Y Cyfarfod Llawn

Plenary

25/05/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn, ac mae'r rheini wedi'u nodi yn eich agenda.

13:30
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox.

Cynllun Ad-dalu'r Dreth Gyngor

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y meini prawf cymhwyso ar gyfer cynllun ad-dalu'r dreth gyngor? OQ58082

Gwnaf. Fel rhan o’n pecyn cymorth costau byw gwerth £380 miliwn, rydym wedi darparu £152 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer gwneud taliadau o £150 i aelwydydd sy’n byw mewn eiddo ym mandiau A i D ac i bob aelwyd sy’n cael cymorth drwy gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.

Diolch am eich ymateb. Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â fy swyddfa yn ddiweddar ac wedi gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn cynllun ad-daliad y dreth gyngor i aelwydydd sy’n byw mewn cartrefi aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni. Er enghraifft, mae dau breswylydd oedrannus wedi egluro eu bod yn byw mewn hen eiddo cerrig sy’n oer ac yn ddrafftiog, ond ni allant fforddio talu am welliannau effeithlonrwydd ynni ar hyn o bryd. Nid yw'r un ohonynt yn derbyn credyd pensiwn ac nid ydynt yn gymwys ar gyfer ad-daliad y dreth cyngor am fod eu heiddo uwchlaw trothwy band D. Serch hynny, yn achos un preswylydd yn benodol, maent yn talu £300 mewn treth gyngor, sy’n fwy na hanner eu hincwm misol.

Fel y dywedais o'r blaen, ceir llawer o bobl, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, sy’n gyfoethog o ran asedau ac yn dlawd o ran arian parod, neu’n byw mewn cartrefi teuluol nad ydynt yn gymwys i gael cymorth drwy'r cynlluniau presennol. Weinidog, sut y byddech yn ymateb i’r trigolion hyn sydd wedi gofyn a ellir ehangu ad-daliad y dreth gyngor er mwyn i fwy o bobl gael y cymorth y maent ei angen? A sut y mae'r weinyddiaeth gyllid yn gweithio gyda'r adran newid hinsawdd yn benodol i helpu pobl ar incwm is ac sy'n byw mewn cartrefi hŷn, aneffeithlon i wella eu heffeithlonrwydd ynni? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, ac wrth gwrs, mae ein cynllun yma yng Nghymru eisoes yn fwy hael na’r hyn sy’n cael ei gynnig dros y ffin yn Lloegr, gan fod gennym gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sydd ar gael i bobl mewn eiddo ym mandiau A i I. Felly, mae hynny'n amlwg yn mynd ymhellach o lawer na'r cymorth sydd ar gael mewn mannau eraill. Ond rydym yn cydnabod y bydd rhai pobl yn ei chael hi'n anodd, pobl nad oes ganddynt hawl awtomatig i'r cymorth hwnnw, a dyna pam ein bod wedi cynnwys cronfa ddewisol o £25 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol fel y gallant gefnogi aelwydydd unigol y gwyddant y byddant yn ei chael hi'n anodd ond nad ydynt yn gymwys fel arall. Bydd pob awdurdod lleol yn cyhoeddi hysbysiad ynghylch eu cynllun dewisol er mwyn dangos pa aelwydydd fydd yn cael eu hystyried yn yr ardal leol honno. Felly, gwn y byddai sir Fynwy yn bwriadu gwneud hynny’n fuan. Mae dros 20,000 eiddo yn sir Fynwy eisoes wedi’u nodi fel rhai sy'n gymwys ar gyfer y cymorth, ac o’r rheini, mae 16,900 eisoes wedi derbyn eu taliad. Felly, mae cryn dipyn o gymorth ar gael i’ch etholwyr, ond byddwn yn sicr yn argymell bod yr etholwyr hynny'n archwilio gyda’r cyngor yn gyntaf i weld a ydynt yn gymwys i gael cymorth drwy'r cynllun dewisol.

Pecyn Cymorth Ariannol Costau Byw

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am becyn cymorth ariannol costau byw Llywodraeth Cymru? OQ58104

Gwnaf. Fel rhan o’n pecyn cymorth costau byw gwerth £380 miliwn, mae dros 200,000 o aelwydydd wedi elwa ar gynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Yn ogystal, mae gwerth dros £60 miliwn o daliadau wedi’u gwneud i dros 410,000 o aelwydydd fel rhan o’r cynllun cymorth costau byw gwerth £150.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn defnyddio pob arf sydd gennym i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl, ond ymddengys nad yw Llywodraeth y DU yn sylweddoli nac yn poeni am faint yr argyfwng y mae fy etholwyr a phobl ledled y wlad yn ei wynebu. A ydych yn cytuno â mi y dylent gyflwyno cyllideb frys ar unwaith, gan gynnwys treth ffawdelw ar elw cwmnïau olew a nwy a thoriad TAW i filiau ynni cartrefi, a chanolbwyntio i'r un graddau ar helpu pobl drwy’r argyfwng hwn ag y maent wedi'i wneud ar drefnu partïon anghyfreithlon yn Stryd Downing? Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn rhoi taliad o £150 i bobl, a deallaf, fel y dywedoch chi, fod mwy na 332,000 o aelwydydd eisoes wedi’i gael. Pryd y gall y gweddill ddisgwyl cael y taliad hwnnw?

13:35

Diolch am ofyn y cwestiwn. Gofynnwyd cwestiwn bron yn union yr un fath i Brif Weinidog y DU y prynhawn yma yn y sesiwn gwestiynau, ac roedd ei ymateb yn gwbl annigonol—roedd yn ymateb haerllug a ddangosai pa mor allan ohoni yw Llywodraeth y DU o ran yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae’n hen bryd i Lywodraeth y DU weithredu yn hyn o beth. Cawsant gyfle i wneud rhywbeth yn natganiad y gwanwyn; prin y gwnaethant unrhyw beth o gwbl. Ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu rhoi pecyn cymorth ar waith sy’n cynnwys y mathau o bethau y mae Joyce Watson wedi bod yn galw amdanynt ers amser maith, fel y dreth ffawdelw y mae newydd gyfeirio ati. A chredaf fod pethau ymarferol eraill y gallai Llywodraeth y DU eu gwneud, megis talu’r ad-daliad o £200 ar filiau trydan fel grant nad oes angen ei dalu'n ôl i bawb sy’n talu biliau, a chyflwyno cap is ar bris ynni ar gyfer aelwydydd incwm isel, fel bod mwy o obaith ganddynt o dalu eu costau ynni. Mae’n gyfnod pryderus iawn i deuluoedd, ond credaf y bydd pethau’n mynd yn anoddach fyth yn y cyfnod sydd i ddod. Mae gan Lywodraeth y DU y grym sydd ei angen i fynd i’r afael â’r materion hyn, ac rwy'n gobeithio y byddant yn gweithredu cyn gynted ag y gallant.

Yn ogystal â’r setliad ariannol mwyaf erioed gan Lywodraeth y DU, mae’r £25 miliwn ychwanegol o gyllid cymorth i aelwydydd a’r £180 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer cymorth gyda chostau byw, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael hyd yn hyn gan Lywodraeth y DU fel cyllid canlyniadol yn sgil y cyllid a gyhoeddwyd ganddynt, na fyddai Llywodraeth Cymru wedi’i gael fel arall, mae Llywodraeth y DU wedi dweud yr wythnos hon fod pecyn newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ar y ffordd ac nad oes unrhyw opsiwn yn cael ei ddiystyru. Fodd bynnag, sut rydych yn ymateb i’r alwad gan Age Cymru ar Lywodraeth Cymru i ehangu meini prawf cymhwysedd cynllun cymorth tanwydd y gaeaf i gynnwys pobl hŷn sy’n cael credyd pensiwn, ac i bryderon a godwyd gyda mi ar ran pobl anabl yng ngogledd Cymru, sydd angen defnyddio ynni ychwanegol ar gyfer y cyfarpar sy’n eu cadw’n fyw, ond nad ydynt yn gymwys ar gyfer cronfa cymorth dewisol Llywodraeth Cymru? A pha gamau y byddwch yn eu cymryd wedi i Lywodraeth Cymru dderbyn yr argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn 2020, 'Budd-daliadau yng Nghymru: Opsiynau i'w Cyflawni'n Well', y dylai sefydlu system fudd-daliadau Gymreig gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd y mae’n gyfrifol amdanynt, system wedi'i chydgynhyrchu gyda phobl sy’n hawlio’r budd-daliadau hyn a’r cyhoedd yn ehangach yng Nghymru?

Rwy’n falch o weld bod Mark Isherwood yn hyderus y daw rhagor o gymorth cyn bo hir gan Lywodraeth y DU. Rwy'n siŵr y bydd hynny'n gysur i'w etholwyr, cyhyd â'i fod yn wir, a chyhyd â'i fod yn dod yn ddigon buan i'w cefnogi gyda'r heriau y maent yn eu hwynebu. A do, rydym wedi cael setliad gwell yn y flwyddyn ariannol hon, ond gadewch inni gofio bod yr argyfwng costau byw yn golygu bod ein cyllideb dros y tair blynedd nesaf bellach yn werth £600 miliwn yn llai na phan bleidleisiodd y Senedd hon ar y cynlluniau cyllidebol gwta dri mis yn ôl. Felly, credaf fod hynny'n dangos lefel yr her sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, a'r sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cydnabod hynny pan fyddant yn rhoi’r cymorth uniongyrchol y mae Mark Isherwood yn ei ragweld cyn bo hir.

Rydym yn gwneud popeth a allwn o fewn ein hadnoddau i gefnogi pobl. Felly, mae'n gwbl briodol ein bod wedi nodi y byddwn, unwaith eto, yn darparu'r £200 drwy gynllun cymorth tanwydd y gaeaf, a oedd yn llwyddiant ddechrau'r flwyddyn hon. Byddwn yn ei ddarparu unwaith eto ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. A gallaf gadarnhau ein bod yn awyddus i archwilio sut y gallwn ei ehangu yn awr i grŵp ehangach o bobl er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cadw eu cartrefi'n gynnes dros y gaeaf. Ac yn y rhanbarth y mae Joyce Watson yn ei gynrychioli—gan mai hi a'n cyflwynodd i’r cwestiwn hwn y prynhawn yma—gallaf gadarnhau bod 16,105 o geisiadau wedi’u talu ar ddechrau’r flwyddyn, a byddwn yn disgwyl i'r ffigur hwnnw fod yn fwy erbyn diwedd y flwyddyn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’r £150 o ad-daliad y dreth gyngor rydym newydd fod yn sôn amdano—y cynllun ad-dalu rydych yn ei roi ar waith—a wnaed yn bosibl, fel y dywedodd Mark Isherwood, diolch i Lywodraeth y DU, i’w groesawu yma yn wir. Fodd bynnag, yr hyn sy’n peri cryn bryder yw’r nifer o adroddiadau am deuluoedd yng Nghymru sydd mewn limbo, heb unrhyw fynediad at y cymorth hwn. Amlygwyd pa mor ddifrifol yw'r broblem gan sylwadau ar-lein ar erthygl ddiweddar, lle dywedodd teuluoedd yng Nghasnewydd, sir Gaerfyrddin, Wrecsam, Caerffili a llawer o leoedd eraill nad ydynt wedi cael yr ad-daliad eto. Weinidog, a wyddoch faint o bobl yng Nghymru sydd wedi cael ad-daliad y dreth gyngor a faint sy'n dal i aros amdano? Gwn eich bod newydd ddyfynnu rhai ffigurau ar gyfer sir Fynwy a rhannau eraill o Gymru. Ac i'r bobl nad ydynt wedi cael y cyllid eto, a allwch roi sicrwydd iddynt na fydd unrhyw oedi pellach cyn darparu'r arian?

13:40

Byddwn yn cwestiynu a allem gyfeirio at oedi wrth ddarparu’r arian ai peidio, gan fod hwn yn gymorth sydd wedi’i gynllunio’n gyflym a'i ddarparu'n gyflym i deuluoedd. A gadewch inni gofio ein bod yn sôn am filiwn o aelwydydd yn cael cyllid o'r gronfa hon ledled Cymru. Gallaf gadarnhau, erbyn 16 Mai, sef y dyddiad y mae gennyf y ffigurau diweddaraf ar ei gyfer, fod bron i £61 miliwn wedi’i dalu, ac mae hynny i dros 410,000 o aelwydydd. Felly, maent wedi derbyn eu taliadau. Ac mae 13 o awdurdodau wedi dechrau ar y broses dalu honno, ond dylai pob un fod wedi'i dechrau ac wedi dechrau gwneud taliadau erbyn diwedd y mis. Felly, rydym yn disgwyl i bethau brysuro'n gyflym, ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod awdurdodau lleol wedi bod yn gwneud gwaith da iawn yn darparu'r cyllid i aelwydydd.

A gadewch inni gofio unwaith eto y gall awdurdodau lleol wneud hyn yn hawdd pan fo ganddynt fanylion banc yr aelwydydd hynny—felly, mae pobl sy'n talu'r dreth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol, er enghraifft, yn gymharol hawdd i'w talu. Mae yna lawer o bobl nad yw'r trefniant hwnnw ar waith ganddynt, felly mae'n rhaid inni gael data unigol gan yr etholwyr hynny sydd wedyn yn gorfod llenwi ffurflen fer ar wefan y cyngor, ond wrth gwrs, mae'n cymryd amser ac adnoddau ychwanegol i ymdrin â hynny. Ond rydym yn gweithio cyn gynted ag y gallwn, fel y mae'r awdurdodau lleol yn ei wneud, i ddarparu'r arian.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwyf innau'n cytuno bod awdurdodau lleol yn gweithio'n galed yn wir i ddarparu'r pethau hyn. Ond yr hyn sydd ei angen ar deuluoedd bellach yw i Lywodraeth Cymru eu blaenoriaethu o’r diwedd drwy sicrhau bod y cymorth hwnnw’n eu cyrraedd yn hynod o gyflym. Fel rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o’r Siambr yn cytuno, ni ddylai fod yn rhaid i deuluoedd wynebu ansicrwydd parhaus, felly mae’n bwysig ein bod yn gwneud cynnydd. Gwn fod cynghorau wedi gorfod addasu er mwyn gallu rhoi'r cynllun newydd hwn ar waith, ond mae ganddynt systemau ar waith eisoes i gasglu’r dreth gyngor, ac felly mae pobl yn sicr yn haeddu atebion ynglŷn â pam fod y broses hon wedi bod mor araf, ac rwy'n derbyn eich bod wedi ceisio egluro hynny.

Ceir pryderon hefyd, fel rydych newydd sôn, am y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd yn ôl pob tebyg, ac sy’n poeni’n fawr nad ydynt yn mynd i allu cael yr ad-daliad hwn, ac efallai na fyddant yn gwybod sut i gael gafael arno. Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa fesurau a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ad-daliad yn cael ei dalu'n ddidrafferth? A wnaethoch wthio’r cyhoeddiad ar gynghorau, neu a wnaethoch sicrhau bod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gydgysylltu’r ddarpariaeth mor effeithlon ac effeithiol â phosibl? Ac yn olaf, sut rydych yn gweithio gyda chynghorau i sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt?

Hoffwn ailadrodd unwaith eto nad wyf yn credu bod hon yn broses araf. A gadewch inni gofio bod y cyfraniad o £150 gan Lywodraeth y DU yn dod ar ddechrau'r flwyddyn ariannol; mae'n dod wrth inni ddechrau symud i mewn i'r gwanwyn a'r haf, pan na fydd biliau a'r pwysau ar aelwydydd mor ddifrifol ag y byddant yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Felly, credaf y bydd aelwydydd yn cofio hynny wrth iddynt ystyried eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond mae pethau y gall Llywodraeth y DU eu gwneud ar unwaith i gefnogi eich etholwyr a fy etholwyr innau gyda chostau byw. Er enghraifft, gallent ailgyflwyno'r codiad o £20 yr wythnos i gredyd cynhwysol—rhywbeth y gallai Llywodraeth y DU ei wneud ar unwaith i roi arian i'r aelwydydd sydd ei angen fwyaf. A gallent hefyd gael gwared ar yr holl gostau polisi cymdeithasol ac amgylcheddol sydd ynghlwm wrth filiau ynni cartrefi a thalu amdanynt drwy drethiant cyffredinol—unwaith eto, rhywbeth y gallent ei wneud ar unwaith ac yn gyflym i gefnogi aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd.

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn sicr yn chwarae ei rhan. Mae llywodraeth leol yn ein cynorthwyo i roi'r cynlluniau a gyflwynwyd gennym ar waith. Ond dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni. Mater i Lywodraeth y DU yw dechrau gwneud y pethau na all neb ond hi eu gwneud—er enghraifft, cyflwyno’r cap ynni is ar gyfer aelwydydd incwm isel. Rydym wedi gweithio’n agos iawn gydag awdurdodau lleol ar hyn, gan ddarparu arweiniad a gweithio gyda hwy ar y cynllun. Ond gadewch inni gofio, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun ad-dalu—nad yw'n gynllun ad-dalu mewn gwirionedd, ond dadl ar gyfer diwrnod arall yw honno, mae'n debyg—heb unrhyw drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru, heb unrhyw rybudd ymlaen llaw. Felly, mae'r cyfryngau a'r wrthblaid yn gofyn i ni'n syth, 'Beth rydym yn mynd i'w wneud yn ei gylch? Sut rydym yn mynd i ddefnyddio’r cyllid canlyniadol hwn? A ydym yn mynd i gynnig yr un pecyn cymorth?' Felly, mae'n rhaid inni weithio'n gyflym iawn wedyn gyda llywodraeth leol, ac nid oes unrhyw reswm pam na all Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni pan fyddant yn datblygu'r cynigion hyn, er mwyn inni allu gwneud y gwaith cefndirol ymlaen llaw gyda'n hawdurdodau lleol fel bod ganddynt fwy o amser i baratoi ar gyfer rhoi'r cynlluniau ar waith.

Wel, diolch, Weinidog. Hoffwn drafod mater ychydig yn wahanol. Weinidog, mae Cymru bellach ar gam tyngedfennol, a bydd yr hyn a ddaw nesaf yn pennu dyfodol a chyflwr y wlad. Ar hyn o bryd, rydym yn dioddef pwysau triphlyg chwyddiant, y pandemig, a bellach—ac mae'n rhaid imi ddweud hyn—tro gwael Llywodraeth Cymru â'n diwydiant twristiaeth gwych. Roedd eich datganiad ddoe ar eiddo hunanddarpar yn ysgytwad i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Er yr hyn y mae eich datganiad yn ei ddweud, Weinidog, rydych wedi dewis peidio â gwrando ar y diwydiant. Rwyf fi a’r sector twristiaeth yn ofni y bydd safbwynt Llywodraeth Cymru yn dinistrio un o bileri allweddol economi Cymru. Mae angen rhoi’r flaenoriaeth i gefnogi busnesau a chreu swyddi sy’n talu’n dda, nid rhoi pobl allan o waith, fel y bydd hyn yn ei wneud. A wnewch chi gyfarfod ag arweinwyr y diwydiant, Weinidog, a gwrando unwaith eto ar eu pryderon a’u hapeliadau? Mae hwn yn gyfnod digynsail, ac nid yw’r diwydiant angen i Lywodraeth Cymru roi pwysau ychwanegol arno ar adeg pan fo’n ceisio ymadfer.

13:45

Wel, barn Llywodraeth Cymru yw mai bwriad y newidiadau yw sicrhau bod y busnesau llety hunanddarpar hynny'n gwneud cyfraniad teg i'r economi y maent wedi'u lleoli ynddi. A phan fydd eiddo ar osod ar sail fasnachol am 182 diwrnod neu fwy—dim ond hanner y flwyddyn yw hynny—bydd yn gwneud cyfraniad i'r economi leol, a bydd yn cynhyrchu incwm a bydd yn creu swyddi. Lle na chaiff y trothwyon hynny eu cyrraedd, rydym ond yn gofyn i'r eiddo dalu'r dreth gyngor, fel pob eiddo arall yn y gymuned. Ac mae'n rhaid imi ddweud na ddylai hyn fod wedi bod yn syndod, gan imi gyhoeddi hyn ar 2 Mawrth, fwy na blwyddyn cyn i'r mesurau hyn ddod i rym a chael effaith ymarferol, ac fe wnaethom gyhoeddi'r ymgynghoriad technegol ar hyn, ac roedd hynny ar ôl ymgynghoriad enfawr, lle y cawsom dros 1,000 o ymatebion. Felly, rydym wedi cael lefel dda o ymgysylltu.

Cyfarfûm â Chynghrair Twristiaeth Cymru, a chefais drafodaeth fuddiol iawn â hwy, ac o ganlyniad i hynny, dywedais y byddwn yn gofyn am gyngor pellach ar eiddo y mae cyfyngiadau cynllunio ynghlwm wrthynt, lle nad oes caniatâd i'w gosod am 12 mis y flwyddyn. Ac rwyf wedi nodi fy mod yn edrych ar sut y gallwn wneud eithriadau ar gyfer eiddo o'r fath, gan ddangos, rwy'n credu, ein bod wedi bod yn gwrando ar y pryderon a leisiwyd gan y diwydiant. Ond rwy'n credu mai'r cyfan yr ydym yn ei wneud yw gofyn i fusnesau wneud cyfraniad rhesymol i'r economi y maent wedi'u lleoli ynddi.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, gwn y byddwch yn cofio bod Archwilio Cymru wedi canfod yn 2020 fod traean o gynghorau tref a chymuned Cymru wedi cael barn amodol eu cyfrifon—rhywbeth a gâi ei ystyried yn annerbyniol, wrth gwrs—a bod dros ddwy ran o dair o seddi cynghorwyr tref a chymuned yn seddi un ymgeisydd yn etholiadau lleol 2017; ni chafwyd etholiad mewn 80 y cant o wardiau. Nawr, rydym yn aros am ddadansoddiad o'r etholiad lleol mwyaf diweddar, ychydig wythnosau yn ôl, er y credaf y gallwn ddweud gyda sicrwydd, yn anecdotaidd, nad yw'r sefyllfa wedi gwella, a'i bod hyd yn oed wedi gwaethygu o bosibl. Felly, wedi dweud hynny, beth yw eich asesiad o gyflwr cynghorau tref a chymuned fel haen o lywodraeth leol yng Nghymru?

Credaf mai fy asesiad fyddai fod yr haen yn gymysg. Byddwn yn dweud bod rhai awdurdodau lleol hynod egnïol—esgusodwch fi, cynghorau tref a chymuned—sy’n gwneud gwaith gwych yn eu cymunedau: maent yn uchelgeisiol, mae ganddynt gynlluniau da i wella’r ardal, maent yn ymgysylltu’n dda â’r cymunedau o'u cwmpas, maent yn cynnal digwyddiadau, maent yn gwella'r amgylchedd lleol ac yn y blaen. Ond wedyn, ceir cynghorau tref a chymuned eraill sydd, mae’n rhaid imi ddweud, yn llawer llai uchelgeisiol, ac yn cyflawni llawer llai ar ran eu cymunedau, ac mae'n debyg mai'r weledigaeth gyffredinol yw cefnogi’r cynghorau cymuned hynny i gyrraedd lefel y goreuon, ac mae gennym gynghorau tref a chymuned rhagorol ledled Cymru.

Oes yn wir, ond rydych yn iawn i ddweud bod gwahaniaeth enfawr, onid oes, nid yn unig o ran perfformiad ac uchelgais, ond yn sicr o ran eu cwmpas i ddechrau, lle mae gan rai ardaloedd gyngor tref a chymuned, ond nid ardaloedd eraill. Credaf nad oes gan bron i 30 y cant o boblogaeth Cymru gyngor tref a chymuned, hyd yn oed. Mae rhai'n fawr iawn—mae Cyngor Tref y Barri, er enghraifft, yn cynrychioli poblogaeth sydd bron iawn yr un maint â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful—ond wedyn mae gennych rai eraill sydd efallai’n cynrychioli ychydig gannoedd o bobl yn eu cymuned yn unig, a chyda'i gilydd, maent yn cynrychioli sylfaen praesept, asedau a chronfeydd wrth gefn gwerth dros £0.25 biliwn. Felly, o ystyried hynny oll, a fyddech yn derbyn efallai ei bod yn bryd cymryd cam yn ôl ac edrych ar y sefyllfa'n fwy cyfannol ac ystyried a oes angen mwy o gysondeb arnom o ran darpariaeth a chwmpas, o ran maint a swyddogaethau? Ac efallai ei fod yn gyfle i edrych ar gryfhau cyfrifoldebau hefyd fel y gallwn greu haen fwy cynaliadwy o ddarpariaeth a gwneud yr haen allweddol hon o lywodraeth leol yn fwy addas ar gyfer y dyfodol?

13:50

Yn sicr, byddwn yn awyddus i archwilio gyda’r llefarydd pa syniadau sydd gennym ar gyfer hybu gwelliant yn y sector, gan y credaf ein bod yn cytuno bod y sector yn gymysg iawn o ran ymarferoldeb y peth ond wedyn hefyd yr hyn y maent yn ei gyflawni. Rwy’n awyddus i gael y drafodaeth honno ynglŷn â sut rydym yn cryfhau pwerau er gwell. Mae gennym y pwerau ychwanegol drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n ceisio cefnogi cynghorau tref a chymuned gyda’u huchelgeisiau, lle maent yn awyddus i wneud mwy. Ond credaf fod y trafodaethau a gaf gydag Un Llais Cymru yn bwysig i archwilio sut rydym yn gwella'r sector yn fwy cyffredinol. Rwyf wedi darparu cymorth drwy’r prif swyddog digidol i gynghorau tref a chymuned archwilio beth arall y gallant ei wneud yn y maes digidol, gan y credaf fod moderneiddio cynghorau tref a chymuned yn bwysig iawn hefyd i'w helpu i ymgysylltu’n well â’u cymunedau lleol. Ond cytunaf yn llwyr fod mwy o lawer i'w wneud yn y maes hwn, ac rwy'n awyddus i gael unrhyw drafodaethau gydag unrhyw gyd-Aelodau sydd â diddordeb ynglŷn ag unrhyw syniadau ar gyfer y dyfodol.

Cyllid Codi'r Gwastad

3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio ar y cyd i ddarparu cyllid codi'r gwastad? OQ58098

Gwnaf. Mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu ein setliad datganoli yn fwriadol, ac yn gweithredu'r gronfa ffyniant bro a’r gronfa ffyniant gyffredin o Lundain. Roedd y cynnig munud olaf o rôl gynghorol yn y gronfa ffyniant gyffredin yn gwbl annigonol ac yn arwydd o ddull di-glem Llywodraeth y DU o ymdrin â chyllid ar ôl Brexit.

Wel, diolch i chi am eich ateb. Mae'r ateb yn adlewyrchiad o'r sefyllfa. Ond, wrth gwrs, mae'r sefyllfa yn un siomedig, onid yw hi? Oherwydd, nôl yn 2019, roedd Cymru yn fuddiolwr net o bres o'r Undeb Ewropeaidd, yn derbyn cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn, a hynny'n gyrru cynlluniau economaidd ac yn denu hefyd, wrth gwrs, arian cyfatebol o ffynonellau preifat a chyhoeddus. Ond nawr, fel rŷch chi wedi awgrymu yn eich ateb, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hallgáu o'r broses yma. Rŷn ni'n symud o ddynesiad holistig, strategol i fodel cystadleuol sy'n gosod awdurdodau lleol yn erbyn ei gilydd yn lle dod â nhw at ei gilydd, ac, wrth gwrs, sydd yn dyrchafu rôl Aelodau Seneddol i ryw fath o ddyfarnwyr sydd bron iawn â rhyw fath o feto ar y cynlluniau yma. Mae'n mynd â ni i'r cyfeiriad anghywir. Yn hytrach na bod Cymru yn dod at ei gilydd i dynnu i’r un cyfeiriad gyda buddsoddiadau sy'n 'complement-io' ei gilydd, nawr rŷn ni'n gweld pawb yn cael eu hannog i fynd eu ffordd eu hunain, a hynny yn aml iawn ar draul eraill. Mae hefyd yn ymdrech fwriadol i dorri allan y Senedd yma o'r broses ac i danseilio'r mandad yna sydd gennym ni a'r trosolwg democrataidd yna sydd gennym ni fan hyn. Felly, yng ngoleuni hynny i gyd, ydych chi'n cytuno â galwadau Plaid Cymru y dylid datganoli pob cyfrifoldeb dros ffynonellau cyllido ôl-Brexit i Gymru?

Diolch yn fawr iawn am godi hynny, ac am y cynnig y mae Plaid Cymru wedi'i gyflwyno ar gyfer yn nes ymlaen y prynhawn yma, pan gawn archwilio hyn gyda’n gilydd mewn mwy o fanylder. Ond rhannaf y pryder fod hyn, o bosibl, yn gwneud i awdurdodau lleol gystadlu â'i gilydd ar yr union adeg pan ydym yn ceisio annog cydweithredu a chydweithio. Ond mae'n ymwneud â mwy nag awdurdodau lleol wrth gwrs; yn y gorffennol, byddai addysg uwch, addysg bellach, y sector preifat a'r trydydd sector oll wedi elwa’n sylweddol o gyllid yr UE. Ond yn awr, rwy'n credu bod gwneud awdurdodau lleol yn weinyddwyr yn y gronfa ffyniant gyffredin yn creu heriau posibl gyda'r berthynas honno hefyd. Felly, rwy'n credu—. Cyfeiriais ato fel ‘di-glem’ yn fy ateb gwreiddiol; credaf fod honno'n ffordd gwrtais o'i roi.

Credaf fod y pwynt am anwybyddu'r Senedd yn wirioneddol bwysig hefyd, gan fod Llywodraeth y DU wedi dweud y byddant yn datganoli’n fwy lleol, ond sothach llwyr yw hynny, gan nad oes unrhyw gyllid na phwerau gwneud penderfyniadau yn cael eu datganoli. Oherwydd mae'n rhaid i awdurdodau lleol Cymru baratoi cynlluniau, ond yna cânt eu hasesu gan swyddogion Whitehall, a gwneir penderfyniadau gan Weinidogion Llywodraeth y DU yn Llundain, felly nid yw'r pethau hyn yn cael eu datganoli i'r lefel fwy lleol y mae Llywodraeth y DU yn cyfeirio ati.

Ac yna, wrth gwrs, ceir pwynt pwysig ynglŷn â cholli cyllid. Byddwn yn colli £1.1 biliwn mewn cyllid strwythurol a gwledig heb gael unrhyw gyllid yn ei le rhwng 2021 a 2025, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys colli £243 miliwn mewn cyllid gwledig. Gallaf glywed yr Aelod, sy’n ffermwr ei hun, yn siarad am hyn wrth inni drafod y cwestiwn hwn. Felly, yn amlwg, mae Cymru'n sicr yn waeth ei byd ac mae’r addewidion a wnaed i ni wedi’u torri.

13:55

Wrth gwrs, mae cyllid ffyniant bro yn hanfodol i'r ffordd y byddwn yn gweithio yn y dyfodol yma yng Nghymru, gan fod cymaint y gellir ei wneud i helpu i adfywio'r stryd fawr, canol ein trefi, mynd i'r afael â throseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gall yr arian hwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cymunedau hynny. Ac wrth gwrs, un agwedd yr ydym ni ar y meinciau hyn yn ei chefnogi, ac y mae llywodraeth leol yn ei chefnogi, yw bod y cyllid hwnnw yn nwylo'r awdurdodau lleol hynny, gan mai datganoli yw hyn, a dyma lle nad yw'n dod i ben yma ym Mae Caerdydd, ac er eich pryderon, Weinidog, mae awdurdodau lleol rwy'n gyfarwydd â hwy ac yn gweithio gyda hwy wedi cyffroi ynglŷn â'r cyfle i gymryd rhan uniongyrchol yn y broses, yn hytrach na chael gorchmynion o Fae Caerdydd. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael, a pha drafodaethau parhaus rydych chi'n eu cael, gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod ffyniant bro yn llwyddiant?

Byddwn yn synnu’n fawr pe bai awdurdodau lleol yn cyfeirio at ein hymagwedd flaenorol at gyllid rhanbarthol fel 'gorchmynion’ gan Gaerdydd. Byddwn yn synnu’n fawr iawn, gan fod ein hymagwedd bob amser wedi bod yn hynod o gydweithredol. Mae’n ymwneud â cheisio sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn partneriaeth. A gadewch inni gofio bod y gronfa ffyniant bro wedi bod—. Mae'n gwasgaru symiau bach iawn o arian ledled Cymru. Gadewch inni gofio bod y cylch ariannu cyntaf wedi'i lansio ym mis Mawrth 2021, ac ni chafodd ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu tan fis Hydref y flwyddyn honno, ac yn y rownd gyntaf, chwe awdurdod lleol yn unig a gafodd gyllid yng Nghymru. Roedd hynny ar gyfer 10 cais, gwerth £121 miliwn. Roedd ceisiadau aflwyddiannus ledled Cymru yn werth llawer mwy na hynny—£172 miliwn—felly, rwy'n credu y byddai mwy o awdurdodau lleol siomedig na rhai hapus gyda'r cynllun penodol hwn, ac ni welaf unrhyw obaith o gwbl y bydd y swm bach hwn o arian y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu yn cyfrannu at godi'r gwastad mewn unrhyw fodd yng Nghymru neu unrhyw le arall.

Roedd yn hynod ddiddorol gweld tystiolaeth dros y penwythnos o ddŵr glas yn araith arweinydd y Ceidwadwyr—nid oedd yn gefnfor, na hyd yn oed yn afon, neu nant; roedd yn fwy o gornant, neu efallai ffrwd, diferyn bach iawn—mewn perthynas â chyllid HS2. Ond wrth gwrs, rydym hefyd wedi gweld y cyhoeddiadau ar Crossrail dros y blynyddoedd diwethaf, a llinell Victoria y penwythnos hwn, ac mae'n wych gweld yr holl fuddsoddiad hwnnw'n mynd i'r de-ddwyrain, ond mae hyn yn cael effaith yng Nghymru; rydym wedi cael ein hamddifadu o gyllid ar gyfer codi’r gwastad ar ein rheilffyrdd ers degawdau. Gallaf ddweud o'r diwedd fod gwaith yn mynd rhagddo ar signalau Tondu—15 i 20 mlynedd ar ei hôl hi, gan ei fod wedi ei ddargyfeirio i dde-ddwyrain Lloegr i'w fuddsoddi yno, ond mae'n mynd rhagddo o'r diwedd.

Felly, Weinidog, a oes gennych unrhyw syniad pa fath o ffigur y gallech ei roi i arweinydd y Ceidwadwyr i ddweud, 'Yn ogystal â HS2, dyma faint o arian sydd ei angen arnom i godi'r gwastad ar fuddsoddiad yn y rheilffyrdd yng Nghymru'?

Mae’n braf iawn gweld bod y cen wedi syrthio oddi ar lygaid arweinydd y Ceidwadwyr mewn perthynas â chyllid HS2, ac rwy'n gobeithio bod ganddo ddatguddiadau tebyg ynghylch yr £1.1 biliwn y mae Cymru wedi'i golli—ac mae hyn yn ffaith—o ganlyniad i ddull Llywodraeth y DU o ymdrin â Brexit. Felly, mae ein dull o gyllido seilwaith rheilffyrdd wedi deillio o'r cyllid annigonol a gawsom yn gyson gan Lywodraeth y DU. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi cael llai na 2 y cant o’r £102 biliwn y mae Llywodraeth y DU wedi’i wario ar wella rheilffyrdd, er bod gennym 5 y cant o’r boblogaeth, ond yn waeth na hynny, mae gennym 10 y cant o’r rheilffyrdd. Ac nid ydym yn cael cyllid teg mewn perthynas â'r seilwaith rheilffyrdd o gwbl. Er bod 11 y cant o'r rheilffordd, 11 y cant o'r gorsafoedd ac 20 y cant o'r croesfannau rheilffordd yng Nghymru a Lloegr ar lwybr Network Rail yng Nghymru, oddeutu 2 y cant yn unig o’r arian hwnnw, ar gyfartaledd, sydd wedi’i wario ar welliannau i'r rhwydwaith ers 2011. Felly, mae hynny'n amlwg yn hynod siomedig.

Beth y gallem ei gael yn lle hynny? Gallem fod yn datgarboneiddio ein rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru; gallem fod yn mynd i'r afael â'r gwahaniaethau a grëwyd yn sgil rhoi'r gorau i gynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe; gallem fod yn rhoi argymhellion comisiwn Burns ar waith yn gyflymach yn ne-ddwyrain Cymru; gallem fod yn cyflwyno metro gogledd Cymru yn gyflymach, gan gynnwys cysylltiadau gwell, rhaid imi ddweud, â HS2; a gallem fod yn buddsoddi mewn cynlluniau lleol pwysig megis gwasanaethau amlach ar reilffordd Maesteg ac ailagor cangen Abertyleri. Mae’r rhain yn bethau y gallem fod wedi’u cael pe byddem wedi cael tegwch gan Lywodraeth y DU.

14:00
Cyllid Teg i Awdurdodau Lleol

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyllid teg i awdurdodau lleol ar draws Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ58107

Byddaf yn parhau i sicrhau cyllid teg i bob awdurdod yng Nghymru drwy fformiwla ddosbarthu dryloyw, deg ac sy'n cael ei chynhyrchu ar y cyd ar gyfer y setliad llywodraeth leol gyda'n partneriaid llywodraeth leol.

Diolch am yr ateb manwl hwnnw, Weinidog. Hoffwn gyfeirio'n fyr at ddwy broblem gyda fformiwla gyllido awdurdodau lleol Llywodraeth Cymru. Y gyntaf yw'r gwahaniaeth rhwng y cyllid y pen i unigolyn 84 oed o'i gymharu ag unigolyn 85 oed. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod y cyntaf yn cael £10.72 y pen ac mae'r olaf yn cael £1,582 y pen. Nawr, sut y gall rhywun sydd â'r un problemau iechyd, sydd oddeutu'r un oed ac mewn amgylchiadau amgylcheddol a chymdeithasol tebyg iawn, gael £1,571.28 yn llai na rhywun sydd ond flwyddyn yn hŷn?

Ond nid dyna'r unig beth, Weinidog. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol fod llawer o'r data a gasglwyd ac a ddefnyddir wedyn i gyfrifo dyraniadau cyllid yn dyddio mor bell yn ôl â 2001. O ystyried y materion hyn, a gaf fi eich annog i adolygu'r fformiwla gyllido ar gyfer ein hawdurdodau lleol, a sicrhau bod pob un o fy etholwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn cael eu cyfran deg o gyllid? 

Ar y cwestiwn cyntaf gennych ynglŷn â bandiau oedran, gofynnwyd i'r is-grŵp dosbarthu edrych ar hynny yn dilyn cwestiynau a godwyd gan eich cyd-Aelod, Sam Rowlands, ar hyn. Felly, bydd y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Ond rhaid imi ddweud bod y mwyafrif llethol o'r cyllid, a'r dangosyddion ar gyfer cyllid, yn cael eu diweddaru'n flynyddol. Felly, ar hyn o bryd mae'n 72 y cant, ond o ganlyniad i'r pandemig a chyflwyno credyd cynhwysol fesul cam, mae nifer o'r dangosyddion wedi'u rhewi ac maent yn cael eu harchwilio gan yr is-grŵp dosbarthu ar hyn o bryd. Ond pan gaiff y materion hynny eu datrys, bydd dros 80 y cant o'r fformiwla gyllido yn dibynnu ar ddata sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol, felly bydd gennym wybodaeth fwy diweddar. Wrth gwrs, mae gennym ddata'r cyfrifiad yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach eleni, a bydd hwnnw, unwaith eto, yn bwysig iawn ar gyfer rhoi data mwy amserol i ni.

