Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/05/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.

Costau Ynni

1. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi aelwydydd sy'n wynebu costau ynni cynyddol? OQ58038

Llywydd, mae ein rhaglen Cartrefi Clyd ar gyfer aelwydydd incwm is yn arbed £300 y flwyddyn ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Mae aelwydydd cymwys wedi elwa hefyd ar y taliad cymorth tanwydd gaeaf o £200. Ac yn ogystal, mae taliad costau byw o £150 yn cael ei wneud i eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor.

Diolch, Prif Weinidog. Un o'r materion yr oeddwn i eisiau eu codi gyda chi yw'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Nawr, yn anffodus, nid yw etholwr wedi gallu hawlio drwy'r cynllun, er ei bod yn ofalwr am ei merch ddibynnol, sydd ag anabledd, sy'n cael budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd. Nawr, rwyf ar ddeall, pe bai'r ferch yn talu'r biliau, byddai'r ferch wedi bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, neu pe bai fy etholwr neu ei phartner, yn hytrach na'i merch, bydden nhw hefyd wedi bod yn gymwys ar gyfer y cynllun. Felly, mae'n ymddangos, Prif Weinidog, fod rhywfaint o afreoleidd-dra yn y rhaglen hon fel y mae ar hyn o bryd. Felly, o'r hyn y gallaf ei ddeall, Prif Weinidog—rwyf i wedi codi'r mater hwn gyda'r Gweinidog—mae Llywodraeth Cymru yn archwilio'r posibilrwydd o addasu'r cynllun ar gyfer y rownd nesaf yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Felly, a gaf i ofyn i'r anghysondeb hwn gael ei ystyried, ac i'r enghraifft yr wyf i wedi ei hamlinellu gael ei hystyried, fel y gellid cynnwys fy etholwr, a phobl eraill ledled Cymru sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa hon, yn rownd nesaf y cynllun hwn?

Diolch i Russell George am dynnu fy sylw at y mater yna. Bydd yn gwybod y cafodd y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ei lunio yn gyflym iawn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael cymaint o gymorth â phosibl i ddwylo aelwydydd yr oedd angen y cymorth hwnnw arnyn nhw yn ddirfawr. Rydym ni bellach yn edrych ar ffyrdd o gyflawni ein hymrwymiad i gael ail rownd o'r gronfa honno ar gyfer y gaeaf sydd i ddod. Rydym ni'n edrych ar ffyrdd o ymestyn ei gymhwysedd ac i fynd i'r afael ag unrhyw anghysondebau a allai fod wedi codi yn y cynllun gwreiddiol. Felly, rhoddaf sicrwydd iddo y byddwn ni'n sicr yn ystyried yr enghraifft y mae wedi ei chynnig i ni y prynhawn yma, gan ein bod ni'n dymuno cael ein cymorth i gynifer o aelwydydd â phosibl o fewn paramedrau'r cynllun a'r cyllid sydd ar gael ar ei gyfer.

Mae aelwydydd yng Nghymru yn wynebu'r gostyngiad mwyaf i incwm gwario mewn bron i 50 mlynedd, a'r aelwydydd tlotaf sy'n cael eu taro galetaf, gan wario dros chwarter eu hincwm ar ynni a bwyd. O gofio mai argyfwng costau byw y Torïaid yw hwn, mae'r atebion a'r sylwadau yr ydym ni wedi eu clywed gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan yn jôc. Dywedwyd wrthym ni am gael gwell swyddi, dywedwyd wrthym ni nad ydym ni'n gallu coginio yn iawn, a nawr mae gennym ni Brif Weinidog y DU sy'n hapus i weld pensiynwyr yn teithio ar fysiau drwy'r dydd dim ond i gadw'n gynnes. I'r gwrthwyneb, mae Llywodraeth Cymru yn darparu atebion gwirioneddol: y cynllun cymorth costau byw a'r cynllun cymorth costau byw dewisol, y gronfa cymorth dewisol, y cynllun mynediad at grant datblygu disgyblion, a chynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Rwy'n gwybod bod elusennau a'r trydydd sector hefyd yn darparu cymorth hanfodol, ac mae mor bwysig bod trigolion yn ymwybodol o hyn. A wnaiff y Prif Weinidog archwilio'r syniad o greu llinell gymorth costau byw, neu ysgrifennu at aelwydydd yng Nghymru, gan gyfeirio trigolion i sefydliadau trydydd sector ac elusennau sy'n darparu cymorth i liniaru'r pwysau costau byw?

Llywydd, a gaf i ddiolch i Buffy Williams am y pwyntiau yna? Ac mae hi'n iawn, wrth gwrs, bod angen i ni wneud yn siŵr bod aelwydydd yng Nghymru mor ymwybodol o'r cymorth â phosibl. Ac rydym ni'n gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd, gan weithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, gan wneud yn siŵr, drwy sefydliadau trydydd sector, fod gwybodaeth ar gael i bobl yn rhwydd, a phan fydd rhywun yn ymddangos mewn un rhan o'r system yn chwilio am gymorth, ein bod ni'n gwneud yn siŵr, ar y pwynt mynediad hwnnw, y rhoddir cyngor da iddyn nhw ar unrhyw fathau eraill o gymorth sydd ar gael yma yng Nghymru. Nawr, rydym ni'n gwneud hynny o fewn terfynau'r pwerau a'r cyllid sydd ar gael i ni, ac mae sylwebyddion annibynnol wedi cydnabod bod graddau'r cymorth sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru yn fwy na'r hyn sydd ar gael mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.

Ond, yn sicr, y pwynt y dechreuodd Buffy Williams gydag ef, Llywydd, yw'r un pwysicaf—mae angen i Lywodraeth y DU wneud mwy i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu helpu, ac mae'r un ffynhonnell fwyaf amlwg o gymorth wrth law mor rhwydd. Dim ond yr wythnos diwethaf, dywedodd cadeirydd Tesco ei fod yn credu bod achos anorchfygol dros dreth ffawdelw. Rhoddodd prif weithredwr BP sicrwydd, pe byddai treth ffawdelw, na fyddai'n effeithio ar fwriad y cwmni hwnnw i fuddsoddi £18 biliwn dros yr wyth mlynedd nesaf mewn mesurau ynni yn y DU. Mae Prif Weinidog y DU yn dweud wrthym nad yw'n hoffi treth ffawdelw ac nad yw'n credu mai dyma'r ffordd gywir ymlaen ar yr un diwrnod ag yr oedd Canghellor y Trysorlys yn dweud nad oedd unrhyw opsiynau oddi ar y bwrdd a'i fod yn agored ei feddwl am dreth ffawdelw. Wel, pa un ydyw? Mae wir yn amser i Lywodraeth y DU roi trefn ar eu safbwynt eu hunain ar y mater hwn, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cymryd arian oddi wrth gwmnïau sy'n gwneud elw gormodol enfawr oherwydd y cynnydd i gostau ynni ac yn darparu'r arian hwnnw i'r union fathau o aelwydydd y mae Buffy Williams wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma.

13:35
Gwasanaethau Iechyd

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella gwasanaethau iechyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ58044

Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd ym Mrycheiniog a Maesyfed. Mae'r bwrdd yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau cyfalaf sy'n arwain at ddatblygiadau o ran effeithlonrwydd gwasanaethau wrth iddo adfer gwasanaethau hanfodol ac allweddol ochr yn ochr â'r angen parhaus i ofalu am gleifion y mae COVID-19 yn effeithio arnyn nhw.

Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Mae llawer o bobl ym mhob rhan o fy etholaeth i wedi cysylltu â mi yn ystod y dyddiau a'r wythnosau diwethaf yn pryderu'n fawr am yr amseroedd aros hir a hirfaith yn yr holl ysbytai cyffredinol dosbarth sy'n gwasanaethu trigolion fy etholaeth i. Hoffai llawer ohonyn nhw weld ysbyty cyffredinol dosbarth yn cael ei adeiladu yn fy etholaeth i, neu o leiaf fwy o wasanaethau yn cael eu darparu yn agosach i'w cartrefi fel nad ydyn nhw'n wynebu'r amser aros torcalonnus hwnnw mewn adrannau damweiniau ac achosion brys oherwydd prinder staff. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi a llawer o fy etholwyr sydd wedi cysylltu â mi yn y dyddiau diwethaf, yn hytrach na gwastraffu £16 miliwn ar fwy o wleidyddion yn y lle hwn i drafod problemau, y byddai'n llawer gwell gwario'r arian hwnnw ar gyflogi 642 o nyrsys lefel mynediad ledled Cymru? Wrth i lawer o wardiau yn fy etholaeth i gau—[Torri ar draws.]

Mae gwirioneddol angen i mi glywed yr Aelod, ac rwy'n siŵr bod angen i'r Prif Weinidog ei glywed hefyd, felly a gawn ni glywed y cwestiwn mewn rhywfaint o ddistawrwydd.

Mae'n braf clywed cynifer o Aelodau yn cytuno â mi, Llywydd. 

Gyda llawer o wardiau yn fy etholaeth i yn cau oherwydd prinder staff, siawns na fyddai'n well gwario'r £16 miliwn hwnnw i fynd i'r afael â'n problemau gweithlu ac nid rhoi mwy o benolau ar seddi yma?

Yn yr un modd, rwyf i hefyd eisiau clywed ymateb y Prif Weinidog i'r cwestiwn yna, felly a gawn ni glywed hwnnw mewn rhywfaint o dawelwch, os gwelwch yn dda.

Llywydd, diolch. Gwnaeth yr Aelod nifer o bwyntiau pwysig cyn iddo golli ei ffordd a throi at wleidyddiaeth isel, sef, wrth gwrs, y nodwedd sy'n nodweddiadol o'i blaid yn rhy aml o lawer. Pan oedd yn gwneud pwyntiau synhwyrol, cyfeiriodd at y pwysau sydd ar wasanaethau ym Mhowys, ac mae hynny yn gwbl wir. Cyfeiriodd at yr angen i ddychwelyd gwasanaethau i Bowys. Rwy'n tybio ei fod wedi croesawu, felly, dychwelyd gwasanaethau dirywiad macwlaidd gwlyb sy'n gysylltiedig ag oedran, a ddarparwyd yn flaenorol gan ymddiriedolaeth Dyffryn Gwy, sydd ar gael bellach yn ysbyty Aberhonddu ac yn ysbyty Llandrindod. Bydd wedi croesawu'r ffaith bod achosion dydd endosgopi, y bu'n rhaid, unwaith eto, i bobl deithio y tu allan i Bowys i gael y gwasanaethau hynny yn flaenorol, bellach ar gael yn y ddau safle hynny.

Cyfeiriodd at yr angen i fuddsoddi yn ein staff, ac nid wyf i'n anghytuno ag ef yn hynny o beth. Felly, rwy'n siŵr y bydd wedi croesawu'r ffaith y bu cynnydd o 30 y cant i staff bwrdd iechyd lleol Powys ers 2016, o dan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Ac mae'n cyfeirio at amseroedd aros, ac rydym ni eisiau gweld amseroedd aros yn gwella ledled Cymru gyfan, ond 93.6 y cant oedd perfformiad Powys ar gyfer pobl sy'n aros 26 wythnos am driniaeth o'r pwynt atgyfeirio o'i gymharu â tharged o 95 y cant. Cymaint yr hoffem ni i bob man yng Nghymru gael ei wasanaethu yn y ffordd honno. Roedd 174 o bobl yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth ym Mhowys ym mis Chwefror eleni, y mis yr oedd y ffigurau ar gael ddiwethaf ar ei gyfer, ac roedd hynny 702 yn is na mis Chwefror flwyddyn yn ôl. Felly, o ran y prif bwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, rwy'n siŵr y bydd yn cydnabod bod y bwrdd yn gweithio'n galed iawn ac yn llwyddiannus wrth leihau amseroedd aros i gleifion, wrth ddod â mwy o wasanaethau i'r sir ac wrth gael eu darparu yn uniongyrchol gan y BILl, a'n bod ni'n parhau fel Llywodraeth i fuddsoddi symiau sylweddol o fuddsoddiad cyfalaf i ganiatáu i adeiladau fel Ysbyty Coffa Rhyfel Sirol Llandrindod gael eu haddasu ymhellach fel y gellir darparu mwy o wasanaethau yn agos i gartrefi pobl.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, dair wythnos yn ôl, fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i nad oes argyfwng yn y sector bwyd, ar ôl i mi godi'r pwysau ar y cadwyni cyflenwi amaethyddol gyda chi. Ddoe, dywedodd llywodraethwr Banc Lloegr fod teuluoedd yn wynebu cynnydd apocalyptaidd i brisiau bwyd o ganlyniad i broblemau yn y gadwyn gyflenwi wedi eu hachosi gan y gwrthdaro yn Wcráin. Pwy sy'n iawn, chi neu lywodraethwr Banc Lloegr?

Wel, rwy'n credu bod arweinydd yr wrthblaid yn camddeall yr hyn yr oedd gan lywodraethwr Banc Lloegr i'w ddweud. Yr hyn yr oedd yn cyfeirio ato oedd y cynnydd i gost bwyd oherwydd digwyddiadau yn Wcráin ac, fel y dywedodd yn eglur iawn wrth y pwyllgor, oherwydd Brexit. Nawr, mae gwahaniaeth rhwng yr argyfwng a achoswyd gan gostau bwyd cynyddol a diffyg cyflenwad bwyd mewn archfarchnadoedd. Rydym ni'n dal i gael sicrwydd gan ei Lywodraeth ef yn y DU nad oes argyfwng yn y cyflenwad. Mae hynny'n wahanol i'r pwynt yr oedd Banc Lloegr yn ei wneud ddoe, sef effaith straen y gadwyn gyflenwi ar brisiau bwyd. Dyna'r anhawster yr oedd llywodraethwr Banc Lloegr yn canolbwyntio ei sylwadau arno.

Roeddwn i'n gwneud y pwynt i chi dair wythnos yn ôl a chwe wythnos yn ôl, oherwydd y gwrthdaro yn Wcráin, fod pwysau enfawr ar y darlun chwyddiant, bod ffermydd yn gorfod prynu hadau, gwrteithiau a chynhyrchion eraill sy'n cyfrannu yn uniongyrchol at y gadwyn fwyd wrth i'r cynhyrchion terfynol gyrraedd y silffoedd. Fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i, Prif Weinidog, nad oes argyfwng yn y sector bwyd. Rwyf i'n awgrymu i chi fod argyfwng yn y sector bwyd, fel y cyfeiriodd llywodraethwr Banc Lloegr ato ddoe, ond fe wnaeth eich Llywodraeth chi ddiystyru y syniad a gyflwynais i chi ynghylch trefnu uwchgynhadledd fwyd, i ddod â ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr at ei gilydd er mwyn i ni allu trafod yn union yr hyn a oedd ei angen gan y Llywodraeth a phob sector yn y gadwyn fwyd i ymateb i'r pwysau unigryw sydd wedi dod i'r amlwg dros y tri mis diwethaf. Felly, yn absenoldeb cytundeb rhyngom ni ynghylch y termau yr oedd y llywodraethwr yn cyfeirio atyn nhw yn ei gyfarfod pwyllgor dethol yn y Trysorlys ddoe, a allwch chi amlinellu i mi ba gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gefnogi'r sector amaethyddol wrth wynebu'r pwysau anhygoel o ran prisiau ar fewnbynnau sy'n peryglu'r cyflenwad bwyd, wrth symud ymlaen, yn y chwech, 12 a 18 mis nesaf?

Wel, i ailadrodd yr hyn a ddywedais i, Llywydd, oherwydd nid wyf i eisiau i'r hyn a ddywedais i'r tro diwethaf gael ei gamddeall na'i gamliwio, roedd y pwynt a oedd yn cael ei wneud i mi yn flaenorol yn ymwneud â phrinder bwyd yn cael ei gyflenwi drwy'r siopau i ddinasyddion Cymru, ac rydym ni'n parhau i gael sicrwydd gan Lywodraeth y DU nad yw hynny'n wir, ac nad oes unrhyw brinder cyflenwadau hanfodol ar y gorwel. Mae hwnnw yn bwynt gwahanol i'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, sydd, yn fy marn i, yn un teg am bwysau chwyddiant ym mhen siop y gadwyn gyflenwi, ond hefyd yn y costau y mae'n rhaid i ffermwyr eu hysgwyddo.

Nawr, cawsom uwchgynhadledd fwyd dim ond yr wythnos diwethaf, efallai na wnaeth ei sylwi; cafodd ei chadeirio gan fy nghyd-Weinidog Jane Hutt. Daeth ag ystod eang o fuddiannau ynghyd i siarad am chwyddiant yn y gadwyn cyflenwi bwyd, a sut y gallwn ni yng Nghymru weithio gyda'n gilydd i gefnogi hynny. Dim ond ar sail y DU gyfan y gellir mynd i'r afael â'r darlun ehangach, a chynhelir cyfarfodydd wythnosol rhwng y pedair gwlad lle mae George Eustice, Gweinidog arweiniol Llywodraeth y DU, yn cymryd rhan ochr yn ochr â Lesley Griffiths a Gweinidogion o'r Alban a chynrychiolwyr o Ogledd Iwerddon. Ac rydym ni, felly, yn gweithio gyda'n gilydd i weld sut y mae'r pwysau hynny ar brisiau hadau, ar brisiau gwrtaith—. Maen nhw i gyd yn bwyntiau teg iawn y mae arweinydd yr wrthblaid yn eu gwneud a byddwn yn mynd i'r afael â nhw gyda'r pedair gwlad, ac mae Cymru bob amser o gwmpas y bwrdd pan gynhelir y trafodaethau hynny.

13:45

Mae llif arian parod yn elfen hanfodol o unrhyw fusnes, Prif Weinidog, ac wrth i ni gyrraedd tymor plannu tyngedfennol yr haf/hydref, mae angen yr hyder ar ffermwyr fod ganddyn nhw'r llif arian parod i brynu'r stoc, y stoc bridio neu'r hadau, i gynllunio ar gyfer y tymor tyfu nesaf fel bod cynhaeaf i'w gael y flwyddyn nesaf. Mae Llywodraeth y DU yn Lloegr wedi symud y ffenestr ar gyfer talu'r cynllun taliadau sylfaenol ymlaen i fis Gorffennaf er mwyn gallu lleddfu'r pwysau llif arian parod hwnnw. A wnaiff Llywodraeth Cymru gymryd camau tebyg yma yng Nghymru er mwyn gallu talu arian cynllun taliadau sylfaenol i gyfrifon banc ffermwyr, er mwyn iddyn nhw allu bod yn hyderus i wneud yr archebion am y gwrtaith, yr hadau a'r stoc sydd eu hangen arnyn nhw, wrth ddechrau'r ffenestr hollbwysig honno yn yr hydref? Mae hwnnw yn gam uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru ei gymryd gan fod gennych chi gyfrifoldeb drosto.

Wel, Llywydd, record Llywodraeth Cymru o dalu'r cynllun taliadau sylfaenol, fel y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei wybod, yw'r gorau yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi bod y gorau ers blynyddoedd lawer, ac yn sicr yn llawer iawn gwell nag y mae dros ein ffin. Rydym ni'n parhau i gael trafodaethau bob wythnos gydag undebau'r ffermwyr yma yng Nghymru, a gyda buddiannau ffermio eraill. Bydd fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths, wrth gwrs, yn edrych i weld a oes camau y gallwn ni eu cymryd sy'n ymateb i'r pwysau sydd ar y sector, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr awgrym penodol y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei wneud yn rhan o'r trafodaethau hynny.

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, nododd Prif Weinidog y DU ei fwriad i ddiswyddo 91,000 o weithwyr, mwy nag un o bob pump o gyfanswm gwasanaeth sifil y DU, dros y tair blynedd nesaf. Byddai hyn yn golygu colli dros 6,000 o swyddi yma yng Nghymru. A yw Llywodraeth y DU wedi rhannu manylion eu cynigion â chi ynglŷn â ble y bydd eu bwyell yn disgyn yma yng Nghymru, neu ai'r cyntaf y gwnaethoch chi ei glywed am hyn, fel y gweithwyr dan sylw, oedd drwy'r Daily Mail? A fu unrhyw ohebiaeth gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r posibilrwydd o breifateiddio'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe, Swyddfa Basport Ei Mawrhydi neu asiantaethau eraill sydd wedi eu lleoli yng Nghymru? Os caiff y cynigion hyn eu rhoi ar waith, a allai cyfanswm y swyddi sy'n cael eu colli yng Nghymru yn y pen draw fod hyd yn oed yn uwch na'r ffigur o 20 y cant yr awgrymodd Brif Weinidog y DU? Ac a yw'n syndod bod Llywodraeth San Steffan wedi tynnu ei Fil ar hawliau gweithwyr o Araith y Frenhines yr wythnos diwethaf pan nad yw'n ymddwyn fawr gwell na P&O Ferries?

Wel, Llywydd, y tro diwethaf i mi gael trafodaeth gydag unrhyw Weinidog y DU am swyddi gwasanaeth sifil, i glywed y Gweinidog hwnnw yn clodfori bwriadau Llywodraeth y DU i wasgaru swyddi gwasanaeth sifil o gwmpas y wlad, ac i ddod â mwy o gyflogaeth i Gymru a lleoedd eraill y tu allan i Lundain oedd hynny. Am stori wahanol yw hon mewn gwirionedd. Mae 80 y cant o'r swyddi gwasanaeth sifil yng Nghymru yn swyddi sydd y tu allan i Lywodraeth Cymru. Mae Adam Price yn llygad ei le, Llywydd, pe baem ni hyd yn oed yn cymryd toriad cymesur o 91,000 Prif Weinidog y DU, y byddai gennym ni 6,000 yn llai o swyddi yma yng Nghymru. Y pryder, fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei ddweud, yw y byddem ni'n ysgwyddo nifer anghymesur o uchel o doriadau swyddi yma yng Nghymru. Yn wyneb anawsterau a achoswyd ganddyn nhw eu hunain, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn troi ar unwaith, mewn ffordd ddifeddwl, at y mathau o atebion y mae wedi rhoi cynnig arnyn nhw mewn mannau eraill ac sydd wedi methu mor ofnadwy, ac sy'n bygwth rhai o'r asiantaethau hynny sy'n llawn pobl sy'n gweithio'n galed iawn, a wnaeth gymaint yn ystod y pandemig i barhau i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus, ac yn eu bygwth â phreifateiddio.

Gallwch fod yn siŵr y byddwn ni'n cyfathrebu yn uniongyrchol â Gweinidogion a fydd, os byddan nhw'n bwrw ymlaen â'u cynllun—ac rwy'n gweld llawer o ASau Torïaidd yn dweud nad ydyn nhw'n credu y bydd hyn byth yn digwydd—ac os byddan nhw'n penderfynu mai Cymru fydd y gwely prawf ar ei gyfer, yna byddan nhw'n wynebu gwrthwynebiad cryf yma, yn Llywodraeth Cymru, ac yn sicr os ydyn nhw'n meddwl y byddwn ni'n derbyn cyfran anghymesur o doriadau swyddi, faint y bydd hynny yn mynd yn groes i unrhyw honiadau y mae'r Llywodraeth hon yn eu gwneud ynghylch ffyniant bro mewn rhannau helaeth o'r wlad y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr.

13:50

Yn hytrach nag un o achosion yr argyfwng costau byw, gweithwyr y sector cyhoeddus yw ei ddioddefwyr, fel pob gweithiwr arall. Siawns nad torri eu swyddi, ond codi eu cyflogau gwirioneddol—yn enwedig i'r rhai ar y cyflogau isaf—ddylai fod y pwyslais brys yn awr. Felly, beth allwn ni yng Nghymru ei wneud i helpu i sicrhau bod hyn  yn digwydd?

Mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru ill dau wedi ymrwymo i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i bob aelod o staff. Y llynedd, Heddlu Dyfed-Powys oedd heddlu cyntaf Cymru i fod yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol achrededig, ond nid yw pob cyflogwr sector cyhoeddus yng Nghymru wedi gwneud hynny eto. Beth am, Prif Weinidog, eu gwahodd nhw i gyd i'r uwchgynhadledd costau byw nesaf, a gofyn iddyn nhw beth y byddai'n ei gymryd i wneud Cymru yn genedl cyflog byw gwirioneddol, gan ddechrau gyda'r sector cyhoeddus cyfan, neu o leiaf y rhan honno ohono y mae gennym ni yng Nghymru, nid San Steffan, reolaeth drosti?

Wel, Llywydd, yn dilyn y digwyddiad blynyddol lle cyhoeddir y cyfrifiad cyflog byw gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol, ysgrifennais at arweinwyr pob corff sector cyhoeddus yng Nghymru, yn eu hannog i ddod ymlaen fel cyflogwyr cyflog byw gwirioneddol. Nawr, y pwynt a wnes i yn fy llythyr oedd fy mod i'n barod i gydnabod bod gwahanol gyrff—gwahanol awdurdodau lleol, er enghraifft—ar wahanol rannau o'r sbectrwm o ran y daith tuag at achrediad cyflog byw gwirioneddol. Mae Cyngor Caerdydd yn enghraifft gynnar eithriadol o lwyddiant yn y maes hwnnw, ond rwy'n cydnabod nad yw pawb yn dechrau o'r un lle. Yr hyn nad wyf i'n barod i'w gydnabod yw ateb sy'n dweud nad oes cynllun i gael achrediad cyflog byw gwirioneddol. Felly, dyna oedd pwyslais fy llythyr nid yn unig i arweinwyr awdurdodau lleol, ond i arweinwyr sefydliadau sector cyhoeddus o bob math yng Nghymru. Mae hon yn daith y mae'n rhaid i bob un ohonom ni fod arni, er y bydd rhai mewn gwell sefyllfa i gyrraedd pen y daith honno nag eraill.

Edrychwn ymlaen at weithio gydag ef yn gadarnhaol i sicrhau'r weledigaeth honno ar gyfer Cymru cyn gynted â phosibl.

Heddiw yw'r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia, Rhyngffobia a Thrawsffobia, ac ar y diwrnod hwn mae'n bleser gwirioneddol dalu teyrnged i Jake Daniels, am fod yr unig ddyn i chwarae pêl-droed yn broffesiynol ar hyn o bryd sy'n agored am fod yn hoyw. Rwy'n teimlo'n siŵr y bydd ei ddewrder yn rhoi hyder i eraill ddilyn yn ei ôl troed.

Ar nodyn llai cadarnhaol, mae Canolfan Confensiwn Rhyngwladol Cymru, y mis hwn, yn rhoi llwyfan i'r telefangelydd Franklin Graham, sydd wedi galw dynion a menywod hoyw yn elyn sydd yma i ddifa ein cenedl, ac sydd hyd yn oed wedi canmol Vladimir Putin am ei bolisïau homoffobig. Nawr, efallai fod gan Mr Graham hawl i'w gredoau homoffobig, ond siawns nad oes ganddo hawl i gael llwyfan i'w mynegi mewn canolfan gynadledda sydd 50 y cant yn eiddo Llywodraeth Cymru. Onid yw hynny'n cyfleu'r neges anghywir gan Gymru—nid o heddwch ac ewyllys da, fel y byddwn ni'n ei wneud drwy'r Urdd yn Oslo yfory, ond un sy'n dweud bod homoffobia a chasineb rywsut yn dal i fod yn dderbyniol?

13:55

Wel, Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno â'r hyn y mae Adam Price wedi ei ddweud am Jake Daniels? Mae wedi cymryd dyn ifanc 17 mlwydd oed i ddod ymlaen yn y ffordd honno, ac am wers yw honno i bobl eraill sy'n hŷn na'r dyn ifanc dewr iawn hwnnw, a gadewch i ni obeithio y bydd ei esiampl yn cael ei chlywed gan bobl eraill.

Rwy'n gresynu at y ffaith bod y digwyddiad y cyfeiriodd Adam Price ato yn mynd rhagddo, ond nid yw hynny yn benderfyniad i Lywodraeth Cymru. Nid ni sy'n rhedeg y ganolfan honno, a mater i'r rhai sy'n gyfrifol amdani yw gwneud y penderfyniadau hynny. Mae'n ddrwg gen i weld rhywun â'r safbwyntiau hynny yn cael llwyfan i'w mynegi yma yng Nghymru, ac yn sicr dydyn nhw ddim yn adlewyrchu unrhyw beth y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i'w gefnogi na'i gymeradwyo. Yn hytrach, nod ein cynllun, ein cynllun LGBTQ+ ar gyfer Cymru, yr ydym ni'n parhau i weithio arno ac wedi cael cyfres o drafodaethau ymgysylltiedig iawn gydag aelodau o'r gymuned honno ac eraill arno, yw ein gwneud yn genedl wirioneddol ystyriol o bobl LGBTQ+. Mae hynny yn sicr yn ymestyn i bobl ifanc, ac rwy'n diolch i arweinydd Plaid Cymru am yr hyn a ddywedodd am yr Urdd a'r neges o heddwch ac ewyllys da, y byddan nhw'n ei chyhoeddi yfory yn Oslo yn ystod eu canmlwyddiant. Mae'n record ryfeddol, record o fynegi barn a theimladau sydd yn aruthrol o wahanol i'r rhai yr ydym ni'n gresynu eu bod nhw'n cael eu clywed yma yng Nghymru, ac yn rhoi i ni, ochr yn ochr â'r hyn yr ydym ni wedi ei weld gan Jake Daniels heddiw, obaith gwirioneddol ar gyfer y dyfodol.

Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghaerffili

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn etholaeth Caerffili? OQ58067

Diolch i Hefin David am hynna, Llywydd. Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad ychwanegol o £50 miliwn mewn mesurau teithio llesol ledled Cymru. Bydd pob awdurdod lleol, gan gynnwys Caerffili, yn cael isafswm o £500,000 o ddyraniad, a bydd yr arian hwn yn helpu i ddatblygu dewisiadau amgen i ddibyniaeth ar y car, gan gynnwys, wrth gwrs, mynediad at wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, hoffwn i groesawu Mr Sean Donovan a'i fam Sarah i'r oriel gyhoeddus. Bydd wedi ymddiddori yn fawr iawn yn y cwestiwn y gofynnodd Adam Price a'r ymateb gan y Prif Weinidog. Rwyf i hefyd wedi trafod y mater hwn gyda nhw heddiw.

Ac un o'r materion allweddol yr wyf i wedi eu codi o'r blaen gyda'r Prif Weinidog yw cysylltiad ag ysbyty'r Faenor ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar fws. Rwyf i wedi siarad â Trafnidiaeth Cymru—rwyf i wedi cael llawer o gyfarfodydd gyda nhw—ac un o'r pethau y maen nhw'n eu harloesi yw coridor bysiau strategol ansawdd uchel newydd o'r dwyrain i'r gorllewin a fyddai'n cysylltu Llantrisant, Pontypridd, Abercynon, Nelson, Ystrad Mynach, Trecelyn, Pont-y-pŵl a Chwmbrân ag ysbyty'r Faenor, ac rwy'n gwybod bod gan fy nghyd-Aelod o Flaenau Gwent ddiddordeb mewn gweld cysylltiadau yno hefyd. Bydd yn cael ei wneud mewn proses tri cham, a gellir gweithredu'r cam cyntaf yn gyflym gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy'n ymestyn gwasanaeth llwybr 21 yn uniongyrchol o'r Coed-duon i'r Faenor, gydag estyniad i Gwmbrân. Gellir gwneud hynny yn fuan dros ben. Ac yna gall cam 2 ddilyn yn weddol fuan wedyn. Yr hyn yr hoffwn ei gael gan y Prif Weinidog heddiw yw amserlen ar gyfer hynny a rhywfaint o gyngor ar ba mor gyflym y gellir cyflawni hynny—cam 1 a cham 2, gan gysylltu ein cymunedau i'r dwyrain a'r gorllewin, ac yn enwedig ag ysbyty'r Faenor.

Llywydd, diolch i Hefin David am hynna ac rwy'n cydnabod y diddordeb cyson y mae wedi ei ddangos i wneud yn siŵr bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ag ysbyty'r Faenor gystal ag y gallan nhw fod, ac rwy'n falch iawn o ddweud wrtho ein bod ni ar y camau olaf o gwblhau trefniadau i gyflwyno'r cyswllt bysiau uniongyrchol newydd hwnnw â'r ysbyty o'r Coed Duon, Trecelyn a Phont-y-pŵl, ac y bydd y gwasanaeth hwnnw yn dechrau o fewn ychydig wythnosau, ym mis Gorffennaf. Bydd yn gontract uniongyrchol rhwng Llywodraeth Cymru a'r gweithredwr bysiau yma yn ne Cymru er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth hwnnw yn digwydd. Bydd y gwasanaeth yn gweithredu bob awr drwy gydol y dydd, a byddwn yn monitro ei effeithiolrwydd yn ofalus dros y chwe mis cyntaf. Bydd y gwasanaeth uniongyrchol hwnnw hefyd yn cysylltu â gwasanaethau bysiau a threnau eraill mewn canolfannau a chyfnewidfeydd allweddol. Bydd fy nghyd-Weinidog Lee Waters yn gwneud cyhoeddiad yn fuan i gadarnhau'r union ddyddiad cychwyn. Bydd yn gam sylweddol ymlaen o ran gwneud yn siŵr y bydd y gwasanaeth newydd hwnnw ar gael bellach i'r bobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd i ysbyty'r Faenor ac yn ôl o etholaeth yr Aelod ac o etholaethau eraill ar hyd y llwybr hwnnw.

14:00
Diogelu Plant

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella gwasanaethau diogelu plant yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ58036

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r holl fyrddau diogelu rhanbarthol ac awdurdodau lleol i gryfhau a gwella arferion diogelu ledled Cymru. Mae gweithdrefnau diogelu newydd i Gymru gyfan wedi eu datblygu gyda'r byrddau hynny, i sicrhau bod gwasanaethau yn nodi ac yn gweithredu gwersi yn well.

Prif Weinidog, mae 20 mlynedd wedi mynd heibio bellach ers llofruddiaeth drasig y plentyn wyth oed Victoria Climbié, yn nwylo ei hen fodryb a'i phartner yn Llundain. Amlygodd yr achos fethiannau gwahanol asiantaethau Llywodraeth a fethodd â mynd i'r afael â'r cam-drin parhaus yr oedd yn ei ddioddef gan ei theulu. Er na ddigwyddodd y llofruddiaeth hon yng Nghymru, nododd yr adroddiad a luniwyd gan yr Arglwydd Laming yn 2001 nifer o argymhellion ynghylch y ffordd orau o leihau'r siawns y bydd digwyddiadau erchyll o'r fath yn digwydd eto. Dim ond y llynedd, gwelsom lofruddiaeth ofnadwy y plentyn pump oed Logan Mwangi gan ei fam a'i lystad ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, siaradais ag etholwyr a fynegodd eu pryderon nad oedd y gwasanaethau cymdeithasol yn bod yn dryloyw nac yn atebol yn y ffordd yr oedden nhw'n ymdrin â materion diogelu. Yn wir, amlygodd adolygiad yr Arglwydd Laming fod gormod, a dyfynnaf, 

'o ddryswch sefydliadol a "bwrw'r cyfrifoldeb"...i gredu y gellir sicrhau diogelwch plentyn dim ond drwy gyhoeddi mwy o ganllawiau.'

Prif Weinidog, pa fesurau sydd ar waith i sicrhau y gwrandewir ar y sylwadau hyn, a chenhedlaeth yn ddiweddarach, fod diwylliannau wedi newid? Diolch.

Diolch i Sam Kurtz am y cwestiwn atodol pwysig yna. Roedd achos Victoria Climbié ei hun yn un arall mewn cyfres faith o ymchwiliadau amddiffyn plant arwyddocaol. Yr un sylfaenol yn yr oes fodern oedd yr un i farwolaeth Maria Colwell yn ôl ym 1974, a cheir gwrthgyferbyniad cryf iawn rhwng yr hyn a ganfu ymchwiliad Colwell a'r hyn a ganfu ymchwiliad Climbié. Yn achos Colwell, canfu'r ymchwiliad fod marwolaeth y plentyn hwnnw wedi ei achosi yn rhannol oherwydd bod pob asiantaeth y daeth i gysylltiad â hi yn ystyried ei hun yn gyfrifol am ei lles ac ni wnaethon nhw rannu gwybodaeth â chyrff eraill; canfu Climbié bron yn union i'r gwrthwyneb. Yn yr achos hwnnw, gweithredodd unrhyw sefydliad y cyrhaeddodd achos Victoria Climbié ar ei ddesg, meddai'r Arglwydd Laming, cyn gynted ag y gallai i gael yr achos hwnnw oddi ar ei ddesg ac i ddwylo sefydliad arall. Cynlluniwyd ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ein hunain i raddau helaeth i geisio gwrthweithio'r ffordd honno o ddarparu gwasanaethau i blant, i wneud yn siŵr bod gwasanaethau plant yn gweithio gydag eraill i helpu i sicrhau diogelwch plant lle bynnag yr oedden nhw yng Nghymru.

Roedd cwestiwn gwreiddiol yr Aelod yn fy holi am orllewin Caerfyrddin. Pan ymwelais â gwasanaethau cymdeithasol sir Gaerfyrddin gryn amser yn ôl, gwnaeth y ffordd yr oedd y gwasanaethau hynny wedi eu trefnu i sicrhau, er enghraifft, fod addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn rhan o un gyfarwyddiaeth ac yn gweithio gyda'i gilydd i wneud yn siŵr bod buddiannau plant yn cael eu hybu a bod eu diogelwch yn cael ei hybu hefyd wrth i'r gwasanaethau hynny weithio gyda'i gilydd, argraff wirioneddol arnaf i. Felly, rwy'n credu bod enghreifftiau da o hynny yn digwydd ledled Cymru. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod hynny yn cael ei wneud yn gyson. Mae gennym ni gyfres o adroddiadau sydd wedi ein helpu gyda hynny yn fwy diweddar, gan gynnwys adroddiad y gweithgor cyfraith gyhoeddus. Llwyddais i gyfarfod â llywydd yr is-adran deuluol wythnos neu ddwy yn unig yn ôl, ynghyd â'r Barnwr Francis, prif farnwr llys teulu Cymru, i drafod cyfres o'r materion hyn. Byddwn yn parhau i weithredu ar y lefel Llywodraeth Cymru honno, ond hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid ar lefel awdurdod lleol ac ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd, y mae gan bob un ohonyn nhw ran i'w chwarae o ran gwneud yn siŵr bod y pwyntiau pwysig a wnaed gan Mr Kurtz yn cael sylw wrth ddarparu gwasanaethau yng Nghymru.

