Y Cyfarfod Llawn
Plenary
23/03/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, hoffwn nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar yr agenda.
Byddwn yn atgoffa'r holl Aelodau i sicrhau bod eu cwestiynau'n gryno ac o fewn amser, os gwelwch yn dda, ac i Weinidogion hefyd roi atebion cryno.
Yn gyntaf y prynhawn yma mae cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae cwestiwn 1 gan Joyce Watson.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl? OQ57834
Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn parhau i gymryd ystod o gamau i helpu i wella cyfleoedd economaidd i bobl anabl. Mae hynny’n cynnwys sefydlu, yn 2020, rhwydwaith Llywodraeth Cymru o hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl i ymgysylltu â chyflogwyr i hyrwyddo cyflogaeth i bobl anabl.
Diolch am eich ateb, ac rwy'n croesawu cynllun cymhellion Llywodraeth Cymru i gyflogwyr ar gyfer prentisiaid anabl yn fawr. Ceir cryn dipyn o dystiolaeth fod cyfradd cyflogaeth pobl anabl yn llawer is o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl. Mae ffigurau hyd at fis Mawrth 2020 yn dangos bod cyfradd gyflogaeth pobl anabl yn 50 y cant, o gymharu ag 81 y cant o bobl nad ydynt yn anabl. Mae'n gwbl hanfodol, fel Llywodraeth, y gwneir popeth y gellir ei wneud i gau'r bwlch hwnnw ac i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb. Weinidog, rwy’n awyddus i wybod sut yr ewch ati i hysbysebu’r cynllun hwn a lle y gall darpar gyflogwyr ddod i wybod amdano. Hefyd, a yw Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i gysylltu â sefydliadau, fel Leonard Cheshire Disability, elusen ag iddi hanes hir a llwyddiannus o helpu pobl anabl i ddod o hyd i waith?
Diolch am eich cwestiwn. Rydych yn llygad eich lle yn tynnu sylw at y gwahaniaeth sylweddol yn y canlyniadau economaidd i bobl anabl a phobl nad oes ganddynt anabledd. Dyna ran o'r rheswm pam y gwnaethom symud cymaint o'n cynlluniau cyflogadwyedd a sgiliau i geisio sicrhau ein bod yn helpu'r bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, gan gynnwys niferoedd sylweddol o bobl anabl.
Ar y gwasanaeth cyffredinol a ddarparwn, rydym yn sicrhau ei fod yn cael ei hysbysebu drwy rwydwaith o sefydliadau pobl anabl a darparwyr cyflogadwyedd, a'r man cyswllt cyntaf i unrhyw un sy'n chwilio am gymorth a chefnogaeth yw gwasanaeth Busnes Cymru. Mae'n siop un stop. Nid oes drws anghywir—os ewch at Busnes Cymru, byddant yn eich helpu i ddod o hyd i lle mae’r cymorth hwnnw ar gael. Ac mae Leonard Cheshire, a grybwyllwyd yn benodol gennych, yn aelod o'n gweithgor cyflogaeth pobl anabl. Maent yn ein cynorthwyo gyda chyngor ac arweiniad ar faterion a blaenoriaethau sy'n codi, ac mae'n bwysig iawn gwrando ar sefydliad fel Leonard Cheshire, a gweithio gyda hwy, gan eu bod yn gallu dweud wrthym am eu gwaith, a hefyd am brofiadau bywyd pobl ac a ydym o ddifrif yn gwneud y gwahaniaeth yr ydym eisiau ei wneud.
Yn ddiweddar, cefais gyfle i ymweld â Pobl yn Gyntaf sir Gaerfyrddin—elusen annibynnol wych sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gefnogi oedolion ag anableddau dysgu drwy ddarparu hyfforddiant, cymorth ac eiriolaeth annibynnol i unigolion sydd eu hangen. Arweinir yr elusen gan dîm gwych o staff ymroddedig ac angerddol, dan arweiniad Sarah Mackintosh, rheolwr yr elusen. Dro ar ôl tro, mae Sarah a'i thîm wedi mynd y tu hwnt i'r galw i gynnig cymorth i'r rheini sydd ei angen, yn enwedig yn ystod cyfnodau tywyllaf y pandemig. Boed yn drefnu teithiau cerdded ar hyd afon Tywi, nosweithiau bingo yn eu pencadlys, neu ddosbarthu pecynnau llesiant dros y gaeaf, maent yn gwneud pethau gwych ac rwy’n falch o’u hyrwyddo yn y Senedd heddiw. Ond o ystyried y gwaith gwych y mae Pobl yn Gyntaf sir Gaerfyrddin yn ei wneud, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth ariannol sydd ar gael i’r elusen hon ac eraill i sicrhau y gallant barhau i gynorthwyo unigolion ag anableddau dysgu gyda chyfleoedd cyflogaeth? Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch am eich cwestiwn ac am dynnu sylw at y gwaith y mae Pobl yn Gyntaf yn ei wneud, nid yn unig yng Nghaerfyrddin, ond mewn rhannau eraill o’r wlad. Rwyf wedi gwneud gwaith yn fy rôl etholaethol gyda Pobl yn Gyntaf Caerdydd, ac unwaith eto, mae'n sefydliad lle mae pobl anabl o ddifrif yn gwneud eu dewisiadau eu hunain ac yn arwain llawer o'r hyn y mae'r sefydliadau yn ei wneud. Felly, rwyf wedi cael profiad cadarnhaol iawn o weld y gwahaniaeth y gallant ei wneud gyda phobl anabl ac ar eu cyfer.
Mae rhan o’r her yn ymwneud â fy ymateb i Joyce Watson ac o safbwynt Busnes Cymru, sut i gynorthwyo pobl os ydynt yn chwilio am y profiad hwnnw, a cheir ystod o wahanol feysydd lle y gall pobl chwilio am gymorth unigol. Yr her bob amser yw'r adnoddau sydd gennym ar gael yn uniongyrchol a'r adnoddau sydd ar gael gan sefydliadau eraill hefyd, boed yn awdurdodau lleol neu'n eraill. Os yw Pobl yn Gyntaf yn edrych ar fater penodol yn sir Gaerfyrddin, byddwn yn fwy na pharod i dderbyn gohebiaeth a sicrhau bod y sefydliad cywir, neu’r rhan gywir o Lywodraeth, yn ymateb i chi.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd ynghylch prynu gorsaf bŵer Aberddawan? OQ57832
Iawn. Rwyf wedi trafod prynu Aberddawan yn ddiweddar gyda nifer o aelodau bwrdd prifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae fy swyddogion yn parhau i gynnal trafodaethau gyda’r brifddinas-ranbarth ynglŷn â hyn a materion eraill wrth inni geisio manteisio ar y potensial ar gyfer ynni adnewyddadwy yn enwedig.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, nid oedd hyn yn rhan o’r cynllun busnes gwreiddiol, prynu gorsaf bŵer Aberddawan, ac mae’r cynlluniau a gyflwynwyd yn ddeinamig, a bod yn deg, gyda photensial i greu 5,000 o swyddi yn y tymor canolig i’r tymor hir. Yn eich trafodaethau, a ydych wedi asesu faint o alw a allai fod ar adnoddau Llywodraeth Cymru—galw ychwanegol ar adnoddau Llywodraeth Cymru—i alluogi i'r cynlluniau ddwyn ffrwyth a fyddai’n arwain at greu’r 5,000 o swyddi hyn a’r potensial i ddatblygu prosiectau ynni gwyrdd yno? Oherwydd mae llawer o waith adfer i'w wneud ar y safle, ond byddwn yn awgrymu y bydd problemau ychwanegol gydag adnoddau mewn perthynas â denu buddsoddiad newydd hefyd.
Felly, mae hyn yn rhan o lle rwy'n credu, mewn gwirionedd—. Ceir meysydd y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn anghytuno yn eu cylch, ac a dweud y gwir, mae’r bargeinion dinesig a’r bargeinion rhanbarthol yn enghraifft o lle y gallwn weithio gyda’n gilydd. Wrth gwrs, ceir cronfa fuddsoddi ehangach, lle mae Llywodraeth y DU wedi darparu arian, fel y gwnaeth yr awdurdodau lleol yn wir. Mae'r sgyrsiau y mae fy swyddogion yn eu cael yn ymwneud â'r union bwyntiau a godwch—beth yw'r potensial, pa mor agos ydym ni at botensial, a'r cyfleoedd buddsoddi mwy, a mwy hirdymor, sy'n cael eu gwireddu o ran yr hyn a wnawn ar hyn o bryd, ac a fydd galw am adnoddau Llywodraeth Cymru, ac os felly, ym mha ffordd. Felly, nid oes ateb terfynol i'r pwynt a wnewch, ond dyna'n union pam fod sgyrsiau'n cael eu cynnal. Ac rydym mewn lle da, gyda pherthynas gadarnhaol â phob un o'n rhanbarthau economaidd—y pedwar rhanbarth sy'n cymryd rhan, gyda'u fframweithiau economaidd. Ac rwy'n gobeithio y gallwn wneud addewidion amlinellol ynglŷn â'r hyn a allai fod, a hefyd y gallwn ddarparu mesurau ychydig yn fwy ymarferol i wireddu'r effaith sylweddol a chadarnhaol y gallai hyn ei chael o ran swyddi.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, ddoe, codais fater taflen wybodaeth prifddinas-ranbarth Caerdydd gyda chi, sy'n brolio am gyfraddau cyflog cymharol isel, ac sy'n disgrifio Caerdydd fel man lle mae cyflogau graddedigion yn is nag yn Birmingham, Llundain, Caeredin neu Glasgow. Nid yw’n syndod fod Nerys Lloyd-Pierce, cadeirydd Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, wedi labelu ymagwedd prifddinas-ranbarth Caerdydd fel strategaeth ddinistriol a fyddai’n gwthio talent ifanc ymaith yn ne-ddwyrain Cymru. Ac mae ysgrifennydd cyffredinol Cyngres Undebau Llafur Cymru, Shavanah Taj, wedi dweud bod hon yn ymagwedd ddigalon a chynhennus sy'n creu perygl o gaethiwo nifer o'r cymunedau ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd mewn economi cyflogau isel. Weinidog, o gofio eich bod wedi dweud o’r blaen nad oes yn rhaid ichi adael Cymru er mwyn llwyddo, a wnewch chi ddweud wrthym sut y mae strategaeth farchnata prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gweithio ochr yn ochr â dull Llywodraeth Cymru o gadw graddedigion?
Wel, ni chredaf ei bod yn deg dweud bod y brifddinas-ranbarth yn ceisio cadw cyflogau graddedigion yn isel. Mewn gwirionedd, uchelgais y brifddinas-ranbarth, sy’n cynnwys partneriaeth rhwng 10 awdurdod lleol, fel y gwyddoch, a chanddynt arweinwyr o wahanol bleidiau gwleidyddol, a Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yw ysgogi a sicrhau twf pellach, gwella cynhyrchiant, a chodi cyflogau ar draws y rhanbarth. Dyna pam y ceir y sgyrsiau hyn ynglŷn â beth a all ddigwydd yn y brifddinas, yn ogystal â’r hyn sy’n digwydd y tu allan i Gaerdydd—boed yn Aberddawan neu o ran yr hyn y dymunwn ei weld i wella perfformiad economaidd a chanlyniadau i bobl y Cymoedd hefyd. Felly, mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â cheisio codi'r safon a sicrhau cynnydd a gwelliant pellach mewn cyflogau, gan gynnwys i raddedigion.
Wel, rwy'n gobeithio y byddwch yn condemnio’r daflen wybodaeth hon, Weinidog, gan ei bod yn hollbwysig nad yw Cymru’n cael ei marchnata i fuddsoddwyr allanol fel economi cyflogau isel, ac yn sicr, nid yw’r iaith hon yn gwneud unrhyw beth i gadw graddedigion sy’n teimlo bod yn rhaid iddynt adael Cymru er mwyn llwyddo mewn bywyd. Nawr, wrth gwrs, wrth inni ddatblygu economi Cymru ar ôl y pandemig, mae'n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn harneisio'r sgiliau unigryw a'r sectorau sy'n gysylltiedig ag ardaloedd lleol. Ac un ffordd o wneud hynny yw drwy ardaloedd menter. Mae'n hanfodol fod yr ardaloedd menter wedi'u halinio â'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn y fframweithiau economaidd rhanbarthol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac mae'n bwysig ein bod yn gweld canlyniadau gwirioneddol a gwerth am arian drwy'r ardaloedd menter. Weinidog, deallaf fod ardaloedd menter wedi bod drwy gyfnod o adolygu helaeth wedi’i lywio gan drafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol, ac yn adeiladu ar yr adolygiad cynharach a gynhaliwyd yn 2018, yn ôl datganiad ysgrifenedig diweddar a gyhoeddwyd gennych. A wnewch chi ddweud wrthym, felly, beth yw canlyniadau’r adolygiad hwnnw, ac a wnewch chi gadarnhau heddiw hefyd sut yr ydych yn sicrhau bod pob un o’r ardaloedd menter yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr Cymru?
Wel, rydych chi'n iawn i ddweud bod angen i'n strategaeth ardaloedd menter sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r gwaith ehangach a wnawn gyda phartneriaid. A dweud y gwir, credaf mai cryfder yw'r ffaith y gallwn gynnal sgwrs ar y cyd, lle mae gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn y grwpiau rhanbarthol a'r sefydliadau busnes hynny un llais, ac mae'n ddiddorol fod y cynnig unedig a chydlynol hwnnw'n rhywbeth deniadol iawn i nifer o bobl, ar gyfer twf o fewn y DU yn ogystal â’r potensial mewnfuddsoddi.
Mae'r tair ardal fenter sy’n parhau, sy’n seiliedig ar dair ardal borthladd bosibl yng Nghastell-nedd Port Talbot, o amgylch sir Benfro, ac yn wir, yn y gogledd o amgylch Caergybi, yn meddu ar dair cenhadaeth wahanol a allai ategu ei gilydd, ac maent yn sicr yn ategu'r dyheadau a geir ym mhob un o’r fframweithiau economaidd rhanbarthol. A dyna sut y bwriadwn sicrhau bod gennym ddull cydategol o weithredu, yn hytrach na dull cystadleuol neu wrthgyferbyniol rhwng yr hyn y mae'r ardaloedd menter yn ei wneud a'u dyheadau yn y rhanbarthau hynny. Gallaf roi sicrwydd ychwanegol i’r Aelod, gan imi gyfarfod â thri chadeirydd yr ardaloedd menter sy’n parhau, ac roedd hyn yn rhan o’r drafodaeth a gawsom.
Wrth gwrs, Weinidog, mae’n hanfodol fod yr ardaloedd menter, prifddinas-ranbarth Caerdydd, y partneriaethau sgiliau rhanbarthol a fforymau allweddol eraill yn cydweithio’n effeithiol, ac y gallwn weld canlyniadau clir a gwerth am arian yn deillio ohonynt. Mae fframweithiau economaidd rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn bwysig ar gyfer datblygu dulliau datblygu economaidd sy’n seiliedig ar leoedd, a marchnata manteision unigryw pob un o’n rhanbarthau. Wrth gwrs, mae'n hanfodol ein bod yn gallu gweld sut y mae'r fframweithiau hyn nid yn unig yn gwella ffyniant ym mhob rhanbarth, ond hefyd, sut y maent yn mynd i'r afael â rhai o'r materion strwythurol dwfn sydd wedi bod yn bla ar rai cymunedau yng Nghymru ers llawer gormod o amser. Felly, Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym pa ddangosyddion perfformiad allweddol a gaiff eu defnyddio i nodi pa mor effeithiol yw’r fframweithiau economaidd rhanbarthol yn ymarferol? A wnewch chi ddweud wrthym hefyd sut y byddwch yn sicrhau nad yw’r fframweithiau hyn yn arwain at fiwrocratiaeth a dyblygu pellach, ac a wnewch chi ymrwymo hefyd i ddarparu diweddariad blynyddol ar ganlyniadau pob un o’r fframweithiau hyn, er mwyn i’r Aelodau allu pennu eu heffeithiolrwydd?
Wel, mae’r fframweithiau economaidd rhanbarthol yn nodi sut y mae'r partneriaid yn mynd i gydweithio a’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn gwelliannau yn y rhanbarthau hynny. Ac ni chânt eu gorfodi gan Lywodraeth Cymru—ddim o gwbl. Mae’n waith ar y cyd a wnaed rhwng y rhanbarthau economaidd hynny, rhwng y gwahanol bartneriaethau sy’n bodoli gyda’i gilydd yng Nghymru, ac ym mhob un ohonynt, cafwyd lefel wahanol o arweinyddiaeth wleidyddol ym mhob rhanbarth gydag awdurdodau lleol, ond mae pob un ohonynt wedi cydnabod y gallant elwa mwy drwy gydweithio a thrwy gael syniad o flaenoriaethau. Ac mae’r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn yr un ardaloedd yn helpu i wneud hynny mewn ffordd sy’n gyson yn fy marn i, ac sy’n ychwanegu gwerth ar y ddwy ochr.
Ar gyfer pob un o'r rhanbarthau, byddwch yn gallu gweld nid yn unig y meysydd blaenoriaeth, ond i ba raddau y gwnawn gynnydd ym mhob un o'r meysydd hynny wrth inni fynd drwy bob blwyddyn. Nid wyf yn siŵr mai adroddiad blynyddol gennyf fi yw’r ffordd gywir o'i wneud o reidrwydd, ond rhwng Llywodraeth Cymru a phob un o’r rhanbarthau economaidd hynny, credaf y byddai’n ddefnyddiol gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar sail y gellid ei rhannu, gan fod hyn yn rhan o'r her, onid yw—yn aml, mae galw ar y Gweinidog i wneud popeth, ac yn y maes hwn, rydym yn cydnabod bod yn rhaid inni weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a'r pwerau sydd ganddynt, ac mewn gwirionedd, mae a wnelo â Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth fwy cydlynol ac effeithiol yn y maes yn hytrach na chyfarwyddo popeth. Rwy'n fwy na pharod i drafod gyda phob un o’r rhanbarthau hynny sut y darparwn ddiweddariad rheolaidd fel bod y bobl y mae'r awdurdodau lleol yn atebol iddynt, sy’n amlwg yn bwnc sydd ar feddwl pawb o ystyried yr etholiadau ddechrau mis Mai, ynghyd â'r Llywodraeth, yn gwybod beth a wnawn ar y cyd i wella ffyniant economaidd ac i sicrhau y gallwch weld y math o gynnydd a wnawn.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, gwrandewais â chryn ddiddordeb ar eich ymateb i Paul Davies, ddoe a heddiw, ar frolio cwbl warthus prifddinas-ranbarth Caerdydd fod cyflogau graddedigion yn gymharol is yng Nghaerdydd o gymharu â chymheiriaid mewn mannau eraill yn y DU. Er eu bod i fod i ddenu mewnfuddsoddwyr i'r rhanbarth, mae'r sylwadau hyn yn sarhau ein talent ifanc, gan eu trin fel dim mwy nag adnodd rhad. Rhaid ystyried graddedigion Cymru fel mwy na llafur rhad os am fynd i'r afael â draen dawn Cymru. Sylwais hefyd nad ymatebodd y Gweinidog i alwadau Paul Davies yn ei ail gwestiwn i gondemnio’r hyn a oedd yn y prosbectws ynglŷn â chyflogau. Felly, tybed a yw'r Gweinidog o'r farn fod rhethreg o'r fath gan brifddinas-ranbarth Caerdydd yn briodol, ac a yw'n credu mai hyrwyddo economi cyflogau isel yw'r ffordd orau o hybu economi Cymru.
Wel, ni chredaf fod prifddinas-ranbarth Caerdydd yn hyrwyddo economi cyflogau isel drwy'r hyn a ddywedant. Nid wyf wedi darllen yr union destun yn y daflen wybodaeth, felly nid wyf am ddweud fy mod yn llwyr gymeradwyo na chondemnio'r hyn sydd ynddi. O fy sgyrsiau â gwahanol arweinwyr y rhanbarth, rwy'n gwybod nad ydynt yn bwriadu hyrwyddo’r rhan hon o Gymru fel ardal llafur rhad. Maent yn cydnabod bod yno sgiliau sylweddol. Mae gennym lawer o raddedigion yn dod o'r prifysgolion, ac mae hynny'n ddeniadol iawn i amrywiaeth o fusnesau sydd yma eisoes yn ogystal â phobl a allai fod yn awyddus i fuddsoddi yn y rhan benodol hon o Gymru. Mae'r ffaith bod yno economi sy'n tyfu, y ffaith bod llawer o sgiliau graddedigion—a dyma'r sgiliau y mae pobl yn chwilio amdanynt—yn ddeniadol.
Y nod yn y pen draw yw gwella canlyniadau economaidd pobl, gweld cyflogau’n codi, ac mae hynny’n arbennig o bwysig o ystyried yr argyfwng costau byw yr ydym yn dal i fynd drwyddo. Felly, o ran y ffordd y'i cyflwynwyd i mi, yn sicr, nid dyna’r ffordd y byddwn i'n cyflwyno’r cynlluniau ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd, ond nid wyf yn gwbl siŵr ei fod yn crisialu'n ffyddlon a theg y ffordd y mae'r brifddinas-ranbarth eu hunain yn ceisio marchnata'r cyfleoedd i wella cynhyrchiant a thwf cyflogau yma yn y brifddinas-ranbarth.
Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn ei chael hi'n anodd derbyn nad yw prifddinas-ranbarth Caerdydd yn hyrwyddo cyflogau isel, ac wrth gwrs, yr esboniad a roddwyd gennych ddoe hefyd mewn ymateb i Paul Davies fod y ffordd yr adroddwyd ar y mater wedi'i gamliwio, maddeuwch i mi am ddweud fy mod yn credu nad yw hyn yn ddim byd mwy na thipyn o sbin. Fe ddarllenaf yn uniongyrchol o'r prosbectws:
'Rydym yn gystadleuol. Mae Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn darparu manteision cost clir gyda chostau gweithredu sylweddol is o’u cymharu â dinasoedd mawr eraill y DU. Gyda sicrwydd gweithlu mawr a medrus, mae gan y rhanbarth gynnig hynod ddeniadol.'
Mae'n mynd ymlaen i sôn am gyflogau.
'Mae ein gweithlu yn iau o lawer na chyfartaledd y DU, yn addysgedig ac yn amrywiol, wedi'i gefnogi gan dair prifysgol uchel eu parch. Mae costau cyflogau ar draws y rhanbarth yn gystadleuol iawn.'
Ac mae'n mynd rhagddo i restru'r cyflogau fesul dinas, gyda Chaerdydd ar y gwaelod, wedi'i huwcholeuo. Mae’n mynd rhagddo wedyn i ddisgrifio Caerdydd fel lleoliad risg isel, gwobr uchel sy’n darparu manteision amlwg o ran costau o gymharu â dinasoedd mawr eraill y DU. Credaf fod hynny'n eithaf clir.
A'r gwir amdani yw nad dyma'r tro cyntaf i rywbeth fel hyn ddigwydd. Cofiaf fy nghyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, yn codi mater bron yn union yr un fath yn 2019, pan nododd Masnach a Buddsoddi Cymru fod y ffaith bod costau cyflogau 30 y cant yn is yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o’r DU yn rheswm dros fuddsoddi yng Nghymru. Yn anffodus, mae'n rhaid imi ddweud bod hyn—
Mae angen ichi ofyn y cwestiwn yn awr.
—yn adlewyrchu’r duedd barhaus lle mae cyflogau yng Nghymru wedi aros yn eu hunfan ers llawer gormod o amser o dan Lywodraethau Llafur olynol. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn ei gyfnod yn y portffolio, yn mynd yn groes i’r duedd hon, ac rwy'n golygu hynny o ddifrif. Ond sut y mae'n argymell y dylem fynd i'r afael â'r draen dawn pan fo cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn hyrwyddo economi cyflogau isel, a sut y gallwn fesur ei lwyddiant? Oherwydd yn sicr, nid wyf i'n dymuno dod yn ôl at y Gweinidog i dynnu sylw at hyn eto, a byddwn yn gobeithio na fydd angen i unrhyw un o fy olynwyr wneud hynny ychwaith.
Wel, edrychwch, pan fyddwch yn meddwl am yr hyn yr ydych newydd ei ddarllen, nid yw'n dweud, 'Rydym yn marchnata'r brifddinas-ranbarth fel economi cyflogau isel.' Mae'n ymwneud â'r dyheadau hefyd. Pan edrychwch ar y fframwaith economaidd ehangach, maent yn glir iawn yno eu bod am weld dewisiadau buddsoddi sy'n helpu i dyfu busnesau a thyfu cyflogau. Ac ystyriwch hefyd yr hyn sy'n cael ei ddweud am werth tir. A dweud y gwir, mae gwerth tir yn fater pwysig iawn i fusnesau sy'n ystyried buddsoddi, yn ogystal â'r sgiliau mewn poblogaeth. Pan gyfarfûm yn ddiweddar â mewnfuddsoddwyr eraill, eu diddordeb pennaf oedd sgiliau’r boblogaeth a graddedigion y dyfodol—roedd ganddynt ddiddordeb yng ngweithlu'r dyfodol. Felly, mae hyn yn ymwneud â buddsoddi yn sgiliau ein poblogaeth. Mae'n ymwneud â buddsoddi mewn meysydd lle y gwyddom fod gennym gryfderau. Nid wyf yn derbyn bod y brifddinas-ranbarth yn cael ei marchnata fel ardal lle mae'r cyflogau'n isel a bod cyflogau i'w cadw'n isel. Mae’n ymwneud â sut rydym yn sicrhau bod gennym fanteision i’r brifddinas-ranbarth, yn enwedig gyda’r boblogaeth iau, sy’n fantais wirioneddol i amryw o gyflogwyr hefyd, ond lefelau uchel o sgiliau a photensial gwirioneddol i dyfu cyflogau, sef yr hyn rwyf am ei weld, ac yn sicr, dyma y mae'r brifddinas-ranbarth am ei weld hefyd.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu economaidd yn ardal Mersi a Dyfrdwy? OQ57825
Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn parhau i gefnogi’r rhanbarth drwy ein fframwaith economaidd rhanbarthol a’n dull datblygu economaidd sy'n seiliedig ar leoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn un o sylfaenwyr Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, fel y gŵyr yr Aelod, ac mae hon yn bartneriaeth o sefydliadau sy’n gweithio i gefnogi’r ardal economaidd weithredol drawsffiniol rhwng gogledd ddwyrain Cymru, gorllewin Swydd Gaer a Wirral.
Wel, a gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei ateb i fy nghwestiwn ac am ei gefnogaeth ddiwyro i gais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025? Mae cefnogaeth y Gweinidog wedi’i nodi ar draws y fwrdeistref sirol, ac mae wedi bod yn hynod werthfawr gallu brolio yn ei chylch wrth ymgeiswyr eraill, ac yn amlwg, wrth yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac wrth y bwrdd. Mewn ysbryd o undod gyda’n cefndryd gogleddol, sydd hefyd wedi cefnogi’r cais, a wnewch chi ymuno â Meiri Rotherham a Burnham i alw am symud rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr o Wembley i’r gogledd? Ac a allech chi amlinellu sut y mae trafodaethau gyda’n partneriaid ar draws ardal Mersi a’r Ddyfrdwy yn mynd rhagddynt, gyda golwg ar greu mwy o swyddi o ansawdd uchel ar draws y rhanbarth?
Iawn. Ar y ddau bwynt cyntaf, ydw, rwy’n falch iawn o barhau â fy nghefnogaeth ddatganedig i gais Wrecsam i fod yn Brifddinas Diwylliant y DU. Gwn fod yr Aelod, a chyn-gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn wir, yr Aelod etholaethol dros Wrecsam, wedi datgan eu cefnogaeth i’r cais yn glir iawn hefyd, fel y mae pobl ar draws y rhanbarth a thu hwnt wedi'i wneud, yn wir. Mae iddo gefnogaeth drawsbleidiol.
A chredaf hefyd y byddai'n gam synhwyrol iawn i sicrhau nad yw cefnogwyr Manchester City a Lerpwl yn teithio i Lundain ar gyfer rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr, ac y byddai manteision ehangach i hynny hefyd.
Ac ar ddatblygiadau yn ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, mae fy swyddogion yn parhau i weithio’n uniongyrchol gyda’r siroedd ar ddwy ochr y ffin i geisio deall sut i sicrhau'r budd mwyaf o gyfleoedd sydd eisoes yn bodoli mewn ystod o sectorau, o ynni gwynt ar y môr i ynni niwclear i ynni'r môr, ac wrth gwrs, amrywiaeth o faterion cyflenwi trawsffiniol. Felly, rwy’n obeithiol iawn ynghylch cryfder y bartneriaeth sy’n bodoli, ac ynghylch cydnabyddiaeth y bydd buddsoddiad yn y rhan hon o’r DU, boed ar ochr Cymru i’r ffin neu’r ochr arall, yn cael effaith sylweddol a chadarnhaol. Felly, byddwn yn parhau i gael y sgyrsiau pwrpasol hynny a fydd hefyd, rwy'n gobeithio, yn gynhyrchiol.
Yn ogystal â gwaith adnewyddu signalau a gefnogir gan Lywodraeth y DU ar brif reilffordd gogledd Cymru a thros £1.2 biliwn o gyllid Llywodraeth y DU ar gyfer dinas-ranbarth Lerpwl, sydd o fudd i wasanaethau rheilffordd ac economïau a thrafnidiaeth rhwng dinasoedd yn ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, gan gynnwys gogledd-ddwyrain Cymru, mae ardal Mersi a’r Ddyfrdwy wedi derbyn £59 miliwn yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys £2.6 miliwn ar gyfer rheilffordd Wrecsam-Bidston-Lerpwl, a £400,000 i ddatblygu cynigion ar gyfer gorsaf newydd ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy ymhellach. Mae mynediad di-risiau yng ngorsaf y Fflint hefyd yn cael ei ddatblygu. Mae Network Rail yn bwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu gwelliannau i amseroedd teithio ar brif reilffordd gogledd Cymru i lefel y cam achos busnes amlinellol erbyn haf 2022, ac ar ôl hynny bydd ffrwd gwelliannau'r rhwydwaith rheilffyrdd yn gofyn am benderfyniad dylunio. A bydd £42.5 miliwn o arian datblygu ar gyfer yr adolygiad o gysylltedd yr undeb, a gynhaliwyd ar gyfer Llywodraeth y DU, ac a oedd yn cydnabod bod gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr yn economi drawsffiniol integredig iawn a fydd yn elwa o raglen o welliannau trafnidiaeth, yn cael ei ddyrannu’n fuan. Sut, felly, y byddwch chi a’ch swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau’r budd economaidd mwyaf posibl yn sgil hyn i ardal Mersi a’r Ddyfrdwy?
Wel, hoffem allu gwneud yn union hynny. Er mwyn gwneud hynny, fodd bynnag, mae angen nid yn unig lefel o onestrwydd ond lefel o allu ymarferol i gydweithio, ac ni all hynny fod ar y sail fod Llywodraeth y DU yn penderfynu beth sy'n mynd i ddigwydd ac yna'n mynnu bod Llywodraeth Cymru'n ufuddhau. Nawr, yn ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, mae gennych awdurdodau lleol ar y ddwy ochr i'r ffin sy’n cael y sgwrs gynhyrchiol honno, ac eto’n cynnwys arweinwyr o wahanol bleidiau gwleidyddol, felly mae’n ymwneud â chydnabod y budd ehangach i'r ardal.
Ond mewn gwirionedd, mae ystod o'r meysydd y sonioch chi amdanynt yn eich datganiad a'ch cwestiwn yn dod o gyfrifoldebau a gedwir yn ôl. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, ac wrth gwrs, gall y buddsoddiad hwnnw ddarparu budd economaidd ychwanegol sylweddol. Ac wrth gwrs, yn yr adolygiad o gysylltedd yr undeb y sonioch chi amdano, un o'r pethau y tynnodd sylw ato, fel yn wir y mae cadeirydd Ceidwadol y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig wedi'i wneud, yw bod HS2 yn mynd i fod yn broblem i economi Cymru. Dylid ei ystyried yn brosiect Lloegr yn unig, nid prosiect Cymru a Lloegr, a byddai hynny'n caniatáu inni gael buddsoddiad ychwanegol sylweddol mewn cysylltedd a seilwaith trafnidiaeth yma yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn ymuno â phobl eraill ar draws y Siambr i alw ar Lywodraeth y DU i newid ei meddwl ynglŷn â'r ffordd y mae prosiect HS2 wedi'i gategoreiddio, oherwydd ar hyn o bryd bydd Cymru ar ei cholled.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau? OQ57817
Ar 8 Mawrth, lansiais y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, ac fe fyddwch yn cofio imi wneud datganiad llafar yn y Siambr hon hefyd, lle y cawsoch gyfle i ofyn cwestiynau. Amlinellais ein blaenoriaethau i helpu mwy o bobl yng Nghymru i uwchsgilio, i gael gwaith, ac i ffynnu mewn gwaith, gobeithio, er mwyn cael economi fwy cyfartal sy’n gweithio i bawb.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Nawr, mae cynllun cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adolygu addysg oedolion a dysgu gydol oes a gwella ansawdd a mynediad at ddysgu ffurfiol ac anffurfiol i oedolion sy’n seiliedig ar sgiliau, ac rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Weinidog, y gall cyrsiau byrrach fod yn fwy effeithiol na llwybrau eraill weithiau am gau bylchau sgiliau. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pryd y bydd yr adolygiad o addysg oedolion a dysgu gydol oes yn cael ei gynnal, ac a wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch fel Gweinidog yr economi â darparwyr sgiliau ynglŷn â sut y gellir cryfhau’r sector addysg oedolion a dysgu gydol oes yn y dyfodol?
Mae heriau yn y maes hwn rwy'n eu trafod â’r Gweinidog addysg a dysgu gydol oes, a’n hymgysylltiad ar y cyd â’r sector addysg bellach yn arbennig. Mae'n ymwneud â'r ffordd y mae cyllid yn dal i fod yn amhendant—ac rydym wedi cael y drafodaeth hon fwy nag unwaith am allu pobl i wneud gwaith crefftus—ac nid oes arian digonol yn cael ei ddarparu yn lle cronfeydd yr EU. Bydd y Gweinidog addysg a dysgu gydol oes yn darparu mwy o fanylion am gwblhau’r adolygiad o addysg oedolion a dysgu gydol oes, ond credaf y gellir gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy'r ffordd y lluniwyd ein cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, gyda’r blaenoriaethau a nodwyd gennym ynglŷn â phwy y dymunwn wneud y buddsoddiad hwnnw ynddynt er mwyn sicrhau y gall pobl ddychwelyd i’r farchnad lafur neu ddod yn nes at y farchnad lafur, a bydd hynny’n ymwneud â deall anghenion unigol pobl, nid cael un dull sy'n addas i bawb. Felly, rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelod ddiddordeb pan fydd gennym fwy o fanylion yn y dyfodol agos.
Weinidog, mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn y Rhondda wedi cael eu siomi gan Lywodraethau Torïaidd olynol yn San Steffan. Dro ar ôl tro, rydym wedi colli cyflogaeth o ganlyniad uniongyrchol i'w penderfyniadau. Collodd ein cyndeidiau eu diwydiant. Yn fwy diweddar, rydym wedi colli’r swyddfa dreth, swyddi’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r llysoedd lleol. Rydym wedi colli heddlu ar ein strydoedd, ymhlith swyddi eraill yn y sector cyhoeddus, diolch i gyni'r Torïaid, ac yn awr, mae Boris yn dymuno twyllo Cymru allan o £1 biliwn. Oni bai am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi cwmnïau fel E-Cycle a Flowtech, busnesau lleol yng nghanol ein trefi yn Nhreorci a Glynrhedynog, a mentrau fel y Big Shed yn Nhonypandy, yr hyb gweithio o bell yn y Porth a’r Court House yn Llwynypia, byddai'r ffigurau diweithdra yn y Rhondda yn llawer uwch. Sut y bydd y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau yn adeiladu ar y llwyddiant yr ydym yn dechrau ei weld yn y Rhondda fel nad oes angen inni adael er mwyn llwyddo?
Diolch am eich cwestiwn ac am ein hatgoffa o rai o'r heriau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu, a bydd y diffyg o £1 biliwn o arian yn lle cronfeydd yr UE yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r hyn y gallwn ei wneud a pha mor gyflym y gallwn wneud hynny. Wrth nodi ein cenhadaeth economaidd a'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, rydym yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud, felly dyna pam y byddwn yn parhau i weithio i helpu i ddod â phobl yn nes at y farchnad lafur, y bobl hynny nad ydynt yno eisoes, a gwyddom fod canlyniadau sylweddol a gwahaniaethol i bobl ag anableddau, fel y nododd Joyce Watson yn gynharach, a chyfraddau gweithgarwch economaidd mewn cymunedau fel y rhai y mae’r Aelod yn eu cynrychioli hefyd. Felly, rwy'n hyderus y gallwn wneud gwahaniaeth, ond yr hyn sy'n rhwystredig i mi yw y gallem wneud cymaint mwy pe bai Llywodraeth y DU ar ein hochr. Yn ystod y tymor hwn, rwy'n gobeithio y gwelwn newid yn hynny o beth ar ran y DU, ond rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i sicrhau bod stori well gan y Rhondda a chymunedau tebyg eraill i’w hadrodd ac i sicrhau y gallwn fod yn llwyddiannus ac na fydd angen ichi adael er mwyn llwyddo.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r sector twristiaeth? OQ57830
Mae ein strategaeth, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i’r Economi Ymwelwyr 2020-2025', yn nodi ein gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer y sector. Hefyd wrth gwrs, mae gennym gynllun adfer llunio’r weledigaeth a gyhoeddwyd flwyddyn yn ôl. Yn y gyllideb ar gyfer 2022-23, rydym wedi nodi dyraniad o £47 miliwn dros dair blynedd i gyflawni'r blaenoriaethau hynny.
Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac fel y byddech yn cytuno rwy'n siŵr, mae’r sector twristiaeth mor bwysig yma yng Nghymru, a dyna pam ei bod yn bleser cadeirio grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dwristiaeth. Edrychaf ymlaen at weld llawer o Aelodau’n dod i'r cyfarfod yr wythnos nesaf.
Ond Weinidog, fel y gwyddoch, mae Cymru’n croesawu oddeutu 11 miliwn o ymwelwyr dros nos domestig, 87 miliwn o ymwelwyr undydd, oddeutu 1 filiwn o ymwelwyr rhyngwladol mewn blynyddoedd arferol, ac mae’r bobl hyn yn dod i’n gwlad, yn gwario eu harian, yn cefnogi swyddi lleol ac yn mwynhau’r cyfan sydd gennym i’w gynnig, ac yn fy ardal i yn y gogledd, mae’r sector hwn yn werth oddeutu £3.5 biliwn y flwyddyn i’n heconomi.
Un o’r pryderon mawr y mae’r sector twristiaeth yn eu rhannu gyda mi yw rheoliadau treth gyngor diweddaraf y Llywodraeth ar anheddau gwag, ac yn benodol, y meini prawf ar gyfer alinio llety hunanddarpar ag ardrethi busnes yn lle’r dreth gyngor a’r newidiadau a fyddai’n digwydd yn sgil hynny, gydag eiddo angen cael ei osod am 182 diwrnod bellach, sy’n gynnydd o 160 y cant, ac ar gael i’w osod am 252 o ddiwrnodau, sy’n gynnydd o 80 y cant, ac yn ddryslyd, mae hyn yn wahanol iawn i ddiffiniad CThEM at ddibenion treth. Mae llawer o bobl yn y sector twristiaeth—
Bydd angen ichi ofyn eich cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda.
Fe ddeuaf ato yn awr. Mae llawer o bobl yn y sector twristiaeth wedi eu syfrdanu gan y newidiadau hyn, ac yn eu gweld yn niweidiol i'w bywoliaeth. Felly, Weinidog, a ydych yn credu bod y newidiadau hyn yn dda i'r sector?
Wel, cafwyd sylwadau pwysig ar yr union bwnc hwn ddoe gyda fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mewn cwestiynau mewn mannau eraill. Edrychwch, cyfarfûm â'r fforwm economi ymwelwyr heddiw ac mae hwn yn bwnc y maent wedi'i godi. Ceir pryderon ynghylch nifer o feysydd. Yr her, fodd bynnag, yw'r cydbwysedd yn yr hyn y ceisiwn ei wneud, a'r cydbwysedd yn yr hyn y ceisiwn ei wneud i gael economi ymwelwyr lwyddiannus ac iach, gyda swyddi gweddus a chyflogau gweddus, nad yw'n cael effaith annerbyniol ar gymunedau sy'n cynnal rhannau o'r economi ymwelwyr hefyd. Ac ni ellir taro'r cydbwysedd yn hyn i gyd yn llwyddiannus os ydym yn parhau fel yr ydym a gwneud dim. Felly, byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r holl fusnesau yn yr economi ymwelwyr. Yr hyn na fyddwn yn ei wneud yw esgus bod dal ati fel arfer, fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn mynd i sicrhau'r dyfodol llwyddiannus y mae pawb ohonom am ei weld. A phan fyddwch mewn Llywodraeth, rhaid ichi benderfynu a rhaid ichi wneud dewisiadau ynglŷn â sut y bydd y cydbwysedd hwnnw'n cael ei daro. Rwy'n obeithiol ein bod ar y llwybr i dymor llwyddiannus arall i'r economi ymwelwyr yma yng Nghymru, a mwy i ddod i ymwelwyr domestig a rhyngwladol.
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch annog busnesau i flaenoriaethu iechyd a lles yn y gweithle? OQ57836
Croeso nôl. Mae iechyd a lles gweithwyr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a minnau £1.4 miliwn o gyllid dros y tair blynedd nesaf er mwyn i'r rhaglen Amser i Newid Cymru barhau. Rydym hefyd yn gweithio gyda'n gilydd ar raglen Cymru Iach ar Waith hefyd.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Mae'r pandemig COVID wedi arwain at newid dramatig yn y ffordd yr ydym yn gweithio. Er y bydd llawer o bobl bellach yn dychwelyd i'r swyddfa, bydd rhai gweithwyr yn dal i weithio gartref ac yn dod i arfer ag arferion gwaith newydd a mwy hyblyg. Er bod yr hyblygrwydd i'w groesawu, mae hyn wedi arwain at gymylu'r ffin rhwng yr amgylchedd gwaith a'r cartref mewn rhai achosion. Mae gwledydd fel Portiwgal a Gwlad Belg yn cyflwyno deddfwriaeth hawl i ddatgysylltu, sy'n caniatáu i gyflogeion ddatgysylltu o'u gwaith y tu allan i oriau swyddfa. A fu unrhyw drafodaethau yn Llywodraeth Cymru neu gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyflwyno rheolau tebyg i Gymru?
Na, nid ydym wedi cyrraedd y fan honno. Rydym yn cael sgwrs am yr hyn sy'n gydbwysedd iach yn y ffordd y mae byd gwaith wedi newid yn ystod y pandemig, a pha mor barhaol y bydd y newid hwnnw. Ac mewn gwirionedd, rhai o'r heriau ynghylch goruchwylio pobl pan fyddant yn gweithio o bell—mae'n fater y mae Sarah Murphy, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wrth gwrs, wedi'i godi'n gyson. Mae cydbwysedd rhwng y bobl sydd wedi gweld gwelliant yn eu llesiant o allu gwneud rhywfaint o'u bywyd gwaith o bell a'r rhai sydd wedi ei chael hi'n anodd peidio â bod mor gysylltiedig â'r gweithle hefyd. Felly, nid yw mor syml â dweud, 'Mae mynd yn ôl i'r swyddfa yn dda i iechyd meddwl pawb', ac nid yw mor syml â dweud, 'Mae'n dda i bobl beidio â bod yn gweithio mewn swyddfa hefyd.' Felly, mae'r her yn y cydbwysedd. Ac yn ddiddorol, yng nghynhadledd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ddoe, roedd hyn yn rhan o'r sgwrs a gafwyd.
