Y Cyfarfod Llawn

Plenary

07/02/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad y Llywydd

Prynhawn da. Cyn i mi alw ar gwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, ac ar ran pob un ohonom ni, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad gyda'n cyd-Aelod Carolyn Thomas, wedi colled sydyn a chreulon ei mab, Ben. Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda chi, Carolyn, a'ch teulu.

Ac, hefyd, wrth i ni ddechrau ein trafodion heddiw, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi'n harswydo wrth weld y marwolaethau a'r dinistr mewn lluniau o Dwrci a Syria. Mae ein meddyliau fel Senedd gyda phobl y rhanbarth hwnnw wrth iddyn nhw geisio achub, goroesi a galaru. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Nawr bydd y Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog heddiw, a'r cwestiwn cyntaf, cwestiwn 1, Rhun ap Iorwerth.

Safle'r 2 Sisters Food Group yn Llangefni

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad y 2 Sisters Food Group ar gau ei safle yn Llangefni? OQ59108

Diolch. Nid oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw wybodaeth o flaen llaw am gyhoeddi ymgynghoriad y 2 Sisters Food Group. Rydym ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo'r bobl yr effeithir arnyn nhw a sicrhau bod pob parti yn cydweithio i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr economi leol.

Diolch, Weinidog. Rydyn ni yn tynnu am bythefnos rŵan ers y cyhoeddiad—cyfnod byr oedd yr ymgynghoriad i gyd. Ac, er ei bod hi'n amlwg o'r cychwyn mai'r peryg ydy bod hwn yn benderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud, mae hi'n allweddol, wrth gwrs, mai'r flaenoriaeth ydy gweld a oes unrhyw beth y mae modd ei wneud er mwyn newid meddwl y cwmni. Ond, mae'n rhaid ar yr un pryd baratoi am y gwaethaf. Rydyn ni yn sôn am impact enfawr ar y gymuned—3 y cant o holl weithlu Ynys Môn. 

Yn wyneb hynny, ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi fod rhaid i'r ymateb fod yn sylweddol ac yn gyflym, a hynny gan Lywodraethau Cymru a Phrydain, gan fod gymaint o beth sydd wedi gyrru hyn, o Brexit i gostau ynni, yn faterion dan gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac, o fuddsoddiad mawr mewn creu swyddi i gefnogaeth efo costau byw, fod angen i Weinidogion yng Nghaerdydd, a Gweinidogion yn Llundain, wneud datganiad buan, y gallwn ni, y gymuned, y cyngor, y cynlluniau datblygu economaidd, ddisgwyl cefnogaeth ariannol sylweddol?

Diolch. Rwy'n credu bod 2 Sisters Poultry Ltd yn mynnu ei fod yn ymgynghoriad ystyrlon ac nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud. Ond, rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle—mae angen i ni, yn amlwg, baratoi ar gyfer y gwaethaf. Fel y dywedais, nid oedd gennym ni unrhyw wybodaeth o flaen llaw am hynny. Rwy'n credu y byddai wedi bod o gymorth pe baem ni wedi cael rhywfaint o wybodaeth o flaen llaw. Fe wnaethom weithio'n agos iawn gyda'r gwaith hwnnw, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19; byddwch yn cofio y bu brigiad o achosion yno, ac fe wnaethon ni weithio'n agos iawn gyda nhw. Bu gennym ni berthynas â nhw, felly rwy'n credu ei bod hi'n siomedig na wnaethon nhw gysylltu â ni cyn y cyhoeddiad. 

Fel y gwyddoch—ac rydych chi'n sicr yn rhan o'r trafodaethau—rydym ni i gyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda'n gilydd. Ar ddiwrnod y cyhoeddiad, fe wnes i a Gweinidog yr Economi gyfarfod ag arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn. Yna cafwyd trafodaethau pellach. Fe wnaeth y Prif Weinidog ei hun gyfarfod â'r awdurdod ar y bore canlynol, ac yna, gwn eich bod chi wedi cyfarfod â Gweinidog yr Economi ddydd Mawrth diwethaf, ac, yn amlwg, mae'r tasglu wedi cael ei sefydlu bellach. Fe'i cynhaliwyd am y tro cyntaf ar 3 Chwefror, pan oedd yr holl bartneriaid y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yno, ynghyd â'r undeb llafur a'r Adran Gwaith a Phensiynau. Ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol bod—. Mae hon yn enghraifft arall, onid yw, o le mae Brexit, chwyddiant a'r argyfwng ynni yn cael effaith gwbl niweidiol ar ein holl gymunedau, gan greu'r storm berffaith honno nad ydym ni wir eisiau ei gweld. Ond, mae'r rhain yn bobl go iawn yr effeithir arnyn nhw gan hyn, felly rydym ni'n annog Llywodraeth y DU, unwaith eto, i weithredu'n gyflym i gynorthwyo busnesau Cymru, ac, fel Llywodraeth, byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu.

Hoffwn yn gyntaf ategu'r sylwadau a wnaed ynghylch effaith ddinistriol y cynllun arfaethedig i gau safle 2 Sisters yn Llangefni, a'r pwysigrwydd gwirioneddol i Lywodraethau'r DU a Chymru weithio gyda'i gilydd i sicrhau canlyniad mor gadarnhaol â phosibl. Felly, rwy’n sicr yn cefnogi galwadau'r Aelod dros Ynys Môn am hynny. 

Mae wedi bod yn gadarnhaol, Gweinidog, fel yr wyf i'n siŵr y byddech chi'n cytuno, gweld bod cwmnïau ar yr ynys a thu hwnt yn ceisio cynnig cyflogaeth bellach i'r bobl hynny yr effeithir arnyn nhw. Rwy'n falch hefyd bod Virginia Crosbie, AS Ynys Môn, wedi bod yn gweithio gyda chyflogwyr i weld pa gyfleoedd y gellir eu darparu i'r rhai yr effeithir arnyn nhw hefyd. Fe wnaethoch chi grybwyll, Gweinidog, y tasglu y mae Llywodraeth Cymru wedi ei sefydlu, ac mae'n sicr yn dda gweld hynny'n digwydd cyn gynted â phosibl. Ond, tybed pa sicrwydd pellach y gallwch chi ei roi y bydd y tasglu hwn yn sicrhau bod y rhai yr effeithir arnyn nhw yn cael eu cefnogi drwy'r cyfnod ymgynghori 45 diwrnod, a pha waith maen nhw'n ei wneud i edrych ar hyfywedd hirdymor y safle. Ac, wedyn, ar ben hynny, pa ddadansoddiad fydd y tasglu hwnnw'n ei wneud o'r effaith ar gymuned ehangach Ynys Môn a thu hwnt? Diolch yn fawr iawn.

13:35

Diolch. Mae'r tasglu'n cynnwys Llywodraeth Cymru, cyngor Ynys Môn, Llywodraeth y DU, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y cwmni ei hun ac undeb llafur Unite. Bydd dwy ran iddo: bydd grŵp arweinyddiaeth, a fydd yn amlwg yn cael y mewnbwn gweinidogol, ac yna bydd grŵp gweithredol, a fydd ar lefel swyddogol. Ac mae hynny i sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo yn gyflym. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y tasglu hwnnw'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i gynorthwyo'r gweithwyr yr effeithir arnyn nhw a'r cymunedau. Mae wir yn gyhoeddiad ofnadwy. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch hynny, ac rwy'n ymwybodol bod y tasglu, ddydd Gwener, yn sicr wedi ailddatgan ei gefnogaeth lawn.

Diogelwch Adeiladau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddiogelwch adeiladau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn berchen arnynt? OQ59098

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am gyflwr ei ystad ei hun. Gellir cyflwyno achosion busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid cyfalaf ar gyfer blaenoriaethau a aseswyd y bwrdd iechyd, y mae'n rhaid eu hystyried yn erbyn cefndir pwysau cyfalaf sylweddol ar draws GIG Cymru.

Diolch, Trefnydd. Nawr, yn syfrdanol, mae tua 74 y cant o'r adeiladau sy'n eiddo i'r bwrdd hwn yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch statudol, dim ond 64 y cant sy'n cydymffurfio â gofynion diogelwch tân statudol perthnasol, a dim ond 62 y cant sy'n weithredol ddiogel. Ac mae hynny'n bryder mawr iawn i fy etholwyr a hefyd i gleifion ar draws y gogledd. Yn Ysbyty Gwynedd, mae'r dyluniad a'r cynllun yn peri risgiau atal a rheoli heintiau mewn gwirionedd. Mae gan yr ysbyty rydych chi'n ei gefnogi'n uniongyrchol, Ysbyty Glan Clwyd, ôl-groniad cynnal a chadw o £37 miliwn erbyn hyn. Ac mae gan Bryn y Neuadd, yn Llanfairfechan, ôl-groniad o £27.7 miliwn, ac mae 70 y cant o'i arwynebedd llawr sydd wedi'i feddiannu wedi'i nodi'n 'weithredol anaddas'. Ac mae gan yr ysbyty penodol hwnnw rai cleifion agored iawn i niwed yno. Maen nhw'n haeddu gwell.

Nawr, mae strategaeth ystad y bwrdd iechyd yn dweud bod,

'cyflwr ffisegol a chydymffurfiad statudol yr ystad wedi gwaethygu ers Strategaeth Ystad 2019'.

Nawr, er y byddwn i'n hoffi eglurder ynghylch pa gymorth ariannol y byddwch chi'n ei ddarparu, yn syml, nid yw hon yn sefyllfa dda i fwrdd iechyd sy'n symud o un argyfwng, neu un sgandal neu stori, o wythnos i wythnos. Nawr, ar ryw adeg, pryd ydych chi'n mynd i edrych mewn gwirionedd ar reolaeth y bwrdd iechyd hwn? Ac, mewn gwirionedd, o ran rhywbeth fel hyn, pe bawn i'n gyfrifol am gynnal a chadw a chynhaliaeth adeiladau mewn swydd reoli, byddwn yn disgwyl i ryw fath o ôl-effeithiau ddeillio o adroddiad mor wael. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd, Trefnydd, i wneud yn siŵr y gall fy etholwyr, a chleifion eraill ar draws y gogledd—

Rwyf i wedi bod yn eithriadol o hael, Janet Finch-Saunders, felly gofynnwch y cwestiwn nawr.

Iawn. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau y gall fy etholwyr, a chleifion ar draws y gogledd, dderbyn eu triniaeth feddygol mewn cyfleusterau diogel? Diolch.

Wel, rwy'n gwybod pa gamau y gallech chi eu cymryd, a gallech chi roi rhywfaint o bwysau ar eich Llywodraeth yn San Steffan i gynyddu ein cyllidebau cyfalaf. Nid yw ein cyllidebau cyfalaf wedi cael eu cynyddu gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, rydym ni wedi ymrwymo mwy na £335 miliwn tuag at brosiectau cyfalaf y GIG a gofal cymdeithasol pwysig yn y flwyddyn ariannol hon, a £375 miliwn arall y flwyddyn nesaf i gynorthwyo'r sefydliadau hynny, oherwydd mae ar draws Cymru gyfan. Rydym ni'n gwybod bod gennym ni lawer o'n hadeiladau, ym mhob ysbyty a bwrdd iechyd yng Nghymru—. Mae rhai ohonyn nhw dros 30 oed. Felly, rydym ni'n gwybod y bu cynnydd mewn ffigurau ôl-groniad, er enghraifft, a gwn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyfarfod â chadeirydd y bwrdd iechyd a phrif weithredwr dros dro Betsi i drafod pa flaenoriaethu sydd gan y bwrdd iechyd, oherwydd, fel y dywedais yn fy ateb agoriadol i chi, mater iddyn nhw yw nodi'r blaenoriaethau sydd ganddyn nhw, ac yna gwneud y ceisiadau i Lywodraeth Cymru. Ond mae'n rhaid i chi werthfawrogi'r pwysau ar ein cyllideb gyfalaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. A gaf i uniaethu â'r sylwadau a wnaethoch yn gynharach yn y sesiwn hon, Llywydd? Ac a gaf i ofyn i chi, Trefnydd, yn sgil y golygfeydd erchyll sydd yn dod o Dwrci a Syria, a maint y cyfanswm o farwolaethau sy'n cynyddu fesul cannoedd, os nad miloedd, bob awr, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r cymorth y byddwn ni yng Nghymru yn gallu ei roi? Yn aml iawn, mae hynny'n cynnwys timau chwilio ac achub, mae'n cynnwys cymorth dyngarol a chyflenwadau meddygol yn gyffredinol. Yn amlwg, bydd Llywodraeth y DU yn arwain ar hyn, ond mae gan Gymru draddodiad balch o helpu mewn sefyllfaoedd fel hyn, ac mae ymyrraeth gyflym ac amserol yn hollbwysig. Rwy'n cymryd eich bod chi wedi gwneud asesiad y gall Llywodraeth Cymru wneud cyfraniad allweddol. Felly, beth fydd y cyfraniad hwnnw a pha sgwrs ydych chi wedi ei chael gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr ei fod yn digwydd mewn modd amserol?

13:40

Gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi gofyn i'w swyddogion ddechrau'r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU. Bydd hi ei hun yn gwneud datganiad i'r Senedd—datganiad ysgrifenedig mae'n debyg, byddwn yn dychmygu. Mae'r trafodaethau hynny wedi dechrau ac, fel y dywedais, bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chyflwyno. Rydych chi yn llygad eich lle, mae gennym ni draddodiad balch iawn. Rwy'n siŵr bod pobl eisoes yn cael eu nodi i fynd i gynorthwyo'r gwaith achub. Fel rydych chi'n dweud, mae'n erchyll i'r rhanbarth. Rwyf i yn meddwl y bydd nifer y bobl a laddwyd yn sylweddol, yn y miloedd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud.

Rwy'n siŵr, fel Aelodau, y byddem ni'n gwerthfawrogi'n fawr iawn cael yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl, oherwydd nid yn afresymol, yn amlwg, mae etholwyr a sefydliadau sy'n gallu helpu yn cysylltu â ni, a byddai hynny i'w groesawu'n fawr. Gallaf weld y Gweinidog yn nodi y bydd hynny'n digwydd. 

Yr wythnos diwethaf, cawsom gan yr archwilydd cyffredinol yr adroddiad ar brynu Fferm Gilestone. Roedd yn ddiddorol iawn ei ddarllen. Y disgrifiad gan fwrdd asesu risg Llywodraeth Cymru oedd bod y broses a ddefnyddiwyd i brynu Fferm Gilestone yn 'newydd'. Mae rhai pobl yn meddwl am ffordd y gwasanaeth sifil o siarad ar Yes, Minister neu Yes, Prime Minister pan fyddwch chi'n meddwl am iaith o'r fath. Ond, pan fyddwch chi'n ymchwilio i rai o'r sylwadau yn yr adroddiad hwnnw, mae'n nodi chwe chyfarfod dros y cyfnod pan oedd penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud gyda swyddogion a Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Roedden nhw ar 22 Hydref, 26 Ionawr, 28 Ionawr, 11 Chwefror, 7 Mawrth a 23 Mawrth. Ni chymerwyd yr un nodyn na chofnod o'r cyfarfodydd hynny. Dim un nodyn na chofnod. Rydych chi'n Weinidog uchel iawn eich parch, yn arweinydd y tŷ, ac wedi bod yn y Llywodraeth ers cryn amser. A allwch chi feddwl am sefyllfa lle byddai parti â buddiant yn cymryd rhan mor fawr mewn trafodaethau pan allen nhw fod yn fuddiolwr swm sylweddol o arian cyhoeddus ac na chymerwyd un cofnod, nodyn na chofnod ysgrifenedig o chwe chyfarfod yn ystod y cyfnod hwnnw?

Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n Weinidog sy'n gwneud llawer o nodiadau. Rwyf i wedi gwneud hynny erioed, ac rwyf i wedi eu dyddio nhw erioed. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Ond, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni edrych arno o ran llythyr yr archwilydd cyffredinol—. Rwy'n credu ei bod hi'n ddiddorol ei ddarllen. Roedd llawer o bethau positif ynddo, yr wyf i'n siŵr na fyddwch chi'n eu croesawu, ond roedd llawer o bethau cadarnhaol o ran y ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r cyllid hwnnw. Mae'n rhaid i ni fod ychydig yn fwy arloesol weithiau. Mae llywodraeth, yn ôl ei natur, yn osgoi risg, ac mae hynny'n gwbl gywir pan ydych chi'n ymdrin ag arian cyhoeddus. Mae'n rhaid i chi fod yn ofalus iawn. Ond roeddwn i yn credu, i mi, fe wnes i gymryd llawer o bethau cadarnhaol o'r llythyr hwnnw. Mae'r pwysau ar ein cyllideb wedi cael llawer iawn o sylw, yn enwedig y gostyngiad termau real sy'n ein hwynebu. Mae'n rhaid i unrhyw benderfyniadau i wneud defnydd o gyllid, beth bynnag fo'r amser o'r flwyddyn, sicrhau bod y cynigion yn cynnig gwerth am arian, ac mae'n rhaid iddyn nhw gyd-fynd yn eglur â'n blaenoriaethau polisi ac mae angen iddyn nhw ddilyn y drefn briodol. Ni welais i unrhyw beth yn y llythyr hwnnw nad oedd yn dweud ein bod ni wedi gwneud hynny.

Gweinidog, ceir busnesau ar hyd a lled y wlad sy'n gwneud ceisiadau i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am gymorth, weithiau am sawl can punt, weithiau am filoedd, weithiau am ddegau o filoedd, os nad miliynau. Yma mae gennym ni ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru o £4.5 miliwn pryd na allwch chi gyfeirio at yr un nodyn na chofnod o'r rhyngweithio rhwng darpar fuddiolwr yr ymyrraeth honno a swyddogion y Llywodraeth a oedd yn gwneud penderfyniadau i gynghori'r Gweinidog ar y pryd. A dweud y gwir, fe wnaeth yr un swyddogion Llywodraeth gomisiynu'r gwerthwyr a'r cwmni cyfreithiol i wneud y gwaith heb gyngor gweinidogol. Daeth eu cyngor i ben cyn i'r Gweinidog ddweud mewn gwirionedd y gallen nhw wario'r £60,000 ar gaffael y gwasanaeth hwnnw.

Fy mhwynt i yw bod llawer o fusnesau ar hyd a lled Cymru—a byddwch yn gyfarwydd â hyn o'ch bag post fel Aelod etholaeth—yn achwyn am lefel yr wybodaeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei darparu i gefnogi cais am grant. Rydym ni'n deall bod yn rhaid cadw cydbwysedd, gan ei fod yn arian cyhoeddus. Ond pam, yn yr achos hwn, nad oedd yr un—dim un—nodyn y gellid cyfeirio ato i ddangos lefel y rhyngweithio a'r hyn a drafodwyd, o gofio'r ymyrraeth gyflym iawn a'r amser cyflawni a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth yn yr agwedd benodol hon ar brynu'r fferm, y mae'r archwilydd cyffredinol yn tynnu sylw ato. Nid oedd unrhyw bwysau amser, oherwydd nid oedd prynwr arall ar ôl yr eiddo. Mae hyn yn ei adroddiad. Gallaf weld y Gweinidog yn troi rownd ac yn dweud, 'Nid yw hynny'n wir.' Mae yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol. Ni allai ddod o hyd i unrhyw gyfyngiad amser arall ac eithrio cyfyngiad amser hunanosodedig Llywodraeth Cymru. Felly, gofynnaf i chi eto: pa enghreifftiau yn eich gyrfa weinidogol allwch chi feddwl amdanyn nhw pryd na fyddai rhyngweithio o'r fath wedi arwain at gofnod, nodyn, cofnod ysgrifenedig fel y gellid cadw'r rheini yn y broses atebolrwydd a thryloywder ac y gall pobl deimlo y bydd ganddyn nhw siawns teg pan fyddan nhw'n gwneud cais am gyllid Llywodraeth?

13:45

Rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud y bu trafodaethau gyda Dyn Gwyrdd am safleoedd posibl ers cryn amser. Nid rhywbeth a ddigwyddodd yn gyflym iawn oedd hyn. Roedd y trafodaethau hynny wedi bod yn digwydd ers tro, ac roedd yr achos busnes amlinellol lefel uchel a ddarparwyd yn ddigon i fwrw ymlaen â'r pryniant. Felly, fel y dywedais, rwy'n meddwl bod llawer o bethau cadarnhaol yn y llythyr hwnnw gan yr archwilydd cyffredinol ac rydym ni'n croesawu hynny'n fawr, ac yn amlwg byddwn yn ceisio dysgu gwersi fel bob amser. Mae gwersi i'w dysgu bob amser.

Diolch yn fawr, Llywydd. Pan awgrymodd Plaid Cymru ym mis Tachwedd i chi ddefnyddio cyfuniad o danwariant adrannol cronfeydd wrth gefn Cymru a chyllid heb ei ddyrannu i ariannu cynnig cyflog gwell i staff y GIG, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wrthym nad oedd unrhyw wariant heb ei ddyrannu ar gael, nad oedd unrhyw danwariant, ac na allech chi ddefnyddio cronfa wrth gefn Cymru. 'Hyd yn oed pe bai gennym ni danwariant,' meddai, 

'gadewch inni fod yn glir na ellid defnyddio hwnnw i ariannu dyfarniadau cyflog.... Ni ellir defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwariant bob dydd.'

Dywedodd

'Dim ond unwaith y gellir eu defnyddio, a chânt eu cadw ar gyfer argyfyngau.'

Am fisoedd fe wnaethoch chi wrthod negodi, am fisoedd fe wnaethoch chi wrthod cyfaddef y gellid dod o hyd i fwy o arian, ac am fisoedd fe wnaethoch chi wrthod cydnabod ein bod ni mewn argyfwng. Nawr, rydych chi wedi gwneud tro pedol ar hynny i gyd i bob pwrpas. Pam gymeroch chi gymaint o amser?

Wel, rydym ni'n falch iawn o gyhoeddi y llwyddwyd i wneud cynnig cyflog gwell i'r undebau llafur iechyd yr wythnos diwethaf, ac fe wnaeth hynny olygu bod nifer o'r undebau iechyd wedi gohirio'r streic ddoe a heddiw, ac mae'r trafodaethau hynny yn amlwg yn parhau. Bu'n rhaid i ni flaenoriaethu arian, bu'n rhaid i ni edrych ar gronfeydd wrth gefn, bu'n rhaid i ni edrych ar danwariant, ac, yn amlwg, wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, mae'r tanwariant hwnnw yn dod i'r fei, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn. Rydym ni i gyd, fel Gweinidogion, yn pwyso ar ein swyddogion i wneud yn siŵr pa danwariant allai fodoli, ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n ei ddefnyddio hyd eithaf ein gallu. Rydym ni wedi dweud ar hyd yr amser y byddem ni wedi ffafrio ateb ar gyfer y DU gyfan, mewn gwirionedd, i hyn. Ni allem ni aros yn hwy i Lywodraeth y DU wneud hyn. Rydym ni wedi llwyddo i ddod o hyd i ychydig mwy o arian, ac rwy'n credu bod yr arian hwnnw wedi cael ei groesawu gan y mwyafrif o bobl.

Disgrifiwyd y cynnig nawr o ddim ond 1.5 y cant yn ychwanegol fel codiad cyflog ar ben eich cynnig sydd, mewn gwirionedd, yn chwerthinllyd, gan Sharon Graham o Unite fel 'plastr glynu'. I lawer yn y GIG bydd y toriad termau real hwn o fwy na 4 y cant i'w cyflogau yn rhwbio halen yn y briwiau dwfn a achoswyd gan dros ddegawd o gyni cyllidol. Pan fyddwch chi'n dweud nawr mai dyma eich cynnig olaf a therfynol, mai dyma, i ddyfynnu'r Gweinidog iechyd, 'yw'r unig fargen ar gael', yna pam ddylai unrhyw un gredu'r datganiad hwnnw pan ydych chi wedi gwrth-ddweud eich hunain fel Llywodraeth ar gymaint o achlysuron? Fe allech chi, oni allech, droi'r taliad untro hwnnw o 3 y cant yn godiad cyflog parhaol, eto drwy ddefnyddio cyfuniad o gronfa wrth gefn Cymru y flwyddyn nesaf a gostyngiad i wariant ar asiantaethau? Yn hytrach na gwrthod hynny nawr, dim ond i'w dderbyn yn ddiweddarach, pam na wnewch chi'r hyn sy'n iawn yn syth nawr? 

Wel, rydym ni eisoes wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn y ddwy flynedd nesaf, felly rydym ni eisoes wedi gwneud hynny. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn y cynnig ychwanegol hwnnw o 3 y cant yw—mae 1.5 y cant yn gyfnerthedig, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, ac nid yw'r 1.5 y cant arall. Mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni'n gwneud hyn gyda risg yn amlwg. Hon fu'r gyllideb anoddaf i mi ymdrin â hi erioed fel Gweinidog, ac rwy'n siŵr y byddai pawb sy'n eistedd o'm cwmpas ar y fainc flaen yn cytuno. Rydyn ni wedi gwneud ein gorau glas, ac rwy'n credu bod y Gweinidog a'i thîm, a weithiodd yn ddiflino i gyflwyno'r cytundeb hwn, a hefyd ynghyd â'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, sydd wedi dod o hyd i'r cyllid hwnnw, dylid eu llongyfarch nid eu beirniadu am dro pedol neu beth bynnag yr ydych chi eisiau ei alw. Croesawyd hyn gan y mwyafrif o bobl. Ni fyddem, wrth gwrs, wedi bod eisiau gweld gweithredu diwydiannol yn y ffordd yr ydym ni wedi ei weld, ac rydym ni'n falch iawn bod y mwyafrif o undebau llafur wedi gohirio'r streic yr oedden nhw'n mynd i'w chynnal ar y chweched a'r seithfed. Bydd hynny'n caniatáu amser i drafodaethau ystyrlon barhau. Mae drws y Gweinidog ar agor bob amser, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda iawn ein bod ni wedi gallu parhau â'r trafodaethau hynny. Mae'n rhaid i ni ofyn i'r GIG wneud pethau hefyd. Felly, gwn, yn rhan o'r cynnig, fod y Gweinidog yn gofyn iddyn nhw edrych ar waith asiantaeth i weld pa arian y gellid ei arbed drwy staff asiantaeth hefyd. Felly, mae'n fater o bawb yn chwarae eu rhan ac yn gweithio gyda'i gilydd.

13:50

Ond gallwch fynd ymhellach na hynny, Gweinidog, oni allwch, oherwydd mae'r gallu gennych chi i godi refeniw ychwanegol drwy eich pwerau amrywio trethi? Nawr, rwy'n deall mai safbwynt y Llywodraeth yw nad ydych chi eisiau cyffwrdd â'r gyfradd sylfaenol, ond hyd yn oed pe baech chi ddim ond yn cydweddu'r cynnydd i'r cyfraddau uwch ac ychwanegol â'r rhai sy'n cael eu cyflwyno yn yr Alban ar 1 Ebrill—y 42c a'r 47c—byddai hynny'n codi £76 miliwn, digon i droi eich taliad untro eleni yn godiad cyflog parhaol. A phe baech chi'n gallu defnyddio dulliau eraill o wneud hynny, gallech ddefnyddio'r £76 miliwn hwnnw yn hytrach i godi cyflogau gweithwyr gofal i £12 yr awr. Pam na wnewch chi ddefnyddio'r pwerau sydd gennych chi ar hyn o bryd i wneud yr hyn sy'n iawn i'r grŵp hwn o weithwyr? Rydych chi'n disgrifio eich hun fel Llywodraeth sosialaidd; pam na wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ymddwyn fel un?

Rydym ni yn Llywodraeth sosialaidd, ac rwy'n credu bod yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn yr wythnos diwethaf hon yn unig yn dangos hynny'n llwyr; mae'n dangos y gwahaniaeth rhyngom ni a Llywodraeth y DU. Ond mae ein safbwynt ar dreth yn eglur iawn; mae unrhyw ddadansoddiad o'r ysgogiadau sydd ar gael i ni fel Llywodraeth drwy gyfraddau treth incwm Cymru yn dangos na allwn ni godi digon, yn ddigon teg i wneud iawn am y tyllau sydd wedi cael eu creu gan yr argyfwng economaidd a sicrhau cyflog uwch yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, nid wyf i'n credu y byddai'n iawn mewn argyfwng costau byw i ofyn i unrhyw un sy'n talu'r gyfradd incwm sylfaenol dalu unrhyw arian ychwanegol. Ac rydych chi'n cyfeirio at y gyfradd uwch, ac nid ydym ni'n gwybod a fyddai unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Rwy'n credu y byddwch chi wedi clywed y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn dweud yn yr un rhaglen pryd cawsoch chi eich cyfweld arni ddydd Sul y gallai fod canlyniadau anfwriadol. Nid yw pobl sy'n ennill y lefelau cyflog y byddai'n rhaid iddyn nhw eu hennill i dalu'r gyfradd uwch honno o dreth incwm fel pobl eraill. Gallen nhw benderfynu gadael Cymru a symud i Loegr, er enghraifft. Nid ydym yn gwybod beth fyddai'n digwydd, ac rwy'n credu bod hwnnw'n ddarn o waith y mae gwir angen edrych arno'n ofalus iawn. Nid wyf i'n siŵr mewn gwirionedd bod eich barn ar hyn yn gywir.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl

3. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghwm Cynon? OQ59104

Diolch. Rydym ni'n parhau i ddarparu cyllid sylweddol a pharhaus i gynorthwyo'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru gyfan. Yn ogystal â'i ddyraniad wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cael £3.3 miliwn yn ychwanegol o gyllid iechyd meddwl rheolaidd eleni er mwyn parhau i wella cymorth iechyd meddwl.

Diolch, Trefnydd. Mae sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl yn amserol yn bwysig i'n GIG, yn hanfodol i bobl mewn angen, ac yn gallu hyd yn oed achub bywydau. Dyna pam rwy'n falch iawn o gyflwyniad y gwasanaeth ffôn '111 pwyswch 2' i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl brys. Gyda'r bwriad y bydd hwn yn cael ei gyflwyno i holl ardaloedd byrddau iechyd Cymru erbyn diwedd mis Mawrth, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth hollbwysig hwn?  

Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi; rwy'n credu bod hon yn fenter ragorol, ac mae pob bwrdd iechyd ledled Cymru ar wahanol gamau o'r gweithredu nawr, ond rydym ni'n bwriadu cael y gwasanaeth 24/7 hwnnw ar draws Cymru gyfan erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Gwn fod swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr yn 111 i ddatblygu deunyddiau marchnata i baratoi ar gyfer y lansiad cenedlaethol. Mae byrddau iechyd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth yn lleol; rwy'n gwybod fy hun fel Aelod o'r Senedd ac rwy'n siŵr bod eraill wedi bod yn ei godi ar ein proffiliau cyfryngau cymdeithasol hefyd, ac rwy'n meddwl bod hynny'n bwysig hefyd. Bydd llawer mwy o lansio ymwybyddiaeth genedlaethol yn digwydd pan fydd pob bwrdd iechyd yn yr un sefyllfa erbyn mis Ebrill.  

Rwy'n credu mai'r hyn sydd wedi bod yn braf iawn ei weld yw bod partneriaid wedi croesawu'r gwasanaeth hwn, ac rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei ddangos yw na fydd mwyafrif y galwyr i'r rhif hwn angen atgyfeiriad i wasanaethau iechyd meddwl y GIG yn dilyn ymyrraeth ymarferydd iechyd meddwl i ddad-ddwysáu eu gofid, er enghraifft, efallai y bydd angen mathau eraill o gymorth arnyn nhw, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n cael y mynediad cywir at gymorth.

13:55

Hoffwn ddiolch i'r cynrychiolydd dros Gwm Cynon am godi'r mater pwysig hwn. Dros y 40 mlynedd diwethaf yng Nghymru, mae nifer yr hunanladdiadau ymhlith menywod fesul 100,000 o'r boblogaeth wedi gostwng bron i 50 y cant, o naw i bump. I ddynion, yn anffodus, mae'r nifer wedi cynyddu, o 19 fesul 100,000 i 21 fesul 100,000, ac felly mae dynion dros bedair gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad na menywod. Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, ceir cysylltiadau rhwng amddifadedd a hunanladdiad, lle mae bron i ddwywaith cymaint o hunanladdiadau ymhlith y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o'u cymharu â'r lleiaf difreintiedig, ac mae gan Gaerdydd a Rhondda Cynon Taf, y ddau yn y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli, ddau o'r crynodiadau uchaf o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru. Felly, Gweinidog, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer dynion sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghaerdydd a Rhondda Cynon Taf? Diolch.

Diolch. Wel, mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r holl fyrddau iechyd i wneud yn siŵr bod cyllid ychwanegol wedi cael ei dargedu i gefnogi'r gwasanaethau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda'r heddlu a gwasanaethau brys eraill i wneud yn siŵr bod y system wyliadwriaeth hunanladdiad amser real yng Nghymru ar gael. Mae wedi darparu mynediad llawer mwy cyflym at wybodaeth am hunanladdiadau tebygol, er enghraifft, ac mae hynny wir yn cael ei ddefnyddio i gryfhau ein gwaith ataliol.

Datblygiad Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl? OQ59102

Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn cefnogi ailddatblygiad Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl, gan ddod â bywiogrwydd newydd i ganol y dref. Disgwylir i'r farchnad agor yr haf hwn, yn dilyn buddsoddiad o £13.2 miliwn, sy'n adeiladu ar raglen ehangach o adfywio a gyflawnwyd yn y dref dros y blynyddoedd diwethaf trwy bartneriaethau lleol cryf.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Trefnydd, ac rwy'n falch o weld y newyddion diweddaraf mai'r uchelgais yw agor Adeilad Marchnad y Frenhines, yn wir, yr haf hwn, fel y gwnaethoch chi sôn. Ac yn wir, mae gweld codi'r ffrâm ddur ar y promenâd yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi achosi llawer o bleser imi. Fodd bynnag, mae llawer o unedau i'w llenwi, ac mae angen i'r agoriad yn ystod yr haf eleni fod yn barod i fynd, gyda masnachwyr yn barod i fasnachu yn yr ardal leol i gynyddu nifer yr ymwelwyr â'r Rhyl, sydd wedi lleihau dros y blynyddoedd gyda chanol y dref sy'n cael trafferthion a phobl yn dewis mynd i Gaer neu Cheshire Oaks ar gyfer eu hadloniant neu i fwyta allan a chael diod. Mae'r hyn yr wyf i eisiau ei ofyn yn ymwneud â deiliadaeth yr adeilad, ar ôl ei sefydlu. Felly, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu â busnesau lleol, Cyngor Sir Ddinbych a rhanddeiliaid i wneud yn siŵr bod yr adeilad yn llwyddiant pan gaiff ei agor, ac y gall pobl leol deimlo bod ganddyn nhw rhywle atyniadol i fynd iddo yn eu tref leol yn hytrach na'i fod y prosiect diweddaraf mewn cyfres faith o brosiectau wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru sy'n brosiectau oferedd sosialaidd? Diolch.

Wel, mae'n drueni bod Llywodraeth y DU wedi methu â chefnogi'r cais am gyllid ffyniant bro i gynorthwyo'r Rhyl. Mae'r prosiectau oferedd hynny yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw wir wedi gweddnewid y Rhyl yn fy marn i. Mae'n dref yr wyf i wedi ei hadnabod yn llawer hwy na chi, ar ôl treulio diwrnodau lawer yno fel plentyn, ac rwy'n credu ei bod wedi elwa, heb amheuaeth, ar y cyllid gan Lywodraeth Cymru. Fel y dywedais, mae'n drueni na wnaeth Llywodraeth y DU gynnig rhywfaint o gyllid ffyniant bro. Gwn fod gan Jason McLellan, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, ac yn gweithio mewn partneriaeth, gynlluniau uchelgeisiol iawn ar gyfer y Rhyl. Fe wnes i ymweld â hi fy hun yr haf diwethaf yn rhan o fy ymweliad i edrych ar brosiectau adfywio yn benodol fel Gweinidog gogledd Cymru, ac roedd yn dda iawn gweld y pwyslais hwnnw ar adfywio, a gwn eu bod nhw'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod yr unedau hynny'n cael eu defnyddio'n llawn.

Gwelyau Gofal Llai Dwys

5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gynyddu capasiti gwelyau gofal llai dwys i gleifion ar draws Pen-y-bont? OQ59109

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 48 o welyau gofal llai dwys a phecynnau cymunedol ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cyfrannu at y cyfanswm Cymru gyfan o 595 o welyau sydd wedi cael eu creu i gynorthwyo'r broses o ryddhau pobl o'r ysbyty y gaeaf hwn.

Diolch, Gweinidog. Fis diwethaf, cynhaliodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ddigwyddiad yma yn y Senedd ar ddyfodol gofal brys yng Nghymru. Clywodd y digwyddiad gan glinigwyr ar lawr gwlad a siaradodd am yr angen am strategaeth gynaliadwy hirdymor. Mae'r data yn dangos, er bod presenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn debyg o flwyddyn i flwyddyn, mae capasiti yn parhau i gael ei ymestyn. Rydyn ni'n gwybod bod amrywiaeth o broblemau yn achosi hyn, o gleifion ag anghenion cymhleth iawn i ostyngiad mewn nifer y gwelyau cymunedol ledled Cymru a'r angen i gynyddu lefelau staffio meddygon ymgynghorol. Yn y digwyddiad, cynrychiolwyd Pen-y-bont ar Ogwr gan ein cyfarwyddwr clinigol gofal brys ar gyfer Ysbyty Tywysoges Cymru, ac roedd yn dda, mewn gwirionedd, clywed nad y brif broblem, fel sy'n wir mewn llawer o fannau eraill, yw recriwtio staff mewn gwirionedd. Fodd bynnag, diffyg gwelyau cymunedol sy'n creu llif araf mewn ysbytai ac felly'n effeithio ar amseroedd aros, oherwydd mae gan Ysbyty Tywysoges Cymru tua 300 o welyau, ac mae 160 o'r rheini wedi'u llenwi â chleifion sy'n feddygol iach, ac mae 80 o'r rheini yn aros am wely cymunedol neu wely gofal llai dwys. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu rhwystr ymadael.

Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r problemau hyn ledled Cymru. Mae'r 595 o welyau cymunedol i Gymru i'w croesawu, ond mae'n siomedig mai dim ond 15 o'r gwelyau yma wnaeth gyrraedd Ysbyty Tywysoges Cymru. Sut, felly, Gweinidog, y mae'r mynediad at fwy o welyau cymunedol yn cael ei benderfynu, a beth arall ellir ei wneud i sicrhau y gellir rhyddhau'r 80 o gleifion hynny ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n aros yn ein hysbyty, gan wella llif y cleifion drwy Ysbyty Tywysoges Cymru yn ogystal â'u gofal? Diolch.

14:00

Diolch. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae'r pwyslais ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar gryfhau ein gwasanaethau cymunedol. Rydyn ni eisiau i bobl fyw gartref, mor annibynnol â phosibl ac am gyhyd â phosibl. Er ei fod yn anodd dros ben, rwy'n credu bod darlun sy'n dod i'r amlwg o well llif cleifion ac arosiadau o lai o hyd i rai o'n cleifion hynaf a mwyaf eiddil, ac mae hynny wedi cyfrannu'n rhannol at sefyllfa perfformiad sefydlog yn y GIG, er gwaethaf yr heriau sylweddol a wynebwyd y gaeaf hwn. 

O ran y gwelyau gofal llai dwys ychwanegol a'r pecynnau gofal cymunedol a grëwyd dros y gaeaf, fel y disgrifiais yn fy ymateb cychwynnol, 595 yw'r cyfanswm erbyn hyn. A gwn, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bod rhwng 450 a 500 awr o ofal ail-alluogi ychwanegol wedi eu comisiynu ac yn cael eu cyflawni'n lleol.

Gweinidog, mae darparu gofal cam-i-lawr yn hanfodol os ydyn ni am fynd i'r afael â'r amseroedd aros sy'n tyfu'n barhaus y mae cleifion yn fy rhanbarth i a ledled Cymru yn eu dioddef. Wrth gwrs, pe na bai Llywodraeth Cymru flaenorol wedi cau ysbytai cymunedol a goruchwylio proses o gael gwared ar dros 10,000 o welyau o'n GIG, efallai na fyddem ni yn yr helynt hwn heddiw. Fodd bynnag, yr hyn sy'n bwysig nawr yw bod gofal cam-i-lawr yn cael ei ddarparu mewn modd mor ddiogel â phosibl. Gweinidog, rwyf i wedi derbyn nifer o adroddiadau bod cleifion wedi eu trosglwyddo i welyau gofal cam-i-lawr pan nad oedden nhw'n sefydlog yn feddygol. Mewn achosion o'r fath, mae'n rhaid i'r ward gofal cam-i-lawr ddibynnu ar y gwasanaeth ambiwlans ar gyfer gofal meddygol brys. Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad oes unrhyw drosglwyddiadau anniogel i ofal cam-i-lawr a bod gan unrhyw wely gofal llai dwys ofal meddygol digonol yn ogystal â gofal cartref?

Wel, fe wnaethoch chi ddefnyddio'r gair pwysig iawn, a 'diogel' oedd hwnnw, a dyna'n sicr yw'r flaenoriaeth. Ar 5 Ionawr, cynhaliodd swyddogion y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol uwchgynhadledd ryddhau genedlaethol gyda'r holl fyrddau partneriaeth rhanbarthol ledled Cymru, i ailadrodd ei disgwyliadau i bob ymdrech gael ei gwneud i gadw pobl gartref a pheidio â'u derbyn i'r ysbyty yn y lle cyntaf oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol, ac, wrth gwrs, y gwrthwyneb, i alluogi'r rhai yn yr ysbyty i adael yr ysbyty cyn gynted ag yr oedd yn ddiogel iddyn nhw wneud hynny, i helpu i gadw capasiti ein hysbytai ac atal y peryglon sy'n gysylltiedig ag arhosiad maith mewn ysbyty.

Lles Anifeiliaid

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ59099

Diolch. Cyhoeddwyd diwygiadau i'n canllawiau statudol ar gyfer Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014. Bydd cyflwyno rheoliadau lles anifeiliaid newydd yn cael ei flaenoriaethu dros ddiwygio rheoliadau presennol yn ystod cyfnod y cynllun. 

Mae'n gymorth mawr cael gwybod hynna. Yn y 15 mis diwethaf, mae dau o drigolion Caerffili wedi cael eu lladd gan gŵn peryglus. Roedd un yn fachgen 10 oed, a'r llall yn fenyw 83 oed. Roedd y ddau yng nghymuned Penyrheol, sydd wedi cael ei tharo gan y ddau ddigwyddiad trasig, ar wahân, hyn. Mae fy nghydweithiwr Wayne David AS wedi codi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin ac mae'n rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddiweddaru a diwygio Deddf Cŵn Peryglus 1991. Mae rhaglen ddogfen y BBC Panorama yn ddiweddar wedi tynnu sylw at weithgareddau bridwyr cŵn diegwyddor, sy'n bridio cŵn ac yn cyfuno bridiau i osgoi bylchau yn y gyfraith, ac yna mae'r cŵn hynny yn cyrraedd cymunedau fel Penyrheol ac eraill ledled Cymru.

Felly, wrth ddiweddaru Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014, yr ydych chi wedi ymrwymo i'w wneud, a oes modd ystyried y mater hwn, yn enwedig traws-fridio? A byddwn yn hapus i eistedd i lawr gyda'r Gweinidog i drafod canlyniadau newid y gyfraith a sut y gall fod o fudd i'r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnyn nhw yn y ffordd drasig yma.

14:05

Byddwn, yn sicr, byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â chi. Roedd gen i un yn fy etholaeth fy hun hefyd—bu ymosodiad angheuol gan gi yn fy etholaeth fy hun—a chyn i Julie Morgan ymuno â'r Llywodraeth, rwy'n cofio cael sawl cyfarfod gyda hi a chynghorydd lleol yng Nghaerdydd ynghylch hyn. Mae hyn yn rhywbeth y mae wir angen mynd i'r afael ag ef. Fel rydych chi'n dweud, nid yw'r Ddeddf Cŵn Peryglus wedi'i datganoli, ac rwyf i wedi codi hyn gyda chydweithwyr yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i weld a ellid cael cynllun i ddiwygio'r Ddeddf. Yn anffodus, nid yw'n ymddangos bod unrhyw symudiad gan Lywodraeth y DU i wneud hynny. Mae'r Ddeddf yn cwmpasu perchnogaeth bridiau penodol o gŵn yr ystyrir eu bod nhw'n beryglus, ond rydyn ni'n gwybod, wrth gwrs, y gall pob brîd o gŵn ddangos ymddygiad ymosodol weithiau. Felly, rwy'n meddwl bod hwnnw'n bwynt pwysig i'w gofio. I mi, fel Llywodraeth Cymru, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol, yn enwedig o ran y pwynt penodol hwnnw.

