rwyf wedi siarad yn bennaf am rôl gofal cymdeithasol, sefydlu ac adsefydlu, ond mae gan wasanaethau iechyd rôl bwysig i'w chwarae hefyd. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn cyfeirio pobl sydd â nam ar y synhwyrau at ofal cymdeithasol ar y cyfle cyntaf i'w galluogi i gael mynediad at wasanaethau a chymorth pan fydd eu hangen arnynt. Ond mae hefyd yn hanfodol eu bod yn chwarae rhan mewn triniaeth a gofal ar gyfer colled o'r fath.

Mae gwasanaethau gofal iechyd y golwg a'r clyw GIG Cymru yn cael eu darparu'n wahanol i weddill y DU. Mae gennym bwyslais llawer cryfach ar sicrhau bod mwy o driniaeth a gofal ar gael o fewn y gymuned, ac mae ein gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus. Mae hyn yn rhoi pwyslais newydd ar yr hyn a fyddai'n gweithio orau i gleifion ac yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r holl adnoddau sydd ar gael ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae Cymru'n parhau i fod yn arweinydd ar ddarparu gwasanaethau optometreg ac awdioleg, ac mae gwledydd datganoledig eraill y DU yn dilyn ein hesiampl. Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes yn efelychu'r gwaith rydym wedi arloesi ynddo, ac mae Lloegr nawr yn gofyn am gyngor Llywodraeth Cymru. Maent yn arbennig o awyddus i ddysgu am ddatblygiadau mewn ardaloedd clwstwr sylfaenol.

Dechreuais drwy gydnabod ein bod yn ymwybodol iawn o'r heriau yn y maes hwn, ac rwyf am orffen drwy ei gwneud yn glir y byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, gyda'r nod o hyrwyddo gwasanaethau sefydlu cynhwysfawr i gefnogi plant yng Nghymru. Diolch yn fawr.

17:40

Diolch, Lywydd, ac mae wedi bod yn ddadl bwysig iawn heddiw, ac rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig ein bod wedi clywed cyfraniadau gan bobl ar draws y Siambr, gan Aelodau ym Mhlaid Cymru a chan Aelodau yn fy ngrŵp fy hun, ynglŷn â sut y gallwn godi'r pwnc hynod bwysig hwn yma. Ac mae'n hanfodol bwysig i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Agorwyd y ddadl gan Altaf Hussain, a siaradodd am erthygl 26 ac a'n hatgoffodd o'n rhwymedigaethau i'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Weithiau, rydym yn anghofio'r hyn sydd arnom i'r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas, ac mae'n bwysig ein bod i gyd yn cydnabod y dyletswyddau sydd gennym. A dyna pam ei bod hi'n bwysig iawn, fel dywedodd Altaf, ein bod yn cynnig hyfforddiant sefydlu ledled Cymru, gan fod angen inni wneud yn siŵr fod pawb yn cael cyfle i ddatblygu a sicrhau bod ganddynt gyfleoedd i fyw bywyd annibynnol. Ac fe godwyd hynny gan lawer o bobl yma, ac nid ar gyfer hyn yn unig, ond i bobl anabl ym mhob cwr o Gymru, y dylem wneud cymaint ag y gallwn i wella eu bywydau. Fel y dywedodd Altaf Hussain, mae yna sawl rhan o Gymru lle nad yw'r hyfforddiant hwn yn cael ei ddarparu hyd yn oed, ac mae hynny'n fethiant ar ein rhan i'r plant bregus hynny ledled Cymru. Ac fe siaradodd Altaf hefyd am gynlluniau'r gweithlu ac nad yw'r rheini eu lle, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym y rheini, fel y gallwn nodi anghenion y gwasanaeth a lle mae angen inni roi pobl ar waith i wneud yn siŵr y gallwn gyflwyno'r hyfforddiant hwn ledled Cymru.

Sioned Williams, roeddwn yn ddiolchgar iawn y bydd Plaid Cymru yn cefnogi ein cynnig heno, ac mae'n dda iawn y gallwn weithio yn y ffordd drawsbleidiol hon ar draws y Senedd, fel y gallwn godi'r materion pwysig hyn a thynnu sylw atynt a chydweithio er budd plant ledled Cymru. Rwy'n credu eich bod wedi sôn am y traean o blant sy'n dioddef oherwydd cyllidebau awdurdodau lleol, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol inni dynnu sylw at hynny, oherwydd nid ydym eisiau gweld plant yng Nghymru sydd â nam ar eu golwg yn dioddef; nid yw'n iawn yng nghymdeithas yr unfed ganrif ar hugain. Ac fe wnaethoch chi sôn hefyd am Lywodraeth Geidwadol y DU a phethau y gallent hwy eu gwneud, ac rwyf am gofnodi ein bod ni ar y meinciau hyn wedi gofyn i Lywodraeth y DU godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Mae hynny'n rhywbeth a wnaethom ar ein meinciau, a byddwn yn dwyn ein Llywodraeth ein hunain i gyfrif lle credwn eu bod yn methu. Dyna pam mai'r Blaid Geidwadol Gymreig ydym ni, nid Plaid Geidwadol Lloegr, ac fe wnawn gymaint ag y gallwn i ddwyn ein Llywodraeth i gyfrif lle credwn nad ydynt yn gwneud pethau'n iawn.

Siaradodd Joel James yn angerddol iawn am roi pŵer i bobl wrando ar eu hanghenion, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ein bod yn gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaethau pan fyddwn yn cynllunio'r systemau hyn hefyd, i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnwys yn yr hyn a wnawn. Oherwydd os nad ydym yn cynnwys pobl ifanc yn yr hyn a wnawn, nid wyf yn meddwl y cawn ni byth system sy'n gweithio iddynt. Rydym yn rhy aml yn cynllunio system heb wrando ar y bobl sy'n ei defnyddio, ac nid wyf yn meddwl ei fod byth yn addas i'w bwrpas. Joel, roeddech chi hefyd yn sôn am elfennau economaidd pam mae hyfforddiant sefydlu'n bwysig iawn. Am bob £1 a werir, daw £5.72 yn ôl i'r economi yn y ffordd y maent yn cyfrannu at gymdeithas mewn gwirionedd, ac rwy'n credu nad ydym yn meddwl am hynny ddigon wrth edrych ar ganlyniadau iechyd ledled Cymru. Mae hwn yn fater pwysig iawn yma, ond ledled Cymru yn ogystal. Pe baem yn buddsoddi ychydig mwy o arian ymlaen llaw mewn gwasanaethau fel hyn i helpu pobl anabl, gallem wella'r canlyniadau economaidd ledled Cymru a galluogi'r bobl hynny i fyw'r bywydau llawn y dylent fod â hawl i'w byw.

Gareth Davies, fe sonioch chi am Labradoriaid. Nid yw'n frîd ci rwy'n arbennig o hoff ohono; rwy'n hoff iawn o darfgwn, ond rwy'n cydnabod y gwaith pwysig mae'r cŵn hynny'n ei wneud i helpu pobl â nam ar eu golwg. Ac rwyf am gofnodi fy niolch i'r bobl sy'n magu cŵn tywys ac yn dod â hwy drwy'r system ac yn eu hyfforddi. Rwy'n meddwl bod y bobl hynny'n cael eu hanghofio weithiau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod yr holl bobl sy'n gwneud hynny, sy'n helpu'r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wedi cynnal digwyddiad yn y Senedd heb fod mor bell yn ôl ar hyn. Unwaith eto, rwy'n credu ei bod yn bwysig cael y consensws trawsbleidiol hwnnw dros hyn.  

17:45

Fe wnaethoch sôn am rôl cŵn tywys yno, ac mewn gwirionedd, aeth fy meddwl â mi'n ôl i'r digwyddiad y sonioch chi amdano a gynhaliwyd gan Mark Isherwood yn y Senedd ychydig wythnosau yn ôl. Cefais fy nharo gan y ffaith na allwch roi pris ar annibyniaeth. Mae annibyniaeth yn un o'r geiriau rydym yn ei daflu o gwmpas weithiau yn y dadleuon hyn ac rydym yn anghofio beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd, yr annibyniaeth i allu mynd ar drywydd ein breuddwydion, ein diddordebau a'r pethau rydym am eu gwneud. Felly, mae'r gwaith sy'n digwydd ar hyfforddi'r cŵn tywys hyn yn bwysig iawn, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno.

Mae hynny'n wir iawn. Mewn gwirionedd, roedd gan un unigolyn yn y digwyddiad hwnnw y siaradodd fy nghyd-Aelod Sam Kurtz ag ef—rwy'n siŵr fod Aelodau eraill wedi gwneud—nam ar eu golwg. Rhoddais amser i siarad â hwy fy hun, ac fe ddywedodd mewn gwirionedd eu bod wedi cael hyfforddiant sefydlu, ac yn ei ystyried yn ddefnyddiol iawn, ond roedd y ci a oedd gyda hwy'n achubiaeth iddynt hefyd. Felly, rydych chi'n hollol iawn.

