Y Cyfarfod Llawn

Plenary

01/03/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma'r prynhawn yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda.

Wrth inni ddechrau ein trafodaethau y prynhawn yma, a gaf i ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb? Y diwrnod, wrth gwrs, pan fyddwn ni yn annog pawb i ddilyn geiriau Dewi Sant ac i wneud y pethau bychain. Ond, heddiw, fe rydym ni, fel pawb arall yn y byd, yn wynebu gorfod gwneud y pethau mawr yn ogystal. Felly, gyda'n blodyn cenedlaethol ni, y genhinen Bedr, law yn llaw â blodyn haul a baner Wcráin, ac mewn undod gyda phobl a Llywodraeth Wcráin, mi ofynnaf i Jack Sargeant gyflwyno'i gwestiwn brys y prynhawn yma. Jack Sargeant. 

Cwestiwn Brys: Ymosodiad Rwsia ar Wcráin

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar ddinasyddion a busnesau Cymru? (EQ0009) 

Llywydd, dyma'r tro cyntaf i'r Senedd gyfarfod ers yr ymosodiad disymbyliad ar bobl sofran ac annibynnol Wcráin. A heddiw, ar ein diwrnod cenedlaethol, mae baner Cymru a baner Wcráin yn hedfan gyda'i gilydd dros adeilad Llywodraeth Cymru yng nghanolfan ddinesig ein prifddinas. [Cymeradwyaeth.] Ac rydym ni'n gwneud hynny, Llywydd, gan fod pobl Cymru wedi eu ffieiddio gan yr ymosodiad ar Wcráin, ac, fel cenedl noddfa, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl Wcráin. Mae Cymru yn agored i roi croeso a diogelwch i'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am yr ateb yna. A gaf i hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Llywydd, ac estyn fy niolch i'r Llywydd, am ganiatáu i ni gyflwyno'r cwestiwn brys hwn y prynhawn yma cyn y cwestiynau i'r Prif Weinidog? Ac rwy'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran y Siambr—mae'n wych gweld Siambr lawn—pan ddywedaf fod ein meddyliau yn sicr gyda phobl Wcráin, a'r rhai sydd â theulu yn Wcráin, gan gynnwys ein cyfaill da, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw. [Cymeradwyaeth.]  

Llywydd, mae'r ymosodiad disymbyliad ar Wcráin, a'r dioddefaint sydd wedi dod yn ei sgil, yn amlwg yn drosedd rhyfel. Ac mae Putin yn droseddwr rhyfel. Llywydd, dywedaf eto ar gyfer y cofnod yn y Senedd hon—mae Putin yn droseddwr rhyfel. Gyda chymaint yn cael eu gorfodi o'u cartrefi, yn ffoi am eu bywydau, mae'n bwysig bod Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn chwarae rhan flaenllaw i groesawu'r rhai sy'n ceisio noddfa. 

Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi pa sgyrsiau yr ydych chi wedi eu cael gyda'ch cymheiriaid ar lefel y DU ynghylch cael gwared ar y rhwystrau i'r rhai sy'n ceisio noddfa? A gaf i ofyn i chi ba gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei roi ar waith ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd o Wcráin? Ac, yn olaf, Prif Weinidog, pa gymorth y gellir ei ddarparu i'r bobl o Wcráin sydd yng Nghymru sy'n gwylio'r sefyllfaoedd hyn yn datblygu ac yn ymdopi â'r trawma cysylltiedig? Diolch yn fawr.

Llywydd, diolch i Jack Sargeant am y cwestiynau ychwanegol yna. Rwyf wedi cael cyfres o gyfleoedd i siarad â Gweinidogion y DU a Phrif Weinidog yr Alban ac Ysgrifennydd Parhaol Gogledd Iwerddon. Cawsom gyfarfod ddiwethaf brynhawn Gwener yr wythnos diwethaf, a nos Sul, ac mae mwy o gyfarfodydd wedi eu trefnu ar gyfer yr wythnos hon. Mae angen i'r cyfarfodydd yr wythnos hon ganolbwyntio ar y rhan y gall y Deyrnas Unedig ei chwarae, ac y gall Cymru ei chwarae yn rhan o hynny, o ran cynnig noddfa i'r rhai sy'n ffoi o'r golygfeydd ofnadwy yr ydym ni'n eu gweld yn Wcráin. Gwelaf fod Prif Weinidog y DU wedi gwneud rhagor o gyhoeddiadau sydd i'w croesawu heddiw, ond mae mwy y gellir ac y dylid ei wneud, ac rwy'n falch bod sianelau cyfathrebu agored rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig i gydweithio ar yr agenda honno.

O ran yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, Llywydd, cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig yn fuan cyn i'r trafodion y prynhawn yma ddechrau. Mae'n nodi £4 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei neilltuo i gynorthwyo gyda'r argyfwng dyngarol yn Wcráin. Mae'n nodi'r camau yr ydym ni'n eu cymryd o fewn gwasanaeth iechyd Cymru i nodi cyflenwadau ac offer meddygol y gallem ni eu neilltuo yn rhan o'r ymdrech ryngwladol, ac mae'n nodi'r camau yr ydym ni eisiau eu cymryd gartref. Mae gennym ni gannoedd o bobl o Wcráin yn byw yng Nghymru sydd â ffrindiau a theulu ar y rheng flaen bellach, ac mae gwaith y gallwn ni ei wneud yma i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwybod bod ganddyn nhw, yng Nghymru, gefnogaeth ein cenedl gyfan wrth iddyn nhw wynebu'r dyddiau gofidus dros ben hynny o'n blaenau.

13:35

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am gyflwyno'r cwestiwn amserol hwn. Mae Rwsia Putin yn fwli, ac mae'n rhaid gwrthwynebu pob bwli. Mae sofraniaeth Wcráin wedi ei threisio ac mae sifiliaid diniwed yn cael eu lladd gan awch Putin am wrthdaro. Mae hwn yn gyfnod tywyll yn hanes Ewrop. Mae'n rhaid i ni i gyd weithio i ddiogelu rhyddid, democratiaeth a sofraniaeth Wcráin, ac rydym ni'n sefyll yn un gyda'r Arlywydd Zelenskyy, Verkhovna Rada a phobl Wcráin. Dros nifer o flynyddoedd, ers i heddwch ddychwelyd i'n cyfandir, roedd y gorllewin wedi dod yn gawr cwsg, cawr a fyddai'n deffro pan oedd yn cael ei herio yn ddirfodol. Mae'r ymateb yr ydym ni'n ei weld gan orllewin unedig, penderfynol a thosturiol wedi dangos bod y cawr cwsg hwn wedi deffro yn sgil yr ymosodiad ar Wcráin, ac rwy'n falch bod y Deyrnas Unedig wedi bod yn flaenllaw yn yr ymateb byd-eang yn yr argyfwng hwn.

Prif Weinidog, fel ŵyr i fewnfudiad ar ôl yr ail ryfel byd, pan wnaeth fy nhad-cu, carcharor rhyfel o'r Almaen, a fy mam-gu, nyrs o'r Almaen, sir Benfro yn gartref, rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd bendant arnom i gadw croeso ar y bryniau i'r bobl hynny o Wcráin sy'n cymryd lloches yma yng Nghymru tan y byddan nhw'n teimlo ei bod hi'n ddiogel iddyn nhw ddychwelyd i'w mamwlad. At hynny, a allwch chi amlinellu pa gymorth uniongyrchol yr ydych chi'n ei gynnig i elusennau a sefydliadau trydydd sector eraill yma yng Nghymru wrth iddyn nhw baratoi i gynnig y cymorth y mae mawr ei angen i'r rhai sydd wedi ffoi dinistr rhyfel Vladimir Putin ar wladwriaeth ddemocrataidd, sofran Wcráin? Diolch.

Llywydd, byddai fy rhagflaenydd, Carwyn Jones, yn dweud yn aml pan oedd yn Brif Weinidog nad oes yn rhaid i chi fynd yn ôl yn bell iawn yn hanesion unrhyw un ohonom ni yma yng Nghymru i ganfod ein bod ni wedi cyrraedd Cymru o ryw ran arall o'r byd, ac, yn yr ystyr hwnnw, mae ein cysylltiadau â'n gilydd a thrwy hynny, â phobl mewn mannau eraill yn y byd yn parhau ac yn gryf. Rwy'n diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am hynny.

Yfory, bydd fy nghyd-Weinidogion Jane Hutt a Rebecca Evans yn cyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a sefydliadau eraill yn y trydydd sector i wneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd, yn cynllunio gyda'n gilydd, yn cyfuno ein hadnoddau i wneud popeth o fewn ein gallu i fod yn y sefyllfa orau bosibl i gynnig cymorth a noddfa i'r bobl hynny a allai ddod i'r wlad hon, efallai dros dro fel y byddan nhw'n gobeithio, er mwyn ailsefydlu eu bywydau cyn iddyn nhw allu dychwelyd i'r famwlad y maen nhw wedi cael eu gorfodi i'w ffoi. Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain hynny, trwy ddod â phobl o gwmpas y bwrdd hwnnw at ei gilydd, ac yna byddwn yn gwneud beth bynnag a allwn i gynorthwyo'r ymdrechion y bydd eraill yn dymuno eu gwneud hefyd, oherwydd, fel yr oedd y cwestiwn yn ei awgrymu, rwy'n credu, bydd hon yn ymdrech sy'n cyrraedd ymhell y tu hwnt i'r Llywodraeth ac yn ddwfn i gymdeithas sifil yma yng Nghymru.

Diolch am gyflwyno'r cwestiwn brys hwn heddiw, a hoffwn i adleisio 'mae Putin yn droseddwr rhyfel'. Rydym ni'n cytuno ar hynny. Hoffwn i ddweud hefyd heddiw fod Plaid Cymru yn sefyll mewn undod llwyr â phobl Wcráin. Rydym yn condemnio yn ddiamod ymosodiad anghyfreithlon gwladwriaeth Rwsia ar Wcráin, ac rydym yn gwrthod haeriad Rwsia bod yr ymosodiad yn ymateb mewn unrhyw ffordd i bryfocio'r gorllewin. Rydym yn credu bod nodau rhyfel Rwsia yn ddim llai na dinistrio Wcráin yn llwyr fel cenedl sofran ac fel hunaniaeth genedlaethol benodol, ac, fel y cyfryw, mae'r ymosodiad yn gyfystyr ag ymgais ar hil-laddiad yn erbyn cenedl Wcráin. Mae'n ymosodiad nid yn unig ar annibyniaeth Wcráin a'i hawl i fodoli, ond ar hawl hunanbenderfyniad cenhedloedd ym mhob man, fel egwyddor ganolog mewn cyfraith ryngwladol. Ac er gwaethaf rhai camau gan Lywodraeth y DU heddiw, hoffem ni gofnodi unwaith eto ein bod ni'n annog Llywodraeth y DU i hepgor rheolau fisa ar gyfer yr holl ffoaduriaid o Wcráin—[Cymeradwyaeth.]rheol y dylid ei chymhwyso yn gyffredinol i eraill sy'n ffoi rhag rhyfel.

Y bore yma, gwelsom gonfoi enfawr o gerbydau milwrol Rwsia yn nesáu at Kyiv, ac o funud i funud rydym ni i gyd yn cael diweddariadau sy'n peri pryder o bob rhan o Wcráin. Roedd y brotest neithiwr y tu allan i'r Senedd yn arwydd eglur o'n hundod â phobl Wcráin. Ac er bod negeseuon o gefnogaeth yn bwysig, rydych chi yn llygad eich lle, Llywydd, mai dyma'r amser—

—i wneud y pethau mawr, nid y pethau bychain.

Cadarnhaodd Llywodraeth yr Alban yr wythnos hon y byddai'n darparu £4 miliwn gychwynnol o gymorth dyngarol i Wcráin, yn ogystal â chyflenwadau meddygol, yn rhan o'r ymdrech ddyngarol fyd-eang. Rydych chi wedi awgrymu hyn, ond hoffwn i ofyn am sicrwydd gennych chi, Prif Weinidog, o ran beth fydd ein hymateb yma yng Nghymru. A wnewch chi ymrwymo hefyd i ddarparu cymorth ariannol a chyflenwadau meddygol, fel mater o frys? Ac, yn dilyn cyfarfodydd yfory, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf frys honno, oherwydd bod angen pethau nawr? Rydym ni wedi gweld y cais hwnnw—nid yw'n fater o aros; mae angen y cymorth uniongyrchol hwnnw nawr. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cofnodi'r hyn y bydd yn ei wneud. A wnaiff Llywodraeth Cymru hefyd ymrwymo i wneud hynny heddiw?

