Y Cyfarfod Llawn
Plenary
11/09/2022Cynnwys
Contents
Datganiad gan y Llywydd |
1. Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines |
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr am 15:00 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, y prynhawn yma, i'r cyfarfod arbennig yma o'r Senedd i dalu teyrnged i Frenhines Elizabeth II, yn dilyn ei marwolaeth nos Iau yn yr Alban. Gaf i ofyn i Aelodau godi am funud o dawelwch yn gyntaf, i gydgofio y Frenhines Elizabeth II?
Cynhaliwyd munud o dawelwch.
Yn cynnig:
Bod y Senedd hon yn mynegi ei thristwch dwys yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines ac yn estyn ei chydymdeimlad diffuant i Ei Fawrhydi Y Brenin ac Aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol. Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth a dyletswydd cyhoeddus, gan gynnwys y gefnogaeth a roddodd i nifer o elusennau a sefydliadau yng Nghymru, a’i chysylltiad ar hyd ei hoes â Chymru a’i phobl.
Cynigiwyd y cynnig.
Rydym yn ymgynnull yma heddiw i dalu teyrnged i Elizabeth II, pennaeth y wladwriaeth am dros 70 mlynedd. Bydd y cynnig o gydymdeimlad yr ydym yn cytuno arno heddiw yn cael ei gyflwyno i'w Fawrhydi y Brenin pan fydd yn ymweld â'r Senedd ddydd Gwener.
Cychwynnodd Elizabeth II ar ei swydd 47 mlynedd cyn i'r Senedd hon gael ei chreu. Heddiw, daeth i'n rhan ni i fod yn Aelodau o Senedd Cymru gyntaf erioed i dalu teyrnged yn dilyn marwolaeth pennaeth y wladwriaeth.
Fel ym mhob Senedd, mae ein barn ni yn cynrychioli amrywiaeth barn y bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu. Mae ein barn yn wahanol ar sawl agwedd ar fywyd Cymru, ac er y gall ein barn ar sefydliad y frenhiniaeth ei hun fod yn wahanol, ni fyddant yn wahanol iawn ynghylch y ffordd y gweithredodd Elizabeth II ei swyddogaeth fel brenhines drwy ei hoes o wasanaeth cyhoeddus, sut y cafodd ei doethineb a'i hymroddiad i'r swydd eu gwerthfawrogi, a sut yr ydym ni'n galaru yn y golled drist ac yn meddwl am ei theulu. Edrychodd Elizabeth II am yr hyn a oedd yn uno, yn hytrach na'r hyn a oedd yn creu rhaniadau. Gallwn ninnau hefyd geisio'r undod hwnnw heddiw yn ein cydymdeimlad.
Ar chwe achlysur yn ystod seremonïau agoriadol ein Senedd dros y 23 mlynedd diwethaf, eisteddodd y Frenhines yma yn ein plith wrth iddi gyflawni ei dyletswydd gyfansoddiadol fel pennaeth y wladwriaeth. Dim ond 11 mis yn ôl yr oedd hi yma ar ei hymweliad olaf â Chymru, yn cadarnhau ein dilysrwydd democrataidd fel un o'i Seneddau. Diolchwn iddi am ei gwasanaeth i Gymru.
Galwaf yn awr ar y Prif Weinidog i arwain teyrngedau ein Senedd i Elizabeth II.
Llywydd, diolch yn fawr. Am 70 o flynyddoedd, rydym wastad wedi gwybod y byddai'r amser hwn yn dod. Ond, yn y diwedd, daeth yn gyflym ac yn annisgwyl. Mae'n anodd credu nawr ein bod wedi ymgynnull yma yn y Senedd ddim ond cwpwl o fisoedd byr yn ôl i ddathlu cyflawniad unigryw y Jiwbilî Blatinwm. Roedd y Frenhines yn fregus, yn dilyn ei blynyddoedd o wasanaeth a hunanaberth. Henaint ni ddaw ei hunain. Ond, er hyn i gyd, roedd hi'n dal yn weithgar ac yn llawn egni. Bydd y llyfrau hanes yn nodi mai'r chweched Senedd hon oedd yr olaf o bedair Senedd y Deyrnas Unedig i gael ei hagor gan y Frenhines Elizabeth II, lai na blwyddyn yn ôl.
Erbyn hyn, rydym yn gwybod mai penderfyniad personol y Frenhines ei hun oedd e, nôl yn 1999, i ddod i Gaerdydd i agor tymor cyntaf y Cynulliad. Gwnaeth hynny gan anwybyddu y cyngor a ddarparwyd iddi. Dychwelodd yma am y tro olaf dros 20 mlynedd yn ddiweddarach, yn unol â'r ymrwymiad personol hwnnw i Gymru a'i sefydliadau democrataidd.
Llywydd, mewn bywyd rhyfeddol, roedd y 24 awr olaf o deyrnasiad y Frenhines ymhlith y mwyaf rhyfeddol. Ni fydd neb a wyliodd yr oriau'n mynd rhagddynt yn anghofio gweld rhywun mor benderfynol o gyflawni ei rhwymedigaeth gyfansoddiadol, gan gadarnhau Prif Weinidog newydd, rhywbeth y gallai neb ond hi ei wneud, er gwaethaf yr effaith anochel ar yr ychydig gryfder a oedd ganddi wrth gefn. Ni allai unrhyw beth mwy fod wedi mynegi'n gliriach yr ymdeimlad pennaf o ddyletswydd, a oedd ymhlith ei nodweddion gorau. A hwn, wrth gwrs, dim ond y gwasanaeth olaf, y ddelwedd olaf mewn cyfres ddi-dor dros fwy na 70 mlynedd. Ni fydd treigl amser yn peri i ni anghofio'r ddelwedd ohoni'n eistedd ar ei phen ei hun, wrth gadw at reoliadau iechyd yn urddasol a phenderfynol, yn angladd ei gŵr, Dug Caeredin. Mae'n un ymhlith nifer o ddelweddau sy'n diffinio ei theyrnasiad.
Llywydd, ym mis Gorffennaf eleni, ar ran y Senedd, cefais y fraint o ddanfon rhodd oddi wrth bobl Cymru i'r Frenhines i goffáu'r Jiwbilî Blatinwm honno. Bydd llawer ohonom yma yn gwybod eisoes am dderwen Pontfadog, coeden a safai ar fferm Cilcochwyn yn nyffryn Ceiriog, am o bosibl cymaint â 1,200 o flynyddoedd. Fe'i dadwreiddiwyd yn ystod storm fawr 2013, ond yn wyrthiol, diolch i sgiliau syfrdanol staff arbenigol yng ngerddi gwych Kew, mae pum coeden dderw newydd, pob un yn union yr un fath o ran geneteg â'r gwreiddiol, wedi cael eu tywys yn ôl yn fyw. Yma, yn ein gerddi botaneg ein hunain sy'n prysur aeddfedu yng ngogledd sir Gâr, yn sefyll yn ogoneddus yn heulwen Gorffennaf, paratowyd y coed derw newydd hyn ar gyfer eu tynged newydd: rhai i aros yn Llanarthne, un i'w phlannu yn ein coetir coffa COVID ein hunain yn y gogledd, ac un i'w sefydlu fel rhodd Jiwbilî yng nghastell Y Waun, y castell agosaf yng Nghymru at safle derw Pontfadog ei hun. Gan oroesi drwy'r oesoedd, yn rhan barhaol o'n bywydau, yn cynnig lloches a chynhaliaeth o dan ei changhennau enfawr, mae gwir ymdeimlad o undod rhwng y rhodd hwn gan bobl Cymru a'r bywyd y bu'n ei anrhydeddu a'i ddathlu. Ac ymdeimlad o'r dyfodol, Llywydd, hefyd, am fod derwen newydd Pontfadog wedi ei derbyn ar ran y Frenhines gan Dywysog Cymru bryd hynny, sef y Brenin Charles III heddiw. Nawr wrth iddi wreiddio, bydd yn ymestyn ymlaen i fywyd newydd o wasanaeth ac un sydd â chysylltiadau arbennig â Chymru.
Rydym ni’n cynnig ein cydymdeimladau dwysaf i'r Brenin newydd a'i deulu. Mae ein meddyliau gyda Thywysog a Thywysoges newydd Cymru. Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y bennod newydd hon yn eu bywydau o wasanaeth. Yn Gymraeg, mae yna ddihareb: colli tad, colli cyngor; colli mam, colli angor. Rydym ni'n dymuno iddynt y nerth i alaru yn eu colled, a dymuniadau da iddynt a'u teulu ar gyfer y dyfodol.
Ym mis Mehefin, buom yn siarad yn y Siambr hon am straen byw bywyd mor ddigyfaddawd yng ngolwg y cyhoedd—pob eiliad yn cael ei gofnodi, pob sylw yn cael ei ddadansoddi'n fanwl, pob gwên neu wg yn dweud stori. Nawr daw'r stori honno i ben; mae'r bywyd a'i creodd yn llonydd yn yr hedd y bydd y cwsg olaf hwnnw yn ei roi i ni i gyd.
Rydym wedi ymgynnull yma yn dilyn seremoni'r proclamasiwn y bore 'ma, y cyntaf ers dros 70 mlynedd yma yng Nghymru. Mae'n ein hatgoffa ni, hyd yn oed wrth i ni edrych yn ôl, fod yn rhaid edrych ymlaen a defnyddio'r cryfder sydd gennym yma yn fforwm democrataidd Cymru i lunio'r dyfodol hwnnw, drwy gael ysbrydoliaeth gan y rhai sydd wedi helpu i'n gwneud ni yr hyn yr ydym ni.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd, ac mae grŵp fy mhlaid a minnau'n cefnogi'r cynnig gerbron y Senedd y prynhawn yma. Wrth glywed y newyddion ddydd Iau, ar ôl gweld lluniau o'r Frenhines yn amlwg yn derbyn y Prif Weinidog newydd a'i rhoi hi yn ei swydd, daeth newyddion nad oedd yr un ohonom yn credu y byddai'n digwydd o fewn 48 awr i'r lluniau hynny gael eu cyhoeddi. Yn wir, safodd oes o wasanaeth o'n blaenau yn y lluniau hynny, yn 96 oed ac yn drist iawn, yn ei llesgedd, a gallem i gyd weld ei bod yn credu mai ei dyletswydd oedd derbyn y Prif Weinidog, a phenodi'r Prif Weinidog, fel y gallai'r wlad gael y sefydlogrwydd a'r parhad hwnnw y mae ei theyrnasiad wedi ei roi ers 70 mlynedd, ac mae ein cydymdeimlad yn mynd i'r teulu a phawb sy'n coleddu'r atgof am Ei Mawrhydi y Frenhines.
Mae'n ffaith, pan anwyd hi, nad oedd hi wedi ei thynghedu i eistedd ar yr orsedd, oherwydd roedd ei thad a'i mam, Dug a Duges Efrog, yn amlwg, yn ail yn y llinach am y goron, a thaflodd yr ymddiorseddiad y teulu i sylw pawb ac, yn y pen draw, i olyniaeth yr orsedd yn y 1950au. Ond doedd dim gwrthwynebiad, dim petruso, dim cwyno; roedd Ei Mawrhydi bob amser yn ymroi ei hun yn gyntaf i wasanaeth cyhoeddus a dyletswydd dros y wlad, y Gymanwlad, ac fel yr oedd bryd hynny, yr ymerodraeth. Fel y pwysleisiodd ei haraith yn 1947, gwasanaeth cyhoeddus yn bennaf oll oedd yn ei meddyliau. Ac yn arbennig, yma yng Nghymru, rydym ni wedi gweld hynny dro ar ôl tro, gyda'r holl sefydliadau y bu hi'n noddwr iddyn nhw, ac yn y pen draw, wedi eu cefnogi, boed yn sefydliadau mawr neu fach, fel y Sioe Frenhinol, yr Eisteddfod Genedlaethol, Undeb Rygbi Cymru, a phentrefi a threfi niferus, yn eu cefnogi i aeddfedu a thyfu yn eu deinameg. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei sylwadau, safwn yn dalach heddiw o fod â theyrnasiad Ei Mawrhydi y Frenhines a'r 70 mlynedd a roddodd i'r orsedd ac i'r wlad wych hon. Ac mae'n ffaith, yn y pen draw, pan edrychwch yn ôl, ni fydd yr un ohonom mae'n debyg yn gweld teyrnasiad o'r fath eto yn ein hoes ni, a'r fath ymroddiad i wasanaeth.
Cafwyd enghraifft o'r gwasanaeth hwnnw pan ymwelodd â dioddefwyr y bomio ofnadwy ym Manceinion yn ddiweddar. Byddai llawer ohonom yn cael ein syfrdanu gan y lluniau o'r bomio hwnnw ym Manceinion, ond roedd Ei Mawrhydi, wrth wneud pawb yn gartrefol pan oedd hi'n siarad â nhw yn ysbyty'r plant ym Manceinion, yn canolbwyntio ar y dioddefwr a pham bod y dioddefwr hwnnw eisiau mynd i'r cyngerdd a beth yr oedd yn ei ddisgwyl pan gyrhaeddai y cyngerdd, yn hytrach na'i aflonyddu drwy ofyn iddo ail-fyw'r peth ofnadwy yr oedd wedi mynd trwyddo yn y bomio yng nghyngerdd Manceinion. Ac fe wnaeth hynny bwysleisio i mi mai dyma ddynes a oedd mewn cysylltiad â'i phobl. Rwyf wedi bod yn ffodus i gwrdd â'i Mawrhydi ar sawl achlysur, a phob tro roedd ganddi'r ddawn unigryw honno o allu canolbwyntio arnoch chi fel unigolyn, eich rhoi chi yng nghanol y sgwrs honno a gwneud i chi deimlo mai chi yw'r person, yr unig berson, yn siarad â hi yn yr ystafell honno.
Ac mae'n fy atgoffa o stori adeg agor y Senedd yn 2011, pan oedd eich rhagflaenydd, Rosemary Butler, yn dangos Ei Mawrhydi o gwmpas, ac fe gyflwynodd hi fi i'w Mawrhydi, a dywedodd, 'Dacw'r ffermwr drwg yr wyf yn ei geryddu'n gyson.' Dywedodd Ei Mawrhydi, mewn amrantiad a'i llygaid yn pefrio, 'Wel, mae pob ffermwr yn ddrwg, onid yw?' Unwaith eto, roedd y gostyngeiddrwydd hwnnw a'r gallu hwnnw i'ch gwneud chi'n gartrefol pan oeddech yn siarad â hi wir yn amlygu person oedd yn poeni am y bobl, oedd â ffydd a hyder ynddi hi a'i gweithredoedd i wneud yn siŵr bod y wlad hon yn datblygu yr holl ffordd o oes y stêm i oes drydan o ran trenau, o'r telegram i'r rhyngrwyd. Gallwn bwyso botwm heddiw a gweld y lluniau o'n blaenau, cyn hynny clywsom am y coroni gan bobl a oedd yn fyw adeg y coroni—byddai'n rhaid iddyn nhw fynd at eu cymydog drws nesaf, eistedd gyda choesau wedi'u croesi a gwylio'r teledu bach du a gwyn hwnnw. Heddiw, mae unrhyw un ohonom ni, er mwyn cael y newyddion yna, i gael y lluniau yna, yn gallu tynnu ffôn allan o'r boced a gweld y lluniau hynny o'n blaenau ni yn syth. Ond eto, roedd hi'n frenhines a barhaodd yn berthnasol drwy'r blynyddoedd, drwy'r 70 mlynedd o wasanaeth. A gadewch i ni beidio ag anghofio, trwy waeledd ei diweddar dad, y Brenin, iddi gymryd baich nerthol iawn ar ei hysgwyddau, i gario'r frenhiniaeth drwy gyfnod gwaeledd ei thad, a doedd hi byth yn cwyno. Rwy'n credu y gallem ni i gyd gymryd geiriau Paddington Bear yn y Jiwbilî, pan ddywedodd, ar ddiwedd y clip gwych hwnnw, 'Diolch am bopeth yr ydych chi'n ei wneud'. Wel, fe newidiaf hwnnw i 'Diolch am bopeth y gwnaethoch chi'. Duw gadwo'r Brenin.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Llywydd, ar ran grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, codaf i fynegi ein tristwch ninnau ac estyn ein cydymdeimladau dwysaf i'r teulu brenhinol, yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth.
Mae'r teyrngedau a dalwyd i'r diweddar Frenhines Elizabeth dros y nifer o ddyddiau diwethaf wedi bod yn ddi-ri, ond roedd un sylw gan gyn ŵr llys brenhinol, a ddyfynnwyd mewn darn gan Alastair Campbell, yn sefyll allan i mi: sef bod y Frenhines yn deall 'comiwnyddiaeth dynoliaeth'. Nawr, mae hwnnw'n honiad syfrdanol; ei sylwedd, ei bwnc a'i ffynhonnell. Roedd Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II, trwy ddiffiniad, trwy broclamasiwn brenhinol, i bob un ohonom, yn hollol wahanol. Pan oedd hi dim ond yn dywysoges, soniodd cylchgrawn Life am y 500 miliwn o bobl a'r 14 miliwn milltir sgwâr y byddai o bosibl un diwrnod yn teyrnasu drostynt. Hyd yn oed wrth i'r ymerodraeth bylu, roedd hi'n byw mewn palasau, yn teithio mewn cerbydau aur, yn teithio'r byd mewn llongau ac awyrennau brenhinol—bodolaeth tylwyth teg o'i gymharu â bywyd bob dydd bron pawb arall. Ac eto, i filiynau di-ri, roedd ymdeimlad o gydgysylltiad—perthynas bersonol bron. Yng ngeiriau'r gŵr llys di-enw:
'Maen nhw'n gwybod ei bod hi'n wahanol, ond maen nhw hefyd yn gwybod ei bod hi yr un fath, yn bwyta'r un pethau, yn anadlu'r un aer, yn eu deall ac eisiau iddyn nhw ei deall hi.'
