Y Cyfarfod Llawn

Plenary

16/11/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Prynhawn da. Dyma ni'n cychwyn ar ein cyfarfod ni y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar yr agenda yw cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.

Cau Pont y Borth

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith economaidd cau pont y Borth? OQ58714

Iawn. Mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn a rhanddeiliaid eraill i fonitro a deall yr effaith economaidd ar dref Porthaethwy yn benodol, yn ogystal â'r ardaloedd cyfagos.

Diolch yn fawr iawn. Dwi wedi cadw mewn cysylltiad agos—mor agos ag y gallaf—efo busnesau, fel y gymuned i gyd wrth gwrs, ers y penderfyniad i gau y bont. Maen nhw i gyd eisiau sicrwydd y bydd popeth yn cael ei wneud i ailagor y bont cyn gynted â phosib. Mi groesawaf unrhyw newyddion gan y Gweinidog ar hynny a'r gwaith i ailagor yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Ond, o ran yr effaith ar fusnes, mae busnesau'n gyson iawn yn beth maen nhw'n dweud wrthyf i, yn sôn am fasnach i lawr rhyw 40 y cant—mwy yn rhai achosion. Dydy pobl ddim yn mynd i siopa neu am baned yn y ffordd yr oedden nhw. Gaf i yn gyntaf ofyn am gefnogaeth ariannol iddyn nhw? Mae angen meddwl sut i'w helpu nhw i'w cael nhw drwy y cyfnod yma a'r pwysau, sydd ddim wrth gwrs o'u gwneuthuriad nhw. Ond, wrth gwrs, does dim rheswm chwaith i bobl gadw draw. Gymaint â mae hyn yn achosi cur pen ar rai adegau o'r dydd, a gymaint mae angen trydedd bont er mwyn sicrhau gwytnwch y croesiad yn yr hir dymor, mae pobl yn gallu teithio i Borth ac i Fiwmares ac ati fel y lician nhw. Felly, a wnaiff y Gweinidog (1) wneud yn siŵr nad oes yna arwydd 'Menai Bridge Closed' yn unrhyw le, ac mae 'Pont ar Gau' neu 'Suspension Bridge Closed' ydy'r arwyddion? Ac a wnaiff o edrych ar gychwyn ymgyrch farchnata, yn bosib trwy Visit Wales neu gyrff eraill, i hyrwyddo pobl i deithio i Ynys Môn, i Borth, Biwmares ac ati, ar gyfer hamdden a siopa fel arfer?

Ie, credaf fod rhai o'r materion hynny'n faterion ar gyfer fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, o ran yr arwyddion, ond credaf ei fod yn bwynt teg i egluro nad yw'r ynys ar gau—mae modd mynd yno, ac yn wir, mae busnesau ym Mhorthaethwy ar agor ac ar gael fel arfer. A byddwn yn dweud, yn y rhestr o lefydd ar yr ynys y mae wedi eu crybwyll, fy mod wedi bod ym mhob un ohonynt gyda fy nheulu ac wedi mwynhau bod yn rhan o'r economi leol pan wnaethom hynny.

Felly, ydw, rwy'n cydnabod bod materion gwirioneddol i ddeall yr hyn y gallwn ei wneud gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys y cyngor, ac yn wir, cynrychiolwyr etholedig lleol, i ddeall yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd, yn ogystal â bod yn wirioneddol gadarnhaol am y ffaith bod yr holl drefi a'r holl leoedd hynny yn hygyrch, ar agor ac ar gael, wrth inni wneud y gwaith hanfodol, o safbwynt diogelwch, ar y bont grog—hen, hen bont Telford—drwy sicrhau bod llwybr diogel a hawdd i bobl fynd ar yr ynys a dod oddi arni tan hynny.

Ac rydym yn ystyried y cais am gyllid—. Mae hynny ychydig yn fwy heriol. Rydym yn awyddus i weithio gyda rhanddeiliaid i ddeall yr hyn y gallwn ei wneud, ac yn wir, credaf fod y cyfarfod yn gynharach yr wythnos hon rhwng y Dirprwy Weinidog a rhanddeiliaid lleol wedi bod yn adeiladol—credaf ichi gymryd rhan ynddo—i geisio deall yr hyn sy’n digwydd o ran cynnydd yn ogystal â’r amgylchiadau uniongyrchol y mae busnesau eu hunain yn eu hwynebu.

Fel eraill, cefais innau fy synnu wrth i bont Menai gau'n sydyn, ac nid yw’n cymryd gwyddonydd roced i sylweddoli bod angen atgyweirio’r bont honno ymhell cyn i’r bont gau. Nawr, mae posibilrwydd y bydd y bont ar gau am hyd at bedwar mis. Mae’r ffaith ei bod wedi cau eisoes yn effeithio ar fy etholwyr lleol yn Aberconwy. Mae llawer yn gweithio yn y busnesau yno ac yn gweithio mewn amryw o fusnesau eraill ar Ynys Môn, ac mae gan lawer deuluoedd yno. Mae’r perchnogion busnesau rwy'n siarad â hwy, sy’n gweithio ar yr ynys, yn dweud bod yr ansicrwydd parhaus ynghylch statws y bont yn achosi gostyngiad enfawr yn eu refeniw, fel y mae Rhun wedi’i nodi’n ddigon clir. Felly, bydd cau'r bont yn effeithio ar bobl sy’n cymudo i’r gwaith a’r ysgol ac yn ergyd i gludwyr nwyddau a theuluoedd fel ei gilydd, gyda lleoedd yn Aberconwy bellach yn teimlo eu bod wedi’u torri i ffwrdd oddi wrth eu cymunedau cyfagos.

Agwedd arall ar hyn yw'r bont arall, gan y gwn y bu rhai problemau yno yr wythnos o’r blaen, lle cafwyd rhai pryderon ynglŷn ag a fyddai honno’n cael ei chau oherwydd tywydd stormus ac ati. Felly, sut y gallwch sicrhau hefyd fod unrhyw negeseuon gennych, y mae Rhun wedi gofyn amdanynt, yn cyrraedd etholaethau eraill yr effeithir arnynt hefyd fel eu bod yn gwybod bod busnesau'n dal i fod ar agor ar yr ynys? Ond hefyd, yn bwysicach fyth, pa mor fuan y gallwn agor y bont honno fel nad yw pobl sy’n teithio i’r gwaith yno yn y sefyllfa y maent ynddi ar hyn o bryd? Diolch.

13:35

Rwy'n credu bod dau gwestiwn yno. Credaf fod nifer o bwyntiau nad oeddent yn gwestiynau. Ond edrychwch, y gwir amdani yw fy mod, mewn ymateb i’r Aelod etholaeth, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud yn glir ein bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol, gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig, gan gynnwys y cyngor, gan gynnwys cynrychiolwyr busnesau y gwyddom eu bod yn cael eu heffeithio gan wahaniaeth yn nifer yr ymwelwyr. Rydym am gyfleu'r neges fod yr ynys yn agored ar gyfer busnes, a bod yn glir iawn am hynny, er fy mod yn cydnabod nad yw hynny ar gyfer yr ynys yn unig; mae ar gyfer pobl sy'n mynd ar ac oddi ar yr ynys ar gyfer busnes fel arfer. Felly, wrth gwrs, rydym am ystyried—.

A chredaf fod eich ail gwestiwn yn ymwneud â pha mor fuan y bydd y gwaith atgyweirio'n cael ei gwblhau, ac mae hwnnw’n fater y mae’r Dirprwy Weinidog yn ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol yn ei gylch, i ddeall yr hyn y mae ein harbenigwyr yn ein cynghori yn ei gylch, ac yna gallwn weld pa mor gyflym y gallwn wneud a chwblhau'r atgyweiriadau. Mae'n fanteisiol i bob un ohonom fod y bont grog yn cael ei hatgyweirio, er mwyn iddi fod yn ddiogel i bawb sy’n ei defnyddio, a dyna’n sicr yw ein hamcan. Ond credaf mai mater i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fydd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, yn hytrach na fy mod i'n ceisio ysgwyddo ystod o’i gyfrifoldebau. A chredaf ei fod yn bwriadu ymweld â'r ardal yn ystod yr wythnos nesaf. Felly, credaf y bydd hynny’n darparu mwy o fewnwelediad a mwy o welededd, rwy'n gobeithio, i'r camau rydym yn eu cymryd, a’r ffaith bod yr ynys yn sicr yn agored ar gyfer busnes.

Technoleg Uwch yn y Sector Amddiffyn

2. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu technoleg uwch yn y sector amddiffyn yng ngogledd Cymru? OQ58704

Diolch am eich cwestiwn. Mae gan ogledd Cymru sylfaen weithgynhyrchu gref ac mae’n gartref i rai o’n cwmnïau mwyaf cynhyrchiol, yn enwedig yn y sector awyrofod ac amddiffyn. Rydym yn parhau i gefnogi’r busnesau hyn i greu swyddi medrus iawn o ansawdd uchel sy’n talu’n dda, ac mae hynny’n cynnwys y cynlluniau rydym yn eu harwain ar gyfer datblygu canolfan ymchwil technoleg uwch, mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei ateb? Byddwch wedi gweld y datganiad diweddar gan y Gweinidog Caffael Amddiffyn ynglŷn â safle’r Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn yn Sealand, ac wrth gwrs, mae eich cynlluniau ar gyfer y ganolfan ymchwil technoleg uwch yn rhywbeth rwyf wedi sôn amdano sawl gwaith yn y Siambr hon. A gaf fi ofyn i chi am fanylion ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiad sector ymchwil technoleg uwch, gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU?

Credaf fod hon yn enghraifft dda o faes lle mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gallu gwneud pethau'n adeiladol gyda'i gilydd. Rydym yn cymryd yr awenau ar amrywiaeth o'r meysydd datblygu, gyda'r safle ei hun, gyda pheth o'r buddsoddiad a wnaethom i'w gael yn barod. Mae angen inni weithio ar sut olwg fydd ar y bartneriaeth ddatblygu yn y dyfodol. Ond gwyddom y bydd cyfleoedd yn hyn o beth, gan fod datganiad diweddar y Gweinidog Chalk yn ailgadarnhau cynlluniau i fwrw ymlaen â'r datblygiad hwn, ac mae pwynt ynghylch sgiliau yn y rhanbarth ehangach, cyflogwyr pwysig a'r diddordeb a fydd ganddynt yn y cynnyrch, ond hefyd rydym eisoes wedi penodi ymgynghorwyr technegol i fwrw ymlaen â'r materion hynny fesul cam, ac maent yn gwneud cynnydd ar y gwaith o uwchgynllunio'r safle a ffefrir. Ac rydym wedi cwblhau rownd arall o ymgysylltu manwl â diwydiant, sydd, unwaith eto, yn rhoi mwy o fewnwelediad i ni er mwyn helpu i lywio cynllun yr adeilad a'r swyddi a fydd yn cael eu cyflawni ynddo ac o'i amgylch, ac nid yn unig y ganolfan wrth gwrs, ond yr effaith a gaiff ar yr economi ehangach.

Fel Jack Sargeant, rwy'n croesawu'r datblygiadau hyn yn y gogledd-ddwyrain yn fawr iawn, ac rwy'n teimlo'n gryf y dylem wneud llawer mwy yng Nghymru i geisio denu cymaint o gyfleoedd caffael â phosibl ar gyfer y sector amddiffyn i’n cenedl. Pa gamau rydych yn eu cymryd, ar y cyd â Llywodraeth y DU, i geisio sicrhau bod busnesau Cymru'n cael cyfran well o’r gwariant ar amddiffyn a chaffael sy'n digwydd ar lefel Llywodraeth y DU ar hyn o bryd?

Wel, mae hynny'n dibynnu ar y dewisiadau y mae Gweinidogion y DU yn eu gwneud, wrth gwrs, o ran y penderfyniadau a wnânt, ond mae hefyd yn tanlinellu pam fod y datblygiad hwn yn bwysig, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol inni weithio mewn partneriaeth ar draws ystod o feysydd. Ac rydym yn dweud yn glir iawn, yn ein sgyrsiau rheolaidd â chwmnïau yn y sector amddiffyn ehangach, ond hefyd â swyddogion gweinidogol yn Llywodraeth y DU, ein bod am weld gwariant caffael yn arwain at elw lleol. Wrth gwrs, mae'n wybodaeth gyhoeddus fod diddordeb mewn hofrenyddion hefyd o ran caffael yn y dyfodol. Felly, mae gennym gryn ddiddordeb mewn cefnogi nid yn unig y cwmnïau mwyaf ond y gadwyn gyflenwi ehangach i sicrhau cymaint o swyddi â phosibl. A dyna pam y mae ein cyfrifoldebau ym maes sgiliau, i sicrhau bod y gweithlu cywir yno, yn rhan allweddol o hynny. Ond credaf fod gennym gynnig da iawn, nid yn unig yn y gogledd-ddwyrain, ond ledled y wlad, ac rwy’n sicr yn awyddus inni gael cyfran dda o wariant caffael yn y dyfodol, a’r swyddi da a ddaw yn sgil hynny.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Mae'r cwestiynau heddiw i'r Dirprwy Weinidog, ac mae'r cwestiynau cyntaf gan lefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard. 

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth y Senedd na fyddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud y daith 2,500 milltir i Sharm el-Sheikh ar gyfer cynhadledd COP27 mewn ymdrech i gyfyngu eu milltiroedd awyr. A wnewch chi gadarnhau faint o filltiroedd awyr a deithiwyd gennych ar eich taith ddiweddar i Seland Newydd?

Ni allaf ddweud wrthych faint yn union o filltiroedd awyr ydyw, ond credaf fod Seland Newydd oddeutu 12,000 o filltiroedd i ffwrdd, onid ydyw?

Ddim yn ddrwg. [Chwerthin.] Cyfanswm y daith yno ac yn ôl yw 22,000 o filltiroedd.

Mae'n gwneud imi feddwl, fodd bynnag, tybed beth a ddysgoch chi drwy fynd ar y daith, a'r hyn na allech fod wedi'i ddysgu ar Zoom pe baech wedi dilyn rhesymeg eich Gweinidog newid hinsawdd. Neu ai dim ond enghraifft arall yw hyn o'r brolio rhinweddau rhagrithiol rydym wedi dod i arfer ag ef gan Lywodraeth Lafur Cymru? Serch hynny, un peth y gobeithiaf y byddwch wedi’i weld yno yw bod 47 y cant o fechgyn a 51 y cant o ferched yn Seland Newydd yn cymryd rhan mewn chwaraeon allgwricwlar, o gymharu â 43 y cant o fechgyn a 36 y cant yn unig o ferched yma, yn ôl arolwg chwaraeon ysgol Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar, ac mae’r ffigur hwnnw’n un sy’n gostwng hefyd o gymharu â’r blynyddoedd a fu. Felly, beth yn eich barn chi y mae Seland Newydd yn ei wneud yn iawn yno ac y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn anghywir yma?

Ni fyddwn yn disgrifio'r sefyllfa yn y ffordd honno, Tom. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, yn sicr—os caf ateb eich pwynt cyntaf yn gyntaf—yw bod mynd i Seland Newydd yn brofiad gwerthfawr iawn, ac rwyf wedi cwblhau adroddiad eithaf manwl ar yr hyn a wneuthum pan oeddwn yno. Credaf ei bod yn hynod bwysig cefnogi tîm y menywod pan oeddent allan yno, ar ôl sicrhau eu lle yng nghwpan y byd, a chwarae ar lwyfan rhyngwladol, ac roedd yn bwysig ein bod yn gwneud hynny. Rydym yn cefnogi tîm y dynion pan fônt yn chwarae yng nghwpan y byd, ac mae’n gwbl briodol ein bod yn cefnogi tîm y menywod yn yr un ffordd.

Ond nid er mwyn gwylio'r rygbi yn unig y buom allan yno. Aethom allan yno i ymgysylltu â nifer o sefydliadau ynghylch cyfranogi mewn chwaraeon, yn enwedig ymhlith menywod, ond cyfranogiad ehangach hefyd. A phan gynhaliodd y pwyllgor diwylliant ymchwiliad diweddar i gyfranogiad mewn chwaraeon—pwyllgor rydych yn aelod ohono, a bydd yr adroddiad hwnnw'n dod i lawr y Senedd cyn bo hir—roedd un o'r sefydliadau neu un o'r cynlluniau a grybwyllwyd yn yr ymchwiliad hwnnw, yn dod o Seland Newydd, sef Active Me. A manteisiais ar y cyfle i gyfarfod ag Active Me pan oeddwn yno, gan fod y gwaith a wnânt yn ymwneud â chyfranogiad a gweithgarwch corfforol, ac mae ganddynt gynllun yno sy'n cael ei ariannu ar fath o sail deirochrog rhwng meysydd iechyd ac addysg a Sport New Zealand ac ati. Ac er bod hwnnw'n gynllun llwyddiannus iawn, a'i fod wedi cyflawni'r math o ystadegau rydych yn sôn amdanynt, nid yw mor wahanol â hynny i beth o'r gwaith rydym eisoes yn ei wneud. Ond yr hyn rwyf wedi’i wneud, a’r hyn rwy’n bwriadu ei wneud, yw cael sgyrsiau pellach gyda Chwaraeon Cymru i weld beth arall y gallwn ei ddysgu o brosiect Active Me, a gweld sut y gellir datblygu hynny, fel y gallwn sicrhau gweithgarwch a chyfranogiad llawer mwy cydlynus, yn enwedig ymhlith plant.

Diolch. Fe sonioch chi nad yw'r cynllun mor wahanol â hynny, ond fel rwyf eisoes wedi'i ddangos, credaf fod y canlyniadau'n eithaf gwahanol rhwng Seland Newydd a Chymru. Mae'n ddiddorol ichi sôn hefyd am deithiau tramor. Nid ydym wedi clywed gan y Dirprwy Weinidog ers i Lywodraeth Cymru benderfynu peidio â’ch anfon i gêm Cymru yn erbyn Iran yr wythnos nesaf yng nghwpan y byd yn Qatar. Yn gyntaf, roeddem yn meddwl eich bod yn mynd, ac yna dywedwyd wrthym na fyddech yn mynd oherwydd y tramgwyddo hawliau dynol a'r protestiadau parhaus yn Iran. Ond o ystyried ein bod yn gwybod bod hawliau dynol yn cael eu tramgwyddo bob dydd yn Qatar, does bosibl nad yw'r Llywodraeth yn tynnu llinell yma drwy ddweud nad yw tramgwyddo hawliau dynol yn Iran yn iawn, ond fod gwneud hynny yn Qatar yn iawn. Sylwaf hefyd fod eich bós, Gweinidog yr economi, wedi dweud ddoe y byddai Gweinidogion yno yn mynychu er mwyn, ac rwy'n dyfynnu, 'cyflwyno ein gwerthoedd.' Felly, os yw hyn yn ymwneud â'n gwrthwynebwyr yn hytrach na'r wlad sy'n cynnal y gystadleuaeth, fel y mae ymagwedd Llywodraeth Cymru yn ei awgrymu yn ôl pob golwg, a wnewch chi ddweud wrthyf pa un o'n gwrthwynebwyr eraill yng ngrŵp Cymru—Lloegr neu UDA—y byddwch yn cyflwyno ein gwerthoedd iddynt?

Wel, rwy'n credu ei bod yn gwbl glir pam fod Llywodraeth Cymru yn mynychu Cwpan y Byd FIFA. Credaf fod pob un ohonom yn derbyn, ac wedi dweud ar sawl achlysur, y byddai'n well gennym beidio â bod yn Qatar am yr holl resymau y soniwyd amdanynt eisoes. Mewn gwirionedd, mae ateb y cwestiwn hwn yn un o’r rhesymau hynny, oherwydd yr hyn yr hoffwn ganolbwyntio arno yw’r ffaith y bydd gennym dîm pêl-droed cenedlaethol yn chwarae ar lwyfan y byd am y tro cyntaf ers 64 mlynedd, ac ar hynny y dylem fod yn canolbwyntio. Ac yn anffodus, mae'r ffaith bod y gystadleuaeth hon yn Qatar yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar rai o'r pethau eraill. Mae hynny'n siomedig, gan y credaf ein bod—. Beth bynnag, mae hynny'n siomedig. Ond rwy’n deall pam fod pobl yn gwneud hynny, gan fod gennyf fi, fel sydd gan Weinidog yr Economi a'r Prif Weinidog, bryderon tebyg ynghylch ein presenoldeb yn Qatar.

Ond mae’r Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi wedi dweud yn glir iawn ein bod yn mynychu’r ddwy gêm hynny’n benodol gan mai rheini yw'r ddwy gêm a’r ddwy wlad lle gallwn gael y budd economaidd mwyaf ohonynt yn ein perthynas â hwy, boed hynny mewn masnach, boed hynny yn y gwerthoedd a'r amcanion tebyg sydd gennym. Credaf fod yn rhaid ichi wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â'r pethau hynny, a dyna oedd y penderfyniad a wnaeth Llywodraeth Cymru, a dyna'r rhesymau pam ein bod yn mynd i'r gemau hynny. Rydym wedi dweud yn barod, ac rydych wedi clywed Gweinidog yr Economi a’r Prif Weinidog yn dweud hyn ar sawl achlysur, y bydd rhaglen o weithgareddau hefyd a fydd yn cynnwys hyrwyddo diwylliant a chelfyddydau Cymru a'r iaith Gymraeg yn y gwledydd hynny hefyd, ac mae'n gwbl briodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny.

13:45

Diolch, Llywydd. Ar 8 Medi eleni, dewiswyd 2,000 o artistiaid a gweithwyr celfyddydol ar gyfer cynllun peilot incwm sylfaenol i'r celfyddydau yn Iwerddon. Bydd pob artist neu weithiwr yn derbyn €325 yr wythnos am dair blynedd fel rhan o brosiect ymchwil fydd yn casglu data gan gyfranogwyr i asesu effaith y cynllun ar eu hallbwn creadigol a'u lles, gyda'r nod o'i gyflwyno i bob artist fel ymyriad parhaol. Nod y cynllun yw dangos sut mae Iwerddon yn gwerthfawrogi'r celfyddydau ac arferion artistig. Fel y gwyddoch, lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yn yr haf eleni, prosiect peilot rhagorol fydd, gobeithio, yn sicrhau'r holl fanteision disgwyliedig. Tybed felly a yw'r Dirprwy Weinidog wedi ystyried rhaglen debyg ar gyfer ein sector diwylliant ni i'r un a lansiwyd yn Iwerddon, ac, os nad yw, a yw hyn yn rhywbeth y byddai hi a'i swyddogion yn fodlon rhoi ystyriaeth difrifol iddo, o ystyried sut mae'r sectorau diwylliant, celfyddydau a threftadaeth wedi cael eu heffeithio gan y pandemig a rŵan gan yr argyfwng costau byw?

Diolch am eich cwestiwn, Heledd Fychan, a chredaf ei fod yn bwynt teg iawn. Fel y dywedwch, yn gwbl briodol, mae gennym gynllun peilot incwm sylfaenol yng Nghymru, ac mae angen inni ei werthuso. Credaf y bydd y gwerthusiad hwnnw wedyn yn llywio lle rydym yn mynd â’r cynllun hwnnw ymhellach, y tu hwnt i’r cynllun peilot. Fe fyddwch yn ymwybodol, drwy’r pandemig, fod gennym gynllun cymorth ar gyfer gweithwyr llawrydd yn benodol nad oedd ar gael yn Lloegr, ac roedd gennym gytundeb ar gyfer trefniant gweithio mewn partneriaeth i weithwyr llawrydd gydag awdurdodau lleol. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o natur ansefydlog gwaith llawrydd, yn enwedig yn y sector celfyddydau a chreadigol, felly fe wnaethom geisio eu hamddiffyn. Yn sicr iawn ni fyddwn yn diystyru'r hyn rydych yn ei ddweud wrthyf heddiw, ond ni allaf warantu unrhyw beth i chi, oherwydd yn amlwg, mae angen inni werthuso'r cynllun peilot incwm sylfaenol hwnnw cyn y gallwn wneud unrhyw benderfyniadau ynghylch hynny yn y dyfodol.

Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae hynny'n galonogol iawn. Mae'r argyfwng chwyddiant presennol hwn nid yn unig yn effeithio ar unigolion a chartrefi ar ffurf yr argyfwng costau byw, ond hefyd wrth gwrs ar lawer o fusnesau, yn enwedig y rhai yn y sector diwylliant, sy'n wynebu argyfwng costau busnes. Er enghraifft, rhybuddiodd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, fod yr ŵyl wedi gwynebu heriau o ganlyniad i Brexit eleni gan wneud mewnforio nwyddau yn fwy cymhleth a chostus, yn ogystal â phwysau chwyddiant cynyddol. Yn yr un modd, mae Cadeirydd S4C, Rhodri Williams, wedi rhybuddio bod chwyddiant cynyddol yn taro cyllideb y sianel ac y bydd hyn yn anochel yn cael effaith andwyol ar faint o gynnwys y gallant ei gomisiynu gan gyflenwyr. O ystyried hyn, pa drafodaethau sydd wedi bod ynglŷn â diogelu dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol yn wyneb costau cynyddol o ganlyniad i Brexit a chwyddiant? Ac yn yr un modd, wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni, pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal i warchod y sector cynhyrchu teledu, yn enwedig rhaglenni Cymraeg, yma yng Nghymru?

Iawn. Felly, nifer o bwyntiau yno. Yn amlwg, yr hyn y byddwn yn ei ddweud—ac nid wyf am sôn am yr Eisteddfod Genedlaethol yn benodol, gan fod pob un o'n sefydliadau a'n cyrff diwylliannol yn profi materion tebyg iawn ac rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda phob un ohonynt. Mewn gwirionedd, mae rhan o’r trafodaethau hynny'n rhan o’r trafodaethau rwy'n eu cael gyda’ch cyd-Aelodau Siân Gwenllian a Cefin Campbell yn y cytundeb cydweithio ynghylch sut y mae sefydliadau fel y llyfrgell genedlaethol, er enghraifft, a'r amgueddfa genedlaethol, yn diwallu rhywfaint o'r pwysau chwyddiant y maent yn ei wynebu gyda chostau tanwydd ac ati. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae hyn yn ei chael ar draws y sector, ac rydym yn gwneud yr hyn a allwn i gefnogi'r sefydliadau hynny, yn ariannol lle gallwn, ac rydym wedi gwneud rhywbeth yn ddiweddar gyda'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol. Lle na allwn fforddio rhoi cymorth ariannol uniongyrchol yn y meysydd hynny, rydym yn cael sgyrsiau â’r cyrff hynny ynghylch sut y gallant liniaru yn erbyn rhai o’r costau hynny. Rwyf hefyd yn cyfarfod â'r sianeli teledu a chynhyrchwyr ffilm ynglŷn â'r effaith arnynt hwythau hefyd, ac mae'r rheini'n drafodaethau tebyg ym mhob maes.

Yr hyn na allaf sefyll yma a’i ddweud yw bod Llywodraeth Cymru yn gallu talu’r holl gostau cynyddol hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol fod pob Gweinidog yn y Llywodraeth hon ar hyn o bryd yn gorfod edrych ar eu cyllidebau a’r hyn y gallwn ei wneud i greu arbedion yn ein cyllidebau, gan fod pwysau chwyddiant ar ein cyllideb yn ein taro ninnau hefyd. Felly, mae hyn yn ymwneud â dealltwriaeth o'r sefyllfa. Mae'n golygu deialog barhaus gyda'r sefydliadau hynny ynglŷn â'r sefyllfaoedd y maent yn eu hwynebu, a bydd gennym lawer gwell syniad ar ôl cyllideb y DU yfory ynghylch pa gymorth pellach, os o gwbl, a mesurau y gallwn eu rhoi ar waith i helpu'r holl sefydliadau sydd wedi'u cynnwys yn fy mhortffolio.

13:50
Safleoedd Atomfeydd Niwclear Newydd

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad Rolls-Royce ynghylch safleoedd atomfeydd niwclear newydd a pherthynas hyn â Chwmni Egino? OQ58711

Diolch. Rydym yn croesawu ymrwymiad Rolls-Royce i adweithyddion modiwlar bach. Mae Cwmni Egino yn agnostig o ran technoleg ar hyn o bryd ac mae'n cynnal ymarfer ymgysylltu â'r farchnad gyda nifer o ddarparwyr technoleg, gan gynnwys Rolls-Royce, i nodi'r dechnoleg adweithyddion modiwlar bach a ffefrir ar gyfer safle Trawsfynydd.

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ymateb, ond dwi am i'r Gweinidog esbonio, os gwelwch yn dda, ynghylch beth yn union ydy pwrpas Cwmni Egino bellach, yng ngoleuni y datblygiad yma. Yn flaenorol, mae Gweinidog yr Economi a'r Prif Weinidog wedi sôn am gynlluniau eraill ar gyfer Trawsfynydd, megis meddyginiaeth niwclear. Mae Egino eu hunain, yn eu trafodaethau efo fi, wedi gwneud yn glir bod ganddyn nhw feddwl agored ac yn edrych ar wahanol opsiynau, ac nad oedd Rolls-Royce yn flaenoriaeth iddyn nhw. Mae yna amser a phres cyhoeddus wedi mynd i mewn i Egino, ac yn parhau i fynd i mewn i'w gwaith. Ond eto mae'n amlwg mai bit-part player ydy Egino, ac mai'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear sy'n gwneud y penderfyniadau. Yn hytrach na chael Egino i ganolbwyntio ar ddatblygu technoleg hen a methedig fel niwclear, oni fyddai'n well buddsoddi yn y gweithlu gwych sydd yn gwneud gwaith datgomisiynu rhagorol, o dan arweiniad medrus Angharad Rayner a'i thîm, a datblygu Trawsfynydd fel canolfan arfer da datgomisiynu a datblygu diwydiant llewyrchus datgomisiynu yn yr ardal i'w allforio i weddill y byd?

Ni chredaf fod y ddau beth ar wahân neu'n annibynnol ar ei gilydd. Mae Cwmni Egino yn gweithio gyda’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear ar ddatgomisiynu, ac mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo, a chredwn y bydd y gwaith sy’n digwydd yno yn esiampl i safleoedd eraill ledled y byd ar gyfer datgomisiynu safleoedd niwclear. Ni chredaf fod hynny’n rhwystro cenhedlaeth newydd o dechnoleg niwclear ar safle ehangach Trawsfynydd, a chredaf ei bod yn bwysig tacluso ac egluro’r cyhoeddiad diweddar gan Rolls-Royce.

Maent wedi nodi pedwar safle sy'n berchen i'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, ac mae dau ohonynt, Wylfa a Thrawsfynydd, yng Nghymru. Ond nid yw hynny’n golygu eu bod wedi dod i gytundeb gyda’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear i’w technoleg gael ei defnyddio ar y safleoedd hynny, ac ar gyfer Trawsfynydd yn benodol, mae gan Gwmni Egino gytundeb eisoes gyda’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear ynghylch edrych ar opsiynau ar gyfer y safle, felly nid yw Rolls-Royce yn gallu osgoi hynny. Mae angen iddynt barhau i ymgysylltu â Chwmni Egino a'r ymarfer y maent yn ei gynnal. Efallai mai Rolls-Royce fydd yr opsiwn a ffefrir, ond nid yw hynny wedi'i warantu. Dyna pam fod eu hymarfer ymgysylltu â'r farchnad parhaus yn bwysig, a deall y dechnoleg, ac yn hollbwysig, gellid lleoli adweithydd modiwlar bach yn Nhrawsfynydd o hyd, ynghyd â neu ochr yn ochr â'r cyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer ymchwil wyddonol a chynhyrchu radioisotopau i'w defnyddio yn ein system iechyd a gofal, a'r cyfleoedd i allforio.

Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n helpu i egluro, gan fy mod yn deall, fel arall, y gellid darllen y datganiad i’r wasg gan Rolls-Royce yn y ffordd y mae’r Aelod yn awgrymu, ond nid yw’n adlewyrchu realiti’r safle, ac mae Cwmni Egino yn sicr yn addas at y diben ac yn awyddus i ymgysylltu ar ddyfodol y safle hwnnw i sicrhau'r budd mwyaf posibl.

13:55

Diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r cwestiwn pwysig ond amserol hwn heddiw, gan imi gadeirio cyfarfod bwrdd crwn yr wythnos diwethaf ar ynni niwclear yng Nghymru, gyda chynrychiolwyr o Rolls-Royce, ynghyd â Bechtel ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU. Ac rwy’n argyhoeddedig nid yn unig fod ynni niwclear yn gyfle i ddod â swyddi a buddsoddiad i mewn i ogledd Cymru—ac fe sonioch chi ychydig funudau yn ôl, Weinidog, am y cyfleoedd mewn lleoedd fel Glannau Dyfrdwy i weithgynhyrchu a gweithgynhyrchu uwch yn benodol—ond mae hefyd yn gwbl angenrheidiol er mwyn ategu ynni adnewyddadwy i ddarparu cyflenwad sylfaenol o ynni ar gyfer y wlad, ac yn enwedig pan nad yw'r cynlluniau ynni adnewyddadwy hynny, megis ynni gwynt ac ynni solar, yn gallu gweithredu ar 100 y cant oherwydd y tywydd.

Rwyf hefyd yn argyhoeddedig fod gogledd Cymru yn lle gwych i weld y buddsoddiad hwn, oherwydd y cyfleusterau sydd gennym yno, oherwydd y gweithlu sydd gennym yno sy'n meddu ar y sgiliau, oherwydd y safleoedd sydd gennym eisoes, fel y dywedoch chi, yn Nhrawsfynydd ac yn Wylfa hefyd, a hefyd y gadwyn gyflenwi i wneud ynni niwclear yn llwyddiant yn y rhanbarth. Felly, rwy’n argyhoeddedig ynghylch y rhannau hynny, Weinidog, a tybed beth yw eich asesiad o fanteision ynni niwclear yng Nghymru a pha drafodaethau rydych yn eu cael gyda’r ffigurau blaenllaw yn y sector niwclear i sicrhau y gallwn ddenu’r buddsoddiad hwnnw a chefnogi ynni carbon niwtral yn y dyfodol hefyd?

Rwy’n cydnabod bod safbwyntiau gwahanol i'w cael yn y maes hwn. Rwy’n glir iawn, o'm safbwynt i a safbwynt y Llywodraeth, fod datblygiadau niwclear yn rhan o’r cymysgedd ynni ar gyfer y dyfodol, ynghyd â’r cyfleoedd sylweddol sydd gennym ledled Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni, gan gynnwys ar y môr yn ogystal ag ar y tir wrth gwrs. Mae yna her ynghylch y cyflenwad sylfaen o ynni, ond mae gennym ddiddordeb hefyd yn yr hyn y bydd dyfodol technoleg storio ynni mewn batris yn ei olygu, i wneud defnydd gwell fyth o'n ffynonellau ynni adnewyddadwy. Ac wrth gwrs, rydych wedi fy nghlywed i a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn siarad droeon nid yn unig am ddatgarboneiddio'r ffordd rydym yn cynhyrchu ac yn defnyddio ynni ond am y cyfleoedd economaidd a ddaw yn sgil hynny a pha mor bell i fyny'r gadwyn gwerth y gallwn gael cadwyn gyflenwi Cymru, sy’n un o’r pethau y mae gennyf fwyaf o ddiddordeb ynddynt, a’r pwynt am y budd economaidd ehangach gyda’r sgiliau y byddai eu hangen.

Mae Rolls-Royce yn rhywun sy'n meddu ar dechnoleg gyfredol brofedig, a rhan o’u cynnig yw eu bod yn dweud bod hynny’n golygu y gallent gynhyrchu ynni'n gyflym ac yn fwy sydyn na datblygiadau niwclear mwy o faint. Mae eraill â diddordeb yn y maes, a dyma’r ymarfer y mae Cwmni Egino yn ei gynnal, i ddeall y gwahanol dechnolegau sydd ar gael, yn hytrach na bodloni ar un o’r datrysiadau technolegol hynny yn unig. Ac wrth gwrs, bydd maint a graddfa unrhyw ddatblygiad ynni yn gwneud gwahaniaeth i ba mor gyflym y caiff ei ddefnyddio a hefyd o ran gwneud penderfyniadau. Ac mae angen i ni weld eglurder gan Lywodraeth y DU hefyd ynghylch y model ariannu yn y dyfodol ar gyfer prosiectau niwclear mawr. Mae'n un o anfanteision diymwad y newid cyson, i fod mor gwrtais ag y gallaf, mewn Gweinidogion: mae'n golygu nad oes gennym safbwynt sefydlog. Mae angen hynny arnom ar gyfer dyfodol datblygu yn y maes hwn.

Felly, mae'n ymwneud â chydbwysedd yn ein cymysgedd ynni yn y dyfodol, ac wrth gwrs, o ran datblygiadau niwclear newydd o unrhyw faint, mae'n rhaid ei bod yn gwneud synnwyr mai safleoedd sydd eisoes wedi bod yn gyfleusterau niwclear yw'r opsiynau a ffefrir. Ac nid yn unig fod gennym gymunedau sydd wedi arfer â hwy i raddau, ond mae gennym gyfle hefyd i ailgysylltu â chadwyni cyflenwi ehangach a phobl sy'n dymuno gweithio yn y diwydiant. Felly, rwy’n parhau i fod yn optimistaidd ynglŷn â’r potensial, ac rwy'n edrych am eglurder ar lefel y DU, a byddwn yn sicr yn chwarae ein rhan i sicrhau ein bod yn gweld y budd economaidd yn ogystal â gostyngiad mewn carbon yn y ffordd y caiff yr ynni hwnnw ei gynhyrchu.

Mae'r pwynt yna ynglŷn ag eglurder yn bwysig iawn, dwi'n meddwl, gan y Gweinidog. Roeddwn innau hefyd wedi nodi'r datganiad gan Rolls-Royce mewn perthynas â Thrawsfynydd ac Wylfa hefyd. Dwi'n digwydd bod yn cyffroi am y cynlluniau ynni adnewyddadwy sy'n digwydd yn y môr oddi ar Ynys Môn, yn meddwl bod niwclear bach yn debyg o ffitio'n well i gymuned fel Ynys Môn na niwclear mawr. Mi wnes i weithio'n galed i drio cael cynllun Wylfa newydd oedd yn delifro ar gyfer anghenion a dyheadau, a phryderon, hefyd, Ynys Môn. Ond y gwir amdani yw, oherwydd methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddelifro Wylfa newydd, rydyn ni nôl yn square one. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi fod yr ansicrwydd yna gan y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain wedi creu niwed economaidd ac wedi creu niwed cymunedol, mewn ffordd, drwy arwain pobl i un lle ac yna tynnu hynny oddi arnyn nhw?

14:00

Ni ellir gwadu bod y methiant i sicrhau llwyddiant opsiwn blaenorol Wylfa gyda Hitachi wedi creu her. Mae yna fudd economaidd wedi'i golli, oherwydd fel arall, byddem wedi gweld gweithgarwch sylweddol yn digwydd eisoes. Mae'r bobl a wnaeth fanteisio ar y cyfle hyfforddi sgiliau ar y sail y byddai'r datblygiad hwn yn digwydd mewn gwaith o hyd, ond nid yw'r bobl hynny i gyd yn lleol. Rwyf wedi cyfarfod â rhai pobl yn lleol, mewn gwirionedd, sydd wedi aros ac sydd wedi cael gwaith mewn sectorau gwahanol, ond rwy'n credu y byddem wedi gweld llawer mwy o gyfleoedd gyda mwy fyth o bobl yn cael eu hyfforddi, yn cael y sgiliau hynny a chael cyfle i weithio. Heb os, mae yna golled economaidd wedi bod, ond rwy'n credu eich bod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod cerdded rhan o'r ffordd i fyny'r bryn ac yna dod yn ôl i lawr eto yn golygu bod mynydd ychwanegol i'w ddringo mewn perthynas ag ymddiriedaeth, y bydd pobl yn credu y bydd yn digwydd mewn gwirionedd, ac nid ar yr ynys yn unig ond ar draws gogledd Cymru. Mae rhai o'r sgyrsiau a gefais gyda'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn ymwneud â phobl a fyddai wedi bod â diddordeb ar draws rhanbarth gogledd Cymru i gael gwaith yno. Felly, os bydd cynnig yn y dyfodol o ba bynnag faint a graddfa, boed yn Wylfa neu yn Nhrawsfynydd, mae'n bwysig fod Llywodraeth y DU yn rhoi sicrwydd ynglŷn â beth fydd yn digwydd a phryd y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ac y bydd y rheini'n cael eu cyflawni. Felly, mae'r model ariannu ar gyfer ynni niwclear yn bwysig iawn i wneud yn siŵr fod gan fuddsoddwyr a chymunedau opsiynau a chyfleoedd i ymgysylltu ar sail lle ceir dealltwriaeth lawer cliriach. Ac yna wrth gwrs, Llywodraeth sy'n barod i weithredu er mwyn cyflawni'r penderfyniadau y mae'n eu gwneud. Rwy'n cydnabod y pwyntiau mae'r Aelod yn eu gwneud, ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr â hwy.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU parthed perthnasedd y gronfa ffyniant gyffredin i awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58719

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi pwysau aruthrol ar awdurdodau lleol ar draws pob rhan o Gymru i geisio sicrhau bod cynllun sydd wedi mynd o chwith oherwydd oedi, cyllid annigonol a therfynau amser amhosibl, yn llwyddo. Rwyf wedi codi'r materion hyn dro ar ôl tro gydag nifer o Weinidogion olynol y DU a byddaf yn parhau i wneud hynny.

Diolch yn fawr iawn. Braf cael clywed hynny, achos fel ŷn ni'n gwybod, fe gafodd y cyhoeddiad yma ei wneud ddechrau’r flwyddyn, ac nid yn unig mae'r gyllideb newydd yma yn tanseilio'r setliad datganoli, mae e hefyd yn torri addewidion Brexit o ddim un ceiniog yn llai. Mae'r £585 miliwn sydd ar gael i Gymru dros dair blynedd yn brin o'i gymharu â'r £375 miliwn a dderbyniwyd yn flaenorol gan y strwythurau Ewropeaidd. Mae awdurdodau lleol, fel ŷch chi'n gwybod, wedi gweitho'n galed iawn ac o fewn amserlen dynn iawn i gyflwyno ceisiadau, ac mae'r psychodrama ŷn ni wedi gweld dros yr wythnosau diwethaf—beth yw e? Tri Prif Weinidog, pedwar Canghellor mewn mater o wythnosau—wedi arafu'r broses, wrth gwrs, ac mae'r awdurdodau'n dal i ddisgwyl clywed ydy eu ceisiadau nhw wedi bod yn llwyddiannus. Felly, dwi'n falch o glywed eich bod chi wedi bod yn rhoi pwysau, felly os gallwn ni gael sicrwydd eich bod chi'n mynd i barhau i bwyso ar Lywodraeth San Steffan i ryddhau'r arian yma sydd mawr ei angen ar ein hawdurdodau lleol ni dros Gymru.

Byddaf yn parhau i bwyso am hyn gyda phwy bynnag yw'r Gweinidogion diweddaraf sydd â chyfrifoldeb am hyn. Efallai y bydd dychweliad Michael Gove i'r adran ffyniant bro yn golygu na fydd oedi sylweddol mewn perthynas â hynny, ond roedd llywodraeth leol i fod cael atebion gan Lywodraeth y DU o fewn tri mis i gyflwyno eu cynlluniau. Ond mewn gwirionedd, nid y tri mis diwethaf yn unig ydyw, oherwydd nid yw'r gymeradwyaeth honno wedi'i rhoi; mae'n waeth byth mewn gwirionedd, oherwydd er gwaethaf y ffaith i'r gronfa ffyniant gyffredin gael ei chyhoeddi gyntaf yn 2017, nid yw'r gronfa wedi dod yn weithredol eto: nid oes ceiniog o gyllid, nid oes un geiniog o gyllid o'r gronfa ffyniant gyffredin wedi cyrraedd Cymru, lle byddai rhaglenni ariannu newydd yr UE wedi dechrau bron i ddwy flynedd yn ôl, a byddai arian eisoes yn llifo i fframwaith amlflwyddyn lle na fyddai gennych derfynau amser artiffisial ar gyfer gwariant o fewn blynyddoedd ariannol a fyddai bron yn sicr yn golygu y byddai arian yn cael ei wario'n wael ar ddiwedd un flwyddyn ariannol, ac os na, ni fyddai'n cael ei wario o gwbl a byddai'n cael ei ddychwelyd i Drysorlys y DU. Ni fyddai unrhyw frigdorri ar gyfer Lluosi; unwaith eto, trosedd ddybryd arall yn erbyn cyfrifoldebau datganoledig. Yr her yw: a yw Llywodraeth y DU yn barod i gyflawni'r addewidion y mae wedi eu gwneud; y rhai a wnaeth pan dorrodd ei haddewidion maniffesto; y rhai sy'n golygu ein bod ni dros £1 biliwn yn waeth ein byd? Rwy'n mawr obeithio y cawn rywfaint o eglurder ynghylch yr arian sy'n dod fel bod penderfyniadau'n cael eu gwneud, ond yn fwy na hynny, fel bod Llywodraeth y DU yn manteisio ar y cyfle i droi ei chefn ar y rheolau gwallgof y mae wedi'u gosod a fydd yn gwarantu gwariant gwael, ac rwy'n credu y bydd yn sicr yn golygu y bydd arian yn mynd yn ôl i'r Trysorlys, ac yn sicr nid dyna oedd yr hyn a elwir yn 'ffyniant bro' i fod i'w gyflawni.