Rwy'n sicr yn hapus iawn i edrych ar eich awgrym. Fel y gwyddoch, fe wnaethon ni ddiweddaru'r rheoliadau trwyddedu lles anifeiliaid, ac fe wnaethon ni gau bylchau yn y rheini yn ymwneud â gwerthu anifeiliaid anwes i geisio gwella gorfodaeth gan awdurdodau lleol. Bu gennym ni'r prosiect gorfodi y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ariannu ers tair blynedd. Rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn gwneud penderfyniadau cytbwys pan fyddan nhw'n prynu anifail anwes, felly roedd hynny'n rhan o'r rheoliadau hynny hefyd. Ond yn sicr mae mwy y gallwn ni ei wneud. Rwyf i wedi gofyn i swyddogion ddechrau edrych ar drwyddedu cŵn eto. Pan oeddwn i'n ifanc, roedd yn rhaid i bobl fod â thrwydded gŵn, ac efallai mai nawr yw'r amser i ystyried hynny. Rwyf i wedi gofyn i fy prif swyddog milfeddygol dros dro wneud hynny i mi.

I symud y pwyslais at les anifeiliaid nad ydyn nhw'n anifeiliaid anwes, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol yn eich swyddogaeth fel y Gweinidog materion gwledig bod dyfrgwn a llwynogod wedi'u dynodi'n gludwyr y ffliw adar pathogenig iawn H5N1. Yn ôl data'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, mae 66 o famaliaid wedi eu profi hyd yma ar gyfer y clefyd, a chanfuwyd bod naw o ddyfrgwn a llwynogod yn bositif. Mae'n ymddangos bod yr anifeiliaid carthysol hyn, sy'n ysglyfaethu ar adar heintus, mewn perygl o ddal H5N1. Felly, o ystyried hyn, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddadansoddi hyn a sicrhau nad yw hyn yn lledaenu drwy'r llwynogod gwyllt a'r dyfrgwn gwyllt yma yng Nghymru?

Diolch. Fel y gwyddoch, rydym ni wedi cael achosion parhaus o ffliw adar ledled y DU dros yr 16 i 17 mis diwethaf bellach. Rydych chi yn llygad eich lle, mae'n rhywbeth y mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn arno o ran y canfyddiadau gan APHA oherwydd nid wyf i'n credu ei fod yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei weld—yn sicr doeddwn i ddim wedi bod yn ymwybodol ohono mae'n debyg bum mlynedd yn ôl. Felly, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sy'n esblygu—nid dyna'r gair cywir. Felly, os oes mwy o wybodaeth i ddod i'r amlwg, byddaf yn sicr yn hapus i rannu, ond gwn, eto, fod y prif swyddog milfeddygol dros dro yn awyddus iawn i weld beth allwn ni ei ddysgu o'r data hynny.

Prynhawn da, Gweinidog. Fyddwch chi ddim yn synnu o wybod mai un agwedd yr wyf i wedi ei chodi yma'n gyson yn y Siambr yw gwahardd rasio milgwn. Yn amlwg mae llawer ohonoch chi'n gwybod fy mod i wedi codi mater ein ci, Arthur. Yn anffodus, fe wnaethon ni ffarwelio ag Arthur ddoe. Dim ond 11 oed oedd Arthur, a dim ond ers tair blynedd yr oedd wedi bod gyda ni. Y cyfnod cyn hynny, yr wyth mlynedd cyn hynny, roedd naill ai wedi bod mewn cartref cŵn, neu bum mlynedd ar drac rasio, lle daeth y cartref cŵn o hyd iddo mewn amodau gwael ofnadwy. Roedd Arthur yn gi pryderus iawn. Aeth ei goesau cefn, a chafodd anaf difrifol iawn i'w wddf wrth rasio. Nid wyf i eisiau gweld mwy fel Arthur; nid wyf i eisiau dim mwy o gŵn yn dod allan fel Arthur. Felly, mae'n rhaid i ni wahardd rasio milgwn. Byddwn yn dweud wrthych: beth sy'n mynd i ddigwydd o ran eich swyddogion ddim yn ystyried a ddylid rheoleiddio rasio milgwn, ond ein bod ni eisiau gweld rasio milgwn yn cael ei wahardd yma yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.

Jane, mae'n ddrwg iawn gen i glywed am Arthur. Cafodd dair blynedd wych gyda chi. Rwy'n gwybod hynny'n bendant. Ac os gallwn ni wneud rhywbeth er cof am Arthur, byddwn yn sicr yn gwneud hynny. Fel y gwyddoch, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi bod yn edrych arno'n fanwl iawn. Rydyn ni wedi cael adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar wahardd rasio milgwn, ac, fel y gwyddoch, mae fy swyddogion wedi bod yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud yn hynny o beth. Mae angen i ni gasglu tystiolaeth os dyna'r ffordd yr ydym ni'n credu y dylai fynd. Ni allwn wneud unrhyw beth heb dystiolaeth ac edrychaf ymlaen yn fawr at barhau â'r ddadl hon. Ond mae'n wir ddrwg gen i am Arthur.

14:10
Iechyd Galwedigaethol

7. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi busnesau i ymestyn eu cynnig iechyd galwedigaethol? OQ59105

Diolch. Ar y cyd â rhaglen Cymru Iach ar Waith, bydd gwasanaeth cymorth mewn gwaith newydd yn dechrau ym mis Ebrill 2023. Bydd hwn yn darparu cymorth galwedigaethol a therapiwtig i weithwyr aros mewn cyflogaeth neu ddychwelyd i gyflogaeth sy'n absennol o'r gwaith neu mewn perygl o fod yn absennol oherwydd eu salwch corfforol neu feddyliol.

Diolch i chi, Trefnydd, am eich ymateb yn y fan yna. Ac, wrth gwrs, Trefnydd, efallai eich bod chi'n ymwybodol bod cannoedd ar filoedd o bobl wedi gadael y gweithlu ers 2019, ac mae ymdrechion mawr o ran cadw pobl hŷn yn eu swyddi am gyfnod hirach i gefnogi'r economi. Un casgliad cynnar a adroddwyd o adolygiad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yw bod gan gwmnïau sy'n darparu cymorth iechyd galwedigaethol helaeth i weithwyr gyfradd gadw well oherwydd eu bod nhw'n colli llai o staff i salwch neu broblemau cysylltiedig. Ac rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, bod gennym ni dros 50,000 o bobl yn aros dros ddwy flynedd ar hyn o bryd am driniaeth yn GIG Cymru. Rwy'n ymwybodol y bydd sefydliadau fel Comisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru yn cynnig cymorth iechyd galwedigaethol da i'w gweithwyr. Rwy'n ymwybodol hefyd o'r degau o filoedd o fusnesau bach ledled Cymru na fydd ganddyn nhw'r gallu hwnnw i gynnig y cymorth iechyd galwedigaethol hwnnw. Felly, a gaf i ofyn, Gweinidog, beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu busnesau bach iawn—efallai dim ond un neu ddau o staff sy'n cael eu cyflogi ym mhob busnes—sut maen nhw'n cynorthwyo'r busnesau hynny i gynnig gwell cymorth iechyd galwedigaethol i'w staff?

Diolch. Fe wnes i nodi sylwadau diweddar y Canghellor yn annog pobl hŷn i ddychwelyd i'r farchnad lafur. Nid yw rhai ohonom ni erioed wedi gadael. Ac rwy'n credu bod pryder, pryder gwirioneddol, am nifer y bobl dros 50 oed sydd wedi gadael y farchnad lafur yn gymharol gynnar. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn o ran y ddarpariaeth iechyd galwedigaethol ac, yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo busnesau yng Nghymru i greu gweithleoedd mwy iach trwy wneud gwelliannau i'w harferion llesiant ac iechyd. Mae gennym ni wasanaeth cymorth mewn gwaith newydd hefyd. Mae hwnnw wedi'i ariannu'n llwyr gan Lywodraeth Cymru, ac mae hwnnw'n darparu cymorth galwedigaethol a therapiwtig i weithwyr. A cheir gwybodaeth a chanllawiau penodol hefyd ar sut y gall busnesau ymestyn eu harlwy iechyd galwedigaethol. Mae'r rheini ar gael ar wefan Busnes Cymru, felly byddwn yn annog unrhyw fusnesau i gael golwg ar y rheini. Ceir dolenni perthnasol ar dudalen Twitter Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd.

Costau Byw

8. Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu helpu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn Nwyrain De Cymru gyda'r argyfwng costau byw? OQ59106

Rydyn ni'n parhau i gynorthwyo pobl agored i niwed ledled Cymru, gan gynnwys y rhai yn Nwyrain De Cymru, i helpu i liniaru'r argyfwng costau byw. Mae'r mentrau'n cynnwys ein cyflog cymdeithasol hael, ehangu ein cynnig gofal plant, ein cynnig prydau ysgolion cynradd am ddim cyffredinol, ac adolygu'r cynllun lleihau'r dreth gyngor i'w wneud yn decach.

Diolch yn fawr ac rwy'n croesawu'r ateb yna. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â'r bwrdd ymddygiad gorfodi ac fe wnaethon ni drafod y taliadau annheg sy'n cael eu codi ar lawer o bobl sy'n ei chael hi'n anodd talu dyled. Cefais enghraifft o fenyw sy'n byw mewn tŷ cymdeithasol yng Nghasnewydd ac sy'n derbyn taliadau credyd cynhwysol ac annibyniaeth personol. Bu'n destun achos gorfodi Uchel Lys ar ran credydwr cyfleustodau. Gofynnodd i'r cwmni casglu dyledion a allai drefnu cynllun rhandaliadau, ond mynnodd y cwmni ar ymweliad i weld a oedd ganddi unrhyw asedau. Roedd hyn yn golygu, yn ogystal â'r tâl o £75 a ychwanegwyd at ei dyled oherwydd y cam gorfodi dros y ffôn, yr ychwanegwyd £190 at ei dyled ar gyfer yr ymweliad. Pe na bai wedi bod gartref ar adeg yr ymweliad cyntaf, byddai ail ymweliad wedi arwain at ychwanegu ffi gorfodi cam 2 yr Uchel Lys o £195. Mae'n ymddangos nad yw'r system a fabwysiadwyd gan rai cwmnïau casglu dyledion yn ddim mwy na sgêm sy'n cam-fanteisio ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae'n rhaid iddo stopio.

A all y Llywodraeth gyhoeddi canllawiau i'r sector cyhoeddus a chwmnïau cyfleustodau, fel eu bod nhw'n gweithio gyda chwmnïau casglu dyledion sy'n gweithio ar y cyd â'r bwrdd ymddygiad gorfodi yn unig? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi hefyd archwilio unrhyw ffyrdd o leihau'r nifer o weithredwyr diegwyddor yn y sector hwn er mwyn diogelu ein dinasyddion.

Diolch, rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn, a gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yr wythnos nesaf, yn cyfarfod â chwmnïau gorfodi i gyflwyno'r union bwynt hwnnw rydych chi'n ei wneud, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn hapus iawn i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn dilyn y cyfarfodydd hynny.

14:15
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd eto sy'n gwneud y datganiad yma. Dwi'n galw arni i gyflwyno'r datganiad. Lesley Griffiths.

Diolch. Does dim newidiadau i'r busnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gaf i alw eto am ddatganiad llafar ar yr ymchwiliad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymwneud â'r digwyddiadau a achosodd i amodau gael eu gosod ar gyfrifon 2021-22 a'r ymchwiliad gwrth-dwyll dilynol gwerth £122 miliwn, sydd bellach ar y gweill? Mae llawer o gwestiynau gan bobl yn y gogledd ac maen nhw eisiau atebion iddynt, gan gynnwys a yw'r ymchwiliad hwn yn ymestyn y tu hwnt i'r bwrdd iechyd, pryd ddaw i ben, a oes unrhyw erlyniadau yn debygol, a fydd goblygiadau ariannol sylweddol i wasanaethau'r GIG yn y gogledd i'n trigolion lleol, a fydd rhagor o amodau i'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac a oes yna hefyd swyddogion Llywodraeth Cymru a allai fod yn gysylltiedig â hyn. Rwy'n credu bod y rhain yn gwestiynau teg, y mae angen atebion iddyn nhw, a byddai'n ddefnyddiol pe gallem gael datganiad llafar y gallwn ofyn cwestiynau i'r Gweinidog amdano. Rwy'n gweld bod y Gweinidog yn nodio, felly mae'n ymddangos y gallwn ni gael un.

Mae'r cwestiynau rydych chi'n eu gofyn yn deg iawn ac mae angen ateb trylwyr. Does gen i ddim yr atebion ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei bod hi ychydig yn rhy gynnar ar hyn o bryd mae'n debyg, ond rwy'n credu ar yr adeg fwyaf priodol, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Trefnydd, rydyn ni i gyd wedi ein dychryn, yn briodol, gan y dystiolaeth sydd wedi ei chyflwyno yn ymwneud â rhywiaeth, casineb at fenywod a hiliaeth o fewn Undeb Rygbi Cymru. Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, cafodd un o bwyllgorau craffu'r Senedd gyfle i holi URC a Dirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon yr wythnos ddiwethaf ar y mater. Yn ystod y sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru, roedd hi'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod am rai honiadau difrifol ym mis Mai 2022, a bod trafodaethau wedi bod rhwng y Dirprwy Weinidog ac URC ar y materion hyn. Hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon ar y mater hwn, yn egluro'r hyn oedd yn hysbys i Lywodraeth Cymru a phryd, ac yn amlinellu pa gamau a gymerwyd. O ystyried budd y cyhoedd yn y mater ac arwyddocâd yr honiadau a wnaed, byddwn i'n croesawu cyfle i'r Senedd gyfan gael yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ag URC yn ystod y cyfnod hwnnw.

Diolch. Yn dilyn ymddangosiad cadeirydd a phrif weithredwr dros dro URC o flaen y pwyllgor, ac yn amlwg y Dirprwy Weinidog diwylliant a'r celfyddydau a'i swyddogion, rwy'n credu mai'r cam nesaf, a'r cam mwyaf priodol, yw i'r Gweinidog ysgrifennu at y pwyllgor.

Cyhoeddodd Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi adroddiad oedd yn achosi llawer o bryder ddydd Gwener am ei harolygiad dirybudd o garchar Eastwood Park. Cynhaliwyd yr archwiliad hwnnw ym mis Hydref, ac mae'r amodau a ddisgrifiwyd gan yr arolygiaeth yn anodd iawn i'w darllen: staeniau gwaed ar y wal, trallod meddwl eithafol, gan gynnwys achosion o hunan-niweidio a oedd yn gwaethygu, nad oedd y staff, a oedd yn ceisio'u gorau ond a oedd wedi'u hyfforddi'n wael, yn gallu ymdopi â nhw. Gan mai dyma'r prif garchar lle mae menywod de Cymru yn cael eu carcharu, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gael gwybod ar ba bwynt y cafodd wybod am yr amodau hyn a beth sydd wedi'i wneud yn y tri mis diwethaf hyn i wella'r sefyllfa enbyd i fenywod sy'n ddifrifol wael ac eto'n cael eu carcharu ar ddedfrydau byr iawn mewn amodau gwirioneddol ofnadwy.

Diolch. Rwy'n gwybod bod yr adroddiad wedi bod yn ddirdynnol iawn i'w ddarllen. Nododd fylchau sylweddol mewn gofal a diffyg cefnogaeth go iawn i rai menywod gofidus ac agored iawn i niwed. Mae'n bwysig iawn bod menywod sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol yn cael eu cadw mewn cyfleusterau diogel a sicr sy'n gwbl addas i'r diben. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod ar ymweliad yno yn ddiweddar gyda'r Cwnsler Cyffredinol a bydd yn gwneud datganiad ysgrifenedig.

Galwaf am ddau ddatganiad llafar neu ddadl yn amser Llywodraeth Cymru ar ddau fater pwysig.

Y cyntaf o'r rhain yw cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch i bobl sydd â nam ar y synhwyrau. Mae gan wasanaethau cyhoeddus ddyletswyddau cyfreithiol o dan adran 20 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau bod pobl anabl yn gallu defnyddio gwasanaethau yn gyfartal â phobl nad ydynt yn anabl, a elwir yn ddyletswydd addasiadau rhesymol. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod pobl sydd â nam ar y synhwyrau yn cael gwybodaeth ar ffurf y gallant ei ddarllen a'i ddeall. Fodd bynnag, yn dilyn ymateb y Gweinidog Iechyd i'r llythyr ar y cyd gan RNIB Cymru a'r RNID yng Nghymru yn gofyn am eglurder ynghylch safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch i bobl â nam ar y synhwyrau, fe wnaethon nhw ateb gan amlinellu nifer o bryderon parhaus sydd ganddyn nhw o hyd, ac fe wnaethon nhw eu rhannu gyda mi hefyd gan mai fi yw cadeirydd y grwpiau trawsbleidiol ar anabledd ac ar faterion byddar.

Fe wnaethon nhw dynnu sylw at y diffyg craffu, atebolrwydd ac adrodd ynghylch gweithredu'r safonau ar draws GIG Cymru, a bod hon yn broblem o ran diogelwch cleifion. Fe wnaethon nhw alw ar Lywodraeth Cymru am eglurder ynghylch pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi clustnodi'r adnoddau angenrheidiol i benodi arweinydd hygyrchedd, er gwaethaf derbyn hyn fel argymhelliad ar ddau achlysur gwahanol, a wnaed yn wreiddiol gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Senedd ac yna eto gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fe wnaethon nhw alw am ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y safonau'n cael eu gwreiddio o fewn byrddau iechyd a bod cynllun gweithredu, targedau ac amserlenni clir yn cyd-fynd â nhw. Fe wnaethon nhw alw am adrodd tryloyw a chyhoeddus ar y safonau, yn nodi pa dargedau nad ydynt yn cael eu cyrraedd gan ba fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau. Felly, rwy'n galw am ddatganiad llafar neu ddadl yn unol â hynny.

Galwaf hefyd am ddatganiad llafar neu ddadl yn amser Llywodraeth Cymru ar gefnogaeth i blant byddar yng Nghymru. Mae Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru wedi rhybuddio am argyfwng addysgol ar y gorwel i blant byddar yng Nghymru. Mae arolwg y Consortiwm ar gyfer Ymchwil i Addysg Fyddar o awdurdodau lleol yn dangos bod nifer yr athrawon sy'n fyddar yng Nghymru wedi gostwng 20 y cant dros y degawd diwethaf. Yn ogystal â hynny, mae mwy na thraean o athrawon sy'n fyddar ledled Cymru dros 50 oed, sy'n golygu eu bod nhw'n debygol o ymddeol yn y 10 i 15 mlynedd nesaf.

14:20

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu strategaeth gweithlu ledled Cymru i recriwtio staff arbenigol i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol plant byddar, darparu cyllid er mwyn sicrhau bod digon o ddarpariaeth hyfforddiant i greu cenhedlaeth newydd o athrawon sy'n fyddar, ac i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod pob rhiant yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael trwy'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol. Dyma'r ffaith y tu ôl i'r rhethreg.

Galwaf eto am ddatganiad llafar brys neu ddadl yn amser Llywodraeth Cymru ar y ddau fater hyn, efallai wedi'u cyfuno neu efallai ar wahân. Diolch.

Diolch. O ran eich ail gwestiwn, rydych chi'n hollol iawn; mae'n hanfodol bod anghenion dysgu plentyn byddar yn cael eu diwallu'n llwyr. Fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg ysgrifennu atoch ar y mater.

O ran eich cais cyntaf—ni fydden nhw'n gallu cael eu gwneud gyda'i gilydd, oherwydd byddai'n ddau Weinidog gwahanol—rwy'n gwybod bod swyddogion y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda'r tasglu cydraddoldeb anabledd, ac ar yr adeg fwyaf priodol, rwy'n siŵr y bydd hi'n gallu ysgrifennu atoch gydag ychydig o wybodaeth bellach.

Mi fuaswn i'n licio gofyn am ddadl a datganiad ar frys yn amser y Llywodraeth ar ddyfodol deintyddiaeth yng Nghymru, achos mae'n rhaid i fi ddweud ei bod hi'n anodd gweld dyfodol i ddeintyddiaeth NHS yng Nghymru ar hyn o bryd. Flwyddyn yn ôl, mi oedd yna naw deintyddfa yn darparu gwasanaethau NHS yn Ynys Môn. Erbyn hyn, dim ond chwech sydd yna. Deintyddfa yng Nghaergybi ydy'r diweddaraf i roi gwybod i gleifion na fyddan nhw'n trin cleifion NHS o hyn ymlaen. Mae pobl yn clywed y dylen nhw fynd i chwilio am ddeintyddfa arall, ond does yna ddim deintyddfeydd eraill ar gael, a prin ydy hyder y bwrdd iechyd y gallan nhw ddod o hyd i rai i ddarparu gwasanaethau. A bod yn onest, er ein bod ni wedi colli'r tri yna, gyda'r lefel o forâl fel ag y mae o, a diffyg hyder yn y Llywodraeth, mi allen ni golli mwy. Mae iechyd deintyddol pawb yn mynd i ddioddef—pawb ar draws cymdeithas—ond wrth gwrs, y rhai lleiaf breintiedig sy'n mynd i ddioddef fwyaf. Maen nhw'n mynd i ddioddef yn unigol ac rydyn ni fel cymdeithas yn mynd i dalu'r pris am hynny. Mae angen sortio hyn allan, neu mi fydd y twll rydyn ni ynddo fo yn mynd yn ddyfnach. Rydyn ni angen i'r Llywodraeth gyflwyno cynllun am sut rydyn ni'n mynd i symud ymlaen o hyn, a hynny ar frys.

Diolch. Byddwch yn ymwybodol bod y mwyafrif o ddeintyddion yn ymarferwyr hunangyflogedig annibynnol. Maen nhw'n gallu dewis sut maen nhw'n treulio'u hamser. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw brinder deintyddion, ond rwy'n credu bod yna brinder deintyddion sy'n barod i drin mwy o gleifion y GIG. Fel y gwyddoch chi, mae gennym gontract deintyddol newydd, ac mae'r Gweinidog eisoes wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar hynny, felly dydw i ddim yn credu bod angen datganiad pellach ar hyn o bryd.

Dau ddatganiad ysgrifenedig, os gwelwch yn dda, Trefnydd, yn gyntaf o ran Madrid, sy'n ceisio amgylchynu ei hun gyda choedwig drefol 75 km i liniaru'r argyfwng hinsawdd ac i wella bioamrywiaeth. Mae yna syniad tebyg yn cael ei gyflwyno gan ymgyrchwyr yma yng Nghaerdydd, i'r ddinas ddod yn ddinas barc newydd, gyda pharciau gwledig mawr ar gyrion y ddinas, mewn ardaloedd fel Sain Ffagan, mynydd Caerffili, afon Rhymni a Llaneirwg. Cafodd y rhan fwyaf o barciau Caerdydd hyd yma eu hagor yn ystod Oes Fictoria, felly does dim parciau newydd wedi bod yng Nghaerdydd ers degawdau lawer. Byddai hyn yn datblygu amddiffynfeydd llifogydd naturiol, yn gwella ansawdd yr aer ac yn amsugno allyriadau tŷ gwydr a gynhyrchir gan y ddinas. A allem ni gael datganiad ysgrifenedig gan y Llywodraeth ar y fenter hon sydd i'w chroesawu?

Yn ail, a gawn ni ddatganiad ysgrifenedig ar gynllun datblygu lleol newydd Caerdydd? Cefais gyfarfod diddorol iawn yn ddiweddar gyda grŵp cynllun datblygu lleol Radur a Threforgan ar y mater hwn. Mae awgrymiadau y gellir adeiladu mannau gwyrdd mawr y tu mewn i'r cynllun datblygu lleol newydd o ystyried y twf poblogaeth is na'r disgwyl yn y cyfrifiad diwethaf ac effaith amgylcheddol gormod o ddŵr glaw ffo a llifogydd. Felly, a allem ni gael datganiad ysgrifenedig ar hynny hefyd os gwelwch yn dda? Diolch.

14:25

O ran eich cwestiwn olaf, mae CDLl yn fater i'r awdurdod lleol, felly dydw i ddim yn gweld unrhyw angen am ddatganiad gan y Llywodraeth. Roedd yn dda iawn clywed am y fenter gyntaf yr oeddech chi'n ei thrafod. Fel y gwyddoch chi, un o'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu yw creu coedwig genedlaethol ledled Cymru, ac yn sicr rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn plannu coed. Byddwch yn ymwybodol o fentrau Llywodraeth Cymru, a byddwn i'n annog pawb i gasglu coeden am ddim o'u canolfan agosaf a naill ai ei phlannu yn eu gardd neu sicrhau y gallwn ni ei phlannu ar eich rhan os nad oes unman i chi wneud hynny. Ond mae bob amser yn dda clywed am fentrau newydd. Fel y gwyddoch chi, un o'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu yw creu parc cenedlaethol newydd. Rwy'n gwybod ei fod i fyny yn y gogledd-ddwyrain, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn nodi ardaloedd lle gallwn, yn wir, gael parciau y gall pawb, yn amlwg, eu mwynhau.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch gwaredu gwastraff gwenwynig hanesyddol yn chwarel Ty Llwyd yn Ynys-ddu? Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach yn berchennog ar y safle, ar ôl prynu'r chwarel yn orfodol, ond mae wedi gwrthod cofrestru Ty Llwyd fel tir halogedig er gwaethaf pryder lleol ynghylch trwytholch yn gollwng ac yn llygru eiddo yn y gymdogaeth yn ogystal â'r ffyrdd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadarnhau mai cyfrifoldeb y cyngor yn unig yw cofrestru tir halogedig, ond mae CBS Caerffili yn mynnu nad yw'r trwytholch yn llifo o'i eiddo. A wnewch chi ymuno â mi i gefnogi'r trigolion, Gweinidog, a'r cynghorwyr lleol Jan Jones a Janine Reed, wrth alw am gynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r bygythiad posibl i dir cyfagos ac Afon Sirhywi yn sgil sylweddau niweidiol yn gollwng o chwarel Ty Llwyd? Diolch.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymgysylltu'n llawn â chyngor Caerffili ac maen nhw'n fodlon â'r mesurau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i leihau unrhyw risgiau i iechyd pobl. Rwy'n gwybod bod CNC hefyd yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a'u contractwyr i ddarparu rhywfaint o gymorth technegol a chyngor ynghylch gwaith pellach y gallai fod ei angen i leihau cymaint â phosibl effeithiau oddi ar y safle a achosir gan ddraenio o'r safle yn ystod achosion o law trwm.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddiweddariad gan y Llywodraeth ynglŷn â'r cynnydd mewn cyllid i weithwyr gofal, os gwelwch yn dda? Ym mis Rhagfyr 2021, rwy'n credu, cyhoeddodd y Llywodraeth gyllid i sicrhau bod gweithwyr gofal yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol, oedd fod i gael ei dalu i'r gweithwyr gofal o fis Ebrill 2022. Fy nealltwriaeth i yw bod y Llywodraeth wedi darparu'r arian i'r awdurdodau lleol, ac yn fy etholaeth i, o leiaf, gwn fod Cyngor Sir Gwynedd yn ei dro yn trosglwyddo'r arian hynny i'r darparwyr. Fodd bynnag, mae un darparwr, Achieve Together, sydd wedi methu â thalu ei weithwyr y cynnydd am y cyfnod rhwng Ebrill a Hydref 2022. Cyflogau teilwng ei weithlu yw'r arian hwn. Mae'r cwmni'n dweud nad ydyn nhw'n gallu ei dalu oherwydd nad yw pob awdurdod wedi pasbortio'r arian ymlaen, ond nid eu harian nhw ydyw i'w gadw, felly mae'n peri i rywun ofyn beth maen nhw wedi'i wneud gyda'r arian hwnnw a phryd y gall eu gweithwyr ddisgwyl gweld y cyflog hwn sy'n eiddo iddyn nhw yn briodol. Hoffwn i'r Dirprwy Weinidog edrych ar hyn a chyflwyno datganiad os yn bosib.

Ac yn olaf ac yn gryno, rwyf eisoes wedi codi mater gwasanaeth bws T19 o Flaenau Ffestiniog i Landudno, sydd ar fin dod i ben ddiwedd yr wythnos hon. Nid wyf i na thrigolion Blaenau Ffestiniog wedi cael diweddariad, na chlywed dim, ers i mi godi hwn. A all y Dirprwy Weinidog roi diweddariad brys ar ba gynlluniau sydd ar waith ar gyfer y llwybr hwnnw er mwyn i fy etholwyr allu parhau i fynychu'r ysgol, mynd i'r gwaith neu gyrraedd eu hapwyntiadau mewn pryd? Diolch.

Diolch. Dydw i ddim yn credu bod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwybodol o'r mater penodol yr ydych chi'n ei godi, ac rwy'n credu y byddai'n dda iawn pe gallech chi ysgrifennu ati, ac fe wnaiff hi yn sicr edrych i mewn i'r hyn a oedd, yn amlwg, yn sefyllfa bryderus iawn yr oeddech chi'n ei hamlinellu. 

O ran gwasanaethau bysiau, byddwch yn ymwybodol ein bod ni, ledled Cymru, wedi bod â rhai problemau o ran gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd i'n bysiau. Rwy'n credu y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ynghylch gwasanaethau bysiau ychydig yn fwy cyffredinol mae'n debyg, ond ni fydd yn y dyfodol agos iawn, ond bydd, mae'n debyg, yn ystod y tymor nesaf. 

14:30
3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+

Eitem 3 sydd nesaf, y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y cynllun gweithredu LGBTQ+. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn. 

Mae Mis Hanes LHDT yn rhoi cyfle i fyfyrio ar ba mor bell yr ydym wedi dod yn yr ymdrech dros hawliau LHDTC+, a dathlu bywydau pobl LHDTC+ sydd, am amser rhy hir ac yn rhy aml, wedi cael eu cuddio oddi wrth hanes. Ond, mae angen gwneud mwy na myfyrio ar ein gorffennol ni; mae angen i ni ddysgu gwersi ohono. Ni fyddwn ni'n anghofio am y niwed y mae gwahaniaethu, casineb ac allgáu wedi'i achosi i gymaint o bobl LHDTC+. Ni fyddwn chwaith yn anghofio y cynnydd a'r cyflawniadau a fu gennym yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, diolch i'r ymgyrchwyr a'r cynghreiriaid sydd wedi braenaru'r tir.

Ond ni allwn laesu dwylo. Mae pobl LHDTC+ yn parhau i wynebu gwahaniaethu ac aflonyddu. Rydym ni mewn oes pryd gellir teimlo ein bod ni dan ymosodiad a'n hawliau ni mewn perygl o gael eu tynnu yn ôl, a chymunedau LHDTC+ yn aml yn cael eu gwneud yn arfau yn enw yr hyn a elwir yn ddadl wleidyddol ac yn y cyfryngau. Rydym ni'n parhau i fod yn unplyg fod Llywodraeth Cymru yn sefyll gydag ac ymhlith ein cymunedau LHDTC+ yng Nghymru. Rydyn ni'n dymuno creu Cymru lle mae pawb yn teimlo'n rhydd, eu bod yn cael eu cefnogi ac yn ddiogel i fyw a bod fel nhw eu hunain. Dyna pam mae hawliau LHDTC+ wedi eu hymgorffori yn ein rhaglen lywodraethu, maen nhw'n elfen allweddol o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, a dyna pam rydyn ni wedi datblygu cynllun gweithredu LHDTC+ beiddgar ac uchelgeisiol.

Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi lansiad a chyhoeddiad heddiw ein cynllun gweithredu LHDTC+ uchelgeisiol ac eang i Gymru—y cyntaf o'i fath. Mae'r cynllun hwn yn cryfhau amddiffyniadau i bobl LHDTC+, yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb, ac yn helpu i gydlynu camau ar draws y Llywodraeth, y cymunedau a'r genedl, ar gyfer cyflawni ein huchelgais o sicrhau mai Cymru yw'r wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Er bod cyhoeddi'r cynllun hwn yn gam allweddol ar y daith, mae ein gwaith ni i wella cydraddoldeb i bobl LHDTC+ wedi dechrau yn barod. Dim ond yn y mis diwethaf, fe amlinellais ein camau nesaf yn ein gwaith o wahardd arferion trosi. Mae gwasanaethau cymorth wedi eu hehangu ledled Cymru, ac mae gweithgor o arbenigwyr wedi ei ffurfio. Fe fydd y grŵp yn rhoi'r cyngor a'r arbenigedd sydd eu hangen arnom i ymwared â'r hen arferion ffiaidd hyn, ac mae'r cyfarfod cyntaf eisoes wedi bod. Ochr yn ochr â hyn, bydd ein hymgyrch cyfathrebu trosedd gwrth-gasineb, Mae Casineb yn Brifo Cymru, â mwy o bwyslais ar LHDTC+ eleni, ac yn cyfeirio pobl at ganolfan cymorth casineb Cymru, sy'n cynnig cymorth cyfrinachol i ddioddefwyr.

Gwnaethpwyd cynnydd hefyd ym maes iechyd rhywiol drwy'r cynllun gweithredu HIV sydd ar ddod i Gymru, ac rydyn ni'n adnewyddu ein hymrwymiadau ni i fynd i'r afael â diagnosis hwyr yng Nghymru a'r gwarthnod sy'n gysylltiedig â HIV, a gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw gyda HIV. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi rhoi arian i fudiadau Pride lleol ledled Cymru. Cefnogodd y gronfa Pride ar lawr gwlad Pride y gogledd ym Mangor, Pride in the Port yng Nghasnewydd, Abertawe, Y Bont-faen, Pride y Barri, a Glitter Pride, gan gysylltu cymunedau ledled y wlad. Rydyn ni'n gwybod cymaint yw gwerth hyn a'r gwahaniaeth y gall ei wneud i'r gymuned LHDTC+, ac yn y flwyddyn i ddod fe fyddwn ni'n ategu llwyddiant hwn drwy ehangu'r gronfa Pride ar lawr gwlad. Gobeithiwn ymestyn ymhellach eto, gan gyrraedd ardaloedd mwy gwledig a threfi llai, a galluogi digwyddiadau yn y Gymraeg a sicrhau bod cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd a bod yn nhw eu hunain ledled Cymru.

Dirprwy Lywydd, fe ddywedais i yn gynharach sut, yn anffodus, yn rhy aml yn yr hinsawdd bresennol, ei bod yn teimlo fel bod ein hawliau dan ymosodiad, a neb yn fwy felly na'r gymuned draws, o'r gwenwyn ar Twitter, i'r hyn a elwir yn wleidyddiaeth boblyddol a'r naratif yn y cyfryngau a gynlluniwyd i roi pobl benben â'i gilydd. Rydyn ni'n ymrwymo o'r newydd i gefnogi pobl draws ac anneuaidd, a'n man cychwyn yw mai dynion yw dynion traws, a menywod yw menywod traws, a bod hunaniaethau anneuaidd yn ddilys. Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda'n cymunedau LHDTC+ i gyd, ac yn wleidyddion ac yn ffigyrau cyhoeddus, fe allwn, ac mae'n rhaid i ni fod yn well.

Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i wella bywydau pobl draws yng Nghymru, a cheisio unrhyw bŵer pellach i wneud hyn, gan gynnwys ein rhaglen lywodraethu ac ymrwymiad y cytundeb cydweithio i sbarduno cais i ddatganoli Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 a chefnogi ein cymuned draws, ac mae gwaith rhagarweiniol wedi dechrau eisoes yn hyn o beth. Mae gwaith wedi dechrau hefyd ar ddatblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc trawsryweddol, er mwyn iddyn nhw allu bod yn hyderus a chyfforddus wrth gefnogi myfyrwyr traws ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.

Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i mi gydnabod cefnogaeth llawer wrth greu'r cynllun hwn. Mae nifer sylweddol o randdeiliaid, unigolion a sefydliadau wedi cyfrannu at ddatblygiad y cynllun. Rhoddodd rhai yn hael o'u hamser ac fe rannodd llawer eu profiad o wahaniaethu a gelyniaeth fel dinasyddion Cymru. Fe wnaethon nhw sôn hefyd am eu cyflawniadau fel eiriolwyr, gweithwyr ac arweinwyr, fel ymchwilwyr, arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol, ac fel cymunedau. Fe hoffwn i gofnodi fy niolch yn benodol i'r panel arbenigol LHDTC+, a roddodd gymorth, cyngor a her, a oedd yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallem ni ei wneud i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r tîm gwych yn Llywodraeth Cymru, y mae eu gwaith caled nhw y tu cefn i mi, er mwyn gallu sefyll yn y fan hon yn lansio'r cynllun hwn heddiw.

Yn wir, mae hwn yn gynllun sy'n ymestyn ar draws y Llywodraeth, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth gadarn fy nghyd-Weinidogion ar draws y llywodraeth. Fe fydd y gefnogaeth barhaus hon yn hanfodol wrth droi'r cynllun o fod yn eiriau ar dudalen i fod yn gamau ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Fel maen nhw'n dweud, mae gwneud yn well na dweud. Mae hyn yn ymwneud â newid bywydau nid dim ond newid deddfwriaeth, mae'n ymwneud â phobl, nid â pholisïau yn unig. Ond mae'r geiriau yn bwysig hefyd; mae'r hyn yr ydym ni'n ei wneud a'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud yn gallu cael effaith. Felly gadewch i ni fod yn eglur, wrth i ni gyhoeddi'r cynllun gweithredu LHDTC+ hwn heddiw, ein bod ni, yma yng Nghymru, yn sefyll o blaid undod yn hytrach nag ymraniad, cynhwysiant yn hytrach nag allgáu a gobaith yn hytrach na chasineb. Gyda'n gilydd â balchder—gan sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Diolch.

14:35

Diolch i chi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Rydym ni'n croesawu'r cynllun gweithredu LHDTC+ i Gymru yn fras, yn ogystal â'i gyflwyno yn ystod Mis Hanes LHDTC+. Rydyn ni wedi dod yn bell o ran sicrhau cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol a cwiar. Camgymeriadau'r gorffennol, megis adran 11 Deddf Diwygio Cyfraith Droseddol 1885, a welodd filoedd o ddynion yn cael eu herlyn yn y 1950au dim ond am garu dyn arall. Erbyn diwedd 1954, roedd 1,069 o ddynion cyfunrywiol yn y carchar yng Nghymru a Lloegr. Roedd ffigwr proffil uchel fel Alan Turing wedi tramgwyddo'r cyfreithiau dichellgar hyn. Diolch i'r drefn, mae'r cyfreithiau hyn wedi eu taflu ar domen hanes, ac fe roddwyd pardwn i Alan Turing ar ôl ei farwolaeth. Maen nhw wedi eu disodli gan lwyth o ddeddfwriaeth cydraddoldeb, gan gynnwys hawl cyfreithiol i briodasau un rhyw. Fe ddylem ni fod yn falch o ba mor bell yr ydym ni wedi dod o ran hyrwyddo hawliau LHDT, ond mae cymaint mwy y gellir ei wneud.

Dim ond y penwythnos hwn, fe gondemniodd y Pab, ynghyd ag Archesgob Caergaint, yn gyfiawn genhedloedd sy'n ceisio llunio deddfwriaeth wrth-hoyw. Ond eto, mae'r Eglwys Gatholig yn parhau i wrthwynebu priodas un rhyw. Rydyn ni i gyd yn gyfartal yng ngolwg Duw, beth bynnag yw ein rhywedd dewisol, na phwy yr ydym ni'n dewis syrthio mewn cariad â nhw. Ni ddylai neb deimlo dan fygythiad neu eu bod yn cael eu cam-drin oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd. Dyna pam mae fy mhlaid yn croesawu'r cynllun gweithredu hwn. Fodd bynnag, Dirprwy Weinidog, mae gennyf i ychydig o bryderon; mae eich penderfyniad chi i geisio pwerau dros gydnabod rhywedd yn bennaf yn eu plith. Pam ydych chi o'r farn mai hwn yw'r dull cywir, yn hytrach na chydweithio gyda'r Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig, i sicrhau dull o gydnabod rhywedd sy'n diogelu hawliau'r gymuned drawsryweddol gan warchod hawliau pob menyw ar yr un pryd? Dirprwy Weinidog, onid ydych chi'n cytuno bod y dull a ddilynir gan Lywodraeth yr Alban yn llawn peryglon i bob grŵp, fel mae'r tro pedol cywilyddus ynglŷn â helynt Isla Bryson wedi dangos? Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dyfeisio rhywedd newydd sef treisiwr er mwyn osgoi galw Isla Bryson yn fenyw. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod pryderon gwirioneddol gan y gymuned traws a gan y rhai hynny sy'n ceisio diogelu hawliau menywod y mae angen mynd i'r afael â nhw yn y fath fodd fel y diogelir hawliau pawb. A ydych chi'n cytuno mai'r ffordd orau yw ymdrin â'r mater ar sail y DU gyfan er mwyn osgoi cael sawl system wahanol neu hyd yn oed systemau croes o gydnabod rhywedd, a bod angen i ni gael dadl bwyllog heb ormodiaith bygythiadau i ladd pobl?

Mae fy mhryder arall i'n ymwneud â gallu rhieni a'r gweithwyr meddygol proffesiynol i helpu pobl ifanc sy'n cael trafferth gyda dysfforia rhywedd. Er ei bod hi'n gwbl gywir ein bod yn gwahardd yr arfer anwaraidd o therapi trosi, mae'n rhaid i ni gymryd gofal mawr i sicrhau nad oes gan unrhyw ddeddfwriaeth newydd ganlyniadau anfwriadol. Dirprwy Weinidog, pa gamau a fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn atal rhieni a gweithwyr meddygol proffesiynol rhag trafod pryderon unigolyn ifanc ynghylch ei rywioldeb neu hunaniaeth rhywedd?

Yn olaf Dirprwy Weinidog, er fy mod i'n croesawu'r ymrwymiad i sicrhau bod ein cenedl noddfa ni'n parhau i fod yn gynhwysol o bobl LHDTC+, rwy'n holi ynglŷn â datblygiad llochesau LHDTC+ yn unig yng Nghymru. Fe allwn ni ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod Cymru yn lle diogel a chroesawgar i'r rhai sy'n cael eu gorfodi i ffoi o'u gwledydd eu hunain oherwydd eu bod nhw'n cael eu herlyn am bwy y maen nhw'n eu caru neu bwy ydyn nhw, ond fe ddylem fod yn gwarantu tai i bob ceisiwr lloches sydd â nodweddion gwarchodedig. Ni allwn ddarparu digon o dai i'r rhai sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin, y bydd llawer ohonyn nhw'n LHDTC+. Dirprwy Weinidog, fel wnaeth fy nghyd-Aelod Mark Isherwood dynnu sylw ato ychydig wythnosau yn ôl, mae Llywodraeth Iwerddon yn darparu tai modiwlar i gartrefu miloedd o ffoaduriaid. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet am efelychu cam o'r fath yng Nghymru ar gyfer cartrefu'r rhai sy'n ffoi rhag erlyniad a llofruddiaeth oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd?

Diolch unwaith eto am eich datganiad, Dirprwy Weinidog, ac fe allwch chi fod yn sicr y bydd fy mhlaid i'n gweithio gyda chi i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, yn ogystal â mynd i'r afael ag ymraniadau, allgáu a chasineb. Diolch yn fawr.

14:40

Diolch i chi. Gan mai datganiad 30 munud yw hwn, dydw i ddim yn credu bod digon o amser i mi ymateb i bob gwrthddywediad gan Altaf Hussain yn ei gyfraniad yn y fan yna. Rwy'n croesawu'r sylwadau agoriadol a'r geiriau treiddgar y gwnaethoch chi eu dweud—ein bod ni i gyd yn gyfartal yng ngolwg Duw. Ydw, rwy'n gallu dathlu fy mywyd yn yr eglwys drwy gael angladd yno, ond nid wyf i'n gallu dathlu fy nghariad, hyd yn hyn, yn yr eglwys drwy allu priodi yno. Roedd y rhain yn eiriau cadarnhaol, ond fe aethoch chi ymlaen wedyn i ddatod popeth yr oeddech chi wedi ei ddweud yn eich ymrwymiad i'n helpu ni i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Roeddech chi'n sôn am weithio gyda Llywodraeth y DU. Mewn gwirionedd, yn Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi ymgysylltu yn flaenorol gyda phob ewyllys da, yn enwedig ar gynlluniau i wahardd arferion trosi sy'n cynnwys LHDTC+. A dyma nhw'n gwneud tro pedol ar hynny wedyn, a thro pedol ar y tro pedol. Rwy'n credu eich bod chi yn sicr yn efelychu'r tro pedol ar y tro pedol yn eich cyfraniad chi hefyd. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yr hyn y mae angen i ni ei wneud i amddiffyn a diogelu ein cymuned LHDTC+ ni yng Nghymru. Mae gennym ni ddyletswydd a chyfrifoldeb i wneud hynny. Rwy'n barod i weithio yn drawsbleidiol, ar draws y Llywodraeth, ledled y DU, i wneud y peth iawn. Ond, mae'n rhaid i ni gofio, fel y dywedais i yn fy natganiad, nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth, nac yn ymwneud â pholisïau, mae'n ymwneud â phobl a'u bywydau nhw a'u hawl i fyw gydag urddas a pharch a theimlo yn ddiogel a chael eu cefnogi.

Diolch am y datganiad, Dirprwy Weinidog. 