Cododd Natasha Asghar y pwynt hwn hefyd, na allwch roi pris ar annibyniaeth rhywun. Mae'n debyg fod y rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr hon yn cymryd yn ein hannibyniaeth yn ganiataol, ac rwy'n meddwl weithiau nad ydym yn sylweddoli bod yna rai pobl sy'n dioddef gartref ac sy'n byw bywydau ynysig iawn oherwydd nad oes ganddynt fynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i'w helpu i fyw'r bywyd annibynnol hwnnw. Fel y dywedodd Natasha Asghar, nid wyf yn credu y gallwn roi pris ar annibyniaeth yr unigolyn hwnnw, oherwydd rwy'n credu bod llawer o bobl yn ei gymryd yn ganiataol. Mae'n bwysig iawn fod materion fel hynny'n cael eu codi yn y Siambr er mwyn i bawb ohonom ddeall a chydnabod y bobl hynny.

Yna fe wnaethom symud ymlaen at y Gweinidog. Roeddwn yn cytuno â rhai o'r pethau a ddywedodd y Gweinidog. Fe gewch eich synnu'n fawr o glywed hynny, rwy'n siŵr, Weinidog. Ond rwy'n siomedig fod y Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant i'r cynnig hwn. Nid wyf yn credu bod ein cynnig yn or-wleidyddol. Fe wnaethom gyflwyno'r cynnig—ac fe wnaeth Cŵn Tywys Cymru ein helpu ni'n anffurfiol gyda'r cynnig hwn—oherwydd mai dyma mae sefydliadau'n dweud wrthym eu bod am ei weld. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, pan fydd sefydliadau'n dod atom, mai ni yw'r Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd yma ac rydym yn cynrychioli'r sefydliadau hynny yn y Siambr hon i gael y materion hynny wedi'u codi. Pan wnaeth y Llywodraeth ei ddiwygio a rhoi'r baich ar awdurdodau lleol yn y bôn, sydd, yn fy marn i, wedi methu weithiau yn eu dyletswyddau yma—fel y dywedodd Altaf o'r blaen, ceir rhannau enfawr o Gymru lle nad oes gwasanaeth o gwbl—rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i gamu ymlaen i wneud yn siŵr fod gennym y gwasanaeth hwnnw'n iawn ledled Cymru a'r gweithlu ar waith ledled Cymru fel nad yw pobl sydd â nam ar eu golwg a'r plant ifanc sydd angen hyfforddiant sefydlu yn cael eu gadael gartref ac nad ydynt yn cael eu hanghofio, oherwydd mae'n bwysig iawn i'w datblygiad yn y dyfodol, eu haddysg a'u bywyd yn y dyfodol eu bod yn cael cyfle i fyw'r bywyd llawn hwnnw y mae pawb ohonom yma yn y Siambr yn ei fyw.

Rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom gytuno nad yw'n ddigon da fod angen cymorth ar 2,000 o blant yng Nghymru sydd â nam ar eu golwg. Mae'r cymorth y maent yn ei gael yn wael, ac rwy'n credu ei bod yn hen bryd inni wneud ein gwaith yn y Senedd hon a sicrhau ein bod yn cynrychioli barn pobl anabl ledled Cymru, ac yn enwedig y plant agored i niwed sydd ag angen dybryd am y cymorth hanfodol hwn. Diolch, Lywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, mi symudaf i'r cyfnod pleidleisio. Mae mwy na thri Aelod yn dymuno i fi wneud, felly gwnawn ni gymryd seibiant i ganu'r gloch. 

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr. 

17:50
8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae gyda ni bleidleisiau ar eitem 5 ac eitem 7. Eitem 5 sydd gyntaf. Mae'r bleidlais yma ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar y lwfans cynhaliaeth addysg. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Luke Fletcher. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Lwfans Cynhaliaeth Addysg: O blaid: 37, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly, yn unol â'r Rheolau Sefydlog, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly mae'r cynnig heb ei dderbyn, gyda 25 o bleidleisiau o blaid a 26 yn erbyn.

17:55

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant sydd â nam ar eu golwg. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf fydd ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yna hefyd yn gyfartal, ac felly, yn unol â Rheolau Sefydlog, dwi'n bwrw fy mhleidlais yn erbyn gwelliant 1, sy'n golygu bod gwelliant 1 wedi ei wrthod. Dyw'r cynnig heb ei ddiwygio a heb ei dderbyn, ac felly does yna ddim canlyniad i'r bleidlais yna. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant sydd â nam ar eu golwg. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

9. Dadl Fer: Strwythur gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru: Ydyn ni wedi'i gael yn iawn?

Rŷn ni'n mynd ymlaen i'r ddadl fer.

Mae gennym ddwy ddadl fer y prynhawn yma. Gan Mike Hedges fydd y gyntaf, ac fe fydd yr ail gan Siân Gwenllian. Os gall Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel.

Os all pawb adael yn dawel, fe wna i alw ar Mike Hedges i gyflwyno ei ddadl fer.

Diolch. Mae hi bob amser yn ddiddorol pan fydd gennych chi'r ddadl fer ar y dydd Mercher cyn hanner tymor neu ar ddiwedd y tymor. Mae Alun Davies wedi cael munud yn y ddadl hon.

Strwythur gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru: a ydym wedi'i gael yn iawn? Yr ateb yw 'ydym' mewn rhai achosion a 'nac ydym' mewn achosion eraill. Lle rydym wedi'i gael yn anghywir, a yw'n ddigon gwael i fod angen ailstrwythuro? Mae'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys cannoedd o sefydliadau. Ceir rhai bach, lleol, tra bod eraill yn fawr a rhai'n darparu ar gyfer Cymru gyfan. Y farn sydd gan nifer, os nad y rhan fwyaf, o Aelodau'r Senedd, ac o leiaf yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, yw bod sefydliadau mwy o faint yn well, ac nid oes unrhyw fethiannau ar ran y sefydliadau mawr yng Nghymru wedi eu hargyhoeddi fel arall. Mewn gwirionedd, er bod methiannau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi'u dogfennu'n dda, mae cyn-lefarydd iechyd Plaid Cymru wedi dweud wrthyf y dylem gael un bwrdd iechyd i Gymru. Mae Aelod Ceidwadol wedi dweud wrthyf y dylid cael dau, gydag un ar gyfer y gogledd ac un ar gyfer y de. Mae'r dadleuon yn ddeniadol ar yr wyneb. Rydych yn lleihau nifer y prif weithredwyr, tîm y weithrediaeth ac aelodau'r bwrdd, gan ryddhau arbedion.

Dros nifer o flynyddoedd gwelwyd gwasanaethau'n cael eu had-drefnu gan greu sefydliadau mwy a mwy o faint ledled Cymru. Rydym wedi mynd o lawer i un, mewn rhai achosion, a saith mewn rhai achosion. Ond mae nifer wedi mynd i lawr i ddim ond un. Sefydlwyd gwasanaeth ambiwlans Cymru yn 1998 drwy uno'r pedair ymddiriedolaeth ambiwlans ar y pryd a'r gwasanaeth ambiwlans a gâi ei ddarparu gan Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro a Derwen. Cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei greu yr un pryd â'r byrddau iechyd lleol drwy uno'r gwasanaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol, Canolfan Iechyd Cymru, Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru, Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid Cymru, a Gwasanaethau Sgrinio Cymru. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu systemau a gwasanaethau a ddefnyddir yng nghartrefi cleifion, mewn meddygfeydd, mewn ysbytai, ac yn y gymuned. Mae saith bwrdd iechyd lleol bellach yn cynllunio, yn diogelu ac yn darparu gwasanaethau iechyd yn eu hardaloedd yn lle'r 22 bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau GIG a gyflawnai'r swyddogaethau hyn o'r blaen. Mae maint y boblogaeth yn amrywio—Powys ar ychydig dros 130,000 i Betsi Cadwaladr ar ychydig dan 700,000—ond mewn sawl ffordd, mae'r boblogaeth yn llai pwysig na phellter daearyddol.

