Y Cyfarfod Llawn
Plenary
08/03/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn yma heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda.
Ac wrth inni gychwyn ar ein gwaith yr wythnos yma, eto dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn cadw mewn cof pobl Wcráin ar y foment yma, a heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ein bod ni'n cofio yn benodol y menywod a'r merched hynny sydd ar hyn o bryd yn Wcráin yn ceisio ffoi eu gwlad, neu'n ceisio osgoi a chuddio oddi wrth y bomio ar eu gwlad. Felly, cadwn ni nhw i gyd yn ein cof a'n calonnau.
Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd digidol yng ngogledd Cymru? OQ57754
Diolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn yna, Llywydd. Darparwyd cysylltedd band eang ffeibr llawn i 9,200 o gartrefi a busnesau ledled y gogledd drwy ein buddsoddiad presennol o £56 miliwn. Mae cynlluniau Allwedd Band Eang Cymru a'r gronfa band eang lleol hefyd ar gael i wella cysylltedd band eang.
Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Ni fu cysylltedd digidol erioed yn bwysicach, ac mae angen gweithredu ar frys i sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl. Er mwyn i seilwaith band eang fod yn gost-effeithiol, bydd angen ei gynllunio yn gynhwysfawr gyda manteision hirdymor mewn golwg sy'n gwasanaethu pawb. Mae cymunedau ar draws y gogledd, gan gynnwys Cymru wledig, yn cael gwasanaeth annigonol gan ddarparwyr corfforaethol gan eu bod nhw'n cynnig llai o elw. Byddai gosod rhwydwaith o'r fath yn helpu i liniaru allgáu digidol, yn creu swyddi medrus ac yn denu diwydiannau uwch-dechnoleg. Yn Lerpwl, hyrwyddwyd prosiect menter ar y cyd gan faer metro dinas Lerpwl, Steve Rotheram, ac mae'r bartneriaeth hon yn golygu bod buddsoddiad cyhoeddus yn rhoi cyfran i'r awdurdod yn y sefydliad, ac, yn sgil hynny, yn hytrach na chael elw fel yr unig ystyriaeth, gall budd cymdeithasol, a'r cyhoedd barhau i elwa am flynyddoedd i ddod. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai prosiect menter ar y cyd o'r fath o fudd i'r cyhoedd yng Nghymru, ac a fyddai swyddogion yn fodlon ymchwilio i ddewis o'r fath i fwrw ymlaen yn ddynamig â chysylltedd digidol yn y gogledd, sy'n digwydd ar sail dameidiog ac araf iawn ar hyn o bryd? Diolch.
Llywydd, diolch i Carolyn Thomas am hynna. Rwy'n falch o allu dweud wrthi fod swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfarfod â'r cwmni sy'n gweithio gyda'n cydweithiwr Steve Rotheram, yn ninas-ranbarth Lerpwl ac yn datblygu'r ateb arloesol iawn hwnnw ar gyfer y ddinas honno. Byddwn yn parhau i weithio drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sydd wedi gwneud cysylltedd digidol yn un o'u meysydd blaenoriaeth. Mae £25 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer cysylltedd digidol, ac fel y gwn y bydd yr Aelod yn gwybod, ceir pedair elfen wahanol i'r cynllun y mae bargen twf y gogledd wedi ei ddatblygu: campysau cysylltiedig i wneud yn siŵr bod gan bobl ifanc fynediad at fand eang; coridorau cysylltiedig i wneud yn siŵr bod busnesau yn gysylltiedig; safleoedd allweddol, cyhoeddus a phreifat; ac yna cyrraedd yr ychydig y cant olaf o bobl sydd ar y pen caletaf, mwyaf pell o gysylltedd digidol. Gellid gwasanaethu tri o'r pedwar diben hynny drwy drefniant o'r math a ddatblygwyd yn ninas-ranbarth Lerpwl, a byddwn yn parhau i weithio yn agos gyda'r bwrdd uchelgais economaidd i weld a ellid trosglwyddo'r syniad a ddatblygwyd yn Lerpwl ac agweddau ar hwnnw, yn llwyddiannus yn rhan o'r ymdrech sy'n cael ei gwneud yn y gogledd.
Prif Weinidog, er bod BT wedi cael tua £220 miliwn i ddod â band eang cyflym iawn i tua 96 y cant o adeiladau rhwng 2014 a 2018, a bod y sefydliad yn rhedeg cynllun olynol ar hyn o bryd i gysylltu 39,000 o adeiladau, mae'n dal i fod yn ffaith bod safleoedd ledled Cymru sydd â rhyngrwyd annibynadwy. Ac yn fy etholaeth i, Aberconwy, mae gen i bobl nad ydyn nhw'n gallu dderbyn unrhyw wasanaeth. Felly, yn ôl Busnes Cymru, gall band eang cyflym iawn gael effaith gadarnhaol ar elw, costau cynhyrchiant staff, a llawer mwy. Nawr, o gofio'r budd na ellir ei wadu, un cam yr wyf i'n teimlo y gallech chi fel ein Prif Weinidog ei gymryd ar unwaith i ddarparu canolfan rhyngrwyd cyflym iawn i fusnesau yn Aberconwy yw addasu o leiaf ran o'r adeilad nad yw'n cael ei ddefnyddio yng Nghyffordd Llandudno—adeilad Llywodraeth Cymru—i ddod yn ganolfan gweithio digidol hyblyg. Nawr, fe wnaethoch chi ymateb yn gadarnhaol iawn i'r syniad hwn ar 9 Tachwedd, felly byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny yn wych, oherwydd, dywedaf wrthych chi nawr, rwyf i wedi cael ymholiadau gan fusnesau a hoffai fynd i mewn i'r adeilad hwnnw. Ysgrifennais atoch chi ar 21 Ionawr, ac nid wyf i wedi cael ateb eto, felly byddai diweddariad yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Diolch, Llywydd.
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod. Mae'n dda ei gweld hi'n gwneud ei rhan ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar feinciau'r Torïaid yn y Siambr hon. Bydd yn gwybod nad yw cysylltedd digidol a thelathrebu wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae pob ceiniog y mae'r Llywodraeth hon yn ei gwario yn y maes hwn yn geiniog yr ydym ni'n ei gwario oherwydd methiant ei Llywodraeth hi i fuddsoddi yn iawn yng Nghymru. Ac rwy'n cofio, Llywydd, fel y bydd pobl eraill, bod ei phlaid hi wedi mynd i etholiadau diwethaf y Senedd, ym mis Mai y llynedd, ag ymrwymiad maniffesto i beidio â gwario mewn meysydd nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Felly, er ei bod hi'n fy annog i wneud mwy, pe bai hi wedi bod—[Torri ar draws.]—pe bai hi wedi bod—[Torri ar draws.]—pe bai hi wedi bod mewn grym, nid yw'n debygol wrth gwrs, ond pe bai hynny wedi digwydd yma, ni fyddai unrhyw wariant o gwbl ar y mater hwn gan Lywodraeth Cymru, oherwydd dyna'r polisi a roddodd ei phlaid o flaen pobl Cymru, i gael ei wrthod, wrth gwrs, mor gynhwysfawr, a dyna pam yr ydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn band eang cyflym iawn ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys swyddfa Cyffordd Llandudno.
Fe wnes i ymateb yn gadarnhaol i'r Aelod. Rydym ni'n awyddus iawn i gael canolfannau gweithio o bell, lle gall pobl ddod, lle nad oes yn rhaid iddyn nhw deithio'r pellteroedd y bu'n rhaid iddyn nhw eu teithio yn y gorffennol, i ddysgu gwersi'r pandemig, ac i ddefnyddio adeiladau at fwy nag un diben—boed hynny yng nghyd-destun Cyffordd Llandudno, defnydd Llywodraeth Cymru ohono, ond efallai y bydd yn bosibl i'r adeilad gael ei ddefnyddio at ddibenion ehangach, gan gyrff eraill yn y sector cyhoeddus, sefydliadau trydydd sector, partneriaid yn y sector preifat mewn nifer o'r canolfannau rydym ni wedi eu datblygu mewn mannau eraill yng Nghymru. Felly, mae hon yn rhaglen sy'n datblygu yn barhaus. Mae'n anochel, fel y gwn y bydd yr Aelod yn deall, bod rhai materion diogelwch ychwanegol y mae'n rhaid meddwl amdanyn nhw pan fyddwch chi'n caniatáu mynediad ehangach i adeilad lle mae gwybodaeth sensitif yn cael ei dosbarthu, a diogelwch staff a defnyddwyr eraill. Ond gallaf ei sicrhau bod y syniad sylfaenol yn un yr ydym ni'n parhau i feddwl amdano yn gadarnhaol ac yn dymuno bwrw ymlaen ag ef.
Rwy'n datgan buddiant fel aelod o gonsortiwm prosiect 5G y Pwyllgor Datblygu Economaidd—aelod di-dâl, Llywydd. Rydym ni wedi clywed am fanteision cymdeithasol sylfaen ffeibr llawn yn y gogledd, Prif Weinidog, ond mantais arall o gael y rhwydwaith hwnnw yn y gogledd yw'r gallu i fynd ymlaen a datblygu technoleg 5G ar gyfer y dyfodol, mewn cymunedau gwledig sydd efallai yn anodd eu cyrraedd gyda dulliau traddodiadol. Hoffwn weld y gogledd yn arweinydd byd-eang yn hyn o beth. Rydym ni wedi clywed eto lle mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi siomi'r gogledd o ran technoleg ffeibr llawn yn y maes hwn. Prif Weinidog, gwn fod swyddogion eisoes wedi cael sgyrsiau, ond a wnewch chi eu cyfarwyddo nhw i gael sgyrsiau pellach gyda Phrifysgol Bangor a'u partneriaid i ddatblygu'r math hwn o dechnoleg fel y gallwn ni ddod yn arweinydd byd-eang? A sut gall Llywodraeth Cymru gefnogi ymhellach, wrth ariannu'r mathau hyn o brosiectau, lle mae Llywodraeth Geidwadol y DU, a'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn methu â gwneud hynny?
Llywydd, mae honna yn enghraifft dda iawn y mae Jack Sargeant yn cyfeirio ati o'r union bwynt yr oeddwn i'n ei wneud yn gynharach, am y ffordd y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i mewn i wneud iawn am y diffyg buddsoddiad—nid dim ond diffyg buddsoddiad, ond diffyg diddordeb, Llywydd—i wneud yn siŵr bod gan rannau o'r gogledd y buddsoddiad sydd ei angen. Mae Jack Sargeant yn iawn, Llywydd—mae ein swyddogion eisoes wedi cael trafodaethau gyda'r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol. Mae'n brosiect arall lle mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi bod yn rhan o ddatblygiad y ganolfan, gan gynnwys rhai miliynau o bunnoedd mewn buddsoddiad ymarferol. Mae cais y mae Llywodraeth Cymru wedi ei weld, ac y bydd yn ei ystyried, i ariannu gwaith ymchwil i 5G ac i ddarparu prosiectau band eang 5G, yn enwedig ar Ynys Môn, a bydd fy swyddogion, yn wir, yn parhau â'r trafodaethau hynny gyda'r ganolfan.
2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru? OQ57734
Diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn, Llywydd. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu a phartneriaid cyfiawnder drwy fwrdd cyfiawnder troseddol Cymru er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau gweithredu cydraddoldeb hiliol yn mynd i’r afael â gwahaniaethu yn y system gyfiawnder. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cadeirio bwrdd partneriaeth plismona Cymru, lle bydd y materion hyn yn cael eu trafod.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, a diolch yn fawr am waith y Llywodraeth yma o fewn y system gyfiawnder yng Nghymru sydd, drwy ryw ryfedd wyrth, heb gael ei ddatganoli i Gymru.
Nawr, rydym ni'n gwybod ers degawdau am y rhagfarnau a wynebir gan bobl o leiafrifoedd ethnig yn y system gyfiawnder yn fyd-eang. Yr hyn nad oeddem ni'n ei wybod, tan y blynyddoedd diwethaf, yw ei bod yn ymddangos bod rhagfarn hiliol yn y system gyfiawnder yng Nghymru yn waeth yma yng Nghymru nag yn Lloegr. Trwy waith Canolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd, rydym ni bellach yn gwybod bod troseddwyr du yn cael yr hyd dedfryd o garchar cyfartalog uchaf yng Nghymru, tra bod troseddwyr gwyn yn cael yr hyd dedfryd o garchar cyfartalog isaf. Mae data stopio a chwilio newydd gan y ganolfan llywodraethiant yn dangos bod pethau yng Nghymru yn llawer gwaeth nag yn Lloegr. O bob 1,000 o bobl wyn sy'n byw yng Nghymru, stopiwyd a chwiliwyd wyth ohonyn nhw, ac mae hyn yn cymharu â 56 o bob 1,000 o bobl yn y gymuned bobl ddu yng Nghymru. Roedd unigolion o gefndiroedd du, ethnig yng Nghymru wedi'u gorgynrychioli saith gwaith yn nefnydd yr heddlu o ataliaeth, wedi'u gorgynrychioli chwe gwaith yn nefnydd yr heddlu o arfau, fel tasers. Nawr, mae'r rhain yn ffigurau gwarthus, a ddylai beri pryder i bob un ohonom ni yn y Siambr hon. Rwy'n falch bod Cymru yn cael ei galw yn genedl o loches, ond ni ellir ei galw yn genedl wirioneddol o loches os yw pobl yn y boblogaeth ddu yn llawer mwy tebygol o gael eu llusgo i mewn i'r system cyfiawnder troseddol na'u cymheiriaid gwyn. Nawr, a wnaiff y Prif Weinidog sefydlu ymchwiliad i ddadansoddi graddau'r rhagfarn hiliol yn ein system gyfiawnder fel y gallwn ni ddeall pam y mae'n digwydd a mynd i'r afael â hynny yn llawn? Diolch yn fawr.
Wel, diolch i Rhys ab Owen am hynna, ac rwy'n llongyfarch Canolfan Llywodraethiant Cymru ar y gwaith parhaus y maen nhw'n ei wneud a'r wybodaeth bwysig ond llwm iawn y maen nhw'n ei rhoi i ni drwy'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae'r ffigurau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw o ran stopio a chwilio yn amlwg yn peri pryder mawr yn wir, ond maen nhw'n dod ar ben y gwaith yr ydym ni eisoes wedi ei weld o'r ganolfan. Mae'n ffigur brawychus, ac rwy'n siŵr y bydd yn frawychus i bobl o amgylch y Siambr gyfan pan fydd y gwaith ymchwil hwnnw yn datgelu'r ffaith, er bod 14 o bobl wyn yng Nghymru yn cael eu carcharu o bob 100,000 o bobl yn y boblogaeth, bod 91 o bobl ddu yn cael eu carcharu, ac mae hwnnw yn ddadansoddiad brawychus. Dyna pam, yn y cydweithrediad rhwng ein dwy blaid, y mae gennym ni ymrwymiad penodol i sicrhau bod elfennau cyfiawnder y cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol yn gadarn ac yn mynd i'r afael â'r materion hyn gyda'r heddlu a'r llysoedd, a dyna'r ffordd yr ydym ni'n bwriadu bwrw ymlaen â'r ffyrdd ymarferol o fynd i'r afael â'r ffigurau yr ydym ni wedi eu trafod y prynhawn yma.
Heb os nac oni bai yr ateb hirdymor, Llywydd, yw datganoli plismona a chyfiawnder. A'm cred i yw nad yw hynny'n fater o ba un a fydd yn digwydd, mae'n fater o ba bryd y bydd yn digwydd. Dylai ddigwydd ac fe fydd yn digwydd, ac mae hynny oherwydd bod y ddadl dros wneud hynny mor eglur ac yn cael ei hatgyfnerthu gan yr union wybodaeth y mae Rhys ab Owen wedi tynnu sylw ati y prynhawn yma. Lle'r ydym ni wedi gallu cael dylanwad cryf, Llywydd, yna rydym ni'n dangos y gwahaniaeth y gallwn ni ei wneud. Mae'n debyg bod ein dylanwad wedi bod ar ei gryfaf ym maes cyfiawnder ieuenctid. Ddegawd yn ôl, yn 2011, daethpwyd â dros 3,000 o bobl ifanc i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf y flwyddyn honno. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, y llynedd, roedd y ffigur hwnnw yn llai na 400. Eto, yn ôl yn 2011, cafodd 109 o bobl ifanc yng Nghymru eu dedfrydu i'r ddalfa y flwyddyn honno. Y llynedd, 17 oedd y nifer, y ffigur isaf erioed ar gofnod. A dyna pam yr wyf i'n teimlo'n ffyddiog y byddwn ni'n gweld plismona a chyfiawnder yn cael ei ddatganoli, oherwydd gallwn ddangos, pan gawn ni'r cyfle, ein bod ni'n gallu darparu'r gwasanaethau hynny yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol. Oherwydd pan fyddan nhw'n cael eu darparu yn lleol gellir eu teilwra, eu blaenoriaethu a'u gweithredu yn unol â'r gwerthoedd a'r dull yr hoffem ni eu gweld ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, canfu adroddiad 'Children in Custody' Arolygiaeth Carchardai EM bod nifer anghymesur o uchel o blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y system cyfiawnder troseddol. Yn nodweddiadol, mae 11 y cant o blant mewn canolfannau hyfforddi diogel a 6 y cant o blant mewn sefydliadau troseddau ieuenctid yn dod o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr, o'i gymharu â 0.1 y cant o'r boblogaeth gyfan. Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y ffaith bod plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael mwy o anhawster yn ymgysylltu â thimau troseddau ieuenctid a darpariaeth addysg pan fyddan nhw yn y ddalfa. Mae'r rhesymau am hyn yn gymhleth iawn, ond mae'n ymddangos bod cysylltiad â phryd y caiff plant eu cymryd i'r ddalfa am y tro cyntaf a'u profiad a'u canlyniadau cyffredinol. Canfuwyd nad yw teulu a ffrindiau sy'n gweithredu fel oedolion priodol bob amser yn deall y prosesau dan sylw, ac yn ogystal, gall y plant yn y ddalfa hefyd deimlo eu bod wedi'u llethu. Mae hyn wedyn yn arwain at deimladau o ddrwgdybiaeth ac ynysigrwydd gan blant pan fyddan nhw yn y ddalfa. Prif Weinidog, a allech chi egluro pa gamau y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cymryd o ran gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i nodi anghenion penodol plant o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru pan fyddan nhw'n mynd i'r system cyfiawnder troseddol? Pa gymorth ychwanegol sydd ei angen yn eich barn chi ar blant o'r cymunedau hyn? Diolch.
Mae'r rheini i gyd yn bwyntiau pwysig iawn y mae'r Aelod wedi eu gwneud. Yr un ffordd fwyaf yr ydym ni wedi gallu mynd i'r afael â'r her honno yng Nghymru, fel y dywedais yn gynharach, yw lleihau cyfanswm nifer y plant o Gymru sy'n cael eu hunain yn y ddalfa o flwyddyn i flwyddyn, i'r ffigur isaf erioed y llynedd. Bydd hynny yn golygu ein bod ni wedi gallu cael budd i'r bobl ifanc hynny o'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ond, mae angen gwneud mwy, rydym ni'n gwybod, oherwydd y gwahaniaethu a'r anfantais y mae plant o'r cefndiroedd hynny yn eu hwynebu. Mae gennym ni fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru mewn darparu gwasanaethau penodol i helpu i ddiwallu anghenion y cymunedau hynny ac mae'r arbenigedd hwnnw ar gael i bobl sy'n gweithio yn ein system cyfiawnder ieuenctid. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n annheg i mi, Llywydd, hyd yn oed gyda'r hyn a oedd yn gwestiwn adeiladol iawn, dynnu sylw at y ffaith bod deddfwriaeth yn mynd drwy Dŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd, a gyflwynwyd gan y Blaid Geidwadol, a fydd yn arwain at droseddoli mwy o bobl o'r gymuned honno, deddfwriaeth y mae'r Senedd hon wedi gwrthod rhoi ei chydsyniad iddi.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Prif Weinidog—Llywydd, mae'n ddrwg gen i. [Chwerthin.] Dydych chi ddim wedi cael y dyrchafiad eto. Prif Weinidog, mae Rwsia a Wcráin yn cynhyrchu tua thraean o allforion gwenith y byd. Mae Wcráin, yn hanesyddol, wedi cael ei hadnabod fel basged fara Ewrop, ond oherwydd y digwyddiadau ofnadwy yr ydym ni'n eu gweld yn datblygu yn y rhan hon o'r byd, mae cost gwenith, er enghraifft, wedi cynyddu traean, ac mae blaen-farchnadoedd yn dangos pris gwenith yn dyblu. Nid yw'n fater o wenith yn unig, ond gwrtaith a llawer o agweddau sylfaenol eraill ar gynhyrchu bwyd sy'n mynd drwy'r to o ran eu prisiau, ac nid oes digon ar gael. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i ddeall yr effaith ar gynhyrchu bwyd yma yng Nghymru, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn credu y gall eu cymryd i leddfu rhai o'r pwysau hyn yr ydym ni'n eu gweld ar farchnad fyd-eang?
Rwy'n cytuno, wrth gwrs, â'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud am effeithiau ehangach y gwrthdaro rhwng Rwsia a Wcráin. Mae Rwsia a Wcráin, rhyngddyn nhw, yn darparu tua 30 y cant o allforion gwenith byd-eang. Nid ydym ni mor agored yn uniongyrchol i hynny yn y Deyrnas Unedig â rhannau eraill o'r byd. Yn wir, y rhannau tlotach o'r byd sy'n cael eu hamlygu yn fwy uniongyrchol—daw 90 y cant, er enghraifft, o wenith a ddefnyddir yn Lebanon o Rwsia, tra ein bod ni 88 y cant yn hunangynhaliol o ran gwenith. Ond, bydd prisiau byd-eang yn codi yn y ffordd y nododd yr Aelod gyda'r effaith ar gynhyrchu yn effeithio arnom ni yma yn y Deyrnas Unedig. Daw pedwar deg y cant o gyflenwad potash y byd o Belarws a Rwsia, a daw allforion sylweddol o amonia, a ddefnyddir hefyd wrth gynhyrchu gwrtaith, o'r un rhan o'r byd.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad o'r graddau y bydd Cymru yn agored, nid yn unig o ran cynhyrchu bwyd ond pethau eraill hefyd. Mae pris nicel wedi dyblu yr wythnos hon ar farchnad y byd ac mae'n cael ei ddefnyddio mewn diwydiannau sy'n bwysig yma yng Nghymru—sglodion lled-ddargludyddion, ffonau clyfar, cerbydau trydan ac yn y blaen, ac amrywiaeth o bethau eraill. Felly, ein gwaith ni, Llywydd, mae'n ymddangos i mi, yw cynnal yr asesiad gorau y gallwn ni o'r effaith yma yng Nghymru ac yna defnyddio'r cyfleoedd sydd gennym ni i fwydo'r wybodaeth honno i'r asesiad y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Oherwydd y penderfyniadau allweddol y gellir eu gwneud er mwyn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r canlyniadau hyn fydd y cyfrifoldeb a fydd yn cael ei gyflawni orau ar lefel y DU. Rydym ni'n parhau i gael cyfleoedd lle gallwn ni wneud yn siŵr bod y wybodaeth a'r dadansoddiad gorau sydd ar gael y gallwn ni eu darparu o safbwynt Cymru yn cael eu bwydo i'r broses barhaus honno.
Prif Weinidog, dywedodd prif weithredwr Yara, sef cynhyrchydd gwrtaith mwyaf y byd, nad yw'n fater o ba un a fyddwn ni'n dioddef prinder bwyd, mae'n fwy o achos o faint y prinder bwyd hwnnw oherwydd digwyddiadau yn Wcráin. Mae gennym ni Fil amaethyddiaeth yn dod gerbron y Senedd, sy'n cael ei gyflwyno gan y Gweinidog ym mis Ebrill. Newidiodd y ddynameg yn sylfaenol bythefnos yn ôl pan ymosododd Putin ar fasged fara Ewrop. A ydych chi'n gweld o'ch dealltwriaeth o'r sefyllfa bod angen gwneud newidiadau yn y Bil amaethyddiaeth hwnnw? Mae'n Fil amaethyddiaeth a fydd y Bil amaethyddiaeth cyntaf ers 75 mlynedd, a bydd yn llywio cyfeiriad polisi a chymhellion a allai fod ar gael i'r diwydiant amaethyddol yma yng Nghymru i wneud iawn am y gwahaniaeth, er mewn capasiti cyfyngedig oherwydd y màs tir y mae Cymru yn ei ffurfio yn rhan o fàs tir ehangach y gadwyn cyflenwi bwyd fyd-eang. Ond mae'n gyfle pwysig i ystyried y byd newydd yr ydym ni'n byw ynddo heddiw, a bydd y Bil hwnnw yn elfen sylfaenol i wneud iawn am rai o'r gwahaniaethau hyn.
Bydd y Bil amaethyddiaeth, wrth gwrs, yn cefnogi cynhyrchu bwyd gan ffermwyr Cymru, ac mae angen, mae'r Aelod yn iawn, ystyried natur newidiol y farchnad yn hynny o beth. Ond, bydd y Bil amaethyddiaeth hefyd yn gwobrwyo ffermwyr gweithgar sy'n cynhyrchu nwyddau cyhoeddus y mae'r cyhoedd yn barod i dalu amdanyn nhw. Bydd y ddwy agwedd hynny ar y Bil yn parhau i fod yn bwysig. Lle gall ffermwyr gynhyrchu bwyd y mae marchnad ar ei gyfer, bydd y Bil yn darparu'r mecanweithiau ar gyfer cefnogi hynny, ond mae pethau pwysig iawn eraill y mae ffermwyr yn eu gwneud yr ydym ni'n credu fod gan y cyhoedd ddiddordeb yn eu cefnogi, a bydd y Bil yn darparu ar gyfer yr agweddau hynny hefyd.
Prif Weinidog, mae digwyddiadau bythefnos yn ôl wedi symud diogelwch bwyd i fod yn ystyriaeth flaenllaw, byddwn yn awgrymu, ac mae holl gyfrifoldeb polisi amaethyddol yn perthyn i feinciau eich Llywodraeth. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ystyried yr elfennau newydd sy'n ein hwynebu a'r heriau a'r cyfleoedd newydd sy'n ein hwynebu pan gaiff y Bil hwnnw ei gyflwyno i ni yma ym mis Ebrill. Lluniodd Llywodraeth Iwerddon, rai blynyddoedd yn ôl, ddogfen bolisi o'r enw 'Food Harvest 2020'. Yn y ddogfen honno, daethant â'r ffermwyr, y proseswyr a'r manwerthwyr at ei gilydd i greu consensws ynghylch sut i ymateb i'r her o gynhyrchu mwy o fwyd yng Ngweriniaeth Iwerddon. A wnewch chi, yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd yn Wcráin, drefnu uwchgynhadledd fwyd o ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gallan nhw lywio gwaith datblygu polisi a chanlyniadau Llywodraeth Cymru fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd, a chwarae ein rhan yn nodau diogelwch bwyd cyffredinol y wlad hon?
Bydd grŵp rhyngweinidogol, sy'n dod â Gweinidogion o bob rhan o'r Deyrnas Unedig at ei gilydd, ar 21 Mawrth. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ddiogelwch bwyd gael ei roi ar agenda'r grŵp rhyngweinidogol hwnnw. Byddaf yn gofyn i fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths drafod gyda'i chysylltiadau yn niwydiant amaethyddol Cymru, y mae hi mewn cysylltiad â nhw drwy'r amser, pan fydd y cyfarfod hwnnw wedi'i gynnal, i archwilio gyda nhw a fyddai cyfarfod o'r math y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei awgrymu o werth iddyn nhw. Wrth gwrs, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru bob amser raddnodi ein cynigion yng ngoleuni amgylchiadau sy'n newid. Bydd gan y Bil amaethyddiaeth gyd-destun newydd yn sgil y digwyddiadau yn Wcráin, ond mae wedi cael cyd-destun newydd o ganlyniad i gytundebau masnach a drawyd gydag Awstralia a Seland Newydd hefyd—cytundebau masnach sy'n elyniaethus i fuddiannau amaethyddiaeth Cymru, ac sydd hefyd yn rhan o'r cyd-destun y mae'n rhaid i'r Bil hwnnw gael ei gyflwyno ynddo.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'n amhosibl peidio â meddwl am y nifer fawr o fenywod hynny o Wcráin, llawer ohonyn nhw â phlant, wedi blino, wedi'u trawmateiddio, yn anobeithiol, ar ôl teithio allan o ardal ryfel ac ar draws cyfandir Ewrop dim ond i gael eu troi i ffwrdd yn Calais gan swyddogion Llywodraeth y DU a chael clywed bod yn rhaid iddyn nhw fynd i Baris neu i Frwsel i wneud cais am fisa. Ble mae dyngarwch Llywodraeth Prydain pan fo'n gwneud rhywbeth mor ofnadwy o oergalon â hynny? Cymharwch hynny â'r carpedi coch a gyflwynwyd a'r fisâu euraid a roddwyd i ffrindiau oligarch Rwsiaidd Prif Weinidog y DU. Cymharwch hynny â'r sefyllfa yng Ngweriniaeth Iwerddon, sydd eisoes wedi croesawu dros 1,800 o ffoaduriaid heb fisâu, chwe gwaith y nifer sydd wedi cael fisâu gan y DU hyd yn hyn, gwladwriaeth 10 gwaith maint Gweriniaeth Iwerddon. Onid yw'n bryd i Lywodraeth y DU ddangos y synnwyr o frys moesol y mae sefyllfa o'r difrifoldeb hwn, yr argyfwng ffoaduriaid mwyaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd, yn deilwng ohono?
Bob tro y byddaf i'n cyfarfod â Gweinidogion y DU yng nghyswllt digwyddiadau yn Wcráin, maen nhw'n fy sicrhau bod Llywodraeth y DU eisiau gwneud popeth o fewn ei gallu i ddarparu ar gyfer pobl a fydd eisiau teithio i'r wlad hon oherwydd y sefyllfa enbyd y maen nhw'n ei hwynebu yno. Yr hyn y mae arnom ni ei angen yn ddirfawr yw gweld y bwriadau hynny yn cael eu troi'n wasanaethau ar lawr gwlad y gall y bobl hynny eu defnyddio a'u defnyddio mewn ffordd sy'n cydnabod yr amgylchiadau y maen nhw'n eu hwynebu bellach. Mae'r adroddiadau o'r hyn sydd wedi digwydd yn Calais wedi niweidio enw da'r wlad hon ledled y byd. Pan ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref ei bod yn anfon 'tîm ymchwydd' i Calais i helpu pobl, canfuwyd mai tri o bobl oedd hwn â bocs o KitKats a chreision. Sut gall Llywodraeth y DU feddwl o bosibl y bydd pobl o dan yr amgylchiadau hynny yn gallu gwneud eu ffordd ar draws cyfandir Ewrop i brifddinasoedd pellach eto? Os byddan nhw'n cyrraedd Brwsel, nid yn unig y mae'n rhaid iddyn nhw gyrraedd yno, ond mae'n rhaid iddyn nhw gyrraedd yno ar y diwrnod iawn, oherwydd dim ond am hanner yr wythnos y mae'r gwasanaeth sydd ar gael ar agor. Nid dyma'r hyn y mae pobl yn y wlad hon yn disgwyl i'w Llywodraeth ei wneud o gwbl. Mae lefel yr haelioni a ddangoswyd yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig tuag at bobl sydd angen ein cymorth nawr yn gwbl drawiadol, onid yw? Maen nhw'n disgwyl i'w Llywodraeth ymateb yn yr un modd. Dydyn nhw ddim yn disgwyl i bobl sy'n byw yn y wlad hon eisoes, sy'n ddinasyddion Prydain eisoes, gael eu troi i ffwrdd yn Calais a chael clywed nad yw'r darn cywir o bapur ganddyn nhw a bod yn rhaid iddyn nhw ganfod eu ffordd nawr i rywle arall. Rwyf i wir yn credu mai dyma'r diwrnod lle mae'n rhaid troi'r pethau y mae Gweinidogion y DU yn eu dweud yn gamau gweithredu effeithiol sydd eu hangen i wneud yn siŵr y gall y bobl hynny sydd angen ein cymorth fod yn ffyddiog y byddan nhw'n ei gael.
Prif Weinidog, ym mis Mai 1937, croesawyd cannoedd o blant o Wlad y Basg a oedd yn ffoi rhag ffasgaeth i Gymru yn rhan o ymdrech ar y cyd a drefnwyd yn wirfoddol—eto, yn wyneb diffyg gweithredu gan Lywodraeth Prydain ar y pryd. A yw hyn yn rhywbeth y gallwn ni geisio ei efelychu nawr, nid yn y cannoedd, ond yn y miloedd? Mae Llywodraeth y DU yn sôn am lwybr dyngarol sy'n cynnwys nawdd gan awdurdodau lleol neu unigolion neu gwmnïau preifat—rhwystr biwrocrataidd cwbl ddiangen yn ein barn ni. Ond o ystyried eu bod nhw wedi gosod y rhwystr hwnnw yno, a allem ni helpu i'w leihau drwy greu cynllun nawdd i Gymru wedi'i gydgysylltu yn genedlaethol, ac a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau cadarnhaol iawn posibl sy'n parhau ynghylch defnyddio ein maes awyr cenedlaethol fel pwynt mynediad i ffoaduriaid o Wcráin?
Diolch i Adam Price am hynna. Rwyf i eisoes wedi codi gyda Gweinidogion y DU ffyrdd y gallem ni wneud pethau yn wahanol yma yng Nghymru, gan ddefnyddio'r profiad sydd gennym ni o weithio gyda'n hawdurdodau lleol, gyda'n sefydliadau trydydd sector, fel bod gennym ni lwybr syml, cyflym, diogel a chyfreithlon i bobl sydd eisiau teithio i'r wlad hon. Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal yr wythnos hon, a'r hyn yr wyf i wedi gofyn i Lywodraeth y DU ei wneud yw rhoi'r hyblygrwydd i ni y byddai ei angen arnom ni yma yng Nghymru i allu gwneud pethau yn y ffordd fwyaf effeithiol, oherwydd rydym ni mewn gwell sefyllfa i allu gwneud hynny yn nes at le mae angen gwneud y penderfyniadau hynny na rhywun sy'n eistedd yn Whitehall yn ceisio dyfeisio ateb biwrocrataidd pellach i'r argyfwng dyngarol.
Ac os gallwn ni chwarae rhan drwy'r cynnig y mae Wizz Air wedi ei wneud, a bydd Aelodau yma yn gwybod amdano—mae Wizz Air yn cynnig hedfan, ar ei draul ei hun, 100,000 o bobl i'r Deyrnas Unedig, yn enwedig o'r gwledydd hynny sydd eisoes wedi amsugno cannoedd a channoedd o filoedd o bobl i'w cymunedau tra ein bod ni yn ei chael hi'n anodd cael llond llaw o bobl i'r Deyrnas Unedig. Felly, mae Wizz Air wedi gwneud y cynnig hwnnw. Gallai Maes Awyr Caerdydd fod yn rhan bwysig o wneud i hynny ddigwydd. Wrth gwrs, rydym ni mewn sgyrsiau gyda'r prif weithredwr ac eraill yn y tîm yn y maes awyr. Maen nhw'n barod drwy'r amser i fod yn rhan o unrhyw drafodaethau pellach. Bydd mwy o gyfarfodydd yn ddiweddarach yr wythnos hon i weld a allai chwarae rhan yn y ffordd honno ddod yn rhan o'r ffordd y mae'r Deyrnas Unedig yn cyflawni ein rhwymedigaeth foesol, fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru—ein rhwymedigaeth foesol i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu.
Gan droi, Prif Weinidog, at y sefyllfa sy'n wynebu menywod yma yng Nghymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, dangosodd adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' Chwarae Teg bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, sydd eisoes yn sylweddol, wedi cynyddu ymhellach yn 2021. Mae menywod yn dal i fod bedair gwaith yn fwy tebygol o nodi gofalu am y teulu neu'r cartref fel y rheswm am beidio â chymryd rhan yn yr economi gyflogedig ffurfiol, ac rydym ni'n gweld bylchau mwy rhwng y rhywiau yn dod i'r amlwg o ran cyflog, cyflogaeth ac oriau cyfartalog i fenywod hŷn sy'n fwy tebygol o fod â chyfrifoldebau gofalu. Dim ond pan fydd menywod yn gallu mynd i mewn i waith a gwneud cynnydd mewn gwaith yn yr un modd â dynion y bydd anghydraddoldeb yn yr economi yn cael ei ddileu. Gyda hyn mewn golwg, a ydych chi'n cytuno y dylai gofal plant cyffredinol am ddim i bob plentyn, o leiaf dros 1 oed, fod yn nod polisi y dylem ni ei osod yng Nghymru yn rhan o'n hymrwymiad i sicrhau cyfiawnder gwirioneddol rhwng y rhywiau?
Wel, Llywydd, mae'n amlwg bod gwasanaethau gofal plant yn rhan sylfaenol o sicrhau y gellir cael cyfranogiad cyfartal yn y gweithle, a chyflog cyfartal yn rhan o'r fargen honno hefyd. Rydym ni wedi ymrwymo drwy ein cytundeb cydweithredu i ymestyn gofal plant am ddim i blant o 2 oed ymlaen. Mae hwnnw yn ymrwymiad ariannol sylweddol, ond fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn gwybod hefyd, nid yw'n fater o arian yn unig—mae'n rhaid i chi sefydlu'r gweithlu hyfforddedig, mae'n rhaid i chi sefydlu'r safle sydd ei angen arnoch chi, ac mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud i sicrhau y gallwn ni gael yr holl elfennau hynny ar waith i gymryd y cam pellach, nesaf a phwysig hwnnw ar y daith honno.
Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt yn gwneud datganiad ar lawr y Senedd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a gwn y bydd ganddi fwy i'w ddweud am ofal plant, am drais yn erbyn menywod, am ddarparu'r cyflog byw go iawn ym maes gofal cymdeithasol, ac amrywiaeth o fentrau polisi eraill y mae'r Llywodraeth hon yn eu mabwysiadu ac yr ydym ni'n awyddus iawn i dynnu sylw atyn nhw heddiw.
3. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ynghylch grymuso cymunedau? OQ57740
Llywydd, mae profiad o'r pandemig coronafeirws wedi dangos yn rymus fywiogrwydd parhaus gweithredu lleol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi camau gweithredu o'r fath drwy hyrwyddo arfer gorau a darparu cyllid blynyddol sylweddol.
Fel yr wyf i wedi dweud dro ar ôl tro yma ers Deddf Lleoliaeth 2011 y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhyfedd o amharod i weithredu ei hagenda hawliau cymunedol. Ac er bod yr amcanion llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys pobl sy'n cyfrannu at eu cymuned, yn cael eu hysbysu, eu cynnwys ac yn cael gwrandawiad, yn rhy aml nid yw hyn wedi digwydd oherwydd nad yw wedi cael ei fonitro, oherwydd nid yw pobl mewn grym eisiau ei rannu na deall y byddai hyn yn creu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol. Mae papur trafod Canolfan Cydweithredol Cymru o fis Ionawr, 'Cymunedau'n Creu Cartrefi', yn datgan bod Cymru ar ôl gwledydd eraill yn y DU pan ddaw i hawliau perchnogaeth gymunedol, gan ychwanegu nad yw'r polisïau yng Nghymru yn cynnig yr un grymusiad ag y mae cymunedau yn Lloegr, neu, yn arbennig, yn yr Alban yn ei fwynhau, gan eu bod nhw naill ai'n canolbwyntio yn gyfan gwbl ar asedau a chyfleusterau sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus neu'n ei gwneud yn angenrheidiol i gorff cyhoeddus gymryd rhan uniongyrchol i weithredu'r grym. A chanfu adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig 'Our Land: Communities and Land Use' mai cymunedau Cymru yw'r rhai sydd wedi'u grymuso leiaf ym Mhrydain, a dywedodd grwpiau cymunedol yng Nghymru wrthyn nhw am sefyllfa fympwyol, ddigalon heb fawr o broses wirioneddol i gymunedau gymryd perchnogaeth o asedau cyhoeddus neu breifat. Sut felly ydych chi'n ymateb i alwadau yn y ddau adroddiad newydd hyn i Lywodraeth Cymru gryfhau hawliau grymusiad a pherchnogaeth cymunedol?
Llywydd, nid wyf i'n cytuno â rhai o'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud yn rhai o'r adroddiadau yna. Mae rhannau eraill sy'n ddefnyddiol ac yn adeiladol iawn, ac y byddwn ni'n dymuno eu trafod ymhellach a bwrw ymlaen â nhw. Ond y gwir amdani yw bod grwpiau cymunedol ym mhob rhan o Gymru oherwydd gweithredoedd y Llywodraeth hon sydd heddiw yn gallu ymgymryd â rhedeg a rheoli cyfleusterau na fydden nhw wedi bod ar gael iddyn nhw fel arall, sy'n gallu cymryd rhan yn narpariaeth y gwasanaethau hynny, a lle mae dull partneriaeth—. Dyma lle mae ef a minnau yn wahanol. Ei safbwynt ef o rymuso cymunedau yw trosglwyddo pethau i rywun arall. Ein safbwynt ni yw y gall trefniant partneriaeth gyda chymorth corff cyhoeddus barhau i fod ar gael i grwpiau sydd, wrth ymgymryd â rhedeg neu reoli asedau cymunedol, angen cael—dyma un o gasgliadau'r adroddiad a sefydlwyd gennym ni ar drosglwyddo asedau cymunedol—diddordeb ac ymgysylltiad parhaus awdurdod cyhoeddus sy'n gallu eu helpu nhw gyda'r hyn sydd weithiau yn bethau beichus sy'n cael eu hysgwyddo.
A lle mae hyn yn cael ei wneud yn dda, oherwydd, er enghraifft, yng Nghyngor Sir y Fflint a reolir gan Lafur yn ardal yr Aelod ei hun, mae gennych chi gyngor sy'n cyhoeddi cofrestr o'r holl drosglwyddiadau asedau posibl, sy'n rhoi gwybodaeth am y lefel bresennol o wariant, y defnydd a'r cyfraddau meddiannaeth, sydd ag ap sy'n rhoi arolwg cyflwr cyfredol i ddarpar grŵp cymunedol—mae hyn i gyd yn cael ei gymeradwyo gan y grwpiau hynny y mae'n gweithio â nhw, ac mae hynny wedi arwain at drosglwyddo hyd at 30 o asedau o'r cyngor i grwpiau nad ydyn nhw'n cael eu gadael wedyn i fwrw ymlaen â phethau, ond sy'n parhau i gael cymorth a chefnogaeth. Dyna'r math o rymuso cymunedol yr wyf i'n credu yr ydym ni'n sôn amdano ac yn ei olygu yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, rwyf i wedi clywed yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei ddweud wrth Mark Isherwood. Tybed a allwn i bwyso mwy arnoch chi ar y synnwyr hwn nid yn unig o rymuso, ond synnwyr cymunedau o rymusiad, oherwydd mae darllen adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig y mae Mark Isherwood wedi cyfeirio ato yn ddigon i'ch sobreiddio o ran pa mor ddi-rym, felly, y mae cymunedau yn teimlo. Mae'r dystiolaeth y maen nhw wedi ei chasglu wedi canfod bod safbwynt sydd bron yn gwbl negyddol am y sefyllfa yng Nghymru. Ac, eto, rwy'n derbyn y pwyntiau yr ydych chi wedi bod yn eu dweud, Prif Weinidog, ond o ran dod o hyd i'r cysylltiad hwnnw â chymunedau, o ran cael y synnwyr hwn o rymusiad a'r hyn sy'n bosibl, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed eich safbwyntiau.
Rydym ni wedi clywed hefyd bod cymunedau yr Alban wedi bod â chyllid ar gael ers 2001 i reoli asedau; mae deddfwriaeth wedi bod ar gael yno ers 2003. Yn Lloegr, mae'r Ddeddf Lleoliaeth yn grymuso grwpiau cymunedol. Ac nid yw'r hawliau statudol a'r cronfeydd ar gael yn yr un ffordd yng Nghymru. Eto, mae pa un a yw cymuned wedi'i grymuso ai peidio yn bwysig, mewn gwirionedd, mewn ystyr wirioneddol ystyrlon, dim ond os ydyn nhw'n teimlo'r grymusiad hwnnw. Felly, a gaf i ofyn, sut, yn eich barn chi, y gellid gwneud y cysylltiad hwnnw yn fwy fel bod cymunedau yn teimlo'r synnwyr o rymusiad yn yr un ffordd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Wel, Llywydd, mae'n gwestiwn diddorol iawn ac yn haeddu ateb hirach na'r hyn y gallaf i ei gynnig y prynhawn yma, oherwydd pe baem ni'n ei archwilio yn y ffordd y dechreuodd Delyth Jewell yn y fan yna, byddem ni'n dechrau drwy gydnabod ein bod ni'n sôn, pan fyddwn ni'n defnyddio'r gair 'cymuned', am leoedd fel unrhyw le arall, lle ceir gwahaniaeth barn, lle nad oes un syniad unigol am y ffordd orau o fwrw ymlaen â phethau, a lle ceir mynediad gwahanol iawn, nid yn unig at adnoddau ariannol, ond cyfalaf dynol hefyd. Ceir cymunedau sy'n ffodus o gael galwad ar bobl sydd â phrofiad, cymwysterau, gwybodaeth y gallan nhw eu cynnig a gwneud i bethau ddigwydd.
Rwy'n meddwl, yn fy etholaeth i, Llywydd, dim ond yn ddiweddar, am grŵp grymus o fenywod—dylwn i ddweud, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod—a ddaeth i'm gweld i o ran Llandaf fy etholaeth, a oedd eisiau prynu bloc toiledau segur a oedd ym mherchnogaeth yr awdurdod lleol a'i droi yn ganolfan ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn yn y gymuned. Ac maen nhw wedi gwneud hynny. Maen nhw wedi ei wneud mewn nifer fach o flynyddoedd. Fe wnaethon nhw berswadio'r cyngor i roi'r adeilad iddyn nhw am 1c. Darparodd rhaglen cyfleusterau cymunedol—[Torri ar draws.] Diolch. Dyna oedd gost yr adeilad. [Chwerthin.] Darparodd rhaglen cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru £225,000 iddyn nhw. Ond yr hyn yr oedden nhw'n gallu ei wneud, oherwydd eu hanesion eu hunain a'u cysylltiadau eu hunain, oedd eu bod nhw'n gallu rhoi grŵp o bobl â phrofiad cyfrifyddu, â phrofiad pensaernïaeth, â phrofiad o redeg adeiladau at ei gilydd, ac fe'i rhoddwyd ar waith, ac nid wyf i'n credu eu bod nhw'n teimlo am eiliad nad oedden nhw wedi'u grymuso neu nad oedd y gallu ganddyn nhw.
Ond nid oes yn rhaid i chi fynd yn bell o Landaf i ddod o hyd i gymuned lle mae pobl yr un mor frwdfrydig, yr un mor uchelgeisiol, ond nad yw'n gallu galw ar yr un adnoddau a oedd ar gael yno, a dyna lle rwy'n credu bod yn rhaid canolbwyntio ein hymdrechion, i wneud yn siŵr ein bod ni'n tyfu'r capasiti dynol hwnnw yn yr ardaloedd hynny, fel bod pobl yn teimlo bod y cyfleoedd yno. Mae'r rhaglen cyfleusterau cymunedol, Llywydd—ers 2015 dros £40 miliwn i 280 o brosiectau ym mhob rhan o Gymru. Mae gan bob un awdurdod lleol enghreifftiau. Bydd gan bob Aelod yma enghreifftiau y maen nhw wedi eu cefnogi o ymdrechion cymunedol i gymryd cyfrifoldeb am adeiladau, neuaddau eglwys, cyfleusterau chwaraeon, mannau gwyrdd—yr holl bethau y mae'r rhaglen honno yn eu cynrychioli—ond rydym ni'n gwybod ein bod ni'n cael mwy o geisiadau gan leoedd sydd eisoes ag adnoddau da nag yr ydym ni gan leoedd sydd angen y cyfleusterau hynny fwyaf, a dyna, mae'n ymddangos i mi, yw'r her wirioneddol y mae'n rhaid i ni geisio gweithio arni ymhellach.
Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf cadeiriais lansiad adroddiad diddorol iawn gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ar wella perchnogaeth gymunedol o dir a chynyddu cyfleoedd tai cymunedol. Gwn y codwyd hwn yn y Cyfarfod Llawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ac rwy'n croesawu ei sylwadau, ond un argymhelliad allweddol ychwanegol o'r adroddiad oedd datblygu dull safonol o drosglwyddo asedau cymunedol i gyrff cyhoeddus. Er fy mod i'n gwerthfawrogi'r enghreifftiau da yr ydych chi wedi eu rhoi wrth ateb fy nghyd-Aelodau ar y cwestiwn hwn eisoes, hoffwn ofyn pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran hyn, fel y gellir grymuso pob cymuned i gymryd cyfrifoldeb am yr asedau hynny a allai fod mor bwysig iddyn nhw yn lleol.
Diolch i Vikki Howells am hynna, Llywydd. Cyfeiriais yn gynharach at waith ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gennym ni sy'n ymwneud â throsglwyddo asedau cymunedol yng Nghymru, a diben y gwaith ymchwil oedd edrych ar yr amodau sy'n galluogi hynny i ddigwydd yn effeithiol ac yna ar y rhwystrau sy'n ei atal rhag digwydd.
O ganlyniad i'r gwaith ymchwil, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau manwl i gynorthwyo grwpiau cymunedol sy'n ceisio cymryd cyfrifoldeb am asedau sy'n eiddo cyhoeddus, ac mae'n un o ganfyddiadau allweddol—roeddwn i'n manteisio ar hwnnw pan roddais fy ateb cynharach, Llywydd—mae'n un o ganfyddiadau allweddol y gwaith ymchwil hwnnw, er bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn darparu lefel dda o gymorth yn ystod y cyfnod trosglwyddo, lleiafrif o awdurdodau lleol sy'n rhoi cymorth i'r grŵp hwnnw ar ôl y trosglwyddiad. Ac ar gyfer trosglwyddiadau asedau cymunedol sy'n llwyddo, mae'r angen i barhau i allu manteisio ar lefel o gymorth ar ôl trosglwyddo yn un o'r pethau a amlygwyd gan yr adroddiad hwnnw.
Rydym ni'n bwrw ymlaen ag ef drwy Ystadau Cymru, y grŵp sydd gennym ni yn Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar dir ac asedau, ac sydd eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai sydd wedi gweld y llwyddiant mwyaf, i wneud yn siŵr y gall yr arfer gorau hwnnw a'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu o'r gwaith ymchwil barhau i gefnogi'r cymunedau hynny sy'n dymuno cymryd cyfrifoldeb am asedau, ac yna'n gallu parhau i gyflawni'r cyfrifoldebau y maen nhw wedi ymgymryd â nhw yn llwyddiannus.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch y gostyngiad yn niferoedd y deintyddion gweithredol yn y GIG yng Ngorllewin De Cymru? OQ57739
Llywydd, mae gostyngiad yn niferoedd deintyddion y GIG yng Ngorllewin De Cymru yn deillio yn bennaf o effaith newidiadau i ffiniau wrth adrodd data. Mae Brexit a phandemig COVID hefyd wedi lleihau lefel gyffredinol y gweithgarwch deintyddol ac mae hynny hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y ffigurau hyn.
Diolch. Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy'n gwasanaethu trigolion yn fy rhanbarth i, oedd y bwrdd iechyd â'r gostyngiad canrannol uchaf yn niferoedd y deintyddion GIG, gyda 22 y cant yn llai o ddeintyddion yn 2021, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Efallai fod effaith y pandemig a newidiadau i ffiniau yn rhannol gyfrifol am y sefyllfa hon, ond mae'r gostyngiad yn niferoedd y deintyddion GIG yn duedd hirsefydlog, ac mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn credu bod anhapusrwydd â chontractau deintyddol y GIG yn ffactor allweddol.
Mae'r Gweinidog iechyd wedi cyfaddef yn ei hateb i fy llythyr ar y mater hwn y bydd oediadau i gleifion newydd sy'n ceisio gofal rheolaidd, ond mae etholwyr sy'n gleifion cofrestredig yn dweud wrthyf i eu bod nhw'n cael eu gwrthod os nad oes angen triniaeth frys arnyn nhw; mae cannoedd o bobl y mae'r argyfwng hwn wedi effeithio arnyn nhw wedi cysylltu â mi—cannoedd ohonyn nhw—a dywedodd un fam yng Ngorseinon, 'Mae gen i blentyn tair oed nad yw eto wedi cael ei ymweliad cyntaf erioed â deintydd. Bob tro y byddaf i'n galw, maen nhw'n dweud mai dim ond achosion brys y maen nhw'n gallu eu gweld.' Mae cleifion eraill yn dweud eu bod nhw wedi cael gwell triniaeth yn y sector preifat, a dywedwyd wrth rai cleifion y GIG hyd yn oed y byddan nhw'n cael eu gweld os byddan nhw'n talu.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod hyn yn gwbl annerbyniol, a chyda gofal deintyddol rheolaidd yn hanfodol i atal problemau iechyd y geg rhag digwydd yn y lle cyntaf, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r sgandal hon sy'n golygu bod cleifion, gan gynnwys plant, yn gorfod wynebu oediadau sylweddol, neu, mewn llawer o achosion, yn cael eu gwrthod yn llwyr?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gywiro'r cofnod ynghylch un peth pwysig a ddywedodd yr Aelod ar y cychwyn, pan awgrymodd fod y gostyngiad yn nifer y deintyddion yng Nghymru yn rhan o duedd hirdymor. Mewn gwirionedd, cynyddodd nifer y deintyddion sy'n darparu gofal GIG yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2006-07 a 2018-19, ac, yn 2018-19, aeth nifer y deintyddion a oedd yn gwneud gwaith GIG yng Nghymru yn uwch na 1,500 am y tro cyntaf. Felly, mewn gwirionedd, mae'r duedd hirdymor yn gwbl groes i'r un a awgrymodd yr Aelod.
Mae'r gostyngiad yn y niferoedd yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, yn enwedig yn ardal bae Abertawe, yn cael ei esbonio fwyaf—nid ei esbonio'n rhannol—yn cael ei esbonio fwyaf gan y newidiadau i'r ffiniau, oherwydd y bwrdd iechyd a welodd y cynnydd mwyaf yn niferoedd y deintyddion yw'r bwrdd iechyd a enillodd ardal Pen-y-bont ar Ogwr y bwrdd iechyd blaenorol. Dyna pam yr aeth y niferoedd i lawr yn y ffordd y gwnaethon nhw; roedd rhan gyfan o'r bwrdd iechyd nad oedd yn y bwrdd iechyd mwyach.
Ond y pwyntiau pwysig—y pwyntiau pwysig—yw'r rhai a wnaeth yr Aelod yn ail ran ei chyfraniad, oherwydd, wrth gwrs, rydym ni eisiau gweld adferiad a thwf yng ngallu'r proffesiwn deintyddol yng Nghymru i ddarparu ar gyfer mwy o bobl nag y mae'n gallu ar hyn o bryd. Mae'r pandemig yn parhau i gael mwy o effaith ar ddeintyddiaeth nag ar unrhyw ran arall o'r GIG, gan fod y triniaethau cynhyrchu aerosol hynny yn parhau i olygu nad yw deintyddion yn gallu gweld yr un faint o gleifion yr oedden nhw'n gallu eu gweld o dan amgylchiadau llai heriol.
'Sut byddwn ni'n mynd i'r afael â hynny?' mae'r Aelod yn gofyn, ac mae'n gwestiwn cwbl briodol. Wel, dyma dair ffordd. Yn gyntaf oll, wrth i ni ddod allan o'r pandemig, byddwn yn gweithio gyda'r proffesiwn fel y gallan nhw weld mwy o gleifion yn eu hadeiladau yn ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu buddsoddiad sylweddol i ddeintyddion, er enghraifft, i wella awyru mewn practisau deintyddol fel y gallan nhw weld mwy o gleifion yn ddiogel.
Yn ail, byddwn yn cyflwyno trefn diwygio contractau, gan ddechrau, eto, o ddifrif ym mis Ebrill eleni. Byddwn yn cynnig dewis i ddeintyddion. Bydd gan aelodau Cymdeithas Ddeintyddol Prydain ddewis. Byddan nhw'n gallu dewis y contract newydd, y contract gwell yn fy marn i, oherwydd bydd yn golygu bod deintyddion yn defnyddio eu sgiliau i'r graddau mwyaf posibl ac nad ydyn nhw'n gwneud cymaint o waith rheolaidd ac ailadroddus ag yn y gorffennol er mwyn ennill yr incwm y maen nhw'n ei ennill, ond bydd y rhai y mae'n well ganddyn nhw i'w practisau barhau i gael eu seilio ar unedau gweithgarwch deintyddol yn gallu dewis hynny hefyd. Rwy'n credu y bydd diwygio'r contractau o fudd hirdymor i'r proffesiwn ac i gleifion.
Ac yna'r drydedd ffordd, Llywydd, y byddwn ni'n mynd i'r afael â'r angen i gynyddu'r cyflenwad o ddeintyddiaeth GIG yng Nghymru yw rhyddfrydoli'r proffesiwn. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod cymysgedd sgiliau ehangach, fel nad oes gennym ni ddeintyddion sydd wedi'u hyfforddi yn dda iawn ac sydd wedi'u hyfforddi yn ddrud iawn yn gwneud gwaith nad oes angen lefel y sgiliau sydd gan y deintydd. A'r proffesiwn deintyddol, os wyf i'n onest yn ei gylch, fu'r arafaf o'r proffesiynau gofal sylfaenol i symud i'r cyfeiriad hwnnw. Mae ffyrdd y byddwn ni'n gallu buddsoddi mewn hyfforddi hylenwyr a therapyddion sy'n gallu, yn gwbl gymwys yn glinigol, o dan oruchwyliaeth deintydd, wneud mwy o waith heddiw nag y maen nhw'n ei wneud yn y rhan fwyaf o Gymru, a bydd hynny yn caniatáu i ni gael gwahanol fath o wasanaeth yma yng Nghymru yn y dyfodol.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o adfer yn dilyn COVID-19 yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57774
Llywydd, rwy'n diolch i Joyce Watson am hynna. Mae ein cynllun pontio, a gyhoeddwyd ar 4 Mawrth, yn parhau â'n dull sefydledig o ymdrin â'r pandemig, wedi'i lywio gan y cyngor gorau, yn canolbwyntio ar fyw yn ddiogel gyda COVID-19 a bod yn barod am fygythiadau newydd y gallai'r feirws eu hachosi eto.
Prif Weinidog, mae ymateb graddol wedi'i arwain gan wyddoniaeth Llywodraeth Cymru i'r pandemig wedi cael ei gefnogi gan fwyafrif y bobl yng Nghymru. Pa mor ffyddiog ydych chi o allu Cymru i barhau i fabwysiadu'r dull hwnnw, a pha asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r effaith y gallai gweithredoedd Llywodraeth y DU ei chael ar hynny?
Llywydd, diolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig yna. Rydym ni'n credu ein bod ni ar y trywydd iawn i symud y tu hwnt i lefel rhybudd 0 ar 28 Mawrth. A ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd ein cynllun pontio, sy'n ymwneud â byw yn ddiogel gyda'r feirws. Rydym ni'n symud o'r sefyllfa argyfwng i'r sefyllfa endemig o ddelio â'r pandemig, ac, er ein bod ni'n byw yn ddiogel gyda'r feirws, byddwn yn dibynnu ar gyngor da, ar sail gwybodaeth, fel y dywedodd yr Aelod, gan y cyngor clinigol a gwyddonol gorau sydd ar gael i ni. Bydd yn rhaid i ni ddibynnu ar gyfrifoldeb parhaus dinasyddion unigol yma yng Nghymru, ac yna bydd y synnwyr hwnnw o gyfrifoldeb yn cael ei ategu gan gamau y gall Llywodraethau yn unig eu cymryd. A dyna lle mae gweithredoedd Llywodraeth y DU yn peri pryder i ni. Mae'r terfyn pen dibyn sydyn ar brofion yn Lloegr, mewn ffordd wrthnysig y system, wedi anfon symiau canlyniadol Barnett i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy'n cyfyngu ar ein gallu i wneud gwahanol ddewisiadau o natur iechyd y cyhoedd, ac ni all hynny fod yn dderbyniol mewn gwirionedd.
Mae gennym ni ddau bryder mawr ynglŷn â'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn rhuthro i gael gwared ar yr amddiffyniadau sydd wedi bod ar gael i ddinasyddion dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn gyntaf oll, mae'n rhaid i ni gael digon o gapasiti gwyliadwriaeth fel y gallwn ni weld a oes amrywiolion newydd yn dod i'r amlwg yma yng Nghymru, amrywiolion newydd sy'n cyrraedd o rannau eraill o'r byd, neu achosion lleol hyd yn oed, lle mae angen i chi gael ymateb iechyd cyhoeddus mwy dwys. Heb brofion digonol, mae cael system wyliadwriaeth ddigonol yn fwy anodd.
Ac yn ail, mae gen i bryder gwirioneddol ynghylch y ffordd y bydd yn bosibl ailadeiladu system yn y dyfodol pe baem ni'n wynebu syrpréis annisgwyl. Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu yn unochrog cau labordy Imperial Park 5 yng Nghasnewydd ddiwedd y mis hwn. Cymru fydd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig, neu o Brydain Fawr o leiaf, heb labordy profi o'r math hwnnw ar gael i ni. Rwy'n gofyn dro ar ôl tro i Weinidogion y DU beth fyddai'n digwydd yn yr hydref pe baem ni'n gweld gwahanol amrywiolyn yn dod i'r amlwg a bod angen i lefel newydd, uwch o brofion fod ar gael i ymdrin ag ef, a hyd yn hyn, Llywydd, gallaf ddweud wrthych chi nad oes ateb i hynny o gwbl. Pan fyddwch chi wedi datgymalu labordy soffistigedig o'r math a fu gennym ni yng Nghasnewydd, pan fyddwch chi'n mynd â'r offer hwnnw i ffwrdd, pan fyddwch chi'n dweud wrth y bobl sydd wedi ein gwasanaethu mor dda dros y ddwy flynedd diwethaf ein bod ni'n mynd i gael gwared ar eu gwasanaethau mewn ychydig wythnosau byr, a ydym ni wir yn disgwyl y byddan nhw'n ailymddangos pan fyddwn ni eu hangen nhw eto mewn argyfwng? Mae'r rhain yn gamau annoeth, maen nhw'n cael eu hysgogi gan y Trysorlys, yn fy marn i, nid gan yr adran iechyd yn Llundain, ac rwy'n gobeithio na fydd yn rhaid i bob un ohonom ni fyw i ddifaru hyn.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa gwella eiddo mewn canolfannau trefol yn ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr? OQ57768
Llywydd, daeth y gronfa y mae'r Aelod yn cyfeirio ati i ben ym mis Ebrill y llynedd. Mae ei rhaglen olynol yn cynnwys rhestr estynedig o ffyrdd y gellir cymhwyso cyllid i wella canolfannau trefol, ac mae'r buddsoddiad hwnnw yn parhau i fod ar gael ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Cysylltodd Nadim â mi'n ddiweddar, y dyfarnwyd grant iddo o'r gronfa i ailwampio ei fusnes, Zia Nina, yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Ar ôl dyfarnu'r grant, dechreuodd Nadim y gwaith angenrheidiol, gan gynnwys cynllunio a dylunio pensaernïol, ond mae wedi cael trafferth yn dod o hyd i adeiladwyr i gwblhau'r gwaith yn brydlon oherwydd anawsterau wrth gaffael y deunyddiau angenrheidiol. Mae bellach wedi cael cyfarwyddyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gwblhau'r gwaith erbyn diwedd y mis hwn, nad yw'n bosibl oherwydd oediadau adeiladwyr. Nododd paragraff 3.3 adroddiad Medi 2021 ar y cynllun bod lle ar gyfer ymestyniad posibl y tu hwnt i fis Mawrth 2022. Er bod Nadim a minnau yn ddiolchgar bod Zia Nina wedi cael y grant hwn, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a ellir caniatáu estyniad o dan amgylchiadau o'r fath, o gofio bod y gronfa yn cael ei darparu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru?
Wel, Llywydd, mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw hwn, ond, gan ragweld y cwestiwn nesaf, diolch i gyhoeddusrwydd yr Aelod ar gyfryngau cymdeithasol, rwy'n fwy cyfarwydd â bwyty Zia Nina ym Mhen-y-bont ar Ogwr nag yr oeddwn i cyn hyn. Felly, rwy'n falch o allu dweud wrtho fy mod i wedi cael gwybod bod swyddogion cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyfarfod â pherchennog y busnes a'i asiant ar 3 Mawrth, yr wythnos diwethaf, i drafod ffordd ymlaen gyda'r prosiect. Pan ddyfarnwyd y grant yn wreiddiol, roedd yn amlwg ar y telerau y gallai ac y byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol, ond mae rhesymau, y mae Luke Fletcher wedi cyfeirio atyn nhw. Mae fy nodyn yn dweud bod swyddogion cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi dweud wrth ein swyddogion eu bod nhw'n obeithiol y byddan nhw'n gallu cefnogi cynigion prosiect y perchennog yn y dyfodol ac, o ganlyniad i'r cyfarfod a gynhaliwyd rhyngddyn nhw, bod y ddwy ochr bellach yn teimlo eu bod nhw wedi dod o hyd i ffordd y gall hynny ddigwydd.
7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru? OQ57769
Llywydd, ein strategaeth yw defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu yn uniongyrchol ac yn ddwyieithog â'r cyhoedd, yn enwedig y cynulleidfaoedd hynny sy'n ymgysylltu llai â chyfryngau confensiynol. Rydym ni'n darparu gwybodaeth gyflym, awdurdodol mewn ffurfiau sy'n eglur, yn ddifyr ac yn hygyrch i bawb.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, byddwch yn cofio ychydig wythnosau yn ôl, pan ofynnais i chi am gyfryngau cymdeithasol segur Llywodraeth Cymru Wales.com, dywedoch fod angen i mi dreulio
'ychydig llai o amser [â fy mhen] yn Instagram'.
Byddwch yn falch iawn o wybod fy mod i wedi dilyn eich cyngor; rwyf i wedi bod yn edrych ar TikTok yn lle hynny. [Chwerthin.]
Byddwch yn cofio bod fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies wedi cyflwyno cais rhyddid gwybodaeth y llynedd, ac wedi darganfod, ym mlwyddyn ariannol 2021 yn unig, bod Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £135,000 ar hysbysebu ar TikTok. Mae hynny yn un flwyddyn ar un wefan cyfryngau cymdeithasol. Ond, pan ofynnodd Andrew R.T. Davies beth oedd cyfanswm cyrhaeddiad y negeseuon yn gyfnewid am yr arian a wariwyd, dywedwyd wrtho nad oedd Llywodraeth Cymru yn storio'r data hynny. Os yw hynny'n wir, mae'n golygu nad oes gan Lywodraeth Cymru syniad faint o bobl y gwnaeth y gwariant hwnnw eu cyrraedd, pa un a gyrhaeddodd y bobl iawn, neu a wariwyd yr arian yn ddoeth. Dim trywydd, dim byd.
A ydych chi'n rhannu fy mhryderon, Prif Weinidog, bod gwario cannoedd o filoedd o bunnoedd fel hyn, heb unrhyw fodd o gwbl o farnu a oedd hynny yn effeithiol ai peidio, yn ffordd eithriadol o wael o wario arian trethdalwyr?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n rhannu pryderon yr Aelod oherwydd, er nad wyf i'n neilltuo'r amser y mae ef yn ei wneud i gyfryngau cymdeithasol, mae'n ymddangos fy mod i'n llawer iawn mwy gwybodus nag yw ef. [Chwerthin.]
Felly, gadewch i mi ei helpu. Gadewch i mi esbonio iddo y bu cynnydd o 400 y cant yn nifer dilynwyr gwahanol sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, os yw'n poeni am effeithiolrwydd y gwariant, bydd hynny yn codi ei galon. Bydd y ffaith bod gennym ni bellach 2.9 miliwn o ddilynwyr sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn codi ei galon, ac mae'n siŵr y bydd yn fwy balch fyth o glywed, ar Ddydd Gŵyl Dewi y llynedd, oherwydd roedd ganddo ddiddordeb yn hynny rwy'n cofio, bod 19.4 miliwn o bobl ar draws cyfryngau digidol a chymdeithasol Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â negeseuon Llywodraeth Cymru, gan gynnwys 13 miliwn o bobl a wyliodd gynnwys fideo a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Felly, rwy'n falch fy mod i wedi gallu helpu'r Aelod y prynhawn yma, a nawr efallai y bydd yn ei chael hi'n llai angenrheidiol gofyn cwestiynau i mi lle mae'r atebion mor galonogol iddo. [Chwerthin.]
Cwestiwn 8 yn olaf, Ken Skates.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynghorau i atgyweirio ffyrdd lleol yn Ne Clwyd? OQ57732
Llywydd, diolch i Ken Skates am hynna. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £90 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd dros y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn yn gyllid sy'n ychwanegol at gyfalaf a geir yn y setliad llywodraeth leol, a gynyddodd £70 miliwn ei hun eleni. Mae cymorth drwy'r gronfa ffyrdd cydnerth hefyd ar gael yn ne Clwyd.
Diolch, Prif Weinidog, a byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi rhoi cymorth ariannol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i asesu'r gwaith sydd ei angen i sicrhau bod ffordd y B5605 yn cael ei defnyddio unwaith eto ar ôl tirlithriad mawr. Prif Weinidog, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi gadarnhau a yw'r cyngor, o ganlyniad i'r cymorth ariannol hwn gan Lywodraeth Cymru, bellach wedi gallu cyflwyno cais am gyllid ar gyfer y gwaith atgyweirio ei hun, ac os felly, byddwn yn ddiolchgar iawn am benderfyniad buan a phenderfyniad â chydymdeimlad ar hynny gan Weinidogion, o ystyried swyddogaeth unigryw'r ffordd hon fel gwythïen amgen sy'n cefnogi'r gogledd pan fydd cefnffordd yr A483 ar gau.
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, rwy'n hapus iawn i gadarnhau i Ken Skates bod cais bellach wedi dod i law gan gyngor Wrecsam o ganlyniad i'r cymorth a roddwyd i'r cyngor bwrdeistref sirol. Gadewch i mi ddweud wrth Ken Skates fy mod i'n deall yn llwyr yr angen am gyflymder yn y mater hwn, pwysigrwydd y mater ei hun ac effaith cau'r ffordd honno, ond rydym ni'n awyddus, os gallwn—ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn fater o 'os gallwn'—i allu gwneud penderfyniadau cyn cyfnod yr etholiad llywodraeth leol, fel y gall swyddogion awdurdodau lleol fwrw ymlaen â'r gwaith y bydden nhw'n yn gallu ei wneud wedyn. A, Llywydd, rwy'n cydnabod yr ymdrech enfawr a wnaed gan yr Aelod ar ran ei etholwyr yn y mater hwn, a'r ddadl y mae wedi ei gwneud dros benderfyniad cadarnhaol. Mae penderfyniad ar y cais gyda Gweinidogion, ac ni allaf ei ragweld, ond gallaf yn bendant ei sicrhau bod yr ymdrechion y mae ef wedi eu gwneud, a'r ddadl y mae ef wedi ei hyrwyddo, yn sicr wedi cael eu clywed.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw, Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: mae angen cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn galluogi ni i drafod yr LCM ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws). Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, byddwch chi wedi clywed y trafodaethau a gafodd y Prif Weinidog a minnau ynglŷn â diogelwch bwyd. Rwyf i'n amlwg yn eich holi chi heddiw fel arweinydd y tŷ, ond, yn amlwg, rydych chi'n gwisgo het arall y Gweinidog materion gwledig, a chi yw'r Gweinidog sy'n noddi'r Bil amaethyddol y byddwch chi'n ei gyflwyno ym mis Ebrill, rwy'n credu. Ni allaf i orbwysleisio'r cyfyng-gyngor yr ydym ni'n ei wynebu gyda'r hyn sy'n digwydd yn Wcráin. Rydym ni wedi clywed am argyfwng y ffoaduriaid, rydym ni'n gweld creulondeb y golygfeydd ar y teledu, bob nos, bob bore, bob awr effro, a dweud y gwir. Ond o'n blaenau ni yn y ddau, tri, pedwar mis nesaf, ac yn wir, dwy, tair, pedair blynedd, y mae'r mater hwn o ansefydlogi'r rhanbarth hwnnw'n llwyr a'i allu i gynhyrchu bwyd, nid yn unig ar gyfer y rhan hon o Ewrop ond ar gyfer y byd. Mae wedi newid difrifwch sylfaenol, fe fyddwn i'n ei awgrymu, o ran ble y mae angen i'r Bil hwn fod fel rhan o'n gofynion diogelwch bwyd. Fel yr wyf i wedi'i ddweud, mae gwenith wedi dyblu mewn pris, ac wrth symud ymlaen at farchnad y dyfodol, ar gyfer mis Tachwedd, bydd yn llawer uwch na hyd yn oed heddiw—gallai fod dros £300 y dunnell. Mae prisiau nwyddau eraill yn cynyddu o ran cynhyrchu bwyd hefyd, yn ogystal â'r gwrteithiau, y chwynladdwyr a'r plaladdwyr sy'n ofynnol i dyfu'r cnydau hyn. Dim ond unwaith y flwyddyn y gall ffermwr wneud y penderfyniad hwnnw, ac os na chaiff y penderfyniad hwnnw ei wneud bryd hynny, yna caiff y flwyddyn honno ei cholli, ac mae'n cymryd dwy flynedd i ddal i fyny.
A gawn ni ddatganiad am yr hyn y mae eich swyddogion ac, yn benodol, chi fel Gweinidog yn credu yw'r camau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd nawr i ailfywiogi meddylfryd cymuned amaethyddol Cymru i dyfu er diogelwch bwyd? Oherwydd rwy'n gwybod eu bod yn barod am yr her honno ac maen nhw eisiau chwarae eu rhan, er, ac yr wyf i'n cydnabod, mai sylfaen tir amaethyddol gymharol fach sydd gennym ni yng Nghymru. Ond mae cyfle yma y mae angen i ni afael ynddo a sicrhau ein bod ni'n chwarae ein rhan ni i sicrhau, er bod Wcráin yn parhau i fod yn ansefydlog, ein bod ni'n gwneud ein rhan ni i fwydo'r genedl a bwydo'r byd.
Diolch yn fawr iawn. Nid wyf i'n anghytuno ag unrhyw beth y gwnaethoch chi ei ddweud am y sefyllfa dorcalonnus sy'n datblygu yn Wcráin. Byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud fy mod i wedi gofyn am roi diogelwch bwyd ar agenda'r grŵp rhyngweinidogol pan fyddwn yn cyfarfod wythnos i ddydd Llun. Oherwydd, yn amlwg, rhaid i ddiogelwch bwyd fod yn gyfannol ledled y DU—rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd o amgylch hynny. Ac rydych chi yn llygad eich lle ynghylch prisiau gwenith. Byddaf i’n cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru ddydd Llun—rhan o fy nghyfarfodydd rheolaidd—ac, yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n parhau i'w drafod.
O ran y pwyntiau penodol yr ydych chi'n eu gwneud am y Bil amaethyddol, rwy'n credu, unwaith eto, fod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at lawer o bethau sydd wedi newid ers i ni gael y Papur Gwyn yn nhymor diwethaf y Llywodraeth, a fydd, yn amlwg, wedyn yn cyfrannu at y Bil amaethyddol. Felly, mae'r rhain i gyd yn bethau y mae fy swyddogion yn eu hystyried, gan gynnwys effaith gronnol y cytundebau masnach y mae Llywodraeth y DU wedi'u cyflwyno.
Trefnydd, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros fwrw ymlaen â gwario £1.4 biliwn i wneud 11 milltir o'r A465 yn ffordd ddeuol. Mynegodd y Western Mail y farn ddoe nad oedd modd cyfiawnhau'r prosiect hynod ddrud hwn mwyach, o ystyried y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad i ganslo dau brosiect llai carbon-ddwys yn y gogledd. Nawr, rwy'n sylwi nad yw'r Llywodraeth wedi gwadu bod bwrw ymlaen â'r prosiect yn gwrth-ddweud ei pholisïau newid hinsawdd, ond byddwch chi'n gwybod fy mod i wedi bod yn codi pryderon ers rhai blynyddoedd nawr ynghylch ariannu'r prosiect, oherwydd bydd yn cloi degawdau'r dyfodol i ddyled y bydd yn rhaid iddyn nhw ei thalu'n ôl. Mae'r Western Mail wedi cwestiynu ai rhwymedigaethau cytundebol yw'r rheswm nad oes modd canslo'r prosiect efallai, ac, gan ein bod ni'n sôn am swm mor enfawr o arian, nid yn unig nawr, ond am ddegawdau i ddod, byddwn i'n gofyn am ddatganiad llafar, os gwelwch yn dda, i'n helpu ni i benderfynu pam mae'r prosiect hynod ddrud hwn yn mynd rhagddo.
Diolch. Byddwch chi'n ymwybodol o'r gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud o ran adolygiadau ffyrdd, yn y de a, nawr, yn y gogledd, gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyhoeddi'r cadeirydd ar gyfer adolygiad ffyrdd y gogledd yn ddiweddar. Felly, byddwn i'n credu ei bod yn fwy buddiol, mae'n debyg, cyflwyno datganiad pan fydd gennym ni ddull Cymru gyfan, yn hytrach nag ar hyn o bryd ynghylch un ffordd.
A gaf i ofyn am un datganiad ac un ddadl? Mae'r datganiad yn un y gwn i y bydd y Trefnydd yn gyfarwydd ag ef yn ei swyddogaeth adrannol hefyd. Yn ôl yn hydref 2019—. Mae'n ddrwg gennyf i, rwy'n datgan buddiant fel hyrwyddwr eogiaid yr Iwerydd ar gyfer y Senedd. [Chwerthin.] Ond yn hydref 2019, cafodd y cynllun gweithredu ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr ei gyflwyno. Roedd ganddo gyfres o gamau gweithredu a ddeilliodd ohono. Rwy'n amau y gallai rhai ohonyn nhw fod wedi cael eu taro gan ffactorau diweddar, gan gynnwys y pandemig a'r gallu i fynd allan a monitro a gwerthuso ar lawr gwlad. Felly, byddai'n dda cael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ddatganiad ar lawr y Senedd am weithredoedd a chanlyniadau'r cynllun hwnnw, a lle yr ydym ni, o gofio iddo gael ei gyflwyno, ac rwy'n dyfynnu, gan gydnabod, y
'dirywiadau difrifol...mewn "eogiaid y gwanwyn" cynnar a bellach gan holl gydrannau oedran môr eogiaid ac, yn fwy diweddar, brithyllod y môr',
hefyd. Mae iechyd y stociau pysgod mudol hynny'n arwydd o iechyd nid yn unig ein hafonydd, ond hefyd ein hamgylchedd morol ledled y DU ac yn fyd-eang hefyd. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad.
Byddai hefyd yn gyfle i brofi barn pobl, yma yn y Siambr hon, ar fater ffermio eogiaid â chewyll. Mae cwestiynau mawr wedi'u codi ynghylch cynaliadwyedd hyn, ac nid cwestiwn i'r Alban yn unig ydyw ond lle bynnag y bydd hyn yn digwydd. Oherwydd mae'n fater yn ymwneud a pharasitiaid ac effeithiau parasitiaid ar eogiaid gwyllt ac eogiaid ymfudol, plaladdwyr sy'n cael eu rhyddhau o eogiaid mewn cawell a'r effaith ar eogiaid gwyllt a rhywogaethau gwyllt eraill, a hefyd mater o fwyd protein—y sgandal a glywsom amdani yn ddiweddar sef 460,000 tunnell o bysgod gwyllt yn cael eu cynaeafu i fwydo eogiaid fferm mewn cewyll. Duw a'n helpo ni o ran yr hyn sy'n digwydd yn y fan honno a'r cwestiwn o gynaliadwyedd ynghylch hyn, ac mae angen sicrwydd arnom ni na fydd hyn byth yn cael ei weld yng Nghymru yn y dyfroedd cynhesach sydd gennym ni yma.
Hoffwn i hefyd geisio dadl, os caf i—
Rwy'n credu eich bod chi wedi treulio dwy funud yn galw am eich datganiad cyntaf. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i chi aros tan yr wythnos nesaf i alw am eich dadl.
Rwy'n ymddiheuro. Arhosaf tan yr wythnos nesaf. [Chwerthin.]
James Evans. Na, Gweinidog i ymateb. Ie, mae'n ddrwg gennyf i, anghofiais i am y rhan honno. [Chwerthin.]
Byddaf i ychydig yn fwy cryno. Felly, y peth cyntaf i'w ddweud, ac yr wyf i'n falch iawn o allu dweud hyn a rhoi sicrwydd nid yn unig i Huw Irranca-Davies, hyrwyddwr eogiaid yr Iwerydd, ond pob Aelod, nad yw'r math hwn o bysgota diwydiannol yn digwydd yn nyfroedd Cymru. Nid oes gennym ni ddyframaeth pysgod asgell diwydiannol yma yng Nghymru chwaith, ond gwnaf i—. Gwnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud, mewn ateb cynharach i arweinydd yr wrthblaid, fod gennym ni gyfarfod grŵp rhyngweinidogol DEFRA wythnos i ddydd Llun, felly byddaf i'n ei godi gyda'r gweinyddiaethau eraill bryd hynny.
Yr hyn y gwnaeth y Gweinidog ei ddweud, Huw.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynghylch pam mae Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar y cynllun taliadau atodol band eang gwledig? Mae hyn yn hanfodol bwysig i gymunedau gwledig o ran cael band eang cyflym iawn ledled ein cymunedau, a hoffwn i wybod yn union beth fydd yn dod yn lle'r cynllun hwnnw, oherwydd rwy'n poeni y bydd rhai o'n cymunedau'n cael eu gadael ar ôl, os nad yw'r elfen atodol honno ar gael, sy'n gwneud llawer o'r cynlluniau hyn yn hyfyw. Diolch yn fawr iawn.
Wel, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud, mewn ateb cynharach ynghylch band eang, mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yw hynny. Felly, efallai, os bydden nhw wedi cadw at eu haddewid o 'ddim ceiniog yn llai' byddem ni wedi cael mwy o arian i barhau â'r cynllun band eang gwledig hwnnw.
Hoffwn i alw am ddau ddatganiad, a byddaf i'n ceisio cadw o fewn dwy funud.
Na, un funud, mewn gwirionedd.
Un funud, felly. [Chwerthin.]
Roeddwn i'n llawer rhy drugarog.
Yn gyntaf, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar gyfleusterau iechyd meddwl preswyl yng Nghymru. Mae etholwr sydd o dan ofal tîm iechyd meddwl yn y de wedi cysylltu â mi'n ddiweddar oherwydd diffyg cyfleusterau lleol cafodd ei hatyfeirio i uned breswyl yn Llundain. Ar ôl i breswylydd yn yr uned honno brofi'n bositif am COVID, cafodd ei hanfon adref ar ôl dim ond 10 diwrnod o driniaeth. Fel y gallwch chi ddychmygu, mae hwn wedi bod yn brofiad llawn straen i rywun a oedd yn gorfod teithio mor bell i gael y driniaeth yr oedd ei hangen arni. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi pe byddai'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a oes unrhyw ddatblygiadau o ran darparu cyfleusterau iechyd meddwl preswyl addas yng Nghymru.
Yn ail, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar honiadau diweddar fod cynghorwyr ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu bygwth gan swyddogion statudol y byddai camau yn cael eu cymryd yn eu herbyn am dorri'r cod ymddygiad pe baen nhw'n pleidleisio yn erbyn cynnig cyllideb diweddar. Fel y gwyddom ni i gyd, mae aelodau etholedig, boed hynny i San Steffan, siambrau cyngor ledled Cymru neu i'r union Senedd hon, i gyd yn cael eu hethol i weithredu er budd eu hetholwyr. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi pe byddai modd i'r Gweinidog gynnig rhywfaint o eglurder ynglŷn â'r sefyllfa a chadarnhau a fydd unrhyw ymchwiliad i'r hawliadau hyn yn digwydd fel y gallwn ni fynd at wraidd y mater.
Diolch. O ran eich pwynt cyntaf, ynghylch lleoliadau preswyl addas i bobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi clywed eich cais. Nid wyf i'n ymwybodol o'r sefyllfa y gwnaethoch chi sôn amdani, ac yr wyf i'n siŵr, os oes gan y Gweinidog unrhyw beth arall i'w ddweud, y bydd yn ysgrifennu atoch.
Trefnydd, roeddwn i'n meddwl tybed, o gofio'r sefyllfa ofnadwy yn Wcráin, fel arwydd arall o'n hundod ni, a oes gennych chi ar y safle o fewn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ac ati, lyfr coffa lle gall staff ac Aelodau neu Weinidogion gyfleu eu meddyliau. Rwyf i hefyd wedi codi hyn gyda'r Llywydd ac wedi cael ymateb cadarnhaol, ond roeddwn i'n meddwl tybed a oes unrhyw lyfrau wedi'u gosod eto yn unrhyw un o adeiladau Llywodraeth Cymru.
Cyn bod y Gweinidog yn ymateb, rwy'n credu eich bod chi wedi rhoi geiriau yn fy ngheg yn y fan yna. Fy ymateb i chi oedd dweud y byddwn i eisiau i ni fel Senedd feddwl am ein gweithredoedd yn hytrach na'n geiriau ni, ac ein bod ni'n ymchwilio i weld a fyddai'n bosibl i ni sefydlu pwynt casglu ar gyfer rhoi arian i gefnogi'r rhai sy'n dioddef yn Wcráin. Rwyf i wir yn credu, ac yn gobeithio fy mod i'n adlewyrchu'r Siambr ynghylch hyn, mai ein gweithredoedd ni ac nid ein geiriau ni sydd bwysicaf ar hyn o bryd. Mae'n ddrwg gennyf i os na wnaeth fy neges i chi eich cyrraedd mewn pryd i chi fod wedi codi hynny, ond nid oeddwn i eisiau i fy ngeiriau i gael eu camddehongli mewn unrhyw ffordd.
Na, nid yw hyn yn—. Nid yw hyn—.
Er eglurder, a ydych chi'n dweud na chawn ni lyfr yma, felly?
Rwyf i wedi dweud gweithredu nid geiriau, bydd, fe fydd pwynt casglu. Mae'n ddrwg iawn gennyf i, Janet, eich bod chi wedi dewis codi hyn yn y ffordd fwyaf amhriodol hon nawr. Y Gweinidog, i ymateb.
Felly, byddwn i'n credu bod hyn yn fwy o fater i Gomisiwn y Senedd yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae'r Llywydd wedi'i ddweud—rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod ein gweithredoedd yn amlycach o lawer na geiriau.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddarpariaeth gofal dydd i bobl anabl yn ystod y pandemig. Rwy'n codi hyn gyda chi eto oherwydd mae'n ymddangos bod gwrthgyferbyniad mawr rhwng yr hyn sy'n cael ei ddarparu, gyda rhai awdurdodau lleol, megis Gwynedd a Blaenau Gwent, yn cadw darpariaeth canolfannau gofal dydd ar gyfer y rhai mwyaf anabl, ac mae awdurdodau lleol eraill, megis Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi torri'r ddarpariaeth, gan adael llawer o rieni a gofalwyr pobl anabl heb ddim neu fawr ddim o seibiant. Mae'n ymddangos bod dehongliad awdurdodau lleol o reoliadau a chanllawiau COVID y Llywodraeth wedi arwain at loteri cod post lle na fyddai rhywun ag anabledd dwys yng Nghrymlyn, er enghraifft, sydd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cael darpariaeth canolfan gofal dydd, er y byddai rhywun sy'n byw yn Swffryd, ychydig lathenni i ffwrdd ym Mlaenau Gwent, yn cael hynny. Roeddwn i'n gobeithio, gyda phethau'n ailagor ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i bwysigrwydd canolfannau gofal dydd, y byddem ni'n gweld rhywfaint o newid yn y ddarpariaeth gofal dydd i bobl anabl, ond nid yw hynny wedi digwydd mewn sawl rhan o'r wlad eto. A all y Llywodraeth ystyried hyn fel mater o frys? Nid wyf i'n credu ei bod yn ddigon da dweud mai mater i awdurdodau lleol ydyw.
Wel, efallai nad yw'n ddigon da, ond mae'n ffaith mai mater i bob awdurdod lleol yw darparu gwasanaethau i'r bobl yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rwy'n credu bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn glir iawn yn y maes hwn a mater i awdurdodau lleol yw sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n cael eu darparu ar gyfer eu poblogaeth leol. Yn amlwg, mae problemau wedi bod yn ystod pandemig COVID—rwy'n gwybod o fy etholaeth fy hun—gyda staff sydd, yn anffodus, wedi bod i ffwrdd yn sâl gyda COVID, ac ati. Mae prinder wedi bod yn y ddarpariaeth honno. Ond, fel y dywedwch chi, yr ydym ni nawr yn ailagor. Byddwn i'n gobeithio y gall pob awdurdod lleol roi'r pwysigrwydd y mae wir ei angen ar y gwasanaethau hyn.
Rŷn ni yn clywed nawr, wrth gwrs, fod yna gymorth dyngarol sydd fod i fynd i Wcráin yn styc ar ffin y Deyrnas Unedig oherwydd y tâp coch ychwanegol i allforio nwyddau yn sgil Brexit. Nawr, yn ôl yr elusennau sy'n cael eu heffeithio, maen nhw'n dweud bod angen nawr gwaith papur ychwanegol am mai rhoddion sy'n cael eu cludo ac nid nwyddau sy'n mynd i gael eu gwerthu ymlaen ar ôl croesi'r ffin. Byddwch chi'n ymwybodol, efallai, fod Llyr Jones a Rhys Jones o sir Ddinbych yn gyrru cerbyd i Wcráin yr wythnos yma, ond maen nhw, oherwydd yr amgylchiadau hynny, yn cael eu gorfodi i groesi'r ffin i Ffrainc, wedyn prynu y nwyddau dyngarol er mwyn eu cludo. Nawr, liciwn i gael datganiad ysgrifenedig neu ryw fath o ddiweddariad gan y Llywodraeth jest yn egluro beth ŷch chi'n ei wneud i roi'r achos gerbron Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â'r broblem yma, oherwydd mae rhywun yn poeni am dynged cannoedd o filoedd o eitemau sydd wedi cael eu rhoi mewn casgliadau—yn Rhug, yn Wrecsam, ac ar draws Cymru—a allai fod yn styc mewn porthladdoedd yn methu â chyrraedd Wcráin, lle mae mawr eu hangen nhw.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, oherwydd mae'r fath gydymdeimlad wedi bod, onid ydyw, gan bobl Cymru o ran y sefyllfa erchyll hon yn Wcráin. Ac, fel y dywedwch chi, mae rhoddion sylweddol wedi'u rhoi, ac rwy'n gwybod bod llawer o lorïau'n mynd yr wythnos hon.
Rwy'n credu bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen. Llywodraeth Cymru, rwy'n ei olygu—. Roeddem ni'n ystyried cyflwyno datganiad llafar heddiw, ond oherwydd, yn amlwg, mae gan Geidwadwyr Cymru ddadl yfory, yr ydym ni wedi penderfynu mai ymateb y Gweinidog fydd y lle priodol ar gyfer hyn. Felly, byddaf i'n sicrhau ei bod hi'n cyfeirio at y gwaith sydd wedi bod yn digwydd wrth ateb eich cwestiwn. Diolch.
Diolch i'r Trefnydd.
Y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd nesaf, ar ddiweddariad ar COVID-19. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad hynny—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i ddiweddaru'r tŷ yma ar y digwyddiadau diweddaraf o ran coronafeirws.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd, canlyniad yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws, a'n cynlluniau ni i symud y tu hwnt i'r ymateb brys i'r pandemig wrth i ni symud i fyw'n ddiogel gyda coronafeirws yn y tymor hwy.
Rwy'n falch o adrodd bod achosion o coronafeirws yn parhau i fod ymhell o dan yr uchafbwynt y gwnaethom ni ei weld gydag omicron ledled Cymru. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gennym ni 178 o achosion fesul 100,000 o bobl yng Nghymru, ond mae hynny'n seiliedig ar brofion PCR cadarnhaol. Fel yr wyf i wedi dweud o'r blaen, fodd bynnag, mae angen i ni nawr ystyried amrywiaeth ehangach o fesurau i ddeall y darlun iechyd cyhoeddus y tu hwnt i brofion PCR yn unig. Ac un o'r ffyrdd gorau o wneud hyn yw arolwg rheolaidd y Swyddfa Ystadegau Gwladol o haint coronafeirws, sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd ledled y Deyrnas Unedig. Mae arolwg yr haint yn dangos bod heintiau yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn ystod yr wythnosau diwethaf. Maen nhw hefyd yn dangos bod lefelau'r haint yng Nghymru yn parhau i fod yn is nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella'n gyson, diolch i waith caled pawb. Mae pobl yng Nghymru yn parhau i ddilyn y rheolau a gwneud yr holl bethau bach hynny sy'n helpu i gadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom ni adolygu'r holl fesurau diogelu sydd gennym ar waith ar hyn o bryd a gwnaethom ni gytuno y bydd Cymru'n aros ar lefel rhybudd 0. Cyn belled â bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol, byddwn yn ceisio dileu'r holl fframweithiau cyfreithiol sydd wedi bod yn sail i'n hymateb i'r pandemig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ddiwedd mis Mawrth. Mae hyn yn golygu y bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb yn y lleoliadau sy'n weddill, y gofyniad i hunanynysu, a'r gofyniad i fusnesau gynnal asesiadau risg COVID penodol yn dod i ben.
Dirprwy Lywydd, mae'r mesurau hyn wedi ein cadw ni'n ddiogel am ddwy flynedd ac ni fyddwn ni'n rhoi'r gorau iddyn nhw. Nid ydym ni eisiau anghofio'r holl ymddygiad hynny sydd wedi helpu i'n hamddiffyn ni rhag y feirws ofnadwy hwn. Byddwn ni'n llunio canllawiau, byddwn ni'n cynghori pobl i barhau i wisgo gorchudd wyneb mewn rhai mannau, ac i hunanynysu am bum niwrnod os oes ganddyn nhw symptomau, i olchi eu dwylo'n rheolaidd, i gwrdd â phobl yn yr awyr agored, os yw'n bosibl, ac i gadw mannau dan do wedi'u hawyru'n dda. Rydym ni eisiau parhau i gadw ein gilydd yn ddiogel wrth i ni symud i gam nesaf ein hymateb, oherwydd nid yw'r pandemig wedi dod i ben eto. Ni fydd coronafeirws yn diflannu ar 28 Mawrth oherwydd nad oes gennym ni reoliadau mwyach.
Wrth i ni symud oddi wrth ddull sy'n seiliedig ar y gyfraith, byddwn ni hefyd yn gwneud newidiadau i brofi. Rhwng diwedd mis Mawrth a mis Mehefin, byddwn ni'n symud yn raddol mewn dull cam wrth gam o sefyllfa lle mae profion PCR a phrofion llif unffordd ar gael i bawb. Ni fydd profion PCR yn cael eu defnyddio mwyach ar gyfer profi symptomau. Yn hytrach, bydd profion llif unffordd ar gael i'w harchebu am ddim ar-lein i bobl â symptomau.
