Y Cyfarfod Llawn

Plenary

11/01/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Prynhawn da. Croeso i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd y prynhawn yma. Eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.

Gwella Bioamrywiaeth Afonydd

1. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella bioamrywiaeth yn afonydd Cymru? OQ58924

Rwyf wedi ymrwymo i wella bioamrywiaeth yn afonydd Cymru drwy fynd i’r afael ag ansawdd dŵr gwael. Mae hyn yn cynnwys lleihau llygredd ffosffad a gwella cynefinoedd afonydd ar gyfer pysgod mudol drwy brosiect Pedair Afon LIFE. Yn dilyn yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth, rwyf hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi atebion ar raddfa dalgylchoedd i ysgogi gwelliannau yn ansawdd dŵr.

Iawn, byddai’n well imi ddatgan buddiant yma fel hyrwyddwr eogiaid yr Iwerydd, ond mae cysylltiad annatod rhwng problemau llygredd a bioamrywiaeth yn ein hafonydd, ac mae achosion llygredd yn ein hafonydd yn niferus a bydd angen nifer o ddulliau gweithredu cydgysylltiedig i ddatrys y broblem, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog am i dasglu gwella ansawdd afonydd Cymru ddatblygu'r dulliau hynny. Mae llygredd amaethyddol o nitradau a slyri ffo, gorlifoedd carthffosiaeth cyfunol a phibwaith o oes Fictoria yn gollwng elifion yn gyson bellach, yn ddyddiol, wrth inni wynebu ymchwydd stormydd cynyddol, a ffosffadau o brosiectau adeiladu a reolir yn wael a mwy. Mae pob afon a chwrs dŵr yn wahanol, ac mae'n rhaid i bob pecyn o atebion fod yn wahanol hefyd. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi sut a phryd y byddwch yn diweddaru'r Senedd yn rheolaidd ar gynnydd yn unol â Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, ond hefyd, ac yn benodol, sut y byddwch yn gweithio gyda, ac yn y pen draw, yn gorfodi, pob rhanddeiliad i chwarae eu rhan o ran ymdrech a buddsoddiad yn y broses o lanhau ein hafonydd a’n dalgylchoedd afonydd, gan adfer cyfoeth ein bioamrywiaeth, yn cynnwys yr eog a’r sewin, y mae'r ddau ohonom yn hyrwyddwyr ar eu rhan yma yn y Senedd?

Dylwn ddweud hefyd, wrth gwrs, mai fi yw hyrwyddwr yr wystrys brodorol, sydd angen dŵr glân, da i allu ffynnu hefyd. Mae’n gwestiwn pwysig iawn, Huw, a diolch am ei ofyn. Fel y gwyddoch, sefydlwyd tasglu gwella ansawdd afonydd Cymru i werthuso’r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym. Mae Llywodraeth Cymru, CNC, cwmnïau dŵr a rhanddeiliaid y diwydiant yn rhoi cyngor annibynnol i’r tasglu ac yn cynnig mewnwelediad. Yn ôl ym mis Gorffennaf, fe wnaethant gyhoeddi cynllun ar gyfer gorlifoedd stormydd yng Nghymru, yn nodi amcanion clir a chanlyniadau mesuradwy ar gyfer cyflawni gwelliannau i reoli gorlifoedd yn y tymor byr iawn i'r tymor hwy. Ac fel rydych wedi'i nodi hefyd, mae'r tri chynllun rheoli basn afonydd yng Nghymru, a luniwyd o dan Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, bellach wedi'u cyhoeddi, sy'n dangos y cynnydd a wnaed ar wella ansawdd dŵr ledled Cymru.

Ond mae llawer o resymau pam nad yw rhai o’n hafonydd yn cyflawni statws da, ac maent wedi’u hamlinellu yn y cynlluniau, ynghyd â’r camau y mae angen eu cymryd i wrthdroi’r dirywiad. Ac fel y dywedwch yn gwbl briodol, mae angen i bawb sydd ynghlwm wrth hyn chwarae eu rhan. Ac rwy’n gwbl benderfynol, drwy fforymau fel fforwm rheoli dŵr Cymru, y grŵp goruchwylio afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig a'r tasglu gwella ansawdd afonydd, y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r gwelliannau y mae angen i ni eu gweld.

O ran sut y gallwn eu gorfodi, gŵyr pob un ohonom nad oes un mesur unigol a fydd yn datrys y broblem hon. Cynhaliodd y Prif Weinidog uwchgynhadledd, fel y gwyddoch, yn ôl yn yr haf, a bydd uwchgynhadledd ddilynol yn cael ei chynnal ym mis Chwefror. Fe wnaethom ofyn i bob sector roi’r gorau i bwyntio bys at y sectorau eraill a meddwl am yr hyn y byddent hwy fel sector yn gallu ei wneud i ddatrys eu rhan hwy o’r broblem. Pan fyddwn yn gwybod beth ydynt, gallwn roi mesurau ar waith i sicrhau y gall y sectorau wneud yr hyn y maent wedi derbyn a deall y gallant ei wneud. Ac yna, bydd gennym gynllun gweithredu y byddaf yn diweddaru’r Senedd arno’n rheolaidd ac y gallwn ei ddefnyddio i roi pwysau ar bobl—arnom ni ein hunain a CNC, ond hefyd ar bob sector arall yng Nghymru sy’n achosi’r broblem hon.

Weinidog, er y camau breision a gymerwyd i lanhau ein hafonydd dros y degawdau diwethaf, llygredd yw’r bygythiad mwyaf i fioamrywiaeth o hyd. Hoffwn dynnu sylw at y broblem benodol ar afon Tawe. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau nad yw’r gwaith i atal carthion heb eu trin rhag cael eu gollwng yn rheolaidd i mewn i afon Tawe o waith trin dŵr gwastraff Trebanos yn ne Cymru yn debygol o gael ei gwblhau tan 2030. Mae hyn yn annerbyniol, yn enwedig o ystyried bod Dŵr Cymru wedi enwi gweithfeydd Trebanos yn rhif 1 ar eu rhestr o'r 50 safle problemus gwaethaf i'r cwmni yng Nghymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cyfartaledd blynyddol o 3,500 awr o garthion heb eu trin wedi'u gollwng i afon Tawe o safle Trebanos. Weinidog, ni allwn aros saith neu wyth mlynedd arall i'r broblem hon gael ei datrys. A wnewch chi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw garthion heb eu trin yn cael eu gollwng i’r afon hon cyn gynted â phosibl? Diolch.

13:35

Ie, diolch. Yn amlwg, hoffem gyrraedd y pwynt lle nad oes carthion heb eu trin yn mynd i mewn i'r afonydd. Mae angen buddsoddiad enfawr arnom, nid yn unig yn y safle y sonioch chi amdano, ond mewn safleoedd ledled Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn cael trafodaethau gydag Ofwat a Llywodraeth y DU ynglŷn â'r adolygiad pris dŵr ar gyfer cwmnïau dŵr yng Nghymru, ac wrth gwrs, ledled y DU gyfan. Bydd yr adolygiad pris hwnnw'n pennu lefel y buddsoddiad y gallant ei wneud, ac yn cyflymu'r rhaglen fel yr hoffem ei weld. Felly, yn gyfnewid, hoffwn ofyn i chi sicrhau eich bod yn ychwanegu eich llais at ein llais ni fel Llywodraeth Cymru i Ofwat, i sicrhau bod yr adolygiad pris yn cynnwys gallu cwmni nid-er-elw fel Dŵr Cymru i fuddsoddi ar y lefel yr hoffai fuddsoddi, oherwydd, yn yr adolygiad pris diwethaf, roedd gennym broblem wirioneddol am nad ystyriodd Ofwat y ffaith nad oedd yn gwmni wedi'i gyfyngu gan gyfranddaliadau, ac mae hynny wedi cael effaith ar y gallu i fuddsoddi.

Rwy’n sicr yn cael cyfarfodydd rheolaidd â’r cwmnïau dŵr, ac rwy’n sicr yn gofyn iddynt drwy’r amser i gyflymu eu cynlluniau, ond mae'r cyfan yn dibynnu ar yr adolygiad pris dŵr. Felly, mae angen inni weithio gyda'n gilydd ac ychwanegu ein llais at hynny i sicrhau bod y mecanwaith pris yn caniatáu'r buddsoddiad rydym am ei weld, ac yn wir, nid yn unig y buddsoddiad, ond cyflymu'r buddsoddiad y byddai pob un ohonom yn dymuno'i weld.

Rheilffordd y Cambrian

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am welliannau i reilffordd y Cambrian? OQ58902

Ie, diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £800 miliwn ar fflyd newydd o drenau a fydd yn gwasanaethu teithwyr ledled Cymru. Bydd hyn yn gwella cyfleusterau a chyfforddusrwydd teithwyr, ac mae’r trenau newydd sbon hyn bellach yn rhedeg yng ngogledd Cymru, a byddant yn cael eu cyflwyno ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru eleni a’r flwyddyn nesaf.

Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Rwyf wedi sylwi ar gynnydd yn y pryderon ynghylch gwasanaeth gwael ar reilffordd y Cambrian yn benodol, ar reilffordd Aberystwyth i Amwythig. Gofynnir yn aml i deithwyr newid yn annisgwyl yn Amwythig oherwydd nifer yr unedau a ddefnyddir ar gyfer gwasanaeth trwodd. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, 21 o unedau yn unig sydd ar gael ar hyn o bryd i weithredu ar reilffordd y Cambrian—y gwn y bydd y Gweinidog yn gwybod bod ganddi system signalau unigryw—ac mae gwasanaethau’n cael eu canslo’n aml oherwydd prinder yr unedau sydd ar gael i wasanaethu canolbarth a gogledd Cymru. Bydd y trenau newydd arfaethedig, fel y mae’r Gweinidog wedi’i amlinellu, yn dod yn lle'r unedau hŷn ar sail debyg am debyg, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ond ni fyddant yn cynyddu’r nifer sydd ar gael i weithredu’r gwasanaeth cyffredinol. Felly, a gaf fi ofyn beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gynyddu nifer yr unedau yn gyffredinol i ddarparu gwasanaeth trên digonol i deithwyr ar reilffordd y Cambrian yn benodol, ac am unrhyw ddiweddariad y gallwch ei ddarparu ar y gwasanaeth trên bob awr? Diolch.

Ie, diolch, ac mae Russell George yn llygad ei le fod rhai anawsterau wedi bod ar reilffordd y Cambrian. Mae’r system reilffordd gyfan ledled y wlad wedi cael hydref anodd. Bydd y trenau newydd yr ydym yn eu cyflwyno ar reilffordd y Cambrian y flwyddyn nesaf yn gallu cludo mwy o deithwyr. Bydd mwy o gapasiti, ac wrth gwrs, bydd eu hamlder yn cynyddu i bob awr. Roeddem wedi gobeithio eu cyflwyno eleni, ond byddwn yn eu cyflwyno y flwyddyn nesaf, a chredaf ei fod wedi cyfarfod â Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar i drafod hynny.

Mae gennym hefyd rai anawsterau ar reilffordd y Cambrian am nad yw West Midlands Trains wedi dychwelyd i amserlen lawn gyda'u gwasanaethau rhwng Amwythig a Birmingham, ac mae hynny wedi cael effaith ganlyniadol ar ein gwasanaethau ninnau, ac wrth gwrs, cafwyd anawsterau yn y diwydiant drwyddo draw o ran staff newydd yn cael eu hyfforddi oherwydd ôl-groniad yn sgil COVID. Rydym wedi wynebu heriau gyda staff yn amharod i weithio goramser, ac rydym wedi cael gwaith seilwaith ar bont Abermaw, yn ogystal â chyfyngiadau’r 158 o drenau presennol, sef yr unig fflyd, fel y dywedwch, sy’n gallu gweithredu ar y rheilffordd hon, ac sy'n dod i ddiwedd eu hoes ddefnyddiol. Felly, mae arnaf ofn mai ein hapêl i deithwyr yw, 'Arhoswch damaid bach, bydd pethau'n gwella'. Ond mae pethau’n anodd ar hyn o bryd, ac rwy'n ymddiheuro am hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Natasha Asghar. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, clywsom ddoe fod Wizz Air yn rhoi'r gorau i'w holl hediadau i mewn ac allan o Faes Awyr Caerdydd, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, gan roi ergyd arall eto i’w hyfywedd. Dywedodd eich Llywodraeth fod y cam hwn, a dyfynnaf, yn 'syndod.' Fodd bynnag, ym mis Awst y llynedd, cyhoeddodd eich cyd-Aelod Cabinet, Julie James, ddatganiad ysgrifenedig yn dweud bod eich swyddogion, a dyfynnaf,

'yn parhau i gynnal deialog agos ac agored gyda Bwrdd y Maes Awyr'.

Felly, a wnewch chi egluro, Ddirprwy Weinidog, yng ngoleuni’r ddeialog agos ac agored hon, a oedd y cyhoeddiad hwn yn syndod mewn gwirionedd, neu a wnaethoch chi, eich cyd-Aelod Cabinet neu eich swyddogion dynnu eich llygad oddi ar y bêl a methu gweld hyn yn dod?

13:40

Diolch yn fawr iawn. Wel, ni welodd unrhyw un hyn yn dod gan ei fod yn benderfyniad gan y cwmni, yn wyneb yr hyn a alwyd ganddynt yn amodau macro-economaidd, i dynnu’n ôl o’r maes awyr; maent wedi tynnu'n ôl o feysydd awyr eraill hefyd. Mae'r diwydiant cyfan yn wynebu pwysau sylweddol oherwydd chwyddiant a chostau cynyddol ynni. A hefyd, mae hedfan yn sector a chanddo fodel busnes eithaf ansicr, sy'n aml yn gweithredu ar ychydig iawn o elw, felly pan fydd gennym rymoedd allanol fel hyn yn newid telerau masnach, mae hynny'n cael effaith ganlyniadol na ellir ei rhagweld, ac yn sicr, ni allwn ni ei lliniaru'n hawdd. Nid wyf yn derbyn bod hyn yn taflu amheuaeth ar ein hymrwymiad i'r maes awyr, nac yn wir ar ei ddyfodol, ac mae'n dal i fod ar y llwybr tuag at broffidioldeb. Yn anffodus, mae bellach yn mynd i fod yn llwybr hirach, gan eu bod yn gwsmer pwysig i’r maes awyr, ond rydym yn gweithio’n agos gyda rheolwyr y maes awyr i edrych ar opsiynau amgen.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Unwaith eto, rwyf bob amser yn teimlo, pan fyddaf yn siarad am Faes Awyr Caerdydd, mai rhywun arall sydd ar fai bob amser, er na allaf ddweud na chaf fy synnu gennych, Ddirprwy Weinidog, gan ei bod yn amlwg nad ydych yn talu llawer o sylw i'r pethau nad ydych yn eu hoffi. Os nad ydych yn hoffi ffyrdd, rydych yn rhoi'r gorau i'w hadeiladu; os nad ydych yn hoffi awyrennau, rydych yn rhoi'r gorau i falio am faes awyr rydych yn berchen arno. Fodd bynnag, ar yr ochr hon i’r Siambr, rydym yn malio, ac rydym wedi llunio cynllun gweithredu i gefnogi’r maes awyr fel y gall sicrhau’r manteision economaidd y mae eu hangen yn ddirfawr ar Gymru. I brocio'ch cof, roedd un agwedd ar ein cynllun yn galw am well ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus i’r maes awyr. Mewn cyferbyniad, mae eich Llywodraeth Lafur wedi gwneud y gwrthwyneb ac wedi cael gwared ar wasanaeth bws T9. Felly, Ddirprwy Weinidog, pam na wnaethoch chi adfer y gwasanaeth bws yn dilyn y pandemig, neu a oedd yn gweddu i’ch naratif i adael iddo fynd a gobeithio bod y cyhoedd yn anghofio amdano?

Iawn. Wel, rwy'n gwrthod y disgrifiad hwnnw'n llwyr. Bu gostyngiad sylweddol yn y galw am wasanaeth bws T9, fel y dylai’r Aelod wybod, fel llawer o wasanaethau bysiau ar draws y diwydiant bysiau, ledled y wlad, i bob llywodraeth. Nid yw lefelau teithwyr wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig, felly mae'n rhaid inni wneud penderfyniad ymarferol ynglŷn â'r lle gorau i roi’r cymhorthdal, ac mae hyn yng nghyd-destun cyllidebau sy’n lleihau. Ceir gwasanaeth bws sy'n mynd o’r maes awyr i ganol Caerdydd; mae ganddo lwybr mwy cwmpasog na gwasanaeth bws T9, ond serch hynny, mae'n dal i fod yn gwbl weithredol, ac rydym yn parhau i adolygu dyfodol y gwasanaeth bws hwnnw.

Ddirprwy Weinidog, heb os, mae Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn faich ariannol ar y trethdalwr. Fe’i prynwyd gan Lywodraeth Cymru am £52 miliwn yn 2013, ac yn 2021, £15 miliwn yn unig oedd y pris a roddwyd arno. Mae wedi gwneud colled cyn treth ym mhob cyfnod ers ei brynu, ac mae wedi cymryd miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr ar ffurf grantiau ac ad-daliadau dyled er mwyn iddo barhau'n weithredol. Mae nifer y teithwyr wedi gostwng 53 y cant ers 2019. Mae angen strategaeth glir, effeithiol a chynhwysfawr ar gyfer twf ar Faes Awyr Caerdydd i’w alluogi i ffynnu fel hyb rhyngwladol—strategaeth sy'n galw am weledigaeth a gallu entrepreneuraidd nad yw eich Llywodraeth yn meddu arnynt. Ac mae'n ddrwg iawn gennyf ddweud hyn, ond mae arnom angen cynllun ar waith nawr, wedi'i roi ar waith gennych chi, i roi rhywfaint o hyder i ni, yn ogystal ag i'r cyhoedd, mewn perthynas â Maes Awyr Caerdydd. Felly, Ddirprwy Weinidog, fy nghwestiwn olaf yw: a ydych yn cytuno bod eich perchnogaeth ar Faes Awyr Caerdydd wedi bod yn ddefnydd truenus o ddi-glem o arian trethdalwyr, ac mai’r ateb gorau nawr yw cael gwared ar law farw Llywodraeth Cymru a dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i'r sector preifat, lle dylai fod?

Wel, mae'r lefel o anwybodaeth yn syfrdanol, a dweud y gwir, ynglŷn â'r realiti sy’n ein hwynebu. Nid oes gan y sector preifat ddiddordeb mewn maes awyr nad yw'n gwneud arian. Ychydig iawn o feysydd awyr, ledled y byd, sy’n gwneud arian, a hoffwn herio Natasha Asghar i roi enghreifftiau i mi o feysydd awyr y mae’n credu y dylem eu modelu, o bob rhan o’r byd, sy’n gwneud elw. [Torri ar draws.]

Wel, byddai’n well gennyf beidio, Lywydd. Mae'r holl synau cefndirol hyn yn mynd â sylw rhywun—gofyn cwestiwn pan nad yw'n fodlon gwrando ar yr ateb.

Teimlaf fod yn rhaid imi nodi eich bod yn feistr ar synau cefndirol eich hun, ar wahanol adegau, felly anwybyddwch hwy. Parhewch. [Chwerthin.]

Touché, Lywydd. [Chwerthin.]

Roedd yn anodd clywed yr wybodaeth ychwanegol roedd Natasha Asghar yn ceisio'i darparu. Y ffaith amdani yw, y cwestiwn sylfaenol y mae angen inni ofyn i'n hunain yw a ydym yn credu y dylai Cymru gael maes awyr. Os credwn y dylai Cymru gael maes awyr, mae methiant yn y farchnad, felly nid yw’r sector preifat ynddo’i hun yn mynd i ddarparu’r maes awyr hwnnw. Felly, yn union fel gyda Manceinion, yn union fel gyda meysydd awyr rhanbarthol eraill, mae rôl i ni fel Llywodraeth ddarparu’r maes awyr hwnnw, ac mae hynny’n gofyn am fuddsoddiad. Nawr, yn rhyfeddol, tynnodd sylw at y gostyngiad yn nifer y teithwyr ers 2019; wel, credaf fod pob un ohonom wedi sylwi ar yr hyn sydd wedi digwydd ers 2019. Bu cynnydd yn nifer teithwyr y maes awyr hyd at y pandemig. Yn amlwg, ers y pandemig, ar draws y byd, mae'r galw am deithiau awyr wedi gostwng ac nid yw wedi codi'n ôl i'r un lefel. Nid oes model busnes yn y byd a fyddai’n gwrthsefyll sioc allanol o'r fath. Y cynllun menter a ysgrifennodd—y dywedodd wrthyf amdano o'i sedd—byddwn wrth fy modd yn ei ddarllen i weld beth y gallem ei ddysgu o'i doethineb. Mae hon yn her gyfunol i bob un ohonom. Os oes gan y Ceidwadwyr atebion yn hytrach na dim ond galw arnom i gau’r maes awyr, rwy’n glustiau i gyd.

13:45

Weinidog, yr wythnos hon, adroddwyd bod colli peillwyr byd-eang yn achosi 500,000 o farwolaethau cynnar y flwyddyn oherwydd lleihad y cyflenwad o fwyd iach. Dywed gwyddonwyr y gellir priodoli oddeutu 1 y cant o’r holl farwolaethau bellach i golli peillwyr. Fel hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y gardwenynen feinlais, un o’n gwenyn sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddiflannu, mae hyn yn peri pryder i mi. Dylai ddychryn pob un ohonom, gan fod iechyd ein peillwyr yn uniongyrchol gysylltiedig â’n hiechyd ein hunain a dyfodol ein planed. Mae Dr Samuel Myers o Harvard wedi dweud bod y cysylltiad hwn rhwng bioamrywiaeth ac iechyd dynol yn aml ar goll o'r trafodaethau hyn. Felly, a wnewch chi nodi, os gwelwch yn dda, yr hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i warchod ac ail-greu cynefinoedd sy'n gyfoethog o ran eu natur, yn enwedig y rheini a chanddynt ddigonedd o flodau? Mae angen i gynlluniau fel y cynlluniau rheoli tir er lles yr amgylchedd a chynllun ffermio cynaliadwy Cymru gael eu hariannu’n dda, wrth gwrs, i gymell ffermwyr. A all y Llywodraeth wneud mwy, os gwelwch yn dda, i fynd i’r afael â’r defnydd o blaladdwyr? Gwn fod yr UE wedi cynnig gostyngiad o 50 y cant yn y defnydd o blaladdwyr erbyn 2030. Dylem fod yn gwneud hynny fan lleiaf, byddwn yn gobeithio. A fydd cynllun yng Nghymru i helpu i bontio i ddewisiadau amgen cynaliadwy a’r defnydd o gnydau mwy gwydn, os gwelwch yn dda?

Ie, Delyth, rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Yn amlwg, mae’n rhaid inni wneud rhywbeth dramatig iawn i helpu ein peillwyr, a’n holl rywogaethau bywyd gwyllt mewn gwirionedd. Dyna pam y cynhaliwyd yr archwiliad dwfn gennym i ddarganfod beth yn union y gallai'r gymuned wyddonol ein helpu gydag ef o ran y cynlluniau. Dyna pam ein wedi bod yn siarad ag awdurdodau lleol ledled Cymru am y coridorau bywyd gwyllt, No Mow May—byddwn yn dweud mis Mehefin a mis Gorffennaf hefyd—a’r holl fater ynghylch plannu rhywogaethau blodau gwyllt brodorol ar hyd ein llwybrau trafnidiaeth i greu'r coridorau sy’n angenrheidiol i'r peillwyr allu symud o gwmpas ac i sicrhau nad oes ganddynt gronfeydd genynnau sy'n lleihau mewn sectorau penodol—yr holl bethau sy’n effeithio arnynt.

Mae rhywbeth hynod bwysig y gallwn ei wneud ynglŷn â gerddi pobl hefyd yn ogystal ag amaethyddiaeth yn gyffredinol. Mae’r cynllun ffermio cynaliadwy yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gallu ffermio yn y ffordd gynaliadwy honno gyda llai o ddefnydd o chwynladdwyr a phlaladdwyr, gan fod y ddau ohonynt yn cael effaith wirioneddol ddramatig ar ein gallu i gael y fioamrywiaeth sydd ei hangen ar bob un ohonom i oroesi—yn llythrennol, rydym ei hangen i oroesi. Felly, mae gennym ystod o fesurau ar waith. Un o'r pethau, serch hynny, y gwn y bydd gennych ddiddordeb ynddo yw y byddaf yn awyddus i weld, yn rhan o'r targedau 30x30, beth y gallwn ei ddweud ynglŷn â llai o ddefnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr yn gyffredinol ar gyfer pethau cyffredin, os caf ei roi felly.

Mae gennym waith i'w wneud ar ailaddysgu yma hefyd. Bydd pob un ohonom yn derbyn cwynion gan etholwyr am chwyn ar y palmant, er enghraifft, ond mae chwyn ar y palmant yn angenrheidiol, mae'n angenrheidiol i bryfed guddio. Credaf fod yn rhaid inni ddysgu nad yw taclusrwydd yn rhywbeth da, mai ychydig o flerwch weithiau yw'r union beth sydd ei angen ar natur. Rhan fawr iawn o'r gwaith hwn yw ceisio cael pobl i ddeall nad yw palmentydd taclus heb unrhyw wyrddni o gwbl arnynt yn daclus mewn gwirionedd, ond yn farw. Felly, gweithio gyda’n hawdurdodau lleol i newid y drefn o gael gwared ar chwyn ac ati a’i newid yn rhywogaethau blodau gwyllt brodorol, a bod pobl yn cydnabod bod hynny'n un o’r pethau y mae gwir angen inni eu gwneud. Mae hyn oll yn ymwneud â'r agwedd a'r hyn a welwn gyda'n llygaid pan edrychwn ar natur.

Diolch. Mae’r pwynt ynglŷn â chynefinoedd trefol yn wirioneddol bwysig; rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy’n mynd i siarad am rywbeth arall ym mhortffolio’r Dirprwy Weinidog nesaf, ond diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog.

Hoffwn sôn yn fy nghwestiwn olaf am ddiogelwch menywod ar drenau. Dangosodd arolwg diweddar gan Railwatch fod 60 y cant o fenywod wedi bod mewn sefyllfa lle cawsant eu gwneud i deimlo’n anghyfforddus wrth deithio ar drên yn y DU oherwydd eu rhywedd neu eu hymddangosiad corfforol. Roedd oddeutu 35 y cant wedi newid y ffordd roeddent yn edrych ar drên yn fwriadol, fel gorchuddio eu cyrff neu wisgo cot neu rywbeth felly. Roedd menywod LGBTQ 10 y cant i 20 y cant yn fwy tebygol o gael y profiadau hyn. Mae'n sefyllfa ofnadwy. Rwyf eisoes wedi codi sut y gall menywod deimlo'n anniogel wrth deithio i ac o drenau hefyd—nid oes ots gennyf pwy sy'n ateb. Mae angen i rywbeth newid. Y newyddion da yw bod 9 o bob 10 menyw yn yr arolwg wedi dweud y gallent deimlo'n fwy diogel pe bai newidiadau'n cael eu gwneud. Pe byddent yn gweld newidiadau, byddai 60 y cant yn teithio ar y trên yn amlach. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi ddweud wrthyf, Weinidog, beth y gellid ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn? A chan fod hyn yn effeithio ar hanner y boblogaeth, neu gan y gallai effeithio ar hanner y boblogaeth, a ellid cyflwyno datganiad penodol ar hyn yn y Senedd os gwelwch yn dda? Diolch.

13:50

Delyth, mae hynny'n rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon, a hoffwn ddweud fy mod yn un ohonynt. Rwyf wedi gwneud hynny fy hun; rwyf wedi rhoi fy nghot o amgylch fy ngwallt, wedi gwisgo het, a cheisio gwneud fy hun mor anamlwg â phosibl, gan fy mod wedi bod yn teithio ar fy mhen fy hun yn y nos ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac nid yw wedi teimlo'n ddiogel. Mae sawl peth i’w ddweud am hynny. Yn gyntaf oll, cynhaliais ddigwyddiad Menywod mewn Trafnidiaeth ychydig cyn y Nadolig yn y Senedd, lle buom yn ceisio tynnu sylw at rôl menywod ym maes trafnidiaeth—gweithio yn y sector trafnidiaeth, ond defnyddwyr trafnidiaeth hefyd—am ba newidiadau rydym am eu gweld. Byddwn yn annog pawb yma i ymuno â’r hyb yno, a dechrau ceisio dylanwadu arno. Yr ail beth, wrth gwrs, yw sicrhau gyda’n hundebau fod gennym y lefel gywir o staff yn ein gorsafoedd ac ati, neu’r lefel gywir o olau, neu’r lefel gywir o ddarpariaeth frys. A'r trydydd peth yw sicrhau bod ein trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy poblog, oherwydd, a dweud y gwir, os ydych ar wasanaeth a ddefnyddir gan lawer o bobl, nid ydych yn teimlo felly; mae'n tueddu i ddigwydd pan fyddwch wedi'ch ynysu, ar eich pen eich hun, lle nad yw'n teimlo fel pe bai unrhyw un arall o'ch cwmpas.

Credaf fod amryw o bethau y gallwn eu gwneud ac rydym eisoes yn eu gwneud gyda Trafnidiaeth Cymru ynghylch y ffordd y mae ein gorsafoedd yn gweithio, y ffordd y mae ein gwasanaeth bysiau'n gweithio, y ffordd y mae gennym staff yn y gorsafoedd, ond byddwn yn sicr yn eich annog i fynd ati i ymwneud â'r hyb Menywod mewn Trafnidiaeth. Mae’n adnodd defnyddiol iawn, lle gallwn ddechrau edrych drwy'r lens rhywedd ar lawer o’r gwasanaethau a ddefnyddiwn. Rwy'n credu'n wirioneddol ei fod yn bwynt pwysig iawn ynglŷn â phrofiad gwahanol sectorau o gymdeithas o wahanol bethau. Mae gwir angen inni gael gwasanaeth cyhoeddus sy’n croesawu pawb, ac yn gwneud i bawb deimlo’n ddiogel. Gallem gael sgwrs debyg ynglŷn â phobl ag anableddau neu bethau eraill hefyd. Felly, mae cynllun ar waith, ond yn benodol, hoffwn argymell yr hyb Menywod mewn Trafnidiaeth yr oeddwn yn falch iawn o’i lansio yn y Senedd ychydig cyn y Nadolig.

Effeitholrwydd Rhentu Doeth Cymru

3. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effeithiolrwydd Rhentu Doeth Cymru o ran cynyddu safonau o fewn y sector rhentu? OQ58918

Diolch, Peter. Mae gan Rhentu Doeth Cymru rôl allweddol yn y sector, wrth roi camau gorfodi ar waith i fynd i'r afael â landlordiaid nad ydynt yn cydymffurfio a darparu hyfforddiant i sicrhau bod landlordiaid yn gwbl ymwybodol o’u rhwymedigaethau cyfreithiol. Rydym yn mynd i gomisiynu gwerthusiad o ddarpariaeth ac effaith Rhentu Doeth Cymru yn ddiweddarach eleni.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy’n cydnabod bod gan Rhentu Doeth Cymru rôl bwysig i’w chwarae yn sicrhau safonau uchel o fewn y sector rhentu preifat yng Nghymru, gan ddarparu’r cyngor a’r cymorth pwysig sydd ei angen ar landlordiaid a thenantiaid. Fodd bynnag, ers cael fy ethol i’r Senedd, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan landlordiaid lleol ac asiantau sydd wedi cael problemau gyda Rhentu Doeth Cymru. Er enghraifft, maent wedi sôn am y gwasanaeth cwsmeriaid gwael, gan gynnwys y diffyg gallu i siarad â staff ar y ffôn oherwydd prinder staff. Clywais bryderon hefyd fod gwefan Rhentu Doeth Cymru yn aml yn araf ac yn anhygyrch i rai. Mae amseroedd aros hir ar gyfer ceisiadau am wybodaeth a chymorth yn achosi oedi gwirioneddol ac yn eu hatal rhag cydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol. Oherwydd yr oedi hwn, mae rhai landlordiaid wedi nodi eu bod wedi cael problemau gyda phethau fel cofrestru ac adnewyddu eu haelodaeth, sydd wedi achosi problemau pellach fyth. Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i landlordiaid, asiantau a thenantiaid y bydd adolygiad allanol y Llywodraeth—fel y sonioch chi—o Rhentu Doeth Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i’w profiadau ac y byddant yn dysgu gwersi o hyn? A pha gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i helpu Rhentu Doeth Cymru i fynd i'r afael â materion staffio a chapasiti?

Diolch, Peter. Rwyf am sôn ynglŷn â ble rydym wedi bod, oherwydd rydym yn llwyr gydnabod ein bod wedi'i chael hi'n anodd cadw lefel y staff yr hoffem ei chael ers y cychwyn, o ganlyniad i'r pandemig a nifer o faterion economaidd eraill. Yn ôl ym mis Awst 2022, gwnaeth Rhentu Doeth Cymru y penderfyniad i gau’r llinellau ffôn i alwadau a oedd yn dod i mewn, oherwydd prinder staff difrifol yn ystod y cyfnod hwnnw. Caniataodd hynny iddynt ganolbwyntio eu hymdrechion ar gyflawni eu targedau statudol ar gyfer trwyddedu landlordiaid ac asiantau. Gwnaethant y penderfyniad hwnnw'n fwriadol i'w staff presennol ganolbwyntio ar y corff o waith a oedd ganddynt. Ond cafodd pob cyswllt arall gan landlordiaid ei ateb, a chyflwynwyd llinell hygyrchedd ar gyfer landlordiaid nad oedd ganddynt unrhyw ffordd arall o gysylltu pan dynnwyd ein sylw at hynny.

Yn y cyfamser, rydym wedi recriwtio a hyfforddi staff. Cafodd y llinell ffôn ei hailagor ar 24 Hydref rhwng 09:00 a 11:00. Hoffwn roi sicrwydd i bawb sy'n gwrando, os byddwch yn ffonio cyn 11:00 ac yn y ciw, y caiff eich galwad ei hateb. Felly, os hoffech siarad â hwy, sicrhewch eich bod ar y llinell honno cyn 11:00, ac yna bydd pob galwad yn cael ei hateb wedyn. Rwy'n falch iawn ynglŷn â hynny. Rydym hefyd am i bobl fod yn ymwybodol y gallant wneud cais am alwad yn ôl drwy'r ffurflen gyswllt ar y wefan. Os nad ydych am aros ar y ffôn, gallwch ofyn am alwad yn ôl, a bydd honno hefyd yn cael ei hateb. Felly, hoffwn roi sicrwydd i bobl y byddant yn cael ymateb. Mae 12 o weithwyr newydd wedi dechrau gyda Rhentu Doeth Cymru yr wythnos hon a dweud y gwir, ar ôl ymarfer recriwtio. Maent yn bwriadu ymestyn oriau agor y ganolfan gyswllt ymhellach yn nes ymlaen y mis hwn pan fydd y gweithwyr hynny wedi'u hyfforddi ac yn barod. Rydym wedi gweld gwelliant gwirioneddol ym mherfformiad Rhentu Doeth Cymru dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gydag amseroedd ymateb i e-byst bellach i lawr i oddeutu wythnos, ac rwy’n falch iawn o allu dweud hynny.

Mae bron i 60,000 o landlordiaid a 10,000 o asiantau wedi cwblhau’r hyfforddiant craidd, a dros 27,000 o landlordiaid wedi cwblhau’r modiwlau datblygiad proffesiynol parhaus. Rydym wedi ysgrifennu at bob landlord cofrestredig i'w hatgoffa o'r gofynion i gwblhau hyfforddiant rhad ac am ddim Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 erbyn diwedd mis Chwefror. Felly, Peter, rwy'n credu fy mod yn dweud fy mod yn cydnabod yr anawsterau. Mae'n ddrwg gennym amdanynt. Roedd problem wirioneddol ddifrifol gyda recriwtio. Mae llawer o fesurau wedi’u rhoi ar waith i fynd i’r afael â hynny. Rydym wedi sicrhau bod landlordiaid yn ymwybodol o hynny a'n bod yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad. Felly, rydym yn mawr obeithio bellach y bydd y gwasanaeth ar y trywydd cywir ac yn gallu darparu'r hyfforddiant mewn ffordd lawer mwy boddhaol. Ac yna, pan fyddwn yn gwneud yr adolygiad—. Dyna pam fod yr adolygiad yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn; rydym am i'r trefniadau newydd hyn ymwreiddio, ac yna rydym am brofi eu haddasrwydd, ac wrth gwrs, byddwn yn gofyn i landlordiaid am eu barn pan fydd y trefniadau newydd wedi ymwreiddio.

13:55
Newid Hinsawdd

4. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith newid hinsawdd yng Ngorllewin Clwyd? OQ58920

Diolch, Darren Millar. Rwyf wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ym mhob rhan o Gymru. Fel y gwelwyd yn ein hadroddiad cynnydd ar ymaddasu i newid hinsawdd, a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr, ar draws Llywodraeth Cymru rydym yn parhau i ddatblygu tystiolaeth a pholisi i fynd i’r afael â’r risgiau newydd i’n hiechyd, ein cymunedau, ein seilwaith a’n hamgylchedd naturiol.

Diolch am eich ymateb. Fel y gwyddoch, Weinidog, un o’r peryglon mwyaf yn fy etholaeth yw’r perygl o lifogydd. Gwyddom fod llifogydd yn dod yn broblem fwy cyffredin o ganlyniad i newid hinsawdd a lefel y môr yn codi. Ar hyd yr arfordir, mae buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud mewn amddiffynfeydd môr yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae mwy ar y gweill ar gyfer ardal Towyn a Bae Cinmel. Fodd bynnag, gwelwyd erydiad sylweddol hefyd ar y traeth, sy'n tanseilio'r amddiffynfeydd môr, yn ardaloedd Abergele, Pen-sarn a Belgrano ar hyd arfordir Gorllewin Clwyd, ac rwy'n bryderus iawn nad oes cynlluniau wedi'u datblygu na'u cyflwyno eto i fynd i'r afael â'r problemau hynny drwy adfer y traethau neu godi'r amddiffynfeydd rhag llifogydd yn uwch. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwyr y bydd buddsoddiad yn cael ei wneud yn yr amddiffynfeydd môr yn yr ardaloedd hynny, ac y caiff y traethau eu hadfer er mwyn diogelu cartrefi a busnesau rhag llifogydd?

Diolch, Darren. Mae hon yn sefyllfa barhaus, ac wrth inni addasu i newid hinsawdd, bydd yn rhaid inni roi mwy a mwy o sylw iddi. Rydym wedi cael nifer o gynlluniau eisoes yng Ngorllewin Clwyd, y gwn eich bod yn ymwybodol ohonynt. Mae rhai yn Eldon Drive yn Abergele; Llansannan; Ffordd Top Llan yng Nglan Conwy; Bae Cinmel; prosiect uwchraddio glan y môr Bae Colwyn; Stryd y Capel; a rheolaeth llifogydd naturiol ar gyfer dalgylch afon Clwyd. Rwy'n arbennig o hoff o'r olaf—gobeithio eich bod wedi cael cyfle i'w weld.

Yr awdurdod rheoli risg yw’r awdurdod lleol at y diben hwn, a’r hyn rydym yn ei wneud yw gofyn iddynt gwblhau asesiad o’r trefniadau llifogydd, yr anawsterau a’r problemau yn eu hardal, a llunio cynllun rheoli ar ein cyfer. Yna, byddwn yn trafod y buddsoddiad yn y cynllun rheoli hwnnw gyda hwy. Rydym yn disgwyl i’r awdurdod lleol wneud hynny a chyflwyno eu rhestr o fuddsoddiadau, yn nhrefn blaenoriaeth, i ni eu hystyried fel rhan o’r buddsoddiad rheoli llifogydd.

Yn rhan o'r cytundeb cydweithio, rydym wedi buddsoddi'r symiau mwyaf erioed o arian mewn rheoli llifogydd. Roeddwn yn cael trafodaeth gyda’r swyddogion rheoli llifogydd y bore yma ynglŷn â sut mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno. Felly, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r awdurdodau rheoli risg, fel y’u gelwir at y diben hwn, i sicrhau ein bod yn defnyddio set o feini prawf y cytunwyd arni i allu asesu ble mae’r risg a blaenoriaethau cyflwyno'r rhaglen. Os oes gennych bryderon penodol am ardal benodol, awgrymaf eich bod yn gofyn i'ch awdurdod rheoli risg edrych ar hynny'n benodol, ac rwy'n siŵr y byddant yn tynnu ein sylw at hynny yn rhan o'r broses honno.

Effeithlonrwydd Ynni'r Stoc Dai

5. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella effeithlonrwydd ynni'r stoc dai yn Arfon? OQ58899

Diolch, Siân Gwenllian. Mae nifer o raglenni wedi'u cynllunio i helpu i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi ledled Cymru, gan gynnwys yn Arfon. Mae'r rhain yn cynnwys y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a rhaglen Cartrefi Clyd.

14:00

Fel y gwyddoch chi, dydy'r problemau a brofwyd gan rai o fy etholwyr i efo mesurau arbed ynni o dan gynllun Arbed 2 dal heb gael eu datrys. Dwi yn ddiolchgar bod eich swyddogion chi'n delio efo achosion yn ymwneud â dau gontractwr penodol, ac mi fyddai'n ddefnyddiol gwybod pryd y gallaf ddisgwyl diweddariad am hyn.

Wrth inni edrych at gynlluniau i'r dyfodol, mae'n ofnadwy o bwysig, onid ydy, fod sicrwydd ansawdd o ran y gwaith sy'n cael ei wneud yn cael ei ddiogelu. Un ffordd o wneud hynny fyddai creu gweithlu sgilgar yn lleol, a dyna ydy un nod tu ôl i fenter newydd sbon Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, sef canolfan datgarboneiddio newydd, arloesol y bûm i yn ymweld â hi yn ddiweddar. Dyma'r ganolfan gyntaf o'i fath yng Nghymru, ac, yn wir, ym Mhrydain, sy'n dwyn llawer o bartneriaid ynghyd o dan arweiniad cwmni tai Adra, ar safle ffatri a oedd wedi cau rhai blynyddoedd yn ôl, sef Northwood Hygiene.

Dwi yn gyffrous iawn am y prosiect yma a'r gwaith pwysig y gall gael ei gyflawni yno i daclo tlodi ynni a newid hinsawdd yn ogystal â chreu gweithlu sgilgar a chadwyni cyflenwi lleol ar gyfer yr agenda ddatgarboneiddio. Felly, hoffwn i, ar ran y partneriaid—partneriaid Tŷ Gwyrddfai—estyn gwahoddiad cynnes i chi ymweld â'r ganolfan, ac mi fyddai yna groeso mawr ichi yno.

Diolch, Siân. Rwy'n awyddus iawn i ymweld, a gobeithio y byddwch chi'n fy ngwahodd yn ffurfiol ac y gallaf wneud hynny'n fuan iawn. Rydym yn falch iawn o'r ffordd y mae'r hyb datgarboneiddio yn gweithio. Fe wnaethoch chi nodi hanes y ffatri a gaeodd ac ati yn y fan honno. Roeddem yn falch iawn o allu rhoi gwerth £239,000 o grant creu lleoedd Trawsnewid Trefi i alluogi'r broses o drosglwyddo i'r hyb—yn falch iawn o fod wedi gwneud hynny.

Rydym yn gwybod bod contractwr mewnol Adra yn mynd i ôl-osod cartrefi cymdeithasol sy'n eiddo i Adra a bydd ganddo ei ofod ei hun yn yr hyb. Fel y dywedwch yn gywir, rydym yn gobeithio y bydd yr holl raglenni rydym yn eu cefnogi—y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r rhaglenni hyn—yn golygu y byddwn yn rhoi digon o sgiliau i'r gweithlu i gynhyrchu'r gweithlu medrus roeddech chi'n siarad amdano nawr—ac mae gwir angen inni wneud hynny—ac y byddwn yn gallu nodi beth yw'r sgiliau a lle mae prinder, er mwyn imi allu gweithio gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Addysg a fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr economi i wneud yn siŵr fod ein colegau addysg bellach yn darparu'r math cywir o ddarpariaeth ar gyfer gweithwyr y dyfodol ym maes ôl-osod, ac yn dysgu'r gwersi sydd mor angenrheidiol i sicrhau nad ydym yn cael y problemau a nodwyd gennych ac a gawsom gyda chynlluniau blaenorol, nad oedd bob amser yn gwneud yr hyn roeddent yn ei ddweud, ac nad oedd gwarantau ar gyfer y gwaith ac yn y blaen yn dod gyda hwy, felly rydym yn sicr wedi dysgu'r gwersi hynny. Nid ydym eisiau bod yn y sefyllfa honno yn y dyfodol. Felly, byddwn wrth fy modd yn dod i ymweld. Rwy'n credu ei fod yn gynllun enghreifftiol da iawn o'i fath, a dyma'r union ffordd yr awn ati i gyflwyno'r pethau iawn, y dechnoleg gywir ar gyfer y cartref cywir, ar draws Cymru, yn hytrach na'r un ateb i bawb sydd wedi arwain at y problemau yn eich etholaeth chi ac un Huw Irranca ac eraill, gyda'r diflastod sy'n deillio o hynny i'r perchnogion tai, ac rydym yn sicr yn awyddus i osgoi hynny yn y dyfodol.

Wrth ymateb fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni i'ch datganiad ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru ar 8 Tachwedd, cyfeiriais at argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y rhaglen Cartrefi Clyd yn ymgorffori dull adeiladwaith a 'gwaethaf yn gyntaf' o fynd ati i ôl-osod, yn ogystal â thargedu'r aelwydydd tlotaf a'r cartrefi lleiaf effeithlon, a gofynnais sut y byddwch yn sicrhau bod y rhaglen yn ymgorffori hyn. Daeth eich ateb i'r casgliad

'rydym ni'n ystyried trwy'r amser a yw hi'n well helpu mwy o bobl i wneud un peth nag yw hi i helpu llawer iawn llai o bobl i wneud pob dim, ac mae gennyf i ofn mai dyna un enghraifft o lawer o frwydro i gael y cydbwysedd yn iawn.'

Diolch am gytuno wedyn i weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol ar hyn, ac i fynychu ein cyfarfod nesaf ar 13 Chwefror. Ond yn y cyfamser, sut rydych chi'n ymateb i'r pryder a godwyd gan swyddog tlodi tanwydd Cyngor Gwynedd yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ym mis Tachwedd, fod yna lefelau uchel o stoc nad yw'n cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru yng Ngwynedd?

Fe fyddwn i'n ymateb gyda rhywfaint o syndod, Mark, gan fod pob awdurdod wedi cyrraedd y safon ansawdd tai Cymru, sef EPC D, ar wahân i'r hyn a elwir yn 'fethiannau derbyniol'. Felly, os oes gennych chi fanylion pam ei fod yn pryderu nad yw'r stoc yn cyrraedd y safon, byddwn yn sicr yn awyddus i'w gweld. Mae ei gyngor ei hun wedi cyflwyno ffurflenni i ni sy'n dweud eu bod yn fodlon eu bod wedi cyflwyno safon ansawdd tai Cymru, felly, byddwn yn wirioneddol awyddus i weld yr hyn y cyfeirir ato yn y fan honno. Felly, hoffwn ddeall hynny. 

Rydym yn y broses o drafod iteriad nesaf safon ansawdd tai Cymru gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau sy'n dal stoc dai ledled Cymru ac i ba lefel y disgwyliwn i gartrefi gael eu hôl-osod unwaith eto. Felly, rydym yn mynd i'w codi o'r EPC D sydd gennym ar hyn o bryd, ac os caf eich atgoffa y dywedwyd wrthym na allem ei wneud o fewn yr amser, ond rydym wedi llwyddo i'w wneud mewn gwirionedd. Rydym mewn trafodaethau datblygedig ynglŷn â lle fydd y cam nesaf—EPC B, A—i ba safon y gallwn godi cartrefi iddi ac am faint o arian, a dros ba gyfnod o amser. Felly, bydd yn bwysig iawn deall unrhyw anawsterau yn yr iteriad blaenorol, a byddwn yn awyddus iawn i weld y dystiolaeth a roddwyd i chi, fel y gallwn edrych arni. Ond rwy'n eich sicrhau mai ein safon aur yw gwneud yn siŵr fod pob cartref y gellir eu codi i safon ansawdd tai Cymru yn cyrraedd y safon honno, ac mae ymchwiliad trylwyr ar y gweill i weld pam na allai unrhyw gartref gyrraedd y safon honno, a bod cyn lleied â phosibl o fethiannau derbyniol a'n bod yn deall y rheswm amdanynt, yn hytrach na pheidio â gwneud dim i'r eiddo y credwn na allai gyrraedd y safon yn llawn. Felly, dyna'r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd. 