Y Frenhines ei hun a grynhodd yr ymdeimlad hwn o gysylltiad orau, yn y geiriau a ddefnyddiodd am y Dywysoges Diana, yn y dyddiau ar ôl ei marwolaeth drasig annhymig:
'Ni fydd neb a oedd yn adnabod Diana byth yn ei hanghofio hi. Bydd miliynau o bobl eraill na wnaeth erioed ei chyfarfod, ond yn teimlo eu bod yn ei hadnabod, yn ei chofio.'
Maen nhw'n eiriau sy'n wir nawr am y Frenhines Elizabeth, fel yr oedden nhw bryd hynny am Diana. Yn yr araith honno, siaradodd y Frenhines â ni, yn ei geiriau hi, 'o'r galon', nid yn unig fel brenhines ond fel matriarch. Pwy yn ein plith ni sydd hyd yn oed yn gallu dechrau dychmygu beth yw bod yn frenhinol? Ond bydd nifer ohonom yn gwybod beth yw bod yn nain neu'n daid, i golli rhiant, i gysuro plentyn mewn poen. Rydym ni i gyd yn dygymod â cholled 'yn ein ffyrdd gwahanol', meddai'r Frenhines bryd hynny. Nawr, rydym ni'n galaru ar ei hôl hi—eto yn ein ffyrdd gwahanol; llawer, fel arwydd o barch, at Frenhines a oedd yn gwasanaethu a fu'n byw ac a fu farw yn bersonoliad o ddyletswydd, cwrteisi a gofal. Bydd rhai yn uniaethu'n syml â'r teulu a'i alar, gan deimlo efallai, yn y foment hon o dristwch cyhoeddus rhyw adlais personol o golled breifat. Ac, nid ychydig, o bell ffordd, yn enwedig ymhlith cenedlaethau hŷn, fydd wedi teimlo ymdeimlad dwfn o afleoliad, o ffarwelio â rhan ohonyn nhw eu hunain, gan fod y Frenhines Elizabeth wedi bod yn bwynt cyfeirio parhaol.
Mae sefydlogrwydd y Frenhines a'r cysur a allai hynny ei roi mewn cyfnodau cythryblus yn aml wedi bod yn thema reolaidd, ac eto gallai'r Frenhines Elizabeth yn aml ddrysu'r rhai oedd yn ei gweld fel rhywun un dimensiwn yn unig, wedi'i charcharu gan ddisgwyliadau'r gorffennol neu ddisgwyliadau pobl eraill.
Penodwyd George MacLeod, y penboethyn sosialaidd a'r heddychwr brwd, sylfaenydd cymuned Iona, gan y Frenhines yn ffurfiol fel caplan brenhinol ac yn anffurfiol fel partner paffio geiriol y Tywysog Philip. Roedd hi'n anghytuno â Mrs Thatcher pan wrthododd hi osod sancsiynau ar Dde Affrica a'i hapartheid, yn ogystal â'i pholisïau o gyni gartref. A dywedodd ychydig eiriau heb eu sgriptio wrthych wrth fynd heibio, Llywydd, ar adeg ei hymweliad diwethaf â'r Senedd, fe gystwyodd gwleidyddion a hynny'n briodol am siarad yn hytrach na gweithredu yn aml o ran yr argyfwng hinsawdd byd-eang.
Yn 2011, ar ymweliad cyntaf hanesyddol gan frenin neu frenhines Prydain â Gweriniaeth Iwerddon, fe syfrdanodd fwy neu lai pawb trwy osod torch ac ymgrymu yn yr ardd goffa yn Nulyn, gan anrhydeddu pawb a roddodd eu bywydau yn enw rhyddid i Iwerddon. Mewn araith yng nghastell Dulyn, dywedodd,
'Gyda mantais ôl-ddoethineb hanesyddol gallwn i gyd weld pethau y byddem wedi dymuno eu gwneud yn wahanol neu ddim o gwbl.'
Roedd hynny'n dangos mwy o onestrwydd ac edifeirwch ynghylch pechodau gorffennol Prydain, o leiaf yn yr ynysoedd hyn, nag a ddangoswyd erioed gan y rhan fwyaf o arweinwyr gwleidyddol Prydain, a llawer o'n cyfryngau.
Yfory, bydd y Frenhines yn gorwedd yn gyhoeddus yn Eglwys Gadeiriol St Giles yng Nghaeredin, lle bu George MacLeod yn gynorthwyydd ar un adeg. Aeth oddi yno i weithio gyda'r tlodion yn Glasgow ac ymlaen i Iona, gan helpu i ailadeiladu'r Abaty hanesyddol, yr ymwelodd y Frenhines ag ef a'i gefnogi'n ariannol—yn ddadleuol felly, o ystyried heddychiaeth ei sylfaenydd. Mae 48 o frenhinoedd wedi eu claddu yno, ochr yn ochr ag un cyn-arweinydd plaid, mewn casgliad o gerrig syml ar ynys wyntog fechan, sy'n symbol o'r ffaith, ni waeth sut cawn ein geni, sut yr ydym yn byw, rydym yn marw fel rhan o un teulu cyffredin: comiwnyddiaeth eithaf dynoliaeth, uniaeth sylfaenol pob un ohonom a phob peth.
Undod tragwyddol daear a nef.
Soniodd MacLeod am leoedd tenau lle yr oedd dim ond meinwe tenau yn rhannu'r materol a'r ysbrydol, lle roedd yn ymddangos bod y nefoedd a'r ddaear yn cyffwrdd. Ond, mae yna eiliadau tenau hefyd, eiliadau trothwyol, trothwyon rhwng y bywyd ag anwylyn yr ydym wedi'i golli, a'r bywyd yr ydym ar fin ei ddechrau hebddyn nhw. Yn yr eiliadau hyn o absenoldeb dwys, wrth i ni sefyll ar groesffordd o newid, rydym rhywsut yn teimlo presenoldeb y person sydd wedi ein gadael ar ei gryfaf. Un tro cymharodd y bardd Seamus Heaney farwolaeth ei fam ei hun â chwympo coeden fawr, fel derwen Pontfadog y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati.
'Cafodd y fan lle safem ei harloesi / Ynom ni i’w chadw, gan dreiddio drwy / Lanerchau a safai’n ddisymwth agored. / Dolefau garw a dorrwyd a newid dilychwin a ddaeth.'
I rai, bydd hon yn foment o bryder mawr, ond efallai, Llywydd, wrth i'r Frenhines Elizabeth ddechrau ar ei thaith olaf ac wrth i ni ystyried beth a ddaw yn y dyfodol, gallwn ddilyn gorchymyn y Frenhines ei hun yn yr araith fawr honno yn Nulyn i
'ymgrymu i'r gorffennol ond heb gael ein rhwymo ganddo.'
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn. Ar ran fy mhlaid i, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf ar ôl colli Elizabeth II. Bu Elizabeth II yn un o'r ychydig bethau cyson yn ein bywydau ni i gyd yn ystod ei theyrnasiad 70 mlynedd. Wrth i'r byd o'n cwmpas newid, roedd Elizabeth II yn fythol bresennol drwyddi draw; roedd hi'n rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i lawer. Mae marwolaeth Elizabeth II heb amheuaeth yn nodi diwedd pennod hir iawn ac yn wir arloesol yn hanes ein cenhedloedd. Roedd Elizabeth II yn atgof byw o'n gorffennol cyfunol, yn arwydd cyson o ddyletswydd, dewrder, cynhesrwydd a thosturi, nid yn unig yma yn y DU, ond yn fyd-eang.
Drwy gydol ei hoes, gwasanaethodd Elizabeth II y wlad gyda'r ymroddiad, anrhydedd ac urddas mwyaf. Roedd ei ffydd yn ddeinamig ac yn gryf. Roedd hi'n fenyw yn gosod esiampl i bob un ohonom ni ferched, nid dim ond yma yng Nghymru, ond ar draws y byd.
Cefais y fraint fawr o'i chyfarfod unwaith yn unig, adeg agor y chweched Senedd yma fis Hydref diwethaf, ac mae fy hanesyn byr yn wir yn un am ffermio, fel arweinydd yr wrthblaid. Cefais fy nghyflwyno fel yr Aelod sy'n cynrychioli canolbarth a gorllewin Cymru, ardal fawr yng Nghymru, a dwi'n credu fy mod wedi dweud rhywbeth tebyg i, 'Mae gennym ni fwy o ddefaid na phobl yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli'. Ei hymateb craff a chyflym i mi oedd, 'Wel, sut ydych chi'n gwybod beth yw eu barn nhw?'
Mae ei hanerchiad i'r Gymanwlad a hithau dim ond yn 21 oed, pan ddywedodd:
'Rwy'n datgan o'ch blaen chi i gyd y bydd fy holl fywyd, boed yn hir neu'n fyr, yn cael ei neilltuo i'ch gwasanaethu chi',
yn ethos ac egwyddor rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yma yn eu hanwylo. Ac mae esiampl Elizabeth II o wasanaeth cyhoeddus yn uchelgais i ni i gyd. Mae ei hanerchiad i'r wlad yn ystod rhan gynnar y pandemig coronafeirws—y byddem i gyd yn cyfarfod eto—yn dangos i ba raddau yr oedd y Frenhines yn adlewyrchu hwyliau cenedlaethol i lawer. Yn yr un cywair, bydd llawer yn cofio ymweliad Elizabeth II ag Aberfan ym 1966, ac yn dwyn i gof hithau'n rhannu'r galar a deimlwyd gan bobl Aberfan. Fel y dywedodd rhywun ar ôl y trychineb,
'Roedd hi'n teimlo fel ei bod hi gyda ni o'r dechrau.'
Roedd hi'n wladweinyddes nad oedd ei thebyg.
Roedd Ei Mawrhydi yn ffrind i Gymru, a bydd llawer yma yn y Deyrnas Unedig, y Gymanwlad ac ymhellach yn ei cholli'n fawr. Mae fy meddyliau a'm gweddïau, wrth gwrs, yn mynd at y teulu brenhinol, ond hefyd at bobl ym mhob cornel o'r Deyrnas Unedig sydd wedi'u cyffwrdd gan waith elusennol ac arweinyddiaeth Elizabeth II. Mae'r don o gydymdeimlad sydd i’w gweld gan bobl a gwleidyddion ar draws y byd yn dangos faint o fywydau y gwnaeth y Frenhines Elizabeth II eu cyffwrdd, ynghyd â’r gobaith, urddas ac anrhydedd yr oedd hi'n eu hymgorffori ar gyfer cynifer. Yn union fel y safodd y Frenhines Elizabeth II yn gadarn wrth i'n gwlad a'n cymdeithas newid, edrychwn yn awr tuag at Ei Fawrhydi y Brenin wrth iddo geisio arwain ein gwlad â'r un urddas, anrhydedd, ac ymroddiad ag Elizabeth II. Pob bendith i'r Brenin. Diolch yn fawr iawn.
Mae'r newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines wedi gadael y genedl yn teimlo tristwch a cholled ddwys. Roedd y Frenhines yn bresenoldeb cyson yn y rhan fwyaf o'n bywydau. Ganwyd ei Phrif Weinidog cyntaf, Winston Churchill, ym 1874; cafodd ei Phrif Weinidog olaf, a benodwyd dim ond ychydig ddyddiau yn ôl, ei geni ym 1975, 101 mlynedd yn ddiweddarach. Mae hynny ar ei ben ei hun yn amlygu'r amser hir y bu'n ymroi i wasanaethu ei phobl, yma a thramor.
Cafodd y Frenhines ei chynnal gan ffydd a'i hysgogi gan ddyletswydd. Rhai o fy atgofion melysaf am Ei Mawrhydi yw ei gwylio bob Nadolig yn annerch y genedl. Roedd Diwrnod Nadolig fy nheulu i gyd yn troi o amgylch araith y Frenhines. Roedd ei neges wastad yn un o obaith; roedd yn galondid, yn optimistaidd ac yn ysbrydoledig. Mewn cyfnodau cythryblus a phryderus yn aml, safodd y Frenhines yn gryf, gan roi hyder a sicrwydd y byddai popeth yn iawn yn y byd. Ni waeth beth fo'i hamgylchiadau personol ei hun, problemau iechyd ac, yn fwy diweddar, marwolaeth y Tywysog Philip, safai'r Frenhines yn gadarn, yn fagwrol ac yn ddyrchafol yn ystod cyfnodau o galedi a thrafferthion. Roedd ei hareithiau'n ddyrchafol, yn chwaethus ac, yn anad dim arall, yn berthnasol i bob un ohonom mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
Pan oeddwn yn blentyn ifanc gofynnodd teulu a ffrindiau i mi'n aml, 'Felly, beth wyt ti eisiau bod pan fyddi di wedi tyfu i fyny?', ac ateb y Natasha Asghar bum mlwydd oed, yn edrych yn hyderus i fyw eu llygaid oedd, 'Dwi eisiau bod yn Frenhines.' Yn naturiol, sylweddolais yn weddol fuan nad oedd y swydd yn un a oedd yn agored i geisiadau. Roeddwn yn addoli'r Frenhines am ei gwaith caled, ei phwyll o dan bob math o amgylchiadau, a'r cariad a oedd ganddi at ei gwlad. Yn wleidyddion yma yn Senedd Cymru, ni allwn ni ond dyheu am wneud yr hyn a wnaeth hi, cyhyd ag y gwnaeth hi, gyda'r un lefel o raslonrwydd, urddas, amynedd a charedigrwydd. Roedd ei hymdeimlad o ddyletswydd ddinesig, cymuned ac elusen yn anhygoel, a bydd ei chyfraniad i'r Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad yn gadael gwaddol parhaol.
Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Liz Truss, yn ei theyrnged fod y Frenhines yn ysbrydoliaeth aruthrol iddi, ac ni allwn gytuno mwy. Roedd y Frenhines yn esiampl wych i fenywod di-ri ar draws y byd, o gefndiroedd ac ethnigrwydd amrywiol a chafodd ei hedmygu a'i charu am ei doethineb, ei hurddas, ei graslonrwydd a'i hamynedd. Roedd hi'n anrhydedd cwrdd â'i Mawrhydi pan ddaeth i Gaerdydd ar gyfer agoriad chweched Senedd Cymru. Roedd hi'n foment y byddaf yn ei thrysori gweddill fy oes, ac rwy'n gwybod y bydd llawer o fy nghydweithwyr sy'n eistedd yma yn ein plith ni heddiw, yma yn Senedd Cymru, hefyd yn ei thrysori. Ar fy rhan i a holl drigolion de-ddwyrain Cymru, y Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad, hoffwn ddiolch i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II am ei hoes o wasanaeth ymroddedig a ffyddlon.
Gwn dim ond yn rhy dda y boen y mae rhywun yn ei brofi o golli rhiant, ac mae fy meddyliau a fy ngweddïau gyda'r Brenin, ei frodyr, ei chwaer a gweddill y teulu brenhinol ar yr adeg drist iawn yma. Roedd y Frenhines bob amser yn dweud wrthym am fod yn gryf drwy gyfnodau o galedi, a heddiw mae angen i ni i gyd gynnal y cryfder a'r dewrder a feddai hi i ysgwyddo'r golled. Nid galar yw'r deyrnged fwyaf i'r meirw ond diolchgarwch. I ddyfynnu Ralph Waldo Emerson,
'Diben bywyd yw…i fod o fudd, i fod yn anrhydeddus, i fod yn drugarog, i sicrhau dy fod yn gwneud gwahaniaeth drwy fyw y bywyd hwnnw a’i fyw yn dda.'
Gellir dweud hynny'n sicr am Ei Mawrhydi. Boed iddi orffwys mewn hedd. Roedd ei charedigrwydd yn chwedlonol, roedd ei gwên yn heintus a bydd y cof amdani yn byw ymlaen yn ein calonnau am byth.
Mae'n fraint, Llywydd, i siarad yma heddiw ar ran pobl Blaenau Gwent. Ddydd Iau fe glywodd Blaenau Gwent, fel pob rhan arall o'n gwlad, y newyddion gydag ymdeimlad o dristwch dwfn a dwys. Collwyd nid yn unig ein Brenhines, ond hefyd ein seren y gogledd. Roedd Ei Mawrhydi yno'n gyson drwy gydol ein bywydau. Wrth i awyr y nos droi o gwmpas seren y gogledd, felly hefyd yr ydym ni i gyd wedi gweld drwy'r degawdau, fyd sy'n newid, gwlad sy'n newid a chymdeithas sy'n newid, a thrwy'r cyfan, mae ein Brenhines wedi parhau i fod y pwynt sefydlog hwnnw y gwyddom y gallwn droi ato, p'un a oes angen cynhaliaeth neu arweiniad arnom.
Pa bynnag her yr ydym wedi ei hwynebu dros y degawdau hyn, byddai'r Frenhines yno, weithiau'n dweud y geiriau a oedd yn crynhoi teimladau'r cyhoedd, gan siarad y geiriau y byddai'r gweddill ohonom yn ei chael yn anodd dod o hyd iddyn nhw. Ond, yn amlach, byddai nid yn unig yn adlewyrchu'r hyn oedd angen i'r cyhoedd ei glywed, ond roedd hefyd yn gallu arwain. Llywydd, roedd yn oes o wasanaeth sydd wedi ffurfio ein bywydau ni i gyd ond sydd hefyd wedi diffinio cyfnod. Siaradodd â ni am ein hanes, a thros y dyddiau diwethaf, rydym i gyd wedi gweld y fideos du a gwyn graenog hynny ohoni'n dychwelyd o Kenya ar ôl marwolaeth ei thad. Ac mae hynny'n edrych fel petai oesoedd yn ôl, gyda Churchill, Atlee ac Eden yn aros yn y maes awyr i gyfarch y Frenhines ifanc. Ond mae hi wedi bod yno drwy gydol yr amser.