Dirprwy Lywydd, ddydd Gwener, gwnaethom ni gyhoeddi ein cynllun tymor hwy 'Gyda'n gilydd at ddyfodol mwy diogel', sy'n nodi sut y byddwn ni'n symud y tu hwnt i'r dull gweithredu mewn argyfwng rydym wedi bod yn ei ddilyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n cadw'r ddwy dybiaeth gynllunio a gafodd eu disgrifio gennym ni gyntaf yn yr hydref—COVID sefydlog a COVID brys. Rydym ni'n gobeithio ac yn credu mai COVID sefydlog yw'r sefyllfa fwyaf tebygol ar gyfer y dyfodol.
Rŷn ni'n gobeithio y bydd ein brechlynnau’n parhau'n effeithiol ac na fydd y gwasanaeth iechyd yn cael ei lethu. Fe fydd ein hymateb iechyd cyhoeddus yn dilyn y protocolau presennol, sydd wedi eu hen sefydlu ar gyfer clefydau trosglwyddadwy. Bydd y gwaith o gadw golwg ar ac adrodd am COVID-19 yn digwydd ochr yn ochr â'r trefniadau adrodd ar gyfer heintiau anadlol. Fe fyddwn ni'n dechrau cyfuno ein rhaglen brechlyn lwyddiannus iawn ar gyfer COVID-19 gyda brechlynnau ataliol eraill i roi'r amddiffyniad gorau posibl, ar sail cyngor diweddaraf y JCVI a swyddfa Prif Swyddog Meddygol Cymru. Fe fydd y rhaglen yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu'r bobl sydd yn fwyaf agored i niwed. Fe fyddwn ni'n cynnig brechiad atgyfnerthu yn yr wythnosau nesaf i bobl dros 75 oed, preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal a'r bobl fwyaf agored i niwed.
Fel y soniais i dair wythnos yn ôl, fe fyddwn ni'n cynnig brechlyn i bob plentyn rhwng pump ac 11 mlwydd oed yn nes ymlaen yn y mis. Cynnig rhagofalus yw hwn i gynyddu imiwnedd plant yn erbyn COVID-19 difrifol cyn inni weld unrhyw donnau posibl yn y dyfodol. Fe fydd hefyd yn rhoi'r siawns orau iddyn nhw o dymor yr hydref esmwyth ar ôl gwyliau'r haf. Dwi'n annog teuluoedd i drafod y cynnig hwn nawr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i'w helpu nhw i wneud y penderfyniad.
Hoffwn i ddweud unwaith eto, os nad ydych chi wedi cael eich brechu eto, dyw hi byth yn rhy hwyr. Mae bron i 6.9 miliwn dos o'r brechlyn wedi eu rhoi mewn ychydig dros flwyddyn. Mae'r rhaglen frechu wedi achub bywydau ac mae'n parhau i wanhau'r cysylltiad rhwng y feirws a salwch difrifol.
Dirprwy Lywydd, fe fyddwn ni hefyd yn paratoi ar gyfer y gwaethaf, gan obeithio, wrth gwrs, na fydd hyn yn digwydd. Dwi'n ymwybodol iawn o farn y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a'r Grŵp Cynghori ar Fygythiadau Feirysau Anadlol Newydd a Datblygol fod amrywiolion yn debygol iawn o ymddangos yn y dyfodol ac y gallen nhw wneud mwy o niwed uniongyrchol na'r hyn rŷn ni wedi ei weld yn sgil amrywiolyn omicron.
O dan y senario brys, mae gyda ni gynlluniau wrth gefn i ymateb pe bai sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwaethygu. Mewn sefyllfa o'r fath, fe fyddem ni'n cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl gan ehangu ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu, a chydweithredu i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed. Rŷn ni wedi gofyn i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer senario COVID brys rhag ofn. Yn y senario hon, byddai angen iddyn nhw roi'r gallu ychwanegol sydd yn y rhaglen frechu ar waith pe bai ymateb cyflym yn angenrheidiol unwaith eto.
Dirprwy Lywydd, dwi'n falch o allu dweud heddiw, diolch i'r rhaglen frechu wych ac i bobl ar draws Cymru am eu gwaith caled, eu haberth a'u hamynedd, ein bod ni ar fin gadael yr argyfwng iechyd cyhoeddus y tu ôl inni, a dechrau perthynas wahanol iawn, gobeithio, gyda'r feirws.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf ynghylch map ffyrdd i gael gwared ar gyfyngiadau, gyda'r rhan fwyaf o'r cyfyngiadau'n cael eu codi ddiwedd y mis hwn. Mae hyn yn newyddion da a chadarnhaol iawn yn wir, ac, wrth gwrs, fel Ceidwadwyr Cymru, rydym ni wedi bod yn galw am hyn ers sawl wythnos. Felly, rwy'n falch bod y Llywodraeth nawr wedi darparu'r map ffyrdd hwn a llacio'r cyfyngiadau. Yr hyn yr hoffwn i ei ddeall, Gweinidog, yw, o ystyried eich beirniadaeth o Lywodraeth y DU ynghylch codi cyfyngiadau pan wnaethon nhw—ac rwy'n dyfalu y gallwch chi gynnwys Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn y modd hwnnw hefyd, wrth iddyn nhw gyhoeddi'r un peth ar yr un adeg—a wnewch chi egluro pa dystiolaeth yr ydych chi wedi'i gweld i wneud y newidiadau hyn? Oherwydd pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf i ddileu'r holl gyfyngiadau, gwnaethoch chi ddweud:
'Yn wahanol i Loegr... rydym ni'n hoffi dilyn yr wyddoniaeth yn hytrach na'r wleidyddiaeth yma yng Nghymru'.
Ac yna, dri diwrnod yn ddiweddarach, ar ôl dweud hynny, gwnaethoch chi'r un peth eich hun. Felly, a allwch chi egluro'r wyddoniaeth a newidiodd eich sefyllfa yn y tridiau hynny yr wythnos diwethaf? Ar ôl 28 Mawrth, Gweinidog, rwy'n falch iawn y byddwn ni'n gweld diwedd y cyfyngiadau. A gaf i ofyn i chi pryd yr ydych chi'n rhagweld y bydd y cylch adolygu tair wythnos yn dod i ben? A fydd hynny'n parhau am beth amser? Pryd yr ydych yn disgwyl cyrraedd pwynt lle na fydd y cylchoedd tair wythnos hynny'n digwydd mwyach?
Mae Grŵp Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU ar Argyfyngau yn dirwyn i ben. Efallai y byddwn i ond yn gofyn, a yw eich Llywodraeth yn gwneud yr un peth ar gyfer y gell cyngor technegol? Rwy'n sylweddoli y bydd rhai strwythurau'n dirwyn i ben ond y byddan nhw'n parhau'n segur. Mae elfennau o roi rhai o'r seilweithiau hyn mewn cyflwr segur, yn barod i ymateb—er nad ydym ni eisiau gweld hyn—pe bai'r cyfyngiadau'n dod yn ôl, neu os daw'r pandemig yn ôl ar unrhyw adeg hefyd. Ond mae gennyf i ddiddordeb mewn gwybod eich barn yn hynny o beth.
Byddai o ddiddordeb i mi wybod hefyd, Gweinidog, a yw Cabinet Llywodraeth Cymru wedi trafod a ddylai lefelau rhybudd COVID gael eu hailgyflwyno yn ystod y gaeaf nesaf, yn ystod misoedd y gaeaf hwnnw, pe bai achosion yn codi, yn enwedig o ystyried sylwadau'r Prif Weinidog ddydd Gwener diwethaf—ac nid wyf i'n anghytuno â'i sylwadau—nad yw'r pandemig ar ben ac y gallai fod amrywiadau mewn patrymau byd-eang am sawl blwyddyn i ddod. Rwy'n amlwg yn bryderus yma nad ydym ni eisiau bod mewn sefyllfa lle yr ydym ni nôl i gyfnod cyfyngiadau symud llawn y gaeaf nesaf, felly hoffwn i petai hynny'n cael ei dynnu oddi ar y bwrdd. Rwy'n gwerthfawrogi nad oes gennych chi bêl grisial, ond yr ydych chi'n gweithio ar ragdybiaethau ac yr ydych chi'n gweithio ar fodelu, ac yr ydym ni mewn lle gwahanol iawn i'r sefyllfa lle yr oeddem ni ynddi ym mis Mawrth 2020 gyda chymaint o ansicrwydd. A wnewch chi ddweud wrthyf i hefyd pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud nawr ar gyfer pandemigau yn y dyfodol, pe baen nhw'n codi, fel y byddai modd dysgu gwersi gwirioneddol am ledaeniad yn y gymuned a heintiau a gaiff eu trosglwyddo mewn ysbytai?
Rydym ni hefyd yn symud i gyfnod adfer o'r pandemig, ac o ystyried ei bod yn flwyddyn ers i'ch rhagflaenydd gyhoeddi cynllun adfer GIG Cymru, byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod lle yr ydych chi arni o ran y canolfannau llawfeddygol sy'n rhydd o COVID-19 i helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad cynyddol yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr, nid oedd ffigurau aros yn dda o gwbl, gydag un o bob pedwar llwybr cleifion yn aros dros flwyddyn am driniaeth a 50,000 yn dal i aros am dros ddwy flynedd am driniaeth, sy'n syfrdanol. Roeddwn i'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad ynglŷn â'r cynllun gaeaf ar gyfer canolfannau, ond nid ydym ni'n clywed llawer am hwn. O ystyried y ffaith ein bod ni allan o'r gaeaf yn dechnegol, lle mae byrddau iechyd arni o ran canolfannau sy'n rhydd o COVID-19, a pha amserlenni ydych yn gweithio iddyn nhw nawr er mwyn lleihau amseroedd aros blwyddyn a dwy flynedd? A fyddai modd i chi hefyd amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran sicrhau y bydd y grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn cael statws cyfranogiad craidd yn yr ymchwiliad cyhoeddus ledled y DU, o gofio bod Llywodraeth Cymru, yn hynod siomedig, wedi gwrthod cynnal ymchwiliad cyhoeddus i ystyried eich gweithredoedd yma yng Nghymru yn benodol?
Yn olaf—rwyf wedi gofyn hyn o'r blaen, a gobeithio y gallwch chi ateb y tro hwn—cyflwynodd Nicola Sturgeon a Boris Johnson eu cynlluniau i fyw gyda COVID a diwedd y cyfyngiadau i'w priod Seneddau, ond, yma yng Nghymru, gwnaed y sylwadau hynny'n gyntaf i newyddiadurwyr ac yna'n ddiweddarach yma yn ein Senedd. A wnewch chi egluro pam mae hyn yn parhau i ddigwydd yn rheolaidd? Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn, Russell. Rwy'n falch eich bod chi'n croesawu codi'r cyfyngiadau. Wrth gwrs, ein gwaith ni yw cadw Cymru'n ddiogel. Mae Llywodraethau eraill yn cadw eu pobl eu hunain yn ddiogel, ond ein cyfrifoldeb ni yw gwneud hynny yn y ffordd yr ydym ni'n credu sy'n gywir i ni, a gwnawn ni hynny drwy geisio dilyn y dystiolaeth a'r wyddoniaeth bob tro. Ond rydym ni bob amser wedi bod yn glir iawn, mewn gwirionedd, y byddai bob amser yn wir y byddem ni'n mynd i'r un cyfeiriad â Llywodraeth y DU, mater o amseru yn unig ydoedd. Rydym ni'n credu bod yr amseru yr oeddem ni wedi'i gyhoeddi ddydd Gwener yn gweithio i ni. Rydym ni mewn sefyllfa lle nad ydym ni, wrth gwrs, yn codi'r cyfyngiadau hynny eto—rydym ni'n eu cadw yn eu lle am fis arall, i bob pwrpas. Bydd hynny'n ein harwain ni, gobeithio, at amser cynhesach. Gwyddom ni fod yna agwedd dymhorol ar ffurf y feirws a'r ffordd y mae'n taro ein cymunedau. Rydym ni'n gobeithio, wrth i bethau gynhesu, y byddwn ni mewn sefyllfa erbyn 24 Mehefin, wrth gwrs, lle na fydd unrhyw gyfyngiadau mwyach a bydd yn sefyllfa wahanol iawn. Felly, nid ydym ni'r un fath â Lloegr, a dyna'r rheswm pam yr ydym ni mewn lle gwahanol i Loegr.
Rydym ni wedi dechrau trafodaethau gyda TAC o ran sut y gallai hynny edrych yn y dyfodol, ac rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n cadw seilwaith a fyddai'n ein galluogi ni i weithredu'n gyflym os byddem ni'n gweld amrywiolyn newydd a pheryglus. Wrth gwrs, caiff hyn ei wneud yn anoddach oherwydd y cyllid cyfyngedig yr ydym ni'n ei gael nawr gan Lywodraeth y DU. Yn sicr, o ran lefelau rhybudd COVID, byddwn i'n eu cadw wrth gefn yn barod ac, wrth gwrs, bydd angen i ni gadw llygad ar ddatblygiadau. Nid oes neb eisiau mynd yn ôl i'r cyfyngiadau symud, ond rwy'n credu ei bod yn anghyfrifol dweud na fyddem ni byth yn gwneud hynny. Nid oes gennym ni syniad beth sydd o'n blaenau, Russell, ac mae bob tro'n gwneud synnwyr i sicrhau bod gennych chi amrywiaeth o ddewisiadau ar gael i chi o ran gallu ymateb.
O ran y gwersi sydd wedi'u dysgu, rydym ni wedi bod yn ceisio dysgu gwersi yr holl ffordd yn ystod y pandemig. Rydym ni'n parhau i ddysgu'r gwersi hynny, ond, wrth gwrs, bydd mwy o wersi i'w dysgu, ac rwy'n siŵr y bydd rhai o'r rheini'n ymddangos yn ystod yr ymchwiliad. Gwnaethoch chi ofyn am statws cyfranogwr craidd teuluoedd sydd mewn profedigaeth COVID-19. Gwn i fod y Prif Weinidog wedi trafod y mater hwn gyda theuluoedd mewn profedigaeth COVID-19 dros gyfiawnder. Bydd yr ymchwiliad yn nodi'r broses ar gyfer dynodi statws craidd y cyfranogwr, ac nid ydym ni'n gwybod eto sut y bydd y cadeirydd yn gwneud hyn. Yr hyn na fyddem ni eisiau'i wneud yw gwneud unrhyw beth a fyddai'n achosi mwy o niwed na helpu'r sefyllfa honno yn y pen draw .
Yn sicr, o ran rhestrau aros, byddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun gofal arfaethedig ym mis Ebrill ac, yn amlwg, byddwn ni'n ystyried sut y gallwn ni weld gwell cydweithredu rhanbarthol o ran ceisio mynd i'r afael â'r ôl-groniad hwnnw yr ydym ni wedi bod yn ei ystyried. A dim ond i bwysleisio hynny, mewn gwirionedd, yr oeddwn i'n meddwl bod y GIG wedi gwneud gwaith rhyfeddol ym mis Rhagfyr. Dim ond cynnydd o 0.2 y cant y gwnaethom ni ei weld ym mis Rhagfyr. Mae hynny er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi gofyn iddyn nhw ganolbwyntio ar y brechiad atgyfnerthu a'u gyflwyno'n gyflym iawn. Felly, rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, fod pethau eisoes yn symud yn y GIG. Wrth gwrs, mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd. O ran ein ffigurau, wrth gwrs, yr ydym ni'n eu cyfrif nhw'n wahanol iawn i'r ffordd y maen nhw'n cyfrif eu rhestrau aros yn Lloegr. O ran yr adolygiad 21 diwrnod, rwy'n credu ei bod yn gwneud synnwyr i ni barhau â hyn. Rwy'n credu bod angen i ni ystyried a oes angen hynny y tu hwnt i 24 Mehefin.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n gobeithio bod hwn wedi bod yn ddatganiad arwyddocaol iawn, a beth dwi'n meddwl wrth hynny ydy dwi'n gobeithio mai hwn ydy'r datganiad mawr olaf sydd yn marcio dechrau y diwedd—dim ond dechrau y diwedd, wrth gwrs, nid diwedd y pandemig. Mi fydd yna droeon trwstan arall dwi'n siŵr, ond allwn ni ond gobeithio mai i'r cyfeiriad iawn y byddwn ni yn symud.
Oherwydd yr arwyddocâd yna, mae yna nifer o feysydd o gwestiynau y buaswn ni'n licio mynd ar eu holau nhw. Yn gyntaf, oes, mae gennym ni'r ddau senario—bod pethau'n aros yn gyson, neu fod pethau'n mynd yn urgent. Mae beth sy'n digwydd yn y pontio rhwng y ddau a beth ydy'r trosi yn ôl a blaen rhwng y ddau yn fater, dwi'n meddwl, y gallwn ni wneud efo rhywfaint yn rhagor o eglurhad arno fo. Yn benodol, wrth gwrs, dydi hi ddim yn dderbyniol bod y cyllid wedi cael ei dynnu gan Drysorlys Prydain, ond yn absenoldeb yr arian hwnnw, a oes yna gronfa yn barod i fynd gan Lywodraeth Cymru, easy-access, os liciwch chi, lle y byddai modd rhoi camau cefnogi yn ôl mewn lle pe baem ni'n gorfod cymryd cam yn ôl oherwydd amrywiolyn newydd? A hefyd, mae'r fframweithiau deddfwriaethol yn dod i ben mewn mater o wythnosau erbyn hyn; oes yna ddeddfwriaeth newydd fyddai angen ei hailgyflwyno, neu ei chyflwyno o'r newydd, er mwyn gallu ailgyflwyno mesurau diogelwch, mesurau rydyn ni'n gobeithio na fydd mo'u hangen, wrth gwrs?
Dwi'n meddwl fy mod i'n hapus efo'r hyn dwi wedi'i glywed gan y Gweinidog a'i thîm o ran bod profion yn mynd i barhau i fod am ddim. Er mwyn bod yn gwbl sicr o hynny, gaf i eglurhad o beth fydd yn digwydd i bobl sydd yn fregus? Mi fydd fferyllfeydd yn gwerthu profion. Gaf i sicrwydd llwyr na fydd rhaid i unrhyw un sydd angen prawf oherwydd eu bod nhw'n fregus orfod talu am brofion dan unrhyw amgylchiadau? Hefyd, un cwestiwn dwi wedi methu â chael ateb iddo fe mewn briefings gan y Gweinidog a'i swyddogion hyd yma ydy: pryd yn union gawn ni ddiffiniad o bwy fydd yn cael eu hystyried yn fregus yn y misoedd sydd i ddod? Achos dwi'n gwybod mai un o'r cwestiynau yr oeddwn i'n ei gael mwyaf rheolaidd ym misoedd cyntaf y pandemig oedd pobl yn gofyn, 'Ydw i'n fregus? Ydw i i fod ar y rhestr o bobl sy'n cael eu gwarchod?' Felly, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi rhagor o wybodaeth am hynny.
Un ymateb dwi'n gwybod sydd o gonsérn i staff iechyd ydy awyru o fewn ystad yr NHS yng Nghymru. Rydyn ni wedi siarad llawer iawn am awyru mewn ysgolion yn benodol, ac ambell i leoliad arall, ond a gawn ni eglurhad o'r asesiad sydd wedi cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru o'r gwaith sydd wedi cael ei wneud ar ystad yr NHS—ysbytai, ac ati—i sicrhau diogelwch staff drwy gael digon o awyru drwy'r adeiladau hynny?
Mae dau fater arall. Gofynnais i'r Gweinidog yr wythnos diwethaf a fyddai'n fodlon ymuno â fy ngalwad i ar gyfer rhoi statws cyfranogwr craidd i Deuluoedd mewn Profedigaeth COVID-19 dros Gyfiawnder-Cymru yn ymchwiliad y DU. Roeddwn i a'r ymgyrch honno a llawer ohonom ni eisiau cael ymchwiliad sy'n benodol i Gymru; cafodd hynny ei rwystro gan Lywodraeth Cymru. Rwyf i wedi fy syfrdanu gan yr ymateb yr oeddem ni wedi'i glywed ychydig funudau'n ôl gan y Gweinidog, a dweud y gwir, a ddywedodd nad ydyn nhw eisiau ymyrryd rywsut yn ymchwiliad y DU. Rwy'n gofyn i'r Gweinidog eto heddiw: ymunwch â'n galwadau ni ar gyfer rhoi statws cyfranogwr craidd i ymgyrchwyr teuluoedd mewn profedigaeth COVID-19. Ydym, yr ydym ni'n gobeithio y bydd ymchwiliad y DU yn gwrando ar y cyhoedd yng Nghymru yn gyffredinol, a Llywodraeth Cymru, a ninnau fel gwrthbleidiau, a'r gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Ond grŵp ymgyrchu yw hwn sydd â'i gwnsler cyfreithiol ei hun, sydd wedi mynd drwy'r gwaith diwyd o gasglu'r math o dystiolaeth sydd ei hangen arnom ni i sicrhau bod ymchwiliad y DU yn ei glywed. Felly, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru eto: a wnewch chi ymuno â'n galwad? Rwyf i wedi ysgrifennu at ymchwiliad y DU yn gofyn bod hynny'n digwydd, a wnaiff y Gweinidog gefnogi'r alwad honno hefyd? Nid fel y rhyngweithio unigryw rhwng Cymru a'r ymchwiliad hwnnw, ond fel elfen bwysig iawn ohono.
Ac yn olaf, rydym ni'n dod at ddwy flynedd, neu yr ydym ni wedi cyrraedd pwynt dwy flynedd, ers i'r pandemig ddechrau. Mae gweithwyr iechyd a gofal yn arbennig a oedd wedi dal y feirws yn y dyddiau cynnar, ac efallai wedi bod yn agored i lwyth feirysol arbennig o drwm, oherwydd iddyn nhw fod ar y rheng flaen yn y GIG ac yn y gwasanaeth gofal. Maen nhw nawr yn wynebu'r posibilrwydd o gael eu cyflog wedi'i haneru—y rhai sy'n dal i ddioddef effeithiau dinistriol COVID hir hyd heddiw. Hyd y gwn i, mae cyfnod absenoldeb arbennig COVID yn dal i fod ar waith yn yr Alban i ddiogelu gweithwyr y GIG sydd yn y sefyllfa hon. Nid yw'n ddigon da nawr i droi o'r neilltu'r gweithwyr GIG hynny a oedd wedi rhoi eu hunain mewn perygl. Mae angen sicrwydd arnyn nhw na fyddan nhw'n gweld toriad yn eu cyflog, ac rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y mater hwn fel mater o wir frys, er mwyn rhoi'r cymorth sydd ei angen ar staff gofalgar, gweithgar o fewn y GIG ar ôl iddyn nhw ofalu am eraill yn nyddiau tywyll cyntaf COVID ddwy flynedd yn ôl.
Diolch yn fawr, a dwi hefyd yn gobeithio mai hwn yw'r datganiad mawr olaf yn ymwneud â COVID, a gobeithio yn wir y gallwn ni fynd ymlaen a chanolbwyntio ar faterion eraill yn ymwneud â'r NHS yn y dyfodol.
Jest o ran absenoldeb arian, pe byddai'n rhaid inni ailgydio mewn rhai o'r mesurau yma yn y dyfodol, wrth gwrs, mae wastad arian yn y reserves a byddai angen imi wneud achos i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol os byddai angen arian ar gyfer y dyfodol. Mae'r ddeddfwriaeth yn mynd i ddod i'w diwedd ar 24 Mawrth eleni. Rŷn ni wedi gwneud asesiad manwl o'r hyn a fydd yn stopio, jest i sicrhau bod dim byd sydd â sail ddeddfwriaethol ar ôl hynny, a'n bod ni'n gyffyrddus gyda'r sefyllfa yna. Wrth gwrs, bydd rhaid inni gadw llygad ar beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Beth dŷn ni ddim eisiau gweld yw sefyllfa lle byddai Llywodraeth Prydain yn ceisio defnyddio deddfwriaeth wahanol a fyddai yn ein stopio ni rhag cael y rôl rŷn ni wedi ei chael tan nawr.
O ran profion—.
Bydd y profion llif unffordd yn parhau i fod ar gael o fferyllfeydd tan 31 Mawrth. Mae trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'n partneriaid i sicrhau bod y bobl hynny sy'n agored i niwed sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn gallu parhau i gael profion pan fydd eu hangen arnyn nhw ar ôl 31 Mawrth. Felly, mae cyfleuster i chi ffonio a chael y cymorth hwnnw, neu mae'n amlwg y gallwch chi archebu'r rheini ar-lein. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda'n hybiau cymunedol a'n mannau casglu lleol i sicrhau y gall y rhai mwyaf agored i niwed barhau i gael profion yn bersonol o fis Ebrill ymlaen. Ac, wrth gwrs, byddwn ni'n symud i ddefnyddio profion llif unffordd ar gyfer unigolion symptomatig.
Jest o ran ventilation mewn ysbytai—
—mae llawer o adroddiadau ac asesiadau wedi'u gwneud o ran sicrhau bod pobl yn cymryd y sefyllfa honno o ddifrif, felly mae pob bwrdd iechyd yn gwybod yn union beth y mae angen iddo ei wneud yn y cyfnod hwn.
Rwyf i wedi rhoi ateb ar statws y cyfranogwyr craidd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cefnogi ein gweithwyr iechyd a gofal ac yn rhoi'r cymorth meddygol sydd ei angen arnyn nhw. Roedden nhw ar y rheng flaen i ni, yr oedden nhw'n dioddef drosom ni ac, yn amlwg, yr ydym ni wedi rhoi llawer o gefnogaeth ar waith, yn enwedig o ran gweithwyr iechyd o ran iechyd meddwl ond hefyd o ran cymorth COVID hir. Ond rwy'n credu bod llawer mwy o waith i'w wneud yn hyn o beth, ac mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n cefnogi'r bobl hyn a oedd yno i ni drwy gydol y pandemig.
Mae etholwr wedi cysylltu â mi yn dweud, 'Cafodd fy ngŵr ei frechiad COVID cyntaf yn yr Alban, yr ail yng Nghymru a'r brechiad atgyfnerthu yn Lloegr.' Eleni, mae wedi cael dau lythyr gydag apwyntiadau ar gyfer brechiad. Ar ôl iddo fynd ar drywydd y cyntaf, cafodd wybod, 'Yn anffodus, nid oes gennym ni'r awdurdod i gofnodi brechiadau sy'n cael eu rhoi y tu allan i ogledd Cymru gan ei fod y tu allan i'n hawdurdodaeth. Ar ôl cadarnhau'r system, nid oes un o'ch manylion brechu chi wedi'u trosglwyddo i ni o GIG Lloegr.' Dysgodd ef wedyn fod ei frechiad atgyfnerthu wedi'i gofnodi, mewn gwirionedd, ond nid ei frechiad cychwynnol yn yr Alban, ac nad oedd mecanwaith ar gyfer cofnodi hyn. Yna cafodd lythyr arall yn cynnig apwyntiad brechu iddo. Pan aeth ar drywydd hwn, cafodd ddewis optio allan, ond o ystyried ei fod yn debygol o fod yn gymwys i gael pedwerydd brechiad neu ail frechiad atgyfnerthu yn ddiweddarach yn y flwyddyn, nid yw hynny'n ddewis y mae'n fodlon ei dderbyn, ac ar ôl trafod, cytunwyd y byddai'n rhaid iddo atal ei gofnod tan fis Mehefin. Fel y dywedodd y wraig, mae Lloegr a'r Alban wedi datrys y broblem o bobl yn cael brechiadau mewn gwahanol leoedd. Pam na all Cymru ei reoli?
Pan es i ar drywydd hyn gyda'r bwrdd iechyd, dywedodd ei brif weithredwr, 'Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r system cofnodion brechu genedlaethol. Ni allwn ni newid y cofnod ar gyfer brechlynnau sy'n cael eu rhoi y tu allan i'n hardal ni. Rydym ni wedi codi'r mater hwn dro ar ôl tro ar lefel genedlaethol oherwydd y problemau y mae'n eu hachosi.' Sut yr ydych chi'n ymateb i fy etholwr yn unol â hynny?
Diolch yn fawr iawn, Mark. Mae hwn yn fater sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers amser maith, felly er bod systemau Cymru a Lloegr yn siarad â'i gilydd a'u bod yn gallu cofnodi a gallwn ni wybod yn union a yw pobl wedi cael brechiad cyntaf ac ail frechiad yn Lloegr, nid yw'r system erioed wedi gweithio gyda'r Alban. Ac mae'r cyfrifoldeb am hynny a'r bobl sy'n arwain ar ochr ddigidol hyn gyda Lloegr, mewn gwirionedd, felly rydym ni wedi bod yn gofyn iddyn nhw geisio cywiro'r sefyllfa ers amser maith, ond rydym ni dal yn aros i hynny ddigwydd.
Fe hoffwn i ddweud ychydig am ein staff profi, olrhain a diogelu sydd wedi bod â rhan enfawr yn yr ymdrech i'n cadw ni'n ddiogel dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw'n cael eu taflu ar y domen nawr ar yr hyn sy'n ymddangos fel y nesaf peth i ddim rhybudd. Fe wn i am weithwyr, er enghraifft, sydd newydd gael 48 awr o rybudd bod eu horiau nhw'n cael eu torri. Roedden nhw'n gwneud gwaith, a dweud y gwir, nad oedd llawer o neb yn awyddus i'w wneud, a'u gwobr nhw am hynny yw lleihad sydyn yn eu horiau nhw, sydd â goblygiadau difrifol i'w bywoliaeth, wrth gwrs, a'u hincwm nhw, mewn cyfnod y gwyddom ni bod yr argyfwng costau byw—nid yw e' ar ddod, mae yma gyda ni. Felly, os caiff y cynllun ei ddirwyn i ben, onid ydych chi o'r farn hefyd y dylai hynny ddigwydd yn raddol ac y dylai ddigwydd mewn ffordd sy'n cydnabod bod bywoliaeth pobl yn dibynnu ar y swyddi hyn, oherwydd roedden nhw i gyd yn arwyr y llynedd, ond nawr mae hi'n ymddangos eu bod nhw'n cael eu taflu ar y domen yn fympwyol iawn?
Diolch yn fawr iawn, ac mae'n rhaid i mi ddweud y byddwn innau'n ategu eich barn fod y rhain wedi dod yn weithwyr medrus iawn. Maen nhw wedi gwneud gwaith rhagorol i ni, ac yn sicr wedi cadw'r cyfraddau yn is nag y bydden nhw wedi bod fel arall, oherwydd eu hymdrechion aruthrol. Wrth gwrs, rydym ni'n amharod i adael i'r bobl hyn fynd. Mae hi'n amlwg y byddai adeg pan y byddai'n rhaid i'r gwaith hwn ddod i ben rywdro, ond, fel rydych chi'n ei ddweud, fe ddaeth y diwedd braidd yn swta i raglen a fu'n effeithiol iawn. Y broblem, wrth gwrs, yw i'r cyllid gael ei dorri gan Lywodraeth y DU, ac yn sicr fe fyddem ni wedi hoffi gweld hynny'n cael ei gyflwyno yn llawer mwy graddol na'r toriad y bu'n rhaid i ni ei orfodi, rwy'n ofni.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru gryfach, decach, wyrddach—cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hi'n bleser bod yn ôl yn y Siambr heddiw.
Yn y rhaglen lywodraethu, rydym ni'n nodi'r camau y byddwn ni'n eu cymryd yn ystod y tymor Seneddol hwn i helpu i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl a bod pawb yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial. Heddiw, mae hi'n bleser gennyf lansio'r cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, i nodi'r hyn y byddwn ni'n ei wneud. Mae hwn yn amlygu ein blaenoriaethau o ran polisi a buddsoddi, ynghyd â sut yr ydym yn disgwyl cynyddu ein pwyslais ar gyflawni ac ar weithgarwch ein partneriaid. Ac rydym ni'n gwneud hyn wrth adeiladu ar y gwelliant sylweddol sydd wedi bod yn y farchnad lafur ac o ran sgiliau yng Nghymru ers cyhoeddiad y cynllun diwethaf yn 2018.
Cyrhaeddodd anweithgarwch economaidd ei gyfradd isaf erioed yn 2018, ac fe ostyngodd yn is na chyfradd y DU am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2018. Erbyn diwedd 2019, roeddem ni wedi cyrraedd ein nod o gau'r bwlch diweithdra gyda'r DU, ac mae'r cyfraddau yn parhau i fod yn is na rhai'r DU heddiw. Ac roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer chwarter olaf 2021 yn uwch nag ar unrhyw gyfnod cyn cyflwyno'r cynllun diwethaf ym mis Mawrth 2018. Ac, wrth gwrs, mae cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed sydd mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant erbyn hyn yn agos at y gyfradd uchaf a gofnodwyd erioed. Mae cyfran y bobl rhwng 18 a 64 oed heb unrhyw gymwysterau wedi gostwng mwy na 1 y cant, ac mae cyfran y rhai sydd â chymwysterau addysg uwch wedi cynyddu 4 y cant.
Rydym ni'n nodi ein cynllun newydd heddiw yng nghyd-destun y ffaith nad yw effeithiau COVID-19 ar y farchnad lafur wedi bod mor ddifrifol ag yr ofnwyd, ac mae cynnydd mawr wedi bod o ran cyflogi gweithwyr unwaith eto. Mae hyn wedi arwain at y gymhareb isaf erioed o ddiweithdra i swyddi gwag yn y DU. Serch hynny, wrth edrych ymlaen, rydym ni'n wynebu nifer o risgiau a heriau newydd: cyfraddau uchel o swyddi gwag, prinder gweithwyr allweddol, poblogaeth sy'n heneiddio, a mwy o bobl yn gadael y farchnad lafur cyn eu hamser oherwydd afiechyd—ac yn enwedig y rhai dros 50 oed.
Mae gorbenion busnes cynyddol, yr argyfwng costau byw ac effeithiau ar safonau byw i gyd yn heriau y bydd angen i ni fynd i'r afael â nhw. Ac, wrth gwrs, y gwirionedd trist amdani yw bod yr ymosodiad ar Wcráin yn nodi dechrau'r argyfwng dyngarol mwyaf ar ein cyfandir mewn degawdau. Ar yr un pryd, mae mynediad anghyfartal a darpariaeth annigonol o waith teg a'r bwlch cyflog o ran rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd yn dal i fodoli. Mae gwahaniaethau sylweddol yn parhau rhwng grwpiau, fel cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl a rhieni sengl.
Nawr, wrth fynd i'r afael â'r cynllun, rwy'n gwybod na allwn, o gyllideb Llywodraeth Cymru, ddod o hyd i'r holl filiynau a gollwyd oherwydd y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi cadw ei haddewidion i Gymru o ran ariannu yn dilyn ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Fel y gŵyr yr Aelodau, fe fydd Cymru yn colli tua £1 biliwn dros y blynyddoedd nesaf, ac fe fyddai llawer o'r arian hwnnw a gollodd Cymru wedi cael ei fuddsoddi mewn gwella cyflogadwyedd a sgiliau. Mae hynny'n golygu fy mod i, ynghyd â fy nghyd-Weinidogion, wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd o ran blaenoriaethu cyllidebau, ar gyfer parhau i fuddsoddi yn ein pobl ni a'u sgiliau. Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi ein huchelgeisiau tîm Cymru o ran buddsoddi yn nhalent ein pobl a chael y £1 biliwn a gollwyd yn ôl i Gymru. Rwy'n gobeithio y bydd y pleidiau ar draws y Senedd hon yn unfryd yn y pen draw o ran y mater allweddol hwn ar gyfer dyfodol y bobl yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli.
Mae cefnogi pobl i aros mewn gwaith, dechrau neu symud ymlaen gyda chyflogaeth, a chynyddu eu sgiliau a'u cyflogadwyedd yn hanfodol i chwyddo'r gronfa o dalent sydd ar gael, a chefnogi pobl i gael gwaith teg a chynnydd yn y farchnad lafur. Mae'r gallu i gael gafael ar waith teg yn cefnogi incwm a bywoliaeth aelwydydd yn ogystal ag iechyd a lles y gweithwyr.
Mae'r cynllun newydd yn nodi pum maes gweithredu allweddol yn ystod tymor y Llywodraeth hon, a ddylai ein harwain ni at ein cerrig milltir i'r tymor hwy. Y cyntaf o'r rhain yw darparu gwarant i bobl ifanc o ran diogelu cenhedlaeth gyfan rhag effeithiau addysg a gollwyd ac oedi cyn dechrau ar gyflogaeth. Rwy'n falch o lansio Twf Swyddi Cymru+ heddiw yn rhan o hynny. Fe fydd hyn yn darparu'r elfennau mwyaf llwyddiannus o'r rhaglenni hyfforddeiaethau a Thwf Swyddi Cymru i gynnig y cymorth gorau posibl i bobl ifanc.
Yr ail yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd, gan roi mwy o bwyslais ar helpu'r rhai sydd bellaf i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith, i wella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl, a chymunedau ethnig leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â lefelau sgiliau is. Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar batrwm Swyddi Gwell yn Nes at Adref, wrth gefnogi cyflogaeth a pharhau â'n dull o bartneriaeth gydag awdurdodau lleol.
Y trydydd yw hybu gwaith teg i bawb, gan ddefnyddio ein hysgogiadau i wella'r cynnig sydd ar gael i weithwyr. Mae hynny'n cynnwys cyflwyno'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus ac, wrth gwrs, parhau â'n hanogaeth i gyflogwyr i wneud gwaith yn fwy diogel, gwell, tecach ac yn fwy sicr.
Y pedwerydd yw rhoi mwy o gymorth i bobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor allu canfod gwaith. Mae hyn yn cynnwys angori'r gwasanaeth iechyd yn well, fel cyflogwr a phartner y rhwydwaith cyflenwi hefyd, i atal pobl rhag mynd yn ddi-waith neu golli cyflogaeth oherwydd cyflwr gofal iechyd.
A'r olaf yw cynyddu cyfraddau sgiliau a hyblygrwydd ein gweithlu drwy ehangu addysg hyblyg a phersonol i bobl sydd mewn gwaith ac allan o waith i wella eu sgiliau nhw, a dod o hyd i waith neu ailhyfforddi. Yr wythnos diwethaf, fe estynnodd Llywodraeth Cymru'r cynnig gofal plant i allu cefnogi rhieni i ymgymryd ag addysg a hyfforddiant.
Rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i fwrw ymlaen â'n blaenoriaethau yng nghynllun 2018 i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, a chynyddu cyfraddau cyflogaeth pobl anabl, a cheisio diogelu'r cyflenwad o bobl a sgiliau ar gyfer y dyfodol. Mae'r cynllun hwn yn ymateb i randdeiliaid allweddol yn y gwaith o ddatblygu fframwaith buddsoddi rhanbarthol Cymru, y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a'r adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19'.
Wrth symud ymlaen, mae angen i ni weithio yn ddoeth a gyda'n gilydd bob amser i wneud y defnydd gorau o'n pobl a'n hadnoddau. Fe fydd y cynllun hwn yn helpu ein partneriaid ni i gysoni eu gweithgareddau â'n blaenoriaethau, ac yn helpu i sicrhau bod cyllid Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio mewn modd sy'n cefnogi yn hytrach nag yn sefyll yn ffordd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae elfennau o'r cynllun hwn yn cael eu cynnwys yn y cytundeb cydweithredu, a phan fo hynny'n berthnasol fe fydd y polisïau hyn yn cael eu datblygu gyda Phlaid Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chyd-Weinidogion ac Aelodau dynodedig Plaid Cymru i ddatblygu a goruchwylio maes gweithredu polisi traws-Lywodraethol gwirioneddol yng nghwrs y rhaglen lywodraethu hon.
Ein pobl yw ein mantais fwyaf ni, ac ni all Cymru ffynnu os na cheir mwy o gydraddoldeb o ran y gallu i ddysgu, hyfforddi a symud ymlaen yn y gwaith. I wireddu hyn bydd angen ymdeimlad cyffredin o genhadaeth gan bob partner, ar gyfer manteisio hyd yr eithaf ar ein hadnoddau i sicrhau Cymru gryfach, decach, wyrddach, gydag economi sy'n gweithio i bawb. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad brynhawn yma? Mae'r datganiad heddiw yn ei gwneud hi'n eglur y bydd cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn cael ei wreiddio yn yr egwyddor o degwch a gyda'r bwriad o fynd i'r afael â newid hinsawdd a chreu economi lawer gwyrddach, ac felly rwy'n croesawu cynllun heddiw a'i bum maes allweddol. Dyma'r union adeg iawn i osod y sylfeini ar gyfer newid o ran darparu sgiliau i arwain at y manteision hynny yn y dyfodol. Yn gyntaf, mae angen i ni sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc ni'n gallu manteisio ar gyfleoedd, ac rwy'n falch bod un o'r pum maes blaenoriaeth yn y datganiad heddiw yn cyfeirio at y warant i bobl ifanc, sydd â'r gallu i fod yn gyfrwng i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc mewn sectorau a diwydiannau na fydden nhw efallai wedi meddwl amdanyn nhw o'r blaen. Mae hi'n gwbl hanfodol fod y cyfleoedd hyn yn berthnasol i'r sgiliau sydd eu hangen arnom ni yma yng Nghymru, a bod pobl ifanc yn ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr mewn meysydd sy'n ystyrlon. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut mae'r warant i bobl ifanc yn cael ei holrhain ar gyfer cadw golwg ar ei heffeithiolrwydd, a sut bydd honno'n sicrhau y bydd pobl ifanc yn ennill y sgiliau iawn ar gyfer y dyfodol.
Wrth gwrs, fe ddylai unrhyw gynlluniau ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau gysylltu â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r sector ôl 16 yng Nghymru, ac fe fydd yn gweithio i gysoni addysg a hyfforddiant yn nes at anghenion y cyflogwyr. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut y bydd y cynllun hwn yn cysylltu â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a pha drafodaethau y mae ef yn ei gael gyda'r Gweinidog addysg ynglŷn â hynny ac ynglŷn â'r mater ehangach o gysoni addysg a hyfforddiant ag anghenion y cyflogwyr hefyd?
Nawr, un o feysydd allweddol y cynllun yw o ran hyrwyddo gwaith teg drwy annog cyflogwyr i wneud gwaith yn fwy diogel, yn well, yn decach ac yn fwy sicr. Efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni faint o arian sydd wedi ei ddyrannu i gyflawni'r nod penodol hwn, a sut y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu mewn gwirionedd.
Nawr, mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ganolog i gynllun cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru. Ac rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig ydyn nhw o ran cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r galw sydd am sgiliau rhanbarthol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, yn ogystal ag o ran nodi prinderau a chynghori ar sut i fynd i'r afael â'r prinderau hynny. Mae'r Aelodau yn gwybod bod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi edrych ar bartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn y Senedd ddiwethaf, ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran argymhellion yr adroddiad hwnnw, ac efallai y gwnaiff ef ddweud ychydig mwy wrthym ni hefyd am waith y partneriaethau sgiliau rhanbarthol ar hyn o bryd.
Mae'r Gweinidog yn ymwybodol ei bod hi'n Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd, ac mae'n siomedig nad oes sôn am bolisi Llywodraeth Cymru o ran gyrfaoedd. Ac efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut bydd y cynllun hwn yn gweithio ochr yn ochr â pholisïau a strategaethau eraill, fel ei bolisi gyrfaoedd, parthau menter, bargeinion dinesig a thwf a rhaglen Twf Swyddi Cymru+, a lansiwyd heddiw hefyd.
Nawr, un o bum maes y cynllun yw cynyddu cyfraddau sgiliau a hyblygrwydd y gweithlu, ac rwy'n falch o ddarllen bod Llywodraeth Cymru yn ehangu'r cyfleoedd o ran addysg hyblyg a phersonol. Mae pryder weithiau ein bod ni'n canolbwyntio ar ddarparu sgiliau'r rhai sy'n gadael yr ysgol, ac mae'n rhaid i ni ystyried bod datblygu sgiliau yn rhaglen barhaus drwy gydol oes waith yr unigolyn. Ac felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn dweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog cyflogwyr i ddatblygu dull o uwchsgilio a dysgu sy'n barhaus.
Nawr, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at gymryd camau i angori'r gwasanaeth iechyd yn well, fel cyflogwr ac yn rhan o'r rhwydwaith cyflenwi i atal pobl rhag mynd yn ddi-waith, neu golli gwaith oherwydd cyflwr iechyd. Ac mae hi'n hanfodol bod mwy o gymorth ar gael i rai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am gamau cychwynnol Llywodraeth Cymru yn y maes arbennig hwn.
Mae'r datganiad yn blaenoriaethu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd hefyd, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i wella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl, pobl ethnig leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â sgiliau isel. Un o'r cerrig milltir o ran mesur llwyddiant y cynllun yw cau'r bwlch cyflog rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa mor hyderus yw ef y bydd y cynllun hwn yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y farchnad lafur.
Dirprwy Lywydd, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru yn eglur iawn fod symud at economi carbon isel, sero-net yn flaenoriaeth, ac, fel y dywedais i o'r blaen, rwyf i o'r farn bod angen cynnal archwiliad sgiliau sero-net ar gyfer nodi'r bylchau o ran sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau y bydd eu hangen ar ein heconomi. Ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn casglu'r wybodaeth honno, ac os yw'n gwneud hynny'n rhan o'r cynllun hwn.
Dirprwy Lywydd, mae'r Gweinidog yn iawn, ein pobl ni yw ein mantais fwyaf ni, a dyna pam mai nawr yw'r amser i fuddsoddi yn ein tirlun sgiliau, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog yn adeiladol i sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar gyfleoedd o ran addysg a hyfforddiant hanfodol ledled Cymru. Diolch i chi.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwyf i am ymdrin â chymaint ohonyn nhw ag y gallaf i heb drethu amynedd y Dirprwy Lywydd.
Felly, ynglŷn â'ch pwyntiau cychwynnol, o ran y warant i bobl ifanc, mae honno'n elfen allweddol, yn amlwg, o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r cynlluniau cyflogadwyedd a sgiliau. Ac nid yn unig yn y cynllun heddiw, ond yn fy natganiadau blaenorol ar y warant i bobl ifanc, rwyf i wedi nodi mai Cymru'n Gweithio sy'n rhedeg y warant a'r gwasanaeth paru swyddi, a'r ystod o bethau sy'n mynd rhagddyn nhw yn y fan honno. Ac fe fyddwn ni'n cael data, fel y dywedais i yn y datganiad blaenorol, a fydd yn helpu i ddangos nifer y bobl sy'n dod trwodd, ond y mathau o ganlyniadau y credwn y byddwn ni'n gallu eu cael hefyd.
Ac rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am Twf Swyddi Cymru+. Mae honno'n rhaglen newydd, sy'n cyfuno'r hyn y gwnaethom ni ei ddysgu o hyfforddeiaethau a rhaglen Twf Swyddi Cymru, i helpu pobl i gael gwaith neu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gael gwaith yn y lle cyntaf. Ac rydym ni wedi dysgu am y gefnogaeth y bydd ei hangen ar wahanol bobl ar wahanol adegau i sicrhau eu bod nhw'n barod i fynd ymlaen a chaffael y sgiliau hynny neu fynd i fyd gwaith. Felly, fe fydd yr elfen o gymorth i'r unigolyn yn bwysig i ni.
Nawr, rwy'n llwyr ddisgwyl, yn y Siambr hon, ac yn y pwyllgor yr ydych chi'n ei gadeirio, yn gwisgo het ychydig yn wahanol, mae hi'n ddigon posibl y bydd diddordeb gennych chi yn hyn, ac fe fyddwn i'n disgwyl i hynny fod yn wir drwy'r flwyddyn gyntaf, ond wrth i ni fwrw ymlaen drwy weddill y tymor hwn, i allu deall y mathau o ganlyniadau yr ydym ni'n eu cael ac a ydym ni'n dysgu wrth i ni fynd ymlaen, mewn gwirionedd, i helpu i wella'r cynnig y bydd y rhaglen yn ei roi i bobl. Oherwydd yn hyn o beth, yn fy marn i, nid oes llawer o wahaniaeth rhwng y pleidiau yn y Siambr o ran yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei weld yn y pen draw, sef mwy o bobl mewn gwaith ac mewn gwaith da, gyda darpariaeth well i unigolyn gaffael ac yna barhau i ennill sgiliau drwy gydol ei oes waith.