14:05
Pont y Borth

6. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y gwaith i ailagor pont y Borth? OQ58910

Cychwynnodd y rhaglen o waith brys ar gyfer ailagor Pont Menai ar 5 Ionawr. Mae disgwyl i’r rhaglen gael ei chwblhau o fewn pedair wythnos, yn amodol ar y tywydd. Bydd y terfyn pwysau o 7.5 tunnell yn parhau mewn grym pan fydd y bont yn ailagor.  

Diolch yn fawr iawn. Mae'n bwysig, wrth gwrs, i gadw at yr amserlen yna. Mi allwn ni i gyd gytuno, gobeithio, fod profiad y misoedd diwethaf wedi profi mor fregus ydy'r isadeiledd o ran croesiadau y Fenai. Mae cau Pont y Borth a'r tagfeydd wedyn ar y Britannia wedi creu anghyfleustra mawr ac wedi effeithio ar fusnes yn drwm iawn, nid yn unig yn ardal y Fenai ond ar draws yr ynys. Ac mi wnaf i dynnu sylw'r Dirprwy Weinidog at y ffaith bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi ysgrifennu at Weinidog yr Economi yn y dyddiau diwethaf yn gofyn am ragor o help i fusnes—rhywbeth dwi wedi ei alw amdano fo, a dwi'n hapus iawn i'w hategu eto. Ond, yn wyneb mor fregus ydy'r croesiad, mae'n amlwg bod rhaid adeiladu croesiad mwy gwydn. Yr ateb ydy deuoli croesiad Britannia neu godi trydedd pont. Fe gytunwyd i wneud hynny yn 2016, a dwi'n sylweddoli wrth gwrs bod eisiau gwneud yn siŵr o'r angen am ddatblygiadau ffyrdd newydd cyn bwrw ymlaen, ond mae'r angen yna wedi cael ei brofi rŵan. Gaf i ofyn i'r Gweinidog i wneud penderfyniad buan i fwrw ymlaen er mwyn sicrhau'r gwytnwch yna ar gyfer y dyfodol?

Wel, diolch. Rwy'n nodi ein bod wedi cefnogi tua 288 o fusnesau ar yr ynys drwy Busnes Cymru, ac rwy'n cydnabod yr effaith y mae'r cau wedi ei chael ar adeg sydd eisoes yn anodd i fusnesau ac mae hwn wedi bod yn bwysau arall ar lawer ohonynt. Ar ddyfodol y groesfan, fel y mae'n gwybod, mae gennym raglen waith wedi'i chynllunio, ac rydym yn dal yn hyderus, os yw'r tywydd yn caniatáu, y caiff ei chwblhau erbyn diwedd mis Ionawr. Ac yna, fel rydym wedi egluro, bydd ateb mwy parhaol yn cael ei drafod mewn ymgynghoriad â'r cyngor lleol ar yr adeg orau i osgoi tarfu ar y fasnach dwristiaeth dros y flwyddyn nesaf. 

Dros y Nadolig, sylwais fod yr Aelod wedi llwyddo i berswadio rhai yn y cyfryngau ein bod wedi newid ein safbwynt ar ddyfodol y drydedd groesfan, oherwydd ei bod wedi'i chynnwys yn y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, ynghyd â nifer o gynlluniau etifeddol eraill, ond roedd hwnnw hefyd yn ei gwneud hi'n glir fod y rhain i gyd yn ddarostyngedig i'r adolygiad ffyrdd. Felly, nid yw'r safbwynt wedi newid o gwbl mewn gwirionedd, er gwaethaf y sbin a roddwyd arno. Byddwn yn cyhoeddi'r adolygiad ffyrdd o fewn y mis nesaf, a byddwn yn gofyn i gomisiwn Burns edrych ar ddyfodol y groesfan fel rhan o'i waith. Rydym yn disgwyl adroddiad interim gan gomisiwn Burns yn fuan, ac rwy'n credu bod angen i bawb ohonom feddwl am y rôl sydd gan seilwaith i'w chwarae wrth gyflawni datblygu economaidd ond hefyd wrth gyflawni ein targedau carbon. 

Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw, ac rwy'n sicr yn cefnogi llawer o'r teimladau a fynegwyd gan Aelod etholaeth Ynys Môn yno hefyd. Ac mae'r newyddion fod gwaith ar y gweill er mwyn ailagor y bont yn newyddion i'w groesawu, wrth gwrs, Weinidog. Ond rwyf i a Mark Isherwood fel cyd-Aelod o ogledd Cymru, wedi ymuno â chyfarfodydd gyda'r AS Virginia Crosbie gyda busnesau lleol ym Mhorthaethwy sy'n mynegi eu brwydr barhaus a'u pryder ynghylch lefel y busnes a nifer yr ymwelwyr y maent yn eu gweld. A da o beth, wrth gwrs, yw gweld rhai o'r ymyriadau sydd wedi digwydd hyd yma. Ond gyda gwaith ar y gweill i ailagor pont Menai ymhen ychydig wythnosau gobeithio, tybed pa weithgaredd a gweithgareddau hyrwyddo a gynlluniwyd gennych i adael i gymaint o bobl â phosibl wybod bod Porthaethwy ar agor i fusnes ac y bydd y bont ei hun ar agor eto fel y gall y busnesau hynny ffynnu eto yn fuan iawn. 

14:10

Wrth gwrs, nid yw tref Porthaethwy wedi bod ar gau o gwbl, a'r hyn sydd wedi bod yn ddiddorol iawn yw bod y data, yn hytrach na'r pryderon a'r honiadau, wedi dangos lefel o weithgaredd sy'n dal i fod yn sylweddol drwy brosiect Patrwm gan ddefnyddio rhwydwaith ardal eang cyrhaeddiad hir y buom yn falch o'i chefnogi. Felly, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig rhoi ffeithiau ochr yn ochr â phryderon. Nodaf fod yr Aelod Seneddol y soniodd amdano wedi bod yn ddiwyd yn hyrwyddo'r pryderon. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r data'n adlewyrchu hynny'n llawn, ac mae natur masnachu, a phobl yn aros yn hirach ynghanol y dref mewn gwirionedd, wedi bod yn eithaf trawiadol.

Ond fe gafwyd effaith, wrth gwrs, nid ydym yn gwadu hynny, ac mae mesurau lliniaru wedi'u rhoi ar waith, gan gynnwys parcio am ddim, a fydd yn parhau yn nhref Porthaethwy a'r ddau safle parcio-a-rhannu drwy gydol mis Ionawr. Hefyd, i gynorthwyo gyda cholli gwasanaethau bws ar yr ynys, mae'r cyngor wedi darparu mannau aros ychwanegol yn nes at bont Menai ei hun, a bu hynny'n llwyddiant. Roeddwn yn falch fod Ynys Môn wedi gwneud hynny. Nid wyf yn credu bod Gwynedd wedi cyflawni'r lefel honno o weithgaredd ar eu hochr hwy o'r bont eto, ac rwy'n credu y dylid eu hannog i wneud hynny. Ac mae peth newid ymddygiad eisoes wedi dechrau digwydd gyda mwy o bobl yn cerdded ar draws y bont ac yn mynd ymhellach oherwydd ei bod wedi cau. Ond wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio gyda'r cyngor i weld beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod yr ardal yn cael ei hyrwyddo, a'n bod yn gallu adfer hyder yn yr ardal cyn gynted â phosibl.

Prosiectau Egni Adnewyddadwy Lleol

7. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i alluogi prosiectau egni adnewyddadwy lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58915

Diolch, Cefin. Wrth inni symud tuag at system ynni fwy lleol, sy'n seiliedig ar ynni adnewyddadwy, rydym yn cymryd camau i sicrhau bod y cyfoeth o brosiectau ynni adnewyddadwy yn aros yng Nghymru. Rydym yn adeiladu ar ein cefnogaeth i gymunedau a chyrff cyhoeddus, yn datblygu cynigion ychwanegol i fusnesau lleol ac yn cefnogi cynlluniau ynni i nodi cyfleoedd lleol.

Diolch yn fawr iawn. Mae'r argyfwng ynni—sydd wedi cael ei waethygu, wrth gwrs, gan y rhyfel yn Wcráin—wedi pwysleisio’r angen yng Nghymru i fod yn llawer mwy gwydn o ran cynhyrchu ein hynni ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynhyrchu 70 y cant o drydan Cymru drwy ddulliau adnewyddol erbyn 2030, a dwi'n croesawu hynny’n fawr iawn, a'r pwyslais a roddir ar berchnogaeth leol fel rhan o hyn, ac mae gan ganolbarth a gorllewin Cymru botensial anhygoel i gyfrannu at gyrraedd y targed hwn. Fodd bynnag, fel sydd wedi cael ei nodi mewn adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Materion Cymreig, mae capasiti'r grid cenedlaethol yng Nghymru—a dwi'n dyfynnu, 'wedi'i gyfyngu'n sylweddol'. Mae hyn yn rhwystredig iawn, wrth gwrs. Er enghraifft, mae’n rhwystr i ffermwyr yn ardal yr Elenydd i symud ymlaen gyda chynlluniau datgarboneiddio, a pheryglu datblygiadau mwy sylweddol yn y môr Celtaidd. Felly, pa drafodaethau ŷch chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wella capasiti’r grid fel y gall cymunedau a busnesau yng Nghymru symud ymlaen gyda'u prosiectau ynni adnewyddol?

Diolch, Cefin. Ie, pwynt pwysig iawn. Felly, mae gennym 897 MW o gapasiti trydan a gwres adnewyddadwy yng Nghymru sy'n eiddo lleol, yn 2021, a oedd yn 90 y cant o'r ffordd tuag at ein targed 1 GW ar gyfer 2030, sy'n newyddion da iawn. Mae gennym gyfanswm o 2,201 o brosiectau adnewyddadwy newydd wedi'u comisiynu ledled canolbarth Cymru a dinas-ranbarth bae Abertawe yn 2021. Maent yn darparu cynnydd o 31.5 MW yn y capasiti ac yn cynnwys gosodiadau bach a gosodiadau domestig yn bennaf, yn union fel y dywedoch chi. Rydym wedi bod yn cefnogi ystod eang o brosiectau ynni adnewyddadwy sy'n eiddo cyhoeddus neu'n eiddo i'r gymuned, ac sy'n cynhyrchu tua 4.8 MW o gapasiti. Rwy'n dweud y pethau hyn wrthych am nad wyf eisiau taflu cysgod dros y diwydiant hwn gan fy mod yn credu ei fod yn eithaf bywiog ac mae gan bobl ddiddordeb mawr ynddo, ac mae'r math hwn o ynni cymunedol amrywiol yn bwysig iawn o safbwynt diogelu ffynonellau ynni wrth gwrs. Ond nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod y grid yn ffactor sy'n cyfyngu. Fel y dywedais yn y Siambr hon nifer o weithiau, ac mae'n dal i fod yn wir, rwy'n falch iawn o ddweud bod Llywodraeth y DU wedi deall yr angen i gynllunio'r grid o'r diwedd. Mae gennym broses yn ei lle nawr i roi grid wedi'i gynllunio yn ei le, trefniant gweithredwr rhwydwaith uwch, ac mae gennym lawer o waith yn digwydd i ddeall sut a ble fydd hynny, beth sydd angen ei uwchraddio.

Mae llawer yn dibynnu ar brosiect pibell a fydd yn gweithredu o ogledd Cymru i dde Cymru i gysylltu'r ddau brosiect gwynt ar y môr, y prosiect ynni gwynt ar y môr sefydlog a'r hyn y gobeithiwn y bydd yn brosiect enfawr gydag ynni gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd. Mae union lwybr y bibell honno i'w ystyried. Mae gennyf swyddogion yn gwneud llawer o waith ar hynny a byddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog ynni eto'n fuan. Rwyf eisoes wedi cael cyfarfod da iawn gyda'r Gweinidog ynni, i fod yn deg, felly rwy'n meddwl eu bod yn gefnogol o'r diwedd. Y peth mawr i ni fydd gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y grid newydd sydd ei angen arnom i ddod i lawr drwy ganol Cymru, ac mae gwir angen hynny, a'n bod yn cael hynny mewn ffordd sy'n caniatáu'r cysylltiadau i mewn, ond mae angen inni gael y grid wedi'i gryfhau'n iawn hefyd ar draws de Cymru ac yng ngogledd Cymru. Nid yw dweud, 'Wel, mae'r ddau le hynny'n iawn' yn ddigon da; nid ydynt yn iawn. Mae'n rhaid imi ddweud wrthych, os ydych chi'n byw lle rwy'n byw yn Abertawe, rydych chi'n cael cryn dipyn o adegau pan fo'r pŵer yn wannach. Felly, mae angen cryfhau'r grid presennol ac mae angen i'r ynni sy'n dod i mewn o'r môr Celtaidd ac o'r buddsoddiad enfawr ar arfordir gogledd Cymru fod o fudd i bobl Cymru. Rwyf eisiau i'r ynni hwnnw ddod yma. Nid wyf eisiau iddo fynd i Ddyfnaint na Gweriniaeth Iwerddon nac i Lerpwl neu rywle. Felly, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod hynny'n aros ar y trywydd iawn a'n bod yn cael y lefel gywir o ymgynghori ac ymwneud yng Nghymru, ac mae hynny'n digwydd hyd yma, ond gwyliwch y gofod hwn.

14:15

Weinidog, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn rydych chi'n ei ddweud yno, felly byddai'n wych pe baech yn ymuno â ni nos Fawrth, oherwydd mae Cefin a minnau, Jane Dodds a Joyce Watson yn cynnal derbyniad nos Fawrth yma yn y Senedd o'r enw 'Derbyniad Clwstwr Ynni'r Dyfodol yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau', i ganolbwyntio ar ynni gwynt arnofiol ar y môr a'r cyfleoedd sydd ar gael i ni yn sir Benfro, yn benodol yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau. 

Wrth gytuno â'r hyn rydych chi wedi'i ddweud hyd yma, ac o ystyried bod angen seilwaith ychwanegol arnom, hoffwn wybod pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda CNC ac awdurdodau lleol ynglŷn â gwaith cynllunio ar gyfer y seilwaith hwn ar y tir, a bod ganddynt yr arian ar gael, yr adnoddau ar gael, i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gwneud mewn modd amserol. Diolch. 

Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf unrhyw syniad a fyddaf i yn y Senedd ddydd Mawrth nesaf, ond os byddaf, rwy'n hapus i ddod. Yn sicr, ond mae'n rhaid inni ei wneud yn y drefn iawn. Felly, byddwn yn bendant eisiau sicrhau bod y trefniadau cynllunio yn eu lle, ond yn dibynnu ar y lefel rydym yn siarad amdani, gallai fod yn ddatblygiad seilwaith o bwys cenedlaethol, felly efallai mai Llywodraeth y DU sy'n cydsynio i rai o'r pethau hyn. Yr 'efallai' yw'r darn pwysig, onid e, oherwydd mae angen inni ddeall yn union beth y cynllunnir ar ei gyfer, erbyn pryd y caiff ei gynllunio, a phryd y daw'n weithredol er mwyn inni allu cael trefn ar bethau. Felly, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y prosiectau môr Celtaidd, y prosiectau ynni gwynt arnofiol yn enwedig, yn defnyddio'r cyfoeth o brofiad a'r cyfle sydd ym mhob un o borthladdoedd de Cymru a gogledd Cymru, ein bod yn cael y gwaith adeiladu seilwaith yma yng Nghymru, nid dim ond y contractau cynnal a chadw, a'n bod yn cael y cyfoeth o'r prosiect i ddod yma, ac yn fwyaf arbennig, ein bod yn cael y mewnbwn ynni yma fel ein bod yn cael y grid wedi'i gryfhau, gan arwain wedyn, wrth gwrs, at yr holl brosiectau eraill sydd gennym, y gwyddom eu bod yn barod i fynd, gan gynnwys ein holl gynlluniau Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer a'r cyfan arall.

Felly, gallaf eich sicrhau bod hynny i gyd dan ystyriaeth. Mae Vaughan Gething a minnau wedi cyfarfod ag Ystad y Goron a'r Gweinidog ynni nifer o weithiau. Mae nifer o fysedd yn y brywes ar hyn o bryd. Rydym wedi siarad â'r holl borthladdoedd ac awdurdodau porthladd ac yn y blaen, felly rydym yn bendant o'r un farn â chi, a'r hyn sydd angen inni ei wneud nawr yw sicrhau ein bod ni'n parhau'n effro i unrhyw ddatblygiadau fel ein bod yn cael y buddsoddiad rydym ei eisiau. 

Cefnogi Ynni Adnewyddadwy

8. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda llywodraethau eraill er mwyn rhannu arferion da ynghylch cefnogi ynni adnewyddadwy? OQ58921

Diolch, Sioned. Mae fy swyddogion a minnau'n cynnal trafodaethau dwyochrog ac amlochrog rheolaidd gyda Llywodraethau eraill i rannu ein profiadau, ein harferion da a'n heriau. Ymhlith y rhain mae cyfarfodydd rhyngweinidiogol sero net pedair gwlad y DU, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a'r Gynghrair Dan2 o Lywodraethau gwladwriaethol, rhanbarthol a thaleithiol. Felly, rydym yn cael cryn dipyn o gysylltiad, yn rhynglywodraethol ac fel arall. 

Diolch, Gweinidog. Yn sgil, wrth gwrs, yr angen i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, a’r angen, fel y clywsom gan Cefin Campbell, i gynyddu’r ynni rŷn ni’n ei gynhyrchu’n lleol, mae’n dda gweld bod y trafodaethau hyn yn mynd ymlaen. Hyd nes y bydd gennym ni system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n gymwys i’n hanghenion cenedlaethol ni, ac a fydd yn un rhad i’w defnyddio, bydd meysydd parcio yn rhan o dirwedd pob tref yng Nghymru, dwi’n siŵr. Ond mae deddfwriaeth a gymeradwywyd ddiwedd y llynedd gan Senedd Ffrainc yn ei gwneud yn ofynnol i bob maes parcio sydd â chapasiti o 80 neu fwy o gerbydau i osod canopi o baneli solar dros y safle. Mae’r Ddeddf yn cwmpasu meysydd parcio presennol, yn ogystal â rhai newydd. Drwy osod ffermydd solar ar safleoedd fel hyn, sydd eisoes wedi’u datblygu, nod y strategaeth yw datrys un o heriau mawr ynni solar, sef yr angen am dir a allai fygwth mannau gwyrdd a thir amaeth. A wnewch chi felly, Weinidog, ymchwilio i ddichonoldeb cyflwyno cynllun tebyg ar gyfer paneli solar mewn strwythurau fel meysydd parcio yng Nghymru sydd yn nwylo cyrff cyhoeddus ac efallai cwmnïau preifat?

14:20

Ie, roeddwn i'n ymwybodol iawn o hynny. Mae'n syniad gwych. Yn amlwg, os ydych chi'n teithio yn Ewrop o gwbl, fe sylwch fod canopïau dros y meysydd parcio, oherwydd eu bod yn cysgodi'r cerbydau rhag yr haul. Nid yw'r broblem honno gennym yn llwyr yng Nghymru eto. Mae gennym broblem glaw, yn sicr. Mae'r hen jôc, 'A wyddech chi y gallech chi dynnu eich cagŵl pan fyddwch chi'n mynd i Loegr?' yn dod i'r meddwl. Nid wyf yn siŵr y gallem gyfiawnhau adeiladu canopi er mwyn rhoi panel solar arno. Ond rwy'n sicr yn derbyn y pwynt, lle mae yna allu i roi panel solar ar do sy'n bodoli eisoes, neu pan fyddwn yn adeiladu o'r newydd, yn fwriadol, y dylem wneud hynny.

Mae'r holl fater roeddem yn ei drafod nawr gyda'r grid yn berthnasol. Beth y byddem yn ei wneud â'r ynni hwnnw? Os oes defnydd lleol ar ei gyfer, yna, iawn, mae hynny'n iawn. Ond os ydych chi'n awyddus i'w fwydo i mewn i'r grid, mae gennym yr holl broblemau sydd gennym. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn edrych i weld a fyddai'r math hwnnw o system yn cefnogi rhwydwaith gwefru cerbydau trydan, hyd yn oed os yw'n un araf.

Felly, mae rhai pethau ar y gweill i edrych ar hynny, ac mae gennym ddiddordeb mawr mewn symud hynny yn ei flaen. Mae'n dirwedd ychydig yn wahanol i'r un yn Ffrainc, ond er hynny, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y prosiect. Ac os ydych chi'n ymwybodol o unrhyw un sydd â diddordeb yn ei ddatblygu—yn awdurdodau lleol neu feysydd parcio sector preifat—rhowch wybod i ni, oherwydd byddem yn hapus iawn i siarad â hwy.

Lefelau Ffosffad

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau ffosffad yn afonydd Cymru? OQ58928

Ie. Diolch, Ken. Ar 9 Chwefror, bydd y Prif Weinidog yn ailymgynnull uwchgynhadledd o bartneriaid allweddol i fynd i'r afael â lefelau gormodol o ffosffadau yn afonydd Cymru, er mwyn trafod y cynnydd presennol a sefydlu'r camau nesaf. Byddaf yn nodi canlyniadau'r drafodaeth honno, ynghyd â chynllun gweithredu, mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddir yn fuan ar ôl yr uwchgynhadledd.

Diolch, Weinidog. Mae'n dda gwybod hynny. Fe gyfarfûm â busnesau bach yn y diwydiant adeiladu tai yn ddiweddar, ac roeddent yn bryderus ynglŷn â'r mater hwn. A fydd y diwydiant tai yn bresennol yn y cyfarfod ar 9 Chwefror, ac a fyddwch chi'n gallu rhoi sicrwydd fod eu pryderon wedi cael sylw?

Gallaf, yn bendant. Fe wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Huw Irranca-Davies yn gynharach yn y sesiwn hon. Rydym wedi gofyn i bob sector edrych i weld beth y gallant ei gynnig i helpu i ddatrys eu rhan hwy o'r broblem. Felly, ar gyfer adeiladu tai, rydym yn gwybod bod systemau draenio dŵr wyneb, systemau draenio cynaliadwy, SDCau, yn rhan o'r ateb; bydd yna atebion eraill. Rydym wedi gofyn i bob sector ddod yn ôl atom, ac rydym wedi bod yn gweithio'r holl ffordd drwodd. Nid un digwyddiad ar ei ben ei hun ym mis Gorffennaf a digwyddiad arall ym mis Chwefror yw hyn. Cawsom gyfres gyfan o gyfarfodydd, o dan gadeiryddiaeth swyddogion, o dan gadeiryddiaeth CNC. Mae ystod gyfan o bethau wedi bod yn digwydd. Ond gofynnwyd i bob sector edrych ar eu meysydd eu hunain i weld beth y gallant ei wneud. 

Yn sicr, mae adeiladwyr tai wedi bod yn rhan o hynny. Maent yn rhan o'r broblem. Mae angen iddynt fod yn rhan o'r ateb. Byddwn yn dweud hynny am ba sector bynnag y byddech chi'n gofyn. Felly, yn hytrach na phawb yn dweud mai bai rhywun arall yw hyn, ceisiwch roi eich tŷ eich hun mewn trefn a chynnig atebion ymarferol, cynaliadwy y gallwn helpu i'w gweithredu a'u hariannu. Yna, gyda'n gilydd, gallwn wneud yn siŵr fod ein hafonydd yn dychwelyd i'r cyflwr y byddem i gyd yn hoffi ei weld. 

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar.

Gwella Canlyniadau Addysgol

1. Pa gamau fydd y Gweinidog yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol disgyblion ysgol yn 2023? OQ58911

Mae cyflwyno Cwricwlwm Cymru yn parhau i fod yn ganolog i'n diwygiadau i wella ansawdd ac ymgysylltiad â dysgu mewn ysgolion a lleoliadau. Byddwn yn parhau i hyrwyddo hyn yn weithredol, ochr yn ochr â'n ffocws ar sgiliau trawsgwricwlaidd a chyfannol fel sylfaen i bob dysgu.  

Diolch. Mae etholwr, sy'n bennaeth gwyddoniaeth a thechnoleg mewn ysgol yng Nghymru, wedi cysylltu â mi yn ddiweddar i wrthwynebu cynigion i integreiddio ffiseg, cemeg a bioleg fel un cymhwyster. Mae fy etholwr yn credu'n gryf fod y cynigion hyn yn amddifadu disgyblion o ddewisiadau ac yn gwanhau ansawdd addysgu gwyddoniaeth yng Nghymru yn ddifrifol drwy leihau ehangder addysg wyddonol myfyriwr. Un o'r rhesymau pam fod graddau gwyddoniaeth y DU yn cael eu parchu mor eang drwy'r byd yw am eu bod mor arbenigol, ac yn llai eang nag mewn llawer o wledydd eraill. Aiff fy etholwr ymlaen i ddweud bod y cynigion hyn yn fygythiad i economi Cymru, sy'n galw am swyddi medrus iawn, ar gyflogau da yng Nghymru, ac mae llawer ohonynt yn dibynnu ar addysg wyddonol o ansawdd uchel, a fyddai'n cael ei beryglu gyda'r cynlluniau hyn ar waith. Mae'r Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol hefyd wedi mynegi pryderon, ac maent yn nodi eu bod yn ofni y bydd y gwyddorau craidd yn colli eu hunaniaeth gan olygu bod pobl yn colli cyfle i ddatblygu diddordeb mawr mewn gwyddoniaeth a fyddai'n eu harwain at yrfaoedd boddhaus yn y dyfodol. Weinidog, beth y gallwch chi ei ddweud wrth fy etholwr, wrth gydweithwyr yn y proffesiwn addysgu, cyrff proffesiynol, a rhieni yng Nghymru sy'n pryderu y bydd y cynigion hyn yn peri niwed difrifol i addysg wyddonol yma yng Nghymru? Diolch.

14:25

Mewn gwirionedd, barn y ddau sefydliad y cyfeirioch chi atynt yw bod y cynnig y mae Cymwysterau Cymru wedi ei gyflwyno yn debygol o gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n dysgu gwyddoniaeth ac yn mynd yn eu blaenau i astudio pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Dyna'r farn y maent wedi'i mynegi wrthym ni mewn gwirionedd. Mae Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar y mater hwn ar hyn o bryd, felly byddwn yn annog eich etholwr i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Mae'n bwysig fod pob llais yn cael ei glywed wrth inni nesáu at y cwestiwn o ail-lunio ein cymwysterau yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae un o bob pum ysgol yng Nghymru yn dysgu tri phwnc gwyddonol ar wahân ar lefel TGAU, felly nid yw'r mwyafrif llethol ohonynt yn gwneud hynny. Nid yw'r cynigion y mae Cymwysterau Cymru wedi eu cyflwyno'n cyfuno'r gwyddorau. Byddant yn cadw eu hunaniaeth ar wahân, ond byddant yn cael eu dysgu mewn ffordd sy'n galluogi cysylltiadau rhyngddynt, sy'n bwysig iawn i'r rhai sy'n mynd ymlaen i astudio'r gwyddorau allu deall y cyd-destun llawnach yn yr ystod ehangaf o wyddorau. Dyna'r mecanwaith y mae Cymwysterau Cymru yn ei argymell. Mae Cymwysterau Cymru wedi gwneud cryn dipyn o waith gyda sefydliadau addysg uwch i sicrhau eu bod yn deall eu safbwyntiau. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau ar ddechrau'r flwyddyn hon, ond byddwn yn annog eich etholwr i gymryd rhan yn y drafodaeth y mae Cymwysterau Cymru yn awyddus i'w hysgogi.

Addysg a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg

2. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r ddarpariaeth o addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg ar draws Pen-y-bont ar Ogwr? OQ58909

Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r awdurdod lleol i gyflawni ei hymrwymiadau cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg i ehangu darpariaeth gofal plant ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae £42.7 miliwn o gyllid wedi cael ei gymeradwyo mewn egwyddor drwy gyfuniad o'n rhaglenni a'n grantiau cyfalaf gofal plant, cyfrwng Cymraeg a Chymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn o'r cyhoeddiad y bydd mwy o fynediad i ddysgwyr allu derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws fy nghymuned a ledled Cymru; mae wedi cael croeso mawr gan fy etholwyr. Roeddwn eisiau tynnu sylw at newyddion da, mewn gwirionedd, sef bod yna gynlluniau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, ac maent wedi symud gam yn nes bellach. Felly, er na fydd yr ysgol ond yn symud pellter byr, mae'n mynd i gynyddu nifer y disgyblion o 378 i 525, rhwng pedair ac 11 oed. Ar ben hynny, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau hefyd i gydleoli darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ar y safle. Ac ym Mhorthcawl mae yna egin ysgol a darpariaeth gofal cyfrwng Cymraeg ar y tir y drws nesaf i Ysgol Gynradd Porthcawl, ac mae honno'n mynd i gynnig gofal llawn i blant rhwng dim a phedair oed yn ogystal â darpariaeth ar ôl ysgol a dros y gwyliau, felly, mae'n cynnig gofal cofleidiol llawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n gwybod hefyd ein bod yn awyddus iawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr i wneud yn siŵr fod yna ddewis i bontio o ofal plant i addysg blynyddoedd cynnar, yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd. Felly, mewn gwirionedd fy nghwestiwn i yw fy mod yn gwybod eu bod yn awyddus iawn ym Mhen-y-bont i chi ddod i ymweld a chyfarfod â rhai o'r ysgolion cyfrwng Cymraeg presennol, a byddai hynny'n wych. Felly, dyna rwy'n awyddus i'w ofyn heddiw, Weinidog. Diolch.

Diolch i Sarah Murphy am dynnu sylw at y datblygiadau cadarnhaol sy'n digwydd mewn perthynas ag addysg Gymraeg yn ei hardal hi. Cefais gyfarfod cynhyrchiol iawn gydag arweinydd y cyngor a'r aelod cabinet dros addysg ychydig wythnosau yn ôl i drafod cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg a lefel eu huchelgais a phwysigrwydd gweithredu'r cynigion a nodwyd yn y cynllun. Mae'r datblygiadau yn Ysgol Bro Ogwr a'r egin ysgol arfaethedig ym Mhorthcawl yn gadarnhaol yn fy marn i, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn datblygu. Dyna'r neges a roddais i arweinwyr y cyngor pan gyfarfûm â hwy yn ddiweddar iawn.

Fe fyddaf yn ymweld ag Ysgol Gyfun Llangynwyd fis nesaf, ac os gellir gwneud trefniadau, gallai hynny gynnig cyfle da i gyfarfod ag aelodau'r cabinet a chydag athrawon o'r sector cyfrwng Cymraeg yn y ffordd y mae hi'n awgrymu. Rydym yn gwybod bod gwella mynediad at addysg Gymraeg yn mynd y tu hwnt i'r cwestiwn pwysig o gynllunio llefydd mewn ysgolion; mae'n galw am gydweithio effeithiol ar draws sectorau, ar draws sefydliadau a'r Llywodraeth ar bob lefel, ac, o'm rhan i, byddaf yn bendant yn sicrhau bod y sianeli cyfathrebu, sydd mor hanfodol i gyflawni hynny, yn parhau ar agor rhwng fy swyddogion i a'r awdurdod lleol.

14:30

Gweinidog, er bod yr ysgolion newydd ym Mracla a Phorthcawl, y mae Sarah newydd sôn amdanyn nhw, yn werth eu croesawu, mae'n bwysig inni atgoffa ein hunain ble mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran profisiwn lleoedd ysgol yn yr iaith Gymraeg. Rydym yn gwybod mai Pen-y-bont yw un o'r ardaloedd gyda'r niferoedd isaf o siaradwyr Cymraeg unrhyw le yng Nghymru, ac un o'r rhesymau am hynny yw mai dim ond pum ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd yn y sir o gymharu â 52 ysgol gynradd cyfrwng Saesneg. Mae hyn yn golygu bod gan sir Ben-y-bont ar Ogwr lai o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg na phob un o'i chymdogion ac nid oes unrhyw gynlluniau gwirioneddol gan y cyngor i gau'r bwlch hwnnw yn arbennig o gyflym. Felly, pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod cynghorau yn cymryd yr iaith yn ddigon o ddifrif a pha gamau y mae ef yn eu cymryd i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael lle mewn ysgol cyfrwng Cymraeg yn eu cymuned nhw?

Cwestiwn pwysig gan yr Aelod, os caf i ddweud. Dwi'n credu, yng nghyd-destun Pen-y-bont yn benodol, un o'r heriau yw bod dim digon o gynnydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac mae hynny'n rhan bwysig o'r cyd-destun y mae'n cyfeirio ato yn ei gwestiwn. Ond rwy'n glir yn fy nhrafodaethau i gyda'r arweinyddiaeth bresennol eu bod nhw'n deall hynny a bod ymrwymiad i wneud cynnydd ar yr hyn sydd gyda nhw yn eu cynlluniau strategol. Mae hynny'n cynnwys pedwar hyb gofal plant newydd—mae dau eisoes wedi agor—a hefyd cynyddu'r nifer o lefydd cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion meithrin, ynghyd â'r cynlluniau o ran Ysgol Bro Ogwr, Ysgol y Ferch o Sgêr ac edrych ar ehangu Ysgol Gyfun Llangynwyd hefyd. Felly, os digwydda hynny fel y mae'r cynllun yn dangos sydd angen digwydd, bydd cynnydd sylweddol yn niferoedd y llefydd plant cyfrwng Cymraeg, ac mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu.

Ar y cwestiwn ehangach, rwyf wedi bod yn glir gyda phob awdurdod rwyf wedi siarad â nhw fy mod yn ddiolchgar am y lefel o uchelgais ym mhob cynllun. Mae pob un sir wedi derbyn yr her rŷn ni wedi'i gosod fel Llywodraeth—ac mae hyn am y tro cyntaf gyda llaw—ac wedi derbyn yr ystod o gynnydd sydd ei angen ym mhob sir. Ac os bydd pob cyngor yn perfformio i ganol yr hyn y maen nhw wedi darogan y byddan nhw, byddwn ni'n sicr yn llwyddo i gyrraedd y nod sydd gennym ni yn 'Cymraeg 2050'. Ond un peth yw cytuno ar beth y mae'r ddogfen yn ei ddweud; peth arall yw delifro ar hynny, ac mae angen sicrhau bod hynny'n digwydd. Ac er mai cynllun 10 mlynedd yw hyn, mae angen cynnydd ym mhob blwyddyn, nid jest dros y ddegawd.

Wrth gwrs rwy'n croesawu'r datblygiadau ynglŷn â Phorthcawl ac Ysgol Bro Ogwr—fy hen ysgol gynradd i. Roedd yn bleser i fynd yn ôl i Fro Ogwr i weld sut oedden nhw'n darparu prydau ysgol am ddim. Roedd yr ystafelloedd yn teimlo lot yn llai nag oedden nhw pan oeddwn i'n ddisgybl fanna, ond dwi ddim yn gwybod beth mae hynny'n ei feddwl—efallai rwyf wedi rhoi bach o bwysau ymlaen ers hynny.

Ond mae sôn bod hen safle Bro Ogwr yn mynd i gael ei droi i mewn i ysgol Saesneg. Mae hyn wrth gwrs yn achosi pryder i nifer o bobl, yn enwedig i'r rheini sy'n ymgyrchu am fwy o addysg Gymraeg ym Mhen-y-bont. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn gallu cadarnhau y bydd yn cysylltu â chyngor Pen-y-bont i sicrhau bod hen safle Bro Ogwr yn aros fel ysgol Gymraeg a ddim yn cael ei droi i mewn i ysgol Saesneg?

Wel, rwy'n cael y cyfle i fynd i ysgolion cynradd ledled Cymru, fel y mae'r Aelod yn sôn, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn deimlad cyffredin i fi hefyd—bod yr ysgolion llawer yn llai—felly, dwi'n rhannu'r pryder hwnnw efallai gydag e hefyd.

Beth rwy'n ymrwymo i'w wneud yw sicrhau fy mod i'n mynnu bod cynnydd yn digwydd yn ôl beth y mae'r cynllun strategol yn ei ddweud. Bydd ganddyn nhw bartner yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw wrthym ni i wneud hynny, ond mae hefyd disgwyliad arnyn nhw eu bod yn cyflawni'r hyn sydd yn y cynllun, a dwi'n ffyddiog ar sail y sgwrs rwyf i wedi'i chael eu bod nhw'n bwriadu gwneud hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Samuel Kurtz.

Diolch, Llywydd. Blwyddyn newydd dda i chi, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yr un mor bryderus â minnau am y gostyngiad yn y defnydd o'r Gymraeg yn yr adroddiad a ddisgrifiwyd yng nghanlyniadau cyfrifiad 2021. Yn eich ymateb i gwestiwn gan Heledd Fychan ar y pwnc cyn y Nadolig, dywedaist ti fod rhai ffynonellau data yn dangos cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg, tra bod eraill, gan gynnwys y cyfrifiad, yn dangos gostyngiad. Mae'r anghysondeb yma yn y data yn broblem oherwydd mae angen gwybodaeth gywir i wneud penderfyniadau da am ddyfodol yr iaith.

Yn meddwl am hynny, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod eu holl ddulliau o gasglu data yn gywir ac yn gyson, ac ar ba ddata y dylem farnu llwyddiant polisi 'Cymraeg 2050'?

14:35

Cwestiwn pwysig iawn, os caf ddweud hynny. Mae'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad, yn benodol ymhlith plant ysgol pump i 15 oed, ac mae hynny, wrth gwrs, yn destun pryder. Ond, fel mae'r Aelod yn ei ddweud yn ei gwestiwn, nid dyna'r unig ffynhonnell sydd gennym ni. Mae arolwg blynyddol y boblogaeth yn dangos bod cynnydd wedi bod dros yr un cyfnod, a dyna'r tro cyntaf i'r ddwy ffynhonnell, dros yr un cyfnod, ddangos cyfeiriad gwahanol. Felly, mae hynny'n rhan bwysig o'r tirlun.

Nid Llywodraeth Cymru sy'n casglu'r data. Mae hynny'n digwydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol; y rheini sy'n casglu'r data yn y ddwy ffynhonnell. Felly, mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr ystadegydd cenedlaethol am y gwahaniaethau hyn i weld beth allwn ni ei wneud i ddeall yr hyn sydd y tu ôl i hynny, a dwi'n edrych ymlaen at weld yr ONS yn cydweithio â'n hystadegwyr ni yn y Llywodraeth ar y mater. Mae'r Aelod yn gwbl iawn i ddweud, er mwyn cael sail o dystiolaeth ddibynadwy ar gyfer llunio polisi, mae'n rhaid deall pam fod ffynonellau yn dangos pethau gwahanol. Mae'r ffordd mae'r data yn cael ei gasglu, a'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn, yn wahanol yn y ddwy ffynhonnell. Felly, mae hynny, yn sicr, yn rhan o'r esboniad, ond mae'n rhaid deall y cyd-destun ehangach hefyd.

Diolch i chi am eich ateb. Mae'n bwysig i ni yma, a phawb sydd eisiau i'r iaith lwyddo, ymddiried a gallu craffu ar y polisïau a'r data a ddefnyddir i'w cefnogi. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio data i fesur llwyddiant eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, neu'r WESPs, fel y clywom ni yn gynharach. Os yw'r data yn annibynadwy, fe allai rwystro eu hymdrechion i ddatblygu mwy o siaradwyr Cymraeg. Yn ystod cyfarfod pwyllgor, dywedaist ti na allwch chi ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol gyrraedd eu targedau neu eu hymrwymiadau o dan y WESPs, ond efallai y byddech yn ceisio rhoi mwy o awdurdod ac atebolrwydd i chi'ch hun drwy gyfrwng Bil addysg Gymraeg, os yn bosib. Os caiff y ddeddfwriaeth hon ei phasio, pa bwerau a ydych chi'n bwriadu eu rhoi i chi'ch hun i wneud yn siŵr bod y WESPs yn llwyddiant?

Wel, dwi jest eisiau dweud hefyd, o ran casglu data ar lefel leol—mae e, wrth gwrs yn bwysig, fel mae'r Aelod yn dweud—mae darn o waith yn digwydd eisoes gyda grŵp bach o awdurdodau lleol i ddeall sut, er enghraifft, yng nghyd-destun sgiliau ieithyddol y gweithlu addysg lleol, beth yw hynny o ran ôl troed lleol, a sut i allu cysoni'r data yna yn genedlaethol, fel bod gennym ni ddarlun ehangach. Jest un enghraifft yw honno. Felly, mae gwaith yn digwydd eisoes o ran cysoni'r ffyrdd o gasglu a deall y data hynny.

O ran y cwestiwn arall, mae hynny'n rhan o'r trafodaethau rŷn ni'n eu cael ar hyn o bryd gyda Phlaid Cymru ynglŷn â chynnwys y Bil. Wrth gwrs, byddaf yn awyddus i sicrhau bod hynny yn cael ei drafod yn gyhoeddus, a chyn gynted ag y gallwn ni. Y bwriad yw i gael Papur Gwyn cyn ein bod ni'n deddfu, fel bod cyfle i gael trafodaeth ehangach ar y math o bwerau sydd yn addas i'r Llywodraeth eu cael yn y cyd-destun hwnnw.

Diolch, Weinidog. Mae'r ddau ohonom ni eisiau i'r Gymraeg gael ei defnyddio'n hyderus ac yn naturiol ym mhob sefyllfa, megis yn y Senedd hon, ar y stryd neu yn y dosbarth. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn digwydd. Er enghraifft, dim ond ar-lein y gellid cynnal cyfarfod cyngor llawn olaf sir Benfro ym mis Rhagfyr oherwydd nad oedd gwasanaethau cyfieithu amser real ar gael. Yn ogystal, mae cyfarfodydd cyngor blaenorol wedi eu rhwystro, gyda chynghorwyr Cymraeg eu hiaith yn cael eu gorfodi i siarad Saesneg oherwydd bod y gwasanaethau cyfieithu dwyieithog yn y siambr yn achosi oedi sylweddol o ran cyfieithu amser real.

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau lleol gynnig gwasanaethau cyfieithu. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n hyderus ac yn naturiol mewn cynghorau sir a chynghorau cymuned ledled Cymru? Diolch.

14:40

Wel, mae gan gynghorau lleol gyfrifoldebau cyfreithiol wrth gwrs yn y cyd-destun hwnnw. Felly, mae eisoes system i orfodi safonau i gael eu cytuno â nhw yn lleol. Felly, mae hynny ar waith eisoes, felly mae hawliau gan bobl, mae hawliau iddyn nhw gael hynny wedi cael ei weithredu. Un o'r pethau rŷn ni wedi bod yn ei wneud fel Llywodraeth—roedd e'n sôn am y cwestiwn o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a chyfarfodydd ar-lein—rŷn ni wedi bod yn ceisio, fel Llywodraeth, cefnogi arloesedd yn y maes hwnnw, fel ein bod ni'n sicrhau yr ystod ehangaf bosib o ffyrdd o gael cyfarfodydd lle mae'r Gymraeg yn rhan greiddiol o hynny. Felly, yn ddiweddar, rŷn ni wedi cyhoeddi gwaith gyda Microsoft fel bod nawr functionality yn Teams, fel oedd yn Zoom—mae lot o gyrff cyhoeddus yn defnyddio Teams yn hytrach na Zoom—mae nawr yn bosib i gael cyfieithu ar y pryd drwy Teams. Dyma'r lle cyntaf yn y byd y mae hyn wedi digwydd. Ac yn sgil y gwaith rŷn ni wedi ei wneud gyda Microsoft, bydd unrhyw sefydliad rhyngwladol dwyieithog, yn unrhyw ran o'r byd, nawr yn gallu manteisio ar yr hyblygrwydd hynny. Felly, mae arloesi ym maes digidol, er mwyn sicrhau bod ystod o gyfarfodydd yn gallu digwydd, yn rhan bwysig iawn o ehangu defnydd yn y math o fywyd pob dydd sydd gan bobl nawr.

Diolch, Llywydd. Mae mwyafrif asesiadau anabledd arbenigol ar gyfer myfyrwyr prifysgol sy'n gymwys ar gyfer y lwfans myfyrwyr anabl datganoledig yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gan ganolfannau asesu arbenigol yng Nghymru, sy'n deall anghenion myfyrwyr prifysgol Cymru, a thirwedd datganoledig addysg uwch Cymru. Mae'r arbenigwyr hyn mewn canolfannau asesu sydd wedi eu lleoli yng ngwasanaethau anabledd prifysgolion Cymru yn staff profiadol, sy'n deall systemau cefnogaeth anabledd Cymreig a'r cyrsiau a'r amgylchedd addysgol y mae'r myfyrwyr Cymreig yn rhan ohonynt. Ac felly, mae'r lwfans yn cael ei dargedu'n bersonol at anghenion pob myfyriwr unigol—rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei argymell fel arfer gorau. Darperir DSA yng Nghymru gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru, ac maent yn y broses o dendro gwasanaethau DSA, gan gynnwys asesiadau, ar hyn o bryd. Er bod DSA wedi ei ddatganoli, mae'n ymddangos bod Cymru wedi ei thwlu mewn i barth gyda gorllewin a dwyrain canolbarth Lloegr ar gyfer y broses dendro, a fydd, i bob pwrpas, yn golygu y gallai gwasanaethau asesu DSA yng Nghymru gael eu cymryd mas o ddwylo'r arbenigwyr Cymreig hyn, gan efallai anfanteisio'n myfyrwyr ni. Felly, hoffwn wybod pam y mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i Gymru gael ei thrin fel hyn yn y broses dendro a chaffael, a pha ran y mae'r Gweinidog wedi ei chael yn y broses, er mwyn sicrhau nad yw cyfleon myfyrwyr anabl o Gymru'n cael eu peryglu, a busnesau arbenigol yng Nghymru o dan anfantais. A hoffwn wybod hefyd sut y bydd gofynion iaith Gymraeg myfyrwyr anabl yn cael eu hasesu'n gywir yn erbyn eu hanabledd os bydd sefydliad o'r tu fas i Gymru, heb unrhyw wybodaeth arbenigol am y dirwedd addysg Gymraeg, dim gwybodaeth o ymrwymiadau ac arferion ieithyddol, yn ennill y tendr.

Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn pwysig hwn. Dwi ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn, os byddaf i'n gwbl onest â hi, ond mae'n swnio i fi fel pe bai angen edrych i mewn iddo fe. Mae'n amlwg yn destun pwysig, mae'n amlwg bod unrhyw rwystr i fyfyrwyr yng Nghymru gael mynediad llawn a hafal i'w hawliau, ac yn sicr yng nghyd-destun budd-daliadau, yn rhywbeth pwysig. Felly, mi wnaf i ymrwymo i edrych mewn i hynny.

Diolch yn fawr iawn. Roedd llawer ohonom yn bresennol yn y rali a drefnwyd gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ar risiau'r Senedd ym mis Rhagfyr, ac rwy'n gwybod, Weinidog, i chi alw draw hefyd i siarad â myfyrwyr, a oedd yn adrodd i ni straeon brawychus am y ffordd y maen nhw'n cael trafferth â chostau trafnidiaeth, biliau ynni, rhent, bwyd, ac yn y blaen. Ac rwyf i wedi codi â chi o'r blaen sut y mae dysgwyr addysg bellach ac uwch a rhai mewn hyfforddiant yn cael eu taro mewn modd unigryw gan yr argyfwng costau byw, gan nad ydyn nhw'n gymwys am y rhan fwyaf o'r taliadau cymorth sydd ar gael a ddim mewn sefyllfa i fedru cynyddu eu hincwm. Ac felly, siomedig oedd y ffaith nad oedd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn, er gwaethaf effaith drychinebus costau cynyddol ar fyfyrwyr. Weinidog, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod myfyrwyr a dysgwyr ôl-16 o bob math yn cael eu cefnogi y tu hwnt i'r pecyn cymorth cyllid?

Ac o ffocysu ar brentisiaid yn benodol, gyda nifer gynyddol o bobl ifanc yn cael eu denu i swyddi isafswm cyflog cenedlaethol neu gyflog byw cenedlaethol heb hyfforddiant, beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi prentisiaid yn ystod yr argyfwng costau byw, yn enwedig y rhai ar yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid o ddim ond £4.81 yr awr?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fe ges i sgwrs fanwl iawn â'r myfyrwyr a oedd wedi dod i ymgyrchu y tu allan i'r Senedd, ac roedd hi'n bwysig cael y cyfle i glywed wrthyn nhw'n uniongyrchol yr hyn oedd yn eu pryderu nhw o ran pwysau costau byw.