Mae'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn addo gwneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop a chefnogi cyhoeddiad cynllun gweithredu LHDTC+. Mae heddiw felly yn ddiwrnod o falchder i Blaid Cymru, fel y mae i Adam Price gan mai ef yw'r arweinydd plaid LHDTC+ cyntaf yn y Senedd, gyda rhan o'r ymrwymiad hwnnw wedi ei wireddu wrth gyhoeddi'r cynllun gweithredu, cynllun gweithredu sy'n dangos ein huchelgais gyffredin ni â Llywodraeth Cymru mor eglur sef bod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Mae hynny'n dangos ein gwerthoedd cyffredin ni hefyd sef tegwch, goddefgarwch a chyfiawnder, a diogelu ac ymestyn hawliau, nid eu dwyn oddi ar bobl, a'n penderfyniad cyffredin i herio rhagfarn, casineb, anghydraddoldeb a gwahaniaethu ym mhob cwr o'n cenedl. Ond megis dechrau yw'r cynllun hwn, oherwydd mae'n mynd i'r afael â'r angen mawr am lunio Cymru decach, oherwydd mae hon yn genedl lle mae troseddau casineb yn erbyn pobl LHDTC+ yn cynyddu, ac mae troseddau casineb yn erbyn pobl drawsryweddol yn benodol yn codi i'r entrychion. Y llynedd, fe wnaeth Estyn ddarganfod mai bwlio homoffobig oedd y math mwyaf cyffredin o fwlio mewn ysgolion uwchradd. Felly, rydyn ni'n cytuno gyda Stonewall Cymru fod llawer o waith i'w wneud.

Ym Mhlaid Cymru, rydym ni'n cyfeirio yn aml at ein cenedl ni fel cymuned o gymunedau, ac rwy'n falch o weld sut mae'r cynllun hwn yn dangos ei fod yn un ar gyfer Cymru gyfan. Mae cydnabod cefn gwlad yn y profiad LHDTC+ yn enghraifft o'r ymagwedd hon sydd i'w groesawu, yn ogystal â'r angen am ymchwil pellach i fynd i'r afael â hyn. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni sut mae hi'n bwriadu datblygu hyn? Ac a yw hi'n cytuno y bydd meithrin cynghreiriau ledled ein cymunedau a'n sefydliadau ni, gan gydweithio gyda'r ffermwyr ifanc, er enghraifft, yn hanfodol bwysig ar gyfer cyflawni'r weledigaeth hon?

Mae yna groeso mawr i ddull croestoriadol y cynllun hefyd, ac, er nad yw honno'n nodwedd warchodedig, rwy'n falch fod y cynllun hwn yn cydnabod anghenion a hunaniaethau'r gymuned LHDTC+ yn y Gymraeg, ac rwy'n arbennig o falch bod partneriaeth Mas ar y Maes yr Eisteddfod Genedlaethol â Stonewall Cymru ac eraill yn cael ei amlygu a bod yna waith yn digwydd i ddatblygu hyn ymhellach.

Tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw at ddull trawslywodraethol y cynllun hwn, ac yn sicr, mae hi'n galonogol gweld manylder ystyrlon yn sail i'r weledigaeth a'r tryloywder y bydd tîm ac adran Llywodraeth Cymru yn atebol am wireddu'r weledigaeth hon. Mae'r camau gweithredu i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn y gweithle yn hanfodol ac ymarferol o'r cynllun hwn. Fodd bynnag, hoffwn gael rhywfaint mwy o fanylion am ganlyniad datganedig dealltwriaeth pobl LHDTC+ ac yn gallu defnyddio llwybrau ar gyfer adrodd am wahaniaethu mewn gweithleoedd yng Nghymru. Fel rydych chi'n cofio, rwyf i wedi codi adroddiad y BMA ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yn y proffesiwn meddygol gyda'r Llywodraeth o'r blaen, sy'n amlygu bod meddygon LHDTC+ yn dioddef gwawdio a gwahaniaethu yn rheolaidd, ac mae'r staff yn dweud eu bod nhw'n aml yn teimlo nad ydyn nhw'n gallu lleisio eu pryderon gyda rheolwyr. Mae gan yr Alban a Lloegr ddulliau annibynnol ar waith ar draws eu hysbytai er mwyn i staff leisio eu pryderon yn hyn o beth mewn ffordd ddiogel, ond nid oes unrhyw beth fel hyn ar waith yng Nghymru eto, er bod gwaith yn cael ei wneud ar fframwaith. Fe dderbyniais sicrwydd y byddai dull trawslywodraethol y cynllun gweithredu yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, felly a wnewch chi roi sicrwydd i mi mai hynny fydd yr achos?

Fe hoffwn i roi croeso penodol i natur fesuradwy'r gweithredoedd a'r canlyniadau yn y cynllun, er enghraifft, ynghylch yr ymrwymiad i bwerau datganoledig o ran cydnabod rhywedd. Rydym ni wedi gweld yn yr Alban, er bod ganddyn nhw fwy o ymreolaeth i weithredu na Chymru yn y cyswllt hwn, mae'r consensws gwleidyddol trawsbleidiol yn Senedd yr Alban wedi cael ei rwystro mewn ffordd annemocrataidd a gwarthus gan San Steffan. Felly, wrth groesawu'r cynllun gweithredu hwn, rwyf i am ofyn i chi, Dirprwy Weinidog, ystyried sut allwn ni fod mewn gwirionedd y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop gydag un llaw wedi ei chlymu y tu ôl i'n cefnau gan San Steffan. Yn y tymor cyfagos, a wnewch chi roi gwybod i ni pa strategaethau y gallwn ni eu dilyn nhw i sicrhau bod y pwerau hyn wedi cael eu datganoli mewn ffordd briodol ac y gellir eu gweithredu o ran cydnabod rhywedd? Ac, ar gwestiwn cyfiawnder yn fwy eang, a ydych chi, Dirprwy Weinidog, yn derbyn mai'r unig ffordd gynaliadwy o lunio system cyfiawnder troseddol gynhwysol a diogel i'n cymuned LHDTC+ sy'n gweithio dros Gymru yw trwy greu system yma yng Nghymru, hyd yn oed os yw'r Blaid Lafur yn San Steffan yn parhau i ymuno â'r Torïaid i rwystro hynny?

Thema mis hanes LHDTC+ eleni yw 'Tu ôl i'r Lens'. Yn ddiamau, mae'r cynllun gweithredu hwn yn hoelio ein sylw ar y gwaith sydd ei angen i greu'r Gymru yr ydym ni'n awyddus i'w gweld drwy ystyried yn wirioneddol bob un sy'n galw Cymru yn gartref. Mae'n rhaid parhau â'r canolbwynt hwnnw, ac mae'n rhaid i'r sefyllfa wirioneddol hon gael ei harwain yn barhaus gan ein dull ni o gyflawni'r weledigaeth o fod yn genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop. 

14:45

Diolch, Sioned. Yn wir, rwy'n rhannu eich teimladau fod hwn yn ddiwrnod o falchder i ni, nid yn unig yn y Siambr hon, ond mewn cymunedau ledled Cymru, ac rwyf wedi cael llawer o adborth cadarnhaol eisoes, mewn gwirionedd, yn mynegi pa mor bwysig yw'r cynllun ei hun. Ond, fel rydych chi'n dweud, fe ddaw'r dystiolaeth wrth gymhwyso'r camau hynny ac mewn gwirionedd wrth i ni wneud i bobl deimlo yn ddiogel a'u bod nhw'n cael eu cefnogi yn y dyfodol. Ac fe hoffwn i ddiolch i Siân Gwenllian ar y cofnod hefyd am y gwaith a wnaeth hi gyda ni ar y cynllun gweithredu hwn, a'r ymrwymiad angerddol a ddaeth oddi wrth Siân a'r tîm i wneud y gwaith hwn a'r gydnabyddiaeth bod mwyafrif Siambr y Senedd hon yn gefnogol i'n gwaith cynhwysol ni a'n huchelgeisiau ni o ran LHDTC+ i Gymru. Fe ddywedais i o'r blaen—ac nid wyf i am ymddiheuro am ddweud hyn dro ar ôl tro—bod gweithredu yn bwysig; gweithredu sy'n gwneud gwahaniaeth. Ond mae'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud yn gallu bod ag effaith fawr hefyd, ac nid bob amser mewn ffordd gadarnhaol. Felly, rwyf i o'r farn bod angen i ni i gyd feddwl am hynny cyn i ni agor ein genau neu drydar weithiau hefyd—ac nid rhywbeth i wleidyddion yn unig ei ystyried mo hynny; mae hynny i bobl eraill ei ystyried hefyd.

Rwyf i am geisio cyffwrdd â chymaint ag y gallaf i o'r pwyntiau y gwnaethoch chi eu codi, ond rwy'n siŵr y bydd hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei godi mewn deialog barhaus wedi hyn. Mae hynny'n ymwneud â'r cyfleoedd sydd gennym ni o ran cynhwysiant yn y gweithle. Mae hi mor bwysig eich bod chi'n gallu mynd i'r gwaith a theimlo eich bod chi'n gallu bod y chi eich hun, neu deimlo eich bod chi'n gallu mynegi eich pryderon chi os oes rhywbeth yn digwydd yn anffodus a bod gennych chi fan ddiogel neu le i fynd i roi hysbysiad o hynny. Felly, rwy'n sicr yn hapus i roi sicrwydd y byddwn ni'n adeiladu ar yr hyn sydd yn y cynllun gweithredu, ac yn defnyddio pob ysgogiad sydd gennym ni yng Nghymru ar hyn o bryd yn hyn o beth, yn y sector cyhoeddus yn enwedig.

Mae arfer gorau yn bodoli yn y sector breifat hefyd. Rwyf i am ymweld â rhywle ar ddiwedd y mis. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni weithio ar hynny a chydgyfranogi o hynny. Roeddwn i'n arbennig o awyddus, yn rhan o'r cynllun gweithredu, ein bod ni'n cynnwys y gwaith y mae rhai o'n cydweithwyr ni yn yr undebau llafur yn ei wneud eisoes, oherwydd pam ddylem ni ailddyfeisio'r olwyn os oes adnoddau da ar gael a rhwydweithiau da o gymorth? Rwy'n credu y gallwn ni ddysgu ac ehangu hynny mewn gweithleoedd ledled Cymru hefyd, i sicrhau bod pobl yn gallu mynd i'r gwaith a bod yn nhw eu hunain mewn gwirionedd a theimlo eu bod nhw mewn lle diogel. Oni bai eich bod chi'n aml filiwnydd neu eich bod chi wedi ennill y loteri, mae gwaith yn rhan bwysig iawn o'n bywydau ni i gyd.

Rwy'n croesawu cefnogaeth o ran cynhwysiant a chefnogaeth i'r Gymraeg. Mae hi mor bwysig i chi allu nid yn unig byw fel pwy ydych chi mewn gwirionedd, ond yn eich iaith gyntaf chi hefyd, a chael eich cefnogi i wneud hynny a gallu gwneud hynny hefyd.

Y peth olaf i gyffwrdd arno yw o ran cynnydd o 35 y cant mewn troseddau casineb LHDTC+. Rydyn ni'n sôn am ba mor bell yr ydym ni wedi teithio, ac rwy'n credu, yn briodol, mai mis hanes LHDT yw'r amser i siarad am hynny a dathlu hynny. Fe ddywedais i yn y Siambr hon o'r blaen, pan oeddwn i'n tyfu i fyny yng Nghymru, nid oeddwn i'n gallu priodi'r un yr oeddwn i'n ei charu. Fe allwn ni brofi gwahaniaethu yn fy erbyn o ran ceisio nwyddau a gwasanaethau. Ni ellid siarad amdanaf i yn yr ysgol. Felly, rydyn ni wedi dod yn bell, ond rwy'n cydnabod bod gennym ni ffordd bell i fynd eto, a dim ond cam ar y daith o wneud hynny yw'r cynllun hwn. Mae'r elfennau sy'n ymwneud â throseddau casineb yn y cynllun gweithredu nid yn unig yn edrych ar yr hyn sydd angen i ni ei wneud gyda phlismona a chyfiawnder a datganoli hynny, ond o ran cefnogi'r gymuned hefyd i deimlo'r berthynas honno gyda phlismona hefyd, a'n bod ni'n deall beth yw troseddau casineb. Rwyf i wedi dweud o'r blaen nad yw pobl yn deall yn iawn beth yw ystyr hynny. Nid oes raid iddo fod yn ymosodiad corfforol; fe all fod ar lafar. Peth digalon i mi yw dweud, mewn gwirionedd, fy mod i wedi edrych ar y ffigyrau ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf, 2021-22, ac rwy'n credu bod cynnydd o 35 y cant wedi bod o ran troseddau casineb LHDT. Yn drist iawn, rwyf innau'n ystadegyn sy'n rhan o'r cynnydd hwnnw. Rwyf i wedi siarad am hynny yn y Siambr hefyd. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n siarad am hyn ac yn codi hyn, ac rwy'n croesawu eich cefnogaeth chi a'ch plaid chi'n fawr, ac rwy'n edrych ymlaen at ymuno â chi i weithio gyda'n gilydd.

14:50

Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw a chymorth Llywodraeth Cymru i'r gymuned LHDTC+. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Rwy'n llwyr gefnogi'r weledigaeth i wella bywydau a'r canlyniadau i bobl LHDTC+.

Rwy'n cofio adran 28. Pan oeddwn i'n dysgu mewn coleg, fe ddywedodd un myfyriwr wrthyf i y gallai ef fwlio rhywun a oedd yn hoyw a phe bawn i'n ceisio ei atal ef, fe fyddai ef yn adrodd amdanaf i a gwneud i mi gael fy niswyddo. Fe eglurais i y byddwn i'n gwneud y peth cyfiawn bob amser, er gwaetha'r cyfan. Rydyn ni wedi mynd ffordd bell ers y dyddiau hynny. Rwy'n siomedig nad oedd y Ceidwadwyr yn gallu ymddiheuro am adran 28, oherwydd roedd hwnnw'n wahaniaethu difrifol a darn o ddeddfwriaeth gwael ofnadwy ydoedd.

Ond rwyf i am symud ymlaen at bethau cadarnhaol nawr. Fe hoffwn i dynnu sylw at y gwaith rhagorol a wnaeth Pride yn Abertawe, a'r ffordd y mae Pride wedi tyfu yn Abertawe o fod yn orymdaith i fod yn ddiwrnod cyfan o ddigwyddiadau, gyda chefnogaeth y gymuned leol a'r Dirprwy Weinidog. Bu pryderon gan Pride Abertawe yn y gorffennol am yr arian a oedd ar gael yn Abertawe. A yw hynny wedi cael ei ddatrys erbyn hyn?

A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei gyfraniad ac am ei ymrwymiad hefyd fel cynghreiriad ymroddedig i'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru? Roeddwn i'n falch o orymdeithio ysgwydd wrth ysgwydd â Mike yn y Pride diweddaraf yn Abertawe—yr orymdaith gyntaf wedi'r pandemig—ac roedd hi'n hyfryd gweld llawer o bobl ifanc yno hefyd, a'r gymuned iau yn dod allan. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n pasio'r baton ymlaen. Dyma yw'r nod, mewn gwirionedd—llunio Cymru wahanol iddyn nhw dyfu i fyny ynddi.

Fe wnaethoch chi ein hatgoffa ni o fwgan adran 28, a da iawn chi, Mike, am sefyll eich tir a gwneud y peth cyfiawn, ond ni fyddwn ni'n disgwyl unrhyw beth arall gennych chi, Mike Hedges. Mae cwmwl du adran 28 yn dal i fod uwch ein pennau ni. Mae hwnnw uwchben llawer o athrawon ac ysgolion sy'n dal i fod yn bryderus ynglŷn â dymuno gwneud y peth iawn, ond efallai eu bod nhw'n teimlo yn betrus. Dyna pam mae rhan addysg y cynllun gweithredu hwn, a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud eisoes â'n cwricwlwm cynhwysol ni, mor bwysig, fel bod plant a phobl ifanc nid yn unig yn cael eu cefnogi mewn ysgolion, ond hefyd—y materion a gododd Sioned Williams ynghylch bwlio homoffobig hefyd—bod athrawon yn cael y gefnogaeth honno i allu cefnogi'r plant a'r bobl ifanc yn eu tro.

Ni fyddwn i'n disgwyl unrhyw beth llai gan Mike na chrybwyll ymgais am gefnogaeth i Pride Abertawe, ac er y bydd Mike yn deall na allaf ymrwymo yn uniongyrchol mewn gwirionedd i unrhyw gefnogaeth i Pride benodol ar hyn o bryd, fe allaf gyfeirio at gronfa Pride ar lawr gwlad, y byddwn ni'n ei chario ymlaen am y flwyddyn nesaf. Fe fyddwn i'n disgwyl i Pride Abertawe gysylltu â swyddogion, mwy na thebyg cyn i mi ymadael â'r Siambr hon, i geisio rhoi eu cais nhw i mewn am gefnogaeth yn y dyfodol. Ond rwy'n gobeithio y bydd Pride Abertawe yn parhau i fynd o nerth i nerth, fel Pride mewn mannau eraill ledled y wlad, ac rwy'n gobeithio gallu parhau i'w gefnogi.

14:55

Wrth gwrs, Dirprwy Weinidog, rydyn ni i gyd yn dymuno'r gorau i'r gymuned LHDTC+ ac rydyn ni'n dymuno gweld Cymru decach. Ond, wrth i mi ddarllen trwy'r cynllun hwn heddiw, rwy'n darllen rhywfaint ohono gydag anghrediniaeth, ac rwy'n gweld llawer o'r cynllun hwn yn achosi pryder gwirioneddol: sy'n gwthio ideoleg am rywedd mewn meithrinfeydd ac ysgolion, yn achosi annhegwch mewn chwaraeon, ac, yn anhygoel, yn gweld eich bod chi'n parhau i geisio'r pwerau hynny sy'n efelychu'r Bil hunanddiffinio yn yr Alban, er gwaethaf y risgiau clir y mae hwnnw'n eu hachosi i ddiogelwch menywod a phlant. Roedd arbenigwr y Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio am drais yn erbyn menywod a merched oherwydd y symudiad hwn yn yr Alban, ond eto dyma eich cynllun chi. Safodd eich Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol chi yn y Siambr hon dro ar ôl tro yn sôn am bwysigrwydd llochesau a safleoedd ar gyfer menywod yn unig—mae hynny mor bwysig, ond eto heddiw rydych chi'n cyhoeddi eich bod chi am ei gwneud hi'n haws i wrywod biolegol fynd i mewn i'r safleoedd hynny. Beth am ddiogelu menywod a merched? Pa ystyriaeth a roddwyd i famau, merched, chwiorydd, a modrybedd Cymru wrth greu'r cynllun hwn? A fydd yn rhaid i rywbeth difrifol ddigwydd cyn i chi ddeffro a sylweddoli'r materion enfawr o ran diogelu y mae hunanddiffinio yn eu hachosi? Dyma ni heddiw yn gwastraffu hanner awr o amser y Senedd ar—

—drafod cynllun nad oes gennych chi lawer o'r pwerau i'w newid na'i weithredu. Ffwlbri yw i Gymru fod â'i chynllun hunanddiffinio ei hun. Mae hi'n amlwg o farn y cyhoedd, Dirprwy Weinidog, fod pobl yn gweld pwysigrwydd amddiffyn menywod a phlant. Pryd ydych chithau am sylweddoli hynny?

Dirprwy Lywydd, mae hi'n anodd dod o hyd i'r geiriau priodol i ymateb i gyfraniad Laura Anne Jones. [Torri ar draws.] Ie, 'cywilyddus', ac nid wyf i'n credu bod gennyf i lawer i'w ddweud mewn ymateb i hynna. Rydyn ni newydd fod yn siarad yn y Siambr hon yn gynharach heddiw, ac mae gennym ni aelodau o'r gymuned sydd yma'n gwylio—mae gan eich geiriau chi ddylanwad peryglus, Laura Anne Jones. Maen nhw'n niweidio pobl, y geiriau yr ydych chi'n eu dweud, y gwahaniaethu a ddaw o'ch genau chi, a'r hyn a fyddwn i'n ei ddweud yw fy mod i'n credu eich bod chi'n well na hyn. Rwy'n credu eich bod chi'n well na hyn. [Torri ar draws.] Rwy'n credu eich bod chi'n well na hyn. 

A gaf i atgoffa Aelodau nad dadl rhwng dau Aelod unigol yw hon? Datganiad yw hwn, ac ateb y cwestiwn a ofynnwyd y mae'r Dirprwy Weinidog.

Nid oes gennyf i ddim yn rhagor i'w ddweud wrth Laura Anne Jones, Dirprwy Lywydd. 

Dirprwy Weinidog, diolch i chi am y datganiad hwn heddiw. Yn fy etholaeth i, ac yn cwmpasu etholaeth Ogwr hefyd—sedd Huw Irranca-Davies—rydym ni'n ffodus iawn i fod ag YPOP, sef cangen o Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr. Mae YPOP yn ofod diogel ar-lein ar gyfer pobl ifanc sy'n LHDTC+ neu'n gynghreiriaid, ac mae'r grŵp yn cynnal sesiynau galw heibio er mwyn sgwrsio ac ymlacio, digwyddiadau arbennig ac yn darparu gweithdai hyfforddi. Wrth gynnig lle i wneud ffrindiau a chymdeithasu, mae YPOP yn fan hefyd i ddod iddi ar gyfer cael cefnogaeth gan dîm cyfranogi cyngor Pen-y-bont os oes angen hynny ar bobl ifanc. Ac mae pobl ifanc sy'n mynychu YPOP wedi codi'r pwynt bod angen gwneud mwy i sicrhau bod eu hathrawon, eu meddygon teulu a rhai yn yr awdurdodau yn cael hyfforddiant am wahaniaethu LHDTC+, a sut i fynd i'r afael â homoffobia neu drawsffobia, yn ogystal â chefnogi pobl ifanc gyda'u hanghenion. Fe hoffwn i ddiolch i chi, a'n Gweinidog addysg hefyd, oherwydd rwy'n gwybod eich bod chi am gwrdd â mi ac un o Aelodau ein Senedd Ieuenctid i siarad am hynny'n union yr wythnos hon, felly diolch i chi.

Ond mae neges gyson yn dod drwodd gan bobl ifanc a phobl eraill yn y gymuned LHDTC+: sef bod angen normaleiddio adrodd am y casineb pan welwn ni ef, boed hynny mewn ysgolion a'r gweithle, ymhlith cyfoedion, neu yn y Siambr hon. Felly, Dirprwy Weinidog, fy nghwestiwn felly yw: faint o ystyriaeth a wnaethoch chi ei roi i gyflwyno'r cynllun gweithredu mewn mannau fel ysgolion a sicrhau bod y darpariaethau gan yr ysgolion i fynd i'r afael â'r troseddau casineb yn erbyn y gymuned LHDTC+ sy'n parhau i ddigwydd?

Rwy'n diolch i Sarah Murphy am ei chyfraniad hi, ac a gaf i ddiolch i YPOP am eu gwaith a'r cyfraniadau a wnaethon nhw? Rwy'n edrych ymlaen at y cyfarfod sydd gennyf i gyda Sarah a fy nghydweithiwr Jeremy Miles yn ddiweddarach yn yr wythnos gyda'r Aelod o'r Senedd Ieuenctid, ond os oes gennych chi grwpiau pobl ifanc fel hynny ac y byddech chi'n hoffi dod â nhw i'r fan hon i ymgysylltu ymhellach, yna rwy'n siŵr y bydd llawer o fy nghyd-Weinidogion a minnau'n hapus iawn i wneud hynny. Oherwydd mae hi'n hollol iawn fod ganddyn nhw lais a chyfraniad yn y materion sy'n effeithio arnyn nhw, a dyna pam—. Mae gan y cynllun gweithredu 46 o gamau gweithredu ynddo, ac mae canolbwyntio gwirioneddol nid yn unig ar ysgolion ond lleoliadau ieuenctid a phobl ifanc hefyd i wneud yn siŵr, fel y dywedais i o'r blaen, bod y gefnogaeth honno ar waith ar eu cyfer nhw. Ond rwy'n credu bod y pwynt y gwnaethoch chi'n bwysig iawn, iawn wir o ran nad cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc LHDTC+ yn unig neu bobl ifanc sy'n ymholi yn unig yw hon, ystyr hyn yw cefnogi eu ffrindiau nhw hefyd mewn gwirionedd i fod yn well cynghreiriaid a theimlo eu bod nhw'n gallu siarad allan heb ofni beth fyddai'r effaith arnyn nhw. Felly, rwy'n credu bod hwn yn bwynt dilys iawn, iawn a wnaeth y bobl ifanc hynny, ac rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y gallwn ni ei gymryd i ffwrdd a gweithio arno gyda Jeremy Miles a fy nghyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth i wneud yn siŵr bod pob unigolyn ifanc, os ydyn nhw'n aelodau o'r gymuned LHDTC+ eu hunain neu'n awyddus i fod yn gynghreiriaid da i'w ffrindiau yn yr ysgol, yna mae ffyrdd gennym ni o wneud hynny.  

15:00
4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian.

Symudwn ymlaen at eitem 4 nawr, dadl ar y gyllideb ddrafft 2023-24. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM8194 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Rhagfyr 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n falch o agor y drafodaeth y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Ers i ni gael cyfle i drafod y gyllideb ddrafft am y tro cyntaf yn y Senedd ar 13 Rhagfyr, mae pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn brysur yn craffu ar ein cynlluniau gwariant. Rwy'n croesawu'r sesiynau adeiladol iawn a gefais gyda'r Pwyllgor Cyllid a'r rhai a gafodd fy nghyd-Weinidogion gyda'u priod bwyllgorau. Cyn i mi gyflwyno rhai myfyrdodau cynnar ar y themâu sy'n deillio o'r gwaith craffu, mae'n bwysig cydnabod eto y cyd-destun heriol y mae'r gyllideb ddrafft hon yn cael ei pharatoi ynddo. Mae hon wedi bod yn flwyddyn pan welsom effeithiau parhaus chwyddiant, tri Phrif Weinidog, tri Changhellor, a'r gamreolaeth ysgytwol o arian cyhoeddus gan Lywodraeth y DU. Cawsom ddatganiad yn yr hydref gan y Canghellor diweddaraf a fethodd â chyrraedd y nod o bell fordd o ran yr ymyraethau sydd eu hangen i ymateb i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu. Ond, er gwaethaf hyn, gan adeiladu ar ein hadolygiad gwariant tair blynedd, mae'r gyllideb ddrafft yn cydbwyso ein hymateb i'r argyfwng uniongyrchol ochr yn ochr â buddsoddi mewn newid tymor hirach. Rydyn ni wedi gwneud penderfyniadau anodd, ond fe wnaethon ni hynny mewn ysbryd o gydweithio a thryloywder a rhoi pobl a chymunedau Cymru yn gyntaf.

Ein prif flaenoriaethau ar gyfer cyllideb 2023-24 yw diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a'n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, gan barhau i helpu'r rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan yr argyfwng costau byw, a chefnogi ein heconomi drwy gyfnod dirwasgiadol. Yn wahanol i'r hyn y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ei nodi yn eu gwelliant, rydyn ni'n credu mai'r blaenoriaethau hynny—amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobl—yw blaenoriaethau pobl yng Nghymru. Gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol mewn cyllid a ddarparwyd gennyf yn ein hadolygiad gwariant, yng nghyllideb 2023-24, rwyf wedi dyrannu £165 miliwn i'r GIG, £70 miliwn i ddarparu'r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gofal cymdeithasol, a £227 miliwn ar gyfer llywodraeth leol. Bydd cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn cynyddu 7.9 y cant ar sail gyfatebol, o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol. Ni fydd yr un awdurdod lleol yn cael llai na chynnydd o 6.5 y cant. Ochr yn ochr â'n cefnogaeth i wasanaethau cyhoeddus, byddwn yn parhau i gefnogi'r economi a busnesau gyda buddsoddiad uniongyrchol o £319 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi annomestig. Mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, mae'r gyllideb hon yn anelu cefnogaeth at y rhai sydd ei angen fwyaf, gan gynnwys trwy fuddsoddi yn ein cynllun treialu incwm sylfaenol a'n cronfa cymorth dewisol. 

Trof yn awr at y pwyntiau a godwyd gan y gwaith craffu. Roeddwn yn falch o weld y Pwyllgor Cyllid yn cydnabod y cyd-destun anodd yr ydym yn cyflawni'r gyllideb hon ynddo, a byddaf, wrth gwrs, yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i gydnabod effaith gynyddol chwyddiant ac i godi ein cyllideb yn unol â'r datganiad gwanwyn sydd ar ddod. Byddaf yn parhau i alw arnyn nhw i roi'r hyblygrwydd cyllidol sydd ei angen arnom i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau mewn cyfnod anodd. Rwy'n croesawu cefnogaeth y Pwyllgor Cyllid ar gyfer hyn, a byddaf yn ei godi yng nghyfarfod nesaf Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, a fydd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon. Ac ochr yn ochr â fy nghyd-Weinidogion, byddaf yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu amrywiaeth o ymyraethau i gefnogi'r rhai sydd angen cymorth fwyaf. Mae'r adolygiad ar y cyd o gysylltiadau rhyng-lywodraethol yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau fel sail i gynnal cysylltiadau rhyng-lywodraethol. Ein gobaith yw y gallwn weithio'n bragmataidd gyda Llywodraeth y DU, trwy'r trefniadau adolygu cysylltiadau rhyng-lywodraethol newydd, cyn bod angen cychwyn y broses o ddatrys anghydfod ffurfiol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn oedi cyn defnyddio'r broses honno pan fyddwn yn ystyried ei bod yn angenrheidiol.

Trof yn awr at y gwelliannau a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ar godi cyfraddau treth incwm Cymru. Rydym wedi bod yn glir iawn nad nawr yw'r amser i godi cyfraddau treth incwm Cymru. Wrth gwrs, rydym yn ystyried ein holl ysgogiadau treth fel rhan o'n paratoadau cyllideb. Fodd bynnag, mae'r baich treth presennol ar ei lefel uchaf ers dros 70 mlynedd. Mae chwyddiant cynyddol yn effeithio ar bobl ledled Cymru, ac rydyn ni mewn argyfwng costau byw. Ni fyddwn yn gofyn i bobl dalu mwy ar hyn o bryd. Ni fyddai codi'r cyfraddau uwch ac ychwanegol o dreth incwm yn codi digon o arian i wneud gwahaniaeth sylweddol i'n cynlluniau gwariant. Byddai'n rhaid i'r cyfraniad mwyaf ddod gan drethdalwyr y bandiau cyfradd sylfaenol, a gadewch i ni fod yn glir y byddai hyn yn effeithio ar y gweithwyr ar y cyflogau isaf yng Nghymru. A'r un gweithwyr yw'r rhain sy'n chwilio am gymorth gan fanciau bwyd, yr un gweithwyr sy'n gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi a bwydo'u teuluoedd. Dylid defnyddio cyfraddau Cymreig o dreth incwm gyda phwyll ac yn strategol.

A gan droi at gyfalaf, does dim arian cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn natganiad yr hydref, felly does dim dyraniadau cyfalaf o fewn y gyllideb hon. Byddaf yn amlinellu rhagor o ddyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol o fewn ein cyllideb derfynol, wedi'u halinio â'n blaenoriaethau.

Gan droi at yr wybodaeth a ddarperir fel rhan o'r pecyn cyllideb eleni, mae'n bwysig iawn cofio ein bod wedi darparu cyllideb aml-flwyddyn hyd at 2025 y llynedd, ochr yn ochr ag adolygiad cwbl gynhwysfawr o ddyraniadau cyfalaf. Cyllideb un flwyddyn oedd eleni yn cadarnhau newidiadau i setliad y gyllideb fel rhan o ddatganiad Llywodraeth y DU yn yr hydref. Dylai'r ddau becyn cyllideb hyn—yr aml-flwyddyn a'r flwyddyn sengl—gael eu hystyried gyda'i gilydd yn glir, a bydd hyn yr un fath ar gyfer y flwyddyn nesaf oni bai bod rhai newidiadau sylfaenol i'n setliad cyllideb. Mae dogfennau'r gyllideb eleni yn canolbwyntio ar y newidiadau pwysig rydyn ni wedi'u gweithredu ar gyfer y rownd gyllideb hon, yn hytrach nag ail-ddatgan yr hyn sydd eisoes wedi ei gyhoeddi, wedi bod yn destun craffu ac wedi ei drafod gan y Senedd hon. Rwyf, wrth gwrs, yn agored i drafodaethau pellach i archwilio pa wybodaeth ychwanegol y mae pwyllgorau a rhanddeiliaid yn credu y byddai'n cynorthwyo'r gwaith craffu.

O ran cyflog, rydym yn cydnabod cryfder y teimladau a fynegwyd gan staff yn y pleidleisiau hyn ar gyfer gweithredu diwydiannol. Credwn y dylai ein holl weithwyr yn y sector cyhoeddus gael eu gwobrwyo'n deg am y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud. Yn anffodus, mae ein setliad ariannol yn llawer is na'r hyn sydd ei angen i ymateb i'r heriau sylweddol iawn y mae ein gwasanaethau cyhoeddus a'n gweithwyr yn eu hwynebu ar draws Cymru. Ni allwn godi digon o gyllid trwy'r pwerau cyfyngedig sydd gennym i ddarparu codiad cyflog sy'n cyfateb â chwyddiant i weithwyr y sector cyhoeddus. Roedd datganiad yr hydref yn gyfle a gollwyd i Lywodraeth y DU i roi codiad cyflog i weithwyr sector cyhoeddus sy'n gweithio'n galed ac atal gweithredu diwydiannol aflonyddgar eang ledled y DU.

Ond rwy'n falch, yn y dyddiau diwethaf, ein bod wedi gwneud cynnydd yn ein trafodaethau gyda phartneriaid undebau llafur sydd wedi arwain at oedi'r rownd bresennol o streiciau iechyd i raddau helaeth tra bod aelodau undebau llafur yn ystyried y cynnig diweddaraf yr ydym wedi'i wneud i ddatrys yr anghydfod. Bu angen gwneud dewisiadau caled i ddod o hyd i'r arian ar gyfer cost y cynnig cyflog hwn am eleni. Rydym wedi tynnu popeth y gallwn ni o gronfa wrth gefn Cymru ac rydym yn chwilio am danwariant o bob rhan o'r Llywodraeth i roi'r cynnig hwn at ei gilydd. Mae defnyddio'r arian yma i gynyddu cyflogau nawr yn golygu ein bod ni'n wynebu dewisiadau anoddach fyth yn y dyfodol, ond rydyn ni'n ffyddiog mai dyna'r peth iawn i'w wneud.

Wrth gloi, hoffwn gynnig fy niolch i bawb sy'n ymwneud â llunio a chraffu ar y gyllideb ddrafft hon. Mae craffu yn rhan hanfodol o'r broses, ac er fy mod yn cytuno gyda'r mwyafrif llethol o argymhellion y Pwyllgor Cyllid, mae rhai y bydd angen i mi eu hystyried yng ngoleuni'r cyfyngiadau yr ydw i wedi'u nodi heddiw. Byddaf i a fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion holl adroddiadau pwyllgor y Senedd cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ar 7 Mawrth.

I gloi, mae hon yn gyllideb ar gyfer amseroedd caled ac yn un pryd gwnaethpwyd dewisiadau anodd. Fodd bynnag, wrth gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobl, rydym wedi darparu'r sicrwydd a'r eglurder sydd ei angen i lywio drwy'r cyfnod anodd hwn. Ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan gyd-Aelodau.

15:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i wneud cyfraniad yn y ddadl bwysig hon ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Cyn i mi droi at feysydd penodol o fewn yr adroddiad, hoffwn ddweud bod y pwyllgor yn llwyr gydnabod yr anawsterau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u hwynebu wrth baratoi ei chynigion cyllidebol. Mae pwysau chwyddiant, costau ynni cynyddol a chynnydd mewn costau byw yn peri ansicrwydd ac yn rhoi pwysau digynsail ar gyllidebau sydd eisoes o dan straen. Mae hyn wedi'i waethygu gan gyfathrebu gwael rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig nad yw'n adlewyrchu perthynas waith effeithiol sy'n sail i sianeli cyfathrebu llyfn sy'n seiliedig ar gyd-barch. Dyna pam rydym ni'n cefnogi'r Gweinidog i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sefydlu dulliau rhynglywodraethol cadarn i sicrhau y gall uwchgyfeirio anghytundebau yn effeithiol a datrys anghydfodau cyllid.

Fodd bynnag, nid yw'r heriau hyn yn golygu y dylem esgusodi’r Gweinidog neu na ellir gwella'r gyllideb ddrafft. Mewn gwirionedd, fel mae ein hadroddiad yn egluro, gwelsom fod nifer o feysydd lle mae'r gyllideb ddrafft yn siomi a lle y gellir gwneud gwelliannau.

15:10

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Yn gyntaf oll, roedd y pwyllgor o'r farn bod diffyg eglurder a gonestrwydd ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran nodi lle mae penderfyniadau wedi eu gwneud yn y gyllideb ddrafft i atal, gohirio neu leihau cyllid. O ganlyniad, rydym wedi gwneud llu o argymhellion yn galw am fwy o eglurder yn yr wybodaeth a ddarparwyd ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft. Mae hyn yn cynnwys galw ar y Gweinidog i ddarparu asesiad llawn o'r effaith y bydd chwyddiant uchel yn ei gael ar ei sefyllfa ariannu a'i rhaglen gyfalaf ac i newidiadau gael eu gwneud i'r ffordd y cyflwynir gwybodaeth, fel bod y gyllideb ddrafft yn darparu asesiad o effaith penderfyniadau gwariant ar draws portffolios.

Ar ben hynny, hoffwn nodi, ar ran yr holl bwyllgorau, er ein bod bob amser yn croesawu'r dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar y gyllideb ddrafft, rydym yn credu y gellir gwneud mwy i sicrhau bod pwyllgorau'n cael tystiolaeth o'r fath mewn da bryd. Dyna pam y byddaf yn ymgynghori'n fuan gyda phwyllgorau'r Senedd ynghylch eu profiadau o graffu ar y gyllideb ddrafft eleni a gofyn am ffyrdd ymarferol y gellir gwneud gwelliannau i'r rownd gyllideb nesaf.

Gan droi nawr at ein barn am ddefnydd Llywodraeth Cymru o ysgogiadau cyllidol, er ein bod yn deall penderfyniad y Gweinidog i beidio codi trethi, mae'r pwyllgor yn synnu nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyflawni gwaith manwl ar effaith ymddygiadol amrywio cyfraddau treth incwm Cymru ar draws pob band. Mae hyn yn awgrymu'n gryf nad yw'r Gweinidog wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i newid y cyfraddau yn ystod y rownd gyllideb hon, a oedd yn siomedig, ac rydym yn gofyn i hyn gael ei ystyried yn iawn yn y dyfodol. Clywsom dystiolaeth bod angen diweddaru offer cyllidol Llywodraeth Cymru. Yn benodol, rydym yn cefnogi ymdrechion parhaus y Gweinidog i bwyso ar Lywodraeth y DU i gynyddu terfynau cyffredinol a blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer benthyca a chronfeydd wrth gefn o leiaf yn unol â chwyddiant. Clywsom hefyd fod natur ein pwerau codi trethi yn fwy cyfyngedig na'r rhai a fwynheir gan ein cefndryd yn yr Alban. Er ein bod yn cydnabod bod gwneud hynny ymhell o fod yn syml, hoffem i'r Gweinidog wneud gwaith sylfaenol ar fanteision a pheryglon datganoli pwerau i addasu cyfraddau bandiau a throthwyon treth incwm Cymru.

Un o agweddau allweddol y gyllideb ddrafft hon yw'r gefnogaeth a ddarperir i helpu gyda chostau byw cynyddol. O ran cael mynediad at fudd-daliadau, mae'r pwyllgor wedi hen argymell dull 'dim drws anghywir'. Wrth i'r galw am gefnogaeth o'r fath, yn anffodus, gynyddu, credwn y gellir gwneud mwy i sicrhau bod cael mynediad at gymorth o'r fath mor rhwydd a syml â phosibl. Dyna pam yr hoffem weld Llywodraeth Cymru yn defnyddio gweithdrefn garlam er mwyn cyflwyno system fudd-daliadau unedig, siarter budd-daliadau Cymru, er mwyn ei gwneud hi'n haws a symlach. Credwn hefyd fod angen mân gywiriadau i'r cynlluniau cymorth ariannol presennol, yn enwedig mewn cysylltiad â throthwy cymhwysedd, er mwyn sicrhau eu bod yn aros ar lefelau addas ac nad ydyn nhw'n eithrio'r rhai ar ymylon cefnogaeth. Mae'r pwyllgor hefyd wedi gwneud argymhellion pendant i wella'r hyn sydd eisoes ar gael. Mae hyn yn cynnwys annog ehangu'r model gofal plant am ddim, ystyried cynnydd yng ngwerth lwfans cynhaliaeth addysg, nad yw wedi cael ei gynyddu ers canol y 2000au, a blaenoriaethu datblygu rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar frys i atal tlodi tanwydd.

Llywydd, mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn llwyr ymwybodol o'r pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r cyllid ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru drwy'r gyllideb ddrafft hon i gefnogi gwasanaethau o'r fath yn gam i'w groesawu, ac mae gennym ddiddordeb arbennig yn y dulliau arloesol sy'n cael eu harchwilio i gynyddu'r arian sydd ar gael, gan gynnwys cyflwyno ardoll gofal cymdeithasol i ariannu cost gynyddol darparu gofal cymdeithasol. Ond mae angen i'r Senedd wybod a yw'r cyllid hwn sy'n cael ei glustnodi ar gyfer y flwyddyn nesaf yn sicrhau gwelliannau diriaethol. Rydym felly eisiau i Lywodraeth Cymru egluro'r canlyniadau y mae'n disgwyl i sefydliadau'r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol eu cyflawni. Hefyd, er bod Llywodraeth Cymru wedi amlinellu meysydd blaenoriaeth i'r GIG, mae'n llai parod i amlinellu'r meysydd y mae'n disgwyl iddyn nhw golli blaenoriaeth. Fel y dywedodd un rhanddeiliad wrthym, 'Os yw popeth yn flaenoriaeth, yna does dim blaenoriaeth.' Ofer yw ymdrechion o'r fath i nodi blaenoriaethau gwario os na all y Gweinidog egluro hefyd pa feysydd sydd â llai o flaenoriaeth ac o ganlyniad yn derbyn llai o gyllid.

Yn ystod ein digwyddiad rhanddeiliaid yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd fis Mehefin diwethaf, dywedodd cynrychiolwyr o'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol wrthym fod cynllunio'r gweithlu yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod yn gydnerth ac yn addas i'r diben—thema a gafodd ei hailadrodd yn ystod ein sesiynau tystiolaeth. Er ein bod yn croesawu'r cyhoeddiad hwyr yr wythnos diwethaf o gynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu Llywodraeth Cymru, hoffem ei weld yn cael ei ymestyn ar draws sector cyhoeddus Cymru i ddarparu sefydlogrwydd tymor hir i wasanaethau yn ogystal â chefnogaeth a chyfeiriad. Ni allwn ddisgwyl i wasanaethau wella os nad ydym yn gofalu am y rhai sy'n gweithio mor galed i'w cynnal.

Yn olaf, hoffwn gyfeirio at yr amser a roddwyd i graffu ar y gyllideb ddrafft. Er ein bod yn derbyn nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros amseriad digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’r ffaith bod yr amserlen ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft hon wedi ei thocio am y bedwaredd flwyddyn yn olynol yn destun pryder. Nid yw hyn yn deg ar Aelodau o'r Senedd, rhanddeiliaid, na'r cyhoedd yn gyffredinol. Rydym yn gresynu at yr effaith a gaiff hyn ar ein gallu i ymgysylltu ac ystyried cynigion y gyllideb ddrafft.

Wedi dweud hynny, rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i edrych o'r newydd ar ddiweddaru ein prosesau o ran y gyllideb, ac rwy'n falch bod y Gweinidog yn barod i ystyried ffyrdd o wella cyfleoedd craffu yn y Senedd. Mae hyn yn cynnwys cynnal sesiynau craffu cyn y gyllideb, pan fydd y broses o gyhoeddi'r gyllideb ddrafft wedi'i gohirio. Roeddem yn ystyried y dull hwn yn arbennig o ddefnyddiol eleni, wrth i ni geisio deall y ffactorau y tu ôl i broses Llywodraeth Cymru o lunio'r gyllideb.

I gloi, Llywydd, dywedais wrth Aelodau yn ystod cyllideb ddrafft y llynedd fy mod yn ystyried ymgysylltu â phobl ar draws Cymru, a gwrando ar randdeiliaid, yn flaenoriaeth. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth ac a rannodd eu safbwyntiau gyda ni drwy'r gwaith. Eleni, mae'r pwyllgor wedi sefydlu pont gyswllt glir rhwng ein gwaith ymgysylltu, y drafodaeth o ran blaenoriaethau, a'n canfyddiadau yn yr adroddiad hwn. Ein nod yw adeiladu ar y gwaith hwn ar gyfer y flwyddyn nesaf wrth i ni edrych ymlaen at gylch cyllideb 2024-25. Diolch yn fawr.