Ac mewn sawl ffordd mae ei hirhoedledd ei hun wedi pwysleisio'r ymdeimlad hwn o barhad a sefydlogrwydd. Daeth â ni i gyd at ein gilydd. Nid oedd yn siarad â ni yn unig, roedd hi'n siarad amdanom ni ac ar ein rhan. Mae'r cyfnod hir hwn o wasanaeth yn cydweddu'n berffaith â'i dyfnder o ymrwymiad a gwerthoedd ei gwasanaeth. Siaradodd y Prif Weinidog ddydd Iau am werthoedd y Frenhines, y gwerthoedd a'i hysgogodd hi i wisgo iwnifform yn y 1940au, a'r un ymrwymiad parhaus i wasanaeth cyhoeddus ac i bobl y wlad hon a'r un gwerthoedd a olygodd ei bod yn cyflawni ei dyletswyddau cyhoeddus ddyddiau cyn iddi ein gadael.
Bydd gan bob un ohonom atgofion am Ei Mawrhydi. Ymwelodd â Blaenau Gwent ym mis Ebrill 2012, fel rhan o'r dathliadau ar gyfer ei Jiwbilî Ddiemwnt. Daeth ei hymweliad â llawenydd mawr i bobl ledled y fwrdeistref. Roedd ei gwên yn gwneud i ni wenu. Ysbrydolwyd ni ym Mlaenau Gwent gan ei gwasanaeth a'i hymroddiad i ddyletswydd, ac roeddem yn cofio'r diwrnod hwnnw yn gynharach eleni pan ddathlwyd ei Jiwbilî Blatinwm.
Mae llawer ohonom wedi siarad yn barod y prynhawn yma am ei hymweliad â'r lle hwn fis Hydref diwethaf, a gwelsom eto effaith y Frenhines arnom, oherwydd eisteddom i gyd yma yn y Siambr hon a dangosodd y sgriniau teledu o'n cwmpas hi'n cyrraedd yr adeilad y tu allan. Ac roeddem i gyd yn teimlo'r un wefr drydanol pan welsom y ffigwr cyfarwydd hwnnw wrth y drws, ac yna'n mynd i'w sedd yn Siambr y Senedd hon. Buom i gyd yn gwrando'n dawel ar ei geiriau y prynhawn hwnnw, ac yna fe siaradom ni â hi wedyn. Ac wrth siarad â hi wedyn, wrth gwrs, gwelsom yr ochr arall—yr wyneb dynol yr ydym i gyd wedi dod i'w adnabod a'i garu.
Nid oes angen disgrifio'r wên a welwn ni yn y lluniau o amgylch y Siambr heddiw, oherwydd gallwn ni i gyd ei gweld; rydym ni i gyd yn adnabod y wên honno. Siaradodd rhywun y penwythnos hwn am ei llygaid yn pefrio'n ddrygionus weithiau, ac rydym yn gweld hynny ac yn adnabod hynny, oherwydd fe wnaeth yr un gwladweinyddes a eisteddodd i lawr gydag Arlywyddion a Phrif Weinidogion ac arweinwyr, yr un gwladweinyddes a rychwantodd yr ugeinfed ganrif hefyd eistedd i lawr ac yfed te gyda Paddington Bear.
Roedd hi'n adnabod ac yn deall pobl y wlad hon. Roedd ganddi'r ymdeimlad yna o allu estyn allan. Mae pobl yma o hyd sy'n credu bod y frenhines wedi neidio allan o hofrennydd gyda James Bond ddegawd yn ôl. [Chwerthin.] Gallwch ddychmygu swyddogion yn dweud wrthi, 'Peidiwch â'i wneud, Eich Mawrhydi, ni ddylech fod yn gwneud hyn', ond gallwch hefyd ddychmygu'r Frenhines yn dweud 'na'. 'Mae'n dda eich gweld chi, Mr Bond. Dwi'n cadw brechdan marmalêd yn fy mag llaw.' Y gallu i estyn allan, y gallu i siarad, y gallu i ddeall, y gallu i fod yn rhan o bwy ydym ni fel cymdeithas, y gallu i wneud i ni deimlo'n gartrefol, y gallu i wneud i bobl wenu, mae'n ddawn brin—mae'n ddawn brin iawn. Gallaf weld 59 o wleidyddion sy'n dymuno meddu ar y fath ddawn. Gadewch i mi ddweud hyn—. Trigain os ydych fy nghyfri i, wrth gwrs. [Chwerthin.]
Gadewch i mi ddweud hyn: rydym ni'n cydnabod yr hyn yr ydym ni wedi'i golli ac rydym ni'n cydnabod yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ffodus i'w weld. Rydym yn cydnabod, wrth golli Ei Mawrhydi yr wythnos diwethaf, ein bod wedi colli mwy na brenhines yn unig. Rydym ni wedi colli rhywun sydd wedi bod yn seren dywysu drwy gydol ein bywydau ni i gyd. A phan rwy'n meddwl am Ei Mawrhydi, dwi'n meddwl am yr ochr ddynol yna, dwi'n meddwl am y wên honno, yn ogystal â meddwl am ei geiriau hi.
A gadewch i ni, Llywydd—. Gadewch i mi orffen y prynhawn yma gyda'i geiriau hi. Roedd hi'n siarad â ni bob Nadolig, wrth gwrs, ac roeddem ni'n gwrando ar y geiriau hynny. Ym 1991, wrth gwrs, adeg arall o newid—roeddem ni wedi gweld newid enfawr yn Rwsia bryd hynny, er enghraifft—dywedodd hyn:
'Ond gadewch i ni beidio â chymryd ein hunain ormod o ddifrif. Nid oes gan yr un ohonom fonopoli ar ddoethineb a rhaid i ni fod yn barod bob amser i wrando a pharchu safbwyntiau eraill.'
Roedd Ei Mawrhydi yn gwybod sut i arwain, roedd hi'n gwybod sut i wrando ac roedd hi'n gwybod sut i adlewyrchu'r hyn oedd orau yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad. Boed i Dduw ei bendithio hi a'i henaid, a gadewch i ni hefyd ddweud 'Duw Gadwo'r Brenin'.
Dwi'n sefyll heddiw i rannu galar y genedl ynghylch marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth. Mae'n meddyliau ar hyn o bryd gyda'r rhai sydd wedi teimlo'r golled honno mor ddwfn—y teulu brenhinol, y rhai oedd yn ei charu, a'r rhai a wasanaethodd ac a weithiodd yn ei henw. Roedd y Frenhines yn cael ei charu a'i pharchu gan lawer yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y Gymanwlad, a doedd Preseli Sir Benfro ddim yn eithriad. Yn ystod ei theyrnasiad, ymwelodd â sir Benfro yn aml, yn cyfarfod â hyrwyddwyr cymunedol, arweinwyr lleol a phlant ysgol, a phob tro roedd yn cael ei chyfarch â chynhesrwydd a chariad gan y bobl.
Nawr, mae llawer wedi mynd at y cyfryngau cymdeithasol ers iddi farw i rannu delweddau o'r ymweliadau hynny, ac i adrodd eu profiadau o gwrdd â hi. Mae'r cipluniau hynny yn wirioneddol galonogol ac yn atgof tyner o'r cyffyrddiad dynol aruthrol a gafodd hi. Wrth gwrs, fel ym mhob man arall, mae baneri ar draws sir Benfro yn chwifio ar hanner mast wrth i gymunedau ddod i delerau â marwolaeth ein hannwyl Frenhines.
Llywydd, cafodd ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth effaith ddofn ar deuluoedd ledled y byd. Roedd fy nheulu fy hun yn wir yn un ohonyn nhw—mor ddwfn mewn gwirionedd, fel y gŵyr rhai ohonoch, mai fy enw canol yw Windsor. Cefais fy enwi ar ôl y teulu brenhinol gan i mi gael fy ngeni ym mlwyddyn arwisgiad Tywysog Cymru ar y pryd yn ôl ym 1969, felly cyffyrddodd y Frenhines a'r teulu brenhinol fy nheulu yn ddwfn iawn yn wir.
Rwy'n cyfrif fy hun yn hynod o ffodus o fod wedi cael yr anrhydedd o gyfarfod Ei Mawrhydi ar rai achlysuron. Bob tro y gwnes i hynny, roedd hi'n gynnes, yn dosturiol ac yn ostyngedig, a wastad â diddordeb mawr yn yr hyn yr oeddwn i'n ei wneud. Roedd bod yn ei phresenoldeb yn unig yn anrhydedd, a byddaf yn cario'r atgofion hynny gyda mi am weddill fy oes.
Fel cenedl, rydym i gyd yn ffodus o fod wedi cael ei phresenoldeb tawel a chyson drwy gydol ein bywydau, wrth iddi ein harwain yn ddiwyd drwy gyfnodau o newid hanesyddol mawr. P'un a oedd y newid hwnnw'n wleidyddol, yn economaidd neu'n gymdeithasol, rhoddodd barhad a chysur i gynifer. Yn y cyfnodau hynny o dywyllwch, hi oedd ein goleuni ni.
Ar adegau o ddathlu mawr, fel Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop neu Gemau Olympaidd Llundain 2012, roedd hi wastad gyda ni. Soniodd arweinydd yr wrthblaid am y deyrnged dorcalonnus gan Paddington Bear yn dilyn ei marwolaeth, atgof bod y byd wir yn gafael yn ei llaw.
Fel y dywedodd y Prif Weinidog, bydd y ddelwedd o'i Mawrhydi yn angladd ei gŵr, Dug Caeredin, yn aros yn y cof am byth. Ffigwr yn dawel a stoicaidd yn wyneb tristwch a galar anfesuradwy, yn wynebu colled ar ei phen ei hun yn union fel y gwnaeth llawer yn ystod y pandemig COVID. Roedd hi'n ymgorffori'r genedl gyfan.
Ond, ar ôl y cyfnod tywyll hwnnw, y Frenhines ddaeth â'r genedl at ei gilydd eto gyda'i dathliadau Jiwbilî Blatinwm, dathliadau pryd cofleidiodd cymdogion ei gilydd mewn parti stryd a chafodd ffaglau eu cynnau; arddangosfa ryfeddol o gydlyniad cymunedol ar adeg pan oedd gwir ei angen ar y genedl.
Yn un o'i darllediadau Nadolig blynyddol enwog arall, dywedodd hyn:
'Pan fo bywyd yn ymddangos yn galed, nid yw'r dewr yn gorwedd i lawr ac yn derbyn eu trechu; yn hytrach, maen nhw i gyd yn fwy penderfynol o frwydro dros ddyfodol gwell.'
Felly, wrth i ni ddod i delerau â marwolaeth y Frenhines Elizabeth, efallai'r deyrnged fwyaf y gallwn ni i gyd ei rhoi yw efelychu ei hymroddiad a'i gwasanaeth enfawr i'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli, a gweithio mor galed ag y gallwn i wella ein gwlad a chefnogi ein hetholwyr. Fel y dywedodd cyn Brif Weinidog Prydain yn ystod y dyddiau diwethaf, hi oedd gwas cyhoeddus mwyaf y byd.
Rydym bellach yn dechrau ar gyfnod newydd o hanes Prydain, ac yn wir yn fyd-eang. I'w Fawrhydi Brenin Charles III, rwy'n tyngu yr un llw o wasanaeth ac ymroddiad ag y gwnes i i'r Frenhines Elizabeth II. Gadewch i ni uno yn ein galar ac wynebu'r bennod newydd hon yn stori ein cenedl gyda'n gilydd. Boed i'n Brenhines annwyl orffwys mewn hedd a chodi mewn gogoniant, a Duw gadwo'r Brenin.
Diolch i staff y Senedd am ganiatáu i gynnig adalw heddiw ddigwydd. Mae hi'n anodd dod o hyd i eiriau sy'n deilwng o nodi'r achlysur trist hwn. Er ein bod ni'n gwybod y byddai'r diwrnod hwn yn dod, nid yw unrhyw baratoad yn ddigonol. Mae crisialu 70 mlynedd o ymroddiad, parch a defosiwn diwyro i deyrnas a'i phobl yn dasg amhosibl. Heb ei geni i'r orsedd, y hi oedd y Frenhines amhosibl; nawr, i lawer, mae'n amhosibl ei disodli hi.
Ers clywed y newyddion ddydd Iau, rwyf i wedi myfyrio llawer iawn o ran pam mae cymaint ohonom ni, na wnaethom ni gwrdd â'i Mawrhydi, yn teimlo cysylltiad personol mor ddwfn â hi. Pam ydym ni'n teimlo ei bod hi'n rhan o'r teulu ac nid dim ond yn rhan o'r dodrefn? Beth sy'n llunio ac yn cynnal ein hymddiriedaeth ymhlyg ynddi hi?
Mewn bywyd o ymroddiad i uniondeb, fe all unrhyw un fod yn frenhinol, ond mae hi'n gofyn cymeriad arbennig i fod yn Frenhines. Ar fordaith a hwyliodd yn 1952, gyda niwl rhyfel yn parhau i ryw raddau i orwedd dros fynyddoedd ein hynys ni, fe osodwyd ar ysgwyddau'r Frenhines Elizabeth, yn 25 oed, bwysau'r byd, a'i choroni hi oedd y cyntaf a gafodd ei darlledu yn fyw ar y teledu. Roedd dyfroedd cynhyrfus, yn anochel, o'n blaenau ni, ond roedd capten ein llong ni wedi ymroi ei bywyd oll, waeth pa mor hir neu fyr, i'n gwasanaethu ni, o'r daith hwylus gyntaf ledled y Gymanwlad hyd at herio traddodiadau ar ddyfroedd brenhinol newydd i Tsieina, a mynd ar y daith gerdded gyntaf erioed a wnaeth brenhines wrth ymweld ag Awstralia; trwy stormydd Aberfan, a rhyfel, yr Helyntion a'r terfysg, hyd at regatas Gemau Olympaidd Llundain, y Jiwbilîs a miloedd ar filoedd o ymweliadau brenhinol, gan gynnwys i fyny'r afon i'r Rhondda yn 2002. Yn ystod serenedd cariad teuluol, y tân ysol yn Windsor, y feirniadaeth ddifeddwl a dyfnderoedd marwolaeth ac anobaith, gyda phob newid o is-gapten, 15 o Brif Weinidogion i gyd, a llif cyflym grym i'n Seneddau ni, a phan nad oedd goleudy i'n tywys ni drwy ddyfroedd creigiog y pandemig, roedd Ei Mawrhydi, yn gyson wrth y llyw drwyddi draw, drwy don ar ôl ton o hapusrwydd a thristwch, yn symbol o nerth ac undod a gobaith, yn symbol o ddewrder, o heddwch a gwyleidd-dra, gyda dogn o ffraethineb a hiwmor pan fo angen, yr un cysondeb am genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth ohonom ni. Dyma pam, yn fy marn i, yr ydym ni'n teimlo'r cysylltiad personol hwnnw.
Rwy'n ddigon ffodus i fod â chysylltiad personol fy hun â'i Mawrhydi. Un o'r pethau yr wyf i'n fwyaf balch ohonyn nhw yn fy hanes i yw cael medal yr ymerodraeth Brydeinig, yn cydnabod fy nghyfraniad i gymunedau yn y Rhondda. Mae hi'n anrhydedd mawr i fod wedi derbyn yr anrhydedd hon o dan deyrnasiad y Frenhines Elizabeth II. Fe fyddai hi'n anodd iawn i ni gael enghraifft well o arweinyddiaeth, enghraifft well o ysbrydoliaeth i wneud y peth iawn, nac enghraifft well o fod yn wylaidd a diffuantrwydd yn wyneb gofid.
I deulu sydd wedi colli mam, mam-gu a hen fam-gu, mae fy nghalon i, a chalonnau'r trigolion yn y Rhondda, gyda chi yn ystod y cyfnod hwn o alar. I'w Fawrhydi y Brenin, rydym ni'n edrych ymlaen at eich croesawu chi i'r Rhondda yn ystod eich teyrnasiad chi. I'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, siwrnai hwylus i chi ar eich taith olaf. Fe fyddwch yn ein calonnau ni bob amser yn y Rhondda, ac fe fyddwn ni'n ddiolchgar am byth am eich blynyddoedd digyffelyb chi o wasanaeth. Diolch. Diolch o galon. Duw gadwo'r Brenin.
Fel mae pawb sydd wedi ymweld â fy swyddfa i, neu sydd wedi gorfod gwylio fy nghyfraniadau rhithwir yn ystod y pandemig, yn gallu tystio, mae gen i ddau lun o'i Mawrhydi y Frenhines yn fy swyddfa. Maen nhw'n cael eu harddangos yn fy swyddfa ochr yn ochr â lluniau eraill o'm teulu yr wyf i'n eu trysori. Y rheswm am hynny yw bod y Frenhines yn teimlo fel aelod o'm teulu, a dweud y gwir. Cafodd fy mam ei henwi ar ôl y Frenhines. Elizabeth, neu Liz, fel mae ei ffrindiau yn hoffi ei galw hi, yw ei henw hi. Cafodd hi ei geni yn 1952, sef, wrth gwrs, y flwyddyn y daeth Frenhines i'w horsedd. Ond roedd y ffaith bod y Frenhines ar y teledu trwy'r amser ac roeddem ni'n darllen am ei bywyd hi'n fynych—ac wrth i ni brofi hapusrwydd a thristwch yn ein bywyd teuluol—yn gwneud iddi deimlo fel petai hithau'n rhan o'n cartref ni, a bod gennym ni gysylltiad agos â hi—y cysylltiad personol hwnnw y mae Aelodau eraill o'r Senedd wedi sôn amdano.
Do, wrth gwrs, fe wnaeth hi siarad â'r genedl mewn cyfnod o argyfwng ac ansicrwydd cenedlaethol, gan gynnwys yn ystod y pandemig, ac roedd hi bob amser yn cyfrannu'r geiriau hynny o gysur ac anogaeth. Fel teuluoedd eraill yn y Siambr hon, a miliynau o bobl ledled y byd, bob Nadolig fe fyddai'r teulu cyfan yn eistedd i wylio Ei Mawrhydi y Frenhines yn annerch y genedl yn ei darllediadau Nadolig. Felly, roedd y newyddion bod y Frenhines wedi marw yn teimlo fel ergyd bersonol enfawr i mi ac i lawer o bobl, mae'n siŵr, yn y Siambr hon. Ac wrth gwrs, roedd hi'n ergyd enfawr yn bersonol i lawer o bobl yn fy etholaeth i fy hun, sydd wedi bod mewn cysylltiad i fynegi—ac yn gofyn i mi fynegi ar eu rhan nhw—eu cydymdeimlad dwysaf i'r Brenin Charles III a'i deulu ar eu rhan nhw.