Ac mae hynny'n dod â mi at eich pwynt chi ynglŷn â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Rwy'n hapus i allu cadarnhau i chi fy mod i wedi cwrdd â'r Gweinidog addysg cyn cyhoeddiad y cynllun hwn, a chyn trafodaeth y Cabinet a gytunodd ar hyn, ac rydym ni'n gweld bod gwaith sylweddol i'w wneud ar y cyd â'r hyn y bydd y comisiwn newydd yn ei wneud. Oherwydd yn rhan o'r hyn y bydd angen i ni ei wneud i helpu i wella sgiliau pobl, fe gaiff llawer o hynny ei wneud ym maes addysg erbyn hyn. Felly, fe fydd angen i ni ddeall yr hyn y byddwn ni'n ei wneud ochr yn ochr â nhw a sut y bydd hynny'n eu galluogi nhw i gyflawni ar ein cyfer ni. Wrth gwrs, fe fydd addysg bellach yn un o'r partneriaid allweddol wrth gyflwyno rhaglen Twf Swyddi Cymru+.
Ac o ran eich pwynt am bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, rydych chi wedi sôn amdanyn nhw droeon, rwyf i wedi cwrdd â'r holl bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, ac rwyf i wedi cwrdd â'r holl grwpiau rhanbarthol a arweinir gan awdurdodau lleol yn y cyd-bwyllgorau newydd sy'n gweithio ochr yn ochr â'r bargeinion dinas. Ac un o'r pethau sydd, yn fy marn i, wedi bod yn gadarnhaol iawn yw eu bod nhw i gyd, ymhlith holl wahanol arweinwyr gwleidyddol yr awdurdodau lleol, yn ystyried y partneriaethau rhanbarthol sydd ganddyn nhw mor allweddol i'w dyfodol rhanbarthol nhw, ac maen nhw'n cydnabod bod hynny'n ychwanegu at yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn hytrach na'i chwalu. Ac maen nhw i gyd yn cydnabod pwysigrwydd y partneriaethau sgiliau rhanbarthol hyn, ac yn deall y cyfleoedd sy'n bodoli i fusnesau yn eu hardaloedd nhw, ac yn ceisio deall wedyn sut y byddwn ni'n cyfateb hynny i anghenion y busnesau o ran sgiliau. Felly, maen nhw'n rhan allweddol o'r ffordd yr ydym ni'n mynd i redeg y system yn llwyddiannus—sef sgiliau cynharach, ond, yn hollbwysig, datblygu sgiliau i bobl yn y gweithle hefyd.
Ac rwyf i o'r farn bod hynny'n dilyn ymlaen mewn gwirionedd ar eich pwynt chi ynglŷn â chyflogwyr yn buddsoddi yn eu gweithlu yn y dyfodol ac ar hyn o bryd. Wrth gwrs, mae gweithlu'r dyfodol i raddau helaeth iawn gyda ni'n barod. Y gweithwyr sydd eisoes yng ngweithle heddiw a fydd gyda ni ymhen pum mlynedd a 10 mlynedd. Felly, fe fydd angen parhau i fuddsoddi ynddyn nhw. A dyna un o'r pethau yr ydym ni'n ceisio eu gwneud wrth nodi ein cynllun ni heddiw: helpu i roi sefydlogrwydd i gyflogwyr ar gyfer gwneud eu dewisiadau eu hunain, ond iddyn nhw allu bod yn eglur hefyd ynghylch sut y gallan nhw fod â rhan gynorthwyol wrth ddylanwadu ar ein hagenda ni ein hunain ar gyfer y ddarpariaeth sgiliau.
Ac rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud pwynt hefyd ynglŷn â nid dim ond y cynllun hwn yn unigol ond ochr yn ochr ag ymyriadau eraill. Felly, i roi enghraifft i chi, mae gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ddiddordeb arbennig yn y cynllun hwn, nid yn unig am fod uchelgeisiau'r Llywodraeth gyfan neu ei hetholaeth hi yn bwysig iddi, ond, er enghraifft, y rhaglen ôl-ffitio tai, a ddylai wneud gwahaniaeth o ran gwario arian i wella effeithlonrwydd cartrefi pobl, i wneud eu cartrefi yn gynhesach a llai costus i'w ffitio. Mae digonedd o waith i'w wneud eto yn y rhaglen honno hefyd, ac rydym ni'n awyddus i sicrhau bod y sgiliau cywir gennym ni i bobl ymgymryd â'r rhaglen honno ar gyfer anghenion y dyfodol y gwyddom ni y bydd eu hangen nhw hefyd. Felly, mae angen swyddi a darpariaeth sgiliau.
Ac yn ddiweddar, fe ymwelais i nid â rhaglen ôl-ffitio, ond rhaglen adeiladu newydd mewn partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Wates, sy'n bartner yn y rhaglen Cartrefi Caerdydd. Ac maen nhw'n cynnig prentisiaethau ar y safle hwnnw—mae pobl yn cael eu hyfforddi heddiw yn y ffordd y caiff cartrefi eu hadeiladu, ac fe fydd y bobl hynny'n gweld mai dyna'r byd y byddan nhw'n parhau i weithio ynddo i'r dyfodol. Felly, rydym ni'n gweld swyddi ac elw o ran hyfforddiant eisoes wrth wella'r stoc newydd o dai, yn ogystal â'r angen i wella'r stoc o dai sydd gennym ni'n barod. Ac fe ddylech ddod o hyd i'r enghreifftiau hynny drwy'r ffordd y mae'r cynllun hwn yn gweithio ochr yn ochr ag ymyriadau eraill gan y Llywodraeth. Ni fydd hyn yn llwyddo os mai dim ond fy adran i sy'n gweithio tuag ato.
Ac o ran yr her ynglŷn ag anghydraddoldeb economaidd, dyma un o'r pethau allweddol y gwyddom ni fod angen i ni fynd i'r afael ag ef. Gyda'n rhaglen gyfredol ni, y rhaglen Cymunedau dros Waith, mae anabledd neu gyflwr gofal iechyd cyfyngol gan 40 y cant o'r bobl a gafodd gymorth a chefnogaeth yn y rhaglen honno sy'n rhwystr iddyn nhw gael gwaith. Fe wyddom ni fod llawer o bobl yn cael cymorth gan ein rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, gan helpu rhieni i gael addysg lle mae gofal plant yn rhwystr iddyn nhw, ac fe wnes i gyfarfod â rhai o'r bobl hynny heddiw, wrth i ni lansio'r rhaglen. Felly, rydym ni'n mynegi yn bwrpasol sut rydym ni am geisio lleihau anghydraddoldeb economaidd wrth gyflawni'r cynllun hwn, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Nawr, rwy'n edrych ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod ynglŷn â rhai o'r pwyntiau eraill a wnaeth ef, gan gynnwys y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i wella sgiliau sero-net a'r gwaith yr wyf i'n ei wneud gyda Gweinidogion newid hinsawdd yn y maes hwnnw. Ond rwy'n gallu gweld o'r olwg ar ei wyneb fod y Dirprwy Lywydd yn gofyn yn garedig i mi fod yn ddirwyn i ben a chaniatáu i'r cwestiwn nesaf gael ei ofyn.
Rwy'n hapus bob amser i chi roi atebion cryno, Gweinidog.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae llawer i'w groesawu yn hyn, ond fe hoffwn i ganolbwyntio ar un neu ddau o bwyntiau. Fe geir cysylltiad cryf rhwng ennill cyflogaeth o ansawdd uchel ac iechyd meddwl: mae 43 y cant o bobl ddi-waith yn dweud eu bod nhw'n cael problemau ag iechyd meddwl, o'i gymharu â 27 y cant o bobl mewn cyflogaeth. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi bod colli gwaith, a ddigwyddodd yn fynych yng Nghymru dros gyfnod y pandemig, yn brofiad dirdynnol ym mywyd rhywun ac yn cael effaith negyddol uniongyrchol ar ei iechyd meddyliol. At hynny, fe achosir rhagor o niwed pan fydd diweithdra yn para i'r hirdymor.
Gweithwyr ar gyflogau isel oedd y rhai mwyaf tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo neu golli eu swyddi, ac mae'r grwpiau a oedd yn wynebu'r risg fwyaf o ddyled broblemus cyn y pandemig mewn mwy fyth o berygl erbyn hyn. Fe ddylai mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau ariannol hyn ar y pen hwn i'r pandemig fod ar flaen ein hagenda wleidyddol ni. Er hynny, nid yw ennill cyflogaeth yn ddigon ar ei ben ei hun. Mae'n rhaid i ni warantu bod y gyflogaeth honno'n deg ac yn gyfiawn. Erbyn hyn, mae hanner y bobl sydd mewn tlodi yn byw mewn teuluoedd sy'n gweithio. Mae pobl yn cael eu cadw mewn tlodi gan gyflogau isel, contractau dim oriau ac ansicrwydd o ran swyddi. Mae hyrwyddo gwaith teg yn ardderchog, ond fe hoffwn i'r Gweinidog fanylu ryw ychydig ac amlinellu sut y caiff gwaith teg ei warantu, gan gynnwys diogelwch swyddi, a chyfle i gael addysg a hyfforddiant ac ymgynghori â staff a'u cynrychioli. Sut yn union y caiff y rhain eu gwarantu?
O ran yr economi werdd, nid yw mewnforion olew a nwy o Rwsia wedi'u cynnwys yn llawn ar hyn o bryd yn sancsiynau economaidd y DU yn erbyn Rwsia, oherwydd pryder effaith hynny ar economi'r DU, yn arbennig felly gan ein bod ni eisoes yn gweld argyfwng costau byw a ysgogwyd i raddau helaeth gan gostau ynni cynyddol. Mae rhai adroddiadau yn awgrymu y bydd hyn yn newid heddiw, ond mae effaith ein dibyniaeth ni ar danwydd ffosil o Rwsia yn aruthrol. Mae Shell yn cyfrif bod yr allforion presennol a phrisiau llif i ddemocratiaethau gorllewinol yn helpu i ariannu tanc T-90 i Rwsia bob 20 munud. Mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghydweithwraig Liz Saville-Roberts AS wedi bod yn ei godi yn rhinwedd ei swydd yn San Steffan, ac mae hwn yn bwnc y mae Adam Price wedi siarad amdano eisoes, ac, i ailadrodd ei eiriau ef,
'na ddylid dadlwytho diferyn o olew Rwsia i Gymru...tra bod gwaed pobl ddiniwed yn cael ei dywallt yn Wcráin'.
Ond mae'r trafodaethau hyn wedi codi cwestiynau am ein dibyniaeth ni ar danwydd ffosil, a hynny'n briodol. Mae'n rhaid i ni ehangu ein heconomi carbon isel adnewyddadwy ni, a fydd, gobeithio, â rhan yn y gwaith o wneud felly. I wneud hyn, mae'n rhaid i ni fuddsoddi ar unwaith ac yn barhaus ym maes technolegau'r dyfodol yma yng Nghymru, a chreu swyddi gwyrdd drwy bontio sy'n gwneud cyfiawnder. Mae'r bwlch sgiliau yng Nghymru yn un o'r rhwystrau sy'n ein hatal ni rhag symud ar y gyfradd gyflymach hon oddi wrth danwydd ffosil, mater y mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu wedi tynnu sylw ato, mater y gwn i fod y Gweinidog yn ymwybodol ohono. Yn benodol, sut ydym ni am lenwi'r bylchau hyn o ran sgiliau? Sut y caiff y bylchau hyn eu llenwi ar frys i ni allu ehangu ein heconomi adnewyddadwy, carbon isel ni'n sylweddol?
Ac, yn olaf, o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, mae hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw, ac mae menywod yn parhau i wynebu rhwystrau economaidd. Mae ein system economaidd ni, ein strwythurau ni a'n polisïau ni'n parhau i ail-lunio ac atgynhyrchu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae'r data diweddaraf gan Chwarae Teg wedi tynnu sylw at y ffaith bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi gwaethygu yn ystod 2021. Fe gynyddodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 11.8 y cant i 12.3 y cant. Fe gynyddodd cyflog canolrifol fesul awr menywod gan 34c rhwng 2020 a 2021, yn is na'r cyfartaledd o 42c, tra bod dynion wedi cynyddu gan 49c. Ac mae hwn yn bwynt yr wyf i wedi tynnu sylw ato o'r blaen yn y Siambr hon, ond mae angen ei ailadrodd: o 2021 ymlaen, mae dynion yn ennill mwy na menywod ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Fe ddylai'r ffigurau hyn dynnu ein sylw ni at y ffaith nad yw'r cynnydd tuag at ddiddymu anghydraddoldeb incwm yn gyson, yn sicr nac yn gyflym, ac mae'n rhaid i ni, felly, sicrhau ein bod ni'n rhoi ystyriaeth i farn ac anghenion menywod mewn cynlluniau fel rhain. Rwy'n pryderu, wrth i ni symud tuag at economi werdd, y gallai'r ffigurau hyn barhau i waethygu, gan ei bod hi'n hysbys fod y bylchau mwyaf rhwng y rhywiau yn digwydd mewn amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, adeiladu a thrafnidiaeth—meysydd a fydd yn allweddol ar gyfer pontio gwyrdd, lle bydd y swyddi a'r sgiliau newydd yn ymgasglu. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw menywod yn cael eu hepgor o'r cyfnod pontio gwyrdd.
Felly, yn olaf, rwy'n gofyn i'r Gweinidog: sut mae'r cynllun hwn am fynd i'r afael â'r materion hyn mewn ffordd sylweddol? Sut ydym ni am annog menywod yng Nghymru i ddilyn addysg pynciau STEM? Sut ydym ni am warantu cyflogaeth deg a gwyrdd i fenywod? A sut ydym ni am sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu hepgor o'r cyfnod pontio gwyrdd? Ac wrth gwrs, os nad yw'r cynllun hwn am fynd i'r afael â'r materion hynny, a wnaiff y Gweinidog ystyried ehangu'r cynllun hwn i gynnwys ychwanegiadau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd mewn cyflogaeth a hyfforddiant, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod?
Diolch i chi am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n cydnabod bod gwaith, a gwaith ystyrlon yn arbennig felly, yn elfen warcheidiol o ran iechyd meddwl pobl. Nid yw'n gwarantu hynny, ond fe wn y gall gwaith diwerth fod ag effaith andwyol iawn ar iechyd meddwl pobl hefyd. Fe wn i o'm gyrfa flaenorol fel cyfreithiwr cyflogaeth, pan welais i bobl a oedd yn gweithio mewn gweithle truenus yn cael profiadau anodd yn y gwaith a fyddai nid yn unig yn effeithio ar eu gwaith nhw, ond ar eu bywydau cyfan a'u hamgylchiadau hefyd, yn ogystal â'r bobl y maen nhw'n eu caru ac yn gofalu amdanyn nhw. Ac mae hynny'n arbennig o wir pan fydd pobl mewn gwaith sydd â thâl pitw hefyd. Felly, mae gwaith teg yn un o'r pum agwedd allweddol sydd gennym ni yn y cynllun.
Fe geir rhai pethau y gallwn ni eu gwneud ein hunain mewn ffordd ychydig yn fwy uniongyrchol. Felly, mae'r GIG, er enghraifft, yn gyflogwr cyflog byw, yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol. Rydym ni'n gwneud mwy yn y system gofal cymdeithasol o ran sicrhau bod gan bobl gyflogau parchus a gwell. Rydym ni'n ceisio sicrhau ein bod ni'n adeiladu ar y bartneriaeth gymdeithasol a luniwyd gennym ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gyflymwyd ac a gryfhawyd yn ystod y pandemig, i geisio sicrhau ein bod ni'n cyflawni o ran sicrhau bod Cymru yn wlad o waith teg mewn gwirionedd.
Mae ein staff ni'n cael eu talu mewn ffordd arbennig; rydym ni'n gwybod na allwn ni ddylanwadu ar bob cyflogwr yn y sector preifat. Serch hynny, mae angen i ni fod yn eglur gyda'r enghreifftiau o'r hyn yr ydym ni'n barod i'w wobrwyo a'i argymell a dweud, 'Fel hyn y dylai hi fod.' Rwyf i wedi gweld rhagor yn hynny o beth yn y ffordd y mae'r Contract Economaidd yn gweithio ac yn cael ei gryfhau. Felly, rwy'n disgwyl bod â mwy o wybodaeth ynglŷn â hynny yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda phobl yn y sector preifat lle gwneir y rhan fwyaf o ddewisiadau o ran cyflogau, wrth gwrs. Ac ar yr un pryd, rwy'n credu y byddwn ni'n gallu gwneud mwy ym maes caffael, ac mae hwnnw'n fater y mae'r Gweinidog cyllid yn arwain arno ac mae gan Weinidogion ar draws y Llywodraeth ddiddordeb gwirioneddol yn hynny. Felly, rwy'n credu y byddwch chi'n canfod, nid yn unig yn y cynllun hwn, ond yn fwy cyffredinol yn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ein bod ni wedi gwir ymrwymo i hynny, yn ogystal ag i ymyriadau unigol fel Cymru Iach ar Waith ac Amser i Newid Cymru, y mae fy adran i'n ei ariannu ar y cyd, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, fel y Gweinidog arweiniol.
O ran y sylwadau a wnaethoch chi am ryfel Putin a'r ymosodiad ar Wcráin, rwy'n llwyr gydnabod y ceir heriau o ran prisiau cynyddol y bydd y rhyfel yn eu gwaethygu. Roedd yr argyfwng costau byw gyda ni eisoes cyn yr ymosodiad ar Wcráin. Fe waethygir y sefyllfa oherwydd fe fydd yna lai o gyflenwad olew a nwy o Rwsia. Un o'r pethau y mae'n rhaid i ni eu derbyn yw, os ydym ni o'r farn ei bod hi'n anghyfiawn i ni brynu olew a nwy oddi wrth Rwsia ac i hynny helpu i ariannu'r rhyfel hwnnw, yna fe fydd hynny'n golygu y bydd yna heriau o ran y cyflenwad ynni yn y wlad hon hefyd. Mae hyn yn atgyfnerthu'r pwynt am ddiogelwch ynni a'n gallu ni i gynhyrchu mwy o'n hynni ein hunain a bod yn llai dibynnol ar gyflenwad o olew a nwy o rannau eraill o'r byd. Dyma un o'r pethau yr oedd Gweinidogion eisoes, hyd yn oed cyn yr argyfwng ofnadwy yn Wcráin, yn eglur iawn yn ei gylch ac yn awyddus i wneud yn fawr o'n hasedau ni ein hunain.
O fewn hynny, fe geir heriau, wrth gwrs, o ran buddsoddi mewn sgiliau ac yn y seilwaith sydd ei angen arnom ni. Fe wyddom ni ein bod ni eisoes yn y sefyllfa o fod â dros hanner ein hanghenion ni o ran ynni, rwy'n credu, yn cael eu darparu o ffynonellau adnewyddadwy yn rheolaidd. Yr her wedyn yw faint yn fwy y gallwn ni ei wneud, faint yn fwy dibynadwy y bydd angen i hwnnw fod, sut y gallwn ni gael buddsoddiad gan y sector preifat yn ogystal â'r sector cyhoeddus y bydd ei angen i fanteisio ymhellach ar ynni gwynt, ynni morol, ac ynni'r llanw hefyd, ac yna'r sgiliau sy'n cyd-fynd â hynny. Mae honno'n sgwrs gylchol i ryw raddau oherwydd mae angen i ni ddeall beth sy'n mynd i ddigwydd gyda buddsoddiad yn y gadwyn gyflenwi gyfan ar gyfer y diwydiannau hynny a gaiff eu creu pan fydd rowndiau newydd yn cael eu gwerthu ar ocsiwn gan Ystâd y Goron o ran gwynt ar y môr. Sut ydym ni am sicrhau wedyn ein bod ni'n deall yr hyn y bydd y cwmnïau hynny'n ei wneud a phryd y gallwn ni fuddsoddi yn ochr yn ochr â nhw i sicrhau bod y cyflenwad sgiliau ar gael i bobl?
Un enghraifft o hynny'n mynd o'i le, wrth gwrs, yw Wylfa Newydd, y prosiect a oedd gan Hitachi. Fe wnaethom ni fuddsoddi mewn llawer o sgiliau, ac fe fyddai'r hyn yr oeddem ni'n ei wneud yno wedi gwneud synnwyr pe byddai'r prosiect wedi cael ei wireddu. Pan na ddigwyddodd hynny, roeddem ni i bob pwrpas wedi dod â chymuned o bobl gyda ni ar daith na ddaeth i'w diwedd bryd hynny. Eto i gyd, mae hynny'n dangos, yn fy marn i, lle ceir rhywfaint o sicrwydd gennym ni ynglŷn â'r dewisiadau mawr iawn hynny o ran buddsoddiad, fe allwn ni sicrhau bod yr ysgogiadau sydd gennym ni ar gael i helpu pobl at yr hyn a ddylai fod yn waith da i'r dyfodol. Rydym ni eisoes yn gwneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw gan ein bod ni'n gwybod y bydd angen i ni wneud mwy hyd yn oed i gyflymu'r broses o bontio at economi ddi-garbon, ac yn arbennig sut y cawn ni fwyaf o fudd yn sgil y ffynonellau o ynni adnewyddadwy.
Rwyf i am orffen gyda'ch pwyntiau chi ynglŷn â menywod a'r bwlch cyflog. Rwyf i wedi bod yn lwcus iawn yn fy oes waith i weithio gyda nifer o fenywod, a chael fy arwain a fy rheoli gan fenywod yn y gweithle, ac mae gennyf i lawer o falchder yn fy ngwraig sy'n fenyw o gyflawniad gwirioneddol yn ei busnes hi. Mae hi'n arweinydd a rheolwr llawer gwell yn y gweithle nag yr oeddwn i erioed. Ond, mewn gwirionedd, fe wyddom ni fod gennym ni anghydraddoldebau sylweddol o hyd o ran rhyw, nid yn unig o ran arian, ond yn y ffordd yr ymgymerir â swyddi arweiniol a'r diwylliant ymysg gweithluoedd ac mewn gweithleoedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Dyna pam mae'r Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi mewn hybu cyfleoedd i fenywod a merched chwilio am yrfaoedd mewn meysydd lle nad ydyn nhw wedi gweithio yn y gorffennol, mewn adeiladu, neu feysydd STEM neu, yn wir, mewn technoleg ac mewn technoleg ariannol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, pan oeddwn i dramor yn ddiweddar ac wrth edrych ar rywfaint o'r ymgyrchu a wnawn yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ynghylch Expo y Byd yn Dubai, roeddwn i'n falch iawn o weld menywod Cymru yn ffigurau blaenllaw mewn technoleg ariannol, yn rhedeg y cwmnïau hynny ac yn rhoi cynnig ar ddangos eu bod nhw'n gwneud rhywbeth nid yn unig er eu mwyn eu hunain, ond er mwyn y sector cyfan lle gellid ac y dylid cydnabod eu sgiliau nhw. Rwyf i o'r farn y byddwn ni'n gweld mwy o hynny yn y dyfodol, i bawb sylweddoli y gallwch chi fod fel unrhyw un llwyddiannus a welwch chi, ac mae'r Llywodraeth ar eich ochr chi i wneud yn siŵr y byddwch chi'n cael yr hyn yr ydych chi'n ei haeddu, yn union yr un fath â'r unigolyn agosaf atoch chi, yn wryw neu'n fenyw.
Yn dilyn ar thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwyf i eisiau ceisio archwilio sut y byddwn ni'n cau'r bwlch rhwng y rhywiau o ran peidio â bod â menywod mewn un adran o'r gweithlu a dynion yn y llall, oherwydd mae angen—. Fe fyddai ychydig mwy o gymysgu o fudd i'r gymuned gyfan.
Felly, fe wyddom ni o adroddiad Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, 'Cartrefi sy'n Addas i'r Dyfodol: Her Ôl-ffitio', fod angen i dros 4,000 o bobl fod yn fedrus o ran inswleiddio cartrefi pobl—cartrefi sy'n bodoli eisoes—ac mae angen bron i 3,000 o aseswyr ynni ôl-ffitio arnom ni hefyd. Sut mae'r Llywodraeth yn credu y gallwn ni sicrhau gweithlu llawer mwy cytbwys yn y sgiliau pwysig iawn hyn, yn hytrach na bod pob un ohonyn nhw'n ddynion? Yn yr un modd, fe fyddai'r sector gofal cymdeithasol yn elwa ar gael amrywiaeth llawer ehangach o'r gweithlu, o ran mwy o ddynion yn gweithio ynddo, a hefyd amrywiaeth ethnig leiafrifol i adlewyrchu'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Felly, rwyf i'n awyddus iawn i ddeall sut y gellid llenwi'r prinder gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol ac mewn gofal plant drwy hyfforddi llawer mwy o bobl i weithio yn y maes hollol hanfodol hwn, na fydd byth yn cael ei roi ar gontract allanol i algorithmau artiffisial—swyddi go iawn y dyfodol yw'r rhain—yn ogystal â'r swyddi y mae'r angen amdanyn nhw ar frys gwirioneddol o ran ôl-ffitio, y mae angen i ni, yn amlwg, gyda chwyddiant prisiau ynni, fwrw ymlaen â nhw cyn gynted ag y gallwn ni.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau. Nid wyf i'n siŵr pa mor bell na pha mor agos yw'r cysylltiad rhyngddyn nhw â'r cynllun, ond rwy'n hapus i fynd i'r afael â'r pwyntiau a wneir, fel rwyf i'n eu deall. Oherwydd, unwaith eto, yn y gorffennol i mi, pan oeddwn i'n rhedeg hawliadau am gyflog cyfartal, roeddwn ni'n gallu gweld pethau a fyddai'n ymddangos yn anarferol yn gyflym iawn, ac yna mae'n rhaid i chi geisio eu profi nhw. Felly, er enghraifft, mewn meysydd lle ceir swyddi ar wahân ar gyfer y rhywiau a strwythurau negodi gwahanol, rydych chi'n gweld yn aml, hyd yn oed gyda'r un cyflogwr, fod canlyniadau amrywiol o ran strwythurau cyflog. Ac mae hynny wedi creu problem enfawr i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus ac mewn rhai rhannau o'r sector preifat. Yr anhawster yw bod rhedeg hawliad cyfreithiol yn arf heb awch i geisio cyflawni hynny, ac rydych chi'n gweld yn aml fod pobl yn buddsoddi llawer o arian i amddiffyn hawliadau, yn hytrach nag edrych ar yr hyn y gallan nhw ei wneud i fynd i'r afael â'u systemau talu cyflog i sicrhau eu bod nhw'n gwobrwyo pobl yn iawn am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Dyna pryd y dylai pobl sy'n gwneud y gwaith gael eu gwerthfawrogi a'u talu'r un fath, yn hytrach na'r herio sy'n tueddu i wneud i bobl ganolbwyntio ar yrfaoedd cyfan gwbl wahanol.
Rwy'n derbyn eich pwynt chi ynghylch rhywfaint o'r gwaith ar asesu ynni. Wel, mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â hyrwyddo cyfleoedd a bod yn eglur nad gwaith dyn neu waith menyw yn unig yw hyn. I fod yn glir iawn, fe geir swyddi i bobl sydd â sgiliau a thalent, a bod yn glir fod y dalent honno'n bodoli ym mhob rhan o'r wlad. A dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud ar gyfer rhoi'r sgiliau a'r cyfleoedd i bobl ailymuno â'r gweithlu. Fe wnes i gyfarfod ag un tad sengl ac un fam sengl a oedd wedi cael cymorth gan y rhaglenni y gwnaethom ni eu darparu, ac roedden nhw mewn gwaith erbyn hyn oherwydd y cymorth a'r gefnogaeth y gwnaethom ni eu rhoi. Ond mae hyn yn ymwneud ag egluro ein bod ni wedi ceisio tynnu rhai o'r rhwystrau hynny o ran y ffordd y mae pobl yn eu gweld eu hunain ynddi hi, yn ogystal â'r ffordd y maen nhw'n cael eu gweld gan bobl eraill. Ac mae honno'n her fwy, oherwydd, mewn gwirionedd, caiff llawer o ragfarn rhywedd yr ydym ni'n sôn amdani ei sefydlu o'r foment cyn i bobl gael eu geni ac yna ar ôl i bobl gael eu geni.
Nid wyf i'n gwybod faint ohonoch chi sy'n dal i grwydro ymysg yr eiliau dillad a llyfrau plant mewn siopau, ond rydych chi'n dal i weld llawer iawn o binc ar gyfer y pethau hynny sydd ar gyfer menywod—ac rwy'n gwisgo crys pinc drwy gyd-ddigwyddiad heddiw. Ond, pan edrychwch chi ar y negeseuon ar ddillad pobl, ac fe welais i negeseuon am hyn yn ddiweddar, mae'r negeseuon a roddir i ferched am bwy y dylen nhw fod a'r hyn y dylen nhw ei wneud yn wahanol iawn i'r negeseuon a roddir i fechgyn yn ifanc iawn. Ac, mewn gwirionedd, rhan o'n her yw sut yr ydym ni am fynd drwy rywfaint o hynny, oherwydd heb wybod hynny, fe fyddwn ni yn y pen draw yn tyfu i fyny gyda'r tybiaethau hynny amdanom ni ein hunain ac am bobl eraill. Mae'r hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun hwn yn rhan o'r hyn y dylem ei wneud yn y Llywodraeth i'w gwneud hi'n glir bod y cyfleoedd hyn ar gyfer pawb, ac rydym ni'n cydnabod nad yw pobl yn yr un sefyllfa ac rydym ni'n bwriadu gwneud rhywbeth ynghylch unioni hynny a sicrhau bod gan bobl sydd â chyfrifoldebau gwahanol a chanlyniadau gwahanol well cyfle oherwydd y camau y bydd y Llywodraeth hon yn eu cymryd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw a'r ymatebion hyd yn hyn yn y Siambr hon. Gan eich bod yn ddilynwyr brwd o'r Cyfarfod Llawn, rwy'n siŵr eich bod chi wedi sylwi fy mod i wedi gofyn cwestiwn yr wythnos diwethaf i'r Gweinidog newid hinsawdd ynghylch y cyfleoedd yn arbennig yn y gogledd ynghylch ynni adnewyddadwy a'r gadwyn gyflenwi yn y fan honno, ac am wneud yn fawr o'r adnoddau sydd gennym ni yn y gogledd i sicrhau bod yr economi werdd yn ffynnu yn y rhan honno o'r wlad. Fe amlinellais i'r cyfleoedd y mae hynny'n eu cynnig, ac, wrth gwrs, nid i'r gogledd yn unig y mae hynny'n wir ond i Gymru gyfan, boed hwnnw'n ynni gwynt, ynni'r haul neu rywfaint o ynni morol hefyd, ac rwy'n diolch i chi am gydnabod hynny heddiw yn rhai o'ch atebion chi. Roedd cydnabyddiaeth drawsbleidiol heddiw hefyd o'r cyfleoedd yn hynny o beth.
Fe nodais i yn un o'ch atebion—rwy'n credu mai i Paul Davies gynnau yr oedd hynny mae'n debyg—roeddech chi'n cyfeirio at rai o'r risgiau posibl oherwydd mae'r math hwn o ddatganiad a meddylfryd yn cyffwrdd â phob rhan o Lywodraeth, ac efallai fod perygl na fydd rhai adrannau o Lywodraeth â rhan lawn yn hyn, a'r hyn a welwn mewn Llywodraeth weithiau sef gweithio mewn seilos ar wahân. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n gallu amlinellu sut rydych chi'n gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod eich cynlluniau a'ch meddylfryd o ran cyflogadwyedd a sgiliau, ac yn arbennig o ran yr economi a Chymru wyrddach, yn cael eu defnyddio yn llawn ac mewn ffordd briodol ac nad ydym ni'n gweld y gweithio mewn seilos ar wahân sy'n gysylltiedig â Llywodraeth o bryd i'w gilydd. Diolch.
Diolch i chi am y cwestiwn. Oes, mae gennyf i ddiddordeb arbennig, fel sydd gan ein Gweinidogion newid hinsawdd yn wir, mewn cyfleoedd cadwyn gyflenwi ar gyfer ynni adnewyddadwy o bob math; mae yna lawer i'w gynnig i ni yn y gogledd a'r de o ran y cyfleoedd hynny. Ac fe fydd hynny'n mynnu ein bod ni'n cael sgwrs gyda busnesau yn ogystal â Llywodraeth y DU, yn ogystal â'r partneriaid sydd gennym ni mewn meysydd o gyfrifoldeb sy'n ddatganoledig hefyd.
O ran gweithio ar draws y Llywodraeth, yn y cwestiynau gynnau, ac fe wn i mi gael fy holi ynglŷn â gwaith gyda'r Gweinidog addysg a gyda'r Gweinidog tai ac eraill hefyd, oherwydd fe wyddom ni fod angen i ni, ar gyfer gwaith y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, gyfateb ein hymyriadau ni ein hunain ar gyfer tynnu i'r un cyfeiriad. Rhan o'r rheswm yr ydym ni wedi cynnal yr adolygiad hwn a bod â chynllun newydd yw bod newid wedi digwydd yn y ffordd y mae rhai o'n partneriaid ni'n gweithio. Y pandemig yw achos hynny'n rhannol, a hefyd bod Llywodraeth y DU wedi newid cyfeiriad a symud rhywfaint o'u cymorth cyflogadwyedd nhw hefyd. Rwy'n credu i mi sôn am hynny o'r blaen sef bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn fwy gweithgar i ryw raddau yn y maes hwn nag y buon nhw yn y gorffennol. Serch hynny, maen nhw'n tueddu i fod yn weithgar yn nes at y farchnad lafur, a dyna pam rydym ni'n canolbwyntio ein hymdrechion ni ymhellach i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur, fel nad ydym ni'n gwrth-ddweud nac yn dyblygu'r gefnogaeth o bosibl a ddylai fod ar waith gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Nid yw hyn yn arbennig o ddiddorol yn yr ystyr bod pobl sy'n edrych yn cael llawer o hynny, ond mae'r rhwydwaith o fewn y Llywodraeth yn gweithio mewn gwirionedd: sut rydym ni'n sicrhau bod swyddogion yn siarad â'i gilydd, faint o'n papurau briffio sy'n cael eu rhannu ar yr amser priodol a sut rydym ni'n sicrhau bod Gweinidogion yn trafod hyn yn iawn pan fydd angen gwneud felly, ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod ni'n aros ar y trywydd iawn. Felly, mae'r pwyntiau amlwg ynglŷn â'r gwaith gyda'r Gweinidog addysg, ond y cyfleoedd hefyd nid yn unig ym maes tai ond mewn meysydd eraill yn bethau rwyf i'n awyddus i'w gweld yn cael eu dal ymlaen â nhw. Rwy'n gobeithio y caiff yr Aelod ei galonogi gan y ffaith, pan godwyd hynny yn y drafodaeth yn y Cabinet, nid yn unig yr oedd croeso cyffredinol i hynny, ond roedd cydnabyddiaeth gan lawer o Weinidogion fod rhan iddyn nhw yng nghyflawniad llwyddiannus y cynllun.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw, Gweinidog. Nid ar y meinciau hyn yn unig y ceir croeso i'r datganiad, rwyf i o'r farn bod y rhan fwyaf o Aelodau'r Siambr yn gwneud felly. Fe wn i fod llefarydd yr wrthblaid yn edrych heddiw fel ei fod yn gwisgo tei a gafodd gan ein plaid ni, ond mae o hyd yn oed yn croesawu'r rhan fwyaf o hyn, fel ein cydweithwyr ni yng Nghyngres yr Undebau Llafur, wrth gwrs. Ond rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi, hefyd, yr hyn y gwnaethom ni ei gyflawni yn Llywodraeth Lafur Cymru. Yn y tymor seneddol diwethaf, fe ddarparwyd 112,000 a mwy o brentisiaethau yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n falch iawn ohono a minnau'n gyn-brentis. Ac mae'r datganiad hwn yn amlygu eto ein cynllun uchelgeisiol ni ar gyfer hyfforddiant yng Nghymru.
Rydych chi'n ymwybodol, Gweinidog, fod gennyf i uchelgais i ddod â dyluniad a gweithgynhyrchu technolegau adnewyddadwy i Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae'r set sgiliau gennym ni, mae'r bobl gennym ni. Rwyf i wedi gweithio ochr yn ochr â nhw, rwyf i wedi cael fy hyfforddi ochr yn ochr â nhw. Felly, tybed a fyddech chi'n fodlon cwrdd â mi i drafod rhan Alun a Glannau Dyfrdwy yn y cynllun ar gyfer Cymru gryfach, decach, wyrddach, a sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi prosiectau a datgloi prosiectau posibl yn Alun a Glannau Dyfrdwy—efallai, er enghraifft, yng nghanolfan gweithgynhyrchu dur Tata yn Shotton, prosiect gwych ar gyfer dyfodol Alun a Glannau Dyfrdwy. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n derbyn y gwahoddiad hwnnw.
Rwy'n falch iawn fod Jack Sargeant wedi tynnu sylw at ein henw da ni o ran cyflawni ac, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi mynd y tu hwnt i hynny o ran ein haddewid ni yn y tymor Seneddol diwethaf. Fe wnaethom ni addo 100,000 o brentisiaid; fe gawsom ni dros 112,000. Wrth gwrs, roedd y gallu gennym ni i ddefnyddio arian o Ewrop ar y pryd, felly fe fydd 125,000—sef cynnydd o 25 y cant ar ein nod blaenorol ni—yn galetach i'w gyflawni, ond rwy'n hyderus y byddwn ni'n gwneud felly. Mewn gwirionedd, mae'r cynllun hwn yn dangos ein bod ni'n dargyfeirio ein hadnoddau ni i wneud felly. Mae'n golygu y bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd mewn meysydd eraill, ond mae hynny'n atgyfnerthu'r flaenoriaeth a roddwn ni i ddyfodol prentisiaethau a'r sgiliau a ddaw yn eu sgil, y budd economaidd a ddaw yn eu sgil hefyd. O ran ei wahoddiad caredig ef, rwyf i eisoes, wrth gwrs, wedi ymweld ag etholaeth yr Aelod. Fe es i i waith Shotton gydag ef, ond rwy'n fwy na pharod i gael cyfarfod arall ag ef. A chan fod llawer gennym ni i'w drafod o ran cyfleoedd yn y gogledd-ddwyrain, gan gynnwys, wrth gwrs, Alun a Glannau Dyfrdwy, y buddsoddiad yr ydym ni'n ei roi yn rhai o'n gweithgynhyrchwyr ni yno, y ganolfan gweithgynhyrchu uwch hefyd yr ydym ni'n ei hariannu a'i chefnogi. Felly, rwy'n fwy na pharod i drafod sut y gallem ni gael sgwrs ddefnyddiol gydag ystod o randdeiliaid ynglŷn â'i etholaeth ef i'r dyfodol.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad a'r neges ynghylch tyfu Cymru gryfach, decach, wyrddach drwy fuddsoddi mewn pobl a datblygu sgiliau a hyder. Rwy'n credu bod hyder yn rhywbeth pwysig iawn. Fe fûm i mewn cyflwyniad diddorol iawn yn y grŵp trawsbleidiol ar fenywod, dan gadeiryddiaeth Siân Gwenllian, ynglŷn ag adferiad a arweinir gan ofal, a fyddai'n creu mwy o gyflogaeth na buddsoddi mewn adeiladu, heb ehangu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Fe fyddai hynny'n gwella llesiant drwy gyfrannu at boblogaeth sy'n derbyn gofal gwell, gan atal mwy o anghenion yn y dyfodol, a helpu i greu economi wyrddach, fwy cydnerth a gofalgar. Mae buddsoddi mewn gofal yn ehangu'r cyflenwad llafur ar draws y rhanbarthau, nid yn unig lle ceir cyflenwad o dir, ac yn adennill mwy o refeniw drwy gynyddu'r niferoedd mewn cyflogaeth sy'n gwario arian yn eu heconomïau lleol wedyn, ac yn cynnal cymunedau byrlymus. Crëwyd llwybrau at yrfaoedd nyrsio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd yn y gogledd eisoes, drwy Grŵp Llandrillo Menai, gan weithio gyda Phrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd i'w groesawu yn fawr. Gweinidog, a yw adferiad a arweinir gan ofal yn syniad y byddech chi'n ei ddatblygu gyda'r Gweinidog iechyd yn ôl y cynllun hwn ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau? Diolch i chi.
Diolch i chi. Rwy'n gwybod ambell i beth am y gwasanaeth iechyd ac am fuddsoddi mewn dewisiadau ynglŷn â'n gweithlu yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, dyma un o'r pethau a wnaethom ni'n rheolaidd. Rydym ni bob amser, yn y cyfnod yr oeddwn i'n Weinidog iechyd, ond yng nghyfnod Eluned Morgan y Gweinidog newydd hefyd, wedi buddsoddi'r swm uchaf posibl yn yr hyn y gall ein cyfundrefn ni ei hyfforddi yn llwyddiannus o ran ein gweithlu iechyd yn y dyfodol. Yr hyn a wnaethom ni hefyd oedd nid yn unig y dewis y gallwn ni yn sicr ei wneud i gadw pethau fel y fwrsariaeth, i sicrhau nad yw pobl yn rhoi'r ffidil yn y to, ond i geisio sicrhau bod rhai amodoldebau hefyd, fel bod pobl sy'n cael y cymorth ychwanegol hwnnw nad yw ar gael dros y ffin yn ymrwymo wedyn i weithio o fewn ein system ni hefyd. Rydym ni'n gwybod y bydd angen mwy o bobl arnom ni yn ein sector iechyd a gofal yn y dyfodol. Mae hyn yn rhannol oherwydd ein bod ni wedi llwyddo o ran bod gennym ni boblogaeth sy'n cyrraedd oedran teg, mae hyn yn rhannol oherwydd ein bod ni'n gwybod ein bod ni am golli rhai o'n staff ni yn dilyn y pandemig—pobl a fydd yn dymuno gadael eu gyrfaoedd yn gynnar neu beidio â gweithio amser llawn am gymaint o flynyddoedd ag y bydden nhw wedi gwneud fel arall. Ac rydym ni hefyd, rwy'n ofni, yn sicr y byddwn ni'n gweld mwy o angen am iechyd a gofal yn dod i mewn i'n system hefyd.
Y rheswm yr ydym ni'n buddsoddi yn incwm y bobl sydd yn ein sector gofal cymdeithasol ni, a'r sector gofal preswyl a gofal cartref yn arbennig felly, yw ein bod ni'n dymuno gweld pobl yn cael eu gwobrwyo yn deilwng am eu gwaith. Y cyflog byw gwirioneddol yw'r cam cyntaf tuag at wneud hynny. Rydych chi yn llygad eich lle wrth dynnu sylw at y ffaith y bydd buddsoddi yn y gweithwyr hynny'n arwain at yr arian hwnnw'n mynd i deuluoedd lleol a chymunedau lleol. Nid pobl a fydd yn cuddio eu cyfoeth ar ynysoedd y Seychelles neu ryw awdurdodaeth arall yw'r rhain; fe fyddan nhw'n gwario arian yn lleol ar eu teuluoedd nhw. Felly, fe allwch chi ddisgwyl ein gweld ni'n dal ati i fuddsoddi. Yn unol â'r cynllun, nid unig ystyr hyn yw'r pwynt yw na ddylai cyflyrau gofal iechyd fod yn rhwystr i waith, ond bod gan y system iechyd a gofal cymdeithasol swyddogaeth bwysig ynddi hi ei hun oherwydd ei bod yn gyflogwr mawr o ran cyflawni uchelgeisiau'r cynllun hwn a chreu Cymru decach, gryfach, wyrddach.
Diolch i'r Gweinidog. Mae croeso i chi ddod i Aberafan unrhyw amser i drafod eich cynlluniau chi hefyd.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
Diolch yn fawr a phrynhawn da.
Heddiw rydym ni’n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae heddiw'n gyfle i dalu teyrnged i'r menywod a ddaeth o’n blaenau a'r menywod sy'n sefyll ar ysgwyddau'r cewri hyn, gan barhau â'r frwydr dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol—menywod gan gynnwys y ddynes aruthrol, Betty Campbell MBE, pennaeth du cyntaf Cymru, cyd-grëwr Mis Hanes Pobl Dduon a hyrwyddwr amlddiwylliannaeth yng Nghymru. Rwy’n gwybod eich bod chi i gyd yn rhannu fy malchder bod Caerdydd bellach yn gartref i gerflun Betty Campbell, sy'n deyrnged addas i'w gwaddol. Diolch i waith Monumental Welsh Women, bydd gan Aberpennar gofeb wedi'i neilltuo ar gyfer y ddynes eithriadol, Elaine Morgan cyn bo hir hefyd.
Wrth i ni fyfyrio ar gyfraniad menywod yng Nghymru, mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, ystyried effaith pandemig COVID-19. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r niwed ar raddfa eang a achosodd i'n hiechyd a'n lles cymdeithasol ac economaidd, ac mae menywod wedi bod yn ganolog i hyn. Yn fyd-eang, mae menywod wedi arwain yr ymateb iechyd i COVID-19, gan gyfrif am bron i 70 y cant o'r gweithlu gofal iechyd. Ac ar yr un pryd, mae menywod wedi ysgwyddo llawer o'r baich gartref, gan wneud hyd at 10 gwaith yn fwy o waith gofal na dynion. Mae menywod hefyd wedi wynebu risg uchel o golli swyddi ac incwm, a mwy o risg o drais a cham-drin. Mae'r pandemig wedi datgelu dibyniaeth cymdeithas ar waith sy'n cael ei wneud yn anghymesur gan fenywod, fel gofalwyr di-dâl ac fel gweithwyr ym maes gofal, gwaith cymdeithasol a lletygarwch. Ond mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at ragoriaeth cyfraniad menywod i'r ymateb gwyddonol a chlinigol. Wrth i ni symud allan o'r argyfwng hwn ac i mewn i argyfwng arall o ran costau byw, mae'n hanfodol ein bod ni’n rhoi gwerth llawer cryfach i'r gwaith hwn, sy'n ganolog i'n heconomi a'n cymunedau. Mae ein cynllun 'Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru' yn darparu'r fframwaith ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn y dirwedd i fenywod yng Nghymru, ac mae ein rhaglen lywodraethu yn rhoi blaenoriaeth i weithredu agweddau allweddol ar y cynllun hwn.
Byddwn yn ariannu gofal plant i fwy o rieni mewn addysg a hyfforddiant ac sydd ar fin mynd mewn i waith, ac mae'r cynnig gofal plant yn rhoi mwy o ddewis i rieni, yn enwedig menywod, a mwy o allu i gael teulu a gyrfa. Mae hyn yn cael ei gryfhau yn ein cytundeb cydweithredu. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i ddileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ethnigrwydd ac anabledd erbyn 2050. Mae hwn yn gam hanfodol tuag at gymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo'u rhyw, eu cefndir na'u hamgylchiadau. Ddirprwy Lywydd, bydd uned tystiolaeth cydraddoldeb yn cael ei rhoi ar waith o fewn Llywodraeth Cymru eleni, ochr yn ochr ag unedau tystiolaeth gwahaniaethau ar sail hil ac anabledd. A gyda'i gilydd, bydd y rhain yn gwella data ar grwpiau heb eu gwasanaethu'n ddigonol a grwpiau dan anfantais, yn ogystal ag ystyried tystiolaeth o safbwynt croestoriadol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir erioed ynglŷn â'i huchelgais i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, gan adeiladu ar ein deddfwriaeth arloesol. Byddwn yn cryfhau ein pwyslais strategol ar drais yn erbyn menywod yn y stryd a'r gweithle, yn ogystal â'r cartref, er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw. Rydym ni wedi ymgynghori'n ddiweddar ar ein cynigion, ac rwy’n edrych ymlaen at gyhoeddi ein strategaeth derfynol yn gynnar yn nhymor yr haf. Mae pob un o'r blaenoriaethau hyn yn dangos pwysigrwydd dull croestoriadol o ymdrin â chydraddoldeb rhwng y rhywiau. Wrth i ni herio anghydraddoldeb systemig, mae'n rhaid i ni fod yn siŵr ein bod yn herio hyn ar gyfer pob menyw, ac mae'n rhaid i ni gydnabod a deall bod canlyniadau cyfartal yn gofyn am ddulliau gwahanol a sensitif.