Yn addysg bellach ac yn addysg uwch, mae gan y Llywodraeth ystod o bethau rŷn ni'n eu gwneud i gefnogi myfyrwyr. O ran addysg bellach, rŷn ni'n parhau gyda'r education maintenance allowance. Rydyn ni'n sicrhau bod ffyrdd o ehangu cyrhaeddiad yr EMA, sicrhau bod pobl yn gallu cynnig o fewn y flwyddyn os ydy eu hamgylchiadau nhw'n newid, ac yn cael gofyn wedyn am backdating o ran eu cymhwysedd nhw am y budd-dal hwnnw. Rŷn ni hefyd yn parhau gyda'r financial contingency fund. Fe wnes i ddatgan yn y Senedd yn ddiweddar fy mod i'n bwriadu cynyddu lefel hwnnw. Dyna'r bwriad o hyd. Mae hynny'n ffordd bwysig o sicrhau bod colegau'n gallu cefnogi myfyrwyr sydd mewn amgylchiadau o galedi. 

O ran addysg uwch, mae gyda ni ystod o ffyrdd rŷn ni'n cefnogi myfyrwyr. Mae gyda ni'r pecyn cefnogaeth ariannol mwyaf cefnogol yng Nghymru o unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol. Fel rhan o hwnnw, fe fyddaf yn datgan yn yr wythnosau nesaf y cynnydd yn lefel y cymorth fydd yn dod i fyfyrwyr yn sgil hynny. Dwi'n bwriadu gwneud hynny cyn diwedd y mis, gobeithio. Mae pob myfyriwr yng Nghymru yn gymwys am isafswm grant a wedyn cymysgedd o grant a benthyciadau yn uwch na hynny. Ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Gyfunol sydd yn lleihau lefel dyled myfyrwyr pan fyddan nhw'n dechrau talu hynny yn ôl, gan ryw £1,500. Rŷn ni'n gwneud hynny. Rŷn ni hefyd newydd ddatgan cronfa bellach i HEFCW i'w dosbarthu i fyfyrwyr o ran cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau cefnogaeth ariannol a gwasanaethau gofal iechyd meddwl. Felly, mae amryw o ffyrdd rŷn ni'n mynd ati i geisio cefnogi myfyrwyr, ynghyd â'r gwaith mae'r sefydliadau eu hunain yn ei wneud ar y campws a thu hwnt i'r campws i gefnogi myfyrwyr. Ond, mae'n sicr ddigon bod y pwysau ar rai myfyrwyr yn sylweddol iawn.

Mae her benodol gan fyfyrwyr sy'n dod o dramor sydd ddim yn gallu manteisio ar y cefnogaeth ariannol rŷn ni'n ei roi fel Llywodraeth. Mae rhyw elfen o dystiolaeth y byddwn ni'n disgwyl gweld mwy a mwy o'r rheini'n cynnig am y cronfeydd caledi ac ati. Felly, mae'n sicr ddigon, a chlywais i fy hunan gan y myfyrwyr hynny, fod y sefyllfa'n gallu bod yn anodd iawn iddyn nhw. 

14:45
Ysgolion a Chymunedau Gwledig

3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r iaith Gymraeg mewn ysgolion a chymunedau gwledig? OQ58914

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fis Awst diwethaf, fe wnes i lansio comisiwn i ddiogelu dyfodol cymunedau Cymraeg. Fe wnes i gymeradwyo hefyd gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg pob un o’r 22 awdurdod lleol, sy’n nodi sut mae’r awdurdodau lleol yn bwriadu gwella addysg cyfrwng Cymraeg dros y 10 mlynedd nesaf.

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Dwi eisiau canolbwyntio, os yw hynny'n iawn, ar y WESPs—rydych chi wedi sôn am y WESPs mewn cwestiwn arall—yn enwedig ar y rhan o'r WESPs sy'n sôn am ysgolion uwchradd a sut mae ysgolion cynradd mewn llefydd gwledig yn gallu sicrhau bod gan yr ysgolion uwchradd y rhifau o'r disgyblion i fynd i mewn i'r ysgolion uwchradd. Mae yna gydbwysedd yma, dwi'n siŵr eich bod chi'n gweld. Ym Mhowys, mae penderfyniad wedi cael ei wneud i gau ysgol Llanfihangel Rhydieithon, ysgol gynradd Saesneg sydd eisiau bod yn ysgol gynradd Gymraeg. Yn eich barn chi, sut gall y WESP i ysgolion uwchradd helpu sicrhau bod ysgolion cynradd yn goroesi mewn llefydd gwledig? Diolch yn fawr iawn.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. O ran cau'r ysgol benodol mae'r Aelod yn sôn amdani, gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw yn gynharach y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r penderfyniad wedi'i ohirio o ran ei gymryd mewn i effaith ar gyfer eleni, fel bod cyfle'n cael ei gymryd i edrych a oedd cynllun amgen ar gyfer sicrhau sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Mae'r adolygiad hwnnw wedi digwydd, fel rwy'n deall, ac, yn ei gyfarfod mwyaf diweddar, mae'r cyngor wedi penderfynu parhau gyda'r penderfyniad gwreiddiol. Does gen i fel Gweinidog ddim cyfle pellach i fod yn rhan o'r broses honno. Chefais i ddim unrhyw gwynion wrth y cyhoedd o fewn y ffenestr oedd gennyf i fel Gweinidog i allu ymwneud â'r penderfyniad, felly dyw hynny bellach ddim yn opsiwn.

Fel mae'r Aelod yn dweud, mae'n bwysig, wrth edrych ar ddarpariaeth ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, fod cynghorau yn mynd i'r afael gyda dosbarthiad daearyddol darpariaeth. Mae hynny'n elfen bwysig iawn. Rŷn ni wedi sôn eisoes yn y Siambr nad dim ond rhifau sy'n bwysig, ond mae'r dosbarthiad a lleoliad y ddarpariaeth yn rhannau elfennol o sicrhau ffyniant yr iaith. Rwyf wedi cwrdd â'r cyngor ym Mhowys i sôn am eu cynlluniau strategol nhw. Maen nhw wedi sôn eisoes am gynlluniau, efallai, i edrych eto ar rai o'r pethau oedd gyda nhw i'w dweud o ran darpariaeth uwchradd. Felly, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn trafod hynny gyda nhw ar hyn o bryd. 

14:50

Diolch, Weinidog. Weinidog, fe ddywedoch chi y bore yma yn y pwyllgor addysg fod arian ar gael yng nghyllideb Llywodraeth Cymru i sefydlu addysg cyfrwng Cymraeg newydd. Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Mae gweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghyngor Sir Powys wedi gwneud dewis gwleidyddol i beidio â sefydlu darpariaeth gynradd Gymraeg yn Nolau. Weinidog, penderfyniadau cul fel hyn, wedi'u seilio ar y diffyg siaradwyr Cymraeg mewn ardal, yw'r rheswm pam nad yw'r iaith yn cael ei datblygu ymhellach yn sir Faesyfed. Felly, Weinidog, hoffwn glywed gennych chi beth y gallwch chi ei wneud fel Gweinidog y Gymraeg i sicrhau bod cynghorau fel Powys yn datblygu'r iaith yn sir Faesyfed ac nad ydynt yn gwneud penderfyniadau cul, a'u bod yn edrych tuag at y dyfodol mewn perthynas â datblygu'r iaith mewn llefydd gwledig fel sir Faesyfed?

Rwyf wedi bod yn glir gyda phob cyngor—nid wyf am enwi unrhyw gyngor yn benodol—rwyf wedi bod yn glir gyda phob cyngor fy mod yn disgwyl iddynt gyflawni'r uchelgeisiau y maent wedi'u hamlinellu yn eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ac yn amlwg dyna yw bwriad y cynghorau eu hunain hefyd. Rwyf hefyd wedi dweud y byddwn yn ystyried i ba raddau y mae rhwymedigaethau'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn cael eu cyflawni wrth edrych ar y ceisiadau ehangach am gyllid ar draws yr ystad addysg. Felly, byddaf yn disgwyl gweld bod cynnydd yn digwydd mewn ffordd gymharol gyda'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, fel gyda phob cynllun addysg arall, wrth wneud y penderfyniadau ariannu hynny. Ond y pwynt a wneuthum yn y pwyllgor y bore yma oedd: mae'r Llywodraeth yn darparu cyllid, a chyllid sylweddol yn wir, er mwyn galluogi awdurdodau i gyflawni eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ac rydym yn hapus i wneud hynny. Byddwn yn parhau i wneud hynny, ac edrychwn ymlaen at weld awdurdodau'n cydymffurfio â'r cynlluniau uchelgeisiol y mae pob un ohonynt wedi'u nodi. 

Pynciau STEM

4. Sut bydd Llywodraeth Cymru'n cynyddu'r nifer sy'n dewis pynciau STEM ymhlith myfyrwyr Gorllewin De Cymru? OQ58908

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £1.5 miliwn mewn cyllid grant eleni i gefnogi'r gwaith o gyflawni mentrau STEM, gyda'r prif nod o gefnogi a datblygu gweithgareddau cyfoethogi STEM, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ac annog pobl i ddilyn pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch.

Diolch. Yr wythnos diwethaf, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Sony Bridgend, sy'n ymddeol, fod angen i Gymru fod yn fwy arloesol, ac mai'r allwedd i'n llwyddiant fydd addysgu, meithrin a chadw talent yma yng Nghymru. Mae Mr Dalton yn credu bod dyfodol gwych i weithgynhyrchu yng Nghymru os gallwn ddysgu arloesi, datblygu technolegau gwyrdd a chanolbwyntio ar farchnadoedd heb eu cyffwrdd y tu allan i'r UE. Weinidog, a ydych yn cytuno bod yn rhaid inni addasu a datblygu ein strategaeth sgiliau? Sut y byddwch chi'n annog mwy o bobl ifanc i astudio gwyddoniaeth a pheirianneg, ac yn anad dim, annog myfyrwyr i astudio'r pynciau hyn ym mhrifysgolion Cymru ac yna aros yng Nghymru? 

Diolch am y cwestiwn hynod bwysig hwnnw, Altaf Hussain. Mae angen inni arfogi ein dysgwyr. Boed yn dewis dilyn trywydd gyrfaoedd mewn pynciau STEM neu beidio, mae angen inni arfogi ein holl ddysgwyr i wynebu dyfodol o newid technolegol ac economaidd cyflym, ac mae sgiliau digidol a'r math o hyblygrwydd a chreadigrwydd sy'n mynd gyda rhai o'r rheini, ochr yn ochr â'r wybodaeth ei hun, yn ofynion cwbl hanfodol i'n pobl ifanc. Mae hynny'n rhan ganolog, wrth gwrs, o arlwy'r Cwricwlwm newydd i Gymru, boed hynny drwy feysydd dysgu a phrofiad neu'r ffocws penodol ar yrfaoedd STEM yn enwedig.

Gyda llaw, mae hefyd yn bwysig mynd i'r afael â chwestiynau sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb. Mae yna ragfarn ar sail rhywedd o hyd mewn perthynas â mynediad at bynciau STEM a rhai o'r stereoteipiau sy'n mynd ochr yn ochr â dewis pynciau STEM. Felly, fe wnaethom siarad ychydig yn y cwestiwn cynharach gyda Natasha Asghar ynglŷn â sut y gallai diwygio ein cymwysterau annog mwy o bobl i ddilyn pynciau STEM, ac mae hynny'n rhan bwysig iawn o hyn. Ond yn ogystal â hynny, rydym yn darparu cyllid sylweddol i amrywiaeth o fentrau sydd wedi'u hanelu at ddisgyblion cynradd ac uwchradd, gyda llaw. Mae'n bwysig iawn ein bod yn dechrau ar y gwaith hwnnw yn yr ysgolion cynradd, boed yn gyllid a ddarparwn i Techniquest ac Explore, er enghraifft, sy'n annog plant ysgolion cynradd yn enwedig i gymryd rhan, ond hefyd y cyllid a ddarparwn ar gyfer pethau fel Cynllun Addysg Beirianneg Cymru, i Technocamps, sy'n darparu codio mewn ysgolion ledled Cymru, y rhaglen gymorth mathemateg bellach rydym yn ei hariannu drwy Brifysgol Abertawe, y rhaglen Rhwydwaith Ysgogi Ffiseg drwy'r Sefydliad Ffiseg. Mae yna amrywiaeth o ffyrdd rydym yn annog pobl ifanc i astudio pynciau STEM, ac rwy'n cytuno â'r person y siaradodd ag ef, rwy'n credu, fod yna ddyfodol disglair iawn i bobl ifanc Cymru yn y sectorau hyn yng Nghymru, ac rydym ni fel Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cefnogi ysgolion i wneud hynny.

14:55
Addysgu Sgiliau

5. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant yn cael eu haddysgu yn system addysg Cymru? OQ58905

Mae adrannau'r economi ac addysg yn cydweithio'n agos iawn i sicrhau bod anghenion sgiliau'n cael eu diwallu, gyda rôl allweddol ar gyfer partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Mae cyfrifon dysgu personol yn un enghraifft yn fy maes i, gydag ymyriadau wedi'u targedu mewn meysydd fel sero net a gyrru cerbydau nwyddau trwm eisoes yn sicrhau canlyniadau llwyddiannus.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Mae cwmnïau fel Airbus yn fy etholaeth fy hun yn buddsoddi mewn gwaith i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau i ddarparu'r awyren ddi-allyriadau gyntaf yn y byd. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen pontio sgiliau'n sylweddol ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod gan Gymru y doniau cywir i gynhyrchu awyrennau mewn modd gwyrdd ym Mrychdyn yn y dyfodol. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi sut mae eich adran yn gweithio ar y cyd nid yn unig gydag adran Gweinidog yr Economi, ond gyda phartneriaid yn y diwydiant a'n cydweithwyr yn yr undebau llafur i sicrhau bod ein system addysg yn sicrhau'r doniau sydd eu hangen ar Gymru sero net yn y dyfodol? 

Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Mae'r cydweithio hwnnw o fewn y Llywodraeth ac yn fwy eang o lawer na hynny yn rhan wirioneddol bwysig o'n dyfodol ni o ran y ddarpariaeth sgiliau yng Nghymru. Rwy'n credu bod cydweithio rhwng addysg bellach, addysg uwch a phrif chwaraewyr y sector fel Airbus yn gyfres gyffrous iawn o ddatblygiadau ar y gorwel, lle mae gennych chi ymchwil dechnegol, alwedigaethol, academaidd, gymhwysol, ac rwy'n credu y bydd y cynnig hwnnw sy'n cael ei gynnig mewn ffordd gydgysylltiedig, integredig iawn yn arwain at ddyfodol cadarnhaol iawn ar gyfer ein darpariaeth sgiliau yng Nghymru. 

O ran yr hyn rydym yn ei wneud yn benodol yn y Llywodraeth, bydd y cynllun gweithredu sgiliau sero net a fydd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Chwefror, rwy'n credu, yn ateb y math o gwestiynau y mae'r Aelod yn eu gofyn heddiw yn llawnach, ond mae hynny'n rhagdybio cydweithio agos rhwng y Llywodraeth, y diwydiant, undebau llafur, ond hefyd ysgolion a cholegau addysg bellach hefyd, i wneud yn siŵr fod hyn yn rhan o wead y system gyfan mewn gwirionedd. Un o'r mentrau rydym eisoes yn eu gwneud yw e-fodiwl o fis Medi y llynedd. Felly, yn ystod y flwyddyn academaidd hon, am y tro cyntaf, mae pob dysgwr galwedigaethol lefel 3 yn gallu cael mynediad at gyfres o e-fodiwlau Cymru Sero Net sy'n benodol i'w dewis arbennig o alwedigaeth ond sy'n eu gosod yn y cyd-destun sgiliau gwyrdd ehangach hwnnw, sy'n bwysig iawn i roi dealltwriaeth i bobl o sut y gellir defnyddio'r hyn y maent yn ei ddysgu yn y gweithle. 

Felly, mae llawer o waith o'r math hwnnw ar y gweill, ond mae'n allweddol ein bod yn chwalu'r rhwystrau ar draws yr economi, a'r holl gyfranwyr a chwaraewyr perthnasol yn hynny, fel y gallwn weithredu'r weledigaeth gyffredin honno ar lawr gwlad. 

Weinidog, rwy'n ddiolchgar am eich ymateb i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, a gododd fater hynod o bwysig y prynhawn yma. Rwy'n ymwybodol fod y sector peirianneg sifil yn hynod bryderus am ddiffyg darpariaeth sgiliau addas, yn enwedig ar gyfer gweithwyr tir yng Nghymru. Mae'n ymddangos nad oes darpariaeth ar hyn o bryd yn unrhyw un o golegau addysg bellach Cymru ar gyfer prentisiaethau gwaith tir, er bod adeiladu, wrth gwrs, yn cael ei ystyried yn sector blaenoriaeth uchel ar gyfer buddsoddi sgiliau gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol ac wrth gwrs drwy gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau sy'n cael eu sianelu drwy'r sector addysg bellach. Mae'n ymddangos bod yna ddiffyg cysylltiad rhwng sgiliau blaenoriaeth a chyflawniad Llywodraeth Cymru drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a'r colegau yng Nghymru. Felly, Weinidog, a fyddech yn gallu edrych ar hyn ar frys i wneud yn siŵr nad yw'r sgiliau gwirioneddol bwysig hynny mewn perthynas â gwaith tir yn cael eu colli yma yng Nghymru? 

Ie. Holl bwynt y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yw casglu data'r diwydiant ar gyfer y gwaith cynllunio y mae colegau addysg bellach yn gallu ei wneud er mwyn darparu. Ond hefyd, mae'r berthynas rhwng colegau addysg bellach eu hunain a'r sectorau penodol yn gwbl hanfodol i'w galluogi i ymateb yn hyblyg ac mewn ffordd sy'n mynd i'r afael ag anghenion y farchnad lafur leol ac sy'n cynnig yr ystod orau bosibl o opsiynau i'w dysgwyr. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny ymhellach.

15:00
Ieithoedd Tramor Modern

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysgu ieithoedd tramor modern? OQ58927

Yn sicr. 'Dyfodol Byd-eang' yw ein strategaeth ar gyfer dysgu ieithoedd rhyngwladol, a chyhoeddais ein strategaeth ddiwygiedig tuag at ddiwedd y llynedd. Mae honno'n amlinellu sut y byddwn ni a'n partneriaid 'Dyfodol Byd-eang' yn parhau i gefnogi ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion am dair blynedd arall.

Weinidog, mae gan y cwricwlwm newydd ymrwymiad i wneud Cymru'n genedl wirioneddol amlieithog. Hefyd, ceir yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i'r perwyl hwnnw ac fel y dywedwch, mae'r strategaeth 'Dyfodol Byd-eang' wedi'i diweddaru'n ddiweddar hefyd. Ond er hynny i gyd, Weinidog, gwyddom fod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio Almaeneg a Ffrangeg ar lefel TGAU a Safon Uwch. Rwy'n credu ei fod wedi gostwng i oddeutu hanner rhwng 2015 a 2021. Rwy'n siŵr fod yna ffactorau amrywiol y tu ôl i hyn, Weinidog, ond yn amlwg mae'n duedd anffodus iawn, o ystyried uchelgeisiau datganedig Llywodraeth Cymru. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yma eisiau gweld Cymru'n bod yn wlad ryngwladol sy'n cynnig cyfleoedd i'n pobl ifanc o ran gwaith a theithio a datblygiad personol. Weinidog, o ystyried y realiti ar lawr gwlad ar hyn o bryd, tybed beth yn fwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gan weithio gydag ysgolion, athrawon a darparwyr addysg eraill, i wyrdroi'r duedd hon a gweld y math o gynnydd y mae Llywodraeth Cymru am ei weld yn y dyfodol.

Diolch i John Griffiths am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n cytuno ag ef; mae'n bryderus. Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn dewis astudio ieithoedd tramor modern. Mae wedi gohebu â mi yn y gorffennol yn enwedig ynglŷn â'r dirywiad yn y ddarpariaeth Almaeneg, ac rwy'n cydnabod hynny. Y patrwm rydym yn ei weld yw, lle mae myfyrwyr yn cofrestru ar gyfer cymwysterau yn y meysydd hynny, maent yn dal i wneud yn dda iawn ynddynt, ond mae'r niferoedd yn rhai o'r meysydd hynny'n gostwng, fel y mae'n dweud. Fel Llywodraeth, rydym wedi edrych eto ar y strategaeth a fu gennym ers tair blynedd, ac wedi ceisio nodi'r pethau y mae angen ailffocysu arnynt, os hoffech, er mwyn ystyried yr hyn a ddysgwyd gennym dros y cyfnod hwnnw. Mae yna dair blaenoriaeth y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn y cyfnod nesaf o dair blynedd yr ydym yn ymrwymo iddynt: yn amlwg, cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol ledled Cymru—dyna'r amcan sylfaenol—ond wrth wneud hynny, canolbwyntio ar ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar addysgwyr eu hunain i'w darparu, a hefyd herio rhai o'r camsyniadau sy'n ymwneud â dysgu iaith, sydd â rhan i'w chwarae yn yr her yn fy marn i.

Byddwn yn cynnig ystod o gymorth, gan gynnwys cyllid penodol i athrawon cynradd gyda rhaglen datblygiad proffesiynol y Brifysgol Agored, Teachers Learning to Teach Languages, sy'n rhoi cyfle i athrawon cynradd ddysgu iaith newydd, boed yn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Tsieinëeg Mandarin, a sut wedyn i ddysgu honno yn yr ystafell ddosbarth. Ymwelais â fy hen ysgol gynradd ddiwedd y tymor diwethaf a chlywais y bobl ifanc yn un o'r dosbarthiadau cynradd yn dysgu Sbaeneg. Roeddwn yn meddwl mai dyna'r union fath o beth sydd angen inni weld mwy ohono. Byddwn yn parhau â rhaglen sydd wedi bod yn llwyddiannus—y rhaglen mentora myfyrwyr—sy'n rhoi cymorth uniongyrchol ar lefel uwchradd gyda myfyrwyr sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn mynd i'r maes i hyrwyddo astudio iaith i fyfyrwyr TGAU a thu hwnt, gan sôn am eu profiadau personol o wneud hynny. Ond hefyd, rydym yn ceisio cysylltu'r gwaith a wnawn drwy 'Dyfodol Byd-eang' gyda gwaith Taith. Rwy'n meddwl bod rhai synergeddau yn y maes hwnnw ac rwy'n falch fod hynny wedi gallu cael ei gysylltu, fel ein bod yn gallu cysylltu, ym meddyliau pobl ifanc, y cyfle i astudio dramor, efallai, gyda'r cyfle i ddysgu iaith newydd a chynnig y cyfle mwy cyfannol hwnnw.

Felly, rwy'n meddwl bod nifer o bethau y gallwn eu gwneud. Rwy'n obeithiol iawn y gwelwn duedd well yn y cyfnod nesaf o dair blynedd na'r hyn a welsom yn y cyfnod diwethaf o dair blynedd. Ond rhaid cyfaddef, rwy'n credu y bydd y pwynt y dechreuodd gydag ef, rôl ieithoedd yn y cwricwlwm, yn gwneud cyfraniad sylweddol yn fwy hirdymor.

15:05

Credaf yn gryf fod angen i'n system addysg addasu i adlewyrchu anghenion y farchnad swyddi i'r dyfodol, a hynny'n lleol, yn genedlaethol ac, wrth gwrs, yn rhyngwladol gyda'r cyfleoedd sy'n codi nawr oherwydd Brexit ac agor ein hunain i weddill y byd. Er eich bod wedi taflu £5.7 miliwn tuag at eich rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Dyfodol Byd-eang', fel yr amlinellodd John Griffiths nawr, rydym wedi gweld y duedd ar i lawr yn y nifer sy'n dewis y pynciau TGAU hynny, ac mae'n destun pryder. Rwy'n croesawu eich bwriad yn y cynllun diwygiedig hwn, ond os ydym o ddifrif am wreiddio ieithoedd tramor modern yn y cwricwlwm newydd a chael llwyddiant, mae angen cynllun difrifol arnom i allu recriwtio a chadw athrawon ieithoedd modern ar gyfer pob grŵp oedran, cynradd ac uwchradd, a'r arian i ddilyn hynny. Ni fydd cynnig rhaglen uwchsgilio i athrawon cynradd yn unig yn ddigon da ar ôl blynyddoedd o fethiant yn y maes hwn a'r sgiliau nad ydynt ar gael ar hyn o bryd. Felly, Weinidog, pa gynlluniau y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at addysg iaith fodern sy'n addas i'r diben, a sut y byddwch yn monitro'r cynnydd hwnnw?

Diolch i'r Aelod am y croeso y mae hi wedi ei roi i'r gwaith sydd ar y gweill a hoffwn ei chyfeirio at yr ateb rwyf newydd ei roi i John Griffiths ar y camau y byddwn yn eu cymryd fel Llywodraeth. Rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n bwysig iawn yw bod y camau a gymerwn yn y maes polisi hwn, fel gydag unrhyw un arall, yn seiliedig ar y realiti yn hytrach nag ar ein golwg fyd-eang benodol ni. Rwy'n credu bod y byd lle rydym yn honni bod Brexit yn gyfle yn annhebygol o fod yn gyson â hyrwyddo gwerth ieithoedd tramor Ewropeaidd i'n pobl ifanc, a dyna pam y credaf ei bod yn bwysig y byddwn ni fel Llywodraeth yn ymateb i hynny drwy roi rhywbeth yn lle un o fanteision allweddol ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i'n pobl ifanc, sef rhaglen Erasmus, y cânt ei hamddifadu ohoni yn awr o ganlyniad i Brexit. Rwy'n credu bod ail-wneud y cysylltiad hwnnw i'n pobl ifanc yn ffordd dda o ddatrys y broblem y mae Brexit wedi ei hachosi.

Teithio Llesol

7. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i gynyddu teithio llesol i ysgolion a cholegau? OQ58925

Rydym am alluogi mwy o blant i gerdded, mynd ar sgwter a beicio i'r ysgol. Rydym yn cefnogi hyn drwy ymgorffori teithio llesol yn yr arfarniad o ysgolion a cholegau newydd a ariennir drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy a thrwy ariannu gwelliannau o ran cerdded a beicio drwy ein cronfa teithio llesol a'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau bob blwyddyn.

Mae hynny'n dda iawn i'w glywed. Mae llawer mwy o waith gennym i'w wneud, rwy'n gwybod, ond roedd Ysgol Gynradd Cefn Cribwr yma heddiw a gofynnais iddynt, 'Faint ohonoch chi a wnaeth fynd ar sgwter, cerdded neu feicio i'r ysgol?' ac fe gododd naw o bob 10 eu dwylo. Mae'n wirioneddol wych i'w weld, a byddai'n wych pe gallem efelychu hynny ar draws pob ysgol gynradd. Ond oherwydd yr argyfwng hinsawdd, oherwydd yr heriau iechyd a llesiant sy'n effeithio ar ein pobl ifanc, oherwydd problemau llygredd aer a thagfeydd ar adegau prysur, mae gwir angen inni ddefnyddio'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy honno—felly, teithio llesol yn gyntaf, ac yna trafnidiaeth gyhoeddus a bysus. Rwyf am ofyn i chi, Weinidog, yn ogystal â'r ymdrech teithio llesol, fel rhan o'r adolygiad i drafnidiaeth ysgolion a cholegau sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a ydych yn edrych ar fater y terfyn 3 milltir—a ddylai fod yn 3 milltir, 2 filltir neu beth bynnag, neu a ydym yn ei adael i awdurdodau lleol ddewis? Ond hefyd, a ydych yn edrych ar fodelau eraill, fel y rhai y maent yn eu defnyddio yn y Ffindir ac mewn mannau eraill, lle rydych yn rhoi talebau neu basys i bobl ifanc o oedran ifanc iawn iddynt allu eu defnyddio ar gyfer cludiant bws rheolaidd wedi'i drefnu? Mae'n rhaid inni gael y bysus rheolaidd wedi'u trefnu hefyd. Mae hynny'n datblygu ymreolaeth ac annibyniaeth ynddynt yn ogystal â phlannu arferiad gydol oes o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â mynd ar sgwter, beicio neu gerdded. A ydych yn edrych ar yr opsiynau hynny?

Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, a diolch amdano. Rwy'n credu bod y trothwy pellter, y gwnaeth yr Aelod gyfeirio ato yn ei gwestiwn, yn bwysig. Mae'n fater allweddol, ond mae hynny'n un o nifer o ystyriaethau ym maes trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol. Bellach, dyna yw chwarter holl wariant uniongyrchol awdurdodau lleol ar addysg, ac mae'n codi. Felly, mae'n alw sylweddol am arian cyhoeddus, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei wario yn y ffordd orau bosibl i sicrhau ein bod yn cael ein plant i'r ysgol. Ond mae'n rhan o raglen waith ehangach, ac mae'r Dirprwy Weinidog yn gwrando mor astud â minnau ar gwestiwn yr Aelod. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â gwella darpariaeth gweithredwyr a chysoni trafnidiaeth yn well â nodau polisi eraill ehangach. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gytûn fod angen mwy nag addasiad bach i'r Mesur, fod angen rhywbeth llawer mwy uchelgeisiol na hynny, mae'n debyg. Cyhoeddodd y Llywodraeth Bapur Gwyn, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, sy'n cyflwyno gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid gwasanaethau bysus yn gyffredinol yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn eithaf clir—ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd hefyd yn teimlo'n gryf iawn am hyn—nad yw edrych ar drafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol ar wahân yn llwyr i'r rhwydwaith bysus ehangach yn gwneud synnwyr o gwbl. Felly, yn bersonol yn sicr, byddai gennyf ddiddordeb mewn edrych ar y math o beth y mae'r Aelod wedi cyfeirio ato yn ei gwestiwn.

15:10

Weinidog, mae'n ffaith bod llai na hanner y plant yn cerdded neu'n beicio i'r ysgol. Mae ymchwil yn dangos bod annog teithio llesol i'r ysgol yn cael ei lesteirio gan faterion yn ymwneud â faint o draffig a geir y tu allan i giatiau'r ysgol. Rwyf bob amser wedi cefnogi cyfyngiadau cyflymder 20 mya y tu allan i ysgolion i helpu i gadw ein plant yn ddiogel, ond mae rhai cynghorau yng Nghymru wedi mynd ymhellach, gan gyflwyno 'strydoedd ysgol', lle mae ffyrdd sy'n uniongyrchol y tu allan i giatiau ysgol yn cau i draffig nad yw'n draffig preswyl yn ystod amseroedd gollwng a chodi plant. Mae hyn i'w weld yn ffordd gall o annog disgyblion i gerdded neu feicio i'r ysgol. Felly, Weinidog, pa drafodaeth a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion ac eraill ynglŷn ag annog awdurdodau lleol ledled Cymru i fabwysiadu'r dull hwn i helpu i gadw ein disgyblion yn ddiogel ac yn iach yn y dyfodol?

Rydym yn annog pob awdurdod lleol i wneud hynny, ac rydym yn darparu cymorth ariannol er mwyn i hynny ddigwydd hefyd. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud—mae'n bwysig iawn ein bod yn creu'r amgylchedd o amgylch ysgol sy'n hwyluso teithio llesol, yn ogystal â gosod y disgwyliad rheoleiddiol. Mae gosod y fframwaith yn un peth, ond dod o hyd i ffyrdd i wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad fydd yn gwneud y gwahaniaeth ymarferol hwnnw, felly rwy'n cymeradwyo'r awdurdodau sy'n gwneud y penderfyniadau hynny'n fawr.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Jack Sargeant.

Yr Hawl i Streicio

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cynlluniau Llywodraeth y DU i gyfyngu ar yr hawl i streicio yn ei chael ar weithwyr yng Nghymru? TQ704

Diolch am y cwestiwn. Mae'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) yn ymosodiad na ellir ei gyfiawnhau ar hawliau gweithwyr ac undebau llafur. Y ffordd i ddatrys anghydfodau diwydiannol yw drwy drafod a chytuno. Ni chaiff ei wneud drwy ddeddfwriaeth ddisynnwyr a fydd yn gwneud niwed parhaol i gysylltiadau diwydiannol ledled y DU ac yn ymyrryd â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb? Lywydd, rwyf am ddatgan diddordeb fel aelod undeb llafur balch o Unite the Union a Community. Gadewch inni fod yn glir yma; mae penderfyniad Torïaid y DU i gyflwyno Bil gyda'r nod o ddiswyddo gweithwyr allweddol yn sarhad ar ddemocratiaeth. Lywydd, bydd y ddeddfwriaeth Dorïaidd hon yn golygu, pan fydd gweithwyr yn pleidleisio'n ddemocrataidd i streicio, y gellir eu gorfodi i weithio, ac yna eu diswyddo os nad ydynt yn cydymffurfio. Dylem geisio gweithio gyda'n gweithwyr allweddol a'n cydweithwyr undebau llafur, nid ceisio diswyddo pobl weithgar. Gwnsler Cyffredinol, mae Cyngres yr Undebau Llafur yn dweud bod y ddeddfwriaeth hon yn dangos bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn benderfynol o ymosod ar hawl sylfaenol gweithwyr i streicio. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gyngres. Mae'r ddeddfwriaeth warthus hon wedi dangos yn union beth yw Ceidwadwyr y DU mewn gwirionedd—plaid sy'n gwrthwynebu hawliau gweithwyr yr ymladdwyd yn galed i'w hennill. Gwnsler Cyffredinol, a gaf fi ofyn ichi: beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae'r Bil wedi ei gam-enwi'n wir. Mewn gwirionedd, 'Bil diswyddo'r nyrsys' ydyw, 'Bil diswyddo'r gweithiwr ambiwlans' ydyw, neu 'Fil diddymu'r hawl i streicio'. Mae'n dileu'r amddiffyniadau cysegredig i weithwyr ac undebau llafur a gafodd eu hymgorffori mewn deddfwriaeth ym 1906, deddfwriaeth a gyflwynwyd wedi achos Cwm Taf ym 1900, a gododd yn sgil anghydfod a ddigwyddodd yn fy etholaeth i ym Mhontypridd mewn gwirionedd. Arweiniodd at Ddeddf Anghydfodau Undebol 1906, a sefydlodd egwyddorion sylfaenol. Byddai'r hyn y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn ei wneud yn mynd â hawliau gweithwyr nôl i'r hyn oeddent 120 o flynyddoedd yn ôl.

Yr hyn y gallaf ei ddweud ar ran Llywodraeth Cymru yw bod yna ddiffyg ymgysylltiad llwyr wedi bod gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y ddeddfwriaeth hon. Daeth yr hysbysiad cyntaf ddydd Iau diwethaf, ychydig wedi datganiad i'r wasg Llywodraeth y DU. Yr ohebiaeth gyntaf a gefais oedd cael fy nghopïo i mewn i lythyr at Brif Weinidog Cymru gan y Gweinidog Hollinrake ar 10 Ionawr. Ddoe oedd hynny. Nid dyma'r ffordd i ddatrys anghydfodau. Mae'r diffyg ymgysylltiad hwn yn gwbl annerbyniol. Mae'r ddeddfwriaeth yn gwbl ddiangen. Lle ceir materion brys sydd angen eu gweithredu, mae'r undebau llafur bob amser wedi eu gweithredu. Efallai y bydd rhai ohonoch wedi gweld yr eitemau y diwrnod o'r blaen am linell biced GMB yng Nghymru—ac rwy'n aelod o GMB—o weithwyr ambiwlans. Y foment y daeth neges fod yna alwad frys, fe adawsant y llinell biced yn syth; fe aethant ac fe wnaethant y gwaith penodol hwnnw. Mae hynny bob amser wedi digwydd. Mae'r ddeddfwriaeth yn ymosodiad sylfaenol ar ryddid, ac fel Llywodraeth Cymru, ni fyddwn yn rhoi unrhyw hygrededd na chefnogaeth iddi. Mae'r ddeddfwriaeth yn anymarferol hefyd yn fy marn i. Nid yw wedi gweithio mewn gwledydd eraill. Ni fydd yn gweithio yma. Ymgais ydyw i osgoi ymdrin â'r broblem go iawn yn y wlad hon, sef darparu cyllid priodol i weithwyr y sector cyhoeddus yn Lloegr ac i Lywodraethau datganoledig, er mwyn galluogi ein gweithwyr sector cyhoeddus i gael eu talu'n briodol. Yn fy marn i, mae'n weithred o anobaith gan Lywodraeth sydd wedi colli gafael ac wedi colli rheolaeth.

15:15

Gwnsler Cyffredinol, fel rhan o'ch asesiad, a ydych wedi ystyried y ffaith bod y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, y mae Cyngres yr Undebau Llafur yn gefnogol iddo, wedi derbyn bod y lefelau gwasanaeth gofynnol yn ffordd gymesur o gydbwyso'r hawl i streicio â'r angen i ddiogelu'r cyhoedd yn ehangach? Yn ail, ddoe, yn ei datganiad llafar, dywedodd eich cyd-Aelod, y Gweinidog iechyd, fod

'yr effaith ar allu'r Gwasanaeth o ganlyniad i weithredu diwydiannol diweddar...wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein systemau ni'.

A ydych yn cytuno gydag asesiad eich cyd-Weinidog? Os ydych, onid ydych chi hefyd felly yn cytuno y byddai gwarantu lefelau gwasanaeth gofynnol, nad ydynt yn cyfyngu ar hawliau gweithwyr i streicio, yn fuddiol i'r gweithwyr a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu? Diolch.

Diolch am y cwestiwn. Mae eich dehongliad o gyfeiriadau'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol at lefelau gwasanaeth gofynnol yn cael ei gymryd allan o'u cyd-destun yn llwyr, gan ei fod yn cyfeirio at drefniadau gwirfoddol gydag undebau llafur, ac mae'r rheini wedi bodoli yn y Deyrnas Unedig erioed, ac yng Nghymru yn wir, lle maent yn angenrheidiol. Nid trefniant gwirfoddol yw hyn; dyma gyfyngiad statudol ar weithwyr a'r gallu i ymateb.

Wrth gwrs, mae'n iawn fod anghydfodau diwydiannol yn achosi aflonyddwch a phwysau. Mae'n amlwg mai bai Llywodraeth y DU yw tarfu a phwysau o'r fath oherwydd ei methiant llwyr i ymgysylltu'n briodol, a'i methiant llwyr i gadw'r addewidion a wnaeth yn ystod COVID—y byddai, ar ôl i ni ddod drwy bandemig COVID, yn parchu ac yn gwobrwyo ein gweithwyr sector cyhoeddus yn briodol.

Ar y pwynt olaf a wnaethoch—nad yw'n dileu hawliau—rwy'n siŵr nad ydych wedi darllen y memorandwm esboniadol sy'n gysylltiedig â'r Bil. Fe ddarllenaf yr adran ar effaith a diben y Bil: mae gweithiwr a enwir mewn hysbysiad gwaith ar gyfer diwrnod streic penodol ac sy'n derbyn copi o'r hysbysiad gwaith hwnnw gan y cyflogwr cyn y diwrnod streic hwnnw'n colli'r amddiffyniad rhag diswyddo. Bil 'diswyddo gweithwyr y sector cyhoeddus' yw hwn.

Heddiw, gyda Carolyn Thomas, cefais y pleser o gyd-noddi digwyddiad galw heibio gydag aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. Fel y bydd y rhai a fynychodd y digwyddiad yn gwybod, roedd yr hyn a oedd ganddynt i'w ddweud am ddifaterwch y Post Brenhinol tuag at ei weithwyr yn frawychus: newid gwaith parhaol yn waith dros dro, toriadau cyflog, amodau dirywiol, ymgais hyd yn oed i ddileu tâl salwch statudol, sy'n gwbl anghyfreithlon, gyda llaw—'Amazon ar steroids', fel y dywedodd un aelod o'r undeb ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae streicio'n allweddol i amddiffyn ein gwasanaethau yn erbyn hyn. Mae'n allweddol i hawliau a phwerau bargeinio gweithwyr, ac mae'n warthus a dweud y gwir, fod y Torïaid, yn hytrach na mynd i'r afael â'r argyfwng economaidd systemig hwn, yn dewis ymosod ar weithwyr.

Mae'n amlwg i mi, fel y dylai fod i bawb yn y Siambr hon, nad yw hawliau gweithwyr yn ddiogel yn nwylo San Steffan. Ni all gweithwyr barhau i ymddiried a dibynnu ar ewyllys da na chyfansoddiad gwleidyddol San Steffan, ac fel y dywedodd un aelod o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu wrthyf, efallai mai Cymru fydd y cadarnle olaf i waith teg dros y blynyddoedd nesaf. Pe bai'r Llywodraeth o ddifrif am ddiogelu hawl ddemocrataidd sylfaenol gweithwyr i streicio, byddai'r Llywodraeth yn cefnogi datganoli cyfraith cyflogaeth, fel y gallem sicrhau na fydd yr hawliau hynny dan fygythiad byth eto. Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi gefnogi hynny?

Diolch am y sylwadau hynny. Maent yn sylwadau rwy'n cytuno â hwy, a gallaf ddweud, yn sicr, wrth inni edrych ar y Bil, wrth inni archwilio ac ystyried ei fanylion yn llawer mwy gofalus, y byddwn yn edrych ar bob cyfle i sicrhau nad yw'n effeithio ar y bartneriaeth gymdeithasol sydd gennym yng Nghymru, a bod yr amddiffyniadau sylfaenol i wasanaethau cyhoeddus datganoledig yn rhai y byddwn yn glynu wrthynt a byddwn yn ymrwymo i'r safonau rydym eisoes wedi'u croesawu gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur. Nid wyf yn ymwybodol fod yna unrhyw gyflogwyr sydd eisiau gweld y ddeddfwriaeth hon. Mewn gwirionedd, mae'r holl wybodaeth a welaf gan gyflogwyr yn dangos eu bod yn ei hystyried nid yn unig yn ddiangen ac yn anymarferol, ond ei bod yn creu aflonyddwch pellach ac yn tynnu sylw oddi ar gydfargeinio da ac ymgysylltiad priodol ag undebau llafur. 

Rwy'n gweld y ddeddfwriaeth hon, mewn rhai ffyrdd, fel un sydd â nifer o gymhellion. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU yn meddwl ei bod yn ymarferol. Credaf mai ymgais ydyw yn gyntaf i lychwino enw da—rywsut, maent yn meddwl y gallai hyn dorri cefnogaeth y cyhoedd i'r rhai sy'n rhan o'r anghydfodau hyn ar hyn o bryd, y bydd rywsut yn rhoi tir uwch iddynt yn hynny. Neu'n ail, y bydd yn annog pobl i beidio â rhoi cefnogaeth o'r fath. Rwy'n credu y bydd yn methu ym mhob un o'r rheini. Rwy'n credu ei fod yn tynnu sylw oddi ar wir ddyletswydd y Llywodraeth, a gwir ddyletswydd y Llywodraeth yw ymgysylltu â'r undebau llafur hynny pan fydd gennych anghydfod o'r fath. 

Rwy'n credu bod gennym gysylltiad uniongyrchol â'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud—cyswllt ariannol uniongyrchol â'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar lefel Llywodraeth y DU, ac mae hynny'n effeithio ar i ba raddau y gallwn ymgysylltu a'r pethau y gallwn eu gwneud. Ond rwy'n gwybod ymhlith fy holl gyd-Aelodau ac rwy'n gwybod ymhlith yr holl bobl y siaradaf â hwy, boed yn aelodau o blaid wleidyddol neu fel arall, fod cryn gefnogaeth a chydymdeimlad allan yno, yn ogystal â chydnabyddiaeth. Ac rwy'n credu bod yna gydnabyddiaeth oherwydd yr addewidion a wnaed yn ystod cyfnod COVID y byddem yn gwneud pethau'n wahanol. A dyma enghraifft o Lywodraeth Dorïaidd yn y DU sydd nid yn unig allan o gysylltiad, ond sy'n dychwelyd at ei hen ffyrdd. Ac a gaf fi wneud un sylw? Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol siomedig, ar adeg pan fo gennym ddeddfwriaeth fel hon, pan fo gennym y lefelau hyn o anghydfod, fod gennym Blaid Dorïaidd yng Nghymru sy'n fodlon ymateb fel pwdls i'r dictad a ddaw o 10 Stryd Downing, yn lle sefyll dros y sector cyhoeddus yng Nghymru, dros weithwyr Cymru a chydweithio â ni i gyflawni'r math hwnnw o newid. 

15:20

Yn gyntaf oll, rwyf am ddatgan fy aelodaeth o Unite, yr undeb llafur. Credaf, fel y bydd eraill, fod hwn yn ymosodiad a arweinir gan ideoleg ar hawl sylfaenol gweithwyr i streicio. Mae ganddynt hanes o wneud hyn, ac maent wedi cyflwyno sawl darn o ddeddfwriaeth tra bod y Llywodraeth hon wedi bod mewn grym. Gadewch inni fod yn glir wrth gofio hynny. Maent yn mynd ychydig ymhellach nag y gwnaeth Thatcher pan geisiodd ddinistrio undeb y glowyr; mae'r criw hwn yn ceisio dinistrio holl undebau'r sector cyhoeddus. Efallai y gallem osod lefel diogelwch a gwasanaeth gofynnol cyfreithiol ar Lywodraeth y DU, oherwydd mae'r criw presennol yn beryglus o anghymwys. Dim ond plaid hesb a heb syniadau a allai feddwl mai ffordd dda o ddatrys prinder llafur a morâl isel yng ngwasanaethau cyhoeddus allweddol Prydain yw diswyddo gweithwyr sy'n streicio am well tâl ac amodau. Pwy maent yn meddwl fyddai'n cymryd lle'r gweithwyr hynny? Fe wnaethant greu argyfwng economaidd gyda Liz Truss—ni wn os ydych chi'n ei chofio hi. Fe chwalodd hi'r economi, a nawr maent yn ceisio chwalu hawl gweithwyr i streicio. Mae'n gwbl gywilyddus.

Rwy'n credu eich bod yn iawn i ddweud y bydd y cyhoedd yn gweld drwy hyn ac nad oes ganddynt y lefel o gefnogaeth y maent yn gobeithio ei ennill drwy symud y bai am eu methiant i reoli'r argyfwng economaidd a grëwyd ganddynt drwy daflu'r bai i gyd ar y bobl na all fforddio eu morgeisi mwyach o ganlyniad i'r hyn a wnaethant, pobl sy'n methu gwresogi eu cartref a phobl nad ydynt yn gallu bwydo eu hunain. Dyna mae'r gweithwyr hyn yn streicio amdano, a dyna pam eu bod wedi ymuno ag undeb, er mwyn i'w llais cyfunol allu cael ei glywed.  

Diolch am y sylwadau hynny. Mae'n eironig, onid ydyw, fod Llywodraeth y DU o blaid y farchnad rydd, ond y farchnad rydd pan ddaw'n fater o gynyddu elw a chyflog cyfarwyddwyr yn unig. Pan fydd y farchnad rydd yn dweud nad ydym yn talu digon i'n gweithwyr yn y sector cyhoeddus, ymateb Llywodraeth y DU yw ymyrryd â'r farchnad rydd honno, i'w thanseilio ac i osod cyfyngiadau deddfwriaethol ar allu pobl i wneud unrhyw beth yn ei gylch. A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'r sylw a wnaethoch y dylem gael lefel gwasanaeth gofynnol, ac y dylid ei chymhwyso i Lywodraeth y DU mewn gwirionedd? Ac efallai mai dyna'r rheswm pam rwy'n croesawu'r ymrwymiad gan arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, y bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn cyflwyno gwaharddiad ar ail swyddi. Efallai y bydd hynny'n sicrhau bod ein ASau yn gweithio'n llwyr dros y pethau y cawsant eu hethol i'w gwneud.

15:25

Diolch. A gaf fi ddatgan hefyd fy mod yn aelod o Unite the Union, a gynt yn aelod o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu fel gweithiwr post?

Gwnsler Cyffredinol, ddwy flynedd yn ôl, roeddem yn sefyll ar garreg ein drysau'n clapio i'r gweithwyr, a nawr rydym yn gweld beth mae'r Torïaid yn ei feddwl go iawn, drwy gyflwyno Bil i'w diswyddo. Fel y dywedoch chi, caiff y Bil ei adnabod fel Bil 'diswyddo'r gweithwyr'. Mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed lleisiau gweithwyr, oherwydd yn aml iawn, yr hyn a glywn yw gwirionedd dethol. Er mwyn cuddio'u dirmyg tuag at weithwyr allweddol, maent yn awgrymu bod rheolau'n bodoli mewn mannau eraill, heb gyfaddef bod gan Brydain rai o'r deddfau gwrth-undebau llafur mwyaf ymosodol yn Ewrop eisoes, gan ei gwneud yn anodd iawn i streicio. Rwyf am sicrhau ein bod yn parhau i weithio gyda'n gweithwyr allweddol, fel y cynrychiolwyr y gwnaethom eu cyfarfod heddiw—roedd yn sesiwn dda iawn ac fe wnaeth 20 o ASau ei mynychu a gwrando ar gynrychiolwyr Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. A Gwnsler Cyffredinol, onid yw hyn yn dangos pa mor bwysig yw parhau gyda'r Bil partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru a'r bartneriaeth gymdeithasol i ddangos ein bod yn gweithio gyda'r gweithwyr? Diolch.