Rwy'n gallu cofio'r tro cyntaf erioed i mi weld y Frenhines yn y cnawd. Mae'n hynny'n gyffrous iawn, onid ydyw, pan nad yw wedi digwydd o'r blaen. Roedd hynny'n ystod taith y Jiwbilî Aur, ac roedd y Frenhines i fod i gyrraedd Parc Eirias yn y stadiwm, ac fe ges i docyn—rwy'n meddwl mai fi oedd y dirprwy faer neu rywbeth yn Nhowyn a Bae Cinmel—neu nad oedd y maer yn gallu bod yn bresennol ac roedd e' wedi pasio'r tocyn ymlaen. Fe wnes i gyrraedd y lle, ac roedd miloedd o bobl yn y stadiwm. Roeddem ni i gyd yn aros i'r cwpl brenhinol gyrraedd—Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Caeredin—ac roedd cyflwynydd, os mynnwch chi, ar gyfer y digwyddiad, a oedd yn ein cael ni i gyd i wneud tonnau Mecsicanaidd. Fe gyrhaeddodd pwynt lle, fel sy'n digwydd weithiau, yr oedd tipyn o oedi wedi bod. Felly, roedd yn ceisio llenwi'r amser, gan ein cael ni i wneud mwy a mwy o donnau Mecsicanaidd. Ond, yn y pen draw, fe aeth hi'n dawel, oherwydd fe ddaeth newyddion atom i gyd fod Ei Mawrhydi'r Frenhines a'i char wedi troi i mewn i'r parc. Roedd tawelwch, dim ond am eiliad fer, cyn i'r dorf ffrwydro gyda bonllefau am fod y Frenhines wedi cyrraedd. Ac roedd y cyffro hwnnw'n union yr un fath bob tro y gwelais i'r Frenhines erioed.
Defnyddiwyd llawer o wahanol eiriau yn y Siambr hon ac mewn Seneddau eraill ac mewn teyrngedau eraill i'w Mawrhydi y Frenhines yn ystod y dyddiau diwethaf: dyletswydd, gwasanaeth, hirhoedledd, ymroddiad, anrhydedd—mi wnes i restr o ychydig ohonyn nhw yn y Siambr heddiw—urddas, gras, amynedd, ymrwymiad. Ond yr un peth yr wyf i'n credu sy'n fwyaf perthnasol i mi am y Frenhines yn fy marn i, yr un gair y byddwn i'n ei ddefnyddio i'w disgrifio hi, yw ei hymroddiad hi. Bob tro yr wyf i'n edrych ar y lluniau hyn yn fy swyddfa, rwy'n meddwl am ymroddiad y Frenhines, ei hymroddiad i'w chenedl, i'w phobol, nid yn unig yma yn y DU, ond ledled y byd ac yn y Gymanwlad, ei hymroddiad i'n lluoedd arfog—ac, wrth gwrs, hi oedd cadlywydd lluoedd arfog Prydain a phrif gyrnol y Cymry Brenhinol a'r Gwarchodlu Cymreig—a'i hymroddiad hi i'w theulu.
Yn ôl yn 2011 y bu'r unig sgwrs a gefais i erioed gyda'r Frenhines, ac roedd hynny ar achlysur agor y Senedd. Roeddem ni wedi cael ein casglu ar gyfer pryd o fwyd amser cinio draw yng nghanolfan y mileniwm, ac fe gafodd Aelodau'r Senedd eu tywys gyda'u gwesteion i mewn i ystafell i fyny'r grisiau ar y llawr cyntaf er mwyn cyfarfod â'i Mawrhydi. Roedd yna gryn dipyn o'r wasg yn yr ystafell arbennig honno, ac roeddwn i'n ei chael hi'n eithaf anodd, am fy mod i ychydig yn fyrrach nag eraill, i wthio fy ffordd drwy'r wasg er mwyn cyrraedd y fan lle'r oedd y Frenhines. Felly, fe wnes i beth mae pob un sy'n dangos gallu i ddal ymlaen yn ei wneud; fe ddaliais i ymlaen ac aros i bobl gael eu sgyrsiau nhw â'r Frenhines a symud ymlaen. Ac yn y pen draw, wrth gwrs, fe ddechreuodd y dorf leihau ac yn sydyn roedd Ei Mawrhydi y Frenhines yno. Wrth gwrs, chewch chi ddim mynd at y Frenhines i siarad, chewch chi? Mae'n rhaid i chi aros i'w Mawrhydi siarad â chi. Ac fe ddaeth hi ataf i a fy ngwraig, Rebecca, ac fe ddechreuodd hi siarad â ni. Ac roedd hi'n gallu cynnal sgwrs fach fel roedd y Frenhines mor aruthrol o fedrus yn ei wneud, ond roedd yna gyfle, pan ofynnodd hi am yr hyn yr oeddwn i'n ei wneud cyn i mi gael fy ethol i'r Senedd a'r holl bethau hynny, cafodd fy ngwraig gyfle i siarad â'r Frenhines, ac fe siaradodd fy ngwraig am ein plant ni ar y pryd, a oedd yn arfer dwlu ar wylio'r Tywysog William yn mynd i fyny yn yr hofrennydd chwilio ac achub, uwchben ein tŷ ni ar adegau, yn y gogledd, oherwydd, wrth gwrs, roedd wedi ei leoli yn RAF Fali am gyfnod, gan weithio fel peilot chwilio ac achub. Ac roedd llygaid y Frenhines yn pefrio, oherwydd roedd hi'n ymroddedig nid yn unig i'w chenedl, gwlad, pobl, y lluoedd arfog; roedd hi'n ymroddedig i'w theulu. Roedd hi'n caru ei theulu. Er eu holl ddiffygion, fel pob teulu yn yr ystafell hon, roedd hi'n caru ei theulu. A phan oedd hi'n siarad am ei hŵyr, y Tywysog William, roedd ei llygaid hi'n pefrio.
Ac wrth gwrs, nid dim ond ymroi i'w theulu a'i gwlad a'r holl bethau eraill hynny yr oedd; roedd hi'n ffyddlon i Dduw. Fe addawodd hynny ar ddechrau ei theyrnasiad. Fe addawodd yn y coroni, ac addo drwy gydol ei hoes, i wasanaethu Duw yn y ffordd orau y gallai hi, a bod y frenhines orau y gallai hi fod. Fe gyflawnodd hi'r swyddogaeth honno o fod yn amddiffynnwr y ffydd, a oedd yn un o'i theitlau swyddogol hi. Roedd hi'n hyrwyddo'r ffydd Gristnogol a oedd mor ganolog i'w bywyd. Roedd hi'n siarad am hynny'n aml, wrth gwrs, yn ystod y darllediadau Nadolig. Ond, hyd yn oed mor ddiweddar â'r mis diwethaf, fe soniodd hi am ei ffydd Gristnogol mewn llythyr at Gynhadledd Lambeth. Ac ynddo, dywedodd hyn:
'Gydol fy mywyd, neges a dysgeidiaeth Crist fu'n fy nhywys ac ynddyn nhw yr wyf i'n cael gobaith. Fy ngweddi o'r galon yw y byddwch chi'n parhau i gael eich cynnal gan eich ffydd mewn cyfnod o drallod a'ch annog gan obaith mewn cyfnodau o anobaith.'
Wel, rwy'n dymuno dweud hyn: diolch i chi, eich Mawrhydi, am fy ysbrydoli i a fy ffydd i dros y blynyddoedd, a miliynau o amgylch y byd. Rydym ni'n gwerthfawrogi eich gwasanaeth chi, ac rwy'n ddiolchgar fy mod i wedi eich cael chi'n rhan o fy nheulu dros flynyddoedd fy mebyd.
Ac rwy'n dweud hyn wrth y Brenin newydd, Charles III: diolch am eich gwasanaeth i ni, yn Dywysog Cymru, dros fwy na phum degawd. Rwyf i, am un, wedi gwerthfawrogi'r gwasanaeth hwnnw ac yn gwybod llysgennad mor ardderchog fu'r Brenin newydd i ni yn ystod ei gyfnod yn Dywysog. A dywedaf Duw gadwo'r Brenin, a bendithied Duw ein Tywysog William a'r Dywysoges Catherine wrth iddyn nhw ymgymryd â'u swyddi newydd.
Diolch am y cyfle i gyflwyno ychydig o eiriau yn ein Senedd genedlaethol ar gychwyn wythnos sy'n arwain at angladd y ddiweddar Frenhines Elizabeth II, ac dwi'n gwneud hynny fel trefnydd busnes a dirprwy arweinydd grŵp Plaid Cymru, a hefyd fel Aelod etholaeth Arfon. Mae fy etholaeth yn cynnwys yr hyn a elwir yn 'dref frenhinol Caernarfon'. Dyma i chi dref arbennig—tref lle mae’r Gymraeg yn fyw ac iach, tref llawn hanes, a thref sydd â chysylltiadau hir iawn gyda’r frenhiniaeth, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, a hynny ers dros 700 o flynyddoedd.
Dwi'n ymuno efo Aelodau yn y Siambr drwy estyn fy nghydymdeimlad innau â theulu'r ddiweddar Frenhines Elizabeth II yn eu galar. Mae sylw’r byd arnyn nhw ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw ymdopi â'r tristwch mawr sy’n dod yn sgil colli un sydd yn annwyl i chi.
Mae llawer wedi newid yn ystod y 96 mlynedd diwethaf. Ond, ers 70 mlynedd, mae un peth wedi aros yr un fath, gydag ond un person yn cyflawni’r rôl o frenhines ar hyd yr holl amser yma. Mae gwneud un swydd yn ddigyfnewid am gyhyd yn gamp go fawr. Camp hefyd oedd ymuno â byd gwrywaidd iawn mewn oedran cynnar a llwyddo i ddal ei thir, y rhan fwyaf o’r amser, fe ymddengys. Roedd hi'n yn weladwy iawn yn ei rôl, ac, yn y cyfnod cynnar, roedd hi'n anarferol gweld menyw ar lwyfannau cyhoeddus mor gyson. Rhoddwyd hygrededd i rôl menywod mewn bywyd cyhoeddus. Mae bywydau merched wedi newid llawer dros y 96 mlynedd diwethaf, ond mae llawer o’r heriau yn parhau yn anffodus, a’r symud at gydraddoldeb rhywedd yn ystyfnig o araf o hyd.
Fe welodd Elizabeth newidiadau mawr yn ystod ei hoes hir, ac mae’n briodol ein bod ni'n adlewyrchu ar y newidiadau rheini gan ddefnyddio ei bywyd ac achlysur ei marwolaeth i edrych yn ôl dros gyfnod ei hoes. Mi fyddwn ni, yn y Siambr yma, yn dehongli’r saith degawd aeth heibio yn ôl ein gwahanol safbwyntiau, wrth gwrs, ac yn dod i wahanol gasgliadau yn dibynnu ar y persbectifs rheini. Ond mae hi'n briodol defnyddio’r cyfnod hwn i adlewyrchu. Mae hi hefyd yn bwysig defnyddio’r amser i edrych ymlaen, i edrych ymlaen gan ganolbwyntio ar flaenoriaethu’r hyn sydd yn bwysig mewn byd llawn helbulon. Roedd Elizabeth II yn gwybod beth oedd angen iddi ei wneud. Fe wnaeth hi wneud yr hyn ofynnwyd iddi hi am gyfnod hirfaith, a, bellach, daeth heddwch i’w rhan.
Roedd Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn nodwedd barhaol o'n bywydau ni am gymaint o amser, gan gyfuno parhad gyda newid, esiampl gydag empathi, ac urddas gydag ymroddiad. Fe gyflawnodd hi gymaint, ac fe fyddaf innau'n gweld eisiau ei phresenoldeb hi yn ein plith ni, yn bersonol, yn arw iawn. Pan gyflwynwyd fy ngwraig a minnau i'r Frenhines yn seremonïau agoriadol swyddogol olynol y Senedd, roedd hi bob amser yn gwneud ymdrech i wneud i bawb deimlo yn arbennig. Roeddwn i'n aros am fy nghymhorthion clyw digidol cyntaf pan gefais fy nghyflwyno i'w Mawrhydi am y tro cyntaf. Fe ofynnodd hi gwestiwn i mi; ac fe ofynnais 'Pardwn?' Ailadroddwyd y cwestiwn; ac fe ddywedais innau 'Pardwn?' eto. Mewn anobaith a chan dorri protocol, fe ofynnais i gwestiwn iddi hi am ei hymweliad â'r Wyddgrug y diwrnod cynt. Fe atebodd hithau gydag urddas a dealltwriaeth. Ar ôl clywed fy ngwraig yn ei chanmol hi, fe afaelodd yn llaw fy ngwraig wrth gael ei chyflwyno iddi hi wedyn. Fel y gwyddoch chi, pan fyddech chi'n ysgwyd llaw â hi, am eiliad yr oedd hynny'n para fel arfer. Roedd yn rhaid i fy ngwraig aros nes iddi gytuno i ollwng llaw fy ngwraig. Dro arall, pan gafodd pawb a oedd mewn rhes eu cyflwyno i'r Frenhines oni bai am fy ngwraig, fe wnaeth Ei Mawrhydi yn siŵr fod fy ngwraig yn cael ei chynnwys hefyd.
Roedd Ei Mawrhydi yn wirioneddol yn Frenhines y Prydeinwyr—y Cymry—a chenhedloedd Prydain, ac yn ddisgynnydd i'r tywysogion Cymreig, Rhys o'r Deheubarth a Llywelyn Fawr, y cyntaf drwy ei disgyniad o William Carey a Mary Boleyn, a'r ail drwy ei disgyniad o Harri VII. Roedd Harri VII yn hannu o hen deulu o Fôn, a oedd yn honni disgyniad o Gadwaladr, sef brenin hynafol olaf Prydain, yn ôl y chwedl. Roedd Elizabeth II yn ddisgynnydd uniongyrchol i Harri VII drwy ei ferch Margaret, chwaer hŷn Harri VIII. Yn ei haraith Jiwbilî i Senedd y DU yn 1977, fe ddywedodd y Frenhines:
'Rwy'n cyfrif Brenhinoedd a Breninesau Lloegr a'r Alban, a Thywysogion Cymru ymhlith fy hynafiaid.... Ond ni allaf anghofio i mi gael fy nghoroni yn Frenhines ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.'
Am mai ei theyrnasiad hi oedd yr hiraf yn hanes y DU, gan deyrnasu am 70 mlynedd, mae effaith y Frenhines ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, ac ar deyrnasoedd a thiriogaethau, yn arwyddocaol iawn. Mae'n rhaid i ni uno yn ein galar a chymryd nerth oherwydd bod ein gwlad ni a'r Gymanwlad yn well lleoedd heddiw yn sgil ei theyrnasiad maith a'i bywyd o wasanaeth cyhoeddus. Daeth wyth gwlad at ei gilydd ym 1949 i ffurfio'r Gymanwlad fodern. Daeth Ei Mawrhydi yn bennaeth ar y Gymanwlad ar ôl cael ei dewis ar gyfer y swyddogaeth hon gan wledydd sy'n aelodau o'r Gymanwlad pan ddaeth hi'n Frenhines dair blynedd yn ddiweddarach. Ers hynny, mae'r Gymanwlad wedi tyfu i fod yn gymdeithas rydd nid o wyth gwlad, ond o 56 o wledydd sy'n aelodau annibynnol a chyfartal ohoni. Rwy'n diolch i'w Mawrhydi am ei gwasanaeth.
Rwy'n gwybod sut beth yw colli rhiant. Rwy'n gwybod sut beth yw colli mam yng nghyfraith. Bu farw fy mam yng nghyfraith eleni yn 96 oed hefyd, ac roedd hi'n teimlo cysylltiad bob amser, oherwydd blwyddyn eu genedigaeth, â'i Mawrhydi. Mae fy nghydymdeimlad yn mynd at deulu Ei Mawrhydi a'i hanwyliaid. Bendithied Duw Ei Mawrhydi. Hir oes i'r Brenin.
Mae Jane Dodds a Siân Gwenllian wedi sôn yn barod am y swyddogaeth bwysig a oedd gan y Frenhines fel arweinydd benywaidd. Mae hi'n anodd i ni ddeall bod bywyd cyhoeddus, yn 1952, yn cael ei ddominyddu yn gyfan gwbl gan ddynion. Ni allai menywod gael eu penodi i Dŷ'r Arglwyddi tan 1958. Ac yn 1966 pan oedd Harold Wilson yn dymuno penodi Shirley Williams yn Weinidog yn yr Adran Lafur, bu'r Ysgrifennydd Parhaol yn lobïo yn erbyn hynny. Hyd yn oed pan wnaeth Harold Wilson anwybyddu'r peth yn llwyr, parhaodd y gwas honedig hwn i'r Goron i wrthod cyfathrebu â hi'n uniongyrchol. Anhygoel. Felly, pan gymerodd hi'r awenau, yn 25 oed, yn y byd hwn a oedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion, roedd yn amlwg y byddai'n rhaid iddi hi fod yn wirioneddol benderfynol er mwyn gwneud yn siŵr na fyddai hi'n cael ei hanwybyddu fel un nad oedd angen ei hystyried. Oherwydd ei bod hi'n ddeallus ac yn gweithio yn galed iawn—roedd hi'n arfer darllen ei briffiau i gyd, yn wahanol i ambell un [Chwerthin.]—fe ymsefydlodd hi'n gyflym yn un a oedd yn gwybod beth yr oedd hi'n siarad amdano a bod angen rhoi ystyriaeth iddi hi.