Cafodd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ei greu gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2013. Ei gylch gwaith yw sicrhau gwerth £1 biliwn o nwyddau a gwasanaethau mewn gwariant cyffredin a rheolaidd. Ffurfiwyd Cyfoeth Naturiol Cymru drwy uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Ers ei greu, cafwyd nifer o fenthyciadau buddsoddi-i-arbed i ariannu diswyddiadau, a cheir adroddiad cyffredinol archwilydd sy'n hynod feirniadol ar werthu coed. Ceir dwy asiantaeth gefnffyrdd yn lle'r wyth asiantaeth flaenorol a gâi eu rhedeg gan gynghorau sir. Adolygodd Llywodraeth Cymru y ffordd y câi cefnffyrdd a thraffyrdd eu rheoli, a phenderfynodd leihau'r nifer o wyth i dri ac yna i lawr i ddau. Tri pharc cenedlaethol: yn dilyn Deddf yr Amgylchedd 1995, mae pob parc cenedlaethol wedi cael ei reoli gan ei awdurdod parc cenedlaethol ei hun ers 1997. Ond mae rhai pobl yn dadlau mai un corff parciau cenedlaethol rydym ei eisiau yng Nghymru. Y syniad yw bod un yn well nag unrhyw rif arall, er gwaethaf popeth a welwch. Yn weddol ddiweddar cawsom yr alwad i'w huno. Mae gennym dri gwasanaeth tân ac achub, a ffurfiwyd yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol, yn lle'r wyth gwasanaeth tân ac achub blaenorol a oedd gan y cynghorau sir. Yna mae gennym bedwar consortiwm addysg rhanbarthol. Crëwyd 22 o gynghorau sir neu fwrdeistrefi sirol ym 1995 drwy uno cynghorau sir a dosbarth. Ers sawl blwyddyn, bu galwadau gan rai gwleidyddion am uno llywodraeth leol, gan gynnwys un sydd yn yr ystafell heddiw. Dros 700 o gynghorau tref a chymuned. Mae'r gwasanaeth gyrfaoedd wedi cael ei dynnu allan o reolaeth leol ac mae bellach yn cael ei redeg yn ganolog.

18:00

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

A yw uno bob amser yn iawn? O'r uchod, gellir gweld bod y cyfeiriad teithio tuag at lai o sefydliadau mwy o faint. Mae'r rhai sy'n edrych arno ond yn cyfrifo'r arbedion. Fodd bynnag, mae uno'n ddrud; mae gennych gostau diswyddo, costau ailfathodynnu, ac yn fwyaf drud byth, creu un system TGCh o systemau'r sefydliadau rhagflaenol. Bydd unrhyw un a aeth drwy ad-drefnu llywodraeth leol yn 1995 yn gallu dweud wrthych am y costau enfawr a gafwyd, ac roedd y rhan fwyaf o'r newidiadau drwy hollti yn hytrach nag uno. Mae'n eithriadol o ddrud.

Systemau TGCh—gallwn siarad am oriau ar hyn. Bydd rhai o dan gytundeb; bydd angen diweddaru neu gau eraill a'u huno mewn systemau newydd. Edrychwch ar CNC, lle defnyddiwyd buddsoddi-i-arbed i achub gwasanaethau TGCh y sefydliad ar sawl achlysur. Mae'r rhain i gyd yn gostau cychwynnol, ac er bod cost ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 tua 5 y cant o wariant blynyddol pob cyngor, roedd hynny heb yr amrywiadau yn y telerau ac amodau rhwng awdurdodau lleol sy'n bodoli heddiw. Byddai'n hynod o anodd uno awdurdodau lleol heddiw oherwydd mae gennym sefyllfa, onid oes, lle rydym wedi mynd drwy werthuso swyddi. Felly, os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot neu'n weithiwr cymdeithasol yn Abertawe, ni chewch yr un tâl, er yr hoffai llawer ohonom pe bai yr un fath. Aethant drwy eu gwerthusiadau swyddi gwahanol eu hunain. Mewn gwirionedd, mae'n well bod yn weithiwr cymdeithasol yn Abertawe a gweithio mewn llyfrgell yng Nghastell-nedd Port Talbot, o ran yr hyn a gawsant drwy werthuso swyddi.

Casgliadau gor-syml rhai pobl yw bod yr holl ddyblygu swyddi uwch yn cael ei ddileu yn sgil uno, ac yna mae gennych chi'r holl arbedion gwych. Mae hyn yn anwybyddu materion fel y ffaith bod uwch-reolwyr yn cyflawni tasgau ac os yw'r nifer yn cael ei leihau, mae'n rhaid ailbennu'r tasgau ac mae'n rhaid gwneud yr un nifer o benderfyniadau. Mae theori economaidd yn datgan bod sefydliad yn mynd yn llai effeithlon os yw'n mynd yn rhy fawr. Mae sefydliadau mwy o faint yn aml yn dioddef yn sgil cyfathrebu gwael am eu bod yn ei chael hi'n anodd cynnal llif effeithiol o wybodaeth rhwng adrannau, is-adrannau, neu rhwng y brif swyddfa a rhannau anghysbell. Roeddwn yn gobeithio y byddai rhywun o ardal Betsi Cadwaladr wedi dod i mewn i esbonio sut yn union y gwyddant fod hynny'n wir. Mae problemau cydlynu hefyd yn effeithio ar sefydliadau mawr sydd â llawer o adrannau ac is-adrannau, gan eu bod yn ei chael hi'n llawer anos cydlynu gweithrediadau. 'X-aneffeithlonrwydd' yw'r effeithlonrwydd rheoli sy'n cael ei golli pan fydd sefydliadau'n dod yn fawr ac yn gweithredu mewn marchnadoedd anghystadleuol. Mae colledion effeithlonrwydd o'r fath yn cynnwys gordalu am adnoddau, talu cyflogau uwch nag sydd angen i reolwyr—rwy'n credu bod pobl wedi canfod hynny ar sawl achlysur hefyd—a gormod o wastraffu adnoddau.

Mae hyn yn arwain at dri chwestiwn ynghylch gwasanaethau cyhoeddus fel y maent wedi'u cyflunio ar hyn o bryd. A yw'r sefydliadau mwy fel Betsi Cadwaladr yn perfformio'n well na'r rhai llai? A yw creu sefydliadau ar gyfer Cymru gyfan fel gwasanaeth ambiwlans Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cynhyrchu gwasanaeth gwell? A yw'r gostyngiad yn nifer y sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaeth fel yr asiantaeth cefnffyrdd, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gwella'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu? Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod angen yr un ôl troed rhanbarthol arnom ar gyfer yr holl wasanaethau cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu.

I roi enghraifft o'r anghysonderau cyfredol, mae gan y rhai ohonom sy'n byw yn Abertawe ôl troed rhanbarthol gwahanol ar gyfer bron bob gwasanaeth. Ar gyfer iechyd, Abertawe Castell Nedd Port Talbot ydyw; ar gyfer tân ac achub, rydym yn ychwanegu sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a sir Benfro; gwella addysg, yr un peth; ond mae plismona, sydd heb ei ddatganoli ar hyn o bryd, yn cynnwys yr holl hen sir Forgannwg heblaw Caerffili; ac yn olaf, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn darparu ar gyfer Cymru gyfan. Y nod ddylai fod cael yr holl wasanaethau o fewn y pedwar ôl troed: dinas-ranbarth Caerdydd, dinas-ranbarth bae Abertawe, rhanbarth canolbarth Cymru a rhanbarth gogledd Cymru. Roedd hi'n hen bryd hollti Cymru yn bedwar rhanbarth, ac mae wedi rhoi cyfle inni wneud pethau'n iawn. Er y gallai gwasanaethau fod ar ôl troed llai na'r rhanbarthau, ac mewn sawl achos, fe fyddant, ni ddylai unrhyw wasanaeth dorri ar draws y ffiniau rhanbarthol oni bai ei fod yn wasanaeth Cymru-gyfan, rhywbeth a ddylai fod yn brin iawn. Bydd hyn yn caniatáu i waith rhanbarthol ar draws gwasanaethau gael ei wneud yn llawer haws.

Nid oes dim sy'n gynhenid dda am strwythur presennol llywodraeth leol yng Nghymru. Pam y cafodd cynghorau Rhondda, Cwm Cynon a Thaf Elái eu huno ond bod cynghorau dosbarth Blaenau Gwent a Merthyr Tudful wedi troi'n awdurdodau unedol heb unrhyw uno? Ni ddylid ystyried newid oni bai lle ceir gobaith cryf o wella gwasanaethau a/neu leihau cost dros y tymor canolig oherwydd y gost gychwynnol sy'n deillio o newid. Ar ôl treulio sawl blwyddyn yn trafod ad-drefnu llywodraeth leol fel pe bai'n rhyw fath o ateb hollgynhwysol i ddatrys y diffyg cyllid i gynghorau, ciliodd y bygythiad o ad-drefnu, cyn ei adfer eto ac mae bellach wedi cilio eto, ond rwy'n disgwyl y caiff ei adfer eto. Roedd fel pe bai neb wedi clywed am y ddamcaniaeth economaidd sy'n datgan y gallai sefydliad ddod yn llai effeithlon os daw'n rhy fawr neu fod yna wrth-ddarbodion maint. Mae angen dull gwahanol o weithio ar y cyd ar wasanaethau gwahanol, a chaiff rhai eu gwneud yn well ar y cyd, ond mae'r rhan fwyaf yn gweithio orau ar lefel bresennol yr awdurdod lleol. Enghreifftiau o wasanaethau a fyddai'n elwa o fodel cydweithio yn seiliedig ar yr ôl troed rhanbarthol yw trafnidiaeth, datblygu economaidd a chynllunio rhanbarthol. 