14:05

Rwy'n ddiolchgar i Cefin Campbell am gyflwyno'r cwestiwn hwn, yn benodol mewn perthynas ag arwyddocâd cysylltiadau rhynglywodraethol cryf rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol wrth gwrs. Weinidog, ar bwnc trafodaethau rhynglywodraethol, rwy'n siŵr y byddwch chi a'ch cyd-Aelodau yn ymwybodol o'r cais trawsnewidiol ar gyfer y porthladd rhydd Celtaidd. Os caiff ei ddewis, bydd statws porthladd rhydd yn ne-orllewin Cymru yn cyflymu buddsoddiad mawr yn economi carbon isel Cymru ac yn cynnig llwyfan datblygu sylweddol ar gyfer diwydiannau gwyrdd newydd. Nid yn unig y bydd y weledigaeth hon yn sicrhau bod ffynonellau ynni Cymru a'r DU wedi'u diogelu, bydd yn rhyddhau manteision economaidd gwynt ar y môr arnofiol, cynhyrchu hydrogen a dal carbon, gan gynhyrchu miloedd o swyddi newydd medrus iawn o safon uchel. O ystyried bod y rhain yn elfennau hollbwysig er mwyn sefydlu economi Gymreig wydn wedi'i datgarboneiddio ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a gaf fi ofyn a yw'r Gweinidog yn rhannu fy angerdd am borthladd rhydd yn y môr Celtaidd, a'r manteision a ddaw yn sgil hynny? Diolch.

Roedd y drafodaeth ar borthladdoedd rhydd yn anodd, ond daeth i ben y pen draw mewn cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru, gyda'n cyfrifoldebau, a Llywodraeth y DU. Mae'n fodel lle ceir cyfrifoldebau penderfynu ar y cyd rhwng penderfynyddion cyfartal, a'r peth da am hynny yw ei fod wedi symud ymlaen o sefyllfa anffodus ac anghynhyrchiol iawn lle mae pobl yn gweiddi ac yn dweud, 'Bai Llywodraeth Cymru yw'r ffaith nad yw hyn wedi digwydd.' Pan oeddem yn cael trafodaethau go iawn rhwng Gweinidogion sy'n gwneud penderfyniadau, roeddem yn gallu dod i gytundeb y gallai pawb fyw gydag ef, ac mae hynny'n cynnwys materion datganoledig ynglŷn â bod gwaith teg yn rhan o'r fframwaith, ac mae hynny'n wahanol iawn i'r gronfa ffyniant gyffredin.

Ar eich pwynt penodol a'ch cwestiwn ynghylch cais penodol ar gyfer y rhaglen porthladdoedd rhydd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn deall na allaf roi unrhyw fath o arwydd o gefnogaeth iddo, oherwydd fi fydd y Gweinidog a fydd yn penderfynu o safbwynt Llywodraeth Cymru, ac nid wyf am ragfarnu fy mhenderfyniad, oherwydd rwy'n ymwybodol fod ceisiadau eraill yn cael eu gwneud, ac rwy'n edrych ymlaen at weld manylion y rheini.

Gweithwyr yn yr Economi Nos

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau hawliau gweithwyr sy’n gweithio yn yr economi nos? OQ58716

Rydym yn defnyddio ein hysgogiadau a'n dylanwad i hyrwyddo gwaith teg ar draws ein heconomi, ond dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r pwerau i wella hawliau gweithwyr statudol a'u gorfodaeth. Er hynny, rydym yn codi'r materion hyn yn gyson gyda Llywodraeth y DU.

Diolch, Weinidog. Pan oeddwn yn cerdded at y trên neithiwr, ar ôl i'r Senedd orffen, roeddwn yn ymwybodol iawn fod rhai o'r llwybrau cerdded ychydig yn unig, ac roedd yn dywyll, a phenderfynais ddilyn trywydd ychydig yn hwy, gan fentro colli trên, am y byddai'n teimlo'n fwy diogel gyda mwy o bobl o gwmpas. Mae arolwg cenedlaethol Cymru wedi darganfod nad yw menywod yn teimlo mor ddiogel â dynion pan fo'n dywyll. Mae 50% o ddynion yn teimlo'n ddiogel iawn, o'i gymharu â dim ond 23 y cant o fenywod. Pan fyddwn yn siarad am hawliau menywod sy'n gweithio yn economi'r nos a phan fyddwn yn sôn am eu grymuso, hoffwn ofyn sut y gallwn fynd i'r afael â'r broblem hon. Rydym eisiau i fwy o bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i'r gwaith, ond mae cerdded i ac o orsafoedd trenau a gorsafoedd bysiau yn gallu teimlo fel pe baech yn cymryd risg, yn enwedig yn hwyr yn y nos. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, beth fyddwch chi'n ei wneud i ystyried hyn, i helpu i sicrhau bod mwy o fenywod, sy'n gweithio yn y nos ac sy'n gorfod teithio yn y tywyllwch, yn teimlo'n ddiogel wrth deithio i ac o'r gwaith? 

Rwy'n deall bod yna broblemau go iawn ynghylch a yw pobl yn teimlo'n ddiogel pan nad yw ardaloedd wedi'u goleuo'n dda. Rwy'n deall bod hwnnw'n bryder penodol i fenywod ac a ydynt yn teimlo'n ddiogel neu beidio, yn enwedig os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu dilyn neu fod rhywun yn agosach atynt nag y dylent fod, ac nid yw'n ymwneud â chydnabod y mater yn unig, mae'n ymwneud â'r hyn sy'n cael ei wneud amdano, a'r her o weithio gyda phartneriaid eraill. Mae'n ymwneud â busnesau, rhanddeiliaid eraill, mae hefyd yn ymwneud â sgwrsio gydag awdurdodau lleol am rai o'r cyfrifoldebau sydd ganddynt hwy, a sgwrsio gyda fy nghyd-Aelod sy'n gyfrifol am drafnidiaeth yma am y fframwaith trafnidiaeth a'r cyfleusterau rydym eu heisiau. Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn teg i'w godi, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, a byddaf yn sicr yn edrych ymlaen at sgwrs, nid yn unig rhwng fy swyddogion, ond gyda chyd-Aelodau yn y weinidogaeth drafnidiaeth dan arweiniad y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a chydweithwyr y tu allan i'r Llywodraeth.

Weinidog, gall economi'r nos fod yn gyflogaeth fregus weithiau, ond mae'n hanfodol i'n diwylliant, ein cymunedau a'r economi. Mae'r gweithwyr hyn wedi wynebu'r gwaethaf o gyfyngiadau symud y pandemig, felly mae'n hanfodol eu bod yn cael cefnogaeth i gael eu cefnau atynt. Pa asesiad, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith y pwysau costau byw ar economi'r nos yng Nghymru?

14:10

Mae'r pwysau costau byw yn sylweddol ar draws economi'r nos a'r economi ymwelwyr, lletygarwch yn ehangach; mae unrhyw faes lle ceir gwariant dewisol o dan bwysau. Y pwysau o'r busnesau hynny a'u costau eu hunain ydyw wrth gwrs, felly y costau ynni a'r chwyddiant a welsom yn codi eto heddiw i dros 11 y cant, ac mae'n waeth na hynny mewn rhai sectorau wrth gwrs. Mae chwyddiant bwyd wedi cynyddu hyd yn oed ymhellach. Felly, mae honno'n her i gostau busnesau yn ogystal ag ynni, ac fel y dywedaf, pan fyddwch yn dibynnu ar bobl i wario gwariant dewisol ar bethau heblaw hanfodion, ni ddylai synnu pobl fod yna bwysau gwirioneddol yn y sector hwn a bod nifer o fusnesau eisoes yn lleihau eu dyddiau agor, eu horiau agor neu'r ddau.

Mae'n amlwg i mi fod rhai busnesau'n pryderu efallai na fyddant yn goroesi hyd ddiwedd y flwyddyn, heb sôn am y flwyddyn newydd. Dyna pam y mae'r penderfyniadau a fydd yn cael eu gwneud yfory mor bwysig mewn sawl ffordd, nid yn unig mewn perthynas ag ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ond beth y mae hyn yn ei olygu i bobl, i'w pocedi ac i fusnesau sy'n dibynnu arnynt i allu mynd allan a gwario. Felly, nid wyf yn hyderus am y dyfodol, rwy'n wirioneddol bryderus, a dyna pam rwy'n chwilio nid yn unig am y dewisiadau sydd i'w gwneud ond natur hirdymor y rheini a'r gefnogaeth y gellir ei darparu, a sut y gall Llywodraeth Cymru adolygu'r ysgogiadau sydd gennym yn ymarferol pan fydd y Canghellor wedi gwneud ei benderfyniadau yfory.

Canlyniadau'r Farchnad Lafur i Fenywod

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth y Llywodraeth ar gyfer gwella canlyniadau'r farchnad lafur i fenywod? OQ58707

Rwy'n nodi ystod o gamau gweithredu o fewn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau i sicrhau cymaint o degwch ag sy'n bosibl a chael gwared ar anghydraddoldeb. Mae hyn yn cynnwys gwella canlyniadau'r farchnad lafur i fenywod.

Diolch, Weinidog. Bu menywod o bob rhan o Gymru'n gorymdeithio yn ddiweddar dros sicrhau newid mewn arferion gweithle sydd ar hyn o bryd yn creu anfantais i famau. A bydd y Gweinidog yn ymwybodol o adroddiad newydd gan Chwarae Teg sy'n dangos bod y bwlch cyflog ar sail rhywedd yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel ar 11.3 y cant eleni. Ar bron i 30 y cant, mae'r bwlch ar ei uchaf yng Nghastell Nedd Port Talbot, yn y rhanbarth dwi'n ei chynrychioli—cynnydd o 9.1 y cant ers y llynedd. Mae dynion yn ennill mwy na menywod ym 15 o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru. Mae'r bwlch cyflog rhywedd ar gyfer gweithwyr llawn amser wedi cynyddu yng Nghymru o 4.9 y cant i 6.1 y cant. Fel ŷch chi wedi sôn, mae crybwyll cau bylchau cyflog lluosog yng nghynllun cyflogadwyedd a sgiliau'r Llywodraeth. Felly, a all y Gweinidog amlinellu pa gamau gweithredu sydd mewn lle er mwyn cau'r bwlch cyflog rhywedd, gan fod pethau'n amlwg ddim yn mynd i'r cyfeiriad iawn? A beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau bod y strategaeth bresennol i gau'r bwlch cyflog ar sail rhywedd yn cymryd i ystyriaeth effaith anghymesur yr argyfwng costau byw ar fenywod sy'n gweithio? Diolch.

Rwy'n aml yn cofio am fy amser cyn imi ddod i'r Senedd, a'r grwpiau o bobl roeddwn yn eu cynrychioli, gan gynnwys llawer o fenywod mewn hawliadau cyflog cyfartal, a deall bod yna anghydraddoldebau o ran canlyniadau cyflog hyd yn oed mewn gweithleoedd cyfundrefnol, ac mae rhai o'r rheini'n strwythurol ac yn ymwneud â gwahaniaethu o fewn y system gyflogau. Ac yna mae gennych her ehangach, wrth gwrs, fod gweithwyr rhan-amser yn dal i gael llai o gyflog na gweithwyr amser llawn, ac mae nifer anghymesur o weithwyr rhan-amser yn fenywod. Felly, rwy'n cydnabod bod yna ystod gyfan o strwythurau.

Mae gan y Llywodraeth rôl i wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud ag arwain, a bod yn glir am y ffaith bod hon yn broblem ac yna nodi rhai o'r pethau y byddwn yn eu gwneud, o ran yr ymyrraeth rydym am ei gwneud yn y farchnad lafur a chael mwy o bobl i fod yn weithgar yn economaidd, ond hefyd drwy arfogi'r bobl hynny i gael mynediad at waith cyflogedig gwell. Dyna yw pwrpas yr hyfforddiant sgiliau, ond mae rhai o'r pwyntiau y mae Julie Morgan wedi bod yn eu hamlinellu am y cynnig gofal plant ac ehangu hwnnw'n bwysig hefyd, i roi mynediad ymarferol i bobl at gyfleoedd gwaith cyflogedig ac i sicrhau bod gofal plant yn fforddiadwy. Felly, mae angen ystod eang o wahanol fesurau i drawsnewid ac i fynd i'r afael â bylchau cyflog yn iawn, a gweithredu cyson i drawsnewid strwythurau sefydliadol, polisi a chanlyniadau.  

Mae angen i'r sector preifat chwarae eu rhan hefyd. Nid oes gennym yr holl gyfrifoldebau cyfreithiol yn y maes hwn, ond fel y dywedaf, rwy'n credu bod y rôl arweiniol sydd gennym yn wirioneddol bwysig, a dyna pam ein bod yn proffilio pobl sy'n gwneud y peth iawn wrth wobrwyo eu gweithlu a chydnabod y ffaith y dylai pawb gael eu talu'n deg. Mae hefyd, felly, yn ymwneud â'r ffaith nad yw gwaith teg yn rhywbeth sy'n ymwneud â chynrychiolaeth a sefydliadau undebau llafur yn unig. Mae'n ymwneud â'r holl bethau hyn a'r mathau o gwmnïau rydym am weithio gyda hwy, ac mae'n rhan o'r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan bobl sydd eisiau cymorth o'r pwrs cyhoeddus yma yng Nghymru.

14:15

Diolch i fy nghyd-Aelod am ofyn y cwestiwn hwn. Cafodd y pandemig effaith sylweddol ar lesiant economaidd menywod. Rydym yn gwybod bod menywod yn tueddu i ennill llai ar gyfartaledd, fod ganddynt lai o gynilion, eu bod yn gweithio mwy yn yr economi anffurfiol ac yn ffurfio'r rhan fwyaf o aelwydydd un rhiant. Os ydym am ailffocysu ein sylw ar y canlyniadau i fenywod mewn gwaith, sut mae eich strategaeth yn adlewyrchu'r hyn a ddysgwyd o'r pandemig, a dynnodd sylw at heriau a risgiau sylweddol?

Rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod y pandemig wedi gwneud pethau'n anos. Rwy'n credu ei fod wedi gwthio llawer o grwpiau teuluol a chymunedol yn ôl lle roedd menywod yn ymgymryd â mwy o rôl gofalu a llai o'r rôl gweithgarwch economaidd. Mae hynny wedi mynd â ni'n ôl. Yn fy nheulu fy hun, bu'n rhaid i ni wynebu heriau go iawn ar y pryd gydag addysgu gartref, ond roedd yn rhan o fy ngwaith i wneud rhywfaint o hynny hefyd. Ni allwn ddweud, 'Mae fy swydd i'n bwysicach na swydd fy ngwraig, felly mae angen iddi hi ofalu am ein mab.' Mae e'n fab i minnau hefyd. Ac felly, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â sut rydym yn rhannu'r cyfrifoldebau hynny, ond rwy'n cydnabod bod y sefyllfa ehangach wedi ei gwneud hi'n anos.

Rwy'n credu mai dyma un o'r pwyntiau a wnaeth Sioned Williams ynghylch cydnabod rhai o'r heriau mewn perthynas ag effaith wahaniaethol yr argyfwng costau byw yn ogystal â'r pandemig. A'n her go iawn yw deall beth yw'r naratif a beth yw'r broblem, hefyd beth yw'r ysgogiadau sydd ar gael i ni. Heb os, bydd y newidiadau a gaiff eu gwneud yfory yn cael effaith. Oherwydd y realiti anochel, os ydych am weld symud yn ôl mewn perthynas â budd termau real y cymorth a roddir i deuluoedd drwy'r system dreth a budd-daliadau, yw y bydd yn gwneud hyn yn anos a bydd yn fynydd mwy i'w ddringo. Felly, bydd arweinyddiaeth, ond hefyd dewisiadau, a phwy rydym yn gweithio gyda hwy, yn rhannau hanfodol o wireddu hyn, yn hytrach na'i fod yn rhywbeth rydym ond yn siarad amdano'n unig a dweud ein bod i gyd wedi ymrwymo iddo mewn egwyddor.

Cynhyrchu Ynni ar y Môr

7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar hyrwyddo manteision economaidd cynhyrchu ynni ar y môr yng ngogledd Cymru? OQ58717

Rwy'n cael sgyrsiau rheolaidd gyda fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod y Gweinidog Newid Hinsawdd. Rydym yn llwyr sylweddoli manteision economaidd prosiectau ynni môr arfaethedig yng ngogledd Cymru; mae hyn yn arwyddocaol i Gymru gyfan. Fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau ein bod yn ceisio gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hyn i Gymru, gan gynnwys cyfleoedd yn y môr Celtaidd.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn deall manteision economaidd cynhyrchu ynni ar y môr, yn enwedig ar gyfer fy ardal yng ngogledd Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Weinidog, fod yna gyfleoedd gwych mewn perthynas ag ynni llanw, nid yn unig i gefnogi ein hinsawdd, ond hefyd i ddod â chyfleoedd gwaith uniongyrchol a buddsoddiad newydd i'n cymunedau lleol. Yr wythnos hon, cefais gyfarfod defnyddiol iawn gyda TPGen24, y mae ei dechnoleg yn defnyddio system sy'n seiliedig ar forlyn llanw sy'n harneisio ac yn defnyddio pŵer aruthrol ein hamrediad llanw i gynhyrchu ynni gwyrdd. Rwy'n deall eu bod nhw ac eraill wedi ymgysylltu â her morlyn llanw Llywodraeth Cymru, sydd, wrth gwrs, yn rhan o'ch rhaglen lywodraethu, ac rwy'n canmol ei huchelgais i gefnogi syniadau i wneud Cymru'n ganolfan fyd-eang i dechnoleg llanw sy'n datblygu. Weinidog, o gofio eu hymwneud â'r her honno ac ymwneud sefydliadau eraill â hi, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â hynt yr her morlyn llanw, a beth yw eich safbwynt ar gyfleoedd ynni llanw mewn perthynas â'r economi yma yng Nghymru?

Rwy'n credu bod gan ynni llanw gyfleoedd sylweddol i Gymru. Unwaith eto, nid yw'n ymwneud yn unig â chynhyrchu pŵer, ond mae'n faes lle mae technoleg newydd a math newydd o weithgarwch economaidd yn cael ei ddatblygu, ac rwyf eisiau gweld Cymru ar flaen y gad yn hynny o beth. Wrth gwrs, rydym eisoes wedi buddsoddi £59 miliwn o hen gronfeydd strwythurol i helpu i fwrw ymlaen â materion yn y maes hwn. Mae yna fwy nag un prosiect. Fe fyddwch yn ymwybodol o Morlais hefyd, a'r gwaith rydym wedi'i wneud gyda hwy. Ein her ni yw sut i fwrw ymlaen â'r her ynni llanw, ac yna deall sut i symud ymlaen o fod yn arddangoswr i ddefnydd masnachol, a'r ysgogiadau sydd ar gael i ni i wneud hynny o fewn y cymysgedd ynni ehangach y mae gennym gyfle i fanteisio'n briodol arno er budd economaidd sylweddol. Nid ar draws gogledd Cymru'n unig y bydd hynny'n digwydd wrth gwrs, bydd cyfleoedd ynni llanw o gwmpas gweddill ein harfordir hefyd. Byddaf fi neu'r Gweinidog newid hinsawdd yn darparu diweddariad mwy pwrpasol maes o law pan fyddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.

Y Sector Manwerthu

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei gweledigaeth strategol a rennir ar gyfer y sector manwerthu? OQ58701

14:20

Lansiwyd ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer manwerthu ym mis Mehefin, ac roedd yn nodi dechrau sgwrs ehangach a dyfnach gyda'r sector. Mae fforwm manwerthu Cymru, sy'n cynnwys partneriaid o fyd busnes ac undebau llafur—ac rwy'n siŵr bod yr Aelod ac eraill wedi cael cyfle i weld un o'r partneriaid hynny, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, yn lansiad eu hymgyrch Rhyddid rhag Ofn—wedi bod yn cydweithio ar gynllun cyflawni o gamau blaenoriaeth ar gyfer y sector. Mae'r cynllun yn agosáu at ei gamau olaf ac fe fydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl ei gwblhau wrth gwrs.

Diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd sector manwerthu Cymru. Rydym yn gwybod bod dros 110,000 o bobl yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y diwydiant. Yn ddiweddar, cyfarfûm â phrif weithredwyr busnesau mawr yn y sector manwerthu, a mynegodd pob un ohonynt eu pryderon difrifol am y ffaith bod manylion hanfodol ar goll o weledigaeth strategol gyffredin Llywodraeth Cymru.

Mae cadw a recriwtio staff yn broblemau enfawr sy'n wynebu'r diwydiant, fel y maent wedi'i ddweud wrthyf, ond eto nid yw strategaeth y Llywodraeth yn amlinellu camau pendant i oresgyn y rhwystr hwnnw. Mae'r prif weithredwyr hefyd yn honni y byddai rhewi ardrethi busnes fis Ebrill nesaf, cam nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo eto, yn rhoi hwb i'w groesawu, yn yr un modd ag y byddai addasiad i'r lluosydd. Os na fydd y pethau hyn yn digwydd, maent yn rhybuddio y bydd Cymru hyd yn oed yn llai cystadleuol.

Mae busnesau wedi dweud wrthyf eu bod yn daer angen sefydlogrwydd a sicrwydd. Weinidog, a ydych yn cydnabod eu pryderon, ac a wnewch chi bopeth yn eich gallu i edrych ar ardrethi busnes, gan gynnwys y lluosydd, sy'n golygu bod gwneud busnes yma yn ddrutach nag unrhyw le arall yn y DU ar hyn o bryd? Y pethau hyn fydd yn penderfynu dyfodol y busnesau hyn yn y pen draw. 

Diolch am y cwestiwn. Yn sicr rwy'n cydnabod yr heriau sylweddol sy'n bodoli o fewn y sector. Yn ddiweddar, roeddwn gyda'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn y digwyddiad ymgynghori ar y cynllun manwl. Unwaith eto, mae'r undeb llafur blaenllaw, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, ynghyd â chydweithwyr eraill a Chonsortiwm Manwerthu Cymru, y byddwch chi'n gyfarwydd â hwy—eich cyn ddirprwy arweinydd, Sara Jones—yn cynrychioli'r sector ac yn dod â'r sector at ei gilydd.

Maent yn codi amryw o faterion. Maent yn sicr yn chwilio am sefydlogrwydd a sicrwydd gan y Llywodraeth, ac maent yn ei gael, oherwydd rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â hwy i ddatblygu'r weledigaeth, ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â hwy i gyflwyno cynllun. Byddwn yn ei gyhoeddi wedyn, ac mae'n ddigon posibl y byddwn yn ymrwymo i wneud pethau o ganlyniad i hynny. Dyna'r gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd.

Rwy'n cydnabod yr her ynghylch cadw a recriwtio pobl. Mewn gwirionedd rydym wedi bod yn bositif iawn am fod eisiau pobl ac annog pobl i ddilyn gyrfa yn y sector. Ac mewn gwirionedd, dylai'r weledigaeth a'r cynllun cyflawni helpu i adeiladu ar hynny. Mae hyn yn ymwneud â mwy na chyflogaeth dymhorol yn unig. Mae gyrfa go iawn i'w chael yn y sectorau hyn hefyd. Felly, nid yw'r ymgynghoriad ar y cynllun cyflawni wedi dod i ben. Byddwn yn sicr yn ystyried y safbwyntiau rydym wedi'u clywed yn ddiweddar.

Codwyd y pwynt ynglŷn â chyfraddau yno hefyd, ond byddwn yn atgoffa'r Aelod yn garedig, o ystyried nad yw yfory wedi bod eto, nad yw'r amlen ariannol y mae'n rhaid i ni weithredu ynddi yn glir i ni eto. Mae ein hymrwymiad ar ardrethi busnes yn para hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, ond mae angen inni ddeall beth a ddaw yfory; a fydd yn cynyddu ein gallu i wneud mwy, neu a fydd yn gwneud yr her yn anos fyth, fel y bydd yn gwybod mewn ffordd ymarferol iawn o'i gyfnod yn arwain awdurdod lleol a gorfod gwneud y dewisiadau anodd neu ymarferol hyn.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.

O'r Ysbyty i'r Cartref

1. Pa asesiad diweddar y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r gwasanaeth ysbyty i'r cartref a ddarperir drwy'r bartneriaeth rhwng Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Tywysoges Cymru? OQ58690

Mae'r gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi canlyniadau positif ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth. Mae wedi helpu i leihau nifer y dyddiau gwely a ddefnyddir yn Ysbyty Tywysoges Cymru drwy gefnogi rhyddhau amserol, ac mae wedi cefnogi pobl sy'n agored i niwed i gynyddu eu hincwm i'r eithaf drwy fynediad at fudd-daliadau perthnasol.

Weinidog, rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol hwnnw. Mynychodd Sarah Murphy a minnau ddigwyddiad dathlu fis diwethaf i nodi'r ffaith bod 10,000 o bobl wedi cael eu hatgyfeirio at y llwybr hwnnw o Ysbyty Tywysoges Cymru, drwy Ofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n wasanaeth cofleidiol i'r unigolyn, sy'n sicrhau bod yr addasiadau cartref yn cael eu gwneud, fod y nyrsio a gofal clinigol arall—ond hefyd cefnogaeth arall, gan gynnwys pethau fel asesiad budd-daliadau—yn cael eu gwneud pan fydd yr unigolyn yn mynd adref. Mae'n torri tir newydd. Mae wedi gosod y safon, rhaid imi ddweud, i wasanaethau ysbytai ac ymddiriedolaethau eraill a phartneriaethau ledled Cymru.

Tybed a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch yr holl bobl hynny, fel Meinir Woodgate, y rheolwr gwasanaeth; pobl fel Rena; pobl fel Christine Beadsworth, gweithiwr achos o'r ysbyty i'r cartref, a phawb sy'n cyfrannu at y bartneriaeth lwyddiannus? A wnewch chi roi gwybod pa sicrwydd y gallwn ei roi y bydd y mathau hyn o bartneriaethau yn parhau i atgyfeirio, nid 10,000 o bobl yn unig, ond 20,000 a 30,000 a 100,000 o bobl drwy Gymru benbaladr?

14:25

Diolch yn fawr, a diolch am eich diddordeb yn y rhaglen wirioneddol bwysig hon. Oherwydd ein bod yng nghanol argyfwng costau byw, dyma'r adeg pan fo angen inni roi ein breichiau o amgylch pobl a allai fod o dan lawer o bwysau. Mae gennym gyfle yn y gwasanaeth iechyd i wneud i bob cyswllt gyfrif, ac mae hynny'n rhan o'r hyn rydym yn ei wneud yma gyda'r rhaglen arbennig hon. Mae'n eithaf rhyfeddol, rwy'n credu, os edrychwch chi ar y gwasanaeth—rwy'n credu bod 628 o hawliadau budd-dal llwyddiannus wedi bod ers mis Ebrill 2021 gyda chyfartaledd o £3,800 y flwyddyn o incwm ychwanegol i bob claf. Mae hynny'n drawsnewidiol i'r teuluoedd hyn. Mae'n swm enfawr o arian, ac mae ganddynt hawl iddo. Felly, rhaid inni sicrhau bod pobl yn deall bod y gwasanaeth hwn ar gael.

Mae llawer o wasanaethau eraill ar gael. Rwy'n gwybod bod Jane Hutt wedi bod yn hyrwyddo gwasanaethau rydym yn eu hyrwyddo gyda Cyngor ar Bopeth a'r lleill i gyd, ond mae hwnnw'n incwm cyffredinol o £2,391,000. Mae hynny'n enfawr. Mae hwnnw'n arian sy'n mynd i'w pocedi hwy, ond hefyd i gymunedau lleol ar ôl hynny. Felly, hoffwn ddiolch iddynt am hynny. Yng Nghwm Taf Morgannwg yn arbennig, rydym wedi gweld 217 o gleifion yn cael eu cefnogi. Mae'n rhyfeddol. Ac mae'n ymwneud â mwy nag asesu budd-daliadau'n unig, fel y dywedwch, mae'n ymwneud ag addasu a phopeth. Felly, hoffwn ymuno â chi i ddiolch i Meinir, Rena a'r lleill am eu gwaith, ac rwyf wedi ei gwneud yn glir y byddwn yn siomedig pe bai'r gwasanaethau a'r prosiectau llwyddiannus hyn yn cael eu datgomisiynu. Mae pawb ohonom dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd. Mae pawb yn deall y pwysau, ond yn amlwg mae hwn yn faes lle mae gan y bobl hyn hawl i'r cymorth hwn, ac mae angen inni roi ychydig o help llaw iddynt gyrraedd yno. 

Weinidog, rydym yn gwybod bod ysbytai'n ei chael hi'n anodd rheoli eu capasiti gwelyau, gyda gormod o bobl sy'n ddigon iach yn feddygol i'w rhyddhau ond nid yw'n bosibl gwneud hynny am amryw o resymau. Mae'r cynllun o'r ysbyty i'r cartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn un fenter y dylem ddysgu ohoni, ond pa gamau eraill y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i helpu pobl i symud o'r ysbyty, fel rhaglenni rhyddhau i asesu mwy uchelgeisiol i helpu nid yn unig ein hysbytai, ond yn bwysicaf oll, yr unigolion y gellid asesu eu hanghenion yn well i ffwrdd o amgylchedd yr ysbyty?

Diolch yn fawr, Altaf. Mae'n debyg fy mod yn treulio cymaint o amser ar oedi wrth drosglwyddo gofal, fel rydych wedi nodi, ag ar unrhyw beth arall. Mae tagfeydd drwy'r system, rydym yn gwybod hynny, ond mae hon yn dagfa benodol. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gydag awdurdodau lleol—cefais un ddoe—i edrych ar yr hyn y gallwn ei gyflawni yn y maes hwn. Mae'n anodd nawr, ond mae'r gaeaf yn dod, a rhaid inni geisio cael cymaint o gapasiti â phosibl yn ein cymunedau. Rydym yn gwneud rhywfaint o gynnydd yma, ac rwy'n gobeithio y gallaf roi diweddariad i chi'n fuan iawn ar yr hyn y mae'r gwaith partneriaeth gydag awdurdodau lleol wedi gallu ei gyflawni hyd yma, a'r hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni dros y gaeaf.

Rydym yn gwybod beth yw'r broblem. Nid yw'r atebion yn hawdd oherwydd mae'n ymwneud â gweithwyr gofal, ac roeddwn wrth fy modd yn gwrando ar yr hyn oedd gan Unsain i'w ddweud yn gynharach. Mae llawer o faterion rhyng-gysylltiedig yma, ond mae oedi cyn trosglwyddo gofal yn rhan o'r hyn sy'n tagu'r system. Nid dyna'r unig beth. Mae'n bwysig iawn inni ddeall nad dyna'r unig beth, ond mae'n rhan sylweddol o'r broblem. 

Amseroedd Aros Ambiwlansys yn Nwyrain De Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ambiwlansys yn Nwyrain De Cymru? OQ58685

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlans ym Mlaenau Gwent? OQ58699

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i dorri amseroedd aros ambiwlansys? OQ58708

Dyw amseroedd ymateb ambiwlansys ar draws Cymru ddim ble ddylen nhw fod, ond ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan oedd â’r perfformiad gorau yng Nghymru ym mis Medi yn erbyn y targed cenedlaethol ar gyfer galwadau coch. Mae cynllun cenedlaethol yn ei le i sbarduno gwelliant ambiwlansys gyda chefnogaeth £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

14:30

Diolch am yr ateb yna, Weinidog.

Weinidog, bron bob wythnos, mae yna gwestiynau'n ymwneud â'r oedi annerbyniol sy'n wynebu cleifion wrth aros am ambiwlansys, ac mae pob achos o oedi'n creu perygl i fywydau pobl. Mae etholwr wedi cysylltu â mi ar ôl achos o oedi o'r fath yn y Fenni yn gynharach yn y mis. Roedd yr etholwr mewn parti pen-blwydd priodas ac aeth un o'r rhai oedd yn bresennol yn sâl iawn a syrthio'n anymwybodol. Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ac er mawr syndod ac arswyd i'r rhai oedd yn bresennol, dywedwyd wrthynt y byddai'n rhaid aros saith awr am ambiwlans. Nawr, yn ffodus, dadebrodd yr unigolyn dan sylw, ond fe allai mor hawdd fod wedi bod yn wahanol iawn. Roedd yr un etholwr yn cofio digwyddiad tebyg chwe blynedd yn ôl adeg y Nadolig, pan alwyd am ambiwlans ac fe gyrhaeddodd o fewn munudau. Maent wedi dweud bod y digwyddiad mwy diweddar wedi gwneud iddynt deimlo pe baent yn mynd yn sâl yn sydyn, na fyddai unrhyw bwrpas galw am help. Felly, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi ac i fy etholwr y bydd y sefyllfa'n gwella?

Wel, gallaf eich sicrhau nad eich etholwr yn unig sy'n gofyn cwestiynau; rwy'n gofyn cwestiynau yn gyson iawn i'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru. Fe gyfarfûm â hwy ddydd Llun, neu ddoe, i fynd drwy eu perfformiad yn fanwl. Yr eironi yw eu bod hwy mewn gwirionedd yn cyrraedd mwy o bobl nag y gwnaethant erioed o'r blaen. Felly, mae eu perfformiad yn gwella mewn gwirionedd. Y broblem yw bod y galw wedi codi i'r entrychion, a dyna lle mae'r broblem go iawn. Ac mae hynny'n heriol tu hwnt ac yn amlwg, rydym eisoes wedi recriwtio 250 o bobl dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cefais fodd i fyw gynnau, roeddwn i'n digwydd bod allan ar y stryd lle gwneuthum basio un neu ddwy o ambiwlansys—pryd bynnag y gwelaf ambiwlans, rwy'n mynd i edrych i weld, 'Pam nad ydych chi'n codi rhywun?' a bechod, gallwch ddychmygu eu harswyd pan fyddant yn gweld y Gweinidog iechyd yn dod heibio—a phobl yn hyfforddi oeddent; hwy yw'r garfan nesaf, y 100 o bobl nesaf sy'n hyfforddi, ac sy'n mynd i fynd allan ar y strydoedd cyn gynted â phosibl. Mae ganddynt eu prawf yfory ac fe wnes ddymuno'r gorau iddynt, oherwydd rydym eu hangen allan ar ein strydoedd. Ond rwyf wrth fy modd fod hynny'n gweithio'i ffordd drwodd nawr.

A'r peth arall i'w gofio yw, pe na baem wedi rhoi llawer o fesurau ar waith yn barod, byddai'r sefyllfa wedi bod yn llawer iawn gwaeth na'r hyn ydyw nawr.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb cynharach hwnnw. Mae'n sicr yn wir fod pobl eisiau'r lefel honno o sicrwydd y bydd ambiwlans ar gael pe baent hwy, neu aelod o'u teulu, yn mynd yn ddifrifol sâl ac angen ambiwlans. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n gallu darparu'r lefel hwnnw o hyder i bobl. Ac mae pobl yn sôn wrthyf am yr amseroedd aros, ond hefyd am strwythur y gwasanaeth i ddarparu'r math o ymateb y mae pobl ei angen.

Fe fyddwch yn gwybod bod cryn ddadlau wedi bod ynghylch trefniadau rotas dyletswyddau parafeddygon a staff ambiwlans a hefyd symud adnoddau ac asedau i wahanol leoliadau o gwmpas ac ar draws y wlad. Fe fyddwch hefyd yn gwybod bod fy etholaeth ymhlith y rhai sydd â'r amseroedd aros gwaethaf, nid yn unig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ond mewn mannau eraill hefyd. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd eich bod yn gweithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans i sicrhau bod gennym y staff lle mae angen iddynt fod a'r asedau a'r adnoddau lle mae angen iddynt fod i ddarparu'r ymateb mwyaf cynhwysfawr i bobl ble bynnag fo'i angen neu beth bynnag yw eu lleoliad? 

Ie, diolch. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod pobl yn deall holl gefndir hyn. Felly, beth na allwch ei wneud yw dweud wrthyf, wythnos ar ôl wythnos, 'Mae angen i chi wneud hyn, llall ac arall i wella arbedion effeithlonrwydd'. Mae gennym grŵp annibynnol i edrych yn iawn ar arbedion effeithlonrwydd—sut mae cael mwy allan o'r system? Mae'r adolygiad annibynnol yn edrych ar y dadansoddiad, yn dweud wrthych, 'Mewn gwirionedd, mae angen ichi ailstrwythuro—gallwch wneud i'r system hon weithio'n well os ydych chi'n aildrefnu rotas dyletswyddau', ac mewn gwirionedd, mae aildrefnu rotas yn mynd i wella nifer y bobl i gyfateb i 74 o bobl ychwanegol ar y rheng flaen. Felly, efallai y bydd ychydig yn anghyfforddus am ychydig, tra bod yr aildrefnu'n digwydd, ond o ran y system gyffredinol, mae'n rhaid i mi wneud i'r system gyffredinol weithio'n well, ac mae'r 74 lle cyfatebol ychwanegol hynny yn arbediad effeithlonrwydd o ganlyniad i drefnu rotas dyletswyddau. Felly, ni allwch ei chael y ddwy ffordd—ni allwch ddweud wrthyf am ailstrwythuro, a fy mod i'n dweud, 'Iawn, rwy'n mynd i sicrhau arbedion effeithlonrwydd', a'ch bod yn dweud wrthyf wedyn, 'O, nid ydym ei eisiau fel hynny'. Dyna'r penderfyniadau y mae'n rhaid i mi eu gwneud fel Gweinidog iechyd, ac rwy'n gwneud y penderfyniad hwnnw.

14:35

Weinidog, rydych chi wedi dweud yn gyson eich bod yn edrych ar ddull system gyfan, o feddygon teulu i oedi cyn trosglwyddo gofal, a byddem yn cytuno â hyn. Ond mae dros flwyddyn bellach ers i chi gyhoeddi eich chwe nod ar gyfer gofal brys, ac mae'r sefyllfa wedi gwaethygu. Nid bai parafeddygon gweithgar yw dim o hyn wrth gwrs, ond yn hytrach, y cynllunio gwael gan y Llywodraeth Lafur hon. Weinidog, nid ydym wedi anghofio bod y Gweinidog diwethaf wedi dweud y byddai'n beth ffôl cyhoeddi cynllun adfer tra bod y pandemig yn dal i fynd rhagddo, a nawr rydym yn talu'r pris. Weinidog, rydym yn agosáu at y gaeaf, fel y nodoch chi'n gynharach; rydym yn gwybod y bydd y sefyllfa'n dirywio, hyd yn oed heb streic nyrsys. Pa fesurau brys rydych chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw ein gwasanaeth ambiwlans yn talu'r pris am gynllunio gwael gan y Llywodraeth hon?

Wyddoch chi, nid wyf yn mynd i oddef mwy o hyn mwyach; rwy'n dechrau cael llond bol arno. Yr holl waith a wnaethom ar hyn, y gwahaniaeth y mae'r £25 miliwn a roesom tuag at y chwe nod gofal brys ac argyfwng—rwy'n effro'r nos, nid yn unig yn poeni am y dyfodol, ond yn poeni sut y gallai'r dyfodol fod wedi bod pe na baem wedi darparu'r holl fuddsoddiad hwnnw. Felly, i roi ychydig o enghreifftiau i chi: mae gennym wasanaethau gofal brys ar yr un diwrnod erbyn hyn; rydym wedi gweld derbyniadau brys ym mis Hydref, roeddent 20 y cant yn is na'r lefelau cyn y pandemig—mae hynny oherwydd ein bod wedi gwneud y newid, mae hynny oherwydd ein bod wedi darparu'r buddsoddiad hwnnw. Felly, rwy'n gwybod ei bod hi'n ddrwg; mae hynny oherwydd bod y galw wedi cynyddu. Ond mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall pa mor ddrwg y gallai fod wedi bod oni bai ein bod ni wedi cynnwys y systemau hynny. Y canolfannau gofal sylfaenol brys—rydym yn gweld 5,000 o bobl y mis a allai fod wedi mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys—[Torri ar draws.] Wrth gwrs nad yw'n ddigon. Byddai'n helpu pe na bai eich Llywodraeth chi'n mynd i dorri ein cyllid ddydd Iau, a dweud y gwir, er mwyn ein helpu i roi mwy o arian yn y system—

Rwy'n gyfrifol, ond gadewch imi ddweud, nid yw wedi helpu fod gennyf bobl bellach yn gweithio yn y GIG sydd, o ganlyniad uniongyrchol—canlyniad uniongyrchol—i Lywodraeth Liz Truss, na wnaeth bara'n hir iawn, yn gweld eu morgeisi'n codi—[Torri ar draws.] Mae eu morgeisi'n codi, a'ch bai chi a'ch problem chi yw hynny, ac mae'n rhaid ichi gymryd cyfrifoldeb am hynny.

Lywydd, hoffwn ddefnyddio fy nghwestiwn i godi mater trosglwyddo cleifion ambiwlans yn yr ysbyty, sy'n cyfrannu at amseroedd aros hirach. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty'r Faenor, a dynnodd sylw at lawer o ddiffygion. Ac nid wyf yn feirniadol o'r staff o gwbl; rwy'n feirniadol o'r systemau. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith, ar y diwrnod y digwyddodd archwiliad AGIC, fod yr amser dadlwytho cyfartalog yn yr ysbyty dros bedair awr. Roedd un claf wedi aros am 18 awr yng nghefn yr ambiwlans, ac un arall am 13 awr. Ac mae llawer o fethiannau eraill wrth drosglwyddo cleifion yn cael sylw yn yr adroddiad, h.y. defnyddio trolïau ambiwlans am gyfnodau hir, ac nid oedd hynny'n addas o gwbl. Ac mae'n tynnu sylw at broblem wirioneddol trosglwyddo cleifion. Rwy'n gwybod y bydd hynny'n cael ei drin ar wahân, ond Lywydd, os ydym am dorri amseroedd aros ambiwlans, mae'n amlwg fod angen inni wella gweithdrefnau trosglwyddo cleifion, sydd, yn ei dro, yn golygu creu capasiti ychwanegol mewn cyfleusterau damweiniau ac achosion brys, fel bod modd brysbennu pobl yn gyflym.

Weinidog, pa mor hyderus ydych chi y bydd yr arian ychwanegol sydd wedi'i gyhoeddi gan y Llywodraeth i gefnogi gwasanaethau brys a gofal argyfwng yn arwain at fwy o gapasiti yn y gwasanaethau, yn enwedig wrth inni agosáu at y gaeaf? A sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda byrddau iechyd lleol i sicrhau bod cleifion sy'n gorfod aros mewn ambiwlans cyn mynd i mewn i'r ysbyty yn cael digon o ofal a chymorth ac urddas, a'r feddyginiaeth a'r offer sydd eu hangen arnynt?

Diolch yn fawr, Peter. Ac rydych chi'n hollol iawn—mae'r heriau mewn perthynas â throsglwyddo cleifion mewn byrddau iechyd yn rhywbeth rwyf fi, fel y Gweinidog iechyd, yn cadw'r pwysau arno. Beth sy'n ddiddorol—. Felly, rydym wedi gofyn i bob bwrdd iechyd nawr i ddangos i ni beth yw eu cynllun. Ac mae'n ddiddorol iawn, achos mae'r cynlluniau yn dra gwahanol o un bwrdd iechyd i'r llall. Ac rwyf am grybwyll bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, achos maent wedi canolbwyntio'n fanwl a dweud 'Iawn, dyma'r pethau rydym ni'n mynd i'w gwneud.' Ac o ganlyniad i'r ffocws hwnnw, gwelsom y trosglwyddiadau pedair awr yn gwella. Ac felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud nawr yw sicrhau bod pawb arall yn dysgu o'r enghraifft honno. Felly, fe wyddom beth sy'n gweithio; gadewch inni gael pawb arall i'w wneud. A'r fantais o gael gwasanaeth iechyd Cymreig yw bod gennym allu o'r fath i gydlynu.

14:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies. 

Rwy'n mynd i gyfeirio fy nghwestiynau llefarydd y tro hwn tuag at ardal fy mebyd, sef y Rhyl ac ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych i fyny yn yr ardal honno, neu ddiffyg ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych o ran hynny ar safle'r Royal Alexandra. Ers 10 mlynedd bellach, mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, yng nghysgod Nye Bevan, yn amddifadu pobl leol ar arfordir sir Ddinbych o gyfleuster a fydd yn darparu ar gyfer problemau iechyd llawer o bobl, mewn ffordd a fydd yn tynnu'r pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd ac yn lleihau amseroedd aros. 

Nawr, yn ôl yn 2012, cost y prosiect oedd £22 miliwn, gan ddyblu i £44 miliwn yn 2017. Pwy a ŵyr beth fyddai ei gost yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni? Felly, pe bai'r Llywodraeth Cymru ddigyfeiriad hon wedi gweithredu ddegawd yn ôl, a wnaiff y Gweinidog ddatgelu heddiw y byddai gan bobl yn y Rhyl, Prestatyn a gogledd sir Ddinbych gyfleuster iechyd lleol bellach a fyddai wedi bod yn fforddiadwy?

Wel, nid oeddwn yn y Senedd 10 mlynedd yn ôl hyd yn oed, felly ni allaf ddweud wrthych, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod gwneud—. Mae'n rhaid i chi ystyried bod bil o £22 miliwn yn wahanol iawn i'r hyn fyddai'r bil heddiw, sef £80 miliwn—a yw'n £80 miliwn, tua £80 miliwn; £74 miliwn neu oddeutu hynny—sy'n wahaniaeth sylweddol. A gadewch inni gofio bod hyn pan nad yw'r gyllideb gyfalaf yn cynyddu. Felly, mae honno'n broblem i ni, ac ni allwn wneud llawer am y cyfalaf hwnnw oni bai ein bod ni'n cael mwy o arian gan Lywodraeth y DU. Ac rwy'n gwybod beth rydych chi'n mynd i'w ddweud; rydych chi'n mynd i ddweud 'Ie, cymerwch gyfrifoldeb'. Fe wnaf gymryd cyfrifoldeb os—[Torri ar draws.] Rwy'n cymryd cyfrifoldeb, ond os nad oes gennyf y gyllideb gyfalaf, sut ar y ddaear ydw i i fod i fynd i'r afael â'r materion rydych chi fel Torïaid am i mi fynd i'r afael â hwy? 