Pont Llannerch

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd a Chyngor Sir Ddinbych ynghylch ariannu pont Llannerch newydd rhwng Trefnant a Thremeirchion? OQ58085

Er mai mater i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yw hwn, deallaf fod ei swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â'r awdurdod lleol, sy'n gyfrifol am gynnal a sicrhau gwytnwch asedau o'r fath. Nid oes cais ffurfiol wedi ei roi gan Gyngor Sir Ddinbych i Lywodraeth Cymru am gyllid.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y gallwch ddychmygu, mae fy etholwyr yn teimlo'n rhwystredig iawn oherwydd y sefyllfa hon. Bron i flwyddyn a hanner ar ôl dinistrio pont hanesyddol Llannerch, mae cymunedau Trefnant a Thremeirchion yn parhau i fod wedi'u hynysu oddi wrth ei gilydd, gan orfodi teithiau hirach yn y car a dim llwybr teithio llesol. Nid yw fy etholwyr yn poeni am y ddadl ynghylch pwy sy'n mynd i dalu am ailadeiladu'r bont. Hwy sy'n talu'r gost yn y pen draw gyda'u trethi, p'un a yw'r cyngor neu Lywodraeth Cymru yn talu am y gwaith atgyweirio ai peidio. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cytuno ar gynlluniau eraill i atgyweirio'r difrod a achoswyd gan storm Christoph. Felly, Weinidog, a wnewch chi weithio gyda'ch cyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych i geisio canfod ffordd ymlaen ar frys, a chyflymu'r broses, er mwyn i fy etholwyr gael eu sicrhau y bydd pont Llannerch yn cael ei hailgodi'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach gan fod hyn wedi mynd ymlaen ers yn rhy hir o lawer?

Wel, ni allaf ond ailadrodd yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Weinidog y Gweinidog Newid Hinsawdd wrthych ym mis Ionawr, sef ein bod, wrth gwrs, yn deall yr anawsterau a achoswyd i'ch etholwyr o ganlyniad i'r gwaith sydd angen ei wneud, ond cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw cynnal a sicrhau gwytnwch yr asedau hynny. Ond fel y dywedwyd wrthych ym mis Ionawr, ac mae'n parhau'n wir, nid ydym eto wedi cael cais am gyllid gan sir Ddinbych ynglŷn â'r bont.

Blaenoriaethau Gwariant

6. Beth yw blaenoriaethau gwariant y Gweinidog ar gyfer Preseli Sir Benfro am y 12 mis nesaf? OQ58073

Nodir fy mlaenoriaethau yn ein rhaglen lywodraethu a'r gyllideb ddiweddar ar gyfer 2022-23, sy'n cyflawni ar sail ein gwerthoedd ac yn darparu'r sylfaen ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach.

Weinidog, un prosiect y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo yw gostwng y terfyn cyflymder ar yr A40 yn Scleddau yn fy etholaeth yn y flwyddyn ariannol hon, ac eto mae'r Llywodraeth wedi dweud yn glir yn ddiweddar fod dyraniadau cyfredol y gyllideb gyfalaf ar gyfer gwaith rhwydwaith cefnffyrdd yn 2022-23 yn ei gwneud yn ofynnol i bob prosiect gael ei ailwerthuso. Weinidog, ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd diogelwch ar y ffyrdd, sydd, rwy'n gobeithio, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rwy'n eich annog, Weinidog, i sicrhau bod yr arian hwn ar gael ar gyfer y gwaith hwn, o gofio'r ymrwymiad gwreiddiol. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ynghylch ariannu prosiectau diogelwch ar y ffyrdd? Ac a wnewch chi ystyried ymrwymo yn awr i ddarparu cyllid ar gyfer y cynllun pwysig hwn cyn gynted â phosibl?

14:05

Lywydd, mae hwn mewn gwirionedd yn fater i fy nghyd-Weinidogion, y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, mewn perthynas â'u cyfrifoldebau cyllidebol, ond efallai y caf ddiweddariad gan fy nghyd-Weinidogion am hyn, oherwydd nid yw'r terfyn cyflymder ar yr A40 o fewn fy nghyfrifoldebau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

8. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth benderfynu ar gyllidebau'r cyrff cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu? OQ58094

Mae ein dull gweithredu yn parhau i gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ganolog iddo. Ochr yn ochr â'n cyllideb ar gyfer 2022-23 sy'n darparu'r sylfeini ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach, mae'r Ddeddf yn ganolog i'r gwelliannau i'r prosesau cyllideb a threth sydd wedi'u cynnwys yng nghynllun gwella'r gyllideb.

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi'r datganiad llesiant i gyd-fynd â'r rhaglen lywodraethu, ac wedi dweud ynddo y byddwch

'yn defnyddio ein proses gyllidebol i sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu i gyflawni’r amcanion llesiant'

Roeddwn hefyd yn falch o weld y gair 'dyfodol' yn ymddangos 46 gwaith yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Ond er gwaethaf y camau sydd wedi'u cymryd, mae cyrff cyhoeddus yn dweud wrthyf dro ar ôl tro eu bod yn dal i deimlo bod penderfyniadau cyllidebol yn cael eu gwneud mewn seilos, ac er eu bod yn cael llythyrau cylch gwaith yn nodi sut y mae angen iddynt weithio i gefnogi amcanion llesiant, maent yn dal i'w chael hi'n anodd cael cyllid i helpu i gyflawni amcanion pwysig y Llywodraeth os ystyrir eu bod y tu allan i'w meysydd cylch gwaith traddodiadol—er enghraifft, sefydliadau celf sy'n cyflawni rhaglenni iechyd a lles, gan gynnwys presgripsiynu cymdeithasol. Hefyd, mae rhai'n teimlo nad yw rhai cyrff cyhoeddus yn cyflawni fel y dylent o dan y Ddeddf ac eto maent yn parhau i dderbyn cyllid parhaus heb ddim mwy nag anogaeth i gyflawni mwy.

Byddai o ddiddordeb imi wybod a yw hyn yn rhywbeth sydd hefyd yn peri pryder i chi, Weinidog, ac a oes cynlluniau i symud tuag at gyllidebau sy'n fwy seiliedig ar effaith neu atal wrth i chi fonitro sut y mae'r amcanion llesiant sy'n gysylltiedig â'r gyllideb yn datblygu dros dymor y Senedd hon.

Mae hwnnw'n gwestiwn diddorol iawn ac rwy'n credu ei fod yn dangos pwysigrwydd ein cynllun gwella'r gyllideb, a gyhoeddais gyntaf yn ôl yn 2018, ond mae wedi dod yn ddogfen dreigl, gan edrych ymlaen dros bum mlynedd ar y ffyrdd yr ydym yn gwella proses y gyllideb. Ac mae hynny'n ymwneud yn union â'r hyn yr ydych wedi'i ddisgrifio o ran meddwl ynglŷn â sut rydym yn manteisio i'r eithaf ar yr amryfal enillion a gawn o'n buddsoddiadau. Ac mae'r enghraifft a roesoch ynglŷn â phwysigrwydd celf i iechyd a lles yn un dda iawn. Byddaf yn ystyried hynny ymhellach wrth inni ddechrau ein cylch cyntaf o gyfarfodydd dwyochrog ar y gyllideb gyda'n cyd-Aelodau yn y Cabinet, wrth inni ddechrau meddwl am gyllideb y flwyddyn ariannol nesaf—mae'r broses yn dechrau yn awr, felly dim ond ychydig o wythnosau sydd wedi bod ers y ddiwethaf. Ond bydd hwnnw'n sicr yn gwestiwn y byddaf yn ei archwilio gyda fy holl gyd-Aelodau wrth inni ddechrau meddwl am y camau nesaf.

Mae dadansoddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn awgrymu, er bod argyfwng hinsawdd wedi'i ddatgan, nad yw cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ymgorffori targedau datgarboneiddio wrth gyflawni eu gofynion caffael o hyd. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i unioni hyn ac i gydnabod y costau ychwanegol sy'n deillio o hyn? Diolch.

Wel, dylai cyrff cyhoeddus yng Nghymru fod yn edrych ar bopeth drwy lens Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac yn sicr yn archwilio beth arall y gallant fod yn ei wneud fel sefydliadau i'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Felly, dylai hynny fod yn rhan o'r ffordd greiddiol y mae sefydliadau'n gweithredu yn awr ledled Cymru. Rwy'n credu bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei wneud yn eithaf clir. Felly, byddwn yn siomedig os nad yw cyrff cyhoeddus yn ystyried y Ddeddf ac yn edrych ar eu holl benderfyniadau drwy'r lens hwnnw. Ond os oes enghreifftiau penodol yr hoffech i mi edrych arnynt gyda fy nghyd-Aelodau, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.

Llygredd Aer

9. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â llygredd aer wrth ddyrannu cyllidebau awdurdodau lleol? OQ58102

Darperir cymorth ar gyfer dyletswyddau ansawdd aer statudol awdurdodau lleol drwy'r setliad blynyddol heb ei neilltuo gwerth £5.1 biliwn. Dyfarnwyd £355,000 mewn grant gennym y llynedd i gynyddu gallu awdurdodau i fynd i'r afael â llygredd aer yn eu hardaloedd, ac rydym yn adolygu'r cynllun hwn ac yn ystyried gofynion ariannu yn y dyfodol i gefnogi'r Ddeddf aer glân.

14:10

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Gwyddom y gall y peryglon y mae llygredd aer yn eu hachosi i iechyd a llesiant pobl, a chysylltiad tymor byr a hirdymor â llygredd aer, arwain at ystod eang o glefydau, gan gynnwys strôc, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, broncws y tracea a chanser yr ysgyfaint, a llawer o heintiau eraill. Mae'r offeryn newydd ar-lein, addresspollution.org, wedi taflu goleuni ar y llygryddion y gallai pobl fod yn eu profi yn eu codau post. Yn anffodus, mae'n dangos bod y lefelau llygredd aer mewn rhannau o Gasnewydd ymhlith y gwaethaf yn y DU ac yn llawer uwch na thargedau Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'n amlwg fod trigolion yn bryderus iawn ac nad un ateb sydd yna i fynd i'r afael â llygredd aer, ond y bydd angen mesurau cenedlaethol a rhai lleol i ostwng lefelau. Pa strategaeth ariannu hirdymor sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer, a sut y mae'n bwriadu cefnogi awdurdodau lleol yn ariannol i fynd i'r afael â phocedi lleol sy'n peri pryder arbennig?

Diolch am y cwestiwn. Y llynedd, fe wnaeth ein cronfa gymorth rheoli ansawdd aer lleol roi cymorth i awdurdodau lleol gyflawni prosiectau arloesol a all atal neu liniaru problemau llygredd aer, a llwyddodd ceisiadau gan Gyngor Dinas Casnewydd, yn ogystal â Chyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, i gael cymorth drwy'r cynllun hwnnw. Ac rwy'n gwybod fod yr arian a ddyfarnwyd i Gyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi gosod synwyryddion monitro yn eu hardaloedd rheoli ansawdd aer, a chredaf fod y disgrifiad yr ydych newydd ei roi o'r math o ddata yr ydych yn ymwybodol ohono yn dangos pa mor bwysig yw'r math hwnnw o fonitro o ran y modd yr ydym yn symud pethau ymlaen ar yr agenda benodol hon.

Credaf y bydd y Ddeddf aer glân yn gwbl ganolog i'r ffordd yr edrychwn ar y materion hyn yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, fe wnaethom gynnal ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar gyfer y Bil Aer Glân (Cymru) rhwng 13 Ionawr 2021 a 7 Ebrill 2021. Rwy'n ymwybodol y bydd fy nghyd-Aelod yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion cyn bo hir; mae hynny'n cael ei ddrafftio ar hyn o bryd. Fel y gallwch ddychmygu, roedd llawer o ddiddordeb yn hyn, sy'n wych. Felly, ein nod yw sicrhau ein bod yn parhau gyda phroses sy'n seiliedig ar dystiolaeth i osod targedau effeithiol, er enghraifft, gan fod yn realistig ynglŷn â'r hyn y gallwn ei gyflawni, ond gan ystyried gwyddoniaeth gadarn a chyngor arbenigol hefyd. Felly, pan ddechreuwn gysoni ein cyllidebau yn y dyfodol, credaf mai drwy'r lens hwnnw y byddwn yn gwneud hynny.

Cyllid Cartrefi Gofal

10. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch darparu cyllid cynaliadwy ar gyfer cartrefi gofal yng Nghymru? OQ58090

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi diwygiadau i wella'r ddarpariaeth a chynyddu cynaliadwyedd y sector gofal cymdeithasol cyfan. Yn 2022-23 yn unig, rydym yn darparu dros £250 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys £180 miliwn o fewn y setliad llywodraeth leol, £45 miliwn i gefnogi diwygiadau, ynghyd â £50 miliwn o gyfalaf gofal cymdeithasol.

Diolch yn fawr, Weinidog. Cefais gryn sioc yn ddiweddar o weld bod Fforwm Gofal Cymru wedi datgelu bod y ffioedd a delir gan awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru hyd at £11,000 y flwyddyn yn llai y pen na'r rhai a gynigir gan eu cymheiriaid yn y de. Y gwir amdani yw y bydd cartref gofal 50 gwely yn Nhorfaen yn derbyn £546,000 y flwyddyn yn fwy am ddarparu gofal preswyl na chartref o faint tebyg yn Ynys Môn, Wrecsam a sir y Fflint, am yr un lefel o ofal yn union, a £444,600 yn fwy na chartref yng Nghonwy. Mae Fforwm Gofal Cymru wedi gadael y grŵp pennu ffioedd yng ngogledd Cymru mewn protest yn erbyn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn dad-flaenoriaethu gofal.

Nawr, fel yr eglurais—rwyf wedi ysgrifennu atoch ynglŷn â hyn—rhan o'r broblem yw'r fformiwla gyllido awdurdodau lleol. Mae'r system bresennol yn rhoi cyllid o £1,500 i awdurdodau lleol fesul preswylydd sy'n 85 oed neu'n hŷn. Fodd bynnag, i'r rhai rhwng 60 ac 84 oed, dim ond £10.72. Mae'r bwlch enfawr hwnnw'n dangos rhagdybiaeth gyfeiliornus mai dim ond y rheini sy'n 85 oed neu'n hŷn sydd angen gofal a chymorth a ariennir gan y cyngor. Weinidog, mae sawl Aelod wedi gofyn yma dros flynyddoedd lawer i'r Llywodraeth hon edrych ar y fformiwla gyllido yng Nghymru. Nid yw'n gweithio. Mewn gwirionedd, mae'n gweithio yn erbyn fy mhoblogaeth hŷn a bregus yn Aberconwy. A fyddech cystal ag edrych ar y fformiwla gyllido eto, er mwyn inni gael system sy'n bendant yn decach i bawb sydd angen gofal ledled Cymru? Diolch.

14:15

Fel y disgrifiais mewn ateb blaenorol i un o'ch cyd-Aelodau, cawsom drafodaeth yng nghyfarfod diweddaraf yr is-grŵp cyllid lle y gwnaethom ystyried y fformiwla a dywedasom y byddem yn dod yn ôl ati eto yn ein cyfarfod cyntaf yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol. Felly, byddwn yn ymchwilio ymhellach i hynny. Wrth gwrs, nid yw'r setliad wedi'i neilltuo a mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar eu blaenoriaethau a'u hanghenion lleol fel rhan o'u proses eu hunain o bennu cyllidebau. Yn yr ystyr honno, nid yw costau comisiynu gofal yn gysylltiedig â fformiwla'r setliad. Fodd bynnag, rwyf wedi darllen eich llythyr gyda diddordeb, a gwn fod fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi ymateb, oherwydd bod y mater yn perthyn i'w phortffolio penodol hi. Fel y dywedais, rydym yn bwriadu parhau â'r trafodaethau sy'n ymwneud â'r fformiwla gyda'r grŵp newydd o gyd-Aelodau a fydd yn dod i'r is-grŵp cyllid yn ein cyfarfod nesaf.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i’r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Ffermydd y mae Cynghorau yn Berchen Arnynt

1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu dyfodol ffermydd y mae cynghorau yn berchen arnynt? OQ58099

Diolch. Ffermydd awdurdodau lleol yw llai nag 1 y cant o dir amaethyddol yng Nghymru. Maent yn asedau bach ond pwysig a gallant gynnig mynediad i'r diwydiant. Mater i awdurdodau lleol Cymru yn y pen draw yw rheoli ffermydd awdurdodau lleol. 

Dwi ddim yn licio'r ffordd rŷch chi wedi rhyw frwsio hwnna i'r naill ochr drwy ddweud mai dim ond 1 y cant a mater i'r awdurdodau lleol yw e. Dwi yn credu bod gennych chi rôl strategol bwysig fel Llywodraeth yn fan hyn, oherwydd rŷn ni'n gwybod bod pwysau ariannol yn mynd i barhau i daflu cysgod dros ddyfodol nifer o'r ffermydd cyngor yma, ac mae nifer y ffermydd wedi disgyn dros y blynyddoedd. Dwi yn teimlo ei bod hi'n amser i'r Llywodraeth ddod â'r holl bartneriaid perthnasol at ei gilydd er mwyn creu strategaeth bwrpasol i amddiffyn, ie, ond hefyd i gryfhau rôl y ffermydd cyngor yma. Mi allai colegau amaethyddol, er enghraifft, chwarae rhan bwysig yn hynny o beth drwy dreialu syniadau newydd, defnyddio'r cyfle i fyfyrwyr arloesi ac yn y blaen. Rŷn ni'n cofio gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chlybiau ffermwyr ifanc Cymru mewn perthynas â Llyndy Isaf, wrth gwrs, a'r fwrsariaeth yn fanna. Mae hwnna'n un model posib, ac mae yna bartneriaid eraill dwi'n teimlo ddylai fod yn rhan o'r drafodaeth. Felly, gaf i ofyn: a wnewch chi, fel Gweinidog ac fel Llywodraeth gynnull uwchgynhadledd i edrych yn benodol ar amddiffyn ein ffermydd cyngor a'u rhoi nhw ar waith yn fwy bwriadol ac yn fwy creadigol er mwyn helpu creu dyfodol mwy cynaliadwy i'r sector?

Yn sicr, nid oeddwn yn ei ysgubo o dan y carped yn y ffordd yr ydych yn ei awgrymu; dywedais ei fod yn ased bach ond pwysig. Fe wyddoch drwy drafodaethau a gawsom pa mor bwysig yw ffermydd awdurdodau lleol i mi. Gofynnais i Gyngor Sir Powys wneud gwaith i mi, oherwydd fy mod yn pryderu am y nifer sydd i'w gweld yn cael eu gwerthu. Nid wyf yn credu ein bod wedi gweld nifer enfawr o ffermydd awdurdodau lleol yn cael eu gwerthu, ond rwy'n credu mai'r rhai sydd wedi'u gwerthu yw'r rhai mwy o faint, sy'n destun pryder yn fy marn i. Rwy'n credu bod tir wedi'i golli, yn hytrach na'r golled os edrychwch yn unig ar y nifer sydd wedi'u gwerthu. Yn sicr, i newydd-ddyfodiaid a ffermwyr ifainc hefyd, rwy'n credu ei bod yn ffordd o fynd i mewn i'r diwydiant nad yw'n agored iddynt drwy lwybrau eraill.

Nid wyf yn credu bod angen cael uwchgynhadledd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig parhau i siarad â phartneriaid a'n rhanddeiliaid. Er enghraifft, rwy'n meddwl yn awr am grŵp a allai ein helpu. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion sefydlu gweithgor tenantiaid i edrych yn benodol ar y cynllun ffermio cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, oherwydd mae tenantiaid yn amlwg yn rhan bwysig iawn o'n sector amaethyddol, ac mae gwir angen i'r cynllun weithio iddynt. Felly, efallai fod hynny'n rhywbeth y gallem ofyn iddynt ein helpu gydag ef hefyd.

O safbwynt polisi, mae gan Lywodraeth Cymru bolisi i blannu mwy o goed, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n amlwg yn un o asiantaethau'r Llywodraeth, wrthi'n caffael tir i blannu'r coed hynny arno. Mae'r Llywodraeth newydd brynu fferm Gilestone am £4.25 miliwn ym Mhowys. A fyddech yn ystyried safbwynt polisi i adfywio'r ystad mân-ddaliadau cyngor ledled Cymru drwy wneud cais i'r Gweinidog cyllid a'r Llywodraeth gyfan i ddyrannu'r swm hwn o arian o adnoddau canolog i adfywio'r ystad daliadau cyngor ledled Cymru, a mynd ati i gaffael tir ychwanegol fel y gallech greu banc newydd o fân-ddaliadau cyngor i fod yn bwynt mynediad i lawer o bobl i'r sector amaethyddol?

Dychwelaf at yr hyn yr ymatebodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol iddo yn awr—nad yw'r rhan hon o'r setliad llywodraeth leol wedi'i neilltuo. Credaf mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod yn cefnogi ein ffermwyr ifainc, os ydynt am edrych ar denantiaeth awdurdod lleol, er enghraifft. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynllun Mentro sydd gennym lle rydym yn edrych ar y ddau ben—y newydd-ddyfodiaid iau a'r bobl sy'n dymuno gadael ffermio. Nid yw'n rhywbeth yr wyf wedi ystyried siarad â'r Gweinidog cyllid yn ei gylch o gwbl.

14:20
Lles Cŵn

Diolch. Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddais gynllun lles anifeiliaid pum mlynedd Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu a gwaith blaenoriaethol arall drwy ystod o bolisïau i adeiladu ar ein safonau lles uchel ar gyfer cŵn a phob anifail a gedwir. 

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Er na fyddwch byth yn dyfalu hynny wrth edrych allan, rydym yn cyrraedd misoedd yr haf ac mae'r tywydd yn mynd i fod yn boethach, gobeithio. Felly, mae'n adeg hollbwysig i dynnu sylw at ymgyrch flynyddol yr RSPCA sy'n nodi bod cŵn yn marw mewn ceir poeth. Cynyddodd perchnogaeth ar gŵn yn ystod y pandemig, a chyda disgwyl i hyd at 30 miliwn o bobl fynd ar wyliau yn y DU yn 2022, rhaid i'r neges fynd allan nad oes croeso i gŵn ym mhobman bob amser, felly mae angen i bobl gynllunio eu tripiau'n ofalus. Gall cŵn ac anifeiliaid anwes eraill sy'n cael eu gadael ar eu pen eu hunain mewn ceir ar ddiwrnod poeth ddioddef diffyg hylif yn gyflym, datblygu trawiad gwres, neu farw hyd yn oed. Pan fydd yn 22 gradd Celsius y tu allan, gallai'r car gyrraedd 47 gradd Celsius annioddefol o fewn awr. Rwy'n falch iawn o fy ymgyrch lwyddiannus, gyda'r RSPCA, i arddangos negeseuon ar arwyddion ar draws cefnffyrdd Cymru yn atgoffa perchnogion o beryglon gadael eu hanifeiliaid anwes yn eu ceir—y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny, ond mae lle bob amser i wneud mwy. Pa ymgyrch gyfathrebu y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ar ei thrywydd dros yr haf i roi gwybod i berchnogion am beryglon gwirioneddol gadael eu hanifeiliaid anwes mewn ceir, er mwyn sicrhau ein bod wedi gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu anifeiliaid rhag dioddef heb fod unrhyw fai arnynt hwy? [Torri ar draws.]  

Ie, da iawn chi. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y negeseuon hynny ar gefnffyrdd a thraffyrdd yn parhau; maent wedi cael eu derbyn yn gadarnhaol iawn hefyd. Yn ystod misoedd yr haf, fe ofynnoch chi beth y byddaf yn ei wneud—byddwn yn parhau i gefnogi'r gwaith hwnnw; byddwn yn parhau i gyhoeddi trydariadau a rhyddhau datganiadau i'r wasg am bobl yn gadael anifeiliaid yn eu ceir. Mae gennym hefyd ein hymgyrch Aros, Atal, Amddiffyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae honno wedi bod yn rhedeg ers 2019, ac yn dibynnu ar ba adeg o'r flwyddyn yw hi, rydym yn addasu'r ymgyrch honno i gyfleu negeseuon o'r fath. 

Weinidog, yn ddiweddar ymwelais â lloches anifeiliaid Llys Nini ger Abertawe. Roedd yn anhygoel, ac maent i gyd yn ymroddedig i roi ail gyfle i'r anifeiliaid yn eu gofal. Ond ni ddylai fod angen i hyn ddigwydd. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddiogelu lles yr anifeiliaid yn eu cymunedau, yn enwedig mewn perthynas â gorfodi?

Diolch. Rwy'n cytuno; bûm yn ffodus iawn i ymweld â llawer o lochesau anifeiliaid a chanolfannau achub, ac mae'n drueni bod eu hangen, ond mae eu hangen, ac fel y dywedwch, mae lefel y gofal y maent yn ei roi yn rhagorol. Fe fyddwch yn gwybod am y rhaglen tair blynedd a oedd gennym i gefnogi ein hawdurdodau lleol mewn perthynas â gorfodi. Rhoesom arian sylweddol tuag at ymgyrch lle y gellid hyfforddi mwy o bobl i orfodi ein rheoliadau lles anifeiliaid, ac rydym bellach yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen honno. 

Mae nifer o faterion lles cŵn yn peri pryder yng Nghymru, megis bridio anghyfreithlon a'r problemau y mae llochesau'n eu cael gyda chapasiti. A bod yn deg, gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o'r materion hyn a gwn fod ganddi ddiddordeb brwd yn lles cŵn yma yng Nghymru. Diolch iddi am hynny.

Ddydd Llun, cynhaliodd y Pwyllgor Deisebau ei sesiwn casglu tystiolaeth gyntaf ar rasio milgwn, pan dynnwyd sylw'r pwyllgor at nifer o faterion lles. Mae'r Gweinidog, rwy'n siŵr, yn gwybod fy mod yn ymddiddori'n fawr yn y pwnc hwn. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnwys rasio milgwn yn rhan o'r cynllun trwyddedu yn y dyfodol a nodir yn y cynllun lles anifeiliaid. Deallaf nad oedd yn gallu rhoi dyddiad i fy nghyd-Aelod, Jane Dodds, yr wythnos diwethaf yn y Siambr, ond mae nifer o sefydliadau'n awyddus i weld cynnydd gan y Llywodraeth ar hyn cyn gynted â phosibl.

Yn gyflym iawn, roeddwn am ddiolch i'r Gweinidog hefyd am ddod i ddigwyddiad Paws in the Bay Hope Rescue ddydd Mercher diwethaf. Rwy'n credu ein bod wedi dod yn agos iawn at eich cael i fabwysiadu ci bach Pomeranaidd o'r enw Bunny. [Torri ar draws.] Diolch eto am ddod. Roedd Hope Rescue yn ddiolchgar iawn, nid yn unig am eich ymgysylltiad chi, ond am ymgysylltiad Aelodau ar draws y Siambr yn ogystal. 

Diolch. Yn sicr, nid Boris ydoedd, ond Bunny.

Diolch yn fawr iawn, yn gyntaf oll, am drefnu'r ymgyrch honno. Ni welais neb nad oedd yn gwenu yn ystod yr amser y buom allan yn cerdded y cŵn, ond fe wnaeth canolfan Hope Rescue bwynt difrifol iawn ynglŷn â bridio anghyfreithlon, ac am nifer y cŵn sydd ganddynt ar hyn o bryd y maent yn gobeithio eu hailgartrefu.

Fe ofynnoch chi gwestiwn penodol am rasio milgwn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ddeiseb y mae pwyllgor Jack Sargeant yn edrych arni, ac edrychaf ymlaen at gael gohebiaeth yn ei chylch. Yn anffodus, ni allaf roi dyddiad i chi heblaw'r wybodaeth a roddais i Jane Dodds ddydd Mercher diwethaf, ond mae'n sicr yn rhan o'n cynllun lles anifeiliaid, ac rydym yn sicr yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud mewn perthynas â rasio milgwn. Efallai eich bod yn ymwybodol imi gyfarfod â Bwrdd Milgwn Prydain i drafod y pryderon, oherwydd credaf fod rasio milgwn—. Yn sicr, po fwyaf yr edrychwn arno, y mwyaf o bryder sydd gennyf am yr anafiadau y mae rhai o'r milgwn hyn wedi'u cael, yn anffodus. Un trac yn unig sydd yna yng Nghymru, ond fe fyddwch yn ymwybodol o'r pryderon penodol, yn enwedig ynghylch un tro yn y trac. Rwyf wedi ysgrifennu at y perchennog i ofyn am gyfarfod ag ef. Nid wyf wedi cael ateb eto, felly rwyf wedi mynd ar ei ôl. Ond rwy'n eich sicrhau bod hyn yn rhywbeth rwy'n edrych arno o ddifrif.

14:25
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd. Cyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofrestr buddiannau. Weinidog, tua deufis yn ôl, ddydd Mercher 23 Mawrth, galwodd Andrew R.T. Davies a minnau ar Lywodraeth Cymru i gynnull uwchgynhadledd fwyd gyda'r holl randdeiliaid i drafod prinder bwyd yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang a ysgogwyd gan y digwyddiadau presennol yn Wcráin. Wrth ymateb, fe ddywedoch chi,

'Rwy'n cydnabod nad yw'r Torïaid yma'n deall sut y mae Llywodraeth yn gweithio, ond nid oes arnom angen uwchgynhadledd fwyd.'

Credwch fi pan ddywedaf nad oes dim a fyddai'n rhoi mwy o bleser i mi na chael Llywodraeth Geidwadol Gymreig yma yn y Senedd gydag Andrew R.T. yn Brif Weinidog arnom. Ac eto, cadarnhaodd y Prif Weinidog fod eich cyd-Weinidog, Jane Hutt, wedi cynnal uwchgynhadledd fwyd dros bythefnos yn ôl. Fodd bynnag, nid oes datganiad ysgrifenedig wedi'i gyhoeddi ac ni wnaed datganiad llafar i'r Senedd hon. Mewn gwirionedd, mae'r Llywodraeth hon wedi gadael i hyn fynd o dan y radar yn llwyr. Rwy'n fwy na pharod i chi fynd â'n syniadau, ac i'r Llywodraeth hon yng Nghymru eu cyflwyno fel eu syniadau eu hunain, ond byddwn yn gwerthfawrogi datganiad, Weinidog, ar ganlyniad yr uwchgynhadledd, gennych chi neu eich cyd-Aelod, yn amlinellu pa gamau y bwriadwch eu cymryd i ddiogelu Cymru rhag prinder bwyd yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang.

Wel, nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn deall o hyd beth yw bod mewn Llywodraeth. Yn ffodus, nid yw'r Cymry am i chi fod mewn Llywodraeth yma yn y Senedd. Rwyf wedi gweld ymateb i gwestiwn ysgrifenedig—credaf efallai mai Andrew R.T. Davies a'i gofynnodd—yn egluro nad uwchgynhadledd fwyd oedd hi, ond cyfarfod bord gron ar dlodi bwyd. Fe wnes ei fynychu, ond cafodd ei arwain gan Jane Hutt. Felly, yn amlwg, ni allaf egluro'r hyn rydych newydd ei ddweud wrthyf. Os ydych yn cyfeirio at y cyfarfod bord gron ar dlodi bwyd, fe ddigwyddodd hwnnw bythefnos yn ôl, rwy'n credu. Rwy'n sefyll wrth yr hyn a ddywedais—nid ydych yn deall o hyd sut y mae Llywodraeth yn gweithio. Nid oes angen uwchgynhadledd fwyd arnom. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r rhanddeiliaid yr ydych am imi gael yr uwchgynhadledd fwyd gyda hwy—y proseswyr, yr undebau llafur, y cyflenwyr bwyd, ac yn y blaen. Rwy'n cyfarfod â'r holl bobl hynny'n rheolaidd. Nid oes angen uwchgynhadledd arnaf i ddod â phawb at ei gilydd. Byddaf yn cwrdd â fy nghymheiriaid o Lywodraeth y DU, ac o'r Alban a Gogledd Iwerddon, lle byddwn yn trafod cyflenwad bwyd a diogeledd bwyd. Mae'n sefyllfa integredig i'r DU i raddau helaeth, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny ar lefel y DU.

Diolch yn fawr, Weinidog. Deallaf ein bod yn farchnad integredig iawn yma yn y DU, ond mae llawer o ysgogiadau y gall y Llywodraeth hon yng Nghymru eu cael o gynnull uwchgynhadledd fwyd. Fe wnaeth y Prif Weinidog gamsiarad felly pan ddywedodd fod uwchgynhadledd fwyd wedi bod—uwchgynhadledd tlodi bwyd oedd hi. Ac eto, rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn dod â'r bobl hyn at ei gilydd ar un cyfle i drafod yr hyn y gallwn ei wneud i helpu ein cymuned amaethyddol a sicrhau bod pobl Cymru yn parhau i gael bwyd ar eu byrddau.

Os caf symud ymlaen at y pwynt nesaf, yn wyneb yr holl heriau hyn, rhaid inni fod yn arloesol. Dyna pam fy mod yn hynod siomedig o glywed am eich gwrthwynebiad i Fil Technoleg Genetig (Bridio Manwl) Llywodraeth y DU—deddfwriaeth a fydd yn trawsnewid potensial technolegau ffermio newydd ledled y DU. Bydd y papur drafft hwn yn cael gwared ar fiwrocratiaeth ac yn cefnogi datblygiad technoleg arloesol i dyfu cnydau mwy gwydn, mwy maethlon a mwy ecogyfeillgar, yn ogystal â'r ffaith y bydd ei gyflwyno'n arf allweddol yn ein brwydr yn erbyn prinder bwyd yn y cadwyni cyflenwi. O ystyried hyn, ni allaf ddeall pam y mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod mabwysiadu'r ddeddfwriaeth bwysig hon, yn enwedig o ystyried bod rhanddeiliaid allweddol a'r gymuned wyddonol yn ei chefnogi. Weinidog, mae digon o gyfleoedd ar y bwrdd i gynyddu ein cynhyrchiant bwyd a chryfhau ein diogeledd bwyd. O ystyried hynny, pam eich bod yn fodlon cadw bwyd o Gymru oddi ar fyrddau pobl Cymru?

Wel, mae hynny'n hollol anghywir. Mae Llywodraeth y DU wedi rhuthro'r Bil hwn drwodd. Fe'i cyhoeddwyd heddiw. Mae'n Fil ar gyfer technoleg genetig a bridio manwl yn Lloegr yn unig. Os dywedaf wrthych—a dyma'r hyn a olygaf wrth 'nid ydych yn deall sut y mae Llywodraeth yn gweithio'—rhannwyd y drafft gyda fy swyddogion ddoe yn hwyr iawn yn y prynhawn. Nawr, efallai y gwelwch chi hynny'n ddoniol, ond i ni mae'r diffyg ymgysylltiad ar lefel y DU yn gwbl warthus ac yn amharchus iawn. Mae'r Bil yn cynnwys mesurau manwl y bydd angen eu hystyried yn ofalus. Ni allwch wneud y pethau hyn dros nos. Yn hwyr brynhawn ddoe, cawsom gopi o'r Bil drafft ac mae hynny'n cynnwys yr holl effeithiau posibl sy'n gysylltiedig â gweithrediad marchnad fewnol y DU. Rwy'n cytuno, mae'r technegau hynny'n arfau pwerus, ond rhaid ichi ddefnyddio'r pŵer hwnnw'n gyfrifol a rhaid ichi ystyried y rhain yn ofalus iawn. Felly, bydd y rhan hon o'r Bil yr ydych wedi cyfeirio ati yn cael ei harwain gan Weinidog yr Economi. Tybiaf y bydd yn ymateb pan fydd ei swyddogion yntau hefyd—oherwydd rwy'n tybio eu bod wedi'i gael ddoe—wedi cael cyfle i'w ystyried.

14:30

Diolch, a hoffwn ddiolch i chi, Weinidog, am ddod i sesiwn ddiweddaraf Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar ymchwilio i'r parthau perygl nitradau y mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi'u cymeradwyo. Fodd bynnag, rwy'n dal i fod yn wirioneddol bryderus ynghylch ansawdd y dystiolaeth. Rydych wedi datgan bod y terfyn rhanddirymiad o 170 kg yr hectar wedi'i sefydlu er mwyn mynd i'r afael â llygredd ffosfforws yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw'r terfyn hwn yn gysylltiedig â ffosfforws mewn unrhyw fodd; mae'n weithredol er mwyn rheoli'r rhanddirymiad o lefelau nitradau—nid yr hyn a ddywedoch chi yn y sesiwn dystiolaeth. Yn ddiweddarach, fe gyfeirioch chi at y gofod gofynnol ar gyfer storio slyri ar ôl cyflwyno eich rheoliadau mewn perthynas â pharthau perygl nitradau. Fodd bynnag, ni wnaethoch gyfeirio at y ffaith bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi nad oes modd cymharu mesuriadau o ofod storio, yn seiliedig ar ddeilliad dŵr glaw. Ac yn olaf, pan gawsoch chi a'ch swyddogion eich holi ynglŷn â'ch ymgysylltiad â rhanddeiliaid a chyflwyno mesurau rheoleiddio dŵr amgen, fe ddywedoch chi a'ch swyddogion mai'r dyddiad cau ar gyfer hynny yw 1 Medi eleni, gan olygu, yn ôl pob tebyg, na fyddai unrhyw beth a gyflwynir ar neu ar ôl 2 Medi yn cael ei ystyried. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gywir. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw mis yn ddiweddarach, ar 1 Hydref, dyddiad a roesoch chi a'ch swyddogion yn anghywir. 

Roedd cyfanswm o 21 o achosion, yma mewn du a gwyn, yn creu mwy o gwestiynau nag atebion i mi a fy nghyd-Aelodau, yn ymestyn o baragraff 13 o'r trawsgrifiad yr holl ffordd drwodd i baragraff 129 o'r trawsgrifiad. Mae'r rheoliadau hyn wedi bod ar y gweill drwy gydol y cyfnod yr ydych chi wedi bod yn Weinidog, ac eto mae ffeithiau sylfaenol mewn tystiolaeth sylfaenol yn anghywir. Fe wnaethoch chi ffit-ffatian ynghylch bwriad y Llywodraeth i gynnal uwchgynhadledd fwyd, cyn gwneud hynny dri mis yn ddiweddarach. Fe wnaethoch rwystro darn pwysig o ddeddfwriaeth, a oedd wedi'i sefydlu i gynyddu ein cynhyrchiant bwyd a chryfhau diogeledd bwyd, ac roedd eich cyflwyniad i'r pwyllgor yn frith o gamgymeriadau. Dywedwch wrthyf, Weinidog, pam y dylai'r byd amaethyddol yng Nghymru ymddiried ynoch?

Wel, gadewch imi dynnu sylw at eich camgymeriadau: nid ydym wedi cynnal uwchgynhadledd fwyd. Nid wyf wedi newid fy meddwl. Nid wyf wedi ffit-ffatian, fel y dywedwch chi. Ni chynhelir uwchgynhadledd fwyd yn y ffordd yr ydych chi'n ei ddymuno. Yr hyn y dywedais ei fod wedi'i gynnal oedd cyfarfod bord gron ar dlodi bwyd. Ac unwaith eto, os nad ydych chi'n gwybod y gwahaniaeth, nid oes unrhyw beth y gallaf ei ddweud am hynny.