Mae rhyw dameidiau mân o wybodaeth ar gael ynglŷn â'r hyn a oedd yn digwydd yn y cyfarfodydd wythnosol hynny gyda Phrif Weinidog y dydd, ond does dim cofnodion o'r sgyrsiau hynny. Ond yn ddiamau, yn amlwg, wedi 70 mlynedd o fod yn ymdrin â Phrif Weinidogion, roedd hynny'n rhoi golwg unigryw iddi hi o ran dulliau'r gwahanol arweinwyr gwleidyddol o ymdrin â'r cymeriadau lliwgar yn eu Cabinetau nhw. Yn ei chartref, bu'n rhaid iddi fod yn anchwiliadwy—dyna oedd y fargen gyfansoddiadol—o ran ei barn hi am faterion y dydd, ond fe wnaeth hi ddefnyddio ei gwaith rhyngwladol o gynrychioli Prydain i roi cipolwg digyfaddawd i ni ar waith Llywodraethau a dod yn ddiplomydd medrus iawn.
Fel y cawsom ni ein hatgoffa gan Arlywydd Ffrainc wythnos diwethaf, rydym ni'n siarad am 'ein Brenhines ni' neu 'eich Brenhines chi', fel yr oedd ef yn ei ddweud, ond yn Ffrainc dim ond 'vive la reine' yw hi, oherwydd hi yw Brenhines yr holl fyd. Hi yw'r unigolyn mwyaf adnabyddus drwy'r byd, er gwaethaf y cyfryngau cymdeithasol. Felly, roedd hi braidd yn anghyfforddus i mi wrth ymweld ag ysgol gynradd ym mis Mehefin i gael plentyn yn fy holi ai fi oedd y Frenhines. Ond fe ddywedodd fy swyddfa wrthyf i, 'Wrth gwrs, ni fydd y broblem honno gennych chi mwyach.'
Mae ei hymadawiad hi, mae'n rhaid i ni gofio, yn nodi'r torri cysylltiad olaf â rhywun a oedd â phrofiad uniongyrchol o Lywodraeth yn ystod yr ail ryfel byd, a'r dioddefaint a'r aberth a fu er mwyn goresgyn y Natsïaid. Yn wir, roedd hi'n hynod bryderus ynglŷn â'r ymweliad cyntaf y gofynnwyd iddi hi ei wneud â'r Almaen yn 1965, 20 mlynedd wedi diwedd y rhyfel. Yn syml, nid oedd hi'n gwybod beth fyddai'r ymateb naill ai gartref neu yn yr Almaen i hynny. Ond roedd hi'n ddigon dewr i fynd beth bynnag ac fe gafodd hi ei gwobrwyo â thorfeydd enfawr a ddaeth allan i'w chyfarch hi yn Berlin ac mewn mannau eraill.
Un o'r pethau mwyaf llwyddiannus a wnaeth hi oedd galluogi Prydain i bontio o fod yn ymerodraeth i fod yn wlad ymysg llawer o wledydd yn Ewrop. Hi oedd yn bennaf gyfrifol am esmwytho'r broses o drosglwyddo'r gwledydd annibynnol erbyn hyn i'r Gymanwlad o Genhedloedd y mae Mark Isherwood wedi cyfeirio ati eisoes. Rhoddodd y Gymanwlad hon lwyfan i'r Frenhines ar gyfer mynegi syniadau na ellid bod wedi eu mynegi mewn cyd-destun domestig yn ôl y cyfansoddiad. Yn ei darllediad yn Nadolig 1983, fe ddywedodd hi:
'er gwaethaf yr holl gynnydd a wnaethpwyd y broblem fwyaf yn y byd heddiw yw'r bwlch rhwng y gwledydd cyfoethog a'r tlawd ac ni fyddwn ni'n dechrau cau'r bwlch hwn nes ein bod ni'n clywed llai am genedlaetholdeb a mwy am gyd-ddibyniaeth. Un o brif amcanion y Gymanwlad yw gwneud cyfraniad effeithiol tuag at unioni'r cydbwysedd economaidd rhwng cenhedloedd.'
Wel, fe aeth hi'n sgrech. Fe wrthwynebodd Enoch Powell hynny'n aruthrol, a'r wasg adain dde hefyd. Ond mynegodd y datganiad dilynol i'r wasg:
'Neges bersonol i'w Chymanwlad yw darllediad y Nadolig. Mae'r Frenhines yn ystyried ei holl bobl hi'n gwbl ganolog, heb ystyriaeth i hil, cred na lliw.'
Mae'r rhain yn ddatganiadau gwirioneddol bwysig. A thu ôl i'r llenni, ei swyddogaeth hi yn y Gymanwlad oedd pontio'r bwlch rhwng safbwynt Llywodraeth y DU a gweddill gwledydd y Gymanwlad, yn enwedig o ran pethau fel y datganiad annibyniaeth unochrog gan Rhodesia, pan deimlwyd bod Llywodraeth Wilson yn gyndyn o wrthwynebu'r ymraniad hwn pan oedden nhw'n credu y byddai'r lluoedd arfog yn cael eu hanfon i ymdrin â gwrthryfel gan bobl dduon. Yn yr un modd, roedd y Gymanwlad yn y broses o chwalu ym 1986, pan oedd Llywodraeth Thatcher yn gwrthod gosod sancsiynau ar Dde Affrica, yr oedd holl wledydd eraill y Gymanwlad yn mynnu hynny. Llwyddodd y Frenhines i'w chadw ynghyd drwy roi cyfaddawd ar waith yn ystod y cinio gwaith enwog cyn cyfarfod penaethiaid y gwladwriaethau, ac fe alluogodd hynny iddyn nhw fod â rhan o ran cael y gyfundrefn apartheid i sylweddoli bod yn rhaid rhyddhau Mandela.
Fe ail-enwodd Ddiwrnod yr Ymerodraeth yn Ddiwrnod y Gymanwlad. Roedd hynny'n un peth pwysig iawn. Ond hefyd, wrth sôn am grefydd, yn 2012, roedd esgobion Eglwys Loegr yn dechrau murmur yn ei herbyn. Y Frenhines a sefydlodd Ddiwrnod y Gymanwlad aml-ffydd i'w gadw, a oedd yn adlewyrchu'r ffaith bod llawer mwy o Fwslimiaid a Hindŵiaid na Christnogion yn y Gymanwlad. Roedd hi'n ei gwneud yn glir nad oedd gwrthdaro rhwng ei swyddogaeth fel pennaeth Eglwys Loegr a bod yn amddiffynnydd rhyddid crefyddol:
'Fe gaiff cysyniad ein Heglwys sefydledig ni ei gamddeall o bryd i'w gilydd ac yn gyffredin, rwy'n credu, nid yw'n cael ei werthfawrogi yn ddigonol. Nid ei swyddogaeth yw amddiffyn Anglicaniaeth gan eithrio crefyddau eraill. Yn hytrach, mae dyletswydd ar yr Eglwys i ddiogelu ymarfer pob ffydd yn rhydd yn y wlad hon...mae Eglwys Loegr wedi creu amgylchedd i gymunedau ffydd eraill ac yn wir ar gyfer pobl heb unrhyw ffydd i fyw â rhyddid.'
Fe addawodd hi heddwch a chymod yn Iwerddon, fel y cyfeiriodd Adam ato eisoes, ac, yn bwysig iawn, fy ysgwydodd hi law â Martin McGuinness yn arwyddocaol iawn fel arwydd o gymodi. Mae cymanwlad o genhedloedd yn rhoi llawer mwy o foddhad ac yn fwy perthnasol o ran cyflawni trosglwyddiad cyfiawn a heddychlon allan o'n hargyfwng hinsawdd nag unrhyw gynghrair filwrol, ac fe allwn ni ddim ond dymuno pob lwc i Charles III wrth lenwi'r esgidiau mawr iawn y mae'n rhaid iddo yn awr eu gwisgo.
Ar ran pobl Aberconwy ac, yn wir, fy nheulu fy hun, rydym ni'n cyfleu ein cydymdeimlad dwysaf ag Ei Fawrhydi y Brenin a holl aelodau'r teulu brenhinol ar eu colled drist a sydyn.
Trwy gydol fy mywyd i a bywydau llawer o fy etholwyr, dim ond un frenhines yr ydym ni wedi ei hadnabod. Mae hi wedi bod yn gyson anhygoel; yr angor i roi sefydlogrwydd i bobl ledled y byd. Fel y dywedodd Ei Mawrhydi yn ystod ei darllediad Nadolig ym 1957,
'Ni allaf eich arwain chi mewn brwydr, nid wyf i'n deddfu nac yn gweinyddu cyfiawnder i chi, ond fe allaf i wneud rhywbeth arall, fe allaf roi fy nghalon i chi a fy nefosiwn i'r hen ynysoedd hyn a holl bobloedd ein brawdoliaeth ni o genhedloedd.'
Roedd ei ffydd fel Cristion yn ysbrydoledig a gwir. Mae Cymru hefyd wedi teimlo yr un cariad a defosiwn. Pa arwydd mwy o hynny na'r torcalon a'r tristwch y mae cymaint yn ei brofi yn ein colled ni nawr? Mae'n arwydd o'r cariad yr ydym ni'n ei ddangos iddi hi a'r edmygedd y mae hi'n ei haeddu yn fawr iawn. Roedd ein Brenhines ni'n oleuni disglair ac yn esiampl o obaith.
Yn Aberconwy, fe werthfawrogir yn fawr ei bod hi wedi cefnogi amaethyddiaeth Cymru a'n ffermwyr ni. Pa dystiolaeth fwy eglur a fu o'i chariad at gefn gwlad Cymru a ffermio na'i gwasanaeth fel llywydd anrhydeddus Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru? Fel y bydd fy nghyd-Aelodau yn gwybod, mae'n draddodiad hir sefydlog iawn fod cysylltiad agos rhwng y brenin a'r lluoedd arfog, ac felly mae hi'n destun balchder i mi fod fy etholaeth i'n parhau i fod â rhan bwysig mewn hyfforddiant i'r fyddin a chadetiaid yng Nghapel Curig a Llanrwst.
Mae Aberconwy hefyd yn gartref i frenhines cyrchfannau Cymru, ac fe fyddaf i'n sicr yn trysori fy atgofion am Ei Mawrhydi ein Brenhines yn ymweld â Llandudno a rhannau eraill o Aberconwy ar sawl achlysur. Rwy'n cofio'r cyffro pan ymwelodd hi â ni yn rhan o daith y Jiwbilî Arian yn 1977. Roedd yna floeddio, plant yn chwifio baneri, ac arddangosfa hwylio yn y bae, a oedd yn destun rhyfeddod iddi hi. Canodd y plant mewn Cymraeg hyfryd i ddiddanu'r pâr brenhinol. Nid yw'r edmygedd hwnnw o'n Brenhines wedi pylu erioed.
Er efallai ein bod ar ddiwedd cyfnod oes Elizabeth, fe fydd ei hesiampl hi'n parhau i ysbrydoli fy mywyd i a bywydau fy etholwyr a dinasyddion yn fyd-eang. Rwy'n hynod ddiolchgar fod y Brenin Charles III bellach wedi ymroi ei fywyd i barhau â gwaith ei annwyl Fam yn darparu sefydlogrwydd a chariad i bobl ledled y byd. Bydded bendith Duw arnoch chi a rhodded ei hedd tragwyddol i chi, Ma'am. Ni fyddwn ni, eich deiliaid Prydeinig gwir a ffyddlon chi, fyth yn eich anghofio chi. Fe fyddwn ni'n cefnogi eich disgynyddion a'ch olynwyr yn eich enw da chi. Duw gadwo'r Brenin.
Wrth i ni ddod heddiw i'r hyn rwy'n ei adnabod fel y Siambr drafod, mae'n dda iawn ein bod ni'n dod at ein gilydd heddiw, gan roi gwleidyddiaeth o'r neilltu am unwaith, a hoffwn gofio geiriau'r diweddar Jo Cox, pan ddywedodd hi
'Mae mwy sy'n ein huno nac sy'n ein gwahanu.'
Rydym ni yma yn feibion, merched, rhai ohonom ni'n rhieni a neiniau a theidiau, yn union fel yr oedd y Frenhines yn nain hefyd, ac rydym ni'n siarad am beth sydd gennym yn gyffredin â'r Frenhines, ac rydyn ni'n gweld bod gennym ni yn wir bethau yn gyffredin.
Hoffwn gydymdeimlo â'i theulu, â'r teulu brenhinol, heddiw. Mae hi wedi bod yn gyson yn ein bywydau. Rwy'n cofio mynd i bartïon stryd y Jiwbilî pan oeddwn yn blentyn ac yna'n parhau i drefnu digwyddiadau cymunedol hefyd, ac mae'n ymwneud â'r ysbryd mawr yna o agosatrwydd cymunedol, rwy'n credu, mae hynny'n bwysig iawn, iawn. Rwy'n cofio mynd i stryd fawr Yr Wyddgrug, mynd â fy mhlentyn ieuengaf efo fi, a bu llawer o chwerthin a chyffro yno gan ein bod ni i gyd yn ceisio gwasgu ar y palmant dim ond i wylio'r Frenhines yn mynd heibio mewn car a'i gweld yn chwifio. Rwy'n cofio mynd gyda gwirfoddolwyr eraill i Landudno, ac roedd yn ddigwyddiad yr oedd y Frenhines yn mynd iddo, a meddwl pa mor hyfryd oedd hi fod yr holl wirfoddolwyr yma efo'i gilydd, a'r ymdeimlad o gymuned. Dyna, mewn gwirionedd, sy'n dod â'r cynhesrwydd hefyd.
Y llynedd, braint fawr oedd cael cyfarfod y Frenhines gan fy mod yn Aelod newydd o'r Senedd. Roeddem ni mewn grŵp mawr, onid oeddem ni, fel yr oedd hi'n dod draw, ac roeddwn i'n meddwl, 'O bobl bach, beth wnaf i os yw hi am siarad â mi neu ofyn cwestiwn? Beth sydd gen i'n gyffredin â'r Frenhines? Beth allaf i ei ddweud?', heb wybod y protocol, mewn gwirionedd, â minnau'n newydd. Ond, rwy'n ei chofio hi'n dod gyda'r Llywydd ac yn sôn am gael cyfarfodydd dros Zoom a sut roedd hi wedi ymgyfarwyddo â hynny, ac roeddwn i'n meddwl, 'Beth sydd gen i'n gyffredin? Dwi'n gwybod, cŵn.' Ac, wrth iddi ddod yn nes, dywedais, 'Pan mae gen i fy nghyfarfodydd Zoom gartref, rwy'n eistedd gyda chi bob ochr i mi, ac yn aml maen nhw'n ceisio ymuno gyda sgyrsiau ar Zoom', fel rydych chi wedi clywed hefyd. Ac wedyn roeddwn i'n meddwl, 'Sawl gwaith mae hi wedi gorfod gwneud hynny dros y blynyddoedd, mewn cymaint o sefyllfaoedd gwahanol, yn ceisio meddwl yn y fan a'r lle, 'Beth fedraf i ei ddweud wrth y person yma? Beth sydd gennym ni'n gyffredin?' Mae'r hiwmor mae hi wedi ei ddangos, yn enwedig yn ei dyddiau diweddarach, fel y dywedodd Alun ynghynt, gyda James Bond, ac roeddwn i'n meddwl, 'Beth arall sydd gen i'n gyffredin â'r Frenhines?' Wel, rwyf hefyd yn cario brechdanau yn fy mag llaw, fel y gwnaeth hi ei ddatgelu i Paddington Bear, yn enwedig ar fy nheithiau trên hir i fyny ac i lawr. Felly, dim ond meddwl ydw i fod yna'r hiwmor mawr yna, cysylltu efo pobl, mae hynny yn elfen mor bwysig hefyd yr oedd ganddi.
A hefyd, hoffwn ddweud cymaint o esiampl wych oedd hi o arweinyddiaeth i fenywod ym mhob man, ac rwy'n edrych ar hynny yn ogystal fel ysbrydoliaeth. Felly, heddwch i'w llwch. Cydymdeimladau i'w theulu. Edrychaf ymlaen at groesawu'r Brenin Charles yma i'r Senedd yn ddiweddarach yn yr wythnos ac i ogledd Cymru.
Hoffwn fynegi fy niolchgarwch a fy edmygedd fy hun o'r ddiweddar Frenhines. Rwy'n tybio y byddwn ni i gyd yn cofio yma y tro cyntaf i ni gyfarfod neu weld y Frenhines am y tro cyntaf erioed. Yr unfed ar ddeg o Orffennaf 1986 oedd hi, a minnau'n 12 oed, pan welais i'r Frenhines yn bersonol, pan aeth ar daith o gwmpas Sir Drefaldwyn, gan ymweld â Machynlleth, Llanidloes, Y Drenewydd, Trefaldwyn, Aberriw a'r Trallwng. Fy nghof o'r diwrnod hwnnw yw'r wên ar wynebau pobl, gan edrych yn llawen wrth i'r Frenhines wneud ei ffordd i fyny'r stryd yn Y Drenewydd. Ond fy atgof pennaf oedd nid o'r wên ar wynebau pobl, ond o'r wên ar wyneb y Frenhines. Dyna sydd wedi ei serio ar fy nghof i, a phan ddaeth y Frenhines yn ôl i'r Senedd fis Hydref diwethaf, fe'm hatgoffwyd o'r diwrnod hwnnw: y Frenhines gyda'r wên fawr, radlon honno eto—y wên heintus honno oedd ganddi.
Ac roedd gan y Frenhines ffordd wych o wneud i bobl deimlo'n gartrefol—yn aml mae pobl yn teimlo'n nerfus wrth gwrdd â'r Frenhines am y tro cyntaf, fel y mae Carolyn newydd sôn amdano. Roedd gan y Frenhines ffordd wych o ddangos diddordeb ym mywydau pobl, gan ofyn y cwestiynau cywir i wneud pobl yn gartrefol, ond, yn anad dim, rwy'n credu mai ei gwên heintus hi oedd wir yn gwneud pobl yn gartrefol ac yn creu'r awyrgylch cynnes hwnnw. Ac roedd gan y Frenhines hiwmor digymar, ac, wrth gwrs, dros y dyddiau diwethaf, ac yn y Siambr heddiw, rydym ni wedi clywed straeon, onid ydym ni, am y Frenhines a'i natur ddrygionus a hwyliog, ac mae hynny wedi bod yn gysur, rwy'n credu, i lawer sydd â chysylltiad mor gryf â'r Frenhines. Rydym ni wedi clywed am y Frenhines yn gweithio ochr yn ochr â James Bond, y Frenhines yn yfed te gyda Paddington Bear, a'r frechdan yn ei bag llaw, fel sydd gan Carolyn yn ei bag llaw hefyd. Ond fe glywson ni am y straeon yma, ac rwy'n credu mai dyna oedd y wir Frenhines. Roedd y Frenhines yn rhywun oedd o ddifri pan oedd rhaid iddi fod, ond hefyd yn rhywun oedd yn hwyl hefyd pan oedd yn briodol.
