Y Cyfarfod Llawn
Plenary
09/11/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Iawn, dyma ni'n cychwyn y cyfarfod. Prynhawn da i bawb. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â dyfodol y tocyn croesawu sy'n darparu teithiau bws a threnau am ddim i ffoaduriaid? OQ58649
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymestyn cynllun y tocyn croeso i ffoaduriaid tan fis Mawrth 2023. Mae gweithgor wedi’i sefydlu i fwrw ymlaen â rhaglen waith ar gyfer y cynllun trafnidiaeth am ddim a’r gwaith y bydd angen ei wneud y tu hwnt i fis Ebrill 2023.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. O’m rhan i, mae’r tocyn croeso'n fenter wych sydd wedi'i chroesawu’n fawr gan ffoaduriaid ledled Cymru. Fodd bynnag, dygwyd i’m sylw yn uniongyrchol gan geiswyr lloches a chan Gyngor Ffoaduriaid Cymru fod angen gwelliannau i wneud y cynllun hyd yn oed yn well. Ymddiheuraf i bawb yma os wyf yn swnio fel pe bawn yn ailadrodd fy hun, Weinidog, gan imi godi'r mater yn ddiweddar mewn datganiad busnes, ond roeddwn yn meddwl y byddwn yn achub ar y cyfle i'ch holi'n uniongyrchol fy hun.
I fynd ar fws neu drên, rhaid i ffoaduriaid ddangos naill ai cerdyn preswylio biometrig, pasbort neu lythyr gan y Swyddfa Gartref. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn ddogfen bwysig iawn y mae'n rhaid i ffoaduriaid fynd â hi gyda hwy bob tro y maent am gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru. Ac mae hyn wedi gwneud i rai ffoaduriaid deimlo embaras a rhoi'r gorau i ddefnyddio'r cynllun yn gyfan gwbl gan nad yw rhai gwasanaethau'n cydnabod y tocyn croeso. Yn ôl pob tebyg, ceir camddealltwriaeth ymhlith gyrwyr o’r gwahanol fathau o statws ar gardiau preswylio biometrig, felly yn anffodus, Weinidog, nid yw llawer o geiswyr lloches yn gymwys ar gyfer y tocyn croeso ychwaith. Drwy ymestyn y cynllun i gynnwys ceiswyr lloches, byddai’n eu galluogi i integreiddio’n well i fywyd yng Nghymru drwy ganiatáu iddynt fynychu gwersi Saesneg a chael cyfleoedd i wirfoddoli. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i edrych ar gyflwyno cerdyn arbennig y bydd pob gyrrwr yn ei gydnabod er mwyn osgoi dryswch ac i atal ffoaduriaid rhag gorfod cario dogfennau pwysig? Ac a wnewch chi hefyd edrych ar ymestyn y tocyn croeso i gynnwys ceiswyr lloches? Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Mae'n bwysig iawn inni geisio sicrhau bod y gweithgor hwn yn datrys llawer o'r problemau a nodwyd gennych. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru—a dim ond Llywodraeth Cymru; nid oes unrhyw gynllun arall o’i fath yn y DU—wedi darparu trafnidiaeth am ddim i geiswyr lloches mewn cynllun peilot byr, a reolwyd gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru o fis Ionawr hyd at ddiwedd mis Mawrth eleni. Felly, wrth gwrs, rydym yn bwrw ymlaen â chanlyniadau'r cynllun peilot hwnnw i ystyried opsiynau trafnidiaeth am ddim i geiswyr lloches.
Mae'n bwysig iawn fod gennym, yn y gweithgor, gynrychiolwyr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru yn ogystal ag o Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. A’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud nawr yw datblygu tocyn croeso gyda cherdyn teithio clyfar am ddim yn seiliedig ar y cynllun cerdyn teithio rhatach presennol fel y gallwch wedyn gael yr asesiad cymhwysedd hwnnw cyn rhoi cerdyn teithio am ddim a chael gwared ar rai o'r anawsterau a gafwyd. Mae’n gynllun gwirioneddol bwysig. Rydym am edrych ar y cymhwysedd, ac fel y dywedais, yma yng Nghymru, rydym yn mynd yn llawer pellach, er enghraifft, na Llywodraeth y DU yn ein cynnig teithio er mwyn galluogi pobl i integreiddio i gymdeithas Cymru.
2. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu ar gyfer cartrefi oddi ar y grid sydd mewn tlodi tanwydd? OQ58675
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i’r rheini sydd mewn tlodi tanwydd mewn cartrefi nad ydynt ar y grid, gan gynnwys cynllun Nyth Cartrefi Clyd, y gronfa cymorth dewisol, cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad Banc Tanwydd.
Byddwch chi'n ymwybodol, Weinidog, fod yna ganran uchel yng Nghymru o gartrefi sydd ddim yn gysylltiedig â'r grid cyflenwad nwy—hynny yw, bron un mas o bump o bob cartref. Ac mewn rhai mannau yn sir Gaerfyrddin, er enghraifft, mae e gymaint â 39 y cant. Dyw'r cartrefi yma, sydd yn ddibynnol ar olew cartref neu danwyddau amgen eraill, wrth gwrs ddim yn elwa o'r cap ar brisiau ynni—dŷn nhw ddim yn cael y 4 y cant o ddisgownt; dim ond £100 maen nhw'n ei dderbyn trwy Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Mae hyd yn oed Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi derbyn nad yw hwnna'n ddigon. Ydych chi'n dwyn pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wneud mwy? Ac yn y cyfamser, pa gymorth ychwanegol, ar ben yr hyn rydych chi wedi sôn amdano'n barod, y gallwn ni ddarparu i'r cartrefi yma sydd yn mynd i wynebu cyfnod anodd iawn yn ystod y misoedd sy'n dod?
Diolch yn fawr, Adam Price. Mae hyn yn bwysig iawn—ein bod yn cydnabod yr her yn yr aelwydydd hynny, a'r gyfran uchel, nid yn unig yn eich etholaeth chi, ond ledled Cymru, nad ydynt wedi'u cysylltu, neu nad ydynt ar y grid. Ac o edrych ar y problemau a’r ffyrdd rydym wedi bod yn cefnogi pobl yn eich etholaeth, yn eich ardal, hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021, roedd mwy na 5,000 o gartrefi incwm isel yn sir Gaerfyrddin wedi elwa ar fesurau effeithlonrwydd ynni cartref, gan fod hynny’n hollbwysig, wrth gwrs, ar gyfer lleihau biliau drwy raglen Cartrefi Clyd. Ond rydych yn llygad eich lle fod y problemau sy'n gysylltiedig â gosod y cap ar brisiau—. Wrth gwrs, nid oes gan y rheoleiddiwr ynni unrhyw rôl yn y broses o bennu'r cap ar brisiau olew gwresogi a nwy hylifedig, er bod y lleill wedi'u rheoleiddio, wrth gwrs—y rheini sydd ar y gridiau nwy a thrydan.
Nawr, dyma ble rydym wedi defnyddio ein cronfa cymorth dewisol, i helpu i gynnig cymorth i aelwydydd—cymorth drwy'r gronfa cymorth dewisol i aelwydydd nad ydynt ar y grid ac nad ydynt yn gallu fforddio eu cyflenwad nesaf o olew neu LPG. Mae hynny wedi'i ymestyn hyd at fis Mawrth nesaf, a bydd yn helpu cartrefi gyda hyd at £250 mewn taliadau untro am olew neu hyd at dri thaliad o £70 am LPG. A hefyd, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r bartneriaeth newydd sydd gennym gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd gyda chronfa wres y Sefydliad Banc Tanwydd. Ond rydym yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU—rydym yn galw arnynt i gydnabod y ffaith bod pobl ar eu colled. A gaf fi ddweud hefyd, ar gymorth tuag at filiau ynni'r Llywodraeth, sef £400 dros y gaeaf hwn, nad yw'n cyrraedd llawer o'r aelwydydd nad ydynt ar y grid na llawer o'r rheini sydd ar fesuryddion rhagdalu chwaith, felly mae angen inni sicrhau yr eir i’r afael â hynny. Ond rydym yn dal i alw am gap is ar brisiau ynni ar gyfer aelwydydd incwm isel a chynnydd sylweddol yn yr ad-daliad a delir drwy gynlluniau fel y cynllun gostyngiad cartrefi cynnes gan Lywodraeth y DU.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am gyflwyno’r cwestiwn hwn, gan fod llawer o’r amgylchiadau a ddisgrifiodd hefyd yn berthnasol i fy etholaeth innau, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Ond mae hefyd yn bwysig nodi, i lawer o aelwydydd gwledig, fod eu cartref hefyd yn gweithredu fel man busnes, ac mae hyn yn hynod o bwysig i’r rheini yn y gymuned amaethyddol, er enghraifft—ac rwy’n datgan buddiant fel cyfarwyddwr clwb ffermwyr ifanc Cymru. Ar gyfartaledd, mae cartrefi nad ydynt ar y grid wedi wynebu cynnydd o 21 y cant yng nghost tanwydd, a chynnydd o bron i 60 y cant o gymharu â'r prisiau cyn y rhyfel yn Wcráin. Fodd bynnag, mae hyn yn effeithio'n anghymesur ar aelwydydd sy'n byw ac yn gweithio yn yr un lleoliad. Felly, o ystyried hyn, a gaf fi ofyn pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’i chyd-Weinidog, y Gweinidog materion gwledig, i helpu i liniaru’r pwysau ariannol anghymesur hwn ar y rhai yn ein cymuned amaethyddol? Diolch.
Wel, yn amlwg, mae’r ymateb i’r argyfwng costau byw yn fater trawslywodraethol, ac mae’r Prif Weinidog wedi sefydlu is-bwyllgor y Cabinet ar yr argyfwng costau byw. Felly, rydym yn edrych ar yr effaith ar aelwydydd a busnesau, a'r cymunedau a'r busnesau gwledig rydych wedi tynnu sylw atynt heddiw, yn gyffredinol. Mae'n bwysig iawn fod pobl yn manteisio ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt—aelwydydd, wrth gwrs, a fydd yn elwa, yn enwedig rhai o'r busnesau ffermio hynny. Felly, rwy'n falch iawn, o ran y taliad o £200 drwy gynllun cymorth tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru—a gyhoeddwyd ddiwedd mis Medi—fod dros 200,000 o daliadau wedi'u gwneud yn barod. Ond credaf ei bod yn bwysig ein bod hefyd yn edrych ar y ffaith bod un o bob 10 o aelwydydd mewn ardaloedd gwledig yn dibynnu ar olew gwresogi neu nwy hylifedig, fel y dywedodd yr Aelod Adam Price, i wresogi eu gofod domestig a'u dŵr, ac mae hyn yn codi i 28 y cant o aelwydydd. Ac rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i edrych ar hyn, o ran yr effaith a gaiff. Ond a gaf fi ddweud, a ydych wedi ystyried—rwy'n siŵr eich bod—syndicetiau prynu olew, fel Clwb Clyd a chlybiau tanwydd Ceredigion sy'n prynu tanwydd gyda'i gilydd? Rydym yn awyddus i annog hynny, gan y gall hynny helpu trigolion a busnesau.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. A'r prynhawn yma, bydd y cwestiynau yma i gyd yn cael eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Joel James.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, os caf, hoffwn drafod ychydig o bethau heddiw mewn perthynas â Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Yn ôl y Bil drafft, un o'r amcanion trosfwaol yw y bydd, a dyfynnaf:
'Dyletswydd statudol yn cael ei rhoi ar gyrff cyhoeddus penodol i geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig (neu os nad oes undeb llafur cydnabyddedig) cynrychiolwyr eraill eu staff, wrth bennu eu hamcanion llesiant.'
Nawr, fel y gŵyr pob un ohonom, mae hyn yn gweithio pan fydd modd cyrraedd consensws neu gyfaddawd, ac rwy’n siŵr y bydd hynny'n bosibl mewn llawer o achosion. Ond nid oes unrhyw sôn o gwbl yn y Bil am yr hyn sy’n digwydd pan na ellir dod i gonsensws neu gyfaddawd, a bydd hyn, heb os, yn peri problemau. Gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Weinidog, rwy’n awyddus i wybod beth fydd yn digwydd pan na ellir dod i gonsensws a chyfaddawd, a pha fecanweithiau a fydd ar waith i ganiatáu i gyrff cyhoeddus oresgyn cymeradwyaeth undebau llafur neu gynrychiolwyr gweithwyr pan fydd anghytundeb.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gyfraniad a’r gwaith y mae wedi bod yn ei wneud fel aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn craffu ar y ddeddfwriaeth bwysig hon wrth iddi wneud ei ffordd drwy’r system ddeddfwriaethol yn y Senedd? Cyfeiria'r Aelod at y ddyletswydd ar rai cyrff cyhoeddus i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol wrth bennu eu hamcanion llesiant, ac mae’n rhoi llawer o sylw i'r geiriad mewn perthynas â 'chonsensws' a 'chyfaddawd'. Gallem fod wedi cynnwys yr ymadrodd 'i ymgynghori', ond yn aml, gellir dehongli 'ymgynghori' mewn gwahanol ffyrdd—gallai fod yn ymarfer ticio blychau yn unig. Felly, mae'r consensws a'r cyfaddawd yn bwysig iawn—fod hynny'n digwydd mewn ffordd ystyrlon. A dywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn mai'r tebygolrwydd yw y bydd hynny'n digwydd o dan yr amgylchiadau hyn beth bynnag gan fod y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus eisoes yn gweithio yn y ffordd honno.
Fe fyddwch yn ymwybodol, fel rhan o'r ddeddfwriaeth, y bydd cyngor partneriaeth gymdeithasol hefyd yn cael ei sefydlu, ac y bydd y cyngor hwnnw'n gallu cynghori Llywodraeth Cymru, cynghori cyrff, os oes heriau gyda'r rhan honno o'r ddeddfwriaeth, ar yr hyn y gellid ei wneud wedyn i symud ymlaen.
Yn olaf, hoffwn drafod, os caf, y pwynt y soniodd yr Aelod amdano mewn perthynas â chymeradwyaeth undebau llafur. Ni cheir cymeradwyaeth gan unrhyw un o'r partneriaid fel rhan o'r broses hon. Mae'n ymwneud â'r hyn y mae'n ei ddweud ar y tun—cydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog, ond rwy’n ymwybodol o’r hyn a ddywedais, sef eich bod, yn y rhan fwyaf o achosion, yn mynd i gael y cyfaddawd hwnnw, ond gyda phob ewyllys da, rwy'n credu y byddwch bob amser yn dal i gael anghytundeb na ellir ei ddatrys, a heb fecanwaith priodol ar waith, ofnaf y gallai fod perygl y bydd y Bil hwn yn atal caffael ar gyfer cyrff cyhoeddus, ac y gallent hyd yn oed gael eu dal yn wystlon pe gwneir gofynion afrealistig. Er enghraifft, mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi gosod cynsail ar gyfer annog wythnos waith pedwar diwrnod, y gallai undebau llafur neu gynrychiolwyr gweithwyr eraill ofyn amdani, ac nad yw'n bosibl i gorff cyhoeddus, fel y byddwch yn cytuno heb amheuaeth. Felly, gyda hyn mewn golwg, hoffwn ddeall beth yw cynllun Llywodraeth Cymru os yw undeb llafur wedi cychwyn gweithredu'n ddiwydiannol yn erbyn corff cyhoeddus. Os oes anghydfod, yn fy marn i, gallai undebau llafur fod yn ddigon parod i wrthod cymeradwyo neu dynnu cymeradwyaeth yn ôl oni bai bod eu hamodau’n cael eu bodloni, a fyddai’n golygu y byddai cyrff cyhoeddus yn methu cyflawni eu dyletswyddau statudol. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Weinidog, beth sy'n atal undebau llafur rhag defnyddio'r pwerau statudol yn y Bil hwn i ddwyn pwysau mewn anghydfodau undebau llafur?
Credaf y dylwn ddechrau drwy ddweud bod yr hawl i dynnu llafur yn ôl a’r hawl i streicio yn hawl ddynol sylfaenol i weithwyr ledled y byd. Ond mae'r Aelod—nid wyf yn gwybod ai'n fwriadol neu drwy gamddealltwriaeth—yn ceisio cyfuno rhai o'r agweddau ar y ddeddfwriaeth ac elfennau mwy cyffredinol. Felly, rwyf am geisio cywiro hynny yn yr amser sydd gennyf y prynhawn yma. Soniodd yr Aelod am undebau llafur, mae'n debyg, yn dal cyrff cyhoeddus yn wystlon mewn perthynas â chaffael. Wel, mae’r broses gaffael gymdeithasol gyfrifol yn cael ei dilyn gan y cyrff cyhoeddus hynny. Yna, mae gennym gyngor partneriaeth gymdeithasol, ac is-grŵp caffael cyhoeddus, sy’n cynnwys cynrychiolaeth gyfartal o’r Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur er mwyn gweithio drwy unrhyw heriau sy'n codi a cheisio cyfryngu. Nid oes unrhyw gymeradwyaeth na dal gwystlon, fel y dywed yr Aelod.
Ac mae’r elfen arall y mae’r Aelod yn ei chyfuno yn ei gwestiynau yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol a chysylltiadau diwydiannol ac anghydfodau diwydiannol. Ffordd o weithio yw partneriaeth gymdeithasol—cydweithredu a chydweithio. Nid yw’r ddeddfwriaeth yng Nghymru yn ceisio deddfu ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â chysylltiadau diwydiannol, ac mae hynny’n gwbl ar wahân i’r hyn y mae’r ddeddfwriaeth yn bwriadu ei wneud.
Yn olaf, Ddirprwy Weinidog, ar y cyngor partneriaeth gymdeithasol, fel y dywedoch chi yn un o’ch ymatebion cynharach, ceir pryder na fydd y cyngor, wrth ddarparu tystiolaeth a chyngor i Lywodraeth Cymru, yn cynrychioli'r ystod eang ac amrywiol o safbwyntiau sydd i'w cael yn ddigonol. Er enghraifft, ni fydd mentrau cymdeithasol, gweithwyr nad ydynt wedi'u hundeboli, cymunedau lleiafrifol ethnig, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, i enwi rhai yn unig, yn cael eu cynrychioli, ac mae perygl y bydd hyn yn tanseilio un o agweddau sylfaenol y Bil, gan na fydd llais wrth y bwrdd gan yr union bobl y mae'r Bill yn honni ei fod yn eu helpu. Mae'n amlwg y byddai ehangu'r cyngor i gynnwys cynrychiolwyr o'r fath yn gwneud y cyngor yn anymarferol yn wir. Ond y dewis arall yw y gallai cael cynrychiolwyr o'r undebau llafur yn unig, fel y nodwyd gan ColegauCymru, greu perygl o eithrio nifer sylweddol o weithwyr a chreu system ddwy haen o ran llais y gweithiwr. Mae perygl hefyd y gallai droi'n gors o safbwyntiau croes, lle bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei gosod mewn sefyllfa lle bydd yn dieithrio rhai grwpiau dros eraill gan nad yw eu safbwyntiau'n cyd-fynd â syniadau Llywodraeth Cymru. Ddirprwy Weinidog, sut y gallwch sicrhau bod lleisiau mwy o weithwyr yn cael eu cynrychioli? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau asesiad teg o’r safbwyntiau hynny wrth gael arweiniad gan y cyngor? A sut y byddwch yn atal y cyngor partneriaeth gymdeithasol rhag troi'n siambr atsain i Lywodraeth Cymru ac yn offeryn sydd ond yn dweud yr hyn y mae Llywodraeth Cymru am ei glywed? Diolch.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau pellach? Hoffwn dynnu sylw at un elfen y bydd pobl yn synnu ein bod efallai'n cytuno yn ei chylch. Mae'n ymwneud â'r angen am amrywiaeth o gynrychiolaeth fel rhan o'r cyngor partneriaeth gymdeithasol, drwy'r cyrff a gynrychiolir ar y corff fel y'i cynigir. Rydych yn iawn i ddweud na allwch ei ymestyn i bawb, oherwydd, fel y dywedais yn y pwyllgor, byddech yn cael cynhadledd bob tro, yn hytrach na chyngor. Ond o ran sicrhau bod gennym amrywiaeth o bobl, boed hynny mewn perthynas â'u cefndir neu eu nodweddion gwarchodedig, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, drwy'r fforwm partneriaeth gymdeithasol a sefydlwyd gennym, i edrych ar natur weithredol yr hyn y byddai’r ddeddfwriaeth yn ei olygu, i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda’r cyrff hynny i sicrhau bod mecanwaith ar gael i sicrhau amrywiaeth o gynrychiolaeth ar y cyngor. Unwaith eto, mae’r Aelod yn camddeall holl bwynt y cyngor, a phartneriaeth gymdeithasol. Nid lle Llywodraeth Cymru yw datgan ein hawdurdod dros unrhyw beth na cheisio llywio ein hagenda. Mae'n ymwneud â chydnabod ein bod yn gwybod, yng Nghymru, ein bod yn gryfach drwy weithio gyda'n gilydd fel rhan o dîm, gan ddefnyddio'r profiadau a'r lleisiau cyfunol hynny, i lunio deddfwriaeth er gwell. Byddwn yn dweud bod y ddeddfwriaeth hon yn arwyddocaol ac yn garreg filltir, ond yn y pen draw, nid oes a wnelo hyn â newid deddfwriaeth; mae a wnelo â newid bywydau, a dyna rydym am ei wneud maes o law.
Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Mae disgwyl i bensiynwyr yn y DU fod oddeutu £442 y flwyddyn yn waeth eu byd o fis Ebrill ymlaen yn dilyn cyfradd bensiwn is a thoriad mewn cymorth ar gyfer biliau ynni. O ystyried bod dros 75 y cant o bobl dros 65 oed a arolygwyd gan Age UK ym mis Ionawr eleni yn poeni am yr argyfwng costau byw cynyddol, ac ers hynny, fod cyfradd chwyddiant a chost biliau ynni wedi parhau i gynyddu, beth mae’r Dirprwy Weinidog yn ei wneud i hybu diwygio lles drwy wneud y defnydd mwyaf posibl o’n cymwyseddau datganoledig i sicrhau bod cymorth yn cael ei dargedu at bobl hŷn sydd angen cymorth, yn enwedig y rheini a fydd yn wynebu costau ynni a symudedd uwch na’r cyfartaledd? A wnewch chi hefyd nodi i ba raddau y mae pobl dros 60 oed yn cael mwy o help i gael mynediad at y gronfa cymorth dewisol, gan gofio’r atebion a gefais i gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynais yn gynharach eleni, a oedd yn awgrymu bod llai nag 1 y cant o bobl dros 60 oed wedi cael mynediad at y gronfa?
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i ddiddordeb yn y maes. Yn amlwg, ceir rhai heriau oherwydd y ffiniau rhwng yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn nad yw wedi'i ddatganoli, ond yn amlwg, rydym wedi ymrwymo—fi a'm cyd-Aelod Jane Hutt, a chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth—i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd wedi'u datganoli at ein defnydd i wneud gwahaniaeth. Mae’r Aelod yn iawn i nodi effaith benodol yr argyfwng costau byw, sy’n taro gormod o bobl mewn cymunedau ledled y wlad, yn ogystal â'r effaith arbennig y gallai ei chael ar bensiynwyr sydd ag incwm sefydlog. Drwy ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi', rydym yn cydnabod yr hyn a ddywedwch am fynediad ar-lein; rydym am sicrhau ein bod yn edrych ar ffyrdd y gall pobl gael gafael ar yr wybodaeth honno a’i bod ar gael yn rhwydd yn y mannau y gallant fynd iddynt am gymorth, a sicrhau eu bod yn cael mynediad at yr hyn y mae ganddynt hawl iddo a bod y cymorth ychwanegol ar gael. Nid wyf yn gyfarwydd â’r cwestiwn ysgrifenedig a nodwyd gennych ynglŷn â mynediad at y gronfa cymorth dewisol, ond mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt yn eistedd yma'n nodio wrth imi ateb, ac rwy’n siŵr fod hynny’n rhywbeth y byddem yn fwy na pharod i edrych arno i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod y grŵp oedran hwnnw'n ymwybodol fod cymorth ar gael, os ydynt ei angen, yn yr amgylchiadau hynod o anodd hyn.
Diolch. Mae'n ddrwg gennyf os yw'n disgyn rhwng dau Weinidog, fel petai. Byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw wybodaeth. Diolch yn fawr iawn.
Y mis diwethaf, roedd hi'n Fis Hanes Pobl Ddu. Datgelodd adroddiad amserol gan Gyngres yr Undebau Llafur a gyhoeddwyd y mis hwnnw fod hiliaeth a gwahaniaethu tuag at weithwyr du yn dal i fod yn rhemp yn y DU. Mae'r ystadegau ar ddigwyddiadau hiliol yn y gweithle yn adroddiad 'Still rigged: racism in the UK labour market' yn frawychus. I wneud pethau’n waeth, lle cafwyd adroddiadau o ddigwyddiadau hiliol yn y gweithle, canfu’r TUC mai dim ond mewn 29 y cant o'r achosion y cymerwyd camau i atal aflonyddu. Nid yw'n syndod, felly, fod pedwar o bob pump o'r ymatebwyr yn dweud na fyddent neu nad ydynt wedi rhoi gwybod am hiliaeth yn y gweithle rhag ofn na fyddai'r cyhuddiad yn cael ei gymryd o ddifrif, neu y byddai'n cael effaith negyddol ar eu bywyd gwaith. Sut mae’r cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru eleni yn targedu’r mater hwn? A yw’r mesurau yn y cynllun yn ddigonol i gyrraedd y targed o Gymru wrth-hiliol erbyn 2030 a gwneud ein heconomi'n wirioneddol gyfartal?
Cyfeiria'r Aelod at y cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, a lansiwyd yn ôl ym mis Mehefin gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Rwy'n gyfarwydd â'r digwyddiad y cyfeiria ato a gynhaliwyd gan TUC Cymru i nodi Mis Hanes Pobl Ddu. Ni ddylai unrhyw un wynebu gwahaniaethu na chasineb mewn unrhyw ran o gymdeithas nac unrhyw agwedd ar fywyd. Yn sicr, dylai pobl fod yn ddiogel i fod yn hwy eu hunain ac i beidio â gorfod wynebu gwahaniaethu yn y gweithle, yn enwedig yn y gweithleoedd lle mae gennym fwy o ddylanwad yn y sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Mae gweithleoedd cynhwysol a mynd i'r afael â hiliaeth yn y gweithle yn elfen allweddol o'r cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda chyflogwyr a chydag undebau llafur fel rhan o hynny, ac rydym hefyd yn cael hyfforddiant ar weithleoedd cynhwysol a beth mae hynny'n ei olygu—i dynnu sylw ato ac i gefnogi pobl. Mae llawer mwy o waith i’w wneud, ond rydym yn cydnabod y bydd gweithio mewn partneriaeth a defnyddio’r adnoddau y gwyddom fod rhai o’n cydweithwyr yn yr undebau llafur eisoes yn meddu arnynt, a’u rhwydweithiau cymorth er mwyn sicrhau bod gan bobl rywun i droi atynt am gyngor a chymorth yn y gweithleoedd hynny, yn eu gwneud yn fwy cynhwysol. Mae'n rhywbeth rydym wedi ymrwymo'n bendant i fwrw ymlaen ag ef i sicrhau nad oes unrhyw un—unrhyw un—yn wynebu gwahaniaethu pan fyddant yn y gwaith.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog dynion a bechgyn yng Nghymru i wneud addewid y Rhuban Gwyn? OQ58661
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Jack Sargeant. Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu gweithgareddau bob blwyddyn i hyrwyddo ymgyrch y Rhuban Gwyn a thynnu sylw at yr agenda trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol fel rhan o’r 16 diwrnod o weithredu. Eleni, bydd ein swyddogion yn cynnal digwyddiad mewnol yn Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth ac annog swyddogion i ddod yn llysgenhadon y Rhuban Gwyn.
A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Byddaf yn falch iawn o ymuno â chi yn y digwyddiad hwnnw ar gyfer swyddogion Llywodraeth Cymru i annog swyddogion i ddod yn llysgenhadon y Rhuban Gwyn. Rwyf am ddatgan ar y pwynt hwn fy mod yn llysgennad y Rhuban Gwyn, yn union fel oedd fy nhad. Ond nid fi yw’r unig ymgyrchydd dros y Rhuban Gwyn yma yn y Senedd. Mae fy ffrind agos a’m cyd-Aelod Joyce Watson wedi treulio blynyddoedd yn hyrwyddo digwyddiadau ac ymrwymiad i addewid y Rhuban Gwyn i gyrraedd y nod gwirioneddol glir o ddod â thrais domestig i ben. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y dylai pob dyn a bachgen yng Nghymru wneud addewid i beidio byth â defnyddio, esgusodi neu aros yn dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod?
Diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant, a diolch am fod yn llysgennad y Rhuban Gwyn ers cymaint o flynyddoedd. Ac wrth gwrs, rydym yn cofio eich tad a'r ffordd y bu'n hyrwyddo achos y Rhuban Gwyn, ac yn cydnabod, wrth gwrs, fod achos y Rhuban Gwyn yn cael ei arwain gan ddynion i gael gwared ar drais yn erbyn menywod a merched. Byddwn yn dod at ein gilydd ddiwedd mis Tachwedd; mae gennym ddigwyddiad ‘goleuo cannwyll’ yn eglwys gadeiriol Llandaf, sy'n ddigwyddiad aml-ffydd a gynhelir gan BAWSO i gydnabod y diwrnod rhyngwladol hwnnw. Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn cael eich cefnogaeth. Bydd yr holl ddynion yma yn y Siambr yn cefnogi hynny, gobeithio, ac yn gwisgo eu rhubanau gwyn hefyd. Y nod mewn gwirionedd yw sicrhau bod dynion yn ymrwymo na fyddant yn goddef nac yn parhau i fod yn dawel ynghylch trais yn erbyn menywod. Rwy'n falch iawn fy mod wedi ymrwymo i gyfnod newydd o hyfforddiant 'Paid cadw’n dawel'. Dyma ble mae'n rhaid ichi godi eich llais. Rwyf wedi cytuno i gyllid tair blynedd i ddatblygu hyfforddiant ledled Cymru ar sut y gall gwylwyr ymyrryd, hyfforddiant a fydd yn cael ei ddarparu i holl ddinasyddion Cymru.
Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am godi’r cwestiwn hollbwysig hwn. Fel y gwnaeth yntau, hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i Joyce Watson am ei holl waith yn y maes hwn; mae'n hyrwyddwr gwych i ymgyrch y Rhuban Gwyn.
Mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol, ac mae'n digwydd ledled Cymru. Canfuwyd hyn yn yr ymchwiliad diweddar i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae angen cael gwared ar yr ymddygiadau hyn, ac mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn ffordd wych o dynnu sylw at y broblem hon, o ysgogi gweithredu ac o gael bechgyn yn ein hysgolion i ymrwymo i addewid y Rhuban Gwyn. Hoffwn ofyn i’r Gweinidog: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, yn benodol mewn perthynas ag ysgolion, i roi diwedd ar aflonyddu a thrais yn y sefydliadau hynny, i sicrhau nad ydym yn gweld pobl ifanc yn parhau i greu problemau pan fyddant yn oedolion, sydd wedyn yn achosi mwy o drais yn erbyn menywod?
A gaf fi ddiolch am eich cwestiwn, ac ar y pwynt hwn, a gaf fi hefyd gydnabod a chymeradwyo’r hyn a ddywedwyd gan y ddau Aelod am Joyce Watson a’i harweinyddiaeth mewn perthynas â'r Rhuban Gwyn? Mae’r hyn a ddywedwch yn bwysig o ran sut y gallwn estyn allan at ein plant a’n pobl ifanc, ac yn amlwg, yr ysgol yw’r lle i wneud hyn, oherwydd yn amlwg, gall trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gael effaith enfawr ar blant a phobl ifanc. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar y ffordd y mae ein haddysg cydberthynas a rhywioldeb, sydd bellach yn ofyniad statudol yn fframwaith Cwricwlwm i Gymru ac yn orfodol i’n dysgwyr, yn mynd i ganolbwyntio ar ddatblygu perthnasoedd iach o’r blynyddoedd cynnar, gan hyrwyddo ein nod o sicrhau bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn gallu mwynhau perthnasoedd iach, hapus a pharchus nawr ac yn y dyfodol. Ond hefyd, rydym yn parhau i ariannu prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sydd wedi bod yn gweithio mewn ysgolion i ddarparu hyfforddiant i staff, gan fod hynny'n hanfodol er mwyn i'n staff a'n llywodraethwyr ddeall yr effaith y gall cam-drin domestig ei chael ar blant a phobl ifanc.
Fel y dywedwch, Weinidog, mae gwaith gwych yn mynd rhagddo yn yr ysgolion ar berthnasoedd parchus ac iach, ac mae hynny'n hynod o bwysig. Ond mae angen inni ledaenu’r neges yn ehangach nag ysgolion a mynd â hi y tu hwnt i giatiau’r ysgol i sefydliadau fel, er enghraifft, y Sgowtiaid a chadetiaid y fyddin, clybiau pêl-droed, a mannau eraill lle mae bechgyn yn dod at ei gilydd. Felly, a allwch ddweud wrthyf am unrhyw waith a wnewch i ddylanwadu ar y sefydliadau hyn i archwilio ffyrdd y gallant helpu'r unigolion hynny i ddod yn fodelau rôl a lledaenu neges y Rhuban Gwyn yn ehangach?
Diolch, Joyce Watson, oherwydd mae angen inni fynd y tu hwnt. Rydym wedi gwneud sylwadau ar y cyfleoedd a’r gwaith a wnaed mewn ysgolion gyda phlant a phobl ifanc, a phwysigrwydd y cwricwlwm newydd a'r fframwaith addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond mae angen inni estyn allan hefyd at bob un o’r sefydliadau lle daw pobl ifanc at ei gilydd. Credaf ei bod yn ddiddorol, a bydd llawer ohonoch yn gwybod o’ch cyswllt â'r Geidiaid a'r Sgowtiaid, sut maent yn dechrau mynd i'r afael â'r materion hyn, gan gydnabod materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb yn ogystal â mynd i’r afael ag aflonyddu a cham-drin rhywiol, a deall beth mae plant a phobl ifanc yn ei wynebu, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn bwynt pwysig yn yr ymchwiliad a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Ond hefyd, clybiau pêl-droed, cadetiaid y fyddin—dyma lle gallwn fynd â neges y Rhuban Gwyn, a chredaf y gall Jack Sargeant, a phawb sy'n gysylltiedig ag ymgyrch y Rhuban Gwyn, drosglwyddo'r neges honno ac estyn allan at y sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
4. Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod y gwasanaeth tân o fudd i bobl Gorllewin De Cymru? OQ58647
Rwy’n parhau i weithio gyda’r gwasanaethau tân ac achub ledled Cymru i sicrhau bod pobl, cymunedau a’r amgylchedd yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl rhag tanau a pheryglon eraill. Yn y tymor hwy, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau cynaliadwyedd a diogelwch y gwasanaethau ac i ehangu rôl diffoddwyr tân.
Rwy’n ddiolchgar am eich ateb. Roeddwn am dynnu eich sylw at y tân ofnadwy yn Windmill Farm, gwesty gwledig a lleoliad priodasau poblogaidd ar benrhyn Gŵyr, yng nghanol fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru. Lledaenodd y tân drwy'r eiddo'n gyflym, a bu oedi yn yr ymdrechion i ddiffodd y tân oherwydd cyflenwad dŵr annigonol i weithredu'r pibau a'r amser a gymerwyd i fynd â thancer dŵr i'r lleoliad. Ar ôl cyfarfod â pherchnogion y lleoliad fy hun, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y straen, y gofid a’r gost ariannol a gafwyd o ganlyniad i’r tân. Felly, credaf ei bod yn hollbwysig, ni waeth beth fo’r ffiniau gweinyddol, fod pob awdurdod tân lleol yn gallu dod ynghyd i sicrhau bod offer hollbwysig fel tanciau dŵr wedi'u lleoli yn yr ardaloedd sy’n gwasanaethu anghenion cymunedau lleol orau.
Yn Lloegr, mae'n rhaid i awdurdodau tân ac achub geisio ymuno â chynlluniau atgyfnerthu neu gytundebau cydgymorth ag awdurdodau tân ac achub eraill er mwyn sicrhau y gallant roi cymorth i'w gilydd. Mae'n rhaid iddynt ymateb hefyd i ddigwyddiadau fel tanau, damweiniau traffig ffyrdd ac argyfyngau eraill yn eu hardaloedd, yn unol â'u cytundebau cydgymorth. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda’r gwasanaeth tân ac achub a Dŵr Cymru i sicrhau bod offer diffodd tân hanfodol megis tanciau dŵr yn cael eu gosod yn y mannau cywir i allu darparu gwasanaeth dros yr ardal ddaearyddol fwyaf sy'n bosibl ledled Cymru, ni waeth beth yw ffiniau'r awdurdod tân y mae rhywun yn byw ynddo, i sicrhau na fydd trychineb o'r fath yn digwydd eto?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol, ac rwy'n cydymdeimlo â'r bobl y dinistriwyd eu cartrefi yn y tân ofnadwy hwn. Rwy'n ymwybodol o'r digwyddiad y mae'n cyfeirio ato, a'r heriau gweithredol o ran mynediad at ddŵr i Dŵr Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'n fater gweithredol i'r gwasanaethau hynny, ond rwy'n fwy na pharod i edrych i weld a ellir gwneud mwy yn ein cyfarfodydd rheolaidd gyda'r gwasanaethau tân ac achub i sicrhau ein bod, os oes unrhyw bryderon, yn mynd i'r afael â'r pethau hyn yn rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol yn y dyfodol.
Yng Ngorllewin De Cymru, mae gennym ffiniau gwahanol ar gyfer y gwasanaeth heddlu a'r gwasanaeth tân ac achub, gyda'r gwasanaeth ambiwlans ar sail Cymru gyfan. A yw'r Gweinidog wedi ystyried ymgynghori ar aildrefnu'r gwasanaeth tân fel bod ei ffiniau'n cyd-fynd â ffiniau'r heddlu?
Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn. Nid wyf yn credu bod yr hyn y mae Mike yn ei olygu o reidrwydd—. Mae rhai o ffiniau'r gwasanaeth tân ac achub yn cyd-fynd a rhai'r byrddau iechyd lleol, ond nid yw'r olion traed yr un fath o ran yr ardal y maent yn ei gwasanaethu. Gallwn ddweud nad oes cynlluniau i gysoni'r ffiniau hynny, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall. Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar lle gall sefydliadau weithio gyda'i gilydd neu gyd-leoli; rydym yn gwybod bod hynny'n arwain at ganlyniadau cadarnhaol, nid yn unig o ran gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd, ond o ran y berthynas y bu modd ei meithrin rhyngddynt. Dim ond un pwynt o ddiddordeb ar hynny, yn rhanbarth yr Aelod, mae gwasanaeth tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru yn cwmpasu Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, sydd ill dau'n agos at Heddlu De Cymru, ond mae gan y ddau sefydliad berthynas hirsefydlog ac maent yn rhannu'r un ystafell reoli, ac rydym wedi gweld gwasanaethau ambiwlans a gwasanaethau tân ac achub yn cael eu cyd-leoli, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn awyddus i'w gefnogi fel Llywodraeth.
Mae cwestiwn 5 [OQ58641] wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 6, Peter Fox.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella'r gefnogaeth i ddynion sy'n profi cam-drin domestig? OQ58650
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Rydym yn parhau i wella ein hymateb i gam-drin domestig drwy ein strategaeth genedlaethol. Rydym yn ariannu prosiect Dyn i gefnogi dynion sy'n dioddef cam-drin domestig ac rydym yn parhau i ariannu hyfforddiant ymwybyddiaeth i gydnabod dangosyddion a ddangosir gan ddynion a allai fod yn profi cam-drin domestig.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Lywydd, rwy'n gofyn y cwestiwn hwn gan gydnabod, wrth gwrs, fod trais yn erbyn menywod a merched yn arbennig yn llawer rhy gyffredin mewn cymdeithas, ac mae'n rhaid i ni fel dynion herio camdriniaeth a thrais o bob math, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd; roeddwn innau hefyd yn llysgennad Rhuban Gwyn ar gyfer fy sefydliad blaenorol, ac rwy'n hapus i barhau â hynny yn y sefydliad hwn.
Fodd bynnag, rwyf eisiau defnyddio'r cwestiwn hwn i godi mater dynion sy'n profi cam-drin domestig. Er nad yw'n bwnc sy'n cael ei drafod yn aml, mae hyn hefyd yn rhywbeth sy'n digwydd yn llawer rhy aml mewn cymdeithas. Nododd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod tua chwarter y bobl sy'n profi camdriniaeth yn ddynion, a bod dioddefwyr gwrywaidd yn tueddu i fod yn hŷn, gyda'r gyfran uchaf o'r rhai yr effeithir arnynt yn 75 oed neu'n hŷn. Er bod sefydliadau fel Both Parents Matter Cymru yn cynnig cefnogaeth, yn ôl yr adroddiad gan y comisiynydd pobl hŷn, gallai dynion fod yn amharod i ofyn am gymorth oherwydd y stigma sydd ynghlwm wrth fod yn ddyn sy'n dioddef camdriniaeth. Mae'r nifer fechan o wasanaethau cam-drin domestig sy'n cael eu targedu'n benodol at ddynion yn brin o adnoddau, sy'n golygu bod y gefnogaeth y gallant ei darparu yn aml yn gyfyngedig iawn. Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth ehangach o gam-drin yn erbyn dynion, ac yn enwedig dynion hŷn? A sut rydych yn gweithio gyda'r comisiynydd a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau bod gwasanaethau cymorth digonol ar gael? Ac yn olaf, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i sicrhau bod strategaeth i ddileu trais yn erbyn dynion yn cael ei rhoi ar waith a all sefyll ochr yn ochr â'r gwaith gwych sydd eisoes yn digwydd i atal trais yn erbyn menywod a merched?
Wel, diolch yn fawr iawn, Peter Fox, am ddechrau eich cwestiwn atodol drwy gydnabod ein hymateb i'r cwestiwn cynharach, gyda'ch cefnogaeth a'ch cymeradwyaeth i ymgyrch y Rhuban Gwyn, a chydnabod, o ran yr ystadegau, effaith trais yn erbyn menywod a merched ac edrych ar y ffaith bod canran y troseddau cam-drin domestig a gofnodwyd gan yr heddlu hyd at fis Mawrth 2021 wedi nodi bod 73.1 y cant o droseddau yn effeithio ar ddioddefwyr benywaidd a 26.9 y cant yn effeithio ar ddioddefwyr gwrywaidd.
Ond rwy'n credu bod eich pwynt fod cam-drin domestig yn effeithio ar bobl hŷn, a dynion hŷn yn arbennig mewn perthynas â'ch cwestiwn, yn allweddol. Oherwydd cefais gyfarfod â'r comisiynydd pobl hŷn yn ddiweddar ac fe wnaethom drafod canfyddiadau ei hadroddiad ar wella cefnogaeth a gwasanaethau i ddynion hŷn sy'n profi cam-drin domestig. Felly, rydym bellach yn symud at gam nesaf y strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a gweithredu'r ddeddfwriaeth, ac rydym yn edrych ar y materion hyn. Bydd gennym weithgor pobl hŷn o fewn y glasbrint, sef y dull rydym yn ei fabwysiadu nawr. Rwy'n cyd-gadeirio bwrdd gweithredu cenedlaethol gyda chomisiynydd heddlu a throseddu Dyfed Powys, ac rydym yn edrych ar hyn o safbwynt cyfiawnder troseddol yn ogystal ag o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol, felly credaf y bydd y gweithgor pobl hŷn o fewn y glasbrint yn edrych ar y materion penodol rydych yn eu codi.
7. Sut mae'r asesiad effaith cydraddoldeb ar gyfer ehangu cam 2 y ddarpariaeth gofal plant blynyddoedd cynnar drwy'r rhaglen Dechrau'n Deg yn cymharu â'r asesiad a gwblhawyd ar gyfer cam 1? OQ58664
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Jenny Rathbone. Fel rydych yn ei ddeall, wrth gwrs, nid yw ffocws y cwestiwn hwn o fewn fy mhortffolio gweinidogol o ran polisi, ond rwy'n hapus iawn i ymateb ar y mater asesu effaith. Mae cam 2 o ehangu Dechrau'n Deg yn adeiladu ar y dull a fabwysiadwyd yng ngham 1. Mae hynny wedi'i adlewyrchu yn yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Ac wrth gwrs, mae darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd da yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn cyrraedd ei botensial.
Iawn. Rwy'n deall ei fod o fewn eich portffolio i edrych ar effaith holl bolisïau'r Llywodraeth ar gydraddoldeb, ac mae hynny, yn amlwg, yn cynnwys Dechrau'n Deg, er fy mod yn deall nad chi yw'r Gweinidog sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb am y rhaglen honno mewn gwirionedd.
Felly, rwy'n awyddus iawn i edrych ar sut mae ehangu cam 1, am £20 miliwn, a oedd yn golygu bod 2,500 o blant ychwanegol wedi gallu elwa o'r gefnogaeth ychwanegol honno, yn cymharu â cham 2, sef £26 miliwn i alluogi 3,000 o blant dwy oed ychwanegol i gael gofal plant Dechrau'n Deg am ddim o fis Ebrill nesaf. Ond fel y nododd Cyngor Caerdydd, y pryderon sydd ganddynt ynglŷn â cham 2 yw nad yw'r plant ychwanegol sy'n cael y gofal plant ychwanegol yn gynharach yn eu cynnwys yn y cymorth ychwanegol pwysig mewn perthynas ag ymwelwyr iechyd, lleferydd ac iaith, a rhaglenni cefnogi rhianta eraill. Ac mae gennyf ddiddordeb mewn archwilio pam ein bod wedi gwneud hynny, oherwydd mae'n ymwneud â gwerthuso faint o effaith mae'r gofal plant yn ei chael os na cheir cymorth ymwelydd iechyd ychwanegol a rhaglenni cefnogi rhianta eraill.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Jenny. Rwy'n llwyr gydnabod pwysigrwydd yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb a sut mae hynny'n ein harwain gyda rhaglen hynod bwysig Dechrau'n Deg, sy'n cael cymaint o effaith ar fywydau plant. Nawr, wrth gwrs, fel rydych yn gwybod ac rydych eisoes yn ymwneud â hyn, ni fyddai pob teulu sy'n derbyn darpariaeth cam 2 angen gwasanaethau pellach, ond bydd y teuluoedd sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw'n parhau i gael cyfle i gael cymorth drwy lwybrau sy'n bodoli eisoes. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi ynglŷn â cham 2, gan ddysgu o gam 1. Os oes angen cymorth ychwanegol arnynt, byddant yn dal i allu cael hwnnw, ac rydym eisiau tawelu meddyliau'r rhieni a Chyngor Caerdydd ynghylch pwysigrwydd ac effaith yr ehangu sy'n mynd i ddigwydd.
Yn amlwg, mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i fonitro a yw darpariaeth cam 2 yn arwain at fwy o atgyfeiriadau at wasanaethau eraill, a byddwn yn gweithio'n hyblyg iawn gyda gwasanaethau lleol i'w cefnogi i ddiwallu anghenion ychwanegol. Ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw bod Dechrau'n Deg yn gallu darparu a chynnig amgylchedd gofal plant o ansawdd uchel, ynghyd â staff o ansawdd uchel, i gefnogi canlyniadau gwell i blant. O ran y pwysigrwydd a'r cyhoeddiad a wnaed yn ddiweddar gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fel rhan o bartneriaeth Plaid Cymru a'r cytundeb cydweithio, gyda Siân Gwenllian, rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig ein bod wedi cael yr estyniad o £26 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i ehangu Dechrau'n Deg i gefnogi effeithiau cadarnhaol hirdymor ar fywydau plant a theuluoedd ledled Cymru.