14:05

Prynhawn da, Brif Weinidog. Diolch i Sam am godi'r mater yma. Dwi'n falch o weld materion gofal cymdeithasol plant yn cael eu trafod yma. Dwi'n pryderu'n fawr, Brif Weinidog, am y sefyllfa yng ngwasanaethau plant ein hawdurdodau lleol. Pa gymorth mae'r Llywodraeth yn ei gynnig i awdurdodau lleol, fel sir Benfro, i sicrhau bod gwasanaethau ar seilwaith cadarn, a beth sydd ar gael i gynnig cefnogaeth i'r bobl sy'n gweithio mor galed ar gyfer ein plant? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr i Jane Dodds. Rŷn ni'n rhoi cymorth i'r awdurdodau lleol mewn nifer o ffyrdd. Rŷn ni wedi rhoi mwy o arian iddyn nhw yn ystod y pandemig i'w helpu nhw i ymdopi â'r sefyllfa yna. Cyfeiriais yn yr ateb gwreiddiol i Sam Kurtz at y cyngor newydd rŷn ni wedi'i greu gyda'r byrddau i helpu pobl yn y rheng flaen yn y gwaith caled maen nhw'n ei wneud. Rŷn ni'n gweithio ar y foment gyda'n prifysgolion i weld a oes yna fwy rŷn ni'n gallu'i wneud i dynnu mwy o bobl i mewn i'r cyrsiau hyfforddiant sydd gyda ni yma yng Nghymru i greu'r gweithlu am y dyfodol. So, dwi'n cytuno gyda beth ddywedodd Jane Dodds. Mae'n faes anodd, ac mae pobl ar y rheng flaen yn gweithio mor galed i gydweithio gyda phobl eraill i roi help a chymorth iddyn nhw. Mae nifer o bosibiliadau ble rŷn ni'n gallu cydweithio gyda'n gilydd i wella'r sefyllfa sy'n ei hwynebu nhw'n bresennol.

Unigrwydd

5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag unigrwydd yng Nghymru? OQ58032

Mae ein strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, a gyhoeddwyd ym mis Medi y llynedd, wedi ei gweithredu drwy gronfa gwerth £1.5 miliwn sy'n darparu amrywiaeth eang o gymorth lleol ac arloesol. Byddwn yn cyhoeddi'r adolygiad cyntaf o'r strategaeth yn ddiweddarach eleni, gan asesu cynnydd a chyflwyno'r camau nesaf.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Ers yr ail ryfel byd, mae cymdeithas wedi newid, sydd wedi arwain at gynnydd mewn unigrwydd ac ynysigrwydd i rai. Mae teuluoedd yn llai ac yn fwy gwasgaredig, mae capeli a thafarndai wedi cau ac mae'r niferoedd sy'n mynd iddyn nhw wedi gostwng yn sylweddol, mae gwaith wedi mynd yn fwy tameidiog, gyda gwaith yn y ffatri leol yn mynd yn llawer mwy prin. Mae rhai corau a grwpiau cymdeithasol eraill wedi cau. Un peth cadarnhaol yr ydym ni wedi ei weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw twf Siediau Dynion ledled Cymru, gan gynnwys yn nwyrain Abertawe. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i groesawu twf Siediau Dynion ac amlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru iddyn nhw? A dim ond i ychwanegu, mae menywod yn cael bod croeso yn Siediau Dynion.

Diolch yn fawr iawn i Mike Hedges. Mae'r darlun, rwy'n meddwl, yn un cymysg, onid yw? Mae llawer o bethau wedi newid dros y cyfnod ers yr ail ryfel byd. Mae rhai o'r pethau hynny yn gwneud unigrwydd ac ynysigrwydd yn anoddach, mae rhai pethau wedi erydu'r ffactorau hynny hefyd. Rwy'n credu fy mod i'n cofio adrodd y stori ar lawr y Senedd ar ôl i fy mam ddweud wrthyf i fod ei ffrind, ym 1946, wedi mynd o Sanclêr i weithio yng Nghaerfyrddin, 9 milltir i ffwrdd, ac roedd yn rhaid iddi aros mewn llety yng Nghaerfyrddin, oherwydd, ym 1946, allech chi ddim teithio'r 9 milltir hynny bob dydd. Nawr, fe allwch chi siarad â'ch perthnasau yn Awstralia ar alwad Zoom heb iddo fod yn anodd i neb. Felly, er bod rhai pethau wedi mynd yn anoddach, mae mathau eraill o gyfathrebu wedi erydu anawsterau unigrwydd ac ynysigrwydd, ac mae gwersi pwysig i ni eu dysgu.

Mae'r fenter Siediau Dynion yn un o'r enghreifftiau hynny, a ddeilliodd, wrth gwrs, o Awstralia. Rwy'n gwybod y bydd Mike Hedges yn ymwybodol o'r gefnogaeth y mae cyngor Abertawe, er enghraifft, wedi ei rhoi i saith gwahanol fenter Siediau Dynion, gan ddefnyddio arian a roddwyd i'r cyngor gan Lywodraeth Cymru, dau ohonyn nhw yng Nghlydach ac Ynystawe yn etholaeth yr Aelod ei hun. Dim ond dwy enghraifft ydyn nhw o'r fenter honno, sydd i'w chael ym mhob rhan o Gymru. Mae Mike Hedges yn iawn, wrth gwrs, Llywydd; yn sir Ddinbych, er enghraifft, defnyddiwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol ar gyfer sefydliadau Siediau Menywod, yn ogystal â Siediau Dynion. Mae gwneud yn siŵr bod y posibiliadau hynny ar gael i'n holl ddinasyddion yn rhan bwysig o erydu unigrwydd ac ynysigrwydd ar draws y boblogaeth gyfan.

14:10
Gwasanaethau Ysbytai

6. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd cyfluniad presennol gwasanaethau ysbytai yn Nwyrain De Cymru? OQ58066

Diolch i'r Aelod am hynna. Agorodd Ysbyty Athrofaol y Faenor yn 2020, yn unol â'r gyllideb ac yn gynt na'r disgwyl. Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi adolygu ei fodel clinigol i sicrhau'r ddarpariaeth orau bosibl o ofal ar draws pob ysbyty yn y rhanbarth.

Diolch. Prif Weinidog, mae mynediad at wasanaethau ysbyty yn y de-ddwyrain yn broblem sylweddol. Rwyf i wedi codi hyn yn y Senedd o'r blaen, yn enwedig y ffaith, pan gaeodd ysbyty glowyr Caerffili, fod cwm Rhymni wedi ei adael heb adran damweiniau ac achosion brys. Dywedwyd wrthym ni y byddai un yn Ysbyty Ystrad Fawr; dywedodd yr arwyddion ffyrdd wrthym ni yn wreiddiol y byddai, ond cafodd yr arwyddion eu newid a chynlluniau'r ysbyty eu hisraddio. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw esboniad cyhoeddus a gafodd ei roi ynghylch pam mae hynny wedi digwydd. Mae'n rhaid i gleifion hefyd deithio yn bell erbyn hyn, fel yr ydym ni wedi clywed eisoes y prynhawn yma, ar draws y Cymoedd i gyrraedd apwyntiadau mater o drefn. Rwyf i wedi clywed gan un fenyw sy'n byw yng Nghaerffili a ddywedodd wrthyf i y bu'n rhaid iddi wneud taith dwy ffordd 56 milltir o hyd i gyrraedd apwyntiad gynaecoleg yn Nevill Hall. Mae'r drefn hon o or-ganoli gwasanaethau yn effeithio ar gynllunio'r gweithlu ac ysbryd. Mae meddygon iau yn gyfyngedig o ran pa gyfleoedd dysgu y gallan nhw fanteisio arnyn nhw o dan system ddarniog, ac mae hyfforddiant meddygol yn dioddef. Rwyf i wedi galw am adolygiad o'r ffordd y mae gwasanaethau ysbytai yn yr ardal wedi eu trefnu oherwydd y straen hwn ar ysbytai, yr anhrefn i staff a'r amharu ar ofal cleifion. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ei bod hi'n hen bryd cynnal adolygiad o'r fath?

Cyfeiriais yn fy ateb gwreiddiol at y ffaith bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi bod yn adolygu'r ffordd y mae ei strwythur o wasanaethau ysbytai, ac nid gwasanaethau ysbyty yn unig, wedi eu trefnu ar hyn o bryd. Nid wyf i'n cytuno â'r pwynt a wnaeth yr Aelod am israddio a darnio; rwy'n credu bod y rhaglen Dyfodol Clinigol yn fodel o sut y gellir datblygu system wedi ei chynllunio i ddarparu gwasanaethau mewn rhan o Gymru. Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn iawn bod angen adolygu'r model yn barhaus; mae'n rhaid i ni fod yn gwneud yn siŵr bob amser ei fod yn gweithio yn unol â'i fwriad.

Mae'r model yn un sy'n wirioneddol drylwyr. Mae ganddo ysbyty'r Faenor yn darparu gwasanaethau arbenigol a gofal critigol, mae ganddo dri ysbyty cyffredinol lleol estynedig—Ysbyty Brenhinol Gwent, Nevill Hall ac Ysbyty Ystrad Fawr—ac yna mae ganddo dri ysbyty cymunedol arall—Ysbyty Aneurin Bevan, ysbyty Cas-gwent a'r ysbyty sirol. Ac mae ganddo ganolfannau gofal sylfaenol brys—felly, dwy ganolfan gofal sylfaenol frys newydd, un yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac un yn Nevill Hall, a sefydlwyd gydag arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Mae 82,000 o gleifion bellach wedi eu gweld yn y canolfannau gofal sylfaenol brys newydd hynny i wneud yn siŵr y gall pobl gael y gwasanaethau hynny mor agos i'w cartrefi â phosibl. Ac yna mae gennych chi, y tu hwnt i hynny, y rhwydwaith o wasanaethau gofal sylfaenol ei hun.

Rwy'n siŵr y bydd Delyth Jewell yn croesawu'r uchelgais yn y rhaglen gofal wedi'i gynllunio, a gyhoeddwyd gan fy nghyd-Weinidog Eluned Morgan dim ond wythnos neu ddwy yn ôl—[Anghlywadwy.]—byddai pobl wedi gorfod teithio i ysbyty i dderbyn gofal a all gael ei ddarparu ar-lein bellach gyda phobl yn eu cartrefi eu hunain, ac y gellir darparu 50 y cant o'r holl apwyntiadau dilynol yn glinigol effeithiol yn y ffordd honno. Mae angen i ni feddwl am sut y gellir rhoi'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf ar waith i osgoi rhai o'r teithiau diangen ac anodd hynny i bobl sy'n sâl yn y lle cyntaf ac a fyddai'r ffordd arferol o ddarparu gwasanaethau yn y gorffennol. Gallwn ni wneud yn well na hynny, a thrwy wneud yn well na hynny, gallwn wneud yn siŵr y gellir gwella'n sylweddol rai o'r materion mynediad hynny y mae Delyth Jewell wedi cyfeirio atyn nhw.

14:15
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y dylai dadleuon y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru gael eu cyfnewid yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Diolch, Trefnydd. Mae gan reoliadau ffosffad sydd wedi'u gosod gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn ardaloedd cadwraeth arbennig afonydd broblemau mawr ledled Cymru o hyd, ac rydym ni'n agos iawn at argyfwng mewn llawer o'n diwydiannau, gyda'n proffesiwn adeiladu bron â phallu'n gyfan gwbl mewn rhai rhannau o Gymru. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch canfyddiadau'r gweithgor a gafodd ei sefydlu i ddod o hyd i ateb i'r broblem hon? Oherwydd cyntaf i gyd y gwnawn ni ddatrys y broblem hon, cyntaf i gyd y gallwn ni gael ein system gynllunio a'n hadeiladau i symud eto. Diolch, Llywydd.

Diolch. Felly, rydych chi'n cyfeirio at ddarn o waith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd, a gwn i fod y Gweinidog yn ystyried yr hyn sydd wedi dod o'r grŵp, ac yn sicr bydd hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd hi wedi ystyried yr holl argymhellion.

Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn ymwneud â ffyrdd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd? Yn gyntaf, gawn ni ddiweddariad ganddo ynghylch Llanbedr a beth ydy'r diweddaraf, os gwelwch yn dda? Yn anffodus, bu yna ddamwain ffordd ofnadwy yn y pentref ar fore Sul, yr wythfed o'r mis yma, ac fe ddioddefodd gŵr anafiadau difrifol. Dwi'n siŵr ein bod ni oll yn dymuno gwellhad llawn a buan iddo fo. Yn sgil hyn, caewyd y ffordd am y rhan fwyaf o'r diwrnod, gan orfodi pobl y pentref i wneud taith o 40 milltir o amgylch mynyddoedd y Rhinogydd er mwyn cyrraedd Harlech, sydd ond 3 milltir i ffwrdd. Dyna'r peryg o gael un lôn yn unig, ac yn enghraifft bellach o pam fod angen ffordd osgoi. Felly, mae angen datrysiad buan arnom, os gwelwch yn dda.

Yn ail, gawn ni ddiweddariad hefyd gan y Dirprwy Weinidog ynghylch cynlluniau i wella diogelwch ffyrdd cefn gwlad yn y gogledd? Dŷn ni wedi gweld nifer o ddamweiniau yn ddiweddar—dwy ddamwain ddifrifol, er enghraifft, ddwy wythnos yn olynol ar yr A494 ger Glan-yr-Afon ar bwys y Bala. Dywed trigolion lleol wrthyf fi eu bod nhw ofn gweld yr haul yn tywynnu gan fod hyn yn anochel yn golygu bod damweiniau am fod ar y ffordd. Flwyddyn ddiwethaf, cafwyd chwe damwain angheuol ar ffyrdd Meirionnydd yn unig, a 36 anaf difrifol hefyd. Roedd hanner y damweiniau angheuol yn yrwyr beiciau modur. Yn wir, ers 2016, mae yna 24 damwain angheuol a 162 damwain difrifol ar ffyrdd Meirionnydd. Felly, gawn ni ddiweddariad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau mae o'n eu cymryd er mwyn sicrhau diogelwch ffyrdd yn y gogledd? Diolch.

Diolch. Byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a oes unrhyw wybodaeth ddiweddar y gall ei rhoi i'r Aelodau yng nghyswllt diogelwch ar y ffyrdd. Nid wyf i'n siŵr a wnaethoch chi sôn am ffyrdd gwledig neu'r gogledd.

O ran ffordd osgoi Llanbedr—ac rwy'n sicr yn ategu eich dymuniadau gorau i'r dyn a gafodd ei anafu—daeth yr adroddiad, fel y gwyddoch chi, gan gadeirydd y panel adolygu ffyrdd, i'r casgliad nad oedd y cynllun yn cyd-fynd yn dda â pholisi trafnidiaeth a hinsawdd newydd Llywodraeth Cymru. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ymrwymo i ddarparu cyllid ar gyfer datblygu a gweithredu pecyn arall o fesurau i ymdrin ag effaith negyddol traffig yn Llanbedr a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law.

Gwnaethom ni glywed yn gynharach gan arweinydd Plaid Cymru am y risg o doriadau i wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Mae un o fy etholwyr, sy'n aros i adnewyddu ei thrwydded tymor byr, sydd, oherwydd ei chyflwr meddygol, yn gorfod cael ei hadnewyddu bob tair blynedd, ond yn wahanol i rai cyflyrau fel epilepsi a diabetes, nid yw hi'n gallu gwneud cais ar-lein; mae'n rhaid iddi aros i'r DVLA anfon ei gwahoddiad i adnewyddu. Ac ar hyn o bryd, (a) cyrhaeddodd hwnnw'n hwyr, a (b) mae ei meddyg teulu ar hyn o bryd yn dweud nad ydyn nhw'n gwneud unrhyw atgyfeiriadau DVLA o hyd, heb atgyfeiriad nid yw hi'n gallu adnewyddu ei thrwydded yrru, ac mae hyn mewn gwirionedd yn golygu ei bod hi'n gaeth yn ei chartref ei hun, yn hytrach nag yn gallu bod mewn swydd amser llawn, cael bywyd cymdeithasol llawn, gallu ymweld â phobl, gwneud ei holl siopa ei hun, ac ati. Felly, mae'n rhaid bod hyn yn effeithio ar lawer o bobl eraill oherwydd nad yw'r DVLA yn gallu ymdopi â'r gofynion sy'n ofynnol ar gyfer pobl y mae angen trwyddedau tymor byr arnyn nhw. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch sut y mae methiant y DVLA yn prosesu'r ceisiadau hyn yn effeithio ar bobl â'r anableddau hyn yn y tymor byr, oherwydd mae ei thrwydded nawr wedi dod i ben ac mae hi, fel y dywedais i, yn gaeth yn ei chartref ei hun.

14:20

Diolch, ac rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru o ran rhoi trwyddedau, mae'n fater a gedwir yn ôl, ac mae hyn yn cael ei gadw gan Lywodraeth y DU. Nid ydym ni'n gyfrifol am hynny. Fodd bynnag, yr ydych chi'n gwneud pwynt ynglŷn â'r ffaith nad yw meddyg teulu eich etholwr yn gallu ei chynorthwyo yn y ffordd sydd wir ei hangen. Byddwn i'n eich annog chi i roi gwybod iddi hi fy mod i o'r farn y dylai hi siarad â'i rheolwr practis yn y feddygfa i weld a oes modd gwneud unrhyw beth, oherwydd, i mi, mae hwn yn ymddangos yn beth syml a hawdd iawn ei wneud i'w chynorthwyo hi.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog llywodraeth leol ar ôl i nifer o etholwyr yn sir Pen-y-bont ar Ogwr gysylltu â mi ynglŷn â'u pryderon am y broses benodi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? Daw hyn ar ôl i aelod cabinet Llafur yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei gyflogi i weithio mewn swydd swyddog cyflogedig lefel uchel yn yr union adran yr oedd ef yn gyfrifol amdani. Mae ffynonellau'r cyfryngau wedi adrodd bod yr aelod cabinet Llafur yn y cyngor dros gymunedau ar yr adeg y gwnaeth gais am y swydd, wedi'i benodi'n ddiweddarach wedyn fel y rheolwr newydd ymateb i newid hinsawdd yn yr un gyfarwyddiaeth gymunedau. Mae'n codi cwestiynau sylweddol i'r cyngor eu hateb ynghylch a gafodd ei gyfweld gan swyddogion yn ei adran ei hun, a oedd ganddo'r holl gymwysterau angenrheidiol ar gyfer y swydd a phriodoldeb y broses. Rwyf i wedi ysgrifennu at arweinydd Llafur Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r cwestiynau hyn yn y gobaith y bydd yn egluro'r llanastr cyfan, ond ar hyn o bryd nid wyf i wedi cael ateb, ac maen nhw hefyd yn anwybyddu ceisiadau am adolygiad mewnol i'r sefyllfa hefyd. Mae'r un cyngor hefyd wedi cael ei orfodi i ymddiheuro'n ddiweddar ar ôl i'r cynllun Arbed yng Nghaerau, a aeth o'i le'n drychinebus, ddarganfod bod y contract ar gyfer y gwaith a gafodd ei gyflawni wedi'i ddyfarnu i gwmni gyda chysylltiadau ag aelod Llafur y cabinet a oedd yn eistedd bryd hynny. Mae'n amlwg i mi fod bwlch sylweddol yn neddfwriaeth Llywodraeth Cymru sydd wedi caniatáu i'r sefyllfa hon yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddatblygu, pan fo'r cyhoedd yn codi pryderon difrifol am y ffordd y mae'r cyngor yn ymdrin â buddiannau ei aelodau cabinet. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad brys i ddatrys y mater a darganfod pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i'w ddatrys?

Byddwn i'n cynghori'r Aelod i aros am ymateb i'w lythyr—at arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, rwy'n credu iddo ddweud. Ac yna ar ôl i chi gael yr ymateb, efallai ar ôl i chi ei ystyried, os ydych chi'n teimlo bod angen i chi wneud hynny, ysgrifennwch at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

Prynhawn da, Gweinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n gwybod beth yr wyf am ofyn i chi, ond mae'n ymwneud â'r milgwn hynny. A gaf i ofyn am ddatganiad gennych chi eich hun yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru ar y cynnydd tuag at wahardd rasio milgwn? Hoffwn i ddiolch i chi am eich addewid i fynd ar ein taith gerdded Hope Rescue yfory, ac rwy'n croesawu unrhyw Aelodau eraill o'r Senedd. Byddwn i wedi dod ag Arthur, fy milgi a achubwyd, fy hun yno, ond mae arnaf i ofn fod ganddo broblemau â'i goesau sydd wedi digwydd, yn anffodus, drwy rasys milgwn, a dyna pam y mae angen i ni wahardd y gweithgaredd creulon hwn. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd am dro o amgylch y Senedd yfory gydag ychydig o filgwn, ac fel chi, byddwn i'n annog pob Aelod neu gymaint o Aelodau â phosibl i ymuno. Rwy'n credu ei fod yn cael ei gynnal gan Luke Fletcher a chithau. Rwy'n ymwybodol, yn amlwg, o'r ddeiseb a oedd â nifer sylweddol o enwau wedi'u hychwanegu ati, a gwn i ei bod yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd. Gwnes i gyfarfod hefyd, ac rwy'n credu yr oedd hynny ar sail eich awgrym chi, gyda Hope Rescue i weld beth arall y byddai modd i ni ei wneud. Fel y gwyddoch chi, fy mwriad yn bendant yw ystyried rasio milgwn yng Nghymru fel rhan o gynllun trwyddedu yn y dyfodol i ddechrau, ac mae hynny wedi'i nodi yn ein cynllun lles anifeiliaid i Gymru. Fel y gwyddoch chi, mae'n gynllun pum mlynedd, felly ni allaf i roi dyddiad penodol o ran pryd y byddwn ni'n gwneud hynny, ond rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i wneud popeth o fewn ein gallu ni i gefnogi milgwn fel eich Arthur chi.

Gweinidog, rwyf i'n gofyn am ddatganiad busnes heddiw ynghylch Bil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU, oherwydd iddo gael ei godi yn y Senedd, yn y Siambr, yr wythnos diwethaf. Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddau ychwanegiad i'r Bil Diogelwch Ar-lein a oedd yn anymarferol ac yn cymryd cam yn ôl. Mae llawer o grwpiau ymgyrchu hawliau dynol a hawliau digidol wedi dweud bod y Bil, gyda phob cyhoeddiad newydd, yn dangos ei fod yn gwneud y byd ar-lein yn llai diogel i'r bobl y mae'n honni ei fod yn eu hamddiffyn, yn enwedig pobl LHDTC+, goroeswyr camdriniaeth a lleiafrifoedd ethnig.

Yn gyntaf, drwy fod yn fwy llawdrwm ynghylch anhysbysrwydd

'Mae'r llywodraeth yn honni ei fod yn "dybiedig" bod camdriniaeth yn gysylltiedig ag anhysbysrwydd ond yn ymarferol, mae'r rhan fwyaf o gamdriniaeth ar-lein yn cael ei wneud gan bobl adnabyddadwy iawn',

ond i ddioddefwyr camdriniaeth a rhagfarn, mae anhysbysrwydd yn angenrheidiol a'r unig ffordd y gallan nhw gael mynediad i'r byd ar-lein gan aros yn ddiogel. Yn ail, wrth honni ei bod yn ymdrin â chynnwys 'cyfreithiol ond niweidiol', mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd defnyddwyr sy'n oedolion yn gallu optio allan o hyn. Fodd bynnag, mae gwallau mewn hidlyddion ac algorithmau cymedroli cynnwys yn dueddol o wahaniaethu yn erbyn y bobl y mae'r cynigion hyn wedi'u cynllunio i'w diogelu. Mae'n hysbys bod cynnwys LHDTC+ yn cael ei nodi a'u rhwystro, fel mater o drefn gan beiriannau fel rhywbeth a allai fod yn rhywiol eu natur

Felly, fy nghwestiwn i yw: a gaf i ofyn felly am ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y Bil Diogelwch Ar-lein a'r hyn y mae Gweinidogion yn ei wneud i sicrhau bod diogelwch ar y rhyngrwyd yn cael ei gyflawni drwy fwy o hawliau i ddinasyddion yn hytrach na datgymalu rhyddid barn yr ydym ni'n ei weld yn y Bil hwn?

14:25

Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, rydym ni'n ymwybodol iawn o Fesur Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU sydd wedi'i gyflwyno i'r Senedd San Steffan. Mae offer a thechnolegau digidol yn rhan o fywyd bob dydd i ni ac mae'n faes pwysig iawn yr ydych chi wedi'i godi. Rwy'n gwybod bod y Prif Chwip a'r Dirprwy Weinidog diwylliant a chwaraeon wedi bod yn cysylltu â Llywodraeth y DU, ac yn sicr mae ei swyddogion yn ymgysylltu'n rheolaidd iawn ynghylch y Bil drafft. Maen nhw hefyd wedi bod yn trafod gydag Ofcom Cymru sut y byddan nhw'n defnyddio eu swyddogaeth ehangach fel rheoleiddiwr o ran hyn. Mae'n Fil cymhleth iawn. Mae'n mynd drwy'r Senedd yn unol ag arfer cyffredin, felly mae'n debygol y bydd nifer o welliannau, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, a byddwn ni'n amlwg yn parhau fel Llywodraeth i fonitro'r Bil wrth iddo fynd ar ei hynt.

Mae cydbwysedd sensitif iawn rhwng rhyddid barn a sicrhau diogelwch pobl ar-lein a bydd y ddeddfwriaeth yn berthnasol i wasanaethau rhyngrwyd sy'n cynnal cynnwys sydd wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddwyr fel delweddau, fideos a sylwadau neu sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gyfathrebu ag eraill ar-lein, ac ni fydd y ddeddfwriaeth yn berthnasol i wasanaethau e-bost, negeseuon testun, gwasanaethau negeseuon amlgyfrwng na gwasanaethau galwadau llais byw un i un. Mae diogelwch ar-lein yn fater a gedwir yn ôl, ond bydd y Bil hwn yn cael effaith ar Gymru ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw llygad barcud arno. 

Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol am y gefnogaeth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru, y gallech chi fod wedi'i gweld fel pennawd ar newyddion BBC Cymru heddiw. Mae adroddiad diweddar gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu'r 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, ac mae'n werth cofio'r ffigur hwnnw—370,000. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn argymell bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud mwy i gydnabod a nodi gofalwyr di-dâl fel y gallan nhw gael y cyfle i fanteisio ar wasanaethau cymorth pwrpasol.

Maen nhw hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod bron i hanner o ofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia wedi dweud bod eu hiechyd eu hunain wedi dioddef yn ystod y pandemig. Mae pryder y gall peidio cydnabod gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia, yn ogystal â pheidio cael adolygiadau o'u hanghenion yn ffurfiol a rheolaidd gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, arwain at sefyllfa pan fyddan nhw ar eu colled o ran cymorth y mae mawr ei angen arnyn nhw cyn iddyn nhw wynebu argyfwng. Felly, Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol am y camau y mae hi'n eu cymryd i nodi'r gofalwyr cudd hyn a pha gamau eraill y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi byddin Cymru o ofalwyr di-dâl sy'n arbed tua £8 biliwn i'r GIG bob blwyddyn?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Wel, rydym ni'n amlwg yn ymwybodol iawn o'r rhan bwysig iawn y mae gofalwyr yn ei chwarae ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n eu gwerthfawrogi a bod nhw yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Byddwch chi'n ymwybodol, er mwyn cydnabod effaith ariannol pandemig COVID-19, er enghraifft, a'r argyfwng costau byw ar ofalwyr di-dâl, fod Llywodraeth Cymru yn dyfarnu taliad untro o £500 i fwy na 57,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sy'n derbyn lwfans gofalwyr. Mae'r taliad hwnnw'n targedu unigolion sy'n gwneud gwaith gofalu am o leiaf 35 awr yr wythnos ac sydd ag incwm isel, a gall unrhyw un sy'n cael lwfans gofalwr hyd at 31 Mawrth eleni gofrestru gyda'u hawdurdod lleol a hawlio'r taliad. 

3. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol: Cyflawni’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddoriaeth

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, cyflawni'r cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg gerddoriaeth. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

14:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe ddylai’r llawenydd sy’n dod o gerddoriaeth o bob math fod yn elfen ganolog ym mhob ysgol a lleoliad addysgol. Ond ers yn rhy hir, rŷn ni’n gwybod mai dim ond y rheini sy’n gallu fforddio’r gwersi sy’n cael dysgu chwarae offeryn cerdd, a dyw hynny ddim yn dderbyniol. Ni ddylai’r un plentyn fod ar ei golled o achos diffyg arian. Fe ddylai pob plentyn, beth bynnag ei gefndir ac incwm ei deulu, gael manteisio ar addysg gerddoriaeth.

Mae’n bleser imi, felly, gael lansio ein cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer addysg gerddorol. Mae’r cynllun yn nodi bod gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol i gael ei sefydlu, sef un o brif ymrwymiadau’r rhaglen lywodraethu. Bydd £13.5 miliwn yn cael ei roi i awdurdodau lleol a’u gwasanaethau cerdd dros y tair blynedd nesaf i sicrhau dyfodol cynaliadwy i addysg gerddoriaeth yng Nghymru. Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd pob plentyn a pherson ifanc, o dair i 16 oed, yn cael y cyfle i ddysgu chwarae offeryn. Mae’n gwneud yn siŵr bod ein plant a’n pobl ifanc o bob cefndir yn cael gwneud y mwyaf o’n diwylliant cyfoethog, ein treftadaeth ni, a’n cymunedau ni, ledled Cymru a thu hwnt.

Mae ein seiliau ni ar gyfer y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol wedi dechrau cael eu gosod yn barod. Y llynedd, fe gafodd swm sylweddol ei wario—£6.82 miliwn—ar brynu offerynnau cerdd ac offerynnau cerdd wedi eu haddasu er mwyn cefnogi ein plant a’n pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Fel rhan o’r pecyn cymorth hwn, fe gafodd trwyddedau cerddoriaeth digidol eu trefnu ar gyfer gwasanaethau cerdd awdurdodau lleol, a sesiynau dysgu proffesiynol i hyfforddi ein hymarferwyr cerdd ac i sicrhau bod yr addysgu a’r profiadau sy’n cael eu darparu yn gydnaws â Chwricwlwm Cymru.

Dros y misoedd diwethaf, rŷn ni wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid ar draws byd cerdd ac addysg, ysgolion a lleoliadau, a’r diwydiant creadigol. Rŷn ni wedi gwrando arnyn nhw ynghylch beth y gallwn ni ei wneud i helpu ein plant a’n pobl ifanc i ddysgu am y llawenydd sydd yna mewn cerddoriaeth ac i roi profiad iddyn nhw o’r llawenydd hwnnw. Mae eu brwdfrydedd nhw ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu dysgwyr a’u lles, a’r trafodaethau buddiol a gonest am yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth ddod dros y pandemig, wedi ein helpu ni i fod yn glir ynghylch beth ddylai fod yn greiddiol i wasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol.

Gyda cherddoriaeth yn un o ddisgyblaethau maes celfyddydau mynegiannol y cwricwlwm a datganiadau o'r hyn sy’n bwysig y mae'n rhaid i’n hysgolion a’n lleoliadau eu dilyn yn y maes hwn i ddatblygu sgiliau, profiad a gwybodaeth ein dysgwyr, bydd y cysylltiad agos ag ysgolion a lleoliadau a fydd yn cyflawni amcanion y maes hwn yn cryfhau’r gwasanaeth. Bydd ei gysylltiad agos ag ysgolion a lleoliadau yn gwneud hyn wrth gyflawni maes celfyddydau mynegiannol y cwricwlwm, gyda cherddoriaeth yn un o ddisgyblaethau’r maes hwn. Er mwyn i’n holl blant a phobl ifanc allu cael gwersi a phrofiadau cerdd o fewn ysgolion a’r tu allan iddyn nhw, bydd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn meithrin cysylltiadau cryfach â sefydliadau ac yn gweithio mewn partneriaeth â’n cymuned gerdd ehangach. Dirprwy Lywydd, drwy weithio gyda’n gilydd, fe wnawn ni’n siŵr bod yna amrywiol gyfleoedd i’n dysgwyr gael creu cerddoriaeth a’i mwynhau ar hyd eu bywyd ym mhob cwr o Gymru, ble bynnag y mae eu hysgol neu eu lleoliad.

Bydd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn cynnwys partneriaid a sefydliadau allweddol sy'n cydweithio fel hyb, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn gorff arweiniol, yn gyfrifol am gydlynu gweithgareddau'r gwasanaeth a'i raglenni gwaith. Byddan nhw'n sicrhau bod y rhaglenni gwaith yn amrywiol ac yn hygyrch i bob plentyn a pherson ifanc, ac yn dyrannu cyllid i awdurdodau lleol i ddarparu'r adnoddau a'r staff angenrheidiol i gyflawni'r gwaith.

Mae'r cynllun yn nodi ein rhaglenni gwaith ar gyfer y gwasanaeth, a fydd yn sicrhau bod mynediad i addysg gerddoriaeth yn decach ac yn fwy cyson ledled Cymru. Bydd prif ganolbwynt ein rhaglenni gwaith, o fis Medi ymlaen, yn helpu'n plant a'n pobl ifanc mewn ysgolion a lleoliadau, gyda chymorth i'n dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, aelwydydd incwm isel a'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i allu manteisio ar hyfforddiant cerddoriaeth a symud ymlaen ag ef. Bydd plant a phobl ifanc o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a chefndiroedd difreintiedig hefyd yn cael eu cefnogi i ymuno ag ensembles cerddoriaeth fel rhan o'r cynlluniau.

Er enghraifft, bydd ein rhaglen Profiadau Cyntaf yn rhoi o leiaf hanner tymor o sesiynau blasu offerynnau cerdd i blant mewn ysgolion a lleoliadau cynradd, wedi'u cyflwyno gan ymarferwyr cerddoriaeth hyfforddedig a medrus, i gymryd rhan a mwynhau creu cerddoriaeth. Bydd ein hysgolion a'n lleoliadau uwchradd yn cael cyllid ar gyfer profiadau a fydd yn cefnogi iechyd a llesiant pobl ifanc a'u dilyniant i TGAU cerddoriaeth, gan roi cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu wrth chwarae offeryn neu ganu, ac felly meithrin eu doniau a'u huchelgeisiau. Bydd menter Creu Cerddoriaeth gydag Eraill hefyd, sy'n cynnwys rhaglen adfer ensemble i gefnogi'r adferiad o bandemig COVID yn y maes hwn, a chyfleoedd i'n pobl ifanc ennill profiad o'r diwydiant drwy weithio ochr yn ochr â cherddorion a diwydiannau creadigol. Bydd llyfrgell offer a chyfarpar cenedlaethol newydd hefyd yn cael ei chreu i gynorthwyo awdurdodau lleol i sefydlu banc adnoddau o offerynnau a chyfarpar i'w rhannu ledled Cymru.

Mae'r gallu i asesu pa mor dda y mae'r rhaglenni hyn yn gwneud yn hanfodol i lwyddiant y gwasanaeth. Bydd CLlLC yn datblygu strategaeth werthuso, gan edrych ar y manteision i'n plant a'n pobl ifanc ac, yn bwysicach, ei llwyddiant. Bydd ganddyn nhw'r hyblygrwydd i ddatblygu rhaglenni gwaith newydd os nad yw rhaglen yn mynd yn dda, ac addasu yn unol â hynny. Bydd CLlLC hefyd yn ystyried yr heriau sy'n wynebu'r gweithlu addysg cerddoriaeth ledled Cymru. Er mwyn sicrhau bod ein tiwtoriaid cerddoriaeth sy'n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol yn cael eu trin yn deg a bod eu cyfraniad i addysg gerddoriaeth yn cael ei gydnabod yn briodol, bydd CLlLC yn cynnal adolygiad o'r telerau ac amodau, a fydd yn dechrau yn hydref 2023 ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn haf 2024.

Dirprwy Lywydd, gwn i pa mor bwysig oedd hi i mi, pan oeddwn i yn yr ysgol, i gael y cyfle i ddysgu'r bariton, yn fy achos i, ac i allu chwarae mewn ensembles pres. Nid wyf i ar fy mhen fy hun yn hyn o beth. Mae cerddoriaeth, rwy'n gwybod, yn rhywbeth sy'n agos at galonnau llawer ohonom ni yma heddiw. Hoffwn i gydnabod gwaith caled llawer o Aelodau'r Senedd sydd wedi ymgyrchu yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf, neb yn fwy na Rhianon Passmore, y mae ei hangerdd yn y maes hwn yn amlwg i bawb ei weld. Hoffwn i hefyd gydnabod gwaith y pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, y mae ei ymchwiliad a'i argymhellion yn y Senedd ddiwethaf wedi chwarae rhan bwysig yn y cyhoeddiad heddiw.

Dirprwy Lywydd, mae'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol a'r cynllun cenedlaethol yn gam beiddgar ymlaen o ran cefnogi addysg cerddoriaeth yng Nghymru. Nerth gwlad, ei gwybodaeth—cryfder cenedl yw ei gwybodaeth. Mae ein Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd yn cyflawni ein maniffesto, ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, ac mae'n hanfodol er mwyn gwneud y gwahaniaeth hwnnw i'n plant a'n pobl ifanc feithrin eu sgiliau cerddorol mewn ysgolion a'n cymunedau ac er eu llesiant, fel ein bod ni'n parhau i gynhyrchu talent newydd o'n gwlad y gân ar gyfer y genhedlaeth nesaf i ddod. 

14:35

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rydym ni'n croesawu'r datganiad hwn, gan ein bod ni'n teimlo ei bod yn hen bryd cael mewnbwn ariannol gan y Llywodraeth i gerddoriaeth ar gyfer pobl ifanc. Hoffwn i ddiolch hefyd i Rhianon Passmore am y gwaith y mae wedi'i wneud yn y Senedd ddiwethaf. Ond yr ydym ni hefyd—. Mae gennym ni rai pryderon ymarferol o hyd am eich cyhoeddiad heddiw, Gweinidog. 