Felly, ar ran pobl sir Drefaldwyn, anfonaf fy nghydymdeimlad dwysaf at Ei Fawrhydi y Brenin ac aelodau o'r teulu brenhinol. Rhoddodd Ei Mawrhydi ei bywyd i ddyletswydd ac i wasanaethu. Mewn cyfnodau anodd a dyddiau duon, arhosodd y Frenhines yn gyson, felly, diolch i chi, Eich Mawrhydi, a Duw gadwo'r Brenin.
Mae'n anrhydedd gallu sefyll yma a siarad ar ran pobl fy rhanbarth. Mae ein meddyliau a'n gweddïau yn fawr iawn gyda'i Fawrhydi y Brenin a'r teulu brenhinol wrth i ni alaru huno'r frenhines orau a hiraf ei gwasanaeth a welodd y byd, y Frenhines Elizabeth II.
I'r rhan fwyaf ohonom, y Frenhines Elizabeth II yw'r unig frenhines y mae unrhyw un ohonom wedi ei hadnabod. Mae hi wedi bod yno erioed, yn oleuni ac yn ganllaw cyson a diwyro drwy amseroedd drwg a da. Mae llawer o bobl wedi drysu dros y dyddiau diwethaf ynglŷn â pha mor gryf mae eu galar wedi bod a dim ond nawr yn sylweddoli'r effaith a'r rhan enfawr y mae ein Brenhines wedi'i chael yn ein bywydau ni i gyd. Dim ond pan fyddwn ni'n wynebu realiti colled rydym ni wir yn deall beth sydd wedi mynd.
Roedd y Frenhines Elizabeth II yn unigolyn gwirioneddol ryfeddol a gysegrodd ei bywyd yn llwyr i'n gwasanaethu ni, pobl Prydain, rhai'r Gymanwlad a'r tiriogaethau tramor. Crisialwyd ei defosiwn yn yr araith enwog yn Cape Town yn Ne Affrica, lle dywedodd,
'Rwy'n datgan ger eich bron y caiff fy holl fywyd, boed yn hir neu'n fyr, ei neilltuo i'ch gwasanaeth, a gwasanaeth ein teulu imperialaidd mawr, yr ydym i gyd yn perthyn iddo.'
Ac fe gyflawnodd hynny, ac rydw i, yn hynny o beth—ac, rwy'n gwybod, pawb yma—yn hynod falch mai Elizabeth II oedd ein Brenhines. Hyd yn oed y dydd Mawrth hwn, o'r wythnos hon, gwelsom y Frenhines yn gwneud fel y mae hi bob amser wedi'i wneud, yn 96 mlwydd oed, ac yn cyflawni ei dyletswyddau gyda'r cryfder, y gras a'r anrhydedd yr oedd hi wedi dod yn fyd-enwog amdanynt, drwy gyfarfod yn bersonol â'i Phrif Weinidog newydd, Liz Truss, gan ddarlunio dyfnder ei hymroddiad i ddyletswydd. Roedd ymroddiad Elizabeth II i ddyletswydd bob amser yn amlwg trwy gydol ei theyrnasiad. Pan oedd yn 19 oed, ymrestrodd yn ystod yr ail ryfel byd i wasanaethu yng Ngwasanaeth Tiriogaethol Ategol y menywod, a dim ond dechrau bywyd o ymrwymiad i'n gwlad a'n pobl oedd hyn. Yna dechreuodd ei dyletswydd fwyaf, wrth gwrs, pan oedd yn ddim ond 25 oed. Yn 23 oed, pan ges i fy ethol yma, roeddwn i'n teimlo pwysau cyfrifoldeb y swydd, ond mae'r anferthedd a maint y cyfrifoldeb ar ei hysgwyddau ifanc hi yn anodd ei ddychmygu. Nid yn unig y gwnaeth hi ymdopi â hynny, safodd yn gryf a chadarn, gan gynnal a hyrwyddo popeth sy'n wych am ein gwlad am 70 mlynedd.
Rydw i ac, mae'n siŵr, cymaint o bobl eraill, yn falch i'r Frenhines weld ei Jiwbilî Platinwm eleni, ac roedd y dathliadau yn fy rhanbarth a thu hwnt yn deilwng i Frenhines sydd wedi gwneud cyfraniad anhygoel i'n gwlad dros y blynyddoedd hyn. Roeddwn i wrth fy modd yn rhannu'r dathliadau hynny gyda fy mhlant fy hun a gallu egluro iddyn nhw ddyfnder y diolchgarwch sy'n ddyledus gennym ni i'r Frenhines a pham. Fel y frenhines sydd wedi gwasanaethu hiraf yn hanes Prydain, gwahoddodd y Frenhines 15 o Brif Weinidogion i ffurfio Llywodraeth. Adeg ei choroni, roedd gan y Gymanwlad wyth aelod-wladwriaeth; heddiw, mae 56 bellach. Mae'n anghredadwy. Yn ystod ei theyrnasiad, moderneiddiodd y Frenhines Elizabeth II y frenhiniaeth, gan addasu i'r oes a'i throi i fod y sefydliad hynod boblogaidd y mae hi heddiw, gyda chyrhaeddiad enfawr byd-eang. Rydym ni i gyd wedi gweld hyn o'r areithiau ac o ymateb y gwledydd ledled y byd ers ei marwolaeth, a bu hynny yn haeddiannol o Elizabeth fawr.
Nid dim ond ei synnwyr o ddyletswydd, ei dylanwad sefydlog a'i chyngor doeth a'i diffiniodd; daeth ei ffraethineb, ei hiwmor a'i natur ofalgar hefyd i bersonoli ei theyrnasiad. Ac roedd y Frenhines yn synnu'n gyson, fel y gwelsom ni i gyd gyda'r te hwnnw gyda Paddington ac anturiaethau James Bond, gan ddod â chynhesrwydd i'r swyddogaeth a fu'n fodd i gryfhau'r frenhiniaeth a'i lle yn ein byd modern ymhellach.
Ac am enghraifft eithriadol oedd hi i fenywod a merched—i mi ac i ferched ledled y byd—ac esiampl gref i bob un ohonom ni. Mae wedi bod yn anrhydedd cael cwrdd â'r Frenhines ar sawl achlysur. Rwy'n teimlo'n aruthrol o ffodus ac mi fyddaf yn trysori yr adegau hynny am byth, gan gofio ei geiriau doeth i mi a'r disgleirdeb hwnnw yn ei llygad. Boed i Dduw fendithio'r Frenhines. Boed iddi bellach ymuno â'i gŵr, gorffwys mewn hedd a chodi mewn gogoniant. Mae fy meddyliau a meddyliau trigolion de-ddwyrain Cymru a'n cenedl bellach gyda'i Fawrhydi y Brenin a'r teulu brenhinol wrth iddynt alaru am golli eu mam a'u nain annwyl. Duw gadwo'r Brenin.
Ar ran pobl Islwyn a chymoedd, trefi a chymunedau niferus Gwent yr wyf yn eu cynrychioli, hoffwn hefyd ddweud 'diolch' i'n llawforwyn ffyddlon, y Frenhines Elizabeth II am ei theyrnasiad hir, urddasol dros ei holl bobloedd. Mae sawl teyrnged wedi gwneud argraff arnaf, ond, fel y dywedodd Jenny Rathbone, Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, a ddywedodd,
'I chi, hi oedd eich Brenhines. I ni, hi oedd Y Frenhines.'
Symbol o undod, ac yn hynny o beth, symbol—symbol bendigaid—o obaith.
Heddiw fel cynrychiolydd y lle hwn yng Nghymdeithas Seneddol y Gymanwlad, rwyf wedi bod yn dyst uniongyrchol ar sawl achlysur i'r gwerthfawrogiad gwirioneddol a'r parch dyfnaf sydd iddi. Mae cenhedloedd a thiriogaethau'r Gymanwlad sy'n rhychwantu'r byd wedi bod yn llafar—[Anghlywadwy.] Mae mynegiant y galar hwnnw wedi bod yn fyd-eang. Heddiw, rydym ni'n byw mewn byd peryglus a byd anwadal, sydd ar hyn o bryd wedi colli seren arweiniol, fythol gyson. Ers dros 70 mlynedd, mae'r Frenhines Elizabeth II wedi arwain trwy esiampl. Mae hi wedi dangos drwy ei gweithredoedd wasanaeth cyhoeddus o'r defosiwn uchaf un. Mae ymadawiad ein diweddar Frenhines wedi esgor ar ymdeimlad dwfn a dwys o golled, tristwch torfol a llonyddwch wedi'i wreiddio yn ei chysondeb i ni i gyd. Arddelai ei ffydd Gristnogol gyda defosiwn dwfn a chyflawni'r dyletswyddau cyhoeddus uchaf yn y tir hwn tan yr oriau olaf. Ac rydym ni'n teimlo'r fath dristwch oherwydd, yn syml iawn, roedd pobl yn ei charu.
Llywydd, yn y lle gwleidyddol yma, yn y Siambr hon, yn aml mae llawer o dân ac anghytuno. Dyna drefn naturiol dadl wleidyddol ac ni all newid, ac ni ddylai chwaith. Fodd bynnag, roedd y Frenhines Elizabeth II yn dod â llonyddwch a thangnefedd y mae llawer wedi siarad amdanynt, gwasanaeth cyhoeddus pur o raddfa, natur a math gwahanol ac, y tu ôl i'r wên a'r disgleirdeb hwnnw y mae llawer wedi cyfeirio atynt, doethineb dwfn. Sbardunwyd ein Brenhines gan ymdeimlad ffyrnig o ymroddiad, fel y mae llawer wedi crybwyll, at ei haddunedau i wasanaethu ei deiliaid gyda dyletswydd. Fe wnaeth hynny ddegawd ar ôl degawd nes ei hymadawiad. Menyw—menyw gref—yn aml yn ei blynyddoedd iau, fel y mae eraill wedi sôn amdano, wedi'i hamgylchynu gan ddynion oedd yn teimlo eu bod yn gwybod yn well. Roedd hi'n ddynes mewn byd gwrywaidd, yn gosod esiampl i bawb. Ac o'r byd gwrywaidd hwn, ym 1952, cerddodd y fenyw hon, ac yna mam, mam-gu, hen fam-gu, gydag arweinwyr byd a siarad ag arweinwyr byd a dylanwadu arnynt am dros saith degawd.
Mae'r Frenhines, fel un o arweinwyr mwyaf y byd, yn aros gyda ni i gyd. Ond eto, drwy'r cenhedloedd, roedd hi'n aml i'w theimlo'n rhan o wead Prydain, fel rhan o'r Nadolig, o'r ystafell fyw, ac, i gymaint o deuluoedd ar hyd a lled ein Teyrnas Unedig, cyffyrddodd â chalonnau a meddyliau pawb yr oedd hi'n rhyngweithio â nhw. Fe wnaeth hi arwain trwy esiampl ac mae'n rhaid i ni i gyd geisio dilyn yr esiampl honno. Roedd hi'n gryf ac felly mae'n rhaid inni fod yn gryf, a chrio—rwy'n teimlo'r emosiwn yn yr ystafell heddiw. Ar brydiau, mae llawer yma wedi crio, hyd yn oed y rhai oedd yn teimlo na fydden nhw neu na allen nhw. Ond wrth i dristwch ein goddiweddyd, gwelwn olyniaeth esmwyth o'r Goron a arweiniodd, ac awn ymlaen gyda'n gilydd fel y Deyrnas Unedig, ac rydym yn symud ymlaen nawr gyda balchder. Y Frenhines Elizabeth, rydym ni wedi a byddwn ni yn seinio ein diolchgarwch i chi. Diolch yn fawr, a byddwn yn gwobrwyo eich gwasanaeth ffyddlon gyda'r geiriau yr hoffech chi eu clywed yn atseinio drwy'r tir hwn, sef 'Duw gadwo'r Brenin'.
Hoffwn hefyd gydymdeimlo'n ddiffuant â'i Fawrhydi y Brenin a'r holl deulu brenhinol ar farwolaeth y Frenhines Elizabeth annwyl. Roeddwn y tu allan i'r wlad pan glywais y newyddion trasig. Roeddem ni'n ymweld â theulu yn Kashmir pan glywsom ni'n hwyr nos Iau fod ein brenhines wedi marw. Roedd yn adeg o dristwch dwfn ac alaeth ofnadwy, nid yn unig i mi a fy nheulu agos, ond trwy Srinagar, Kashmir ac ar draws holl is-gyfandir India, am nad ein Brenhines ni yn unig oedd hi ond pennaeth y Gymanwlad hefyd. Mae'r galar yr ydym ni'n ei deimlo o'i hymadawiad i'w theimlo i'r un graddau ar draws y byd, o India'r Gorllewin i India'r Dwyrain a thu hwnt; mae cenhedloedd sydd wedi ymryddhau o reolaeth Brydeinig yn dal i ystyried pennaeth ein cenedl fawr gydag anwyldeb, parch a chariad, oherwydd Ei Mawrhydi oedd y mwyaf o weision cyhoeddus, gan gysegru ei bywyd a'i holl fod at wasanaeth ein cenedl a'n teulu o genhedloedd.
Am dros saith degawd, roedd hi wedi ein tywys, ein harwain a'n meithrin. Roedd hi wedi bod yn arloeswraig ac yn llaw gadarn ar adegau o lawenydd a thristwch. Pan esgynnodd i'r orsedd dros 70 mlynedd yn ôl, roedd y Gymanwlad, fel mae pawb wedi dweud, yn cynrychioli llond llaw yn unig o genhedloedd, ac roedd y Deyrnas Unedig yn dal i ddioddef ôl-effeithiau'r rhyfel byd. Ond, mae ei dycnwch, ei hymroddiad a'i anhunanoldeb wedi helpu i drawsnewid ein cenedl a'n Cymanwlad, sydd bellach yn cynrychioli tua chwarter poblogaeth y byd. Ac er mai hi oedd pennaeth Eglwys Loegr, mae pobl o bob ffydd a dim ffydd yn galaru ymadawiad Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, amddiffynnydd ffydd. Duw a'ch bendithio chi, Eich Mawrhydi. Boed i chi orffwys mewn heddwch tragwyddol. Amen.
Bu i'r newyddion torcalonnus bod ein Brenhines annwyl, Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II wedi marw ysgwyd pobl ein cenedl i'r byw, fel y gwnaeth ar draws y Gymanwlad ac, yn wir, y byd. Ar ran miloedd o bobl ar draws etholaeth Mynwy, rwy'n estyn hefyd gydymdeimlad diffuant i'r Brenin a'r teulu brenhinol ar yr adeg dristaf hon. Roeddem i gyd yn ofni y byddai'r amser trist hwn yn dod rhywbryd, ond roeddem ni'n gobeithio na fyddai byth yn cyrraedd. Nawr mae yma, mae gwacter enfawr yn treiddio i'n bywydau ni gan ei bod mor anodd amgyffred bywyd heb ein Brenhines, cymaint oedd y cariad enfawr a oedd gennym ni am y ddynes ryfeddol hon, ac ni fydd y cariad yna yn ein gadael.
Am dros 70 mlynedd, roedd Ei Mawrhydi'n gysondeb—gair yr ydym ni wedi'i ddefnyddio llawer heddiw, ond does dim gair gwell i'w ddisgrifio—yn ein bywydau, yn ddylanwad cadarn, yn golofn o gryfder diwyro yn pontio sawl cenhedlaeth ac yn ysbrydoli pobl ar draws y byd. Yn ystod ei theyrnasiad, yr hiraf erioed ar orsedd Prydain, mae'r Deyrnas Unedig, ac yn wir y byd, wedi newid y tu hwnt i ddychymyg. Esgynnodd y Frenhines Elizabeth II i'r orsedd, fel y gwyddom ni, yn dilyn diwedd yr ail ryfel byd, cyfnod lle'r oedd y byd yn aildrefnu yn dilyn y cyfnod dinistriol, erchyll hwnnw. Ac er gwaethaf nifer o ddigwyddiadau o arwyddocâd hanesyddol yn ystod ei theyrnasiad, rhoddodd y Frenhines Elizabeth sefydlogrwydd, arweinyddiaeth ac empathi i'r wlad a'r byd.
Yn ystod yr amseroedd da a'r drwg, roedd Ei Mawrhydi yn symbol o ysbryd y wlad, gan roi ysbrydoliaeth a gobaith i filiynau o bobl. Er gwaethaf y baich enfawr o bwysau a disgwyliad na allai llawer ohonom ddechrau ei dychmygu a oedd arni, ni chollodd Ei Mawrhydi erioed olwg ar yr hyn a oedd yn bwysig: y bobl a'r cymunedau ar draws ein Teyrnas Unedig a'r byd ehangach.
Ochr yn ochr â'i gŵr annwyl, Dug Caeredin, fe wnaeth y Frenhines gyfarfod â miloedd o bobl o bob cornel o'r byd. Roedd yr hoffter ohoni a'r parch a oedd iddi yn ddigymar, ac roedd yn rym o ddaioni a chariad a oedd yn uno'r byd. Roedd Ei Mawrhydi yn goruchwylio datblygiad y Gymanwlad—y teulu hynod bwysig hwnnw o genhedloedd—mewn byd sy'n newid yn barhaus, ac roedd hi wrth lyw sawl sefydliad ac elusennau, a bydd ei cholled yn cael ei deimlo gan gynifer. Bydd ei hymdeimlad o ddyletswydd, gostyngeiddrwydd, anhunanoldeb a defosiwn i'r Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad i gyd yn parhau'n esiampl i ni i gyd am byth. Mae ei marwolaeth yn golled aruthrol i'r genedl ac, yn wir, i'r holl fyd. Diolch, Eich Mawrhydi, am eich ymrwymiad a'ch cariad di-ben-draw; boed i chi orffwys mewn hedd. Duw gadwo'r Brenin.