Diolch am y sylwadau hynny ac rwy'n cytuno â hwy, ac mae gennyf barch enfawr tuag at Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, a'r postmyn sy'n dosbarthu drwy'r holl dywydd gwael. Rydych yn edrych ar y tywydd sydd gennym nawr ac maent allan yno mewn tywydd echrydus yn dosbarthu—yn dosbarthu'r cardiau Nadolig na wnaethom eu cael cyn y Nadolig mewn gwirionedd. Rwy'n siomedig na allwn fod yn y digwyddiad hwnnw, ond rwy'n credu ei fod yn fynegiant pwysig o gefnogaeth y bobl yn ein cymdeithas i'r gwasanaeth post, i'r gwaith a wnânt, ac mae'n drueni ei fod yn cael ei danseilio a bod yr holl rannau proffidiol ohono wedi cael eu dewis a'u dethol a'u preifateiddio dros y blynyddoedd, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth a fydd yn cael sylw maes o law.

A gaf fi ddweud, ynglŷn â'r Bil partneriaeth gymdeithasol, fod hon yn ddeddfwriaeth arloesol a gyflwynwyd gan y Gweinidog Hannah Blythyn? Ac rwy'n credu ei bod yn dangos y gwahaniaeth go iawn, mai ni fydd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i greu fframwaith statudol lle mae undebau llafur, cyflogwyr a'r Llywodraeth yn dod at ei gilydd i ddatrys y rhain. Mae'n un o'r rhesymau pam nad ydym eisiau'r ddeddfwriaeth hon; nid ydym am iddi ymyrryd yn y cysylltiadau, yr ymgysylltiad adeiladol sydd gennym i ddatrys y materion hynny, yr anghytundebau hynny, ac i weithio gyda'n gilydd er lles cyffredin pobl Cymru.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Y cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ac i'w ofyn gan Luke Fletcher.

Wizz Air

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd yn sgil cyhoeddiad Wizz Air ei fod yn rhoi'r gorau i weithrediadau i mewn ac allan o Gymru? TQ705

Gwnaf. Rydym yn siomedig fod Wizz Air wedi penderfynu tynnu'n ôl o Faes Awyr Caerdydd. Mae ein cynllun adfer COVID ar gyfer y maes awyr yn parhau i fod ar waith, ond yn amlwg, mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn hynod anodd i'r sector awyrennau ac nid yw wedi'i helpu gan y ffaith nad oes gan Lywodraeth y DU strategaeth i adfer meysydd awyr rhanbarthol.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae'n flwyddyn newydd, ond yr un hen stori yw hi yn achos Maes Awyr Caerdydd. Y tro hwn, Wizz Air ydyw; ychydig fisoedd yn ôl, fe dynnodd Qatar Airways yn ôl, hynny ar ôl buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru; efallai y gallai'r Dirprwy Weinidog gadarnhau a wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu unrhyw gymhellion tebyg i Wizz Air ai peidio. Ond beth mae'n mynd i gymryd i'r Llywodraeth wneud Caerdydd yn fwy o lwyddiant? Mae angen iddo fod yn llwyddiant. Rydym am iddo fod yn llwyddiant. Ac a gaf fi ddweud, yn wahanol i'r Torïaid, nid wyf yn credu mai preifateiddio yw'r ateb? Os yw'r sector preifat yn gallu gwneud elw, gall y Llywodraeth wneud hynny hefyd. Soniodd y Dirprwy Weinidog yn gynharach mewn ateb i Natasha Asghar fod y maes awyr ar y trywydd i wneud elw. Beth yw'r trywydd hwnnw, a pha mor hir y mae'n mynd i gymryd?

Wel, mae'r cynllun achub ac adfer gwerth £42.6 miliwn a gafodd ei roi ar waith yn ystod y pandemig yn parhau i fod ar waith, a'i fwriad yw helpu Maes Awyr Caerdydd i ddod yn hunangynhaliol a phroffidiol yn y dyfodol. Rydym bellach yn gweithio gyda'r maes awyr i ddeall effaith dod â gwasanaeth Wizz Air i ben ar gynnydd y llwybr hwnnw. Yn amlwg, mae'n gwsmer sylweddol i'r maes awyr, ond mae'n werth dweud bod y maes awyr yn parhau i fod yn ffynhonnell fywiog o hediadau i gyrchfannau eraill. Defnyddiais yr awyren i Belfast fy hun yn ddiweddar a chael profiad ardderchog; mae KLM yn hedfan o'r maes awyr hefyd, a TUI, Vueling, Ryanair a Loganair. 

Nawr, fel y soniais yn gynharach, mae yna broblem ar draws y sector oherwydd costau ynni cynyddol, oherwydd chwyddiant, oherwydd y dirwasgiad, ac mae'r elw y mae llawer o'r gweithredwyr hyn yn gweithredu o'i fewn yn gul iawn. Mae llawer o'r farchnad yn ymwneud â gwyliau pecyn, sy'n dod yn fwy a mwy cystadleuol, gan olygu bod proffidioldeb yn is. Felly, mae'n farchnad dynn ac yn fodel busnes anodd. 

Mae rheolwyr y maes awyr a'r bwrdd yn gryf iawn, ac rydym yn lwcus iawn i'w cael. Ac fe gyfarfûm â hwy yn ddiweddar ac ymweld â'r maes awyr. Rhaid imi ddweud fy mod yn cydymdeimlo'n fawr â'r ystod a'r nifer o heriau y maent wedi gorfod eu hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac rydym yn ffodus i'w cael. Ac rydym yn wynebu hyn am beth amser, ond yn amlwg, mae'r sector cyfan yn wynebu rhai heriau tymor byr anodd iawn, ond mae hynny'n arbennig o wir am Gaerdydd. Fel y byddwch yn gwybod, mae meysydd awyr eraill wedi cau yn ystod y misoedd diwethaf ledled y Deyrnas Unedig, a dyma'r pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn gynharach—yn absenoldeb strategaeth ar gyfer meysydd awyr rhanbarthol ledled y DU, mae'r meysydd awyr llai'n wynebu costau sefydlog yr un fath ag unrhyw faes awyr arall, mwy o faint. Rhaid iddynt gynnal gwasanaeth tân llawn, er enghraifft. Erbyn hyn, ceir costau cynyddol drwy reoleiddio mewn perthynas â'r offer sgrinio diogelwch gwell y mae angen i bob maes awyr ei gael, ac mae gallu maes awyr llai o faint fel Caerdydd i gynnal cost o'r fath yn heriol iawn. Nawr, mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn canolbwyntio'n llwyr ar strategaeth hedfan sy'n seiliedig ar Lundain, ac yn amlwg, o'n safbwynt ni, ceir tensiynau ein targedau carbon yn yr adran newid hinsawdd ar y naill law a'r angen i dyfu teithio awyr er mwyn gwneud y maes awyr yn hyfyw ar y llaw arall. Ac rydym yn cydnabod y tensiynau hyn yn llawn. 

Yn fy marn i, pe bai Maes Awyr Caerdydd yn cau, byddai pobl yn hedfan o feysydd awyr eraill. Felly, o safbwynt newid hinsawdd, nid wyf yn gweld unrhyw fudd mewn mynd i'r afael â hyn mewn ffordd unochrog. Mae angen strategaeth hedfan ar gyfer y DU gyfan, ar sail y pedair gwlad, nad yw'n niweidiol i'r hinsawdd, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r materion hyn gyda'n gilydd. Yn y cyfamser, mae angen inni wneud yn siŵr fod Caerdydd yn parhau i weithredu er mwyn bod yn rhan o'r strategaeth honno, a bod Llywodraeth y DU yn cydnabod anghenion meysydd awyr rhanbarthol, y sylfaen costau sefydlog y maent yn ei hwynebu, ac mae eu parodrwydd i helpu gyda hynny'n hanfodol, ond yn anffodus, nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. 

15:30

Rwy’n sefyll yma gyda fy helmed dun am fy mhen, gan fod gennyf ymagwedd radical iawn, sef nad wyf o'r farn y dylem roi cymorth i Faes Awyr Caerdydd i aros ar agor o gwbl. Yn ôl yn 2013, arweiniodd y Democratiaid Rhyddfrydol alwadau i atal Llywodraeth Cymru rhag prynu'r maes awyr gan y sector preifat. Ymddengys bod y maes awyr yn bwll diwaelod i arian trethdalwyr—arian parod a allai fynd tuag at drafnidiaeth gyhoeddus. Weinidog, fe ddywedoch chi fod angen strategaeth ar draws y wlad ar gyfer meysydd awyr. Mae hynny'n annhebygol o ddigwydd. Mae’n rhaid inni wneud penderfyniadau yma yng Nghymru a ddylai ganolbwyntio ar y mater pwysicaf, sef yr argyfwng hinsawdd. Ac nid yw meysydd awyr a hedfan yn cefnogi ein gallu i fynd i'r afael â'r hinsawdd.

Clywsom neithiwr am Wizz Air, a chlywais ar y radio fod y rhan fwyaf o bobl yn ne Cymru yn hedfan o Faes Awyr Bryste mewn gwirionedd. Felly, maent yn osgoi Caerdydd yn gyfan gwbl nawr. Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n gofyn i chi: sut mae bod yn berchen ar faes awyr rhyngwladol, a'r holl allyriadau carbon a ddaw ohono, yn cyd-fynd â'r portffolios pwysig rydych chi a'r Gweinidog yn ymrwymedig iawn iddynt ac wedi gweithio mor galed arnynt? Diolch yn fawr iawn.

Wel, rwy’n parchu safbwynt Jane Dodds, ac fel y gwneuthum gydnabod, yn sicr, ceir rhai tensiynau polisi. Ond ein safbwynt cyffredinol fel Llywodraeth yw bod angen maes awyr ar Gymru. Mae nifer sylweddol o bobl yn dal i hedfan oddi yno a fyddai fel arall yn teithio i feysydd awyr eraill yn y DU. Ac o safbwynt busnes a’r economi, mae cael maes awyr rhanbarthol yn parhau i fod yn rhan gref o’r cynnig. Er enghraifft, ni fyddai rhai o’r digwyddiadau mawr sy’n cael eu cynnal yn y stadiwm yng Nghaerdydd yn cael eu denu i Gaerdydd oni bai bod maes awyr yma. Hefyd, mae nifer o’r cwmnïau gweithgynhyrchu mawr yn ne Cymru yn hedfan swyddogion gweithredol i mewn ac allan o’r maes awyr yn rheolaidd—llawer ohonynt ar awyrennau preifat, ond serch hynny, mae’n ased economaidd pwysig i’r rhanbarth. Ond mae yna densiynau.

O ran y swm rydym yn ei wario, fel rwy'n dweud, roedd y pecyn achub ac adfer yn £42.6 miliwn, ac mae hwnnw wedi’i gynllunio i raddau helaeth i gael ei ad-dalu. Fe wnaethom ddileu rhywfaint o'r ddyled. Ond cymharwch hynny â’r £1 biliwn rydym yn ei wario ar fetro cymoedd de Cymru, ac rwy'n credu bod yr honiadau y mae’n eu gwneud ynglŷn â'r budd i drafnidiaeth gyhoeddus yn sgil cau’r maes awyr yn gor-ddweud pethau. Ond mae'n parhau i fod yn benbleth i bob un ohonom, wrth inni ddod yn nes ac yn nes at darged 2050, o ystyried bod lefelau hedfan wedi bod yn cynyddu ac yn arwain at rai o'r allyriadau mwyaf niweidiol, mae hynny'n rhywbeth—. Fel y dywedaf, fel DU, mae angen inni feddwl am ddyfodol teithiau awyr. Mae’r diwydiant yn gwneud honiadau cynyddol am effeithlonrwydd cynyddol, am fiodanwydd, ac mae gennym ddiddordeb yn eu harchwilio wrth gwrs, ac rydym am i faes awyr Caerdydd chwarae ei ran yn hynny. Rydym hefyd am wneud y mwyaf o rôl Caerdydd fel hyb cludo nwyddau, ac mae rheolwyr y maes awyr yn gwneud llawer iawn i weld a allant ddenu ffrydiau refeniw ychwanegol. Felly, rwy'n credu y dylem sefyll gyda hwy. Rwy'n credu bod cefnogaeth yng Nghymru i gynnal maes awyr, ond nid yw’n fater syml o gwbl.

15:35
4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw Gareth Bale. Rwy’n siŵr fod Gareth Bale yn hapus anymwybodol ei fod ar fin bod yn destun nid un ond tri datganiad 90 eiliad. Ac rwy’n amau, yn fy nghyfnod fel Llywydd, y bydd unrhyw unigolyn arall, byw neu farw, yn haeddu triawd o ddatganiadau. Mae Gareth Bale wedi bod yn bêl-droediwr ardderchog, yn arweinydd ardderchog. Mae wedi galluogi pob un ohonom fel Cymry i ddal ein pennau ychydig bach yn uwch, ac wrth ddiolch iddo, dylem barhau i ddal ein pennau'n uchel.

Diolch, felly, i Gareth Bale.

A galwaf yn awr ar dri Aelod i dalu teyrnged i’n trysor cenedlaethol, Gareth Bale. Ac fe ddechreuwn gyda Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Lywydd. Ac fel y dywedoch chi, yr wythnos hon, clywsom y newyddion fod y pêl-droediwr a sgoriodd y nifer fwyaf o goliau i dîm dynion Cymru, Gareth Bale, yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol. Lywydd, nid yw'r ystadegau ar eu pennau eu hunain yn rhoi darlun llawn o’r llawenydd a roddodd Bale i bob un ohonom. Bydd ein cenedl falch yn ddiolchgar am byth o fod wedi bod yn dyst i'w ddawn aruthrol. Mae cyflawniadau Gareth yn rhyfeddol: pum Cynghrair y Pencampwyr ar lefel clwb—anhygoel. Ond Lywydd, fel y dywedodd ef ei hun, y ddraig ar ei grys oedd y cyfan roedd ei angen arno mewn gwirionedd. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld y gynhadledd i’r wasg gan Rob Page yr wythnos hon, lle talodd deyrnged i Gareth, ac rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedodd:

'I mi, mae Gareth Bale yn debyg i sut roedd Gary Speed pan oedd yn gapten. Mae pawb yn gyfartal, ac fe ysgogai'r amgylchedd hwnnw.'

Wel, Lywydd, fel bachgen ifanc yn gwylio Gary Speed, ef yn sicr oedd fy arwr fel chwaraewr Cymru a Newcastle United, a gallaf gytuno’n llwyr ag asesiad Rob Page o gapteniaeth Bale. Rwy’n siŵr fy mod yn siarad ar ran y Senedd hon pan ddywedaf,

diolch am bopeth, Gareth Bale.

Ac yn olaf, Lywydd, viva Gareth Bale.

Pan wnaeth Gareth Bale ei ymddangosiad cyntaf i’w wlad, fel eilydd yn erbyn Trinidad a Tobago nôl yn 2006, roedden ni yn gwybod, onid oedden ni, fel cenedl, fod gennym ni dalent arbennig, ond doedd neb, dwi ddim yn meddwl, wedi rhagweld mor eithriadol fyddai ei gyfraniad a'i yrfa bêl-droed: torri record y byd, wrth gwrs, am ffi trosglwyddo pan aeth e i Real Madrid, ac yno fe enillodd e Gynghrair y Pencampwyr bum gwaith; ennill yr UEFA Super Cup deirgwaith; cwpan clybiau’r byd deirgwaith; ennill La Liga deirgwaith; ennill y Copa del Rey, y Supercopa, Cwpan yr MLS, wrth gwrs, yn yr Unol Daleithiau y llynedd; ennill 111 o gapiau i’w wlad—y mwyaf yn hanes pêl-droed dynion Cymru—sgorio 41 gôl i’w wlad—eto, y mwyaf yn hanes pêl-droed dynion Cymru—mynd â Chymru ddwywaith i rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop, gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn 2016; ac, yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, y greal sanctaidd i nifer ohonom ni gefnogwr pêl-droed Cymru—arwain ei wlad yn gapten i gystadlu yn nghwpan y byd. Mae e’n llysgennad godidog i Gymru, ac roedd gweld un o’r 'Galácticos' yn morio canu 'Yma o Hyd' gyda Dafydd Iwan yn foment arwyddocaol i’r iaith Gymraeg, ac yn tanlinellu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Does dim geiriau all wneud cyfiawnder â chyfraniad y bachgen diymhongar oedd yn dweud mai’r ddraig ar ei grys oedd yr unig beth yr oedd ei angen arno fe.

Diolch, Gareth, nid yn unig am wneud inni gredu, ond am brofi y gallwn. Diolch, hefyd, nid yn unig am fod yn Gymro, ond am fynd â Chymru gyda thi i bobman o amgylch y byd. Diolch hefyd am ddweud bod gennyt gefn gwael. Viva Gareth Bale.

15:40

Credaf ein bod wedi cael ein bendithio yng Nghymru gyda llinach hir o bêl-droedwyr bendigedig, o Billy Meredith i John Charles, Mark Hughes, Ian Rush ac Aaron Ramsey, i enwi dim ond rhai. Fel cenedl fach, credaf ein bod bob amser wedi gwneud y tu hwnt i'r disgwyl gyda'r doniau rydym wedi'u cynhyrchu ar y cae pêl-droed. Er na welais dîm 1958 yn chwarae, ac nid wyf ychwaith yn cofio'r llu o dimau a ddaeth mor agos yn y ganrif ddiwethaf, rwy'n cofio'n iawn sut olwg oedd ar gyfnod diwethaf pêl-droed Cymru, gan y credaf y byddwn bob amser yn edrych yn ôl ar ddegawd cyntaf y ganrif hon fel y cyfnod cyn Bale. Roedd gennym dimau talentog, unigolion gwych a daethom yn agos ambell dro, ond nid oedd gennym erioed Bale.

Ni all y rhan fwyaf ohonom ond breuddwydio am gael yr un sgiliau yn y Siambr hon ag a oedd gan Gareth Bale ar y cae pêl-droed. Mae ei restr o gyflawniadau'n wirioneddol anhygoel: ymddangosiad cyntaf i Southampton yn 16 oed; chwaraewr y flwyddyn Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol ddwy waith; y ffi trosglwyddo uchaf erioed ar y pryd; tri theitl La Liga; Copa del Rey; y nifer fwyaf o gapiau a goliau i dîm dynion Cymru; a phump—ie, pump—tlws Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Bydd cefnogwyr Lerpwl yn cofio’r un olaf yn enwedig, lle daeth Bale oddi ar y fainc yn Kyiv yn erbyn Lerpwl a throi’r gêm ar ei phen gyda gôl odidog a pherfformiad seren y gêm i ennill tlws mwyaf y byd pêl-droed ar ei ben ei hun, bron â bod, gan adael pobl fel Cristiano Ronaldo a Mohamed Salah yn ei gysgod ar lwyfan mwyaf y byd.

Ond gallech ddweud mai gyda Chymru roedd Bale ar ei orau. Mae yna reswm pam y bu iddo ddal y faner a ddywedai, 'Cymru. Golff. Madrid. Yn y drefn honno.' Roedd yn allweddol yn haf gorau fy mywyd, mae'n debyg, yn 2016, wrth inni fynd y tu hwnt i'n holl freuddwydion a chyrraedd rownd gynderfynol pencampwriaeth yr Ewros, ac yna fe ailadroddodd yr orchest y llynedd gan fynd â ni i gwpan y byd am y tro cyntaf ers 1958. Bydd yn gyfrifol am yr uchafbwyntiau na fyddem ni fel cefnogwyr pêl-droed Cymru erioed wedi ystyried eu bod yn bosibl cyn Bale, ac mae wedi rhoi ein hyder yn ôl i ni, ar y cae pêl-droed ac fel cenedl. Gwn fy mod yn rhagfarnllyd, ond credaf mai ef yw chwaraewr gorau Cymru erioed. Ni fydd Bale arall byth, ond byddaf yn fythol ddiolchgar ein bod wedi cael yr un hwn. Diolch, Gareth.

Diolch yn fawr, Gareth Bale, ac edrychwn ymlaen at yr hyn a ddaw nesaf i ti. Byddwn yn dy wylio a byddi'n parhau i fod yn drysor cenedlaethol i ni. Yma o hyd, rwy'n siŵr.

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Eitem 5, felly, yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi cadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru. Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig yma—Peredur Owen Griffiths.

Cynnig NDM8169 Peredur Owen Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:

Yn penodi Dr Kathryn Chamberlain yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 16 Mawrth 2023 tan 15 Mawrth 2027.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae’n bleser gen i gynnig y cynnig hwn heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid a gofyn i’r Senedd gytuno i benodi Dr Kathryn Chamberlain yn gadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Mae gan Dr Kathryn Chamberlain brofiad sylweddol o arwain ar lefel uwch yn y sector cyhoeddus a chefndir cryf ym maes archwilio a llywodraethu. Yn ogystal, mae ganddi brofiad helaeth o weithio ar lefel bwrdd mewn rolau uwch gweithredol ac anweithredol.

Hoffwn dynnu sylw’r Aelodau hefyd at y ffaith bod adroddiad y pwyllgor ar benodi aelodau anweithredol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnwys rhagor o fanylion am y broses recriwtio, gan gynnwys y broses o benodi David Francis i’w ail dymor fel aelod anweithredol.

Hoffwn hefyd gofnodi diolch y pwyllgor i’r cadeirydd sy’n ymadael, sef Lindsay Foyster, gan gydnabod ei chyfraniad amhrisiadwy at waith Swyddfa Archwilio Cymru dros yr wyth mlynedd diwethaf, a hynny fel aelod anweithredol o 2015 ac fel cadeirydd ers 2020. Mae Lindsay wedi arwain bwrdd cynhwysol a chydweithredol sy’n canolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau statudol a strategol Swyddfa Archwilio Cymru, a hynny yn ystod cyfnod arbennig o heriol. Rydym yn ddiolchgar am ei stiwardiaeth o’r bwrdd, am ei hymroddiad anhunanol i wasanaeth cyhoeddus, ac am roi seiliau cadarn i’r rhai sy’n ei dilyn.

Gofynnaf i’r Senedd dderbyn y cynnig. Diolch yn fawr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Ydych chi am ychwanegu unrhyw beth arall? Na, ocê. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: 'Asedau Cymunedol'

Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Asedau Cymunedol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM8170 John Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Asedau Cymunedol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

15:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar asedau cymunedol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, yn enwedig y grwpiau sy’n ymwneud â’r asedau cymunedol y buom yn ymweld â hwy: Maindee Unlimited, Canolfan Gymunedol y Fenni, Sinema Neuadd y Farchnad ym Mryn-mawr, Antur Nantlle, Ty’n Llan, a Phartneriaeth Ogwen. Roedd yn ddefnyddiol iawn inni gyfarfod â'r grwpiau hyn i glywed yn uniongyrchol am eu profiadau uniongyrchol. Fe wnaeth eu tystiolaeth ein helpu ni i ddeall manteision perchnogaeth gymunedol yn well, yn ogystal â rhai o’r heriau a’r rhwystrau a wynebir gan gymunedau.

Mae asedau cymunedol yn gwneud cyfraniad mawr i fywydau’r bobl sy’n byw yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae llawer o wahanol fathau o asedau ledled Cymru a llawer o ffyrdd y gall y rhain wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u llesiant. Gallant fod yn adeiladau, megis canolfannau cymunedol, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a thafarndai, sy'n gweithredu fel hybiau ar gyfer eu hardaloedd lleol a lle gall pobl gael mynediad at wybodaeth, gwasanaethau, dysgu sgiliau newydd, dod ynghyd i gymdeithasu a rhannu profiadau. Gallant fod yn lleoedd, fel parciau a mannau gwyrdd, lle gall pobl ymlacio neu ymarfer corff a lle gall plant chwarae; gallant hyd yn oed ddarparu cartrefi i bobl.

Yng Nghymru, gallwn fod yn falch o frwdfrydedd ac ymrwymiad gwych cymunedau ledled y wlad i gynnal asedau lleol a sicrhau eu cynaliadwyedd. Clywsom fod pobl yn awyddus i fod yn rhan o'r gwaith o redeg prosiectau cymunedol i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at amwynderau yn eu hardaloedd lleol, nawr ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw rhedeg ased cymunedol yn orchwyl hawdd. Yn ogystal â brwdfrydedd ac ymrwymiad, mae angen digon o amser ac arian hefyd. Hoffem ei gwneud yn haws i grwpiau lleol allu cymryd rhan yn y gwaith o redeg yr asedau sy’n iawn i’w cymunedau. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom 16 o argymhellion a fydd yn ein barn ni yn helpu i sicrhau'r cyfleoedd mwyaf ar gyfer grymuso cymunedau'n well. Mae wyth o’r argymhellion hynny wedi’u derbyn yn llawn a saith wedi’u derbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Gwrthodwyd un.

Ein hargymhelliad trosfwaol oedd y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu comisiwn i ysgogi syniadau arloesol ynglŷn â pherchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau yng Nghymru. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn dangos bod angen esbonio rhai materion ymhellach, felly, fe wnaethom argymell y gallai’r comisiwn wneud gwaith o’r fath. Roedd y Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi nodi ei bod yn bwriadu sefydlu comisiwn o’r fath, ac eto, dim ond mewn egwyddor y derbyniwyd yr argymhelliad. Felly, hoffwn ofyn i’r Gweinidog ymhelaethu ar y rhesymau dros beidio â derbyn yr argymhelliad yn llawn. Awgrymai ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru y gallai’r amserlen o 12 mis a argymhellwyd gennym ar gyfer sefydlu’r corff hwnnw fod yn broblemus. Hoffwn ofyn, felly, i’r Gweinidog roi mwy o fanylion ynglŷn â faint o amser sydd ei angen i sefydlu comisiwn. Mae Cwmpas eisoes wedi galw am gomisiwn, a gwyddom fod rhanddeiliaid ymroddedig eraill yn barod ac yn awyddus i gyfrannu at y gwaith angenrheidiol. Felly, fel pwyllgor, credwn y dylai'r gwaith allu dechrau'n weddol gyflym.

Ddirprwy Lywydd, fel y nodais, mae nifer o'n hargymhellion eraill yn cyfeirio at waith y credwn y gellid ei wneud gan gomisiwn, gan gynnwys archwilio gyda rhanddeiliaid y pecyn cymorth a ddylai fod ar gael i grwpiau cymunedol sy'n dymuno rhedeg ased cymunedol. Nid yw'n broses hawdd, a bydd angen cymorth gwahanol ar grwpiau, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Ac wrth gwrs, efallai y bydd gan rai cymunedau fynediad parod at bobl a chanddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen, ond bydd angen i eraill ddibynnu ar gymorth allanol. Beth bynnag y bo’u hamgylchiadau, rydym am i bob cymuned gael cyfle i fwrw ymlaen â phrosiectau.

Er bod ffynonellau amrywiol o gyngor a chymorth eisoes ar gael, clywsom nad yw'n hawdd cael mynediad atynt, yn enwedig i grwpiau sydd newydd eu sefydlu ac a fydd yn llai cyfarwydd â’r trefniadau. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at rai o'r ffynonellau gwybodaeth, ond nid yw'n mynd i'r afael â hygyrchedd yr wybodaeth honno. Credwn ei bod yn bwysig dysgu o brofiadau pobl sy'n cymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o redeg asedau cymunedol i sicrhau bod y cyngor a'r cymorth cywir ar gael, a dyna pam y credwn mai comisiwn o arbenigwyr a fyddai yn y sefyllfa orau i fwrw ymlaen â hyn. Pan roddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol dystiolaeth i ni, cyfeiriodd at y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar bolisi cymunedol newydd, gan gynnwys archwilio'r angen am hyb canolog ar gyfer cyngor a gwybodaeth. Credwn fod y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni wedi dangos angen clir am ddarpariaeth o’r fath, ac felly, rwyf am ofyn i’r Gweinidog egluro pam na chafodd ein hargymhelliad ei dderbyn yn llawn.

Clywsom am yr heriau a wynebir yn aml gan grwpiau sy’n caffael asedau sydd mewn perchnogaeth breifat. Mae'n cymryd amser i grwpiau a ffurfiwyd o'r newydd i sefydlu eu hunain a sicrhau cyllid, a gall fod yn anodd cystadlu yn erbyn unigolion neu fusnesau preifat a chanddynt gyllid at eu defnydd. Dywedodd sawl tyst wrthym fod gan gymunedau yng Nghymru lawer llai o bwerau na’r rheini yn yr Alban a Lloegr. Mae hawl y gymuned i brynu wedi bod ar waith yn yr Alban ers 2003, ac mae gan gymunedau Lloegr hawl i wneud cynigion am asedau drwy Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae amser wedi symud yn ei flaen, ac rydym yn pryderu bod cymunedau Cymru yn cael eu hamddifadu o bwerau tebyg.

Gwnaethom argymell hefyd y dylai comisiwn archwilio a oes angen deddfwriaeth i rymuso cymunedau a rhoi cyfle cyfartal iddynt wrth gystadlu yn erbyn buddsoddwyr preifat i brynu asedau o ddiddordeb. Felly, credwn fod sefydlu comisiwn yn allweddol er mwyn bwrw ymlaen â nifer o’n hargymhellion a’r rheini a wnaed gan randdeiliaid nodedig, gan gynnwys Cwmpas a’r Sefydliad Materion Cymreig. Mae’n hollbwysig felly fod y gwaith o sefydlu comisiwn yn dechrau fel mater o frys, fel nad yw cymunedau Cymru yn colli cyfleoedd i gaffael a rhedeg asedau a all wella llesiant eu poblogaethau lleol.

Rydym yn siomedig fod ein hargymhelliad i sefydlu cronfa dir cymunedol i Gymru wedi’i wrthod. Mae cronfeydd tebyg yn bodoli yn yr Alban a Lloegr, a galwodd sawl rhanddeiliad am gronfa yma yng Nghymru.

Fel pwyllgor, rydym yn bryderus iawn ynghylch y dystiolaeth gynyddol a glywn am yr anawsterau y mae pobl ledled Cymru yn eu hwynebu wrth sicrhau llety i’w rentu neu ei brynu. Credwn fod tai a arweinir gan y gymuned yn rhoi cyfle i gymunedau ddarparu eu hatebion tai eu hunain. Er na fydd hyn yn opsiwn ymarferol i bawb, hoffem weld prosesau’n cael eu symleiddio fel bod cymunedau’n gallu cael mynediad at y tir a’r cyllid sydd ei angen arnynt i adeiladu cartrefi priodol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y grant tai cymdeithasol, y gall grwpiau a arweinir gan y gymuned gael mynediad ato os ydynt yn partneru â landlord cymdeithasol cofrestredig. Rydym yn pryderu nad yw’r dull hwn wedi sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i grwpiau cymunedol, a gofynnaf i Lywodraeth Cymru ailystyried ei hymateb i’r argymhelliad hwn.

Ddirprwy Lywydd, mae mynediad at dai fforddiadwy yn fater pwysig iawn i ni fel pwyllgor, ac i bob un ohonom yn y Senedd, rwy'n siŵr, ac i bobl ledled Cymru. Fel pwyllgor, byddwn yn dychwelyd at hyn yn ystod tymor y chweched Senedd i weld sut mae ein hargymhellion yn cael eu datblygu. Diolch yn fawr.

15:50

A gaf fi gofnodi fy niolch yn gyntaf i Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, am ei gadeiryddiaeth a’i waith yn llunio adroddiad y pwyllgor heddiw, ochr yn ochr â fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, y Gweinidogion a roddodd dystiolaeth, y clercod, tîm cymorth y pwyllgor, wrth gwrs, a'r llu o sefydliadau a ddarparodd dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad rydym yn ei ystyried yma heddiw?

Ac fel yn rhagair y Cadeirydd i adroddiad y pwyllgor heddiw ar asedau cymunedol, maent yn gwneud cyfraniad mor fawr i fywydau pobl sy'n byw yn ein cymunedau, a chredaf weithiau ein bod yn anghofio am hynny, ac yn anffodus, ni chofiwn hynny nes y bydd hi'n rhy hwyr, pan nad yw’r adeiladau cymunedol hynod bwysig hynny, yr asedau, y darnau o dir ar gael i’n cymunedau mwyach. Credaf ei bod yn bwysig i bob un ohonom roi eiliad i ystyried yr asedau sydd yn ein cymunedau, ynghanol y bobl rydym yn eu cynrychioli, i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau ar gyfer ein cymunedau.

Drwy ein gwaith fel pwyllgor, gwelsom fod yna lawer o wahanol fathau o asedau cymunedol ledled Cymru, gyda phob un ohonynt yn darparu manteision aruthrol i’r bobl rydym yn eu cynrychioli a’u llesiant. Mae’r asedau hynny’n amrywio o lyfrgelloedd i dafarndai, y mae pob un ohonom i'n gweld yn eu gwerthfawrogi, canolfannau cymunedol, ac yna mae’n rhaid inni fynd i’r canolfannau hamdden hefyd. Ond mae ystod mor fawr o'r asedau cymunedol hyn yn gwneud gwahaniaeth. Credaf fod hynny'n rhan o’r her, pan fyddwn yn sôn am asedau cymunedol, gyda grŵp mor eang o bethau y gallem fod yn sôn amdanynt yma. Ond maent yn aml yn hybiau hollbwysig mewn ardaloedd lleol, sy'n galluogi pobl i ddysgu sgiliau newydd, i ddod at ei gilydd, i gymdeithasu, i gael gwared ar rai o'r rhwystrau ym mywydau pobl sy'n eu hatal rhag cyfarfod â ffrindiau. Maent yn bwysig i gymunedau lleol er mwyn sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd i rymuso cymunedau hefyd.

Roeddwn yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 2, a oedd yn galw arnynt i adolygu a diweddaru’r canllawiau presennol ar drosglwyddo asedau cymunedol. Credaf fod hyn i'w groesawu, gan yr ymddengys bod anghysondeb sylweddol ledled Cymru, ond hefyd, ar adegau, o fewn awdurdodau lleol mewn perthynas â throsglwyddo asedau. Roeddwn hefyd yn falch fod argymhelliad 12, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa asedau cymunedol, wedi’i dderbyn yno hefyd.

Wrth gwrs, un agwedd allweddol ar sicrhau pwysigrwydd a llwyddiant asedau cymunedol yw rhannu arferion da. Fe roddaf ychydig funudau i ganolbwyntio ar rannu'r arferion da hynny, gan ei fod yn rhywbeth a gododd dro ar ôl tro pan fuom, fel aelodau'r pwyllgor, yn ymweld â nifer o'r asedau hyn sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned. Cefais y fraint o fynd draw i rai o’r lleoedd hyn, gan gynnwys Antur Nantlle, Ty’n Llan a Phartneriaeth Ogwen hefyd, ac roedd gan bob un ohonynt brofiad ardderchog ac arbenigedd mewn perthynas â'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol, ond roedd pob un ohonynt yn dweud hefyd y byddent yn hoffi gweithio'n agosach gyda sefydliadau eraill sydd wedi mynd drwy brofiadau tebyg, i ddeall, i ddysgu ac i rannu rhywfaint o'r arferion gorau hynny. Gan fod y sefydliadau sydd wedi gwneud hyn unwaith wedi bod drwy'r boen, maent yn gwybod ble mae'r elfennau trafferthus ac maent yn fwy na pharod i rannu a gweithio gydag eraill, gan y gall fod yn eithaf brawychus, wrth gwrs, pan ddaw'n fater o gymryd rheolaeth ar ased cymunedol. Felly, credaf fod angen deall y gwaith hwnnw'n well, a sicrhau ein bod yn cysylltu'r rheini sydd wedi bod drwy'r profiad hwnnw â'r rheini sydd am fynd drwy'r profiad hwnnw hefyd.

Buom yn sôn am nifer o'r rhwystrau a'r heriau sy’n wynebu cymunedau lleol pan fyddant yn ceisio rheoli'r asedau cymunedol hyn, ac fel y nodwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig, ymddengys bod cymunedau Cymru ymhlith y rhai sydd wedi’u grymuso leiaf ym Mhrydain, gyda’r system gyfyngedig sy'n bodoli ar hyn o bryd

'yn cael ei gyrru o’r brig i’r bôn.'

Ceir pryder hefyd ar draws rhai awdurdodau lleol—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

15:55

Yn gryno iawn, a ydych yn rhannu fy mhryder fod Llywodraeth Cymru wedi methu defnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi ers cyflwyno Deddf Lleoliaeth 2011 y DU i gyflwyno cofrestr asedau cymunedol a hawl gymunedol i wneud cynigion, i helpu i fynd i’r afael â’r dull o’r brig i’r bôn hwnnw y cyfeiriwch ato?

Yn sicr, credaf fod hynny'n bryder gwirioneddol, ac mae'n rhywbeth y gwnaethom ni fel pwyllgor ymchwilio iddo, ac rydym yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru'n awyddus i edrych ymhellach arno eu hunain hefyd. A Mark Isherwood, credaf eich bod yn llygad eich lle i’w godi yma y prynhawn yma.

Ond ceir pryder hefyd mewn rhai awdurdodau lleol yng Nghymru fod llawer yn amharod i roi neu drosglwyddo eu hasedau. Weithiau, yn hytrach na throsglwyddo ased, credaf mai’r hyn sy’n digwydd yn aml yw trosglwyddo atebolrwydd, sy'n ymagwedd gwbl anghywir gan lawer o awdurdodau lleol. Felly, roedd yn dda gennyf weld argymhelliad 4, sy’n nodi'n glir fod y broses drosglwyddo asedau cymunedol nid yn unig yn berthnasol i awdurdodau lleol, ond hefyd i bob corff cyhoeddus. Credaf fod cyfle gwych ar draws y cyrff cyhoeddus i sicrhau bod yr asedau hynny'n cael eu trosglwyddo'n effeithiol.

I agosáu at y diwedd, Ddirprwy Lywydd, mae’n amlwg fod angen gwneud mwy i hwyluso mwy o rym a chydweithio i gymunedau lleol, gyda phobl leol yn y sefyllfa orau i ddeall a thrin materion lleol. Credaf fod gwir angen brys nawr i fwrw ymlaen â’r argymhellion hyn. Gwyddom fod cyrff cyhoeddus yn debygol o wynebu cyfnod heriol o’n blaenau, pan fydd defnyddio asedau a rheoli asedau'n rhan bwysig o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rwy’n hyderus fod ein cymunedau’n barod, yn abl ac yn awyddus i ymgymryd â'r asedau hyn, ond fod angen yr offer a’r cymorth cywir arnynt. Hoffwn ddiolch, unwaith eto, i bawb a gyfrannodd at yr adroddiad pwysig hwn ar asedau cymunedol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weld yr argymhellion hyn yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr iawn.

16:00

A gaf i roi datganiad diddordeb, sef fy mod i'n gyfranddalwr mewn amryw fentrau cymunedol, sydd ar y record gyhoeddus? Diolch am y cyfle i gael siarad yn y ddadl yma heddiw. Fel y gwyddoch chi, fe wnes i gyflwyno cynnig cyn yr haf y llynedd ar rymuso cymunedau—cynnig a gafodd ei basio gan y Senedd hon. Ond, er gwaethaf ein bod wedi cytuno ar y ffordd ymlaen fel Senedd, y gwir ydy nad oes yna fawr ddim wedi digwydd, a bydd dim yn digwydd yn fuan chwaith.

Roedd hi’n hyfryd cael bod yn rhan o’r ymchwiliad yma, dan gadeiryddiaeth John Griffiths, ac ymweld â rhai o’r cynlluniau cymunedol sydd ar y gweill. Dwi’n ymfalchïo yn y ffaith bod Dwyfor Meirionnydd yn arwain y gad pan fo’n dod i ddatblygu mentrau cymunedol, a bod gennym ni hanes balch iawn o hyn yng Ngwynedd, efo’r newyddion diweddaraf, er enghraifft, fod Menter y Glan ym Mhennal wedi llwyddo i godi’r pres angenrheidiol fel cymuned i brynu tafarn Glan yr Afon. Felly, llongyfarchiadau iddyn nhw.

Yn wir, gellir olrhain y cyfan yn ôl i fenter gymunedol gyntaf y Deyrnas Gyfunol, a sefydlwyd yn Llanaelhaearn—menter Aelhaearn, a ffurfiwyd gan y diweddar a’r dihafal Dr Carl Clowes a thrigolion yr ardal. Ond, er mai Cymru oedd yn arwain yn y maes yma yn ôl yn y 1970au, mae’n fy nhristáu ein bod ni bellach mor bell ar ei hôl hi, yn enwedig wrth edrych ar yr Alban a Lloegr a’r grymoedd deddfwriaethol sydd gan gymunedau yno pan fo’n dod i berchnogaeth ar asedau cymunedol a datblygu mentrau cydweithredol cymunedol.

Roedd yr ymchwiliad yma yn ddifyr oherwydd y cyfoeth o dystiolaeth y mae wedi’i thynnu ynghyd, yn dangos yn glir buddiannau hyrwyddo mentrau cymunedol yma. Er enghraifft, mae gan gymunedau sy’n profi mwy o amddifadedd ond sydd â niferoedd uwch o asedau cymunedol a gweithredoedd cymunedol ganlyniadau iechyd a lles gwell, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant o gymharu ag ardaloedd difreintiedig nad oes ganddyn nhw lefelau uchel o asedau cymunedol na gweithredu cymunedol.

Mae hyn yn cydberthyn â chanfyddiadau ymchwil sydd wedi cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, mewn partneriaeth â’r Oxford Consultants for Social Inclusion. Mae eu canfyddiadau yn awgrymu y bydd ardaloedd difreintiedig sydd ag asedau cymunedol a dinesig yn llai tueddol o gael eu hadnabod fel rhai sydd mewn perygl. Felly, mewn geiriau eraill, mae cymunedau difreintiedig sy'n meddu ar asedau cymunedol a dinesig cryfach fel arfer yn fwy gwydn na’r cymunedau hynny sydd heb hyn. Mae yna dystiolaeth galed i gefnogi hynny hefyd.

Dwi’n credu mai peth arall sy’n werth sôn amdano yma ydy’r hyn a wnaed yn glir yn ein sesiynau tystiolaeth, sef i ba raddau y mae cefnogaeth a chyngor ar gael i’r grwpiau cymunedol hynny sy’n ceisio ymgymryd ag ased cymunedol. Yn y pen draw, mae’r gefnogaeth ymhell o fod yn ddigonol a chyson. Mae’n amrywio ar draws Cymru. Mae’r grwpiau yn y sector wedi dweud bod angen cefnogaeth ychwanegol ddi-gost.

Hoffwn ailadrodd yr alwad am wella’r rhaglen cyfleusterau cymunedol, i edrych hefyd ar feithrin capasiti cymunedol. Mae angen inni adeiladu rhai o’r sgiliau meddalach hynny sydd eu hangen o fewn grwpiau cymunedol i hwyluso eu rhedeg parhaus, yn enwedig o ran datblygu a throsglwyddo asedau.

Mae’r adroddiad yn sôn am yr angen i greu comisiwn. Roeddwn i, yn bersonol, yn ffafrio deddfu, ond mae’r Llywodraeth wedi’i gwneud yn glir nad yw am ddeddfu yn y maes yma, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi bod yn ymrwymiad maniffesto ganddi ers 2006. Yn absenoldeb deddfu, mae’r comisiwn i’w groesawu, ond mae taer angen ei sefydlu’n fuan a gweld gwaith yn digwydd yn syth.

Wrth inni wynebu austerity 2.0, y peryg go iawn yw y bydd ein cynghorau sir yn cael eu temtio efo fire sales o’u hasedau er mwyn dod â phres i mewn i’r coffrau, a fydd yn golygu ein bod yn colli mwy o asedau, gan dynnu grym i ffwrdd o’n cymunedau ymhellach. Felly, yn ei hymateb i’r drafodaeth hon, hoffwn glywed y Gweinidog yn ymrwymo i gyflymu sefydlu’r comisiwn a rhoi amserlen glir a buan i’r comisiwn cyn i ni golli mwy o adnoddau a cholli cyfle go iawn i rymuso ein cymunedau.

Fy nodyn olaf, wedyn, ar dai o dan arweiniad y gymuned, does dim angen dweud bod cryfhau hawliau cymunedol yn gallu helpu tyfu’r mudiad tai cymunedol. Mae angen i Lywodraeth Cymru helpu cymunedau i ddod dros rwystrau i wneud tai sy’n cael eu harwain gan y gymuned yn ffurf gyffredinol boblogaidd o dai, fel sy’n digwydd yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Trwy gyflwyno deddfwriaeth sy’n galluogi perchnogaeth gymunedol ar dir ac ar asedau, bydd cymunedau’n gallu darparu cartrefi fforddiadwy sy’n ddiogel yn yr hinsawdd yma, yn fwy effeithiol, ac sy’n cael eu datblygu gan a chyda phobl leol i ddiwallu anghenion lleol ac anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Diolch. 

16:05

Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cadeirydd a staff y pwyllgor a luniodd yr adroddiad hwn a threfnu ymweliadau ledled Cymru, ac i bawb a gyfrannodd. Gall cyfleusterau cymunedol rymuso cymunedau a sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl. Gallant helpu gyda chynaliadwyedd a llesiant. Dylid gwarchod neuaddau cymunedol, tafarndai, caeau chwarae a mannau eraill ar gyfer pobl a natur, llefydd fel gwarchodfa natur Penrhos ym Môn neu hen gae'r ysgol yn Llanfynydd yn sir y Fflint, sydd newydd fod yn destun trosglwyddo asedau. Mae ynni cymunedol, bwydydd cymunedol a thai cymunedol oll yn fentrau gwych sydd angen anogaeth a buddsoddiad pellach. Un enghraifft wych yw Partneriaeth Ogwen ym Methesda, y gwnaethom ymweld â hi fel pwyllgor, ac mae'n berchen ar swyddfa, siopau, fflatiau, busnesau, llyfrgell gymunedol, cerbydau trydan, cynllun atgyweirio beiciau, rhandiroedd cymunedol a chynllun hydro cymunedol. Mae'r hyn y maent wedi'i gyflawni yno'n anhygoel.

Mae cyfoeth cymunedol yn enfawr ac yn anfesuradwy. Mae Canolfan Biwmares yn ganolfan hamdden a menter drafnidiaeth gymunedol sy'n cael ei rhedeg gan y gymuned, ac maent yn hysbysebu am staff ar hyn o bryd. Maent yn gweithio ar eu cynllun pum mlynedd, gyda bwriad i fod yn ganolfan lesiant erbyn hyn, yn hytrach na chael ei dosbarthu fel neuadd chwaraeon yn unig, sy'n dangos sut mae pethau wedi symud yn eu blaenau. Mae cymunedau gwledig yn aml yn cael eu heffeithio'n fwy am nad oes ganddynt yr un mynediad at wasanaethau cyhoeddus, siopau a chyfleusterau, ond mae pobl yn aml yn adnabod ei gilydd yn well. Rwy'n credu mai dyma oedd grym y gymuned a brynodd Ty'n Llan. I rai pobl, yr unig berson y byddent yn ei weld yn rheolaidd fyddai'r postmon, ac efallai na fydd hynny'n digwydd mwyach os yw cynigion ofnadwy y Post Brenhinol yn llwyddo.

Bydd methiant Llywodraeth y DU i sicrhau arian yn lle cronfeydd strwythurol pwysig yr UE yn effeithio ar lawer o gymunedau a grwpiau trydydd sector. Mae'n helpu i ariannu buddsoddiad mewn neuaddau pentref, arloesedd, cynlluniau ynni cymunedol, amaethyddiaeth gymunedol, trafnidiaeth gymunedol, a gweithredai fel cyllid sbarduno ar gyfer digwyddiadau cymunedol. Roeddwn yn aelod o Gadwyn Clwyd ac roedd yr arian hwnnw'n bwysig iawn. Mae croeso mawr i gyllid rhaglen cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru, ac mae'n parhau i wneud gwahaniaeth mawr. Byddai'n wych gweld cronfa yr ardoll agregau ar gyfer Cymru'n cael ei hadfer, yn enwedig gan fod chwareli a oedd ar un adeg wedi'u cadw'n segur yn cael eu defnyddio eto erbyn hyn, ac mae lorïau chwareli'n effeithio ar gymunedau nad ydynt wedi arfer eu gweld. Mae cronfa benthyciadau asedau cymunedol Llywodraeth Cymru sy'n cael ei dosbarthu drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn bwysig iawn hefyd, a nodwyd pa mor anodd yw cael benthyciadau gan fanciau. Yn fwyaf arbennig, roedd croeso i fenthyciad drwy'r CGGC ond roedd y llog yn eithaf uchel; rwy'n meddwl ei fod yn 6 y cant ar y pryd, ac mae'n debygol o fod yn llawer mwy erbyn hyn. Efallai fod hwn yn faes i Fanc Cambria helpu gydag ef.