Siaradwch â'ch penaethiaid yn Llundain, dywedwch wrthynt am roi mwy o gyfalaf i mi ac fe wnaf ystyried beth y gallwn ei wneud yng ngogledd Cymru. 

Wel, nid wyf yn derbyn yr ateb hwnnw, Weinidog iechyd, gan fod hyn wedi'i ddatganoli fel cyfrifoldeb eich Llywodraeth ers bron i chwarter degawd. Ac mae'n ddiddorol eich bod chi'n dweud, yn ôl yn 2018, 2019, pan oeddech chi'n crafu'n ddiobaith am bleidleisiau, fod eich rhagflaenydd, Vaughan Gething, a fy rhagflaenydd i, Ann Jones o'r Blaid Lafur, wedi postio fideo ar y cyfryngau cymdeithasol—[Torri ar draws.]

Fel y dylai fod. Fe gyhoeddodd Ann Jones o'r Blaid Lafur fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn yr union Senedd hon yn dweud y byddai Llywodraeth Cymru'n darparu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych, a bod Llafur yn gweithio i bobl Dyffryn Clwyd. Nawr, mae'r fideo wedi cael ei ddileu a'i anghofio, yn gyfleus iawn, ond rwy'n gwybod beth a welais, Weinidog, ac mae gennyf gof da, yn anffodus i chi. Felly, a wnewch chi gyfaddef nawr eich bod wedi gwneud cam â fy etholwyr yn sir Ddinbych, a'ch bod wedi eu twyllo i gredu bod eich plaid yn gweithio ar ran trigolion lleol?

Felly, yn sydyn iawn, fi sy'n gyfrifol am gynnwys cyfryngau cymdeithasol pawb o fewn y grŵp Llafur. Mae'n ddrwg gennyf, bobl, nid wyf am gymryd hynny. Mae gennyf ddigon o gyfrifoldeb fel y mae. Nid oedd Ann yn y Llywodraeth, ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i chi ddeall hynny. Os yw hynny'n wir, rwy'n mynd i'ch gwneud chi'n gyfrifol am yr hyn a ddywedodd Liz Truss. A ydych chi eisiau gwneud hynny? Fe wnaf eich gwneud chi'n gyfrifol am hynny. 

A gaf fi wneud y pwynt nad yw Ann Jones yma i amddiffyn ei hun? Nid yw hi'n Aelod o'r Senedd hon mwyach ar hyn o bryd. Pe bai hi, rwy'n tybio y byddai ganddi rywbeth i'w ddweud ar y pwynt hwn. Ond rwyf am ofyn i chi ofyn eich trydydd cwestiwn. 

Wel, fel Aelod etholaeth sydd â diddordeb mawr yn y mater hwn, rwy'n credu mai fy nyletswydd, fel yr Aelod dros yr etholaeth honno, yw tynnu sylw at hanes y sefyllfa hon—[Torri ar draws.]

Iawn. Efallai eich bod chi'n dweud hynny, Weinidog, ond cefais gyfarfod gyda chadeirydd a chyfarwyddwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddoe, ac roeddent yn dweud yn bendant wrthyf eu bod wedi gwneud popeth yn eu gallu ar eu hochr hwy i gyflwyno eu hachos busnes i chi, gweithdrefnau cynllunio ac unrhyw beth arall sy'n berthnasol i'w cylch gwaith. Felly, maent yn aros i chi weithredu, Weinidog. Mae pobl yn y Rhyl, Prestatyn a gogledd sir Ddinbych wedi cael addewid o hyn ers degawd, heb i raw fynd i mewn i'r ddaear nac unrhyw dystiolaeth bendant fod y Llywodraeth hon yn gwneud unrhyw beth. Mae'n rhaid i bobl yn fy etholaeth deithio mor bell â Bae Colwyn, Llandudno a hyd yn oed Bangor a Threffynnon ar adegau i gael triniaeth cam-i-lawr, ac nid oes gan bob unigolyn gar preifat at eu defnydd, ac maent yn gorfod dibynnu ar system drafnidiaeth gyhoeddus sydd yr un mor ddiffygiol o dan y Llywodraeth Lafur hon. Felly, a wnewch chi gyfarfod â'r bwrdd iechyd cyn gynted ag y bo modd a thrafod y problemau hyn er mwyn rhoi sicrwydd i'r bobl leol fod y Llywodraeth hon ar ochr y bobl? Ac os na allwch chi warantu hynny, a wnewch chi gyfaddef nawr eich bod chi wedi gwneud cam â phobl Dyffryn Clwyd?

14:45

Nid wyf yn gwybod—. Mae'n wir i mi gwestiynu cyn imi gerdded i mewn yma pam fy mod yn ateb cwestiynau gan lefarydd sy'n llefarydd ar ofal ynghylch materion sy'n gysylltiedig ag iechyd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallai'r Llywydd edrych arno o bosibl.

Na, nid yw'r Llywydd am wneud sylw ar hynny. Mater i'r grŵp Ceidwadol yw penderfynu sut maent am rannu cwestiynau i'w llefarwyr ac a ydynt am ganolbwyntio ar ardal benodol o Gymru.

Dim pwynt o drefn. Rydych chi'n ceisio eich gorau, Huw Irranca-Davies, ond rwy'n mynd i ofyn i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiwn.

Iawn, gadewch inni barhau. Gadewch inni barhau. Gallwn fynd ar drywydd hyn wedyn. Gallwn fynd ar ei drywydd wedyn. Gwrandewch, gadewch i mi ddweud wrthych—[Torri ar draws.]

Os oes ganddi'r cwrteisi i ymateb, yna, dewch, gadewch inni ei gael. Gadewch inni ei gael. Dewch.

Rwy'n siŵr ein bod ni eisiau—. Rwy'n credu bod rhai pobl yn gadael nawr. Rwy'n mynd i ofyn i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiwn, ac fe ofynnaf i bob Aelod fod yn dawel er mwyn gwrando.

Nid oes ateb i'r cwestiwn hwn. Nid wyf yn gofyn i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiwn, oherwydd mae pethau wedi mynd allan o drefn. Fe gawsoch chi'ch cyfle, Gareth Davies. Fe ofynnaf i chi os ydych chi am adael yn dawel nawr, os ydych chi eisiau.

Fe wnaf adael, ac mae'n sarhad ar ddemocratiaeth. Mae'n sarhad ar ddemocratiaeth.

Nac ydy. Rydych chi wedi gofyn pob un o'ch cwestiynau; nid yw'n sarhad ar ddemocratiaeth mewn unrhyw ffordd.

Fe wnewch chi ymddiheuro i'r Gadair cyn i chi gael ailfynychu'r Siambr, a byddaf yn disgwyl yr ymddiheuriad hwnnw'n fuan. Rwy'n symud ymlaen nawr at gwestiwn 3, Sarah Murphy. [Torri ar draws.] Fe gymeraf bwynt o drefn ar y diwedd. Sarah Murphy i ofyn y cwestiwn, os gwelwch yn dda.

Edrychwch, rwy'n cymryd—. Rwy'n gofyn i chi eistedd, iawn. Fe gymeraf bwynt o drefn ar ddiwedd y cwestiynau hyn. Sarah Murphy, cwestiwn 3. Gofynnwch y cwestiwn, ac rwy'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog ymateb.

A, iawn. Sarah Murphy, mae gennych beth amser.

Rhun ap Iorwerth, cwestiynau llefarydd.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog egluro pam ei bod yn gwrthod cymryd rhan mewn trafodaethau cyflog gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol?

Na. Fe atebaf y cwestiwn os gadewch imi wneud hynny. Nid wyf yn gwrthod cymryd rhan, mae gennyf gyfarfod wedi'i drefnu ar gyfer diwedd y mis hwn gyda'r holl undebau llafur ac maent i gyd eisiau siarad am gyflogau. Felly, nid oes gennyf broblem gyda hynny ac nid wyf yn gwybod o ble y cawsoch chi'r wybodaeth honno.

Mae'r Gweinidog yn gwybod nad trafodaethau cyflog yw hynny. Dywedodd yr wythnos diwethaf hefyd ei bod yn cyfarfod yn rheolaidd â'r Coleg Nyrsio Brenhinol—nid trafodaethau cyflog yw hynny. Nid trafodaethau cyflog yw'r cyfarfod y mae hi newydd gyfeirio ato nawr. Roedd y llythyr diwethaf, rwy'n credu, a ysgrifennodd y Coleg Nyrsio Brenhinol at y Gweinidog yn gofyn am drafodaethau cyflog ar 25 Hydref. Maent yn dal i fod heb gael ymateb i'r llythyr y gwnaethant ei anfon at y Gweinidog ar 25 Hydref.

Cefais fy nharo gan yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe. Dywedodd

'mae pob streic yn dod i ben yn y diwedd wrth drafod',

ond mae'n well cynnal y drafodaeth yn amserol onid yw? Ar ôl methu eistedd i drafod er mwyn ceisio osgoi pleidlais, a wnaiff y Llywodraeth roi'r parch y maent yn ei haeddu i nyrsys a'r proffesiwn nyrsio nawr drwy eistedd gyda hwy i drafod mewn ymgais i osgoi streic, rhywbeth nad oes neb ei eisiau, yn enwedig y nyrsys eu hunain? 

14:50

Wel, gallaf ddweud wrthych nad oes neb ei eisiau lai na minnau. Rwy'n poeni'n fawr am nyrsys yn mynd ar streic ynghanol gaeaf anodd iawn. Rwy'n deall eu safbwynt, ac rwyf mewn sefyllfa lle rwy'n ceisio ymwneud ag undebau llafur. Felly, cyfarfûm â Choleg Brenhinol y Bydwragedd y bore yma a thrafodwyd mater cyflog, yn amlwg. Cefais gyfarfodydd hefyd gyda chynrychiolwyr Unite ddydd Llun. Unwaith eto, mae yna ddealltwriaeth yno. 

Rwy'n credu efallai mai chi sydd i fynd, Sarah Murphy.

Cwestiwn 3, Sarah Murphy.

Profion Calprotectin Ysgarthion

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd profion calprotectin ysgarthion mewn lleoliadau gofal sylfaenol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ58689

Mae sicrhau bod y prawf calprotectin ysgarthion sydd ar gael i holl feddygon teulu Cymru yn un o gamau allweddol rhaglen y clefyd llid y coluddyn. Mae cynnydd da yn cael ei wneud yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn ogystal â byrddau iechyd eraill ledled Cymru. 

Diolch, Weinidog. Fe wnaethoch chi a minnau ymuno â lansiad ymgyrch newydd 'Cut the Crap' Crohn's and Colitis UK yr wythnos diwethaf, a chawsom glywed tystiolaeth gan y rhai sy'n byw gyda Crohn's, ac roeddent yn gadarn o'r farn fod diagnosis cynnar yn bwysig. Yr wythnos diwethaf hefyd, fe wneuthum estyn allan at fy nhrigolion a fy etholwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a gofyn iddynt rannu eu profiadau o ddiagnosis, cymorth a thriniaeth, ac unwaith eto, siaradodd llawer o bobl am y ffordd roeddent wedi cael diagnosis anghywir, gydag un fenyw'n dweud ei bod wedi cymryd 30 mlynedd iddi ddarganfod bod ganddi glefyd Crohn mewn gwirionedd. Er mwyn gwneud hyn yn well i bobl, mae angen inni sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael offer i adnabod symptomau Crohn's a colitis, a mynediad at y profion priodol er mwyn osgoi diagnosis anghywir. Felly, Weinidog, pa gefnogaeth y gellir ei rhoi i feddygon teulu, yn enwedig, i adnabod symptomau Crohn's a colitis pan ddaw pobl i'w gweld gyntaf? 

Diolch yn fawr, Sarah, a diolch am fynychu'r digwyddiad yr wythnos diwethaf, digwyddiad y credaf ei fod yn ddefnyddiol iawn. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi ariannu prosiect sbotolau ar glefyd llid y coluddyn, a digwyddodd hynny rhwng 2017 a 2022. Cynhyrchodd adnoddau defnyddiol iawn ar gyfer pobl mewn gofal sylfaenol, ac mae'r adnoddau hynny ar gael o hyd ar wefan Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ac maent hefyd ar gael ar wefan Crohn's and Colitis UK. Rwy'n credu eu bod yn cynnwys nifer o restrau gwirio, llwybrau a chyflwyniadau wedi'u hanelu at ofal sylfaenol. Felly, byddwn yn annog meddygon teulu a thimau i ddefnyddio'r adnoddau hynny. Un o'r pethau eraill y credwn ei fod yn ddefnyddiol yn y digwyddiad oedd bod ganddynt eu gwiriwr symptomau eu hunain, felly gallwch wirio a oes gennych y symptomau hyn. Un ohonynt—pwy fyddai'n meddwl—yw os ydych chi'n codi ynghanol y nos i fynd gael eich gweithio, nid yw hynny'n normal. Bydd mam yn ffieiddio at y ffaith fy mod i'n siarad am gael eich gweithio yn y Siambr, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn dechrau siarad am y pethau hyn. 

Mae profion calprotectin ysgarthol yn ffordd effeithiol iawn o wneud diagnosis o syndrom coluddyn llidus, IBS, neu'r angen i gael archwiliad pellach ar gyfer pethau fel Crohn's a colitis, ac rwy'n gwybod eich bod chi newydd fod yn ei drafod. Mae IBS yn gyffredin, yn effeithio ar hyd at 25 y cant o boblogaeth y DU ac at ei gilydd, gellir ei reoli mewn gofal sylfaenol. Fodd bynnag, gan y gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y symptomau a symptomau clefyd llid y coluddyn, mae llawer o gleifion yn dal i gael eu hatgyfeirio a dyna yw 28 y cant o apwyntiadau gastroenteroleg—rwyf wedi bod yn ymarfer y gair hwnnw drwy'r bore. Gall y profion helpu i leihau'r atgyfeiriadau hyn drwy wahaniaethu rhwng y ddau gyflwr. Argymhellir calprotectin gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal mewn oedolion sydd â symptomau gastroberfeddol isaf a ddechreuodd yn ddiweddar lle caiff asesiad arbenigol ei ystyried ar eu cyfer a phan nad oes amheuaeth o ganser. Ond ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae 38 y cant o'r rhai sy'n aros am driniaeth gastroenteroleg yn aros dros 36 wythnos am driniaeth, ac mae 831 yn aros dros flwyddyn am driniaeth. Felly, pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod lleoliadau gofal sylfaenol yn gwneud mwy o ddefnydd o'r profion hynny lle maent yn berthnasol, a pha ymgysylltiad a gawsoch gyda rhanddeiliaid ynglŷn â hynny? 

Rwy'n credu bod rhoi sylw i hyn yn bwysig iawn. Dyna un o'r ffyrdd i wneud yn siŵr fod meddygon teulu yn gwybod am yr adnoddau sydd ar gael fel eu bod yn gallu chwilio am y symptomau hynny a bod yn fwy ymwybodol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Ac fel y dywedwch, mae'n rhaid inni wahaniaethu rhwng y ddau gyflwr, ac mae'n bwysig iawn. Rwy'n meddwl ei bod yn werth dweud bod y math o raglen sgrinio'r coluddyn ychydig yn wahanol, felly mae angen gwneud yn siŵr fod pobl yn deall bod yna ddull gwahanol ar waith yma, ac mae'r rhaglen sgrinio'r coluddyn yn hynod lwyddiannus. Rydym wedi gweld y nifer sy'n manteisio arni'n codi'n sylweddol. Ond mae hyn ychydig yn wahanol ac mae'n rhywbeth lle rwy'n credu bod angen i'r ffocws fod ar sicrhau bod meddygon teulu'n edrych am y symptomau hynny.

14:55
Mynediad at Wasanaethau'r GIG yn y Canolbarth

6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod pobl sy'n byw yng nghanolbarth Cymru yn cael mynediad digonol at wasanaethau'r GIG? OQ58705

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i'w boblogaeth. Rydym yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar achosion busnes ar gyfer datblygiad llesiant gogledd Powys a gwaith adnewyddu yn ysbyty Llandrindod.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan Ambiwlans Awyr Cymru i bobl canolbarth Cymru a rhannau eraill o Gymru yn amhrisiadwy. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae pryder dwfn ynglŷn â chynigion i symud canolfan y Trallwng a sut y bydd hynny'n cryfhau gwasanaethau yn y canolbarth. Mae'n anodd derbyn y bydd symud hofrennydd a cherbyd ffordd ymhellach o'r canolbarth yn arwain at ehangu'r gwasanaeth. Nid yw'r Prif Weinidog wedi cywiro'r cofnod eto pan ddywedodd wrthyf yn y Siambr hon fod y data sy'n sail i'r cynigion yn perthyn i'r elusen ei hun, a ninnau'n gwybod bod y data'n perthyn i Wasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys GIG Cymru. A ydych chi'n cytuno ei bod yn bwysig iawn fod yr holl wybodaeth a data sy'n sail i'r cynigion ar gael i'r cyhoedd cyn dechrau'r broses ymgysylltu?

Cawsom wybod yn fwy diweddar fod prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans bellach yn arwain y broses, ond roeddwn yn bryderus ddoe fod elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi gwahodd pobl i ddigwyddiadau ledled canolbarth Cymru i archwilio, fel y gwnaethant ei alw, 'dyfodol ein darpariaeth o wasanaethau'. Mae'r elusen wedi dweud yn glir mai sesiynau drwy wahoddiad yn unig yw'r rhain ac na ddylid eu hanfon ymlaen i bobl eraill gael eu mynychu. Rwy'n pryderu nad yw'r dull hwn yn annog cyfleoedd cyfartal i bawb allu cyflwyno eu barn ac mae'n creu elfen o ddryswch ynghylch y broses ymgysylltu, y dywedir wrthym ei bod yn cael ei harwain gan y comisiynydd. Mae gennyf farn gref y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar y cynigion oherwydd y newid i'r modd y caiff gwasanaeth allweddol ei ddarparu a'r pryder sylweddol ynghylch y cynigion hyn a diddordeb y cyhoedd ynddynt. A ydych chi'n cytuno y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn, ac a wnewch chi sicrhau bod hynny'n digwydd, Weinidog?

Rwy'n deall cryfder y teimladau ar hyn, yn enwedig yn sir Drefaldwyn ac yng ngogledd Cymru, lle mae canolfannau'r ambiwlans awyr wedi'u lleoli ar hyn o bryd. Mae hon yn elusen annibynnol. Mae'n elusen annibynnol, a'r hyn rydych chi wedi gofyn i ni ei wneud yw sicrhau bod y data a'r cyflwyniad ar gael. Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod y cyflwyniad hwnnw wedi'i gynnig i Aelodau'r Senedd ac mewn gwirionedd, mae llawer o bobl wedi manteisio ar y cyfle i gael golwg ar y data. Felly, mae'r data hwnnw ar gael, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn deall, drwy'r amser, pan fo arian yn brin, fod rhaid i chi edrych am arbedion effeithlonrwydd, a'r hyn y mae'r gwasanaethau ambiwlans awyr yn ei ddweud wrthym yw y gallant ennill rhywfaint o arbedion effeithlonrwydd os ydynt yn newid y cyfluniad. Nawr, maent yn wasanaeth annibynnol. Rwy'n meddwl mai'r hyn sy'n rhaid inni gofio yw bod yna gyfle i ymgynghori, a hynny drwy'r cynghorau iechyd cymuned; hwy yw'r cynrychiolwyr, y llefarwyr ar ran y cyhoedd. Felly, byddwn yn annog pobl i sicrhau eu bod yn cyfathrebu a datgan eu barn wrth y cynghorau iechyd cymuned a'u bod hwy wedyn yn gallu cymryd rhan yn y cyflwyniad gan y gwasanaeth ambiwlans awyr.

Prynhawn da, Weinidog. Rwyf eisiau holi am ddannedd, ac yn enwedig dannedd pobl yng nghanolbarth Cymru. Mae tua 15,000 o bobl yn aros am ddeintydd GIG ar draws Cymru—mae hynny'n golygu bod amser aros o tua dwy flynedd i bobl gael deintydd GIG. Rwy'n deall bod problemau a materion yn codi ynghylch rhestrau aros, ac rwyf wedi codi mater dannedd pobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru sawl gwaith. Ond tybed a wnewch chi ddweud ychydig bach mwy wrthym ynglŷn â beth yw eich cynlluniau i wneud yn siŵr fod pobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru'n cael gwasanaeth GIG, oherwydd, ar hyn o bryd, yr hyn sydd gennym yw gwasanaeth dwy haen lle mae'r cyfoethog yn gallu fforddio mynd at ddeintydd, ac nid yw'r rhai sydd â'r angen mwyaf, mae'n debyg, y rhai sy'n dlotach, yn cael y cyfle hwnnw. Diolch yn fawr iawn.

15:00

Diolch yn fawr iawn, a diolch am eich dyfalbarhad ar y mater hwn. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Ond mae'n eithaf amlwg, er hynny, mai'r hyn rwyf fi wedi sylwi arno yw bod nifer y bobl sy'n cwyno wedi lleihau ychydig yn ddiweddar, a rhan o'r rheswm am hynny yw oherwydd bod y system diwygio contractau newydd yn dechrau cael effaith. Felly, y system diwygio contractau a gyflwynwyd gennym, mae 90 y cant o ddeintyddion bellach—o werth eu contractau deintyddol—yn gweithio o dan y trefniadau newydd hynny, ac mae hynny'n golygu yw ein bod wedi gweld 89,500 o gleifion newydd yn cael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG eleni. Felly, mae eisoes wedi mynd yn bell. Mae tipyn mwy o ffordd i fynd eto; rwy'n meddwl bod angen inni godi i tua 120,000 o ran gwerth y contract, felly mae tipyn o ffordd i fynd o hyd, ond bydd hi'n ddiddorol clywed a ydych wedi sylwi bod gostyngiad bach yn y sŵn ar y mater yma, achos mae'n sicr yn rhywbeth rwyf fi wedi sylwi arno.

Iechyd y Cyhoedd

7. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yng Ngorllewin De Cymru? OQ58698

Mae gwella iechyd y cyhoedd wedi ei nodi'n flaenoriaeth yn 'Cymru Iachach', ein strategaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Cefnogir hyn gan gynlluniau fel ein strategaeth rheoli tybaco a strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'.

Weinidog, mewn sawl cymuned yng Ngorllewin De Cymru gwelwn lefel wael o iechyd y cyhoedd yn effeithio nid yn unig ar yr unigolion hynny a'u cyfleoedd mewn bywyd, ond ar y gwasanaethau iechyd y disgwylir iddynt eu trin. Mae iechyd y cyhoedd gwael yn effeithio'n sylweddol ar allu ein gwasanaethau iechyd a gofal, gyda chyfrannau sylweddol o'n cyllideb iechyd yn ymateb i ddewisiadau ffordd o fyw pobl. Mae ein cyfradd ysmygu, yfed alcohol, deiet gwael, a diffyg ymarfer corff yn peryglu bywydau pobl. A yw'n amser nawr i adolygu'r ymyriadau iechyd y cyhoedd i ddod o hyd i ffyrdd gwell o fynd i'r afael â lefel wael o iechyd y cyhoedd a gwneud hyn yn flaenoriaeth i'r GIG ac i'n gwlad? Diolch.

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Altaf. Mae mynd i'r afael â'r heriau iechyd y cyhoedd rydych wedi'u hamlinellu yn sicr yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Fel y nodwyd gennych, mae gordewdra ac ysmygu yn sbarduno anghydraddoldebau, o ystyried eu heffaith ar ddisgwyliad oes a disgwyliad oes iach pobl, ac mae pobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o fod yn ordew neu'n ysmygu na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Dyna pam mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn greiddiol i'n cynigion i fynd i'r afael â gordewdra ac i gynorthwyo pobl i roi'r gorau i ysmygu. Ar ordewdra, rydym yn ymrwymo dros £13 miliwn o gyllid i'n cynllun cyflawni 'Pwysau Iach: Cymru Iach' ar gyfer 2022-24 i fynd i'r afael â gordewdra, gyda gweithredu i leihau anghydraddoldebau deiet ac iechyd ar draws y boblogaeth yn ganolog iddo.

Ar ysmygu, yn gynharach eleni, cyhoeddwyd ein strategaeth rheoli tybaco, a'n cynllun cyflawni dwy flynedd cyntaf ar gyfer 2022-24, ac i gydnabod yr anghydraddoldebau iechyd sy'n codi o ganlyniad i ysmygu, nodir bod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn un o themâu craidd y strategaeth. Fe wnaethoch sôn am weithgarwch corfforol. Rydym hefyd yn rhoi pwyslais ar gynnal llesiant corfforol a meddyliol a bydd camau fel ein fframwaith presgripsiynu cymdeithasol sydd ar y ffordd yn ceisio rhoi pobl mewn cysylltiad â chymorth cymunedol i reoli eu hiechyd a'u llesiant yn well. Daeth ein hymgynghoriad ar y fframwaith drafft hwnnw i ben ar 20 Hydref, ac rydym yn dadansoddi ymatebion ar hyn o bryd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ58688

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel, sy’n ddiogel a chynaliadwy, i'w boblogaeth leol, a hynny ar sail y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a diweddaraf.

Diolch i chi am yr ymateb yna, Gweinidog. 

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod y galw am asesiad awtistiaeth yn parhau i fod yn uchel yng ngorllewin Cymru, gydag amseroedd aros o hyd at dair blynedd. Yn wir, rwy'n deall bod y bwrdd iechyd wedi cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf i nodi cyllid posibl i helpu gyda mentrau rhestrau aros. Felly, Weinidog, a oes modd ichi ddweud wrthym pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i'w helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer asesiad awtistiaeth? Ac a oes modd ichi ddweud wrthym hefyd sut mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo plant a'u teuluoedd sy'n aros am asesiad? 

15:05

Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n gwybod bod problem wedi bod gyda rhestrau aros awtistiaeth ers peth amser yn ardal Hywel Dda. Mae yna gynlluniau ar y gweill, wrth gwrs, ac rydym wedi cael yr adolygiad o gapasiti, sydd wedi nodi'n union beth sydd angen inni ei roi ar waith. Os nad oes ots gennych, yr hyn yr hoffwn ei wneud yw gofyn i'm cyd-Aelod Julie Morgan, sy'n gyfrifol am awtistiaeth, roi ymateb mwy manwl ichi.FootnoteLink

Plant sy'n Cael eu Geni â Phroblemau ar y Galon

9. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i amddiffyn plant sy'n cael eu geni â phroblemau difrifol ar y galon? OQ58694

Mae pob plentyn yn cael ei warchod gan gyfuniad o sgrinio ac imiwneiddio, yn ogystal ag archwiliadau ar ôl geni ac ar ôl chwe wythnos, er mwyn hyrwyddo canfod abnormaleddau yn gynnar. Ar gyfer plant â phroblemau difrifol ar y galon, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn comisiynu ystod gynhwysfawr o wasanaethau.

Diolch am yr ateb pwysig hwnnw, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o'r gwaith anhygoel a wnaed gan ymgyrch Test for Tommy, ac maent yn ceisio darparu ocsifesuryddion pwls sy'n achub bywydau ar wardiau mamolaeth ledled y Deyrnas Unedig. Weinidog, rwy'n deall fy mod newydd ddod â hyn i'ch sylw ac rwy'n gofyn ichi ystyried cefnogi'r ymgyrch. Os na allwch wneud hynny heddiw, a wnewch chi ddod yn ôl i'r Siambr i weld a allech sicrhau y gellid sefydlu a gweithredu ymgyrch Test for Tommy drwy Gymru gyfan? 

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n barod iawn i gael golwg ar beth yw'r cyfleoedd a'r manteision o wneud hynny. Fel y dywedaf, cyfarfûm â Choleg Brenhinol y Bydwragedd heddiw, a'r un peth rwy'n ymwybodol iawn ohono, os ydych yn ei gael yn anghywir gyda mamolaeth, yw bod y costau'n gwbl anferthol. Felly, mae'n fuddsoddiad inni sicrhau nad ydym yn ei gael yn anghywir, oherwydd, os ydym yn ei gael yn anghywir, gall arwain at oes o driniaeth i'r plant hynny. Felly, ymyrraeth gynnar—. Mae hyn yn ymwneud ag atal o ddifrif a sefyllfa lle gallem arbed swm enfawr o arian i ni'n hunain mewn gwirionedd. Byddaf yn edrych yn benodol ar Test for Tommy, ac yn dychwelyd atoch. 

Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Taf Morgannwg

10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau mamolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ58687

Diolch yn fawr iawn. Ar 7 Tachwedd, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sylweddol a gyflawnwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar wella ei wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ers 2019. Mae'r bwrdd iechyd yn cynnal y ffocws ar sicrhau gwelliannau cynaliadwy pellach mewn arweinyddiaeth, diwylliant ac integreiddio gwasanaethau.

Diolch, Weinidog. Roedd croeso mawr i'r cyhoeddiad y byddech yn tynnu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg o fesurau arbennig. Rwy'n credu bod hyn yn dyst i'r gwaith caled sydd wedi'i wneud gan staff y bwrdd iechyd i gyflawni'r gwelliannau i'r gwasanaeth y dylai'r gymuned leol, y mamau, y babanod a'r teuluoedd, sydd angen cael mynediad at y gwasanaethau hyn, allu eu disgwyl. Yn eich datganiad, fe wnaethoch nodi bod cyflawni'r newid diwylliant sydd mor hanfodol yn waith parhaus ond mwy hirdymor. Felly, hoffwn ofyn: sut y bydd goruchwylio hyn yn cael ei gynnwys o fewn yr ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y bwrdd iechyd? 

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn longyfarch y staff ar y gwaith aruthrol a wnaed i drawsnewid yr adran hon. Mae'n rhyfeddol yn wir; mae'r arweinyddiaeth wedi cael ei thrawsnewid go iawn. A hoffwn dalu teyrnged hefyd i ddewrder y mamau sydd wedi ein helpu'n fawr wrth inni ystyried pa newidiadau roedd angen eu rhoi ar waith. Felly, diolch enfawr iddynt hwythau, ac mae'n wirioneddol—. Mae arnaf ofn fod eu colled yn erchyll, ond rwy'n gobeithio y cânt ryw fath o gysur o'r ffaith bod y gwasanaethau hynny bellach yn cael eu trawsnewid. 

Ar y newidiadau diwylliannol sydd eu hangen, maent yn ad-drefnu yng Nghwm Taf Morgannwg ar hyn o bryd wrth gwrs. Bydd Gwelliant Cymru, fel rhan o'u hymyrraeth, yn rhoi cymorth penodol yn y maes, a bydd hyn yn cael ei asesu drwy'r fframwaith monitro ymyrraeth wedi'i thargedu. Felly, maent wedi dod o fesurau arbennig, ond maent yn parhau i fod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu. Felly, dyna lle rydym yn cadw'r oruchwyliaeth honno, a byddwn yn gwneud yn siŵr yn benodol fod y newid diwylliannol a oedd mor bwysig yn parhau. 

15:10
Pwyntiau o Drefn

Diolch, Lywydd. Rwyf am godi pwynt o drefn am yr ymddygiad a welsom yn y Siambr hon ychydig funudau yn ôl—ymddygiad a achosodd i un o fy nghyd-Aelodau deimlo cymaint o fygythiad nes y bu'n rhaid iddi symud oddi wrth yr unigolyn hwnnw. A hefyd roedd yr un ymddygiad yn dangos amarch enfawr i chi fel Cadeirydd y sefydliad hwn, ac felly i'r sefydliad ei hun.

Rwyf wedi bod yma ers dros 15 mlynedd, ac rydych chi wedi bod yma ers llawer mwy na hynny, ac nid wyf erioed wedi tystio i ymddygiad o'r fath yn y Siambr. Ni allaf ond gobeithio, ac rwy'n siŵr y bydd pawb yn cytuno, na chaiff hyn ei ailadrodd byth. Mae'n weithle, a phan fo pobl yn teimlo dan fygythiad yn sgil ymddygiad eraill yn eu gweithle, yn enwedig pan fo'n Siambr etholedig ac yn swyddfa'r Senedd, rwy'n credu ei fod yn destun pryder mawr.

Felly, diolch ichi am ganiatáu i mi wneud y pwynt o drefn. Gobeithio bod yr unigolyn yn myfyrio o ddifrif ar ei ymddygiad. Rwy'n gwybod eich bod wedi gofyn am ymddiheuriad. Mae'r ymddiheuriad, rwy'n credu, yn ddyledus i bawb a dystiodd i hynny, ond nid yn lleiaf i'r unigolyn a deimlai dan gymaint o fygythiad ac mor ofidus o'i herwydd. Diolch.

Diolch, Joyce Watson, am gyfleu rhai o'r pethau sy'n amlwg wedi mynd drwy feddyliau llawer o bobl ac a anfonwyd ataf yma ar y ddesg flaen, yn sgil y colli tymer annerbyniol gan yr Aelod, rhywbeth a ysgydwodd bawb ohonom ar y pryd, rwy'n credu, nid yn unig y rhai a oedd yn agos ato. Treuliais y rhan fwyaf o'r bore yn dweud wrth westai brenhinol pa mor dda roeddem yn ymddwyn fel Siambr o'i gymharu â mannau eraill, ac roeddwn yn anghywir yn hynny, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod ei hun am fyfyrio ar ei ymddygiad ar y diwrnod hwn, yn ogystal ag unrhyw ddiwrnod arall.

Fel y dywedais yn dilyn y digwyddiad, byddaf yn disgwyl ymddiheuriad gan Gareth—. Gareth Davies—nid Gareth Bale, Gareth Davies—cyn iddo gael ei alw eto yn y Siambr hon. Bydd yr ymddiheuriad hwnnw i mi, bydd, ond fe fydd i bob un ohonom, ac mae ein disgwyliadau'n uchel yn y lle hwn, ac fe fethodd un Aelod gyrraedd y disgwyliad o ran ei ymddygiad y prynhawn yma. Fel y dywedoch chi, Joyce Watson, rwy'n siŵr y bydd yn myfyrio ar hynny nawr, fel pob un ohonom, a byddaf yn disgwyl yr ymddiheuriad, a byddaf yn sicrhau bod pob Aelod yn gwybod pan gaiff hwnnw ei roi.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaeth Joyce, ac fe allech glywed y teimlad yn y peth. Ond roedd fy mhwynt o drefn gwreiddiol ar ran Aelodau meinciau cefn nad ydynt yn llefarwyr mainc flaen. Wrth gyflwyno sylwedd y sylwadau gan yr unigolyn i'r chwith y tu ôl i mi, fe wnaeth yn glir ei fod yn defnyddio'r cyfle fel llefarydd mainc flaen ar ofal cymdeithasol i godi mater etholaethol ynghylch iechyd. Mae hynny'n golygu ei fod yn atal unrhyw Aelodau lleol neu ranbarthol eraill yn yr ardal honno—nid wyf wedi fy nghynnwys yn yr un penodol hwn—i ymyrryd neu i ddod i mewn ar gwestiynau atodol. Fy nghwestiwn—. Efallai na fyddwch yn gallu ei ateb yn syth—rwy'n derbyn hynny, Lywydd—ond fel Aelod o'r meinciau cefn, byddwn yn hynod werthfawrogol o rywfaint o eglurder ynglŷn ag a yw'r Rheolau Sefydlog yn dweud rhywbeth am hyn, neu a yw'n fater i reolwyr busnes o fewn y grwpiau gwleidyddol. Mae'n ymddangos yn hynod annheg i Aelodau meinciau cefn nad ydynt yn cael siarad am rywbeth sy'n ymddangos i mi yn gamddefnydd o rôl llefarydd mainc flaen.

Wel, fel y dywedais yn ystod y cwestiynau eu hunain, mater i'r Ceidwadwyr yw penderfynu beth yw cynnwys cwestiynau eu llefarwyr. Mae'n fy synnu y byddai grŵp gwleidyddol yn dewis cael cwestiynau eu llefarwyr yn canolbwyntio'n llwyr ar fater etholaeth—un etholaeth—ac fe wnaf ystyried hynny. Nid oes unrhyw beth yn y Rheolau Sefydlog i'w wahardd, ac felly, mae mewn trefn, ond credaf fod sawl agwedd ar y cyfraniad hwnnw y prynhawn yma a fydd yn rhoi pethau inni eu hystyried dros gyfnod hwy o amser. Diolch am hynny. 

15:15
3. Cwestiynau Amserol

Fe wnawn barhau gyda'r cwestiynau, credwch neu beidio, a symudwn ymlaen at y cwestiynau amserol. Daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Vikki Howells. 

Garth Bakery

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Garth Bakery wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? TQ678

Ie, diolch am y cwestiwn. Mae'n drueni mawr fod Garth Bakery wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae tîm Cymru'n Gweithio a thîm ReAct+, ynghyd â'r Ganolfan Byd Gwaith, yn ymgysylltu â'r gweithwyr, ac rwy'n deall bod cymorth wedi'i gynnig hefyd gan yr awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf. Bydd ReAct+ yn darparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau wedi'u teilwra i'r staff sydd wedi'u heffeithio dros y dyddiau nesaf.

Diolch, Weinidog. Mae Garth Bakery wedi bod yn gyflogwr blaenllaw yng Nghwm Cynon a hefyd yn rhan bwysig o'r economi leol ers dros 36 o flynyddoedd, felly mae'r newyddion ei fod wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn ergyd drom yn wir. Mae hyn yn arbennig felly i'r oddeutu 100 o bobl sydd wedi colli eu swyddi, a hynny ond chwe wythnos cyn y Nadolig. Rwy'n deall y gofid a'r pryder dwys y bydd hyn yn ei achosi iddynt, ac nid yn unig iddynt hwy ond i'w teuluoedd hefyd, yn enwedig pan ydym yn wynebu'r argyfwng costau byw, sydd wedi gweld cyllidebau cartrefi yn cael eu gwasgu wrth i bris ynni a bwyd godi i'r entrychion ac wrth i chwyddiant gyrraedd ei lefel uchaf ers dros 40 mlynedd.

Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau i chi heddiw. Yn gyntaf, pa gymorth neu ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gyda Garth Bakery? Yn ail, a oes modd ichi amlinellu'r mesurau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd ar fyrder i helpu gweithlu'r cwmni sydd wedi colli eu swyddi? Mae hynny'n cynnwys cymorth i ddod o hyd i waith, ond rhaglenni hefyd, fel rydych wedi sôn, i ailhyfforddi neu ailsgilio, fel bod modd archwilio a mynd ar drywydd cyfleoedd gyrfa newydd, ond hefyd o ran cymorth i gael mynediad, er enghraifft, at gyngor iechyd meddwl a llesiant ac ymyrraeth wedi'i thargedu gyda chostau byw. Yn olaf, Weinidog, gyda chyd-Aelodau, rwy'n gobeithio trefnu diwrnod agored cyngor a chymorth i weithwyr Garth Bakery yn fuan. Rwyf wedi ysgrifennu atoch yn ffurfiol ynglŷn â hyn, ond a fyddwch yn gallu sicrhau bod staff o asiantaethau Llywodraeth Cymru priodol ar gael, fel y gallant roi cymorth uniongyrchol i unrhyw un o'r cwmni sydd angen y cymorth hwnnw?

Ie, diolch am y cwestiynau. Rwy'n cydnabod yn llwyr eich pwynt ynghylch amseriad y ffaith bod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a beth y mae'n ei olygu i weithwyr ar yr adeg hon o'r flwyddyn. A gwyddom fod y mwyafrif helaeth o gostau biliau tanwydd yn digwydd ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn ystod yr hydref, y gaeaf a dechrau'r gwanwyn, a'r cyfnod cyn troad y flwyddyn a'r Nadolig. Ond byddwn yn darparu ystod o gymorth, ac rydym eisoes yn gwneud hynny, ac yn y gorffennol, rydym wedi darparu cyfleoedd i geisio helpu'r busnes i dyfu ac ehangu. Rydym wedi ceisio eu helpu gyda chyfleoedd masnachu o fewn y DU ac wrth gwrs, roedd ganddynt gytundebau gydag Asda, Co-op ac eraill ar gyfer cyflenwi eu cynnyrch. Rydym hefyd wedi eu helpu gydag ymgysylltu â'r GIG, ac mae'r cwmni wedi gwneud dewisiadau ynglŷn â sut i weithredu a beth i geisio ei wneud. Nid wyf am ddyfalu'r rhesymau pam y maent wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ond ein prif bryder yw beth fydd yn digwydd i'r busnes a'r gweithwyr, a'r cymorth iddynt. Dyna y gall Cymru'n Gweithio a ReAct+ ei wneud a dyna fyddant yn ei wneud.

Nid yw'n weithle sydd wedi bod ag undeb llafur cydnabyddedig, ond rwy'n gwybod bod rhywfaint o aelodau undebau llafur yno. Felly, byddwn yn gweithio gyda'r holl randdeiliaid perthnasol i geisio darparu'r cymorth y gallwn ei roi i helpu pobl i ddychwelyd i'r gweithlu. Ar hyn o bryd, y newyddion cymharol gadarnhaol yw bod cyfleoedd i weithio o hyd. Rydym yn parhau i fod ar bwynt lle mae'r farchnad lafur yn weddol dynn ac mae cyflogwyr eraill yn chwilio am weithwyr. Felly, rwy'n credu y dylai fod llawer o optimistiaeth ynghylch pobl yn dod o hyd i waith arall. Ond byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr, yn dilyn y cwestiwn hwn, fod fy swyddogion mor gefnogol â phosibl i'r digwyddiad rydych yn ei drefnu yn yr etholaeth, gan gynnwys yn y sgyrsiau y maent eisoes yn eu cael gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i wneud yn siŵr fod cynnig cydlynol o ystod ehangach o gymorth ar gael i'r gweithwyr yr effeithir arnynt.

A gaf fi ddiolch i Vikki Howells am gyflwyno'r cwestiwn hwn? Yn amlwg, rydym yn rhannu'r un rhanbarth, ac rwyf innau hefyd wedi cael nifer o etholwyr yn codi'r pryderon yma. Hoffwn gysylltu fy hun â'i holl sylwadau a chwestiynau, ac yn sicr, mae'n amser gofidus iawn gan ei fod yn fusnes mor werthfawr, fel rydych wedi dweud, Vikki.

Ar bwynt ychydig yn wahanol, bydd colli'r ffatri hon hefyd yn arwain at heriau cyflenwi bwyd sylweddol i'r ysgolion ac archfarchnadoedd a werthai eu bara a'u cynnyrch. Roedd Garth Bakery yn cynhyrchu 300,000 o roliau bob wythnos, ac fe fydd hynny'n rhywbeth sy'n peri pryder, ac mae pobl sy'n poeni am hyn nawr wedi cysylltu â mi. A fydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi busnesau bach lleol i helpu i fynd i'r afael â'r prinder bwyd sy'n debygol o godi yn sgil cau'r busnes?

15:20

Nid wyf yn hollol sicr y bydd prinder bwyd o ganlyniad i'r ffaith na fydd Garth Bakery yn bodoli mwyach; mae'n ymwneud â'r her yn y sector ehangach, ac a oes cyflenwyr amgen mewn gwirionedd. Meddyliwch am yr archfarchnadoedd: os ewch i mewn i unrhyw archfarchnad, fe welwch amrywiaeth o gynnyrch ar y silffoedd ar bwyntiau prisiau ychydig yn wahanol hefyd. Nid wyf yn ymwybodol y bydd her o ran y cynnig bwyd ehangach, ond o ran cyflenwad bwyd i ysgolion, er enghraifft, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt teg am un cyflenwr yn diflannu pan nad oes gan ysgolion gyfle i aildrefnu yn y ffordd honno, a dyna pam y mae'r gwaith ochr yn ochr â'r cyngor yn arbennig o bwysig i sicrhau nad oes gennym fylchau yn y cyflenwad hwnnw. Ond mae'n bwynt y byddaf yn ei ailwirio gyda fy swyddogion, a hefyd gyda'r Gweinidog addysg a'i gysylltiadau yn yr awdurdodau lleol hefyd.

Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, i'w ofyn gan Peredur Owen Griffiths.

Heddlu Gwent

2. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn dilyn honiadau difrifol a wnaed am Heddlu Gwent? TQ683

Diolch am y cwestiwn hwn. Mae'r honiadau hyn yn ddifrifol iawn ac rwy'n cydnabod bod ganddynt oblygiadau o bosibl i gysylltiadau cymunedol. Mae'r honiadau yn yr adroddiad yn frawychus. Fel Llywodraeth, rydym yn sefyll yn erbyn pob ffurf ar lygredd, casineb at fenywod, hiliaeth a homoffobia; mae'n ffiaidd.

Diolch, Weinidog. Fel y dywedwch, roedd yr hyn a ddatgelwyd dros y penwythnos am un cyn-aelod o heddlu Gwent a'i gydweithwyr yn peri gofid mawr. Mae'n ffiaidd fod deunydd hiliol, gwreig-gasaol a rhywiaethol wedi'i ganfod ar ffôn heddwas. Ar ôl cyfarfod ag aelodau o ffederasiwn yr heddlu ddoe, rwy'n gwybod eu bod hwythau hefyd yn ffieiddio at yr honiadau difrifol hyn. Os oes diwylliant o'r safbwyntiau hyn o fewn yr heddlu, ni waeth pa mor fach, rhaid dod o hyd iddo a'i archwilio'n drylwyr a thryloyw. Yna, rhaid ei ddileu'n gyflym os yw'r cyhoedd yn mynd i fod â hyder llawn yn yr heddlu. Rhaid inni allu gweld bod cyfiawnder ar waith.