Un o themâu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw chwalu'r rhagfarn. Ddeng mlynedd ar hugain ers lansio Chwarae Teg, mae'n ein hatgoffa'n amserol o'n cyfrifoldeb ar y cyd i herio ystrydebau rhywedd a'r rhagfarn fwriadol neu anymwybodol sy'n effeithio ar fenywod yma a ledled y byd. Ni ellir gadael unrhyw fenyw ar ôl. Byddwn yn gweithio gyda menywod du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod anabl, menywod lesbiaidd, deurywiol a thraws, menywod mewn tlodi, menywod hŷn, merched ac eraill i sicrhau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Byddwn yn gwneud hyn gyda rhanddeiliaid arbenigol, gan gynnwys Women Connect First, RhDEM Cymru, BAWSO a llawer o rai eraill, i ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, gan adeiladu ar berthnasoedd ac ymddiriedaeth, a ddatblygwyd dros ddegawdau.
Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod y Senedd hon yn gartref i grŵp cynyddol o fenywod amrywiol, i weithio er budd pawb. Mae'r un peth yn wir am bob cyngor a phob bwrdd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o ariannu cynllun mentora Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal yn rhannol. Mae'r cynllun yn rhoi cyfleoedd i gymunedau amrywiol ledled Cymru archwilio swyddogaethau arwain mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r cynllun eisoes yn cyflawni—mae mentoreion wedi dod yn ASau, cynghorwyr a phenodiadau cyhoeddus allweddol. Rwy’n gobeithio, un diwrnod yn fuan, y byddwn yn eistedd ochr yn ochr â graddedigion y rhaglen.
Ni fydd un syniad ar ei ben ei hun yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb. Mae angen newid diwylliannol systemig ac mae'n rhaid cael cyfrifoldeb ar y cyd o ran sut yr ydym yn ailfeddwl ein cymdeithas a sut yr ydym yn ailosod ein huchelgeisiau ar gyfer cyfle a chanlyniad cyfartal. Byddwn yn ymgorffori cyllidebu ar sail rhyw yn ein prosesau gwneud penderfyniadau i ysgogi newid diwylliannol o ran cyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd, ac, wrth wneud hynny, byddwn yn cydnabod yr heriau posibl i fenywod wrth i ni ymdopi ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Drwy ein cynllun treialu i brif ffrydio cydraddoldeb, byddwn yn sicrhau bod dyfodol di-garbon yn cynnwys ac yn gwerthfawrogi menywod ac yn darparu cyfleoedd newydd ac arloesol ar gyfer sgiliau, addysg a gwaith, gan sicrhau trosglwyddo cyfiawn i economi werdd. Mae'n hanfodol bod pob un—partneriaid, gweithredwyr a gwleidyddion—yn barod i weithio mewn partneriaeth, i droi'r drol a gwneud cynnydd gwirioneddol, ystyrlon a chyflym i gyflawni'r newid yr ydym ni i gyd yn dymuno ei weld, sef Cymru sy'n gyfartal o ran y rhywiau.
Fe wnes i ddechrau fy natganiad heddiw drwy gydnabod arloeswyr cydraddoldeb yng Nghymru, a hoffwn i orffen drwy dalu teyrnged i fenywod Wcráin, sydd, ynghyd â’u teuluoedd, yn ein meddyliau ni i gyd heddiw. Hoffwn pe gallai fy ngeiriau ddadwneud yr arswyd maen nhw’n byw drwyddo. Rwyf yn rhyfeddu'n llwyr at eu cryfder, fel yr ydym ni i gyd heddiw rwy'n siŵr, a'u cadernid, ac rydym yn anfon ein hundod â nhw atyn nhw yn ystod y dyddiau ofnadwy hyn. Diolch.
Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud, fe wnes i werthfawrogi'n fawr bopeth y gwnaethoch ei ddweud. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i gydnabod cyflawniadau'r gorffennol, rwy’n cytuno 100 y cant â chi pan wnaethoch chi ddweud hynny, ac mae edrych ar heriau'r dyfodol hefyd yn hanfodol i bob un ohonom ni.
A minnau'n Gymraes falch, rwy'n falch iawn o fod yn eistedd ymhlith cynifer o fenywod gweithgar ac ymroddedig yn y Senedd hon yma yng Nghymru yn wythnosol. Yn gymaint ag y mae heddiw'n ymwneud â dathlu, mae hefyd yn amser i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yma yng Nghymru a chymryd camau i greu cenedl decach a mwy cyfiawn. Rydym yn gwneud hyn ar ôl gorfod ymateb ac addasu i heriau'r pandemig. Mae menywod wedi bod ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn COVID-19, boed hynny fel gweithwyr rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd, y menywod sy'n ein gwasanaethu yn ein harchfarchnadoedd, neu yn wir y rhai sy'n gweithio yn y sector gofal, ac rwy'n falch o ddweud bod menywod wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad y brechlynnau sy'n chwarae rhan mor hanfodol yn ein bywydau wrth i ni ddychwelyd yn ôl i normal.
Un o ganlyniadau'r pandemig hwn yw bod cyflogwyr wedi dod yn ymwybodol o fanteision gweithio'n fwy hyblyg, sy'n sicr yn rhywbeth cadarnhaol. Mae cyfran y menywod sy'n gweithio'n rhan-amser wedi gostwng tua 3 y cant o ganlyniad i weithio mwy hyblyg a gwell darpariaeth gofal plant. Fodd bynnag, mae'n destun pryder bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi cynyddu o 11.8 y cant i 12.3 y cant. Yn anffodus, nid dyma'r stori lawn. Mae gwahaniaethau rhanbarthol yn golygu y gall y bwlch fod mor isel ag 1.9 y cant yng Nghonwy ond mor uchel â 25 y cant yn Nhorfaen. A gaf i ofyn, Gweinidog, sut ydych chi’n bwriadu mynd i'r afael â'r bwlch cyflog cynyddol rhwng y rhywiau sy'n bodoli yma yng Nghymru ar hyn o bryd? Mae gormod o fenywod yn parhau i fod wedi eu crynhoi mewn galwedigaethau â chyflog is. Mae'n rhaid i ni dorri'r canfyddiad bod rhai gyrfaoedd ar gyfer bechgyn ac eraill ar gyfer merched. Pa gamau sy'n cael eu cymryd, Gweinidog, i godi dyheadau menywod a merched ifanc i sicrhau bod mwy yn astudio mathemateg, peirianneg, technoleg a gwyddoniaeth, i godi eu lefelau cyflog posibl a darparu darganfyddwyr brechlynnau’r dyfodol yma yng Nghymru?
Ni fydd byth cydraddoldeb llwyr nes bydd menywod eu hunain yn helpu i wneud y cyfreithiau, ac rwy’n gwybod eich bod chi’n gweithio'n ddiflino i gyflawni hynny a gwneud hynny, ond yn wir mae angen i ni weld mwy. Mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, gyda dim ond 29 y cant o gynghorwyr lleol yn fenywod ac mae menywod yn ffurfio llai na hanner y penodiadau cyhoeddus yn 2020. Mae angen gwneud mwy nid yn unig i dorri, ond i chwalu'r nenfwd gwydr hwn. Rwy’n gofyn i chi, Gweinidog, beth arall y gellir ei wneud i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus.
Mae achosion proffil uchel diweddar hefyd wedi tynnu sylw unwaith eto at y materion trais, cam-drin ac aflonyddu y mae gormod o fenywod yn eu hwynebu yma yn 2022. Mae achosion o gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod ar gynnydd, wedi eu gwaethygu gan straen y cyfnod clo. Mae angen dewrder mawr i ddod ymlaen ac adrodd am achosion o gam-drin domestig, ac rwy’n cymeradwyo’r holl fenywod hynny sy'n codi llais dros yr achosion hynny ac sy'n gweithio yn y maes hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd strategaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau bod cyrff cyhoeddus a phreifat yn adnabod arwyddion cam-drin o'r fath ar y dioddefwyr a'u plant fel y gellir cymryd camau priodol. Mae camfanteisio ar fenywod drwy fasnachu pobl, caethwasiaeth fodern, priodas dan orfod ac anffurfio organau rhywiol menywod yn cael ei gydnabod yn ehangach yn awr nag erioed o'r blaen, sy'n sicr yn gynnydd. Rwy'n eich annog chi, Gweinidog, i ymdrechu’n arbennig o galed a gwneud popeth o fewn eich gallu i ddileu'r cam-drin gwarthus ac anghyfreithlon hyn sy'n digwydd heddiw.
I gloi, ni all menywod sicrhau cydraddoldeb heb fod cyfle’n cael ei greu. Ni all fod yn iawn i botensial hanner ein poblogaeth gael ei fygu a'i atal. Os ydym ni am lwyddo i greu Cymru fwy cyfartal a chyfiawn, yna ni all Diwrnod Rhyngwladol y Menywod fod am un diwrnod yn unig. Mae'n rhaid iddo lywio ein gweithredoedd, bob dydd, er mwyn sicrhau hawliau cyfartal pob menyw a merch ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch yn fawr, Natasha, ac mae mor wych eich bod chi gyda ni yma heddiw ac y gallwn ni rannu cymaint o ran dathlu cynnydd, ond hefyd cydnabod yr heriau enfawr sydd o'n blaenau i fenywod. Hoffwn dalu teyrnged a diolch i Joyce Watson am ddod â ni at ein gilydd heno—menywod y Senedd hon, Senedd Cymru—wrth i ni gyfarfod ar draws y pleidiau. A hefyd nid yn unig i rannu ble yr ydym ni'n dymuno symud ymlaen gyda'n gilydd—cynrychiolwyr sy'n fenywod yn y Senedd hon—ond hefyd i wrando ar eiriau ysbrydoledig Lucy Kassa, sy'n ymuno â ni heddiw, newyddiadurwr annibynnol o Ethiopa.
Rwy’n credu ei bod hi’n hollbwysig ein bod yn cydnabod pwysigrwydd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Mewn gwirionedd, mae mor bwysig bod cwestiynau wedi dod i fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, am ei gynllun sgiliau cyflogadwyedd, gyda chwestiwn ar ôl cwestiwn yn ymwneud ag 'A fydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau?' Oherwydd bod hyn yn ymwneud ag ymrwymo ein hunain i fynd ar drywydd cyfiawnder economaidd a chymdeithasol, ac mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cyflog yn elfen hanfodol o hyn. Ac, wrth gwrs, nid yw'r bwlch cyflog wedi ei gyfyngu i’r rhywiau yn unig. Dyna pam rwy’n credu y bydd yr unedau tystiolaeth o gydraddoldeb yr ydym yn eu sefydlu yn hollbwysig i edrych ar fylchau cyflogau ar sail anabledd a hil hefyd—rhan o'n cerrig milltir cenedlaethol ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n ymdrech ar y cyd, a byddwn yn cyflawni hyn drwy ein dull partneriaeth gymdeithasol, drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, gan fod hynny, mewn gwirionedd, yn rhoi cyfle i ni ymgysylltu â chyflogwyr, undebau llafur a'r gweithlu i'w darbwyllo hefyd o'r manteision a'r canlyniad cadarnhaol wrth fynd i'r afael â bylchau cyflog rhwng y rhywiau a bylchau cyflog o bob dimensiwn.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig cydnabod hefyd y ffordd y cafodd adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' a gafodd ei grybwyll yn gynharach gan arweinydd Plaid Cymru, a gyhoeddwyd gan Chwarae Teg ychydig wythnosau'n ôl—. Fe wnaeth gydnabod mewn gwirionedd fod bwlch cyflog rhwng y rhywiau y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef, a'i brif ffrydio ar draws holl gyfrifoldebau'r Llywodraeth, a fydd yn dechrau gwneud gwahaniaeth. Ond mae angen i ni ymgysylltu â'n partneriaid cymdeithasol i wneud hyn.
Ydy, mae'n hollbwysig ein bod ni'n bwrw ymlaen yn awr â'n hymrwymiad tra bod gennym ni gefnogaeth gref ar draws y Siambr hon i'n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydych chi’n gwybod ein bod ni’n datblygu ein strategaeth pum mlynedd nesaf. Fe wnaethom ymestyn amseroedd ymgynghori i ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc a dioddefwyr a grwpiau goroeswyr, ac rydym yn cryfhau ac yn ehangu'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd i ni edrych—ac rydym ni wedi mynegi hyn yn y Siambr, a gan ein cyd-Aelodau sy'n ddynion hefyd—ar fynd i'r afael â thrais gwrywaidd a'r casineb at fenywod a'r anghydraddoldeb rhwng y rhywiau sydd y tu ôl iddo, a sut y mae'n rhaid i ni dorri'r cylch a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n rhaid i hyn ddechrau gyda bechgyn a dynion ifanc, os yw cenedlaethau'r dyfodol am gael cyfle i dorri'r cylch hwn. Rydym ni hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i’r holl gyflawnwyr, ni waeth beth fo'u rhyw, gael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd a hefyd cefnogi ein hymgyrch, CallOutOnly, sy’n helpu pobl i adnabod ymddygiadau, yn enwedig yn awr wrth i ni ehangu hynny i aflonyddu ar y stryd hefyd, ac edrych ar sut y gallwn ni fynd i'r afael nid yn unig ag aflonyddu ar y stryd, ond hefyd ag aflonyddu yn y gweithle ac aflonyddu cyffredinol ar fenywod a merched.
A gaf i ddweud, o ran chwalu'r nenfwd gwydr, pa mor wych oedd clywed heddiw y newyddion mai'r Farwnes Tanni Grey-Thompson fydd ein cadeirydd newydd i Chwaraeon Cymru? Rwy’n credu bod hynny'n benodiad cyhoeddus aruthrol i Tanni, a gafodd ei magu yng Nghaerdydd, yng Nghymru, ac sydd ag enw byd-eang. Ond mae hi'n dod yn ôl i Gymru i fod yn gadeirydd ac yn fodel rôl mor wych. Fe wnes i gyfarfod â hi'n ddiweddar ac mae wedi ei hysbrydoli'n fawr gan y gwaith yr ydym ni’n ei wneud ar ein tasglu anabledd ar effaith y pandemig ar bobl anabl. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn adlewyrchu Cymru wrth redeg Cymru, ac mae hynny o ran ein penodiadau cyhoeddus, ac yn wir ar draws ein holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad a hoffwn ategu ei theyrnged i fenywod Wcráin ar fy rhan i fy hun ac ar ran fy mhlaid.
Bu'n rhaid i fy mam-gu roi'r gorau i'w swydd pan oedd hi'n briod. Dechreuodd fy mam ei gyrfa fel athrawes ar lai o gyflog na'i chymheiriaid a oedd yn ddynion. Bues i’n gweithio'n rhan-amser am dros ddegawd oherwydd nad oeddwn i’n gallu dod o hyd i ofal plant addas. Yn ôl Fforwm Economaidd y Byd, ni fydd yr un ohonom yn gweld cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ein hoes ni, ac nid yw’n debygol y bydd llawer o'n plant yn gweld hynny chwaith. Mae gwaith brys i'w wneud, ac mae adroddiad 'Cyflwr y Genedl 2022' Chwarae Teg, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn dangos yn glir bod gan Gymru lawer o waith i'w wneud.
Neithiwr cymerais ran mewn trafodaeth a drefnwyd gan y Senedd ac a gadeiriwyd gan Jenny Rathbone am ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru—neu ddylwn i ddweud yr anghydraddoldeb sy’n cael ei achosi gan ddiffyg gofal plant. Rwy’n falch iawn, wrth gwrs, fod ehangu gofal plant am ddim yn rhan o gytundeb cydweithredu'r Llywodraeth â Phlaid Cymru, ond rydym yn gwybod bod yn rhaid i hwn fod yn gam cyntaf yn unig.
Mewn trafodaeth bord gron gyda Chwarae Teg yr wythnos diwethaf, nodwyd, wrth edrych ar ddata anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac asesu ei achosion sylfaenol, ei fod yn ymwneud bron bob amser â baich cyfrifoldebau gofalu sy'n disgyn yn anghymesur ar fenywod. Fe wnaeth eu hadroddiad ddarganfod, o'r menywod a oedd yn economaidd anweithgar, fod hyn oherwydd cyfrifoldebau gofalu am deulu 24.1 y cant o'r amser; 5.8 y cant yn unig oedd y ffigur ar gyfer dynion. Ni waeth pa bolisïau y byddwn ni’n eu rhoi ar waith ar draws yr economi, na pha gwotâu yr ydym yn eu rhoi ar waith mewn bywyd cyhoeddus, mae'n rhaid i ni greu cymdeithas lle gall menywod fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’u blaenau. O ystyried hyn, a allai Llywodraeth Cymru amlinellu pa ddarpariaethau pellach sydd ar waith ar gyfer y menywod hyn sy'n economaidd anweithgar oherwydd eu bod yn gorfod gofalu am deulu gartref, yn enwedig gan nad yw'r cynnig gofal plant presennol ar gael i'r rhai sy'n ddi-waith?
Er mwyn sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol rhwng y rhywiau yng Nghymru, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y menywod mwyaf ymylol yn gyntaf—y menywod mewn cymdeithas sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf a'r rhai dan anfantais fwyaf. Mae'r effaith gyfansawdd, fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn eich datganiad, o'r croestoriad rhwng anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol eraill yng Nghymru yn glir. Yn ôl adroddiad 'Cyflwr y Genedl', yng Nghymru, yn 2021, roedd 78.4 y cant o ddynion yn economaidd weithgar o'i gymharu â 70.3 y cant o fenywod gwyn a oedd mewn cyflogaeth. Ond dim ond 56 y cant o fenywod o leiafrifoedd ethnig oedd mewn cyflogaeth.
Mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus, mae amrywiaeth yn hanfodol, gan mai dyma le mae penderfyniadau sy'n effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd yn cael eu gwneud. Heb gynrychiolaeth croestoriadol i fenywod, ni fydd gennym ni ystod amrywiol o leisiau yn yr ystafell sy'n caniatáu i wahanol faterion a safbwyntiau gael eu trafod a'u clywed. Mae menywod, fel yr ydym yn gwybod, eisoes wedi eu tangynrychioli mewn bywyd cyhoeddus. Er bod 43 y cant o'r cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd hon yn fenywod, mae hyn yn dal yn llai na phan wnaethom ni orffen tymor diwethaf y Senedd, ac mae gennym ni gyfran uwch o fenywod yma nag sydd gennym ni ymhlith ASau Cymru, er enghraifft, a dim ond 29 y cant o gynghorwyr Cymru sy'n fenywod.
Mewn llywodraeth leol, mae angen gwirioneddol i ni weld llawer mwy o fenywod yn cael eu hethol yn yr etholiad nesaf hwn ym mis Mai, a sicrhau bod hyn yn cyfateb i niferoedd uwch o fenywod mewn cabinetau llywodraeth leol ac fel arweinwyr. Rhan o hyn yw sicrhau bod arferion gwaith yn gweithio i fenywod; gall cynnal yr elfen rithwir i gyfarfodydd a chadw at oriau gwaith hyblyg sy'n ystyriol o deuluoedd helpu. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau gwelliant yn y gyfradd honno o 29 y cant ar gyfer ethol menywod yn gynghorwyr yn yr etholiad ym mis Mai?
Mae menywod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, cefndiroedd dosbarth gweithiol, incwm isel a menywod ag anableddau yn cael eu cynrychioli'n llai yn gyfrannol mewn ardaloedd lle bydd eu lleisiau'n cael eu clywed neu le byddan nhw’n cael y cyflog uchaf. Yng Nghymru yn 2021, roedd llai na 5 y cant o benodiadau cyhoeddus yn 2020-21 o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, ac roedd llai na 5 y cant yn bobl ag anableddau.
Mae gwaith cadarnhaol yn cael ei wneud yng Nghymru, ac rwy’n llongyfarch y Farwnes Tanni Grey-Thompson ar ei phenodiad. Rwyf hefyd yn croesawu creu'r uned tystiolaeth o gydraddoldeb ochr yn ochr â'r unedau gwahaniaethau ar sail hil ac anabledd, a fydd yn sicr o'n helpu i weld beth sy'n mynd o'i le. Fodd bynnag, mae'n rhaid gwneud mwy i sicrhau bod pawb sy'n rhan o wneud penderfyniadau am wariant a pholisi cyhoeddus yn ymgorffori dadansoddiad cydraddoldeb croestoriadol ym mhob dim maen nhw’n ei wneud. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cydraddoldeb croestoriadol a chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei ystyried yn ystod penodiadau cyhoeddus yng Nghymru, er enghraifft? A oes lle i fandadu neu annog y defnydd o gwotâu, nid yn unig yn etholiadau'r Senedd, fel yr ymrwymwyd iddo ar hyn o bryd yn y cytundeb cydweithredu, ond hefyd penodiadau cyhoeddus? A fyddai Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried gweithredu hyfforddiant cydraddoldeb rhwng y rhywiau a hyfforddiant cydraddoldeb arall i bawb sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau am wariant a pholisi cyhoeddus, er mwyn sicrhau ein bod yn ymgorffori dadansoddiad cydraddoldeb croestoriadol ym mhob dim yr ydym yn ei wneud? Diolch.
Diolch, Sioned Williams. Rwyf i yn credu ei bod hi mor bwysig ein bod ni’n myfyrio ar y menywod yr ydym yn ddisgynyddion iddyn nhw hefyd—ein mamau a'n neiniau. Mor aml rydym ni’n talu sylw i'r dynion yr ydym yn ddisgynyddion iddyn nhw hefyd, oherwydd eu bod nhw wedi cael cyflawniadau, ond y menywod yr ydym yn ddisgynyddion iddyn nhw sydd mor bwerus i ni. Ac mae gennym ni gyfrifoldeb iddyn nhw yn ogystal ag i genedlaethau'r dyfodol.
Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn mynd i'r afael â chyflogau rhwng y rhywiau, ac os edrychwch chi ar feysydd sy'n peri pryder mewn cysylltiad â chyflogau rhwng y rhywiau, fe wnaeth ehangu ychydig yng Nghymru eleni. Ac mae menywod hefyd—y pwynt hwn am ofal plant—yn parhau i fod pedair gwaith yn fwy tebygol o nodi gofal plant fel y rheswm dros fod yn economaidd anweithgar. Ond hefyd, yn groestoriadol, cynrychiolaeth pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl—ymysg penodiadau cyhoeddus, rydym yn gwneud rhai newidiadau, ond mae'n isel o hyd, ac mae angen i ni edrych ar dangynrychiolaeth menywod ymhlith arweinwyr busnes, rheolwyr, cyfarwyddwyr.
Rwy’n credu bod rhai cwestiynau wedi codi am fenywod ym meysydd STEM yn gynharach y prynhawn yma. Os edrychwn ni ar arolygon cyfredol, maen nhw’n dangos mai dim ond 11 y cant o weithlu peirianneg y DU sy'n fenywod, a ni sydd â'r ganran isaf o fenywod proffesiynol ym maes peirianneg yn Ewrop. Felly, rwy'n credu bod y gwaith Nid i Fechgyn yn Unig y mae Chwarae Teg wedi ei wneud yn hanfodol bwysig hefyd. Rydym yn gwybod bod y farchnad lafur yn wahanedig iawn o ran y rhywiau. Fe wnes i ymweld â meithrinfa ddydd yn fy etholaeth i ychydig wythnosau yn ôl. Nid ydyn nhw erioed wedi recriwtio dyn ifanc i weithio yn y feithrinfa ddydd, ac mae'n weithlu sy'n fenywod i gyd ym maes gofal plant, ac i raddau helaeth ym maes gofal cymdeithasol hefyd. Mae'n wych bod gennym ni’r cyflog byw go iawn, oherwydd y bydd hynny'n helpu i fynd i'r afael â gwahaniaethau cyflog menywod hefyd, ac mae angen y cyflog byw go iawn arnom fel ffordd hanfodol o fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ac yna cynnydd yn y farchnad lafur.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni edrych ar y rhai mwyaf ymylol a'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Dyna pam y gwnes i ganolbwyntio ar y dull croestoriadol yn fy natganiad, ond mae cyfraddau tlodi wedi cynyddu—mae costau byw, pandemig, anghydraddoldebau wedi cynyddu, ac wrth gwrs nawr—. Ac rydym yn gwybod, mewn gwirionedd, mai rhieni sengl sy'n dal i fod yn y perygl mwyaf o fyw mewn tlodi. Rwy’n credu, y materion y gwnaethom eu codi y llynedd ynglŷn â'r ffaith bod y toriad i gredyd cynhwysol, y toriad hwnnw o £20—ei fod wedi effeithio'n uniongyrchol ar fenywod a'u teuluoedd ar y cyflog isaf. Rwy'n credu bod angen i ni gydnabod bod yn rhaid mynd i'r afael â gwaith gofal di-dâl, aflonyddu, cam-drin a thrais.
Hoffwn i ddweud, wrth i ni symud tuag at yr etholiadau llywodraeth leol, ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni fwy o fenywod yn ymgeisio. Rwy'n siŵr bod pob plaid wleidyddol yn chwilio am hyn ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol. Rwy'n falch iawn bod gennym ni fenywod yn arweinwyr bellach ar draws ein pleidiau gwleidyddol beth bynnag yn cynrychioli llywodraeth leol, sydd ar flaen y gad ym mhob dim yr ydym yn ei wneud o ran cyflawni polisi. Ac roeddwn i’n falch iawn o gyfarfod â'r holl aelodau cabinet sy'n gyfrifol am gydraddoldeb yn ddiweddar ac, wrth gwrs, mae Rebecca Evans, y Gweinidog llywodraeth leol, wedi rhannu â mi y ffyrdd yr ydym yn bwrw ymlaen â'r cynllun gwella'r gyllideb, gan edrych ar gyllidebu ar sail rhyw yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog, ond hefyd edrych ar ffyrdd y gallwn ni sicrhau bod mwy o fenywod yn cael eu cynrychioli, a hefyd gweld hynny fel dull croestoriadol a chraidd hefyd.
Felly, mae gennym ni ffordd bell i fynd, ond rwy’n credu fy mod i’n falch iawn o weld neges trydar y Prif Weinidog ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw ei fod yn falch iawn o'r ffaith bod ganddo fwy o fenywod yn y Cabinet na dynion, ac rwy’n credu weithiau fod yn rhaid i bobl ddweud, 'O, mae rhai menywod yn rhedeg Cymru yma', ac mae gennym ni fenywod sy'n Cadeirio pwyllgorau ar draws y Senedd, ein Llywydd. Dyma le mae'n rhaid i ni sefyll gyda'n gilydd a gobeithio—. Rwyf i wedi sôn am y fenter llais cyfartal. Mae'n rhaid i ni sicrhau yn wirioneddol ein bod yn ysbrydoli ac yn galluogi ein menywod ifanc i'n holynu yn y lle hwn. Diolch.
Fel arfer, byddwn i'n myfyrio ar—. Hoffwn i fyfyrio ar thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, sef chwalu'r rhagfarn, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn helpu i frwydro yn erbyn y rhagfarn ym maes gofal iechyd, gyda chyhoeddiad heddiw am nyrsys arbenigol endometriosis. Mae'n gyflwr difrifol sy'n newid bywydau sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw, ac mae'n haeddu cael ei drin felly, gydag adnoddau priodol.
Ond, heddiw, fel menywod ledled y byd, mae'r sefyllfa yn Wcráin, ac o'i amgylch, yn fy nychryn. Mae dros 1 miliwn o bobl Wcráin eisoes wedi ffoi o'r wlad, menywod a phlant yn bennaf. Y Diwrnod Rhyngwladol Menywod hwn, dylai Llywodraeth y DU wneud y peth iawn a sefydlu llwybrau syml, cyflym, diogel a chyfreithiol ar gyfer noddfa yn y DU, fel gwledydd Ewropeaidd eraill. A dweud y gwir, mae'r sefyllfa bresennol o ran visa yn codi cywilydd ar ein gwlad.
Ond, o ran yr hyn y gallwn ni yng Nghymru ei wneud, rwy'n gwybod bod menywod a grwpiau menywod ledled Cymru yn trefnu apeliadau cymunedol yn frwd. Nhw fydd y cyntaf i groesawu ffoaduriaid pan fyddan nhw'n cyrraedd, fel y gwnaethon nhw groesawu pobl Syria ac eraill yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, ynglŷn â hynny, allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch paratoadau i letya ffoaduriaid o Wcráin?
Diolch yn fawr, Joyce Watson, ac a gaf i ddiolch i Joyce am fod yn hyrwyddwr mor arweiniol dros fenywod yng Nghymru? Cyn i chi ddod yn Aelod o'r Senedd, dyna fu eich ymrwymiad bywyd fel oedolyn.
Ond mae'n bwysig canolbwyntio ar y thema, chwalu'r rhagfarn, o ran Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac rwyf i wedi ymateb i lawer o bwyntiau am chwalu'r rhagfarn eisoes, ond hoffwn i gydnabod hefyd fod iechyd menywod—. Mae popeth yr ydym yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru yn effeithio ar fywydau menywod, ac mae iechyd a lles yn hollbwysig, felly mae'n dda gweld cynnydd yn cael ei wneud drwy'r grŵp gweithredu ar iechyd menywod, a sefydlwyd gan y cyn Weinidog iechyd, i edrych ar faterion sy'n ymwneud ag endometriosis a gweld bod gennym ni bellach y broses hon o recriwtio rhwydwaith o nyrsys endometriosis arbenigol ym mhob bwrdd iechyd, gan ddatblygu'r llwybrau cenedlaethol hynny, oherwydd ei bod yn fater hollbwysig i fywydau menywod o ran eu gweithgarwch economaidd a phob agwedd ar eu bywydau.
O ran diweddariad, oherwydd ein bod ni’n gwybod, o ran y menywod a'r plant, y ffoaduriaid, sydd bellach yn dianc rhag yr arswyd yn Wcráin, mai menywod a phlant fyddan nhw yn bennaf, ac rydym yn awyddus i'w croesawu i Gymru fel cenedl noddfa, felly rydym ni wedi gofyn ac wedi galw'n gyson, fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud heddiw mewn cyfraniadau y prynhawn yma, am y llwybr cyfreithiol cyflym, syml hwnnw i'n galluogi—y croeso sy'n dod gan deuluoedd, ond hefyd gan awdurdodau lleol.
Felly, fe wnes i a Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, gyfarfod â phob arweinydd yr wythnos diwethaf. Yr hyn y gwnaethon ni ei weld oedd yn y cyfarfod hwnnw cryfder arweinyddiaeth ymroddedig, dosturiol. Fe wnaeth Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru, Cyngor Rhyng-ffydd Cymru, ac asiantaethau cefnogi ffoaduriaid ymuno â ni hefyd. Felly, yr hyn maen nhw eisoes wedi ei wneud ers y cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf yw cyfarfod—. Mae tai yn hollbwysig, yn amlwg, felly mae aelodau'r cabinet dros dai ledled Cymru wedi cyfarfod. Maen nhw wedi cyfarfod â'n swyddogion tai. Maen nhw’n edrych ar wahanol lefelau o gydlynu y mae angen iddyn nhw eu cynnig, o ran manteisio ar y llu o gynigion gan bobl sydd am gynnig lle yn eu cartrefi eu hunain, ond hefyd yn cydnabod y bydd angen llety dros dro, gwestai a llety dros dro ar hyn hefyd, gan adeiladu i raddau helaeth ar y profiad o wacáu Affganistan, dull tîm Cymru. Ond mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei hun yn teimlo'n rhwystredig iawn oherwydd y diffyg cynnydd o ran llwybrau i mewn i Gymru ac maen nhw hefyd, fel y dywedodd y Prif Weinidog, wedi bod yn galw am ffordd y gallwn gael ymateb cymunedol pwrpasol yma yng Nghymru. Felly, heddiw fydd hi, wrth i ni feddwl am fenywod a merched Wcráin. Mae rhai hefyd yn ymladd yn Wcráin. Rwy’n gwybod bod Mick Antoniw ac Adam Price, pan wnaethon nhw ymweld ag Wcráin, wedi cwrdd â menywod a oedd yn y rheng flaen, yn ogystal â menywod a phlant sydd wedi gadael ac sy'n dymuno cael eu haduno â'u dynion pan fydd y rhyfel gwarthus hwn ar ben.
Felly, diolch, Joyce, am ddod â'r pwynt pwysig hwn i'r datganiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw.
Prynhawn da, Weinidog. Hoffwn i, fel llawer yn y Siambr hon, gan gynnwys fy nghyd-Aelod Joyce, ganolbwyntio ar y sefyllfa yn Wcráin. Wn i ddim am bobl yma, ond ni allaf feddwl am unrhyw beth ar hyn o bryd ar wahân i'r sefyllfa drasig honno. A dim ond un mater i'w godi, ac mae hynny'n ymwneud â masnachu pobl. Ar 6 Mawrth, daeth adroddiadau i'r amlwg fod masnachwyr rhyw yn targedu menywod sengl a phlant ifanc ar hyd ffin Wcráin, a rhybuddiodd elusen polisi cymdeithasol fod ffoaduriaid anobeithiol mewn perygl o ddisgyn i ddwylo masnachwyr pobl. Erbyn hyn, mae'r heddlu a gweithwyr cymorth yng Ngwlad Pwyl wedi cyhoeddi rhybudd am fasnachwyr rhyw, gan nodi bod y dioddefaint i'r rhai sy'n gorfod gadael eu cartrefi ymhell o fod ar ben.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Cymru, unwaith eto, yn barod i chwarae ei rhan wrth ddarparu noddfa i'r rhai hynny sydd ei hangen, ond tybed a allwn i ofyn i Lywodraeth Cymru ysgrifennu at Lywodraeth y DU i sicrhau bod masnachu menywod a phlant sy'n ffoi o Wcráin yn gadarn ar eu radar. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Ac mae hon yn agwedd arall yr ydych chi wedi ei dwyn i sylw'r Siambr eto heddiw—Siambr heddiw. Mae'n bwysig iawn ein bod ni—. Rwy'n hapus iawn i ysgrifennu'r llythyr hwnnw heddiw, ac, mewn gwirionedd, rwy'n credu ei bod yn llythyr y byddem ni i gyd yn dymuno ei rannu ar draws y Siambr hon, ac wrth i ni gyfarfod heno, menywod yn cyfarfod heno, rwy'n credu y gallwn ni gytuno, mae'n debyg, ar rai pethau yr hoffem ni gytuno arnyn nhw a'u datblygu. Ond yn sicr fe wnaf i ymrwymo fy hun yn awr i ysgrifennu'r llythyr hwnnw. Gan ein bod yn gwybod ar y ffiniau ac yn y gwledydd lle mae pobl yn cael eu croesawu—yn enwedig menywod a phlant—eu bod nhw'n cael y croeso mwyaf rhyfeddol yn y gwledydd hynny sydd ar y ffin ag Wcráin. Rydym yn gwybod bod Gwlad Pwyl, Hwngari, Belarws—nid Belarws—Gwlad Pwyl, Hwngari, Moldova, maen nhw i gyd hefyd yn rhoi cymaint o groeso, a hefyd yn gofalu am, ac yn gwarchod cymaint o fenywod a merched a theuluoedd sy'n ffoi. Ond mae angen i ni edrych ar hyn. Yn anffodus, mae angen mynd i'r afael â'r masnachu pobl—mae'r elusennau sydd yno wedi tynnu sylw at hyn—mae angen mynd i'r afael â hyn. Diolch yn fawr, Jane.
Diolch, Weinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Ac wrth ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac fel sydd wedi ei amlinellu gennych chi, Weinidog, a gan gyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr, mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod yn parhau i ddathlu llwyddiannau menywod a merched o bob rhan o Gymru. Ac ar y diwrnod hwn hefyd, fel sydd wedi ei amlinellu gan Sioned Williams, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod pa mor bell mae Cymru wedi dod o ran hawliau menywod a bod camau'n cael eu cymryd i greu mwy o gydraddoldeb. Ond, wrth gwrs, mae mwy i'w wneud. Ac yn anffodus, fel y gwyddom, nid yw'r cydraddoldeb sydd yma yng Nghymru yn wir ledled y byd. Er enghraifft, mae 10 gwlad yn y byd o hyd lle na chaniateir i fenywod bleidleisio, ac mae gwledydd fel Affganistan, Syria, Yemen, Pacistan, Irac, lle nad oes llawer o ryddid ac amddiffyniadau sylfaenol i fenywod ar waith ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i ni barhau i wneud ein rhan yng Nghymru i weld y newid hwn.
Ac rwyf i yma ac yn dymuno siarad yn fyr heddiw, nid yn unig fel Aelod o'r Senedd, ond hefyd fel tad i dair merch ifanc. Mae'n amlwg bod gen i ddiddordeb personol mewn sicrhau ein bod yn parhau i ddiogelu hawliau a lleoedd menywod yma yng Nghymru. Ac yng ngoleuni hyn, Weinidog, tybed sut ydych chi'n credu y bydd y byd y bydd fy merched yn ei brofi yn y dyfodol yn wahanol i'r byd yr ydym ni'n ei weld heddiw o ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Sam Rowlands. Mae bob amser yn—. Mae'n wych pan fydd y dynion sy'n gyd-Aelodau i ni yn siarad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod hefyd, ac rydym ni wedi cael llawer o ddadleuon a datganiadau dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf lle'r ydych chi wedi gwneud cyfraniadau pwerus iawn ar draws y Siambr hon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Cymru hefyd yn edrych tuag allan. Dyna pam yr ydym yn genedl noddfa ac yn dymuno rhoi'r croeso hwnnw i'n ffoaduriaid o Wcráin, a fydd yn fenywod a phlant yn bennaf. Ond hefyd, fel y dywedais i, mae gennym ymweliad heddiw gan Lucy Kassa sydd—. Mae hi yn yr oriel, rwy'n gobeithio, wrth i ni siarad. Mae hi'n newyddiadurwr o Ethiopia sy'n adrodd ar y rhyfel yn Tigray. Mae wedi tynnu sylw at gyflafanau, trais rhywiol, newyn o law dyn a cham-drin hawliau dynol eraill, a bydd yn ymuno â ni heno. Ond rwy'n falch iawn ein bod wedi edrych allan mewn gwirionedd, gyda'n rhaglen Cymru ac Affrica, am raglen grymuso menywod, ac mae gennym BAWSO hefyd, sydd wedi cael cyllid i—. Mae'n ei ddefnyddio i amddiffyn merched a menywod ifanc rhag trais ar sail rhywedd drwy godi ymwybyddiaeth o'r heriau y mae merched a menywod yn eu hwynebu, sydd wedi dioddef effaith andwyol arbennig yn ystod y pandemig. Ac mae BAWSO yn gweithio gyda sefydliadau anllywodraethol yn Kenya, gan weithio gyda'i gilydd.
Nawr, ein dyfodol—. Rwy'n credu mai dim ond edrych ar Senedd Ieuenctid Cymru y mae'n rhaid i chi ei wneud, ac, rwy'n siŵr y bydd y Llywydd yn cytuno, i weld y menywod ifanc gwych sy'n cynrychioli pobl ifanc heddiw. Ymrwymiad Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sy'n edrych tuag at ein dyfodol. Mae'n rhaid i ni rymuso ein menywod ifanc, eich merched chi, ein merched ni a'n hwyresau, o amgylch y Siambr ar gyfer y dyfodol, ond mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb o hyd. A dyna pam y gallaf fod, ie, yn cadw ymgysylltiad trawsbleidiol â'r materion hyn heddiw, ond ni allwn wneud hyn drwy arddel rhestrau dymuniadau yn unig, mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, am ofal plant.
Ac rwyf i yn awyddus i ddweud—. Nid oeddwn i'n gallu ymateb yn llawn i'r mater gofal plant. Mae hynny'n mynd i fod yn hollbwysig i'ch teulu, ac rwy'n siŵr y bu i bob teulu yn y Siambr hon, y bydd y cynnig gofal plant, sydd bellach yn ehangu i ganolbwyntio ar y rhieni hynny mewn addysg a hyfforddiant, yn golygu y bydd mwy o deuluoedd a menywod yn gallu elwa ar well rhagolygon cyflogaeth, cadw eu swyddi a'u gyrfaoedd i symud ymlaen. Ond rwy'n hynod falch ein bod ni am ehangu gofal plant am ddim i blant dwyflwydd oed o ganlyniad i'r cytundeb cydweithredu, oherwydd bod hynny'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi ac yn ymwneud â mynd i'r afael â'r rhai sydd â'r cyflog isaf ac sydd â'r risg fwyaf o gael eu hallgáu a'u colli o ran y farchnad lafur. Ond mae'n ymwneud â llesiant cenedlaethau'r dyfodol, y mae angen i ni edrych ymlaen. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud y cysylltiad hwnnw ar bob lefel o bolisi, gan gynnwys cynllun Sero Net Cymru ac, yn wir, yn bwysicaf oll, gan Weinidog yr Economi, beth yw nodau ac amcanion y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yma, a diolch am y cyfle i drafod hyn. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n neilltuo amser i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched yma yn y Senedd. Y thema eleni, wrth gwrs, ydy 'break the bias'. Un maes lle mae'r bias neu'r bwlch yn bodoli ydy maes iechyd, efo trawiad y galon yn benodol. Mae adroddiad diweddar y British Heart Foundation am y bwlch biolegol yn dweud bod merched dan anfantais ar bob cam o lwybr claf pan fo'n dod at glefyd y galon—yn llai tebygol o gael diagnosis sydyn, yn llai tebygol o gael y driniaeth orau ac ati. Rŵan, dwi'n gwybod bod y Llywodraeth yn llunio cynllun iechyd merched ar hyn o bryd, a dwi'n falch iawn o hynny, ond a gaf i ofyn i'r Gweinidog am sicrwydd y bydd hi'n gwthio am barhau i geisio cau'r bwlch yma pan fo'n dod at driniaeth deg i ferched efo clefyd y galon? A gaf i ofyn iddi wthio i sicrhau bod ymwybyddiaeth yn cael ei gynyddu o'r risgiau sy'n ymwneud ag iechyd y galon y merched yn benodol? Pan ydych chi'n edrych ar ffigurau sy'n awgrymu, o bosib, fod 8,000 o fywydau wedi cael eu colli ymhlith merched oherwydd diffygion yn fan hyn, mae o yn sobri rhywun, a hynny mewn cyfnod o 10 mlynedd. Pan ydym ni'n meddwl mae'n bosib mai beth sydd wrth wraidd hyn yw diffyg merched yn mynd i'r proffesiwn cardioleg, gaf i sicrwydd y bydd annog merched i fynd i'r proffesiwn hwnnw hefyd yn rhan flaenllaw o waith y Llywodraeth yn y maes yma?
Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Mae mor bwysig ein bod ni'n edrych ar anghydraddoldebau iechyd i fenywod ac nid dim ond o ran cyflyrau penodol yng nghylch oes menywod, megis yr hyn rydyn ni eisoes newydd wneud sylwadau arno—endometriosis a'r menopos. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i roi datganiad ar urddas mislif, ac mae lles mislifol bellach yn y cwricwlwm, ond rhaid i ni edrych ar yr effeithiau eraill o ran triniaeth deg i fenywod ar draws yr holl gyflyrau. Ac rwy'n credu ei bod hi'n werthfawr iawn eich bod chi wedi tynnu sylw at glefyd y galon a'r risg mae menywod yn ei wynebu, ac yn amlwg, mae'n rhywbeth sydd wedi'i ddwyn i'n sylw'n glir iawn gan yr elusennau hynny a'r cyrff ymgyrchu hynny sy'n cydnabod hyn fel mater allweddol i fenywod. Felly, diolch i chi am hynny. Rydw i'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac, yn wir, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi nodi hyn heddiw a byddwn yn myfyrio arno o ran y cynllun iechyd menywod.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Roeddwn i'n falch iawn o glywed sôn am gerflun Elaine Morgan a fydd yn cael ei ddadorchuddio cyn bo hir yn Aberpennar yn fy etholaeth. Rwy'n edrych ymlaen at fynychu'r dadorchuddiad swyddogol wythnos i nos Wener, gyda chi, ac rwy'n gwybod y bydd yn ganolbwynt gwych yn y dref.
Rwy'n cofio pan gefais fy ethol i'r lle hwn am y tro cyntaf yn 2016 i mi sôn am yr angen i ni gael cerfluniau o fenywod rhyfeddol yng Nghymru, bryd hynny, nid oedd unrhyw rai. Y teimlad cyffredinol yn ôl bryd hynny oedd bod hyn yn afrealistig—roedd cerfluniau'n rhy ddrud o lawer a dylem edrych ar ffyrdd eraill o ddathlu'r bywydau hyn yn lle hynny. Pa mor bell rydyn ni wedi dod ers hynny. Rwyf mor falch nawr bod dau gerflun o'r fath yng Nghymru ac y bydd yr ail o'r rhain yng nghwm Cynon, ac mae'n deyrnged i fenyw hynod y cefais y pleser o'i hadnabod yn bersonol. Byddai diddordeb gen i wybod am unrhyw drafodaethau y gallech chi fod wedi'u cael gyda'r Gweinidog addysg ynghylch sut y gellir integreiddio straeon y pum menyw hyn o Gymru ac eraill yng Nghwricwlwm Cymru.
Rwy'n nodi hefyd eich sylwadau am fenywod, gwaith menywod a'r pandemig. Rydyn ni'n gwybod mai menywod yw'r rhan fwyaf o'n gweithlu manwerthu, felly mae'n destun pryder bod y Gymdeithas Siopau Cyfleustra wedi adrodd bod 90 y cant o weithwyr manwerthu wedi cael eu cam-drin ar lafar, er enghraifft, wrth i densiynau gynyddu yn ystod y pandemig. Bydd y grŵp trawsbleidiol ar siopau bach yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrch ShopKind yr wythnos nesaf, sy'n ceisio annog ymddygiad cadarnhaol mewn siopau a chydnabod rôl bwysig gweithwyr mewn siopau. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i gyfleu'r neges hon nad yw cam-drin yn rhan o'r gwaith i fenywod sy'n gweithio yn y sector manwerthu?
Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells. Rwy’n gwybod fod Elaine Morgan yn falch iawn ohonoch chi hefyd, a byddai wedi bod yn falch iawn eich bod chi’n Aelod o'r Senedd dros Gwm Cynon. Roedd hi’n fenyw ysbrydoledig, arloesol ac roeddwn i’n falch iawn o'i chyfarfod droeon, a bydd llawer ohonoch chi wedi gweld y llyfr a gyhoeddwyd y llynedd am ei bywyd—talent a gallu eithriadol, ac eto'n fenyw a arhosodd yn breswylydd ac yn ddinesydd yng nghwm Cynon tan y diwrnod y bu farw.
Felly, rwy’n credu bod cerflun Betty Campbell yn arwyddocaol iawn. Y rheini ohonom ni oedd yno i ddadorchuddio'r cerflun anhygoel hwn, ac fe wnaethom ni roi arian i mewn iddo, mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru, a chodwyd llawer o arian ar draws unigolion yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus—. Ond mae mor arwyddocaol o ran y gwaddol a adawodd o ran sicrhau bod gennym ni hanes du yn y cwricwlwm erbyn hyn, wedi'i orfodi'n statudol, gan sicrhau ei fod yn y cwricwlwm. Dyna beth oedd hi ei eisiau a byddai hi wedi bod mor falch, fel y dywedodd ei merched a'i hwyresau ar y diwrnod. Ond hefyd, mae hwnnw’n lle i ymweld ag ef; ychydig fel cerflun Aneurin Bevan yn Heol y Frenhines, nawr mae cerflun Betty Campbell yn lle i blant, ysgolion a phobl ifanc ymweld ag ef. Yn wir, mae'r ysgol wnaeth ganu yn yr agoriad, o ychydig ar hyd y ffordd yma yn Nhre-Biwt, yn dweud eu bod mor falch o'r ffaith eu bod yno ac wedi helpu i ddadorchuddio. Rhaid iddo fod yn rhan o'r cwricwlwm, nid yn unig o ran bod hanes pobl ddu yn rhan o'r cwricwlwm nawr, ond hefyd yr agwedd rhywedd ar hyn o ran yr holl fenywod sy'n mynd i fod yn awr—. Bydd y cerfluniau'n parhau i ddod i'r amlwg o ran ymgyrch Monumental Welsh Women. A bydd yn cael ei gynnwys ym mhob agwedd ar y cwricwlwm. Ond rwy'n credu, o ran cydraddoldeb, rwy'n credu mai dyna lle y bydd y cwricwlwm newydd o ran y cyfleoedd i bobl ifanc sy'n wybodus yn foesegol yn dod drwodd.