15:15

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig, a galwaf ar Peter Fox yn gyntaf i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Peter Fox.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Darren Millar. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Rwy'n cydnabod y cefndir ariannol anodd y mae'r gyllideb eleni wedi'i drafftio ynddo. Er hynny, mae rhai arwyddion cadarnhaol y bydd y lefelau uchel presennol o chwyddiant nawr yn dechrau gostwng yn ystod eleni. Diolch i'r camau pendant a gymerwyd gan Brif Weinidog y DU a'r Canghellor, mae Banc Lloegr bellach yn awgrymu y bydd unrhyw ddirywiad economaidd yn fyrrach ac yn fasach na'r hyn a dybiwyd ar y dechrau.

Roedd rhai o'r penderfyniadau a gymerwyd yn anodd, rydyn ni'n gwybod, ond nhw oedd y feddyginiaeth oedd ei hangen arnom i wella iechyd cyllid y DU. Nawr mae angen i Weinidogion yma, yn y lle hwn, yng Nghymru, ddechrau ymdrin yn iawn â'r heriau enfawr y mae'r wlad hon yn eu hwynebu a rhoi'r gorau i chwilio am bobl eraill i'w beio. Oherwydd gellir goresgyn heriau, ac os ydyn ni'n mynd i greu'r Gymru rydyn ni i gyd eisiau ei gweld, yna mae angen i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen a rhoi trefn ar bethau yma.

Llywydd, rydyn ni'n gwybod beth yw'r materion uniongyrchol y mae ein cymunedau yn eu hwynebu. Rydym yn trafod y rhain yma wythnos ar ôl wythnos yn y Siambr hon. Mae'n rhaid i'r gyllideb hon ymdrin â'r pwysau uniongyrchol y mae cymdeithas yn eu hwynebu, felly mae'n rhaid i ni flaenoriaethu ein gweithredoedd a sicrhau ein bod yn cyflawni'r rhain. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn deall hyn, ac mae meysydd yn y gyllideb ddrafft yr wyf i'n eu croesawu yn gyffredinol, fel yr arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, y rhyddhad ardrethi annomestig ychwanegol i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, a hefyd y cynnydd yn y setliad llywodraeth leol.

Ond, er gwaethaf hyn, mae meysydd yn y gyllideb ddrafft lle mae Llywodraeth Cymru yn siomi cymaint o bobl, fel yr ydym newydd glywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, fel y toriad mewn termau real yn y gyllideb addysg. Yna mae'r toriad mewn termau real yn y cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol. A pheidiwn ag anghofio mai'r unig Lywodraeth ym Mhrydain i dorri cyllideb y GIG mewn gwirionedd oedd Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru yn 2012. Ac rydyn ni'n gwybod hyd yn oed cyn y pandemig, fod y Llywodraeth Lafur dim ond yn gwario tua £1.05 o'r £1.20 roedden nhw wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU am bob £1.00 oedd yn cael ei wario yn Lloegr, ar addysg a'r gwasanaethau iechyd yma. Mae pobl Cymru angen gwybod lle mae'r arian ychwanegol yna wedi cael ei wario.

Ceir cyhoeddiadau llawn bwriadau da, megis y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol a chodiad cyflog athrawon, ond gwyddom y bydd disgwyl i gynghorau ariannu'r mwyafrif helaeth o'r cynnydd hwn o'r grant cymorth refeniw, yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn camu i mewn a darparu cyllid uniongyrchol i alluogi'r rhain, sy'n golygu y bydd adnoddau y mae mawr eu hangen yn cael eu cyfeirio oddi wrth wasanaethau rheng flaen. Unwaith eto, mae hwn yn fater sydd wedi ei godi gan gynghorau ar sawl achlysur pan ddywedir wrthyn nhw, 'Mae yn eich setliad chi', sydd dim ond yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb i awdurdodau lleol.

Ac yna mae cyllid arferol hoff brosiectau, megis: y comisiwn cyfansoddiadol—siop siarad un ffordd; miliynau yn cael eu gwario ar botsian diangen ynghylch y polisi etholiadau a mwy o wleidyddion, sy'n tynnu arian o wasanaethau cyhoeddus a'i ganolbwyntio yma ym Mae Caerdydd; heb sôn am bethau fel cynlluniau treialu incwm sylfaenol cyffredinol a chyfyngiadau cyflymder 20 mya diofyn cyffredinol. O fod yn Llywodraeth sydd wedi galw'r union gyllideb hon yn 'Gyllideb ar gyfer amseroedd caled', nid yw'n ymddangos fel pe bai Gweinidogion yn canolbwyntio'n llwyr ar yr amseroedd caled hyn, nag yw hi?

I'w roi'n syml, Llywydd, mae angen cynllun sy'n canolbwyntio ar y problemau uniongyrchol y mae pobl a busnesau Cymru yn eu hwynebu a dyma lle mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y gall y gyllideb ddrafft wella. Gwyddom, o ganlyniad i gyllideb hydref 2022, y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £1.2 biliwn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf. Gadewch i ni wario'r arian hwnnw ar gyflawni blaenoriaethau pobl yn lle ar yr hyn rydw i wedi'i grybwyll yn gynharach.

Yn ei chyllideb ddrafft, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ailflaenoriaethu tua bron i £90 miliwn o gynlluniau adrannol presennol er mwyn, a dyfynnaf, 

'ailbennu ffocws ein hadnoddau cyfyngedig i roi sylw i’r meysydd â'r angen mwyaf.'

Mewn cyllideb o bron i £23 biliwn, credwn y gallai'r gwaith ailflaenoriaethu hwn fod wedi mynd ymhellach i alluogi ffrydiau ariannu presennol i wneud mwy. Fel grŵp, rydym wedi nodi ffrydiau ariannu ychwanegol gwerth dros £100 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf y gellid eu hailganolbwyntio yn y tymor uniongyrchol, ynghyd ag addasiadau i rai cyllidebau presennol a fyddai'n gost niwtral, ond yn helpu'n sylweddol tuag at helpu pobl gyda'r heriau costau byw, cefnogi busnesau i greu swyddi a ffynnu, a chlirio'r ôl-groniadau yn ein gwasanaeth iechyd. Mae angen ailflaenoriaethu rhai ffrydiau ariannu presennol nes bod y pwysau sy'n ein hwynebu yn dechrau lleddfu a bod gwasanaethau mewn sefyllfa sefydlog unwaith eto.

Er hynny, mae'n anodd canfod lle mae'r holl arian yma'n cael ei wario. Yn sicr dwi wedi ei chael hi'n anodd gweld glo mân y gyllideb hon. Yn fy rôl flaenorol o fewn y cyngor, gallwn ddeall pob elfen o'r gyllideb, ond dim ond Gweinidogion yma sy'n gwybod lle mae pocedi cyllid ychwanegol posib yn gorwedd. Ond gadewch i ni fod yn onest, faint o'r £350 miliwn o gyllid gweinyddu canolog a ddyrannwyd yn y gyllideb ddrafft sy'n cael ei wario ar gyflawni blaenoriaethau pobl mewn gwirionedd? Sut mae gwario £6 miliwn ar bolisi etholiadau, £2 filiwn ar gomisiwn cyfansoddiadol, neu dros £8 miliwn ar gysylltiadau rhyngwladol—

15:20

Dywedaf wrth Peter Fox, nid wyf yn ceisio sgorio pwynt gwleidyddol yma. Hoffwn ofyn—[Torri ar draws.] Na, dydw i wir ddim. Beth yw polisi'r Ceidwadwyr nawr ar brydau ysgol am ddim cyffredinol? Beth yw eich barn bresennol ar y polisi penodol hwnnw?

Hoffwn i wybod beth yw e. Hoffwn i wybod beth yw e, dyna'i gyd. Ac nid yw—.

Fy marn bersonol i yw bod yna lawer o bobl yng Nghymru sy'n gallu fforddio talu am brydau bwyd i'w plant yn iawn. A fyddech chi'n disgwyl prydau am ddim i'ch plant chi? A fyddwn i? Dydw i ddim yn credu. Felly, gadewch i ni fod yn onest, ac fe af yn ôl eto.

Felly, faint yw hynny? Ble mae'r gwariant o £6 miliwn ar bolisi etholiadol, ble mae'r £2 filiwn ar gomisiwn cyfansoddiadol a £8 miliwn ar gysylltiadau rhyngwladol—heblaw, wrth gwrs, rhaglen Cymru ac Affrica, yr ydym yn ei chefnogi—yn darparu gwasanaeth iechyd mwy cynaliadwy, mwy o swyddi a thalu biliau?

Ac nid yw cynllun gweithredu'r Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio cynyddu treth incwm i bobl sy'n gweithio'n galed y mae eu cyllidebau eisoes dan straen, yr hyn y mae Plaid yn bwriadu ei wneud, ac rwy'n cytuno â'r Gweinidog ar hyn. Gallant esgus y byddai eu cynlluniau'n effeithio ar yr enillwyr uchaf fwyaf, ond rydym i gyd yn gwybod mai pobl sy'n talu'r dreth incwm sylfaenol, sef y rhan fwyaf o drethdalwyr Cymru, fydd yn talu'r bil o dan gynlluniau Plaid.

Llywydd, gyda'r cyllid yr ydym wedi ei nodi fel grŵp, rydym wedi edrych ar chwe maes allweddol y gellid eu hariannu i gyflawni blaenoriaethau pobl yn well. Byddem yn cymryd camau ar unwaith i atal blocio gwelyau, agor ysbytai a rhoi diwedd ar y sefyllfa warthus o ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys trwy gyflwyno gwestai gofal. Cyflwynwyd y rhain mewn mannau eraill yn y DU yn ystod y pandemig—yn wir, yn Nyfnaint, maen nhw'n dal i gael eu defnyddio—ac maen nhw wedi'u cynllunio i ddiogelu capasiti acíwt mewn ysbytai, gan ddarparu cyfleusterau cam-i-lawr ar gyfer pobl sydd angen cymorth ond nid gofal ysbyty.

Byddai hybiau llawfeddygol hefyd yn cael eu sefydlu ym mhob rhanbarth, er mwyn rhoi rhyddhad ychwanegol i system iechyd Cymru—maen nhw wedi cael eu trafod, ond dydyn nhw ddim yn cael eu cyflawni—creu mwy o theatrau llawdriniaethau, sy'n golygu y gallwn ddechrau mynd i'r afael â'r rhestrau aros annerbyniol o hir, gydag un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn daer am driniaeth, yn enwedig ym maes orthopaedeg, yr ydym yn gwybod bod y sector proffesiynol wedi gwneud llawer o awgrymiadau yn ei gylch.

Er mwyn cefnogi'r economi, byddai cronfa cymorth i ficrofusnes yn galluogi busnesau i ddechrau gweithredu ac ehangu trwy eu helpu gyda thalu cyfraniadau yswiriant cenedlaethol dau aelod newydd o staff. Byddai cynllun prawf yn cael ei sefydlu i roi cymhorthdal tuag at gost paneli solar i fusnesau bach, eu helpu nhw i leihau eu biliau ynni a chyfrannu at uchelgais sero net Cymru.

Byddem yn ehangu ar gynllun tai gwag y Llywodraeth trwy ei droi'n gynllun cymorth i brynu cartrefi gwag a'r rhai sydd angen eu hadnewyddu, fel y gallwn helpu pobl ar yr ysgol eiddo a datgloi bron i 20,000 o gartrefi sy'n sefyll yn wag yng Nghymru.

Yn olaf, byddem yn datgloi'r swm enfawr o dros £2.5 biliwn o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio sydd ar hyn o bryd yn eistedd mewn cyfrifon banc awdurdodau lleol, fel y gallwn rewi'r dreth gyngor yn y dyfodol agos, gan roi cymorth ychwanegol i'r rheini i ymdrin â'r argyfwng costau byw.

15:25

I wneud hynny—. Fe orffennaf y pwynt yma, Mike, os caf i. I wneud hynny, byddai fformiwla yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi addasu'r grant cynnal ardrethi, pryd mae cynghorau'n dal cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio uwchben trothwy penodol. Byddai'r arian sy'n cael ei addasu o'r grant cynnal ardrethi dros y trothwy yn cael ei ailddosbarthu er mwyn creu cyllid gwaelodol ar draws y sector er mwyn galluogi pob cyngor i gadw lefelau treth y cyngor ar y lefelau presennol. Rydym yn gweld rhai awdurdodau sydd â chronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio o £270 miliwn. Mae hynny'n annerbyniol. Rwy'n hapus i gymryd ymyriad nawr.

Roeddwn i'n mynd i ddweud ei fod wedi'i seilio ar yr asesiad gwariant safonol, y grant cynnal ardrethi, gan ystyried gallu cynghorau i godi arian. A fyddai'n rhaid i chi hefyd newid yr asesiad gwariant safonol er mwyn newid y grant cynnal ardrethi?

Yr hyn rwy'n ei awgrymu yn y fan yma yw rhywbeth nad yw'n annhebyg i'r hyn y byddem yn ei wneud pe byddem yn arwain cynghorau a gweld ein hysgolion yn cronni balansau enfawr gan beidio â defnyddio'r rheini i'r diben y cawsant eu creu ar ei gyfer, yr adnodd hwnnw i helpu i addysgu ein plant ifanc. Awgrym yn unig yw hwn, pan fo cyngor yn dal cronfeydd wrth gefn sylweddol uwchben trothwy, byddai addasiad bach o £150,000 am bob £1 miliwn dros y trothwy hwnnw yn cael ei ddal yn ôl yn y grant cynnal ardrethi a'i ddosbarthu fel cyllid gwaelodol i ganiatáu i bob awdurdod arbed pobl rhag talu'r dreth gyngor ormodol sydd unwaith eto'n cael ei chynnig.

I grynhoi, Llywydd, rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru, fel pob Llywodraeth, yn wynebu heriau sylweddol yn y tymor agos, ond heddiw rydym wedi cyflwyno cynllun gweithredu'r Ceidwadwyr Cymreig, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau uniongyrchol y mae ein pobl a'n busnesau yn eu hwynebu, ac i gyflawni cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus mwy cydnerth, gan ddefnyddio'r adnoddau presennol, oherwydd mae angen i ni ddyblu ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r materion mwyaf dybryd yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd a chyflawni yfory gwell i bobl heddiw.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gyfradd dreth sylfaenol gan 1 geiniog, y gyfradd dreth uwch gan 2 geiniog, a'r gyfradd dreth ychwanegol gan 3 ceiniog er mwyn cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd a gofal a rhoi help ariannol i bobl sydd â'r anghenion mwyaf.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Llywydd. Does dim dwywaith nad oes gan Lywodraeth Cymru yr arian sydd ei angen arni i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i adeiladu'r math o gymdeithas deg yr ydym eisiau ei gweld. Mae hynny'n fwy gwir nawr nag y bu erioed, rwy'n credu. Yn y pen draw, mae'r diffyg arian hwnnw'n deillio o'n diffyg pŵer ni. Nid oes gennym y pwerau sydd eu hangen i dyfu ein heconomi yng Nghymru, sy'n ffordd gwbl hanfodol i gynhyrchu'r refeniw sy'n angenrheidiol i greu'r math yna o gymdeithas. Nid oes gennym chwaith y pwerau ariannol i reoli ein polisi cyllidol ein hunain—y pwerau benthyca, y pwerau amrywio trethi—i'n galluogi ni i godi'r adnoddau sydd eu hangen arnom, ac i wneud hynny'n deg. Mae ein dadl yfory, er enghraifft, yn ymwneud â rhoi'r grym i Gymru bennu'r bandiau treth incwm a'r trothwyon er mwyn i ni gael yr hyblygrwydd y mae'r Alban yn ei fwynhau ar hyn o bryd. Ein datrysiad i'r dilema hwn, wrth gwrs, yn y pen draw, a chyn gynted ag y gallwn ni, yw dod yn genedl annibynnol, fel bod gennym ni yr holl offer a'r ysgogiadau sydd ar gael i ni i greu'r gymdeithas honno yr ydym eisiau ei gweld. Ond nid dyna ein safbwynt ni ar hyn o bryd. 

15:30

O ystyried yr ansicrwydd ynghylch y datganiad diwethaf yna am annibyniaeth, onid yw hynny'n un o'r risgiau mwyaf y gallech chi ei gymryd gyda'r economi?

Rydym yn anghytuno'n llwyr. Rydyn ni'n eich annog i ddarllen adroddiad Melin Drafod, a gafodd ei ddrafftio gan aelodau o'r Blaid Lafur, yn ogystal ag aelodau o Blaid Cymru a phobl nad oedden nhw o unrhyw blaid, a ddaeth i'r casgliad nad oes unrhyw rwystr cyllidol i Gymru rhag dod yn genedl annibynnol mewn gwirionedd, a bod manteision enfawr o ran y math o gymdeithas deg a ffyniannus yr ydym eisiau ei gweld. Ond nid dyna yr ydym yn ei drafod heddiw, Llywydd. 

Ar hyn o bryd, ein safbwynt ni yw hyn: y dewis yr ydym yn ei wynebu yw a ddylid defnyddio'r pwerau sydd gennym, neu dim ond derbyn yr amlen ariannol a basiwyd i ni o San Steffan yn y bôn. Y broblem gyda'r llwybr olaf yw, i bob pwrpas, ein bod ni'n wynebu naill ai'r senario gwaethaf—cyni rhif 2 o dan y weinyddiaeth Geidwadol bresennol—neu, ar y gorau, gyda newid Llywodraeth, gwariant cyhoeddus gwastad. Ar ôl degawd a mwy o gyni, pan fo ein gwasanaethau cyhoeddus yn crefu am fuddsoddiad, mae Syr Keir Starmer wedi dweud, onid yw e, yn ddiweddar, ar wahân i'r ymrwymiadau cyfalaf uchelgeisiol, rhaid cyfaddef, o ran buddsoddiad yn yr economi werdd, ni fydd arian newydd—nid fy ngeiriau i, ei eiriau ef—a bod angen i bobl feddwl am agenda Llafur fel un degawd, oherwydd ni fydd buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn y pum mlynedd gyntaf. Mae hwnnw'n ogwydd mwy ceidwadol hyd yn oed na Llafur Newydd ym 1997, a oedd yn addo cadw at gynlluniau gwario'r Torïaid am y ddwy flynedd gyntaf. Yn y bôn, mae'n bum mlynedd o ddim arian sylweddol ychwanegol.

Mae Llafur a'r Ceidwadwyr yn San Steffan yn agosach nag y maen nhw'n cyfaddef o ran y brif her ariannol yr ydym yn ei hwynebu; maen nhw'n cynnwys gwahanol fathau o obaith ofer. Mae'r Torïaid yn esgus ei bod hi'n bosib torri trethi, ac ar yr un pryd, cynnal 'ansawdd' gwasanaethau cyhoeddus—rwy'n rhoi hwnnw mewn dyfynodau. Mae Llafur yn dweud y gall wella gwasanaethau cyhoeddus heb wario na threthu yn fwy. Nid yw'r naill blaid na'r llall yn barod i ddweud y gwir anodd, hyd yn oed gyda diwygiad—diwygiad angenrheidiol—ac arloesedd yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'r iechyd a'r gofal sydd ei angen ar boblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym yn gofyn am fuddsoddiad. Rydym wedi cael system gofal cymdeithasol sydd wedi'i thanariannu'n ofnadwy, ac mae wedi bod mewn argyfwng ers cenhedlaeth. Rydym wedi llwyddo rywsut gyda system gofal iechyd sy'n dirywio'n raddol hyd at yn ddiweddar. Roedd y GIG yn fregus ac yn gwaethygu—argyfyngau'r gaeaf yn dod yn rhywbeth arferol, y cynnydd mewn disgwyliad oes yn arafu, marwolaethau y gellir eu hosgoi yn codi, anghydraddoldebau iechyd yn gwaethygu. Roedd y GIG yn ei hanfod, er ei fod yn ei chael hi'n anodd, yn dal i allu cymryd y straen i raddau helaeth, yn bennaf oherwydd ymdrechion arwrol y gweithlu. Ond mae'r cyfuniad o'r pandemig a'r argyfwng costau byw, ynghyd â 12 mlynedd o gyni, yn golygu bod y system iechyd a gofal gyfan nawr yn gwegian, ac oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth radical, mae'n mynd i chwalu. Dyna'r gwir plaen.

Dyna'r gwir plaen sydd wrth wraidd yr anghydfod cyflog presennol, nad yw'n ymwneud â chyflog yn unig, neu hyd yn oed â chyflog yn bennaf, os siaradwch chi â'r bobl ar y llinellau piced; mae'n ymwneud â system gofal iechyd sy'n fregus a gweithlu ym maes iechyd a gofal sydd wedi blino'n lân ac sydd ar dorri. Mae 12 mlynedd o gyni wedi golygu gostwng cyflogau real i'r gweithlu a salwch cynyddol i'r cleifion, ac erbyn hyn y GIG ei hun sydd â salwch cronig. Gyda'r boblogaeth sy'n heneiddio ac yn clafychu'n gyflym, gyda degawd o danfuddsoddi mewn technoleg, a bellach rhestrau aros yn chwyddo, a gweithlu sy'n teimlo nad yw'n cael ei werthfawrogi, rydym wedi creu ein hargyfwng ein hunain. Roedd yno i'w weld, onid oedd? Rydyn ni i gyd yn gwybod hyn. Roedd yno'n amlwg yn y pandemig o ran diffyg capasiti yn y GIG, y prinder gwelyau, y prinder offer, y prinder gweithwyr a'n harweiniodd i sgrialu i wneud yn iawn am y diffygion hyn, sy'n sicr wedi cyfrannu at y cyfraddau marwolaeth uwch a welsom yma o'u cymharu â'n cymdogion Ewropeaidd.

Er mor anodd, credwn mai nawr yw'r amser, Gweinidog, i fod yn onest gyda'r bobl. Nid arian yn unig, fe wyddom, yw'r ateb, ond hebddo, nid oes unrhyw ffordd allan o'r argyfwng hwn. Y bobl a fydd yn talu'r pris uchaf yn y pen draw fydd yr union rai ar yr incwm isaf—nhw sydd bob amser yn fwyaf dibynnol ar ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus. Edrychwch ar yr holl dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn ei chynhyrchu yn nhermau anghydraddoldebau iechyd. Mae toriadau ym maes iechyd a gofal yn effeithio ar y rhai sydd ar incwm is yn fwy na neb arall; dydyn nhw ddim yn gallu dianc rhag eu dibyniaeth ar wasanaeth cyhoeddus, dydyn nhw ddim yn gallu mynd yn breifat. Byddan nhw'n talu os na fyddwn ni'n gweithredu nawr. Byddan nhw'n talu, nid gydag arian, ond gyda bywydau byrrach a gyda bywydau mwy poenus. Dyna'r realiti plaen, ac mae'n rhaid i ni fuddsoddi ar eu cyfer nhw. 

15:35

Rwy'n cael trafferth deall eich syniadaeth chi ynghylch hyn, mewn gwirionedd, oherwydd yr wythnos diwethaf gwelais yn y wasg fod Plaid Cymru eisiau codi trethi ledled Cymru. Sut bydd hynny'n helpu'r bobl sy'n derbyn y cyflogau isaf yn y wlad?

Rwyf newydd egluro'n union i chi. Mewn gwirionedd, y rhai sydd ar yr incwm is sy'n mynd i ddioddef fwyaf o'r toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus ar draws y meysydd, ac mae hynny'n wir ym maes iechyd hefyd. Felly, os nad ydyn ni'n buddsoddi, y bobl hynny ar yr incwm is fydd yn dioddef disgwyliad oes yn gostwng, bywydau byrrach, bywydau mwy poenus. Dyna pam mae'n rhaid i ni ei wneud e.

Dyna pam rydyn ni'n gwneud y cynnig hwn sydd, ydi, yn cynnwys cynnydd yn y gyfradd sylfaenol hefyd. Fe fyddem yn dymuno bod â'r pwerau sydd ganddyn nhw yn yr Alban, fel y gallem gael cyfradd gychwynnol, a fyddai'n is, gallem gael cyfraddau canolradd, a dyna beth rydyn ni'n canolbwyntio arno yfory. Ond mae'n rhaid i ni weithio o fewn y cyfyngiadau sydd arnom ni. Ond hyd yn oed wedyn, os yw'r Llywodraeth yn anghytuno â ni, yna, fel y dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, o leiaf defnyddiwch y gyfradd ychwanegol neu'r gyfradd uwch, fel y dywedais i'n gynharach. Byddai ei godi i lefel yr Alban mewn gwirionedd yn codi £72 miliwn y flwyddyn nesaf, £76 miliwn y flwyddyn ganlynol. Byddai hynny o leiaf yn caniatáu i chi godi cyfraddau gweithwyr gofal i £12 yr awr, a fyddai'n cael effaith sylweddol ar argyfwng swyddi gwag yn y sector hwnnw. Rwy'n clywed yr ymadrodd hwn, 'y cyfraddau treth uchaf ers 70 mlynedd'. Mae'n rhyfedd clywed geiriau Cynghrair y Trethdalwyr ar wefusau Gweinidogion Llafur. Ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, yn y llyfrau hanes, ac wrth wneud y fathemateg, 70 mlynedd yn ôl roedd hi'n Lywodraeth Lafur Clement Attlee—oedd hynny'n gyfnod ofnadwy o ran yr hyn roedden ni'n gallu ei wneud, gan ddod allan o'r ail ryfel byd a'r baich enfawr yr oeddem yn ymdrin ag ef? Yn union fel roedden ni'n penderfynu yn y pandemig a fydden ni—[Torri ar draws.] Na, dydw i ddim yn cymryd ymyriad; rwyf wedi cymryd un oddi wrthoch chi'n barod.

Fe benderfynon ni, oni wnaethon ni, allan o'r pandemig, ein bod ni'n mynd i adeiladu cymdeithas well, roedden ni'n mynd i adeiladu'n ôl yn well, ac mae'n ymddangos ein bod ni wedi anghofio hynny i gyd. Rydym wedi anghofio'r holl glapio a wnaethom i gydnabod y gweithwyr allweddol. A phan edrychwn ar draws y byd, mae gennym gyfradd is o dreth na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac eto rydym yn parhau i ddweud wrth bobl y gallwch gael ansawdd lefel Sgandinafaidd o wasanaethau cyhoeddus a disgwyl talu lefel Americanaidd o drethiant. Mae'n rhaid i ni fod yn onest â'r bobl, mae'n rhaid i ni ei wneud nawr, ac mae'n rhaid i ni ei wneud ar frys, oherwydd does dim opsiynau di-gost yma, Gweinidog, ac os ydyn ni'n parhau ar hyd y llwybr yr ydyn ni arno, yna rwy'n poeni, a dweud y gwir, ynghylch dyfodol ein cenedl.

15:40

Rwyf am siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd am ddod i sesiynau tystiolaeth y pwyllgor.

Fel pwyllgor, Llywydd, gwnaethom gydnabod bod gosod cyllideb ddrafft yn wyneb pwysau economaidd eithafol yn her anodd i Lywodraeth Cymru. Roeddem yn croesawu'r cynnydd mewn cyllid i bob awdurdod lleol, ac yn arbennig bod y cynnydd cyffredinol yn uwch na'r ffigurau dangosol a ddarparwyd y llynedd. Ond er gwaethaf hyn, wrth gwrs, mae'r cynnydd yn is na chyfradd chwyddiant, ac rydym yn pryderu fod pwysau chwyddiant yn golygu y bydd awdurdodau lleol yn dal i wynebu penderfyniadau anodd a allai effeithio ar ddarparu gwasanaethau.

Dywedodd llywodraeth leol wrthym am orwariant o £200 miliwn ar draws awdurdodau Cymru yn y flwyddyn ariannol bresennol, y bydd yn rhaid ei adfer o gronfeydd wrth gefn, a hynny er gwaethaf y cynnydd mewn cyllid a ddarparwyd ar ddechrau'r flwyddyn. Nid yw dibynnu ar gronfeydd wrth gefn i dalu am orwario yn gynaliadwy, wrth gwrs, a dywedodd awdurdodau lleol wrthym eu bod eisoes yn poeni am adnoddau sydd ar gael ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Credwn ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn paratoi nawr ar gyfer pwysau parhaus ar gyllidebau awdurdodau lleol er mwyn lleihau mwy o doriadau i wasanaethau sydd eisoes dan bwysau. Rydym felly wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut mae'n gweithio gyda llywodraeth leol i baratoi ar gyfer pwysau parhaus yn ystod y blynyddoedd i ddod. 

Mae gennym bryder penodol ynghylch yr arian cyfalaf i awdurdodau lleol. Rydym yn croesawu'r cynnydd mewn cyllid cyfalaf cyffredinol, ond rydym yn ymwybodol eto bod pwysau chwyddiant yn golygu na fydd awdurdodau'n gallu gwneud cymaint â'r cyllid hwnnw. Yn ôl yr awdurdodau lleol, unwaith yn rhagor eleni, mae cynnal a chadw priffyrdd yn dal i fod yn bwysau i'r rhan fwyaf o gynghorau. Mae'n siomedig felly nad oes arian cyfalaf priffyrdd penodol yn ei le. Cyn cwblhau'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, hoffem i Lywodraeth Cymru edrych eto ar y dyraniadau cyffredinol ar gyfer y gronfa trafnidiaeth leol a sicrhau bod digon o arian cyfalaf i awdurdodau lleol gynnal a chadw'r rhwydwaith priffyrdd a ffyrdd yn ddigonol.

Pryder arall cyson a basiwyd ymlaen i ni gan lywodraeth leol oedd yr her barhaus i recriwtio a chadw staff i weithio yn y sector gofal cymdeithasol. Bydd cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn siarad, fe wn, am eu pryderon ynglŷn â'r mater hwn. Rydym yn cefnogi argymhelliad y pwyllgor hwnnw y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu diweddariadau chwe mis ar waith y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol.

Llywydd, roeddem yn pryderu bod yr arian a ddyrannwyd i'r grant cyfalaf ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol, yn enwedig oherwydd yn ystod ein hymchwiliad i ddarparu safleoedd, fe glywsom a gwelsom fod angen cynnal ac adnewyddu rhai safleoedd awdurdod lleol ar frys. Ond, fel pwyllgor, roeddem hyd yn oed yn fwy pryderus o ddysgu na fu unrhyw wariant o'r grant cyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac ni ragwelir y bydd yr un ohonyn nhw'n digwydd cyn diwedd mis Mawrth. Rydym yn credu bod hwn yn ddarlun plaen o'r rheswm pam y gwnaethom benderfynu ymgymryd â'n gwaith o ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y lle cyntaf ac mae'n taflu goleuni ar faint y problemau wrth ddarparu llety digonol ac addas ar gyfer y cymunedau hyn. Mae'n ymddangos ei fod yn flaenoriaeth rhy isel i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac mae'n rhaid i hyn newid. Rydym wedi gwneud argymhelliad ar y cyd gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ac rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi'r rhesymau dros ddiffyg cynnydd yn y defnydd o grant cyfalaf safle Sipsiwn a Theithwyr a sut mae'n bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn manteisio ar y cyllid pwysig hwn. Dylai hefyd egluro beth fydd yn digwydd i'r tanwariant o gyllideb y llynedd.

Mae digartrefedd a gwasanaethau cymorth cysylltiedig yn faes arall sy'n peri pryder i ni yn y gyllideb ddrafft hon. Mae nifer digynsail o bobl mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhoi pwysau adnoddau difrifol ar wasanaethau cymorth. Mae cyllid refeniw ychwanegol o £10 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer atal digartrefedd, ond rydym yn poeni nad yw hyn yn ddigon i ymdrin â'r heriau presennol. Mae'r dyraniad grant cymorth tai yn parhau i fod yn £166.8 miliwn mewn termau arian parod. Mae hyn yn ostyngiad mewn termau real. Mae gwasanaethau sy'n cael eu hariannu gan y grant hwn yn hanfodol i atal a lleddfu digartrefedd. Rydym yn pryderu felly am yr effaith y bydd y toriad hwn yn ei chael ar y gwasanaethau hyn ar adeg pan fyddwn yn dibynnu arnyn nhw yn fwy nag erioed. Mae'n destun pryder hefyd bod staff rheng flaen, sy'n gweithio'n hynod o galed, yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Rydym yn gwerthfawrogi'r her y mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei hwynebu wrth bennu'r gyllideb ddrafft, ond rydym yn argymell bod rhaid i Lywodraeth Cymru ei gwneud hi'n flaenoriaeth i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer y grant cymorth tai cyn y gyllideb derfynol. Mae'n faes allweddol o wariant ataliol. Rydym hefyd yn pryderu am nifer y bobl mewn llety dros dro a'r 22,000 o eiddo gwag hirdymor yng Nghymru, ac rydym yn credu bod yn rhaid rhoi mwy o flaenoriaeth iddyn nhw unwaith eto. Ac wrth gwrs, yr 20,000 o gartrefi ychwanegol, Llywydd, er na fydd y rhain i gyd yn adeiladau newydd, rydym yn pryderu'n fawr y bydd yn anodd cyrraedd y targed hwn, o ystyried cost deunyddiau a phroblemau gyda'r gadwyn gyflenwi a'r gweithlu.

Datgarboneiddio yw maes olaf pryder y pwyllgor, Llywydd. Ond rydym yn gefnogol iawn i benderfyniad y Gweinidog i beidio â thynnu'n ôl ar safonau tai fel mesur arbed costau. Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd, a dyna'r penderfyniad cywir. Diolch yn fawr. 

15:45

Rydych chi'n lwcus eich bod yn nosbarth '99, John Griffiths [Chwerthin.] Roeddwn i'n arbennig o hael yn y fan yna. Russell George. Dydych chi ddim—dydych chi ddim. 

Rwyf i yn nosbarth 2011, Llywydd.

Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nawr, y llynedd, agorais fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy ddiolch i bawb a weithiodd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl ledled Cymru, am eu hymroddiad a'u hymrwymiad. Mae misoedd y gaeaf, fel rydyn ni'n gwybod, bob amser yn heriol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn anffodus, nid yw'r gaeaf hwn yn eithriad o gwbl—ymhell ohoni. Felly, ar ran y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, diolch iddyn nhw'n ddiffuant iawn, unwaith eto, am bopeth maen nhw'n ei wneud.

Nawr, mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys mwy na £10 biliwn ar gyfer gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, yn ogystal â'r ddarpariaeth ar gyfer gofal cymdeithasol o fewn y setliad llywodraeth leol, wrth gwrs, ac rydyn ni, fel pwyllgor, wedi archwilio sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r ysgogiadau ariannol sylweddol hyn i gyflawni ei chanlyniadau a'i huchelgeisiau a ddymunir ar gyfer ein gofal iechyd a chymdeithasol. Mae'r cyd-destun ariannol, wrth gwrs, yn heriol. Mae'n rhaid cydnabod hynny, ac wedi ei gyfyngu, wrth gwrs, gan chwyddiant uchel a chostau ynni uchel, ac wrth gwrs mae effaith y pandemig a chostau byw yn parhau i effeithio ar staff a gwasanaethau. Ac mae ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, wrth gwrs, yn ymrafael â mwy o alw, o ran mynd i'r afael â'r ôl-groniad amseroedd aros ac ymdrin â materion yn ymwneud â'r gweithlu hirsefydlog. Yn anochel, mae hyn yn effeithio ar yr ystod o weithgareddau y gellir eu darparu, ac o bosibl amserlenni gweithgaredd a chanlyniadau.

Rydym yn croesawu, fel pwyllgor, chwe blaenoriaeth y Gweinidog ar gyfer y byrddau iechyd. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, ac os gellir gwneud cynnydd yn y meysydd allweddol hyn, dylai ddatgloi capasiti a rhyddhau adnoddau i alluogi gwneud cynnydd mewn meysydd eraill yn y tymor hirach. Fodd bynnag, os blaenoriaethau yw'r rhain, yn ôl diffiniad, nid yw meysydd eraill yn flaenoriaethau, ac mae gennym rai pryderon efallai na chafodd byrddau iechyd ganllawiau clir ynghylch pa feysydd y mae'r Gweinidog yn eu hystyried fel rhai y mae'n dderbyniol yn wleidyddol iddyn nhw dynnu'n ôl ohonyn nhw. Felly, dywedodd y Gweinidog wrthon ni mewn pwyllgor y bydd hi'n adolygu cynlluniau tymor canolig integredig y byrddau iechyd ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno i weld a yw hi'n gyfforddus â'r penderfyniadau y maen nhw wedi eu gwneud. Ond, rydym i gyd yn gwybod y gallai penderfyniadau i leihau cyllid neu bwyslais fod yn heriol neu'n amhoblogaidd yn ogystal ag yn angenrheidiol, ac efallai na fydd cyfleoedd posibl i dynnu nôl mewn rhai meysydd ar lefel leol ond yn amlwg os rhoddir ystyriaeth lawn i opsiynau rhanbarthol neu genedlaethol. Felly, mae ein hadroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am drafodaethau â byrddau iechyd, gan gynnwys unrhyw bryderon y mae byrddau iechyd wedi eu codi, ac unrhyw ganllawiau pellach y mae Gweinidogion wedi eu rhoi ynghylch y modd y mae disgwyl i fyrddau iechyd liniaru unrhyw effaith sy'n deillio o hynny ar y meysydd nad ydyn nhw ymhlith y chwe blaenoriaeth.

Cyfeiriais at y pwysau yr ydym wedi'i weld mewn iechyd a gofal cymdeithasol y gaeaf hwn, ac rydym yn cytuno â'r Gweinidog bod mynd i'r afael â'r materion hyn sy'n ymwneud â llif cleifion ac oedi cyn trosglwyddo gofal yn hanfodol i ddatgloi'r dagfa yr ydym wedi'i gweld yn y system. Nawr, mae'n rhaid i ran o'r ateb ddatrys y materion gweithlu gofal cymdeithasol hirsefydlog yr ydym i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw, ac rydym yn cefnogi ymrwymiad y Llywodraeth i'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol—rwy'n llwyr gefnogi hynny fy hun—ond rydym yn cytuno hefyd â'r Dirprwy Weinidog na fydd yn ddigon ar ei ben ei hun i fynd i'r afael â phrinder cynyddol acíwt. Felly, rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn deall brys y materion, megis gwella mynediad at dâl salwch, gwreiddio gweithwyr gofal cartref mewn timau amlddisgyblaethol a mynd i'r afael â'r anghysondebau mewn cyflog ac amodau i weithwyr gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd. Ond nid ydym eto wedi ein perswadio bod gwaith y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol yn cael ei ddatblygu ar y cyflymder sydd ei angen, bod mesurau gwirfoddol ar gyfer cydfargeinio neu strwythurau cyflog yn ddigonol, neu fod digon o eglurder ynghylch sut y bydd argymhellion y grŵp arbenigol gwasanaethau gofal cenedlaethol yn cael eu datblygu i gyflawni uchelgeisiau tymor hirach Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol. Felly, er mwyn ein helpu i fonitro'r maes hwn, rydym wedi gofyn i'r Gweinidog ymrwymo i ddarparu diweddariadau chwe mis rheolaidd i ni, trwy ein hargymhelliad 9.

Felly, rwy'n diolch i fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a hefyd y tîm clercio a'r tîm integredig ehangach hefyd am eu holl gefnogaeth o ran drafftio ein hadroddiad. A, Dirprwy Lywydd, a minnau'n aelod da o garfan 2011, fe welwch fy mod wedi cymryd pum munud ar ei ben. [Chwerthin.]

15:50

Diolch, Llywydd. Rwy'n hapus i gyfrannu ar ran y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, a diolch i’r tîm clercio ac i’r Aelodau a phawb sydd wedi rhoi gwybodaeth inni sydd wedi bwydo i mewn i’n hargymhellion ni.

Yn ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft, ein prif neges yn llythrennol yw: diwedd y gân yw’r geiniog. Yn anffodus, mae gennym gryn bryder y bydd y setliad ariannol presennol un ai yn cyfyngu, neu’n waeth, yn dod i derfyn â sawl gwasanaeth pwysig y mae nifer o bobl yng Nghymru yn ddibynnol arnynt. Yn dilyn ein hadroddiad effaith costau cynyddol yn Tachwedd y llynedd, mae’n amlwg i ni fel pwyllgor bod yna fwy sydd angen ei wneud. Mae angen cymorth ychwanegol ar ein sectorau diwylliant a chwaraeon i ymdopi â’r argyfwng costau byw. Maent yn dal i wynebu effeithiau'r pandemig o ran cyfranogiad ac hefyd o ran eu hiechyd ariannol, ac felly, nid ydynt mewn sefyllfa i oroesi'r storm rydym ni i gyd yn ei hwynebu ar hyn o bryd.

Dywedodd y llyfrgell genedlaethol wrthym y byddai gostyngiad parhaus mewn cyllid cyfalaf yn peri risg parhaus i’n trysorau cenedlaethol, tra gwnaeth y cyngor celfyddydau ddweud y byddant yn croesawu’n frwd unrhyw arian ychwanegol y gellir ei roi i'r sector. Ar yr un adeg, mae un o'r deisebau mwyaf poblogaidd ar wefan y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi pyllau nofio drwy ddarparu pecyn o gymorth ariannol wedi’i neilltuo y tu hwnt i’r setliad terfynol ar gyfer llywodraeth leol i sicrhau bod pyllau nofio’n gallu aros ar agor.

Cafodd Llywodraeth Cymru ganmoliaeth haeddiannol am fuddsoddi dros £140 miliwn yn y sectorau hyn i sicrhau eu bod yn goroesi yn ystod y pandemig. Yn anffodus, rydym ni o’r farn nad yw’r cymorth pellach sydd wedi ei amlinellu ar gyfer eleni a’r flwyddyn ariannol nesaf yn ddigonol, ac yn anffodus, dyw ein pryderon ddim yn stopio gyda’r sectorau diwylliant a chwaraeon. Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o sefyllfa fregus y Gymraeg yn dilyn cyhoeddi canlyniadau siomedig y cyfrifiad cyn y Nadolig. Rydyn ni'n bryderus am effaith sylweddol chwyddiant ar allu darparwyr gweithgarwch cymunedol cyfrwng Cymraeg i barhau gyda lefelau presennol gwasanaethau. O ystyried sefyllfa fregus y Gymraeg, ac er mwyn helpu adfer wedi’r pandemig, rydyn ni eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn adolygu lefel y cyllid sydd ei angen er mwyn cynnal a hefyd gwella cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch cyfrwng Cymraeg mewn cymunedau lleol ledled Cymru, o ganlyniad i gostau byw uwch. Mi fydd y pwyllgor yn edrych eto ar ganlyniadau’r cyfrifiad pan fydd mwy o ddata wedi ei gyhoeddi maes o law.

Felly, fel dywedais ar y dechrau: diwedd y gân yw’r geiniog. Rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai nid dyma’r stori ar gyfer y sectorau yma trwy sicrhau cymorth pellach i roi hwb i'r sectorau hyn, a sicrhau nad yw’r buddsoddiad a wnaed yn ystod y pandemig yn cael ei wastraffu. Diolch.

15:55

Byddaf yn pleidleisio dros y gyllideb hon, er bod gen i bryderon difrifol iawn am y peth. Pe na bai'r Senedd yn gallu gosod cyllideb, does dim prinder aelodau o Lywodraeth San Steffan fyddai ond yn rhy hapus i ddweud, ‘Nid yw datganoli’n gweithio. Gallwn ni osod y gyllideb ar eu cyfer nhw oherwydd dydyn nhw ddim gallu ei wneud eu hunain.'

O ran codi treth incwm, fel yr awgrymir gan Blaid Cymru, er fy mod yn ddeallusol o blaid codi cyfradd y dreth incwm ar y ddau fand uchaf, mae yna anawsterau ymarferol os ydyn ni'n gwneud hynny ar ein pennau ein hunain, gan gynnwys pobl yn cofrestru fel trethdalwyr yn Lloegr. Mae yna lawer o ffyrdd i bobl sy'n ennill cyflogau uchel osgoi treth incwm, ond y ffordd hawsaf a symlaf yw talu mewn difidendau, gan fod incwm difidend yn cael ei drethu ar gyfradd is. Mae hyn, yn anffodus, y tu hwnt i reolaeth y Senedd, ond mae angen i'r Llywodraeth nesaf yn San Steffan fynd i'r afael â hyn. Byddai ychwanegu 1c at y gyfradd sylfaenol yn golygu y byddai'r trethdalwyr cyfradd sylfaenol yn talu £5 yn ychwanegol am bob £100 maen nhw’n ei dalu ar hyn o bryd. Fel y byddai fy etholwyr yn gallu dweud wrthych chi a gallaf i ddweud wrthych chi, mae hyn yn cyfateb i dorth fawr o fara, hanner pwys o fenyn a photel fawr o laeth. Ar adeg pan fo pobl yn wynebu argyfwng enfawr costau byw, nid yw cynnydd mewn treth sy'n tynnu arian allan o bocedi pobl gyffredin yn gam blaengar.

O ble all Llywodraeth Cymru gael arian ychwanegol? Mae gen i rai awgrymiadau. Yn gyntaf, capio taliadau fferm sylfaenol. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan yr undebau amaethwyr yng Nghymru. Difidend Brexit yw hwn, rydyn ni allan o'r polisi amaethyddol cyffredin, felly nid oes angen talu'r taliadau hyn mwyach. Y taliad fferm cyfartalog yng Nghymru yw £15,000, ac rwy'n galw am sicrhau mai dyma yw’r lefel y mae'n cael ei chapio arni. Nid wyf yn gallu cael ffigwr a gyfer Cymru, ond o ffynonellau sydd wedi eu cyhoeddi, mae dros £100,000 yn cael ei dalu i lawer o ffermwyr ym Mhrydain, llawer ym Mhrydain nad oedd o reidrwydd yn ffermwyr gweithredol. Faint o fusnesau ffermydd sy'n cynnwys aelodau cyfredol neu gyn-Aelodau o'r Senedd sydd wedi derbyn dros £1 miliwn ers sefydlu'r Senedd?