Pa bryderon sydd gan y Llywodraeth ynghylch y digwyddiad hwn? A fydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar hyrwyddo cydlyniant cymunedol mewn cymunedau lle nad yw ymddiriedaeth yn yr heddlu ar ei uchaf eisoes, oherwydd digwyddiadau blaenorol? A sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i helpu i sicrhau trigolion ardal Heddlu Gwent a Chymru yn ehangach y gallant ymddiried yn yr heddlu, sydd yno i'w diogelu? Diolch.

Diolch yn fawr, Peredur. Fel y gwyddoch wrth gwrs, nid yw plismona wedi'i ddatganoli i Gymru; Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny, ond rydym yn cydweithio'n agos â'r partneriaid plismona yng Nghymru ac rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r adroddiad hwn. Felly, cyfarfûm â'r prif gwnstabl, Pam Kelly, a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, fore Llun, dydd Llun y pedwerydd ar ddeg, wedi i hyn gael ei ddatgelu dros y penwythnos. Cyfarfûm â hwy i ddeall mwy am eu hymateb ac i bwysleisio ein bod yn ystyried yr honiadau hyn yn rhai difrifol iawn.

Rhaid imi ddweud bod y prif gwnstabl Pam Kelly a Jeff Cuthbert, y comisiynydd heddlu a throseddu, wedi'i gwneud yn glir iawn hefyd fod y cynnwys yn ffiaidd, ac yn bwysicaf oll o ran yr hyder a'r ymddiriedaeth y mae angen i bobl eu cael yn yr heddlu, roeddent yn dweud y bydd unrhyw swyddogion y nododd yr ymchwiliad eu bod wedi torri safonau proffesiynol neu'r trothwy cyfiawnder troseddol yn cael eu dwyn i gyfrif.

Felly, cadarnhaodd y prif gwnstabl eu bod eisoes yn gweithio'n gyflym i fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Rwyf wedi gofyn am y diweddaraf ar gynnydd yn rheolaidd; rydym wedi gofyn i'r mater gael ei godi yn y bwrdd partneriaeth plismona nesaf yng Nghymru, ac rwy'n cadeirio hwnnw gyda'r Prif Weinidog. A hefyd rwy'n ymwybodol fod y prif gwnstabl, Pam Kelly, a'r comisiynydd heddlu a throseddu wedi arwain sesiwn friffio i Aelodau Seneddol ac Aelodau o'r Senedd Gwent ddydd Llun.

Yr hyn sydd gennym i'w ddweud, ac rwy'n siŵr ein bod yn rhannu hyn ar draws y Siambr: mae'n hanfodol fod heddlu Gwent yn rhoi camau pendant ar waith ac mae ymchwiliad annibynnol gan Heddlu Wiltshire ar y gweill. Mae heddlu Gwent wedi ei gwneud yn glir, ac fe wnaethant yn glir i mi ddydd Llun, y bydd camau llym yn cael eu cymryd, fel y dywedais, ac rwyf wedi gofyn am amserlenni ar gyfer eu hymchwiliad.

A gaf fi ddweud hefyd fod y prif gwnstabl Pam Kelly wedi gwneud mynd i'r afael â hiliaeth a thrais yn erbyn menywod yn flaenoriaeth yn ei rôl fel prif gwnstabl Gwent? Mae hi'n ymwneud yn fawr â'n bwrdd gweithredu strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gadeiriaf ar y cyd â Dafydd Llywelyn, ac mae hi'n ymwneud yn fawr hefyd â'n 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Felly, rhaid inni gael yr ymddiriedaeth a'r hyder yn yr heddlu o ganlyniad i'r camau y maent wedi cytuno arnynt ac wedi eu haddo i ni.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Y datganiad cyntaf prynhawn yma gan Joyce Watson.

15:25

Diolch, Lywydd. Mae'n Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, a hoffwn achub ar y cyfle i ddathlu'r gwaith gwych y mae ein colegau'n ei wneud, yn helpu i gynnau gyrfaoedd entrepreneuriaid newydd. Mae Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd yn ymwneud ag annog pobl, yn enwedig pobl ifanc, i ddechrau eu busnesau eu hunain a thynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gallant ei chael o ran arloesi a datblygu cynaliadwy, oherwydd mae mwy a mwy o fusnesau y dyddiau hyn, yn enwedig busnesau bach ac entrepreneuriaid, yn troi at faterion cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol, cynaliadwyedd, yn ogystal â thwf economaidd.

Mae colegau ledled Cymru a'r rhai yn fy rhanbarth wedi gweithio'n ddiflino i gynorthwyo pobl ifanc sydd wedi gorfod bod mor wydn yn y blynyddoedd diweddar hyn, gan gynnig cymorth busnes fel cyngor dwyieithog un i un, cynnal gweminarau a chynorthwyo busnesau newydd, a chyfleoedd am ddim i brofi masnach, yn ogystal â chysylltiadau â diwydiant a busnesau lleol. Yng Ngholeg Sir Gâr, mae Jackie Stephens, myfyriwr gradd mewn tecstilau, wedi cael ei hysbrydoli a'i chynorthwyo i ddechrau ei busnes gwehyddu â llaw, Studio Cynefin, sy'n dylunio bagiau ac ategolion hardd, cynaliadwy. Fel y dywedodd hi, 'Mae'r ysbrydoliaeth gan diwtoriaid a darlithwyr y cwrs, brwdfrydedd a chefnogaeth cydlynydd cyflogadwyedd y Coleg, Becky Pask, a'r cyngor a'r arweiniad ymarferol a ddarperir gan y coleg wedi bod yn amhrisiadwy.' Felly, pob lwc i Jackie ac i'n holl entrepreneuriaid newydd.

Diolch, Lywydd. Ddeuddydd yn unig yn ôl, ar 14 Tachwedd, fe wnaethom nodi Diwrnod Diabetes y Byd, ac eleni cafwyd cyhoeddiad gwych gan y Sefydliad Ymchwil Diabetes Ieuenctid a Diabetes UK am gynllun gwyliadwriaeth gynnar a ariennir ar y cyd ar gyfer astudio diabetes awto-imiwn, sef rhaglen dreialu sgrinio ar gyfer diabetes math 1 sydd â'r potensial i drawsnewid y ffordd y caiff y cyflwr ei ganfod a'i reoli yn ei gamau cynharaf. Nod y rhaglen, y gyntaf o'i bath yn y DU, fydd recriwtio 20,000 o blant rhwng tair a 13 oed ac asesu eu risg o ddatblygu diabetes math 1, gan osod y sylfeini ar gyfer datblygu rhaglen sgrinio bosibl ledled y DU.

Er bod diabetes math 1 yn cael ei reoli ar hyn o bryd drwy ddefnyddio inswlin, mae triniaethau imiwnotherapi newydd ar y gorwel a allai atal neu oedi'r cyflwr. Bydd yr astudiaeth hon yn elfen hanfodol wrth helpu i gyflwyno'r imiwnotherapïau hynny. Mae'r risg o diabetes math 1 yn cynyddu gyda nifer yr awto-wrthgyrff gwahanol sy'n bresennol yn y gwaed. Mae risg y rhai sydd â dau neu fwy o awto-wrthgyrff o ddatblygu diabetes math 1 o fewn 15 mlynedd yn 85 y cant, ac mae bron yn sicr y byddant yn datblygu'r cyflwr yn ystod eu hoes. Felly, bydd yr ymchwil yn newid bywydau i blant y canfyddir bod eu risg yn uchel, gan y bydd yn galluogi teuluoedd i gadw llygad am arwyddion rhybudd cetoasidosis diabetig, a all fod yn farwol os na chaiff ei drin.

Mae darganfod tuedd ar gyfer diabetes math 1 hefyd yn golygu y gellir cynnig cymorth ac addysg i rieni a phlant, gan gynnwys gwybodaeth am symptomau a dulliau rheoli, er mwyn helpu i'w paratoi ar gyfer diagnosis o ddiabetes math 1. Bydd teuluoedd hefyd yn cael cyfle i gael eu hachos wedi'i ddilyn yn hirdymor, yn cael cyfle i fod yn destun monitro agosach ac o bosibl, yn cael cyfle i ddechrau triniaeth inswlin yn gynt, a fydd yn helpu i reoli'r cyflwr.

Yn olaf, hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i bawb sy'n ymwneud â pharatoi a chodi arian ar gyfer yr astudiaeth hon, yn enwedig yr Athro Parth Narendran, athro meddygaeth diabetes, a Dr Lauren Quinn, cymrawd ymchwil clinigol ym Mhrifysgol Birmingham. Diolch.

Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau

Mae yna gynnig nawr i ethol Aelodau i bwyllgorau. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Siân Gwenllian.

Cynnig NNDM8135 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

2. Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

3. Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod o Bwyllgor y Llywydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae'r cynnig wedi ei wneud yn ffurfiol. Felly, a oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i ethol Aelod i'r Pwyllgor Deisebau

Y cynnig nesaf yw i ethol Aelod i'r Pwyllgor Deisebau. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes—Siân Gwenllian, unwaith eto—i wneud y cynnig.

Cynnig NNDM8134 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhys ab Owen (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24
6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith—'Cysylltedd digidol—band eang'

Eitem 6 sydd nesaf a hwnnw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Cysylltedd digidol—band eang'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8123 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Cysylltedd digidol—band eang’, a osodwyd ar 1 Awst 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i agor y ddadl yma yn enw y pwyllgor. Wrth gwrs, i gychwyn, mi hoffwn i ddiolch i'r holl randdeiliaid hynny sydd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor, a dwi hefyd yn hynod o falch bod y Gweinidog wedi derbyn yr holl argymhellion y mae'r pwyllgor wedi eu gwneud.

Fel pwyllgor, y man cychwyn i ni yw y dylai pawb yng Nghymru allu cael mynediad at fand eang cyflym. Mae mwy a mwy o'n bywydau ni yn cael eu byw ar-lein—dyma sut dŷn ni'n trefnu apwyntiadau; dŷn ni'n delio â'n cyfrifon banc ar-lein erbyn hyn, nifer ohonom ni; dŷn ni'n siarad â ffrindiau a theulu ar-lein hefyd. Ac mae byw heb fynediad at y rhyngrwyd yn golygu bywyd llai cyfoethog, gyda llai o ddewis, ac, yn bwysig iawn, llai o fynediad at wasanaethau hanfodol. Ac fe allaf i siarad o brofiad personol—mae fy mhlant i'n byw mewn cartref lle does yna ddim band eang gwerth ei gael. Mae hynny wedyn â goblygiadau o ran defnyddio adnoddau addysgiadol rhyngweithiol, dibynnu mwy ar adnoddau ar bapur, sy'n llawer llai cyffrous, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Felly, dŷch chi'n gweld sut y mae methu â chael mynediad i fand eang yn effeithio'n ymarferol iawn, iawn ar fywydau nifer o bobl. Ac yn anffodus, mae’r ddarpariaeth band eang cyflym iawn ledled Cymru yn anghyson, ac mae yna raniad digidol rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol, yn enwedig. Mae gormod o ardaloedd gwledig yn dal i fethu â chael cysylltiad da â’r rhyngrwyd.

Oherwydd topograffeg fynyddig Cymru, mae hynny yn golygu bod cyfran uwch o eiddo sy’n anodd eu cyrraedd yma yng Nghymru o'i gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae Ofcom yn amcangyfrif bod tua 10,000 eiddo yng Nghymru sy’n methu cael band eang da—10,000 eiddo. Mae'r sefyllfa wedi gwella'n sylweddol—ac mae'n rhaid cydnabod hynny—yn y blynyddoedd diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyllid sylweddol yn y maes polisi hwn. Yn sgil cynllun gwreiddiol Cyflymu Cymru, rhwng 2012 a 2018, fe gafodd £220 miliwn ei fuddsoddi i gysylltu tua 700,000 eiddo â band eang cyflym iawn. Ond mae hwn yn faes polisi sydd wedi’i gadw yn ôl—mae e'n reserved, onid yw e? Ac yn syml, dyw hi ddim yn gynaliadwy i Lywodraeth Cymru barhau i ailgyfeirio cyllid o feysydd datganoledig i lenwi bylchau ariannu sy’n gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wrthym ni yn y pwyllgor, a dwi'n dyfynnu, bod

'cyllid y DU wedi methu ag adlewyrchu gwir gost ei gyflwyno yn nhirwedd Cymru'.

A dwi'n cytuno'n llwyr â hynny. Mae angen mynd i’r afael â’r diffyg cyllid hwnnw. Dwi’n falch bod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhelliad ni fel pwyllgor ar y mater hwn, ond dwi ddim yn obeithiol iawn y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn newid eu meddwl ar hynny—fe gawn ni weld.

Felly, sut mae cyrraedd y 0.6 y cant yna o eiddo sy’n weddill sy’n methu cael mynediad at fand eang da? Wel, ers Mawrth 2020, gall aelwydydd sy’n methu cael band eang da ofyn i BT uwchraddio’r cysylltiad o dan y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol wedyn i BT wella'r cysylltiad am ddim os mai’r amcangyfrif yw bod y gost o osod yn is na £3,400 i'r cwsmer. Ond os yw'r gost yn fwy na'r cap yna o £3,400, yna mae'n rhaid i'r cwsmer dalu'r swm dros ben. Dyw hynny ddim yn fforddiadwy i’r rhan fwyaf o bobl—yn enwedig yng nghanol argyfwng costau byw fel dŷn ni'n ei brofi nawr—a dŷn ni fel pwyllgor wedi annog Llywodraeth Cymru i drafod codi lefel y cap yna gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn 2020, fe wnaeth y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol alw am sefydlu tasglu i chwalu rhwystrau, er mwyn gwella’r broses o gyflwyno seilwaith digidol. Fe wnaethom ni gefnogi hyn fel pwyllgor, a dwi’n falch bod y Gweinidog wedi gallu cyhoeddi yr wythnos diwethaf bod adroddiad y tasglu wedi cael ei gyhoeddi. Fe fyddwn ni'n edrych ymlaen i glywed gan y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl yma y prynhawn yma, am gasgliadau ac argymhellion y tasglu, ac egluro efallai ble dŷn ni'n mynd nesaf o safbwynt gweithredu ar hynny.

Roedd rhai cyfranwyr yn awgrymu y dylid gwneud cysylltedd ffeibr llawn yn ofyniad ym mhob datblygiad tai newydd. Dŷn ni'n cefnogi’r awgrym ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gellir cyflwyno gofyniad o’r fath yng Nghymru. Roedd gennym ni ddiddordeb hefyd mewn clywed bod datblygwyr tai yn ystyried cysylltedd digidol pan fyddan nhw yn cynllunio datblygiadau. Yn wir, mae un datblygwr wedi sefydlu ei ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd ei hun. Ar un olwg, mae hynny yn gam positif, ond rŷn ni yn bryderus braidd efallai fod yna botensial yn fanna wedyn i ddatblygwyr rwymo perchnogion tai fel hyn i'r ddarpariaeth y maen nhw yn ei chynnig a neb arall. Hynny yw, gallai hynny o bosib gyfyngu ar y dewis sydd ar gael i berchnogion tai a gwneud y farchnad, wrth gwrs, ar yr un pryd, yn llai cystadleuol. Rŷn ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gadw golwg ar hyn er mwyn sicrhau bod yna ddim datblygiadau anaddas yn digwydd.

15:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Un o'n prif bryderon ni oedd, ac yw, cynhwysiant digidol. Er bod mwy a mwy o bobl yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn, mae'r gost mynediad yn aml iawn yn rhwystr i lawer, yn enwedig eto yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae risg y bydd mynediad at fand eang yn dod yn ryw fath o foethusrwydd na fydd nifer o bobl yn gallu ei fforddio. Felly, pa gamau y mae modd eu cymryd? Mae sawl darparwr band eang, rŷn ni'n gwybod, yn cynnig tariffau cymdeithasol am gost is i'r aelwydydd hynny sy'n gymwys ar gyfer y tariff hwnnw. Ond mi gafodd aelodau'r pwyllgor eu syfrdanu fod cyn lleied yn manteisio ar y tariffau cymdeithasol yma. Dim ond 3.2 y cant o aelwydydd cymwys ar gyfer tariff cymdeithasol sydd ar dariff cymdeithasol. Mae hynny yn druenus o isel, ac a dweud y gwir, mae e'n warth o beth. 

Mae'n rhaid i gofrestru ar dariffau cymdeithasol fod yn broses mwy eglur, yn rhywbeth mwy syml. Dylid hyd yn oed ystyried cofrestru aelwydydd cymwys yn awtomatig. Mae hwnna'n sicr yn opsiwn, a dwi'n falch bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers hynny wedi cyflwyno mesurau i'w gwneud hi'n haws i bobl gofrestru ar gyfer tariffau cymdeithasol. Dwi'n gobeithio y byddan nhw yn cael effaith gadarnhaol. Yn ei ymateb i’n hadroddiad, fe ddywedodd y Gweinidog fod swyddogion yn uned cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o dariffau cymdeithasol. Dwi'n croesawu hynny, ac yn sicr, fel pwyllgor, rŷn ni eisiau gweld mwy o bobl yn manteisio ar yr hyn y mae ganddyn nhw hawl i'w gael.

Roedd y mudo o linellau tir—landlines—i brotocol llais dros y rhyngrwyd yn bryder mawr i grwpiau sy’n cynrychioli defnyddwyr. Mae nifer ohonom ni fel Aelodau yn lleol, dwi'n siŵr, wedi cael ymwneud â'r mater yna. Mae materion a allai fod yn rhai sylweddol i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni yn codi yn sgil y newid arfaethedig yna. Efallai eu bod yn byw mewn ardal anghysbell neu wledig gyda mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd. Rŷn ni yn falch, wrth gwrs, bod y broses fudo honno wedi’i gohirio am y tro, ac rŷn ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru adrodd yn ôl i ni fel pwyllgor ar y mater yma.

Efallai y bydd Llywodraeth Cymru am ystyried y dull a ddefnyddiwyd yn yr Alban, sydd, ers dros bum mlynedd erbyn hyn, wedi cyflwyno rhaglen genedlaethol i helpu pobl i symud o analog i ddigidol, yn arbennig pobl sy'n defnyddio teleofal a monitro iechyd o bell. Hefyd, mae gan yr Alban gynllun teleofal digidol i gefnogi’r broses fudo ar gyfer y rhai sy’n wynebu’r risg mwyaf. Mi fyddwn i yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog ystyried y cynigion hyn ac, os nad yw e'n gallu ymateb iddynt heddiw, ei fod yn rhoi diweddariad ysgrifenedig i ni ar y materion yma maes i law.

I gloi felly, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i’r rhanddeiliaid a gyfrannodd at ein gwaith ni, ac i’r Gweinidog am ei ymateb adeiladol i’r adroddiad. Mae cynnydd sylweddol wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf tuag at gynyddu mynediad at fand eang. Rŷn ni bellach nawr lawr i 0.6 y cant—y 0.6 y cant olaf hynny—ac mae technolegau newydd bellach ar gael, wrth gwrs, a ddylai wneud yr ymdrech olaf honno yn fwy cyraeddadwy, a, gobeithio, yn fwy fforddiadwy hefyd. Ond does dim amheuaeth bod angen cefnogaeth y Llywodraeth ar yr eiddo hyn. Mae'n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried anghenion penodol Cymru wrth ddylunio a chreu ei phecynnau ariannol ac ariannu nesaf. Allwn ni ddim ailgyfeirio cyllid o feysydd datganoledig.

Ond yr her fwyaf arwyddocaol i lawer mewn cymdeithas ar hyn o bryd, wrth gwrs, fydd cost mynediad ei hun. I lawer, bydd cost band eang yn ormod, a bydd y drws i gynifer o’r gwasanaethau sydd ar gael ar-lein—y rhai y mae nifer ohonom ni erbyn hyn yn eu cymryd yn ganiataol—ar glo i lawer yn ormod o bobl Cymru. Diolch.  

15:40

Diolch i'n Cadeirydd am ei sylwadau. Rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 10 prif argymhelliad yn adroddiad ein pwyllgor ar gysylltedd digidol. Mae'r holl ymdrechion a wnaed i wella cysylltedd digidol i'w croesawu'n fawr, ond mae adroddiad y pwyllgor yn mynd ymlaen i ofyn cwestiynau am strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym Gymru sydd wedi'i chysylltu'n ddigidol.

Mae’r adroddiad yn nodi, yn 2014, y gallai 55 y cant o eiddo preswyl gael mynediad at fand eang ar gyflymder o 30 Mbps neu uwch, o gymharu â 75 y cant ledled y DU. Erbyn 2021, roedd y ffigur hwn wedi cynyddu i 94 y cant yn erbyn cyfartaledd y DU o 96 y cant. Felly, rwy’n falch o weld y cynnydd, ond fel y nodwyd yn huawdl, gŵyr pob un ohonom am ardaloedd yn ein rhanbarthau neu ein hetholaethau lle mae gan bobl fand eang poenus o araf.

Fwy a mwy, mae pobl bellach yn dymuno lawrlwytho ffilmiau, mae pobl ifanc am wneud eu gwaith cartref, felly mae'n wirioneddol—. Mae wedi cael ei gategoreiddio bellach fel cyfleustod, onid yw. Dyma'r pedwerydd cyfleustod. Cytunaf yn gryf â’r pwyntiau hynny. Yn sicr, mewn cymunedau gwledig anghysbell, mae'n hollbwysig nad band eang yn unig sydd gan bobl, ond band eang cyflym.

Yn fwyaf arbennig, 46 y cant yn unig o gartrefi yng Nghymru sy'n cael cyflymder band eang o 100 'megadŵda' neu gyflymach, o gymharu â 66 y cant ledled y DU. Yn yr un modd, 44 y cant yn unig o gartrefi yng Nghymru sy'n cael cyflymder band eang o 300 Mbps neu gyflymach, o gymharu â 65 y cant ledled y DU. Felly, rydym yn awyddus i godi'r gwastad yma gyda band eang.

Rwy’n llwyr gefnogi sefydlu’r tasglu chwalu rhwystrau a grybwyllir yn yr adroddiad i ystyried ffyrdd o wella’r broses o ddarparu'r seilwaith digidol, gan ddysgu o'r enghreifftiau lleol mwyaf llwyddiannus a sicrhau bod datblygwyr ac awdurdodau’n gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth wirioneddol gyhoeddus-preifat, fel y nododd Ogi yn eu cyflwyniad.

Sylwaf yn eich ymateb ichi dderbyn argymhelliad y pwyllgor eich bod yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ddatblygu mentrau cyhoeddus newydd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion penodol Cymru ac y dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn ôl ar gynnydd o fewn y chwe mis nesaf. Edrychaf ymlaen at weld yr adroddiad hwnnw yn ôl yr hyn a drefnwyd.

Nodaf gyda diddordeb hefyd, ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â’r galwadau gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon am dystiolaeth ar gysylltu safleoedd anodd iawn eu cyrraedd, y mae gan bob un ohonom enghreifftiau ohonynt, a bydd cyfle pellach i roi ymateb ffurfiol mewn perthynas â hynny i ymgynghoriad ar y mater yn ddiweddarach eleni. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymrwymo i weithio gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros ddiwylliant, y Gwir Anrhydeddus Michelle Donelan AS, i sicrhau bod pob lefel o Lywodraeth yn cydweithio i weithredu argymhellion adroddiad y pwyllgor. Oherwydd, yn y pen draw, un genedl unedig ydym ni, ac rydym yn perfformio orau pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd fel Llywodraethau i ddatrys y problemau cymhleth hyn.

Mae hwn yn fater hanfodol bwysig i fy etholwyr yn Aberconwy, gan fod y rheini sy’n wynebu problemau cysylltedd yn anghymesur o debygol o fod yn oedrannus neu o fod yn byw mewn cymunedau gwledig neu anghysbell. Yn ôl ymchwil a gyflawnwyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru, roedd dros 50 y cant o ymatebwyr mewn ardaloedd gwledig yn teimlo nad oedd y rhyngrwyd y mae ganddynt fynediad ati naill ai’n gyflym neu’n ddibynadwy, a dywedodd 66 y cant eu bod hwy neu eu haelwyd wedi cael eu heffeithio gan fand eang gwael. Disgrifiodd 57 y cant o’r rheini o ardal wledig y signal ffonau symudol yn eu tŷ fel un annibynadwy, a 49 y cant o’r rheini—

Rwy'n gwrando gyda chryn ddiddordeb ar eich cyfraniad. Mae'r niferoedd rydych yn eu darllen yn dystiolaeth o fethiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflawni'r hyn sy'n fater a gedwir yn ôl. A wnewch chi ymuno â ni i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddweud wrth Lywodraeth y DU ei bod yn bryd iddynt dynnu eu bys allan a chofio bod Cymru'n rhan o’r DU hon, a’n bod yn haeddu’r un gwasanaethau ag y maent yn eu darparu ar yr ochr arall i’r ffin?

15:45

Wel, mae'n rhaid imi anghytuno â fy nghyd-Aelod draw ar y meinciau hynny, ond mewn gwirionedd, mae Llywodraeth y DU, dros y blynyddoedd, wedi darparu adnoddau sylweddol, a Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am y cyflwyno ei hun. Felly, gadewch inni feio'r rheini sy'n gyfrifol—

Na, mae'n ddrwg gennyf—[Torri ar draws.] Mae gennyf hawl i rywfaint o amser ychwanegol.

Mae'n swyddogaeth nad yw wedi'i datganoli; [Anghlywadwy.]—gwariwch arian arni.

Roedd yr adroddiad hwn ar ran ein pwyllgor yn Senedd Cymru yn ymwneud â gallu Llywodraeth Cymru i gadw at ei haddewidion mewn perthynas â band eang. Maent wedi derbyn yr holl argymhellion. Mae hynny'n dweud wrthyf, ac wrth bawb y tu allan i'r lle hwn, fod angen gwneud y gwaith hwnnw, a bod Llywodraeth Cymru yn methu. Diolch yn fawr.

Diolch i'r pwyllgor am ei holl waith ar y pwnc yma. Dwi ddim yn siŵr os oedd y siaradwr diwethaf wedi darllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd.

Mae’r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor a’r ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i’w croesawu’n fawr. Nid oes ond angen inni edrych yn ôl mor ddiweddar â’r cyfyngiadau symud i weld pa mor bwysig yw cael mynediad digonol at fand eang. Roedd yn un o'r ychydig iawn o ffyrdd a oedd gan lawer ohonom i osgoi teimlo’n ynysig a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau ac anwyliaid. Fe wnaeth y pandemig ein gorfodi i ofyn cwestiynau ynglŷn â'r ffordd orau inni ddefnyddio adnoddau i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol dybryd, a chefais fy atgoffa o hyn yn ddiweddar iawn pan ymwelais â champws Pencoed Coleg Penybont. Soniodd sawl myfyriwr yno am eu profiadau yn ystod y cyfyngiadau symud, a sut roedd eu diffyg mynediad at fand eang a chaledwedd addas, fel gliniaduron, wedi golygu eu bod ar ei hôl hi gyda gwaith ysgol, neu eu bod wedi gorfod defnyddio data eu ffonau symudol. Dywedodd un myfyriwr wrthyf ei bod, i bob pwrpas, wedi colli gwerth blwyddyn o addysg am fod ei Wi-Fi mor wael.

Yn oes llythrennedd a chysylltedd digidol, mae cymunedau nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd o dan anfantais gyffredinol, nid yn unig yn gymdeithasol, ond hefyd o ran addysg a chyflogadwyedd. Mae hyn yn arbennig o wir ers y pandemig, gyda mwy o swyddi'n cael eu cynnig ar sail gweithio o bell. Mae gweithio o bell yn rhoi cyfle i bobl weithio gartref, aros yn eu cymunedau, cyfrannu at economïau lleol, ac yn y pen draw, aros yng Nghymru, ond nid yw'n bosibl i bawb. O gofio hyn, mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor yn galonogol. Wedi dweud hynny, mae’n destun pryder o hyd, yn ôl ymchwil gan Lywodraeth Cymru i gynhwysiant digidol, nad yw 7 y cant o oedolion ar-lein. Mae'r un ymchwil yn dangos bod yr anghydraddoldeb hwn yn cael effaith ar anghydraddoldeb ehangach, a bod ganddo'r potensial i'w waethygu. Felly, er enghraifft, y rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yw rhai o ddefnyddwyr mwyaf gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac felly maent mewn perygl o gael eu gadael ar ôl gan wasanaethau digidol diofyn. Mae Ofcom hefyd yn amcangyfrif na all oddeutu 10,000, neu 0.6 y cant o adeiladau yng Nghymru gael gwasanaeth band eang digonol â chyflymder lawrlwytho o 10 Mbps o leiaf, a chyflymder lanlwytho o 1 Mbps. Edrychaf ymlaen at weld unrhyw gynnydd ar sicrhau bod yr 1 y cant olaf hwn o bobl yn cael mynediad at fand eang digonol, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor.

Mae angen inni ymwreiddio’r syniad fod y rhyngrwyd, heddiw, ymhell o fod yn foethusrwydd; mae’n wasanaeth angenrheidiol sy’n galluogi ac yn rhywbeth y mae’n rhaid i bawb allu cael mynediad ato mewn cymdeithas fodern. Mae pobl hŷn, pobl sydd ag anableddau, pobl ddi-waith a phobl ar gyflogau isel, pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig a llawer o grwpiau eraill oll mewn perygl o gael eu gadael ar ôl. Er fy mod yn ymwybodol fod sawl darparwr band eang yn cynnig tariffau cymdeithasol rhatach i aelwydydd cymwys, ychydig iawn o bobl sy'n manteisio ar y cynigion hyn. Fel rydym wedi'i glywed eisoes, hyd at fis Medi 2022, 3.2 y cant y unig o aelwydydd sy’n cael credyd cynhwysol sydd ar dariff cymdeithasol. Ac fel y soniais yn y Siambr yn ddiweddar, credaf ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ba gymorth sydd ar gael iddynt.

Ond mae’n ddiogel dweud bod Llywodraeth y DU wedi bod yn gwneud cam â ni yma yng Nghymru yn y maes cymhwysedd hwn a gedwir yn ôl, gan wneud inni wario’r miliynau ar seilwaith a meysydd eraill lle dylent fod wedi bod yn buddsoddi i sicrhau bod gan bawb fynediad at fand eang digonol. Mae hwnnw'n arian a wariwyd gan Lywodraeth Cymru lle na ddylai fod rhaid ei wario, ac arian y gallem fod wedi’i fuddsoddi mewn mannau eraill, pe bai Llywodraeth y DU wedi bod yn buddsoddi’n briodol. Dyna arian a allai fod wedi mynd tuag at helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw, er enghraifft. Yn syml, nid yw hyn yn ddigon da. Rydym yn haeddu gwell. Mae ein cymunedau, sydd heb gysylltiad ar hyn o bryd, yn haeddu gwell. Dyma un o’r rhesymau pam fy mod yn codi llais dros wasanaethau sylfaenol cyffredinol. Yn sicr, fy ngobaith, yn y blynyddoedd a’r degawdau nesaf, yw y bydd ein gweledigaeth o ba wasanaethau a ddylai fod ar gael i bawb yn parhau i ehangu a dod i gynnwys gwasanaeth fel band eang sylfaenol i bawb.

15:50

Mae angen cymryd camau brys i sicrhau nad oes unrhyw gymuned, unrhyw fusnes nac unrhyw gartref yn cael eu gadael ar ôl er mwyn atal anghydraddoldeb. Canfu arolwg gan Sefydliad y Merched nad oedd dros 50 y cant o ymatebwyr mewn ardal wledig yn teimlo bod eu rhyngrwyd yn gyflym ac yn ddibynadwy, a dywedodd 66 y cant eu bod hwy neu eu haelwyd wedi cael eu heffeithio gan fand eang gwael. Roeddent yn cael anhawster i gael gafael ar wybodaeth, cysylltu â darparwyr a gwybod pa gyllid sydd ar gael. Felly, mae angen inni wneud i bob cysylltiad gyfrif, a'i ychwanegu, efallai, at y cymorth grant sydd ar gael ar gyfer costau byw.

Mae angen i ddarparwyr gwasanaethau chwarae eu rhan ac ymrwymo i wella cyfathrebu â'u cwsmeriaid ynglŷn â'r gwasanaethau sydd ar gael, a chael mynediad at dariffau cymdeithasol. Wrth symud ymlaen, er mwyn i seilwaith band eang fod yn gosteffeithiol, bydd angen iddo gael ei lunio mewn ffordd gynhwysfawr, gyda manteision hirdymor mewn golwg sy’n gwasanaethu pawb, gan gynnwys y rheini mewn ardaloedd gwledig. Yn Lerpwl, ceir prosiect menter ar y cyd sydd wedi'i hyrwyddo gan faer metro dinas Lerpwl, Steve Rotheram. Golyga'r bartneriaeth hon fod buddsoddiad cyhoeddus yn rhoi cyfran i'r awdurdod yn y sefydliad, ac yn sgil hynny, yn hytrach na bod elw yn unig ystyriaeth, mae budd cymdeithasol hefyd yn ganolog i'r prosiect band eang. A gall y cyhoedd barhau i elwa ar y buddion am flynyddoedd i ddod. Byddai prosiect menter ar y cyd o'r fath o fudd i'r cyhoedd yng Nghymru. Felly, byddai’n dda pe bai swyddogion a Gweinidogion yn fodlon ymchwilio i opsiwn o’r fath er mwyn hybu cysylltedd digidol yn ddynamig yn y gogledd a gweddill Cymru, fel sy'n digwydd ar sail dameidiog iawn ac yn araf iawn ar hyn o bryd.

O ystyried yr amryw ddatganiadau yn yr adroddiad ar gysylltedd digidol sy’n pwysleisio bod yr atebion sydd eu hangen i bontio’r gagendor digidol rhwng ardaloedd gwledig a threfol yn galw am gymysgedd o fynediad di-wifr sefydlog a ffeibr, mae’n braf fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon blaengar i gefnogi menter prosesu signalau digidol Prifysgol Bangor i ddarparu ateb hybrid o’r fath ar Ynys Môn, ac rwy'n gobeithio y caiff hyn ei gyflwyno'n llwyddiannus. Dywedwyd wrth aelod o’r consortiwm gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon—adran Llywodraeth y DU—na fyddai’r gogledd yn cael unrhyw fuddsoddiad am ddwy flynedd arall, gan fod ardaloedd eraill wedi'u blaenoriaethu ar gyfer cyllid cronfa seilwaith £5 biliwn Llywodraeth y DU. Felly, mae angen inni barhau i wthio i hynny ddigwydd ar unwaith, ac iddo ddigwydd yng Nghymru, a pheidio â’i wneud yn flaenoriaeth isel i Lywodraeth y DU.

A wnaiff y Gweinidog atgyfnerthu awydd y Llywodraeth i wthio'r fenter ar Ynys Môn ymlaen i’r cyfnod cyflwyno cyn gynted â phosibl? Mae’n adlewyrchu’r syniadau mwyaf diweddar o ran yr atebion sydd eu hangen i ddarparu cysylltedd a gwasanaethau digidol i’r lleoliadau gwledig mwyaf heriol, fel y gellid eu cyflwyno ledled Cymru—y gogledd a'r canolbarth.

Yn ogystal, a gawn ni sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o unrhyw lwyfannau ffeibr a thorfol presennol i leihau costau darparu, ac felly osgoi’r perygl diangen o ariannu seilwaith dyblyg, gyda’r nod o ddarparu llwyfan rhwydwaith mynediad agored i unrhyw ddarparwr ddarparu gwasanaethau i’n cymunedau gwledig? Dywedir wrthyf fod ffeibr tywyll ar gael yn agored sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac a osodwyd gyda chyllid Ewropeaidd beth amser yn ôl, ac nad yw pob darparwr yn ei ddefnyddio neu'n ei hyrwyddo—neu efallai nad ydynt yn ymwybodol ohono, gan ffafrio defnyddio mwy o gyllid cyhoeddus i osod eu rhwydwaith. Mae angen ymchwilio i hynny.

Gyda mwy o ddibyniaeth ar gyfathrebu ar-lein ar gyfer iechyd, cyflogaeth, grantiau busnes ac addysg, mae arnom angen mwy o gysylltedd band eang digonol i bobl. Ac rwy'n cytuno y dylid ei gydnabod fel gwasanaeth hanfodol. Diolch.

Diolch i'r pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth ddeheuig fy nghyfaill Llyr Gruffydd fan hyn, am yr adroddiad yma. Mae'n un sy'n arbennig o berthnasol i Ddwyfor Meirionnydd. Dwi am ganolbwyntio'n benodol ar yr adran sy'n sôn am gysylltu y rhai hynny sydd wedi'u gadael ar ôl. Mae'n rhaid imi fynegi fy siom aruthrol yn yr agwedd eithaf di-hid y mae rhai o'r darparwyr ac eraill yn y maes yn ei dangos tuag at yr 1 y cant, neu yn wir rhagor, o bobl sy'n methu, ac a fydd yn methu, â chael mynediad i'r we. Mae yna sôn am ddefnyddio technolegau eraill, megis ffonau symudol neu loeren, ond mae hyn yn dangos diffyg dealltwriaeth elfennol o’n cymunedau gwledig. Edrychwch ar Ddwyfor Meirionnydd; does yna ddim mynediad at signal ffôn mewn llawer o rannau yma, ac mae cael lloeren i weithio naill ai yn amhosibl oherwydd natur mynyddig y dyffrynnoedd yn yr ardal neu yn fwy costus a llai dibynadwy.

Mae yna fusnesau yn Islawr-dref, ger Dolgellau, er enghraifft, sydd wedi trio eu gorau i gael rhyngrwyd i'w cyrraedd acw, ond mae’r costau iddyn nhw’n ddegau o filoedd o bunnoedd. Mae un perchennog busnes a’i deulu rŵan yn edrych i symud i’r Amwythig oherwydd y methiant yma i gael mynediad at y we, ac felly ei anallu i redeg ei fusnes. Mae gen i deulu yng Nghwm Pennant sy’n weithwyr allweddol ac yn gorfod gweithio o adref, a thra bod pob un tŷ cyfagos wedi cael mynediad at y we—pob un yn dŷ gwyliau neu'n dŷ haf, gyda llaw—dydyn nhw ddim wedi cael mynediad, ac maen nhw wedi cael dyfynbris i osod isadeiledd o dros £74,000. Maen nhw fel teulu sydd wedi byw yno am sawl cenhedlaeth bellach yn gorfod edrych i symud o’r ardal.

Mae cymuned Brithdir wedi llwyddo i ddod ynghyd â chael y nifer o bobl angenrheidiol i gael y vouchers er mwyn cael BT i wneud y gwaith gosod isadeiledd yno, ond, er gwthio a gwthio am flwyddyn a mwy, maen nhw’n dal i aros i’r gwaith gael ei orffen blynyddoedd yn ddiweddarach. Roeddwn i yng Nghricieth wythnos diwethaf, ac yno mae busnesau’n colli pres oherwydd bod yna broblem sylweddol ar y mast ffôn sy’n darparu signal i’r terminalau talu yn y siopau a busnesau, efo gweithwyr lleol megis adeiladwyr yn ddibynnol ar signal ffôn er mwyn cael busnes hefyd. Mae’r cyfan wedi bod lawr ers 18 Hydref, a dim ymateb na dim sôn am atgyweirio. Dyma ydy’r realiti byw mewn cymuned wledig. Ac fel y gwelwch chi, mae’r problemau yma, boed yn rhyngrwyd neu’n signal ffôn, yn rhai cyffredin iawn yn ein hardaloedd ni, ac mae’r ffordd y mae’r cwmnïau a darparwyr mawr yn eu diystyru ac yn eu hanwybyddu yn gwbl, gwbl warthus.

Felly, fel y dywedodd fy nghyfeillion Luke Fletcher a Carolyn Thomas, mae mynediad at y we bellach yn un o hanfodion bywyd yn yr oes fodern. Ydy, mae’n swnio’n rhyfedd, ond mae o’n wir. Mae’n gwbl hanfodol, er enghraifft, os am wneud gwaith ysgol, os am ffermio, os am redeg busnes o ran gwerthu neu farchnata, os am gysylltu efo pobl eraill, ac yn y blaen. Rydyn ni yma, pob un, dwi’n siŵr, yn ddibynnol ar WhatsApp i gadw cyswllt a rhannu gwybodaeth. Os ydyn ni’n ddibynnol yn ar y gwaith hynny a’r dechnoleg yma, yna mae’r un yn wir am y bobl rydyn ni’n eu cynrychioli yn ein cymunedau gwledig. Mae pob un yma, er enghraifft, o bryd i’w gilydd, yn ffilmio eitemau i’w postio ar y we. Mae pobl hefyd yn ein cymunedau ni yn gwneud yr un peth. Mae plant yn siarad efo’i gilydd a sôn a ydyn nhw wedi gweld y rhaglen ddiwethaf ar Netflix, neu ar YouTube, wedi gweld PewDiePie a’r bobl yma ar YouTube, ac mae’r plant sydd yng Nghwm Pennant ac yn y blaen yn dweud, ‘Na, mae arnaf i ofn fy mod i ddim wedi’i weld o’, ac maen nhw’n cael eu bwlio, neu maen nhw’n cael eu gadael allan o sgyrsiau a thrafodaethau.

Felly, mae argymhelliad 3 sydd yn yr adroddiad rhagorol yma yn hanfodol, ond fe hoffwn i awgrymu nad ydy’r Llywodraeth yn rhoi monopoli i Openreach o hyn ymlaen. Mae’r arbrawf yna sydd wedi gadael gormod o’n cymunedau i lawr, ac wedi rhoi gormod o bres cyhoeddus Cymru i un cwmni mawr allanol, wedi methu, ac yn hytrach na hynny, dylid hyrwyddo darparwyr a chwmnïau cydweithredol lleol, gan ddysgu o arfer da cwmnïau megis Guifi yng Nghatalonia, HSLnet yn yr Iseldiroedd, neu B4RN—Broadband for the Rural North Ltd—yn sir Gaerhirfryn. Dyna ydy’r ffordd ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

15:55

Fel eraill, hoffwn innau ddiolch i’r pwyllgor am yr adroddiad hwn ac am yr ymchwiliad byr hwn. Roeddwn yn meddwl bod y pwyntiau a wnaeth Cadeirydd y pwyllgor wrth agor y ddadl hon yn rhai da a'u bod wedi sefydlu grŵp clir iawn o ganfyddiadau rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb iddynt. Ond y gwir amdani yw bod angen i Lywodraeth y DU ymateb i hyn hefyd. Ac rwy’n cymryd rhan yn y ddadl hon gan fy mod wedi gwrando ar y cyfraniadau'r prynhawn yma, ac mae llawer wedi canolbwyntio ar anghenion Cymru wledig, gan ddisgrifio hyn fel problem sy’n wynebu ardaloedd gwledig yn unig. Ond rhaid imi ddweud wrthych, nid yw hynny'n wir. Mae hyn yn ymwneud â mwy na chymunedau gwledig yn unig. Mae'n ymwneud â rhai o'n hardaloedd trefol mwyaf poblog hefyd. Os ewch i rannau o Gaerdydd, mae gennych broblemau sylweddol gyda diffyg mynediad at fand eang digon cyflym. Ac yn fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent, mae gennych sawl rhan o'r gymuned na allant gael mynediad at y cyflymder band eang sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn agweddau ar fywyd modern, fel rydych wedi'i ddisgrifio, Mabon, ond hefyd, nid yw'r busnesau sy'n gweithredu yno yn gallu cael mynediad at farchnadoedd am nad oes ganddynt y cyflymderau band eang sydd gan rannau eraill o’r DU.

Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'r Gymru wledig yn erbyn y Gymru drefol—mae'n ymwneud â methiant system y DU i ddarparu ar gyfer Cymru gyfan. Dyna pam y credaf fod yr adroddiad hwn mor bwysig. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros y blynyddoedd. Rwy’n cofio siarad â Gweinidogion dros gyfnod hir o amser nawr am yr angen i fuddsoddi mewn band eang, mewn gwahanol fathau o fand eang, dros y blynyddoedd, ond gadewch inni fod yn gwbl glir ynglŷn â ble mae’r methiant yn hyn o beth, ac mae’r methiant yn system y DU nad yw'n darparu ar gyfer Cymru. Methiant y farchnad ydyw. Nid yw’r farchnad yn darparu'r mathau o gyflymder a chysylltedd band eang sydd eu hangen ar bobl. Mae'n fethiant rheoleiddio, gan nad yw'r rheoleiddiwr yn sicrhau bod y farchnad yn darparu. Ac yn olaf, mae’n fethiant Llywodraeth, gan fod y Llywodraeth yn caniatáu i’r rheoleiddio fethu.