Ac yn ail, nid wyf yn gwybod sawl gwaith y mae'n rhaid i mi ddweud wrthych: nid oes parthau perygl nitradau yng Nghymru mwyach. Rheoliadau llygredd amaethyddol yw'r rhain—nid oes parthau perygl nitradau yng Nghymru mwyach, felly credaf fod angen i chi gael eich ffeithiau'n iawn hefyd.

Ar y dyddiad 1 Medi, cefais wybod ddoe mai 1 Hydref ydyw, a byddaf yn ysgrifennu at eich Cadeirydd, Paul Davies, i gywiro hynny. Roeddwn i'n meddwl ein bod wedi cael sesiwn dystiolaeth dda iawn. Rwy'n falch ein bod wedi trafod, os yw pob yn credu y gallant ddod at ei gilydd gyda chynnig a fydd yn rhoi gwell canlyniad i ni neu'r un canlyniad â'r rheoliadau, fe gânt eu hystyried. Mae gennym un i mewn eisoes ac rwy'n gobeithio y bydd yna un arall y gallwn ei ystyried yn fuan. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dŷn ni wedi clywed heddiw yn barod am ddiogelwch bwyd, ac yn ystod yr argyfwng bwyd presennol sydd yn gwaethygu yn ddyddiol, mae’r Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau am lansio platfform newydd ar y cyd er mwyn mynd i'r afael â diogelwch cyflenwadau bwyd a nwyddau amaethyddol, gan wella mynediad byd eang i gnydau craidd a gwrteithiau o ranbarth ardal Rwsia ac Wcráin. Wrth gwrs, mae’r Undeb Ewropeaidd yn chwarae rhan ganolog er mwyn sicrhau polisïau diogelwch bwyd, ond does gan Lywodraeth Prydain, ac o ganlyniad i hynny, does gennym ni yma yng Nghymru, ddim llais yn hyn oherwydd ein bod ni bellach allan o'r Undeb Ewropeaidd.

Mae ffermwyr ledled Cymru, sydd eisoes yn wynebu costau uwch am danwydd a phorthiant anifeiliaid, wedi rhybuddio y byddan nhw'n gwrthbwyso'r prisiau uwch yma drwy brynu llai o wrtaith, a allai arwain at gynhyrchu llai o gnydau ar adeg pan fod cyflenwadau grawnfwydydd eisoes o dan fygythiad oherwydd y rhyfel.

Mae arbenigwyr o'r sector wedi dweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol fod angen iddynt ystyried ar frys ffyrdd o gynyddu ac arallgyfeirio cynhyrchu gwrtaith domestig. Pa drafodaethau, felly, ydych chi yn Llywodraeth Cymru yn eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol o ran diogelwch bwyd ac effaith prinder gwrtaith ar sector amaethyddol Cymru?

14:35

Diolch. Wel, eitem ar yr agenda oedd hon pan gyfarfuom fel pedair gwlad—ein grŵp rhyng-weinidogol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig—wythnos i ddydd Llun diwethaf, rwy'n credu. Ac rydych yn llygad eich lle, Llywodraeth y DU—. Rhoddaf enghraifft ichi: fe wnaethant sefydlu tasglu gwrtaith ac nid oeddent am i'r gweinyddiaethau datganoledig gymryd rhan o gwbl. Maent wedi ailfeddwl yn awr, ac rwy'n falch iawn fod fy swyddogion yn gallu bod yn rhan o'r tasglu hwnnw, oherwydd credaf y bydd yn ein helpu i gael llais mewn ffordd nad ydym wedi'i gael o'r blaen. Felly, credaf fod y cyfarfod cyntaf wedi'i gynnal yr wythnos diwethaf ac mae un arall wedi'i drefnu.

Mae'n bwysig iawn. Mae gennyf alwad yn nes ymlaen y prynhawn yma gydag Ysgrifennydd Gwladol DEFRA; rydym yn cadw mewn cysylltiad agos iawn ynglŷn â'r holl bryderon. Rydym yn sôn am dair elfen—porthiant, tanwydd a gwrtaith—gan eu bod yn cael effaith mor negyddol ar y sector amaethyddiaeth ar hyn o bryd. Credaf y dylem ychwanegu 'cyllid' ac 'effeithiau yn y dyfodol', oherwydd mae'n amlwg fod hwn yn fater hirdymor y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef yn awr. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau â'r sgyrsiau hynny. Mae fy swyddogion yn rhan o grwpiau gyda Llywodraeth y DU a'r Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae'r trafodaethau hyn yn mynd rhagddynt, ac maent yn sicr yn wythnosol ar hyn o bryd.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna.

Roedd yn dda eich clywed yn dweud, mewn ymateb i Llyr Gruffydd yn gynharach, eich bod yn pryderu am golli tir. Ac wrth gwrs, gwyddom fod gwerth uchel iawn i dir yma yng Nghymru ac mae angen inni ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd. Rydym eisoes wedi clywed heddiw am Gilestone, a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prynu fferm gyda thir amaethyddol da at ddibenion eraill. Gwyddom hefyd fod cwmnïau ariannol mawr yn ystyried prynu tir ffermio yma yng Nghymru at ddibenion plannu coed, sy'n golygu ein bod yn colli tir amaethyddol da. Ond mae ffigurau a gefais drwy gais rhyddid gwybodaeth yn dangos nad cwmnïau ariannol yn unig sy'n prynu tir ar gyfer plannu coed—mae Llywodraeth Cymru yn prynu tir amaethyddol o ansawdd da ar gyfer creu coetiroedd. Ar y cais rhyddid gwybodaeth sydd gennyf yma, mae Llywodraeth Cymru wedi prynu tir: £575,000 yn Rhuthun; £170,000 ym Mhenffordd-las; £260,000 yn y Drenewydd; £378,000 ym Mhorthaethwy; ac wrth gwrs, gwyddom am ystad Brownhill, sy'n werth £1.4 miliwn, yn Llangadog. Roedd hwnnw i gyd, mae'n dweud yn y fan hon, yn dir pori amaethyddol, ac mae'r rhesymau dros brynu yn ymwneud â chreu coetiroedd. Fel y Gweinidog amaethyddiaeth, a oeddech chi'n ymwybodol o hyn, ac a ydych yn falch o weld tir amaethyddol da yn cael ei brynu at ddibenion creu coetiroedd?

Fe roesoch chi restr eithaf hir i mi yno; ni allaf ddweud fy mod yn gwybod am bob un ohonynt. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol bod CNC, er enghraifft, wedi bod yn prynu tir hefyd, a chredaf ein bod i gyd yn cydnabod, onid ydym, ac yn sicr yn y trafodaethau a gefais gyda Cefin Campbell, fel yr Aelod dynodedig dros Blaid Cymru, fod angen inni weld cynnydd yn y ffordd yr awn i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac yn amlwg, mae coetir yn rhan o hynny. Rwy'n cael llawer o drafodaethau gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n amlwg yn arwain ar goetiroedd, ynghyd â'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar y tir sy'n cael ei brynu. Yn amlwg, ni ddylai ac ni allai'r wladwriaeth, yn realistig, brynu darnau mawr o dir, ond credaf mai'r hyn y mae angen inni edrych arno yw sut rydym yn ei ddefnyddio, yr hyn y caiff ei ddefnyddio ar ei gyfer, ac yn sicr, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Cefnogi Ffermwyr

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr ym Mhreseli Sir Benfro? OQ58072

Diolch. Derbyniodd ffermwyr yn sir Benfro dros £18 miliwn o daliadau cynllun y taliad sylfaenol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor hanfodol i dros 850 o fusnesau yn ardal Preseli sir Benfro.

Weinidog, un o'r materion pwysicaf sy'n wynebu ffermwyr ym Mhreseli sir Benfro, wrth gwrs, yw TB mewn gwartheg. Fel y gwyddoch, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar ar raglen Llywodraeth Cymru i ddileu TB mewn gwartheg. Un o bwyntiau allweddol yr adroddiad hwnnw yw'r angen i sicrhau bod ffermwyr, ac eraill yn wir sy'n ymwneud â dileu TB mewn gwartheg, yn cael eu trin fel partneriaid cyfartal gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu polisïau dileu TB. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym, Weinidog, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn awr i drin ffermwyr, a'r diwydiant ehangach yn wir, fel partneriaid cyfartal wrth ddatblygu polisi yn y dyfodol? Ac a wnewch chi ddweud wrthym sut y byddwch yn sicrhau y bydd ffermwyr yn teimlo'u bod wedi'u grymuso gan ddiweddariad y Llywodraeth o'r cynllun dileu TB, ar gyfer y dyfodol?

14:40

Diolch, ac rwyf wedi cael yr adroddiad yr wythnos hon gan eich pwyllgor, a byddaf yn sicr yn ymateb o fewn yr amserlen. Rwyf bob amser yn meddwl ein bod wedi trin pawb mewn perthynas â'r rhaglen dileu TB—ffermwyr, rhanddeiliaid eraill, a ninnau—credaf ein bod bob amser wedi gweithio'n agos iawn. Rydym bob amser wedi dweud ei fod yn fater o weithio'n agos os ydym am ddileu'r clefyd ofnadwy hwn. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi dechrau grŵp TB. Ni allaf gofio'i enw; rydym yn gweithio'n agos iawn gyda hwy. Rwy'n credu bod eich cyd-Aelod ar y meinciau cefn, Sam Kurtz, wedi cynnig cynorthwyo hefyd, a gwn fod ganddo gyfarfod gyda fy mhrif swyddog milfeddygol, Christianne Glossop, i drafod sut y gall helpu. Nid yw'r atebion i gyd gennyf, nid yw'r atebion i gyd gan Sam, ond mae'r ffaith ei fod eisiau gweithio gyda ni'n bositif iawn yn fy marn i.

Fel y gwyddoch, rydym newydd gynnal ymgynghoriad mewn perthynas â'r rhaglen dileu TB. Mae swyddogion wedi dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad erbyn hyn, a byddaf yn eu cyhoeddi ar-lein fis nesaf. Yn amlwg, bydd yr ymatebion hynny i'r ymgynghoriad, a fydd wedi dod gan ffermwyr yn bennaf, yn rhan bwysig iawn o'n diweddariad i'n rhaglen ddileu TB. 

Y Cynllun Taliadau Sylfaenol

4. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gyflwyno'r ffenestr ar gyfer gwneud taliadau o dan y cynllun taliadau sylfaenol yn gynnar? OQ58092

Diolch. Unwaith eto, fy mwriad yw gwneud taliadau cynnar ym mis Hydref. Er mwyn parhau i gefnogi ffermwyr, rwy'n lansio nifer o gynlluniau newydd eleni, gan barhau â'r cynllun taliad sylfaenol a Glastir hyd at ddiwedd 2023. 

Tynnaf sylw'r Aelodau at fy natganiad yng nghofnod buddiannau'r Aelodau. Weinidog, mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi dod â'r cyfnod talu ymlaen i fis Gorffennaf. Roeddech yn dweud mewn ymateb cynharach i gwestiwn fod angen pum elfen mewn gwirionedd yn hytrach na thair, ac un o'r rheini oedd cyllid. Mae'n hanfodol fod llif arian yn mynd drwy fusnesau ffermio, yn enwedig gyda chyfnod prysur yr hydref o'n blaenau yn awr, er mwyn gallu prynu hadau a stoc bridio. A fyddech yn ystyried cyflwyno'r cyfnod yn gynt, ym mis Gorffennaf hyd yn oed? Clywais yr hyn a ddywedoch chi am fis Hydref, ond gan ein bod bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, gallwch gyflwyno'r cyfnod hyd yn oed yn gynt, ac mae cael y cyllid hwnnw i gyfrifon banc ffermydd yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud fel Gweinidog. Felly, a gaf fi eich annog i ystyried hynny, Weinidog?

Credaf ei bod yn deg dweud bod y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU i gyflwyno taliad cynnar o 50 y cant o gynllun y taliad sylfaenol yn Lloegr yn ateb annigonol yn wyneb problem lawer iawn mwy yr argyfwng costau byw. Mae hefyd yn bwysig iawn, ac fe fyddwch yn gwybod yn well na neb—cafwyd gostyngiad mawr yng nghyllideb cynllun y taliad sylfaenol yn y DU, a dim ond y llynedd y cafodd y gyllideb honno ei lleihau, a hefyd, eleni bellach, mae wedi'i thorri dros 20 y cant, felly gostyngiad enfawr yng nghyllideb cynllun y taliad sylfaenol yn Lloegr. Fel y gwyddoch, ymgynghorais ar symleiddio cynllun y taliad sylfaenol yn ôl yn 2020, a chytunais ar gynnig y diwydiant ffermio i wneud taliadau cynnar o 70 y cant o werth yr hawliad ym mis Hydref, gyda'r gweddill sy'n ddyledus i ddod ym mis Rhagfyr. Cyflwynasom hynny y llynedd am y tro cyntaf, ac fel y dywedais, byddaf yn gwneud hynny eleni. 

Rwyf hefyd wedi rhoi sicrwydd llif arian i ffermwyr Cymru drwy gyflwyno, fel y dywedaf, y taliad y llynedd, ond hefyd, drwy gadw cyllideb cynllun y taliad sylfaenol ar £238 miliwn ar gyfer eleni. Rhaid imi ddweud, os siaradwch â'n rhanddeiliaid, maent wedi dweud wrthyf y byddant yn gwylio DEFRA yn agos iawn oherwydd eu bod o'r farn ei fod yn ateb annigonol. Maent yn falch iawn ein bod wedi rhoi sefydlogrwydd a hyder iddynt drwy'r gwaith a wnaethom ar gynllun y taliad sylfaenol. Mae'n gyfle da, mor agos â hyn at y dyddiad, i atgoffa pobl mai'r dyddiad cau terfynol a gyfer hawlio neu wneud cais am gynllun y taliad sylfaenol yw 10 Mehefin, ac rwyf am sicrhau bod pob hawliad yn cael ei ystyried yn briodol cyn inni wneud taliadau cynnar, ac nid wyf am greu risg o wneud taliadau anghywir ddim ond er mwyn ennill pennawd ffafriol. 

Argyfwng Costau ym Myd Amaeth

5. Pa gamau y mae Lywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i’r argyfwng costau ym myd amaeth? OQ58105

Diolch. Mae grŵp monitro marchnad amaethyddiaeth y DU yn cyfarfod yn rheolaidd i asesu cyfraddau chwyddiant costau mewnbwn. Ar 1 Ebrill cyhoeddais becyn cymorth i ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd sy'n werth dros £227 miliwn dros y tair blynedd nesaf, i gefnogi gwytnwch byd amaeth a'r economi wledig.

Diolch yn fawr iawn. Efo costau yn cynyddu gymaint, mae'n bwysicach nag erioed fod amaeth yn gallu bod mor gynhyrchiol â phosib, ac mae gwneud y defnydd gorau o'r tir gorau yn rhan o hynny. Dwi'n falch, yng nghyd-destun ceisiadau am gynlluniau solar, fod yna farn yn cryfhau rŵan fod angen cadw'r tir gorau a mwyaf amlbwrpas—the best and most versatile land—ar gyfer amaeth. Ac efallai y gall y Gweinidog gadarnhau hynny, wrth i ni yn Ynys Môn wynebu nifer uchel o geisiadau am ddatblygiadau solar. 

Ond yn dilyn ymlaen o gwestiwn Mabon ap Gwynfor, tybed all y Gweinidog ddweud ydy hynny yn berthnasol hefyd wrth i'r Llywodraeth ystyried ble i blannu coed. Mae'r Llywodraeth yn prynu tir ers rhai blynyddoedd erbyn hyn, ac, ar ôl deall bod tir yn Nhyn y Mynydd, ym Mhenmynydd yn Ynys Môn wedi ei brynu gan y Llywodraeth i blannu coed, ydy'r Gweinidog yn gallu dweud ydy hwnnw yn dir BMV ai peidio, achos siawns bod yr un egwyddor yn wir yn fan hyn hefyd?

14:45

Nid wyf wedi cael unrhyw sgwrs benodol gyda'r Gweinidogion newid hinsawdd ynghylch ffermydd solar a lle y cânt eu gosod, ond byddaf yn sicr yn gwneud hynny, ac fe ysgrifennaf at yr Aelod gyda rhagor o wybodaeth. 

Yn ôl ystadegau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae cyfraddau chwyddiant ar gyfer bwyd yn is yn y DU, diolch byth, nag yn ardal yr ewro a'r UE, ond nid yw hynny'n golygu nad yw ffermwyr yn gweld cynnydd sylweddol yn eu costau yn y wlad hon hefyd, ac yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd ym mhrisiau tanwydd, bwyd a gwrtaith, gan arwain at bwysau ychwanegol enfawr ar y diwydiant. Mae hyn yn creu pryder difrifol yn y sector amaethyddol yn fy rhanbarth ac mae llawer o bobl yn poeni am eu busnesau, lle bydd yn effeithio ar ffermwyr bach yn arbennig, gan greu perygl gwirioneddol y bydd rhai o'r busnesau hyn yn lleihau faint o fwyd y maent yn ei gynhyrchu neu y bydd rhai'n mynd yn fethdalwyr. O ystyried difrifoldeb y sefyllfa, a chyda'r posibilrwydd gwirioneddol na fydd rhai bwydydd ar gael mor rhwydd yn y tymor byr ag y maent wedi bod yn y gorffennol, dyma'r amser i roi camau sylweddol ar waith yn awr. Mae angen inni sicrhau twf cynaliadwy'r sector bwyd i greu swyddi a denu buddsoddiad a sicrhau bod cynhyrchwyr bwyd lleol cynaliadwy yn gallu cael cymorth a chymhellion digonol. Mae ffactorau rhyngwladol, y rhyfel yn Wcráin yn bennaf, wedi golygu yn awr yn fwy nag erioed fod angen inni sicrhau ein bod yn cynhyrchu mwy o fwyd nag erioed mewn modd cynaliadwy yma yng Nghymru. Felly, gyda hynny mewn golwg, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gefnogi Bil bwyd fy nghyd-Aelod, Peter Fox, a fyddai'n cyflawni hynny? 

Wel, fel y gwyddoch, nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bil bwyd Peter Fox. Mae Peter a minnau wedi cyfarfod, ac mae Peter yn ymwybodol iawn o'r rhesymau pam nad ydym yn cefnogi'r Bil bwyd. Credaf y gallwn wneud llawer o awgrymiadau Peter, sy'n rhai da iawn, heb ddeddfwriaeth, a byddwn yn hapus iawn i barhau i weithio gydag ef a chyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio, gan fwrw ymlaen â'r strategaeth bwyd cymunedol, a fydd, yn fy marn i, yn cwmpasu llawer o'r cynigion ym Mil Peter Fox. Fe wnaethoch ofyn eich cwestiwn heb unrhyw ymdeimlad o eironi. Rhaid imi ddweud bod chwyddiant ar lefel sy'n peri llawer iawn o bryder; mae ar lefel uwch nag a welsom yn y wlad hon ers blynyddoedd lawer, a dyna pam y mae'n bwysig iawn fod Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw hwn. 

Prynhawn da, Weinidog. A gaf fi ddechrau drwy ofyn i chi ddiolch i'r Prif Weinidog am ymuno â mi ar ymweliad â fferm ym Merthyr Cynog, lle y clywsom am lawer o'r pwysau sy'n wynebu ffermwyr a'r sector ffermio? Ond hoffwn sôn am un o'r pynciau allweddol y clywsom amdano yn y sesiwn hon, sy'n ymwneud â'r pwysau ar ffermwyr ar hyn o bryd gyda'r argyfwng gwirioneddol sy'n bodoli. Ac ysgrifennais atoch chi, gyda fy nghyd-Aelodau, Sam Kurtz a Mabon ap Gwynfor, yn dilyn cyfarfodydd a gawsom gyda'r FUW yn gynharach y mis hwn. Clywsom am y costau anhygoel sy'n wynebu ein ffermwyr a'n busnesau fferm ledled Cymru, a gallaf weld, hyd yma, fod rhai o'r camau y gofynnwyd ichi eu cymryd y tu allan i'ch pwerau chi a'r tu allan i bwerau Llywodraeth Cymru, ond efallai fod rhai syniadau a materion y gallai Llywodraeth Cymru eu hystyried. Felly, yn ein llythyr, rydym wedi gofyn i chi ystyried cyfarfod bord gron brys ar yr argyfwng costau sy'n wynebu'r byd amaeth a ffermwyr, ac rwy'n gobeithio y byddech yn ystyried bwrw ymlaen â hwnnw er mwyn clywed rhai o'r syniadau a'r awgrymiadau a allai fod gan bobl. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch. Nid wyf yn ymwybodol fy mod wedi gweld y llythyr hwnnw gan y tri ohonoch, ond yn sicr, ar ôl i mi ei gael, byddaf yn ystyried ei gynnwys ac yn ymateb yn unol â hynny.  

Canolfannau Ailgartrefu Anifeiliaid

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi canolfannau ailgartrefu anifeiliaid i ymdopi â phwysau cynyddol yn dilyn pandemig COVID-19? OQ58106

Mae arolwg gan yr elusen Association of Dogs and Cats Homes ar effaith coronafeirws ar sefydliadau achub anifeiliaid yng Nghymru yn amlinellu'r pwysau cynyddol sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd. Mae fy swyddogion yn ystyried yr arolwg a pha gamau posibl y gellir eu cymryd ohono mewn ymgynghoriad â'n partneriaid yn y trydydd sector.

O'r gorau. Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi siarad â llawer o ganolfannau ailgartrefu sy'n cael trafferth gyda chapasiti, wedi'u heffeithio gan ddiffyg lle i gŵn a achubwyd oherwydd yr amser y mae'n ei gymryd rhwng ymafael ynddynt a chynnal achos adran 20 i allu eu trosglwyddo. Mae canolfannau achub yn gorfod cadw cŵn a achubwyd am ymhell dros flwyddyn mewn rhai achosion, ac ni allant eu hailgartrefu tra bo achos yn mynd rhagddo. Mae hyn yn rhoi straen ariannol ar y canolfannau, ac mae hefyd yn golygu bod anifeiliaid yn gorfod aros hyd yn oed yn hirach i ddod o hyd i gartref am oes. Roedd deddfwriaeth yn yr Alban a gyflwynwyd y llynedd yn lleihau'r amser rhwng ymafael mewn ci i allu ei ailgartrefu i ddim ond tair wythnos. Rwy'n credu eu bod yn cael eu hailgartrefu tra bod eu hachos yn mynd rhagddo. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cyflwyno deddfwriaeth debyg, ac os nad ydyw, beth yw'r rhwystrau rhag gwneud hynny. Diolch.

14:50

Diolch. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth a drafodais gyda Hope Rescue yr wythnos diwethaf yn nigwyddiad Paws Luke Fletcher yn y Bae oherwydd ei fod yn rhywbeth yr oeddent yn amlwg yn bryderus iawn yn ei gylch. Gwn fod fy swyddogion mewn cysylltiad â Llywodraeth yr Alban i ddeall mwy am y newidiadau diweddar i amseroedd rhwng ymafael mewn cŵn ac ailgartrefu ac i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei ddysgu neu a oes angen inni wneud unrhyw beth. Fel y gwyddoch, dywedais mewn ateb cynharach i Jayne Bryant ar y cynllun lles anifeiliaid ein bod yn bwriadu cryfhau gofynion trwyddedu ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu, gan gynnwys llochesau, ac yn amlwg, byddwn yn ymgynghori ar gwmpas unrhyw ddeddfwriaeth newydd.

Grŵp Ymgynghorol ar Bysgodfeydd Morol

7. Pa ymgynghoriad mae'r Gweinidog wedi ei gael gyda physgotwyr ynghylch sefydlu grŵp ymgynghorol ar bysgodfeydd morol? OQ58103

Diolch. Mae fy swyddogion yn cael trafodaethau rheolaidd gyda physgotwyr Cymru ar ystod eang o faterion, gan gynnwys sefydlu grŵp cynghori gweinidogol newydd ar gyfer pysgodfeydd. Cynhaliwyd y drafodaeth ddiweddaraf ar y mater yr wythnos diwethaf, ar 18 Mai. Bydd y grŵp yn cael ei sefydlu ym mis Gorffennaf, cyn toriad yr haf.

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb. Fel rydych chi'n gwybod, roedd yna grŵp WMFAG—Wales marine fisheries advisory group—yn arfer bodoli, yn fforwm ar gyfer rhanddeiliad yn y sector bysgota er mwyn rhannu gwybodaeth, profiad ac arbenigedd. Yn anffodus, ddaru WMFAG ddirwyn i ben tua tair blynedd yn ôl, a does yna ddim fforwm wedi bod i bysgotwyr ers hynny. Er gwaethaf hynny, mae yna fforwm wedi bod ar gyfer y trydydd sector a rhanddeiliaid eraill sydd yn ymddiddori mewn materion morol. Rydyn ni'n clywed yn aml iawn, a chithau fel Gweinidog a Gweinidogion eraill yn sôn droeon, am yr angen i gyd-lunio a chyd-greu polisïau. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael efo'r sector bysgota er mwyn cyd-lunio a chyd-greu y strwythurau ymgysylltu wrth inni symud ymlaen i ailsefydlu y grŵp yma?

Diolch. Fel y gwyddoch, pan ddaeth cyfnod y cadeirydd blaenorol yn y grŵp cynghori ar bysgodfeydd môr i ben, cymerais hynny fel cyfle i adolygu'r grŵp a daeth i'r casgliad bod angen inni symud tuag at ddull gwahanol o weithredu a pheidio â disgwyl i un grŵp yn unig wneud popeth a ddisgwylid gan y grŵp cynghori ar bysgodfeydd môr. Rydym mewn byd cwbl newydd yn awr ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac roeddwn yn meddwl mai dyna'r cyfle gorau i wneud hynny, mae'n debyg. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod ychydig o oedi wedi bod cyn sefydlu'r grŵp. Roeddwn wedi gobeithio gwneud hynny yn y gwanwyn, ond fel y dywedais, fe wnawn hynny cyn inni gychwyn ar doriad yr haf eleni.

Er mwyn tawelu meddyliau'r Aelodau, mae gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi parhau. Maent wedi bod yn gefnogol iawn, er enghraifft, wrth gyflwyno—rydym wedi cael elfen newydd o reoli pysgodfeydd, fel y gwyddoch, gyda mesurau rheoli cregyn moch—Gorchymyn Trwydded Bysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021, ac yn sicr roeddent yn ddylanwadol iawn wrth gyd-gynllunio hynny gyda ni. Felly, nid wyf am ichi feddwl nad yw'r gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi parhau. Rwyf wedi cyfarfod â hwy, mae fy swyddogion yn cyfarfod â hwy'n rheolaidd, rydym yn gweithio ar y datganiad pysgodfeydd ar y cyd ar lefel pedair gwlad, fel y gwyddoch, ac mae gennym gynllun yn lle Cronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop. Mae materion gwyddoniaeth yn codi bob amser, mae materion masnach yn codi bob amser, yn amlwg, rydym wedi bod drwy'r holl drafodaethau gyda'r UE ac rydym wedi gorfod ymdrin â'r trwyddedau dyrannu cwota, materion rheoli pysgodfeydd. Felly, mae'r ymgysylltiad hwnnw wedi parhau drwy gydol y broses.

Hoffwn ddweud hefyd, Lywydd, fy mod yn croesawu grŵp trawsbleidiol y Senedd ar bysgodfeydd a dyframaethu y gwn eich bod yn ei gadeirio ac a gyfarfu am y tro cyntaf yr wythnos hon, ac edrychaf ymlaen at ddod i un o'ch cyfarfodydd, os hoffech fy ngwahodd.

Cynhyrchiant Amaethyddol

8. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddarparu cymhellion i hybu cynhyrchiant amaethyddol yng Nghymru yn sgil chwyddiant cynyddol? OQ58091

Diolch. Mae Cyswllt Ffermio yn darparu rhaglen drosglwyddo gwybodaeth, cyngor arbenigol ac arloesedd, ac mae'n cynorthwyo busnesau fferm i leihau costau a sicrhau'r arbedion effeithlonrwydd mwyaf posibl. Ar 1 Ebrill, cyhoeddais becyn cymorth gwerth dros £227 miliwn dros y tair blynedd ariannol nesaf i gefnogi gwytnwch yn yr economi wledig.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr, wedi rhybuddio am gynnydd—nid wyf byth yn gallu dweud hyn—

Ni allaf byth ddweud y gair hwnnw. Ie—am gynnydd ym mhrisiau bwyd yn fyd-eang. Yn wir, mae prisiau'n codi'n gyflymach nag y gwnaethant ers 30 mlynedd. Nid wyf yn credu bod y Llywodraethwr yn gwbl gywir ein bod yn ddiymadferth yn wyneb chwyddiant cynyddol. Mae yna gamau y gallwn eu cymryd yma i geisio lliniaru rhywfaint ar chwyddiant yng nghostau bwyd. Gallem gynyddu cynhyrchiant bwyd yma yng Nghymru. Mae David Edwards, cadeirydd sirol NFU Cymru ar gyfer sir Fynwy, am weld Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y cyflenwad parhaus o fwyd fforddiadwy o ansawdd uchel a gynhyrchir yn y wlad hon yn flaenoriaeth genedlaethol strategol. Nawr, ar 11 Mawrth, gofynnais a fyddech yn cefnogi ffermwyr âr Cymru i aredig unrhyw dir a neilltuwyd, o ystyried effaith y rhyfel yn Wcráin ar rawn, ac fe wnaethoch chi ymateb yn yr un mis gan ddatgan,

'nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gefnogi ffermwyr âr Cymru i aredig tir a neilltuwyd o dan gynllun Glastir'.

A wnewch chi ystyried y cais hwnnw eto, Weinidog, er mwyn gallu gofyn i ffermwyr aredig y tir hwn a neilltuwyd inni allu hybu bwyd a gynhyrchir yn ddomestig yma yng Nghymru? Diolch.

14:55

Yn anffodus, nid wyf mor optimistaidd â Janet Finch-Saunders nad yw Llywodraethwr Banc Lloegr yn gywir. Yn anffodus, mae'r holl dystiolaeth a welwn yn dynodi cynnydd sylweddol, ac mae arnaf ofn fod hyd yn oed Gweinidogion Llywodraeth y DU yn codi eu hysgwyddau pan soniwch am brisiau bwyd cynyddol, ac ymddengys eu bod yn meddwl mai dyna sy'n mynd i ddigwydd.

Soniais am y £227 miliwn a gyhoeddwyd gennym ar gyfer y tair blynedd nesaf i gefnogi ein sector amaethyddol, ac mae sawl cyfnod cyflwyno ceisiadau eisoes ar agor. Agorwyd cyfnod arall ar gyfer cyflwyno ceisiadau yr wythnos hon a dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd hynny'n golygu bod gennym naw grant a chynllun gwahanol yn weithredol. Yn rhan o'r rheini, efallai y gallwn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud. Yn sicr, mae yna gyfnod penodol ar gyfer cyflwyno ceisiadau eisoes ar agor mewn perthynas â garddwriaeth, er enghraifft.

Gwrtaith Amaethyddol

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd gwrtaith amaethyddol yng Nghymru? OQ58083

Mae Llywodraeth Cymru yn monitro argaeledd a chost yr holl fewnbynnau amaethyddol yn fanwl drwy grŵp monitro marchnad amaethyddol y DU a thasglu gwrtaith y DU. Mae'r dadansoddiad presennol yn dangos nad oes unrhyw broblemau gyda'r cyflenwad gwrtaith yng Nghymru, ond gall anwadalrwydd prisiau nwy arwain at amrywiadau pellach yn y prisiau.

Diolch, Weinidog, a diolch, Lywydd. Hoffwn atgoffa'r Aelodau o fy muddiant fel ffermwr, fel y nodwyd yn fy nghofnod buddiannau, er nad wyf yn defnyddio gwrtaith mewn gwirionedd.

Fel y clywsom, Lywydd, mae'r sector amaethyddol—ac rydym wedi'i glywed droeon heddiw—yn wynebu cyfnod ansicr. Er enghraifft, ceir nifer o bryderon ynghylch argaeledd a chost gwrtaith ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, sy'n ystyriaeth hanfodol i gynifer o fusnesau ac sy'n allweddol i'n diogeledd bwyd. Disgwylir y bydd prisiau gwrtaith tymor newydd yn dechrau dod yn fwy clir wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi, gyda chynhyrchwyr angen prynu gwrtaith i baratoi ar gyfer tymor tyfu y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae undebau'r ffermwyr a llawer o gynhyrchwyr wedi mynegi pryderon y gallai'r ansicrwydd presennol yn y farchnad annog ffermwyr i ymatal rhag prynu gwrtaith tan y flwyddyn nesaf. Byddai hyn yn creu heriau pellach, gan fod perygl na fydd digon o gapasiti cyflenwi i ateb pwysau'r galw yn y dyfodol. Weinidog, roeddwn yn falch o glywed eich bod yn siarad â Llywodraeth y DU, ond pa sgyrsiau yr ydych yn eu cael gyda chynhyrchwyr a'r diwydiant gwrtaith i helpu'r sector i barhau i allu fforddio cynnyrch gwrtaith ar adeg anodd? Efallai fod elfen arall yn berthnasol o ran y modd y caiff cymorth ychwanegol ei roi. Sut y mae'r Llywodraeth yn monitro cyflenwad a galw i sicrhau y gellir mynd i'r afael ag unrhyw ansicrwydd yn y dyfodol mewn modd amserol?

Diolch. Rydym yn sicr yn cydnabod ansicrwydd y cyfnod hwn am amryw o resymau i'r sector amaethyddol yn ei gyfanrwydd, a soniais fod fy swyddogion yn mynychu grŵp monitro'r farchnad amaethyddol, a dyna lle rydym yn monitro'n agos iawn yr hyn sy'n digwydd yn ein sector ni yma yng Nghymru wrth gwrs. Cyfarfûm â ffermwr—ni allaf gofio ai yn y Siambr neu mewn pwyllgor lle y trafodais hyn—a oedd wedi prynu cyflenwad o wrtaith ym mis Chwefror, a phan welais ef oddeutu tair wythnos yn ddiweddarach, roedd y gwrtaith wedi codi dair gwaith yn ei bris, a dywedodd wrthyf, 'Nid wyf yn gwybod a ddylwn ei wasgaru neu ei werthu'. Rwy'n credu ei fod yn tynnu coes, ond roeddwn yn deall yn llwyr y pryderon a oedd ganddo am y pris.

Credaf fod hwn yn fater hirdymor wrth gwrs. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i siarad â'n rhanddeiliaid. Soniais fy mod yn siarad â rhanddeiliaid yn rheolaidd. Un rhanddeiliad arall y siaradais ag ef oedd y banciau, oherwydd roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn asesu eu safbwyntiau, ac mae effaith y rhyfel ar fusnesau amaethyddol yn rhywbeth y bydd yn rhaid iddynt fynd i'r afael ag ef wrth gwrs. Felly, byddwn yn parhau i gefnogi'r diwydiant. Rydym yn meddwl—. Wel, nid ydym yn meddwl, rydym yn mynd i sefydlu hyb er mwyn inni allu cyfeirio pobl yn llawer cyflymach nag a wnawn yn awr at gyngor ac arweiniad ar y ffordd orau o ymateb i'r costau mewnbwn uchel iawn a welwn.

15:00
Diwydiant Amaethyddol Sir Drefaldwyn

10. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant amaethyddol yn sir Drefaldwyn? OQ58088

Diolch. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cefnogi’r diwydiant amaethyddol yn rhanbarth Powys drwy roi dros £63 miliwn o daliadau cynllun y taliad sylfaenol i ffermwyr. Mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor hollbwysig i gannoedd o fusnesau yn yr ardal.

Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, yr hyn sydd ei angen ar ffermwyr yn fy etholaeth i, ac ar draws Cymru gyfan mewn gwirionedd, yw cyfeiriad clir ym mholisi’r Llywodraeth. Roedd y Bil amaethyddol i fod i gael ei gyflwyno yn y gwanwyn eleni, ond ni ddigwyddodd hynny wrth gwrs. Weinidog, a wnewch chi egluro pam nad yw’r Bil wedi cael ei gyflwyno eto, pryd y bwriadwch gyflwyno’r Bil bellach, a hefyd unrhyw faterion ehangach mewn perthynas â chefnogi’r diwydiant amaethyddol a chyfeiriad y Llywodraeth?

Wel, credaf ein bod wedi cael llawer o gwestiynau ynglŷn ag amaethyddiaeth heddiw, felly rwy’n credu fy mod wedi nodi’r gefnogaeth sydd gennym ar waith yn glir iawn. Dychwelaf at yr hyn roeddwn yn ei ddweud ynglŷn â pham nad yw’r Ceidwadwyr yn deall llywodraeth. Felly, mae Aelodau eraill o'ch grŵp wedi gofyn i mi, 'A gawn ni edrych ar y Bil amaethyddiaeth'—mae Andrew R.T. Davies yn un sydd wedi gofyn i mi sawl gwaith am gael oedi’r Bil i gael golwg ar effaith rhyfel Wcráin, ac effaith y cytundebau masnach. Felly, rydym yn gwneud hynny ac yn cael ein beirniadu. Rwy’n meddwl mai’r hyn sy’n wirioneddol bwysig yw ein bod yn cyflwyno’r cynllun ffermio cynaliadwy cyn gynted â phosibl. Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn fod gennym y cynllun hwnnw’n barod cyn sioeau’r haf fel y gallwn ymgysylltu, oherwydd yn y pen draw rwy’n meddwl y bydd gan fwy o bobl ddiddordeb yn y cynllun nag a fydd ganddynt yn y Bil. Felly, mae'n bwysig iawn inni gyflwyno’r cynllun. Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda Phlaid Cymru, fel rhan o’r cytundeb cydweithio, ar y cynllun ffermio cynaliadwy, a gallaf sicrhau pawb y bydd hwnnw’n barod cyn sioeau’r haf fel y gallwn gael yr ymgysylltiad hwnnw. Bydd y Bil amaethyddiaeth, rwy’n gobeithio, yn cael ei gyflwyno ym mis Medi.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiwn amserol, ac mae'r cwestiwn i'w ateb gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ac i'w ofyn gan Tom Giffard. 

Llety Hunanarlwyo

1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu dosbarthiad llety hunanarlwyo at ddibenion treth leol? TQ630

Ar 24 Mai, nodais y ddeddfwriaeth sy’n ofynnol i newid y trothwyon hunanddarpar. Roedd hyn yn dilyn fy nghyhoeddiad ar 2 Mawrth ac ymgynghoriad technegol. Bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym ar 14 Mehefin, ond bydd iddi rym ymarferol o 1 Ebrill 2023 ymlaen.

Diolch i’r Gweinidog am yr ateb. A gaf fi ddechrau drwy ddweud pa mor siomedig yw gweld newid mor sylweddol yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru mewn datganiad ysgrifenedig, a’i bod wedi cymryd cwestiwn amserol i’ch llusgo chi yma i lawr y Senedd i egluro’r—

Atebais gwestiwn ar hyn yn ystod y cwestiynau y prynhawn yma. Buom yn ei drafod ychydig wythnosau yn ôl. Dewch.