Y broblem am gael fy ngalw ar yr adeg yma yn y ddadl yw dod o hyd i rywbeth gwreiddiol i'w ddweud, ond fe wnaf yr hyn y mae eraill wedi'i wneud a myfyrio ar fy myfyrdodau a fy atgofion personol fy hun o'i Mawrhydi. Yn enwedig, yn y Siambr hon yn 2016, roeddwn i'n eistedd mae'n debyg lle mae Jack Sargeant yn eistedd nawr, yn union gyferbyn â'r Prif Weithredwr, sef lle'r oedd y Frenhines yn eistedd, ac roedd hi'n edrych yn syth ataf i. Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, rwy'n teimlo'n anghyfforddus pan fyddwch chi'n edrych yn syth ataf i. [Chwerthin.] Bryd hynny, doeddwn i ddim yn siŵr a oedd ganddi wg ar ei hwyneb—doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn i wedi ei ypsetio hi, ac roeddwn i'n meddwl, 'O mam bach, dwi wedi ei ypsetio hi—mae'n debyg oherwydd fy mod i'n gwisgo tei coch'. Ond, ar adeg benodol yn ystod y sesiwn, fe roddodd y wên honno, ac fe roddodd hi mewn gwirionedd—a dydw i ddim yn gwamalu—wên galonogol i mi. Felly, gallwn ymlacio am weddill y sesiwn honno, a meddwl, 'Un peth nad ydw i wedi'i wneud yw ypsetio'r Frenhines'. Ac nid wyf yn gwybod amdanoch chi, Llywydd, ond efallai fy mod wedi eich ypsetio chi yn y gorffennol. [Chwerthin.]
Mae rhai ohonom ni yn y Siambr hon sydd â safbwyntiau gwleidyddol penodol—y rhai sydd o blaid y drefn, sy'n dymuno gweld y drefn yn parhau, a'r rhai ohonom ni sy'n dymuno gweld her i drefniadau democrataidd presennol y genedl hon. Ond, yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn y Siambr heddiw oedd y rhai sydd â'r safbwyntiau gwahanol hynny yn cael eu hadlewyrchu ym mhennaeth y wladwriaeth hefyd. Credaf i arweinydd Plaid Cymru wneud araith eithaf penodol, a oedd yn adlewyrchu rhai safbwyntiau na fyddai, o bosib, yn cael eu hadlewyrchu gan rai arweinydd yr wrthblaid, a welodd yn y Frenhines ei safbwyntiau gwleidyddol ei hun. Rwy'n credu bod hynny'n rhodd sydd gan bennaeth gwladol: gallu gwneud hynny a gallu bod yn bennaeth gwladwriaeth wirioneddol anwleidyddol y gallwn weld adlewyrchiad o'n hunain ac, yn y Siambr hon, uno ein hunain mewn edmygedd.
Roedd hynny'n golygu aberth enfawr yn ei bywyd—ei bywyd personol—drwy gyfnod y 96 mlynedd hynny. Yn nyddiau olaf ei gwasanaeth, roedd hi'n gwasanaethu'r wlad; gwelsom y lluniau hynny yn Balmoral ddeuddydd cyn iddi farw. Fel mae eraill wedi sôn am eu teulu eu hunain, cefais fy nhywys yn ôl i farwolaeth fy mam-gu yn Ysbyty'r Glowyr Caerffili, a bu hi'n weithgar tan y diwrnod cyn iddi farw. Rwy'n cofio'r teulu'n casglu o gwmpas—roeddwn yno gyda fy rhieni—a bu farw yn Ysbyty'r Glowyr Caerffili. Y gwahaniaeth oedd i ni, fel teulu bryd hynny, gael amser i alaru yn breifat ac mewn heddwch, a does gan y Brenin ddim y moethusrwydd hwnnw. Mae'r dyddiau nesaf i'r Brenin yn rhai o waith a dyletswydd, ac ni fydd diwedd i'r rheini tan ei ddyddiau olaf. Rwy'n credu y gall y Brenin gymryd cysur o'i ymweliadau rheolaidd â'i fam yn ystod ei dyddiau olaf, ond ar yr un pryd, gall gymryd cysur yn y cydymdeimladau sydd wedi eu cynnig yn y Siambr hon heddiw. Mae ganddo swyddogaeth gyhoeddus iawn; mae'n hynod o anodd parhau â gwaddol ei fam, ond gallwn gefnogi hynny drwy'r hyn rydym ni wedi'i ddweud yma yn y Siambr hon.
Fe hoffwn i feddwl am y Brenin a rhai o'i ymweliadau â fy etholaeth. Mae wedi ymweld ag Ysbyty'r Glowyr Caerffili, ac fe wnes i lwyddo i ddweud wrtho y cefais fy ngeni yno. Fe gawson ni sgwrs am y peth, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn ddiffuant iawn ac yn berson cynnes iawn, ac rwy'n credu ei fod yn addas iawn i'r swyddogaeth y mae bellach ynddi. Mae ganddo'r heriau hynny, er iddo ein dychryn ar un adeg pan ddechreuodd gerdded i lawr Heol Sant Martin ar ei ben ei hun, heb unrhyw amddiffyniad gan yr heddlu; yn wir, roedd cwpl wedi cerdded heibio iddo heb sylweddoli pwy oedd e. Credaf y bydd hynny'n newid nawr ei fod yn Frenin.
Ei ddyletswydd nawr, ei swydd, yw dangos yr un peth a wnaeth ei fam: pan welwn ni ef, y gwelwn farn ein hunain yn cael ei hadlewyrchu, ond nid mewn ffordd y mae eraill yn gweld ein barn yn cael ei hadlewyrchu—eu bod yn perthyn i bawb, ei fod yn bennaeth diduedd ar wladwriaeth wleidyddol. Dyna fydd yr her i ddyfodol ein gwlad ddemocrataidd. I'r rhai ohonom ni sydd am weld newid, a'r rhai ohonom sy'n dymuno gweld y drefn yn parhau, bydd yr hyn sy'n digwydd nesaf yn dibynnu ar hynny. Ond credaf y gallwn ni fod yn unedig heddiw wrth ddweud, 'Duw gadwo'r Brenin'.
A gaf i mi ymuno ag Aelodau eraill hefyd, wrth ddweud yn gyntaf pa mor braf yw gweld Aelodau o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol yn dod at ei gilydd heddiw i nodi ein parch a thalu teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II? Mae'r undod yma o ysbryd yn fy atgoffa o'r adeg pan oeddwn yn fy arddegau, ac fe wna i rannu rhai atgofion personol hefyd. Pan oeddwn i yn fy arddegau, ymwelodd y Frenhines â fy ysgol ym Mae Colwyn, a digwydd bod fe gyfeiriodd Darren Millar at hyn funud yn ôl, gan iddi ymweld â fy ysgol ym Mae Colwyn ym Mharc Eirias. Yr hyn a wnaeth fy nharo i o'r ymweliad hwn oedd nid dirprwy faer Towyn a Bae Cinmel yn gwneud y don Mecsicanaidd. Yr hyn a wnaeth fy nharo o'r ymweliad hwn, ar wahân i ba mor lân y daeth y lle'n sydyn, oedd y lliaws o bobl wahanol a ddaeth i'w gweld—pobl o wahanol oedrannau, gwahanol gefndiroedd, gwahanol hiliau, gwahanol gredoau. Hyd yn oed pan oeddwn yn iau, yn fy arddegau, deallais ei bod hi'n ffigwr a oedd yn uno pobl—yn rhywun a oedd yn dod â phobl at ei gilydd.
Cafodd hyn ei amlygu eto yn ystod cyfnodau clo COVID. Os cofiwn, rhoddodd Ei Mawrhydi araith anhygoel o deimladwy, a rhoddodd hynny, i mi'n bersonol, gryfder mawr i mi drwy gyfnod anodd iawn i fy nheulu. A dyfynnaf y llinellau a darodd dant gyda mi mewn gwirionedd. Dywedodd Ei Mawrhydi:
'Gyda'n gilydd rydym yn mynd i'r afael â'r clefyd hwn, ac fe hoffwn i eich sicrhau, os ydym yn parhau i fod yn unedig ac yn benderfynol, yna byddwn yn ei oresgyn...Dylem gymryd cysur, er y gallem fod â mwy o hyd i'w ddioddef, bydd dyddiau gwell yn dychwelyd: byddwn gyda'n ffrindiau eto; byddwn gyda'n teuluoedd eto; byddwn yn cyfarfod eto.'
Roedd y geiriau hynny mor bwysig i gymaint bryd hynny, ac yn ein huno gyda'n gilydd eto. Roedd ei phŵer a'i gallu i uno yn arddangosiad clir o safon ei hymarweddiad, gan newid gyda'r oes fel yr oedd angen iddi, gan ennill parch ac edmygedd cynifer.
Yr agwedd arall yr hoffwn dalu teyrnged iddi heddiw yw'r enghraifft o wasanaeth a dyletswydd y mae cymaint yma wedi'i grybwyll yn barod. Gosododd esiampl wych i ni i gyd. Cyflawnodd ei swyddogaeth gydag urddas a pharch, gan wasanaethu ei gwlad a'i phobl yn briodol tan y diwedd un, fel y gwelsom yr wythnos ddiwethaf. Mae hyn, wrth gwrs, yn deillio o'i hamser—ac mae pobl eisoes wedi dyfynnu hyn—â hithau'n 21 oed, pan ddatganodd:
'Rwy'n datgan ger eich bron chi i gyd y caiff fy holl fywyd boed yn hir neu'n fyr ei neilltuo i'ch gwasanaeth.'
Efallai mai'r gwahaniaeth fwyaf rhwng y Frenhines a'r mwyafrif llethol ohonom ni yw iddi gadw ei haddewid. Cadwodd ei haddewid cyn iddi fod yn Frenhines a thrwy ei 70 mlynedd o deyrnasu. Gweithiodd Ei Mawrhydi gyda 15 o Brif Weinidogion, ac rwy'n siŵr bod rhai yn anoddach i weithio gyda nhw nag eraill. Cynhaliodd ddegau ar filoedd o ymgysylltiadau brenhinol, roedd yn noddwr ac yn llywydd dros 600 o elusennau, ac wrth gwrs hi oedd ein brenhines a deyrnasodd hiraf erioed. Gosododd Ei Mawrhydi yr esiampl orau bosibl i bob un ohonom ni. Dyna pam, pan gymerais fy llw o deyrngarwch a thyngu llw yn Aelod o Senedd Cymru, pleser o'r mwyaf oedd datgan fy nheyrngarwch i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Cysegrodd Ei Mawrhydi ei bywyd i'r wlad hon—craig i gymaint cyhyd. Diolch i chi, Fawrhydi, am eich gwasanaeth diwyro, a Duw gadwo'r Brenin.
Rwy'n siŵr y caiff dydd Iau, 8 Medi ei serio yn atgofion pob un ohonom ni, wrth i ni gofio'r adeg a'r lle y clywsom y newyddion am farwolaeth ein sofran annwyl ac ymroddedig. Mae'n rhyfeddol na fydd y rhan fwyaf ohonom ni yma yn y Siambr hon wedi byw o dan unrhyw bennaeth arall, gan fod ein Brenhines wedi ymroi bron ei holl bywyd cyhoeddus i wasanaeth ein gwlad. Gellir crynhoi ein teimlad yma heddiw yn un o dristwch mawr, ond hefyd o sioc: tristwch yn ei hymadawiad, ond sioc nad yw rhywun sydd wedi bod yn gymaint rhan o'n bywyd cenedlaethol gyda ni bellach. Trosglwyddaf fy nghydymdeimladau dyfnaf a chywiraf i deulu Ei Mawrhydi wrth iddyn nhw ddod i delerau â cholli nid yn unig eu Brenhines, ond eu mam, eu nain a'u hen nain. A minnau'n gredwr cryf yn y swyddogaeth sydd gan y frenhiniaeth o uno pobl, rwyf bob amser wedi cael fy nharo gan ei hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus, ei hegni di-ball i bob cenedl y Gymanwlad, ei gwaith diflino yn cefnogi elusennau, a'i theyrngarwch diwyro a'i hymroddiad i'w ffydd fel Cristion, i'w theulu ac i bobl y Deyrnas Unedig.
Mae'n iawn fod ein gwlad yn ei chofio gyda'r holl gariad a charedigrwydd mae Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn ei haeddu. [Torri ar draws.]
Gyda thristwch mawr yr wyf yn sefyll yma yn estyn fy nghydymdeimlad, ond mae hefyd yn bleser dweud pa mor hynod ffodus yr oeddem ni i gyd i'w chael hi yn Frenhines arnom ni. Roedd hi, rwy'n credu, a bydd yn aros am genedlaethau lawer, yn ymgorfforiad gwirioneddol o Brydain Fawr ac yn ysbrydoliaeth i ni i gyd. Diolch, eich Mawrhydi, am eich gwasanaeth. Boed i chi orffwys mewn hedd a Duw gadwo'r Brenin.
Mae galar a thristwch yn emosiynau hynod bwerus—yn anhygoel o bwerus. Maen nhw'n gallu uno pobl, er hynny, ar adegau o anghytuno a dod â phobl at ei gilydd. Mae'n digwydd ar hyn o bryd wrth i bobl fynegi eu tristwch a'u galar am Ei Mawrhydi'r Frenhines, ac, fel y nododd Sam Rowlands, yn ei bywyd, roedd gan y Frenhines allu heb ei ail i uno pobl, bob amser nid yn unig ar adegau o ddioddefaint ofnadwy. Uno pobl efallai yw'r ddyletswydd bwysicaf y gall unrhyw un sydd mewn awdurdod ei chyflawni, ac nid oes neb wedi gwneud hynny yn well na'r Frenhines. Mae pobl ein gwlad, y Gymanwlad a thu hwnt wedi colli Brenhines a oedd yn graig o sefydlogrwydd yn ein bodolaeth sydd yn aml yn drafferthus, ond mae byw mewn calonnau yr ydym yn eu gadael ar ôl yn golygu peidio â marw, ac felly, bydd Ei Mawrhydi y Frenhines, ei daioni a'i charedigrwydd yn parhau i fyw mewn calonnau ledled y byd.
Hoffwn ddiolch i chi am roi'r cyfle i mi siarad heddiw ar adeg mor bwysig ac arwyddocaol yn hanes ein gwlad, ac yn wir am adalw'r Senedd heddiw i roi cyfle i Aelodau dalu eu teyrngedau i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Ac ar ran pobl Dyffryn Clwyd, hoffwn dalu teyrnged i'w Mawrhydi a diolch o waelod calon iddi am ei 70 mlynedd o wasanaeth stoicaidd i bobl Cymru, y Deyrnas Unedig, ac yn wir y byd. Nid Brenhines y Deyrnas Unedig, 14 o wledydd y Gymanwlad a ffigwr byd-eang yn unig oedd hi, roedd hi hefyd yn ffigwr teuluol, yn fam, yn fam-gu ac yn hen fam-gu, a bydd yn cael ei cholli'n fawr gan y rhai oedd yn ei hadnabod yn agos, a chan bobl yn agos ac yn bell.
Cefais fy ngeni ym 1988, sy'n golygu bod fy atgofion i o'r Frenhines yn bennaf o'i blynyddoedd hŷn, ond bydd llawer o bobl yn cofio tywysoges ifanc hardd a ddatganodd yn Cape Town ym 1947 nad oedd ots pa mor hir neu fyr y byddai ei bywyd, y byddai'n cysegru ei bywyd i wasanaethu'r Gymanwlad, ac, ar fy myw, mae hi wedi cyflawni hynny. Roedd yr oes yn wahanol yn y 1950au, yn wahanol iawn, ac yn wir mae wedi newid llawer dros y degawdau. Roedden ni'n dal i adfer ar ôl yr ail ryfel byd yn ôl bryd hynny. Ond mae'r hyn mae'r Frenhines wedi'i ddangos yn ymdeimlad anhygoel o amlochredd a symud gyda'r oes. Anfonodd ei e-bost cyntaf ym 1976, ffilmiodd ei neges Nadolig flynyddol yn 3D yn 2012, ac anfonodd ei thrydariad cyntaf yn 2014, ac yn fwyaf diweddar mynychodd gyfarfodydd Zoom yn ystod pandemig COVID-19. Ddim yn rhy ddrwg i rywun yn eu 90au, mae'n rhaid i mi ddweud.
Mae pymtheg o Brif Weinidogion wedi gwasanaethu'r Frenhines dros ei chyfnod o 70 mlynedd. Mae Arlywyddion, Prif Weinidogion, Prif Weinidogion y gwledydd datganoledig a gwleidyddion yn mynd a dod, ond yr hyn y mae hi wedi ei ddangos yw ei bod yn ffigwr cyson ym mywydau pobl, waeth beth yw gwleidyddiaeth y dydd, a'i bod yn bâr diogel a chalonogol o ddwylo y gallai pobl ddibynnu arni beth bynnag oedd yn digwydd yn eu bywydau.
Fel y rhan fwyaf o bobl, doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn yn cael cyfle i gwrdd â'r Frenhines, ond gwnaeth y cyfle gyflwyno ei hun yn yr union le yma ym mis Hydref 2021, yn ystod agoriad y chweched Senedd, a oedd yn y pen draw ei hymweliad olaf un â Chymru. Gofynnodd imi beth oeddwn i'n ei wneud cyn i mi ddod yn Aelod o'r Senedd. Ac wrth ymateb i'w Mawrhydi, cefais fy nharo gan gymaint yr oedd ganddi ddiddordeb yn yr hyn a oedd gen i i'w ddweud, a oedd yn dangos i mi, ar ôl 70 mlynedd o ddyletswydd gyhoeddus, ei bod hi yn dal mor frwdfrydig ag yr oedd hi wedi bod yr holl flynyddoedd hynny yn ôl yn Cape Town. Ac roedd hynny'n rhinwedd na wnaeth erioed erydu dros y blynyddoedd, a dyna pam y bydd hi bob amser yn parhau i fod yn ffigwr eiconig tu hwnt.