Yng nghyfarfod y fforwm economi ymwelwyr a gefais heddiw, gwneuthum y cynnig mai'r hyn yr hoffwn ei gael o safbwynt y Llywodraeth yw dealltwriaeth glir, wrth i'r patrwm newidiol ddod i'r amlwg, rhwng busnesau a sefydliadau busnes ac undebau llafur, ar yr hyn y mae patrwm bywyd gwaith gwell yn debygol o olygu, er mwyn sicrhau ein bod yn cydbwyso rhai o'r amcanion hyn sy'n cystadlu o ran sut yr ydych yn camu ymlaen yn eich diwydiant—rhan o'r busnes ymarferol o ddysgu yn y swydd mewn gwirionedd, fel y gwneuthum pan oeddwn yn gyfreithiwr dan hyfforddiant; roedd gwneud hynny'n llawer haws pan oeddech chi o gwmpas pobl eraill—ac ar yr un pryd, cydbwyso rhannau eraill o'ch bywyd a pheidio â gorfod bod mewn un gweithle bum diwrnod yr wythnos am gynifer o oriau â phosibl. Felly, mae hynny'n rhan o'r her sydd gennym, ac rwy'n obeithiol y byddwn yn cyrraedd lle synhwyrol, oherwydd y dull partneriaeth gymdeithasol llwyddiannus sydd gennym. A gallai hynny olygu bod achos dros newid materion a gadwyd yn ôl fel cyfraith cyflogaeth, a gall hefyd olygu y gallwn wneud rhywfaint o hynny, yn syml, gyda'r bartneriaeth lwyddiannus yr ydym eisoes wedi'i sefydlu yma yng Nghymru.
Rwy'n un o lysgenhadon balch yr ymgyrch iechyd meddwl 'Where's Your Head At?', ac mae'r ymgyrch wedi arwain at Fil sy'n mynd drwy Senedd y DU i sicrhau bod hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn cael ei ymgorffori mewn hyfforddiant cymorth cyntaf, ac i gydnabod bod ochr gorfforol a meddyliol hyfforddiant cymorth cyntaf yn gyfartal. Rwy'n meddwl tybed beth a wnewch yn y strategaethau a gyhoeddwyd gennych i sicrhau bod gennym swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ym mhob busnes ledled Cymru, ac onid ydych yn cytuno â mi ei bod yn bwysig inni gael hyrwyddwyr yn y gweithle i ofalu am anghenion pobl â salwch meddwl ?
Wel, mewn gwirionedd, y pwynt ehangach am iechyd meddwl yw ei fod yn rhywbeth i bob un ohonom, o ran cael rhywfaint o gydbwysedd yn yr hyn a wnawn a gallu bod yn llwyddiannus yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith hefyd. Mae'n ymwneud â mwy na'r rheini sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl; mae sicrhau iechyd meddwl da yn rhywbeth i bob un ohonom. Ac mewn gwirionedd, yn hytrach na chael pwynt penodol am geisio mandadu cymorth cyntaf iechyd meddwl, rhywbeth y mae fy swyddfa etholaeth fy hun, er enghraifft, wedi ymgymryd ag ef mewn gwirionedd, a rhywbeth yr ydym yn ei ystyried yn fuddiol, ond mae'n ymwneud hefyd â'r hyn a wnawn drwy annog a rhoi arweiniad yn ehangach. Ac mewn gwirionedd, yn rhaglen Cymru Iach ar Waith, mae hynny'n rhan o'r hyn sy'n digwydd—edrych ar iechyd meddwl gweithlu, nid iechyd corfforol yn unig. Mae hefyd yn rhan o'n contract economaidd yn un o'r pileri newydd, a hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol pobl hefyd. Felly, mae'n bendant yn rhan o'r hyn yr ydym eisiau i fusnesau ei wneud ac yn rhan o'r hyn y disgwyliwn ei weld wrth symud ymlaen fel rhan reolaidd o'r ffordd y mae pob busnes a gwasanaeth cyhoeddus yn gweithredu.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiau COVID ar fusnesau canol trefi yng Ngorllewin De Cymru? OQ57835
Mae COVID wedi cyflymu'r duedd a welwn, gyda'r newid yn y defnydd o ganol trefi a dinasoedd ac yn arbennig, pan oedd y pandemig ar ei anterth, roedd hi'n amlwg ei fod yn lleihau'r galw am fanwerthu ar y stryd fawr. Dyna pam, ym mis Ionawr 2020, y gwnaethom lansio'r rhaglen Trawsnewid Trefi i helpu i gefnogi busnesau yng nghanol trefi, ac mae honno bellach yn cael ei harwain gan fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Diolch, Weinidog. Pan ofynnwyd iddynt nodi'r hyn yr hoffent ei weld yng nghanol eu tref leol neu ar y stryd fawr yn lleol, daeth siopau bach annibynnol, ffyniannus i'r brig mewn arolwg a gynhaliwyd gan y Ffederasiwn Busnesau Bach ar gyfer eu hadroddiad diweddar, 'A Vision for Welsh Towns'. Hyd yn oed cyn COVID, roedd canol trefi yn fy rhanbarth yn ei chael hi'n anodd, ac mae'r pandemig wedi cael effaith arbennig o negyddol ar fusnesau manwerthu bach a theuluol ar y stryd fawr. Mae'r gefnogaeth a roddwyd i'r busnesau lleol hyn yn ystod y pandemig, wrth gwrs, wedi eu helpu i oroesi'r storm arbennig honno, ond erbyn hyn er bod y cyfyngiadau'n llacio, mae nifer yr ymwelwyr yn dal yn isel ac mae'r biliau bellach yn pentyrru go iawn.
Mae un o fy etholwyr wedi bod yn rhedeg siop yng nghanol tref Castell-nedd dros ran helaeth o'r 10 mlynedd diwethaf. Gyda chymorth yn dod i ben ac ardrethi busnes uchel ar ben hynny, dywedodd eu bod yn cael amser caled iawn; gan fod biliau ynni sy'n codi i'r entrychion yn gur pen arall, dywedodd y byddai ardrethi busnes is yn help mawr. Gan fod ardrethi busnes uchel yn dwysáu'r heriau y mae canol trefi'n eu hwynebu, a wnaiff y Gweinidog ystyried cynyddu rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu yng nghanol trefi a gwrando ar alwad y Ffederasiwn Busnesau Bach i gyhoeddi eu hadolygiad o'r system ardrethi busnes ar frys ac amlinellu cynigion ar gyfer diwygio o sylwedd sy'n gweithio i fusnesau bach lleol? Diolch.
Mater i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yw diwygio ardrethi busnes. O ran y system rhyddhad ardrethi, wrth gwrs, rydym wedi cyhoeddi rhyddhad ardrethi i ystod o fusnesau a byddem yn annog busnesau i sicrhau eu bod yn manteisio ar eu hawl i'r rhyddhad ardrethi o 50 y cant. Nawr, mae'n her i rai busnesu newid i gael rhywfaint o ardrethi busnes ar ôl peidio â chael unrhyw ardrethi busnes yn y bôn mewn amryw o'r meysydd hynny, a chaiff hynny ei ddwysáu, wrth gwrs, gan yr argyfwng costau byw, sy'n rhywbeth i gwsmeriaid y busnesau hynny yn ogystal â'r busnesau eu hunain, a fydd â'u biliau ynni eu hunain hefyd.
Felly, mae'r weledigaeth fanwerthu yr ydym yn gweithio arni hyd yn oed yn bwysicach, rwy'n credu, o ran yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i sicrhau bod gennym ddyfodol ffyniannus a chadarnhaol ar gyfer manwerthu, yn siopau mawr a bach. Ac wrth gwrs, mae cael canol trefi effeithiol yn ymwneud yn rhannol ag ymdeimlad o le a'r hyn y mae pobl yn ei feddwl sy'n gwneud y lle y maent yn byw ynddo'n arbennig, yn ogystal â lle y gallech ymweld ag ef hefyd. Dyna pam ein bod yn treialu rhywbeth o'r enw NearMeNow i ddarparu mwy o allu marchnata digidol i fusnesau bach a strydoedd mawr. Oherwydd mewn gwirionedd, yn ogystal â'r nifer o ymwelwyr corfforol, gwyddom nad oedd gan lawer o'r busnesau hynny bresenoldeb digidol cyn y pandemig, ac mae'n rhywbeth a all gynhyrchu ymwelwyr os gall pobl gasglu eitemau o'r busnesau hynny ac edrych ar bryniannau eraill tra byddant yno. Rydym yn parhau i weithio nid yn unig gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach, ond gydag eraill hefyd ar beth fydd y weledigaeth ar gyfer manwerthu yn y dyfodol, ac mae'n bendant yn cydgysylltu â'r gwaith y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei arwain ar newid hinsawdd, ond hefyd fy mhortffolio i ar sut i greu mwy o elw ar gyfer strydoedd mawr a lleoedd ffyniannus.
8. Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i wella ansawdd bywyd pobl wrth ddatblygu mentrau economaidd? OQ57837
Ein gweledigaeth yw economi llesiant sy'n gyrru ffyniant, sy'n amgylcheddol gadarn ac yn helpu pawb i wireddu eu potensial. Mae egwyddorion ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 arloesol yn llywio'r penderfyniadau a wnawn wrth gefnogi ein mentrau economaidd.
Diolch. Mae'r pandemig wedi gadael argraff barhaol ar y cymunedau rwy'n eu cynrychioli yn Nwyrain De Cymru, ac mae'r effaith wedi bod yn fwy niweidiol yn y mannau tlotaf yn y wlad, gan waethygu'r anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli. Gan ein bod wedi nodi dwy flynedd ers inni ddechrau'r cyfyngiadau symud cyntaf, a yw'r Llywodraeth wedi ystyried sut y gall mesurau economaidd ymgorffori mesurau a fyddai'n hybu cenedl iachach a thecach? Er enghraifft, yn ein maniffesto llywodraeth leol, bydd Plaid Cymru yn addo rhoi mynediad i staff llywodraeth leol at wasanaethau iechyd galwedigaethol, cyfleusterau hamdden a chwaraeon, yn ogystal â gweithio gyda darparwyr busnes i weld sut y gellir ehangu'r mynediad hwn i gynnwys gweithwyr busnesau bach a chanolig. A yw hyn yn rhywbeth y bydd eich Llywodraeth yn ceisio gweithio arno ar y cyd ag awdurdodau lleol? Diolch.
Wel, wrth gwrs, bydd gan bob awdurdod lleol ei fandad ei hun yn y dyfodol agos, ac rwy'n gobeithio gweithio gyda nifer fwy byth o arweinwyr Llafur Cymru yn y dyfodol. Ond fel y gwelsom yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio'n effeithiol gydag arweinwyr o wahanol liwiau gwleidyddol. Ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, ceir arweinydd Ceidwadol, aelodau annibynnol a Llafur. Pan feddyliaf am ogledd Cymru a'r gorllewin, rydym unwaith eto'n gweithio gydag arweinwyr gwleidyddol o bleidiau amrywiol. Felly, yr her fydd y mandad sydd gan bob awdurdod lleol a'u dewisiadau ynglŷn â sut y maent am arfer y pwerau a'r cyfrifoldebau sydd ganddynt hefyd.
Ond mae sicrhau Cymru iachach a thecach yn cyd-fynd â dyhead ac uchelgais y Llywodraeth hon. Os meddyliwch am y cwestiynau yr ydym newydd eu clywed, am y contract economaidd, am un o'i brif elfennau yn awr gyda'r alwad am wella iechyd corfforol a meddyliol y gweithlu. O safbwynt gwaith tecach, os meddyliwch y bydd deddfwriaeth sylweddol yn dod, lle bydd yr Aelodau'n trafod beth i'w wneud ar gaffael partneriaethau cymdeithasol ac yn cynnwys cysyniad canolog gwaith teg. Felly, mae hynny'n ganolog i genhadaeth y Llywodraeth hon: twf economaidd mewn modd cynaliadwy, a chenedl gwaith teg go iawn. Felly, edrychaf ymlaen at sgyrsiau adeiladol, gobeithio, beth bynnag fydd dyfarniad yr etholwyr ac arweinyddiaeth awdurdodau lleol Cymru yn y dyfodol.
9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adferiad busnesau canol trefi yn sir Gaerfyrddin? OQ57828
Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi gwerth £136 miliwn yn canolbwyntio ar arallgyfeirio a thwf cynaliadwy canol trefi a dinasoedd, drwy ymyriadau sy'n cynnwys ailddefnyddio adeiladau segur a gwag, cynyddu amrywiaeth a mynediad at wasanaethau mewn trefi a dinasoedd, a phwyslais ar ofod byw a gweithio hyblyg, mannau defnydd cymysg, gwell seilwaith gwyrdd, a gwasanaethau a hamdden wrth gwrs.
Fe glywon ni yn gynharach, wrth gwrs, yng nghwestiwn Sioned Williams, y cyfeiriad at adroddiad yr FSB, sy'n dangos sefyllfa heriol iawn ar gyfer siopau yn ein canol trefi, ac roedd 67 y cant o'r cyhoedd a oedd wedi cael eu cwestiynu yn disgrifio eu canol trefi nhw yn llwm neu yn wael o gymharu â dim ond 3 y cant yn sôn am ganol trefi ffyniannus. Ydy'r Gweinidog, yn y cyd-destun heriol hynny, yn croesawu'r buddsoddiad helaeth mae cyngor sir Caerfyrddin, o dan arweiniad Plaid Cymru, wedi'i gyhoeddi yn ei raglen trefi—y rhaglen 10 Tref—gan gynnwys buddsoddiad yn nhref Rhydaman yn fy etholaeth i? Ac, o feddwl am beth gall Llywodraeth Cymru ei wneud ar lefel genedlaethol i hyrwyddo'r buddsoddiad lleol yma, ydych chi'n edrych ar ddiwygio, symud o'r system ardrethi busnes i sail newydd, ar sail gwerth tir, lle mae yna dystiolaeth y byddai newid hynny yn hyrwyddo, yn ysgogi, buddsoddiad gwell yn ein canol trefi ac yn decach o ran y mathau o siopau lleol annibynnol roedd Sioned Williams yn cyfeirio atyn nhw?
Wel, rwy'n croesawu galwad gyson yr Aelod am weld prisio tir yn cymryd lle ardrethi busnes, ac wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, mater i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yw a ddylid diwygio ardrethi busnes ai peidio.
Ond rwy'n parhau i ymddiddori yn realiti ymarferol y sefyllfa yr ydym ynddi yn awr a lle y gallem fod yn y dyfodol, a dyna pam ein bod wedi gweithio ochr yn ochr â threfi gyda gwaith penodol, cyllid penodol, nid menter Trawsnewid Trefi yn unig, ond yr arian yr ydym wedi'i roi i ganol trefi clyfar, y gronfa trefi i fusnes, yr hyn y bwriadwn ei wneud i fesur a chwyddo defnydd o fannau byw a gweithio ffyniannus. Ac ar y gwaith y mae Cyngor Sir Gâr yn ei wneud wrth gwrs, maent wedi cael dros £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy gyllid grant Trawsnewid Trefi, ac mae hynny wedi helpu gydag amrywiaeth o brosiectau trawsnewid y mae'r cyngor yn eu cyflawni gyda'r cyllid hwnnw gan Lywodraeth Cymru.
Fel y dywedais yn gynharach, rwy'n croesawu'r ffaith bod awdurdodau lleol dan arweinwyr gwleidyddol gwahanol yn bwriadu buddsoddi yng nghanol eu trefi, gan fuddsoddi yn eu dyfodol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda phwy bynnag y mae'r etholwyr yn ei ddewis i barhau i arwain a rhedeg Cyngor Sir Gâr ar y gwaith y credaf y down o hyd i gonsensws iddo, yn sir Gaerfyrddin ac ar draws pob un o'r rhanbarthau economaidd, lle mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn cyfuno ac yn rhannu amryw o'u hadnoddau.
Ac yn olaf, cwestiwn 10, Rhys ab Owen.
10. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda phartneriaid i sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled yn economaidd oherwydd cronfa codi'r gwastad? OQ57823
Fel y gŵyr yr Aelod, mae Llywodraeth y DU wedi diystyru Llywodraeth Cymru a'r Senedd gyda'r ffordd y mae'r gronfa hon wedi gweithredu yn ei chyfnod treialu. Nid yw'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol parhaus ledled y DU fel y mae wedi'i ffurfio ar hyn o bryd. Rwy'n dal i gael trafodaethau gyda phartneriaid—nid Gweinidogion y Llywodraeth yn unig, ond y tu allan i Lywodraeth Cymru—ar y ffordd orau o liniaru'r aflonyddwch a cholli cyllid cyffredinol yn sylweddol, sy'n cynnwys, wrth gwrs, yr £1 biliwn o golled y byddwn yn ei hwynebu dros y blynyddoedd nesaf.
Diolch yn fawr, Weinidog. Ychydig wythnosau yn ôl, ymwelais â chanolfan newydd Spark ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwy'n annog pob Aelod i ymweld â'r ganolfan ymchwil newydd honno. Fe wnaethant bwysleisio i mi, cyn Brexit, faint o arian a dderbynient gan yr Undeb Ewropeaidd. Derbyniodd Prifysgolion Cymru bron i £570 miliwn ers troad y ganrif. Yng nghyd-destun Prifysgol Caerdydd, cafodd hynny effaith enfawr ac mae wedi bod yn hollbwysig i'w hymchwil a'u prif fentrau, sydd wedi rhoi hwb enfawr yn sgil hynny i'r economi leol yng Nghaerdydd a thu hwnt. Ond roeddent yn pryderu'n fawr am y cynigion codi'r gwastad sy'n effeithio ar brifysgolion yng Nghymru. Felly, yn y cyd-destun hwn—rwy'n derbyn yr hyn a ddywedoch chi, eich bod chi fel Llywodraeth wedi cael eich diystyru'n llwyr—pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog addysg a hefyd gyda Llywodraeth y DU a phrifysgolion i sicrhau nad yw prifysgolion Cymru ar eu colled oherwydd cronfa codi'r gwastad Llywodraeth y DU? Diolch yn fawr.
Y realiti yw efallai na fyddwn yn gallu sicrhau nad yw prifysgolion, a'r sector addysg bellach yn wir, a oedd hefyd yn elwa'n sylweddol o gronfeydd Ewropeaidd, ar eu colled. Mae hynny oherwydd y dewis sydd wedi'i wneud. Mae'n ddewis clir i beidio â chynnwys Llywodraeth Cymru a pheidio â chyflawni'r addewid maniffesto clir i sicrhau arian yn lle pob ceiniog o'r hen gronfeydd Ewropeaidd.
Rydych yn iawn i dynnu sylw at y cannoedd o filiynau o bunnoedd sydd wedi mynd i'r sectorau addysg bellach ac uwch, ac mae honno'n her—ar hyn o bryd, nid oes gennym gyllidebau i wneud iawn am yr holl golled honno. Ni all hynny fod yn iawn i Gymru. Mewn gwirionedd, os meddyliwch am unrhyw blaid cyn etholiad diwethaf y Senedd a gawsom tua blwyddyn yn ôl, nid aeth neb i mewn i'r etholiad hwnnw gan addo dileu cyllid ymchwil, datblygu ac arloesi. Yn wir, roeddem i gyd yn sôn am beth arall y dymunem ei wneud, a'r un peth am sgiliau, yn wir. Ond canlyniad uniongyrchol yr hyn sy'n digwydd yw nad oes gennym gyllideb i barhau hyd yn oed ar yr un lefel yn y darlun cyffredinol hwnnw o ganlyniad i gyllid Ewropeaidd.
Rwyf wedi gwneud dewisiadau i flaenoriaethu buddsoddi mewn sgiliau, ac mae hynny'n golygu na fyddaf yn gallu gwneud cymaint mewn meysydd eraill. A phan feddyliwch am rai o'r penawdau cadarnhaol sydd wedi dod o'r ffordd y mae'r adran codi'r gwastad wedi cyhoeddi mentrau yn ddiweddar, maent yn sôn am gynnydd yng nghanran y dyraniad arian i ymchwil, datblygu ac arloesi. Y broblem gyda hynny yw bod y cynnydd sydd wedi'i gyhoeddi yn £9 miliwn o gyllid ychwanegol; serch hynny rhaid ichi netio hwnnw yn erbyn y £60 miliwn yr ydym wedi'i golli o gyllid yr UE. Felly, mae'n dal i fod yn golled net o £51 miliwn i Gymru bob blwyddyn. Mae'r holl bethau hynny gyda'i gilydd yn her wirioneddol y byddwn yn ei hwynebu.
Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn lleisio'r alwad y bu bron i lefarydd y Ceidwadwyr ar y mater hwn ei gwneud, pan ddywedodd, ychydig wythnosau'n ôl yn unig yn y Siambr hon, na ddylai Cymru fod ar ei cholled ac y dylid cadw'r addewid maniffesto. Gobeithio y gallwn gael eglurder ar y mater ar draws y Siambr i gyflwyno'r achos dros Gymru, er mwyn sicrhau nad oes biliwn yn mynd ar goll yn y tair blynedd nesaf.
Diolch i'r Gweinidog.
Galwaf nawr ar Luke Fletcher i ofyn ei gwestiwn amserol i Weinidog yr Economi cyn inni symud ymlaen at eitem 2.
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd penderfyniad yr Uchel Lys mewn perthynas â pharc ynni Baglan yn ei chael ar fusnesau? TQ611
Mae fy swyddogion a minnau'n ystyried y dyfarniad, gan gynnwys safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag apêl bosibl o ddyfarniad yr Uchel Lys. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o'r straen a'r ansicrwydd y mae cwsmeriaid y parc ynni wedi'u profi. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl bartïon perthnasol i geisio sicrhau ateb sy'n diogelu'r amgylchedd, iechyd y cyhoedd a swyddi. Wrth gwrs, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar y mater ddoe ar ôl cais Mike Hedges mewn cwestiynau i'r Trefnydd.
Diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn falch o wybod mai dyma fy nghwestiwn olaf i chi heddiw. Mae Jonathan Ridd, cyfarwyddwr yn y parc ynni, wedi dweud y bydd yn rhaid i gwmnïau bach yn y parc dalu cost generaduron diesel yn awr er mwyn parhau i weithredu, gan ddweud y bydd rhai busnesau yn talu hyd at wyth gwaith yn fwy am ynni o ystyried y costau tanwydd cynyddol. Mae hyn yn ei dro yn rhoi pwysau ar gyllid cwmnïau, gyda rhai o bosibl heb unrhyw ddewis ond lleihau, gan roi swyddi mewn perygl os bydd hynny'n digwydd. A yw'r Llywodraeth wedi edrych yn benodol ar sut y gallant helpu busnesau gyda'r gost ychwanegol bosibl, a pha gymorth wrth gefn sy'n bodoli i unrhyw weithiwr a allai golli ei swydd?
Os yw gweithwyr yn colli eu swyddi, mae gennym ystod o fesurau cymorth y gallwn eu rhoi ar waith ac a roddwyd ar waith gennym yn y gorffennol. Ond yr hyn y ceisiwn ei wneud mewn gwirionedd mewn amryw o'r camau yr ydym yn eu cymryd yw ceisio osgoi colli nifer sylweddol o swyddi o ganlyniad i'r camau arfaethedig i dorri'r cyflenwadau pŵer. Yr hyn a ddywedodd y dyfarniad oedd y bydd pŵer pob busnes yn cael ei gadw tan o leiaf 4 Ebrill. Nid yw hynny'n bell i ffwrdd, ac mae'n golygu bod gwir reidrwydd i fy swyddogion a minnau benderfynu a ydym yn mynd i apelio yn erbyn y dyfarniad neu'n wir a ellir gohirio hynny oherwydd achos yr adolygiad barnwrol a gyflwynais i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn Llywodraeth y DU.
Ydw, rwy'n pryderu, ydw, rwy'n parhau i weithio gyda fy swyddogion ond hefyd partneriaid eraill gan gynnwys Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Dŵr Cymru, ac rydym yn pryderu'n arbennig am yr effaith ar swyddi yn y parc. Yr her i hyn, serch hynny, yw, os yw pobl yn defnyddio generaduron diesel, nid y gost iddynt hwy yn unig ydyw—mae cost amgylcheddol i hynny hefyd. Mae'n ardal heb ansawdd aer gwych, a gall defnydd sylweddol o generaduron diesel fod yn rhywbeth na fyddai Cyfoeth Naturiol Cymru mewn sefyllfa i'w ganiatáu. Mae gennym amrywiaeth o feysydd yr ydym wedi gofyn i'r llys eu hystyried. Fel y dywedais, bydd angen imi gael cyngor pellach gan fy swyddogion, gan gynnwys cyngor cyfreithiol, ac os cymerir unrhyw gamau pellach, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau gyda datganiad ysgrifenedig arall wrth gwrs.
Fel y soniodd y Gweinidog, gofynnais gwestiwn am hyn i'r Trefnydd ddoe. A gaf fi ddiolch i Lywodraeth Cymru am weithredu'n gyflym? Darllenais ddatganiad y Gweinidog ddoe. Rwy'n croesawu'r penderfyniad i gyflwyno achos drwy adolygiad barnwrol i'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae perygl i hyn effeithio'n ddifrifol ar gyflogaeth pobl sy'n byw yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, fel y gwyddoch eich hun, Ddirprwy Lywydd. Mae diffyg gweithredu Llywodraeth San Steffan yn frawychus. A oes unrhyw beth pellach y gall Llywodraeth Cymru neu gwmnïau ar y safle ei wneud i sicrhau bod y cyflenwad yn parhau?
Rydym wedi gweithio'n galed iawn dros bron i flwyddyn bellach i geisio rheoleiddio'r cyflenwad ers penodi'r derbynnydd swyddogol ac ers bod bygythiad gwirioneddol i'r cyflenwad pŵer. Mae rheswm pam na all y Dirprwy Lywydd ofyn y cwestiwn hwn er ei fod yn ei etholaeth, ac rwyf wedi gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo am amrywiaeth o faterion y tu allan i'r Siambr. Mae'r cyflenwad pŵer yn effeithio ar fusnesau yn y parc; mae hefyd yn effeithio ar y cyflenwad pŵer i orsafoedd pwmpio a weithredir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Dŵr Cymru. Rhan o'n her os bydd y gorsafoedd pwmpio hynny'n methu a bod storm, fel y mae pawb ohonom wedi arfer eu gweld yn fwy rheolaidd, yw y gallai fod canlyniadau sylweddol i fusnesau, trigolion, a'r hyn y byddai'n ei olygu i amgylchedd cyfagos yr aber pe bai dŵr budr yn gollwng. Gellir osgoi niwed i'r amgylchedd ac i bobl. Dyna pam ein bod yn cyflwyno achos yr adolygiad barnwrol—oherwydd ein dadl ni yw bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn Llywodraeth y DU bŵer i gyfarwyddo'r derbynnydd swyddogol. Mae'n werth nodi, mewn llys agored, ei bod yn ymddangos bod cynrychiolwyr cyfreithiol y derbynnydd swyddogol yn cyfaddef mai dyna oedd eu barn hwythau hefyd. Yr her yw a fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn arfer y pŵer y dywedwn sydd ganddo neu a fyddwn ni, mewn gwirionedd, yn gwario llawer o arian cyhoeddus ar ddilyn llwybr cyfreithiol arall yn hytrach na gweithredu ar yr hyn y gwelaf yw'r ffordd fwyaf cymesur a lleiaf costus o osgoi'r niwed sylweddol a allai ddigwydd i swyddi, iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd.
Weinidog, fel y dywedoch chi'n gwbl briodol yn eich datganiad ysgrifenedig, bydd effaith sylweddol iawn yn sgil terfynu'r cyflenwad ynni gwifren breifat i fusnesau a dinasyddion ym Maglan. Yn ogystal â'r achosion cyfreithiol a gychwynnwyd gan Lywodraeth Cymru, Dŵr Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, beth arall sy'n cael ei wneud i gyflymu'r cyflenwad ynni i'r safle fel y gellir diogelu swyddi a bod gweithwyr yn cael yr hyder sydd ei angen arnynt i gael sicrwydd nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnu arnynt yn y sefyllfa hon?
Credaf fod cywair eich sylw olaf yn dadwneud rhai o'r pwyntiau mwy cadarnhaol a wnaethoch yn gynharach. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar weithwyr o gwbl. Rwyf wedi cytuno i wario sawl miliwn o bunnoedd—rwyf wedi amlinellu hyn mewn datganiadau ysgrifenedig blaenorol y bydd yr Aelod wedi cael cyfle i'w darllen—i reoleiddio'r cyflenwad mewn gwirionedd. Nid cyfrifoldeb statudol Llywodraeth Cymru yw gwneud hynny, ond rwy'n dewis ei wneud oherwydd yr effaith uniongyrchol ar nifer sylweddol o swyddi yn y parc hwnnw. Ond hefyd, fel y dywedais mewn ymateb i Mike Hedges ac yn y sgyrsiau rheolaidd y mae'r Aelod etholaeth wedi'u cael gyda mi, os bydd y gorsafoedd pwmpio'n methu, mae gwir berygl o niwed gwirioneddol sylweddol i drigolion a busnesau a'r amgylchedd ehangach. Dyna pam ein bod yn talu i osod cysylltiad newydd. Er bod y cysylltiad â'r gorsafoedd pwmpio i fod i gael ei gadw tan 18 Ebrill, ein her yw nad oes gennym sicrwydd y bydd Western Power wedi rheoleiddio cyflenwad i'r lleoedd hynny erbyn hynny. Pwy ar y ddaear a fyddai am fod mewn sefyllfa lle y ceir storm wythnos ar ôl y Pasg, gyda chyflenwad pŵer ysbeidiol, a'r gorsafoedd pwmpio heb fod yn gweithio'n effeithiol? Rydym wedi gweithredu'r camau a wnaethom hyd at y pwynt hwn. Dyna pam y credwn mai'r peth iawn i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ei wneud yw arfer y pŵer y dywedwn sydd ganddo i gyfeirio'r derbynnydd swyddogol at lwybr gweithredu gwahanol, gan roi ystyriaeth briodol i effaith uniongyrchol ac anochel torri'r cyflenwad pŵer ar yr adeg honno. Fel y dywedais, wedi imi gael cyngor pellach gan fy swyddogion, rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd gennyf fwy i'w ddweud.
Diolch, Weinidog.
Eitem 2 heddiw, cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae cwestiwn 1 i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Andrew R.T. Davies.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â rhestrau aros iechyd meddwl yng Nghymru? OQ57840
Rydym yn blaenoriaethu £50 miliwn, £75 miliwn a £90 miliwn ychwanegol o gyllid wedi'i neilltuo ar gyfer iechyd meddwl ar gyfer 2022-23, 2023-24 a 2024-25 yn y drefn honno. Mae hyn yn ychwanegol at y £760 miliwn a fuddsoddir yn flynyddol o gyllid iechyd meddwl wedi'i neilltuo i fyrddau iechyd lleol, a bydd yn cefnogi'r gwaith parhaus o drawsnewid ein gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn darparu ymyrraeth gynharach a lleihau'r angen am wasanaethau mwy arbenigol.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Y llynedd, gofynnais gwestiwn i chi ynglŷn â'r amseroedd atgyfeirio yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, ac yn enwedig amseroedd atgyfeirio truenus y cyfnod asesu 28 diwrnod, lle'r oedd Caerdydd a'r Fro ond yn asesu traean o gleifion, yn hytrach na chyfartaledd Cymru o ddwy ran o dair o gleifion. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu arian ychwanegol—mae arian ychwanegol sylweddol wedi'i ddarparu. Yn aml iawn, mae'n ymwneud â mwy na'r arian, mae'n ymwneud â sut y caiff ei ddefnyddio. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi ynghylch pa welliannau y mae cleifion yn ardal Caerdydd a'r Fro wedi'u gweld oherwydd yr arian hwnnw ac yn bwysig, beth yw'r amseroedd atgyfeirio diweddaraf? Oherwydd nid yw asesu traean o gleifion o fewn 28 diwrnod yn ddigon da.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol? Rwy'n rhannu ei bryderon ynghylch yr anawsterau sy'n parhau gydag amseroedd aros yng Nghaerdydd a'r Fro. Cyfarfûm â Chaerdydd a'r Fro dair gwaith i drafod, yn fanwl, eu dull o reoli eu hamseroedd aros. Credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod eu bod yn wynebu heriau arbennig yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae dwy ran o dair o'r plant sy'n aros yng Nghymru ar restr aros Caerdydd a'r Fro am wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS) arbenigol mewn gwirionedd, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ymdrin â set unigryw o amgylchiadau.
Ym mis Tachwedd 2021 nododd y bwrdd iechyd 27 y cant o gynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau am CAMHS gofal sylfaenol, a 17 y cant am CAMHS arbenigol. O fy nhrafodaethau gyda Chaerdydd a'r Fro—ac rwy'n cytuno'n bendant â chi nad yw'n ymwneud ag arian yn unig—gwn fod ganddynt lawer o swyddi gwag o hyd, ac er gwaethaf eu hymdrechion gorau, maent yn ei chael hi'n anodd iawn recriwtio i'r swyddi hynny. Maent yn edrych ar opsiynau gwahanol i lenwi'r swyddi gwag hynny erbyn hyn. Rwyf hefyd wedi gofyn i uned gyflawni'r GIG edrych yn benodol ar Gaerdydd a'r Fro a gweld pa gymorth y gellir ei ddarparu. Rydym hefyd yn edrych ar ba gymorth arall y gallwn ei ddarparu fel Llywodraeth Cymru ac fel rhan o'r cyllid gwella gwasanaeth y byddwn yn ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf. Rwyf hefyd wedi dweud yn glir wrth bob bwrdd iechyd fy mod yn disgwyl iddynt ddarparu cynllun manwl yn nodi sut y byddant yn lleihau amseroedd aros.
Dylwn ychwanegu hefyd fod Caerdydd a'r Fro yn rhoi camau eraill ar waith i geisio rheoli eu hamseroedd aros, gyda'r defnydd o gynnig digidol i leihau amseroedd aros. Maent yn buddsoddi yn y trydydd sector ac yn edrych ar fwy o gymorth drwy hyfforddi gweithwyr cymorth gan gymheiriaid. Felly mae llawer o waith ar y gweill, ond mae rhagor i'w wneud. Ond i dawelu meddwl yr Aelod, byddaf yn cyfarfod â Chaerdydd a'r Fro eto yn weddol fuan ac rwy'n parhau i gael y drafodaeth honno gyda hwy ynglŷn â'u hamseroedd aros.
Diolch. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich ateb ac rwy'n gwerthfawrogi'r diddordeb yr ydych wedi'i ddangos yng Nghaerdydd a'r Fro. Wrth siarad â fy etholwyr, gwelaf fod llawer gormod o gleifion sy'n mynd at eu meddyg am eu bod yn teimlo iselder, unigrwydd neu bryder yn cael cynnig presgripsiwn yn hytrach na therapïau siarad eraill neu bethau eraill, sy'n cuddio'r broblem a gall arwain at broblemau hirdymor fel agoraffobia. Felly, beth yw eich strategaeth ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy'n cael presgripsiwn cymdeithasol i hyrwyddo llesiant, a fyddai wedyn yn rhyddhau amser i'r arbenigwyr iechyd meddwl y cawn gymaint o anhawster yn eu recriwtio i ganolbwyntio ar y problemau iechyd meddwl acíwt a pharhaus hynny?
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Jenny, ac rwy'n llwyr gefnogi presgripsiynu cymdeithasol fel ffordd o gysylltu pobl â chymorth anghlinigol yn y gymuned, ac rwy'n ystyried bod cymorth o'r fath yn rhan wirioneddol allweddol o'n hagenda ataliol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gael fframwaith Cymru gyfan i gefnogi presgripsiynu cymdeithasol. Bydd y fframwaith hwnnw'n amlinellu'r arferion gorau yng Nghymru, ond yn bwysig iawn, ni fydd yn pennu'r hyn a ddarperir mewn gwahanol gymunedau, oherwydd mae arferion rhagorol i'w cael allan yno eisoes. Mae fy swyddogion ar hyn o bryd yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid ar y model arfaethedig, a bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol ym mis Mai. Ac fe fyddwch yn falch o wybod hefyd, o fis Ebrill ymlaen, y bydd ein cronfa integreiddio ranbarthol newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i gefnogi'r modelau presgripsiynu cymdeithasol hynny y gwyddom eu bod mor bwysig.
Hefyd, rydym yn parhau i fuddsoddi'n helaeth iawn fel Llywodraeth mewn cymorth haen 0 lefel is, oherwydd, fel y dywedwch, nid oes angen cymorth arbenigol ar lawer o bobl sy'n ceisio atgyfeiriadau ar gyfer eu hiechyd meddwl. Felly, rydym yn parhau i fuddsoddi yn llinell gymorth CALL. Rydym yn ehangu mewn gwirionedd—rydym wedi cyhoeddi £7 miliwn i ehangu'r therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein, SilverCloud, gan gynnwys ehangu hwnnw ar gyfer plant. Ac rydym yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud gyda'n cyllid ychwanegol dros y tair blynedd nesaf i roi hwb i'r cymorth haen 0 lefel is hwnnw er mwyn atal anawsterau rhag gwaethygu.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ57827
Diolch yn fawr. Mae Bwrdd iechyd Hywel Dda yn gweithio'n gyflym i sicrhau bod pobl yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn cael mynediad amserol at ofal brys ac argyfwng. Rŷn ni'n cefnogi'r bwrdd iechyd trwy gyllid ychwanegol wedi'i dargedu fel bod modd gwella ansawdd ac amseroldeb y gofal yn yr adran damweiniau ac achosion brys yng Nglangwili.
Rŷn ni i gyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o’r pwysau anhygoel sydd ar y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, ond mae’n fy nharo i fod sefyllfa a oedd eisoes yn wael cyn y pandemig erbyn hyn wedi troi'n argyfyngus. Dwi wedi cael achosion yn ddiweddar o un etholwr yn gorfod aros mewn ambiwlans am 10 awr y tu fas i Glangwili, teulu arall, o Frynaman, yn gorfod aros saith awr i'w plentyn nhw weld doctor, ac mae aros am bum awr wedi troi'n gyffredin erbyn hyn. Ac mae'n rhaid cofio, wrth gwrs, oherwydd daearyddiaeth yr ardal, fod pobl yn aml iawn wedi aros yn hir iawn i ambiwlans ddod atyn nhw ac wedyn wrth gwrs wedi gorfod teithio'n bell yn aml i Langwili yn y lle cyntaf.
Ac wrth gwrs, rŷn ni'n ymwybodol o'r broblem trwy Gymru ar hyn o bryd. Dwi'n edrych ar A&E live ac rŷch chi'n gorfod aros ar hyn o bryd hyd at naw awr yn Wrecsam Maelor a hyd at wyth awr yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Cam cyntaf datrys argyfwng fel hyn, Weinidog, ydy cydnabod bod yna greisis. Ydych chi'n fodlon derbyn bod yna greisis o ran sefyllfa'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru ar hyn o bryd?
Dwi ddim yn derbyn bod yna greisis, ond dwi yn derbyn bod yna bwysau aruthrol ar y gwasanaeth ar hyn o bryd. Dwi wedi cael cyfarfod arall â phrif weithredwr y gwasanaeth ambiwlans y bore yma, fel dwi'n cael yn aml, achos ein bod ni'n benderfynol o wella'r sefyllfa. Wrth gwrs, y peth i'w gofio yw'r ffaith bod hwn yn rhan o system gyflawn, a'r ffaith, ar hyn o bryd, yw bod yna 129 o bobl yn Hywel Dda sydd yn barod i gael eu hanfon allan o'r ysbyty, ond mae hwnna'n anodd achos bod y sefyllfa yn y gwasanaeth gofal mor fregus. Ac mae'n dda ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd ar ddatrys y broblem yma. Ond dyw hi ddim yn broblem y byddwn ni'n ei datrys dros nos. Mae hefyd rhaid cofio bod yna 118 o bobl sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd yn Hywel Dda yn dioddef o COVID, ac mae hwnna'n dod â phwysau ychwanegol.
Mae'n dda gen i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi arian ychwanegol i helpu'r sefyllfa—£25 miliwn. Bydd Hywel Dda yn derbyn o leiaf £1 filiwn o'r arian yma i helpu i ddatblygu canolfannau ar gyfer primary care. Hefyd, bues i'n ymweld â Glangwili yn ddiweddar, gan fynd i'r gwasanaeth yna—y same-day emergency care unit. Ac mae'n werth mynd i weld y gwasanaeth yna, achos beth maen nhw'n trial gwneud yw sicrhau bod pobl â ffordd arall i gael eu gweld ar yr un diwrnod, yn hytrach na'u bod nhw'n mynd i'r accident and emergency service.
Weinidog, y prif wasanaeth ysbyty yn etholaeth Adam Price a fy etholaeth i, ar y ffin ddwyreiniol, yw ysbyty Glangwili. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod amseroedd aros yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn yr ysbyty hwn yn annerbyniol. Mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod 46.5 y cant o gleifion yn treulio mwy na phedair awr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, ac mae 16.5 y cant—un rhan o chwech o'r holl gleifion—yn treulio mwy na 12 awr yn aros, y gwaethaf yn rhanbarth bwrdd iechyd Hywel Dda i gyd. Un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at y cyfraddau hyn yw'r anawsterau y mae ysbytai'n eu hwynebu wrth ryddhau cleifion, gyda'r ôl-groniadau i'w gweld drwy gydol y daith drwy'r ysbyty—rhywbeth y gwn fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymchwilio iddo ar hyn o bryd. Gyda'i bod hi'n ddwy flynedd heddiw ers gosod y cyfyngiadau symud COVID-19 ar y wlad, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y pwysau aruthrol a fu ar ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am y 24 mis diwethaf a'n bod yn diolch i staff y GIG am eu gwasanaeth. Ond pa gamau yr ydych chi fel y Gweinidog, a Llywodraeth Cymru, yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r ffigurau pryderus hyn a gwella profiad ysbyty i gleifion ledled sir Gaerfyrddin?
Diolch yn fawr, Sam—diolch yn fawr am hynny. A hoffwn ymuno â chi i ddiolch i'n GIG cyfan ac yn wir, i'n gweithwyr gofal am y gwaith anhygoel y maent wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf. A chredaf ei bod yn werth myfyrio ar y pwysau a fu arnynt am y cyfnod hir hwnnw.
Rhan o'r broblem sydd gennym yng Nglangwili mewn gwirionedd yw'r ffaith ein bod yn cael trafferth recriwtio, ac mae gorddibyniaeth ar weithwyr asiantaeth a banc a goramser o ran yr hyn sy'n digwydd yng Nglangwili. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bod yn rhaid iddynt dalu mwy o arian, sy'n gwthio'r bwrdd iechyd i fwy fyth o ddyled. Felly, mae'r holl bethau hynny'n broblemau, ac rwy'n tybio mai dyna un o'r rhesymau pam y mae'r bwrdd iechyd yn awgrymu cyfuno'r adran ddamweiniau ac achosion brys mewn ysbyty newydd, fel y gellir recriwtio'n haws. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y maent yn ei awgrymu ac yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y mae fy swyddogion yn gweithio arno ar hyn o bryd.
Credaf fod problem system gyfan yma. Rydym bellach wedi cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol, o fis Ebrill ymlaen, ac wedi sefydlu pont i'r rheini sydd yn y gwasanaeth eisoes i gyrraedd y cyflog byw gwirioneddol hwnnw, gyda chymorth ychwanegol, a gobeithiwn y bydd hynny'n annog pobl i aros yn y gwasanaeth, fel y gallwn ymdrin â'r bobl a nodwyd gennych, sydd yn yr ysbyty, na ddylent fod yno, pobl y mae angen eu rhyddhau ond nad oes unman iddynt gael eu rhyddhau iddo oherwydd breuder y system honno—. Felly, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r mater hwnnw. Rydym wedi dechrau gwneud hynny drwy'r cyflog byw gwirioneddol. Mae gennym gomisiwn gofal y gwn fod Julie Morgan yn gweithio'n agos iawn ag ef, ond mae hwn yn fater system gyfan ac yn sicr mae'n rhywbeth y byddaf yn ei godi gyda'r cadeiryddion pan fyddaf yn cyfarfod â hwy yfory.
Adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Treforys yw prif ganolfan ddamweiniau ac achosion brys dwyrain sir Gaerfyrddin, yn enwedig dyffryn Aman, yn ogystal â Chastell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Nhreforys yn brysur iawn ac mae sawl ambiwlans yn aros y tu allan yn rheolaidd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen inni sicrhau bod y rheini nad ydynt yn ddamweiniau neu'n achosion brys yn cael eu gweld naill ai gan eu meddyg teulu neu eu fferyllydd, ac a all y Gweinidog ddweud pa ganran o gleifion damweiniau ac achosion brys sy'n cael eu rhyddhau adref naill ai'n syth ar ôl cael eu gweld neu o fewn 24 awr i gael eu derbyn?
Diolch yn fawr iawn, Mike, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni ddarparu dewisiadau amgen yn lle'r adran ddamweiniau ac achosion brys, sef un o'r rhesymau pam ein bod wedi buddsoddi £25 miliwn ychwanegol ac wedi nodi chwe cham blaenoriaethol yr ydym yn disgwyl i fyrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans eu cyflawni.
Rydym yn gobeithio y bydd canolfannau gofal sylfaenol brys—mae £7 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer y rheini—yn darparu model newydd ar gyfer darparu gwasanaethau. Gwn fod Abertawe'n debygol o gael o leiaf £0.5 miliwn o'r cyllid hwn. Ac rydym yn awyddus i weld mwy o wasanaethau gofal brys ar yr un diwrnod, a chyn bo hir byddwn yn cyhoeddi canllawiau cenedlaethol ar hynny er mwyn gwella llif cleifion.