13:40

Llywydd, rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, na fydd pob Aelod wedi cael cyfle i weld y datganiad y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn gynharach y prynhawn yma, ond mae'n cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo £4 miliwn at y dibenion dyngarol hynny, ac mae hefyd yn nodi'r camau yr ydym ni'n eu cymryd o fewn GIG Cymru. Erbyn hyn, mae gennym ni wybodaeth am y mathau o gyflenwadau meddygol sydd eu hangen fwyaf ar frys, ac rydym ni'n gallu cyfateb y rhestr honno â'r nwyddau y gallem ni eu cyflenwi.

A gaf i ddweud wrth yr Aelod o ran y pwynt a wnaeth am bobl sy'n ceisio noddfa fy mod i wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU ddoe? Nodais yn fy llythyr dri cham syml ac ymarferol yr wyf i'n credu y gallai ac y dylai Llywodraeth y DU eu cymryd ymhellach i gynorthwyo pobl yn Wcráin: gwneud yn siŵr bod llwybr syml, cyflym, diogel a chyfreithlon ar gyfer noddfa yn y Deyrnas Unedig; y dylid hepgor y gofyniad i bobl Wcráin ddarparu tystiolaeth fiometrig cyn gadael Wcráin—nid yw'n ymarferol mewn unrhyw ystyr i ddisgwyl i bobl gydymffurfio â gofynion a allai fod yn synhwyrol mewn cyfnod arferol, ond sy'n rhwystr i bobl mewn cyfnod cwbl anarferol rhag cael y cymorth y byddem ni'n dymuno iddyn nhw ei gael. A gofynnais i Brif Weinidog y DU hefyd ymestyn y dyddiad cau ar gyfer trwyddedau teulu cynllun anheddu'r Undeb Ewropeaidd—cynllun sydd i fod i ddod i ben ar 29 Mawrth. Rydym yn gwybod bod mwy na 12,000 o bobl o Wcráin eisoes wedi gwneud cais drwy'r llwybr hwnnw, a byddai mwy i ddilyn pe gellid ymestyn y dyddiad cau hwnnw. Llywydd, mae'r rhain, yn fy marn i, yn fesurau cwbl resymol ac ymarferol. Maen nhw'n caniatáu i'r Deyrnas Unedig gyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym ni yma yng Nghymru i fod yn genedl noddfa—noddfa sydd ei hangen ar hyn o bryd yn fwy nag ar unrhyw adeg yn ein hanes ein hunain ers y rhyfel.

Dros y penwythnos, ynghyd â Rebecca Evans, roeddwn i'n bresennol a siaradais mewn rali yn y Mwmbwls i gefnogi Wcráin. Roedd gan Abertawe boblogaeth fawr o Wcráin yn syth ar ôl yr ail ryfel byd, a hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf roedd clwb Wcrainaidd yn Nhreforys. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder, er gwaethaf torri rheolau dopio yn ddifrifol, y caniatawyd i athletwyr Rwsia gystadlu yng Ngemau Olympaidd yr haf a'r gaeaf fel Pwyllgor Olympaidd Rwsia? A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i fynnu nad yw Wimbledon yn caniatáu i unrhyw chwaraewyr tenis o Rwsia gystadlu, ac na ddylid caniatáu i unrhyw dîm o Rwsia, pa bynnag fathodyn sydd ganddo, gystadlu mewn unrhyw bencampwriaeth chwaraeon ryngwladol?

Llywydd, a gaf i ddweud pa mor falch oeddwn i o weld yr hyn yr oedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penderfynu ei wneud yn gynharach yr wythnos hon, heb sicrwydd gan FIFA wrth wneud hynny? Gweithred ddewr gan ffederasiwn bach, ond un a oedd yn cyd-fynd yn llwyr, yn fy marn i, â'r teimladau[Cymeradwyaeth.]—yn cyd-fynd yn llwyr â'r teimladau a fynegwyd gan Mike yn y fan yna. Rwy'n ei longyfarch ef a Rebecca Evans am fod yn rhan o'r digwyddiad hwnnw yn Abertawe. Roedd yn fraint cael bod yma ar risiau'r Senedd neithiwr gyda chyd-Aelodau eraill mewn gwylnos arall i nodi ein hymateb i'r digwyddiadau yn Wcráin.

Nid yw'r camau gweithredu wedi eu disbyddu eto, fel yr awgrymodd Mike Hedges. Mae camau pellach y gellir ac y dylid eu cymryd i'w gadarnhau ym meddyliau'r bobl hynny sy'n gyfrifol am y penderfyniadau hyn yn Rwsia. Mae'n bwysig iawn, Llywydd, onid yw, ein bod ni'n parhau i wahaniaethu rhwng gweithredoedd yr Arlywydd Putin a'r rhai sydd o'i amgylchynu a buddiannau pobl gyffredin sy'n byw yn Rwsia. Ond, mae'n rhaid i ni fod yn barod o hyd i gymryd camau i gadarnhau yn eu meddyliau bod canlyniadau yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd, ac mae canlyniadau ym maes chwaraeon yn aml yn gwneud eu ffordd i ymwybyddiaeth pobl lle nad yw'n ymddangos bod sancsiynau eraill yn cael effaith mor uniongyrchol. Felly, rwy'n cysylltu fy hun â'r hyn y mae Mike Hedges wedi ei ddweud yn ei gyfraniad y prynhawn yma.

13:45

Mae Rwsia'n wlad ragorol â phobl ragorol, sydd wedi ei harwain yn ddychrynllyd at weithredoedd trychinebus â chanlyniadau ofnadwy. Ond, yn dilyn thema llawer o'r cwestiynau, yn ychwanegol at gadarnhad Llywodraeth y DU ddoe fod hyd at 100,000 o ffoaduriaid o Wcráin eisoes yn gymwys i ddod i'r DU yn dilyn mesurau a gyhoeddwyd yn yr wythnosau diwethaf sy'n rhoi'r gallu i ddinasyddion Prydain ac unrhyw unigolion sydd wedi ymgartrefu yn y DU ddod ag aelodau agos eu teulu yn Wcráin draw, mae Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi o Wlad Pwyl y bore yma fod y DU yn ymestyn y cynllun teuluol ac y gallai gymryd 200,000 neu fwy o ffoaduriaid o Wcráin wrth i Lywodraeth y DU ymestyn ei chynllun i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag yr ymosodiad ar eu gwlad sofran, ddemocrataidd, Ewropeaidd gan y troseddwr rhyfel rhyngwladol Putin.

Yn y datganiad ysgrifenedig a gawsom, rwy'n credu yn union fel y gwnaethoch chi ddechrau siarad heddiw am y rhyfel yn Wcráin, rydych chi'n dweud eich bod chi'n cynnal trafodaethau brys gydag arweinwyr awdurdodau lleol i sicrhau bod paratoadau ar waith i dderbyn ffoaduriaid, ac yn amlwg rydych chi'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ddull ehangach, cydgysylltiedig gan bedair Llywodraeth y DU. Sut gwnewch chi sicrhau ein bod ni'n dysgu gwersi o gynllun ailsefydlu Syria, lle gofynnwyd i awdurdodau lleol wirfoddoli nifer y teuluoedd y gallen nhw eu derbyn, lle'r oedd rhai yn gyflym i ymateb a rhai yn hael yn eu hymatebion, ond roedd rhai yn araf ac yn llai hael, gan ddweud nad oedd ganddyn nhw'r adnoddau i helpu? Felly, yn ogystal â'r £4 miliwn yr ydych chi wedi ei gyhoeddi i helpu pobl Wcráin, sut byddwch chi'n cynorthwyo'r awdurdodau lleol i'w galluogi a'u hannog i gynnig gallu cyflymach i ddarparu cymorth nag a ddigwyddodd gyda rhaglen Syria?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. Rwy'n croesawu cyhoeddiad Prif Weinidog y DU yn gynharach heddiw, ond rwy'n credu bod mwy y gellid ac y dylid ei wneud, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfleoedd i archwilio hynny gyda Llywodraeth y DU a chydweithwyr eraill yr wythnos hon. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn barod iawn i gael y cyfarfod a fydd yn cael ei gynnal yfory. Rydym yn disgwyl i arweinwyr pob awdurdod lleol fod ar gael yn y cyfarfod hwnnw, ac rwy'n credu y bydd derbyniad parod ym mhob rhan o Gymru o'r angen i baratoi i wneud y mwyaf posibl y gallwn. Ac mae hynny yn cynnwys, fel y dywedodd Mark Isherwood, dysgu'r gwersi o brofiad Syria a'r profiad mwy diweddar yn Affganistan. Rwy'n credu bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi chwarae rhan hynod gadarnhaol ar adeg pan fo gofynion mawr ar eu hadnoddau eu hunain a'u gwasanaethau tai eu hunain. Ond, yn wyneb yr ymosodiad disymbyliad ar Wcráin, rwy'n credu y byddan nhw eisiau gwneud mwy. Byddwn ni eisiau eu cefnogi yn hynny a byddwn ni eisiau gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod y cymorth ariannol a chymorth arall a fydd yn angenrheidiol, os ydym ni'n mynd i ofyn i'n hawdurdodau lleol ymgymryd â'r cyfrifoldebau pellach hyn, fod y cyllid hwnnw yn llifo drwy'r system ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n goresgyn unrhyw bryderon a allai fod gan ddarparwyr rheng flaen y gwasanaethau hynny, fel y gallan nhw fwrw ymlaen â'r gwaith y maen nhw eisiau ei wneud heb deimlo bod yn rhaid iddyn nhw oedi cyn gwneud hynny rhag ofn nad oes ganddyn nhw'r cymorth y bydd ei angen arnyn nhw i wneud y gwaith rydym ni eisiau iddyn nhw ei wneud.

13:50

Bydd pobl ledled Cymru wedi dychryn o weld y trafferthion sy'n wynebu ffoaduriaid sy'n ffoi o Wcráin, ac, fel y dywedwyd, mae angen i lwybrau dyngarol fod ar agor nid yn unig i bobl â theulu agos yn y DU ond i bawb sy'n ffoi rhag rhyfel. Rwy'n falch o fod wedi clywed rhywfaint o'r gwaith yr ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru, gan ymgymryd â hwnnw gyda chydweithwyr ledled y DU, i wneud yn siŵr bod llwybrau diogel ar agor i bawb.

Ond, yn ychwanegol at hynny, Prif Weinidog, cafwyd rhai adroddiadau bod pobl nad ydyn nhw'n wyn yn Wcráin yn cael eu troi i ffwrdd ar y ffin yng Ngwlad Pwyl, a bu rhethreg sy'n peri pryder gan rai cwmnïau cyfryngol sy'n awgrymu y dylem ni helpu, gan fod pobl Wcráin, yn eu geiriau nhw, yn 'debyg i ni'. Mae angen noddfa ar bawb sy'n ffoi o Wcráin, beth bynnag fo'u hil ac o ble bynnag y maen nhw'n dod, ac mae'r un peth yn wir am ffoaduriaid sy'n ffoi rhag rhyfeloedd eraill yn Yemen, Syria ac mewn mannau eraill. A all Llywodraeth Cymru bwysleisio'r pwynt hwn os gwelwch yn dda mewn unrhyw drafodaethau brys yr ydych chi'n eu cynnal gyda'r Swyddfa Gartref?

Wrth gwrs, Llywydd. Bydd y rhai ohonom ni a oedd yn gallu bod yma neithiwr wedi clywed araith rymus iawn gan arweinydd Cyngres Undebau Llafur Cymru, Shavanah Taj, a wnaeth yn uniongyrchol y pwyntiau y mae Delyth Jewell wedi eu gwneud y prynhawn yma, bod gwahaniaethu rhwng un grŵp o ffoaduriaid ac un arall ar sail lliw eu croen, neu'r dreftadaeth y maen nhw'n digwydd deillio ohoni, yn gwbl groes i'r hyn yr ydym ni'n ei olygu wrth ddweud bod Cymru yn genedl noddfa. Rydym ni wedi bod yn falch iawn o groesawu pobl o Syria, yn falch iawn o groesawu teuluoedd o Afghanistan, a byddwn yn falch iawn o groesawu ffoaduriaid sydd angen dod i Gymru o Wcráin. Ond rydym yn gwneud hynny ar sail yr angen sydd ganddyn nhw, nid natur eu hethnigrwydd eu hunain.