—newidiadau hyn? Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Peter Fox, yn gynharach, mae’r newid hwn wedi bod yn ysgytwad i’r diwydiant gwyliau hunanddarpar yng Nghymru. Nid wyf yn gwybod sut y gallaf fod yn gliriach na hyn, Weinidog: bydd yn rhaid i fusnesau ledled Cymru gau o ganlyniad i’r newidiadau hyn. Roedd y sector ei hun hyd yn oed yn agored i newid y meini prawf. Fe wnaethant ofyn i chi godi’r trothwy i 105 o ddiwrnodau cymwys, cynnydd o’r 70 presennol, ond cawsant eu hanwybyddu o blaid y targed hwn, y mae’r rhan fwyaf o weithredwyr yn dweud na fyddant yn ei gyrraedd. Ond efallai mai’r neges fwyaf llwm yn eich datganiad ysgrifenedig yw lle y dywedoch chi:

'Prin yw’r dystiolaeth sydd ar gael mewn perthynas â rhai o’r ystyriaethau hyn'.

Weinidog, anfonwyd mynyddoedd o dystiolaeth atoch gan gyrff, grwpiau a busnesau perthnasol. Dyma gyflwyniad Cynghrair Twristiaeth Cymru yn unig—dros 1,500 o atebion yn y fan honno. Ac yn yr ymgynghoriad hwnnw, roedd llai nag 1 y cant o gyfanswm yr ymatebwyr mewn gwirionedd yn cytuno â chynllun Llywodraeth Cymru i godi'r trothwy i 182 diwrnod. Weinidog, beth yw’r pwynt cael ymgynghoriad os nad ydych am wrando arno? Ein hetholwyr chi a minnau yw’r rhain, ac maent yn byw mewn lleoedd fel penrhyn Gŵyr, ac maent wedi cael eu hanwybyddu’n llwyr o blaid bargen ystafell gefn gyda’ch partneriaid clymblaid ym Mhlaid Cymru.

A hyd yn oed yn eich datganiad eich hun, rydych yn dweud,

‘Rwy’n cydnabod y gallai’r meini prawf cryfach fod yn heriol i rai gweithredwyr eu bodloni.’

Ond nid ydych yn cynnig unrhyw atebion o gwbl ynglŷn â sut y gallant oresgyn yr heriau. Ni allaf ond tybio felly, Weinidog, eich bod yn fodlon i'r busnesau hynny gau eu drysau am byth. Ac wrth iddynt gau’r drysau hynny, rwy’n meddwl mai un o Weinidogion eich Llywodraeth a ddywedodd y peth orau pan ddywedodd,

‘nid ydym yn gwybod yn iawn beth rydym yn ei wneud ar yr economi.’

Felly, Weinidog, os gwelwch yn dda a wnewch chi ailystyried y penderfyniad gwarthus hwn a fydd yn cau busnesau ar hyd a lled y wlad, ac yn hytrach, a wnewch chi ystyried cefnogi, yn hytrach na threthu, y busnesau hyn?

Cyn i’r Gweinidog ateb y cwestiwn, gadewch i mi fod yn glir: nid oedd angen iddi gael ei llusgo i’r Siambr; mae'n Weinidog sy'n cydweithredu'n dda drwy gytuno i ateb y cwestiwn amserol wedi i mi benderfynu y gellid ei ofyn. Felly, nid oedd angen unrhyw lusgo.

Wel, mae’n peri dryswch i mi pam y byddai unrhyw un yn synnu at y cyhoeddiad sydd wedi’i wneud, o ystyried, fel y dywedoch chi, fod ymgysylltu enfawr wedi bod: cafwyd 1,500 o ymatebion gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, ac roeddem yn amlwg yn ddiolchgar amdanynt; 1,000 o ymatebion i’n hymgynghoriad gwreiddiol, a 500 o ymatebion i’n hymgynghoriad technegol. Felly, nid wyf yn deall sut y gall unrhyw un synnu a methu rhagweld penderfyniad ar hyn. Fe wnaethom ymdrechu'n galed iawn i fod mor gynhwysol ag y gallem wrth ddatblygu'r materion penodol hyn.

Mae’n wir mai bwriad y newidiadau hyn yw sicrhau bod busnesau hunanddarpar yn gwneud cyfraniad teg i’r economi leol. Nawr, pwy allai wrthwynebu hynny ar wahân, efallai, i'r Ceidwadwyr Cymreig? Lle y caiff eiddo ei osod ar sail fasnachol am 182 diwrnod neu fwy, credaf ei bod yn deg cydnabod y bydd y busnes hwnnw'n cyfrannu at yr economi leol. Bydd yn cynhyrchu incwm a bydd yn creu swyddi, ac rydym yn gwybod y bydd digon o fusnesau yn gallu cyrraedd y trothwy hwnnw. I'r rhai na allant, mae opsiynau ar gael iddynt, yn amlwg—rwy’n synnu bod yn rhaid imi eu nodi. Gallai newid y model busnes fod yn un opsiwn, neu gallai gosod yr eiddo ar sail hirdymor, fel eiddo rhent ar gyfer unigolyn neu deulu lleol, fod yn opsiwn arall iddynt ei ystyried.

Felly, mae yna ddewisiadau, a hefyd mae yna amser. Gwneuthum y cyhoeddiad gwreiddiol hwn ar 2 Mawrth. Cawsom gyfle i’w drafod mewn dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar dwristiaeth yn weddol ddiweddar. A hefyd ni fydd y newidiadau’n dod i rym tan 1 Ebrill 2023. Felly, mae amser wedi bod i ystyried sut y bydd busnesau’n addasu ac yn ymateb i’r newidiadau. Ond mae hyn yn rhan o’r gwaith a wnawn mewn partneriaeth â Phlaid Cymru, ac mae’n rhan o’n dull triphlyg o ymdrin â phroblem wirioneddol ail gartrefi mewn cymunedau ledled Cymru.

15:05

Diolch i fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, am gyflwyno cwestiwn pwysig iawn y prynhawn yma. Ac mae'n siomedig, fel y soniodd Tom Giffard, fod hyn wedi'i gyflwyno ar ffurf datganiad ysgrifenedig yn hytrach na datganiad priodol yma yn y Siambr. Fel y gwyddoch, Weinidog—. Rydych yn sôn bod yr economi ymwelwyr yn gwneud cyfraniad priodol; fe fyddwch yn gwybod yn iawn ei fod yn cyflogi tua 140,000 o bobl yn y wlad hon, gan gyfrannu dros £6 biliwn i'r economi yma. Rydym yn sôn am gyfraniad i Gymru sy'n rhoi bwyd ar fyrddau dros 140,000 o bobl ac yn rhoi toeau dros eu pennau hefyd. Dyma'r bobl sydd â phryderon mawr am y cynigion a amlinellwyd gennych yma. 

O ran darparu'r dystiolaeth y soniodd Tom Giffard amdani, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth ar 30 Mawrth, a gofynnodd swyddogion o'r Llywodraeth i'r rhai a oedd yn bresennol ddarparu rhwng 10 ac 20 o astudiaethau achos i ddisgrifio effaith y cynigion hyn. O fewn pedwar diwrnod—o fewn pedwar diwrnod—cyflwynwyd 400 o astudiaethau achos, yn amlinellu eu pryderon—gan fynd o gais am 10 i 20, o fewn pedwar diwrnod, i gyflwyno 400 o astudiaethau achos, sy'n dangos lefel y pryder. Ac yng ngeiriau Cynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU eu hunain, yn yr adroddiad y maent wedi'i gyflwyno i chi: 'Mae ein tystiolaeth yn dangos y bydd llawer o ficrofusnesau teuluol bach lleol yn cau.'

Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, pam eich bod chi a Gweinidog yr Economi yn anwybyddu barn y sector hynod bwysig hwn, a sut y gallwch fwrw ymlaen â'ch newidiadau arfaethedig pan fo'r pryderon difrifol iawn hyn wedi'u disgrifio i chi? 

Rydym wedi bod yn glir iawn ac wedi edrych ar y dystiolaeth sydd ar gael, ac mae'n wir nad oes llawer iawn o dystiolaeth ar gael y tu hwnt i'r hyn a gafwyd drwy'r ymgynghoriad a'r hyn a ddarparwyd yn ogystal gan Gynghrair Twristiaeth Cymru. Ond rwy'n credu mai un o'r mannau lle y gallwn edrych am dystiolaeth ddibynadwy yw arolwg defnydd llety twristiaeth Cymru, ac mae hwnnw'n dangos, dros y dair blynedd cyn y pandemig coronafeirws, fod defnydd o eiddo hunanddarpar yng Nghymru yn gyson yn fwy na 50 y cant ar gyfartaledd. Felly, ni fydd yr eiddo hunanddarpar cyfartalog yn cael trafferth bodloni'r trothwyon a nodwyd gennym. 

Ac rwy'n credu ei bod yn deg fod busnesau'n gwneud cyfraniad i'r cymunedau y maent wedi'u lleoli ynddynt, ac rwy'n synnu y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu hynny. Rwyf eisoes wedi nodi fy mod yn barod i edrych ar eithriadau mewn perthynas ag eiddo sydd â materion cynllunio ynghlwm wrtho. Felly, mae hynny'n rhywbeth y mae swyddogion yn ei archwilio ar hyn o bryd. Ond mewn gwirionedd mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau a cheisio lleihau nifer yr eiddo a danddefnyddir yng Nghymru, pan fo cymaint o bwysau ar ein marchnad dai.

15:10

Weinidog, clywsoch fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog ddoe. Nid wyf am drafod y mater hwnnw'n fanwl eto, ond hoffwn wybod, ar yr enghraifft benodol honno, sut y byddech yn cynghori busnes sydd wedi arallgyfeirio efallai, busnes ffermio sydd wedi cyflwyno llety gwyliau na ellir ei ddefnyddio fel ail gartref, a bod ganddynt ganiatâd cynllunio, nid ar gyfer anheddau, ond ar gyfer defnydd llety? A hefyd, ceir llawer o fusnesau ledled Cymru nad ydynt yn byw mewn ardal o Gymru lle y gallant ddenu pobl i aros mewn tai gwyliau am dros chwe mis o'r flwyddyn. Nid yw'n bosibl. Nid yw'r farchnad yn atyniadol i dwristiaid ar gyfer y chwe mis hynny o'r flwyddyn. Weinidog, fe allwch ddeall bod hwn yn ganlyniad anfwriadol i'r rheoliad yr ydych wedi'i gyflwyno. Sut y byddech chi—? Beth fyddech chi'n ei gynnig yn ateb i'r busnesau sydd yn y sefyllfa honno?

Heb wybod holl fanylion y busnes—. Wyddoch chi, nid wyf am ddarparu cyngor unigol, pwrpasol, ond rwyf am ddweud, am y trydydd tro heddiw, fy mod eisoes wedi dweud y byddaf yn ceisio gwneud eithriadau ar gyfer eiddo sydd â chyfyngiadau cynllunio ynghlwm wrthynt—felly, er enghraifft, eiddo wedi'i ddargyfeirio sydd ond ar gael i'w osod i bobl ar wyliau am 10 mis o'r flwyddyn. Byddaf yn ceisio gwneud eithriadau yn yr achosion hynny, a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i fy nghyd-Aelodau ar hynny wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo. [Torri ar draws.]

Diolch yn fawr iawn. Sori—roeddwn i wedi rhoi cais munud olaf i gymryd rhan, ac yn ddiolchgar iawn am eich parodrwydd chi i fi gyfrannu. Diolch am y cwestiwn, wrth gwrs.

Wrth gwrs, mae rhywun yn croesawu unrhyw gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng tai yma ac yn croesawu'r hyn rydych chi wedi dweud rŵan, sef eich bod chi yn edrych ar eithriadau ar gyfer adeiladau sydd efo amodau penodol arnyn nhw. Hwyrach, mi fuasai fo'n dda clywed ychydig o ymhelaethu ar hynny, achos mae hynny'n amlwg yn bryder, ond dwi yn clywed yr hyn mae'r meinciau acw yn dweud, eu bod nhw'n pryderi bod y sector yn mynd i gael ei niweidio. Onid ydych chi, Gweinidog, yn cytuno efo fi mai'r her fwyaf i'r sector yma mewn gwirionedd ydy nid y rheoliadau yma ond y twf anferthol rydyn ni wedi ei weld mewn Airbnb, Vrbo, a'r platfforms yma sydd yn boddi'r sector efo nifer fawr o dai ac argaeledd tai, sydd yn golygu bod y busnesau cynhenid yma sydd eisiau llwyddo yn ei chael hi'n anodd, oherwydd bod gormod o dai fath â Airbnb yno, a bod y rheoliadau rydych chi'n edrych arnyn nhw er mwyn rheoleiddio Airbnb yn mynd i helpu i'r perwyl hwnnw? Mae hyn yn mynd i helpu i chwynnu allan y perchnogion yna sydd ddim o ddifrif ac sydd eisiau gwneud pres ar gefn ein cymunedau ni.

Hefyd, jest i ddweud fy mod i'n ymwybodol o enghraifft yn fy etholaeth i lle mae perchnogion tai, llety gwyliau, wedi penderfynu trosi'r math yna o dai i fod i denantiaid lleol. Ydych chi'n croesawu'r math yna o ddatblygiad hefyd?

Rwy'n ddiolchgar am y pwyntiau hynny, ac yn sicr, mae hwnnw'n opsiwn gwirioneddol sydd ar gael i berchnogion eiddo mewn perthynas â darparu cartref i breswylydd lleol a hefyd yr incwm diogel a ddaw iddynt o ganlyniad i wneud y penderfyniad hwnnw, felly mae hwnnw'n ddewis cadarnhaol y gall perchnogion eiddo ei wneud ym mhob rhan o Gymru, ac mae'n dda clywed am yr enghreifftiau hynny.

Ydw, rwy'n cytuno bod rhai heriau gwirioneddol yn wynebu'r diwydiant, ac yn sicr mae cystadleuaeth y mathau hynny o lety sydd ar osod am gyfnodau byr iawn, llety Airbnb ac yn y blaen, yn rhan o'r gymysgedd o ran y gystadleuaeth y mae'r busnesau hyn yn ei hwynebu.

A chredaf y bydd y gofrestr y mae fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi, yn edrych arni, yn ddefnyddiol er mwyn sicrhau bod gennym gynnig o safon i'n twristiaid yma yng Nghymru a'n bod yn lleoliad y byddent eisiau dychwelyd iddo dro ar ôl tro.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Jayne Bryant.

Yr wythnos hon yw Wythnos Beddau Rhyfel Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad. Nod eu hwythnos ymwybyddiaeth flynyddol yw annog cymunedau i ddod at ei gilydd a darganfod treftadaeth y rhyfel byd sydd ar garreg ein drws. Wrth imi siarad, mae gwirfoddolwyr lleol yn weithgar yn fy ninas i yng Nghasnewydd, lle mae mwy na 315 o'r rhai a syrthiodd yn y rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd wedi'u claddu mewn 15 o fynwentydd, mynwentydd eglwys a chapeli, gyda'r safle mwyaf ym mynwent Sant Gwynllyw gyda 274 o feddau, a'r lleiaf ym mynwent capel y Bedyddwyr Bethel, ac Eglwys y Santes Fair, Tre'ronnen, gydag un bedd yr un. Ers y bore yma, mae'r tîm, gan gynnwys y preswylydd lleol, Andrew Hemmings, wedi bod ar gornel Charles Street a Commercial Street yng Nghasnewydd, yn siarad gyda thrigolion am ddynion a menywod rhyfeddol lluoedd y Gymanwlad a fu farw yn y rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd ac sydd wedi'u claddu yng Nghasnewydd.

Ffocws yr Wythnos Beddau Rhyfel eleni yw'r prosiect Ordinary People, Extraordinary Times. Ochr yn ochr â'r lluoedd arfog rheng flaen, byddwn yn dathlu'r rheini a oedd â rolau hanfodol yn ystod y rhyfel, megis gweithwyr gofal iechyd, logisteg, seilwaith a chyfathrebu. Mae'r digwyddiadau hyn yn digwydd ledled Cymru a gweddill y DU. Y tu ôl i bob bedd rhyfel, mae yna stori ddynol na ddylid byth ei hanghofio. Mae hwn yn gyfle i ddod â'r straeon hynny'n fyw ac i gofio'r aberth a wnaed gan y dynion a'r menywod rhyfeddol hynny.

15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mis Mai yw mis esgyrn brau. Mae clefyd esgyrn brau yn anhwylder prin sy'n arwain at esgyrn bregus sy'n torri'n hawdd. Mae'n bresennol ar enedigaeth ac fel arfer mae'n datblygu mewn plant sydd â hanes teuluol o'r clefyd. Cyfeirir at y clefyd yn aml fel osteogenesis imperfecta, sy'n golygu asgwrn nad yw wedi ffurfio'n iawn. Gall clefyd esgyrn brau amrywio o fod yn ysgafn i fod yn ddifrifol. Ni ddylid drysu rhyngddo ag osteoporosis—lle mae esgyrn yn breuo dros flynyddoedd—neu duedd rhai pobl yn y byd chwaraeon i dorri esgyrn. Mae'n effeithio ar oddeutu un o bob 15,000 i un o bob 20,000 o bobl, gan ei wneud yn un o'r clefydau genetig prin, ond mae hynny'n golygu y dylai pob un ohonom fod â rhwng tri a phump o etholwyr sy'n dioddef ohono. A byddwn yn tybio nad yw'r rhan fwyaf o Aelodau yn y Siambr hon wedi cwrdd ag unrhyw un yn eu hetholaeth sy'n dioddef ohono. Mae'n un o'r clefydau genetig prin. Ceir llawer o'r clefydau genetig prin hyn. Mae pob un yn brin, ond gyda'i gilydd, maent yn llawer llai prin.

Prif symptom clefyd esgyrn brau yw esgyrn wedi torri. Maent yn torri'n hawdd iawn. Gall esgyrn plant dorri wrth i'w rhieni newid eu cewyn, wrth eu cymell i godi gwynt, neu yn achos un person y cyfarfûm ag ef, yn y groth. Ceisiwch egluro mai clefyd esgyrn brau sydd ar fai pan fyddwch yn mynd â'r plentyn i'r adran ddamweiniau ac achosion brys leol am yr wythfed tro mewn tair wythnos.

Sefydlwyd y Gymdeithas Esgyrn Brau ym 1968. Mae'n cefnogi anghenion pobl sy'n cael eu geni â'r cyflwr prin a'u teuluoedd yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Er nad oes ateb, gall cynnal ffordd iach o fyw drwy ymarfer corff, bwyta deiet cytbwys â digon o fitamin D a chalsiwm, ac osgoi ysmygu, helpu i osgoi torri esgyrn.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Lesley Griffiths. 

Cynnig NNDM8010 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jayne Bryant (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn lle Alun Davies (Llafur Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus

Eitem 5 y prynhawn yma yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar ddatgarboneiddio pensiynau'r sector cyhoeddus. Galwaf ar Jack Sargeant i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7964 Jack Sargeant

Cefnogwyd gan Alun Davies, Buffy Williams, Carolyn Thomas, Cefin Campbell, Heledd Fychan, Jane Dodds, Jayne Bryant, Llyr Gruffydd, Luke Fletcher, Peredur Owen Griffiths, Rhys ab Owen, Sarah Murphy, Vikki Howells

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) mai Llywodraeth Cymru oedd y cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan gydnabod y bygythiad difrifol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi;

b) bod cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil ac, ers blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau i ddadfuddsoddi;

c) bod partneriaeth bensiwn Cymru wedi symud yn gyflym i dynnu buddsoddiad o ddaliadau Rwsia yn ôl a'i fod wedi symud oddi wrth lo o'r blaen, gan ddangos felly ei bod yn bosibl i gronfeydd pensiwn wneud y penderfyniadau hyn;

d) bod Aelodau'r Senedd wedi cymryd y cam cyntaf i symud eu cronfeydd pensiwn eu hunain oddi wrth danwydd ffosil;

e) pe bai cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dadfuddsoddi, Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i ddarparwyr cronfeydd yr angen i greu cynhyrchion buddsoddi di-danwydd ffosil.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thargedau sero net presennol y sector cyhoeddus.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

Mae syniadau'n aml yn cael eu moment, moment pan fo'r dystiolaeth ar gyfer gweithredu yn llethol. Mae ymgyrchwyr ymroddedig wedi gweithio'n ddyfal ar ddadfuddsoddi cronfeydd pensiwn ers blynyddoedd; mae'n bryd i Lywodraethau ledled y byd ymuno â'r frwydr yn awr. Credaf ei bod hefyd yn bryd i Gymru gymryd rhan ganolog ac arwain y byd ar roi diwedd ar fuddsoddiad cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus mewn tanwydd ffosil, ac wrth wneud hynny, sbarduno cyfnod newydd o fuddsoddi yn nyfodol ein planed, ynni cynaliadwy a thrafnidiaeth.

Fel y gŵyr llawer o fy nghyd-Aelodau, bûm yn gweithio gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru ers peth amser bellach ar yr ymgyrch sy'n destun y cynnig heddiw: i Lywodraeth Cymru gyflwyno targedau ar gyfer dadfuddsoddi cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus. Mae'r cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i adlewyrchu ei tharged ar gyfer 2030 i'r sector cyhoeddus fynd yn garbon niwtral gyda tharged i gronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus gyflawni'r un peth. Byddai hyn yn golygu y byddai'r sector cyhoeddus a'i fuddsoddiadau yn wirioneddol garbon niwtral erbyn 2030.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn gofnodi fy niolch i'n Prif Weinidog beiddgar, Mark Drakeford, sydd wedi rhoi llawer o gefnogaeth ac anogaeth imi ar y mater hwn. Fis diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad trawsbleidiol ar y mater, a'r Prif Weinidog a sicrhaodd fod un o uwch swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol ac yn cyfrannu at yr hyn a oedd yn drafodaeth ragorol.

Felly, gadewch inni ofyn i ni'n hunain: pam ein bod yn trafod pensiynau'r sector cyhoeddus, sydd i'w weld yn bwnc mor sych, a pham fy mod gyffrous ynglŷn â'r cyfle y maent yn ei roi inni? Wel, y rheswm cyntaf dros wneud hyn yw oherwydd bod y ddynoliaeth yn wynebu trychineb. Y trychineb hwnnw yw cynhesu byd-eang. Achosir cynhesu byd-eang gan y defnydd o danwydd ffosil, a gwyddom nad oes gennym lawer o amser i osgoi'r trychineb hwnnw.

Mae cronfeydd pensiwn yn fuddsoddwyr enfawr, ac mae eu hatal rhag buddsoddi mewn tanwydd ffosil cyn gynted â phosibl yn hanfodol os ydym am atal cynnydd yn y tymheredd byd-eang a fydd yn peryglu dyfodol y ddynoliaeth. Nawr, ochr yn ochr â risg newid hinsawdd, mae'n ffaith bod tanwydd ffosil yn aml yn cael ei fewnforio o wledydd unbenaethol, gyda llawer ohonynt yn ansefydlogwyr difrifol ar lwyfan y byd. Maent yn gyfundrefnau annemocrataidd sy'n hyrwyddo gwerthoedd sy'n wrthun inni, ac ni ddylem barhau i fuddsoddi ynddynt. Mae tanwydd ffosil hefyd yn gyfyngedig ac mae eu pris yn amrywio'n aruthrol. Mae dadfuddsoddi'n anochel yn hirdymor, ond am y rhesymau a nodais eisoes heddiw, dylem geisio cyflymu'r broses honno, fel sydd eisoes wedi digwydd gyda buddsoddiadau cronfeydd pensiwn mewn glo.

Ceir myth hirsefydledig y dylid gadael lonydd i farchnadoedd a chronfeydd buddsoddi gyflawni'r enillion ariannol gorau posibl. Ond y realiti yw nad yw hyn byth yn digwydd. Mae pob math o weithredwyr ledled y byd yn ymyrryd yn gyson â marchnadoedd a phenderfyniadau buddsoddi cronfeydd pensiwn. Yr hyn y mae'r ymgyrch ddadfuddsoddi hon yn ei ddweud yw y dylem ni fod yn un o'r gweithredwyr hynny, a cheisio cynnwys cynaliadwyedd hirdymor fel maen prawf ar gyfer buddsoddi.

Rydym wedi gweld yn ddiweddar iawn, onid ydym, y gall rheolwyr cronfeydd sector cyhoeddus symud yn hynod o gyflym i symud buddsoddiadau sy'n creu risg i fywyd dynol? Ar yr achlysur hwn, cafodd buddsoddiadau cronfeydd pensiwn eu symud o ddaliadau yn Rwsia, yn dilyn eu rhyfel anghyfreithlon yn erbyn Wcráin. Ni allai neb ar draws y Siambr ddadlau nad dyma'r peth iawn i'w wneud.

Ddirprwy Lywydd, un o'r ffeithiau rhyfeddaf ynglŷn ag a yw cronfeydd pensiwn yn buddsoddi mewn tanwydd ffosil yw eu diffyg parodrwydd i gynnwys y rhai sy'n talu i mewn iddynt yn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â lle maent yn buddsoddi. Nawr, nid oes gennyf amheuaeth nad yw'r mwyafrif llethol o fuddsoddwyr yn cefnogi'r penderfyniad i beidio â buddsoddi mewn glo, ac yn cefnogi'r penderfyniad i beidio â buddsoddi yn Rwsia. A chredaf y byddent hefyd yn cefnogi'r penderfyniad i gronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus fynd yn garbon niwtral ar yr un pryd â gweddill y sector cyhoeddus, drwy ddadfuddsoddi o danwydd ffosil.

Gan fy mod yn ddemocrat go iawn ac eisiau grymuso pobl Cymru, byddwn yn mynd gam ymhellach eto. Byddwn yn gofyn iddynt fod yn rhan o'r gwaith o lunio cynllun buddsoddi newydd—cynllun sy'n darparu'r enillion iddynt ac yn gwella'r lleoedd y maent yn byw. Fel y dywedais, mae cyfle gwirioneddol yma i gael cynlluniau pensiwn i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru. Mae digon o gyfle i gael enillion o fuddsoddiadau yma, a gallai sbarduno'r gwaith o greu ynni adnewyddadwy yn y wlad hon, adeiladu tai cymdeithasol—buddsoddiad gwych oherwydd yr enillion rhent gwarantedig—a thrafnidiaeth gyhoeddus carbon niwtral. Byddai'r cyfleoedd hynny ar eu pen eu hunain yn creu swyddi medrus iawn ar gyflogau uchel gan fuddsoddi yn nyfodol ein cymunedau lleol ar yr un pryd. Mae cynyddu ein lefelau diogeledd ynni o fudd i Gymru a gweddill y DU, ac mae'n ymwneud â hyrwyddo cynhyrchiant ynni yng Nghymru. A bydd sicrhau bod y sector cyhoeddus yn gwbl garbon niwtral erbyn 2030 o fudd i bob un ohonom.

Ddirprwy Lywydd, mae'r ddadl heddiw yn gyfle i Lywodraeth Cymru ddangos, unwaith eto, y math o arweiniad beiddgar a sicrhaodd mai ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac i adeiladu ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol mewn deddfwriaeth. Mae'r Dirprwy Lywydd yn gwybod fy mod, yn fy nghalon, yn optimist a gwn, yn Siambr y Senedd hon, ein bod yn gwbl o ddifrif ynglŷn ag osgoi trychineb hinsawdd. Felly, rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i Siambr y Senedd heddiw, a hoffwn annog pob un ohonoch, yn drawsbleidiol, i gefnogi'r cynnig hwn ac ymuno â mi yn yr ymgyrch dros ddadfuddsoddi cronfeydd pensiwn ac annog Llywodraeth Cymru i weithredu yn awr. Diolch yn fawr.

15:25

A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am gyflwyno'r ddadl ddiddorol hon heddiw? Cyn imi ddechrau, hoffwn gadarnhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y cynnig sydd ger ein bron heddiw.

Ni wnawn hynny oherwydd nad ydym yn cytuno â rhagosodiad y cynnig. Mae'n bwysig, os ydym am gyflawni ein hymrwymiadau newid hinsawdd, ein bod yn parhau i symud oddi wrth ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, nid yn unig i bweru ein ceir a phweru ein cartrefi, ond hefyd er mwyn cynnal ein cyllid cyhoeddus. Wrth gwrs, mae buddsoddiadau cronfeydd pensiwn mewn pethau fel cwmnïau tanwydd ffosil wedi bod yn arfer safonol ers peth amser. Nid cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yn unig sydd wedi'u defnyddio yn y ffordd hon, ond nifer o gronfeydd pensiwn y sector preifat hefyd. Felly, mae'n hen bryd inni ddechrau edrych ar ffyrdd gwahanol ac arloesol o fuddsoddi arian cyhoeddus mewn mentrau sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.

Ac felly, yn hyn o beth rwy'n falch fod Partneriaeth Pensiwn llywodraeth leol Cymru wedi cyhoeddi menter ddatgarboneiddio newydd ar draws £2.5 biliwn o'i buddsoddiadau ym mis Ebrill y llynedd. Mae croeso hefyd i'r ffaith bod y bartneriaeth wedi datblygu polisi risg hinsawdd gydag uchelgais i adrodd ar gynnydd tuag at leihau cysylltiad â buddsoddiadau drud-ar-garbon. Mae cronfeydd pensiwn cynghorau ac awdurdodau lleol hefyd wedi gwneud cynnydd da ar ddatgarboneiddio eu buddsoddiadau. Er enghraifft, yn ôl yn 2018, cytunodd Cyngor Sir Fynwy, pan oedd o dan arweiniad y Ceidwadwyr, i ofyn i gronfa bensiynau Gwent ddadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil. Ddirprwy Lywydd, mae llwyth o waith da wedi'i wneud gan gynghorau yma yng Nghymru ar yr agenda hon, ond rwy'n cytuno'n llwyr fod angen gwneud mwy.

Fodd bynnag—ac i ddychwelyd at y rheswm pam ein bod yn ymatal ar y cynnig heddiw—hoffwn rybuddio y gallai unrhyw ddadfuddsoddi arwain at ganlyniadau anfwriadol i werth pensiynau pobl sydd wedi gweithio'n galed i'w hennill. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod gwerth dros £500 miliwn o gyllid pensiwn wedi'i gloi mewn cwmnïau o'r fath ar hyn o bryd. Ac felly, mae angen inni fod yn ofalus ynglŷn â sut y caiff hyn ei reoli ac mae'n bwysig fod pob ymddiriedolwr pensiwn yn cael annibyniaeth i wneud yr hyn sydd orau i'w cronfa, yn ogystal â defnyddio eu gwybodaeth i sicrhau bod unrhyw newid i strategaeth ariannu yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar enillion buddsoddiadau. Fodd bynnag, wrth ddweud hyn, credaf y dylid annog cyrff cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod unrhyw fuddsoddiadau a wneir gan eu cynlluniau pensiwn unigol yn gyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol, yn ogystal â bodloni anghenion eu haelodau. Diolch.  

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i Jack Sargeant am ddod â'r ddadl bwysig hon ger bron y prynhawn yma. Hoffwn i ddechrau drwy adleisio geiriau pobl ifanc Cymru o neges heddwch ac ewyllys da Urdd Gobaith Cymru yr wythnos diwethaf: 

'Mae'r cloc yn ticio ac mae'n byd ni ar dân'.

Ac yn wir, yn y datganiad pwysig hwn gan ein pobl ifanc, cawsom oll ein hatgoffa o'r perygl enbyd y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei beri i'n byd a'n ffordd o fyw, a'r argyfyngau amgylcheddol, ecolegol a dyngarol sy'n debygol o godi os nad ydym ni, fel y rhai sydd â grym i newid pethau, yn gweithredu ar frys er mwyn achub ein planed.

Fel rhan o droi geiriau yn weithred, gallwn ddechrau drwy edrych ar bolisi buddsoddi rhai o'n pensiynau sector cyhoeddus i weld cymaint ohono sy'n dal i fod mewn tanwydd ffosil fel olew, nwy a glo. Mae hyn yn parhau'n bolisi cwbl anghyfrifol a ninnau mewn argyfwng newid hinsawdd. Ac rwy'n cytuno â Jack fod gan Gymru gyfle euraidd fan hyn i arwain y gâd ar fuddsoddi mewn cronfeydd mwy gwyrdd a chynaliadwy. Heb weithredu, erbyn yr amser fydd nifer o'r genhedlaeth iau—plant yr Urdd—yn ddigon hen i elwa o'u cronfeydd pensiwn, bydd y dinistr amgylcheddol yn parhau, gyda’r pegynau iâ wedi hen doddi, ein systemau bwyd wedi dadfeilio, a thywydd eithafol yn norm.

Mae data diweddar gan Gyfeillion y Ddaear, er enghraifft, yn dangos yng Nghymru bod dros £550 miliwn allan o gyfanswm o £17 biliwn o gyllid cronfeydd pensiwn llywodraeth leol wedi ei fuddsoddi mewn tanwydd ffosil. Mae hyn yn cyfateb i ryw 3.2 y cant o werth y cynlluniau, sy’n uwch na chanrannau yn Lloegr a’r Alban. Mae hyn yn cyfateb i bob un person yng Nghymru yn buddsoddi gwerth £175 tuag at y sector ynni sy’n creu’r drwg mwyaf i’r amgylchedd. Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru, mae’r darlun yn fwy trawiadol fyth, gyda bron i 5 y cant o gronfa bensiwn Dyfed wedi buddsoddi mewn tanwydd ffosil. Credwch neu beidio, hwn yw'r ail uchaf o ran canran yn holl wledydd Prydain, o'r holl gronfeydd pensiwn.

Rŷn ni’n gwybod yn barod bod nifer o gynghorau wedi cymryd camau i geisio mynd i’r afael â newid hinsawdd. Felly, mae’n rhwystredig bod ein cronfeydd pensiwn cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd carbon. Ond yn fwy na hynny, nid yn unig mae cefnogi sector ynni anadnewyddadwy yn egwyddorol amheus, mae e hefyd yn ddwli economaidd. Gydag ymdrechion rhyngwladol i ddatgarboneiddio wedi digwydd, mae’n gynyddol glir, fel sydd eisoes wedi ei rybuddio gan Mark Carney, cyn lywodraethwr Banc Lloegr, nad yw’r carbon bubble presennol yn gyllidol gynaliadwy yn yr hirdymor. Felly, heb ddadfusoddiad i ffynonellau mwy gwyrdd, gall ein cronfeydd pensiwn ni yn y sector cyhoeddus fod ar eu colled yn fuan iawn.

Rwy’n croesawu’r ymdrechion, felly, sydd wedi cael eu gwneud gan gynghorau sir—yn eu plith, sir Gâr a Cheredigion—a phwysau gan fudiadau fel Divest Dyfed, sydd wedi bod ar y blaen yn rhoi pwysau ar gronfa bensiwn Dyfed i fuddsoddi mwy mewn cwmnïau ynni glân. Fel sydd wedi cael ei grybwyll gan Jack Sargeant yn barod, dangosodd argyfwng Wcráin, a’r penderfyniad i dynnu buddsoddiadau yn ôl o Rwsia, bod gweithredu pendant, egwyddorol ac unedig gan yr awdurdodau pensiwn yn bosibl wrth wynebu argyfwng. Felly, mae’n gyfrifoldeb a dyletswydd arnom ni i weithio i sicrhau bod y math o ewyllys da a phendantrwydd yma yn cael ei ailadrodd yng ngoleuni’r argyfwng hinsawdd, a sicrhau bod gweithredu go iawn yn digwydd i ddatgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus yng Nghymru er budd cenedlaethau’r dyfodol.

15:30

Diolch i fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, am gyflwyno’r cynnig heddiw ar symud pensiynau oddi wrth danwydd ffosil. Rwy'n falch iawn o siarad o blaid y mater pwysig hwn, ac yn wir, mae'n rhywbeth rwyf wedi cytuno ers tro ei fod yn hanfodol. Er enghraifft, cynhaliais sesiwn galw heibio gyda Cyfeillion y Ddaear Cymru ar gyfer Aelodau’r Senedd rai blynyddoedd yn ôl, a diben penodol hyn oedd creu consensws o blaid symud cynllun pensiwn Aelodau’r Cynulliad, fel y'i gelwid ar y pryd, oddi wrth danwydd ffosil. Roeddwn wrth fy modd pan gytunodd y bwrdd pensiynau i wneud hyn ar ddechrau 2020, a hoffwn ddiolch i Aelodau’r bwrdd am gyflawni ar y mater pwysig hwn.

Roedd hwn yn gam pwysig iawn, wrth inni roi ein harian ar ein gair. Credaf mai ni oedd y cynllun pensiwn cyntaf ymhlith Seneddau'r DU i gymryd y camau hyn i ymrwymo i fuddsoddi yn ein cynllun pensiwn mewn modd cynaliadwy a moesegol. Ond roedd hwn yn ymyriad yr un mor bwysig o safbwynt symbolaidd, wrth inni roi arwydd clir y gellir ac y dylid symud pensiynau oddi wrth danwydd ffosil. Ers hynny, yn gwbl gywir, mae ffocws Llywodraeth Cymru, a llawer o’n sector cyhoeddus, wedi bod ar ein hymateb i'r pandemig coronafeirws, ond ni allwn golli golwg ar argyfwng hinsawdd sydd lawn mor ddifrifol. Ac fel y mae’r cynnig hwn yn dadlau, nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru a’n sector cyhoeddus gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd dan nawdd mudiad llawr gwlad UK Divest yn rhoi darlun clir o faint y mae cynghorau'n ei fuddsoddi mewn glo, olew a nwy. Roedd llawer o'r ffigurau hyn ar gyfer y DU gyfan. Fodd bynnag, nodwyd bod pensiynau llywodraeth leol Cymru wedi buddsoddi £538 miliwn mewn tanwyddau ffosil, sydd ychydig dros 3.2 y cant o gyfanswm gwerth y cynlluniau. Nid oes unrhyw gronfa bensiwn yng Nghymru ymhlith y 10 buddsoddwr mwyaf mewn tanwyddau ffosil, ond Dyfed, fel y nodwyd eisoes gan fy nghyd-Aelod, Cefin Campbell, oedd y buddsoddwr mwyaf ond un fel cyfran o gyfanswm gwerth eu cronfa. Roedd ychydig yn llai na 5 y cant o'u cronfa wedi'i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil.

Pwynt pwysig arall yn y cronfeydd hyn a fuddsoddir mewn tanwyddau ffosil yw bod £2 o bob £5 yn cael ei fuddsoddi mewn tri chwmni yn unig—BP, Royal Dutch Shell a BHP. Enwau cyfarwydd, ond maent hefyd yn gwmnïau sydd wedi'u nodi fel rhai sy'n gwneud elw enfawr o olew a nwy. Er enghraifft, gwnaeth Shell elw o dros $9 biliwn yn chwarter cyntaf 2022 yn unig, ac roedd hynny deirgwaith yn fwy na'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol. Mae’r rhain yn gwmnïau sy’n niweidio ein hamgylchedd, yn elwa o ddinistr byd-eang, ac yn gwneud eu cyfranddalwyr yn gyfoethog wrth wasgu’n dynnach fyth ar y bobl yr ydym yn eu cynrychioli wrth i filiau ynni cartrefi godi y tu hwnt i bob rheolaeth. Mae'n bwysig ein bod yn symud ein buddsoddiadau oddi wrth danwydd ffosil o safbwynt amgylcheddol, ond mae'r un mor bwysig gwneud hynny o safbwynt moesegol hefyd. Ac os gallwn wneud hyn, nid yn unig yn Senedd Cymru, ond yn ein gwlad yn ei chyfanrwydd, byddwn yn gosod esiampl bwysig.