Ac yn olaf, Lywydd, wrth gwrs, rwy'n gyfrifol am drechu tlodi hefyd, ac rydym yn gwybod bod darparu gofal plant yn hanfodol, a chyda'r dystiolaeth ac yn wir gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Bevan yn dangos bod buddsoddiad mewn gofal plant, gyda 3,000 o blant dwy oed ychwanegol yn cael mynediad at ofal plant o ansawdd uchel, yn gam enfawr ymlaen o ran mynd i'r afael â thlodi plant.
Rwy'n falch bod y cwestiwn hwn wedi'i godi y prynhawn yma mewn perthynas â chynllun Dechrau'n Deg, ac nid dyma'r tro cyntaf i mi godi'r mater hwn, ond rwy'n pryderu'n fawr ynghylch loteri cod post y cynllun, lle mae cyllid yn seiliedig ar lle mae rhywun yn byw yn hytrach nag ar eu sefyllfa ariannol, ac yn y bôn mae'n senario lle gall pobl gyfoethog fod yn gymwys a lle gall y bobl sydd ei angen fwyaf gael ei amddifadu ohono mewn rhai achosion. Felly, pa ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hyn, a pha gamau y bwriadwch eu cymryd i ddileu rhwystrau i'r cynllun a sicrhau tegwch yn y system?
Hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth ateb y cwestiynau cynharach. Mae Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant ifanc yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Dyna'r peth hollbwysig. Mae angen inni dargedu'r cymorth hwnnw. Mae'n cynnwys gofal plant rhan-amser o ansawdd yn rhad ac am ddim i blant dwy a thair oed sy'n byw yn yr ardaloedd hynny, ac ym mis Ebrill, fe wnaethom gyhoeddi y byddai hyd at 2,500 yn rhagor o blant yn gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg, a bydd hynny'n cynnwys plant rydych yn eu cynrychioli ledled Cymru. Dechreuodd cam cyntaf y rhaglen ddechrau mis Medi, a bydd cam 2 yn gwneud mwy na 3,000 o blant dwy oed ychwanegol yn gymwys.
Hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod £70 miliwn ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau a gwaith cynnal a chadw ar leoliadau gofal plant cofrestredig, ac y gall y lleoliadau hynny wneud cais am y cyllid hwnnw drwy eu hawdurdodau lleol.
8. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am drafodaethau diweddar efo Llywodraeth y DU am gaethwasiaeth fodern? OQ58666
Mis Mai oedd y tro diwethaf i Weinidogion Cymru gwrdd â Gweinidog y Deyrnas Unedig a oedd ar y pryd yn gyfrifol am gaethwasiaeth fodern, ac mae ein swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â'r Swyddfa Gartref.
Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am ddull sy'n canolbwyntio ar ddioddefwyr a goroeswyr yng nghyd-destun caethwasiaeth fodern, lle mae diogelu yn fater o'r pwys mwyaf.
Diolch am yr ymateb. Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol, dwi'n siŵr, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi symud caethwasiaeth fodern yn ddiweddar o fod yn fater i'r Gweinidog dros ddiogelu i fod yn fater ar waelod rhestr y Gweinidog am fewnfudo anghyfreithlon a lloches. Mae etholwraig wedi cysylltu efo fi i leisio pryderon am hyn. Mae hi'n poeni am y peryg mae o'n ei olygu i ddioddefwyr caethwasiaeth. Mae hi'n cwestiynu yn benodol sut bod posib cyfiawnhau gwneud hyn yn achos mewnfudo pan fo bron i draean o ddioddefwyr caethwasiaeth fodern yn ddinasyddion Prydeinig beth bynnag. Mi allai hyn olygu esgeuluso cyfran fawr ohonyn nhw.
Rŵan, beio'r dioddefwyr mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi ei wneud yn ddiweddar, yn dweud bod pobl yn honni eu bod wedi cael eu 'traffic-o' er mwyn camddefnyddio a manteisio ar reolau mewnfudo—sylwadau gwarthus sydd yn gwbl ddi-hid o realiti'r dioddefaint mae cymaint yn ei wynebu, ond yn anffodus rydyn ni wedi dod i ddisgwyl dim llai gan Ysgrifenyddion Cartref Ceidwadol yn ddiweddar. Pa gamau a all y Gweinidog eu cymryd er mwyn ceisio sicrhau bod y gefnogaeth yn cael ei gynnal i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern yng Nghymru er gwaethaf y penderfyniad yma gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol, oherwydd rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedodd mewn perthynas â'r ffordd ffiaidd y gallai dioddefwyr gael eu gwneud yn fychod dihangol gan Lywodraeth y DU nawr, ac rwy'n rhannu ei bryderon ef a pryderon ei etholwyr ynglŷn â'r ffaith ein bod wedi cael Gweinidog diogelu ond bod diogelu bellach yn rhan o fewnfudo. Ac mae cyfuno'r ddau'n beryglus a gofidus iawn yn fy marn i. Ac ochr yn ochr â hynny, ers mis Gorffennaf, rydym wedi gweld llu o wahanol Weinidogion y DU yng ngofal y briff caethwasiaeth fodern, ac mae'r llif anhrefnus hwnnw o Weinidogion yn arwain at oedi ac ansicrwydd yn y gwaith o ddatblygu'r strategaeth gaethwasiaeth fodern newydd ar gyfer Cymru a Lloegr. Rydym yn pryderu bod swydd comisiynydd atal caethwasiaeth annibynnol wedi parhau'n wag ers mis Ebrill. Felly, rwyf fi a'm cyd-Aelod Jane Hutt yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r mater hwn, ond rydym hefyd yn gweithio gyda grŵp arweinyddiaeth atal caethwasiaeth Cymru ac yn gwneud yr hyn a allwn â'r ysgogiadau sydd gennym yng Nghymru i sicrhau ein bod yn cefnogi pobl ac yn mabwysiadu ymagwedd wahanol iawn. Mae rhai pobl yn dweud mai dim ond geiriau ydynt, ond rydym yn gwybod bod geiriau'n cael effaith, ac mae'n rhethreg beryglus a niweidiol iawn, ac rydym yn gweithio i wneud yr hyn y gallwn ei wneud ynghyd â phethau fel ein cod caffael a chadwyni cyflenwi moesegol, gan weithio i adolygu hynny a'i gryfhau wrth inni symud ymlaen.
Yn olaf, cwestiwn 9, Carolyn Thomas.
9. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynglŷn â chyflogau ac amodau gweithwyr y Post Brenhinol yng Nghymru? OQ58677
Er mai Llywodraeth y DU sy'n parhau i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwasanaethau post, fe gyfarfûm â'r Post Brenhinol ac Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ar wahân yn ôl ym mis Gorffennaf i drafod y sefyllfa. Ers hynny, rwyf wedi ysgrifennu at y ddwy ochr—fis diwethaf—i ofyn am ddiweddariad ar y sefyllfa ac i annog datrysiad sy'n gweithio i'r gweithlu a'r gwasanaethau post.
Diolch am hynny, Weinidog. Cyn cael fy ethol yn Aelod o'r Senedd, roeddwn yn weithiwr post i'r Post Brenhinol, ac rwy'n gwybod pa mor galed mae dosbarthwyr yn gweithio o ddydd i ddydd. Roeddwn yn cerdded 12 milltir y dydd ar gyfartaledd, am bump neu chwe awr, ym mhob tywydd—gwres eithafol, stormydd, eira—ac mae fy nghyn-gydweithwyr eisoes wedi croesawu newidiadau eisoes i gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, i fod yn fwy hyblyg ynghylch oriau, i wneud rowndiau'n gynt, i ymdopi â rowndiau cynyddol, diddymu rowndiau, defnyddio dyfeisiau cymorth digidol a rhannu faniau, i enwi ond ychydig. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt hwy, a'u cwsmeriaid, am eu hymroddiad yn ystod y pandemig. Rwy'n deall bod Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu bellach mewn trafodaethau dwys gyda'r Post Brenhinol ynglŷn â chyflogau ac amodau, sy'n dangos pa mor bwysig yw bod yn rhan o undeb llafur. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i annog y Post Brenhinol i ymgysylltu'n llawn â'r undeb er mwyn sicrhau canlyniad cadarnhaol i'r negodiadau hyn er budd gweithwyr, yn ogystal â'r cyhoedd sy'n dibynnu ar eu gwasanaeth? Diolch.
A gaf fi ymuno â Carolyn Thomas i annog y Post Brenhinol ac Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu i barhau â'r gwaith hwnnw, mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu, i ddod o hyd i ddatrysiad i'r anghydfod hwn? Rwyf innau hefyd yn cytuno bod angen i unrhyw ddatrysiad o'r fath weithio i wasanaethau post, gweithwyr post a phobl Cymru, ac rwyf am ymuno â hi i dalu teyrnged i'r rôl y mae ein postmyn yn ei chwarae mewn cymunedau ledled y wlad, boed hynny mewn ardaloedd gwledig neu drefol. Nid cyflawni swydd yn unig y maent; maent yn darparu gwasanaeth cymunedol hanfodol. Ac rwy'n cofio gweld yr Aelod mewn gwirionedd, oherwydd nid oedd ei rownd bost yn bell o lle rwy'n byw, a gallaf gadarnhau fy mod wedi ei gweld hi allan ym mhob tywydd yn gwneud yn siŵr fod pobl yn y cymunedau ar draws fy etholaeth yn cael eu post.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog.
Ac felly dyma ni'n symud ymlaen i'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynglŷn ag effaith y newidiadau diweddar yn Llywodraeth y DU ar y setliad datganoli? OQ58678
Gallaf bwysleisio pwysigrwydd cysylltiadau rhynglywodraethol cryf ac ymgysylltiad agored rhwng y Llywodraethau ar bob cyfle. Mae ansefydlogrwydd Llywodraeth y DU a newid Gweinidogion yn fynych wedi ei gwneud yn anodd ffurfio cysylltiadau hirhoedlog, cynhyrchiol, sy'n hanfodol ar gyfer creu sylfaen i gysylltiadau rhynglywodraethol cadarn.
Mae'r Cwnsler Cyffredinol, Luke Fletcher AS a minnau newydd ddychwelyd o fynychu ail gyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE yn Llundain. Da o beth oedd mynychu hwnnw; mae Alun Davies a chyd-Aelodau—Sam—wedi mynychu o'r blaen, ac mae'n gorff sy'n tyfu, ac mae'n tyfu'n fwy cyhyrog hefyd. Ond un o'r themâu o fewn hynny yw'r angen am ymgysylltiad rheolaidd—beth bynnag yw'r systemau sydd ar waith—rhwng Gweinidogion ar lefel y DU ac ar lefel yr UE, yn enwedig yn y senario ôl-Brexit sydd ohoni. Mae gennym Fil Protocol Gogledd Iwerddon—nid ydym yn gwybod beth sy'n digwydd gyda hynny ar hyn o bryd. Mae gennym gyfreithiau'r UE a ddargedwir—nid ydym yn hollol siŵr beth sy'n digwydd gyda hynny. Mae gennym y Bil Hawliau a'r effaith ar hawliau dinasyddion, heb sôn am yr ystod ehangach o ddeddfwriaeth sydd ar y ffordd. Mewn cyd-destun gwahanol, defnyddiodd y Prif Weinidog yr ymadrodd 'rhythm rheolaidd a dibynadwy o gyfarfodydd' unwaith a pha mor bwysig yw hynny. Felly, a yw'n rhannu fy ngobeithion, gyda'r Llywodraeth newydd a'r Prif Weinidog newydd, ond yr holl Weinidogion newydd hynny, y bydd cyfarfodydd rheolaidd, arferol, dibynadwy rhwng Gweinidogion yn dod yn norm, fel y gallwn ymdrin â rhai o'r materion pwysig hyn?
Diolch i chi am y cwestiwn atodol hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr: mae angen ymgysylltiad rheolaidd, ymgysylltiad cyson, ac ymgysylltiad wedi'i gynllunio'n briodol hefyd, a dylai'r ymgysylltiad hwnnw fod yn digwydd mewn perthynas â phob agwedd ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU sy'n ymwneud â ni, sy'n sbarduno ein rhwymedigaethau penodol, ond hefyd yr holl feysydd o gyd-ddibyniaeth sy'n codi hefyd.
Rwy'n credu mai'r peth mwyaf siomedig oedd bod oedi hir—. Wel, mewn gwirionedd, mae wedi cymryd cyhyd i gyrraedd sefyllfa lle mae'r Prif Weinidog presennol bellach yn siarad â Phrif Weinidogion Cymru a'r Alban, ac rwy'n rhoi clod i'r Prif Weinidog newydd mai dyna oedd un o'r pethau cyntaf iddo ei wneud, ac mae'n ddatganiad pwysig iawn. Gwnaed sylw bod y Prif Weinidog blaenorol yn brysur iawn, ac nid yw hwnnw'n ateb boddhaol pan fo'r sefyllfa honno'n codi, oherwydd ni allwch byth fod yn rhy brysur i ddweud eich bod yn poeni ynghylch pwysigrwydd eich perthynas â phedair gwlad y DU.
Ar sail bersonol, rwyf eisoes wedi cael cyfarfodydd rhagarweiniol gyda'r Twrnai Cyffredinol Victoria Prentis. Fe wnes i gyfarfod â'i rhagflaenydd; roedd yna newid sydyn iawn wedyn. Hefyd, rwyf wedi cyfarfod â'r Arglwydd Bellamy, a fydd yn ymweld â'r Senedd, a bydd cyfle i gael cyfarfodydd gyda mi a chyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
Ond rwy'n cytuno. Mae angen ymgysylltiad cynnar ac agored rhwng y Llywodraethau ar bob maes polisi. Rydym angen cyfnod o sefydlogrwydd a chydweithrediad i gefnogi perthynas waith agosach rhwng y Llywodraethau er ein lles ni oll.
Mae cwestiwn 2 [OQ58643] wedi ei dynnu'n ôl. Felly, cwestiwn 3—Carolyn Thomas.
3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn â'r amserlen ar gyfer Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)? OQ58676
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn monitro cynnydd y Bil drwy'r Senedd gan barhau â'n hymgysylltiad â Llywodraeth y DU ar yr amserlen arfaethedig iddo ddod i rym a gweithrediad darpariaethau a beth fydd hyn yn ei olygu o ran y goblygiadau i Gymru.
Diolch am yr ateb, Gwnsler Cyffredinol. Rwy'n gwybod eich bod yn cytuno bod y goelcerth hon o gyfraith yr UE a ddargedwir a ddechreuwyd gan Rees-Mogg yn un hynod o beryglus. Nid yn unig y mae'n peryglu amddiffyniadau pwysig, gan gynnwys hawliau gweithwyr a mesurau newid hinsawdd, mae hefyd yn ymgais amlwg i danseilio datganoli, Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon. O ystyried y bydd gan y Bil hwn oblygiadau difrifol i'r gwledydd datganoledig, rwy'n ei chael yn gwbl annerbyniol nad ymgynghorwyd yn briodol â hwy. Gwnsler Cyffredinol, pa sylwadau rydych chi wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ar y mater hwn, a pha drafodaethau a gawsoch gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn â diogelu cymwyseddau'r Senedd hon? Diolch.
Diolch. Mae'r Bil yn amlwg yn rhywbeth sy'n arwyddocaol iawn; mae'n trosglwyddo pwerau enfawr i Weinidogion Llywodraeth y DU, a fyddai â'r opsiwn o beidio â sefydlu, neu beidio â chadw, deddfwriaeth benodol yn Llywodraeth y DU, yn ôl eu disgresiwn eu hunain bron. Gwn fod yr enghraifft o dâl gwyliau statudol, sy'n deillio o gyfraith yr UE a ddargedwir, wedi cael cyhoeddusrwydd da iawn. Pe na bai'n cael ei chadw a'i hadfer i gyfraith y DU, byddai'n cael ei dileu ar unwaith mewn gwirionedd, felly byddem yn ei cholli, ac mae llawer o enghreifftiau eraill lle gallai hawliau unigol unigolion ddiflannu dros nos bron heb unrhyw graffu gan Lywodraeth y DU. Ein pryder ni fel Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yw bod y Bil yn cynnwys materion sy'n ymwneud â phwerau cydamserol i Weinidogion Llywodraeth y DU yn y Bil cyfraith yr UE a ddargedwir y gellir eu harfer mewn meysydd datganoledig. Mae ganddo gymal machlud a osodwyd ar gyfer 31 Rhagfyr 2023. Mae hyn yn ymwneud ag oddeutu 2,400 darn o ddeddfwriaeth. Rwy'n credu fy mod eisoes wedi dweud, fel y mae gwledydd eraill y DU wedi dweud, yn y bôn, y gallai hyn lethu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn llwyr, yn ogystal â'n hun ninnau hefyd, pe baem yn ceisio mynd i'r afael â hyn. Felly, rydym yn edrych ar opsiynau gofalus iawn ar hynny.
Mae'n debyg fod rhywfaint o obaith ynghlwm wrth rai sylwadau y gallai fod yna adolygiad ohono. Yn fy marn i, mae'r ddeddfwriaeth hon yn gwbl ddiangen. Nid yw'n cyflawni unrhyw beth mewn gwirionedd nac yn gwneud unrhyw beth o unrhyw arwyddocâd wrth ystyried yr holl heriau penodol sy'n bodoli. Fe wnaeth y sylw gan gyn-Ysgrifennydd yr amgylchedd, Theresa Villiers, gryn argraff arnaf. Roedd hi o blaid Brexit, felly mae'n fwy awyddus byth i weld Brexit a'r materion hyn yn llwyddo, ond dywedodd y byddai'r cynigion yn cymryd llawer iawn o amser y gwasanaeth sifil ac y byddai'n galw am ddadwneud deddfwriaeth a oedd, mewn llawer o achosion, yn boblogaidd at ei gilydd ac yn dda i'r wlad. Mae eraill wedi mynegi barn y gallai'r Bil hwn fod yn faen melin ideolegol. Felly, rydym yn ei fonitro'n agos iawn. Cefais ddau gyfarfod gyda'r Gweinidog blaenorol, Rees-Mogg. Mae hynny, wrth gwrs, wedi newid, ond fe fydd cyfleoedd i drafod ymhellach, ac mae hyn yn amlwg iawn ar radar Llywodraeth Cymru ac ar fy radar i.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf. Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Wrth ymateb i'ch datganiad yma ym mis Mai ar gyfiawnder yng Nghymru, dywedais,
'o gofio i uwch swyddogion yr heddlu ddweud wrthyf yn ystod fy ymweliad ag uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru: mae'r holl gynllunio am argyfyngau yng ngogledd Cymru yn cael ei wneud gyda gogledd-orllewin Lloegr; mae 95 y cant neu fwy o droseddau yng ngogledd Cymru yn lleol neu'n gweithredu ar sail drawsffiniol o'r dwyrain i'r gorllewin; nid oes gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw weithrediadau sylweddol sy'n gweithio ar sail Cymru gyfan; a bod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas'
ar hyn wedi
'cael ei hanwybyddu i raddau helaeth yn adroddiad y comisiwn',
gofynnais,
'pam ydych chi'n credu mai dim ond un cyfeiriad at unrhyw droseddu trawsffiniol yng nghyd-destun llinellau cyffuriau y mae adroddiad comisiwn Thomas ar gyfiawnder yn ei gynnwys, ac mai'r ateb y mae'n ei gynnig yw cydweithio ar draws y pedwar heddlu yng Nghymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, ond dim cyfeiriad at bartneriaid dros y ffin, gyda phwy y mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud mewn gwirionedd?'
Fe wnaethoch chi fy nghyhuddo o roi 'ymateb pen-yn-y-tywod', ond mewn gwirionedd anwybyddu'r materion allweddol hyn yw'r ymateb pen-yn-y-tywod peryglus—
Mark Isherwood, mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws, ond roeddem i gyd yno pan wnaethoch chi ofyn y cwestiynau hyn a chael yr ymateb hwn. Os gallwch ofyn eich cwestiwn ar gyfer heddiw, os gwelwch yn dda—ac mae eich amser wedi dod i ben nawr, ond rwy'n caniatáu ichi ei ofyn.
Pa gamau, os o gwbl, rydych chi wedi eu cymryd i ymchwilio i'r hepgoriadau difrifol a nodais ac i gasglu'r dystiolaeth angenrheidiol sydd ar goll?
Nid fy rôl i yw ateb dros gomisiwn Thomas, na mynd i'r afael â materion penodol sydd o fewn comisiwn Thomas neu beidio. Fy rôl i—rôl Llywodraeth Cymru—yw ystyried cyfanswm yr argymhellion a wnaed gan gomisiwn Thomas, eu gwerthuso ac ystyried sut gellid mynd ar drywydd y rheini.
Mae'n amlwg fod mater datganoli plismona yn un sydd wedi ei godi, ac mae'n un sydd wedi arwain at amrywiaeth o gyfarfodydd rhyngof fi, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn ogystal, yn y bwrdd partneriaeth plismona sydd wedi'i sefydlu, a chydweithio'n agos iawn â'r comisiynwyr heddlu a throseddu hefyd. Wrth wneud hynny, yr hyn y ceisiwn ei wneud yw cael partneriaeth briodol yn y meysydd sydd wedi'u datganoli sy'n ymwneud yn amlwg â phlismona, a dyna pam ein bod ni, yn amlwg, eisiau datganoli plismona, y bartneriaeth rhwng y pedair ardal heddlu, ond wrth gwrs, mae unrhyw feysydd eraill sy'n gorgyffwrdd o ran ymgysylltiad yr un mor ddilys. Nawr, mae'r materion sefydliadol hynny yn amlwg yn faterion i'r prif gwnstabl, ond maent yn cael eu trafod, felly nid wyf yn credu bod sail i feirniadaeth yn hynny o beth, oherwydd rydym yn edrych i weld sut y gall y bartneriaeth rhwng ein cyfrifoldebau a'n plismona weithio ar y cyd gyda'i gilydd mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu bod y pwyntiau a wnewch ynglŷn ag a ydynt yn gynaliadwy neu beidio yn dylanwadu'n fawr ar bwysigrwydd cael y bartneriaeth honno, cael yr ymgysylltiad hwnnw neu danseilio'r safbwynt rydym wedi'i fabwysiadu, ond hefyd fod y comisiynwyr heddlu a throseddu o'r farn—y pedwar ohonynt, sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd—fod yna werth i ddatblygu datganoli plismona.
Heb i'r bwlch hwn gael ei lenwi, mae'n amlwg nad oes sail wirioneddol dros fwrw ymlaen ar sail adroddiad rhannol yn unig.
Ond wrth ymateb i chi ym mis Mai, nodais dystiolaeth yn dangos bod Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn mabwysiadu ymagwedd fwy tebyg i un Llywodraeth Cymru tuag at ymdrin â chyfiawnder ac mae wedi datgan dro ar ôl tro ei bod yn ffafrio polisi'n seiliedig ar atal drwy fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu, gan ddyfynnu, er enghraifft, 'Papur Gwyn Strategaeth Carchardai' Gweinyddiaeth Cyfiawnder y DU i adsefydlu troseddwyr a thorri troseddu; y strategaeth troseddwyr benywaidd i ddargyfeirio troseddwyr benywaidd bregus oddi ar lwybr o ddedfrydau byr o garchar; a chynllun datrys problemau Llywodraeth y DU i ddal ac atal troseddu ieuenctid yn gynt nag erioed er mwyn helpu i atal y plant a'r bobl ifanc hyn rhag symud ymlaen at droseddu pellach, mwy difrifol.
Fe chithau, dyfynnais gyn-Weinidog cyfiawnder y DU, yr Arglwydd Wolfson, yng nghynhadledd Cymru'r Gyfraith ym mis Hydref 2021, lle nododd fod bod yn rhan o system gyfiawnder Cymru a Lloegr yn gwneud Cymru'n lle mwy deniadol i wneud busnes ac
'Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys y gwaith ar y cyd ar gefnogi menywod a phobl ifanc, ac yn bwrw ymlaen â rhai o argymhellion Comisiwn Thomas'.
Pa gynnydd a wnaed ar hyn felly yn y 13 mis ers hynny—rwy'n derbyn y gallech gael eich temtio i ymateb drwy wneud sylwadau ar y mis neu ddau diwethaf yn unig—wrth i ni symud ymlaen?
Diolch am y cwestiwn. Nid yw'r trafodaethau sy'n digwydd a'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn rhywbeth a ddigwyddodd yn ystod y misoedd diwethaf yn unig—mae'n broses hir, barhaus. Un o'r rhesymau ei fod yn rhan o'r broses hir honno yw oherwydd bod yna gamweithredu gwirioneddol yn awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Mae'n rhaid imi ddweud mai fy marn i yw bod awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn gamweithredol ac nad yw'n gweithio. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi cyhoeddi papur, 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', er mwyn cyfleu'r syniadau hynny, nid mewn perthynas â phwy sy'n rheoli cyfiawnder neu beth bynnag, ond sut y gellir ei ddarparu'n well yn y bôn? A byddech yn berffaith iawn i ofyn am fanylion ynglŷn â sut y credwn y gellir darparu hynny'n well.
O'r gwaith sy'n digwydd, mae llawer ohono'n cael ei wneud gan fy nghyd-Aelod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol mewn perthynas â materion menywod; y glasbrint i fenywod; y gwaith cyfiawnder ieuenctid sy'n mynd rhagddo; y materion sy'n ymwneud â chadw a charcharu menywod. Mae'r rheini'n bethau sydd wedi bod ar y gweill ers llawer iawn o fisoedd a hefyd wedi galw am bartneriaeth rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru a rhwng yr holl asiantaethau a chyrff eraill sydd â diddordeb uniongyrchol yn hynny. A chredaf fod y rheini wedi bod yn effeithiol iawn ac yn llwyddiannus iawn, ond dim ond rhan o'r darlun ydynt.
Cafwyd cyhoeddiad diddorol iawn gan Brifysgol Caerdydd ar gyfiawnder troseddol—System Cyfiawnder Troseddol Cymru: Ar y Rhwyg—sy'n dechrau tynnu sylw o ddifrif at y camweithredu yn ein system gyfiawnder: y ffaith nad oes cysondeb priodol rhwng yr holl swyddogaethau datganoledig a Gweinyddiaeth Gyfiawnder sy'n ganolog iawn, lle nad yw Cymru ond yn chwarae rhan ymylol iawn.
Fe wnaethoch grybwyll materion yn ymwneud â phlismona hefyd. Hynny yw, gadewch inni fod yn onest am y materion sy'n ymwneud â throseddu a gweithrediadau'r heddlu: pan ddaeth y Llywodraeth Geidwadol i rym yn 2010, fe wnaethoch chi dorri 22,000 o swyddogion heddlu ac rydych chi nawr yn siarad am benodi 15,000, i ryw raddau er mwyn unioni'r niwed trychinebus hwnnw a wnaed i blismona a diogelwch cymunedol.
Felly, rydym yn gweithio fel partneriaeth; rydym yn gweithio ar draws y bwrdd; rydym yn mynd ar drywydd pa gyfleoedd bynnag sydd yna i gydweithio ac mae nifer o lasbrintiau a phrosiectau'n mynd rhagddynt ar y cyd. Ond ar wyneb yr hyn sy'n digwydd y maent mewn gwirionedd. Mae angen ystyriaeth lawer dyfnach o gyfiawnder ac nid wyf yn derbyn eich safbwynt, ac nid wyf yn credu y gall unrhyw ddadansoddiad rhesymegol, yn seiliedig ar dystiolaeth o awdurdodaeth Cymru a Lloegr ddweud ei bod yn gwasanaethu Cymru'n dda. Dyna farn y daeth comisiwn Thomas iddi hefyd, ond rwy'n credu ei bod wedi'i chyfiawnhau mewn tystiolaeth sylweddol arall ers hynny.
Heb y dystiolaeth y cyfeiriais ati, ni allwn ddweud a yw'n gweithio'n well neu'n waeth nag y byddai pe bai wedi'i ddatganoli. Gallai awgrymu'r gwrthwyneb yn absenoldeb tystiolaeth o'r fath. Ac wrth gwrs, cafodd y swyddogion heddlu hynny, y toriadau, eu gwrthdroi, ac rydym bellach ar y ffordd i ddarparu 20,000 o swyddogion heddlu newydd o fewn y targed tair blynedd.
Ond wrth ymateb i chi ym mis Mai, nodais, er enghraifft, mai Cymru sydd â'r gyfran uchaf o blant mewn gofal yn y DU, ac un o'r cyfrannau uchaf o blant sy'n derbyn gofal mewn unrhyw wladwriaeth yn y byd, a gofynnais,
'Onid yw'n wir felly bod cymaint o wahaniaeth yn y ddarpariaeth o fewn system cyfiawnder troseddol ar y cyd yn dangos pam na ddylid ateb y galwadau am ddatganoli cyfiawnder troseddol?'
Hefyd, yn sgil strategaeth troseddwyr benywaidd Llywodraeth y DU, nodais fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yma wedi ysgrifennu at yr Aelodau i ddweud ei bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU, ac i gyhoeddi y byddai un o'r canolfannau hyn yn agos, a gofynnais,
'Sut y bydd hyn yn helpu troseddwyr benywaidd sy'n agored i niwed yn y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw yn nes at eu cartrefi?'
Yn hytrach nag ateb, fe ddywedoch chi, fod y
'ganolfan breswyl i fenywod...yn dwyn ffrwyth'
diolch i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Wedi hynny, cafodd cynlluniau ar gyfer y ganolfan hon eu gwrthod gan Gyngor Abertawe. Felly, beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd, lle gall carcharorion benywaidd o Loegr gael eu rhyddhau o garchardai Cymru bellach i gael eu hadsefydlu mewn canolfannau yn Lloegr, ond ni all carcharorion benywaidd yng Nghymru gael eu rhyddhau i ganolfannau cyfatebol yng Nghymru?
Wel, rwy'n credu eich bod chi newydd roi rheswm da iawn dros ddatganoli cyfiawnder, oherwydd dyna'n union yw un o'r rhesymau pam y buom yn gwneud hynny, pam ein bod yn gweithio mewn partneriaeth lle gallwn, ond mae angen datganoli cyfrifoldebau'n briodol, yn gyson ac yn drefnus i'n galluogi i gael gwared ar y rhwyg o fewn y system cyfiawnder troseddol. Rydych yn sôn am y niferoedd o bobl sydd mewn gofal, ac rydych yn sôn am y niferoedd sydd yn y carchar, ac yn y blaen. Yr hyn sy'n glir iawn o'r data yw bod Cymru ymhlith un o'r mannau gyda'r niferoedd uchaf o fenywod yn y carchar. Rwy'n credu mai gennym ni hefyd y mae'r lefel uchaf bron o bobl o gefndiroedd ethnig yn y carchar—rhai o'r ffigyrau uchaf yn Ewrop. Maent i gyd yn rhan o'r system gyfiawnder sydd heb ei datganoli, ac maent i gyd yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ynglŷn â pham fod angen datganoli cyfiawnder mewn gwirionedd.
Fe gyfeirioch chi eto at y ffigur plismona, ac yn y blaen. Wel, rydych chi wedi bod mewn grym ers 2010; mae wedi cymryd 12 mlynedd ichi ddechrau unioni'r niwed a wnaed yn sgil y toriadau enfawr i blismona a ddigwyddodd.
Ar wrthod y cais cynllunio i'r ganolfan i fenywod yn Abertawe, mater i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wrth gwrs yw ystyried nawr sut mae'n bwriadu ymateb i hynny. Ond unwaith eto, cyfrifoldeb i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw hynny.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch, Gwnsler Cyffredinol, eich bod wedi cyfeirio at y cyhoeddiad diweddar, System Cyfiawnder Troseddol Cymru: Ar y Rhwyg, gan Dr Rob Jones a'r Athro Richard Wyn Jones, a byddwn yn ei argymell yn fawr i lefarydd y Ceidwadwyr fel deunydd darllen—efallai y byddai hyd yn oed yn helpu i agor ei lygaid rywfaint i realiti'r sefyllfa. Oherwydd rydych yn hollol iawn i ddweud—. Mae'n amlinellu'n fanwl sut mae system cyfiawnder troseddol Cymru yn unigryw, ac er bod gan ein cenedl ei Llywodraeth a'i Senedd ddatganoledig ei hun wrth gwrs, nid oes system gyfiawnder Gymreig yn bodoli sy'n cyfateb i systemau cyfiawnder yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn hytrach, mae gwrit sefydliadau cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr yn parhau. Eto i gyd, mae cyfrifoldebau helaeth sefydliadau datganoledig Cymru yn sicrhau eu bod o reidrwydd yn chwarae rhan sylweddol mewn cyfiawnder troseddol, ac o ganlyniad, mae system cyfiawnder troseddol Cymru yn gweithredu ar draws y rhwyg rhwng pwerau cyfrifoldeb datganoledig a heb eu datganoli.
Felly, pa drafodaethau a gawsoch i sicrhau ein bod yn creu system gyfiawnder Gymreig er mwyn gwella rhai o'r canlyniadau cyfiawnder troseddol gwaethaf yng ngorllewin Ewrop gyfan? A hefyd, a wnewch chi drafod â'ch cymheiriaid Llafur yn Llundain i sicrhau y bydd unrhyw ddarpar Lywodraeth Lafur yn y DU yn datganoli cyfiawnder, yr heddlu a charchardai i Gymru?
Diolch am y cwestiwn a diolch am y sylwadau. Rwy'n sicr yn cytuno â chi fod y cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd yn cynnwys gwybodaeth wirioneddol arwyddocaol. Ac wrth gwrs, mae'n codi'r pwynt: un o'n prif bryderon—roeddwn yn bwriadu sôn am hyn gyda'r cwestiwn olaf—yw dadgyfuno data. Mae angen y sylfaen dystiolaeth honno arnom, mae angen y data hwnnw arnom. Oni bai bod y data hwnnw wedi'i ddadgyfuno er mwyn inni wybod sut mae'n berthnasol i Gymru, mae'n anodd iawn pennu polisi mewn gwirionedd, i werthuso'n union beth sy'n digwydd, pam mae'n digwydd, a sut mae ei newid. Dyna pam y gwnaethom gyhoeddi 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' ym mis Mai, ac rydym wedi cyfeirio at hwnnw, ac mae wedi cael ei grybwyll yn gyson.
Rwyf wedi bod yn codi'r materion hyn yn yr holl drafodaethau a gefais gyda chymheiriaid ar lefel Llywodraeth y DU, ac rydym wedi ei wneud mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, byddwn yn parhau i weithio, byddwn yn parhau i gydweithio ym mhob maes lle gallwn weithio ar y cyd i wella'r system gyfiawnder. Mae nifer o brosiectau felly ar y gweill. Yn ail, byddwn yn nodi prosiectau ychwanegol y gallwn weithio gyda hwy. Mae rhai diddorol iawn ar y gweill gyda sefydlu canolfan y gyfraith ar gyfer cam-drin domestig i fyny yng ngogledd Cymru; rydym yn aros am benderfyniad ar ariannu ac rydym yn obeithiol y bydd hynny'n digwydd. Efallai y byddwn yn edrych ar honno fel model yn rhan o bolisi ehangach ar gyfer datblygu canolfannau'r gyfraith a mynediad at gyfiawnder.
Ond hefyd, byddwn yn dechrau paratoi ar gyfer darparu cyfiawnder, yn enwedig mewn meysydd lle mae'r cysylltedd rhwng cyfrifoldebau datganoledig mor amlwg. Byddwn yn dweud nad oes dadl resymegol dros beidio â datganoli cyfiawnder ym maes y gwasanaeth prawf ac ym maes cyfiawnder ieuenctid. Hyd yn oed pe baem yn dechrau gyda hynny. Ac wrth gwrs, mae'r ddadl dros bolisi cyfiawnder a'r materion hyn yn ymwneud yn rhannol â chael gwared ar y meddylfryd fod hyn rywsut yn ymwneud â phwy sy'n rheoli rhywbeth, yn hytrach na sut i ddarparu cyfiawnder yn well. Ac yn fy marn i, a'r rheswm rwy'n gweithio mor agos gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a hithau gyda minnau, ar y rhain, yw bod rhan allweddol o'r system gyfiawnder yn gyfiawnder cymdeithasol, ac mae cyfuno'r ddau'n ei gwneud hi'n gwbl hanfodol, yn sicr yn y meysydd hynny, fod cyfiawnder yn cael ei ddatganoli, ac yn y tymor hwy, fod diwedd ar gamweithrediad system farnwrol ganolog iawn ar gyfer Cymru a Lloegr, sydd hefyd yn cael effeithiau andwyol sylweddol yn y ffordd y caiff ei darparu yn Lloegr hefyd.
Diolch am hynny. Rydych wedi rhestru ymgysylltiad â Llywodraeth y DU. Rwy'n dal i aros am rywbeth mewn perthynas â'ch Plaid Lafur eich hun yn y DU; efallai y gallech ehangu ychydig bach mewn eiliad.
Roeddwn yn awyddus i'ch holi chi ynglŷn â rhywbeth arall hefyd, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod ei Bil Hawliau i ddychwelyd i Senedd San Steffan yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac rydym yn gwybod y bydd hynny'n datgymalu Deddf Hawliau Dynol 1998 a wnaeth hawliau dynol yn rhan o gyfraith ddomestig ac ar gael i bawb yn y DU. Felly, a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod hawliau dynol mewn gwirionedd yn un o gonglfeini datganoli, a bod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i ddiogelu hawliau dynol yng Nghymru drwy sicrhau, er enghraifft, ein bod yn cael Bil hawliau dynol ar gyfer Cymru?
Wel, yn gyntaf, rydych chi'n hollol gywir ynglŷn â'r Bil hawliau, ac wrth gwrs, 10 Rhagfyr yw Diwrnod Hawliau Dynol, a gobeithio y bydd dadl sylweddol yn y Siambr hon. Ar un adeg, roedd yn edrych fel pe gallem fod wedi dadl ar Ddiwrnod Hawliau Dynol heb fod angen cyfeirio at y Bil hawliau. Dywedwyd wrthym ei fod wedi'i roi o'r neilltu. Yn anffodus, mae un o brif symbylwyr y peth wedi dychwelyd, ac mae'n ymddangos ei fod yn ôl ar yr agenda eto.
Mae o fewn portffolio yr Arglwydd Bellamy, y byddaf yn ei gyfarfod yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr. Felly, bydd cyfle i drafod yno. Nid ydym yn gwybod beth yn union fydd ffurf y Bil hwn, a yw'n mynd i olygu bod y Bil yn dychwelyd i'w ffurf bresennol yn llwyr. Nawr, mae hynny'n ymddangos i mi fel rhywbeth sy'n mynd i fod yn anodd iawn, oherwydd pan gafodd ei roi o'r neilltu, roedd cymaint o Weinidogion Llywodraeth y DU ac Aelodau Seneddol yn dweud yn y bôn, 'Wel, mae wedi cael ei roi o'r neilltu, mae'r peth yn llanast llwyr, felly ni all fynd rhagddo fel mae; dyna pam ein bod wedi ei roi o'r neilltu.' Wel, mae'n dod yn ôl bellach ac yn amlwg mae'n rhaid iddynt wneud rhywbeth i ddatrys y ffaith ei fod, ar ei ffurf bresennol, yn llanast llwyr.
Ond mae'n rhywbeth sydd yn ei hanfod yn tanseilio hawliau dynol. Mewn gwirionedd, mae'n amddifadu unigolion o hawliau. Ni waeth am ddadl Brexit ynglŷn ag adfer rheolaeth; mae'n amddifadu dinasyddion unigol yn y DU o bŵer.
Ar Fil i Gymru, a'r hyn y gallwn ni ei wneud yng Nghymru, mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno'n agos iawn. Beth yw'r opsiynau ar gyfer cryfhau'r ymrwymiad sydd gennym i hawliau dynol ymhellach, naill ai yn ein deddfwriaeth, yn ein polisïau, ac a yw hynny'n golygu drwy gyfrwng fformat deddfwriaethol neu beth bynnag, nid wyf yn gwybod. Ond mae'n fater sy'n cael ei drafod yn y grŵp cynghori ar hawliau dynol sydd wedi'i sefydlu, ar y cyd â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, grŵp a gadeiriais y diwrnod o'r blaen. Felly, mae hyn ar y radar yn amlwg iawn ac rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn parhau a'n bod yn parhau i fonitro'r hyn sy'n digwydd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn â sicrhau cyfiawnder i'r 97 o ddioddefwyr trychineb Hillsborough? OQ58662
Diolch am y cwestiwn. Ysgrifennais at Is-ysgrifennydd Gwladol y Senedd dros Gyfiawnder am y galw sylweddol am gyfraith Hillsborough ym mis Awst eleni, ac rwyf wedi codi'r mater yn y gorffennol mewn cyfarfodydd a gohebiaeth â Gweinidogion Llywodraeth y DU.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Ac a gaf fi ddiolch iddo am ei waith parhaus gyda mi ar hyrwyddo'r angen am ddeddf Hillsborough? Gwnsler Cyffredinol, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog nesaf, Syr Keir Starmer, wedi defnyddio agoriad ei araith gynhadledd yn Lerpwl i ymrwymo ei Lywodraeth Lafur yn y dyfodol i weithredu deddf Hillsborough. Mae hwn nid yn unig yn gam beiddgar, ond dyma'r cam cywir i'w gymryd. Mae'n rhy anodd i bobl yn y wlad hon sydd heb lawer o fodd gael mynediad at y cyfiawnder maent yn ei haeddu. A wnewch chi ymrwymo'r Llywodraeth Lafur hon i gefnogi Syr Keir yn ei gynlluniau ar gyfer deddf Hillsborough, a'i alwadau hefyd am etholiad cyffredinol i wireddu hynny?
Diolch am y cwestiwn atodol. Ac rwy'n eich llongyfarch am y ffordd y gwnaethoch barhau i fynd ar drywydd hyn a rhai o'r achosion arwyddocaol eraill o gamweinyddu cyfiawnder. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn eu trafod ac yn eu hystyried ar lawr y Senedd. Rwy'n credu, yn gyntaf oll, mai'r peth i'w ddweud yw fy mod yn credu bod nifer o gyfleoedd wedi'u colli i drafod mater Hillsborough a materion eraill tebyg ar lefel ryngweinidogol, lefel rynglywodraethol. Nid yw'r grŵp rhyngweinidogol ar gyfiawnder wedi'i sefydlu eto, ond rwy'n obeithiol y bydd hynny'n digwydd yn fuan iawn. O safbwynt Llywodraeth Cymru, gallaf gadarnhau, a chofnodi eto, ein bod yn cefnogi'r galwadau am gyflwyno deddf Hillsborough, a fyddai nid yn unig yn gosod dyletswydd gonestrwydd ar weision cyhoeddus, ond hefyd yn rhoi teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth ar sail fwy cyfartal i gyrff cyhoeddus drwy sicrhau bod cynrychiolaeth gyfreithiol wedi'i hariannu'n gyhoeddus ar gael. Rwy'n siomedig hefyd nad yw'r Bil Eiriolwr Cyhoeddus (Rhif 2) yn debygol o fynd rhagddo. Felly, rydym yn dal ati i bwyso ar Lywodraeth y DU ynghylch y mater hwn a rhai o'r achosion eraill o gamweinyddu cyfiawnder sydd wedi digwydd ac a godwyd gennych yn y gorffennol: sgandal Horizon Swyddfa'r Post ac yn wir, mater pardwn i lowyr a gafwyd yn euog ar gam yn ystod streic 1984-85.
Ond ar y pwyntiau cryno a godwyd gennych, rwy'n cytuno'n llwyr â chi am y datganiad gan Keir Starmer. Roeddwn yn falch o weld y cyhoeddiad yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl y bydd Llywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol, rhywbeth nad yw'n rhy bell i ffwrdd gobeithio, yn cyflwyno deddf Hillsborough. Rwy'n cytuno â'r Aelod hefyd y dylem gael etholiad cyffredinol yn y DU cyn gynted â phosibl er mwyn i'r cyhoedd gael cyfle i ethol y Llywodraeth Lafur honno.
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn ag effaith y Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) ar y setliad datganoli? OQ58668
Diolch am y cwestiwn. Mae'r Bil a'i effeithiau yng Nghymru yn cael eu hasesu ar frys gan fy swyddogion. Rwy'n hynod bryderus, unwaith eto, ynglŷn â'r diffyg ymgysylltu a fu ar y Bil hwn cyn ei gyflwyno, a'r wybodaeth gyfyngedig sydd ar gael am ei gynnwys.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw. Bil llafur gorfodol ydyw, wrth gwrs. Mae'n amddifadu pobl o ryddid ac yn gwadu eu hawliau, a byddwn yn dadlau ei fod yn gweithredu mewn ffordd sy'n anghydnaws â'n disgwyliadau a'n gwerthoedd mewn cymdeithas rydd ac agored a democrataidd. Mae hefyd yn groes i'r gwerthoedd rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr yn sicr, wedi eu hystyried yn werthfawr drwy gydol cyfnod y Llywodraeth ddatganoledig. Mae Bil partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei gyflwyno gan ein cyd-Aelod y Dirprwy Weinidog yn rhywbeth sy'n rhoi gweledigaeth wahanol iawn o'r dyfodol ar gyfer cysylltiadau diwydiannol, ac ar gyfer gwella hawliau pobl a rhoi sylfaen i ryddid pobl. Ond wrth gwrs, mae'n destun pryder mawr fod Llywodraeth Cymru unwaith eto heb gael gweld darn arall o ddeddfwriaeth y DU. Gwnsler Cyffredinol, efallai y byddai'n ddefnyddiol pe gallech gyhoeddi rhestr o'r holl ymgysylltiad a fu rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, ar lefel weinidogol a swyddogol, er mwyn inni ddeall yn union pa ymgysylltiad a gafwyd wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth bwysig hon.
Diolch am y cwestiwn atodol. Wrth gwrs, byddwn yn monitro beth sy'n digwydd yn ofalus iawn. Rwy'n deall bod yr Ail Ddarlleniad wedi'i ohirio. Rwyf wedi bod yn darllen drwy'r Bil. Mae gennyf gopi ohono yma mewn gwirionedd. Mae'n eithaf anodd gweld sut yn union y gallai weithio. Efallai mai dyna pam ei fod yn arafu yn y broses. Deddfwriaeth arall heb ei hystyried yn llawn ac wedi'i gyrru gan ystyriaethau ideolegol. Fel y dywedais, nid yw'n cynnwys fawr iawn o wybodaeth. Wrth gwrs, o'r herwydd mae'n creu sylfaen ar gyfer trosglwyddo pwerau niferus ymhellach i'r broses is-ddeddfwriaethol. Mae hynny'n cyfyngu ymhellach ar ein gallu i asesu a chraffu ar hawliau'r Bil.
Fel mater o egwyddor, nid ydym yn meddwl y dylai'r Llywodraeth weithio i—. Wel, partneriaeth gymdeithasol yw ein dull ni o weithredu—dull o ymgysylltu'n gadarnhaol a blaengar. Credwn y dylai llywodraethau weithio i ddatrys anghydfodau diwydiannol ar y cyd yn hytrach na cheisio gorfodi eu hewyllys drwy leihau hawliau gweithwyr. Fel cyn-gyfreithiwr undeb llafur am 30 mlynedd o fy mywyd, mae gosod cyfyngiadau llymach ar undebau llafur yn anflaengar iawn, ac mae'r Bil yn ymosodiad direswm arall ar hawliau gweithwyr i roi camau diwydiannol cyfreithlon ar waith. Rwy'n credu bod rhaid ichi weld y ddeddfwriaeth hon o fewn deddfwriaeth anflaengar arall sy'n ceisio cyfyngu ar hawliau sifil a'r rhyddid rydym wedi dod i'w fwynhau.
Felly, byddwn ei gwneud yn glir iawn i Lywodraeth y DU ein bod yn gwrthwynebu'r Bil yn y modd cryfaf a bod swyddogion yn gweithio i ddarganfod mwy am sylwedd ac amseriadau'r Bil, a byddwn yn mynegi ein hystod lawn o bryderon i'r Adran Drafnidiaeth.