Mae loteri cod post wedi bodoli erioed o ran cyfle i fanteisio ar gyfleusterau cerddoriaeth a chyfleoedd dysgu cerddoriaeth ar draws ffiniau ein cynghorau. Rhaid i'r anghydraddoldeb cyfle hwn ddod i ben, ond ai eich cynnig chi yw'r ffordd iawn o fynd ati, ynteu ymateb annigonol arall yw hwn gan y Llywodraeth hon, gan fod gwir angen i hwn fod yn gynllun cynaliadwy, hirdymor? Ar hyn o bryd, mae'r ddarpariaeth gerddoriaeth yn wahanol iawn rhwng pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae'r loteri cod post ar hyn o bryd yn wirioneddol real.

Dros gyfnod rhy hir, mae'r baich wedi ei roi ar gynghorau sy'n brin o arian i geisio achub y gwasanaethau hyn ar eu pen eu hunain, ac unigolion—enghraifft o hyn oedd y diweddar Peter Clarke, cyn gynghorydd Cyngor Sir Mynwy, a oedd yn eiriolwr enfawr dros Gerdd Gwent, a helpodd i sicrhau'r cyfle cerddorol hwnnw i raddau yng Ngwent. Ond tan nawr, mae hi wir wedi cymryd unigolion yn ymgyrchu ledled ein cynghorau yng Nghymru i achub y cyfleoedd cerddorol hyn i'n plant, nad yw'n iawn, yn amlwg.

Mae'n amlwg bod angen adfywio addysg gerddoriaeth yng Nghymru, ac mae gan y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol hwn y potensial i fod yn gatalydd ar gyfer hynny, mae hygyrchedd, wrth gwrs, yn ffactor allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant—i offerynnau a gwersi. Felly, rwy'n gobeithio y bydd costau trafnidiaeth i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn cael eu hystyried er mwyn sicrhau cyfle cyfartal a chyfle i fanteisio ar y gwasanaethau a'r offerynnau hynny—neu a fydd costau cyflenwi ar gyfer yr offerynnau? Rwy'n meddwl am y pryderon ymarferol hynny sydd gennym ni. Gallai'r cyfle i ddefnyddio offeryn am ddim fod yn brofiad amhrisiadwy i bobl ifanc ledled Cymru, a'u gosod ar y llwybr cerddorol hwnnw, ond mae cwestiynau mawr yn parhau ynghylch sut y byddai hyn yn gweithio'n ymarferol.

Yn amlwg, rydym ni'n croesawu'r chwe mis o wersi i blant, ond a allech chi egluro o ble y maen nhw'n dod? Ydy'r cerddorion yn dod o gyrff fel Cerdd Gwent? Roeddwn i eisiau cael rhywfaint o eglurder ynglŷn â hynny i mi fy hun. Os bydd plant neu bobl ifanc, ar ôl chwe mis, eisiau parhau â'r gwersi hynny, sut y byddan nhw'n cael cymorth ariannol i wneud hynny, fel nad ydyn nhw dim ond yn cael y chwe mis cryno hynny os byddan nhw eisiau mynd ag ef ymhellach? A fydd ganddyn nhw dalebau? A fydd ganddyn nhw wasanaethau am bris gostyngedig? Oherwydd, yn amlwg, ar ôl y chwe mis hynny, bydd yr un pryderon ariannol yn parhau i lawer o'n teuluoedd.

Hefyd, wedi fy ysgogi wrth siarad am hyn â fy mhlentyn fy hun y bore yma, o ran yn yr ysgol, pryd y byddan nhw'n cael eu cyflwyno? A fyddan nhw'n cael eu cyflwyno amser cinio, yn ystod amser egwyl, neu fel rhan o'r cwricwlwm newydd? Oherwydd rwy'n ymwybodol iawn o lawer o blant a fyddai'n colli diddordeb pe baen nhw'n gorfod eu cael yn ystod eu hamseroedd egwyl, y maen nhw'n eu gwerthfawrogi, yn amlwg, yn fawr ar gyfer eu hymarfer awyr agored a'u hawyr iach.

Felly, dyna'r peth olaf yr ydym ni eisiau'i weld yn digwydd. Ond os yw'n rhan o'r cwricwlwm, sut y bydd hynny'n cyd-fynd â'r diwrnod ysgol, oherwydd mae hwn ar gyfer tair i 16 oed? Rwy'n pryderu'n benodol, mewn ysgolion uwchradd, sut y byddai hynny'n cyd-fynd â'r diwrnod ysgol. Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, Gweinidog, mae eich Llywodraeth chi wedi dweud y bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i blant o deuluoedd incwm isel a'r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ond tybed sut y byddwch chi'n nodi'r plant hynny nawr, yn amlwg, gan y bydd prydau ysgol am ddim ar gael i bawb.

Felly, roeddwn i eisiau gofyn a wnewch chi ateb y pryderon ymarferol hynny sydd gennym ni heddiw, ac rwy'n edrych ymlaen at eich atebion, oherwydd yr ydym ni i gyd eisiau i'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol hwn lwyddo. Diolch.

14:40

Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiynau adeiladol y mae wedi'u codi heddiw ac am y gefnogaeth y mae wedi'i rhoi i'r cynigion yr wyf i wedi'u cyhoeddi yn fy natganiad. Gofynnodd ai'r cynigion oedd y ffordd iawn o fynd ati i sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth ledled Cymru, a gallaf i gadarnhau wrthi mai'r cynigion yw'r ffordd iawn. Mae'r model yr ydym ni wedi'i fabwysiadu i ddarparu'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn fodel sy'n seiliedig ar hybiau, felly CLlLC fydd y corff cenedlaethol ledled Cymru, ond yn gweithio ar y cyd gyda'r gwasanaethau cerddoriaeth ym mhob rhan o Gymru, ac asiantaethau eraill hefyd, i ddarparu'r gwasanaeth, ac rwy'n credu bod dau amcan, mewn gwirionedd. Un yw sicrhau, fel y dywedodd hi yn ei chwestiwn, fod mwy o gysondeb ym mhob rhan o Gymru o ran y cynnig sydd ar gael a hefyd, drwy gydweithio, i gynyddu'r amrywiaeth o ddewisiadau sydd ar gael i ddisgyblion mewn ysgolion yng Nghymru. Roedd y Prif Weinidog a minnau yn ysgol San Joseff yn Abertawe ddoe, ac roeddem ni'n gallu profi amrywiaeth o offerynnau, yr oedd y disgyblion yn cael amser gwych yn eu chwarae. A'n huchelgais ni yw gweld hynny'n digwydd ym mhob rhan o Gymru.

Mae'r pwynt arall y gwnaeth hi yn ei chwestiwn yn ymwneud ag amrywioldeb profiad y gweithlu addysgu mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae elfen o'r cynllun, sef cynnal adolygiad o delerau ac amodau tiwtoriaid cerddoriaeth a gynhelir gan awdurdodau lleol er mwyn sicrhau mwy o gysondeb ledled Cymru, hefyd yn agwedd bwysig yn y darlun hwnnw.

O ran y pwynt y gwnaeth hi am hygyrchedd ac offerynnau, bydd hi'n cofio'r cyhoeddiad y gwnaethom ni ddiwedd y llynedd ynghylch bron i £7 miliwn o fuddsoddiad i brynu offerynnau, a'r hyn y byddwn ni'n ei ddatblygu fel rhan o'r cynllun hwn yw llyfrgell o offerynnau i Gymru gyfan fel ein bod ni'n gwybod beth sydd ar gael i gefnogi uchelgeisiau ein pobl ifanc, a lle y maen nhw, ond hefyd, yn bwysig, i ddarparu cyfle i fanteisio ar brofiad ensemble, sy'n bwysig y tu allan i fyd yr ysgol hefyd.

O ran y cwestiwn dilyniant a gafodd ei godi ganddi, bydd o leiaf hanner tymor o sesiynau blasu cerddoriaeth am ddim yn y cyfnod cynradd, fel y gall pobl ifanc archwilio eu chwaeth a'u dewisiadau, os mynnwch chi, o ran offerynnau. Ond mae'n ganolbwynt pwysig i'r cynllun hwn sicrhau bod hyfforddiant cerddoriaeth yn parhau i fod ar gael drwy gydol taith plentyn a pherson ifanc drwy'r ysgol. Felly, er enghraifft, byddwn ni hefyd yn ystyried cytuno ar uchafswm tâl am hyfforddiant cerddoriaeth ledled y system. A hefyd, os oes unrhyw un yn ymgymryd â hyfforddiant cerddoriaeth fel rhan o'u TGAU neu, mewn gwirionedd, Safon Uwch, bydd hynny am ddim hefyd. Ac i'r dysgwyr hynny na fydden nhw fel arall yn gallu fforddio hyfforddiant neu offeryn oherwydd amgylchiadau eu teulu, bydd y rheini'n cael eu blaenoriaethu ar gyfer cymorth fel rhan o'r cynllun.

Mae'r pwynt y mae'n ei wneud ynghylch cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim fel maen prawf sy'n berthnasol yma mewn gwirionedd yn gwestiwn cyffredin ledled nifer o feysydd polisi'r Llywodraeth. Wrth gwrs, bydd cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn dal i fod yn faen prawf perthnasol ar gyfer ysgolion uwchradd, ac rydym ni'n gweithio ar gyfres o fetrigau a fydd yn berthnasol i'r amrywiaeth o gymhwysedd yr ydym ni'n gyfrifol amdano.

Yn olaf, o ran y pwynt ynglŷn â'r cwricwlwm, yn y bôn swyddogaeth y gwasanaethau cerddoriaeth o ran y cwricwlwm fel rhan o'r cynllun hwn yw cefnogi athrawon i gyflwyno'r cwricwlwm. Yn amlwg, mae cynllun y cwricwlwm yn parhau yn nwylo'r athrawon eu hunain, ond bydd y tiwtoriaid o dan y cynllun, o dan y gwasanaeth, yn gallu cefnogi a chyfeirio a chynghori ynghylch yr amrywiaeth o brofiadau sydd ar gael i bobl ifanc fel rhan o'u gwasanaeth. Felly, byddan nhw'n gweithio law yn llaw ag athrawon dosbarth, a bydd amrywiaeth o adnoddau dysgu proffesiynol a fydd yn cael eu darparu er mwyn cefnogi'r gwaith hwnnw y bydd CLlLC, y consortia ac awdurdodau lleol yn cyfrannu iddo er mwyn sicrhau ei fod yn gyson ag anghenion y cwricwlwm. 

14:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn groesawu'n fawr y cyhoeddiad heddiw a nodi'n benodol pa mor falch oeddwn i o glywed un gair yn benodol yn cael ei ailadrodd gan y Gweinidog, sef 'llawenydd'. Mae'r pwyslais, felly, ar bwysigrwydd cerddoriaeth o ran iechyd a lles pawb ohonom yn rhywbeth y dylem ni i gyd ei groesawu, ac yn arbennig, felly, yng nghyd-destun argyfwng costau byw dybryd a hefyd argyfwng tlodi plant, dwi'n croesawu'n benodol pa mor bwysig yw'r pwyslais ar fynediad cydradd i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru i addysg gerddoriaeth, ynghyd â'r pwyslais ar fynediad cydradd i blant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol. Yr unig beth roeddwn i'n gresynu o ran eich datganiad chi, o glywed am eich llais bariton hyfryd, ac mae'n biti, oedd eich bod chi heb ganu rhan o'r datganiad, ond, yn sicr, mae'r ffaith bod y pwyslais ar lawenydd yng nghyd-destun mor llwyd i gynifer o deuluoedd yn cael ei groesawu'n fawr.

Oherwydd y gwir amdani ydy bod yna argyfwng o ran cerddoriaeth mewn ysgolion. Mae Estyn wedi canfod mai cerddoriaeth oedd un o'r pynciau a effeithiwyd fwyaf gan y pandemig, ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod yr argyfwng wedi bodoli cyn hynny. Ers 2014, mae nifer y disgyblion sy'n cymryd TGAU mewn cerddoriaeth wedi disgyn bron 20 y cant, ac, o ran lefel A, bron 40 y cant, gan greu risg o ran dyfodol y sector cerddoriaeth yng Nghymru. Ymhellach, dengys ymchwil fod 50 y cant o ddisgyblion mewn ysgolion preifat yn derbyn gwersi cerddoriaeth cyson o gymharu â 15 y cant o ddisgyblion mewn ysgolion gwladol. Mae hynna wedyn yn cael ei adlewyrchu o ran y niferoedd sydd yn mynd ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus yn y byd cerddoriaeth. Mae'r buddsoddiad yma, felly, i'w groesawu'n fawr o ran gwneud iawn am ddegawdau o dan-gyllido gwasanaeth a oedd yn cael ei weld tan heddiw fel rhywbeth neis i'w gynnig yn hytrach na rhywbeth hanfodol o ran datblygiad pob plentyn a pherson ifanc. 

Hoffwn holi rhai pethau ymarferol, felly, i'r Gweinidog, o ran pethau fel rôl Estyn i'w chwarae, o ran sicrhau bod pob ysgol yn manteisio'n llawn ar hyn trwy gymryd i ystyriaeth ddarpariaeth cerddoriaeth ysgolion fel rhan o'i adolygiadau. Dwi'n cymryd, oherwydd y cysylltiad gyda'r cwricwlwm newydd, y bydd hynny, ac mi fyddai'n dda cael cadarnhad. Hefyd, dwi'n croesawu bod yna sôn o ran gwerthuso ac ati, ond mae hi'n allweddol bwysig ein bod ni'n deall effaith hyn, oherwydd, os nad oes mynediad wedi bod am gyn gymaint o amser, mae'n mynd i gymryd amser i ddisgyblion fod eisiau, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd y bydd yna fwlch o ran rhai disgyblion, ac ati. 

Dwi hefyd yn croesawu eich bod chi'n rhoi pwyslais ar yr ystod o offerynnau, oherwydd dydy pob offeryn ddim yn siwtio pawb. Dwi'n meddwl bod hynny'n beth pwysig. Rydyn ni'n gweld yn aml, hyd yn oed pan fydd yna ddarpariaeth gerddoriaeth mewn ysgolion rŵan, efallai fod un offeryn penodol, ac os nad ydych chi'n caru'r offeryn hwnnw, yna dydych chi ddim yn mynd i garu cerddoriaeth. Mae'r ystod yna yn eithriadol o bwysig, hefyd. 

Gaf i hefyd holi, o ran y cynllun, a oes yna fwriad o ran sicrhau mynediad cydradd i bawb o ran y gofodau i ymarfer? Oherwydd un o'r heriau hefyd, wrth gwrs, ydy cael y gofod adre. Os ydych chi'n byw mewn fflat neu rywle efo waliau tenau, ac ati, mae cael rhywun yn cwyno—. Oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod, pan fyddwch chi'n dechrau dysgu offeryn, dydy e ddim, efallai, y sŵn mwyaf pleserus yn y byd, ond mae'n bwysig iawn ichi allu gwneud y camgymeriadau hynny rhag chwaith gael eich herio i beidio ymarfer. Felly, oes yna fwriad o ran y gofodau ymarfer, ac ydy hynna'n rhan o ymestyn y diwrnod ysgol ac ati, a'r cyfle efo cerddoriaeth? Ydy hynna'n rhan o'r bwriad hefyd?

Fel chi, Weinidog, roeddwn i'n rhywun yn bersonol a wnaeth fanteisio ar wasanaeth gwersi cerddoriaeth yn yr ysgol, gan gael cyfle i gael gwersi sielo, clarinét a thelyn drwy'r ysgol, a benthyg offerynnau am y cyfnod hwnnw, oherwydd mae offerynnau yn gallu bod yn ddrud ofnadwy hefyd. Dwi'n cofio gallu benthyg telyn am £30 am flwyddyn, oedd yn golygu eich bod yn gallu cael y cyfle. A dwi'n meddwl bod y rhan yna i'w groesawu'n fawr yn y cynllun hefyd.

Mi oedd pwyntiau Laura Anne Jones yn deg iawn o ran yr hirdymor, felly. Mae hwn yn dair blynedd, a byddwn i'n croesawu'n fawr meddwl sut ydyn ni'n sicrhau wedyn barhad buddsoddiad o'r fath, oherwydd mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol a chyffrous, yn fy marn i. Dwi'n meddwl mai un o'r heriau fydd gweld wedyn sut ydyn ni'n gallu cynnal y gwasanaeth a'r cyfleoedd, a hefyd o ran pethau fel bod mewn cerddorfeydd. Yn aml, mae yna dripiau yn yr haf yn gysylltiedig â hynny, sydd yn gallu bod yn gostus iawn. Dwi'n meddwl y bydd yna lot o bethau y byddwn ni'n dysgu wrth i hyn fynd rhagddo, sydd yn rhywbeth i ni ei groesawu a gwerthuso.

Hoffwn innau dalu teyrnged i Rhianon Passmore a gwaith y pwyllgor diwylliant, ac mae'n rhaid i fi, wrth gwrs, sôn am Bethan Sayed yn benodol. Dwi'n gweld o 'trydar' heddiw ei bod hi'n croesawu hyn yn fawr, a phe bai hi yma heddiw, buasai hithau ar ei thraed yn ei groesawu. Felly, dwi'n edrych ymlaen at weld sut bydd hyn yn mynd, ond mae'n bwysig ein bod ni'n cadw golwg a gwerthuso a hefyd sicrhau parhad fel bod y mynediad cydradd yna'n parhau. Diolch.  

14:50

Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Mae hi'n iawn i ddweud bod y sefyllfa wedi bod, ers cyfnod, yn rhywbeth roedden ni eisiau mynd i'r afael ag e. Rwy'n cofio, pan oeddwn i yn yr ysgol, cael manteisio ar wersi cerddoriaeth am ddim ac, fel yr Aelod, yn gallu benthyg offeryn pres, heb orfod prynu un ein hunain fel teulu. Mae'r tirwedd wedi newid yn sylweddol, yn anffodus, ers hynny wrth gwrs. Ac mae'r pwyllgorau, yn cynnwys pwyllgor Bethan, fel y gwnaeth yr Aelod sôn, wedi gwneud gwaith yn y Senedd ddiwethaf i'n helpu ni i siapo hyn. Mae wedi bod yn werthfawr iawn. Hoffwn i hefyd sôn am y gwaith a wnaeth fy rhagflaenydd i, Kirsty Williams, o ran buddsoddi mewn offerynnau a hefyd sefydlu Anthem, sydd wedi bod yn gyfraniad i'r tirwedd pwysig hwn. 

O ran y gwaith y byddwn ni'n gwneud gyda chyrff eraill, tu hwnt i ffiniau'r gwasanaeth, bydd rôl gan awdurdodau lleol, gan Estyn, gan y consortia i helpu siapo sut y mae gwaith y gwasanaeth yn cyffwrdd ag anghenion y cwricwlwm ac ati. O ran creu adnoddau, byddwn ni'n gweithio gydag Estyn ar y rheini er mwyn creu adnoddau hyfforddiant proffesiynol, er enghraifft, i'r tiwtoriaid allu darganfod y ffyrdd gorau o sicrhau bod hynny'n digwydd. Mae'r elfen o werthuso, rwy'n credu, yn bwysig iawn yn hyn o beth, oherwydd mae'n fuddsoddiad sylweddol, ac mae'r strwythur sydd gyda ni yn un sy'n tyfu o'r llawr i fyny, yn hytrach nag o'r top i lawr. Felly, mae hynny'n gyffrous. Mae'n caniatáu arbrofi, mae'n caniatáu approaches lleol, a byddwn ni'n dysgu o'r rheini beth sydd yn gweithio orau ac, efallai, beth sydd ddim mor llwyddiannus. Mae hynny'n anorfod, buaswn i'n dweud. Felly, mae'r broses yma o werthuso wrth i ni fynd yn bwysig, rwy'n credu, fel ein bod ni'n gallu gwneud newidiadau er mwyn ymateb i'r arfer orau fydd yn cael ei dangos. Ac rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud bod yn rhaid gwneud hynny mewn cyd-destun o edrych ar beth sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd diwethaf hefyd. Mae hynny wedi cael impact. 

Mae'r pwynt o ran gofodau ymarfer yn bwysig. Rwy'n credu bod hyn yn rhan o'r agenda ehangach sydd gyda ni fel Llywodraeth o ran ysgolion sydd â ffocws cymunedol ac sy'n agored tu hwnt i oriau cyfyng y diwrnod ysgol i ganiatáu i'w hadnoddau gael eu defnyddio yn y ffyrdd y mae hi'n sôn amdanyn nhw yn ei chwestiwn. 

Jest yn bwynt olaf, mae'r ymrwymiad yma yn ymrwymiad tair blynedd. Dim ond cyllideb tair blynedd sydd gennym ni i unrhyw beth ar hyn o bryd, felly dyna'r rheswm am hynny. Wrth gwrs, buaswn i eisiau gweld parhad o'r math yma o wasanaeth y tu hwnt i hynny. Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y bydd hwn yn gyfnod lle byddwn ni ar drywydd newydd nawr. Felly, rwy'n siŵr y gwelwn ni lwyddiant dros y tair blynedd nesaf ac y byddwn ni'n moyn adeiladu ar hynny. 

Mae'n gân i godi fy ysbryd, y cyhoeddiad hwn. [Chwerthin.] Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i Rhianon Passmore, sydd wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo hyn. Dysgais i gerddoriaeth drwy'r recorder yn yr ysgol, ac yna gwnes i roi nodau ar biano fy mam-gu fel y gallwn i ddysgu ar ei phiano hi hefyd. Ac roedd pobl yn dysgu drwy fandiau pres y pyllau glo ar un adeg onid oedden nhw? Dysgodd fy mab drwy wasanaeth cerdd sir y Fflint 10 mlynedd yn ôl. Yr adeg hynny, fodd bynnag, yr oedd 2,500 o bobl ifanc yn cymryd rhan drwy wasanaeth cerdd un cyngor, oherwydd ei fod am ddim, ac roedd yn gymuned wych. Ond cafodd cyni a thoriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus effaith dros y blynyddoedd, ni allai'r cyngor roi cymhorthdal iddo mwyach, a dechreuodd y taliadau gynyddu, a chynyddu, fesul tipyn bob blwyddyn. Roedd trafnidiaeth am ddim bryd hynny hefyd, a oedd yn anhygoel—roedd yn gymuned go iawn—ond cafodd y toriadau bryd hynny gymaint o effaith fel mai dim ond ychydig gannoedd sy'n cymryd rhan nawr. 

14:55

Iawn. Felly, gwnes i annog fy mab i ddysgu pan oedd am ddim. Ni fyddem wedi cael y cyfle i fanteisio ar y gwasanaeth cerddoriaeth hwnnw fel arall, ac ni fyddai ef erioed wedi cael y cyfle i ddysgu oherwydd na allem ni ei fforddio. Felly, a fydd wir am ddim i bobl roi cynnig arni? A hefyd, dysgodd y trombôn oherwydd mai dyma'r unig offeryn a oedd ar ôl iddo roi cynnig arno, ond daliodd ati a llwyddodd i'w wneud hyd at radd 8. Ond, mae angen i ni sicrhau bod amrywiaeth o offerynnau i bobl eu dysgu—ac roedd yn beth da mai dyna'r unig offeryn a oedd ar ôl—fel nad yw pobl ifanc yn dymuno dysgu drymiau a gitâr yn unig, oherwydd mae'n ymddangos mai'r rheini yw'r rhai poblogaidd iawn, oherwydd mae angen i ni gael amrywiaeth, onid oes, ar gyfer ensembles, ar gyfer bandiau pres, ar gyfer yr holl bethau gwych hyn? 

Ac roedd un peth arall. Crybwyllwyd yn gynharach—

A gaf i gymeradwyo'r Aelodau'n gyffredinol am atal eu hunain rhag defnyddio mwyseiriau cerddorol yn eu cyfraniadau heddiw? Ond, dywedaf, Carolyn Thomas, fod eich cyfraniad yn taro'r nodyn cywir. Gobeithio na fydd yr Aelodau'n teimlo bod hwn wedi ei offerynnu gormod. [Chwerthin.] Dim ond i ddweud, rwy'n credu bod y pwynt y mae hi'n ei wneud am yr amrywiaeth o brofiad yn gwbl ganolog i hyn. Dechreuais i chwarae cornet ac yna dod yn chwaraewr ewffoniwm a bariton, yn rhannol oherwydd bod yr offerynnau hynny ar gael. Felly, rwy'n credu ein bod eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod amrywiaeth o offerynnau ar gael ac, yn sicr, os yw'r profiad a gafodd y Prif Weinidog a minnau ddoe yn yr ysgol yn Abertawe yn adlewyrchiad cywir o hynny, yn bendant roedd amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer pobl ifanc. Ac mewn gwirionedd, mae'r buddsoddiad a wnaethom ni ddiwedd y llynedd wedi'i fuddsoddi gyda hynny mewn golwg. 

O ran y costau, bydd, i'r rhai sydd angen y cymorth mwyaf, bydd hyfforddiant am ddim, ac i'r rhai y mae'n rhan bwysig o'u harholiadau TGAU neu Safon Uwch, bydd am ddim. Ond, i bawb, yr uchelgais yn y cynllun yw cytuno ar uchafswm tâl am yr hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu yn ystod amser ysgol. Felly, bydd hynny'n rhan bwysig o'r gwaith y bydd CLlLC, ynghyd â'r gwasanaethau cerddoriaeth, yn ei gyflawni fel rhan o hyn.  

A gaf i ymuno ag Aelodau i groesawu'r datganiad heddiw am lansio Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru? Rwy'n datgan bod fy chwaer-yng-nghyfraith yn athro cerdd peripatetig yn y gogledd. Ond, Gweinidog, gwnaethoch chi gyfeirio ychydig o weithiau at eich ymweliadau ddoe, a mwynheais i'r fideo ohonoch chi a'r Prif Weinidog, ond tynnodd sylw at y ffaith ei bod yn bwysig datblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer dysgu cerddoriaeth, oherwydd yr oedd yn sicr yn ysbrydoledig. Ond, y llynedd, cefais i'r pleser o ymweld â chwmni cydweithredol cerddoriaeth yn Wrecsam a sir Ddinbych i wylio un o'u perfformiadau byw wedi'i ffrydio i ysgolion lleol, gan ddangos amrywiaeth o offerynnau cerdd i blant a'u hannog i ymgymryd â cherddoriaeth eu hunain. Dim ond un enghraifft yw hon o lawer o sefydliadau gwych sy'n darparu'r gwasanaeth hwn i'n pobl ifanc. Felly, yng ngoleuni hyn, Gweinidog, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o ran sefydliadau megis cerdd gydweithredol Wrecsam a sir Ddinbych o ran helpu i gyflawni a sicrhau llwyddiant y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol? Diolch yn fawr iawn. 

Diolch i'r Aelod am hynna. Pan oeddwn i ar y pwyllgor a ystyriodd hyn yn y Senedd ddiwethaf, cawsom ni dystiolaeth gan amrywiaeth o wasanaethau cerdd. Felly, nid uchelgais y cynllun yw pennu ffurf y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu; bydd hynny'n parhau i fod yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol, ond bydd yr holl wasanaethau cerdd yn gallu cydweithio â CLlLC i gyflawni'r cynllun yn gyffredinol. Ond, un o'r heriau yr ydym ni wedi'i hwynebu ers peth amser yng Nghymru mewn gwirionedd yw natur amrywiol profiad athrawon cerddoriaeth mewn gwahanol rannau o Gymru, beth bynnag yw ffurf y gwasanaeth ei hun. Ac rwy'n credu mai un o fanteision pwysig iawn y cynllun sydd gennym ni yma yw, yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, 2023-24, darn pwysig ac eithaf cymhleth, mewn gwirionedd, o waith i ystyried y gwahanol delerau ac amodau sy'n berthnasol i hyfforddiant cerddoriaeth ledled Cymru, ac i geisio dod â mwy o gysondeb a thegwch i hynny, oherwydd rwy'n credu, yn y pen draw, er mwyn sicrhau newid sylweddol hirdymor a chynaliadwy, sef yr union beth y mae'r holl wasanaethau cerddoriaeth eisiau'i weld fel rhan o'r cynllun hwn yr wyf i'n ffyddiog y caiff ei ddarparu, fe fydd yn bwysig sicrhau bod y gweithlu'n cael y cysondeb hwnnw ledled Cymru, i'r graddau y gallwn ni wneud hynny.

15:00

Rwy'n rhyfeddu yr wythnos hon fy mod yn dilyn cyfraniadau gan Laura Anne Jones ac nad wyf yn gweiddi 'gwrthwynebu', sy'n syndod i mi, ond mae'n amlwg, Gweinidog, fod yna gefnogaeth drawsbleidiol i'r datganiad hwn heddiw, ac rwy'n cymeradwyo'r datganiad hwn i'r Senedd hon.

Ond fel mae Aelodau wedi dweud o bob rhan o'r Siambr, gan eich cynnwys chi, ni allwn i gyfrannu at y datganiad heddiw heb roi teyrnged i fy ffrind da Rhianon Passmore, oherwydd yn sgil ei hymgyrch a'i phenderfyniad hi yr ydym ni yn y sefyllfa hon heddiw—ei hymgyrch a'i phenderfyniad i'w gynnwys ym maniffesto Llafur Cymru, y gwnaethom ni sefyll arno ac ennill. Rwy'n gobeithio y bydd y strategaeth gerddoriaeth hon yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gerddorion, ac rwy'n siŵr y bydd hi, oherwydd dyna pwy fydd ar eu hennill mewn gwirionedd. Plant Cymru fydd ar eu hennill mewn gwirionedd, oherwydd fe fyddan nhw'n cael y rhodd honno o gerddoriaeth. 

Gweinidog, rwyf i eisoes wedi cael etholwyr yn gofyn i mi'n gyffrous: sut y cawn nhw gymryd rhan, sut mae cofrestru, sut mae cymryd rhan yn y rhaglen hon? Fe fyddwn i'n ddiolchgar am ateb i'r cwestiwn hwnnw, oherwydd mae hwn yn gyhoeddiad pwysig iawn heddiw. Rwy'n ei groesawu yn fawr. Rwy'n ei groesawu gan Lywodraeth Lafur Cymru sy'n cyflwyno strategaeth wych. 

Diolch i'r Aelod am hynna, ac rwy'n credu bod ei bwynt ynglŷn ag ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf wrth wraidd hyn mewn gwirionedd. P'un ai eich profiad chi o gerddoriaeth yw dim ond rhoi cynnig ar ganu offeryn yn yr ysgol gynradd, neu ei bod yn dod yn angerdd ar hyd eich oes, neu ei bod yn yrfa i chi, rwy'n credu mai rhan o'r hyn a gynigir yma yw sicrhau ein bod ni'n cysylltu pobl ifanc sydd ag angerdd penodol, a allai fod yn awyddus i gerddoriaeth fod yn fywoliaeth iddyn nhw, eu helpu nhw ar y daith honno, gan eu cysylltu nhw â'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, a'r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw o ran gyrfaoedd. Ond hyd yn oed os nad ydych chi'n dymuno gwneud hynny, hyd yn oed os ydych chi eisiau bod â cherddoriaeth yn fwynhad neu'n diddordeb, fe fydd y gwasanaeth yn eich cefnogi chi i wneud hynny.

Felly, y bwriad yw cyflwyno hyn o fis Medi eleni. Felly, un o'r tasgau cyntaf, yn fy meddwl i, y bydd y corff arweiniol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ei roi i'w hun fydd sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei rhaeadru i ysgolion, drwy'r gwasanaethau cerddoriaeth sydd wedi'u hymwreiddio eisoes yn yr ysgolion hynny, fel y bydd ein pobl ifanc ni'n gwybod beth yw'r cyfle sydd ar gael a sut y gallan nhw elwa arno a manteisio i'r eithaf ar y cyfle cyffrous hwn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch yn fawr am y datganiad hwn heddiw sydd i'w groesawu yn fawr—datganiad na fyddech chi'n ei wneud oni bai am y cyfraniad a wnaeth Rhianon Passmore ynglŷn â'r mater penodol hwn dros lawer o flynyddoedd. Dim ond nifer fach o gwestiynau sydd gen' i.

Yn gyntaf i gyd, sut ydych chi'n rhagweld defnyddio neu wneud defnydd o'r diaspora Cymreig, ac yn arbennig rai o'r cerddorion cyfoes mwyaf llwyddiannus sydd gennym ni'n cynrychioli Cymru ledled y byd, gan gynnwys pobl fel Jonny Buckland, a aeth i Ysgol Uwchradd Alun y Wyddgrug, ac sy'n un o gerddorion cyfoes mwyaf llwyddiannus y byd ac yn aelod o Coldplay, ac sy'n dwyn y ffaith i gof yn rheolaidd mai ei athrawes gerdd ef, Mrs Parr, a wnaeth gyfraniad mor fawr at ei ddatblygiad? Yn ail, Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i ofyn i'r Gweinidog a oes unrhyw bwyso a mesur neu ystyriaeth yn digwydd o ran cyflwyno mentrau o'r fath ar gyfer drama a dawns. Diolch.

Diolch i Ken Skates am y ddau gwestiwn pwysig iawn yna. O ran y cyntaf o'r ddau gwestiwn, mewn gwirionedd, rydym ni eisoes wedi cael cyswllt â nifer o gerddorion o Gymru sydd â phroffil uchel—rhai yng Nghymru, ond rhai y tu hwnt i'n ffiniau ni—y mae'r cyhoeddiad hwn wedi eu cyffroi nhw'n fawr ac sydd wedi bod yn cysylltu i ddweud, 'Sut allwn ni helpu?' Felly, gan gyfeirio yn ôl at y cwestiwn a ofynnodd Jack Sargeant yn gynharach, fe fyddwn ni'n awyddus i ystyried dros yr wythnosau nesaf sut y gallwn ni weithredu ymrwymiad a brwdfrydedd y rhai sydd wedi bod yn wirioneddol lwyddiannus o ran cerddoriaeth yng Nghymru, i'n helpu ni i hyrwyddo y bydd y gwasanaeth ar gael o fis Medi ymlaen. Felly, rwy'n credu bod tasg wirioneddol bwysig i ni ymgymryd â hi yn hynny o beth.

Ac rwy'n gobeithio y gall y math o ymagwedd yr ydym ni'n ei mabwysiadu o ran addysg cerddoriaeth yma fod o fudd mewn rhannau eraill o'r celfyddydau creadigol a mynegiannol. Mae honno'n rhan annatod o addysg yn y cwricwlwm newydd, ond y tu hwnt i hynny, rydym ni'n gwybod yn iawn faint o werth a all ddod o fynegiant artistig a mynegiant creadigol o bob ffurf o ran lles ac, yn arbennig felly, rwy'n credu, yn ystod profiad fel yr un a gafodd pobl ifanc dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Po fwyaf y gallwn ni ei wneud yn y gofod hwn, y mwyaf y dylem ni ei wneud, ac rwy'n siŵr y bydd pobl ifanc ledled Cymru yn elwa ar hynny.

4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Gronfa Tai â Gofal

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y gronfa tai â gofal. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Julie James.

15:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gen i, roedd yna achos bychan o rannu pennau ysgrifennu yn y fan yna, felly ymddiheuriadau.

Mae tai fforddiadwy, clyd a chynnes yn hanfodol i iechyd a lles pawb yng Nghymru. Mae cartrefi iach yn gosod sylfaen sefydlog a diogel i unigolion a theuluoedd ac yn diwallu anghenion yr aelwyd. Maen nhw'n rhoi llecyn i ni deimlo yn ddiogel a chysurus, a'n cysylltu ni â'r gymuned, â gwaith a gwasanaethau.

Mae buddsoddi mewn cartrefi iach yn fuddsoddiad sy'n gweithio yn galed i ni. Fe ddaw chwarter ein hallyriadau carbon ni oherwydd y sector tai. Mae adeiladu cartrefi newydd hyd at safonau carbon isel a di-garbon yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae adeiladu cartrefi newydd yn creu swyddi a phrentisiaethau, ac yn ysgogi twf economaidd.

Ac fel gwasanaeth ataliol, mae cartrefi iach yn lleihau'r pwysau sydd ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth. Mae cartrefi iach yn lleihau clefydau cronig, yn gwella iechyd meddwl, yn lleihau cwympiadau a damweiniau, ac yn darparu amgylchedd diogel ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn gynnar.

Ers 2018, rydym ni wedi buddsoddi £145 miliwn yn rhaglen gyfalaf y gronfa gofal integredig, gan ddarparu tai arbenigol i bobl hŷn, pobl â dementia, pobl ag anabledd dysgu, plant ag anghenion cymhleth, a gofalwyr di-dâl. Fe wnaethom ni fuddsoddi hefyd mewn llety gofal canolraddol yn y gymuned, a seilwaith gofal cymdeithasol hanfodol.

Bore yma, fe ymwelais i â Thŷ Glas y Dorlan yng Nghwmbrân. Gyda grant o £1.7 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru o'r Gronfa, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a chymdeithas tai Bron Afon wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu datblygiad hynod a all gael effaith ddofn ar iechyd a lles yn Nhorfaen. Mae'r datblygiad yn cynnwys chwe fflat gofal ychwanegol i bobl hŷn ar y trydydd llawr, a 13 o fflatiau ailalluogi ac adsefydlu tymor byr gyda drws ffrynt i bob un. Mae'r fflatiau ailalluogi hyn yn cynnig lleoliad tebyg i gartref i bobl sy'n camu i lawr o ysbyty, ac yn amgylchedd lle gellir cefnogi pobl a allai fod yn ystyried gofal preswyl i ddysgu sgiliau newydd ar gyfer parhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae Tŷ Glas y Dorlan yn ganolfan ar gyfer gofal a gwasanaethau therapiwtig i'r gymuned gyfan. Datblygiadau fel Tŷ Glas y Dorlan yw'r rheswm pam ein bod ni'n cynyddu ein buddsoddiad mewn tai a llety arbenigol yn sylweddol yn ystod y tymor Seneddol hwn, i gefnogi ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddarparu tai arloesol i ddiwallu anghenion gofal.

Rwy'n cyhoeddi heddiw'r gronfa tai â gofal, cronfa bedair blynedd sy'n adeiladu ar raglen gyfalaf y gronfa. Yng nghyllideb eleni, dyrannwyd £182 miliwn gennym dros y tair blynedd nesaf i fyrddau partneriaethau rhanbarthol i ddarparu tai â gofal. Ein nod ni yw cynyddu cyfanswm y stoc o dai gofal ychwanegol yng Nghymru hyd at draean dros y pedair blynedd nesaf, i ymateb yn uniongyrchol i boblogaeth sy'n heneiddio. Fe fydd hynny'n ein galluogi ni i gyflymu ein polisi hirsefydlog o helpu pobl ag anabledd dysgu, sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, a chyflyrau niwrolegol eraill, i fyw yn annibynnol, pan fo hynny'n bosibl, yn eu cartref eu hunain.