Felly, methiant y system ydyw. Ac rwy'n mynd i helpu Janet Finch-Saunders nawr, os yw hi—. Dyma ni, rwyf wedi cael ei sylw. Oherwydd nid methiant y Llywodraeth Geidwadol bresennol yn unig mohono, er ei fod yn fethiant ar eu rhan hwy hefyd. Roedd hefyd yn fethiant o dan Lywodraethau Llafur blaenorol, ac roedd gan y system a sefydlwyd gan Lywodraeth Blair, Ofcom a’r gweddill, fethiant wrth ei gwraidd, gan ei bod yn canolbwyntio ar y—[Torri ar draws.] Fe dderbyniaf eich ymyriad, ond gadewch imi orffen y frawddeg; gallwn daro bargen ar hynny. Sefydlwyd Ofcom i edrych ar hawliau a chyfrifoldebau defnyddwyr, ac nid hawliau dinasyddion, a’r ddadl honno, yn fy marn i, a gollwyd pan oedd Ofcom yn cael ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl. Fe wnaf ildio.

16:00

Roeddwn am ddweud: a wnaiff yr Aelod o leiaf gydnabod bod gennym ddatganoli, ac mewn achosion lle mae gennych sefyllfa fel hon, mae symiau sylweddol o arian wedi dod gan Lywodraeth y DU? Felly, rhai o'r methiannau a nodwch, ni allwch eu beio hwy, a hwythau wedi bwrw iddi i gyflwyno eu band eang yn gyflym iawn. Os oes unrhyw oedi wrth ei gyflwyno yma, ni allwch wadu bod miliynau o bunnoedd—

A allwch chi wadu'r miliynau o bunnoedd sydd wedi dod yma gan Lywodraeth y DU? 

Nid wyf yn gwadu dim; nid oes angen i mi. Methiant rwy'n ei ddisgrifio. Nid yw'n ymwneud â gwariant; mae'n ymwneud â chyflawni amcanion polisi, a dyna lle mae'r methiant. Ac nid oes angen ichi amddiffyn popeth y mae'r DU yn ei wneud. Weithiau, mae'n methu, ac mae hon yn enghraifft o fethiant, ac nid methiant y Llywodraeth yn unig ydyw, fel rwyf wedi'i ddweud wrthych—mae'n fethiant ar ran y farchnad, ac yn fethiant rheoleiddio. A bydd grym eich dadl yn fwy pan fyddwch yn cydnabod hynny, yn hytrach na cheisio amddiffyn popeth, ni waeth pa mor ofnadwy yw'r sefyllfa mewn gwirionedd. Rwy'n cydnabod y gwaith mae'r Gweinidog hwn yn ei wneud, ac rwy'n cydnabod y gwaith y mae ei ragflaenwyr wedi'i wneud, ond yn sylfaenol, aeth y Ceidwadwyr i mewn i'r etholiad diwethaf yn dweud wrth Lywodraeth Cymru na ddylent wario arian nac adnoddau ar unrhyw beth nad yw wedi'i ddatganoli. Nawr mae'n ymddangos eich bod yn dadlau y dylent gyflawni polisïau nad ydynt wedi'u datganoli, acrobateg wleidyddol sydd y tu hwnt i mi. Rwy'n ildio i Mark Isherwood. 

Onid ydych yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno o'r cychwyn cyntaf yn 2011 y byddent yn penderfynu sut i ddefnyddio a rhoi cyllid i gyfateb i gyllid roeddent yn ei gael gan Lywodraeth y DU, drwy gytundeb, i gyflwyno band eang cyflym iawn ledled Cymru? 

Rwy'n cofio trafod hyn gyda Ieuan Wyn Jones ymhell cyn 2011, ac Angela Burns oedd yn arwain y gwaith ar hynny ar y pryd. Felly, mae hyn yn mynd yn ôl flynyddoedd lawer. Ond nid wyf yn ceisio bwrw bai yn y ffordd rydych yn ceisio'i ddisgrifio yma, oherwydd rwy'n credu bod methiant, methiant systemig, yn y system sy'n darparu band eang. Ac er y gallwn bwyntio bysedd ar ein gilydd yn y Siambr os dymunwch, mae hwnnw'n ymarfer diffrwyth. Nid yw'n cyflawni dim, oherwydd nid ydym yn mynd i'r afael â gwreiddiau'r methiant. Rwyf eisiau gweld Llywodraeth Cymru—ac nid wyf am brofi eich amynedd mwyach, Ddirprwy Lywydd—rwyf eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag Aelodau'r Senedd i sicrhau bod y system sydd ar waith yn gweithio i Gymru. Mae hynny'n golygu grymuso a dweud wrth Ofcom ddarparu trefn reoleiddio sy'n cyflawni ar gyfer dinasyddion Cymru lle bynnag y maent yn byw, bod Llywodraeth y DU yn ariannu'r gwaith y mae angen iddynt ei ariannu, a bod ymyrraeth i gywiro methiant y farchnad lle mae hynny'n digwydd. Ond yn rhy aml rydym wedi caniatáu i gwmnïau telathrebu wneud llawer gormod o arian, a dweud y gwir, o beidio â gwasanaethu'r dinasyddion rydym yn eu cynrychioli, ac mae hwnnw'n fethiant polisi sylweddol dros gyfnod o 20 mlynedd. Ac mae'r methiant polisi hwnnw'n effeithio ar gymunedau ym mhob rhan o'r wlad hon, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r methiant polisi hwnnw, yn hytrach na cheisio sgorio pwyntiau gwleidyddol digon tila yn y Siambr hon ar brynhawn Mercher. 

16:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei waith ar yr adroddiad, sy'n amlygu'r meysydd lle rydym yn parhau i wneud cynnydd, ac mae angen cynnydd pellach, yn wir. Gallwn i gyd gytuno bod cysylltedd digidol yn wasanaeth hanfodol. Rwyf hefyd yn cytuno y byddwn yn hoffi iddo gael ei drin yn briodol fel cyfleustod cyhoeddus, gyda'r holl ofynion a ddaw yn sgil hynny, gan gynnwys gan y darparwyr gwasanaeth. Ni ellir gwadu ei fod hefyd yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, ond rydym yn parhau i gamu i mewn i gefnogi trigolion a busnesau, i'w helpu i gael y cysylltedd sydd ei angen arnynt gydag adnoddau datganoledig. Bydd yr her honno'n mynd yn anos wrth i'n hadnoddau ariannol wynebu mwy a mwy o heriau. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau adeiladol ar y cyfan, ac rwy'n cydnabod y drafodaeth rhwng Alun Davies a Janet Finch-Saunders, ond mae'n ffaith, nid barn, fod hwn yn fater a gedwir yn ôl ac nid yn fater wedi'i ddatganoli; mae'n ffaith, nid barn, ein bod wedi rhoi adnoddau datganoledig i ychwanegu ar yr arian sydd wedi'i fuddsoddi yng Nghymru i geisio datrys y mater, ac mae'n ffaith nad yw'r holl adnoddau hyd yma wedi'u cynllunio i ddarparu cysylltedd 100 y cant.

Yn ddiweddar, dechreuodd Llywodraeth y DU ar brosiect gwerth £5 biliwn—dyna a ddywedai'r pennawd ar y pryd—Project Gigabit i sicrhau, a'u geiriau hwy yw'r rhain, fod gan bob safle yn y DU fynediad at fand eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit; rwy'n credu mai dyna ydyw, yn hytrach na gigadŵda. Y targed gwreiddiol oedd cyflawni hyn erbyn 2025, ond cafodd hynny ei ddiwygio gan Lywodraeth y DU wedyn i 85 y cant o safleoedd y DU erbyn 2025, a holl safleoedd y DU erbyn 2030. Yn ddryslyd, nid yw 'pob safle' yn golygu pob safle mewn gwirionedd, oherwydd mae Llywodraeth y DU hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â'r hyn y mae'n ei alw'n 'safleoedd sy'n anodd iawn i'w cyrraedd' ar draws y DU. Ac mae Alun Davies yn gywir: bydd rhai o'r safleoedd hynny mewn cymunedau gwledig, a bydd rhai mewn cymunedau trefol. 

Nawr, rwy'n cydnabod yr hyn y mae llawer o'r Aelodau wedi'i ddweud, fod cysylltedd digidol yn hanfodol i bobl gadw mewn cysylltiad a gwneud mwy na goroesi'n unig. Rydym yn gwybod bod y cynnydd mewn costau byw eisoes yn cael effaith enfawr ar unigolion, teuluoedd, cymunedau a busnesau. Rydym yn archwilio'r effeithiau ar gyflawni'r strategaeth ddigidol i Gymru a sut y gall ein polisi digidol a data helpu i gyflawni ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â'n hymdrechion i wella cysylltedd band eang. Rydym wedi buddsoddi £56 miliwn o adnoddau datganoledig i helpu i gyflwyno ffeibr llawn a darparu band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit i oddeutu 39,000 o gartrefi a busnesau erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae ein grant Allwedd Band Eang Cymru wedi helpu miloedd i wella eu cyflymder band eang, ac mae ein cronfa band eang lleol wedi cynorthwyo awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i wella cysylltedd cymunedau cyfan. 

Yn ein hymateb i'r pwyllgor, gwnaethom yn glir y byddem yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ei chynlluniau i fynd i'r afael â safleoedd sy'n anodd eu cyrraedd a pharhau i gyflwyno'r achos y dylai Llywodraeth y DU fuddsoddi yn y maes hwn a gedwir yn ôl i gysylltu'r safleoedd anoddaf oll i'w cyrraedd ledled Cymru. Rydym yn rhannu pryderon y pwyllgor am ddiffodd rhwydwaith ffôn y gwasanaeth cyhoeddus. Mae fy swyddogion wedi codi'r pryderon hynny gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant, ac yn arbennig, y ffaith y bydd symud i brotocol llais dros y rhyngrwyd yn gadael cwsmeriaid yn agored i niwed pe bai toriadau trydan. Rwy'n rhoi croeso gofalus i ymrwymiad Llywodraeth y DU i godi gwerth ei thalebau gigabit. Fe wnaethom ddarparu arian ychwanegol i'r cynllun talebau DU hwn yn flaenorol er mwyn adlewyrchu costau a allai fod yn uwch o ddarparu cysylltiadau mewn tirlun fel Cymru, ond wrth gwrs, mae gennym ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i gyflawni ledled y DU. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn flaenorol, yn awgrymu y dylent edrych ar y terfynau cyllido, ac rydym yn aros i weld nawr os gall Llywodraeth y DU sicrhau cynnydd, ac os gallant, pa mor effeithiol a sylweddol fydd y cynnydd hwnnw. Rydym yn cytuno bod angen diwygio cap costau'r ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol. Rydym wedi gweld costau o ddegau o filoedd o bunnoedd yn cael eu dyfynnu i drigolion a busnesau, yn llawer uwch na'r cap o £3,400. Mae hynny'n rhoi'r union safleoedd roedd yr ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol i fod i'w gwasanaethu dan anfantais.

Rydym yn datblygu cynigion i ddiwygio rheoliadau adeiladu, fel y soniodd y Cadeirydd wrth agor y ddadl, er mwyn ceisio sicrhau cysondeb ar draws yr holl ddatblygiadau tai newydd, fel y gall trigolion fwynhau band eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit. Rydym yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar y cynigion hyn cyn bo hir. Ac rydym yn cydnabod bod cynhwysiant digidol yn fater cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae angen i bobl fod yn hyderus i ddefnyddio'r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol er mwyn goresgyn anfanteision eraill y gallent eu hwynebu. Rydym yn gwybod bod mynediad digidol yn chwarae rhan bwysig mewn cymdeithas, fel y soniodd nifer o'r Aelodau. Boed er mwyn i bobl ymgysylltu â gwasanaethau iechyd, er mwyn lleihau teimladau o unigrwydd ac unigedd drwy gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theuluoedd neu'n wir, er mwyn parhau i weithio a gallu dysgu. Fodd bynnag, mae yna bobl o hyd sy'n dewis peidio â chymryd rhan yn y byd digidol newydd, neu'r byd digidol safonol rydym i gyd wedi dod i arfer ag ef, a rhai sy'n methu fforddio'r costau sy'n gysylltiedig â bod ar-lein. Mae honno eto'n un o effeithiau eraill yr argyfwng costau byw. Ni allwn fforddio i'n dinasyddion fod dan anfantais gymdeithasol neu ariannol, yn seiliedig ar eu hawl i ddewis a ydynt eisiau ymgysylltu'n ddigidol. Felly, fel y nodwyd yn ein hymateb i'r pwyllgor, byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar eu gwaith yn arwain ar dariffau cymdeithasol.

Byddwn hefyd yn estyn allan at randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Ofcom, ynglŷn â chofrestru ar gyfer tariffau cymdeithasol—ac rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed am faes cyfrifoldeb y rheoleiddiwr a chyrhaeddiad, neu fel arall, y dewisiadau y mae wedi'u gwneud hyd yma. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn costau diofyn. Maent yn aml yn llawer uwch na phan fyddwch chi wedi'ch clymu wrth gyfraddau contract. Mae hynny'n arbennig o berthnasol nawr. Os meddyliwch am yr holl bethau rydym yn siarad amdanynt ar bob ochr i'r Siambr hon mewn perthynas â chostau byw, mae gofyn wedyn i bobl sy'n pryderu am eu gallu i aros mewn gwaith a thalu eu biliau, a'r dewis rhwng gwresogi a bwyta, gytuno i gytundeb sy'n para hyd at flwyddyn, 18 mis neu ddwy flynedd, pan nad ydynt yn gallu fforddio hynny efallai, yn her wirioneddol nawr. Ac wrth gwrs, mae hynny wedyn yn golygu eu bod o bosibl yn talu cost lawer uwch o fis i fis. Ac yn union fel y cafwyd rhywfaint o ddiwygio gyda chyfleustodau ynni mewn perthynas â'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch yn methu talu, credwn fod hwn yn faes arall lle mae angen diwygio pellach ar frys mawr.

Byddaf yn ystyried y sylwadau y mae Aelodau wedi eu gwneud yn y ddadl yn ofalus. Cafwyd nifer o sylwadau gan Aelodau ar bob ochr, ac yn hytrach na cheisio ymateb i un neu ddau ohonynt nawr, fe geisiaf ystyried y rheini ac yna gweld sut rydym am ymateb. Oherwydd rwy'n credu, ar rai o'r rheini, y bydd angen inni roi ystyriaeth bellach iddynt gyda chyd-Aelodau ar draws y Siambr ac yn y Llywodraeth, a'r potensial ar gyfer camau dilynol. Ond rwy'n gwybod y bydd y pwyllgor yn parhau i fod â diddordeb yn y maes, oherwydd rydym wedi ymrwymo, fel y mae'r pwyllgor wedi ymrwymo, rwy'n credu, fel y disgrifiodd Alun Davies—. Ac mae'n beryglus dyfynnu Alun Davies, ond rwy'n cytuno bod angen system sy'n gweithio i Gymru, gwledig a threfol, a dyna y credaf ein bod ni a'r pwyllgor yn wir wedi ymrwymo i geisio ei gyflawni.

16:10

Diolch yn fawr. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? A chan fentro cael fy sugno i mewn i'r ddadl ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am beth, rwy'n credu ei fod yn eithaf clir; mae prif ran gyntaf ein hadroddiad fel pwyllgor, ar dudalen 2, yn dechrau gyda'r geiriau 'Mae telathrebu yn fater a gedwir yn ôl', felly mae'n eglur. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes gan Llywodraeth Cymru rywfaint o gyfrifoldeb, oherwydd mae yna feysydd polisi eraill, fel cynllunio er enghraifft, sydd â rôl allweddol i'w chwarae, a denu buddsoddiad preifat drwy fentrau amrywiol hefyd. Mae digon y gallai pawb fod yn ei wneud i geisio hyrwyddo'r agenda rydym i gyd yn ei chefnogi yma, ni waeth pwy y credwn sydd fwyaf ar fai am hyn, llall ac arall.

Ond wrth gwrs, fel pwyllgor, ni allwn wneud argymhellion i Lywodraeth y DU, oherwydd nid ydynt yn atebol i'n pwyllgor ni mewn unrhyw ffordd, felly ein hargymhelliad cyntaf un yw i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â Llywodraeth y DU, oherwydd dyna'r unig ffordd y gallwn ei wneud, er mwyn sicrhau eu bod yn datblygu cynlluniau newydd i ddiwallu anghenion penodol Cymru. A rhaid i mi ddweud, y realiti yw—ac nid oes dianc rhag hyn, ni waeth pwy y credwch sydd ar fai—nid yw'r arian sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU yn adlewyrchu'r problemau penodol sydd gennym yng Nghymru, a soniais am y topograffi mynyddig ac yn y blaen; mae cyflwyno band eang yng Nghymru'n ddrutach nag y mae mewn rhannau eraill o'r DU. Nid yw Llywodraeth y DU yn cydnabod hynny yn ei chyllid, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy a llenwi'r bwlch hwnnw. Ond yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ni all Llywodraeth Cymru gyfiawnhau parhau i wneud hynny. Felly, ni allwch ei chael y ddwy ffordd. Rhaid i ni ganolbwyntio ar faterion sydd wedi'u datganoli yma yn bennaf. Gallwn, fe allwn ni wneud pethau eraill, ond y gwir amdani yw bod Llywodraeth y DU yn gorfod camu i'r adwy nawr ac adlewyrchu gwir gost cyflwyno band eang yng Nghymru, sy'n rhywbeth nad ydynt wedi'i wneud ers blynyddoedd lawer.

Cyfeiriodd Luke at hwn fel gwasanaeth angenrheidiol sy'n galluogi, a chyfeiriodd at bobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl iau, a phobl ddi-waith sy'n chwilio am waith. Ac fe wnaeth hynny fy atgoffa, mewn gwirionedd, fod yna elfen arall yn ein hadroddiad am ddatgysylltiad posibl rhwng polisïau'r Llywodraeth yma, oherwydd un o'r polisïau yw sicrhau bod 30 y cant o'r gweithlu yn gweithio gartref yn y dyfodol, yn seiliedig ar ystyriaethau hinsawdd ac yn y blaen. Wel, ni fydd llawer o'r bobl hyn yn gallu gweithio gartref oherwydd methiant polisi yn y maes penodol hwn. O ran y polisi digidol yn gyntaf, os ydych yn gwneud cais am daliad sylfaenol, yna fel ffermwr rhaid ichi yn y lle cyntaf ddefnyddio'r dull digidol o wneud cais am hwnnw, ond wrth gwrs, hwy yw'r union bobl sy'n lleiaf tebygol fel proffesiwn o allu gwneud hynny, mae'n debyg. Felly, rwy'n credu bod angen inni gydgysylltu ffyrdd o feddwl mewn perthynas â hyn hefyd.

Carolyn, rwy'n falch eich bod wedi sôn am fenter prosesu signalau digidol Prifysgol Bangor. Rwy'n ymweld â hwy bore fory, felly ni allaf aros i ddysgu am rai o'r atebion arloesol y maent yn eu cyflwyno yno, yn enwedig i rai o'r cymunedau gwledig.

Soniodd Mabon ap Gwynfor am y system dalebau, a soniodd y Gweinidog am symiau ychwanegol Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, yr hyn sy'n anffodus yw bod gennyf etholwyr bellach a oedd yn ymbaratoi ac yn aros i dalebau ddod drwodd, yn ddibynnol ar gyllid Llywodraeth Cymru yn rhan o hynny, sydd bellach heb y cyllid hwnnw, sy'n golygu bod yr holl gynnig yn chwalu. Mae'n anffodus y dylai rhai o'r bobl a oedd ar bwynt penodol fod wedi dal i allu cael peth o'r arian, ac efallai y gallai'r Gweinidog ystyried a oes rhyw gymorth penodol ar gael i'r rheini. Er, mae rhai o'r rheini a oedd yn rhan o'r mentrau hynny bellach wedi gadael a dilyn eu trywydd eu hunain, ac efallai nad yw'r holl beth mor hyfyw ag y byddai wedi bod, ac mae hynny'n anffodus iawn. Ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sy'n cael y bai am ddod â'r cyfan i ben, ond wrth gwrs, rydym wedi siarad am bwy ddylai fod wedi bod yn ariannu hynny yn y lle cyntaf.

Diolch, Alun, am ein hatgoffa am gylch gwaith Ofcom. Rwy'n credu eich bod yn gywir; roedd yna gamgymeriad strategol yno o ran canolbwyntio ar ddefnyddwyr, er, wrth gwrs, dyna natur y bwystfil. Ond rydym yn edrych yma am fynediad i bawb at fand eang ac anghenion ehangach dinasyddion yn hytrach na ffocws penodol ar ddefnyddwyr.

Weinidog, rwy'n ddiolchgar eich bod wedi derbyn ein holl argymhellion. Mae gennym gonsensws, yn hynny o beth o leiaf, ond wrth gwrs, rydym yn dal i aros i weld a fydd camau gweithredu a newid yn dilyn, pwy bynnag sy'n gyfrifol am gyflawni hynny, ond yn sicr, byddwn ni fel pwyllgor yn ailedrych ar y maes hwn yn rheolaidd dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn mewn perthynas â chysylltedd, ac nad oes unrhyw fusnes nac aelwyd yn cael eu gadael ar ôl. Diolch.

16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig—'Pwysau costau byw'

Eitem 7 yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Pwysau costau byw'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Paul Davies.

Cynnig NDM8129 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: 'Pwysau costau byw' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw.

Ddirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf, fe wnaethom drafod ein hadroddiad ar adfer y sectorau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu yng Nghymru, a sut roedd costau byw a chostau gwneud busnes yn effeithio arnynt. Yr wythnos hon, rydym yn trafod ein hadroddiad ar rai o'r materion mwyaf dybryd y mae ein cymunedau'n eu hwynebu: sut mae pwysau costau byw wedi bod yn effeithio ar aelwydydd a gweithwyr; effaith costau cynyddol gwneud busnes; ac anghenion penodol ein cymunedau gwledig.

Yn yr ymchwiliad hwn, fe wnaethom archwilio pa mor effeithiol yw'r mesurau cymorth y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi'u rhoi ar waith, a pha gymorth pellach y gallai fod ei angen dros y misoedd nesaf. Roeddem yn glir ein bod eisiau adeiladu ar waith pwyllgorau eraill y Senedd yn hytrach nag ailddyfeisio'r olwyn, ac mae'r pwyllgor yn ddiolchgar iawn i bawb a roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad.

Yn ôl yn yr haf, roedd costau byw cynyddol eisoes i'w teimlo ar draws Cymru ac yn effeithio ar bron bob agwedd ar fywyd cyhoeddus a phreifat. Nid oedd cyflogau ac incwm sefydlog yn ymestyn cyn belled, ac roedd pobl yn tynhau eu gwregysau ac yn gwneud dewisiadau anodd. Roedd busnesau'n wynebu ergyd ddwbl costau uwch a defnyddwyr yn lleihau eu gwariant dewisol. Ac mae'r holl faterion hyn yn cael eu chwyddo mewn cymunedau gwledig, sy'n wynebu premiwm gwledig am gael mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Wrth gwrs, mae pethau wedi symud ymlaen yn sylweddol ers inni gyflwyno ein hadroddiad ddiwedd mis Gorffennaf, ond hyd yn oed bryd hynny roeddem yn edrych ar sut y gellid cefnogi busnesau ac unigolion drwy gyfnod yr hydref a'r gaeaf sydd bellach ar ein gwarthaf. Mae'r Gweinidog wedi rhoi ymateb cynhwysfawr iawn i'r adroddiad hwn, mewn modd amserol, a chredaf fod hynny'n adlewyrchu pwysigrwydd gweithredu yn y maes hwn.

Nawr, mae ein hadroddiad yn cynnwys 27 o argymhellion mewn pum maes. Fe wnaethom ganolbwyntio ar: y cymorth a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Mai a Mehefin eleni, a lle roedd y bylchau; y pwysau ar aelwydydd bryd hynny; y pwysau ar y gweithlu; yr effaith ar gymunedau gwledig; a'r pwysau ar fusnesau. Rwy'n falch fod 23 o'r argymhellion wedi'u derbyn, gyda'r pedwar arall wedi'u derbyn mewn egwyddor. Mae yna lawer i'w groesawu yn ymateb Llywodraeth Cymru, a diolch i'r Gweinidog am ymateb yn gadarnhaol i'n hadroddiad a'n hargymhellion.

Mae ein pum argymhelliad cyntaf yn ymwneud â sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn casglu digon o ddata a'r math cywir o ddata i ddeall lle mae'r angen mwyaf a sicrhau bod yr arian sydd ar gael yn cael ei gyfeirio yn y ffordd orau bosibl. Fe glywsom dystiolaeth sy'n peri pryder ynghylch maint yr her i bobl sy'n ceisio cymorth, ac felly mae'r ffaith bod y pum argymhelliad wedi cael eu derbyn i'w chroesawu'n fawr.

Roedd ein chweched argymhelliad yn ymwneud â sicrhau cymaint o ymwybyddiaeth â phosibl a sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cymorth budd-daliadau sydd ar gael i unigolion, ac rydym hefyd yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Mae hyn yn cynnwys y gwaith sy'n cael ei wneud drwy'r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', a'r gweithgor pwyslais ar incwm, y cyfeirir ato mewn ymateb i'n seithfed argymhelliad. Byddai'r pwyllgor yn ddiolchgar am unrhyw ddiweddariadau ar y gwaith hwn gan y Gweinidog wrth inni symud drwy gyfnod y gaeaf ac i mewn i wanwyn 2023, ac efallai wrth ymateb i'r ddadl hon y cawn glywed ychydig mwy am y gwaith sydd wedi digwydd.

Hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau cyngor a chymorth i bobl sydd yn teimlo'r pwysau fwyaf ar hyn o bryd. Nid yw eu gwaith bob amser yn cael ei gydnabod yn llawn, a chlywsom am y straen sydd arnynt hwy wrth iddynt geisio cefnogi eraill yn eu cymuned. Yn wir, rydym yn ddiolchgar iawn i nifer o sefydliadau a gymerodd ran mewn grwpiau ffocws a chyfweliadau a gynhaliwyd gan dîm cysylltu â dinasyddion y Senedd. Mae canfyddiadau'r gwaith hwnnw ar gael ar ein gwefan ac maent wedi cael eu hadlewyrchu yn ein hadroddiad.

Mae Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, ACE, yn un o'r sefydliadau ar lawr gwlad sy'n cefnogi pobl ar incwm isel, ac mae eu tystiolaeth yn amlygu agwedd arbennig o bwysig ar yr ymchwiliad. Fe wnaethant y pwynt hynod bwysig nad yw ond o unrhyw fudd os ydych yn gwybod amdano. Nawr, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael, un o brif negeseuon ein hymchwiliad oedd y gellid gwneud mwy i resymoli'r broses o wneud cais am gymorth. Fe wnaeth Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan dynnu sylw at y nifer helaeth o ffurflenni y mae'n ofynnol i bobl eu llenwi er mwyn cael yr arian y mae ganddynt hawl iddo, ac fe anogodd Lywodraeth Cymru i gyflymu gwaith yn y maes hwn.

Ceir consensws fod angen i'r system fod yn fwy cydlynol, ac mae argymhellion 8, 9 a 10 yn galw am basbortio budd-daliadau yn well, mwy o gydlynu, a symleiddio gwasanaethau mewn dull siop un stop. Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru ar y pwynt hwn, ac yn croesawu'r ffaith bod siarter budd-daliadau wrthi'n cael ei datblygu. Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai awdurdodau lleol gam ar y blaen, ac rydym eisiau i'r arferion gorau hynny ddod yn norm.

Mae argymhelliad 11 yn arbennig o berthnasol, gan ei fod yn cyfeirio at gymhwysedd i gael cymorth y tu hwnt i fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd, ac yn tynnu sylw at drafferthion teuluoedd a allai fod yn colli allan o ychydig. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn yn y meini prawf ar gyfer ei chynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried yr argymhelliad hwn wrth lunio cynlluniau yn y dyfodol.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb i argymhelliad 12 ar sut y bydd grant atal digartrefedd Llywodraeth Cymru yn helpu i liniaru'r gostyngiad mewn taliadau disgresiwn at gostau tai, ac mae'r pwyllgor yn nodi y bydd Gweinidogion yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y DU pa gyllid fydd ar gael yng nghyllideb 2023-24 i fynd i'r afael â phwysau costau byw.

Nawr, ni chafodd holl argymhellion y pwyllgor eu derbyn yn llawn, ac mae'n peri penbleth braidd i mi pam fod ein galwad ar Lywodraeth Cymru i lywio achrediad cyflogwyr y sector cyhoeddus fel cyflogwyr cyflog byw gwirioneddol ond wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor. Argymhellwyd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru archwilio defnyddio ei hysgogiadau mewn perthynas â chyflogau ac amodau'r sector cyhoeddus i gynyddu gwaith teg yng Nghymru, gan gynnwys drwy wella tâl salwch, lle mae gweithwyr sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ei angen, gan ddechrau gyda threfniadau mwy hirdymor i weithwyr gofal cymdeithasol, a chefnogi'r rhai sy'n ennill leiaf drwy setliadau cyflog. Serch hynny, rwy'n nodi bod ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at waith hyd braich Cynnal Cymru i hyrwyddo manteision y cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr yng Nghymru, sy'n arbennig o briodol i'w gydnabod yr wythnos hon, gan ei bod yn Wythnos Cyflog Byw.

Mae'n dda gweld hefyd, mewn ymateb i argymhelliad 15, fod y Gweinidog a'r pwyllgor yn rhannu'r un safbwynt ynghylch mentrau i hyrwyddo gwaith teg. Yn yr un modd, gydag argymhelliad 16, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd data da ar y farchnad lafur i gefnogi ymateb polisi Llywodraeth Cymru yn wyneb pwysau costau byw ar economi Cymru.

Mae salwch meddwl yn bryder mawr yn wyneb y pwysau costau byw, a chlywodd y pwyllgor dystiolaeth ofidus iawn gan yr undebau llafur a sefydliadau llawr gwlad am yr effaith y mae pryderon ariannol yn ei chael ar bobl. Roedd rhai o'r sylwadau rydym wedi'u cael drwy waith ymgysylltu'r pwyllgor yn cynnwys pethau fel, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae arnaf ofn rhoi'r gwres ymlaen',

'Rwy'n teimlo'n sâl ac nid wyf yn gallu bwyta',

'Rydym yn ennill cyflog da ond yn methu ymdopi â'r biliau',

a, 'Rwy'n garcharor yn fy nghartref fy hun.' Felly, mae annog cyflogwyr i gefnogi eu gweithwyr drwy'r anawsterau hyn yn hollbwysig, ac felly roedd yn briodol ein bod wedi gwneud argymhelliad penodol ynglŷn â hyn.

Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, mae pwyllgorau eraill y Senedd hefyd wedi gwneud gwaith pwysig ar faterion costau byw. Er enghraifft, roedd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol eisoes wedi gwneud argymhellion pwysig am dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd ym mis Mai, ddeufis cyn i adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig gael ei gyhoeddi. Felly, mae'n hanfodol fod yr Aelodau'n cydnabod mai un rhan yw hon o waith mawr ar graffu ar gymorth Llywodraeth i fynd i'r afael â'r costau byw cynyddol.

Ddirprwy Lywydd, roedd ein hadroddiad hefyd yn rhoi ffocws pwysig i'r trafferthion sy'n wynebu aelwydydd oddi ar y grid a'r rhai mewn cymunedau gwledig, lle mae premiwm gwledig am gael mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Rydym yn gwybod bod ffactorau lluosog ar waith yma: gwledigrwydd, dibyniaeth ar fathau drutach o danwydd gwresogi, costau cynyddol cludo nwyddau, ynysu, y pwysau ar ein cymunedau ffermio sy'n gorfod ymdopi â chostau cynyddol bwyd anifeiliaid, gwrtaith a thanwydd. Felly, mae argymhellion 19 i 23 yn ymdrin â mesurau i gynorthwyo aelwydydd oddi ar y grid gyda chostau tanwydd a darparu canolfannau cynnes, sydd bellach wedi'u cyflwyno yng Nghymru, a mwy o waith ymchwil a dadansoddiadau o anghenion cymunedau gwledig. Mae'n dda clywed bod materion gwledig yn cael eu hystyried yn benodol ar gyfer fersiynau yn y dyfodol o raglen Cartrefi Clyd, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y gwaith hwn maes o law.

Mae ein pedwar argymhelliad olaf yn ymwneud â chymorth i fusnesau allu ymdopi â chostau cynyddol gwneud busnes. Nododd Llywodraeth Cymru mai ar lefel y DU y mae llawer o'r ysgogiadau ar gyfer darparu grym ariannol ychwanegol i oresgyn yr heriau, ac nad yw'r symiau canlyniadol Barnett a ddefnyddiwyd ar gyfer cymorth COVID mewn blynyddoedd blaenorol yno ar gyfer 2022-23. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad ynglŷn â chynorthwyo busnesau Cymru i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon, ac i beidio â cholli golwg ar dargedau sero net yn wyneb yr heriau ariannol.

Yn olaf, mewn perthynas â rhyddhad ardrethi annomestig parhaus i fusnesau, nodwn yr ymrwymiad i adolygu'r angen am gymorth trosiannol pellach yn 2023, ac mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at glywed mwy ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio rhyddhad ardrethi busnes i gefnogi'r busnesau yr effeithir arnynt fwyaf yng Nghymru ar yr adeg anodd hon.

I gloi, hoffwn ailadrodd fy niolch i bawb a fu'n ymgysylltu â'r pwyllgor yn ystod ein gwaith ar y mater pwysig hwn, a diolch hefyd i'r tîm a gynorthwyodd y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad hwn. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau Aelodau i'r ddadl bwysig hon. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Rwyf am ddechrau, fel rydym bob amser yn tueddu i'w wneud yn y dadleuon hyn, drwy ddiolch i'r Cadeirydd am ei gadeiryddiaeth arbenigol ar ein pwyllgor, yn ogystal â'r holl waith y mae'r clercod yn ei wneud hefyd, ac yn arbennig y dystiolaeth a gawsom gan wahanol randdeiliaid a grwpiau gweithredu cymunedol. Rwyf am dynnu sylw at grŵp gweithredu Caerau a Threlái, fel y gwnaeth y Cadeirydd, a chyfeirio at y pwynt a wnaethant sef nad yw ond o fudd os ydych yn gwybod amdano. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt hanfodol bwysig. Mae'n cysylltu â fy nghyfraniad blaenorol yn ymwneud â thariffau cymdeithasol band eang. Ond mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen i godi ymwybyddiaeth am yr hyn sydd ar gael i bobl. Ac wrth gwrs, rwy'n credu'n sylfaenol y dylai pobl gael yr hyn y mae ganddynt yr hawl i'w gael beth bynnag a hynny'n ddiofyn.

Ond hoffwn ddechrau gyda busnesau. Nid yw'n gyfrinach fod yr argyfwng costau byw yn rhwygo drwy'r stryd fawr Gymreig wrth i rybuddion ynghylch cenhedlaeth goll o fusnesau bach ac annibynnol barhau. Mae effaith chwyddiant a phrisiau ynni esgynnol wedi cael ei theimlo gan fasnachwyr, ac mae llawer ohonynt wedi cael eu gorfodi i gau eu drysau'n barhaol neu i ystyried gwneud hynny. Mae'r argyfwng costau byw yn digwydd ochr yn ochr â'r argyfwng costau gwneud busnes—rhywbeth sydd wedi'i ddogfennu'n dda yn adroddiad ein pwyllgor. Mae prisiau'n codi i'r entrychion i fusnesau ar yr un pryd ag y mae pobl sy'n gweithio yn gorfod lleihau eu gwariant. Mae'n sicr yn ergyd ddwbl.

Mae'n werth nodi yma nad ydym yn sôn am warian pobl sy'n gweithio ar bethau moethus chwaith—mae llawer ohonynt yn methu fforddio hanfodion. Mae disgwyl y bydd y cynnydd sylweddol mewn tlodi tanwydd, y rhagwelir y bydd yn dilyn codi'r cap ynni ym mis Ebrill, lle mae disgwyl i 45 y cant o aelwydydd Cymru ymgodymu â thlodi tanwydd difrifol, yn cyd-redeg â'r cwymp mwyaf mewn incwm gwario o bosibl ers dechrau cadw cofnodion yn y 1950au. Ar ben hyn, mae llawer o fusnesau'n dal i adfer ar ôl y pandemig. Soniais am fusnesau bach, annibynnol a'r rhain sy'n cael eu taro waethaf mewn rhai sectorau. Dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach fod biliau nwy busnesau bach wedi cynyddu 250 y cant ar gyfartaledd a bod 96 y cant o'r rhain yn poeni am eu biliau ynni cynyddol.

Mae diwydiannau ynni-ddwys hefyd yn dioddef—nid yn unig y rhai sy'n dod i'r meddwl yn syth, fel dur, ond rhai rwyf wedi codi llais yn eu cylch o'r blaen hefyd, fel bragdai a lletygarwch. Er enghraifft, mae Bang-On Brewery, bragdy lleol yn fy rhanbarth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi gweld eu biliau'n cynyddu mewn ffordd sy'n dod â dŵr i'r llygaid. Er enghraifft, maent wedi gweld cynnydd o 549 y cant yn eu contract cyfleustodau newydd; cynnydd o 68 y cant yn eu les safle newydd; cynnydd o 165 y cant ym mhris grawn bragu ers dechrau 2021, gyda chynnydd pellach o 70 y cant yn cael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2023, a chynnydd o 80 y cant yn y gost o redeg cerbydau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Os adiwch y rheini i gyd, bydd angen iddynt ddod o hyd i £198,000 ychwanegol ar ôl treth i wneud dim mwy na aros lle maent, a goroesi. Gyda chostau o'r fath, byddai'n rhaid i bris masnach newydd potel o gwrw fod yn £12.53 y botel a TAW. Nid wyf yn nabod llawer o bobl, os oes unrhyw un mewn gwirionedd, a fyddai'n ystyried talu hynny am botel o gwrw.

Mae costau fel hyn yn un o'r amryw o ffyrdd y mae'r argyfwng hwn yn gwanychu diwydiant lletygarwch sydd eisoes dan bwysau eithriadol. Mae sectorau fel lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth yn hynod ddibynnol ar wariant dewisol pobl. Mae'r adroddiad yn nodi bod sectorau o dan bwysau sylweddol mewn mwy o berygl o ddadlwytho pwysau costau byw ar weithwyr. Ni fydd llawer sy'n gweithio mewn sectorau fel lletygarwch yn gallu bargeinio y tu hwnt i gontractau dim oriau neu waith heb gontract ysgrifenedig, ac oriau gwaith y gellir eu cadarnhau, eu canslo neu eu newid ar fympwy neges destun neu alwad ffôn.

Mae cyfarwyddwr gweithredol UKHospitality Cymru wedi dweud bod 13,000 o swyddi yng Nghymru yn y fantol os na fydd cymorth yn cael ei roi i'r diwydiant. Ac o hyn, gallwn weld natur gylchol yr argyfwng hwn. Mae'r argyfwng costau byw a'r argyfwng costau gwneud busnes wedi'u clymu wrth ei gilydd ac mae ei effaith ar bobl dosbarth gweithiol yn ddinistriol. Mae bywoliaeth pobl yn y fantol.

Rhywbeth a nodwyd gan Gyngres yr Undebau Llafur yn yr adroddiad oedd diffyg dealltwriaeth ddigonol o'r lefelau hyn o ansicrwydd, ac maent yn hollol gywir. Nid yw tlodi mewn gwaith, cyflogau isel a chyflogaeth ansicr yn bethau ymylol neu dros dro mewn rhai sectorau bellach—mae'n ffaith bywyd i lawer. Mae'n arwain at lu o frwydrau iechyd meddwl, ond gallai hefyd arwain at normaleiddio amodau cyflogaeth enbyd i lawer o bobl sy'n gweithio. Mae pobl yn gorfod gweithio oriau hwy, ac mae rhai'n gwneud nifer o swyddi am lai a llai o arian. Bûm yn siarad ag etholwr yn y feddygfa yng Nghaerau ddydd Llun sy'n gweithio tair swydd ar hyn o bryd ac eto £3 yn unig a oedd ganddi i'w henw y diwrnod hwnnw.

16:30
16:35

Fe ddof i ben drwy ddweud bod yn rhaid inni ymdrechu i gyflawni'r gwaith sy'n dadnormaleiddio hyn. Y gwir amdani yw nad yw hyn yn normal ac ni ddylai pobl orfod brwydro i allu fforddio'r pethau sylfaenol. 

Unwaith eto, rwyf am ddechrau drwy adleisio'r hyn y mae Paul a Luke wedi ei ddweud. Diolch i fy nghyd-Aelodau, tîm y Senedd, y Cadeirydd, a phawb a fu'n ymwneud â'n Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig i roi'r adroddiad amserol a phwysig hwn at ei gilydd. Mae'r argyfwng hwn yn parhau i effeithio ar lawer yn ein cymunedau. I rai, gallai fod yn fater o fod yn fwy gofalus gyda chyllidebau, ond i eraill gallai ymwneud â'u gallu i roi bwyd ar y bwrdd iddynt hwy a'u plant yfory. 

Mae'r TUC yn dweud bod un o bob saith o bobl yn mynd heb brydau bwyd yn barod neu'n mynd heb fwyd. Mae ffigyrau Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos bod un o bob pump o bobl sy'n cael eu cyfeirio at eu canolfannau yn dod o aelwydydd lle mae rhywun yn gweithio. Mae hyn yn effeithio ar bobl a ddylai allu dibynnu ar eu cyflogau i fod yn ddiogel, ond mae rhai pobl sy'n gweithio yn methu talu costau byw sylfaenol, heb sôn am gyrraedd eu swydd. Mae biliau morgeisi ar eu huchaf ers 2008 o ganlyniad i'r gyllideb fach, mae prisiau bwyd wedi saethu i fyny, gyda rhai ohonynt dros 60 y cant yn uwch, ac mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud mai yn 2023 y gwelir y cwymp mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers dechrau cadw cofnodion. 

Ond mae nifer fach o bobl yn ein cymdeithas yn gwneud elw. Gallai cynhyrchwyr ynni'r DU weld elw ychwanegol o £170 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Gwnaeth BP elw o £7 biliwn yn nhrydydd chwarter 2022; mae Shell wedi gwneud elw byd-eang uwch nag erioed o bron i £26 biliwn ar gyfer tri chwarter cyntaf 2022, ond ni thalodd unrhyw dreth ffawdelw ynni yn y DU. Ar yr un pryd yn union, er inni apelio arni i beidio â gwneud hynny, fe wnaeth y Llywodraeth yn San Steffan newidiadau i gredyd cynhwysol a wnaeth dri chwarter yr aelwydydd yn waeth eu byd nag oeddent y flwyddyn flaenorol. Dywedodd adroddiad Sefydliad Banc Lloyds yn bendant fod y newidiadau hyn yn gwthio pobl i dlodi a dyled. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i dargedu pobl sydd angen y gefnogaeth fwyaf, felly rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion yn ein hadroddiad. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithredu ar sawl un o'r argymhellion hyn ac wedi darparu ymyriadau drwy'r cyfnod economaidd llwm hwn. Mae hyn yn cynnwys cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, sydd wedi cael ei ymestyn i gynorthwyo mwy na 400,000 o gartrefi incwm isel; y taliad untro o £150 i rai ym mandiau treth gyngor A i D; a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Mae argymhelliad 5 yr adroddiad yn pwysleisio'r angen i werthuso'r cymorth a dysgu gwersi o'r argyfwng costau byw. Rwy'n falch fod hyn eisoes yn digwydd o fewn Llywodraeth Cymru, ac fe arweiniodd y broses hon at ymestyn cymorth tanwydd y gaeaf, ar ôl dysgu gan y rhanddeiliaid nad oedd rhai aelwydydd a oedd angen y cymorth hwnnw'n gymwys yn wreiddiol. 

Mae argymhelliad 6 hefyd yn tynnu sylw at yr angen i adeiladu ar lwyddiant yr ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', gyda Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod yna lawer o bobl sydd â hawl i gymorth nad ydynt yn ei hawlio, yn syml oherwydd nad ydynt yn gwybod ei fod ar gael iddynt. Rydym mewn sefyllfa nawr lle na all pobl fforddio mynd heb y cymorth y mae ganddynt hawl iddo, felly rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau â'r gwaith hwn.

Y gwir amdani yw bod canlyniadau ansicrwydd economaidd yn cydblethu ag agweddau eraill ym mywydau pobl. Gwyddom fod anghyfartaledd iechyd, fel mewn iechyd meddwl, yn cael ei effeithio gan yr argyfwng costau byw. Dyna pam rwy'n arbennig o falch ein bod wedi cwmpasu hyn yn ystod yr ymchwiliad gan y pwyllgor a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn argymhelliad 17. Yn fy nghymuned fy hun, mae'r mewnlifiad o bobl sydd angen cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl wrth iddynt ymdopi â phwysau'r argyfwng yn effeithio ar lawer o grwpiau cymorth ar draws Pen-y-bont. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda'i phartneriaid cymdeithasol, gan gynnwys yr undebau llafur, i sicrhau nad yw gweithwyr o dan anfantais os ydynt yn dioddef gyda'u hiechyd meddwl. Hoffwn ofyn i swyddogion yn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ymgysylltu ac ymgynghori â grwpiau cymorth ar lawr gwlad yn ein cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn cael arfau i gefnogi pobl yn ystod y caledi hwn. Maent yn achubiaeth i gymaint o bobl ar y dibyn. 