6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol egluro pa gyngor cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i geisio mewn perthynas â chyflwyno cwota rhyw ar gyfer etholiad Senedd Cymru yn 2026? OQ58657
Diolch am y cwestiwn. Cyflwynodd y pwyllgor diben arbennig ei adroddiad ar 30 Mai a gwnaeth 31 o argymhellion, gan gynnwys un yn ymwneud â chyflwyno cwotâu rhyw. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn datblygu polisi ar gyfer deddfwriaeth mewn perthynas â'r argymhellion hynny.
Diolch. Mae'n amlwg fod cwestiynau cyfreithiol a chyfansoddiadol difrifol ynglŷn ag a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bŵer o'r fath yn wir i gyflwyno newidiadau radical i'n ddeddfau etholiadol. Mae ceisio gorfodi'r cwotâu hyn ar bob plaid ar lefel genedlaethol yn rhywbeth sy'n gwbl ddigynsail yn ein democratiaeth. Mae hefyd yn codi cwestiwn ynghylch y rhai nad ydynt yn galw eu hunain yn wrywaidd neu'n fenywaidd ac felly na fyddent yn gosod eu hunain yn y naill gategori na'r llall. Mae hyn mewn gwirionedd yn dangos y broblem gyda cheisio dewis aelodau etholedig ar sail nodweddion mympwyol, lle bydd grwpiau penodol neu drawsdoriadau o gymdeithas bob amser yn teimlo eu bod wedi'u heithrio mewn rhyw ffordd. Dyna pam ein bod ni, yn y wlad hon, bob amser wedi ffynnu ar yr egwyddor meritocratiaeth sy'n ein huno—sy'n golygu yn y bôn mai'r person gorau sy'n cael y swydd. Yn bersonol, fel menyw sydd ers 28 mlynedd—
A wnewch chi ofyn y cwestiwn, os gwelwch yn dda, Janet?
Rwy'n gwneud hynny. Fel menyw sydd wedi bod yn y byd gwleidyddol ers dros 28 mlynedd pan gefais fy ethol, rwy'n gweld yr hyn rydych yn ei argymell ar gyfer y dyfodol yn sarhad. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gyhoeddi unrhyw gyngor cyfreithiol sy'n ymwneud â phŵer Llywodraeth Cymru i wneud yr ymyrraeth ddigynsail hon i'r modd y caiff gwleidyddion eu hethol yng Nghymru? Diolch.
Diolch am y cwestiwn atodol. Efallai y gwnaf ymdrin â'r pwynt a godwyd gennych pan ddywedoch chi mai'r unigolyn gorau sy'n cael y swydd. Efallai yr hoffech egluro pam mai dim ond 18 y cant o aelodaeth y Torïaid yn y Senedd hon sy'n fenywod. Nid wyf yn siŵr pa gasgliadau y dylem ddod iddynt o hynny. Fe adawaf hynny yno, oherwydd argymhelliad 11 y pwyllgor diben arbennig oedd y dylid ethol y Senedd—
A wnaiff aelodau'r meinciau cefn roi'r gorau i siarad â'i gilydd er mwyn imi allu clywed yr atebion gan y Cwnsler Cyffredinol?
Argymhelliad 11 oedd y dylai'r Senedd gael ei hethol gyda chwotâu rhywedd statudol. Argymhelliad 17 o'r adroddiad oedd y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau priodol i sicrhau nad yw ein hargymhellion ar ddiwygio'r Senedd ar gyfer 2026 yn cael eu rhoi mewn perygl gormodol o gael eu cyfeirio at y Goruchaf Lys. Felly, i bob pwrpas, mae swyddogion wedi bod yn gwneud gwaith ar ddatblygu polisi manwl gyda'r nod o roi argymhelliad 11 mewn grym, gan gadw argymhelliad 17 mewn cof ar yr un pryd. Nawr, pwrpas yr argymhellion a wnaed gan y pwyllgor diben arbennig, a'r bwriad cyffredinol wrth gyflwyno cwotâu rhyw yw gwneud darpariaeth gyda'r nod o sicrhau bod Aelodau etholedig y Senedd yn adlewyrchiad bras o amrywiaeth rhywedd poblogaeth Cymru. Yn fy swydd fel swyddog y gyfraith ac fel Cwnsler Cyffredinol, byddaf yn cadw mewn cof yr angen i sicrhau y bydd deddfwriaeth diwygio'r Senedd yn ei chyfanrwydd yn glir, yn gadarn ac o fewn y cymhwysedd.
Mae cwestiwn 7 [OQ58644] wedi'i dynnu'n ôl. Felly, cwestiwn 8, Alun Davies.
8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU am effaith Bil Protocol Gogledd Iwerddon ar gyfansoddiad y DU? OQ58670
Diolch. Ni chawsom unrhyw ymgysylltiad â Llywodraeth y DU cyn i'r Bil gael ei gyflwyno. Mae gennym bryderon difrifol yn ei gylch, gan gynnwys y pwerau eang iawn y mae'n eu rhoi i Weinidogion y Goron a'i oblygiadau posibl i'r setliad datganoli. Rydym yn argymell y dylai'r Senedd wrthod rhoi cydsyniad i'r Bil.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am hynny. Rwy'n falch o glywed ei bwynt olaf. Dyma ddeddfwriaeth bwdr a di-fudd sydd, drwy ei chyflwyno, wedi deifio enw da'r Deyrnas Unedig mewn cynghorau ar draws y byd. Mae wedi niweidio ein perthynas â'r UE ac wedi dangos bod Llywodraeth y DU ei hun yn barod i dorri cyfraith a chytundebau rhyngwladol yr ymrwymodd iddynt o'i gwirfodd ar ôl twyllo poblogaeth unoliaethol Gogledd Iwerddon. Mae'n ddeddfwriaeth aflan ac ymhlith y mwyaf anonest a welais gerbron unrhyw ddeddfwrfa erioed. Gwnsler Cyffredinol, mae'n bwysig fod y lle hwn, fel deddfwrfa ac fel Llywodraeth Cymru, yn sefyll dros lywodraethu da, yn sefyll dros gyfraith ryngwladol ac yn sefyll dros werthoedd democratiaeth lle caiff cytundebau yr ymrwymir iddynt yn wirfoddol eu cynnal gan bob parti. A wnaiff Llywodraeth Cymru dawelu meddyliau'r Siambr y prynhawn yma y bydd yn parhau i ddadlau bod y ddeddfwriaeth hon nid yn unig yn niweidio'r DU yn allanol ac yn rhyngwladol, ond yn tanseilio sail cyfansoddiad y DU yn fewnol hefyd?
Diolch am y cwestiwn atodol. Rwy'n credu fy mod yn cytuno â'r holl bwyntiau a wnaethoch. Yn yr haf, mynychais gynhadledd Cymdeithas Prydain ac Iwerddon, ac yno, fe wneuthum y pwynt fy mod yn meddwl ei bod hi'n sylfaenol anghywir i geisio mynd i'r afael â phroblem wleidyddol sylweddol drwy gyfrwng deddfwriaeth. Ni allwch ddeddfu i ddatrys y mathau hynny o broblemau. Mae'r Bil yn un annoeth ac mae'n niweidiol i enw da'r DU yn rhyngwladol. Mae'n dangos bod Llywodraeth y DU yn tynnu'n ôl o rwymedigaeth ryngwladol a luniodd ac a gefnogwyd ganddi yn gynnar yn 2020 fel rhan o'r cytundeb ymadael. Ac os caiff ei ddeddfu a'i weithredu, bydd yn arwain at dramgwyddo cyfraith ryngwladol yn sylweddol yn ôl pob tebyg, gan wneud niwed pellach.
Ceir nifer o resymau pam na ellir rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Wrth gwrs, bydd dadl lawn yn y Senedd hon ynghylch y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ond un o'r pethau allweddol i mi yw hyn: gyda'n hymrwymiad cynhenid i gyfraith ryngwladol ac i hawliau dynol ac yn y blaen ym mhob dim a wnawn, ni allaf weld sut y gallem argymell cefnogaeth ddeddfwriaethol i ddeddfwriaeth sydd mor amlwg yn peryglu'r cysyniad o reolaeth y gyfraith a chyfraith ryngwladol. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae'n rhoi pwerau Harri'r VIII enfawr i'r Llywodraeth. Felly, peidio â rhoi cydsyniad yw safbwynt Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, mater i'r Senedd hon yw penderfynu ar fater cydsyniad; nid mater i'r Llywodraeth ydyw, ond yn ystod y broses honno, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud ei safbwynt yn glir iawn.
9. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu sut y bydd y Bil cyfraith statud (diddymiadau) (Cymru) arfaethedig yn helpu i wella hygyrchedd cyfraith Cymru? OQ58656
Diolch. Bydd y Bil yn tacluso'r llyfr statud drwy gael gwared ar ddarpariaethau sy'n anarferedig, wedi darfod, heb fod o ddefnydd ymarferol neu heb effaith ymarferol mwyach neu heb unrhyw obaith realistig o gael eu cychwyn. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gyfreithwyr ac eraill ddod o hyd i'r wybodaeth y maent yn chwilio amdani.
Diolch. Wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad ar y Bil cyfraith statud (diddymiadau) (Cymru), fe wnaethoch gynghori y byddai'r mesur yn mynd i'r afael â
'chyflwr anhrefnus ein llyfr statud anferth a gwasgarog.'
Rwy'n cydnabod y gall darpariaethau fynd allan o ddefnydd neu beidio â chael eu cychwyn. Fodd bynnag, mae'n destun pryder imi fod y gwaith hwn yn mynd i gyfrannu at yr oedi a wynebwn cyn gweithredu cyfraith newydd yng Nghymru. Mae'r Ddeddf aer glân yn hwyr; mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwrthod deddfu i efelychu adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau y DU 2022; rydym eto i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol; a daw'r Bil ar adeg pan ddylai ffocws Llywodraeth Cymru fod ar faterion pwysicach, fel yr argyfwng costau byw sy'n wynebu pobl ledled Cymru.
Er fy mod yn derbyn mai dim ond nawr rydych yn ymgynghori ar y Bil, a ydych yn cytuno â mi y dylai'r flaenoriaeth nawr fod ar ganolbwyntio adnoddau Cymru ar greu cyfreithiau Cymreig newydd sydd eu hangen yn ddybryd ar ein cymdeithas a'n gwlad?
Diolch ichi am rai o'r sylwadau hynny, ac rwy'n sicr yn cytuno â chi am bwysigrwydd canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw; wrth gwrs, dyna'r union reswm pam ein bod yn credu y dylai Bil cyfraith yr UE a ddargedwir gael ei roi o'r neilltu neu ei ddiystyru'n llwyr. Ond o ran y cyfrifoldebau sydd gennym fel Senedd ac fel Llywodraeth Cymru, pwrpas yr ymgynghoriad yw cyflawni ein rhwymedigaeth barhaus i gynnal llyfr statud i Gymru. Yn y bôn, ymarfer cymhennu i gael gwared ar ddarpariaethau diangen yw hwn. Nid wyf yn credu y bydd yn effeithio ar yr holl ddeddfwriaeth bwysig arall sydd yno, ac rwy'n credu mai camgymeriad yw ei gamgymryd o fewn hynny, gan nad yw'n gyfraith sy'n diwygio nac yn newid. Yr hyn ydyw yw ymarfer cymhennu'r llyfr statud.
Mae'n cwmpasu nifer o feysydd, o fyrddau datblygu gwledig, ardaloedd menter, hawliau tramwy cyhoeddus a gofnodwyd, Awdurdod Datblygu Cymru ac yn y blaen. Mae gan bob Senedd gyfrifoldeb i wneud hyn; mae pob Senedd, ar y cyfan, yn ei wneud, i ryw raddau. Rwy'n credu ein bod mewn cyfnod lle mae'r mater mynediad at y gyfraith yn bwysig iawn inni. Wrth inni ddatblygu cyfraith Cymru, mae'n bwysig iawn fod ein cyfraith yn cael ei chadw mewn siâp da, a'n bod yn defnyddio'r arferion gorau. Un o'r rhesymau pam ein bod yn cyflwyno, er enghraifft, y Bil cydgrynhoi ar yr amgylchedd hanesyddol, a byddwn yn gwneud un wrth gynllunio, yw oherwydd bod manteision hirdymor i ni o wneud hynny; mae manteision hirdymor i ddinasyddion, ymarferwyr, sefydliadau dinesig a chyrff eraill i gael y gyfraith mewn cyflwr sy'n addas i'r diben. Felly, byddwn yn parhau gyda hyn ar gam priodol; bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno.
Os caf wneud y pwynt, oherwydd rwy'n gwybod bod eich sylwadau wedi'u bwriadu'n dda, o ran ein rhaglen ddeddfwriaethol, mae'r un mor bwysig fel Senedd ein bod hefyd yn monitro ansawdd a chyflwr cyffredinol ein deddfwriaeth, a lle mae cyfleoedd yn codi i gymhennu hynny i'w wneud yn fwy effeithiol ac effeithlon, mae'n ddyletswydd arnom i wneud hynny. Dyma un o'r cyfrifoldebau penodol sydd gennyf ac rwy'n adrodd arno bob blwyddyn i'r Senedd.
10. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau cyfreithiol i Gymru o Fil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth y DU? OQ58655
Diolch. Cyn i'r Bil gael ei dynnu'n ôl o'r Ail Ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin, fe wnaeth fy swyddogion asesu ei effaith ar Gymru gan nodi darpariaethau sydd angen cydsyniad y Senedd. Bydd unrhyw ddiwygiadau diogelu data sydd ar y ffordd gan Lywodraeth y DU yn cael eu hasesu yn yr un modd.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol; diolch am eich ymateb ar hynny ac am y sicrwydd hwnnw. Fel y gwyddom nawr, mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn oedi eu Bil diwygio data, ond maent yn parhau i fynegi eu cynlluniau i gael gwared ar y rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data (GDPR). O dan GDPR, mae gofyniad cyfreithiol am gydsyniad i gasglu a rhannu data; ceir rhwymedigaeth hefyd ar gwmnïau i ddileu unrhyw ddata personol pan ofynnir iddynt wneud hynny.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi mynd ymhellach na hynny a rhyddhau datganiad i ddweud eu bod yn gweithio ar gytundeb digonolrwydd data newydd gyda'r Unol Daleithiau a fyddai'n caniatáu i'n data personol gael ei drosglwyddo'n rhydd, gan gael gwared ar yr amddiffyniadau sydd ar waith ar hyn o bryd i sicrhau nad yw ein data'n cael ei ddefnyddio gan gwmnïau preifat heb inni wybod neu heb inni roi caniatâd. Mae hyn yn golygu y gallant werthu ein data GIG. Mae hyn yn golygu y bydd yn effeithio ar ein Bil Amaethyddiaeth (Cymru) sydd ar y ffordd, oherwydd bydd Llywodraeth Cymru yn casglu'r data hwnnw, ac ni fyddwn yn gallu ei ddiogelu oherwydd fe fydd o dan ddeddfwriaeth y DU sy'n effeithio arnom. Mae'n golygu y bydd modd gwerthu'r data biometrig sy'n cael ei gasglu ar blant mewn ysgolion. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae hyn i gyd yn ymwneud â chytundebau masnach—mae hyn i gyd yn ymwneud â chytundebau masnach. Felly nid yw arbrofion asgell dde diweddar Llywodraeth Dorïaidd y DU yn fy llenwi â gobaith y byddant yn diogelu data dinasyddion. Beth y gallwn ei wneud? Pa sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda hwy? Diolch.
Diolch am godi mater pwysig iawn nad yw'n cael sylw'n aml. Rwy'n meddwl mai hwn yw'r cwestiwn penodol cyntaf a gefais ar hyn, ac mae'n bwysig iawn ei fod wedi cael ei godi. Yr hyn y gallaf ei ddweud yn gyffredinol yw pan fydd materion yn ymwneud â chasglu data wedi codi, rwy'n gwybod bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru bob amser wedi codi'r mater mewn perthynas â diogelu hynny ac osgoi camddefnyddio hynny. Rwy'n gwybod bod hynny wedi digwydd o fewn y sector iechyd, ac rwy'n gweld fy nghyd-Aelod Eluned Morgan yma, a gwn ei bod hi wedi rhoi camau mawr ar waith i sicrhau mai dim ond ar gyfer amcanion penodol o fudd meddygol ac ati, at ddibenion y GIG, y gellid defnyddio data'r GIG, ac nad yw i'w ddefnyddio mewn ffyrdd eraill lle gellir ei werthu a'i ledaenu a'i ddefnyddio ar gyfer unrhyw weithgareddau corfforaethol neu fasnachol eraill. Mae hynny'n berthnasol i ddeddfwriaeth arall a all godi.
Felly, byddwn yn parhau i geisio gweithio gydag adrannau Llywodraeth y DU i gael gwybodaeth ac ystyried y problemau posibl sy'n deillio o unrhyw gynigion i ddiwygio'r gyfraith diogelu data. Byddwn yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw ddiwygiadau sy'n tanseilio hawl unigolyn i ddiogelu eu data personol a'u preifatrwydd. Rydym yn cydnabod hefyd fod y posibilrwydd o golli digonolrwydd yr UE yn fygythiad mawr i fusnesau allforio Cymru, a'u prif farchnad dramor yw'r Undeb Ewropeaidd o hyd. Felly, byddwn yn gwrthwynebu unrhyw ddiwygio sy'n gwyro'n sylweddol rhag egwyddorion GDPR yr UE ar y sail fod hynny'n debygol o beryglu'r posibilrwydd y gwêl y DU ei statws digonolrwydd yr UE yn cael ei dynnu'n ôl.
Ac yn olaf, cwestiwn 11, Joyce Watson.
11. Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod unigolion yn cael cyfleoedd cyfartal o fewn y system gyfiawnder yng Nghymru? OQ58639
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn defnyddio pob ysgogiad posibl i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y system gyfiawnder, er nad yw wedi'i ddatganoli. Er enghraifft, buom yn gweithio gyda sefydliadau partner ar y cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a lansiwyd ym mis Medi ac sy'n ategu ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol ein hunain.
Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Nid wyf yn gwybod a ydych wedi cael amser neu gyfle i ddarllen ac ystyried yr adroddiad newydd gan brifysgol Manceinion ar ragfarn hiliol yn y farnwriaeth. Canfu fod gwahaniaethu'n digwydd yn arbennig tuag at ddefnyddwyr du'r llys, o gyfreithwyr i dystion i ddibynyddion, ac mae'n cefnogi canfyddiad adroddiad Lammy yn 2017. Mae hiliaeth sefydliadol yn gyhuddiad difrifol iawn, ond mae'n ymddangos ei fod yn briodol yma. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym beth mae Cymru'n ei wneud a beth arall sy'n rhaid inni ei wneud i wrthdroi'r rhagfarn farnwrol endemig hon?
Diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw. Ydw, rwy'n ymwybodol o adroddiad Manceinion. Rwyf wedi dechrau darllen drwyddo ac mae'r cynnwys yn llwm iawn. Mae'n rhywbeth y gwn fod aelodau'r farnwriaeth yn bryderus iawn yn ei gylch, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth lle ceir ymdrechion i weld sut i fynd i'r afael ag ef.
Nid yw'n fater hawdd i fynd i'r afael ag ef o fewn system gyfiawnder sy'n gweithio yn y strwythur penodol hwn a'r ffordd y mae'n gweithredu ar y cyd â'r proffesiwn cyfreithiol. Yn sicr, mae'n wir fod pawb sydd mewn cysylltiad â'r system gyfiawnder yn haeddu cyfle cyfartal i gael mynediad at y cymorth a'r help sydd ei angen arnynt pan fyddant yn ymwneud â'r system gyfiawnder. Soniais yn gynharach, pan oeddem yn sôn am gyhoeddiad Prifysgol Caerdydd ar y system cyfiawnder troseddol, am y cyfraddau uchel, un o'r cyfraddau uchaf yn Ewrop bron, o garcharu'r rheini o gefndiroedd ethnig o gymharu â chefndiroedd gwyn. Pan welwch y data hwnnw ar y cyd ag adroddiad Manceinion ac ati, ni allwch ymatal rhag dweud bod hiliaeth sefydliadol o fewn ein system gyfiawnder.
Un o'r ffyrdd y ceisiwn fynd i'r afael â hyn yw drwy weithio gyda phartneriaid y bwrdd cyfiawnder troseddol yng Nghymru, Gwasanaeth Carchardai Ei Fawrhydi, y gwasanaeth llysoedd a phlismona yng Nghymru i ddatblygu'r cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer cyfiawnder troseddol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Medi, ac y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi chwarae rhan mor bwysig ynddo. Mae'n nodi ein cynllun i fynd i'r afael â hiliaeth yn rhagweithiol, gan ganolbwyntio'n benodol ar amrywiaeth staff a hyfforddiant. Ond mae ffordd bell i fynd. Rwy'n credu bod hyn hefyd yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar yr angen i ddatganoli cyfiawnder. Mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei fonitro'n agos iawn ac sy'n cael ei godi mewn cyfleoedd a gawn gyda swyddogion y gyfraith eraill a chyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 3 sydd nesaf, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Yn gyntaf, Jack Sargeant.
1. Sut mae'r Comisiwn yn annog staff i wneud addewid y Rhuban Gwyn? OQ58663
Yn y gorffennol, mae'r Comisiwn wedi cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn trwy gynnal digwyddiad blynyddol yn y Senedd a thrwy godi arian drwy werthu Rhubanau Gwyn yn siopau Tŷ Hywel a'r Senedd, fel y gwnaethoch chi eich hun, Jack, ofyn amdano wrth gwrs. Ers y pandemig, mae'r Comisiwn wedi bod yn ymwybodol o'r risg uwch o achosion o gam-drin domestig, pan oedd gweithio gartref yn norm, ac mae wedi gweithredu a chyfathrebu mwy o fesurau i gefnogi'r gweithwyr cartref hynny. Cyn y Diwrnod Rhuban Gwyn yn 2022, bydd y Comisiwn yn tynnu sylw at yr adnoddau sydd ar gael ac yn annog staff i wneud addewid y Rhuban Gwyn drwy dudalennau strategaeth iechyd a lles y Comisiwn. Rwyf fi, ynghyd â Jack a llawer o Aelodau eraill, yn hyrwyddo ymgyrch y Rhuban Gwyn yn weithredol. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi bwrw iddi i barhau'r gwaith a wnaeth eich tad, ac roeddwn yn falch o weithio ochr yn ochr ag ef hefyd.
A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am yr ateb hwnnw a'r holl waith y mae hi'n ei wneud fel Comisiynydd, ond ar lefel bersonol hefyd? Rwy'n gwybod eich bod chi yr un mor angerddol a minnau ynghylch ymgyrch y Rhuban Gwyn. Fy rôl i fel llysgennad yr ymgyrch yw hyrwyddo i beidio byth â defnyddio, esgusodi neu aros yn dawel ynghylch trais dynion yn erbyn menywod. Rydym wedi clywed eisoes gan Joyce Watson beth yn union fydd staff y Senedd yn ei wneud i annog pob aelod o staff, yn enwedig dynion, i wneud yr addewid. Felly, a wnewch chi ymuno â mi heddiw i wneud yr apêl honno i'r holl staff ar draws y Senedd, pan fyddant yn gwneud yr addewid, eu bod yn ei olygu?
Rwy'n credu bod y pwynt diwethaf a wnaethoch yn un hynod bwysig. Un peth yw gwneud addewid, peth arall yw ei olygu. Ond mae dwy ochr, wrth gwrs, i'r Rhuban Gwyn, ac un yw'r holl waith sy'n cael ei wneud o gwmpas y Rhuban Gwyn, ond mae'r Rhuban Gwyn yn ymwneud ag ymdrechion i leihau nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod a phlant. Felly, ar un ochr, byddwn yn codi ymwybyddiaeth; ar yr ochr arall, rhaid inni ddiogelu pobl.
Yn y tudalennau cymorth ar gyfer gweithio gartref, mae'r Comisiwn wedi ychwanegu canllawiau pellach at y polisïau presennol ar gyfer rhai sy'n profi camdriniaeth o fewn amgylchedd y cartref, ac mae'r Comisiwn wedi darparu lle diogel y gwnaethpwyd asesiad risg ohono i staff y Comisiwn allu gweithio oddi cartref os ydynt ei angen. Mae'r polisi cam-drin domestig wedi cael ei ddiwygio ac mae'n rhoi mwy o gyfrifoldeb i'r holl staff adrodd am bryderon ynghylch cydweithiwr. Mae hefyd yn arddangos y newid deddfwriaethol presennol sy'n cydnabod o'r diwedd fod plant yn ddioddefwyr cam-drin domestig ac yn profi niwed sylweddol. Mae hynny'n cysylltu â pholisi diogelu plant y Comisiwn sydd newydd gael ei ddiwygio. Mae cymorth y Comisiwn hefyd yn cynnwys darparu benthyciad cam-drin domestig newydd, oherwydd yn aml iawn, mae pobl yn gadael heb ddim byd o gwbl. Yn ddiweddar—y mis Hydref hwn—mae swyddogion y Comisiwn wedi trafod gweithgareddau i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig gyda sefydliadau cydweithredol yn y sector cyhoeddus—cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n cydweithio â'i gilydd.
2. Pa feini prawf hanfodol ar wahân i'r gost a ddefnyddiodd y Comisiwn i ddewis y contractwr newydd ar gyfer ffreutur y Senedd? OQ58658
Roedd y meini prawf gwerthuso ansoddol a ddefnyddiwd er mwyn aildendro’r gwasanaethau arlwyo yn cynnwys amrywiaeth o feysydd i gyflawni amcanion y Senedd ar gyfer y gwasanaeth. Cafodd cost a gwerthuso ansawdd eu rhannu 30:70—30 y cant ar gyfer cost a 70 y cant ar gyfer ansawdd.
Roedd enghreifftiau o'r prif feini prawf gwerthuso ansawdd yn cynnwys, er enghraifft, sut y byddai'r gwasanaeth yn cefnogi ein hamcanion cymdeithasol ac amgylcheddol, ac amcanion o ran cynaliadwyedd, dulliau arloesol ar gyfer y gwasanaeth, a recriwtio a datblygu staff. Cafodd y ddarpariaeth o ran bwydlenni a ryseitiau hefyd eu hystyried ar gyfer y gwasanaeth, gan gynnwys gwasanaethau lletygarwch, a hyn i gyd wedi'i werthuso o fewn y 70 y cant ar gyfer ansawdd.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Rwy'n falch o glywed mai dim ond 30 y cant o'r meini prawf oedd cost. Ond rwy'n meddwl mai un o'r materion sy'n codi—hynny yw, mae yna sawl mater. Un, wrth gwrs, yw bod cost bwyd wedi codi, ac felly, mae'n anodd iawn cymharu'r contractwr blaenorol â'r contractwr presennol wrth i chwyddiant bwyd godi'n gyflym. Ond roedd gan gontractwr blaenorol y ffreutur, Chartwells, achrediad Bwyd am Oes gan Gymdeithas y Pridd, a sicrhaodd hyn fod sicrwydd ansawdd wedi'i roi i'r bwyd, hynny yw, yr hyn a gâi ei ddarparu oedd yr hyn y dywedid ei fod yn cael ei ddarparu. A oes sicrwydd ansawdd gan y contractwr newydd, ac os nad oes, sut y gallwn wybod mai'r hyn y mae'n honni bod yw'r hyn rydym yn ei fwyta? Yn sgil gweithredoedd gwyrddgalchu llawer o weithredwyr masnachol, a ydych yn cytuno â mi y gallai hyn beryglu enw da'r Senedd a chyhuddiadau o, 'Gwnewch yr hyn a ddywedwn, nid yr hyn a wnawn'?
Ni allaf ateb yn benodol yn yr achos hwnnw; nid oes gennyf yr wybodaeth wrth law ynglŷn â'r achrediad penodol hwnnw, ond rwy'n fwy na pharod i edrych arno. Mae'n achrediad pwysig gan Gymdeithas y Pridd. Rwy'n fodlon darganfod a yw hynny'n wir am y contractwr newydd, a byddaf yn ysgrifennu atoch gyda'r cadarnhad hwnnw, neu fel arall. Ac os mai 'fel arall' ydyw, byddaf yn edrych i weld pam fod y contractwr presennol wedi cael ei ddewis yng ngoleuni hynny ac a oes unrhyw agweddau eraill ar feini prawf y contractwr presennol sy'n cyflawni'r hyn a wnaed gan y contractwr blaenorol, neu hyd yn oed yn rhagori ar hynny. Felly, fe wnaf rywfaint o gloddio, os nad oes ots gennych—heb chwarae ar eiriau'n fwriadol—ar achrediad Cymdeithas y Pridd. Fe wnaf rywfaint o gloddio ar hyn ac fe wnaf sicrhau bod y Senedd yn cael gwybod am yr achrediad penodol a godwyd gennych, ac mae'n faes pwysig imi ei archwilio.
Rwy'n credu mewn darparu gwasanaethau'n uniongyrchol ac rwy'n gwrthwynebu contractio allan o wasanaeth cyhoeddus i gontractwyr preifat. A wnaeth y Comisiwn ystyried dod â'r contract yn fewnol, ac os gwnaethant, pam y gwrthodwyd hynny?
Rydym wedi ymchwilio nifer o weithiau i nifer y contractwyr rydym yn eu contractio'n allanol, ac a yw darpariaeth fewnol uniongyrchol yn well, o ran ansawdd a chost. Hyd yn hyn, ni phrofwyd ei bod; gallaf ysgrifennu at yr Aelod gydag unrhyw ddadansoddiad penodol a wnaed ar y contract penodol hwn. Bydd yn rhaid iddo fy esgusodi na allaf ei gofio ar hyn o bryd, ond rwy'n hapus i ddarparu'r dystiolaeth honno. Ond gallaf roi cadarnhad i chi ein bod yn adolygu mater darpariaeth uniongyrchol yn rheolaidd. Fel chi, yn reddfol, rwy'n cefnogi darparu gwasanaethau'n uniongyrchol. Rydym wedi ei weld yn gweithio er ein budd fel Comisiwn, wrth gwrs, pan ddaethom â gwasanaethau TGCh yn fewnol, a gwelsom sut y gweithiodd hyn o'n plaid yn enwedig yn ystod y pandemig. Ond fe wnaf gadarnhau rhai o'r pwyntiau hyn i chi o ran pryd y cafodd hynny ei adolygu ddiwethaf.
Diolch.
3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu TGCh ar gyfer Aelodau yn y Siambr? OQ58669
Mae defnydd technoleg gwybodaeth gan Aelodau wedi trawsnewid ers dechrau'r pandemig. Mae'r Comisiwn wedi parhau i ysgogi'r gwelliannau sydd eu hangen i ddarparu ar gyfer gwahanol arferion gwaith. Mae cyflwyno Zoom ac ap pleidleisio ar y we, ochr yn ochr â gwella technolegau clywedol, darlledu a chyfieithu ar y pryd, yn caniatáu i Aelodau gymryd rhan yn effeithiol yn y Cyfarfod Llawn, p'un ai ydyn nhw'n bresennol fan hyn yn y Siambr neu yn rhan o'r cyfarfod o bell.
Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am hynny. Lywydd, rwyf am i chi dynnu'r cyfrifiaduron gwrthun hyn sydd wedi'u gosod o'n blaenau. Maent yn gwbl amhriodol ar gyfer Siambr drafod; fe'u cynlluniwyd ar adeg cyn bod gennym iPads a chyn inni fod â gallu i gyfathrebu yn y ffordd y gallwn. Mae'n ymateb ugeinfed ganrif i angen nad yw'n bodoli yn yr unfed ganrif ar hugain. Dylai hon fod yn Siambr drafod lle rydym yn trafod beth sy'n bwysig i bobl Cymru, a lle rydym yn gwrando ar ein gilydd, ni waeth beth sy'n cael ei ddweud, ac nid yn parhau i ateb negeseuon e-bost, y gallwn ei wneud mewn unrhyw ffordd arall, ar unrhyw adeg arall. Mae'n rhaid i'r lle hwn fod yn dalwrn i'r genedl, yn ganolbwynt i'n dadl gyhoeddus, ac nid yn ganolfan alwadau.
Wel, dwi ddim yn cydweld, efallai, gyda'r iaith flodeuog yr oedd yr Aelod yn ei defnyddio yn llwyr, ond dwi yn gallu gweld fod yna amser yn mynd i gyrraedd pan nad yw'r union gyfrifiaduron statig yma o'n blaenau ni ddim bellach yn ddefnyddiol. Dwi wedi bod yn edrych o'm cwmpas i wrth i chi ofyn y cwestiwn. O'r tri Aelod sydd agosaf i fi fan hyn, dwi'n gallu gweld bod un yn edrych ar y papur sydd o'i flaen ef, un yn edrych ar y cyfrifiadur sydd o'i blaen hi, ac un arall yn edrych ar y ffôn sydd o'i flaen ef. A dwi hefyd yn ddefnyddiwr ffôn o fewn y Siambr yma. Felly, mae Aelodau'n defnyddio amrywiol ffyrdd o edrych ar y gwaith o'u blaenau nhw, o gysylltu gydag etholwyr, hyd yn oed pan fyddan nhw yma, neu o gymryd rhan yn y drafodaeth. Fy marn i, ar y cyfan, yw dyw e ddim ots pa gyfrifiadur sydd o'ch blaen chi neu beidio ar y pwynt yma; mae'r drafodaeth yn ddiddorol ac yn fywiog pan fo Aelodau yn cyfrannu hynny mewn ffordd ddiddorol a bywiog, ac mae hynny'n tynnu diddordeb cyd-Aelodau, jest fel mae'ch cwestiwn chi newydd hala bob un, bron, o'r bobl sydd o'n cwmpas ni, i edrych lan o'u cyfrifiaduron yn sydyn iawn, achos roedd Alun Davies yn dweud rhywbeth diddorol mewn ffordd ymfflamychol. Felly, buaswn i'n dweud taw nid bai'r offer, y cyfrifiaduron, yw e; gadewch i'r Aelodau wneud y drafodaeth o fewn y Siambr yma'n ddiddorol ac yn heriol, ac fe fydd yr offer yn dilyn ac fe fyddan nhw yma yn yr unfed ganrif ar hugain, fel mae'n ffôn i o'm mlaen i ar y pwynt yma.
4. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i gefnogi aelodau staff yn ystod yr argyfwng costau byw presennol? OQ58645
Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i lesiant ei staff, ac rydym yn ymwybodol iawn y bydd yr argyfwng costau byw presennol yn bryder gwirioneddol i lawer. Rydym hefyd yn ymwybodol y bydd yn fater personol iawn i rai, efallai na fyddant yn teimlo'n gyfforddus yn ei rannu gyda'u cyflogwr. Am y rhesymau hynny, rydym wedi tynnu ynghyd cyfres o adnoddau ariannol ac ymarferol y gellir cael gafael arnynt yn hawdd ac yn gyfrinachol drwy dudalennau pwrpasol ar ein mewnrwyd. Mae'r rhain yn amrywio o gyfres o gynlluniau aberthu cyflog i linellau cymorth ac arwyddbyst cyfrinachol ar gyfer llesiant meddyliol ac ariannol, awgrymiadau ymarferol hefyd ar gyfer lleihau costau, ac, i'r rhai sydd eu hangen, taliadau cyflog cynnar di-log. Cyhoeddir y deunyddiau cyfathrebu am y rhain yn rheolaidd gyda'n staff.
Diolch am yr ateb hwnnw, Lywydd. Mae'n ddefnyddiol iawn. Fel y gwyddom, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar nifer o bobl a theuluoedd ledled Cymru, ac mae pobl yn ei chael hi'n anodd. Er bod y rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig yn cael eu heffeithio'n anghymesur, mae pobl sydd ar y cyfan yn cael eu gweld fel rhai sy'n llwyddo i ddal eu pennau uwchben y dŵr mewn amgylchiadau mwy arferol yn wynebu anawsterau gwirioneddol. Wrth ofyn y cwestiwn, rwy'n sylweddoli fod sawl un sy'n cael eu cyflogi gan y Senedd neu'r rhai sy'n gweithio fel staff cymorth yn cael eu talu'n well o'i gymharu â sectorau eraill, ond nid yw hynny'n golygu nad ydynt yn ei chael yn anodd iawn, fel rydych chi wedi cydnabod. Mae'n bwysig, felly, fod y Senedd, fel cyflogwr cyfrifol, yn gwneud popeth y mae'n gallu ei wneud i gynorthwyo ei gweithwyr a'u teuluoedd, ac mae angen i'r cymorth sydd ar gael fod yn deg—hynny yw, ar gael ac yn hygyrch i staff y Comisiwn a staff cymorth Aelodau.
Lywydd, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda chydweithwyr ynglŷn â'r ffyrdd y gall y Senedd roi cymorth a chyngor i aelodau staff a allai fod yn wynebu anawsterau? Gwn eich bod eisoes wedi cyfeirio at rywfaint o hynny. Efallai y gallem ddefnyddio'r tudalennau mewnrwyd i ddarparu mwy o gyfleuster siop-un-stop. Ac roeddwn yn meddwl tybed a wnaed unrhyw waith gyda'r bwrdd taliadau i weld pa bethau pellach y gellid eu gwneud i helpu aelodau staff yn y cyfnod anodd hwn.
Wel, ie, fel rydych wedi amlinellu yn eich cwestiwn atodol yn ogystal â'r ateb a roddais, mae'r rhain yn broblemau real a dybryd i aelodau staff, pobl sy'n gweithio ar ein hystad yn ystod y misoedd hyn, ac mae pryder, wrth gwrs, ynglŷn â beth fydd gan y dyfodol i'w gynnig i rai. Fel y pwysleisiais yn fy ateb, gobeithio, rydym yn ymwybodol o hyn; rydym wedi ei drafod fel Comisiwn yn ein cyfarfod diweddaraf ddydd Llun, ac rydym yn ymwybodol o'r angen i sicrhau bod yr holl staff, ar sail deg, yn gallu cael gwybodaeth a chymorth a defnyddio ein tudalennau mewnrwyd yn enwedig i edrych ar hynny, a byddwn yn annog yr holl staff i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud eu hunain yn ymwybodol yn rheolaidd o unrhyw gymorth sydd ar gael.
Rwy'n gwybod bod y bwrdd taliadau hefyd yn ymwybodol o oblygiadau'r argyfwng costau byw i staff cymorth Aelodau ac wedi darparu rhywfaint o gymorth eisoes ar ffurf lwfans i aelodau staff a allai fod yn gweithio gartref ac sydd â chostau cynyddol oherwydd hynny, ac rwy'n siŵr fod y bwrdd taliadau yn mynd ati i chwilio am unrhyw wybodaeth bellach y gallant ei chael ynglŷn â lle'n union mae'r pwysau a bydd yn ymateb i'r ceisiadau ac yn eu hystyried yn unol â hynny.
Diolch, Llywydd a Joyce Watson.
Eitem 4 y prynhawn yma yw cwestiynau amserol, ac mae un cwestiwn wedi'i dderbyn, a galwaf ar Russell George i ofyn y cwestiwn hwnnw.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am streic posib gan nyrsys? TQ674
Rwyf newydd glywed bod y trothwy gofynnol o ran y ganran a bleidleisiodd wedi'i gyrraedd ar gyfer aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol ym mhob un o sefydliadau cyflogwyr y GIG yng Nghymru, ac eithrio bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ac ym mhob un o'r rhain, llwyddwyd i gael mandad mwyafrif syml ar gyfer streicio. Felly, i fod yn glir, yng Nghymru, mae nyrsys sy'n aelodau o'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi pleidleisio dros streicio ym mhobman ac eithrio bwrdd iechyd Aneurin Bevan.
Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn cydnabod pam fod cymaint o nyrsys wedi pleidleisio yn y modd y gwnaethant, oherwydd yr argyfwng costau byw a achoswyd gan y Torïaid, yn ddi-os, a hefyd, y pwysau gwaith cynyddol y mae llawer o nyrsys yn ei wynebu. Ac a gaf fi fod yn glir ein bod yn cytuno y dylai nyrsys gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith pwysig, ond mae cyfyngiadau ar ba mor bell y gallwn ni fynd i fynd i'r afael â'r pryderon hyn yng Nghymru heb arian ychwanegol gan y Llywodraeth Geidwadol ar lefel y DU?
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rydym yn gwybod, yn yr hanner awr ddiwethaf, fel rydych wedi dweud, fod chwe o'r saith bwrdd iechyd ledled Cymru wedi ymateb i ganlyniad pleidlais streic y Coleg Nyrsio Brenhinol, ac y bydd streiciau'n digwydd yn ardaloedd y byrddau iechyd hynny.
Rhaid imi ddweud, Weinidog, mae eich ymateb yn fy siomi, wrth ichi geisio gwrthod eich cyfrifoldeb. GIG sy'n cael ei redeg gan Lafur yw hwn yng Nghymru, eich cyfrifoldeb chi ydyw, a phroblem i chi ei datrys yw hi. Ac mae eich ateb y prynhawn yma yn fy siomi. Yng Nghymru, gwyddom fod un rhan o bump o'r boblogaeth ar restr aros y GIG, gyda 60,000 o'r rheini yn aros ers dros ddwy flynedd, yr ymatebion hiraf i alwadau coch am ambiwlans a gofnodwyd erioed, a'r amseroedd aros gwaethaf ym Mhrydain mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, y peth olaf sydd ei angen arnom yng Nghymru, ac sydd ei angen ar bobl Cymru, yw i nyrsys fod ar streic. Nawr, rwy'n deall bod datrys y broblem hon yn anodd. Rwy'n deall hynny—nid yw'n hawdd. Ond eich anghydfod chi yw hwn i'w ddatrys, Weinidog. Mae'n gyfrifoldeb i'r Llywodraeth Lafur yma. Rwy'n gobeithio bod pob cyfle wedi'i gymryd, pob cyfle posibl wedi'i gymryd, i osgoi cyrraedd y pwynt hwn ac atal streicio. Felly, a gaf fi ofyn ichi, Weinidog: a wnewch chi ddweud wrthyf sawl gwaith rydych chi wedi cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol i negodi'r codiad cyflog arfaethedig; pa ddull y bwriadwch ei fabwysiadu i ddod ag unrhyw streic i ben; pa effaith y credwch y bydd y streic yn ei chael ar yr amseroedd aros hir hynny ar gyfer triniaeth frys a dewisol rwyf newydd eu nodi; ac yn olaf, beth fydd y gost, os o gwbl, o gael nyrsys asiantaeth i lenwi yn ystod unrhyw streic?
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud yn gwbl glir, heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, y bydd yn amhosibl, o fewn y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol bresennol, i ddarparu’r math o godiad cyflog yn unol â chwyddiant i’r GIG heb wynebu—
Gadewch i’r Gweinidog ateb fel y gall pawb ohonom glywed.
—toriadau anodd iawn y byddai’n rhaid eu gwneud mewn mannau eraill yn y gyllideb iechyd. Ac mae hynny'n hynod o anodd—. Os hoffai roi rhai syniadau i mi o ble yn union y mae'n credu y dylem wneud toriadau i dalu am hyn, rwy'n glustiau i gyd.
Nawr, hoffwn ddweud yn glir ein bod, yng Nghymru, yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd iawn â'r Coleg Nyrsio Brenhinol. Rydym mewn trafodaeth, sy’n drafodaeth barhaus. Wrth gwrs, byddwn yn parhau, nawr ein bod yn gwybod canlyniadau’r bleidlais, i drafod pa gynlluniau wrth gefn y bydd angen inni eu rhoi ar waith. Ni fyddwn yn defnyddio nyrsys asiantaeth i lenwi unrhyw fylchau, gan ein bod yn parchu’r hawl i streicio yng Nghymru, ac rydym yn deall nad yw’r nyrsys wedi gwneud hyn ar chwarae bach, ac rydym yn deall cryfder teimladau’r aelodau. Credaf mai dyma’r bleidlais statudol gyntaf ar weithredu diwydiannol ledled y DU yn hanes 106 mlynedd y Coleg Nyrsio Brenhinol. A gaf fi ddweud yn glir hefyd y byddem yn disgwyl ac y byddwn yn parhau i gael sgyrsiau gyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol am y rhanddirymiadau a fyddai’n digwydd ar adeg y streic? Mewn geiriau eraill, byddem yn disgwyl i ofal brys a gofal canser barhau, er enghraifft, a byddwn yn cael y sgyrsiau hynny yn yr wythnosau nesaf.
Yn gyntaf, a gaf fi nodi fy nghefnogaeth i holl aelodau’r Coleg Nyrsio Brenhinol a’r ffordd y gwnaethant bleidleisio? Nid oes unrhyw un yn dymuno gweld gweithredu diwydiannol yn digwydd, ac mae hynny’n cynnwys, yn fwy na phawb, y nyrsys eu hunain. Ond mae'r ffaith bod y bleidlais hon wedi'i chynnal yn y lle cyntaf yn dweud popeth y mae angen inni ei wybod ynglŷn â sut mae nyrsys yn teimlo. Nawr, drwy ddegawd a mwy o doriadau i wasanaethau cyhoeddus a thoriadau amser real i gyflog nyrsys, mae Llywodraeth y DU wedi creu argyfwng. Gallwn recriwtio nyrsys, oherwydd, diolch byth, mae gennym ddigon o bobl sy’n awyddus i ofalu, ond ni allwn ddal gafael ar nyrsys, am eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol. Ac er nad yw hynny'n ymwneud yn gyfan gwbl â gwobrwyon ariannol—rydym yn dal i aros am estyniad i adran 25B o'r ddeddfwriaeth lefelau staffio diogel, er enghraifft—mae'n rhaid inni ddangos, drwy becynnau cyflog nyrsys, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Felly, ni ddylai Llywodraeth Geidwadol y DU fod wedi creu’r argyfwng hwn; dylent fod wedi dadwneud y difrod a achoswyd ganddynt hwy eu hunain. A dylai Llywodraeth Lafur Cymru fod wedi achub ar y cyfle, os nad pan oedd yr haul yn tywynnu—gan nad yw wedi tywynnu ers peth amser—ond o leiaf cyn iddo ddiflannu y tu ôl i'r cymylau economaidd tywyll iawn rydym yn eu hwynebu bellach, i fynd i'r afael â'r toriadau i gyflogau sydd wedi cronni dros amser, a’r elfennau eraill hynny sydd wedi cyfrannu at anghynaliadwyedd nyrsio yng Nghymru.
Nawr, dim ond crib y rhewfryn yw cyflogau, fel y dywedaf—mae cymaint o faterion y mae angen mynd i'r afael â hwy—ond mae nyrsys wedi cymryd toriad cyflog am y 10 mlynedd diwethaf. Rwy'n deall bod y Gweinidog yn dal i wrthod cyfarfod a thrafod cyflogau gyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol, ond mae’n ddrwg gennyf, mae’n rhaid i’r angen i negodi beidio â bod yn agored i drafodaeth. Nawr, os gall yr Alban gymryd y cam cyntaf i flaenoriaethu eu nyrsys drwy gynyddu eu cyflog yno 7 y cant, pam na allwn ninnau wneud hynny? Rwy'n cytuno'n llwyr â’r Gweinidog fod yn rhaid i’r Ceidwadwyr yn Llywodraeth y DU ysgwyddo'r bai am wneud y toriadau i wasanaethau cyhoeddus, ond mae camau y gall Llafur eu cymryd yma yng Nghymru. Pryd y byddwn yn cymryd y camau y mae Llywodraeth yr Alban wedi’u cymryd yn yr Alban?
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud yn glir ein bod wedi bod yn recriwtio i’r gweithlu yng Nghymru, o ran nyrsys, ers sawl blwyddyn? Rydym wedi gweld cynnydd o 69 y cant yn nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys yng Nghymru ers 2016. Yr her, fel y dywedoch chi, yw eu cadw, ac rydym yn deall hynny. Mae'r nyrsys hyn wedi bod dan bwysau aruthrol, yn enwedig yn ystod COVID. Rydym yn deall bod y pwysau hwnnw wedi bod yn ddi-ildio, a deallwn hefyd eu bod yn wynebu gaeaf anodd iawn. Bydd y sgyrsiau hynny'n parhau.