Fe fyddwn ni'n buddsoddi hefyd mewn llety gofal canolraddol, fel yr hyn a ddarperir yn Nhŷ Glas y Dorlan, yn ogystal â llety i bobl nad ydyn nhw'n barod am annibyniaeth lawn eto, ac sy'n ei chael hi'n anodd cynnal cartref weithiau, fel tenantiaeth yn y sectorau rhentu preifat neu gymdeithasol. Mae hyn yn eu gwneud nhw'n agored i niwed a phrofi digartrefedd. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n gadael gofal, oedolion ifanc ag anableddau dysgu, a phobl ag anghenion iechyd emosiynol neu les meddyliol. Fe all buddsoddi mewn llety dros dro i'r grwpiau hyn gynorthwyo o ran atal digartrefedd a'r holl niwed y gall hynny ei achosi.

Fe fyddwn ni'n buddsoddi hefyd i gefnogi ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu cyn agosed i'w cartrefi â phosibl ac yng Nghymru pan fyddo hynny'n ymarferol. Yn rhy aml, mae pobl ifanc sy'n agored i niwed sydd ag anghenion uwch ac ymddygiadau heriol yn cael eu dynodi mewn lleoliadau sydd y tu allan i'r sir neu mewn gwlad arall, hyd yn oed. Mae'r rhain yn ddrud echrydus, ac nid yw dros £200,000 y flwyddyn i bob plentyn yn rhywbeth anghyffredin, ac mae'n niweidiol i'w lles nhw, gan eu torri i ffwrdd oddi wrth deulu a ffrindiau, a thorri cysylltiadau â gwasanaethau iechyd a gofal lleol. Mae'n rhaid i fyrddau partneriaethau rhanbarthol fynd i'r afael â'r angen am lety lleol fel mater o frys.

Mae'r gronfa tai â gofal yn rhan o becyn o gyllid trawslywodraethol ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol, sy'n cynnwys y gronfa integreiddio rhanbarthol iechyd a gofal cymdeithasol a'r gronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso. Mae'r pecyn hwn yn werth cyfanswm o £255 miliwn yn 2022-23.

Gyda'r cyllid hwn fe ddaw heriau o ran arweinyddiaeth allweddol i fyrddau partneriaethau rhanbarthol. Y cyntaf yw cynyddu gwerth y ffrydiau ariannu cyfunol hyn i'r eithaf, gan ddefnyddio refeniw a chyfalaf i ysgogi newid sylfaenol. A'r ail yw meithrin partneriaethau cryfach gyda thimau tai awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, fel bydd darparwyr tai cymdeithasol yn rhan annatod o'r dull o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal. A'r trydydd yw gwneud penderfyniadau craff o ran buddsoddi i gefnogi ein blaenoriaethau trawsbynciol ac sy'n ein rhoi ni ar ben ffordd i Gymru iachach, fwy cydnerth a charbon isel. Diolch.

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Yn 2017, fe rybuddiodd awdurdodau lleol eu bod nhw'n disgwyl cynnydd bryd hynny yn y galw am dai â gofal dros y pum mlynedd nesaf. Yn wir, fe gyhoeddodd eich Llywodraeth Lafur Cymru chi adroddiad ar werthuso tai â gofal ychwanegol yng Nghymru ac roedd hwnnw'n nodi, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae'r rhan helaeth o awdurdodau lleol'

—a 18 o 22 oedd hynny—

'yn disgwyl cynnydd mewn galw am dai anghenion cyffredinol i bobl hŷn ac mae'r rhan fwyaf (16) yn disgwyl i'r galw am dai gofal ychwanegol gynyddu dros y pum mlynedd nesaf.'

Ymddangosodd proffil o'r fath drwy'r ymatebion gan gymdeithasau tai, ac roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a rheolwyr cynlluniau gofal ychwanegol yn cytuno bod y galw am ofal ychwanegol yn fwy na'r cyflenwad ohono. Felly, mae hi'n debyg ei bod yn rhaid gofyn, gan mai ni yw'r wrthblaid swyddogol: pam mae Llywodraeth Cymru wedi aros pum mlynedd ers cyhoeddiad yr adroddiad i wneud datganiad heddiw am y cyllid hwn?

Rwy'n cydnabod bod cyllid grant tai cymdeithasol a ddarparwyd ynghynt gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn bwysig o ran ysgogi rhyw gymaint o dwf. Yn wir, o 2017 ymlaen, mae tri chwarter y cynlluniau i gyd wedi cael eu datblygu ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau a sicrhau bod cyllid wedi cael ei neilltuo yn barod ar gyfer cefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau gofal ychwanegol yn 2006. Felly, a ydych chi o'r farn mai camgymeriad oedd rhoi terfyn ar dai â gofal gyda chyllid penodol, ac a yw hynny wedi cael effaith negyddol ar nifer y cartrefi o'r fath sydd gennym ni yng Nghymru heddiw? Ar hyn o bryd, yn ôl adroddiad annibynnol a baratowyd ar gyfer Llywodraeth Cymru, fe fydd yna brinder o tua 5,000 o unedau yng Nghymru erbyn 2035.

Mae cynlluniau tai â gofal yn cael eu lleoli fel arfer mewn dinasoedd a threfi, yn hytrach nag mewn ardaloedd gwledig, a hynny er bod 25.4 y cant y trigolion sy'n byw mewn siroedd gwledig yn 2019 yn 65 oed neu'n hŷn, sef cynnydd o 16.6 y cant yn y flwyddyn 2000. Mae arolwg cenedlaethol Cymru wedi adrodd bod tri chwarter y bobl dros 65 oed yn dweud eu bod nhw'n teimlo unigrwydd ar adegau. Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Associated Retirement Community Operators yn nodi bod preswylwyr tai â gofal yn profi lefelau is o unigrwydd, gyda dim ond 1 y cant o drigolion yn teimlo'n ynysig yn aml. Felly, onid yw hwnnw'n batrwm y dylem ni i gyd fod yn ystyried gweithio tuag ato?

Felly, o gofio y gall unigrwydd ac arwahanrwydd fod ar ei waethaf mewn cymunedau gwledig a bod siroedd gwledig yn gweld mwy o heneiddio poblogaethau, pa gamau y gallwch chi eu cymryd, Gweinidog, i weld cyllid yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer cefnogi rhywfaint o ddatblygu cynlluniau yn ein hardaloedd mwy gwledig? Fe allai cynlluniau o'r fath yng nghefn gwlad Cymru ryddhau cartrefi i'r genhedlaeth iau. Fe fyddai hynny hefyd yn rhoi hwb i GIG Cymru.

Mae adroddiad wedi canfod bod preswylwyr sy'n byw mewn cynlluniau tai â gofal yn gweld lleihad o ran eiddiledd a chodymau o fewn dwy flynedd i fyw yn eu cartref, gyda gwell ymarfer corff a ffitrwydd, ac yn ogystal â hynny, i'r rhai sy'n byw mewn cymunedau ymddeol integredig, fe ostyngodd costau ymweliadau meddygon teulu, nyrsys ac ysbytai gan o gwmpas 38 y cant. Yn Llanrwst, mae gan ClwydAlyn Hafan Gwydir, cynllun gofal ychwanegol gyda chyfleusterau gwych, ac mae gan un ganolfan iechyd gyfagos a meddygfa meddygon teulu ar y safle. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, y dylid annog awdurdodau cynllunio nawr i ddyrannu tir yn ein cynlluniau datblygu lleol ni ar gyfer datblygiadau tai â gofal, ar gaeau wrth ymyl practisau meddygon teulu neu'n gyfagos, os na allan nhw fforddio rhoi'r gwasanaeth newydd hwnnw ar waith sy'n fwy o syrcas, ac fe allai pobl gael gafael ar eu hanghenion meddygol nhw hefyd?

Ac rydych chi'n ymwybodol mae'n debyg fod gan denantiaid anghenion amrywiol. Er enghraifft, mae angen cymorth gofal ar rai ohonyn nhw. Yng ngoleuni'r argyfwng gofal parhaus o ran prinder staff, yn arbennig ymysg rhai sy'n darparu gofal cartref ar aelwydydd, mae hi'n haws iddyn nhw fod â chleientiaid mewn un lleoliad yn hytrach na bod filltiroedd lawer ar wasgar. Felly, a fyddech chi'n cydnabod, drwy ddarparu cyllid i ddatblygu cynlluniau tai â gofal, y gallem ni ysgafnu peth ar y pwysau sylweddol sydd o ran gormodedd staff i ni—na, nid 'gormodedd' o gwbl—prinder ein gweithwyr gofal cartref sydd dan ormod o bwysau? A gadewch i ni weithio gyda'n gilydd; ystyr hyn yw bod â system tai â gofal fwy integredig yma yng Nghymru. Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a Gweinidog. Diolch.

15:10

Diolch i chi, Janet. Rwy'n credu i mi synhwyro rhyw elfen o frwdfrydedd am dai â gofal o'ch rhan chi, ac rwy'n sicr yn falch iawn o weld hynny. Felly, dim ond i dawelu eich meddwl: yn amlwg, nid ydym ni wedi aros am bum mlynedd. Mewn ymateb i'r adroddiad yr oeddech chi'n sôn amdano, fe gychwynnwyd rhaglen gyfalaf y gronfa gofal integredig yn 2018-19, ac fe'i sefydlwyd i ddarparu tai a llety i gefnogi patrymau o ofal sy'n galluogi pobl sy'n agored i niwed i fyw yn annibynnol neu adennill eu hannibyniaeth drwy gyfrwng lleoliadau gofal canolraddol.

Fel dywedais i yn fy natganiad, mae'r £182 miliwn yn adeiladu ar raglen gyfalaf gychwynnol y gronfa gofal integredig. Roedd gan y rhaglen honno werth £145 miliwn o gyfalaf, a ddyrannwyd i 198 o brosiectau ledled Cymru hyd at gyfanswm gwerth £363 miliwn wrth i chi ystyried ffrydiau ariannu eraill. Roedden nhw'n cynnwys 50 o brosiectau tai, gan gynnwys gofal ychwanegol a byw â chymorth, 66 o brosiectau gofal canolraddol fel llety preswyl i blant a llety cam-i-fyny, cam-i-lawr, 82 o wasanaethau a phrosiectau seilwaith fel canolfannau cymunedol, astudiaethau dichonoldeb ac offer. Roedd y rhai a oedd yn manteisio, fel roedd hi'n gofyn i mi gadarnhau, yn wir yn cynnwys pobl hŷn, pobl â dementia, oedolion ag anableddau dysgu neu awtistiaeth, plant ag anghenion cymhleth a gofalwyr di-dâl. Mae Janet hefyd yn ymwybodol, oherwydd fe soniodd hi am hyn gyda ClwydAlyn, fy mod, mewn gwirionedd, wedi agor un o'r rhain yn ei hetholaeth hi, felly mae'r rhain yn bendant i'w cael mewn ardaloedd gwledig hefyd, a dyna'r union bwynt.

Un neu ddau o bethau eraill y gwnaethoch chi eu dweud, serch hynny, Janet, mae'n rhaid i mi ddweud y bydd yn rhaid i mi eu gwrthod. Felly, yn sicr, mae hon yn rhaglen ar gyfer Cymru gyfan. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio mewn rhannau helaeth o Gymru, ac mae rhan o hyn yn ymateb i hynny. Yn y prosiect a ymwelais ag ef y bore yma, a wnaeth i'm calon lamu, a bod yn onest, roedd pawb yno'n anhygoel. Roedd y bobl a oedd yn byw yno'n hapus iawn i fod yno—y bobl a oedd yn mynd drwy'r gwasanaethau ailalluogi. Tynnodd un fenyw ifanc yn arbennig ddagrau i fy llygaid oherwydd ei brwdfrydedd o ran y gwahaniaeth a wnaeth hyn i'w bywyd hi. Roedd hi wedi cael problemau a oedd wedi golygu bod ei bywyd ar ben i raddau helaeth, fel roedd hi'n ei gweld hi, ac roedd staff yn y ganolfan ailalluogi wedi gallu ei chodi hi o'r cyflwr hwnnw i hyd at fod yn gallu, ar ddiwedd y mis hwn, symud yn ôl i dŷ arferol yn y gymuned gyda'r gefnogaeth yr oedd ei hangen arni hi i allu symud ei bywyd yn ei flaen, wedi pwysleisio wrthi yr hyn yr oedd hi'n gallu ei wneud yn hytrach na phwysleisio'r hyn nad oedd hi'n gallu ei wneud, sy'n rhan bwysig iawn o'r darlun.

Mae'r prosiect hefyd yn caniatáu dull gweithredu o gael gwasanaethau allan i gartrefi pobl yn y gymuned. Nid wyf i'n credu bod angen i ni gorlannu pobl i le canolog lle nad ydyn nhw o reidrwydd yn dymuno bod, er y bydd hynny'n briodol i rai pobl. Yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud yw galluogi model sy'n helpu pobl i gael y bywyd sy'n ddymunol iddyn nhw. Felly, os ydyn nhw'n dymuno aros yn eu cartrefi eu hunain, neu os ydyn nhw'n awyddus i fynd i ofal preswyl, neu os ydyn nhw'n dymuno gwneud rhywbeth yn y gofod gofal canolraddol, mae angen i ni allu gwneud hynny'n bosibl. Ac felly, mae'r therapyddion galwedigaethol y gwnes i gyfarfod â nhw fore heddiw, sy'n griw anhygoel o bobl, ac yn frwdfrydig iawn dros yr holl declynnau ac offer a oedd ganddyn nhw yn y fan honno i helpu pobl i fyw bywyd annibynnol, yn gallu dod â phobl i'r ystafell yno, i ddangos iddyn nhw sut i ddefnyddio'r offer a'r pethau eraill sydd ar gael, ac yna hwyluso, drwy, wrth gwrs, ein grant cyfleusterau i'r anabl cynyddol, nad yw, fel y gwyddoch chi, yn dibynnu mwyach ar brawf modd ar gyfer prosiectau isel a chanolig eu maint, gan gynnig yr offer hwnnw'n ei ôl allan i dai pobl fel y gallan nhw aros yn eu cartrefi eu hunain a pheidio â dod i mewn yn ganolog.

Felly, rwy'n credu, Janet, ein bod ni'n cytuno â'n gilydd i ryw raddau, ond rwyf i o'r farn fod yna ychydig mwy i'r model hwn na'r hyn sy'n amlwg, ac rwy'n credu y byddech chi'n cytuno â hynny pan fyddwch chi wedi cael cyfle i edrych arno gyda rhagor o fanylder, a mynd i ymweld, efallai, â Thŷ Glas y Dorlan, a oedd yn wych.

15:15

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru ar y gronfa, prif ddiben y gronfa tai â gofal yw cynyddu'r stoc o dai ar gyfer diwallu anghenion pobl sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth, i gefnogi bywyd annibynnol yn y gymuned i bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, a darparu lleoliadau gofal canolraddol yn y gymuned, er mwyn i bobl sydd angen gofal, cymorth ac adsefydlu ddychwelyd i fywyd annibynnol neu gynnal eu hannibyniaeth bresennol nhw. Mae hyn i'w groesawu gan fod rhan bwysig iddo wrth sicrhau bod gan bobl Cymru hawl i dai, a thai sy'n glyd a chynnes ac yn addas i'w hanghenion. Mae hon yn egwyddor hollbwysig, wrth inni symud ymlaen, i ymateb i'r argyfwng tai.

Fel y mae eich canllawiau yn e nodi, rydym ni'n wynebu nifer o heriau cynyddol yng Nghymru o ran gofal iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio. Mae amcanestyniadau poblogaeth sydd ar sail 2018 yn amcangyfrif y bydd cyfanswm y boblogaeth 65 oed neu hŷn yn cynyddu gan fwy na'r chwarter dros yr 20 mlynedd nesaf, a nifer y bobl 75 oed neu hŷn yn codi bron 50 y cant i ychydig o dan 0.5 miliwn o unigolion erbyn 2041. Ynghyd â gwaeledd ac anabledd sy'n gysylltiedig ag oedran, mae heriau cynyddol eraill yn cynnwys mwy o bobl â chyflyrau presennol sy'n byw yn hŷn, gydag effeithiau iechyd cronnol, fel pobl ag anabledd dysgu neu ddementia. Er mwyn i'r poblogaethau hyn fod â bywydau annibynnol gydag urddas a gofal, mae'n rhaid i'r gronfa tai â gofal fod yn effeithiol wrth ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau.

Mae angen i ni sicrhau hefyd bod anghenion llety a gofal grwpiau sy'n arbennig o agored i niwed, nad ydyn nhw'n gallu byw yn gwbl annibynnol, yn cael eu diwallu mor agos i'w cartrefi â phosibl. Fel mae hi ar hyn o bryd, bob blwyddyn, mae llawer o blant a phobl ifanc yn cael eu lleoli mewn lleoliadau sydd y tu allan i'r sir neu y tu allan i'r wlad, fel roeddech chi'n sôn eich hunan, Gweinidog, sy'n rhywbeth costus, yn lleihau rheolaeth leol o ran rheoli iechyd a gofal unigolyn, yn effeithio ar gyswllt teuluol a pherthnasoedd a lles a'r canlyniadau i unigolion. Felly, fel cwestiwn mwy cyffredinol, fe hoffwn i ofyn i'r Gweinidog pa wersi a ddysgwyd ganddi hi yn sgil y gronfa gofal integredig flaenorol o ran sut y bu honno o gymorth wrth ymateb i'r heriau a nodwyd uchod a sut mae'r gwersi hynny wedi effeithio ar ddatblygiad y gronfa newydd. A wnaiff y Gweinidog egluro hefyd faint o fewnbwn y caiff darparwyr iechyd, darparwyr gofal cymdeithasol a therapi galwedigaethol ei roi wrth ddatblygu cynlluniau tai, o gynlluniau gofodol, fel ein cynlluniau datblygu lleol, i safleoedd unigol, ar gyfer sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu hateb?

Un o'r ffactorau allweddol arall a nodwyd ar gyfer y gronfa hon yw'r angen am wasanaethau iechyd a gofal canolraddol yn y gymuned a chyfleusterau digonol i ddarparu gwasanaethau ailalluogi ac adsefydlu cam-i-fyny, cam-i-lawr ar lefel leol drwy ddarparu cyfleusterau gwely priodol, yn ogystal â chyfleusterau cymunedol sy'n adlewyrchu amgylcheddau'r aelwydydd, gyda chymorth gwasanaethau gofal ac adsefydlu priodol. O ran yr angen am y cyfleusterau hyn, pa mor llwyddiannus oedd y gronfa ddiwethaf o ran cyflawni'r gofynion hyn? Ac o ran y rhaglen gyfalaf bedair blynedd hon, gyda chadarnhad o £181.5 miliwn dros y tair blynedd gyntaf, pa nodau sydd gennych chi ar gyfer darparu ac adeiladu cyfleusterau erbyn 2025-26? O ran prosiectau a ariannwyd gan yr ICF, roedd gwerthusiad yn canfod bod rhwystrau allweddol i brosiectau a ariannwyd yn cynnwys pandemig COVID-19, effaith trefniadau ariannu blynyddol a goblygiadau'r rhain o ran recriwtio a chadw staff. Ynglŷn â'r pwynt ynghylch recriwtio a chadw staff, rwy'n awyddus i glywed gan y Gweinidog sut y bydd y gronfa newydd yn ymateb i'r her honno. Diolch.

15:20

Diolch, Mabon. Roeddech chi'n gwneud cyfres o bwyntiau da iawn yn y fan yna. Rydym ni wedi dysgu gwersi hanfodol o'r gronfa gofal integredig; rydym ni bob amser yn ceisio gwerthuso ein rhaglenni wrth iddynt fynd rhagddynt ac yn gobeithio eu haddasu wrth fynd. Ymhlith y gwersi a ddysgwyd, rydym ni wedi bod yn ystyried sut y gellir gwella strwythur yr arian. Yn benodol, rydym ni'n awyddus i fyrddau partneriaethau rhanbarthol ganolbwyntio ar swyddogaethau strategol, gan sicrhau bod yr arbenigedd ganddyn nhw i nodi'r cyfleoedd buddsoddi cyfalaf sy'n briodol i'w poblogaethau nhw, ac rydym ni'n eu cefnogi nhw'n uniongyrchol gyda'r adnoddau i wneud hynny. Ar yr un pryd, rydym ni'n dymuno gweld llawer mwy o gyfranogiad oddi wrth ddarparwyr tai cymdeithasol, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn y gwaith o gyflawni, a dyna pam y newidiwyd pwyslais y gronfa. Honno oedd y gronfa gyfalaf integredig, cronfa tai â gofal yw hi'r tro hwn, felly mae hi'n rhoi tai yn y canol i sicrhau bod y darparwyr hynny'n llawer mwy integredig o ran y gwaith cynllunio nag yr oedden nhw'n arfer bod yn y fersiwn gyntaf o'r gronfa. Roedden nhw yno, ond nid mor integredig ag yr hoffem ni iddyn nhw fod.

Rydym ni hefyd yn ceisio annog cymysgedd o grant tai cymdeithasol a'r gronfa tai â gofal i gynyddu nifer y cynlluniau y gellir eu hariannu, ac fe fydd hynny'n sicrhau bod gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol bibellau o gynlluniau sy'n llai tebygol o fynd ar chwâl, oherwydd phethau fel y pandemig. Rydym ni, ar hyn o bryd, fel gŵyr pawb yn y Siambr hon, yn gweld problemau gwirioneddol gyda chadwyni cyflenwi a chostau cynyddol cyflenwadau. Felly, rydym ni'n gwneud yn siŵr fod y biblinell yn gweithio. Mae gennym ni gyfres o wahanol gronfeydd y gellir dod â nhw i'r amlwg. Hefyd, rwy'n awyddus i gael—ac mae pawb yn y Siambr hon wedi fy nghlywed i'n dweud hyn, mae'n debyg—y cymunedau cynaliadwy hyn yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw. Nid ydym ni'n dymuno gweld pentrefi ymddeol, rydym ni'n awyddus i bobl fynd ar led yn eu cymunedau fel y bydd cymysgedd o ddeiliadaethau gennym ni. Felly, mae caniatáu i'n grant tai cymdeithasol gael ei ddefnyddio ochr yn ochr ag ef yn golygu y byddwn ni'n rhoi cartrefi cymdeithasol yn y gymysgedd hefyd. Rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.

Rydym ni hefyd yn defnyddio'r un meini prawf asesu â'n prif raglen tai cymdeithasol wrth ganiatáu am y gofynion ychwanegol sydd o ran tai arbenigol. Yr un olwg fydd ar y model gwerthuso, felly fe fyddwn ni'n gallu cymharu pethau mewn ffordd nad oeddem ni'n gallu gwneud hynny gyda'r gronfa gyntaf, a dyna un o'r gwersi a ddysgwyd hefyd. Fe geir galw gwirioneddol am arweiniad cryf gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw ar gyfer meithrin perthynas bartneriaeth sy'n fwy cadarn gyda phartneriaid tai a sicrhau bod cymorth yn cael ei fuddsoddi ar draws portffolios y Llywodraeth ar gyfer Cymru carbon isel iach a mwy cydnerth. Felly, i'r perwyl hwnnw, rydym ni hefyd yn mynnu safonau rhywbeth tebyg i rai carbon isel ynni goddefol ar gyfer yr adeiladau hyn, felly gofynion isel sydd ganddyn nhw o ran ynni ac nid ydyn nhw'n golygu mwy o garbon diangen i'r broblem yn yr hinsawdd, yn y cyfnod adeiladu ac yn y cyfnod byw. Felly, rydym yn gwireddu llawer o wahanol flaenoriaethau yma gyda'r un peth.

Ac yna, yn olaf, fe agorais i gartref plant, fel digwyddodd hi, yn Nhorfaen, o dan yr hen raglen, ac roedd hwnnw'n un o'r pethau mwyaf—wel, nid wyf i'n gwybod sut i ddisgrifio hynny, mewn gwirionedd—pethau emosiynol a welais i erioed fel Gweinidog, oherwydd fe ddaethpwyd â dau unigolyn ifanc yn ôl o wlad arall, yn ôl i'w gwlad eu hunain. Roedd eu rhieni yno i'w cyfarch nhw, roedden nhw wedi cefnogi tai yng nghanol eu cymuned, ac roedd dim ond gweld y llawenydd yn eu hwynebau yn werth pob dimai goch. Ond, hyd yn oed yn well na hynny, roedd yn arbed arian hefyd, felly beth sydd yna nad yw i'w hoffi am y model hwn? Felly, rwy'n gobeithio yn fawr y bydd hyn yn cael ei gyflwyno ledled Cymru cyn gynted ag y bo modd.

15:25

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog ar dai gyda gofal yn fawr iawn. Mae hi'n debyg bod yr Aelodau yn cofio fy ngalwad barhaus a rheolaidd i o ran bod tai clyd a chynnes, fforddiadwy yn hanfodol i iechyd a lles pawb yng Nghymru. Mae hi wedi bod yn braf iawn bod y Gweinidog wedi ategu hynny heddiw.

Sylweddolodd Llywodraeth Attlee yn 1945 beth oedd y berthynas rhwng iechyd a thai. Mae hi'n ymddangos bod y pwnc hwnnw wedi mynd yn angof ers hynny, ac rwy'n gobeithio ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad hwnnw o weithio ar y ddau beth a'r cysylltiad rhwng y ddau. Rwy'n croesawu'r gwaith o ddatblygu fflatiau ailalluogi a gofal ychwanegol, yn arbennig fflatiau ailalluogi. Yn rhy aml, mae pobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty i gartref a dyna hi wedyn, dyna ddiwedd y stori, ac yno y byddan nhw'n aros hyd nes iddyn nhw farw, sy'n debygol o fod yn gynamserol, oherwydd maen nhw'n colli'r awydd i fyw. Felly, mae ailalluogi yn bwysig iawn. Nid ydym ni'n gwneud digon ynghylch ailalluogi, ac fe fyddai hi'n dda gennyf i pe byddai'r Gweinidog iechyd yn y fan hon, oherwydd fe allwn i fod yn dweud hynny wrthi hithau hefyd—nad ydym ni'n gwneud digon o ran ailalluogi.

Mae gennyf i ddau gwestiwn: a yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen i ni adeiladu tai cyngor ar raddfa'r 1950au, y 1960au a'r 1970au i ymdrin â'r angen am dai? A faint o unedau tai y bydd y £182 miliwn yn eu cwblhau?

Diolch, Mike. Ydw, rwy'n cytuno yn llwyr â hynny; rydych chi bob amser wedi hyrwyddo tai o'r fath, rwy'n llwyr gydnabod hynny, ac mae hi wedi bod yn braf iawn cael gweithio ochr yn ochr â chi ar yr agendâu hyn. Fe fyddwn ni, yn sicr, yn cynyddu ac yn cyflymu. Un o'r rhwystredigaethau mwyaf yn fy marn i, oherwydd problem y gadwyn gyflenwi fyd-eang a'r argyfwng hinsawdd, yw ceisio sicrhau bod y gadwyn gyflenwi ar gael, er mwyn i ni allu adeiladu'r tai hynny mewn gwirionedd. Mae honno wedi bod yn rhwystredigaeth wirioneddol. Felly, rydym ni'n gweithio yn galed iawn ledled Cymru gyda phob math o bartneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat i geisio sicrhau bod y cadwyni cyflenwi hyn yn rhedeg mor gyflym â phosibl. A gyda hynny mewn golwg, rydym ni hefyd yn caniatáu i'r rhaglen integreiddio ac ailgydbwyso'r gronfa gyfalaf ddod ochr yn ochr â hyn, i roi gwahanol ffrydiau ariannu ar waith, i ni allu bod â'r biblinell honno yr wyf i newydd sôn amdani wrth ymateb i Mabon, fel bydd gennym ni gronfeydd ategol, ac maen nhw i gyd yn cael eu cefnogi gan y cyllid integredig rhanbarthol i ddarparu modelau gofal newydd i gyd-fynd â hyn. Felly, ni allwn i gytuno mwy â chi; y syniad bod rhywun sy'n dod o'r ysbyty yn cael ei roi mewn gofal preswyl yn unig a bod ei anghenion sylfaenol, corfforol yn cael gofal, ond dim mwy na hynny—nid yw hwnnw'n fodel dymunol yn ein barn ni. Ac wrth fynd i Dŷ Glas y Dorlan y bore yma, fe siaradais i gyda nifer o bobl y cafodd eu bywydau nhw eu trawsnewid yn llwyr oherwydd y pwyslais ar yr hyn y maen nhw'n gallu ei wneud yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn na allen nhw ei wneud, a boddhad pur i mi oedd y gobaith a'r optimistiaeth yr oedd hynny'n ei roi iddyn nhw. Felly, mae angen i ni fod â mwy o hynny ar waith yn ein cymunedau, ac mae angen i ni adeiladu—rydych chi yn llygad eich lle—y tai hynny ar raddfa fwy ac yn gyflymach.

Gweinidog, yn aml iawn gyda'r cyhoeddiadau hyn, nid ydyn nhw'n bethau diriaethol nes eich bod chi'n mynd i ymweld â chyfleuster, rwy'n credu, ac fe wnes i ymweld â Marleyfield House ym Mwcle y llynedd. Mae'r capasiti wedi dyblu ac fe gafodd ei gynllunio gydag ailalluogi mewn golwg, fel gall cleifion adael yr ysbyty, a chryfhau cyn symud ymlaen i'w cartrefi eu hunain. Dyna beth ardderchog. Mae gan bob ystafell falconi sy'n edrych dros fynydd Yr Hob, mae teithiau cerdded sy'n addas ar gyfer pobl â dementia, ac mae'r goedwig hynafol yn rhan annatod o'r dirwedd hefyd. Mae yno 54 o baneli solar, to gwyrdd rhannol naturiol, ac mae dŵr wyneb yn cael ei draenio i bwll, gan greu ardal o fioamrywiaeth hefyd, sy'n gwbl wych i'w gweld. Gweinidog, a fyddech chi'n ymweld â'r cyfleuster hwn gyda mi er mwyn i chi allu gweld y gwahaniaeth a wnaeth ariannu gan Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda chyllid y cyngor—cartref gofal cyngor yw hwn, gyda llaw, hefyd—ac mae Betsi Cadwaladr, sydd wedi ariannu'r cyllid refeniw ar gyfer ei redeg yn y dyfodol, yn ei gael, fel gallwch chi weld y pecyn hwnnw'n cydweithio a'r hyn y gall ei gyflawni, a sut mae'n ysgafnu'r pwysau ar y GIG, roeddem ni'n ei drafod yr wythnos diwethaf? Diolch i chi.

Byddwn, fe fyddwn i wrth fy modd, Carolyn, i ddod i ymweld yno. Rwy'n cynllunio taith i fyny i'r gogledd yn fuan iawn, felly efallai y gallwn ni gynnwys yr ymweliad bryd hynny. Fe fyddai hynny'n hyfryd iawn. Mae hwnnw'n brosiect sy'n llwyr amlygu'r hyn yr ydym ni newydd fod yn sôn amdano. Mae hynny'n dod â nifer o ffrydiau refeniw at ei gilydd, sydd i gyd ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn gwahanol ffurfiau, i roi'r prosiectau hyn ar waith. Mae cyllidebau gofal ataliol, cyllidebau tai, cyllidebau cronfeydd cyfalaf i gyd yn dod at ei gilydd i wneud model gofal gwirioneddol dda, i'r preswylwyr mewn gofal canolraddol ac i'r gymuned, ar fodel canolbwynt, yn gweithio yn dda iawn. A hefyd, yr hyn yr wyf i'n ei hynod hoff ohono ynglŷn â'r prosiectau yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw yw'r defnydd o safleoedd tir llwyd, gan gadw rhannau da'r safleoedd hynny, a'r gallu i ddefnyddio'r safleoedd hynny unwaith eto. Felly, nid oes raid i ni fod yn ehangu i faes glas, fe allwn ni fod yn defnyddio safleoedd sydd ar gael i'w haddasu neu eu hadnewyddu, ac fe allwn ni gyflawni'r gofal hwnnw'n iawn yng nghalon y cymunedau lle mae'r angen mwyaf amdano.

15:30

Diolch yn fawr iawn i chi. Rwy'n croesawu yn fawr iawn eich bod chi wedi crybwyll gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth, oherwydd mae hon yn enghraifft dda iawn o fuddsoddi ar gyfer arbed, oherwydd, ar hyn o bryd, fel yr ydych chi'n dweud, rydym ni'n gwario dros £200,000 am bob lle, ac os ydyn nhw ymhell o gartref, pwy mewn gwirionedd sy'n monitro ansawdd y ddarpariaeth honno wedyn? Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion i ni ynglŷn â niferoedd y lleoedd yr ydym ni'n eu rhoi ar gontract allanol y tu allan i Gymru, ac mae hi'n anodd iawn wedyn i deuluoedd neu'r rhiant corfforaethol i'w monitro, a pha gynnydd yr ydych chi'n disgwyl gweld byrddau rhanbarthol yn ei wneud yn hyn o beth.

Yn ail, fe hoffwn i sôn am yr hyn a gododd Mabon ap Gwynfor, sef ynglŷn â dementia. Disgrifiad sbectrwm eang o gyflyrau yw hwn, sy'n gallu amrywio o golli cof am amser byr yn unig hyd at anallu llwyr i reoli bywyd yr unigolyn. Ond mae'r posibiliadau telefeddygol yn galluogi pobl i fyw mor ddiogel â phosibl yn eu cartrefi eu hunain, heb fod â phobl yn ymyrryd byth a hefyd. Felly, meddwl oeddwn i tybed a fyddech chi'n dweud ychydig mwy wrthym ni ynghylch parodrwydd y farchnad i ddarparu ar gyfer anghenion o'r fath, boed hynny ar aelwydydd pobl neu mewn llety arbenigol, neu a yw hyn yn rhywbeth yr ydych chi o'r farn y bydd angen i Lywodraeth Cymru roi arweiniad yn ei gylch.

Felly, gan weithio tua nôl gyda'ch cwestiynau chi, Jenny, ynglŷn â'r un diwethaf hwn, rydym ni'n edrych ar economi gymysg, a dweud y gwir. Felly, nid oes gennym ni lawer iawn o'r rhain yng Nghymru hyd yn hyn, ond rydym ni'n cyflymu'r broses o'u meithrin. Fe hoffwn i annog y byrddau partneriaeth rhanbarthol i ymlwybro mor gyflym â phosibl yn hynny o beth, yn gyfochrog â modelau eraill o ofal. Ac un o'r rhesymau pam nad wyf i'n gosod nodau pendant o ran y niferoedd o'r rhain i'w hadeiladu ac yn y blaen yw am y bydd gan bob bwrdd rhanbarthol farn wahanol am yr hyn sy'n ofynnol oherwydd y gymysgedd o wasanaethau sydd yn eu hardaloedd nhw ar hyn o bryd. Felly, nid dyblygu yw'r hyn yr ydym ni'n dymuno ei wneud ond integreiddio'r setiau hynny o wasanaethau o amgylch yr hyn yr es i i ymweld ag ef y bore yma, yn yr achos penodol hwn, sydd wedi dod yn ganolbwynt i'r gwasanaethau hynny, mewn ffordd wirioneddol wych, oherwydd fe ellir dod â phobl i mewn i le a gynlluniwyd ar gyfer defnyddio offer amrywiol, i'w helpu nhw i adsefydlu neu ailalluogi, a gwneud y defnydd gorau o'u galluoedd nhw. Ac yna fe ellir trosi'r offer hwnnw, pan fyddan nhw wedi deall yr hyn sy'n bosibl, gan ddefnyddio grant cyfleusterau i'r anabl, i'w cartrefi eu hunain, ar gyfer gallu eu cadw nhw yn y cartref hwnnw, sef yr hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddymuno, cyhyd ag y bo modd gwneud hynny. Ac yna mae yna siawns hefyd o ofal canolraddol neu, yn wir, hyd yn oed os byddwch chi'n symud i ofal preswyl neu ofal nyrsio, fel mae rhai pobl yn dewis gwneud. Ac fe wnes i gyfarfod â gwraig y bore yma a oedd yn dewis gwneud hynny, ond mewn ffordd lawer mwy cadarnhaol, oherwydd yr oedd ganddi hi ddealltwriaeth well o lawer o'r hyn y byddai hi'n gallu ei wneud drosti hi ei hun, a'r cartref hefyd, ac felly roedd hi'n debygol o gael bywyd llawer mwy cynhyrchiol, ac roedd ei merch hi wrth ei bodd â'r hyn a oedd yn cael ei wneud. Felly, darlun cymysg yw hwn; ni fyddwn i'n gallu dweud y byddai hi'r un fath ym mhobman yng Nghymru, ond rydym ni'n disgwyl gwasanaeth sy'n integredig fel hyn.

O ran y niferoedd, nid wyf i'n gwybod yr ateb i hynna—portffolio Julie Morgan yw hwnnw—ond fe allwn ni gael yr ateb i chi. Yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw ei fod yn gyfan gwbl yn fuddsoddiad ar gyfer arbed, ac ym mhobman lle'r ydym ni wedi gweithio gyda'n gilydd ar draws y portffolios i wneud hyn, mae'r teuluoedd wedi bod wrth eu boddau, mewn termau dynol, ond mae'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd wedi bod wrth eu boddau yn ariannol, oherwydd mae hwnnw'n arbediad sylweddol iawn i gyllidebau'r ddau sefydliad hynny. A dyna pam, wrth edrych ar fwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent, a pha mor integredig y maen nhw wedi bod wrth gynllunio ar gyfer hyn, mae hwn yn batrwm yr hoffem ni i'r byrddau eraill edrych arno a'i ledaenu cyn gynted â phosibl, gyda'r bwriad o gael cynifer o bobl sydd y tu allan i'r sir a'r tu allan i'r wlad yn ôl i'w cymunedau nhw eu hunain cyn gynted â phosibl.