Ond ar ben hynny, rwy'n falch iawn o allu dweud, o'r diwedd, fod gennym wasanaeth 111 cenedlaethol lle y gall pobl ffonio i gael barn arall cyn iddynt fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys fel y gellir eu hanfon at y gwasanaeth priodol ar eu cyfer. Cyflwynodd Caerdydd eu gwasanaeth 111 newydd ar 16 Mawrth, ac oherwydd hynny rydym bellach yn gallu hyrwyddo'r gwasanaeth hwnnw fel gwasanaeth cenedlaethol sydd ar gael i bawb yng Nghymru.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y plediau ac, yn gyntaf, Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae dwy flynedd ers inni gyflwyno cyfyngiadau symud COVID ledled Cymru a ledled y DU, ac yn sicr ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, credaf y gallwn i gyd gytuno ar draws y Siambr hon—. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cadw'n ddiogel, ac rydym yn cydymdeimlo, wrth gwrs, heddiw yn enwedig, â ffrindiau a theuluoedd y rhai sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig.
Yn ogystal â hynny, mae blwyddyn a diwrnod ers i'ch rhagflaenydd gyhoeddi'r cynllun adfer iechyd a gofal cymdeithasol. A gaf fi ofyn, Weinidog, pa gynnydd sydd wedi'i wneud yn eich barn chi ers cyhoeddi'r cynllun adfer hwnnw flwyddyn yn ôl?
Diolch yn fawr iawn, Russell, a hoffwn ymuno â chi i ddiolch i'n gweithwyr iechyd a gofal sydd wedi gweithio mor ddiwyd i'n cadw'n ddiogel ac i ddiogelu'r bobl yn eu gofal dros y cyfnod anodd iawn hwnnw, ond hefyd i gydymdeimlo â'r rhai sydd wedi colli anwyliaid mewn amgylchiadau anodd iawn, lle nad oeddent hyd yn oed yn gallu ffarwelio â hwy yn y ffordd y byddent wedi'i ddymuno, i ddathlu eu bywydau.
Mae'r cynllun adfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei roi ar waith. Mae'n rhan o raglen sy'n mynd rhagddi. Mae rhan o hynny wedi cynnwys gweithredu pethau fel y cyflog byw gwirioneddol, i wneud yn siŵr, ac mae hynny wedi digwydd yn gyflymach nag y gobeithiem. Nodwyd hynny yn y cynllun adfer iechyd a gofal hwnnw. Hefyd, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi nodi rhai disgwyliadau ar gyfer y gwasanaeth o ran cyflawniad. Byddwn yn cryfhau rhai o'r disgwyliadau hynny yn y rhaglen adfer gofal wedi'i gynllunio y byddwn yn ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n ategu rhan gyntaf eich ateb yno.
Ar y cynllun adfer, sylwais fod Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, wedi sôn heddiw fod amseroedd aros y GIG yng Nghymru yn achosi argyfwng iechyd cyhoeddus. Felly, yn sicr, fy marn i yw bod gennym ffordd bell i fynd cyn dechrau ar gynllun adfer hyd yn oed. Ac i mi, dylai cynllun adfer ymwneud yn helaeth â lleihau'r ôl-groniadau yn ein GIG yng Nghymru, ac ni wnaethoch roi sylw i hynny yn eich ateb. Pan soniais wrthych am hyn ychydig wythnosau yn ôl, fe ddywedoch chi, 'Dim ond cynnydd o 0.2 y cant a welsom ym mis Rhagfyr ar gyfer rhestrau aros GIG Cymru', ond fy marn i yw na ddylem fod yn dathlu'r math hwnnw—. Wel, nid yw'n gyflawniad o gwbl. Mae angen inni ganolbwyntio'n bendant iawn ar leihau'r ôl-groniadau amseroedd aros yn sylweddol, ac wrth gwrs dylid cynorthwyo GIG Cymru a'r byrddau iechyd ar bob lefel i leihau'r ôl-groniadau hynny. Ac wrth gwrs, y tu ôl i bob ystadegyn—. Rydym yn sôn am ystadegau, onid ydym, Weinidog? Rwy'n gwybod y byddwch yn cytuno â mi fod yna bobl go iawn y tu ôl i bob ystadegyn, pobl go iawn sy'n aros mewn poen am fisoedd a blynyddoedd am driniaeth, a gwn y byddwch yn ystyried hynny'n annerbyniol eich hun. Ond mae hyn yn ymwneud â sut rydym yn mynd i leihau'r ôl-groniadau sylweddol hynny.
Weinidog, rwy'n deall eich bod wedi gofyn i fyrddau iechyd sicrhau nad oes yr un o'u cleifion yn aros mwy na dwy flynedd erbyn diwedd mis Chwefror, sydd newydd fod, a sicrhau hefyd nad oes yr un o'u cleifion yn aros am fwy na blwyddyn am apwyntiadau cleifion allanol brys erbyn diwedd mis Ionawr, y mis Ionawr sydd newydd fod. Felly, a gaf fi ofyn ichi, Weinidog, a yw'r targedau hyn wedi'u cyrraedd, a pha gamau uniongyrchol y bwriadwch eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd a'r gwasanaeth iechyd yn lleihau'r amseroedd aros iechyd brawychus hyn—ac maent yn frawychus—ar frys, er mwyn inni allu cefnu ar yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn?
Diolch yn fawr. Rwy'n pryderu'n fawr am yr ôl-groniadau; maent yn fy nghadw'n effro yn y nos. Y gwir amdani yw fy mod yn treulio'r rhan fwyaf o fy amser y dyddiau hyn yn ceisio sicrhau bod gennym gynllun adfer clir iawn. Bydd y rhaglen gofal wedi'i gynllunio, fel y dywedais, yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Rydym yn ceisio cwblhau'r manylion ar hynny.
Yfory, fe fyddwch yn ymwybodol y bydd rhestrau aros newydd yn cael eu cyhoeddi, y canlyniadau hynny. Rwyf wedi bod yn gwbl glir ac agored a gonest. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rheoli disgwyliadau yma. Y gwir amdani yw ein bod newydd gael amrywiolyn omicron sydd bellach ar gynnydd eto, ac rydym yn gweld mwy o bobl yn ein hysbytai ar adeg pan oeddem, a bod yn onest, wedi gobeithio y gallem fwrw iddi'n egnïol ar hyn.
Rydym ar fin cwblhau ac edrych drwy argymhellion y cynllun tymor canolig integredig gan y byrddau iechyd, lle maent yn nodi'r targedau y maent yn gobeithio eu gosod. Gwyddom nad yw targedau wedi'u cyrraedd. Nid ni yw'r unig wlad yn y byd sydd heb gyrraedd ei thargedau. Nid wyf yn credu bod unrhyw wlad yn y byd wedi cyrraedd targedau yn wyneb argyfwng COVID. Felly, nid wyf yn credu bod hynny'n unrhyw syndod. Yr her yn awr yw canfod sut y gallwn fynd yn ôl ar y trywydd cywir. A rhan o'r hyn a wnawn yw sicrhau bod gennym staff ar waith i sicrhau y gallwn fynd i'r afael â'r ôl-groniadau hynny, yn enwedig a ninnau'n gwybod bod y staff eisoes wedi ymlâdd. Fe wnaethom gyhoeddi'r ffaith ein bod, mewn gwirionedd, wedi buddsoddi £0.25 biliwn i hyfforddi pobl newydd, rhywbeth a gafodd ei adael allan yn llwyr o gynllun Lloegr, a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall na allwn fynd i'r afael â'r ôl-groniadau hyn heb y sgiliau cywir a'r bobl iawn i'n helpu.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n deall wrth gwrs eich bod wedi cael eich rhoi mewn sefyllfa anodd iawn pan ddaethoch yn Weinidog iechyd, oherwydd gadawodd eich rhagflaenydd y swydd mewn cyflwr anodd tu hwnt. Roeddem mewn sefyllfa anodd ymhell cyn inni wynebu'r pandemig, ac rwy'n deall pa mor anodd yw'r dasg sy'n eich wynebu yn awr, Weinidog.
Pan soniais am gyrraedd targedau, fe ddywedoch chi 'Nid oes neb yn cyrraedd targedau; nid yw targedau'n cael eu cyrraedd ledled y byd', ond mae'r rhain yn dargedau a gyflwynwyd gennych chi eich hun—yn ôl yr hyn a ddeallaf, ond dywedwch os ydw i'n anghywir—i fyrddau iechyd yn ystod y misoedd diwethaf, neu'n sicr y llynedd, i sicrhau bod targedau'n cael eu cyrraedd erbyn y mis Ionawr a'r mis Chwefror sydd newydd fod, fel yr amlinellais. Felly, rwy'n credu ei bod yn gwbl resymol imi ofyn a yw'r targedau hynny wedi'u cyrraedd a deall y sefyllfa o ran hynny.
Rydych wedi sôn am y ffigurau newydd ar gyfer amseroedd aros a fydd yn cael eu cyhoeddi yfory, a deallaf hynny wrth gwrs. Fel y mae ar hyn o bryd, mae'r ffigurau diwethaf a gyhoeddwyd yn dangos bod bron i 50,000 o gleifion yng Nghymru yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth—dros ddwy flynedd am driniaeth. Ac mae'r ffigur hwnnw'n ddwbl—dwbl—nifer y bobl sy'n aros yn Lloegr gyfan, ac mae gan Loegr boblogaeth 18 gwaith maint Cymru. Felly, a gaf fi ofyn i chi—ac mae hyn yn mynd yn ôl at fy mhwynt cynharach eich bod wedi cael eich rhoi mewn sefyllfa anodd iawn a'n bod ni mewn sefyllfa anodd cyn dechrau'r pandemig—a wnewch chi egluro sut y cododd y gymhariaeth gwbl enbyd hon yn y lle cyntaf?
Fe allaf ei egluro. Ac yn gyntaf oll hoffwn eich cywiro ar rywbeth, sef ein bod mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â'r ôl-groniadau heriol hynny. Yn wir, dim ond 9,000 o bobl oedd yn aros am 36 wythnos cyn y pandemig. A do, fe wnaethom nodi rhai targedau, ond mewn gwirionedd, roedd hynny cyn i delta ein taro a chyn i omicron ein taro a chyn i BA2 ein taro. Felly, mae'r holl bethau hynny wrth gwrs wedi taflu pa gynlluniau bynnag a oedd gennym ar y domen. Roedd yn rhaid inni ddargyfeirio pobl i sicrhau bod pobl yn cael y pigiad atgyfnerthu er mwyn eu diogelu. Mae'n gwneud synnwyr perffaith, pan fyddwch yn wynebu'r math hwnnw o sefyllfa, eich bod yn newid eich tacteg a cheisio gwneud eich gorau o dan yr amgylchiadau.
A gallaf egluro pam fod ein rhestrau aros yn hwy na rhai Lloegr. Yn gyntaf oll, rydym yn cynnwys diagnosteg a therapi yn y ffordd yr ydym yn cyfrif; rydym yn cynnwys apwyntiadau dilynol ar ôl profion diagnostig—unwaith eto, ni chânt eu cynnwys yn Lloegr. Rydym yn cyfrif pobl os cânt eu trosglwyddo rhwng meddygon ymgynghorol ac os ydynt yn dechrau ar lwybr newydd. Felly, mae'r rhain i gyd yn rhesymau da pam ein bod yn cyfrif mewn ffordd lawer mwy gonest, rwy'n credu—ffordd agored a thryloyw—nag y maent yn ei wneud yn Lloegr.
Peredur Owen Griffiths ar ran Plaid Cymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Weinidog, fis diwethaf, cofnododd Cymru ei chanlyniadau gwaethaf erioed ar gyfer y ddarpariaeth iechyd meddwl i bobl ifanc. Dangosodd eich ffigurau eich hun fod 78 y cant o gleifion a atgyfeiriwyd at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a'r glasoed wedi gorfod aros dros bedair wythnos am eu hapwyntiad cyntaf. Rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod hynny'n annerbyniol. Hoffwn glywed pa gamau sydd wedi'u cymryd i wella'r sefyllfa. Hoffwn glywed mwy hefyd am yr ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio ar brofi'r model noddfa. Byddai hyn yn cefnogi pobl ifanc sydd mewn argyfwng neu sydd â phroblem iechyd meddwl brys drwy ddarparu cyfleusterau cymunedol yn cael eu rhedeg gan staff hyfforddedig y trydydd sector, gyda llwybrau atgyfeirio clir i wasanaethau'r GIG lle bydd angen. Diolch.
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Peredur. Ac fel y dywedais mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, wrth gwrs fy mod yn pryderu bod gennym bobl ifanc yn aros yn hwy nag y dylent. Credaf fod y sefyllfa gydag amseroedd aros yn cael ei hystumio rhywfaint gan Gaerdydd a'r Fro. Fel y dywedais wrth Andrew, mae dwy ran o dair o'r plant sy'n aros yng Nghymru ar y rhestr aros yng Nghaerdydd a'r Fro mewn gwirionedd. Ond rydym yn rhoi ystod eang o gamau ar waith i leihau amseroedd aros. Rydym wedi dweud yn glir iawn wrth bob bwrdd iechyd ein bod yn disgwyl iddynt roi camau ar waith i leihau amseroedd aros. Rydym yn cefnogi hynny gyda chyllid, ac am hynny rydym yn disgwyl gweld cynlluniau datblygedig i nodi sut y byddant yn lleihau amseroedd aros. Credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod hefyd, serch hynny, na fydd angen gwasanaeth arbenigol ar lawer o'r bobl ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, a dyna pam ein bod hefyd yn buddsoddi yn y gwasanaethau lefel is hynny fel y gallwn ymyrryd yn gyflymach o lawer. Byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai pob Aelod annog eu hetholwyr sy'n cysylltu â hwy i fanteisio ar y cymorth lefel is hwnnw sydd ar gael, oherwydd, yn anffodus ac yn ddealladwy, mae rhai teuluoedd yn gweld CAMHS arbenigol fel y tocyn aur, mewn gwirionedd, ac rydym yn awyddus iawn i deuluoedd gael y cymorth yn gynharach. Dylwn ddweud hefyd, yn ogystal â'r camau y mae byrddau iechyd yn eu cymryd i leihau amseroedd aros, y dylai pob un ohonynt gael mesurau ar waith i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu brysbennu'n briodol, fel eu bod yn cael eu gweld yn gyflymach os bydd eu hanghenion yn newid.
Roeddech yn gofyn am yr ymrwymiad yng nghytundeb cydweithio Llafur-Plaid Cymru. Fel yr amlinelloch chi, yr ymrwymiad hwnnw yw i brofi darpariaeth noddfa i bobl ifanc yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae gennym ddarpariaeth noddfa i oedolion, ond nid ar gyfer pobl ifanc, ac mae datblygu'r modelau hynny'n bwysig iawn fel rhan o'n llwybr gofal mewn argyfwng i blant a phobl ifanc. Felly, fel rhan o'r cytundeb, byddwn yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau peilot hynny mewn gwahanol rannau o Gymru, fel y gallwn eu harchwilio. Ond dylwn fod yn glir iawn hefyd mai'r hyn yr ydym ei eisiau yw i blant ifanc a phobl ifanc beidio â chyrraedd pwynt argyfwng, a dyna pam ein bod yn buddsoddi cymaint o arian a hefyd yn canolbwyntio cymaint o ymdrech ar ddiwygio ein system gyfan, felly ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, a chyhoeddwyd £12 miliwn arall ar gyfer hynny heddiw. Mae hynny'n cysylltu â'r cymorth cynnar a'r gefnogaeth ychwanegol yn ein menter NEST/NYTH. Felly, bydd y niferoedd y disgwyliwn eu gweld yn defnyddio'r ddarpariaeth noddfa yn fach, a dylem anelu i sicrhau eu bod hyd yn oed yn llai, oherwydd nid ydym eisiau i anawsterau pobl ifanc waethygu.
Diolch am yr ateb yna, Dirprwy Weinidog.
Yn fuan iawn, bydd niferoedd sylweddol o Wcreiniaid yn cyrraedd Cymru wrth i'r DU dynnu ei bys allan o'r diwedd a gwneud ei rhan dros ffoaduriaid sy'n dianc rhag rhyfelgarwch Putin. Yn ddealladwy, bydd llawer o'r bobl hyn sy'n ffoi o'u gwlad wedi dioddef trawma o ganlyniad i'r hyn y maent wedi'i brofi yn ystod y mis diwethaf, a bydd angen cymorth arbenigol arnynt i ymdrin â'r hyn y maent wedi'i weld a'i brofi. Bydd plant yn ffoi o Wcráin. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y paratoadau a wnaed cyn i ffoaduriaid Wcráin gyrraedd? Mae'r bobl druenus hyn eisoes wedi cael cam gan y Llywodraeth Dorïaidd oherwydd yr ymateb araf a thruenus i'r argyfwng ffoaduriaid. Gobeithio na chânt gam eto pan fyddant yn cyrraedd y glannau hyn. Diolch.
Diolch, Peredur. Rydym i gyd wedi cael ein dychryn gan yr hyn a welwn, ac mae'r trawma y mae pobl yn ei brofi yn Wcráin yn rhywbeth na allwn ei ddychmygu mewn gwirionedd. Rwy'n falch ein bod yn mabwysiadu ymagwedd wahanol yng Nghymru gyda'n rhaglen uwch-noddwr, a fydd yn golygu, pan fydd ffoaduriaid Wcráin yn cyrraedd Cymru, y byddant yn cael eu cysylltu â gwasanaethau priodol. Byddwn yn sicrhau eu bod yn cofrestru gyda meddyg teulu, a byddant yn gallu cael mynediad at yr holl wasanaethau iechyd prif ffrwd. Bydd hynny'n cynnwys cymorth iechyd meddwl. Bydd y cymorth iechyd i'r rhai sy'n cyrraedd Cymru yn cael ei ddarparu yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gennym yn 2018 ar iechyd a llesiant ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Rwyf hefyd yn falch o nodi ein bod eisoes wedi cyfieithu deunyddiau i Wcreineg a Rwsieg ar sefydlogi cychwynnol i gefnogi iechyd meddwl y rhai sy'n cyrraedd o Wcráin, deunyddiau a fydd yn bwysig iawn pan fydd pobl wedi dioddef trawma. Ni allwch ddisgwyl i bobl ddod i mewn a bod yn barod i gael therapi; bydd yn rhaid iddynt fod yn teimlo'n ddiogel a sefydlog. Felly, mae hynny wedi'i wneud, ac mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion hefyd wedi cyhoeddi deunyddiau cymorth penodol i helpu gyda sefydlogi yn ystod y cyfnod adsefydlu cychwynnol. Mae gennym hefyd ein llinell gymorth iechyd meddwl CALL—mae honno hefyd ar gael i gefnogi pobl sy'n cyrraedd Cymru a'u teuluoedd, ac mae gan CALL fynediad at rywbeth o'r enw Llinell Iaith, sy'n golygu y bydd modd i rywun ddod o hyd i wasanaethau drwy ddefnyddio iaith fel Rwsieg neu Wcreineg os ydynt eisiau gwneud hynny.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cleifion canser i gael y driniaeth gywir? OQ57818
Dylid darparu triniaethau canser yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae'r llwybrau cenedlaethol gorau bellach wedi'u cyhoeddi yng Nghymru ar draws amryw o fathau o ganser. Golyga hyn fod clinigwyr arbenigol wedi nodi'r hyn y dylid ei ddarparu ar gyfer gwahanol fathau o ganser, lle bynnag yng Nghymru y caiff rhywun ddiagnosis.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Ysgrifennais atoch yn ôl ym mis Medi ynglŷn â mynediad at lawdriniaeth cytoleihaol, ac ar y pryd fe sonioch chi mai cyngor y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal oedd na ddylid darparu triniaeth fel mater o drefn yng Nghymru, fel yr ydych newydd ei nodi yn eich ateb i mi. Ond ers y llythyr hwnnw a'ch ymateb, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o ddau achos proffil uchel yng Nghymru, lle'r oedd un ddynes wedi symud i Loegr i gael y llawdriniaeth berthnasol, ac roedd un arall wedi rhoi camau cyfreithiol ar waith er mwyn cael triniaeth ar ôl iddi gael ei gwrthod ddwywaith am driniaeth yng Nghymru. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r driniaeth ar gael i gleifion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond dim ond mewn amgylchiadau eithriadol yng Nghymru. Wrth gwrs, clywais eich ateb ynglŷn â dilyn cyngor y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ond byddwn yn ddiolchgar pe baech yn egluro pam fod dull gwahanol wedi'i fabwysiadu yng Nghymru, a pham y gwrthodir llawdriniaethau cytoleihaol, neu'n sicr pam nad ydynt ar gael yn fwy eang fel mater o drefn yng Nghymru i gleifion o Gymru sydd â chanser peritoneol, ac a fyddech yn fodlon adolygu'r mynediad at y math hwn o driniaeth.
Diolch yn fawr. Wel, credaf ei bod yn bwysig inni nodi'r llwybrau cenedlaethol gorau hynny, ac maent wedi'u datblygu ar gyfer gwahanol safleoedd tiwmor. A'r hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau bod gennym ymyrraeth sy'n seiliedig ar werthoedd. Wrth gwrs, mae gennym ddull gweithredu unigryw yng Nghymru, yn yr ystyr fod gennym un amser aros unedig, sy'n wahanol i'r ffordd y maent yn ei wneud yn Lloegr.
Felly, mae gwahanol fathau o ganserau, ac yn sicr yn achos canser y pancreas, er enghraifft, mae'n un o'r chwe chanser lleiaf goroesadwy. Mae'n bwysig fod pobl yn deall bod yna bresgripsiynau, fel therapi amnewid ensymau pancreatig, sydd ar gael i bob bwrdd iechyd yng Nghymru, a dylent gymhwyso hynny'n lleol. Felly, lle mae ar gael, rhan o'r hyn y ceisiwn ei wneud yw lledaenu ymwybyddiaeth a chynhyrchu deunyddiau i roi gwybod i glinigwyr ledled Cymru am bwysigrwydd presgripsiynu'r meddyginiaethau priodol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o eglurhad.
Mae cwestiwn 4 [OQ57841] wedi ei dynnu nôl, felly cwestiwn 5, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nodaf y cwestiwn a ofynnodd Russell George yn awr. Weinidog, fe fyddwch yn gyfarwydd ag achos fy etholwr, Maria Wallpott—
Na, a allwch ofyn y cwestiwn yn gyntaf, os gwelwch yn dda?
O, maddeuwch i mi, Ddirprwy Lywydd. Maddeuwch i mi am hynny.
5. Beth yw'r egwyddorion y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru eu dilyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid darparu triniaeth ar gyfer canserau prin? OQ57851
Maddeuwch i mi, eto, am beidio â gofyn y cwestiwn.
Diolch yn fawr iawn.
Dŷn ni'n disgwyl i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ddarparu pob triniaeth, gan gynnwys y rhai ar gyfer canserau prin, os ydyn nhw'n cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal—NICE—neu'r Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan.
Gallwch ofyn eich cwestiwn atodol yn awr.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch. Maddeuwch i mi, Weinidog, mae ar bwnc tebyg iawn—wel, yr un pwnc. Fe fyddwch yn gyfarwydd ag achos fy etholwr, Maria Wallpott. Yn gynharach eleni, enillodd ei hachos yn yr Uchel Lys i gael triniaeth canser a allai achub bywyd. Byddai’r driniaeth wedi bod ar gael yn awtomatig i gleifion mewn mannau eraill yn y DU, ond cafodd ei gwrthod gan bwyllgor sydd â’r dasg o ystyried ffactorau economaidd wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo triniaethau yng Nghymru. Cafodd sawl achos tebyg eu dwyn i fy sylw; yn fwyaf diweddar, etholwr y mae gan ei dad ganser sydd angen triniaeth ond unwaith eto, dywedwyd wrtho nad oedd cyllid ar gael yng Nghymru. Mae achos Mrs Wallpott wedi dangos bod y penderfyniad i wrthod y driniaeth honno'n anghyfreithlon. Nawr, mae triniaethau canser a allai achub bywydau'n cael eu gwrthod i gleifion eraill, ac rwy'n pryderu bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar sail cyllid yn hytrach nag ar ystyriaethau clinigol yn unig. Felly, Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthyf, unwaith eto, yn ychwanegol at yr hyn yr ydych eisoes wedi’i ddweud ar hyn, pam fod y sefyllfa mor wahanol yng Nghymru? Ac a fydd canlyniad achos Maria Wallpott yn cael unrhyw effaith ar sut y gwneir y penderfyniadau hyn, os gwelwch yn dda?
Wel, bydd yr Aelod yn deall na allaf wneud sylw ar achosion unigol, ond rwy’n awyddus i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ystyried dyfarniad yr adolygiad barnwrol a’u bod yn sicrhau bod y polisi ar geisiadau cyllido cleifion unigol yn cael ei roi ar waith yn deg, yn gyson ac yn gyfartal. Felly, er y gall Gweinidogion Cymru gyfarwyddo byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn gyffredinol ynghylch y swyddogaethau y maent yn eu harfer, yn y pen draw, y byrddau iechyd lleol a’r gwasanaethau iechyd arbenigol sy’n gyfrifol am geisiadau cyllido cleifion unigol. Rydym wedi ymyrryd yn y gorffennol i sicrhau eu bod yn cyflymu’r broses o ymdrin â cheisiadau cyllido cleifion unigol gan y GIG, ac rwy’n falch o ddweud ein bod wedi gweld cynnydd da. Ond wrth gwrs, rwy’n awyddus inni ddysgu o unrhyw achos lle mae adolygiadau barnwrol wedi dyfarnu a gweithio yn erbyn Llywodraeth Cymru.
Fel y gŵyr y Senedd, un o is-bwyllgorau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru sydd â'r awdurdod cydbwyllgor dirprwyedig i ystyried a gwneud penderfyniadau ar geisiadau i gyllido gofal iechyd y GIG ar gyfer cleifion unigol nad ydynt yn gymwys i dderbyn yr ystod o wasanaethau a thriniaethau y mae bwrdd iechyd wedi cytuno i'w darparu fel mater o drefn. I ni yn y gogledd, golyga hyn fod cleifion wedi gorfod mynd i Fanceinion a Lerpwl i gael triniaeth canser, i Groesoswallt am lawdriniaethau orthopedig ac i Lerpwl i gael triniaethau ar y galon. Pan sefydlwyd y gwasanaeth iechyd gwladol, ni ellid bod wedi rhagweld y byddai ffiniau biwrocrataidd yn bodoli bellach, yn sgil datganoli, rhwng y triniaethau a gynigir ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig. Ceir oedi difrifol o ran mynediad at driniaeth drwy ofyn i’r panel weld tystiolaeth ysgrifenedig, ffurflen gais, tystiolaeth ddogfennol arall, ac mae hyn mor gymhleth, Weinidog. Ac i'r Aelod sy'n mwmian draw yn y fan acw, yn ystod fy—
Mae gennych lai o amser i ofyn y cwestiwn, felly canolbwyntiwch ar y cwestiwn.
Yn ystod fy nhymor cyntaf yn y Senedd hon ac yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, lleisiwyd pryderon am yr oedi hwn a’r fiwrocratiaeth gymhleth mewn perthynas â Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Weinidog, a wnewch chi ystyried adolygu’r oedi biwrocrataidd ar driniaethau? Ac a wnewch chi gysylltu â holl fyrddau iechyd Cymru i sicrhau bod ganddynt gytundebau ar waith gyda byrddau iechyd mewn mannau eraill yn y DU sy'n darparu triniaethau nad ydym ni yn eu darparu, a gwneud pethau'n fwy llyfn? Oherwydd mae gennyf lawer iawn o etholwyr yn Aberconwy y mae'r fiwrocratiaeth hon wedi amharu arnynt. Diolch.
Diolch. Wel, credaf ei bod yn deg dweud y bu problemau yn y gorffennol, a chredaf ein bod wedi gwneud cynnydd da ers 2016. Y ffaith yw bod cyfanswm nifer y ceisiadau cyllido cleifion unigol yn gostwng, tra bo cyfran y rheini a gymeradwyir yn cynyddu. Felly, dyna’r ffeithiau. Felly, mae pethau'n sicr yn gwella. Credaf ei bod yn deg dweud—. Edrychwch, nid ydym byth yn mynd i fod mewn sefyllfa lle mae meddygaeth arbenigol iawn, lle y gallwch wneud hynny i gyd o fewn ffiniau Cymru. A dweud y gwir, os oes gennych gyflwr prin iawn, oni fyddai'n well gennych fynd i'r lle gorau posibl i'w drin? Ac os mai yn Lloegr y ceir y driniaeth honno, boed hynny fel y bo. Mae hynny'n iawn. Felly, credaf fod yn rhaid inni fod yn realistig ynglŷn â chael y gofal gorau i unigolion yng Nghymru. Wrth gwrs ein bod yn awyddus i geisio cyflawni’r triniaethau hynny cyn gynted â phosibl, ond credaf fod y sefyllfa wedi gwella’n eithaf sylweddol ers 2016.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych? OQ57839
Mae achos busnes llawn cynllun Ysbyty Brenhinol Alexandra wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Byddaf yn gwneud penderfyniad terfynol ar y cynllun, a chaiff y bwrdd iechyd ac Aelodau lleol o'r Senedd wybod cyn gynted ag y gwneir y penderfyniad hwnnw.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r gwelliant hwn i iechyd cymunedol wedi'i addo i fy etholwyr ers blynyddoedd lawer—ers bron i ddegawd bellach. Rydych yn dweud wrthym dro ar ôl tro fod y gwaith o adfer Ysbyty Brenhinol Alexandra bob amser ar y gorwel, heb i'r un rhaw gael ei rhoi yn y ddaear nac unrhyw beth diriaethol i drigolion y Rhyl a Phrestatyn ei weld. Pan godaf y mater hwn gyda Llywodraeth Cymru, maent yn beio bwrdd Betsi am yr oedi, ac yna mae bwrdd Betsi'n beio Llywodraeth Cymru. Nid oes ots gan fy etholwyr pwy sydd ar fai. Mae arnynt eisiau atebion clir a gwasanaethau gweithredol. Weinidog, sut y byddwch yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd lleol i gael gwared ar unrhyw rwystrau a sicrhau bod ysbyty cymuned gogledd sir Ddinbych yn cael ei ddarparu yn y ffrâm amser fyrraf bosibl? Diolch.
Wel, diolch yn fawr iawn, Gareth. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y cyfyngiadau ar ein cyllid cyfalaf yn real iawn, nid yn unig ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond ar gyfer y tair blynedd ar ôl hynny hefyd. Credaf ei bod hefyd yn werth nodi, mae'n debyg, mai £22 miliwn oedd yr amcangyfrif o gostau cychwynnol y cynllun—
Maent wedi dyblu yn yr amser hwnnw.
—ac yna’r achos busnes amlinellol, pan luniwyd hwnnw, cynyddodd y ffigur i £51 miliwn, a bellach, mae'r achos busnes llawn yn £72 miliwn. Felly, rydym mewn sefyllfa wahanol iawn i pan gyflwynwyd y cynnig ger ein bron yn wreiddiol, ond yn amlwg, byddaf yn rhoi gwybod i chi pan fydd y penderfyniad hwnnw wedi’i wneud.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy i gael mynediad at ddeintydd GIG? OQ57849
Rydym yn gweithio ar ddiwygio'r system ddeintyddiaeth ac yn bwrw ymlaen ar y cyd â’r rhaglen ddiwygio yn 2022. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phractisau i wella mynediad, profiad ac ansawdd gofal deintyddol.
Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Ddoe, eglurodd y Prif Weinidog yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ym maes deintyddiaeth ar hyn o bryd yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Ond mae trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn teimlo effaith yr heriau hynny'n fawr, ac maent yn dod ataf, fel eu Haelod etholedig uniongyrchol o’r Senedd, am eu bod yn cael trafferth gweld deintydd y GIG. A wnewch chi ymrwymo heddiw, Weinidog, i sicrhau bod eich swyddogion yn siarad nid yn unig â’r practisau ond â’r bwrdd iechyd hefyd, er mwyn llunio cynllun i wneud yn siŵr fod pawb sydd eisiau gweld ac sydd angen gweld deintydd yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Wel, diolch yn fawr, Jack. Fe fyddwch yn ymwybodol fod pwysau gwirioneddol ar wasanaethau deintyddol, yn rhannol oherwydd COVID a’r ffaith bod chwistrellu aerosol yn golygu bod lledaeniad COVID yn fwy tebygol. Mae adferiad yn digwydd, ond yn amlwg, mae hynny'n anodd iawn ac yn araf iawn, ac rwy'n cydnabod bod yna ardaloedd lle mae'n anos cael mynediad at ofal deintyddol nag eraill.
Byddaf yn siarad ac yn cyfarfod â chadeiryddion y byrddau iechyd yfory, a'r prif weithredwyr, ac mae hyn yn sicr yn rhywbeth sydd gennyf ar yr agenda, a byddaf yn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn yng nghynigion eu cynllun tymor canolig integredig.
Mae gennyf berthnasau yn sir y Fflint sydd wedi cael trafferth cael mynediad at ddeintydd y GIG, a chawsant driniaeth yn ddiweddar, diolch byth, ar ôl wythnosau mewn cryn dipyn o boen. Gwyddom fod Betsi Cadwaladr, ym mis Ionawr, wedi mynnu bod angen cymryd camau i fynd i’r afael â deintyddiaeth yn y gogledd, ar ôl i 83 o swyddi deintyddol gael eu colli yng Nghymru yn ystod y flwyddyn, a rhybuddiodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain fod nifer sylweddol o ddeintyddion yn bwriadu gadael y GIG, gan ddweud bod deintyddiaeth y GIG yn y fantol, oherwydd heb ddeintyddion y GIG, ni fyddai deintyddiaeth y GIG yn bodoli. Ac yn gynharach y mis hwn, cyflwynodd Bupa Dental Care hysbysiad o derfyniad ar gyfer eu cangen yn y Fflint, sy'n ffinio ag Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae 16 mlynedd ers i Bwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru fynegi pryderon fod argyfwng ar y ffordd ym maes deintyddiaeth y GIG yng Nghymru, a dyma ni, yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach, yn y sefyllfa hon.
Felly, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn awr i ymgysylltu â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain er mwyn mynd i’r afael â’u pryderon ynghylch y contractau deintyddiaeth, fod y rhain yn lleihau’r ffocws ar archwiliadau rheolaidd, yn gorfodi deintyddion i ddewis rhwng hen gleifion a chleifion newydd, ac yn ariannu deintyddion 15 y cant yn llai na chwe blynedd yn ôl?
Wel, diolch yn fawr. Rydym yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i archwilio sut y gall diwygio'r contract deintyddol cenedlaethol annog practisau deintyddol i gydweithio ar lefel leol. Rwy’n siŵr y byddwch yn falch o glywed, mewn perthynas â Bupa yn y Fflint, fod y bwrdd iechyd yn bwriadu ailgomisiynu gwasanaethau i gymryd eu lle yn yr ardal cyn gynted â phosibl.
Mae'n debyg ei bod yn werth pwysleisio ein bod wedi darparu £3 miliwn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon, a'r hyn a welwn, mewn gwirionedd, yw nad yw deintyddion yn manteisio ar yr arian hwnnw. Rydym yn rhoi'r arian ar y bwrdd, ond byddai'n well ganddynt weithio yn eu practisau preifat, ac mae honno'n her anodd iawn i ni, ond rydym yn gwneud ymrwymiad mwy hirdymor: £2 filiwn o gyllid rheolaidd ychwanegol i gefnogi mwy o ddarpariaeth. Rydym hefyd wedi rhoi bron i £0.5 miliwn i fyrddau iechyd i gynorthwyo practisau deintyddol i ddarparu gwasanaethau GIG ac i osod offer awyru newydd. Felly, rydym yn gwneud popeth a allwn. Ar ryw bwynt—. Mae mwy y gallwn ei wneud. Mae mwy y gallwn ei wneud bob amser, ac yn sicr, dyna un o'r rhesymau pam fod hyn yn un o fy mhwyntiau allweddol ar yr agenda i'w trafod gyda'r byrddau iechyd yfory.
Mae cwestiwn 8 [OQ57838] wedi ei dynnu yn ôl, felly, yn olaf, cwestiwn 9, Sam Rowlands.
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gofalwyr di-dâl yng ngogledd Cymru? OQ57831
Heddiw, cyhoeddais daliad o £500 ar gyfer dros 57,000 o ofalwyr di-dâl ledled Cymru sy’n cael lwfans gofalwr. Hefyd, mae gofalwyr di-dâl yng ngogledd Cymru yn parhau i elwa ar y £10 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd gennym ar gyfer ystod o wasanaethau cymorth i ofalwyr yn 2021-22, gan gynnwys £3 miliwn ar gyfer gofal seibiant.
Diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei hymateb, ac o na bai pob cwestiwn a ofynnaf yn cael ei ddatrys mor gyflym o ran cymorth, a rhoi’r £500 hwnnw i’r gofalwyr di-dâl hynny. Ond o ddifrif, mae'r taliad hwn yn amlwg yn cydnabod y rhan anhygoel y mae gofalwyr di-dâl wedi'i chwarae drwy gydol y pandemig, ac rwy'n siŵr ei fod yn cael croeso gan bawb.
Fodd bynnag, os caf, hoffwn ofyn i chi ynglŷn ag adfer gwasanaethau i ofalwyr hefyd. Felly, fel y gwyddom, mae gofalwyr di-dâl yn arbed biliynau o bunnoedd y flwyddyn i’r GIG a threthdalwyr drwy ddarparu’r gofal pwysig hwn. Ond er gwaethaf llacio’r holl gyfyngiadau COVID-19 fwy neu lai, nid yw’r gwasanaethau y mae gofalwyr di-dâl yn dibynnu arnynt wedi’u blaenoriaethu, gyda gwasanaethau’n dal i fod wedi'u lleihau’n sylweddol neu hyd yn oed ar gau yn gyfan gwbl. A chanfu ymchwil ddiweddar gan Gofalwyr Cymru mai 8 y cant yn unig o ofalwyr sy’n dweud bod gwasanaethau dydd a chartrefi gofal ar gyfer seibiant wedi’u hailagor yn llawn, ac 16 y cant yn unig sy’n dweud bod gwasanaethau eistedd gyda phobl yn gwbl weithredol. Felly, pa gamau brys y byddwch yn eu cymryd i flaenoriaethu a monitro'r gwaith o adfer y gwasanaethau hyn y mae mawr eu hangen ar ofalwyr? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, a diolch am gydnabod pwysigrwydd y taliad o £500 i’r gofalwyr a fydd yn gymwys i'w gael. Credaf fod y pwynt a godwyd gennych yn bwysig iawn, gan y gwyddom fod gofalwyr di-dâl wedi ymdopi, mewn rhai achosion, drwy gydol y pandemig cyfan heb unrhyw gymorth ychwanegol o gwbl. Yn wir, ni dderbyniodd rhai ohonynt unrhyw gymorth am eu bod mor awyddus i edrych ar ôl eu hanwyliaid. Mae nifer o Aelodau’r Senedd wedi cysylltu â mi ynglŷn â’u pryderon ynghylch y methiant i ailddechrau gwasanaethau lleol yn gyflym.
Rwy’n ymwybodol iawn o’r sefyllfa hon, fel y mae’r swyddogion, ac rydym wedi cysylltu â’r awdurdodau lleol, yn enwedig awdurdodau lleol lle'r ydym wedi cael gwybod bod gofalwyr yn ymwybodol nad yw’r gwasanaethau a ddefnyddiwyd ganddynt wedi’u hailagor, yn enwedig gwasanaethau dydd, ac wedi eu hannog i wneud hynny. Rwy’n ymwybodol fod llawer ohonynt heb agor o hyd, felly mae’r swyddogion yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol, a byddwn yn parhau i’w hannog i ailagor. Credaf ein bod yn deall bod awdurdodau lleol a’r staff wedi cael amser anodd iawn a chafodd llawer ohonynt eu hadleoli i helpu i gyflawni rhai o’r gwasanaethau hanfodol yr oedd eu hangen yn ystod y cyfnod hwn, ond rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod y cymorth hwnnw i ofalwyr di-dâl yn gwbl hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru'n ceisio cynnwys cymaint o gymorth â phosibl gyda’r gronfa galedi a chyllid seibiant. Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi'r gwasanaethau hynny ar waith eto, felly gallaf roi sicrwydd i'r Aelod y byddaf yn dyblu fy ymdrechion i geisio annog awdurdodau lleol i agor y gwasanaethau hynny. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog ac i'r Dirprwy Weinidogion.
Symudwn ymlaen at yr ail gwestiwn amserol y prynhawn yma, a galwaf ar Mark Isherwood.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran lletya ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru? TQ610
Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud i baratoi i dderbyn pobol sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin fel y gallant geisio noddfa a diogelwch yng Nghymru. Mae cynllun Cartrefi i Wcráin y DU bellach ar agor a bydd llwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru yn weithredol o ddydd Gwener.
Diolch i’r Gweinidog am fy ffonio ar y trên ddydd Llun i roi cyfarwyddyd imi ar hyn, a nodaf hefyd y diweddariad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru y bore yma, sy’n datgan eu bod yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, y GIG, gwasanaethau cyhoeddus eraill a’r trydydd sector i sicrhau bod cymorth ar gael i bobl sy’n ffoi rhag y gwrthdaro ac sy’n cyrraedd Cymru drwy gynllun Cartrefi i Wcráin.
Fel y dywedwch, bydd Llywodraeth Cymru yn dod yn uwch-noddwr o dan y cynllun hwn. Ar 13 Mawrth, anfonodd Prif Weinidogion Cymru a’r Alban lythyr ar y cyd at Lywodraeth y DU yn cynnig mai Llywodraethau Cymru a’r Alban fyddai’r uwch-noddwyr cyffredinol ar gyfer y cynlluniau yng Nghymru a’r Alban. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth y DU wedi lansio porth Cartrefi i Wcráin ar 18 Mawrth, lle y gellid dewis sefydliad fel noddwr, pan ddewisir yr opsiwn, yr unig sefydliad sydd wedi'i restru o hyd yw Llywodraeth yr Alban. Er eich bod wedi nodi y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gallu noddi pobl yn uniongyrchol ac y bydd pobl sy’n cyrraedd drwy'r llwybr hwn yn cael eu cyfeirio at un o’r canolfannau croeso sy’n cael eu sefydlu ledled Cymru cyn mynd ymlaen i lety tymor canolig a hirdymor, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dal i ymddangos fel noddwr ar y porth Cartrefi i Wcráin, ac a wnaiff y Gweinidog ddweud a fydd pobl yn gallu dewis Llywodraeth Cymru fel noddwr, a phryd?
Ymhellach, pa gymorth y gallwch ei roi i bobl fel yr etholwr o sir y Fflint yr aeth ei wraig i Wlad Pwyl i ddod â'i mam Wcreinaidd yn ôl—yn llwyddiannus, diolch byth, ac mae hi bellach yn sir y Fflint—ond sydd wedi cael gwybod na allant gael mynediad at y cerdyn arian parod ar gyfer ffoaduriaid oherwydd diffyg gwybodaeth a chyllid, nad yw’r cynllun ailgartrefu £350 yn berthnasol i’w fam-yng-nghyfraith, na all gael mynediad at gredydau pensiwn hyd nes y bydd ganddi fisa llawn, a fydd yn cymryd dau fis, ac na all gofrestru gyda'u meddyg teulu, er bod ganddi broblemau iechyd? Rwy’n deall yn iawn fod rhai o’r rheini’n faterion a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU a bod rhai'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, ond o ystyried eich rôl gyffredinol fel uwch-noddwr, byddwn yn ddiolchgar am eich ymateb.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiynau, Mark Isherwood. Fel y dywedais ac fel sydd wedi’i nodi'n glir iawn yn yr wybodaeth a ddarparwyd gennym ar ein tudalen bwrpasol ar wefan Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r hyn a wnawn i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin, rydym ar fin dod yn uwch-noddwr o dan gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU ddydd Gwener. Roeddem yn awyddus i sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny ac yn barod ar gyfer hynny, i roi'r cynllun ar waith, ac mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i ddigwydd ddydd Gwener. Ond mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn barod dros yr wythnosau diwethaf, yn sicr y penwythnos diwethaf, pan ddaeth cynllun Llywodraeth y DU yn weithredol, rhag ofn i bobl ddod atom a bod ein hangen. Roeddem yn barod, ac roedd gennym lety ar gael. Ond mae'r cynllun llawn, fel uwch-noddwr, gyda'r holl waith paratoi y bu'n rhaid ei wneud, yn dechrau ddydd Gwener.