Rydym yn cael sgyrsiau rheolaidd â’r Coleg Nyrsio Brenhinol, ond mae’n rhaid imi ddweud yn gwbl glir nad oes unrhyw arian ar ôl yng nghyllideb y GIG. Felly, os ydym am ddod o hyd i’r arian hwn, byddai’n rhaid inni ei dorri o’r gwasanaethau a ddarparwn i’r cyhoedd yng Nghymru, ac fel y mae pob un ohonoch wedi'i nodi, mae llawer o bobl eisoes yn aros am lawdriniaethau yng Nghymru. Felly, bydd yn rhaid inni wneud dewisiadau anodd iawn yma.
Gwn fod Plaid Cymru, er enghraifft, yn awyddus iawn inni anrhydeddu’r ymrwymiad i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Unwaith eto, bydd yn rhaid inni ddod o hyd i’r arian hwnnw o rywle arall. Felly, gadewch inni fod yn gwbl glir fod gwneud penderfyniadau gwleidyddol yn fater o benderfynu beth yw eich blaenoriaethau gwleidyddol. Mae'n anodd iawn pan fydd gennych gronfa gyllid gyfyngedig sydd yn y cyflwr hwnnw ac sy'n mynd i waethygu'n sylweddol oherwydd yr anhrefn y mae'r Llywodraeth Dorïaidd wedi'i orfodi arnom dros yr wythnosau diwethaf.
Yr hyn y mae angen inni ei weld yw Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am gyflog nyrsys ac yn rhoi’r gorau i daflu'r baich ar San Steffan pryd bynnag y bydd pethau’n mynd yn anodd. Chi sy'n torri’r gacen yn y pen draw, Weinidog, ac mae gennych reolaeth lwyr dros y mater hwn. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno cynnig cyflog a fydd yn rhoi codiad cyflog o £2,205 i nyrsys yn y wlad, gyda’r Ysgrifennydd iechyd, Humza Yousaf, yn dweud y byddai’r fargen newydd ar gyfer cylch cyflog 2022-23 yn adlewyrchu gwaith caled staff y GIG ac
'yn gwneud llawer i'w helpu drwy'r argyfwng costau byw.'
Nawr, nid wyf yn cytuno â gwleidyddiaeth y rheini sy'n rhedeg Llywodraeth yr Alban, ond maent o leiaf wedi dangos rhywfaint o ddewrder a rhywfaint o arweiniad wrth ymdrin â chyflogau nyrsys, sydd wedi atal streic gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn yr Alban. A ydych yn barod i sefyll yma y prynhawn yma fel Gweinidog Llafur, yng nghysgod Nye Bevan, a llywyddu dros y streic nyrsys gyntaf y mae’r wlad hon erioed wedi’i gweld, a’r cyfan am na all y Llywodraeth hon gael trefn ar bethau? Rydym ar drothwy'r gaeaf gyda’r holl bwysau sy'n gysylltiedig â hynny, ac mewn sefyllfa, am y tro cyntaf erioed, lle mae staff rheng flaen hanfodol ein GIG yn debygol o gerdded allan. Pryd rydych chi'n mynd i ddangos rhywfaint o ddewrder, ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb a rhoi'r cyflog y maent yn ei haeddu i'n gweithwyr diwyd yn y GIG?
Gofynnodd Russell George i chi yn ei gwestiwn sawl gwaith rydych wedi cyfarfod â’r Coleg Nyrsio Brenhinol, ac rydych wedi gwrthod ateb, Weinidog iechyd. Felly, a wnewch chi ateb y cwestiwn hwnnw ynglŷn â sawl gwaith rydych chi wedi cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol? Diolch.
Wel, nid wyf am wrando ar bregeth gan Dori ar sut i ymdrin â'r GIG. Nid wyf am wrando ar bregeth gan Dori. A chysgod Nye Bevan—yn sicr, rwy’n teimlo cyfrifoldeb gwirioneddol i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i bobl Cymru. Ac mae hynny'n golygu cadw ein ffrindiau a'n cydweithwyr ym maes nyrsio yn ddiogel yn y GIG, a sicrhau eu bod yn hapus yn eu gweithle. A byddwn yn parhau i gael y sgyrsiau hynny.
Fel y dywedaf, rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â’r Coleg Nyrsio Brenhinol, o leiaf bob chwarter—o leiaf bob chwarter—ac yn ychwanegol at hynny, ar adegau eraill.
Ond a gaf fi roi rhywfaint o gefndir i chi ynglŷn â sut rydym wedi dod yma heddiw, gan fod y dyfarniad cyflog sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd yn gweithredu argymhellion corff adolygu cyflogau'r GIG yn llawn? Ac fel rhan o broses y corff adolygu cyflogau, mae gan bartïon amrywiol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ond gan gynnwys undebau llafur hefyd, allu i gyflwyno tystiolaeth i’w hystyried, ac yna mae’r bwrdd adolygu cyflogau annibynnol yn cyflwyno eu cynnig. A'r hyn rydym wedi'i wneud yw derbyn eu hargymhellion, ac mae hynny wedi digwydd ers blynyddoedd lawer. Os byddwn yn camu allan o hynny, rydym yn agor byd cwbl newydd lle mae angen inni ystyried beth sy'n digwydd os yw hynny'n digwydd. Felly, nid ydym yn y sefyllfa honno, ac fel y dywedaf, mae'n mynd i fod yn anodd iawn inni ddod o hyd i unrhyw gyllid ychwanegol.
Nodyn i Gareth Davies—mae’r gacen wedi lleihau dros y 12 mlynedd diwethaf, a dyna pam fod y sector cyhoeddus cyfan yn ei chael hi mor anodd gyda'i gyllidebau, gyda'r adnoddau sydd ganddo i ddarparu’r gwasanaethau. Felly, nid oes mwy o arian, gan fod y posibilrwydd y bydd Llywodraeth y DU yn ysgwyd y goeden arian hud yn sydyn ac yn rhoi mwy o arian i ni yn anfeidrol fach. Felly, fy nghwestiwn i, Weinidog, yw hwn: rwy’n sylweddoli mai newydd gael y wybodaeth hon rydych chi, ond yr hyn sy’n ddiddorol iawn am yr hyn rydych newydd ei ddweud yw nad yw bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi dilyn y chwe bwrdd iechyd arall drwy bleidleisio dros streic, ac roeddwn yn meddwl tybed a ydych wedi cael amser i fyfyrio ai'r rheswm am hynny yw oherwydd bod Aneurin Bevan yn arwain y sector yn gyson yn y ffordd y mae'n darparu gwasanaethau, ac yn eu hail-lunio'n gyson i allu diwallu anghenion pobl yn well, ac a yw hyn wedi galluogi staff yn Aneurin Bevan i gael llai o straen yn eu bywyd gwaith, sydd wedi eu gwneud yn llai tebygol o streicio.
Diolch yn fawr, Jenny. Yn sicr, rydym bob amser yn awyddus i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Yn amlwg, nid wyf wedi cael cyfle i ystyried yr hyn sy'n digwydd yn Aneurin Bevan a pham, efallai, eu bod wedi mynd ar drywydd ychydig yn wahanol. Fy nealltwriaeth i yw na wnaethant gyrraedd y trothwy ar gyfer y niferoedd o bobl i gymryd rhan, ond nid wyf wedi gweld yr union ffigurau, felly edrychaf ymlaen at ddadansoddi'r canlyniadau hynny a gweld beth sy'n digwydd yno sy'n wahanol i ardaloedd eraill. Ond fel y dywedaf, rwy’n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn parhau â’r sgwrs gyda’n partneriaid yn yr undebau llafur, ac i sicrhau, lle gallwn, y gallwn gydsefyll gyda’r nyrsys, sy’n sicr yn haeddu dyfarniad cyflog.
Ac, yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, rwyf am ddatgan y ffaith bod aelod agos o’r teulu yn aelod o’r Coleg Nyrsio Brenhinol, cyn imi siarad ynglŷn â hyn. Gŵyr pob un ohonom fod nyrsys o dan bwysau aruthrol. Gŵyr pob un ohonom hefyd y bu nyrsys ar y rheng flaen ac yn hollbwysig yn ystod y pandemig, a bod eraill wedi mynd allan bob nos Iau i gymeradwyo eu hymdrechion i geisio ein hamddiffyn rhag y cyfraddau marwolaeth a'r effeithiau gwaethaf, gan fentro'u crwyn eu hunain ar y rheng flaen ar yr un pryd. Cyflwynwyd a chytunwyd ar y dyfarniad cyflog, fel y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud, gan y corff adolygu cyflogau, ac mae wedi’i dalu’n llawn, ond y pwynt yn y fan hon yw bod hynny wedi digwydd cyn i’r ddeuawd—Truss a Kwarteng—ddinistrio'r economi, gan roi straen aruthrol ar deuluoedd a gwasanaethau cyhoeddus. Ni allwn ddianc rhag hynny, a gallaf glywed y distawrwydd draw yno nawr; nid ydynt yn ceisio gwneud hynny.
Felly, credaf mai'r hyn sydd angen digwydd yma—. Ac mae gennym ddatganiad ar y gweill, ond rydym yn answyddogol a bob yn dipyn yn dod i ddeall bod y Torïaid yn bwriadu torri gwariant cyhoeddus. Maent wedi gwneud hynny'n berffaith glir, ac maent yn dweud hynny wrthym bob yn dipyn. Nawr, os ydych yn mynd i dorri gwariant cyhoeddus, ac efallai fod angen gwers ar y Torïaid yn hyn o beth, bydd hynny'n cynnwys y GIG. Mae hynny'n cynnwys y GIG. [Torri ar draws.] Nid yw'n rhywbeth ar wahân; mae'n wasanaeth cyhoeddus, mae'n wariant cyhoeddus. Felly, yr hyn y gobeithiaf y bydd y Torïaid yn ei wneud yma, gan ei bod yn amlwg eu bod, fel pob un ohonom yma, yn awyddus iawn i wobrwyo ein nyrsys a'r holl staff arall sy'n gweithio i'n hamddiffyn a darparu ein gwasanaethau, yr hyn y gobeithiaf y byddant yn ei wneud yw ysgrifennu at Lywodraeth y DU cyn i’r gyllideb honno dorri’r gwariant cyhoeddus ymhellach fyth, fel y gallwn ddarparu'r hyn y gwyddom ein bod yn dymuno'i ddarparu i'r bobl sy’n darparu’r gwasanaethau hynny i ni. Ac edrychaf ymlaen at gael copïau o'r llythyrau hynny, drwy e-bost neu ar fy nesg; gallant ddewis ym mha ffordd y gwnânt hynny. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r argyfwng costau byw, fel y mae Joyce wedi'i nodi, yn cael effaith ar bawb, ond mae'n taro nyrsys yn ogystal â phobl eraill, ac mae'n wirioneddol ddigalon clywed am nyrsys yn mynd i fanciau bwyd a lleoedd eraill. Mae honno'n sefyllfa anodd tu hwnt. A’r hyn rydym wedi’i weld, fel y dywedoch chi, yw cynnydd enfawr mewn costau ynni, cynnydd enfawr mewn costau bwyd, a bellach, fel y dywedoch chi, diolch i Truss a Kwarteng, yr hyn sydd gennym yw cynnydd mewn morgeisi, a dyna sy'n wirioneddol anodd i bobl. Bydd yn rhaid i bob un o’r nyrsys sy’n berchen ar gartrefi wynebu heriau anodd iawn, o ganlyniad i’r anhrefn yn ein heconomi a achoswyd gan Truss. Ac—a gaf fi ddweud yn gwbl glir—nid oes a wnelo hyn ag eleni yn unig, fel y mae Joyce wedi'i nodi, rydym yn disgwyl toriadau sylweddol y flwyddyn nesaf. Nawr, hyd yn oed os yw’r GIG yn aros ar yr un lefel ag y mae arni ar hyn o bryd, fe wyddom, gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a chyda datblygiadau digidol ac ati, y dylem fod yn gwella’r GIG oddeutu 2 y cant y flwyddyn. Mae hynny’n mynd i fod yn anhygoel o anodd yn y dyfodol. Ond yn ychwanegol at hynny, yr hyn a welwn yw'r swm o arian sydd ar gael i ni ei wario ar y GIG yn lleihau. Felly, rwyf wedi rhoi’r enghraifft hon i chi o’r blaen, ond rwy’n mynd i’w rhoi i chi eto: roeddwn wedi—
A gaf fi ofyn i’r Aelodau fod yn dawel, os gwelwch yn dda? Hoffwn glywed yr ateb gan y Gweinidog, ac mae heclo'r Aelodau ar y meinciau cefn braidd yn swnllyd.
Roedd gennyf £170 miliwn i dalu am yr ôl-groniad, a bellach rwyf wedi cael bil ychwanegol o £207 miliwn ar gyfer cost ynni. Rwyf wedi cael rhywfaint o arian gan Lywodraeth y DU i dalu am hynny, ond heb fod hanner digon. Felly, golyga hynny fod yn rhaid inni ddod o hyd i doriadau yn y GIG. Chi sy'n gyfrifol am hynny. Chi sy'n gyfrifol am hynny, ac nid ydych wedi camu i'r adwy. Ewch i siarad â'ch meistri gwleidyddol yn Llundain.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Ac yn gyntaf, Mike Hedges.
Diolch. Capel y Tabernacl, Treforys. Eleni yw 150 mlynedd ers agor capel annibynnol y Tabernacl yn Nhreforys. Byddai'r rhai oedd yn gwylio Dechrau Canu Dechrau Canmol ddydd Sul wedi gweld y capel yn llawn a gweld ysblander y tu mewn a'r tu allan. Cynlluniwyd gan y pensaer John Humphrey a'i adeiladu ar gost o £15,000 ym 1872, sy'n cyfateb i dros £1 miliwn heddiw. Mae'n gapel mawr.
Nid wyf yn gwybod sut i ddweud hyn yn Gymraeg, ond mae'n adeilad sy'n dangos Treforys, a chaiff ei weld fel capel Treforys.
Cynt, roedd yn gartref i gôr byd-enwog Orpheus Treforys, mae bellach yn cynnal cyngherddau yn rheolaidd ar gyfer côr merched Treforys, côr clwb rygbi Treforys a chôr y Tabernacl.
Fe'i adeiladwyd i gymryd lle Libanus, oherwydd bod hwnnw wedi mynd yn rhy fach i'r nifer oedd yn mynychu'n rheolaidd. Cafodd y dyluniad ei gopïo sawl gwaith mewn mannau eraill yng Nghymru. Y pulpud yw’r canolbwynt, ac islaw hwn mae’r sedd fawr i’r diaconiaid. Mae’r arysgrif Gymraeg uwchben yr organ yn darllen 'Addolwch yr Arglwydd mewn perffaith sancteiddrwydd'.
Fel unrhyw adeilad 150 oed, mae angen ei atgyweirio'n barhaus. Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn cefnogi'r adeilad yn ddiweddar a throi'r festri yn ofod sydd ar gael i'r gymuned. Fel llawer o gapeli Cymru, mae ganddo gynulleidfa sy'n heneiddio ac yn dirywio. Fodd bynnag, dyma'r adeilad nodedig yn Nhreforys—salm 96.
Rwyf wedi gofyn o’r blaen am i’r Tabernacl gael ei droi’n amgueddfa grefydd yng Nghymru. Ni allwn fforddio colli’r adeilad hwn.
Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch S4C, sydd a'i phencadlys yng Nghaerfyrddin, ar ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed wythnos diwethaf. Fe sefydlwyd y sianel ar 1 Tachwedd 1982, a dwi'n siŵr bod nifer ohonom ni yn cofio cwtsho o flaen y teledu ar y noson hanesyddol honno. Mae yna atgofion melys iawn gyda ni o'r lansiad.
Dros y degawdau diwethaf, mae'r sianel wedi creu rhaglenni a chymeriadau eiconig sydd wedi aros yn y cof i sawl cenhedlaeth o wylwyr: Superted, Sali Mali, C'mon Midffîld!, Cefn Gwlad, Pobol y Cwm, ac wrth gwrs gemau rygbi a phêl-droed cofiadwy iawn.
Mae'r sianel wedi datblygu nid yn unig i fod yn rhan bwysig o fywydau personol gymaint ohonom ni, ond mae ei chyfraniad i'n taith i fod yn genedl hyderus, gynhwysol a hyfyw erbyn heddiw wedi bod yn un nodedig iawn.
Tra bo heriau'n parhau, mae'r sianel wedi llwyddo'n rhyfeddol i esblygu wrth i'n harferion gwylio newid gymaint. Pan gafodd S4C ei lansio, dim ond pedair sianel oedd, ond erbyn hyn mae byd digidol ar blatfformau amrywiol yn bodoli, gyda dewis o gannoedd o sianeli. Ond diolch i ddyfeisgarwch y staff a rheolwyr, mae'r sianel wedi llwyddo i adlewyrchu Cymru'r unfed ganrif ar hugain i wylwyr ar draws y byd, gan sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn eiddo i bawb yng Nghymru.
Wrth ddathlu'r 40, rhaid hefyd gydnabod y rheini a ymgyrchodd mor ddiwyd dros ei sefydlu, ac a aberthodd gymaint er budd y sianel: Gwynfor Evans, aelodau Cymdeithas yr Iaith, a phobl gyffredin oedd yn gweld pwysigrwydd cael sianel Gymraeg i ddyfodol yr iaith. Mae ein dyled ni yn fawr iddyn nhw.
Felly, hir oes i'r sianel ac ymlaen i'r 40 mlynedd nesaf. Diolch yn fawr.
Diolch i chi'ch dau.
Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Codi'r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Paul Davies, i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8120 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: 'Codi’r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw.
Ddirprwy Lywydd, mae'r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn hollbwysig i'n cenedl. Bydd eu pwysigrwydd i gefnogi a gwella bywydau yng Nghymru yn amlwg i bawb yn y Siambr hon. Boed hynny ar ffurf stryd fawr brysur, tafarn wledig braf, neu fwyty sy’n gwerthu bwyd a gynhyrchwyd yn lleol wedi’i goginio gan gogyddion arbenigol, mae’r diwydiannau manwerthu a lletygarwch yn rhan ganolog o'n cymunedau ledled Cymru.
Yn ogystal â gwneud defnydd o’n cynnig manwerthu a lletygarwch, a’i wella’n aml, mae twristiaeth yn ein galluogi i ddangos y gorau o Gymru i weddill y byd ac yn darparu 12 y cant o'r swyddi yng ngweithlu Cymru. Yn fyr, mae’r diwydiannau hyn yn gwbl hanfodol i feithrin, cefnogi a hyrwyddo diwylliant a’r bywyd da y mae pob un ohonom yn dymuno'i gael.
Y diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu oedd un o’r meysydd cyntaf a nodwyd gennym i’w harchwilio pan wnaethom gyfarfod i gynllunio blaenoriaethau’r pwyllgor newydd. I ddechrau, gwnaethom nodi’r sectorau hyn gan ein bod yn gwybod eu bod yn wynebu heriau mawr o ganlyniad i’r pandemig. Roedd manwerthu a lletygarwch yn wynebu'r her enfawr o ymadfer ac addasu i'r byd ôl-bandemig newydd. Roedd twristiaeth yn wynebu her ychydig yn wahanol. Roedd y diwydiant wedi'i daro’n galed gan y pandemig hefyd, ond roedd yn wynebu sefyllfa o wledd neu newyn. Yn ystod y cyfyngiadau symud, bu’n rhaid i fusnesau twristiaeth gau, fel y rhan fwyaf o fusnesau manwerthu a lletygarwch, ond wedyn wrth i’r DU ddechrau ailagor, ond pan oedd teithio rhyngwladol yn dal i fod wedi'i wahardd, roedd y diwydiant wedi’i orlethu gan y galw.
Penderfynasom edrych ar y diwydiannau hyn o ddwy ochr. Un oedd hyfywedd economaidd a chynaliadwyedd y sectorau, gan edrych yn arbennig ar yr adferiad wedi COVID a hyfywedd hirdymor. Yr ail elfen roeddem am ymchwilio iddi oedd y gweithlu. Roedd hyn yn cynnwys gwella ansawdd swyddi yn y sector, mynd i’r afael â phrinder llafur, ac edrych yn gyffredinol ar sgiliau yn y gweithlu. Mae’r pwyllgor yn ddiolchgar iawn i’r rheini a roddodd dystiolaeth i’n hymchwiliad, yn enwedig yr unigolion dienw o bob rhan o’r wlad a gwblhaodd ein harolwg ac a roddodd gipolwg gwirioneddol i ni ar sut beth yw gweithio yn y sectorau hyn.
Dywedodd y cyfranogwyr wrthym am yr oriau hir, y cyflogau isel, yr ansicrwydd ynghylch swyddi, diffyg llais y gweithwyr, a'r diffyg parch gan gwsmeriaid a chyflogwyr. Fodd bynnag, dywedasant wrthym hefyd eu bod yn mwynhau gweithio yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu gan fod hynny'n caniatáu iddynt weithio yn eu cymuned leol, yn rhoi hyblygrwydd iddynt yn eu bywydau, ac yn darparu amgylchedd cymdeithasol iddynt. Dywedodd un cyfranogwr wrthym, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae gweithio yn y sector manwerthu’n golygu does dim rhaid i mi symud allan o fy nghymuned ar gyfer gwaith. Dw i’n gallu byw yn yr ardal lle ces i fy magu, lle mae fy iaith yn cael ei defnyddio.'
Dywedodd un arall wrthym, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae'r hyblygrwydd yn gyffredinol yn fy ngalluogi i weithio o amgylch agweddau eraill ar fy mywyd. Mae hefyd yn golygu fy mod i’n gallu gweithio yn fy nghymuned leol, ar gyfer cymaint o swyddi mae angen cymudo neu symud, ond dw i’n gallu aros a gweithio yn y gymuned lle ces i fy magu.'
A chredaf fy mod yn siarad ar ran pawb ar y pwyllgor pan ddywedaf ei bod yn wefreiddiol clywed y cyfranogwyr yn siarad mor angerddol am weithio yn eu cymunedau lleol a lle cawsant eu magu. Yn amlwg, ceir ymdeimlad o falchder ynglŷn â gweithio yn economi ymwelwyr fywiog Cymru, a dyna pam fod angen gweithredu ar unwaith i sicrhau bod gweithio yn y sectorau hyn yn gallu cynnig gyrfaoedd diogel a boddhaus ar gyfer y dyfodol.
Mae ein hadroddiad yn cynnwys 18 o argymhellion ar draws pedwar maes cyffredinol: cymorth busnes, y strategaeth fanwerthu, yr economi ymwelwyr a heriau’r farchnad lafur. Rwy’n falch fod yr holl argymhellion wedi’u derbyn naill ai’n llawn neu mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, ac felly croesawaf ymrwymiad y Gweinidog i gefnogi’r sectorau hyn yn well.
I ddechrau, mae’r adroddiad yn ystyried cymorth busnes a sut y gellir cefnogi’r sector yn well ar ôl y pandemig. Nododd cynrychiolwyr o’r tri sector yn glir eu bod yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi darparu pecyn cynhwysfawr o fesurau cymorth ariannol i fusnesau yn ystod y pandemig, ac maent yn cydnabod bod rhywfaint o’r cymorth hwnnw wedi’i dargedu’n benodol at y diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu. Fodd bynnag, nodwyd nifer o feysydd gan dystion fel rhai sydd angen cymorth a sylw parhaus gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys diwygio a rhyddhad ardrethi busnes, cymorth i fynd i’r afael â chynnydd mewn costau byw, a gwell cymorth i'r gadwyn gyflenwi a chaffael lleol.
Bydd yr ailbrisiad ardrethi annomestig nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, yn seiliedig ar werth eiddo ar 1 Ebrill 2021. Dylai hyn olygu y bydd y gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu effaith y pandemig coronafeirws, ac rwy'n falch, mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu hyn ac a oes angen cymorth trosiannol, neu a yw'n briodol, wrth symud ymlaen. Nododd busnesau ym meysydd lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn glir fod ardrethi busnes yn system fwyfwy anghyfiawn, ac felly gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ystyried eu neges ac yn defnyddio’r ysgogiadau sydd ganddo i helpu i sicrhau bod unrhyw ddiwygio i'r system yn arwain at lawer mwy o chwarae teg i fusnesau wrth symud ymlaen.
Gwyddom hefyd fod busnesau dan bwysau oherwydd y cynnydd mewn costau byw. Mae effaith y rhyfel yn Wcráin, materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi, chwyddiant cynyddol a chostau cynyddol ynni, tanwydd a bwyd oll wedi cyfrannu at gostau byw cynyddol, ac mae hynny’n cael effaith wirioneddol ar fusnesau Cymru. Fel y mae ein hadroddiad yn nodi'n glir, mae sectorau sy'n dibynnu ar wariant disgresiynol aelwydydd ar nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol yn cael eu gwasgu'n dynnach ac yn dynnach, ac mae gweithwyr a pherchnogion busnesau sydd eisoes wedi'u heffeithio'n wael gan y pandemig yn wynebu straen iechyd meddwl cynyddol. Yn wir, mae busnesau sy’n gweithredu mewn ardaloedd mwy gwledig yn enwedig yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan gynnydd mewn costau ynni a thanwydd i redeg eu busnes a chael mynediad at wasanaethau, yn ogystal ag wynebu mwy o brinder sgiliau.
Yng ngoleuni hyn, mae’r pwyllgor wedi argymell y dylai’r Gweinidog nodi a ellir rhoi hyblygrwydd ychwanegol i fusnesau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu wrth ad-dalu benthyciadau i Lywodraeth Cymru neu Fanc Datblygu Cymru yng ngoleuni’r pwysau ariannol parhaus y maent yn ei wynebu. Yn ogystal â hynny, mae’r pwyllgor hefyd wedi argymell y dylai Gweinidog yr Economi ystyried pa gymorth ychwanegol ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y gellir ei ddarparu i’r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n arbennig o falch fod y ddau argymhelliad hyn wedi'u derbyn gan y Gweinidog, oherwydd wrth eu derbyn, mae Llywodraeth Cymru yn dangos i ni eu bod yn gwrando ar y sectorau hyn a'u bod wedi ymrwymo i adolygu'r cymorth y gallant ei gynnig i fusnesau fel rhan o'r gwaith o fonitro'r gyllideb gyfalaf yn ystod y flwyddyn a'r broses o bennu'r gyllideb flynyddol.
Roedd adroddiad y pwyllgor hefyd yn ystyried y strategaeth hir-ddisgwyliedig ar gyfer sector manwerthu Cymru. Cyhoeddwyd y strategaeth ym mis Mehefin, ac mae’r pwyllgor bellach yn edrych ymlaen at weld y cynllun cyflawni a addawyd, cynllun y mae’r Gweinidog yn dweud y bydd yn ystyried y dystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor hwn. Mae'n hanfodol fod pob un ohonom yn deall yn well sut y caiff unrhyw fesurau a chamau gweithredu eu hariannu i ddiwallu anghenion a nodwyd gan y fforwm manwerthu, ac i ba raddau y bydd y rhain yn cael eu hariannu drwy gyllid sy'n bodoli eisoes neu drwy gyllid newydd. A bydd y pwyllgor yn sicr yn monitro'r maes hwn ymhellach maes o law.
Bu’r pwyllgor hefyd yn ystyried ymagwedd Llywodraeth Cymru at yr economi ymwelwyr, a bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gyflwyno ardoll ymwelwyr. Daw hyn ochr yn ochr â rheoliadau diweddar sydd wedi’u rhoi ar waith i gynyddu nifer y dyddiau y mae’n rhaid i lety hunanddarpar gael ei osod bob blwyddyn er mwyn bod yn gymwys i dalu ardrethi busnes yn hytrach na thalu’r dreth gyngor, gan godi'r trothwy o 70 diwrnod i 182 diwrnod. Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei esboniad manwl o’r rhesymeg sy'n sail i’r newidiadau yn ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad. Mae'r ymateb yn nodi bod y mentrau hyn yn cael eu rhoi ar waith i gynyddu bywiogrwydd, annog mwy o ddefnydd o eiddo ac i sicrhau bod twristiaeth yn talu ffordd.
Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor lawer o bryderon ynghylch y newidiadau hyn ac yn enwedig ynghylch cyflwyno’r ardoll. Lle mae trethi twristiaeth yn gweithio, clywsom dystiolaeth fod y gyfradd TAW ar gyfer twristiaeth a lletygarwch yn tueddu i fod yn is na'r lefel sydd gennym yng Nghymru, ac mai ardoll ymwelwyr oedd y dreth anghywir ar yr adeg anghywir. Felly, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor yn hyn o beth, gan ei bod yn amlwg fod angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod y diwydiant yn gweld llygad yn llygad â'r Llywodraeth ar y mater penodol hwn.
Yn olaf, hoffwn sôn yn gryno am y gweithwyr yn y tri diwydiant. Dywedodd TUC Cymru wrthym fod 70 y cant i 75 y cant o weithwyr ym maes twristiaeth a lletygarwch yn ennill llai na’r cyflog byw gwirioneddol, a chafodd hynny ei ategu yn yr adborth a gafodd y pwyllgor o’n cyfweliadau. Fel y dywedais ar ddechrau fy sylwadau, clywodd y pwyllgor fod llawer o bobl wrth eu boddau'n gweithio ym maes lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth, ond clywsom hefyd fod gweithwyr yn poeni am gyflogau isel, sicrwydd ynghylch swyddi a thelerau ac amodau gwael. Gyda thwristiaeth a lletygarwch yn cyflogi cymaint o weithwyr Cymru, mae’n hanfodol fod y Llywodraeth yn gweithio’n galed i wella ansawdd swyddi yn y sector drwy gefnogi busnesau i wella’r hyn a gynigir ganddynt a chynorthwyo gweithwyr i wella eu sgiliau.
Nododd y Gweinidog yn glir fod y contract economaidd yn bwysig i ymgrynhoi dull Llywodraeth Cymru o wella'r sefyllfa ar gyfer y sectorau hyn. Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor dystiolaeth sy'n destun gofid gan undebau, y Ffederasiwn Busnesau Bach a Sefydliad Bevan nad oedd pobl yn deall y contract economaidd yn iawn a’i fod—ar y gorau—yn gyfyngedig ei effaith. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd fod y contract economaidd yn cael ei hyrwyddo'n well a bod y contract yn cael ei fonitro a'i orfodi'n ddigonol i sicrhau ei fod yn cael mwy o effaith ar weithwyr yn y sectorau hyn. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod gweithwyr yn y sectorau hyn yn cael eu gwerthfawrogi. Mae’r rhain yn weithwyr sydd wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau lleol ac sy'n eu gwasanaethu, a rhaid i’r Llywodraeth fynd ati'n rhagweithiol i sicrhau bod y sectorau hyn yn cael eu cefnogi’n well yn y dyfodol.
Ar y nodyn hwnnw, hoffwn ailadrodd fy niolch yn gyflym i bawb a ymgysylltodd â’r pwyllgor yn ystod ein gwaith ar y mater pwysig hwn, a diolch hefyd i’r tîm a gynorthwyodd y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad hwn. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ar fater allweddol cefnogi ein diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu a’r bobl sy’n gweithio’n galed ynddynt i wneud Cymru’n wlad wych i fyw ynddi ac i ymweld â hi. Diolch.
Dwi am ddweud diolch i’r Cadeirydd a’r clercod am eu gwaith ar yr adroddiad hwn, a dwi am ddweud diolch yn benodol am y gwaith oedd wedi digwydd trwy’r tîm ymgysylltu, oedd yn help mawr wrth inni gasglu tystiolaeth gan y gweithwyr yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu, gweithlu sydd yn aml yn ei gweld hi'n anodd i sicrhau bod eu llais a'u profiadau yn cael eu clywed y tu fas i’r lle gwaith. Dwi'n gwybod bod nifer yn ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu at waith y pwyllgor.
Rwyf am ganolbwyntio ar letygarwch yn benodol. Mae'n sector arwyddocaol ynddo'i hun, gan gyflogi 200,000 o bobl yng Nghymru ar ei anterth, ac mae'n sector y mae gennyf lawer o brofiad ynddo. Fodd bynnag, bydd llawer o hyn yn berthnasol i fanwerthu a thwristiaeth.
Pan wnaethom gychwyn ein hymchwiliad i'r sector, roedd llawer ohono'n canolbwyntio ar yr effeithiau a gafodd y pandemig arno fel sector, a'r trafferthion a oedd yn wynebu'r sector wrth iddo fynd i'r afael â'r canlyniadau. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod llawer o hynny wedi ei fwrw i'r cysgod gan yr argyfwng costau byw. Mae pob un ohonom yn cael gohebiaeth ddyddiol gan fusnesau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau sy'n ei chael hi'n anodd aros ar agor. Tynnwyd ein sylw at dreth ar werth ac ardrethi busnes mewn tystiolaeth a gawsom. Mae'r Cadeirydd eisoes wedi cyfeirio at ardrethi busnes; roedd treth ar werth hefyd yn ennyn diddordeb arbennig, o ystyried awydd y sector i beidio â dychwelyd i'r gyfradd o 20 y cant. Rwy'n credu bod Gweinidog yr Economi yn iawn yn yr hyn a ddywedodd: gallai dychwelyd i'r gyfradd o 20 y cant wneud mwy o ddrwg nac o dda i'r economi; yn fwy felly nawr, o ystyried yr argyfwng costau byw.
Diolch i gostau byw, gallwn ychwanegu costau ynni a chwyddiant uchel at y rhestr honno o bryderon hefyd erbyn hyn. Mae bil ynni blynyddol un busnes lletygarwch yn fy rhanbarth, er enghraifft, wedi codi o £15,000 i ychydig o dan £70,000. Dywedodd busnes arall mwy cyhoeddus, Ristorante Vecchio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod eu bil ynni bellach yn £8,000 y mis. Y gwir yw bod angen ymyrraeth ddifrifol gan y Llywodraeth nawr os yw nifer o fusnesau lletygarwch yn mynd i oroesi y tu hwnt i'r gaeaf.
Roedd staffio hefyd yn broblem a godwyd gyda ni fel pwyllgor, a'r frwydr wirioneddol y mae'r sector yn ei hwynebu gyda recriwtio. Clywsom gan y sector, a oedd yn barod i gyfaddef bod materion hirsefydlog yr oedd angen mynd i'r afael â hwy—fel cyflogau, diogelwch swyddi a chydbwysedd bywyd a gwaith—fel man cychwyn. Ond roedd yna awydd brwd iawn i broffesiynoli'r sector hefyd, i ddangos i newydd-ddyfodiaid fod yna lwybr cynnydd, yn ogystal â hyfforddiant, rhywbeth a amlygwyd yn gyson fel awydd o'r dystiolaeth a gasglwyd gan weithwyr. Yn y bôn, mae angen hyn, oherwydd byddwn yn gobeithio y byddai'n arwain at newid diwylliant a newid yn y modd y mae pobl yn trin gweithwyr lletygarwch yn gyffredinol. Ni allaf ddweud wrthych sawl gwaith y cefais i a'm cydweithwyr ein bychanu a'n trin yn nawddoglyd; roedd yn digwydd bob awr, os nad bob munud.
Byddaf bob amser yn cofio un digwyddiad yn benodol. Daeth cwpl i'r bar roeddwn yn gweithio ynddo ar y pryd. Fe wnaethant archebu dau espresso martini. Roeddwn yn gallu dweud yn syth eu bod yn fath penodol o bobl. Nid oherwydd y diodydd y gwnaethant eu harchebu, gan fy mod yn hoff o espresso martini a dweud y gwir, ond gallwn ddweud o'r ffordd y gwnaethant archebu'r diodydd. Dechreuais wneud y diodydd. Fe wnaethant ddechrau siarad am wyliau roeddent wedi ei gael yn ddiweddar, ar gwch hwylio gwerth £1 filiwn eu ffrind, ac fe wnaethant droi ataf a dweud, 'Rhaid bod hynny'n dipyn o sioc ddiwylliannol i chi, onid yw?' Rwy'n credu bod yr Aelodau'n fy adnabod yn ddigon da i wybod beth fyddai fy ymateb wedi bod i hynny, ond mae honno'n un enghraifft sydd gennyf. Mae gennyf lawer mwy o enghreifftiau, ond mae yna filiynau o enghreifftiau eraill allan yno hefyd.
Ond dyna pam fod angen i'r diwylliant newid, a dyna pam y cefais fy nghalonogi wrth weld bod y sector yn cydnabod bod angen y newid hwnnw hefyd. Rwyf wedi rhannu un stori negyddol am letygarwch, ond rwyf am gloi gyda stori gadarnhaol, oherwydd mae'n sector gwych i weithio ynddo, sydd unwaith eto'n cael ei gydnabod yn y dystiolaeth gan weithwyr. Roedd y profiadau a gefais yn wych, a'r ffrindiau a wneuthum yn ffrindiau oes. Fel sector, fe ddysgodd gymaint i mi am bobl, sut i ymdrin â phobl, yn enwedig sut i ymdrin â phobl gyda ffrindiau sydd â chychod hwylio gwerth £1 filiwn. Yn sicr fe roddodd hyder a sgiliau imi allu gwneud yr hyn rwy'n ei wneud nawr. Fe ddysgodd i mi hefyd sut i wneud coctel eithaf da, ac rwy'n siŵr y gallwn gytuno bod hwnnw'n sgìl bywyd gwerthfawr iawn. Ond ar nodyn difrifol, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn nifer o'n hargymhellion yn llawn, neu o leiaf mewn egwyddor, ond mae angen gweithredu i ddilyn hynny. Yn debyg iawn i'r sector, rwyf hefyd yn gweld Llywodraeth Cymru fel partner hanfodol yn adferiad a datblygiad y sector.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy adleisio sylwadau cyd-Aelodau sydd wedi diolch i'r tîm clercio a phawb a roddodd dystiolaeth a helpodd i lywio'r ymchwiliad hwn. Rwy'n credu ei fod yn waith pwysig iawn. Mae tua thraean o weithlu Cymru'n cael eu cyflogi yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu. Yr olaf yn unig, cyflogwr mwyaf y sector preifat yng Nghymru, sydd i gyfrif am ychydig dros 6 y cant o'n gwerth ychwanegol gros cenedlaethol. Felly, mae'r rhain yn rhannau hynod bwysig o'n heconomi.
Pan fyddwn fel arfer yn cynnal ymchwiliad o'r natur hon, rwy'n mynd i'r afael â'r gwaith gydag ysbryd cadarnhaol. Rydym yn ymchwilio i broblem, yn casglu data a thystiolaeth gadarn iawn, yn cyflwyno atebion amhleidiol, ac mae'r rhain, gobeithio, yn arwain at sefyllfa lle rydym yn unioni'r heriau a nodwyd. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, gyda'r ymchwiliad hwn, mae'r heriau wedi mynd yn llawer mwy difrifol, hyd yn oed yn y pum mis ers cyhoeddi ein hadroddiad. Gwn na fydd hyn yn syndod i gyd-Aelodau yn y Siambr, i'r rhai a roddodd dystiolaeth, neu i fusnesau a phobl a gyflogir yn y sectorau.
Cynhaliodd The Caterer, sy'n ymdrin â lletygarwch, arolwg o'r sector ym mis Medi. Dywedodd 80% o'r ymatebwyr fod prisiau ynni cynyddol wedi dileu eu helw. Roedd tri o bob pump yn ofni na fyddai eu busnes yn bodoli ymhen blwyddyn. Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr wedi nodi bod biliau ynni wedi codi dros 100 y cant, gyda 22 y cant yn dweud bod eu costau wedi cynyddu 400 y cant, sy'n syfrdanol. Ddechrau'r wythnos, cyhoeddodd prif weithredwr UKHospitality rybudd llwm ynghylch pa mor eithriadol o agored yw'r sector i amrywiadau prisiau ynni, ac fe gyhuddodd benaethiaid cwmnïau ynni o fudrelwa. Wrth gwrs, effeithir yn ddifrifol ar y sectorau lletygarwch a thwristiaeth gan y ffaith nad oes gan bobl gymaint o arian yn eu pocedi oherwydd yr argyfwng costau byw.
Yn yr un modd, mae'r pwysau hwn hefyd yn cael effaith aruthrol ar weithwyr yn y sectorau. Mae undeb llafur Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol (USDAW) yn cynrychioli gweithwyr siop. Rwy'n aelod o USDAW, ac yn eu harolwg diweddar o weithwyr manwerthu, datgelwyd bod eu hanner yn cael trafferth mynd i'r gwaith oherwydd costau teithio uwch, mae un o bob pedwar gweithiwr yn methu prydau bwyd bob mis i dalu biliau, ac mae tri o bob pedwar yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn cael ei effeithio o ganlyniad i bryderon ariannol. Mae angen clir i'r pwyllgor hwn wneud rhagor o waith yn y maes hwn i archwilio effaith yr argyfwng a chraffu ar ymyriadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rwy'n gobeithio bod hwn yn bwnc y gallwn ddychwelyd ato ac rwy'n gobeithio, ar ben hynny, y bydd ymchwiliadau yn y dyfodol yn gwneud imi deimlo ychydig yn fwy gobeithiol ar gyfer y dyfodol.
Gan droi at argymhellion penodol yr adroddiad, rwyf eisiau gwneud sylw ar ambell syniad allweddol. Yn gyntaf, mae argymhelliad 5 yn galw am gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddiad cyfalaf. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Mae'n rhywbeth rwy'n ei gefnogi. Ond mae'n rhaid inni sylweddoli effaith pwysau gwariant ar gyllidebau Llywodraeth Cymru ers i'n hadroddiad gael ei ysgrifennu ac ers i Lywodraeth Cymru ymateb i'n hargymhellion. Nid costau byw a phrisiau cynyddol yn unig yw hynny, ond annigonolrwydd economaidd Prif Weinidogion Torïaidd olynol a'u criwiau. Fel y cawsom ein hatgoffa gan y Gweinidog cyllid y mis diwethaf, dros y cyfnod gwariant presennol o dair blynedd, bydd gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru hyd at £4 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod y flwyddyn cynt—£4 biliwn yn llai. Mae'r her yn amlwg.
Wrth ddarllen argymhellion 9 i 12, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn ymateb i'n sylwadau. Mae ardoll ymwelwyr, yn fy marn i, yn ddull synnwyr cyffredin o gynhyrchu'r buddsoddiad i wella'r arlwy twristiaeth mewn ardal. Nid oes unrhyw beth newydd am y syniad, ac mae'n arfer safonol mewn llawer o wledydd a thiriogaethau. Yn ddiweddar, penderfynodd cyngor Caeredin gyflwyno ardoll ymwelwyr, a fydd yn cael ei defnyddio i gefnogi gwasanaethau gwastraff a glanhau, ac i sicrhau gwelliannau i fannau cyhoeddus a mannau gwyrdd. Ni fydd tâl bach yn atal ymwelwyr, ac nid wyf yn cytuno â'r sinigiaid sydd ond eisiau bychanu popeth sydd gan Gymru i'w gynnig.
Yn olaf, yr argymhellion sy'n ymwneud â gwaith teg. Unwaith eto, nodaf ymateb Llywodraeth Cymru mai cyfrifoldeb Gweinidogion y DU, i raddau helaeth, yw'r ymyriadau rydym wedi galw amdanynt. Fodd bynnag, edrychaf ymlaen at weld Gweinidogion Cymru yn defnyddio'r arfau sydd ar gael iddynt i wneud yn siŵr fod gweithwyr yn yr holl sectorau hyn yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael y cyflog teg y dylent allu ei ddisgwyl. Diolch.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy adleisio sylwadau fy nghyd-aelodau pwyllgor drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd a'r tîm clercio am lunio'r adroddiad hwn. Daw ar adeg hynod bwysig i'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth, yn enwedig yng nghyd-destun deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, felly rwy'n falch ein bod yn cael cyfle i adolygu economi ymwelwyr Cymru a gosod set gadarn o argymhellion cymesur.
Mae'r diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn gyflogwyr allweddol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae ein harddwch naturiol yn fyd-enwog ac yn cael ei fwynhau gan dwristiaid domestig a rhyngwladol. A phan fyddant yn ymweld, cânt eu croesawu gan ystod gyfan o fusnesau bach a chanolig, a phob un ohonynt yn cynnig cyfleoedd economaidd i fy etholwyr. Gyda hynny, fy mwriad y prynhawn yma yw canolbwyntio ar ddwy agwedd benodol ar yr adroddiad hwn: effaith treth dwristiaeth Llywodraeth Cymru, a'r ysgogiadau gwaith teg sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhwystrau i waith o fewn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn cael eu lleihau.
Mae argymhellion 9 i 11 o'r adroddiad hwn yn gosod gofyniad penodol i Lywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth, tystiolaeth a sail resymegol bendant dros gyflwyno eu treth dwristiaeth. Gofynnwn nid yn unig am y broses feddyliol sy'n sail i'r penderfyniad i fynd ar drywydd y polisi hwn, rydym hefyd eisiau cael gwell dealltwriaeth o allbwn tri phrosiect ymchwil unigol a ymchwiliodd i'r posibilrwydd o gyflwyno treth dwristiaeth yng Nghymru. Fe wnaeth y pwyllgor dynnu sylw'n briodol at farn y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch nad oeddent angen nac eisiau unrhyw fath o dreth neu ardoll dwristiaeth. Awgrymodd cymdeithas twristiaeth Cymru y byddai polisi Llywodraeth Cymru yn fath o drethiant dwbl, ac fe ddywedodd UKHospitality Cymru fod ardoll yn dreth anghywir ar yr adeg anghywir. Yn wir, mae sefydliad arall wedi disgrifio'r polisi hwn fel cam hynod anflaengar ac adwaith difeddwl. Nid yw'n gymeradwyaeth frwd i'ch cynlluniau, Weinidog, a byddwn yn mynd mor bell â dweud mai dyma'r gwrthwyneb llwyr i'r hyn y mae'r diwydiant ei eisiau a'i angen—nid 'sinigiaid', fel y byddai'r siaradwr blaenorol yn ei ddweud, ond y diwydiant ei hun.
Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y tri argymhelliad, ond wrth gyfeirio at argymhellion 9 a 10, roedd y ffaith bod rhaid i'r pwyllgor wthio Llywodraeth Cymru tuag at dryloywder yn siomedig. Rwy'n siomedig na chafodd yr wybodaeth y gofynnwyd amdani ei rhannu gyda'r pwyllgor tan lai na dwy awr yn ôl, ond o leiaf fe gawsom yr wybodaeth honno.
Un ffordd o gefnogi twf busnes yw drwy sicrhau bod busnesau'n gallu tyfu. Wrth wneud hynny, rydym yn buddsoddi'n ôl yn yr economi leol, ac yn ogystal, rydym yn defnyddio ysgogiadau sy'n bodoli eisoes i fynd i'r afael â diffygion cyflogaeth o fewn y diwydiant. Fel y mae argymhelliad 18 yn nodi, ceir rhwystrau sylweddol i waith teg, yn benodol mewn perthynas â chyflogaeth, tâl ac amodau. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae anawsterau wedi codi o ganlyniad i fylchau cyflogaeth lleol, a dangoswyd hyn orau yr haf diwethaf, pan fu'n rhaid i fusnesau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gau yn ystod y tymor prysur oherwydd lefelau staffio isel.