15:35

Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno’r ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Nid wyf yn cytuno’n llwyr â holl gynsail y cynnig, ond mae’n dal yn bwysig, ar yr un pryd, ein bod yn cael y ddadl. Dywedaf o'r cychwyn cyntaf y dylai datgarboneiddio fod yn brif flaenoriaeth i ni, gan ein bod yng nghanol argyfwng hinsawdd, ac mae fy etholwyr eisoes yn dioddef effeithiau tymereddau sy'n codi'n fyd-eang. Fodd bynnag, ni chredaf y bydd cymryd y camau a awgrymir yn y cynnig sydd ger ein bron yn gwneud unrhyw beth i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Os na fyddwn yn ofalus, byddwn yn cymryd cam gwag nad yw’n gwneud fawr ddim ond niweidio gweithwyr tlotaf ein sector cyhoeddus. Os byddwn yn atal cronfeydd pensiwn rhag buddsoddi yn rhai o’r busnesau mwyaf proffidiol yn y DU, rydym yn mynd i gyfyngu’n ddifrifol ar dwf y cronfeydd hynny a lleihau pensiynau rhai o’n gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf—ein staff gofal cymdeithasol, staff ein GIG, y cogyddion a'r glanhawyr yn ein hysgolion a'n canolfannau gofal dydd, a'r degau o filoedd o weithwyr cyngor eraill a staff ysbytai sy'n darparu gwasanaeth gwerthfawr i bob un ohonom yma.

Rydym yn lwcus. Gallwn fforddio talu ychydig yn rhagor i arbed ychydig yn rhagor. Ni allant hwy wneud hynny. Mae'n rhaid ichi ofyn i chi'ch hun hefyd beth fyddwn ni'n ei gyflawni drwy wahardd buddsoddi mewn sefydliadau fel BP a Shell. A fyddwn yn eu gorfodi i newid eu hymddygiad? Nid wyf yn credu hynny. Maent yn gwneud hynny eu hunain. Y cwmnïau olew a nwy hyn yw rhai o'r buddsoddwyr mwyaf mewn ynni adnewyddadwy. Mae BP newydd bartneru gyda chwmnïau ynni o Abu Dhabi, ADNOC a Masdar, i ddatgarboneiddio systemau ynni a thrafnidiaeth y DU a’r Emiradau Arabaidd Unedig. Maent yn pwmpio biliynau i mewn i hydrogen gwyrdd mewn ymdrech i ddatgarboneiddio diwydiannau lle mae'n anodd lleihau'r defnydd o garbon, megis cynhyrchu dur. Maent hefyd wedi dod yn bartner blaenllaw yn y Ganolfan Fyd-eang ar gyfer Datgarboneiddio Morol, gan fod morgludiant yn un o’r cyfranwyr mwyaf at allyriadau carbon byd-eang. Dylid cymeradwyo hyn yn hytrach na'i gosbi. Gadewch inni annog rheolwyr cronfeydd pensiwn i fuddsoddi mewn cwmnïau proffidiol sy'n mynd ati'n weithredol i ddatgarboneiddio yn hytrach na’u hanwybyddu am eu bod yn ddiwydiant tanwydd ffosil yn unig ar hyn o bryd.

A ddylai'r cwmnïau mawr rhyngwladol a'r corfforaethau byd-eang hyn fod yn fwy moesegol? Yn sicr, dylent. Ond ni fyddwn yn cyflawni newid drwy gyfyngu ar ein cronfeydd pensiwn. Ni chlywaf unrhyw un yn galw am i gronfeydd pensiwn gael eu symud oddi wrth gwmnïau fel Nestlé neu Apple. Mae Apple yn defnyddio llafur gorfodol yn Tsieina ac arferion gwrth-gystadleuol ledled y byd i ddod yn gorfforaeth gyfoethocaf y byd. [Torri ar draws.] Nid ydym yn gweld pobl yn neidio i fyny ac i lawr ynglŷn â hynny, ydym ni, Llyr? Felly, gadewch inni fabwysiadu ymagwedd fwy pwyllog. Gallwn weithio gyda’n gilydd i annog newid, ond ni fyddwn yn ei orfodi drwy gyfyngu ar arian y sector cyhoeddus. Rwy'n annog yr Aelodau i ymatal ar y cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhaid imi ddweud, Jack, fy mod yn anghytuno ag un peth a ddywedoch chi. Nid yw hyn yn ddiflas i mi; credaf fod hyn yn hynod ddiddorol, gan fod pensiynau’n effeithio ar bob un ohonom. Ysgrifennodd un etholwr ataf, 'Nid yw'n gwneud llawer o synnwyr i boeni am hyfywedd ariannol pensiwn y gallaf gael mynediad ato ymhen 32 mlynedd pan ddywed y rhagamcanion presennol y bydd fy nhŷ, yma yng Nghaerdydd, o dan ddŵr erbyn 2050, a byddaf yn wynebu dyfodol o brinder bwyd, digwyddiadau tywydd mwy eithafol a risg uwch o farwolaeth oherwydd tymereddau uchel.' Felly, dyna rydym yn sôn amdano yn awr: rhoi camau go iawn ar waith. Ni allaf ddirnad yr hyn a ddywedodd Gareth Davies. Mae bron yn ddadl dros wneud dim byd. [Torri ar draws.] Na, rydych yn seilio dadl ar ffeithiau. Ychydig iawn o ffeithiau a glywais yno. Un peth rwy'n cytuno ag ef: mae'n mynd y tu hwnt i danwydd ffosil. Dylem fod yn edrych ar gynlluniau pensiwn moesegol, sy’n cynnwys y fasnach arfau, tybaco ac yn y blaen. Argyfwng hinsawdd yw hwn. [Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf dderbyn ymyriad.

15:40

Gan nad oedd yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd yn barod i dderbyn ymyriad, rwyf am wneud y pwynt yr oeddwn am ei wneud bryd hynny. Un o’r pethau cadarnhaol a allai ddeillio o ddadfuddsoddi fel hyn fyddai perswadio’r cwmnïau sy'n draddodiadol wedi gwneud eu helw o danwydd ffosil i newid cyfeiriad. Mae a wnelo hyn â’u perswadio i weithio mewn ffordd foesegol drwy ddweud, 'Byddwn yn buddsoddi yn y rhan honno o’ch busnes, ond mae'r amser ar ben ar y rhan arall acw’.

Rwy'n cytuno'n llwyr â fy nghyd-Aelod yno. Credaf fod Jack yn iawn yn y cynnig i nodi'r cynnydd mewn perthynas â’n cronfeydd pensiwn ein hunain fel Aelodau o’r Senedd, ond efallai y bydd yn syndod i rai Aelodau yma heddiw nad yw’r un peth yn wir am ein staff. A dweud y gwir, mae'n fater y mae un o aelodau fy nhîm wedi bod yn ceisio mynd i'r afael ag ef ers dechrau gyda mi. Roedd yr unigolyn, mewn gwirionedd, wedi gwrthod swydd gydag awdurdod lleol am nad oeddent yn gallu cynnig pensiwn amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu, a gwnaethant gytuno i rôl yn fy nhîm am eu bod o dan yr argraff fod cynllun pensiwn y Senedd yn eu cofrestru'n awtomatig ar gynllun amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Fodd bynnag, ar ôl bod drwy’r broses o gofrestru ar gyfer pensiwn, roedd yr unigolyn yn siomedig o glywed y canlynol: nad yw staff yn cael eu cofrestru’n awtomatig ar y cynllun, ni chânt wybod bod opsiwn ar gael i gymryd rhan yn y cynllun—

Na, diolch. Gall staff gofrestru eu hunain—[Torri ar draws.] Ni chymeroch chi ymyriad gennyf fi, felly, os gwelwch yn dda—

A gaf fi barhau, os gwelwch yn dda? Diolch. Gall staff gofrestru eu hunain ar gyfer yr opsiwn amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu sydd ar gael, ond mae angen iddynt wybod pa gwestiynau i'w gofyn. Mae'r aelod o fy nhîm bellach wedi cael manylion—[Torri ar draws.] A gaf fi siarad, os gwelwch yn dda? Diolch—rheolwr y gronfa bensiwn fel y gellir mynd i'r afael â hyn. Fodd bynnag, dywedodd yr aelod o fy nhîm wrthyf, ‘Fel aelod o staff, rwy’n gweld fy mod yn gorfod gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith caib a rhaw er mwyn darganfod lle'n union y mae pensiwn fy ngweithle newydd yn cael ei fuddsoddi.' Credaf fod gwers i bob un ohonom yn hyn, o ran sicrhau ein bod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i’n staff ein hunain, yn ogystal â’r sector cyhoeddus ehangach, sicrhau bod eu pensiwn yn un moesegol. Wedi'r cyfan, oni ddylai hyn fod yn rhywbeth y gallwch optio allan ohono yn hytrach nag optio i mewn iddo yn y dyfodol?

A pham fod hyn yn bwysig? Nid yn unig mai dyma'r peth iawn i'w wneud o safbwynt moesegol, ond dyma'r peth iawn i ni ei wneud ar gyfer dyfodol ein planed. Rwy’n ddiolchgar i bob un o fy etholwyr sydd wedi cysylltu â mi ynghylch y mater gan rannu ymchwil a wnaed gan Aviva gyda Route2, ar y cyd â Make My Money Matter, ac fel rhan o bartneriaeth Aviva â WWF UK. Canfu fod symud y cyfoeth pensiwn cyfartalog cenedlaethol i’r gronfa gynaliadwy gan ddefnyddio eu cyfrifiad 21 gwaith yn fwy effeithiol na’r arbedion carbon blynyddol cyfunol o newid i ddarparwyr trydan adnewyddadwy, teithio ar drenau yn lle awyrennau, a mabwysiadu deiet llysieuol.

Mae fy etholwyr sy’n teimlo’n gryf am hyn hefyd yn iawn i deimlo nad yw gosod targed ar gyfer 2030 yn ddigon da ac y dylid gwneud y newid hwn ar unwaith. Wedi'r cyfan, gwelsom yn ystod anterth y pandemig bethau a oedd yn arfer cael eu hystyried yn amhosibl yn dod yn bosibl, a chydweithredu rhyngwladol yn adlewyrchu'r brys. Ac eto, mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd a natur, ac fel y gwelsom yn COP26, rydym yn parhau i weld amharodrwydd i weithredu, er gwaethaf y sefyllfa y mae ein planed yn ei hwynebu. Ni ddylem gymryd yr hyn a ddywed y cwmnïau tanwydd ffosil wrthym ar ei olwg gyntaf. Rwy’n siŵr fod llawer ohonoch wedi gweld ymddiswyddiad tanbaid Caroline Dennett o'i swydd fel uwch ymgynghorydd diogelwch gyda Shell, gan gyhuddo’r cynhyrchydd tanwydd ffosil o beri niwed eithafol i’r amgylchedd, a chan ddatgan:

'Ni allaf weithio mwyach i gwmni sy'n anwybyddu'r holl rybuddion ac yn diystyru risgiau newid hinsawdd a chwalfa ecolegol oherwydd, yn groes i ddatganiadau cyhoeddus Shell ynghylch sero net, nid ydynt yn dirwyn olew a nwy i ben, ond yn hytrach, maent yn cynllunio i archwilio ac echdynnu llawer mwy ohonynt.'

Mae'n rhaid inni wneud hyn. Nid yw'n opsiwn. Gallwn ei wneud yma yng Nghymru o ran pensiynau sector cyhoeddus. Dywedir wrthym dro ar ôl tro ei fod yn rhy gymhleth, ond fel y dangoswyd gan Cefin Campbell, mae cenedlaethau’r dyfodol yn mynnu ein bod yn gwneud hyn. Fel arall, ni fydd unrhyw bwynt iddynt gael unrhyw fath o gronfa bensiwn.

15:45

Cyn imi symud ymlaen, a gaf fi atgoffa’r holl Aelodau fod gan bob Aelod hawl i wneud cais am ymyriad, ond mae gan yr Aelod sy’n siarad bob hawl i dderbyn neu wrthod y cais hwnnw? Hoffwn annog yr Aelodau i beidio ag ymateb i sylwadau gan rai yn eu seddau, gan fod hynny'n caniatáu ichi barhau i siarad yn naturiol. Sarah Murphy.

Diolch. Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno’r cynnig hwn i’r Siambr heddiw. Llywodraeth Cymru oedd un o’r rhai cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac roedd yn arloesol. Cofiaf glywed y cyhoeddiad a meddwl am bob un yn ein cymunedau sydd wedi addasu i ailgylchu eu gwastraff, beicio i’r gwaith, cerdded i’r gwaith i liniaru llygredd aer, plant ysgol sy’n defnyddio poteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio i leihau’r defnydd o blastig. Nid yw'r gweithredoedd hyn yn ofer pan fydd gennym Lywodraeth sy'n cydnabod y wyddoniaeth. Yng Nghymru, mae gennym Lywodraeth sy’n gwybod bod yn rhaid inni weithredu ar unwaith. Cyn y pandemig, roeddwn hefyd yn falch o sefyll ochr yn ochr â phobl ifanc ledled Cymru, ond yn enwedig y rheini o Ben-y-bont ar Ogwr, wrth gwrs, a ddaeth i lawr i orymdeithio gyda streiciau hinsawdd y bobl ifanc. Roeddent yn arfer dod i eistedd ar risiau’r Senedd bob mis a rhoi areithiau anhygoel.

Mae lefelau’r môr yn codi, mae newidiadau i’r tywydd yn effeithio ar ein ffermwyr, mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein bioamrywiaeth a’n bywyd gwyllt. Felly, nid mater o nodi’r bygythiad yma yng Nghymru yn unig yw datgan argyfwng hinsawdd, mae’n rhaid inni osod esiampl yn awr a mynd ati i wneud pethau’n wahanol. Mae hyn yn cynnwys cydweithredu rhwng gwledydd i greu modd o fyw’n gynaliadwy, cydweithredu ar flaenoriaethau sy’n sicrhau nad yw’r rhai mwyaf agored i niwed yn dioddef, cydweithredu rhwng Llywodraethau a’u pobl lle mae trigolion yn chwarae eu rhan gyda'n Llywodraeth hefyd yn gweithio i fynd i’r afael ag effaith newid hinsawdd. Mae’r cynnig heddiw yn cyflwyno’r union egwyddorion hyn. Unwaith eto, nid yw'n ymwneud â gorfodi hyn ar y sector cyhoeddus ychwaith. Mae’r cynnig yn nodi'n glir iawn fod hyn yn ymwneud â chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus, er mwyn cyrraedd targedau sydd eisoes ar waith i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cyrraedd sero net erbyn 2030. Mae angen i bobl gael sicrwydd gan eu Llywodraeth a'u sector cyhoeddus eu bod yn gwneud pethau sydd er eu lles hwy ac er lles y blaned.

Mae cynllun pensiwn y sector cyhoeddus yn fuddsoddiad i sicrhau bod eu dyfodol yn un o sicrwydd ariannol i bobl pan fyddant wedi rhoi'r gorau i'w gwaith. Mae cynllun sy'n buddsoddi mewn tanwyddau ffosil, gan gyfrannu at ddinistr y blaned, yn mynd yn groes i'r union sicrwydd y mae'r pensiwn yn anelu i'w greu. O ddiwydiannau i fusnesau lleol i drigolion a phlant ysgol, mae pob un ohonom yn edrych ar ffyrdd newydd o fyw'n gynaliadwy sy'n seiliedig ar ddiogelu ein planed. Byddai symud pensiynau oddi wrth y cynllun yn enghraifft arall o’r ffordd y mae Cymru’n arwain ar ddiogelu’r amgylchedd, a dyma’r peth iawn i’w wneud hefyd er budd pawb. Byddai hefyd yn golygu mai ni fyddai'r genedl gyntaf yn y byd i wneud hynny. Byddai hynny'n gwbl anhygoel. Onid yw pob un ohonom yn dymuno bod yn rhan o genedl a Llywodraeth a all wneud hynny?

Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Ni allwn ganolbwyntio mwyach ar gynyddu twf economaidd a chynnyrch domestig gros i’r eithaf ar draul gwneud penderfyniadau ar sail buddion cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'n rhaid inni ailfuddsoddi egni o arferion niweidiol megis ariannu olew a nwy i mewn i bolisïau arloesol, cydweithredol a thryloyw sy’n rhoi pobl a’r blaned o flaen gwneud elw.

Hoffwn ddiolch i Jack am gyflwyno’r ddadl bwysig hon i’r Senedd ac am ei ymgyrch ragorol, ochr yn ochr â Cyfeillion y Ddaear Cymru, i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei drafod.

Rwyf wedi sôn o’r blaen yn y Siambr hon am y polisïau Thatcheraidd y mae Cymru a’r DU yn parhau i dalu’r pris amdanynt, boed hynny ar ffurf argyfwng tai neu drychineb dadreoleiddio bysiau—mae pensiynau’n rhywbeth arall i’w ychwanegu at y rhestr hon. Yn y 1980au, roedd Llywodraeth Thatcher yn wrthwynebus i'r hyn roeddent yn ei alw’n ddibyniaeth ar fudd-daliadau gan y wladwriaeth, ac yn lle hynny, aethant ati i gymell pobl i ymrwymo i lefelau uwch o ddarpariaeth pensiynau preifat. Arweiniodd hynny at sgandal camwerthu pensiynau personol—. Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn disgwyl cael fy ngalw. Mae'n wir ddrwg gennyf.

Yn y 1980au, roedd Llywodraeth Thatcher yn wrthwynebus i'r hyn roeddent yn ei alw’n ddibyniaeth ar fudd-daliadau gan y wladwriaeth, ac yn lle hynny, aethant ati i gymell pobl i ymrwymo i lefelau uwch o ddarpariaeth pensiynau preifat. Arweiniodd hynny at sgandal camwerthu pensiynau personol, lle cafodd byddinoedd o werthwyr ar gomisiwn eu talu i argyhoeddi’r cyhoedd y dylent roi’r gorau i’w cynlluniau pensiwn cyflog terfynol ac ymrwymo i bensiynau personol mwy mentrus. Arweiniodd hyn at nifer enfawr o bensiynau'n cael eu rheoli gan reolwyr asedau preifat, a dyna yw'r norm ers hynny. Yn hytrach na gadael cronfeydd pensiwn yn nwylo’r sector preifat, dylid eu rheoli’n ddemocrataidd ac er budd y cyhoedd. Mae hynny'n fwy angenrheidiol byth mewn perthynas â buddsoddiadau cronfeydd pensiwn mewn tanwyddau ffosil, ac ar hyn o bryd, mae cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu fel ffynhonnell ynni ar gyfer dinistrio'r hinsawdd ymhellach. Mae'r cronfeydd hyn yn gwaethygu'r argyfwng hinsawdd, ac maent hefyd yn fuddsoddiadau gwael. Bydd angen i unrhyw drawsnewid gwyrdd sy’n deilwng o’r enw gynnwys targed i leihau dibyniaeth ar danwydd ffosil, gan arwain at ddibrisiant sylweddol buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil, gan gynyddu risg cronfeydd pensiwn cyfredol.

Caiff pensiynau eu cynllunio i roi sicrwydd i weithwyr pan fyddant yn ymddeol. Mae parhau i fuddsoddi cronfeydd pensiwn mewn tanwyddau ffosil dinistriol yn gwneud yn union i’r gwrthwyneb, yn debyg iawn i’r argyfwng hinsawdd ei hun. Mae'r buddsoddiadau hyn yn fomiau amser, ac nid oes rhaid i bethau fod fel hyn. Dychmygwch system lle mae cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yn cael eu rhoi mewn bargen newydd werdd, ac yn hytrach nag ariannu dinistr y blaned, gallem fod yn ariannu'r gwaith o'i hachub. Gallem ddefnyddio’r buddsoddiad hwn er lles cymdeithasol ac amgylcheddol, gan fuddsoddi mewn swyddi sy’n talu’n dda ac sy'n cydnabod undebau llafur yn niwydiannau cynaliadwy’r dyfodol. Mae'r amser ar gyfer camau gweithredu difrifol ar newid hinsawdd wedi hen fynd heibio. Yma yng Nghymru, rydym eisoes wedi dangos ein parodrwydd i arwain ar faterion amgylcheddol drwy ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019. Ac fel y mae cynnig Jack yn ei nodi, gall Cymru arwain y ffordd unwaith eto. Gallwn fod yn genedl gyntaf y byd i symud cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus oddi wrth danwydd ffosil yn gyfan gwbl, ac mae'n rhaid inni barhau i ategu ein geiriau â chamau gweithredu difrifol. Mae angen symud oddi wrth danwydd ffosil, ac mae angen gwneud hynny ar unwaith. Diolch.

15:50

Diolch, a diolch i Jack Sargeant am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Yn sicr, nid yw wedi bod yn ddadl sych, rwy'n tybio iddi fod yn fwy bywiog nag y byddai unrhyw un ohonom wedi'i ragweld, ond mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn hefyd.

Mae’n gwbl amlwg fod yn rhaid i sero net fod yn uchelgais a rennir gennym ar draws y Senedd, ar draws Llywodraeth Cymru ac ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru yn fwy cyffredinol, ac rydym wedi trafod droeon yn y Siambr hon mai newid hinsawdd yw’r her fwyaf a wynebwn, a'r ffordd y mae angen inni weithredu a gweithredu ar unwaith.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r uchelgeisiau a nodir yn y cynnig i ddatgarboneiddio cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus sy’n cael eu hariannu drwy fuddsoddiadau. Felly, mae hyn yn cynnwys y cynllun pensiwn llywodraeth leol a chynlluniau Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac wrth gwrs, ein cynllun ein hunain ar gyfer Aelodau’r Senedd.

Y cynllun pensiwn llywodraeth leol yw’r mwyaf o’r rhain, ac mae'n darparu pensiynau bron i 400,000 o aelodau yng Nghymru. Wrth gwrs, nid yw mor syml â phleidleisio heddiw i symud cronfeydd penodol oddi wrth danwydd ffosil. Mae'n rhaid i’n cronfeydd pensiwn, fel gweddill y system, ymateb yn llawn i’r argyfwng hinsawdd a natur. Ac rydym wedi nodi, yn gyfreithiol, ein targed i gyflawni sero net erbyn 2050, ac wrth gwrs, yr uchelgais ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru yw sero net erbyn 2030. I wneud hyn, mae'n rhaid i bensiynau'r sector cyhoeddus, fel pensiynau eraill, ddatblygu dealltwriaeth gydlynol o’r allyriadau presennol a hanesyddol sydd ynghlwm wrth eu buddsoddiadau. Mae angen iddynt nodi cyfleoedd cadarnhaol i fuddsoddi mewn datblygiadau sy'n cefnogi'r newid i'r byd datgarbonedig. Mae angen iddynt ddeall ac ymateb i'r risgiau ariannol y mae'r argyfwng hinsawdd yn eu creu.

Os caf orffen yr adran hon, byddaf yn fwy na pharod i dderbyn yr ymyriad. Mae'n rhaid iddynt hefyd ymateb mewn modd tryloyw ac mae'n rhaid iddynt ddatblygu cynlluniau pontio credadwy i gyrraedd sero net, ac wrth gwrs, mae'n rhaid iddynt weithio'n agos gyda'r rheini sydd wedi cyfrannu at y cronfeydd, gan gynnwys y gweithwyr a'u hundebau llafur, i sicrhau eu bod yn ymgysylltu ac yr ymgynghorir yn llawn â hwy mewn unrhyw ddull gweithredu yn y dyfodol—pwynt a wnaed yn gryf iawn gan Jack Sargeant. Rwy’n fodlon derbyn yr ymyriad.

Diolch yn fawr iawn yn wir. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn rhannu'r un nodau. Cyrhaeddodd y byd anterth ei gynhyrchiant olew ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae’r byd yn rhedeg allan o danwydd ffosil, p’un a ydym yn eu caru neu’n eu casáu, ac felly ychydig flynyddoedd yn unig sydd gennym i roi system ynni amgen ar waith, ond nid yw'r dechnoleg yn gwbl barod eto. Sut rydych yn ymateb i'r dystiolaeth y gallai cannoedd o filiynau neu hyd yn oed biliynau o bobl farw heb gyflenwad tanwydd ffosil wrth gefn yn ystod y cyfnod pontio?

Credaf mai'r pwynt yn y fan hon yw trosglwyddo buddsoddiad tuag at y technolegau hynny, technolegau y mae eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol, ac os na fyddwn yn buddsoddi yn y dechnoleg honno a’r arloesedd, byddwn yn aros am byth am y dewisiadau amgen yn lle tanwydd ffosil. Felly, bydd buddsoddi yn y dewisiadau amgen hynny ac yn yr arloesedd a’r ymchwil i ddod o hyd i’r dewisiadau amgen hynny yn gwbl hanfodol. Ac ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom yn dadlau o ddifrif yn erbyn y pwynt hwnnw.

Fel y nododd un rheolwr pensiwn, gosod targed sero net hirdymor yw'r rhan hawdd; yr her yw cael y fframwaith credadwy a thryloyw sy’n galluogi eich cronfa i droi’r bwriad hwnnw yn benderfyniadau a chamau gweithredu ymarferol. Credaf fod hynny’n ateb pryder Mark Isherwood.

Ond wrth gwrs, mae'n wirioneddol bwysig nodi'n glir iawn yn y cyswllt hwn nad oes gan Weinidogion Cymru bwerau i gyfarwyddo awdurdodau neu ymddiriedolwyr cynllun pensiwn y sector cyhoeddus i fuddsoddi neu i beidio â buddsoddi mewn ffyrdd penodol. Ymddiriedolwyr pensiynau, aelodau etholedig a swyddogion a rheolwyr pob cronfa sy’n gyfrifol am ofalu am fuddiannau aelodau’r cronfeydd, ac mae buddiannau eu haelodau yn amlwg yn cynnwys sicrhau enillion da, ond yn yr un modd, mae’n golygu ymateb—ymateb i ddymuniadau’r aelodau ac ymateb i’r risgiau ariannol a achosir gan newid hinsawdd, a chwarae eu rhan, hefyd, i sicrhau bod planed gyfanheddol ar ôl i genedlaethau’r dyfodol gael mwynhau eu hymddeoliad, fel y dywedodd cynifer o'r Aelodau yn y ddadl y prynhawn yma.

Felly, credaf mai rôl y Llywodraeth yw gweithio gydag awdurdodau pensiwn ar draws y sector cyhoeddus. Mae'n ymwneud â galw'r trafodaethau hynny ynghyd a sicrhau y ceir dysgu ar y cyd er mwyn inni allu bod yn sicr eu bod yn cydnabod y risgiau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil yr argyfwng hinsawdd. Mae'n ymwneud â chefnogi arferion gorau a lleihau rhwystrau yn ogystal ag annog uchelgais a chyflymder lle mae eu hangen.

Er nad wyf yma i egluro gweithredoedd yr awdurdodau pensiwn a’r ymddiriedolwyr, credaf eu bod yn ymateb i’r mater. Mae gan gronfa'r cynllun pensiwn llywodraeth leol bolisi newid hinsawdd a pholisi buddsoddi cyfrifol, yn ogystal â chronfa garbon isel nad yw'n buddsoddi mewn cwmnïau sy’n dibynnu ar lo i gynhyrchu refeniw. Maent hefyd wedi cyflwyno adroddiadau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu annibynnol ac adroddiadau annibynnol ar risgiau hinsawdd, ac mae cronfeydd pensiwn llywodraeth leol Cymru wedi trosglwyddo’r rhan fwyaf o’u buddsoddiadau goddefol i gronfeydd olrhain carbon isel. Mae pensiwn Aelodau’r Senedd wedi ymrwymo i symud buddsoddiadau oddi wrth danwydd ffosil. Ac rwyf eisoes wedi cyfarfod ag aelodau o awdurdodau pensiwn llywodraeth leol, ac fe wnaethom gytuno i drafod y mater penodol hwn gydag arweinwyr llywodraeth leol yn y cyngor partneriaeth statudol, fel rhan o'n ffocws parhaus ar ymateb i newid hinsawdd.

Wrth gwrs, rydym eisiau gweld camau gweithredu uchelgeisiol, cyflymach ar yr agenda hon, ac yng Nghymru, mae gennym gyfleoedd i gronfeydd pensiwn fuddsoddi wrth inni gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy. Rydym yn sefydlu swyddogaeth datblygu ynni adnewyddadwy cyhoeddus a fydd yn ceisio sicrhau buddsoddiad i gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy mewn ffordd sy'n sicrhau'r gwerth economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl i Gymru. Felly, rydym eisiau gweithio gyda chronfeydd pensiwn yng Nghymru i archwilio'r cyfle i gysylltu'r datblygiad hwnnw yng Nghymru â buddsoddiad o Gymru, ac nid yw hwn yn faes lle y gall Llywodraeth Cymru fandadu newid. Os ydym yn dymuno newid, mae'n rhaid inni helpu i wneud i hynny ddigwydd, ac mae'n rhaid iddo ddigwydd drwy'r dull partneriaeth cydweithredol hwnnw. Ond mae gan Lywodraeth Cymru rôl hanfodol o ran arwain, cefnogi a hwyluso. Mae angen inni weithio ar y cyd â phartneriaid mewn llywodraeth leol ac ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnwys ein hundebau llafur, ar yr hyn sydd, wedi’r cyfan, fel y dywedais ar y dechrau, yn uchelgais a rennir. Felly, rwy’n cefnogi’r cynnig i weithio gyda’r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030. Diolch.

15:55

Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar am gyfraniadau’r Aelodau i’r ddadl hon a’r cyfraniadau cadarnhaol gan y rhan fwyaf o Aelodau’r Siambr y prynhawn yma. Fe ddechreuaf, Lywydd, drwy grynhoi—nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd wedi cael ei Shreddies y bore yma, neu ei eirin Dinbych, ond rwy’n sicr yn anghytuno â’r rhan fwyaf o’i gyfraniad. Ond rwy'n croesawu ei fwriad i ymatal a’r cyfraniad a wnaeth y prynhawn yma.

Ond Ddirprwy Lywydd, rwy'n benderfynol o weld y cynnig hwn yn cael ei dderbyn yn Siambr y Senedd heddiw, ac y byddwn yn dangos bod Senedd genedlaethol Cymru eisiau i’n sector cyhoeddus fod yn wirioneddol garbon niwtral erbyn 2030. Diolch i’r Aelodau am eu hymgysylltiad cadarnhaol, ond hefyd am y gwaith y maent wedi'i wneud mewn blynyddoedd blaenorol. Gwn fod Jenny Rathbone a Mike Hedges wedi gweithio ochr yn ochr, a soniodd Vikki Howells yn ei chyfraniad am ein Haelodau, pan oeddem yn Aelodau'r Cynulliad, ein cronfeydd pensiwn ein hunain a’r gwaith y maent wedi llwyddo i'w wneud ar hynny. Ond soniodd Heledd Fychan am rywbeth y mae gwir angen i holl Aelodau’r Siambr edrych arno mewn perthynas â'n staff cymorth a’u cynllun pensiynau, a byddwn yn annog y Comisiwn i nodi hynny hefyd.

Ond Ddirprwy Lywydd, byddai'n chwerthinllyd pe bai gweddill y sector cyhoeddus yn dod yn garbon niwtral a bod cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yn buddsoddi mewn echdynnu tanwydd ffosil. Fel y mae Carolyn Thomas wedi’i ddweud, byddem yn ariannu'r gwaith o achub y blaned pe baem yn gwneud hyn yn iawn.

Hoffwn dalu teyrnged yma hefyd, wrth gloi, i’r holl ymgyrchwyr sydd wedi bod yn gweithio’n galed ar y mater hwn ers blynyddoedd lawer. Mae’r ddadl hon heddiw'n ymwneud â dangos arweiniad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru ac anfon neges at fuddsoddwyr cronfeydd pensiwn fod angen cydweithredu a bod angen dadfuddsoddi, ac nad tanwydd ffosil yw’r dyfodol.

Fel y nodwyd yn y Siambr hon, cafodd cronfeydd pensiwn eu dadfuddsoddi o Rwsia mewn ychydig ddyddiau. Rwy'n croesawu sylwadau Peter Fox ac rwyf hefyd yn cydnabod, fel y gwnaeth Cefin Campbell, y gwaith da a wnaed eisoes gan gynghorau ledled Cymru. Ond mae hyn yn ymwneud â safoni'r arfer ledled Cymru gyfan. Ac wrth gwrs, soniodd Peter Fox am y canlyniadau anfwriadol a allai ddod yn sgil hyn. Wel, rydym yn rhoi wyth mlynedd iddynt wneud hyn gyda tharged 2030, ac fel y dywedodd y Gweinidog, yn rhan o’r cydweithredu â Llywodraeth Cymru, mae cael y sgyrsiau gyda’n cyd-Aelodau a’n hundebau llafur i sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn sgil symud i'r cyfeiriad hwn. Ond rydym yn rhoi wyth mlynedd iddynt.

Hoffwn ystyried pobl ifanc, cenedlaethau'r dyfodol, streic hinsawdd ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a’r bobl ifanc a ddisgrifiodd Cefin Campbell. Mae'r cloc yn tician ar hyn; mae gwir angen inni weithredu, neu fel arall, ni fydd diben cael pensiynau yn y dyfodol beth bynnag.

Lywydd, rwyf am gloi drwy ddweud un peth olaf. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i fuddsoddi yn nyfodol Cymru, yn ein cymunedau a’i seilwaith. Ni allwn ddatrys yr argyfwng hinsawdd ar ein pen ein hunain, ond gallwn ddadfuddsoddi yng nghronfeydd pensiwn ein sector cyhoeddus, ac os gwnawn hynny, Cymru fydd y genedl gyntaf yn y byd i'w wneud, a bydd yn dangos arweiniad real a beiddgar i weddill y byd. Diolch yn fawr.

16:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pledleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar ddeiseb P-06-1249: Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1249, 'Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant. 

Cynnig NDM8008 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1249 'Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru' a gasglodd 10,393 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod yn dod i arfer â hyn y prynhawn yma. 

Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon.

Ddirprwy Lywydd, teitl y ddeiseb yr ydym yn ei thrafod heddiw yw 'Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru'. Mae'r ddeiseb hon wedi derbyn 10,393 o lofnodion. Mae'n dweud bod Syndrom Tourette yn effeithio ar un o bob 100 o blant, nad yw'n gyflwr prin ac mae gan Gymru un arbenigwr nad yw'n gweld plant. Mae'r ddeiseb yn galw am

'[l]wybr priodol, clir a chlinigol, a mynediad at ddarpariaeth arbenigol a gofal meddygol i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru.'

Wrth imi sefyll yma heddiw, Ddirprwy Lywydd, rydym 10 diwrnod i mewn i Fis Ymwybyddiaeth Syndrom Tourette, ymgais i godi ymwybyddiaeth o syndrom Tourette a'r anawsterau y gall eu hachosi i un o bob 100 o blant ac oedolion. Hoffwn ddiolch yn awr i'r Pwyllgor Busnes am amserlennu'r ddadl hon mor brydlon, er mwyn inni allu cyfrannu at y gwaith o godi ymwybyddiaeth.

Ddirprwy Lywydd, mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at yr anawsterau y gall dioddefwyr eu hwynebu yng Nghymru. Mae lefelau isel o ymwybyddiaeth yn golygu y gall fod yn anodd cael diagnosis, mae diffyg gofal arbenigol yn golygu y gall fod yn anodd cael mynediad cyflym at gymorth a all wneud bywyd ychydig yn haws, a gall fod anghysonderau enfawr yn y triniaethau, yn dibynnu ar lle rydych yn byw yng Nghymru. Gallwn wneud yn well, ac mae'n rhaid inni wneud yn well.

Nawr, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gan ymgyrchwyr i godi ymwybyddiaeth, gan gynnwys enwogion fel Billy Eilish a'n Hefin David ein hunain, sydd wedi rhannu profiad ei deulu o awtistiaeth gyda'r Siambr yn ddiweddar, a'r cysylltiad sydd yno hefyd. Ond yn union fel Billy Eilish a Hefin David, yr hyn y mae'r deisebydd, Helen Reeves-Graham, eisiau ei weld mewn gwirionedd yw newid gwirioneddol, ac nid codi ymwybyddiaeth yn unig, Ddirprwy Lywydd—newid yn eu cymunedau a newid gwirioneddol yn eu bywydau a bywydau'r bobl y maent yn eu caru. Os caf ddefnyddio geiriau Helen ei hun:

'Yn ddelfrydol, byddem wrth ein bodd yn gweld clinig arbenigol ar gyfer Syndrom Tourette yng Nghymru a fyddai'n cynnig pecyn gofal cyflawn o therapi, mynediad at feddyginiaethau, cymorth gyda chysgu, anawsterau ymddygiad, anawsterau symudedd, rheoli poen a help gyda chydafiacheddau eraill. Mae angen i gymorth a chefnogaeth fod ar gael ym mhob rhan o Gymru. Mae angen i'r bobl a fyddai'n darparu'r gwasanaethau hyn gael eu hyfforddi'n llawn. Mae gwir angen mynediad at arbenigwr yng Nghymru.'

A gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo i wella asesiadau a gwasanaethau cymorth ar gyfer pob cyflwr niwroddatblygiadol, gan gynnwys syndrom Tourette, a'i bod wedi cyfarfod â'r deisebydd ac eraill i glywed yn uniongyrchol gan gleifion a'u teuluoedd am yr anawsterau y maent yn eu hwynebu.

Mae gwrando ar y rhai sydd â phrofiad byw yn hanfodol os ydym am ddeall yr anghenion a'r math o gymorth sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd. Mae etholwr wedi cysylltu â fy swyddfa yn ddiweddar ac wedi rhannu gofid ei theulu oherwydd diffyg gwasanaethau cymorth. Disgrifiodd ei mab wyth oed a sut y mae syndrom Tourette yn effeithio ar ei fywyd. Mae'n dweud nad yw ei mab yn rhegi, ond mae ei gyflwr yn llawer mwy heriol ac yn ei geiriau hi, Lywydd:

'Mae'n dioddef gyda gorbryder eithafol ac mae'n cael meddyliau ymwthiol. Mae wedi siarad am sut y mae eisiau marw. Mae'n dweud wrthyf mai ei diciau sy'n dweud hyn yn ei ben ac mae'n teimlo ei fod eisiau estyn cyllell i drywanu ei hun.'

Ar y pryd, roedd ei mab yn saith oed, a chafodd ei atgyfeirio gan yr ysgol ar unwaith at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, ond dywedwyd wrthynt y byddai ar restr aros hir iawn. Lywydd, mae ei mab yn dioddef o diciau ffrynig yn ei ben, ei wyneb a'i ên. Mae ei lygaid yn llosgi, mae'n curo ei ben, mae ganddo sgiliau echddygol gwael, prin y mae'n gallu ysgrifennu, mae ei reolaeth ar gael ei weithio yn wael iawn ac mae'n dioddef llawer iawn o boen yn ei gorff o ganlyniad i symudiadau anwirfoddol sydyn, ymhlith amryw o heriau eraill. Ac er gwaethaf ei holl ddioddefaint, nid yw'r teulu wedi gallu cael gafael ar wasanaethau arbenigol, ar wahân i gefnogaeth gyson cydlynydd anghenion addysgol arbennig yr ysgol. Mae'n disgrifio darlun llwm iawn o'r modd y mae ein system iechyd yn gwneud cam â'i mab ac mae'n ofni ynghylch ei ddyfodol. Mae'n galw am addysg well i bob gweithiwr proffesiynol ynglŷn â'r cyflwr andwyol hwn. Mae hefyd yn galw am gymorth addas, cefnogaeth a llwybr meddygol clir, o'r meddyg teulu i fyny. Dyma mae ei mab ac eraill sy'n dioddef o syndrom Tourette yn ei haeddu—yr hawl i gael eu deall, eu parchu ac i gael y gofal a'r gefnogaeth y maent eu hangen mor daer.