Ond hefyd, rydych chi'n llygad eich lle: dim ond i ymateb i'ch materion am fenywod yn y pandemig, ac yn enwedig y gweithwyr allweddol. Rydw i wedi crybwyll, yn fy natganiad, fod tua 70 y cant o'r gweithlu gofal iechyd yn y rheng flaen yn fenywod; yr un peth mewn gofal cymdeithasol hefyd. Ond, mewn gwirionedd, rhaid i ni beidio ag anghofio ein gweithwyr manwerthu, y gweithwyr allweddol ar y rheng flaen. Ac, i gydnabod hefyd mai'r gweithwyr allweddol yw'r rhai sydd yn aml hefyd yn llywio mwy nag un swydd, mewn sectorau â chyflogau is. A byddwn, drwy ein dull partneriaeth gymdeithasol, yn gweithio gyda'r undebau llafur a chyflogwyr, yn cydnabod rôl a phwysigrwydd gweithwyr allweddol. Maen nhw hefyd ar y rheng flaen o ran risg hefyd. A diogelwch, wrth i ni symud yn ein cynllun pontio, rhaid i ni—. Bydd pobl, Aelodau'r Senedd, wedi gweld ein cynllun pontio, a gyhoeddwyd ddydd Gwener. Mae adrannau clir iawn ar gydraddoldeb yn y cynllun hwnnw o ran yr effeithiau ar fenywod a phawb sydd â nodweddion gwarchodedig.
Ond diolch, Vikki Howells, am dynnu sylw nid yn unig at Elaine Morgan—a byddwn yn dathlu'r cerflun hwnnw yr wythnos nesaf, pan fydd yn cael ei ddadorchuddio—ond hefyd bwysigrwydd y gweithwyr allweddol, y menywod sydd yn y rheng flaen o ran y sector manwerthu hefyd.
A Cranogwen yn Llangrannog fydd y trydydd cerflun, gobeithio, i gael ei ddadorchuddio yn yr ymgyrch Monumental Welsh Women. Pum cerflun o bum merch o Gymru.
Delyth Jewell yn olaf.
Diolch, Llywydd. Bob blwyddyn, pan fyddwn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae pobl ddi-rif yn cwestiynu pam mae ei angen arnom a phryd mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion. A, rhag ofn bod unrhyw un yn pendroni, oes, mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion; mae ar 19 Tachwedd. Ond, Gweinidog, a ydych yn cytuno mai'r amlygiad mwyaf grymus ac arswydus o'r angen am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod—dyna pam y mae angen i ni ei nodi—yw'r rhestr gyson o fenywod a laddwyd gan ddynion? Mae wyth dyn wedi eu cael yn euog neu wedi cyfaddef i lofruddio menywod yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y dioddefwr ieuengaf yn ei harddegau, roedd yr hynaf yn ei 70au. Cafodd y menywod hyn eu lladd oherwydd eu bod yn fenywod. Felly, a ydych yn cytuno bod angen i ni nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a bydd angen i ni ei nodi'n gyson hyd nes daw diwedd ar orfod cyfrif mwy o fenywod marw?
Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Wyddoch chi, mae'n rhaid i mi ddweud mai dyma pam yr ydym ni wedi cael datganiadau, rydym ni wedi cael dadleuon; mae'n rhaid i ni gadw hyn ar frig yr agenda, nid dim ond ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Os edrychwch ar gyfrifiad y menywod sydd wedi eu lladd gan ddynion, mae'n ddarn trasig ond angenrheidiol o gasglu data. Mae cyhoeddiad diweddaraf yn dangos bod un fenyw, ar gyfartaledd, yn cael ei lladd gan ddyn bob tri diwrnod yn y DU. Wyddoch chi, dyna pam—. Mae'n astudiaeth gynhwysfawr iawn o fenywod a laddwyd gan ddynion yn y DU, ac mae wedi cofnodi nid yn unig y ffaith bod un fenyw yn cael ei lladd bob tri diwrnod yn y DU, ond, mewn gwirionedd, fel y gwnaethoch ei ddweud, y ffaith mai partneriaid a chyn-bartneriaid sy'n gyfrifol, a dangosir bod hwn yn broblem enfawr o ran rheolaeth drwy orfodaeth. A hefyd, mae sgil-effeithiau'r pandemig wedi bod yn eithaf clir o ran y problemau, ac fe wnaeth y cyfyngiadau symud yn anoddach i fenywod adael dynion a oedd yn eu cam-drin. Rwyf wedi sôn am hyn yn ein dogfen drosglwyddo. Mae'n rhaid i bobl ddarllen hon, ei chofio a chlywed heddiw mai dyma le mae'n rhaid i ni gymryd sylw, ac mae angen i ni gael ein dwyn i gyfrif; mae angen i chi fy nal i gyfrif o ran yr hyn y mae angen i ni ei wneud.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd bod yn rhaid i ni wneud mwy ynghylch yr oedi yn y system cyfiawnder troseddol. Dyna pam yr ydym yn dymuno cael mwy o reolaeth dros y system cyfiawnder troseddol, oherwydd nid oedd dros chwarter yr holl achosion hysbys o ladd yn 2020 wedi eu dwyn i brawf erbyn diwedd 2021 oherwydd oedi yn y system cyfiawnder troseddol, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael y cyfiawnder hwnnw i'r menywod hynny a'i gael yn gyflym. Ond mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni weithio arno i gyflawni'r strategaeth gryfach ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac rwy'n falch y byddaf yn cyd-gadeirio bwrdd y rhaglen gyda Dafydd Llywelyn, y comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol eleni, ond gyda chefnogaeth yr holl gomisiynwyr heddlu a throseddu. A hefyd er mwyn cyflawni'r strategaeth honno, mae'n hanfodol bwysig bod gennym ein haddysg cydberthynas a rhywioldeb, sy'n ffordd allweddol o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw eitem 6, a'r Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022 yw'r rhain. Dwi'n galw ar y Gweinidog llywodraeth leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM7938 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 08 Chwefror 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Rydw i mor gyfarwydd â gwisgo fy masg, anghofiais i fy mod yn ei wisgo, Llywydd. [Chwerthin.]
Mae'n bleser gennyf ddod â Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022 gerbron y Senedd heddiw. Fel yr awgrymwyd gan y teitl, mae'r rheoliadau'n gwneud darpariaethau sy'n deillio'n bennaf o'r rheolau ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a wnaed yma yn y Senedd yn ôl ym mis Rhagfyr. Fodd bynnag, hoffwn dynnu'ch sylw at ddwy ddarpariaeth bwysig sydd hefyd wedi'u cynnwys.
Mae'r rheoliadau'n gwneud mân newidiadau i'r weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn ar ddiwedd y bleidlais. Mae'r newidiadau hyn wedi'u llywio gan drafodaethau gydag awdurdodau lleol ynghylch defnyddio dyfeisiau electronig mewn etholiadau llywodraeth leol, ac maen nhw'n rhoi mwy o hyblygrwydd i'w defnyddio pryd y pennir hyn gan swyddogion canlyniadau lleol. Mae hyn yn gwbl unol â pholisi Llywodraeth Cymru o annog, cefnogi a galluogi cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Er ein bod yn gweld gwelliant sylweddol yn y sefyllfa o ran COVID-19, nid yw wedi diflannu, a dyna pam yr ydym ni hefyd wedi cynnwys darpariaeth a fydd yn ymestyn y trefniadau presennol i alluogi pleidleiswyr i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng heb ardystiad meddygol tan 5 p.m. ar ddiwrnod y bleidlais ar sail pandemig COVID-19 ym mhob etholiad llywodraeth leol yng Nghymru a gynhelir cyn 31 Mai 2023. Unwaith eto, ein bwriad yw ceisio sicrhau hygyrchedd i'r broses ddemocrataidd hyd yn oed yn wyneb COVID-19.
Hoffwn orffen drwy ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r rheoliadau hyn ac am gadarnhau nad oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon yn eu cylch. Hoffwn ddiolch hefyd i Aelodau'r Senedd am ystyried y rheoliadau ac edrychaf ymlaen yn awr at glywed eu trafodaeth.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sydd nawr i gyfrannu. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd, a byddaf yn siarad yn fyr iawn heddiw. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 28 Chwefror, ac mae ein hadroddiad i'r Senedd yn cynnwys un pwynt rhagoriaeth i'w adrodd yn unig, y byddaf yn ei drafod y prynhawn yma.
Nawr, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol a chanlyniadol i wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n gosod rheolau ar gyfer etholiadau lleol. Roeddem ni'n falch iawn o nodi bod y nodyn esboniadol a'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau yn rhoi crynodebau clir iawn ac esboniadau clir o'r rheoliadau.
Nawr, nid oedd angen ymateb gan y Llywodraeth i'n hadroddiad y tro hwn, ond roeddwn eisiau siarad heddiw i gofnodi ein bod, o ystyried natur fanwl a chymhleth y rheoliadau hyn, yn ddiolchgar iawn am grynodebau ac esboniadau mor ddefnyddiol, sydd wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu ni i graffu ar y rheoliadau. Weithiau, mae'n bwysig bod pwyllgor a'r Senedd yn cydnabod ac yn cadarnhau arferion da iawn, ac mae hyn yn enghraifft o hyn. Diolch yn fawr iawn.
Ydy'r Gweinidog yn moyn ymateb? Does yna ddim neb arall i siarad ar yr eitem yma.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch, unwaith eto, i Gadeirydd y pwyllgor am ei waith ac am ei gydnabyddiaeth o'r ffordd yr ydym wedi ceisio nodi gwybodaeth ar ffurf hygyrch a manwl, a gwn y bydd hynny'n helpu cydweithwyr ar draws y Llywodraeth o ran yr wybodaeth a ddarparwn i'r pwyllgor mewn cysylltiad â darnau o ddeddfwriaeth yn y dyfodol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw eitem 7, ac mae'r eitem hwnnw wedi'i dynnu'n ôl.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro. Dwi'n galw ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, i wneud y cynnig hwnnw yn ffurfiol.
Cynnig NNDM7949 Lesley Griffiths
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) i ganiatáu i NNDM7948 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu atal y Rheolau Sefydlog dros dro? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae hynny'n caniatáu ni i symud ymlaen i eitem 8, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws). Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NNDM7948 Vaughan Gething
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ger ein bron, ac rwy'n argymell i Aelodau'r Senedd ein bod yn cydsynio i'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil. Fel y gŵyr yr Aelodau, ni argymhellais y dylai'r Senedd gydsynio i'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd ar 3 Rhagfyr y llynedd. Fodd bynnag, ar ôl ymgysylltu'n helaeth â Llywodraeth y DU, maen nhw wedi symud eu sefyllfa wreiddiol i un sy'n dod â'r Bil hwn i bwynt lle gallaf argymell cydsyniad.
Yn hollbwysig, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cyfres o welliannau sy'n darparu bod yn rhaid iddyn nhw geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i ymestyn y cyfnod moratoriwm ar gyfer tenantiaethau busnes Cymru at ddibenion darpariaethau datganoledig ac i ail-wneud darpariaethau datganoledig yn y Bil ar gyfer tenantiaethau busnes yng Nghymru mewn cysylltiad â chyfnodau pellach o gau busnesau sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws. Yn amlwg, rwy'n gobeithio na fyddai angen y cyfnodau pellach hynny o gau busnesau oherwydd y coronafeirws, ond, os bydd, yna mae darpariaethau yn awr ar gyfer gwneud cydsyniad Gweinidogion Cymru yn ofynnol. Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU hefyd yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn gallu arfer pwerau penodol ar yr un pryd â'r Ysgrifennydd Gwladol.
Oherwydd y newidiadau sylweddol hyn yr ydym wedi'u negodi, fy marn i yw bod y Bil drafft presennol yn parchu'r setliad datganoli yn well. Rwy'n ddiolchgar i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hadroddiadau ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil. Diolch iddyn nhw am eu sylwadau ac rwyf wedi ysgrifennu at y ddau bwyllgor mewn ymateb. Gosodwyd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar 3 Mawrth, yn egluro ein safbwynt ar y cymalau a nodwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a gwelaf fod y Cadeirydd yn eistedd y tu ôl i mi.
Er fy mod yn gresynu at yr amser y mae wedi'i gymryd i sicrhau'r consesiynau gwirioneddol galed hyn gan Lywodraeth y DU, mae wedi golygu nad oedd amser ar gael i gyfeirio'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol. Er gwaethaf hyn, rwy'n gobeithio y bydd aelodau'r ddau bwyllgor ac Aelodau'r Senedd yn rhannu fy marn bod yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn sylweddol ac yn caniatáu i ni symud ymlaen. Bydd y Bil yn helpu tenantiaid busnes a'u landlordiaid drwy roi'r eglurder sydd ei angen arnyn nhw i gynllunio ymlaen llaw. Bydd yn neilltuo rhai dyledion rhent a gronnwyd gan fusnesau y bu'n ofynnol iddyn nhw gau yn ystod cyfnod o'r pandemig, bydd yn darparu amddiffyniadau i fusnesau, a bydd hefyd yn sefydlu system o gymrodeddu rhwymol, y gall tenant busnes yng nghwmpas y Bil neu eu landlord gyfeirio ati os na allant gytuno ar ffordd ymlaen mewn cysylltiad â dyledion rhent penodol. Disgwylir y cyfeiriwyd tua 7,500 o fusnesau ledled y DU at y cynllun cymrodeddu, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig y dylai busnesau yng Nghymru allu elwa ar y gyfundrefn gymrodeddu a'r amddiffyniadau a ragwelir gan y Bil. Ar y sail honno, gyda'r cynnydd a wnaed, gofynnaf i'r Aelodau roi eu cydsyniad i'r cynnig ar y Bil.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr i gyfrannu. Huw Irranca-Davies.
Diolch eto, Llywydd. Fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol ar gyfer y Bil hwn fis diwethaf. Gyda memorandwm rhif 2 ond yn cael ei osod yn hwyr yr wythnos diwethaf, dim ond ddoe yr oedd fy mhwyllgor mewn sefyllfa i nodi ei fod wedi cyrraedd, ond dim mwy na hynny.
Llywydd, yn ôl eich gwahoddiad, rwyf wedi siarad yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn dadleuon ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol ym mhob un o'r pedair wythnos diwethaf. Mae pobl yn blino clywed gennyf yn awr. Yn wir, ers dechrau'r tymor newydd ym mis Ionawr, rwyf wedi siarad ar gynigion o'r fath yn ystod chwech o'r wyth eisteddiad dydd Mawrth. Y rheswm yr wyf yn dweud fy mod yma ar ran y pwyllgor a'r Senedd hon yn wythnosol yw oherwydd bod hyn braidd yn ddigynsail. Efallai y bydd angen i ni ddod i arfer â'r dwysedd hwn o Filiau'r DU hyd y gellir rhagweld. Os felly, ymddiheuraf i'r Aelodau am fy hollbresenoldeb deddfwriaethol. Nid wyf i'n disgwyl i'r Gweinidog, o reidrwydd, fynd i'r afael â nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol yr ydym yn eu hwynebu, ond mae'n werth nodi hynny.
Roedd ein hadroddiad ar y memorandwm gwreiddiol yn fyr, a bydd fy sylwadau y prynhawn yma hefyd yn eithaf cryno. Mae'r un argymhelliad yn yr adroddiad a gyflwynwyd gennym yn ymwneud â deddfu da. Dyma lle yr wyf am brofi'r Gweinidog ychydig yn fwy y prynhawn yma. Yn y memorandwm gwreiddiol ar gyfer y Bil hwn, dywedodd y Gweinidog wrth y Senedd,
'nad oes llawer o dystiolaeth i awgrymu a yw dyled rhent tenantiaethau busnes sydd heb ei thalu yn broblem fawr yng Nghymru ai peidio'.
Roedd hynny'n gwbl glir. Er nad swyddogaeth ein pwyllgor ni yw gwneud sylwadau o reidrwydd ar yr amcanion polisi sy'n sail i gynigion deddfwriaethol, bu'n rhaid i ni ofyn, o'n safbwynt ni, y cwestiwn: pam wedyn mynd ar drywydd pwerau gweithredol i Weinidogion Cymru mewn Bil y DU pan nad oes tystiolaeth glir bod angen pwerau newydd yma yng Nghymru? Mae'n sail i ddeddfu da. Felly, Gweinidog, er fy mod yn croesawu, yn wir, eich bod wedi ymateb i'n hadroddiad ddiwedd yr wythnos diwethaf, sylwaf fod y ffigur amcangyfrifedig yr ydych wedi'i ddarparu i ni o ran nifer yr achosion rhent masnachol a allai fynd drwy'r cynllun cymrodeddu mewn gwirionedd yn ffigur ar gyfer y DU gyfan. Efallai, yn eich dehongliad chi, fod elfen gyfrannol o'r rheini a fydd yn dod o fewn Cymru. Os felly, ar y sail mai egwyddor o gyfraith dda—ac nid wyf yn gyfreithiwr; mae gan y Gweinidog fwy o hyfforddiant cyfreithiol na mi—yw y gallwch ddangos yr angen am y gyfraith honno, byddai ychydig mwy o eiriau o esboniad heddiw ar y cofnod o'r cyfiawnhad a'r rhesymeg dros gymryd y pwerau hyn fod o gymorth i'r Senedd.
Cyn cloi, hoffwn dynnu sylw'r Senedd at gasgliad 1 yn ein hadroddiad. Unwaith eto, mae gennym bryderon mai'r ffordd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru o ymdrin â'i phryderon ynghylch cymal 9 o'r Bil hwn yw ceisio gwelliant i'w gwneud yn ofynnol i ymgynghori â Gweinidogion Cymru a chydsyniad gweinidogion Cymru cyn i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer y pŵer i wneud rheoliadau cymal 9. Mae'r Gweinidog wedi egluro bod hynny'n fantais o ran Gweinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn wir y mae. Mae hynny'n ddi-ddadl, ac mae'n sicr bod llawer o waith wedi mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni yno, yn adeiladol, i gael hynny. Felly, mae swyddogaeth gydsynio i Weinidogion Cymru bellach wedi'i chynnwys yn y Bil. Fodd bynnag, heb geisio swnio fel hen dôn gron, mae perygl yn y fan hyn y bydd swyddogaeth y Senedd o ran craffu yma fel y ddeddfwrfa yng Nghymru yn cael ei hosgoi. Felly, unwaith eto, er mwyn profi hyn ychydig ymhellach, Gweinidog, yn eich ymateb i gloi, byddai'n ddefnyddiol cofnodi pam y bernir ei bod yn briodol ac yn gymesur cymryd y pwerau penodol hyn i Weinidogion Cymru fel swyddogaeth weithredol, yn hytrach na chaniatáu i'r Senedd fynegi ei llais yn llawnach ac yn awtomatig ar reoliadau dilynol. Gweinidog, efallai fod gennych resymau da iawn dros wneud hynny, ond felly byddai'n ddefnyddiol eu cofnodi heddiw. Diolch fel bob amser, Llywydd, i fy nghydweithwyr yn y pwyllgor a'r tîm clercio arbenigol am eu dadansoddiad diwyd, ac i'r Senedd a'r Gweinidog wrth i ni dynnu sylw at y materion manwl hyn. Diolch yn fawr.
Does gyda fi ddim siaradwyr eraill, felly y Gweinidog i ymateb.
Diolch, Llywydd, a diolch i Huw Irranca-Davies, yn gweithredu fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth a Chyfiawnder. Dylwn ddweud fy mod yn ddigon bodlon gwrando ar dinc tyner a thawel llais Mr Irranca-Davies ar sawl achlysur yn y Siambr hon, ac mae'n debygol y bydd llawer mwy, o gofio ei bod yn debygol y bydd mwy o ddeddfwriaeth a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried a ydym yn fodlon bod â Biliau'r DU neu Filiau Cymru a Lloegr yn mynd i'r afael â swyddogaethau sydd wedi'u datganoli ai peidio. Mae rhywfaint o hynny wedi bod yn ymateb angenrheidiol i'r pandemig. Fodd bynnag, mae hefyd yn realiti bod gwahaniaeth yn y dull gweithredu yn Llywodraeth y DU mewn rhai o'r meysydd hyn. Mae rhai rhannau o Lywodraeth y DU yn fwy bodlon a chadarnhaol ynghylch gweithio gyda chyfrifoldebau datganoledig, ac mae eraill yn mabwysiadu ymagwedd wahanol.
Nid wyf yn credu bod angen i ni gael dadl am undeboliaeth gyhyrol heddiw, ond rydym yn debygol o fod â mwy o ddeddfwriaeth pryd y bydd angen dod i'r Senedd. Gobeithio, yn y dyfodol, na fyddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwn lle mae'n gyfres munud olaf o newidiadau y cytunwyd arnyn nhw, oherwydd hoffwn i'r Senedd gael y cyfle i arfer swyddogaethau craffu'n briodol. Rwy'n cofio sut beth oedd bod yn Aelod o'r meinciau cefn a gweld pethau'n digwydd ar fyr rybudd, a'r rhwystredigaeth, hyd yn oed os oes materion yr ydych yn cytuno â nhw, o beidio bod a'r amser i'w hystyried yn iawn.
Os ymdriniaf â'r pwynt pwerau yn gyntaf, a pham eu bod yn bwerau gweinidogol, wel, mewn ystod eang o ddeddfwriaeth mae Gweinidogion yn cymryd pwerau i arfer mewn is-ddeddfwriaeth, fel y byddwch yn gyfarwydd â hi mewn Senedd arall, ac mewn swyddogaethau eraill yr ydych wedi'u cael o fewn eich bywyd eich hun fel Gweinidog hefyd. Yn y mater penodol hwn, nid yw'n anarferol. Ac nid dim ond ei fod yn anarferol; mewn gwirionedd, pe bai angen i ni ymestyn y pwerau hyn, mae'n debyg y byddai angen i ni symud yn gymharol gyflym, ac fel y gŵyr pawb, mae gwahanol lefelau o graffu, yn hytrach na dim craffu, pan fydd Gweinidogion yn arfer pwerau rheoleiddio. Felly, hyd yn oed gyda'r weithdrefn negyddol, mae cyfleoedd i graffu ac yn y bôn i Aelodau alw i mewn ddewisiadau sy'n cael eu gwneud.
Mae'r darpariaethau cydsyniad yn bwysig, oherwydd fel arall yr hyn a fyddai wedi digwydd yw y byddem ni naill ai wedi cadw Cymru allan o'r Bil, neu byddem ni wedi bod â darpariaethau lle byddai Gweinidogion y DU wedi gweithredu yn ein lle ni. Mae'n mynd at eich pwynt am gyfraith dda. Er nad yw'n fater ar raddfa fawr, mae'n bosibl yr effeithir ar gannoedd o fusnesau yng Nghymru, o'r 7,500 ledled y DU. Nid ydym yn rhagweld y bydd y sefyllfa'n wahanol yng Nghymru o ran y gallai fod heriau y byddai angen i landlordiaid a thenantiaid mewn perthynas fusnes eu datrys, a rhan o'n her ni yw nad yw'r materion hynny wedi'u crisialu hyd yma.
Nid ydym yn debygol o fod â landlordiaid a busnesau yn dweud yn wirfoddol wrthym eu bod yn y sefyllfa hon, felly'r dewis yw: a oes gennym broblem sy'n bodoli yn ein barn ni? Yr ateb yw 'oes'. A ydym ni'n credu ei fod yn debygol o effeithio ar fusnesau Cymru? Ydym. Er nad yw'n fater ar raddfa fawr, os oes un mater—dyweder, er enghraifft, yn etholaeth yr Aelod neu'r llall—ac nid oes gennym y pwerau i fynd i'r afael â'r mater, mae'n ddealladwy y bydd yn peri pryder, a phryder gwirioneddol, ynghylch pam nad ydym wedi manteisio ar y cyfle i allu rheoli'r sefyllfa. Rwy'n credu mai'r peth iawn yw peidio â gadael bwlch i Gymru, nid ein gadael mewn sefyllfa lle mae Gweinidogion y DU yn gweithredu mewn meysydd datganoledig, ond cael darpariaethau cydsyniad priodol lle y gall Gweinidogion Cymru weithredu fel yr wyf yn credu y byddai'r sefydliad hwn yn dymuno i ni ei wneud, ac yna i fod yn atebol am ein dewisiadau yn ôl yn y lle hwn hefyd.
Gobeithio bod hynny'n ateb y cwestiynau, a gobeithio y bydd yr Aelodau nawr yn teimlo y gallant gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y ddadl nesaf fydd ar eitem 9, y ddadl ar gyfraddau trethi incwm. Dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7941 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2022-23 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
b) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
c) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Diolch am y cyfle i agor y ddadl hon ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2022-23. Cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymru ym mis Ebrill 2019 ac maen nhw'n berthnasol i dalwyr treth incwm sy'n byw yng Nghymru. Mae cyfraddau treth incwm Cymru yn codi tua £2 biliwn bob blwyddyn tuag at ariannu cyllideb Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd cyfraddau Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn y gyllideb ddrafft. Ni fydd unrhyw newidiadau i lefelau treth incwm Cymru yn 2022-23.
Bydd hyn yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a bydd hyn yn parhau i roi rhywfaint o sefydlogrwydd i drethdalwyr yn ystod cyfnod o ansicrwydd a heriau economaidd byd-eang ehangach. Ynghyd â'r arian a geir drwy'r grant bloc, mae trethi Cymru yn hanfodol i helpu i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, wrth i ni ymdrin ag effaith y mesurau pandemig, fel ffyrlo, yn ogystal â'r argyfwng costau byw a'r effeithiau sy'n cael eu teimlo'n awr o ganlyniad i'r ymosodiad ar Wcráin, bydd diogelu'r gwasanaethau hyn yn dod yn fwy heriol. Yn ogystal ag ystyried effaith economaidd coronafeirws, mae angen i ni gydnabod bod pobl yng Nghymru yn wynebu argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o'r blaen sy'n cael ei ysgogi gan filiau ynni sy'n codi'n aruthrol. Mae prisiau bwyd, tanwydd, ynni, dillad, teithio a rhent o ddydd i ddydd i gyd yn codi wrth i chwyddiant godi.
Dangosodd cipolwg Sefydliad Bevan ar dlodi nad oes gan fwy na thraean o aelwydydd Cymru ddigon o arian i brynu dim y tu hwnt i'r hanfodion bob dydd, a'u bod yn gorfod torri'n ôl ar eu gwres, eu trydan a'u dŵr, ac mae chwarter yn gorfod cwtogi ar fwyd i oedolion. Ochr yn ochr â hyn, mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol ar ben y newidiadau treth a gyhoeddwyd ganddi yn flaenorol yn ei chyllideb ym mis Mawrth 2021 yn golygu bod teuluoedd eisoes yn wynebu cynnydd sylweddol yn eu baich treth o fis Ebrill ymlaen. Mae'r Resolution Foundation wedi cyfrifo bod teuluoedd yn wynebu ergyd o £1,200 o fis Ebrill wrth i filiau ynni a threthi godi.
Mae hyn i gyd yn golygu ei bod yn amlwg nad dyma'r amser i ystyried newidiadau i gyfraddau treth incwm Cymru. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sy'n gyfrifol am weinyddu cyfraddau treth incwm Cymru. Rwy'n ffyddiog bod ein prosesau cadarn a'n perthynas waith dda â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn darparu sail gref ar gyfer defnyddio cyfraddau treth incwm Cymru yn effeithiol ac yn effeithlon wrth symud ymlaen. Rwy'n falch o adrodd bod ffigurau alldro cyntaf cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2019-20 wedi'u cyhoeddi gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi y llynedd. Roedd y ffigurau alldro yn agos at y rhagolygon, gan roi sicrwydd pellach bod y broses ragweld a'r data ar ddiwedd y broses binio yn gadarn. Disgwylir i'r alldro nesaf ar gyfer 2020-21 gael ei gyhoeddi'r haf hwn, a hon fydd y flwyddyn gyntaf pan fydd yr alldro yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru, gydag unrhyw addasiadau gofynnol yn cael eu gwneud i'r gyllideb yn 2023-24 yn unol â'r cytundeb fframwaith cyllidol.
Byddaf wrth gwrs yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hyn wrth i ni symud ymlaen, ac edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw. Gofynnir i'r Senedd heddiw gytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru a fydd yn pennu cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2022-23, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth y prynhawn yma.
A gaf i gadarnhau y bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r drefn o barhau i rewi cyfraddau treth incwm Cymru? Ac rwy'n cydnabod yr holl bwysau hynny ar deuluoedd a rannwyd gan y Gweinidog ac, yn wir, rwy'n ofni y gallai pethau waethygu, yn amlwg, oherwydd yr hyn sy'n digwydd yn nwyrain Ewrop.
Fodd bynnag, os caf i, rwyf eisiau gwthio'r Gweinidog ychydig ymhellach ynghylch yr angen i egluro bwriadau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran cyfraddau treth incwm Cymru ac, yn benodol, yr ymrwymiad i beidio â chymryd mwy o ran cyfraddau treth incwm Cymru oddi wrth deuluoedd Cymru am o leiaf gyhyd ag y bydd effaith economaidd y coronafeirws yn para ac, yn amlwg, y pwysau eraill hyn y maen nhw'n eu profi nawr. Yn llythyr y Gweinidog at y Pwyllgor Cyllid, rwy'n cydnabod bod y Gweinidog wedi dweud bod angen ystyried rhagolygon ariannol Cymru yn y dyfodol, yn ogystal â'r pwysau presennol sy'n wynebu teuluoedd o ran costau byw wrth benderfynu ar gynlluniau trethu yn y dyfodol. Ac rwy'n credu bod yr olaf, yn arbennig, yn ystyriaeth y gall pob un ohonom ni yn y Siambr gytuno â hi. Ond nid oedd ymateb y Gweinidog mewn gwirionedd yn egluro beth yw meddylfryd tymor canolig y Llywodraeth o ran i ba gyfeiriad yr ydym ni'n mynd. Roedd yr ansicrwydd sy'n wynebu trethdalwyr Cymru yn rhywbeth a amlygwyd yn sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor Cyllid gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Fe wnaethon nhw awgrymu bod yr ymrwymiad wedi cyflawni ei ddiben, a bod angen diffiniad mwy manwl arnom ni, yn hytrach nag un y gellir ei ddehongli mewn sawl ffordd wahanol.
I grynhoi, Llywydd, rwy'n credu y gallai Llywodraeth Cymru fod yn fwy clir wrth nodi sut y mae'n rhagweld defnyddio ei phwerau trethu yn y tymor canolig i'r hirdymor, ac i roi terfyn ar yr ansicrwydd presennol, ac i ganiatáu i'r Senedd ddechrau ystyried y cynlluniau hyn a'u heffaith bosibl ar incwm pobl. Diolch.
Fyddwn ninnau chwaith ddim yn gwrthwynebu'r cynnig yma, ac ar hyd yr un trywydd, dwi innau hefyd yn gofyn am well eglurder, a dweud y gwir, ynglŷn â bwriad y Llywodraeth fan hyn, oherwydd mi wnaethoch chi yn y Senedd ddiwethaf, wrth gwrs, wrthod amrywio trethi am weddill y Senedd, fel roeddech chi'n dweud bryd hynny. Nawr, fel rŷn ni wedi clywed, rŷch chi'n dweud na fyddwch chi yn amrywio lefel y dreth tra bod effaith economaidd y pandemig yn parhau. Y cwestiwn yn ei hanfod yw, wel, beth mae hynny'n feddwl, achos mi fydd effaith economaidd y pandemig gyda ni am flynyddoedd lawer? Ydych chi felly'n awgrymu na fydd yna unrhyw amrywio'n digwydd yn lefel y dreth yn ystod y Senedd yma? Dwi ddim yn dadlau bod angen, o reidrwydd, amrywio, ond yn sicr, fel rŷn ni wedi clywed, mae amgylchiadau'r creisis costau byw a'r amgylchiadau yn nwyrain Ewrop yn golygu efallai y bydd angen hyblygrwydd arnom ni i ostwng trethi, efallai, mewn ymateb i galedi costau byw, neu hyd yn oed i gynyddu trethi i greu refeniw ychwanegol.
Rŷch chi'n dweud eich bod chi'n gwneud y datganiad yna er mwyn rhoi rhyw fath o sicrwydd i bobl. Wel, dwi ddim yn teimlo'i fod e yn rhoi sicrwydd, a dweud y gwir, oherwydd beth mae e'n gwneud yw cicio'r penderfyniad lawr yr hewl, heb awgrym a ydy e'n rhywbeth y byddwch chi mewn gwirionedd yn barod i'w ystyried yn ystod y Senedd yma o gwbl.
Y Gweinidog i ymateb i'r cyfraniadau yna.
Rwy'n ddiolchgar i'r ddau siaradwr yn y ddadl y prynhawn yma, ac yn cydnabod yr ymholiad penodol sydd ganddyn nhw ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i beidio â chynyddu treth incwm cyhyd ag y bydd effaith economaidd y pandemig yn para. Mae effaith economaidd y coronafeirws, gan gynnwys ei hyd, ei raddfa a'i waddol wrth gwrs yn cael ei monitro'n barhaus, ac yn enwedig yn awr yng ngoleuni'r digwyddiadau pryderus ac ofnadwy yn Wcráin. Rwy'n credu ei bod yn rhy gynnar i gymryd barn, o ystyried effaith dirwyn y mesurau pandemig i ben. Felly, rydym yn dal i ddechrau teimlo effaith diwedd y ffyrlo, er enghraifft. Mae angen i hynny weithio'i ffordd drwodd o ran y farchnad swyddi, felly mae llawer eto nad ydym wedi'i deimlo'n llawn o ran effaith y pandemig. Ac, wrth gwrs, ar yr un pryd, rydym yn gweld y materion sy'n ymwneud â phrisiau ynni a chyfyngiadau cyflenwi eraill, yn ogystal â phrinder llafur, sy'n dal twf yn ôl a chwyddiant cynyddol ac yn rhoi pwysau ar gyflogau. Felly, mae llawer o bethau'n digwydd ar hyn o bryd sy'n amlwg yn golygu nad dyma'r adeg iawn i ystyried newidiadau i gyfraddau treth incwm Cymru.
Ond rwyf am wneud y pwynt ein bod yn sôn am ddau beth ar wahân, mewn gwirionedd, yn yr ystyr nad oes trothwy pryd, os bydd yr economi'n perfformio yn y ffordd benodol hon bryd hynny, y byddwn ni'n ystyried nad ydym bellach yn teimlo effeithiau'r pandemig. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y bydd yn sbarduno cynnydd neu ostyngiad yng nghyfraddau treth incwm Cymru. Felly, rwy'n credu bod angen i ni ystyried y sefyllfa economaidd gyffredinol a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i deuluoedd ac i drethdalwyr yng Nghymru, ond wedyn peidio ag awgrymu, pe baem yn cyrraedd pwynt penodol o'r adferiad, y byddai'n arwain yn awtomatig at gynnydd neu ostyngiad, oherwydd bydd y pethau hynny'n cael eu hystyried bryd hynny. Mae'n ddrwg gennyf na allaf fod yn fanylach ar hyn o bryd, ond mae cymaint o rannau yn symud o hyd fel na allwn gael y darlun hwnnw mewn gwirionedd.
Ac fe wnaf fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud mai Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, sy'n cynyddu'r baich treth ar bobl ac ar aelwydydd yng Nghymru, a bydd hyn yn dechrau cael ei deimlo o fis Ebrill ymlaen. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi adrodd bod Llywodraeth y DU, drwy'r cynnydd arfaethedig mewn yswiriant gwladol, a gyhoeddwyd ym mis Medi, a hefyd y cynnydd yn y dreth gorfforaethol a phersonol, a oedd yng nghyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, wedi codi'r baich treth o 33.5 y cant o'r cynnyrch domestig gros cyn y pandemig i 36.2 y cant o'r cynnyrch domestig gros erbyn 2026-27, a dyna ei uchaf ers dechrau'r 1950au. Felly, er ein bod hefyd yn ystyried effaith y pandemig a'r adferiad economaidd, mae angen i ni hefyd ddeall y baich treth cyffredinol ar drethdalwyr, fel bod yn rhaid i benderfyniadau y gallem ni eu gwneud yn y dyfodol gael eu hystyried yn gyffredinol o ran y cyfrifoldebau a osodir ar drethdalwyr gan Lywodraeth y DU hefyd.
Felly, fe'i gadawaf i hi yn y fan yna am heddiw, Llywydd, a gofynnaf i fy nghyd-Aelodau am eu cefnogaeth i gyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10 yw'r eitem nesaf, a'r eitem yma yw'r ddadl ar gyllideb derfynol 2022-23. Dwi'n galw nawr ar y Gweinidog cyllid, unwaith eto, i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM7940 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Prif Weinidog ar 1 Mawrth 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl ar ein cyllideb derfynol ar gyfer 2022-23—cyllideb dair blynedd sydd wedi defnyddio pob cyfrwng i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, i wella cyfleoedd addysgol, ac i ymateb i'r argyfwng costau byw parhaus.
Unwaith eto, rydym wedi teimlo cyfres o amgylchiadau hynod o wahanol ac rwyf eisiau dechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gyllideb, gan gynnwys cydweithwyr ar fy meinciau fy hun a meinciau eraill am eu cyfranogiad a'u cydweithrediad. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'n partneriaid ehangach, sydd hefyd wedi helpu i lunio'r gyllideb flaengar hon.
Mae hon yn gyllideb sy'n darparu bron i £2 biliwn o fuddsoddiad gwyrdd wedi'i dargedu i gryfhau ymateb Cymru i'r argyfyngau hinsawdd a natur; cyllideb sy'n sicrhau y bydd GIG Cymru yn cael £1.3 biliwn o gyllid uniongyrchol, gan ei helpu i wella o'r pandemig a'i alluogi i ddarparu gwasanaethau effeithiol yn y tymor hir; cyllideb sy'n darparu £0.75 biliwn yn ychwanegol i awdurdodau lleol i gefnogi gofal cymdeithasol, ysgolion a'r gwasanaethau hanfodol eraill a ddarperir mewn cymunedau lleol gan gynghorau lleol; cyllideb sy'n buddsoddi yn ansawdd adeiladau ysgolion drwy £900 miliwn o gyllid cyfalaf, gyda £320 miliwn ychwanegol i barhau â'r rhaglen hirdymor o ddysgu a diwygio addysg; a chyllideb sy'n ymateb i effaith economaidd chwyddiant cynyddol, gan gynnwys £7 miliwn i barhau i gefnogi pobl a theuluoedd sy'n agored i niwed ledled Cymru drwy'r gronfa cymorth dewisol.
Mae cymaint eisoes wedi newid ers i ni gyhoeddi ein cynlluniau ym mis Rhagfyr. Pan gyhoeddwyd y gyllideb ddrafft, yr oeddem ni'n dechrau gweld effeithiau'r argyfwng costau byw. Ers hynny, rydym wedi gweld y rhagolygon yn gwaethygu, gyda'r ymosodiad direswm ar Wcráin a'r argyfwng dyngarol enbyd sy'n esblygu'n gyflym yn cyfrannu ato. Cyn yr ymosodiad ar Wcráin, awgrymodd amcangyfrif Banc Lloegr y gallai chwyddiant gyrraedd uchafbwynt o tua 7 y cant yn y gwanwyn cyn dechrau gostwng, gan gynyddu'r effeithiau negyddol ar aelwydydd, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Ac roedd yn amlwg bod yn rhaid i ni weithredu. Gan adeiladu ar y camau gweithredu o fewn ein cyllideb ddrafft, roeddwn yn falch o gyhoeddi £162.4 miliwn ychwanegol yn 2022-23 o fewn y gyllideb derfynol hon fel rhan o becyn ychwanegol, gwerth mwy na £330 miliwn, i ymateb i'r argyfwng costau byw.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i'r Gadair.
Er na chawsom unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU, drwy reoli'r gyllideb yn gyfrifol, rydym wedi gallu mynd y tu hwnt i'r disgwyl gan ddyblu'r cymorth cyfatebol sydd ar gael yn Lloegr. Ac mae hyn yn cynnwys £90 miliwn i ymestyn y ddarpariaeth bresennol o'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf am flwyddyn arall ac i'w ddarparu y gaeaf nesaf, ac mae hyn yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael y taliad o £200 sy'n darparu cymorth hanfodol.
Byddwn yn parhau i gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf i dalu am gostau hanfodol, drwy £15 miliwn ychwanegol i ymestyn y gronfa cymorth dewisol hyd at 31 Mawrth 2023. Buddsoddwyd deng miliwn o bunnau mewn amrywiaeth o fesurau cyfiawnder cymdeithasol i gefnogi'r aelwydydd mwyaf agored i niwed i helpu i gynyddu eu hincwm i'r eithaf er mwyn helpu i dalu costau cynyddol aelwydydd. Ac mae £28.4 miliwn yn cael ei ddarparu i ymdrin â llwgu yn ystod y gwyliau, sy'n cynnwys £21.4 miliwn i ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim dros y Pasg, y Sulgwyn a gwyliau'r haf, a £7 miliwn arall ar gyfer y rhaglen Haf o Hwyl, sy'n rhoi mynediad i weithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc yn ystod gwyliau'r ysgol.
Rydym yn darparu £13.1 miliwn ar gyfer y grant datblygu disgyblion, gan ddarparu swm ychwanegol o £100 i bob blwyddyn ysgol i fynd i'r afael â chostau'r diwrnod ysgol, gan gynnwys pecyn addysg gorfforol a chostau gwisg ysgol ychwanegol, ac rydym yn darparu pecyn cymorth gwerth £2 filiwn i deuluoedd sy'n agored i niwed, sy'n cynnwys buddsoddiad o £1 filiwn ar gyfer taliadau atal i deuluoedd ag anghenion gofal a chymorth, ac £1 miliwn i gefnogi teuluoedd sy'n gofalu am blant sy'n derbyn gofal.
Rydym hefyd yn cydnabod bod hwn yn ddarlun sy'n esblygu, gyda chynnydd mewn biliau cartrefi a chyfraniadau yswiriant gwladol yn dechrau effeithio o fis Ebrill, yn ogystal â chynnydd yng nghost nwyddau ac effeithiau yn y cadwyni cyflenwi cysylltiedig, a'r effeithiau y gwyddom yn awr y byddant yn cael eu teimlo o ganlyniad i'r ymosodiad ar Wcráin.
Eisoes, rydym yn sefyll mewn undod diamwys â phobl Wcráin yn wyneb ymosodiad Putin. Yr wythnos diwethaf, darparwyd £4 miliwn gennym mewn cymorth dyngarol, yn 2021-22, a roddwyd i'r Pwyllgor Argyfyngau i sicrhau ei fod yn cyrraedd y rhai sydd ei angen mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl. A'r wythnos diwethaf, ochr yn ochr â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, cyfarfûm ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, arweinwyr awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru, yr heddlu a'r trydydd sector i gadarnhau ein penderfyniad unfrydol i gynnig pob cymorth posibl i dderbyn pobl sy'n dianc rhag y trais yn Wcráin.
Gan droi'n ôl at ein cyllideb derfynol, hoffwn ddiolch i bwyllgorau'r Senedd am graffu ar ein cyllideb ddrafft. Mae hyn yn rhan annatod o'n proses, ac mae'n dderbyniol iawn, i warantu ein bod yn cyflawni'r gorau ar gyfer Cymru.
Mae'r gyllideb derfynol hon hefyd yn cynnwys £184 miliwn ychwanegol o gyfalaf trafodiadau ariannol, dyraniadau i gefnogi ymhellach y gwaith o gyflawni ein blaenoriaethau yn y strategaeth buddsoddi mewn seilwaith 10 mlynedd newydd i Gymru, ac mae llawer o'r eitemau hyn yn ymateb i bwyntiau a godwyd yn ystod y broses graffu. Gan adeiladu ar ein portffolio presennol o fuddsoddiadau gwerth £1.7 biliwn, mae'r buddsoddiadau newydd hyn yn cynnwys £37 miliwn i wella'r seilwaith gwefru, er mwyn helpu i hwyluso'r newid i gerbydau carbon isel ac allyriadau isel; £10 miliwn ar gyfer Tai Ffres i gefnogi llwybr tai amgen y cynllun ar gyfer y rhai rhwng 16 a 25 oed nad ydynt yn bodloni'r trothwy ar gyfer gwasanaethau digartrefedd; £35 miliwn i gyflymu'r broses o ddatgarboneiddio cartrefi Cymru; £25 miliwn arall ar gyfer y cynllun benthyca Trawsnewid Trefi, i sicrhau bod adeiladau gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto; a £40 miliwn arall i gefnogi busnesau yng Nghymru drwy ein cronfa dyfodol yr economi bresennol.
Gan edrych ymlaen at ddatganiad gwanwyn Llywodraeth y DU ar 23 Mawrth, rydym yn cydnabod mai'r prif ddulliau o drechu tlodi, fel pwerau dros y systemau trethu a lles, yw pwerau a gadwyd yn ôl, a Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am eu defnyddio. Galwaf ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i ymateb i'r argyfwng a wynebwn, ochr yn ochr â pharhau i annog Llywodraeth y DU i roi arian i ni i gymryd lle arian yr UE, sydd wedi arwain at fwlch cronnol o £1 biliwn yn ein cyllidebau.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n falch ein bod wedi nodi cyllideb sy'n cyflawni ein gwerthoedd ac yn darparu sylfaen ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach, ac edrychaf ymlaen at y ddadl.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu cyfrannu yn y ddadl yma ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Roedd adroddiad y pwyllgor ar graffu ar gyllideb ddrafft 2022-23 Llywodraeth Cymru yn cynnwys 41 o argymhellion. Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, ein holl argymhellion ac eithrio un. Er bod hwn yn ddechrau cadarnhaol i waith y pwyllgor yn y Senedd hon, ac yn rhywbeth, gobeithio, y gallwn ni adeiladu arno yn y dyfodol, mae meysydd yn y gyllideb derfynol nad ydynt yn cyrraedd ein disgwyliadau.
Mae'r pwyllgor yn croesawu'r £162.4 miliwn a ddyrannwyd yn y gyllideb derfynol i helpu'r rheini y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arnyn nhw, gyda £1.6 miliwn o hwnnw wedi'i ddyrannu ar gyfer y gronfa gynghori sengl i gynnig cyngor a chymorth ar gynyddu incwm i'r eithaf. Gwnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i godi proffiliau grantiau a chynlluniau a gynlluniwyd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, fel bod pobl yn ymwybodol o'r ystod o gymorth ariannol sydd ar gael a sut i gael gafael arno. Rydym yn falch o glywed bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgyrch ac yn datblygu cyfres o ddeunyddiau a fydd yn cael eu darparu ar sawl platfform i sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn ymwybodol o'u hawliau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r ymgyrchoedd hyn dargedu'r bobl fwyaf agored i niwed i sicrhau nad ydyn nhw ar eu colled. Rydym wedi argymell o'r blaen y dylid cael dull 'dim drws anghywir' o gael mynediad at wasanaethau, ac rydym yn parhau i alw am un pwynt mynediad yn hytrach na nifer o geisiadau am gymorth. Dim ond os yw'n cyrraedd y bobl iawn y gall cymorth fod yn effeithiol.