Mae gennym gyfle gwirioneddol i sicrhau bod eich deddfwriaeth yn dryloyw ac yn atebol, ac er efallai y bydd y meinciau hyn a'r diwydiant ei hun yn anghytuno â'ch polisi treth dwristiaeth, mae'n bendant yn ddyletswydd arnoch i ddangos eich sail dros ei chyflwyno i'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth a'r miloedd lawer sy'n cael eu cyflogi ynddo. Gyda'r farn hon, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i weithredu a chyflawni'r argymhellion a wnaed o fewn yr adroddiad hwn cyn gynted â phosibl. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwyf am ddechrau, unwaith eto, fel pawb arall, drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau a'r clercod am eu gwaith ar yr adroddiad hwn. Fel y dywedodd ein Cadeirydd, Paul Davies, dyma un o'r pethau cyntaf i ni ddweud ein bod eisiau ymchwilio iddo, ac mae'n ymddangos yn amser hir iawn yn ôl bellach. Fel y gwnaethoch nodi yn eich rhagair, roeddem yn edrych ar y sefyllfa pan oedd pobl yn cael gwyliau yn y wlad hon, onid oeddem—y bownsio'n ôl ar ôl y pandemig COVID-19. Ac fe wnaeth ailgynnau ymdeimlad o falchder yn ein sectorau twristiaeth, manwerthu a lletygarwch lleol ledled Cymru. Nawr, bron i 18 mis yn ddiweddarach, ar y cyd â hyn, yr union sectorau hyn a gafodd eu cosbi fwyaf gan y cyfyngiadau COVID hynny ar fusnesau, yn enwedig yr economïau bach a lleol yn ein trefi a'n cymunedau, ac maent bellach yn wynebu'r argyfwng costau byw a gallwn ddisgwyl y bydd busnesau, os nad ydynt eisoes yn dioddef, yn wynebu llawer gwaeth.
Felly, rwy'n falch iawn fod hwn wedi'i gyhoeddi bellach a'n bod wedi llwyddo i ymgorffori'r ddwy agwedd ar yr hyn sy'n digwydd i'n busnesau, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion a nodir yn yr adroddiad. Mae yna ymdeimlad llethol o fod angen inswleiddio'r sectorau hyn, ond hefyd, byddai'n braf gweld a allant barhau i ffynnu hefyd yn hytrach na dim ond goroesi drwy'r cyfnod economaidd gwirioneddol anodd hwn.
Fel y crybwyllwyd gan ein Cadeirydd, Paul Davies AS, mae argymhelliad 13 yn hanfodol iawn, oherwydd mae'n nodi'r cyfleoedd ar gyfer llwybrau gyrfa yn y sector lletygarwch a thwristiaeth, gan gynnwys gradd-brentisiaethau. Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, clywsom gan weithwyr o amrywiaeth o gefndiroedd a oedd eisiau gweithio yn yr ardaloedd lle cawsant eu magu. Rhaid i'r Llywodraeth a'r sectorau hyn weithio ar y cyd i sicrhau bod cyfleoedd ar gael yn lleol i gamu ymlaen yn yrfaol i gefnogi hyn. Rwy'n falch o weld bod y gwaith hwn ar yr economi sylfaenol yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n gobeithio gweld cyfleoedd pellach yn y dyfodol.
Roeddwn eisiau tynnu sylw hefyd at argymhelliad 18 am bwysigrwydd gwaith teg, oherwydd nid yw'n gyfrinach fod llawer o weithwyr yn y sectorau hyn yn parhau i wynebu ansicrwydd. Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru, Unite Cymru, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol ac eraill wedi cyfrannu at sesiynau tystiolaeth gan fanylu ar realiti cytundebau ansicr a oedd yn gwneud iddynt deimlo fel pe baent yn ddiwerth, a'r ffaith bod gweithwyr yn wynebu tâl gwael a phrinder staff wedyn. Dywedodd un cyfrannwr nad oedd ganddi syniad beth oedd ei hawliau yn y gwaith, a hoffwn bwysleisio bod rhaid inni wneud mwy i rymuso gweithwyr i ddeall eu hawliau, drwy rôl undebau llafur a phartneriaeth gymdeithasol. Ni ddylai unrhyw weithiwr wynebu camdriniaeth am wneud eu gwaith, neu fel yr amlygodd fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, gael eich trin fel pe baech islaw pobl eraill oherwydd eich gwaith. Dylid grymuso gweithwyr i godi llais ar y materion hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y rhain mewn perthynas â phartneriaeth gymdeithasol yn y sectorau hyn.
Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y nifer o argymhellion sy'n ymwneud â'r ardoll dwristiaeth. Mae Porthcawl yn fy etholaeth i yn dibynnu'n helaeth ar y sector twristiaeth; yn amlwg, mae gennym Draeth Coney, mae gennym ŵyl Elvis ac mae gennym syrffio yn Rest Bay. Rwyf wedi bod yn siarad gyda fy nghymuned ers tro am y cynnig hwn. Pryd bynnag y cawn sgwrs am y peth, rwy'n teimlo bod yna lawer o gamsyniadau, ac fe amlygwyd rhai o'r rheini yn ein hadroddiad pwyllgor. Oherwydd ceir nifer o enghreifftiau o wledydd ar draws Ewrop a'r byd sydd ag ardoll dwristiaeth, ac mae hyn yn cynnwys cyrchfannau twristaidd megis Ffrainc, Gwlad Belg, Sbaen, Gwlad Thai a Seland Newydd, i enwi rhai yn unig. Mae sail yr ardollau hyn yn amrywio o wlad i wlad, gyda rhai'n gosod cyfradd y person; eraill yn ôl ystafell, lleoliad neu sgôr seren y llety. Ym Mwlgaria, mae'r ardoll wedi'i gosod yn lleol ac yn amrywio o 10 cent i €1.53 am y noson gyntaf. Mae'r arian sy'n cael ei godi o'r ardoll hon yn cael ei ailfuddsoddi'n ôl wedyn i'r sector twristiaeth. Yn Rwmania, defnyddir yr arian a godir drwy'r ardoll ar gyfer hyrwyddo twristiaeth; yn Sbaen, fe'i defnyddir ar gyfer prosiectau twristiaeth gynaliadwy. Ac er bod llawer o bosibiliadau o ran sut y gellid gosod ardoll dwristiaeth, mae'n hanfodol fod cymunedau'n cael dweud eu barn ynglŷn â'r modd y caiff ei gwario. Nid wyf am ddangos rhagfarn ynglŷn â hyn; rwy'n rhannu'r hyn sy'n cael ei ddweud pan siaradaf â phobl yn fy nghymuned. Oherwydd y gwir amdani yw bod pobl ym Mynydd Cynffig a Nant-y-moel, drwy eu treth gyngor hwy, yn talu am y traethau hynny a'r toiledau cyhoeddus hynny yn ystod yr haf, a phan gynhelir gŵyl Elvis a'r stryd yn cael ei chau, mae hynny'n costio tua £35,000 i gyllideb y cyngor, a'r bobl yn y cymunedau hynny sy'n talu amdano. Felly nid wyf yn credu y byddai twristiaid yn malio talu er mwyn inni allu cadw tref brydferth Porthcawl y maent eisiau dod i ymweld â hi yn lân ac yn daclus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad am fabwysiadu dull o weithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth gynnig yr ardoll dwristiaeth, a'u bwriad yw ymgysylltu â'r rhanddeiliaid yn ystod y broses ymgynghori ar hyn, a dyna'r cyfan rwy'n gofyn amdano—rwyf eisiau ymgynghoriad lle mae pobl a rhanddeiliaid yn cael y ffeithiau ar hyn, yn cael persbectif rhyngwladol ar hyn, posibiliadau hyn, a hefyd, yn ddelfrydol, ei dreialu. Felly, diolch i bawb am y gwaith caled sydd wedi'i wneud ar yr adroddiad hwn. Mae'n newid ac yn symud o hyd, ond rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru. Diolch.
Fel yr Aelod cyntaf i siarad yn y ddadl hon nad yw ar y pwyllgor, a gaf fi ddiolch i aelodau'r pwyllgor sydd wedi siarad hyd yma, yn enwedig Paul Davies fel y Cadeirydd, yn ogystal â'i dîm ymchwil a chlercio a phawb a roddodd eu tystiolaeth i'r adroddiad ar y sector pwysig hwn, am yr argymhellion i Lywodraeth Cymru ac am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr heddiw? Mae'r pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad diddorol iawn i ni heddiw, un sy'n cynnwys llawer i ni fel Aelodau, a Llywodraeth Cymru hefyd, ei ystyried o ran sut y gallant gefnogi'r diwydiant, nid yn unig yn ariannol, ond fel ffrind sy'n gwrando ar bryderon yn y diwydiant hefyd. Felly, roeddwn yn falch o weld bod un o'r brawddegau cyntaf un yn yr adroddiad yn nodi'r 'ergyd aruthrol' y mae'r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu wedi'i wynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Yn y cyd-destun hwnnw, mae'n hollbwysig ein bod ni, nawr yn fwy nag erioed, yn ffrind cefnogol i'r sector.
Gydag amser mewn golwg, rwyf wedi dewis ychydig o argymhellion adroddiad y pwyllgor i ganolbwyntio arnynt yn fy nghyfraniad heddiw. Mae argymhelliad 8 yn dweud:
'Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu’n fanwl ei rhesymeg dros y cynnydd yn nifer y diwrnodau o’r flwyddyn y mae’n rhaid i eiddo hunanddarpar fod ar gael i’w osod i 252, a’r diwrnodau y caiff ei osod i 182'.
Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, rwyf wedi codi'r mater hwn ar sawl achlysur yn y Siambr ac ni chefais fawr o esboniad gan Weinidogion ynghylch y rhesymeg dros y newid hwnnw. Mae llety hunanddarpar yn rhan bwysig o'r cymysgedd yn yr economi dwristiaeth, sy'n ddiwydiant allweddol mewn sawl rhan o Gymru. Ar ben hynny, mae'n darparu llety mewn ardaloedd gwledig i ffwrdd o ganolfannau, gan eu galluogi i elwa o'r economi dwristiaeth hefyd, ac mewn rhai rhannau o Gymru, dyma'r unig ffordd hyfyw o droi taith undydd mewn cymuned Gymreig anghysbell ond hyfryd i fod yn arhosiad dros nos.
Ond yr hyn nad yw wedi'i nodi o hyd yw'r rhesymeg dros y 182 diwrnod a sut y penderfynwyd ar y nifer hwnnw o ddyddiau, ac mae'r naid o 70 i 182 diwrnod cymwys yn ymddangos yn hynod sylweddol, yn enwedig o ystyried y ffaith bod nifer helaeth o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn ei wrthwynebu. Felly, byddai cyfiawnhad y Gweinidog dros y newidiadau'n rhesymol ac i'w groesawu. Yr hyn yr hoffai'r diwydiant ei glywed gan y Llywodraeth yw sut y bydd hyn yn cael ei fesur. A yw'r trothwy newydd yn gysylltiedig â gweithgarwch tymhorol, neu faint o ddyddiau y maent yn eu disgwyl mewn tymor twristiaeth arferol? Sut beth fydd y ffigur hwnnw? Mewn rhai ardaloedd lle mae diffyg gweithgarwch a darpariaeth i dwristiaid ar hyn o bryd, ond lle byddai'n fuddiol iddo gael ei ddatblygu, efallai y byddem yn dymuno gwasgaru cyrchfannau twristaidd ymhell i ffwrdd o gyrchfannau poblogaidd. Felly, gallai fod rheswm da dros gymell llety gwyliau i fod ar gael, a gallai fod angen rhywfaint o hyblygrwydd i ganiatáu ar gyfer hynny'n lleol. Mae'n ymddangos bod y trothwyon hyn yn uchel iawn yn y cyd-destun hwnnw, felly a fyddai lle i addasu i'r amgylchiadau lleol hynny? Ac er bod gennym gynnig twristiaeth gwych yma yng Nghymru, gyda marchnad ymwelwyr bresennol y sector twristiaeth mewn cyfnod ansicr ac ansefydlog iawn ar ôl COVID, rwyf wedi ailadrodd droeon y dylid ystyried yr effaith hon, ynghyd â phwysau costau byw a'r argyfwng costau busnes a drafodwyd yma ychydig wythnosau yn ôl, mewn unrhyw ddadl newydd dros y trothwyon newydd hyn.
Mae argymhelliad 9 yn gofyn i Lywodraeth Cymru,
'nodi’r sylfaen dystiolaeth a ystyriodd wrth benderfynu cyflwyno ardoll dwristiaeth leol ar hyn o bryd.'
Nid oes rhaid i mi ailadrodd y dadleuon a wnaethpwyd i wrthwynebu'r dreth hon, ond o ystyried yr hinsawdd y mae'r busnesau hyn yn gorfod gweithredu ynddi ar hyn o bryd, dylai fod yn amlwg i Lywodraeth Cymru nad nawr yw'r amser i osod mwy o drethi ar fusnesau, pan fo'r sector yn wynebu heriau cynyddol. Gofynnodd Sarah Murphy am bersbectif rhyngwladol. Wel, fe wyddom fod Fenis wedi cyflwyno treth dwristiaeth yn benodol i leihau niferoedd y twristiaid sy'n mynd i Fenis, yn hytrach nag ychwanegu at y niferoedd. Felly, mae'n anghredadwy fod Llywodraeth Cymru i'w gweld yn ffafrio'r opsiwn o ddyblygu model Fenis yma.
Ac yn olaf, Lywydd, mae argymhelliad 11 yn dweud,
'Dylai Llywodraeth Cymru nodi’n fanwl y dull arfaethedig o ymgynghori ar y
ddeddfwriaeth ddrafft ar gyfer ardoll dwristiaeth leol arfaethedig.'
Er fy mod yn derbyn bod yr ymgynghoriad yn dal ar y gweill—ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i annog pawb yn y sector i ddweud eu barn—byddwn wedi hoffi gweld Llywodraeth Cymru'n ymgysylltu mwy â'r sector mewn perthynas â hyn oherwydd, unwaith eto, rwyf wedi ceisio dod â llais y diwydiant i'r Siambr dro ar ôl tro, ac maent yn dweud wrthyf, dro ar ôl tro, eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi gan Lywodraeth Cymru. Gadewch inni beidio ag anghofio mai dyma'r busnesau sydd eisoes yn buddsoddi yn eu cymunedau drwy'r cadwyni cyflenwi lleol, sy'n cyflogi pobl leol ac sy'n ailfuddsoddi'r arian hwnnw yn eu cymunedau. Mae trethiant ychwanegol yn peryglu rhagor o fuddsoddiad mewn cymunedau ledled Cymru. Mae'r bobl yn y sector twristiaeth yn glir, ac maent yn dweud wrthyf o hyd fod yr ysbryd o fewn y diwydiant ar ei isaf erioed, a hynny o ganlyniad uniongyrchol i gamau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn sy'n targedu eu diwydiant yn benodol. Ac felly, mae cyfraniad Vikki Howells yn gynharach yn dweud eu bod i gyd yn sinigiaid yn siomedig iawn yn y cyd-destun hwnnw hefyd. Felly, wrth ystyried yr adroddiad, rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn gweld hwn fel cyfle i gefnogi'r diwydiant twristiaeth, cefnogi ein cymunedau lleol a diogelu'r un o bob saith swydd sy'n dibynnu ar ei weld yn ffynnu.
A gaf fi ddiolch hefyd i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, dan gadeiryddiaeth wych Paul Davies wrth gwrs, am gyflwyno'r adroddiad pwyllgor pwysig hwn heddiw, 'Codi'r Bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu'. Rwy'n eithaf hoff o'r teitl hwnnw, mewn gwirionedd—'Codi'r Bar'. Fel rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn gwybod, ac o gyfraniadau gennyf fi yn y Senedd dros y 18 mis diwethaf, ac yn enwedig fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dwristiaeth, rwy'n frwd fy nghefnogaeth i sector lletygarwch a thwristiaeth Cymru, a dyna pam fy mod eisiau cyfrannu at ddadl adroddiad y pwyllgor heddiw—rhywbeth y mae Alun Davies yn aml yn gwneud sylwadau wrthyf arno, fy nghefnogaeth frwd i'r sector, ac rwy'n falch ei fod yn sôn amdano eto draw acw—oherwydd mae'r adroddiad hwn yn amlwg yn tynnu sylw at bwysigrwydd y sector, ond mae hefyd yn amlinellu llawer o'r heriau y mae'n eu hwynebu hefyd.
Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar un neu ddau o feysydd pwysig yn yr adroddiad, ac yn gyntaf, hoffwn dynnu sylw unwaith eto at bwysigrwydd y sector yn ein heconomi yng Nghymru. Fel bob amser, rwy'n un sy'n cymryd sylw o allbwn Ffederasiwn y Busnesau Bach, ac roedd gennyf ddiddordeb mawr yn eu hadroddiad dros yr haf ar dwristiaeth a ddangosodd, unwaith eto, mai twristiaeth sydd i gyfrif am fwy na 17 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru, ond twristiaeth hefyd sydd i gyfrif am dros 12 y cant o gyflogaeth yma yng Nghymru. Fel y mae eraill wedi crybwyll, os ydych yn cynnwys lletygarwch a manwerthu o fewn hynny, rydym yn siarad am draean o'r economi yma yng Nghymru, sy'n dangos yn glir pa mor bwysig ydyw i'n cymunedau ac i'r trigolion rydym yn eu cynrychioli ar hyd a lled Cymru. Amlinellwyd hyn hefyd yn rhagair y Cadeirydd i adroddiad y pwyllgor, ac fe wnaf ei ddyfynnu'n uniongyrchol,
'Mae’r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn gwbl hanfodol i lwyddiant ein cenedl. Ochr yn ochr â’r nifer fawr o swyddi y maent yn eu creu, maent hefyd yn asgwrn cefn i’r byd adloniant a’r bywyd cymdeithasol y mae pobl yng Nghymru, a’n hymwelwyr, yn ei fwynhau, ac sy’n gwneud Cymru yn lle gwych i fyw ynddo neu i ymweld ag ef'
Ond mae yna heriau'n wynebu'r sector, wrth gwrs, ac mae eraill eisoes wedi tynnu sylw at rai o'r rheini y prynhawn yma. Fel y gwyddom, mae treth dwristiaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru yn destun pryder enfawr i'r sector twristiaeth, a dyna pam fy mod, fel eraill, yn falch o weld ystyriaeth yn cael ei rhoi i hyn fel rhan o nifer o argymhellion y pwyllgor i Lywodraeth Cymru ac yn wir i'r Gweinidog. Fel yr amlinellwyd yn argymhellion 9, 10 ac 11, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn nodi'r dystiolaeth sy'n sail i dreth dwristiaeth, ond hefyd yn rhannu eu prosiectau ymchwil ar hyn, ac yn nodi eu dull arfaethedig o weithredu mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth ddrafft hon.
Os ydym am gyflwyno treth dwristiaeth, mae'n hanfodol fod cynghorau'n gallu ei gwario ar gynnal, yn ogystal â chryfhau, twristiaeth yn eu hardal leol. Ac rwy'n credu hefyd, er mwyn gwneud hyn mor effeithiol â phosibl, ei bod yn bwysig iawn fod yna fecanweithiau ar waith i gynnwys busnesau a'u llais yn y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â sut y bydd y refeniw newydd hwn yn cael ei wario yn eu hardaloedd.
Pryder arall a fynegwyd wrthyf fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth yw pryder parhaus y sector twristiaeth, ac yn arbennig, y sector hunanddarpar, ynglŷn â'r rheol 182 diwrnod, sydd eisoes wedi cael ei grybwyll yma heddiw, ac y cyfeirir ato yn argymhelliad 8 yr adroddiad. Ac fel y crybwyllwyd gan eraill, mae hyn yn rhan o restr hir o newidiadau y mae'r Llywodraeth yn eu gorfodi ar y sector, sy'n achosi cryn bryder i lawer o berchnogion busnes ac atyniadau twristiaeth ledled Cymru. Ac os ydym yn disgwyl mwy gan y sector o ran deddfwriaeth a chydymffurfio, dyma pam y mae mor bwysig y dylid cynnig mwy i'r sector ar ffurf cymorth ac eiriolaeth. A dyna pam rwy'n croesawu argymhelliad 7 yn yr adroddiad, sy'n ceisio dangos yn glir lle caiff y cymorth ei ddarparu a'i ffocysu fel y gellir sicrhau'r sector ei fod yn cael ei drin gyda'r lefel o barch a phwysigrwydd y mae'n ei haeddu.
Ac mae hyn yn arwain at fy sylwadau terfynol sy'n ymwneud â'r angen am gefnogaeth i'r sector ac eglurder o ran yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, sy'n hynod bwysig, yn dilyn yr anawsterau a wynebwyd yn ystod y pandemig COVID-19 a nawr gyda phwysau chwyddiant byd-eang hefyd. Ac yn wir, mae angen cymorth ariannol, ond o ran cymorth mwy meddal, mewn perthynas ag eiriolaeth a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd gan y sector i Gymru ac i'n cymunedau, gwn y bydd y Gweinidog eisiau gwneud yn siŵr fod y cyfleoedd hynny'n cael eu hamlygu ac y bydd ganddynt bob amser bethau da i'w dweud am y sector hefyd.
Oherwydd, yn wir, fel yr amlinellodd UKHospitality Cymru, cyn COVID-19 roedd y sector lletygarwch a thwristiaeth yn tyfu oddeutu 10 y cant y flwyddyn, gan greu cannoedd o swyddi newydd i bobl leol ar hyd a lled Cymru. Ac mae'n amlwg o dystiolaeth y pwyllgor gan UKHospitality Cymru fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi darparu cymorth da i'r sector yn ystod y pandemig COVID-19. Felly, mae cyhoeddiad y Gweinidog ynghylch ailasesu'r egwyddorion y sy'n sail i ardrethi busnes hefyd yn cael ei groesawu yn yr ysbryd parhaus hwn o gymorth.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, felly hoffwn ddiolch i'r pwyllgor eto am gyflwyno'r adroddiad a'r argymhellion sydd ynddo, ac i'r Gweinidog am wrando ar y pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd yr argymhellion hynny'n datblygu dros y misoedd nesaf.
Mae llawer i'w groesawu yn yr adroddiad hwn a hoffwn ddiolch i'r pwyllgor a'i aelodau, dan arweiniad fy nghyd-Aelod Paul Davies, am eu gwaith ar lunio'r adroddiad gwych hwn.
Fel y noda'r adroddiad, roedd yna ddarogan gwae y byddai diweithdra torfol yn ystod y pandemig, ond diolch i gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, llwyddwyd i osgoi diweithdra torfol yng Nghymru oherwydd Llywodraeth y DU. Rwy'n falch hefyd fod y Gweinidog wedi derbyn argymhellion yn yr adroddiad, ond eto mae amseroedd anodd i ddod o hyd i'n sector lletygarwch, twristiaeth a manwerthu, yn enwedig ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, sy'n dibynnu'n fawr ar hyn.
Rydym ynghanol anawsterau byd-eang ac mae cysgod hir COVID yn dal uwch ein pennau, ond rwy'n credu bod dau beth mawr y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud i helpu busnesau Cymru. Wrth ddarllen yr adroddiad, roedd yn amlwg iawn fod yr ardoll twristiaeth a drafodwyd gan Lywodraeth Cymru yn bryder mawr i gyrff y diwydiant a gweithwyr proffesiynol. Felly un peth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yw dileu'r dreth dwristiaeth ac unrhyw fesurau gwrth-fusnes eraill sydd wedi eu hanelu at y sector twristiaeth. Mae ein busnesau twristiaeth yn dod â symiau enfawr o arian i mewn i Gymru, gydag un o bob saith swydd yn dibynnu ar y diwydiant hwnnw. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ymosod ar bobl sy'n gweithio'n galed ar hyd a lled y wlad i geisio gwneud Cymru'n gyrchfan deniadol gyda'u gwestai, eu llety gwely a brecwast a'u bythynnod.
Cafodd ardrethi busnes sylw yn yr adroddiad hefyd. Ac mae llawer o bobl yn dweud eu bod yn anflaengar iawn yng Nghymru ac y gallai pethau gael eu gwneud yn wahanol yma i ddenu busnes a helpu busnes. Felly gallech ostwng ardrethi busnes yng Nghymru. Dan arweiniad Llafur, yma yng Nghymru y ceir yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain gyfan. Mae hyn yn ein gwneud yn llai cystadleuol. Mae baich treth ar fusnesau'n rhy uchel a dylai busnesau Cymru allu cadw mwy o'u harian eu hunain i'w wario ar gyflogau a gwella busnes. [Torri ar draws.] Rwy'n siŵr y bydd Alun Davies yn hoffi'r pwynt hwn; mae'n mwmian draw yno. Ond rwy'n deall ac rwy'n cydnabod nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ysgogiadau at ei defnydd i helpu pobl yng Nghymru. Ac roeddwn yn siomedig iawn ynglŷn â thro pedol Llywodraeth y DU ar rewi'r ardoll ar alcohol. Roedd hynny'n mynd i arbed £300 miliwn i'r diwydiant lletygarwch a thafarndai. Ac rwy'n credu, ar adeg pan fo ein tafarndai'n cau—mae 40 yn cau bob mis yng Nghymru a Lloegr—y dylai Llywodraeth y DU wneud mwy i ddiogelu ein diwydiant tafarndai. A hoffwn glywed beth mae'r Gweinidog yn ei wneud mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i achub ein tafarndai, oherwydd hwy yw asgwrn cefn ein cymunedau.
Mae gwir angen ffrind ar fusnesau lletygarwch a thwristiaeth, ac maent angen cefnogaeth Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Geidwadol y DU. Nid oes angen eu tanseilio ar adeg pan fônt yn wynebu'r perygl o fynd i'r wal. Felly, hoffwn groesawu'r adroddiad a diolch am yr holl waith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud, ac edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog.
A galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn innau hefyd ddiolch i aelodau Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig am eu hymchwiliad manwl a'u hadroddiad ar ddyfodol lletygarwch, twristiaeth a manwerthu a arweiniodd at y ddadl hon heddiw.
Fel y gwyddom i gyd, mae profiad y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn her sylweddol i'r rhan fwyaf o fusnesau yn y rhan fwyaf o sectorau yma yng Nghymru, gan gynnwys, wrth gwrs, y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu. Nawr, nid wyf am ddilyn Luke Fletcher drwy adrodd am rai o fy mhrofiadau personol yn gweithio yn y sector lletygarwch, ond rwy'n cydnabod nad oedd pawb yr ymdriniais â hwy yn garedig nac yn barchus. Ac mewn gwirionedd, rydym wedi gweld y duedd honno'n cynyddu, yn anffodus; mae nifer o'r Aelodau wedi sôn am hynny, yn enwedig o ystyried y prinder llafur sylweddol sy'n bodoli yn llawer o'r sectorau hyn, ac yn ehangach yn wir. Ac rwy'n cael fy atgoffa'n rheolaidd, er bod prinder staff yn y rhan fwyaf o'r byd ar hyn o bryd, byddwch yn garedig ac yn barchus wrth y bobl sydd yno, ac mae hynny'n bwysig iawn i'r math o awyrgylch rydym eisiau ei greu i bobl sy'n gweithio yn y sector hwn a phob sector arall.
Nawr, yn ystod ac ers y pandemig, mae'r Llywodraeth hon wedi gweithio'n ddi-baid i geisio cefnogi busnesau a gafodd eu heffeithio, nid yn unig y cymorth sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU drwy ffyrlo—ac rwy'n meddwl bod hwnnw'n un o'r mesurau gwell a gyflwynodd Llywodraeth y DU yn ystod y pandemig, ac roeddwn i'n sicr yn ei groesawu—ond wedyn hefyd darparodd Llywodraeth Cymru y gronfa cadernid economaidd ac yn wir, rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth yn y busnesau sydd wedi goroesi ac sydd wedi llwyddo i ddod drwy'r pandemig mewn cyflwr cymharol gadarnhaol. Ond wrth gwrs, mae ein heconomi'n wynebu heriau sylweddol yn y tymor byr ac yn hirdymor: yr argyfwng costau byw presennol, costau ynni uwch, ac wrth gwrs, prinder o ran sgiliau a recriwtio sy'n dal i fod gyda ni. Rwy'n cydnabod maint a nifer yr heriau sy'n wynebu busnesau yn llawn. Rwy'n deall pam fod pobl sy'n arwain, rheoli a gweithio yn y busnesau hynny'n bryderus, ac nid oes amheuaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â difrifoldeb y sefyllfa. Mae angen inni ymadfer yn sgil niwed economaidd y pandemig, y ffaith bod llawer o fusnesau bellach heb arian yn weddill ar ôl goroesi; mae angen inni fynd i'r afael â realiti ein cysylltiadau masnachu newydd ar ôl Brexit ac effaith hynny ar lawer o fusnesau yn y sectorau hyn, ac wrth gwrs, yr argyfwng costau byw a'r argyfwng costau busnes.
Felly, mae ein cenhadaeth economaidd newydd a gyhoeddwyd gennyf y llynedd yn nodi'n glir y gwerthoedd a'r blaenoriaethau a fydd yn llywio'r dewisiadau y byddaf yn eu gwneud i gefnogi dyfodol ein heconomi. Ond Ddirprwy Lywydd, rydym eisoes wedi clywed gan nifer o siaradwyr am effaith y cynnwrf yn San Steffan a beth mae hynny wedi ei wneud i'r darlun economaidd ehangach, ac a dweud y gwir, y berthynas y gallwn ei chael gyda Llywodraeth y DU gyda chymaint o newidiadau gweinidogol. Ac nid wyf yn credu y gallaf agor y ddadl hon heddiw heb gydnabod yr her ryfeddol y mae'r ddau fis diwethaf yn arbennig wedi'i chreu i fusnesau ac yn wir, fel y cydnabu Vikki Howells, y ffaith—ac mae'n ffaith na ellir ei gwadu—fod gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru, yn y cyfnod adolygu gwariant hwn, wedi gostwng tua £4 biliwn mewn termau real. Ac roedd Vikki Howells hefyd yn cydnabod bod y darlun economaidd wedi gwaethygu'n sylweddol ers cwblhau'r adroddiad, a dyna realiti na ellir ei wadu. Bydd yn newid ffocws busnesau; bydd yn newid gallu'r Llywodraeth hon ac eraill i gynorthwyo busnesau nid yn unig i oroesi ond i ffynnu yn y dyfodol.
Mae'r heriau sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod llai o incwm gwario gan gwsmeriaid i'w teimlo'n arbennig o fewn y sectorau hyn. Mae heriau pobl sy'n gweithio yn dod i mewn, ac unwaith eto, mae adroddiad Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol wedi cael eu cydnabod—yr effaith ar weithwyr nid yn unig o gael llai o arian yn eu pacedi cyflog eu hunain, ond yr effaith eto ar gwsmeriaid sy'n dod i mewn. Ac yn sicr, byddwn i'n croesawu ymchwiliad gan y pwyllgor hwn yn y dyfodol i edrych ar y darlun economaidd sy'n newid, a phan fydd Llywodraeth y DU wedi cwblhau ychydig rhagor o'i chyfleoedd a'r dewisiadau nid yn unig yn y gyllideb, ond y cynllun cymorth ynni yn y dyfodol, beth fydd hynny'n ei olygu i sectorau yn yr economi wrth symud ymlaen yn y dyfodol. Ac fe fyddai hynny'n sicr yn helpu i lywio dewisiadau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu gwneud yma yng Nghymru.
Nawr, rwy'n cydnabod bod cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU am y gyllideb wedi cynnig rhywfaint o gymorth. Mae'r cynllun rhyddhad ar filiau ynni a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi yn rhoi rhywfaint o ryddhad tymor byr i fusnesau, ond mae yna angen, sy'n cael ei gydnabod yn drawsbleidiol rwy'n siŵr, am olwg fwy hirdymor i fusnesau allu cynllunio. Ni allwch gynllunio i wneud dewisiadau dros y flwyddyn nesaf os nad ydych ond yn sicr o elfen o gymorth a fydd yn dod i ben ym mis Mawrth, ac nid yn unig eglurder ynglŷn â'r hyn a fydd yn digwydd ar ôl hynny, ond pryd fydd yr eglurder hwnnw'n cael ei ddarparu. Ac fel y dywedais, rwy'n siŵr y bydd cydnabyddiaeth drawsbleidiol o'r angen nid yn unig am eglurder ynglŷn â beth yw'r dyfodol, ond i'r gostyngiadau gael eu trosglwyddo'n gyflym i fusnesau i wneud yn siŵr eu bod yn gallu goroesi i edrych ymlaen at y flwyddyn newydd. Mae angen inni ddeall hefyd, wrth gwrs, beth fydd yn digwydd ar 17 Tachwedd. Bydd realiti'r dewisiadau hynny'n effeithio ar fwy na wasanaethau cyhoeddus yn unig; fe fyddant yn effeithio ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi'r economi, byddant yn effeithio ar gwsmeriaid, byddant yn effeithio ar weithwyr, byddant yn effeithio ar fusnesau a swyddi.
Ond wrth gwrs, pan edrychaf ymlaen at ein gallu i gefnogi busnesau, rydym yn trafod y materion hyn yn rheolaidd gyda busnesau eu hunain. Mae'r fforwm economi ymwelwyr yn cyfarfod yn rheolaidd; rwyf i fod i'w cyfarfod yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwyf i fod i gyfarfod â mwy o fusnesau unigol, nid yn unig mewn perthynas â heriau uniongyrchol, ond yn syth ar ôl 17 Tachwedd, byddwn yn cyfarfod eto. Cawsom uwchgynhadledd economaidd yn ddiweddar, unwaith eto i wrando ar sectorau ar draws yr economi ac yna i geisio teilwra ein hymateb a chael y sgwrs onest honno. Yr hyn sy'n wahanol am Gymru, wrth gwrs, yw ein bod yn gwneud hynny mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol, gyda'n cynrychiolwyr undebau llafur. Ddoe mewn gwirionedd, cyfarfûm â'r sector manwerthu i fwrw ymlaen â'r weledigaeth sydd wedi'i chydgynhyrchu gan y Llywodraeth, busnesau ac undebau llafur, dan arweiniad ein cydweithwyr yn USDAW, ac i edrych ar y cynllun cyflawni i ddeall beth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i gynnal y sector hwnnw ac i'w weld yn cael dyfodol teilwng, gyda gwaith gweddus yn ogystal â gwasanaethau gweddus sy'n cael eu gwerthfawrogi ym mhob un o'n cymunedau. Felly, rwy'n parhau i fod eisiau gweld grŵp llewyrchus o fusnesau o fewn y sectorau rydym yn eu trafod heddiw, a gweld hefyd sut y gallwn wneud hynny o fewn realiti'r cyd-destun. Mae ein huchelgais yn parhau, er enghraifft, mewn twristiaeth, i dyfu'r sector er lles Cymru. Mae hynny'n golygu twf economaidd sy'n sicrhau manteision i bobl a lleoedd, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol, a'r manteision iechyd sy'n dod o waith da.
I droi at argymhellion y pwyllgor, rwy'n credu ei bod hi'n braf clywed croeso cyffredinol i ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a sut y byddwn yn ceisio gweithio ochr yn ochr â'r rheini, ac yn rhoi diweddariad i'r pwyllgor maes o law, wrth gwrs, ynglŷn â'r cynnydd a wnawn ar yr argymhellion hynny.
Ar beth o'n hymateb ar ardrethi busnes, wrth gwrs, gydag argymhellion 1 a 2, rydym yn darparu'r pecyn £116 miliwn ychwanegol hwnnw. Bydd hwnnw ar gael tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, mae angen inni weld realiti'r hyn sy'n mynd i ddod yn y gyllideb ar 17 Tachwedd ac a oes digwyddiad cyllidol i ddod yn y gwanwyn hefyd. Ond mae yna ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau ar ddiwygio ardrethi annomestig, a bydd hwnnw ar agor tan 14 Rhagfyr, a hoffwn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw.
Ar fuddsoddiad cyfalaf, mae Croeso Cymru yn darparu buddsoddiad cyfalaf i gefnogi busnesau sy'n gweithredu ym maes twristiaeth a lletygarwch, gyda thair sianel benodol: sef cronfa buddsoddi mewn twristiaeth Cymru sy'n £50 miliwn; y buddsoddiad cyfalaf strategol sy'n £2.5 miliwn; ac wrth gwrs, rhaglen flynyddol y Pethau Pwysig.
Ar argymhelliad 8, rydym wedi gwneud newidiadau i drothwyon hunanarlwyo yn ddiweddar. Nod y rhain yw cymell y defnydd o eiddo a helpu i ddod ag eiddo gwag a heb ei ddefnyddio'n ddigonol yn ôl i ddefnydd. Os nad yw eiddo'n cael ei weithredu fel busnes, bydd treth gyngor i'w dalu arno.
Ar argymhellion 9 a 10, rydym yn ymgynghori ar roi'r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr, a dechreuodd ymgynghoriad llawn ar 20 Medi. Mae'n braf clywed mwy nag un ochr i'r ddadl hon, a Sarah Murphy, yn amlwg, yn amlinellu safbwyntiau gwahanol o fewn ei hetholaeth ei hun a thystiolaeth ryngwladol o hyn. Rwy'n sylweddoli y byddai rhai cyfranwyr yn hoffi gweld y Llywodraeth hon yn ymuno ag eraill i wneud tro pedol yn rheolaidd ac osgoi ymrwymiadau eu maniffesto, ond rydym yn benderfynol o wneud yr hyn y dywedasom wrth bobl Cymru y byddem yn ei wneud drwy lunio, cyflawni ac ymgynghori ar ardoll.
Rwy'n gallu gweld bod fy amser yn brin, ond hoffwn orffen—
Mae'r amser wedi dod i ben yn barod mewn gwirionedd.
Rwyf am orffen drwy ei gwneud yn glir i aelodau'r pwyllgor ein bod o ddifrif ynghylch yr adroddiad a ddarparwyd i ni, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd a wneir ar yr argymhellion, ac rwy'n edrych ymlaen at waith pellach gyda'r pwyllgor hwn drwy weddill y tymor.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Paul Davies, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma? Mae'r Aelodau oll wedi crybwyll sut mae'r diwydiannau manwerthu, twristiaeth a lletygarwch yn ganolog i'n holl gymunedau, a dyna pam ei bod mor bwysig fod Llywodraeth Cymru'n deall ac yn ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r sectorau hyn.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cael y polisïau cywir ar yr adeg gywir; yn wir, mae'n hanfodol ar gyfer economi Cymru a'r gallu i fyw'n weddus ynddi. Rydym i gyd eisiau i'n trefi a'n dinasoedd fod yn fannau ffyniannus, bywiog, cymunedol, ac mae cefnogi'r sectorau hyn yn rhan enfawr o adeiladu'r rhwydweithiau cymunedol ffyniannus hynny yma yng Nghymru. Nawr, fel y dywedodd yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, a'r Aelod dros Ogledd Cymru, mae llawer o'n busnesau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau yn gyflogwyr allweddol yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu.
Mae Aelodau, megis Luke Fletcher a Tom Giffard, yr Aelodau dros Orllewin De Cymru, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a'r Gweinidog yn wir oll wedi crybwyll y pandemig a'i effeithiau economaidd ar ein sectorau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth. Roedd yn sioc economaidd nad oedd unrhyw ddiwydiant yn barod ar ei chyfer, a dylem gymryd eiliad i fyfyrio ar wytnwch a gwaith caled y rhai sy'n gweithio ym maes lletygarwch, twristiaeth a manwerthu mewn cyfnod a oedd o reidrwydd yn eithriadol o anodd. Wrth gwrs, mae helpu'r sectorau hyn i ymadfer yn sgil y pandemig ac esblygu i ffyrdd newydd o weithio yn her fawr, ond rwy'n credu ei fod yn gyfle gwych hefyd i Lywodraeth Cymru ailystyried sut mae'n gweithio gyda'r sectorau hyn wrth symud ymlaen. Mae'r diwydiannau hyn yn wynebu heriau o bob cyfeiriad, boed yn bolisïau trethiant, yn newid i fasnach ar-lein, neu lai o hyder ymhlith pobl ifanc i ymgeisio am swyddi. Roedd Arwyn Watkins o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn iawn i ddweud,
'Pe bai nifer y swyddi sydd wedi'u colli yn y sector hwn dros y 24 mis diwethaf wedi'u colli mewn unrhyw sector arall, byddai pawb yn gandryll a bod yn onest, ac nid oes neb yn dweud unrhyw beth yn ei gylch o gwbl, ar wahân i'r cyflogwyr sy'n ceisio llenwi'r swyddi gwag.'
Ac felly, mae'r neges yn eithaf syml; mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yn well a blaenoriaethu'r diwydiannau hyn a'r bobl sy'n gweithio ynddynt.
Mae Aelodau, fel yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, wedi siarad yn gwbl briodol am wella sgiliau, a fydd yn helpu i greu gwell swyddi ac o fudd i'r sectorau hyn a'n heconomi yn fwy cyffredinol. A dyna pam mae'r pwyllgor wedi argymell yn benodol y dylai Llywodraeth Cymru nodi mwy o fanylion ynglŷn â lle mae'n gweld posibiliadau o fewn ei gynlluniau arfaethedig i ehangu'r rhaglen brentisiaethau ar gyfer llwybrau gyrfa lefel uwch mewn twristiaeth a lletygarwch, gan gynnwys ar gyfer gradd-brentisiaethau.
Hefyd, nododd Aelodau fel yr Aelod dros Gwm Cynon bwysigrwydd gwaith teg, ac rwy'n credu ein bod i gyd yn derbyn bod cyfleoedd gwirioneddol i symud gwaith teg yn ei flaen drwy'r strategaeth fanwerthu newydd a chynllun gweithredu'r economi ymwelwyr. Mae'r pwyllgor hefyd yn galw am fwy o eglurder ynghylch rôl contract economaidd Llywodraeth Cymru i sbarduno canlyniadau gwaith teg, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy gan Lywodraeth Cymru am y cynnydd sy'n cael ei wneud yn y maes hwn.
Ddirprwy Lywydd, galwyd ein hadroddiad yn 'Codi'r bar' oherwydd mai dyna'n union sydd angen i Lywodraeth Cymru ei wneud. Fel y dywedodd Luke Fletcher, mae'r Llywodraeth wedi derbyn argymhellion y pwyllgor yn llawn neu mewn egwyddor, ond nawr, rydym am weld yr union argymhellion hynny'n cael eu gweithredu. Mae codi lefel yr uchelgais ar gyfer y sectorau hyn yn hanfodol a bydd yn helpu i wella ansawdd bywyd ein dinasyddion a'n hymwelwyr.
Felly, rydym wedi clywed cyfraniadau hynod ddiddorol gan yr Aelodau heddiw, ac ymateb adeiladol gan y Gweinidog, ac rwyf am ei gwneud yn glir y prynhawn yma, fel y dywedodd yr Aelod dros Gwm Cynon, y bydd hyn yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth i'r Pwyllgor Economi, Masnach, a Materion Gwledig. Rwyf am sicrhau'r Gweinidog y bydd y pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio ar y maes hwn wrth symud ymlaen, yn enwedig o ystyried bod yr heriau ariannol wedi cynyddu i'r sectorau hyn ers cyhoeddi ein hadroddiad.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r rhai a gyfrannodd at y drafodaeth y prynhawn yma a dweud bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wneir ar weithredu ein hargymhellion maes o law? Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 'Adroddiad Blynyddol 2021/22', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM8119 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod yn Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer 2021/22, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pleser yw siarad prynhawn yma a thynnu sylw'r Senedd at waith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystod blwyddyn lawn gyntaf y chweched Senedd. Cyn dechrau, hoffwn gofnodi ein diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei barodrwydd i ymddangos ac ateb ein cwestiynau yn rheolaidd.
Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.
Mae ein cylch gwaith yn eithaf sylweddol, ac mae ein cyfrifoldebau craffu bron bob amser yn amodol ar amserlenni a therfynau amser a osodir naill ai gan y Rheolau Sefydlog neu'r Pwyllgor Busnes. Ac mae craffu ar is-ddeddfwriaeth yn rhan o'n gwaith bara menyn. Yn y flwyddyn gyntaf, yn wir, fe wnaethom ystyried mwy na 250 darn o is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru. Yn rhannol, gellir priodoli hyn i ddymuniad Llywodraeth Cymru i weithredu Deddfau a basiwyd mewn Seneddau blaenorol yn llawn. Deddf o'r fath yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae'r astudiaeth achos yn ein hadroddiad yn tynnu sylw at ein gwaith craffu ar yr is-ddeddfwriaeth sy'n gweithredu'r Ddeddf hon a'r cywiriadau a nodwyd gennym. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd ein rôl graffu, a rôl graffu'r Senedd, yn bennaf o gofio bod is-ddeddfwriaeth yn ffurfio canran sylweddol o'r gyfraith sy'n effeithio ar fywydau bob dydd ein hetholwyr.
Mae'n deg dweud nad oeddem wedi disgwyl treulio cymaint o amser yn ystod blwyddyn gyntaf y chweched Senedd yn adrodd ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Biliau'r DU. Fe wnaethom fynegi pryder ynghylch y graddau mae Llywodraeth y DU yn ceisio deddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, yn fwyaf arbennig mewn amgylchiadau lle mae'n digwydd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae adrodd ar femoranda ar gyfer deddfwriaeth a wneir yn Senedd y DU, nad oes gennym unrhyw le i ddylanwadu arno, yn rhwystredig.
Byddai'n well gennym fod wedi cyfrannu at y broses o wella deddfwriaeth sy'n cael ei llunio yma yn y Senedd, fel ffordd o ddarparu'r atebion gorau posibl i gymunedau ledled Cymru—rôl rydym ni fel Aelodau o'r Senedd wedi cael ein hethol i'w chyflawni, wrth gwrs. Mae hyn hefyd yn tynnu sylw at un o'r problemau gyda phroses y cydsyniad deddfwriaethol: nid oes rôl i'r Senedd ddylanwadu ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddilyn darpariaethau yn un o Filiau'r DU yn y lle cyntaf.
Nawr, rydym yn cydnabod, Gwnsler Cyffredinol, ei bod yn briodol defnyddio Biliau'r DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig mewn rhai achosion. Ond mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio Biliau'r DU i ddeddfu yn cynnwys gormod o gafeatau a chymalau eithrio yn ein barn ni, a chredwn fod hynny'n golygu nad oes fawr o werth ymarferol i'r egwyddorion hynny yn y chweched Senedd hon. Felly, rydym yn bwriadu drafftio ein hegwyddorion ein hunain y gallwn eu defnyddio wedyn ar gyfer dwyn y Llywodraeth i gyfrif.
Yn gyffredinol, Gwnsler Cyffredinol, rydym yn pryderu bod gormod o ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig yn cael ei gwneud yn Senedd y DU. Mewn rhai amgylchiadau, gallai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddeddfu'n gyfochrog, a fyddai'n caniatáu cydweithredu rhwng Llywodraethau lle bo hynny'n briodol ac i'r Senedd ymgymryd â'i rôl graffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol.
Yn y pen draw, mae effaith Llywodraeth Cymru yn ceisio darpariaeth ddatganoledig ym Miliau Llywodraeth y DU, neu Lywodraeth y DU yn cynnwys darpariaeth ddatganoledig mewn Bil heb unrhyw ymgynghoriad, yr un fath: creu diffyg democrataidd a lleihad cyfatebol mewn atebolrwydd yma yng Nghymru. Dylai hynny fod yn destun pryder i bawb ohonom, oherwydd os yw'r ymagwedd hon yn parhau, mae perygl y gallai danseilio'r Senedd fel deddfwrfa ac egwyddorion sylfaenol datganoli.
Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at ein gwaith craffu ar ddau Fil a gyflwynwyd i'r Senedd yn y flwyddyn gyntaf, lle roeddem yn gallu dylanwadu ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r Biliau hynny. Mae hefyd yn tynnu sylw at ein pryderon ynghylch dull Llywodraeth Cymru o wneud cyfraith ar faterion trethu—a gallaf weld Cadeirydd chwaer bwyllgor yma hefyd—ac yn arbennig ein hawydd i weld deddfwriaeth sylfaenol, yn hytrach nag is-ddeddfwriaeth, yn cael ei defnyddio i newid cyfraith trethiant. Byddem yn dadlau y byddai dull o'r fath yn parchu mandad democrataidd a goruchafiaeth ddeddfwriaethol y Senedd.