Credaf ei bod yn bwysig i gyd-Aelodau wybod y bydd hyn yn golygu y bydd hyd at 1,000 o bobl i ddechrau yn osgoi'r angen i nodi noddwr yn y DU, ac yn hytrach, byddant yn cael eu noddi'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Ni fyddwn yn dewis y rheini sy'n gymwys i wneud cais; bydd pobl sy’n ffoi o Wcráin yn gallu dewis Llywodraeth Cymru o’r system hyd nes bod ein cap cychwynnol o ffoaduriaid wedi’i gyrraedd. Fel y gwyddoch, rydym yn agor canolfannau croeso ledled Cymru—ac maent i'w cael ym mhob rhan o Gymru—i sicrhau bod pob un o'r rheini yr ydym yn eu noddi'n uniongyrchol yn gallu cael croeso o ansawdd uchel ac yn cael eu cefnogi'n uniongyrchol o'r funud y byddant yn cyrraedd. Ac yna, o'r canolfannau croeso, bydd pobl yn cael eu symud i lety mwy hirdymor ledled Cymru.
Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo, 24/7, gan awdurdodau lleol, gan ein swyddogion yn Llywodraeth Cymru, y GIG a'r trydydd sector. Rwyf wedi cael cyfarfod hynod bwysig heddiw gydag ystod o gymorth cymunedol Wcreinaidd, gan gynnwys y cyswllt gogledd Cymru y tynnoch chi ein sylw ato, Mark, a llawer o grwpiau a lleisiau Wcreinaidd sydd hefyd yn mynd i ymateb a helpu yn y ffyrdd a godwyd o ran cefnogi plant a phobl ifanc mewn cwestiynau cynharach i Lynne Neagle. Felly, mae’r cyfan yn ei le, a bydd y cyfan yn weithredol ledled Cymru o ddydd Gwener ymlaen. Bydd y ffaith y byddant yn gallu dod yn uniongyrchol yn hollbwysig. Bydd cynllun Llywodraeth Cymru yn eu galluogi i ddod atom yn uniongyrchol i gael y cymorth hwnnw.
Ar yr ail gwestiwn, mae’r pwyntiau a godwyd gennych yn faterion a gedwir yn ôl, ond gallwn gyflwyno sylwadau ar eich rhan chi ac etholwyr i Lywodraeth y DU. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU, yn amlwg, mewn perthynas â'r holl ffoaduriaid o Wcráin a ddaw atom. Os bydd hynny drwy gynllun Cartrefi i Wcráin, a’r paru uniongyrchol, yn amlwg, byddwn yn cael y data gan Lywodraeth y DU i sicrhau y gallwn gael popeth yn ei le. A gaf fi nodi un pwynt sy'n bwysig am y trefniadau? Mae cryn dipyn o bobl yn dod drwy lwybr fisa teulu. Efallai mai dyna’r llwybr a nododd eich etholwr mewn gwirionedd. Nid ydym yn gwybod eto—rydym wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref—faint sy'n dod drwy'r llwybr hwnnw, ond rwy'n tybio mai drwy'r llwybr hwnnw y daeth eich etholwr. Felly, mae’n werthfawr iawn clywed gan yr Aelodau heddiw am rai o’u profiadau o ran yr hyn sy’n digwydd iddynt hwy ac i’w hetholwyr.
Weinidog, mae'r University of New Europe, grŵp o academyddion o Ewrop a’r Unol Daleithiau, wedi cyhoeddi dogfen gynhwysfawr sy’n cynnwys manylion cyswllt brys a chyfleoedd ariannu ar gyfer ysgolheigion, myfyrwyr, artistiaid, gweithwyr diwylliannol, newyddiadurwyr, cyfreithwyr a gweithredwyr hawliau dynol sy’n ffoi o Wcráin, Rwsia a Belarws. Wrth inni roi cartref a chroeso i ffoaduriaid sy’n ffoi rhag yr argyfwng a’i effeithiau yn Wcráin, mae cyfle i'n prifysgolion, sefydliadau addysgol a diwylliannol gynnig ystod eang o gyfleoedd a chymorth i’r rheini a ddaw i Gymru. Byddai darparu hyn yn helpu ffoaduriaid i ymgartrefu a theimlo’n rhan o’u cymunedau, yn ogystal, wrth gwrs, â gwella amrywiaeth syniadau yn ein prifysgolion ac ymhlith ein rhwydweithiau academaidd a diwylliannol. A wnaiff y Llywodraeth ystyried cydgysylltu ymateb gan ein prifysgolion a’n sefydliadau diwylliannol fel y gellid darparu canllawiau a system gymorth debyg? Sut y mae’r Gweinidog yn gweithio gyda’n prifysgolion a’n sefydliadau diwylliannol ar hyn o bryd i roi cymorth a chyfleoedd i ffoaduriaid, ac a wnaiff y Llywodraeth ddarparu cymorth ariannol ar gyfer yr ymateb hwn?
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae'n bwysig iawn eich bod wedi tynnu sylw at rwydwaith ysbrydoledig arall sy'n gweithio ledled Ewrop, a byddwn yn ddiolchgar am y manylion cyswllt er mwyn inni allu creu cysylltiadau â hwy. Mae ein prifysgolion yn ymateb i'r her. Mae gan lawer ohonynt gysylltiadau â myfyrwyr o Wcráin eisoes, â phrifysgolion Wcráin, ac mae'r cysylltiadau hynny'n cael eu creu yn awr, mewn gwirionedd. Yn wir, o safbwynt prifysgolion Cymru, credaf y gwelwch fod pob un o'r prif brifysgolion fwy neu lai yn cysylltu â'i gilydd eisoes. Ac yna, deuwn â'r holl brifysgolion ynghyd. Felly, maent yn edrych i weld sut y gallant, eu hunain, gysylltu â'u partneriaethau eu hunain â phrifysgolion Wcráin, ond hefyd, yr hyn y gallent ei gynnig i bobl ifanc eraill, ac yn wir, i deuluoedd a ddaw yma.
Credaf, hefyd, fod eich pwynt ynglŷn â sefydliadau diwylliannol Cymru yn bwysig iawn. Mae hwn yn ymateb trawslywodraethol. Gallwch weld o’r atebion o ran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, o ran tai, fod pob adran o Lywodraeth Cymru yn ymwneud â hyn, ond yn enwedig y sefydliadau diwylliannol. Dyma hefyd fydd y cynnig, y croeso, yr ydym yn ei roi i ffoaduriaid o Wcráin wrth iddynt ddod i Gymru. Mae gennym becyn croeso sy'n cael ei ddatblygu. Roedd yn ddiddorol clywed, pan gyfarfûm â llawer o'r rheini, er enghraifft, yn Llais Wcráin Cymru, sut y mae ganddynt adnoddau. Mae'r comisiynydd plant hefyd yn cysylltu â chomisiynydd plant Wcráin; gwnaethom gyfarfod â hi heddiw. Mae llawer o adnoddau addysgol wedi'u dwyn ynghyd hefyd. Ond o ran y sefydliadau diwylliannol ac addysg uwch a’r ffyrdd y gallwn ddod â’u cysylltiadau ynghyd a phan fydd ffoaduriaid o Wcráin yn cyrraedd, rwy'n credu bod hyn yn rhan o’r cynnig croeso wrth iddynt ddod yma ac wrth i ninnau eu cefnogi yma yng Nghymru.
Mae’r haelioni a ddangoswyd gan bobl yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig a ledled cyfandir Ewrop yn cyferbynnu’n eithaf siomedig â dull crintachlyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig o weithredu. Weinidog, pa effaith a gaiff y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau ar ein gallu i estyn cymorth i deuluoedd o Wcráin? Fe fyddwch yn ymwybodol fod ASau Torïaidd yn Nhŷ’r Cyffredin wedi pleidleisio ddoe i orfodi dedfryd bosibl o bedair blynedd o garchar i unrhyw ffoadur o Wcráin sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig heb y papurau cywir. Ar yr un pryd, mae’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn rhwygo’r confensiwn rhyngwladol ar ffoaduriaid yn ddarnau, confensiwn a ysgrifennwyd yn dilyn yr ail ryfel byd ac a arweiniwyd gan Lywodraeth Prydain. Yr hyn sydd gennym yn Llundain yw Llywodraeth sy’n troi ei chefn ar effaith ddynol rhyfel, a Llywodraeth a chanddi fwy o ddiddordeb yn ei phropaganda ar ei hasgell dde ei hun nag mewn estyn cymorth a gofalu am deuluoedd y mae rhyfel wedi effeithio arnynt. Beth a wnawn, fel Llywodraeth Cymru, i ddangos nad rhethreg yn unig yw cenedl noddfa yma yng Nghymru, ond realiti?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn amserol iawn, Alun Davies. Mae’r Prif Weinidog wedi nodi yn ystod yr wythnosau diwethaf, pan ysgrifennodd at Brif Weinidog y DU ddiwedd mis Chwefror i sicrhau ein bod yn cynnig chwarae ein rhan fel cenedl noddfa a nodi ein safbwynt ar ymddygiad ymosodol Putin yn glir iawn, ei fod wedi manteisio ar y cyfle, yn ei ohebiaeth, i bwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Llywodraeth y DU ailystyried y cynigion yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, sydd, yn ein barn ni, yn creu system ddwy haen rhwng ceiswyr lloches yn dibynnu ar sut y dônt i mewn i'r DU. Gwnaethom nodi'r pwynt hwnnw’n gwbl glir i Brif Weinidog y DU. Felly, mae'n rhaid inni gydnabod y pwynt y mae Alun Davies yn ei wneud heddiw. Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid yn y DU, mewn gwirionedd, a ddywedodd ddoe yn y ddadl y bydd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn ei gwneud yn drosedd, fel y dywedwch, i deuluoedd o Wcráin gyrraedd y DU heb y papurau cywir, gyda chosb o hyd at bedair blynedd o garchar, ar adeg pan fo pobl Prydain wedi nodi'n glir fod angen inni gynorthwyo ffoaduriaid o Wcráin. Mae hyn yn gywilyddus—dyna oedd ei geiriau. Ond yma yng Nghymru, fel cenedl noddfa, rydym yn dymuno rhoi croeso cyflym, diogel a chynnes i Wcreiniaid yng Nghymru. Credaf y bydd ein llwybr uwch-noddwr, yr ydym yn gweithio arno ochr yn ochr â’n swyddogion cyfatebol yn yr Alban, yn cael gwared ar dagfa allweddol yn system y DU. Mae hynny'n hollbwysig er mwyn sicrhau nad oes angen i'r rheini sy'n dod i Gymru wybod ymlaen llaw am aelwyd yng Nghymru a all eu noddi.
Diolch, Weinidog.
Yr eitem nesaf y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad ac, yn gyntaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch. Lywydd ac Aelodau'r Senedd, yn ystod ymweliad â'r mwynfeydd copr o'r Oes Efydd ar Ben y Gogarth yn Llandudno ddydd Gwener, rhyfeddais wrth glywed sut y câi copr a bwyeill copr a wnaed yno 4,000 o flynyddoedd yn ôl eu hallforio o Landudno i leoedd mor bell i ffwrdd â'r Iseldiroedd, Sweden a Gwlad Pwyl. Daeth y mwynfeydd copr i olau dydd ym 1987 yn ystod cynllun i dirlunio rhan o Ben y Gogarth, a newidiodd y darganfyddiad ein dealltwriaeth o gymdeithas war a strwythuredig y Brydain fore 2,000 o flynyddoedd cyn y goresgyniad Rhufeinig. Roedd pentir enwog ein tref yn darparu bron i 98 y cant o'r metel ym Mhrydain ac yn gartref i'r mwynfeydd copr cynhanesyddol mwyaf yn y byd.
Mae'n werth nodi hefyd yr amodau enbyd iawn yn y gwaith mwyn, a'r gred yw bod rhaid i blant bach iawn gropian drwy'r union dwneli a welais i adfer y copr gwyrdd malaceit. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn cytuno â mi ei bod yn anhygoel fod metel o Aberconwy wedi arfogi byddinoedd pobl yr henfyd, a bod yr etholaeth, a gogledd Cymru yn sgil hynny, wedi chwarae rhan allweddol yn cysylltu pobl ar draws ein cyfandir filoedd o flynyddoedd yn ôl. Mae'r stori anhygoel hon yn dangos yr hanes unigryw sydd gennym yng Nghymru. Dylai'r tîm yn y mwynfeydd Oes Efydd fod yn hynod falch o'r cyfraniad anhygoel a wnaethant i stori Cymru, Prydain ac Ewrop. A chan fod Llandudno yn croesawu 10 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ar gyfartaledd, rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonoch chi'n ymweld â'r etholaeth hon, lle y gallwch ddysgu mwy am ein hanes diddorol. Diolch.
Russell George.
Heddiw yn y Senedd roeddwn am dynnu sylw at waith gwych grŵp cymorth iechyd meddwl o'r enw Walking Men of Mid Wales, ac mae'r grŵp yn gwneud yn union yr hyn y mae'n ei ddweud. Sefydlwyd y grŵp gan Andy Coppin ac mae'n cael ei gynnal bob wythnos gan nifer o wirfoddolwyr. Ac fe'i sefydlwyd mewn ymgais i gefnogi'r rhai a oedd yn cael trafferth gyda gorbryder neu unigedd, ond hefyd fel ffordd o ganiatáu i ddynion gyfarfod a siarad â'i gilydd a dod yn ffrindiau. Sefydlwyd y grŵp o ganlyniad i'r ffaith drist fod nifer o ddynion—dynion iau—wedi cyflawni hunanladdiad ar draws yr ardal. Mae'r grŵp yn cyfarfod bob pythefnos yn y Trallwng, yn y Drenewydd, gyda llwybrau cerdded a gynlluniwyd ymlaen llaw, ac mae dynion yn cerdded o gwmpas gyda'i gilydd, yn sgwrsio ac yn siarad ac yn rhannu eu profiadau o fywyd a'u profiadau bywyd eu hunain hefyd, er mwyn cefnogi ei gilydd. Rwyf wedi bod ar y teithiau cerdded fy hun, ac mae'n galonogol gweld nifer y dynion sy'n mynd ar y teithiau cerdded yn cynyddu o wythnos i wythnos. Felly, hoffwn ddiolch i Andy am sefydlu'r grŵp ac am ei ymrwymiad a'i ymroddiad a'i angerdd, ond hoffwn annog eraill hefyd i gymryd rhan a sefydlu menter yn eu hardal hwythau. Mae'n fenter mor syml ond yn un wych, i'w gwneud hi'n haws i ddynion ymgynnull gyda'i gilydd a cherdded a siarad a rhannu profiadau bywyd gyda'i gilydd.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Iawn. Symudwn ymlaen yn awr at ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, ar adeiladau crefyddol, a galwaf ar Mike Hedges.
Cynnig NDM7953 Mike Hedges, Darren Millar, Jane Dodds, Rhys ab Owen
Cefnogwyd gan Alun Davies, Russell George, Sam Rowlands
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod adeiladau crefyddol, gan gynnwys eglwysi a chapeli, yn parhau i gael eu cau ledled Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r gwahanol enwadau yng Nghymru i drafod dyfodol yr adeiladau hyn.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-gyflwynwyr a'r rhai a gefnogodd y cynnig ar gyfer y ddadl hon. Bydd Jane Dodds yn ymateb i'r ddadl.
Nid yw'r ddadl hon yn ymwneud â chrefydd, mae'n ymwneud â'n treftadaeth adeiledig. Mae'n ymwneud â phwysigrwydd adeiladau eglwysi a chapeli yn ein cymuned. Ni all yr Aelodau fod wedi methu sylwi ar nifer yr adeiladau crefyddol sy'n parhau i gau, gan gynnwys eglwysi a chapeli, yn eu hetholaethau eu hunain. Dros y degawdau diwethaf, gwelsom ddirywiad graddol a pharhaus yn yr hyn y gellir cyfeirio ato fel dau draddodiad mawr y gymdeithas Gymreig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, sef y traddodiad o fynychu'r capel lleol a'r tafarndy lleol.
Yn aml, ystyrir mai gwlad y cestyll yw Cymru, ond mae gennym lawer mwy o gapeli, eglwysi ac adeiladau crefyddol eraill ledled Cymru nag sydd gennym o gestyll. Mae gennym eglwysi a chapeli gwych, megis eglwys gadeiriol Tyddewi a chapel y Tabernacl yn Nhreforys, a ddisgrifiwyd fel eglwys gadeiriol anghydffurfiaeth, yn ogystal â llawer o adeiladau eraill o arwyddocâd hanesyddol a gwerth pensaernïol. Mae hanes a threftadaeth eglwysig Cymru yn rhan hynod bwysig o'n treftadaeth adeiledig a diwylliannol. Mae llawer o bobl nad ydynt yn mynychu capeli neu eglwysi Cymru yn gweld arwyddocâd enfawr i'w gwerth pensaernïol a'r statws sydd iddynt yn eu cymunedau. Gofynnwch i rywun am Dewi Sant, a byddant yn sôn am yr eglwys gadeiriol. Gofynnwch i bobl am Dreforys, a'r ymateb mwyaf tebygol fydd capel y Tabernacl.
Wrth ichi edrych o gwmpas Cymru, mae'n amlwg yn yr oes sydd ohoni fod gan Gymru bellach ormodedd enfawr o gapeli ac eglwysi ar gyfer ei hanghenion crefyddol presennol. Mewn ymateb i'r orddarpariaeth hon, gwelsom gau nifer ohonynt mewn ymgais nid yn unig i arbed arian, ond hefyd i achub rhai o'r adeiladau gwirioneddol wych o'r un enwad.
Mae'r gwaith o gynnal a chadw'r adeiladau hynod hyn wedi disgyn ar ysgwyddau yr aelodau sy'n weddill, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn amrywio o fod yn oedrannus i fod yn oedrannus iawn. Fel y dywedodd un diacon wrthyf, 'Fe etifeddom ni'r capel hwn gan ein rhieni, ond nid yw ein plant am ei etifeddu gennym ni.' Dywedodd yr un diacon, 'Yr hyn rwy'n ei hoffi fwyaf am fynd i'r capel yw mai dyma'r unig le rwyf fi, fel rhywun dros 60 oed, yn cael fy ystyried yn un o'r aelodau ifanc.' Mae'r cynulleidfaoedd yn teneuo, a rhaid ichi gofio faint o gapeli sydd i'w cael o hyd. Yn ôl Blwyddiadur Undeb yr Annibynwyr, ceir dros 600 o gapeli annibynwyr yng Nghymru a phedwar capel annibynwyr Cymraeg yn Lloegr, ond bydd y nifer bron yn sicr yn parhau i ostwng.
Rydym wedi gweld hen gapeli'n cael eu haddasu neu eu newid mewn modd addas at nifer o wahanol ddibenion, yn amrywio o fflatiau, sef y defnydd mwyaf cyffredin, i dai, busnesau, bwytai, swyddfeydd, canolfannau cymunedol, ac mewn rhai achosion, eu troi'n addoldai ar gyfer crefyddau eraill. Yn anffodus, mae eraill wedi mynd yn adfeilion, wedi'u llosgi i lawr, neu wedi cwympo. Un enghraifft nodedig o hen gapel yn Abertawe sydd wedi'i addasu mewn modd sensitif yw capel Christmas Evans, sydd bellach yn gartref i swyddfeydd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yn Abertawe, ond maent yn caniatáu i bobl ymweld a gweld ei blac sy'n coffáu Christmas Evans. Mae'n rhyfeddol faint o bobl sy'n ymweld, er nad yw'n cael ei hysbysebu, ac mae'n rhaid ichi wneud cryn dipyn o ymchwil i ganfod y lle, ac ar ôl gwneud hynny, rhaid ichi drefnu gyda'r NSPCC i ymweld.
Mae pobl, megis Daniel James—a adwaenir yn well fel Gwyrosydd—cyfansoddwr 'Calon Lân', wedi'i gladdu yng nghapel Mynyddbach, ac Evan Roberts, y pregethwr a arweiniodd yr adfywiad mawr o gapel Moriah yng Nghasllwchwr. Dau yn unig o'r pregethwyr mawr a'r cyfansoddwyr emynau o Gymru oedd y rhain. Gallwn lenwi'r araith gyfan yn mynd drwy gyfansoddwyr emynau enwog o Gymru ac—[Torri ar draws.] Yn fwy pryderus, efallai y dechreuaf sôn am berthnasau Aelodau eraill yma. [Chwerthin.]
Ond fel y dywedais, mae'r rhan fwyaf o'r capeli a'r eglwysi llai wedi cael eu troi mewn modd addas yn dai neu'n swyddfeydd. Yn Nwyrain Abertawe, gan ganolbwyntio ar Dreforys lle rwy'n byw, a Phlas-marl lle y cefais fy ngeni, af â chi drwy sefyllfa'r capeli a'r eglwysi. Mae capel Philadelphia yn Nhreforys, hen gapel Methodistaidd, wedi'i droi'n swyddfeydd a fflatiau. Unodd capel Calfaria, capel Soar a Seion i ffurfio Seion Newydd, y capel rwy'n ei fynychu. Mae capel Calfaria wedi cwympo. Y cyfan y gallwch ei weld mewn gwirionedd lle'r oedd capel Calfaria yw cerrig ar y ddaear, ac roedd hwnnw'n gapel a gâi ei ddefnyddio hyd at 50 mlynedd yn ôl. A bellach, y cyfan sydd gennych yw cerrig ar y ddaear, ar ben uchaf Stryd Banwell yn Nhreforys.
Mae Soar wedi dod yn rhan o'r Eglwys Gatholig, a chaiff ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau bach. Mae eglwys Sant Ioan, a adwaenir yn lleol fel yr eglwys yng nghanol y ffordd—dyma'r unig adeilad ar y gylchfan—yn cael ei adnewyddu i fod yn gaffi, oriel ac uned fasnachol ar y llawr gwaelod a'r llawr mesanîn, gyda thri fflat llofft uwch ei ben. Roeddwn i'n arfer ei disgrifio fel yr unig eglwys Gymraeg ei hiaith yn yr Eglwys yng Nghymru, ond cefais wybod bod yna rai eraill. Ond mae'n un o ychydig iawn o eglwysi Cymraeg eu hiaith yr Eglwys yng Nghymru. Mae'n adeilad rhyfeddol, ond bu'n segur ers 10, 15 mlynedd; mae bellach yn cael ei ailddefnyddio. Mae addoldy Grove wedi'i droi'n fflatiau.
Mae'r rhan fwyaf o'r capeli eraill wedi cael eu troi mewn modd addas yn fflatiau neu'n dai, neu, yn achos un, yn gartref gofal i bobl ag anawsterau dysgu. Mae peth o'r gwaith adnewyddu, megis addoldy Grove, wedi bod yn rhagorol, gan gadw'r ffasâd allanol ac ailfodelu mewn modd sensitif ar y tu mewn. Mae capel Mynyddbach wedi'i adfer ar ôl sawl blwyddyn o fod yn wag, ac mae bellach yn ganolfan Daniel James Gwyrosydd. Mae'r eglwys ym Môn-y-maen a'r eglwys yn Portmead wedi'u troi'n ganolfannau Ffydd mewn Teuluoedd, ac maent yn gwneud gwaith rhagorol gyda rhieni a phlant. Ac a gaf fi ddweud cystal gwaith y mae Ffydd mewn Teuluoedd yn ei wneud yn fy etholaeth?
Dyma lle y daw'r newyddion da i ben. Dymchwelwyd capel Horeb yn Nhreforys, ac adeiladwyd fflatiau ar y safle gan gymdeithas dai. Mae eglwys Sant Paul yng Nglandŵr wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn. Mae'n eglwys fawr, ac er y cafwyd sawl awgrym ynglŷn â sut y dylid ei defnyddio, nid oes unrhyw beth wedi digwydd. Cafwyd tân yng nghapel Libanus yng Nghwmbwrla ar ôl iddo fod yn wag am nifer o flynyddoedd, ac fe'i dymchwelwyd yn rhannol ar sail diogelwch. Mae dwy wal yn dal i sefyll ar hyn o bryd, ac wrth gwrs mae Cadw yn dal i'w rhestru. Mae capel Cwm, lleoliad arall lle bu tân, wedi cael ei ddymchwel, er ei fod yn dal wedi'i restru gan Cadw. Mae Aenon yn Heol Las wedi cau, heb unrhyw gynlluniau ar y gorwel i'w ddefnyddio eto at ddibenion gwahanol. Mae'r un peth yn wir am Bethania yng nghanol tref Treforys. Mae capel Moriah, lle roedd fy nhad-yng-nghyfraith yn unig ddiacon ar ôl, bellach wedi cau, mae wedi'i werthu sawl gwaith a cheir caniatâd cynllunio ar gyfer ei droi'n fflatiau, ond nid oes unrhyw ddatblygiad wedi digwydd.
Ceir llawer mwy o adeiladau eglwysi a chapeli nag a geir o bobl sydd eisiau eu defnyddio ar gyfer addoli. Mae'n mynd â ni at beth sy'n digwydd nesaf. Erbyn hyn, yr eglwysi a'r capeli mwy o faint yn bennaf sydd ar ôl. Ni ellir troi'r rheini'n fflatiau neu'n swyddfeydd yn hawdd fel y gwnaed i'r rhai llai o faint. Mae'r rhan fwyaf wedi'u rhestru, gan gynnwys y Tabernacl yn Nhreforys, sy'n adeilad rhestredig gradd I. Mae'r eglwysi a'r capeli llai wedi cau. Nid oes problem. Mae'r newidiadau hawdd eisoes wedi digwydd mewn gwirionedd. Ac os caf fi ddweud, yn gyffredinol, mae'r gwaith a wnaed yn dda? Nid ym mhobman, ond yn gyffredinol, fe wnaed gwaith da.
Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru drafod dyfodol yr adeiladau hyn gyda'r gwahanol enwadau yng Nghymru. Nid rhestru adeiladau gan Cadw yw'r ateb, ac weithiau mae'n rhan o'r broblem, gan na allwch wneud newidiadau i'r adeilad; bydd yn eistedd yno hyd nes y bydd yn dymchwel ohono'i hun neu'n cael ei losgi, ac mae llawer gormod o adeiladau'n cael eu llosgi pan gânt eu gadael yn wag am gyfnodau hir.
Mae gan Gymru enw da iawn am ei phregethwyr, ei hadeiladau eglwysig a'i chapeli, sy'n rhywbeth y mae angen inni ei ddatblygu. Credaf fod angen inni edrych ar farchnad dwristiaeth America; mae angen inni gynhyrchu teithiau enwadol yng Nghymru. Nid America yn unig, ond gwledydd yn nwyrain Asia, fel Singapore. Mae gennym sefyllfa lle'r arferai Seilo Newydd yng Nglandŵr, un o gapeli mwyaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fod â lle i dros 1,000 o bobl, ond roeddent yn llawer teneuach yn y dyddiau hynny—[Chwerthin.]—felly dim ond lle i tua 600 o bobl sydd yno erbyn hyn. Ond aeth i ddwylo eglwys yn Singapore. Cyn hynny, roedd ganddo saith o aelodau, a hynny ond am fod dau gapel wedi uno i roi pump o un a dau o'r llall i wneud saith.
Felly, y cwestiwn yw: a ddylem ni yng Nghymru dargedu marchnad dwristiaeth America? A ddylem dargedu rhai o'n hysbysebion twristiaeth i hyrwyddo ein hanes crefyddol gwych, ei bobl a'i adeiladau? Credaf fod cyfle enfawr i hyrwyddo twristiaeth sy'n gysylltiedig â'n capeli, ein heglwysi a'r pregethwyr mawr a'r cyfansoddwyr emynau. Dyma gyfle y mae angen i ni yng Nghymru fanteisio arno cyn ei bod yn rhy hwyr. Gallwn achub rhai. Nid yw'n bosibl eu hachub i gyd. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i siarad â'r gwahanol enwadau a llunio strategaeth ar gyfer eglwysi a chapeli Cymru.
Yn gyntaf, mae angen rhestr o flaenoriaethau. Yn ail, mae angen cynllunio'r modd y gellid defnyddio adeiladau yn y dyfodol—mae swyddfeydd, fflatiau a thai i gyd yn bosibl. Bydd hyn yn gweithio, fel y dangosais yn gynharach. Rhaid cael opsiwn i'w troi'n adeiladau cymunedol. Bydd angen cymorth ariannol a chefnogaeth gymunedol i wneud hyn. Ni allwn adael i nifer fawr o bobl oedrannus fod yn unig warcheidwaid ein treftadaeth. Rydym yn gwarchod cestyll ein goresgynwyr Normanaidd; dylem wneud yr un peth i'r prif gapeli a oedd, i neiniau a theidiau a hen neiniau a hen deidiau llawer ohonom, yn fannau addoli a chanolfannau cymunedol pwysig. Os caiff y cynnig hwn ei basio ac os na wnaiff y Llywodraeth weithredu, neu os na fydd yn pasio, bydd mwy a mwy o'r adeiladau hyn yn cau. Bydd mwy a mwy'n mynd yn adfail, a bydd rhan fawr o'n hanes yn cael ei cholli. Dyma'r amser i weithredu. Ymhen 10 mlynedd fe fydd yn rhy hwyr i lawer o'r adeiladau hyn.
A gaf fi ofyn hefyd am amgueddfa genedlaethol ar gyfer ein hanes crefyddol? Mae gennym amgueddfa wlân, amgueddfa ddiwydiannol a morol, mae gennym amgueddfa lechi. Credaf y dylem gael amgueddfa i barhau a dangos ein hanes crefyddol, oherwydd, er ei fod wedi bod yn hanes byw i lawer ohonom, ymhen 50 mlynedd, ni fydd yn hanes byw i'r bobl yr adeg honno. Felly, a gaf fi annog y Llywodraeth i feddwl am hynny? Ac os ydynt yn edrych am safle, a gaf fi awgrymu'r Tabernacl?
Diolch, ac yn gyntaf hoffwn gofnodi fy niolch i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl Aelodau hynod bwysig hon ar adeiladau crefyddol, a diolch hefyd i Darren Millar, Jane Dodds a Rhys ab Owen am gyd-gyflwyno. Hoffwn dynnu sylw hefyd at fy nghofrestr buddiannau—rwy'n ymddiriedolwr eglwys hefyd.
Mae'n bleser, wrth gwrs, cael fy ngalw'n gefnogwr i'r cynnig hwn a siarad yma heddiw. Fel y dywed y cynnig, mae'n destun pryder mawr ein bod yn parhau i weld cau adeiladau crefyddol ar hyd a lled Cymru, ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yma heddiw yn cytuno bod ffydd yn agwedd bwysig ar fywyd Cymru. Mae adeiladau crefyddol yn aml yn galon cymunedau, ac ar adegau, yn dod â phob rhan o'n cymuned at ei gilydd. Hyd yn oed i bobl nad ydynt yn credu, ffydd yw'r hyn y mae llawer o bobl yn chwilio amdano ar adegau o angen, ac yn aml, mae'r adeiladau hyn yn symbol o bwysigrwydd y ffydd hon a'r gefnogaeth sydd gan ffydd i'w chynnig.
Fel rhywun a fagwyd yn yr eglwys, fel mab i weinidog eglwys, er mai strwythurau i ddal yr eglwys yn unig yw'r adeiladau hyn, a gwn mai y tu hwnt i'r brics a'r morter y mae eu harwyddocâd—yr hyn y maent yn ei gynrychioli sy'n bwysig. Yr adeiladau hyn sydd mor aml yn dal atgofion teuluol a chymunedol pwysig o ddathlu, o alaru, a phob emosiwn yn y canol rhyngddynt. Yr adeiladau hyn sydd mor aml wedi bod yn fannau ymgynnull dros genedlaethau, yn gefnogaeth ar adegau tywyll ac ar adegau da, ac rwy'n dadlau y bydd angen iddynt fod yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd.
Ond yn anffodus, fel y gwyddom, ac fel y crybwyllodd Mike Hedges eisoes, nid yw dyfodol llawer o adeiladau crefydd a ffydd ledled Cymru yn ddiogel. Ac mae hefyd yn anffodus iawn yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, gyda'r dyfodol yn ansicr i lawer o adeiladau pwysig. Er enghraifft, mae eglwys gadeiriol y Santes Fair yn Wrecsam, adeilad rhestredig gradd ll, yn wynebu cyfnod pryderus ar hyn o bryd gyda'r angen i adnewyddu neuadd yr eglwys gadeiriol yn llwyr ac mae angen system wresogi newydd. Hefyd, daw eglwys Llanrhychwyn yn nyffryn Conwy i'r meddwl, ac mae llawer o bobl yn honni mai honno yw'r eglwys hynaf yng Nghymru, er fy mod yn siŵr y gall Mike Hedges ddadlau dros hynny yn ei ardal ef, ond mae honno'n dyddio'n ôl i'r chweched ganrif yn wreiddiol.
Rwy'n sôn am hyn oherwydd mae'r adeiladau hyn yn bwysig, nid yn unig i'n ffydd yma yn awr, maent yn bwysig er mwyn tynnu sylw at ein hanes a hwy yw tirnodau ein gwlad hefyd. Mae maint yr hanes yn y lleoedd hyn yn anhygoel, gan adrodd stori rhan sylweddol o'n bywyd a'n diwylliant yma yng Nghymru. Mae'n bwysig i bobl allu parhau i ddefnyddio'r adeiladau hyn a deall ein diwylliant a'n hanes yn y dyfodol hefyd.
Felly, fel y dywed pwynt 2 o'r cynnig heddiw, dyma'r adeg i Lywodraeth Cymru weithio gyda phob enwad yng Nghymru i drafod dyfodol adeiladau crefyddol, ac yn bwysicaf oll, i sicrhau eu bod yma i aros ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am gyflwyno'r ddadl wirioneddol bwysig hon a galwaf ar Lywodraeth Cymru a'r Aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol heddiw i gefnogi'r cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr i fy nghyfaill Mike Hedges am ddod â'r ddadl yma. Ble arall yn y byd fyddem ni'n cael dadl fel hon? Wel, efallai yng nghynulliad talaith Chubut, o bosib. Mae'n hyfryd, onid yw e? Mae'n quintessentially Welsh i gael dadl fel hyn ar gapeli Cymru. Efallai bod Mike Hedges a fi yn Aelodau o bleidiau gwleidyddol gwahanol, ond mae llawer gyda ni'n gyffredin, ac un o'r pethau hyn yw bod y ddau ohonom ni'n gyd-aelodau o Undeb Bedyddwyr Cymru. Croeso i chi 'cheer-io' ar y pwynt yna.
Un hen enw ar gapeli oedd 'tŷ cwrdd', yn llythrennol yn golygu dyna lle roedd y gymuned yn dod at ei gilydd. Heb or-sentimentaleiddio, yn aml iawn, ceiniogau prin y werin adeiladodd ein capeli ni, o Salem Rhydcymerau yn etholaeth fy nghyfaill Mabon ap Gwynfor, a gafodd ei anfarwoli gan Curnow Vosper ac Endaf Emlyn, i Dabernacl Treforys, eglwys gadeiriol anghydffurfiaeth Gymraeg, fel mae Mike Hedges yn ein hatgoffa ni yn gyson.
Gwir am gapeli Cymru yw geiriau englyn hyfryd Williams Parry am y neuadd ym Mynytho:
'Adeiladwyd gan dlodi;—nid cerrig / ond cariad yw'r meini; / cyd-ernes yw'r coed arni; / cyd-ddyheu a'i cododd hi.'
Fel saer coed yn y Rhondda—Buffy Williams—yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe wnaeth fy hen dad-cu weithio ar nifer o gapeli, gan gynnwys ei gapel ef ei hun, sef capel Noddfa Treorci. Roedd y capel yn dal dros 1,500 o bobl—mwy hyd yn oed na Thabernacl Treforys, Mike—ac wrth ymweld â’r lle ar ddiwedd y 1970au fe wnaeth Penri Jones, awdur Jabas a golygydd Lol, ddweud hyn am Noddfa Treorci: 'Mae'r capel fel arena maes chwaraeon a'r pulpud fel llwyfan mawr.' Ac wrth ymweld â’r festri, dywedodd fod gwell cyfleusterau yno nag mewn nifer o ysgolion cyfoes. Yno roedd y cyfansoddwr John Hughes yn organydd. Yno roedd man cyfarfod cyntaf y byd-enwog côr meibion Treorci.
Ond, am amryw o resymau—yn gymdeithasol, yn economaidd, yn wleidyddol—ciliodd y tyrfaoedd o Noddfa, fel sawl Noddfa, Tabernacl a Salem arall. Mae Penri Jones yn terfynu ei ymweliad trwy ddweud hyn: 'Bu yma unwaith lawenydd, ond rhaid bod rhyw ddiofalwch trychinebus i beri bod y cyfan yn diflannu mewn modd mor derfynol.' Gwir oedd geiriau y proffwyd ffraeth, oherwydd o fewn ychydig flynyddoedd, o fewn pum mlynedd, llosgwyd Noddfa i lawr. Fe ddiflannodd y cyfan yn y modd mor derfynol roedd Penri Jones wedi rhagweld, yr holl adnoddau cymunedol a cherddorol wedi mynd yn llwyr.
Dywedodd Huw T. Edwards, yr undebwr Llafur a gafodd ei ddisgrifio yn Brif Weinidog answyddogol Cymru,
'Rwyf am weld o leiaf 75 y cant o'r addoldai yng Nghymru yn cael eu tynnu i lawr neu eu defnyddio mewn ffordd fwy effeithiol.'
Wel, dwi'n cytuno, i raddau, gyda Huw T. Edwards. Mae angen eu defnyddio nhw mewn ffordd llawer mwy effeithiol. Ond cytunaf hefyd gyda'r Huw Edwards arall, a pha ddadl ar gapeli allem ni ei chael heb Huw Edwards y BBC? Huw Edwards yn dweud hyn:
Mae addoldai wedi gwneud cyfraniad anfesuradwy i fywyd Cymru: maent wedi dysgu miloedd o blant i ddarllen ac ysgrifennu; roeddent yn meithrin yr ymdeimlad cryfaf posibl o gymuned; roeddent yn darparu llwyfan hanfodol ar gyfer diwylliant Cymru; roeddent yn aml yn ymgyrchu dros hawliau gweithwyr ac yn darparu gwasanaethau lles pan oedd llywodraeth yn cynnig y nesaf peth i ddim.
Ddwy flynedd yn ôl, fe gaewyd drysau holl fannau—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch, Rhys, ac rwy'n mwynhau gwrando ar eich araith yma, ond onid yw'n ffaith bod yr ysgol Sul ei hun—rydym yn sôn am addysg pobl ifanc drwy'r capeli, ac roeddwn innau'n mynd i'r ysgol Sul—yn fath arall o addysg, sydd, yn fy marn i, yn eithriadol o bwysig? A ydych chi'n cytuno bod yr ysgol Sul yn rhan bwysig o'r capeli hyn hefyd?
Yn sicr, cytuno, Sam, 100 y cant gyda ti.
Caeodd y drysau'n llwyr ddwy flynedd yn ôl, ac i nifer am y tro olaf. Gallaf feddwl am dair enghraifft yng Nghwm Cynon: Siloa Aberdâr, y man lle cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus tanllyd i ymateb i frad y llyfrau gleision, y man lle cafodd y cyfarfod cyntaf i sefydlu'r Wladfa ei gynnal, y man lle cafodd yr emyn dôn hyfryd 'Rhys' ei chyfansoddi ar yr organ; y capel Cymraeg yn Hirwaun, lle dechreuodd Jennie Eirian ac Eirian Davies eu bywyd priodasol, a lle, meddai Penri Jones, roedd aelodau yr ysgol Sul yn gallu dyfynnu Gwenallt y bardd a Karl Marx mewn un frawddeg; Bethesda Abercwmboi, man lle sefydlodd yr awdures Kate Roberts cangen gyntaf Plaid Cymru tu fas i sir Gaernarfon yn 1925, capel a fu’n cynorthwyo yn ymarferol yn streic gyffredinol 1926, ac hefyd yn streic y glowyr yn yr 1980au. Y cyfan wedi cau yn ystod COVID.
Mae’r sefyllfa yn gymhleth, fel mae Gethin Matthews yn dweud yn ei erthygl yn Barn, oherwydd gweithredoedd—title deeds—capeli a hefyd cyfraith elusennol. Ond, a dwi'n gorffen gyda hyn, Llywydd dros dro, lle mae’r ewyllys mae modd i lwyddo. Yng ngogledd sir Benfro, mae ymgyrch ddiweddaraf y Cynghorydd Cris Tomos ac eraill wedi sicrhau bod capel Brynmyrnach nawr yn ymuno â'r nifer fawr o asedion cymunedol sydd yno, fel Tafarn Sinc—un o fy hoff dafarndai, Mike. Y bwriad yw agor canolfan dreftadaeth yno a dwy fflat i bobl leol yn yr hen gapel. Mae’r lleoliadau yma yn bwysig, nid yn unig i'n treftadaeth, nid yn unig yn bensaernïol, maen nhw'n bwysig fel man sy’n perthyn i’r gymuned i gyd, i'r bobl i gyd. Felly, braint yw cefnogi cynnig fy nghyfaill Mike Hedges. Diolch yn fawr.
Pum munud ydyw, mewn gwirionedd, nid chwech. Galwaf ar Alun Davies.
Mae'n fraint wirioneddol cael ymuno â'r ddadl hon a dilyn cyfraniadau mor gryf a phwerus i'r Senedd hon sydd ynddi'i hun yn rhan o gontinwwm ein hanes. Rydym yn sôn am ein capeli a'n heglwysi, ond gallwn hefyd siarad am ein synagogau, ein mosgiau a'n temlau, rhan o wead yr hyn ydym ni. A phan feddyliaf am ein hanes crefyddol, rwyf innau hefyd, fel eraill yma heddiw, yn meddwl am ein hanes cymdeithasol, ein hanes diwylliannol. Mae'r genedl a aned yng nghysgod Rhufain ac a adeiladodd gapeli sy'n bodoli heddiw, fel Sant Gofan, yr un mor bwysig er mor adnabyddus yw Dewi Sant.
Ac felly, wrth i'r genedl fabwysiadu ei hunaniaeth wleidyddol, siaradodd Mike Hedges am y gystadleuaeth, os mynnwch, neu'n agos at ryfela mewn rhai achosion, rhwng capeli a thafarndai ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. A phan ddarllenais am hanes cymdeithasol Tredegar, roedd y gwrthdaro hwnnw i'w weld. Ganwyd y mudiad dirwest yn ein capeli a cheisiodd mudiad yr undebau llafur wneud y gorau o ddau fyd, ac nid wyf yn siŵr pa mor llwyddiannus oedd hynny bob amser ar wahanol adegau. Ond mae'n rhan o'r hyn ydym ni, oherwydd gallwn i gyd siarad am y pethau hyn. Ond nid oes unrhyw wlad arall yn y byd a fyddai wedi adeiladu Soar y Mynydd lle y cafodd ei adeiladu a lle mae'n sefyll heddiw—yn un o'r lleoedd mwyaf hudol yn ein gwlad. Ond gallwn i gyd siarad am ein capel lleol a'n lleoedd lleol.
Bydd yr Aelodau yma'n gwybod fy mod wedi colli fy nau riant dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac wrth ddarllen drwy rai o bapurau fy nghapel lleol, Ebenezer, Sirhywi, yr hyn a welwch yng nghofnodion y capel yw hanes, hanes cymdeithasol Sirhywi a hanes cymdeithasol Tredegar, a lle'r Gymraeg. Y ddadl: a ddylem gael ein gwasanaethau yn y Gymraeg neu'r Saesneg? Penderfynasant, yn gyntaf oll yn sicr, y byddent yn pregethu yn Saesneg ond yn gweddïo yn Gymraeg. Os bu trosiad erioed am Gymru ac am Dredegar, mae'n debyg mai dyna fe.
Ond mae hyn hefyd yn ymestyn yn ôl ac yn rhoi gwybod i ni pwy ydym ni heddiw. Pan gyflwynodd Griffith Jones ei ysgolion cylchynol, nid pregethu'r Beibl yn unig a wnâi, daeth ag anllythrennedd i ben; creodd genedl lythrennog drwy gyfrwng y Gymraeg, ac arweiniodd hynny at estyn allan eto a chreu profiad diwylliannol gwahanol. Ac Evan Roberts, yn cystadlu yn 1905 gydag Undeb Rygbi Cymru am bwy a ddylai gael ei gofio fel yr enillydd yn 1905. Arweiniodd y diwygiad at ffrwydrad mewn hunaniaeth a adeiladwyd ar sylfaen ein capeli. A'r hyn a wnaethom yno, wrth gwrs, oedd creu Cymru wahanol iawn, oherwydd y Gymru a fodolai cyn hynny oedd Cymru rhywle fel Sant Martin yng Nghwm-iou. Rwy'n credu mai dyna un o'r eglwysi harddaf yn y wlad, a bydd y rhai ohonoch sy'n ei hadnabod, i fyny yn y bryniau uwchben y Fenni, yn gwybod eich bod yn cerdded drwy gorff cam yr eglwys honno ac yn edrych ar sut y mae daeareg a daearyddiaeth y lle wedi creu eglwys sy'n cael ei defnyddio heddiw, ond rhywle sy'n unigryw Gymreig a hefyd yn lle unigryw a hardd, a lle hudol iawn. Ond rydym yn darllen hanes ein gwlad drwy ein heglwysi a'n capeli a'n hadeiladau crefyddol.
Rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaeth Mike Hedges wrth gyflwyno'r ddadl hon, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ymateb i'r rheini. Fe fydd yn gwybod bod y ganolfan dreftadaeth sy'n cael ei hadeiladu ym Merthyr, o'r synagog, yn sôn am hanes y gymuned Iddewig yng Nghymoedd de Cymru. A chredaf fod yn rhaid inni ddod i delerau â rhannau o'n hanes o hyd, ac yn sicr mae'r terfysgoedd gwrth-Iddewig yn Nhredegar ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf yn rhywbeth nad ydym wedi dod i delerau â hwy eto heddiw. Yn y ffordd y diogelwn y brics a'r morter, credaf mai'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw trosi hynny i'r presennol hefyd ac i bwy ydym ni fel pobl a phwy ydym am fod fel cenedl.
Hoffwn ofyn i'r Gweinidog hefyd sut y mae'n credu y gellir defnyddio Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a basiwyd gan y lle hwn yn ôl yn 2016, rwy'n credu, i ddiogelu'r lleoedd hyn, oherwydd hyd nes y byddwn wedi diogelu'r lleoedd hyn, yn llythrennol ni fydd gennym frics i allu adeiladu'r dyfodol hwn. Felly, yn y ddadl hon y prynhawn yma, rydym wedi ymestyn yn ôl i gysgod yr ymerodraeth Rufeinig, pan wnaethom adeiladu ein cenedl, ac i lle y cafodd y genedl honno ei ffurfio, yn y chwyldro diwydiannol a'r holl rannau eraill o'n hanes yr ydym yn gyfarwydd â hwy, ond hefyd yn y capeli a'r eglwysi. Nid Llywodraeth yn creu pobl oedd yr hyn a ddigwyddodd yno, ond pobl yn creu diwylliant.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r eitem hon i'w thrafod. Fel y gŵyr nifer yma eisoes, rwy'n siomedig o weld cynifer o adeiladau hanesyddol ledled Cymru yn cael eu gadael yn segur ac yna, o ganlyniad, yn cael eu chwalu a'u dymchwel er mwyn codi adeiladau mwy newydd a mwy dinod yn eu lle, adeiladau nad ydynt yn cyfrannu at hunaniaeth ardal. Mae cael gwared ar adeiladau fel hen eglwysi a chapeli yn newid ein tirwedd drefol yn y pen draw, ac yn fy marn i, mae'n cael effaith negyddol ar y ffordd yr ydym yn cysylltu ac yn uniaethu â'r mannau lle'r ydym yn byw. At hynny, rydym yn colli ein cysylltiad diriaethol â'n hanes ein hunain. Er bod amgueddfeydd yn darparu enghreifftiau priodol, wrth inni ddatblygu ein hardaloedd trefol, mae perygl inni erydu hunaniaeth ein cymunedau.
Yn bersonol, ac fel y dywedwyd eisoes, mae adeiladau crefyddol yn rhan bwysig iawn o'n cymuned, ac maent wedi darparu lloches a gobaith i genedlaethau o bobl drwy rai o'r adegau mwyaf cythryblus yn hanes ein cenedl. Wrth inni gael gwared ar ein mannau addoli, rydym yn dynodi'n anfwriadol fod colli ein crefydd yn beth da, sydd yn fy marn i yn sefyllfa drist, oherwydd mae'n normaleiddio'r farn nad yw ein hysbrydolrwydd a'n cysylltiad â phŵer uwch yn berthnasol mwyach.
Yn y pentref lle rwy'n byw, Llanilltud Faerdref, mae capel Methodistiaid Calfinaidd Bethesda ac eglwys haearn rhychiog gwyrdd Sant Andrew bellach yn atgofion pell. Nid anghofiaf gapel Methodistiaid Calfinaidd Trinity a'r effaith a gafodd arnaf pan yrrais rownd y gornel un diwrnod i weld yr adeilad a fu yn fy nghymuned ers 1913, heb rybudd i'r gweddill ohonom yn y pentref, yn ddim byd ond pentwr o frics ar y ddaear. Cyfrannodd pob un o'r adeiladau hyn at hanes fy mhentref a'i siapio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, a bellach rwy'n ofni y bydd y genhedlaeth nesaf a phobl sy'n symud i'r ardal yn gweld fy mhentref fel dim mwy nag ystâd enfawr o dai heb hanes na hunaniaeth unigryw ei hun.
Er bod cymunedau o bosibl wedi cefnu ar addoli yn yr adeiladau hyn, a bod y rheswm dros eu defnydd gwreiddiol wedi pylu, ni ddylem fod mor barod i ganiatáu iddynt gael eu dinistrio, oherwydd nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod cymunedau'n dal i fod eu heisiau ac y byddent yn falch o'u gweld yn cael eu hachub a'u haddasu at ddibenion gwahanol, gan barhau i wasanaethu'r gymuned yn yr ysbryd y cawsant eu hadeiladu. Byddwn hefyd yn dadlau y byddai sefydliadau sy'n berchen ar yr adeiladau crefyddol hyn yn croesawu eu gweld yn cael eu hailddefnyddio yn hytrach na'u dymchwel ac y byddent yn barod i gynnig eu cymorth a'u gwasanaethau i wneud hynny mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn bwysleisio bod angen inni wneud mwy fel cenedl sy'n cydnabod pwysigrwydd llesiant ein cymunedau i'w helpu i addasu'r adeiladau crefyddol a hanesyddol eraill hyn at ddibenion gwahanol. Yn ddiweddar, cyfarfûm â chymdeithas dai ynglŷn â'u cynlluniau i ddymchwel hen ysgol yn fy rhanbarth, ac un o'r rhesymau pam y maent yn gwneud hyn yn hytrach na'i hadnewyddu yw oherwydd defnydd aneffeithlon yr adeilad o ynni a'r diffyg cymorth ariannol i wneud unrhyw beth i'w wella. O ystyried hyn a'r angen digynsail i adeiladu dyfodol sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, mae angen inni ddarparu lefel fwy addas o adnoddau cyhoeddus i gymunedau, asiantaethau a grwpiau crefyddol allu uwchraddio effeithlonrwydd ynni'r adeiladau hyn a'u helpu i gyrraedd targedau datgarboneiddio.
Yn olaf, fel y soniwyd eisoes, o ystyried gwerth adeiladau crefyddol i'r gymuned a'u gwerth posibl i dwristiaeth, fel teithiau pererindod a llwybrau hanesyddol, rwy'n credu y dylem ddarparu tystiolaeth a chefnogaeth glir y gall cymunedau addasu neu adfywio eu hadeiladau crefyddol a'u galluogi i barhau i wasanaethu eu cymunedau cyn y caiff rhagor eu colli. Diolch, Lywydd dros dro, a hoffwn annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Doeddwn i ddim yn mynd i siarad yn y ddadl hon, ond roedd Mike wedi cysylltu ac roeddwn i'n meddwl am ba mor bwysig mae adeiladau crefyddol wedi bod i fy nheulu i, felly roeddwn i eisiau dweud gair.
Rwy'n cofio offeiriad yn ysgrifennu darn yng nghylchlythyr y plwyf, a dywedodd, 'Nid amgueddfa i seintiau yw'r eglwys, ond ysbyty i bechaduriaid.' Mae'r frawddeg honno wastad wedi aros yn y cof—fod yr adeiladau crefyddol hyn sydd gennym yng Nghymru wedi'u hadeiladu nid yn unig i ddathlu gogoniant eu Duw, ond fel balm i'r gynulleidfa, lle i gael cysur, i addoli ac i gael heddwch. Mae'r adeiladau hyn i'w gweld ar bron bob stryd yn nhrefi'r Cymoedd, ac fel y dywed yr hen jôc, bydd gan bob pentref yng Nghymru gapel yr ydych yn ei fynychu yn ogystal â'r holl gapeli nad ydych yn eu mynychu, ond fwy a mwy y dyddiau hyn, ychydig iawn sy'n eu mynychu.
Mae'r adeiladau hyn—mae'r pwynt wedi'i wneud—yn fwy na gwaith maen; rhain yw eglwysi cadeiriol ein cof cyfunol, ein cysylltiad â'n gorffennol. Mae yna eglwys ym Mhatrisio ag iddi groglen o'r bymthegfed ganrif. Yn y fynwent mae croes yn nodi'r man lle'r oedd Gerallt Gymro'n pregethu'r drydedd groesgad. Pan fyddwch yn sefyll yno, gallwch ddychmygu eich bod yn clywed y geiriau. Mae'r synagog ym Merthyr yn dangos tueddiadau pensaernïol tylwyth teg amlwg castell Cyfarthfa a Chastell Coch gerllaw, adeilad sy'n adlewyrchu ein hanes mwy diweddar a'r wyneb y mae'n ei ddangos i'r byd. Pe bai adeiladau fel hyn yn cael eu colli, faint o'n hanes a fyddai'n cael ei gladdu gyda hwy? Dim ond sylfeini Abaty Ystrad Fflur sy'n weddill, man claddu Dafydd ap Gwilym yn ôl y chwedl. Nid oes fawr ddim ar ôl o Abaty Cwm Hir. Mae gormod o fannau crand, enwog yn dwyn i gof y llinell gan Harri Webb fod danadl yn tyfu ar yr allor lle'r oedd y seintiau'n ymprydio a'r pererinion yn gweddïo.
Nid yn unig y mae'r adeiladau hyn yn bwysig i'n gorffennol. Maent yn chwarae rhan ganolog ym mywyd y gymuned fel canolfannau ar gyfer boreau coffi, ffeiriau sborion, mannau casglu, banciau bwyd. Drwy gydol COVID-19, defnyddiwyd capeli, eglwysi, synagogau, mosgiau, gwrdwaras a themlau ar gyfer allgymorth, cysylltu aelodau o'r gymuned, trefnu dosbarthu bwyd, corau Zoom, cynlluniau cyfeillio. Maent yn cynnig rhaff achub i breswylwyr o bob ffydd a'r di-ffydd. Byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o adeiladau crefyddol yn cael cymorth, yn cael cyllid gwarantedig fel y gallant gadw eu drysau ar agor a chadw'r gwres ymlaen. Gwn fod Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr wedi ysgrifennu at yr Aelodau cyn y ddadl heddiw i dynnu sylw at y ffaith y bydd cyllid, boed o'r Loteri Genedlaethol neu'r gronfa adferiad diwylliannol, yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ac mae llai o arian ar gael yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr.
Mae llawer o esgobaethau a llawer o gynulleidfaoedd yn dibynnu ar roddion gan y bobl sy'n mynychu ac sy'n gysylltiedig â'u cynulleidfaoedd, a bydd hyn yn wir am bob ffydd. Ond oherwydd y pandemig, mae llai o bobl yn mynychu gwasanaeth neu offeren neu gyfarfod gweddi. Nid ydynt yno i roi'r arian yn y fasged. Tybed pa sicrwydd arall y gall y Llywodraeth ei roi i gymunedau crefyddol yng Nghymru y gellir diogelu eu hadeiladau, yn ogystal â'u cryfhau a'u cefnogi? Oherwydd rwy'n ailadrodd eto nad cofadeiladau i'r dwyfol yn unig ydynt, ond tystiolaeth fyw o ewyllys da trigolion yn ein cymunedau—pobl o bob crefydd, y rhai heb unrhyw grefydd, y rhai sy'n dod at ei gilydd i gefnogi pobl sydd angen y gefnogaeth honno, i ddarparu cysur i ddieithriaid, a heddwch i'r rhai sydd ei angen.
Diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Mike. Maent yn dweud nad oes unrhyw beth yn sicr mewn bywyd ar wahân i farwolaeth a threthi. Wel, gallaf ddweud wrth y Siambr heddiw nad oes unrhyw beth yn sicr ar wahân i farwolaeth, trethi ac eglwysi a chapeli yn y Rhondda. Ni allwch yrru o'r Cymer i fyny i Dreherbert neu o Drehafod i Faerdy heb basio eglwys neu gapel. Rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda Rhys ab Owen am y cymanfaoedd a gynhaliwyd yn y Rhondda a hen eglwys y Bedyddwyr, Noddfa, yn Nhreorci, a'r rheswm am hynny yw oherwydd, yn ystod y chwyldro diwydiannol, roedd eglwysi a chapeli yn bileri cymunedau dosbarth gweithiol ac roeddent yn rhan sylfaenol o fywydau ein cyndadau. Mae rhai yn parhau i fod yn sefydliadau pwysig yn ein cymunedau heddiw, ond rydym wedi gweld dirywiad sylweddol mewn eglwysi a chapeli gweithredol, gyda llawer iawn naill ai wedi'u gwerthu neu wedi'u gadael i ddadfeilio.
Wrth dyfu i fyny, roeddwn yn arfer mynychu eglwys Llanfair cyn iddi wneud lle i dai. Boed eich bod yn grefyddol ai peidio, mae mynychu'r adeiladau crefyddol hyn yn rhoi ymdeimlad o deulu a pherthyn i chi. Maent yn sefyll fel canolfannau cymunedol, ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau yn y Siambr yn cytuno â mi fod ein grwpiau cymunedol a'n helusennau yn chwarae rhan hanfodol i'r rheini y mae fwyaf o angen cymorth arnynt yn ein cymunedau. O gymorth iechyd meddwl a llesiant, presgripsiynu cymdeithasol, a darparu prydau am ddim i deuluoedd a'n cenedlaethau hŷn, i wirfoddoli a chyfleoedd gwaith ar garreg y drws i'n pobl ifanc, mae grwpiau cymunedol ac elusennau yn darparu gwasanaethau hanfodol o'r fath, ond mae dyfodol llawer ohonynt yn y fantol yn anffodus, oherwydd ansicrwydd trefniadau rhent. Mae angen inni ddileu'r rhwystr hwnnw a helpu'r grwpiau cymunedol a'r elusennau hyn i ddod o hyd i gartrefi parhaol. Nid wyf yn gweld pam na all adeiladau crefyddol fod yn gartref iddynt.
Ceir dwy enghraifft yn y Rhondda o eglwysi sydd bellach wedi dod yn fwy nag adeiladau crefyddol. Ym Mhenrhys, mae Sharon yn gweithio'n galed gyda byddin o wirfoddolwyr i ddiwallu anghenion y teuluoedd sy'n byw yn ei chymuned. Bydd trigolion yr ystâd yn dweud wrthych y byddai bywyd yn llawer anos iddynt heb yr eglwys a heb Sharon. Hefyd, mae gennym Gymuned Santes Anne Ynys y Werin, sy'n gweithio'n ddiflino i godi arian i brynu eglwys Santes Anne ar gyfer y gymuned. Mae eglwys Santes Anne yn adeilad hardd ac mae'r adeilad yn lwcus iawn o gael grŵp mor angerddol yn brwydro drosto. Gallaf weld o'r eglwysi a'r capeli gwag yn y Rhondda, a'r ddwy enghraifft rwyf newydd eu crybwyll ym Mhenrhys ac Ynys-hir, y gwahaniaeth cadarnhaol y gallai cynigion Mike ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru. Byddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw.
Ac yn olaf, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro, a diolch yn fawr iawn i Mike am ddod â'r ddadl yma ger ein bron. Dwi wedi'i mwynhau'n arw, hyd yma, beth bynnag, a dwi eisiau cyfyngu fy nghyfraniad rhyw ychydig, os caf i. Ond mae'n ddadl amserol iawn, yn enwedig wrth ystyried, y rhai ohonoch chi a fydd yn cofio'r haf diwethaf, y drafodaeth fuodd yn Nwyfor Meirionydd am Gapel Tom Nefyn, Pistyll, efo'r gymuned yno yn trio achub y capel yno ar gyfer budd cymunedol, ond yn y diwedd y capel yn cael ei brynu ac yn mynd i gael ei ddatblygu yn dŷ haf. Felly, mae'n rhaid i ni edrych hefyd at ddibenion cymunedol yr adnoddau yma.
Mae'n ddadl sy'n bwysig i mi'n bersonol hefyd am sawl rheswm. Yn gyntaf, dwi'n fab i weinidog, ac wedi mynychu sawl capel ar hyd fy oes. Dwi hefyd yn bregethwr lleyg, neu mi oeddwn i cyn cael fy ethol, ac mae'n drist dweud bod y tri chapel diwethaf imi bregethu ynddynt bellach wedi cau. Dwi ddim yn gwybod ydy hwnna mewn gwirionedd yn dweud rhywbeth am fy mhregethu i yn fwy na'r cynulleidfaoedd, neu ddiffyg cynulleidfaoedd, a oedd yn mynd yno. Mae'r capeli yna bellach yn eistedd yn wag, ac un wedi'i droi mewn i swyddfeydd.
Hefyd mae gen i ddiddordeb teuluol yn y peth. Roedd fy ewythr i, Dewi-Prys Thomas, yn bensaer nodedig, ac mi oedd o'n bencampwr i gapeli Cymru. Mae ysgolheigion o'r tu allan i Gymru wedi dadlau erioed nad oes yna fath beth â phensaernïaeth Gymreig, ond roedd Dewi-Prys Thomas yn anghytuno. Roedd o'n dadlau bod yr hen gapeli bach Cymreig yn enghreifftiau perffaith o bensaernïaeth werinol Cymru, efo'r capel yn ganolbwynt cymunedol yn tynnu pobl ynghyd. Felly, mae yna werth pensaernïol i'r adeiladau hynny.
Dwi'n fab i weinidog, fel tithau. Fyddet ti'n cytuno efo fi mai un o'r ffyrdd gorau i allu symud pethau ymlaen fyddai cydweithio cydenwadol a chydaddoli cydenwadol i ddod â chymunedau at ei gilydd yn lleol?
Dwi'n cytuno. Mae Peredur yn gwneud pwynt pwysig yn fanna. Mae yna gapeli yn wag, so pam ddim yr enwadau'n dod ynghyd er mwyn cael defnydd o gapel sydd ddim ond yn cael ei ddefnyddio yn rhan amser ar hyn o bryd? Mae'n bwynt pwysig gan Peredur.
Mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio hefyd fod yr adeiladau yma wedi cael eu hadeiladu nid yn unig at ddibenion crefyddol, ond hefyd yn fwriadol fel asedau cymunedol, fel sydd wedi cael ei sôn gan Rhys ynghynt. Yn wir, os darllenwch chi erthyglau sefydlu rhai o'r capeli yma, maen nhw'n sôn am ddibenion crefyddol, ond hefyd dibenion gwleidyddol, a dibenion cymdeithasol yn benodol, efo cyfarfodydd mawr gwleidyddol yn aml iawn yn cael eu cynnal yn y capeli yna, efo cymanfaoedd a chyngherddau hefyd. Roedden nhw'n adeiladau a oedd yn ganolbwynt i'r gymuned, ac yn amlbwrpas, felly mae'n iawn ein bod ni yn trafod sut mae ailberchnogi'r adeiladau yma a'u hailbwrpasu nhw yma at ddibenion amgenach heddiw.
Diolch yn fawr iawn i Mike am y ddadl, a gobeithio y caiff y cynnig ei dderbyn yn ddiwrthwynebiad.
Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, Dawn Bowden.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i Aelodau'r Senedd am gyflwyno'r ddadl wirioneddol bwysig hon ar gau adeiladau crefyddol ledled Cymru, ac am ddangos cymaint o angerdd ynghylch y mater—mater sydd, yn fy marn i, yn peri pryder i bob un ohonom? Oherwydd mae gan bob un ohonom yr adeiladau hyn yn ein hetholaethau, onid oes? Cyfeiriodd Alun Davies at y synagog ym Merthyr Tudful, a fydd yn cael ei haddasu i fod yn ganolfan treftadaeth Iddewig ar gyfer Cymru gyfan. Rwy'n meddwl am Gapel Aberfan, sydd bellach yn wag, a'i bwysigrwydd i'r gymuned honno ar ôl y drychineb yn Aberfan.
Mae mannau addoli wedi'u gwreiddio'n llwyr yn nhreftadaeth pob cymuned yng Nghymru, ac roedd yn wych clywed Rhys ab Owen, Joel James, Delyth Jewell, Buffy Williams a Mabon ap Gwynfor i gyd yn siarad mor angerddol ac ysbrydoledig am enghreifftiau o'u bywydau eu hunain a'u hetholaethau eu hunain, oherwydd gyda'i gilydd maent yn cynnwys mwy o hanes, o bosibl, nag unrhyw fath arall o adeilad a welwn bob dydd. Mae cymaint â 3,000 o fannau addoli wedi'u rhestru yng Nghymru, sy'n gydnabyddiaeth rymus o'u harwyddocâd pensaernïol a hanesyddol. Nid oes llawer ohonynt wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer rhestru statudol ar lefel genedlaethol, ond wrth gwrs maent yn dal i fod yn bwysig iawn ar lefel leol.
Yn anffodus, mae'r cysylltiadau cymunedol sydd wedi cynnal yr holl adeiladau hynny dros ganrifoedd wedi treulio'n denau iawn mewn sawl ardal. Cytunaf yn llwyr ei bod yn hanfodol i Lywodraeth Cymru weithio gyda gwahanol enwadau i drafod dyfodol yr adeiladau hyn. Rwy'n falch o adrodd bod fy swyddogion yn Cadw yn gwneud hynny. Mae'n rhaid inni hefyd fod yn greadigol a gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid eraill i ddod o hyd i ddyfodol cynaliadwy i'r adeiladau gwerthfawr hyn sy'n eu hadfer i'w lle yng nghalon ein cymunedau.
A hoffwn ddechrau efallai drwy roi ychydig o enghreifftiau da o lle mae'r dull hwn wedi bod yn llwyddiannus ac yna esbonio'n fyr sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar lefel strategol ar hyn o bryd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon cyffredin hyn. Felly, mae yna gynlluniau addasu, er enghraifft, sy'n ymateb i werth cymdeithasol adeiladau crefyddol, gyda ffyrdd newydd o'u defnyddio sy'n sicrhau budd i'r gymuned. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n helaeth yn rhai o'r rhain, gan gynnwys y llyfrgell yng nghapel Hanbury ym Margod. Mae'r rhaglen Trawsnewid Trefi yn cefnogi prosiectau sy'n datblygu eiddo sy'n cael ei danddefnyddio neu sy'n wag, gan gynnwys sawl hen addoldy. Ac rwy'n cymeradwyo ymrwymiad Circus Eruption yn arbennig, elusen ieuenctid sydd wedi ymsefydlu yn hen eglwys Sant Luke yng Nghwmbwrla yn Abertawe. Maent yn gweithio'n bennaf gyda phobl ifanc, gan gynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches, gofalwyr ifanc a'r anabl, ac maent eisiau i'r adeilad hanesyddol hwn fod yn lle i bawb. Fel elusen nad oes ganddi unrhyw brofiad blaenorol o dreftadaeth, maent hefyd eisiau ysbrydoli elusennau eraill i weld bod adeiladau treftadaeth yn creu cyfle.
Mae rhaglen Cyfiawnder Tai Cymru, Ffydd mewn Tai Fforddiadwy, yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o gymdeithasau tai yng Nghymru i ryddhau tir neu adeiladau dros ben ar gyfer tai fforddiadwy. Ar hyn o bryd mae'r sefydliad yn gweithio gyda'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ar brosiect peilot sy'n canolbwyntio ar addasu capeli hanesyddol segur.
Mae mannau addoli hefyd yn cael eu hannog i ymchwilio i ffyrdd y gallant agor eu drysau at ddefnydd y gymuned, ochr yn ochr â'u diben gwreiddiol. Enghraifft bwysig, rwy'n siŵr y bydd Mike Hedges yn ymwybodol ohoni, yw Tabernacl Treforys, lle bydd mannau ategol yn cael eu haddasu at ddefnydd y gymuned, gan adael tu mewn gogoneddus y capel heb ei newid a gwneud defnydd ohono. Nawr, tra bod agor y drysau i ddiwallu anghenion y gymuned leol yn bwysig, ni fydd o reidrwydd yn darparu digon o incwm i gadw to ar yr adeilad. Fodd bynnag, gall mannau addoli estyn allan at gymuned lawer ehangach i helpu i gynnal yr adeiladau hynny. Er enghraifft, mae diddordeb cynyddol mewn twristiaeth ffydd, ac rydym yn dechrau gweld syniadau newydd creadigol i wireddu ei photensial, gan gynnwys profiadau y gellir eu harchebu a llwybrau thema a hyrwyddir gan Croeso Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi.
Mewn achosion eithriadol, gall adeiladau crefyddol gwag gael eu cynnal a'u cadw heb eu newid i raddau helaeth gan ymddiriedolaethau a sefydlwyd yn benodol at y diben hwnnw. Ac mae dwy ymddiriedolaeth sy'n gweithredu'n genedlaethol yng Nghymru. Mae gennym Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, sy'n achub ac yn atgyweirio eglwysi gwag yr Eglwys yng Nghymru ac yn cadw eu drysau ar agor, ac ar hyn o bryd mae ganddi tua 28 o eglwysi, mewn ardaloedd gwledig yn bennaf. Yna mae gennym Addoldai Cymru, a sefydlwyd i ofalu am nifer fach o'r capeli anghydffurfiol gorau ledled Cymru, ac ar hyn o bryd mae'n gofalu am 10 capel. Mae'r ddau sefydliad yn derbyn cymorth grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru i barhau â'u gwaith.
Felly, mae addasu ar gyfer defnydd newydd sy'n ymateb i arwyddocâd llawn adeiladau crefyddol, cyflwyno ffyrdd ychwanegol o'u defnyddio sy'n helpu i gynnal adeilad, estyn allan at amrywiaeth o gymunedau newydd a diddordebau newydd neu gyflwyno i ymddiriedolaeth yn enghreifftiau o ffyrdd y gellir rhoi dyfodol i'n hadeiladau crefyddol. Ond mae pob un ohonynt yn dibynnu ar bobl—i ofalu am yr adeiladau, i agor y drysau, i groesawu ymwelwyr, i ddarparu gwasanaeth cymunedol. Maent yn dangos pwysigrwydd trosfwaol creu cysylltiadau newydd rhwng adeiladau a'u cymunedau, gan gydnabod bod yr adeiladau hyn yn eiddo i bob un ohonom. Felly, mae'n galonogol fod llawer yn mynd ymlaen eisoes i geisio mynd i'r afael â hyn, a hoffwn i'r gweithgarwch hwn gael ei rannu a'i ddathlu'n ehangach.
Nawr, efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, wedi cyhoeddi cynllun gweithredu strategol ar gyfer mannau addoli yng Nghymru yn 2015. Roedd y cynllun yn canolbwyntio ar bobl a chymunedau yn defnyddio, yn mwynhau ac yn gofalu am fannau addoli hanesyddol, a'i gam gweithredu pwysicaf oedd sefydlu fforwm mannau addoli i rannu gwybodaeth ac arferion gorau ac adolygu anghenion parhaus. Denodd y fforwm gynrychiolaeth o bob rhan o'r sector ac am nifer o flynyddoedd defnyddiwyd ei gyfarfodydd fel cyfle i ddysgu o brosiectau amrywiol ledled Cymru. Cafodd y cyfarfodydd wyneb yn wyneb hyn eu hatal gan y pandemig wrth gwrs, ond manteisiodd y fforwm ar y cyfle i fyfyrio ar ei gyfeiriad ac mae bellach yn y broses o ymsefydlu ar sail newydd. Gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru, unwaith eto drwy Cadw, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau fforwm i gynnal adolygiad ffurfiol o'i gwaith a'r cynllun strategol. Yn ogystal, maent yn defnyddio cyfarfodydd gweminar ar-lein i gyrraedd pobl ar lawr gwlad. Mae tri chyfarfod o'r fath eisoes wedi'u cynnal, gan ddod â siaradwyr at ei gilydd i gynnig cyngor proffesiynol, gyda lleisiau angerddol o gymunedau ledled Cymru yn siarad am eu profiadau eu hunain. Roedd y ddau ddigwyddiad diweddaraf yn canolbwyntio ar ymgysylltu â'r gymuned a chodi arian. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd y digwyddiad nesaf yn ystyried yr amgylchedd ac ymatebion i newid hinsawdd.
Ond rwy'n hoff o awgrym Mike Hedges y gallem archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio adeilad eglwys gwag, neu gapel, fel amgueddfa genedlaethol ar gyfer crefydd. Credaf fod hyn yn rhywbeth y gallai'r fforwm edrych arno fel cyfle i weld pa bosibiliadau a allai fod ar gael i rai o'r adeiladau gwag hyn.
Nawr, nid wyf o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint yr her. Ond pan fyddaf yn arolygu'r mentrau sydd eisoes ar y gweill, a phan welaf yr egni a'r ymrwymiad sy'n cael ei roi i gyflawni'r her hon, credaf fod llawer o'r elfennau a fydd yn ein helpu i ailsefydlu'r cysylltiad hanfodol rhwng adeiladau a chymunedau eisoes yn eu lle. Y cyswllt hwnnw a fydd yn rhoi ffydd i'n mannau addoli hanesyddol yn eu dyfodol.
Felly, rwy'n fodlon cefnogi'r cynnig ac rwy'n cytuno bod angen inni weithio gyda'r gwahanol enwadau i sicrhau dyfodol i'r adeiladau hyn. Wrth gwrs, bydd angen inni weithio gyda phartneriaid eraill, ond rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro ein bod yn ceisio gwneud hynny.
Galwaf yn awr ar Jane Dodds i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Lle arall y byddech yn clywed meibion gweinidogion, Sam Rowlands a Mabon ap Gwynfor, yn sôn yn benodol am 48 capel ac eglwys ac adeiladau crefyddol eraill, a dau ddywediad gwych, un gan Alun Davies—roeddwn yn hoff iawn ohono—a ddywedodd ei fod wedi clywed am bobl yn pregethu yn Saesneg ac yn gweddïo yn Gymraeg, a hefyd, gan Delyth Jewell, a ddywedodd nad amgueddfeydd ar gyfer y seintiau yw eglwysi a chapeli, ond ysbytai i bechaduriaid?
Rydym wedi cael dadl wych y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. Clywsom gan Sam Rowlands pa mor bwysig yw ffydd i ni yn ein cymunedau, a bod adeiladau crefyddol yn galon i'n cymunedau. Nid tirnodau hanesyddol yn unig ydynt, ond mae angen inni eu defnyddio, oherwydd maent yma i aros.
Clywsom gan Rhys hefyd am yr amrywiaeth o wahanol ffyrdd y gellir defnyddio ein capeli. Maent yn fannau lle y ceir dadleuon hanesyddol a gwleidyddol, maent yn fannau lle y cawn gymanfaoedd canu, lle y dechreuodd ein hemynwyr gwych—clywsom lawer o'r enwau hynny'n cael eu crybwyll—corau, mannau addysgiadol—ac roedd Samuel Kurtz hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ysgolion Sul—mae gennym wasanaethau lles yn cael eu rhedeg oddi yno, neuaddau trafod, mannau lle y cafodd gwleidyddion eu meithrin.
Yna clywsom gan Alun Davies sut y maent yn rhan o'n tapestri cymdeithasol a diwylliannol, a pha mor bwysig yw hynny. Ond maent yn fwy na rhan o'n tapestri cymdeithasol a diwylliannol. Maent yn rhan o'n dyfodol hefyd.
Clywsom gan Joel James pa mor bwysig yw capeli ac eglwysi, ac y gallai eu diflaniad erydu ein hunaniaeth. Mae'n rhaid iddynt roi ymdeimlad o ddiogelwch a gobaith i bob un ohonom. Mae'n rhaid eu hachub a'u haddasu at ddibenion gwahanol, ac mewn gwirionedd maent angen cymorth i ddatgarboneiddio a bod yn wyrddach hefyd.
Delyth Jewell, diolch yn fawr iawn. Mae'n bwysig clywed sut y mae'r capeli hynny'n bwysig i chi, a bod angen sicrwydd arnom ar gyfer yr adeiladau hyn. Mae angen eu diogelu. Maent yn dystiolaeth fyw ac yn lleoedd lle y gallwn ddod o hyd i heddwch.
Clywsom gan Mabon pa mor bwysig yw hi i gapeli gael eu cynnal fel capeli, a'r enghraifft a roddodd yn ei gymuned ei hun o un yn cael ei addasu'n gartref gwyliau. Clywsom hefyd am ei rôl flaenorol fel pregethwr, ac mewn gwirionedd—. Byddwn wedi bod wrth fy modd yn eich clywed yn pregethu, Mabon. Ond y capel yw canolbwynt ein cymuned. Maent yn asedau cymunedol. Dyna a ddywedoch chi, Mabon, a pha mor bwysig yw hynny.
A chlywsom gan Buffy Williams hefyd am y capeli yn ei chymuned yn y Rhondda, a oedd mewn gwirionedd yn rhoi gobaith, yn bywiogi ei chymuned, a sut roedd hynny'n darparu rhywbeth gwahanol a chadarnhaol i'r bobl yn ei chymuned mewn gwirionedd.
Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac roedd yn dda clywed am y cynlluniau sy'n mynd rhagddynt, y cynllun gweithredu strategol y gwyddom amdano, i edrych ar y fforwm mannau addoli—ac edrychwn ymlaen at glywed mwy am hynny ar ôl iddo gael ei ohirio yn sgil COVID—ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi hefyd a'r hyn y maent yn ei wneud. Ond mae'n rhaid inni symud ymlaen, fel y dywedoch chi, ac nid ydych dan unrhyw gamargraff, ond drwy weithio gyda'n gilydd rhaid inni ddod o hyd i ffordd o symud ymlaen o ran cefnogi capeli ac eglwysi ac adeiladau crefyddol eraill, oherwydd, fel y clywsom, maent yn galon i'n cymuned ac maent yn rhoi gobaith i bobl. Maent yn darparu profiadau gwahanol i'r cymunedau hynny, maent yn fannau y mae pobl hŷn yn eu mynychu, mannau y mae pobl unig yn eu mynychu, pobl sydd angen cymorth a chefnogaeth, ond hefyd, maent yn fannau lle y gallwn ganu a mwynhau ein hunain.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Gwych clywed hefyd, Weinidog, eich bod yn barod i ystyried awgrym Mike Hedges ynglŷn â sut y gallem gael amgueddfa eglwysi, sut y gallwn gael llwybr cerdded, llwybr teithio, o gwmpas eglwysi a chapeli ledled Cymru. Ac rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen gyda'r awgrymiadau hynny. Hoffwn ddiolch i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae wedi gwneud inni ddod yn fyw yn y Senedd, ac er nad wyf yno, gallaf deimlo'r cynhesrwydd a'r cariad sydd gan lawer ohonoch, ac rwy'n siŵr fod hynny'n cael ei rannu ar draws y Siambr, tuag at lawer o'r adeiladau crefyddol ac eglwysi a chapeli hyn. Mae pawb ohonom wedi bod ynddynt. Mae pawb ohonom wedi cael adegau o dristwch. Mae pawb ohonom wedi cael adegau o hapusrwydd hefyd. Gadewch inni sicrhau ein bod yn cadw'r rheini wrth galon ein cymuned. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: 'Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Paul Davies.
Cynnig NDM7961 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar ei ymchwiliad: 'Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw.
Ddirprwy Lywydd, os gall yr Aelodau fwrw golwg yn ôl i'r hydref diwethaf, byddant yn cofio'r problemau gyda'r gadwyn gyflenwi a oedd yn effeithio ar ein bywydau: rhai siopau'n mynd yn brin o gynhyrchion penodol, blaengyrtiau petrol yn mynd yn sych, ac ymdrechion brys gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ymyrryd a chefnogi ein cadwyni cyflenwi hanfodol. Penderfynodd y pwyllgor gynnal ymchwiliad i'r problemau hyn gyda'r gadwyn gyflenwi ac mae wedi cyhoeddi adroddiad, 'Cyfeiriad Newydd ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm: Mynd i'r afael â diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau cysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi'.
Nawr, yn ystod ein hymchwiliad, gwelsom fod y problemau sy'n arwain at fethiannau'r gadwyn gyflenwi yn niferus ac yn gymhleth. Roeddent yn cynnwys y pandemig, trefniadau masnachu newydd ar ôl inni adael yr UE, a hyd yn oed digwyddiadau byd-eang fel llong Ever Given yn mynd yn sownd yng nghamlas Suez. Fodd bynnag, un o'r prif resymau dros yr aflonyddwch oedd prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.
Gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yw asgwrn cefn ein rhwydwaith logisteg ac fel y gwelsom y llynedd, daeth nifer o ffactorau at ei gilydd i achosi prinder gyrwyr. Clywodd y pwyllgor fod y DU yn brin o rhwng 60,000 a 100,000 o yrwyr cyn y pandemig. Y diffyg hanesyddol hwn oedd un o'r ffactorau allweddol a arweiniodd at y prinder enbyd o yrwyr. Fodd bynnag, eglurodd Logistics UK fod y cyfuniad o derfynu aelodaeth o'r UE a diwedd cyfnod pontio'r UE, ynghyd â phandemig COVID, wedi trawsnewid y prinder yn argyfwng difrifol. Yna cafodd y problemau eu dwysáu ymhellach pan gafodd profion gyrru cerbydau nwyddau trwm eu gohirio yn ystod y pandemig, gan achosi ôl-groniad ac amser aros o 10 wythnos am brawf gyrru.
Ac felly wynebodd y diwydiant storm berffaith yn 2020-21, pan ddaeth nifer o broblemau at ei gilydd ar yr un pryd. Penderfynodd y pwyllgor ganolbwyntio ar y problemau hynny, gan y bydd sicrhau bod gan Gymru ddigon o yrwyr cerbydau nwyddau trwm yn hanfodol os ydym am gadw cadwyni cyflenwi ar agor ac osgoi methiannau tebyg yn y dyfodol. Roedd ein hymchwiliad yn fyr ac yn bwrpasol. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys cludwyr, perchnogion busnesau ac undebau llafur. Gwnaethom hefyd ymgysylltu'n uniongyrchol â gyrwyr cerbydau nwyddau trwm o'r gorffennol a'r presennol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth i'r ymchwiliad.
Roedd yr adborth a gawsom o'r ymgysylltiad â gyrwyr yn bwerus ac ein gosod ar ben ffordd. Nid wyf am ailadrodd yr hyn a ddywedodd rhai o'r cyfranogwyr, rhag imi gael fy hel o'r Siambr hon. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod yna sawl problem ynghlwm wrth y profiad o fod yn yrrwr cerbyd nwyddau trwm ar hyn o bryd. Cafodd llawer o'r themâu a ddaeth yn amlwg gan y gyrwyr eu hadleisio, mewn iaith fwy seneddol, gan randdeiliaid eraill.
Nawr, mae'r adroddiad yn gwneud 11 o argymhellion ynghylch gwella hyfforddiant ac amodau gwaith gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Mae'r pwyllgor yn edrych ar gynllun logisteg a chludo nwyddau Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd fel cyfle i roi'r rhain ar waith. Ac fe amlinellaf yn fras rai o'r argymhellion yn y man. Os cyflawnir yr argymhellion hyn, mae'r pwyllgor yn credu y bydd hyn yn gwella'r profiad o fod yn yrrwr cerbyd nwyddau trwm ac yn creu opsiwn gyrfa mwy deniadol i'r rhai sydd yn y proffesiwn ar hyn o bryd, a'r rhai sy'n ystyried ymuno â'r proffesiwn, gan ddenu gyrwyr newydd, a chadw gyrwyr presennol yn y diwydiant.
Mae'r pwyllgor yn argymell gwella hyfforddiant gyrwyr a datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn dod â newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant a helpu datblygiad gyrfa'r rhai sydd eisoes yn gyrru. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r diwydiant i adeiladu ar raglenni prentisiaeth presennol a chynyddu mynediad i yrwyr newydd.
Un o'r meysydd pryder allweddol a godwyd gan yrwyr oedd y profiad cyffredinol o yrru cerbyd nwyddau trwm. Roeddent yn sôn am fannau gorffwys o ansawdd gwael gyda bwyd gwael ond drud, cyfleusterau budr a diffyg diogelwch yn aml. Un o'r darnau mwyaf pryderus o dystiolaeth a glywsom oedd bod gyrwyr yn ystyried ymosodiadau a lladradau fel perygl sy'n mynd gyda'r swydd, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Dywedodd un gyrrwr wrthym,
'Ni allwch gysgu'n iawn pan fyddwch yn poeni y bydd rhywun yn dwyn oddi wrthych. Mae pob sŵn bach yn eich deffro. Nid oes neb eisiau gyrru pan fydd wedi blino.'
Dywedodd gyrrwr arall wrthym:
'Mae rhywun wedi dwyn oddi arnaf dros 10 gwaith. Mae'n beth ofnadwy i'w gyfaddef ond rydych yn ei ddisgwyl. Y tro diwethaf, fe wnaethant dorri tri thwll yn y llen a oedd yn ddigon mawr i yrru cerbyd drwyddynt, roedd hanner fy llwyth ar y gilfan yn barod i gael ei ddwyn. Mae hyd yn oed yr heddlu yn ei ystyried yn berygl galwedigaethol. Fel gyrwyr, rydym yn ei dderbyn.'
Wel, Ddirprwy Lywydd, ni ddylai gyrwyr cerbydau nwyddau trwm orfod ei dderbyn. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio'n gyflym gyda'u partneriaid i wella cyfleusterau gorffwys i yrwyr a sicrhau bod y cyfleusterau hynny mor ddiogel â phosibl. Dylai hyn gynnwys arolygu'r ddarpariaeth bresennol, llenwi bylchau lle maent yn bodoli a gweithio i ddatblygu system safonau wirfoddol fel y gall gyrwyr weld beth yw ansawdd a lefel ddiogelwch mannau gorffwys yn hawdd.
Fel y soniwyd yn gynharach, mae strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru, 'Llwybr Newydd', yn cynnwys ymrwymiad i greu cynllun logisteg a chludo nwyddau newydd. O ystyried y prinder dybryd o yrwyr, mae'r pwyllgor yn teimlo y dylid blaenoriaethu'r cynllun newydd.
Nawr, rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn ein hadroddiad. Fodd bynnag, rwy'n pryderu y bydd yr argymhellion pwysicaf, er enghraifft yr arolwg o fannau gorffwys a gwaith i lenwi bylchau yn y ddarpariaeth, yn cael eu gweithredu fel rhan o'r cynllun logisteg a chludo nwyddau, nad oes disgwyl iddo gael ei gwblhau nes 2024. Rwy'n annog y Llywodraeth i flaenoriaethu'r rhannau hyn o'r cynllun ac os yw'n bosibl, cwblhau'r elfennau hyn o'r gwaith cyn 2024. Mae hyn yn gwbl hanfodol.
Fis diwethaf, cefais lythyr gan y sefydliad Alltudion ar Waith, a ddywedodd wrthyf fod gan lawer o bobl Affganistan a gyrhaeddodd Gymru y llynedd brofiad o yrru cerbydau mawr ac y byddai ganddynt ddiddordeb mewn gyrfaoedd fel gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidogion perthnasol ynglŷn â hyn ac edrychaf ymlaen at ymateb maes o law. Tra bod y sefyllfa gyda dyfodiad ffoaduriaid o Wcráin yn dal i ddatblygu, efallai y bydd yn addas i'r Llywodraeth feddwl am ymestyn unrhyw beth a gynigir i'r bobl sy'n cyrraedd o Affganistan i gynnwys pobl sy'n cyrraedd o Wcráin hefyd.
O gadw bwyd ar ein silffoedd i ddarparu cyflenwadau meddygol hanfodol, mae'n deg dweud bod gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn rhai o arwyr di-glod y pandemig. Byddai gweithredu argymhellion yr adroddiad hwn yn gwella profiad gyrwyr a mynediad i'r diwydiant. Er bod y problemau a welsom cyn y Nadolig wedi'u datrys i raddau helaeth, mae cadwyni cyflenwi'n dal i fod dan bwysau ac rydym yn byw mewn cyfnod cythryblus. Nid yw'n bosibl rhagweld a fydd ergyd arall yn taro ein cadwyni cyflenwi byd-eang na phryd y bydd hynny'n digwydd. Mae hyn yn golygu ei bod yn eithriadol o bwysig ein bod yn canolbwyntio ar wella'r rhannau o'r system y mae gennym reolaeth drostynt.