Gadewais y peth anoddaf at y diwedd. Byddwn yn croesawu clywed y Gweinidog yn esbonio pa mor dda y mae Betsi Cadwaladr, CNC a gwasanaeth ambiwlans Cymru yn perfformio, oherwydd mae'n ymddangos ei fod yn mynd yn groes i unrhyw beth y deuthum ar ei draws, ar ôl ymwneud ag etholwyr sydd wedi cael problemau gyda hwy. Nid yw cael cadeiryddion, byrddau a phrif weithredwyr newydd wedi datrys y problemau yn Betsi Cadwaladr. Os ydych chi'n parhau i feddwl y gallwch gael cadeirydd a phrif weithredwr ac y bydd popeth yn iawn—. Ni allaf gyfrif faint o gadeiryddion a phrif weithredwyr a fu gan Betsi Cadwaladr, ac mae wedi cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, ac nid wyf yn meddwl bod unrhyw un yn mynd i godi a dweud, 'Maent wedi'i gael yn iawn nawr.'

Os edrychwch ar Betsi Cadwaladr o ran swyddogaethau cymorth, gofal sylfaenol a gofal eilaidd, er y gall y ddau gyntaf weithio ar yr ôl troed presennol, rhaid rhannu gofal eilaidd rhwng y dwyrain a'r gorllewin. O ran hollti gwasanaeth ambiwlans Cymru fel ei fod yn cael ei redeg gan y byrddau iechyd, er y byddwn fel arfer yn dweud nad ad-drefnu yw'r ateb, yn achos y gwasanaeth ambiwlans, a allai ad-drefnu wneud unrhyw beth yn waeth? Nid yw CNC yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Er bod uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn seiliedig ar ryw fath o resymeg, nid oedd unrhyw resymeg o gwbl i ychwanegu'r Comisiwn Coedwigaeth.

Yn olaf, wrth chwilio am fodel gwasanaethau rhabarthol, ni ddylai unrhyw wasanaeth, oni bai ei fod yn wasanaeth cenedlaethol, groesi'r ffin ranbarthol. Dylai tân ac achub ddod yn bedwar nid tri, gyda Phowys a Cheredigion yn hollti oddi wrth ganolbarth a gorllewin Cymru. Crëwyd Cymru bedwar rhanbarth, ac mae angen inni ddefnyddio'r ôl troed hwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Dylem edrych ar gael maint sefydliadau'n iawn, yn hytrach na'u gwneud yn fwy ac yn fwy. Rwyf am orffen gyda hyn: a oes unrhyw un yn meddwl bod y gwasanaeth gyrfaoedd wedi gwella am mai dim ond un gwasanaeth gyrfaoedd a geir ar gyfer Cymru, neu a ydych chi'n meddwl ei fod wedi gwaethygu? Rwyf fi o'r farn ei fod wedi gwaethygu.

18:05

Rwyf fi bob amser yn ddiolchgar i Mike am ei gyfraniadau ar hyn. Y camgymeriad gwaethaf—fe wneuthum lawer o gamgymeriadau, ond y camgymeriad gwaethaf—a wneuthum fel Gweinidog oedd herio Mike ar ariannu llywodraeth leol a chymhlethdodau'r dreth gyngor. Mae'r boen a ddioddefais bryd hynny, bron i ddegawd yn ôl, yn aros gyda mi bob dydd o fy oes, ac os na allaf gysgu am 3 o'r gloch y bore, daw Mike yn ôl i fy mreuddwydion—neu fy hunllefau—a fy atgoffa am fy methiannau. Ac rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Mike. 

Ond gadewch imi ddweud hyn: efallai mai'r gwahaniaeth rhwng eich ffordd chi o feddwl a fy un i yw eich bod chi'n meddwl bod Cymru'n wlad fawr gyda sefydliadau mawr; rwy'n meddwl bod Cymru'n wlad fach, ac rwy'n credu bod gan Gymru broblemau sy'n tarddu o'r ffordd y caiff gwledydd bach eu llywodraethu. Ac mae hynny'n hollol wahanol, ac mae gennyf farn wahanol ar y materion hynny. Un o'r methiannau llywodraethu yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf yw nad ydym erioed wedi cydlynu ein ffordd o lywodraethu yng Nghymru, ac un o'r rhesymau nad ydym erioed wedi gwneud hynny yw bod pob un ohonom yn gwybod ein bod wedi creu gormod o sefydliadau, gormod o strwythurau, gormod o brosesau, gormod o bwyllgorau, gormod o gomisiynau ond nid oes yr un ohonom yn barod i ofyn y cwestiynau anodd ac i wynebu hynny.

Fel Gweinidog, gofynnais i Aelod blaenllaw o Blaid Cymru a fyddent yn cefnogi ad-drefnu llywodraeth leol. Heb oedi i gymryd anadl, dywedodd y person hwnnw, 'Byddwn, yn sicr, yn ddigamsyniol, ond mae angen ichi neilltuo Ynys Môn ac mae angen i chi neilltuo Ceredigion.' Gofynnais yr un cwestiwn i Aelod blaenllaw o'r Blaid Geidwadol, 'A fyddech chi'n cefnogi ad-drefnu llywodraeth leol?' 'Byddwn, yn ddigamsyniol, dim problem o gwbl, ond byddai'n rhaid i chi neilltuo sir Fynwy.' Ni wnaethant sôn am Aberconwy. Ac roedd y Llywodraeth Lafur ar y pryd, gydag un eithriad, yn gyfan gwbl o blaid ad-drefnu llywodraeth leol, ac rwy'n aml yn meddwl am hynny. Fodd bynnag, yr hyn y credaf fod angen inni ei wneud, a dyma lle rwy'n credu bod yna gysylltiad ac rwy'n ceisio estyn allan i ddod o hyd i'r cysylltiad hwn â Mike, yw bod angen inni greu cydlyniaeth wrth lywodraethu Cymru, oherwydd rydym yn treulio ein holl amser yn dadlau am yr hyn sy'n mynd i fyny ac i lawr yr M4, ond nid ydym yn creu cydlyniaeth o fewn y wlad. Ac i rywun fel fi, sydd eisiau dosbarthu mwy o bwerau y tu allan i'r Siambr hon, a thu allan i Gaerdydd, mae hynny'n golygu cael y strwythurau sy'n gallu defnyddio ac sydd â gallu i wneud y defnydd gorau o'r pwerau ychwanegol hynny.

Felly, os ydym o ddifrif ynglŷn â grymuso cymunedau ar hyd a lled Cymru, mae'n rhaid inni gael y strwythurau a'r modd o ariannu'r rheini—strwythurau sy'n gweithio go iawn i'r bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny. Ac nid wyf yn credu ein bod wedi gwneud hynny. Ac rwy'n credu bod pob un ohonom, ble bynnag rydym yn eistedd yn y Siambr—. Rwy'n sylwi bod Jane Dodds yma, felly ni wnaf sôn am embaras fy nadleuon gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar ad-drefnu llywodraeth leol lle'r oedd cytundeb llwyr, ond awydd i'w wneud ar sail wardiau unigol. Felly, byddai gennym 800 o sgyrsiau gwahanol am ba wardiau a fyddai'n perthyn i wahanol awdurdodau. Mae angen inni fod o ddifrif ynglŷn â sut y gwnawn hynny, ac mae hynny'n golygu, gyda'n gilydd, fod angen dadl gydlynol a deallus a phellweledol a llai hunanol.

18:10

Diolch yn fawr, a diolch yn fawr iawn i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl ddiddorol hon heddiw, ac wrth gwrs, i Alun Davies am ei sylwadau sy'n procio'r meddwl hefyd. 

Sut y gweithiwn gyda'n gilydd ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus yw'r hyn sy'n ein gwneud yn wahanol yma yng Nghymru a'r angerdd, y penderfyniad a'r gofal a welwn gan ein gweision cyhoeddus yng Nghymru ar draws llywodraeth leol, iechyd, y gwasanaethau tân ac achub, heddluoedd a'r sefydliadau eraill sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n ein galluogi i ddarparu'r gwasanaethau effeithiol hynny i'n pobl, a'n dull ni o gydweithio sy'n gwneud iddo weithio. Felly, i mi, mewn sawl ffordd, mae ein perthnasoedd a'n ffyrdd o weithio o leiaf gyn bwysiced â'r strwythurau sydd gennym ar waith i'w cynnal.