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynhyrchu Ynni ar y Môr

Eitem 5 sydd nesaf—datganiad gan Weinidog yr Economi: ynni morol alltraeth. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gweithgarwch ar hyn o bryd yn y sector morol alltraeth sy'n datblygu yng Nghymru ac amlinellu uchelgais Llywodraeth Cymru o ran sicrhau manteision economaidd gwirioneddol o'r sector newydd a chyffrous hwn. Fe fyddaf i'n canolbwyntio heddiw ar effaith bosibl y sector ar economïau rhanbarthol o ran darparu swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel yma yng Nghymru.

Mae ein cefnogaeth i dechnolegau sy'n datblygu fel ynni morol alltraeth wrth hanfod ein rhaglen lywodraethu. Mae hynny'n caniatáu i ni integreiddio ein gweithgarwch ar draws adrannau i gyflawni er mwyn pobl Cymru. Yn y tymor byr, gwynt ar y môr sy'n debygol o estyn y cyfle economaidd mwyaf. Er enghraifft, rydym ni eisoes yn rhoi cartref i dair fferm wynt RWE oddi ar arfordir y gogledd, sy'n cynnal 240 o swyddi gweithrediadau a chynnal a chadw o ansawdd uchel ym mhorthladd Mostyn. Mae'r swyddi hyn, yn agos at y man lle defnyddir ffermydd gwynt, i'w disgwyl oherwydd y datblygiadau hyn. Er hynny, rydym ni'n ceisio anelu yn uwch at geisio denu ystod ehangach o gyfleoedd cyflogaeth mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, integreiddio tyrbinau gwynt a gweithgareddau lleoli. Yn y de mae gennym ni bedwar prosiect profi ac arddangos yn cael eu hadolygu yn y môr Celtaidd. Yn ogystal â hynny, mae Blue Gem Wind wedi cael trwydded gwely môr gan Ystâd y Goron i ddatblygu fferm wynt alltraeth arnofiol oddi ar arfordir deheuol sir Benfro.

I roi'r holl weithgarwch hyn mewn persbectif, rydym ar hyn o bryd yn cynhyrchu 726 MW o wynt ar y môr yng Nghymru. Mae gennym hefyd lif prosiect credadwy i gynhyrchu dros 2.8 GW o wynt ar y môr o gymysgedd o dechnolegau erbyn 2030. Os byddwn yn ymestyn y llinell amser i 2035, yna gallai'r llif prosiectau gynyddu i 6.8 GW. Nid yw hyn yn cynnwys y 5 GW o ddatblygiadau gwynt ar y môr y mae Llywodraeth Iwerddon yn ceisio'u cyflwyno erbyn 2030, ac mae hyn yn debygol o godi i 30 GW dros y tymor hwy.

Mae hwn yn gyfle allforio y mae porthladdoedd yn y gogledd a'r de-orllewin mewn sefyllfa ddelfrydol i'w gefnogi a'i wasanaethu. Mae ein gwaith hyd yma yn awgrymu y gallai hyd at 1,400 o swyddi cyfwerth ag amser llawn gael eu cynnal gan 500 MW o brosiectau gwynt ar y môr arnofiol. Fodd bynnag, mae'r nifer yn is ar gyfer sector y tyrbinau â seiliau cadarn, lle mae'r dechnoleg a'r cadwyni cyflenwi yn fwy aeddfed.

Mae'r rhain yn ddatblygiadau cyffrous i Gymru. Fodd bynnag, rwy'n pryderu eu bod nhw ymhell o fod yn ddigon i ddatgloi'r buddsoddiad ar raddfa fawr sydd ei angen i adeiladu a thyfu ein seilwaith porthladd a grid. Mae angen i Lywodraeth y DU ac Ystad y Goron ddarparu gwelededd hirdymor yn y farchnad tu hwnt i 2050 er mwyn helpu i ddatgloi hyder buddsoddwyr. Rwy'n cydnabod bod cyflawni'r uchelgais hwn yn golygu y bydd angen i'r sector cyhoeddus a'r sector preifat gydweithio'n agosach.

Yn bennaf oll, mae angen i ni ddatgloi'r potensial yn ein porthladdoedd. Mae cronfa fuddsoddi arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer porthladdoedd gwynt ar y môr arnofiol, sy'n werth £160 miliwn, yn fan cychwyn. Mae ein menter drawslywodraethol, rhaglen ynni'r môr, yn gweithio'n agos gyda'n pedwar prif weithredwr porthladdoedd a datblygwyr prosiectau i ddeall yn llawn yr hyn sydd ei angen ac, yn bwysig, ble y gallai Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth.

Rydym yn gwybod, er mwyn datgloi cyfleoedd cyflogaeth gwerth uchel ychwanegol, fod angen i ni sicrhau bod seilwaith porthladdoedd Cymru yn addas i'r diben ac yn cynnig ateb o'r dechrau i'r diwedd i ddatblygwyr. Gallai'r cytundeb yr wythnos diwethaf rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar borthladdoedd rhydd yng Nghymru gyfrannu'n werthfawr at ein gweledigaeth ehangach ar gyfer yr economi. Rwy'n disgwyl y bydd amrywiaeth o geisiadau uchelgeisiol ac arloesol o bob rhan o Gymru pan fyddwn yn cyhoeddi ein prosbectws. Rwy'n awyddus i annog cydweithio strategol rhwng porthladdoedd sy'n sicrhau'r cyfleoedd gorau sydd ar gael i'n heconomi.

Pwysigrwydd buddsoddi rhagweithiol yn ein seilwaith grid yw'r elfen gostus arall sydd y tu hwnt i'n cyfrifoldeb uniongyrchol ni. Dyna pam rydym yn arwain y prosiect grid Cymru yn y dyfodol i gyfrifo'r buddsoddiad grid strategol sydd ei angen i ddiwallu anghenion Cymru. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, y Grid Cenedlaethol ac Ofgem i geisio sicrhau bod seilwaith grid Cymru yn cael y buddsoddiad rhagweithiol sydd ei angen. Heb hyn, ni fyddwn yn gallu sicrhau'r manteision economaidd gorau o'r sector ac, ar yr un pryd, leihau'r effaith amgylcheddol.

Pan fydd gennym yr ysgogiadau angenrheidiol, byddwn yn buddsoddi i gefnogi ein busnesau i sicrhau eu potensial mwyaf. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar waith teg a datblygu'r gadwyn gyflenwi leol o fewn yr economi sylfaenol. Yn unol â hyn, rwyf wedi cyhoeddi buddsoddiadau o £0.5 miliwn yn ddiweddar yng nghyrff masnach Cymru a chyrff cysylltiedig y gadwyn gyflenwi yng Nghymru, gan gynnwys Ynni Môr Cymru, Clwstwr y Môr Celtaidd a'r Gynghrair Ynni ar y Môr. Mae gweithgarwch y gadwyn gyflenwi hefyd yn ganolog i'n cynllun gweithredu gweithgynhyrchu.

Mae sgiliau a datblygu'r gweithlu yn faes hollbwysig arall. Rydym eisoes wedi cyhoeddi ein bwriad i gyhoeddi cynllun gweithredu sgiliau sero net yn ddiweddarach eleni. Rydym o'r farn bod datblygu'r cynllun yn gyfle unigryw i sicrhau newid cyfiawn tuag at sero net. Er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo, bydd angen i ni hefyd greu partneriaethau cymdeithasol cryf, ac rydym yn parhau i weithio gydag undebau llafur i sicrhau ein bod yn cael y gorau i'n gweithlu. Bydd technolegau ynni'r môr o donnau a llanw sy'n datblygu yn gwneud gwahaniaeth hefyd. Byddan nhw'n atgyfnerthu cymwysterau Cymru fel canolfan ragoriaeth ac yn ein helpu i adeiladu economi gryfach a gwyrddach.

Mae ein cronfa ynni'r môr o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop wedi buddsoddi £105 miliwn ar draws 13 o brosiectau. Er enghraifft, yn ddiweddar fe wnaethom ni gyhoeddi buddsoddiad o £31 miliwn ym mhrosiect seilwaith Morlais Menter Môn oddi ar arfordir Ynys Môn. Pan ddywedaf 'ni', rwyf wrth gwrs yn golygu'r cyhoeddiad a wnaed gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog newid hinsawdd.

Byddwn hefyd yn edrych ar ein strategaeth arloesi newydd yn ddiweddarach eleni i atgyfnerthu'r pwyslais ar dechnolegau'r môr sy'n datblygu, gan gynnwys cynhyrchu hydrogen o ynni'r môr ar y môr. Rydym yn gwybod bod arloesi'n sbarduno gwelliant ac yn lleihau costau'n gyflym. Mae tyrbinau gwynt ar y môr ar seiliau cadarn yn llwyddiant oherwydd buddsoddiad cynnar sydd bellach yn darparu ynni adnewyddadwy cost-effeithiol a glân ar raddfa sylweddol. Dylid ailadrodd y llwyddiant hwn ar draws technolegau'r môr eraill ar y môr.

Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgeisiau eithriadol o uchel ar gyfer dyfodol y sector hwn a'i effeithiau economaidd gyda Chymru ac ar ei chyfer. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, dylanwadu arni a'i lobïo i sicrhau bod manteision economaidd i Gymru yn parhau i ddeillio o'r sector cyffrous a hanfodol hwn. Hyderaf y cawn ni gefnogaeth drawsbleidiol ar yr amcan eang hwnnw. Rwy'n awyddus i Gymru elwa'n economaidd ar dechnoleg y môr ar y môr ac i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a fydd yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol am genedlaethau lawer i ddod. Mae hyn yn rhan allweddol o greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach.

15:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, mae ynni'r môr ar y môr yn rhywbeth y mae gen i ddiddordeb arbennig ynddo, o gofio'r etholaeth yr wyf i'n ei chynrychioli a'r cyfleoedd y mae'r rhan benodol honno o arfordir Cymru yn eu cynnig i'r sector ac, yn wir, i economi Cymru. Yn wir, mae'r Gweinidog wedi sôn am y datblygiadau diweddaraf mewn cysylltiad â Blue Gem Wind yn sir Benfro, y gwnes i gyfarfod â nhw yn ddiweddar iawn, ac rwy'n falch o fod yn gweithio'n agos gyda nhw ar eu prosiectau arloesol. Wrth gwrs, mae angen i ni weld mwy o weithgarwch fel hyn ledled Cymru.

Yn ôl adroddiad 'Cyflwr y Sector 2021' Ynni Môr Cymru,

'Gyda'r lefel gywir o gefnogaeth a buddsoddiad i alluogi arloesedd parhaus, gallai Cymru ddod yn un o'r lleoedd gorau a hawsaf i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y môr.'

Rydym yn gwybod, pan fydd Llywodraethau'n buddsoddi mewn technolegau a datblygiadau ar y môr, ei bod yn gwneud y prosiectau hynny yn fwy deniadol i fuddsoddiad gan y sector preifat, ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu cyllid yn y maes hwn wrth symud ymlaen? Er enghraifft, a fydd cronfa benodol o gyllid ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru yn cael ei datblygu bellach?

Yn y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael gyda rhanddeiliaid, maen nhw wedi ei gwneud yn glir i mi fod angen diwygiadau cynllunio morol hefyd i gyflawni prosiectau yn gynt fel y gall Cymru gynnal mantais gystadleuol. Yn benodol, byddai prosesau symlach ar gyfer cynllunio a chydsynio morol yn helpu i sicrhau y gellir cyflawni prosiectau yn nyfroedd Cymru cyn prosiectau llawer mwy mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, efallai y bydd y Gweinidog yn dweud wrthym pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r dirwedd cynllunio morol fel na fyddwn yn colli cyfle o ran prosiectau yma yng Nghymru.

Mae adroddiad cyflwr y sector Ynni Môr Cymru hefyd yn dweud wrthym

'O'r cwmnïau sydd wedi adeiladu neu sy'n adeiladu dyfeisiau yng Nghymru ar hyn o bryd... mae o leiaf 50% o'u cadwyn gyflenwi wedi dod o Gymru'.

Felly, rydym yn gwybod bod cyfleoedd enfawr i fusnesau yma yng Nghymru. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud ychydig mwy wrthym am y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau'r cyfleoedd gorau i fusnesau'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru a sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith hwnnw wrth symud ymlaen.

Mae datganiad heddiw yn cyfeirio'n briodol at ein porthladdoedd a'u seilwaith, ac os ydym eisiau i Gymru fod yn chwaraewr byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy morol, yna mae angen i ni sicrhau bod ein porthladdoedd yn cael eu cefnogi'n well. Er mwyn darparu ynni'r môr ar y môr yn nyfroedd Cymru ac er mwyn i Gymru wireddu'r manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sydd ar gael, mae angen buddsoddi mewn seilwaith porthladdoedd ar frys i alluogi'r prosiectau sy'n datblygu i fod yma yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol y gallai diffyg cyfleusterau lleol addas yn y gorllewin ar hyn o bryd adael datblygwyr heb fawr o ddewis ond sicrhau technoleg o wledydd eraill fel Sbaen a Ffrainc, lle mae seilwaith porthladdoedd yn fwy datblygedig.

Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at gronfa porthladdoedd gwynt arnofiol Llywodraeth y DU, sy'n werth £160 miliwn, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad porthladdoedd yng Nghymru a sicrhau y bydd Cymru'n cael cymaint o arian â phosibl o'r cyllid penodol hwnnw.

Nawr, mae hyn yn fy arwain i at gysylltiadau rhynglywodraethol cryf, sy'n rhan annatod o nodi a sicrhau'r gefnogaeth fwyaf posibl i'r prosiectau hynny. Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at y cytundeb yr wythnos diwethaf gyda Llywodraeth y DU ar sefydlu polisi porthladdoedd rhydd yng Nghymru, ac rwy'n croesawu'r cytundeb a'r ymgysylltu rhynglywodraethol cadarnhaol sydd wedi digwydd i gyrraedd y pwynt hwn. Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud y bydd porthladd rhydd yng Nghymru yn cael effaith economaidd sylweddol ac y bydd yn creu swyddi ac yn denu diwydiant ac arloesedd newydd i'r ardal. Gwn fod y ddwy Lywodraeth bellach yn gweithio gyda'i gilydd i gyd-gynllunio'r broses ar gyfer dewis safleoedd porthladd rhydd a bydd gan y ddau lais cyfartal ym mhob penderfyniad drwy gydol y broses weithredu. Felly, er y gallai fod yn ddyddiau cynnar, efallai y gwnaiff y Gweinidog roi rhagor o fanylion am y cam nesaf yn y broses benodol honno.

Mae'r Gweinidog hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd buddsoddi'n rhagweithiol yn ein seilwaith grid, sydd, wrth gwrs, y tu allan i gylch gwaith Llywodraeth Cymru. Felly, efallai y gwnaiff hefyd ddweud ychydig mwy wrthym am brosiect y grid yng Nghymru yn y dyfodol a sut y mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo.

Nawr, rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cadarnhau y bydd cynllun gweithredu sgiliau sero net yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud bod datblygu'r cynllun yn gyfle unigryw i sicrhau pontio teg i sero net. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith sydd wedi ei wneud i ddatblygu'r cynllun hyd yn hyn fel y gallwn ni gael syniad o sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu marchnadoedd llafur lleol wrth symud ymlaen.

Yn olaf, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru sydd ar ddod, a fydd yn bwysig wrth ddatblygu technolegau'r môr sy'n dod i'r amlwg. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud mwy wrthym am y cyllid a gaiff ei ddyrannu i gefnogi'r strategaeth benodol honno fel y gallwn fod yn siŵr bod ganddi'r adnoddau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae gan Gymru y ddaearyddiaeth i fod yn chwaraewr rhyngwladol yn y maes hwn, ond mae angen cefnogaeth arni gan ei Llywodraeth ar bob lefel, ac, ar y nodyn hwnnw, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma a dweud fy mod i'n edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gydag ef ar yr agenda bwysig hon? Diolch.

15:45

Diolch i'r Aelod am ei gyfres o gwestiynau. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ateb y pwyntiau mor gryno ag y gallaf. Byddaf yn dechrau gyda'r pwynt o wahaniaeth a'r strategaeth arloesi. Byddwn yn ymgynghori ar hynny, gobeithio cyn bo hir, felly byddwch chi'n gweld y strategaeth ddrafft, a bydd angen i ni wedyn ystyried y sylwadau a wnaed cyn i ni nodi'r math o ddewisiadau cyllid y bydd angen i ni eu gwneud ynghylch hynny. Ond, fel yr ydym ni wedi ei nodi o'r blaen yn y Siambr hon, mae ein strategaeth arloesi wedi ei chefnogi yn y gorffennol gan gronfeydd Ewropeaidd, cronfeydd strwythurol, nad ydyn nhw ar gael i ni mwyach, ac nid oes dim byd ar sail gyfatebol wedi eu disodli. Yr hyn y bydd angen i ni ei wneud, serch hynny, yw bod yn fwy llwyddiannus o ran cael arian o gronfa cyllid ymchwil, datblygu ac arloesi'r DU sydd ar gael. Mae dros £20 biliwn i fod ar gael dros gyfnod o flynyddoedd, ac mewn cyfnodau blaenorol mae hwnnw wedi mynd o amgylch de-ddwyrain Lloegr i raddau helaeth, o amgylch y triongl euraid, a hefyd i un neu ddau o sefydliadau yn yr Alban yn llythrennol. Mae hynny'n fater i ni; bydd angen i ni gael mwy allan o'r cronfeydd cyllid hynny yn y DU i ddisodli'r arian na roddwyd i ni ar sail gyfatebol ar ôl i ni adael yr UE.

O ran gweddill eich pwyntiau a'ch cwestiynau, rwy'n credu bod ymgysylltu llawer mwy adeiladol i'w wneud nad yw'n cynnwys beirniadu Llywodraeth y DU yn uniongyrchol. Felly, rwy'n credu wrth i chi edrych ar y dewisiadau buddsoddi, bydd angen buddsoddiad preifat, i Lywodraeth Cymru gefnogi rhai dewisiadau buddsoddi hefyd, ond hefyd i Lywodraeth y DU. Er enghraifft, eich cwestiwn am y grid: wel, y rheswm pam yr ydym yn mynd drwy broses grid Cymru yn y dyfodol yw deall ble a pham y dylid gwneud dewisiadau buddsoddi strategol, a, hebddyn nhw, bydd hynny'n llesteirio ein gallu i ysgogi nid yn unig y pŵer ei hun ond y cyfle economaidd hefyd. Nid ydym yn dymuno i'r holl ffynhonnell lanio ar gyfer y môr Celtaidd, er enghraifft, fod ar arfordir Dyfnaint neu Wlad yr Haf, felly bydd angen i ni gael seilwaith grid sy'n addas i'r diben ar gyfer yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y dyfodol, ac mae hynny'n golygu buddsoddiad rhagweithiol. Dyma'r pwynt y mae fy nghyd-Aelod Julie James wedi'i wneud yn rheolaidd, nid yn unig mewn cyfarfodydd mewnol ond gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Heb i'r math hwnnw o ddewis gael ei wneud, bydd yn ein dal yn ôl.

Fodd bynnag, yn ogystal â hynny, bydd angen i ni weld rhai o'r dewisiadau buddsoddi hynny a'r llinell welediad y soniais amdani yn y datganiad am beth yw hyd llinell gyflenwi'r dyfodol, faint o drwyddedau a fydd ar gael. Bydd hynny wedyn yn golygu y bydd gan fuddsoddwyr ddigon o ffydd i wneud buddsoddiadau sylweddol mewn seilwaith porthladdoedd, oherwydd rydych chi'n iawn, mae porthladdoedd eraill mewn sefyllfa wahanol o ran maint yr hyn y bydd angen iddyn nhw ymdrin ag ef. Nawr, mae hynny'n gyfle gwirioneddol i borthladdoedd Cymru, i gael y buddsoddiad hwnnw wedi ei wneud ac yna i sicrhau y gall porthladdoedd dŵr dwfn sy'n agosach at y cyfleoedd yn y môr Celtaidd a môr y Gogledd fanteisio arnyn nhw mewn gwirionedd, ac rwyf i'n sicr yn dymuno gweld hynny'n digwydd—felly, llinell welediad gliriach gyda thymor hwy a fydd yn caniatáu i ddewisiadau buddsoddi preifat gael eu gwneud a hefyd yr achos dros fuddsoddiad y sector cyhoeddus pan fo angen hwnnw. A phan ddaw'n fater o roi ein harian ar ein gair o ran hynny, wrth gwrs, mae'r cyhoeddiad y cyfeiriais ato ar gyfer arian y rhaglenni Ewropeaidd y mae'n rhaid i ni gytuno arno—y £31 miliwn sy'n mynd i Morlais i sicrhau bod y seilwaith yno fel y gallan nhw lanio'r ynni—wel, mae hynny yn dangos yn wirioneddol ein bod ni wedi bod yn barod i wneud buddsoddiadau sylweddol gydag arian yr ydym yn ei reoli i sicrhau bod y cyfleoedd hynny'n cael eu gwireddu.

Bydd y pwynt pellach a wnes i ac y gwnaethoch chi ofyn amdano, am sgiliau ar gyfer y sector hefyd, yn bwysig iawn. Felly, mae hynny'n golygu gweithio gyda darparwyr, gweithio gyda'r sector, ac yna deall sut mae gennym lif prosiect ar gyfer caffael sgiliau. Nawr, yr anhawster yw, heb olwg gliriach ar y llif prosiect o ran ble fydd y gwaith yn mynd, bydd angen i ni ddeall sut a ble yr ydym yn ceisio rhoi sgiliau newydd i bobl i sicrhau eu bod yn barod i ymgymryd â'r swyddi pan fyddan nhw'n dod. Felly, bydd gallu cynllunio hynny'n llwyddiannus gyda'n gilydd yn bwysig iawn, ac rwy'n credu y bydd y cynllun sgiliau sero net y byddwn yn ei ddarparu yn ddiweddarach eleni yn ddefnyddiol wrth wneud hynny, ond bydd y sgyrsiau gyda'r sector ymlaen llaw hyd yn oed yn bwysicach.

O ran y dirwedd cynllunio morol, byddwch chi'n ymwybodol bod y Gweinidog cyfrifol yn y Siambr hefyd—rwy'n edrych ymlaen at ei hail ddatganiad o'r dydd—ond rydym wedi cyhoeddi'r cynllun morol cyntaf i Gymru yn ddiweddar, sy'n nodi polisi cynllunio. Ond rwy'n gwybod, yn ogystal â mantais sicrwydd, fod y Gweinidog Newid Hinsawdd bob amser yn barod i ystyried a allwn gael system well a fydd yn cyflawni'r cyfleoedd economaidd sydd ar gael a'r effaith y gallwn ei chael ar newid hinsawdd, ac ar yr un pryd y cydbwysedd â'r amgylchedd naturiol hefyd.

O ran yr hyn yr ydym wedi ei wneud i helpu'r gadwyn gyflenwi, nodais yn fy natganiad ein bod ni wedi buddsoddi tua £0.5 miliwn i gefnogi'r gadwyn gyflenwi. Dyna'r arian yr ydym wedi ei roi i Ynni Môr Cymru yr wyf i wedi ei gymeradwyo, ynghyd ag arian ar gyfer Cynghrair Ynni ar y Môr, sy'n ymdrin â'r gadwyn gyflenwi ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Felly, unwaith eto, ceir sgwrsio gweithredol rhwng ein swyddogion ynghylch sicrhau bod y cyfleoedd hynny yn rhai dilys, a bod y gadwyn gyflenwi yn lleol, gan gynnwys llawer o fusnesau bach a chanolig eu maint, yn gallu manteisio ar hynny, a ninnau'n helpu i sicrhau bod busnesau'n barod ac yn gallu manteisio ar y cyfle.

Ac rwyf am orffen gyda dau bwynt, yn gyflym, Dirprwy Lywydd. Hynny yw, o ran y gronfa seilwaith porthladdoedd, mae'n gam ymlaen i'w groesawu, ond nid yw'r meini prawf cymhwysedd ar gael eto. Felly, ni allaf siarad llawer â chi am y meini prawf, nad ydyn nhw wedi eu cyhoeddi eto, ond rydym yn obeithiol y byddan nhw'n cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos yr haf hwn i ganiatáu i bobl wedyn ystyried gwneud cais, ac rydym yn awyddus iawn i borthladdoedd Cymru gael cyfran briodol o'r arian hwnnw a fydd ar gael.

Ac o ran porthladdoedd rhydd, mae'n beth da ein bod ni wedi dod i gytundeb ar delerau sy'n dderbyniol i'r ddwy Lywodraeth. Byddwn yn benderfynwyr ar y cyd, bydd cyllid cyfartal â chyllid porthladdoedd rhydd yn Lloegr, a bydd y prosbectws ar gyfer ceisiadau yn dod i'r amlwg dros yr haf. Ac rwy'n credu y bydd yn bwysig gweld ceisiadau sy'n ein helpu ni i gyflawni ein huchelgeisiau ac sy'n cyd-fynd â fframweithiau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys, wrth gwrs, y cyfleoedd ym maes ynni'r môr yn ogystal â gwaith teg. Ond bydd gen i fwy i'w ddweud am hynny pan fyddwn yn gallu darparu'r prosbectws ar y cyd mewn gwirionedd.

15:50

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw.

Fel y gwyddom eisoes, mae Cymru mewn sefyllfa dda i chwarae rhan flaenllaw yn fyd-eang o ran ynni'r môr, gyda 1,200km o arfordir a hyd at 6GW o gapasiti cynhyrchu drwy botensial ffrwd tonnau a llanw. Os ydym am gyrraedd sero net erbyn 2050, neu efallai cyn hynny, mae angen i ni gynyddu'n aruthrol yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru. Dywedodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog mewn llythyr at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith fod gwaith wedi bod ar y gweill ers 2019 i ysgogi cynhyrchu ynni'r llanw adnewyddadwy yn y moroedd o amgylch Cymru ac i helpu i gefnogi mathau eraill o gynhyrchu ynni'r môr. Fel y mae adroddiad diweddar ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru gan bwyllgor newid hinsawdd y Senedd yn ei gwneud yn glir, gan gyfeirio at dystiolaeth gan Jess Hooper, bu diffyg cymorth polisi ar gyfer datblygiadau amrediad llanw gan Lywodraeth y DU, a bod graddfa fawr rhai prosiectau yn golygu nad oedden nhw'n dod o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru, megis prosiect morlyn llanw'r gogledd. Yr hyn sy'n amlwg yw bod diffyg pwerau, diffyg cymorth polisi a diffyg adnoddau ariannol, heb sôn am gyfyngiadau difrifol ar y grid, bylchau mewn sgiliau a seilwaith porthladdoedd annigonol, yn ein dal yn ôl o ddifrif pan ddaw'n fater o wireddu ein potensial ynni'r môr yn llawn, ein gallu i ymateb i'r hinsawdd, a'n gallu i adeiladu economi wyrddach a thecach drwy hynny. Onid dyma'r amser i geisio mwy o bwerau dros brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr? Hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa sgyrsiau y mae wedi eu cael gyda'i gyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru yn ogystal â Llywodraeth y DU, ynghylch datganoli pwerau ymhellach dros brosiectau ynni ar raddfa fawr, felly'r rhai sydd dros 350MW, a yw'n cytuno bod angen rhagor o bwerau arnom er mwyn gwireddu ein potensial ar gyfer datblygu ynni ar y môr?

Nawr, mae'r adroddiad hefyd yn nodi nifer y swyddi a fydd yn cael eu creu drwy ynni adnewyddadwy ar y môr, gydag Ynni Môr Cymru yn datgan y disgwylir i wynt ar y môr yn unig greu 3,000 o swyddi erbyn 2030, os manteisir ar y cyfle i symud yn gynnar. Dywedodd David Jones o Simply Blue Energy, oherwydd yr angen a ragwelir am swyddi yn y sector, sef, gyda llaw, 70,000 erbyn 2026 i gyflwyno'r rhaglen bresennol, fod ei gwmni wedi ymgysylltu ag ysgolion lleol ac addysg bellach, gan ganolbwyntio ar wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg a datblygu sgiliau. Fel rhan o astudiaeth ddofn y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ynni adnewyddadwy, cadarnhaodd y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun gweithredu sgiliau sero net erbyn gwanwyn 2022. Wel, wrth gwrs, rydym yng ngwanwyn 2022, ac, er fy mod i'n croesawu ymrwymiad parhaus y Llywodraeth i gyflawni'r cynllun hwnnw, a wnaiff y Gweinidog ddarparu amcangyfrif bras newydd ynghylch pryd y byddwn yn gweld y cynllun hwn? Oherwydd er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau o ran sero net, ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig fydd mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yn yr economi werdd, a byddai gen i ddiddordeb pe bai'r Gweinidog yn darparu amserlenni hefyd ar gyfer gweithredu a thargedau'r Llywodraeth o ran creu swyddi gwyrdd yn y sector erbyn 2050 cyn gynted â phosibl.

Yn olaf, yn ôl ffigurau UKRI ei hun ar gyfer 2018 a 2019, gwariodd cynghorau ymchwil ac Innovate UK £5.4 biliwn ledled y DU, dim ond £131 miliwn o hwnnw a wariwyd yng Nghymru. Roedd hyn yn cyfateb i 2.4 y cant o'r cyfanswm a £42 y pen, y ffigur isaf o'r fath ymysg gwledydd a rhanbarthau tebyg y DU. Pe bai gwariant ymchwil yn cael ei ddatganoli a'i fwydo drwy fformiwla Barnett, yna gallai Llywodraeth Cymru ddisgwyl cael dyraniad sy'n cyfateb i tua 5.9 y cant o'r cyfanswm. O gofio bod Cymru ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill y DU o ran cyllid ymchwil ac arloesi, hoffwn glywed a yw'r Gweinidog, neu yn hytrach sut y mae'n bwriadu cynyddu cyllid ymchwil ac arloesi yn sector ynni'r môr i'w helpu i ddatblygu a sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

15:55

Diolch am y cwestiynau. Rwy'n credu eu bod mewn tri neu bedwar categori eang. O ran ynni'r llanw, ydym, rydym yn credu bod gan Gymru gyfle gwirioneddol o hyd i fod ar flaen y gad o ran sector sy'n datblygu. Mae'n destun gofid a ddeellir yn dda o safbwynt y Llywodraeth hon nad yw morlyn Abertawe wedi cael cefnogaeth o'r blaen, gan gynnwys yn dilyn adolygiad gan gyn-Weinidog ynni Ceidwadol, a'i ddisgrifiodd fel prosiect 'dim difaru'. Mae angen o hyd i ni allu defnyddio prosiect llanw sylweddol i ddeall a dysgu o hynny am y defnydd pellach a'r fantais economaidd y gellir eu hennill yn ogystal â chynhyrchu ynni ohono, wrth gwrs. Mae gennym ddiddordeb yn y prosiect Blue Eden y mae cyngor Abertawe yn arwain y gwaith ymgysylltu â datblygwyr arno. Mae'n ymddangos bod ganddyn nhw fuddsoddwr preifat sy'n barod i wneud hynny. Yr her i ni yw maint pob prosiect, fel y gwnaethoch chi ei nodi. Rydym yn credu y dylai'r Llywodraeth hon gael rhagor o bwerau o ran cydsynio. Rydym hefyd wedi bod yn glir ynglŷn â'n barn y byddai'n well gennym gael rhagor o bwerau ar Ystad y Goron. Nid yw'r un o'r pethau hyn yn syndod ac mae'r Prif Weinidog, fi fy hun, ac yn wir y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi dweud hynny droeon.

Fodd bynnag, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw sicrhau'r cyfleoedd gorau'r sydd gennym o fewn ein pwerau presennol i wneud popeth a allwn mewn ffordd a fydd yn helpu i weld y prosiectau cyntaf hynny'n cael eu lansio, oherwydd, heb y prosiect graddfa sylweddol cyntaf, byddwn yn dal i fod yn sôn am botensial a beth os a beth allai fod. Rydym ni yn gwybod, o safbwynt ynni'r llanw, fod gennym ni lawer i fanteisio arno a llawer i edrych ymlaen ato. Yn sicr, rwy'n dymuno bod mewn sefyllfa lle rydym yn dysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd gyda gwynt ar y tir a gwynt ar y môr sefydlog. Mae'r symudwyr cynnar yn bobl a fuddsoddodd yn gynnar ac yna fanteisio llawer ar ymchwil a datblygu ac, yn wir, gweithgynhyrchu. Byddai'n llawer gwell gen i pe bai Cymru wedyn yn allforio'r dechnoleg honno a gwybodaeth i rannau eraill o'r byd yn hytrach na phrynu cyfres aeddfed o dechnoleg y mae rhywun arall wedi ei datblygu a'r holl enillion economaidd a ddaw yn sgil hynny.

Rwy'n credu bod hynny'n dod yn ôl at eich pwynt am gyllid arloesi, y cyfeiriwyd ato mewn cwestiynau gyda Paul Davies hefyd. O gofio ein bod wedi colli arian gan ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd—ac mae'n ddiamheuol fod gennym ni lai o arian nag y byddem ni wedi ei gael fel arall—ein her ni yw, o gofio y cawsom ni ffrwd cyllid a ddaeth o hynny i'r sector arloesi yma, sut yr ydym yn cael rhywbeth yn ei le yn llwyddiannus. Nawr, fel y dywedais, y peth cadarnhaol yw bod Llywodraeth y DU yn bwriadu buddsoddi dros £20 biliwn dros nifer o flynyddoedd mewn arloesi. Yr her yw, os aiff allan yn yr un modd ag y mae wedi ei wneud o'r blaen—ac rydych  chi wedi tynnu sylw at hyn—y bydd yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio i raddau helaeth yn y triongl euraid. Ac ar ôl i chi ddechrau cael system sy'n ailadrodd ei hun, wel, mae'n anodd iawn torri i mewn iddi. A'r agwedd gadarnhaol ar hyn yw nad ydym yn dweud, 'Rhowch arian i Gymru oherwydd ein bod ni'n ei haeddu.' Rydym yn dweud, 'Rhowch arian i Gymru oherwydd bod ymchwil ragorol gennym ni yma hefyd, o fewn ein sectorau, o fewn ein haddysg uwch ac, yn wir, o fewn ein sector busnes a chymwysedig hefyd. Felly, mae enillion gwirioneddol i'w gwneud mewn gwirionedd a'u gwneud yn agos at le yr ydych chi'n mynd i'w defnyddio hefyd.' Felly, rwy'n credu bod llawer o fanteision gwirioneddol synhwyrol a rhesymegol wrth wneud hynny. Felly, bydd gwireddu rhai o'r addewidion a wnaed, nid yn unig y peth iawn i'w wneud o safbwynt gwleidyddiaeth, mewn gwirionedd, dyma'r peth iawn i'w wneud o safbwynt budd economaidd a mantais hefyd.

Ac yn sicr, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau'n awyddus iawn i fanteisio ar y ffaith bod Cymru'n symud yn gynnar yn y sectorau hyn hefyd. Rwy'n credu bod gennym ni lawer i'w gynnig a llawer i'w ennill, a bydd y cynllun sgiliau sero net yn rhan o hynny. Ond, fel yr wyf i wedi ei ddweud, rydym yn disgwyl cyhoeddi hynny eleni. Rwy'n awyddus iawn ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Byddai'n llawer gwell gen i pe baem ni mewn sefyllfa i'w gyhoeddi neu i roi amser pendant ar gyfer pryd y bydd yn dod allan yn awr. Ni allaf wneud hynny, ond yr hyn y byddaf yn ei wneud yw dweud, cyn gynted ag y byddwn wedi gwneud pethau'n iawn, y byddwn yn ei gyhoeddi, a byddaf yn hapus i nodi nid yn unig iddo ef ond i Aelodau eraill pryd y disgwylir i'r cynllun hwnnw gael ei gyhoeddi.

16:00

Rydym bron â chyrraedd diwedd yr amser a neilltuwyd i ni, felly gofynnaf i'r Aelodau, oherwydd bod pump sy'n dymuno siarad o hyd, i beidio â gwneud areithiau, os gwelwch yn dda, ond i ofyn eich cwestiynau'n unig, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gryno yn ei atebion hefyd, er mwyn i mi allu galw ar bawb. Huw Irranca-Davies.

Dirprwy Lywydd, roeddech chi'n edrych yn syth arnaf i wrth ddweud hynny, nawr. [Chwerthin.] Byddaf yn ceisio bod yn gryno iawn, felly. A gaf i groesawu naws a sylwedd y datganiad hwn heddiw, gan ei fod yn ymddangos ei fod yn dangos bod ymdrech gwirioneddol i fod yn adeiladol iawn ac i ymgysylltu rhwng Llywodraethau, ond mae'n rhaid i mi ddweud hefyd yng nghyd-destun y fframwaith polisi yma yng Nghymru? Mae'r rhestr o bethau, af i ddim drwyddyn nhw i gyd, yn sgrechian bod angen i unrhyw fuddsoddiad, boed drwy arloesi yn y dyfodol gan Lywodraeth y DU, boed drwy ddatblygiad porthladdoedd rhydd, neu'n fuddsoddiad mewn porthladdoedd, gael ei wneud law yn llaw â Llywodraeth Cymru, ond hefyd y cyllid rhanbarthol presennol, fframwaith buddsoddi, partneriaid yng Nghymru, y buddsoddiad mewn sgiliau, ac ati. A bydd hynny'n rhoi cyfleoedd i Gymru ac i'r DU gyrraedd eu targedau ynni adnewyddadwy. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog am ei sicrwydd bod yr hyn yr ydym wedi ei glywed yn cael ei adlewyrchu yma heddiw yn y Senedd hon, yn y Senedd hon i Gymru, yn cael ei adlewyrchu yn yr un modd mewn trafodaeth â Gweinidogion, yn San Steffan ac ar lawr y Senedd? Ac yn olaf, a wnaiff hefyd sicrhau—

—bod agweddau amgylcheddol hyn hefyd yn cael eu diogelu? Mae pob un o'r sefydliadau hynny eisiau gweld hyn yn digwydd, fel WWF, fel yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, fel y Gymdeithas Cadwraeth Forol, ond maen nhw eisiau, Gweinidog, sicrhau ei fod yn cael ei wneud hefyd i ddiogelu'r bywyd gwyllt a'r fioamrywiaeth yr ydym yn dymuno eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

O ran eich pwynt olaf, dyna yn sicr y safbwynt y mae Gweinidogion Cymru yn ei arddel. Rydym yn awyddus iawn i weld y manteision economaidd. Rydym yn awyddus iawn i weld y manteision o ran ynni adnewyddadwy, gan wybod y bydd hynny'n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd o'n cwmpas. Ond, mae creu unrhyw fath o system cynhyrchu pŵer yn sefyllfa lle mae angen i chi feddwl beth yw'r effaith ar yr amgylchedd. Ac felly, rydych chi'n gweld hynny mewn tyrbinau ynni â seiliau cadarn, fe welwch chi hynny gyda rhai sy'n arnofio, ac felly dyna pam rydym yn awyddus iawn yn y datganiad polisi cynllunio morol i fod yn glir ynglŷn â'r cydbwysedd a'r hyn yr ydym yn disgwyl i ddatblygwyr allu ei ddangos ynghylch sut y byddan nhw'n mynd ati i ddefnyddio ac yna datblygu'r pŵer hwnnw.