Lywydd, bydd canlyniadau'r adolygiad gallu a galw o wasanaethau niwroddatblygiadol i rai o bob oed, a oedd i fod i adrodd ar ddiwedd mis Mawrth, yn llywio'r dull o weithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn ei fabwysiadu yn y blynyddoedd a'r misoedd nesaf. A byddwn yn ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn gallu rhannu rhai o'i syniadau wrth ymateb i'r ddadl hon.

Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed gan Aelodau eraill y prynhawn yma, ac wrth gwrs, at glywed gan y Dirprwy Weinidog. Diolch yn fawr.

16:05

Mae'n bleser mawr gennyf siarad o blaid y ddeiseb arbennig hon. Nawr, trefnydd y ddeiseb hon yw Helen Reeves-Graham, sy'n un o fy etholwyr ac mae'n ymgyrchydd aruthrol dros wella gwasanaethau i bobl â syndrom Tourette yng Nghymru, ac rwy'n falch o gael pobl fel Helen yn byw yn fy etholaeth.

Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, credir bod tua un o bob 100 o blant yng Nghymru yn byw gyda syndrom Tourette, ac mae'r cyflwr i'w weld yn wahanol mewn gwahanol bobl. Efallai y bydd gan un person symudiadau pen anwirfoddol, efallai y bydd gan un arall diciau lleisiol, ac felly ni cheir un darlun sy'n gymwys i bawb o ran sut y mae syndrom Tourette yn edrych. Fel y gwyddom, gall symptomau amrywio o fod yn ysgafn i fod yn ddifrifol, ac yn achos ticiau corfforol, gall y symptomau hyn fod yn boenus weithiau. Nawr, gall byw gyda chyflwr cymhleth fel syndrom Tourette fod yn llethol, yn enwedig i blant, ac felly mae'n gwbl hanfodol fod gofal arbenigol ar gael yng Nghymru. Mae rhai rhieni'n troi at y rhyngrwyd am gymorth i ddod o hyd i wybodaeth am y ffordd orau o gefnogi eu plant gyda syndrom Tourette, ac mae dibynadwyedd peth o'r wybodaeth honno, wrth gwrs, yn amheus. Ond ni ddylai fod wedi dod i hynny mewn gwirionedd. Dylai fod gwasanaethau cymorth ar gael yng Nghymru o ddiagnosis ymlaen, ac mae darllen adroddiadau am blant a'u teuluoedd yn teimlo'n unig ar ôl cael diagnosis yn destun pryder gwirioneddol, ac mae'n rhaid inni weithredu yn awr i sicrhau nad yw hyn yn parhau.

Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod mwy a mwy o blant ledled y DU yn cael diagnosis o diciau a syndrom Tourette, gan fod arbenigwyr yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain wedi cofnodi cynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc yn eu harddegau sy'n profi symptomau tic a phyliau tic ers dechrau'r pandemig. Nawr, cyn y pandemig COVID, byddai Ysbyty Great Ormond Street fel arfer yn derbyn pedwar i chwe atgyfeiriad y flwyddyn, ond erbyn mis Ionawr 2021, roeddent yn cael tri i bedwar atgyfeiriad yr wythnos. Ac felly, wrth i nifer yr atgyfeiriadau gynyddu, mae'r galw am fwy o gymorth a dealltwriaeth hefyd yn cynyddu, ac felly mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd ac yn sicrhau bod plant yn gallu cael gafael ar gymorth corfforol, meddyliol ac emosiynol hanfodol yma yng Nghymru. Gall peidio â chael gafael ar y gofal a'r cymorth meddygol priodol arwain at broblemau iechyd meddwl hirdymor, ac fel y mae'r deisebydd wedi nodi'n briodol, gall pobl â syndrom Tourette gael anawsterau gyda gorbryder, trafferthion cysgu, cynddaredd ac ynysu cymdeithasol. Felly, rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr effaith ddifrifol iawn y mae diffyg cymorth a gwasanaethau yn ei chael ar blant sy'n byw gyda syndrom Tourette yng Nghymru a'u teuluoedd.

Nawr, fel y dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Deisebau eisoes, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella gwasanaethau asesu a chymorth ar gyfer pob cyflwr niwroddatblygiadol, a bydd y gwaith hwnnw'n cael ei lywio gan ganlyniadau'r adolygiad gallu a galw. Wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith penodol hwnnw. Serch hynny, rwy'n falch iawn o glywed bod y Dirprwy Weinidog wedi cyfarfod â Helen Reeves-Graham i drafod yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn well i gefnogi teuluoedd yma yng Nghymru, ac er bod yr ymgysylltu'n gadarnhaol iawn, mae amser yn hanfodol i blant sy'n byw gyda syndrom Tourette, a pho hiraf y byddant yn mynd heb gymorth a gwasanaethau, y mwyaf difrifol fydd yr effaith ar eu bywydau. Dyna pam y mae angen inni weld camau gweithredu yn awr, a pham y mae angen inni weld syndrom Tourette yn cael ei flaenoriaethu yn hytrach na'i grwpio gyda chyflyrau niwroddatblygiadol eraill. Ni fydd dull un ateb i bawb yn mynd i'r afael ag anghenion pobl â syndrom Tourette yn ddigonol. Yn hytrach, rhaid i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r gwaith o sefydlu canolfan arbenigol ar gyfer pobl sy'n byw gyda syndrom Tourette yng Nghymru er mwyn iddynt allu cael gafael ar gymorth, therapi a'r gofal sydd ei angen arnynt.

Ni ddylai pobl sy'n byw gyda syndrom Tourette yng Nghymru, a phlant yn enwedig, orfod teithio dros y ffin i gael triniaethau arbenigol, a fan lleiaf, dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu mwy o ôl-ofal a chymorth ar ôl cael diagnosis. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cyflwyno fframwaith newydd i wella mynediad at y cymorth cywir, ac wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn dweud mwy wrthym am y ffordd y mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo hefyd.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi dalu teyrnged i waith caled a phenderfyniad Helen Reeves-Graham yn dosbarthu'r ddeiseb hon a sicrhau bod syndrom Tourette ar agenda wleidyddol Cymru? Rydym wedi clywed eich llais, a llais teuluoedd ledled Cymru sy'n byw gyda syndrom Tourette. Felly, Ddirprwy Lywydd, mae gennym gyfle i wneud hyn yn iawn, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau y bydd plant sy'n byw gyda syndrom Tourette yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau arbenigol yng Nghymru yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Diolch.

16:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac yn gyntaf hoffwn ddiolch i Helen am gyflwyno'r ddeiseb hon. Mae'r hyn y mae'n galw amdano'n hollol gywir—caiff syndrom Tourette ei anwybyddu gan nifer ac mae'r rhan fwyaf yn ei ystyried yn gyflwr sy'n golygu eich bod yn rhegi'n afreolus, ac rwyf fi fel llawer o bobl eraill wedi bod yn euog o feddwl hynny yn y gorffennol, ond mae llawer mwy iddo. Mae'n gyflwr niwrolegol sy'n gallu bod yn boenus iawn. Dyna pam y mae'n bwysig bod diagnosis yn cael ei wneud a bod gofal a chymorth meddygol yn dilyn hynny. Ond yng Nghymru nid oes llwybr clinigol clir ar hyn o bryd i asesu darpariaeth a gofal arbenigol, yn enwedig i blant. Dim ond un meddyg ymgynghorol a geir yng Nghymru sy'n arbenigo ar syndrom Tourette, a hynny mewn oedolion yn unig. Mae hon yn broblem fawr. Mae'r ticiau y mae pobl yn eu datblygu yn aml yn fwyaf difrifol yn ystod plentyndod a'r glasoed, ac o ganlyniad, gallant effeithio ar yr hyn rydym i gyd yn ei gydnabod fel cyfnod tyngedfennol mewn datblygiad dynol a'r broses o gymdeithasoli.

Y gwir amdani yw y gall aros nes eich bod yn oedolyn i gael diagnosis achosi llwyth o broblemau. Mae astudiaethau wedi dangos y gall cael diagnosis o syndrom Tourette helpu unigolion i ddeall eu hymddygiad eu hunain a'u helpu i esbonio eu hymddygiad i eraill. Dywed rhai eu bod wedi teimlo'n fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl cyn iddynt gael eu diagnosis, ac mae tystiolaeth yn dangos bod unigolion â syndrom Tourette yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl. Ochr yn ochr â phroblemau iechyd meddwl, nododd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i astudiaeth yr arolwg o effaith syndrom Tourette, a oedd yn cynnwys plant ac oedolion, eu bod wedi cael o leiaf un tic a achosodd boen a niwed corfforol. Dyna pam y mae mynediad at therapi galwedigaethol sy'n gallu mynd i'r afael â rheoli poen, yn ogystal ag anawsterau lleferydd a phroblemau synhwyraidd, yn hanfodol. Yn ogystal ag agor mynediad at wasanaethau a chymorth, mae diagnosis yn caniatáu i bobl gyfarfod ag unigolion eraill sydd â syndrom Tourette, gan eu helpu felly i ddatblygu ymdeimlad o gymuned a pherthyn na fyddent wedi'i deimlo fel arall o bosibl.

Os caf fynd yn ôl at bwynt cynharach a wneuthum, mae llawer mwy i syndrom Tourette nag y byddem yn ei feddwl i ddechrau. Mae llawer i'w ddweud am addysg, yn ogystal â'r modd y siaradwn amdano a mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig ag ef. Credaf fod y ddeiseb hon eisoes wedi chwarae rhan yn y gwaith o wneud hynny, a dylai Helen ymfalchïo yn hynny. Felly, unwaith eto, diolch i Helen am dynnu sylw'r pwyllgor at y mater, ac edrychaf ymlaen at weld sut y mae'r Llywodraeth yn ymateb i'r ddeiseb a'r hyn y mae'n galw amdano. Diolch.

16:15

Cefais y pleser, cyn fy nadl fer ar awtistiaeth, ADHD a syndrom Tourette bythefnos yn ôl, o siarad â Helen Reeves-Graham ar y ffôn a chlywed ei stori hi'n bersonol, ac mae'n dangos yr anhawster sy'n bodoli yn y gymuned hon. Ac un o'r pethau a grybwyllais yn fy nadl, yn fwyaf arbennig, oedd teimlo fel pinbel. Fel rhiant i rywun ag awtistiaeth, fel y mae Jack wedi'i grybwyll yn garedig—er iddo fy ngalw'n enwog hefyd, ac nid wyf yn credu fy mod yn cytuno â hynny—mae'r her o fod yn rhiant i blentyn ag awtistiaeth yn fawr, ac rydych yn teimlo fel pinbel yn sboncio rhwng gwahanol arbenigwyr. Ac mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi dweud wrthym fod gan 20 y cant o bobl sydd â syndrom Tourette anhwylder ar y sbectrwm awtistig hefyd. Mae hynny'n gadael 80 y cant nad oes ganddynt anhwylder ar y sbectrwm awtistig ac felly nid oes ganddynt fynediad at y llwybr awtistiaeth hwnnw.

A dof yn ôl at hynny mewn eiliad, ond rwyf wedi cael e-bost gan Nicola Hall, sy'n etholwr, ac mae'n dangos yn union beth a olygwn wrth binbel yn sboncio. Mae'n dweud am ei mab:

'Fe wnaethom sylwi ar diciau geiriol Aled am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2020. Roedd yn bedair oed ar y pryd. Gwnaethom roi gwybod i'r meddyg teulu am hyn, a chadarnhawyd bod hyn yn gyffredin ac y byddai'n debygol o ddiflannu ar ei ben ei hun. "Dewch yn ôl ar ôl 12 mis os ydynt yn dal i ddigwydd", meddent. Dros y 12 mis, gwaethygodd ei diciau, roeddent yn newid yn gyson ac roeddent bellach yn cynnwys ticiau echddygol. Aethom yn ôl at y meddyg teulu, cawsom ein hatgyfeirio at banel SPACE. Fe'n cyfeiriwyd at y blynyddoedd cynnar. Apeliais ar SPACE am atgyfeiriad CAMHS. Fe wnaethant wrthod. Ar ôl dod yn rhan o Dudalen Gymorth Syndrom Tourette a Thiciau De Cymru, a siarad â theuluoedd eraill ac ymchwilio, daethom i wybod mai CAMHS oedd angen inni eu gweld. Ni allai'r blynyddoedd cynnar ein helpu ac fe wnaethant ein cyfeirio'n ôl at SPACE. Cawsom ein cyfeirio gan SPACE at y gwasanaeth gofal iechyd meddwl sylfaenol, lle y cawsom ein hasesu a'n derbyn gyda'r addewid o chwe sesiwn rithwir gyda nyrs seiciatrig. Yn sesiwn tri, fe'n hysbyswyd gan y nyrs nad oedd mwy y gellid ei wneud ac y byddai'n ein hatgyfeirio at CAMHS. Rydym yn awr ar y rhestr aros am CAMHS. Mae'r rhwystredigaeth, fel y gallwch weld, rwy'n siŵr, yn deillio o'r ffaith ein bod wedi gofyn am gael ein hatgyfeirio yno i ddechrau ac mae amser wedi'i wastraffu.'

Nawr, rwyf wedi elwa o fynd at seicolegydd addysg, cymorth ysgol, lleferydd ac iaith ac amryw o wahanol leoedd, ond bob tro bydd y rhestr aros yn cynyddu a'r canlyniad terfynol yn mynd ymhellach i ffwrdd, fel y dywedais wrth y Gweinidog ddoe. Yn achos syndrom Tourette, lle mae llai yn hysbys am y cyflwr hwnnw, mae'r daith honno'n mynd hyd yn oed yn fwy cymhleth, ac weithiau efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio at wasanaethau er nad rheini yw'r rhai iawn yn y lle cyntaf. A dywedodd Nicola wrthyf mai rhieni sy'n gwybod orau. Gwrandewch ar rieni yn gyntaf, oherwydd hwy sy'n treulio'r rhan fwyaf o amser gyda'u plant ac mae angen gwrando ar eu safbwyntiau hwy yn gyntaf ac yn bennaf oll. Nawr, mae rhestrau aros yn y system, gwyddom hynny, ond cânt eu gwaethygu gan yr effaith binbel honno.

A dyna pryd y gallwch gael triniaeth, oherwydd rwyf wedi cael gohebiaeth arall gan Byron Thomas am ei fab. Roedd ei fab yn 13 oed cyn iddo gael triniaeth, er eu bod yn gwybod bod yna broblem pan oedd yn bump oed.

A soniais am awtistiaeth, a dywedais fod gan bobl ar y llwybr awtistiaeth lwybr cliriach, ac mae hynny'n sicr yn wir, ond rwyf wedi cael llythyr gan Sally Smith, sy'n dweud ei bod yn cadw dyddiadur o diciau a symptomau ei mab, a ddilynodd yr un llwybr yn union, fel pinbel yn sboncio, fel Nicola, a chymerodd flwyddyn a hanner i'w mab gael diagnosis ar ôl y cyfnod hwnnw. Ond dywedodd wrthyf hefyd fod yr unig gymorth y mae'n ei gael yno oherwydd ei awtistiaeth; nid oes y fath beth â chymorth ar gyfer syndrom Tourette. Felly, mae problemau'n wynebu'r rheini ohonom sy'n rhieni i blant ag awtistiaeth hyd yn oed, ac mae'r llwybr hwnnw'n dal i fod yn ddryslyd ac yn aneglur iawn. 

Ac yn olaf, hoffwn sôn fy mod wedi cael, gan Jane Hutt—. Gan ei bod yn Weinidog, ni all siarad yn y ddadl hon, ond anfonodd fanylion ataf am un o'i hetholwyr y mae gan ei mab, Ben, broblemau. Mae Jane wedi'u hanfon i'r Gweinidog, ond addewais y byddwn yn codi'r mater yn y ddadl hefyd. Weinidog, dyna ni, dyna'r e-bost ei hun. Dyna ni. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y Dirprwy Weinidog yn clywed y straeon hyn. A byddwn yn dweud bod gennym y person iawn yn swydd y Dirprwy Weinidog, oherwydd rwyf wedi bod mewn cyfarfodydd gyda rhieni a'r Dirprwy Weinidog, ac wedi'i gweld yn gweithredu. Mae hi wir eisiau datrys y problemau hyn. Mae llawer o rannau cymhleth, rhannau symudol cymhleth, i hyn, ond mae pethau y gellir eu gwneud. Ac i gloi, rwy'n credu mai'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud yw gwrando ar rieni a'r rhai sy'n profi syndrom Tourette.

Hoffwn innau hefyd longyfarch Helen Reeves-Graham am godi'r mater hwn, oherwydd heb hynny, ni fyddem wedi'i drafod. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i Diana Beljaars, arbenigwr academaidd ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi gwneud ymchwil ar y pwnc hwn, yn rhannol oherwydd bod aelod agos o'i theulu yn dioddef o syndrom Tourette, felly, yn amlwg, mae hynny wedi ysgogi ei diddordeb yn hyn. Ac o siarad â hi, dysgais lawer iawn am hyn. Roeddwn bob amser yn gwybod am y gweiddi a'r rhegi, ond nid oeddwn yn gwybod unrhyw beth am y ffyrdd eraill y mae'n arddangos ei hun ar wahân i diciau. Felly, dywedir wrth blant am roi'r gorau i symud, i aros yn llonydd yn yr ystafell ddosbarth, ac yna cânt gerydd am ymddygiad na allant wneud unrhyw beth yn ei gylch, am nad ydynt yn gwybod pam eu bod yn ei wneud.

Fy nealltwriaeth i yw bod syndrom Tourette yn cael ei achosi gan gyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol, felly mae'n amlwg fod angen llawer mwy o waith ymchwil. A oes cysylltiad, er enghraifft, â llygredd aer? Mae cymaint yr ydym yn dechrau ei ddeall am effaith llygredd aer ar wahanol agweddau ar iechyd pobl.

Yn amlwg, mae'n bwysig fod gennym wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae'n rhaid inni wrando ar y bobl sy'n gofalu am y plant hyn, a rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r hyn y maent yn ei ddweud. Nawr, nid oes y fath beth a chyfarwyddiadau i rieni, felly efallai na fydd rhiant am y tro cyntaf yn sylweddoli bod unrhyw beth o'i le am symptomau penodol plentyn gyda syndrom Tourette. Ond yr hyn a nododd Diana wrthyf oedd bod pobl yn aml yn cael gwybod nad oes angen triniaeth ar y rhan fwyaf o blant, felly mae'n ymateb tebyg i droi cefn: 'Rydym wedi gwneud diagnosis, mae gennych syndrom Tourette, ond ni chewch unrhyw beth gennym ni', ac mae'n amlwg fod yn rhaid i hynny ddod i ben.

Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf y gallwn i gyd wneud rhywbeth yn ei gylch yw mynd i'r afael â'r gwahaniaethu y gall pobl â syndrom Tourette ei brofi, yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gweithle, oherwydd gall pobl golli eu swyddi o ganlyniad i'r ffaith nad yw'r cyflogwr yn deall bod y symudiadau anarferol y gallai rhywun fod yn eu harddangos yn rhai na allant wneud unrhyw beth yn eu cylch, ond nad yw hynny'n eu hatal rhag bod yn wych yn eu swydd.

Ac mae dwy enghraifft dda iawn y dysgais amdanynt, sy'n ddiddorol iawn, oherwydd roeddwn wedi tybio, os oes gennych syndrom Tourette, na allech fod yn llawfeddyg. Nid yw hynny'n wir. Mae'n debyg bod yna niwrolawfeddyg enwog iawn, Peter Hollenbeck, sy'n gweithio yn yr Unol Daleithiau, ac sydd wedi ennill pob math o wobrau, gan gynnwys y wobr athro gorau ym Mhrifysgol Purdue gan y Coleg Gwyddorau, a sawl gwobr arall am ei waith ar y system nerfol.

A'r ail berson sydd efallai'n haws ei ddilyn i'r rhan fwyaf o bobl yw Tim Howard, a arferai fod yn gôl-geidwad i Glybiau Pêl-droed Everton a Manchester United, ac aeth ymlaen wedyn i fod yn un o gôl-geidwaid Clwb Pêl-droed Memphis 901 yn yr Unol Daleithiau. Mae'n cael ei ystyried yn eang fel un o'r gôl-geidwaid mwyaf yn hanes pêl-droed America.

Felly, yn amlwg, dyma ddau unigolyn sy'n gwneud swyddi lle mae cydsymud llaw a llygaid yn gwbl hanfodol, a'r rheswm pam eu bod yn gallu rhagori yn eu proffesiwn dewisol, mae'n debyg, yw oherwydd, pan fyddwch yn canolbwyntio ar rywbeth—ac yn amlwg, pan fyddwch o flaen y gôl, rydych yn canolbwyntio—nid oes gennych syndrom Tourette, ond os ydych yn cysgu gallwch brofi ticiau neu beth bynnag yw'r symptomau o syndrom Tourette. Mae'r cyfan yn ddiddorol iawn i mi, ond mae hefyd yn ffordd wych iawn o ddweud, os oes gan eich plentyn syndrom Tourette, nad yw hynny'n golygu na allant ragori yn eu gyrfa ddewisol.

16:20

Diolch i Helen Reeves-Graham am greu'r ddeiseb hynod bwysig hon. Fel y dywedodd Jack, gwyddom fod syndrom Tourette yn effeithio ar un o bob 100 o blant, felly nid yw gweld dros 10,000 o lofnodion o blaid darparu llwybr clinigol, gofal meddygol ac arbenigwyr i bobl â syndrom Tourette yng Nghymru yn syndod. Dywed Coleg Brenhinol y Seiciatryddion y bydd hyd at 85 y cant o bobl â syndrom Tourette hefyd yn profi cyflyrau sy'n cyd-ddigwydd, gan gynnwys anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, anhwylder gorfodaeth obsesiynol ac anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth.

Yn ystod fy nghyfnod yn y byd addysg, gweithiais gyda nifer o blant a gafodd ddiagnosis, ac mewn rhai achosion, rhai na chafodd ddiagnosis, o syndrom Tourette. Gwelais yn uniongyrchol sut y mae byw gyda syndrom Tourette yn cael effaith ar yr unigolyn a'r teulu sy'n ymdrin â'r cyflwr hwn. Roedd yn ofidus gweld plentyn bach yn brwydro'n ddyddiol â'r cyflwr hwn, ac roedd yr un mor ofidus clywed y rhieni'n erfyn am gymorth a chefnogaeth.

Gall y senarios bob dydd a gymerwn yn ganiataol fel tasgau gweddol hawdd fod yn anodd iawn i blant sy'n dioddef gyda syndrom Tourette—cymysgu â chyfoedion yn y dosbarth ac yn ystod amser egwyl, cwblhau gwaith ysgol. Disgwylir i blant â syndrom Tourette ddal y bws ysgol gyda phlant eraill gyda dim ond un gofalwr, pan fydd y rhan fwyaf o rieni a gwarcheidwaid yn dweud wrthych fod plant â syndrom Tourette angen gofalwr ar eu cyfer hwy yn unig. Gall fod yn flinedig yn feddyliol ac yn gorfforol i bawb dan sylw.

Mae'r diffyg ymwybyddiaeth o syndrom Tourette yng Nghymru yn gwneud pethau fel mynd i siopa neu gerdded drwy'r parc yn brofiad anodd iawn, gan wybod y bydd llygaid yn debygol o'ch dilyn. Mae angen inni sicrhau bod pobl sydd â syndrom Tourette yng Nghymru yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, nid eu gwawdio. Gall y pwysau ychwanegol o chwilio'n gyson am gymorth a chefnogaeth, a methu cael gafael ar y gofal a'r cyfleusterau meddygol cywir, arwain at broblemau iechyd meddwl hirdymor. Nid rhegi'n unig yw syndrom Tourette. Gall fod yn flinedig. Drwy symudiadau anwirfoddol, sy'n boenus ac yn wanychol, gall arwain at anawsterau cysgu, gorbryder, ynysu cymdeithasol a phyliau o gynddaredd. Mae'n gyflwr cymhleth, a dylid ei drin felly.

Mae angen inni wneud yn well, yn gyntaf, mewn perthynas â gwneud diagnosis o'r cyflwr, codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr, a sicrhau bod y driniaeth a'r cymorth cywir ar gael i unigolion, teuluoedd a gofalwyr. Rwy'n llwyr gefnogi'r ddeiseb hon a byddaf yn gweithio i sicrhau bod y rhai sy'n dioddef gyda syndrom Tourette yng Nghymru yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. 

16:25

Diolch, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon y prynhawn yma a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau. Fel y dywedodd Jack Sargeant yn ei gyflwyniad, mae heddiw'n amserol gan ein bod ar hyn o bryd yng nghanol Mis Ymwybyddiaeth Syndrom Tourette, a gorau po fwyaf o ymwybyddiaeth y gallwn ei godi.

Rwyf wedi cyfarfod yn ddiweddar, yr wythnos ddiwethaf mewn gwirionedd, â Helen a chyda rhieni eraill i blant ag anhwylderau tic a syndrom Tourette, a dyma'r ail dro i mi gyfarfod â'r grŵp hwn o rieni. Yn y cyfarfodydd hyn, dywedodd rhieni wrthyf am y trafferthion y maent wedi'u cael wrth geisio cymorth i'w plant, ac mae Aelodau heddiw wedi disgrifio rhai o'r anawsterau y mae pobl wedi gorfod eu hwynebu. Ac mae'r materion a godwyd ganddynt, ynghyd â'u cryfder a'u penderfyniad, ar flaen fy meddwl wrth inni ymdrechu i wneud newidiadau cadarnhaol.

Fel y dywedodd Hefin, rwy'n credu, 'Gwrandewch ar rieni yn gyntaf,' a dyna beth rwy'n ei wneud, a chredaf na all neb egluro'r sefyllfa yn well na'r rhieni eu hunain. Ac rwyf wedi gwrando'n astud ar yr hyn y mae Aelodau wedi'i ddweud am brofiadau unigol eu hetholwyr, ac wrth gwrs rwyf wedi darllen y llythyr a roddodd Hefin i mi am Ben o Fro Morgannwg, yn etholaeth Jane Hutt.

Felly, yn gyntaf, mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn, person ifanc ac oedolyn niwroamrywiol, ynghyd â'u rhieni a'u gofalwyr, yn gallu manteisio ar y gwasanaethau a'r gofal sydd ei angen arnynt. Mae gwasanaeth cynaliadwy wedi ei adeiladu ar seiliau da ac mae'r gwaith a wnaed i ddarparu'r cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth wedi rhoi sail gadarn i ni wneud newidiadau gwirioneddol er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer pob cyflwr niwroddatblygiadol, gan gynnwys syndrom Tourette. Rwy'n credu bod gwasanaethau ar gyfer awtistiaeth yn bendant wedi gwella, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cyflyrau eraill yn cael eu gwella hefyd.

Pan oeddem yn siarad â rhanddeiliaid, pan oeddem yn datblygu'r cod awtistiaeth, fe wnaethom wrando pan ddywedwyd wrthym, er gwaethaf y cynnydd a wnaed yn y gwasanaethau awtistiaeth, fod llawer o bobl â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn dal i'w chael hi'n anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, er bod eu hanghenion yn aml yn debyg neu'n cyd-ddigwydd gydag awtistiaeth, fel y crybwyllwyd eisoes y prynhawn yma. Ac adleisiwyd y negeseuon hyn yn fy sgyrsiau â rhieni plant â syndrom Tourette. Felly, dyna pam ein bod yn ehangu ein dull o weithredu o ffocws ar awtistiaeth i geisio gwelliannau ar draws y cyflyrau niwroddatblygiadol, megis syndrom Tourette a hefyd Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd. Mae gennym dîm polisi penodedig, sy'n gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, gan gysylltu'n agos ag adrannau ar draws Llywodraeth Cymru, megis addysg. Mae ein tîm awtistiaeth cenedlaethol yn ehangu ei gylch gwaith a'i arbenigedd i ddarparu cyngor ar draws y cyflyrau niwroddatblygiadol.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, a gwn ei fod wedi cael ei grybwyll sawl gwaith y prynhawn yma, ein bod wedi comisiynu adolygiad gallu a galw o wasanaethau niwroddatblygiadol y llynedd i geisio cael gwell dealltwriaeth o'r amseroedd aros cynyddol a'r pwysau ar y gwasanaeth niwroddatblygiadol ac i geisio nodi opsiynau ar gyfer gwella. Ar ôl derbyn cyflwyniad ar ei ganfyddiadau, rwy'n ystyried adroddiad terfynol yr adolygiad ar hyn o bryd. Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi'n fuan ac rwy'n bwriadu gwneud cyhoeddiad am y camau gweithredu uniongyrchol, tymor canolig a hirdymor y byddwn yn eu cymryd i gefnogi gwelliant. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu ar frys i leihau'r pwysau ar wasanaethau asesu a rhoi cymorth a chefnogaeth gynnar ar waith i deuluoedd sydd angen cymorth ar unwaith. Yn fy nhrafodaethau gyda'r teuluoedd, cefais dy nharo gan daerineb eu hangen am gymorth a pha mor anodd oedd cael gafael ar y cymorth hwnnw pan wnaethant sylweddoli fod yna broblemau yr oedd yn rhaid ymdrin â hwy. Bydd gan y trydydd sector rôl allweddol yn darparu cymorth i deuluoedd ac rydym wedi dechrau gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau fel Tourettes Action UK ar hyn. 

I gloi, gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth niwroddatblygiadol cynaliadwy i Gymru a fydd yn ei hanfod wedi'i gydgynllunio gydag unigolion a theuluoedd sydd â phrofiad byw o'r cyflyrau hyn, gan gynnwys syndrom Tourette. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad am ein cynigion cyn gynted ag y gallaf wneud hynny.

16:30

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Os caf ddiolch i’r holl Aelodau, gan gynnwys aelodau o'r pwyllgor ac Aelodau o’r Senedd, am eu cyfraniadau, ac wrth gwrs, i’r Gweinidog, nid yn unig am ei hymateb, ond am ei hymrwymiad i gefnogi’r teuluoedd hynny a'r bobl sy’n dioddef o gyflyrau niwroddatblygiadol.

Rydym wedi clywed, onid ydym, o bob rhan o'r Siambr, y rheswm pam fod angen inni ddarparu llwybr clinigol—y gofal meddygol hwnnw a'r arbenigwyr hynny ar gyfer pobl â syndrom Tourette—a pham ei bod mor hanfodol gwella ansawdd bywyd pobl, boed gan Helen Reeves-Graham, y deisebydd ac un o fy etholwyr, neu un o etholwyr Jane Hutt, Ben. Fel y nododd Hefin David yn gwbl gywir yn ei gyfraniadau, mae hyn yn hollbwysig i fywydau’r bobl hynny a’u teuluoedd. Disgrifiodd Hefin yr effaith pinbel a disgrifiodd un o'i etholwyr hynny hefyd.

Felly, credaf ein bod yn aros am eich cyhoeddiad gyda diddordeb, Weinidog, ond rydym yn ddiolchgar am eich cefnogaeth i hyn. Fel y dywedoch chi, rydych wedi gwella gwasanaethau awtistiaeth, ond mae llawer o waith ar ôl i'w wneud. A dylem fod yn gwrando, yn gwbl briodol, nid yn unig ar y 10,000 o bobl a lofnododd y ddeiseb hon neu a gefnogodd ac a rannodd y ddeiseb hon, ond y rheini na wnaethant ac sydd hefyd yn dioddef o gyflyrau niwroddatblygiadol. Felly, a gaf fi ddiolch eto i’r holl Aelodau, i bawb a lofnododd ac a gefnogodd y ddeiseb hon, ond yn bennaf i Helen Reeves-Graham—un o etholwyr Paul Davies—a’r rheini sydd wedi ei chynorthwyo i ddod â hyn i lawr eu Senedd ac i gael ymateb y Gweinidog? Ac wrth gwrs, rydym yn aros gyda chryn ddiddordeb am y gwaith rydych yn ei wneud. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Cyllid ar ôl Brexit

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.

Eitem 7 sydd nesaf, dadl Plaid Cymru ar gyllid ar ôl Brexit. Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8009 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu nad yw ffrydiau ariannu ar ôl Brexit yn gweithio i Gymru.

2. Yn gresynu at y ffaith y bydd Cymru £1 biliwn ar ei cholled o ran cyllid na chafwyd arian yn ei le dros y tair blynedd nesaf.

3. Yn credu bod trefniadau newydd sy'n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU wedi tanseilio gallu Llywodraeth Cymru i gynllunio gwariant yn strategol er budd Cymru a'i chymunedau.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i adfer goruchwyliaeth ddemocrataidd Cymru dros y ffrydiau ariannu ar ôl Brexit drwy eu datganoli i'r Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Pam ein bod wedi galw am y ddadl hon heddiw? Gallwn ddechrau sôn yn syth bin am fanylion gwahanol gronfeydd ac atgyfodi hen ddadleuon ynghylch Brexit, ond hoffwn ddechrau mewn termau mwy syml: rydym yn wynebu trychineb costau byw. Mae’r rhan fwyaf eisoes wedi dechrau teimlo’i effeithiau ar ôl y cynnydd mewn prisiau ynni ar 1 Ebrill, ac adroddodd y penawdau ddoe y bydd bil ynni cartref cyffredin yn codi £800 y flwyddyn eto ym mis Hydref. Tra bo hyn oll yn mynd rhagddo, nid yn unig nad oes gan Gymru’r ysgogiadau ariannol a lles sydd gan San Steffan i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn, ond rydym wedi ein hamddifadu o gyllid hefyd wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, cyllid a allai wneud byd o wahaniaeth yn awr. Yn hytrach na’r prosiectau digyswllt sy’n gwneud mân newidiadau ar yr ymylon, mae Plaid Cymru'n galw am ddefnyddio’r cyllid ffyniant bro i gyflwyno rhaglenni gwirioneddol drawsnewidiol megis ôl-osod stoc dai Cymru, un o’r stociau tai hynaf yn Ewrop, i arbed dros £600 i aelwydydd ar filiau ynni. Mae Plaid Cymru hefyd yn galw am ddatganoli’r gronfa ffyniant gyffredin, ac am fabwysiadu fformiwla ariannu sy'n seiliedig ar anghenion, gan roi’r cyfle inni unioni'r dull mympwyol o’r brig i lawr a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU.

Mae angen datganoli’r gronfa ffyniant gyffredin i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y cronfeydd yn cael eu cyfeirio’n briodol i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw yn uniongyrchol. Mae ffigurau chwyddiant a chyfraddau twf economaidd yn ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol o chwyddwasgiad y DU; record y Ceidwadwyr yw 12 mlynedd o fethiant i greu economi sy’n sicrhau llesiant i bobl ledled y Deyrnas Unedig. O’r argyfwng bancio hyd heddiw, mae Llywodraeth San Steffan wedi bachu ar bob cyfle i orfodi mesurau cyni ac i sicrhau Brexit caled o’i gwaith ei hun. Mae'r rheini wedi cyfuno i waethygu argyfwng costau byw'r DU. Oes, mae yna achosion eraill sydd wedi bod y tu hwnt i'n rheolaeth, ond mae'r rhain yn ddewisiadau ideolegol a fydd yn cael eu cofio fel creadigaethau'r Torïaid.

Nid yw'r gronfa ffyniant bro'n gwneud unrhyw beth i gywiro camgymeriadau'r gorffennol na darparu ar gyfer y dyfodol. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, mae trefniant ariannu ôl-Brexit y Llywodraeth hon ar gyfer Cymru yn brin o £772 miliwn mewn cronfeydd strwythurol yn unig ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2025, ac yng Nghymru, rydym yn wynebu colli mwy nag £1 biliwn mewn cyllid heb gael unrhyw gyllid yn ei le dros y tair blynedd nesaf. Mae hynny nid yn unig yn ymosodiad ar ddatganoli yng Nghymru, fel y mae Gweinidog yr economi wedi’i ddweud eisoes, ond mae hefyd yn addewid etholiadol a dorrwyd. Yn 2019, addawodd y Blaid Geidwadol raglen decach ac wedi’i theilwra’n well i’n heconomi yn lle cyllid rhanbarthol yr UE. Fodd bynnag, hyd yma, nid yw swm y cyllid a ddyrannwyd i’r perwyl hwn wedi cadw at addewid rhethreg Llywodraeth y DU ynghylch codi'r gwastad. Nid dyna a addawyd ar dudalen 15 o faniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig yn 2019, a ddywedodd na fydd

'unrhyw ran o’r DU ar ei cholled pan na fydd cyllid yr UE ar gael mwyach'.

Ac nid dyna chwaith oedd yr hyn a addawyd ar dudalen 29, a ddywedodd

'na fydd Cymru yn colli unrhyw bwerau na chyllid ar ôl i ni ymadael â’r UE'.

A bod yn deg, mae'n rhaid bod meinciau’r Ceidwadwyr Cymreig yma yn siomedig hefyd, wrth i’w maniffesto ar gyfer 2021 nodi eu gobeithion i weld cronfa ffyniant gyffredin y DU yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac amddifadedd ac yn codi'r gwastad yng Nghymru gyfan. Flwyddyn ar ôl y maniffesto hwn, mae anghydraddoldeb ac amddifadedd wedi gwaethygu. Dair blynedd i mewn i’w thymor a chwe blynedd ar ôl Brexit, ni all Llywodraeth y DU fynegi na sicrhau unrhyw fanteision clir i Gymru. Mae arnom angen setliad ariannu gonest, ymgysylltu datganoledig, a ffocws ar gyflawni yn hytrach na chyhoeddiadau deniadol.

Mae agenda ffyniant bro’r DU yn atal Llywodraeth Cymru rhag y gwaith o reoli’r gronfa ffyniant gyffredin, gyda dyraniadau’n cael eu gwneud i ardaloedd awdurdodau lleol yn seiliedig ar gynlluniau buddsoddi gyda chymeradwyaeth yn cael ei rhoi gan Weinidogion Llywodraeth y DU. Mae hyn yn fwriadol yn osgoi trosolwg democrataidd y Senedd. Yn y bôn, mae egwyddor yn y fantol yma: dylai penderfyniadau ar gyfer Cymru gael eu gwneud gan Gymru. Senedd Cymru, sydd wedi’i hethol yn ddemocrataidd, a ddylai benderfynu sut i wario'r ychydig arian sydd ar ôl. Lle mae problem, ymddengys mai ateb Llywodraeth y DU bob amser yw datrysiad clytiog sy’n gwasanaethu carfan fach o’r boblogaeth. Nid oes gan Lywodraeth y DU syniadau ar ôl—heblaw canoli pwerau nad oes ganddynt—ac maent yn eistedd ar eu dwylo wrth i'r economi y maent yn gyfrifol amdani fethu gweithio i aelwydydd a busnesau nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, dylai'r neges hon fod wedi cael ei chlywed amser maith yn ôl. Llywodraeth y DU a’i haddawodd, wedi’r cyfan. Ni fyddwn byth yn rhoi'r gorau i'w hailadrodd, a byddwn bob amser yn eu hatgoffa ohoni: 'Heb fod geiniog ar ein colled, heb golli unrhyw bŵer'.

16:35

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1 yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i rymuso cymunedau lleol yng Nghymru drwy'r agenda ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin.

2. Yn croesawu'r cadarnhad a gafwyd dro ar ôl tro gan Lywodraeth y DU na fydd Cymru ar ei cholled o ran cyllid ar ôl ymadael â'r UE.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o'r ffordd y gweinyddir cronfeydd yr UE o dan gynlluniau'r cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd fel bod buddsoddiad gan y ddwy lywodraeth yn y dyfodol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i economi Cymru. 