Rwy'n gwybod bod Mike Hedges wedi dweud o'r blaen, ac rwy'n credu ei fod wedi ei ailadrodd eto heddiw, mai dim ond lle mae gobaith cryf iawn o wella gwasanaeth y dylid ystyried newid. Ac rwy'n credu bod hynny'n ganolog i'w ddadl heddiw. A byddwn yn cytuno'n llwyr â hynny. Felly, fy ffocws yw manteisio ar y gallu i fod yn ystwyth a gweithio fel un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig. Mae 'un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig' yn derm sydd wedi cael ei ddefnyddio yng Nghymru nawr ers sawl blwyddyn, a cheir sawl enghraifft o'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn dod at ei gilydd, ni waeth beth yw'r ffiniau a'r cyfrifoldebau sefydliadol, i sicrhau canlyniadau gwell i ddinasyddion, ac rwy'n credu inni weld hynny yn fwyaf amlwg yn ystod y pandemig COVID-19. 

Mae ethos yr un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig yn rhywbeth rydym yn parhau i adeiladu arno wrth gwrs, ac mae gan Lywodraeth Cymru rôl arweiniol bwysig i'w chwarae, ond rydym yn un o nifer o bartneriaid. Felly, rydym yn gweithio gyda'n cydweithwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru i wreiddio diwylliant sy'n rhoi pobl wrth galon ein hymdrechion cyfunol. Mae ein blaenoriaethau ar hyn o bryd felly yn ymwneud â datblygu perthnasoedd pellach ac arweinyddiaeth ddosbarthedig ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Mae gennym grŵp cryf iawn o arweinwyr ar bob lefel o sefydliadau, ac ni ddaw effeithiolrwydd ac arbedion effeithlonrwydd o ad-drefnu, ond yn hytrach o'r gwaith clyfar cydgysylltiedig hwnnw.

Daeth yr adolygiad o bartneriaethau strategol a gynhaliwyd ar y cyd gan CLlLC, Llywodraeth Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020, i'r casgliad nad oes ateb un-maint-i-bawb i drefniadau partneriaeth. Fe wnaeth yr adroddiad gadarnhau hefyd nad oedd aelodau'r partneriaethau yn awyddus i weld ailstrwythuro o'r brig i lawr, yn bennaf am y gallai niweidio atebion llwyddiannus a oedd eisoes yn digwydd mewn rhai mannau. Roedd argymhellion yr adolygiad yn glir mai lle partneriaethau lleol yw arwain ar gysoni partneriaethau yn eu hardal, gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus a byrddau partneriaethau rhanbarthol yn mabwysiadu rôl arweiniol strategol a Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth hwyluso.

Ceir ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gadw trefniadau partneriaeth rhanbarthol dan arolwg, gyda phartneriaid, i sicrhau eu bod yn effeithlon. Fel rhan o hyn, rwyf fi a'r Aelod dynodedig dros Blaid Cymru, Cefin Campbell, yn cyfarfod ag amrywiaeth o bartneriaethau strategol a byddwn yn ystyried yr hyn a glywsom, cyn rhannu ein casgliadau gyda Chyngor Partneriaeth Cymru. Yr egwyddor sylfaenol yw bod unrhyw newidiadau'n cael eu harwain yn lleol, wedi'u gyrru gan yr hyn sy'n gweithio orau ac yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol a'r perthnasoedd sy'n bodoli'n barod.

Bydd pandemig COVID wedi arwain at rai newidiadau yn y modd y mae partneriaethau'n gweithio, ac mewn rhai achosion, daeth yr angen dybryd i weithio ar draws strwythurau sefydliadol yn gatalydd ar gyfer cydweithio mwy effeithlon, mwy hirdymor. Mae COVID-19 a'i effeithiau ar gymunedau yng Nghymru wedi datgelu rhai gwahaniaethau clir, a bydd angen i wasanaethau cyhoeddus ystyried effaith gymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y pandemig, a fydd, mewn sawl man, i'w theimlo am flynyddoedd i ddod. Bydd gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rôl bwysig i'w chwarae yn ystyried a chydlynu'r ymateb mwy hirdymor hwn, ac rydym yn eu cynorthwyo i fyfyrio ar hyn. Ac yn ehangach, mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol a gwerthfawr yn dod â gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd mewn ardal i nodi a chyflawni yn unol â'r blaenoriaethau a rennir ganddynt. Felly, mae nodau cyffredin, arweinyddiaeth leol a'r perthnasoedd sy'n bodoli'n barod mor bwysig ar gyfer penderfynu a chyflawni yn unol â blaenoriaethau lleol. Mae ansawdd a gwerth y sgyrsiau a'r penderfyniadau sy'n digwydd mewn byrddau gwasanaethau cyhoeddus a thrwy bartneriaethau eraill yn ganlyniad i fuddsoddiad ac ymrwymiad y cynrychiolwyr a'r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli. Pa strwythur bynnag y mae gwasanaethau cyhoeddus wedi'u seilio arno, mae gweithio mewn partneriaeth mewn ffordd integredig a chydweithredol bob amser yn mynd i fod yn hanfodol. Mae sicrhau bod strwythurau partneriaeth yn cyd-fynd yn y ffordd orau ac yn effeithiol yn dasg barhaus i bob gwasanaeth cyhoeddus.

Gwn nad oedd Mike Hedges yn cefnogi cynigion yn y gorffennol ar gyfer ad-drefnu ein hawdurdodau lleol yn helaeth i greu cynghorau mwy o faint, ac mae wedi amlinellu'r rhesymau am hynny y prynhawn yma, ac rwy'n cytuno ag ef: mae ein hawdurdodau lleol angen i ni eu cefnogi i ddarparu eu gwasanaethau a pheidio â thynnu eu sylw oddi ar hynny â chynlluniau ar gyfer ad-drefnu strwythurol. Yn hytrach, mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi rhoi cyfleoedd i ni sicrhau pecyn o ddiwygiadau, gan gynnwys galluogi uno gwirfoddol, os ydynt am wneud hynny. Ond yn lle ceisio ad-drefnu awdurdodau lleol, rydym wedi gweithio gyda hwy i ddatblygu dulliau gwell o weithio gyda'n gilydd i gyflawni swyddogaethau llywodraeth leol ar raddfa ranbarthol lle mae'n gwneud synnwyr i wneud hynny.

Gan weithio'n agos gydag arweinwyr, rydym wedi sefydlu pedwar cyd-bwyllgor corfforedig ledled Cymru. Mae'r rhain yn darparu fframwaith cyson a reolir yn ddemocrataidd, wedi'i seilio ar bedair ardal ddaearyddol y bargeinion dinesig a thwf. Gwn fod Mike Hedges wedi nodi yn ei bapur yn 2018 ar strwythurau gwasanaethau cyhoeddus fod yna enghreifftiau o wasanaethau a fyddai'n elwa o gydweithio yn seiliedig ar yr ôl troed rhanbarthol, ein trafnidiaeth, datblygu economaidd a chynlluniau rhanbarthol—ac unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y mae wedi siarad amdano y prynhawn yma. Felly, drwy ddeddfwriaeth, rydym wedi cysoni'r union swyddogaethau a nododd Mike Hedges o fewn cydbwyllgorau corfforedig i ddarparu cyfle i ranbarthau ystyried a manteisio ar y cyd-ddibyniaethau rhyngddynt. Bydd hyn yn caniatáu i bartneriaid awdurdodau lleol wireddu uchelgeisiau rhanbarthol, datblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus, ac annog twf lleol.

Felly, i gloi y perthnasoedd rhwng pobl ac ar draws sefydliadau sydd, gyda'i gilydd, yn darparu ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig balch, a'r ethos hwn sy'n sail i'r ymddygiadau a'r diwylliant rydym am ei weld. Mae perthnasoedd yn pontio strwythurau, a'n hangerdd cyfunol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus trwyadl a thosturiol o ansawdd uchel sydd bwysicaf ac yn fwyaf pwerus.

18:15
10. Dadl Fer: Gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gogledd: Cyflwyno’r ddadl dros wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a'r darpariaeth ohonynt gan gynnwys ar gyfer teuluoedd Cymraeg eu hiaith

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi am roi amser i Jane Dodds a Rhun ap Iorwerth, ac yn edrych ymlaen at eu cyfraniadau nhw.

Mae mamolaeth a chyfnod geni plentyn yn gyfnod positif iawn i lawer ohonom ni, ond dan rhai amgylchiadau, mae’n gallu bod yn gyfnod dyrys ac anodd iawn, ac yn y ddadl fer heno yma, dwi am ganolbwyntio ar y problemau iechyd meddwl sy’n dod i ran rhai merched—yn benodol, problemau sy’n gysylltiedig efo mamolaeth a geni plentyn. Mae angen sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn cael eu darparu mewn ffordd briodol ar draws Cymru, gan roi anghenion merched, eu babanod a’u teuluoedd yn ganolog i’r drafodaeth. Dydy’r ddarpariaeth ddim yn gyson ar draws Cymru, a dwi’n bryderus bod llawer o ferched o fy etholaeth i ac yn y gogledd yn fwy cyffredinol yn dioddef yn sgil diffyg darpariaeth ac adnoddau.  