Yr ail yw peidio â rhoi rhyddhad ardrethi ychwanegol i gwmnïau mawr: gweithredwyr bwyd cyflym, cadwyni coffi, cadwyni gwestai, cadwyni tafarndai a chanolfannau siopa y tu allan i'r dref. Mae cyfraddau busnes yn un o ddwy dreth mae busnesau’n eu casáu'n fawr. Ni allwch chi eu hosgoi, tra bod y dreth gorfforaeth wedi dod yn gyfraniad gwirfoddol i bob pwrpas gan fusnesau mawr. Ffordd arall o arbed arian fyddai cyflwyno deddfwriaeth na fyddai’n costio arian i wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Yn olaf, cael gwared ar barthau menter. Nid oedd angen yr arian ychwanegol ar Ganol Caerdydd a Glannau Dyfrdwy i ddenu buddsoddiad, ac roedd y ffigyrau diwethaf a welais gan y lleill yn dangos mai ychydig iawn o swyddi oedd wedi’u creu a llai fyth heb adleoli. Wedi rhyddhau'r arian yma, tlodi, tai ac addysg ddylai’r flaenoriaeth fod. Addysg yw'r offeryn datblygu economaidd gorau sydd gennym ni. Mae'n buddsoddi yn ein plant a'n pobl ifanc. Mae gwariant ar ysgolion ac addysg bellach ac addysg uwch yn dod â mwy o wobr economaidd nag unrhyw wariant arall ar ddatblygiad economaidd. Pam mae'r ardaloedd hynny sydd ag unigolion cymwys iawn yn denu busnesau o'r tu allan a busnesau newydd? Drwy ddarparu cyflogaeth fedrus a chyflogau uchel heb orfod llwgrwobrwyo cwmnïau i ddod â'u ffatrïoedd cangen, sydd wedyn ar gau yn weddol rheolaidd ar ôl i amser redeg allan.

Mae Fferm Gilestone yn codi'r cwestiwn pellach: a ddylai Llywodraeth Cymru wario adnoddau prin ar gefnogi digwyddiadau nad ydynt o fudd i economi Cymru, lle nad yw mwyafrif y contractwyr yn rhai o Gymru, neu a ddylai Llywodraeth Cymru fod yn defnyddio arian o gwbl i gefnogi atyniadau twristiaeth? Os ydy pobl eisiau atyniad i dwristiaid, maen nhw'n mynd i'r banc, maen nhw'n benthyg ac maen nhw'n ei redeg fel busnes. Yn rhy aml o lawer, y diffiniad Cymreig o gyfalafiaeth yw, 'Faint o arian allwn ni ei gael allan o Lywodraeth Cymru?'

Roedd tai yn arfer bod o dan iechyd yn y cyfnod yn syth ar ôl y rhyfel. Roedd Attlee a Llywodraeth Lafur 1945-51 yn deall pwysigrwydd tai i iechyd. Ydy hi'n syndod bod pobl sy'n byw mewn cyflyrau oer, llaith yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd? Bydd adeiladu tai cyngor, gan ddefnyddio cyfalaf trafodion i gefnogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yn cynyddu maint y tai o ansawdd da i'w rhentu ac yn gwella iechyd cyffredinol y bobl sy'n byw yma.

Yn olaf, ar dlodi, mae nifer fawr o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol ac yn defnyddio banciau bwyd yn rheolaidd, ynghyd â thorri nôl ar wres a goroesi ar fwyd oer. Nid oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o bŵer i ddelio â thlodi, ond mae yna bethau y gellir eu gwneud. Fel y dywedodd Peredur Owen Griffiths yn gynharach, byddai cynyddu EMA yn unol â chwyddiant yn helpu plant o'r teuluoedd tlotaf i barhau ag addysg. Byddai darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn y mae eu rhieni ar fudd-daliadau yn helpu iechyd ac addysg. Ac er nad yw'n fater cyllideb, mae angen i Lywodraeth Cymru barhau i bwyso am ddod â thaliadau sefydlog i ben ar ddiwrnodau pan nad oes ynni'n cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn rhywbeth mae hyd yn oed yr Observer bellach wedi cymryd diddordeb ynddo. Diolch.

16:00

Mae'r ddadl heddiw yn un hollbwysig. Ar ôl clywed penawdau cychwynnol y datganiad nôl ym mis Rhagfyr, roeddwn i'n meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi cael epiffani o'r diwedd a sylweddoli ei bod hi'n bryd ariannu a chefnogi ein system addysg yn iawn ar ôl blynyddoedd o esgeulustod. Yn anffodus, fel mae'n digwydd, nid yw hyn yn wir, ac, mewn gwirionedd, mae pethau'n mynd i waethygu i'n hysgolion, ein haddysgwyr a'n disgyblion.

Ym mis Tachwedd y llynedd, fe welsom ni ddatganiad Llywodraeth y DU ar gyfer yr hydref yn rhoi pobl ifanc ar flaen eu hagenda, gyda chynnydd mewn cyllid ar gyfer addysg. Fe wnes i alw am gyfateb hyn yng Nghymru yr wythnos ar ôl i ddatganiad yr hydref gael ei gyhoeddi. Felly, i ddechrau, roeddwn i wrth fy modd o glywed y byddai'n cael ei gyfateb yng Nghymru, mae'n debyg. Fodd bynnag, ar ôl darllen ymhellach, daeth yn amlwg, Gweinidog, os yw'r ffigwr o £117 miliwn yn y gyllideb yn gostwng gyda'r £227 miliwn ar gyfer llywodraeth leol, nid yw'r £117 miliwn ychwanegol yn cael ei glustnodi'n benodol ar gyfer addysg ac felly ni ellir ei gyfrif i fynd tuag at addysg—gellir ei wario mewn mannau eraill, ac nid yw o reidrwydd yn mynd lle mae ei angen yn daer, sef rheng flaen addysg, ar adeg pan fo cyllidebau ysgolion yn cael eu hymestyn i'r eithaf ac mae llawer o bwysau ychwanegol ar addysg yng Nghymru.

Os nad oedd hyn yn ddigon drwg, gwelwyd bod y gyllideb ddrafft ar gyfer addysg a'r Gymraeg yn 2023-24 yn golygu toriad mewn termau real o £6.5 miliwn i'r gyllideb. Pan fyddwch chi’n mynd dros y manylion, mae'n dod yn fwy pryderus fyth, gyda gostyngiad o 6.3 y cant mewn grantiau cymorth i fyfyrwyr. Yn ôl data ledled y DU gan Ymddiriedolaeth Sutton, mae 27.8 y cant o fyfyrwyr wedi methu prydau bwyd i arbed ar gostau bwyd, ac mae 16.4 y cant o fyfyrwyr wedi teithio llai i'r campws i leihau costau, sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar eu cyrhaeddiad addysgol. Mae hyn hyd yn oed yn fwy pryderus o’i gyplysu â'r 24 y cant o fyfyrwyr sy'n credu eu bod nhw ychydig, neu lawer, yn llai tebygol o orffen eu gradd oherwydd y costau.

Rydym ni hefyd yn gweld gostyngiad o 6.5 y cant yn y grant datblygu disgyblion. Mae Llywodraeth Cymru'n lleihau'r unig arian wedi'i dargedu sydd ar gael ar gyfer teuluoedd incwm isel. Mae'r toriad yn dod wrth i'r £100 ychwanegol sy'n cael ei roi eleni gael ei ddileu, er bod y byd mewn argyfwng costau byw. Yn sicr, nid cyllideb ar gyfer adegau caled yw hon.

Yn adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn, gwelwn ostyngiad o 3.9 y cant mewn cymorth athrawon a datblygu, er, yn adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn, roedd sôn sylweddol fod angen blaenoriaeth lwyr ar recriwtio a datblygu staff. Mae'r gyllideb wedi amlinellu cynnydd o 2.6 y cant mewn seilwaith addysg, ond eto mae pryderon dilys ynghylch i ba raddau y bydd hyn yn cefnogi ysgolion, yn enwedig wrth gyflwyno prydau ysgol am ddim. Bydd llawer o gynghorau yn gorwario'n sylweddol ar gyflwyno'r diwygiadau hyn—llawer mwy na'r rhandaliad cyntaf o gyllid a ddyrannwyd. Er enghraifft, rhagwelir y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwario £1.8 miliwn eleni—mwy na £500,000 yn fwy na'u dyraniad cychwynnol—disgwylir i Gyngor Gwynedd wario £1.6 miliwn, gan ei gwneud yn agos at orwariant o £500,000, a bydd cyngor Casnewydd yn gwario mwy na'r £1.3 miliwn a ddyrannwyd i sicrhau eu bod yn cyflawni.

At ei gilydd, Gweinidog, rydych chi wedi cyflwyno cyllideb i ni nad yw'n esgeuluso addysg yng Nghymru yn unig, mae'n ei niweidio'n weithredol, am fod toriad mewn termau real. Dylai hon fod wedi bod yn gyllideb i ddechrau atgyweirio'r difrod rydych chi wedi'i wneud dros 23 mlynedd mewn grym, sy'n golygu bod Cymru ar waelod rhaglen ar gyfer sgoriau Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol yn y DU. Mae PISA wedi bod yn newyddion drwg i'r Llywodraeth hon ers i ni ymuno yn 2006, ac rydym ni wedi bod yn israddol yn y DU ym mhob cyfran ers hynny. Mae pob Gweinidog, ers i ni ymuno, wedi cael targed PISA maen nhw bob amser yn ei fethu. Nid yw'r gyllideb yn gwneud dim i atal y gwaethygiad ac nid yw'n gwneud dim i sicrhau ein bod yn denu'r athrawon disgleiriaf a’r gorau i'n system addysg.

Gadewch i ni beidio ag anghofio, yn 2011, ein bod ni wedi gweld gostyngiad o bron i 10 y cant yn niferoedd athrawon wrth iddyn nhw adael y proffesiwn yn eu heidiau. Mae'r gyllideb hon yn methu ar bob metrig, ac rwy'n eich annog chi heddiw, Gweinidog, i fynd yn ôl ac ailfeddwl a rhoi cynnig arall arni, gan eich bod chi wedi methu addysg Gymraeg llawer gormod o weithiau erbyn hyn. Mae Cymru'n haeddu gwell. Mae ein dysgwyr yn haeddu gwell. Ac fel dywedodd Mike Hedges, dylen ni fod yn buddsoddi yn ein plant.

Diolch i'r Gweinidog a'i chydweithwyr am lunio'r gyllideb hon.

Byddwn i hefyd yn diolch iddi am gymryd yr amser yr wythnos diwethaf i sgwrsio am y sefyllfa gyllidebol. Ac fe hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid hefyd am ei waith craffu, a dydw i ddim yn dweud hynny oherwydd bod Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn eistedd wrth fy ymyl yn unig. Gan droi at y gwaith hwnnw, roedd diffyg manylder amlwg iawn yn y dystiolaeth a gyflenwyd gan Lywodraeth Cymru i'r pwyllgor yn ymwneud ag ail-flaenoriaethu cyllidebau lle gallai hynny fod wedi arwain at leihau cynlluniau gwariant neu hyd yn oed roi cynlluniau gwreiddiol o’r neilltu. Gall hyn, wrth gwrs, arwain at ganlyniadau ymhellach i lawr y lein, felly byddwn i’n ddiolchgar pe bai'r Llywodraeth yn gallu cyhoeddi'r manylion hynny. Fe wnaf i roi enghraifft: yr arian ar gyfer y cynllun argyfwng bysiau. Fe'i cyflwynwyd i gefnogi parhad gwasanaethau bysiau yn ystod y pandemig, ac mae'n rhywbeth mae gwasanaethau gwledig, yn arbennig, yn dibynnu arno. Nawr, nododd y dystiolaeth a gyflenwyd gan y Llywodraeth i'r Pwyllgor Cyllid i ddechrau y byddai'r £28 miliwn a ddyrannwyd i'r BES yn 2022-23 yn cael ei gario drosodd i 2023-24 heb unrhyw addasiad mewn cyllid, ond mae wedi dod i'r amlwg o ohebiaeth rwyf i wedi’i derbyn gan randdeiliaid bod yr ymrwymiad hwn bellach dan amheuaeth ar y cam hwyr iawn hwn. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi rhywfaint o eglurder ar hyn. Mae bysus yn hanfodol bwysig fel gwasanaeth i'n cymunedau.

Wrth symud ymlaen i swyddi gwyrdd, mae TUC Cymru wedi awgrymu y gallai 60,000 o swyddi gwyrdd newydd gael eu creu yng Nghymru os ydyn ni'n buddsoddi'n iawn. Yn anffodus, mae mynediad cyfyngedig i gyllid, gweithwyr medrus a gallu ar linellau pŵer yn arafu symudiad tuag at ynni adnewyddadwy. Dywedodd 70% o gyflogwyr y DU mewn arolwg o Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu fod ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o sut y bydd angen iddyn nhw newid eu busnes i ddatgarboneiddio, roedd 88 y cant yn fodlon arallgyfeirio i ddatgarboneiddio, a byddai 90 y cant yn fodlon ailhyfforddi pe bai angen. Fodd bynnag, mae mwy na 78 y cant o gyflogwyr a ymatebodd i arolwg CITB yn credu bod prinder sgiliau yn yr alwedigaeth benodol i ddatgarboneiddio ar hyn o bryd.

Nawr, mae'r Llywodraeth wastad wedi bod yn awyddus i siarad am greu prentisiaethau newydd, ac yn croesawu eu creu, ond, fel y dywedais i o'r blaen, mae cadw myfyrwyr yn allweddol i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau. Gadewch i ni gymryd y sector adeiladu fel enghraifft—mae'r CITB yn amcangyfrif bod 1,400 o fyfyrwyr, o flwyddyn i flwyddyn, yn astudio cwrs adeiladu. Nawr, mae sgyrsiau rydw i wedi'u cael gyda'r sector i gyd yn dilyn yr un patrwm—pe bai'r nifer hwnnw o fyfyrwyr o flwyddyn i flwyddyn yn cwblhau eu cwrs, ni fyddai gennym ni brinder sgiliau yn y maes adeiladu. Felly, yn amlwg iawn, mae yna ostyngiad o fyfyrwyr. Fodd bynnag, nid yw data'n cael ei gasglu gan y Llywodraeth ar faint o fyfyrwyr sy'n gadael addysg yng nghanol cwrs. Mae angen i hynny, wrth gwrs, newid, ond beth fydd yn help yw'r gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i fyfyrwyr. Roedd croeso mawr i'r cynnydd i gymorth cynhaliaeth myfyrwyr. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys myfyrwyr mewn colegau, yn y chweched dosbarth, nac ar brentisiaethau. Nawr, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy ymgyrch i gynyddu taliadau lwfans cynhaliaeth addysg a'r trothwy. Byddai hynny'n sicr yn helpu, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, lle mae myfyrwyr yn ei chael hi'n anodd iawn i wneud i'r £30 yr wythnos honno fynd yn bell. Mae cludiant ar ei ben ei hun yn defnyddio’r £30 hwnnw. Cyplyswch hyn â bwyd, adnoddau ar gyfer cyrsiau, ac mewn rhai achosion—achosion rydw i wedi'u codi yn ystod fy ymgyrch—talu am filiau cartref, ac mae addysg yn dod yn anghynaladwy iawn yn gyflym iawn i gynifer.

Nawr, rydyn ni'n dweud wrth fyfyrwyr—ac fe gyffyrddodd Mike ar hyn—yn enwedig myfyrwyr o aelwydydd incwm isel, bod addysg yn fuddsoddiad ac y dylen nhw edrych ar ba fantais fydd yn ei rhoi iddyn nhw yn y dyfodol. Wel, i fyfyrwyr incwm isel, y dyfodol, yn amlach na pheidio, yw yfory. P'un a fyddan nhw'n gallu fforddio bwyta ai peidio, a fyddan nhw'n gallu fforddio teithio, a fyddan nhw'n gallu fforddio byw—nid ymhen pum mlynedd. Nid dim ond ar gyfer myfyrwyr llawn amser sy'n astudio ar y campws mae hyn, gyda llaw. Mae hyn yr un mor berthnasol i'r rhai ar brentisiaethau, a byddwn i’n annog y Llywodraeth i ystyried isafswm cyflog prentisiaeth.

Nawr, mae achos clir dros roi hwb i fuddsoddiad yn y maes hwn. Argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai'r Llywodraeth ystyried cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg. Cawsom dystiolaeth yn y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch cefnogaeth i fyfyrwyr—felly hefyd mewn pwyllgorau eraill. Felly, mae'n anffodus nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu'n ddigonol yn y gyllideb ddrafft. Ond byddwn i'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ceisio mynd i'r afael â hyn pan fyddan nhw'n dod â'r gyllideb yn ôl, ac rwy'n fwy na pharod i chwarae fy rhan i'w wireddu.

16:05

Rydw i'n mynd i siarad yn y lle cyntaf yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac yna symud ymlaen at rai pethau sy'n faterion llosg yn fy etholaeth i. Fe wnaethom ni edrych ar y gyllideb cyfiawnder cymdeithasol, yn amlwg o safbwynt ceisio nodi sut rydyn ni'n mynd i gefnogi'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. 

Un o'r pethau oedd yn ein poeni ni’n fawr oedd bod y dyraniad untro nad yw'n rheolaidd o £117 miliwn o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i roi arian i bawb i sybsideiddio costau erchyll o uchel cwmnïau ynni wedi codi yn arwain at oblygiadau difrifol i sut mae teuluoedd bregus yn mynd i oroesi'r gaeaf nesaf, oherwydd mae cynllun cymorth tanwydd £200 Cymru wedi bod yn bwysig iawn i lawer o bobl, ac os nad yw hynny'n bodoli yn y flwyddyn ariannol nesaf, yna mae'n rhaid i ni feddwl o ddifrif iawn am sut rydyn ni'n mynd i alluogi teuluoedd i oroesi yn yr hyn a allai fod yn sefyllfa hyd yn oed yn fwy enbyd y flwyddyn nesaf. Felly, rydyn ni eisiau gweld rhywfaint o feddwl o ddifri ar sut rydyn ni'n mynd i wneud hyn, ac rydyn ni eisiau gweld hynny erbyn mis Gorffennaf eleni, oherwydd nid yw'n dda i ddim cynhyrchu cynllun pan fyddwch chi eisoes yng nghanol y gaeaf.

Rydyn ni'n credu bod y gronfa cymorth yn ôl disgresiwn wedi bod yn ddull pwysig ar gyfer sicrhau bod y rhai sydd mewn sefyllfaoedd enbyd, a all gael eu hachosi gan naill ai orfod ffoi rhag sefyllfa trais yn y cartref neu'n syml gan beiriant golchi yn torri i lawr—. Mae'r pethau syml iawn yma rwy'n credu wedi bod yn wych o bwysig i bobl, ac mae'r ffaith ei fod yn cael ei weinyddu gan yr holl asiantaethau cronfa gynghori sengl yn sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael arni. Ond ychydig iawn o syniad sydd gennym ni beth fu effaith y gronfa hon, ac felly rydym ni wir yn teimlo bod angen i ni wybod pwy sydd wedi elwa ohoni ym mha rannau o Gymru, pa awdurdodau lleol sydd wedi llwyddo i'w hyrwyddo. Gan fod cyllidebau wedi'u cyfyngu gymaint yn y gyllideb eleni ac mae'n debygol o fod hyd yn oed yn anoddach yn un y flwyddyn nesaf, mae gwir angen i ni gael rhywfaint o eglurder ynglŷn â phwy yn union sy'n mynd i elwa a p’un a yw'r DAF yn mynd i fod yn ddigonol.

Rwy'n meddwl mai un o'r pethau sy'n ein poeni ni yw ei fod yn dal yn bryderus iawn nad yw llawer o bobl yn gwybod beth mae ganddyn nhw hawl iddo. Dim ond ddoe roeddwn i'n eistedd gyda rhai teuluoedd oedd â phlant ag anghenion arbennig. Yn syml, doedden nhw ddim yn gwybod am y cynllun cymorth tanwydd gwerth £200 y mae Llywodraeth Cymru yn ei weithredu, oherwydd yn syml iawn, doedd eu gweithiwr cymdeithasol ddim wedi trafferthu gofyn iddyn nhw a oedden nhw wedi ei gael, ac mae hynny'n sefyllfa annerbyniol, yn union fel mae'n annerbyniol i ymwelwyr iechyd ddweud nad oes ganddyn nhw amser i helpu teuluoedd i lenwi talebau Cychwyn Iach. Ar ba sail nad ydyn nhw’n canolbwyntio ar allu teulu i allu prynu bwyd sy'n maethu eu teuluoedd, yn hytrach na bwyd sothach sy'n gallu eu lladd? Felly, mae gwir angen i ni sicrhau bod pob gweithiwr rheng flaen, boed yn weinyddwr yr ysgol, y gofalwr, neu'r gweithwyr iechyd a chymdeithasol prysur hynny—mae'n gwbl hanfodol.

Cefais fy syfrdanu o glywed Peter Fox yn dweud bod y cynllun treialu incwm sylfaenol i bobl sy'n gadael gofal yn wastraff arian. Mae hwn yn fesur buddsoddi i arbed. Dyma ein cyfrifoldeb cyfunol. Dyna mae bod yn rhiant corfforaethol yn sefyll amdano. Felly, rydym ni’n cefnogi'r buddsoddiad i arbed yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac rwy'n credu bod croeso mawr i'r parhad a'r cynnydd yn yr arian hwnnw.

Rwyf i nawr eisiau cyfeirio at faterion sy'n gwbl hanfodol i les fy etholwyr fy hun yng Nghanol Caerdydd, gan godi yr hyn yr oedd Luke Fletcher yn ei ddweud am barhad y cynllun argyfwng bysiau, oherwydd mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi gwybod i mi y gallai dod â'r cynllun argyfwng bysiau i ben, yn hytrach na chael yr arian pontio £20 miliwn hwnnw, arwain at doriadau o draean o'r holl lwybrau o leiaf, neu, fel arall, bysiau llai aml ar bob un o'r llwybrau. A bydd hefyd yn cael effaith ar ei allu i ddarparu cludiant ysgol i ysgolion. Felly, mae hwn yn fater difrifol iawn. Cafodd hyn ei drafod yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, ac fe wnaeth y Dirprwy Weinidog gydnabod bod tlodi trafnidiaeth yn fater sy'n wirioneddol arwyddocaol. Mae'n rhaid i chi gofio, mewn rhannau o fy etholaeth i, nad oes gan dros hanner y cartrefi fynediad at gar ac mae'n debyg bod gan o leiaf 25 y cant o ddefnyddwyr bysiau anabledd neu salwch hirdymor, felly mae'n debyg nad yw mynd ar feic yn opsiwn iddyn nhw. Felly, rwy'n credu bod hwn yn fater arwyddocaol iawn ac yn rhywbeth mae angen i ni roi llawer mwy o sylw iddo. Mae angen i ni feddwl 'ie' am ddileu tlodi bwyd, 'ie' i gael atebion hirdymor i dlodi tanwydd, yn enwedig gyda'r angen i gyflwyno'r fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd, ond mae'n rhaid i ni hefyd edrych ar dlodi trafnidiaeth; mae wir yn atal pobl rhag cyrraedd eu gwaith neu eu haddysg.

16:15

Yn amlwg, hoffwn fynd i'r afael â fy mhryderon am y gyllideb o ran y portffolio. Os ydym ni ond yn edrych ar Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyr anwybyddu llawer o rybuddion rydyn ni wedi'u gweld mewn adroddiadau pwyllgorau ac ymchwiliadau nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei ariannu'n ddigonol, ac eto, maen nhw wedi dewis cynnal ei lefel bresennol o gyllid. Felly, mae'n parhau i ddyrannu £60.1 miliwn yn y gyllideb ddrafft iddo, ond eto mewn cyferbyniad, derbyniodd y corff hwn £69 miliwn yn 2021-22. Er y pryderon hyn am danariannu, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi dweud bod cyllid y corff yn 'ddigonol ar gyfer eu cyfrifoldebau statudol', er y byddai

'yn well ganddi roi cael cyllideb fwy iddyn nhw',

wrth graffu ar gyllideb 2022-23. Mae hynny ar y cofnod. Felly, gyda'r angen am oruchwyliaeth amgylcheddol yn bwysicach nag erioed nawr, bydd y geiriau hyn yn sicr yn eiriau gwag i lawer.

O ran targedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru, bydd cyllid ynni glân yn gostwng 6 y cant, er gwaethaf targed sero-net Llywodraeth Cymru ei hun. Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu dyrannu £10.4 miliwn at ynni glân, er bod y gyllideb bellach yn dangos bod hyn wedi gostwng i £9.8 miliwn. Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio tuag at ddatblygu polisi, cefnogaeth ariannol i ynni adnewyddadwy, gan gynnwys y cynllun grant ynni lleol a'r rhaglen cynllunio ynni. Felly, er bod arian hefyd yn mynd tuag at mynd ar drywydd datganoli rheolaeth Ystad y Goron yng Nghymru, rwy'n gobeithio bod y toriad mewn cyllid i'w ddisgwyl nawr a bod y syniad polisi chwerthinllyd hwn yn cael ei ddileu.

Efallai fod yr Aelodau'n gwybod bod cynllunio morol yn fater rydw i, ynghyd â fy nghydweithiwr Joyce Watson, wedi'i godi'n gyson, materion ynghylch cynllunio morol a'n cynigion deddfwriaethol ar gyfer cynllun datblygu gofodol morol llawn i Gymru. Felly, rydyn ni'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi lleihau'r gwariant cyfalaf disgwyliedig ar ynni morol ar gyfer 2023-24. Mae disgwyl i'r cyllid cyfalaf gael ei dorri o 30 y cant, gyda £10 miliwn wedi'i gynllunio'n wreiddiol yn y gyllideb ddangosol, er bod hyn bellach wedi'i leihau i £7 miliwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

O ran diffyg cyllid cyfalaf llwyr i Gymru a'r diffyg cyllid seilwaith llwyr dros y 10 mlynedd diwethaf, sut allwch chi esbonio hynny?

Wel, rwy'n anghytuno bod diffyg llwyr o'r cyllid hwn. Ar ddiwedd y dydd, rydym ni wedi bod â datganoli yma yng Nghymru ers 25 mlynedd. Mae gennym ni boblogaeth o ychydig dros 3 miliwn. Y biliynau sy'n dod i mewn i Gymru—£18 biliwn? Chi sy’n amhriodol yn hyd yn oed gofyn cwestiwn fel yna.

Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru egluro sut mae hyn wedi'i leihau, er gwaetha'r targed i ddiwallu 100 y cant o'i anghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Mae'r arian sy'n mynd tuag at yr her morlyn, prosiect morlyn, seilwaith porthladdoedd, tonnau a llanw, yn peri penbleth pam mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu lleihau gwariant ar y portffolio yma erbyn hyn.

Nawr, gadewch i ni droi at fater tai. Er bod Llywodraeth Cymru yn canmol yn haeddiannol y gefnogaeth a gynhyrchir trwy'r grant cymorth tai, nid yw'n blaenoriaethu hyn fel maes. Mae Llywodraeth Cymru'n honni ei bod yn cynyddu ei phwyslais ar y grant cymorth tai. Maen nhw'n dweud hynny, ar y naill law ac eto, mewn termau real, mae wedi cael toriad o 8 y cant. Mae disgwyl i'r cyllid aros yr un fath â'r llynedd, gyda £166.7 miliwn wedi'i ddyrannu. Mae hyn yn arbennig o bryderus, gan fod y grant yn ceisio helpu pobl fregus gyda phroblemau maen nhw’n eu hwynebu, a gallwn ni weld eu bod nhw nawr yn gwaethygu’r risg o ddigartrefedd. Gallwn hefyd weld risg o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Gan symud ymlaen at gyllid diogelwch adeiladau: mae hynny ar fin derbyn gostyngiad o 37 y cant mewn adnodd o'r gyllideb ddangosol, er gwaethaf y gyllideb ddangosol yn neilltuo £9.5 miliwn ar gyfer 2023-24. Mae'r gyllideb ddrafft hon bellach yn dangos bod dyraniad wedi gostwng i £6 miliwn. Mae'n gwneud honiad Llywodraeth Cymru bod diogelwch adeiladau'n brif flaenoriaeth yn destun gwawd. Os mai dyna un o'ch prif flaenoriaethau, wel, fyddwn i ddim yn hoffi gweld unrhyw beth arall yn is ar y rhestr honno. Gyda 261 o ddatganiadau o ddiddordeb wedi eu derbyn ar gyfer cronfa diogelwch adeiladau Cymru, a 163 o'r rheiny angen arolygon dwys, mae maint y risg o dân yng Nghymru yn glir. Er bod angen y £135 miliwn mewn cyfalaf ar gyfer diogelwch adeiladau, rhaid i Lywodraeth Cymru gyfateb ei geiriau a thrin diogelwch adeiladau fel un o'ch prif flaenoriaethau. Mae ond yn deg bod gan ein hetholwyr le diogel i fyw.

Mae hyn, wrth gwrs, gweithredoedd Llywodraeth Cymru, bellach yn sefyll mewn cyferbyniad llwyr ag wltimatwm newydd caled Llywodraeth y DU ar gladin, gan roi terfynau amser caled i ddatblygwyr dalu i drwsio adeiladau anniogel. Bydd y farchnad cynllun grant tai gwag cenedlaethol ond yn dod â 2,000 o dai gwag yn ôl i ddefnydd. Gyda 22,140 o eiddo gwag tymor hir yng Nghymru, mae hyn—wel, mae'n ffigwr nad yw'n realistig. Nid oes uchelgais, nid oes dyhead i gael y cartrefi gwag hynny yn ôl i ddefnydd gan bobl sydd wir eu hangen.

16:20

Iawn. Pum miliwn ar hugain o bunnoedd mewn arian cyfalaf tuag at gostau gwaith adferol i wneud eiddo yn arferadwy. Mae angen i Lywodraeth Cymru amlinellu sut mae'n ceisio hybu tai gwag. Yn rhy aml, rydyn ni'n gweld y blaenoriaethau anghywir yn cael arian.

Beth bynnag, dyna fy marn i ar hyn. Rwy'n credu bod y gyllideb hon yn wael iawn. Rwy'n credu nad yw'n uchelgeisiol o gwbl. Rydyn ni'n gwybod bod heriau, fodd bynnag, mae gwir angen i chi fod yn llawer mwy anturus gyda'ch nodau cyllideb. Diolch.

Wrth gyflwyno'r gyllideb ddrafft i'r Senedd, fe soniodd y Gweinidog mai hon oedd un o'r cyllidebau anoddaf ers datganoli. Mae hynny am ei bod yn gyfnod o gyni, yn gyfnod o dlodi, ac yn gyfnod o argyfwng nas gwelwyd ei debyg ers degawdau.

Yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain, mae nyrsys ac athrawon ymhlith y miloedd sy'n gorfod troi at fanciau bwyd. Mae mwy a mwy o bobl yn syrthio i ddyled, dyled argyfyngus. Dywed Cyngor ar Bopeth Cymru nad ydyn nhw erioed wedi gweld cyfran uwch o bobl mewn diffyg o ran eu cyllidebau aelwyd—bron i hanner y rhai sy'n dod atynt am gyngor.

Mae nifer y rhai sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn arwydd arall o'r cyflwr yma o argyfwng. Fe wnaeth Cyngor ar Bopeth helpu mwy o bobl gyda digartrefedd eleni nag yn y bum mlynedd diwethaf. Mae menywod, plant, pobl anabl, pobl â chyflwr iechyd, gofalwyr, rhieni sengl, pobl ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig yn dioddef anghydraddoldebau economaidd mewn modd anghymesur.

Ydy, mae'n anodd sicrhau bod y gefnogaeth yno i'r rhai sydd fwyaf ei hangen, bod gan y gwasanaethau sy'n darparu'r gefnogaeth honno yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni hynny, bod y tyllau enfawr sy'n bodoli yn y rhwyd ddiogelwch, sydd wedi ei rhwygo'n racs gan Dorïaid didostur a diegwyddor San Steffan, yn cael eu llenwi. Ydy, mae'n anodd. Ond, gwneud y penderfyniadau anodd yw swyddogaeth llywodraeth, a swyddogaeth Llywodraeth Cymru yw gwasanaethu pobl Cymru, ystyried eu hanghenion, gwarchod eu hiechyd a'u hurddas, a sicrhau eu bod yn cael mynediad cyfartal at bob cyfle a gwasanaeth, gan gynnwys gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Drwy'r lens yma rhaid craffu ar y gyllideb ddrafft sydd ger ein bron. Dyna pam y mae ein gwelliant ni'n galw am roi'r modd i ni wneud mwy o'r hyn sydd angen ei wneud. Y rhai sy'n dibynnu fwyaf ar y gefnogaeth y mae ein gwasanaeth iechyd a gofal yn ei chynnig a chymorth ariannol ychwanegol yw'r rhai sydd mwyaf mewn angen, y rhai sydd heb ddewisiadau, heb gronfa fach wrth gefn, neu ail dŷ, heb fodd i gadw pen uwchben y dŵr sydd mor ofnadwy o uchel.

Mae'r Llywodraeth wedi datgan bod y gyllideb hon yn un sy'n blaenoriaethu'r rhai sydd mwyaf mewn angen. Mae gwariant pob ceiniog felly yn gwbl dyngedfennol, achos mae bywydau pobl bellach mewn perygl. Dyna farn ymchwil Which? ar effaith yr argyfwng costau byw yng Nghymru a gyhoeddwyd ddoe ac a drafodwyd gan y grŵp trawsbleidiol ar hawliau defnyddwyr rwy'n ei gadeirio. Mae 78 y cant o bobl yng Nghymru'n torri lawr ar wres, a 18 y cant yn bwyta llai o brydau poeth.

Yn yr un drafodaeth, fe fynegwyd pryder bod y cynnydd yn lefel y gronfa cymorth dewisol, er i'w groesawu, yn gyllid i helpu pobl mewn argyfwng, a bod angen blaenoriaethau hefyd gwariant ataliol—cynlluniau fel cynllun cymorth tanwydd Cymru, sydd wedi cael ei dorri'n gyfan gwbl. Rhybuddiwyd, er bod y cynllun yn dod i ben, nid yw'r angen yn dod i ben, ac fe fydd yr angen yn un mwy dybryd y gaeaf nesaf, yn ôl rhagolygon Cyngor ar Bopeth. A bydd goblygiadau'r dyfnder yna o angen a'i effaith ar iechyd a lles pobl gyda ni am genedlaethau. Nid yw'r gyllideb hon yn cyflwyno cynllun i atal hynny.

Siomedig hefyd yw gweld diffyg buddsoddiad yn ein pobl ifanc mwyaf anghenus sydd am barhau â'u haddysg. Byddai ein gwelliant yn medru sicrhau bod y lwfans cynhaliaeth addysg, er enghraifft, yn gallu cynnig lefel weddus o gefnogaeth. Ac er bod cynnydd wedi bod yn y grant cynhaliaeth, dyw myfyrwyr ddim yn medru cael cymorth gan nifer o'r taliadau cymorth costau byw eraill sydd ar gael. Sôn am fysus, os ŷch chi'n fyfyriwr dros 21 oed, cewch chi ddim gostyngiad o gwbl ar eich tocyn bws, ac mae rhent myfyrwyr, wrth gwrs, yn parhau i godi gan greu argyfwng costau addysg.

Mae ein galwadau i ehangu a chynyddu'r EMA wedi eu hadleisio gan adroddiad craffu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac wrth sôn am y bwlch sydd yna mewn gwariant ar gefnogaeth costau byw eleni, sef £116 miliwn, mae adroddiad craffu’r Pwyllgor Cydraddoldebau a Chyfiawnder Cymdeithasol yn nodi bod

'angen amlwg i edrych ar atebion cynaliadwy, tymor hwy i’r argyfwng costau byw',

fel soniodd Jenny Rathbone, ein Cadeirydd.

Rwyf wedi dadlau ac, yn wir, rwyf wedi cael cefnogaeth gan y Senedd hon i'r alwad am system fudd-daliadau gydlynol Gymreig. Nawr yw'r amser i gyflymu'r gwaith o sicrhau bod pob ceiniog o gefnogaeth yn cyrraedd pocedi'r rhai sydd ei angen, a hynny yn ddi-ffael ac yn ddiffwdan.

Wrth gloi hoffwn dynnu sylw at gasgliadau mwyaf difrifol y ddau bwyllgor dwi'n eistedd arnynt, sef hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef bod yna ddiffyg eglurder sut y bydd y gyllideb yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd yn arbennig o debygol o gael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw. Hyn yn y genedl ble mae tlodi plant ar ei lefel uchaf yn y Deyrnas Gyfunol.

Gyda San Steffan yn amddifadu Cymru—

16:25

Gyda San Steffan yn amddifadu Cymru o'r adnoddau a'r grymoedd sydd eu hangen arnom, oes, mae angen gwneud penderfyniadau anodd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau hynny yn anos drwy beidio â sicrhau yr adnoddau sydd angen arni drwy drethiant teg, cymesur a chyfiawn i oresgyn y caledi cywilyddus sy'n creithio ein cymunedau. Rwy'n erfyn ar Aelodau i gefnogi ein gwelliant.

A gaf i atgoffa Aelodau, os gwelwch yn dda, o bob grŵp, eich bod, wrth i chi fynd y tu hwnt i'r amser, yn cymryd amser oddi wrth eich cyd-Aelodau sy'n dymuno siarad? Felly, cadwch at eich terfynau amser. Hefin David.

Fe wna i geisio cadw hyn yn fyr, Dirprwy Lywydd. Efallai na fyddaf i'n llwyddo. Mae hon yn ddadl mewn dwy ran mewn gwirionedd, onid yw? Mae'n ddadl sy'n dod o ymatebion y pwyllgorau i'r gyllideb ddrafft, a'r pwyllgorau sy'n gwneud pwyntiau rhesymol, trawsbleidiol, sydd wedi'u gwneud yn dda. Pered oedd y cyntaf i siarad o'i bwyllgor, a chyfraniad trawiadol iawn oedd hwnnw. Rwy'n credu mai dyna lle ddylai'r ddadl hon fod.

Doeddwn i ddim yn mynd i wneud araith, mewn gwirionedd, tan i'r gwelliannau ddod i mewn. Rwy'n credu mai'r gwelliannau yw ail hanner y ddadl, sy'n gwbl wleidyddol, i sgorio pwyntiau, ac yn hollol ddibwrpas. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd siarad yn benodol, oherwydd rwy'n credu, weithiau, mae yna welliant yr ydych chi eisiau sôn amdano, oherwydd rydych chi eisiau egluro i bobl a allai fod yn gwylio pam eich bod chi'n pleidleisio yn ei erbyn, ac rwy'n mynd i bleidleisio yn erbyn gwelliant 2 Plaid Cymru. Mae'r rheswm dros hyn, rwy'n credu, eisoes wedi'i gyflwyno'n dda iawn heddiw ar y rhaglen Today gan y Gweinidog, a wnaeth gyfraniad ardderchog y bore 'ma, ond hefyd mae wedi ei gyflwyno gan wleidyddion yng Nghaerffili. Hoffwn ddarllen y datganiad hwn i chi.

'Siawns na all fod cyfiawnhad yn yr hinsawdd bresennol dros gynyddu'r baich treth ar drigolion Caerffili sydd dan bwysau mawr.'

Daw hwn gan Lindsay Whittle, arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ac roedd arweinydd Plaid Cymru ychydig yn flin pan wnes i geisio ymyrryd ynghynt, felly rwy'n hapus i gymryd ymyrraeth nawr os ydy e am gywiro Lindsay Whittle. Ond fe wnaeth Lindsay ddweud hynny. Ewch amdani.

Mae'n cyfeirio at y dreth fwyaf atchweliadol ohonyn nhw i gyd, wrth gwrs, y dreth gyngor, a dyna pam mae diwygio hynny yn y cytundeb cydweithio, ac mae angen i ni fwrw ymlaen â hynny cyn gynted â phosib.

Rwy'n cytuno'n llwyr â diwygio'r dreth gyngor, ond, ar eiddo band B, y cynnydd arfaethedig yng Nghaerffili—y dreth gyngor isaf yng Ngwent gyfan, os nad Cymru gyfan—yw £1.91 yr wythnos. Mae'r cynnig mae'n ei gyflwyno ar gyfer cyfradd sylfaenol o dreth incwm gan yr un gweithwyr tua £2.50 yr wythnos. Felly, mewn gwirionedd, bydd canlyniadau ei gynnydd yn y dreth yn uwch i'r bobl hynny y mae Lindsay Whittle yn dweud sy'n wynebu

'costau bwyd, ynni a morgeisi uwch ac mae nifer bellach yn gorfod troi at fanciau bwyd'.

[Torri ar draws.] Fel y dywedodd wrthyf i, dydw i ddim yn cymryd ymyrraeth arall. [Chwerthin.] Pe byddai wedi cymryd ymyrraeth gen i eilwaith, gallai fod wedi dod i mewn, gallem fod wedi cael dadl hyfryd, ond gadewch i ni chwarae yn ôl rheolau a osodwyd ganddo.

Mae Plaid Cymru yn ei gwneud yn glir iawn yng Nghaerffili nad ydyn nhw'n derbyn unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor o gwbl. Yn wir, beth maen nhw wedi ei ddweud—. Efallai byddech chi eisiau siarad gyda'ch grŵp Plaid Cymru. Rydyn ni'n gwybod nad ydyn nhw yn eu iawn bwyll yng Nghaerffili. Ond maen nhw wedi dweud:

'Rydyn ni'n cynnig cynnydd sero yn y dreth gyngor'

yng Nghaerffili, ac o ran cynnydd yn y dreth gyngor

'ni ellir ei gyfiawnhau a dylid rhewi biliau ar gyfer trigolion.'

[Torri ar draws.] Dwy eiliad. Rwy'n credu mai'r hyn maen nhw'n ei wneud yw chwarae gwleidyddiaeth, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n digwydd gyda Phlaid Cymru yma yn y Senedd—[Torri ar draws.] Heledd, mi ddof i atat chi mewn eiliad. Yr hyn y maen nhw'n ei wneud yma yn y Senedd yw cynnig y cynnydd hwn yn y dreth gyngor er mwyn iddyn nhw wneud cymaint o gynigion nad ydynt wedi'u costio ar gyfer y gyllideb bresennol ag y mynnant, y tu allan i'r cytundeb cydweithio, ac yna dweud, 'Ie, ond roeddem ni am godi'r dreth gyngor i dalu amdano, felly dylech chi godi'r dreth gyngor.' Dyma lle mae'r cytundeb cydweithio yn methu. Mae'n bŵer heb gyfrifoldeb. Rwy'n credu y dylai naill ai fod yn Lywodraeth glymblaid neu dylai fod yn hyder a chyflenwi. Beth sydd gennym ni o'r fargen hon yw Plaid Cymru'n cael y gwaethaf o'r ddau fyd a gallu gwneud y pwyntiau hyn. Heledd, gallwch chi ei amddiffyn os ydych chi eisiau.

16:30

Rwy'n credu bod angen pwynt o drefn yma, oherwydd dydyn ni ddim yn trafod y cytundeb cydweithio; rydyn ni'n trafod y gyllideb ddrafft. Ac os oes unrhyw un yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, fe fyddwn i'n dweud mai ein cyd-Aelod Hefin David sy'n gwneud hynny. Dydw i ddim yn gweld perthnasedd hyn o ran y gyllideb ddrafft. Hoffwn wybod pam eich bod chi'n meddwl bod ein gwelliant ni'n ddibwrpas. Mae'n gynnig. Mae'n ymwneud â defnyddio'r pwerau sydd gennym ni yma yng Nghymru i wneud rhywbeth, i wneud rhywbeth yn wahanol. Pam ydych chi'n galw'r awgrym hwnnw'n ddibwrpas pan oedd yn awgrym o ddifrif?

Dyma beth wnaf fi, fe wnaf fi dynnu'r gair 'dibwrpas' yn ôl. Fyddwn i ddim eisiau bod yn destun pwynt o drefn yn nes ymlaen heddiw. Rwy'n tynnu'r gair 'dibwrpas' yn ôl ac rwy'n ymddiheuro am hynny. Yr hyn y dylwn i fod wedi'i ddweud oedd 'cyfleus yn wleidyddol', oherwydd yr hyn maen nhw'n ei wneud yw defnyddio'r cynnydd arfaethedig hwn yn y dreth gyngor, a fydd yn taro'r bobl dlotaf, er mwyn cyfiawnhau gwariant nad yw wedi'i gostio yn ystod gweddill tymor y Senedd hon, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd angen ei herio.