Yn sir y Fflint ceir polisi da iawn ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol, a chafwyd sawl llwyddiant, ond nid yw'n gyson ar draws Cymru. Efallai y byddai'n dda pe ceid rhai canllawiau cenedlaethol a rhwydwaith i alluogi grwpiau cymunedol i rannu profiad, fel gwefan neu rywbeth efallai. Argymhellwyd y dylid cael comisiwn a allai ysgogi meddwl arloesol ynghylch perchnogaeth gymunedol, a chofrestru neu fapio asedau cymunedol. Yn aml iawn yn y pwyllgor rydym wedi trafod pwysigrwydd mapio cadastrol, a fyddai'n helpu gydag asedau cymunedol, yn cefnogi tai cymdeithasol, yn creu ardaloedd ar gyfer bywyd gwyllt, a threth gwerth tir hefyd o bosibl, pe bai hynny'n digwydd. Soniwyd am Ystadau Cymru, ond rwy'n meddwl bod angen hyrwyddo hynny'n well, oherwydd nid oeddwn i wedi clywed amdano o'r blaen.

Mae mentrau cymdeithasol cymunedol yn llefydd lle mae cyfoeth yn cael ei rannu yn hytrach na'i storio mewn banciau, a lle dylai hapusrwydd a llesiant fod yn fesur llwyddiant. Ac maent yn fesurau llwyddiant—fe welsom hynny. Ond ni allant gymryd lle gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr. Mae cyllid craidd ac arweinyddiaeth yn hanfodol, ac fe welsom hynny. Aethom allan i gymunedau a oedd â rhywun a oedd yn arwain yr holl fentrau gwych hyn. Gallant fod yr un mor fregus â gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn enwedig yn yr argyfwng costau byw presennol. Diolch.

16:10

Hoffwn ddechrau drwy adleisio'r sylwadau a wnaed eisoes, a diolch i John Griffiths am ddod â hyn ger bron ac am yr holl waith y mae'n ei wneud fel Cadeirydd y pwyllgor.

Fel un sydd wedi siarad droeon yn y Siambr ynglŷn â pha mor bwysig yw diogelu ein treftadaeth naturiol, gwarchod adeiladau o bwysigrwydd cymunedol, hyd yn oed os nad ydynt yn cydymffurfio â meini prawf rhy llym Cadw, a gwarchod ein heglwysi ac addasu adeiladau at ddefnydd y gymuned, gallaf ddweud fy mod yn cefnogi argymhellion yr adroddiad hwn yn llwyr. Credaf fod mawredd y genedl yn deillio o'r balchder sydd gan bobl ynglŷn â ble maent yn byw. Y gwir trist yw ein bod ni yng Nghymru wedi colli llawer o asedau diwylliannol a chymunedol pwysig oherwydd methiant i gydnabod eu gwerth i'r gymuned ac i lesiant ehangach y genedl. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig hyd yn oed wedi dweud am gymunedau Cymreig ei bod yn ymddangos mai hwy sydd wedi eu grymuso leiaf ar yr ynys hon, ac mae hon yn sefyllfa wirioneddol drist. Fel Aelodau o'r Siambr hon, mae dyletswydd arnom i bobl Cymru i newid hyn. 

Er bod y Llywodraeth wedi derbyn bron bob un o'r argymhellion, rwy'n teimlo bod angen mwy o bwyslais ar rymuso cymunedau i gydnabod yr hyn sydd o werth iddynt hwy, i feddwl am yr hyn sy'n rhan o'u hunaniaeth, ac i'w hannog i chwarae rhan ganolog yn diogelu'r asedau y maent am eu gweld yn cael eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Gallwn siarad yn ddiddiwedd ynglŷn â sut mae trosglwyddo asedau cymunedol yn ffordd wych o helpu cymunedau i ddod at ei gilydd a datblygu ymlyniad cymdeithasol a theimlad o hunaniaeth, ond os nad yw cymunedau'n ymwybodol o ba hawliau a mecanweithiau sydd ar gael iddynt, gallant ddigalonni'n hawdd a rhoi'r gorau i geisio achub eu hasedau cymunedol. 

Ar ben hynny, mae angen i'r Llywodraeth annog awdurdodau lleol a pherchnogion asedau presennol i fod yn ystyriol o gymunedau yn ystod y broses o drosglwyddo asedau cymunedol. Yn yr un modd, mae angen inni gynnig mwy o amddiffyniadau i gymunedau lle mae asedau cymunedol sy'n eiddo preifat a chyhoeddus mewn perygl o gael eu dymchwel. Rhaid inni fod yn ymwybodol efallai na fydd gan lawer o'r bobl a fydd yn gwneud ceisiadau trosglwyddo asedau unrhyw brofiad o gwbl o ddilyn y prosesau cyfreithiol sydd ynghlwm wrth wneud hynny, a gall yr holl broses fod yn eithaf brawychus iddynt.  

Mae angen inni wneud yn siŵr hefyd fod gan gymunedau syniad llawer gwell o'r diwydrwydd dyladwy sydd ei angen wrth reoli ased, a bod cymorth cyfreithiol a phroffesiynol ar gael iddynt gael cynlluniau busnes wedi'u paratoi'n dda sy'n nodi sut y byddant yn rheoli'r ased yn y tymor hir, yn ariannol ac fel arall, a bod cymunedau'n deall eu cyfrifoldebau'n llawn. Er bod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor y dylid sefydlu comisiwn i helpu i wneud hyn, nid oes darpariaeth ariannol gyfredol, ac yn y cyfnod hwn o bwysau ariannol, nid wyf yn argyhoeddedig y bydd y Llywodraeth yn gallu dod o hyd i'r arian sydd ei angen yn fuan. Felly, yn y cyfamser rwy'n credu ei bod hi'n bwysig y dylai'r rhai sydd am fynd drwy'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol allu cael mwy o gyllid gan awdurdodau lleol. 

Nid wyf yn credu bod angen egluro'r argymhellion yn yr adroddiad hwn ymhellach oherwydd rwy'n teimlo eu bod yn siarad drostynt eu hunain, ond hoffwn bwysleisio fy mod yn falch o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn cael eu gweithredu. Diolch. 

Mae'n briodol fy mod yn dilyn cyfraniad fy nghyd-Aelod Joel James fel Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd y mae Joel hefyd yn aelod ohono. Rwy'n dymuno dweud ychydig eiriau yn rhinwedd y swydd honno heddiw, Lywydd, gan ganolbwyntio ar ddeiseb o'r enw, 'Helpwch Gymunedau yng Nghymru i Brynu Asedau Cymunedol: Gweithredwch Ran 5 o Bennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011'. Galwai ar 

'y Llywodraeth nesaf yng Nghymru i weithredu ar unwaith y darpariaethau yn Rhan 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 i sicrhau bod gan grwpiau yng Nghymru yr hawl gyfreithiol i brynu a rheoli asedau cymunedol.'

Lywydd, cafodd y ddeiseb hon ei chyflwyno gan Dan Evans ac mae'n cynnwys 655 o lofnodion. Y tro diwethaf inni ystyried y ddeiseb fel pwyllgor, fe wnaethom nodi'r ymchwiliad hwn a'r adroddiad gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a chytunwyd y byddem yn tynnu sylw at y ddeiseb a'r hyn y mae'n sefyll drosto yn y ddadl hon heddiw. Mae'n edrych ar asedau cymunedol mewn modd cyffredinol, ond fel pwyllgor rydym hefyd wedi ystyried nifer o ddeisebau sy'n ceisio gwarchod adeiladau lleol penodol, er enghraifft Ysgol i Ferched y Bont-faen neu Goleg Harlech.

Bydd gan bob un ohonom adeilad yn ein cymunedau nad yw'n gwneud digon o arian i'w berchennog, adeilad sydd efallai wedi mynd yn rhy gostus i'w gynnal, ond sydd â lle er hynny yng nghalonnau ein trigolion a'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau. Lywydd, ym mis Chwefror y llynedd, buom yn trafod deiseb Ysgol i Ferched y Bontfaen. Dadleuais ei bod yn llawer rhy anodd i bobl leol angerddol ac ymroddedig brynu asedau cymunedol a rhaid bod mwy y gall pob un ohonom yn y Siambr hon ei wneud i'w cefnogi.

Rwy'n arbennig o falch o ddarllen adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai tuag at ddiwedd y llynedd, a'r 16 argymhelliad a wnaed ganddynt, i yrru'r lefel uwch o gefnogaeth, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y mwyafrif o'r argymhellion hyn ac wedi ymroi i ysbryd yr argymhellion hynny na chafodd eu derbyn yn llawn. Ond os caf, Lywydd, hoffwn annog y Gweinidog i edrych eto ar rai o'r argymhellion lle mae'r pwyllgor yn galw am weithredu o fewn 12 mis ac mae'r Llywodraeth yn dweud, a dyfynnaf eto, 'Ni fyddai'r adnoddau presennol yn ddigon'. Rwy'n fodlon derbyn—. Rwy'n berson eithaf ymarferol, rwy'n credu, ac rwy'n fodlon derbyn bod ystyriaethau ymarferol yr argymhellion hyn weithiau'n golygu y gallai 'o fewn 12 mis' olygu 13, 14 neu 15 mis. Ond byddwn yn falch pe bai'r Gweinidog yn gosod targed ymarferol a real y gellir ei gyflawni ar gyfer y math hwn o waith i sicrhau ei fod yn digwydd i bobl y cymunedau lleol y mae'r adeiladau hyn mor annwyl iddynt, a'i nodi mor realistig â phosibl, ac nad yw'n cael ei osod naill ochr a'n bod yn gweld deiseb arall mewn 17, 18 mis heb fod angen. Diolch yn fawr iawn.

16:15

Diolch yn fawr i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw ac am yr adroddiad pwysig yma.

Mae ein cymunedau wedi wynebu caledi ar ôl caledi yn y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn dros ddegawd o gyni dan law'r Ceidwadwyr yn San Steffan, yna fe gawsom Brexit, a'r pandemig, a'r argyfwng costau byw hollbresennol nawr. Ac eto, yn anad dim, rydym wedi gweld bod caredigrwydd yn ein cymunedau yn parhau. Mae Cymru'n gyfoethog nid yn unig mewn adnoddau neu ddoniau ond o ran ein cymunedau. Mae'n rhaid inni feithrin hyn a sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu fel y gall ein cymunedau ffynnu; fel bod gwasanaethau nid yn unig yn cael eu darparu, ond eu bod yn dod yn wasanaethau rhagorol lle gwneir y mwyaf o wybodaeth a sgiliau lleol er budd y gymuned.

Dyma pam rwy'n croesawu argymhellion adroddiad y pwyllgor hwn, ac yn credu bod angen inni fynd ymhellach i rymuso ein cymunedau. Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adroddiad i raddau helaeth, ond rwy'n gresynu at y meysydd lle bydd y cymunedau'n cael cam oherwydd diffyg ymrwymiad. Er enghraifft, lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr ymrwymiad i sicrhau bod cronfa Gymreig benodol ar gael ar gyfer prosiectau tai cymunedol. Mae hyn ar gael ar gyfer cymunedau yn Lloegr a'r Alban, ond nid ein cymunedau ni yma yng Nghymru. Er bod y Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi datgan ei bod â'i bryd ar gytuno i sefydlu comisiwn i ysgogi meddwl arloesol am berchnogaeth gymunedol ac asedau cymunedol yng Nghymru, mae'n drueni, felly, mai dim ond mewn egwyddor y cafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn hyd yma am nad yw'r adnoddau presennol yn ddigon i gefnogi datblygiad o fewn y ffrâm amser a argymhellir. Thema gyffredin yn y ddadl hon—a byddaf yn ailadrodd y cwestiwn—yw: pryd y gallwn ddisgwyl sefydlu comisiwn o'r fath, os yw'r Gweinidog yn amlwg yn cydnabod ei werth? Bydd gohirio'r comisiwn hwn yn achosi oedi pellach rhag gallu archwilio hawl cymuned i brynu, fel yr argymhellir yn yr adroddiad. Mae'r diffyg deddfwriaeth yn y maes yn rhwystredig eisoes o'i gymharu â deddfwriaeth hawl i brynu yn Lloegr a'r Alban. Mae ein cymunedau dan anfantais enfawr, ar fympwy unigolion sy'n gallu newid eu meddwl ar unrhyw adeg, ac yn gorfod cystadlu gyda grymoedd y farchnad hyd yn oed mewn achosion lle gallai fod gwerth cymdeithasol clir i flaenoriaethu perchnogaeth gymunedol.

Hyd nes y byddwn yn deddfu ar gyfer hawl y gymuned i brynu, rydym yn gadael ein cymunedau mewn sefyllfa lle gallent fod yn ymdrechu ac yn treulio cryn dipyn o amser ac yn gwario arian sylweddol i'r cyfan fod yn wastraff o bosibl. Nid yw hyn yn deg ar unigolion, cymunedau na sefydliadau lleol, sy'n teimlo ymrwymiad at dir, adeiladau neu gyfleusterau yn eu cymunedau. Mae grymuso ein cymunedau yn ymwneud â sicrhau bod cefnogaeth ac arian ar gael sy'n hygyrch i gymunedau allu ffynnu, yn ogystal â rhoi'r ddeddfwriaeth ar waith i gefnogi'r Llywodraeth. O ran hynny, mae'r adroddiad yn nodi'n glir fod yna faterion sylweddol yn codi mewn perthynas â throsglwyddo asedau cymunedol. Rwy'n cytuno bod angen dysgu o arferion gorau ac annog creu rhwydweithiau cymheiriaid fel bod anghysondebau rhwng awdurdodau lleol yn cael eu lleihau. Er enghraifft, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn trafod dull un cyngor lle mae gwefan y cyngor yn cynnwys arweiniad, templedi ar-lein, disgrifiadau manwl o adeiladau ac un pwynt cyswllt am wybodaeth, gyda'r nod o helpu i sicrhau bod asedau'n cael eu trosglwyddo'n ddidrafferth. Er hynny, at ei gilydd, mae angen gwell canllawiau. Roedd clywed nad oedd gan rai awdurdodau lleol bolisi cyhoeddus ar drosglwyddo asedau cymunedol yn destun pryder mawr, ac wrth symud ymlaen, rhaid inni sicrhau bod gennym ganllawiau cyffredinol ar draws yr awdurdodau lleol sydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o le i hyblygrwydd. Mae'n rhaid iddo fod yn gymesur â maint y trosglwyddiad er mwyn rhoi cyfle teg i'n cymunedau.

Yn olaf, hoffwn orffen drwy nodi sut mae trosglwyddo asedau a pherchnogaeth gymunedol yn gymaint mwy na'r hyn y gallent ei gynnig mewn gwerth ariannol neu i arbed costau. Mae ganddynt allu gwirioneddol i wella bywyd a llesiant cymunedol, ac i ddod â gwerth cymdeithasol wrth rymuso ac uno ein cymunedau. Gadewch inni roi cyfle i'n cymunedau drwy warantu hawl iddynt allu adfywio eu hunain, hawl i redeg eu hunain, a hawl i brynu'r asedau cymunedol y maent wedi buddsoddi cymaint o amser ac egni ynddynt dros y blynyddoedd. Diolch yn fawr.

16:20

Diolch i'r pwyllgor, ei aelodau, y tîm clercio a'r tystion am yr adroddiad pwysig hwn. Mwynheais ddilyn yr ymchwiliad, ac rwy'n cytuno gyda nifer o'r pwyntiau sydd ynddo. Fel y mae adroddiad heddiw yn ein hatgoffa, pwrpas trosglwyddo asedau, wrth gwrs, yw sicrhau bod asedau sy'n wirioneddol bwysig i gymuned leol yn gallu aros o fewn y gymuned honno. Weithiau, dyma fydd un o ganlyniadau degawd o gyni Torïaidd. Mae pyllau padlo yn fy etholaeth yn Abercynon, Aberdâr, Aberpennar, Penrhiw-ceibr ac Ynys-y-bŵl bellach yn cael eu rhedeg gan grwpiau cymunedol, gan ddarparu cyfleoedd a fyddai wedi'u colli fel arall, ond maent hefyd yn gweithredu fel cerrig sylfaen ar gyfer creu rhywbeth mwy a gwell.

Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cymunedol yn gwneud y pwynt yn ei dystiolaeth fod cymunedau'n darparu'r ffactor ychwanegol hwnnw. Roeddwn yn falch y llynedd o agor Splashpad newydd Dŵr Dâr yn swyddogol ac rwyf wedi cefnogi grŵp Pwll Lee Gardens wrth iddynt gychwyn datblygu eu seilwaith ar ôl trosglwyddo ased cymunedol, ac maent wedi ychwanegu gwerth gwirioneddol i'w cymunedau lleol.

Rwy'n credu mai'r pwynt am grwpiau'n gallu mynd ag ased i'r cam nesaf sy'n tynnu sylw orau at pam fod hyn mor bwysig. Unwaith eto, ambell astudiaeth achos o Gwm Cynon: canolfan oriau dydd a gâi ei rheoli gan y cyngor yn Aberdâr oedd Santes Fair a chafodd yr ased ei drosglwyddo'n llwyddiannus i Age Connects Morgannwg. Erbyn hyn, fel Cynon Linc, a diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae'n gwasanaethu fel canolfan gymunedol sy'n cynnig amrywiaeth fawr o wasanaethau a chyfleusterau, ac mae'n gartref i feddygfa, elusennau a chaffi ardderchog. Cymerodd Cylch Meithrin Seren Fach feddiant ar adeilad segur yn Aberpennar, gan ei drawsnewid yn ofod croesawgar i blant a theuluoedd ac ehangu eu cynnig dysgu Cymraeg drwy chwarae. Ac mae A.S.D. Rainbows wedi cymryd meddiant ar ganolfan gymunedol ym Mherthcelyn i ddatblygu eu gweledigaeth i ymestyn y gefnogaeth y maent yn ei darparu i blant a'u teuluoedd ac i ddarparu ased mawr ei angen sydd wedi ei adfer i'r gymuned leol.

Mae adroddiad y pwyllgor yn dystiolaeth gryno o'r rheswm pam fod angen y rhain arnom, gyda Sefydliad Bevan, er enghraifft, yn nodi y gall trosglwyddo asedau ysgogi datblygiad economaidd mewn gwirionedd. Cefais fy nharo hefyd gan y dystiolaeth gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau fod ardaloedd llai cyfoethog sy'n cynnwys llawer o'r asedau cymunedol hyn wedi'u gyrru gan berchnogaeth gymunedol, yn dangos

'gwell canlyniadau iechyd a lles, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant'

na'r rhai nad ydynt yn meddu ar lawer ohonynt. 

Felly, nid oes modd gwadu'r elfen cyfiawnder cymdeithasol yn hyn. Fel y mae'r adroddiad yn nodi'n glir, rhaid cael prosesau a chymorth i gyd-fynd ag awydd cymuned i ymgymryd ag ased er mwyn gallu gwireddu'r weledigaeth. Yn sgil yr holl enghreifftiau cadarnhaol y soniais amdanynt yn fy etholaeth, er nad ydynt yn syndod, mae'n wych gweld y cyfeiriadau niferus yn yr adroddiad at arferion da a roddwyd ar waith gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn nodi RhCT fel un o'r enghreifftiau da o gyngor yn rhoi seilwaith a gwybodaeth yn eu lle sy'n arwain at 'drosglwyddo asedau'n ddidrafferth'. Nodir un pwynt cyswllt, tîm cymharol fawr o swyddogion, ac arweiniad sydd ar gael yn rhwydd fel elfennau o hyn. Fel y mae paragraff 59 yr adroddiad yn ei nodi'n glir, rhaid i'r broses drosglwyddo beidio â bod yn rhy fiwrocrataidd. Rhaid rhoi mecanweithiau priodol o gadarn ar waith, ond ni ddylent fod yn rhwystr, ac rwy'n falch o weld bod Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo yn gwneud y pwynt hwn yn eu tystiolaeth, gan fy mod yn gwybod bod y grŵp wedi bod yn sbardun allweddol i gefnogi'r trosglwyddiadau hyn yn fy etholaeth.

Mae llawer o'r enghreifftiau a nodais wedi cyfeirio at drosglwyddiadau o'r sector cyhoeddus ond fel y mae'r adroddiad yn ein hatgoffa, ceir heriau penodol pan fo'r ased mewn perchnogaeth breifat. Rwy'n ymdrin ag un achos ar hyn o bryd, gan weithio'n agos gyda grŵp Gwlyptiroedd Cymunedol Cwmbach wrth iddynt geisio cymryd meddiant ar dir sydd mewn perchnogaeth breifat. Mae gwirfoddolwyr ymroddedig y grŵp yn defnyddio nifer o atebion arloesol i yrru'r trosglwyddiad yn ei flaen, megis cyhoeddi cyfranddaliadau cymunedol sy'n boblogaidd iawn. Fodd bynnag, maent yn wynebu anawsterau'n ymwneud ag amser a gwybodaeth gwirfoddolwyr. Yn rhannol, rwy'n credu y gellid darparu atebion drwy ddatblygu rhwydwaith cymheiriaid—fel y nododd Cwmpas ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo yn eu tystiolaeth—i rannu syniadau, i rannu arbenigedd, ac i rannu'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio. Mae'r ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i'r argymhellion i'w groesawu. Fodd bynnag—a nodwyd y pwynt hwn eto yn yr adroddiad—rhaid i gefnogaeth o'r fath fod yn barhaus ac nid ar y dechrau'n unig pan fydd ased yn cael ei drosglwyddo. Gall pethau fynd o chwith, ond gall mynediad at yr wybodaeth gywir helpu cymunedau i gael pethau'n ôl ar y trywydd iawn. Diolch.

16:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i John Griffiths am waith caled iawn ei bwyllgor yn rhoi hyn at ei gilydd ac am gyflwyno'r cynnig heddiw, a diolch hefyd i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hynod bwysig hon? Mae'n amlwg fod hwn yn bwnc y mae pobl yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch.

Mae asedau cymunedol wedi cael sylw mewn dadleuon yn y Siambr ar sawl achlysur eleni, gan adlewyrchu'n glir pa mor bwysig yw asedau a gwasanaethau a ddarperir o fewn cymunedau. Ac mae'r cymunedau eu hunain, wrth gwrs, yn un o'n hasedau mwyaf yng Nghymru, ac yn ganolog i'n polisïau a'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu. Mae ein bwrdd polisi cymunedau yn parhau i ddatblygu polisi i rymuso ein cymunedau mewn meysydd polisi allweddol. Bydd eu gwaith presennol yn ein helpu i sicrhau ein bod wedi nodi'r rhanddeiliaid cymunedol cywir i fwydo i'r gwaith penodol hwn sy'n ymwneud â pherchnogaeth gymunedol ar asedau.

Mae asedau tir ac eiddo yn galluogi ein cymunedau i gael mwy o reolaeth dros wasanaethau a chyfleusterau o fewn eu cymunedau ac maent yn hynod o bwysig i'r economi sylfaenol. Felly, rwy'n croesawu'r adroddiad a'r argymhellion gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Rwyf i a fy nghyd-Weinidogion Cabinet, Rebecca Evans a Jane Hutt, wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion mewn egwyddor neu'n llawn, fel y mae pawb wedi nodi. Un yn unig a wrthodwyd gennym, sef argymhelliad 14—fel y nododd nifer o bobl—y byddem yn sefydlu cronfa Gymreig benodol ar gyfer prosiectau tai cymunedol. A'r rheswm dros wrthod yw oherwydd ein bod yn credu bod ein dull presennol eisoes wedi'i gynllunio i gyflawni amcan yr argymhelliad. Ein rheswm dros gredu hynny yw ein bod yn dilyn argymhellion yr adolygiad annibynnol o'r cyflenwad tai fforddiadwy 2019 y dylem symleiddio rhaglenni ar gyfer tai fforddiadwy, ac fe wneuthum dderbyn yr argymhelliad hwnnw. Felly, rydym wedi cymryd camau i symud yr argymhelliad hwnnw yn ei flaen ac rydym yn parhau i archwilio ffyrdd o sicrhau bod cyllid ar gael yn benodol ar gyfer datblygiadau tai a arweinir gan y gymuned.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio'n agos gyda Cwmpas ar gynllun ar gyfer ymddiriedolaeth tir cymunedol yn Abertawe. Os yw eu cais am arian o'r gronfa datblygu tir ac adeiladau yn llwyddiannus, bydd fy swyddogion yn sicrhau wedyn y gellir defnyddio'r mecanwaith hwn yn llawer ehangach i gefnogi prosiectau tai a arweinir gan y gymuned. Mae'r gronfa'n cynnig cyfle i grwpiau a arweinir gan y gymuned gael mynediad at gyllid ar gyfer gwaith cyfnod cynnar, fel astudiaethau dichonoldeb safleoedd ac arfarniadau o opsiynau, y clywsom eu bod yn rhwystr penodol a wynebant. Ac rwy'n edrych ymlaen at allu adrodd i'r pwyllgor ar gynnydd wrth i'r peilot hwnnw ddatblygu. Credaf yn gryf mai gweithio mewn partneriaeth yw'r ffordd ymlaen. Drwy weithio mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gall grwpiau tai a arweinir gan y gymuned hefyd gael mynediad at grant tai cymdeithasol. Mae'r dull hwn o weithredu hefyd yn rhoi mynediad i'r grŵp cymunedol at yr arbenigedd technegol a phroffesiynol y byddant yn ei chael hi'n anodd cael gafael arno fel arall.

I droi at argymhellion eraill y pwyllgor, maent yn amlwg yn bellgyrhaeddol iawn. Mae ein pecyn cymorth ar gyfer grwpiau cymunedol yn fframwaith o ganllawiau, cyllid a chefnogaeth arall, ac mae llawer ohono'n cael ei ddarparu gan bartneriaid yn y trydydd sector, megis Cwmpas, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol. Mae'r argymhelliad y dylid sefydlu comisiwn i edrych yn fanylach ar rai o'r rhwystrau i sut y darparwn gymorth yn cydnabod cymhlethdod a phwysigrwydd cynnwys cymunedau mewn perthynas â pherchnogaeth gymunedol neu reoli asedau yn eu cymunedau. Ac yn y man, byddaf yn trafod yr angen i ystyried ffurf a chwmpas y comisiwn ac i ystyried beth fydd ei drefniadau cymorth yn dibynnu arno a phwy fydd y rhanddeiliaid pwysicaf. Rydym yn llwyr gefnogi ein cymunedau lle mae perchnogaeth yn briodol, ond nid dyma'r opsiwn gorau bob amser, yn enwedig mewn cyfnod heriol yn economaidd. Gall modelau eraill fod yr un mor rymusol a thrwy dderbyn yr argymhellion ein bod yn sefydlu rhwydwaith cymheiriaid ac yn casglu astudiaethau achos, gallwn rannu gwahanol brofiadau a dysgu a sicrhau nad dull un ateb i bawb sydd gennym, Ddirprwy Lywydd. 

Mae'r argymhellion hefyd yn cynnwys galwad am fwy o ganllawiau ar werth cymdeithasol, yn enwedig sut y gellir adlewyrchu hyn yn y pris y mae grwpiau cymunedol yn ei dalu am asedau. Rwy'n cydnabod bod hyn yn cael ei weld fel rhwystr mawr rhag trosglwyddo'n fforddiadwy i grwpiau cymunedol. Fodd bynnag, rydym yn darparu grantiau a benthyciadau hael i gymunedau er mwyn galluogi cymunedau i brynu asedau. Rydym eisoes wedi buddsoddi £46.4 miliwn mewn grantiau i 369 o brosiectau ers 2015 ac rydym wedi ymrwymo £19 miliwn arall yn y tair blynedd nesaf; mae £5 miliwn hefyd ar gael o'r gronfa benthyciadau cymunedol sy'n cael ei rhedeg ar ein rhan gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae pob un yn rhoi mynediad i grwpiau cymunedol at hyd at £300,000 i brynu asedau. Bydd ein hadolygiad o'r canllawiau yn ystyried gwerth cymdeithasol, gan gynnwys yr ymchwil a wnaed gan Compass Cymru mewn perthynas â chaffael cyhoeddus.

Mae gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o'n hymrwymiad statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac wrth gwrs, rwy'n derbyn yr argymhelliad y dylai hyn fod yn llawer mwy eglur yn ein canllawiau. Bydd hyn a gwaith parhaus arall ar werth cymdeithasol a chynaliadwyedd yn ein helpu i weithredu ar yr argymhelliad hwn o fewn y ffrâm amser y mae'r pwyllgor wedi'i osod i ni. Bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol er mwyn cynhyrchu canllawiau i fodloni disgwyliadau'r pwyllgor a gallaf gadarnhau bod swyddogion eisoes wedi dechrau gweithio ar hyn. Felly, gallaf eich sicrhau'n bendant nad ymgais i'w osod naill ochr yw hyn—rwy'n awyddus tu hwnt i wneud i hyn ddigwydd. 

Un o'r rhwystrau mwyaf cyson a amlygwyd yn y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor oedd prinder y data a oedd ar gael i'r cyhoedd. Mae ein platfform mapio data, DataMapWales, eisoes ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig yn rhad ac am ddim, ond ar hyn o bryd nid yw ond yn dangos tir mewn perchnogaeth gyhoeddus. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gweithio gyda DataMapWales gyda'r bwriad o gynnwys y data a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF ar dir mewn perchnogaeth breifat. Bydd hyn yn cynyddu'r data i gwmpasu tua 87 y cant o dir. Mae'r gofrestrfa tir hefyd yn anelu at gofrestru'r holl dir erbyn 2030, a fydd yn rhoi data llawn i ni ar ein platfformau mapio.

Mae'r pwyllgor wedi argymell sefydlu comisiwn i ystyried nifer o'r 16 o argymhellion a wnaethant, ac rwy'n croesawu'r syniad yn llwyr. Mae hwn yn faes cymhleth lle ceir llawer o ddiddordebau a safbwyntiau a rhwystrau anodd a pharhaus y mae angen eu hystyried yn fanwl iawn. Bydd natur y comisiwn, ei aelodaeth a'i gylch gorchwyl yn hollbwysig os yw'r comisiwn am ddod o hyd i atebion ymarferol sy'n grymuso grwpiau cymunedol, ac mae'n bwysig iawn fod gan randdeiliaid, gan gynnwys cymunedau eu hunain, lais yn hyn. Ac fel rwy'n dweud, mae'r gwaith eisoes wedi dechrau.

Nododd nifer o'r Aelodau bwynt am yr amseru. Felly, hoffwn ddweud ein bod eisoes yn gwneud llawer o'r gwaith. Y rheswm ei fod 'mewn egwyddor' yw nad ydym yn ei wneud yn union yn y ffordd y nododd y pwyllgor, ond rydym eisoes wedi ei ddechrau. Mater mawr i ni fydd sut i gael cymunedau i gymryd rhan yn y broses o sefydlu cylch gorchwyl a chwmpas a maint ac aelodaeth y comisiwn. Rwy'n hapus iawn i'r Aelodau fod yn rhan o hynny neu'n wir i'r pwyllgor wneud argymhellion pellach, John, os ystyrir bod hynny'n briodol. 

Byddwn am ofyn i'r comisiwn edrych ar sut y gellir rhoi mwy o gyfle cyfartal i gymunedau wrth iddynt gystadlu yn erbyn buddsoddwyr preifat, unwaith eto, fel y soniodd nifer o bobl, Mabon yn arbennig, ac fe wnaeth nifer o bobl eraill nodi hyn hefyd. Mae hyn yn cynnwys ystyried a fyddai deddfwriaeth yn briodol i Gymru. Felly, mae'n bwysig iawn fod y comisiwn yn ystyried tystiolaeth ynglŷn â pha mor effeithiol y bu'r ddeddfwriaeth o ran grymuso pwyllgorau lle cafodd deddfwriaeth ei chyflwyno, ac rydym yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r ddeddfwriaeth yn yr Alban a Lloegr i gynorthwyo'r comisiwn yn ei waith. Ond yn bendant, mae'n dal i fod yn agored i'w ystyried. Os mai dyna mae'r comisiwn yn ei argymell yn y dyfodol, byddem yn hapus iawn gyda hynny. Rydym am eu cynorthwyo i wneud y gwaith hwnnw.

Felly, ochr yn ochr â'r cynlluniau peilot eraill a gyflawnwyd drwy ein bwrdd polisi cymunedau, bydd hyn yn darparu tystiolaeth i alluogi'r comisiwn i ystyried a fyddai darpariaethau tebyg o fudd i'r cymunedau yng Nghymru. Mae'r pwyllgor wedi ein herio yn gwbl briodol i wneud trosglwyddo asedau'n haws i'n cymunedau. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod y trosglwyddiadau hynny'n gynaliadwy ac yn gwella gwytnwch ein cymunedau. Diolch yn fawr i'r pwyllgor am ei argymhellion ac rwy'n hapus iawn i fwrw ymlaen â'r gwaith ochr yn ochr â'r pwyllgor ac Aelodau eraill sydd â diddordeb. Diolch. 

16:30

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i holl Aelodau'r Senedd a gymerodd ran yn y ddadl heddiw ar adroddiad ein pwyllgor a'r ffordd y gwnaethant hynny? Rwy'n credu ei bod yn glir iawn, onid yw, fod Aelodau'n gwerthfawrogi'r asedau cymunedol sydd ganddynt yn eu hardaloedd eu hunain ac yn gallu pwyntio at lawer o enghreifftiau o arferion da, ac yn wir, cyfeiriodd llawer o Aelodau at yr angen i ledaenu'r enghreifftiau hynny o arferion da a sefydlu rhwydwaith cymheiriaid a dulliau eraill o wneud hynny. Ond mae'n galonogol iawn clywed yr enghreifftiau hynny, ac fel rwy'n dweud, rwy'n credu y bydd gan bob un ohonom, nid y rhai a gymerodd ran yn y ddadl heddiw yn unig, ond holl Aelodau'r Senedd, yr enghreifftiau da hynny yn eu hardaloedd eu hunain.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn farn gyffredin fod angen inni ystyried amseroldeb gweithredu wrth fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adroddiad a'r cynnydd angenrheidiol mewn perthynas â'r materion hyn. Roedd yn dda clywed y Gweinidog yn ymateb i hynny ac yn datgan ei hymrwymiad ei hun i sicrhau amseroldeb wrth fwrw ymlaen ag ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a'r gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud beth bynnag. Rwy'n credu bod y comisiwn yn allweddol i hynny, sefydlu'r comisiwn a'r cyfan y gall y comisiwn ei wneud wedyn i ystyried y ffyrdd gorau ymlaen, gan gynnwys deddfwriaeth, fel y soniodd y Gweinidog. Ac unwaith eto, da clywed y Gweinidog yn ymrwymo i roi ystyriaeth lawn a dyledus i ddeddfwriaeth, yn dibynnu ar yr hyn y mae'r corff annibynnol yn ei gyflwyno a barn y comisiwn ei hun, oherwydd gallai honno fod yn ffordd bwysig iawn ymlaen, a soniodd llawer o Aelodau am enghreifftiau'r Alban a Lloegr.

Rwy'n credu ei bod yn glir hefyd, onid ydyw, Ddirprwy Lywydd, fod yr Aelodau'n ystyried yr angerdd a'r ymrwymiad yn eu cymunedau eu hunain ac o fewn eu henghreifftiau eu hunain o arferion da yn lleol, felly mae yna lawer y gallwn bwyso arno wrth ddatblygu'r gwaith hwn, oherwydd rydym yn aml yn clywed mai cymuned o gymunedau yw Cymru, ac rwy'n credu bod llawer o gryfder yn hynny ac yn hanes ein gwlad a'r realiti presennol. Mae pobl eisiau gweld eu hansawdd bywyd lleol yn eu dwylo eu hunain, i raddau ystyrlon. Maent eisiau cael eu grymuso. Maent eisiau bwrw ymlaen â'u prosiectau eu hunain. Maent eisiau gweithio gyda'i gilydd a mudiadau eraill. Wedi'r cyfan, ein cymunedau ni—wyddoch chi, pobl, eu teuluoedd, eu ffrindiau—sydd ar y rheng flaen, fel petai. Hwy sydd eisiau ac sy'n elwa ar wasanaethau lleol da, o ddatblygu cymunedol, o'r angerdd a'r ymrwymiad hwnnw sy'n trosi'n weithredu ar lawr gwlad, ac unwaith eto fe glywsom am sawl enghraifft o sut mae hynny o fudd gwirioneddol i'n cymunedau ni yng Nghymru heddiw.

Ac rwy'n credu bod yr Aelodau a soniodd am y materion cyfiawnder cymdeithasol—Mabon a Vikki Howells ac eraill rwy'n credu—yn gwneud pwyntiau pwerus iawn; mae tystiolaeth yn dangos, lle mae yna lefel dda o drosglwyddo asedau cymunedol a lle mae gan gymunedau fwy o reolaeth ar eu materion eu hunain a'u hamgylchiadau eu hunain, rydym yn gweld y manteision i lefelau sgiliau yn y gymuned leol, i iechyd a llesiant, i ddatblygu economaidd, i ansawdd bywyd yn gyffredinol. Mae hynny'n bwerus iawn yn wir, onid ydyw, ac rwy'n credu bod angen inni roi ystyriaeth ddigonol i hynny.

Ddirprwy Lywydd, credaf fod y sefyllfa bresennol, lle rydym wedi cael cymaint o flynyddoedd o gyni ers amser maith bellach, a'r argyfwng costau byw nawr, yn golygu bod angen bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar fwy o frys, oherwydd un ymateb i hynny yw edrych ar yr hyn sy'n rhoi gwerth da am arian a buddsoddiad. A phan fyddwch yn meddwl am yr hyn y mae cymunedau'n ei gynnig o ran eu hymrwymiad eu hunain, yr amser y maent yn fodlon ei roi, yr egni y maent yn fodlon ei roi, mae ychydig o gyllid sbarduno, fel petai, yn mynd yn bell iawn os gallwch harneisio'r ymrwymiad hwnnw a'r angerdd hwnnw, ac mae hwn yn faes lle gellir cyflawni hynny a lle gellir ei wneud mewn modd ystyrlon mewn gwirionedd.

Felly, rwy'n credu bod hon yn gyfres o argymhellion ac yn adroddiad amserol, ac os gallwn ni gefnogi ein cymunedau—. Ac unwaith eto, rwy'n credu bod yr Aelodau wedi gwneud pwyntiau pwerus yn y ddadl hon am yr angen i beidio â throsglwyddo asedau a chyfrifoldeb am wasanaethau er mwyn lleihau cyfrifoldebau ariannol awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn unig, ond yn hytrach er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy a gwelliant cynaliadwy yn y gwasanaethau hynny a defnydd o'r cyfleusterau hynny. Os gallwn gyflawni hynny, byddwn yn gwneud gwaith pwerus iawn a da iawn i'n cymunedau yma yng Nghymru.

Ac fel rwyf wedi'i ddweud fel Cadeirydd y pwyllgor hwn, Ddirprwy Lywydd, gan adlewyrchu sylwadau aelodau'r pwyllgor, wrth lunio ein hadroddiadau yn y Senedd hon, byddwn yn fwy ystyriol byth o'r angen i gynnal ein diddordeb, i ddychwelyd at yr argymhellion, i barhau i graffu ar Lywodraeth Cymru i weld a yw'r ymatebion yn cael eu gwireddu ar lawr gwlad, ac mae hynny'n sicr yn berthnasol i'r adroddiad hwn lawn cymaint ag unrhyw un arall. Diolch yn fawr.

16:40

Diolch, John. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Clefyd yr afu

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Eitem 7 yw'r ddadl gyntaf gan y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, clefyd yr afu. Galwaf ar Joel James i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8171 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyhoeddi diweddar y Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau’r Afu gan Lywodraeth Cymru.

2. Yn gresynu at y ffaith, er bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefydau'r afu, fod marwolaethau o ganlyniad i glefydau'r afu wedi dyblu yn ystod y ddau ddegawd diwethaf a bod 9 o bob 10 claf canser yr afu yn marw o fewn 5 mlynedd o gael diagnosis.

3. Yn cydnabod mai alcohol, gordewdra a hepatitis feirol yw'r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd yr afu y rhagamcanir y bydd yn cynyddu, gyda dros 3 ym mhob 5 o bobl yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew ac un ym mhob 5 o bobl yng Nghymru yn yfed alcohol uwchben y lefelau a argymhellir.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen glir ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau a'r targedau yn y datganiad ansawdd, gan gynnwys:

a) dyblu'r gweithlu hepatoleg, gan gynnwys arbenigwyr nyrsys afu, i fynd i'r afael ag amrywiad enfawr mewn mynediad at ofal arbenigol;

b) nodi pryd fydd gan bob bwrdd iechyd dimau gofal alcohol yn eu lle saith diwrnod yr wythnos i fodloni angen lleol;

c) nodi pryd a sut y bydd llwybr prawf gwaed afu annormal Cymru gyfan yn cael ei fabwysiadu gan bob meddyg teulu i wella'r broses o ganfod clefyd yr afu yn gynnar.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gennyf agor y ddadl hon heddiw yn enw Darren Millar. Mae nifer o resymau pwysig iawn dros gyflwyno'r ddadl hon ar ddiwrnod cenedlaethol ymwybyddiaeth canserau llai goroesadwy, a'r prif reswm yw bod angen inni dynnu sylw Llywodraeth Cymru ac Aelodau ar draws y Siambr hon at y ffaith mai Cymru, yn drasig, sydd â'r gyfradd farwolaethau uchaf o ganlyniad i glefyd yr afu ar draws pedair gwlad y DU, gyda chyfraddau marwolaeth bron â dyblu yn y 10 mlynedd diwethaf, o 5.7 fesul 100,000 i 11 o bobl fesul 100,000. Ac mae hyn, yn anffodus, oherwydd yr anghydraddoldeb mawr yn y prognosis rhwng gwahanol ganserau. Ar ben hynny, mae gennym brinder cronig yn y gweithlu o hepatolegwyr a nyrsys arbenigol yr afu ledled Cymru, sy'n gwaethygu'r anghydraddoldebau hyn, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig a byrddau iechyd heb wasanaeth digonol. Ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, o fewn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, mae cyfraddau marwolaeth canser yr afu 50 y cant yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru ac maent wedi cynyddu 28 y cant yn 2019-20 yn unig. Ac nid wyf yn ymddiheuro pan ddywedaf fod hyn yn brawf ein bod yn gwneud cam â chleifion canser yr afu a chleifion clefyd yr afu yma yng Nghymru. 

Yr ail reswm pam mae angen y ddadl hon yw oherwydd na allwn gladdu ein pennau yn y tywod ynghylch y mater hwn. Mae angen inni sylweddoli na fydd y broblem yn diflannu ac mae'n debygol o waethygu. Mae nifer y bobl sy'n cael diagnosis o glefyd yr afu yng Nghymru bellach wedi mwy na threblu yn yr 20 mlynedd ddiwethaf i'r lefel uchaf erioed, sy'n  golygu bod angen trin mwy o gleifion ar adeg pan fo gwasanaethau'r GIG o dan y pwysau mwyaf. 

Yn drydydd, mae angen inni gydnabod bod cleifion clefyd yr afu yng Nghymru yn wynebu anghydraddoldeb daearyddol enfawr o ran cael mynediad at ofal arbenigol. Mae miloedd yn marw'n ddiangen oherwydd na allant gael digon o fynediad at yr arbenigedd y maent ei angen, gan fod gwasanaethau'r afu mewn byrddau iechyd yn cael eu hesgeuluso a'u tangyllido'n gyson. 

Y rheswm olaf yw bod angen inni gydnabod y modd y mae Cymru'n llusgo ar ôl gwledydd eraill y DU wrth fynd i'r afael â phroblemau iechyd. Cymru yw'r unig un o wledydd y DU heb darged i ddileu hepatitis C. Gall hepatitis C achosi ystod o effeithiau ar iechyd ac mae'n effeithio'n bennaf ar yr afu. A thra bo GIG Lloegr ar y trywydd cywir i ddileu hepatitis C erbyn 2025, a Gogledd Iwerddon wedi gosod yr un targed a'r Alban wedi mynd gam ymhellach drwy anelu at ddileu hepatitis C erbyn 2024, mae Cymru ar ei hôl hi'n ofnadwy. Mewn gwirionedd, canfu gwaith modelu diweddar na fyddai Cymru, heb unrhyw darged, ac os bydd cyfraddau triniaeth cyfredol yn parhau, yn cael gwared ar hepatitis C tan o leiaf 2040, sy'n frawychus mewn gwirionedd, gan fod amcangyfrifiad o'r nifer o bobl yr effeithiwyd arnynt yn 8,300 a bod hep C yn hawdd i'w drin drwy ddefnyddio triniaethau gwrthfeirysol sy'n gweithredu'n uniongyrchol.

Canser yr afu sydd â'r gyfradd oroesi pum mlynedd waethaf ond un o blith yr holl ganserau llai goroesadwy. Yng Nghymru, ni fydd tua naw o bob 10 person sydd wedi cael diagnosis yn goroesi mwy na phum mlynedd, sy'n fwy na chyfartaledd cenedlaethol y DU. A golyga hyn ein bod angen mwy o fuddsoddi ar frys mewn ymchwil a ffocws penodol ar ddiagnosis cynharach a chyflymach er mwyn helpu cleifion. Rwy'n annog y Llywodraeth i gydnabod bod gwir angen y buddsoddiad hwn ac y gall helpu i gynyddu disgwyliad oes yn sylweddol yn ogystal â gwella ansawdd bywyd miloedd o bobl yng Nghymru ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gydnabod y dylai'r byrddau iechyd roi blaenoriaeth uwch i hyn. 

Mae'r argyfwng clefyd yr afu a wynebwn yng Nghymru yn rhoi baich enfawr ar y GIG a rhagamcanir y bydd yn gwaethygu ymhellach. Yn 2020-21, gwelwyd cynnydd o 25 y cant yn nifer y cleifion a gafodd eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i glefyd yr afu, gyda bron i 26,000 achos o dderbyn i'r ysbyty ar y pwynt argyfwng y llynedd yn unig. Ond er hyn, yng Nghymru, ceir llai na 14 o feddygon yr afu i gefnogi poblogaeth o fwy na 3.1 miliwn o bobl, ac mae naw ohonynt wedi'u lleoli yng Nghaerdydd a Gwent. Ym mis Mehefin 2022, fe wnaeth y Gweinidog iechyd gydnabod bod clefyd yr afu wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y cleifion allanol a chleifion mewnol, ac mae angen mwy o feddygon ymgynghorol hepatoleg. Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng gweithlu, hoffwn nodi bod gwir angen i'r datganiad ansawdd ar gyfer clefyd yr afu a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd gael setliad ariannol hirdymor er mwyn recriwtio a hyfforddi gweithlu gwydn ac wedi'i ddosbarthu'n well.

Mae angen inni sicrhau nad yw'r newid o'r grŵp gweithredu ar gyfer clefyd yr afu i'r datganiad ansawdd yn lleihau blaenoriaeth clefyd yr afu o fewn y GIG a byrddau iechyd yng Nghymru, ac rydym angen i'r Llywodraeth sicrhau bod y datganiad ansawdd newydd ar gyfer clefyd yr afu yn cael ei weithredu'n effeithiol. I wneud hyn, bydd angen sefydlu rhwydwaith clinigol strategol penodol ar gyfer iechyd yr afu i sbarduno cynnydd ac i gadw momentwm yn sgil dod â chyllid ar gyfer y grŵp cyflawni blaenorol ar gyfer clefyd yr afu a'r cynllun cyflawni ar gyfer clefyd yr afu i ben.

Y gwirionedd trist yw bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefyd yr afu, ac er ei fod yn cael ei achosi'n bennaf gan gamddefnydd o alcohol, mae gordewdra a hepatitis feirysol hefyd yn chwarae eu rhan. Gwyddom fod nifer y derbyniadau i'r ysbyty bedair gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o'i gymharu â'r ardaloedd mwyaf cyfoethog, a gwyddom hefyd fod Cymru'n wynebu epidemig o ordewdra, gydag oddeutu dwy ran o dair o boblogaeth oedolion Cymru yn cario gormod o bwysau neu'n ordew, ac un o bob tri â chlefyd yr afu brasterog cam cynnar. Amcangyfrifir y bydd tua un o bob pump o'r rhain yn mynd ymlaen i ddatblygu clefydau mwy difrifol yn y pen draw. Felly, mae angen inni feddwl yn fwy gofalus am y strategaethau atal hirdymor sydd eu hangen er mwyn codi ymwybyddiaeth o beryglon camddefnyddio alcohol ac o fod dros bwysau neu'n ordew. Rwy'n cydnabod ymdrechion y Llywodraeth i geisio annog ffyrdd iachach o fyw gyda mentrau i helpu pobl i feicio, defnyddio llwybrau cerdded diogel ac i fynd i'r afael ag allyriadau carbon, ond y gwirionedd yw bod angen i ni wneud mwy i gynnal arferion mwy hirdymor a newid ymddygiad.