Fel aelod o bwyllgor yr economi, hoffwn ddechrau drwy adleisio diolch ein Cadeirydd, Paul Davies, i bawb a gefnogodd neu a gymerodd ran yn ein hymchwiliad. Mae'n bwnc pwysig iawn sydd yn ei hanfod yn ymchwilio i rywbeth sy'n cyffwrdd â bywydau holl ddinasyddion Cymru yn ddyddiol, hynny yw, y ffordd y mae nwyddau a chynhyrchion yn cyrraedd ein silffoedd yn ein cymunedau, a sut rydym yn trin y bobl sy'n chwarae rôl hanfodol yn cludo’r nwyddau hynny, sut rydym yn sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi a’u bod yn gallu cael mynediad at gyfleusterau priodol yn ystod y cyfnodau gorffwys gwerthfawr hynny, sy'n bwysig ar gyfer eu llesiant, ond hefyd ar gyfer eu diogelwch a diogelwch eraill.
Ar gyfer fy nghyfraniad i’r ddadl heddiw, hoffwn nodi tri edefyn o’n gwaith sy’n fy nharo fel rhai arbennig o bwysig. Yn gyntaf, argymhelliad 1 ynghylch hyfforddiant a phrentisiaethau: rwy’n cydnabod sylwadau Llywodraeth Cymru yn eu hymateb fod eu gallu i ymyrryd yn y maes polisi penodol hwn, yn y mater penodol hwn, yn gyfyngedig gan y cedwir rhai cyfrifoldebau yn ôl. Fodd bynnag, fel yr aiff eu hymateb ymlaen i’w nodi, mae’r argymhelliad hwn yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru ynghylch sgiliau, ac wrth gwrs, yr addewid pwysig ynglŷn â phrentisiaethau ar gyfer tymor y Senedd hon.
Crybwyllwyd nifer o ymyriadau yn ymateb Llywodraeth Cymru, megis y cyfrif dysgu personol, ReAct, a phrentisiaethau logisteg, a hoffwn wybod gan y Dirprwy Weinidog sut y mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y cyrsiau hyn ar gyfer pobl sy’n gweithio neu sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector. Mae rhoi cyhoeddusrwydd i’r cyfleoedd hyn mor bwysig os ydym am fynd i’r afael â’r prinder o 50,000 yn nifer y gyrwyr.
Yn yr un modd, mae argymhellion 7 ac 8 yn faterion a gedwir yn ôl i raddau helaeth, ond lle mae’r materion canolog sydd wrth eu gwraidd yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r agenda gwaith teg, a byddwn yn croesawu rhagor o fanylion ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag undebau llafur perthnasol i lobïo Gweinidogion y DU, fel y gellir cyflawni’r dyheadau a rennir rhwng y pwyllgor a Gweinidogion Cymru.
Rwyf hefyd am ystyried argymhellion 3 i 5 yn gryno, ac mae pob un yn ymwneud â darparu mannau gorffwys digonol. Rwy'n teimlo bod yr argymhellion yn allweddol i’r gwaith hwn. Fel y clywodd y pwyllgor, anghysur a achosir gan gyfleusterau gorffwys annigonol, neu ddiffyg cyfleusterau gorffwys hyd yn oed, yw un o’r ffactorau mwyaf sy’n peri i yrwyr cerbydau nwyddau trwm adael y diwydiant.
Hoffwn esbonio fy mhwynt yn gryno drwy gyfeirio at un o arwyr fy mhlentyndod, sef yr eicon ffeministaidd, Long Distance Clara. Efallai y bydd y rheini sy'n cofio Pigeon Street yn cofio mai Long Distance Clara oedd y gyrrwr jygarnotiaid pellter hir a oedd yn chwalu ystrydebau, ac a allai yrru o un pegwn i'r llall, o'r dwyrain i'r gorllewin; nid oedd unman yn rhy bell i Clara. Fodd bynnag, efallai fod ei llwyddiant yn seiliedig ar y cinio poeth y gallai fod yn sicr ohono ar ddiwedd ei thaith. Ac roedd y rôl bwysig a chwaraeai, y pellteroedd y gellid disgwyl iddi eu teithio, yn oddefadwy oherwydd yr adegau o orffwys ac ymlacio y gallai eu cymryd ar ei thaith.
Mae’r pwynt yn un difrifol, gan y cododd y gyrwyr a roddodd dystiolaeth i ni lu o bryderon ynghylch prinder mannau diogel i barcio. Pan fyddai lleoedd ar gael i barcio, gallai'r cyfleusterau fod yn is na'r safon ac yn anaddas i'r diben. Dywedwyd wrthym am gawodydd wedi torri, teils wedi torri a chyfleusterau golchi budr, a soniodd y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd am arosfannau lle nad oedd toiledau hyd yn oed. Ac yna, efallai yn fwyaf difrifol, nid oedd y cyfleusterau hyn yn ddiogel—fel y mae ein Cadeirydd wedi crybwyll—gyda thystion yn dweud bod eiddo wedi'i ddwyn oddi arnynt hyd at 10 gwaith. Nid yw hyn yn ddigon da.
Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion. Fodd bynnag, byddwn yn croesawu unrhyw wybodaeth ychwanegol y gellid ei rhoi ynghylch amserlenni ar gyfer cyflawni’r gwelliannau hyn, fel y gall gyrwyr cerbydau nwyddau trwm gael cyfleusterau diogel sy’n addas i'r diben at eu defnydd, a gallwn gael gwared ar y rhwystr penodol hwnnw sy’n cael cymaint o effaith. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod a Chadeirydd y pwyllgor, yr Aelod dros Breseli Sir Benfro, am ei gadeiryddiaeth ragorol drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i glercod a staff y pwyllgor am eu cymorth.
Credaf fod hwn, adroddiad cyntaf y pwyllgor, yn anhygoel o gryf. Yn ystod cyfarfodydd taflu syniadau ein pwyllgor ar y flaenraglen waith, cofiaf fod prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm wedi cael ei godi am fod archfarchnadoedd, gorsafoedd petrol a chadwyni cyflenwi eraill yn teimlo'r pwysau oherwydd y prinder gyrwyr. Deilliodd y syniad o gynnal ymchwiliad byr, cryno a chlir i’r mater o’r pwysau uniongyrchol a deimlid a’n hawydd i ddysgu beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i recriwtio a chadw’r gyrwyr gwerthfawr hyn.
Roedd y dystiolaeth a gasglwyd yn hynod werthfawr, ac rwy’n ddiolchgar i’r rheini a gyfrannodd, yn enwedig y gyrwyr cerbydau nwyddau trwm sydd wedi cynnig eu tystiolaeth uniongyrchol hanfodol a’u profiad o'r sefyllfa ar lawr gwlad. Ni ddylem danbrisio pwysigrwydd adroddiadau tystion allweddol, gan fod cymaint o werth i'w geiriau. Y gyrwyr cerbydau nwyddau trwm hyn a sicrhaodd fod y wlad yn parhau i symud drwy gydol y pandemig. Gwnaethant gynorthwyo i gadw silffoedd wedi'u stocio, a hwy yw'r rhai sydd â'r ddealltwriaeth orau o'r sefyllfa y mae'r adroddiad hwn yn ceisio'i disgrifio. Mae'r ddogfen yn nodi'r materion allweddol sy'n wynebu gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yng Nghymru. Mae hefyd yn darparu argymhellion ymarferol a chyflawnadwy y byddwn yn annog y Llywodraeth i’w hystyried o ddifrif.
Gan droi at yr adroddiad ei hun, mae’r Cadeirydd yn iawn i dynnu sylw at effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd a phandemig COVID-19 yn dilyn hynny. Fodd bynnag, roedd yr amodau yr oedd y gyrwyr hyn yn gweithredu ynddynt yn bodoli ymhell cyn y ddau ddigwyddiad. Fe wnaeth y prinder cronig o yrwyr cerbydau nwyddau trwm a oedd yn bodoli eisoes gynyddu effaith y digwyddiadau difrifol a digynsail hyn, a oedd yn ffactorau hollbwysig yn y problemau dilynol gyda'r gadwyn gyflenwi.
Ceir 11 o argymhellion y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i ddiogelu dyfodol cadwyn gyflenwi Cymru. Hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad heddiw i ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar brofiad ein gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, ffactor pwysig os ydym yn dymuno gwneud y sector hwn mor fuddiol ac apelgar â phosibl i’r genhedlaeth nesaf o yrwyr. Dywedodd un o’r gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a roddodd dystiolaeth am brofiad gyrwyr:
'Mae'n ffiaidd; cawn ein trin fel anifeiliaid, dim cyfleusterau addas, oriau anghymdeithasol iawn, dim cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac mae'r rhan fwyaf o yrwyr yn cael ysgariad.'
A yw'n syndod ein bod yn wynebu prinder difrifol o ran recriwtio os mai dyma brofiad gyrrwr cerbydau nwyddau trwm? Nid yw'r amodau hyn yn adlewyrchu amgylchedd gwaith modern a boddhaus.
Mae'n rhaid inni ymbellhau hefyd oddi wrth y camsyniad cyffredin mai ar hyd yr M4 yn ne Cymru yn unig y ceir gorsafoedd gwasanaeth. Mae nwyddau’n symud o’r gogledd i’r de i'r un graddau ag y maent yn symud o’r dwyrain i’r gorllewin, ac mae’r A55 yn llwybr cludo nwyddau pwysig yng ngogledd Cymru. Ac mae ansawdd y gorsafoedd gwasanaeth yn loteri. Am bob gorsaf wasanaeth sydd â chyfleusterau glân a chroesawgar, mae un arall nad yw felly, yn anffodus. Nid yw’n syndod fod hyn wedi’i godi gan yrwyr cerbydau nwyddau trwm, ac rwy’n synnu nad yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r anghysondebau hyn yn ansawdd gorsafoedd gwasanaeth a safleoedd parcio, gan nad oes arolwg gan Lywodraeth Cymru o safleoedd parcio—rhywbeth y mae Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth y DU wedi mynegi pryderon yn ei gylch yn eu tystiolaeth i’r pwyllgor. Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn argymhelliad 3, a chreu rhestr fanwl o leoliadau a chyfleusterau, yn debyg i’r hyn sydd ar gael dros y ffin.
Rwy'n annog y Dirprwy Weinidog i fyfyrio ar gynnwys yr adroddiad hwn a chydnabod ansawdd uchel ei gynnwys, ei gyfraniadau a’i gasgliadau, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ac ymrwymo i’w rhoi ar waith fel mater o frys. Diolch.
Yn gyntaf, fel aelod o’r pwyllgor, hoffwn ddiolch i’r rheini a roddodd dystiolaeth, ac wrth gwrs, i’r clercod, ac yn y blaen, am eu gwaith ar hyn ac am lunio'r adroddiad hwn. Ac wrth gwrs, diolch i Gadeirydd ein pwyllgor am ei waith ar hyn ac am gyflwyno'r adroddiad i'r Senedd heddiw.
Hoffwn sôn am ddwy agwedd benodol ar yr adroddiad. Yn gyntaf, roedd y dystiolaeth a gawsom gan y gyrwyr eu hunain yn drawiadol ac yn llawn gwybodaeth, yn enwedig wrth dynnu sylw at rai o’r profiadau negyddol ar y ffyrdd, ac yn fwyaf nodedig at ansawdd a phrinder mannau gorffwys, y cytunodd cynrychiolwyr y diwydiant cludo nwyddau ei bod yn broblem, yn ogystal â diogelwch gyrwyr yn y mannau hyn. Clywsom am gyfleusterau golchi gwael, gyda theils a chawodydd wedi torri. Clywsom am y perygl o gael eiddo wedi'i ddwyn wrth barcio dros nos, gydag un gyrrwr yn nodi bod eiddo wedi'i ddwyn oddi wrtho dros 10 gwaith, fel y clywsom eisoes, a chaiff hynny ei dderbyn fel un o beryglon y gwaith. Mae'n anghredadwy fod hynny'n digwydd yn y sector hwn. Felly, roeddwn yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion 3 i 6. Er nad yw hyn yn datrys y broblem yn y tymor byr, bydd yn gwneud cryn dipyn i sicrhau y gallwn greu mannau gorffwys mwy diogel a glanach ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn y dyfodol, ond rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hyn cyn gynted â phosibl.
Ar oriau ac amodau gwaith gyrwyr, credaf fod datgysylltiad clir iawn rhwng yr hyn yr oedd cynrychiolwyr y diwydiant cludo nwyddau yn dweud wrthym ei fod yn digwydd a’r realiti fel yr oedd gyrwyr yn ei disgrifio i ni, nad yw, mae’n rhaid imi ddweud, fel cyn-weithiwr yn y sector lletygarwch, yn fy synnu o gwbl. Os ydych yn dymuno dysgu am realiti gwaith, mae'n werth ichi siarad â'r rheini sy'n gwneud y gwaith hwnnw o ddydd i ddydd. Bydd yr Aelodau'n gweld y rheolau ynghylch oriau gyrru ar dudalen 9 yn yr adroddiad, ond dywedodd y gyrwyr eu hunain yn glir fod cyflogwyr yn aml yn pwyso arnynt i flaenlwytho oriau er mwyn aros o fewn eu lwfans cyfartalog. Yn aml, roedd hynny'n golygu gweithio wythnosau 60 awr, sy'n flinderus yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae gennym waith i’w wneud i fynd i’r afael â hyn, felly unwaith eto, rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhellion ar hyn, a byddwn yn eu hannog i weithredu ar yr argymhellion hynny cyn gynted â phosibl.
Yn olaf, pwynt ar wahân i’r adroddiad, ond pwynt pwysig inni ei nodi, yw’r elfen gapasiti honno i hyfforddi gyrwyr. Mae Rhun ap Iorwerth a minnau wedi sôn am y mater hwn ers cyhoeddi ein hadroddiad fel pwyllgor, a thynnodd ef sylw at fater lleol yn ei ardal. Yn lleol i Rhun, mae ganddynt restrau aros o hyd at 10 wythnos a mwy am brofion gyrru. Mae hyfforddwr wedi gadael ei swydd yn yr ardal yn ddiweddar, gan olygu y bydd yn dod yn anoddach i yrwyr dan hyfforddiant drefnu prawf. Cyfunwch hyn â phenderfyniad yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau ym mis Chwefror 2020 i gau’r ganolfan brawf yng Nghaernarfon a daw’r her hyd yn oed yn fwy amlwg. Y bwriad yw cau Caernarfon, gyda llaw, a symud y profion i safle yn Wrecsam, gan olygu y bydd angen i bobl o’r gogledd-orllewin deithio ar draws y gogledd i gael eu profi, gan ychwanegu ymhellach at y broblem gyda chapasiti.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae nifer o heriau i fynd i'r afael â hwy yma, ac rwy'n gobeithio bod y Llywodraethau ar ddwy ochr yr M4 o ddifrif ynglŷn â gwneud hynny.
Yn dilyn yr hyn a ddywedodd Luke mewn gwirionedd, nid yw'n bosibl archebu prawf gyrru yn Wrecsam o gwbl, i unrhyw un, hyd yn oed gyrwyr sy'n dysgu gyrru ceir ar hyn o bryd.
Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Os ydym am ddatrys y broblem ynghylch yr angen am fwy o yrwyr lorïau, mae'n rhaid inni fynd i’r afael â mater cadw gyrwyr, fel y crybwyllwyd eisoes. Nid yw'n waith hawdd, a dylem fod yn ddiolchgar i'r rheini sy'n ei wneud, yn enwedig am bopeth y maent wedi'i wneud drwy gydol y pandemig. Os ydym am fod o ddifrif ynghylch cadw gyrwyr, mae'n amlwg fod yn rhaid inni wella'r amodau y maent yn gweithio ynddynt a'r cyfleusterau sydd ar gael iddynt. Mae hynny’n golygu gwrando ar leisiau’r rheini sy’n gweithio yn y proffesiwn, fel sydd wedi digwydd yn y pwyllgor.
Nid yw'n gyfrinach nad yw'r cyfleusterau sydd ar gael i yrwyr yn y DU yn ddigonol a'u bod yn cymharu'n wael â chyfleusterau sydd ar gael mewn gwledydd cyfagos. Dywedwyd wrthyf fod llawer o gilfannau ar lwybrau allweddol, gan gynnwys cefnffyrdd, wedi'u gau. Roedd y rhain yn darparu seibiant hanfodol i yrwyr. Nid yw'r mannau parcio ar gyfer cerbydau nwyddau trwm yn ddigon da. Mae gyrwyr a chludwyr wedi bod yn ymgyrchu am gyfleusterau gwell ers blynyddoedd. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol a busnesau yng Nghymru i unioni’r sefyllfa hon. Mae angen man diogel i orffwys ar yrwyr lle y gallant ddefnyddio toiledau a chawodydd gweddus, fel y crybwyllwyd eisoes. Felly rwy'n croesawu’r ymateb gan Lywodraeth Cymru i argymhelliad 3 i gynnwys archwiliad o gyfleusterau gorffwys yn y cynllun logisteg a chludo nwyddau newydd o dan strategaeth drafnidiaeth Cymru.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Gallwn gau fy llygaid yn awr a chredu fy mod yn gwrando ar gyn-Aelod rhanbarthol o ogledd Cymru, y diweddar Brynle Williams, a oedd yn siarad yn gyson am yr union fater hwn oddeutu 14 mlynedd yn ôl ynglŷn â mannau gorffwys i yrwyr ac yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i gynnal yr archwiliad hwnnw a gweithio gyda darparwyr i wella eu gwasanaethau. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn wirioneddol ddigalon clywed nad yw’r gwasanaethau hynny wedi gwella dros y 14 mlynedd diwethaf a bod angen eu gwella yn y blynyddoedd i ddod fel mater o frys?
Ie, dywedais hynny mewn gwirionedd, ein bod wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd. Rwy'n cofio Brynle o Gilcain, ac rwy'n ei gofio'n cymryd rhan yn y ddadl honno hefyd, cyn iddo ddod yn AC.
Roeddwn ar fin dweud hefyd fod y mannau gorffwys hyn mor bwysig. Roeddwn am awgrymu, efallai, er hwylustod i yrwyr sy'n gyrru dros ffiniau'n gyson, y dylid cynnwys hyn mewn un map ar gyfer y DU gyfan. Os yw’r gwaith o fapio cyfleusterau yn Lloegr yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, fel y credaf sy’n digwydd drwy asiantaeth, a wnaiff Llywodraeth Cymru ofyn iddynt ei ymestyn i gynnwys Cymru ar yr un pryd er mwyn arbed amser ac arian? Os ydym am gadw gyrwyr yn y diwydiant hwn, mae'n rhaid inni weithredu’n gyflym, a hyderaf y bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud hynny. Diolch.
Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon, Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r pwyllgor am eu hadroddiad ac am gyflwyno’r ddadl hon, ac am eu hymgysylltiad parhaus ar y mater hwn? Fel Llywodraeth, rydym yn sicr yn dal i bryderu am y prinder parhaus o yrrwr cerbydau nwyddau trwm a llafur yn y sector logisteg ehangach, sydd, fel y nododd Paul Davies yn ei sylwadau agoriadol, wedi’i waethygu gan broblemau a chyfyngiadau’n deillio o ddiwedd y cyfnod pontio i adael yr UE, yn ogystal â'r pwysau o ganlyniad i'r pandemig.
Mae'r prinder gyrwyr, wrth gwrs, yn gwaethygu problemau domestig a byd-eang ehangach gyda chadwyni cyflenwi, gan arwain at godi costau yn gyffredinol ac amseroedd cyflenwi hirach ar gyfer ystod eang o nwyddau. Ar hyn o bryd, credwn nad oes unrhyw sector penodol yn economi Cymru yn wynebu risgiau difrifol o ganlyniad i broblemau cyflenwi, ond bydd cydnerthedd cadwyn gyflenwi Cymru yn parhau i fod yn fregus wrth inni ddod allan o gyfnod y gaeaf. Rydym yn fwy agored nag arfer i niwed felly yn sgil digwyddiadau aflonyddgar, megis tywydd garw, argyfwng Wcráin, a gweithredu diwydiannol mewn porthladdoedd. Ceir risg uwch o brinder annisgwyl a heb rybudd o nwyddau critigol, gyda’r posibilrwydd o effeithiau ehangach ar wasanaethau cyhoeddus a busnesau. Mae’r rhesymau dros y prinder wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd, gan gynnwys gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn ymddeol yn y DU, niferoedd sylweddol o yrwyr o’r UE yn dychwelyd i Ewrop ar ôl Brexit, newidiadau treth IR35 yn effeithio ar yrwyr, ac wrth gwrs, fel y clywsom, yr ôl-groniad o bobl sy'n aros am brofion gyrru oherwydd COVID.
Amcangyfrifodd yr Adran Drafnidiaeth fod prinder o rhwng 70,000 a 90,000 o yrwyr cerbydau nwyddau trwm, ac er bod y prinder wedi bod yn datblygu ers nifer o flynyddoedd, fel y nododd Sam Kurtz, mae wedi’i gyflymu gan effeithiau Brexit a’r pandemig, fel rwyf wedi'i nodi eisoes. Ond barn y diwydiant yw nad yw'r rhain yn broblemau sy'n gyfyngedig i yrwyr cerbydau nwyddau trwm Cymru; mae’r broblem, fel y gwyddom, yn broblem ledled y DU. Ac er bod y rhan fwyaf o'r pwerau sy'n ymwneud â'r materion hyn yn bwerau a gedwir yn ôl, gan gynnwys oriau gyrwyr a thrwyddedu gyrwyr, gan gynnwys hyfforddi, profi ac ardystio, rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i gefnogi'r diwydiant.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i liniaru’r materion hyn ymhellach. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r diwydiant, ac rydym wedi addasu rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau presennol i ehangu’r cyllid sydd ar gael i hyfforddi gyrwyr lorïau. Mae'r rhain yn cynnwys y cyfrifon dysgu personol a rhaglen ReAct. Mae gan ein rhaglen brentisiaeth nifer o opsiynau sy’n canolbwyntio ar logisteg, gan gynnwys lefel 2 a lefel 3 mewn gyrru cerbydau nwyddau. Ac mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Cymru'n Gweithio, gwasanaeth cyfarwyddyd i oedolion Gyrfa Cymru, i sicrhau bod ffoaduriaid sy'n ymgartrefu yng Nghymru yn gallu cael mynediad at raglen ReAct, a'i rhaglen olynol, ReAct+. Gall y rhaglen ddarparu hyd at £1,500 tuag at y gost o gaffael trwydded yrru'r DU a chymwysterau cysylltiedig, megis y dystysgrif cymhwysedd proffesiynol i yrwyr.
Yn ogystal, fel y nodwyd, rydym wedi ymrwymo i gynllun logisteg a chludo nwyddau newydd i Gymru, o dan strategaeth drafnidiaeth Cymru, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, y sector, a phartneriaid eraill, i ddatblygu’r cynllun hwn ac i sicrhau ein bod yn ymgorffori’r argymhellion o adroddiad y pwyllgor yn y cynllun. Ond byddaf yn siarad â fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, i weld a allwn fynd i'r afael â mater archwilio cyfleusterau gyrwyr, gan ei bod yn ymddangos bod honno'n thema arbennig o gyffredin a phwysig a godwyd gan y pwyllgor a thrwy'r dystiolaeth a gafwyd.
Mae cyrff y diwydiant yn ddiolchgar am y mesurau a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU wrth gwrs, ond maent yn parhau i fod o’r farn y byddai newidiadau tymor byr i bolisi mewnfudo, ochr yn ochr â newidiadau rheoleiddiol i gyflwyno llwybr carlam i ddod â gyrwyr i mewn i’r diwydiant, yn helpu i leddfu’r pwysau yn y tymor byr. Yn fwy hirdymor, mae cyfle i wrthdroi’r problemau sydd wedi bod yn datblygu yn y diwydiant dros nifer o flynyddoedd, ac i greu sector mwy cynaliadwy a gwydn sy’n cynnig cyflog ac amodau gwaith tecach i yrwyr. Ni ddylai mesurau dros dro Llywodraeth y DU danseilio’r dyhead mwy hirdymor hwn.
Ni ellir gwahanu'r heriau y mae cyflogwyr gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn eu hwynebu gyda recriwtio a chadw gweithwyr oddi wrth yr amodau gwaith y mae cyflogwyr yn eu darparu. Mae a wnelo hyn â mwy na chyflog yn unig, mae'n ymwneud â gyrwyr yn cael eu trin yn dda a chyda pharch gan gyflogwyr sy'n eu gwerthfawrogi. Felly, mae rôl arweiniol bwysig i’r diwydiant yma, ac rydym yn annog y diwydiant i weithio’n adeiladol gydag undebau llafur i wella’r cynnig i yrwyr, gan y byddai amodau gwaith gwell yn helpu i ddenu a chadw gyrwyr a chreu marchnad lafur iachach a mwy gwydn. Byddai hyn o fudd i gyflogwyr a gweithwyr y diwydiant.
Rydym yn credu mewn partneriaeth gymdeithasol, a gellir gweld hynny yn y ffaith bod gennym Weinidog partneriaeth gymdeithasol, sy'n eistedd yma heddiw. Rydym am weithio gyda’r diwydiant cludo nwyddau, ac rydym yn gweithio gydag undebau llafur ac yn cael sgyrsiau gonest â hwy ynglŷn â sut yr awn y tu hwnt i atebion tymor byr i fynd i’r afael â heriau’r gweithlu, a chreu newid mwy hirdymor a chynaliadwy i'r profiad o weithio. Cytunaf yn llwyr â Vikki Howells ei bod yn rhesymol disgwyl i Lywodraeth y DU edrych ar sut y gallant gynyddu nifer y gyrwyr benywaidd yn y sector. Ar hyn o bryd, dim ond 2 y cant o yrwyr sy'n fenywod, ac mae hwnnw’n amlwg yn faes lle y gallai recriwtio wedi’i dargedu helpu i wella’r ystadegyn hwnnw.
Mae'n amlwg fod y diwydiant o'r farn fod gwell cyfleusterau i yrwyr yn hanfodol er mwyn cynyddu cyfraddau recriwtio, ac rydym wedi sôn am hynny eisoes. Felly, roedd Llywodraeth Cymru yn siomedig o glywed y bydd y £32.5 miliwn o gyllid newydd i wella cyfleusterau parcio lorïau ar gael i Loegr yn unig. Er bod y rhain yn faterion a gedwir yn ôl, rydym wedi sefydlu grwpiau traws-bolisi i adolygu’r problemau diweddaraf, gan gynnwys hyfforddiant ac amodau ar ochr y ffordd. Rydym yn mynd ati i weithio ar nifer o feysydd i fynd i’r afael â’r sector a’i gefnogi, ac mae hyn yn cynnwys gweithio ar ystod o fesurau lliniaru ac ymyriadau gydag amrywiol adrannau Llywodraeth y DU, yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a chyrff cynrychiadol ym maes logisteg.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i hyrwyddo ystod o gyfleoedd sydd ar gael ar draws y diwydiant logisteg yng Nghymru a sut i gael mynediad at yrru cerbydau nwyddau trwm fel gyrfa. Mae gennym gysylltiad rheolaidd â changhennau Cymru o’r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd a Logistics UK i gasglu gwybodaeth gan y diwydiant am brinder gyrwyr a bwydo hyn yn ôl i Lywodraeth y DU. Rydym wedi ymestyn mesurau i lacio amseroedd cyrffyw ar gyfer danfon nwyddau er mwyn helpu i ddarparu mwy o hyblygrwydd gweithredol.
Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf y pryderon dilys am brinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, ceir rhai arwyddion fod y sefyllfa'n gwella. Mae'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd yn amcangyfrif bod y prinder gyrwyr wedi lleihau oddeutu 15,000 dros y chwe mis diwethaf o'r amcangyfrif blaenorol o oddeutu 100,000 o swyddi gwag. Fodd bynnag, er bod mwy o ymgeiswyr yn cael eu denu i’r sector gan gyflogau uwch a’r mesurau a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth ledled y DU, mae llawer o bobl o fewn y diwydiant yn credu y bydd yn dal i gymryd misoedd lawer, os nad blynyddoedd, i unioni'r sefyllfa’n llawn. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda’r pwyllgor a chyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y sector yn cael y cymorth sydd ei angen arno i barhau i gyflawni ar gyfer y DU gyfan. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Paul Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelodau am gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma? Rydym wedi clywed cyfraniadau craff iawn gan Aelodau ar rai o’r materion sy’n wynebu’r sector a’r effaith y mae'r prinder gyrwyr yn ei chael ar yr economi ehangach. Rwy’n ddiolchgar i’r holl Aelodau, boed yn aelodau o'r pwyllgor ai peidio, am eu hymwneud ar y mater hwn.
Cyn imi ymateb i gyfraniadau unigol yr Aelodau, hoffwn ailadrodd pa mor bwysig yw gyrwyr cerbydau nwyddau trwm i’n heconomi a dweud eu bod yn parhau i chwarae rhan enfawr yn cludo nwyddau ledled y wlad, a thu hwnt, yn wir. Dyna pam ei bod yn hollbwysig fod recriwtio gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn flaenoriaeth i Lywodraethau ledled y DU, ac y ceir buddsoddi hirdymor yng ngweithlu domestig y DU.
Rwy’n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod dros Gwm Cynon, a thynnodd sylw at ba mor bwysig yw gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn ein bywydau bob dydd. Y gyrwyr hyn sy'n sicrhau ein bod yn gallu derbyn nwyddau a chynhyrchion sy'n sicrhau ein bod yn gallu byw ein bywydau o ddydd i ddydd. Gwnaeth bwynt pwysig iawn hefyd am bwysigrwydd hyfforddiant, ac mae’n iawn i ofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y cyrsiau sydd ar gael i yrwyr cerbydau nwyddau trwm. Mae hyn yn hanfodol i ddatblygiad proffesiynol parhaus gyrwyr.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Yn ei gyfraniad, canolbwyntiodd ar brofiad gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, ac mae'n iawn i dynnu sylw at y cyfleusterau mannau gorffwys amrywiol eu safon sydd ar gael i yrwyr cerbydau nwyddau trwm ledled y wlad. Mae hefyd yn llygad ei le yn dweud ei bod yn hollbwysig bellach fod argymhelliad 3 yn cael ei dderbyn cyn gynted â phosibl, gan fod angen inni weld y rhestr honno o wasanaethau fel y gellir gwella cyfleusterau mannau gorffwys ledled Cymru.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Aelod dros Orllewin De Cymru. Soniodd yn gwbl briodol am y profiadau ofnadwy a glywsom gan yrwyr cerbydau nwyddau trwm a’r ffaith bod yr ôl-groniad o brofion wedi gwneud pethau’n waeth o ran y prinder a welsom. Tynnodd sylw hefyd at ba mor bwysig yw hi i'r ddwy Lywodraeth gydweithio. Mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio er mwyn ceisio datrys rhai o’r materion hyn.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Aelod dros Ogledd Cymru am ei chyfraniad ar ba mor bwysig yw'r cyfleusterau mannau gorffwys hyn i helpu i wella profiad gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid am ein hatgoffa o’n diweddar gyd-Aelod, Brynle Williams, a fu'n ymgyrchu'n ddiflino pan oedd yn y lle hwn dros wella profiad gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.
Nawr, mae cyfraniadau’r Aelodau wedi canolbwyntio, yn gwbl briodol, ar brofiadau gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, a chredaf ei bod yn deg dweud bod angen gwneud cryn dipyn i wneud y profiad yn llawer mwy diogel a chysurus i yrwyr cerbydau nwyddau trwm. Pan fydd gyrwyr yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth ar oriau gyrwyr fel ‘bwystfilo’, gwyddom fod rhywbeth wedi mynd o’i le yn ddifrifol. Disgrifiodd y gyrwyr a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor sut yr oedd eu cyflogwyr yn pwyso arnynt i weithio 60 awr yr wythnos, ac mae hynny, wrth gwrs, yn flinderus yn gorfforol ac yn gallu arwain at lefelau uchel o straen a phryder. Felly, rwy'n arbennig o falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad i weithio gyda Llywodraeth y DU ar unrhyw adolygiad o ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar amodau gwaith gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Wrth gwrs, gan nad yw’r ddeddfwriaeth hon wedi’i datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu o ran yr hyn y gall ei wneud. Fodd bynnag, mae'n bwysig fod y sector a gyrwyr yng Nghymru yn cael eu cynnwys a'u clywed fel y gall unrhyw adolygiad sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu hystyried.
Rwyf hefyd yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gynnal archwiliad o gyfleusterau gorffwys i yrwyr yng Nghymru a chreu’r rhestr genedlaethol honno, yn debyg i’r hyn sydd ar gael ar gyfer Lloegr. Rwy’n ddiolchgar i’r Dirprwy Weinidog, yn ei sylwadau y prynhawn yma, ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yn gallu creu'r rhestr honno cyn gynted â phosibl. Derbyniodd y pwyllgor adroddiadau brawychus hefyd am y cyfleusterau gorffwys y mae gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn parhau i orfod eu dioddef. Fel y dywedodd yr Aelod dros Gwm Cynon, clywsom am gawodydd wedi torri, teils wedi torri a chyfleusterau golchi budr, a chyfeiriwyd at gost bwyd a diod mewn gorsafoedd gwasanaeth, gydag un gyrrwr yn dweud wrthym y codwyd tâl o £1.80 arno am gwpanaid o ddŵr poeth. Rwy'n credu y bydd pob Aelod yn y Siambr yn cytuno â mi pan ddywedaf hyn: mae'n rhaid inni wneud yn well.
Daw hynny â mi at gyfraniad y Dirprwy Weinidog, a hoffwn ddiolch iddi am ei hymateb adeiladol i’r ddadl y prynhawn yma. Rwy’n sylweddoli na all ei chyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi, glicio ar ei fysedd a datrys y problemau sy’n wynebu’r sector, ac mewn llawer o feysydd, nid yw gweithredu yn rhan o gylch gorchwyl Llywodraeth Cymru. Serch hynny, lle mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o argymhellion y pwyllgor a lle y gall wneud hynny, mae wedi addo gweithredu, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Llywodraeth am hynny. Mae'n gwbl hanfodol yn awr fod yr argymhellion hynny'n cael eu rhoi ar waith yn llawn, a bod camau'n cael eu cymryd i gefnogi'r sector a mynd i'r afael â rhai o'r heriau y mae wedi'u hwynebu ers amser maith. Rydym am i yrwyr deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi yn eu rolau.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a dweud bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf maes o law am y cynnydd a wneir ar weithredu argymhellion ein hadroddiad? Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 eu ddad-ddethol.
Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: diogelwch bwyd. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7963 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn ei wneud i iechyd a ffyniant y genedl.
2. Yn nodi'r effaith negyddol ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang sy'n deillio o ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a'r effaith uniongyrchol y mae'n ei chael ar bobl yng Nghymru.
3. Yn credu bod angen chwyldro amgylcheddol a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnull uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;
b) defnyddio'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) arfaethedig i gorffori diogelwch bwyd er lles y cyhoedd;
c) gwneud diogelwch bwyd yn gonglfaen allweddol i gymorth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys cymhellion;
d) cefnogi'r Bil Bwyd (Cymru) arfaethedig.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf agor y ddadl y prynhawn yma oherwydd ei bod mor bwysig ac mor hynod o amserol. Yn ystod y pythefnos diwethaf yn unig, rydym wedi siarad ar sawl achlysur am ddiogelu'r cyflenwad bwyd ac arwyddocâd hynny yn sgil yr ymosodiad ar Wcráin. Wel, nawr yw'r amser i siarad yn lle gweithredu—neu weithredu yn lle siarad, yn hytrach. Cawn gyfle gwirioneddol yma i droi’r gornel a sicrhau y daw Cymru yn genedl hunangynhaliol nad oes raid iddi ddibynnu cymaint ar nwyddau a fewnforir.
Yn wir, rydym i gyd wedi gweld drosom ein hunain pa mor ansicr y gall y gadwyn gyflenwi fyd-eang fod, yn enwedig mewn perthynas â ffermio. Os nad yw’n gyflenwadau ynni, sy'n chwarae rhan hollbwysig yn seilwaith bwyd y DU, mae’n bris gwrtaith, sy'n fewnbwn allweddol yng nghynhyrchiant y ffermwr. Pan welwn y cyflenwad yn tynhau’n ddifrifol, mae'n arwain at ostyngiad yn allbwn nwyddau, ond nid dyma'r unig ffactorau. Caiff Wcráin ei hadnabod fel basged fara Ewrop am reswm da. Gyda'i gilydd, Wcráin a Rwsia sy’n cynhyrchu 30 y cant o wenith y byd a 50 y cant o allforion olew blodau’r haul, hadau a blawd y byd. Mae’r sefyllfa yn nwyrain Ewrop eisoes wedi gweld prisiau’n codi’n aruthrol, a disgwylir i hyn gael effaith uniongyrchol ar brisiau bwyd i ddefnyddwyr a chost cynhyrchu da byw, sefyllfa nad yw’r Llywodraeth hon wedi paratoi ar ei chyfer o gwbl. Dyna pam rwy’n hynod siomedig o weld y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru yn cyflwyno gwelliannau yn erbyn y cynnig hwn, ac ni fydd hynny’n syndod i’r Siambr hon.
Rwyf eisoes wedi siarad unwaith am gyfle, ac mae hwn yn gyfle i ddatblygu ein cynhyrchiant bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan osod yr hyn y gall ei wneud ar y llyfr statud. Yn wir, gallwn adeiladu ar ein cyfradd cynhyrchu bwyd domestig o 60 y cant, a sicrhau bod diogelu'r cyflenwad yn dod yn gonglfaen allweddol i gymorth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol. Ac eto, yn anffodus, mae ffocws y Llywodraeth hon wedi'i ystumio. Ar y naill law, maent yn gwneud penderfyniadau gwleidyddol i newid y cynnig hwn, i feirniadu Llywodraeth y DU, i ymosod ar gytundebau masnach, ac ar y llaw arall maent yn gwrthod cydnabod bod cynhyrchiant bwyd yn nwydd cyhoeddus ac yn gwrthod cynnig y cymorth y maent ei angen i'n ffermwyr gweithgar. A phan fydd polisi Llywodraeth Cymru yn arwain at gynyddu'r pwysau ar ein ffermwyr, a gostyngiad yn ein cynhyrchiant a diogelwch ein cyflenwad bwyd ein hunain hyd yn oed, deuwn yn fwy dibynnol ar fewnforion—yr union rai y mae'r Llywodraeth hon am eu beirniadu. Rhagrith yw hyn ar ran y Llywodraeth Lafur hon. [Torri ar draws.] Efallai ei fod yn 'rubbish' i'r Aelod o'r cefn, yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, ond dim ond drwy gynyddu ein cynhyrchiant bwyd ein hunain y gallwn wneud Cymru'n llai dibynnol ar fewnforion ac yn fwy gwydn rhag ergydion yn y system fyd-eang, rhywbeth y mae'r cynnig hwn yn ceisio mynd i'r afael ag ef yn benodol.
Ond gadewch inni beidio ag anghofio bod ein ffermwyr Cymreig yn enwog yn eu hawl eu hunain. Hwy sy'n cynhyrchu'r bwyd mwyaf ecogyfeillgar, cynaliadwy ac o'r ansawdd gorau ar y farchnad, ac mae'r cyhoedd yn cydnabod hyn. Dylem fod yn gweiddi o'r toeon i gefnogi cynnyrch amaethyddol Cymru. Drwy gydol y pandemig, gwelsom ymateb y wlad i gau ein sector gwasanaethau. Ni throdd pobl Cymru eu cefnau ar gynnyrch a dyfir yn lleol—roeddent yn ciwio y tu allan i'w siopau cigydd lleol i sicrhau y gallent brynu toriadau blasus o gig eidion a chig oen Cymru o'r radd flaenaf. Mae'r cyhoedd ym Mhrydain wedi dysgu a deall gwerth cig a llysiau lleol. Cymerwch datws Blas y Tir sir Benfro, er enghraifft—ni ddaw miloedd o filltiroedd awyr i'w canlyn nac allyriadau teithio cynnyrch a fewnforiwyd o rannau eraill o Ewrop neu weddill y byd. Ond yn yr un modd, nid ydynt ychwaith mor ddibynnol ar y sefyllfa geowleidyddol yn nwyrain Ewrop, de-ddwyrain Asia ac Awstralia ychwaith. Cânt eu tyfu'n lleol, eu codi gan ffermwyr lleol, a'u prynu gan bobl ledled Cymru. A gadewch inni fod yn gwbl glir, nid ydym am ddiwydiannu ein sector ffermio; yr hyn yr ydym am ei wneud yw sicrhau bod cynhyrchiant bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel yn cael ei ddatblygu fel bod bwyd o Gymru ar gael i bobl Cymru, a dyna pam y mae'r cynnig hwn gyda ni y prynhawn yma, a dyma y mae'r cynnig yn ceisio'i wneud.
Bydd y Bil amaethyddol yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn y gwanwyn, felly dyma ein cyfle i newid cyfeiriad a mabwysiadu dull gwahanol o weithredu. Mae gennym ddau opsiwn: gallwn naill ai barhau ar yr un trywydd o osgoi'r sefyllfa geowleidyddol gyfnewidiol, neu gallwn droi at ein cymuned amaethyddol a rhoi'r gefnogaeth y maent ei hangen iddynt. Gallwn gydnabod y cyfraniad hanfodol y mae ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig wedi'i wneud i iechyd a ffyniant ein gwlad, a rhoi sicrwydd iddynt allu parhau i wneud hynny. Mae angen ffrind ar ffermio ac am unwaith, gadewch i'r lle hwn fod yn ffrind. Gadewch inni gael ein ffermwyr, ein proseswyr a'n manwerthwyr i eistedd o amgylch y bwrdd mewn uwchgynhadledd fwyd, gadewch inni ddefnyddio'r Bil amaethyddol i sicrhau bod diogelwch y cyflenwad bwyd yn nwydd cyhoeddus, gadewch inni gefnogi Bil bwyd rhagorol Peter Fox, a gadewch inni beidio â gwastraffu'r cyfle sydd ger ein bron. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn gresynu mai'r bygythiad mwyaf uniongyrchol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd i bobl sy'n byw yng Nghymru heddiw yw'r argyfwng costau byw a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru er mwyn annog y gwaith o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru, gan gefnogi ein cymunedau i sicrhau newid cadarnhaol yn ein system fwyd;
b) creu system newydd o gymorth i ffermydd sy'n cydnabod y gwaith o gynhyrchu bwyd lleol sy'n gynaliadwy yn ecolegol, gan adlewyrchu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig o Reoli Tir yn Gynaliadwy.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd ffermydd teuluol bach cynhyrchiol o ran cynnal yr economi, yr iaith a'r diwylliant yng nghefn gwlad Cymru.
Yn credu y bydd toriadau i gyllid amaethyddol Cymru gan Lywodraeth y DU, ynghyd â Chytundebau Masnach Rydd newydd gyda gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd, yn cael effaith negyddol bellach ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnull uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;
b) amddiffyn diogelwch bwyd a chynhyrchu bwyd drwy ddarparu taliadau sefydlogrwydd fel rhan o'r cynllun cymorth ffermio nesaf;
c) datblygu ffyrdd o leihau costau mewnbwn i gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd, er mwyn lleihau cost y bwyd y maent yn ei gynhyrchu i ddefnyddwyr.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd dros dro. Dwi'n cyflwyno'r gwelliant, a diolch i Sam Kurtz o'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl mewn modd mor huawdl yma. Yn elfennol, gellir berwi'r ddadl yma lawr i un egwyddor graidd, sef yr hawl i fwyd. Ond, yn anffodus, mae llawer gormod o bobl yn byw efo ansicrwydd bwyd, heb wybod o ble y daw eu pryd bwyd nesaf. Mae chwarter pobl Cymru yn byw mewn tlodi ac yn gorfod blaenoriaethu bwyd, neu wres, neu hanfodion eraill. Rŷn ni'n edrych ymlaen i weld taith y Bill bwyd rydyn ni wedi clywed amdano eisoes gan Sam—y daith honno drwy'r Senedd—er mwyn medru sicrhau datblygiadau cadarnhaol a chadarnhau'r ymrwymiad hynny am yr hawl i fwyd.
Ond mae'n sefyll i reswm, felly, os oes yna hawl i fwyd, yna mae'n rhaid cynhyrchu'r bwyd yma, ac allwn ni ddim dibynnu ar fewnforio bwyd o bob cwr o'r byd am byth. Mae argyfyngau diweddar, yn fwy penodol rhyfel Wcráin a'r argyfwng newid hinsawdd, yn dangos yn fwy nag erioed yr angen i ni ddatblygu ein gallu i dyfu a phrosesu bwyd yma yng Nghymru. Mae'r angen i gryfhau'r system gaffael gyhoeddus wrth gwrs yn allweddol i hyn, ond yn ganolog i'r cyfan mae ein ffermydd a'r bobl hynny sy'n gweithio ar ein ffermydd.