Er bod llawer o argymhellion i'w nodi yn y ddadl hon, rwyf am sôn am un i orffen, sef 22, ar gyflwyno'r hybiau cynnes, neu fanciau cynnes, yn ein cymunedau i bobl alw heibio a chadw'n gynnes yn lle defnyddio ynni ar eu haelwydydd eu hunain, yn ogystal â mynd i rywle am gefnogaeth a chyfeillgarwch. Roedd nifer y bobl yn fy nghymuned sydd wedi estyn allan ataf am fwy o wybodaeth am hyn yn eithriadol. Mae'n ein hatgoffa o'r ysbryd cymunedol a welsom yn ystod y pandemig, wrth inni edrych ar ôl ein gilydd mewn cyfnod o angen. Rwy'n falch fod y Prif Weinidog wedi cadarnhau cyllid cychwynnol o £1 filiwn i gynorthwyo sefydliadau ac awdurdodau lleol i ddarparu banciau cynnes y gaeaf hwn, ond mae'n bwysig eto ein bod yn ystyried sut rydym yn estyn allan at bobl sydd angen cael mynediad at y cymorth hwn. 

Cyfarfûm â'r cwmni band eang Ogi yn ddiweddar, a thrafod gyda hwy agweddau ymarferol ar ddarparu Wi-Fi yn yr hybiau cynnes. Gyda phobl yn gorfod torri cyllidebau, i'r rhai mwyaf bregus, efallai mai eu band eang fydd y bil sy'n gorfod mynd. Mae'n debyg y byddant yn blaenoriaethu bwyta a chadw'r gwres ymlaen ar draul hynny. Gallai Wi-Fi yn yr hybiau cynnes sicrhau y gall pobl gael mynediad at eu budd-daliadau ar-lein, chwilio am wasanaethau lleol, gwneud eu siopa bwyd, yn ogystal â denu teuluoedd a rhieni na fyddai fel arfer yn ystyried eu defnyddio. Felly, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried hyn a gweld sut y gallant ddarparu cefnogaeth. Unwaith eto, diolch i fy holl gyd-aelodau o'r pwyllgor. Diolch, Weinidog.

16:40

Rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd tuag at ffurfio adroddiad y pwyllgor hwn. Fel y clywsom eisoes y prynhawn yma, mae hwn yn fater eithriadol o berthnasol i deuluoedd ac aelwydydd ledled Cymru. Ond fel y mae'r adroddiad hwn yn nodi'n briodol, mae'r cynnydd mewn costau byw i'w deimlo hyd yn oed yn fwy difrifol yng nghymunedau gwledig Cymru, fel y rhai yn fy etholaeth fy hun, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Mae cefn gwlad Cymru bob amser wedi wynebu heriau cysylltedd, boed yn ffisegol gyda thrafnidiaeth, neu'n dechnolegol gyda seilwaith band eang a chyfathrebu. Os cyfunwch hyn â stoc dai hŷn, oerach ac oddi ar y grid, mae'r problemau hyn sy'n bodoli'n barod yn dwysáu'r straen cynyddol a'r niwed i gostau byw. Dyma pam roeddwn yn falch o nodi argymhelliad 20 o'r adroddiad hwn,

'Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ganddi gynlluniau cadarn i gefnogi aelwydydd oddi ar y grid drwy’r gaeaf eleni. Dylai hyn gynnwys naill ai ymestyn y gallu i aelwydydd oddi ar y grid gael cymorth drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol neu’r cynllun Talebau Tanwydd.'

Mae'n ceisio lleddfu'r sefyllfa, ac rwy'n falch o ddeall bod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig ein bod yn gweld costau byw fel sefyllfa sy'n esblygu a gallai fod adeg—nawr, gellid dadlau—pan nad yw'r pecyn cymorth ariannol presennol yn mynd yn ddigon pell. Caiff hyn ei waethygu pan ystyriwn ddylanwad materion cysylltedd a stoc dai, sydd wedyn yn gwaethygu'r argyfwng a nodwyd ymhellach. Ac felly pan soniwn am gymunedau gwledig yn y cyd-destun hwn, rydym yn cydnabod bod unigolion yn talu cost uwch i fyw yng nghefn gwlad Cymru, lle nad yw cyflogau'n adlewyrchu hynny.

Mae cost uwch i gynhesu eich cartref oherwydd eich bod yn byw mewn bwthyn 150 oed heb foethusrwydd modern insiwleiddio thermol, cost uwch i deithio oherwydd eich bod yn byw 45 munud i ffwrdd o'ch archfarchnad agosaf, 55 munud i ffwrdd o ysbyty, neu awr a hanner i ffwrdd o'ch dinas agosaf. Felly, nid yw eich cartref yn cael ei wresogi mor effeithlon ac rydych yn llenwi eich car â thanwydd yn amlach, ac yn talu gordal am y pellter y mae eich nwyddau a'ch gwasanaethau wedi teithio. Dyma realiti costau byw yng nghefn gwlad, ac o'm rhan i a fy etholwyr, nid yw'n ffactor sy'n cael ei gydnabod yn ddigonol.

Mae paragraff 76 o'r adroddiad yn nodi sylwadau'r Gweinidog materion gwledig am y sefyllfa hon. Dywedodd wrth aelodau o'r pwyllgor

'Ar gyfer yr eiddo oddi ar y grid, rydym ni'—

sef Llywodraeth Cymru—

'yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi.'

Dylwn nodi i'r sylwadau hyn gael eu gwneud ym mis Mehefin, ac eto, sawl mis yn ddiweddarach, mae ein cymunedau gwledig yn dal i fod yn yr un sefyllfa. Felly, o ystyried y cyfle y mae'r adroddiad hwn wedi'i gyflwyno, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru a oes ganddynt unrhyw fwriad i ymestyn y cymorth i gynorthwyo ein cymunedau ymhellach.

I gloi, mae'r adroddiad wedi rhoi sylw pwysig i fater sy'n esblygu drwy'r amser. Yn allweddol, mae costau byw presennol yn fater sy'n mynd i fod gyda ni am y dyfodol rhagweladwy, felly ym mhob penderfyniad ar gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, hoffwn eich annog i ystyried y premiwm costau gwledig i sicrhau nad yw cymunedau'n cael cam oherwydd eu cod post.

Hoffwn orffen drwy adleisio geiriau Luke, fy nghyd-aelod o'r pwyllgor, a diolch i'n Cadeirydd, Paul Davies, am ei gadeiryddiaeth ragorol o'r pwyllgor hwn, ein tîm clercio pwyllgorau, a phawb a gyfrannodd drwy dystiolaeth lafar neu ysgrifenedig i'r adroddiad hwn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, rwy'n croesawu argymhellion yr adroddiad pwysig hwn. Fel y soniodd Paul Davies, mae nifer o'r argymhellion hyn yn adleisio ac yn tanlinellu llawer o'r rhai a wnaed gan nifer o adroddiadau gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar faterion sy'n ymwneud â thlodi a'r argyfwng costau byw, yn ogystal â galwadau a wnaed gan lawer o sefydliadau ac ymgyrchwyr gwrthdlodi.

Mae canfyddiadau'r adroddiad ynghylch maint yr argyfwng costau byw yn amlwg yng nghyd-destun ffigyrau chwyddiant heddiw a chanfyddiadau arolwg y comisiynydd plant a ryddhawyd heddiw, a ganfu fod 45 y cant o blant yn dweud eu bod yn poeni ynglŷn â chael digon i'w fwyta. Maent yn tystio i argyfwng na welwyd ei debyg o'r blaen. Efallai ein bod wedi dechrau dod yn rhy gyfarwydd â'r ystadegau brawychus, cywilyddus hyn sy'n datgelu pa mor fregus yw ein dinasyddion yn wyneb sioc economaidd, sut mae ein lefelau o dlodi sydd eisoes yn frawychus wedi golygu bod gormod o bobl wedi bod ar ymyl dibyn peryglus am gyfnod rhy hir, a'u sefyllfa ariannol ansicr yn fregus ac yn dila yn wyneb y storm economaidd sy'n eu taro mor galed. Ond mae'r penawdau, sydd mor llwm a brawychus yn yr adroddiad hwn, yn werth eu hailadrodd. Cymru yr haf hwn oedd â'r ganran uchaf o aelwydydd mewn trafferthion ariannol difrifol o gymharu ag unrhyw un o'r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr—chwarter y bobl yn torri'n ôl ar gyfleustodau, traean yn torri'n ôl ar fwyd, niferoedd uwch yn benthyca a mynd i ddyled, a galw digynsail am gymorth argyfwng. Mae hyn i gyd yn cael effaith anghymesur ar fenywod, sy'n cael ei waethygu gan effeithiau sy'n cydblethu ar fenywod anabl a menywod o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig.

Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys rhybuddion ynghylch y sefyllfa ddifrifol a chynyddol wael sy'n wynebu cartrefi Cymru a gyhoeddwyd yn adroddiad cyntaf Pwyllgor Cydraddoldebau a Chyfiawnder Cymdeithasol y chweched Senedd hon ar ddyled a'r pandemig, a'n hymchwiliad i'r rhaglen Cartrefi Clyd nesaf, pan gafwyd llawer o dystiolaeth ar dlodi tanwydd. Mae'r adroddiad sydd o'n blaenau heddiw yn dweud wrthym fod talwr bil yng Nghymru, bob 40 eiliad, yn gwneud galwad ffôn i Cyngor ar Bopeth am eu bil tanwydd. Mae cyflawniad cynlluniau cymorth, y nifer fechan sy'n manteisio arnynt ac ymwybyddiaeth o gynlluniau cymorth eto'n cael eu cydnabod yma fel her a phryder. Eto ac eto, gwelwn mewn adroddiad ar ôl adroddiad, o bwyllgorau'r Senedd ac o ymchwil sefydliadau polisi a thrydydd sector, fod yna brinder data wedi'i ddadgyfuno ar effeithiau costau byw cynyddol ar grwpiau penodol mewn perthynas â dangosyddion fel tlodi, amddifadedd a dyled.

Mae argymhellion 1 i 13 i gyd yn ymwneud â'r angen am dargedu, cydlynu a chyflwyno'r cymorth costau byw sydd ar gael yn well. Mae'n rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi dadlau drosto'n gyson. Mae angen gwneud yn siŵr fod pob punt o gymorth Cymreig yn mynd i'r lle iawn ar yr adeg iawn, ac mae angen inni wybod faint o gymorth sydd ei angen ac ym mha le. Mae argymhellion 5 a 6 eto yn ailadrodd galwadau a wnaed lawer gwaith ynghylch cynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Rhaid inni weld bod y cymorth a gaiff ei gynnig gan Lywodraeth Cymru yn cael ei werthuso'n briodol ac yn gyflym fel bod cynlluniau dilynol yn cael eu gwneud yn fwy effeithlon byth i gyflawni eu diben.

Mae argymhelliad 8 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfuno cynlluniau cymorth yn seiliedig ar brawf modd i aelwydydd incwm isel drwy system fudd-daliadau Gymreig, ac mae sôn hefyd am elfen statudol i ddarpariaeth awdurdodau lleol o daliadau cymorth yn argymhelliad 10. Ar ôl dod â thrafodaeth ar gynnig deddfwriaethol i'r Senedd ychydig wythnosau yn ôl ar yr union fater hwn, cynnig a gafodd ei basio gan y Senedd, roeddwn yn falch iawn o weld bod hyn eto'n cael ei gymeradwyo gyda chytundeb trawsbleidiol. Mae'r adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru yn dweud, am nad oes system symlach, haws ar gyfer hawlio taliadau, nad yw'r help sydd ar gael mor effeithiol ag y gallai fod, gyda phobl yn gorfod cwblhau nifer o geisiadau am daliadau gwahanol sy'n aml yn gofyn am yr un wybodaeth.

Mae'r adroddiad hwnnw hefyd wedi dangos bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn profi tlodi ac mae'r nifer yn tyfu. Fe wyddom na fydd y newyddion o San Steffan yfory yn dda i naill ai'r un o bob wyth aelwyd yng Nghymru sy'n cael trafferth fforddio eitemau bob dydd, na'r aelwydydd ar fudd-daliadau sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd. Bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i mewn fwy a mwy gyda thaliadau cymorth gwahanol am fod San Steffan wedi methu amddiffyn y rheini yng Nghymru sydd angen y gefnogaeth fwyaf. Mae yna blant sy'n llwglyd heddiw. Mae yna bobl anabl a phobl oedrannus sy'n methu cadw eu cartrefi'n gynnes. Mae yna deuluoedd sy'n wynebu digartrefedd. Ni allant ddibynnu ar y Torïaid yn San Steffan a fyddai'n gosod polisïau cyni mwy dinistriol arnynt, ac ni allant aros ychwaith am newid Llywodraeth yn San Steffan. Fe wnaethant ethol Llywodraeth yng Nghaerdydd i'w gwasanaethu, ac fe ddylai ei gwasanaethu drwy weithredu'n gyflym ar yr argymhellion pwysig hyn. Diolch.

16:45

'Y realiti dychrynllyd y gaeaf hwn, yw ein bod yn debygol o weld elusennau'n cael eu gorfodi i roi'r gorau i fwydo'r llwglyd fel y gallant helpu'r newynog, i dorri'n ôl ar gymorth i'r rhai mewn tai gwael fel y gallant ganolbwyntio ar y niferoedd cynyddol o bobl ddigartref, a rhoi'r gorau i helpu'r llai ffodus am fod rhaid iddynt flaenoriaethu'r anghenus.'

Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond rhai Dr Rowan Williams a Gordon Brown yn eu rhagair i adroddiad Theos, sef melin drafod grefyddol sy'n canolbwyntio'n arbennig ar waith eglwysi wrth ymdrechu i leddfu'r lefel hon o bryder a phoen y mae ein cymunedau'n mynd drwyddo. Mae'n adleisio arolwg diweddaraf Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a ddaeth allan heddiw, ar effaith costau byw cynyddol ar fyfyrwyr yng Nghymru, oherwydd, yn amlwg, nid ydynt yn gymwys i gael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn. Dywedodd naw o bob 10 o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg fod eu hiechyd meddwl yn cael ei effeithio gan bryderon ariannol, a dywedodd eu chwarter fod yr effaith yn sylweddol, yn ogystal â nifer cynyddol yn prynu llai o nwyddau hanfodol, gan gynnwys, er enghraifft, cynnyrch mislif, yn ogystal â pheidio â rhoi'r gwres ymlaen cymaint yn eu cartrefi a bwyta llai. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder i mi, rwy'n credu, yw eu bod yn dychwelyd at eu teuluoedd, neu gynilion, am help, ond yn gynyddol, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar eu teuluoedd hefyd. Felly, nid oes unman i'r bobl yma droi.

Mae pawb sydd wedi siarad hyd yma wedi cytuno bod y sefyllfa'n hynod ddifrifol, a chawn wybod yfory a fydd gan wasanaethau cyhoeddus lai fyth o adnoddau i ymdopi â hwy, i'n tywys drwy'r gaeaf ofnadwy hwn. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am ffyrdd eraill y gallwn ymdrechu i liniaru'r boen y mae ein cymunedau'n mynd drwyddi.

Roeddwn yn falch o gynnal lansiad y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yn y Pierhead heddiw. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau a'i mynychodd, gan gynnwys y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a roddodd amser i wrando ar beth oedd gan Catherine Brown, y cadeirydd, i'w ddweud, ac i gytuno i weithio gyda hi. Mae gan Catherine Brown yrfa hir a disglair fel gwas sifil, felly, fel cadeirydd y corff anstatudol hwn i Gymru a Lloegr, bydd ganddi lawer o brofiad o drafod gyda chyrff cyhoeddus a gorfodi rheoliadau. Mae'n gorff anstatudol, a sefydlwyd gan y diwydiant gorfodi sifil, a elwir fel arall yn feilïaid, ac a gefnogir gan sawl elusen flaenllaw ym maes cyngor ar ddyled, yn cynnwys Money Advice Trust, Christians Against Poverty a StepChange. 

Heddiw, dywedodd un o'r cynghorwyr arbenigol ar ddyled a oedd yn bresennol wrthyf beth a ddigwyddodd ar ôl iddi symud i gartref newydd a arferai fod yn eiddo i rywun a oedd i'w weld fel pe bai wedi cronni nifer fawr o ddyledion. Profodd gyfres o ymweliadau gan feilïaid, y rhan fwyaf ohonynt yn gwrtais ac yn gywir yn y ffordd y gwnaent eu gwaith. Ond roedd gan un yn arbennig, a oedd yn gweithredu ar ran awdurdod lleol, ymddygiad ymosodol ac adlewyrchai beth o'r dystiolaeth a glywsom yn ein hymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ddyled yn y pandemig. Mae hyn yn amlwg yn peri pryder mawr, ac mae angen inni sicrhau nad yw awdurdodau lleol, wrth orfodi dyled y dreth gyngor er enghraifft, yn cyflogi pobl sy'n gowbois nad ydynt yn cydymffurfio â'r gyfraith yn y diwydiant. Mae'n ffaith drist mai un o'r meysydd twf yn yr economi yn yr argyfwng hwn yw asiantaethau casglu dyledion, ac mae llawer o'r rheini'n masnachu yn niflastod pobl drwy brynu gorchmynion gorfodi llysoedd er mwyn ymdrechu i wneud arian ohonynt. Mae hon yn sefyllfa ofidus iawn, oherwydd pan fyddwch yn ymwneud â chasglwyr dyledion rydych chi felly, yn amlwg, yn cynyddu faint o ddyled sydd arnoch chi, ac weithiau mae'r taliadau a godant yn ddifrifol o afresymol.

Roeddwn eisiau mynd ar drywydd pwynt a wnaeth Paul Davies, ynghylch llenwi ffurflenni a'r anawsterau i lawer o bobl wrth wneud hynny. Rwy'n aml yn cofio geiriau Lynne Neagle yn dweud nad yw'r talebau Cychwyn Iach yn mynd i nifer fawr o'r bobl sydd â hawl i'w cael. Mewn uwchgynhadledd ynni a drefnais yn fy etholaeth, roedd hi'n ofidus clywed bod ymwelwyr iechyd yn dweud bod ceisio llenwi'r ffurflen i gael talebau Cychwyn Iach mor llafurus fel nad oes ganddynt amser i gwblhau'r cais ar ran y menywod incwm isel ar fudd-daliadau sydd angen yr £8.25 ychwanegol ym mlwyddyn gyntaf bywyd plentyn, a £4.25 y plentyn hyd at bedair blwydd oed. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar ffyrdd y gallwn helpu i wneud y sefyllfa hon yn haws. Rwy'n gobeithio y gallwn siarad â Llywodraeth y DU ynglŷn â gwneud Cychwyn Iach yn haws i'w gael.

Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn ymateb y Llywodraeth i'ch adroddiad a ddywedai fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar fodel cyflawni a fydd yn ei gwneud hi'n bosibl defnyddio ffynonellau data awdurdodau lleol i dargedu gwybodaeth credyd pensiwn i aelwydydd a allai fod ar eu colled—

16:50

—ac rwy'n credu mai dyma'r model y gallem ei ddefnyddio ar gyfer pob math o hawliau y mae pobl yn eu cael.

Mae'r argyfwng costau byw wedi bod yn datblygu ers 12 mlynedd, wedi'i waethygu gan Brexit, y rhyfel yn Wcráin a pholisïau Llywodraeth y DU, sy'n torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus, yn gwthio cynhyrchiant i drothwy afrealistig ac yn torri taliadau nawdd cymdeithasol. Hoffwn groesawu argymhellion 8 a 9 yr adroddiad. Mae gorfod gwneud cais am fudd-daliadau a grantiau yn ddryslyd ac yn flêr. Mae trigolion yn clywed pytiau o wybodaeth ar y newyddion, efallai mewn perthynas â chyhoeddiad gan Lywodraeth y DU—ond nid yw ar gael eto, ac nid ydym yn siŵr sut y caiff ei gyflawni.

Mae Llywodraeth Cymru yn llenwi'r bylchau sy'n cael eu gadael ar ôl gan gynlluniau cyllido Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl. Ond mae cynghorau'n wynebu bylchau ariannu enfawr, ac mae disgwyl mai hwy yw'r corff dosbarthu, ac ni fyddant yn gallu camu i mewn. Byddai porth un stop neu asesydd grant yn syniad da, lle gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf. Ond mae'n rhaid inni wneud yn siŵr fod pob cyswllt yn cyfrif. Dywedodd yr Hwb Lles yn Wrecsam, pan fydd pobl yn dod am ymgynghoriadau COVID hir, eu bod yn gofyn iddynt a ydynt yn iawn, ac a oes angen help arnynt gydag unrhyw beth arall, fel cael mynediad at grantiau. Yn sir y Fflint, ceir un pwynt cyswllt ar gyfer grantiau therapi galwedigaethol, nyrsys ardal, gan ei gwneud yn haws i gael cymorth. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid gwneud yn fawr o bob cyfle nawr.

Mae cynhyrchiant ac arbedion effeithlonrwydd wedi cael eu gwthio i'r eithaf dros y 15 i 20 mlynedd diwethaf. Mae patrymau shifft yn hir, ac nid ydynt yn gyfeillgar i deuluoedd; nid ydynt yn cydweddu â gofal plant. Nid yw'r defnydd cynyddol o gontractau dim oriau neu gontractau rhan-amser gyda goramser gorfodol yn dda iawn i deuluoedd. Cafodd rowndiau gweithwyr y Post Brenhinol eu hymestyn y llynedd i 13 milltir ar gyfartaledd bob dydd. Eto i gyd, mae'r Post Brenhinol eisiau torri tâl salwch, ac mae gweithiwr sy'n cerdded 13 milltir y dydd yn mynd i gael mwy o broblemau iechyd, ond maent am dorri tâl salwch a chynyddu'r defnydd o weithwyr asiantaeth.

Rwy'n falch fod yr adroddiad hwn yn cydnabod yr effaith y mae'r farchnad lafur bresennol yn ei chael ar weithwyr, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu ei hymrwymiad i gefnogi pobl sy'n gweithio drwy bartneriaeth gymdeithasol. Ond nid yn y sector preifat yn unig y mae'r broblem; mae arian gwasanaethau cyhoeddus i gynghorau ac iechyd wedi cael ei dorri, ac mae cyflogau wedi aros yn eu hunfan. Mae gweithwyr yn cael eu llethu ac maent yn gadael y sector. Maent wedi ymlâdd. Pe bai Llywodraeth y DU yn gwrthdroi toriadau'r sector cyhoeddus ac yn buddsoddi yn y sector gofal ehangach, byddai'n creu llawer mwy o swyddi na buddsoddiad yn y diwydiant adeiladu. Mae'n cyflogi mwy o fenywod, yn wyrdd ac yn cefnogi pobl a theuluoedd ar draws ein cymunedau. Byddai'n helpu i fuddsoddi yn ein cymunedau hefyd, gan y byddent yn gwario'n lleol. Byddai buddsoddi mewn gofal yn ysgogiad economaidd da yn ystod yr argyfwng costau byw, a byddai hefyd yn tynnu'r pwysau oddi ar y GIG.

Byddai buddsoddi mewn gofal plant hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw a chefnogi 46 y cant o rieni sengl sy'n dlawd—86 y cant ohonynt yn fenywod. Nid nawr yw'r amser i dorri gwariant gwasanaethau cyhoeddus, pan fo'i angen yn fwy nag erioed i helpu pobl mewn argyfwng. Clywsom hyn yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai heddiw. Mae digartrefedd wedi cyrraedd pwynt o argyfwng. 

Rwy'n gwybod bod cymorthdaliadau bysiau yn ôl ar y bwrdd, gan eu bod yn edrych ar gyni hefyd a mwy o doriadau, ac yn ymdopi â'r bwlch ariannu canol blwyddyn. Mae diswyddiadau ar y bwrdd. Mae cau cyfleusterau hamdden, pyllau nofio ac yn bwysicaf oll, y gwasanaethau cymorth rydym angen i gynghorau eu darparu—yr holl help a'r holl gymorth—ar y bwrdd hefyd. Felly, mae angen inni fuddsoddi cyllid gwasanaethau cyhoeddus a gwariant cyhoeddus nawr er mwyn cefnogi teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw hwn, ac nid eu torri ymhellach. Diolch.

16:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch eto i'r pwyllgor am eu gwaith yn paratoi'r adroddiad hwn, sydd wedi arwain at y ddadl. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r argyfwng costau byw. Mae'n cael ei ysgogi gan ystod o ffactorau. Ond wrth gwrs, mae prif gyfradd chwyddiant heddiw'n cael ei gyrru'n rhannol gan ynni, ond wrth gwrs, fel y soniais yn gynharach, mae prif gyfradd chwyddiant bwyd yn llawer uwch na'r brif gyfradd o 11.1 y cant, gyda mwy nag 16 y cant yn chwyddiant bwyd.

Y gwir na ellir ei wadu yw bod dewisiadau a wnaed gan Lywodraethau Ceidwadol olynol y DU wedi cyfrannu at ble rydym ni: y cyfnod cyntaf o gyni, y gostyngiadau mewn budd-daliadau—maent wedi helpu i greu amodau sydd wedi ychwanegu at y pwysau real iawn ar gyllidebau cartrefi, hyd yn oed cyn cyfundrefn Truss-Kwarteng a'i heffaith fyrhoedlog ond trychinebus ar gyllid cyhoeddus, a'r effaith real iawn y mae hynny wedi'i chael ar deuluoedd. Fel y nododd Sarah Murphy, asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yw y bydd y flwyddyn ariannol nesaf yn gweld y cwymp mwyaf mewn safonau byw ar draws y DU ers dechrau cadw cofnodion.

Ac ers cyhoeddi’r adroddiad hwn, yn anffodus, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu. Mae llawer o Aelodau wedi tynnu sylw at y realiti echrydus i ormod lawer o deuluoedd, a chan ddychwelyd at un o’r pwyntiau a wnaeth Jenny Rathbone, bydd heriau gwirioneddol i'r bobl sy'n helpu, a chredaf ei bod yn wir y bydd help i’r llwglyd yn cael ei atal er mwyn rhoi mwy o gymorth i'r newynog. Dyna fydd y gwir mewn gormod lawer o’n cymunedau.

Ac mae’r ansefydlogrwydd yn Llywodraeth y DU, heb os, wedi arwain at fwy o ansicrwydd ynghylch yr ymyriadau i gefnogi teuluoedd a busnesau, yng Nghymru a ledled y DU. Arweiniodd y gyllideb fach flaenorol a arweiniodd at gwymp y bunt, yr anhrefn yn y marchnadoedd ariannol, at ganlyniadau gwirioneddol, nid yn unig i gronfeydd pensiwn y DU a fu bron â methu'n llwyr, ac ymyrraeth Banc Lloegr—arweiniodd at gostau benthyca cynyddol a phwysau pellach ar chwyddiant a chyfraddau llog, ac mae hynny’n taro busnesau, teuluoedd, ac wrth gwrs, yr holl bobl sydd â morgeisi, gan gynnwys y miloedd lawer o bobl sy’n dod oddi ar gytundeb pris sefydlog bob mis ac yn mynd ar gyfradd safonol a fydd bellach yn llawer mwy nag oeddent yn ei ddisgwyl.

Nawr, cafodd rhywfaint o gymorth ei roi. Y cap o £2,500 ar bris ynni—y pris ynni cyfartalog yw hynny, wrth gwrs; gwyddom nad oedd yn gap caled—roedd hwnnw i fod i bara am ddwy flynedd, ac yna fe'i newidiwyd i gyfnod o chwe mis. Ond hyd yn oed gyda'r cymorth hwnnw, mae bil ynni cyfartalog cartrefi bron wedi dyblu o gymharu â mis Ebrill 2021. A dylai'r cynllun rhyddhad ar filiau ynni leddfu rhywfaint o'r pwysau ar fusnesau, ond mae gwir angen i Lywodraeth y DU basio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol yn gyflym, i sicrhau bod taliadau’n mynd i mewn i gyfrifon busnesau fel nad ydynt yn mynd i'r wal cyn i’r cymorth gael ei ddarparu, a’u bod yn cael eu trosglwyddo i gwsmeriaid annomestig, ac nid busnesau’n unig yw'r rheini, wrth gwrs; mae llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys ysgolion, yn y categori hwnnw, ac mae gwir angen y cymorth a gyhoeddwyd arnynt.

Nawr, er fy mod yn croesawu'r cymorth a gyhoeddwyd, efallai na fydd yn ddigon i rai o'n busnesau bach a chanolig sy'n dal i wynebu costau ynni hyd at chwe gwaith yn uwch. Roedd cyfran uchel o'r busnesau hynny'n ei chael hi'n anodd gyda chyflymder yr adferiad ar ôl y pandemig. Mae Banc Lloegr yn rhagweld gostyngiad hanesyddol o 14 y cant yng nghynnyrch domestig gros y DU eleni, yn ogystal, wrth gwrs, â dirwasgiad hirdymor y gallem fod ynddo eisoes.

Rwyf wedi ymateb yn ffurfiol i’r argymhellion, ac fel y nodwyd, mae’r Llywodraeth yn cytuno â’r mwyafrif helaeth ohonynt, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi sefydlu is-bwyllgor Cabinet yn benodol er mwyn trafod a mynd i’r afael â’r cymorth y gallwn ei ddarparu, ac rydym yn gwneud hynny gyda’n partneriaid yn y trydydd sector, mewn llywodraeth leol, ac ystod o rai eraill yn wir. Mae’r argymhellion a wnaed yn rhan o’r gwaith rydym yn bwrw ymlaen ag ef, ac mae hynny’n cynnwys y gwaith ar hybiau cynnes y tynnodd Sarah Murphy sylw ato. Ac rydym yn pryderu am yr angen i wneud hyn. Mae’n rhyfeddol ein bod, mewn gwlad fel ein gwlad ni, yn gorfod ystyried sut i wneud hynny, ond i wneud hynny mewn ffordd lle nad oes stigma ynghylch y ddarpariaeth ac sy'n darparu cyfeillgarwch a chwmnïaeth. Rwy’n sicr yn cydnabod y pwynt a wnaeth Sarah Murphy ynglŷn â sicrhau bod mynediad da at Wi-Fi ar gael—rheswm da i bobl fynd yno. Mae hynny eisoes ar gael mewn amryw o’r hybiau, ond wrth gwrs, byddwn yn edrych i weld, ac mae’n beth da fod y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol yma, sut y gallwn sicrhau bod gan yr hybiau hynny fynediad da at Wi-Fi.

Rydym yn gweithio gyda dadansoddwyr ar draws y Llywodraeth, fel y crybwyllwyd, ar gasglu, dadansoddi a chyhoeddi data ar agweddau ar realiti costau byw, a sicrhau bod hynny’n helpu i lywio ymyriadau’r Llywodraeth. Bydd y prif ystadegydd yn rhoi gwybodaeth cyn bo hir ynglŷn â sut i gael mynediad at ddata costau byw. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Data Cymru ar ffyrdd eraill hawdd eu defnyddio o gael mynediad at y data hwnnw. Mae'r banc datblygu'n parhau i gefnogi busnesau Cymru. Rydym hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy na £20 miliwn y flwyddyn yng ngwasanaeth Busnes Cymru rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025. Mae hynny'n dangos ein hymrwymiad i entrepreneuriaid, microfusnesau a busnesau bach a chanolig, i helpu i roi'r wybodaeth, y cymorth a'r arweiniad sydd eu hangen arnynt i oroesi’r heriau gwirioneddol sy’n ein hwynebu.

Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi yn ein rhaglen sgiliau i gefnogi cyflogwyr. Byddwn yn parhau â chyllideb o £30 miliwn sydd wedi’i dyrannu tuag at wella effeithlonrwydd ynni domestig mewn aelwydydd incwm isel, gan gynnwys eiddo nad yw ar y grid, drwy ystod o raglenni Llywodraeth Cymru. Ac yn y flwyddyn ariannol nesaf, rydym am barhau i gefnogi busnesau bach a chanolig, a byddwn yn parhau i edrych ar yr hyn a fydd ar gael i ni ar ardrethi annomestig, ond wrth gwrs, bydd rhaid inni aros i weld beth sy'n digwydd yfory i ddeall beth y mae hynny'n ei wneud i realiti adnoddau Llywodraeth Cymru. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw hwn drwy dargedu cymorth a chefnogaeth, ond bydd rhaid inni fod yn onest am yr ystod o fesurau sydd ar gael i ni, gan ein bod, mae arnaf ofn, yn disgwyl cyfyngiadau pellach ar allu ariannol y Llywodraeth hon yn dilyn y datganiad yfory, ac o bosibl, yn y blynyddoedd i ddod.

Mae llawer o fusnesau yng Nghymru yn cefnogi eu cwsmeriaid, a'u staff yn wir. Mae Iceland, er enghraifft, wedi darparu ystod o wasanaethau i gynorthwyo eu cwsmeriaid, gan gynnwys gostyngiadau o 10 y cant ar ddydd Mawrth i bobl dros 60 oed, a benthyciadau di-log i rai o'u cwsmeriaid. A Valero, enghraifft o gyflogwr gwahanol yn sir Benfro, wel, maent hwy hefyd yn rhoi cymorth ychwanegol i fanciau bwyd sir Benfro ac yn edrych ar ymgyrch hylendid i helpu i ddarparu nwyddau i deuluoedd a phlant.

Fel y soniais ar y dechrau, mae llawer wedi digwydd ers cyhoeddi’r adroddiad hwn: gwahanol Brif Weinidogion y DU—mwy nag un—a bellach mae gennym ein pedwerydd Canghellor eleni. Mae’r ansicrwydd a’r diffyg eglurder yn golygu nad ydym yn gwybod, mewn gwirionedd, beth fydd ein sefyllfa o ran y gyllideb y flwyddyn nesaf, ac mae hynny’n effeithio ar ein gallu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, yn wir, fel teuluoedd, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael iddi, gan gynnwys treth ffawdelw ystyrlon ar gwmnïau ynni, sydd eu hunain yn dweud y dylent dalu mwy i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw.

Rydym wedi nodi ein blaenoriaethau i gefnogi pobl a busnesau yn glir. Bydd cyllideb fach 2, yfory, yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Gallai helpu, ond gallai'n hawdd wneud pethau hyd yn oed yn waeth. Bydd yr ychydig ddyddiau nesaf yn anodd, ond mae arnaf ofn y gallai’r flwyddyn nesaf fod hyd yn oed yn anos i lawer gormod o ddinasyddion a busnesau yng Nghymru a ledled y DU.

17:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Rydym wedi clywed safbwyntiau cryf gan Aelodau heddiw ar yr heriau a wynebir gan weithwyr, busnesau a chymunedau ledled Cymru. Fel y mae’r Gweinidog wedi dweud, yn gwbl briodol, mae mwy wedi digwydd ers inni gyhoeddi ein hadroddiad ym mis Gorffennaf nag y gallem fod wedi’i ddychmygu erioed, ond mae pob un ohonom yn cytuno ein bod eisiau cefnogi ein hetholwyr drwy’r cyfnod anodd hwn.

Nawr, mae Aelodau wedi sôn am y diffyg sylfaen dystiolaeth ar sut mae pwysau costau byw'n effeithio ar wahanol gymunedau ledled Cymru, a'r angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod data rheolaidd ar lefel Cymru gyfan ar gael. Mae'n rhaid inni gael darlun cywirach o effaith costau byw ar aelwydydd, fel y gallwn ddeall effaith pwysau costau byw ar wahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol yn well.

Wrth gwrs, mae Aelodau wedi tynnu sylw’n huawdl at effaith y costau byw cynyddol ar aelwydydd. Gwyddom fod pobl yn gorfod tynhau eu gwregysau a gwneud dewisiadau anodd, a dyna pam fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio’n galed i sicrhau bod y rheini sy’n ei chael hi'n anodd yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael. Mae Aelodau hefyd wedi cyfeirio at y pwysau ar y gweithlu, a gwyddom fod sectorau economaidd penodol dan fwy o bwysau nag eraill, gyda risg uwch o bwysau costau byw ar gyflogwyr yn cael eu trosglwyddo i weithwyr. Ac mae’r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, a Sioned Williams, yr Aelod dros Orllewin De Cymru, wedi ein hatgoffa bod llawer o bobl a theuluoedd eisoes yn wynebu heriau enfawr o ddydd i ddydd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Aelod dros Ganol Caerdydd am dynnu sylw at y ddyled y mae rhai eisoes yn ei hwynebu wrth geisio talu eu biliau dydd i ddydd.

Nawr, roedd y Gweinidog yn llygad ei le wrth ddweud bod effaith costau ynni ar fusnesau, ac yn wir, ar wasanaethau cyhoeddus, yr un mor syfrdanol â chanlyniadau costau ynni i ddefnyddwyr. Fel yr Aelod dros Ogledd Cymru, Carolyn Thomas, mae’r pwyllgor yn croesawu ymdrechion i sicrhau bod mwy o weithwyr Cymru yn cael y cyflog byw gwirioneddol ac i gefnogi gweithwyr a sectorau economaidd sy’n arbennig o agored i effaith costau byw cynyddol, a hoffwn roi sicrwydd i’r Aelodau y byddwn yn parhau i graffu ymhellach ar y maes hwn.

Credaf ein bod wedi cyflwyno rhai awgrymiadau adeiladol i lenwi'r hyn a nodwyd gennym fel bylchau yn y cymorth. Gwyddom fod y pwysau wedi cynyddu, ac mae'n rhaid inni weld beth a ddaw yn sgil datganiad yr hydref yfory. Yn y cyfamser, gallaf gadarnhau bod gan y pwyllgor hwn gynlluniau eisoes ar gyfer craffu yn y maes hwn yn y dyfodol. Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn cynnal ymchwiliad undydd o’r enw ‘Costau Byw 2’, lle byddwn yn gwrando ar gynrychiolwyr busnesau Cymru yn nodi'r hyn sydd wedi newid iddynt ers mis Gorffennaf a sut maent yn ymdopi â chostau cynyddol gwneud busnes. A hefyd, yn bwysig iawn, byddwn yn edrych ar effaith pwysau costau byw ar sgiliau a hyfforddiant mewn gwaith i'r rheini sy'n ceisio mynd i mewn i'r farchnad swyddi neu ailsgilio. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys edrych ar gynlluniau cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, yn enwedig y warant i bobl ifanc a sut mae pwysau costau byw'n cael effaith ar yr ymdrechion hynny i adfer.

Rydym hefyd yn bwriadu gwneud gwaith ar gost gynyddol gwneud busnes. Mae aelodau fel Luke Fletcher, yr Aelod dros Orllewin De Cymru, hefyd wedi nodi effaith y pwysau hwn ar fusnesau, gyda llawer ohonynt heb adfer yn llwyr eto wedi’r pandemig. Ac am y rheswm hwnnw, mae'n bwysicach fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i helpu ein busnesau drwy ryddhad ardrethi busnes, cymorth grant a thrwy sefydlu rhaglen gyllido cymorth brys, gan ddefnyddio mecanweithiau tebyg i'r rhaglenni cymorth COVID, i helpu'r busnesau yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol drwy adegau gwaethaf y pwysau costau byw.

Nawr, mae Aelodau fel yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro hefyd wedi nodi’r premiwm gwledig, a gwyddom fod costau byw cynyddol i'w teimlo’n fwy difrifol gan y rheini sy’n byw mewn cymunedau gwledig, o ran cael mynediad at wasanaethau ac mewn perthynas â chostau ynni, a dyna pam ein bod wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau i gefnogi aelwydydd nad ydynt ar y grid drwy’r gaeaf hwn yn gadarn, ac rydym hefyd wedi galw am wneud mwy o ymchwil ar y premiwm gwledig a’r effaith y mae costau byw'n ei chael ar ein cymunedau gwledig.

Ddirprwy Lywydd, mae'r pwyllgor yn parhau i roi blaenoriaeth uchel i archwilio'r materion hyn, o ystyried eu bod mor bwysig i economi Cymru. Byddwn hefyd yn croesawu Gweinidog yr Economi i gyfarfod â ni ar 7 Rhagfyr, lle rwy’n siŵr y bydd pwysau costau byw ar yr agenda. Ac felly, i gloi, a gaf fi ddiolch i'r rheini a gyfrannodd at y ddadl y prynhawn yma? Edrychwn ymlaen at gael diweddariadau pellach gan Lywodraeth Cymru ar eu gwaith yn y maes hwn ac mewn perthynas â rhoi argymhellion ein hadroddiad ar waith. Diolch yn fawr.

17:10

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Toiledau Changing Places

Yr eitem nesaf yw dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig, toiledau Changing Places, a galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8126 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mecanwaith ariannu addas a chanllawiau clir i awdurdodau lleol i sicrhau bod yna ddarpariaeth deg o doiledau Changing Places ym mhob sir yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Wel, yr hyn sy’n allweddol er mwyn cyflawni Deddf Cydraddoldeb 2010 yw argaeledd toiledau Changing Places, sy’n mynd y tu hwnt i ddarparu toiledau hygyrch safonol ac sydd wedi’u dylunio fel y gall pawb, ni waeth beth fo’u hanghenion mynediad neu namau neu ddibyniaeth ar gymorth gofalwyr neu offer arbenigol, ddefnyddio cyfleuster toiled gydag urddas ac mewn modd hylan. Maent yn doiledau hygyrch mwy o faint, gyda chyfarpar fel offer codi, llenni, meinciau newid i oedolion a lle i ofalwyr. Wrth siarad yma ynglŷn ag ymgyrch Changing Places yn 2019, dywedais, er i hyn gael ei lansio yn 2006, fy mod newydd fynychu cyfarfod grŵp llywio Changing Places, a oedd yn canolbwyntio ar ddod â Changing Places i siroedd gogledd-ddwyrain Cymru, gan ddechrau gyda thref yr Wyddgrug, gobeithio, lle mae ymgyrch dros doiled Changing Places yng Nghanolfan Daniel Owen yn parhau hyd heddiw. Câi ei chadeirio gan Kim Edwards, sydd â chyflwr atacsia Friedreich. Dywedodd fod y diffyg cyfleusterau presennol yn golygu nad yw pobl anabl yn mynd allan. Mae darparu toiled Changing Places addas yn darparu'r holl le a'r offer sydd eu hangen i atal pobl rhag gorfod cael eu newid ar lawr aflan, rhag peidio â chael eu newid o gwbl, neu hyd yn oed rhag peidio â mynd allan i'r gymuned yn y lle cyntaf. Ei geiriau hi. Roedd 16 mlynedd wedi bod bryd hynny ers imi glywed hyn yn cael ei godi gyntaf yn y lle hwn, ac eto, mae pobl fel Kim yn dal i orfod ymladd yr ymgyrchoedd hyn 19 mlynedd yn ddiweddarach.

Wrth holi’r Prif Weinidog yma fis diwethaf, dywedais fod

'TCC, Trefnu Cymunedol Cymru—Together Creating Communities, grŵp o arweinwyr cymunedol arbennig o sefydliadau ar draws sir y Fflint, Wrecsam a sir Ddinbych, wedi ymuno i weithredu gyda'i gilydd ar fater toiledau Changing Places. Maen nhw'n dweud er gwaethaf sicrwydd ynghylch eu darpariaeth gan Lywodraethau olynol Cymru yn mynd yn ôl ddau ddegawd, gan gynnwys gan rai sy'n parhau i fod yn Weinidogion yn y Llywodraeth hon, mai dim ond tua 50 o doiledau Changing Places sydd ar gael yng Nghymru gyfan o hyd.'

Pan ofynnais wedyn i’r Prif Weinidog

'pryd y bydd Llywodraeth Cymru'n galluogi pobl yng Nghymru nad ydyn nhw yn gallu defnyddio toiledau hygyrch safonol i gael eu hanghenion dynol sylfaenol wedi'u diwallu a'u hawliau cydraddoldeb wedi eu bodloni, i fwynhau diwrnod allan heb y straen o boeni am gael mynediad at gyfleusterau toiledau a thrwy hynny gynyddu eu hannibyniaeth a'u hiechyd a'u llesiant yn gyffredinol?'

atebodd mai

'Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y cyfrifoldebau yn y maes hwn.'

Dywedodd fod swyddogion Llywodraeth Cymru,

'yn olrhain yr arian sydd wedi ei ddarparu i awdurdodau lleol'.

Fodd bynnag, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gadarnhau i mi mewn ateb ysgrifenedig, nid oes ganddynt gronfa benodol ar gyfer darparu toiledau Changing Places. Yn ogystal, mae TCC yn datgan nad yw canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd i awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu dilyn yn gyson, a bod y canlyniad hyd yma wedi bod yn siomedig.

Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth y DU wedi lansio rhaglen doiledau Changing Places, gyda chronfa bwrpasol o £30 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol ym mhob rhan o Loegr i helpu i gynyddu nifer y toiledau Changing Places yno. Felly, mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mecanwaith ariannu addas a chanllawiau clir ar gyfer awdurdodau lleol i sicrhau bod darpariaeth deg o doiledau Changing Places ym mhob sir yng Nghymru. Mae TCC yn nodi, er enghraifft, pe gallai Llywodraeth Cymru ymrwymo i roi arian cyfatebol o leiaf ar gyfer un toiled Changing Places ym mhob sir, gellid sicrhau gorchymyn pryniant grŵp cenedlaethol am gost fras o £275,000 yn unig—£25,000 yr un; mae hynny'n cyfateb i ychydig dros £1 am bob unigolyn anabl yn y wlad.

Mae’r model cymdeithasol o anabledd yn dweud bod pobl yn anabl oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas, nid oherwydd eu nam, ac mae diffyg cyfleusterau sylfaenol fel y rhain yn golygu bod pobl yn anabl, yn gaeth, yn ynysig ac yn ddibynnol ar eraill. Rwyf wedi clywed am rieni plant anabl yn cael matiau newid gan eu therapyddion galwedigaethol i'w defnyddio ar y llawr mewn toiledau cyhoeddus hygyrch. Er bod elusen Crohn's & Colitis UK yn datgan, yn gwbl briodol, fod angen gwell ymwybyddiaeth o anableddau anweledig, fel y gall pawb ddeall pam fod angen i rywun â chlefyd Crohn neu colitis ddefnyddio'r toiled ar frys, nid yw toiledau hygyrch cyffredin yn diwallu anghenion pob unigolyn anabl.