Mae angen inni wneud llawer mwy i fynd i'r afael â'r amrywio daearyddol enfawr sy'n bodoli o ran cael mynediad at lwybrau diagnosis cynnar o glefyd yr afu mewn gofal sylfaenol, a mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â chlefyd yr afu oherwydd y canfyddiad o gamddefnydd o alcohol. Yn wir, dangosodd arolwg diweddar o dros 1,400 o bobl, a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Afu Prydain, fod bron i hanner y rhai a holwyd wedi profi stigma gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac mae gwir angen i'r diwylliant hwn newid, oherwydd mae'n llesteirio diagnosis cynnar am fod pobl yn rhy ofnus i ofyn am gymorth a mynychu apwyntiadau arferol neu apwyntiadau dilynol.

Yn anffodus, yn aml ni fydd symptomau clefyd yr afu i'w canfod hyd nes na fydd modd dad-wneud y niwed, ac fel llawer o rai eraill, credwn fod angen rhaglen sgrinio genedlaethol, lle gall meddygon teulu atgyfeirio pobl os oes ganddynt bryderon neu lle ceir hanes teuluol o broblemau'r afu. Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, clefyd cronig yr afu yw'r ffactor risg mwyaf arwyddocaol ar gyfer carsinoma hepatogellol, y math mwyaf cyffredin o ganser yr afu cychwynnol. Felly, er mwyn gwella cyfraddau goroesi canser yr afu, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud diagnosis o glefyd yr afu yn gynharach ac yn darparu strategaeth glir ar gyfer monitro pobl sydd â chlefyd yr afu i ganfod celloedd canser yr afu carsinoma hepatogellol, a chyflwyno mecanweithiau adolygu gwell a mwy trylwyr. Nid yn unig y bydd hyn yn helpu i achub bywydau, bydd yn arbed llawer o arian i'r GIG drwy leihau'r angen am driniaethau costus iawn ar gamau diweddarach. Gellir gweld enghraifft o sut y byddai hyn yn edrych yn ymgyrch Ymddiriedolaeth Afu Prydain i wella diagnosis cynnar o glefyd yr afu. Cafodd ei lansio yng Nghymru y llynedd a'i nod yw hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r argyfwng clefyd yr afu.

I gloi fy nghyfraniad, hoffwn nodi fy mod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi torri tir newydd drwy gyflwyno llwybr prawf gwaed annormal Cymru ym mis Hydref 2021, ac mae potensial iddo wella diagnosis o glefyd yr afu. Fodd bynnag, hoffwn atgoffa'r Llywodraeth na fydd y llwybr hwn o unrhyw ddefnydd gwirioneddol os na chaiff ei archwilio'n flynyddol a'i fonitro'n rheolaidd, fel y gellir ei ddefnyddio i ysgogi gwelliannau i nodi'r clefyd yn gynharach a mynd i'r afael â gwahaniaethau parhaus yn y canlyniadau gofal ar draws y byrddau.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Afu Prydain am eu gwaith aruthrol yn ymgyrchu am wasanaethau, diagnosis a thriniaethau gwell ar gyfer clefyd yr afu, a hoffwn annog pawb yma i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.

16:45

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, ynghyd â strwythurau rhwydwaith Gweithrediaeth y GIG sy'n cael eu datblygu, gydweithio'n agos i yrru'r gwaith o weithredu datganiad ansawdd clefyd yr afu ac i sicrhau canlyniadau gwell o ran atal, diagnosis a thriniaeth clefyd yr afu yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Mae hon yn ddadl amserol iawn, gan fod mis Ionawr yn Fis Ymwybyddiaeth Caru Eich Iau, ac mae heddiw, 11 Ionawr, yn nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Cenedlaethol ar gyfer Canserau Llai Goroesadwy. Mae'r ddadl yma yn deillio o waith y grŵp trawsbleidiol ar glefyd yr iau a chanser yr iau, sef grŵp dwi'n falch o fod yn aelod ohono fo. Drwy'r grŵp hwnnw, dwi ac eraill yn ymrwymo, wrth gwrs, i dynnu sylw at yr argyfwng rydyn ni'n ei wynebu o ran clefyd yr iau—achos fel mae'r cynnig yn ei ddangos, mae o yn argyfwng—a'r opsiynau polisi wedyn i wella diagnosis cynnar, gwella triniaeth ac, yn allweddol, gwella canlyniadau i gleifion ym mhob rhan o Gymru.

Fel dwi'n dweud, mae clefyd yr iau a chanser yr iau yn argyfwng iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae nifer y bobl sy'n cael diagnosis o glefyd yr iau wedi mwy na threblu yma dros gyfnod o 20 mlynedd, ac o holl wledydd y Deyrnas Unedig, Cymru sydd â'r gyfradd marwolaethau uchaf o glefyd yr iau. Mae naw o bob 10 claf canser yr iau yng Nghymru yn marw o fewn pum mlynedd o gael diagnosis, sydd eto yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig. Mae gen i ofn y gallai pethau fynd yn waeth, a mynd yn waeth y gaeaf yma wrth i'r tlotaf deimlo effaith yr argyfwng costau byw a thlodi tanwydd cynyddol. Mi allem ni weld cynnydd mewn marwolaethau clefyd yr iau, fel y gwelson ni yn ôl yn 2020, yn ystod y pandemig COVID.

Rydyn ni'n sôn hefyd yn fan hyn am rywbeth sy'n rhoi baich enfawr ar yr NHS. Mi wnaeth derbyniadau i'r ysbyty oherwydd clefyd yr iau gynyddu 25 y cant rhwng 2020 a 2021. Y llynedd, mi oedd y ffigwr bron yn 26,000 o dderbyniadau, ac o ystyried sefyllfa druenus yr NHS ar hyn o bryd, y pwysau sydd arno fo ym mhob ffordd, does dim angen pwysleisio, nac oes, yr angen i gael y ffigwr yna i lawr.

Mae'n werth tynnu sylw hefyd at y ffaith bod yna amrywiaeth mawr o ardal i ardal a rhwng gwahanol fyrddau iechyd o ran canlyniadau i gleifion. Er enghraifft, yn 2020, mi oedd cyfraddau marwolaethau oherwydd clefyd yr iau ym mwrdd iechyd bae Abertawe, rhyw 26.7 i bob 100,000 o bobl, fwy na dwywaith lefel bwrdd iechyd Hywel Dda, a'r lefel rhyw 33 y cant, traean, yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae unrhyw anghysondeb o ardal i ardal wastad yn rhywbeth sy'n bwysig iawn mynd i'r afael â fo.

Ond—a hyn sy'n bwysig iawn, iawn—mae modd atal clefyd yr iau yn gyfan gwbl bron. Mae rhyw 10 y cant o achosion yn ganlyniad i gyflyrau genetig ac awto-imiwn, ond mae rhyw 90 y cant yn cael eu hachosi gan gamddefnydd alcohol, gan ordewdra a gan hepatitis feirysol. Dyna pam bod buddsoddi mewn mesurau ataliol yn allweddol, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod strategaethau i fynd i'r afael â gordewdra, strategaethau i daclo niwed alcohol yn rhai cryf. Mae hynny mor, mor bwysig. Mae hefyd eisiau gwneud yn siŵr, o fewn mesurau iechyd cyhoeddus ehangach, fod clefyd yr iau yn cael y sylw priodol. Mae angen delio efo stigma. Hefyd, mae eisiau bod yn glir iawn am sut mae cyrraedd targedau am leihau achosion o'r clefyd, targedau sydd yn cael eu nodi yn y datganiad ansawdd.

Ond lle mae'r clefyd yn datblygu mewn unigolion, wrth gwrs, mae angen sicrhau mynediad wedyn at ofal arbenigol, ac mae miloedd yn marw yn ddiangen, mae gen i ofn, heb fynediad at ofal arbenigol, oherwydd diffyg adnoddau mewn gwasanaethau. A'r adnodd mwyaf pwysig fel ar draws yr NHS, wrth gwrs, ydy'r gweithlu, ac mewn termau moel, mae angen i Lywodraeth Cymru ddyblu'r gweithlu hepatoleg yng Nghymru, fel mae'r cynnig yn ei nodi.

Ac yn olaf, wrth i'r grŵp gweithredu clefyd yr iau gael ei ddiddymu, mae yna beryg y bydd yna lai o oruchwyliaeth o'r gwaith sy'n digwydd yn y maes yma. Allwn ni ddim fforddio gadael i hynny ddigwydd, achos ar ôl y cynnydd brawychus yna mewn achosion o'r clefyd mewn blynyddoedd diweddar, mae maint yr argyfwng yn glir. Mae angen i'r Senedd gefnogi'r cynnig yma fel datganiad clir ein bod ni yn sylweddoli maint yr her, a dydy gwelliant y Llywodraeth ddim yn gwneud hynny yn ddigonol, mae gen i ofn.

16:50

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Joel James am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae hefyd yn ddadl amserol, gan ein bod yn ei chael yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Carwch eich Afu, yn ogystal ag ar adeg o argyfwng iechyd cyhoeddus mewn perthynas â chlefyd yr afu. Fe wyddom fod nifer y bobl 65 oed ac iau sy'n marw o glefyd yr afu wedi cynyddu 400 y cant, sy'n syfrdanol. Mae modd atal naw o bob 10 o'r marwolaethau hynny. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad oes neb yn marw'n ddiangen o glefyd yr afu. Fel cyn-ymddiriedolwr, a bellach fel noddwr i Ganolfan Adsefydlu Brynawel, rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar glefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Cododd lefelau clefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol bron i draean rhwng 2019 a 2021, a hynny'n bennaf oherwydd clefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol, yn ôl ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Clefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol yw dwy ran o dair o holl glefydau'r afu, ac mae un o bob pump o oedolion yng Nghymru yn yfed alcohol mewn ffyrdd a allai fod yn niweidiol i'w hafu. Er gwaethaf y ffeithiau arswydus hyn, mae yna brinder gwirioneddol o dimau gofal alcohol ledled Cymru. Nid oes gan 70% o fyrddau iechyd lleol dimau gofal alcohol yn eu lle saith diwrnod yr wythnos. Felly mae gennym loteri cod post o ran mynediad at gymorth gofal ac atal arbenigol. Lle caiff gwasanaeth ei ddarparu saith diwrnod yr wythnos a lle mae timau gofal alcohol yn bodoli, gwelwn welliannau dramatig yn y canlyniadau iechyd. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, maent yn darparu gwasanaeth saith diwrnod, ac er mai'r bwrdd iechyd sydd â'r nifer uchaf o dderbyniadau fesul pen i'r ysbyty ar gyfer clefyd yr afu yng Nghymru, ganddynt hwy y mae un o'r cyfraddau marwolaeth isaf. Yn anffodus, fy mwrdd iechyd fy hun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sydd â'r gyfradd farwolaeth uchaf a gofnodwyd ar gyfer clefyd yr afu yng Nghymru.

Dros y ddau ddegawd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd o 60 y cant mewn diagnosis o glefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac mae'r gyfradd ddiagnosis dair gwaith yn uwch yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru o'i gymharu â'r ardaloedd mwyaf cyfoethog, fel y dywedwyd yn gynharach. Os ydym am fynd i'r afael â chlefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol, rhaid inni sicrhau bod timau gofal alcohol saith diwrnod ar gael ym mhob rhan o Gymru. Rhaid inni fuddsoddi mewn nyrsys a meddygon afu arbenigol, ac mae'n rhaid i ni gyflwyno arferion gorau ar draws pob bwrdd iechyd.

Er enghraifft, mae meddyg yng Nghwm Taf yn gwneud gwaith rhagorol ar fachu ar y cyfle i wneud sganiau FibroScan oportiwnistaidd ar aelodau o'r cyhoedd, yn ogystal ag ymhlith poblogaeth y carchardai. Dull syml, di-boen ac anfewnwthiol yw FibroScan a ddefnyddir i asesu iechyd yr afu yn fanwl. Yn ystod y sgan, gosodir chwiliedydd ar wyneb y croen. Gall hwn ganfod unrhyw greithio neu ffibrosis yr afu a all arwain at sirosis a chanser yr afu yn y pen draw. Mae nifer o astudiaethau'n dangos bod gwneud sgan FibroScan oportiwnistaidd yn cynyddu cyfraddau diagnosis cynnar, yn enwedig yn y bobl sydd â risg uchel o glefyd yr afu datblygedig, ac mae hynny o ganlyniad yn cynyddu cyfraddau goroesi mwy hirdymor. Dylem fod yn efelychu'r gwaith sydd ar y gweill yng Nghwm Taf ar draws yr holl fyrddau iechyd ac ym mhob lleoliad.

Yn ystod mis Ionawr sych a Mis Ymwybyddiaeth Carwch eich Afu, gadewch inni ymrwymo i ddileu marwolaethau o ganlyniad i glefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.

16:55

Er bod Rhun ap Iorwerth ac Altaf Hussain wedi datgelu rhai gwahaniaethau diddorol rhwng gwahanol fyrddau iechyd yn y ffordd rydym yn trin clefyd yr afu yn llwyddiannus, rwyf am ganolbwyntio ar ddechrau'r stori hon, sef yr elfennau atal ac ymyrraeth gynnar.

Dim ond un afu sydd gennym ac ni all y corff oroesi hebddo. Bûm yn ddigon anffodus i ddal hepatitis A yn fy 20au, felly rwy'n gwbl ymwybodol o ba mor annymunol yw cael clefyd yr afu, ond yn sicr ni fyddwn yn ei roi yn yr un categori â chael hepatitis feirysol. Os nad ydym yn gofalu am ein afu byddwn yn marw, oherwydd ni allwn oroesi heb ein hafu. Mae llawdriniaethau trawsblannu afu yn brin ac nid ydynt ar gael yng Nghymru beth bynnag. Felly, gadewch inni warchod ein hafu ac yna ni chawn y problemau hyn.

Soniodd Altaf am bwysigrwydd edrych ar alcohol fel un o achosion canser yr afu, ac mae hynny’n gwbl gywir. Ond credaf hefyd ei bod yn bwysig sylweddoli pam fod alcohol mor endemig yn ein cymdeithas. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn sefyll mewn ciw, yn aros i dalu am betrol, ac roedd y dyn o'm blaen nid yn unig yn talu am betrol, roedd hefyd yn prynu potel o wirod. Nid oedd yn prynu bara neu laeth. Na, roedd yn prynu alcohol. Mae'n gyfuniad diddorol, onid yw? Byddai’n hynod ddiddorol edrych ar ystadegau gwerthiant alcohol o orsafoedd petrol. Rwy'n gobeithio nad oedd yn bwriadu ei yfed tra oedd yn gyrru, ond rwy’n weddol hyderus ei fod yn gynrychioliadol o’r un o bob pump o bobl yng Nghymru sy’n yfed mwy na'r lefelau a argymhellir o alcohol.

Mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn gweithio gyda phobl i wneud iddynt ddeall bod angen iddynt roi seibiant i'w hafu fel y gallant wella. Mae llawer o bobl yn ymatal rhag yfed alcohol ym mis Ionawr oherwydd y gormodedd o alcohol y maent wedi’i yfed dros y Nadolig, ond efallai fod angen i unrhyw un sy’n cael trafferth cyflawni’r adduned boeni a oes angen cymorth arnynt i leihau eu dibyniaeth ar alcohol cyn iddo eu lladd.

Ond rwyf am ganolbwyntio gweddill fy sylwadau ar rôl gordewdra a rôl bwyd fel prif achos gordewdra, sef y brif her i ni yma yn fy marn i. Mae'r ystadegau'n frawychus. Mae dros 1.5 miliwn o oedolion yng Nghymru dros bwysau, a 655,000 yn ordew. Mae hynny'n frawychus am nad yw'r boblogaeth ond oddeutu 3 miliwn, ac nid yw pob un ohonynt yn oedolion. Felly, mae gennym argyfwng iechyd cyhoeddus mawr. Gwyddom ei bod yn annhebygol y byddwn yn colli pwysau os ydym yn yfed llawer iawn o alcohol. Ond nid dyna’r prif achos. Bwyd gwael yw hwnnw yn anad dim yn fy marn i, gan nad yw llawer o’r bobl sydd dros bwysau neu’n ordew yn yfed unrhyw alcohol o gwbl. Yn amlwg, nid yw hynny’n wir mewn perthynas â'r un o bob pedwar plentyn yng Nghymru sydd dros bwysau neu’n ordew erbyn iddynt ddechrau yn yr ysgol gynradd. Mae'n rhaid ei fod oherwydd yr hyn a roddir iddynt i'w fwyta. Nid wyf eto wedi cyfarfod â babi sy'n cael ei fwydo ar y fron ac sydd dros bwysau. Felly, byddai cynyddu bwydo ar y fron yn lleihau nifer y babanod a phlant bach sydd yn y sefyllfa honno. Dyn a ŵyr beth sydd mewn llaeth fformiwla, ond mae’r deiet a fabwysiadwn wrth ddiddyfnu yn elfen hollbwysig yn hyn o beth. Mae'r bwyd y mae plant dwy oed yn ei fwyta yn paratoi'r ffordd ar gyfer yr hyn y maent yn barod i'w fwyta, pan fyddant yn blant ac yn oedolion.

Nid yw 60 y cant o boblogaeth y DU byth yn paratoi bwyd o'r dechrau. Y brif broblem yw bwyd wedi'i brosesu, sef y deiet mwyaf cyffredin bellach ar draws y DU. Mae’r diwydiant bwyd yn gwario biliynau o bunnoedd bob blwyddyn ar hysbysebu, gan ein hannog i fwyta pethau na fyddai ein neiniau’n ei adnabod fel bwyd. Felly, nid plant yn unig sydd angen eu hamddiffyn rhag yr hysbysebu di-baid hwn sy'n achosi lefel mor eithriadol o hunan-niwed. Os nad ydych wedi paratoi bwyd eich hun, mae'n annhebygol y byddwch yn ymwybodol fod bwyd wedi'i brosesu yn aml yn llawn o siwgr, halen a braster i wneud iddo flasu fel unrhyw beth o gwbl, ac i gynyddu proffidioldeb. Yn syml, ni allwn barhau fel hyn. Mae gordewdra'n costio £6 biliwn y flwyddyn i’r GIG ar draws y DU, ac mae angen newid system gyfan yn ein perthynas â bwyd. Nid canser yr afu yw'r unig broblem. Gordewdra bellach yw ail achos mwyaf pob canser, ar ôl ysmygu. Dyna pam fod yn rhaid inni gael newid system gyfan yn ein perthynas â bwyd, a pham na allwn fforddio peidio â chael Bil bwyd i sbarduno’r newid sydd ei angen arnom.

17:05

Fel y gwyddom, mae caru eich afu yn golygu caru eich iechyd a'ch lles yn gyfan. Fodd bynnag, fel y dywed y diwrnod hwn wrthym, mae clefyd yr afu a chanser yr afu yn cael effaith gydol oes ar fywydau dioddefwyr. Mae'r diwrnod hwn hefyd yn tynnu sylw at y modd y mae canser yr afu yn cael effaith ar fwy a mwy o fywydau, gan ei fod yn prysur ddod yn achos marwolaethau canser cyflymaf yn y DU, gyda chyfraddau marwolaethau bron yn dyblu rhwng 2010 a 2020. Mae'r broblem yn peri mwy o bryder ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chyfraddau marwolaethau 50 y cant yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Gan mai canser yr afu sydd â’r gyfradd oroesi isaf ond un yng Nghymru, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â hyn. Yn yr un modd, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i godi ymwybyddiaeth o achosion a symptomau’r canser angheuol hwn. Clefyd yr afu yw prif achos canser yr afu ac mae’n gyfrifoldeb ar unigolion, sefydliadau a’r Llywodraeth i fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n achosi clefyd yr afu a sut i’w atal rhag achosi poen diangen.

Mae risgiau clefyd yr afu yn effeithio ar bobl yn fy etholaeth i ar gyfradd 15 y cant yn uwch na gweddill y wlad, a chyda bwrdd Betsi Cadwaladr eisoes dan bwysau aruthrol, bydd mynd i’r afael â chlefyd a chanser yr afu yn helpu i leddfu pwysau o’r fath. Yng ngogledd Cymru, cafodd un unigolyn ddiagnosis pan oedd ond yn 45 oed. Nid oedd yn yfwr, ac roedd ei bwysau ar lefel iach. Fodd bynnag, roedd wedi datblygu sirosis oherwydd cyflwr genetig ar yr afu, ac roedd ei frawd a'i dad wedi marw o gymhlethdodau'n ymwneud â'r afu. Er hyn, cafodd ei dynnu oddi ar y rhestr gadw gwyliadwriaeth ar ganser yr afu am ddwy flynedd, er ei fod yn achos risg uchel. Mae hyn yn ein hatgoffa o'r straen a'r pryder y gall tarfu ar ofal a'r GIG eu hachosi i'r cleifion mwyaf anghenus.

Mae'r rhestr o weithredoedd yr afu'n ddi-ben-draw mewn sawl ffordd, gan fod gweithredoedd yr afu'n cynnwys prosesu bwyd wedi'i dreulio o'r coluddyn, rheoli lefelau brasterau, asid amino a glwcos yn y gwaed, brwydro yn erbyn heintiau, clirio heintiau o ronynnau'r gwaed, gan gynnwys bacteria, niwtraleiddio a dinistrio pob cyffur a thocsin, cynhyrchu bustl, storio haearn, fitaminau a chemegau hanfodol eraill, torri bwyd i lawr a'i droi'n egni—carbohydradau—cynhyrchu, torri nifer o hormonau i lawr a'u rheoleiddio, gan gynnwys hormonau rhyw, a chreu ensymau a phroteinau sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r adweithiau cemegol yn y corff, er enghraifft y rhai sy'n ymwneud â cheulo gwaed ac atgyweirio meinweoedd a niweidiwyd. Mae hefyd yn chwarae rhan fawr yn ein pwysedd gwaed gan fod gorbwysedd portal yn cael ei reoli drwy'r afu a'r wythïen bortal, sef gwythïen fawr sy'n rhedeg i'r afu. Pum prif symptom gorbwysedd portal yw gwaed yn y cyfog, gwaed yn yr ysgarthion, stumog chwyddedig a magu pwysau'n gyflym o ganlyniad i hylif, oedema, sef chwydd yn eich coesau a'ch traed, a dryswch meddwl. Felly, dim ond ychydig o enghreifftiau, ond ar y cyfan, mae gwell afu yn well i chi, felly cefnogwch ein cynnig y prynhawn yma a gadewch inni roi hyn ar yr agenda. Diolch.

Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i siarad am hyn yn y Siambr heddiw. Diolch, Joel James, am ddod â’r ddadl bwysig hon i’r Senedd. Mae oddeutu 90 y cant o glefyd yr afu yn cael ei achosi gan ffactorau risg y gellir eu haddasu, megis cymeriant alcohol, deiet a ffactorau sy'n ymwneud â ffordd o fyw, ac eto mae marwolaethau oherwydd clefyd yr afu yng Nghymru wedi cynyddu bron i chwarter dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig, i’r lefel uchaf a gofnodwyd erioed. Mae angen gweithredu cyflym a chydgysylltiedig ar lefel uchaf y Llywodraeth ac ar draws byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r epidemig o glefyd yr afu. Mae angen mecanweithiau goruchwylio ac atebolrwydd cadarn er mwyn mynd i'r afael â chyflymder a graddfa'r argyfwng iechyd cyhoeddus cymhleth hwn. Rwy'n annog y Gweinidog i ymrwymo i gyflwyno rhwydwaith clinigol strategol iechyd yr afu pwrpasol i sicrhau bod y targedau uchelgeisiol a nodir yn y datganiad ansawdd newydd ar glefydau'r afu yn cael eu cyflawni'n effeithiol ac yn effeithlon.

Mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan, fy mwrdd iechyd lleol, ar flaen y gad gydag arloesi lleol ac arferion da mewn perthynas â gwella canlyniadau a phrosesau canfod cynharach i gleifion clefyd yr afu. Arweiniodd prosiect peilot yng Ngwent, sef llwybr ar gyfer gwneud diagnosis cynharach o glefyd yr afu, at gynnydd o 81 y cant mewn diagnosis o sirosis, y math mwyaf difrifol o glefyd yr afu. Ers hynny, mae’r llwybr peilot wedi’i gyflwyno ar draws y wlad drwy gyflwyno llwybr profion gwaed annormal Cymru ym mis Hydref 2021, sy'n newid sylweddol yn yr ymdrechion i gyflymu’r broses o ganfod clefyd yr afu yn gynt mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Bwrdd iechyd Aneurin Bevan hefyd oedd y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i gyflwyno cymorth tîm gofal alcohol saith diwrnod.

Mae uwchsgilio darpariaeth gwasanaeth yn cael effaith sylweddol ar fynd i’r afael ag ymddygiad yfed niweidiol, lleihau derbyniadau i’r ysbyty a gwella canlyniadau iechyd, yn enwedig ymhlith pobl â'r risg fwyaf o ddatblygu clefyd yr afu difrifol sy’n gysylltiedig ag alcohol. Er gwaethaf arloesi lleol a mabwysiadu llwybr cenedlaethol ar gyfer canfod a rheoli clefyd yr afu yn gynnar, mae amrywio diangen sylweddol yn parhau o ran gofal a chanlyniadau clefyd yr afu ar draws byrddau iechyd, fel y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i nodi eisoes. Mae darpariaeth gwasanaethau gofal yr afu ledled Cymru yn amrywio, er gwaethaf tystiolaeth fod mynediad at ofal arbenigol yn gwella cyfraddau goroesi cleifion clefyd yr afu oddeutu 20 y cant.

Fel y dywedwyd—ac mae'n ystyriaeth bwysig—mae baich clefyd yr afu a ffactorau risg yn fwy cyffredin yn y cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae cyfraddau derbyn i’r ysbyty oherwydd clefyd yr afu bedair gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai mwyaf cyfoethog. Mae nifer y bobl sy’n cael diagnosis o glefyd yr afu brasterog mewn gofal eilaidd 95 y cant yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, oddeutu 1,000. Yn frawychus ddigon, bydd pobl â chlefyd yr afu mewn ardaloedd difreintiedig yn marw 10 mlynedd yn gynharach na'r rhai yn yr ardaloedd mwyaf cefnog, gan waethygu’r bwlch mewn disgwyliad oes iach.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif y gallai mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy’n wynebu’r cymunedau lleiaf difreintiedig arbed hyd at £322 miliwn y flwyddyn i’r GIG, yn enwedig drwy leihau derbyniadau brys a nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae angen gweithredu ar frys i gynyddu’r defnydd o asesiadau ffeibrosis yr afu anfewnwthiol—e.e. technoleg FibroScan—mewn gofal sylfaenol a chymunedol ar draws pob bwrdd iechyd. Mae’r defnydd o dechnoleg FibroScan mewn lleoliadau cymunedol yn debygol o fod yn gosteffeithiol iawn o ran canfod clefyd yr afu yn gynharach, a lleihau’r angen am ofal eilaidd a gofal arbenigol brys.

Roedd cyfraddau derbyn i’r ysbyty oherwydd clefyd yr afu ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan—95.2 fesul 100,000—ymhell dros 40 y cant yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, a mwy na dwywaith cymaint â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn 2020. Gellid lliniaru'r baich hwn ar y GIG drwy gynyddu’r defnydd o asesiadau ffeibrosis anfewnwthiol mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, ac rwy'n gobeithio y gwelwn y camau ataliol hyn yn cael eu cymryd cyn bo hir. Rwy'n annog pawb i gefnogi’r cynnig hwn heddiw.

17:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr am ddod â’r mater pwysig hwn i’r Siambr, ac i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Rwyf wedi gwrando’n ofalus ar yr holl siaradwyr, ac mae llawer o bwyntiau pwysig wedi’u gwneud.

Clefyd yr afu yw'r trydydd prif achos marwolaethau cyn pryd yn y DU, ac yn anffodus, mae marwolaethau yng Nghymru oherwydd clefyd cronig yr afu wedi mwy na dyblu dros yr 20 mlynedd diwethaf. Dyma'r achos marwolaeth mwyaf cyffredin bellach ymhlith pobl rhwng 35 a 49 oed yn y DU. Gwyddom y gall clefyd yr afu arwain at ganser yr afu, sef un o’r canserau llai goroesadwy, fel y'u gelwir, gan ei bod yn anodd gwneud diagnosis ohono am fod y symptomau'n amhenodol ac oherwydd diffyg unrhyw symptomau cynnar. Dyma pam fod pobl â chanser yr afu yn dueddol o'i ganfod yn hwyrach, sy'n arwain at gyfraddau goroesi gwael.

Rwy'n croesawu'r ffaith mai heddiw yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Canserau Llai Goroesadwy. Mae mor bwysig codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r canserau llai goroesadwy a'u symptomau, ac annog pobl i weld eu meddyg teulu os ydynt yn bryderus. Fel gyda llawer o gyflyrau iechyd, mae'r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau yn dylanwadu'n uniongyrchol ar y risg o ddatblygu clefyd yr afu. Mae yfed gormod o alcohol a gordewdra yn parhau i fod yn achosion mwyaf cyffredin clefyd yr afu yng Nghymru, ac mae cysylltiad rhwng achosion a heintiau hepatitis hefyd.

Mae strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn nodi ein huchelgeisiau i atal a lleihau gordewdra ledled Cymru. Cefnogir y strategaeth gan gyfres o gynlluniau cyflawni dwy flynedd. Ar gyfer 2022-24, rydym wedi parhau i fuddsoddi dros £13 miliwn i gyflawni ystod o ddulliau sy’n canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth. Mae ein dull o weithredu'n cynnwys darparu llwybrau rheoli pwysau diwygiedig ar gyfer Cymru i oedolion, plant a theuluoedd, gyda’r nod o roi ystod o opsiynau teg ac amrywiol ar waith i unigolion gael mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth.

Yn ogystal ag ymyriadau ar lefel unigolion, fe wyddom fod yr amgylchedd o'n cwmpas yn chwarae rhan bwysig yn ysgogi ymddygiadau afiach. Dyna pam y gwnaethom ymgynghori y llynedd ar amrywiaeth o gynigion i alluogi amgylcheddau bwyd iachach i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad y mis hwn ac yn cyhoeddi ein camau nesaf yn y gwanwyn.

Mae camddefnyddio alcohol hefyd yn broblem iechyd fawr sy’n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau, ac mae atal y niwed a achosir gan alcohol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwasanaethau yn atal ac ymyrryd yn gynnar, fel bod niwed mwy hirdymor yn cael ei atal cyn iddo ddigwydd. Yn 2022 i 2023, fe wnaethom gynyddu ein buddsoddiad yn yr agenda camddefnyddio sylweddau i bron i £64 miliwn, a dyrannwyd dros £36 miliwn ohono i fyrddau cynllunio ardal, sy’n comisiynu gwasanaethau alcohol. Mae £3 miliwn arall wedi’i glustnodi ar gyfer byrddau cynllunio ardal yn 2023-24 fel rhan o’r gyllideb ddrafft. Credwn y bydd cyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol yn helpu i leihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol ac yn cynorthwyo pobl i yfed yn gyfrifol. Mae tystiolaeth yn dangos y bydd cyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at fynd i’r afael â’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig ag yfed gormod o alcohol a marwolaethau sy’n ymwneud yn benodol ag alcohol yng Nghymru drwy leihau faint o alcohol a gaiff ei yfed gan rai sy'n yfed i raddau peryglus a niweidiol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i agenda ddileu hepatitis B ac C Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n cynnwys targedau i leihau nifer yr achosion o hepatitis feirysol 90 y cant, a lleihau marwolaethau o hepatitis B ac C 65 y cant erbyn 2030. Mae grŵp goruchwylio'r rhaglen ddileu hepatitis B ac C wedi’i sefydlu i lywio’r agenda ddileu yma yng Nghymru. Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwasanaethau iechyd hepatitis B ac C a’r trydydd sector. Cam gweithredu cyntaf y grŵp oedd cytuno ar gynnwys deunydd cyfathrebu a fydd yn nodi cynllun i ailfywiogi’r ymgyrch i ddileu hepatitis B ac C fel bygythiad i iechyd y cyhoedd erbyn 2030. Disgwylir iddo gael ei gyhoeddi’n fuan.

O ran ein hymagwedd ehangach at glefyd yr afu, mae Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a strwythurau rhwydwaith newydd gweithrediaeth y GIG yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i hybu'r gwaith o weithredu’r datganiad ansawdd ar gyfer clefyd yr afu. Mae’r datganiad ansawdd yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau clefyd yr afu o ansawdd uchel dros y degawd nesaf. Ei nod yw sicrhau gwell canlyniadau atal, canfod a thrin clefyd yr afu yma yng Nghymru. Mae'n cynnwys cefnogi amrywiaeth o fentrau, y cynigir rhai ohonynt ym mhwynt 4 y cynnig heddiw: cynlluniau megis parhau i dynnu sylw at fanteision sylweddol cyflwyno sgriniadau alcohol mewn adrannau achosion brys a thimau gofal alcohol saith diwrnod mewn gofal eilaidd i ddiwallu anghenion lleol; ehangu’r defnydd o lwybr profion gwaed yr afu Cymru mewn gofal sylfaenol, wedi’i ategu gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Glinigol a Thechnoleg; ariannu staff i leihau amseroedd aros ar gyfer canfod clefyd cronig yr afu mewn modd anfewnwthiol; ariannu ymgyrchoedd Carwch Eich Afu gan Ymddiriedolaeth Afu Prydain; gwella’r ddarpariaeth ar gyfer hyfforddeion gastroenteroleg yng Nghymru i ymgymryd â hyfforddiant hepatoleg uwch gan arwain at gyflenwad gwell o hepatolegwyr ymgynghorol.

Mae grŵp gweithredu ar gyfer clefyd yr afu wrthi'n datblygu rhaglen waith i gefnogi'r gwaith o weithredu'r datganiad ansawdd, a bydd amserlenni a blaenoriaethau’n cael eu hystyried fel rhan o’r broses hon. O ran yr alwad i ddyblu staff hepatoleg yng Nghymru, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG sy’n gyfrifol am recriwtio a chynllunio’r gweithlu, gyda chefnogaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru a sefydliadau partner eraill. Mae angen inni ddatblygu dull ar gyfer y gweithlu hepatoleg sy'n sicrhau'r cydbwysedd iawn rhwng y galw a’r cyflenwad, ac rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â phroblemau sylfaenol recriwtio, cadw staff a chynllunio’r gweithlu’n effeithiol er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu’r nifer cywir o staff gofal iechyd i ddiwallu anghenion gofal ein cleifion. Mae strategaeth y gweithlu, a gyhoeddwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn nodi ein gweledigaeth a chamau gweithredu hirdymor ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym hefyd wedi datblygu cynllun gweithlu mwy byrdymor i helpu gyda’r pwysau presennol ar ein gweithlu, ac mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn disgwyl ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

I gloi, hoffwn roi sicrwydd i’r Siambr fod lleihau marwolaethau clefyd yr afu drwy atal a diagnosis cynnar yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth, a gofynnaf i’r Siambr gefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw. Diolch.

17:20

Diolch. Diolch i’r Aelod dros Ganol De Cymru, Joel James, am sicrhau’r ddadl amserol a phwysig hon yn ystod mis ymwybyddiaeth Carwch Eich Afu, ac ar ddiwrnod cenedlaethol codi ymwybyddiaeth canserau llai goroesadwy. Mae wedi bod yn eiriolwr gwych ar gyfer iechyd yr afu fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar glefyd yr afu a chanser yr afu, ac rwy’n rhannu ei ymrwymiad i fynd i’r afael ag amrywio diangen o ran gofal a chanlyniadau clefyd yr afu. Rydym hefyd yn croesawu arloesi diweddar ac arferion da a hyrwyddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyflwyno'r datganiad ansawdd ar gyfer clefyd yr afu yn ddiweddar, a chyflwyno llwybr profion gwaed annormal Cymru ar draws saith bwrdd iechyd.

Yn ei gyflwyniad, nododd Joel mai gan Gymru y mae’r cyfraddau marwolaeth uchaf oherwydd clefyd yr afu yn y DU, a dywed na allwn gladdu ein pennau yn y tywod mewn perthynas â'r mater hwn. Nododd fod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y DU ar fynd i’r afael â hepatitis C, a galwodd am fuddsoddiad mewn ymchwil ac mewn diagnosis cynharach a chyflymach o glefyd yr afu.

Nododd Rhun ap Iorwerth fod clefyd yr afu a chanser yr afu yn argyfwng iechyd cyhoeddus yng Nghymru, a thynnodd sylw at yr angen i fuddsoddi mewn mesurau ataliol, gan fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol a gordewdra yn benodol. Nododd Altaf Hussain ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth a allwn i sicrhau nad oes unrhyw un yn marw’n ddiangen o glefyd yr afu, ac yn enwedig clefyd yr afu sy’n gysylltiedig ag alcohol, sef bron i ddwy ran o dair o'r achosion o glefyd yr afu. Nododd fod gan Gymru loteri cod post o ran mynediad at ofal arbenigol a chymorth ataliol. Dywedodd Jenny Rathbone, yn gwbl briodol, mai dim ond un afu sydd gennym, ni all ein cyrff oroesi hebddo, ac os na ofalwn am ein hafu, byddwn yn marw. Tynnodd Gareth Davies sylw at broblem benodol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr lle mae’r gyfradd derbyniadau i’r ysbyty oherwydd clefyd yr afu 15 y cant yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, a chyfraddau marwolaeth o ganser yr afu 50 y cant yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru. Gorffennodd drwy ddweud bod afu gwell yn well i chi. Galwodd Laura Anne Jones am weithredu cyflym a chydgysylltiedig ar y lefel uchaf yn Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng clefyd yr afu yng Nghymru, gan ymgorffori’r arferion da a nodwyd ganddi mewn rhai byrddau iechyd. Dywedodd fod clefyd yr afu yn fwyaf cyffredin yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Cydnabu’r Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle, lawer o’r pwyntiau a wnaed gan y siaradwyr, ac fe ategodd rai ohonynt hyd yn oed. Rhestrodd yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ac rwyf wedi cydnabod rhywfaint o hynny, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelodau, ond yn anffodus, ni chefnogodd yr anghenion profedig a nodwyd yn y cynnig hwn—anghenion a nodwyd nid gan wleidyddion, ond gan gyrff y sector eu hunain.

Mae nifer y bobl sy'n cael diagnosis o glefyd yr afu yng Nghymru wedi mwy na threblu rhwng 2002 a 2021, gan godi i 53,261 o bobl. Mae marwolaethau o glefyd yr afu yng Nghymru yn parhau i godi, gyda chyfraddau marwolaethau wedi cynyddu 23 y cant rhwng 2019 a 2021. Fel y clywsom, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amserlen ar gyfer cyflawni'r canlyniadau a nodwyd yn ei datganiad ansawdd ar glefyd yr afu, yn sgil y cynnydd yn nifer yr achosion o glefyd yr afu ym mhoblogaeth Cymru.

Er bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefyd yr afu, mae nifer y bobl sy’n marw o’r clefyd wedi dyblu yn y ddau ddegawd diwethaf ac wedi cynyddu, fel y clywsom, 400 y cant ymhlith pobl 65 oed ac iau, gyda naw o bob 10 claf canser yr afu yn marw o fewn pum mlynedd i gael diagnosis. Gyda chyfraddau marwolaethau wedi cynyddu ers cyhoeddi’r polisi blaenorol, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru geisio atal y clefyd yn well, gan gynnwys: dyblu’r gweithlu hepatoleg, cynnwys nyrsys arbenigol clefyd yr afu i fynd i’r afael ag amrywio enfawr o ran mynediad at ofal arbenigol; timau gofal alcohol saith diwrnod ar waith ym mhob bwrdd iechyd i ddiwallu anghenion lleol; a sicrhau bod pob meddyg teulu'n mabwysiadu llwybr profion gwaed annormal yr afu Cymru er mwyn gwella cyfraddau canfod clefyd yr afu yn gynnar.

Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed a all achosi ystod o effeithiau iechyd, gan effeithio'n bennaf ar yr afu. Er bod modd ei atal, ei drin a’i wella, clywsom ffigurau’r Ymddiriedolaeth Hepatitis C a ddangosai mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU bellach nad oes ganddi darged o ddileu hepatitis C cyn targed 2030 Sefydliad Iechyd y Byd, gyda Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi gosod uchelgais i'w ddileu erbyn 2025, a’r Alban erbyn 2024. Mewn cyferbyniad, canfu gwaith modelu diweddar y byddai parhau â’r cyfraddau triniaeth presennol yng Nghymru yn golygu na fyddai’n cael ei ddileu tan o leiaf 2040.

Fel y maent wedi’i nodi eto ar gyfer y ddadl hon, dylai Llywodraeth Cymru weithredu’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn dilyn ei ymchwiliad i hepatitis C yng Nghymru, gan gynnwys llunio strategaeth ddileu genedlaethol, nodi llwybr clir i ddileu hepatitis C erbyn 2030 fan bellaf, a lansio ymgyrch ymwybyddiaeth o hepatitis C. Mae gan Gymru argyfwng iechyd cyhoeddus clefyd yr afu a chanser yr afu. Mae gan yr afu allu rhyfeddol i adfywio ac adnewyddu ei hun. Os ceir diagnosis cynharach, gellir gwrthdroi niwed i'r afu a gellir lleihau risgiau'n sylweddol drwy ddeiet, ymarfer corff ac yfed yn gymedrol. Ar draws y byrddau iechyd, mae cyfraddau marwolaeth clefyd yr afu wedi dyblu mewn dau ddegawd, ac mae marwolaethau o ganser yr afu bron â bod wedi dyblu mewn 10 mlynedd yn unig hyd at 2020, gan roi baich enfawr ac anghynaliadwy ar y GIG yng Nghymru.

Mae’r cynnig a gyflwynwyd heddiw yn uchelgeisiol, ond yn angenrheidiol er mwyn dal i fyny â’r cynnydd yng ngraddfa a difrifoldeb cynyddol argyfwng iechyd y cyhoedd clefyd yr afu a chanser yr afu. Rydym yn galw felly ar Lywodraeth Cymru i gryfhau ei hymdrechion atal, i gyflymu’r broses o ganfod clefyd yr afu yn gynharach mewn gofal sylfaenol ac ehangu timau gofal alcohol ar draws byrddau iechyd i helpu’r rheini y mae taer angen cymorth arnynt. Rydym yn annog y Gweinidog i ddarparu setliad cyllid hirdymor i recriwtio, hyfforddi a chadw gweithlu arbenigol, a chredwn mai’r ffordd orau o gyflawni’r amcanion hyn yw drwy gyflwyno rhwydwaith clinigol strategol iechyd yr afu pwrpasol i gynnal y momentwm ac adeiladu ar waith gwych y grŵp gweithredu ar glefyd yr afu.

Fel y dywed Ymddiriedolaeth Afu Prydain yn eu gohebiaeth i’r holl Aelodau, 'Hoffem ofyn i'r Aelodau bleidleisio o blaid y cynnig fel y’i cyflwynwyd, ac nid o blaid gwelliant 1, fel y gallwn gadw’r canlyniadau penodol y gellir eu cyflawni yn y cynnig. Rwy'n annog yr Aelodau i ddefnyddio eu cydwybod a phleidleisio yn unol â hynny.'

Gan mai mis Ionawr yw mis Carwch Eich Afu, rwyf am gloi drwy ddweud bod gwahoddiad i'r Aelodau fynychu sioe deithiol Carwch Eich Afu gan Ymddiriedolaeth Afu Prydain yn Roald Dahl Plass ddydd Mawrth, 14 Mawrth. Mae’n rhan o ymgyrch godi ymwybyddiaeth genedlaethol i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r ffactorau risg ar gyfer clefyd yr afu ac mae’n rhoi cyfle i Aelodau’r Senedd ddarganfod mwy a chael sgan a sgriniad iechyd yr afu am ddim unrhyw bryd rhwng 10:00 a.m. a 4:00 p.m. Diolch yn fawr.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Yr eitem nesaf yw ail ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma ar ad-drefnu canolfannau ambiwlans awyr Cymru, a galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8172 Darren Millar, Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod gwaith amhrisiadwy gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru o ran achub bywydau.

2. Yn nodi pryderon sylweddol y cyhoedd ynghylch cynigion i ganoli gwasanaeth ambiwlans awyr gogledd a chanolbarth Cymru mewn un lleoliad.

3. Yn cydnabod deisebau yn cynnwys dros 20,000 llofnod yn galw am gadw canolfannau yn y Trallwng a Chaernarfon.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'i phartneriaid yn y GIG ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru i sicrhau bod canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn parhau i fod yn weithredol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth gwych sy'n darparu cymorth hanfodol i bobl Cymru. Ffurfiwyd yr elusen ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2021, ac mae’n gweithredu o ganolfannau ledled Cymru. Mae’r staff a’r ymarferwyr yn hynod fedrus—dylwn ddweud eu bod yn cael eu cyflogi gan y GIG eu hunain, ac maent yn darparu rhai o’r gwasanaethau achub bywyd gorau yn y byd, a gallant ddarparu trallwysiadau gwaed a chynnal llawdriniaethau brys yn lleoliad y digwyddiad cyn hedfan y claf yn syth at ofal arbenigol.

Mae’r elusen yn gweithio 365 diwrnod y flwyddyn, ac rwyf am gofnodi pa mor ddiolchgar rwyf i am eu gwasanaeth anhygoel. Nid yn aml yr af i ddigwyddiad elusennol yng nghanolbarth Cymru lle nad yw’r rhoddion yn mynd tuag at yr elusen ambiwlans awyr. Daeth cynigion i’r amlwg fis Awst diwethaf mewn datganiad gan y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, neu EMRTS, ac elusen ambiwlans awyr Cymru, a oedd yn nodi eu cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau, yn cynnwys cynlluniau i gau canolfannau yn y Trallwng a Chaernarfon. Fel llawer o bobl eraill, cefais fy synnu a fy siomi gan y cyhoeddiad hwn. Yn aml, rwy’n clywed am gau banc neu gau ysgol ac rwy’n siomedig, ond nid wyf yn synnu. Ar yr achlysur hwn, roeddwn wedi fy synnu; cefais fy synnu bod yna gynnig yn cael ei ystyried hyd yn oed.

17:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae ein cynnig heddiw, a gyflwynwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, yn nodi nifer o bwyntiau ffeithiol ac yna’n mynd ymlaen i ofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda’i phartneriaid yn y GIG ac ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru i sicrhau bod canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn parhau i fod yn weithredol. Hyd yn hyn, nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth y bydd symud canolfan ymhellach i ffwrdd o ganolbarth neu ogledd Cymru, fel sy'n cael ei gynnig, o fudd i'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny ac sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hynny. Mae'r cynigion wedi achosi cryn dipyn o bryder ymhlith y cyhoedd. Rydym wedi gweld papur, deiseb ar-lein, gyda dros 20,000 o bobl yn galw am gadw canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon—ac wrth gwrs, mae llawer o bobl a lofnododd y ddeiseb hefyd yn rhoi arian i’r gwasanaeth—ac yn mynegi eu pryderon ynghylch canoli gwasanaethau'r canolfannau hyn mewn un lleoliad.

Nawr, rwy’n cynrychioli etholaeth yng nghanolbarth Cymru, felly gallaf sôn am y safbwyntiau yn y canolbarth, a gwn y bydd cyd-Aelodau sy’n cynrychioli gogledd Cymru yn gwneud pwyntiau tebyg. Mae pobl yn y Gymru wledig yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn wael, mae gennym seilwaith ffyrdd gwael, ac mae llawer o wasanaethau cyhoeddus yn dirywio’n raddol. Golyga hyn oll fod pobl wedi'u brifo'n ddifrifol gan y cynigion i gau canolfan y Trallwng. Nawr, gwnaed y cynnig gwreiddiol fis Awst diwethaf. Mae hwnnw bellach wedi'i ohirio i bob pwrpas, ac rydym yn aros nawr i gynnig pellach gael ei gyflwyno gan EASC, neu'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, gwasanaeth arall sy'n rhan o GIG Cymru, sydd wrth gwrs yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru yn y pen draw. Mae’r holl broses a’r wybodaeth sy’n ymwneud â’r cynigion hyn wedi bod yn ddryslyd, ac ni fyddwn yn beio’r Aelodau ar draws y Siambr hon am fethu dal i fyny â’r hyn rwyf wedi’i amlinellu hyd yn hyn.