O ran eich pwynt cyntaf, rwy'n awyddus iawn i ni weld datblygiad sy'n digwydd o fewn cyd-destun lle rydym wedi cytuno ar fframweithiau a ffyrdd o weithio y cytunwyd arnyn nhw eisoes. Mae gennym ni ranbarthau economaidd yng Nghymru sy'n cyd-fynd ag ymdrechion blaenorol y Gweinidog Newid Hinsawdd pan oedd yn Weinidog llywodraeth leol, ac maen nhw'n rhanbarthau y cytunwyd arnyn nhw, ac yr ydym ni wedi cytuno â Llywodraeth y DU, yn y gronfa ffyniant gyffredin—. Er yr holl bwyntiau o wahaniaeth sydd gennym, llwyddom i gytuno mai rhanbarthau Cymru fydd y rhanbarthau hynny ac nid rhai gwahanol, i gynllunio a gweithio gyda'n gilydd yn economaidd. Mae hynny'n bwysig iawn. Felly, bydd gan lywodraeth leol a'r cytundebau twf yr un ôl troed â'r rhanbarthau hynny, felly nid oes angen i ni gynllunio strwythurau newydd ac amgen. Ac rwy'n disgwyl y bydd y fframwaith polisi y byddwn yn parhau i'w ddatblygu yn dilyn y modd hwnnw, a byddwn yn parhau i fod yn bartneriaid adeiladol. Byddwn yn sefyll dros fuddiannau gorau Cymru, ond mae'n rhaid i ni geisio gweithio gyda phobl fel ein man cychwyn ac o ran i ble yr ydym yn dymuno mynd.

Diolch yn fawr, Gweinidog. Mae'n dda ein bod yn croesawu'r ysgogiad ynni adnewyddadwy newydd hwn sydd ar ddod, ond a ydych chi'n credu ei bod yn ddigon bod yr ymchwil ddofn ar ynni adnewyddadwy dim ond yn ymrwymo i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid allweddol i nodi meysydd adnoddau strategol morol erbyn 2023, ac i ddarparu canllawiau i gyfeirio at feysydd priodol ac amhriodol i'w datblygu? Nawr, rydych chi'n gwybod ein barn ni ar y meinciau hyn: rydym ni'n dymuno gweld Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei gallu deddfwriaethol i greu dyletswydd gyfreithiol i lunio cynllun datblygu morol cenedlaethol ac i'w adolygu'n rheolaidd. Ac mae hynny'n cael ei gefnogi gan Cyswllt Amgylchedd Cymru, a ddywedodd wrth ein Pwyllgor Newid Hinsawdd, Yr Amgylchedd a Seilwaith nad yw canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau, fel y'u cynigiwyd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, yn ddigonol. Mae'n rhaid i gynllun gofodol statudol edrych ar draws sectorau naill ai ar lefel ranbarthol neu genedlaethol i fynd i'r afael ag effeithiau cronnol ar ein hecosystemau morol gan bob defnyddiwr morol. Ac a wnewch chi hefyd —? Roeddwn i'n gallu gweld y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cytuno mewn gwirionedd bod yn rhaid cael y gweithio agos hwn rhwng ei hadran hi a'ch adran chi, ond a wnewch chi sicrhau bod dull gofodol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynllunio morol, i lywio'r gwaith o leoli'r datblygiadau pwysig hyn i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf ecolegol sensitif? Diolch.

16:05

Wel, dyna'r dull yr ydym yn ceisio'i fabwysiadu. Rydym yn ceisio sicrhau bod datblygiadau'n digwydd mewn ardaloedd priodol sy'n ystyried effaith amgylcheddol datblygiadau. Dyna'r union bwynt sydd wedi ei wneud mewn ymateb i Huw Irranca-Davies; dyma'r union ddull y bydd Gweinidogion Cymru yn ceisio'i fabwysiadu. Rydym ni'n credu ei bod yn gwbl bosibl defnyddio mwy o'r potensial hwn i gynhyrchu ynni'n gyfrifol ac i gael y budd economaidd, heb beryglu ein hamgylchedd.

Diolch am y datganiad. Croesawaf y pwyslais ar y potensial i borthladdoedd elwa ar y genhedlaeth nesaf o gynhyrchu ynni ar y môr. Rwyf wedi siarad â datblygwyr fel BP, er enghraifft, gan annog buddsoddi yng Nghaergybi fel canolfan gwynt ar y môr. Bydd y Gweinidog wedi fy nghlywed droeon yn annog dadl onest am borthladdoedd rhydd a'r angen, er enghraifft, i Lywodraeth y DU ariannu porthladdoedd rhydd yng Nghymru yn briodol, ac rwy'n falch iawn bod trafodaethau wedi arwain at y tro pedol hwnnw, pan fydd Cymru nawr yn cael ei thrin ar delerau cyfartal â phorthladdoedd Lloegr, y bydd Llywodraethau Cymru a'r DU yr un mor benderfynol o roi statws porthladd rhydd yng Nghymru. Roedd hi'n werth dal ein tir rwy'n credu, yn hytrach na derbyn y cynnig eithaf gwael ac amwys a oedd ar y bwrdd yn wreiddiol. Rwyf wedi ysgrifennu at Gyngor Sir Ynys Môn heddiw ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r awdurdod lleol a phartneriaid eraill i sicrhau'r manteision mwyaf posibl i Gaergybi. 

Cwestiwn byr iawn am ffrwd llanw, serch hynny. Rwy'n croesawu'r £31 miliwn o gyllid Ewropeaidd a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu parth arddangos llif llanw Morlais. Mae'r seilwaith yn mynd rhagddo, ond beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod rhwystrau'n cael eu dileu ac y gellir defnyddio'r dechnoleg ffrwd llanw ei hun cyn gynted â phosibl?

Iawn, felly ynghylch eich pwynt olaf, mae'n dibynnu pa rwystrau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rydym newydd gael sgwrs am yr effaith amgylcheddol, ac mae'n dibynnu pa rwystrau eraill yr ydych yn cyfeirio atyn nhw, boed hynny cyn ei ddefnyddio neu, mewn gwirionedd, y gallu i weithgynhyrchu a chynhyrchu ar raddfa sylweddol, a lle mae'r diddordeb gan gwmnïau. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth o gwmnïau eisoes yn ystyried defnyddio tyrbinau llif llanw—cwmnïau o Gymru hefyd. Felly, rydym yn awyddus iawn i weld hynny'n symud ymlaen, oherwydd, fel y dywedais, rydym yn dymuno cynhyrchu—. Y rheswm rwy'n gwneud y datganiad hwn heddiw yw oherwydd bod hyn yn ymwneud â chanolbwyntio ar y budd economaidd o gynhyrchu pŵer mewn ffordd lawer glanach. Os yw'r Aelod am gael trafodaeth fwy penodol ar rwystrau posibl, byddwn yn falch o gael y drafodaeth honno gydag ef a phartneriaid yn Ynys Môn a'r cyffiniau, lle rwy'n gwybod bod llawer o botensial.

O ran eich pwynt am borthladdoedd rhydd, nid oedd Llywodraeth Cymru byth yn mynd i gytuno i broses lle'r oedd porthladdoedd rhydd yng Nghymru yn cael eu hariannu i raddau llai na phorthladdoedd rhydd yn Lloegr. Roeddem yn glir iawn ynglŷn â hynny. Rydym wedi bod yn gyson yn ein gofyniad, ac rydym wedi llwyddo i negodi rhywbeth sy'n bodloni ein hamcanion. Hoffwn ddweud, Dirprwy Lywydd, fod nifer o bobl yn y Siambr heddiw wedi bod yn hyrwyddo eu porthladdoedd lleol eu hunain fel buddiolwyr unrhyw gystadleuaeth porthladdoedd rhydd. Rwy'n deall pam y bydd Aelodau'n gwneud hynny. Y cytundeb ar hyn o bryd yw nad yw Llywodraeth y DU ond yn barod i ariannu un porthladd rhydd yng Nghymru, ond mae cyfle posibl os gwneir mwy nag un achos cymhellol y gallai fod yn bosibl iddo ddigwydd. Ac mae achosion cryf wedi eu gwneud yn y gogledd a'r de-orllewin, ac eraill rwy'n siŵr. Ni allaf gytuno ar un o'r achosion hynny, o gofio y gallwn fod yn Weinidog sy'n gwneud penderfyniadau ar y cyd, ynghyd â Gweinidog y DU, ar gais llwyddiannus. Rwyf eisiau wneud y pwynt hwnnw'n gwrtais i'r holl bobl hynny a fydd yn parhau i gyflwyno eu hachos lleol.

Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn eich bod yn dymuno symud yn gynnar ar hyn, sy'n rhywbeth rwy'n ei groesawu, ac o ystyried fy etholaeth i, hoffwn i ganolbwyntio ar wynt ar y môr arnofiol. Felly, sut gallwn ni ddefnyddio'r busnesau bach a chanolig eu maint sydd eisoes ar gael, yn y ffordd orau? Busnesau sydd eisoes wedi bod yn gweithio yn y diwydiannau hydrocarbon a phetrogemegol dros y blynyddoedd, a defnyddio eu gwaith pontio o ynni'r gorffennol, a defnyddio'r technolegau a'r sgiliau sydd ganddyn nhw er budd y gadwyn gyflenwi i ddatblygu'r diwydiannau hyn oddi ar arfordir sir Benfro? Diolch.

16:10

Diolch. Credaf fod llawer o botensial i bobl sydd wedi bod yn ymwneud â diwydiannau blaenorol sy'n annhebygol o fod yn ddiwydiannau a fydd yn bodoli yn y dyfodol yn y tymor hwy. Pobl sydd â sgiliau peirianneg, ymchwil a datblygu, mae cyfleoedd yn bodoli. Pan feddyliwch chi am y potensial ar gyfer hydrogen a'r seilwaith y bydd ei angen, bydd angen inni gael buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth y DU, yn ogystal â buddsoddiad gan y sector preifat, i gael y seilwaith yn iawn.

Mae dewisiadau i'w gwneud ynghylch pa ran—os o gwbl—sydd i hydrogen nad yw'n wyrdd o ran sicrhau bod ein seilwaith yn iawn, er mwyn sicrhau nad ydym yn esgeuluso'r cyfle i ddatblygu hydrogen gwyrdd drwy gynhyrchu ynni ar y môr. Mae cyfleoedd economaidd gwirioneddol yn hynny i gyd, ac nid yw'n syndod bod yna bobl sy'n ymwneud â diwydiannau petrogemegol y presennol sydd â diddordeb buddsoddi yn y maes hwn.

Pan feddyliwch chi am nifer y bobl sy'n gwneud cais am drwyddedau, neu sydd eisoes wedi llwyddo i gael un: mae Nwy Prydain, Centrica, BP a Shell ac eraill i gyd yn y fan yma oherwydd bod arnyn nhw eisiau parhau i fod yn gwmnïau cynhyrchu ynni. Felly, er nad ydym ni yma i hyrwyddo'r diwydiant olew a nwy ymhellach, bydd angen inni weithio gyda chwmnïau olew a nwy i roi ystyriaeth briodol i'r hyn y maen nhw yn barod i'w wneud i fuddsoddi yn nyfodol ynni adnewyddadwy, a bydd hynny'n sicr o gynnwys etholaeth yr Aelod.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, byddwch yn ymwybodol, yn ogystal â'r math o ynni llanw y soniwyd amdano yn y de, y bu trafodaeth hefyd am y posibilrwydd o forlyn llanw yn y gogledd, a allai, wrth gwrs, greu hyd at 22,000 o swyddi, yn ôl Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer hyd at filiwn o gartrefi. Byddai hyn yn digwydd o Brestatyn i Landudno, gan gynnig rhai manteision amddiffyn rhag llifogydd hefyd.

Er mwyn sicrhau'r buddsoddiad yna gwerth £7 biliwn i gyflawni'r prosiect hwnnw, mae angen rhywfaint o gyllid sbarduno o tua £50 miliwn i gynnal rhai asesiadau o'r effaith amgylcheddol. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cyfrannu at hynny a gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn cyflawni'r hyn a allai, yn fy marn i, fod yn brosiect hynod drawsnewidiol i ddiwydiant ynni'r DU gyfan?

Wel, cytunaf fod potensial sylweddol yn y gogledd a'r cyffiniau i gynhyrchu ynni sylweddol yn llwyddiannus o'r llanw gydag elw economaidd sylweddol. Ein her yw sut yr ydym ni'n gweithio gyda'r sector preifat a Llywodraeth y DU i roi hynny ar waith, ac mae'n mynd yn ôl at y pwynt bod angen prosiect arddangos ar raddfa sylweddol i helpu i gyflawni potensial y technolegau hynny. Dyna pam mae siom nag adeiladwyd morlyn Abertawe.

Ond, byddwn yn parhau i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU ac eraill. Rydym ni wedi dangos—er enghraifft, yn y buddsoddiad yr ydym ni wedi'i wneud ym Morlais—ein bod yn barod i barhau i fuddsoddi, i weld y diwydiant hwnnw'n dwyn ffrwyth yn y potensial enfawr sydd yna yn y gogledd, y de a'r gorllewin. Felly, ni allaf roi sicrwydd ichi am gyllid yn y dyfodol, ac efallai y bydd £50 miliwn yn swnio fel cyllid cychwynnol i chi, ond gallaf ddweud wrthych chi, wrth reoli cyllidebau o fewn y Llywodraeth, nad oes £50 miliwn dros ben. Ond, mae arnom ni eisiau cael sgwrs adeiladol, fel y dywedais, gyda Llywodraeth y DU a chyda'r sector preifat, i wireddu'r potensial economaidd sylweddol i Gymru a thu hwnt. 

6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Lleihau’r risg o fod yn agored i lifogydd a’r adolygiad annibynnol o lifogydd 2020-21

Eitem 6 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar leihau'r risg o fod yn agored i lifogydd a'r adolygiad annibynnol o lifogydd 2020-21. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Prif Weinidog, y Dirprwy Weinidog a minnau wedi egluro bod mynd i'r afael â'r perygl o lifogydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni wedi sefydlu, drwy'r strategaeth llifogydd, raglen gynhwysfawr sy'n nodi ein mesurau hirdymor ar gyfer lleihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru. Mae'r cytundeb cydweithio yn ein hymrwymo i sicrhau cynnydd yn y buddsoddiad ar gyfer rheoli a lliniaru perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ystod tymor y Senedd hon hefyd.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd y pecyn buddsoddi mwyaf erioed gennym ni i leihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru, gyda thros £71 miliwn o gyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru eleni. Rydym yn bwriadu buddsoddi dros £214 miliwn dros y tair blynedd nesaf i helpu diogelu o leiaf 45,000 o gartrefi rhag perygl llifogydd. Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynrychioli dull strategol o'r newydd o ddarparu'r cymorth ariannol angenrheidiol i'n hawdurdodau rheoli peryglon llifogydd, gan gyflymu'r broses gyflawni a meithrin ein gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd gyda chyfres gryfach o gynlluniau llifogydd.

Er gwaethaf hynny, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddysgu o ddigwyddiadau yn y gorffennol, fel y gallwn wella sut rydym ni'n mynd i'r afael â pherygl llifogydd. Roedd y llifogydd dinistriol ym mis Chwefror 2020, a greodd drallod, caledi a cholled ariannol eang i filoedd o deuluoedd ac ugeiniau o fusnesau ledled Cymru, yn ein hatgoffa'n llwyr o faint yr heriau sy'n ein hwynebu, yn enwedig yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd, yr ydym ni eisoes yn amlwg yn ei brofi.

16:15

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae Aelod dynodedig Plaid Cymru Siân Gwenllian a minnau wedi bod yn gweithio'n agos i ddatblygu cwmpas, dull cyflawni a chylch gorchwyl drafft ar gyfer sicrhau ymrwymiad y cytundeb cydweithio i gomisiynu adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol ac adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020-21. Felly, mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fod yr Athro Elwen Evans QC wedi cytuno i arwain yr adolygiad hwn. Yr Athro Evans yw un o fargyfreithwyr troseddol mwyaf blaenllaw'r DU. Arweiniodd yr erlyniad yn achos llofruddiaeth April Jones a'r tîm amddiffyn yn achos trychineb pwll y Gleision. Ar ôl arwain yn ddiweddar yr adolygiad annibynnol o derfysgoedd Mayhill y llynedd, mae'r Athro Evans yn dod â phrofiad ac awdurdod sylweddol i'r adolygiad hwn, ac rwyf wrth fy modd ei bod wedi cytuno i'w arwain.

Mae ymchwiliadau adran 19 yn rhan annatod o fframwaith rheoli perygl llifogydd Cymru, gan orfodi awdurdodau lleol i asesu achosion llifogydd arwyddocaol a'u galluogi i ddarparu modelau data, gwella cyfundrefnau cynnal a chadw neu nodi gwaith neu fesurau lliniaru. Nid oes amserlen statudol ar gyfer cynnal na chwblhau ymchwiliadau adran 19, ond mae ein strategaeth llifogydd yn ei gwneud yn glir y dylent fod yn gymesur â graddfa'r llifogydd ac ystyried y ddealltwriaeth o'r materion neu'r math o fesur adfer sydd ei angen. Bydd adolygiad yr Athro Evans yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn adroddiadau adran 19 ac adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun o'r llifogydd yn ystod 2020-21, a'i effeithiau a sut y gallai hyn lywio blaenoriaethau ar gyfer rheoli'r perygl o lifogydd yn y dyfodol. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar asesu a blaenoriaethu'r argymhellion a wneir yn y gwahanol adroddiadau a bydd yn nodi argymhellion ar gyfer gweithredu gan y sefydliadau perthnasol.

Yn benodol, bydd adolygiad yr Athro Evans yn ystyried canfyddiadau allweddol, pryderon cyffredin, yn nodi meysydd i'w gwella ac arfer da, llwyddiannau a'r gwersi a ddysgwyd. Bydd yr adolygiad yn adeiladu ar adolygiadau blaenorol, yn edrych ar adroddiadau perthnasol eraill, canfyddiadau pwyllgorau'r Senedd a pholisi cenedlaethol, fel strategaeth llifogydd Cymru, yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau ac yn sicrhau'r gwerth gorau am arian. Mae'r Aelod dynodedig a minnau wedi gofyn i'r Athro Evans ystyried y cymorth sydd ei angen i gynnal yr adolygiad a'r amserlenni ar gyfer cyflawni. Rydym yn mynd i ganiatáu digon o amser i'r Athro Evans gasglu ac asesu'r dystiolaeth sydd ar gael cyn iddi ddod i gasgliad ynghylch pa mor hir y bydd yr adolygiad yn ei gymryd, fel y gall gynnig casgliad ystyrlon a chadarn. Edrychaf ymlaen at dderbyn canfyddiadau'r adolygiad fel y gall yr Aelod dynodedig a minnau ystyried y ffordd orau o weithredu ar ei argymhellion.

Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn golygu y bydd y pwysau ar ein seilwaith presennol yn cynyddu'n sylweddol. Gyda hynny mewn golwg, mae gwaith ar y gweill hefyd i ddatblygu amcan y cytundeb cydweithio arall mewn perthynas â llifogydd—yr ymrwymiad i wahodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i asesu sut y gellir lleihau'r tebygolrwydd cenedlaethol o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith erbyn 2050. Yn ei lythyr cylch gwaith diweddar, gofynnodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i Dr David Clubb, cadeirydd y comisiwn seilwaith, fwrw ymlaen â'r ymrwymiad hwn. Mae rhaglen waith y comisiwn bellach yn cael ei chwblhau. Bydd yr Aelod dynodedig a minnau'n trafod hyn ymhellach er mwyn helpu i lywio cwmpas a phwyslais adolygiad y comisiwn. Mae proses penodiadau cyhoeddus i benodi aelodau comisiwn y comisiwn seilwaith bellach ar y gweill, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach yn ystod yr wythnosau nesaf. Ochr yn ochr â hyn, mae pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol annibynnol Cymru, dan gadeiryddiaeth Martin Buckle, yn bwrw ymlaen â dau adolygiad ar wahân a ragnodir gan ein strategaeth llifogydd. Mae'r cyntaf, sydd bron â'i gwblhau, wedi archwilio'r adnoddau ariannol sydd ar gael i awdurdodau rheoli perygl llifogydd er mwyn helpu i sicrhau'r cyfleoedd gorau poisbl i sicrhau cyllid a buddsoddi i gefnogi'r gwaith o gyflawni mesurau llifogydd. Rwy'n rhagweld y cyflwynir adroddiad terfynol y pwyllgor ym mis Mehefin.

Wrth ystyried yr effeithiau dinistriol llifogydd ledled Cymru ar ddechrau 2020, cydnabu'r strategaeth llifogydd, er bod fframwaith deddfwriaethol cadarn yn bodoli, nad yw'r ddealltwriaeth o swyddogaethau a chyfrifoldebau gwahanol gyrff yn gwbl ddealladwy i'r cyhoedd. Mae'r ail adolygiad sy'n cael ei gynnal gan y pwyllgor llifogydd yn canolbwyntio ar asesu cwmpas y cyfrifoldebau presennol o ran rheoli perygl llifogydd a'r angen am newidiadau deddfwriaethol. Bydd y pwyllgor yn dechrau ymgynghoriad ar ei adroddiad drafft ym mis Mehefin, gyda'r adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yr hydref hwn. Mae'r adolygiadau hyn yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i addasu i'r peryglon cynyddol sy'n gysylltiedig â llifogydd a dŵr sy'n deillio o newid hinsawdd. Byddant yn ategu ein rhaglenni buddsoddi, canllawiau cynllunio newydd ar lifogydd, mentrau i wella systemau draenio cynaliadwy ac atebion sy'n seiliedig ar natur, yn ogystal â'r diwygiadau deddfwriaethol yr ydym yn eu cyflwyno i wella diogelwch tipiau glo.

Mae effeithiau newid hinsawdd eisoes yn cael eu teimlo ar draws ein cymdeithas a'r amgylchedd naturiol, a gallwn ddisgwyl i risgiau gynyddu yn y degawdau i ddod, hyd yn oed wrth i ni weithio i leihau ein hallyriadau a chyfyngu ar gynhesu byd-eang pellach. Yn ogystal â'r perygl cynyddol o lifogydd, gallwn hefyd ddisgwyl mwy o effeithiau o stormydd, tywydd poeth, sychder a thanau gwyllt. Mae ein hymateb i berygl llifogydd yn rhan o'n dull cyfannol o feithrin cydnerthedd yn wyneb effeithiau pellgyrhaeddol newid hinsawdd ar draws pob cymuned a sector. Ar yr un pryd, rydym yn benderfynol o sicrhau tegwch, o ran sut y teimlir effeithiau newid hinsawdd ei hun ar draws cymdeithas a'r byd, ac o ran baich y mesurau a gymerwn i fynd i'r afael ag ef.

Mae'r Llywodraeth hon a Phlaid Cymru yn gweithio gyda'i gilydd er budd gorau ein cymunedau i ddysgu o'r gorffennol, gwneud newidiadau lle mae'r rhain yn angenrheidiol a datblygu arferion da. Bydd canlyniad yr adolygiadau rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn ein galluogi i wella'r ffordd yr ydym yn diogelu rhag llifogydd er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd i bawb yng Nghymru. Diolch.

16:20

Diolch i'r Gweinidog eto am ei datganiad. Gwyddom fod cymunedau ledled Cymru o ddyffryn Conwy i Rondda Cynon Taf wedi ei gwneud hi'n gwbl glir, dros yr adegau y maen nhw wedi gweld achosion brawychus o lifogydd, bod arnyn nhw eisiau gweld ymchwiliadau annibynnol yn cael eu cynnal. Yn wir, roedd deiseb a ddechreuwyd yn 2020 yn galw am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, ac er bod tua 6,000 o lofnodion, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cydweithredu. Yn yr un modd, mae galwadau am ymchwiliad i lifogydd yn nyffryn Conwy wedi'u rhwystro o'r blaen gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Gallaf atgoffa'r Gweinidog o'm rhan yn codi pryderon am achosion o lifogydd yn nyffryn Conwy. O 2016, cawsom nifer o broblemau llifogydd difrifol, ac ar y pryd, roeddem yn galw am gynnal ymchwiliadau annibynnol. Roedd llawer o sôn bryd hynny ynghylch pa mor dda roedd adroddiadau adran 19 mewn gwirionedd yn helpu i roi gwybod i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'n cymunedau pam roedd y digwyddiadau hyn yn parhau i ddigwydd.

Credaf mai un o'r pethau yr ydych chi'n dal i'w weld yn ei gydnabod yn eich datganiad yw bod ymchwiliadau adran 19 yn rhan annatod o sut mae Cymru yn rheoli perygl llifogydd, ond nid oes amserlen statudol ar gyfer cynnal neu gwblhau ymchwiliadau adran 19. Gwn am lifogydd yn fy etholaeth i—. Credaf fod un digwyddiad wedi gweld tua 60 i 70 o gartrefi wedi'u distrywio'n fawr, a gall gymryd hyd at ddwy flynedd ar gyfer y canlyniadau, yr ymatebion i'r adrannau 19 hynny. Felly, rwy'n gobeithio, gan fod yr Athro Evans bellach yn adolygu adroddiadau adran 19, mai un o'r pethau sylfaenol a ddaw o hynny fydd bod hynny'n gyfnod rhy hir o lawer, ac y dylai'r pethau hyn ddigwydd mor gyflym â phosibl.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn llafar eu cefnogaeth i ymchwiliadau annibynnol yn nyffryn Conwy a'r Rhondda, felly bydd yn ddiddorol gwybod beth yw eu barn yn awr. Nid yw'r cytundeb cydweithio yn addo ymchwiliadau priodol, dim ond yr adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol. Er y byddwn yn falch pe gallech amlinellu cylch gorchwyl yr adolygiad, a allwch chi gadarnhau y bydd pob adroddiad adran 19 a gyhoeddir yn dilyn llifogydd yn ystod gaeaf 2021 yn rhan o'r adolygiad hwn? Rwy'n ymwybodol nad yw argymhellion yr adroddiad hwnnw wedi'u gweithredu a'u cyflawni'n llawn hyd yma. Ydych chi'n cytuno y dylai'r gwaith ar yr argymhellion presennol barhau tra bo'r adolygiad hwn yn cael ei gynnal?

Roeddwn, wrth gwrs, yn aelod o'r ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd mis Chwefror 2020, a nododd ein hadroddiad a gyhoeddwyd yn 2020 bryd hynny fod swm y cyllid refeniw yn golygu nad oedd yr awdurdodau yn agos at fod yn gwbl barod a chydnerth, ac mae hynny er gwaethaf y newidiadau diarwybod yn yr hinsawdd y gwyddom y byddant yn ein hwynebu, ond dydym ni ddim yn gwybod y graddau. Yn wir, mae awdurdodau'n cael yr un faint o gyllid refeniw waeth beth fo'r perygl o lifogydd yn eu hardal. Felly, byddwn yn dweud wrth y Gweinidog fod angen inni wneud hyn yn awr lle mae'n cyfrif. Er enghraifft, derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 4.54 y cant o'r cyllid refeniw cenedlaethol, er bod ganddo 21 y cant o'r perygl llifogydd dŵr wyneb cenedlaethol i'w reoli. Roedd y pwyllgor a minnau'n glir y dylai dull Llywodraeth Cymru o ddyrannu refeniw ar gyfer llifogydd ystyried y perygl llifogydd presennol a'r perygl o lifogydd yn y dyfodol mewn ardaloedd awdurdodau lleol.

Mae gennyf gwestiwn i chi, Gweinidog. Fis Chwefror diwethaf, fe wnaethoch chi egluro bod dyrannu refeniw blynyddoedd y dyfodol yn seiliedig ar berygl llifogydd a/neu erydu arfordirol ar hyn o bryd neu yn y dyfodol yn rhywbeth y gallech ei ystyried. Ydych chi wedi penderfynu ystyried y perygl o lifogydd a ragwelir? Fel yr eglurodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn 2020, mae bellach yn bwysicach nag erioed i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid fod â threfniadau cadarn ar waith i ymateb i ddigwyddiadau o'r fath. Ond rydych yn gwybod beth yw fy marn i: dylem fod yn llawer mwy rhagweithiol a pheidio â chanolbwyntio ar fesurau adweithiol.

Mae tua 2,298 eiddo yng Nghymru, Llywydd, mewn perygl mawr o lifogydd llanw, mae 9,652 eiddo mewn perygl mawr o lifogydd afon, ac mae 35,278 eiddo mewn perygl mawr o lifogydd oherwydd dŵr wyneb. Yn wir, mae dros 245,000 eiddo ar hyn o bryd, wrth i mi  siarad yma heddiw, mewn perygl o lifogydd yng Nghymru. Gyda chymaint o risg i'w rheoli, credaf y byddai ein cenedl yn elwa o gael corff sydd gant y cant yn canolbwyntio ar liniaru llifogydd. Ac yn hytrach na disgwyl i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, sydd â chyfrifoldebau amrywiol, arwain ar lifogydd—a, gadewch inni fod yn onest, lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cwestiwn, nid oes ganddyn nhw ddigon o staff—ydych chi'n cytuno bod rhywfaint o resymeg bellach, Gweinidog, dros sefydlu asiantaeth llifogydd genedlaethol? Diolch.

16:25

Diolch, Janet. Dim ond i ddechrau'n union lle y gwnaethoch chi orffen, nac ydw, dydw i ddim yn meddwl hynny o gwbl. Rwy'n credu mai un o'r pethau y mae gwir angen inni ei wneud yw integreiddio'r gwaith hwn, a'r syniad bod gennych chi gwango ar wahân ar gyfer pob un agwedd o newid hinsawdd sy'n sefyll ar ei ben ei hun ac yn gwneud hynny ei hun—rwy'n credu bod hynny'n rysáit ar gyfer trychineb llwyr, fy hun. Felly, nid wyf yn cytuno â hynny o gwbl. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod â strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, sef yr hyn sydd gennym ni, ein bod yn gwneud hynny ochr yn ochr â'r holl bartneriaid y mae angen eu cynnwys yn hynny, ac mae hynny'n amrywiaeth eang iawn o bartneriaid, a'n bod yn deall sut olwg sydd ar y mesurau lliniaru hynny.

Mae'n hawdd dweud bod angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i liniaru'r risgiau hyn, ond yna bob tro y byddwn yn cynnig lliniaru, i wrthwynebu pob un unigol. Felly, er enghraifft, gyda chynlluniau draenio dŵr wyneb, sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i broblemau dŵr wyneb, mae eich plaid chi wedi dweud yn gyson eu bod yn atal datblygiad tai a phrosiectau adeiladu eraill. Ond maen nhw'n gwbl hanfodol os ydym ni am atal y perygl o lifogydd sydd gennym ni ac, yn wir, y perygl o orlifo i'n hafonydd gwerthfawr ac yn y blaen. Rhaid inni dderbyn, os ydym ni eisiau bod â'r cynlluniau hyn, nad yw'r mesurau lliniaru bob amser yn ddelfrydol ar gyfer pob un sector o gymdeithas ac mae'n rhaid i bob un ohonom ni addasu iddyn nhw. Yn yr un modd, ni allwn ni barhau i adeiladu ar orlifdiroedd a disgwyl i hynny fod yn berffaith iawn. Mae'n rhaid i ni addasu ein strategaethau ar gyfer adeiladu, byw a defnyddio adnoddau ein planed yn unol â hynny.

Rwyf hefyd wedi fy syfrdanu braidd gan ddechrau eich cyfraniad, Janet, oherwydd mae'n ymddangos eich bod yn dweud nad oedd yn yr adolygiad yn mynd rhagddo, pan mai holl ddiben fy natganiad yw cyhoeddi'r adolygiad yr oeddech wedi gofyn amdano. Felly, rwy'n ddryslyd braidd gan hynny. Ond i ddweud eto, rwy'n falch iawn bod yr Athro Evans yn cynnal yr adolygiad cwbl annibynnol hwn. Yn amlwg, un o'r pethau y bydd yn edrych arno yw a yw'r system yn addas i'r diben, sut mae'n integreiddio gyda'i gilydd a beth ddylai'r canlyniad gorau fod. Edrychaf ymlaen at dderbyn ei hargymhellion, ochr yn ochr ag Aelod dynodedig Plaid Cymru, a gallu gweithredu ar yr argymhellion hynny yn unol â hynny. 

Hoffwn i groesawu'r cyhoeddiad heddiw a diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog, am y datganiad. Mae cynnydd mewn llifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd yn peri risg enfawr i gymunedau, i unigolion ac i fusnesau yng Nghymru. Mae'n iawn ac mae i'w groesawu bod lleisiau a phrofiadau'r bobl a'r busnesau ledled Cymru yn mynd i gael eu clywed, drwy adolygiad annibynnol, er mwyn inni ddysgu sut i ddiogelu Cymru rhag llifogydd yn y dyfodol, i ddiogelu ein cymunedau mwyaf agored i niwed ac i atal digwyddiadau dinistriol cysylltiedig pellach.

Mae cyhoeddiad enw Elwen Evans fel yr unigolyn a fydd yn arwain a chadeirio'r adolygiad annibynnol yn rhywbeth, rwy'n meddwl, sydd i'w groesawu'n fawr hefyd. O ystyried ei gyrfa helaeth, rwy'n sicr y bydd hi'n cyflawni adolygiad trylwyr a theg a fydd yn rhoi rhyw sicrwydd i gymunedau lleol. Weinidog, y sicrwydd hwnnw a'r elfen o gysur yw'r eitemau neu'r elfennau y buaswn i'n hoffi ffocysu arnyn nhw y prynhawn yma.

Mae'r hyn a oedd wedi digwydd yn ystod stormydd 2020 wedi trawmateiddio pobl o hyd, a dydyn nhw ddim yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi pan fo'n glawio yn drwm hyd heddiw. Heb sicrwydd o'r problemau sy'n gorwedd tu ôl i'r achosion o'r llifogydd yma, a heb ddatrysiadau cadarn, bydd y torment yma yn mynd ymlaen. Mae cynnydd yr adolygiad hwn, wrth gwrs, yn gam pwysig ymlaen, ond allwch chi ddweud wrthym ni, plis, pa gymorth sydd ar gael i gefnogi iechyd meddwl y bobl hynny sydd wedi dioddef trawma ac effaith seicolegol niweidiol o achos llifogydd?

Rhywbeth a fyddai'n cynnig tawelwch meddwl ychwanegol fyddai systemau rhybuddio cynnar. Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatblygu, ariannu a chyflwyno systemau rhybudd cynnar fel y gellir rhybuddio cymunedau am lifogydd a thrychinebau naturiol cyn eu bod nhw'n digwydd. Byddai systemau o'r fath yn fendith, a byddwn i'n gofyn, plis, ichi, Weinidog, roi ymateb am y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym ni o ran cyflwyno'r systemau hyn a sut y byddan nhw'n cael eu hariannu.

Ac yn olaf, i droi nôl at yr arolwg a'r cylch gorchwyl, rwy'n falch bod yr adolygiad, sy'n digwydd oherwydd, wrth gwrs, dylanwad Plaid Cymru, yn adeiladu ar waith sydd wedi digwydd yn barod, gan gysoni'r holl argymhellion sydd wedi cael eu cyhoeddi yn barod. A allwch chi ddweud ychydig bach mwy am yr elfen hynny o'r cylch gorchwyl, os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr iawn. Sori, dwi ddim yn siŵr beth oedd wedi digwydd gyda'r sŵn, so sori fy mod i wedi torri hanner ffordd drwodd yn fanna.

16:30

Fe'ch clywais yn berffaith yr holl ffordd drwodd, yn sicr drwy'r cyfieithiad yn y fan yna, Delyth. Felly, diolch yn fawr am hynny. Dim ond o ran y sylwad olaf yn gyntaf, mae gennym ni nifer o adolygiadau'n mynd rhagddynt i elfennau ychydig yn wahanol o'r rhaglenni rheoli llifogydd ac arfordirol sydd gennym ni ar waith. Felly, heb gyfaddawdu mewn unrhyw ffordd ar allu'r Athro Evans i wneud unrhyw argymhellion y mae'n gweld yn dda i'w gwneud, rydym ni wedi gofyn iddi gysylltu â'r adolygiadau eraill ac i weld ble y gallant gynorthwyo ei gilydd heb ddyblygu. Ond ni allaf bwysleisio digon nad yw hynny'n rhwystro unrhyw un o'r adolygiadau rhag gwneud yr argymhellion y maen nhw am eu gwneud, ac os ydyn nhw'n anghyson, wel, yna bydd yn rhaid inni weld beth y gallwn ni ei wneud i ddatrys hynny. Ond rydym yn gobeithio, wrth gwrs, na fyddan nhw ac y bydd rhaglen gydlynol ar y diwedd, ond roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysicach bod â gwarant o annibyniaeth na cheisio gwneud iddyn nhw ddod i ryw fath o gasgliadau wedi'u stwnsio gyda'i gilydd. Rwy'n rhagweld, serch hynny, gan eu bod i gyd yn adolygiadau proffesiynol iawn, y bydd gennym ni gyfres gydlynol o ganlyniadau o'r adolygiadau hynny y byddwn yn gallu eu gweithredu.

Mae'r Aelod dynodedig, Siân Gwenllian, a minnau wedi bod yn glir iawn y bydd yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi. Adolygiad yr Athro Evans fydd hwn, ei phenderfyniad hi fydd yr hyn y mae'n ei ddweud, ond byddwn yn ei gyhoeddi ac yna byddwn yn ymateb iddo. Byddwn yn darparu ymateb gan y Llywodraeth i hynny ac ymateb ar y cyd i hynny a byddwn yn cyhoeddi'r ymateb i hynny ac yna byddwn yn gweithredu'r argymhellion o ganlyniad i hynny. Felly, rydym yn glir iawn ynglŷn â hynny.