Cynigiwyd gwelliant 1.

16:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod y Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllid ôl-UE, ac fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae’n debyg y bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn edrych ar y mater hwn yn ddiweddarach eleni, ar ôl i’r Pwyllgor Cyllid gwblhau ei ymchwiliad. Wrth gwrs, mae darparu cyllid yn effeithiol ar ôl Brexit yn hanfodol, yn enwedig ar adeg pan fo costau byw yn codi a phopeth o fwyd i danwydd i ynni yn costio mwy a mwy i aelwydydd.

Gwyddom fod cronfeydd strwythurol yr UE yn hollbwysig er mwyn cefnogi rhaglenni i fynd i’r afael ag amddifadedd, a chredaf fod hwnnw’n bwynt pwysig iawn. Nid ydym yn sôn am brosiectau seilwaith strategol yn unig, ond mewn sawl achos, prosiectau cymunedol lleol sy’n cael effaith enfawr ar sut y mae pobl yn byw yn eu cymunedau. Gwn fod cyllid yr UE wedi’i ddefnyddio yn fy etholaeth i er mwyn darparu rhaglenni cymorth i fusnesau, prentisiaethau, prosiectau twristiaeth a chynlluniau amgylcheddol. Felly, fel y dywedais o’r blaen yn y Siambr hon, mae mor bwysig nad yw Cymru'n colli'r cyllid hwnnw yn y dyfodol, fel y gall prosiectau barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau.

Mae ein gwelliant heddiw'n ailgadarnhau'r datganiadau y mae Llywodraeth y DU wedi'u hailadrodd na fydd Cymru ar ei cholled o ran cyllid, ac fel Aelodau ar draws y Siambr hon, byddaf yn parhau i wthio i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai rhaglenni blaenorol yr UE yn cael eu cynyddu a’u lleihau, ac y byddai ei hymrwymiad cyllido’n cael ei gyflawni gan gyfuniad o gronfeydd yr UE o raglen 2014-20 a buddsoddiad drwy’r gronfa ffyniant gyffredin. Yn wir, codwyd lefel y cyllid gydag arbenigwyr mewn un o gyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Cyllid. Credaf mai Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru a eglurodd fel hyn:

'mae’r ddwy Lywodraeth yn gwneud honiadau gwahanol yn seiliedig ar ragdybiaethau hollol wahanol am y dyraniadau a’r gwariant. Felly, mae hynny, ac yna mae mater y data sydd ar gael i'r cyhoedd ar faint o gyllid etifeddol sydd gennym. Nid ydym yn gwybod yn iawn beth fyddai wedi digwydd i gyllid yr UE o ran y cronni, pe baem wedi cael cyfnod rhaglen ariannu newydd. Ac wrth gwrs, ni wyddom beth a fydd yn digwydd i'r gronfa ffyniant gyffredin ar ôl 2024-25, y credaf y byddai angen i chi ei chymharu'n iawn i gael darlun cyflawn o'r gymhariaeth â chyllid blaenorol yr UE.'

Felly, mae'n amlwg fod angen mwy o dryloywder gan y ddwy Lywodraeth ar y ffigurau y maent eisoes wedi'u cyhoeddi. Hoffwn ddweud yn glir y dylai Llywodraeth y DU roi mwy o eglurder ynghylch ei dyraniad i Gymru, ond ni ddylai Llywodraeth Cymru fod yn rhydd rhag unrhyw gyfrifoldeb chwaith. Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau rhai ffigurau, nid yw wedi rhoi cyfrif am gyllid etifeddol yr UE, na faint o gyllid sy’n dod o’r UE, nac wedi gwahaniaethu rhwng dyraniadau a gwariant gwirioneddol, fel yr amlygwyd yn y sesiwn ddiweddar honno yn y Pwyllgor Cyllid.

Mae ein gwelliant hefyd yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i rymuso cymunedau lleol yng Nghymru drwy’r agenda ffyniant bro a’r gronfa ffyniant gyffredin. Er nad yw rhai'n hoffi hyn, y gwir amdani yw bod gan Gymru ddwy Lywodraeth, ac mae’r cyllid uniongyrchol i awdurdodau lleol yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli grym i gynghorau sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu’r cyllid hwn. Fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen—[Torri ar draws.]—rydym newydd weld pa mor gadarn y mae ein hawdurdodau lleol wedi bod yn ystod y pandemig, a bydd eu gwybodaeth leol yn amhrisiadwy wrth ddarparu’r buddsoddiad hwn. Ildiaf i’r Aelod dros Ogwr.

Diolch am ildio, Paul. Rwy’n deall yr hyn a ddywedwch ynglŷn â mynd â rhai o’r penderfyniadau hyn i lawr i ardal leol. A dweud y gwir, dyna oedd y grŵp strategol a fu'n edrych ar gyllid rhanbarthol yng Nghymru yn edrych arno, yn seiliedig ar fodelau gorau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Cefais y fraint o'i gadeirio am ychydig. Ond yr hyn nad oeddent yn ei awgrymu, mewn unrhyw ffordd, oedd osgoi’r fframwaith polisi yng Nghymru ar lefel genedlaethol. Roeddent yn cydnabod yr angen am bartneriaeth a gweithio o fewn y cyd-destun hwnnw. Pam fod Llywodraeth y DU wedi dewis osgoi’r sefydliad datganoledig hwn a Llywodraeth Cymru i bob pwrpas?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwyf wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon ei bod yn bwysig fod Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd, ond mae hyn yn ymwneud â datganoli go iawn, onid yw? Mae’n datganoli’r materion hyn i awdurdodau lleol, ac mae hynny’n hynod bwysig, gan y gall awdurdodau lleol flaenoriaethu’r prosiectau yn eu hardaloedd eu hunain. Dyna yw datganoli.

Mae rhan olaf ein gwelliant yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o'r ffordd y mae cronfeydd yr UE wedi’u gweinyddu yn y cynllun cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd, fel bod buddsoddiad yn y dyfodol, gan y ddwy Lywodraeth, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i economi Cymru. Mae rheolaeth ar gyllid Ewropeaidd wedi'i beirniadu yn y gorffennol gan rai am fod yn rhy gymhleth a biwrocrataidd.

Dywedodd PLANED, partneriaeth a arweinir gan y gymuned yn sir Benfro, wrth y Pwyllgor Materion Cymreig,

'Mae cronfeydd Ewropeaidd, er eu bod yn cael eu croesawu a'u gwerthfawrogi, ac yn hanfodol i lwyddiant llawer o brosiectau yn sir Benfro, fel yng ngweddill Cymru a’r DU, hefyd wedi bod yn faich gweinyddol a biwrocrataidd a all amharu, yn aml, ar gyflawniad, allbynnau, a newid cynaliadwy'.

Ac wrth ymateb i hynny, mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn iawn i ddweud bod y gwaith o ddatblygu’r gronfa ffyniant gyffredin yn gyfle i fynd i’r afael â’r problemau hyn a sefydlu system ariannu sy’n llai beichus yn weinyddol. A byddaf yn sicr yn gwneud yr hyn a allaf i annog Llywodraeth y DU i roi sicrwydd fod y gwersi hynny wedi'u dysgu.

Felly, dylai pob Aelod yn y Siambr fod yn awyddus i weld cyllid ôl-UE yn cael ei ddarparu'n llwyddiannus, lle mae cyllid yn cyrraedd y cymunedau y mae angen iddo eu cyrraedd ac yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i wneud ein hardaloedd lleol yn fwy llewyrchus ar gyfer y dyfodol. Felly, Lywydd, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.

16:45

Hoffwn ganolbwyntio ar effaith Brexit ar gyllid ymchwil ac arloesi, sy’n dangos yn glir yr honiad yn ein cynnig nad yw ffrydiau cyllido ôl-Brexit yn gweithio i Gymru. Felly, pam fod hyn yn broblem? Mae ymchwil ac arloesi'n hollbwysig i gynhyrchiant a ffyniant ein cenedl. Mae’n ein helpu i ddeall yn well pwy ydym ni a'r ffordd orau o gynllunio ein dyfodol, gan alluogi’r ymchwil a wneir yn ein prifysgolion i gael effaith gadarnhaol a chadarn ar ein bywydau yma yng Nghymru a thu hwnt. Llwyddodd yr enillydd gwobr Nobel, Andre Geim, i grynhoi gwerth ymchwil sylfaenol. Dywedodd,

'Nid oes y fath beth â gwybodaeth sylfaenol ddiwerth. Byddai'r chwyldro silicon wedi bod yn amhosibl heb ffiseg gwantwm. Mae mathemateg haniaethol yn gwneud diogelwch y rhyngrwyd yn bosibl ac yn sicrhau nad yw cyfrifiaduron yn chwalu bob eiliad. Efallai fod damcaniaeth perthnasedd Einstein yn amherthnasol yn eich barn chi, ond ni fyddai eich system llywio â lloeren yn gweithio hebddi. Mae'r gadwyn rhwng darganfyddiadau sylfaenol a nwyddau defnyddwyr yn hir, yn aneglur ac yn araf—ond dinistriwch y pethau sylfaenol, a bydd y gadwyn gyfan yn dymchwel'.

Ac nid oes angen inni edrych ymhellach na blynyddoedd y pandemig i ddeall ein hangen am y ddau ddiwylliant, y dyniaethau a gwyddoniaeth. Nid oes angen inni edrych ymhellach na'r argyfwng hinsawdd i ddeall pam fod ein bywydau yn llythrennol yn nwylo ein hymchwilwyr.

Nododd adroddiad Llywodraeth Cymru yn 2019 ar ddiogelu ymchwil ac arloesi ar ôl gadael yr UE:

'Bydd Brexit yn golygu gostyngiad sylweddol yn y buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu yn y DU. Os nad eir i’r afael â hyn, bydd colli cymaint â hyn o arian strwythurol yn fygythiad anghymesur i ecosystem ymchwil ac arloesi gynhyrchiol Cymru, a hynny ar ôl llwyddo dros y ddau ddegawd diwethaf i gyflawni cystal, ac yn well yn wir, na gwledydd eraill y DU a gwledydd a rhanbarthau eraill o'r un maint yn Ewrop ac yn rhyngwladol o ran effaith cyhoeddiadau ymchwil'.

Mae'n amlwg fod y rhagfynegiad hwn yn gwbl gywir. Yr hyn sy’n druenus yw nad yw Llywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ddigonol ers hynny er mwyn sicrhau yr eir i’r afael ag effaith colli cyllid yr UE, gan fod y risgiau’n glir. Mae cronfeydd strwythurol yr UE wedi chwarae rhan hollbwysig yng nghapasiti ymchwil Cymru. Sicrhaodd Cymru oddeutu 25 y cant o gyfanswm dyraniad y DU ar gyfer y cyfnod 2014-20—mwy na phum gwaith cyfartaledd y DU. Yn ystod y cyfnod hwn, dyrannwyd €388 miliwn i Gymru o gyfanswm y DU o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop ar gyfer ymchwil ac arloesi—yr uchaf o unrhyw un o’r gweinyddiaethau datganoledig. Ac ers 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu buddsoddi dros £500 miliwn o gyllid sy'n gysylltiedig â’r UE mewn ymchwil ac arloesi. Felly, ni ellir gorbwysleisio effaith colli'r cyllid hwn, heb arian digonol yn ei le. A'r rheswm am hynny yw nad yw Cymru, ar hyn o bryd, yn cael cyfran o gyllid ymchwil ac arloesi'r DU sy'n cyfateb i'r gyfran y dylem ei disgwyl yn unol â fformiwla Barnett. Yn 2020, er enghraifft, er bod 5 y cant o boblogaeth y DU yn byw yng Nghymru, 2 y cant yn unig o gyllid ymchwil a datblygu’r DU a gawsom. Mae lefel buddsoddiad Cymru mewn ymchwil a datblygu yn sylweddol is na chyfartaleddau'r DU a'r UE. A bydd y darlun hwn yn gwaethygu wrth i brifysgolion Cymru fod o dan anfantais anghymesur, o ystyried y lefel uchel o ddibyniaeth ar gyllid yr UE yn hanesyddol.

Yn 2018, amlygodd adolygiad yr Athro Reid o ymchwil ac arloesi yng Nghymru a ariennir gan y Llywodraeth, er bod yr ecosystem ymchwil ac arloesi yng Nghymru yn gryf, nad oedd yn ddigon mawr i wireddu potensial llawn Cymru. A gŵyr pob un ohonom, er mwyn ehangu, fod angen cyllid arnoch yn y rhan fwyaf o achosion. Felly, sut y mae dyfodol y sector hollbwysig hwn yn edrych, pan fo 79 y cant o gyfanswm cyllid yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesi yng Nghymru yn dod o gronfeydd strwythurol yr UE, ac mae’r gronfa ffyniant gyffredin gannoedd o filiynau o bunnoedd yn brin o’r addewid gwag na fyddem ‘geiniog ar ein colled'? Wel, nid yw'n edrych yn dda, oherwydd o ystyried pa mor fach yw sylfaen ymchwil Cymru, nid yw'n realistig y byddai rhagor o lwyddiant yn amgylchedd cyllid ymchwil ac arloesi cystadleuol y DU yn unig yn ddigon i dyfu neu hyd yn oed i gynnal ymchwil a datblygu Cymru ar y lefelau blaenorol. O ystyried hyn, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ar fyrder â’r bwlch enfawr hwn yn y cyllid, a fydd yn peryglu ein capasiti ymchwil ac arloesi.

Mae’r Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd wedi tynnu sylw at ganlyniadau methiant Llywodraeth Cymru i roi argymhellion llawn adolygiad Reid ar waith, argymhellion a luniwyd i ddiogelu a chryfhau ymchwil ac arloesi yng Nghymru, yn wyneb y niwed a achoswyd gan Brexit. Mae'r Sefydliad Ffiseg, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Prifysgol Caerdydd, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a Prifysgolion Cymru wedi gwneud hynny hefyd. Wrth egluro safbwynt Llywodraeth Cymru, mae Gweinidog yr economi wedi tynnu sylw at rôl Deddf y farchnad fewnol a chronfa ffyniant gyffredin y DU yn lleihau’r cyllid disgwyliedig ac ymrwymiadau blaenorol cysylltiedig.

Er fy mod yn gofyn, felly, i’r holl Aelodau gefnogi ein galwad ar Lywodraeth y DU i ddatganoli cyfrifoldeb dros y ffrydiau cyllido ôl-Brexit newydd, hoffwn hefyd dynnu sylw Llywodraeth Cymru at y ffaith bod y sefyllfa bresennol yn sicr yn fwy o reswm iddynt weithredu ar unwaith, i ategu a chynnal prif sbardun ffyniant ein cenedl. Diolch.

16:50

Rwyf am geisio peidio â gwneud unrhyw bwyntiau gwleidyddol o gwbl heddiw. Yr unig beth a wnaf, pan ymyrrais arnoch yn gynharach, Paul—. Mae’r ymagwedd a fabwysiadwyd yn ddiddorol, gan mai’r unig bobl sydd wedi’u hatal rhag cyfrannu at hyn i raddau helaeth yw Aelodau o’r Senedd hon, gan fod Aelodau o Senedd y DU yn cael eu crybwyll yn benodol o fewn yr angen i fwrw ymlaen â hyn. Felly, nid Aelodau o'r Senedd hon, Senedd Cymru—yn cynnwys chi a fi—ond hefyd, ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru a'r fframwaith polisi. Nid y dylai Llywodraeth Cymru wneud hyn, ond y dylent fod yn bartner llawn yn hyn o beth. Nawr, y rheswm y soniaf am hynny yw ein bod wedi treulio tair blynedd—tair blynedd o fy mywyd. Nid yw wedi cael ei wastraffu, rwy'n falch o weld, gan fod rhywfaint ohono wedi gweithio'i ffordd i mewn i'r ffordd ymlaen yn awr. Mae wedi gwneud hynny; mae wedi treiddio i mewn iddi, ar ôl inni dreulio tair blynedd yn cyflwyno'r fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru. Cafodd hwnnw ei gydgynhyrchu gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, y trydydd sector, addysg uwch, addysg bellach, y byd academaidd, pawb, ac roedd yn seiliedig ar fodelau gorau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Roeddem yn poeni bod hynny’n mynd i gael ei ddiystyru. Mae wedi'i roi o’r neilltu yn rhannol, ond rwy’n falch o ddweud, yn y cyfnod prysur o bythefnos cyn gwneud y cyhoeddiad, ar 13 Ebrill, rwy'n credu, gyda’r cyhoeddiad ar y gronfa ffyniant gyffredin wedi ei symud ymlaen—bu cyfnod prysur o bythefnos o drafodaethau dwys ar ôl dim byd am fisoedd, ond bu cyfnod prysur o bythefnos. Yn y pythefnos hwnnw, un o’r consesiynau a gafwyd oedd cydnabyddiaeth ein bod, yng Nghymru, yn cydweithredu. Yng Nghymru, ceir fframwaith o bartneriaethau—partneriaethau rhanbarthol, awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd, gyda'r trydydd sector, gydag eraill—ac mae hyn rywsut wedi cael ei gynnwys yn sgil protest y pythefnos olaf hwnnw—. Ond y peth siomedig, Darren—ac rwy'n fwy na pharod i dderbyn ymyriad—yw, o'r holl gydweithredu hwnnw, y bartneriaeth honno, yr holl waith a wnaed dros dair blynedd, gyda rhywfaint ohono wedi'i gynnwys, yw mai ni yw'r unig bartner sydd ar goll, ac ni allaf ddeall hynny.

Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Credaf eich bod yn iawn i godi’r ffaith ei bod yn anffodus, yn fy marn i, nad yw Aelodau o’r Senedd yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau yn yr un ffordd ag Aelodau Seneddol y DU mewn perthynas â'r ffrwd gyllido newydd hon. Ond a ydych yn derbyn hefyd, gyda dull Llywodraeth Cymru o weithredu, ei fod yn destun gofid na chefais unrhyw lais yn yr hyn a oedd yn cael ei wario yn fy etholaeth fy hun, ac na chawsoch chi unrhyw lais yn yr hyn a oedd yn cael ei wario yn eich etholaeth chithau ychwaith, o ran y ffordd yr oeddent yn dyrannu'r arian a oedd ar gael gan yr Undeb Ewropeaidd. Felly, onid ydych yn credu bod hynny, efallai—[Torri ar draws.]—onid ydych yn credu bod hynny, efallai, felly, yn wers i Lywodraeth Cymru yn y ffordd y mae'n ymdrin ag arian grant yn y dyfodol? Oherwydd rwy’n cytuno â chi, rwy'n credu y byddai’n wych rhoi mwy o lais i fwy o bobl leol, gan ein cynnwys ni.

16:55

Mae hynny'n rhan o'r gwersi y gwnaethom eu cynnwys yn y fframwaith a gyflwynwyd gennym ac y bu'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn gweithio gyda ni yn uniongyrchol arnynt dros y tair blynedd hynny. Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gyda llaw, yn dal i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y materion hyn, ac rwy'n credu, y cwestiwn hwnnw ynghylch dysgu gwersi yn sgil cael gwared â pheth o’r fiwrocratiaeth, ond o fewn y cynigion yma, Darren, yr hyn sydd gennym yw peth o'r baich gweinyddol—mae'n broses geisiadau gystadleuol yn awr rhwng y partïon a chanddynt fuddiant. Mae’r broses geisiadau gystadleuol honno bellach yn cael ei rheoli gan awdurdodau lleol unigol. Gallwn fynd drwy'r rhestr o'r hyn a glywsom ar y fforwm sy'n parhau mewn fformat gwahanol i rannu profiadau Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Ffederasiwn Busnesau Bach, y trydydd sector a phawb arall, a'r hyn y maent yn ei ddweud am eu profiad o hyn. A dweud y gwir, maent bellach yn ysgwyddo'r baich o weinyddu hyn—[Torri ar draws.] Fe ildiaf, ond rwy'n ymwybodol o'r amser.

Mae'n un byr iawn. Ac wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn dweud pa mor anodd yw hi iddynt ymdrin â baich gweinyddol hyn. Mewn ymateb i’r hyn a ddywedodd Darren Millar, oes, wrth gwrs, mae gennym ni, fel Aelodau o’r Senedd, gyfle i graffu ar benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru. Dyna yw ein rôl fel seneddwyr, ac a yw’r Aelod dros Ogwr yn cytuno mai’r perygl wrth roi dylanwad uniongyrchol i Aelodau yw eich bod yn troi’r sefyllfa yn wleidyddiaeth 'casgen borc'?

Edrychwch, byddai'n gas gennyf ddweud ei bod yn mynd i fod felly, ond yn wir, mae yna berygl, ac mae'r ffaith na allwn graffu—felly, mae aelodau'r fforwm eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith bod ganddynt bryderon y bydd rhai o'r cynigion sy'n cael eu gwneud yn dyblygu rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru. Nawr, nid yn unig y byddai hynny'n wastraff ar adnoddau ac amser, sy'n brin beth bynnag, ond efallai y byddant yn gweithio yn erbyn ei gilydd. Wel, yn sicr, mae hynny'n wallgof. Nid yw hynny’n fodelu fframwaith economaidd rhanbarthol da. Felly, Darren, dylem allu ymgysylltu ar y prosiectau hyn, nid yn unig ar lefel leol, ond ar lefel ranbarthol ac yma, a sicrhau eu bod yn iawn fel nad ydym yn dyblygu.

Mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi derbyn cwpl o ymyriadau, felly bydd fy amser ar ben cyn bo hir, hynny yw, nawr—

Nid wyf yn siŵr eich bod wedi dechrau eto mewn gwirionedd, rydych wedi derbyn cymaint o ymyriadau. [Chwerthin.]

Prin fy mod wedi dechrau—[Chwerthin.]—prin fy mod wedi dechrau. Felly, hoffwn sôn am un neu ddwy o'r heriau sydd eisoes wedi'u nodi ar y fforwm. Un yw’r baich ychwanegol y mae’n ei roi ar awdurdodau lleol, gan fod yn rhaid iddynt reoli’r broses geisiadau gystadleuol. Yn ail, yr amserlen dynn, mae ganddynt rhwng yn awr a mis Awst i drafod rhwng gwahanol awdurdodau lleol beth yw'r ceisiadau gorau, a gwneud yr holl bethau y gallem fod wedi'u gwneud mewn ffordd wedi'i rheoli'n llawer gwell yno. Mae gennym heriau hefyd, rhaid imi ddweud, o ran edrych ar yr hyn sydd orau o fewn strwythur rhanbarthol. Y peth da yw bod y cydweithredu a adeiladwyd gennym dros nifer o flynyddoedd yng Nghymru yn ein rhoi mewn sefyllfa dda yn hynny o beth, gan nad wyf yn synhwyro awydd gan awdurdodau lleol i edrych ar ôl eu buddiannau eu hunain ar draul eraill, maent yn awyddus i adeiladu ar yr hyn roeddem yn ei wneud eisoes yng Nghymru, a chydweithio. Ond mae llawer o risgiau ynghlwm wrth hyn.

Felly, yn y ddadl hon heddiw, byddwn yn dweud wrth bobl, ewch i edrych—. Os ydych am gael golwg ddiduedd, gytbwys ar yr hyn y mae rhanddeiliaid yn ei ddweud am y broses hon, gan gynnwys eu dadansoddiad o bwyntiau Llywodraeth Cymru ar y ffaith ein bod, ar hyn o bryd, yn brin o arian, ein bod heb gael arian digonol, a'n bod yn edrych i weld sut y cawn arian yn ei le, ewch i edrych ar gofnodion y tri chyfarfod a gawsom eisoes, gyda'r pedwerydd i'w gyhoeddi cyn bo hir. Rwy'n gobeithio mai'r hyn a welwn, Weinidog, yw aeddfedu o'r sefyllfa hon, gyda Llywodraeth y DU yn estyn llaw, a Llywodraeth Cymru yn estyn atynt hwythau hefyd, i ddweud, 'Gadewch inni wneud i hyn weithio i Gymru.' Oherwydd rydym wedi bod mewn twnnel tywyll ers amser maith, mae'n rhaid imi ddweud, ac nid wyf yn siŵr a ydym wedi dod allan ohono. Ac rwy'n poeni nad yw'r pontio hwn rhwng y sefyllfa yr oeddem ynddi gyda chyllid yr UE a lle rydym yn anelu ato yn cael ei reoli mor effeithiol ag y gallai fod.

Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw ac rwy'n croesawu penderfyniad Huw i beidio â gwneud pwyntiau gwleidyddol, ac rwyf innau am geisio peidio â gwneud rhai hefyd. Ond rwy'n cytuno gyda fy nghyd-Aelod, Paul Davies, ar ei grynodeb o’r sefyllfa, ac rwyf innau hefyd yn credu'n gryf fod yn rhaid i Lywodraeth y DU anrhydeddu'r ymrwymiad a wnaed ganddi dro ar ôl tro i sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran o gyllid ôl-UE. O’r hyn a glywaf eisoes ar y Pwyllgor Cyllid, ac rydym eto i weld yr ymateb, ceir darlun cliriach o gyllid ôl-Ewropeaidd, ac yn amlwg, mae camddealltwriaeth neu safbwynt gwahanol yma. Yn amlwg, byddai eglurder yn bwysig o'r ddwy ochr, ac nid yw yno, nid yw'r tryloywder hwnnw yno.

Ond credaf fod yn rhaid inni fod yn ofalus nad ydym yn ystyried hyn yn fygythiad cyson i ddatganoli; mae'n gyfle, a chredaf, fel y dywed Huw, ei fod yn gyfle i lywodraethau gydweithio i sicrhau'r gorau oll i'w cymunedau lleol. Fel arweinydd yn y gorffennol, gwn fod awydd i ddatganoli i awdurdodau lleol. Efallai nad ydynt yn dweud hynny'n gyhoeddus mewn rhai ardaloedd, ond ni ddylai unrhyw arweinydd cyngor a’u cabinetau nad ydynt am gael mynediad at yr ysgogiadau i wneud newid gwirioneddol yn eu cymunedau fod yn arweinydd. Dylent fod yn ceisio sicrhau arian i helpu eu cymunedau, yn agos at gymunedau, i helpu busnesau a chynyddu cyfleoedd.

Mae'n rhaid inni gydnabod bod swm sylweddol o arian eisoes wedi bod yn llifo drwy'r gwahanol gynlluniau—£121 miliwn, fe wyddom, ar gyfer prosiectau i wella seilwaith yng Nghymru drwy'r gronfa ffyniant bro; £46 miliwn ar gyfer 165 o brosiectau drwy'r gronfa adfywio cymunedol; a gwyddom y bydd £585 miliwn o'r gronfa ffyniant gyffredin, ynghyd â'r cyllid Ewropeaidd sydd ar ôl, yn cael ei wario ac yn gyfwerth â'r cyfleoedd a oedd yno ynghynt.

Ond Lywydd, nid oeddwn yn mynd i wneud fy nghyfraniad ar ffigurau yn unig. Roeddwn yn awyddus i feddwl am y ddadl hon mewn ffordd ychydig yn wahanol. Yr hyn sydd ar goll o’r ddadl yn fy marn i yw trafodaeth ynglŷn â pham fod angen y cyllid hwn arnom o hyd yn y lle cyntaf, yn dilyn degawdau o fuddsoddiadau tebyg. Fel rhan o’r Undeb Ewropeaidd, roedd Cymru'n cael cyllid sylweddol drwy’r mecanwaith cyllid strwythurol, a oedd yn cael ei ategu gan gyllid Llywodraeth y DU, ond fel y gwyddom yn iawn, y rheswm am hyn oedd bod y rhan fwyaf o Gymru yn y categori ‘llai datblygedig’, sef rhanbarthau â chynnyrch domestig gros y pen cyfartalog o lai na 75 y cant o’r cyfartaledd ar gyfer yr UE. A beth gyflawnodd y gronfa hon mewn gwirionedd? Oes, mae enghreifftiau o brosiectau da sydd wedi bod o fudd i gymunedau, ond mae datblygiad economaidd yn dal i fod ar ei hôl hi, er gwaethaf y gwahanol fentrau a ffrydiau cyllido. Er enghraifft, pan gyrhaeddodd arian Amcan 1 yn gyntaf, roedd gwerth ychwanegol gros yn rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn 62.1 y cant o gyfartaledd y DU. Erbyn 2019, roedd yn 63.4 y cant o'r gwerth ychwanegol gros ar gyfer Cymru gyfan. Erbyn 2019, roedd yn 72.6 y cant yn unig o gyfanswm y DU—[Torri ar draws.] O, mae’n ddrwg gennyf, Jenny—ie, os gwelwch yn dda.

17:00

Fe'm syfrdanwyd wrth eich clywed yn dweud, 'Pam fod angen yr arian hwn ar Gymru rhagor?' Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd ac mae gennym raglen ddatgarboneiddio enfawr y mae angen inni ei chyflawni, a dyna un o'r pethau y defnyddiwyd y rhaglen Ewropeaidd ar ei gyfer. 

Diolch ichi am hynny. Rwy'n credu eich bod wedi fy nghamddeall. Rwy'n gofyn am ddadl ehangach ynglŷn â pham ein bod yn dal i fod yma ar ôl 20 mlynedd. Rwy'n ymwybodol fod arian wedi'i gyfeirio at rai meysydd newydd sy'n ymddangos, ond mae'n rhaid inni ofyn i ni'n hunain pam y mae'r wlad yn dal i fod mewn sefyllfa mor enbyd o ran twf economaidd, ac nad ydym yn gweld y symudiad sydd ei angen arnom i ysgogi ein cymunedau, er gwaethaf yr holl gyllid sydd wedi mynd i mewn i'r ardal.

Fe wyddoch o adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ei fod wedi datgan mai Cymru sydd â'r gyfradd tlodi uchaf ym mhedair gwlad y DU, gyda bron un o bob pedwar—23 y cant o bobl—yn byw mewn tlodi; rhwng 1997 a 2000, roedd y gyfradd hon yn 26 y cant. Felly, er gwaethaf holl gyllid yr UE, mae Cymru'n dal i wynebu tlodi parhaus ac economi sydd ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill y DU. Felly, y cwestiwn go iawn yw nid faint o arian y mae Cymru'n ei gael, ond sut y gallwn ddefnyddio'r mecanwaith ariannu newydd fel dechrau newydd i sicrhau bod y buddsoddiadau a wneir gan y ddwy Lywodraeth yn y dyfodol—ac rwy'n pwysleisio y ddwy—yn gwneud gwahaniaeth real, hirdymor i economi a chymunedau Cymru. Oherwydd, yn y pen draw, er gwaethaf yr holl ddadlau yn y fan hon, rhaid inni beidio ag anghofio'r hyn y mae angen i'r cyllid hwn ei wneud. Felly, nid yw'n ymwneud â gweiddi am bwy sy'n iawn a phwy sy'n anghywir; mae'n ymwneud â sut y defnyddiwn yr arian a chodi'r wlad hon allan o'r sefyllfa y mae ynddi ar hyn o bryd.

Yn union fel y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, dylai'r cyllid a ddyrennir i Gymru gael ei wario gan Lywodraeth Cymru. Mae honno'n egwyddor sylfaenol. Gadewch inni gofio ddwy flynedd yn ôl fod Llywodraeth Llundain wedi cyhoeddi'r gronfa lefelu i fyny a oedd yn werth bron i £5 biliwn o bunnoedd ar gyfer Lloegr yn unig. Dim ond blwyddyn yn ddiweddarach ddaru nhw gydnabod y byddai ychydig ohono fo yn cael ei rannu rhwng yr ardaloedd a'r gwledydd datganoledig, efo £800 miliwn yn cael ei rannu drwy fformiwla Barnett i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn lle lefelu i fyny, yr hyn rydym ni'n ei weld ydy'r cynigion diweddaraf yn lledaenu'r adnoddau sydd gennym ni yn deneuach ac yn tynnu arian oddi wrth y mannau hynny lle mae eu hangen nhw fwyaf.

Byddwch chi'n cofio, mae'n siŵr, o dan feini prawf yr Undeb Ewropeaidd yn flaenorol, roedd Gwynedd yn cael ei hystyried fel ardal a oedd angen cymorth ariannol, ac mi ddaru Gwynedd dderbyn cyfraniadau oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd yn y miliynau. Ond, o dan y gyfundrefn bresennol, mae Gwynedd yn cael ei gweld fel ardal sydd ddim angen cymorth ac felly yn un o'r ardaloedd isaf o ran cymorth yn lefelu i fyny, tra bod sir ac ardal y Canghellor yn cael ei chydnabod fel un o'r ardaloedd oedd angen mwy o bres ac yn derbyn mwy o arian. Felly, mae'r drefn sy'n cael ei gosod gan San Steffan yn un gwyrdroëdig sydd yn gweithio yn erbyn ein hardaloedd mwyaf anghenus.

Nawr, os edrychwn ar agwedd arall, wrth edrych ar gyllid ar gyfer COVID-19 ac ymdrin â'r pandemig, ymhell o brofi cryfder yr undeb, ymateb y DU i'r pandemig mewn gwirionedd oedd un cymhorthdal enfawr i dde Lloegr. Mae'r Ganolfan Polisi Blaengar wedi cyfrifo bod Llywodraeth y DU wedi gwario £1,000 yn fwy y pen ar drigolion Llundain nag ar drigolion Cymru, a £6.9 biliwn yn fwy ar Lundain na phe bai gwariant argyfwng wedi'i ddyrannu'n gyfartal i bob gwlad a rhanbarth.

Ymateb i flaenoriaethau San Steffan yw rhanbarthau cynllunio strategol presennol Cymru, gan gynnwys bargeinion dinesig a thwf Llywodraeth y DU a chronfeydd ffyniant cyffredin. Maent yn amddifadu tri chwarter Cymru o hyfywedd economaidd a diwylliannol, ac yn parhau i wneud ein dyfodol yn ddibynnol ar friwsion o fwrdd rhywun arall, yn hytrach na gwasanaethu fel cyfrwng i gysylltu ein cymunedau rhwng y gogledd a'r de, y dwyrain a'r gorllewin, a gwireddu potensial ein gwlad ein hunain.

I droi at sector y mae ffrydiau ariannu ôl-Brexit yn effeithio'n fawr arno, mae'r Ceidwadwyr, unwaith eto, wedi torri'r addewidion a wnaed yn eu maniffesto yn 2019 i gymunedau gwledig ac amaethyddol. Rhaid inni ddwyn Llywodraeth y DU i gyfrif am ymrwymiadau a wnaed ynglŷn â chyllid ar gyfer ffermio yng Nghymru yn y dyfodol. Cyhoeddodd cyllideb yr hydref a'r adolygiad o wariant y byddai £300 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd yn cael ei ddyrannu i Gymru ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig, sef £37 miliwn yn llai na'r gyllideb a ddyrannwyd yn 2019. Dyna pryd yr addawodd maniffesto'r Torïaid warantu cyllideb bresennol y polisi amaethyddol cyffredin i ffermwyr ym mhob blwyddyn o'r Senedd nesaf. Bydd hyn yn golygu bod amaethyddiaeth Cymru tua £248 miliwn, bron £0.25 biliwn, yn waeth ei byd erbyn 2025. Mae'r cyd-destun presennol wedi arwain at fwy o ansicrwydd i ffermwyr Cymru, gan ei gwneud yn anos i randdeiliaid a llunwyr polisi yn Llywodraeth Cymru ddarparu'r manylion a'r eglurder sydd eu hangen ar ffermwyr Cymru. Er bod rhai ffermwyr yn aml o'r farn fod system hirsefydlog y PAC yn rhwystr biwrocrataidd i weithgarwch ffermio, ni ellid amau ei chryfderau yn darparu chwarae teg ar draws llawer o wledydd. Am flynyddoedd, rhoddodd y PAC gymorth sylfaenol i ffermwyr ledled Cymru ac Ewrop a'u diogelu rhag aflonyddu ar y farchnad. Fel y nodwyd eisoes, mae Brexit wedi cael gwared ar hyn. Rydym bellach yn rhuthro i lenwi'r bwlch deddfwriaethol a adawyd ar ôl wrth i'r DU adael yr UE, a'r PAC yn sgil hynny.

Ac o ran cronfeydd strwythurol yr UE, gan eu bod wedi'u dyrannu ar asesiad gwrthrychol o angen, yn hanesyddol, arweiniodd y dull hwnnw sy'n seiliedig ar anghenion at Gymru'n cael 24 y cant o gyllid strwythurol y DU, mwy y pen nag unrhyw un o'r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, gan adlewyrchu'r bwlch sy'n bodoli rhwng rhannau tlotaf Cymru a chyfartaledd y DU. Yn ei ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ar gyllid ôl-UE, mae'r NFU wedi awgrymu y dylai'r Cyngor Cynghori ar Ffyniant Bro, a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU, gynnwys cynrychiolaeth benodol o Gymru a chefn gwlad er mwyn rhoi hyder y ceir arian yn lle arian yr UE yn llawn. Maent hefyd yn dweud eu bod yn credu

'y dylid ymgynghori'n ffurfiol ar ffrydiau ariannu yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei oruchwylio'n strategol effeithiol fel y gall weithio i Gymru, ffermio a'n cymunedau gwledig'

hefyd.

Felly, fel mae Plaid Cymru wedi egluro yn y ddadl hon, mae agenda ariannu San Steffan ar ôl Brexit wedi golygu hyd yma fwy o bwerau i San Steffan, mwy o arian i seddi'r Torïaid, a llai o ddemocratiaeth i Gymru, a llai o gyllid a chynrychiolaeth i Gymru hefyd. Rydyn ni'n haeddu gwell na'r ymgais amlwg hon i brynu teyrngarwch i undeb rhanedig a methedig, anghyfartal a blinedig. Diolch.

17:10

Diolch, Llywydd, a dwi'n ddiolchgar iawn hefyd i Blaid Cymru am y ddadl yma heddiw.

Mae pobl wedi cael gwybod dro ar ôl tro ers refferendwm 2016—mae'n ymddangos yn amser maith yn ôl, onid yw—na fyddem geiniog yn waeth ein byd na phan adawsom yr UE. Nid wyf am ailadrodd y dadleuon ynglŷn â pha mor annigonol y mae Llywodraeth y DU wedi bod gyda'r trefniadau newydd, ond rwyf am ddweud ei bod yn teimlo braidd fel pe baem yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd, oherwydd rydym yn dal i ddod yn ôl at y mater pwysig hwn, ac mae mor hanfodol ein bod yn dal i wneud hynny, oherwydd efallai fy mod yn gweld llygedyn o obaith gan rai o'r Ceidwadwyr draw yno. Rwy'n falch iawn o glywed Paul Davies yn dweud ei fod am herio Llywodraeth y DU, a bod Peter Fox hefyd yn teimlo y dylid cael tryloywder. Ond gwrandewch ar yr hyn rydych chi'n ei glywed y prynhawn yma. Rydych chi'n clywed am ein ffermwyr yng Nghymru, rydych chi'n clywed am yr hyn y maent yn ei golli. Clywsom y prynhawn yma, a chawsom y ddadl a'r drafodaeth am ein ffermwyr yng Nghymru a pha mor bwysig oedd eu cefnogi, ac eto—. Addawyd iddynt, yr ymadrodd hwn, 'na fyddent geiniog yn waeth eu byd' wrth inni adael yr UE. Fel y clywsom, maent wedi colli tua £375 miliwn y flwyddyn i gynnal bwyd o safon fyd-eang, safonau lles anifeiliaid rhagorol a chadwyn gyflenwi bwyd a diod gwerth £7 biliwn. Os gwelwch yn dda, ewch â'r negeseuon hynny yn ôl at Lywodraeth y DU.