Ym mis Awst, cyfarfûm yn gyntaf â'r elusen ambiwlans awyr i fynegi fy mhryderon i a fy nhrigolion, a dywedodd yr elusen wrthyf mai hwy oedd yn berchen ar y broses a bod yr ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i ymgynghoriad go iawn gyda'r trigolion. Cafwyd trafodaethau am gyfarfod cyhoeddus posibl ym mis Medi, a chadarnhawyd hefyd y byddent yn cyhoeddi data y mis canlynol. Wedi dweud hynny, dywedodd yr elusen yn ddiweddarach nad hwy oedd yn berchen ar y data dan sylw, ei fod yn perthyn i EMRTS Cymru, y gwasanaeth o fewn GIG Cymru. Nawr, ym mis Awst, roedd yr elusen, pan siaradais â hwy, i'w gweld yn gwbl sicr y byddai eu cynnig yn arwain at well gwasanaeth i Gymru gyfan, er nad oedd y dadansoddiad a oedd yn sail i'r cynigion wedi'i gwblhau ac yn barod i'w gyhoeddi. Ym mis Medi, mynegais fy mhryderon yma yn y Senedd wrth y Prif Weinidog am y tro cyntaf, gan dynnu sylw at y ffaith bod canolbarth Cymru wedi dioddef o ganlyniad i flynyddoedd o fynediad gwael at wasanaethau iechyd, a chan bwysleisio hefyd nad oes gennym unrhyw ysbyty cyffredinol dosbarth yn fy etholaeth i nac yn sir Powys, a bod y cysylltiadau ffyrdd yn wael iawn. Felly, mae’n hollbwysig fod gennym fynediad at wasanaethau brys da a bod modd trosglwyddo pobl yn gyflym at ofal brys os oes angen.

Gofynnais i’r Prif Weinidog gyhoeddi’r data a oedd yn sail i’r cynigion, a dywedodd y Prif Weinidog nad yw’r data a oedd yn sail i’r cynigion yn eiddo—. Dywedodd fod y data a oedd yn sail i'r cynigion yn eiddo i'r elusen, er bod yr elusen wedi dweud oddeutu'r un pryd mai gwasanaeth EMRTS GIG Cymru oedd yn berchen arno. Pan godais hyn yn y datganiad busnes ym mis Hydref gyda’r Trefnydd, roedd y Trefnydd fel pe bai'n awgrymu nad oedd y data’n barod i’w gyhoeddi, sy’n awgrymu mai GIG Cymru a Llywodraeth Cymru sy’n berchen arno. Felly, os yw Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd dilyn a deall y broses hon a phwy sy'n gyfrifol am arwain hyn a phwy sy'n gyfrifol am y data, rwy'n gofyn pa mor anodd yw hi i'r cyhoedd ei dilyn.

Rydym wedi cael darlun ychydig yn gliriach bellach. Ym mis Hydref, cyhoeddodd tîm EASC GIG Cymru eu bod bellach yn arwain y cynigion ger ein bron, ac mai prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans a fyddai'n gyfrifol am y broses ymgysylltu—prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans, Stephen Harrhy, sydd bellach yn arwain y broses honno. Yn ddiddorol, pan gyfarfûm â’r elusen fis diwethaf, roeddent yn dweud nad eu cynnig hwy ydoedd bellach; roeddent bellach yn ymgyngoreion yn y cynigion eu hunain. Felly, cyhoeddodd EASC ddiweddariad yr wythnos diwethaf—dyma fe—gyda logo GIG Cymru arno, ac mae hwn yn dweud yn glir mai hwy fydd yn penderfynu ac yn gwneud y penderfyniad terfynol. Felly, rwy'n gobeithio y gall pawb dderbyn ac y gall y Gweinidog gadarnhau mai penderfyniad i GIG Cymru a Llywodraeth Cymru yw hwn—mae hynny’n amlwg. A dyna pam na fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw, gan y credaf ei fod yn gamarweiniol. Roedd yn amlwg fod Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn rhan o’r broses.

Hoffwn herio rhai o’r rhagdybiaethau a wnaed yn y cynnig gwreiddiol. Gallai ambiwlans awyr Cymru ymateb i hyd at 583 o ddigwyddiadau ychwanegol bob blwyddyn. Roedd hyn yn rhan fawr o'r cynnig i gau'r ddwy ganolfan; roedd yn elfen allweddol. Nawr, ni ddylai hyn ymwneud â'r digwyddiadau yr ymatebwyd iddynt, dylai ymwneud ag ymateb i'r digwyddiadau mwyaf hanfodol, y byddwn yn awgrymu eu bod yn mynd i fod yn rhannau mwyaf gwledig Cymru, oherwydd y seilwaith ffyrdd gwaeth a'r amser y mae'n ei gymryd i wasanaeth brys gyrraedd digwyddiad ar y ffordd. Ac er bod yr elusen ac EMRTS i'w gweld yn gwbl hyderus gyda'u cynigion ar y pryd, ar ôl llawer o herio, credaf efallai nad yw'r ffigur o 583 yn cael ei dderbyn i'r un graddau erbyn hyn. A byddai'n ddiddorol gweld unrhyw ffigurau wedi'u diweddaru yn nogfen newydd y cynnig.

Ni chredaf fod y cynigion gwreiddiol yn adlewyrchu amodau tywydd yn ddigonol, rhywbeth a ddylai fod wedi bod yn ganolog i'r ystyriaethau o ystyried yr heriau wrth hedfan i mewn a thuag at rannau o ganolbarth a gogledd Cymru. Ac mae cynigion ar gyfer symud canolfannau hefyd yn golygu na fydd y cerbyd ymateb cyflym, sydd hefyd yn elfen bwysig o hyn, yn gyflym mewn rhannau helaeth o Wynedd a'r canolbarth os cânt hwy eu symud hefyd. Nawr, ceir ardaloedd enfawr o ganolbarth a gogledd Cymru lle mae'n cymryd dros awr i gyrraedd cyfleusterau brys ac adrannau damweiniau ac achosion brys mewn cerbyd, ac rydym wedi gweld proses ddryslyd ers mis Awst diwethaf—dryslyd i Lywodraeth Cymru hefyd, yn ôl pob golwg, a dryslyd i'r cyhoedd yng Nghymru. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda'u partneriaid yn y GIG i sicrhau bod y cynigion sydd wedi'u diweddaru yn cynnwys parhau i weithredu canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon fel bod gwasanaeth ambiwlans awyr brys digonol ar gael ledled Cymru gyfan.

Felly, wrth i’r ddadl hon symud yn ei blaen nawr, gobeithio y gallwn weithio gyda’n gilydd ar sut y gallwn gyflawni hynny, er mwyn i’r ddwy ganolfan aros ar agor. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn arwain at ganlyniad lle gall Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog ymyrryd a chaniatáu i’r broses honno ddigwydd.

17:35

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cynnal gwaith ymgysylltu ffurfiol fel rhan o adolygiad o wasanaeth Gwasanaethau Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru.

Yn nodi mai bwriad yr adolygiad yw sicrhau bod y cleifion y mae angen y gwasanaeth arnynt yn gallu ei gael, waeth ble maent yn byw yng Nghymru neu ba bryd y mae arnynt ei angen.

Yn nodi nad oes unrhyw opsiynau na chynigion wedi'u cytuno eto, na phenderfyniadau wedi eu gwneud.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac mae Plaid Cymru yn falch iawn o allu cyd-gyflwyno'r cynnig yma. Mae'n bwysig iawn bod yna gefnogaeth ar draws y pleidiau yn fan hyn, a dwi yn apelio ar Aelodau ar y meinciau Llafur i gefnogi'r cynnig. 

Gadewch i fi fynd â chi nôl i fis Awst, tafarn y Tarw, y Bull, yn Llannerch-y-medd. Dwi ddim yn gwybod sut yn union i ddisgrifio extravaganza cymunedol y cneifio cylch. Oedd, mi oedd yna gneifio yno, ond mi oedd yna ffair yno, mi oedd yna wledd a pharti, mi oedd yna ocsiwn yno, ac mi godwyd £50,000 mewn un prynhawn, un gyda'r nos, a'r arian i gyd yn mynd i'r ambiwlans awyr. Pam? Achos mae pawb yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth yma a beth mae'n ei olygu i'n cymunedau mwy gwledig ni, yn yr achos yna. Ydy, mae'n wasanaeth ar gyfer pob rhan o Gymru, y trefol a'r gwledig, ond un o'r gyrwyr mawr, wrth gwrs, y tu ôl i'r gwasanaeth pan sefydlwyd o oedd y ffaith bod yna gymaint o Gymru ymhell o ysbyty, yn anodd ei chyrraedd gan ambiwlans, neu ymhell o ofal iechyd arbenigol.

Dros amser, mi dyfodd y gwasanaeth—un, dau, tri, wedyn pedwar hofrennydd, efo dyfodiad timau arbenigol EMRTS wedyn, wrth gwrs, yn trawsnewid pethau, ac, erbyn hyn, mae hwn yn wasanaeth ym mhob rhan o Gymru, pob rhan o fewn cyrraedd hofrennydd, gyda Chaernarfon a'r Trallwng rhyngddyn nhw yn gwasanaethu'r gogledd-orllewin, y gogledd-ddwyrain a'r canolbarth. Ond rŵan mae hynny dan fygythiad. Y bwriad yw cau'r ddau safle yna, Caernarfon a'r Trallwng, a symud i un newydd, yng nghanol y gogledd yn rhywle, a dwi'n ofni bod hynny am fod yn gamgymeriad, os caiff o ddigwydd. Pam mae hyn hyd yn oed yn cael ei gynnig? Yn syml iawn, yn ôl EMRTS, mi fydd mwy o bobl yn gallu cael eu cyrraedd, nifer uwch; mi fydd mwy o alwadau yn gallu cael eu hateb gan dimau'r ambiwlans awyr—o'r awyr, neu gan eu fflyd o gerbydau. Achos, cofiwch, mae hwn yn wasanaeth sy'n gweithio mewn dwy ffordd—cerbydau ar y ffordd a hofrenyddion. Ond dwi'n ofni mai mater o geisio cyrraedd targed ystadegol ydy hyn, yn hytrach nag ystyried gwir bwrpas y gwasanaeth ambiwlans awyr. Os bydd yn bosib cyrraedd mwy o bobl—mae EMRTS yn dweud y bydd—a gwireddu'r uchelgais ystadegol, wel, dwi'n ofni mai drwy wasanaethu mwy o bobl yn ardaloedd mwy poblog y gogledd-ddwyrain fydd hynny yn cael ei gyflawni, a hynny ar draul poblogaeth yr ardaloedd mwyaf gwledig. Rŵan, fel y dywedais i, mae hwn yn wasanaeth i bob rhan o Gymru, ac mae'n bwysig bod EMRTS yn gallu cyrraedd gymaint â phosib o bobl yn y gogledd-ddwyrain hefyd. Felly, onid yr ateb ydy i roi tîm efo cerbyd ffordd yn yr ardal honno, tîm fyddai yn gallu gyrraedd ardal eang iawn yn gyflym, efo hofrenyddion wrth gwrs yn dal ar gael o'u bases presennol hefyd, os oes angen hynny?

Wrth gau Caernarfon a’r Trallwng, nid dim ond yr hofrenyddion fyddai’n mynd yna, mi fyddai’r cerbydau hefyd, a does dim angen arbenigwr ar ddaearyddiaeth Cymru i sylweddoli bod ceisio gwasanaethu gogledd Môn, pendraw Pen Llŷn, de Meirionnydd neu Bowys o Rhuddlan efo car fel gwasanaeth brys byth yn mynd i weithio.

Yr hyn rydym wedi gofyn amdano yw adolygiad gwirioneddol annibynnol o'r cynnig a'r ystadegau sy'n sail iddo. Nid oedd y system fodelu a ddefnyddiwyd wedi'i chynllunio ar gyfer y math hwn o beth. Eisoes mae llawer o'r cleifion ychwanegol y mae'n debyg y gellid eu cyrraedd wedi cael sylw drwy welliannau i ganolfan Caerdydd. A ydych yn cofio'r adroddiadau diweddar ar y gwasanaeth yn tynnu sylw at yr angen i wella gwasanaeth Caernarfon? Ni fydd ei ddileu byth yn welliant. Hyd yn oed gydag un o'r hofrenyddion â gallu i hedfan yn y nos, rhywbeth y byddem i gyd yn ei groesawu, cofiwch fod hynny'n golygu symud un o hofrenyddion Caernarfon/y Trallwng i shifft prynhawn, sy'n golygu y byddai gennych ardal ddaearyddol enfawr yn cael ei gwasanaethu gan un hofrennydd yn unig am lawer o amser, ac yn y senario honno, mae ardaloedd mwy poblog y gogledd-ddwyrain unwaith eto yn debygol o bwyso'n drwm ar adnoddau.

Nid fy ofnau i yn unig yw'r rhain, ond ofnau gweithredwyr yr ambiwlans awyr, sy'n nodi'r amser hedfan llawer hirach i rai cymunedau, ac ofnau meddygon a pharafeddygon. A gadewch imi orffen gydag un pwynt pwysig iawn: mae'r ambiwlans awyr yn arf recriwtio pwerus tu hwnt. Os cewch wared ar eu canolfan yng Nghaernarfon er enghraifft, mae'r abwyd gwerthfawr iawn hwnnw i ddenu meddygon meddygaeth frys newydd i Ysbyty Gwynedd, er enghraifft, yn diflannu.

Felly, gadewch inni gamu'n ôl o'r dibyn yma, gadewch inni ymgysylltu'n iawn, gadewch inni adolygu'r hyn y mae'r cynnig hwn yn ei olygu yn annibynnol, ac osgoi peryglu'r ewyllys da a'r gefnogaeth anhygoel a haeddiannol a ddangoswyd i ambiwlans awyr Cymru gan y cyhoedd ym mhob rhan o Gymru.

17:40

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Russell George am agor y ddadl hon a’i ymdrechion yn yr ymgyrch i dynnu sylw at y mater ar lwyfan cenedlaethol. Mae’r ambiwlans awyr yn hanfodol i bobl canolbarth Cymru, ac mae’n rhaff achub i’r bobl sy’n byw yno. Fel ardal wledig, nid oes gennym lawer o’r pethau y mae pobl mewn rhannau mwy poblog o Gymru yn eu cymryd yn ganiataol. Wyddoch chi, mae'n un o fendithion ac yn un o felltithion byw mewn ardal wledig nad oes gennym y gwasanaethau y mae rhannau eraill o Gymru yn dibynnu arnynt. O ganlyniad, mae gan wasanaethau fel ambiwlans awyr Cymru fwy fyth o rôl. Mae'n llythrennol yn achub bywydau llawer o bobl yn fy etholaeth. Bydd cau canolfan y Trallwng yn lleihau gallu’r ambiwlans awyr i gyflawni ei rôl yn fy ardal i. Dyma ble mae ei angen fwyaf; bydd yn golygu amseroedd teithio hirach i’r ambiwlans awyr sy’n dod o ogledd Cymru a llai o allu i gyrraedd lle mae angen iddo gyrraedd mewn tywydd gwael, rhywbeth sydd wedi’i nodi gan lawer o bobl.

Mae amseroedd ymateb araf ambiwlansys mewn rhannau o’r canolbarth hefyd yn broblem fawr, a hefyd y diffyg darpariaeth iechyd—fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Russell George—nad oes gennym ysbyty cyffredinol dosbarth, ac mae hyn eto’n golygu bod yr ambiwlans awyr yn chwarae rôl fwy hanfodol. Mae'n bendant yn achub bywydau, ac mae'r cyhoedd yn y canolbarth ac ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn gwybod hyn. Wrth gwrs, nid ar bobl fy etholaeth yn unig y mae hyn yn effeithio; mae’r ambiwlans awyr weithiau’n croesi'r ffin i swydd Henffordd a swydd Amwythig i helpu pobl sydd wedi cael damweiniau mawr yno, ac os caiff y ganolfan ei symud i ogledd Cymru, bydd hynny’n effeithio ar y modd y darperir y cymorth hwnnw i helpu’r bobl dros y ffin sydd angen y cymorth hwnnw pan fo'i angen. Felly, bydd hyn yn cael ei deimlo ymhell y tu hwnt i ganolbarth Cymru'n unig; bydd yn cael ei deimlo i mewn i Loegr hefyd.

Felly, yn ddiweddar, bûm mewn cyfarfod cyhoeddus yn Nhrefyclo a drefnwyd gan ymgyrch Achub Ambiwlans Awyr Cymru, a hoffwn dalu teyrnged i’w holl waith caled a’r hyn y maent yn ei wneud yn arwain yr ymgyrch hon. Roedd ymgyrchwyr, aelodau o’r cyhoedd a chynghorwyr lleol yn bresennol yn y digwyddiad yn Nhrefyclo, ac roedd yr angerdd sydd gan bobl leol dros ein hambiwlans awyr yn amlwg yn y cyfarfod hwnnw. Mae’r swm o arian a godir ar gyfer yr ambiwlans awyr yn aruthrol; mae'n debyg ei bod yn un o'r elusennau a ariennir orau yng Nghymru, gan fod pobl ledled Cymru'n deall pa mor bwysig ydyw. Felly, os bydd yn cael ei symud a'i fod yn diflannu, bydd yn cael effaith ddinistriol ar bobl Powys a fy etholaeth i, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Russell George.

Wrth gwrs, mae’n siomedig fod y broses ymgynghori wedi’i gohirio, ond rydym yn deall bod pwysau enfawr ar y GIG a bod angen y staff i fynd i’r afael â’r problemau hynny. Ond pan fydd yr ymgynghoriad yn ailgychwyn ac yn ôl ar y trywydd iawn, rwy'n gobeithio y bydd yr ymgynghoriad hwnnw’n eang, yn agored ac yn dryloyw iawn, gan ei bod yn amlwg fod y rhan fwyaf o'r cyhoedd o blaid cadw’r ganolfan ambiwlans awyr yn y Trallwng ac yng nghanolbarth Cymru.

Yn flaenorol, cyfarfûm â phrif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans a mynegais fy mhryderon ynglŷn â'r cynnig hwn a gofyn iddo am eglurder ynghylch canlyniadau unrhyw symud posibl. Wrth i’r broses ymgynghori fynd rhagddi, rwy'n gobeithio y cawn yr eglurder yr hoffem ei gael ac y gellir taflu mwy o oleuni ar y data—ac mae fy nghyd-Aelod Russell George wedi dweud hyn hefyd. Ond gadewch imi ddweud yn glir: mae cadw'r canolfannau ambiwlans awyr Cymru yng Nghymru o'r pwys mwyaf i bawb, ac os cânt eu cau, bydd bywydau'n cael eu colli yn fy etholaeth i a thu hwnt.

Rwy’n falch o ymgyrchu dros gadw’r ganolfan ambiwlans awyr yn y Trallwng ochr yn ochr â fy holl gyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig yma, a fy nghyd-Aelodau ar ochr arall y Siambr ym Mhlaid Cymru. Galwaf ar Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid i wneud popeth a allant i sicrhau bod y ganolfan ambiwlans yn aros yn y Trallwng ac i sefyll dros bobl canolbarth Cymru. Dywedaf wrth bleidiau gwleidyddol eraill yn y Siambr: os gwelwch yn dda, cefnogwch ein cynnig heddiw er budd y bobl a bywydau pobl yng nghanolbarth Cymru. Mae angen y gwasanaeth hwn arnom yn y canolbarth, felly peidiwch â chael gwared ar ein rhaff achub, a phleidleisiwch o blaid ein cynnig heddiw. Diolch.

17:45

Diolch i Russell George am gyflwyno'r ddadl yma y prynhawn yma. Rŵan, ar y cychwn fan yma, dwi am bwysleisio ein bod ni ar y meinciau yma a, gwn, y meinciau draw hefyd yn gyfeillion i'r ambiwlans awyr. Mi ydyn ni'n dod at y mater yma fel critical friends, a'r rheswm am hynny ydy oherwydd bod yr elusen gwych yma a'r gwasanaeth rhagorol y mae'n ei ddarparu mor ofnadwy o bwysig i Ddwyfor Meirionnydd a chymunedau eraill y gogledd a'r canolbarth. Dwi wedi cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ym Mhorthmadog, Tywyn a Phwllheli, ac mae'r cannoedd o bobl sydd wedi mynychu'r cyfarfodydd yna a sôn am eu straeon personol a'u profiadau nhw yn dyst i werth amhrisiadwy'r gwasanaeth yma.

Gadewch inni beidio ag anghofio i'r ambiwlans awyr ddod i ogledd Cymru yn dilyn ymgyrch gan Nia Evans o Ddolgellau yn dilyn damwain car erchyll a gafodd hi a'i hannwyl ddyweddi ar y pryd, Kieron Wilkes, ger Harlech nôl yn 2002. Tristwch yr hanes hwnnw, wrth gwrs, ydy i Mr Wilkes golli ei fywyd, ond achubwyd bywyd Nia ar ôl i ambiwlans awyr yr heddlu ei chymryd hi i Ysbyty Gwynedd. Fe ddeisebodd Nia yn llwyddiannus i gael canolfan ambiwlans awyr yn y gogledd. Felly, ystyriwch ardal Harlech, neu Langrannog neu Langynog; maen nhw'n ardaloedd diarffordd, gwledig, ac ymhell o bob gwasanaeth craidd. Ers hynny, mae'r elusen wedi profi i fod yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd yn y gogledd a'r canolbarth, efo'n cymunedau gwledig yn codi cannoedd o filoedd o bunnoedd, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, ar gyfer yr elusen, oherwydd eu bod nhw'n gweld gwerth yn y gwasanaeth. 

Fe ges i'r fraint o fynd i Ddinas Dinlle i siarad â'r meddygon a'r gweithlu yno flwyddyn diwethaf ac mae'r holl beth yn gwbl anhygoel. Godidowgrwydd safle Dinas Dinlle ydy ei fod nepell o Ysbyty Gwynedd, sydd felly'n golygu bod gweithlu meddygol yr ambiwlans awyr yn medru gwella eu sgiliau meddygol yn yr ysbyty hefyd, sydd wrth gwrs yn cyfoethogi pawb.

Ond er mai ambiwlans awyr ydy'r enw, mae o'n llawer iawn mwy na hynny, mewn gwirionedd. Nid gwasanaeth cludo ydy'r ambiwlans awyr, ond yn hytrach ysbyty bach yn yr awyr neu ar bedair olwyn ydy o, efo pobl dawnus ac ymroddedig yn medru cyrraedd y llefydd mwyaf diarffordd er mwyn achub bywydau yn y fan a'r lle. Oherwydd mae mwy i'r ambiwlans awyr na hofrennydd.

Yr elfen bwysicaf, wrth gwrs, ydy'r meddygon sydd yn rhan o'r tîm, ond mae'r rapid response vehicles, yr RRVs, yn elfen greiddiol. I'r rhai hynny ohonoch chi sydd yn adnabod Dwyfor a Meirionnydd, mi fyddwch chi'n gwybod, er gwaethaf prydferthwch hynod yr etholaeth, mae'r môr, y llynnoedd a'r afonydd yn ein lapio ni'n aml mewn trwch o niwl a nudden. Pan fo hyn yn digwydd, gall hofrennydd ddim glanio, ac mi ydyn ni'n ddibynnol ar y cerbydau brys sydd yn rhan o wasanaeth yr elusen. Rŵan, pe canolir y gwasanaeth yn Rhuddlan, pa mor sydyn ydych chi'n meddwl y gall cerbyd ffordd RRV gyrraedd oddi yno i rywle fel Anelog ym mhen draw Llŷn, neu i Lanymawddwy? Mi fydd o'n oriau arnyn nhw'n cyrraedd. Bydd yn amhosibl iddyn nhw gyrraedd unrhyw un o'r llefydd yma mewn pryd. Felly, er gwaethaf y ffaith bod modelau cyfrifiadurol yn awgrymu y gellir achub mwy o fywydau, y gwir ydy mai ein cymunedau arfordirol a gwledig fydd yn dioddef.

Sydd yn dod â fi at fy mhwynt olaf: dwi am i'r Llywodraeth yma roi sicrwydd inni fod ganddyn nhw ffydd llwyr yn y rhaglen fodelu Optima sydd wedi cael ei defnyddio i gyfiawnhau'r argymhellion. Ffigurau iechyd Cymru, y Llywodraeth, sy'n cael eu mewnbynnu ac EMRTS sydd yn gwneud yr asesiad, felly gall y Llywodraeth ddim golchi eu dwylo o hyn. Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r ffigurau'n canolbwyntio ar niferoedd y digwyddiadau y gellir eu cyrraedd, fel y soniodd Russ ynghynt, ond heb ystyried ai dyma'r digwyddiadau mwyaf angenrheidiol i'w cyrraedd, gan fod rhaglen Optima wedi'i llunio ar gyfer ambiwlansys mewn amgylchiadau mwy cyffredin, nid ei llunio ar gyfer anghenion ambiwlans awyr ar draws ardal wledig eang.

I gloi, felly, mae'r gwasanaeth yma wedi profi'i hun i fod yn gwbl hanfodol i'n cymunedau ni, ac mae'r argymhellion sy'n cael eu cynnig yn awgrymu y bydd yn ein cymunedau gwledig ar eu colled. Dwi a'r bobl dwi'n eu cynrychioli yn chwilio am sicrwydd na fyddwn ni'n colli unrhyw lefel o wasanaeth yma, ac nad ymarfer mewn cyrraedd targedau ar draul lles ac iechyd pobl yn fy etholaeth i ydy hyn. Diolch yn fawr iawn.

17:50

Mae arnaf ofn fod Llywodraeth Lafur Cymru yn honni ei bod o blaid gofal iechyd cyffredinol, ond mae'n profi unwaith eto nad yw hyn yn wir. Yn hytrach na bod yn hollgynhwysol, mae'n dangos ei bod o blaid gofal iechyd yn ne Cymru'n unig, gyda gogledd Cymru, unwaith eto, yn cael ei adael ar ôl gan wleidyddion ym Mae Caerdydd.

Rydym wedi galw gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru yn amhrisiadwy, a hynny’n gwbl briodol, gan ei fod yn amhrisiadwy i bobl y canolbarth a’r gogledd sy’n aml yn byw mewn cymunedau gwledig neu’n bell o’r ysbyty agosaf, fel y nodwyd. A hefyd, yn ychwanegol at hynny, mae ardaloedd y canolbarth a'r gogledd yn denu llawer o dwristiaid, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, ac oherwydd daearyddiaeth yr ardal, mae'n denu llawer o bobl sy'n awyddus i wneud gweithgareddau awyr agored, sydd, er mor bleserus ydynt, yn gallu creu risg. Ac yn anffodus, byddwch bob amser yn gweld pobl sy'n fodlon dringo'r Wyddfa yn yr haf mewn siorts, crysau-T a fflip-fflops, sydd, yn amlwg, yn creu risg uwch, a dyna pam fod angen y gwasanaethau hanfodol hyn arnom mewn ardaloedd gwledig er mwyn darparu ar gyfer anghenion yr ardal.

Dro ar ôl tro, mae trigolion yn cael eu hynysu fwyfwy gan bolisïau Llywodraeth Cymru ac yn teimlo, yn gwbl briodol, eu bod wedi cael eu gadael ar ôl o gymharu â phobl i lawr yma yng Nghaerdydd. Mae perygl na fydd canolfan gyfunol yn y gogledd yn ychwanegu unrhyw fudd i’r gwasanaeth nac i’r rheini sydd ei angen fwyaf, ac rwy’n llwyr gefnogi’r status quo o ran cadw canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon yn weithredol fel y gallant wneud y gwaith da a wnânt yn ddyddiol. Rwy'n cymeradwyo'r 20,000 o drigolion sydd wedi llofnodi deiseb i atal y canolfannau rhag cau, a’r rheini sydd wedi cymryd rhan mewn ymgyrch godi baneri. Mae hyn yn dangos bod trigolion am i Lywodraeth Cymru yma ym Mae Caerdydd wrando ar eu pryderon dwys ynglŷn â'r GIG, ac mae hefyd yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru'n ystyried y darlun ehangach. Drwy gael gwared ar argaeledd ambiwlans awyr i bobl yn y canolbarth a’r gogledd, bydd yn ychwanegu at y pwysau ar ambiwlansys a’r amseroedd aros a welwn o ddydd i ddydd ar draws ein gwasanaethau gofal iechyd, yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Felly, rwy’n annog holl Aelodau’r Senedd i gefnogi ein cynnig heb welliannau y prynhawn yma. Diolch.

Hoffwn i ddechrau drwy gofnodi fy niolch i a phawb, dwi'n siŵr, yma i'r gwirfoddolwyr hynny sy'n rhan o grwpiau fel Achub Ambiwlans Awyr Cymru—y Trallwng am eu gwaith diflino yn codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n cael eu trafod yma y prynhawn yma.

Mae’r ffaith bod dros 20,000 o lofnodion, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, sy’n gwrthwynebu cau canolfan y Trallwng yn dangos cryfder y teimlad lleol tuag at y gwasanaeth, gan ymgorffori’r berthynas arbennig sy’n bodoli rhwng yr ambiwlans awyr a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae'r berthynas hon yn adlewyrchu’r ffaith bod cannoedd o fywydau wedi cael eu hachub gan yr ambiwlans awyr, ac mae’n cael ei hadlewyrchu ymhellach, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, gan y miloedd o bunnoedd sy’n cael eu cyfrannu’n flynyddol gan bobl ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, sy’n rhoi’n hael o’u pocedi i gefnogi’r elusen arbennig yma. Mae’n siom bod gwreiddiau cymunedol yr ambiwlans awyr, a’r ymdeimlad o berchnogaeth gymunedol, yn cael eu peryglu gan y cynlluniau i adleoli’r gwasanaeth.

Fel yr amlygwyd eisoes yn ystod y ddadl hon, mae llawer o gymunedau yn y canolbarth yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl i raddau mwy a mwy o ran eu mynediad at ddarpariaeth iechyd ehangach. Nid oes ysbyty cyffredinol ym Mhowys, ac mae'r gwasanaethau a oedd ar gael yn flaenorol—yn Llanidloes a'r Drenewydd, er enghraifft—wedi cael eu hisraddio, ac mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn parhau i fod yn gywilyddus o bell o gyrraedd targedau hanfodol. O dan bwysau ehangach cyni, mae’r dirywiad hwn mewn gwasanaethau yn aml wedi’i gyfiawnhau gan natur wasgaredig a gwledigrwydd poblogaeth y canolbarth. Er gwaethaf rhybuddion cyson gan Blaid Cymru am y canlyniadau hirdymor, cafwyd ymgyrch hanesyddol i ganoli gwasanaethau mewn lleoliadau mwy trefol, ac o'r herwydd, rydym yn gweld canlyniadau enbyd hyn yn dod i'r amlwg y gaeaf hwn.

Natur wledig cymunedau'r canolbarth a'r gorllewin yw'r union reswm pam fod ymateb brys lleol effeithiol yn fwy hanfodol byth. Mae gennym boblogaeth sy’n heneiddio, niferoedd uchel o bobl yn gwneud gweithgareddau awyr agored, llawer iawn o ffermio a gweithgaredd amaethyddol, a ffyrdd mwyaf peryglus Prydain fel y cydnabuwyd yn ddiweddar. Golyga hyn oll fod ein cymunedau gwledig yn frith o argyfyngau meddygol posibl, y mae ymatebion amserol iddynt yn hollbwysig ac yn anodd oherwydd y ddaearyddiaeth gymhleth. Er bod darpariaeth gofal iechyd lleol wedi'i thorri i'r asgwrn yn y cymunedau hyn, yr ambiwlans awyr yw'r un peth cyson—sy'n cael ei ystyried gan lawer yn rhwyd ddiogelwch hanfodol.

Rwy'n cydnabod bod yr ambiwlans awyr wedi addo y bydd yr ymateb sydyn hwn yn parhau mewn unrhyw achos o ganoli, ac yn sicr rwy’n croesawu’r ymrwymiad hwnnw. Fodd bynnag, fel eraill, rwy'n arbennig o bryderus ynghylch yr effaith y gallai unrhyw ganoli ei chael ar effeithiolrwydd, fel yr oedd Mabon yn sôn amdano yn gynharach, y gwasanaeth cerbyd ymateb cyflym—y rapid response vehicle—sy'n cael ei ddarparu gan yr elusen. Rŷm ni wedi gweld yn y Trallwng, ac mewn mannau eraill, fod y gwasanaeth ymateb hwn wedi bod yn hanfodol ar adegau pan nad yw’r hofrennydd wedi gallu hedfan oherwydd, efallai, tywydd gwael. Yn wir, yn 2021, o’r 3,544 o deithiau ymateb a wnaed gan ambiwlans awyr Cymru ledled Cymru, roedd bron i hanner y rhain—47 y cant—wedi’u gwneud gan gerbyd ymateb cyflym.

Rwy'n bryderus, felly, y bydd canoli’r cerbydau hyn yng ngogledd Cymru'n amharu’n sylweddol ar effeithiolrwydd cerbydau ymateb cyflym. Ac ar adeg pan fo straen mor ddifrifol ar y gwasanaeth ambiwlans, mae’r pryder hwn yn arbennig o ddifrifol.

Mae’r ddadl hon wedi tynnu sylw at lawer o bethau, o gryfder y teimladau lleol, i gwestiynau ynghylch y data a ddefnyddir gan y gwasanaeth ambiwlans awyr wrth wneud penderfyniadau. Rwy'n rhannu'r holl bryderon a fynegwyd heno am oblygiadau unrhyw gynlluniau i ganoli. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru, felly, i weithio gyda’i phartneriaid yn y GIG ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru i sicrhau na fydd unrhyw ad-drefnu'n peryglu bywydau pobl sy’n byw yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

17:55

Diolch i'r Ceidwadwyr ac i Russell George am osod y mater yma.

Ar draws y Siambr, rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud ein bod yn parchu gwasanaeth ambiwlans Cymru. Mae'n achub bywydau, ac rwy'n glir iawn y byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn heno. Mae canolfannau ambiwlans awyr y Trallwng a Chaernarfon yn darparu rhaff achub yng nghanolbarth a gogledd Cymru ar ffurf cymorth meddygol a chludiant brys.

Fe wyddom fod gofal iechyd gwledig yn heriol. Ond mae angen mwy o ofal iechyd gwledig, nid llai, ac mae'r cynnig hwn fel y'i deallwn ar hyn o bryd yn dweud y bydd gennym lai o wasanaeth ar draws ardaloedd gwledig, yn enwedig ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, yr ardal rwy'n ei chynrychioli. Fy marn gref i yw nad yw ambiwlans awyr Cymru a GIG Cymru wedi gallu dangos drwy dystiolaeth annibynnol y bydd mwy o fywydau'n cael eu hachub, yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae'r canolfannau ar hyn o bryd, ac felly mae'n wirioneddol glir fod yn rhaid inni wrthwynebu'r cynnig posibl i gau. Mae'n anodd disgrifio, mewn gwirionedd—oni bai eich bod chi'n byw, yn fy achos i, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru—y gwrthwynebiad cyhoeddus cryf i'r cynnig. Mae yna ofn gwirioneddol y bydd pobl yn colli eu bywydau. Mae angen inni fod yn glir nad yw hynny'n mynd i ddigwydd. Nid oes siop, nid oes caffi lle rwy'n byw, a lle mae llawer ohonom yn byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru—a'r un fath yn y gogledd hefyd efallai—lle nad oes poster yn dweud 'Achubwch Ambiwlans Awyr Cymru'. Mae llawer o bobl, fel rydych wedi clywed, yn meddwl ei fod yn ymwneud â mwy na'u bywydau hwy, bywydau eu perthnasau, bywydau eu cymdogion—mae'n ymwneud â'r ffaith eu bod wedi buddsoddi eu calonnau a'u heneidiau'n codi arian ar gyfer y gwasanaeth hollbwysig hwn.

Ers i'r cynigion hyn gael eu datgelu'n answyddogol i'r wasg, mae'n werth nodi bod yr ambiwlans awyr a GIG Cymru wedi bod yn anfodlon darparu'r data hyd yma. Mae cyfathrebu'n allweddol i hyn, a gadewch inni fod yn onest, mae wedi bod yn llanast hyd at heddiw. Mae Russell George wedi ceisio ein llywio drwy'r newidiadau, a'r cymysgwch o ran pwy sy'n gyfrifol am beth. Efallai ein bod ni wedi ei ddeall, ond ni fydd y bobl sy'n buddsoddi eu bywydau a'r ceiniogau a'r punnoedd y maent yn eu rhoi tuag ato wedi ei ddeall. Ar hyn o bryd, ni allaf weld unrhyw opsiwn ond cadw'r gwasanaeth fel y mae ac ymrwymo i gadw'r canolfannau lle maent hyd nes y ceir craffu clir, annibynnol ar y ffigurau a hyd nes y ceir cynllun cyfathrebu llawer gwell ar gyfer y data, a pharodrwydd i wrando ar y bobl y bydd hyn yn effeithio arnynt. Diolch yn fawr iawn.

18:00

Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd, ar ran etholwyr Aberconwy—ein diolch a'n gwerthfawrogiad o gyfraniad hanfodol ein gwasanaeth ambiwlans awyr. Nawr, mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru, a phob aelod o'r tîm, yn darparu gwasanaeth meddygol brys hanfodol sy'n achub bywydau pobl ddifrifol wael neu sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol ledled Cymru. Yn y 12 mis diwethaf yn unig, cafwyd sawl achlysur lle mae'r ambiwlans awyr wedi glanio ar gae chwarae lleol, ar brif ffordd brysur yma, ac amryw o lefydd eraill nad oeddwn hyd yn oed yn sylweddoli y gallai hofrennydd lanio ynddynt, ond roedd cymaint o angen eu cymorth a'u hachubiaeth. Mae'r ffaith y gall eu tîm gyrraedd claf sy'n ddifrifol wael yn unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud i gael galwad yn dyst i'w hymroddiad anhunanol. Gyda'r safon uwch o ofal y mae'r criwiau'n ei ddarparu ar safle digwyddiad, a throsglwyddo cleifion yn gyflym i ofal meddygol arbenigol ar draws Cymru, gan gynnwys dros nos, efallai y gall fod yn llawer rhy hawdd inni anghofio mai sefydliad elusennol yw hwn sy'n dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd, a fy nealltwriaeth i yw mai dyma sut y maent wedi bod eisiau iddo fod erioed. Maent wedi bod yn awyddus i fod yn wasanaeth achub annibynnol. Ond bob blwyddyn mae angen iddynt godi £8 miliwn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ddaear. Nawr, cefais y fraint o weld o lygad y ffynnon a thrafod gwaith gwych y tîm ambiwlans awyr pan ymwelais â'u canolfan weithredu yng ngogledd Cymru yn ddiweddar—wel, ychydig wythnosau yn ôl, cyn y Nadolig—gyda fy nghyd-Aelod Sam Rowlands. Fe wnaeth y gweithgarwch yn Ninas Dinlle argraff fawr ar y ddau ohonom, ac roedd yn hynod effeithlon ac yn effeithiol iawn. Fodd bynnag, rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth y mae Russell George wedi ei ddweud. Yn nyfnderoedd argyfwng y gaeaf yn ein GIG, gyda streiciau'n dal i fod heb eu datrys, mae'n ymddangos i mi mai nawr yw'r amser gwaethaf posibl i hyd yn oed feddwl am gau canolfannau gweithredu ambiwlans awyr.

Mae cwestiynau'n dal i fod heb eu hateb ynglŷn â'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar etholwyr, ac ar drigolion a fy etholwyr i ar draws gogledd Cymru gyfan. Hefyd mae angen inni wybod faint o amser y mae'n ei gymryd i'r ambiwlans awyr hedfan o Ddinas Dinlle a Rhuddlan i wahanol bwyntiau yn Aberconwy, fel y gallwn gymharu beth fydd yr effeithiau. Fel y dywedais, byddaf bob amser yn ddiolchgar iawn am y gwasanaeth y mae'r ambiwlans awyr yn ei ddarparu, ond mae gwir angen mwy o ddata—a gallai eich Llywodraeth ei ddarparu, Weinidog, neu'r sefydliad—fel y gallwn sefydlu'n ofalus pa effaith y mae'r cynigion yn mynd i'w chael ar yr etholaethau hynny a'r cleifion yr effeithir arnynt gan unrhyw gynigion i gau canolfannau.

Fel y mae nifer o bobl eraill wedi dweud, gallai cau canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon nid yn unig beryglu cleifion, ond fe allai arwain at effeithiau canlyniadol i ardaloedd eraill. Mae Cymru eisoes yn dioddef amseroedd aros hwy am ambiwlansys. Yng ngogledd Cymru, yn warthus, fis Medi diwethaf yn unig cafwyd 35 o alwadau coch ar gyfer argyfyngau sy'n peryglu bywyd a gymerodd dros awr i'w cyrraedd—a gymerodd hanner awr i'w cyrraedd, gyda dwy o'r rheini'n cymryd dros awr. Rydym eisoes wedi gweld effaith y pwysau cronig hyn yn fy etholaeth i a rhanbarth gogledd Cymru, gyda digwyddiadau gofal critigol yn cael eu datgan gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oherwydd y nifer helaeth o gleifion sydd angen gofal.

Mae Aberconwy, wrth gwrs, yn etholaeth sydd â phoblogaeth fawr wledig a hŷn, ac mae gennym lawer o ardaloedd sydd â ffyrdd a signal ffôn gwael, a gallant fod yn anos i ambiwlansys arferol eu cyrraedd mewn pryd. Felly, mae hyn ar ei ben ei hun yn tanlinellu pwysigrwydd hanfodol cael gwasanaeth ambiwlans awyr eang, gyda darpariaeth ddaearyddol dda ar draws pob ardal yng Nghymru. Mae'r problemau yn ein gwasanaeth ambiwlans eisoes yn ddigon difrifol heb fentro ychwanegu at y pwysau. Mae'r cynllun canoli, yn fy marn i, yn gadael gormod o gwestiynau heb eu hateb i mi ac i fy etholwyr, ac unwaith eto, rwy'n cymeradwyo'r 20,000 sydd eisoes wedi arwyddo deiseb yn erbyn cau'r canolfannau. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd y niferoedd hynny'n cynyddu'n ddramatig. Rydym mewn perygl o waethygu galwadau ar ein gwasanaethau ambiwlans ar yr adeg waethaf bosibl. Felly, rwy'n gofyn i bob cyd-Aelod o'r Senedd gefnogi ein cynnig—dim gwelliannau eraill, dim ond cefnogi ein cynnig—a gadewch inni sicrhau ein bod yn dangos ein cefnogaeth i'n gwasanaeth ambiwlans awyr. Diolch.

18:05

Mae llawer iawn o etholwyr wedi cysylltu â mi ar y mater yma, a'r teimlad cryf ydy fod y gogledd-orllewin mewn perygl o gael ei amddifadu o wasanaeth pwysig unwaith eto. Dwi'n gwybod cymaint y mae'r gwasanaeth yn ei olygu i bobl leol, y bywydau sydd wedi eu hachub a'r manteision o gael y gwasanaeth brys yma ar ein carreg drws ni. Felly, dwi'n galw ar Lywodraeth Cymru i brofi—i brofi—na fydd y newid sydd ar y gweill yn peryglu argaeledd ac amseroedd ymateb y gwasanaeth i'r cymunedau hynny sydd, i bob pwrpas, yn ddibynnol ar yr ambiwlans awyr mewn argyfyngau. 

Mae yna neges glir yn cael ei chyflwyno yn y Senedd heddiw, a dwi'n gobeithio yn wir fod y Gweinidog yn gwrando ac yn gallu gwneud popeth o fewn ei gallu i gyflwyno'r neges yna ymlaen, ac i weithredu fel Llywodraeth hefyd. Mae'n rhaid cadw'r gwasanaeth yma yng Nghaernarfon ac yn y Trallwng.  

18:10

Diolch, Lywydd, a diolch yn fawr am adael imi ymateb i'r ddadl wrthblaid hon.

Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy mod yn cydnabod y bartneriaeth amhrisiadwy rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru, a elwir yn EMRTS, yn achub bywydau a gwella canlyniadau yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr ar draws Cymru. Mae gwerthusiad o'r gwasanaeth rhwng 2015 a 2020 wedi nodi mwy o obaith o oroesi, gyda gostyngiad sylweddol o 37 y cant yn nifer y marwolaethau ar ôl 30 diwrnod i gleifion sy'n cael anaf di-fin. Cafodd 63% o gleifion driniaethau yn y fan a'r lle na allent fod wedi'u cael heblaw mewn ysbyty cyn hynny. Cafodd 42% o gleifion eu cludo'n syth at ofal arbenigol yn lle ysbytai lleol, gan arbed amser i'r claf ac adnoddau ychwanegol i'r GIG. Ac mae 12 meddyg ymgynghorol newydd wedi eu recriwtio i Gymru, oherwydd atyniad gweithio gydag ambiwlans awyr Cymru.

Nawr, rwy'n ymwybodol bod dryswch wedi bod ynglŷn â natur y gwasanaeth a ddarperir gan EMRTS mewn cydweithrediad â'r elusen. I egluro, fel yr esboniodd Russell, mae tîm EMRTS yn cael ei gyflogi gan GIG Cymru, sy'n talu am staff EMRTS ac offer meddygol. Mae'r rhan hon o'r gwasanaeth yn cael ei chomisiynu gan bwyllgor y gwasanaethau ambiwlans brys, sy'n gyd-bwyllgor i holl fyrddau iechyd Cymru. Mae'r elusen yn darparu'r hofrenyddion, y canolfannau awyr, y cerbydau ymateb cyflym, peilotiaid, tanwydd a pheirianwyr. Nawr, mae EMRTS yn gweithio gyda'r elusen i ddarparu gwasanaethau gofal critigol arbenigol yn y fan a'r lle i drin pobl ag anaf sy'n bygwth bywyd neu aelodau a allai arwain at farwolaeth neu anabledd. Ar gyfartaledd, mae EMRTS yn ymateb o fewn 50 munud drwy'r awyr neu 40 munud ar y ffordd. Mae hwn yn wasanaeth gofal critigol arbenigol iawn, nad yw'n cymryd lle gwasanaethau ambiwlans brys. Nid yw'n wasanaeth ymateb cyntaf ac fel yr eglurodd Mabon, mae'n mynd â'r adran frys allan at y claf.

Mae'r ddarpariaeth bresennol yn cynnwys pedwar tîm wedi eu lleoli, fel y clywsom, yn y Trallwng, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd. Mae hynny'n digwydd yn ystod y dydd, gyda mynediad at hofrenyddion a cherbydau ymateb cyflym. Ond yn y nos, ceir un tîm wedi ei leoli yng Nghaerdydd, gyda mynediad at hofrennydd a cherbyd ymateb cyflym. Ar gyfartaledd, caiff 1,100 o alwadau cleifion eu hadolygu gan ganolfan gofal critigol EMRTS bob dydd. Caiff 140 o'r galwadau hynny eu hasesu'n fanylach, a bydd tua 13 yn cael eu hasesu fel rhai sy'n addas ar gyfer ymateb EMRTS. Ond o dan y model gwasanaeth presennol, dim ond 10 claf sy'n cael ymateb EMRTS y dydd. Felly, mae cyfle i'r gwasanaeth arbenigol yma drin mwy o gleifion bob dydd yng Nghymru. Nawr, mae'r elusen, y tîm EMRTS a phwyllgor y gwasanaethau ambiwlans brys yn awyddus i gynyddu nifer y bobl sy'n cael eu gweld, os yw'n bosibl, er mwyn sicrhau bod cleifion sydd ei angen yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth arbenigol hwn ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru a phryd y maent ei angen. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod pob Aelod yn y Siambr hon yn rhannu'r dyhead i achub mwy o fywydau ac i sicrhau bod EMRTS a'r elusen yn gallu trin mwy o gleifion.

Fel y dywedais eisoes, mae pedwar tîm medrus iawn mewn pedair canolfan i wasanaethu Cymru gyfan, ond mae rhai'n fwy prysur nag eraill.