Mae dros un ym mhob 10 menyw yn datblygu salwch meddwl yn ystod beichiogrwydd neu o fewn y flwyddyn gyntaf o eni plentyn. Dyma un o’r problemau iechyd mwyaf cyffredin i famau beichiog a, heb y driniaeth briodol, mae’n gallu cael effaith andwyol iawn ar iechyd meddwl y merched a’u babanod, ac yn rhoi straen anferth ar deuluoedd. Gyda’r driniaeth a’r gefnogaeth gywir, mae merched a’u teuluoedd yn gallu gwella ac ymdopi.

A gaf i droi yn gyntaf at wasanaethau amenedigol cymunedol? Mae hi’n ofynnol i ddarparu ymwelydd iechyd a bydwraig benodol ar gyfer pob menyw beichiog i fonitro unrhyw faterion a rhoi cymorth iddi, gan gynnwys atgyfeirio i’r gwasanaethau amenedigol arbenigol priodol, yn ôl yr angen. Dwi ddim wedi cael fy modloni bod yr arallgyfeirio yma yn digwydd mewn ffordd gyson yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae hi’n destun pryder mawr nad oes gan fwrdd iechyd Betsi unrhyw gyllideb ar gyfer gwasanaethau amenedigol ysgafn neu gymedrol, er bod £3 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer hyn yn flynyddol ar draws Cymru. Mae hyn yn fwlch sylweddol, ac yn frawychus yn wir, a dwi yn gofyn i’r Dirprwy Weinidog ymchwilio i hyn ac unioni’r sefyllfa ar unwaith. Mae’r bwlch yma yn golygu bod menywod yn dirywio yn sydyn gan ddatblygu yn achosion difrifol, sydd efo goblygiadau sylweddol iddyn nhw a'u teuluoedd, ond hefyd efo goblygiadau ariannol.

Mae’r sefyllfa yma yn bodoli er gwaethaf yr ymrwymiad bod gwella gofal iechyd meddwl amenedigol yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru ers y tymor seneddol diwethaf yn sgil adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fe wnaed ymrwymiad y byddai gan bob bwrdd iechyd wasanaeth cymunedol hygyrch ac ymrwymiad i wella mynediad ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol. Mae gwendidau yn y ddarpariaeth gymunedol ar draws Cymru, sy'n effeithio yn andwyol ar ormod o ferched a gormod o deuluoedd. Ond, mae’r gwendidau yn amlwg o boenus yn y gogledd, ac mae'n rhaid inni symud yn gyflym i unioni hyn.

Dwi hefyd yn ymwybodol o ddiffyg gofod ar gyfer apwyntiadau cymunedol a bod llawer o’r rhain yn digwydd mewn lleoliadau anaddas. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anodd i fwrdd iechyd Betsi gyrraedd y safonau priodol heb sôn am fod yn ddiflas iawn i staff a’r merched dan sylw.

Dwi’n troi rŵan at y gwasanaethau ar gyfer yr achosion sydd yn codi o broblemau mwy difrifol. Bydd pump o bob 100 o ferched beichiog yn datblygu problem iechyd meddwl difrifol. Bydd rhwng dwy a phedair o bob 1,000 o ferched sy’n cael plentyn angen gofal mewn ysbyty. Uned mamau a babanod ydy’r lle priodol ar gyfer derbyn y gofal hyn, ond mae yna ormod o lawer o famau yn gorfod cael eu trin ar wardiau seiciatryddol cyffredinol. Mae hyn yn golygu eu bod nhw'n cael eu gwahanu oddi wrth eu babanod, a fydd ond yn ychwanegu at y broblem, siŵr iawn.

Rydyn ni'n gwybod bod uned wedi cael ei hagor yn y de, ac mae hynny yn wych o beth. Mae’n bryd cael data am yr uned honno ac hoffwn i ofyn i’r Dirprwy Weinidog gyhoeddi unrhyw adroddiad yn sgil adolygiad o’r uned ers iddi agor ym mis Ebrill 2021. Fe wnaeth y Llywodraeth ymrwymo i gynnal adolygiad yn Ebrill 2022, ond, hyd yma, dydw i ddim wedi gallu cael mynediad at ddata cyhoeddus. Felly, dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar i weld yr adroddiadau a’r data a hefyd y deilliannau a’r gwersi i’w dysgu wrth i ni drafod uned ar gyfer y gogledd.

Roedd adroddiad y pwyllgor plant a phobl Ifanc wedi nodi na fyddai MBU yn y de o angenrheidrwydd yn addas ar gyfer mamau a’u teuluoedd yn y canolbarth a’r gogledd. Nodwyd bod angen trafod opsiynau efo NHS England gyda’r nod o greu canolfan yn y gogledd-ddwyrain, gogledd-ddwyrain Cymru, fyddai’n gallu gwasanaethu mamau a’u plant ar ddwy ochr y ffin. Y ddadl rydyn ni'n ei chlywed ydy nad oes yna ddim digon o achosion yn y gogledd a’r canolbarth i gyfiawnhau uned ar wahân ar gyfer yr ardal ond y gellid llenwi gwelyau mewn uned drwy drefniant â byrddau iechyd cyfagos sydd yn rhan o NHS England. Yn anffodus, y penderfyniad oedd bwrw ymlaen gydag uned wyth gwely yn Lloegr gyda mynediad i deuluoedd o’r gogledd yn lle mynd o’i chwmpas hi'r ffordd arall ac yn y ffordd a argymhellwyd yn adroddiad y pwyllgor, sef uned yng Nghymru fyddai yn hygyrch ar gyfer pobl yn cael eu gwasanaeth drwy NHS Lloegr.

Dwi’n deall, erbyn hyn, mai’r bwriad ydy adeiladu uned yn Swydd Gaer a’i bod, yn ôl yr hyn dwi'n ei ddeall, i fod i agor erbyn y gwanwyn flwyddyn nesaf. Ond, rhaid i mi ddweud, mae’n anodd iawn dod o hyd i unrhyw fanylion pellach na hynny. Y sôn ydy y bydd yr uned yma yn cynnwys dau wely ar gyfer merched o’r gogledd, ac y gallai bwrdd iechyd Betsi brynu llefydd ychwanegol wrth i alw gynyddu. Yn fy marn i, dyma’r model anghywir ar gyfer diwallu anghenion merched yn fy etholaeth i a thu hwnt yn y gogledd. Y model anghywir, pan oedd yna ddewis amgen o fodel fyddai wedi gallu diwallu yr anghenion yn yr un ffordd yn union.

Oni bai am bellteroedd teithio hollol afrealistig i lawer o famau, mae problem sylfaenol ac allweddol yn codi o ran diwallu anghenion iaith Gymraeg llawer o deuluoedd. Fedraf i ond dychmygu pa mor erchyll fyddai gorfod bod ymhell o gartref mewn cyfnod mor fregus. Os mai’r Gymraeg ydy'ch mamiaith chi a’r cyfrwng cwbl naturiol ar gyfer cyfathrebu efo’ch baban newydd, meddyliwch pa mor estron fyddai hynny yn Swydd Gaer, pan fydd y gweithlu yn uniaith Saesneg. Petai’r uned wedi ei lleoli yn y gogledd ac yn darparu gwelyau ar gyfer merched o Loegr, fyddai yna ddim problem iaith, wrth gwrs, achos mae siaradwyr Cymraeg yn siarad Saesneg hefyd. Felly, mae angen rhoi sylw brys i’r elfen ieithyddol yn y model newydd, os mai hwn fydd yn symud yn ei flaen, neu mae arnaf i ofn bod strategaeth 'Mwy na geiriau' y Llywodraeth yn un wag a diystyr. Os nad ydy hi’n rhy hwyr, mi fuaswn i yn gofyn i’r Dirprwy Weinidog adolygu’r penderfyniad ffôl i greu uned ar gyfer merched y gogledd yn Lloegr.

Dwi wedi cymryd y cyfle yn y ddadl yma i nodi’r gwendidau sylfaenol yn y ddarpariaeth amenedigol yn y gogledd, y diffygion yn y gwasanaethau cymunedol, a’r model cwbl annigonol ac amhriodol sydd ar y gweill o ran gwasanaethau ar gyfer achosion difrifol. Dwi yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cymryd yr hyn dwi'n ei ddweud heddiw o ddifrif ac yn gweld fy mod i'n ceisio gwella'r sefyllfa. Fy ngobaith i ydy, drwy ddod â'r ddadl yma ymlaen a rhoi hyn i gyd o dan y chwyddwydr yma yn y Senedd, y bydd y Dirprwy Weinidog yn gofyn i’w swyddogion hi am adroddiad brys ar y sefyllfa yn y gogledd, efo argymhellion pendant er mwyn gwella’r sefyllfa ar gyfer mamau, babanod a theuluoedd ar draws y gogledd. Diolch.