Mae'r adolygiad hefyd yn cael cyfle i estyn allan at aelodau etholedig mewn ardaloedd yr effeithir arnyn nhw a gofyn yn benodol am sylwadau yn ôl gan yr aelod etholedig hwnnw. Nawr, ni allaf bwysleisio digon nad ymchwiliad cyhoeddus yw hwn, felly nid ydym yn chwilio am dystiolaeth o'r math hwnnw. Ond teimlwn ei bod hi'n debygol y bydd aelodau etholedig yn gallu adlewyrchu'r safbwyntiau a'r trawma a brofwyd gan y cymunedau a ddioddefodd y llifogydd ac y bydd yr aelodau etholedig mewn sefyllfa dda i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig i'r adolygiad o'r teimladau hynny ac ar ôl hynny. Ac rwy'n siŵr y bydd yr argymhellion yn dilyn. Ni ddylai'r un Aelod deimlo ei fod wedi'i rwystro rhag darparu'r dystiolaeth honno'n rhagweithiol, ond bydd yr Athro Evans, mae'n siŵr gen i, yn estyn allan yn benodol iawn at Aelodau'r Senedd hon a Senedd San Steffan mewn meysydd yr effeithiwyd arnyn nhw yn arbennig, ac rydym ni i gyd yn gwybod pa rai yw hynny; rydym ni wedi eu trafod yn sylweddol. Felly, gobeithio y byddwn yn gallu cael rhyw argoel o'r mathau o drawma ac yn y blaen, a pha fath o gefnogaeth yr hoffai'r gymuned ei gweld o ganlyniad i hynny, Delyth. Rydym ni wedi darparu rhywfaint o gefnogaeth drwy'r fforymau cydnerthu a'r awdurdodau rheoli perygl llifogydd, ond un o ddibenion yr adolygiad yw mynd at wraidd rhai o'r materion personol hynny, os mynnwch chi, am yr hyn sy'n digwydd pan nad ydych chi'n teimlo'n ddiogel.

O ran y systemau rhybuddio cynnar, nid oes gennyf unrhyw broblem gyda systemau rhybuddio cynnar. Yr anhawster sydd gennym ni yw bod rhai o'r achosion o lifogydd ledled Cymru—mewn gwirionedd, nifer fawr o'r rhai gwaethaf—o ganlyniad i fflachlifogydd sydyn a achoswyd gan dywydd eithafol. Felly, nid wyf yn arbenigwr yn hyn o beth, ond mae'n ymddangos yn anodd iawn i mi ddeall yn iawn sut y byddai hynny'n gweithio. Ond byddwn yn ymchwilio iddo. Gwyddoch fod gennym ni ragfynegiadau tywydd da iawn, felly bu modd inni ddosbarthu'r llifddorau a'r bagiau tywod ac ati, ond nid oes amheuaeth o gwbl y cawsom ein synnu gan ddifrifoldeb rhai o'r stormydd yn 2020 a 2021, a gwelsom ganlyniad hynny, oni wnaethom ni? Ac roeddem yn lwcus iawn dros y gaeaf diwethaf—byddaf yn ofergoelus am funud a chyffwrdd â'r ddesg bren yma, oherwydd nid ydym ni wedi cefnu'n llwyr ar dymor y stormydd eto—na chawsom ailadroddiad o hynny. Ond dyna un o'r materion, onid e, oherwydd mae'r digwyddiadau tywydd eithafol hyn, a arferai fod yn brin iawn, yn dod yn fwyfwy cyffredin, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm y mae angen i ni adolygu unwaith eto a yw ein dull cydnerthu o ymdrin â hyn a'n cynllunio ymlaen llaw yn addas i'r diben.

A dim ond i ddweud un peth olaf, nid ydym yn aros am ganlyniad yr adolygiad. Cymerodd y Prif Weinidog a minnau ran mewn hyfforddiant cydnerthedd ar gyfer yr holl gyrff cydnerthu ledled Cymru a'r gwasanaethau brys a'r ymatebwyr cyntaf, dim ond i wneud yn siŵr, cyn y gaeaf diwethaf, ein bod yn y sefyllfa orau i allu ymateb pe bai angen. Felly, dim ond rhoi sicrwydd i gymunedau ledled Cymru nad oes neb yn aros am ganlyniad yr adolygiad cyn rhoi'r pethau hynny ar waith.

16:35

Gweinidog, rwy'n croesawu'r ffaith bod perygl llifogydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae'n frawychus ac yn ddinistriol, ac rwy'n croesawu'r pecyn ariannu hwn hefyd ar ei gyfer. Ni all llawer o'n hen systemau draenio gymryd faint o law o fath monsŵn yr ydym ni'n ei brofi'n amlach, ac mae angen gwagio ceunentydd a systemau draenio ar ochr y ffordd yn amlach. Hefyd, mae angen mapio pwy sy'n gyfrifol am ffosydd, cwlfertau a chyrsiau dŵr, fel bod preswylwyr yn gwybod â phwy i gysylltu, yn ogystal â deall pa fesurau y gallan nhw eu hunain eu cymryd os oes rhybudd llifogydd ar waith. Cofiaf ein bod wedi arfer cael rhybuddion llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â'r Swyddfa Dywydd fel awdurdod lleol, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Yn dilyn toriadau mewn cyllid gwasanaethau cyhoeddus yn ystod blynyddoedd o lymder, rydym wedi colli'r arbenigedd y mae awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn cystadlu amdano i ymdrin â draenio ac i helpu trigolion hefyd. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gan weithio gydag awdurdodau cyhoeddus, i gynyddu'r arbenigedd ac i helpu trigolion i ymdrin â'r llifogydd cynyddol hyn? Ac ymddiheuriadau, efallai mai cwestiwn i'r Gweinidog llywodraeth leol mewn gwirionedd oedd hwn. Felly, diolch.

Felly, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Weinidog y Gweinidog llywodraeth leol, ar y materion hyn, ac rydym ni wedi cael llawer o drafodaethau gyda chydweithwyr llywodraeth leol ynglŷn â pharatoi ar ei gyfer a sut maen nhw'n gweithio a sut mae'r ymatebion i lifogydd—. Ac mae gan yr awdurdod lleol ymatebwyr golau glas mewn nifer o feysydd sy'n gweithio mewn gwirionedd.

Rydym ni newydd gael yr etholiadau llywodraeth leol yn amlwg, felly bydd y timau cabinet newydd yn cael gwybod, a bydd fy nghyd-Aelod Rebecca Evans a minnau'n cael cyfres o gyfarfodydd gydag amrywiol aelodau cabinet newydd yn gyffredinol, i gwrdd â nhw'n gyntaf a'u croesawu i'w swyddogaethau, ond hefyd i ddeall yr hyn sy'n ofynnol o ran hyfforddiant, cymorth a dim ond gwneud y cysylltiadau hanfodol hynny i sicrhau ein bod i gyd yn gweithio'n hapus gyda'n gilydd. Ac eto, mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog llywodraeth leol a minnau'n ei rannu ychydig o ran pa grwpiau yr ydym yn cwrdd â nhw, ond rydym ni'n dod â'r cyfan yn ôl at ei gilydd drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i sicrhau bod gennym ni raglen gydlynol, ac yn amlwg wedi'i harwain gan Rebecca yn y rhan gyffredinol o hynny.

Rhan o ddiben rhai o'r adolygiadau yr ydym ni wedi'u cynnal, yn enwedig gan y pwyllgor, yw gweld lle mae'r cyfrifoldeb ar hyn o bryd, a bod y rheoliadau sy'n gyrru'r ymateb hwnnw yn rhai priodol. A yw'n addas i'r diben, a oes gennym ni'r rhaniad cywir rhwng cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, y cwmnïau dŵr, awdurdodau lleol? Wyddoch chi, a yw hynny'n gywir? Felly, rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd gyda chanlyniad hynny, ac yna trafod sut y mae'r drefn newydd honno, os yw'n newydd, yn gweithio, neu os mai'r canlyniad yw ei bod yn addas i'r diben ar hyn o bryd, i ymgorffori hynny. Felly, rydym ni'n aros am ganlyniad yr adolygiad, mewn gwirionedd, i edrych ar hynny, wedi'i lywio'n rhannol gan yr angen i sicrhau bod gennym ni staff medrus er mwyn gallu staffio hynny. Nid wyf am ragfarnu canlyniad yr adolygiad, ond mae'n ymddangos yn eithaf gwasgaredig ar hyn o bryd, felly rwy'n rhagweld y byddan nhw'n gwneud rhai argymhellion ynghylch sicrhau bod gennym ni'r staff medrus hynny yn y lle cywir yn yr asiantaeth gywir.

Rwy'n ddiolchgar ichi, Gweinidog, am eich datganiad. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â syrfëwr siartredig sy'n cynrychioli ystâd hanesyddol yn ne sir Benfro sydd ar hyn o bryd yn edrych ar gynlluniau i gynyddu hyfywedd tafarn, sydd yn digwydd bod wrth ymyl afon. Mae rhan o'r cynlluniau hyn yn golygu bod llety'n cael ei greu mewn ystafelloedd i fyny'r grisiau, llawr cyntaf y dafarn, a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer storio, ychwanegu at y man preswyl a ddefnyddir ar hyn o bryd gan landlord y dafarn, hefyd ar y llawr cyntaf. Fodd bynnag, mae'r eiddo wedi'i leoli ar orlifdir categori C2 parth C2, ac o ystyried hyn, mae'r parc cenedlaethol wedi gwrthod y cais. Fodd bynnag, nid oes cynnydd yn ôl troed yr eiddo, dim llety preswyl ar y llawr gwaelod, felly nid oes mwy o berygl o lifogydd na'r hyn sydd ar hyn o bryd. Yn wir, ni welodd Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw reswm dros wrthwynebu'r cais.

Byddaf hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i bwysleisio unwaith eto fod busnesau sydd wedi'u lleoli ar hyd afon Tywi ar gei Caerfyrddin hefyd wedi wynebu rhwystredigaeth gyda diffyg blaenoriaeth i ddiogelu busnesau a buddiannau economaidd rhag llifogydd. Gweinidog, mae'r ddau fater hyn yn dangos anghydbwysedd mewn rheoliadau cynllunio, lle mae busnesau hyfyw a llwyddiannus yn cael eu cosbi am geisio buddsoddi a gwneud gwelliannau. Felly, a gaf i bwyso arnoch chi i annog awdurdodau cynllunio i roi'r gorau i'r dull mwy caeth o weithredu canllawiau cynllunio a mabwysiadu dull mwy pragmatig? Diolch, Llywydd.

Wel, diolch, ac, yn amlwg, ni allaf wneud sylw am geisiadau cynllunio unigol—nid oes gennyf yr holl fanylion ac ni fyddai'n briodol i mi fel y Gweinidog cynllunio—ond rwyf yn derbyn y sylw yr ydych yn ei wneud. Mae yna nifer o bethau i'w hystyried wrth ddatblygu ar orlifdir, sef yr hyn yr ydych chi'n ei ddisgrifio, wrth gwrs, yn union wrth ymyl afon. Achubaf ar y cyfle hwn, Llywydd, i ddweud fy mod wrth fy modd bod y Prif Weinidog wedi cytuno i gadeirio uwchgynhadledd ynghylch y mater o ffosffad ac adeiladu ar orlifdir sy'n broblem wirioneddol ledled Cymru, ac y bydd yr uwchgynhadledd honno'n cael ei chynnal ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf, a bydd yn cadeirio hynny gyda nifer o arbenigwyr a rhanddeiliaid yn dod at ei gilydd yn yr uwchgynhadledd honno, i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr a fydd yn gofyn am gyfaddawd ar bob ochr, ond mae gwir angen inni fynd at wraidd yr hyn sy'n fater anodd iawn mewn rhannau helaeth iawn o Gymru. Felly, achubaf ar y cyfle hwnnw i wneud y cyhoeddiad hwnnw, ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi cytuno i wneud hynny.

Yr hyn y byddwn ni hefyd yn ei wneud yw edrych, fel rhan o'r adolygiadau hyn, i weld a ellir adolygu pethau fel beth yw'r canllawiau cynllunio ar gyfer datblygu gorlifdir ac yn y blaen, p'un a yw pethau fel peidio â datblygu ar y llawr gwaelod a datblygu ar y lloriau uwch ben yn ateb ai peidio. Ac, a bod yn onest, mae hynny'n gymhleth iawn, nid yw'n ymwneud â'r llifogydd yn unig, mae hefyd yn ymwneud â phe baech yn creu man preswyl yn y fan honno, rydych yn rhoi systemau carthion a dŵr ac yn y blaen yno, rydych chi'n rhoi draeniad wyneb ychwanegol ac yn y blaen, hyd yn oed os nad yw'r ôl troed yn cynyddu, felly mae problem gyffredinol ynghylch cydnerthedd y systemau o amgylch hynny, a dyna beth sydd a wnelo'r mater ffosffad ag o ac yn y blaen. Felly, mae arnaf ofn ei fod ychydig yn fwy cymhleth.

Ond rwyf yn deall y rhwystredigaeth yn llwyr. Un o'r pethau eraill yr ydym yn ymchwilio iddo—. Ataliais y broses o weithredu nodyn cyngor technegol 15. Un o'r rhesymau y gwnaethom hynny oedd ein bod am edrych eto ar effaith amddiffynfeydd rhag llifogydd pan gânt eu rhoi ar waith mewn dalgylchoedd afonydd, a ddylent wedyn ganiatáu'r datblygiad ymhellach i lawr yr afon ai peidio ac o dan ba amgylchiadau, pa raddau o amddiffyn rhag llifogydd sydd ei hangen arnoch, beth mae'n ei ddiogelu yn erbyn ac yn y blaen, oherwydd bod ein prif ddinasoedd a'n cytrefi ledled Cymru a llawer o'n trefi marchnad ffyniannus ac aneddiadau eraill wedi'u hadeiladu ar yr arfordir ar aber afon, oherwydd dyna lle mae'r fasnach yn digwydd ac yn y blaen. Mae hynny'n peri problemau mawr inni. Does arnom ni ddim eisiau, yn amlwg, lesteirio datblygiad y dinasoedd, y trefi a'r aneddiadau bywiog hynny ledled Cymru, ond ar yr un pryd mae angen i ni eu diogelu rhag yr argyfwng hinsawdd ac o beryglon llifogydd o ddydd i ddydd, ac mae angen inni ddiogelu ein hafonydd rhag y problemau sydd gennym ni o ran ffosffad a nitradau. Felly, mae'n broblem wirioneddol gymhleth. Rydym ni'n edrych ar wahanol agweddau arno, ac rwyf wrth fy modd y bydd y Prif Weinidog yn cadeirio'r uwchgynhadledd honno yn y Sioe Frenhinol.

16:40

Gweinidog, rwy'n croesawu hyn yn fawr a'r hyn sydd wedi'i gyflawni drwy'r cytundeb cydweithio. Rwy'n sicr yn croesawu penodiad yr Athro Evans hefyd, ac edrychaf ymlaen fel Aelod etholedig at gyfrannu at hynny. Fe'm calonogwyd gan eich ymrwymiad—oherwydd, yn amlwg, nid ydym wedi gweld y cylch gorchwyl fel Aelodau eto—y bydd lleisiau a phrofiadau'r dioddefwyr hynny'n gallu cyfrannu at y broses hon. Mae hynny i'w groesawu'n fawr.

Dylwn gefnogi Janet Finch-Saunders o ran y sylw a wnaeth am yr ymchwiliad annibynnol, gan mai fi ddechreuodd y ddeiseb honno mewn swyddogaeth wahanol. Mae hyn yn wahanol i'r ddeiseb honno, gan mai adolygiad ydyw, ond, yn amlwg, mae llawer i'w groesawu ein bod yn awr o'r diwedd yn gallu gweithio ar y cyd i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu i lywio'r dyfodol, oherwydd, wedi'r cyfan, nid yw'n ymwneud â dosrannu bai, ond sicrhau bod cymunedau'n teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi, a bod busnesau'n ddiogel yn y dyfodol.

Dim ond eisiau gofyn oeddwn i am eglurhad ar un mater. Rydych chi wedi sôn am adroddiad adran 19, ac fel y gwyddoch chi, nid yw pob adroddiad adran 19 wedi eu cyhoeddi eto, a hefyd, lle maen nhw wedi eu cyhoeddi, nid yw trigolion o reidrwydd yn fodlon â'r adroddiadau hynny. Hefyd, nid yw'n ofynnol cyhoeddi adroddiadau ymchwiliadau llifogydd ar hyn o bryd, felly a fydd y rheini hefyd yn cyfrannu at yr adolygiad hwn fel y caiff y rheini eu hystyried fel ein bod hefyd yn ystyried sut yr ydym ni'n gwbl dryloyw am yr adroddiadau hyn yn y dyfodol?

Bydd, felly bydd yr holl adroddiadau, a gyhoeddir neu beidio, ar gael i'r adolygiad. Mae'n amlwg bod yr adolygiad yn destun cyfrinachedd ac yn y blaen, ond byddant yn destun yr adolygiad, yn sicr. Un o'r pethau yr wyf yn disgwyl yn ganlyniad i'r adolygiad yw gwell canllawiau ynghylch pryd, sut a ble y dylid cynhyrchu adroddiadau adran 19, amserlen o bosibl, er nad wyf eisiau dylanwadu arno mewn unrhyw ffordd, ac mae yna broblemau gydag amserlenni, oherwydd hoffwn i bobl yn bersonol wneud pethau'n iawn, yn ogystal ag yn gyflym. Felly, byddwn yn gweld beth a ddaw yn sgil yr adolygiad, ond disgwyliaf i'r eglurder hwnnw gael ei gyflwyno o ganlyniad iddo.

Mae mwy o faterion, felly cynhyrchodd Cyfoeth Naturiol Cymru mewn gwirionedd rai adroddiadau dros y gaeaf hwnnw—nid oes rhaid iddyn nhw wneud hynny, felly mae cwestiwn a ddylen nhw fod wedi gwneud hynny neu a ddylen nhw wneud hynny; mae yna rai materion yn bodoli hefyd. Bu i awdurdodau eraill dan sylw, yr awdurdodau dŵr ac awdurdodau eraill, gynhyrchu adroddiadau, ond ni fu i rai eraill wneud, felly rwy'n disgwyl i'r adolygiad edrych ar y sefyllfa honno a gweld beth ddaw i'r amlwg.

Unwaith eto, mae'r pwyllgor sy'n edrych ar y fframwaith rheoleiddio ar gyfer hyn hefyd yn edrych i weld a yw'r holl reoliadau hyn yn rhoi cyfrifoldeb ar y corff priodol, ar yr asiantaeth gywir ac yn y blaen. Felly, unwaith eto, rwy'n ymdrechu'n daer i beidio â dylanwadu ar ddim o hyn, ond, yn amlwg, ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chwmnïau dŵr ac ymatebwyr eraill rywfaint o gyfrifoldeb. Ydy hynny'n briodol? Ydy hynny'n gweithio? Rydym yn disgwyl i'r pwyllgor allu gwneud rhai argymhellion i ni ynghylch a yw'n gwneud hynny a sut i ymgorffori'r agweddau hynny os yw'n briodol, ac, os nad yw'n briodol, beth i'w wneud yn ei gylch. Felly, edrychaf ymlaen at hynny.

Ac yna, o ran hyder y cyhoedd yn yr adroddiadau, mae'n amlwg y bydd yr adolygiad yn edrych ar hynny. Cafodd Siân Gwenllian a minnau gyfarfod da iawn gyda'r Athro Evans ac mae hi wedi gofyn ers peth amser i gael golwg ar gwmpas hyn—mae yna lawer o adroddiadau i edrych arnyn nhw—a hefyd i ystyried pa ysgrifenyddiaeth sydd ei hangen arni a pha gefnogaeth sydd ei hangen arni. Mae hi'n mynd i gysylltu'n ôl â ni, rwy'n credu o fewn y mis yw'r hyn y cytunwyd arno, i roi argoel well o leiaf i ni ynghylch sut olwg allai fod ar hynny, er nad wyf am ei dal at hynny; rwy'n awyddus iawn y caiff hyn ei wneud yn iawn yn hytrach nag yn gyflym—o fewn ffiniau, yn amlwg; dydyn ni ddim eisiau iddo gymryd degawd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hi'n cysylltu, ac mae gen i bob hyder y bydd hi. Ymgymerodd ag adroddiad yn fy etholaeth fy hun, os gwnaiff y Llywydd faddau imi am fynd ar drywydd hynny am eiliad, sy'n gymhleth iawn ac yn ddadleuol iawn yn y gymuned, a gwnaeth waith rhagorol yn annibynnol ac yn gadarn iawn ar hynny. Felly, edrychaf ymlaen at ddull tebyg iawn o ymdrin â hyn.

16:45

Diolch am eich datganiad, Gweinidog, a hoffwn hefyd ddiolch ar goedd i chi am y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud hyd yma i weithio gyda chymunedau i leihau'r perygl cynyddol o lifogydd a welwn o ganlyniad i newid hinsawdd ac am eich cyhoeddiad o dros £71 miliwn, y pecyn buddsoddi mwyaf erioed yng Nghymru i leihau'r perygl o lifogydd.

Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi gyfeirio at ymchwiliadau adran 19 sy'n galluogi awdurdodau lleol i wella modelau data. Hoffwn ofyn am eglurhad yma ynghylch pwy sy'n gyfrifol am greu a chynnal y modelau data hyn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd hyn yn dod o dan gylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru, felly byddwn yn croesawu eglurhad pellach ar hynny.

Yn ail, hoffwn godi'r mater bod rhai cymunedau, fel Cwm Cynon, yn ystod stormydd 2020, wedi profi llifogydd dinistriol o afonydd nad oedd data blaenorol yn cael eu cadw ar eu cyfer. Yn fy nhrafodaethau â Cyfoeth Naturiol Cymru, dywedwyd wrthyf fod y diffyg data hwn yn rhwystr llwyr i allu adeiladu achos i wneud cais llwyddiannus am amddiffynfeydd rhag llifogydd. Felly, hoffwn ofyn pa waith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw'r cymunedau hyn o dan anfantais o ran cael eu hamddiffyn rhag llifogydd yn y dyfodol pan fo bodolaeth data blaenorol yn allweddol ar hyn o bryd i lunio achos llwyddiannus dros ariannu amddiffynfeydd rhag llifogydd.

Diolch yn fawr am hynny, Vikki, a diolch am eich geiriau caredig. Felly, rhan o'r hyn yr ydym yn edrych arno yw pwy sy'n gyfrifol am ba ran o hyn, o ble y daw'r data, pwy sy'n gyfrifol am ei gasglu a'i gadw ac yn y blaen, ac, fel y dywedais, mae gennym ni nifer o gyfrifoldebau sydd wedi eu rhannu. Mae'n ddigon posibl mai'r neges fydd, 'Mae hynny'n dda, ond mae angen i chi wneud x, y, z', neu, 'Nid yw hynny'n dda ac asiantaeth benodol ddylai fod yn gyfrifol amdano.' Felly, dyna un o'r pethau yr ydym ni am gael golwg arno. A hefyd, ar hyn o bryd, mae adroddiad adran 19 yn llywio gwaith yr awdurdod sy'n ei gynhyrchu: a ddylai fod yn ehangach na hynny? Beth yw'r gwersi i'w dysgu ar draws ffiniau ac ati? Ac yna, yr un olaf yw: beth yw rhan y gymuned leol wrth gyfrannu at hynny? Dydyn nhw ddim yn arbenigwyr, ond mae ganddyn nhw brofiad o fyw gyda hynny. Felly, rydym yn disgwyl, yn y gwahanol adolygiadau a gynhelir, y bydd y materion hynny'n dod yn ôl atom yn rhan o hynny.

Ac yna rwyf wedi cael sgwrs dda iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am yr hyn a elwir yn adolygiad sylfaenol o'r gwaith a wnânt, i fynd drwy'r holl adnoddau sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd, lle cânt eu defnyddio ar hyn o bryd, p'un ai hynny yw'r defnydd gorau ai peidio a sut y gellir eu hadleoli tuag at ein blaenoriaethau, ac rydym yn gwneud darn o waith am sut mae eu cyllid yn gweithio o ran incwm ac yn y blaen, yr wyf yn gobeithio adrodd arnynt i'r Senedd yn ddiweddarach yn yr haf, a fydd, yn fy marn i, yn egluro rhai o'r materion hynny hefyd.

Diolch. Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Rwy'n ddigon ffodus o gynrychioli tref neu bentref prydferth Llanfair Talhaearn yng Ngorllewin Clwyd, ond, yn anffodus, mae honno'n gymuned sydd wedi dioddef llifogydd bum gwaith ers 2008. Ar bob un o'r achlysuron hynny, cafwyd adroddiadau ac ymchwiliadau ac argymhellion, gan gynnwys argymhellion yn 2012 i wneud rhywfaint o fuddsoddiad cyfalaf ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y gymuned honno. Dim ond yn awr y maent yn gweithredu ail gam yr argymhellion hynny a'r gwaith y mae angen ei wneud. Mae 10 mlynedd ers hynny, Gweinidog, ac, yn y cyfamser, mae'r gymuned honno wedi dioddef llifogydd eto, yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, yn gynnar yn 2020, ym mis Chwefror 2020. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud drwy'r adolygiad hwn ac unrhyw beth sy'n deillio ohono i sicrhau, pan wneir argymhellion i wella amddiffynfeydd, eu bod yn cael eu cyflawni mewn modd amserol, nid degawd? Fe wnaethoch chi ddweud nad ydych am i'r adolygiad hwn gymryd degawd i wneud ei waith; nid oes arnaf eisiau i Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd degawd i weithredu gwelliannau y mae mawr eu hangen i amddiffynfeydd rhag llifogydd mewn pentrefi fel Llanfair Talhaearn yn y dyfodol.

16:50

Ydw, wel, rydw i’n falch ei fod yn digwydd nawr, beth bynnag, Darren Millar, ac mae'n hardd iawn, rydych chi’n llygad eich lle, ac rydw i’n falch iawn i'r trigolion fod yr amddiffyniad hwnnw rhag llifogydd yn mynd rhagddo. Felly, rhan o'r cyhoeddiad rwyf i newydd ei wneud yw'r cyhoeddiad am y cynnydd yn y cyllid ar gyfer gwaith cyfalaf, gwahaniaethau wrth weithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod gennym ni set â blaenoriaeth o waith mae angen iddyn nhw fynd rhagddynt, a byddan nhw'n cael eu llywio gan yr adroddiadau amrywiol a ddaw i'r amlwg.

Rydym ni hefyd, fel rhan o'r broses o oedi ac adolygu TAN 15, wedi gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynhyrchu asesiad difrifol o'r achosion o reoli llifogydd. Felly, bydd yn asesu'r risg yn eu hardal a bydd yn cyflwyno rhaglen dros yr 20 mlynedd nesaf o amddiffynfeydd rhag llifogydd a dulliau lliniaru llifogydd naturiol eraill, risgiau ac yn y blaen, i alluogi diogelwch pobl yn eu cartrefi a hefyd datblygiadau ychwanegol pan fo hynny'n angenrheidiol neu'n briodol. Felly, gobeithio ein bod ni wedi gwella hynny'n sylweddol iawn. Dydw i ddim yn gwybod pam y cymerodd 10 mlynedd—nid oes gen i ddigon o wybodaeth i allu gwneud sylwadau ar hynny—ond rwy’n credu y bydd yr hyn rwyf fi wedi'i gyhoeddi heddiw yn gwella'n sylweddol y llif o raglenni llifogydd a gallu'r awdurdod lleol i asesu'r angen blaenoriaethol a rhoi'r rheini ar waith.

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin

Y datganiad nesaf, felly, yw'r un gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ddiweddariad ar Wcráin, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n gobeithio dod o hyd i noddfa yng Nghymru. Yn ystod y pythefnos ers i mi ddarparu datganiad llafar ar y mater hwn ddiwethaf, rydym ni wedi croesawu llawer o gymdogion a ffrindiau newydd o Wcráin. Mae Llywodraeth y DU wedi dechrau cyhoeddi data cyrraedd cynllun Cartrefi i Wcráin am y tro cyntaf ac, o 10 Mai, roedd Cymru wedi croesawu 1,126 o bobl o Wcráin, yn ogystal â'r rhai sy'n cyrraedd o dan gynllun teulu'r Wcráin, a'n braint yw gallu darparu noddfa i bob un o'r rhai sy'n cyrraedd.

Hoffwn ddiolch i lywodraeth leol am y gwaith gwirioneddol ragorol maen nhw’n ei wneud i baratoi ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd ac i’w cefnogi. Mae graddfa'r archwiliadau eiddo, gwiriadau diogelu a datrys materion newydd maen nhw wedi ymgymryd â nhw wedi bod yn rhyfeddol. Ac rydym ni’n gweld gwelliannau yn yr amser cyfartalog mae Llywodraeth y DU yn ei gymryd i ystyried a chymeradwyo fisâu, ond mae problemau o hyd gyda'r ffordd mae'r system yn gweithredu, yn enwedig yr anallu i gyflwyno ceisiadau teulu wedi'u grwpio, sy'n golygu bod grwpiau mawr weithiau'n cael eu hatal rhag teithio oherwydd bod dim ond un fisa ar goll. Rwyf i wedi codi hyn gyda Gweinidog Ffoaduriaid y DU ac wedi cael sicrwydd y bydd hyn hefyd yn gwella cyn bo hir.

Rydym ni’n falch o weld dros 1,000 o bobl o Wcráin yn cyrraedd Cymru, ond mae fisâu tair gwaith y nifer hwnnw wedi cael eu cymeradwyo. Rydym ni’n monitro hyn yn ofalus ac yn ceisio deall y rhesymau pam nad yw pobl yn cyrraedd mewn niferoedd uwch ac os oes rhwystrau eraill sy'n atal teithio y gallem ni fynd i'r afael â nhw.

Rydym ni’n bryderus o hyd am y risgiau diogelu a gyflwynir drwy baru anffurfiol ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin. Rydym ni’n parhau i annog aelwydydd o Gymru sy'n dymuno bod yn noddwyr i gael eu paru drwy sefydliadau ag enw da fel Reset neu gysylltu â'u hawdurdod lleol, ac rydym ni’n parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac ar draws gwledydd y DU ar y materion hollbwysig hyn.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gysylltu â phob aelwyd yng Nghymru a oedd wedi mynegi diddordeb yn y cynllun Cartrefi i Wcráin i ofyn a oedd ganddyn nhw ddiddordeb o hyd mewn cymryd rhan ond nad oedden nhw wedi dod o hyd i deulu i’w paru gyda nhw eto. Rydym ni wedi cael ymateb cadarnhaol iawn hyd yn hyn, a byddwn ni’n gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau y gellir gwirio'r cynigion hynny i ffurfio ffynhonnell o gynigion llety diogel. Gellir defnyddio'r rhain pan fydd lleoliadau cychwynnol yn dod i ben ac fel cyrchfannau eilaidd unwaith y bydd pob teulu'n barod i symud ymlaen o ganolfan groeso.

I'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd Cymru, yn ddiweddar cyhoeddwyd y byddai ein cynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim yn cael ei ymestyn. I ddechrau, roeddem yn gallu cynnig teithio am ddim ar y rheilffyrdd i bobl o Wcráin a ffoaduriaid newydd; fodd bynnag, yr wythnos diwethaf, roeddem ni’n gallu cyhoeddi'r tocyn croeso am ddim ar gyfer teithio ar fysiau, lle bydd cwmnïau bysiau sy'n cymryd rhan hefyd yn darparu'r cynnig hwn. Gellir dod o hyd i'r rhestr o gwmnïau bysiau sy'n cymryd rhan drwy chwilio am 'docyn croeso' yn llyw.cymru. A hoffwn ddiolch i bob cwmni bysiau sydd wedi ymuno â'r cynllun hwn, ac rwyf i hefyd yn annog eraill i wneud hynny, fel y gallwn sicrhau y gall pobl Wcráin a ffoaduriaid ym mhob rhan o Gymru elwa.

Yn ogystal â hyn, rydym ni wedi gallu cyhoeddi cynllun mynediad am ddim Cadw i'w safleoedd ledled Cymru. Roedd Cadw eisoes wedi bod yn cefnogi ein gweledigaeth cenedl noddfa ers nifer o flynyddoedd drwy ymweliadau â chymorth am ddim i geiswyr lloches. Fodd bynnag, mae cynnig mynediad am ddim bellach wedi'i ehangu i sicrhau y gall unrhyw geisiwr noddfa yng Nghymru elwa.

Rydym ni wedi wynebu rhai heriau anodd ers i ni ddechrau croesawu pobl sy'n dianc rhag y gwrthdaro ac rydym ni’n gweithio drwy'r rhain mor gyflym a gofalus ag y gallwn ni. Rwy'n ymwybodol nad yw rhai plant sy'n cyrraedd wedi gallu ymuno â'u cyd-ddisgyblion newydd yn yr ysgol eto. Rydym ni’n ceisio lleihau'r risgiau o TB sy'n gwrthsefyll cyffuriau, sy'n parhau i fod yn fygythiad i iechyd y cyhoedd yn Wcráin, drwy ddarparu sgrinio TB ar gyfer pob un sy'n cyrraedd. Mae'r prif swyddog meddygol wedi cyhoeddi cyngor diwygiedig, gan argymell y gall plant oedran ysgol gynradd ddechrau'r ysgol cyn eu sgrinio oherwydd y risg isel. Y cyngor o hyd yw y dylai plant oedran ysgol uwchradd gael eu sgrinio cyn dechrau'r ysgol, ac mae hyn yn cael ei adolygu'n barhaus wrth i ni gasglu mwy o ddata am nifer yr achosion drwy'r rhaglen sgrinio.

Rydym ni’n gweithio'n agos gyda phrifysgolion a cholegau i sicrhau bod gwersi Saesneg ar gael mor eang â phosibl. Rydym ni’n ceisio defnyddio'r ganolfan ganolog asesu ESOL ranbarthol, neu REACH, model ar y cyd ag asiantaethau eraill yn y canolfannau croeso i sicrhau y gellir asesu unigolion a darparu'r lefel gywir o ymyrraeth. Rwy’n gwybod bod Prifysgol De Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf eisoes wedi dechrau dosbarthiadau ESOL anffurfiol i redeg drwy gyfnod yr haf, ac rydym ni’n dod ag awdurdodau lleol a phrifysgolion ynghyd ledled Cymru i ehangu'r dull hwn.

Yn olaf, rydym ni’n gweithio'n agos gyda sefydliadau'r trydydd sector i sicrhau, wrth i bobl gyrraedd, bod llwybrau ar gyfer cyngor a chymorth ar gael iddyn nhw. Rwyf i bellach yn cadeirio gweithgor i gydlynu ymdrechion gyda'r trydydd sector, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac rydym ni’n gweithio i sicrhau partneriaid sy'n gallu darparu gwasanaethau cyngor ac eiriolaeth yn fuan. Dros y penwythnos fe welsom enghraifft gadarnhaol iawn o'r bartneriaeth hon yn gweithio gyda'r trydydd sector, gan fy mod wrth fy modd y gallem weithio'n agos gyda Citizens UK Cymru i ddod â 18 o bobl Wcráin i Gymru gyda’i gilydd. Bydd gwaith pellach yn digwydd yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

16:55

Yn eich diweddariad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Wcráin ddydd Iau diwethaf, fe wnaethoch chi gyfeirio at ffigurau diweddaraf Llywodraeth y DU, a oedd yn nodi, ar 10 Mai, fod 3,300 o fisâu wedi'u rhoi i bobl o Wcráin i ddod i Gymru drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin, sydd i fyny o 1,000 mewn pythefnos yn unig. Noddwyd 1,300 ohonynt gan Lywodraeth Cymru, i fyny 630 mewn pythefnos yn unig. Gyda’i gilydd, mae cyfanswm o 132,900 o geisiadau am fisâu cynllun Wcráin bellach wedi'u derbyn, gyda 120,300 o fisâu wedi'u cyhoeddi, i fyny o 73.2 y cant i 77 y cant mewn pythefnos, a chyfanswm o 46,100 o ddeiliaid fisâu yn cyrraedd y DU, i fyny o 23 y cant i 34.6 y cant mewn pythefnos. Rydych chi’n dweud bod 1,126 o bobl â noddwyr bellach wedi cyrraedd Cymru, yn ogystal â'r rhai sy'n cyrraedd o dan gynllun teulu Wcráin. Beth felly yw eich dealltwriaeth o faint sydd wedi cyrraedd Cymru i gyd hyd yn hyn o dan y ddau gynllun? Ac er gwaethaf y ffigurau sy'n gwella'n raddol, pa drafodaethau penodol pellach ydych chi wedi'u cael gyda Gweinidog Ffoaduriaid y DU am y rhesymau dros y bwlch rhwng nifer y fisâu a gyhoeddwyd a chyfanswm y bobl sy'n cyrraedd, a beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn?

Ddydd Iau diwethaf, cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan y Groes Goch Brydeinig ar Wcráin, gyda chamau gweithredu a argymhellir. Sut ydych chi’n ymateb i'w datganiadau, wrth i ffoaduriaid ymgartrefu yng Nghymru, y bydd monitro lles a diogelwch ffoaduriaid yn y tymor hwy yn hollbwysig? Felly, yn rôl Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, fe wnaethon nhw ddweud, mae'n bwysig bod sicrwydd yn cael ei wneud ynghylch cymorth diogelu er mwyn sicrhau bod rôl i awdurdodau lleol o ran monitro cymorth parhaus ynghylch lles pobl o Wcráin wrth iddyn nhw ymgartrefu yng Nghymru. Ac fe wnaethon nhw ddweud, 'Er bod cefnogaeth hyd yma i'w chroesawu, rydym ni am leihau'r risg o sefydlu system ddwy haen ar gyfer ffoaduriaid yng Nghymru a'r DU, a fyddai'n golygu trin pobl yn wahanol ar sail y ffordd y gwnaethon nhw gyrraedd.' Gallai'r newidiadau arfaethedig, medden nhw, adael pobl heb fynediad at gymorth hanfodol.