Mae budd economaidd hefyd i gyfleusterau Changing Places: denu pobl anabl a'u teuluoedd i ddefnyddio siopau, atyniadau i dwristiaid a lleoliadau lletygarwch. Gallai teuluoedd anabl gyfrannu’n sylweddol at yr economi, pan fo punt borffor y DU, pŵer gwario aelwydydd sy'n cynnwys pobl anabl, yn werth £274 biliwn.

Mae diffyg Changing Places yn fater cyfiawnder cymdeithasol, mater iechyd y cyhoedd, mater llywodraeth leol, mater rheoliadau adeiladau, ac yn anad dim, yn fater hawliau anabledd. Galwaf felly ar yr Aelodau i gefnogi, a Llywodraeth Cymru i weithredu, ar ein cynnig heddiw.

17:15

Rwy'n falch o'r cyfle i siarad yn y ddadl hon fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anableddau dysgu. Mae Plaid Cymru yn gwbl gefnogol o fesurau i wella mynediad cyhoeddus o bob math i bobl anabl a phobl sydd ag anghenion penodol, ac rŷn ni'n falch o weld bod y cynnig hwn ynghylch sicrhau argaeledd toiledau Changing Places ledled Cymru wedi’i gyflwyno ac rydym yn falch o gefnogi'r cynnig.

Mae medru cael mynediad i gyfleusterau toiled pan fo angen yn gwbl sylfaenol i urddas ac i iechyd unigolyn. Ond, mae cael mynediad i doiled yn anodd yn aml i bobl anabl, ac os oes gennych chi anableddau cymhleth neu luosog mae cael mynediad i doiled sy'n cwrdd â'ch anghenion hyd yn oed yn fwy o her.

Fel y mae’r cynnig yn awgrymu, er bod y cyfleusterau priodol ac angenrheidiol yma i unigolion sydd angen cymorth personol i ddefnyddio’r toiled neu newid padiau ar gael mewn rhai llefydd erbyn hyn, mae’r broses o osod cyfleusterau o’r fath mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn araf ac yn anghyson, yn enwedig ar draws ardaloedd gwledig. Er enghraifft, dim ond un toiled Changing Places cofrestredig yr un sydd gan Geredigion a Phowys—sefyllfa, rwy’n siŵr, y bydd yr holl Aelodau’n cytuno, sy'n gwbl annerbyniol ac yn golygu nad oes yna fynediad cyfartal i gyfleusterau priodol i holl ddinasyddion Cymru, beth bynnag eu lleoliad neu allu corfforol.

Mencap Cymru arweiniodd yr ymgyrch Changing Places yng Nghymru nôl yn 2008. Maen nhw wedi sôn am y gwahaniaeth mae mynediad i gyfleusterau fel hyn yn gallu gwneud i bobl ag anableddau a'u teuluoedd, i fedru mwynhau amser y tu allan i'w cartrefi, boed hynny i lefydd cyhoeddus fel theatrau, sinemâu neu ganolfannau siopa, neu yn gyfleon i fwynhau parciau, cefn gwlad, mannau o harddwch neu atyniadau twristaidd. Heb y cyfleusterau yma, mae cyfleon ddylai fod ar gael i bawb ond ar gael i rai. Dywed Mencap bod y cyllid a roddwyd i greu cyfleusterau fel hyn yn Oakwood, Sain Ffagan, Llangollen, Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd, Pili Palas a chanolfan ymwelwyr Corris wedi bod yn gwbl drawsnewidiol, ac yn sicrhau bod pobl a thwristiaid anabl yn medru mwynhau rhai o atyniadau gorau Cymru. Ond mae angen dybryd am fwy er mwyn ehangu y math o brofiadau a chyfleon hamdden sydd ar gael i bobl ym mhob rhan o Gymru.

Mae'r cyfleusterau yma yn gwbl hanfodol ac, fel dywedodd Mark Ishwerood, yn hwb hefyd i'r diwydiant twristiaeth. Mae rheolwyr yr atyniadau yma yn sôn am sut maent yn derbyn nifer o alwadau gan bobl sydd am wirio bod ganddynt doiledau Changing Places cyn eu bod nhw'n ymweld. Ac os ydym am fod yn genedl gyfartal, a hefyd am arwain y ffordd o ran twristiaeth gynhwysol, yna mae darparu cyfleusterau fel hyn yn elfen ganolog i'r nod glodwiw honno ddylwn ni gyd ei gefnogi. Gallai'r ardollau ymwelwyr gefnogi y fath yma o ddatblygiad blaengar a chynhwysol.

Mae'n anodd credu bod modd i unrhyw gais cynllunio ar gyfer adeiladau newydd beidio â chynnwys toiled Changing Places. Sut mae modd cyfiawnhau peidio â darparu toiled i bawb, beth bynnag eu hanghenion neu ble bynnag y maen nhw'n byw? Os ydym yn gytûn ar hynny, yna rwy'n annog pawb i gefnogi'r cynnig.

17:20

Hoffwn dalu teyrnged i Jan Thomas, prif weithredwr Fforwm Anabledd Sir y Fflint, a TCC, Trefnu Cymunedol Cymru, am ymgyrchu dros fwy o gyfleusterau Changing Places ar draws y gogledd-ddwyrain. Buont yn fy lobïo pan oeddwn yn gynghorydd sir yn sir y Fflint, ac ers hynny, rwyf wedi cwestiynu a ellir ymgorffori toiled Changing Places mewn adeilad cyhoeddus newydd neu yn ystod y gwaith o ailgynllunio adeilad sy’n bodoli eisoes.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bu problemau gyda digon o le, yn enwedig mewn adeiladau sy'n bodoli eisoes, ac yn fwy felly os oes ganddynt statws rhestredig o ryw fath. Nid arian yw'r cyfyngiad mwyaf fel arfer. Mae cyfleusterau Changing Places yn doiledau hygyrch sydd wedi’u haddasu’n arbennig gydag offer codi, gwely newid maint oedolion a chanllawiau cydio. Mae angen digon o le i symud o gwmpas. Credaf mai'r peth pwysicaf yw sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi ar y cam cynllunio, pan fo'r cynfas yn wag, ac nad yw'n rhywbeth sydd ond yn cael ei ychwanegu wedyn.

Ddydd Gwener, ymwelais â stondin a oedd yn dangos cynlluniau ar gyfer yr amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam, lle bydd adeilad rhestredig yr amgueddfa bresennol yn cael ei ailwampio'n fewnol, a gofynnais a allent gynnwys toiled Changing Places yno. Ond gwnaethant ymateb drwy ddweud eu bod wedi'u cyfyngu o ran gofod a chynllun, gan fod yr adeilad yn rhestredig a'u bod eisoes mewn trafodaethau hirfaith gyda Cadw ynglŷn â'r cynllun. Ond maent yn awyddus i gynnwys un; efallai na fydd o'r maint cywir, ac ychydig yn llai, ond maent yn gweithio ar y mater.

Ar ôl hynny, ymwelais â’r hwb llesiant newydd yn Wrecsam, ac mae wedi’i adnewyddu’n llwyr, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â’r bwrdd iechyd a chyngor Wrecsam, ac roeddwn mor falch o weld dau doiled Changing Places yno—un i oedolion ac un i blant—a oedd hefyd yn cynnwys cawodydd ac uned newid fawr hefyd. Roedd ganddo unedau cegin a oedd yn symud i fyny ac i lawr, ystafell synhwyraidd, a mannau chwarae blynyddoedd cynnar dan do ac awyr agored i blant, sy'n wych, ac ystafell ymgynghori ar gyfer pobl â COVID hir. Roedd fel pe baent wedi meddwl am bopeth, ar y camau cynllunio cynnar, sydd mor bwysig.

Mae gan Wrecsam ddau doiled Changing Places arall mewn lleoliadau amrywiol hefyd, ac mae Parc Siopa Brychdyn yn mynd i gynnwys un, yn ogystal ag adeilad John Summers yn sir y Fflint. Dywedodd Jan Thomas a TCC, 'Mae'r bobl rydym yn gweithio gyda hwy ac yn eu cefnogi wedi dweud wrthym mai'r pryder mwyaf ynghylch mynd allan i'r gymuned yw diffyg toiledau hygyrch.' Ac mae toiledau Changing Places yn galluogi pob unigolyn anabl i gael yr un profiadau â phobl nad ydynt yn anabl. Mae'n hawl ddynol sylfaenol. Diolch.

A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ogledd Cymru, am gynnig y ddadl hon ac am ei holl waith caled yn hyrwyddo hawliau pobl anabl? Mae’n amlwg fod angen inni wneud mwy i greu cymdeithas gwbl gynhwysol. Mae gormod lawer o rwystrau’n bodoli sy’n atal pobl anabl rhag gallu cymryd rhan lawn mewn gweithgareddau bob dydd. Fel y clywsom, dim ond 50 o doiledau Changing Places sydd yna yng Nghymru gyfan. Mae hyn yn gwaethygu'r ffaith bod nifer y toiledau cyhoeddus sydd ar gael wedi lleihau at ei gilydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac nid yw'r rheini sy'n bodoli yn gwbl hygyrch. Felly, nid yw dod o hyd i doiled mor hawdd â hynny ar y gorau, ond i unigolyn sy'n anabl ac sydd angen defnyddio toiled, mae'n ei gwneud yn hynod o anodd dod o hyd i gyfleuster sy'n diwallu eu hanghenion.

Nawr, gyda fy hen het awdurdod lleol ar fy mhen, mae'n anodd i gyngor gydbwyso pob un o'r blaenoriaethau sydd ganddo: mae gennych gyllidebau cyfyngedig a phwysau sylweddol i ymdopi â hwy, a all olygu nad yw pethau fel toiledau, yn anffodus, ar flaen y ciw am gyllid. Ac er ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol, gwyddom nad yw pob awdurdod lleol yn cyfeirio at yr angen am doiledau Changing Places yn eu strategaeth. Yn ein strategaeth toiledau ar gyfer sir Fynwy yn 2019, fe wnaethom gyfeirio at argaeledd toiled Changing Places, sydd ar gael mewn canolfan gymunedol leol. Gwnaethom sicrhau hefyd fod lleoliadau toiledau a'u cyfleusterau ar gael drwy ap mapio y gellir ei ddefnyddio ar ffôn symudol. Ond rwy’n cydnabod y dylem fod wedi gwneud llawer mwy. Felly, mae angen cymorth ariannol penodedig i gyrff cyhoeddus, i sicrhau y gallant ddarparu cyfleusterau Changing Places addas, yn ogystal â chanllawiau cryfach fel bod cyrff cyhoeddus yn ystyried hygyrchedd yn llawn wrth lunio strategaeth toiledau a chynllunio mannau cyhoeddus. Efallai ein bod yn meddwl mai cam bach yw gwneud toiledau’n fwy hygyrch, ond gall gael effaith hynod fuddiol ar bobl anabl ac agor mwy o gyfleoedd iddynt.

Ac os caf sôn yn sydyn am y bunt borffor—hynny yw, pŵer gwario aelwydydd anabl. Mae ystadegau gan elusen Purple yn dangos, yn y DU gyfan, fod busnesau'n colli oddeutu £2 biliwn y mis drwy beidio â diwallu anghenion pobl anabl. Mae oddeutu 75 y cant o bobl anabl wedi gorfod peidio ag ymweld â busnes oherwydd hygyrchedd gwael. Felly, o ddarparu’r cyfleusterau hyn, gallwn hyrwyddo buddion economaidd yn ogystal â’r buddion cymdeithasol.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd agwedd Llywodraeth Cymru tuag at y ddadl hon yn gadarnhaol, ac y gallwn fel Senedd archwilio ffyrdd o sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pobl anabl ym mhob rhan o Gymru. Diolch.

17:25

Diolch yn fawr. Diolch i chi am roi cyfle i mi roi diweddariad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod toiledau Changing Places ar gael ar hyd a lled Cymru.

A mynd i'r afael â hyn mewn ffordd gadarnhaol iawn o ran yr ymrwymiad sydd gan Lywodraeth Cymru, sy'n amlwg wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfranogiad cymunedol llawn a dinasyddiaeth weithgar i holl bobl Cymru, ac rydym yn deall yn iawn y rhan hollbwysig y gall toiledau Changing Places ei chwarae wrth gyflawni'r nod hwn ar gyfer llawer o bobl anabl. Er bod toiledau hygyrch cyffredin yn diwallu anghenion y rhan fwyaf o bobl anabl, mae llawer o bobl anabl angen y ddarpariaeth ychwanegol a gynigir gan doiledau Changing Places, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn cael eu darparu ledled Cymru. Diolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma gydag enghreifftiau da o’r hyn sydd eisoes yn digwydd.

Ym mis Medi 2019, fe gyhoeddasom ein fframwaith, 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', a oedd yn nodi ystod eang o fesurau i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau allweddol y mae pobl anabl yn eu hwynebu gyda namau. Cafodd y fframwaith hwn ei gydgynhyrchu gyda phobl anabl, ac mae’n cynnwys camau gweithredu penodol ynghylch darparu toiledau Changing Places.

Yn 2017, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ofyniad i bob awdurdod lleol yng Nghymru lunio strategaeth toiledau lleol. Wrth ddatblygu eu strategaethau, roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiad o angen, gan gynnwys ystyried yr angen am doiledau Changing Places. Rhaid i’r strategaethau nodi wedyn sut y mae'r awdurdodau lleol yn bwriadu diwallu’r anghenion a nodwyd yn y ffordd orau, a rhaid i’r gwaith hwn fynd rhagddo gyda chyfranogiad llawn eu trigolion a phartneriaid cyflenwi eraill, gan gynnwys pobl anabl, a chlywsom enghreifftiau o ymgyrchwyr yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac yn cael mynediad at gyllid, gan gynnwys cyllid Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â'r gofynion hyn mewn perthynas â strategaeth toiledau, ym mis Chwefror 2021, cyhoeddwyd dogfen ymgynghori ddrafft, a gyflwynai ystod o newidiadau arfaethedig i reoliadau adeiladau, fel eu bod yn cynnwys darpariaeth ar gyfer toiledau Changing Places. Byddai’r rheoliadau arfaethedig hyn yn berthnasol i ddatblygiadau newydd a’r rheini sy’n destun newid defnydd sylweddol, gyda’r nod o gynyddu’r ddarpariaeth o doiledau Changing Places mewn adeiladau cyhoeddus o faint penodol. A bydd canlyniadau'r ymarfer ymgynghori hwn yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i awdurdodau lleol fel rhan o’u setliad refeniw blynyddol sy’n sicrhau bod ganddynt hyblygrwydd i wneud penderfyniadau gwariant lleol priodol. Dylai awdurdodau fod yn gwneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau a’u cyllidebau yng nghyd-destun eu hystod o gyfrifoldebau, gan gynnwys y rheini a nodir yn Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Rydym yn cydnabod bod effaith chwyddiant yn golygu bod awdurdodau’n wynebu dewisiadau anodd a bod cyllidebau o dan bwysau, ond wrth gwrs, roedd y setliad refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn darparu ar gyfer cynnydd o 9.4 y cant, heb fod unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai nag 8.4 y cant.

Ond mae'n gwbl amlwg, a gallaf rannu hyn gyda chi heddiw, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ers amser i hyrwyddo a chynyddu hawliau pobl anabl yng Nghymru, ac yn llwyr gydnabod bod pobl anabl yn cael eu gwthio i'r ymylon ym mhob agwedd ar fywyd, bron â bod. Mae cael gwared ar yr holl rwystrau corfforol, agweddol ac economaidd y mae pobl anabl yn eu hwynebu gyda namau yn allweddol i sicrhau rhyddid pobl anabl. Ein nod yw sicrhau’r rhyddid hwn drwy weithio o fewn dealltwriaeth gyffredin o’r model cymdeithasol sydd wedi’i hymwreiddio—mae Mark Isherwood yn ymwybodol o'n hymrwymiad i hynny—hawliau dynol a phwysigrwydd gweithio o fewn fframwaith cydgynhyrchu. Rydym wedi ymrwymo i ymwreiddio’r model cymdeithasol o anabledd ym mhopeth a wnawn, a chredwn fod deall a gweithredu’r model economaidd-gymdeithasol yn hanfodol er mwyn cael gwared ar y rhwystrau sy’n analluogi ac yn difetha bywydau pobl anabl.

Rydym yn y broses o ddarparu hyfforddiant ar draws Llywodraeth Cymru a nifer o gyrff rhanddeiliaid allweddol. Mae cyfle gwirioneddol gyda’r tasglu hawliau anabledd, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog yn 2021, ac sy'n dod â phobl â phrofiad ac arbenigedd, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynrychioliadol ynghyd i fynd i’r afael ag anabledd gyda’r nod o ysgogi newidiadau hirdymor. Mae'n bleser gennyf ddweud y bydd y tasglu'n archwilio ein holl waith ar doiledau hygyrch cyn bo hir. Mae holl waith y tasglu'n cael ei gyflawni yn ysbryd cydgynhyrchu, ac mae eisoes yn cyflawni newid. Felly, gyda’r holl fentrau hyn, y cyfleoedd, y rheoliadau, yr ymgynghoriad, y tasglu hawliau anabledd, gyda’r ymrwymiad i fynd i’r afael â’r mater hwn mewn perthynas â Changing Places, byddwn yn cefnogi’r cynnig hwn.

17:30

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddweud cymaint o bleser yw cau dadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar doiledau Changing Places? Hoffwn ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan, ac yn enwedig am y gefnogaeth drawsbleidiol i'r cynnig ar draws y Siambr heddiw. Wrth gloi'r ddadl hon, hoffwn ganolbwyntio ar dri phwynt efallai y credaf eu bod wedi'u nodi gan y rhan fwyaf o'r Aelodau ar draws y Siambr. Amlinellwyd y cyntaf gan Mark Isherwood, a agorodd y ddadl heddiw ac sydd, os caf ychwanegu, wedi gwneud gwaith gwych yn codi ymwybyddiaeth o doiledau Changing Places, fel y mae'r Aelodau wedi dweud, ac mae'n parhau i godi llais ynghylch hawliau anabledd yn gyson yn y Siambr hon. 

Nododd Mark Isherwood fod argaeledd toiledau Changing Places yn allwedd i gyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010, ac mae'n mynd y tu hwnt i ddarparu toiledau hygyrch safonol wrth gwrs. Mae'r cyfleusterau hyn mor bwysig i gymaint o bobl ar hyd a lled Cymru, gyda'u toiledau hygyrch mwy o faint, gydag offer codi, llenni, meinciau newid a lle i ofalwyr. Yn syfrdanol, fel y nododd Peter Fox yn ei gyfraniad, dim ond tua 50 o ddarpariaethau Changing Places sydd yna yng Nghymru gyfan. Yn ei chyfraniad hi, nododd Sioned Williams y gallai peidio â chael y mannau hyn effeithio'n niweidiol ar lawer o bobl sydd eisiau byw eu bywydau bob dydd. Yn syml iawn, bydd llawer ohonynt yn methu gwneud y gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd y mae cymaint ohonom yn eu cymryd yn ganiataol, neu fynd i'r llefydd hynny y mae cymaint ohonom yn eu cymryd yn ganiataol ac yn eu mwynhau.

Yn ail, roeddwn eisiau tynnu sylw at sut y gall awdurdodau lleol a sefydliadau eraill weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyfleusterau pwysig hyn yn cael eu cyflwyno. Tynnodd Carolyn Thomas sylw at enghreifftiau yn ei rhanbarth o sefydliadau lle mae'r cyfleusterau ar gael a lle mae'n gweithio'n dda, a sefydliadau efallai lle gallai a lle dylai'r cyfleusterau hyn fod ar gael. Mae'n werth nodi hefyd fy mod yn gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, pan aethant ati i adeiladu eu swyddfeydd newydd ym Mae Colwyn, wedi sicrhau bod toiledau Changing Places yn yr adeilad hwnnw. Ond yr unig reswm y digwyddodd hynny oedd oherwydd iddo ddigwydd ar y cam cynllunio, ac mae hynny'n bwysig iawn mewn gwirionedd, ei fod yn cael ei ystyried ar y dechrau un gydag unrhyw adeilad newydd. 

Fel y gwyddom yn anffodus, a nodwyd hyn gan Mark Isherwood, mae yna rai awdurdodau lleol nad ydynt yn dilyn y canllawiau sydd wedi'u cyhoeddi. Rwy'n gwybod, Weinidog, eich bod chi'n ein cefnogi yma heddiw, ac rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith sy'n parhau, ond yn amlwg mae yna rai awdurdodau lleol nad ydynt yn dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o hyd. [Torri ar draws.] Roeddwn i'n meddwl bod gennyf dri munud, Ddirprwy Lywydd. Rydych chi'n garedig iawn. Fe geisiaf ddirwyn i ben nawr hefyd.

Roeddwn eisiau cyffwrdd yn gyflym ar beth y mae ein cynnig yn ceisio ei wneud. Rydym am i Lywodraeth Cymru ddarparu mecanwaith ariannu addas a chanllawiau clir i awdurdodau lleol i sicrhau bod darpariaeth deg o doiledau Changing Places ym mhob sir yng Nghymru. Rwy'n sicr yn gwerthfawrogi'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog a'i chefnogaeth i'r cynnig hwn yma heddiw. Diolch eto i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau adeiladol ac rwy'n galw ar bob Aelod i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr iawn.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Unwaith eto, nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deddf Diogelwch Adeiladau 2022

Eitem 9 yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, ar Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8127 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol yn Senedd Cymru i hwyluso deddfiad prydlon sy'n ymgorffori adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 i gyfraith Cymru i gryfhau hawliau trigolion yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddai Llafur Cymru am ichi gredu eu bod yn gweithio'n anhygoel o galed i sicrhau bod yr adeiladau yr effeithiwyd arnynt gan broblemau cladin yn ddiogel, ac mae'n ddrwg gennyf, Aelodau, ond nid yw hynny'n wir. Hyd at y mis diwethaf, 68 yn unig o 163 o adeiladau a oedd wedi cael arolygon mwy dwys. Dros bum mlynedd a hanner ers tân Tŵr Grenfell, mae'r ffaith bod lesddeiliaid yn dal heb allu symud o'r cam arolwg yn annerbyniol. Mae lesddeiliaid yn wynebu costau yswiriant cynyddol oherwydd proffil risg uchel yr adeiladau. Honnodd un pâr fod costau yswiriant wedi codi o £67,000 i £624,000 y flwyddyn, cynnydd o 831 y cant.

Weinidog, mae eich Llywodraeth, rydych chi, wedi cael £60 miliwn o gyfalaf a £1.7 miliwn o refeniw gan Lywodraeth Geidwadol y DU ar gyfer gwaith adfer cladin a gwaith diogelwch adeiladau. Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth a ofynnodd am gyfanswm yr arian a wariwyd ar waith diogelwch adeiladau o'r dyraniad, rydych wedi ymateb drwy ddweud 'dim'. O'r £375 miliwn rydych chi wedi'i ddarparu ar gyfer diogelwch adeiladau, faint sydd wedi'i wario erbyn hyn, a faint o adeiladau rydych chi wedi'u gwneud yn ddiogel?

Methiant yw'r hyn a welwn hefyd gyda'r cynllun cymorth i lesddeiliaid. Datgelwyd yn gynharach yn y mis mai dim ond un ymgeisydd sy'n derbyn cyngor annibynnol, ac mae tri yn cael eu symud ymlaen i brynu. Mae gennym filoedd o ddioddefwyr sydd wedi eu heffeithio gan hyn, felly mae'r ystadegau'n siarad drostynt eu hunain. Mae'n rhaid ichi ddechrau canolbwyntio nawr ar sicrhau bod craidd y problemau'n cael sylw.

Fis Ebrill diwethaf, cyhoeddodd y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS ar gyfer Lloegr fod cwmnïau adeiladu cartrefi mawr sy'n adeiladu hanner y cartrefi newydd wedi addo atgyweirio pob adeilad uchel anniogel y maent wedi bod â rhan yn eu datblygu. Ond eto, fe gymeroch chi tan fis Gorffennaf i ddal i fyny hyd yn oed. Felly, hyd at heddiw, a wnewch chi egluro a yw Laing O'Rourke, Westmark a Kier—Tilia bellach—wedi ymateb o gwbl? Oherwydd mewn un ddadl, rwy'n gwybod eich bod wedi sôn eich bod yn cael problemau rhyngweithio ac ymgysylltu a chael ymatebion ganddynt. Wel, rhaid imi fod yn onest, pan fyddaf i'n ysgrifennu at bobl, byddaf fel arfer yn cael ymateb, am na fyddaf yn rhoi'r gorau iddi.

Maes arall lle mae Cymru wedi syrthio ar ôl o gymharu â Lloegr yw hawliau cyfreithiol, ac rwy'n meddwl ein bod i gyd yn falch iawn yma heddiw o gefnogi ymgyrch adran 116 i 125 y Welsh Cladiators, sef craidd y cynnig gan Darren Millar. Er enghraifft, mae adran 123 yn ei gwneud hi'n bosibl i dribiwnlys haen gyntaf wneud gorchmynion adfer

'sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlord perthnasol gywiro diffygion perthnasol penodedig mewn adeilad perthnasol penodedig erbyn amser penodedig.'

Mae adran 124 yn ei gwneud hi'n bosibl gwneud gorchmynion

'sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff corfforaethol neu bartneriaeth benodedig wneud taliadau i berson penodedig, at ddiben talu costau yr aed iddynt neu sydd i'w talu am gywiro diffygion perthnasol'. 

Ac mae adran 126 yn ymwneud â

'thalu costau yr aed iddynt neu sydd i'w talu am gywiro diffygion perthnasol'

pan fo landlord yn dirwyn cwmni i ben.

Er i mi godi'r union bwyntiau sydd yn y cynnig heddiw gyda'r Prif Weinidog ar 18 Hydref, fis yn ddiweddarach, dyma ni, yn gorfod trafod yr un broblem. Roedd awgrym yn ei ymateb i mi y gallai pethau fwrw ymlaen efallai, ond rwy'n dal yn methu deall pam ein bod ni ar y meinciau hyn yn gorfod eich gwthio yn y ffordd rydym yn gwneud. Mae hyn yn anfaddeuol wrth ystyried bod Deddf Diogelwch Adeiladau Lloegr bellach yn barod. Fe allech chi, fel sy'n cael ei wneud ar gyfer plastigion untro—. Pan fo'n gyfleus i'r Llywodraeth hon, rydych chi'n rhoi deddfwriaeth ar y trywydd cyflym drwy'r Senedd hon, ac eto nid yw hynny'n digwydd nawr. Faint yn waeth sy'n rhaid i fywydau'r lesddeiliaid caeth hynny fynd cyn i Lywodraeth Cymru roi'r camau pendant rydym yn galw amdanynt ar waith?

Gwn fod Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi bod yn gefnogol i ymgyrch y Welsh Cladiators, fel y mae Jane Dodds wedi bod, ac rydym yn barod i fynd i gyfarfod cyhoeddus ar hyn nawr a chyfarfod â Llywodraeth Lafur Cymru a'i dwyn i gyfrif. Rwy'n falch fod y Prif Weinidog wedi cyrraedd i glywed diwedd un y ddadl hon gennyf fi. Efallai y bydd Aelodau eraill yn gwneud y pwynt: Brif Weinidog a Weinidog, rydych chi'n gwneud cam â'r bobl hyn yng Nghymru. Diolch yn fawr.

17:40

Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Gadewch inni atgoffa ein hunain pam ein bod yn dal i drafod y mater hwn heddiw, bron i bum mlynedd a hanner ar ôl y drasiedi ofnadwy yn Grenfell. Y ffaith ddamniol yw bod y system diogelwch adeiladau bresennol yn system sydd wedi caniatáu diwylliant o dorri corneli ar draul diogelwch y cyhoedd.

Ni wnaf fyth anghofio gweld y drasiedi honno yn Nhŵr Grenfell yn datblygu yn ôl yn 2017. Yn oriau mân 14 Mehefin, dechreuodd tân losgi drwy Dŵr Grenfell, bloc preswyl 24 llawr yng ngorllewin Llundain. Bu farw 71 o bobl o ganlyniad i'r tân hwnnw. Bu farw eraill fisoedd yn ddiweddarach o ganlyniad i anadlu mwg. Ond mae llawer o bobl—y rhai a ddihangodd o'r tân, teuluoedd y meirw, y rheini a fu'n dyst i'r drasiedi hon—yn dal i fyw gyda chreithiau corfforol a meddyliol erchyll ac yn parhau i ddioddef heddiw.

Ers y trychineb, canfuwyd bod gan nifer fawr o adeiladau preswyl yn y deyrnas anunedig hon, gan gynnwys nifer yng Nghymru, gladin fflamadwy anniogel tra bod gan rai ddiffygion diogelwch tân eraill fel rhaniadau a rhwystrau tân gwael i atal tanau rhag lledaenu o fewn adeiladau. Mae pobl yn ofni, ac mae pobl wedi dioddef yr ofn yma ers dros bum mlynedd. Pum mlynedd heb weithredu.

Mae hi wedi bod yn 18 mis ers yr etholiad, blwyddyn a hanner heb weithredu yma yng Nghymru. Mae lesddeiliaid a thenantiaid wedi'u dal yn gaeth mewn eiddo na allant symud ohono, mae ansawdd eu bywydau a'u hiechyd meddwl wedi dirywio, ac mae'n hen bryd inni ymateb i'r senario hunllefus hon ar frys drwy raglen ddiwygio radical a chymorth ariannol pellach.

Fel llefarydd fy mhlaid ar dai a chynllunio, hoffwn roi eiliad i groesawu'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur. Mae'r cytundeb yn cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau, gan gynnwys ymrwymiadau i ddiwygio'r system diogelwch adeiladau bresennol yn sylweddol a chyflwyno ail gam cronfa diogelwch adeiladau Cymru. Rwy'n falch ein bod yn cydweithio ar y mater allweddol hwn ac yn symud rhywfaint o'r agenda yn ei blaen.

Ni all neb ddadlau o ddifrif yn erbyn y teimlad sy'n sail i'r cynnig heddiw. Rydym i gyd yn cytuno bod angen inni ddiogelu trigolion, a heddiw mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn pwyso am ymgorffori adrannau 116 i 125 o'r Ddeddf Diogelwch Adeiladau, fel y clywsom yn awr gan Janet Finch-Saunders, yng nghyfraith Cymru. Ond mae'n rhaid imi fynegi pryder ynglŷn â hyn. Mae adrannau 116 i 125 yn rhoi opsiwn i lesddeiliaid gymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwr nad yw'n unioni diffygion diogelwch tân, ond mae hyn yn golygu y byddai'n ofynnol iddynt dalu ffioedd cyfreithiol. Felly, a yw'r Torïaid yn credu y dylai lesddeiliaid orfod talu am faterion nad oes unrhyw fai arnynt hwy amdanynt?

Mae yna gamddealltwriaeth sylfaenol mewn perthynas â deddfwriaeth hefyd. Rhaid gwneud mwy na dim ond gwthio darnau o ddeddfwriaeth y DU i mewn i ddeddfwriaeth Gymreig; mae gwahanol fframweithiau ar waith. Felly, rhaid teilwra deddfwriaeth ar gyfer Cymru, a chafodd Deddf y DU ei theilwra ar gyfer Lloegr. Mae peth o Ddeddf 2022 yn berthnasol i Gymru wrth gwrs, a rhoddwyd sylw i'r darpariaethau hynny drwy'r broses gydsynio deddfwriaethol, ond nid ceisio gwasgu—

Nid ceisio gwasgu darn o ddeddfwriaeth Lloegr i mewn i gyfraith bresennol Cymru heb basio Deddf Gymreig yw'r ffordd y dylai pethau weithio. Ond ni allwn adael Llywodraeth Cymru oddi ar y bachyn yma; mae wedi bod yn flwyddyn a hanner ers yr etholiad, ac nid ydym wedi gweld deddfwriaeth yn y maes. Gall Llywodraeth Cymru sôn gymaint ag y dymunant am gyfyngiadau amser, rhaglen ddeddfwriaethol lawn a phroses ddeddfwriaethol hir, ond nid yw'n newid y ffaith bod pobl wedi bod yn aros am gymorth ac ymateb i'r mater hwn am sicrwydd o ddiogelwch a chyfiawnder.

Byddwn yn cefnogi'r cynnig heddiw, ond gadewch imi fod yn glir ein bod yn cefnogi'r egwyddor sy'n sail i'r cynnig. Mae'n fynegiant o gefnogaeth i'r teimladau sy'n sail i'r cynnig. Nid ydym yn meddwl mai trosglwyddo deddfwriaeth Lloegr yn ei chyfanrwydd i mewn i gyfraith Cymru yw'r ateb. Mae angen ein deddfwriaeth ein hunain ar y mater, nid deddfwriaeth Seisnig a wnaed yn Lloegr, ar gyfer Lloegr. Mae angen deddfwriaeth arnom—

17:45

Diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl hon yma heddiw. Amser byr iawn sydd gennyf, ond rydym yn gwybod, dros bum mlynedd yn ôl, fod Grenfell wedi digwydd, gyda 72 o bobl yn marw. Ac yng nghanfyddiadau cychwynnol yr ymchwiliad, chwe diwrnod yn ôl yn unig, dywedodd Richard Millett, y cwnsler i'r ymchwiliad, 'Roedd modd osgoi pob un o'r marwolaethau'. Fel y gwyddom, mae disgwyl i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2023.

Yma yn y Senedd, gallwn weld y fflatiau sy'n cael eu heffeithio gan safonau diogelwch adeiladau gwael. Mae llawer ohonom, rwy'n gwybod—ac rwy'n gwybod bod yr un peth yn wir amdanoch chi'ch hun, Weinidog—wedi cyfarfod â'r bobl yr effeithir arnynt, ac yn Abertawe hefyd. Mae'r dadleuon dros weithredu wedi cael eu hailadrodd droeon, ac mae angen inni ei weld yn digwydd nawr. Nid wyf am roi'r bai ar neb. Mae angen inni weithio gyda'n gilydd ar hyn i'w symud ymlaen, i wneud yn siŵr fod gan y bobl yng Nghymru yr un hawliau, rhwymedïau ac amddiffyniadau â lesddeiliaid yn Lloegr. 

I orffen, a gaf fi ddefnyddio geiriau Richard Millett eto? Dywedodd yn yr ymchwiliad, chwe diwrnod yn ôl yn unig, ar ôl pedair blynedd a hanner o ymchwiliad, fe gyfaddefodd ei ofnau cychwynnol y byddai'r broses yn troi'n garwsél o fwrw'r cyfrifoldeb ymlaen i eraill. Yn anffodus, teimlai fod hynny wedi'i gadarnhau.  Nid wyf eisiau gweld hynny yma yng Nghymru, ac rwy'n awyddus i weld gweithredu. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog yn nes ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

Yn amlwg, roedd tân Grenfell yn dangos methiant rheoliadau adeiladau a methiant gorfodaeth, ac mae'n rhaid i bob corff cyhoeddus a chontractwr preifat ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am hynny. Mae'n gywilyddus fod gwahanol gontractwyr yn dal i gecru dros bwy sy'n gyfrifol ac yn y cyfamser, fod lesddeiliaid yn cael eu gadael mewn sefyllfa gwbl amhosibl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymdrechu i ymgysylltu â'r holl gontractwyr a oedd yn rhan o'r gwaith o adeiladu'r adeiladau uchel hyn yng Nghymru, a byddai'n ddefnyddiol gwybod faint sydd eto i gydymffurfio â'r cynnig hwnnw. Rwy'n derbyn y dull partneriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei fabwysiadu, ond rhaid gofyn y cwestiwn: beth rydym yn ei wneud am y rhai sydd ond eisiau ceisio osgoi eu cyfrifoldebau ac sy'n eistedd ar eu dwylo heb gywiro'r adeiladau y gwnaethant eu codi, ac sydd wedi'u hadeiladu'n annigonol? 

Rwyf eisiau gwybod y manylion ynglŷn ag a yw Llywodraeth Cymru yn hysbysu datblygwyr pan fyddwch chi'n gwneud arolwg digidol, a pha mor gyflym y gallwn ddisgwyl i Lywodraeth Cymru symud o arolygon digidol i arolygon ffisegol lle mae materion penodol yn codi, yn enwedig lle mae yna wadu'n digwydd. Os ydych yn hysbysu datblygwyr, ai hwy wedyn sydd â'r cyfrifoldeb o hysbysu tenantiaid ynghylch y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, neu a yw Llywodraeth Cymru yn hysbysu tenantiaid yn uniongyrchol? Os nad ydynt, sut ar y ddaear y mae lesddeiliaid yn gwybod beth sy'n digwydd os yw datblygwyr a allai fod yn dwyllodrus yn amddifadu lesddeiliaid o'r wybodaeth y mae ganddynt hawl i'w chael?

Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon sy'n galw am gryfhau hawliau preswylwyr yng Nghymru. Rwy'n falch hefyd fod diogelwch adeiladau'n elfen allweddol o'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru.

Yn dilyn cyfarfod diweddar gyda phreswylwyr pryderus, cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig i'r Gweinidog ynglŷn â deddfu adrannau 116 i 125. Y rheswm nad yw'r adrannau hynny wedi cael eu deddfu ar gyfer Cymru yw oherwydd diwygiadau hwyr i'r adrannau hynny o'r Bil, fel nad oedd digon o amser i ystyried goblygiadau llawn yr adrannau i Gymru—rheswm arall, carwn awgrymu, Weinidog, pam na ddylem fod yn defnyddio proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ac y dylem gael ein deddfwriaeth Gymreig ein hunain, fel y soniodd Mabon ap Gwynfor, ond dadl arall yw honno. Fe ddywedoch chi yn eich ateb i mi eich bod yn ystyried amddiffyniadau cyfreithiol eraill ac opsiynau eraill. A wnewch chi ehangu heddiw ar yr hyn a olygwch wrth hynny? 

Rwy'n falch hefyd o weld ymestyn cyfnod amser Deddf Mangreoedd Diffygiol 1972, o ran y camau unioni sydd ar gael i lesddeiliaid pan nad yw datblygwyr yn bodoli mwyach. Pa mor bell ydych chi a'ch swyddogion wedi mynd ar hyn, ac a fydd preswylwyr yn cael eu cynnwys mewn unrhyw drafodaethau ynglŷn â hyn?

Tra ein bod ni'n trafod y mater pwysig hwn yn y Senedd, mae yna breswylwyr rownd y gornel o'r Senedd, yn Celestia, sy'n wynebu camau cyfreithiol drud iawn yn erbyn datblygwyr mawr. Pa gefnogaeth y gallant ei chael nawr gan Lywodraeth Cymru? Fel y nodwyd, mae'r preswylwyr hyn wedi bod yn byw drwy hunllef ers dros hanner degawd. Maent angen gwybod nawr, Weinidog: pryd y daw'r hunllef i ben? Diolch yn fawr. 

17:50

Yn fy mharatoadau ar gyfer fy sylwadau heddiw, roeddwn yn gallu siarad gyda chwmni rheoli eiddo sydd â chryn dipyn o eiddo wedi'i effeithio gan broblemau cladin yn Lloegr ac yng Nghymru. Ac er na fyddech chi'n disgwyl hyn gennyf fi efallai, rwyf am ddweud eu bod wedi cael adborth hynod gadarnhaol ar broses ymgeisio'r gronfa adeiladau a diogelwch yng Nghymru, ac yn hapus fod pethau bellach yn mynd yn eu blaen, ac yn wir yn symud ymlaen yn llawer cyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr. Yn amlwg, anecdotaidd yn unig yw hyn a phrofiad un unigolyn yn unig mewn un cwmni rheoli, a rhywun nad ydynt yn lesddeiliaid eu hunain. Ond roeddwn i'n teimlo bod angen tynnu sylw at y ffaith bod rhywun, rhywle, o leiaf yn teimlo eich bod wedi gwneud gwaith gweddol hyd yma yn ymdrin â chymhlethdod y mater hwn.

Fodd bynnag, er ei bod yn braf cael adborth cadarnhaol, hoffwn ailadrodd, yn y modd cryfaf posibl, fod ffordd bell i fynd o hyd, ac mae lesddeiliaid yn dal i wynebu amgylchiadau anghyffredin mewn perthynas â pheth eiddo. Fel y mae'r Gweinidog wedi cydnabod yn y gorffennol, yn anffodus mae yna lawer o bobl wedi'u dal yn gaeth gan y broblem cladin am na allant werthu eu heiddo na'i ail-forgeisio, sydd wedi golygu eu bod yn agored i niwed cyfraddau llog uwch, ac ni allant symud i gartrefi mwy i gynnal teulu sy'n tyfu, na symud i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth gwell.

Ar ben hynny, mae ymchwil wedi dangos bod lesddeiliaid bellach yn wynebu costau gwasanaeth sylweddol uwch, yn rhannol oherwydd y cynnydd mewn costau yswiriant a chynnal a chadw, sydd mewn rhai achosion wedi cynyddu cymaint â 600 y cant. Mae hyn, ynghyd â chynnydd ychwanegol a digynsail mewn biliau ynni, yn golygu bod bod yn berchen ar eiddo o'r fath yn debygol o ddod yn anfforddiadwy i lawer o bobl. Ac rwy'n credu, Weinidog, y dylai'r Llywodraeth hon ymbaratoi, gan y bydd llawer o lesddeiliaid yn debygol o wynebu adfeddiannu o ganlyniad. Weinidog, rhaid inni ystyried hefyd fod llawer o bobl yn dal i fyw mewn adeiladau sydd â chladin anniogel.  Hyd nes y caiff y materion hyn eu cywiro, mae preswylwyr yn dal i wynebu'r perygl o drychineb arall fel Grenfell, a bydd pawb ohonom yn gobeithio ac yn gweddïo na fydd hynny byth yn digwydd eto. Mae'r sefyllfa rydym ynddi heddiw'n bell iawn i ffwrdd o'r adeg pan gâi eiddo o'r fath ei brynu gyda phob ewyllys da, pan oedd pobl yn disgwyl y byddai ganddynt le fforddiadwy a diogel i fyw. Mae'n siomedig fod y sefyllfa wedi dirywio i'r fath raddau fel bod naw o bob 10 lesddeiliad sydd wedi'u heffeithio wedi nodi dirywiad yn eu hiechyd meddwl oherwydd pryder a gorbryder, gyda 23 y cant yn ystyried hunan-niweidio neu hunanladdiad, a 32 y cant yn adrodd am gynnydd yn eu defnydd o alcohol.

Er bod y Llywodraeth hon yn ymateb, ac mae hynny i'w groesawu, y gwir amdani, Weinidog, yw bod amser yn brin i bobl, ac mae'r help a nodwyd yn mynd i fod yn rhy hwyr i lawer ohonynt, sydd nid yn unig yn wynebu effeithiau uniongyrchol adfeddiannu ond sy'n debygol o wynebu sgil-effeithiau niweidiol am flynyddoedd lawer. Weinidog, mae yna filoedd o bobl yng Nghymru sy'n cario baich sefyllfa nad oeddent yn gyfrifol am ei chreu. Felly, rwy'n annog y Llywodraeth hon, gyda'r brys mwyaf, i ddal ati i bwyso er mwyn cywiro'r sefyllfa hon cyn gynted â phosibl, a derbyn ein cynnig. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn am y cyfle i drafod mater pwysig diogelwch adeiladau yng Nghymru. Fel y mae nifer o'r Aelodau eisoes wedi sôn, mae diogelwch adeiladau yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Heddiw, Lywydd, mae'r Torïaid eisiau canolbwyntio ar adrannau 116 i 125, ac rwy'n falch iawn, Lywydd, eu bod wedi llwyddo i gywiro eu camgymeriad gwreiddiol wrth gyflwyno'r ddadl. Mewn gwirionedd, rydym yn trafod yr adrannau cywir heddiw. Felly, i fod yn glir, mae adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn cynnig rhai amddiffyniadau i lesddeiliaid yn Lloegr rhag gorfod talu am waith adfer neu i leihau cyfraniadau tuag at y gwaith adfer a wneir ar eu hadeiladau. Mae'r adrannau hefyd yn darparu llwybr gweithredu lle gall lesddeiliaid ddwyn achos cyfreithiol ar eu cost eu hunain yn erbyn datblygwyr nad ydynt yn barod i ysgwyddo eu cyfrifoldebau. 

Mae naratif y Torïaid y dylem edrych ar Loegr er mwyn gwybod beth i'w wneud yng Nghymru yn dreuliedig. Ar gyfer rhywbeth mor bwysig â diogelwch ein hadeiladau, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn edrych ar briodoldeb ac angenrheidrwydd adrannau 116 i 125 yng Nghymru. Wrth wneud cymariaethau â'r amddiffyniadau sydd ar gael i lesddeiliaid yng Nghymru, rhaid inni ddeall yn gyntaf beth yw maint y broblem. I ddangos hyn, Lywydd, yn Lloegr nodwyd bod 12,500 o adeiladau preswyl yn 18m ac uwch, o'i gymharu ag oddeutu 300 yng Nghymru. Mae maint y datblygwyr sy'n gweithredu yn y maes hefyd yn enfawr o'i gymharu â Chymru, gyda 49 o ddatblygwyr wrthi'n trafod dogfennau cyfreithiol ffurfiol yn Lloegr o'i gymharu ag 11 yng Nghymru. Ar sail hyn, gallaf ddeall y cymhlethdod a'r anawsterau a wynebir gan ein cymheiriaid yn Lloegr wrth iddynt ddod â'r rhai sy'n gyfrifol at y bwrdd. Roedd Janet yn gofyn imi pwy sydd wedi dod at y bwrdd a phwy sydd heb wneud hynny; gallaf argymell y dylai ddarllen y datganiadau ysgrifenedig a gyhoeddwn yn rheolaidd ar hyn.