Felly, gadewch imi droi nawr at faterion sy'n ymwneud â'r cyfansoddiad ac at faterion allanol. Mae cytundeb perthynas ryngsefydliadol newydd wedi ei gytuno ar gyfer y chweched Senedd, ac rydym wedi bod yn monitro sut mae Llywodraeth Cymru'n cyflawni yn erbyn ei hymrwymiadau i rannu gwybodaeth gyda'r Senedd a'i phwyllgorau. Yn fras, credwn fod y cytundeb yn gweithio'n dda, a byddwn yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i'w helpu i wneud rhai gwelliannau, gan gynnal uniondeb ein swyddogaeth graffu ar yr un pryd.
Rydym wedi dechrau rhoi sylw penodol i'r amgylchiadau pan fo Gweinidogion Cymru yn cydsynio i Lywodraeth y DU wneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Yn benodol, rydym wedi mynegi pryderon ynghylch yr amser cyfyngedig sydd ar gael i'r pwyllgorau roi barn wybodus ynglŷn ag a ddylai Llywodraeth Cymru roi ei chydsyniad. Mae hwn yn fater y byddwn yn parhau i'w fonitro. Mae'n un sy'n dod yn fwyfwy pwysig, yn bennaf gyda chyflwyno Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) i Senedd y DU yn ddiweddar.
I'r rhai nad ydynt yn gwybod, cyn diwedd 2023 mae Llywodraeth y DU yn cynllunio ar hyn o bryd iddi hi a'r Llywodraethau datganoledig adolygu holl gyfraith yr UE a ddargedwir er mwyn penderfynu beth i'w gadw, i'w ddiwygio neu i gael ei wared. Mae hwn yn waith sylweddol, oherwydd mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod tua 2,400 darn o gyfraith yr UE a ddargedwir mewn grym. Nid yw'r ffigur hwnnw'n cynnwys cyfraith yr UE a ddargedwir a wnaed yng Nghymru ac fel y bydd nifer ohonoch yn gwybod, daeth adroddiadau i'r amlwg ddoe fod y ffigur erbyn hyn yn debygol o fod yn nes at 3,800 o ddarnau o gyfraith. Os na newidir yr amserlen a gyflwynwyd gan y Bil, bydd yn faich enfawr, nid yn unig i Lywodraeth Cymru ond i fy mhwyllgor ac i'r Senedd gyfan mewn gwirionedd. Gallai fygwth gallu Llywodraeth Cymru a'r Senedd i weithredu'n effeithiol.
Maes arall o'n cylch gwaith yw llywodraethiant DU-UE, ac mae ein hadroddiad yn nodi'r gwaith a wnaethom, sy'n cynnwys mapio cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, monitro ei hymgysylltiad mewn pwyllgorau ôl-Brexit DU-UE a sicrhau ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i wella tryloywder ar y materion hyn. Mae'r gwaith hwn wedi bod yn sail i'n hymgysylltiad parhaus â sefydliadau'r UE, gan gynnwys Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE, a gyfarfu eto am yr eildro yr wythnos hon.
Mae ein hadroddiad hefyd yn manylu ar ein rôl drosfwaol ar fframweithiau cyffredin a'r gwaith a wnaethom ar gytundebau rhyngwladol. Mae monitro gweithrediad a chyflawniad cytundebau rhyngwladol yn bwysig er mwyn asesu eu heffaith ar Gymru, ac felly mae'n braf cael adrodd ar y llwyddiant a gawsom yn sicrhau mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn i helpu'r broses honno. Ar ben hynny, mae ein gwaith wedi ein galluogi i ddatblygu ein hymgysylltiad ymhellach â phwyllgorau mewn Seneddau eraill—rhywbeth sydd o bwys cynyddol.
Mae honno'n agwedd arall ar yr hyn a wnawn yr hoffwn dynnu sylw ati heddiw: adeiladu'r berthynas gynhyrchiol honno â Seneddau eraill yn y DU fel ein bod yn rhannu gwybodaeth, gyda'r nod cyfunol o ddwyn ein Llywodraethau i gyfrif. Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyfarfod â phwyllgorau o Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi a fis Mehefin diwethaf, cynhaliwyd cyfarfod â phwyllgorau o'r Tai hynny yn San Steffan i drafod meysydd o ddiddordeb cyffredin. Ychydig cyn y toriad, cyfarfu'r Fforwm Rhynglywodraethol yn y Senedd i drafod, ymhlith pethau eraill, cysylltiadau rhynglywodraethol, protocol Gogledd Iwerddon, Bil cyfraith yr UE a ddargedwir, yn ogystal â chynnal sesiwn holi ac ateb ardderchog gyda'r Cwnsler Cyffredinol, a roddodd ei amser yn barod iawn unwaith eto.
Fel y nodais ar ddechrau fy araith, mae ehangder cylch gwaith y pwyllgor hwn yn heriol, a chyda chyfran sylweddol o'n hamser yn cael ei dreulio yn ystyried materion deddfwriaethol, mae ein gallu i fod yn rhagweithiol wrth graffu ar faterion cyfiawnder wedi bod yn gyfyngedig. Rydym yn cydnabod bod heriau sylweddol yn wynebu dinasyddion yng Nghymru yn gysylltiedig â gweithrediad y system gyfiawnder. Rydym wedi cyfarfod â llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Cyngor Cyfraith Cymru a'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd ar faterion yn ymwneud â chyfiawnder yng Nghymru ac am y tro cyntaf, fe wnaethom waith craffu ar y gyllideb ddrafft mewn perthynas ag agweddau ar bortffolio cyfiawnder Llywodraeth Cymru. Mae croeso mawr i'r ymrwymiadau a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i gynyddu tryloywder cyflawniad y rhaglen waith ar gyfiawnder ac ar wariant Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder, ac edrychwn ymlaen at farnu cynnydd yn y rownd graffu nesaf ar y gyllideb.
Rydym hefyd yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru eleni i ymateb yn gadarnhaol i argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn cefnogi ei gydweithio parhaus gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i nodi'r argymhellion y gall eu gweithredu mewn partneriaeth. Er bod cynnydd yn cael ei wneud, mae'n amlwg, o waith ymgysylltu a wnaethom, gydag ymarferwyr cyfreithiol fod llawer o waith i'w wneud o hyd i ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r sector cyfreithiol ar hyn o bryd a'r rhwystrau sy'n wynebu'r rhai sydd eisiau mynediad at gyfiawnder yng Nghymru.
Felly, fel y dengys fy sylwadau y prynhawn yma, mae ein gallu i fod yn rhagweithiol braidd yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Ond i wrthsefyll hyn, rydym yn ystyried ac rydym yn cyhoeddi adroddiadau monitro rheolaidd i dynnu sylw at ddatblygiadau o fewn yr ystod o bynciau rydym yn ymdrin â hwy, ac yna rydym yn eu dwyn i sylw'r cyhoedd yn ogystal ag i sylw'r Senedd. Dyna pam ein bod wedi penderfynu paratoi'r adroddiad blynyddol hwn, er mwyn dod â'r holl waith a wnaethom rhwng mis Mai 2021 a mis Awst 2022 at ei gilydd mewn un man, ac rwy'n gwahodd y Senedd i nodi'r adroddiad hwn.
Wrth gloi, a gaf fi ddiolch i holl Aelodau'r Senedd sydd wedi cyfrannu at y gwaith a adlewyrchir yn yr adroddiad hwn, i aelodau fy mhwyllgor, a hefyd i'n clercod a'n tîm ymchwil, gan y byddai'r gwaith wedi ein llethu'n llwyr oni bai amdanynt hwy? Edrychaf ymlaen at gyfraniadau eraill y prynhawn yma gan aelodau'r pwyllgor a chan eraill, ac yn cynnwys ymateb y Gweinidog hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Fel aelod newydd o'r pwyllgor hwn, mae wedi bod yn agoriad llygaid i mi weld proses ddeddfwriaethol y Senedd a'r holl gydweithio rhynglywodraethol ac ehangder y gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud. Hoffwn gofnodi fy niolch i'n Cadeirydd, Huw Irranca-Davies, am y gwaith ardderchog y mae'n ei wneud yn cadeirio'r pwyllgor hwnnw, ac i'n his-gadeirydd a gamodd i'r adwy y diwrnod o'r blaen a chadeirio'r cyfarfod yn ardderchog.
Nid wyf yn bwriadu siarad yn hir, Ddirprwy Lywydd—rwy'n siŵr y byddwch yn falch o hynny—ac nid wyf yn debygol o wneud unrhyw sylwadau a fydd yn gwella gyrfa, mewn gwirionedd, ynghylch proses y cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r ddau beth roeddwn i eisiau siarad amdanynt yn ymwneud â sut nad yw proses cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio. Un peth a roddodd sioc i mi oedd diffyg ymgysylltiad Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru ar rai elfennau o'r ddeddfwriaeth; mae rhai rhannau o Lywodraeth y DU a rhai adrannau'n ymgysylltu'n gynnar, mae adrannau eraill o Lywodraeth y DU yn frawychus—nid ydynt yn ymgysylltu'n ddigon cynnar ar feysydd sydd â chymhwysedd datganoledig. O'm rhan i'n bersonol, mae cael memoranda cydsyniad deddfwriaethol wedi'u hanfon at Lywodraeth Cymru gyda dyddiau neu oriau i fynd, a dweud, 'A wnewch chi gydsynio i hyn?' yn amharchus, mae'n arfer wael o ran cysylltiadau rhynglywodraethol, ac mae angen i hynny newid. Mae angen i Lywodraeth y DU wneud mwy i wella'r cysylltiadau hynny, oherwydd os ydym yn mynd i weld y Deyrnas Unedig a phob Senedd yn gweithio'n dda gyda'i gilydd, mae angen parch i'r holl ddeddfwrfeydd ar draws y wlad.
Yr ail bwynt roeddwn am ei wneud oedd un sydd wedi cael sylw yn y cyfryngau o bosibl, sef bod y Senedd hon yn ddeddfwrfa yn ei hawl ei hun, a'n dyletswydd ni i bobl Cymru yw defnyddio'r lle hwn i greu cyfraith Gymreig i bobl Cymru. Cafodd hyn sylw gan y pwyllgor; credwn fod Llywodraeth Cymru'n defnyddio Llywodraeth y DU lawer gormod i ddeddfu ar feysydd datganoledig. Mae hyn yn osgoi craffu; mae'n osgoi ein pwyllgorau a'r Aelodau a etholwyd yn ddemocrataidd yma a ddylai fod yn craffu ar y gyfraith hon ar ran pobl Cymru. Mae'n fater y mae angen mynd i'r afael ag ef, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol, pan fydd yn ymateb i'r adroddiad, yn rhoi sylw i hynny a gobeithio y gall roi atebion i ni ynglŷn â hynny, oherwydd rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae'r pwyllgor eisiau ei weld. Fel y dywedais, rydym yn ddeddfwrfa yn ein hawl ein hunain, a'n dyletswydd i bobl Cymru, ac i Aelodau ein Senedd, yw parchu hynny.
Nid wyf yn bwriadu siarad rhagor; rwyf ar y marc dau funud ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod Alun Davies yn ehangu ar y materion hyn mewn ffordd lawer mwy huawdl na minnau. Ond hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies, Alun Davies a Rhys ab Owen am y gwaith gwych a wnânt ar ein pwyllgor ac am fod yn Aelodau gwych sy'n cynrychioli'r pwyllgor hwn a phobl Cymru. Diolch.
Petrusaf cyn ymhelaethu ar unrhyw faterion yn y fforwm hwn, ond rwy’n ddiolchgar. Credaf ei bod yn iawn fod James Evans wedi diolch i aelodau eraill y pwyllgor. Hoffwn ychwanegu Rhys ab Owen at hynny, ac wrth gwrs, Aelodau eraill sydd wedi eistedd yn y lle hwn—mae Jayne Bryant a Peter Fox hefyd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor. Rwyf am ddiolch hefyd wrth gwrs nid yn unig i'r Cadeirydd, ond i'r ysgrifenyddiaeth yn ogystal, sy'n gwneud gwaith gwych yn darparu cymorth i'r pwyllgor. Hoffwn adleisio geiriau Cadeirydd y pwyllgor drwy ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei barodrwydd i fynychu’r pwyllgor. Ar un adeg, roeddwn yn teimlo ei fod yn mynychu mwy o gyfarfodydd pwyllgor na rhai Aelodau, ac rwyf wedi eistedd yn y lle hwn yn ddigon hir i wybod ei bod weithiau'n hynod o anodd cael y Gweinidog o flaen y pwyllgor. Felly, rydym yn ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol hefyd, ac yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Parhaol, a fynychodd y pwyllgor ychydig wythnosau yn ôl.
Mae Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl hon wedi amlinellu rhai o’r themâu allweddol y mae’r pwyllgor wedi ceisio mynd i’r afael â hwy, a chredaf mai’r themâu a nodwyd gan y Cadeirydd a chan yr Aelod Ceidwadol yw’r themâu rwyf innau am geisio mynd i’r afael â hwy. Rwyf wedi eistedd ar y pwyllgor hwn ers rhai blynyddoedd drwy nifer o Seneddau gwahanol, ac nid wyf erioed wedi gorfod ymdrin â chymaint o gynigion cydsyniad deddfwriaethol ag rydym yn ymdrin â hwy ar hyn o bryd. Mae arnaf ofn dweud wrth y Cwnsler Cyffredinol fod Llywodraeth Cymru yn ddihiryn yn yr achos hwn, ac nid Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn unig sy’n gweithredu fel dihiryn; mae'r ddwy ar fai yma.
Nid yw’n iawn nac yn briodol fod Llywodraeth Cymru yn ceisio osgoi craffu ar ei deddfwriaeth drwy ddefnyddio’r sianeli sydd ar gael iddi yn San Steffan. Pleidleisiodd pobl Cymru dros ddatganoli, a gwnaethant bleidleisio i'r ddeddfwrfa hon graffu ar y Llywodraeth ddatganoledig hon. Mae’n iawn ac yn briodol fod y ddeddfwrfa'n gallu craffu ar ddeddfwriaeth. Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda phroses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ac nid oes gennyf unrhyw broblem gyda'r ffordd y'i defnyddiwyd yn y gorffennol, gan ei bod wedi cael ei defnyddio i lyfnhau ymylon garw. Mae wedi cael ei defnyddio gan Weinidogion ar y ddwy ochr i’r ffin i alluogi i bethau ddigwydd yn haws ac i wneud hynny mewn ffordd sy’n hwyluso llywodraethu da yn ein gwledydd. Ond nid dyna'r hyn rydym yn ymdrin ag ef ar hyn o bryd. Yr hyn rydym yn ymdrin ag ef ar hyn o bryd yw osgoi craffu ar lefel ddiwydiannol, ac ni allwn ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae’n rhaid inni siarad yn glir â Llywodraeth Cymru a dweud, fel pwyllgor, gan anwybyddu gwleidyddiaeth yn y cyswllt hwn, na ddylem ac na allwn dderbyn hyn fel deddfwrfa. Mae angen inni fod yn glir ynglŷn â hynny.
Ond mae angen inni hefyd ddweud yn glir wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig na chawsant eu hethol â mandad i ymdrin â’r materion hyn. Ni sydd â'r mandad gan bobl Cymru. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio ddwywaith mewn refferenda i sefydlu Senedd i lywodraethu’r wlad hon yn y ffordd a bennwyd, ac nid yw’n iawn nac yn briodol fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, heb fandad yn y wlad hon, yn ceisio deddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru. Mae’n amhriodol, ac mae’n amhriodol fod Senedd San Steffan yn cael ei defnyddio i orfodi deddfwriaeth nad oes cydsyniad iddi yng Nghymru. Mae angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â hynny.
Y mater arall yr hoffwn fynd i’r afael ag ef yw cysylltiadau rhynglywodraethol. Ar y cynnydd a welsom yn y blynyddoedd diwethaf, daeth Prif Weinidog Cymru i gytundeb rai blynyddoedd yn ôl bellach gyda Llywodraeth y DU, ac roeddwn yn croesawu hynny gan fy mod yn teimlo ein bod yn ymbellhau oddi wrth rywfaint o’r gwrthdaro rydym wedi’i weld dros y blynyddoedd diweddar ac yn symud tuag at berthynas wedi'i strwythuro a'i threfnu'n well rhwng ein Llywodraethau. Ond nid yw hynny wedi digwydd. Nid ydym wedi gweld hynny’n cael ei gyflawni. Credaf ei fod yn dweud y cyfan, yng nghwestiynau’r Cwnsler Cyffredinol yn gynharach, pan orfodwyd y Cwnsler Cyffredinol i ddweud bod gennym ddarnau o ddeddfwriaeth yma nad ydynt hyd yn oed wedi’u gweld gan swyddogion Llywodraeth Cymru cyn iddynt gael eu gosod ger ein bron a chyn i gynigion cydsyniad deddfwriaethol gael eu ceisio. Mae hynny'n anghywir ac yn amhriodol ac ni ddylai ddigwydd. Fy marn gref heddiw yw bod angen diddymu Swyddfa Cymru; yn ei lle, mae angen trefniadau rhynglywodraethu go iawn a phrosesau a strwythurau gwladwriaeth ffederal.
Ceir materion eraill y mae angen inni fynd i'r afael â hwy. Roedd mater cyfiawnder yn un y cyfeiriodd y Cadeirydd ato yn ei gyflwyniad. Gwn fod y pwyllgor cydraddoldeb yn gwneud rhywfaint o waith ar hyn o bryd ar le menywod yn y system farnwrol, a gwyddom fod strwythur llywodraethu presennol y Deyrnas Unedig, fel yr amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol unwaith eto, yn y cwestiynau, yn gwneud cam â'r system farnwrol. Felly, mae cwestiynau mawr yma y mae angen inni fynd i'r afael â hwy. Credaf fod y pwyllgor yn gwneud gwaith rhagorol yn dechrau mynd i’r afael â’r rheini, ac yn dweud rhai pethau anodd iawn wrth ein Llywodraeth ein hunain. Credaf ei bod yn iawn ac yn briodol i bwyllgorau wneud hynny. Rydym newydd weld dadl ragorol gan y pwyllgor cynt; roeddwn o'r farn fod honno’n ffordd wych o drafod rhai o’r materion polisi sy'n gysylltiedig â hyn.
Ond Gwnsler Cyffredinol, wrth ateb y ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu mynd i’r afael â rhai o’r themâu hyn y mae’r pwyllgor wedi’u nodi yn ei flwyddyn gyntaf, oherwydd yr hyn a welwn yn yr ail flwyddyn yw bod y themâu hyn yn gwaethygu yn hytrach na'n cael eu datrys. Nid wyf am brofi amynedd y Dirprwy Lywydd ymhellach, ond rwy'n gobeithio y gwelwn lawer mwy o dryloywder mewn trefniadau rhynglywodraethu i’n galluogi i ddwyn y Llywodraethau i gyfrif a datblygu prosesau craffu democrataidd rhyngsefydliadol ar ein sefydliadau llywodraethol, yma ac ar draws y Deyrnas Unedig. Rwy’n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu heddiw. Roedd yn bleser bod yn aelod o’r pwyllgor yn dilyn fy etholiad fis Mai diwethaf, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y ffordd y cefais fy nghroesawu gan y Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor i’r swydd honno fel bachgen newydd. Cymeradwyaf hefyd y cymorth swyddogol rhagorol i’r pwyllgor—set ragorol o swyddogion, a diolch iddynt hwy. Ddirprwy Lywydd, fel y gwyddoch, nid wyf yn aelod o’r pwyllgor mwyach, ond rwy'n croesawu datganiad Cadeirydd y pwyllgor ac yn diolch iddo am ei waith yn arwain y pwyllgor mewn modd mor golegol ac adeiladol. Roedd hynny i'w groesawu'n fawr.
Un o’r prif bwyntiau trosfwaol a nodwyd yn yr adroddiad, fel y clywsom eisoes, yw’r rhyngweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ran deddfu. Hoffwn ailgadarnhau’r pwynt ei bod yn bwysig fod Llywodraethau’r DU nawr ac yn y dyfodol yn parchu’r setliad datganoli, a hefyd yn cytuno bod angen gwell cydweithio rhynglywodraethol. Mae pob un ohonom yn wynebu heriau enfawr ar hyn o bryd; mae angen inni gydweithio’n adeiladol ac yn effeithiol ar y rhain. Ac felly, fy ngobaith yw y bydd y cytundeb newydd ar gysylltiadau rhynglywodraethol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn cael ei fireinio dros amser i sicrhau gwell cydweithredu ar faterion o ddiddordeb cyffredin. Yn hyn o beth, rwy'n croesawu gwaith blaenorol y pwyllgor yn craffu ar y berthynas rhwng y ddwy Lywodraeth, ac rwy'n gobeithio y bydd ei waith yn y dyfodol yn helpu i gefnogi gwelliant yn y cysylltiadau hynny.
Mae’r pwyllgor yn gwneud nifer o bwyntiau. Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma am y defnydd o femoranda cydsyniad deddfwriaethol a’r hyn y mae’n ei ystyried yn orddibyniaeth ar y weithdrefn hon i greu cyfraith yng Nghymru. Ac i ryw raddau, rwy’n cydymdeimlo â’r pwynt hwnnw. Rydym yn cael llawer o femoranda cydsyniad deddfwriaethol, ac mae cyfleoedd i Lywodraeth Cymru ystyried cyflawni mwy o ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru y gall y Senedd ddylanwadu’n uniongyrchol arni. Felly, cwestiwn i’r Llywodraeth, fel rhan o’i rhaglen ddiwygio’r gyfraith, yw sut y gall gynyddu ei chapasiti deddfwriaethol. Mae cwestiynau hefyd i’r Senedd ynghylch sut y gallwn weithredu i ganiatáu i ragor o ddeddfwriaeth gael ei hystyried, yn enwedig gan Aelodau’r meinciau cefn a’r gwrthbleidiau. Fodd bynnag, byddwn yn dweud na ddylem geisio dyblygu gwaith yn ddiangen lle mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn credu ei bod yn fwy costeffeithiol, yn gyflymach ac yn fwy priodol i gyflwyno deddfwriaeth ar lefel y DU.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwneud rhai pwyntiau diddorol am gymhlethdod cyfraith Cymru. Fel rhywun a oedd yn newydd i'r gwaith o graffu ar y gwahanol fathau o gyfraith sy’n bodoli pan oeddwn ar y pwyllgor hwnnw, cefais fy synnu braidd gan ba mor gymhleth a gweithdrefnol oedd rhai o’n trafodaethau. Rwy'n croesawu rhaglen waith y Llywodraeth sy’n edrych ar wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Yn hyn o beth, credaf fod gan y pwyllgor rôl i’w chwarae hefyd yn annog pobl i feddwl mwy am y gyfraith a chwilio am fwy o gyfleoedd i ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd ynghylch ei waith.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n ategu fy niolch i’r pwyllgor a’r Cadeirydd am eu holl waith, ac yn dymuno'n dda iddynt yn y blynyddoedd i ddod.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi wedi gwrando ar y cyfraniadau i'r ddadl hon gyda diddordeb mawr. Hoffwn innau dalu teyrnged i'r pwyllgor am eu gwaith, a diolch iddyn nhw am eu hadroddiad. Wrth gwrs, fel cyn-Gadeirydd i'r pwyllgor hwn, mae gen i ddealltwriaeth o'i waith, a dwi'n cydnabod y sylwadau yn yr adroddiad am ba mor heriol yw natur eang cylch gwaith y pwyllgor o ran rheoli'r llwyth gwaith gofynnol a'i gyflawni.
Mae gwaith craffu effeithiol gan bwyllgorau yn bwysig iawn er mwyn sicrhau llywodraethu da, ac mae'n rhan hanfodol o ddemocratiaeth seneddol. Mae'r adroddiad wedi'i rannu'n fras yn dair adran, sy'n ystyried gwaith y pwyllgor ar graffu ar ddeddfwriaeth, materion cyfansoddiadol ac, yn olaf, ar gyfiawnder. Byddaf i'n trefnu fy sylwadau heddiw ar sail adrannau tebyg.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar am rôl y pwyllgor yn craffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, yn enwedig yn y cyd-destun heriol y mae pob un ohonom wedi bod yn gweithredu ac yn parhau i weithredu ynddo ers Brexit a dechrau'r pandemig. Mae’r pwyllgor wedi craffu ar lefelau digynsail o is-ddeddfwriaeth. Fel y mae’r adroddiad rhagorol yn ei amlygu, mae’r pwyllgor wedi adrodd ar 234 o eitemau o is-ddeddfwriaeth yn ystod y cyfnod o 12 mis, o gymharu â 111 o eitemau yn yr un cyfnod yn y pumed Senedd. Felly, mae'n gynnydd sylweddol yng ngwaith y pwyllgor.
Mae’r adroddiad yn rhoi enghreifftiau defnyddiol o sut mae’r pwyllgor wedi bwrw ymlaen â’i waith o graffu ar is-ddeddfwriaeth, ac rwy'n cytuno â’r cyfeiriad yn yr adroddiad fod hyn yn dangos y rôl bwysig sydd gan y pwyllgor, a'r rôl y mae wedi'i datblygu yn sicrhau y dylai is-ddeddfwriaeth fod mor glir ac mor hygyrch â phosibl. Hefyd, rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth fod Llywodraeth Cymru yn rhannu’r nod hwn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Os caf droi at Filiau, fel y nododd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad diweddaraf ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 5 Gorffennaf, rydym yn bwrw ymlaen â rhaglen uchelgeisiol o ddeddfwriaeth sylfaenol. Rydym wedi cyflwyno chwe Bil cyntaf tymor y Senedd hon ac mae’r pwyllgor wedi chwarae rhan sylweddol a hollbwysig yn y rheini hyd yma. Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor a’r Cadeirydd am eu gwaith ar ddau Fil cyntaf y tymor hwn sydd wedi’u pasio gan y Senedd, sef Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu). Mae’r adroddiad yn cyfeirio at 40 o argymhellion a wnaed mewn perthynas â’r ddau Fil, ac mae’n tynnu sylw at rai o’r themâu a’r materion trosfwaol wrth graffu ar y Biliau hyd yma. Wrth inni fwrw ymlaen â’n rhaglen ddeddfwriaethol, byddwn yn ystyried y themâu hynny.
Nawr, mae’r adroddiad yn sôn am waith presennol y pwyllgor ar ddau Fil sy’n gwneud eu ffordd drwy’r Senedd ar hyn o bryd: Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Rwy'n credu bod Bil yr amgylchedd hanesyddol, yn enwedig, yn werth ei grybwyll, o ystyried mai dyma’r Bil cydgrynhoi cyntaf a’r pwyllgor yw’r pwyllgor craffu arweiniol ar ei gyfer. Mae Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a Bil Amaethyddiaeth (Cymru) hefyd wedi’u cyflwyno i’r Senedd bellach. Dyma’r ddau Fil cyntaf ym mlwyddyn 2 y rhaglen ddeddfwriaethol. Mae’r rhain y tu allan i’r cyfnod adrodd a gwmpesir gan yr adroddiad blynyddol, ond roeddwn am ddiolch i’r pwyllgor, a’r Senedd yn fwy cyffredinol, am eu gwaith craffu ar y Bil plastig untro, o ystyried ei fod yn symud ymlaen ar amserlen garlam.
Hoffwn droi nawr at ddeddfwriaeth y DU, ac rwy’n cydnabod y sylwadau a wnaed ac fe geisiaf roi sylw iddynt, gan ategu rhai o’r pwyntiau roeddwn am eu gwneud o bosibl. Ein safbwynt sylfaenol o hyd yw y dylid gwneud deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig yng Nghymru. Fodd bynnag, ceir rhai amgylchiadau o hyd lle gall darpariaethau ym Miliau’r DU fod yn synhwyrol ac yn fanteisiol, ar yr amod nad yw hyn yn arwain at drosglwyddo unrhyw bwerau neu gyfrifoldeb, a’i fod bob amser yn cadw gallu cyfansoddiadol y Llywodraeth a’r Senedd i ddeddfu ar adeg sy’n fwy addas a phriodol i'n blaenoriaethau a'r rhaglen ddeddfwriaethol. Rydym wedi ymrwymo, fel Llywodraeth, i sicrhau bod ein gwaith gyda Biliau’r DU yn parhau i fod yn gyson â’n hegwyddorion ac i sicrhau bod y Senedd hon yn cael cymaint o graffu â phosibl drwy broses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol.
Anaml iawn y byddem yn mynd ati’n rhagweithiol i fynd at Lywodraeth y DU i ddeddfu ar ein rhan; i’r gwrthwyneb, cafwyd nifer annerbyniol o achosion dros y blynyddoedd diwethaf o Lywodraeth y DU yn cyflwyno darpariaeth ddatganoledig gerbron Senedd y DU heb inni gael unrhyw olwg arni ymlaen llaw. Mae hwn wedi bod yn fater sydd wedi codi dro ar ôl tro yn sesiwn bresennol Senedd y DU. Mae’r diffyg ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhwystr mawr i weithrediad effeithiol proses bresennol y cydsyniad deddfwriaethol. Rwy’n cydnabod ei bod yn rhan o natur y pwyllgor ei fod yn gweithredu bron mewn ffordd amhleidiol oherwydd ei swyddogaeth fel pwyllgor cyfansoddiadol a deddfwriaethol, a chydnabyddir y pwynt hwnnw. Credaf fod beirniadaeth i'w gwneud o Lywodraeth y DU, yn union fel y mae beirniadaeth, fel sy’n briodol, i’w gwneud yn rhan o’r broses graffu gan y pwyllgor, a chredaf fod hynny’n dangos aeddfedrwydd y ffordd y mae’r pwyllgor wedi’i ddatblygu o fewn ein strwythur seneddol.
Felly, byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i wella ei hymgysylltiad â ni mewn perthynas â’i rhaglen ddeddfwriaethol, gyda'r bwriad, maes o law, o sicrhau'r gallu craffu mwyaf posibl i'r Senedd. Hoffwn ychwanegu ychydig o sylwadau ar hynny, gan fy mod yn llwyr gydnabod y materion sy’n bodoli mewn perthynas â phroses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Wrth gwrs, nid ydym yn rheoli rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, nid yw nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn fater sy’n cael ei bennu gennym ni, ond caiff ei bennu gan effaith y darnau hynny o ddeddfwriaeth. Mae'n rhaid inni ymateb, p'un a gaiff cydsyniad ei roi ai peidio, a hoffwn wneud y pwynt, wrth gwrs, nad yw cydsyniad yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru—argymhelliad gan Lywodraeth Cymru ydyw, ond yn y pen draw, daw i lawr y Senedd.
Ond mae'r pwyntiau a wnewch mewn perthynas â chraffu yn gywir, a chredaf eu bod yn rhan sylfaenol o gamweithrediad ein trefniant cyfansoddiadol, nad yw'n cynnwys strwythur seneddol cyfansoddiadol ffederal addas i alluogi proses wahanol iawn o ddatblygu a chyflwyno deddfwriaeth. Nid system lle gall swm enfawr o ddeddfwriaeth y DU ddominyddu, bron, holl brosesau deddfwriaethol y gwledydd datganoledig yw’r ffordd gywir o fynd o'i chwmpas hi, ac mae’n amlwg fod gwersi cyfansoddiadol i’w dysgu yn hynny o beth.
Rwy'n croesawu casgliadau’r pwyllgor ar wella’r prosesau cydsyniad deddfwriaethol, a gobeithiaf y gallwn barhau i gydweithio i gryfhau gallu’r Senedd ymhellach i graffu ar ddeddfwriaeth ac amddiffyn y setliad datganoli gyda'n gilydd. Mae'r modd y mae Llywodraeth y DU yn gyson yn tramgwyddo gonfensiwn Sewel yn annerbyniol, a chredaf eu bod yn dangos diffyg parch at y sefydliad hwn a etholwyd yn ddemocrataidd a’r bobl y mae’n eu cynrychioli. Mynegodd y Prif Weinidog a minnau ein pryder dwfn yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ym mis Mawrth ac eto yn y cyfarfod ym mis Mehefin, a gwnaethom alw am godeiddio’r confensiwn a chryfhau’r mecanweithiau adrodd i'r Seneddau priodol. Ers hynny, mae swyddogion o bob un o’r pedair Llywodraeth wedi bod yn edrych ar y confensiwn a’r egwyddorion ar gyfer gweithio yn y dyfodol. Wrth gwrs, yr unig ffordd i ddiogelu’r setliad datganoli unwaith ac am byth a diogelu dyfodol y Deyrnas Unedig, yn fy marn i, yw gosod y confensiwn ar sylfaen statudol a thraddodadwy, ac mae hyn yn rhywbeth rydym yn parhau i fynd ar ei drywydd yn gryf. Fel Llywodraeth Cymru, byddwn hefyd yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod y ddeddfwrfa hon yn cael cyfle i graffu’n briodol ar ddeddfwriaeth y DU sy'n ddarostyngedig i gonfensiwn Sewel ac sy’n galw am ein cydsyniad.
Ond gall ymgysylltu hwyr gan Lywodraeth y DU arwain at bwysau amser eithafol yn y cyswllt hwn. Roedd y Bil ynni brys yn enghraifft o hyn. Mae ymgysylltu cynnar ac effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn hanfodol ym mhob maes polisi, ond lle mae Llywodraeth y DU yn mynd i gynnig deddfwriaeth, mae'n gwbl hanfodol. Nid materion bach yw'r rhain, a rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod y dadansoddi manwl a dilys, sydd weithiau'n cymryd llawer o amser, y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r sefydliad hwn ei wneud. Mae hefyd yn deg dweud nad yw cysylltiadau rhynglywodraethol wedi bod yn gryf dros y misoedd diwethaf. Mae'r ansefydlogrwydd yn Llywodraeth y DU wedi atal ymgysylltiad llawn ac ystyrlon a chynnydd mewn llawer o feysydd. Ond bellach, mae gennym Brif Weinidog newydd a Chabinet newydd yn y DU. Rydym wedi ymrwymo i feithrin perthynas waith gadarnhaol lle gallwn, a nawr yw’r adeg i ailosod y cysylltiadau hynny ac edrych o’r newydd gyda’n gilydd ar yr heriau, gan gynnwys yr argyfwng costau byw. I wneud hynny, mae angen ymgysylltu gwirioneddol, agored. Gall y mecanweithiau y cytunwyd arnynt yn rhan o’r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol fynd â ni rywfaint o’r ffordd, a gwn fod y pwyllgor wedi bod yn monitro sut mae’r mecanweithiau hynny’n gweithio ar lawr gwlad. Felly, mae'n amlwg yn hanfodol ein bod yn gweithio i sefydlu'r strwythurau newydd, ond mae cysylltiadau rhynglywodraethol yn mynd y tu hwnt i gyfarfodydd rheolaidd, ac ni ellir eu mesur yn ôl nifer y cyfarfodydd a gynhelir yn unig. Felly, rhaid i bob Llywodraeth gadw at ysbryd yn ogystal â llythyren yr adolygiad rhynglywodraethol.
Ychydig o sylwadau, i gloi, ar gyfiawnder. Rwyf wedi bod yn falch iawn o fynychu'r pwyllgor i drafod materion sy'n ymwneud â chyfiawnder. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl glir ein bod yn cytuno â chasgliadau’r Arglwydd Thomas fod y system gyfiawnder yn gwneud cam â phobl Cymru, ac y dylid datganoli cyfiawnder. Rydym yn archwilio’r materion hyn yn fanylach yn ein hadroddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru’, a lansiwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau ym mis Mai, ac mae hwnnw’n darparu’r sylfaen ar gyfer ymgysylltu pellach. Mae cyfiawnder yn faes arall lle mae'r anhrefn sydd wedi bod yn rhemp yn Llywodraeth y DU wedi cael effaith ar y cynnydd rydym wedi gallu ei wneud. Felly, er ein bod yn cydnabod bod safbwyntiau sylfaenol y ddwy Lywodraeth yn wahanol, rydym wedi ceisio gwneud newidiadau lle gallwn, ac mae hyn wedi bod yn arbennig o anodd gyda'r tîm gweinidogol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn newid mor aml ac mor gyflym. Credaf ein bod wedi cael naw Ysgrifennydd cyfiawnder gwahanol ers i'r Ceidwadwyr ddod i rym, sy'n anhygoel.
Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud newidiadau cadarnhaol, hyd yn oed os ydynt ar yr ymylon, ac mae pethau da i’w hadrodd gydag enghreifftiau da, rwy'n credu, o gydweithio ar gyfiawnder yng Nghymru. Mae yna brosiectau'n digwydd neu ar y ffordd sydd eisoes i'w croesawu ac yn ddiddorol. Gwn fy mod wedi gwneud sylwadau ar rai o’r rhain o’r blaen, boed ar y cynllun peilot llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, cynllun peilot Grand Avenues yng Nghaerau a Threlái, neu ddull system gyfan y rhaglen fraenaru i fenywod a’r gwasanaeth dargyfeiriol 18 i 25. Nawr, ni fydd unrhyw un o'r pethau hyn yn mynd i'r afael â'r methiannau sylfaenol y credaf ein bod yn eu nodi'n amlach ac yn amlach. Mae’r Llywodraeth hon wedi nodi'n glir ein bod wedi ymrwymo i ddatganoli plismona a chyfiawnder, ac mae’n ymrwymiad y byddwn yn parhau i fynd ar ei drywydd gan ei fod yn ymwneud â darparu plismona a chyfiawnder yn well. Yn y cyfamser, rwy'n croesawu ymwneud y pwyllgor â’r materion hyn, ac yn enwedig ei fwriad i geisio sicrhau presenoldeb Gweinidogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn dalu teyrnged unwaith eto i'r pwyllgor am eu gwaith ar draws cylch gwaith arbennig o eang, ac am gyhoeddi adroddiad blynyddol mor drylwyr a manwl. Rwy'n gobeithio y cyrhaeddwn sefyllfa lle nad oes rhaid inni fynd drwy fanylion Bil cyfraith yr UE a ddargedwir, ond mae hynny’n rhywbeth y tybiaf y bydd rhaid inni ei wneud, yn anffodus. Diolch yn fawr.
Galwaf nawr ar Huw Irranca-Davies, y Cadeirydd, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, ac yn fy ymateb byr yma, a gaf fi ddiolch yn gyntaf oll i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad am y ffordd ddifrifol, feddylgar ac ystyriol y mae wedi ymateb i'r ddadl hon, sy'n nodweddiadol o'i ymagwedd tuag at gylch gorchwyl eang gwaith y pwyllgor hwn? Rydym yn croesawu hynny’n fawr. Ac ar y sail honno, a gaf fi droi yn gyntaf oll at y sylwadau gan aelodau presennol a chyn-aelodau o’r pwyllgor hwn? Dywedodd Peter Fox fod pobl ar y pwyllgor wedi gadael eu teyrngarwch gwleidyddol wrth y drws, a'u bod yn dod i mewn ac yn edrych ar y dystiolaeth, ac yn edrych ar yr hyn sydd angen ei wneud i sicrhau craffu effeithiol. A dyna sydd wedi nodweddu'r pwyllgor hwn, gan ei gynnwys ef. Ond gan droi at y sylwadau gan James, rydych chi hefyd yn nodweddiadol o'r ymateb hwn, a'ch her a roddwyd gan bob un ohonom i Lywodraeth y DU er lles y DU i ymgysylltu'n gynnar ac i ymgysylltu'n ystyrlon, i gynorthwyo nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond i gynorthwyo'r Senedd hon, yn enwedig mewn deddfwriaeth sy'n deillio o'r DU. Roedd yn bwynt a wnaed yn dda iawn, ac roedd yn wych eich clywed yn dweud unwaith eto mai’r syniad sylfaenol hwnnw, prif egwyddor cyfraith Cymru ar gyfer pobl Cymru, a wnaed yma, ac sy'n cael ei chraffu yma, yw’r hyn y ceisiwn ei wneud yn ddiofyn.
Alun, rwy'n croesawu eich cyfraniad yn fawr, yn ogystal â’r sylw a wnaethoch am effeithio ar gonfensiwn Sewel, y dull dinistriol a ddefnyddir lle ceir diffyg cydsyniad ar ôl diffyg cydsyniad ar ôl diffyg cydsyniad. Ar ba bwynt—mae’r cwestiwn wedi’i godi nid yn unig gennym ni ond gan bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi a phwyllgor Tŷ’r Cyffredin—y mae Sewel yn torri, neu sut rydym yn ei godeiddio a'i gryfhau mewn ffordd sy'n golygu ei fod yn bwysig yn y cyfnod modern hwn, fel roedd y Cwnsler Cyffredinol yn dweud? Ac mae'r tryloywder ar graffu rhynglywodraethol a rhyngseneddol yn mynd i ddod yn bwysicach ac yn bwysicach, ac yn fy marn i, mae potensial gwirioneddol i'r gwaith y bu'r pwyllgor yn ei wneud ar ymgysylltu ar lefel ryngseneddol i ddwyn i gyfrif y mecanwaith rhynglywodraethol sydd bellach ar waith.
A gaf fi ddiolch hefyd i Peter am eich cyfraniad ac am ddiolch i'r ysgrifenyddiaeth ragorol sydd gennym? Maent yn dîm bach ond maent yn wirioneddol ragorol. A hefyd, y ffocws a oedd gennych ar y gwaith rhynglywodraethol gwell, ac er mwyn i'r DU fel y mae ar hyn o bryd weithio'n well, ac mae'n ymwneud â mwy na geiriau fel 'parch' yn unig; mae'n ymwneud â mecanweithiau a roddwn ar waith a'r tryloywder a roddwn ar waith o'u cwmpas. Felly, diolch, Peter, am eich cyfraniad i’r pwyllgor.
A byddwn ar fai, Lywydd, pe na bawn yn sôn am ddau gyfrannwr arall i waith y pwyllgor hwn dros y flwyddyn ddiwethaf a'r cyfnod y mae hwn yn adrodd arno hefyd. Rhys ab Owen, diolch am ei gyfraniad i’r pwyllgor ar bob mater, ond yn arbennig, rhaid imi ddweud, am ei arbenigedd ar faterion cyfiawnder hefyd. A hefyd, ni ddylem anghofio Jayne Bryant am ei gwaith ar y camau cynnar.
Weinidog, yn fy sylwadau clo yma mewn ymateb i’r hyn a oedd yn ymateb gwych a chynhwysfawr i adroddiad ein pwyllgor, ac wrth edrych ymlaen hefyd, rydym am edrych ymlaen, yn rhyfedd; rydym yn edrych yn ôl ar gyfnod yma, ac fe ddywedoch, yn gwbl gywir, fod hwn wedi bod yn gyd-destun heriol, y cyfnod hwn—y cyfnod ôl-Brexit, cyfnod y pandemig. Mae wedi golygu ein bod, o reidrwydd, wedi canolbwyntio'n benodol ar lawer o'n gwaith bara menyn, ac rydym yn deall hynny. Roedd angen ymateb hefyd i femoranda cydsyniad deddfwriaethol sydd naill ai wedi’u cychwyn ar lefel y DU, neu rai rydych wedi nodi eich bod am fynd i'r afael â hwy. Ond fe fyddwch yn deall, fel cyn-Gadeirydd y pwyllgor hwn, na allwn ymgilio byth rhag y rhagosodiad sylfaenol hwnnw ein bod am weld, yn ddiofyn, deddfwriaeth a wneir yng Nghymru lle gall y Senedd hon gyfrannu'n iawn at y ddeddfwriaeth honno, yn hytrach na bod ymhell oddi wrthi lle na allwn ddylanwadu o ddifrif arni, a hefyd nad oes gennym fawr o feddwl o Weithrediaeth, naill ai yma neu yn San Steffan, sy'n cymryd pwerau iddi hi'i hun. Ni sydd i graffu ar hyn yn y pen draw. Ond rydym yn awyddus i fwrw ymlaen i gyfnod cyffrous iawn yn fy marn i, gyda'r Bil cydgrynhoi rydym yn edrych arno ar hyn o bryd, sy'n mynd i fod yn arloesol o ran y DU, a byddwn yn eich cynorthwyo i gael hwnnw'n iawn. Fe wnawn weithio'n adeiladol gyda chi. Efallai y bydd rhaid inni edrych ar gyfraith yr UE a ddargedwir, ond fe welwn beth fydd yn digwydd gyda hynny, ond bydd hwnnw'n llwyth gwaith andros o fawr.
Byddwn yn parhau i edrych ar effaith y TAC ar feysydd datganoledig, ar draws yr ystod honno o feysydd datganoledig sydd gennym. Rydym am fod yn fwy rhagweithiol o ran y gwaith y gallwn ei wneud ar gyfiawnder ac amrywiaeth o faterion eraill hefyd, ond i wneud hynny, mae angen inni ryddhau rhywfaint o amser a lle i feddwl. Ar hyn o bryd, mae'r llwyth gwaith yn aruthrol. Ond hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu, i aelodau presennol a chyn-aelodau o'r pwyllgor hwn, i'n hysgrifenyddiaeth fach ond rhagorol, a chan fentro—. Rydym am osgoi eich gwneud yn aelod anrhydeddus o'r pwyllgor, ond rydych fel pe baech o'n blaenau bob yn ail wythnos, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny. Byddwn yn parhau i'ch herio chi a Gweinidogion eraill, Gwnsler Cyffredinol, ond rydym yn gwneud hynny am y rhesymau cywir, deallwch. Rydym yn gwneud hynny er lles y Senedd hon a’r rôl y mae pob un ohonom yn ei chwarae. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.
Yr eitem nesaf fydd dadl Plaid Cymru ar effaith fyd-eang defnydd domestig, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8121 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Gymru ymsefydlu fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang;
b) y gellir priodoli mwy na 50 y cant o goedwigoedd a gaiff eu colli yn fyd-eang a'r tir a gaiff ei drawsnewid i gynhyrchu nwyddau amaethyddol a chynhyrchion coedwigaeth y mae defnyddwyr yn galw amdanynt;
c) bod ardal sy'n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru yn cael ei defnyddio dramor i dyfu llond llaw yn unig o nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru (palmwydd, soi, cig eidion, cacao, rwber naturiol, lledr, pren, papur a mwydion);
d) bod ardaloedd eang dramor yn cael eu dinistrio i greu nwyddau a anfonir i Gymru, gyda chanlyniadau trychinebus gan gynnwys cam-drin pobl frodorol, llafur plant, a cholli bioamrywiaeth.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i fod yn atebol am ac adrodd yr allyriadau sylweddol o nwyon tŷ gwydr a achosir gan Gymru dramor o ganlyniad i'r datgoedwigo a'r golled mewn cynefin sy'n gysylltiedig â mewnforio nwyddau i Gymru;
b) i gryfhau ei chontract economaidd—sy'n datblygu perthynas â busnes o amgylch twf ac arferion cyfrifol—i'w gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ymrwymo i gadwyni cyflenwi nad ydynt yn cynnwys datgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol;
c) i ddatblygu system fwyd fwy hunangynhaliol i Gymru drwy ddatblygu llwybr tuag at system fwyd sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n rhoi ffynhonnell gynaliadwy o fwyd i gymunedau a fyddai'n cynnwys:
(i) gwrthdroi colli capasiti prosesu lleol;
(ii) gyrru cadwyni cyflenwi lleol;
(iii) blaenoriaethu mewnforio nwyddau cynaliadwy yn unig o dramor; a
(iv) helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd a diffyg maeth.
d) i ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu gofyniad i gadwyni cyflenwi fod yn rhydd o ddatgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol, fel rhan o'r newid i ddefnyddio nwyddau cynaliadwy sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol;
e) i gefnogi ffermwyr Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio bwyd anifeiliaid da byw sy'n cael ei fewnforio sy'n gysylltiedig â datgoedwigo a thrawsnewid cynefinoedd dramor;
f) i gefnogi prosiectau a mentrau rhyngwladol gyda'r nod o gadw ac adfer coedwigoedd yn y prif wledydd sy'n cynhyrchu nwyddau; a
g) i sicrhau ei bod yn hyrwyddo cytundebau masnach newydd a fydd yn gwarantu safonau amgylcheddol a hawliau dynol uchel, yn enwedig o amgylch datgoedwigo, ynghyd â mesurau gorfodi llym.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â'r cyfrifoldeb sydd gennym am ein gweithredoedd a chanlyniadau'r cyfrifoldeb hwnnw wrth iddynt ymestyn a chwyddo ar draws y byd. Mae'n ddadl am effaith ein gweithredoedd, canlyniadau ein harferion defnydd ar bobl a lleoedd ar ochr arall ein planed, ac mae'n ddadl am ddewisiadau—y dewisiadau sydd gennym i gyd, boed ein bod yn ymwybodol ohonynt ai peidio, i wneud pethau'n wahanol—a'r dewisiadau sydd gan Lywodraethau i rymuso eu dinasyddion i wneud y dewisiadau hynny'n ddoeth. Rwy'n defnyddio'r gair 'doeth' oherwydd dywedodd George Bernard Shaw,
'Cawn ein gwneud yn ddoeth nid drwy gofio ein gorffennol, ond gan y cyfrifoldeb am ein dyfodol.'