Wrth ymateb i chi bythefnos yn ôl, fe wnes i gyfeirio hefyd at ffigurau sy'n dangos amrywiad enfawr yn nifer y fisâu a gyhoeddwyd ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Beth yw eich dealltwriaeth o'r sefyllfa gymharol nawr, bythefnos yn ddiweddarach, ac, er gwaethaf y gwahaniaethau amlwg ym maint y boblogaeth, beth yw eich dealltwriaeth o'r rhesymau dros yr ystod hon a sut ydych chi’n targedu cymorth ar lefel leol, os oes gwahaniaeth o hyd?

Wrth ymateb i chi bythefnos yn ôl, fe wnes i ofyn sut roeddech chi’n gweithio gyda'ch cyd-Weinidogion i sicrhau bod lleoedd mewn ysgolion a gwasanaethau meddygon teulu a'r GIG lleol ar gael i ffoaduriaid o Wcráin pan fyddan nhw’n cyrraedd Cymru. Fe wnaethoch chi ymateb gan ddweud:

'Mae hi'n hanfodol o ran addysg y gall plant gael eu derbyn i ysgolion, ac, yn wir, hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, wrth y gwasanaeth iechyd, i'w meddygon teulu nhw, am y gwiriadau sydd ar y gweill o ran iechyd. Fe gaiff hynny ei fonitro bob dydd.'

Fodd bynnag, fe wnes i gysylltu â chi wedyn ar ran etholwr a oedd â theulu ffoaduriaid o Wcráin yn cyrraedd y bore canlynol o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, a oedd wedi cael gwybod gan dderbyniadau ysgol yr awdurdod lleol na allai plentyn oedran ysgol gynradd y teulu ddechrau addysg nes iddi gael gwiriad meddygol gan feddyg teulu, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Dywedodd y meddyg teulu yr oedd y teulu wedi’i gofrestru gyda nhw eu bod nhw’n gwrthod gwneud y gwiriad meddygol, nad oedden nhw’n gwybod unrhyw beth am y gofyniad hwn ac nad oedd ganddyn nhw’r gallu. Hoffwn ddiolch i chi am eich ymateb prydlon iawn i hyn, gan ddweud fod swyddogion yn cysylltu â'r swyddog derbyn yn yr awdurdod lleol i gadarnhau, ar yr amod bod y plentyn yn iach, nad oes angen iddyn nhw aros am asesiad iechyd i allu mynychu'r ysgol; bod y gofyniad i ohirio presenoldeb yn ymwneud yn benodol â sgrinio TB; y gall plant oedran ysgol gynradd fynychu os ydyn nhw’n iach, ond mae angen asesiad a phelydr-x ar blant oedran ysgol uwchradd gyda thimau TB y bwrdd iechyd cyn iddyn nhw fynychu'r ysgol; a'ch bod wedi gofyn i swyddogion iechyd fynd ar drywydd hynny gyda'r bwrdd iechyd fel mater o frys o ran y sefyllfa a roddwyd i'r teulu o'r practis meddygon teulu?

Wel, dywedodd yr etholwr wrthyf i wedyn fod derbyniadau i ysgolion wedi cysylltu â nhw i ddweud y gall plant oedran ysgol gynradd fynychu'r ysgol yn awr, a diolchodd i chi a minnau am hyn. Fodd bynnag, fe wnaethon nhw ychwanegu,

'Dydw i ddim yn siŵr o'r broses o ran mynychu os yw ei grŵp blwyddyn hi’n llawn, a dywedwyd wrthym ni ei fod yn llawn.'

Sut, felly, ydych chi’n gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod y mater hwn o gapasiti yn cael sylw? Ac yn olaf, sut y byddwch chi nawr yn sicrhau bod awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd ledled Cymru yn deall eich disgwyliadau ohonyn nhw?

17:00

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rydych chi wedi ailadrodd y data y gwnes i ei roi yn y datganiad. Rydw i’n credu ei bod hi’n galonogol iawn bod Llywodraeth y DU, o'r diwedd, yr wythnos diwethaf, wedi cytuno i ddarparu data fesul awdurdod lleol, a gallem wedyn nodi, fel yr ydych chi wedi’i ddweud, fod 1,126 o ffoaduriaid o Wcráin wedi dod drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin—y bydd rhai ohonyn nhw yn ein canolfannau croeso, rhai gyda noddwyr lletyol. Ond, gan gydnabod hefyd fod llawer mwy o fisâu wedi'u cymeradwyo o hyd. Dywedais i hynny yn fy natganiad hefyd—o leiaf dair gwaith y nifer hwnnw.  

Rydw i’n cyfarfod â'r Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, bob pythefnos. Fe wnes i ei gyfarfod ddydd Iau gyda fy nghyd-Weinidog Neil Gray, Gweinidog Llywodraeth yr Alban. Mae gennym ni dri pheth ar yr agenda: oedi o ran fisâu, diogelu, cyllid. Rydym ni’n amlwg yn ychwanegu pethau eraill hefyd, wrth iddyn nhw ddod drwodd. Ond maen nhw'n gyfarfodydd adeiladol iawn. Ac mae'r dystiolaeth gennym ni, mae gen i lawer o dystiolaeth, nid yn unig o fy ngwaith achos fy hun ond gan lawer o bob rhan o'r Siambr hon, o'r oedi annerbyniol hwn rhwng cymeradwyo fisâu a chyrraedd. Felly, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny ac mae'n rhaid iddyn nhw ei oresgyn. Ond, mae cynnydd yn cael ei wneud, fel y gwyddoch chi, o ran y niferoedd.

Mae'n dda eich bod wedi cael y sesiwn friffio honno gan y Groes Goch Brydeinig, yn enwedig mewn perthynas â'n rôl fel uwch-noddwr. Mae hyn yn rhywbeth lle rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi 1,000 o bobl, gan hepgor yr angen i adnabod noddwr unigol a chael eu noddi'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Ac ar 10 Mai, mae gennym ni 1,317 o fisâu sydd wedi'u rhoi i bobl o Wcráin—mwy na 1,000—o dan y llwybr hwn. Felly, roeddem ni’n aros, drwy’r dydd bob dydd, gyda gwaith ar benwythnosau—fe wnes i sôn am Citizens UK Cymru—iddyn nhw gyrraedd. Trefnwyd y cludiant, gan weithio gyda Citizens UK Cymru, ac ym Maes Awyr Luton, cyrhaeddodd y teuluoedd. Mae'n aruthrol pan fydd y partneriaethau hynny'n gweithio, ond mae gennym ni gymaint yn fwy i'w wneud i symud hynny ymlaen.

Rwy’n credu bod eich pwynt am ddiogelu a'r canolfannau croeso, y gwaith rydyn ni’n ei wneud, yn hollbwysig. Pan fyddan nhw’n cyrraedd y canolfannau croeso, mae pawb yno i helpu i gefnogi. Mae gwasanaethau cyfieithu ar gael. Mae cyfleoedd i ddechrau dysgu Saesneg—rydym ni wedi sôn am ESOL—cofrestru gyda meddygon teulu, plant yn dechrau yn yr ysgol a chymorth gydag arian, budd-daliadau lles a chyngor i ddod o hyd i waith. Mae hyn i gyd ar ein gwefan noddfa. Mae cymaint o ganllawiau a gwybodaeth yn cael eu diweddaru'n gyson. Ac mae diogelu'n hanfodol, fel y gwyddoch chi, a dyna pam mai canolfannau croeso yw'r ffordd fwyaf diogel o gefnogi pobl o Wcráin sy'n dianc rhag gwrthdaro, yn hytrach nag—. Rwyf i wedi codi ein pryderon am unrhyw fath o lwybr at baru anffurfiol ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn amlwg, mae'r gwesteiwyr, mae llawer o hyn yn gweithio'n dda iawn gyda Cartrefi i Wcráin, ond mae'n bwysig edrych ar ein canllawiau diogelu a chaethwasiaeth fodern.

Yn olaf, ydy, mae hwn yn fater ar draws y Llywodraeth. Mae gennym ni gyfarfod wythnosol—mae gennym ni un bore yfory—gyda'n cyd-Weinidogion. Addysg, iechyd, llywodraeth leol, tai, rydym ni i gyd yn gweithio—. Cludiant. Rydym ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r materion hyn. Fi’n amlwg sy’n cydlynu hyn. Rydych chi wedi sôn am yr achos pwysig hwnnw yr oeddwn i’n falch iawn o ymateb iddo, Mark, cyn gynted â phosibl. Y dyddiau cynnar hyn, llywodraeth leol—. Rwyf i wedi canmol llywodraeth leol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Maen nhw hefyd yn cael arweiniad, maen nhw’n ei reoli, derbyniadau, ac mae'r rhain yn faterion gweithredol rydym ni’n gweithio gyda'n gilydd arnyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen, gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, at gwrdd â'n set newydd o arweinwyr yn fuan iawn i'w trafod. Ond, yn weithredol, wrth gwrs, rydym ni’n gweithio gyda phrif weithredwyr.

Ac yn awr, plant. Cefais neges wych gan ffoadur ifanc sydd wedi bod yn aros i fynd i'r ysgol yn fy etholaeth, a anfonodd neges bersonol ataf neithiwr i ddweud, 'Mae'n wych teimlo fy mod yn yr ysgol. Rydw i yn fy arddegau, rwy'n dysgu, mae'n wych.' Bydd hyn yn digwydd i'r plant wrth iddyn nhw ddod drwodd, ac mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i wneud i hynny weithio.

17:05

Diolch am eich datganiad, Weinidog. Roedd yna adroddiad yn y Guardian yn ddiweddar fod rhai ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi dod i'r Deyrnas Gyfunol yn gorfod aros hyd at ddwy flynedd cyn gallant gael therapi arbenigol i'w helpu i wella o effaith yr erchyllterau maen nhw wedi dioddef yn sgil rhyfel. Gallwn ni, wrth gwrs, ddim dychmygu y pwysau sydd wedi bod ar y bobl yma sydd wedi gweld siẁd bethau, sydd wedi teimlo siẁd boen a siẁd bryder ac ansicrwydd, sydd wedi colli eu cartrefi, eu gyrfaoedd, y dyfodol roedden nhw wedi cynllunio, ac, wrth gwrs, sydd wedi colli anwyliaid, ffrindiau, cymdogion ac sydd wedi, yn anffodus, dioddef trais a thrais rhywiol. 

Mae'r anhrefn a'r oedi wythnosau o hyd am fisa neu fodd i deithio i Brydain hefyd, wrth gwrs, yn achosi ac yn dwysáu problemau iechyd meddwl y rhai sy'n cael eu hunain mewn sefyllfa o siẁd straen a gofid. Roedd yr adroddiad yn nodi bod gwasanaethau ar draws y Deyrnas Gyfunol yn dameidiog yn hyn o beth, gyda rhai ardaloedd yn cael eu disgrifio gan yr elusen Room to Heal, sy’n darparu cefnogaeth i bobl sydd wedi ffoi rhag erledigaeth, fel diffeithwch o ran triniaeth sydd ar gael pan ddaw'n fater o drin trawma. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion hefyd wedi datgan y dylai'r cynlluniau sydd yn eu lle ar gyfer croesawu ffoaduriaid fod wedi cynnwys mecanwaith ar gyfer adnabod arwyddion trawma yn gynnar.

Rydym, wrth gwrs, yn gwybod y bydd yr holl brofiad o ffoi o'r rhyfel yn effeithio'n arbennig o wael ar blant, i'r pwynt lle gallai hyd yn oed newid eu personoliaethau a chael niwed seicolegol hirdymor. Eto, mae Achub y Plant wedi dweud bod diffyg cymorth iechyd meddwl ar gael i'r plant sydd wedi eu trawmateiddio'n ddifrifol sy'n cyrraedd yma o Wcráin. Y tu hwnt i gael mynediad at ofal y gwasanaeth iechyd, nid yw swyddogion yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr wedi sôn am unrhyw ddarpariaeth benodol i ddarparu cymorth trawma i ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd ein glannau.

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi nodi mai prif bryder y rhai sy'n cyrraedd yma wedi iddynt ffoi yw'r lefel a math o gymorth sydd ar gael iddynt i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, fel triniaeth iechyd meddwl. Amcangyfrifir bod rhestrau aros hyd at ddwy flynedd o hyd ar hyn o bryd mewn rhai ardaloedd o'r Deyrnas Gyfunol, fel roeddwn i'n ei ddweud.

Felly, a allai’r Gweinidog roi gwybod inni beth yw'r sefyllfa yng Nghymru o ran y cymorth sydd ar gael i gael mynediad at wasanaethau arbenigol fel hyn? Pa wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer cymorth trawma, yn benodol, sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru i'r rhai sy'n ffoi o Wcráin, y tu hwnt i fynediad cyffredinol at ofal y gwasanaeth iechyd? Ac, a all y Gweinidog hefyd ddarparu ffigurau ar gyfer y rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a thrawma, os gwelwch yn dda? A allwn ni yng Nghymru ymrwymo mwy o gyllid i'n gwasanaethau iechyd meddwl i ymdopi â'r galw cynyddol, a sicrhau bod y rhai sydd wedi dioddef trawma oherwydd rhyfel yn cael triniaeth addas? Diolch.

17:10

Diolch yn fawr, Sioned. Mae'n bwysig iawn, y pwynt hwn am sut y gallwn ni fod yn barod i gefnogi, gan gydnabod y trawma mae cynifer wedi'i brofi. Fe wnaethoch chi sôn am blant. Mae pob un ohonom ni’n gwybod mai menywod a phlant yw'r mwyafrif llethol o ffoaduriaid sy'n dod. Mae'r rheini sydd wedi cwrdd â nhw, neu sy'n cwrdd â nhw, yn gwybod beth maen nhw wedi bod drwyddo—y trawma maen nhw wedi bod drwyddo.

Gan fod gennym ni’r ganolfan gyswllt 24/7 hon, ac mae gennym ni ein canolfannau croeso, sef y ffordd fwyaf diogel, fel y dywedais i, o ymgolli nid yn unig i'r ganolfan groeso, y gwasanaethau cymorth, ond yr holl drefniadau o ran atgyfeiriadau, ac ati—. Felly, rydym ni’n gweithio'n galed iawn gyda'n staff, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn llunio pecyn cymorth penodol, nid yn unig i'r rheini sy'n dod, ond hefyd i'r staff sy'n eu cefnogi. Mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bod angen i ni gael dehonglwyr, cyfieithu, sydd i gyd ar gael hefyd.

Felly, yng Nghymru, wrth gwrs, mae gennym ni ganllawiau 2018 Llywodraeth Cymru ar gyfer byrddau iechyd ar iechyd a lles ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae hynny'n benodol i Gymru. Fe wnaethom ni gyfieithu'r holl ddeunyddiau i Wcreineg a Rwsieg i gefnogi iechyd meddwl y rhai sy'n cyrraedd o Wcráin—sefydlogi cychwynnol. Mae hynny i gyda ar wefan Straen Trawmatig Cymru. Hefyd, mae Coleg Brenhinol Seiciatreg yn cyhoeddi deunyddiau cymorth penodol i'w helpu gyda nhw. Mae hynny i gyd ar wefan Straen Trawmatig Cymru; eto, mae'n dda gallu rhannu hynny gyda chydweithwyr yma heddiw.

Ond mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, ein llinell gymorth iechyd meddwl graidd yng Nghymru. Mae hynny ar gael i gefnogi'r rhai sy'n cyrraedd Cymru. Mae ganddo linell iaith, felly gall helpu pobl sydd eisiau ei ddefnyddio mewn iaith heblaw Cymraeg a Saesneg. Rydym ni’n asesu anghenion, yn amlwg, o ran anghenion ychwanegol.

Rydym ni’n archwilio opsiynau i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles ychwanegol yn y canolfannau croeso. Mae hynny'n ymwneud â chanolbwyntio ar gyfeirio, sefydlogi, gweithio gyda'r trydydd sector. Bydd yr holl sgrinio iechyd yn cynnwys iechyd meddwl, a gallaf i eich sicrhau chi y bydd mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gael yn unol â'r angen.

A gaf innau hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei harweinyddiaeth, ac wrth gwrs am arweinyddiaeth y Cwnsler Cyffredinol? Rwy'n credu fy mod yn siarad ar ran y Siambr gyfan pan fyddaf i'n dweud ein bod ni'n ddiolchgar iawn am yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud ar y mater hwn, ac rydym ni hefyd yn ddiolchgar iawn i chi am ddiweddaru'r Siambr yn barhaus ar lafar hefyd. Gweinidog, o ystyried ein hymrwymiad fel cenedl noddfa, a allwch chi amlinellu i Aelodau'r Senedd heddiw sut mae'r trydydd sector wedi cefnogi a gweithio gyda gwirfoddolwyr, a'r rhai sy'n ffoi o Wcráin?

Diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant. Fel y dywedais i, mae hwn yn ymateb ar draws y Llywodraeth i raddau helaeth. Mae cydlynu'n arbennig o bwysig, nid yn unig o ran trawslywodraeth a'n holl gyfrifoldebau, ond rhwng Llywodraethau â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, a hefyd gyda llywodraeth leol hefyd. Ond mae'r trydydd sector eisoes yn chwarae rôl enfawr a rhan enfawr.

Fe wnes i ddod â grŵp o fudiadau gwirfoddol yn y trydydd sector at ei gilydd. Fe wnaethom ni gyfarfod ddydd Iau. Mae tua 25 o sefydliadau bellach, sy'n cynnwys y Groes Goch. Er enghraifft, ddydd Iau, cawsom gyflwyniad gan Sefydliad Cymunedol Cymru—Richard Williams—am gronfa newydd Croeso, rydym ni wedi'i datblygu. Soniodd Jonathan Cox o Citizens UK Cymru am y gwaith maen nhw wedi'i wneud, gan weithio gyda sefydliad anllywodraethol yng Ngwlad Pwyl a sut y daethon nhw â ffoaduriaid draw ar y penwythnos. Ac yna yn y gogledd, mae Tim Hall o Link International. Maen nhw’n gweithio'n agos iawn gyda ni gan fod ganddyn nhw brofiad enfawr o ran materion yn ymwneud â masnachu mewn pobl a chamfanteisio rhywiol. Maen nhw’n edrych ar faterion lletyol a gwesteion ac yn adrodd yn ôl ar y rhain—mae rhai achosion o fethiannau yno—a'r angen am leoliadau eilaidd. Felly, dyna'r math o adborth roeddem ni’n ei drafod ddydd Iau. Ond hefyd, rydym ni’n edrych, gyda'r sefydliadau hynny, ar ba rôl y gallan nhw ei chwarae. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y comisiynydd plant, Barnardo's a Chyngor Ffoaduriaid Cymru i gyd yno.

Ond hoffwn i ddweud—ac mae'n codi rhywbeth a gododd Sioned yn gynharach—fy mod i hefyd wedi gwahodd BAWSO a Cymorth i Fenywod Cymru i'r cyfarfod hwnnw, oherwydd y pryderon a godwyd yn fy natganiad diwethaf am y trawma mae cynifer o fenywod wedi dod ohono. Ond hefyd, bu camfanteisio, yn enwedig ar ffiniau, gyda phobl yn aros i ddod yma, ac, yn anffodus, rhai digwyddiadau yma wedi cyrraedd. Fe wnaethon nhw roi cyflwyniad llawn iawn ddydd Iau yn y cyfarfod.

Mae'n hanfodol bod gwirfoddolwyr sy'n dod ymlaen yn edrych ar wefan Gwirfoddoli Cymru. Edrychwch o dan 'Wcráin'; mae categori cyfan i helpu gwirfoddolwyr i ddarganfod eu rôl. Roedd gen i ddigwyddiad galw heibio ddydd Sadwrn yn fy etholaeth, a daeth gwirfoddolwyr, yn ogystal â chynghorwyr a noddwyr teuluoedd a ffoaduriaid, ac roedd gwirfoddolwyr yn dod sydd am gynnig dosbarthiadau Saesneg, sydd am ymgysylltu a chefnogi teuluoedd. Felly, gadewch i ni hefyd gyfleu'r neges honno heddiw. Rwy'n cael hwn fel yr eitem gyntaf ar yr agenda yng nghyngor partneriaeth y trydydd sector yr wythnos hon.

17:15

A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad? Roedd i'w groesawu'n fawr. Diolch am eich ymrwymiad i'r achos hwn. Rwy'n gwybod eich bod chi'n gwneud llawer iawn yn hyn o beth. Rydych chi wedi ateb rhai o fy nghwestiynau allweddol, a oedd yn ymwneud ag addysg a sgrinio. Cawson nhw eu cwmpasu'n dda ac rwy'n diolch i chi am y ddealltwriaeth ddyfnach o'r sefyllfa yr ydym ni'n ei hwynebu i bob golwg. Ond rwy'n cael etholwyr yn cysylltu â mi'n eithaf aml yn awr am rai o'r pryderon hyn. Mae'n ymddangos, efallai, fod diffyg cyfathrebu yn ôl iddyn nhw i'w helpu i ddeall pam y gallai rhai o'r pethau hyn fod yn digwydd. Efallai fod hwnnw'n faes, ynghyd â'r Gweinidog addysg, y gallech chi edrych arno—gan geisio cyfleu'n well i'r bobl hynny sy'n helpu i ofalu am y plant hynny. Roedd gen i un etholwr sydd wedi bod â phlentyn o Wcráin gyda nhw nawr am fis. Maen nhw wedi mynd drwy'r holl sgrinio ac mae ganddyn nhw le yn yr ysgol, ond nid ydyn nhw'n gallu cael mynediad i'r ysgol am ryw reswm o hyd—unwaith eto, mater cyfathrebu, rwy'n siŵr. Ond, Gweinidog, rydych chi wedi ateb fy nghwestiynau ynghylch sgrinio a pham y gwahaniaeth rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd. Diolch i chi am hynny a diolch i chi am y gwaith sy'n mynd rhagddo.

Diolch yn fawr iawn, Peter Fox. A gaf i ddweud eto mai'r awdurdodau lleol sydd wedi gorfod cymryd y cyfrifoldeb o ran derbyniadau i ysgolion? Mae ganddyn nhw ganllawiau clir. Yn amlwg, felly, o ran y cyswllt hwnnw, rydych chi'n bwysig fel pont i wneud i'r cyswllt hwnnw ddigwydd.

A gaf i ddiolch ichi, Gweinidog, am gysondeb y papurau briffio hyn? Yn amlwg, mae'n sefyllfa sy'n symud yn gyflym, ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei adlewyrchu gyda'r ymateb a'r cysondeb hwn. Roeddwn i am gyfeirio at ddau beth yn fyr. Roedd hi'n amlwg yn wych gweld y pwyslais gyda gwersi Saesneg; beth mae hyn yn ei olygu o ran y gallu i gael gwersi trochi yn y Gymraeg hefyd? Oherwydd mae'n amlwg y bydd teuluoedd ledled Cymru. Bydd rhai, gobeithio, fel rydym ni wedi'i weld gyda gwahanol bobl yn dod i Gymru yn y gorffennol, yn cael eu trochi yn y Gymraeg, fel y gwelsom gyda'r Urdd. Felly, dim ond cwestiwn o ran y croeso a'r cyfle dwyieithog hwnnw.

Hefyd, roeddwn i eisiau codi mater y bobl heb basbortau yn Wcráin ar hyn o bryd. Mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi sy'n ceisio cefnogi'r rheini. Yn amlwg, mae Llywodraeth y DU yn rhoi pwyslais mawr ar y ffaith bod yn rhaid i bobl fod yn meddu ar basbort er mwyn gallu dod yma, ond nid yw gwledydd eraill yn gosod yr un cyfyngiad. Yn amlwg, os ydych chi'n dianc rhag rhyfel, nid yw gallu dod â'ch holl ddogfennau yn rhywbeth sydd mor hawdd, a hefyd efallai nad yw rhai pobl wedi cael pasbortau yn y lle cyntaf ac yn ceisio sicrhau'r rheini nawr. Felly, roeddwn i eisiau gofyn: pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar hyn o bryd i gynorthwyo'r rheini sydd heb basbort am amrywiaeth eang o resymau yn Wcráin er mwyn iddynt allu cyrraedd yma'n ddiogel?

17:20

Diolch yn fawr, Heledd. Mae'r rheini'n gwestiynau pwysig iawn, sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd, ynglŷn â'r gallu i gael gafael ar gymorth iaith. Rwyf i eisoes wedi rhoi rhywfaint o fanylion o ran ESOL, gan geisio sicrhau mai ymateb addysg bellach, addysg uwch, traws-Gymru yw hwn. Ond er enghraifft, o ran y canolfannau croeso, bu cyswllt hefyd â ColegauCymru yn ogystal ag awdurdodau lleol i edrych ar y ddarpariaeth. O ran estyn allan am lwybrau iaith i gefnogi ffoaduriaid i integreiddio, mae hyn yn cynnwys y gallu i ddysgu Cymraeg, ac i'r plant hefyd. Rwy'n credu mai'r peth arall sy'n digwydd sy'n dda iawn yw bod ffoaduriaid yn cyrraedd gyda sgiliau iaith da iawn sydd eisoes—ac rwy'n credu ein bod ni wedi clywed hyn gan gyd-Aelodau—mewn gwirionedd yn cael swyddi i helpu o ran gallu dehongli a dechrau gweithio o ran cymorth addysgu.

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn hyblyg—rydym ni eisiau bod â chymaint o hyblygrwydd ar ôl i bobl gyrraedd yma—a disgresiwn. Efallai fod hynny'n wir o ran cymwysterau, mynediad. Dyna ein neges ni i awdurdodau lleol—bod angen iddyn nhw fod mor agored a defnyddio eu disgresiwn gymaint â phosibl. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn berthnasol i'r holl faterion eraill o ran biometreg ac ati. Os gwelaf fod rhwystrau'n dod i'r amlwg, byddaf yn codi hyn gyda'r Gweinidog Ffoaduriaid. Nid yw hyn yn dderbyniol. Ydym, rydym ni'n gwybod ble'r ydym ni gyda'r fisâu, ond ni ddylem ni fod ag unrhyw rwystrau eraill. Ni all pobl gael gafael ar eirdaon a'r holl faterion hyn. Rhaid iddyn nhw allu mynd drwodd ar unwaith i gael eu hanghenion heb o reidrwydd—. Maen nhw wedi dianc rhag gwrthdaro a rhyfel, a dyna'r sefyllfa. Gallaf eich sicrhau, os oes rhwystrau, y byddaf i yn eu codi, ond os yw'r rhwystrau yma, dylem ni fod yn eu goresgyn.

Gweinidog, mae teulu yn fy etholaeth i wedi rhoi llety i deulu o Wcráin, ac mae pob un ohonyn nhw'n ymgartrefu'n dda, ar wahân i un mater penodol, sef bod y teulu hwn yn ei chael hi'n anodd cael eu hailuno â'u hanifeiliaid anwes. Mae problem ddifrifol yma oherwydd bod gan y ferch fach dan sylw anghenion arbennig ac mae mawr angen iddi fod gyda'r anifeiliaid anwes hynny. Mae'n fater difrifol mewn gwirionedd, oherwydd maen nhw wir yn ystyried gadael Cymru o ganlyniad. Mae'n fater difrifol mewn gwirionedd. Ond yn ôl yr hyn rydw i'n ei ddeall, mae'r tair cath dan sylw mewn cwarantin yn Swydd Gaerhirfryn, ac yn cael eu symud i rywle arall yn Lloegr ar gyfer cwarantin, er eu bod wedi pasio eu holl brofion gwrthgyrff a phrofion priodol. Rwy'n gallu gweld Janet Finch-Saunders yn cytuno â mi, ac rwy'n gwybod bod teuluoedd eraill yn Wcráin hefyd wedi profi'r un broblem hefyd.

Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae gan Lywodraeth y DU reolau llai llym ar gyfer dod ag anifeiliaid anwes o Wcráin i gefnogi teuluoedd sy'n dianc rhag y parth rhyfel hwnnw, ac mae'n talu am yr holl wiriadau perthnasol mae angen eu cynnal hefyd, ond mae'n ymddangos, am ryw reswm, fod safbwynt polisi gwahanol yng Nghymru nag sydd i Loegr a'r Alban. Felly, i'r teulu hwn, pe baent yn cael llety yn Lloegr neu'r Alban, byddai eu hanifeiliaid anwes bellach wedi cael eu hailuno gyda nhw eisoes. Rwy'n credu bod y stori arbennig hon wedi taro cyfryngau Cymru y prynhawn yma, ac rwy'n deall fod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud mai diogelu lles anifeiliaid yng Nghymru yw hyn. Ond mae'n ymddangos nad oes rheswm rhesymegol pam y dylid mabwysiadu dull gwahanol yng Nghymru nag sydd o Loegr a'r Alban.

Ar ôl i mi eistedd i lawr, byddaf yn anfon y manylion penodol atoch chi, Gweinidog, ond byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi ofyn i'ch swyddogion archwilio hyn, nid yn unig i'r teulu hwn, ond i deuluoedd eraill o Wcráin sy'n ceisio sefydlu eu hunain yma yng Nghymru, ac am gael eu hailuno â'u hanifeiliaid anwes.

Diolch yn fawr iawn, Russell George. Rydym ni'n deall pa mor bwysig yw anifeiliaid anwes pobl iddyn nhw ac felly rydym ni am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru yn cael eu hailuno—rydych chi wedi rhoi un enghraifft—gyda'u hanifeiliaid anwes am eu bod wedi bod mewn cwarantin. Mae hyn yn rhywbeth, unwaith eto, rydw i wedi'i godi mewn cyfarfod tair gwlad ddydd Iau diwethaf, ac rydym ni'n mynd i roi hyn ar yr agenda pan fyddwn ni'n cyfarfod eto â'r Gweinidogion i edrych ar sut rydym ni'n ymdrin â hyn. Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod yn ymgynghori nid yn unig â Llywodraeth y DU, ond Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'n hawdurdodau lleol ynglŷn â'r ffordd orau o gefnogi'r rhai sy'n dod ag anifeiliaid anwes gyda nhw. Yn amlwg, mae'n ymwneud â diogelu iechyd anifeiliaid a'r cyhoedd. Nid oes ond angen i mi ddweud, cyn cyrraedd, y dylai pobl o Wcráin gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Ac, wrth gwrs, mae ein canolfan gyswllt, 24/7, yn delio â'r materion hyn, ac rydym ni wedi bod yn cefnogi ffoaduriaid i sicrhau y gall eu hanifeiliaid anwes ddod gyda nhw.

17:25

Gweinidog, rydw i'n mynd i godi derbyniadau i ysgolion hefyd, oherwydd mae etholwyr o Gaerdydd a Bro Morgannwg wedi cysylltu â mi hefyd. Maen nhw wedi cysylltu â'u hawdurdodau lleol, maen nhw wedi cysylltu ag ysgolion, ac nid ydyn nhw wedi cael unrhyw atebion, neu unrhyw wybodaeth, neu dim ond dweud bod yr ysgol yr oedden nhw ei heisiau, yr ysgol agosaf maen nhw am ei mynychu, yn llawn. Cyn cael fy ethol yma, roeddwn i'n arfer delio'n weddol rheolaidd ar sail pro-bono gyda derbyniadau i ysgolion ac, er syndod, mae'n debyg bod y gyfraith yn ddiangen o gymhleth yn y mater hwn. Ond yn gyffredinol, lle mae ewyllys, mae ffordd gyfreithiol o sicrhau bod pob plentyn o Wcráin yn cael ei dderbyn i'r ysgol agosaf atyn nhw. Rydw i'n falch o glywed eich bod wedi rhoi arweiniad i awdurdodau lleol, ond, yn amlwg, nid yw'r neges yn torri drwodd. Pa bethau pellach y gallwch chi eu gwneud, Gweinidog, efallai mewn cydweithrediad â'r Gweinidog addysg, i bwysleisio i'r awdurdodau lleol fod angen i'r plant hyn o Wcráin gael eu derbyn i'r ysgol agosaf i'w cartrefi newydd? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Mae hyn yn rhywbeth, fel rydw i wedi'i ddweud, sy'n drawslywodraethol. Rydyn ni'n pwyso a mesur nawr, wrth i'r rhai sy'n cyrraedd ddod. Yn amlwg, mae rhai pwysau mewn rhai ysgolion o ran dalgylchoedd, ond byddwn ni'n mynd ar drywydd hyn, gyda fy nghyd-Weinidog Jeremy Miles, y Gweinidog addysg. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd gymryd y cyfrifoldeb a sicrhau bod cyfathrebu da gyda'r teuluoedd noddi a'r ffoaduriaid wrth iddyn nhw gyrraedd. Ac mae eu cael i'r ysgol cyn gynted â phosibl yn hanfodol, gan fynd yn ôl at y cwestiynau cynharach am blant a'u hiechyd meddwl a'u lles.

8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022

Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r rheoliadau hynny—Eluned Morgan.

Cynnig NDM8001 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mai 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron. Ers yr adolygiad ar 14 Ebrill, rydym ni wedi bod yn adolygu'r data iechyd yn agos iawn i fonitro unrhyw gynnydd mewn ffigurau oherwydd cynnydd mewn cymysgu cymdeithasol dros wyliau'r Pasg. Rwy'n falch o gyhoeddi bod nifer sydd mewn ysbytai yn gysylltiedig â COVID wedi gostwng dros yr wythnosau diwethaf. Mae canlyniadau diweddaraf arolwg heintiau coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod gan un o bob 35 o bobl yng Nghymru COVID-19 ar gyfer yr wythnos hyd at arolwg 7 Mai. 

Ger ein bron heddiw mae'r rheoliadau diwygio diweddaraf, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022. Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf ar 5 Mai, ac mae sefyllfa'r coronafeirws yn gyson â'r senario COVID-sefydlog a ddisgrifir yn ein cynllun pontio, 'Law yn Llaw at ddyfodol mwy diogel'. Yn unol â'r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf, a thystiolaeth gan y prif swyddog meddygol a'r gell gynghori dechnegol, rydym ni wedi penderfynu cadw'r cyfyngiad cyfreithiol i'w gwneud yn ofynnol i wisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd cyhoeddus dan do mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol am dair wythnos arall. 

Yn ogystal â'r gofyniad cyfreithiol hwn i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o fewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, mae'r canllawiau presennol ar gyfer atal a rheoli heintiau COVID-19 hefyd yn cynghori'n gryf y dylai staff barhau i wisgo menig, masgiau a ffedogau wrth ddarparu gofal personol uniongyrchol. Dylid gwisgo offer llygaid hefyd wrth ddarparu gofal personol uniongyrchol i bobl os yw COVID-19 wedi'i gadarnhau arnynt, neu'n cael ei amau. Mae'r canllawiau hyn yn darparu pont rhwng dull COVID-benodol a dull ehangach o reoli feirysau anadlol eraill. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Bydd ein canllawiau yn parhau i gynghori'n gryf fod pobl yn gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau prysur neu gaeedig dan do, ac mae hwn yn rhan o'n cyfres o ganllawiau a chyngor cryfach ar gyfer iechyd y cyhoedd. Gall y mesurau hyn a mesurau eraill weithio gyda'i gilydd i helpu i leihau trosglwyddiad coronafeirws a'n cadw ni i gyd yn ddiogel. Gyda dull gofalus ac unedig o gadw'n gilydd yn ddiogel a sicrhau bod cymaint â phosibl o'r rhai sy'n gymwys yn cael eu brechu, gallwn ni i gyd, gobeithio, deimlo'n optimistaidd am y gwanwyn a thu hwnt, er y byddwn ni, wrth gwrs, yn parhau i fod yn wyliadwrus am yr amrywiolion newydd sydd yn dod.

17:30

Diolch am y wybodaeth ddiweddaraf y prynhawn yma, Gweinidog. Rydw i, wrth gwrs, yn falch o glywed bod nifer yr achosion o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty'n gostwng hefyd. Ni fyddwn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r rheoliad hwn y prynhawn yma, gan ein bod yn credu nad oes angen ymestyn y rheoliad a'r ddeddfwriaeth hon. Os ydych chi'n credu ei bod yn briodol gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gallai hyn fod wedi'i gyhoeddi drwy ganllawiau, yn hytrach nag ymestyn y rheoliad.

Doeddwn i ddim yn bwriadu siarad, achos dwi, yn sicr, yn hapus i gefnogi'r rheoliad yma, ond dwi eisiau ymateb i'r sylw a wnaed gan lefarydd iechyd y Blaid Geidwadol. Dwi'n meddwl ei bod hi'n gwbl synhwyrol i ddefnyddio deddfwriaeth yn y modd cyfyngedig yma. Dŷn ni'n gweld o'n cwmpas ni, hyd yn oed yn y Siambr yma, sut mae defnydd o orchuddion wyneb yn newid ac yn esblygu ac yn organig, a phobl yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â gwisgo gorchuddion wyneb yn ddibynnol ar y sefyllfa o'u cwmpas nhw. Ond pan dŷn ni'n sôn am leoliadau iechyd a gofal, lle mae'r bobl fwyaf bregus yn mynd iddyn nhw, yn gorfod mynd iddyn nhw, mae'n gwneud perffaith synnwyr i fi ein bod ni'n defnyddio'r warchodaeth yma am y cyfnod pellach yma, ac am y rheswm, i mi, cwbl amlwg hwnnw, a dŷn ni'n hapus i gymeradwyo'r rheoliad yma.

Diolch yn fawr. Wel, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi bod yn gefnogol i'r pwynt hwn. Rwy'n credu ei fod yn cefnogi'r cam hwn oherwydd ei fod yn credu, tra bod y cyfraddau'n dal yn uchel iawn—felly, fod un o bob 35 yn dal yn weddol uchel, ac, wrth gwrs, cymerwyd y mesur hwn pan oeddem ni ar adeg pan oedd tua un o bob 20, a oedd yn uchel iawn, yn y gymuned—yna mae'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed. Wrth gwrs, byddwn ni'n asesu pryd y bydd hi'n briodol newid rhwng fframwaith cyfreithiol a chanllawiau cryf iawn, a bydd hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, y byddwn ni'n parhau i'w adolygu. Ond o dan yr amgylchiadau hyn a'r amgylchiadau lle gwnaethom ni'r penderfyniadau hyn, byddwn i'n gobeithio y byddai pobl yn cefnogi ein safbwynt wrth geisio amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed ar yr adeg bwysig iawn hon pan fo achosion yn uchel iawn yn ein cymuned.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, felly fe gymerwn ni doriad byr ar gyfer paratoi ar gyfer y bleidlais yn dechnegol.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:33.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:36, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

17:35
9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais y prynhawn yma ar eitem 8, sef Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae'r rheoliadau wedi'u cymeradwyo.

Eitem 8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 17:37.