Rŵan, wrth sôn am ffermydd Cymru, gadewch i ni beidio ag anghofio bod y diwydiant yma yn wahanol iawn i'r diwydiant amaeth dros Glawdd Offa. Yn wir, mae'n unigryw i Gymru. Ffermydd bach, teuluol sydd gennym ni yma gan fwyaf, efo swyddi gwledig yn y cymunedau cyfagos yn ddibynnol arnyn nhw, heb sôn am hyfywedd diwylliannol y cymunedau hynny. Mae parhad y Gymraeg dros y ganrif ddiwethaf wedi bod yn ddibynnol i raddau helaeth ar y ffermydd a chymunedau gwledig yma.
Ond mae'r ffermydd yma hefyd yn llawer iawn mwy agored i unrhyw niwed a ddaw yn sgil cytundebau masnach gwael. Mae cytundebau megis y rhai diweddar sydd wedi cael eu cytuno rhwng y wladwriaeth hon ac Awstralia ac Aotearoa yn golygu bod ffermwyr Cymru bellach ar fympwy marchnad sy'n poeni dim amdanyn nhw ac nad oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth drosto. Pe byddai yna newid, er enghraifft, yn y farchnad gig oen yn Tsieina neu'r Unol Daleithiau, yna buan iawn y gwelem ni gig oen o Aotearoa yn cael ei gyrru i'r Undeb Ewropeaidd neu i'r wladwriaeth hon, a gan nad oes tariff arno, yna bydd o'n tanseilio ein diwydiant ni yn llwyr. Yn wir, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn rhagamcanu y bydd y cytundeb ag Awstralia yn arwain at gwymp o £29 miliwn yn GVA diwydiant cig coch Cymru, a gallai'r ddau gytundeb efo'i gilydd arwain at gwymp o £50 miliwn, heb sôn, wrth gwrs, am y cannoedd o filiynau o bunnoedd y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi torri o gyllideb ffermwyr yn sgil Brexit. Mae'n deg dweud bod y Ceidwadwyr wedi gadael ffermwyr Cymru mewn pydew tywyll iawn.
Mae ein gwelliant ni heddiw, felly, yn sôn yn benodol am yr angen i gynnull uwchgynhadledd fwyd er mwyn sicrhau diogelwch bwyd. Mae hyn, wrth gwrs, yn arbennig o bwysig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Efo pris gwrtaith a thanwydd wedi cynyddu yn aruthrol, rydym yn gweld ffermwyr yn gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn. Mae rhai yn gorfod gwerthu eu lloeau stôr yn gynnar er mwyn sicrhau incwm i dalu am y deunyddiau crai. Mae eraill yn gorfod dogni eu defnydd o wrtaith gan beryglu eu cnwd. Mae pris gwrtaith wedi cynyddu 200 y cant mewn llai na blwyddyn, a phorthiant wedi mynd i fyny dros 60 y cant yn yr un cyfnod.
Wrth gwrs, effaith hyn fydd effeithio ar ein gallu ni i gynhyrchu bwyd, sicrhau diogelwch bwyd yma ac, yn ei dro, effeithio ar incwm ffermydd ac economi wledig Cymru. Tra bod peth o'r cynnydd diweddar yn ganlyniad i'r rhyfel yn Wcráin, gadewch i ni beidio ag anghofio bod y cynnydd yma wedi bod ar waith ers misoedd cyn anfadwaith Putin. Mae'r argyfwng costau byw am gael effaith andwyol ar ein ffermydd a'n gallu i gynhyrchu bwyd, ac amcangyfrifir y gwelwn ni gostau bwyd yn yr archfarchnad yn cynyddu tua 20 y cant erbyn yr hydref.
Dyma pam mae angen cynnull uwchgynhadledd o'r fath, er mwyn sicrhau bod pob dim yn cael ei wneud i sicrhau y gall ein ffermydd barhau i gynhyrchu bwyd a chyfrannu at ein cymunedau. I'r perwyl yma, mae angen taliadau sefydlogrwydd ar ffermydd er mwyn sicrhau eu hyfywedd, ac mae angen archwilio pob ffordd bosib i leihau costau cynhyrchu.
Dwi'n nodi bod Sam Kurtz, yn ystod ei gyfraniad, wedi datgan siom ein bod ni wedi rhoi gwelliant. Dwi'n nodi hynny, ac yn diolch iddo fo a'r Ceidwadwyr am y cynnig, ond, wrth gwrs, mae ein gwelliant ni yn gwneud yn union hynny: yn cryfhau ac yn gwella cynnig rydyn ni'n cefnogi'r rhan fwyaf ohono. Felly, cefnogwch y gwelliant. Diolch yn fawr iawn.
Credaf fod hon yn sicr yn ddadl bwysig ac amserol iawn o ystyried yr argyfwng bwyd yr ydym i gyd yn ymwybodol ohono, a'r ffaith bod hynny'n mynd i gynyddu yn ei ddifrifoldeb dros y misoedd nesaf. Gwyddom i gyd ei bod hefyd yn her yn y tymor canolig ac yn hirdymor oherwydd effaith newid hinsawdd, ac mae gwir angen i ni yng Nghymru chwarae ein rhan i ddatblygu'r cadwyni bwyd lleol hyn fel bod bwyd lleol o safon yn cael ei fwyta'n lleol a'n bod yn cefnogi ein ffermydd bach a'n busnesau lleol. Hoffwn sôn am un neu ddwy enghraifft o hynny, a hefyd yr angen i fynd i'r afael â gwastraff bwyd, oherwydd fe wyddom, rwy'n credu, mai'r ffigur yw bod 9.5 miliwn tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yn y DU, ac amcangyfrifir bod 70 y cant ohono'n fwytadwy ac wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta.
Felly, rwy'n credu mai rhai enghreifftiau lleol i mi, wrth ymdrin â rhai o'r heriau hyn, yw Castle Farm yn Nhrefesgob yng Nghasnewydd, sef fferm fach leol sydd â syniadau ac egni, ac sy'n troi hynny'n weithredu, gan wireddu polisïau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru drwy eu cyflawni ar lawr gwlad. Maent yn cynhyrchu bwyd lleol o safon, maent yn cynhyrchu wyau maes, mae ganddynt fuches laeth fach—rhy fach i fod yn hyfyw pe baent ond yn gwerthu'r cynnyrch crai yn unig, ond oherwydd eu bod yn ychwanegu at hynny drwy gael peiriannau gwerthu ysgytlaeth—un yn eu siop fferm leol ar y fferm, ond bydd ganddynt fwy a mwy o rai eraill o gwmpas y gymuned leol. Ac mae ganddynt, er enghraifft, ddwy siop leol, un yng nghanolfan siopa Ffordd y Brenin yng Nghasnewydd, siop Castle Farm yno, a hefyd ym marchnad Casnewydd a adnewyddwyd yn ddiweddar, ac a ailagorodd yr wythnos diwethaf, mae ganddynt stondin yno hefyd. Ac yn ogystal ag ychwanegu gwerth at eu cynnyrch llaeth drwy gynhyrchu ysgytlaeth, maent hefyd yn cynhyrchu hufen iâ ar y fferm, ac yn gwerthu hwnnw yn eu siopau wrth gwrs. Maent yn mynd i farchnadoedd lleol, ac maent bob amser yn chwilio am bosibiliadau newydd, safleoedd newydd, lle y gallant werthu eu cynnyrch o safon. Ac maent hefyd yn cysylltu â ffermydd lleol eraill ac yn gwerthu cynnyrch y ffermydd hynny hefyd. Felly, rwy'n credu ei bod yn enghraifft dda iawn o fferm fach leol yn cael syniadau ac egni go iawn ac yn troi hynny'n weithredoedd.
A hoffwn dynnu sylw at y farchnad honno yng Nghasnewydd sydd wedi'i hadnewyddu hefyd, oherwydd mae o'r ansawdd gorau. Mae ganddi gwrt bwyd, mae ganddi fusnesau lleol yno'n gwerthu eu cynnyrch, gan gynnwys llawer o fwyd a diod. Mae ganddi le arddangos, bydd nifer fawr o ymwelwyr yn dod drwy'r farchnad honno, a bydd hynny'n wych i werthwyr bwyd a diod lleol. Felly, mae hwnnw'n gyfle gwirioneddol, ac mae angen inni gyfleu'r neges i fusnesau a ffermydd lleol y gallant gysylltu â'r farchnad honno yng Nghasnewydd i wireddu'r cadwyni cyflenwi lleol hynny.
Hoffwn bwysleisio hefyd pa mor bwysig yw pantrïau bwyd, sydd, er enghraifft, wedi'u lleoli yn llyfrgell Maendy yng Nghasnewydd, a hefyd yng Nghil-y-coed, yng nghanol y dref, lle maent yn ymdrin â heriau gwastraff bwyd drwy fynd â bwyd o archfarchnadoedd, bwyd sy'n amlwg yn fwytadwy, a'i werthu—nid ei werthu, ond sicrhau ei fod ar gael am ddim i'r rhai sydd ei angen yn lleol. Ac mae'r rheini'n enghreifftiau da iawn, yn enghreifftiau ymarferol, o'r hyn y gellir ei wneud, a chredaf y bydd gan y pantrïau bwyd hyn rôl gynyddol i'w chwarae ledled Cymru. Felly, mae ganddynt fwyd oer yn y cabinet, ond hefyd mae ganddynt amrywiaeth o fwyd arall mewn trolïau siopa sydd ar gael i gymunedau lleol. Ac wrth gwrs, maent yn gwneud llawer o waith o amgylch hynny, oherwydd pan fydd ganddynt bobl yn dod i'w gweld sydd angen y cyflenwadau bwyd hynny, yn aml bydd ganddynt anghenion eraill hefyd, ac mae modd eu cysylltu ag amrywiaeth o wasanaethau eraill.
Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn fod yr holl enghreifftiau hyn—a gwyddom fod llawer ohonynt ledled Cymru, ar hyd a lled Cymru—yn cael eu dwyn i sylw Aelodau'r Senedd a Gweinidogion a swyddogion y Llywodraeth, oherwydd mae'n amlwg y gallwn ddysgu o'r arferion da sy'n digwydd ledled Cymru a lledaenu'r arferion da hynny, a chyflawni'r uchelgeisiau a'r polisïau y credaf fod llawer ohonom yn eu rhannu, gwireddu'r cylchoedd cyflenwi bwyd lleol rhinweddol hyn ar lawr gwlad a mynd i'r afael â gwastraff bwyd hefyd. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed llawer o enghreifftiau lleol da eraill yma heddiw yn y ddadl bwysig hon.
Gyda sector bwyd a chynnyrch cyfoethog ac amrywiol, mae gan Gymru rôl unigryw i'w chwarae yn dangos sut y gall fod yn hunangynhaliol yn ystod argyfyngau cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym bellach yn wynebu pennod na welwyd ei thebyg o'r blaen o ran diogelwch y cyflenwad bwyd, a'n gallu i fynd ati'n gyflym i ddiogelu diwydiant Cymru, y bobl y mae'n eu cyflogi a'r rhai y mae'n darparu ar eu cyfer. Gan fod Brynle Williams, y diweddar Brynle Williams, wedi cael ei grybwyll yma heddiw, rhaid imi ddweud fy mod yn cytuno â fy nghyd-Aelodau, Paul Davies ac Andrew Davies, oherwydd—. Roedd diogelu'r cyflenwad bwyd yn rhywbeth arall yr oedd Brynle Williams yn ei hyrwyddo yn ystod y blynyddoedd lawer y bu yma yn y Siambr hon.
Mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru nid yn unig wedi bod yn araf yn ymateb i'r heriau cynyddol sy'n ein hwynebu, ond mae wedi bod yn hunanfodlon ynghylch rhai o'r problemau a achoswyd, ac o ganlyniad, mae wedi methu'n sylfaenol â rhoi pobl Cymru yn gyntaf. Diogelwch y cyflenwad bwyd yw'r sefyllfa o gael mynediad dibynadwy at ddigon o fwydydd fforddiadwy, maethlon. Nawr, er nad oes yr un ohonom sy'n eistedd yma heddiw yn cael unrhyw anhawster cael gafael ar y rhain, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn dweud bod 9 y cant o bobl Cymru yn profi lefel isel o ddiogelwch yn eu cyflenwad bwyd, ac mae un o bob pump o bobl bellach yn poeni ynglŷn â mynd yn brin o fwyd. Mae'n frawychus fod chwarter y bobl ifanc 16 i 34 oed yn mynd yn brin o fwyd ar ryw adeg bob blwyddyn.
Nawr, wrth inni fynd i'r afael â chyflwr diogelwch y cyflenwad bwyd yng Nghymru, mae'n hanfodol fod cyd-Aelodau ar y fainc gyferbyn yn cydnabod safbwynt gofidus Llywodraeth Cymru a'i gwrthodiad i ystyried bwyd fel nwydd cyhoeddus. Mae gwlad gydag adnoddau enfawr, ac a ystyrir yn fasged bara Ewrop, wedi arwain at herio'r cysyniad o ddiogelwch y cyflenwad bwyd, yn dilyn ymosodiad ofnadwy Rwsia ar Wcráin. Gyda'r gostyngiad yn ei hallforion i'w deimlo ledled y byd, dyma'r amser i Gymru adolygu ac addasu tra bod ganddi gyfle i wneud hynny.
Mae gwledydd yng ngogledd Affrica a'r dwyrain canol yn enghraifft wych o ba mor gyflym y gall pethau ddirywio. Mae'r Aifft yn mewnforio 85 y cant o'i gwenith o Rwsia, ac mae Lebanon yn cael 66 y cant o'i gwenith o Wcráin—mae'r rhanbarthau bellach yn wynebu lefel uwch o ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd. Ac yn nes adref, hyd yn oed cyn yr argyfwng yn Wcráin, mae gan Gymru ei phroblemau ei hun.
Fel y nododd yr RSPB yn eu hadroddiad ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd mewn argyfwng natur a hinsawdd yn 2018, nododd y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth fod cyflenwad bwyd oddeutu 2.2 miliwn o bobl yn y DU yn ansicr iawn, gan olygu mai 'r DU oedd y wlad gyda'r lefel uchaf a gofnodwyd o ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd yn Ewrop. Fe wnaeth dechrau'r pandemig COVID-19 waethygu ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd ymhellach, gyda cholli incwm a mynediad cyfyngedig at ffynonellau bwyd arferol.
Gyda hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod ein ffermwyr bellach ar flaen y gad yn diogelu a gwella diogelwch ein cyflenwad bwyd, a gallant hefyd fod rhan bwysig o chwyldro mewn perthynas â'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd. Yn wir, canfu astudiaeth gan Brifysgol Bangor fod ffermydd defaid ac eidion Cymru sy'n defnyddio dulliau nad ydynt yn rhai dwys yn cynhyrchu lefelau o allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd ymhlith yr isaf o gymharu â systemau tebyg yn fyd-eang.
Wrth edrych ar ddibyniaeth ar fwyd, mae'r Adran Bwyd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi adrodd bod y Deyrnas Unedig 64 y cant yn hunangynhaliol ym mhob bwyd, a 77 y cant yn hunangynhaliol mewn bwyd o fath brodorol, o'i gymharu â'r Ffindir a Gweriniaeth Iwerddon, sef y ddwy wlad lle y ceir y lefelau uchaf yn y byd o ddiogelwch yn y cyflenwad bwyd. Maent yn sgorio 85.3 ac 83.8 ar raddfa'r mynegai, gyda'r Deyrnas Unedig ar 78.5.
Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad ar unwaith o ddiogelwch y cyflenwad bwyd yng Nghymru. Rwy'n gofyn i'r Gweinidog: er bod ailgoedwigo yng Nghymru yn hanfodol, pam eich bod yn peryglu bywoliaeth a diogelwch y cyflenwad bwyd ymhellach drwy osod targed plannu coed a allai olygu bod gofyn coedwigo 3,750 o ffermydd teuluol Cymru yn llwyr?
Mae cynhyrchu bwyd yn y Gymru wledig dan fygythiad mwy difrifol nag erioed o'r blaen. Mae rhywfaint o hyn oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru ar amaethyddiaeth a newid hinsawdd. Rhaid i hyn ddod i ben a sefydlu comisiwn pontio teg i sicrhau nad yw baich datgarboneiddio yn disgyn yn anghyfartal ar ein cymunedau gwledig, ac nad yw'n cael effaith negyddol ar y Gymraeg sy'n ffynnu'n hanesyddol a chynhyrchiant bwyd yn y Gymru wledig.
Mae angen inni gynyddu cynhyrchiant, ac mae angen inni wneud ein cynnyrch blasus hyd yn oed yn fwy cystadleuol ar y llwyfan byd-eang. Rwyf wedi dweud droeon yma o'r blaen ei bod yn annerbyniol fod oes silff cig oen Cymru oddeutu 36.5 diwrnod, tra bod Seland Newydd wedi sicrhau hyd at 110 diwrnod o oes silff i gig oen wedi'i becynnu drwy ddefnyddio nwy carbon deuocsid.
Dewch â'ch sylwadau i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
O'r gorau. Rwy'n cymeradwyo'r nod yn y Bil bwyd (Cymru) arfaethedig i ddileu gwastraff bwyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru nid yn unig gydnabod ei fod yn destun pryder mawr, mae hefyd yn gwrthdaro yn erbyn ei dull o wrthsefyll newid hinsawdd a diogelu'r cyflenwad bwyd yma yng Nghymru. Diolch.
Galwaf ar Jenny Rathbone.
Diolch. Mae'n ddrwg gennyf—os caf osod y ddarllenfa. Diolch yn fawr iawn. Cytunaf fod hon yn ddadl eithriadol o bwysig, a diolch i'r Blaid Geidwadol am ei chyflwyno. Ni allaf ddweud fy mod yn anghytuno ag unrhyw ran o'r cynnig na'r gwelliannau, a rhaid imi ddweud bod llawer iawn o gytundeb o ran yr hyn y mae angen inni ei wneud.
Felly, yn 2020, cynhaliodd Tyfu Cymru arolwg o'r 200 o fusnesau garddwriaeth a oedd gennym bryd hynny yng Nghymru, a datgelodd nad oedd Cymru'n tyfu mwy na chwarter darn o ffrwyth neu lysieuyn y dydd ar gyfer ein poblogaeth—chwarter o'r saith y dydd y credaf fod iechyd y cyhoedd yn ein hargymell i'w bwyta erbyn hyn. A gwnaethpwyd achos cryf bryd hynny, bron i ddwy flynedd yn ôl, dros gynllun grant cyfalaf bach a fyddai wedi galluogi'r cynhyrchwyr bach hynny i ddyblu eu cynhyrchiant garddwriaethol. Yn anffodus, penderfynodd y Gweinidog beidio â derbyn yr argymhelliad hwnnw.
Felly, dyma ni yn 2022, ac nid yw'n ymddangos ein bod wedi gwneud unrhyw gynnydd sylweddol, tra bod diogelwch ein cyflenwad bwyd wedi dirywio'n sylweddol. Nid Brexit yn unig, sy'n golygu nad oes gennym bobl i gasglu'r cynnyrch mwyach, sy'n gyfrifol am hynny; mae'r rhyfel yn Wcráin hefyd yn tarfu ar farchnadoedd bwyd rhyngwladol. Felly, aeth cynllun peilot bach iawn yn ei flaen yn 2020, ar ddiwedd 2020—galluogodd £20,000 bum busnes ffrwythau a llysiau i dalu am ddau dwnnel polythen, dwy sied bacio, twll turio i ddod â dŵr i safle, a thröwr compost rhenciog i greu bwyd ar gyfer y pridd. Dengys gwerthusiad Amber Wheeler fod gwerthiant llysiau ar y raddfa fach hon wedi cynyddu 75 y cant. Ac os cyfrifwch hynny ar gyfer pob un o'r 200 o fusnesau garddwriaethol hyn—ac efallai y bydd un neu ddau arall yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf—gallem ddechrau gwella diogelwch ein cyflenwad bwyd ar gyfer un o dri phrif gynhwysyn deiet iach.
Felly, ar ôl 11 mlynedd o godi'r materion hyn yn y Senedd, nid yw'n wych ein bod yn dal i sôn am ddatblygu strategaeth fwyd. Nid oes gennym strategaeth o'r fferm i'r fforc ac yng nghyd-destun prydau ysgol am ddim i bawb ym mhob ysgol gynradd, rhaid inni fod yn onest fod ein prosesau caffael yn dal i fod yn waith ar y gweill. Ac mae'n dal yn eithaf aneglur sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gael strategaeth gynhwysol gydlynol, hirdymor i ddwyn ynghyd yr economi sylfaenol, ein hamcanion carbon sero net, ein hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a'n hamcanion iechyd cyhoeddus i greu poblogaeth iachach.
Rydym yn sôn am ddatblygu strategaeth fwyd gryfach, decach a gwyrddach, ond nid yw'n ymddangos bod gennym gynllun. Felly, rwy'n cytuno â Sam Kurtz fod bwyd yn nwydd cyhoeddus, ac mae angen inni sicrhau ein ffermwyr fod gan ffermio yng Nghymru ran bwysig iawn i'w chwarae yn gwella diogelwch ein cyflenwad bwyd.
Sut y mae Gweinidog yr economi'n cynyddu nifer yr arlwywyr sydd â sgiliau coginio? Sut y bydd yr 1 filiwn o goed y byddwn yn eu plannu yn cynyddu nifer y perllannau sydd gennym, pan fydd gennym Coed Cadw yn dweud mai dim ond coed ysgaw, coed eirin a choed afalau surion fydd yn cael eu hystyried yn goed Cymreig, er bod llawer iawn o dystiolaeth i'w chael fod pobl wedi bod yn tyfu coed ffrwythau ers cannoedd o flynyddoedd yng Nghymru?
Yng ngoleuni'r hyn a ddywedodd John Griffiths, efallai y gallai Casnewydd—. Gallai'r farchnad a adnewyddwyd yng Nghasnewydd fod yn ganolbwynt i bartneriaeth fwyd leol yng Nghasnewydd, oherwydd dyna sydd ei angen arnom, ac mae angen inni wneud hyn yn lleol.
Mae gennym fygythiad llawer mwy i ddiogelwch ein cyflenwad bwyd na hyd yn oed Brexit neu Wcráin, sef ein hinsawdd. Os nad awn i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a gwneud yr hyn y dywedwn ein bod am ei wneud, ni fyddwn yn gallu cynhyrchu'r bwyd y byddwn ei angen, a bydd y dyfodol yn llwm iawn i genedlaethau'r dyfodol. Felly, yn union fel y mae'r rhyfel yn Wcráin yn gofyn inni gyflymu'r broses o newid i ynni gwyrdd, mae'r rhyfel yn Wcráin yn ei gwneud yn ofynnol inni leihau ein dibyniaeth ar wrtaith a dechrau addasu ein cynhyrchiant bwyd i ddiogelu a gwella ansawdd ein pridd a mynd i'r afael â'n hargyfwng natur. Beth ar y ddaear sy'n bod arnom yn cael yr holl siediau ieir hyn sy'n ei gwneud yn ofynnol inni fewnforio corn o ben draw'r byd, gan gynnwys torri coed yr Amazon?
Felly, y mis hwn o bob mis, ym mis Mawrth, sut rydym yn annog tyfwyr i blannu fel bod gennym allu yn wir i fwydo'r tlotaf yn ein poblogaeth, sy'n gorfod dewis rhwng bwyta a gwresogi? Rydym wedi gweld pris bwyd yn codi'n arswydus i bobl ar incwm isel, a gallaf ddweud wrthych fod y prisiau yn y farchnad gyfanwerthol yng Nghaerdydd mor uchel yr wythnos hon fel bod y manwerthwyr ofn ei brynu hyd yn oed, am nad ydynt yn credu y byddant yn gallu ei werthu, ac os nad ydynt yn ei werthu, byddant yn gwneud colled enfawr wrth gwrs.
A wnewch chi dynnu tua'r terfyn, os gwelwch yn dda?
Mae gennym yr holl gynhwysion ar gyfer diogelu'r cyflenwad bwyd yng Nghymru; mae gennym ddŵr, tir a haul, ac mae gwir angen inni fwrw iddi a sicrhau bod gennym strategaeth fwyd gydlynol a diogel i fyd natur i wella diogelwch ein cyflenwad bwyd a llesiant ein pobl.
Mae'r cynnydd y mae'r ddynoliaeth wedi'i wneud hyd yma yn deillio o'r chwyldro amaethyddol. Heb i ffermio allu bwydo'r boblogaeth, ni fyddem wedi cael ein chwyldro diwydiannol, sy'n ffurfio'r byd yr ydym yn byw ynddo heddiw. Mae gallu cynnal poblogaeth sy'n tyfu â bwyd dibynadwy o ansawdd da yn allweddol i'r gymdeithas sefydlog a ffyniannus y byddai pob un ohonom yn gobeithio byw ynddi. Byddwn yn dadlau bod diogelwch y cyflenwad bwyd yr un mor bwysig yn awr ag y bu erioed. Mae cyflenwadau bwyd digonol o ansawdd da wedi caniatáu i'n cymdeithas esblygu a meithrin mwy o sgiliau. Ond mae hyn yn gwbl ddibynnol ar allu ein ffermwyr i gynhyrchu'r bwyd sydd ei angen arnom. Y rhai sy'n cynhyrchu ein bwyd yw asgwrn cefn ein bodolaeth. Rwyf fi ac Aelodau eraill o'r Senedd yn fy mhlaid, fel Sam Kurtz, Peter Fox a'n harweinydd goleuedig, Andrew R.T. Davies, wedi gweithio, ac yn dal i weithio yn y diwydiant ffermio, ac yn gwybod yn iawn am gymhlethdodau'r sefyllfaoedd sy'n ein hwynebu.
Y peth cyntaf y mae llawer ohonom yn ei wneud pan fyddwn yn deffro yw meddwl beth a gawn i frecwast, cinio neu swper—neu yn fy achos i, rwy'n tueddu i feddwl am hynny cyn gynted ag y bydd y pryd ddiwethaf wedi'i fwyta. Ond hyd yn oed ar adegau o argyfwng ac anhrefn, ein hangen dynol sylfaenol yw bwyd a dŵr i'n galluogi i oroesi, a dylai pawb allu cael hynny. Bellach, caiff bwyd ei weld fel nwydd a fasnechir ar draws y byd; mae globaleiddio bwyd yn golygu bellach ein bod wedi dod yn agored i ergydion mewn gwledydd ledled y byd. Rydym yn byw mewn cyfnod ansicr, lle bydd ein dibyniaeth arferol ar farchnadoedd a arferai fod yn sefydlog yn cael ei phrofi. Fel y dywedwyd, mae'r sefyllfa yn Wcráin a Rwsia yn peri pryder sylweddol i bob un ohonom, gan fygwth cyflenwadau'r byd o flawd, grawn a gwrtaith a chemegau i farchnad y DU, pethau y mae arnom eu hangen.
Gall prinder bwyd a phrisiau cynyddol fygwth trefn y byd. Gallai codi pris bara yn Affrica a'r dwyrain canol ansefydlogi llawer o lywodraethau a democratiaethau. Gwelsom drosom ein hunain, yma yn ein gwlad ni, yn ystod COVID fod silffoedd gwag yn ein harchfarchnadoedd wedi achosi panig eang, ac ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw cadw ein gwlad wedi'i bwydo. Rhaid inni sicrhau, yma yng Nghymru, ein bod yn gallu gwrthsefyll ergydion gwleidyddol, ffisegol ac ariannol o bob cwr o'r byd. Gwta ddeuddydd yn ôl, cafwyd erthygl yn The New York Times dan y pennawd 'Ukraine War Threatens to Cause a Global Food Crisis'. Amlinellai'r darn y ffaith bryderus fod cyfran allweddol o wenith, corn a barlys y byd wedi'i ddal yn Rwsia ac Wcráin oherwydd y rhyfel, tra bod cyfrannau mwy fyth o wrtaith y byd wedi'i ddal yn Rwsia a Belarws heb unrhyw arwydd eu bod yn mynd i unman.
Mynegwyd pryderon ynghylch mewnforio bwyd neu fwydydd anifeiliaid, nid yn unig o safbwynt diogelwch y cyflenwad bwyd, ond mewn perthynas â'r difrod amgylcheddol y mae hyn yn ei achosi yn y gwledydd hynny ac ôl troed cludiant. Ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi hyrwyddo cynnyrch lleol o'r fferm i'r fforc ac addysgu ein pobl ifanc a'r genedl i wybod mwy ynglŷn â tharddiad eu bwyd. Ac mae'n rhaid inni fod yn falch o'n sector amaethyddol yma yng Nghymru: maent yn cynhyrchu cynnyrch o'r radd flaenaf mewn modd cynaliadwy ac yn gwneud gwaith anhygoel ddydd ar ôl dydd. Dylem gefnogi'r sector hwn a chydnabod pa mor hanfodol ydynt i ddiogelu'r cyflenwad bwyd, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn y Papur Gwyn, yn gwneud diogelu'r cyflenwad bwyd yn rhan allweddol o hynny.
Rwy'n cymeradwyo Bil bwyd fy nghyd-Aelod, Peter Fox, i fynd i'r afael â gwastraff bwyd. Credaf y dylem symud oddi wrth fwyd cyfleus, a hyrwyddo cynnyrch lleol tymhorol wedi'i goginio gartref, a'r holl fanteision iechyd cysylltiedig a ddaw yn sgil hyn. Ers COVID, credaf fod gan boblogaeth Cymru well dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi a tharddiad eu bwyd, a gwelwyd newid yn ôl, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, i brynu'n lleol a chefnogi ein busnesau lleol. Ond rwy'n credu bod angen inni ei wneud yn gliriach ar ddeunydd pacio bwyd, a nodi cynhyrchion lleol a tharddiad ein bwyd. Mae angen labelu gwell ar fwydydd fel y gallwn ddewis bwyta cynnyrch o Gymru neu Brydain. Ar hyn o bryd, mae llawer o fwydydd yn cael eu marchnata fel rhai Prydeinig er mai dim ond cael eu pecynnu yn y wlad hon y maent, a chredaf fod hynny'n warthus.
Rydym yn wynebu llawer o heriau yn y blynyddoedd a'r degawdau i ddod, o ryfeloedd i newid hinsawdd, a phob un ohonynt yn cryfhau ein dadl dros ddiogelu'r cyflenwad bwyd yn well o fewn ein ffiniau. Ac rwy'n erfyn ar Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heddiw.
Yn gyntaf, a gaf fi wneud y pwynt fod prisiau bwyd cynyddol eisoes yn broblem cyn i Rwsia ymosod ar Wcráin, a'i fod, yn rhannol, yn ganlyniad i'r pandemig a hefyd oherwydd Brexit? Mae'n peri pryder i mi fod y Ceidwadwyr, mewn dadleuon diweddar, wedi ceisio anwybyddu'r ffeithiau am yr argyfwng costau byw a wynebwn yn awr, a phenderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Dorïaidd y DU sydd wedi achosi'r argyfwng hwn a'r ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd sy'n dod gyda hynny, nid y rhyfel a'r pandemig yn unig, sef y rhethreg ddiweddaraf a glywaf.
Mae blynyddoedd o gyni wedi achosi ansicrwydd ynglŷn â'u swyddi i'r 22 y cant o bobl yng Nghymru a gyflogir mewn gwasanaethau cyhoeddus. Torri'r ychwanegiad o £20 i'r credyd cynhwysol, cynyddu yswiriant gwladol 1.25 y cant ym mis Ebrill a chodi'r cap ar ynni 54 y cant yw rhai o'r rhwystrau enfawr sydd wedi'u gosod ar deuluoedd—[Torri ar draws.]—yng Nghymru a fydd yn ei chael hi'n anodd fforddio bwyta neu wresogi eu cartrefi o ganlyniad uniongyrchol i'r polisïau hyn.
Yn ogystal, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ailadrodd eu pryderon am y cytundeb masnach presennol ag Awstralia. Mae rhyddfrydoli masnachu nwyddau amaethyddol yn llawn yn creu perygl o ddadleoli cynhyrchiant bwyd Cymru a'r DU, a gallai osod rhwystrau pellach ar allforion y DU i'r UE. Ond ar wahân i'r pwynt hwn, rwy'n croesawu gwelliant Lesley Griffiths ar ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol i Gymru i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru. Cytunaf hefyd y dylai bwyd fod yn nwydd cyhoeddus, fel y crybwyllwyd yn gynharach, ac y dylid labelu cynnyrch yn well.
Yn ddiweddar gofynnais gwestiwn am ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus yng ngogledd Cymru, ond dywedwyd wrthyf fod llawer o'r tir yn y gogledd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu cig a llaeth, gan ddilyn y cyfartaledd byd-eang o ddefnyddio 77 y cant o'r tir at y diben hwnnw, a dim ond yn Sealand yng ngogledd Cymru y caiff ei ddefnyddio ar gyfer cnydau ar raddfa fawr, felly byddai'n rhaid inni edrych ar hynny mewn gwirionedd. Ond efallai mai'r bygythiad hirdymor mwyaf i ddiogelwch ein cyflenwad bwyd yw effeithiau newid hinsawdd, sydd eisoes wedi cael effaith enfawr ar faint cnydau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chyfnodau anarferol o sych a llifogydd ofnadwy hefyd. Felly, rhaid inni ystyried hynny yn ogystal.
Mae angen gweithredu ar frys i ddiogelu ein bioamrywiaeth ac adfer ein hadnoddau naturiol. Dros y blynyddoedd, mewn rhai ardaloedd, er mwyn cynyddu cynhyrchiant, mae pyllau a ffosydd wedi'u draenio a gwrychoedd wedi'u difa, ac rydym wedi colli 97 y cant o'n dolydd gwair ledled y DU. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae angen inni symud cymorthdaliadau amaethyddol tuag at wobrwyo ffermwyr yn briodol am gynhyrchu canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol, gan gynnwys gwella iechyd pridd, aer a dŵr glân, a diogelu bioamrywiaeth. Ond mae angen inni hefyd annog mwy o gynhyrchiant bwyd lleol.
Ar ôl y rhyfel, adeiladwyd tai cyngor gyda gerddi mawr fel y gallai pobl dyfu llysiau ynddynt. Roedd rhandiroedd cymunedol a ffermydd yn tyfu amrywiaeth o gnydau mewn cylchdro, gan greu ecosystemau ac ardaloedd o fioamrywiaeth. Cyfarfûm â grŵp yn sir y Fflint o'r enw FlintShare, lle maent yn cyflawni ffermio cymunedol mewn tri lleoliad ac yn cynhyrchu llysiau a ffrwythau tymhorol. Wrth symud ymlaen, hoffwn weld mwy o'r prosiectau sydd wedi'u gwreiddio yn y gymuned yn cael eu cefnogi mewn siroedd ledled Cymru. Diolch.
Ac yn olaf, Peter Fox.
Diolch, Lywydd dros dro. Ac er mwyn y cofnod, hoffwn ddatgan fy mod yn ffermwr gweithredol—a dweud y gwir, rwy'n edrych ar wartheg y tu allan i'r ffenestr wrth imi eistedd yma. A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon? A bod yn onest, mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn rhywbeth y mae llawer ohonom wedi'i gymryd yn ganiataol. Fel cymdeithas, rydym yn gyfarwydd at ei gilydd â mynd i archfarchnad, gwneud ein siopa wythnosol a dychwelyd adref heb feddwl fawr ddim ynglŷn â tharddiad ein bwyd a sut y caiff ei gynhyrchu. Ond mae digwyddiadau diweddar wedi creu storm berffaith ac wedi dod â diogelwch y cyflenwad bwyd i'r amlwg. Mae'r pandemig COVID-19 wedi achosi hafoc i gadwyni cyflenwi ledled y byd ac mae hyn wedi cael effaith ar argaeledd cynhyrchion yma yng Nghymru. Rydym hefyd yn dechrau gweld effeithiau'r ymosodiad erchyll a diangen gan Rwsia ar Wcráin, gan godi prisiau a chyfyngu ar argaeledd mewnforion cynhwysion crai.
Rwy'n gresynu bod gwelliant Llafur wedi mynd ati'n amlwg i wleidyddoli'r mater dan sylw, ac nid yw'r iaith a ddefnyddir yn helpu dim ar adeg pan fo pobl yn chwilio am atebion gan bob Llywodraeth. Credaf hefyd fod gwelliant y Llywodraeth yn edrych yn fwy hirdymor ar y mater ac yn methu sôn am gamau y mae angen eu cymryd yn y cyfamser i fynd i'r afael â phroblemau sy'n wynebu llawer o bobl ar hyn o bryd. Ac felly, yn hyn o beth rwy'n cefnogi galwadau, fel y nodwyd yn y cynnig sydd ger ein bron, am fwy o gydweithredu ar draws Llywodraethau a'r sectorau bwyd ac amaeth drwy uwchgynhadledd fwyd. Bydd hyn yn ein helpu i asesu lefelau diogelwch y cyflenwad bwyd yng Nghymru yn ogystal â chwilio am gyfleoedd i liniaru rhai o'r problemau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.
Fel y dadleuais o'r blaen yn y Siambr hon, mae ffermwyr yn dal i bryderu bod y cynllun ar gyfer helpu ffermwyr yn y dyfodol yn gogwyddo gormod tuag at dalu am nwyddau cyhoeddus, gyda diffyg cydnabyddiaeth i bwysigrwydd cefnogi cynhyrchwyr yng Nghymru sy'n ceisio cynhyrchu bwyd fforddiadwy a chynaliadwy o ansawdd da i'n cymunedau. Hefyd, mae angen inni lacio rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu ffermwyr i'w galluogi i ddefnyddio mwy o'u tir ar gyfer cynhyrchu bwyd. Disgwylir i ffermwyr âr adael cyfran o'u tir yn fraenar, ond gyda mewnbynnau a gorbenion yn cynyddu ar raddfa frawychus, ni fydd llawer o ffermwyr yn gallu cynnal y lefelau cynhyrchiant presennol. Ac felly, bydd rhyddhau tir yn helpu i wneud iawn am y diffyg hwnnw mewn rhyw ffordd ac yn caniatáu i ffermwyr arallgyfeirio ychydig mwy.
Yn olaf, Lywydd, hoffwn ailadrodd yr angen am sail ddeddfwriaethol gryfach i'r system fwyd yng Nghymru. Wrth ddatblygu fy nghynnig Bil bwyd, clywais dro ar ôl tro nad yw gwahanol rannau o'r system fwyd bob amser yn siarad â'i gilydd, a bod angen i lywodraethu bwyd a'r strategaeth ehangach wella os ydym am ddiwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. A chredaf fod digwyddiadau diweddar wedi dangos sut y mae angen strwythurau ar waith a all ddod â chynhyrchwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn ogystal â chyrff cyhoeddus, at ei gilydd i hyrwyddo cynlluniau strategol ac i hyrwyddo cadwyni cyflenwi cynaliadwy a gwydn yn fwy lleol. Edrychaf ymlaen at drafod y materion hyn gydag Aelodau a rhanddeiliaid wrth i fy Mil fynd drwy'r Senedd yn y dyfodol.
I orffen, Lywydd—Lywydd dros dro, mae'n ddrwg gennyf—rydym yn byw mewn cyfnod gofidus gyda chyfres o ddigwyddiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen yn dod at ei gilydd i greu heriau nad ydym wedi'u hwynebu ers degawdau. Nid oes ateb hawdd i'r pethau hyn; yn hytrach, rydym angen pecyn o fesurau i helpu i leddfu'r problemau gyda diogelu'r cyflenwad bwyd a welwn ar hyn o bryd. Mae'n amlwg fod yn rhaid inni wella gwytnwch cadwyni cyflenwi lleol a rhoi camau ar waith i leihau ein dibyniaeth ar fewnforion o wledydd eraill, yn enwedig y rheini mewn rhannau o'r byd sy'n ansefydlog yn wleidyddol. A dyma lle mae angen y fframwaith deddfwriaethol arnom i greu cyfeiriad teithio cydlynol ar gyfer y sector bwyd yng Nghymru, gan ddileu'r rhwystrau sy'n wynebu cynhyrchwyr Cymreig i'w helpu i ddiwallu anghenion Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig gwreiddiol heddiw. Gwn ein bod i gyd yn teimlo bod hwn yn faes pwysig iawn, a hoffwn pe na bai gwleidyddiaeth yn mynd o ffordd rhywbeth mor bwysig ac y gallem ddod at ein gilydd a chytuno ar rywbeth mor bwysig â'r cynnig hwn. Diolch, Lywydd dros dro.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fel pob Aelod sy'n cyfrannu at y ddadl hon heddiw, hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'n ffermwyr a'n cymunedau gwledig am y cyfraniad hanfodol a wnânt i iechyd a ffyniant ein gwlad.
Wrth inni nodi effaith negyddol y rhyfel erchyll yn Wcráin ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd, dylem hefyd nodi effaith gadarnhaol gweithredoedd cynhyrchwyr bwyd a chymunedau gwledig yng Nghymru yn cefnogi pobl sydd wedi'u dadleoli gan y rhyfel. Dylai eu hymdrechion ein hysbrydoli i gyd i gadw at y gwerthoedd y maent yn eu hadlewyrchu—undod, tegwch, a chyfrifoldeb byd-eang. Rwy'n siŵr fod meddyliau'r holl Aelodau yn y Siambr gyda'r bobl sy'n byw mewn ardaloedd o Wcráin sydd dan warchae ac mewn rhannau eraill o'r byd lle y ceir gwrthdaro, ac sy'n profi'r bygythiad mwyaf difrifol yn sgil ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd, gyda phlant dan fygythiad arbennig o newyn neu effaith diffyg maeth sy'n para am oes.
Lle y credaf y dylai safbwynt y Senedd hon fod yn wahanol i gynnig y Ceidwadwyr yw ei fethiant i gydnabod y gwir argyfyngau sy'n bygwth diogelwch y cyflenwad bwyd yng Nghymru heddiw. Mae'r cyflenwad bwyd i Gymru yn parhau i fod yn gadarn, er gwaethaf yr heriau aruthrol y mae gweithwyr a busnesau wedi'u hwynebu: aflonyddwch y pandemig, anhrefn ac ansicrwydd safbwynt Llywodraeth y DU ar fasnachu gyda'n cymdogion Ewropeaidd. Nid yw'r rhain wedi arwain at brinder eang yn y cyflenwad. Dylem gofio hefyd fod cymaint â hanner yr holl gynnyrch bwyd yn fyd-eang yn cael ei wastraffu, fel y soniodd John Griffiths yn ei gyfraniad. Byddai'n nonsens inni osod pob mater sy'n ymwneud ag ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd mewn un categori. Mae'r gwrthdaro sy'n creu ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd yn Wcráin yn effeithio ar ddiogelwch ein cyflenwad bwyd ein hunain, ond rydym yn wynebu cyfres wahanol o heriau a fydd yn galw am set wahanol o ymatebion.
Nid gostyngiad yn y cynhyrchiant neu'r cyflenwad sy'n achosi'r bygythiad mwyaf uniongyrchol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd yng Nghymru heddiw, ond argyfwng economaidd sy'n tanseilio gallu pobl i gael bwyd, ac mae'n deillio o benderfyniadau bwriadol a wneir gan Lywodraeth y DU—[Torri ar draws.] Ie.
Rwy'n ddiolchgar am hynny. A wnewch chi enwi gwlad arall nad yw'n profi pwysau costau yr ydym yn eu profi yn y DU y gallem ei defnyddio fel enghraifft?
Credaf ei bod yn deg dweud bod y pandemig, wrth gwrs, wedi achosi aflonyddwch byd-eang yn y ffordd yr ydych yn nodi. Fodd bynnag, cafodd eich Canghellor gyfle i wneud rhywbeth yn ei gylch heddiw ac ni wnaeth hynny. Nid yw £5 biliwn o bunnoedd i dynnu 5c oddi ar litr o danwydd yn werth dim i bobl nad oes ganddynt arian ar gyfer bwyd nac arian ar gyfer ynni neu sydd heb gar.
Mae tlodi bwyd yn symptom anochel o dlodi yn gyffredinol, ac mae economi'r DU, o dan Ganghellor presennol y DU, wedi profi'r gostyngiadau termau real mwyaf mewn incwm ers dros bedwar degawd. Yn y cyd-destun hwn, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi penderfynu gosod y codiadau treth mwyaf, fel cyfran o incwm cenedlaethol, mewn unrhyw flwyddyn yn y tri degawd diwethaf. Bydd cymorth diweithdra yn gostwng i'w werth termau real isaf mewn mwy na thri degawd. Bydd tri chwarter yr aelwydydd sydd ar gredyd cynhwysol yn waeth eu byd y mis nesaf nag yr oeddent flwyddyn yn ôl. Ac mae ymateb y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi'i dargedu at yr argyfwng costau byw a grëwyd gan Blaid Geidwadol y DU.