Nid yw'r gyllideb derfynol yn cynyddu'r cymorth i ryddhad ardrethi busnes, rhywbeth y gofynnodd y pwyllgor i'r Gweinidog ei ystyried yn ei adroddiad. Gofynnwyd hefyd i'r Gweinidog flaenoriaethu buddsoddi mewn seilwaith digidol, a rhoi pwyslais penodol ar gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith digidol a helpu manwerthwyr bach a busnesau eraill i ddatblygu sgiliau digidol a phresenoldeb ar-lein. Yn ymateb y Gweinidog i'r argymhelliad hwn, mae'n nodi bod Busnes Cymru yn rhoi un pwynt cyswllt i fusnesau ac entrepreneuriaid ar gyfer gwybodaeth a chyngor, a bod Banc Datblygu Cymru yn helpu busnesau Cymru i gael y cyllid sydd ei angen arnyn nhw i ddechrau. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod unrhyw gamau penodol wedi'u cymryd yn y maes hwn.
Nid oedd dyraniadau ar gyfer cyfalaf trafodiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y gyllideb ddrafft, gyda'r Gweinidog yn dweud wrthym y bydden nhw'n cael eu gwneud fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y gyllideb derfynol. Gwnaethom argymell y dylid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y dyraniadau i'r pwyllgor cyn i'r gyllideb derfynol gael ei gosod. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ddarparu'r wybodaeth hon. Nododd y Gweinidog y cyfyngiadau a'r cymhlethdodau o ran sut y gellir defnyddio trafodiadau ariannol wedi'u neilltuo, a'r amserlenni y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu dilyn i ddatblygu cynigion yn dilyn cyhoeddiad hwyr yr adolygiad o wariant y DU. Fodd bynnag, rydym yn falch o glywed na fydd hyn yn gosod cynsail, gyda'r bwriad y bydd dyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol yn y dyfodol yn cael eu hystyried fel rhan o broses y gyllideb ddrafft.
O ystyried pwyslais y Gweinidog ar adeiladu Cymru wyrddach drwy'r gyllideb hon, mae'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi egluro pa ymrwymiadau penodol i Gymru Sero Net sydd wedi'u hariannu yn y gyllideb derfynol. Fel pwyllgor, gofynnom hefyd i'r Gweinidog gyflwyno gwybodaeth gyllidebol fel ei bod yn gysylltiedig ag allbynnau ac effeithiau, yn ogystal â rhoi eglurder ynghylch sut yr adlewyrchir ariannu ymrwymiadau polisi sy'n ymwneud â'r cytundeb cydweithredu yn nyraniadau'r gyllideb yn y dyfodol, ond nid yw'n ymddangos bod y rhain wedi cael sylw ychwaith. At hynny, nid yw'n glir pa effaith y bydd chwyddiant yn ei chael ar gostau Llywodraeth Cymru, a hoffem i'r Gweinidog gadarnhau a fydd hyn yn newid y canlyniadau a ddisgwylir o gyllideb y flwyddyn nesaf, gan dybio na dderbynnir unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn gofyn i'r Gweinidog ymateb i bob un o'r pwyntiau hyn yn eu tro.
Yn olaf, o ystyried difrifoldeb datblygiadau yn Wcráin a'r argyfwng dyngarol sy'n datblygu, hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa gyfle sydd i roi mwy o gymorth a chyllid ychwanegol i ffoaduriaid. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud mai nod Cymru yw bod yn genedl noddfa, ac mae wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy i helpu ffoaduriaid o Wcráin. Yn amlwg, mae terfyn ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn ymarferol, o ystyried nad yw trefniadau fisa yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ond a allai'r Gweinidog gadarnhau a fydd cyllid ar gael i gefnogi'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro i'w galluogi i ddod yma i Gymru?
Mae llawer i'w gymeradwyo yn y gyllideb hon. Mae'n gyfnod anodd ac mae'r cynnydd mewn gwariant a ddarperir yn y gyllideb hon i helpu'r bobl fwyaf bregus i'w groesawu. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod meysydd i weithio arnynt os ydym ni fel Senedd am sicrhau bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn gweithio i bobl Cymru. Fel y Pwyllgor Cyllid, byddwn yn manteisio ar bob cyfle yn ystod y Senedd hon i sicrhau bod hynny yn digwydd. Diolch yn fawr.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, a diolch hefyd i chi a'ch swyddogion am eu hymgysylltiad â mi yn ystod proses y gyllideb—mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. A gaf i ddiolch hefyd i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ei adroddiad heddiw, sy'n crynhoi'n dda iawn y pwyntiau a godwyd yn y pwyllgor hwnnw?
Dirprwy Lywydd, nid wyf yn credu y bydd yn gymaint o syndod i'r Gweinidog y bydd grŵp Ceidwadwyr Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynnig y gyllideb heddiw. Drwy gydol y broses, rydym ni ar y meinciau hyn wedi bod yn gwthio Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach yn ei chynlluniau cyllideb i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hirsefydlog yng Nghymru sydd wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf. Dirprwy Lywydd, er mwyn bod yn gryno, ni fyddaf yn ailadrodd ein galwadau polisi—
Peter, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
O mae'n ddrwg gennyf i. Mae'n ddrwg gennyf, Mike. Os gwelwch yn dda, gwnaf
A wnewch chi lunio cyllideb Geidwadol?
Wel, ceisiais wneud—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf i. Ceisiais eleni amlinellu rhywfaint o ddyfnder i'r hyn yr oeddem ni fel plaid yn barod i'w gyflwyno, ac rwyf wedi gwneud y pwyntiau hynny'n glir yn y Siambr hon ddwy neu dair gwaith. Ac yn y dyfodol, rwy'n bwriadu cyflwyno cyllideb amgen lawn, gan fy mod yn credu mai cyfrifoldeb gwrthblaid yw gwneud hynny. Yn anffodus, nid ydym yn gweld hynny'n rhy aml. Ond rydym, gyda'r adnoddau sydd gennym, yn cyflwyno pwyntiau ac achosion mor gryf ag y gallwn, fel y gwnaethom eu rhannu yn ein maniffesto.
Drwy gydol y broses hon, roeddem ni ar y meinciau hyn, fel yr wyf wedi'i rannu gyda chi, yn gwthio Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach o ran ei chynlluniau cyllideb i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hirsefydlog hynny yng Nghymru. Llywydd, er mwyn bod yn gryno, fel y dywedais yn gynharach, ni wnaf ailadroddaf y galwadau polisi, ond mae'n dal i fod yn wir bod nifer o faterion strwythurol a fydd yn parhau i rwystro ein hadferiad o'r pandemig ac yn cyfyngu ar allu'r Llywodraeth i gyflawni ei dyheadau.
Nid ydym yn gwrthwynebu'r gyllideb er mwyn gwrthwynebu'n unig, ac nid ydym ni, yn ôl pob sôn, yn bychanu Cymru, fel y mae rhai ar rai o'r meinciau eraill yn hoffi awgrymu. Yn hytrach, rydym wedi pwyso am y lefel o weithredu ac uchelgais sydd ei hangen i roi Cymru'n ôl ar y trywydd iawn. Nid dyna'r hyn y mae arnom ni ei eisiau, ond yr hyn y mae ar Gymru ei angen, oherwydd rydym i gyd yn ymdrechu i gael yr un peth: fel y dywedodd Llywodraeth Cymru, i adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach.
Fodd bynnag, er gwaethaf yr ymgysylltu y cyfeiriais ato'n gynharach, rwy'n siomedig nad yw Gweinidogion wedi gwrando ar y galwadau o'r ochr hon i'r Siambr. Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, mae Gweinidogion Cymru'n hoffi dadlau nad y nhw yw'r unig ffatri syniadau yn y lle hwn, ac, yn ôl ym mis Gorffennaf y llynedd, cynhaliodd y Gweinidog cyllid ddadl ar flaenoriaethau'r gyllideb i roi cyfle i Aelodau lunio'r paratoadau hynny, ond ni allaf gael gwared ar y teimlad bod Llywodraeth Cymru, fel arfer, wedi mynd am y dewis hawdd o fod â bargen gyda Phlaid Cymru. Ac oes, mae rhai rhannau o'r fargen—eich bargen—y gallwn ni eu croesawu'n gyffredinol, ond mae nifer o elfennau ohoni hefyd sydd, i bob golwg, yn cymryd arian o'r pethau y mae ar ein cymunedau eu heisiau a'u hangen.
Dirprwy Lywydd, gadewch i ni fod yn onest, er gwaethaf yr hyn yr ydym wedi'i glywed dro ar ôl tro gan Lywodraeth Cymru drwy gydol y broses hon, yr oedd y gyllideb yn fargen wedi'i chadarnhau cyn i'r inc ar y cytundeb cydweithredu hyd yn oed sychu. Ymunais â'r lle hwn bron i 12 mis yn ôl, gydag ymdeimlad o bwrpas a gobaith, ond yr oeddwn yn naïf wrth gredu y byddai ein cyfraniadau yn cael eu hystyried ac y gallwn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gyfeiriad y Llywodraeth hon. Felly, rwy'n credu y gallai ac y dylai'r gyllideb fod wedi mynd ymhellach, gan gydnabod yr adnoddau sylweddol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU, yn ogystal â'r setliad aml-flwyddyn y gofynnwyd amdano'n flaenorol gan Weinidogion yma ym Mae Caerdydd. Mewn gwirionedd, bydd angen i'r gyllideb fynd ymhellach, gan gydnabod y—. O mae'n ddrwg gennyf i. Dwi braidd yn fyddar. Dydw i ddim bob amser yn clywed pryd y bydd yr ymyriad—.
Mae'n iawn. Wnes i ddim siarad mewn gwirionedd. Ond roeddwn i'n meddwl tybed, rydych chi'n dweud 'cydnabod yr ychwanegiad yr ydym ni wedi ei gael gan Lywodraeth y DU', ond rydym ni newydd glywed yn y datganiad am £1 biliwn yn llai oherwydd yr arian nad yw'n dod o'r hyn a gawsom fel arfer drwy'r gyllideb Ewropeaidd. Felly, rwy'n credu ein bod yn llawer gwaeth ein byd, nid yn well ein byd.
Rwy'n credu, yn anffodus, fod llawer o gamarwain ynghylch hawliadau cyllid yn y lle hwn, ac mae—[Torri ar draws.] Mae gwrthddweud cyson o ran safbwyntiau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Y ffeithiau yw y cafwyd £2.5 biliwn yn ychwanegol eleni, neu fwy, sydd wedi ei roi i Lywodraeth Cymru, i alluogi Llywodraeth Cymru i wneud y pethau y mae wedi gobeithio eu gwneud.
Fel y rhannais yn gynharach, ac fel y soniwyd eisoes, bydd angen canolbwyntio ymhellach oherwydd yr effaith economaidd sylweddol y bydd yr ymosodiad erchyll hwn gan Rwsia ar Wcráin yn ei chael ar bobl Cymru, gan waethygu'r pwysau costau byw presennol, ac rwy'n croesawu'r hyn y mae'r Gweinidog eisoes wedi ei ddweud yn ei hymrwymiad hyd yn hyn.
Fodd bynnag, i orffen ar nodyn ychydig yn fwy cadarnhaol, rwyf i yn croesawu'r newidiadau a wnaed yn y gyllideb derfynol, sy'n cydnabod yr angen i gymryd camau i leddfu'r pwysau costau byw presennol, ac rydym ni ar yr ochr hon wedi galw am lawer ohonyn nhw. Rwyf i yn gobeithio y gallwn ni gydweithio ar draws y Siambr yn gyffredinol i fynd i'r afael â'r materion yn uniongyrchol.
I gloi, Dirprwy Lywydd, rydym yn sefyll ar adeg na welwyd ei thebyg o'r blaen yn ein hanes. Mae pandemig hir a dinistriol, ac yna rhyfel creulon a hollol ddiangen, wedi gadael pobl ledled Cymru yn pendroni beth fydd nesaf. Mae cyllidebau yn fwy na rhifau ar daenlen neu dermau ariannol cymhleth neu rifau anferthol sy'n dwyn sylw; maen nhw'n ymwneud â pha newid gwirioneddol, diriaethol y maen nhw'n ei gyflawni i bobl. Rydym ni yn yr wrthblaid—
Rwyf i wedi rhoi amser ychwanegol, ond mae angen i chi orffen yn awr, Peter, os gwelwch yn dda.
Mae'n ddrwg gen i. Ydw, mi ydw i. Ydw.
A byddwn ni yn yr wrthblaid yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud i bob punt o fuddsoddiad gyfrif, nid yn unig i gefnogi'r adferiad ond i gyflenwi gobaith a dyhead ledled y wlad, oherwydd bod angen ar ein cymunedau i'r gyllideb hon gyflawni. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Dim ond ychydig o sylwadau byr am y broses efallai i ddechrau. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at weld y gyllideb yn dychwelyd i'w hamserlen arferol o wyth wythnos eistedd o graffu. Nid ydym wedi cael hynny ers amser maith, ac rwy'n credu nad yw'r cyfnodau craffu byrrach hyn yn helpu mewn gwirionedd. A gwnaf i'r pwynt eto: mae ymatebion gweinidogol i adroddiadau pwyllgorau ar y cyllidebau yn cyrraedd yn hwyr yn y dydd. Rwy'n credu y cafodd pwyllgor yr amgylchedd ein hymateb ni 24 awr yn ôl. Mae'n welliant ar y llynedd, pan ddaeth rhai o'r ymatebion hynny ar ôl y bleidlais derfynol ar y gyllideb, ond mae angen gwirioneddol i ni ddychwelyd at lefel fwy gwastad ar hyn, rwy'n meddwl, oherwydd nid dyna'r ffordd y dylai pethau fod yn digwydd mewn gwirionedd. Ac rwy'n gwybod bod rhywfaint ohono'n cael ei lywio gan amserlenni Llywodraeth y DU, ac mae'n dda y gallwn gael setliad aml-flwyddyn am y tro cyntaf ers amser maith eleni, a gadewch i ni obeithio na fyddwn yn symud yn ôl o'r sefyllfa honno yn y dyfodol.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o hyblygrwydd, er enghraifft, ynghylch cario arian drosodd o un flwyddyn ariannol i'r llall, mwy o bwerau yn ogystal â benthyca. Mae'n rhaid croesawu unrhyw beth y gallwn ei wneud sy'n rhoi mwy o hyblygrwydd i Gymru i ymateb i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu, ac rwy'n gobeithio y bydd ein cyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn mynd â'r neges honno yn ôl i Lywodraeth y DU hefyd.
Rwy'n croesawu'r defnydd a gynigir yn y gyllideb hon o bwerau benthyca Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu mwy o ddefnydd o gronfeydd wrth gefn yn y flwyddyn i ddod a gor-raglennu cynlluniau cyfalaf. Mae'n hen bryd i ni wneud i arian Cymru weithio mor galed â phosibl yn wyneb yr heriau sydd gennym o'n blaenau. Ond, gyda hynny, wrth gwrs, byddem yn disgwyl diweddariadau mwy rheolaidd felly gan y Llywodraeth a mwy o graffu hefyd gan y Pwyllgor Cyllid i sicrhau ein bod yn cadw llygad ar y cyllid sydd yng nghronfa wrth gefn Cymru, o gofio y bydd y wasgfa'n fwy ar y cyllid hwnnw.
Mae'n peri rhwystredigaeth bod yr arian a ddylai fod yn dod i Gymru yn cael ei wrthod i ni gan Lywodraeth y DU, mae arnaf ofn. Rydym wedi clywed droeon, pe bai cyllid i Gymru wedi cynyddu ar yr un raddfa â chwyddiant, y byddem yn sôn am o leiaf £3 biliwn yn fwy heddiw yn y gyllideb hon. Cyllid HS2, dylai miliynau lawer yn fwy fod ar gael i ni, yn ogystal â'r hyn yr ydym eisoes wedi ei glywed mewn cysylltiad â chael llai na'r hyn a gawsom o gyllid yr UE. Nid ydym yn cyhuddo'r Torïaid o fychanu Cymru; rydym mewn gwirionedd yn cyhuddo'r Torïaid o ddal Cymru i lawr drwy wrthod arian i ni sydd, a dweud y gwir, yn cael ei roi i weinyddiaethau datganoledig eraill yn y DU, a'r cyfan yr ydym ni'n ei ddymuno yw cydraddoldeb yn hynny o beth. Ond rydym yn y sefyllfa yr ydym ni.
Nawr, amlinellodd Plaid Cymru ein cynigion ar gyfer ein rhaglen lywodraethu yn ein maniffesto y llynedd, â chostau llawn wedi eu cyfrifo, ac wedi eu dilysu'n annibynnol, felly nid dyma'r gyllideb y byddem ni wedi ei chyflwyno yma heddiw o reidrwydd, ond gallwn ni, fel plaid, fod yn hynod falch bod llawer o'n polisïau—rhai, mewn gwirionedd, a wrthodwyd gan y Llywodraeth yn y gorffennol—wrth wraidd y gyllideb hon bellach.
Mae'r gyllideb yma yn cyflawni ar nifer o brif addewidion Plaid Cymru o'n maniffesto diweddar ni. Dau gan miliwn o bunnau yn y gyllideb i sicrhau bod prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd ac mae hynny'n cynnwys dros £20 miliwn yn ychwanegol i estyn prydau ysgol am ddim dros wyliau'r haf eleni. Chwedeg miliwn o bunnau i ddechrau estyn gofal plant i blant dwy flwydd oed. Dros £100 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf mewn gwytnwch cenedlaethol a llifogydd, gyda £24 miliwn ychwanegol mewn arian refeniw. Chwedeg miliwn o bunnau mewn arian cyfalaf a £27 miliwn mewn arian refeniw i ddarlledu, y cyfryngau a diwylliant. Miliynau lawer i hyrwyddo ynni adnewyddadwy a chreu Ynni Cymru. Miliynau hefyd i sefydlu Unnos, cwmni adeiladu cenedlaethol i fynd i'r afael â phroblemau tai. Miliynau ar gyfer Arfor, ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Miliynau hefyd i iechyd meddwl, yn refeniw ac yn gyfalaf.
Mae yna gyfres o fuddsoddiadau yn y gyllideb yma sy'n unioni nifer o anghyfiawnderau cymdeithasol, sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd, yn adeiladu nôl o'r pandemig wrth inni wynebu'r heriau mawr rŷn ni wedi clywed amdanyn nhw yn ein trafodaethau ni yn y Senedd yma dros y misoedd diwethaf. Er ein bod ni'n wrthblaid, er bod Plaid Cymru yn wrthblaid, rŷn ni yn cyflawni ac rŷn ni yn gweithredu dros Gymru gyfan, sy'n dangos ein bod ni fel plaid yn blaid sy'n gwneud gwahaniaeth yn y lle yma, sydd yn fwy na gallwn ni ei ddweud am rai eraill.
Byddai'r ddadl hon yn well o lawer mewn gwirionedd pe bai gennym gynigion amgen, hyd yn oed os mai dim ond ar lefel cyllidebau gweinidogol, gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd Peter Fox am lunio un y flwyddyn nesaf. Gair o gyngor: mae'n rhaid iddi fantoli, ni allwch barhau i ychwanegu arian yn y golofn wariant, gan dynnu arian oddi ar y golofn incwm a galw honno yn gyllideb. Felly, rwy'n siŵr na fydd Peter yn gwneud hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd yn codi'r mater gyda'i gyd-Aelodau i egluro iddyn nhw na allwch chi wneud hynny.
Mae dewisiadau amgen i gyllideb Cymru o ran blaenoriaethau. Byddwn i, er enghraifft, yn cynyddu'r gefnogaeth i addysg, hyfforddiant ac arloesi mewn prifysgolion, ac yn lleihau'r gwariant ar ddenu mewnfuddsoddiad. Os gwnewch chi ddarparu'r capasiti ymchwil yn y prifysgolion a darparu gweithlu hynod fedrus, fe ddaw'r buddsoddwyr.
Hefyd, mae buddsoddi mewn addysg blynyddoedd cynnar yn parhau i fod yn un o'r dulliau mwyaf pwerus o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a buddsoddi yng nghenedlaethau ein dyfodol, felly nid oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae llawer gormod o blant yn dechrau'r ysgol feithrin yn dair oed flwyddyn y tu ôl i'r cyfartaledd o ran datblygiad, a dwy flynedd y tu ôl i'r rhai mwyaf datblygedig. Mae honno'n broblem ddifrifol. Sut y byddan nhw'n dal i fyny yn ystod eu hamser mewn addysg gynradd? Rydych chi'n gofyn, mewn rhai achosion, dros saith mlynedd, i wneud iawn am ddwy flynedd. Mae'n hynod bwysig ein bod yn sicrhau nad yw plant yn dechrau ar ei hôl hi.
Os oes rhaid i chi lwgrwobrwyo cwmni i ddod â ffatri gangen yma, nid yw'n dymuno dod. Gallwn i dreulio gweddill fy nghyfraniad yn rhestru cwmnïau a ddaeth, heb ddarparu'r swyddi yn eu prosbectws ac yna gadael. Fe wnaf i grybwyll yr enghraifft fwyaf adnabyddus: LG.
Byddaf yn cefnogi'r gyllideb, ond y cwestiwn allweddol yw: beth fydd yn cael ei gyflawni gan yr incwm a'r gwariant ychwanegol? Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU am setliad cyllideb aml-flwyddyn, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle i gynnal adolygiad o wariant tair blynedd i roi sicrwydd ariannol i sefydliadau, gan ddarparu dyraniadau dros dro ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i, a llawer o rai eraill yn y Siambr hon, wedi bod yn galw amdano ers amser maith. Bob blwyddyn, mae llawer o weithwyr y trydydd sector yn cael hysbysiad diswyddo ar ddiwedd mis Rhagfyr oherwydd ansicrwydd ynghylch cyllid ar ôl 31 Mawrth. Rwy'n gobeithio y bydd y cyllid tair blynedd hwn yn cywiro hynny.
Rwy'n croesawu gor-ymrwymiad gwariant cyfalaf, a ddylai osgoi tanwariant cyfalaf wrth i gynlluniau lithro yn ystod y flwyddyn, ac os nad ydyn nhw, gellir defnyddio'r capasiti benthyca. Rwy'n siŵr y bydd pobl ar draws y Siambr sydd â phrofiad o lywodraeth leol uwch wedi sylwi ar gyn lleied o gymorth y mae derbyniadau cyfalaf yn ei roi i'r gwariant cyfalaf. Mae'n hawdd gwario arian; her y Llywodraeth, ar bob lefel, yw ei wario'n fuddiol ac yn ddoeth.
Rwyf wedi fy siomi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r pum E yn Saesneg. Effeithiolrwydd: a oedd y gwariant yn effeithiol yn y flwyddyn flaenorol, ac a wnaeth gyflawni'r hyn oedd ei angen? Effeithlonrwydd: a ddefnyddiwyd adnoddau'n effeithlon y llynedd, ac os na, beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau defnydd effeithlon o adnoddau eleni? Cydraddoldeb: a yw gwariant y gyllideb yn deg i bob grŵp? Tegwch: a yw'r gyllideb yn deg i Gymru gyfan, nid mewn blwyddyn yn unig, ond dros nifer o flynyddoedd? Ac, yr amgylchedd: beth yw effaith ddisgwyliedig y gyllideb ar garbon a bioamrywiaeth? Er bod Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymdrin â'r un olaf, mae angen mynd i'r afael â'r pedwar cyntaf.
Gyda'r ddarpariaeth gyffredinol o brydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd gwladol—rwy'n pwysleisio ysgolion cynradd 'gwladol'—bydd y defnydd o brydau ysgol am ddim fel dangosydd cyllid addysgol ychwanegol yn diflannu. Beth fydd yn cael ei ddefnyddio yn lle hynny?
Gan droi at effeithlonrwydd, mae angen i'r gwasanaeth iechyd ddod i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. Caiff presgripsiynau eu hargraffu, eu llofnodi a'u danfon â llaw. Pam nad oes gennym ni system e-bresgripsiwn? Pam na ellir eu llenwi ar ffurflen ar-lein gyda llofnod ar-lein ac yna eu hanfon at y fferyllwyr perthnasol? Mae peiriannau ffacs yn dal i gael eu defnyddio yn y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys mewn practis meddyg teulu y cysylltais ag ef heddiw, a ffoniais y rhif anghywir oherwydd bod y rhif arno yn rhif y peiriant ffacs. Nid wyf i wedi arfer â gweld peiriannau ffacs ar rifau ffôn mwyach. Mae'n rhaid iddyn nhw ddod i'r unfed ganrif ar hugain. Nid wyf i'n credu fy mod i wedi gweld peiriant ffacs yn yr 20 mlynedd diwethaf ac yn sicr ddim ers i mi fod yma. Mewn 11 mlynedd nid wyf i wedi gweld peiriant ffacs yn unman, ond mae'n ymddangos bod y byrddau iechyd yn parhau i'w defnyddio.
Beth mae byrddau iechyd yn ei gynnig fydd yn cynyddu effeithlonrwydd ynni? Wrth i'r byrddau iechyd gael arian ychwanegol, sut y byddan nhw'n gwella cynhyrchiant mewn ysbytai? Sut y bydd yr ysbyty gartref yn cael ei ddatblygu—rhywbeth yr wyf i wedi siarad o'i blaid o'r blaen? Rhagfynegiad yr wyf i'n gobeithio ei fod yn anghywir: bydd y byrddau iechyd yn cael y cynnydd, a bydd y gyfran a roddir i iechyd sylfaenol yn gostwng eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu sefydliadau mawr, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Betsi Cadwaladr a gwasanaeth ambiwlans Cymru. Pryd y penderfynir nad ydyn nhw'n gweithio a bod angen iddyn nhw rannu yn unedau llai?
Yn olaf, mae angen i ni ddatrys y broblem rheoli gweithredol yn y sector cyhoeddus er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Mae angen i ni ganolbwyntio ar ganlyniadau. Mae'r arian yr ydym yn ei wario yn arian cyhoeddus sydd wedi ei dalu mewn trethi ar wahanol lefelau gan bobl. Mae gennym ni ddyletswydd iddyn nhw i'w wario'n ddoeth ac yn deg, ac mae gennym ni ddyletswydd iddyn nhw i osgoi bod yn wastraffus mewn unrhyw beth a wnawn. Felly, byddaf yn cefnogi'r gyllideb hon, a gobeithio y caiff ei phasio.
Prynhawn da, Gweinidog, ac a gaf i ddiolch i chi ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod am eich arweiniad, o ran datblygu'r gyllideb hon, a hefyd eich tîm am y dull adeiladol yr ydych wedi ei ddefnyddio wrth ymgysylltu â mi ynghylch blaenoriaethau Democratiaid Rhyddfrydol Cymru? Hoffwn i glodfori Cymru. Nid wyf i erioed wedi clywed Cymru'n cael ei bychanu yn y Siambr hon. Rwy'n credu ei bod yn eithaf cywilyddus, mewn gwirionedd, fod hynny erioed wedi ei awgrymu.
Hoffwn i groesawu'r buddsoddiad ychwanegol yn y grant datblygu disgyblion, sy'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Rwy'n falch o weld prydau ysgol am ddim yn cael eu datblygu yn y gyllideb hon. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn—efallai ddwy flynedd hyd yn oed—i blant a phobl ifanc, ac felly mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion, sydd bellach yn ei degfed flwyddyn, yn bwysig iawn o ran torri'r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad ac ymgysylltiad addysgol. Rwy'n falch o weld yr £20 miliwn ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, y costau ychwanegol i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, a'r cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol sy'n cael ei ariannu o'r diwedd.
Ond rydym yn ystyried y gyllideb hon yn erbyn cefndir o fethiant y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain i gyd-fynd â'i haddewidion, ei haddewidion i roi cyllid teg a chyfartal i Gymru: colled o £1 biliwn erbyn 2024 oherwydd eu methiant i gyfateb i ymrwymiadau cyllid yr UE; diffyg ariannol o £100 miliwn i ffermwyr; colled o £5 biliwn o bunnoedd—ac amcangyfrif ar y pen isel yw hwnnw—o fuddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd oherwydd nad ydym wedi cael symiau canlyniadol HS2; ac, yn gywilyddus, y golled o £20 yr wythnos mewn credyd cynhwysol i'n teuluoedd. Mae hynny'n gywilyddus, ydy wir, ac mae hyn yn wirioneddol yn gwneud y gwaith o ailadeiladu ar ôl y pandemig a chreu Cymru decach, wyrddach a chryfach yn llawer anoddach nag y mae angen iddo fod.
I gloi, wrth gwrs, rwy'n teimlo bod cyfleoedd yn cael eu colli o ran cymorth i fusnesau bach, i iechyd meddwl ac i gynhyrchu ynni cymunedol, ond rwyf i yn croesawu'r gyllideb hon, Gweinidog, ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chi a'ch tîm i gyflawni ein blaenoriaethau cyffredin ar gyfer Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod wrth ei fodd yn ymuno â mi i groesawu cyhoeddiad cyllideb 2021 Llywodraeth Geidwadol y DU am £2.5 biliwn ychwanegol y flwyddyn, ar gyfartaledd, i Lywodraeth Cymru drwy fformiwla Barnett dros gyfnod yr adolygiad o wariant. A gadewch i ni beidio ag anghofio bod hyn ar ben ei chyllid sylfaenol blynyddol o £15.9 biliwn. Mae'r Ceidwadwyr yn rhoi'r setliad cyllid blynyddol mwyaf i Gymru ers datganoli, ac rydych chi'n dal i fod yn cwyno.
Ond ydych chi'n bwriadu ei ddefnyddio'n ddoeth? Nac ydych. Rydych chi'n talu am brydau ysgol i rai plant â rhieni ar incwm uchel iawn, gan roi pwysau diangen ar y pwrs cyhoeddus—ac rydym yn sôn am £90 miliwn. Rydych chi'n dangos eich gwir liwiau sosialaidd drwy wastraffu £20 miliwn ar gynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol, ac rydych chi'n lleihau'r gyllideb gyfalaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n golygu diffyg buddsoddiad yn ystad ac offer y GIG, er gwaethaf y ffaith bod Cydffederasiwn GIG Cymru yn dweud bod staff yn fwy cynhyrchiol pan fydd ganddyn nhw'r offer cywir, cyfoes i drin cleifion yn effeithlon. Nid yw hynny'n beth da.
Fe wnaeth COP26 uno'r byd i gydnabod yr angen i 'gadw 1.5 yn fyw' a chyflawni sero-net. Lansiodd y Llywodraeth Cymru hon gyllideb garbon Cymru Sero Net 2021-25, ond mae'n amlwg o'r gyllideb nad oes digon yn cael ei wneud mewn gwirionedd i ddiogelu ein hamgylchedd. Mae £37 miliwn wedi ei ddyrannu i symud ymlaen â'r newid i gerbydau allyriadau isel; fodd bynnag, yn anffodus, mae Cymru ar ei hôl hi o'i chymharu â llawer o'r Deyrnas Unedig o ran gosod pwyntiau gwefru cyflym. Yn wir, dim ond pedwar yn fwy o bwyntiau gwefru cyflym sydd gan Gymru yn y wlad gyfan na Milton Keynes, sydd â phoblogaeth o 265,000. Methiant llwyr.
O'r £1.8 biliwn o gyllid cyfalaf, caiff £1.6 biliwn ei wario ar ddatgarboneiddio tai. Felly, mae'n rhesymol cwestiynu sut y gellir defnyddio £200 miliwn yn effeithiol i fynd i'r afael â'n hargyfwng hinsawdd. Mae'r prif gorff i helpu i wella diogelwch yr amgylchedd a monitro achosion o lygredd, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cael toriad mewn termau real yn ei gyllid mewn gwirionedd, sy'n aros yr un fath ar £69.7 miliwn ar gyfer 2022-23.
Er gwaethaf datgan argyfwng natur, mae'r gyllideb hon mewn gwirionedd yn ei gwneud yn anodd deall yr union wariant mewn cysylltiad â budd uniongyrchol i natur. Mae'n wirioneddol hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn llunio dadansoddiad manwl ar draws llinellau'r gyllideb o ran sut y mae'r gyllideb hon yn mynd i'r afael â'r argyfwng natur mewn gwirionedd. Yn wir, mae'r amwysedd hwn yn dystiolaeth bellach bod Cyswllt Amgylchedd Cymru yn gywir nad yw graddfa a chyflymder y camau y mae eu hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng natur ar waith.
Nid yw'r gyllideb yn gwneud dim i ymestyn y rhyddhad ardrethi ar gyfer gweithfeydd hydro ar raddfa fach, er mwyn annog buddsoddiad mewn prosiectau o'r fath. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu ein sylw drwy weithio tuag at ehangu'r wladwriaeth a chreu Ynni Cymru, cwmni ynni sy'n eiddo cyhoeddus i Gymru. Onid ydych chi wedi dysgu'r wers, Gweinidog, gan Gyngor Dinas Bryste, a fuddsoddodd £36 miliwn i ariannu cwmni ynni, ac yna'i werthu am £14 miliwn? Ond mae hynny braidd yn debyg i'r Llywodraeth hon yn gwario £52 miliwn ar faes awyr, ynghyd â £100 miliwn ychwanegol, dim ond iddo gael ei brisio i fod yn werth £15 miliwn. Dyna'r hyn yr ydym yn ymdrin ag ef yma. Rwy'n credu y dylech chi adael y mathau hynny o fentrau i'r sector preifat, lle mae arbenigedd o'r fath yn ffynnu, ac mae ganddyn nhw uchelgais a dyhead.
Mae'r un peth yn wir am y dyraniad refeniw o £1 miliwn i ddatblygu Unnos yn 2022-23. A dweud y gwir, pam na wnewch chi adael ein gwaith adeiladu tai i'r datblygwyr sydd am fwrw ati i adeiladu'r cartrefi hynny yr ydych chi wedi methu â chaniatáu iddyn nhw gael eu hadeiladu dros y blynyddoedd?
Er gwaethaf y ffaith bod Cymru Sero Net yn nodi disgwyliad Llywodraeth Cymru y bydd tua 148,000 ledled Cymru, erbyn 2025, yn cael mesurau ôl-ffitio i leihau colli gwres, ac y bydd dyraniad cyfalaf o £72 miliwn yn 2022-23 ar gyfer datgarboneiddio preswyl, ynghyd â chyfanswm dyraniad refeniw—
Mae angen i'r Aelod ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
—o ychydig yn llai nag £1 miliwn, mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi rhybuddio y gallai fod yn rhaid i denantiaid ysgwyddo cyfran sylweddol o'r gost.
Nid wyf i'n credu bod y gyllideb hon yn mynd yn agos o gwbl at ymdrin â'n materion amgylcheddol a'n hargyfwng hinsawdd. Rwy'n gwybod y bu lleisiau draw yn y fan honno yn sôn am i ni gyflwyno cyllideb. Credwch chi fi, pe baem ni mewn Llywodraeth, fe fyddem ni a byddai'n golygu mwy mewn gwirionedd. Byddai'n golygu mwy i bobl Cymru.
Mae angen i chi orffen nawr, os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr.
Yn ôl at realiti, hoffwn i yn fawr iawn ganmol y Gweinidog cyllid am reoli'r gyllideb, oherwydd prin y gallai hyn fod yn gyfres anoddach o amgylchiadau y mae pobl Cymru yn eu hwynebu. Mae eich gallu i nodi £162 miliwn yn ychwanegol ar gyfer yr argyfwng costau byw yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ac yn arwydd o'ch rheolaeth ragorol o arian y Llywodraeth.
Y bore yma, es i i fy manc bwyd lleol a siaradais â llawer o'r bobl a oedd yn aros i gael eu gwasanaethu, ac mae'n anhygoel, yn wir, faint o bobl sy'n dioddef a'r gwahaniaeth sydd rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn ein cymdeithas. Diolch i Sefydliad Bevan am eu ffigurau 'State of Wales' sy'n dangos bod teuluoedd incwm isel yn gwario £35 yr wythnos ar fwyd; mae teuluoedd incwm uchel yn gwario £99 yr wythnos ar fwyd. Mae teuluoedd incwm isel yn gwario £60 yr wythnos ar dai; mae teuluoedd incwm uchel yn gwario £120 yr wythnos ar dai. Ac mae'n eironig, onid yw, fod y banc bwyd hwn sydd yn un o rannau tlotaf fy etholaeth i yn cael ei wasanaethu gan bobl sydd eu hunain ar incwm cymedrol iawn, ac mae'n nodweddiadol mai'r tlawd sy'n fwy hael na'r bobl sydd â mwy o arian? Ac mae sut yr ydym yn newid hynny yn gwestiwn pwysig iawn mewn cysylltiad â'r hyn yr oedd Llyr yn ei ddweud: sut mae gwneud yr arian sydd gan Gymru fynd ymhellach? Felly, rwy'n credu bod hynny'n fater pwysig iawn i bob un ohonom.
Yn benodol, rwy'n credu, yng nghyd-destun yr hyn y dylem ni allu ei weld o'n blaenau, fod pethau fel y cynnydd yn y grant datblygu disgyblion, y taliadau bwyd yn ystod y gwyliau, y gronfa cymorth dewisol a chymorth tanwydd y gaeaf yn eithriadol o bwysig. O ran y taliad cymorth tanwydd y gaeaf, hoffwn ganmol Cyngor Caerdydd am fynd yn rhagweithiol at eu holl denantiaid y mae ganddo fanylion cyswllt ar eu cyfer i sicrhau eu bod yn hawlio'r hyn yr oedd ganddyn nhw hawl iddo. Mae'n llawer iawn anoddach sicrhau bod tenantiaid y sector preifat yn cael yr arian hwnnw oherwydd ei bod yn llawer anoddach nodi pwy sy'n gymwys. Ac rwy'n credu mai un o'r problemau yw ei fod yn swnio fel yr un sy'n dod fel ad-daliad gan Lywodraeth y DU ar gyfer pobl hŷn. Mae cryn dipyn o bobl hŷn yn drysu—yn ôl yr hyn maen nhw'n ei ddweud, 'O, ond rwyf wedi ei gael yn barod', pan nad ydyn nhw, mewn gwirionedd, wedi hawlio'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig. Mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i ni feddwl amdano ynglŷn â sut yr ydym am ei ddisgrifio ychydig yn wahanol, fel bod pobl yn gliriach ynglŷn â hynny. A byddai'n ddefnyddiol gwybod pryd y gallech chi ddweud wrthym faint o bobl a wnaeth fanteisio ar daliad tanwydd y gaeaf y llynedd ac a yw'n bosibl ei ddadansoddi yn ôl ardal ddaearyddol/awdurdod lleol, fel y gallwn ni weld ble nad yw pobl yn hawlio'r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo, gan fy mod i'n credu bod hwn yn fater gwirioneddol bwysig iawn.
Rwy'n falch iawn bod cyllideb y comisiynydd plant wedi cael ei chynyddu gan fy mod i'n credu, fel y mae pobl eraill wedi ei ddweud, fod plant wedi cael dwy flynedd eithriadol o anodd, felly mae gan y comisiynydd plant lwyth gwaith ychwanegol ac mae'n bwysig iawn bod hynny'n cael ei ariannu'n briodol. Mae'n aneglur o hyd ar ba sail y caiff y comisiynwyr eraill eu hariannu. Rwy'n gwybod bod trafodaethau'n parhau gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ond pa gyllideb ydych chi'n mynd i'w hysbeilio er mwyn rhoi unrhyw gynnydd os profir bod ganddi achos da?
Roeddwn i eisiau archwilio'r dyraniad cyfalaf trafodiadau ariannol. Felly, o'r £83 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae angen ad-dalu £31 miliwn. Newyddion gwych, mewn gwirionedd, oherwydd ei bod yn ffordd ddefnyddiol iawn o sicrhau bod pobl yn cael gwneud y pethau y mae angen iddyn nhw eu gwneud os ydym yn cynnig benthyciad iddyn nhw ac yna'u bod yn ei ad-dalu. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am hynny? A yw hon yn gronfa arian y gellid ei defnyddio i helpu landlordiaid i gael benthyciadau i ddatgarboneiddio eu heiddo, oherwydd bod rhai o'r cartrefi oeraf yn y sector rhentu preifat? A ellid ei ddefnyddio i alluogi ysgolion, ysbytai ac adeiladau cyhoeddus eraill i gael eu hailadeiladu neu eu hôl-ffitio i ddatgarboneiddio eu hadeiladau presennol?
Mae angen i'r Aelod ddod i ben yn awr.
Neu a yw hon yn gronfa arall o arian y gallech ei nodi yn y dyfodol? Gan nad oes unrhyw amheuaeth nad yw datgarboneiddio ein cartrefi yng nghyd-destun y costau ynni, olew a nwy sy'n cynyddu ar raddfa eithriadol yn rhywbeth y gallwn ni aros amdano. Mae'n rhaid i ni wneud hynny cyn gynted ag y gallwn.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Fel erioed, rwyf i yn croesawu'r ddadl yr ydym wedi ei chael heddiw a'r sylwadau gan bob Aelod, o bob plaid, gan ei bod bob amser yn egluro pethau os dim byd arall.
Er gwaethaf yr amgylchiadau heriol yr ydym yn parhau i'w hwynebu, rydym wedi manteisio i'r eithaf ar y cyllid sydd ar gael i ni i ymateb i'r heriau tymor byr a thymor hwy yr ydym yn eu hwynebu. Rwy'n credu, fel y mae pawb wedi cydnabod y prynhawn yma, fod llawer o heriau'n parhau, gan gynnwys yr argyfwng costau byw cynyddol, ynghyd â chanlyniadau ofnadwy yr ymosodiad yn Wcráin. Y rheswm pam yr ydym wedi gallu darparu pecyn mwy o gymorth yma yng Nghymru yw oherwydd ein bod wedi rheoli ein harian yn well. Fel yr oedd Jenny Rathbone yn ei ddweud, yng Nghymru, nid ydych wedi gweld y sgandalau llwyr hynny mewn cysylltiad â chyfarpar diogelu personol, nid ydych wedi ein gweld yn rhoi contractau TTP i'n ffrindiau—naddo yn wir. Fe wnaethom ddarparu'r gwasanaeth drwy wasanaethau cyhoeddus, lle'r oedd yn perthyn yn y lle cyntaf. Cafodd pobl well gwasanaeth ac, o ganlyniad, roeddem yn gallu adleoli cyllid i gefnogi pobl a chymunedau. Mike.
Byddwn i'n dweud, hefyd, pan oedd Rhodri Morgan yn Brif Weinidog, na wnaethom ymgysylltu â'r fenter cyllid preifat.
Yn hollol gywir, ac enghraifft arall drwy gydol y pandemig yw'r ffaith ein bod ni wedi defnyddio llawer iawn o ofal a diwydrwydd yn y cymorth yr oeddem yn ei ddarparu i fusnesau ac, o ganlyniad, unwaith eto, nid ydych yn gweld y dileu twyll mawr hyn yr ydych yn ei weld dros y ffin. Felly, rydym yn gofalu am arian pobl, ac rwy'n credu y gallwch chi weld hynny yn y gyllideb yr ydym wedi ei chyhoeddi heddiw.
Fe wnaf i ddweud bod rhai cyfeiriadau wedi eu gwneud at y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae'n gyfran Barnett os ydym yn lwcus. Rhan o'r broblem yw nad ydym yn cael ein cyfran lawn gan Lywodraeth y DU. Cyfeiriwyd at y prosiect HS2. Mae hyd yn oed dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn awgrymu y bydd y prosiect hwnnw'n niweidio Cymru, ac eto mae'n ei ystyried yn brosiect i Gymru a Lloegr ac nid ydym yn cael yr un geiniog o ganlyniad iddo.
Bu ceisiadau am ragor o arian i'w roi i'r GIG ar gyfer gwariant cyfalaf. Wel, mae'n ffaith, dros dair blynedd cyfnod y gyllideb yr ydym yn edrych tuag ato, ym mhob un flwyddyn, fod ein cyllid cyfalaf yn gostwng. Bydd yn llai bob blwyddyn nag ydyw eleni, felly mae'n amhosibl i ni ddarparu cyllid ychwanegol pan fydd gennym lai. Bydd ein cyllideb yn 2024-25 bron i £3 biliwn yn is na phe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010-11. Dychmygwch y gyllideb y byddem yn ei thrafod pe byddai'r arian ychwanegol hwnnw wedi bod ar gael i ni. Felly, wyddoch chi, rydym yn dal i weithredu mewn cyfnod cymhleth a heriol iawn.
Cyfeiriwyd at gyllid Ewropeaidd y prynhawn yma, ac, unwaith eto, mae hwn yn faes lle'r ydym ar ein gwaethaf yn llwyr. O dan gronfa adnewyddu cymunedol Llywodraeth y DU, dim ond £46 miliwn a gawn eleni, o'i gymharu â £375 miliwn o leiaf y byddem wedi ei gael o gronfeydd strwythurol yr UE o fis Ionawr 2021. Ni all neb fod yn iawn gyda hynny, nid hyd yn oed ar feinciau'r Ceidwadwyr. Mae hyn yn rhwygo Cymru yn wirioneddol, ac ni ddylai fod yn rhywbeth y gall unrhyw un ohonom fod yn gyfforddus nac yn fodlon ag ef.
Roeddwn i'n falch iawn o weld Mike Hedges yn gwneud ei alwad flynyddol am gyllideb amgen gan y Ceidwadwyr. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld hynny y flwyddyn nesaf a chraffu arni. Ond byddaf i yn dweud fy mod i'n cofio amser, efallai mai 2014 oedd hi, pan osododd y Ceidwadwyr eu cyllideb amgen ddiwethaf a chafodd eu bysedd eu llosgi felly nid ydyn nhw wedi gwneud ers hynny, a hynny oherwydd eu bod nhw wedi dangos eu bod am wneud toriadau enfawr i addysg. Rwy'n credu mai 2014 oedd hi pan wnaeth y Ceidwadwyr ddarparu cyllideb amgen. [Torri ar draws.] 2010 oedd hi—iawn, rwyf i wedi fy nghywiro. Felly, mae'n amser hir ers i'r wrthblaid Geidwadol roi ei chynlluniau ar y bwrdd i bobl edrych arnyn nhw.
Ond hyd yn oed os na fyddwch yn gwneud hynny, o leiaf gwnewch rai awgrymiadau rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol ynghylch ble y byddwch yn ariannu eich galwadau am fuddsoddiad ychwanegol. Felly, rydym ni wedi clywed llawer o alwadau am fuddsoddiad ychwanegol ar draws y gyllideb y prynhawn yma gan y Ceidwadwyr ond dim un syniad rhwng cyhoeddi'r cyllidebau drafft a therfynol o ran y newidiadau y bydden nhw'n eu gwneud. Felly, efallai y gallwn ni weld rhywfaint o hynny y flwyddyn nesaf, ac rwy'n awyddus iawn i ymgysylltu â'r math hwnnw o syniadau oherwydd fy mod i'n credu bod y math hwnnw o her yn ddefnyddiol, ond mae angen cynlluniau priodol arnoch i graffu arnyn nhw. Ac o ran yr her i ni fynd ymhellach, wrth gwrs rydym ni eisiau mynd ymhellach, ond, wrth gwrs, mae hynny yn dibynnu ar gyllid gan Lywodraeth y DU i'n helpu i wneud hynny.
Nid wyf i eisiau bod yn rhy negyddol, oherwydd mae cymaint yn y gyllideb hon i'w ddathlu, yn enwedig, yn fy marn i, ein cefnogaeth i blant a phobl ifanc, oherwydd ein bod ni wedi bod yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn buddsoddi yn nyfodol y bobl ifanc hynny sydd wedi eu taro galetaf gan y pandemig. Ac fe welwch chi, yn destun cyffro arbennig, yn fy marn i, fuddsoddiad parhaus yn ein rhaglen brentisiaethau, a buddsoddiad parhaus mewn cyflawni ein gwarant i bobl ifanc. Bydd y ddau beth hynny'n gwbl hanfodol os ydym am sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i'r pandemig. Ac, wrth gwrs, mae'r gwaith ar y cyd yr ydym yn ei wneud gyda Phlaid Cymru yn bwysig iawn o ran prydau ysgol am ddim, a bydd y trafodaethau a gawsom gyda Jane Dodds ynglŷn â chefnogi'r rhai hynny sy'n gadael gofal ac sydd mewn gofal, wrth gwrs, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r bobl ifanc hynny. Rwy'n credu mai dim ond da all ddod o'r trafodaethau blaengar hyn yr ydym ni'n eu cael.