Mae pawb sy'n rhan o'r gwaith o gomisiynu a darparu'r gwasanaethau hanfodol hyn yn awyddus i wneud yn siŵr bod yr arian sydd ar gael iddyn nhw yn cael ei wario yn y ffordd orau posibl. Bydden nhw'n hoffi lleihau nifer y cleifion sydd ddim yn cael y gwasanaeth. Ar ben hynny, mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru eisiau gwneud y defnydd gorau o roddion y cyhoedd, ac mae wrthi ar hyn o bryd yn datblygu cytundeb tymor hir newydd ar gyfer hofrenyddion. Dyna pam maen nhw eisiau edrych ar y sefyllfa. Mae hyn i gyd yn gyfle gwerthfawr i edrych unwaith eto ar y ffordd mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu.

Bydd yr Aelodau'n gwybod bod tîm EMRTS wedi cynllunio cynnig cynhwysfawr a chymhleth i ddatblygu'r gwasanaeth ac wedi cyflwyno hwn i'r pwyllgor gwasanaeth ambiwlans brys ym mis Tachwedd. Mae'r pwyllgor wedi ystyried y cynnwys ac wedi gofyn am fwy o wybodaeth a chraffu diduedd. Mae prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans a'r tîm wedi dechrau ar eu gwaith o'r newydd ac wedi rhoi'r cynnig datblygu gwasanaeth gwreiddiol o'r neilltu. Mae adolygiad yn cael ei gynnal o'r model gwasanaeth presennol. Mae prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans, sy'n arwain yr adolygiad ar ran y pwyllgor, wrthi'n datblygu deunyddiau i gasglu barn, a bydd y broses ffurfiol hon yn dechrau cyn gynted â phosibl. Bydd y broses adolygu a chasglu barn yn sicrhau bod y pethau cywir yn cael eu hystyried fel bod barn a phryderon yr holl bobl allweddol yn cael eu deall yn llawn. Dwi wedi gofyn i'r person sy'n arwain hwnnw i ystyried beth sydd wedi cael ei ddweud yn y Siambr yma heddiw. Rhun.

18:15

Diolch yn fawr iawn ichi. Dwi'n gwerthfawrogi eich disgrifiad chi o'r sefyllfa a dwi'n falch eich bod chi wedi gofyn i sylwadau heddiw gael eu hystyried. Gaf i ofyn eich barn chi ar un mater o egwyddor? Ydych chi'n cytuno efo fi y byddai hi'n amhriodol i gynyddu faint o gleifion sy'n cael eu cyrraedd mewn un rhan o Gymru ar draul pobl sy'n byw mewn ardaloedd eraill? Rydyn ni i gyd eisiau gweld y gwasanaeth yma'n gwella ar gyfer cymaint o bobl â phosib, ond byddai'n amhriodol gostwng lefel gwasanaeth i rai er mwyn cynyddu i eraill. Edrych ar sut i wella ar gyfer ardaloedd eraill sydd angen ei wneud. 

Dwi'n meddwl bod rhai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ar y llawr yma heddiw yn rhai sy'n bwysig i'w hystyried, yn arbennig, dwi'n meddwl, y ffaith, pan fydd hi'n anodd i hofrennydd gyrraedd rhywle bod angen mynd mewn cerbyd, ac mae hwnna lot yn fwy anodd mewn ardaloedd gwledig. Dwi'n siŵr bydd hynny hefyd yn cael ei ystyried yn ystod y drafodaeth a'r ymchwiliad a'r adolygiad yma. Buaswn i'n awgrymu bod pobl yn ymateb i'r ymchwiliad. Dyna'r pwynt nawr o'r adolygiad yma a'r broses casglu barn yna—bod pobl sydd yn y Siambr a bod pobl yn ein cymunedau ni yn ymateb i hynny.

Bydd y broses yn helpu'r pwyllgor i benderfynu beth i'w wneud nesaf, gan gynnwys datblygu opsiynau i helpu i wella gwasanaethau a chynyddu nifer y cleifion sy'n derbyn ymateb gan EMRTS. Bydd y broses yn ystyried hefyd a oes angen gwneud newid i'r canolfannau gweithredu neu beidio er mwyn cyflawni'r nod yma. I fod yn glir, does dim penderfyniad wedi cael ei wneud. Fel rhan o'r gwaith casglu barn, mae'r prif gomisiynydd yn sefydlu proses gadarn i gloriannu'r opsiynau er mwyn sicrhau bod y penderfyniad gorau posibl yn cael ei wneud am ddyfodol y gwasanaeth EMRTS yng Nghymru. Cafwyd cadarnhad y bydd y broses ffurfiol yn cymryd o leiaf wyth wythnos, ac fe fydd hi'n broses gynhwysfawr, er mwyn rhoi cyfle i'r rhai sydd â diddordeb gyflwyno sylwadau. Ar ôl i hyn gael ei gwblhau, fe fyddaf i'n gwneud datganiad pellach. Diolch.

Diolch, Lywydd. Mae'n bleser mawr cael cau'r ddadl hon y prynhawn yma oherwydd fe glywsom gefnogaeth drawsbleidiol go iawn i rywbeth y credaf ei fod yn unigryw Gymreig. Mae'r Cymry'n ymfalchïo'n fawr yn y ffaith bod gennym berchnogaeth ar elusen sy'n effeithio ac sy'n gallu effeithio a dylanwadu ar fywydau pawb ym mhob cwr o'r wlad wych hon.

Wrth agor y ddadl, siaradodd Russell am y Cymreictod a sut y cafodd ei lansio ar ddydd Gŵyl Dewi 2001. Clywsom bryd hynny am y cymhlethdodau a fodolai yn dilyn y cyhoeddiad nôl ym mis Awst gan EMRTS ac ambiwlans awyr Cymru, ac fe roddodd linell amser ddefnyddiol i ni ar gyfer hynny. Mae'r nodiadau a wneuthum yn anodd eu darllen, sy'n dangos pa mor gymhleth yw hynny—rhaid ei bod yn anodd tu hwnt i leygwr geisio deall pwy oedd â'r cyfrifoldeb.

Mae'r posibilrwydd y gallai canolfan y Trallwng yng nghanolbarth Cymru gau yn berthnasol i Russell wrth gwrs. Rwy'n credu bod Russell wedi ychwanegu at y dryswch ar ôl iddo ofyn cwestiynau yn y Siambr hon ynghylch y data, y berchnogaeth a'r cyfrifoldeb. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth pwysig iawn. Ond rhoddodd Russell drosolwg defnyddiol iawn i ni o'r sefyllfa fel y bu dros y misoedd diwethaf a chaniatáu i ni weld pam fod y ddadl hon mor bwysig i ni yma heddiw.

Rhoddodd Rhun wedyn, i ddilyn Russell, gefnogaeth drawsbleidiol a soniodd am y Bull a'r elfen godi arian. Ddoe, clywsom gan Darren ynglŷn â Wetherspoons, y Bull gan Rhun heddiw—[Torri ar draws.] Tafarn go iawn—a'r £50,000 a godwyd yn yr ymdrech godi arian honno. Fe wneuthum innau, fel aelod o ffermwyr ifanc sir Benfro, feicio i Blackpool i godi arian ar gyfer ambiwlans awyr Cymru. Mae'n un o'r elusennau hynny, ble bynnag y byddwch chi, ym mhob rhan o Gymru, lle rydych chi'n teimlo eich bod wedi codi arian, ac o hynny y deillia'r berchnogaeth ar yr elusen hon a pham fod hynny mor bwysig.

Pwysleisiodd Rhun bwysigrwydd cefn gwlad Cymru a pha mor anodd yw cael mynediad at ofal iechyd brys pan fo'i angen ar draws cefn gwlad Cymru. Pwysleisiodd Rhun hefyd y ffordd roedd yn arf recriwtio pwysig i ardaloedd yng Nghymru lle ceir y canolfannau hyn—Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am hynny hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Pan fydd anawsterau recriwtio yn y GIG yng Nghymru, mae cael rhywbeth o'r ansawdd hwn yn y pedwar rhanbarth yng Nghymru yn arf go iawn y dylem ei hyrwyddo i'r eithaf, yn hytrach nag edrych ar gyfuno a chanoli mewn un ardal.

Gan symud ymlaen, clywsom wedyn gan James, un o gyd-Aelodau Russell yng nghanolbarth Cymru, a phwysigrwydd canolfan y Trallwng—unwaith eto, y natur wledig, y gwahaniaeth rhwng lleoliadau trefol a gwledig o ran y ddarpariaeth gofal iechyd, a'r amseroedd hedfan hwy, o bosibl, o ogledd Cymru. Unwaith eto, pwysleisiodd nad oedd unrhyw ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys—dyna pam fod angen yr ambiwlans awyr—a phwysigrwydd ymgyrch Achub Ambiwlans Awyr Cymru. Siaradodd yn huawdl am y gefnogaeth leol a gafodd gan aelodau o'i etholaeth.

Clywsom gan Mabon a'i awydd i fod yn ffrind beirniadol yma, oherwydd mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei garu, felly rydym eisiau bod yn gefnogol o ran sut y gallwn sicrhau bod hyn ar gael i'r pedair rhan o Gymru, ac yn enwedig canolbarth a gogledd Cymru hefyd. Unwaith eto, soniodd am y straeon personol, a stori Mr Wilkes a Nia a'r llwyddiant yn sgil trasiedi Mr Wilkes, llwyddiant i gael canolfan yng ngogledd Cymru, canolfan yng ngogledd Cymru i ambiwlans awyr Cymru, a phwysigrwydd hynny, ac unwaith eto, pwysleisiodd nad ambiwlans yn codi claf yn unig yw hwn, a mynd ag ef i leoliad. Yn ei hanfod, ysbyty â llafnau rotor ydyw, yn mynd ag arbenigedd meddygol o'r radd flaenaf i ddigwyddiad, a dyna pam mae hyn mor hynod o bwysig. Pwysleisiodd wedyn eto yr amodau tywydd yng Nghymru a sut mae'r cerbydau ymateb cyflym mor bwysig.

Siaradodd Gareth Davies am y gwahaniaeth rhwng y ddarpariaeth gofal iechyd yn y gogledd o gymharu â'r de ac yna nododd y dwristiaeth a'r gweithgareddau awyr agored, y pwysau y gall y rheini ei roi ar wasanaethau iechyd a pham mae'r ambiwlans awyr mor bwysig yng ngogledd Cymru o ran cael mynediad at hynny. Rydym yn gwybod yn iawn gan Gareth, sy'n frwd ei gefnogaeth i ddiwydiant twristiaeth gogledd Cymru, am y gweithgareddau sydd ar gael yno a pham mae'r ambiwlans awyr mor bwysig. Nododd eto yr 20,000 o bobl sydd wedi arwyddo'r ddeiseb ac sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch godi baneri. Mae ein diolch iddynt yn fawr am eu cefnogaeth i ambiwlans awyr Cymru, yr hyn y maent wedi'i wneud rhoi mwy o amlygrwydd i'r rhesymau pam mae hyn mor bwysig, yr ymgyrch i'w ddiogelu a sicrhau ei fod yn bodoli yng ngogledd Cymru a chanolbarth Cymru yn barhaus. 

I symud ymlaen, fe ddiolchodd Cefin i'r staff a oedd ynghlwm wrth hyn, nid yn unig y staff meddygol, ond hefyd y peilotiaid a sgiliau'r peilotiaid, a soniodd Janet am hynny hefyd, yn gallu glanio mewn cymaint o lefydd gwahanol. Rwy'n meddwl bod hynny'n wych. Eto, pwysleisiodd Cefin y berchnogaeth leol a deimlwn mewn perthynas â chodi arian. Mae hyn yn rhywbeth sy'n bwysig iawn yn fy marn i. Prin iawn yw'r elusennau yng Nghymru sy'n cyffwrdd â chymaint o fywydau ar draws pob rhan o'n gwlad, ac rwy'n meddwl mai dyna pam mae'r ddeiseb hon wedi denu cymaint o lofnodion a pham mae'r ddadl hon mor bwysig y prynhawn yma.

Clywsom gan Jane am ei chefnogaeth i'n cynnig ar y cyd â Phlaid Cymru y prynhawn yma, ac rydym yn diolch am hynny, ac unwaith eto, am y gwahaniaeth yn y ddarpariaeth gofal iechyd yng nghanolbarth Cymru a sut mae hyn yn anghenraid yn y ffordd honno. Siaradodd Janet Finch-Saunders, fel y soniais, am natur fedrus y rhai a oedd yn yr hofrennydd, a chredaf fod Janet yn eiriolwr gwych dros y rheini yng ngogledd Cymru sy'n darparu'r cyfleusterau rhagorol sydd ar gael iddi i fyny yno.

Roedd Siân Gwenllian yn ddi-flewyn-ar-dafod wrth alw ar Lywodraeth Cymru i brofi nad yw newidiadau'n peryglu cleifion, ac rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig. Dylai unrhyw newidiadau fel hyn bob amser ystyried diogelwch y claf o flaen popeth arall. 

Weinidog, o ystyried y gefnogaeth drawsbleidiol heddiw, rwy'n meddwl y byddai'n ddiddorol iawn pe baech chi'n fodlon cyfarfod yn drawsbleidiol i drafod hyn a darpariaeth ambiwlans awyr Cymru, yn enwedig yng ngogledd a chanolbarth Cymru, a gweld a oes ffordd ymlaen i bob un o'r canolfannau hyn barhau. Rwy'n credu y byddai'n ardderchog pe bai modd cytuno ar hynny. Ac rwyf am bwysleisio hefyd, wrth ateb cwestiynau o'r blaen ynglŷn â'r ddarpariaeth iechyd yng ngogledd Cymru, fe ddywedoch chi nad nawr yw'r amser i ad-drefnu, felly oni ddylai hynny fod yn wir ar gyfer ambiwlans awyr Cymru, o ystyried y pwysau sydd ar y GIG? Oni ddylai fod yn wir nad nawr yw'r amser i ystyried unrhyw ad-drefnu? 

Rwyf eisiau gorffen—Lywydd, rydych chi wedi bod yn garedig iawn gyda fy amser—drwy siarad am 'ein gweledigaeth', fel y mae ambiwlans awyr Cymru yn ysgrifennu ar eu gwefan:

'Gwella bywydau cleifion a'u teuluoedd drwy fod yn arweinydd byd mewn gofal uwch lle mae amser yn allweddol.'

Nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru wrando ar bobl gogledd a chanolbarth Cymru. Diolch.

18:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n gohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i bleidleisio. 

9. Cyfnod Pleidleisio

Fe gynhaliwn ni y bleidlais gyntaf, sydd ar eitem 7. Yr eitem honno yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar glefyd yr afu. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Clefyd yr afu. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Clefyd yr afu. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 28, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8171 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyhoeddi diweddar y Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau’r Afu gan Lywodraeth Cymru.

2. Yn gresynu at y ffaith, er bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefydau'r afu, fod marwolaethau o ganlyniad i glefydau'r afu wedi dyblu yn ystod y ddau ddegawd diwethaf a bod 9 o bob 10 claf canser yr afu yn marw o fewn 5 mlynedd o gael diagnosis.

3. Yn cydnabod mai alcohol, gordewdra a hepatitis feirol yw'r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd yr afu y rhagamcanir y bydd yn cynyddu, gyda dros 3 ym mhob 5 o bobl yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew ac un ym mhob 5 o bobl yng Nghymru yn yfed alcohol uwchben y lefelau a argymhellir.

4. Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, ynghyd â strwythurau rhwydwaith Gweithrediaeth y GIG sy'n cael eu datblygu, gydweithio'n agos i yrru'r gwaith o weithredu datganiad ansawdd clefyd yr afu ac i sicrhau canlyniadau gwell o ran atal, diagnosis a thriniaeth clefyd yr afu yng Nghymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, 10 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Clefyd yr afu. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 10

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 8, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ad-drefnu canolfannau ambiwlans awyr. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 28, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

18:30

Cynnig NDM8172 fel y'i diwygiwyd:

1. Yn cydnabod gwaith amhrisiadwy gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru o ran achub bywydau.

2. Yn nodi bod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cynnal gwaith ymgysylltu ffurfiol fel rhan o adolygiad o wasanaeth Gwasanaethau Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru.

3. Yn nodi mai bwriad yr adolygiad yw sicrhau bod y cleifion y mae angen y gwasanaeth arnynt yn gallu ei gael, waeth ble maent yn byw yng Nghymru neu ba bryd y mae arnynt ei angen.

4. Yn nodi nad oes unrhyw opsiynau na chynigion wedi'u cytuno eto, na phenderfyniadau wedi eu gwneud.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru. Cynnig wed'i ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Yr heriau presennol sy'n wynebu'r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a chyfleoedd i drawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol

Fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen at y ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Peter Fox, ac fe gaiff e gychwyn pan fydd Aelodau wedi gadael y Siambr yn dawel, os ydych chi yn gadael. Felly'r ddadl fer gan Peter Fox.

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Cyn dechrau, hoffwn nodi fy mod wedi cytuno i roi munud o fy amser i Russell George, Laura Anne Jones, Gareth Davies a Rhun ap Iorwerth, ac edrychaf ymlaen at glywed eich cyfraniadau yn nes ymlaen.

Lywydd, nid yw'n gyfrinach fod y sector iechyd a gofal cymdeithasol o dan bwysau sylweddol, yng Nghymru a thu hwnt. Mae rhestrau aros am driniaethau yn cynyddu drwy'r amser. Mae amseroedd aros am ambiwlans mewn sawl achos yn annerbyniol o hir. Rydym i gyd wedi cael gwaith achos gan etholwyr sy'n manylu ar brofiadau dirdynnol yn aml o weld anwyliaid yn aros yng nghoridorau ysbytai, neu brinder ambiwlansys, neu orfod cael eu gyrru i'r ysbyty gan rywun annwyl pan fyddant yn ddifrifol wael. Yn y cyfamser, ceir galw cynyddol am wasanaethau gofal cymdeithasol, gyda phroblemau sydd wedi cael tipyn o sylw eisoes gyda recriwtio a chadw staff yn rhoi pwysau ar wasanaethau.

Rwy'n gwbl ymwybodol nad yw'r materion hyn yn rhai penodol i Gymru; nid oes ond angen i chi wylio'r teledu i weld beth sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y DU, ond mae'n deg dweud bod y problemau i'w gweld yn fwy difrifol yma yng Nghymru. Ac nid oes angen dweud nad bai'r staff iechyd a gofal cymdeithasol gwych yw'r problemau hyn, staff sy'n gweithio'n ddiflino ddydd a nos i helpu pobl gymaint â phosibl ac sy'n darparu gofal a chefnogaeth ragorol. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU yn wir, wedi rhoi mesurau amrywiol ar waith i geisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn. Ddoe ddiwethaf, clywsom gan y Gweinidog am bwysau'r gaeaf y mae GIG Cymru yn eu hwynebu, a'r camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i geisio lleddfu peth ohono, megis sicrhau 500 o welyau cymunedol ychwanegol ar gyfer gofal cam-i-lawr, y gronfa integreiddio rhanbarthol a buddsoddi mewn canolfannau gofal sylfaenol brys, ac rwy'n croesawu'r cyfan ohonynt, fel pawb ar draws y Siambr, rwy'n siŵr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Ond yr hyn rwyf am ei wneud yn y ddadl hon yw manteisio ar y cyfle i edrych ar y trawsnewid mwy hirdymor sydd ei angen i helpu ein system iechyd a gofal cymdeithasol i adeiladu nôl yn fwy gwydn. Oherwydd nid taflu mwy o arian at broblem yw'r ateb bob tro; mae angen inni wneud yn siŵr fod yr adnoddau'n cael eu defnyddio yn y ffordd gywir. Mae angen inni ddarparu system iechyd sy'n canolbwyntio ar ddarparu'r tri pheth cywir: darparu gofal iechyd rhagorol i'r claf cywir, yn y lle cywir, ac ar yr adeg gywir.

Ddirprwy Lywydd, rhaid imi ddiolch i'r rhanddeiliaid a'r clinigwyr, ac roedd llawer ohonynt, a wnaeth fy helpu i baratoi ar gyfer y ddadl hon. Rwyf wedi canolbwyntio fy syniadau ar sut y gallwn adeiladu nôl yn fwy gwydn ar bum pwynt allweddol, ac fe siaradaf am y rheini nawr, er nad yw'r rhain yn ateb i bob dim wrth gwrs ac mae'n rhaid iddynt fod yn rhan o raglen lawer mwy helaeth o ddiwygiadau a chydweithio â chlinigwyr, defnyddwyr gwasanaethau, holl haenau Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill fel y gallwn ddarparu'r gwasanaethau y mae pobl eu hangen ac yn eu disgwyl.

Y pwynt cyntaf yw arfogi'r GIG â thechnoleg ddibynadwy ac effeithlon. Gall datblygiadau mewn technoleg helpu i drawsnewid gofal iechyd a chefnogi camau ataliol, yn ogystal â darparu mwy o lwybrau i gleifion gael mynediad at apwyntiadau a chael yr help sydd ei angen arnynt. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd yn hyn o beth o ganlyniad i'r pandemig. Ond gellir gwneud mwy i ymgorffori technolegau newydd mewn ymarfer bob dydd i leihau'r pwysau ar glinigau cleifion allanol, ac i wella rhannu data er mwyn cynorthwyo gyda diagnosis a thriniaeth. Er enghraifft, mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi awgrymu edrych ar wella mynediad at dechnoleg y gellir ei gwisgo fel rhan o raglen atal ragweithiol mewn lleoliadau iechyd cymunedol. Yn y cyfamser, mae pobl fel Cymdeithas Feddygol Prydain wedi awgrymu y gellid uwchraddio seilwaith TG a thechnoleg y GIG i sicrhau bod amseroedd aros cywir a chlir a gwybodaeth am ddiagnosis ar gael i staff a chleifion. Wrth gwrs, gallai gorddibyniaeth ar dechnoleg olygu bod rhai pobl yn cael eu cau allan, ac felly dylid gwneud ymdrech gyfunol i wella'r modd y caiff gwybodaeth ei darparu fel bod cleifion a'u teuluoedd yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gefnogi eu gofal. Felly, mae'r Groes Goch Brydeinig wedi galw am roi arweiniad clir a hygyrch i gleifion ynglŷn â'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt gartref.

Yn ail, sicrhau gwasanaeth rhyddhau gofal cymdeithasol 24/7 sy'n cael ei arwain gan yr awdurdod lleol. Rydym hefyd yn gwybod bod problemau gyda rhyddhau cleifion o'r ysbyty a phrinder llefydd gofal cymdeithasol yn arwain at dagfeydd o fewn y system ehangach, gydag effaith ganlyniadol ar wasanaethau ambiwlans brys. Byddai sefydlu cynlluniau rhyddhau lleol 24/7 yn cyflymu asesiadau ac yn cynorthwyo cleifion i fynd adref yn gynt gyda'r pecyn cywir o ofal, neu i gyfleuster gofal cymdeithasol priodol. I gefnogi hyn, rhaid cael cydweithio, integreiddio a rhannu data llawer gwell rhwng pob elfen o'r system iechyd a gofal cymdeithasol; rhywbeth y mae rhanddeiliaid wedi nodi bod rhaid ei wella.

Rydym hefyd yn gwybod bod angen gwella mynediad at ofal cymunedol ledled y wlad, yn enwedig ar benwythnosau. Er enghraifft, mae Cymdeithas Clefyd Motor Niwron Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod trefniadau mynediad ac atgyfeirio at therapyddion galwedigaethol yn aml yn aneglur ac yn anghyson yng ngogledd Cymru. Ac felly mae angen inni ddatblygu system iechyd sy'n galluogi pobl i gael eu trin yn nes at adref, fel gwasanaeth 'ysbyty yn y cartref', fel y mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn galw amdano. Byddai hyn yn helpu i leihau'r nifer sy'n mynd i'r ysbyty ac yn rhoi mwy o ddewis i bobl ynglŷn â ble gellir eu trin.

Mae angen ailfeddwl mwy hirdymor hefyd ynglŷn â sut rydym yn darparu gofal cymdeithasol ar raddfa sy'n diwallu anghenion poblogaeth hŷn, gan gynnwys mwy o fuddsoddi mewn cyfleusterau i gynyddu capasiti. A cheir syniadau arloesol presennol y gellid eu datblygu ar raddfa fwy i helpu i greu sector gofal cymdeithasol mwy cynaliadwy, megis cymunedau gofal dan arweiniad awdurdodau lleol mewn cydweithrediad â darparwyr gofal cymdeithasol, gan ddatblygu platfformau TG lleol. Mae gennym botensial enfawr yn ein cymunedau i fanteisio ar y cyfalaf dynol presennol; gwelsom hynny drwy COVID, oni wnaethom—y gellir cynnull aelodau o'r gymuned i helpu i ddarparu gofal sylfaenol i gymdogion, gan ryddhau staff gofal cymdeithasol i ganolbwyntio ar dasgau mwy arbenigol.

Recriwtio a chadw: wrth gwrs, rydym wedi siarad yn helaeth yn y Senedd am faterion recriwtio a chadw staff o fewn y systemau iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae'n fater hanfodol y mae angen mynd i'r afael ag ef. Yn syml iawn, ni allwn wneud yr hyn rydym am ei wneud heb wasanaeth iechyd wedi'i staffio a'i gyfarparu'n iawn. Felly, rwy'n cefnogi galwadau gan BMA Cymru ar i Lywodraeth Cymru gynyddu nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant. Rhaid cael gwybodaeth fwy hygyrch hefyd am ddata swyddi gwag gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd er mwyn inni allu deall yn well beth yw'r anghenion a'r pwysau a wynebir gan staff, a mabwysiadu ffocws gwell ar hyfforddi a recriwtio. Rhaid i bolisi o'r fath ddod law yn llaw â chynllun gweithredu'r gweithlu cenedlaethol sydd wedi'i ariannu'n iawn ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a sicrhau synergeddau rhwng y cynllun hwn a'r fframwaith clinigol cenedlaethol. Fel y bydd pawb ohonom yn cytuno, rwy'n siŵr, rhaid cael cydraddoldeb rhwng y gweithluoedd iechyd a gofal cymdeithasol. Mae staff gofal cymdeithasol—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n meddwl fy mod wedi colli'r—. Mae hynny'n anffodus. Iawn, felly rwyf newydd golli tudalen a oedd yn un eithaf pwysig, ac am ryw reswm, mae wedi diflannu. [Torri ar draws.] Diolch yn fawr iawn. Dyna ni; staff cymorth da. Felly, mae angen inni gydnabod bod angen cydraddoldeb rhwng y ddau faes hynny ac mae angen gwell tâl ac amodau ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, a mwy o lwybrau hyfforddi i staff, megis drwy academi genedlaethol ar gyfer gofal. 

Creu GIG mwy modern a thryloyw: mae hefyd yn bwysig fod gan bobl fwy o lais yn eu gofal, a chael mynediad at fwy o wybodaeth, fel eu bod yn gwybod pwy sy'n atebol iddynt, a sut. Rhaid i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG gydweithio'n rhanbarthol ar draws ffiniau cyfundrefnol i sefydlu dull mwy cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau, a gellid ystyried deddfwriaeth i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae angen ailwerthuso a symleiddio strwythurau'r GIG hefyd fel bod mwy o ffocws ar gyflawni ac ansawdd yn hytrach nag ar fiwrocratiaeth er mwyn cyflymu'r broses o gyflawni newid.  

Ac yn olaf, mwy o ffocws ar atal. Yn y pen draw, y ffordd i sicrhau system iechyd a gofal cymdeithasol fwy gwydn a chynaliadwy yw drwy fuddsoddi a chanolbwyntio ar atal. Mae lleihau'r galw am wasanaethau a helpu pobl i gadw'n iachach am gyfnod hwy yn arbennig o bwysig wrth i bobl barhau, diolch byth, i fyw'n llawer hŷn. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi galw am well mynediad at raglenni atal sydd wedi'u lleoli mewn gofal sylfaenol a chymunedol, yn enwedig i'r rhai sy'n byw mewn tlodi, a mwy o fuddsoddiad mewn arloesedd, gan gynnwys rhaglenni sgrinio a brechu.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau a'r Gweinidog yn cymryd fy nghyfraniad yn y modd adeiladol y bwriadais iddo gael ei wneud. Wrth gwrs, nid yw'r holl atebion gennyf i, ac rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn gweithio'n galed i ymateb i rai o'r heriau a nodais heddiw, ond mae angen inni wybod gan y Llywodraeth pa gynnydd sy'n cael ei wneud a sut mae eu gweithredoedd yn trosi'n welliannau go iawn i wasanaethau y gall cleifion eu gweld a'u teimlo. Mae angen i'r cyhoedd wybod beth y gallant ddisgwyl ei weld yn gwella a phryd y byddant yn ei weld. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau eraill gan yr Aelodau heddiw. Diolch yn fawr iawn.

18:40

A gaf fi ddiolch i Peter Fox am ddefnyddio ei amser dadl ar y mater pwysig hwn heddiw? Mae'r grŵp trawsbleidiol ar ymchwil feddygol yn gwneud gwaith ar hyn o bryd yn arwain ymchwiliad i fanteision ymchwil feddygol yng Nghymru. Ac efallai y dylwn ddatgan diddordeb fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol hwnnw. Mae ysbytai sy'n weithredol ym maes ymchwil wedi gwella canlyniadau i gleifion, ac mae llawer o glinigwyr hefyd yn ystyried ymchwil yn rhan bwysig o'u swydd. Rwy'n credu bod y cyfle i staff y GIG ymgymryd ag ymchwil feddygol yn ffordd wych o wneud gyrfa yn y system iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy deniadol. Ac yn sicr, gyda rhai o'r problemau y clywsom amdanynt ac a archwiliodd Peter yn ei gyfraniad heddiw, gyda'r problemau cadw a recriwtio staff y gwyddom amdanynt, mae'r elfen arbennig hon yn bwysig iawn. Rwy'n credu mai dim ond fel ateb tymor canolig i hirdymor i'r argyfwng staffio yn GIG Cymru y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn ymchwil feddygol weithio, gan gynnig amgylchedd gwirioneddol ddeniadol i ddenu mwy o arbenigedd i swyddi hanfodol yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. 

Hoffwn innau hefyd ddiolch i fy nghyd-Aelod, Peter Fox, am roi munud o'i amser i mi ac am ddod â'r pwnc pwysig hwn i lawr y Senedd. Nid ydym yn bod yn or-ddramatig pan ddywedwn ein bod yn wynebu argyfwng mewn gofal cymdeithasol. Mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn fy rhanbarth i wedi dweud eu bod wedi cael tua 400 o gleifion y mis hwn a allai fod wedi cael eu rhyddhau ond na fu modd gwneud hynny. Roedd hyd yn oed adroddiad gan Gydffederasiwn GIG Cymru yn nodi bod y rhan fwyaf o arweinwyr y GIG yn dweud bod y system ofal wedi cael effaith ganlyniadol enfawr ar draws y system gofal iechyd, gyda'r pwysau ychwanegol yn gyrru'r cynnydd yn y galw am ofal brys. Roeddent hefyd yn cytuno bod diffyg capasiti gofal cymdeithasol yn cael effaith ar y gallu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn gofal effeithiol—rhywbeth sydd, fel y gwyddom, wedi cynyddu'n sylweddol oherwydd y cyfyngiadau symud COVID. Mae'n amlwg i mi fod angen integreiddio llawer gwell rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, fel y dywedwyd, gyda mwy o fuddsoddiad ariannol yn mynd tuag at ofal cymdeithasol, ac mae angen gweithio'n well mewn partneriaeth, fel y gwnaethoch chi nodi hefyd. 

Mae'n hanfodol hefyd ein bod yn sicrhau bod gofal cymdeithasol yn yrfa ddeniadol—i raddau llawer mwy nag sy'n digwydd ar hyn o bryd—a bod gwell cyfleoedd i gamu ymlaen mewn gyrfa er mwyn gwella recriwtio a chadw staff, neu fel arall bydd yn gylch di-ddiwedd, yn anffodus. Gallwn barhau, pe bai amser yn caniatáu, ond fel y clywsom o'r cyfraniadau hyd yma a chan yr Aelod dros Fynwy, mae yna syniadau da iawn wedi eu cyflwyno a gobeithio y bydd y Gweinidog yn gwrando arnynt. Felly, diolch yn fawr. 

Hoffwn ddiolch i Peter Fox am godi'r mater pwysig hwn yn ei ddadl fer heddiw. Rwy'n cynnal rhaglen o ymweliadau â chartrefi gofal yn fy etholaeth ar hyn o bryd, gan fy mod eisiau gweld drosof fy hun beth yw rhai o'r problemau'n lleol yn fy rhan i o'r byd, a ledled Cymru yn wir. Y thema sy'n dod i'r amlwg yw bod llawer o gartrefi gofal yn methu cyrraedd eu capasiti oherwydd eu bod yn brin o staff. Efallai fod ganddynt gapasiti o 40 neu 50 o welyau, ond dim ond 25 neu 30 y gallant eu gweithredu oherwydd prinder staff. Rwy'n credu bod angen inni wneud gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn fwy deniadol i ddarpar ymgeiswyr, a chynyddu cyfleoedd hyfforddi. Rwy'n falch o weld y codiad yn y cyflog byw go iawn, ond mae angen inni roi'r cyfleoedd hyfforddi cywir iddynt, ac atal gweithwyr gofal cymdeithasol rhag taro'r nenfwd gwydr os ydynt yn dyheu am gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn a rhoi'r gofal a'r driniaeth y maent yn ei haeddu i bobl. Diolch yn fawr iawn.

18:45

Dwi innau'n ddiolchgar i Aelod Mynwy am ddewis y testun yma. Mi oedd o'n gyfraniad gwirioneddol feddylgar, dwi'n credu. Dwi'n siŵr y byddai fo ei hun yn cyfaddef nad ydy'r rhain yn syniadau cwbl newydd mae o wedi'u crybwyll. Mae angen dod â'r syniadau o'r math yma at ei gilydd yn y ffordd yma i'r Senedd, achos mae angen arloesi yn y ffyrdd yma er mwyn datrys rhai o'r problemau sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd, achos mae hi'n berffaith glir i bob un ohonom ni na allwn ni gario ymlaen fel yr ydym ni.

Dwi am sôn am un mater, y pwynt olaf a godwyd gan Peter, sef yr angen i ganolbwyntio gymaint mwy ar yr ataliol. Mae yna fentrau unigol ar yr ataliol, wrth gwrs, yn digwydd. Mi glywon ni rhai yn y ddadl ar glefyd yr iau yn gynharach heddiw. Ond sôn ydw i am newid diwylliant. Oes, mae angen newid diwylliant o fewn y boblogaeth—mi wnaeth y Gweinidog gyfeirio at hynny ddoe—ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth arwain y newid diwylliant hwnnw ym mhopeth maen nhw'n ei wneud, ar draws bob rhan o waith y Llywodraeth, i'w wneud o'n brif uchelgais i'n gwneud ni'n genedl iachach, achos dydyn ni ddim yn ffit ac iach ar hyn o bryd.

Diolch. Rydw i'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon.

Rwy'n falch iawn o fod yma heddiw, ac rwy'n croesawu'r ffordd adeiladol y mae Peter Fox wedi cyflwyno'r ddadl hon a'r cynigion y mae wedi'u gwneud. Rydym i gyd yn ymwybodol fod ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu pwysau eithriadol y gaeaf hwn, ac fel y dywedodd Peter, dyma'r sefyllfa ar draws y DU gyfan.

Yn ogystal â pharhau i ymdrin â chleifion COVID-19, gyda mwy na 500 ohonynt mewn ysbytai ledled Cymru ar hyn o bryd, rydym yn gweld niferoedd sylweddol o feirysau anadlol eraill, a chynnydd yn nifer y bobl sydd â salwch difrifol yn dod i gael diagnosis a thriniaeth, ac rwy'n gwybod ein bod yn parhau i ofyn llawer gan ein staff iechyd a gofal. Maent wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig, ac mae'r pwysau presennol yn golygu nad ydynt bob amser yn gallu darparu'r lefel o ofal yr hoffent ei wneud. Mae ein gweithlu hefyd yn parhau i gael ei effeithio gan absenoldeb salwch sy'n gysylltiedig â COVID a gofynion hunanynysu.

Mae ein gwasanaethau ambiwlans ac 111 yn gweld lefelau digynsail o alw, ac rwy'n credu ei bod hi'n debygol eich bod chi wedi clywed yr enghreifftiau hyn o'r blaen, ond maent yn werth eu hailadrodd. Ar un diwrnod yn unig, 27 Rhagfyr, gwnaed 8,500 o alwadau i'r gwasanaeth ffôn 111—y nifer uchaf erioed o alwadau mewn diwrnod. Derbyniodd y gwasanaeth ambiwlans 210 o alwadau lle roedd bywyd yn yn y fantol. Cafodd dros 550 o bobl eu derbyn i'r ysbyty; roedd 551 o gleifion COVID mewn gwelyau ysbyty acíwt, sef dros 5 y cant o gyfanswm ein capasiti gwelyau, a chleifion ffliw oedd mewn dros 3 y cant o'r gwelyau; a phobl a oedd yn disgwyl cael eu rhyddhau oedd mewn 12 y cant o'r gwelyau.

Mae ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn profi lefelau tebyg o gynnydd yn y galw. Roedd cyfanswm y cysylltiadau â meddygon teulu yr wythnos diwethaf dros 12 y cant yn uwch na'r adeg hon y llynedd. Ac ynghyd â'r niferoedd cynyddol o gleifion sydd eisiau gofal meddygol, un o'n heriau mwyaf yw sicrhau bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty cyn gynted ag y mae'n ddiogel iddynt wneud hynny. Ac mae pwysau yn y system gofal cymdeithasol, fel sydd wedi'i ddarlunio'n barod, yn gwneud hyn yn anodd iawn ar hyn o bryd.

Mae cyni a'r pwysau dilynol ar gyllidebau wedi arwain at ostwng cyflogau'r gweithlu gofal cymdeithasol o'i gymharu â sectorau eraill, ac wedi gwaethygu heriau recriwtio. Rydym wedi cyhoeddi cyllid o £70 miliwn er mwyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd allu gweithredu'r codiad cyflog byw go iawn, ac rwy'n cydnabod bod Gareth Davies wedi croesawu'r cynnig hwn, ac rydym yn ymdrechu i wella telerau ac amodau cyflogaeth i'r sector, oherwydd nid y cyflog yn unig sydd dan sylw, ond y telerau a'r amodau hefyd, ac rydym yn sicr yn rhannu eich gweledigaeth chi, Peter, o gydraddoldeb rhwng staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae ein poblogaeth yn heneiddio, ac mae hyn yn dyst, wrth gwrs, i effeithiolrwydd ein GIG dros flynyddoedd lawer. Mae'n wych fod cymaint o bobl yn byw cymaint yn hŷn, ond yn amlwg mae'n creu heriau yn ei sgil. Cleifion 55 oed a hŷn yw dros 90 y cant o'n dyddiau gwely i gleifion mewnol brys. Mae dros hanner yr holl ddyddiau gwely ar gyfer cleifion 75 oed a hŷn, ac rydym yn gwybod, i'r garfan hon, fod cael eu rhyddhau cyn gynted ag y maent yn ffit yn feddygol yn allweddol i'w hadferiad. Maent yn llai tebygol o gael haint gan eraill. Byddant yn cysgu'n well yn eu gwelyau eu hunain ac yn cael y gorffwys sydd ei angen arnynt, a byddant yn fwy hyderus i symud o gwmpas yn eu hamgylchfyd eu hunain, felly byddant yn magu eu cryfder yn gynt nag yn yr ysbyty. Felly, mae'n gwbl allweddol ein bod yn cael pobl allan o'r ysbyty cyn gynted ag y gallwn.

I gefnogi byrddau iechyd yn ystod yr amser hynod brysur hwn, rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ffurf fframwaith opsiynau lleol diwygiedig, sy'n rhoi hyblygrwydd a chymorth iddynt ymateb i'r risgiau lluosog a wynebir ar hyn o bryd. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at arweinwyr clinigol i'w hannog i beidio â derbyn pobl i'r ysbyty oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol, ac i helpu cleifion sy'n ffit yn feddygol i ddychwelyd adref, neu i le diogel arall, cyn gynted ag y gallant. Bydd hyn yn creu capasiti mawr ei angen yn ein hysbytai a'r gwasanaeth ambiwlans, er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu gofal i bobl â salwch ac anafiadau difrifol. 

Mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein gweledigaeth o wasanaethau integredig, di-dor, gyda ffocws ar driniaeth yn y gymuned, a gwn fod Peter Fox wedi tynnu sylw at hynny yn ei gyfraniad. Ein nod bob amser yw sicrhau na fydd pobl yn mynd i'r ysbyty ac eithrio pan nad oes modd darparu triniaeth ddiogel mewn mannau eraill, a lleihau'r amser y mae pobl yn ei dreulio yn yr ysbyty pan fydd yn rhaid iddynt fynd. Ac mae'r weledigaeth yn fwy perthnasol heddiw nag erioed. Rydym wedi parhau i adeiladu ar sylfeini 'Cymru Iachach', gan greu amgylchedd lle mae ein partneriaid a'n gweithlu wedi cefnogi ac wedi mynd ati i drawsnewid gwasanaethau'n gyflym. Mae ein rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol, chwe nod ar gyfer gofal brys ac argyfwng, a'r gronfa integreiddio rhanbarthol oll yn gweithio tuag at y weledigaeth hon yng nghyd-destun y pwysau presennol. 

Ym mis Rhagfyr, lansiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y fframwaith ar gyfer gwella llif cleifion drwy ysbytai, sy'n gosod disgwyliad clir i fyrddau iechyd a byrddau partneriaeth rhanbarthol sicrhau mai cyhyd ag y bo angen iddynt fod yn unig y bydd pobl yn yr ysbyty.

Rydym wedi sicrhau dros 500 o welyau cymunedol ychwanegol ar gyfer gofal cam-i-lawr, a byddwn yn parhau i weithio i geisio cynyddu'r capasiti hwn. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn opsiynau amgen yn lle mynd i adrannau brys, gan gynnwys canolfannau gofal sylfaenol brys a gwasanaethau ar yr un diwrnod. Mae'r rhaglen barhaus o ddiwygio contractau sydd ar y gweill ar draws gofal sylfaenol yn parhau i ganolbwyntio ar drawsnewid gwasanaethau a chontractau i gefnogi gwell mynediad i gleifion a chynaliadwyedd gwasanaethau yn fwy hirdymor. Mae camau ar y gweill ar lefel leol a chenedlaethol i gyflymu gweithio mewn clwstwr, gan gynnwys ar draws y proffesiynau gofal sylfaenol a chymunedol, yn ogystal â gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill. Mae'r trawsnewid, o'i ddarparu ar raddfa fwy, a'r dull cydweithredol o gynllunio a darparu gwasanaethau yn ganolog i'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru a'n nod ar gyfer gwasanaeth iechyd a gofal integredig sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant.

Mae cydweithredfeydd proffesiynol o feddygon teulu, fferyllwyr, optometryddion, deintyddion, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a nyrsys yn ymsefydlu ledled Cymru i wella'r modd y caiff gwasanaethau amlbroffesiynol eu darparu yn y gymuned. Mae cryfhau ansawdd y swyddi a galluogi gweithwyr proffesiynol i weithio ar frig eu trwydded yn ffocws ar gyfer y maes hwn, ac yn un y byddwn yn ei weld yn dod at ei gilydd fel rhan o'r gwaith o gynllunio'r gweithlu. 

Darparwyd cronfeydd sylweddol drwy fyrddau partneriaethau rhanbarthol i gynorthwyo partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i weithio'n agosach gyda'i gilydd a datblygu modelau cenedlaethol o ofal integredig a fydd yn cynnig gwasanaethau ataliol, di-dor i bobl yn y gymuned. Nawr, mae'r adnoddau hyn yn cynnwys y gronfa integreiddio rhanbarthol bum mlynedd, sy'n darparu £144 miliwn y flwyddyn i gefnogi trawsnewid, a'r gronfa integreiddio ac ailgydbwyso cyfalaf gwerth £50 miliwn sydd newydd ei sefydlu, sy'n cefnogi'n uniongyrchol ein huchelgais i sefydlu 50 o hybiau iechyd a gofal integredig ledled Cymru. Ac mae tri o'r modelau sy'n cael eu datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol wedi'u hanelu'n benodol at greu capasiti cymunedol. Rydym wedi cyflwyno gwasanaethau newydd gartref o'r ysbyty, wedi ei gwneud hi'n bosibl darparu gofal cymhleth yn nes at adref, rydym wedi buddsoddi mewn presgripsiynu cymdeithasol, ac wedi gwneud cynnydd gyda gwasanaethau cymorth teleofal. Mae llawer o'r pethau y soniodd Peter Fox amdanynt yn ei gyflwyniad i'r ddadl yn bethau rydym yn eu gwneud ac rydym yn awyddus i wneud mwy ohonynt.

Mae clystyrau a byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gyrru'r agenda hon yn ei blaen, ond gwyddom fod angen inni fynd ymhellach ac yn gyflymach gyda'r diwygiadau hyn. Yn 2023, rydym am wneud cynnydd tuag at wasanaeth gofal cymunedol integredig sydd ar gael i bawb ledled Cymru. Nid sefydliad newydd ydyw, ond yn hytrach agenda uchelgeisiol i lywio ac integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddwfn a'u cyfeirio i adeiladu gwe leol gryfach o gefnogaeth. Yn ei gyfraniad, rwy'n credu bod Peter Fox wedi disgrifio'r math o gefnogaeth gymunedol y gellir ei hadeiladu ar lefel leol, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn dyheu am ei wneud.

Mae fframwaith cynllunio'r GIG ar gyfer 2023-24 yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau'r GIG ddatblygu perthynas agosach gyda llywodraeth leol i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Wrth wneud dyraniadau ariannol i'r byrddau iechyd lleol, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn glir ynghylch y gofyniad iddynt weithio'n llawer agosach gydag awdurdodau lleol i ddarparu ymateb gofal cymunedol integredig. Mae'n gwbl hanfodol fod y gwaith integredig hwn yn digwydd. Ac rydym yn gweld cyfleoedd go iawn yma. Mae gofal cymdeithasol yn gwybod wrth iddynt gael eu derbyn am 26 y cant o'r cleifion cymhleth a fydd yn aros i gael eu rhyddhau, felly rydym eisiau datblygu model o gymorth graddedig, gan gynnwys harneisio'r trydydd sector ac ymdrech wirfoddol—oherwydd credwn fod rôl glir i'r trydydd sector—i alluogi pobl i gynnal lefel o annibyniaeth ac ansawdd bywyd ac i gryfhau gwasanaethau lleol er mwyn osgoi gorfod derbyn pobl i'r ysbyty. Felly, rydym am wneud popeth sy'n bosibl i fuddsoddi yn y trydydd sector a gwirfoddolwyr er mwyn cadw pobl gartref a'u helpu gartref, a datblygu'r gwasanaethau ysbyty yn y cartref y ceir rhai enghreifftiau ohonynt yma yng Nghymru wrth gwrs.

Rydym hefyd eisiau cynyddu capasiti ailalluogi yn y gymuned am nad oes angen gofal hirdymor pellach ar 70 y cant o'r bobl sy'n cael eu hailalluogi pan fyddant yn gadael yr ysbyty, neu bydd galw am becyn gofal llawer llai na phe baent heb dderbyn gwasanaeth ailalluogi. Mae pobl yn nodi canlyniadau ansawdd bywyd gwell ar ôl ailalluogi ac yn byw'n annibynnol am gyfnod hirach yn eu cartrefi eu hunain.

Ac wrth gwrs, rydym angen pob cyfle i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi pobl a gweithwyr gofal, ac mae hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei yrru'n gryf iawn. Mae camau breision wedi'u gwneud drwy ddefnyddio teleofal, ac ochr yn ochr â cheisio darparu mwy o dâl a gyrfa ddeniadol i weithwyr gofal, mae'n fwy allweddol nag erioed mewn marchnad lafur dynn iawn ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y defnydd o dechnoleg yn y gymuned.

Byddwn yn parhau i weithio ar y cyfleoedd hyn a byddwn yn darparu diweddariadau pellach, ond rydym yn disgwyl y bydd gennym we gref o gefnogaeth ar gael yn lleol cyn y gaeaf nesaf, a dros y tymor canolig, byddwn yn gweld gwasanaeth gofal cymunedol integredig yn dod i'r amlwg yng Nghymru. Felly, hoffwn ddod i ben drwy ddiolch i Peter Fox am gyflwyno'r ddadl hon mewn ffordd mor adeiladol, ac rwy'n gwerthfawrogi'r holl awgrymiadau y mae wedi'u gwneud. Ac wrth gwrs, byddwn yn edrych yn ofalus arnynt—mae llawer ohonynt yn bethau sy'n agos iawn at ein calonnau ni ein hunain. Felly, diolch yn fawr iawn.

18:55

Daeth y cyfarfod i ben am 18:58.