A hoffwn gloi fy nghyfraniad heddiw gyda cherdd fer, ond adnabyddus, wedi ei hysgrifennu gan fardd o'i hannwyl Alban. 'An honest woman here lies at rest, the friend of man, the friend of truth, the friend of age, the guide of youth; few hearts like hers, with virtue warm’d, few heads with knowledge so inform’d; if there’s another world, she lives in bliss; if there is none, she made the best of this.
Yr wythnos hon, fe gollon ni, yn drist, rhywun, yr wyf i'n credu, yw ein Prydeiniwr gorau erioed. Roedd hi'n arweinydd ein cenedl, ond hefyd yn fam, yn fam-gu ac yn hen fam-gu—bathodyn yr oedd hi'n ei wisgo'n falch iawn tan ei diwrnod olaf un gyda ni. Roedd hi'n rhywun a oedd yn rhychwantu cenedlaethau, yn gweithredu fel pont gyda'r gorffennol, yn ogystal ag yn esblygu ar yr un pryd fel y gwnaeth yr oes. Rwy'n gwybod bod pobl ledled Cymru yn teimlo ac yn brifo ar hyn o bryd yn sgil colli ffigwr na fyddan nhw erioed wedi'i chyfarfod efallai, ond bydd wedi golygu cymaint i gynifer. P'un a oedd hynny yn rhannu ychydig o eiriau byr gyda'i Mawrhydi, gan fod yn bresennol pan ymwelodd â rhai o'n cymunedau, neu hyd yn oed lythyr neu gerdyn yn unig yn y post yn ein llongyfarch ar garreg filltir neu gyflawniad personol, nid oedd pobl byth yn anghofio'r rhyngweithiadau a gawsant gyda hi. Oherwydd, roedd ei chyfarfod hi yn atgof a fyddai'n para am oes, ac yn stori a fyddai'n cael ei hail-adrodd i ffrindiau a theulu filoedd o weithiau.
Yr unig dro erioed i mi gael y fraint o gyfarfod Ei Mawrhydi oedd yn yr adeilad hwn, ychydig llai na blwyddyn yn ôl, pan ddaeth i agor ein Senedd. Doeddwn i ddim yn gwybod y byddwn i'n cael cyfle i gwrdd â hi y diwrnod hwnnw, ond, wrth i mi adael y Siambr drwy'r drws hwnnw y tu ôl i mi, cefais fy hun yn cael fy nhywys i linell o ASau, ac allan o'r drws arall daeth Ei Mawrhydi, yng nghwmni'r Llywydd, a wnaeth ei chyflwyno i'r Aelodau. Y gwleidydd cyntaf y byddai hi'n ei gyfarfod, wrth gwrs, fyddai Janet Finch-Saunders, efallai yr agosaf y daeth y Frenhines erioed i gyfarfod ei chydradd yn ei theyrnasiad 70 mlynedd. [Chwerthin.] Ond byddai'r ymadwaith a gefais gyda'i Mawrhydi, ychydig eiliadau'n ddiweddarach, er yn fyr, yn un a fyddai'n aros gyda mi am oes.
Oherwydd byddai meddwl amdani dim ond fel brenhines yn methu'r pwynt yn llwyr. Beth oedd hi oedd adeiladwr, adeiladwr pontydd, oherwydd p'un a wnaethoch chi bleidleisio i'r blaid Lafur neu'r blaid Geidwadol roedd gennych chi un Frenhines; p'un a gawsoch chi eich geni yn y DU neu ddod yma i adeiladu bywyd gwell, roedd gennych chi un Frenhines; yn arddel ffydd neu beidio, yn hen neu'n ifanc, yn cefnogi Dinas Abertawe neu Ddinas Caerdydd; p'un a ydych chi'n unoliaethwr neu'n ymwahanwr; p'un a ydych chi'n frenhinwr neu'n weriniaethwr, roedd gennych chi un Frenhines. Weithiau, pan fyddwn ni'n colli rhywun yn ein bywydau, rydyn ni'n sylweddoli ein bod ni'n cymryd yn ganiataol y pethau yr oedden nhw'n eu gwneud i ni a dim ond yn sylwi arnyn nhw pan nad ydyn nhw o gwmpas bellach.
Yr hyn sy'n fwyaf rhyfeddol i mi yw, os ydych chi wir yn meddwl am yr hyn y gwnaethom ni ofyn iddi ei wneud fel gwlad pan ddaeth hi i'r orsedd, fe ofynnon ni iddi gamu uwchlaw'r cyfan, i gynrychioli pawb, i beidio byth â rhoi troed allan o'i le, i groesi rhaniadau mewn cymdeithas, a allai weithiau deimlo ei bod yn fwy rhanedig nag erioed, ac i arwain drwy esiampl, pregethu cariad a maddeuant i genedl nad oedd bob amser yn barod i wneud hynny, a gwnaethom ofyn am hyn i gyd ganddi yn ddim ond 25 oed. Nid Brenhines y wlad hon yn unig oedd hi nac, yn wir, Brenhines y Gymanwlad, hi oedd Brenhines y byd: y Frenhines. Roedd hi'n fyd eang cyn oedd y byd felly, a defnyddiodd hi'r statws hwnnw i'n dathlu ni, i'n cynrychioli ni a'n gwneud ni'n falch. Felly, Brenhines Elizabeth, rwy'n dweud, 'Diolch i chi a Duw gadwo'r Brenin.'
Roeddwn i, fel llawer o bobl eraill yn y Siambr hon heddiw, wedi meddwl bod hon yn araith na fyddai'n rhaid i'r un ohonom ei gwneud. Pan ddaeth y cyhoeddiad trist am farwolaeth y Frenhines, gadawodd wagle yn ein calonnau a galar cyffredin ymhlith pobl ar draws ein gwlad a'r byd, wrth i ni gymryd amser gyda'n gilydd i gofio'r gwas gorau a welodd y byd erioed. Mae fy meddyliau a'm gweddïau, ynghyd â'm holl etholwyr, gydag Ei Fawrhydi y Brenin a'r teulu brenhinol cyfan, a hefyd gyda phobl ein gwlad a'r Gymanwlad, wrth i ni ddod i delerau â cholli sofran annwyl a nain ein cenedl.
Er y tristwch a'r galar, rwy'n falch ein bod ni'n gallu dod at ein gilydd a chofio bywyd rhyfeddol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II diweddar. Fel y dywedodd llawer, mae hi wedi byw bywyd a oedd wedi’i fyw'n dda, a chyflawnodd ei haddewid i wasanaethu gydag urddas ac ymroddiad i'n cenedl a'r Gymanwlad hyd ddiwedd ei hoes hir iawn. Roedd hi'n Frenhines i bob rhan o'r Deyrnas Unedig a phob rhan o'r Gymanwlad, ac roedd hi'n ysbrydoliaeth i lawer o bobl ledled y byd.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofio'r cysylltiadau oedd gan Ei Mawrhydi gyda fy nghartref, a phobl Brycheiniog a Sir Faesyfed. Yn 1947, cyn dod yn Frenhines, bu'n llywydd anrhydeddus Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac yn 1952 daeth yn noddwr i'r Sioe Frenhinol, a gwnaeth nifer o ymweliadau â Llanelwedd ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys nodi canmlwyddiant Sioe Frenhinol Cymru yn 2004. Ym 1955, aeth Dug Caeredin, fel y gwnaeth bob amser, gyda'i Mawrhydi ar daith frenhinol o amgylch Cymru—ei cyntaf fel brenhines. Eu stop cyntaf? Wrth gwrs roedd yn rhaid iddo fod yn un o'r llefydd gorau yng Nghymru: Aberhonddu.
Ymwelodd ag Aberhonddu sawl tro, gan gynnwys gwasanaeth i ddathlu jiwbilî diemwnt esgobaeth Aberhonddu ac Abertawe yn y gadeirlan yn 1983. Ar ei Jiwbilî Aur, aeth draw i Ddolau yn sir Faesyfed ar y trên brenhinol, lle cafodd groeso llond gwên a hapusrwydd yn treiddio ymhlith pawb a fynychodd, ac rwy'n falch iawn o ddweud i'r trên brenhinol gyrraedd ar amser. I nodi ei Jiwbilî Diemwnt ei hun yn 2012, ymwelodd Ei Mawrhydi ag ystâd Glanusk a chafodd ei chroesawu gan blant o dros 50 o ysgolion yr ardal. Bu Ei Mawrhydi yn wrol yn y glaw, yn cyfarfod a chyfarch cymaint o bobl â phosib gyda'r wên heintus honno. Bu’r Dug Caeredin yn gwylio o bell am y rhan fwyaf o'r ymweliad, yn ddigon doeth, o ffenestr Land Rover, bob amser yno'n cefnogi Ei Mawrhydi'r Frenhines.
Dwi ddim yn gallu sôn am bob un o'i hymweliadau, ond mae'r detholiad hwnnw'n dangos ehangder a dyfnder anhygoel perthynas Ei Mawrhydi diweddar â phobl canolbarth Cymru a phobl Brycheiniog a Sir Faesyfed. Rhwng popeth, cafodd fywyd gwirioneddol ryfeddol, o’r fath yr ydym yn annhebygol o'i weld eto. Roedd hi'n anrhydedd cael cwrdd â hi yma'n bersonol yn y Senedd yn ystod ein hagoriad swyddogol cyntaf. Bu ei Mawrhydi a minnau'n sôn am ei hangerdd mawr, sef ffermio, ac roedd hi'n gwybod llawer iawn am brisiau cig carw, ac fe safodd am bum munud yn gofyn i mi sut roedd yn mynd—rhywbeth nad anghofiaf i fyth.
Roedd Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II yn berson a gredai mewn parhad a dyletswydd, ac wrth i faich trwm cyfrifoldeb basio i'w Fawrhydi Brenin Charles III, i barhau â hanes brenhiniaeth sy'n dyddio'n ôl dros 1,000 o flynyddoedd yn yr ynysoedd hyn, gallwn oll dynnu cysur o'r ffaith bod parhad y frenhiniaeth yn rhoi sefydlogrwydd, gobaith a balchder, wrth i ni i gyd uno gyda'n gilydd, fel un Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a holl wledydd y Gymanwlad, i ddweud, 'Diolch, Eich Mawrhydi, gorffwyswch mewn heddwch ar eich taith olaf i gwrdd â'ch cryfder a’ch angor eto. Duw a achub y Brenin.'
Ein siaradwr olaf, Samuel Kurtz.
Diolch, Llywydd. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu heddiw.
Ar ran etholwyr Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, rwy'n adleisio geiriau, sylwadau a theimladau'r rhai sydd wedi cyfrannu heddiw yn fawr. Mae teyrngedau i'w diweddar Mawrhydi'r Frenhines wedi dod o bedwar ban byd, ac mae llawer wedi siarad yn fwy huawdl ac wedi ysgrifennu'n fwy huawdl am Ei Mawrhydi a'i theyrnasiad nag y gallwn i erioed, felly ei geiriau hi a ddefnyddiaf i'w disgrifio.
Ei chryfder a'i hangor oedd ei diweddar ŵr Dug Caeredin, ac felly hefyd hi oedd cryfder ac angor y wlad hon am 70 mlynedd. Mae'r cynnig yn cyfeirio at ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi, yn enwedig at elusennau a sefydliadau. Ers 1957, mae Ei Mawrhydi'r Frenhines wedi bod yn noddwr ymroddedig i glybiau ffermwyr ifanc a'r cyfleoedd mae'r mudiad yn eu darparu i bobl ifanc mewn rhannau gwledig o'r wlad. Fe wnaeth y Frenhines gwrdd ag aelodau o'r CFfI dros ei blynyddoedd lawer o wasanaeth, a chyflwyno gwobrau yn y sioe frenhinol. Fel cadeirydd CFfI Sir Benfro, rwy'n diolch i'w Mawrhydi am ei nawdd i'r sefydliad elusennol hwn, ar ran aelodau o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol ledled y wlad. Gadewch i ni hefyd beidio ag anghofio ychwaith y cysylltiad arbennig sydd gan y frenhiniaeth â Sir Benfro, â gwreiddiau hynafiaethol yn ymestyn yn ôl i enedigaeth y Brenin Tuduraidd Harri VII yng nghastell Penfro, ac, wrth gwrs, wrth ochr Ei diweddar Fawrhydi gydol ei hoes oedd ei chymdeithion mwyaf ffyddlon ac anwesol, ei chorgwn Penfro.
Byddaf yn cofio Ei Mawrhydi gyda pharch ac edmygedd dwys, ond wrth i ni nodi bywyd a gwasanaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines, rydym yn croesawu Ei Fawrhydi'r Brenin Charles III i'w orsedd. Yn gynharach yn yr haf, cefais y pleser o groesawu Ei Fawrhydi, Tywysog Cymru ar y pryd, i dref Arberth yn fy etholaeth. Roedd plant ysgol lleol yn ei gyfarch gyda chân, pobl ar y strydoedd, ac fe gafodd rhai busnesau eu dewis iddo ymweld â nhw. Cymerodd y Tywysog ar y pryd ei amser, heb frysio, i siarad ac ysgwyd llaw â llawer o'r cannoedd o bobl a oedd wedi dod i'w gyfarch. Bu'n siarad gyda chôr yr ysgol a'u harweinydd, a diolchodd iddyn nhw am eu perfformiad. Ac nid yn unig y gwnaeth ymweld â'r busnesau hynny a oedd wedi'u dewis, ond fe wnaeth, yn gwbl gysurus, ymweld ag eraill nad oedd wedi'u dewis. I'r Brenin, roedd hwn yn un o gannoedd, o bosib hyd yn oed miloedd, o ymweliadau yr oedd Ei Fawrhydi wedi'u cynnal, ond, i'r bobl a ddaeth y diwrnod hwnnw i'w weld, roedd yn un diwrnod na fydden nhw byth yn ei anghofio. Mae gwaddol ymroddiad anhunanol Ei Mawrhydi i wasanaeth cyhoeddus, i'r bobl, yn parhau yn gadarn drwy ei mab. Duw gadwo'r Brenin.
Diolch i chi i gyd, am eich geiriau cynnes a'ch myfyrdodau ar fywyd wedi'i fyw yn hir ac yn iach. Mae nifer ohonoch wedi cyfeirio at agoriadau swyddogol y Frenhines o'r Senedd hon. Rwy'n cofio'r chweched agoriad yn arbennig, ac fel y bu hi, hwn oedd ei hymweliad olaf â Chymru. Rwy'n cofio'r diwrnod hwnnw gyda hoffder arbennig. Roedd hi mewn hwyliau da y diwrnod hwnnw, yn ymgymryd â'i dyletswydd swyddogol gyda'r brwdfrydedd arferol, gan wenu, siarad ag Aelodau, fel rydym ni wedi clywed, ac roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn trafod â'r llu o arwyr COVID o bob rhan o Gymru. Roedd hi'n gwisgo siwt binc y diwrnod hwnnw. Roedd gen innau ffrog ag ychydig o binc ynddi hefyd. Roedden ni'n matsio'n berffaith, mae'n debyg. A does gennych chi ddim syniad faint o bobl sydd wedi gofyn i mi yn eithaf difrifol a oeddem ni wedi trefnu ein dewisiadau wardrob o flaen llaw y diwrnod hwnnw, fel petawn i mewn grŵp WhatsApp cyfrinachol gyda'r Frenhines. Fodd bynnag, fydda i byth yn gwybod yn iawn a sylwodd y Frenhines y diwrnod hwnnw fy mod yn gwisgo dwy esgid o ddau wahanol bâr o esgidiau. Roedd hynny trwy gamgymeriad, gyda llaw, nid fel rhyw weithred o herfeiddiwch gweriniaethol. Nid wyf ychwaith yn siŵr y diwrnod hwnnw a sylwodd mewn un rhes y bu bron iddi fethu un Aelod yn llwyr gan fod y cyrtsi mor isel, neu fod Aelod arall wedi ymddangos mewn mwy nag un rhes. Os wnaeth y Frenhines sylwi ar y pethau hyn, roedd yn dal i wenu.
Pan oedd y Frenhines ar fin gadael, roeddwn i mewn trafodaeth gyda hi a'r Frenhines Gydweddog erbyn hyn. Fe'i disgrifiwyd, yn ôl pob tebyg, gan sylwebydd teledu byw fel Merched y Wawr Dyffryn Teifi a'u pennau ynghyd, pan mewn gwirionedd, roeddem ni'n trafod diffyg presenoldeb arweinwyr byd-eang yn COP26. Gallaf rannu hynny gyda chi oherwydd cafodd y sgwrs honno ei chlywed ac roedd hi, fel y dywedodd Adam Price, yn stori dudalen flaen ar draws y byd y diwrnod canlynol: y Frenhines yn rhannu ei barn ar bwnc y dydd, mynd i'r afael â newid hinsawdd. Fodd bynnag, ni wnaf rannu gyda chi heddiw fy sgwrs olaf un â'r Frenhines wrth i ni esgyn yn y lifft. Ond rwy'n cael fy atgoffa ohoni wrth i mi edrych o gwmpas y Siambr hon ar y 60 Aelod yma sy'n bresennol ac rwy'n meddwl am yr hyn sydd i ddod i'r Senedd hon. Digon yw dweud bod ganddi ddiddordeb yn ein dyfodol.
Ac felly, mi wnaf ddiweddu drwy ddefnyddio ei geiriau olaf i ni yn y Siambr hon, ond 11 mis yn ôl: 'diolch o galon'. Diolch o galon, felly, i'r Frenhines Elizabeth II am oes o wasanaeth, a gyflawnwyd gydag urddas a gras. Boed iddi heddwch nawr yn ei gorffwys.
Barnwyd y cytunwyd ar y cynnig.
Dyna ddiwedd, felly, ar ein dydd ni heddiw o deyrnged, a byddwn yn cyfarfod eto ddydd Gwener i dderbyn y Brenin Charles III i'r Senedd. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:03.