Byddaf yn symud ymlaen yn awr, mae'n debyg, i ddechrau cloi drwy ddiolch i bawb a nododd sylwadau, a'r rhai sydd wedi cymryd rhan ac wedi cydweithredu drwy'r broses o bennu'r gyllideb. Unwaith eto, rydym wedi darparu cyllideb o dan amgylchiadau anodd iawn, gan dynnu sylw at y bartneriaeth waith gref sydd gennym yn y Senedd ac, wrth gwrs, ar draws cymdeithas ehangach Cymru. Ac ni fyddwn yn dymuno gorffen fy nghyfraniad heddiw heb gofnodi fy niolch diffuant i holl swyddogion Llywodraeth Cymru y mae eu sgiliau, eu gofal a'u proffesiynoldeb, a'u sylw i fanylion, yn amlwg iawn yn y gyllideb derfynol hon. Ac, mae'n rhaid i mi ddweud, eu bod nhw wedi mynd y filltir ychwanegol i gynhyrchu gwaith o'r ansawdd uchaf, datrys problemau cymhleth a meddwl yn greadigol, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am hynny.
Felly, i gloi, mae'r gyllideb hon yn adlewyrchu'r hyn y gallwn ni ei gyflawni yng Nghymru drwy gydweithio i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i ni. Rydym yn ymateb i'r pandemig a'r argyfwng costau byw sy'n dod i'r amlwg, gan gymryd y camau hanfodol sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, ac rydym yn cymryd camau i sicrhau ein bod nid yn unig yn cefnogi Cymru heddiw, ond yn llunio'n sylfaenol y Gymru yr ydym yn ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.
Diolch, Gweinidog. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar setliad llywodraeth leol 2022-23. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7942 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2022-23 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Heddiw, rwy'n cyflwyno setliad llywodraeth leol 2022-23 i'r Senedd i'w gymeradwyo ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru. Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i lywodraeth leol am y ffordd y mae wedi trafod y cylch setliad hwn, ac am y gwaith hollbwysig y mae'n ei wneud o ddydd i ddydd yn ein cymunedau ac i bobl a busnesau ledled Cymru, yn enwedig, wrth gwrs, o ystyried digwyddiadau'r ddwy flynedd diwethaf. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled a'u hymroddiad. Wrth baratoi cyllideb Cymru a'r setliad hwn, rydym ni wedi ymgysylltu â llywodraeth leol drwy gydol y prosiect. Rwy'n ddiolchgar i lywodraeth leol am y ffordd y cynhaliwyd y trafodaethau hynny, ac i fy swyddogion am y gwaith manwl a gofalus y maen nhw wedi ei wneud fel rhan o'r broses hon.
Eleni, rwy'n falch o gynnig setliad i'r Senedd ar gyfer 2022-23 sydd 9.4 y cant yn uwch na'r setliad yn y flwyddyn ariannol gyfredol ar sail tebyg am debyg. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o £437 miliwn yn ystod 2021-22, gyda'r cynnydd lleiaf ar gyfer awdurdodau lleol yn y setliad hwn, sef 8.4 y cant, yn uwch na'r cynnydd ar gyfer unrhyw awdurdod mewn unrhyw setliad blaenorol am o leiaf 17 mlynedd. Yn 2022-23, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael £5.1 biliwn mewn dyraniadau refeniw cyffredinol, o gyllid craidd ac ardrethi annomestig. Mae hwn yn setliad da i lywodraeth leol, gan gynnwys dyraniadau cyllid craidd ar lefel Cymru ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Mae'n rhoi llwyfan sefydlog i awdurdodau lleol gynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a thu hwnt.
Rydym wedi gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, ac rydym yn sylweddoli'r pwysau y maen nhw'n eu hwynebu. Byddwn yn parhau i amddiffyn llywodraeth leol, yn arbennig ar yr adeg anodd a heriol hon. Wrth wneud penderfyniadau am lefel y cyllid ar gyfer llywodraeth leol, ymatebais i'r angen i sicrhau bod staff diwyd yn cael codiad cyflog haeddiannol yn y dyfodol. Yn benodol, rwyf wedi cynnwys cyllid i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni ein cyflog byw go iawn ar gyfer ymrwymiad gofal cymdeithasol, yn ogystal â chostau cynyddol cyflog athrawon ac, yn ehangach, i dalu am y costau uwch y bydd awdurdodau lleol yn eu hwynebu o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU i gynyddu'r cyfraniadau yswiriant gwladol i gyflogwyr.
Yn ogystal â'r cyllid craidd heb ei neilltuo a ddarparwyd drwy'r setliad, rwy'n ddiolchgar bod fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet wedi darparu gwybodaeth ddangosol am grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2022-23. Ar hyn o bryd, mae'r rhain bron i £1.2 biliwn ar gyfer refeniw, a dros £740 miliwn ar gyfer cyfalaf ar gyfer ein blaenoriaethau cyffredin gyda llywodraeth leol. Bydd cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 yn cael ei bennu ar £150 miliwn. Bydd hyn yn cynyddu i £200 miliwn ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol, gan gynnwys £20 miliwn ym mhob blwyddyn i alluogi awdurdodau i ymateb i'n blaenoriaeth ar y cyd o ddatgarboneiddio.
Yn ogystal, ysgrifennais at arweinwyr awdurdodau lleol fis diwethaf i gyhoeddi £70 miliwn arall o gyfalaf yn y flwyddyn ariannol gyfredol, i gefnogi rhaglenni cyfalaf cyffredinol awdurdodau, gan gynnwys effeithiau ar briffyrdd. Rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw £60 miliwn ychwanegol, i'w ychwanegu at setliad y flwyddyn gyfredol, i helpu awdurdodau lleol i reoli eu cyllidebau'n fwy effeithiol dros y cyfnod 2021-22 i 2024-25, yn erbyn cyd-destun chwyddiant a phwysau gwasanaeth a diwedd y gronfa caledi llywodraeth leol. Bydd yr arian hwn hefyd yn galluogi llywodraeth leol i ymateb i'w huchelgais i gynyddu eu gallu yn y gwasanaeth cymorth cartref, drwy ariannu gwersi gyrru a darparu mynediad i gerbydau trydan. Bydd hyn hefyd yn helpu awdurdodau i barhau i ddatgarboneiddio eu gwasanaethau ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'r adroddiad diweddaraf ar effaith yr hinsawdd ac ymaddasu sydd wedi ei gyhoeddi gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn dangos yn glir pa mor bwysig yw hi ein bod ni i gyd yn gwneud hynny. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig.
Diolch i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw ar setliad llywodraeth leol 2022-23. Ar y pwynt hwn, rwyf am ddatgan buddiant fy mod yn dal i fod yn aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac yn anffodus, ar ôl 14 mlynedd, bydd hynny'n newid yn fuan eleni. Yn sicr, hoffwn ymuno â'r Gweinidog i gydnabod y gwaith eithriadol sydd wedi ei wneud gan ein cynghorau drwy gydol pandemig COVID-19. Aethon nhw y filltir ychwanegol i ddarparu'r gwasanaethau eithriadol hynny i bobl leol, a dangoson nhw yr hyn y gellir ei wneud pan fyddan nhw'n cael eu galluogi i wneud hynny. Ond mae'n hanfodol nodi bod y gwaith da hwn wedi digwydd cyn y pandemig hefyd, ac y bydd yn parhau ar ôl hynny, a dyna pam mae'r setliadau llywodraeth leol hyn a setliadau llywodraeth leol yn y dyfodol mor bwysig. Mae'n rhaid i gynghorau gael eu hariannu'n ddigonol, i'w galluogi i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sydd eu hangen ar ein trigolion.
Mae gan y setliad y potensial bob amser i ryddhau cynghorau a chaniatáu iddyn nhw gyflawni eu potensial llawnaf. Ar yr ochr hon i'r meinciau, nid ydym yn credu bod hyn wedi digwydd yn hwn yn y fan yma heddiw. Mae tri maes yr hoffwn eu codi sy'n tynnu sylw at y mater hwn yn benodol. Mae'r cyntaf yn ymwneud â fformiwla ariannu llywodraeth leol. Fel y mae arweinwyr cynghorau a Chyngor Llywodraeth Leol Cymru wedi ei ddweud, mae cynnydd o 9.4 y cant mewn cyllid, wrth gwrs, i'w groesawu. Rwyf i'n sicr yn cydnabod y cynnydd sylweddol hwn i gyllid i gynghorau. Serch hynny, daw'r cyllid hwn ar ôl blynyddoedd o danariannu. Mae'n bwysig nodi hefyd, er gwaethaf y cynnydd hwn o 9.4 y cant, fod cyllid refeniw Llywodraeth Cymru mewn termau real wedi gostwng tua 17 y cant i gynghorau dros y degawd diwethaf. Ac er gwaethaf y cynnydd mawr hwn, rydym yn dal i weld cynghorau ar hyd a lled Cymru yn gorfod codi'r dreth gyngor yn sylweddol i ymdrin â'r pwysau y maen nhw'n eu hwynebu.
Un maes y mae hyn yn cyfeirio ato yn y fformiwla ariannu, efallai y mae angen ei ystyried eto, yw'r cronfeydd wrth gefn sydd gan gynghorau. Mae gan rai cynghorau gronfeydd wrth gefn sylweddol y gellir eu defnyddio, a ddylai, yn fy marn i, gael eu defnyddio er budd dinasyddion ac nid eu dal yn ôl. Cafwyd enghraifft o hyn yn 2021, y flwyddyn ariannol cyn eleni, pan oedd gan gynghorau Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Chaerffili y swm mwyaf o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, sef £208 miliwn, £183 miliwn a £180 miliwn yn y drefn honno—mae hynny'n werth bron i £600 miliwn o gronfeydd wrth gefn rhwng tri chyngor. Roedd gan gynghorau eraill fel Merthyr Tudful, Conwy a sir Fynwy gronfeydd wrth gefn o £27 miliwn, £30 miliwn a £32 miliwn yn y drefn honno—sy'n llai na £90 miliwn rhyngddyn nhw. Mae problem yn y modd y gall rhai cynghorau barhau i gael cyllid sylweddol, a lefelau sylweddol o gronfeydd wrth gefn, ond bydd eraill yn ei chael hi'n anodd. Mater arall sy'n ymwneud â'r fformiwla ariannu yw'r data a ddefnyddir, rwyf i wedi codi hyn o'r blaen yn y Siambr. Diolch, Gweinidog, am gydnabod rhywfaint o'r gwaith yr ydych chi a'ch swyddogion yn debygol o'i wneud ar hyn a'i adolygu, gan fod rhai agweddau ar y fformiwla ariannu dros 20 mlwydd oed—rhai o'r pwyntiau data. Diolch i chi am fwriadu adolygu hynny ac rwy'n edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny cyn gynted â phosibl. Dyna'r maes cyntaf—y fformiwla ariannu.
Mae'r ail faes sy'n broblem, yn fy marn i, yn un diweddar iawn. Nid wyf wedi clywed dim heddiw ynghylch sut y bydd y rhai sy'n ffoi o Wcráin yn cael eu cefnogi drwy gynghorau. Mae'n debygol y bydd cynghorau'n cynnig llety i'r ffoaduriaid hynny sy'n dod o Wcráin. Byddai'n ddiddorol i mi wybod a roddwyd ystyriaeth yn y fformiwla ariannu a'r setliad i alluogi cynghorau i gefnogi'n briodol y rhai sy'n ffoi o Wcráin dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rydym yn gwybod bod cynghorau eisoes dan bwysau mewn gwasanaethau tai. Mae llawer o gynghorau'n gorfod rhoi symiau sylweddol o arian i dai ar hyn o bryd. Felly, mae angen rhagor o gymorth yno, rwy'n siŵr, i alluogi cynghorau i ddarparu gwasanaethau'n briodol.
Yn olaf, mae pryder o hyd mewn cynghorau ynghylch cytundeb cydweithredu'r Llywodraeth a Phlaid Cymru, yn benodol yr effeithiau y bydd yn eu cael ar wasanaethau a ddarperir gan y cynghorau hynny. Rydym yn gwybod eisoes bod y cytundeb cydweithredu wedi ymrwymo i dynnu rhai pwerau oddi ar gynghorau a newid y dreth gyngor yn sylweddol. Byddan nhw yn ofynion newydd sylweddol i gynghorau o ran cyflawni llawer o bolisïau newydd, ac nid yw'n ymddangos eu bod nhw i gyd yn cael eu hariannu'n llawn nac yn briodol. Felly, byddai'n ddiddorol clywed a oes gan y Gweinidog unrhyw bryderon ynghylch ariannu a chyflawni rhai agweddau ar y cytundeb cydweithredu sydd ar waith ar hyn o bryd.
Ac i gloi, Dirprwy Lywydd, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi cydnabod, rwy'n siŵr, rydym ni, yn y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r cynnydd i'r setliad llywodraeth leol ac yn gwerthfawrogi'r elfennau cadarnhaol yn hyn i gynghorau. Fodd bynnag, mae yn ofid i ni sut y mae'r setliad llywodraeth leol yn parhau i beidio ag ymdrin â rhai o'r materion yr wyf wedi eu codi heddiw. Oherwydd hyn a'r hyn yr wyf wedi ei amlinellu, byddwn yn ymatal heddiw. Serch hynny, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am yr arian a gydnabyddir yn y setliad ac am ei chydweithrediad a'i thrafodaethau parhaus ar y setliad. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf innau hefyd eisiau cychwyn fy nghyfraniad i i'r ddadl yma yn y man dyledus, sef i ddiolch i gynghorau, i gynghorwyr ac i swyddogion a staff yr awdurdodau lleol am y gwaith aruthrol maen nhw wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw wedi profi, os oedd angen profi efallai—dwi ddim yn meddwl bod—pwysigrwydd yr haen yna o lywodraethiant, yr haen agosaf efallai i'r ffas lo. Mi wnaethon nhw gamu i fyny, wrth gwrs, a chreu'r atebion bespoke, perthnasol, yn adlewyrchu anghenion eu cymunedau lleol nhw mewn modd y byddai llywodraeth genedlaethol ddim yn gallu ei wneud. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny ac yn cadw hynny mewn cof pan ddaw'n drafodaethau ar siâp llywodraeth leol yn y blynyddoedd i ddod.
Mae setliad o gynnydd o 9.4 y cant yn rhywbeth i'w groesawu. Mae'n sicr yn fwy, efallai, nag oedd nifer o fewn llywodraeth leol wedi disgwyl, ac efallai y gallwn ni ddweud ei fod e'n hael, yn sicr ar yr edrychiad cyntaf. Ond pan ŷch chi wedyn yn sylweddoli mai'r realiti yw bod nifer o'r elfennau a ariannwyd y tu allan i'r RSG yn y gorffennol nawr yn rhan o'r setliad, ac os ychwanegwch chi y gefnlen yna rŷm ni wedi clywed amdani, o gostau yn cynyddu, chwyddiant yn mynd i fod yn sylweddol uwch, efallai, na fyddai rhai ohonom ni wedi rhagweld ac, yn wir, y byddai neb ohonom ni yn dymuno, a'r ymrwymiad i godiadau cyflog, sydd wrth gwrs yn berffaith iawn i'w wneud, yn sydyn iawn efallai fod y setliad ddim yn edrych mor hael ag y byddai fe wedi gwneud fel arall.
Mae blwyddyn 1 yn dweud un stori, ond mae blynyddoedd 2 a 3 yn dweud stori arall hefyd, onid ydynt? Oherwydd mae'r setliad yn fflat, wedyn, onid yw e, am yr ail a'r drydedd flwyddyn i bob pwrpas. Ac felly os ydyn ni yn cydnabod efallai fod yna elfennau heriol yn mynd i fod yn y flwyddyn i ddod, wel, mae hynny'n mynd i ddwysáu yn sylweddol yn y blynyddoedd y tu hwnt i hynny. Felly, rwy'n credu bod angen reality check, er ein bod ni wrth gwrs yn croesawu y cynnydd. Mae mawr ei angen e oherwydd mi fydd pwysau aruthrol yn dal i fod ar y cyllid hwnnw, a'r angen yn dal i fod hefyd wedyn, wrth gwrs, i gynyddu treth y cyngor ac yn y blaen, er mwyn ceisio gwneud i fyny neu geisio ymateb i'r pwysau yna.
Er ein bod ni'n dod allan o un argyfwng, wrth gwrs, sef COVID, rŷm ni yn gwbl ymwybodol o'r argyfyngau newydd sydd yn ein cwmpasu ni nawr, o safbwynt costau byw a'r sefyllfa yn Wcráin, ac yn y blaen, ac mae hynny yn mynd i wneud sefyllfa anodd yn waeth. Mae costau bwyd yn cynyddu, mae costau tanwydd yn cynyddu, ac mae'r goblygiadau o safbwynt awdurdodau lleol yn sylweddol—o safbwynt ysgolion a'r gwasanaeth addysg, gofal, a llu o wasanaethau eraill. Mae costau yn cynyddu ar union yr un pryd ag y bydd galw am nifer o wasanaethau awdurdodau lleol yn cynyddu hefyd. Felly, y cwestiwn yw, yn ei hanfod: faint o sgôp sydd yna i gamu i'r adwy flwyddyn nesaf os bydd pethau yn gwaethygu yn fwy, efallai, na'r hyn rŷm ni'n ei rhagweld? I ba raddau y mae gan y Llywodraeth gynlluniau neu gyllid wrth gefn i fedru camu i mewn, petai angen gwneud hynny?
Dwi hefyd eisiau ategu y pwynt a wnaethpwyd ynglŷn â'r fformiwla ariannu ac ailadrodd, i raddau, yr hyn a ddywedwyd ychydig o wythnosau yn ôl yn y ddadl honno. Tra ei bod hi'n iawn fod y Llywodraeth yn edrych ar sut mae pres cynghorau yn cael ei gasglu drwy dreth y cyngor, dwi yn teimlo ei bod hi hefyd yn amserol i edrych ar sut mae'r arian yna yn cael ei rannu. Ac nid dim ond edrych ar y fformiwla in isolation, ar ben ei hunan; mae angen edrych ar y darlun ehangach o ariannu awdurdodau lleol. Oherwydd dwi'n clywed mewn adborth gan awdurdodau lleol bod nifer o'r cyfrifoldebau newydd sydd wedi dod i lywodraeth leol sydd i fod yn gost niwtral mewn gwirionedd yn dod â chost mewn sawl gwahanol ffordd. Dwi ddim yn teimlo, efallai, fod yna gyfle wedi bod i edrych ar y darlun global pan fo'n dod i'r sefyllfa gyllido yna. Mae'r fformiwla wedi dyddio. Dŷn ni'n cytuno gyda hynny, ac rŷm ni hefyd yn derbyn, wrth gwrs, beth bynnag yw'r fformiwla, mi fydd yna enillwyr a chollwyr, wrth gwrs. Ond dwi yn teimlo y byddai adolygiad annibynnol yn hynny o beth yn rhywbeth amserol hefyd.
Hoffwn ddweud yn gyntaf ei bod yn braf iawn gweld cynifer o bobl yn eistedd yn yr ystafell hon sydd â phrofiad ar lefel uchel iawn o lywodraeth leol ac yn cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n credu y bydd hynny ond yn ychwanegu at ansawdd y ddadl ar y setliad llywodraeth leol.
Rwy'n croesawu'r setliad. Mae'n newyddion da i awdurdodau lleol. Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, mae'r cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2022-23 wedi cynyddu 9.4 y cant ar sail tebyg am debyg, ni fydd unrhyw awdurdod yn cael llai nag 8.4 y cant, ac nid oes unrhyw dwyll na thriciau ynghlwm wrth hyn. Rwy'n credu ein bod wedi gweld pan fu achosion o gynnydd yn y gorffennol, a phan fyddwch yn dechrau edrych yn fanwl arnyn nhw, nad oedden nhw gymaint yn union ag yr oeddem ni'n ei ddisgwyl. Mae hyn yn newyddion da iawn. Wrth gwrs, nid yw'n gwneud iawn am doriadau blaenorol yn y gyllideb sydd wedi digwydd, ond mae'n sicr yn gam i'r cyfeiriad iawn o ran darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol. Mae wedi'i groesawu ar draws awdurdodau lleol. Mae'n setliad da ar gyfer eleni.
Gallaf gymharu'r hyn yr wyf i'n ei ddweud am y setliad llywodraeth leol hwn â'r hyn yr wyf wedi'i ddweud mewn blynyddoedd blaenorol. Rwyf wedi'i ddisgrifio'n siomedig, gan arwain llywodraeth leol i dorri gwasanaethau, gan roi pwysau ar wasanaethau allweddol a ddarperir gan awdurdodau lleol, gan arwain at orfodi'r cyngor i gynyddu'r dreth gyngor i wneud iawn am rywfaint o'r diffyg, peidio â darparu digon o adnoddau. Eleni, er nad yw'n mynd i'r afael yn llawn â thoriadau blaenorol, mae'n caniatáu i awdurdodau lleol bennu cyllidebau heb doriadau a heb gynyddu'r dreth gyngor yn sylweddol. Rwyf yn disgwyl, wrth i awdurdodau lleol bennu eu cyfraddau treth, y mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn eu gwneud tua nawr ac yn yr wythnosau nesaf, y bydd y rhan fwyaf yn gosod cynnydd o lai na 2 y cant bryd hynny, a bydd rhai'n gosod cynnydd o 0 y cant. Y setliad llywodraeth leol yw'r cyllid allanol cyfanredol sy'n cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i ychwanegu at ei braesept treth gyngor er mwyn iddo wario ar lefel yr asesiad gwariant safonol. Ers i ardrethi busnes gael eu canoli, mae hyn wedi golygu bod y cyllid allanol cyfanredol, sydd bellach yn cynnwys ardrethi busnes, yn gyfran fwy o incwm cynghorau. Nid yw hyn yn gymorth ariannol llwyr i bob awdurdod lleol. Gall awdurdodau lleol godi arian o'r dreth gyngor. Gallant godi incwm o daliadau a ffioedd ac mae hyn yn amrywio yn ôl awdurdod. Mae rhai ffioedd a thaliadau, fel cost ceisiadau cynllunio, wedi'u pennu'n ganolog; mae eraill, fel taliadau parcio ceir, yn cael eu pennu yn gyfan gwbl yn ôl disgresiwn pob cyngor lleol.
Mae setliad cyllid llywodraeth leol yn pennu faint o'r arian a ddarperir ar gyfer Cymru a roddir i bob awdurdod lleol. Mae'r cyllid hwn yn cynnwys y grant cynnal refeniw a'r gyfradd annomestig fel y nodwyd yn gynharach, ac fe'i cyflwynir ar sail fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Gweithgor Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, o'r enw yr is-grŵp dosbarthu, sy'n gyfrifol am sicrhau bod y fformiwla'n cael ei hadolygu'n rheolaidd. Rwy'n siarad fel rhywun a fu unwaith yn eistedd ar is-grŵp dosbarthu ac rwy'n cyfaddef: roeddem ni'n anghywir. Roedd 52 y cant o ffyrdd yn arfer bod yn seiliedig ar boblogaeth, a 48 y cant ar hyd ffyrdd. Fe wnaethom ni benderfynu ei wneud yn 50:50. Nid yw'n ymddangos fel newid mawr, nag yw e? Wel, mewn gwirionedd gwnaeth hyn symud cannoedd o filoedd o bunnoedd allan o Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, a'u rhoi nhw yng Ngwynedd, sir Benfro a Phowys. Felly, gall newidiadau bach gael effeithiau enfawr.
Mae dosbarthiad eiddo ym mhob band yn amrywio'n aruthrol. Mae gan rai awdurdodau dros hanner eu heiddo yn y ddau fand isaf, mae gan eraill, yn fwyaf nodedig sir Fynwy, dros hanner eu heiddo ym mand D ac uwch. Byddem felly'n disgwyl mai'r rhai hynny a fyddai'n cael y cymorth mwyaf gan Lywodraeth Cymru fesul pen fyddai Blaenau Gwent, Merthyr a Rhondda Cynon Taf, a'r tri isaf fesul pen fyddai Bro Morgannwg, sir Fynwy a Chaerdydd, oherwydd bod y cynllun yn gwneud iawn am y dreth gyngor na chaiff ei chasglu. Dyma sy'n digwydd mewn gwirionedd. Roeddwn i'n credu bod y cynnydd blynyddol cymharol wedi'i seilio'n bennaf ar newidiadau wedi'u pwysoli yn y boblogaeth. Yn draddodiadol, Caerdydd yw'r ardal sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, ac mae'n cael y cynnydd mwyaf, ond eleni, mae'r cynnydd mwyaf yn sir Fynwy, ac yna Caerdydd. Caerdydd yw'r drydedd ddinas sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain; y ddau a'i curodd yw Llundain a Chaeredin. A beth sydd gan Lundain a Chaeredin a Chaerdydd i gyd yn gyffredin?
Rwyf bob amser yn gofyn am ddau beth yn ystod y ddadl hon, ac ni chefais fy siomi eleni. Yn gyntaf, rwy'n galw eto am ddychwelyd ardrethi busnes i awdurdodau lleol. Byddai hynny'n lleihau'r swm sy'n cael ei dalu'n ganolog. Fy ail gais, ac nid wyf yn deall pam na ellir ei wneud, yw i'r cyfrifiadau sy'n cynhyrchu cyllid allanol cyfanredol pob awdurdod gael eu cyhoeddi. Mae'n rhaid ei fod yn bodoli; dyna sut y cyfrifir y cyllid. Mae'r symiau yno: dangoswch eich cyfrifiadau. Rwyf bob amser yn dweud hynny, ac rwyf wedi dweud hynny am Lywodraeth ganolog hefyd o ran yr arian a gawn gan y Lywodraeth ganolog. Hoffwn i bobl ddechrau dangos eu cyfrifiadau. Cyhoeddi'r cyfrifiadau: mae gennych chi nhw, dim ond eu rhoi ar y wefan y mae'n rhaid i chi ei wneud. Byddai'n caniatáu i academyddion, awdurdodau lleol ac eraill wirio bod y symiau yn unol â'r fformiwla yn gywir. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn eu darparu'n wirfoddol, yn y pen draw bydd cais rhyddid gwybodaeth yn eu gorfodi i'w ddarparu. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig i bawb weld sut yn union y caiff y cyfrifiadau eu cyfrifo, ac os ydyn nhw'n cael y mwyaf y dylen nhw.
A gaf i ddatgan buddiant hefyd, fel cynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy am gyfnod byr eto? Ac rwy'n rhannu'n llwyr y teimladau ynglŷn â'n cynghorau a phopeth y maen nhw'n ei wneud. Rwyf wedi dweud droeon mai'r adnodd mwyaf sydd gan gyngor yw ei staff, ac mae eu staff wedi gwneud yn wych, ac maen nhw'n parhau i wneud hynny, ac rwy'n diolch iddyn nhw am hynny.
Bydd Aelodau'n cofio i ni drafod y fformiwla llywodraeth leol yn ddiweddar yn y Siambr hon, fel y nododd Llyr, felly byddwn ni'n cofio bod llawer o'r ochr hon i'r Siambr, ac yn wir, gyd-Aelodau gyferbyn, wedi dadlau nad yw'r fformiwla ddosbarthu yn gyfredol, ac yn sicr nid yw'n addas i'r diben, ac rwyf i'n mynd i ganolbwyntio ar y maes hwnnw eto heddiw. Bydd Aelodau hefyd yn cofio i mi ddadlau nad oedd y fformiwla yn cydnabod anghenion awdurdodau gwledig a mater poblogaeth isel yn ddigonol mewn unrhyw ffordd ystyrlon, a diolch i Sam Rowlands am godi'r pwynt hwnnw eto heddiw.
Dirprwy Lywydd, i brofi'r pwynt hwn, dim ond agor y ddolen yn yr agenda heddiw i'r adroddiad cyllid llywodraeth leol y mae'n rhaid i Aelodau'r Senedd ei wneud a sgrolio i atodiad 2, yn nodi dangosyddion a gwerthoedd a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo asesiadau o wariant safonol cynghorau. Cododd fy nghyd-Aelod Sam Rowlands eto heddiw, ond nododd yn flaenorol, faint o'r data hwnnw a oedd yn anghyfredol, yn enwedig y data gwasgariad a setliad a nodir yn yr adroddiad, sy'n dyddio yn ôl i 1991. Ar wahân i hynny, rwyf eisiau canolbwyntio ar fy mhrif bryderon ynghylch y fformiwla—nad yw'n cydnabod yn ddigonol natur wledig a chostau uned darparu gwasanaethau mewn awdurdodau gwledig a gwasgaredig eu poblogaeth. Os edrychwch chi drwy'r dangosyddion a ddefnyddir i greu'r fformiwla, mae'n ymddangos mai dim ond dangosyddion gwasgariad, y mae pedwar ohonyn nhw, y gellir eu priodoli i ymwneud â natur wledig. Nodir yn yr adroddiad eu bod wedi'u dylunio
'i gipio gwybodaeth am y costau amser a phellter ychwanegol sydd yn gysylltiedig â chyflenwi gwasanaethau i gymunedau sydd ar wasgar.'
Ond edrychwch ar eu cyfraniad wrth greu'r fformiwla derfynol—maen nhw'n fach iawn, maen nhw'n geiniogau. Er mwyn cyfeirio'n hawdd, Aelodau, yr esboniad i'r dangosydd yw eitem 21 ar dudalen 18 o atodiad 2. Mae sawl dangosydd diddorol ac amheus iawn arall yn cael eu defnyddio i gyfrannu at y fformiwla, ond ni wnaf grwydro oddi ar y pwynt.
Dirprwy Lywydd, mae llawer o bwyntiau eraill y gellir eu gwneud ynghylch amhriodoldeb y fformiwla bresennol, fel yr wyf wedi'u codi o'r blaen, fel y dystiolaeth glir ei bod yn caniatáu i rai cynghorau gronni cronfeydd wrth gefn enfawr, a gweld cynghorau llai a gwledig yn gweld eu cronfeydd wrth gefn yn lleihau. Yn wir, dim ond edrych ar adroddiad datganiad cyfrifon cynghorau Cymru ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol, i edrych ar eu datganiadau symudiadau cronfeydd wrth gefn, sy'n rhaid i chi ei wneud i weld cronni cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy a sut y maen nhw'n bwriadu eu defnyddio neu wedi'u defnyddio. Wedi dweud hynny i gyd, heddiw, Dirprwy Lywydd, nid yw'n ymwneud â beirniadu'r cwantwm sy'n cael ei ddarparu i awdurdodau lleol yn y gyllideb, ond byddaf yn parhau i ddadlau nad yw'r ffordd y caiff y gacen ei thorri yn deg, wrth i rai cynghorau gael darn enfawr a'r lleill, yn enwedig cynghorau gwledig, yn cael y briwsion drwy'r fformiwla bresennol hon. Os yw Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn poeni am gynaliadwyedd ein cynghorau ledled Cymru, ac yn credu mewn tegwch a phriodoldeb y ffordd y cânt eu hariannu, bydden nhw'n sylweddoli bod eu dull dosbarthu yn anghyfredol, yn anaddas i'r diben a bod angen ei adolygu. Gweinidog, peidiwch â chuddio y tu ôl i'r rhethreg arferol y byddech yn comisiynu adolygiad pe byddai rhai arweinwyr cyngor eisiau hynny. Rydych chi'n gwybod na fydd hynny'n digwydd oherwydd eich bod yn gwybod hefyd cystal ag yr wyf i y byddai'n rhaid i rai o'r cynghorau hynny golli ychydig i wneud y fformiwla a'i dosbarthiad yn decach. Rwy'n eich annog, Gweinidog, i edrych o ddifrif, heb safbwynt gwleidyddol, ar y fformiwla cyllido cyn setliadau yn y dyfodol. Diolch.
A gaf i hefyd ddatgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint? Byddaf yn sefyll i lawr ar ôl 14 mlynedd ym mis Mai. Yn ystod dadleuon y gyllideb, rydym wedi trafod pwysigrwydd y sector cyhoeddus wrth ddarparu gwasanaethau rheng flaen, cyfrannu at les y genedl a chyflogi pobl leol ledled y rhanbarth. A chynghorau—. Mae'n ddrwg gen i, rwy'n edrych ar y peth anghywir yma. Mae'n ddrwg gen i, a gaf i ddechrau eto? Mae'n ddrwg gen i.
Cymerwch eich amser, ond mae gennych lai o amser ar y cloc.
Mae'n ddrwg gen i. Roeddwn i bron â llewygu gynnau gyda mwgwd wyneb ymlaen. Os gwnaf ei dynnu i ffwrdd, gallaf anadlu eto. Mae'n ddrwg gen i.
A gaf i ddatgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint? Yn ystod dadleuon y gyllideb, rydym wedi trafod pwysigrwydd y sector cyhoeddus o ran darparu gwasanaethau rheng flaen, cyfrannu at les y genedl, ac rwy'n gwybod ar draws—. Mae'n ddrwg gen i. A gaf i roi'r gorau iddi?
Carolyn, cymerwch eich amser. Ar bob cyfrif, does dim rhuthr. Chi yw'r siaradwr olaf cyn y Gweinidog. Fe wnaf roi digon o amser i chi. Ydych chi eisiau parhau? Ydych chi eisiau parhau? Parhewch. Fel y mae rhywun wedi'i ddweud, ewch amdani. Rydych chi'n gynghorydd sir, rydych chi'n gwybod y sgôr, felly byddwch yn hyderus.
Ocê. Iawn. Mae'n ddrwg gen i. Diolch. Ocê. Rwy'n datgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint. Yn ystod y ddadl ar y gyllideb, rydym wedi trafod pwysigrwydd y sector cyhoeddus o ran darparu gwasanaethau rheng flaen, cyfrannu at les y genedl a chyflogi pobl leol. Ynghyd â'r sector gofal iechyd, y cynghorau yw un o'r cyflogwyr mwyaf, gan ddarparu swyddi lleol mewn ardaloedd lleol. Ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi diogelu llywodraeth leol gyda chynnydd o 9.4 y cant ar gyfartaledd, o'i gymharu â setliad cynghorau Lloegr o gynnydd o 6.9 y cant, a setliad tair blynedd i roi sefydlogrwydd a chymorth gyda chynllunio, yn enwedig ar ôl 10 mlynedd o gyni. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi cadarnhau yn ystod y ddadl ar y gyllideb y bydd fformiwla ariannu llywodraeth leol yn cael ei ddadansoddi gan bwyllgor cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Pan fyddwn yn cerdded yn ein cymunedau, gallwn weld buddion buddsoddiad Llywodraeth Cymru: ysgolion yr unfed ganrif ar hugain sy'n darparu amgylcheddau dysgu gwych; buddsoddiad mewn darpariaeth gofal; tai cyngor a thai cymdeithasol carbon isel a di-garbon; llwybrau mwy diogel yn y gymuned; cynlluniau teithio llesol sy'n annog cerdded a beicio i'r ysgol a siopau a mynediad i waith mewn amgylchedd glanach a mwy diogel. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw dyledus i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ac yn rhoi cynaliadwyedd ac adferiad gwyrdd wrth wraidd buddsoddi, gan roi sylw i natur a chreu meysydd ar gyfer bioamrywiaeth.
Mae'r argyfwng costau byw bellach yn un o'r materion mwyaf sy'n ein hwynebu ac rwy'n croesawu'r pecynnau cymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru a'r £200 miliwn ychwanegol i gyflawni'r ymrwymiad i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd ac ehangu gofal plant am ddim. Rwy'n dal i bryderu am gyllid ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd—ac ni fyddwn yn fi heb sôn am hyn—a dirywiad parhaus ffyrdd, palmentydd a strwythurau fel pontydd yn dilyn 10 mlynedd o gyni a diffyg buddsoddiad. Mae seilwaith a achosir hefyd gan drychinebau naturiol hefyd yn broblem ddifrifol, ond rwy'n croesawu y £48 miliwn o refeniw ychwanegol a chyfanswm y buddsoddiad o £102 miliwn o gyfalaf a gyhoeddwyd yn ddiweddar i helpu i wella mesurau rheoli a lliniaru llifogydd. A hefyd yn ystod proses y gyllideb, soniodd y Gweinidog am £70 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol eleni y gallwn ni hefyd ei ddefnyddio ar gyfer buddsoddi mewn priffyrdd, felly rwy'n croesawu hynny'n fawr—diolch i chi. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fynd i'r afael â'r ôl-groniad. Dros y blynyddoedd, cafwyd rhai enghreifftiau da o gydweithio, gan gynnwys archwilio dulliau amgen o fenthyca darbodus. A hefyd, bydd yr adolygiad o adeiladu ffyrdd newydd yn gweld y bydd yr arian yn cael ei ailfuddsoddi yn y gwaith o gynnal a chadw ffyrdd presennol, a fydd i'w groesawu, yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus, wrth symud ymlaen. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Fel Mike, sydd â'i brofiad ei hun o lywodraeth leol, hoffwn ymuno ag ef i gydnabod yn iawn lefel yr arbenigedd sydd gennym yn y Senedd. Rwyf yn gwneud pwynt, gobeithio, o wneud y mwyaf o'r lefel honno o arbenigedd sydd gennym ar bob mainc ac rwy'n awyddus i barhau â'r trafodaethau adeiladol hynny sydd gennym ar bob mater sy'n ymwneud â llywodraeth leol.
Er bod hwn yn setliad da sy'n adeiladu'n sylweddol ar ddyraniadau gwell yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy'n cydnabod nad yw hwn yn setliad o hyd a all wrthdroi'r blynyddoedd o gyfyngiadau o ganlyniad i gyni cyffredinol mewn cyllid cyhoeddus. Bydd angen i lywodraethau lleol wneud rhai penderfyniadau anodd o hyd wrth bennu eu cyllidebau ac mae'n bwysig, wrth gwrs, eu bod yn ymgysylltu'n ystyrlon â'u cymunedau lleol wrth iddyn nhw ddechrau ystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae'r cyllid craidd a ddarparwn i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu, wrth gwrs, drwy fformiwla sefydledig a chaiff ei chreu a'i datblygu mewn cydweithrediad â llywodraeth leol a chytunir arni'n flynyddol gyda llywodraeth leol drwy is-grŵp cyllid cyngor partneriaeth Cymru. Ac mae'r fformiwla'n rhydd o unrhyw agenda wleidyddol ac mae'n cael ei llywio gan ddata ac mae ganddi gefnogaeth ar y cyd gan lywodraeth leol. Caiff y fformiwla ei llunio a'i llywodraethu yn y fath fodd fel na all unrhyw un awdurdod neu grŵp o awdurdodau neu wleidyddion ei defnyddio yn annheg, boed yn gynghorwyr a etholwyd yn lleol neu'n Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Wrth gwrs, bu galwadau erioed am adolygiad sylfaenol o'r fformiwla ac, yn wir, rwy'n cofio i ni drafod y pwynt hwn yn fanwl yn un o ddadleuon y gwrthbleidiau fis diwethaf, ond mae'r galwadau hyn yn rhai unigol ac nid ar y cyd, oherwydd, wrth gwrs, mae unrhyw fformiwla'n cynhyrchu enillwyr a chollwyr cymharol. Ond bydd pob awdurdod, fel y clywsom ni, yn gweld cynnydd o 8.4 y cant o leiaf yn y cyllid ar sail tebyg am debyg y flwyddyn nesaf. A hoffwn sicrhau pob rhan o Gymru nad oes unrhyw duedd nac annhegwch bwriadol yn y fformiwla ac mae awgrymu hynny'n annheg i'r rhai sy'n ymwneud mor gadarnhaol â'r gwaith a wnânt i'w gyflawni.
Wrth gwrs, mae'r fformiwla'n cael ei hadolygu'n barhaus ac mae'n iawn bod y cyllid refeniw craidd yn cael ei ddosbarthu yn ôl angen cymharol. Y ffactorau sy'n sbarduno gwariant ar wasanaethau fwyaf yw lefelau poblogaeth, lefelau amddifadedd a theneurwydd poblogaeth, ac mae'r fformiwla'n defnyddio dangosyddion angen yn hytrach na mesurau uniongyrchol o ddefnyddio gwasanaethau i sicrhau na ellir dylanwadu'n uniongyrchol ar ddyraniadau cyllid na'u trin. Mae'n wir bod tua 72 y cant o'r cyllid a ddosberthir drwy fformiwla'r setliad llywodraeth leol yn dibynnu ar ddata sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol. O ganlyniad i'r pandemig a chyflwyno credyd cynhwysol yn raddol, mae nifer o'r dangosyddion wedi'u rhewi ar hyn o bryd ac yn cael eu harchwilio gan yr is-grŵp dosbarthu. Ond, pan caiff y materion hyn eu datrys, bydd dros 80 y cant o'r cyllid a ddosberthir drwy fformiwla'r setliad llywodraeth leol yn dibynnu ar ddata sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Ac, wrth gwrs, edrychwn ymlaen yn fawr at ganlyniadau'r cyfrifiad, a gyhoeddir dros gyfres o wythnosau a misoedd yn y dyfodol agos. Ac, wrth gwrs, bydd data arall ar gael i ddiweddaru'r fformiwla. A dyma un o'r rhesymau pam, wrth gwrs, ein bod wedi darparu'r dyraniadau cyllid clir hynny ar gyfer blwyddyn 1 yr adolygiad o wariant, ond, blynyddoedd 2 a 3, rhoesom y ffigur Cymru gyfan hwnnw fel y gallem ddyrannu cyllid ar y data mwyaf diweddar.
Fe wnaf gyfeirio at gyfarfod a gefais gyda'r is-grŵp cyllid ar 9 Chwefror, lle y gwnaethom drafod mater addasrwydd fformiwla ariannu setliad llywodraeth leol a phrydlondeb y data sy'n bwydo i mewn i'r fformiwla. Nododd arweinwyr awdurdodau lleol yr angen i unrhyw fformiwla ariannu gydbwyso'r angen am sefydlogrwydd o ran cyllid ac ymatebolrwydd i anghenion cymharol sy'n newid. Ond byddwn yn trafod—. Yn ein cyfarfod nesaf o'r is-grŵp cyllid, ym mis Gorffennaf, byddwn yn edrych ar elfennau o fformiwla ariannu llywodraeth leol ac a ddylai gwaith gael ei wneud i adolygu rhai o'r elfennau hynny'n benodol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gam i'w groesawu.
Byddai unrhyw newid i'r fformiwla, wrth gwrs, yn arwain at enillwyr a chollwyr, a gallai'r rhain fod yn sylweddol, a dyna pam yr wyf wedi dweud o'r blaen, os oes y math hwnnw o awydd ar y cyd gan lywodraeth leol i gael yr adolygiad sylfaenol hwnnw, yna wrth gwrs byddem yn gweithredu arno gyda'n gilydd. Fe wnaf sôn, serch hynny, ein bod wedi cytuno—neu ein bod wedi ymrwymo—i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n ei wneud mewn partneriaeth â'n partneriaid cytundeb cydweithredu ym Mhlaid Cymru, er nad wyf yn ymwybodol o ymrwymiad yn y cytundeb hwnnw i dynnu pwerau oddi ar awdurdodau lleol—nid wyf yn siŵr a yw hynny'n rhywbeth y byddai unrhyw un ohonom wedi ymrwymo iddo—ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithio i wneud y dreth gyngor yn decach. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, byddwn yn ystyried sut y mae angen i'r fformiwla ariannu ymateb i hyn ac i amgylchiadau eraill sy'n newid wrth roi sefydlogrwydd a sicrwydd i awdurdodau. Felly, bydd y fformiwla'n rhan o'n syniadau, yn enwedig pan gawn yr arwyddion diweddaraf ynghylch beth allai'r newid fod i awdurdodau lleol yng Nghymru o ganlyniad i unrhyw ddiwygio'r dreth gyngor. A phan ddechreuwn feddwl a oes angen trefniadau pontio, er enghraifft, mae'n anochel y bydd gan yr holl bethau hyn gysylltiad â'r fformiwla ariannu.
Ac yna'n olaf, i ymateb i'r pwynt sy'n ymwneud â'r sefyllfa yn Wcráin, rydym yn genedl noddfa, rydym yn barod iawn i groesawu pobl o Wcráin ac eisiau gwneud hynny. A chawsom gyfarfod cwbl anhygoel, yn fy marn i, gydag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, arweinwyr pob awdurdod lleol yng Nghymru, y trydydd sector a'r heddlu, ac roedd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, hefyd yn y cyfarfod—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Gweinidog?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rydym ni i gyd yn gweld y sefyllfa erchyll—yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin. Mae nifer y ffoaduriaid sy'n gadael yn awr yn fwy na 2 filiwn, rwy'n credu, yn ôl yr adroddiadau heddiw. Cafwyd cyfarfod yr wythnos diwethaf gan Weinidogion y Llywodraeth gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol a'r byrddau iechyd. Fel y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a ydych chi mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd heddiw am yr hyn y gall Cymru ei gynnig i'r ffoaduriaid a fydd yn dod i'r Deyrnas Unedig yn y pen draw? Oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn deall yr hyn y gallwn ni ei wneud mewn ffordd ystyrlon a chadarnhaol.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Byddwn yn sicr yn rhoi croeso ystyrlon a chadarnhaol i bobl sy'n dod o Wcráin. Yn amlwg, ceir trafodaethau gyda llywodraeth leol ynglŷn ag unrhyw gyllid sydd ei angen. Ond fe wnaf ddweud, gan fyfyrio ar y cyfarfod hwnnw, ei fod yn enghraifft wirioneddol o arweinyddiaeth dosturiol ar waith. A dyna'r math o arweinyddiaeth yr ydym ni i gyd yn ymbil ar ein Llywodraeth yn y DU i ddechrau troi ei meddwl ati. Oherwydd, nid yw arweinyddiaeth dosturiol yn ymwneud â bod yn wan nac yn hawdd dylanwadu arni, mae'n ymwneud â gweld pobl fel pobl. Ac rydym yn sôn am un o'r ffoaduriaid hyn yn dod i Gymru, ond, wrth gwrs, yn y DU ar hyn o bryd, mae gennym lond llaw ohonyn nhw. Felly, pan fydd y ffoaduriaid yn cyrraedd, byddan nhw'n sicr o gael groeso cynnes iawn. Ac roedd y cyfarfod hwnnw a gawsom ni gydag arweinwyr llywodraeth leol ac eraill yr wythnos diwethaf, wedi fy ngwneud yn gadarnhaol y byddwn yn gallu darparu'r math hwnnw o groeso cynnes a phwysig iddyn nhw, a'r gefnogaeth, wrth gwrs, y bydd ei hangen arnyn nhw ar ôl dianc rhag amgylchiadau mor ofnadwy.
Byddem ni'n disgwyl y byddai cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU o ran unrhyw fath o gynlluniau ailsefydlu y byddai'n eu cyflwyno, ond, wrth gwrs, rydym ni'n dal i aros, mewn gwirionedd, i ffurf y cynlluniau hynny fod yn glir gan Lywodraeth y DU, ond, wrth gwrs, mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn barod i groesawu pobl.
Felly, gan droi'n ôl at y setliad, Llywydd, rwyf yn ei gymeradwyo i'r Senedd, mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus ac yn parhau i gynorthwyo llywodraeth leol ledled Cymru i gyflawni dros bobl Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly rŷn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. Ac rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, felly gwnawn ni gymryd toriad byr tra ein bod ni'n paratoi'n dechnegol ar gyfer y bleidlais honno. Toriad byr, felly.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:51.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:57, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 8, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws). Mae'r bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Vaughan Gething. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.
Eitem 8: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws): O blaid: 41, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 10 fydd y bleidlais nesaf, y bleidlais ar y gyllideb derfynol ar gyfer 2022-23. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 12 yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi cael ei dderbyn.
Eitem 10: Dadl: Cyllideb Derfynol 2022-23: O blaid: 28, Yn erbyn: 14, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 11 fydd y bleidlais nesaf, ar y setliad llywodraeth leol 2022-23. Galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 25 yn ymatal ac un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.
Eitem 11: Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2022-23: O blaid: 28, Yn erbyn: 1, Ymatal: 25
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein pleidleisiau ni am heno. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:59.