Fis diwethaf, cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, becyn cymorth gwerth £330 miliwn, mwy nag unrhyw beth a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'n cynnwys taliadau costau byw uniongyrchol, taliadau tanwydd y gaeaf ychwanegol, a chyllid cymorth dewisol i gynghorau lleol. Ers 2019, rydym wedi buddsoddi £9 miliwn yn benodol ar gyfer hyrwyddo'r sefydliadau cymunedol sy'n cefnogi tyfu, casglu, dosbarthu a rhannu bwyd yng Nghymru, o raglenni gwella gwyliau'r haf mewn ysgolion i brosiectau tyfu cymunedol a cheginau cymunedol. Addawodd maniffesto fy mhlaid ar gyfer yr etholiad fis Mai diwethaf ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol, ac mae ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn ein hymrwymo i lunio'r strategaeth hon gyda'n gilydd.
Y mis hwn, cyfarfûm ag undebau ffermio, manwerthwyr bwyd, busnesau'r gadwyn gyflenwi, cyrff masnach y diwydiant, a fy nghymheiriaid o'r Llywodraethau eraill ledled y DU. Mae'r ymgysylltiad hwn yn rheolaidd ac mae'n ffordd bwysig o lywio a chyflwyno mesurau i fynd i'r afael â'n heriau cyffredin. Rwy'n cydnabod nad yw'r Torïaid yma'n deall sut y mae Llywodraeth yn gweithio, ond nid oes arnom angen uwchgynhadledd fwyd. Mae'r trafodaethau a'r cyfarfodydd hyn yn digwydd fel mater o drefn; mae'n fusnes fel arfer. Ni fydd y strategaeth bwyd cymunedol yn disodli ymgysylltiad diwydiannol neu rynglywodraethol; yn hytrach, gall ymateb i ddymuniad cymunedau yma yng Nghymru i chwarae rhan fwy gweithredol wrth lunio'r system fwyd eu hunain. Dyna sut y bwriadwn fynd ati i'w datblygu, gan fabwysiadu dull gweithredu o'r gwaelod i fyny yn hytrach nag o'r brig i lawr.
Yr her fawr arall i ddiogelwch y cyflenwad bwyd sy'n ein hwynebu yng Nghymru, ac yn fyd-eang, nad yw mor amlwg efallai â gwrthdaro neu argyfyngau economaidd ond sy'n sicr yn fwy o ran ei maint, yw'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Ymddengys nad yw'r Ceidwadwyr wedi deall eto nad dadflaenoriaethu camau gweithredu hirdymor ar natur a'r hinsawdd yw'r ffordd i sicrhau diogelwch y cyflenwad bwyd yma yng Nghymru, fel y dangoswyd yn glir gan gyfraniad Janet Finch-Saunders. Mae argymhellion Llywodraeth Cymru ar drefniadau hirdymor ar gyfer amaethyddiaeth yn cael eu trafod fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Yn y gwaith o'u datblygu hyd yma, rydym wedi ceisio adlewyrchu egwyddorion rheoli tir yn gynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Datblygwyd yr egwyddorion hynny wrth gwrs yng nghyd-destun mynd i'r afael â diogelwch y cyflenwad bwyd yn fyd-eang a rhoi diwedd ar newyn byd-eang. Rwy'n gobeithio y gall y Senedd gytuno nad dyma'r amser i roi'r gorau i'r egwyddorion hynny gan y Cenhedloedd Unedig na'n hymrwymiad i gynorthwyo ffermio yng Nghymru i fod yn fwy ystyriol o'r hinsawdd a natur nag unman arall yn y byd. Wrth ymateb i'r ddadl heddiw, byddwn yn croesawu cefnogaeth y Ceidwadwyr yn y Siambr hon i alw am newid y polisïau dinistriol a orfodwyd ar gynhyrchwyr bwyd Cymru gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Mae'r cytundeb masnach â Seland Newydd a negodwyd yn ddiweddar
'yn dangos parodrwydd Llywodraeth y DU i danseilio ffermio a diogelwch cyflenwad bwyd y DU yn gyfnewid am fuddion dibwys i'r economi'.
Nid fy ngeiriau i, ond geiriau llywydd Undeb Amaethwyr Cymru. Nid oes yr un o Aelodau Ceidwadol y Senedd wedi tynnu sylw hyd yma at benderfyniad cywilyddus Canghellor y DU i dorri eu haddewid maniffesto eu hunain ac amddifadu datblygu gwledig yma yng Nghymru o fwy na £200 miliwn o gyllid. Nodais fod rhai Aelodau o blith y Ceidwadwyr Cymreig wedi dechrau ymbellhau oddi wrth eu cymheiriaid yn Llundain, a gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon—
Nid wyf i wedi gwneud hynny.
—y Ceidwadwyr—[Chwerthin.] Dyna ateb ar ei ben. Rwy'n gobeithio wrth ymateb i'r ddadl hon, ac rwy'n cymryd mai arweinydd yr wrthblaid fydd yn gwneud hynny, y bydd y Ceidwadwyr yn manteisio ar y cyfle i ymbellhau oddi wrth bolisïau Llywodraeth Dorïaidd y DU—polisïau camreoli economaidd, toriadau lles a chyni sy'n bygwth diogelwch cyflenwad bwyd pobl Cymru heddiw. Mae eu polisi yn achosi niwed uniongyrchol i'n busnesau bwyd a ffermio.
Yn eu cynnig, mae'r Ceidwadwyr yn galw am chwyldro. Gadewch iddynt ddechrau heddiw gyda newid uniongyrchol a radical i bolisïau eu plaid eu hunain ar ben arall yr M4. Diolch.
Galwaf ar Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser crynhoi'r ddadl hon heddiw a dilyn y Gweinidog. Cynigiais gyfle i'r Gweinidog gyfeirio at wlad nad yw o dan yr un pwysau ar brisiau ag a welwn yn y Deyrnas Unedig, a hoffwn gynnig cyfle hefyd i'r Aelod rhanbarthol dros Ogledd Cymru wneud ymyriad arnaf i roi cyfle i edrych ar wlad nad yw'n profi yr un pwysau ar brisiau â ni, yn hytrach na'r gwelliant a gyflwynwyd gennych sy'n dweud mai'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan sydd ar fai am hyn. Felly, os hoffech wneud ymyriad—[Torri ar draws.]—neu os hoffai'r Dirprwy Weinidog yno wneud ymyriad—[Torri ar draws.] Rhowch wlad i mi. Rhowch wlad i mi.
Beth am Costa Rica? Rwy'n credu ei bod hi'n annhebygol eu bod hwy'n dioddef yr un pwysau gan fod ganddynt ddigonedd o fwyd—[Torri ar draws.]
Mae digonedd o fwyd yn Costa Rica, ond mae'r bobl yn Costa Rica hefyd yn ei chael hi'n anodd oherwydd pwysau costau mewnforio bwyd, a dyna pam ein bod yn dod â dadleuon i lawr y Senedd heddiw, oherwydd bod angen diogelu ein cyflenwad bwyd yn well. Mae'n ffaith mai'r hyn sydd wedi digwydd i'r wlad hon dros y 30 mlynedd diwethaf—ac wrth 'y wlad hon' rwy'n sôn am Gymru a'r Deyrnas Unedig—yw bod diogelwch y cyflenwad bwyd wedi gostwng o tua 75 y cant i 60 y cant. Mae honno'n ffaith, mae'n anwadadwy. Mae gwledydd ledled Ewrop—[Torri ar draws.] Wel, os hoffech wneud ymyriad, Ddirprwy Weinidog—
Nid ydych yn hoffi cael eich heclo, ydych chi?
Na, rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad. [Torri ar draws.] Codwch ar eich traed.
Hoffwn glywed arweinydd yr wrthblaid yn cyfrannu ac yn cloi'r ddadl.
Codwch ar eich traed. Os yw'r Dirprwy Weinidog—
Joyce Watson a gododd—
Parhewch.
Diolch ichi am dderbyn yr ymyriad. Rydym wedi gweld cyllideb y gwanwyn heddiw wrth gwrs, a'r hyn a fyddai wedi helpu pobl yma, cynhyrchwyr yn enwedig, fyddai rhywbeth yn ymwneud â chost tanwydd ac ynni. Pe bai treth ffawdelw wedi'i gosod tuag at helpu hynny, yn hytrach na'r cynnydd o 2c yn y TAW—nid y gostyngiad o 5c, ond y cynnydd o 2c yn y TAW—y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud, byddai wedi helpu'r cynhyrchwyr bwyd hynny'n aruthrol i ddatblygu eu busnes, yn enwedig y rhai bach yr ydym yn eu cynrychioli yma.
Rwy'n sefyll wrth yr hyn a ddarparodd y Canghellor heddiw ar gyfer pobl Cymru a phobl y wlad hon, fel y ceisiodd y Gweinidog ei nodi, sef toriad o 5c i doll tanwydd, nid am fis, nid am ddau fis, nid am dri mis, ond am 12 mis. Am 12 mis. Nid pobl â cheir yn unig yw hynny, fel y ceisiodd y Gweinidog ddangos, mae hynny ar gyfer y bobl sy'n cludo ein bwyd, ein nwyddau, ledled y wlad hon, a fydd yn elwa o doriad yn y pris am y 12 mis nesaf. Hefyd, yr yswiriant gwladol—[Torri ar draws.] Y trothwy yswiriant gwladol sydd wedi'i godi heddiw yn yr un datganiad, y dywedodd Martin Lewis yr arbenigwr arian ei fod y mwyaf hael—[Torri ar draws.] Y setliad mwyaf hael y gellid ei wneud—
Andrew. Andrew. Dwy eiliad. A gaf fi ofyn i aelodau'r Llywodraeth sicrhau y gallwn i gyd glywed y siaradwr os gwelwch yn dda, ac osgoi ei heclo cymaint?
Fel yr arferai rhywun ddweud ar Dad's Army, 'They don't like it up 'em'. [Chwerthin.] Dyna hyd a lled y Llywodraeth hon, oherwydd roedd yr hyn a ddarparwyd heddiw yn natganiad y gwanwyn yn ateb i'r argyfwng costau byw. Nid oedd yr hyn a glywsom gan y Gweinidog yn cynnig dim i fynd i'r afael â phroblemau diogelu'r cyflenwad bwyd yr ydym yn eu hwynebu oherwydd argyfwng Wcráin. Mae honno'n ffaith syml. Mae Wcráin a Rwsia yn rheoli 30 y cant o'r gwenith sy'n cael ei allforio ledled y byd. Bydd yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin yn arwain at ganlyniadau dinistriol i'r byd i gyd. Nodaf sylwadau pennaeth rhaglen fwyd y Cenhedloedd Unedig, David Beasley, a ddywedodd, 'Os credwch ein bod yn mynd drwy uffern ar y ddaear yn awr, dylech weld beth sydd i ddod.' Dyna sy'n mynd i ddigwydd i'r cyflenwad bwyd sy'n dod i'r amlwg yn Wcráin ar hyn o bryd.
Fel y soniodd Sam Kurtz wrth agor y ddadl—. Soniodd am bwysau costau o fewn y diwydiant, soniodd am gyd-ddibyniaeth y diwydiant, o gynhyrchwyr sylfaenol, ffermwyr, i'r proseswyr a'r manwerthwyr. Dyna pam y mae rhan mor bwysig o'r cynnig sydd gerbron y Senedd heddiw yn ymwneud â thynnu ynghyd y gadwyn gyfan honno i drafod yr hyn sydd ei angen gan y Llywodraeth. Mae gennych gyfle unigryw i wneud hynny, Weinidog, gyda'r Bil amaethyddol sy'n dod gerbron y Senedd ym mis Ebrill. Dyna pam fod Deddf Amaethyddiaeth 1947 mor bwysig—y Ddeddf a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur yn 1947—i fynd i'r afael â'r argyfwng a wynebai Ewrop yn sgil dinistr yr ail ryfel byd a'r angen i ddiogelu'r cyflenwad bwyd. Dyna pam y cyflwynwyd y cynnig heddiw i geisio bod yn adeiladol wrth geisio cymell gweledigaeth gan y Llywodraeth ar gyfer lle mae am fod. Ond fel y clywsom gan yr Aelod dros Ganol Caerdydd a ddywedodd fod diffyg cydlyniant yng nghynlluniau'r Llywodraeth—. Gallaf weld y Gweinidog yn sibrwd wrth ei chyd-Weinidog, y Gweinidog addysg. Efallai yr hoffech nodi'r hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ganol Caerdydd am y diffyg cydlyniant yn y cynlluniau a roddwyd ar waith gennych chi fel y Gweinidog materion gwledig dros y pum mlynedd diwethaf. Nid fi sy'n siarad; daw hynny oddi ar eich meinciau eich hun.
Rwyf am weld y Senedd yn cydweithio fel y gallwn ymdrin â phroblemau diogelu'r cyflenwad bwyd y mae Peter Fox wedi ceisio ymdrin â hwy gyda'i Fil, y Bil bwyd y mae wedi'i gyflwyno sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd ac mae'n cyffwrdd â'r pwyntiau y soniodd John Griffiths amdanynt hefyd am wastraff bwyd, oherwydd mae honno'n elfen hollbwysig arall y mae angen inni ymdrin â hi—yn hytrach na chynhyrchu'r bwyd yn unig, gweld cymaint o fwyd a wastraffir gan siopau mawr yn ogystal â bwytai. Ond ynglŷn â'r gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, a oedd yn sôn am y cytundebau masnach a drafodwyd ar ôl Brexit—. Nid wyf yn ymddiheuro am y cytundebau masnach hynny o gwbl. Mae'n gyfle inni ryddhau'r potensial ac agor marchnadoedd, marchnad gwledydd y Môr Tawel gydag 1.2 biliwn o ddefnyddwyr—1.2 biliwn o ddefnyddwyr. Rwy'n barod i sefyll ar unrhyw lwyfan a dadlau bod angen inni fod yn rhan o'r gwaith o gefnogi ffermwyr Cymru a gweddill y DU i ryddhau'r potensial hwnnw. O'r fan honno y daw'r twf. Ond yr hyn y mae angen inni ymdrin ag ef ar unwaith yw sicrhau bod gennym allu yma yng Nghymru i dyfu'r bwyd, i brosesu'r bwyd hwnnw, a'i werthu.
Mae'r pwynt a wnaed am gynhyrchiant llaeth wedi'i wneud yn dda dro ar ôl tro: yn anffodus, nid oes gennym gyfleuster prosesu llaeth mawr yma yng Nghymru; rhaid inni anfon y capasiti prosesu hwnnw dros Glawdd Offa a dod ag ef yn ôl. Felly, gall Aelodau ar draws y Siambr siarad am gynhyrchiant lleol, ond oni bai bod gennym gyfleusterau prosesu i'w wneud, nid ydym yn ychwanegu gwerth yma yng Nghymru, ac mae hynny'n bwysig iawn—rhywbeth y gallai'r Llywodraeth eto fod yn canolbwyntio ei hegni arno, a rhywbeth y mae Llywodraeth Iwerddon wedi bod mor llwyddiannus yn ei wneud. Rwyf wedi codi'r pwynt hwn dro ar ôl tro gyda'r Gweinidog a mainc flaen Llafur am y ddogfen 'Cynhaeaf 2020' a gyflwynwyd gan Lywodraeth Iwerddon, ac y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ati. Roedd hi'n sôn am y gwledydd eraill—y Ffindir, er enghraifft, gyda chyfraddau diogelwch cyflenwad bwyd eithriadol, a Gweriniaeth Iwerddon yn dod yn ail yn y tabl oherwydd bod ganddynt broseswyr, mae ganddynt gynhyrchwyr, ac mae ganddynt fanwerthwyr o amgylch y bwrdd ac maent wedi cynllunio ffordd ymlaen i gyflawni hynny. Nid ydym wedi llwyddo i wneud hynny yma yng Nghymru, ac mae angen inni wneud yn well.
Roedd cyfraniad John Griffiths wedi'i amseru mor dda, wrth iddo dynnu sylw at lwyddiannau cynnyrch lleol sy'n mynd o'r fferm mewn ardal leol yng Nghasnewydd i'r gofod manwerthu o beiriannau gwerthu ac ailddatblygiad marchnad Casnewydd. Mae hwnnw'n ddatblygiad pwysig y mae angen i fwy o gynhyrchwyr allu gwneud defnydd ohono a mwynhau'r budd y gallwn ei weld. Ond Weinidog, mae'n hanfodol eich bod yn defnyddio'r cyfle sydd gennych i ddefnyddio'r Bil amaethyddol i roi'r cymhellion hynny ar waith. Dywedodd sawl Aelod, gan gynnwys yr Aelod rhanbarthol dros Ogledd Cymru ar eich meinciau eich hun, fod cynhyrchu bwyd yn nwydd cyhoeddus. Mae'n nwydd cyhoeddus—[Torri ar draws.] Wel, tynnodd eich Aelod eich hun ar y meinciau cefn sylw at hynny. A chyda'r parch mwyaf, bydd yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin heddiw yn cael ei fesur am ddegawdau i ddod, a'r perygl yw nad ydym yn defnyddio'r cyfle hwn i sicrhau ein bod yn gwneud diogelu'r cyflenwad bwyd yn rhan bwysig o'r hyn yr ydym am ei gefnogi wrth symud ymlaen. A gallwch fod yn sicr ei fod yn nwydd cyhoeddus. Rheoliadau Ewropeaidd oedd yn atal hynny rhag bod yn nwydd cyhoeddus. Mae gennych y gallu deddfwriaethol i lunio eich trywydd eich hun yma, Weinidog, a rhoi eich stamp ar hyn. A byddwn yn gobeithio heddiw y gallem alw ar y Siambr i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron, oherwydd mae'n hanfodol bwysig ein bod yn tynnu sylw'r cyhoedd at yr hyn sydd ar y ffordd. Ac os gallwn wneud hynny drwy fwrw ymlaen â Bil bwyd y mae Peter Fox wedi'i gyflwyno i ni, a hefyd y Bil amaethyddol y mae eich Llywodraeth yn ei gyflwyno yn y gwanwyn, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ym mhob rhan o Gymru.
Ac rwyf am orffen gyda'r sylw hwnnw eto gan David Beasley, pennaeth y rhaglen fwyd, a ddywedodd os credwch ein bod yn mynd drwy uffern ar y ddaear ar hyn o bryd, dylech weld beth sydd i ddod, oherwydd dyna sy'n mynd i ddigwydd po hiraf y bydd rhyfel Wcráin yn parhau, a byddai'n anghywir inni beidio â rhoi'r rhagofalon yn eu lle i sicrhau y gall pobl gael bwyd ar y bwrdd am bris fforddiadwy. Gallwn ei wneud, rhaid inni ei wneud, ac ni allwn golli'r cyfle hwn i fwrw ymlaen â hyn. Felly, gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi'r cynnig sydd ger eu bron heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Clywais wrthwynebiad, felly gohirir y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac yr ydym yn awr wedi cyrraedd yr amser hwnnw. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:01.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:06, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y gadair.
Rydym bellach wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, a byddwn yn awr yn pleidleisio ar gynnig y Ceidwadwyr ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diogelwch Bwyd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Byddwn yn awr yn pleidleisio ar y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1 ac mae gwelliant 2 wedi'i ddad-ddethol.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1 cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 25, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Felly, pleidleisiwn yn awr ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7963 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn ei wneud i iechyd a ffyniant y genedl.
2. Yn nodi'r effaith negyddol ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang sy'n deillio o ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a'r effaith uniongyrchol y mae'n ei chael ar bobl yng Nghymru.
3. Yn gresynu mai'r bygythiad mwyaf uniongyrchol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd i bobl sy'n byw yng Nghymru heddiw yw'r argyfwng costau byw a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru er mwyn annog y gwaith o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru, gan gefnogi ein cymunedau i sicrhau newid cadarnhaol yn ein system fwyd;
b) creu system newydd o gymorth i ffermydd sy'n cydnabod y gwaith o gynhyrchu bwyd lleol sy'n gynaliadwy yn ecolegol, gan adlewyrchu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig o Reoli Tir yn Gynaliadwy.
Agor y bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diogelwch Bwyd. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd y pleidleisio am heddiw.
Symudaf yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Heledd Fychan i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddi.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Edrychaf ymlaen heddiw, gobeithio, at argyhoeddi'r Senedd o fanteision sefydlu fforwm llifogydd i Gymru. Mae John Griffiths, Delyth Jewell a Llyr Gruffydd wedi gofyn am funud o amser yr un fel rhan o'r ddadl, a byddaf yn sicrhau bod amser iddynt gyfrannu ar ddiwedd fy araith heddiw.
Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi dioddef llifogydd neu sydd wedi ymweld ag unrhyw eiddo neu gymuned sydd wedi dioddef llifogydd, mae'n brofiad ysgytwol. Heb weld yr effaith gyda'ch llygaid eich hun, mae'n amhosib dirnad maint y dinistr a sut mae'r dŵr budr yn treiddio mewn i bopeth. Hyd yn oed gydag yswiriant, gall gymryd misoedd ac weithiau blynyddoedd i gael trefn unwaith eto ar eiddo, ond, wrth gwrs, erys bod rhai pethau o bwys wedi eu colli am byth, megis lluniau neu bapurau personol. Wnaf i fyth anghofio, yn dilyn llifogydd dinistriol 2020, ymweld â thŷ lle'r oedd dau berson oedrannus yn eu dagrau gan fod yr holl luniau o'u merch, a fu farw yn ei thridegau, wedi eu dinistrio yn y llifogydd. Roeddynt dramor pan darodd y llifogydd heb unrhyw fodd symud unrhyw beth i fan diogel. Does dim geiriau o gysur yn bosib mewn sefyllfa o'r fath.
Mae'r effaith seicolegol hefyd yn rhywbeth sydd yn para am flynyddoedd wedi llifogydd. Rwyf yn cyfarfod yn gyson â phobl yn fy rhanbarth sydd wedi dioddef llifogydd yn eu cartrefi a'u busnesau, ac mae'n amlwg hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach eu bod yn dioddef trawma parhaus. Bob tro mae'n bwrw glaw yn drwm, dydyn nhw ddim yn cysgu. Maen nhw'n gwylio'r glaw, gwylio'r afon, gwylio draeniau a chwlferi, yn ofni bod y gwaethaf am ddigwydd unwaith eto. Dywed nifer hefyd fod eu plant yn dioddef hunllefau cyson. Ar ben hyn i gyd, mae nifer yn cael trafferth cael yswiriant, gan olygu eu bod hefyd yn dioddef poen meddwl o ran yr effaith ariannol pe byddai'r gwaethaf yn digwydd eto. Rhaid cofio hefyd am y rhai sy'n methu â fforddio yswiriant—rhywbeth sydd yn siŵr o fynd yn waeth yn sgil yr argyfwng costau byw.
Rwyf wedi casglu tystiolaethau dirifedi gan y rhai y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, a chan fod gennym amser heddiw, hoffwn ddarllen tri dyfyniad yn llawn, gan gynnwys y cyntaf, sy'n dod gan un o drigolion Rhondda Cynon Taf chwe mis ar ôl llifogydd 2020, sy'n dangos yr effaith emosiynol a seicolegol:
'Rwy'n teimlo'n onest fod y profiad hwn wedi fy ngwthio at yr erchwyn. Mae wedi bod yn un o'r pethau gwaethaf imi eu profi erioed ac mae'n dal i effeithio arnaf bob dydd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Hyd yn oed wrth lenwi'r arolwg hwn a chofio'r cyfan, rwyf wedi crio. Cefais 6 wythnos i ffwrdd o'r gwaith oherwydd straen, ni allaf gysgu nac ymlacio pan fydd hi'n bwrw glaw yn drwm. Nid wyf yn gwybod a fyddaf byth yr un fath eto, rwyf wedi siarad â llawer o gymdogion ac maent i gyd yn cytuno ei fod fel pe baem yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma. Mae straen meddyliol ac emosiynol yr holl sefyllfa wedi fy synnu'n fawr, rwyf bob amser wedi ystyried fy hun yn berson cryf iawn ond fe ddaeth hyn yn agos at fy nhorri. Deffro am 5 y bore i glywed sŵn dŵr yn rhedeg a mynd i lawr y grisiau i weld dŵr budr yn llifo i mewn i'ch tŷ ac edrych drwy'r ffenest a gweld afon yn rhuo heibio i'ch tŷ gan gario ceir gyda hi, heb unrhyw rybudd o fath yn y byd, mae'n gwneud i mi deimlo'n sâl yn meddwl am y peth hyd yn oed yn awr. Sut y mae disgwyl i ni ymlacio yn ein tai eto pan fo'r tywydd yn wael? Ni allwn ymddiried yn Cyfoeth Naturiol Cymru na Rhondda Cynon Taf o ran hynny. Mae teimlo'n ddiogel yn fy nghartref yn rhywbeth sydd wedi'i ddwyn oddi arnaf fi a fy nheulu. Cawsom ein symud i fflat heb ddodrefn mewn ardal ddieithr ac yna cafodd y cyfyngiadau symud eu cyflwyno hefyd, yr unig bethau sydd gennym yw gwely a theledu am ein bod wedi colli popeth arall, a chyda'r cyfyngiadau symud roedd ceisio cael gafael ar ddodrefn yn amhosibl. Yna, ar ben yr holl straen hwnnw, mae gennym y straen o geisio ailadeiladu ein tai a'n bywydau, ymdrin â chwmnïau yswiriant sydd, yn y bôn, yn angenfilod dienaid mewn rhai achosion, dod o hyd i 2 gar newydd. Pe bai'n rhaid i mi brofi hyn eto... wel, nid wyf yn credu y byddwn yn gallu. Byddwn mewn ysbyty seiciatrig. Mae angen iddynt ein diogelu cyn iddynt gymryd mwy ohonom a mwy oddi wrthym nag y maent wedi'i wneud eisoes, ni allwn oroesi digwyddiad arall fel hwn.'
Mae'r ddau ddyfyniad arall yn fyrrach, ond maent yn dal i grynhoi'r un ymdeimlad o drawma. Ysgrifennodd preswylydd:
'Fe gollon ni ein hanifail anwes. Roedd ein ci i lawr y grisiau. Mae ein plant wedi'u trawmateiddio wrth wybod iddi ddioddef a boddi.'
Ac yn olaf:
'Mae ein merch hynaf (20) wedi cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma o ganlyniad i'r llifogydd. Mae hi ar feddyginiaeth, yn derbyn gwasanaeth cwnsela ac er iddi geisio, nid yw wedi gallu dychwelyd i'r gwaith ac o ganlyniad mae wedi gorfod gadael ei swydd gyda BT. Ei llesiant yw ein ffocws... Mae rhywun yn gyfrifol, rydym yn poeni'n ofnadwy y gallai hyn ddigwydd eto... Mae lefelau gorbryder yn uchel bob tro y mae'n bwrw glaw.'
Fe wnaeth tystiolaeth o'r fath fy argyhoeddi o'r angen am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd, ac rwy'n falch, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, y bydd adolygiad annibynnol yn ogystal â buddsoddiad pellach mewn mesurau amddiffyn rhag llifogydd. Ond rwy'n gadael sylwadau a thrafodaethau ar y rheini at ddiwrnod arall. Yn hytrach, hoffwn ganolbwyntio heddiw ar sut rydym yn darparu cymorth i gymunedau sy'n wynebu perygl llifogydd yn y dyfodol cyn, yn ystod ac ar ôl y llifogydd a dadlau'r achos dros sefydlu fforwm llifogydd i Gymru i gyflawni'r rôl hon.
Pam mae angen fforwm o'r fath? Yn Lloegr a'r Alban mae fforymau llifogydd sefydledig sy'n cefnogi ac yn cynnig cymorth ymarferol i'r rhai sydd ei angen. Tra bod peth cefnogaeth ar gael yng Nghymru—peth drwy rai cynghorau sir neu drwy Cyfoeth Naturiol Cymru, neu drwy'r National Flood Forum os yw'n cael ei ariannu i weithio mewn ardal—teg dweud mai eithaf ad hoc ac anghyson yw hyn ar y funud. Ac nid beirniadaeth mo hyn ar gynghorau lleol na chwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent wedi eu llethu gan y dyletswyddau statudol sydd ganddynt o ran llifogydd. A hyd yn oed pe bai ganddynt y capasiti i wneud mwy i gefnogi cymunedau, rhaid gofyn os mai hwy ddylai fod yn darparu hyn, gan fod cymunedau yn aml yn gweld bai arnynt os yw llifogydd yn digwydd. Yn wir, hyd yn oed pan fydd cynghorau neu Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ceisio cyflawni rôl gyffelyb i'r National Flood Forum yng Nghymru, mae cymunedau yn aml wedi bod yn amheus ohonynt gan nad ydynt yn eu hystyried yn ddiduedd. Gadewch i ni edrych, felly, ar beth mae fforwm llifogydd yr Alban a National Flood Forum Lloegr yn ei wneud, a pham wyf fi'n credu bod gwerth efelychu hyn yng Nghymru.
Mae Fforwm Llifogydd yr Alban yn elusen a sefydlwyd yn 2009, ac fe'i hariennir yn bennaf gan Lywodraeth yr Alban, gan dderbyn £200,000 y flwyddyn, gyda rhoddion ychwanegol a grantiau bach eraill. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth yr Alban cyn mynd ymlaen i fod yn elusen—model y gallem ei efelychu yng Nghymru. Mae'n gweithio ochr yn ochr â chymunedau sy'n wynebu perygl llifogydd i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u deall fel rhan o'r cynlluniau lliniaru llifogydd ac ymatebion adfer wedi llifogydd—cam hanfodol i sicrhau nad yw llifogydd mor drawmatig a difrifol i lawer ag y mae ar hyn o bryd. Rhoddir cymorth a chyngor i gymunedau lleol lle bo angen i helpu i reoli'r perygl o lifogydd, ac mae'r fforwm hefyd yn eirioli ar eu rhan. Maent yn darparu cyngor a gwasanaethau annibynnol, ac maent yn gallu darparu cymorth mwy datganoledig a lleol i'r rhai sydd ei angen. Maent hefyd yn rhoi canllawiau llifogydd i gymunedau lleol ac yn rhoi cyngor ar yswiriant ac adfer wedi llifogydd. Mae hyn yn rhywbeth sydd ar goll yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid oes gennym unrhyw ganllawiau swyddogol ar gyfer rhai sy'n wynebu perygl llifogydd ac sy'n dymuno diogelu eu heiddo. Mae ganddynt hefyd system rybuddio fyw ar waith drwy Twitter, ac er bod hon yn debyg i system rybuddio Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n ymddangos ei bod yn fwy effeithiol. Maent hyd yn oed yn gweithio gyda chymunedau i osod systemau rhybudd rhag llifogydd hyperleol, gan rymuso cymunedau i gymryd rhan uniongyrchol mewn cynlluniau o'r fath.
Deilliodd Fforwm Llifogydd yr Alban o'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, a sefydlwyd fel elusen yn 2002. Er mai Llywodraeth y DU oedd yn ei ariannu'n wreiddiol, caiff ei ariannu erbyn hyn drwy godi arian a rhoddion gan y cyhoedd. Er eu bod yn gweithredu yng Nghymru a Lloegr, mewn gwirionedd mae eu hymwneud â Chymru yn gyfyngedig iawn ar hyn o bryd ac mae'n dibynnu ar bocedi o gyllid iddynt allu gwneud rhywfaint o waith penodol. O ganlyniad, maent yn gweithio yn Lloegr yn bennaf, ac mae eu hadnoddau ar gael yn Saesneg yn unig. Os edrychwch ar eu cyfryngau cymdeithasol, fe welwch sut y maent yn ymweld â chymunedau sydd wedi dioddef llifogydd gyda'u cerbyd adfer i gynnig cymorth a chyngor yn uniongyrchol i drigolion a busnesau yn dilyn llifogydd. Eu prif ffocws yw cynorthwyo unigolion yr effeithiwyd arnynt, ac maent hefyd yn helpu i lywio deddfwriaeth sy'n ymwneud â llifogydd. Maent yn darparu gwybodaeth glir a gwasanaethau i ddioddefwyr llifogydd ac maent wedi lansio gwefan, ynghyd â chyfrif Twitter, yn ogystal â llinell rybuddion llifogydd 24 awr, saith diwrnod yr wythnos i bobl allu cysylltu mewn argyfwng, yn ogystal â darparu cyngor annibynnol ynghylch amddiffyn rhag llifogydd ac yswiriant. Maent yn gweithio law yn llaw â Flood Re i roi cyngor ar yswiriant i'r rhai sy'n byw mewn ardal lle y ceir perygl llifogydd.
Lle y cawsant eu hariannu i weithio yng Nghymru, mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt. Ac er y gallem ariannu'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i ehangu ei waith yma yng Nghymru, os edrychwch ar y manteision a gafwyd yn yr Alban o gael fforwm llifogydd ar gyfer yr Alban, credaf eu bod yn cefnogi'r angen i gael un yng Nghymru. Yn wir, os edrychwch ar y model, mae Fforwm Llifogydd yr Alban a'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn gweithio'n agos gyda'i gilydd, ac mae gan y ddau fforwm gynrychiolydd ar fyrddau ei gilydd. Rwyf wedi siarad â phobl sy'n gysylltiedig â'r ddau ac maent yn cytuno y byddai Cymru'n elwa'n fawr o gael fforwm llifogydd penodol a allai hefyd weithio ar y cyd â hwy. Nawr, gwn fod arian yn gyfyngedig, ond mae profiadau cymunedau sydd mewn perygl yng Nghymru a'r Alban yn dangos gwerth arfogi cymunedau i ymdopi ag effeithiau a bygythiadau llifogydd, ac mae'n rhywbeth y gallwn ac y dylem ei wella yma yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, nid yw pobl yn ein cymunedau sydd mewn perygl yn siŵr pwy y gallant gysylltu â hwy am gyngor a chymorth mewn perthynas â lleihau perygl llifogydd i'w cartref neu eu busnes. Ac fel y soniais, mae llawer yn dweud yn agored nad oes ganddynt hyder y gall awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni rôl o'r fath, yn enwedig pan fydd y sefydliadau hynny'n cael eu llethu gan y galw am gymorth pan fo llifogydd yn taro, yn enwedig gydag adfer wedyn. Byddai fforwm llifogydd cenedlaethol yma yng Nghymru yn golygu y byddai gennym well dealltwriaeth ynghylch pam fod llifogydd yn dechrau a beth y gellir ei wneud i gefnogi a helpu cymunedau lleol. Mae lleisiau a phrofiadau'r rhai sy'n byw mewn cymunedau sydd mewn perygl yn ffactor pwysig i allu deall pam fod llifogydd mor ddifrifol mewn rhai ardaloedd, ac eto mae hyn yn rhywbeth y mae llywodraeth leol yn aml yn ei anwybyddu. Hefyd, mae angen ystyried y gefnogaeth leol. Mae llawer o unigolion sy'n dioddef llifogydd mewn cymuned yn rhoi ac yn derbyn cymorth emosiynol. Fel y dywedais, mae llifogydd yn ddigwyddiad trawmatig dros ben, a bydd llawer yn ei chael yn anodd ymdopi â'r canlyniadau. Drwy gael y cymorth yno i'w helpu, fe allant wella.
Mawr obeithiaf, felly, fy mod wedi argyhoeddi'r Dirprwy Weinidog heddiw o werth edrych yn bellach i mewn i'r mater hwn a'r manteision a fyddai'n dod i'n cymunedau ni yn sgil sefydlu fforwm llifogydd i Gymru.
A gaf fi atgoffa'r Aelodau mai munud yr un sydd ganddynt? John Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r ddadl hon i'r Senedd heddiw, a chytunaf yn llwyr fod angen inni ddod o hyd i ffyrdd o rymuso ein cymunedau lleol yn well o ran atal llifogydd, oherwydd hwy sy'n adnabod eu cymunedau lleol orau. Ym mis Rhagfyr 2020, profodd gwastadeddau Gwent lifogydd ym Magwyr a rhannau eraill, ac roedd pryder mawr nad oedd y ffosydd sy'n draenio'r ardal honno'n cael eu rheoli a'u cynnal yn briodol, a gwelwyd nad oedd asiantaethau fel CNC yn cyflawni fel y dylent. Mae'n ymddangos i mi mai'r unig ffordd y gallwn sicrhau cynnydd a gwell cefnogaeth gan ein cymunedau lleol, cefnogaeth y mae ei hangen yn ddirfawr mewn perthynas â pherygl llifogydd, yw drwy eu grymuso a'u rhoi wrth y llyw, a grymuso cynghorau cymuned, megis Magwyr gyda Chyngor Cymuned Gwndy, oherwydd y bobl hyn sy'n adnabod yr ardal orau—maent wedi byw yno ers blynyddoedd maith yn aml iawn—a pha fecanwaith bynnag a ddefnyddir, mae angen iddynt fod wrth y llyw i raddau mwy nag y maent ar hyn o bryd.
Diolch, Heledd, am gynnal y ddadl hon, sydd mor bwysig.
Roeddwn eisiau ychwanegu at y pwyntiau am y creithiau ffisiolegol a achosir gan lifogydd. Ym mis Chwefror 2020, ymwelais â strydoedd yn Ystrad Mynach a oedd wedi cael eu taro gan lifogydd. Roedd cartrefi cyfan yn llawn dŵr a cheir wedi'u difetha. Ond y peth a arhosodd gyda mi yw'r effaith ar blant preswylwyr. Dywedodd nifer ohonynt wrthyf fod eu plant wedi'u trawmateiddio, eu bod wedi colli eu teganau, ac roeddent yn gofyn a allai eu hanifeiliaid anwes gysgu i fyny'r grisiau am eu bod yn poeni y byddai'r un peth yn digwydd eto ac y byddai eu hanifeiliaid anwes yn boddi, ac roeddent yn ofnus bob tro y byddai'n bwrw glaw. Ar y pryd, galwais am gymorth cwnsela i fod ar gael i blant yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd. Rwy'n gobeithio y bydd unrhyw fforwm yn y dyfodol yn mynd i'r afael â hyn. Mae angen inni sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed ac y ceir penderfyniad i gefnogi iechyd meddwl preswylwyr yn ogystal â mentrau i adfer a diogelu adeiladau.
A jest diolch yn fawr iawn i Heledd eto am y ddadl yma. Fe wnes i ffeindio rhai o'r pwyntiau roedd hi wedi'u gwneud a'r pethau roedd hi'n dyfynnu yn dorcalonnus ond mor, mor bwysig inni fod yn dysgu amdanyn nhw.
Mi wnaeth adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r llifogydd yn Chwefror 2020, wrth gwrs, amlygu bod angen rhyw 60 neu 70 o staff uwchben y waelodlin staffio a oedd ganddyn nhw ar yr adeg hynny er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy, hirdymor i'r gwasanaeth rheoli llifogydd. Nawr, mi wnaeth y Llywodraeth, er tegwch, ddarparu'r ariannu hynny ar drefniant dros dro. Mi godais i gyda'r Prif Weinidog rai misoedd yn ôl y byddai'n ffôl iawn peidio parhau â'r ariannu hynny gan fod y swyddi wedi'u creu, ac mi wnaeth e gytuno y byddai'n gwneud synnwyr i barhau â'r rheini. Nawr, dwi'n ymwybodol bod yr adolygiad yn digwydd rhwng y Llywodraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu hariannu nhw ar hyn o bryd, ond dwi jest eisiau tynnu sylw at adroddiad sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith heddiw, fel mae'n digwydd, yn dilyn ein craffu blynyddol ni ar Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd yn amlygu barn y pwyllgor y dylai ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn gymesur â'i rolau a'i gyfrifoldebau, ac, wrth gwrs, diolch i Heledd, mae llifogydd yn un enghraifft amlwg o hynny, a rŷn ni'n gobeithio'n fawr iawn y bydd y Llywodraeth yn diwallu'r angen hwnnw ar ddiwedd yr adolygiad ariannu y maen nhw wrthi'n ei gynnal ar hyn o bryd.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl—Lee Waters.
Wel, diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl.
Hoffwn nodi sut y mae'r Llywodraeth yn cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ac a ydym yn teimlo ei bod yn bryd sefydlu fforwm llifogydd i Gymru.
Drwy'r strategaeth llifogydd a gyhoeddwyd yn 2020, mae gennym strategaeth gynhwysfawr sy'n nodi ein mesurau hirdymor ar gyfer lleihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru. Roedd y strategaeth ei hun yn pwyso ar wersi a ddysgwyd o stormydd mis Chwefror 2020 a effeithiodd yn drasig ar lawer o'n cymunedau. Ac yn awr, drwy'r rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio, rydym wedi nodi amcanion clir a phecyn buddsoddi ategol sylweddol i leihau perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cydweithio'n agos i ddatblygu cwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 awdurdodau lleol ac adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru o'i ymateb i lifogydd mis Chwefror 2020. Rydym yn bwriadu gwneud cyhoeddiad ar yr adolygiad gydag Aelod dynodedig maes o law, ac mae'n debygol y bydd yr adolygiad hwn yn ystyried mater fforwm llifogydd i Gymru. Felly, credaf y byddai'n well peidio â rhwystro'r broses hon a chaniatáu i'r adolygiad ddatblygu argymhellion inni eu hystyried a'u gweithredu. Ar wahân i'r adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19, y mae'r Aelod dynodedig a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei arwain, mae pwyllgor annibynnol Cymru ar lifogydd ac erydu arfordirol, dan gadeiryddiaeth Martin Buckle, yn cynnal adolygiadau fel rhan o'i raglen waith, gan gynnwys egluro rolau a chyfrifoldebau sy'n ymwneud â gweithgarwch rheoli perygl llifogydd.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymchwil yn 2013 o'r enw 'Gwasanaeth Eiriolaeth a Chymorth Llifogydd i Gymunedau yng Nghymru'—nid yw'n deitl bachog iawn, ond mae'n gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud ar y tun. Cynlluniwyd hwn i ddarparu argymhellion ymarferol ar gyfer datblygu darpariaeth cymorth llifogydd yng Nghymru ac arweiniodd at ein cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli'r gwaith o godi ymwybyddiaeth a meithrin cydnerthedd o fewn cymunedau. Ac nid wyf yn teimlo bod y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol a Fforwm Llifogydd yr Alban yn wahanol iawn i'r hyn yr ydym eisoes yn ei gyflawni yma yng Nghymru drwy weithredu ein strategaeth llifogydd. Mae'r broses o weithredu ein polisi yn cael ei hadolygu'n gyson ac rydym ni a'n partneriaid cyflawni yn ceisio mynd i'r afael â bylchau lle mae'r rhain yn bodoli a dysgu o arferion da. Ac rydym yn parhau i ddysgu o'r digwyddiadau a'n systemau sy'n gwella. Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi bod yn falch o weld pa mor dda y mae ein hawdurdodau rheoli risg wedi gweithio gyda'i gilydd, nid yn unig wrth gynnal eu hymchwiliadau ond hefyd wrth gyflawni gwelliannau i'r cymunedau hynny yr effeithir arnynt, ac rwy'n disgwyl gweld y math hwn o gydweithio'n parhau wrth i ni gynyddu ein hymgysylltiad a'n darpariaeth ar gyfer lleihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru.
Nid yw buddsoddi yn y maes hwn erioed wedi bod mor bwysig, a dyna pam y cyhoeddasom becyn ariannu ar gyfer rhaglen llifogydd 2022-23 yr wythnos diwethaf, a dyma ein rhaglen lifogydd fwyaf erioed, gyda chyfanswm o dros £71 miliwn y flwyddyn nesaf, gyda dyraniad tair blynedd o dros £214 miliwn, a fydd yn helpu i ddarparu llif cryfach o gynlluniau llifogydd yn y dyfodol a galluogi blaengynllunio gwell. Bydd y pecynnau hyn hefyd yn ein helpu i gyflawni'r ymrwymiad i fynd i'r afael â llifogydd fel y nodir yn y cytundeb cydweithio rhyngom ni a Phlaid Cymru.
Ac rwy'n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd, am gyfraniad enfawr staff awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, cwmnïau dŵr, gwasanaethau brys a wardeiniaid llifogydd cymunedol, sy'n chwarae eu rhan i ddiogelu ein cymunedau drwy ymateb a thrwy gyflwyno mesurau i leihau perygl llifogydd. Wrth i'r hinsawdd newid, rhaid i bob un ohonom ddysgu addasu. Rydym yn edrych tua'r dyfodol, gan annog ffyrdd newydd o weithio, a sicrhau ar yr un pryd fod ein seilwaith hanfodol yn cadw ein cymunedau'n ddiogel. Diolch.
Diolch, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben, a byddaf yn eich gweld yr wythnos nesaf.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:29.