Gadewch i ni edrych ar rai o'r cynigion sydd wedi bod ganddyn nhw drwy'r dadleuon rydyn ni wedi'u cael hyd yma: prydau ysgol am ddim cynhwysfawr, gofal plant cyffredinol, rhewi rhent, lwfans cynhaliaeth addysg, a'r twll mawr du hwnnw nad ydym yn gwybod unrhyw beth amdano—annibyniaeth. Mae'r rhain yn bethau maen nhw'n eu cyflwyno i'r Siambr hon, ac er gwaethaf bod yn y cytundeb cydweithio, lle mae ganddyn nhw ymrwymiadau gwario, maen nhw'n gofyn am hyn hefyd, sydd, yn fy marn i, yn wleidyddol annerbyniol. Mae effeithiau, wedyn, fel sydd wedi'i grybwyll yn barod, ar bethau megis trafnidiaeth gyhoeddus, prentisiaethau, datblygu canol trefi, cyllid cyfalaf awdurdodau lleol, datgarboneiddio a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r rhain i gyd yn ganlyniadau sy'n arwain at ganlyniad uniongyrchol, o ganlyniad i rai o'r penderfyniadau sydd wedi eu gwneud.

A fy mhwynt olaf, Dirprwy Lywydd, os wnewch chi ganiatáu i mi, oherwydd yr ymyriadau: fe wnes i ofyn y cwestiwn hwnnw'n gynharach i Peter Fox, sut roedd yn teimlo am brydau ysgol am ddim cyffredinol. Pan gynhaliwyd y ddadl honno yn y Senedd flaenorol ac ar ddechrau'r Senedd hon, nid oedd yn ddadl iach. Roedd yn ddadl a gynhaliwyd drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Ymosodwyd arnom, y rhai ohonom wnaeth bleidleisio yn ei erbyn. Rwy'n credu mewn prydau ysgol am ddim cyffredinol, ond rwy'n dal yn amheus am y peth fel blaenoriaeth ar hyn o bryd. Pe byddai gennym ni arian ychwanegol, dylai fynd tuag at Dechrau'n Deg cyffredinol, ac os nad oedd yr arian hwnnw gennym ni, dylai fynd tuag at y pethau hynny yr ydym ni eisoes yn eu gwarchod. Rwy'n credu bod perygl gwirioneddol o ran gwthio'r polisi hwnnw'n galetach ac yn galetach pan fo blaenoriaethau eraill mae'n rhaid i ni eu bodloni, fel y cynllun argyfwng bysiau, nad ydynt yn cael eu bodloni o ganlyniad i'r gyllideb hon. Mae llawer o—

Mae yna lawer o anhawster, rwy'n credu, gydag agwedd Plaid Cymru tuag at hyn, ac mae'n anghyson â'r hyn maen nhw'n ei ddweud yn lleol.

Rwyf wedi cael cais am bwynt o drefn gan yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Os yw'n iawn, mi fydda i'n ei gymryd ar ddiwedd y ddadl, yn hytrach na nawr. Ond byddaf yn rhoi'r pwynt o drefn i chi ar y diwedd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dydw i ddim yn hollol siŵr sut i ddilyn hynny, ond rwy'n addo cyfraniad byr. Rwy'n gwybod bod Hefin wedi addo hynny ac ni wnaeth lwyddo yn hynny o beth, felly byddaf yn trio fy ngorau i ganolbwyntio ar ambell bwynt allweddol, a fydd, gobeithio, yn gwneud i'r Gweinidog oedi i feddwl.

Wythnos diwethaf, fe wnaethom ni drafod adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, y mae Hefin a minnau ein dau yn eistedd arno, ar gostau cynyddol. Roedd yn amlwg o'r dystiolaeth y gwnaethom ni ei chlywed y dylid rhoi mwy o gefnogaeth i amwynderau fel canolfannau hamdden i helpu gyda'r cynnydd yno mewn costau ynni ac atal y gwasanaethau allweddol hynny mae llawer o bobl yn dibynnu arnynt rhag cau. Wrth ymateb i'r ddadl honno, er bod geiriau cynnes, yn fy marn i, gan y Dirprwy Weinidog, mae cefnogaeth ychwanegol wedi'i dargedu yn ddiffygiol. Mae'n destun pryder hefyd bod Cymru, fel cenedl, ond yn gwario £18 y pen ar gyfranogiad chwaraeon, o'i gymharu â £51 y pen yn Norwy.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cyrraedd ardaloedd difreintiedig fel y gall pawb gael y gweithgaredd corfforol rheolaidd hwnnw, ond mae'n siomedig gweld nad yw Llywodraeth Cymru, trwy fethu â chynyddu'r gefnogaeth i hyn yn y gyllideb, yn bwriadu newid ei dull gweithredu. Rwy'n gwybod y bydd Gweinidogion yn dweud, 'Wel, o ble mae'r cyllid hwn yn dod?' Ond mae cydweithwyr ar y meinciau yma, fel y clywsom ni gan Peter Fox, wedi canfod £100 miliwn y gellir ei ddargyfeirio o feysydd eraill i feysydd o bwys, i'r meysydd hynny sy'n flaenoriaethau i bobl Cymru. Felly, gobeithio y byddwch chi'n gwrando, Gweinidog, ar awgrymiadau Peter Fox, ac yn eu cymryd nhw o ddifrif iawn, iawn yn wir.

Ac yn olaf, rwyf i hefyd yn pryderu am y potensial am drethi llechwraidd a allai dagu ein diwydiant twristiaeth. Mae hon yn ddadl sy'n cael ei gwneud yn aml ond mae'n bwysig iawn, ond rydyn ni wedi cyrraedd y cam lle mae adferiad yn dilyn COVID-19 yn y sector hwn yn hynod fregus. Ni fydd cynnig treth twristiaeth ar hyn o bryd ochr yn ochr â newidiadau i reolau llety hunanarlwyo yn helpu'r adferiad yn y rhan hanfodol honno o'n heconomi. Mae'n rhaid i ni, yn y pen draw, dderbyn yr elw er mwyn gallu ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau hyn mewn blynyddoedd i ddod. Gobeithio y byddwch chi'n rhoi sylw i'r pwyntiau hynny, Gweinidog, a diolch, Dirprwy Lywydd; roedd hynny'n llai na dau funud.

16:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu, yn glir iawn, wrth wrando ar y ddadl hon, bod dau beth yn fy nharo i: yn gyntaf, yn sicr y risg fwyaf i Gymru a'i dinasyddion yw parhau i fod yn rhan o'r DU a pheidio â bod â'r ysgogiadau hyn o dan ein rheolaeth, ac yn ail mai celwyddau oedd yr holl addewidion difidend Brexit. Nid ydyn ni yn gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y realiti yma yng Nghymru.

Neithiwr, fe es i i gyfarfod cyhoeddus a oedd wedi'i drefnu gan y rhai sy'n gwrthwynebu'r cynigion gan Gyngor Caerdydd i gau Amgueddfa Caerdydd, preifateiddio Neuadd Dewi Sant a lleihau gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus. Gwnaethon ni glywed nifer o areithiau pwerus, yn arbennig gan y rhai y mae eu bywydau wedi'u trawsnewid gan y cyfleusterau gwych hyn, gan brofi nad yw asedau diwylliannol ond yn braf i'w cael, ond yn gwbl hanfodol ar gyfer iechyd a lles ein cymunedau. Pan ydw i eisoes wedi codi pryderon yn y Senedd am y posibilrwydd o golli ased diwylliannol a chyfleusterau hamdden—gan gynnwys pyllau nofio—, rwyf i wedi cael gwybod dro ar ôl tro mai mater i awdurdodau lleol yw hynny a bod eu setliad yn well na'r disgwyl yn y gyllideb ddrafft. Ond rwy'n ofni bod hynny'n tynnu oddi ar y gwirionedd yr ydyn ni'n ei weld ledled Cymru ar hyn o bryd, gyda—fel y mae pawb yn gwybod—Andrew Morgan, arweinydd CLlLC, yn datgan yn ddiweddar bod y rhagolygon economaidd i gynghorau yn edrych yn llwm, ac mae cynghorau'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd i lenwi bylchau cynyddol yn y gyllideb oherwydd biliau ynni, chwyddiant a chostau cyflog.

Un cwestiwn a ofynnwyd yn y cyfarfod cyhoeddus neithiwr—ac rwy'n credu ei fod yn berthnasol i'r ddadl heddiw—oedd pam mae cymaint o wleidyddion yn ein Senedd ni ac yn ein hawdurdodau lleol ni nad ydyn nhw'n gwneud mwy i wrthsefyll yr agenda cyni, ac nad ydyn nhw ar y strydoedd i wrthod naratif y Torïaid nad oes arian ar gael. [Torri ar draws.] Na. Dro ar ôl tro yma, rydyn ni'n clywed Gweinidogion yn dweud mai bai Llywodraeth y DU yw hi bod yn rhaid gwneud y penderfyniadau anodd hyn, ond un peth yr hoffwn i ei ofyn heddiw yw: beth rydych chi'n ei wneud mewn termau ymarferol, y tu hwnt i ysgrifennu llythyrau neu wneud datganiadau cyhoeddus, i fynnu'r cyllid yr ydyn ni ei angen ac yn ei haeddu? Oni bai bod rhywbeth sylweddol yn newid, ac yn gyflym, bydd Cymru'n cael ei dinoethi o lawer o'i gwasanaethau a'i chyfleusterau cyhoeddus hanfodol, ac rwy'n gofidio weithiau, ein bod ni'n anghofio yn y fan yma fod y rhain o ganlyniad i ddewisiadau gwleidyddol wedi'u gwneud gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU yn dilyn agenda polisi sy'n gwobrwyo'r cyfoethog neu'r hynod gyfoethog ac yn cosbi'r mwyafrif.

Mae'n bryd i ni uno gyda'n cymunedau ac anfon neges glir i San Steffan mai digon yw digon a'n bod ni'n anfodlon parhau i weithredu agenda gyni ar eu rhan. Mae gennym ni gyfle felly yn y gyllideb hon i amlinellu'r math o Gymru yr ydyn ni eisiau'i gweld, a defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni i'w blaenoriaethu. Mae fy nghyd-Aelod, Adam Price, wedi amlinellu ein blaenoriaethau o ran y GIG, ac mae ein cynnig yn golygu y gall arian ychwanegol fod ar gael. Amlinellodd fy nghyd-Aelod Sioned Williams yr heriau gwirioneddol iawn a'r risgiau sy'n gysylltiedig â rhai o'r toriadau yr ydyn ni'n eu gweld yn y gyllideb ddrafft, yn enwedig yn effeithio ar blant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi yma yng Nghymru, ac mae mwy o blant a phobl ifanc mewn tlodi gyda phob mis sy'n mynd heibio.

Hoffwn i ofyn dau gwestiwn arall hefyd. Yn gyntaf, sut mae'r gyllideb ddrafft hon yn ymdrin â'r mater o recriwtio a chadw athrawon? Mae'n rhywbeth y cododd Laura Anne Jones. Rydyn ni wedi clywed rhybuddion gan benaethiaid, oni bai bod cyllid ychwanegol ar gael, byddwn ni'n colli athrawon a chynorthwywyr addysgu a bydd gwasanaethau cymorth ychwanegol yn cael eu colli. Felly, pa ystyriaethau sydd wedi'u rhoi i hyn yn y gyllideb?

Yn ail, os caf i droi at y Gymraeg, dyma'r gyllideb ddrafft cyntaf ers cyhoeddi canlyniadau'r cyfrifiad, fel y soniodd Delyth Jewell, a gwyddom fod angen buddsoddiad sylweddol mewn nifer o feysydd os am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Serch hynny, mae toriad termau real o 2.4 y cant mewn gwariant ar y Gymraeg yn y gyllideb hon. Pa asesiad sydd wedi ei wneud o ran beth fydd effaith hyn ar y targed o filiwn o siaradwyr?

Yn bellach, er llwyddiant buddsoddi mewn mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd y llynedd a 15,000 o docynnau am ddim i'r Eisteddfod Genedlaethol, oes bwriad cynnig cefnogaeth pellach i alluogi hyn yn y dyfodol? Mae'r math yma o ddigwyddiadau yn eithriadol o bwysig, a rydyn ni wedi gweld rhybudd gan yr Eisteddfod Genedlaethol wythnos diwethaf y bydd rhaid iddyn nhw edrych eto ar bris mynediad. Felly, sut ydyn ni am sicrhau nad ydy diwylliant yn rhywbeth jest i'r rhai sy'n gallu ei fforddio fo? Mae gennyn ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yma yng Nghymru; mae'n rhaid sicrhau mynediad cydradd i holl gyfoeth bywyd, ac mae hynny'n cynnwys diwylliant. Hoffwn wybod sut mae'r gyllideb hon am sicrhau hynny.

16:40

Rwy'n siarad y prynhawn yma yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fel pwyllgor, rydyn ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r anawsterau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r Gweinidogion wrth osod y gyllideb eleni. Rydyn ni'n gwybod bod yr argyfwng costau byw yn effeithio'n anghymesur ar blant a grwpiau eraill o bobl agored i niwed. Mae tua 31 y cant o blant Cymru'n byw mewn tlodi cymharol.

Mewn arolwg o 7,873 o blant a phobl ifanc fis Tachwedd diwethaf, gwnaeth y comisiynydd plant ddarganfod fod 45 y cant o blant rhwng saith ac 11 oed, a 26 y cant o bobl ifanc rhwng 12 ac 18 oed, yn dweud eu bod yn poeni am gael digon i'w fwyta. Dyma'r gwir plaen o sut mae tlodi'n effeithio ar blant, a'r cefndir y mae Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24 yn ei erbyn. Mae'n dangos pam mae hi mor bwysig i Lywodraeth Cymru roi cyfran deg o adnoddau i blant a phobl ifanc.

Wrth wraidd craffu'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru y mae'r cwestiwn allweddol hwn: a yw Llywodraeth Cymru wedi clustnodi digon o adnoddau i blant a phobl ifanc? Yn anffodus, nid ydyn ni'n gwybod yn sicr. Unwaith eto, ni wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi asesiad effaith ar hawliau plant o'i chyllideb ddrafft. Mae ein pwyllgor ni'n glir yn ein hargymhelliad ar hyn: mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydymffurfio â'i dyletswydd i roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth bennu ei chyllideb ddrafft.

Gwnaethon ni ofyn am lawer o wybodaeth wrth baratoi ar gyfer ein gwaith craffu, ac rydyn ni'n ddiolchgar am gydweithrediad Gweinidogion a swyddogion ar hyn. Yn anffodus, nid oedd yr holl dystiolaeth ysgrifenedig y gwnaethon ni ei chael i gefnogi ein craffu'n glir, ac edrychwn ni ymlaen at ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid sydd i ddod. Er gwaethaf yr heriau hynny o ran gweld yr hyn sy'n cael ei wario ar blant, rydyn ni wedi gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru eleni, a rhai ohonyn nhw'n â'r nod o liniaru effaith yr argyfwng costau byw ar blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Dylai'r rhaglen prydau ysgol am ddim i blant, sydd i fod i ddod i ben ar ôl hanner tymor mis Chwefror, gael ei hymestyn. Ni ddylai plant yng Nghymru orfod poeni am fod â digon i'w fwyta. Mae'r rhaglen prydau ysgol yn ffordd effeithiol o liniaru effaith tlodi bwyd ar ein hunigolion mwyaf agored i niwed. Rydyn ni'n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun hyd yma ac yn ei hannog i wneud hynny eto.

Mae nifer o Aelodau eisoes wedi sôn am y lwfans cynhaliaeth addysg, ac rydyn ni'n credu bod yr amser wedi dod i'r lwfans cynhaliaeth addysg gael ei adolygu'n briodol. Yn ei hymateb i'n hadroddiad cyllideb ddrafft y llynedd, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym nad yw wedi adolygu'r lwfans cynhaliaeth addysg yn rhannol oherwydd bod adolygiad yn 2014 yn awgrymu

'mai dim ond i leiafrif o fyfyrwyr yr oedd yr LCA yn ffynhonnell hanfodol o gymorth ariannol.'

Mae'r adolygiad hwnnw bron yn ddegawd oed erbyn hyn. Mae llawer iawn wedi newid ers hynny. Yn y cyfamser, gan nad yw trothwy cymhwysedd y lwfans cynhaliaeth addysg na'r gyfradd gymorth wedi'u diwygio ers 2011-12, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg gwerth llai mewn termau real i lai o fyfyrwyr bob blwyddyn.

Mae'r argymhellion hyn, ochr yn ochr ag eraill, yn cyfrannu at argymhelliad terfynol ein hadroddiad. Eleni, rydyn ni'n ymuno â'r comisiynydd plant, Archwilio Cymru a llawer o rai eraill wrth alw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu ar dlodi plant gyda chamau clir, wedi'u costio, y mae modd eu cyflawni, eu mesur ac sydd yn gyfyngedig o ran amser. Rydyn ni'n deall bod y prif ysgogiadau ar gyfer lliniaru tlodi plant yn nwylo Llywodraeth y DU. Ond nid yw hynny'n nacáu'r angen i Lywodraeth Cymru nodi'n glir sut y bydd yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi, a'r arian sydd ganddi, i leihau tlodi plant yma yng Nghymru. Ac rwy'n gwybod nad ni yw'r unig rai fydd yn rhoi sylw manwl i ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhelliad hwnnw, yn benodol.

Ac yn olaf, hoffwn i ddiolch i fy nghyd-Gadeiryddion pwyllgorau yn y Senedd ac i aelodau'r pwyllgor am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad eleni. Mae hi mor bwysig bod y Senedd mor gyfannol â phosibl wrth graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â defnyddio arbenigedd a gwaith ymgysylltu rhagorol y Pwyllgor Cyllid, rwy'n gwybod bod gan rai adroddiadau pwyllgor eleni—gan gynnwys ein rhai ni—argymhellion ar y cyd â phwyllgorau eraill sydd wedi rhannu meysydd o ddiddordeb. Rwy'n gobeithio'n fawr ein bod ni'n parhau i adeiladu ar y dull cydweithredol hwn o graffu mewn blynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr.

16:45

Hoffwn i roi rhagair i fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy ddweud diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Rwyf i wedi dweud droeon ei bod hi mewn swydd y byddwn i'n rhedeg miliwn o filltiroedd oddi wrthi—i osod cyllideb gwerth £19 biliwn. Hoffwn i ddiolch iddi hi am y trafodaethau yr ydyn ni wedi'u cael, ac am y cyfle i ystyried meysydd penodol yn fanwl. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Beth yw cyllideb Llywodraeth, oni bai ei bod yno i gefnogi ein pobl dlotaf a'n plant? Mae yna gân—wna i ddim ei chanu—ond rwy'n credu ei bod hi'n mynd rhywbeth fel hyn: 

'Rwy'n credu mai plant yw ein dyfodol'.

Yn wir, y maen nhw, onid ydyn nhw? Rwy'n falch iawn o weld cymaint yn y gyllideb hon sydd wir yn canolbwyntio ar blant. Rwy'n adleisio llawer o'r datganiadau gan Jayne Bryant. Mae gennym ni brydau ysgol am ddim. Mae hynny'n ymwneud â bwydo'n plant—ein plant ni i gyd, beth bynnag yw eu cefndir. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr nad yw ein plant â phrofiad o fod mewn gofal, yr ydyn ni'n gyfrifol amdanyn nhw—ni yw eu rhieni corfforaethol—yn mynd heb unrhyw beth drwy'r cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol gwych ar gyfer plant â phrofiad o fod mewn gofal.

Ym myd addysg—ac mae'n rhaid i mi ddweud yma fod Kirsty Williams wedi gweithio ar hwn—y grant datblygu disgyblion, sydd mewn gwirionedd yn ystyried targedu'r plant hynny sydd fwyaf agored i niwed ac sydd angen ein cefnogaeth o ran addysg. Dyna beth ddylai diben cyllideb fod. Mae hi'n gymaint o demtasiwn, on'd yw hi, i restru'n union beth yr ydyn ni'i eisiau yn ychwanegol, ond dyna mewn gwirionedd yw beth fydda' i'n ei wneud yn ystod y munudau nesaf. Dof at rywbeth arall ar y diwedd, ond rydw i eisiau siarad am rai o'r pethau yr hoffwn i eu gweld ac sydd eisoes yn y gyllideb hefyd.

Deintyddiaeth. Mae llawer ohonoch chi'n gwybod fy mod i wedi codi hyn ar sawl achlysur. Ym Mhowys, mae gennym ni 5,000 o bobl ar y rhestr aros deintyddol, gydag 800 o blant yn dal i fethu dod o hyd i ddeintydd GIG. Mae angen i ni ystyried cyllid—nid dyna'r unig fater—ac rwy'n ddiolchgar, yn fy nhrafodaethau â'r Gweinidog, i edrych ar ddatblygiadau arloesol yr ydyn ni wedi'u cael. Ond mae angen mynd ymhellach ac yn gyflymach, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am hynny.

Gofal cymdeithasol. Rydyn ni'n gwybod bod hynny'n broblem fawr iawn. Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £70 miliwn i'r sector gofal cymdeithasol, a fydd yn ariannu'r ymrwymiad cyflog byw hwnnw. Ond, fel rwy'n sicr bod pawb yn y Siambr yma heddiw yn ei wybod, mae angen mynd ymhellach; dim ond cam ydyw tuag at helpu i liniaru llawer o'r materion o ran gofal cymdeithasol.

Y trydydd maes yw ynghylch datgarboneiddio. Yr argyfwng hinsawdd yw'r peth pwysicaf sy'n ein hwynebu ni. Mae gennyf i ddiddordeb mewn dysgu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer fersiwn newydd y rhaglen Cartrefi Clyd. Rydyn ni wedi bod yn aros ychydig o amser am hynny, ond mae hynny'n hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod biliau pobl yn is, a'n bod ni'n ymdrin â'n hargyfwng hinsawdd. Rydych chi wedi clywed Luke Fletcher yn sôn am y cynllun cymorth brys i fysiau a phryderon ynghylch hynny, ac rwy'n rhannu'r rheini. Ond rydyn ni eisiau gweld trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bawb dan 25 oed. Byddai hynny'n helpu i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd ac i helpu ein pobl ifanc.

Hoffwn i orffen drwy ddweud ein bod ni i gyd wedi sôn—gan gynnwys fi—am beth arall yr ydyn ni eisiau'i weld yn cael ei wario. Ond mae angen i ni ystyried incwm hefyd. Mae angen i ni ystyried sut yr ydyn ni'n mynd i ariannu'r hyn sydd ei angen arnon ni, yn enwedig yng ngoleuni Llywodraeth Geidwadol drychinebus a chyllideb hollol gywilyddus Liz Truss, sy'n rhoi cymaint o bobl mewn sefyllfa ansicr. Mae angen i ni ystyried yng Nghymru yr hyn y gallwn ni ei wneud. Ac er na fyddaf i'n cefnogi gwelliant Plaid Cymru, rwy'n credu bod trafodaeth i'w chael. Fy mhryder i yw na allaf i gefnogi cynnig sy'n ceisio ychwanegu baich treth ychwanegol ar y rhai sy'n ennill lleiaf, yn enwedig ar adeg argyfwng costau byw. Ond rwy'n credu bod trafodaeth i'w chael, ac rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn agored i hynny, i ystyried sut y gallwn ni drethu'r rhai sy'n ennill y cyflogau uchaf, oherwydd nhw yw'r bobl sy'n gallu fforddio cefnogi pawb yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, ni fyddaf i'n cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Mae'n amlwg i bawb nad yw eu Llywodraeth nhw'n cyflawni ar flaenoriaethau pobl Cymru. Diolch yn fawr iawn.

16:50

A gaf i ddiolch hefyd i Weinidog Llywodraeth Cymru am gyflwyno'r drafodaeth heddiw ar gyllideb ddrafft 2023-24? Wrth gwrs, mae'n cael effaith hynod bwysig ar ein cymunedau, ar bawb yng Nghymru, ac mae'n rhywbeth, rwy'n siŵr, y mae pawb wedi bod yn aros amdani'n eiddgar. Mae'n amlwg o'n hochr ni y meinciau a thrwy gydol y cyfraniadau hyd yma, ynghyd â'n gwelliant i'r ddadl yn y gyllideb heddiw, nad yw'r gyllideb hon gan Lywodraeth Cymru yn mynd yn ddigon pell wrth gyflawni ar flaenoriaethau pobl Cymru. Ac un o'r blaenoriaethau hyn yw'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan ein cynghorau a'n cynghorwyr gwych ar hyd a lled Cymru. Ni fydd hi'n syndod i ni yma y byddaf i'n dechrau fy nghyfraniad yn hyn o beth.

Fel sydd eisoes wedi'i amlinellu, mae'r setliad llywodraeth leol yn cynnig cynnydd o 7.9 y cant, sydd tua £227 miliwn yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol, sydd, wrth gwrs, wedi cael croeso gochelgar. Ond yn amlwg nid yw hi wedi bod yn ddigon iddyn nhw ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl. Mae'n anodd iawn gweld sut bydd y cynnydd hwn yn y setliad wir yn arwain at gymunedau lleol yn cael gwell gwasanaethau. Rydyn ni'n gwybod bod cynghorau ar hyn o bryd yn gorfod ymrafael â chyllidebau a phenderfyniadau anodd dim ond i oroesi bwrw ymlaen fel arfer, heb sôn am weld gwasanaethau ychwanegol yn cael eu cyflawni.

Ond rydyn ni'n byw gyda ac yn ymdrin ag ychydig o baradocs ar y mater hwn, oherwydd yng ngoleuni'r setliad cyllido hwn o 7.9 y cant, mae llawer o gynghorau ar hyd a lled Cymru yn cynllunio codi'r dreth gyngor yn sylweddol iawn i ymdopi ag ef, ond mae hyn er eu bod yn eistedd ar gronfeydd wrth gefn enfawr, y tynnodd fy nghydweithiwr Peter Fox sylw ato. Yn fy marn i, nid yw hi'n iawn bod trigolion ledled Cymru yn debygol o wynebu cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor, yn enwedig yn ystod cyfnod pan fo'u pocedi eisoes yn dioddef, pan mae rhai cynghorau'n eistedd ar werth cannoedd o filiynau o bunnoedd wrth gefn. Mae'n anodd cyfiawnhau'r safbwynt moesol ar hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried y sylwadau y cyflwynodd Peter Fox ar hyn hefyd.

Yn ail, mae Aelodau eraill wedi sôn am y pwynt hwn, ac mae ynghylch materion tai a'r heriau y mae ein cynghorau yn eu hwynebu. Rwyf i wedi cael gohebiaeth sylweddol ar hyn, ac rwy'n siŵr fod Aelodau eraill wedi hefyd, ac mae'n ymwneud  â'r grant cymorth tai, yr ydym ni'n ymwybodol ei fod yn ariannu'r mwyafrif helaeth o gefnogaeth i'n cymorth i ddigartrefedd a thai yng Nghymru, gyda thua 60,000 o bobl bob blwyddyn yn cael eu cefnogi. Cafodd cymorth pwysig iawn ei ddarparu drwy gydol y pandemig, ond ar hyn o bryd mae o dan fwy o bwysau nag erioed. Gwyddom ni, yn ystod y degawd diwethaf, fod y grant cymorth tai wedi lleihau mewn termau real o ble'r oedd ar £139 miliwn tua 10 mlynedd yn ôl, a ddylai gyfateb i tua £181 miliwn heddiw. Ond mewn gwirionedd, mae'n £167 miliwn, felly mae tua £14 miliwn o doriad mewn termau real i faes sydd wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw. Ac mae'r toriad termau real hwn yn cael effaith sylweddol ar y gweithlu grantiau cymorth tai, ac mae'n amlwg bod diffyg unrhyw gynnydd i'r gyllideb hon yn golygu bod darparu gwasanaethau mewn perygl, ac yn y pen draw bydd yn costio mwy i'r trethdalwr yn y pen draw, oherwydd nid yw'r gwasanaeth ataliol hwn yn cael ei gefnogi'n gywir.

Yn ogystal â hyn, rydyn ni'n gweld her enfawr wrth recriwtio a chadw staff yn y gwasanaethau hyn, ac rydyn ni wedi cael gwybod y bydd 29 y cant o staff sy'n gweithio mewn cymorth tai yn cael llai o dâl na'r cyflog byw gwirioneddol newydd. Ni all fod yn iawn nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer gwasanaethau cefnogi tai yn eu galluogi i dalu'r cyflog byw gwirioneddol, er gwaethaf ymrwymiad Llywodraeth Cymru ei hun i dalu'r cyflog byw gwirioneddol. Mae rhagrith gwirioneddol yno yn y broses o osod gwasanaethau cymorth tai gan Lywodraeth Cymru.

Ydych chi'n rhannu fy mhryder bod toriadau neu rewi yn y grant cymorth tai wedi cael eu cynnig bron fel offrwm aberthol yn bron pob cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru am o leiaf y degawd diwethaf, er gwaethaf canlyniadau mwy o bwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys y GIG, a gwasanaethau golau glas? Ac a ydych chi'n cytuno na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn dilyn yr economïau ffug hyn, ac yn hytrach y dylent fod yn cael gwared ar y miliynau o bwysau ychwanegol o ran costau ar wasanaethau statudol y bydden nhw'n eu hachosi?

Yn hollol. Mae Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig o'i brofiad yma yn y Senedd, ac rwy'n cytuno'n llwyr â phob pwynt y mae ef wedi'i wneud yn y fan yna oherwydd mae pwynt ehangach yma ynghylch gwasanaethau ataliol nad ydyn nhw'n cael eu cefnogi'n iawn, a'r effaith ganlyniadol ar gyllidebau mewn mannau eraill o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru. 

Wrth gwrs, mae'n deg dweud bod y gyllideb hon wedi dod ar adeg heriol. Ond rwy'n credu bod agweddau clir o'r hyn sy'n gadael sawl rhan o Gymru i lawr, ac mae angen ymdrin â hi ar frys. Rwyf i wedi tynnu sylw at ddau yn unig yma y prynhawn yma. Felly, wrth gloi, hoffwn i ddiolch eto i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw, ynghyd â'i hymgysylltiad parhaus ag aelodau ein pwyllgor ni—rwy'n eistedd ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau eraill o bob rhan o'r Siambr ac yn galw ar bob Aelod i gefnogi ein gwelliant 1 gan y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch yn fawr iawn. 

16:55

Nawr, rwy'n deall ei bod hi'n amhosibl drafftio cyllideb sy'n plesio pawb, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Mae cyllideb yn adlewyrchiad o'ch gwleidyddiaeth, ac mae gwleidyddiaeth, wedi'r cyfan, yn ymwneud â blaenoriaethau. A hoffwn siarad am un o'r blaenoriaethau hynny sy'n cael ei arddel yn aml—sef mynd i'r afael â digartrefedd. Mae digartrefedd yn bla a ddylai neb mewn gwlad ddatblygedig a theg gael ei adael yn ddigartref, ond y gwir trist yw bod pobl yn ddigartref yma yng Nghymru. Dim ond yr wythnos diwethaf, roedd fy nghymhorthfa yn llawn apwyntiadau o bobl a oedd yn dod i ddweud eu bod yn ddigartref, o deuluoedd ifanc i bobl yn eu hwythdegau. Mae mynd i'r afael â digartrefedd a’i atal nid yn unig yn beth da ynddo'i hun, ond mae hefyd yn fesur ataliol sy'n arbed arian, boed yn arian yn ein hawdurdodau lleol neu arian yn y gwasanaeth iechyd ac yn rhywle arall. Mae ymchwil wedi dangos bod y gwasanaethau grant cymorth tai yn darparu arbediad net—

Diolch, Mabon. Diolch, Mabon, yn fawr iawn. Mae yna rywfaint o eironi yma, onid oes? Y rhesymau pam y mae'r niferoedd sy'n ddigartref yn cynyddu, mewn gwirionedd, yw o ganlyniad i lawer o landlordiaid preifat—ac rwy'n datgan buddiant—mewn gwirionedd yn cyflwyno ffurflenni adran 21. Rydych chi wedi cefnogi'r holl feichiau rheoleiddio ychwanegol hynny sydd wedi'u gosod ar landlordiaid preifat sydd bellach yn gorfodi pobl allan o gartrefi cyfforddus ac i mewn i ystafelloedd mewn gwesty; erbyn hyn mae 19 o ystafelloedd mewn gwesty yn sir Conwy â llawer o bobl ddigartref yn byw mewn llety dros dro, ond maen nhw yno ers misoedd. 

Does dim tystiolaeth o gwbl i awgrymu bod y rheoliadau newydd yn cyfrannu at adran 21, ond rwyf yma i siarad am bobl ddigartref, nid i amddiffyn y landlordiaid.

Felly, mae tystiolaeth i ddangos bod y grant cymorth tai, y gwasanaethau a ddarperir gan y cyllid ar gyfer y grant hwnnw, yn darparu arbediad net o £1.40 am bob £1 a fuddsoddwyd drwy atal digartrefedd. Mae'r grant cymorth tai yn ariannu'r mwyafrif helaeth o wasanaethau digartrefedd a chymorth tai, gan gefnogi dros 60,000 o bobl bob blwyddyn trwy ddarparu cymorth tenantiaeth sy'n atal digartrefedd ac yn cadw pobl yn eu cartrefi; llety â chymorth ar gyfer ystod o grwpiau cleientiaid, gan gynnwys lloches i oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; prosiectau tai yn gyntaf sy'n cefnogi pobl â hanes o ddigartrefedd dro ar ôl tro i gael gafael ar denantiaeth a'i chynnal. 

Mae'r sector digartrefedd dan fwy o bwysau nag erioed o'r blaen, gyda thua 9,000 o bobl mewn llety dros dro a bron i draean ohonyn nhw â phlant dibynnol. Ond ni fydd y grant cymorth tai, fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn gweld cynnydd eleni. Mae hwn yn doriad termau real ar adeg pan fo'r galw'n cynyddu'n esbonyddol. Mae'r gallu i ddarparu gwasanaethau bellach mewn perygl. Mae awdurdodau lleol a darparwyr cymorth yn pryderu'n ddifrifol am gost rhedeg gwasanaethau a'u gallu i recriwtio a chadw staff, ac mae darparwyr cymorth nawr yn mynd ati i ystyried cerdded i ffwrdd o'r contractau presennol, ac mae'n bosib na allant gynnig am gontractau pan fyddan nhw'n cael eu hail-dendro. Felly, a wnaiff y Gweinidog cyllid edrych eto ar yr arian ar gyfer y grant cymorth tai a sicrhau ei fod yn gweld cynnydd, fel y gall y gwasanaethau hanfodol y mae'n eu hariannu barhau a chadw Cymru ar y trywydd iawn i ddileu digartrefedd?

Yn ail, gwyddom i gyd am yr heriau difrifol sy'n wynebu cymdeithas mewn sawl maes. Mae newid hinsawdd yn golygu bod angen i ni ddatgarboneiddio'n gyflym ac mae tai gwael yn bygwth iechyd a llesiant llawer o'n dinasyddion. Os ydyn ni am gyrraedd ein targedau a datgarboneiddio ein stoc dai wrth sicrhau bod gan bobl dai o ansawdd da, yna dylem ddisgwyl gweld y Llywodraeth yn ariannu'r prosiect datgarboneiddio hwn i werth tua £170 miliwn y flwyddyn. Ond, fel y mae pethau ar hyn o bryd, dim ond £184 miliwn y bydd y gyllideb hon yn ei darparu dros ddwy flynedd ar adeg o chwyddiant sy'n cynyddu'n sylweddol yn y sector a phrinder llafur. Mae angen edrych ar hyn os ydym am gyrraedd targedau cymedrol, heb sôn am rai uchelgeisiol. 

Gyda'r argyfwng costau byw presennol a chynnydd mawr mewn cyfraddau llog morgeisi, mae disgwyl y bydd tua 220,000 o aelwydydd yng Nghymru yn wynebu trafferthion wrth dalu eu morgeisi eleni. Arweiniodd Cymru'r ffordd o ran cyflwyno pecyn achub morgeisi yn ôl yn 2008, ac mae angen i ni weld cynllun tebyg yn cael ei gyflwyno eto. Does dim llinell gyllideb ar gyfer hyn hyd yma, felly hoffwn ofyn i'r Llywodraeth ystyried hyn, wrth symud ymlaen.

Yn olaf, nid oes cyfeiriad yn y gyllideb at ail fersiwn safonau ansawdd tai Cymru, a fydd, er bod croeso iddynt, yn sicr yn golygu costau ychwanegol sylweddol i ddarparwyr tai cymdeithasol, pan na fydd gan y sector preifat unrhyw safon o'r fath wedi'i phennu mor uchel. Felly, a all y Gweinidog roi eglurhad ar hyn? Diolch.

17:00

Rydyn ni bellach wedi mynd y tu hwnt i'r amser a ddyrannwyd i'r eitem hon ar yr agenda, ond mae busnes y gyllideb yn bwysig iawn. Mae gen i dri siaradwr arall. Byddaf yn galw'r tri, ac yna'r Gweinidog i ymateb. Huw Irranca-Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ond, os oes gen i amser ar y diwedd, mae gen i un pwynt arall i'w ychwanegu, gan dynnu'r het honno.

Gosododd ein pwyllgor ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft brynhawn ddoe, a diolch i aelodau'r pwyllgor a'n tîm clercio am eu craffu cyflym a diwyd. Roedd ein gwaith craffu ar gynigion drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb yn canolbwyntio'n bennaf ar wariant ar gyfiawnder. Fodd bynnag, fe wnaethom hefyd ystyried yn fanwl a oes gan Lywodraeth Cymru'r gallu i ddeddfu o fewn y cyd-destun cyfansoddiadol presennol, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am fynychu ein cyfarfod ar 16 Ionawr i ystyried y meysydd hyn yn fanwl.

Mewn termau cymharol, o'i gymharu â chyfrifoldebau eraill Llywodraeth Cymru, mae gwariant ar gyfiawnder o fewn y gyllideb ddrafft yn gymharol gyfyngedig, ac mae'n adlewyrchu pwerau cymharol gyfyngedig Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae ei effaith yn eang ac felly rydym yn cadw llygad barcud ar wariant arfaethedig y Llywodraeth yn y maes hwn. Nodwyd gostyngiadau bach i'r dyraniadau o fewn y gyllideb ddrafft sy'n cefnogi rhaglen trawsnewid cyfiawnder Llywodraeth Cymru, a hefyd i dribiwnlysoedd Cymru. Roeddem yn ddiolchgar i gael sicrwydd gan y Cwnsler Cyffredinol nad oedd y gostyngiadau hyn yn arwydd bod y meysydd hyn yn gostwng o ran eu blaenoriaeth. Yn benodol, yn achos tribiwnlysoedd Cymru, clywsom y byddai Llywodraeth Cymru'n monitro effaith unrhyw gynnydd mewn achosion neu wrandawiadau wyneb yn wyneb ar yr adnoddau sydd eu hangen ar y tribiwnlysoedd, ac felly argymhellwyd y dylai'r Cwnsler Cyffredinol roi diweddariadau amserol i ni ynghylch ei waith yn monitro hynny. Clywsom hefyd am y gwaith pwysig sydd ar y gweill i ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru, yn dilyn argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith. Hoffem weld mwy o fanylion am raddfa’r gwaith hwn, ac felly fe wnaethom argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol roi manylion i ni am yr adnoddau tebygol fydd eu hangen i ddatblygu'r cynigion hyn.

Mae'n bwysig iawn i ni, yn ogystal â Senedd Cymru, allu mesur canlyniadau gwariant Llywodraeth Cymru. Clywsom, yn ystod ein sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol, y dylai adroddiad blynyddol cyntaf Llywodraeth Cymru ar ei rhaglen sicrhau cyfiawnder i Gymru gynnwys manylion am wariant Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder a gwerthusiadau o ganlyniadau'r gwariant hwnnw. Gan y bydd cynnwys yr adroddiad blynyddol yn debygol o gyffwrdd â'n cylch gwaith ni a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, byddwn yn archwilio cyfleoedd i graffu ar y cyd ar yr adroddiad blynyddol.

Nawr, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r pryderon sydd gennym fel pwyllgor am y cynnydd yn nifer Biliau seneddol y DU sy'n destun memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym yn hollol glir bod, yn wir, digon o adnoddau gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ei rhaglen ddeddfwriaethol. Fodd bynnag, yng nghyd-destun y nifer cynyddol hwn o femoranda cydsyniad deddfwriaethol, nid yw'n glir i ni fel pwyllgor a oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o adnoddau i gyflawni'r holl ddeddfwriaeth y gall benderfynu ar unrhyw adeg eu bod yn angenrheidiol. O ganlyniad, rydym yn pryderu y gallai Llywodraeth Cymru, yn wir, fod yn defnyddio rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU i weithredu rhai o'i hamcanion polisi oherwydd efallai y bydd angen defnyddio llai o'i hadnoddau ei hun, sy'n cael yr effaith ychwanegol ar ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig sy'n destun craffu llai manwl gan y Senedd. Nawr, rwy'n nodi bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai hefyd wedi codi pryderon ar ôl clywed tystiolaeth mai'r her fwyaf wrth ddarparu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, mewn dyfyniadau, yw'r 'adnodd medrus sydd ei angen'.

Rydym hefyd yn poeni'n benodol am Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Mae effaith y Bil hwn ar adnoddau Llywodraeth Cymru os caiff ei ddeddfu fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd yn debygol o fod yn sylweddol. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganfod pa feysydd fydd angen sylw o dan ofynion y Bil. Rydym o'r farn ei bod yn hanfodol bod y darlun llawn o'r asesiad hwnnw'n cael ei rannu â ni ac â'r Senedd. Os yw Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn dod yn gyfraith, dylai Llywodraeth Cymru wneud hynny'n union. Rydym wedi argymell yn ein hadroddiad y dylai'r Cwnsler Cyffredinol adrodd o fewn mis i basio'r Bil, ac yn fisol wedi hynny.

Yn olaf, fe wnaethon ni ystyried gwariant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar ei rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Dywedwyd wrthym y cwrddir â'r costau i gyflawni'r rhaglen hon o bob rhan o bortffolios, a bod costau staffio ychwanegol dangosol o'r gwaith hwnnw wedi'u nodi yn y memorandwm esboniadol i Fil Deddfwriaeth (Cymru). Gan ei bod hi bellach dros dair blynedd ers i'r Bil ddod yn Ddeddf, rydym wedi gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol am ddadansoddiad o ba un a yw'r costau hynny'n profi i fod yn gywir.

Yn yr 20 eiliad olaf sydd gen i, os caf dynnu fy het, fe ddechreuais gyda chyfiawnder, ac rwyf eisiau gorffen gyda chyfiawnder cymdeithasol ac adleisio'r geiriau a gafwyd gan ambell gyd-Aelod, ein pryder am y gefnogaeth i gludiant bysiau yng Nghymru. Mae hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Rwy'n poeni bod y wasgfa ar y gyllideb hon—ac mae gwasgfa ddiamheuol ar y gyllideb hon—yn mynd i olygu, pan ffrwydrodd Liz Truss yr economi, efallai ei bod wedi ffrwydro rhannau o'n hagenda polisi, gan gynnwys diwygiadau radical ar y bysiau—[Torri ar draws.] Na, dydw i ddim yn siarad fel Cadeirydd. Fe wnes i hynny'n glir, yn hollol glir, yn gwbl glir. Fel meinciwr cefn.

17:05

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, er fy mod yn teimlo ychydig fel DJ ar y radio ar raglen brecwast cynnar nawr, gan ein bod ni ar y shifft hwyr. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, fel arfer rwy'n mynd ychydig bach yn siomedig hefyd, achos mae gen i'r llun yma bob amser yn fy meddwl ein bod ni'n mynd i fod yn eistedd yma fel Charles Babbage gyda chyfrifianellau, gan fynd llinell ar ôl llinell drwy'r ffigurau, ond rwy'n deall nad fel yna y mae ac mae'n rhaid i ni fod ychydig yn fwy amwys a goddrychol am rai o'r pethau rydyn ni'n sôn amdanyn nhw mewn ffordd anuniongyrchol.

Fel mae'r gyllideb hon wedi dangos, mae Llywodraeth Cymru'n parhau i danbrisio gofal cymdeithasol, ac nid oes ganddi ei blaenoriaethau yn y drefn iawn. Mae'r orddibyniaeth ar weithwyr asiantaeth a'r prinder sgiliau sy'n gwaethygu yn gadael y sector mewn sefyllfa sy'n golygu na all weithio'n iawn. Yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r bai ar awdurdodau lleol, gan eu gorfodi i ystyried toriadau sy'n effeithio ar y bobl fwyaf agored i niwed. Achos diweddar o hynny oedd fy nghyngor fy hun yn sir Ddinbych. Adroddwyd yn eang eu bod yn trafod lleihau ffioedd cartref gofal ein preswylwyr mwyaf agored i niwed yn yr etholaeth y tu ôl i ddrysau caeedig, heb graffu cyhoeddus. Felly, dydw i ddim yn cytuno â phenderfyniad yr arweinwyr i wneud hynny, ac rwy'n credu y dylid ei drafod mewn lleoliad cyhoeddus, lle gall yr holl randdeiliaid fod yn rhan o'r broses. Hyd yn oed pan fo'r Llywodraeth wedi cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb, mae wedi bod yn ymateb brawychus o wael i anghenion gofal cymdeithasol, a dim ond £400,000 sydd wedi'i ddyrannu i brentisiaethau, ac nid oes ateb yn ynghylch sut i lenwi'r bylchau.