Rwy'n ddiolchgar, Llywydd; rwy'n ddiolchgar i chi am ganiatáu'r cwestiwn hwn y prynhawn yma. Rwy'n credu y bydd llawer ohonom ni wedi gweld y lluniau a ddaeth allan o Wcráin neithiwr o feddygon a pharafeddygon yn ceisio achub bywyd merch chwech oed—merch a oedd yn byw ei bywyd bob dydd ac a lofruddiwyd gan fyddin Rwsia. Ni allwch chi gael ymosodiadau diwahaniaeth heb anafusion. Ni allwch chi dargedu ardaloedd sifiliaid a chartrefi pobl yn ddiwahaniaeth heb ladd pobl. Ac un o'r pethau mwyaf llethol rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ei weld fu effaith rhyfel ar bobl yn Wcráin, pobl sy'n gwbl ddiniwed, nad oes ganddyn nhw unrhyw ddadl â phobl Rwsia ac nad oes ganddyn nhw unrhyw ddadl â phobl mewn mannau eraill. Pobl, fel ni ein hunain, sy'n byw ein bywydau bob dydd ein hunain. Nid wyf i'n credu bod unrhyw un yn y Siambr hon nac mewn mannau eraill nad oedden nhw'n teimlo'r boen o wylio'r lluniau o'r ferch honno neithiwr, ac na roddodd eu hunain ym meddyliau a chalonnau ei theulu a'i rhieni wrth iddyn nhw wylio ei bywyd yn diflannu. Ni allwn sefyll o'r neilltu wrth i'r trais moesol hwn ddigwydd heb weithredu. Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei eiriau. Rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am rym y datganiad y maen nhw wedi ei wneud, a grym y ddadl y maen nhw wedi ei gwneud i amddiffyn pobl Wcráin, fel y gwnaethom ni ddiogelu pobl, a cheisio diogelu pobl, Affganistan a Syria yn y gorffennol.

Prif Weinidog, a allwch chi roi addewid i ni nawr y byddwch chi'n parhau i weithio gyda'r gweinyddiaethau eraill yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod y gallu gennym i ymateb i'r argyfwng dyngarol hwn, ein bod ni'n gallu estyn allan a rhoi ein breichiau o amgylch pobl Wcráin sydd angen y cymorth hwnnw gymaint heddiw, y byddwn ni'n arwain ac y byddwn ni'n parhau i wneud grym y ddadl foesol bod Putin yn cyflawni troseddau rhyfel? Ac rwy'n croesawu cam Lithwania y bore yma yn y Llys Troseddau Rhyngwladol i agor ymchwiliad i Vladmir Putin, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cefnogi hynny. Ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n rhoi ein holl wahaniaethau gwleidyddol o'r neilltu yma ac mewn mannau eraill ac yn rhoi buddiannau pobl Wcráin yn gyntaf ac yn sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd ledled y wlad gyfan hon a'r Siambr gyfan hon i sicrhau bod y wlad hon, bod Cymru, ar ei diwrnod cenedlaethol, yn ymestyn llaw cyfeillgarwch a chefnogaeth a chariad i Wcráin a'r bobl sy'n dioddef mor ofnadwy yno.

13:55

Llywydd, ni all unrhyw un yn y Siambr a welodd y lluniau torcalonnus hynny o'r plentyn hwnnw a mam y plentyn hwnnw fethu â bod wedi eu hysgwyd ganddyn nhw. Fel y dywedodd Alun Davies, y bobl gyffredin sy'n byw eu bywydau yw dioddefwyr cyntaf gwrthdaro o'r math hwn bob amser, ac efallai nad yw'n hawdd ei ddweud, ond rwy'n siŵr hefyd, rywle yn Rwsia, y bydd plentyn chwe blwydd oed heddiw na fydd byth yn gweld ei thad eto, oherwydd y camau y bydd y bobl hynny sy'n gyfrifol am y gwrthdaro hwn wedi eu cymryd. Felly, y bobl gyffredin sy'n cael eu gorfodi i reng flaen canlyniadau'r digwyddiadau hyn. A rhoddaf sicrwydd cryf i'r Aelod y bu cyfleoedd gwirioneddol dros y 10 diwrnod diwethaf i weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau mewn rhannau eraill yn y Deyrnas Unedig, bod y cyfarfodydd hynny wedi bod yn bwrpasol, eu bod nhw wedi canolbwyntio ar y camau cyffredin y gallwn ni eu cymryd er mwyn gwneud y mwyaf y gallwn i ymateb i'r argyfwng yr ydym ni'n ei weld yn datblygu, a bydd Llywodraeth Cymru yn sicr yn parhau i gymryd rhan yn y cyfarfodydd hynny yn yr ysbryd hwnnw.

Diolch, Llywydd, a diolch hefyd i Jack Sergeant am godi'r mater yma heddiw.

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn ymuno â'r holl bleidiau gwleidyddol i gondemnio'r rhyfel hwn a chondemnio Putin. Rydym ni i gyd wedi clywed y straeon gofidus am bobl sy'n aros yn Wcráin a'r rhai sy'n ffoi am eu bywydau. Rwy'n gobeithio y bydd y llif o gefnogaeth gan bobl ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig yn arwydd o newid i'r drafodaeth gyhoeddus ynghylch ffoaduriaid a mudo yn ehangach. Fel yr ydym wedi ei glywed, mae gennym ni ddyletswydd foesol, ochr yn ochr â'n cymdogion, i ddarparu noddfa i bawb sy'n ffoi rhag trais a gwrthdaro, ac mae'r dyddiau diwethaf hyn wedi dangos i ni ganlyniadau peryglus Bil Cenedligrwydd a Ffiniau'r Deyrnas Unedig. Rwy'n gobeithio, gyda gostyngeiddrwydd a myfyrio, y bydd y Bil hwn yn cael ei oedi. Rydym ni wedi clywed am y newid cymedrol heddiw gan Lywodraeth y DU, ond nid yw'n ddigon. Prif Weinidog, a gaf i ofyn am eich barn ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau ac a wnewch chi barhau i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch y pryderon a amlinellwyd yn y Siambr heddiw ac yn y gorffennol? Diolch yn fawr iawn.

Llywydd, ym mharagraff olaf fy llythyr at Brif Weinidog y DU ddoe, ar ôl trafod y meysydd niferus yr ydym ni'n dymuno cydweithio arnyn nhw, rwy'n symud ymlaen i ddweud bod yn rhaid i mi fanteisio ar gyfle'r llythyr eto i bwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Llywodraeth y DU ailystyried y cynigion yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, a fyddai, yn ein barn ni, yn creu system ddwy haen rhwng ceiswyr lloches sy'n dibynnu ar eu llwybr mynediad i'r Deyrnas Unedig. Mae Jane Dodds yn iawn, Llywydd. Mae cyd-destun ehangach y tu hwnt i'r digwyddiadau trasig yn Wcráin ei hun, ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'r adeg pan fyddwn ni'n dysgu'r gwersi hynny ac yn eu rhoi ar waith mewn Bil yr ydym ni yn y Siambr hon wedi dweud ar bob cyfle na allem ni ei gefnogi oherwydd y ffordd y bydd yn gwaethygu'r anawsterau yr ydym ni'n eu gweld ledled y byd, yn hytrach na helpu i'w datrys.

A'r sylwadau olaf ar Wcráin ar yr eitem yma wrth ein cyfaill ni oll, Mick Antoniw. [Cymeradwyaeth.]

Diolch, Llywydd, a diolch am y cyfle rhyfeddol hwn i ddweud ychydig o eiriau. Mae'r geiriau cyntaf a dweud y gwir i gydnabod y myfyrwyr a'r bobl ifanc dewr hynny yn Rwsia sydd wedi bod yn protestio ar draws Ffederasiwn Rwsia gyfan, oherwydd nhw yw gwir ddyfodol Ffederasiwn Rwsia, yn hytrach na'r rhai o amgylch Putin.

A gaf i ddiolch yn bersonol i holl bobl Cymru am eu negeseuon o gefnogaeth, eu hundod a'u haelioni dros yr wythnos ddiwethaf, i mi ac yn arbennig i'r gymuned Wcrainaidd yng Nghymru? Rwyf i wedi cyfleu'r rhain i bobl yn Wcráin sy'n ymladd ar hyn o bryd dros eu rhyddid a'u democratiaeth, y gwnes i gyfarfod â llawer ohonyn nhw tra'r oeddwn i yn Kyiv yr wythnos diwethaf gyda fy nghyd-Aelod Adam Price.

Rydym ni i gyd wedi gwylio ag arswyd yr ymosodiadau taflegrau a bomiau ar sifiliaid ac adeiladau preswyl a'r cynnydd yn y defnydd o rocedi daear, bomiau thermo a bomiau clwstwr. Ni all fod unrhyw amheuaeth nad yw Putin a'r rhai yn Llywodraeth Rwsia yn euog o droseddau yn erbyn dyngarwch a throseddau rhyfel. Rwy'n falch bod y Llys Troseddau Rhyngwladol bellach wedi dechrau ymchwiliad i'r troseddau hyn, ac rwy'n llwyr gefnogi'r camau sy'n cael eu cymryd bellach. Yn natganiad yr erlynydd Karim A.A. Khan CF ar y sefyllfa yn Wcráin, meddai,

'Rwyf i wedi penderfynu bwrw ymlaen ag agor ymchwiliad.

'Ddydd Gwener diwethaf, mynegais fy mhryder cynyddol, gan adleisio rhai arweinwyr y byd a dinasyddion y byd hefyd, ynghylch y digwyddiadau sy'n datblygu yn Wcráin.

'Heddiw, hoffwn i gyhoeddi fy mod i wedi penderfynu bwrw ymlaen ag agor ymchwiliad i'r Sefyllfa yn Wcráin, cyn gynted â phosibl...

'Rwyf i wedi adolygu casgliadau'r Swyddfa sy'n deillio o'r archwiliad rhagarweiniol o'r Sefyllfa yn Wcráin, ac wedi cadarnhau bod sail resymol dros fwrw ymlaen ag agor ymchwiliad. Yn benodol, rwy'n fodlon bod sail resymol dros gredu bod y troseddau rhyfel a throseddau yn erbyn y dyngarwch honedig wedi eu cyflawni yn Wcráin'.

Llywydd, ceir sawl llinell yn anthem genedlaethol Wcráin a ganwyd ar y grisiau yma neithiwr. Y llinell gyntaf yw

'Ще не вмерла України'. 

Efallai ei fod agosaf i 'Yma o hyd'—nid yw Wcráin wedi marw. 

Y llinell arall yw:

'Душу й тіло ми положим за нашу свободу',

y byddwn yn aberthu ein corff a'n henaid am ein rhyddid.

Llywydd, mae'r rhyfel yn Wcráin wedi troi'n rhyfel yn erbyn pobl Wcráin, ac mae ein holl feddyliau gyda'r bobl hynny sydd wedi codi arfau i amddiffyn democratiaeth ac i ymladd dros ryddid, gan gynnwys aelodau o fy nheulu fy hun.

Слава Україні! Героям слава!

Diolch. [Cymeradwyaeth.]

14:00

Diolch i bawb am y cyfraniadau gwerthfawr yna o undod gyda phobl, Llywodraeth a Senedd Wcráin. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sarah Murphy.

Stigma Iechyd Meddwl

1. Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â hwy i roi terfyn ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OQ57728

Mae Amser i Newid Cymru wedi bod yn fenter fawr, barhaus, sy'n mynd i'r afael â'r stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru yn eu hwynebu. Ar 23 Chwefror, fe wnaethom gyhoeddi cyllid i gynnal y rhaglen dros y tair blynedd nesaf.

Diolch. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth gweithio gyda sefydliadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gyd-lunio ein prosiect llwybr iechyd meddwl Pen-y-bont ar Ogwr sydd ar y gweill—un pwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau sydd â'r nod o wella hygyrchedd a gwella cydweithio rhwng grwpiau cymorth ar draws fy etholaeth i. Hoffwn i ddiolch i chi, Prif Weinidog, oherwydd fy mod i wrth fy modd o glywed hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ymestyn y rhaglen Amser i Newid. Felly, o Lads and Dads i Mental Health Matters, Men's Sheds a Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, mae'n ymwneud â'r bobl hynny ar lawr gwlad sy'n gwneud gwahaniaeth, sy'n gwella ac yn achub bywydau. Mae'r rhaglen Amser i Newid yn enghraifft o sut y mae'r Llywodraeth hon yn blaenoriaethu iechyd meddwl, ond hoffwn i bwysleisio pwysigrwydd cydnabod bod cyflyrau iechyd meddwl yn amrywio yn ehangach na'r hyn a gyflwynir yn aml. O iselder ôl-enedigol i anhwylder gorfodaeth obsesiynol, anhwylderau bwyta, sgitsoffrenia ac anhwylder personoliaeth ffiniol, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n gweithio i dynnu'r stigma oddi wrth bob agwedd ar iechyd meddwl a'i fod yn cael ei ategu gan y cyllid i wella bywydau'r rhai sy'n dioddef o gyflyrau penodol. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y dylai'r holl gyflyrau iechyd meddwl gael eu cydnabod a'u cynrychioli, ac y bydd mwy yn cael ei wneud i roi diagnosis, i drin ac i wella bywydau'r rhai sy'n dioddef o bob cyflwr iechyd meddwl ledled Cymru?