Yn y ddadl hon, hoffwn i bawb ohonom gadw'r dyfodol hwnnw ar flaen ein meddyliau, oherwydd ni all doethineb dreiddio go iawn heblaw ein bod yn dysgu nid yn unig o rywbeth ond ar gyfer y dyfodol hwnnw. Felly, pa gyfrifoldeb sydd gan Gymru? Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Gymru ymsefydlu fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Mae hynny'n golygu, yn ogystal â chymryd camau yma yng Nghymru a fydd yn helpu bywydau pobl yn ein gwlad, fod angen inni fod yn ymwybodol o sut mae ein cadwyni cyflenwi'n rhwystro ac yn tagu gwledydd eraill, sut mae'r dewisiadau a wnawn am y pethau rydym yn eu bwyta ac yn eu gwisgo ac yn buddsoddi ynddynt, sut mae i'r holl bethau hyn sgil-effeithiau sy'n chwyddo ac yn tyfu'n don lanw o wastraff, o ddifrod, o drawma mewn rhannau eraill o'n byd. Efallai na welwn ni eu heffeithiau, ond nid yw hynny'n eu gwneud yn llai real nac yn llai erchyll yn ei wir ystyr.
Mae yna salwch yn ein cymdeithas—salwch difaterwch, y dirmyg cyfforddus a ddangoswn tuag at yr hyn na allwn ei weld. Mae pob un ohonom yn hoffi meddwl ein bod yn gwneud ein rhan, ein bod yn gwneud ein rhan ein hunain yn y ffordd orau er mwyn y blaned, ond faint ohonom sy'n defnyddio sebon neu golur wedi ei wneud ag olew palmwydd? Faint o'r pwdinau a fwytwn sy'n cynnwys coco nad yw'n fasnach deg neu'n deillio o ffynonellau moesegol? Faint o'r porthiant da byw a ddefnyddiwn ar gyfer anifeiliaid sy'n arwain at ddifodiant rhywogaethau eraill o anifeiliaid mewn rhannau eraill o'r byd, fel teigr y gogledd, cathod gwyllt yn Ne America, orangwtaniaid yn Swmatra? Mae ein dewisiadau bob dydd, er eu bod yn ymddangos yn ddi-nod ar eu pen eu hunain, yn gwneud i bethau ddigwydd ac yn rhoi cychwyn ar yr effeithiau tawel trychinebus a ddaw yn sgil yr ymdeimlad llechwraidd o fod 'o'r golwg, o'r ffordd'.
Lywydd, ni allwn aros yn ddall i'r effeithiau hyn bellach. Fe nodaf rai o'r ystadegau mwyaf llwm, a daw llawer o hyn o'r adroddiad gwych 'Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang', a gomisiynwyd gan Maint Cymru, WWF Cymru ac RSPB Cymru. Mae eu canfyddiadau'n cynnwys y ffaith bod ardal sy'n cyfateb i 40 y cant o fàs tir Cymru, 823,000 hectar, wedi cael ei defnyddio dramor i dyfu mewnforion Cymru o goco, palmwydd, cig eidion, lledr, rwber naturiol, soi, pren, mwydion a phapur mewn blwyddyn gyfartalog rhwng 2011 a 2018. Mae llawer o'r tir hwn—30 y cant ohono—mewn gwledydd sy'n wynebu risg uchel neu uchel iawn o ddatgoedwigo, difodiant rhywogaethau neu broblemau cymdeithasol fel llafur plant a cham-drin hawliau pobl frodorol. Mae'r broses o drosi'r tir hwn dramor a dinistrio'r cynefinoedd hynny'n arwain at 1.5 miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn—sy'n cyfateb i 4 y cant o gyfanswm ôl troed carbon nwyddau domestig a nwyddau wedi'u mewnforio yng Nghymru.
Rwy'n aml yn poeni, Lywydd, yn y dadleuon hyn, pan fydd Aelodau'n rhestru ystadegau, fod pobl yn mynd i gysgu. Ni all ein hymennydd brosesu'r holl arswyd, yr holl ddinistr. Felly, yn ogystal â'r ystadegau hynny, fe ddywedaf hyn: mae bywydau pobl yn cael eu dinistrio gan ein trachwant a'n gwrthodiad ystyfnig i newid ein harferion, ac mae'r gwaed yn ein cadwyni cyflenwi yn staenio cydwybod y byd, ond ychydig iawn o ddefnyddwyr a fydd yn ymwybodol o ddim o hyn. Mae pwerau dros labelu yn nwylo Llywodraeth y DU, ac mae angen iddynt weithredu i rymuso pobl i ddeall hyn i gyd.
Ond mae llawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud hefyd a llawer y dylai fod yn ei wneud. Yn ein dadl, byddwn yn nodi pam fod rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau'r contract economaidd drwy ddatblygu cysylltiadau gyda busnesau o amgylch twf cyfrifol ac arferion moesegol, gan ei gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ymrwymo i ddefnyddio cadwyni cyflenwi sy'n rhydd o ddatgoedwigo ac ecsbloetio cymdeithasol. Bydd Luke Fletcher yn nodi hyn yn fanylach. Mae gan bob un ohonom yng Nghymru ran i'w chwarae. Mae angen i bob un ohonom leihau ein dibyniaeth ar nwyddau wedi'u mewnforio sy'n gyrru'r datgoedwigo. Mae angen cynorthwyo busnesau i wneud eu cadwyni cyflenwi'n lleol. Bydd Mabon ap Gwynfor yn nodi sut y gellir gwneud hyn drwy strategaeth bwyd cymunedol gadarn.
Cafodd breuder cadwyni cyflenwi byd-eang ei amlygu gan Brexit, rhyfel Wcráin a'r argyfwng costau byw. Nid yw ein ffordd o fyw yn gynaliadwy. Ond bydd pobl mewn rhannau eraill o'r byd, eu ffyrdd o fyw, yn dod i ben os na newidiwn y ffordd y gweithredwn, a dyna fydd Heledd Fychan yn canolbwyntio ei sylwadau arno.
Mae Cymru a'r byd ar groesffordd mewn hanes. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio, os nad newidiwn ein llwybr ar newid hinsawdd, fod perygl y byddwn yn creu planed anghyfannedd. Nawr, rydym ni yng Nghymru wedi arwain y ffordd drwy ddatgan argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r geiriau hynny'n bwysig, ac rydym yn cymryd camau tuag at sero net erbyn 2035 drwy'r cytundeb cydweithio, ond erbyn y dyddiad hwnnw, os ydym ond yn newid y pethau y gallwn eu gweld yn ein gwlad ein hunain, o flaen ein llygaid ein hunain, byddwn wedi caniatáu i anghyfiawnderau enfawr ddigwydd yn ein henw. Nid dyna'r gwaddol y dylem ei adael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Edrychaf ymlaen at glywed y ddadl.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant.
Gwelliant 1—Darren Millar
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
i gyflwyno siarter bwyd a diod lleol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod sy'n dod o ffynonellau lleol yn hytrach na bwyd a diod wedi'i fewnforio.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Lywydd, a diolch i Blaid Cymru a Delyth Jewell am gyflwyno'r drafodaeth hynod bwysig a difrifol hon. Rydym yn gwybod bod COVID-19 wedi amlygu gwendidau difrifol a oedd eisoes yn bodoli yn ein system fwyd. Tra oedd rhai ffermwyr llaeth yn arllwys llaeth i lawr y draen, roedd gennym lawer o silffoedd gwag yn ein harchfarchnadoedd, hyd yn oed yn yr adran cynnyrch llaeth. Er hynny, dechreuodd y pandemig fomentwm gwych o ran prynu bwyd lleol: yn hytrach na theithio i archfarchnadoedd mawr, mae llawer o drigolion ledled Cymru wedi troi at eu siopau fferm lleol a'u cigyddion yn eu pentrefi. Ni cheir unrhyw ffordd well o gefnogi ffermwyr a chynnyrch Cymreig na'n bod ni, bobl Cymru, yn prynu cynnyrch Cymreig.
Fel y dengys y gwelliant yn enw Darren Millar, hoffwn weld siarter bwyd lleol yn datblygu, siarter y gallai pob siop, caffi, bwyty a bar sy'n gwerthu bwyd yn lleol i'r ardal ei chefnogi, gan helpu defnyddwyr i wybod pa fusnesau sydd nid yn unig yn darparu bwyd lleol, ond hefyd yn cefnogi cynhyrchwyr bwyd lleol. Byddai'n system syml, fel y sgôr hylendid bwyd ar y drws. Byddai'n grymuso cwsmeriaid i wybod a yw'r busnes y maent ar fin mynd i mewn iddo yn caffael cynnyrch lleol o Gymru.
Yn y pen draw, mae angen inni ymddwyn yn fwy cyfrifol, oherwydd amcangyfrifir y byddai angen gwerth 2.5 planed o adnoddau pe bai'r byd yn defnyddio'r un faint o adnoddau â'r dinesydd Cymreig cyffredin. Blaid Cymru, rydych chi'n hollol gywir fod Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn galw ar Gymru i ymsefydlu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Gofynnwch i chi'ch hunain, Aelodau: a ydym yn gweithredu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang os oes angen ardal sy'n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru dramor i dyfu mewnforion coco, olew palmwydd, cig eidion, lledr, rwber naturiol, soi, pren, mwydion a phapur i Gymru mewn blwyddyn arferol? Mae 30% o'r tir sy'n cael ei ddefnyddio i dyfu mewnforion nwyddau i Gymru mewn gwledydd sydd wedi'u categoreiddio fel rhai sy'n wynebu risg uchel neu uchel iawn o broblemau cymdeithasol a datgoedwigo. Mae cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â thrawsnewid ecosystemau naturiol a newidiadau mewn gorchudd tir ar gyfer cynhyrchu mewnforion soi, coco, palmwydd a rwber naturiol i Gymru yn 1.5 miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn. Felly, i roi hyn mewn persbectif, mae mewnforion pren i Gymru yn defnyddio arwynebedd tir sydd ddwy waith a hanner maint Ynys Môn; mae mewnforion palmwydd i Gymru yn defnyddio arwynebedd tir sy'n fwy na sir Wrecsam; mae mewnforion soi i Gymru yn defnyddio arwynebedd tir sy'n fwy na maint sir Fynwy; ac mae mewnforion papur a mwydion i Gymru'n defnyddio arwynebedd tir o faint Ceredigion.
Yr hyn sydd gennym yw storm berffaith. Er bod Llywodraeth Cymru, ac mewn rhai achosion yn cael eu cefnogi bellach gan Blaid Cymru—. Bydd rhai polisïau amaethyddol, fel rheoliadau dŵr ledled Cymru a gofynion i blannu 10 y cant o goed, yn lleihau rhywfaint o gynhyrchiant bwyd Cymru. Mae hefyd yn ein gwneud yn fwy dibynnol ar fewnforion. Eisoes, mae mewnforion cig eidion i Gymru'n defnyddio arwynebedd tir o faint Bannau Brycheiniog. Ni all Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang fynd ar drywydd polisïau sy'n achosi cynnydd diangen mewn dibyniaeth ar nwyddau o bob cwr o'r byd sy'n dinistrio ein planed. Dylai Llywodraeth Cymru roi cyfrif ac adrodd ar yr allyriadau sylweddol o nwyon tŷ gwydr y mae Cymru'n eu hachosi dramor.
Ochr yn ochr â chefnogi cynhyrchiant bwyd Cymru, mae angen inni gefnogi ein ffermwyr i ddatblygu eu busnesau fel bod llai o ddibyniaeth ar soi sy'n cael ei fewnforio. Soi, ar ffurf blawd a ffa ar gyfer porthiant da byw, yw bron 60 y cant ac 20 y cant o gyfanswm y mewnforion. Amcangyfrifir bod diwydiant dofednod Cymru yn defnyddio 48 y cant o'r porthiant soi ar gyfer da byw a fewnforir i Gymru. Felly, Weinidog, byddai'n helpu pe gallech amlinellu pa gamau rydych chi'n eu cymryd, gyda'r Gweinidog perthnasol yma hefyd, i weithio gyda'n ffermwyr i gaffael porthiant amgen. Er enghraifft, mae canola, sef blawd hadau olew, pys a ffa, grawn wedi'i ddefnyddio gan fragdai a blawd pryfed wedi'u nodi fel rhai o'r dewisiadau mwyaf addawol yn lle blawd ffa soi.
Weinidog, fe ddywedoch chi fod adroddiad y WWF am gyfrifoldeb byd-eang Cymru yn frawychus a'ch bod yn benderfynol o newid y polisi caffael presennol. Honnodd y Dirprwy Weinidog, Lee Waters, yn COP26 ei fod yn rhoi cyfle i lywodraethau rhanbarthol gydweithio. Erbyn hyn mae COP27 yn cael ei gynnal a Chymru'n dal heb fod yn gweithredu fel cenedl gyfrifol ar lefel fyd-eang. Drwy gefnogi'r cynnig hwn a fy ngwelliant bach heddiw, gallwn ddysgu o'r gorffennol a gallwn helpu hefyd i arwain y ffordd a chael system fwyd sy'n deg i bawb. Gallwn gydweithredu i adeiladu ar y momentwm gwych i brynu bwyd lleol yng Nghymru. Diolch, Blaid Cymru. Diolch, Lywydd.
Diolch yn fawr iawn i Delyth am gyflwyno a chynnig y cynnig yma. Wel, am wlad sydd yn wledig, mae'n ymddangos yn rhyfedd gweld ein bod ni, fel cenedl, yn mewnforio nwyddau amaethyddol a choedwigaeth o wledydd o ar draws y byd, ond dyna, wrth gwrs, yw'r gwir. O wrtaith i borthiant i goed adeiladu a llawer iawn mwy, mae nifer fawr o'r nwyddau yma yn cael eu cynhyrchu mewn gwledydd eraill. Ac mae gan bob un o'r gwledydd yma lefelau gwahanol o risg pan fo'n dod i ddatgoedwigo neu risgiau cymdeithasol, megis llafur plant neu lafur gorfodol. Yn wir, mae ôl troed mewnforion Cymru o dramor yn gyfwerth i 823,000 hectar.
Martin Luther King Jr. a ddywedodd, 'Cyn i chi orffen bwyta brecwast yn y bore, rydych chi wedi dibynnu ar hanner y byd.' Mae i'n gweithredoedd dyddiol, y penderfyniadau a wnawn, a'r ffordd y penderfynwn wario ein harian ganlyniadau pellgyrhaeddol i wledydd a phobl eraill ar draws y byd, fel y soniodd Delyth ar ddechrau'r ddadl hon. Mae amcangyfrifon yn dangos y byddai angen dros 1.7 Daear arnom i gynnal ein lefel bresennol o dwf a defnydd.
Beth am edrych ar rai o'r nwyddau sy'n cysylltu ein sector amaethyddol â'r byd ehangach. Yn gyntaf, soi. Rydym yn mewnforio ychydig o dan 200,000 tunnell o soi bob blwyddyn. Er mwyn i'r soi hwn dyfu, mae'n defnyddio bron i 95,000 hectar o dir. Mae hynny'n cyfateb i ardal sy'n fwy na sir Fynwy, fel y nododd Janet. Fel y clywsom gan Janet, caiff soi ei fewnforio i Gymru gan amlaf ar ffurf blawd a ffa ar gyfer da byw, a'r diwydiant dofednod yng Nghymru sydd i gyfrif am bron i hanner ein defnydd o borthiant soi. Ond yr hyn na chlywsom oedd bod bron i dri chwarter yr ôl troed tir yn sgil mewnforio soi i'w weld mewn gwledydd sydd â risg uchel neu uchel iawn o ddatgoedwigo a/neu broblemau cymdeithasol, gan gynnwys Paraguay, Brasil, a'r Ariannin.
Nawr gadewch inni edrych ar bren. Mewn blwyddyn gyfartalog, rydym yn mewnforio 768,000 cu m o ddeunydd pren crai. Pren sy'n gyfrifol am yr ôl troed tir mwyaf yn sgil mewnforio nwyddau i Gymru. Mae'r arwynebedd tir cyfartalog sydd ei angen bob blwyddyn er mwyn ateb galw Cymru am bren yn 184,000 hectar. Mae hon yn ardal, fel y clywsom, sy'n cyfateb i ddwy waith a hanner maint Ynys Môn. Mae gan Lywodraeth Cymru nodau canmoladwy ar gyfer plannu coed, ond o gymharu â'r coed a dorrir i ateb ein hanghenion defnydd, prin y bydd yr uchelgeisiau hynny'n gwneud tolc. Mae un rhan o bump o ôl troed tir mewnforio pren i'w weld mewn gwledydd sydd â risg uchel o ddatgoedwigo a/neu broblemau cymdeithasol, gan gynnwys Brasil, Rwsia a Tsieina. Mae ein defnydd o bren yn dinistrio cynefinoedd, diwylliannau brodorol, ac ysgyfaint y byd.
Felly, beth ddylid ei wneud? Wel, fel dywedodd Dewi Sant, gwnewch y pethau bychan. Er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion sydd yn gyrru newid hinsawdd a'r argyfwng natur, mae'n rhaid sicrhau bod ein cadwyni cyflenwi yn rhai lleol, ac er mwyn gwneud hynny mae angen datblygu strategaeth fwyd lleol a chadarn.
Mae yna lawer o enghreifftiau o fentrau bwyd cymunedol llwyddiannus, ac ar adeg pan ein bod ni'n byw mewn cyfnod o argyfwng costau byw, gyda miloedd yn ddibynnol ar fanciau bwyd a chyda newid hinsawdd yn digwydd o flaen ein llygaid, yna mae'n rhaid inni ddatblygu strategaeth sydd yn gweithio nid yn unig i ni, ond i'n brodyr a'n chwiorydd ar draws y byd.
Ystyriwch y gwaith gwych sy'n cael eu wneud gan Y Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog, sy'n gweithio ar brosiect tyfu bwyd yn lleol, ac yn cydweithio efo Grŵp Llandrillo Menai i gynnal sesiynau coginio, gan ddysgu pobl sut i baratoi bwyd maethlon. Mae Antur Aelhaearn yn Llanaelhaearn hefyd wedi bod yn datblygu prosiectau cyffelyb, a phe byddech wedi mynd yno rhai misoedd yn ôl, yna byddech wedi gallu cael gwledd o lysiau o'r ardd gymunedol. Mae yna enghreifftiau tebyg ar draws y wlad, ond mae angen eu cefnogi a galluogi eraill i'w hefelychu.
Mae yna botensial aruthrol yma ar gyfer tyfu bwyd yn lleol. Dyna pam ein bod ni yn galw yma heddiw i ddatblygu system fwyd mwy hunangynhaliol, gan sicrhau bod yna gynnyrch cynaliadwy yn cael ei ddatblygu ym mhob cymuned, ac nad ydyn ni yn or-ddibynnol ar fewnforio deunyddiau.
Byddai hyn yn golygu gwyrdroi y colledion yr ydym ni wedi eu gweld yn y gallu i brosesu bwyd yn lleol; yn gyrru'r gadwyn gyflenwi lleol ymlaen; yn blaenoriaethu mewnforio deunydd cynaliadwy yn unig o dramor; a helpu i ddatrys y problemau o ddiffyg maeth a thlodi sydd yn endemig mewn rhai o'n cymunedau. Diolch.
Diolch i Blaid Cymru am y cynnig hwn, i gyd-fynd â COP27, a hefyd am yr angerdd y ddangosodd Delyth Jewell wrth gyflwyno'r ddadl. Rwyf innau hefyd am dalu teyrnged i'r adroddiad rhagorol a bendithiol o fyr gan Shea Buckland-Jones ar ran WWF, sy'n crynhoi'n union sut nad ydym yn ystyried ein cyfrifoldebau byd-eang a'n hangen i beidio â pharhau i ecsbloetio gwledydd rhannau deheuol y byd, gyda holl ganlyniadau annerbyniol gwneud cymunedau lleol na allant fforddio bwydo eu hunain yn dlawd wrth iddynt barhau, yn eironig, i dyfu nwyddau braf i'w cael i ni yn y rhannau gogleddol.
Felly, mae angen inni gael newid teg mewn perthynas â'n bwyd yn ogystal ag mewn perthynas â'n hallyriadau carbon, fel ein bod yn cefnogi'r tlotaf yn y byd ac yn byw'n llawer mwy ysgafn ar y ddaear, gan newid ein harferion bwyd a bwyta—rwy'n cytuno'n llwyr â Mabon—bwyd tymhorol a dyfir yn lleol yn lle dibynnu ar fwyd o dramor. Rhaid inni wylio na wnawn hyn yn rhy sydyn er hynny, oherwydd mae rhai pobl yn dibynnu ar werthu bwyd i ni o dramor er mwyn ennill bywoliaeth, ond mae'n rhaid inni gael trefniadau trosiannol i'w galluogi i dyfu mwy o'u bwyd eu hunain a chyfoethogi eu deiet tra byddwn ni'n mewnforio bwyd yr ystyriwn ei fod yn ddanteithfwyd yn unig, yn hytrach na bwyd rydym yn dibynnu arno.
Yn rhy aml y dyddiau hyn gwelsom fod y dyddiau wedi'u rhifo ar ddibynnu ar fewnforion bwyd mewn union bryd—mae'r dyddiau hynny wedi'u rhifo beth bynnag. Mae'r cyfuniad o Brexit, yr argyfwng hinsawdd a thensiynau cynyddol a gwrthdaro rhwng ac o fewn gwahanol wledydd yn golygu bod problemau diogeledd bwyd yn amlwg bellach. Beth bynnag, mae bwyd ffres, a gynhyrchir yn lleol, yn blasu'n well ac yn fwy maethlon na bwyd sydd wedi cael ei gasglu cyn pryd a'i chwistrellu â chwyr neu gemegau er mwyn gwneud iddo edrych yn dda wedi iddo gael ei gludo ar draws y byd. Felly, mae gwir angen inni ganolbwyntio ar dyfu bwyd yn lleol.
Rydym wedi ymrwymo i gyrraedd sero net fel cyfraniad Cymru i osgoi'r trychineb hinsawdd byd-eang, ac mae hynny'n galw am newidiadau enfawr i bob un ohonom. Ac mae lleihau ein hallyriadau carbon o fwyd yn rhywbeth y gall pawb ohonom chwarae ein rhan yn ei wneud, oherwydd er mai ein gwaith ni yw craffu ar Lywodraeth Cymru i weld pa mor gyflym y gall Cymru ddatgarboneiddio ei diwydiant, ei hallyriadau trafnidiaeth ac adeiladau cyhoeddus, nid yw hynny'n rhywbeth y mae deiliaid tai cyffredin yn mynd i allu dylanwadu arno. Ond gallant wneud cyfraniad gwirioneddol i'r hyn rydym yn ei fwyta, oherwydd dysgais yn ddiweddar, ac roedd yn neges hynod bwysig, nad y defnydd o gerbydau, nad gwresogi'r cartref, na hyd yn oed hediadau gwyliau sydd ar frig y rhestr o allyriadau carbon mewn cartrefi unigol; yn ôl gwaith ymchwil ar ran Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae allyriadau carbon aelwydydd o fwyd a diod yn cynhyrchu mwy na dwywaith yr allyriadau carbon rydym yn eu creu o deithiau gwyliau.
Felly, mynychais gynhadledd yn ddiweddar a drefnwyd gan Cynghrair Gweithwyr Tir Cymru, lle clywais ddigonedd o dystiolaeth fod amaethyddiaeth atgynhyrchiol yn broffidiol heb unrhyw gymhorthdal cyhoeddus. Mae hynny'n werth ei ailadrodd: heb unrhyw gymhorthdal cyhoeddus. Dywedodd un siaradwr y gall un erw fwydo 50 o deuluoedd, dywedodd un arall eu bod yn bwydo 150 o aelwydydd ar naw erw. Ac mae'n creu swyddi hefyd. Mae'n amrywio cryn dipyn, ond yn gyffredinol byddai'n ymddangos bod pob erw o dir yn gallu cynhyrchu un swydd. Felly, pe bai gennym gynllun hyfforddi priodol i bobl ddatblygu gyrfa mewn garddwriaeth, gallem ddechrau darparu'r bwyd sydd ei angen arnom yn gyflym ar gyfer ein rhaglen prydau ysgol am ddim yn lleol a pheidio â dod ag ef i mewn o'r tu allan i Gymru. Cawsom ein bendithio gan bobl fel Castell Howell, sy'n ymroddedig i'r ymgyrch hon hefyd, ond rydym yn dal i brynu llawer gormod o fwyd o'r tu allan i Gymru, sy'n golygu bod yr elw i gyd yn gadael Cymru.
Felly, mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ac agweddau caffael cyhoeddus y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn cynnig cyfleoedd gwych i gyflawni'r newid sydd ei angen arnom i wneud ein rhaglen uchelgeisiol i ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb yn fforddiadwy, fel sbardun i'r genedl gyfan fwyta bwyd gwell ac iachach, hyd yn oed ynghanol yr argyfwng costau byw. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn gael gwell cyllid i hyfforddeion er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n gadael ysgol yn deall bod gyrfa gyffrous iawn i'w chael mewn garddwriaeth, a dyna un o'r diwydiannau twf y mae angen inni eu datblygu.
Mae gan Gymru hanes hir o ryngwladoliaeth. Mae mudiadau undod wedi bodoli ers cenedlaethau gyda chymunedau mor bell i ffwrdd â Somalia, fel y gwyddom o hanes masnachu glo Cymru a'i diaspora hirsefydlog; Lesotho, drwy Dolen Cymru, a sefydlwyd yn 1982, a oedd, wedi'r cyfan, yn enghraifft gyntaf y byd o efeillio rhwng gwledydd; ac Uganda, lle mae sawl elusen wedi gweithio dros bedwar degawd.
Gadewch inni gymryd enghraifft wych rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Mae'r rhaglen yn cysylltu gweithwyr proffesiynol yn y sector iechyd, y sector addysg a'r sectorau amgylcheddol a diaspora yng Nghymru ac Affrica, ac yn harneisio pŵer cysylltiadau cymdeithas sifil cydweithredol yn y gymuned. Yn hytrach nag asiantau neu staff proffesiynol mewn swyddfeydd cenedlaethol, mae prosiectau'n digwydd drwy wirfoddolwyr mewn cysylltiad uniongyrchol â phartneriaid lleol yn y wlad, mewn meysydd fel iechyd, addysg, newid hinsawdd a dŵr. Mae Cymru o blaid Affrica yn gatalydd i lawer iawn o waith cymunedol yma yng Nghymru, gan godi ymwybyddiaeth ac arian ar lefel leol, ac mae cyllid Llywodraeth Cymru wrth gwrs wedi cefnogi hyn trwy feithrin capasiti; cydlynu mudiad masnach deg Cymru, gyda Chymru'n dod yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd yn 2008; ymdrechion i liniaru newid hinsawdd, gan gynnwys prosiect Maint Cymru i helpu i ddiogelu ardal o fforestydd glaw maint Cymru; a lleoliadau gwaith gwirfoddol ar gyfer gweithwyr proffesiynol.
Felly, rydym yn deall yma yng Nghymru beth yw manteision gweithio ar y cyd ar y lefel ryngwladol i helpu ein cymheiriaid dramor, ond gyda chyfraniadau fy nghyd-Aelodau mewn cof, a allwn ni'n onest, â'n llaw ar ein calonnau, ddatgan ein bod yn gwneud cyfraniad net cadarnhaol i'r byd, pan fo'n defnydd ar y lefel ddomestig yn gyrru newid hinsawdd, dirywiad bioamrywiaeth a cholli diwylliant? Sut y gallwn bregethu ar yr un pryd am gynaliadwyedd a gwarchod diwylliant yma yng Nghymru tra bôm yn cyfrannu at yr hyn sy'n hil-laddiad diwylliannol ac amgylcheddol mewn tiroedd pell?
Beth am edrych eto ar astudiaeth achos arall—un a hyrwyddwyd gan Maint Cymru—sef achos pobl Guarani. Mae'r Guarani yn un o'r grwpiau mwyaf o bobl frodorol yn America Ladin, ac mae tiriogaeth eu hynafiaid yng nghoedwig yr Iwerydd ym Mrasil, coedwig nad oes ond 7 y cant ohoni'n dal heb ei difa. Mae coedwig yr Iwerydd yn dal i gynnal tua 5 y cant o fioamrywiaeth y byd, ac mae'n darparu dŵr i tua 67 y cant o boblogaeth Brasil. Maent yn maethu, yn diogelu ac yn parchu'r tir, y planhigion, yr anifeiliaid a'r pryfed, ac yn ystyried eu bywydau'n gyfartal, ac nid ydynt yn ceisio cael goruchafiaeth a phŵer dros fyd natur na'i ecsbloetio. Er bod y goedwig yn dioddef lefelau enfawr o ddatgoedwigo, mae'r gorchudd llystyfiant yn y tiroedd Guarani a gydnabyddir yn gyfreithiol bron yn 100 y cant, sy'n dangos mai pobl frodorol yw gwarcheidwaid gorau coedwigoedd y byd.
Ond mae patrymau bwyta ar y lefel ddomestig yn taflu cysgod hir a thywyll dros y diwylliannau brodorol hyn dramor. Mae grymoedd economaidd pwerus yn bygwth yr ychydig diroedd y mae'r Guarani wedi gallu eu hamddiffyn, ac yn eu hatal rhag gosod terfynau a diogelu'r gweddill o diriogaeth eu hynafiaid, drwy bethau fel cynhyrchu mwynau a phrosiectau seilwaith mawr. Yn wir, mae tiriogaethau Guarani yn cael eu bygwth ar hyn o bryd gan hyd at 178 miliwn hectar o ddatgoedwigo cyfreithlon ar dir preifat, a hyd at 115 miliwn hectar o ddatgoedwigo anghyfreithlon mewn tiriogaethau brodorol a ddiogelir ar hyn o bryd: cyfanswm arwynebedd o fwy na 12 gwaith maint y Deyrnas Unedig. Gyrrwyd y bygythiadau hyn yn rhannol o leiaf gan arlywyddiaeth niweidiol Jair Bolsonaro, a nodweddwyd gan lygredd, trachwant a diffyg parch eithafol tuag at hawliau brodorol a hawliau byd natur.
Ond mae dirywiad cynefinoedd yn cael ei yrru gan ymddygiad llawer mwy sylfaenol, sef defnydd. Ni sy'n gyfrifol am beth o'r difrod sy'n deillio o ddefnydd, ac mae angen inni fod yn onest am hynny. Fel cenedl, rydym wedi ceisio gwneud iawn am ein troseddau yn y gorffennol, yn cynnwys ein rôl yn sefydlu trefedigaethau ac ymerodraeth, ond rydym hefyd wedi cyfrannu at newid hinsawdd byd-eang, at golli cynefinoedd, ac mae ein hymddygiad heddiw yn dal i yrru datgoedwigo dramor; perthynas economaidd echdynnol a adeiladwyd ar drachwant sy'n dinistrio diwylliannau brodorol a chynefinoedd.
Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau a mentrau rhyngwladol gyda'r nod o gadw ac adfer coedwigoedd, ac wrth ymateb i'r ddadl, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog amlinellu sut y bwriada Llywodraeth Cymru gyflawni'r nodau hyn er mwyn sicrhau bod Cymru'n genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, nid yn unig mewn perthynas â'r hinsawdd, ond mewn perthynas â phobl a'u diwylliannau hefyd.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon. Yn sicr, mae'n gynnig diddorol iawn ac yn un pwysig iawn yn wir, ac rwy'n croesawu'r cyfle i drafod mater sydd efallai'n cael ei anwybyddu pan fyddwn yn trafod newid hinsawdd, sef y modd y mae ein defnydd ni yma yng Nghymru yn effeithio ar bobl a chymunedau ym mhob cwr o'r byd yn ogystal â llesteirio ymdrechion i wrthsefyll newid hinsawdd. Cafodd materion o'r fath eu crybwyll wrth ddatblygu fy Mil bwyd ac maent wedi helpu i lywio rhai o'r darpariaethau sydd ynddo. Lywydd, nid wyf am rannu gormod am fy Mil ar hyn o bryd—rwy'n siŵr fod yr Aelodau ar draws y Siambr yn edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn cael ei gyflwyno i'r Siambr y mis nesaf—ond bydd y Bil yn edrych ar roi effaith system fwyd Cymru ar ein hamgylchedd yn ogystal ag ar yr amgylchedd byd-eang ynghanol y broses o wneud penderfyniadau drwy sefydlu nodau bwyd.
Nawr, wrth gwrs, fel y nododd Delyth, mae cyfrifoldeb byd-eang yn un o saith nod llesiant a nodir yn y Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae disgwyliad eisoes y dylai cyrff cyhoeddus ystyried effaith eu penderfyniadau ar y byd ehangach. Ond fel y mae'r cynnig yn datgan yn gywir, gellir gwneud mwy, yn wir mae'n rhaid gwneud mwy, i dynnu sylw at hyn. Ac ydym, rydym yn rhan o system fyd-eang o gynhyrchiant a defnydd, ond mae gennym gyfle i arwain yma yng Nghymru. Dyma pam y bydd fy Mil yn y dyfodol yn ceisio cryfhau'r modd y llywodraethir y system fwyd ymhellach, fel un elfen o gynyddu atebolrwydd o fewn y system ehangach, sy'n golygu y gallwn ganolbwyntio mwy ar sefydlu beth yw effaith ein defnydd a sut i liniaru hyn. Gwrandewais gyda diddordeb ar arweinydd Plaid Cymru ddoe yn ei gwestiwn i arweinydd y tŷ am yr angen am gomisiwn bwyd. Fodd bynnag, Lywydd, fe gawn fwy o gyfle i siarad am hyn, ond rwy'n siŵr y bydd Plaid Cymru'n gweld bod llawer o'r pwyntiau a godwyd ym mhwynt 2(c) eu cynnig yn rhyngweithio â fy Mil.
Felly, beth arall y gallwn ei wneud i leihau effeithiau amgylcheddol ein defnydd? Mae'r cynnig yn rhestru rhai pwyntiau diddorol, fel cefnogi'r sector amaethyddol i gyrchu porthiant sy'n fwy ecogyfeillgar ac nad yw'n cyfrannu at ddatgoedwigo. Ar y pwynt hwn wrth gwrs, rwyf am gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau fel ffermwr. Hefyd, mae angen inni edrych ar gadwyni cyflenwi bwyd lleol, sydd eisoes wedi'i grybwyll, a nodi cyfleoedd i gynhyrchu mwy o'r hyn rydym yn ei fwyta a helpu cyrff cyhoeddus i gyrchu'r cynnyrch hwn. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y bydd Bil Caffael Cyhoeddus y Llywodraeth yn galluogi awdurdodau lleol i adeiladu'r capasiti i gyrchu mwy o gynnyrch lleol a rhoi cyfleoedd i gynhyrchwyr lleol fod yn rhan o drefniadau caffael lleol.
Ond un peth y gallem ei wneud ac efallai y gellid bod wedi edrych arno o fewn y cynnig sydd o'n blaenau yw sut i gryfhau'r cynlluniau labelu sydd gennym i'w gwneud yn haws i ddefnyddwyr nodi cynhyrchion sy'n cael effaith fwy cadarnhaol ar bobl a'r amgylchedd. Yn rhan o hyn, mae angen inni gynyddu lefel y data a gasglwn ar lefel Cymru a'r DU i gynyddu tryloywder a dealltwriaeth o effaith ein defnydd. Felly, byddai'n ddiddorol clywed gan Lywodraeth Cymru sut mae'n gweithio gyda phartneriaid i gynyddu'r gwaith o gasglu data a sut y gallwn wella dulliau olrhain o fewn cadwyni cyflenwi. I gloi, Lywydd, rwy'n croesawu'r ddadl heddiw, ac rwy'n cefnogi'r sail dros y cynnig ac yn sicr yn cefnogi ein gwelliant. Diolch.
Yn anffodus i chi i gyd, nid Luke Fletcher ydw i, fel y dywedodd Delyth, ond rwyf am archwilio'r contract economaidd. Drwy'r contract economaidd, rhaid i fusnesau ddangos gweithredu presennol mewn meysydd megis cryfder economaidd a gallu i addasu, gwaith teg, hyrwyddo llesiant a dod yn garbon isel a gallu i ddygymod â newid hinsawdd. Yn ddelfrydol, byddai'r contract economaidd yn helpu i greu Cymru lle mae sefydliadau'n wydn ac yn addasu i amodau economaidd ac amodau marchnad cyfnewidiol, a lle maent yn barod i dyfu'n gynaliadwy. Ar ben hynny, dylem weld bod gweithwyr yn ddiogel, yn cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli, ac yn gallu camu ymlaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu. Yn hyn o beth, byddai amgylchedd gwaith diogel lle mae hawliau cyfreithiol yn cael eu diogelu yn hanfodol i gyflawni nodau'r contract economaidd.
Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys ymrwymiad fod rhaid i fusnesau gymryd camau rhagweithiol i sicrhau gweithlu iachach gan wneud y gorau er eu lles corfforol a meddyliol, gan greu cymunedau cydlynol sy'n ddeniadol, yn llwyddiannus, yn ddiogel ac wedi'u cysylltu'n dda. Ar ben hynny, mae'n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau hyrwyddo a diogelu ein diwylliant, ein treftadaeth a'n hiaith Gymraeg. Ond fel y clywsom, mae Cymru'n mewnforio nwyddau amaethyddol a nwyddau pren o sawl gwlad ledled y byd, ac mae llawer ohonynt yn creu risgiau cymdeithasol. Rydym wedi ymbellhau o'r broses gynhyrchu, felly nid ydym bob amser yn gweld effaith ein polisïau caffael ar fusnesau. Mae perygl o lafur plant neu lafur gorfodol, caethwasiaeth fodern a niwed i ecosystemau hanfodol ynghlwm wrth gadwyni cyflenwi nwyddau sy'n cyflenwi Cymru yn y gwledydd hyn. Dylem gywilyddio ynghylch hynny. Sut y gallwn honni ein bod eisiau gwneud y gorau er lles meddyliol a chorfforol tra bôm yn cymell arferion llafur sy'n ecsbloetio? Ym mha ystyr y caiff hawliau eu parchu pan fydd plant yn cael eu gorfodi i weithio er mwyn i ni gael ein coffi boreol? A ydym yn hyrwyddo cymunedau cydlynol sy'n ddeniadol, yn llwyddiannus, yn ddiogel ac wedi'u cysylltu'n dda tra bôm yn rhan o'r broses o ddinistrio erwau niferus o goedwig? Rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae ei rhan i sicrhau bod busnesau'n adolygu eu polisi caffael a sicrhau ei fod yn cynnwys arferion teg a moesegol. Dylent weld bod sefydliadau'n adolygu a datblygu eu polisïau bwyd a'u contractau caffael i gynyddu ystod y cynnyrch i gynnwys sudd ffrwythau, byrbrydau a bwydydd eraill sy'n deg, yn foesegol ac yn gynaliadwy lle bo modd, a chynnwys contractau bwyd heb olew palmwydd neu gydag olew palmwydd cynaliadwy i sicrhau bod cynefinoedd naturiol yn cael eu cynnal, fel yr amlygwyd gan Masnach Deg Cymru.
Felly, i gloi, mae angen i'r Llywodraeth gryfhau'r contract economaidd i'w gwneud yn ofynnol i'w lofnodwyr ymrwymo i gadwyni cyflenwi sy'n rhydd o ddatgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol. Byddai'n rhagrithiol i'r Llywodraeth geisio gwarantu arferion gwaith teg a thwf busnes cynaliadwy gartref gan fynd ati ar yr un pryd i gyfrannu at gaethwasiaeth, amgylcheddau gwaith erchyll a dirywiad amgylcheddol dramor. Diolch yn fawr.
Diolch i Blaid Cymru am y ddadl yma, a diolch hefyd i Delyth am agor hyn.
Rwyf am ganolbwyntio'n fyr iawn ar un agwedd. Mae cymaint yn hyn, onid oes, ac mae mor bwysig ein bod yn edrych ar y mater. Ond roeddwn i am edrych ar fwyd a ffermio. Mae'r ddadl rydym yn ei chael mor bwysig yn sgil datblygiad Bil amaethyddol i Gymru, ac rydym am weld cynhyrchiant bwyd cynaliadwy yn cael lle canolog yn hwnnw. Rydym yn falch o weld bod cynhyrchu bwyd bellach wedi'i gynnwys yn rhan o'r Bil, ond eto mae rhywfaint o ddiffyg eglurder ynglŷn ag a fydd ffermwyr yn derbyn y taliad sylfaenol am gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a byddai'n wych clywed gan y Gweinidog a'r Llywodraeth am unrhyw fwriadau'n ymwneud â hynny. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch cyrraedd eu huchelgeisiau sero net, a dylem siarad lawer mwy am leihau mewnforion bwyd, fel y clywsom y prynhawn yma, yn enwedig y rhai sydd â'r ôl troed carbon mwyaf. Felly, rhaid inni dyfu cymaint â phosibl o'n bwyd ein hunain mewn ffordd gynaliadwy yma yng Nghymru. Mae angen inni fywiogi rhwydweithiau bwyd lleol, ac mae angen cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy ar gyfer marchnadoedd bwyd lleol. Pan fyddaf yn siarad â ffermwyr yn y canolbarth a'r gorllewin, dyna yw eu huchelgais hwy hefyd. Fel ffermwyr, maent yn gweld eu rôl fel ceidwaid tir, sy'n ymwybodol o'r amgylchedd ac yn pryderu yn ei gylch, ac fel cynhyrchwyr bwyd. Felly, rwy'n gwybod ein bod ni i gyd eisiau gweithio gyda ffermwyr i wireddu'r uchelgais o gynhyrchu a bwyta mwy o fwyd yma yng Nghymru. Fel y dywedodd Delyth, ers 2016, mae diwydiant bwyd ac amaeth Cymru wedi dioddef effeithiau tair her fawr: Brexit, COVID-19 a'r argyfwng costau byw nawr. Rydym am weld cynllun beiddgar a radical gan Lywodraeth Cymru ar gyfer diwydiannau bwyd ac amaeth Cymru i sicrhau bod y sector yn goroesi ac yn ffynnu.
Mae'n bwysig iawn nodi diogeledd bwyd hefyd, rhywbeth sy'n mynd i fod yn her fawr, yn enwedig gyda rhyfel Wcráin. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwarchod pobl—preswylwyr a'n gweithwyr—rhag ansicrwydd bwyd, ac mae angen inni leihau ein gwastraff bwyd. Mae'r Rhwydwaith Ffermio Natur Gyfeillgar yn amcangyfrif bod 30 y cant o gyfanswm y bwyd a gynhyrchir yn fyd-eang yn cael ei wastraffu, ac yn y Deyrnas Unedig, fod cyfanswm y gwastraff bwyd yn 9.5 miliwn tunnell, sy'n syfrdanol, gyda 70 y cant ohono'n fwytadwy ac wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta. Rwyf wedi gweld cymunedau yn fy rhanbarth yn cydweithio i leihau'r gwastraff bwyd hwnnw, drwy oergelloedd cymunedol er enghraifft. Mae Hanging Gardens yn Llanidloes yn un enghraifft o'r rheini. Byddai'n ddiddorol clywed mwy gan Lywodraeth Cymru am yr hyn y gallant hwy ei wneud i gefnogi'r ymgyrch i leihau gwastraff bwyd.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru ers peth amser wedi bod yn galw am gyrchu bwyd lleol, a gorau po fwyaf y gall y sector cyhoeddus ei wneud i gymell ymddygiad i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n gobeithio ein bod yn sicrhau, er enghraifft, fod y rhaglen prydau ysgol am ddim yn defnyddio cymaint o fwyd wedi'i gynhyrchu a'i gyrchu'n lleol â phosibl. Er fy mod yn cydnabod mai awdurdodau lleol yn y pen draw sy'n gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â chaffael, byddai'n dda gennyf glywed gan Lywodraeth Cymru sut y gellid gwneud hynny, o bosibl, yn un o amodau'r cynllun, fel ein bod yn ariannu hynny'n iawn er mwyn defnyddio cynnyrch Cymreig lle bynnag y bo modd.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn, eto, i Blaid Cymru; mae'n ddadl bwysig, bwysig iawn. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu ati. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig. Byddwn yn dadlau, fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ein bod ni, mewn gwirionedd, yn mynd dipyn pellach na'r cynnig. Rydym yn amlwg yn cefnogi'r uchelgeisiau a adlewyrchir yn y cynnig, ond yr her go iawn yw gweithredu'n ymarferol, gan gynnwys derbyn yr angen i flaenoriaethu, i fod yn gyson wrth gymhwyso ein hegwyddorion ac i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â busnesau ac undebau llafur sy'n canfod bod angen iddynt wneud newidiadau mawr i'w ffyrdd o weithio.
Rydym yn falch iawn o'r gwaith y buom yn ei wneud eisoes i leihau ein heffaith ar y blaned. Mae ein penderfyniad i wrthod cefnogi allforwyr tanwydd ffosil dramor ac ailffocysu ymdrechion tuag at gyfleoedd rhyngwladol newydd yn y sectorau ynni carbon isel ac adnewyddadwy yn un o nifer o gamau cadarnhaol rydym eisoes wedi'u cymryd i gyrraedd nod 'Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang'. Er mwyn cyrraedd y nod penodol hwn yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rhaid inni sicrhau ein bod yn ystyried effaith ein holl bolisïau yng Nghymru ar raddfa fyd-eang. Mae ein gwaith ar fioamrywiaeth yn dangos ymrwymiad clir i'r nod hwn, gyda Llywodraeth Cymru yn rhan lawn o COP15 ac yn bartner allweddol wrth ddatblygu fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang newydd. Mae'r archwiliad dwfn o fioamrywiaeth yn ddiweddar wedi canolbwyntio ar ddull Cymru o weithredu'r targed a osodwyd gan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i ddiogelu o leiaf 30 y cant o'r tir a 30 y cant o'r môr erbyn 2030. Cyhoeddwyd argymhellion i gefnogi cyflwyno'r nod 30x30 yn ystyrlon ac mae camau ar waith i weithredu ar unwaith.
I droi at ail ran y cynnig, rydym yn y broses o ailgyfrifo ein hôl troed byd-eang ein hunain, gwaith sy'n cael ei wneud gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys datblygu ôl troed ecolegol byd-eang i Gymru a gwella ein dealltwriaeth o'r aliniad rhwng y gwahanol fetrigau sy'n seiliedig ar ddefnydd sydd ar gael, yn enwedig mewn perthynas â charbon. Byddwn hefyd yn cyhoeddi amcangyfrif o ôl troed allyriadau defnydd Cymru, yn y DU a thramor.