Mae hynny'n dod a fi at y cyfleoedd hyfforddi. Rwy'n credu, mewn gofal cymdeithasol, nad yw'n ymwneud â chyflog bob tro, er bod hynny'n bwysig iawn. Mae hefyd yn ymwneud â'r hyfforddiant a phobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn eu rolau, fel bod ganddyn nhw lwybr gyrfa a rhywbeth i anelu ato. Rwy'n credu bod hynny'n beth mawr o ran cadw a recriwtio staff gofal cymdeithasol o fewn gwahanol leoliadau. Yn fy etholaeth i fy hun, rydw i wedi gwneud rhaglen o ymweliadau cartrefi gofal, ac nid yw llawer ohonyn nhw yn gweithredu ar lefel y capasiti. Efallai fod ganddyn nhw, er enghraifft, ddyraniad o 50 gwely, ond dim ond ar efallai 25 i 30 y gallant weithredu oherwydd nad oes ganddyn nhw'r staff ar gael, ac yna mae hynny wedyn yn achosi ôl-groniad yn system y GIG ac yn cyfrannu at rai o'r amseroedd aros rydym yn eu gweld a blocio gwelyau, er nad wyf yn rhy hoff o'r math hwnnw o eiriad, ond ni allaf feddwl am eiriad gwell ar hyn o bryd.

Yn yr un modd, er bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod rôl gofalwyr di-dâl, rwy'n bryderus iawn nad yw Llywodraeth Cymru'n gweld hyn, gan roi cymorth ariannol iddyn nhw, fel blaenoriaeth. Mae'r gyllideb hon yn parhau i danbrisio, tan-wobrwyo a thanariannu ein gofalwyr, ac mae hyn i gyd yn dangos, tra bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn codi'r gwastad, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud llanast.

Gweinidog, mae rheoli cyllid cyhoeddus ar ôl i Liz Truss chwalu'r economi yn hynod o anodd ac rwy'n siŵr bod gennych chi gydymdeimlad llawer o Aelodau yn y Senedd yn y dasg anodd iawn hon.

Mae aelodau eisoes wedi codi nifer o bwyntiau yr oeddwn i'n bwriadu eu codi, felly dim ond dau bwynt sydd gennyf yr hoffwn i chi eu hystyried yn eich ymateb heddiw. Yn gyntaf oll, a yw'n wir y bydd yr holl gyllid a fyddai wedi cael ei wario ar y cysylltiad awyr rhwng y gogledd a'r de ac a addawyd ar gyfer gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn y gogledd, yn wir yn cael ei wario ar welliannau trafnidiaeth gyhoeddus yn y gogledd, gan gynnwys Porth Wrecsam? Ac yn ail, a ydych chi'n cytuno, ymhlith y blaenoriaethau lawer sydd gan Lywodraeth Cymru yn briodol, fod gwella iechyd meddwl pobl ifanc yn gorfod bod yn bryder allweddol i bob Gweinidog pan fyddan nhw'n pennu eu cyllidebau? Diolch.

17:10

Diolch, a diolch i'r holl gyd-Aelodau am yr hyn sydd wedi bod yn ddadl ddefnyddiol iawn, yn fy marn i. Rydyn ni wedi clywed cymaint o flaenoriaethau gwahanol yn cael eu cyflwyno: deintyddiaeth, diogelwch adeiladau, chwe blaenoriaeth y Gweinidog Iechyd ar gyfer iechyd, y lwfans cynhaliaeth addysg, gweithlu gofal cymdeithasol, priffyrdd, ynni adnewyddadwy, cymorth i'r rhai sy'n gadael gofal, y Gymraeg, gwasanaethau bysiau, darpariaeth digartrefedd, cyllid fferm, iechyd meddwl a phyllau nofio. Ac rwy'n gwybod bod llawer o'r materion penodol hyn yn destun rhai argymhellion penodol gan bwyllgorau. Felly, efallai y gwnaf adael fy nghyd-Aelodau i ymateb i'r rhai hynny drwy eu hymatebion i'r pwyllgorau, ac rwy'n gwybod y byddwn ni'n anelu at gyrraedd Cadeiryddion y pwyllgorau o leiaf mewn pryd ar gyfer y ddadl ar y gyllideb derfynol. Ac roeddwn i'n meddwl efallai y byddwn i'n canolbwyntio fy sylwadau i yn fwy ar y broses, yr ymarfer ail-flaenoriaethu a gyflawnwyd gennym ac, wrth gwrs, rhai sylwadau ar dreth hefyd.

Felly, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n dechrau drwy gyfeirio at y sylwadau gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a oedd yn awgrymu bod y pwyllgor wedi'i synnu ac yn poeni am y diffyg eglurder yn y gyllideb ddrafft. Rwy'n cymryd yr awgrym hwnnw o ddifrif, oherwydd rydym bob amser wedi mabwysiadu dull agored, tryloyw a chydweithredol o baratoi ein cyllideb ddrafft a'n cyllideb derfynol. Rwy'n falch iawn, fel Llywodraeth, ein bod yn cyhoeddi cyfres enfawr a helaeth o ddogfennau ochr yn ochr â'r gyllideb, ac mae hynny'n cynnwys manylion ein cynlluniau gwariant ar draws y Llywodraeth gyfan, effeithiau ein penderfyniadau, y cyd-destun economaidd yr ydym yn gwneud y penderfyniadau hynny ynddo, yn ogystal â chynhyrchion treth newydd, megis y canllaw cyflym.

Ac mae dogfennau eleni, wrth gwrs, yn datblygu yr hyn a ddarparwyd gennym ar gyfer adolygiad gwariant aml-flwyddyn 2022, ac roedd hynny hefyd yn cynnwys dadansoddiad dosbarthiadol o'n gwariant, ac roedd hwnnw'n ddarn o waith sylweddol iawn, sy'n ein helpu nid yn unig fel Llywodraeth, ac yn helpu'r Senedd hefyd, ond hefyd ein partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Rydyn ni hefyd, wrth gwrs, yn darparu taflen gyllideb, ac mae honno'n darparu ffordd hawdd a hygyrch iawn i'n dyraniadau lefel uchel, ac rydyn ni wedi darparu taflen gyllideb i blant a hefyd animeiddiad gwych, sy'n nodi o ble mae ein harian yn dod a'r hyn y mae'n cael ei wario arno. Ac mae rhai o'r cynhyrchion hyn wedi'u datblygu ar y cyd â'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, gan gynnwys plant, ac wrth gwrs, rydym wedi ceisio cael adborth gan gyd-Aelodau yn y Senedd dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Pwyllgor Cyllid.

Felly, trwy gydol y gwaith o gynhyrchu'r gyllideb eleni, rwyf wedi croesawu'r ymgysylltu a'r cydweithio adeiladol yr ydym wedi'i gael gyda'r Pwyllgor Cyllid a gyda'r Cadeirydd yn benodol, ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda'r pwyllgor i roi manylion ein blaenoriaethau, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor o ran yr amgylchiadau heriol yr ydym yn eu hwynebu, a hefyd mynd ati i ddilyn rhai arferion gwaith cydweithredol, a dyna pam yr oeddwn i'n pryderu am y sylwadau yn sôn am eglurder. Rwy'n credu y gallai hynny gael ei ddehongli gan y cyhoedd fel ymgais i wneud y broses graffu yn aneglur, ac rwy'n credu na allai hynny fod ymhellach o'r gwir. Rwyf bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd y broses graffu, yn enwedig ar adegau pan fo cyllid mor gyfyngedig, ac rwy'n awyddus i barhau â'r gwaith agored a chydweithredol hwnnw, ac wrth gwrs rwy'n agored i ddeall pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ar bwyllgorau i gwblhau eu gwaith craffu, ac yn edrych ymlaen at barhau â'r berthynas gynhyrchiol honno.

Un maes rwy'n credu y gwnaeth y pwyllgor ei nodi fel un y gallem ddarparu rhywfaint o wybodaeth bellach yn y dyfodol oedd ochr yn ochr â'r cyfrifiadau sy'n ymwneud â'r addasiad grant bloc. Felly, yn sicr, byddwn ni'n edrych i weld beth arall y gallwn ni ei ddarparu. Er bod naratif y gyllideb ddrafft yn cynnwys manylion sylweddol ar yr addasiad grant bloc, rwy'n cydnabod ei fod wedi dod yn fwy cymhleth dros amser a byddai budd, rwy'n credu, i gyflwyniad manylach o'r wybodaeth honno. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid ar yr agwedd benodol honno hefyd.

Felly, wrth feddwl am yr ymarfer ail-flaenoriaethu, mae'n werth ail-bwysleisio, rwy'n credu, bod y gyllideb hon, wrth gwrs, yn adeiladu ar ein cynlluniau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi fel rhan o'n hadolygiad gwariant tair blynedd. Felly, dim ond dros ddwy flynedd ariannol y mae'r gyllideb hon yn dyrannu £1.2 biliwn. Wrth gwrs, buom yn craffu ar adolygiad gwariant tair blynedd y llynedd. Ac, fel rhan o hynny, wrth gwrs, fe wnaethon ni ddyrannu £1.3 biliwn yn ychwanegol dros y cyfnod adolygu gwariant hwnnw i iechyd, a bron i £0.75 biliwn yn ychwanegol i lywodraeth leol, ac rwy'n credu bod angen i ni gofio hynny yng nghyd-destun yr hyn yr ydyn ni'n craffu arno yma hefyd.

Wrth gwrs, mae ein cyllideb gyfalaf yn gostwng 8 y cant mewn termau real yn y flwyddyn ariannol nesaf, felly mae clywed am syniadau ychwanegol o'r meinciau Ceidwadol ynglŷn â sut y gallem fod yn gwario cyfalaf yn anodd ei lyncu pan nad oedd yr un geiniog ychwanegol o gyfalaf yn dod yn natganiad yr hydref. Wrth gwrs, mae gan y Canghellor gyfle i unioni hynny yn natganiad y gwanwyn, ac edrychwn ymlaen at barhau i bwyso ar y Canghellor am arian ychwanegol yn hynny o beth.

Gan feddwl, yn awr, am yr ymarfer ail-flaenoriaethu, i'n helpu i ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a chefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw, gwnaethom ymgymryd â'r ymarfer ail-flaenoriaethu hwnnw i ryddhau £87.4 miliwn o fewn y cyllidebau presennol hynny, yr wyf wedi cyfeirio atynt fel rhai y cytunwyd arnynt fel rhan o'n hadolygiad gwariant. Fe wnes i roi rhywfaint o amddiffyniad i rai meysydd, felly cafodd gwasanaethau iechyd rheng flaen, llywodraeth leol drwy'r grant cynnal refeniw, a rhan o'r gyllideb addysg eu hesgusodi o'r ymarfer hwnnw i geisio ail-flaenoriaethu ar draws y Llywodraeth, ond, wyddoch chi, mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn ymarfer mor anodd. Gofynnwyd i ni pam na allem ail-flaenoriaethu mwy o swm, ond mewn gwirionedd ar ôl i ni ddatrys hynny gwnaethon ni yn wir fynd i faes trafod torri rhai o'r rhaglenni sy'n helpu'r bobl fwyaf agored i niwed, ac rydych chi yn y pen draw yn mynd yn llwyr yn erbyn y math o agenda ataliol yr ydym ni i gyd am ei groesawu drwy dorri rhai o'r cynigion hynny.

Wrth benderfynu pa feysydd i'w hail-flaenoriaethu, roedd Gweinidogion ar draws y Llywodraeth yn chwilio am feysydd a oedd efallai'n cael eu harwain gan y galw, lle y gallen nhw, gyda risg, roi swm bach yn y cyllidebau hynny i ryddhau rhywfaint o gyllid. Roedd opsiynau eraill yn cynnwys edrych a fyddai modd terfynu neu ailddatblygu contractau neu eu lleihau o ran cwmpas. Er enghraifft, gwnes i hynny yn fy mhrif grŵp gwariant fy hun drwy ailgyhoeddi ein contract e-gaffael, a hefyd gwnaed rhywfaint o waith yn y maes hwnnw mewn cysylltiad ag apwyntiadau cyhoeddus.

Rwy'n gwybod bod Gweinidogion portffolio wedi cael rhywfaint o waith craffu da a thrylwyr iawn yn eu pwyllgorau eu hunain ar y dewisiadau a wnaethant, ond fe wnaf roi ychydig o enghreifftiau yn unig i'w rhoi ar y cofnod. Felly, yn y prif grŵp gwariant materion gwledig, roedd ail-flaenoriaethu'r gyllideb wedi'i gyfyngu i gyllid fferm y tu allan i'r cynllun talu sylfaenol. Felly, rhoddodd y Gweinidog amddiffyniad i'r cynllun taliad sylfaenol, a gwelsom bryd hynny, wrth gwrs, er hynny, ostyngiad i'r llinell gyllideb economaidd a chynaliadwyedd wledig. Er hynny, cafodd y prif grŵp gwariant hwn gynnydd o £63 miliwn drwy'r setliad aml-flwyddyn y llynedd. Mae hynny bellach wedi'i leihau ychydig o dan £9 miliwn i £54 miliwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn gweithio drwy'r dewisiadau anodd nawr y mae hynny'n ei achosi iddi o ran rhai o'r gweithgareddau ffermio a rheoli tir. Dyna un enghraifft yn unig o'r dewisiadau anodd rydyn ni'n sôn amdanyn nhw.

Ym maes iechyd, roedd nifer o feysydd lle cafodd cyllid aildrefnu i sicrhau y gallai adnoddau ganolbwyntio ar ein gwasanaethau rheng flaen cyn belled ag y bo modd. Mae'r rheiny, er enghraifft, yn cynnwys newidiadau i'r cynlluniau ar gyfer sefydlu gweithredwr GIG, felly bydd gostyngiad nawr o ran cwmpas a chapasiti dros y tymor byr, er mwyn aildrefnu rhywfaint o'r cyllid ar gyfer y gwasanaethau rheng flaen.

Mewn meysydd eraill, rydyn ni wedi gorfod adolygu'r amserlen gyflawni, oherwydd pwysau chwyddiant, ond nid graddfa'r uchelgais, ac er enghraifft byddai hynny tra bod cynnydd rhagorol wedi'i wneud o ran cynnal y rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, ein rhaglen i wella a datblygu ysgolion a cholegau yng Nghymru, mae'r deunyddiau adeiladu a llafur sydd ar gael wedi gweld costau'n codi tua 15 y cant, felly mae'n anochel y byddwn yn darparu llai gyda'r rhaglen honno er y bydd y swm yr ydym yn bwriadu ei wario yr un fath.

Ac, wrth gwrs, byddwch wedi clywed fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn sôn am yr ymrwymiad mewn perthynas â 20,000 o gartrefi cymdeithasol. Bydd hynny nawr yn cynnwys elfen o gartrefi y tu hwnt i adeiladau newydd sy'n cydymffurfio â gofynion ansawdd datblygu, ond mae'n amlwg, o ystyried yr heriau lluosog yn y sector a'r cynnydd mewn costau yn y gadwyn gyflenwi, a'r cyfraddau chwyddiant sy'n ein hwynebu, y gwelwn yn awr o bosibl, o reidrwydd, mwy o gartrefi yn cael eu dwyn i'r sector cymdeithasol drwy lwybrau nad ydynt yn adeiladau newydd. Ond rwy'n credu bod hynny'n rhoi cyfle da i ni gymryd camau pellach o ran tai gwag.

Yn ogystal ag ail-flaenoriaethu, byddai cael mwy o hyblygrwydd wrth gwrs yn ein cynorthwyo ni. Mae nifer o bobl wedi sôn am y taliad cymorth tanwydd. Wel, roedd hwnnw'n rhywbeth yr oedden ni'n gallu ei wneud oherwydd ein bod yn cario arian drosodd a oedd wedi cyrraedd yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol yn 2021-22. Roedden ni'n gallu cario hwnnw drosodd y tu allan i gronfa wrth gefn Cymru. Roedd hwnnw'n benderfyniad pragmataidd ar ran Llywodraeth y DU, ond pe bai'r math yna o gario drosodd o gyllid canlyniadol hwyr iawn yn gallu dod yn rhan o'n ffordd arferol o weithio, byddai hynny'n ein helpu ni i wneud llawer iawn.

Does gen i ddim llawer o amser ar ôl, ond rwyf eisiau dweud ychydig eiriau ar dreth, er fy mod yn gwybod y bydd gennym lawer mwy o gyfle i siarad am hyn mewn llawer mwy o fanylder pnawn yfory. Ond mae yna argymhelliad gan y Pwyllgor Cyllid ein bod yn siarad yn fwy am y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud i ddeall y defnydd posib o wahanol bwerau codi trethi. Wrth gwrs, gwnaethom gyhoeddi ein canllaw cyflym ar dreth incwm ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft, ac mae hynny'n ystyried effeithiau ymddygiadol newidiadau i'r dreth. Mae'n defnyddio amcangyfrifon Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi ar gyfer rhai elfennau, ond mae hefyd yn cynnwys rhai amcangyfrifon ychwanegol ar gyfer effaith mudo posibl ar gyfraddau treth incwm amrywiol o fewn y DU. Roedd y rheiny'n seiliedig ar astudiaeth academaidd o'r Swistir, oherwydd dyma'r procsi mwyaf priodol ar gyfer y sefyllfa yng Nghymru, er nad yw'n berffaith, ond rydym yn cynnwys hwnnw yn ein canllaw cyflym i ddeall beth fyddai'r effaith pe byddem yn codi'r cyfraddau uwch ac ychwanegol hynny o gyfraddau treth incwm yng Nghymru. Rydyn ni'n gwybod bod y newidiadau diweddar i gyfraddau treth incwm a throthwy yn Yr Alban yn rhoi'r enghraifft gyntaf honno i ni nawr o bolisïau amrywio trethi incwm o fewn y DU, ac wrth i'r manylion perthnasol ddod ar gael nawr o ran effeithiau hynny, gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o wybodaeth bellach i ni helpu i lywio ein polisi yn y maes hwn yn y dyfodol.

Ac yna, ar y cyfraddau a'r bandiau, byddai datganoli pwerau i amrywio trothwyon treth incwm yn arf polisi ychwanegol, ond rwy'n credu y byddai'n anodd iawn gwneud hynny heb ddatganoli yn llawn yr holl dreth incwm ar incwm nad yw'n gynilion, incwm nad yw'n ddifidend, a byddai hynny'n gam y byddai cyfrifoldebau trethi datganoledig Llywodraeth Cymru yn ei gymryd, ond byddai'n arwain at newid mawr iawn, iawn a llawer mwy o amlygiad i'r risg o dwf cymharol yn sail i dreth yng Nghymru a gweddill y DU. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei drafod mewn llawer mwy o fanylder yfory, ond eto, pryd bynnag yr ydym yn sôn am ddatganoli pwerau treth ymhellach, mae'n rhaid i ni wneud hynny yng nghyd-destun cydbwyso'r risg a'r budd, ond edrychaf ymlaen at ddadl yfory ar hynny.

Yn olaf, diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelodau i gyd yn ymateb i adroddiadau'r pwyllgorau hynny, ond hefyd yn rhoi rhywfaint o feddwl a myfyrdod i'r pwyntiau pwysig a godwyd y prynhawn yma.

17:20

Cyn i mi symud ymlaen i'r busnes arall, dywedais wrth yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr y byddwn i'n derbyn ei bwynt o drefn ar ddiwedd y ddadl. Rwy'n deall y caiff y pwynt o drefn nawr ei godi gan yr Aelod dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan.

Ie. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dim ond eisiau gwirio oeddwn i, mewn gwirionedd, fy mod i wedi clywed yn gywir yn gynharach, a hoffwn ofyn am ddyfarniad, Dirprwy Lywydd, ynglŷn ag a oedd yr iaith a ddefnyddiwyd ac un ymadrodd yn benodol a ddefnyddiwyd gan Hefin David yng nghwrs y ddadl yn dderbyniol. Wna i ddim ailadrodd y geiriau, ond roedden nhw'n eithafol, yn ansensitif, ac mewn lleoliad gweithle, gellid dadlau eu bod yn gwahaniaethu. Mewn gwirionedd, dyfarnodd barnwr tribiwnlys cyflogaeth yn 2021 bod yr union yr un sylw yn amhriodol ac amhroffesiynol. Bu iddo iselhau'r ddadl, yn fy marn i, a nodweddid fel arall gan anghytundeb parchus ac mae'n sarhad ar urddas y Senedd a'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli.

Rwyf wedi cael cyfle i adolygu'r trawsgrifiad ac rwyf o'r farn bod yr iaith a ddefnyddir yn gwbl amhriodol gan yr Aelod, ac ni ddylai unrhyw Aelod o'r Senedd hon ddefnyddio iaith o'r fath, ac felly rwy'n galw ar yr Aelod i dynnu ei ddatganiad yn ôl ac ymddiheuro am wneud y fath gyfeiriad yn ei gyfraniad heddiw.

Rwy'n tynnu'n ôl yn ddiffuant ac yn ymddiheuro am ddefnyddio'r term hwnnw. Y bwriad, yng ngwres y ddadl, oedd gwneud pwynt gwleidyddol. Roedd yn wamal ac yn wir roedd yn amhriodol. Yn wir, o ystyried y ffaith y tynnwyd llun un o gynghorwyr Plaid Cymru yng Nghaerffili yn dal dryll, yn bygwth saethu Saeson, y gair y dylwn i fod wedi'i ddefnyddio oedd 'gwarthus'.

Rwy'n siomedig bod yr Aelod wedi cynnwys y cyfeiriad olaf. Rwy'n derbyn ei fod yn tynnu'r datganiad yn ôl, a byddwn yn annog pob Aelod i beidio â defnyddio iaith o'r fath, ond wrth wneud hynny, peidiwch â dod â materion eraill fel yna i mewn. Rwy'n credu bod hyn wedi'i seilio'n llwyr ar yr iaith a ddefnyddiwyd yn y ddadl hon, ac nid wyf yn credu bod iaith o'r fath yn briodol mewn unrhyw ddadl yn y Siambr hon, a byddwn yn annog pob Aelod i wneud yn siŵr nad yw eu cyfraniadau'n cynnwys iaith o'r fath yn y dyfodol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

17:25

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Symudwn ymlaen. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitem 5 a 6 eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad.

5. & 6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Cynnig NDM8197 Lesley Griffiths

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Amaethyddiaeth (Cymru).

Cynnig NDM8198 Lesley Griffiths

Cynnig bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ac i gynnig y cynnig a'r penderfyniad ariannol. Mae'r Bil yn gam cyntaf pwysig yn ein cynlluniau ar gyfer diwygio amaethyddol. Dyma'r cyntaf o'i fath i Gymru, ac mae'n bolisi wedi'i lunio yng Nghymru sydd wedi'i gynllunio i gefnogi blaenoriaethau Cymru.

Mae gan ffermwyr Cymru swyddogaeth bwysig yn ein cymdeithas, ac fe gânt eu cydnabod nid yn unig am eu swyddogaeth wrth gynhyrchu cyflenwad o fwyd diogel o ansawdd uchel, ond hefyd am yr hyn a wnânt i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf dybryd sy'n ein hwynebu yn ein gwlad. Mae'n rhaid i ni ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r angen am weithredu eang ac i sicrhau canlyniadau brys yn hanfodol os ydym am sicrhau sector amaethyddol cynaliadwy a chydnerth ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bontio teg i ddyfodol carbon isel newydd, ac mae ein ffermwyr a'r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni'r pontio teg hwnnw a symud at sero net. Mae'r Bil yn sefydlu rheoli tir cynaliadwy fel y fframwaith, gan ddangos yr ymrwymiad hwn i gefnogi ffermwyr i ostwng eu hôl troed carbon a darparu ar gyfer natur gan, ar yr un pryd, barhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy drwy fusnesau amaeth cydnerth. Mae hefyd yn cydnabod y swyddogaeth allweddol sydd gan ffermwyr fel stiwardiaid ein hiaith, treftadaeth a'n diwylliant Cymreig.

Cyfeirir at y cysyniad o reoli tir cynaliadwy gan bedwar amcan a'r ddyletswydd rheoli tir cynaliadwy cysylltiedig. Mae'r amcanion a'r ddyletswydd yn deddfu ar gyfer polisi amaethyddol a wnaed yng Nghymru sy'n ymgorffori cyfraniad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol eang a sylweddol amaethyddiaeth yng Nghymru.

Mae cyflwyno rheoli tir cynaliadwy fel cyfres o amcanion yn gyson â'r dull gweithredu mewn agweddau eraill o ddeddfwriaeth Cymru, megis Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn eu hategu. Mae'r amcanion rheoli tir cynaliadwy yn gwneud yn glir yr hyn rydym yn anelu at ei gyflawni, gan ddarparu'r llwyfan a'r polisi deddfwriaethol ar gyfer gweithredu'n barhaus yn unol â'r ddyletswydd Rheoli Tir yn Gynaliadwy sy'n cyfrannu orau at gyflawni'r cynhyrchiant hwn o fwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy, wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, cynnal a hyrwyddo'r Gymraeg, a gwarchod cefn gwlad Cymru a'n hadnoddau diwylliannol. Wrth wneud hynny, mae'r Bil yn cydnabod amcanion cyflenwol cefnogi ffermwyr wrth gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, cyfrannu at gymunedau gwledig ffyniannus a chadw ffermwyr ar y tir.

Hoffwn ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, gan gynnwys aelodau o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a gymerodd ran hefyd yn y pwyllgor ETRA, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu'n drylwyr ar y Bil hwn yn ystod Cyfnod 1. Rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed i gyflwyno eu hadroddiadau cynhwysfawr a defnyddiol o fewn amserlen dynn iawn. Mae hefyd yn bwysig fy mod yn diolch i'r holl ffermwyr, rhanddeiliaid a chymunedau sydd wedi cyfrannu, cefnogi a gweithio gyda ni i ddatblygu'r cynigion ar gyfer y ddeddfwriaeth hanfodol hon. Mae'r arbenigedd, yr her a'r persbectif cyfun wedi bod ac yn parhau i fod yn amhrisiadwy i ddatblygu'r Bil hwn a chynlluniau i'r dyfodol.

Amlygodd fy natganiad ysgrifenedig dyddiedig 3 Chwefror 2023 y trafodaethau cynhyrchiol a gynhaliwyd gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio ar welliannau i'r Bil. Y bwriad yw cyflwyno'r gwelliannau hynny yng Nghyfnod 2, pe bai Aelodau'n cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw. Dyma'r diwygiadau: cyflwyno testun ychwanegol mewn perthynas â'r amcan rheoli tir cynaliadwy cyntaf, adran 1 o'r Bil. At ddibenion yr amcan cyntaf, mae ffactorau sy'n berthnasol i weld a yw bwyd a nwyddau eraill yn cael eu cynhyrchu mewn modd cynaliadwy yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, cydnerthedd busnesau amaethyddol o fewn y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt.

Mae tri diben ychwanegol i'r pŵer i ddarparu cymorth, adran 8 o'r Bil, hefyd wedi'u drafftio i'w mewnosod i is-adran (2). Mae'r rhain yn dilyn y diben cyntaf o annog cynhyrchu bwyd mewn modd amgylcheddol gynaliadwy. Y dibenion ychwanegol yw: (b) helpu cymunedau gwledig i ffynnu a chryfhau cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a'u cymunedau; (c) gwella cydnerthedd busnesau amaethyddol; a (d) cynnal y Gymraeg a hybu a hwyluso ei defnydd. Mae'r gwelliannau yn cefnogi cydnerthedd busnes amaethyddol drwy alluogi sylfaen gynhyrchu a chadwyn gyflenwi effeithiol, effeithlon, proffidiol ac, felly, sylfaen cynhyrchu a chadwyn gyflenwi gynaliadwy. Mae hyn yn cysylltu'n uniongyrchol â'r ffermwr. Mae cefnogi ffermwyr gyda'u llesiant eu hunain, eu hymwneud â'u cymunedau, cynnal a hyrwyddo'r Gymraeg ac arallgyfeirio busnes i gyd yn agweddau allweddol ar gadw ffermwyr ar y tir.

17:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Gan droi at yr argymhellion gan y pwyllgorau, o ystyried natur fanwl adroddiadau'r pwyllgor a nifer yr argymhellion a wnaed—84 i gyd—nid yw'n bosibl ymateb i bob un ohonyn nhw'n unigol yn yr amser sydd ar gael heddiw. Rwyf eisoes wedi darparu ymateb ysgrifenedig i adroddiad y Pwyllgor Cyllid cyn y ddadl heddiw, a byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn dilyn y ddadl hon.

Wrth droi at adroddiad y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, rwy'n cydnabod yr ystod lawn o argymhellion a wnaed, ac rwy'n falch o ddarllen bod argymhelliad 1 yn gofyn i'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Rwy'n falch hefyd bod mwyafrif clir o'r pwyllgor yn cefnogi'r darpariaethau i wahardd defnyddio maglau. Dyma gam pwysig ymlaen ar gyfer lles anifeiliaid yma yng Nghymru, ac un a adlewyrchir yn ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu. Mae nifer o argymhellion pwysig wedi eu gwneud gan y pwyllgor, ac mae disgwyl i'r mwyafrif ohonynt, rwy'n falch o ddweud, gael eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor

Byddaf hefyd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i ddarparu ymatebion ystyriol i'w argymhellion. Roedd y Pwyllgor Cyllid yn fodlon ar y cyfan gyda goblygiadau ariannol y Bil, ac mae fy ymateb i'r pwyllgor cyn y ddadl hon, yn unol ag argymhelliad 1 y pwyllgor, yn cydnabod fy mod yn derbyn mwyafrif yr argymhellion. Yn ogystal â'r gwelliannau a gytunwyd gyda Phlaid Cymru, rwy'n disgwyl cyflwyno nifer fach o welliannau pellach gan y Llywodraeth i'r Bil yn y cyfnod diwygio.

I gloi, Llywydd, mae hwn yn ddarn uchelgeisiol a thrawsnewidiol o ddeddfwriaeth sy'n diwygio degawdau o gymorth ffermio gan yr Undeb Ewropeaidd. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y foment hon. Bydd y Bil hwn yn rhoi bywyd newydd i'r sector amaethyddol yma yng Nghymru, gan mai dyma Fil amaethyddol cyntaf Cymru, y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru gael y cyfle i ddod â deddfwriaeth amaethyddol o'r natur yma gerbron y Senedd, a'r tro cyntaf i'n ffermwyr, ein cymunedau a'n busnesau allu penderfynu ar eu dyfodol eu hunain. Mae'r Bil amaethyddol hwn wedi rhoi llais i gefn gwlad Cymru a phawb sy'n gweithio yno. Rwy'n annog Aelodau i gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol ac ar gynnig ariannol y Bil. Diolch.

Galwaf nawr ar Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion gwledig—Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Mae'r Bil hwn a'r ddadl hon yn nodi adeg bwysig iawn i amaethyddiaeth Cymru, yr amgylchedd ac, yn wir, i economi Cymru. Yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, dyma'r tro cyntaf i'r Senedd ystyried deddfwriaeth ar gyfer polisi amaethyddol a wnaed yn llwyr yng Nghymru. Bwriedir i'r fframwaith polisi a nodir yn y Bil hwn bara am flynyddoedd lawer i ddod. Felly, mae'n arwyddocaol iawn, ac mae'n hanfodol ei gael yn iawn. Yn fy marn i, mae'n debyg mai'r darn hwn o ddeddfwriaeth yw'r darn pwysicaf o ddeddfwriaeth ers dechrau datganoli, a dyna pam mae'n bwysig cael hyn yn iawn, gan y bydd yn dylanwadu ar amaethyddiaeth a'n hamgylchedd am ddegawdau i ddod.

Mae'r Bil, fel dywedodd y Gweinidog, yn arwydd o ddull polisi newydd o reoli tir cynaliadwy, a bydd yn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru i gefnogi ffermwyr o dan gynllun sy'n cael ei ddatblygu'n gyfan gwbl yng Nghymru, dros Gymru. Mae'r Gweinidog wedi dweud mai nod cyffredinol y Bil yw cadw ffermwyr Cymru ar y tir. Fel y mae adroddiad ein pwyllgor yn nodi, rhaid i'r gefnogaeth y maent yn ei dderbyn o dan y pwerau yn y Bil hwn gydbwyso nifer o anghenion gwahanol: (1) yr angen i ddiogelu a hyrwyddo cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chadwyni cyflenwi lleol; (2) yr angen i gefnogi economïau gwledig cryf a bywiog a helpu ein cymunedau gwledig Cymraeg i ffynnu; a (3) yr angen i amddiffyn ein tirweddau gwerthfawr yng Nghymru, yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn wyneb argyfyngau hinsawdd a natur.

Cafodd y Bil ei gyfeirio at ein pwyllgor craffu gan mai ni sydd â chyfrifoldeb dros faterion gwledig. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor ac, yn wir, i'r tîm clercio am eu gwaith caled a'u cefnogaeth yn ystod ein gwaith. Ond mae'n bwysig nodi hefyd bod ein gwaith wedi cael cymorth mawr gan gyfranogiad gweithredol aelodau'r Pwyllgor Hinsawdd, Newid, yr Amgylchedd a Seilwaith. Rydym yn ddiolchgar am eu cyfraniad amhrisiadwy, sydd i'w weld yng Nghofnod y Trafodion ac, yn wir, yn yr adroddiad hwn. Rydym hefyd, fel bob amser, yn ddiolchgar i'r holl sefydliadau ac unigolion sydd wedi ymgysylltu â gwaith craffu'r pwyllgor.

Bydd rhai darpariaethau'r Bil fframwaith hwn yn disodli cymalau yn Neddf Amaeth y DU 2020 sydd i fod i ddod i ben o dan gymal machlud ar ddiwedd 2024. Gyda rhai eithriadau, mae'r cymalau hyn yn adlewyrchu'r pwerau sydd gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf DU honno ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dylid nodi bod y Bil hwn yn arbennig o eang o ran cwmpas, ac mae'n cyflwyno rhai elfennau newydd sylweddol. Mae'r elfennau newydd hyn yn cynnwys gwahardd defnyddio maglau a thrapiau glud yng Nghymru, a'r pwerau newydd i Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch trwyddedau torri coed mewn coedwigoedd. Ac felly, er y gellid dadlau bod y darpariaethau hyn yn amaethyddol eu natur, efallai y gellid hefyd fod wedi eu deddfu a chraffu arnynt ar wahân.

Roedd gan y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig 14 wythnos i graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Fe wnaethon ni ystyried pob agwedd o'r Bil hyd eithaf ein gallu yn yr amser oedd ar gael. Gwn fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gwneud rhai argymhellion cryf ynghylch y dull a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru i ddeddfu ym maes amaethyddiaeth, ac felly ni fyddaf yn achub y blaen ar unrhyw beth y bydd Aelodau eraill yn ei ddweud am hynny, ond hoffwn dynnu sylw at rai o'r materion sy'n gysylltiedig â pholisi a nodwn yn ein hadroddiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys rhanddeiliaid wrth ddatblygu'r Bil hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o ymgynghoriadau a phroses gyd-ddylunio. Felly roedd yn syndod i ni ar y pwyllgor i ddechrau bod rhai materion sylfaenol nad oedd rhanddeiliaid yn gytûn arnynt o hyd. Mae'r union ddiffiniad o 'reoli tir cynaliadwy' wedi bod yn fater cynhennus. I'r darllenydd lleyg nid oes diffiniad, naill ai un pwrpasol neu wedi'i fenthyg, ar wyneb y Bil. Barn y Gweinidog yw mai'r amcanion rheoli tir cynaliadwy a nodir yn adran 1 o'r Bil yw'r diffiniad. Ac mae adroddiad y pwyllgor yn nodi rhai dadleuon cryf dros sut y gellid cryfhau'r amcanion hynny yn adran 1, a'r rhestr o ddibenion ar gyfer cymorth yn adran 8. Mae rhywfaint o anniddigrwydd hefyd ynglŷn â'r cynnig i ganiatáu i'r diffiniad o 'amaethyddiaeth' gael ei ddiwygio gan is-ddeddfwriaeth, ac rydym wedi argymell bod y Gweinidog hefyd yn adolygu'r agwedd hon ar y Bil ac yn ceisio lliniaru pryderon.

Ymddangosai bod diffyg eglurder a/neu ddiffyg dealltwriaeth gan randdeiliaid yn ymwneud â bwriadau Llywodraeth Cymru gyda rhai o'r darpariaethau yn y Bil hefyd. Yn benodol, mae hyn yn wir am gefnogaeth i weithgareddau ategol, a sut y gallai hyn fod o fudd i'r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Mae argymhelliad 16 o'n hadroddiad yn gofyn i'r Gweinidog roi mwy o eglurder ar hyn. Roedd disgwyl mawr hefyd gan randdeiliaid y byddai safonau gofynnol cenedlaethol yn nodwedd o'r ddeddfwriaeth hon, ac roedd cryn siom nad oedd hyn yn wir. Felly, hoffai'r pwyllgor i'r Gweinidog nodi ei bwriadau ar gyfer y waelodlin reoleiddio ar gyfer y sector yn y dyfodol. Rydyn ni hefyd wedi gofyn i'r Gweinidog roi ystyriaeth bellach i les anifeiliaid a swyddogaeth milfeddyg y fferm yn y fframwaith deddfwriaethol newydd.

O'n gwaith craffu roedd yn amlwg bod angen gwaith pellach i fynd i'r afael â phryderon ffermwyr tenant a'r rhai sy'n ffermio ar dir comin, gan sicrhau eu bod yn gallu manteisio'n llawn ar y cymorth sydd ar gael o dan y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Rhaid i anghenion newydd-ddyfodiaid i'r sector hefyd gael eu cefnogi'n llawn gan y Bil. Rydym ni wedi croesawu ymrwymiad y Gweinidog i waith pellach yn y meysydd hyn, gan y bydd monitro effeithiolrwydd ac effaith y cynllun ffermio cynaliadwy yn hanfodol.

Yn sgil y dystiolaeth a dderbyniodd y pwyllgor, mae ein hadroddiad wedi awgrymu gwelliannau i ddarpariaethau adrodd y Bil, yn ogystal â'r pryderon a godwyd gyda ni am ddarpariaethau casglu data. Mae'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru dros safonau marchnata, ac roedd ein hymchwiliad yn codi cwestiynau pwysig am wahaniaethau ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a swyddogaeth y fframweithiau cyffredin. Yn ein hadroddiad rydym ni hefyd wedi cynnwys argymhelliad ynghylch asesu effaith cytundebau masnach ar sector amaethyddol Cymru.

Wrth gloi, Llywydd, pwysleisiaf eto fod hwn yn ddarn eang ac arwyddocaol iawn o ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n gwahodd pob Aelod i ystyried ystod y dystiolaeth a'r argymhellion yn ein hadroddiad, ynghyd â safbwyntiau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid ar y Bil fel y'i cyflwynwyd. Fel y noda ein hadroddiad, o ran Rhan 5 o'r Bil, roedd mwyafrif clir o'r pwyllgor yn cefnogi'r darpariaethau i wahardd defnyddio maglau, er bod cefnogaeth gan ddau Aelod i'r Gweinidog roi ystyriaeth bellach i system drwyddedu reoledig iawn.

Fel y dywedais yn gynharach, bydd y ddeddfwriaeth hon yn llunio tirwedd amaeth Cymru a'r amgylchedd am ddegawdau i ddod, ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y darn hwn o'r ddeddfwriaeth yn gwbl gywir. Wrth ystyried yr ystod o dystiolaeth a gyflwynir i ni, a'n 30 argymhelliad, rydym yn argymell i'r Senedd gytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) hwn a'i bod yn mynd ymlaen nawr at yr ail gyfnod, sef y cyfnod diwygio. Diolch, Llywydd.

17:40

Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Hoffwn agor fy nghyfraniad y prynhawn yma trwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor a'n tîm clercio, ond hefyd trwy bwysleisio mai un o'r cwestiynau allweddol y mae fy mhwyllgor yn ei ystyried yw, a yw Bil yn addas i'r diben fel darn o gyfraith. Fel rheol gyffredinol, nid ydym yn gwneud sylw ar rinweddau'r polisi y mae'n ei gynnwys.

Dywedodd y Gweinidog wrthym ni mai Bil fframwaith yw'r Bil, gyda'r nod o fod yn ei le am sawl degawd. O ganlyniad, pwysleisiodd y Gweinidog yr angen am ddiogelu'r dyfodol a hyblygrwydd. Ond mae ein hadroddiad yn cynnwys cymaint o argymhellion—44 i gyd, oherwydd bod y Bil yn Fil fframwaith neu Fil galluogi. Mae'n adlewyrchiad yn rhannol o'n pryder ynghylch faint o bŵer y mae'n ei ddarparu i Weinidogion Cymru ar draul y ddeddfwrfa hon. Mae ein hadroddiad yn dangos nad ein pwyllgor ni yn unig sydd â phryderon am ddefnyddio Biliau fframwaith—mae ein pwyllgorau rhagflaenol a'n pwyllgorau sydd wedi hen ennill eu plwyf yn Nhŷ'r Arglwyddi yn mynegi'r un pryderon.

O'r pwys mwyaf pan ofynnir i ddeddfwrfa ddirprwyo pwerau i'r pwyllgor gwaith yw ystyried sut y gellid defnyddio'r pwerau hynny yn y dyfodol, yn hytrach na sut mae'r Gweinidog presennol yn bwriadu eu defnyddio ar adeg eu llunio. Felly, ni waeth beth yw'r geiriau ar gof a chadw a bwriad y Gweinidog hwn. Os caiff ei basio bydd y Bil yn dirprwyo pwerau eang i unrhyw Lywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol. Gallai'r pwerau gael eu defnyddio i ddatblygu polisi sylweddol ar amaethyddiaeth, gyda mewnbwn democrataidd a grymoedd penderfynu cyfyngedig iawn gan y Senedd fel y ddeddfwrfa. Dyna yw swyddogaeth y Bil hwn fel y'i hysgrifennwyd ar hyn o bryd; gellir ei ddiwygio. Bydd Gweinidogion Cymru yn y dyfodol yn gallu osgoi craffu manwl gan y Senedd ar yr hyn a allai fod yn benderfyniadau polisi sylweddol a dwys ar amaethyddiaeth, o bosibl ar gyfer, ac rwy'n ei ailadrodd, degawdau.

Rydym o'r farn bod Llywodraeth Cymru wedi cael y cyfle i ddrafftio Bil a allai fod wedi cynnwys mwy o fanylion ar ei wyneb. Byddai'r manylion wedi cynnwys y dibenion perthnasol, yr egwyddorion a'r meini prawf sy'n sail i bolisi amaethyddol yng Nghymru a fydd yn disodli'r darpariaethau a'r pwerau sy'n cael eu dychwelyd o'r Undeb Ewropeaidd, nid lleiaf ers i'r etholwyr benderfynu gadael yr UE yn 2016. Mewn ymgais i wella'r Bil, felly, mae 11 o'n hargymhellion yn gofyn am roi mwy o wybodaeth ar ei wyneb, yn enwedig ar fanylion polisi a materion sy'n ymwneud ag arfer pwerau gwneud rheoliadau. Yn ogystal, mae 15 o argymhellion eraill yn gofyn am esboniadau ar gyfer y dull a fabwysiadwyd yn y Bil. Maen nhw wirioneddol yn ceisio gwella'r Bil.

Yn absenoldeb unrhyw ddarpariaeth machlud—rwy'n cyfeirio'n benodol at hynny—er mwyn sicrhau trosglwyddo i system newydd o gefnogaeth amaethyddol, gellid gwneud newidiadau, fel y mae yn y Bil hwn ar hyn o bryd, ar sail amhenodol i'r system bresennol, sy'n rhoi sicrwydd i neb. Rydym yn derbyn mai bwriad y Gweinidog hwn yw trosglwyddo i'r cynllun ffermio cynaliadwy a system newydd o gefnogaeth. Ond, fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, nid yw'r Bil yn gosod unrhyw rwymedigaeth ar y Llywodraeth hon nac ar unrhyw un yn y dyfodol i wneud hynny mewn gwirionedd erbyn unrhyw ddyddiad penodol. Rydym ni felly wedi argymell y byddai'n briodol cynnwys darpariaeth machlud yn y Bil i ddarparu'r sicrwydd hwnnw—dyddiad gorffen ar gyfer pontio o'r cynllun talu sylfaenol a'r polisi amaethyddol cyffredin. Os cynhwysir darpariaeth i ganiatáu diwygio dyddiad terfynol gan reoliadau, dylai rheoliadau o'r fath yna fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol wrth gwrs.

Rydym ni'n nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi efelychu cyfyngiadau ar arfer rhai pwerau gwneud rheoliadau—felly, er enghraifft, o dan adrannau 15, 16 a 22 o'r Bil—a gawsant eu cynnwys yn Neddf Amaethyddiaeth y DU 2020. Mae hyn yn golygu, fel y mae ar hyn o bryd, bod Deddf 2020—deddfwriaeth gan Lywodraeth y DU—yn rhoi mwy o reolaeth i'r Senedd hon dros arfer pwerau Gweinidogion Cymru na'r Bil sydd ger ein bron heddiw. Felly, nod naw o'n hargymhellion oedd mynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Credwn fod y rhain yn synhwyrol.