14:05

Wel, Llywydd, diolch i Sarah Murphy am hynna, ac rwy'n llongyfarch pob un o'i hetholwyr sy'n rhan o'r fenter honno ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd y trydydd sector a gweithgarwch gwirfoddol ym maes iechyd meddwl, wedi'i gefnogi, wrth gwrs, gan fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Rhan iechyd meddwl y gyllideb iechyd yw'r maes gwariant uchaf o hyd yn GIG Cymru—£760 miliwn eleni—ac mae buddsoddiad ychwanegol yn y gyllideb ddrafft, i'w gadarnhau pan fydd fy nghyd-Weinidog yn ei gadarnhau yn ddiweddarach y prynhawn yma yn y gyllideb derfynol, y gyllideb ddrafft sy'n dangos buddsoddiad ychwanegol o £50 miliwn mewn iechyd meddwl y flwyddyn nesaf, gan godi i £90 miliwn yn nhrydedd flwyddyn y gyllideb. Mae hynny yn caniatáu i ni wneud yr hyn a ddywedodd Sarah Murphy, Llywydd, sef buddsoddi yn yr amrywiaeth ehangach honno o wasanaethau iechyd meddwl.

Pe gallwn i gyfeirio, efallai, at y pwynt cyntaf oll y soniodd amdano, sef yr anawsterau iechyd meddwl a wynebir, weithiau, gan fenywod ar ôl rhoi genedigaeth. Ers 2015, rydym ni wedi buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol ledled Cymru, fel bod y gwasanaethau arbenigol hynny ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru erbyn hyn, ac mae £3 miliwn yn mynd at eu darparu. Ac ym mis Ebrill y llynedd, ar y ffin ag etholaeth yr Aelod ei hun, fe wnaethom ni lwyddo i agor uned mam a baban yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol sylweddol i bobl sydd â'r anawsterau mwyaf arwyddocaol o'r math hwnnw.

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Sarah Murphy am gyflwyno'r cwestiwn hwn a chysylltu fy hun â nifer o'r sefydliadau yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw, Sarah? Rwy'n ymwybodol o nifer ohonyn nhw. Ac a gaf i ychwanegu Samariaid Pen-y-bont ar Ogwr at y rhestr honno hefyd, yr wyf i'n gwybod sy'n gwneud gwaith rhagorol ym Mhen-y-bont ar Ogwr hefyd?

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, ac rwy'n croesawu rhai o ddatganiadau'r Prif Weinidog yn y fan yna ynghylch rhoi terfyn ar y stigma pan fydd gan bobl broblem iechyd meddwl, ac mae hynny'n amlwg yn hollbwysig, ac yn un o'r ffyrdd yr wyf i'n credu y gallai pobl deimlo yn fwy cyfforddus i ddod ymlaen a gofyn am gymorth yw gwybod bod cefnogaeth yno pan fydd ei angen, ac mae hynny yn arbennig o wir i'n pobl ifanc. Yn anffodus, ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, sy'n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, mae'n siomedig gweld bod yn rhaid i 63 y cant o atgyfeiriadau i'r gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed yn y bwrdd iechyd aros dros bedair wythnos dim ond am apwyntiad cyntaf. Wrth i ni ddechrau, gobeithio, roi effeithiau gwaethaf y pandemig y tu ôl i ni, mae'n bwysig cofio mai ein pobl ifanc, byddwn i'n dadlau, sydd efallai wedi dioddef fwyaf ac wedi gwneud yr aberth mwyaf dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, mae'n hanfodol, pan fydd pobl ifanc yn cydnabod bod ganddyn nhw broblem, fod cymorth brys ar gael iddyn nhw yn eu cyfnod o angen. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau rhestrau aros CAMHS ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rwy'n cytuno ag ef am bwysigrwydd y gwaith y mae'r Samariaid yn ei wneud ym mhob rhan o Gymru—y Samariaid yn ein prifddinas, wedi eu lleoli yn fy etholaeth i—ac am wasanaeth rhyfeddol sy'n cael ei gynnal bron yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr sy'n cael ei ddarparu i bobl, weithiau yn yr amgylchiadau mwyaf enbyd. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd bod pobl yn teimlo bod cefnogaeth iddyn nhw os oes yn rhaid iddyn nhw ddatgan her iechyd meddwl, a dyna pam mae'n dda adrodd bod un o bob pedwar o bobl yn holl weithlu Cymru bellach yn cael eu cyflogi gan gyflogwr Amser i Newid. Felly, mae hynny'n golygu bod y cyflogwr wedi ymrwymo ei hun i'r camau y gall eu cymryd i wneud yn siŵr, os bydd pobl yn wynebu anhawster o'r math hwnnw, nad yw stigma yn eu hatal rhag dod ymlaen i ofyn am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

O ran pobl ifanc, er i'r lleiafrif bach hwnnw o bobl ifanc sy'n dioddef o her iechyd meddwl mor sylweddol bod angen gwasanaeth haen 4 neu haen 3 arnyn nhw o'r math y mae CAMHS yn ei ddarparu, i'r rhan fwyaf o bobl ifanc y mae angen cymorth arnyn nhw wrth dyfu i fyny drwy'r glasoed, y gwasanaethau eraill hynny—y gwasanaethau mynediad uniongyrchol hynny, a ddarperir gan sefydliadau trydydd sector, a ddarperir gan wasanaethau cwnsela mewn ysgolion, a ddarperir weithiau gan wasanaethau ar-lein y gall pobl ifanc eu defnyddio eu hunain—sydd â'r posibilrwydd mwyaf o ymyrryd yn gynnar mewn problem y gallai rhywun fod yn ei chael, nad oes iddyn nhw stigma gwasanaethau iechyd meddwl ffurfiol yn gysylltiedig â nhw, a dyna le, yn ogystal â chryfhau'r gwasanaethau arbenigol iawn hynny, y mae'r buddsoddiad mwy gan Lywodraeth Cymru wedi ei ganolbwyntio yn ystod cyfnod yr argyfwng coronafeirws.

14:10

Diolch i Sarah Murphy am gyflwyno'r cwestiwn.

Hoffwn innau hefyd gysylltu fy hun â rhai o'r geiriau a ddywedodd Sarah am sut y gall iechyd meddwl ddangos ei hun mewn sawl ffordd wahanol. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r digwyddiad a gynhaliwyd cyn y toriad gen i a Huw Irranca-Davies ar gyfer Siediau Dynion Cymru, yn tynnu sylw at y gwaith hanfodol y mae siediau dynion yn ei wneud ledled Cymru ym mhob un o'n cymunedau. Rwy'n gwybod ei fod yn destun balchder i lawer yn fy nghymuned i mai Nyth y Wiwer yn Nhon-du oedd un o'r siediau dynion cyntaf yng Nghymru. Sylweddolais i a Huw yn gyflym iawn o'n sgyrsiau fod anhawster ariannol o flaen siediau dynion bellach, yn enwedig wrth ystyried nifer yr atgyfeiriadau sy'n cynyddu, nid yn unig gan unigolion sy'n cysylltu ar eu liwt eu hunain, ond hefyd yn cael eu hannog i gysylltu gan feddygon teulu. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw cael sefydliadau fel siediau dynion yn ein cymuned, ac rydym ni wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl i fynegi ein pryderon cyffredin. Ond byddai gen i ddiddordeb clywed gan y Prif Weinidog pa sicrwydd y gall ei roi i sefydliadau fel Siediau Dynion Cymru o ran cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, a sut y gallen nhw gael gafael ar yr arian ychwanegol y mae'n sôn amdano.

Llywydd, mae'r mudiad siediau dynion yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan dyfu weithiau o unigolion lleol a brwdfrydig iawn i'r hyn sydd bellach yn fudiad sydd i'w gael mewn cynifer o rannau o Gymru, ac mae'n fudiad pwysig iawn. Rydym yn gwybod bod dynion yn arbennig o agored i hunanladdiad ar wahanol adegau yn eu bywydau, ac mae siediau dynion yn cynnig cyfle i bobl ddod at ei gilydd a chael y cymorth cydfuddiannol hwnnw sy'n cael effaith ataliol.

Rwy'n falch bod yr Aelod wedi ysgrifennu at fy nghyd-Weinidog Lynne Neagle. Bydd yn ymwybodol o fudiad y siediau dynion, wrth gwrs, ei hun, a lle gall Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth, fel rheol drwy grantiau yr ydym yn eu darparu i sefydliadau eraill sydd wedyn yn gwneud y penderfyniadau dyrannu hynny, rwy'n gwybod y bydd yn awyddus iawn i wneud hynny.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun datblygu lleol newydd Caerdydd? OQ57696

Llywydd, mater i gyngor dinas Caerdydd yw hwn. Mae’r cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldeb i lunio cynllun datblygu lleol cyfredol gyda’r fframwaith a amlinellir gan Lywodraeth Cymru.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. 0.6 y cant y flwyddyn oedd rhagfynegiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer twf poblogaeth Caerdydd, fodd bynnag, mae'r tri opsiwn a roddwyd gan Gyngor Caerdydd yn y cynllun datblygu lleol newydd yn llawer uwch na hynny. Yr opsiwn cyntaf yw 19,000 o gartrefi ychwanegol ar 0.8 y cant y flwyddyn, 24,000 gyda thwf rhagamcanol o 1 y cant yw'r ail, a 30,500 gydag 1.3 y cant o dwf y flwyddyn yw'r trydydd—mwy na dwywaith amcanestyniad Llywodraeth Cymru a bron i 20 y cant o'r cartrefi presennol yng Nghaerdydd. Hefyd, y bwriad yw adeiladu ar safleoedd tir glas pellach yng Nghaerdydd.

Rwy'n gwybod ei bod yn rhan sylfaenol o'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i ddiogelu mannau gwyrdd, i ddiogelu bioamrywiaeth, ac i blannu mwy o goed. A yw'r Prif Weinidog yn gwybod pam mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio rhagfynegiadau uwch na Llywodraeth Cymru, ac a wnaiff annog y cyngor i ddiwygio ei ragfynegiadau i'n galluogi ni i ddiogelu mwy o'n hamgylchedd a bioamrywiaeth? Diolch yn fawr.

Llywydd, wel, mae'n un o ofynion 'Polisi Cynllunio Cymru' bod yn rhaid i awdurdod lleol, wrth lunio cynlluniau, ystyried amcanestyniadau tai diweddaraf Llywodraeth Cymru ar lefel awdurdod lleol, ac fel y mae Rhys ab Owen wedi ei ddweud, mae'r amcanestyniadau diweddaraf yn is na phan luniwyd cynllun datblygu lleol gwreiddiol Caerdydd. Ond yn ogystal â'r amcanestyniadau hynny, mae gan awdurdod lleol hawl i ystyried pethau eraill. Yn sicr, yn achos Caerdydd, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried y ffaith bod 7,700 o ymgeiswyr ar ei restr aros bresennol, heb sôn am unrhyw dwf yn y boblogaeth yn y dyfodol. Byddan nhw'n ystyried y ffaith bod Caerdydd wedi ei neilltuo fel ardal dwf genedlaethol yn fframwaith datblygu cenedlaethol Cymru. Rwy'n credu bod y cyngor ar gamau cynnar y fersiwn ddiweddaraf hon o'i gynllun datblygu. Bydd llawer o gyfleoedd i ddinasyddion Caerdydd leisio eu barn a gwneud y pwyntiau y bydden nhw'n dymuno eu gwneud i'r awdurdod lleol wrth iddo fynd drwy wahanol gamau'r cynllun hwnnw, gan gynnwys a hyd at archwiliad yr arolygydd annibynnol o'r cynllun, a ddisgwylir yn 2024.

Wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Rhys ab Owen am bwysigrwydd mannau gwyrdd yn y ddinas. Roedd yn dda iawn gweld, ym mis Hydref y llynedd, fod mynegai awdurdodol Prifysgol Southampton wedi enwi Caerdydd fel y ddinas wyrddaf ond dwy yn y Deyrnas Unedig gyfan, ac ym mis Tachwedd y llynedd, fod y ddinas wedi sicrhau statws dinas hyrwyddo o dan gynllun clodfawr Canopi Gwyrdd y Frenhines, y cynllun y bwriadwyd iddo nodi'r garreg filltir ddiweddaraf yn nheyrnasiad y sofran. Mae hynny oherwydd prosiect y cyngor i gynyddu'r ddarpariaeth canopi coed ar gyfer Caerdydd o 19 y cant i 25 y cant. Ochr yn ochr â hynny, fel y nodwyd hefyd yn y cytundeb cydweithredu rhwng fy mhlaid i a Phlaid Cymru, bydd y cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i wneud yn siŵr bod tai addas a fforddiadwy i'w holl ddinasyddion.

14:15
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, wrth i ni ddathlu ein diwrnod cenedlaethol yma yng Nghymru—ac mae'n wych gweld blodyn cenedlaethol Wcráin yn eistedd ochr yn ochr â blodyn Cymru, y genhinen Pedr—mae'n werth myfyrio, ar ochr arall cyfandir Ewrop, fod unben gwallgof yn ceisio dileu cenedl sofran arall drwy weithredoedd creulon yr ydym ni i gyd wedi bod yn dyst iddyn nhw dros y pump, chwe diwrnod diwethaf, ac yn parhau i fod yn dyst iddyn nhw ddydd ar ôl dydd bellach, ar ein newyddion. Yn wir, gyda thristwch, dolur ac anghrediniaeth y mae llawer ohonom yn edrych ar y gweithredoedd hyn sy'n datblygu, fel y dywedais, o ddydd i ddydd, o awr i awr, o funud i funud. Mae'n rhaid i mi ddweud, un o'r delweddau a fydd yn aros gyda mi am weddill fy oes fydd y ddelwedd a welais y bore yma o blentyn ifanc mewn coflaid gyda'i fam, yn dioddef o driniaeth canser, triniaeth cemotherapi; roedd yr ofn pur a'r arswyd llwyr ar wyneb yr un bach hwnnw yn anghredadwy ac yn amhosibl ei ddychmygu.

Prif Weinidog, ar y meinciau hyn, rydym ni eisiau gweld croeso mor gynnes â phosibl yn cael ei gynnig gan Gymru i ffoaduriaid sy'n dod o Wcráin, oherwydd eu bod nhw'n haeddu'r diogelwch hwnnw ac maen nhw'n haeddu'r noddfa honno. A ydych chi, fel Llywodraeth Cymru, wedi gallu mesur faint o gymorth a chefnogaeth y gallwn ni ei gynnig i'r ffoaduriaid sy'n dod o Wcráin? Mae'r rhagfynegiadau yn dangos y gallai arwain at ddadleoli rhwng 4 miliwn a 5 miliwn o bobl sy'n dod o Ukrain. Mae hynny'n rhywbeth nad ydym ni wedi ei weld ar gyfandir Ewrop ers yr ail ryfel byd. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni wedi meddwl na fyddem ni byth yn gweld delweddau o'r fath eto, ond rydym ni'n gweld y delweddau hynny nawr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni ddeall, er ein bod ni i gyd yn dymuno croesawu a helpu'r ffoaduriaid, yn union faint o gymorth y gallwn ni, fel gwlad, fel rhan o'r Deyrnas Unedig, ei gynnig i'r ffoaduriaid hynny yma yng Nghymru.

Diolch i arweinydd yr wrthblaid am yr hyn a ddywedodd am gefnogaeth ei blaid i'r ymdrechion a fydd yn cael eu gwneud i groesawu ffoaduriaid yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod ei fod yn golygu hynny yn ddiffuant iawn yn bersonol ac ar ran ei blaid. Rwy'n ei groesawu. Rwy'n credu bod ei gwestiwn yn un anodd iawn ei ateb ar hyn o bryd. Fel y mae'n ei ddweud, mae dadleoli'r boblogaeth o Wcráin yn cael ei deimlo'n fwyaf uniongyrchol ar hyn o bryd yn y gwledydd hynny sydd â ffin uniongyrchol ag Wcráin, ac mae'n anodd iawn gwybod ar hyn o bryd faint o'r bobl hynny a fydd yn dymuno symud y tu hwnt i'r gwledydd hynny a faint a fydd yn dymuno aros mor agos ag y gallan nhw i'r mannau y maen nhw'n hanu ohonyn nhw gan obeithio y byddan nhw'n gallu dychwelyd i'w cartrefi eu hunain cyn gynted ag y gallan nhw.

Gallaf roi'r un sicrwydd iddo ag a gynigiais yn gynharach, Llywydd. Rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, wedi cael cyfleoedd rheolaidd yn ystod y 10 diwrnod diwethaf i gael sgyrsiau uniongyrchol â Llywodraeth y DU a Llywodraethau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Rwyf i fy hun, ar liwt Llywodraeth y DU, wedi cael sesiwn friffio gan y cynghorydd diogelwch cenedlaethol i wneud yn siŵr bod gennym ni'r wybodaeth orau bosibl sydd ar gael i ni ar gyfer ein cynllunio. Wrth i'r sefyllfa ddod yn fwy eglur—a gallai ddod yn fwy eglur mewn ffordd sy'n dweud wrthym ni y bydd pethau hyd yn oed yn waeth nag yr ydym ni'n ei ofni ar hyn o bryd, yn hytrach na gobeithio, fel y mae'n rhaid i ni ei wneud, y bydd pethau yn well—byddwn yn gweithio mor agos ag y gallwn ni, ac mewn modd mor gydweithredol ag y gallwn ni, gyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr bod Cymru yn chwarae'r rhan lawnaf y gallwn ni yn yr hyn y mae'n rhaid iddi fod yn ymdrech genedlaethol ar draws y Deyrnas Unedig, ond yn ymdrech ryngwladol hefyd, gyda'r cenhedloedd eraill hynny yn NATO, yn yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt. Oherwydd dim ond drwy'r ymdrech gyfunol honno y bydd y byd yn gallu gwneud yr ateb i'r Arlywydd Putin, felly nad oes unrhyw amheuaeth ganddo am ganlyniadau'r camau y mae wedi eu cychwyn, ond hefyd ymdrin â'r canlyniadau dyngarol y mae'n rhaid i bob un ohonom ni chwarae rhan mewn mynd i'r afael a nhw. 

14:20

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rydym ni wedi cael llawer o enghreifftiau o ffoaduriaid yn ymgartrefu yng Nghymru a'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi ar waith, a Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus yn gyffredinol, yn ogystal ag unigolion preifat. Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol i chi, mae maint yr hyn yr ydym ni'n edrych arno heddiw o Wcráin yn rhywbeth na fu'n rhaid i ni ymdrin ag ef a'i ddioddef ers yr ail ryfel byd. A ydych chi'n rhagweld—ac rwy'n sylweddoli yn eich ymatebion cynharach eich bod chi wedi cyfeirio at gyfarfodydd sy'n cael eu cynnal gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog cyllid yfory gyda phartneriaid yn y gwaith hwn—y bydd yn rhaid i fodel newydd ddod i'r amlwg gan Lywodraeth Cymru ac, yn wir, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, i fynd i'r afael â maint yr hyn yr ydym ni'n ei wynebu, fel y gellir cefnogi pobl yn wirioneddol yn eu hawydd naill ai i ymgartrefu yng Nghymru neu weddill y Deyrnas Unedig, neu, yn wir, ei defnyddio fel hafan dros dro tra bod pethau, gobeithio, yn sefydlogi yn ôl yn Wcráin ac y gall Wcráin fod yn genedl sofran falch honno yr ydym ni ar draws y Siambr hon yn dymuno ei gweld ar gyfandir Ewrop?

Yn bersonol, Llywydd, rwy'n credu y bydd angen system wahanol arnom ni. Roeddem ni'n falch iawn o groesawu teuluoedd o Affganistan i Gymru, ac fel y bydd yr Aelodau yma yn gwybod, roedd llawer ohonyn nhw yn byw ar draws y ffordd, yn llythrennol, o'r Senedd yn adeilad yr Urdd pan ddaethon nhw yma am y tro cyntaf. Mae wedi bod yn un o'r pleserau mawr i mi yn ddiweddar, o'r swyddfa yr wyf i'n gweithio ynddi yma, y tu allan i fy ffenestr, weld a chlywed plant o Affganistan yn chwarae yn ddiogel ar y strydoedd yma yng Nghaerdydd. Rydych chi'n meddwl am yr hyn y mae'r plant hynny wedi ei weld a'i ddioddef, a dyma nhw yn yr awyr iach yn chwarae gemau plant, yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd o fewn ychydig wythnosau o gyrraedd yma. Roedd yn codi calon ei weld a'i glywed. Ond rydym ni'n gwybod nad yw'r gwaith o neilltuo'r teuluoedd hynny i'w hailsefydlu'n barhaol wedi bod mor gyflym nac mor llwyddiannus ag yr oedd y Swyddfa Gartref wedi ei fwriadu yn wreiddiol. Felly, mae gwersi i'w dysgu, fel y gofynnwyd i mi, rwy'n credu, gan Mark Isherwood, ac un o'r gwersi hynny yw fy mod i'n credu y bydd angen system wahanol arnom ni os ydym ni am ymdopi â gwahanol fath o angen ffoaduriaid, a bydd hynny yn cynnwys Llywodraeth y DU, wrth gwrs, ond yn gweithio gyda'r Llywodraeth yma yng Nghymru a thrwom ni gyda'n hawdurdodau lleol.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. O ystyried y sefyllfa ansicr o ran heddwch yn nwyrain Ewrop heddiw, nid oes gennym ni unrhyw syniad beth fydd y gwallgofddyn yn y Kremlin yn ei wneud nesaf. Gallai ddewis ymosod ar wledydd y Baltig—aelodau NATO, dylwn i ychwanegu. A allech chi gadarnhau felly y byddech chi'n cefnogi penderfyniad Llywodraeth y DU i gadw at ei rhwymedigaethau NATO pe bai erthygl 4 yn cael ei sbarduno, fel y dywedodd Ysgrifennydd Tramor Prydain? Ac a allech chi gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i NATO, fel y gwnaethoch ei nodi'n gynharach wrth gyfeirio at NATO, yn yr oes beryglus iawn hon yr ydym ni'n byw ynddi?

14:25

Mae'n bosibilrwydd brawychus y mae'r Aelod yn ei amlinellu, ond mae'n iawn i wneud hynny, oherwydd, er na fyddai modd ei ddychmygu ychydig wythnosau yn ôl, mae'n rhaid i ni feddwl am yr hyn a fyddai'n digwydd pe bai ymosodiad ar wladwriaeth NATO yn y ffordd yr ymosodwyd ar Wcráin. Rydym ni'n sôn yma am wledydd yr un maint â Chymru—am Estonia a Lithwania, gwledydd sydd bellach â gwarchodaeth NATO o'u hamgylch ond sydd wedi eu lleoli ar y rheng flaen gyda Rwsia. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i ymbarél NATO sy'n ein hamddiffyn ni i gyd. Bydd pob un person yn yr ystafell hon yn gobeithio yn erbyn gobaith nad oes angen i ni alw ar hynny byth. Rydym ni wedi gweld yr hyn y mae'r Arlywydd Putin wedi ei ddweud yr wythnos hon am yr arfau niwclear sydd ganddo wrth law. Nid wyf i'n credu y byddai unrhyw un ohonom ni yn fodlon ystyried yn hawdd beth allai ddigwydd pe bai angen galw ar yr amddiffyniad NATO hwnnw mewn gwirionedd. Ond, yr ateb uniongyrchol i gwestiwn yr Aelod yw bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i'r amddiffyniadau y mae aelodaeth o NATO yn eu darparu i ni.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar hyn o bryd, mae llong sy'n cludo olew o Rwsia wedi ei docio yn Aberdaugleddau; cyrhaeddodd yno ddydd Sadwrn ac mae'r olew ar ei ffordd i burfa olew Valero. Mae disgwyl i ail long, sydd hefyd yn cludo olew o Rwsia o borthladd llwytho olew Primorsk yn Rwsia, gyrraedd Aberdaugleddau ddydd Gwener. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sancsiynau ar waith i atal llongau â baner Rwsia, sydd wedi eu cofrestru yno, sydd mewn perchnogaeth yno neu'n cael eu rheoli gan y wlad rhag docio yn y DU, ond yn yr achos hwn, yn y bôn maen nhw'n osgoi hynny drwy ddefnyddio gwlad baner cyfleustra, yn yr achos hwn Ynysoedd Marshall. A ydych chi'n cytuno â mi fod angen cau'r bylchau hynny sy'n amlwg yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar frys ac na ddylid dadlwytho diferyn o olew Rwsia i Gymru, drwy borthladd yng Nghymru, tra bod gwaed pobl ddiniwed yn cael ei dywallt yn Wcráin?  