A Peter Fox, efallai nad ydych yn deall yr effaith yr oedd Sioned Williams yn sôn amdani ar ein prifysgolion yma yng Nghymru ac effaith colli cyllid arnynt. Sicrhaodd Prifysgol Aberystwyth, yn fy rhanbarth i, dros £40 miliwn o arian yr UE er mwyn datblygu'r campws menter newydd ac arloesol, canolfan filfeddygol o'r radd flaenaf ac amrywiaeth o sgiliau a phrosiectau eraill hefyd. Mae'r arian ymchwil a datblygu hwn yn hanfodol i ni yma yng Nghymru. Rydym yn siomi pobl ifanc, rydym yn siomi ein ffermwyr, rydym yn siomi ein ffermwyr, rydym yn siomi ein cymunedau gwledig. Rhaid inni wneud yn well, a rhaid inni wneud hynny yn awr. Mae ymagweddu gwleidyddol y Ceidwadwyr yn San Steffan yn parhau i danseilio ein prifysgolion a'n ffermwyr. [Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf dderbyn ymyriad.

Diolch am dderbyn yr ymyriad, Jane. Credaf ichi sôn am fy sylwadau ynglŷn ag ymchwil a datblygu. Cytunaf yn llwyr â Sioned ynglŷn ag ymchwil a datblygu, ac nid o reidrwydd oherwydd y gronfa hon, ond yn hytrach oherwydd diffyg rhyngweithio'r Llywodraeth wrth geisio denu ymchwil a datblygu i'r wlad hon. Edrychwch ar yr Alban, y ffordd y mae'r Alban wedi ysgogi cymaint mwy nag a wnaethom ni. Rydym ni—y Llywodraeth hon—wedi siomi Cymru mewn perthynas ag ymchwil a datblygu, ac mae angen inni wneud llawer mwy. Ond roeddwn yn gofyn yn fy nghyfraniad pam ein bod wedi mynd i'r sefyllfa hon, a pham nad ydym wedi gwneud mwy yn ei gylch tan yn awr. Nid wyf yn dweud nad oes angen cyllid, ond pam rydym yn dal i fod yn y sefyllfa hon? Ac er eglurder, mae'r gymuned ffermio yn dal i gael £337 miliwn y flwyddyn. Mae hynny'n ffaith.

Wel, diolch yn fawr am eich ymyriad. Efallai y gallech ymateb i'r NFU. Fel y mae Mabon wedi dweud wrthym, mae'r NFU eu hunain wedi dweud wrthym am y diffyg cyllid i'n ffermwyr a pha mor siomedig y maent yn teimlo, felly mae'n bwysig iawn inni feddwl am y ffermwyr hynny a'n cymuned amaethyddol. Ac mae ymchwil a datblygu yn gwbl hanfodol i Gymru, yr Alban a Lloegr. Fy her i chi, ac fe ddof i ben gyda hyn: os yw Ceidwadwr am codi ar ei draed a dweud wrthym am golli cyllid yr UE, atebwch y tri chwestiwn hyn. Pam na fydd Cymru ar ei cholled? O ble y daw'r arian hwnnw? Faint, a phryd y daw? Oherwydd rydym yn dal i aros, ac ni allwn aros yn hwy ar ran ein cymunedau. Diolch yn fawr iawn.

Nid wyf yn siarad y prynhawn yma i achub cam Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, rwy'n anghytuno â chynnig Plaid Cymru y prynhawn yma a safbwynt y rhai sy'n tynnu eu llinynnau yn Llywodraeth Cymru. Ni fydd Cymru £1 biliwn yn waeth ei byd dros y tair blynedd nesaf am nad yw'n cael cyllid yr arferai ei gael, ac nid yw Llywodraeth y DU ychwaith wedi tanseilio gallu Llywodraeth Cymru i gynllunio gwariant yn strategol er budd Cymru a'i chymunedau. Rhaid trin propaganda amlwg o'r fath gan genedlaetholwyr Cymreig gyda'r dirmyg y mae'n ei haeddu. Byddai cyfrifyddu dwbl, ffigurau ffansïol a'r hanes adolygiadol a ddefnyddiwyd i feddwl am golledion dychmygol Cymru—byddai'n ddoniol pe na bai mor beryglus. Ei unig bwrpas yw tanseilio'r Deyrnas Unedig a hyrwyddo agenda genedlaetholgar o lusgo Cymru annibynnol fel y'i gelwir yn groes i'w hewyllys yn ôl i mewn i'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Plaid Cymru, a'r Blaid Lafur am ryw reswm anhysbys, am fynd â ni yn ôl i oes aur ein haelodaeth o'r UE, pan oedd y cymorthdaliadau'n fawr a'r trên grefi ar ei anterth. Ond yn eu rhuthr i beintio beddargraff caredig i'r gorffennol, nid ydynt yn sôn am yr holl adegau pan oeddent hwy eu hunain yn taro allan yn erbyn cynlluniau ariannu biwrocrataidd diwerth yr UE—cynlluniau a luniwyd i godi Cymru allan o dlodi, ond a fethodd wneud dim heblaw creu mwy o fiwrocratiaid ac ambell brosiect porthi balchder. Roedd arian Amcan 1 yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i wella ffyniant economaidd Cymru—

17:15

Roedd yn frawychus felly pan fethodd ar bob cyfrif wrth i Gymru ddod yn gymwys unwaith eto ar gyfer cronfeydd strwythurol. Hyd yn oed ar ôl i'r UE gael ei ehangu drwy dderbyn hen wladwriaethau cytundeb Warsaw o ddwyrain Ewrop, er bod biliynau o ewros yn cael eu pwmpio i orllewin Cymru a'r Cymoedd, roedd ein gwlad yn dal i fod mor dlawd, neu hyd yn oed yn dlotach, na llawer o'r hen wledydd bloc Sofietaidd a oedd wedi llenwi'r UE. Unwaith eto, roedd biliynau o ewros yn gorlifo i Gymru mewn ymgais i godi'r gwastad yng Nghymru. Yr hyn y mae Plaid Cymru yn hoff o'i anwybyddu yw'r ffaith mai dim ond ar delerau a bennwyd gan yr UE y gellid gwario'r arian hwn. Nid oedd gan y sefydliad hwn unrhyw lais, unrhyw ddylanwad, felly nid yw'n syndod mai'r hyn a ddaeth i'r amlwg oedd rhes o addewidion wedi'u torri, prosiectau aflwyddiannus ac economi ddisymud.

Mae cynlluniau newydd Llywodraeth y DU yn gwrthgyferbynnu’n llwyr. Eu nod yw sicrhau'r budd mwyaf posibl i gymunedau lleol, gyda'r bwriad o roi'r gair olaf i drigolion lleol mewn prosiectau i wella eu hardaloedd, ac eto mae hyn yn annerbyniol i wleidyddion Plaid Cymru a Llafur. Nid ydynt yn poeni am gymunedau lleol, maent ond yn poeni am ddal eu gafael ar bŵer. Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y cynnig hwn a chefnogi—

Rwy'n credu eich bod yn rhy ddig, a dylech ystyried ymdawelu yn eich cyfraniad. 

Na, na, dicter oedd hynny. Roedd yn ormod. Gofynnaf ichi ystyried hynny ar gyfer eich cyfraniadau yn y dyfodol. Oedd, roedd hynny'n dipyn o sioc yno, a dweud y gwir. Rwy'n mynd i ofyn i'r Gweinidog gyfrannu yn awr. Rebecca Evans. Ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n tawelu pethau, er mor angerddol ydych chi, ond angerdd tawel sydd orau bob amser yn fy marn i.

O'r gorau. Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cynnig hwn heddiw a'r cyfle y mae'n ei roi inni drafod mater hollol hanfodol. Er gwaethaf ymrwymiadau niferus gan Lywodraeth y DU na fyddwn geiniog yn waeth o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU—ac mae hyn yn ffaith—wedi methu anrhydeddu ei haddewid i ddarparu arian yn lle cronfeydd strwythurol a buddsoddi'r UE yn llawn, gan adael ein cymunedau a'n busnesau dros £1 biliwn yn waeth eu byd o ganlyniad i hynny. A byddwn yn cymeradwyo i fy nghyd-Aelodau y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais mewn ymateb i gais gan Paul Davies ar y mater hwn ychydig wythnosau'n ôl, sy'n nodi'r manylion a'r cyfrifiadau, os mynnwch, ar gyfer hynny.

Ers 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed i greu'r model cryfaf posibl ar gyfer buddsoddi rhanbarthol ôl-UE yng Nghymru. Hoffwn gofnodi fy niolch enfawr i Huw Irranca-Davies am ei waith a'i arweinyddiaeth yn y maes penodol hwnnw. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym hefyd wedi gwneud ymdrechion mynych i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y cynlluniau hyn, ond ni chynigiodd y Llywodraeth honno unrhyw fath o drafodaeth ystyrlon gyda ni tan bythefnos yn unig cyn cyhoeddi prosbectws y gronfa ffyniant gyffredin. Ac ni fyddai consesiynau wedi'u gwneud bryd hynny oni bai am y trafodaethau dwys y cymerasom ran ynddynt ar yr adeg honno ac mae Llywodraeth y DU bellach o leiaf yn cydnabod yn ei chynlluniau pa mor bwysig yw gweithio mewn partneriaeth ranbarthol a'r trefniadau partneriaeth presennol sydd gennym yng Nghymru.

Fodd bynnag, ni allwn gefnogi penderfyniad Llywodraeth y DU i fabwysiadu model dosbarthu cyllid sy'n ailgyfeirio cronfeydd datblygu economaidd i ffwrdd o'r ardaloedd lle y ceir y tlodi mwyaf dwys. Ac rwyf am ailadrodd hynny, oherwydd dyma y mae argymhellion Llywodraeth y DU yn ei wneud: maent yn ailgyfeirio cronfeydd economaidd oddi wrth ardaloedd lle y ceir y tlodi mwyaf dwys. Pa Lywodraeth fyddai'n gwneud y dewis hwnnw? Mae ei strwythur yn methu'n lân â hyrwyddo achos cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, ac nid yw'n pasio unrhyw fath o brawf y byddai Llywodraeth Cymru yn ei osod ar gyfer y math hwn o wariant. Ond yn fy marn i, mae hefyd ymhell o fod yn pasio prawf codi'r gwastad y byddai Llywodraeth y DU am ei osod ar ei chyfer ei hun.

Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn datganoli'n fwy lleol, ond gadewch inni fod yn glir iawn: nid oes unrhyw gyllid na phŵer i wneud penderfyniadau'n cael ei ddatganoli. Rhaid i awdurdodau lleol Cymru baratoi eu cynlluniau, ond cânt eu hasesu wedyn gan weision sifil Whitehall a phenderfynir arnynt gan Weinidogion y DU yn Llundain.

Mae ein cymunedau gwledig hefyd yn dioddef o ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth y DU. Wrth ddarparu arian newydd yn lle arian yr UE ar gyfer ffermio, mae Llywodraeth y DU yn didynnu derbyniadau'r UE sy'n ddyledus i Gymru am waith a oedd yn rhan o raglen datblygu gwledig 2014-20. Ac fel y clywsom, yn ymarferol mae hynny'n golygu bod cymunedau gwledig Cymru £243 miliwn yn waeth eu byd na phe baem wedi aros yn yr UE. Ffaith, unwaith eto.

Mae'r broses gyfan wedi bod yn wers druenus ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd pan fydd Llywodraeth y DU yn camu i feysydd a ddatganolwyd gyda'r fath ddiofalwch ac mewn modd mor anwybodus. Mae Llywodraeth y DU wedi amharchu setliad datganoli Cymru yn sylfaenol drwy'r broses hon, ac mae'n defnyddio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 i fynd â chyllid a phenderfyniadau oddi wrth Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon, gan danseilio, mae'n rhaid imi ddweud, hyd yn oed eu Haelodau Ceidwadol Cymreig eu hunain o'r Senedd yn y broses.

Mae gennym nifer o enghreifftiau o lle y cafodd pwerau a ddatganolwyd i Gymru eu tanseilio gan Lywodraeth y DU, a lle mae'n fwriadol yn sathru ar ddatganoli yng Nghymru. Mae'r gronfa ffynant bro ar gyfer y DU gyfan yn cymryd lle cronfa'r trefi yn Lloegr, y byddai Llywodraeth Cymru wedi cael symiau canlyniadol Barnett yn ei sgil yn flaenorol i gefnogi ein blaenoriaethau yma yng Nghymru. Felly, nid arian newydd yw'r gronfa. Ni fyddai'r un awdurdod lleol yng Nghymru yn cael sicrwydd o gyllid o ffrwd ariannu gystadleuol Llywodraeth y DU.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei hethol yn ddemocrataidd i arwain ar bolisïau mewn meysydd datganoledig, mae Llywodraeth y DU yn gweinyddu rhaglenni ar gyfer y DU gyfan megis cyfleusterau pêl-droed neu dennis llawr gwlad drwy drydydd partïon, gan osgoi craffu yma. Ac mae cronfa bwyd môr y DU, sy'n werth £100 miliwn, sydd â'r nod o gefnogi pysgodfeydd y DU a'r sector bwyd môr, unwaith eto'n cael ei gweinyddu'n uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, gan fethu'n llwyr â deall neu ddiwallu anghenion penodol y sector yma yng Nghymru.

Etholwyd Llywodraeth Cymru i lywodraethu ar faterion datganoledig, a byddwn yn parhau i frwydro dros hawl y Senedd hon i gadw ei rôl ddemocrataidd mewn buddsoddiad rhanbarthol yn y dyfodol. Caiff y Senedd ei hethol gan bobl Cymru i graffu, ac yn y pen draw, i awdurdodi gwariant gan Lywodraeth Cymru. Ond mae Llywodraeth y DU bellach yn creu ffrwd gyfochrog o weithgarwch sydd y tu allan i'r oruchwyliaeth ddemocrataidd hon, ac mae'n anochel na fydd yn cael yr un math o ffocws yn San Steffan ag y byddai'n ei gael yma yn y Senedd. Bydd camu heibio i Lywodraeth Cymru a'r Senedd yn arwain at ddyblygu darpariaeth ledled Cymru, gan gymylu atebolrwydd, creu bylchau ariannu mewn sectorau, a methu sicrhau gwerth cyhoeddus am arian cyhoeddus.

Mae cael llai o lais dros lai o arian yn golygu y bydd gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ym myd busnes, addysg a'r trydydd sector benderfyniadau anodd i'w gwneud, ac rydym wedi clywed am rai o'r penderfyniadau anodd hynny y prynhawn yma. Bydd rhaglenni hanfodol a ddarperir gyda chymorth cronfeydd yr UE, ar adeg pan fyddwn yn gwella o'r pandemig ac yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, yn cael eu rhoi mewn perygl.

Rydym wedi rhannu'r gwersi a ddysgwyd gennym o weinyddu cronfeydd yr UE gyda Llywodraeth y DU, gan bwysleisio y bydd dull cenedlaethol mwy strategol yn sicrhau gwell canlyniadau i Gymru. Ond mae wedi methu gwrando ac yn hytrach mae'n parhau â dull tameidiog o fuddsoddi'n bennaf mewn prosiectau lleol llai nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â'n hamcanion ehangach, megis ein gwaith ar sero net neu drafnidiaeth integredig. Ond byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i liniaru cymaint o'r aflonyddwch ag y gallwn, ond Lywydd, ni ddylai'r Aelodau fod o dan unrhyw gamargraff o gwbl ynghylch y niwed y bydd y set hon o benderfyniadau yn ei wneud i'r cymunedau ledled Cymru sydd fwyaf o angen y cyllid hwn. 

17:20

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am eu cyfraniadau—wel, y rhan fwyaf o'r Aelodau am eu cyfraniadau a'u cyfraniadau adeiladol i'r ddadl hon? Rwy'n credu bod Luke Fletcher wedi taro'r nodyn cywir ar y dechrau. Mae codi'r gwastad yn agenda o'r brig i lawr mewn gwirionedd, a byddwn i'n mynd ymhellach. Pa fath o agenda? Wel, rydym yn gweld etholaethau ac awdurdodau'n cael eu dethol ar gyfer cyllid, gyda'r dictad fod yn rhaid torri rhubanau 12 mis cyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Nid ydych yn twyllo neb o ran beth yw'r agenda yma mewn gwirionedd. 

Ac mae'n rhaid imi ddweud, roedd yna ymdrech lew i gyfiawnhau'r gwelliant sy'n cael ei gynnig, ond o ran dweud bod hyn yn ymwneud â grymuso cymunedau lleol, mae'r realiti'n dra gwahanol. Gadewch inni fod yn onest am hyn. Hyd yn oed o dan bwyllgor monitro rhaglenni WEFO, roedd gennych gynrychiolwyr llywodraeth leol, roedd gennych gynrychiolwyr busnes, roedd gennych y sector addysg, roedd gennych y trydydd sector. Ac yn awr, wrth gwrs, o dan y gronfa ffyniant bro mae gennym broses ymgeisio lle mae ceisiadau'n diflannu i grombil Whitehall yn rhywle, i gael eu prosesu gan fiwrocratiaid anetholedig mae'n siŵr—ydych chi'n cofio'r rheini?—biwrocratiaid anetholedig sy'n gwneud penderfyniadau, ac wrth gwrs mae'n gadael i awdurdodau lleol gael eu taflu i'r math hwn o amgylchedd cystadleuol didostur lle rydych yn gosod cymunedau yn erbyn ei gilydd i gystadlu am y sylw, i gael yr arian i dalu am eu prosiectau, ac awdurdodau lleol, yn yr un modd, yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

Ac o'r gorau, sawl gwaith y clywsom, 'Ni fydd Cymru'n colli'r un geiniog ar ôl gadael yr UE'? Mae'n cael ei adlewyrchu eto yn y gwelliant. Mae'n syth allan o lyfr Boris Johnson, mewn gwirionedd, onid yw? Ni waeth pa mor hurt ydyw, dywedwch rywbeth yn ddigon aml, a wyddoch chi beth, efallai y bydd pobl yn eich credu? Wel, mae pobl yn ddoethach bellach. Rwy'n credu ein bod wedi dysgu pryd i beidio ag ymddiried yn y Torïaid. Pan fydd eu gwefusau'n symud, onid e? Dyna mae pobl yn ei ddweud wrthym. Neu'n wir, pan fyddant yn cyflwyno'r mathau hyn o welliannau, neu pan fyddant yn addo rhywbeth mewn maniffesto. Fel llawer o Aelodau, llawer o sectorau, mae llawer o sefydliadau'n dweud wrthym, i ble'r aeth yr arian? Mae wedi diflannu. Dywedwyd wrthym na fyddem geiniog ar ein colled, ac na chollem unrhyw bŵer. Wel, mae'n bell o'r gwir.

Byddwn yn cytuno â nifer o'r Aelodau Ceidwadol a ddywedodd mewn gwirionedd fod angen mwy o eglurder ynghylch y cyllid yma yng Nghymru. Mae angen gweld y ffigurau. Mae angen tryloywder—dyna'r geiriau a ddefnyddiwyd gennych. A byddwn yn cytuno, oherwydd credaf fod hynny'n dangos bod y setliad presennol ar gyfer rhai o'r pwerau cyllidol sydd gennym yma yn ddiffygiol. Pan oeddwn yn Gadeirydd cyllid yn y Senedd ddiwethaf, cawsom un sesiwn dystiolaeth lle y daeth yr Ysgrifennydd Gwladol i ddweud wrthym fod Cymru'n cael mwy o arian, ac yn y sesiwn dystiolaeth nesaf un, cawsom Weinidog cyllid Cymru yn dweud wrthym ein bod yn cael llai. Ac fel pwyllgor, roeddem yn rhyw fustachu yn y tywyllwch yn ceisio gwneud synnwyr ohono. Wel, os na allem ni wneud synnwyr ohono, pa obaith sydd gan unrhyw un arall? Felly, byddwn yn cytuno â chi fod angen inni fynd i'r afael â hyn.

Ac wrth gwrs, clywais y llinell anfarwol fwy nag unwaith o feinciau'r Ceidwadwyr. Pam y mae angen yr arian hwn arnom yng Nghymru ar ôl degawdau o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd? Wel, oherwydd bod y Deyrnas Unedig wedi torri; oherwydd bod y status quo wedi ein gadael yn yr union fan honno. [Torri ar draws.] Na, ni wnaf. Rydych chi wedi cael dros awr i wneud eich dadl, ac os ydych chi wedi'i gadael tan yn awr yna mae'n ddrwg gennyf.

Mae'r ysgogiadau macro-economaidd yn nwylo San Steffan. Dyna'r pwerau a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae llywodraethau olynol yn y DU wedi ein siomi ac wedi ein gadael yn dlawd. Rydych wedi gwneud cam â ni. Rydych yn ein cadw mewn tlodi, felly rhowch y pwerau inni ac fe wnawn bethau'n well. Nid trefniant pŵer hanner pob inni allu gwneud ychydig bach o hyn ac ychydig o hynny; nid y briwsion oddi ar y bwrdd, fel y dywedodd Mabon ap Gwynfor wrthym. A dylai ddechrau gydag anrhydeddu eich addewidion toredig ar gyllid ôl-Brexit, a rhowch y pwerau i ni.

17:25

Fe'm twyllodd innau hefyd, Darren.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Mae yna wrthwynebiad, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fe gymerwn ni doriad byr, felly, i baratoi.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:28.

17:30

Ailymgynullodd y Senedd am 17:31 gyda'r Llywydd yn y Gadair.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw'r bleidlais ar eitem 5, sef y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar ddatgarboneiddio pensiynau'r sector gyhoeddus. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jack Sargeant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, yn ymatal 12, yn erbyn un. Ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Eitem 5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus: O blaid: 35, Yn erbyn: 1, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar gyllid ar ôl Brexit. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Mae'r cynnig yna, felly, wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Cyllid ar ôl Brexit. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

9. Dadl Fer: Bioamrywiaeth: Y darlun mawr. Hau'r dyfodol—pwysigrwydd rheoli ymylon glaswellt a glaswelltiroedd

Byddwn ni'n symud ymlaen nawr i'r ddadl fer. Carolyn Thomas sydd â'r ddadl fer y prynhawn yma, felly os gwnaiff Aelodau—

Os gwnaiff yr Aelodau dawelu, gallaf alw ar Carolyn Thomas i roi'r ddadl fer. Carolyn Thomas.

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud yr un o fy amser i Huw, Delyth a Sam Kurtz. 

Boed eich bod yn hedfan o gwmpas ar Ddiwrnod Gwenyn y Byd neu os ydych ar fin cwblhau No Mow May, mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn canolbwyntio ar ddathlu a dysgu am fioamrywiaeth, ac ers cael fy ethol y llynedd, mae lefel y ddealltwriaeth yn y Senedd hon wedi creu argraff arnaf. Ond mae gwreiddiau fy niddordeb mewn natur yn mynd yn ôl i fy mhlentyndod; mewn gwirionedd, os nad yw plentyn wedi ffurfio cysylltiad â natur cyn ei fod yn 12 oed, mae'n llai tebygol o wneud hynny pan fydd yn oedolyn. Roeddwn i'n arfer saethu i fyny bryn serth yn fy mhentref, gan feddwl y byddai golygfa anhygoel ar ôl i mi gyrraedd y copa, ond yn awr rwy'n crwydro ar hyd lonydd hyfryd yn araf, gan wledda ar amrywiaeth o fywyd gwyllt yn y gwrychoedd a'r cloddiau sy'n llawn rhywogaethau o fy nghwmpas.

Ar ôl i mi gael fy ngwneud yn hyrwyddwr bioamrywiaeth cyngor sir y Fflint a mynychu cyflwyniadau a gweithdai, dechreuais chwilio am rywogaethau. Deuthum i allu eu gweld ar ymylon ffyrdd; sylwais ar fefus gwyllt, tegeirianau, gwyddfyd, botwm crys, garlleg y berth, glöynnod byw, gwenyn ac ystlumod. Darganfûm wrychoedd soniarus yn llawn o adar y to, brain yn ymladd boncathod, baw dyfrgwn a nadroedd. Sylwais fod byd cyfan allan yno, byd arall yn mynd yn ei flaen y tu allan i'r swigen ddynol yr oeddwn yn byw ynddi. Ac rwy'n falch o ddweud fy mod bellach yn hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y tegeirian llydanwyrdd.

Mae natur yn hardd, ac yn bwysig, ni allwn oroesi hebddi. Mae ein hamgylchedd naturiol yn dirywio ac felly hefyd y manteision y mae'n eu cynnig. Mae wedi ein gwasanaethu'n dda ac yn awr mae angen i ni ei feithrin a'i helpu i ffynnu. Mae bioamrywiaeth yn elfen sylfaenol hanfodol ym mhob ecosystem wydn ac mae'n hanfodol i'n lles economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Rydym yn anghofio mor aml fod cadwyn fwyd bywyd gwyllt a gafodd ei dysgu i ni pan oeddem yn blant yn dechrau gyda'r lleiaf o blith y pryfed sy'n dibynnu ar ein fflora brodorol.

Rydym bellach mewn argyfwng natur, ac mae ein bywyd gwyllt yn dirywio'n fyd-eang ar gyflymder nas gwelwyd o'r blaen yn hanes y ddynoliaeth. Nid oes gennym ddewis ond gweithredu yn awr i'w achub. Mae un o bob chwe rhywogaeth a asesir yng Nghymru yn unig mewn perygl o ddiflannu. Un o bob chwech—gadewch i hynny suddo i mewn. Rydym yn canolbwyntio ar blannu coed ar gyfer storio carbon, ond eto mae tair i bum gwaith yn fwy o garbon yn cael ei storio yn ein glaswelltiroedd nag yn ein coedwigoedd. Ymylon glaswellt gwledig yw mwy na 50 y cant o'n doldiroedd cyfoethog yn y DU, a chollwyd 97 y cant o ddolydd glaswelltir traddodiadol yr iseldir yng Nghymru a Lloegr rhwng 1930 a 1987. Dyma lle mae angen inni geisio rhoi mesurau diogelu ar waith ar frys.

Efallai mai ymylon ffyrdd a pharciau yw'r unig gyswllt rheolaidd y mae rhai pobl yng Nghymru yn ei gael â natur. Bydd cael mwy o ardaloedd natur wedi'u gadael yn wyllt yn gwella cymeriad lleol, diddordeb gweledol a'n hiechyd a'n lles. Mae newid sut y caiff glaswellt ei dorri, dros amser, yn creu dolydd mwy brodorol sy'n llawn o flodau gwyllt mewn ardaloedd amwynder ac ar hyd ymylon ffyrdd. Bydd creu coridorau bywyd gwyllt drwy ddarnau gwyllt o dir, mannau twf naturiol a chanolbwyntio ar dorri llwybrau troed dymunol lle bo angen yn unig yn gwneud gwahaniaeth. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd drwy gynnal bywyd gwyllt, gwella cysylltedd ecolegol, storio mwy o garbon yn ein priddoedd a meithrin mwy o allu i wrthsefyll newid amgylcheddol, gan adael i'n plant ffurfio cysylltiad â'n bywyd gwyllt ar yr un pryd, er mwyn iddynt hwythau hefyd barhau i'w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gallwn wneud ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder—parciau a mannau gwyrdd eraill—yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt. Efallai fod glaswellt sy'n cael ei dorri'n fyr yn rheolaidd yn edrych yn daclus i rai, ond nid yw o fawr o fudd i fywyd gwyllt. Rhaid inni gymryd cam yn ôl a newid ein disgwyliadau ynghylch glaswellt ungnwd wedi'i drin a'i chwynnu'n ddiflas. Mae angen inni ganiatáu i'r holl ddolydd posibl gyrraedd eu potensial llawn a gadael i flodau dyfu. Mae gwaith gwych eisoes yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a phartneriaethau natur lleol ledled Cymru, fel y dangosodd No Mow May, prosiect partneriaeth Magnificent Meadows Cymru, a'r canllawiau rheoli lleiniau ymylon ffyrdd, sy'n fframwaith pwysig ar gyfer y gwaith partneriaeth hwn. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i dirfeddianwyr sydd wedi rheoli tir ar gyfer natur, a gobeithio y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy newydd yn cynnig y cymhellion cywir i annog eraill na allant fforddio gwneud hynny neu i feithrin arbenigedd.

Os ydym am dyfu dyfodol ffrwythlon, un lle y caniateir i'n bioamrywiaeth flodeuo, mae angen gwneud llawer mwy i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed gyda phartneriaid i wneud hynny. Fel y dywedant, Weinidog, rydych chi'n medi'r hyn a heuwch. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

17:35

Diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Carolyn—mae'n gyfraniad gwych. Rwyf am ddweud ychydig eiriau, gan fynd ar drywydd y themâu y sonioch chi amdanynt. Gall pob un ohonom chwarae rhan yn hyn. Y bore yma cyn i mi ddod i mewn, roeddwn i'n digwydd bod yn edrych drwy lyfr sydd gennyf ar y cwpwrdd wrth ochr y gwely. Llyfr Chris Packham a Megan McCubbin, Back to Nature: How to love life—and save it. Maent yn gwneud pwynt am y newid sy'n rhaid i bobl ei wneud, y newid meddylfryd i ganiatáu lleoedd blêr mewn gwirionedd—felly, lleiniau ar ymyl ffyrdd, ymylon caeau. Rwyf wedi gwneud No Mow May, fel llawer o bobl. Rwyf wedi bod yn ei wneud ers rhai blynyddoedd bellach. Mae fy rhai bach wedi bod yn fy annog i wneud hynny. Mae'n ddiddorol iawn. Mae tri math o feillion yn dod drwodd yno, o wahanol faint, siâp a lliw bob un. Mae gennym ffacbys gwyllt yn dod drwyddo, ac wrth gwrs, dant y llew a llygad y dydd ac yn y blaen. Mae'n edrych yn brydferth ac mae'n wledd i fywyd gwyllt. Mae'r ymgyrch perthi ac ymylon caeau sy'n digwydd hefyd, am yr hyn y gall ffermwyr ei wneud gydag ymylon caeau, ychydig llai o waith trin, ychydig mwy o flerwch, gyda chynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt—fflora a ffawna. A hefyd, yr hyn y gallwn ei wneud gyda chynghorau tref a chynghorau sir ar gymunedau di-blaladdwyr. Ond mae'r cyfan yn galw am newid agwedd—dyna sy'n rhaid inni ei wneud, a dyna'r peth cyffrous am hyn. Mae'n galw am wneud y naid a dweud, 'Mae gennym i gyd ran i'w chwarae'—weithiau mae'n galw am benderfyniadau beiddgar, a glynu wrth hynny wedyn, a gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fioamrywiaeth. Felly, Carolyn, diolch yn fawr.

17:40

Roeddwn i eisiau diolch i Carolyn Thomas am ddod â'r ddadl hon gerbron y Senedd. Am ddadl hyfryd a phwysig mae wedi bod. Mae'r pandemig wedi gwneud i gynifer ohonom ni ailystyried pwysigrwydd y natur sydd o'n cwmpas ni yn ein milltir sgwâr. Nid oes rhaid teithio i'r mynyddoedd na llynoedd i weld gogoniant y byd naturiol, mae hefyd ar gael yn ein pentrefi, neu fe all fod os ydyn ni'n gadael iddo dyfu. Mae blodau gwyllt, fel dŷn ni wedi clywed yn yr araith hynod passionate yna gan Carolyn, ymysg y golygfeydd hyfrytaf yr ydym yn gallu'u gweld, ac rwy'n llwyr gefnogol o unrhyw ymgais i gael mwy o flodau gwyllt yn tyfu. Yn olaf, mae'r crisis natur yn un sy'n effeithio arnom ni oll, ond dyma un ffordd y gallem ni chwarae rhan adeiladol mewn adfywio rhywogaethau a sicrhau bod mwy o bobl yn gwerthfawrogi natur yn eu bywydau bob dydd. Diolch yn fawr iawn eto i Carolyn am y ddadl.

Huw, fe'm trawyd yn fawr, yn eich cyfraniad yno, gan bwysigrwydd prydferthwch blerwch. Roeddwn yn ceisio meddwl beth fyddai 'the beauty of untidiness' yn Gymraeg. Rwy'n meddwl bod 'prydferthwch blerwch' yn addas, ac mae bron yn gynghanedd, felly mae hefyd yn ymadrodd hardd yn Gymraeg, ac yn farddonol hefyd.

Diolch i'r Aelod dros Ogledd Cymru am gyflwyno hyn. Fel rhywun a gyflwynodd y datganiad barn ar berthi ac ymylon caeau y mae'r Aelod yn garedig iawn wedi'i gyd-lofnodi hefyd, credaf fod hyn yn bwysig iawn. Yn bendant, mae gan y gymuned amaethyddol ran i'w chwarae yn hyn yn ogystal. Mae'n ymwneud â phlannu'r goeden iawn yn y lle iawn am y rhesymau iawn, ac maent yn gwbl gytûn ar hynny. Ond os caf apelio ar y Dirprwy Weinidog gan ei fod yma: gadewch inni beidio â gwneud diogelwch y cyhoedd yn eilradd i hyn. Tynnaf sylw at enghraifft Milton yn fy etholaeth lle mae lleiniau ymylon ffyrdd yn cael effaith andwyol ar welededd ar ffordd yr A477, gydag etholwyr yn poeni'n fawr am fynediad o'u heiddo i'r brif ffordd, oherwydd mae'r ymylon yn tyfu dros y ffordd ei hun. Ond Carolyn, fe sonioch chi ynglŷn â sut rydych yn arafu i edrych ar yr ymylon ffyrdd ac yn mwynhau'r hyn sydd yno, a chefais fy atgoffa o gerdd W.H. Davies, 'Leisure':

'Beth yw'r bywyd hwn, os nad oes gennym amser, yn ein prysurdeb, i sefyll ac i syllu?'

Rwy'n credu ei bod yn addas iawn inni dreulio ychydig mwy o amser yn syllu a mwynhau'r hyn y mae natur yn ei roi i ni yng Nghymru. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Roedd hon yn ddadl fer a ffrwythlon gyda llawer o gyfraniadau meddylgar. Diolch am ei chyflwyno, Carolyn, ac am y gwaith y buoch yn ei wneud gyda ni i helpu i lywio dull o weithio gydag awdurdodau lleol gyda'r nod o geisio lledaenu arferion da.

Roeddech yn tynnu sylw at pa mor frawychus o gyflym y mae natur yn cael ei disbyddu a llawer o'r ffyrdd ymarferol y gallwn i gyd geisio lliniaru hynny. Roeddech hefyd yn tynnu sylw at y gwaith da a wneir gan ein cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn ogystal â'r prosiectau, fel y soniodd Huw Irranca-Davies, sy'n cael eu datblygu gan gynghorau tref, cymdeithasau tai, ysgolion, y GIG ac yn y blaen. Nid wyf am ailadrodd y ffigurau na'r manteision y mae'r Aelodau wedi tynnu sylw atynt. Rwy'n cytuno â Carolyn Thomas ynglŷn â'r posibiliadau ar gyfer ein lleiniau ymylon ffyrdd—mae gennym 29,000 o filltiroedd o leiniau ymylon ffyrdd ac mae ganddynt botensial i gynnal llawer iawn o fywyd gwyllt. Ac rwy'n derbyn pwynt Sam Kurtz am yr enghraifft yn ei etholaeth o ymyl ffordd yn Milton. Lle mae awdurdodau priffyrdd yn torri lleiniau ymylon ffyrdd, maent yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae hynny'n ei chael ar welededd ac ar ddiogelwch ffyrdd. Ond hyd yn oed y tu hwnt i'r ochr agosaf at y briffordd lle mae'r pethau hyn yn faterion sy'n codi, ceir llawer iawn o dir cyfagos sydd â photensial mawr, ac wrth gwrs, y perthi a'r ymylon caeau yn eich cymuned, nid ar ffermydd yn unig—darnau bach o dir yma ac acw lle y ceir potensial i gynnal bywyd gwyllt.

Felly, mae llawer o waith i'w wneud. Mae Carolyn wedi gwneud gwaith da yn hyrwyddo casglu toriadau i atal y glaswellt rhag creu llystyfiant marw a mygu planhigion bregus, a chasglu hadau. Yn wir, rydym wedi cyllido nifer o awdurdodau lleol i gael y peirianwaith a fydd yn caniatáu iddynt gasglu'r hadau ac yn y broses, i gynnal blodau o stoc leol. Gall cael blodyn gwyllt ymwthiol ungnwd yng nghefn gwlad lesteirio bioamrywiaeth er ein bwriadau gorau, ac nid dyna rydym am ei gael. Ac mae Huw Irranca-Davies yn iawn: bod â'r dewrder i dderbyn blerwch. Rwy'n ei wneud yn fy lawnt flaen fy hun, ac rwy'n teimlo llygaid beirniadol cymdogion fod fy ngwrych ychydig yn anniben a bod y lawnt yn edrych yn flêr. Ac rwy'n credu mai dyna un o'n rhwystrau, a chredaf mai dyna un o'r darnau o waith y mae Carolyn Thomas wedi'i nodi, yr angen i addysgu pobl. Nid bod yn ddiog y mae'r cyngor wrth beidio â thorri'r glaswellt, mae rheswm dros hynny. Ond fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae angen newid meddylfryd, cael pobl i ddeall nad yw natur yn daclus, ac mewn gwirionedd, fod taclusrwydd yn elyn wrth annog bioamrywiaeth.

Felly, mae prosiect addysg mawr i'w wneud, ac rydym yn ariannu amrywiaeth o brosiectau ledled y wlad. I enwi un, yr un a grybwyllwyd gan Carolyn Thomas—prosiect Bioamrywiaeth a Busnes Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ystad ddiwydiannol Wrecsam, sydd wedi creu dros 600 metr o leiniau ymylon blodau gwyllt ac wedi plannu blodau gwyllt ar wyth cylchfan. Rydym yn ariannu llawer mwy o enghreifftiau ledled Cymru, ac rydym yn gweithio'n agos gyda Plantlife a'u hymgyrch No Mow May, rhywbeth yr ydym yn awyddus iawn i'w ymgorffori, a deall y rhwystrau a gwneud pethau ymarferol i'w hannog. Ar hyn o bryd, mae fy nghyd-Aelod, Julie James, yn cynnal archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth, gan weithio ar y cyd ag amrywiaeth o randdeiliaid, i geisio deall rhwystrau ymarferol a sut i'w goresgyn.

Ond credaf mai'r pwynt allweddol inni ei bwysleisio—rydym wedi sôn yn y Siambr y prynhawn yma eisoes am yr argyfwng hinsawdd, ond bob tro y soniwch am yr argyfwng hinsawdd, rhaid inni hefyd sôn am yr argyfwng natur sy'n digwydd ar yr un pryd. Ac mae tensiynau rhwng y ddau, ac mae angen rheoli'r tensiynau hynny a gweithio drwyddynt. Cefais ymweliad rhagorol gyda'r RSPB yr wythnos diwethaf â gwarchodfa natur Conwy ar ochr yr A55, a gwelais yno, mewn lleoliad eithaf anaddawol mewn gwirionedd, sut y maent wedi creu hafan o fioamrywiaeth, ond sut y ceir tensiynau rhwng ein dau nod i liniaru'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Po fwyaf y siaradwn amdano, y mwyaf y byddwn yn prif ffrydio ac yn normaleiddio blerwch. Ac am unwaith, rwy'n credu y gallwn i gyd groesawu'r cyfle i fod braidd yn anniben. Diolch.

17:45

Daeth y cyfarfod i ben am 17:47.