18:25

Diolch i Siân Gwenllian am godi'r mater pwysig, pwysig iawn yma. 

Mae hwn yn fater nad ydym yn clywed llawer amdano nac yn ei drafod yn gyhoeddus. Mae'n dangos y stigma sylweddol sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl o hyd, yn enwedig i famau newydd neu famau beichiog. O fy mhrofiad fy hun o fod yn weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, rwy'n gwybod pa mor ddinistriol yw hyn nid yn unig i famau ond i dadau hefyd. Felly, i deuluoedd, mae'r mater hwn efallai'n peri pryder a chywilydd a stigma ac mae'n rhaid inni wella gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn gwybod  pwy yw'r bobl hynny ac yn cynnig y gwasanaethau cywir iddynt. Mae fy rhanbarth yn cynnwys rhan o Betsi Cadwaladr a Dwyfor Meirionnydd. Gan gynrychioli'r Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd, mae angen mwy o gyfleusterau a mwy o opsiynau i'n menywod a'n rhieni sy'n wynebu problemau sylweddol ar ôl geni babi. 

Mae adroddiad newydd 'Saving Lives, Improving Mothers' Care' yn dangos bod 18 y cant o'r holl farwolaethau ymhlith mamau yn y flwyddyn gyntaf ar ôl geni babi yn digwydd o ganlyniad i hunanladdiad, a seicosis ôl-enedigol yw prif achos y marwolaethau hynny. Canfu'r adroddiad y gallai 67 y cant o'r achosion o hunanladdiad fod wedi cael eu hatal pe bai gwelliannau wedi bod mewn gofal. Ym mis Ebrill 2021, rydym yn gwybod bod Uned Gobaith yn Abertawe wedi agor, gan ddarparu'r chwe gwely uned mamau a babanod cyntaf yng Nghymru. Ond yn Abertawe y mae hynny; mae angen mwy, ac mae eu hangen yng ngogledd Cymru yn sicr. Ac mae rheswm penodol iawn pam ein bod eu hangen yng ngogledd Cymru, sef yr iaith.

Mae ymchwil yn dangos bod mynegi a thrafod materion sensitif, emosiynol a chymhleth fel materion iechyd meddwl yn brofiad llawer haws, yn fwy naturiol ac yn llai rhwystredig wrth allu gwneud hynny yn eich dewis iaith. I lawer o siaradwyr Cymraeg, gall wneud hynny yn Saesneg, waeth beth yw eich rhuglder, fod yn eithriadol o anodd. Mae cleifion iechyd meddwl yn aml yn cael mwy o fudd o wasanaethau wedi’u darparu trwy gyfrwng eu dewis iaith, gan nad oes unrhyw rwystrau ieithyddol i’w mynegiant. Felly, mae’n bwysig, bwysig iawn fod yna rywbeth yng ngogledd Cymru, ac i wneud yn siŵr bod hynny yn edrych ar iaith y teuluoedd sy’n cael eu heffeithio.

Yn eu tystiolaeth i ymchwiliad pwyllgor y Senedd ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, lleisiodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bryderon fod mynediad at ofal iechyd meddwl, er gwaethaf y mesurau a roddwyd ar waith i wella mynediad at ofal iechyd yn Gymraeg, yn parhau i fod yn wael. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried y mater hwn ac yn gallu ymateb i rai o'r pryderon a fynegwyd. Mae angen inni sicrhau bod teuluoedd, pan fyddant yn cael babi, yn cael y profiad mwyaf gwych, ac rydym yn gwybod y gall seicosis ôl-enedigol fod yn brofiad mor ddinistriol, a sicrhau bod gennym wasanaethau i nodi a chefnogi cyn yr enedigaeth, ac os oes angen, i barhau ar ôl yr enedigaeth, ac mae angen iddynt fod yn deg a chyson ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.

18:30

Diolch i Siân am ddod â’r pwnc pwysig yma i'r Senedd heddiw. Buaswn i hefyd yn licio diolch a thalu teyrnged i’m cyn-gyfaill a chyd-Aelod, Steffan Lewis, am y gwaith rhagorol a wnaeth o yn y maes yma, yn rhoi sylw i’r angen am sicrhau gofal iechyd meddwl amenedigol o safon uchel. Mae amser genedigaeth yn amser cyffrous i lawer o bobl, ond mae’n amser sy’n rhoi straen enfawr ar eraill, a beth sydd angen ei sicrhau ydy bod y lefel o wasanaeth yn ddigonol ac yn gytbwys ym mhob rhan o Gymru. Mae’n berffaith amlwg, fel rydyn ni wedi'i glywed gan Siân heddiw yma, fod yna ddiffyg ar draws y gogledd yn benodol. Dwi’n cytuno’n llwyr bod y model, os mai dyna gawn ni, o gyflwyno’r gwasanaeth dros y ffin yn fodel anghywir. Rydyn ni’n gwybod bod yna drafodaeth sy’n barhaus ynglŷn â darparu gwasanaethau dros y ffin, a lle mae yna arbenigedd wedi’i gwreiddio ers blynyddoedd mawr, fel ysbyty Alder Hey ac ati, wrth gwrs fod yna berthynas bwysig i’w chael. Ond dyma’r union fath o wasanaeth y gallem ni ac y dylem ni fod yn ei ddarparu o fewn y gogledd, a pham lai cynnig gwasanaethau i’r rhai o dros y ffin i ddod iddyn nhw? Mae’r elfen ieithyddol yn rhan mor bwysig ohono fo—nid yn unig i roi’r agosatrwydd daearyddol, ond yr agosatrwydd diwylliant yna i bobl ar adeg pan fyddan nhw ar eu mwyaf bregus. Felly, dwi innau yn galw ar y Gweinidog i sicrhau nad ydyn ni’n gadael i lawr y merched yma ar adeg lle maen nhw'n fwyaf angen ein cymorth ni.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Gwn fod gan Siân ddiddordeb hirsefydlog mewn iechyd meddwl amenedigol a'i bod wedi ymrwymo i'r mater. Hoffwn ddiolch hefyd i Jane a Rhun, sydd wedi cyfrannu at y ddadl, a chydnabod cydnabyddiaeth Rhun i'r rôl a chwaraeodd Steffan yn codi'r mater hwn ar yr agenda yn y Senedd. Roedd yn hynod o bwysig.

Rwyf hefyd am achub ar y cyfle hwn i ailddatgan fy ymrwymiad i wneud popeth a allaf i sicrhau bod mamau a theuluoedd yn cael y gefnogaeth iechyd meddwl amenedigol y maent ei hangen ac yn ei haeddu yng Nghymru. Fel y gŵyr Siân, cadeiriais ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i iechyd meddwl amenedigol yn y Senedd ddiwethaf. Rwy'n ymwybodol iawn o ba mor hanfodol yw cymorth iechyd meddwl amenedigol, nid yn unig i famau, ond i'r babanod sydd yn y 1,000 diwrnod cyntaf gwerthfawr hynny o'u bywydau. Gwyddom y gall eu datblygiad yn yr amser hwnnw fod yn allweddol i'w cyfleoedd bywyd gydol oes. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr argymhellion a ddaeth o'r ymchwiliad yn cael eu gweithredu.

Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol, ond rydym hefyd yn cydnabod bod mwy i'w wneud, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, a bu hwn yn faes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2019-2022. Rydym yn gweithio nawr ar ddatblygu olynydd i'r cynllun, a gallaf ddweud wrth y Siambr y bydd iechyd meddwl amenedigol yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn y cynllun olynol. Byddwn yn ymwneud â'r rhwydwaith iechyd meddwl amenedigol wrth inni ddatblygu'r gwaith hwn. Yn rhan o hyn, byddwn hefyd yn ceisio gweld sut y gallwn ddatblygu'r dull llwybr, gan gydnabod bod gwasanaethau arbenigol yn un elfen o hyn. 

Yn rhan o'n gofal a chymorth mamolaeth a blynyddoedd cynnar, mae byrddau iechyd eisoes yn gweithio gyda theuluoedd fel rhan o ddull ymyrraeth gynnar. Mae gan bob mam a theulu fydwraig benodol i'w cefnogi yn ystod beichiogrwydd ac yn ôl-enedigol. Mae hyn yn cynnwys ystyried lles meddyliol amenedigol, ac mae llwybrau yn eu lle ar gyfer y rhai sydd angen cael eu hatgyfeirio at wasanaethau arbenigol. Erbyn hyn, mae gan bob bwrdd iechyd fydwraig iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn ei swydd sy'n gallu cefnogi mamau a theuluoedd i sicrhau eu bod yn cael y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. 