Rwy'n cytuno yn llwyr â'r pwynt olaf y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei wneud, Llywydd. Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i atal llongau sy'n defnyddio baner Rwsia rhag defnyddio porthladdoedd y DU, a gwnaeth hynny gan fod llong ar fin cyrraedd yr Alban o dan yr amgylchiadau hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n anochel, Llywydd, mewn sefyllfa sy'n newid mor gyflym, pan fydd Llywodraethau yn cymryd un cam, y bydd ymdrechion yn cael eu gwneud i geisio ei osgoi a mynd o'i gwmpas. Pan nodir y bylchau hynny, bydd angen i Lywodraeth y DU weithredu eto i wneud yn siŵr bod bwriad eu polisi, sef atal olew o Rwsia rhag cael ei ddadlwytho ym mhorthladdoedd y DU, yn amlwg, yn effeithiol, a phan fydd bylchau neu ffyrdd o amgylch y rheolau yn cael eu canfod—ac mae'n anochel y bydd eraill yn chwilio amdanyn nhw—fod Llywodraeth y DU yn cael yr wybodaeth honno mor gyflym â phosibl ac yna'n gallu gweithredu ar ei sail yr un mor gyflym.

Yn ystod ymweliad Mick Antoniw a minnau ag Wcráin, cawsom gyfle i gyfarfod ag amrywiaeth eang iawn o bobl—do, Gweinidogion y Llywodraeth, ond, yn bwysicach na hynny, dinasyddion cyffredin Wcráin, undebwyr llafur, trefnwyr hawliau dynol, pobl yn y mudiad menywod a phobl yn y gymuned LGBT. Yr un peth yr oedden nhw i gyd yn unedig yn ei gylch oedd bod y polisi o sancsiynau a gyflwynwyd hyd yn hyn yn annigonol ac nad oedd difrifoldeb y digwyddiadau yn gofyn am ddim byd yn brin, dim llai nag ynysu Rwsia yn llwyr yn economaidd, yn wleidyddol, yn ddiplomataidd ac yn ddiwylliannol, gan gynnwys, gyda llaw, embargo llwyr ar yr holl fewnforion olew a nwy. A yw hynny yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi mewn egwyddor? Ac yn yr ysbryd hwnnw, a ydych chi'n barod, fel Llywodraeth Cymru, i gyflwyno polisi nad oes unrhyw sefydliad—diwylliannol, chwaraeon—nac, yn wir, cwmni, drwy'r contract economaidd sy'n llywodraethu cymorth busnes, sy'n cynnal cysylltiadau gweithredol â Rwsia, wrth i'r rhyfel barhau, neu fod meddiannaeth filwrol yn parhau, yn cael unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru?

14:30

Wel, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob rhan o'r Deyrnas Unedig i bwyso am y lefel uchaf o sancsiynau economaidd, ac ochr yn ochr â sancsiynau economaidd, y mathau eraill hynny o weithredu ym meysydd y celfyddydau ac mewn chwaraeon, a mathau eraill o gyswllt—y math uchaf o rwystr rhag iddyn nhw allu parhau, er mwyn, fel yr ydym ni wedi dweud droeon ar y llawr y prynhawn yma, sicrhau bod y neges yn cael ei gosod yn gadarn ym meddyliau'r rhai sy'n gyfrifol am y gweithredu hwn. A dyma'r foment i wneud hynny, Llywydd. Nid yw'n fater o fod yn ddoeth ar ôl y digwyddiad. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yn y Siambr a fydd yn cael cyfle i ddarllen eto adroddiad y pwyllgor cudd-wybodaeth a diogelwch ar Rwsia, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020, dan gadeiryddiaeth Aelod Ceidwadol o Dŷ'r Cyffredin, a ddaeth i'r casgliad canlynol

'yn ein barn ni... roedd y Llywodraeth wedi llwyr danamcangyfrif bygythiad Rwsia a'r ymateb yr oedd ei angen.'

Galwodd, ym mis Gorffennaf 2020, am fwy o sancsiynau yn erbyn cyfundrefn Rwsia. Dyna fel oedd hi yr adeg honno. Gan wybod yr hyn a wyddom ni yn awr, nid wyf i'n credu y gall fod unrhyw betruso wrth sicrhau ein bod yn rhoi pob bricsen y gallwn gael gafael arni yn y wal honno o sancsiynau a fydd yn cyfleu i'r rhai sy'n gyfrifol am y gweithredu yn Wcráin y bydd y gweithredu hynny'n arwain at ganlyniadau uniongyrchol iddyn nhw.

Cafwyd dau gais arall am weithredoedd o undod rhyngwladol a glywsom gan ein cyfeillion yn Wcráin. Un am gymorth ymarferol ar unwaith, ac un o arwyddocâd symbolaidd enfawr. Y cymorth ymarferol yr oedden nhw'n galw amdano oedd canslo dyled dramor Wcráin ar unwaith. Hyd yn oed wrth i ni siarad, yng nghanol rhyfel, mae Llywodraeth Wcráin yn gorfod trin ei dyled dramor hyd at $0.5 biliwn y mis—arian nad oes ganddi yn amlwg.

Yr alwad symbolaidd ar ôl i'r Arlywydd Zelenskyy lofnodi'r cais am aelodaeth o'r UE gan Wcráin ddoe yw i'r Undeb Ewropeaidd ddangos ei bod wedi ymrwymo i aelodaeth Wcráin o'r Undeb Ewropeaidd, ac y bydd yn ei gyflawni drwy lwybr carlam. Pa ffordd well o symboleiddio'r ffaith bod Wcráin yn wlad ddemocrataidd, a bod y gwerthoedd sydd wrth wraidd yr Undeb Ewropeaidd yn gofyn am ymateb cadarnhaol i gais Wcráin am aelodaeth ddoe?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr ag Adam Price nad ydym wedi disbyddu o bell ffordd y camau y mae angen eu cymryd. Mae Rwsia'n parhau i ennill $1 biliwn y dydd o werthu nwy ac olew i Ewrop, ac, ar yr un pryd, mae Wcráin yn talu, fel y dywedodd yr Aelod, $0.5 biliwn i drin ei dyled, eto i'r gorllewin. Ac o dan yr amgylchiadau yr ydym yn eu gweld, does bosib bod hynny'n iawn.

Ac o ran yr ail bwynt, y pwynt ynghylch dyled dramor, mae yna gamau gweithredu sy'n uniongyrchol yn nwylo Llywodraethau sofran y gallen nhw eu cymryd yn awr. Rwyf ar ddeall bod Arlywydd Wcráin wedi annerch Senedd Ewrop y bore yma. Byddaf ym Mrwsel fy hun yfory, Llywydd, fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi, ac yn ailddatgan ein cysylltiadau â'r cenhedloedd a'r rhanbarthau pwysig hynny yn Ewrop. Byddaf yn cyfarfod ag Is-lywydd Senedd Ewrop fel rhan o'r ymweliad hwnnw, ac rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i drafod anerchiad Arlywydd Wcráin i Senedd Ewrop, a'r camau yr wyf i ar ddeall bod y Senedd eisoes wedi'u cymryd i ddechrau'r ymateb y mae arweinydd Plaid Cymru wedi cyfeirio ato y prynhawn yma.

14:35
Cefnogaeth i Filfeddygon

3. Pa gefnogaeth sy'n cael ei roddi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi milfeddygon? OQ57708

Diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn, Llywydd. Mae mwyafrif y milfeddygon yng Nghymru yn gweithio mewn practis preifat, sy'n gweithredu fel busnes preifat. Mae rhai, drwy gontract, hefyd yn darparu gwasanaethau cyhoeddus pwysig. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu sawl math o gymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol, sy'n adlewyrchu amrywiaeth y ddarpariaeth filfeddygol hon.

Diolch, Brif Weinidog. Yn ddiweddar, cysylltodd y Cynghorydd Larraine Jones, sy'n cynrychioli Gelli ac Ystrad, â mi, i dynnu sylw at y ffaith bod yna brinder milfeddygon yn y Rhondda. Mae wedi rhannu degau o straeon torcalonnus, gan gynnwys ci yn marw gartref ac mewn poen oherwydd bod eu milfeddygfa leol wedi cau'n barhaol a bod neb arall â lle ar gyfer anifeiliaid newydd. Mae problem enfawr hefyd o ran cael brechlynnau ar gyfer anifeiliaid. Yn sgil Brexit, a hefyd y pandemig, mae prinder cyffelyb ledled Prydain, ac yn yr Alban, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi y byddant yn sefydlu gwasanaeth milfeddygol yr Alban. Felly, pa gamau sydd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ymateb i'r diffyg hwn, ac i sicrhau bod mwy o bobl yn hyfforddi yma yng Nghymru i fod yn filfeddygon?

Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn. Mae'n wir, Llywydd, pan yw hi'n dweud bod nifer y milfeddygon o'r Undeb Ewropeaidd yma yn y Deyrnas Unedig wedi cwympo, ac wedi cwympo gan 68 y cant rhwng 2019 a 2021. Nawr, dŷn ni yn gwneud nifer o bethau yma yng Nghymru. Mae ysgol newydd gyda ni yn y brifysgol yn Aberystwyth, a dŷn ni'n ariannu pobl ifanc trwy ein rhaglen Seren, yn enwedig pobl ifanc sy'n dod o'r Rhondda a llefydd fel yna. Ar ôl 2020, dŷn ni wedi ariannu 28 o fyfyrwyr o gefndir fel yna i astudio i fod yn filfeddygon y dyfodol yma yng Nghymru.

Dydd Gŵyl Dewi

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Dydd Gŵyl Dewi? OQ57691

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ein diwrnod cenedlaethol fel llwyfan i godi proffil ac ymwybyddiaeth o Gymru ledled y byd. Heddiw yn unig, cynhelir digwyddiadau yn Tokyo, Dulyn, Llundain, Washington, Brwsel, Dubai, Beijing a Bangalore.

Diolch, Prif Weinidog. Ac a gaf i ddechrau drwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi, eich teulu, a phawb yn y Siambr hon? Prif Weinidog, gyda chymaint o ansicrwydd a dinistr yn y byd, mae'n rhaid i ni fod yn ddiolchgar ar ein diwrnod arbennig yma yng Nghymru, fod Dydd Gŵyl Dewi yn rhoi cyfle i ni dynnu sylw at rai o'r pethau anhygoel yr ydym ni'n eu gwneud yma yng Nghymru, o'r bwyd a diod gwych yr ydym yn ei gynhyrchu, i hyrwyddo'r Gymraeg, ein hanes cyfoethog, ein diwylliant a'n treftadaeth, a'r croeso cynnes yr ydym yn ei roi i bawb. Mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei hyrwyddo'n ehangach nag yma yng Nghymru—mae ein sector busnes yn gwneud hyn drwy Wythnos Cymru Llundain, lle mae llawer o fusnesau gorau Cymru yn mynd i hyrwyddo'u busnesau a'u cynnyrch i gynulleidfa ehangach, i hybu cyfleoedd masnach a thwristiaeth i Gymru, ynghyd â digwyddiadau eraill ledled y byd. Felly, Prif Weinidog, pa waith a chymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, i'n busnesau a phobl Cymru, i ddarparu manteision economaidd i bawb? Diolch, Llywydd.

Llywydd, diolch i James Evans am y cwestiwn yna. Mae'n dda iawn cael y cwestiwn hwn, wrth i Ddydd Gŵyl Dewi lanio ar ddydd Mawrth eleni. Ac mae'n rhoi llwyfan gwirioneddol i ni allu codi proffil ac ymwybyddiaeth o Gymru. Roeddwn i'n falch iawn fy hun i ddechrau'r diwrnod, yn eithaf cynnar y bore yma, drwy lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraethwr talaith Ōita yn Japan, gan adeiladu ar y cysylltiadau a osodwyd pan oedd tîm rygbi Cymru wedi'i leoli yn y rhan honno o Japan yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, a'r croeso gwych a gafodd y tîm yn y rhan honno o Japan. Ac mae wedi arwain ers hynny at gysylltiadau economaidd, cysylltiadau diwylliannol, cysylltiadau rhwng pobl ifanc o Gymru a'r rhan honno o Japan, ac fe wnaethom lwyddo i ffurfioli hynny mewn memorandwm newydd rhwng Cymru ac Ōita y bore yma.