Mae'r sefyllfa yma yng Nghymru yn wahanol. Yma yng Nghymru, rydym bob amser wedi arddel y safbwynt na ddylai lesddeiliaid a phreswylwyr mewn adeiladau canolig ac uchel orfod talu am waith diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol amdano, ac rwyf mor ymrwymedig i hyn heddiw ag y bûm erioed. Nid cladin yn unig yw hyn yng Nghymru; mae'n cynnwys yr holl faterion sy'n ymwneud â diogelwch tân. Mae'n wahaniaeth pwysig iawn. Nid yw'n gyfyngiad ar ba daliadau y dylai lesddeiliaid eu talu. Mae'n gynsail syml na ddylai lesddeiliaid ac na fydd lesddeiliaid yn talu am waith diogelwch tân sy'n gyfrifoldeb y datblygwr. 

Rwy'n falch iawn o'n dull o weithredu yng Nghymru i fynd ymhellach i fynd i'r afael â materion diogelwch tân, gan ystyried anghenion yr holl adeilad, ni waeth a oes cladin yn bresennol ai peidio. Mae'r gwaith o gefnogi lesddeiliaid mewn trafferthion ariannol sylweddol drwy ein cynllun cefnogi lesddeiliaid yn cydnabod anghenion aelwydydd unigol, ac rwy'n argymell yn benodol, Joel, y dylech edrych ar y cynllun hwnnw. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynllun, a bydd lesddeiliaid sy'n wynebu'r trafferthion ariannol a ddisgrifiwyd gennych yn gymwys i gael eu lesddaliad wedi'i brynu gan y Llywodraeth.

Rwyf hefyd yn falch o'r dull a fabwysiadwyd gennym o weithio gyda datblygwyr. Hyd yma, mae wedi golygu bod 11 o ddatblygwyr wedi ymrwymo i gytundeb datblygu Llywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio gydag un arall hefyd. Mae cytundeb y datblygwr yn ymrwymiad cyhoeddus y bydd datblygwyr yn cywiro materion diogelwch tân mewn adeiladau 11m ac uwch—nid 18m, 11m ac uwch o uchder—a ddatblygwyd ganddynt dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i lesddeiliaid na fydd rhaid iddynt dalu am waith diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol amdano—

17:55

Diolch. Rwy'n croesawu'r cytundeb rydych chi wedi'i arwyddo gyda'r gwahanol ddatblygwyr. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch—fod yna drafodaethau o hyd gydag un datblygwr. Fel rwy'n deall, rhan o'r cytundeb hwnnw oedd y byddai eu cynlluniau adfer gyda chi o fewn mis i arwyddo'r ddogfen honno. A ydych chi wedi cael unrhyw un o'r cynlluniau adfer hynny, ac os ydych chi wedi, a yw eich swyddogion wedi eich cynghori ynghylch cadernid y cynlluniau hynny?

Rwy'n dod at hynny. Felly, fel roeddwn yn dweud, mae hyn yn rhoi sicrwydd i lesddeiliaid na fydd rhaid iddynt dalu am waith diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol amdano, ac y bydd y gwaith adfer yn mynd rhagddo.

Yng Nghymru, rydym wedi gweithio gyda datblygwyr i sicrhau'r ymrwymiad hwn i adfer. Nawr, dyma'r darn sy'n ateb eich cwestiwn, Andrew. Bydd y ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol a fydd yn sail i'n cytundeb datblygwyr yn darparu'r gallu i Lywodraeth Cymru gymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwyr am dorri telerau'r cytundeb. Mae'r fersiwn derfynol o'r ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol yn cael ei drafftio ar hyn o bryd a bydd yn cynnwys gofyniad i ddatblygwyr ddarparu rhaglen ac amserlen ar gyfer gwaith adfer, ynghyd â threfniadau monitro ac amod fod unrhyw newidiadau i'r amserlen yn cael eu cytuno gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Rwy'n disgwyl y bydd y ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol yn cael ei chytuno gyda datblygwyr yn y dyfodol agos iawn, ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chynnydd i'r Aelodau. I drosi hynny i iaith y lleygwr, pan fydd y dogfennau cyfreithiol yn eu lle, bydd yr amserlen yn dechrau tician. Felly nid ydym yno'n iawn eto, ond fe fyddwn yn fuan iawn.

O ystyried bod nifer sylweddol o eiddo lesddaliad yng Nghymru'n dod o dan y trothwy 11m neu bum llawr, mae angen inni ystyried hefyd a yw'r darpariaethau a nodir yn adrannau 116 i 125 yn addas ar gyfer Cymru. Yn ymarferol, nid yw'r broses o wneud darpariaeth sy'n debyg o ran ei natur neu'n cyfateb i adrannau 116 i 125 ar gyfer Cymru yn syml. Byddai gwneud hynny'n galw am ddeddfwriaeth sylfaenol, sy'n cymryd mwy o amser i'w pharatoi a'i phasio nag is-ddeddfwriaeth wrth gwrs, ac yn ychwanegol at hynny, byddai angen teilwra unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru yn benodol, fel y mae 116 i 125 wedi eu teilwra'n benodol ar hyn o bryd ar gyfer y drefn diogelwch adeiladau newydd yn Lloegr, nad yw'r un fath â'r drefn yma yng Nghymru. Felly er bod adrannau 116 i 125 yn rhoi opsiwn i lesddeiliaid gychwyn camau cyfreithiol yn erbyn datblygwr y maent yn ystyried nad yw'n adfer diffygion diogelwch tân y mae wedi'u creu, gallai hyn wneud lesddeiliaid yn atebol am y costau cyfreithiol a fyddai'n deillio o wneud hynny. 

Yng Nghymru, os yw lesddeiliad neu breswylydd yn poeni bod datblygwr yn torri telerau'r dogfennau cyfreithiol ffurfiol sy'n sail i gytundeb y datblygwr, ceir darpariaeth iddynt allu cysylltu â'r Llywodraeth a byddwn yn monitro'r cytundeb yn agos wrth gwrs. Gallai Llywodraeth Cymru roi camau cyfreithiol ar waith wedyn i orfodi'r dogfennau cyfreithiol ffurfiol, gan warchod lesddeiliaid rhag y costau cyfreithiol posibl o ddwyn achos eu hunain. Felly, os caf ddweud mewn iaith wirioneddol glir, nid ydym angen yr adrannau yng Nghymru. Nid ydym angen cyfyngu na darparu cap ar y taliadau a wneir, oherwydd rydym yn mynd i dalu am y gwaith ein hunain neu mae'r datblygwyr yn mynd i dalu amdano. Felly, lle mae gennym adeiladau y mae datblygwyr yn gysylltiedig â hwy, byddant hwy'n talu am y gwaith adfer, a lle mae gennym adeiladau 'amddifad' fel y'u gelwir—lle na all neb nodi datblygwr neu ei fod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi mynd i'r wal—byddwn ni'n talu amdano. Ni fydd raid i'r lesddeiliaid dalu amdano. 

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar y Llywodraeth i gydweithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol. Rwy'n credu fy mod wedi dangos heddiw ein bod yn Llywodraeth sy'n fwy na pharod i wneud hynny. Rydym yn croesawu cydweithio er budd lesddeiliaid, felly, wrth gwrs, Lywydd, byddwn yn gweithio gyda phob plaid wleidyddol i sicrhau bod lesddeiliaid yn cael eu diogelu, ond rhaid i'r rhain fod yn amddiffyniadau cywir i lesddeiliaid yng Nghymru, a chredwn mai dyna sydd gennym. Diolch. 

18:00

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, ac yn arbennig, am y ffordd y nododd pam ein bod yn trafod y materion hyn, oherwydd trasiedi Grenfell, a diniweidrwydd pobl sy'n byw mewn llawer o'r adeiladau yr effeithiwyd arnynt yn sgil Grenfell—mae'n drasiedi i'r unigolion hynny. Ac fe gyffyrddodd Joel James yn bwerus iawn ar y materion iechyd meddwl, cam-drin alcohol a goblygiadau cymdeithasol eraill sydd wedi taro'r unigolion hyn heb unrhyw fai arnynt hwy, ond drwy'r trawma o fynd o gael yr hyn y credant sy'n gartref eu breuddwydion i fod yn faen melin o amgylch eu gyddfau ac yn y pen draw, yn rhywbeth heb iddo fawr o werth o gwbl, ond fel trap marwol posibl pe bai tân yn digwydd yn unrhyw un o'r adeiladau hynny, ac yn amlwg, yr ofn parhaus ynglŷn â'r hyn a allai ddigwydd.

A dyna pam y mae ymateb y Gweinidog yn fy nrysu braidd heddiw. Pam na fyddai Llywodraeth Cymru eisiau defnyddio'r gyfraith i roi hawliau i'r unigolion hyn fel y gallent fynnu iawn o dan y gyfraith, pe baent yn teimlo y gallent wneud hynny? Rwy'n croesawu'r cynlluniau y mae'r Gweinidog a'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar waith hyd yma i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ar draws y sector i ddod â'r datblygwyr at y bwrdd, ond mae yna lawer iawn o feysydd penodol sydd angen i'r gyfraith roi amddiffyniad i'r unigolion yr effeithir arnynt, megis y cyfryngau at ddibenion arbennig a gafodd eu rhoi ar waith i adeiladu llawer o'r datblygiadau hyn ond ar ôl i'r datblygiadau gael eu hadeiladu, daeth y cwmnïau hynny i ben a daeth atebolrwydd y datblygwyr hynny i ben bron â bod. Pe baem yn mabwysiadu rhai o'r mesurau hyn mewn Deddf Gymreig a fyddai'n cael ei chyflwyno—

Os oes yna adeilad amddifad—dyna rydym yn eu galw—lle mae'r datblygwr wedi mynd yn fethdalwr a lle na allwn olrhain cwmni datblygu gydag atebolrwydd neu gyfrifoldeb amdano, telir amdano o gronfa'r Llywodraeth, sy'n sylweddol fwy na'r arian canlyniadol a roddwyd i ni. 

Mae hynny i'w groesawu, ond os siaradwch chi gyda'r trigolion ychydig i fyny'r ffordd oddi yma, mae yna oblygiadau ehangach i'r adeiladau amddifad y sonia'r Gweinidog amdanynt y mae'r preswylwyr eu hunain, drwy grŵp Cladiators a grwpiau pwyso eraill sydd wedi deillio o'r ymgyrch hon, am eu gweld wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru. Rwy'n derbyn y pwynt y mae Mabon yn ei wneud fod angen cyfraith Gymreig arnom, ac nid neidio ar gefn yr hyn sydd wedi digwydd yn San Steffan. Rwy'n derbyn hynny. Ond rydym wedi profi yma yn y sefydliad hwn cyn y Senedd hon y gallwn lunio deddfwriaeth gyflym lle mae angen inni wneud hynny: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022. Gallaf weld Mick Antoniw yn eistedd gyferbyn â mi, a siaradodd yn y ddadl honno gan hyrwyddo'r ddeddfwriaeth benodol honno. A'r Bil parhad Ewropeaidd hefyd a gyflwynwyd yn amserol.

Felly, er y gallem anghytuno ar rai o'r pwyntiau, rwy'n gobeithio nad ydym yn anghytuno ar yr egwyddor sylfaenol y dylem ddefnyddio pwerau'r Senedd hon i roi amddiffyniad, rhoi hawliau i ddinasyddion Cymru sydd ar yr ochr anghywir i'r ddadl hon, y drafodaeth hon, ac angen diogelwch y gyfraith. Ac fel y dywedais, rwy'n croesawu'r mesurau y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar waith hyd yma, ond rwy'n ei hystyried yn od nad yw'r Llywodraeth yn barod i gyflwyno deddfwriaeth yma y gallwn ei phasio mewn modd amserol, deddfwriaeth benodol i Gymru sy'n ymdrin â materion penodol i Gymru. Rwy'n gweld bod yna wahaniaeth. Yn anffodus, ni fydd Llywodraeth Cymru'n pleidleisio dros y cynnig heno, ond rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill oddi ar feinciau'r gwrthbleidiau'n uno i roi cymeradwyaeth i'r mesur heddiw fel y gall fynd ymlaen i gael ei ystyried. A gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig sydd ar y papur trefn heno. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dyma ni yn symud at y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai bod yna dri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, fe wnawn ni symud yn syth at y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

18:05
10. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Ddeddf Diogelwch Adeiladau, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal: 27 o blaid, 27 yn erbyn, ac felly dwi'n bwrw fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig. Felly, canlyniad y bleidlais yna oedd fod 27 o blaid, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, a bod y cynnig felly wedi'i wrthod.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Deddf Diogelwch Adeiladau 2022: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

11. Dadl Fer: Rasio ceffylau: Ased economaidd ac ased chwaraeon i Gymru

Dyma ni nawr yn symud ymlaen at yr eitem nesaf a'r eitem olaf ar yr agenda, a'r ddadl fer yw honno, ac fe wnaf ofyn i Llyr Gruffydd i gyflwyno'r ddadl fer ar rasio ceffylau.

Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac mae'n rhaid i fi ddweud ei bod hi'n bleser gen i ddod â’r ddadl fer yma gerbron y Senedd heddiw, er mwyn achub ar y cyfle i amlygu ac amlinellu'r cyfraniad sylweddol y mae’r diwydiant rasio ceffylau yn ei wneud nid yn unig yng nghyd-destun y byd chwaraeon yng Nghymru, ond wrth gwrs yn economaidd hefyd. A dwi'n hapus iawn i gytuno i gyfraniadau hefyd i'r ddadl hon gan Alun Davies, Sam Kurtz, Jack Sargeant a James Evans.

Roeddwn i'n meddwl efallai y byddwn i'n dechrau drwy sôn ychydig am sut y des i i fod â diddordeb yn y gamp, oherwydd, cyn rhyw ddwy, dair blynedd yn ôl, mi oeddwn i, mae'n debyg, yr un peth â rhan fwyaf o bobl yn y wlad yma, ddim yn ymddiddori mewn gwirionedd, a dim ond yn cael rhyw bunten fach ar y Grand National yn Aintree, efallai, bob blwyddyn neu ddwy. Ond fe newidiodd hynny yn ystod cyfnod COVID i fi. Pan gafodd rasio y golau gwyrdd i ailddechrau y tu ôl i ddrysau caeedig, wrth gwrs, ym mis Mehefin 2020, hon oedd y gamp fawr gyntaf i ddychwelyd i'n sgriniau teledu ni ar adeg, wrth gwrs, pan oedd llawer ohonon ni'n dal i fyw o dan gyfyngiadau llym. Ac fel rhywun sydd ag awch barhaus i wylio pob math o chwaraeon, ond yn amlwg, fel rôn i'n ei ddweud, heb gymryd llawer o ddiddordeb mewn rasio ceffylau o'r blaen, fe wnes i wylio yr adeg hynny ac fe wnes i fwynhau gwylio yr adeg hynny, a mwynhau yn fawr iawn, mae'n rhaid i fi ddweud. Fe amlygodd y cyfnod yna i fi bŵer chwaraeon o safbwynt creu adloniant, ac yn sicr mi wnes i ddarganfod rasio ceffylau yn y cyfnod yna. Ac yn wir, mi roddodd y cyfnod anodd yna hobi newydd i fi yn hynny o beth—rhywbeth dwi wedi mwynhau darganfod mwy amdano fe, dysgu mwy amdano fe yn y cyfnod ers hynny.

Nawr, byddwn ar fai yn peidio â thynnu sylw yn yr araith hon heddiw at y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i'r diwydiant rasio yng Nghymru yn ystod cyfnod y pandemig. Gwahardd rasio am nifer o fisoedd, a chyfyngiadau parhaus ar niferoedd y dorf a barhaodd yn ysbeidiol yma yng Nghymru wedyn, rhoddodd hynny i gyd straen ariannol sylweddol ar y diwydiant, gyda thraciau Cymreig, wrth gwrs, yn wynebu colledion cyfunol sylweddol, a bydd llawer ohonoch yn ymwybodol fod dwy ras Grand National Cymru ddilynol neu olynol—ein prif ras flynyddol a gynhelir yng Nghas-gwent—wedi gorfod cael ei rhedeg y tu ôl i ddrysau caeedig wrth gwrs. Yn ffodus, mae goroesiad llawer o fusnesau bach a chanolig yn sector rasio Cymru wedi'i sicrhau bellach gan £1.7 miliwn o gyllid grant a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i'r diwydiant, ar ben ffrydiau ariannu eraill wrth gwrs, megis ffyrlo a rhyddhad ardrethi busnes. Yn amlwg, chwaraeodd Llywodraeth y DU ei rhan yn hynny hefyd, a gwn fod llawer o bobl yn niwydiant rasio ceffylau Cymru drwyddo draw yn hynod ddiolchgar am y cymorth a gawsant dros gyfnod anodd iawn.

Fel Aelod dros Ogledd Cymru, wrth gwrs, fy nhaith rasio gyntaf, fel cefnogwr newydd i'r gamp, oedd i ble arall ond cae rasio ceffylau Bangor Is-coed yn fy rhanbarth, ac fe'm gwahoddwyd mewn gwirionedd gan Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain, ynghyd â rhai o Aelodau eraill y Senedd, ac rwy'n falch o'u gweld yma heno. Dechreuodd y diwrnod, wrth gwrs, gyda thaith i glwb rasio Oliver Greenall i ymweld â iard hyfforddi ceffylau rasio, sy'n rhywbeth nad ydym fel arfer yn dod i gysylltiad ag ef pan fyddwn yn gweld sylw'n cael ei roi i hyfforddiant. Mae dros 500 o fusnesau gwledig allweddol o'r fath ledled Prydain, ac 20 yma yng Nghymru, ac mae'n rhaid i mi ddweud, byddech chi'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i bobl fwy gweithgar ac ymroddedig na staff stablau. Maent yn codi ar doriad y wawr ac yn gweithio 365 diwrnod y flwyddyn i wneud yn siŵr fod eu ceffylau'n cael y cariad a'r gofal sydd ei angen arnynt i fod ar eu gorau ar y trac. Ar ôl yr ymweliad hwnnw, fe aethom i'r cae rasio—profiad y byddwn i'n ei argymell yn fawr i unrhyw un sydd eto i fynd i rasys, oherwydd os ydych chi'n edrych am ddiwrnod allan gyda grŵp o ffrindiau, neu deulu sy'n chwilio am ddiwrnod rasio sy'n hwyl i'r teulu, mae rhywbeth i bawb—o ddifrif, rhywbeth i bawb.

Nawr, cafwyd dros 160,000 o ymweliadau â Bangor Is-Coed, Cas-gwent a Ffos Las yn y flwyddyn ddiwethaf nad effeithiwyd arni gan COVID, sef 2019. Mae hwnnw'n ffigur sylweddol a'm trawodd fel rhywbeth nad oeddwn wedi'i sylweddoli, rhaid imi ddweud, ond wrth gwrs, rwy'n gwybod nawr o gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar rasio ceffylau yma yn y Senedd fod y diwydiant yn arbennig o awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ehangu'r nifer, o ystyried y manteision economaidd enfawr posibl y gallai hyn eu cynnig i bawb sydd ynghlwm wrtho.

Yn ddiweddar, cefais gyfle i fynychu gwobrau rasio Cymru, digwyddiad blynyddol sy'n cydnabod y llwyddiannau sylweddol gan aelodau o gymuned rasio ceffylau Cymru, yn bobl a cheffylau, ac roeddwn wrth fy modd yn canfod pa mor llwyddiannus y bu ceffylau a hyfforddwyd yng Nghymru neu sydd â pherchnogion yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf. Cawsom fuddugoliaethau mawr Coole Cody a hyfforddwyd gan Evan Williams yng Ngŵyl Cheltenham, a Rohaan a hyfforddwyd gan David Evans yn Royal Ascot. Mae'r ddau'n cynrychioli Cymru mewn modd cadarnhaol yn rhai o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y DU, sy'n hynod gystadleuol ac yn cynnwys cystadleuaeth ryngwladol. Ar ben hynny, mae David Probert a Sean Bowen hefyd ymhith y pum joci gorau yn y wlad ar y gwastad a thros y clwydi. Ond wrth gwrs, byddai cynnal y llwyddiant hwn a thyfu'r sector i wireddu mwy fyth o gyflawniadau ac effeithiau economaidd mwy sylweddol yn galw am gefnogaeth gan y Llywodraeth hefyd. Nawr, rwy'n deall mai rasio ceffylau yw'r gamp sy'n denu fwyaf o gefnogwyr ar ôl pêl-droed a rygbi yng Nghymru o ran y nifer sy'n mynychu rasys, ond nid wyf yn siŵr ei bod yn cael unrhyw beth tebyg i'r un gydnabyddiaeth o ran ei harwyddocâd, ac yn sicr o ran ei chyfraniad economaidd ehangach.

Nawr, mewn rasio, mae gwobrau ariannol yn gweithredu fel anadl einioes i'r diwydiant. Mae'n helpu nid yn unig i gynnal buddsoddiad hanfodol perchnogion yn y diwydiant, ac mae'n rhaid imi ddweud fod llawer ohonynt nad ydynt yn cael elw ariannol sylweddol, ond mae hefyd yn cefnogi hyfforddiant, busnesau a bywoliaeth cannoedd o gyfranogwyr y gamp yma yng Nghymru. Mae hynny hefyd wedyn yn gyrru gweithgarwch economaidd ehangach drwy'r economi wledig ehangach yma yng Nghymru. Oherwydd amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys lefel yr elw o weithgaredd betio drwy sianeli statudol a masnachol i'r diwydiant rasio, mae rasio ar draws Prydain yn wynebu heriau cynyddol gyda sicrhau lefelau cystadleuol o wobrau ariannol. Wrth fesur gwobrau ariannol fesul ras, mae rasio ym Mhrydain bellach yn llusgo ar ôl awdurdodaethau cystadleuol mawr eraill, gan gynnwys Iwerddon, Ffrainc, Awstralia, yr Unol Daleithiau, Hong Kong a Japan. Nawr, mae'r awdurdodaethau cystadleuol hyn yn parhau i gynyddu gwobrau ariannol, ac yn cynnig cymhellion sylweddol i berchnogion Prydeinig adleoli eu buddsoddiad. Mae modelu economaidd blaenorol wedi awgrymu bod pob 20 ceffyl rasio mewn hyfforddiant yn darparu tua £1 filiwn mewn buddion economaidd uniongyrchol ac anuniongyrchol, felly ceir canlyniadau economaidd negyddol go iawn os oes crebachu yn y sector penodol hwn.

Nawr, mae'n ofynnol i Lywodraeth y DU, drwy statud, adolygu cyfradd yr ardoll betio ar rasys ceffylau, sydd ar hyn o bryd wedi'i gosod ar 10 y cant o elw gros gweithredwyr betio ar rasys Prydeinig. Mae angen iddynt ei adolygu erbyn 2024 fan bellaf. Ac mae hyn yn rhoi cyfle allweddol i gywiro'r anghydbwysedd yn y gwobrau ariannol. Mae'r ardoll hefyd, wrth gwrs, yn darparu buddsoddiad hanfodol mewn uniondeb, mewn hyfforddiant ac addysg ac yn bwysig, yn lles ceffylau. Ac fe hoffwn ddweud ychydig eiriau am les ceffylau, oherwydd, drwy'r ardoll, mae rasio Prydeinig wedi gwario bron i £40 miliwn ar ariannu prosiectau milfeddygol neu addysg filfeddygol gyda'r nod o wella dealltwriaeth o ffisioleg ceffylau ac atal clefydau. Ym mis Mawrth 2019, sefydlodd rasio Prydeinig fwrdd lles ceffylau newydd, a gadeiriwyd yn annibynnol gan Barry Johnson, cyn-lywydd Coleg Brenhinol y Milfeddygon, a chyda chynrychiolaeth wleidyddol arno hefyd gan Tracey Crouch AS. Mae'r bwrdd lles ceffylau wedi cyhoeddi cynllun strategol cynhwysfawr, pum mlynedd o'r enw 'A life well lived', a gyhoeddwyd yn 2020, ac mae ei gyhoeddiad yn foment nodedig i rasio Prydeinig, gan ei fod, am y tro cyntaf, yn darparu un strategaeth les drosfwaol sy'n adeiladu ar y prosiectau niferus sydd eisoes ar y gweill ar draws y diwydiant i godi safonau lles ac i wella lefelau diogelwch ceffylau. Ar hyn o bryd mae gwaith yn mynd rhagddo ar 17 o'r prosiectau sy'n cael eu hargymell gan y bwrdd lles ceffylau, ac mae gwerth £3 miliwn o gyllid wedi'i gyhoeddi heddiw, fel mae'n digwydd, i ymestyn gwaith y bwrdd lles ceffylau hyd at 2025.

Ond i ddychwelyd at yr ardoll betio ar rasys ceffylau, rwy'n gwybod y byddai'r diwydiant rasio yng Nghymru yn werthfawrogol iawn o unrhyw sylwadau y gall y Dirprwy Weinidog eu gwneud i'w swyddog cyfatebol yn San Steffan ac yn yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon er mwyn cyflymu'r adolygiad i gefnogi'r diwydiant yng Nghymru. A byddwn yn hapus iawn i fynd ar drywydd sesiwn friffio ar y pwnc pe bai'r Gweinidog yn dymuno. A gallaf ei gweld yn ysgwyd ei phen, felly rwy'n edrych ymlaen at ei chyfraniad hyd yn oed yn fwy nawr yn nes ymlaen.

Mae gennym stori lwyddiant go iawn yma yng Nghymru yn y byd rasio ceffylau, nad yw bob amser yn cael ei chydnabod fel y dylai, efallai, ac rwy'n credu'n gryf fod manteision a chyfleoedd clir i Lywodraeth Cymru o ymgysylltu'n adeiladol â rasio yma yng Nghymru. Ac i'r perwyl hwnnw, roeddwn wrth fy modd yn gweld bod y Dirprwy Weinidog wedi ymweld â Chas-gwent yn yr haf, a byddwn i hyd yn oed yn fwy balch pe bai'n derbyn fy ngwahoddiad iddi ymuno â mi am ddiwrnod o rasio ym Mangor Is-coed er mwyn iddi gael gweld beth sydd gan rasio yng ngogledd Cymru i'w gynnig hefyd. [Torri ar draws.] Ie. Gall Aelodau eraill ddod draw hefyd wrth gwrs. Ond rwyf am annog y Gweinidog a'i Llywodraeth i barhau i ymgysylltu'n rhagweithiol â'r diwydiant rasio yng Nghymru ac i'w gefnogi, gan y bydd manteision amlwg mewn cymaint o ffyrdd.

Felly, diolch i chi unwaith eto, Lywydd, am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon. Edrychaf ymlaen yn fawr at gyfraniadau Aelodau eraill ac at ymateb y Gweinidog ar y diwydiant hanfodol a llwyddiannus hwn i Gymru. Diolch.

18:15

Roeddwn i'n un o'r bobl lwcus a gefnogodd Norton's Coin ar 100:1 yng Nghwpan Aur Cheltenham 1990. Yn anffodus, nid oeddwn yn Cheltenham—roeddwn ym Mangor—ond mae'n deg dweud ein bod wedi cael noson dda iawn ar sail y bet 100:1 honno, ac fe helpodd fi i gwympo mewn cariad â'r gamp. Rwyf newydd archebu fy nhocyn ar gyfer rasys Tingle Creek yn Sandown ddechrau mis Rhagfyr, a byddaf yn mynd â fy mab i Gas-gwent ar gyfer y National Cymreig ar ôl y Nadolig. Euthum ag ef yn ystod hanner tymor, ac os oes unrhyw un ohonoch yn chwilio am dips, byddwn yn gofyn i Rhys yn hytrach na'i dad, oherwydd dewisodd dri enillydd ac ni ddewisais i'r un. Ond mae'n gamp wych ac rydym wedi clywed gan Llyr sut mae'r gamp yn buddsoddi ynddi'i hun i dyfu ac adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. A beth sydd ei angen ar y gamp honno er mwyn tyfu'r llwyddiant, wrth gwrs, yw cefnogaeth gan Lywodraeth a chan eraill. Rydym yn lwcus iawn. Rwy'n gweld Cas-gwent fel fy nhrac lleol yng Ngwent, ac rydym yn ffodus iawn i gael datblygiad Ffos Las draw yn sir Gaerfyrddin. Ac nid wyf erioed wedi ymweld â Bangor Is-Coed, felly rwy'n edrych ymlaen at weld Llyr yn estyn y gwahoddiad i ni i ymuno ag ef a'r Gweinidog, a'r Llywydd heb os, ym Mangor Is-Coed fel y gallwn ailadrodd llwyddiant Norton's Coin a cheffylau gwych eraill—Moscow Flyer, Kauto Star, Earth Summit a'r lleill. Rwyf am ddod i ben drwy gofio am Dream Alliance, pan lwyddodd Dream Alliance i ennill y Grand National yn 2009. Ac wrth gwrs, enillodd ffilm yr antur fawr honno gynifer o wobrau yng Ngwobrau Ffilm yr Academi Brydeinig yng Nghymru yn gynharach yn yr hydref. Felly, mae'n ddiwydiant gwych, mae'n llwyddiant mawr, ac mae'n rhywbeth y gallwn i gyd ei fwynhau a'i ddathlu, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ein harwain yn y dathliadau hynny. Diolch. 

18:20

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am roi amser i mi yn ei ddadl, oherwydd mae'n hanfodol bwysig, fel rhywun a fagwyd yn marchogaeth ceffylau—nid mor fedrus ag un Aelod Seneddol sydd ar ei wyliau mewn jyngl benodol ar hyn o bryd—roeddwn i'n un o'r rhai a oedd allan yn carthu stablau ceffylau ac ati, ac rwy'n deall y diwydiant; mae'n gwbl fywiog ac iach yn rhannau gwledig ein hetholaethau. A thrwy gariad at rasio pwynt i bwynt, yn Lydstep yn fy etholaeth—. Dyna lle magwyd llawer o'r jocis hyn sy'n mynd ymlaen i fod yn hynod lwyddiannus. Gwn fod Llyr wedi sôn wrth agor am un joci penodol o sir Benfro, Sean Bowen, ac roeddwn yn yr ysgol gydag ef—mae ychydig flynyddoedd yn iau na fi ac ambell i stôn yn ysgafnach hefyd—ond hoffwn dalu teyrnged hefyd i Alan Johns, ffrind da i mi, sy'n gyn-ddisgybl arall o ysgol Abergwaun, felly mae'n rhaid bod rhywbeth yn y dŵr yn Abergwaun ein bod yn cynhyrchu cymaint o jocis o'r radd flaenaf.

Ond mae'n bendant yn wir nad wyf yn credu ein bod ni'n dathlu'r rhai sy'n gwneud mor dda ym maes rasio ceffylau cystal ag y byddem o bosibl yn dathlu pencampwyr chwaraeon eraill sydd gennym yng Nghymru. Ac mae gennym ddigonedd o bobl sy'n llwyddiannus yn y maes cystadlu hwn. Felly, rwy'n talu teyrnged iddynt, ac yn talu teyrnged i'r holl weision stablau sy'n gweithio'n galed, a'r gweision lifrai ym mhob rhan o Gymru, sy'n gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud yn well na'r disgwyl yn y byd rasio ceffylau. Ac rwy'n credu ei bod yn ardderchog ein bod wedi cael cyfle heno, y prynhawn yma, i dalu teyrnged i hynny, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am hynny. Diolch. 

Yn wahanol i fy ffrind da Mr Davies, ni chefais fet yn 1990 ar yr enillydd 100:1, gan fy mod heb gael fy ngeni ar y pryd. Ond fe ddywedaf fy mod yn rhannu cysylltiad Alun â'i deulu yn fy angerdd tuag at rasio ceffylau. Daeth fy angerdd i drwy dad fy mam, Grandad Jim, felly rwy'n siarad gyda diddordeb gwirioneddol yn nyfodol y diwydiant, ac rwy'n credu mai'r ffordd orau o sicrhau'r dyfodol hwnnw yw parhau i fod â ffocws cryf ar les anifeiliaid. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r ddeiseb sy'n mynd drwy'r Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd yn ymwneud â rasio milgwn, ac ni ddywedaf unrhyw beth penodol am yr adroddiad hwnnw, na rhoi unrhyw farn gerbron y pwyllgor, ond dylem nodi'r cynnydd a wnaed gan y diwydiant rasio ceffylau, yn arbennig, o ran lles anifeiliaid. Ni wnaf ailadrodd y pwyntiau y mae'r cadeirydd, Llyr Gruffydd, eisoes wedi'u gwneud, ond fe wnaf rannu fy marn bersonol, pan ddywedaf fy mod yn credu bod gwahaniaethau sylweddol rhwng y ddau ddiwydiant. 

Ond diolch i'r Aelod. Rwy'n gweld, Lywydd, ein bod yn agosáu at y terfyn amser. Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl hon. Diolch iddo am gadeirio'r grŵp trawsbleidiol. Mae'n ddiwydiant pwysig i Gymru, yn economaidd, ond hefyd fel diwrnodau hwyl i'r teulu, fel yr awgrymwch, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fod ym Mangor Is-Coed gyda chi i gyd. Diolch.

Gallaf weld fod yr amser wedi dod i ben, felly byddaf mor fyr ag y gallaf. Mae rasio ceffylau i mi wedi bod yn angerdd gydol oes. Roedd gan fy mam ddiddordeb brwd mewn marchogaeth ceffylau, fel fy nain, ac roedd fy hen nain yn marchogaeth ceffylau hyd nes ei phen-blwydd yn naw deg oed, felly mae gennyf ddiddordeb mawr yn y gamp er pan oeddwn yn ifanc iawn. Yn wahanol i Aelodau eraill, rwy'n siŵr, fel Jack Sargeant nid wyf yn tueddu i ennill llawer iawn, oherwydd rwy'n berson eithaf anlwcus yn y ffordd honno. Ond hoffwn ddweud, ar bwynt Llyr Gruffydd, mae'r £3 miliwn sydd wedi ei fuddsoddi heddiw yn lles ein ceffylau rasio yn hynod o bwysig, ac rwy'n gwybod bod Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain yn gwneud llawer iawn o waith yn cydnabod pa mor bwysig yw lles anifeiliaid yn y diwydiant hwn. Ac rwy'n credu bod angen tynnu sylw eto at y ffaith bod y diwydiant yn malio'n wirioneddol am y ceffylau rasio hyn; maent yn eu caru, maent yn gofalu amdanynt, am mai hwy yw eu teulu. Dyna beth yw ceffyl i lawer o'r bobl yma.

Ac fe hoffwn dalu teyrnged bersonol i Sheila Lewis yn fy etholaeth am yr hyfforddiant gwych mae'n ei ddarparu i geffylau rasio, a'i llongyfarch ar ei buddugoliaeth ddiweddaraf yn Cheltenham ym mis Hydref. A diolch yn fawr iawn i gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar rasio ceffylau am ei gadeiryddiaeth wych, a hefyd i'r aelodau sy'n ei wneud yn un o'r grwpiau trawsbleidiol gorau yn y Senedd yn fy marn i. 

Diolch, Lywydd, a diolch i chi, Llyr, a phawb arall sydd wedi cyfrannu at y ddadl fer y prynhawn yma. Nid oes amheuaeth o gwbl fod y diwydiant rasio ceffylau yn cyfrannu'n sylweddol at economi Cymru ac yn darparu cyflogaeth ar draws sawl maes gwahanol, o gymorth stablau i letygarwch. Ac fel y nododd Llyr ar ddechrau ei gyfraniad, dyma'r gamp gyda'r gyfradd uchaf o bresenoldeb gwylwyr ar ôl pêl-droed a rygbi, ffaith a oedd yn fy synnu, rhaid i mi ddweud. Amcangyfrifir bod 155,000 o ymweliadau unigol ar draws y tri cae rasio yn 2019, a bydd digwyddiadau proffil uchel fel y Grand National Cymreig yng Nghas-gwent yn cael eu cynnal eleni ar 27 Rhagfyr, ac rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom yn edrych ymlaen at hwnnw. Mae ymhlith y goreuon o weithgareddau chwaraeon yng Nghymru, ac wrth gwrs mae'n mynd i gael ei ddarlledu'n fyw ar y teledu.

Gan ei bod yn ymddangos bod pawb arall wedi rhoi ychydig o anecdotau am eu hymweliadau â chaeau rasio ceffylau a'u cysylltiadau â rasio, mae'n debyg y dylwn roi fy un innau hefyd. A gaf fi ddweud fy mod wedi mwynhau fy ymweliad â Chas-gwent yn fawr iawn yn gynharach yn y flwyddyn? Fe wnaethant gynnig gwahoddiad i mi fynd i'r ddau gae rasio arall tra oeddwn i yno, ac rwy'n hapus i wneud hynny ar ryw bwynt. Cefais gyfle tra oeddwn yno i gyflwyno gwobrau i'r enillwyr, i ddewis y ceffyl gorau i ddod o'r stablau. Fe wneuthum gyfweliad teledu byw hyd yn oed, gyda Sky Sports a oedd yno'n ffilmio'r rasys ar y pryd, a— . Mae'n ddrwg gennyf, Darren. Wrth gwrs.

18:25

A yw'n iawn, os caniatewch i mi? Rwy'n gwybod nad yw'n arferol mewn dadleuon byr i wneud ymyriad.

Wyddoch chi, nid wyf wedi gwneud dadl fer ers peth amser—ni allaf gofio beth sy'n arferol. [Chwerthin.] Ond yn ysbryd y ddadl—yn ysbryd y ddadl.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o glywed am yr holl ddiddordeb mewn rasio ceffylau yn y Siambr heddiw. Rwy'n ffodus fod gennyf yn fy etholaeth fy hun, yng nghymuned Towyn, yr unig drac rasio harnais yng Nghymru, a hoffwn eich gwahodd, Ddirprwy Weinidog, i ymuno â mi am noson yn y rasys yn Nhowyn—a phawb arall yn y Siambr—er mwyn ichi ddod i weld y pleser y mae'n ei roi i lawer o bobl. A wnewch chi ymuno â mi i ymweld â thrac rasio harnais Towyn, yn Nhir Prince yn Nhowyn?

Fe fyddwn wrth fy modd, ac rwy'n cymryd y byddwch chi'n talu am yr holl fetiau, Darren.

Ond a gaf fi ddweud hanesyn byr iawn? Bydd y rhai ohonoch sydd mor hen â fi yn cofio Grand National 1992. Roeddwn yn yr ysbyty yn cael fy mab hynaf ar y pryd, ac roedd Grand National 1992 ym mis Ebrill, a'r enillydd oedd Party Politics, ac roedd hi'n bum diwrnod cyn etholiad cyffredinol 1992, ac fe roddais fet ar Party Politics, dim ond am ei bod hi'n etholiad cyffredinol, a Party Politics a enillodd y Grand National y flwyddyn honno, ac fe wnaethom adael yr ysbyty gyda fy mab, a'r lle cyntaf i fy mab ymweld ag ef erioed oedd gorsaf bleidleisio ar y ffordd adref. Ond beth bynnag, dyna fy anecdotau rasio.

Cafwyd llwyddiannau Cymreig eithriadol yn ddiweddar i jocis a hyfforddwyr, dros y clwydi ac ar y gwastad, dros y tymor neu ddau diwethaf. Cafodd llawer o'r perfformiadau gwych hyn eu cydnabod yn y gwobrau rasio ceffylau yn gynharach yn y mis, ac fe sonioch chi am David Probert, sef joci'r flwyddyn ar y gwastad, ar ôl marchogaeth dros 150 o enillwyr yn y 12 mis diwethaf, a hefyd hyfforddwr helfa genedlaethol y flwyddyn, Evan Williams, a lwyddodd i gael 53 o enillwyr ac ennill dros £900,000 mewn gwobrau ariannol yn y flwyddyn ddiwethaf. 

Ond wrth gwrs, mae rasio ceffylau, fel chwaraeon eraill, wedi wynebu cyfnod heriol iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a dyna pam y gwnaethom greu'r gronfa diogelu chwaraeon gwylwyr, i helpu chwaraeon sy'n ddibynnol ar wylwyr, fel rasio ceffylau, i wrthbwyso'r golled i incwm yn gysylltiedig â COVID, a chafodd y cynllun dderbyniad da. Unwaith yn rhagor, fel y nododd Llyr cafodd y tri chwrs yng Nghymru rywbeth tebyg i £1.7 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i'w cael drwy'r cyfnod hwnnw yn ystod y pandemig.

Ond rwyf hefyd yn gwybod bod hyfforddwyr yn parhau i wynebu heriau, wrth geisio tyfu ac ehangu eu busnesau, gyda materion fel caniatâd cynllunio ac ardrethi busnes, ac rwy'n ymwybodol fod y diwydiant yn llunio cynnig i Lywodraeth Cymru ystyried pa gymorth pellach y gallem ei ddarparu i hyfforddwyr, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y cynnig hwnnw ac ystyried beth sydd ynddo.

Rwyf hefyd yn credu ei bod yn deg dweud mai dim ond os oes ganddo fframwaith rheoleiddio cryf yn sylfaen iddo y gall y diwydiant ffynnu, a dyna yw Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain, fel y corff cydnabyddedig sy'n gyfrifol am reoleiddio rasio ceffylau, ac rwy'n ymwybodol fod yr awdurdod wedi cryfhau ei strwythurau llywodraethu yn ddiweddar, a gobeithio y bydd hynny'n rhoi mwy o bwyslais ar les ceffylau, cefnogi pobl yn y diwydiant a mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, trwyddedu cymdeithasol a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Nawr, fel y mae eraill hefyd wedi sôn, rydym yn cydnabod y materion sy'n codi a'r pryderon ynghylch lles anifeiliaid, ac mae hynny wrth gwrs yn hollbwysig ar gyfer sicrhau llwyddiant parhaus y diwydiant. Mae rasio ceffylau ym Mhrydain yn cael ei weld gan lawer ymhlith y gweithgareddau anifeiliaid sy'n cael eu rheoleiddio orau yn y byd. A chyda'r RSPCA a World Horse Welfare, mae Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain yn un o brif gefnogwyr y protocol lles ceffylau cenedlaethol. Ac mae o leiaf un swyddog milfeddygol Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain ar ddyletswydd ym mhob digwyddiad rasio, a'i gyfrifoldeb yw goruchwylio lles ceffylau a sicrhau bod y safonau a osodir gan yr awdurdod yn cael eu cynnal. Oherwydd mae ceffylau rasio, fel pob anifail dof domestig, hefyd yn cael eu hamddiffyn o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, ac o dan y ddeddfwriaeth hon, mae'n drosedd i achosi unrhyw ddioddefaint diangen i anifail neu fod perchennog neu geidwad yn methu darparu ar gyfer ei anghenion lles. Mae cod ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer lles ceffylau yn esbonio beth sydd angen ei wneud i gyrraedd y safonau gofal y mae'r gyfraith yn eu gwneud yn ofynnol, sy'n cynnwys amgylchedd y ceffyl, ei anghenion ymddygiad, iechyd a lles. Ac mae swyddogion polisi yn gweithio ochr yn ochr â'r grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid ar ddiwygio'r codau, a daeth y cod diwygiedig ar gyfer ceffylau i rym ym mis Tachwedd 2018.

Ac rwy'n gwybod, fel y nododd Llyr unwaith eto, fod yna bryderon ynghylch yr hyn y mae'r diwydiant yn ei wneud i gefnogi materion yn ymwneud â gamblo cymhellol. Oherwydd er i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei hadolygiad o Ddeddf Gamblo 2005 ym mis Rhagfyr 2020, fel y clywsom, mae'n ymddangos bod cynnydd ar gyhoeddi'r Papur Gwyn wedi arafu. A byddwn yn fwy na pharod i weithio gydag unrhyw un a wnaiff bwyso ar Lywodraeth y DU i symud ymlaen ar hyn, oherwydd mae'n waith pwysig iawn. Ond rwyf am fod yn gwbl glir fy mod yn cefnogi'r diwydiant yn yr ymdrechion y mae'n eu gwneud i gefnogi'r gwaith o leihau niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, gyda mesurau syml iawn, fel gosod peiriannau arian parod i ffwrdd o'r cownteri betio neu'r bwcis, fel bod yn rhaid i unrhyw un sy'n defnyddio peiriant ATM roi'r gorau i fetio er mwyn gwneud hynny. Nod mesurau eraill yw sicrhau bod gamblo'n digwydd mewn ffordd deg ac agored, drwy sicrhau bod gan bob gweithredydd sy'n bresennol drwydded gweithredwr dilys a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Gamblo, a bod unrhyw fwcis anghyfreithlon neu fwcis sy'n gweithredu'n amhriodol yn cael eu gwahardd o'r safle.

Felly, i orffen, Lywydd, drwy roi'r sicrwydd hwn i aelodau'r cyhoedd a'r rhai sy'n ymwneud â lles anifeiliaid a llywodraethu chwaraeon, gallwn ganiatáu i rasio ceffylau barhau i dyfu a ffynnu yng Nghymru. A chyda chefnogaeth pawb yn y Siambr hon, rwy'n hollol sicr mai dyna fydd yn digwydd. Diolch yn fawr.

18:30

Iawn. Diolch yn fawr i bawb. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heddiw.

Ac rwyf am ofyn: pwy sy'n trefnu'r bws i Fangor Is-coed a Thir Prince?

Daeth y cyfarfod i ben am 18:32.