Mae pump o'n hargymhellion yn ymwneud â'r gweithdrefnau sydd ynghlwm wrth wneud rheoliadau, ac mae pedwar argymhelliad pellach yn galw am ddiwygio 12 adran yn y Bil i gynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori cyn gwneud rheoliadau, gan fod hwn yn Fil fframwaith o'r fath. Mae hyn yn bwysig oherwydd, mewn cyfres ddiweddar o reoliadau benthyciadau myfyrwyr, er enghraifft, ni ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru cyn gwneud y rheoliadau oherwydd nad oedd gofyniad statudol i wneud hynny. Efallai y bu yn bolisi da neu ddrwg, ond doedd dim dyletswydd i ymgynghori.

Hoffwn yn awr gwmpasu dau argymhelliad penodol byr cyn cloi. Argymhellwyd y dylid diwygio'r Bil i gynnwys diffiniad o 'reoli tir cynaliadwy'. Ym marn y pwyllgor, nid yw'n briodol ceisio diffinio term yn ddigonol drwy gyfres o amcanion, y gellir eu cyflawni neu beidio ac y gellir eu cydbwyso neu eu cyfnewid â'i gilydd. Nid yw'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen mewn cyfraith dda.

Mae adran 50 o'r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio'r diffiniadau o amaethyddiaeth a gweithgareddau ategol—diffiniadau sy'n mynd at wraidd y Bil. Dyma bŵer eithriadol o eang a allai newid natur a chyrhaeddiad y Bil hwn yn sylfaenol. Felly, yn ogystal â cheisio eglurder ynghylch pam yr hawlir y pŵer hwn, fe wnaethon ni argymell, os yw'r Gweinidog yn cadw adran 50, y dylai gweithdrefn uwch-gadarnhau fod yn berthnasol i'r pŵer rheoleiddio.

Felly, dim ond i gloi, Llywydd, daethom i'r casgliad nad yw'r Bil, fel y mae ar hyn o bryd, yn y fframwaith eang hwn sydd ganddo, mewn gwirionedd yn darparu dull synhwyrol a chyfansoddiadol briodol o ddeddfwriaeth a bod ganddo rai diffygion sylweddol. Ond gellir gwella'r rhain wrth basio'r Bil, felly, er budd llunio cyfraith gadarn, gobeithiwn fod y Gweinidog, sydd wedi cynnig ysgrifennu atom yn fanwl ar ein hargymhellion, yn gwrando ar y pryderon hynny, sy'n argymhellion synhwyrol, ac yn gallu mynd i'r afael â hyn yn gadarnhaol wrth i'r Bil fynd rhagddo. Diolch yn fawr iawn.

17:45

Diolch, Llywydd, a dwi'n falch o gael cyfrannu yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a dwi'n falch iawn o ddiolch i'r Gweinidog am roi tystiolaeth, ac i'r tîm clercod ac i'r Aelodau am eu gwaith. Dwi'n siŵr bod y Gweinidog yn falch ein bod ni ddim wedi rhoi cymaint o recommendations i mewn â rhai o'r pwyllgorau eraill; dŷn ni wedi rhoi 10 argymhelliad. Felly, dwi'n diolch i'r Gweinidog am ddarparu ymateb i ni cyn y ddadl hon ac am dderbyn naw o'r argymhellion hynny.

Yn anffodus, fel sydd wedi digwydd gyda chymaint o Filiau a gyflwynwyd i'r Senedd, mae diffyg gwybodaeth yn yr asesiad effaith rheoleiddiol sy'n cyd-fynd â'r Bil wedi'i gwneud yn anodd i'r pwyllgor asesu cyfanswm costau'r Bil.

Yn benodol, mae gennym ni bryder sylweddol ynghylch y diffyg gwybodaeth ariannol sydd ar gael yn ymwneud â'r cynllun rheoli tir cynaliadwy yn y dyfodol a gyflwynir gan y Bil hwn, nad yw wedi'i gwblhau eto. Dyma'r gost fwyaf sylweddol sy'n deillio o'r Bil ac mae'n tybio y bydd taliadau blynyddol Llywodraeth Cymru i ffermwyr yn £278 miliwn, dan gynllun rheoli tir cynaliadwy y dyfodol. Ond mae'n ymddangos bod diffyg yng nghyllid Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Tua £370 miliwn y flwyddyn yw'r cyllid y mae ffermwyr yn ei gael ar hyn o bryd drwy'r polisi amaethyddol cyffredin—bron i £100 miliwn yn fwy na chost y cynllun newydd. Dywedodd y Gweinidog mai'r £100 miliwn 'coll' oedd cyllid y cynllun datblygu gwledig, sydd heb ei gynnwys, gan nad yw'n daliad uniongyrchol i ffermwyr. Fodd bynnag, nid ydym yn glir beth mae'r costau cynllun datblygu gwledig a amlinellir yn opsiwn 3 o'r asesiad effaith rheoleiddiol yn ymwneud â nhw. Rydym yn falch felly bod y Gweinidog wedi cytuno ar argymhelliad 2 o'n heiddo a byddwn yn darparu manylion pellach yn ymwneud â'r elfen hon pan gyflwynir yr asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig yn dilyn Cyfnod 2.

Mae gennym bryderon am fforddiadwyedd y cynllun newydd, yn enwedig os yw pob busnes fferm yn hawlio'r uchafswm dyledus. Rydym yn argymell bod y Gweinidog yn gwneud gwaith modelu i amcangyfrif cost flynyddol y cynllun newydd, yn ddibynnol ar y gwahanol fentiau o gyllid a hawlir mewn gwahanol fathau o ffermio. Mae'r Gweinidog wedi cytuno mewn egwyddor, ond dywedodd na fydd yr amserlenni yn caniatáu cynnwys gwybodaeth ychwanegol yn yr asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig. Fodd bynnag, rydym yn nodi y bydd y gwaith modelu amgylcheddol ac economaidd a wneir yn llywio dyluniad y cynllun arfaethedig terfynol, ac rydym yn falch o glywed yr ymrwymiad i ymgynghori ar y cynllun terfynol ddiwedd eleni.

Rydym yn siomedig nad yw'r Gweinidog yn gallu derbyn argymhelliad 6. Gofynnodd yr argymhelliad hwn am waith pellach i asesu'r gost i'r sector preifat sy'n gysylltiedig â choedwigaeth sy'n codi o ganlyniad i ychwanegu amodau i drwyddedau newydd. Fodd bynnag, fe'n calonogir ni o glywed ymateb y Gweinidog nad oes unrhyw gostau ychwanegol i'r sector preifat yn cael eu rhagweld yn fwy na'r hyn ydyn nhw eisoes. Mae costau TG sylweddol hefyd i ddatblygu system newydd ar gyfer ceisiadau ar-lein a rheoli contractau o £35.5 miliwn. Rydym yn falch mai hoff ddewis y Gweinidog yw gwella ac adeiladu ar y system bresennol a'i bod wedi cytuno ar argymhelliad 8 i roi manylion pellach am gostau datblygu TG yn yr asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig.

Ar ben hynny, amcangyfrifir bod y gost i ffermwyr sy'n cwblhau cais ar-lein 50 y cant yn uwch na chynnal y sefyllfa sydd ohoni, a gall hyn rwystro ffermwyr, yn enwedig ar ffermydd llai, rhag gwneud cais am y cynllun. Rydym yn ddiolchgar i'r Gweinidog am dderbyn argymhelliad 9 ac mae ei hymrwymiad bod gwneud y broses ymgeisio yn gyfeillgar i ddefnyddwyr yn egwyddor ddylunio bwysig a fydd yn cael ei mabwysiadu lle bo modd. Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn ysgwyddo oddeutu £2.8 miliwn o gostau ychwanegol. Rydym yn ymwybodol bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn wynebu cyllideb wastad am y flwyddyn ariannol nesaf, sy'n gyfystyr â thoriad mewn termau real. Fe ofynnon ni am eglurhad a fydd cyllid ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru neu a fydd disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru amsugno'r costau hyn i'r gyllideb bresennol. Er bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, yn anffodus, nid yw'r naratif a roddodd yn ateb y cwestiwn.

Llywydd, rwy’n ymwybodol o’r amser, ond hoffwn godi mater pwysig sy'n ymwneud ag ystyried cynigion am benderfyniadau ariannol. Rwy’n cydnabod y ffaith bod y Gweinidog wedi ymateb cyn y ddadl heddiw, ond nid dyna’r arfer. Mae ymatebion fel arfer yn cael eu cyhoeddi ar ôl y ddadl Cyfnod 1, gyda’r penderfyniad ariannol yn cael ei ystyried yn syth ar ôl cytuno ar y cynnig Cyfnod 1. Nid yw’r broses hon yn caniatáu i Aelodau o’r Senedd hon ystyried y goblygiadau ariannol yn llawn cyn y mae gofyn iddyn nhw awdurdodi gwariant sy’n deillio o Fil. Rydym yn teimlo bod hyn hefyd yn tanseilio ymdrechion y pwyllgor, a’i fod yn cynyddu'r risg yn sylweddol y bydd y Senedd yn pasio deddfau gyda chanlyniadau ariannol ansicr.

Rydw i wedi bod mewn gohebiaeth efo’r Prif Weinidog ac wedi awgrymu, pan nad yw’n bosibl i Weinidog ymateb cyn dadl Cyfnod 1, y byddai’n briodol trafod y cynnig ar gyfer penderfyniad ariannol o leiaf wythnos yn ddiweddarach. Rwy’n aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru, ond rwy’n siŵr y byddai’r Siambr hon yn cytuno, o ystyried y pwysau presennol ar y gyllideb gyhoeddus, ei bod yn bwysicach nag erioed bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymaint o eglurder a sicrwydd â phosibl cyn y mae'n gofyn i’r Senedd ymrwymo adnoddau. Diolch yn fawr.

17:50

Fel bob amser, rwy'n ddiolchgar iawn am gael y cyfle i gyfrannu yn y ddadl y prynhawn yma. Byddwn yn pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil hwn.

Fel y soniwyd eisoes, mae hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth nodedig i gymuned amaethyddol Cymru. Am y tro cyntaf erioed, mae Cymru ar fin manteisio ar gael ei deddfwriaeth amaethyddol gyntaf, a luniwyd yma yng Nghymru, wedi'i theilwra i natur y diwydiant yng Nghymru a'i phwysigrwydd i'n diwylliant a'n hiaith. Fel seneddwr Cymreig yn y Senedd hon, mae hon yn sicr yn egwyddor yr wyf yn hynod falch ohoni, ac erbyn hyn, fel Gweinidog materion gwledig, mae gennych chi fwy o bwerau nag oedd gennych chi gynt.

Gyda goresgyniad anghyfreithlon Putin ar Wcráin yn dal sylw pwysig ar arwyddocâd sofraniaeth bwyd, a'r pwysau a welir gan ddefnyddwyr a chynhyrchwyr bwyd, mae hynt y Bil hwn drwy'r lle hwn ar adeg bwysig gartref ac yn fyd-eang. Ac, er mwyn dwyn ymadrodd gan Bon Jovi, Llywydd, mae'r Bil amaethyddiaeth hwn hanner ffordd yno, felly, wrth inni fynd ymlaen i Gyfnod 2, boed inni gyrraedd pen y daith gyda'r Bil hwn.

Mae'r angen i ganolbwyntio ar gynhyrchiant yn bwysig. Gyda rheoli tir cynaliadwy yr amcan allweddol, a swyddogaeth flaenllaw y gymuned amaethyddol wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae'n rhaid inni barhau i weld cynhyrchu cynnyrch Cymreig o safon uchel a'r defnydd cynaliadwy o'n tir fel dwy ochr i'r un geiniog. Drwy dechnoleg a gwell arferion ffermio, mae'n hawdd cael mwy o lai heb ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael i ni. Mae'n hanfodol felly yr adlewyrchir cynhyrchiant yn y ddeddfwriaeth hon.

Felly, mae'n bwysig inni weithredu'r ddeddfwriaeth yma'n briodol. Rwy'n croesawu'r ffaith nad yw'r Llywodraeth wedi rhuthro'r polisi amaethyddol hwn; maen nhw wedi cymryd eu hamser drwy ymgynghori a thrafod gyda'r gymuned ffermio i gael y Bil i ble mae heddiw—ymhell o'r sefyllfa yr oedden ni ynddi gydag ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' yn 2018. Ond, gyda hynny, mae angen sicrwydd ar ein cymuned amaethyddol. Mae ar ein ffermwyr angen y gallu hanfodol hwnnw i allu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ac, er bod y ddeddfwriaeth ddrafft hon yn gwneud hynny i ryw raddau, rwy'n dal i feddwl y gall fynd ymhellach. Nid yw'r gallu hwnnw i gynllunio ymlaen llaw yn benodol i fusnesau fferm yn unig, ond yng nghyd-destun ehangach yr amcanion rheoli tir cynaliadwy. Economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol—maen arnyn nhw i gyd angen y gallu hwn. Ond, yn ogystal â hyn, fe ddylem ni sicrhau y caiff y pedwar amcan eu harddangos a'u dehongli ar un sail gyfartal, gan gael gwared ar y posibilrwydd o amwysedd neu unrhyw flaenoriaethu. Drwy sicrhau y gwneir hyn, gallwn sicrhau bod pob un o'r pedwar amcan yn cael blaenoriaeth gyfartal ac yn cydblethu wrth eu gweithredu, fel na ellir symud unrhyw bwyslais o un i'r llall.

Mae un daten boeth o'r fath ynghylch y cyfyngiad o rai elfennau o reoli plau. Mae'n dal yn amheus a yw'r Bil yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau yn effeithiol, gan gael gwared ar reolaeth plâu yr un pryd—posibilrwydd bod gwrthddywediad rhwng dwy ran o'r Bil. Ac felly, mae hyn yn fater o eglurder yr wyf yn edrych ymlaen at ei geisio yn ystod Cyfnod 2 o hynt y Bil.

Mae'r Bil hwn yn uchelgeisiol, ond gydag uchelgais o'r fath, rhaid i ni sicrhau bod digon o wirio. Drwy roi rheidrwydd ar Lywodraeth Cymru i adrodd yn ôl ar eu huchelgeisiau allweddol, gallwn sicrhau bod Gweinidogion yn clywed y diweddaraf ac y caiff pob amcan yn y ddeddfwriaeth hon ei gyflawni'n llwyddiannus, oherwydd ni allwn ni fforddio i'r naill na'r llall o'r pedwar amcan fethu.

Llywydd, mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i gymuned amaethyddol Cymru. Oes, mae yna heriau o'n blaenau ni, ond rwy'n falch o'r gwaith mae ein ffermwyr wedi ei wneud ac yn parhau i'w wneud wrth fwydo cenedl a gwarchod ein hamgylchedd. Gobeithio y bydd Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn ei ffurf derfynol yn adleisio'r balchder hwnnw yn ein ffermwyr, gan groesawu'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr i'r tir. Diolch yn fawr.

17:55

Mae'r siwrnai er mwyn cyrraedd y rhan yma o'r daith wedi bod yn un hir ac, ar adegau, wedi bod yn reit dymhestlog. O'r eiliad y cafwyd y datganiad fod y Deyrnas Gyfunol am adael yr Undeb Ewropeaidd, roedd hi'n amlwg bod yna her anferthol am fod o flaen y sector amaethyddol. Dechreuwyd y daith efo cam gwag, wrth i'r Llywodraeth gyflwyno 'Brexit a'n tir'. Ond, o ludw y cynllun hwnnw, dysgwyd gwersi pwysig am gydweithio, gwrando a chydgynllunio, ac mae'r blaid hon wedi bod yn glir wrth leisio barn y gymuned amaethyddol yn hyn o beth, sydd wedi dod â ni i'r fan yma heddiw.

Rŵan, gadewch i ni beidio ag anghofio yr egwyddorion craidd hyn: mae'n rhaid i bawb gael bwyd, ac mae angen i'r bwyd yna gael ei gynhyrchu gan rywun, yn rhywle, mewn modd cynaliadwy. Dyna ydy rôl y ffermwr. Mae ffermwyr yn cynhyrchu bwyd fel ein bod ni ddim yn gorfod gwneud hynny, fel ein bod ni yn medru eistedd neu sefyll yma yn dadlau a datblygu polisi. Felly, roedd yn syndod gweld y drafft cyntaf heb unrhyw sôn o gwbl ynddo am bwysigrwydd cynhyrchu bwyd. Ond rŵan, drwy gydweithio â Phlaid Cymru a gwrando ar lais yr amaethwyr, mae cynhyrchu bwyd yn ddeilliant craidd yn y Bil, sydd i’w groesawu.

Mae sicrhau budd economaidd a chymunedol ein hamaethwyr hefyd yn holl bwysig. Os nad ydy darn o ddeddfwriaeth ynghylch amaeth yn creu fframwaith sydd yn diogelu'r economi wledig yna mae'n ddeddfwriaeth sydd yn methu ein cynhyrchwyr bwyd ac yn methu ein cymunedau gwledig. Dyna pam i'r gymuned amaethyddol a ni yma ym Mhlaid Cymru, drwy waith clodwiw Cefin Campbell fan hyn, wthio mor galed i sicrhau bod gwerth economaidd yn gynwysedig ar wyneb y Bil. Dyma ichi ffrwyth llafur blynyddoedd o gydweithio a gwrando ar lais y gymuned amaethyddol, a chydweithio efo Llywodraeth i gyrraedd nod cyffredin.

Dwi am gymryd ennyd i ganolbwyntio ar welliannau eraill sydd wedi cael eu derbyn gan y Llywodraeth fel rhan o'r bartneriaeth cydweithredu. Mae'r amcan cyntaf, yn ogystal â sôn am gynhyrchu bwyd, bellach yn pwysleisio pwysigrwydd gwytnwch busnesau amaethyddol o fewn eu cymunedau. Mae hyn am gryfhau y Bil yn sylweddol, gan ddangos pwysigrwydd hyfywedd economaidd hirdymor y fferm deuluol Gymreig. Yn ogystal â hyn, mae yna dri pwrpas ychwanegol wedi cael eu drafftio o fewn adran 8 o'r Bil, fydd yn helpu i gefnogi ein cymunedau gwledig, gwella gwytnwch busnesau amaethyddol, a chynnal y Gymraeg a'n diwylliant. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid croesawu a chydnabod rôl y Blaid mewn sicrhau parhad y taliadau sylfaenol yn ystod y cyfnod trawsnewidiol yma sydd i ddod.

Ond, erys rhai cwestiynau o hyd, ac wrth ein bod ni'n edrych i ddechrau ar graffu y Bil, rwy'n awyddus i'r Llywodraeth feddwl am atebion cadarnhaol neu ddatrysiadau boddhaol i rai o'r cwestiynau a'r heriau sydd yn cael eu cynnig gan y Bil o'n blaenau. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy wedi codi nifer o gwestiynau sydd heb dderbyn atebion clir hyd yma, ac mae angen inni gael yr atebion yma yn ystod y cyfnod craffu er mwyn rhoi hyder i bawb sydd ynghlwm â ffermio a buddiannau natur yr un modd. Er enghraifft, 10 y cant o goed. Er yn ymddangosiadol amlwg, mae yna amwysedd ynghylch beth y mae hyn yn ei olygu wrth ei weithredu—10 y cant o ba ddarn o dir, a pha fath o goed? Yn yr un modd, mae angen eglurder am y 10 y cant o dir gwlyb.

Mae ffermwyr yn gorfod cynllunio eu busnesau flynyddoedd o flaen llaw wrth baratoi tir ar gyfer grawn neu wrth fagu a thewhau anifeiliaid, ac maen nhw'n gorfod gwneud hynny yn wyneb marchnad sydd, yn aml, yn ansefydlog ac yn medru newid dros nos. Felly, byddai rhoi cyllideb rhag blaen o dair blynedd yn sefydlogrwydd, gan helpu i sicrhau cyflenwad bwyd yr un pryd. Tybed fyddai’r Gweinidog yn fodlon rhoi setliad tair blynedd i’r sector amaethyddol? 

Mae hefyd angen craffu manwl ar effaith y Ddeddf arfaethedig yma ar ffermydd tenant a'r rhai sy'n ffermio tir comin. Dŷn ni wedi clywed ychydig o eiriau yn ein symud ni i'r cyfeiriad cywir yn hyn o beth, ond mae angen eglurhad a chadarnhad pellach.

Yn olaf, mae ffermwyr Cymru yn ymwybodol iawn o’u dyletswyddau amgylcheddol, yn gweld y newid yn y byd natur o flaen eu llygaid ac yn profi newid hinsawdd yn ddyddiol. Maen nhw’n awyddus i chwarae eu rhan wrth i ni geisio gwyrdroi y cwymp ym myd natur a sicrhau nad ydy tymheredd y byd yn cynyddu y tu hwnt i 1.5 gradd yn uwch na’r hyn ydoedd yn yr oes cyn-ddiwydiannol. Felly, dwi’n edrych ymlaen i gydweithio â’r sector a phartneriaid eraill wrth graffu a mireinio'r Bil yma, ac mi fyddwn ni'n pleidleisio o blaid y cynnig er mwyn ein galluogi ni i fynd i Gyfnod 2. Diolch. 

18:00

Diolch i'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig am ganiatáu i aelodau'r pwyllgor newid hinsawdd gymryd rhan yn yr ymchwiliad gwirioneddol bwysig hwn wrth graffu ar Gyfnod 1 y Bil. Roeddwn i eisiau siarad ychydig yn fwy am argymhelliad 9, sef yr angen am fwy o eglurder ar swyddogaeth caffael lleol a chadwyni cyflenwi bwyd lleol, a sut fydd y Bil yn eu cefnogi.

Mae yna swm teilwng o wybodaeth yn y memorandwm esboniadol am ddiogeledd bwyd, sy'n bryder mawr i mi. Felly, rwy'n cymeradwyo'r lefel honno o fanylion, ac, yn amlwg, ymchwiliwyd llawer i'r hyn rydym ni'n ei olygu wrth ddiogeledd bwyd. Felly, diogeledd bwyd yw gallu pobl Cymru i gael gafael ar ddigon o fwyd maethlon i ddiwallu eu hanghenion dietegol ar gyfer bywyd iach. Nid effeithir arno gan faint o fwyd sydd ar gael yn unig, ond hefyd ei fforddiadwyedd, ei ansawdd a'i ddiogeledd. Yn amlwg, mae gennym ni argyfwng diogeledd bwyd mawr yng Nghymru, oherwydd bod cymaint o'n poblogaeth yn methu cael gafael ar fwyd iach, oherwydd yn syml, nid ydynt yn gallu ei fforddio. Nid yn unig hynny, mewn llawer o achosion, mae llawer gormod o bobl, ni waeth beth fo'u hincwm, nad ydyn nhw'n bwyta bwyd maethlon oherwydd yn syml, dydyn nhw ddim yn deall bod bwyd wedi'i brosesu yn llawn ategolion—pethau sy'n ddrwg iawn, iawn iddyn nhw. Felly, rwy'n credu, gan dynnu sylw at y dystiolaeth o Gynghrair Gweithwyr y Tir, oedd yn dadlau mai'r hyn oedd ar goll o'r Bil oedd, mewn gwirionedd, rai cyfeiriadau at sut rydym ni'n mynd i ddatblygu'r system fwyd i gryfhau ein diogeledd bwyd, oherwydd bwriedir i'r Bil hwn fod am yr 20 neu 30 mlynedd nesaf, felly, mae gwir angen i ni wneud pethau'n iawn.

Soniodd Samuel Kurtz am y rhyfel yn Wcráin, sy'n un agwedd, ar hyn o bryd, y byddwn yn ystyried fel amhariad dros dro ar ddiogeledd bwyd. Agwedd llawer mwy arwyddocaol rwy'n credu yw'r holl faterion newid hinsawdd a symudiad poblogaethau cyfan nad ydynt yn gallu byw mewn ardaloedd o'r byd oherwydd yn syml, ni allant gynhyrchu unrhyw fwyd. Ac, felly, mae hwn yn fater llawer mwy arwyddocaol. Sonnir hefyd yn y memorandwm esboniadol am rôl ymwrthedd gwrthficrobaidd, sydd ar gyfer pobl ac anifeiliaid, ac mae hynny'n fater sylweddol iawn hefyd.

Felly, rwy'n credu, hoffwn weld llawer mwy o fanylion ynghylch sut mae'r Bil yn ein herio yn ein hamcanion ynghylch rheoli tir cynaliadwy i wir ddatblygu'r rhwydweithiau bwyd lleol hynny a fydd yn galluogi pobl i gael mynediad at fwyd ffres iawn, wedi'i gynhyrchu mewn ffordd nad yw'n tanseilio ansawdd ein pridd, ac yn sicrhau nad ydym yn rhwym i daith anesmwyth iawn yn y dyfodol wrth i ni bontio o'r argyfwng newid hinsawdd. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi rhywfaint o sicrwydd i ni, wrth i ni fwrw ymlaen â'r Bil i Gyfnod 2, y bydd llawer iawn mwy o wybodaeth am sut rydym ni'n mynd i wneud hynny. 

Diolch, Gweinidog, am eich holl waith yn hyn o beth. Rydym ni wedi clywed gan lawer sut y mae hwn mewn gwirionedd yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ail-lunio polisi amaethyddol yng Nghymru, yn dilyn ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r gwelliannau munud olaf i'r Bil hefyd yn cael eu croesawu, sef ychwanegu rhywfaint o fanylion ychwanegol ar sicrhau cynaliadwyedd busnesau fferm. Hoffwn godi rhai meysydd penodol o fy rhan fy hun. Un ohonyn nhw rydym ni wedi clywed amdano yw cynhyrchu bwyd. Yn fy sgyrsiau—ac rwy'n gwybod bod eraill wedi codi hyn hefyd—gyda ffermwyr, eu pryder mwyaf yw eu bod yn pryderu nad oes mecanwaith ar gyfer mesur cynhyrchu bwyd fel nwydd cyhoeddus. Er bod cynhyrchu bwyd yn cael ei amlygu yn y Bil fel nwydd cyhoeddus allweddol, nid oes modd yn y mecanwaith cyflenwi, sef y cynllun ffermio cynaliadwy, i ffermwyr gael eu gwobrwyo am y nwydd cyhoeddus hwnnw. Felly, yr hyn yr hoffwn wybod yw pa un a yw cynhyrchu bwyd wedi'i nodi fel nwydd cyhoeddus, yn enwedig pan fo pwys mawr ar ein diogeledd bwyd ein hunain, rydym ni wedi clywed amdano gan eraill yn y Siambr, yn enwedig mewn perthynas â'r gwrthdaro sy'n dod i'r amlwg yn Wcráin. A gaf i ofyn i'r Bil greu mecanwaith i ffermwyr gael eu gwobrwyo amdano? Ac mae'n rhaid i ddiogeledd bwyd fod wrth wraidd y Bil. Byddwn i'n awyddus i glywed mwy gan y Gweinidog am sut mae hi'n bwriadu sicrhau bod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo.

Mater arall yr hoffwn ei godi yw un y safonau gofynnol cenedlaethol. Fy marn i yw bod angen llinell sylfaen reoleiddio gadarn ar y cynllun ffermio cynaliadwy cyn dechrau'r cynllun, y gall y cynllun fethu â chyflawni ei uchelgeisiau hebddi. Felly, roeddwn i'n pendroni, Gweinidog, a allech chi roi sicrwydd i ni yn y Siambr heddiw ynghylch a fydd y safonau gofynnol cenedlaethol yn barod mewn pryd ar gyfer dechrau'r cynllun ffermio cynaliadwy.

Yn olaf, ac rydym ni wedi clywed hyn gan Gadeirydd y pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, yw  ffermwyr tenant yn gallu manteisio ar y cynllun. Mae yna bryder mawr y bydd ffermwyr tenant, yn enwedig newydd-ddyfodiaid, yn cael eu llesteirio gan fethu o bosib â gwneud y newidiadau angenrheidiol i brydlesu'r tir er mwyn cael mynediad at y cynllun, er enghraifft cadw at yr amod gorchudd coed o 10 y cant. Gyda hynny mewn golwg, tybed a fyddech chi'n fodlon gweithio gyda mi ac eraill ar ba asesiad sydd wedi'i wneud i sicrhau bod ffermwyr tenant, yn enwedig newydd-ddyfodiaid, yn cael rhywfaint o drugaredd er mwyn gallu cael mynediad i'r cynllun. Mae cyfleoedd gwirioneddol i gynyddu newydd-ddyfodiaid, sef yr hyn sydd ei angen arnom ni mewn perthynas â'n heconomi wledig, i sicrhau bod gennym ni gynaliadwyedd hirdymor ac yn gwarchod ein ffermio yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at ddyfodol o weithio gyda'r Gweinidog ac eraill yn y Siambr hefyd. Diolch yn fawr iawn.

18:05

Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae'n un o'r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth, rwy'n credu, y bydd y Senedd yma yn craffu arno. Nid yn unig mae'n llunio dyfodol ffermio Cymru, ond ein treftadaeth naturiol, ein heconomi a'n diwylliant, ac yn arbennig yn y canolbarth a'r gorllewin, felly mae angen i ni wneud pethau'n iawn. Rwy'n falch o gefnogi argymhellion pwyllgor ETRA a chytuno ar yr egwyddorion cyffredinol ac i fynd ymlaen i Gyfnod 2, ond—ac mae yna 'ond'—mae'n rhaid i mi wneud tri phwynt, ac mae rhai ohonyn nhw wedi eu gwneud.

Mae'r Bil yn sefydlu rheoli tir cynaliadwy fel y fframwaith, a chyfeiriwyd at hynny, ond beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd? Os edrychwn ni ar, er enghraifft, yr unedau dofednod dwys yr ydw i wedi eu crybwyll lawer, lawer gwaith, a phryderon gwirioneddol Cynghrair Gweithwyr y Tir Cymru a Bwyd Cynaliadwy Trefyclo, a fydd yma'r wythnos nesaf, pa wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud i'r llu hwnnw o unedau dofednod dwys, er enghraifft? Mae 150 yno'n barod, gan gartrefu tua 10 miliwn o ieir, ac rwy'n credu y dylen ni gael moratoriwm nes ein bod ni wedi edrych ar y difrod y mae hynny wedi'i wneud. Fe wnaeth Jenny Rathbone sôn am ymwrthedd gwrthficrobaidd, a phan fyddwch chi'n masgynhyrchu pethau fel cyw iâr, yna mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd hynny'n treiddio i'r boblogaeth, ac rydym ni i gyd yn gwybod bod problemau byd-eang gyda gwrthfiotigau i bobl a'u heffeithiolrwydd. Mae Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru wedi rhybuddio bod bywyd yn Afon Gwy yn diflannu’n dawel. Felly, beth fydd y Bil hwn yn ei wneud i fynd i'r afael â'r pryderon amgylcheddol hynny, yr wyf newydd roi rhai enghreifftiau i chi ohonyn nhw?

Felly, yr ail bwynt yw cynlluniau pontio ar gyfer cymorth ariannol. O ystyried fy mhwynt cyntaf, yn eironig, mae ychydig fel yr iâr a'r wy. Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru ac eraill yn dadlau na allwn ni bontio i'r cynllun cynaliadwyedd yn llwyddiannus heb ddyddiad terfyn ar daliadau sylfaenol. Mae'r undebau amaeth ac eraill, ar y llaw arall, yn dadlau na allwn ni bontio'n llwyddiannus i'r cynllun cynaliadwyedd heb sefydlogrwydd y cynlluniau taliadau sylfaenol. Felly, pa un yw hi? Rwy'n sylweddoli y byddwch yn ymgynghori ar hyn, ond a allwch chi ddatgelu eich ffordd o feddwl, Gweinidog? Ydych chi'n ystyried newid graddol, er enghraifft, fel yr awgrymir gan yr RSPB?

Ac yn drydydd, hoffwn godi mater mynediad i'r cyhoedd. Amlygodd y pandemig bwysigrwydd a hefyd cyfyngiadau mynediad y cyhoedd i fannau gwyrdd a glas, yn achos ein dyfrffyrdd a'n tiroedd glas. Felly, rwy'n llwyr gefnogi cynnig Cyswllt Amgylchedd Cymru i gryfhau'r darpariaethau hyn yn y Bil. 'Mae'r wlad hon yn eiddo i ti â mi', ebe'r gân, ond, ar hyn o bryd, mae gormod ohono'n anhygyrch neu'n waharddedig. O ran dyfarniad diweddar yr Uchel Lys ar wersylla gwyllt ar Dartmoor, dywedodd Plaid Lafur y DU y byddai'n pasio Deddf hawl i grwydro. Ydy hynny'n rhywbeth mae'r Gweinidog wedi myfyrio arno yng nghyd-destun datblygu'r Bil hwn i'r cyfnodau nesaf?

18:10

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'n fawr yr holl sylwadau sydd wedi'u gwneud gan Aelodau heddiw a'r ysbryd y maen nhw wedi'u gwneud ynddo. Rwyf wedi nodi heddiw pam fy mod yn credu bod y Bil hwn yn gam pwysig wrth ddiwygio'r byd amaethyddol yma yng Nghymru ac rwyf wedi gwrando'n astud iawn ar farn ac argymhellion y tri phwyllgor ac, wrth gwrs, yr Aelodau eraill hefyd.

Mae'r Bil yn darparu'r fframwaith ar gyfer cyflawni pob cymorth amaethyddol yn y dyfodol, ac mae gennym hefyd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig, sef y cynllun cymorth cyntaf i'r dyfodol a phrif ffynhonnell cymorth gan y Llywodraeth yn y dyfodol i ffermwyr ledled Cymru. Mae angen sicrhau bod mynediad i'r cynllun ffermio cynaliadwy ar gael i bob ffermwr sy'n gymwys yng Nghymru. Cyfeiriodd aelodau, gan gynnwys Jane Dodds, at ffermwyr tenantiaid, ac rwyf wedi dweud ar hyd yr amser os nad yw'n hygyrch i ffermwyr tenant, yna ni fydd yn gweithio. Mae'n bwysig iawn bod y cynllun yma yn gweithio i bob ffermwr ar bob math o fferm ledled Cymru. 

Rwyf wedi gweithredu nifer o weithgorau gyda ffermwyr i ddeall y cyfleoedd sy'n bodoli, ond hefyd i weld pa rwystrau sydd yna. Felly, gweithgorau mewn cysylltiad â thenantiaid, gweithgorau mewn cysylltiad â newydd-ddyfodiaid, fel y soniodd Jane Dodds eto, a gweithgorau ar dir comin i wneud yn siŵr bod gennym y sector ffermio bywiog yna yma yng Nghymru. 

I ailadrodd fy sylwadau agoriadol, does gen i ddim amser i fynd drwy'r holl argymhellion nac i ymdrin â chwestiynau pob Aelod, ond byddaf yn sicr yn gwneud fy ngorau i ymdrin â llawer ohonyn nhw. Byddaf yn dechrau gyda Paul Davies, fel Cadeirydd pwyllgor ETRA. Gofynnodd am eglurder pellach ar gwmpas y gefnogaeth ar gyfer gweithgareddau ategol. Gwn mai dyna un o'ch argymhellion i mi, a byddaf yn rhoi eglurder pellach ar gwmpas y gefnogaeth ar gyfer gweithgareddau ategol o fewn y memorandwm esboniadol. Felly, nid oes angen gwelliant. Mae cwmpas gweithgaredd ategol yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth ac maen nhw'n gyflenwol i'r gweithgareddau sy'n cael eu dal o dan y diffiniad o 'amaethyddiaeth'. Felly, er bod 'gweithgareddau ategol' yn weddol eang, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, mae er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i allu ymateb i ddatblygiadau yn y sector yn y dyfodol a galluogi'r gefnogaeth honno i fod yn fwy cynhwysol yn y gadwyn gyflenwi.

Soniodd sawl Aelod, gan gynnwys Paul Davies, am y safonau gofynnol cenedlaethol. Maen nhw eisoes yn bodoli yn y gyfraith, a'r hyn rwyf i wedi gofyn i swyddogion ei wneud yw archwilio pa un a yw deddfwriaeth newydd—boed hynny'n ddeddfwriaeth sylfaenol neu'n is-ddeddfwriaeth—yn ofynnol i sefydlogi'r waelodlin reoleiddio bresennol, er enghraifft, a'r rheoliadau.

Huw Irranca-Davies—eto, byddaf yn ymateb i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad—fe wnaethoch chi sôn am y cymal machlud sydd yn Neddf Amaeth y DU, a fydd yn amlwg yn dod i ben yn 2025. Rwyf wedi datgan yn y gorffennol na fyddwn yn rhoi cymal machlud ar y Cynllun Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol. Rwy'n gwybod eich bod wedi gwrando ar—sori, fe wnaeth pwyllgor Paul Davies, rwy'n gwybod, wrando ar—sesiwn dystiolaeth eithaf da, roeddwn yn credu, gan randdeiliaid ar gynlluniau pontio a darpariaeth machlud ar gyfer y Bil. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod yr undebau amaeth a sefydliadau amgylcheddol wedi cytuno na ddylai fod ymyl clogwyn mewn cefnogaeth ariannol, ac rwyf wastad wedi dweud hynny, ond roedd yna farn amrywiol ar yr angen i ddeddfu ynghylch cyfnod pontio neu ynghylch cyfnod machlud, felly—. Rwy'n sylwi nad ydych yn cefnogi darpariaeth machlud. Rwy'n credu y bydd manylion pellach am sut, y system newydd o gymorth amaethyddol, wrth gwrs yn ffurfio rhan o'r ymgynghoriad cynllun ffermio cynaliadwy terfynol.

Soniodd Huw Irranca-Davies hefyd am y diffiniad o reoli tir yn gynaliadwy. Mae hynny eisoes wedi'i ddiffinio yn y Bil gan y pedwar amcan a'r ddyletswydd rheoli tir cynaliadwy. Mae amcanion a dyletswydd rheoli tir yn gynaliadwy wedi eu llywio gan ddiffiniad y Cenhedloedd Unedig, a ddatblygwyd yng nghyd-destun deddfwriaethol penodol yng Nghymru, yn amlwg, o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Oherwydd bod gennym y ddeddfwriaeth eisoes, mae wedi bod yn eithaf hawdd bachu ynddi a chael y cysondeb hwnnw. Ond hefyd rydyn ni wedi cael ymgynghoriad ac ymgysylltu rhanddeiliaid helaeth ynghylch hynny hefyd—

18:15

A wnaiff y Gweinidog ildio ar hynny? Dydw i ddim am wthio'r pwynt hwn ond, yn rhyfedd iawn, mewn gwirionedd, mae'n eithaf calonogol clywed y geiriau ar y cofnod a chlywed y geiriau o flaen pwyllgorau, ond nid yw hynny, rydych chi'n cydnabod, yn union yr un fath â'u cael ar wyneb y Bil nid fod hwn yn cael ei lywio gan, ond dyma'r diffiniad hwnnw neu fersiwn ohono. Rydw i eisiau gwneud y pwynt yna, oherwydd mae gwahaniaeth clir mewn cyfraith.

Nodaf yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud ac mae diffinio rheoli tir yn gynaliadwy wrth gyfeirio at yr amcanion a'r ddyletswydd yn rhoi sicrwydd, rwy'n credu, wrth lunio camau posibl i gyd-destun penodol rheoli tir o fewn Cymru.

Soniodd Huw hefyd ei fod yn Fil fframwaith, eang, ac, unwaith eto, gallwn gyfeirio at y weithdrefn gadarnhaol ar gyfer gwaith craffu'r Senedd pan wneir rheoliadau er mwyn lleddfu unrhyw ofnau am ehangder y fframwaith.

Soniodd Peredur am gyllid, wrth gwrs, ac mae'n anodd iawn pan nad ydych yn gwybod beth fydd eich cyllid, a phwyslais y dadansoddiad cost a budd yn y dyfodol o fewn yr asesiad effaith rheoleiddiol, oedd ar gostau a manteision darparu cymorth refeniw yn uniongyrchol i ffermwyr. Ac fel y dywedoch chi, o dan y system bresennol, y ddau gyfrannwr mwyaf yw'r cynllun talu sylfaenol a Glastir, ac mae hynny'n gyfystyr â'r £278 miliwn y cyfeirioch chi ato bob blwyddyn. Rwy'n derbyn yr argymhelliad i ychwanegu gwybodaeth ychwanegol yn ymwneud ag elfennau'r cynllun datblygu gwledig nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol er gwybodaeth, yn dilyn Cyfnod 2.

O ran CNC, mae'r costau yr ydym wedi'u priodoli i CNC yn amcangyfrifon dangosol ac nid rhagfynegiadau. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gweithio gyda CNC i benderfynu pa gostau nes ymlaen yn y dyfodol, os o gwbl, y gellir eu cyflawni o ganlyniad i'r cynlluniau rheoli tir yn gynaliadwy. Ac wrth i ni ddechrau pontio, byddaf yn gweithio i sicrhau bod unrhyw gostau nes ymlaen sy'n deillio o weithredu'r ddeddfwriaeth hon yn cael eu hystyried yn llawn.

Samuel Kurtz, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn crybwyll ac yn cydnabod yr amcanion cyflenwol o gefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Ac wrth gwrs, maen nhw mewn sefyllfa—mae ganddyn nhw gymaint o gyfleoedd—i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Ac fel Aelodau eraill—Jane Dodds, ac yn amlwg, Mabon ap Gwynfor a Cefin Campbell a chi eich hun ac yn amlwg fy ngrŵp fy hun—rwy'n edrych ymlaen at herio yng Nghyfnod 2 ac i barhau i weithio gyda chi i gyd er mwyn gwneud hyn y darn gorau oll o ddeddfwriaeth.

Holodd Mabon ap Gwynfor am y 10% ar goed a beth mae hynny'n ei olygu. Mae hynny'n cael ei ystyried fel rhan o'r cyd-ddylunio ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy. Bydd yn mynd i ymgynghoriad eto, a'r hyn yr ydyn ni'n ceisio ei wneud yw cael y sgwrs honno gyda ffermwyr a cheisio archwilio sut y gallant blannu coed fel eu bod yn dod yn gaffaeliad i gynhyrchu bwyd—felly, er enghraifft, lleiniau cysgodi neu rwystrau bioddiogelwch. Dydw i ddim yn hollol siŵr fod y cychwyn yn dymhestlog; dwi ddim yn siŵr mai 'Brexit a'n tir' oedd hynny mewn gwirionedd na'i fod yn gam gwag. Hwn oedd yr ymgynghoriad cyntaf un ac ydynt, mae pethau wedi newid, ond beth yw'r pwynt cael ymgynghoriad os nad ydych chi'n gwrando a ddim yn gwneud newidiadau? Ac rwy'n credu bod pawb wedi cyfrannu ar hyd y daith hir iawn honno y gwnaethoch chi dynnu sylw ati.

Rwy'n credu mai chi a ofynnodd am yr hierarchaeth. Ie. Does dim hierarchaeth—mae wastad wedi bod yn fwriad y byddai amcanion datblygu tir yn gynaliadwy yn cael eu hystyried gyda'i gilydd. Dydyn nhw ddim yn ddisgwyliedig—. Does dim hierarchaeth oherwydd mae disgwyl iddyn nhw fod yn gyflenwol, a dydyn ni ddim yn bwriadu newid adran 2. Rwy'n credu bod y geiriad 'yn cyflawni orau' eisoes yn bresennol yn y ddyletswydd rheoli tir yn gynaliadwy yn y cyd-destun hwnnw, ac mae dyletswydd anodd ar Weinidogion Cymru i gynyddu eu cyfraniad i'r eithaf.

Siaradodd Jenny Rathbone am ddiogelwch bwyd, a'r her fwyaf i'n diogelwch bwyd yw'r argyfwng hinsawdd, felly drwy fuddsoddi yn ein priddoedd a'n cynefinoedd a'n da byw—ac wrth gwrs yn sgiliau ein ffermwyr—i mi, mae hynny'n fuddsoddiad i ddiogelu cynhyrchu bwyd.

Ac fe gyfeiriodd Joyce Watson at Ymwrthedd Gwrthficrobaidd, AMR—rydw i mewn gwirionedd yn gwneud datganiad llafar ar AMR a'i ddefnydd, ac rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig iawn.

Felly, rwy'n ymrwymo i ysgrifennu at y pwyllgorau, Llywydd, gydag ymateb i bob un o'r argymhellion a'r materion a godwyd gan wahanol Aelodau heddiw yn ymwneud ag adroddiadau'r pwyllgor, felly gofynnaf i Aelodau gymeradwyo'r cynnig ac i gytuno ar egwyddorion cyffredinol a datrysiad ariannol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Diolch.

18:20

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 5 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf, felly, yw: a ddylid derbyn y penderfyniad ariannol, a'r cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad i hynny. Ac felly mae'r cynnig yna hefyd, o dan eitem 6, wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cyfnod Pleidleisio

Sy'n dod â ni nawr at y cyfnod pleidleisio, ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais. Ac mae'r pleidleisiau y prynhawn yma ar y ddadl ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24. A gwelliant 1 fydd yn cael ei gymryd gyntaf, felly dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-2024 - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf, felly. Pleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-2024 - Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 11, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio fydd ddiwethaf, felly, y cynnig yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, 13 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-2024 - Cynnig: O blaid: 27, Yn erbyn: 13, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ddiwedd ar y pleidleisio, a diwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:24.