Mae Gweinidog yr economi, fel y dywedais yn gynharach, yn Dubai heddiw, lle mae pafiliwn y DU yn nigwyddiad Expo'r Byd yn cael ei neilltuo'n llwyr i Gymru, diwrnod cyfan i Gymru yno, ac mae hynny'n canolbwyntio'n bennaf ar fwyd a diod ac ar fusnesau sy'n hyrwyddo'r hyn y gall Cymru ei wneud yn y rhan honno o'r byd. Byddaf i fy hun, ddiwedd heddiw, Llywydd, yn llysgenhadaeth Canada yn Llundain, unwaith eto gyda grŵp o bobl eraill, oherwydd 2022 yw blwyddyn Cymru yng Nghanada. Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan Lywodraeth Canada, a gan Lywodraeth Québec lle mae gennym ni gysylltiadau arbennig, a bydd y prynhawn yma'n gyfle i roi proffil ar lefel wahanol i'r flwyddyn honno ac i roi'r math o egni i'r flwyddyn honno a fydd yn golygu y bydd yn cyfateb i lwyddiant digwyddiadau Cymru yn yr Almaen y llynedd, a fu'n eithriadol o lwyddiannus o ran codi proffil Cymru fel cyrchfan economaidd, fel cyrchfan i dwristiaid, fel man cyfnewid rhwng sefydliadau diwylliannol a chwaraeon, ac felly i hyrwyddo dealltwriaeth pobl o Gymru a'r cyfleoedd y mae'r cysylltiadau hynny'n eu darparu ar eu cyfer ac yn eu darparu ar ein cyfer ni hefyd.

14:40

Un cwestiwn olaf, felly, cyn i chi fynd i hyrwyddo Cymru yn yr holl leoedd hynny. [Chwerthin.]  

Cwestiwn 5, Paul Davies.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau acíwt ac achosion brys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn y dyfodol? OQ57692

Llywydd, mae'r bwrdd iechyd wedi datblygu cynllun ar gyfer dyfodol gwasanaethau yn ardal Hywel Dda dros yr 20 mlynedd nesaf. Datblygwyd y strategaeth honno gyda chlinigwyr, cleifion a thrwy ymgynghori â'r cyhoedd yn ehangach. Cyflwynwyd achos busnes rhaglen yn ddiweddar i Lywodraeth Cymru i graffu arno.

Diolch i chi am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwnaethoch chi sôn, mae'r achos busnes wedi ei gyflwyno i chi bellach fel Llywodraeth, ac fel rhan o'r cynigion hynny mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu ailadeiladu ysbyty Llwynhelyg neu ei addasu at ddibenion gwahanol, a fyddai'n golygu ei fod yn colli ei wasanaethau damweiniau ac achosion brys. Prif Weinidog, mae'r cynigion hyn wedi achosi cryn ofid a dicter ymhlith y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli, sydd unwaith eto yn ymgyrchu i ddiogelu gwasanaethau yn eu hysbyty lleol. Yn wir, bu Cefin Campbell, yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, a minnau mewn rali yr wythnos diwethaf gyda rhai o'r ymgyrchwyr hynny. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae'r awr euraidd yn hanfodol i achub bywydau pobl, ac felly mae'n gwbl hanfodol bod ysbyty Llwynhelyg yn cadw ei wasanaethau brys. Felly, o ystyried yr ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i'r gwasanaethau brys yn ysbyty Llwynhelyg yn y gorffennol drwy fuddsoddi rhyw £9 miliwn yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys, a wnewch chi weithio gyda mi ac yn wir gydag eraill i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn aros yn yr ysbyty yn y dyfodol?

Llywydd, nid oes unrhyw gynlluniau i ddileu unrhyw wasanaethau o Lwynhelyg, gan gynnwys ei ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys, cyn unrhyw newidiadau ehangach a allai fod yn y gwasanaethau iechyd yn y rhan honno o Gymru. Rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol y gwasanaethau hynny i ymgysylltu'n uniongyrchol â'r bwrdd iechyd, â'i glinigwyr sy'n gyfrifol am ddatblygu cynlluniau a fydd yn rhoi gwasanaethau iechyd yn y rhan honno o Gymru ar sail gynaliadwy am yr 20 mlynedd nesaf. Mae cyfleoedd wedi mynd a dod yn y de-orllewin oherwydd bod ymlyniad pobl at y drefn gyffredin yn eu hatal rhag bod yn barod i symud ymlaen gyda chynlluniau a fyddai wedi arwain at fuddsoddiad mawr yn y gwasanaethau hynny. Rwy'n gobeithio—. Er fy mod i'n deall yr ymlyniad sydd gan bobl at y gwasanaethau y maen nhw'n eu hadnabod ac wedi eu defnyddio ac wedi arfer â nhw, rwyf i yn gobeithio nad yw'r cyfleoedd a allai fod ar gael ar gyfer y buddsoddiad hwnnw, yn y dyfodol 20 mlynedd hwnnw ar gyfer y de-orllewin, yn cael eu gosod o'r neilltu gan bobl sy'n caniatáu i'w hofnau am y dyfodol rwystro'r ymgysylltu—yr ymgysylltu cadarnhaol, yr ymgysylltu adeiladol—yr wyf i'n credu y bydden nhw'n dymuno ei weld a bod y bwrdd iechyd yn bwriadu ei gynnig.

14:45
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Mae gennyf i ddau newid i'w gwneud i'r agenda heddiw. Yn gyntaf, mae'r datganiad ar y cynllun gweithredu anabledd dysgu newydd wedi'i dynnu'n ôl, ac yn ail, yn amodol ar atal y Rheolau Sefydlog, byddwn ni'n trafod dau gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd.

Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Diolch, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i alw am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, os gwelwch yn dda, yn ystod yr wythnosau nesaf? Rwy'n siomedig iawn bod y Gweinidog wedi gwneud cyhoeddiad i ymestyn yr hyn yr oeddem ni i gyd yn gobeithio y byddai trefniadau dros dro ar gyfer erthyliadau heb fod angen gweld gweithiwr meddygol proffesiynol yn y cnawd. Cafodd cyhoeddiad ei wneud yr wythnos diwethaf. Yn amlwg, maen nhw'n newidiadau sylweddol i'r drefn erthylu barhaol, ac mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn pryderu'n fawr am risgiau i iechyd menywod o ganlyniad i'r newidiadau hyn, ac yn wir y posibilrwydd y byddai modd gorfodi pobl i gymryd meddyginiaeth erthylu, ac nid yn unig hynny, o bosib gallai'r system hefyd gael ei chamddefnyddio a gallai pobl gael meddyginiaeth erthylu ac yna eu trosglwyddo i eraill. Mae angen y cyfle arnom ni i graffu ar y penderfyniad hwn, ac rwy'n credu y dylai fod cyfle ar gyfer dadl neu ddatganiad yn y Siambr hon cyn cyflwyno unrhyw newidiadau.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd? Roedd cyfres ddamniol arall o adroddiadau yn y cyfryngau o ganlyniad i ddau adroddiad unigol i farwolaethau cleifion yn uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd a Thŷ Llywelyn yn Llanfairfechan yr wythnos diwethaf. Roedd y rhain yn sefyllfaoedd gwarthus, yn dorcalonnus i deuluoedd y rhai dan sylw, ac maen nhw'n tanlinellu'r angen am weithredu mwy penderfynol a chyflym gan Lywodraeth Cymru ac eraill i fynd i'r afael unwaith ac am byth â'r argyfwng yn ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Mae hwn yn fwrdd nad yw nawr mewn mesurau arbennig—mae pobl yn ei gweld hi'n rhyfeddol ei fod wedi'i dynnu allan ohonyn nhw—ac mae pobl eisiau cael rhywfaint o ffydd yn y dyfodol. Nawr, roedd llawer iawn o barch at Donna Ockenden, yr un a amlygodd lawer o'r methiannau yn ward Tawel Fan nifer o flynyddoedd yn ôl, yn ôl yn 2016. A gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried gweithio gyda'r bwrdd iechyd i benodi Donna Ockenden i gynnal adolygiad arall i benderfynu pa gynnydd sydd wedi'i wneud a sefydlu cynllun gweithredu er mwyn sicrhau bod y bwrdd iechyd hwn yn ôl mewn cyflwr da fel y gall pobl fod yn ffyddiog, pan fydd angen gwasanaethau iechyd meddwl arnyn nhw oherwydd problemau iechyd meddwl acíwt, y gallan nhw gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw?

Diolch. O ran y trefniadau ar gyfer erthyliad meddygol cynnar gartref, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig, ar 24 Chwefror, a gallaf i sicrhau'r Aelodau yma, os nad ydyn nhw wedi cael cyfle i edrych ar y datganiad hwnnw, fod canllawiau newydd o ran gwneud hyn yn sefyllfa barhaol—fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yr oedd yn safle dros dro—wedi'u datblygu gan glinigwyr, gan weithio ochr yn ochr â Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynaecolegwyr a phartneriaid eraill. Felly, nid wyf i'n credu bod angen datganiad arall. Os oes gennych chi unrhyw bryderon penodol, byddwn i'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn uniongyrchol.

O ran eich ail bwynt ynghylch digwyddiadau hynod drasig, mae fy nghydymdeimlad yn sicr gyda'r teuluoedd, y ffrindiau a'r anwyliaid yr effeithiwyd arnyn nhw gan y ddwy farwolaeth yn benodol y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn yr adroddiad. Byddwch chi'n ymwybodol bod y bwrdd iechyd nawr wedi derbyn argymhellion yr adroddiad, ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—gwnes i gyfarfod â hi ychydig cyn toriad hanner tymor yn rhinwedd fy swydd yn Weinidog gogledd Cymru, er mwyn sicrhau ei bod hi'n monitro'r sefyllfa'n agos—wedi fy sicrhau bod y bwrdd iechyd wedi cymryd camau ar unwaith, gan gynnwys adolygu a dileu pwyntiau rhwymo lefel isel, er enghraifft. Roedd ceisiadau am adnodd asesiadau risg ar y ward, ac roedd yn defnyddio ei bolisi ymgysylltu therapiwtig. Yn sicr, byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwrando ac yn ystyried yr awgrym yr ydych chi wedi'i gyflwyno o ran Donna Ockenden.

14:50

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Dwi am ofyn ichi sicrhau bod y Gweinidog iechyd yn dod â datganiad ger ein bron ynghylch darpariaeth deintyddiaeth, os gwelwch yn dda. Pobl Dwyfor Meirionnydd sydd efo’r mynediad gwaethaf i wasanaeth deintyddiaeth yng Nghymru, ac mae practis arall yn cau yn Nhywyn y mis yma, a fydd yn gwneud pethau'n waeth fyth. Mae gan y Llywodraeth dargedau er mwyn sicrhau mynediad, ond dydy'r targedau yma byth wedi cael eu cyrraedd yng ngogledd Cymru. Mae'r bwrdd wedi neilltuo £300,000 i gael cadair ddeintyddol newydd rhywle ym Meirionnydd eleni, ond mae angen buddsoddiad o £900,000 er mwyn cyrraedd y ddarpariaeth gyfartalog yn unig. A gawn ni, felly, ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch sut mae’r Llywodraeth am sicrhau bod y targedau mynediad i ddeintyddiaeth yn cael eu cyrraedd, a bod Dwyfor Meirionnydd yn benodol am weld cynnydd yn niferoedd ei ddeintyddion?

Yn ail, mi ges i'r pleser o gael cwmni rhai o ddisgyblion Ysgol Bro Tryweryn ar ymweliad digidol â’r Senedd ddoe. Fe gawson ni sgwrs am y pethau oedd yn bwysig iddyn nhw, a dyma oedd yn bwysig i ddisgyblion bro Tryweryn: teulu, to uwch eu pennau a bwyd yn eu boliau. Roedden nhw hefyd yn bryderus iawn am sefyllfa Wcráin. Felly, ar ran plant ardal Fron-goch a Phenllyn, dyma’r oedden nhw am i fi ofyn i’r Llywodraeth: o ystyried pwysigrwydd teulu, to uwch eu pen a bwyd yn eich bol, a gawn ni ddatganiad ysgrifenedig gan y Llywodraeth yn dilyn eich cyfarfod chi efo llywodraeth leol yfory am ba gamau mae’r Llywodraeth am eu cymryd i sicrhau lloches i ffoaduriaid o Wcráin yma yng Nghymru?