Mae ein rhaglen lywodraethu'n nodi'r angen i weithredu a gwreiddio ein hymateb i'r argyfyngau ym mhob dim a wnawn. Mae ein contract economaidd yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer economi llesiant sy'n wyrdd, yn ffyniannus ac yn gyfartal. Rydym yn mynd ymhellach drwy ddatblygu cyfres o safonau, ac mae busnesau yng Nghymru eisoes yn cael eu hannog i fabwysiadu'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Yn wir, bydd y contract economaidd yn parhau i fod yn elfen allweddol wrth inni fynd ar drywydd gwerth cymdeithasol, gan yrru newid cymdeithasol a chyfrifoldeb byd-eang yn ein heconomi.
Mae gennym weledigaeth strategol ar gyfer y diwydiant cynhyrchu a phrosesu bwyd a diod yng Nghymru, gyda pholisi amaethyddol newydd yn cael ei ddatblygu a pholisi iechyd cyhoeddus gyda phwyslais ar fwyd, 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Mae'r polisïau hyn, ochr yn ochr â pholisïau allweddol eraill, megis prydau ysgol am ddim a chanllawiau caffael ar gyfer cyrff cyhoeddus, yn creu pecyn polisi integredig cyfunol, a'r cyfan wedi'i gynllunio o amgylch fframwaith Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Rydym yn cydnabod yn llwyr fod llawer o waith da'n digwydd ar lefel leol, gyda nifer o siopau a chaffis yn dewis bwyd a diod o ffynonellau lleol. Rydym am fanteisio ar yr ymdrechion hyn a dwyn ynghyd y gwahanol weithgareddau a'r gefnogaeth i fwyd ar lefel gymunedol drwy ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol. Hefyd, bydd y strategaeth hon yn ceisio grymuso diwydiant i arwain y ffordd ar alluogi ac annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod o ffynonellau lleol. Yn y cyd-destun hwn, rwy'n gallu cefnogi'r gwelliant yn enw Darren Millar hefyd. Gallwn ei archwilio fel rhan o'r gwaith ar y strategaeth bwyd cymunedol, gan gydweithio gyda'r diwydiant. Fel y bydd yn cytuno, rwy'n siŵr, fe allant ac fe ddylent arwain ar siarter o'r math yma. Drwy gefnogaeth i'r diwydiant bwyd-amaeth a gweithgarwch bwyd cymunedol gallwn gynyddu cyfran y cynnyrch o Gymru sy'n cael ei fwyta yng Nghymru.
Rydym yn gwbl ymroddedig i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd yng Nghymru. Eleni rydym wedi dyrannu £4.9 miliwn i fynd i'r afael â thlodi bwyd, i gynnig darpariaeth o fwyd argyfwng ac i gefnogi datblygiad partneriaethau bwyd a fydd yn helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Er mwyn sicrhau nad yw plant o deuluoedd ar incwm is yn llwgu yn ystod gwyliau'r ysgol, rydym wedi cyhoeddi £11 miliwn o gymorth ychwanegol tan ddiwedd hanner tymor mis Chwefror.
Mae bwyd yn cyffwrdd â phob un o'r nodau llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae caffael felly yn sbardun pwerus i sicrhau ein bod yn rhoi mwy o bwyslais ar gynaliadwyedd, cyrchu moesegol, ansawdd, maeth, ystyriaethau economaidd-gymdeithasol a diwylliannol yn hytrach na chost yn unig. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ymgorffori cynaliadwyedd ac amcanion yr economi sylfaenol yn rhan o gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus. Mae gwariant ar gaffael bwyd y sector cyhoeddus oddeutu £84 miliwn y flwyddyn. Mae'r gwariant hwn yn ymwneud â'r hyn y mae pobl agored i niwed, a bregus yn aml, mewn cymdeithas yn ei fwyta'n ddyddiol, felly mae angen iddo fod yn fwyd iach, yn faethlon ac yn gynaliadwy. Mae angen inni sicrhau'n bendant ei fod yn parhau i ddod o ffynonellau cynaliadwy. Ac er fy mod yn cytuno'n llwyr fod rhaid inni ddefnyddio caffael cyhoeddus i ysgogi newid eang, rhaid inni roi hyn yn ei gyd-destun hefyd: mae cyfanswm gwariant cyhoeddus ar gaffael bwyd yng Nghymru yn debyg i wariant defnyddwyr mewn un siop archfarchnad fawr yn unig yng Nghaerdydd.
Felly, er mwyn mynd i'r afael yn iawn â datgoedwigo, fel y mae llawer o'r Aelodau wedi'i ddweud, a throsi ac ecsbloetio cymdeithasol o fewn y cadwyni cyflenwi, mae angen newid patrymau prynu bwyd ar lefel cymdeithas. Byddai hyn yn cael hwb mawr pe bai Llywodraeth y DU yn annog gofynion labelu. Rwy'n galw ar Aelodau ar y meinciau gyferbyn i ymuno â ni i ofyn i Lywodraeth y DU adolygu ei strategaeth labelu bresennol, sy'n ddifrifol o annigonol, i gynorthwyo defnyddwyr i brynu'n foesegol. Fel y nododd Delyth yn huawdl iawn yn ei sylwadau agoriadol, heb hynny, mae llawer o bobl a fyddai'n ceisio gwneud y peth iawn yn ei chael hi'n anodd deall beth yn union y maent yn ei brynu.
Rydym yn gryf iawn ar brynu cynnyrch Cymreig penodol, megis llaeth, cynnyrch llaeth a chig, ond mae yna gynhyrchion hefyd a gaiff eu bwyta ar raddfa fawr yng Nghymru ond sydd ond yn cael eu cynhyrchu ar raddfa gymharol fach yma, megis cynnyrch garddwriaethol, fel y nododd Jenny. Mae cyfle sylweddol i newid hyn, i sicrhau bod y cyflenwad yn dilyn y galw ac i sicrhau bod mwy o ffrwythau a llysiau'n cael eu darparu mewn prydau ysgol. [Torri ar draws.] Ewch amdani, Jenny.
Rwy'n croesawu cyflwyno'r datblygiad garddwriaeth a'r grantiau lefel mynediad, ond ar hyn o bryd dim ond chwarter cyfran y person y dydd o ffrwythau a llysiau a gynhyrchwn, felly mae honno'n ffordd hir iawn i'w theithio. Sut y gallwch chi gyflymu'r newid sydd ei angen arnom fel bod llawer mwy o'n ffrwythau a'n llysiau, sydd i fod yn draean o'n deiet, yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru?
Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr. Ni fydd gennyf amser i fynd drwy holl fanylion hynny, ond mae pocedi o arloesedd yn dangos beth sy'n bosibl i gyfanwerthwyr a sefydliadau cymdeithas sifil sy'n gweithio gyda chynhyrchwyr a thyfwyr lleol i helpu i ddatblygu prydau ffres ac iach i ysgolion.
Weinidog, nid wyf yn gwybod a weloch chi'r cais am ymyriad gan arweinydd yr wrthblaid hefyd.
Naddo, mae'n ddrwg gennyf. Ewch amdani.
Diolch, Weinidog. Mae pawb yn gefnogol i'r teimlad heddiw, ond fe wnaethoch chi gyffwrdd ar ddau faes yno lle rydych eisiau cynyddu caffael lleol—llaeth a chig coch. Mae'n ffaith bod y sectorau prosesu yn y ddau faes yn gyfyngedig iawn yng Nghymru. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o'n llaeth yn cael ei brosesu mewn llaethdai yn Lloegr. Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i atal y dirywiad a chynyddu buddsoddiad mewn capasiti prosesu i gefnogi'r teimladau a fynegwyd yn gyffredinol y prynhawn yma?
Yn sicr, Andrew. Ni fydd gennyf amser i fynd drwy bob polisi unigol y soniwyd amdanynt mewn cynnig eang iawn, ond rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr. Un o'r pethau mawr i ni yw gwneud yn siŵr ein bod yn cael yr holl werth o'n cadwyn gyflenwi bwyd, ac wrth wneud hynny, ein bod yn helpu'r proseswyr i ddod i Gymru a defnyddio'r cynnyrch hwnnw. Ond ymddiheuriadau—mae'r Dirprwy Lywydd ar fin dweud wrthyf fod fy amser bron ar ben ac rwyf eto i fynd drwy hanner arall fy araith.
Fe roddaf ychydig bach mwy o amser i chi oherwydd yr ymyriadau.
Efallai y bydd angen ychydig mwy nag ychydig bach mwy.
Mae cynigion y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynnwys llu o gamau gweithredu sydd wedi'u cynllunio i gynorthwyo ffermwyr i barhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ochr yn ochr â mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae ffermio cynaliadwy yn gwbl allweddol i'n dyfodol. Mae gennym safonau cynaliadwyedd eisoes sy'n arwain y byd yn ein sector cig coch drwy ein dulliau cynhyrchu sy'n seiliedig ar borfa, ac mewn ymateb i'r prinder protein a gynhyrchir yn y wlad hon ar gyfer bwyd anifeiliaid, bydd y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gynllun peilot i annog tyfu cnydau a phorfeydd sy'n darparu manteision amgylcheddol, megis cnydau protein. Wrth gwrs, mae angen inni sicrhau bod ein ffermwyr yn chwarae eu rhan yn ymladd yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur hefyd, ac wrth wneud hynny, mae angen inni eu hannog i fanteisio i'r eithaf ar eu cnydau. Felly, dyna ateb hynny'n rhannol, Andrew—roeddwn i'n dod ato. Nid oes gennyf amser i fynd drwyddo'n ddigon manwl—ymddiheuriadau.
Drwy ein rhaglen Cymru ac Affrica, rydym wedi gallu dangos ein hymrwymiad i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang drwy gefnogi nifer o brosiectau tyfu coed yn Affrica is-Sahara. Drwy ddiogelu a phlannu coed, boed yng Nghymru neu tu hwnt, gwyddom y gallwn wneud cyfraniad sylweddol i'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd a datgoedwigo trychinebus. Mae yna bryderon byd-eang, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i Maint Cymru a sefydliadau Cymreig eraill sy'n cyflwyno ymgyrchoedd a phrosiectau yn Affrica, gan weithio mewn partneriaeth â nifer o wledydd ar eu mentrau tyfu coed. Y blaenaf ymhlith y rhain yw rhaglen coed Mbale yn nwyrain Uganda, lle mae ein partneriaid bellach wedi dosbarthu dros 20 miliwn o goed, gan weithio tuag at darged o 50 miliwn erbyn 2030.
I gloi heddiw, os caf droi at fasnach fel rhan o'n cyfrifoldeb i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, rydym wedi bod yn glir gyda Llywodraeth y DU na ddylai unrhyw gytundeb masnach fyth danseilio ein polisïau domestig economaidd. Yng Nghymru, nid ydym yn gweld cytundebau masnach mewn termau economaidd yn unig. Mae elfennau o gytundebau masnach a allai ddatblygu amddiffyniadau'n ymwneud â llafur a'r amgylchedd, gan gynnwys datgoedwigo, yn cael eu trin fel un o'n prif flaenoriaethau. Er bod gennym bŵer i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU yn ystod negodiadau masnach—ac rydym yn gwneud hynny'n aml—gyda Llywodraeth y DU yn y pen draw y mae'r pŵer i drafod y cytundebau masnach eu hunain. Nid ni sydd â'r gair terfynol ar gytundebau, ond rydym yn parhau i wthio Llywodraeth y DU yn galed i sicrhau bod cytundebau masnach yn cynnwys darpariaethau sy'n gweithio er budd Cymru ac er budd Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Diolch.
Galwaf ar Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl werthfawr, bwysig hon heno.
Roedd hon yn ddadl hynod o amserol. Mae WWF wedi cyflwyno adroddiad heddiw a rybuddiai fod datgoedwigo yn yr Amazon yn cyflymu i'r pwynt lle na ellir ei wrthdroi, felly rwy'n croesawu brwdfrydedd pawb dros y ddadl hon.
Janet, fe wnaethoch ein helpu i weld ar fap Cymru beth yw effaith ein harferion defnydd. Rwy'n hapus i gadarnhau y byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Diolch am eich cyfraniad.
Diolch, Mabon. Mae'r dyfyniad yna gan Martin Luther King yn dweud y cyfan, a diolch am osod mas sut gall y sector amaeth fod yn rhan o ateb y sefyllfa yma.
Diolch i chi, Jenny, am nodi'r gwrthgyferbyniad rhwng yr arferion 'braf i'w cael' sydd gennym a'r bygythiad i fywyd ei hun mewn sawl man, a siarad am y newidiadau y mae angen i bawb ohonom eu gwneud drwy ein deiet.
Rwy'n credu roedd cyfraniad Heledd yn bwysig iawn yn y ffordd y gosododd hyn yng nghyd-destun undod byd-eang, gan sôn am bobl Guarani a'r diwylliannau sydd mewn perygl oherwydd ein difaterwch ni. Ni ddaw'r hyn y gellid ei golli yn ôl, a byddai'r byd gymaint yn dlotach o'r herwydd.
Roedd sylwadau Peter Fox am ei ddeddfwriaeth yn ddiddorol iawn, yn amserol iawn, ac rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddarllen mwy am hynny. Rwy'n cytuno â'ch pwynt am labelu, Peter. Mae'n fater a gadwyd yn ôl i San Steffan, ac rwy'n adleisio'r hyn roedd y Gweinidog yn ei ddweud a'r hyn roeddech chi hefyd yn ei ddweud, Peter: mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen edrych arno. Mae angen inni rymuso pobl i wneud y penderfyniadau cywir.
Diolch, Pred. Fy ymddiheuriadau am gymysgu rhwng Peredur a Luke; mae hynny oherwydd y barfau. Ond o ddifrif ac yn ddiffuant, diolch am nodi'r hyn y gall busnesau ei wneud a'r hyn sy'n rhaid iddynt ei wneud yn y cyd-destun hwn.
Diolch, Jane, am eich sylwadau ar wastraff bwyd. Mae hwnnw'n ystadegyn arswydus iawn, fod tua 30 y cant o fwyd yn cael ei wastraffu, yn enwedig o ystyried faint y dywedoch chi sy'n dal yn fwytadwy mewn gwirionedd.
Weinidog, diolch am eich sylwadau'n nodi'r heriau sy'n rhan annatod o wneud y peth iawn. Rwy'n falch iawn eich bod yn cefnogi'r cynnig, ond unwaith eto, hoffwn adleisio'r hyn roeddech yn ei ddweud am labelu. Mae hyn yn rhywbeth lle mae gwir angen i Lywodraethau rymuso pobl, oherwydd ceir cymaint o bethau lle mae pawb eisiau gwneud y peth iawn; mae'n fater o'i wneud yn y ffordd hawsaf sy'n bosibl i hynny allu digwydd.
Cyn inni bleidleisio ar y cynnig pwysig hwn, hoffwn rannu ychydig o ystyriaethau terfynol gyda'r Aelodau. Ddoe, cynhaliais ddigwyddiad COP ieuenctid yn y Pierhead. Cafodd ei drefnu gan Maint Cymru, ac yn y cyfarfod, cafodd llond ystafell o blant ysgol eu hannerch gan George Sikoyo o Fenter Tyfu Coed Mynydd Elgon yn Mbale, Uganda. Siaradodd George â'r plant a'r rhai ohonom ni wleidyddion a oedd yn ddigon ffodus i fod yn yr ystafell am y miliynau o goed a blannwyd yn Uganda ar ran dinasyddion Cymru. Siaradodd am y problemau byd-eang sy'n ein hwynebu a sut y gallwn ni helpu'r ddynolryw drwy ddangos undod a chyfeillgarwch. Dywedodd wrth y plant, 'Rydym yn yr un pentref a'i enw yw'r Fam Ddaear.' Gobeithio y gallwn i gyd fyfyrio ar eiriau George. Os gallwn dyfu coed mewn rhannau eraill o'r blaned, ni ddylem adael i ni'n hunain gyfrannu'n uniongyrchol ar yr un pryd at dorri coed a dinistrio coedwigoedd mewn rhan arall o'r blaned honno. Ni ddylai ein cydwybod ganiatáu i'r anghysondeb hwnnw barhau.
Mae yna un peth olaf yr hoffwn orffen ag ef. Mae'n ymwneud â geiriau John Donne. Efallai mai geiriau enwocaf Donne a ddyfynnir amlaf yw ei sylwadau
'nad oes yr un dyn yn ynys ar ei ben ei hun',
a hynny oherwydd bod pob dyn yn rhan o'r cyfan, a marwolaeth pob dyn yn gwneud yr awdur yn llai am ei fod yn rhan o'r ddynolryw. Ddirprwy Lywydd, nid oes yr un dyn yn ynys, ond nid yw ein hynys ni ar gyrion gogleddol yr Iwerydd wedi'i thorri oddi wrth y cyfan ychwaith, nac wedi'i hymryddhau oddi wrth ei chydwybod neu ganlyniad. Gall difaterwch ddifetha cenhedloedd cyfan hefyd. Mae Donne yn ein cymell yn yr un myfyrdod i beidio
'â gofyn dros bwy y mae'r gloch yn canu cnul.'
Pan fydd cloch yn canu cnul yr ystyr hon, mae'n arwydd fod rhywun wedi marw. Mae Donne yn dweud bod marwolaeth unrhyw un yn golygu bod y gloch yn canu cnul dros bob un ohonom.
Seiliwyd y ddadl hon ar y syniad fod y gloch sy'n canu'n arwydd o drychineb sydd ar fin digwydd, a dylai pob un ohonom ei chlywed yn atseinio yn ein pennau—atsain yr hinsawdd—ac mae'n canu cnul nid yn unig dros leoedd ar ein planed sydd y tu hwnt i'n cyrraedd, wedi'u torri oddi wrth y cyfan. Mae'r gloch honno'n alwad ar bob un ohonom ni hefyd. Bydd effaith y trychineb yn arwain at ganlyniadau i bawb, oherwydd ein bod yn perthyn i'r ddynolryw; rydym yn rhan o'r ddynolryw. Mae'n gloch sy'n canu cnul drosoch chi a drosof innau hefyd. Gofynnaf i chi wrando arni, os gwelwch yn dda.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes; felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r glorch, symudaf yn syth i'r pleidleisio.
Mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 8, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os caiff y cynnig ei wrthod, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal a neb yn erbyn; mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Effaith fyd-eang defnydd domestig. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr i'r ddadl fer. Galwaf ar Heledd Fychan i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi—Heledd Fychan.
Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r rhai ohonoch a fydd yn aros ar gyfer y ddadl heddiw. Hoffwn gadarnhau fy mod wedi rhoddi munud o fy amser i—
A wnaiff yr Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel er mwyn i bawb allu clywed cyfraniad Heledd Fychan?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gadarnhau fy mod wedi rhoddi munud o fy amser i Sioned Williams heddiw.
Bob dydd, ledled y byd, cyfrifir bod 300 miliwn o bobl yn gwaedu oherwydd mislif. Mae’n weithred cyfan gwbl normal—yr un mor normal â mynd i’r tŷ bach—ond am rhy hir o lawer, mae siarad am fislif wedi bod yn tabŵ. Yn wir, er gwaetha’r ffaith bod mwy o drafod agored wedi bod am fislif dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n parhau i fod yn rhywbeth mae nifer o bobl yn anghyffyrddus yn ei drafod, ac o’r herwydd yn rhywbeth mae nifer o ferched a phobl sydd yn cael mislif yn teimlo cywilydd amdano.
Mae hyn am amryw o resymau, megis diffyg addysg ynglŷn â mislif; diffyg mynediad at seilwaith dŵr, glanweithdra a hylendid; ac yn fwy na dim, diffyg mynediad at gynnyrch mislif priodol. Mae gallu rheoli eich mislif yn ddiogel, a chyda hyder ac urddas, yn hollbwysig nid yn unig i iechyd ac addysg, ond hefyd i ddatblygiad economaidd a chydraddoldeb yn gyffredinol. Ond, yn anffodus, hyd yn oed yma yng Nghymru yn 2022, nid yw hyn yn hawl sydd gan bawb ac mae gennym broblem o ran tlodi mislif.
Hoffwn ar y dechrau gydnabod gwaith Llywodraeth Cymru o ran hyn, gan gynnwys y cynllun gweithredu strategol ar gyfer urddas mislif a’r buddsoddiad sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf mewn sicrhau bod mwy o gynnyrch ar gael yn rhad ac am ddim i’r rhai sydd eu hangen yng Nghymru. Rwyf yn llwyr gefnogi gweledigaeth ac amcanion y cynllun, ac yn croesawu'r datganiadau pendant a diamwys sydd wedi bod gan y Llywodraeth o ran hyn. Nid wyf mewn unrhyw ffordd yn amau ymrwymiad y Llywodraeth na’r Gweinidog, a gwn fod y gwaith yn y cynllun yn mynd rhagddo.
Pwrpas y ddadl hon felly yw gofyn i’r Gweinidog a’r Llywodraeth fynd un cam ymhellach a gwneud hwn yn ymrwymiad sydd yn cael ei ddiogelu gan y gyfraith drwy gyflwyno Deddf benodol cynnyrch mislif fel yr un a ddaeth i rym yn yr Alban ym mis Awst eleni. Byddaf yn canolbwyntio, felly, ar bam fy mod yn grediniol o’r angen am hyn, ac i dynnu sylw at y ffaith, er gwaethaf gwaith clodwiw y Llywodraeth yn y maes hwn, bod tlodi mislif yn parhau yn broblem yma yng Nghymru heddiw, ac yn fater sydd yn parhau i angen sylw ynghyd â gweithredu arno.
Mae gennyf gywilydd i gyfaddef nad oedd tlodi mislif yn rhywbeth roeddwn i wedi bod yn ymwybodol iawn ohono cyn dod yn gynghorydd yn 2017. Roedd yn fater a godwyd gan fy nghyd-gynghorydd Plaid Cymru ar gyngor Rhondda Cynon Taf, Elyn Stephens, pan ofynnodd i ni fel grŵp gefnogi hysbysiad o gynnig roedd hi am ei gyflwyno, yn annog y cyngor i edrych ar ddarparu cynnyrch mislif am ddim ym mhob ysgol uwchradd yn y fwrdeistref sirol, i gydnabod eu bod mor hanfodol â phapur toiled ar gyfer hylendid personol disgyblion benywaidd. Siaradodd yn agored ac yn ddewr am ei phrofiad ei hun o fethu fforddio cynhyrchion, a beth roedd hynny wedi'i olygu i'w hurddas ei hun. Rhannodd hefyd sut yr effeithiodd hyn arni hi, ac eraill roedd hi'n eu hadnabod, a methu mynychu'r ysgol pan oeddent yn cael mislif, ac felly'n colli addysg oherwydd gweithrediad corfforol normal.
Roeddwn yn aelod o'r gweithgor a sefydlwyd i ymchwilio i'r mater, ac fel rhan o'r gwaith hwn, gofynnwyd am dystiolaeth drwy arolwg gan athrawon a hefyd gan ddisgyblion benywaidd am y sefyllfa fel y'i gwelent bryd hynny. Cymerodd 784 o ddysgwyr benywaidd ran yn yr arolwg, a chynhaliwyd grwpiau ffocws hefyd rhwng disgyblion a'r gweithgor i ddeall yn well beth oedd y problemau. Roeddent yn glir iawn gyda ni fod tlodi mislif yn broblem, gydag un o'r rhai a oedd yn bresennol yn datgan, 'Mae pobl yn colli ysgol oherwydd mislif neu'n gadael yr ysgol yn gynnar os ydynt yn cael damwain neu angen cynhyrchion mislif ac nad oes ganddynt rai—mae'n effeithio ar bresenoldeb.' Roedd hwn yn safbwynt a gefnogwyd gan 64 y cant o benaethiaid, gan godi i 86 y cant o ymatebion gan staff derbynfa a 75 y cant o nyrsys ysgol. Felly, cydnabyddiaeth fod tlodi mislif yn cael effaith uniongyrchol ar bresenoldeb.
Materion cyffredin a oedd yn codi oedd methu gwybod lle i gael gafael ar gynhyrchion am ddim hyd yn oed os oeddent ar gael, neu gael eu gwneud i deimlo gormod o embaras i ofyn yn hytrach na gallu cael gafael arnynt eu hunain. Fe wnaethom ddatgelu tystiolaeth hefyd fod llawer iawn o gamwybodaeth a chamddealltwriaeth ymhlith athrawon gwrywaidd a dynion ifanc am y mislif, gyda rhai'n meddwl y gallech ddewis pryd y byddwch yn gwaedu, ychydig fel dewis pryd y byddwch yn mynd i'r tŷ bach. Golygai hyn fod caniatâd i fynd i'r tŷ bach yn cael ei wrthod i ferched, gan arwain at ddamweiniau hyd yn oed pan oedd ganddynt gynhyrchion at eu defnydd, neu fethu cael gafael arnynt am nad oeddent yn cael mynd â'u bagiau i'r tŷ bach gyda hwy.
Rwy'n falch o ddweud bod hyn wedi arwain at newid polisi yn RhCT, ac roedd yn ffactor a oedd wedi cyfrannu, rwy'n credu, ochr yn ochr ag ymgyrchoedd tebyg eraill ar y pryd, at weld Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo adnoddau i fynd i'r afael â'r mater. Rydym wedi dod yn bell ers hynny, ond er bod cynnydd wedi bod, mae mwy i'w wneud, ac mae'n bwysig ein bod yn dal i siarad am y mislif a'i normaleiddio fel nad yw'r cynnydd hwnnw'n cael ei golli. Ac mae yna lawer o bobl yn gwneud hynny.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau'r Senedd yn gwybod am Molly Fenton, a sefydlodd ymgyrch Love Your Period, ac sy'n gwneud cymaint i chwalu tabŵs a chodi ymwybyddiaeth am y mater hwn. Hoffwn ddiolch iddi am ei gwaith pwysig, a'r modd y mae'n parhau i dynnu sylw at yr heriau i sicrhau bod cynhyrchion am ddim yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen. Dangosodd arolwg diweddar a anfonodd at fyfyrwyr a rhieni ar draws Caerdydd nad oedd 97 y cant o ddisgyblion wedi cael cynnyrch mislif hanfodol gan eu hysgolion i'w helpu drwy wyliau'r haf, sy'n golygu bod gwaith i'w wneud o hyd i wneud mynediad at y cynhyrchion hyn yn haws. Mae'r cynhyrchion bellach ar gael am ddim, ond nid ydynt yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen.
Hefyd, hoffwn anfon fy nghefnogaeth i Molly yn gyhoeddus ar ôl gweld y sylwadau a gafodd eu gadael ar fideo a wnaeth am ei hymgyrch y llynedd ar gyfer Llywodraeth Cymru. Roedd yr ymosodiadau'n hynod o bersonol a chreulon, ac roedd Molly'n ddigon dewr i ailrannu a thynnu sylw at rai ohonynt yn ddiweddar—roeddent yn erchyll, ac ni fyddwn am roi sylw iddynt yn y Siambr hon drwy eu hailadrodd. Ond roedd hyn i gyd oherwydd ei bod hi'n siarad am urddas mislif, yn siarad am weithrediad corfforol normal. Ac mewn trydariad yn ddiweddar, cyfeiriodd at y gân, 'The Man' gan Taylor Swift, a gofynnodd yn syml iawn,
'Pe bawn i'n ddyn, ni fyddai pobl yn canolbwyntio ar ba mor bert yw fy ngwisg, na sut y dangosai fy siâp. A bod yr hyn rwy'n ei wneud yn anhygoel, yn lle cael fy nifrïo am fod yn ormod o geffyl blaen ac am gicio yn erbyn y tresi. Mae'n hurt ac mae angen iddo stopio'.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Molly, a byddwn yn gobeithio y byddai holl Aelodau'r Senedd yn ymuno â mi i gondemnio'r rhai sydd wedi ei beirniadu hi a'r ymgyrch, ac yn addunedu heddiw i gefnogi normaleiddio siarad am y mislif.
Nid rhywbeth sy'n effeithio ar bobl ifanc yn unig yw tlodi mislif, ac rwy'n credu bod angen inni gydnabod y posibilrwydd heddiw hefyd y bydd yr argyfwng costau byw yn arwain at weld mwy o bobl sy'n cael mislif yn methu cael gafael ar y cynhyrchion sydd eu hangen arnynt. Yn anecdotaidd, mae hyn yn rhywbeth a rannwyd fel pryder mewn digwyddiad costau byw a drefnais yn fy rhanbarth yn ddiweddar, lle nododd banciau bwyd ac eraill gynnydd yn y galw am gynnyrch mislif, yn ogystal â chynhyrchion hylendid eraill. Mae adroddiadau diweddar hefyd yn dangos cynnydd yng nghost cynhyrchion mislif, gyda gwefan mysupermarketcompare yn dangos yn ddiweddar fod bocs o 18 o damponau Tampax Pearl Compak Super Plus ar werth mewn un archfarchnad am £1.95 ychydig wythnosau yn ôl, ond erbyn hyn, dim ond pecyn 16 sydd ar gael am £2.60; dyna 65c yn fwy am ddau dampon yn llai, neu 50 y cant yn fwy am bob tampon.
Mae hefyd yn fater sy'n effeithio ar fenywod sy'n ffoaduriaid, fel yr amlygwyd gan elusen Women for Refugee Women, sy'n cefnogi menywod sy'n ceisio lloches yn y DU. Gwelsant fod 75 y cant o fenywod y gwnaethant eu cyfweld yn ei chael hi'n anodd cael padiau mislif neu damponau, gan eu gorfodi i orddefnyddio cynnyrch mislif, addasu deunydd mislif, neu gardota am arian i brynu pad. Ond fel y dywedais yn gynharach, nid nod y ddadl hon yw ceisio perswadio Llywodraeth Cymru fod tlodi mislif yn broblem; rydym i gyd yn ymwybodol iawn o hyn, a byddwn yn gobeithio ein bod i gyd wedi ymrwymo i roi camau ar waith i helpu i ddileu'r broblem. Yn hytrach, mae'r ffocws ar yr angen iddynt gymryd y cam ychwanegol o osod y gwaith hwn mewn cyfraith drwy Fil cynnyrch mislif, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban.
Roedd hon yn ymgyrch a gafodd ei harwain gan Aelod Llafur o Senedd yr Alban, Monica Lennon, a daeth i rym ar 15 Awst eleni. Nod Deddf Cynnyrch Mislif (Darpariaeth am Ddim) (Yr Alban) 2021 yw trechu tlodi mislif, hyrwyddo urddas mislif a thorri'r stigma sy'n gysylltiedig â'r mislif yn yr Alban. O ganlyniad i'r Bil, yr Alban oedd y wlad gyntaf yn y byd i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael am ddim i bawb, drwy ei gwneud yn ddyletswydd gyfreithiol nawr i awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chyrff gwasanaethau cyhoeddus penodol ddarparu cynhyrchion i fod ar gael yn hawdd ac am ddim.
Yn gynharach eleni, ymwelais â'r Alban fel rhan o fy ngwaith yn cynrychioli'r Senedd yng Nghynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon, ac fe'm trawyd yn syth gan y ffaith bod cynnyrch mislif yr un mor hygyrch â phapur tŷ bach lle bynnag yr awn—felly, ym mhob toiled cyhoeddus a ddefnyddiais, gan gynnwys yn y maes awyr. Cymharwch hynny â'n Senedd ni a thoiledau a ddefnyddir gennym ni a staff lle mae cynhyrchion ar gael, ond mewn peiriant ar wal, sy'n golygu, hyd yn oed os gallwch fforddio eu prynu, nad yw bob amser yn bosibl os nad oes gennych ddarnau arian. A allwch chi ddychmygu sefyllfa lle byddem yn ei hystyried yn iawn i roi papur tŷ bach mewn peiriant, a gofyn i bobl dalu am bob dalen? Byddai pobl yn ddig, ac yn briodol felly. Ac eto, dyna sy'n digwydd bob diwrnod gyda chynnyrch mislif yng Nghymru, hyd yn oed yn yr adeilad hwn. A dyna beth mae cyflwyno Bil a deddfwriaeth wedi ei newid yn yr Alban.
Efallai bydd rhai ohonoch yn meddwl pam fod angen deddfu ar y mater hwn, pan fod gennym gynllun gweithredu cadarnhaol ar waith yn barod. Wel, fel y gwyddom ni oll, yn y Senedd hon, mae deddfu yn gwneud gwahaniaeth, ac yn gyrru neges gref sydd yn gallu cael effaith mwy pellgyrrhaeddol ar arferion a disgwyliadau diwylliannol. Mae yna enghreifftiau lu ble arweiniodd newid ddeddfwriaethol at newidiadau diwylliannol sydd wedi effeithio ar fywydau pobl bob dydd—materion fel cosbi plant yn gorfforol, gwaredu bagiau plastig, gwisgo gwregys diogelwch yn y car, ac ati. Mae gosod safonau am y ffordd yr hoffem fyw mewn deddfwriaeth yn sicrhau neges gref a phellgyrhaeddol i’r dyfodol, ac yn sicrhau na fydd unrhyw un yn gorfod colli allan neu deimlo embaras am gael mislif a bod angen deunyddiau mislif yn y dyfodol.
Felly fy apêl i'r Gweinidog heddiw yw: parhewch â'r gwaith gwych rydych eisoes yn ei wneud, ond ewch y cam pellach hwnnw hefyd drwy osod mewn cyfraith yr hawl i gynnyrch mislif am ddim, ble bynnag rydych chi yng Nghymru. Mae cynlluniau gweithredu'n wych ond gallant golli momentwm wrth gystadlu â blaenoriaethau eraill. Dyma'r unig ffordd i wireddu'n llawn ein huchelgais gyffredin i sicrhau urddas mislif i bawb. Ein cyfrifoldeb ni ydyw—boed ein bod yn cael mislif ai peidio—i helpu i ddileu tlodi mislif. Diolch.
Nid mater o gydraddoldeb rhyw yn unig yw hyn, mae hefyd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar fenywod yn anghymesur, ac yn ôl arolwg diweddar gan YouGov, mae un o bob wyth o bobl yn dweud y byddant yn ei chael hi'n anodd fforddio cynnyrch mislif dros y flwyddyn nesaf. Ac wrth gwrs, nid dewis yw'r mislif, ac i lawer o fenywod, mae'n her—mae'n effeithio ar eu hiechyd, eu haddysg, ac weithiau ar eu bywydau cyfan. Canfu Plan International fod 49 y cant o ferched wedi colli o leiaf un diwrnod llawn o ysgol neu goleg oherwydd eu mislif. Mae'n bwysig nodi mai ystadegyn ar gyfer y DU yw'r ystadegyn hwnnw, nid Cymru'n benodol. Efallai fod angen mwy o ddata ar hyn, er mwyn mynd i'r afael yn llawn â'r materion y clywsom amdanynt y prynhawn yma. Os yw'r mislif yn cael ei weld fel tabŵ ac os na chaiff ei drafod, ni fydd merched yn teimlo'n gyfforddus yn gofyn am gynnyrch mislif, ac felly byddant yn fwy tebygol o aros adref o'r ysgol. Mae cynhyrchion mislif am ddim mewn ystafelloedd ymolchi yn y gweithle yn gallu cael effaith o ran lleihau absenoldeb, oherwydd nad yw pobl yn gorfod dod o hyd i esgusodion i fynd i brynu cynnyrch mislif neu aros adref oherwydd eu pryder ynglŷn â gorfod ymdopi â'u mislif yn y gwaith. Felly, mae'r mislif yn normal a naturiol, dylai fod yn rhan o fywyd bob dydd yn yr ysgol, bywyd gwaith, a bywyd cymdeithasol, ac ni ddylai gael effaith negyddol ar eich bywyd, ble bynnag rydych chi'n byw yng Nghymru.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Llywydd. A diolch, Heledd, am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn ar gyfer eich dadl fer heddiw. Rwy'n cofio trafod tlodi mislif, tua phedair neu bum mlynedd yn ôl mae'n debyg, gyda Jenny Rathbone, rwy'n meddwl—cynnig a gefnogwyd gan y ddwy ohonom—a dyna'r tro cyntaf i hyn gael ei drafod yn Senedd ddatganoledig Cymru. Roedd yn torri tir newydd ar y pryd, ein bod yn ei drafod, ac fe arweiniodd at weithredu gan y Llywodraeth. A diolch i chi hefyd am gydnabod y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, dros nifer o flynyddoedd bellach, ar fentrau ariannol i fynd i'r afael â thlodi mislif, oherwydd mae dileu tlodi mislif yn golygu sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at golli addysg, at absenoldeb o'r gwaith, neu at dynnu'n ôl o weithgareddau chwaraeon a chymdeithasol yn wir. Fel y dywedodd Sioned Williams, mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol.
Felly, ers 2018, rydym wedi buddsoddi tua £12 miliwn i sicrhau bod cynnyrch mislif ar gael am ddim mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru, ac mewn lleoliadau cymunedol. Ac yn ystod y pandemig COVID-19, cafodd hyn ei ymestyn i ganiatáu mwy o hyblygrwydd i gynghorau lleol, awdurdodau lleol, i sicrhau bod cynhyrchion ar gael i'r rhai oedd eu hangen drwy amryw o ddulliau, gan gynnwys rhoi talebau mewn mannau yng Nghymru lle roedd yn anodd darparu cynnyrch i'w ddosbarthu neu ei gasglu. Ac rwy'n cofio gofyn sut oedd ysgolion yn mynd i gael cynhyrchion roeddem ni'n eu hariannu ac yn eu darparu, a gwneud yn siŵr eu bod ar gael, os nad yn yr ysgol, yna yn y gymuned.
Felly diolch i chi hefyd, Heledd, am dynnu sylw at rôl bwysig aelodau etholedig lleol, yn cynnwys eich cydweithiwr a chi eich hun—ac rwy'n cofio clywed am y fenter yn Rhondda Cynon Taf. Ac wrth gwrs, ledled Cymru bellach, mae'r Aelodau wedi bwrw iddi ar hyn i sicrhau bod y gwaith o ddarparu'r cynhyrchion a'r buddsoddiad a wnawn yn cael ei ddefnyddio'n dda. Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr fod y ddarpariaeth honno'n iawn. A dros y blynyddoedd, rydym wedi siarad â chynghorau ysgolion, rydym wedi siarad â bechgyn yn ogystal â merched, rydym wedi gweithio gydag ysgolion i herio'r anwybodaeth a'r stigma y buom yn ei drafod y prynhawn yma, ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu ymgysylltu â staff yr ysgol gyfan, nid yr athrawon yn unig, ond y penaethiaid a'r arweinwyr a phawb sy'n gysylltiedig.
Yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw presennol, fel y dywedwch, mae mater tlodi mislif yn amlycach nag erioed. Felly, rwy'n falch fy mod wedi sicrhau cynnydd o £450,000 i'r grant urddas mislif eleni, i gryfhau ymateb awdurdodau lleol i effaith yr argyfwng costau byw. Mae cyfanswm ein grant urddas mislif ar gyfer y flwyddyn ariannol hon bellach dros £3.7 miliwn. Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i sicrhau, yn ogystal â chael cynnyrch ym mhob ysgol a choleg yng Nghymru, eu bod ar gael, fel y gwyddom i gyd, ar draws amrywiaeth o leoliadau cymunedol, ac mae hyn yn cynnwys banciau bwyd a phantrïau, llyfrgelloedd, canolfannau ieuenctid a hybiau cymunedol. Rwy'n falch fod pob lloches i fenywod yng Nghymru wedi cael cynnig arian i sicrhau bod ganddynt gynnyrch mislif ar gael i gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag cam-drin domestig. Ac mae angen inni sicrhau bod cynhyrchion am ddim ar gael yn llawn ac yn hygyrch mewn mannau dynodedig a bod pobl yn gwybod amdanynt ac nad ydynt dan glo mewn peiriannau y mae'n rhaid ichi dalu amdanynt, fel y dywedoch chi.
Rydym bellach yn datblygu map o lefydd yng Nghymru lle mae cynnyrch ar gael, er mwyn rhoi rheolaeth i bobl dros chwilio am gynnyrch a gweld lle maent ar gael yn agos atynt. Bydd hyn yn helpu i ddileu rhwystrau rhag sicrhau urddas mislif gwirioneddol ac yn ei hyrwyddo. Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr wybodaeth wedi'i diweddaru ac yn hawdd ei chael, a byddwch yn gallu defnyddio hidlyddion y map i nodi gwahanol fathau o sefydliadau sy'n darparu cynnyrch mislif a dod o hyd i'r lle agosaf atoch. Oherwydd mae sicrhau bod y cynhyrchion yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen yn hanfodol er mwyn i'r grant lwyddo. Rydym wedi comisiynu gwerthusiad o effaith y grant urddas mislif er mwyn deall sut y gellid gwella'r mesurau presennol i sicrhau ei fod yn cyrraedd cymunedau sy'n agored i niwed ledled Cymru ac mae hefyd yn canolbwyntio cymorth i deuluoedd sydd fwyaf o angen mynediad at y prosiectau a ariannir drwy'r grant. Rydym hefyd yn gofyn i awdurdodau lleol adrodd ar eu gwariant ddwywaith y flwyddyn yn lle unwaith y flwyddyn, fel y gallwn fonitro'n agos iawn sut mae'r grant yn cael ei ddosbarthu a gwneud addasiadau os oes angen. Rydym yn prosesu'r ceisiadau canol blwyddyn ar gyfer eleni; rydym wedi gweld gwaith addawol yn cael ei wneud, yn cynnwys gwasanaethau tanysgrifio, lle gall rhai mewn angen archebu cynhyrchion yn syth i'w cyfeiriad cartref, yn ogystal â sicrhau, yn achos cynhyrchion mislif brys, eu bod ar gael ledled y gymuned. Felly, gallwch weld o'r enghreifftiau hyn fod awdurdodau lleol, sydd ar y pen cyflenwi, yn dysgu sut y gallant gael y cynhyrchion i bobl o ganlyniad i ymgysylltiad a dysgu drwy gyflwyno'r grant.
Ond mae gennym gyfle hefyd i ddarparu cyfleoedd ar gyfer ystod ehangach o gynhyrchion, sydd â'r fantais ychwanegol o helpu'r amgylchedd. Felly, eleni rydym wedi cynyddu'r gofyniad i awdurdodau lleol wario canran o'u cyllid ar gynhyrchion ailddefnyddiadwy neu ddi-blastig o 50 y cant i 65 y cant. Mae cost gychwynnol cynnyrch y gellir ei ailddefnyddio yn gallu bod yn rhwystr i rai wrth gwrs, ac rydym am roi cyfle i bobl roi cynnig ar y cynhyrchion hyn heb fod ar eu colled. Efallai na fydd cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio yn addas ar gyfer pawb, ac nid oes pwysau i newid i'r cynhyrchion hyn; mae'n ymwneud â dewis i'r defnyddiwr, ac efallai y byddant yn dewis parhau i ddefnyddio cynhyrchion tafladwy ond yn dewis rhai sy'n ddi-blastig yn lle hynny, a gall y cynhyrchion hyn hefyd gyfrannu at y gofyniad 65 y cant. Er mwyn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prosiectau hyn, rydym wedi caniatáu i hyd at 20 y cant o'r grant a ddyrannwyd i awdurdodau lleol gael ei ddefnyddio at ddibenion hyfforddiant neu addysg mewn ysgolion a chymunedau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, dysgwyr ac aelodau o'r gymuned, ac mae'n rhaid i unrhyw hyfforddiant ac addysg ddarparu gwybodaeth am y cyfle i fynd â chynnyrch mislif ailddefnyddiadwy gartref. Mae hyn, unwaith eto, wedi dod o ganlyniad i ddysgu ac adborth gan awdurdodau lleol fod angen yr hyfforddiant a'r addysg honno i ymgysylltu, fel y dywedais, â holl staff a chymuned yr ysgol.
Felly, rydym wedi ymrwymo i ddileu tlodi mislif, ac yn parhau i chwilio am ffyrdd o wella mynediad teg a chyfartal at gynhyrchion, ond rydym yn glir fod dileu tlodi mislif yn mynd ymhell y tu hwnt i ddarparu cynnyrch. Rydym am ddileu'r cywilydd, y stigma a'r tawelwch sydd mor aml yn gysylltiedig â sgyrsiau am y mislif, gan atal rhai rhag cael gafael ar, neu gael cynnig y cymorth a'r gefnogaeth sydd ei angen arnynt, a mynediad at gynhyrchion efallai, sut i reoli eu mislif yn ddiogel, deall y cylch mislif, cael gwybodaeth a dealltwriaeth i wneud dewis gwybodus am y cynhyrchion y maent yn eu defnyddio a phryd y gallent fod angen cymorth gan weithiwr meddygol proffesiynol.
Felly, rydym ar ddechrau cyfnod newydd yn y daith tuag at urddas mislif cyflawn yng Nghymru, a chyn bo hir byddaf yn cyhoeddi ein cynllun ar gyfer dileu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif i bawb erbyn 2027. Mae'r cynllun hwn yn nodi ein huchelgais i sicrhau bod gan fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif fynediad at gynhyrchion hanfodol pan fyddant eu hangen, i ddarparu addysg ac adnoddau i wella dealltwriaeth, a dileu stigma a chywilydd cysylltiedig.
Byddwn yn lansio ymgyrch genedlaethol ac yn galw am weithredu gan bawb er mwyn gwneud Cymru'n genedl sy'n falch o'n mislif. Rydym wedi ymgynghori llawer i'n cael i'r pwynt hwn, ac rwy'n falch iawn o ddweud fy mod wedi ymgysylltu'n helaeth â'n bwrdd crwn o wahanol ddiddordebau a phrofiadau—pobl o awdurdodau lleol, sefydliadau, Plant yng Nghymru ac eraill, gan gynnwys Molly Fenton o'r ymgyrch Love Your Period. Mae Molly wedi bod yn rhan allweddol o'n gwaith. Mae wedi bod yn drawslywodraethol iawn o ran addysg, iechyd a chydweithio gydag adnodd y GIG ar y we, Mislif Fi. Felly, os caf ddweud eto, mewn ymateb i'ch pwyntiau am gyfraniad Molly Fenton, Heledd, rwy'n cymeradwyo eich cefnogaeth a'ch cydnabyddiaeth o'r hyn y mae Molly wedi'i gyflawni, ei chryfder, ei dewrder, ac yn condemnio'r gamdriniaeth a brofodd o ganlyniad i'w safiad ymgyrchu. Mae hi'n parhau i ymgysylltu â ni ac i ddylanwadu arnom, oherwydd rydym angen cyngor arbenigol gan y bobl sydd â phrofiad bywyd ar gyfer datblygu polisi a strategaeth. Mewn gwirionedd, rwy'n cyfarfod â'r grŵp ddiwedd y mis hwn, a byddant yn falch iawn o glywed am y ddadl hon heddiw.
Rhaid imi ddiolch i Plant yng Nghymru, Women Connect First a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru—maent i gyd wedi ein cynorthwyo i ymgysylltu â phobl ifanc—a hefyd i bawb y cyfarfuom â hwy drwy ysgolion, ac yn wir, Women Connect First am ein galluogi i gyfarfod â menywod du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn arbennig?
Felly, yn olaf, ar eich galwad am ddeddfwriaeth, nid ydym wedi canfod angen am ddeddfwriaeth ar hyn o bryd, o ystyried ehangder y gwaith a wnawn a'r newid diwylliant y credaf ei fod eisoes yn dechrau, oherwydd mae ein gwaith yn seiliedig ar ddysgu ar y cyd a chydweithio i gyflawni'r cynnydd y gallai deddfwriaeth ei gynnig. Ond rydym yn parhau mewn cysylltiad agos â'n cymheiriaid yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon i ddeall effaith y ddeddfwriaeth ac unrhyw wersi y gallwn eu dysgu. Ond rwy'n falch o'r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru gyda'n gilydd i ddileu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif, a diolch i chi am eich cyfraniad heddiw gyda'r ddadl hon, ac rwy'n credu ein bod yn bendant ar ein ffordd i ddod yn genedl sy'n falch o'n mislif. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog, a diolch, Heledd, am y ddadl hon. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:53.