Ers 2015, rydym wedi buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol ar draws Cymru, ac o ganlyniad, gwnaed cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth. Erbyn hyn, ceir gwasanaethau ym mhob ardal bwrdd iechyd, ac mae dros £3 miliwn o gyllid gwella gwasanaeth iechyd meddwl yn cefnogi'r gwasanaethau hyn yn flynyddol. O safbwynt y gogledd, mae dros £800,000 o'r cyllid hwn wedi'i ddyrannu i gefnogi iechyd meddwl amenedigol. Roeddwn yn falch iawn o gael cyfle ychydig yn ôl i ymweld â'r tîm iechyd meddwl amenedigol yng ngogledd Cymru.  Roedd eu hymrwymiad i'r mamau y maent yn eu cefnogi yn amlwg, ac rwyf eisiau talu teyrnged iddynt am y gwaith a wnânt ddydd ar ôl dydd yn cefnogi mamau yng ngogledd Cymru.

A gaf fi roi ymrwymiad i Siân Gwenllian y byddaf yn edrych ar yr hyn a ddywedodd heddiw am y cymorth lefel is? Nid yw'n rhywbeth sydd wedi'i godi yn fy sgyrsiau am iechyd meddwl amenedigol yng ngogledd Cymru, ond byddaf yn mynd ar drywydd hynny gyda swyddogion ac yn rhoi diweddariad pellach i chi.

Mae pob bwrdd iechyd hefyd yn gweithio tuag at gyrraedd safonau ansawdd perthnasol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, ac rydym wedi sicrhau bod cyllid gwella gwasanaeth ar gael i gefnogi'r gwaith hwn hefyd. Mae byrddau iechyd wedi gwneud cynnydd da tuag at y safonau hyn, gan gynnwys yn y gogledd, ond mae mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod y gofal sy'n cael ei ddarparu o'r safon uchaf. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar hyn o bryd mae gwasanaethau'n cydymffurfio â 91 y cant o safonau math 1 a 75 y cant o safonau math 2. Mae ein harweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl amenedigol yn parhau i weithio gyda gwasanaethau i nodi lle mae bylchau o ran cyrraedd y safonau, ac i roi cynlluniau ar waith i fynd i'r afael â hyn. Mae Llywodraeth Cymru'n parhau'n ymrwymedig i gynorthwyo gwasanaethau i gyrraedd y safonau hyn.  

Ymhlith y themâu cyffredin sydd wedi'u nodi ar gyfer gwella mae darparu gofod clinigol sy'n canolbwyntio ar y teulu, rhywbeth y gwnaethoch chi dynnu sylw ato, digon o ofod swyddfa ar gyfer timau, a darparu gwybodaeth ynghylch hawliau gofalwyr ac eiriolaeth. Dros y misoedd diwethaf, mae arweinydd clinigol iechyd meddwl amenedigol Cymru a'r rhwydwaith iechyd meddwl amenedigol wedi datblygu llwybr gofal. Nod y llwybrau yw safoni ymarfer, darparu eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau, ac adlewyrchu ymyrraeth gynnar ataliol a dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Yn ogystal â darparu tegwch, dylai'r llwybrau hyn sicrhau bod y gofal cywir yn cael ei ddarparu gan y bobl gywir ac ar yr adeg gywir. 

Fel y nododd yr Aelodau, ym mis Ebrill 2021 fe wnaethom agor uned i famau a babanod yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Roedd hwn yn gam pwysig iawn ymlaen i ddarparu gwell cefnogaeth iechyd meddwl amenedigol i famau yng Nghymru. Mae'r ganolfan hon yn rhan bwysig o wella profiad mamau newydd, gan y byddant yn gallu cael y gefnogaeth arbenigol y maent ei hangen iddynt eu hunain a'u babanod yn nes at adref. Gallais ymweld ag uned mamau a babanod de Cymru, ein Huned Gobaith, y llynedd. Roedd yn wych cael cyfarfod â'r tîm hynod ymroddedig, a mamau hefyd, a siaradodd yn wirioneddol bwerus am y gwahaniaeth roedd cael cefnogaeth uned mamau a babanod wedi'i wneud iddynt hwy.

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cynnal adolygiad o'r uned mamau a babanod yn ne Cymru, lle cytunwyd i barhau i gefnogi'r gwasanaeth ar safle presennol Tonna, a chadw hyn dan arolwg. Er fy mod yn falch iawn fod gennym y gwasanaeth hwn yn ne Cymru, rwy'n cydnabod ei fod yn rhy bell i ffwrdd i fod yn wasanaeth priodol i fenywod sy'n byw yn y gogledd, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau darpariaeth yn nes at adref i famau yn y gogledd. Mae'r gwaith modelu a wnaed yng Nghymru wedi dangos nad oes digon o alw ar hyn o bryd i gael uned annibynnol yng ngogledd Cymru, a dyna pam ein bod wedi bod yn gweithio gyda GIG Lloegr er mwyn datblygu uned ar y cyd yng ngogledd-orllewin Lloegr sy'n galluogi mamau i ddod iddi o ogledd Cymru. Yn hynny o beth, mae cryn dipyn o ymgysylltiad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a GIG Lloegr ynghylch datblygu'r uned newydd hon.

Cafodd yr achos busnes ei gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2022 ac rydym yn disgwyl i'r gwasanaeth fod yn weithredol yn ystod haf 2024. Rwy'n cydnabod bod hyn beth amser i ffwrdd, ac mae swyddogion yn gweithio gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar nodi unrhyw gyfleoedd i gyflymu'r amserlenni hyn os yn bosibl. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r darparwr i gefnogi anghenion cleifion Cymraeg eu hiaith wrth ddatblygu'r uned. Ac a gaf fi eich sicrhau, Siân, fy mod i'n llwyr gydnabod pwysigrwydd gallu cyfathrebu—a Jane hefyd—drwy eich iaith gyntaf pan fyddwch chi mewn sefyllfa lle rydych chi gymaint o angen cymorth iechyd meddwl?

Felly, bydd sefydlu'r ddarpariaeth hon ar gyfer gogledd Cymru yn flaenoriaeth allweddol dros y misoedd nesaf hyn. Gobeithio bod hyn yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i'r Aelodau ynglŷn â'r gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i famau yng ngogledd Cymru a'r cynnydd a wnaed ar ddatblygu'r ddarpariaeth ledled Cymru. Rwy'n cydnabod—

18:40

A wnaethoch chi edrych ar y model amgen, sef yr un roedd y pwyllgor yn ei argymell yn yr adroddiad a gadeiriwyd gennych—y model amgen o ddarparu'r uned yng Nghymru, ac felly byddai anghenion iaith Gymraeg yn cael eu diwallu ac yn amlwg byddai'n nes at adref i lawer o fenywod, yn hytrach na'r model sydd bellach yn cael ei gynnig, sy'n mynd i greu llawer o broblemau gydag anghenion ieithyddol mamau a'u teuluoedd? Ac i fod yn onest, mae Caer yn bell iawn o Amlwch.

Wel, Siân, pan ddeuthum i'r swydd, roedd y cynlluniau ar gyfer yr uned dros y ffin eisoes ar y gweill, gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi gwneud dadansoddiad i nodi'r lefelau posib o angen yng ngogledd Cymru. Felly, ar y sail honno y gwnaed y penderfyniad i gael yr uned ychydig dros y ffin. Ac rwy'n gwybod bod Jane wedi gwneud y pwynt am gael gwasanaethau hygyrch, ond maent yn wasanaethau arbenigol, felly ni fyddem byth mewn sefyllfa lle byddai gennym unedau mamau a babanod wedi'u gwasgaru ar hyd y lle yng Nghymru. Maent yn arbenigol iawn, gyda thimau amlddisgyblaethol, ac maent yn gwasanaethu'r menywod sydd â'r problemau mwyaf dwys—felly, fel y dywedodd Jane, seicosis ôl-enedigol, sy'n hynod o ddifrifol. Felly, roedd y dadansoddiad ar y gweill cyn fy amser i, ond dyna fy nealltwriaeth i o'r gwaith a wnaed i nodi angen. Ac o'm safbwynt i, Siân, rwyf am weld gwasanaeth yno nawr mor gyflym ag y gallwn ei gael, a byddai cael gwared ar bopeth sydd wedi'i wneud yn broses hir iawn, ac rwyf eisiau i'r menywod yng ngogledd Cymru gael mynediad at wasanaeth cyn gynted ag y gallwn.

Er gwaetha'r gwaith cadarn a wnaed gan wasanaethau, rwy'n cydnabod bod mwy i'w wneud, ac mae angen inni wneud cynnydd pellach er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau o'r safon uchel y mae mamau yng Nghymru'n ei haeddu. Mae hyn yn cynnwys y gwaith i sicrhau bod darpariaeth yr uned mamau a babanod yn diwallu anghenion mamau yng ngogledd Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ymhellach yng Nghymru. Diolch.

18:45

Daeth y cyfarfod i ben am 18:45.