Hefyd, a oes yna gynlluniau i ddiosg unrhyw fuddsoddiadau o bres cyhoeddus o asedau Rwsiaidd yng Nghymru? Diolch.

Diolch. Gwn i fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud llawer iawn o waith o ran darparu deintyddiaeth ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod pandemig COVID-19 wedi amlygu'r bylchau sylweddol o ran darpariaeth ddeintyddol, felly byddaf i'n gofyn iddi gyflwyno datganiad. Ni fyddwn i'n credu y byddai hi o fewn yr hanner tymor nesaf, oherwydd gwn fod hwn yn ddarn o waith y mae hi'n ei wneud ar hyn o bryd, ond yn sicr cyn gynted ag y bydd hi'n teimlo y gall hi wneud hynny.

O ran eich ail bwynt, rwy'n credu mai un o'r pethau hyfryd am fod yn Aelod o'r lle hwn yw croesawu plant ysgol o'n hetholaethau, ac, yn amlwg, nid ydym ni wedi gallu ei wneud yn y ffurf y byddem ni fel arfer yn ei wneud, ond mae'n dda iawn clywed eich bod chi wedi gwneud hynny mewn ffurf ddigidol ddoe. Fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato yn ei sesiwn gwestiynau, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cyfarfod â CLlLC yfory, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n cyflwyno datganiad ysgrifenedig fel mater o frys ar ôl y cyfarfod hwnnw.

Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar wneud diagnosis o awtistiaeth mewn oedolion a'r ymgyrch wybodaeth sy'n esbonio arwyddion cyffredin awtistiaeth. DSM-IV, a gafodd ei gyhoeddi ym 1994, a gategoreiddiodd awtistiaeth fel sbectrwm am y tro cyntaf. Byddai unrhyw un a gafodd ei eni cyn 1976 wedi gadael yr ysgol cyn 1994. Gwyddom ni fod rhai o arwyddion cyffredin awtistiaeth mewn oedolion yn cynnwys ei chael hi'n anodd deall beth mae eraill yn ei feddwl neu'n ei deimlo; mynd yn bryderus iawn am sefyllfaoedd cymdeithasol; ei chael hi'n anodd gwneud ffrindiau neu'n dewis bod ar eu pen eu hunain; ymddangos yn flin, yn anghwrtais neu heb ddiddordeb mewn eraill yn anfwriadol; ei chael hi'n anodd dweud sut maen nhw'n teimlo; cymryd pethau'n llythrennol iawn; a bod â'r un drefn bob dydd a mynd yn bryderus iawn os bydd hi'n newid. Rwy'n credu bod angen i ni roi gwybod i bobl, oherwydd byddai unrhyw un a gafodd ei eni cyn 1976 wedi bod yno cyn i DSM-IV gael ei gyhoeddi.

Diolch. Ydi, mae'n sicr yn gyflwr y mae gennym ni well ddealltwriaeth o lawer ohono, a phan yr ydych chi'n crybwyll y dyddiadau hynny, mae wir yn ei amlygu. Byddwch chi'n ymwybodol o'r gwaith sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran darparu gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae hwnnw wedi bod ar waith ar sail ranbarthol ledled Cymru ers mis Ebrill 2019. Mae honno'n bartneriaeth rhwng byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol hefyd, ac mae hynny'n darparu asesiadau diagnostig o awtistiaeth ar gyfer oedolion, a chymorth a chyngor i oedolion awtistig, ynghyd â'u rhieni a'u gofalwyr. Rydym ni hefyd wedi cyhoeddi'r cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth, a ddaeth i rym ar 1 Medi y llynedd, ac mae pennod 1 o'r cod ymarfer hwnnw'n ymdrin ag asesu a chael diagnosis o awtistiaeth. A'r hyn y mae'r cod hwnnw'n ei wneud mewn gwirionedd, rwy'n credu, yw rhoi eglurder i'n byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG, ein hawdurdodau lleol a'n byrddau partneriaeth rhanbarthol ynghylch Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gan nodi eu cyfrifoldebau a'r gwasanaethau y mae'n ofynnol iddyn nhw eu darparu i gefnogi pobl awtistig yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

14:55

Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch swyddogaeth y gwasanaeth tân yn y gogledd ac yng Nghymru yn ehangach yn y dyfodol. Fel rhywun sydd â brawd yng nghyfraith yn ddiffoddwr tân, rwy'n ymwybodol o'r gwaith eithriadol y mae'r gwasanaeth tân yn ei wneud yn ein cymunedau. Rwyf i hefyd yn ymwybodol o rai o'r heriau sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Yn dilyn cyfarfod gyda chynrychiolwyr y gwasanaeth tân, un o'r pryderon sydd gennyf i yw gallu'r gwasanaeth tân i gynnal ei hun drwy recriwtio diffoddwyr tân wrth gefn. Yn y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli yn y gogledd, o'r 44 gorsaf dân, mae 39 o'r rheini'n cael eu cefnogi gan ddiffoddwyr tân wrth gefn. 

Mater arall sy'n peri pryder, rwy'n deall oddi wrth y gwasanaeth tân, yw'r gallu i gyrraedd y targedau sero net erbyn 2030, y bydden nhw'n ymdrechu i'w wneud, ond o ystyried maint y peiriannau y maen nhw'n gorfod eu gyrru ac sy'n cario dŵr, mae'r gallu i gyrraedd sero net erbyn 2030 yn sicr yn her. Mae rhai cyfleoedd gwych o ystyried y sgiliau a'r profiad sydd gan ddiffoddwyr tân wrth gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi ein cymunedau'n ehangach, yr wyf yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn eu harchwilio ac y bydden nhw eisiau rhannu eu syniadau. Felly, yng ngoleuni hynny, byddwn i'n ddiolchgar o gael datganiad am ddyfodol y gwasanaeth tân yn y gogledd ac yng Nghymru yn ehangach. Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Yn amlwg, mae'n agwedd bwysig iawn ar bortffolio'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'i Dirprwy Weinidog, ac yr wyf i'n ymwybodol yn arbennig bod y Dirprwy Weinidog yn gwneud llawer iawn o waith gyda'n gwasanaethau tân i sicrhau eu bod yn gallu ymateb i'r heriau sylweddol iawn sydd ganddyn nhw. Mae eu gwaith wedi newid yn fawr iawn, onid yw, i fwy o swyddogaeth atal ar hyn o bryd a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus eraill? Ac rwy'n gwybod, fel Gweinidogion, ein bod ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth o ran sicrhau bod unrhyw sefydliadau o fewn ein portffolios ein hunain yn gallu ateb yr her sero net. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw beth penodol y byddai'r Dirprwy Weinidog eisiau ei gyflwyno ar hyn o bryd, ond byddaf i'n sicr yn cadw llygad ar hynny ac, os oes angen, gallwn ni gyflwyno datganiad.

Gweinidog, mae plant yn fy etholaeth i mor ifanc â 11 a 12 oed yn gorfod cerdded 45 munud i'r ysgol ac yn ôl o Gorneli i Ysgol Gyfun Cynffig yn y Pîl. Rwyf i wedi cyfarfod â dros 20 o rieni sydd wedi dweud wrthyf i na fydden nhw fel arfer yn caniatáu i'w plant adael y pentref heb eu goruchwyliaeth, ac felly maen nhw'n poeni'n fawr am eu diogelwch wrth i'r plant orfod cerdded i'r ysgol ar eu pen eu hunain. Ers cynnal dau gyfarfod cyhoeddus yng Nghorneli, yr wyf i wedi cael gwybod am ddau ddigwyddiad o fwlio disgyblion blwyddyn 7: arllwyswyd potel o Lucozade dros ben un plentyn a chafodd un arall ei erlid gan blant hŷn yr holl ffordd yn ôl i'w gartref. Mae plant wedi bod yn galw eu rhieni o'r ysgol gan lefain oherwydd eu bod yn gorfod eistedd yno mewn dillad gwlyb drwy'r dydd, ac mae rhai disgyblion wedi gorfod rhoi'r gorau i chwarae offerynnau cerdd gan nad ydyn nhw'n gallu eu cario nôl ac ymlaen i'r ysgol. A gaf i ofyn felly i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ddarparu datganiad ar yr adolygiad o'r Mesur teithio gan ddysgwyr, ac yn adleisio'r hyn y mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi galw amdano yn hyn o beth? A byddwn i hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried ein bod ni'n dychwelyd i'r rheol dwy filltir ar gyfer cyfle cyhoeddus i fanteisio ar gludiant ysgol ac yn ystyried blaenoriaethu plant iau ar gyfer pasys bws mewn ysgolion hefyd.

Diolch i chi am godi'r mater pwysig iawn hwnnw. Mae adolygiad ar y gweill ac yn sicr, gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog gyflwyno datganiad ar yr adeg briodol.

A gaf i ddechrau drwy atgoffa Aelodau o fy muddiant fel cynghorydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yn ardal Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr? Mae nifer o drigolion lleol yn ardaloedd Bracla, Coety a Llangrallo wedi sôn dro ar ôl tro wrthyf i am y gyffordd beryglus sydd rhwng Heol Simonston a Heol Llangrallo ychydig y tu allan i Bracla. Mae wedi bod yn lle peryglus ar gyfer damweiniau ers nifer o flynyddoedd ac mae'n hynod brysur yn ystod oriau brig. Ac mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig y gwnes i ei gyflwyno nifer o wythnosau'n ôl, daeth i'r amlwg nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er gwaethaf y ffaith iddyn nhw gael cyllid ar gyfer yr arolwg a'r gwaith dylunio, erioed wedi cyflwyno cais arall am y cyllid i ymgymryd ag unrhyw waith ar y gyffordd.

Yn y cyfamser, er ei bod yn ymddangos mai strategaeth Llywodraeth Cymru yw cael pobl ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na mewn ceir—ac rwy'n credu bod hynny'n nod clodwiw—mae Llywodraeth Cymru wedi addo adeiladu gorsaf reilffordd ym Mracla. Bu seremoni torri'r dywarchen hyd yn oed i ddechrau gwaith adeiladu ar gyfer y prosiect. Y broblem yw roedd y seremoni torri'r dywarchen honno ym mis Mawrth 2001, 21 mlynedd yn ôl i'r mis hwn, a heddiw mae'r tir yn wag. Ac er ei fod yn cael ei ystyried yn barhaus fel rhan o fetro'r de, nid oes amserlen gadarn ar gyfer pryd, neu hyd yn oed os bydd unrhyw waith yn mynd rhagddo mewn gwirionedd. Boed ar y ffordd neu ar y trên, nid yw trigolion Bracla yn cael chwarae teg o ran trafnidiaeth, felly a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth ym Mracla fel y gallwn ni unioni rhai o'r camweddau hynny?

15:00

Byddwn i'n credu y byddai'n well pe bai'r Aelod yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y Dirprwy Weinidog. Rydych chi'n codi pwynt penodol iawn nad oes gennyf i wybodaeth wrth law amdano, ac, yn amlwg, fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rwy'n credu mai dyna fyddai'r ffordd fwyaf priodol ymlaen.

Yn gyntaf oll, hoffwn i groesawu'n fawr y cyhoeddiad diweddar gan y Gweinidog iechyd y bydd erthyliadau telefeddygol yn dod yn wasanaeth parhaol. Mae hwn yn fater eithriadol o bwysig, yn enwedig i fenywod sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, neu fenywod nad oes ganddyn nhw ofal plant neu sydd â chyfrifoldebau gofalu eraill. Ac mae'n cael ei gefnogi'n fawr gan yr holl weithwyr proffesiynol yng Ngholeg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a gan feddygon teulu a nyrsys. Felly, yr wyf i wir eisiau cofnodi hynny.

Ar fater arall, gan ei bod yn Ddydd Gŵyl Dewi, y bore yma, fe es i brynu cenhinen o fy stondin ffrwythau a llysiau lleol, oherwydd roedd yn ddiddorol iawn cael gwybod ganddo ef o le y cafodd hi, o le yr oedd wedi dod. Mae e'n cael ei holl gynnyrch gan y cyfanwerthwyr yng Nghaerdydd. Wel, mae'n dod o Swydd Lincoln. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ar faint o gennin sydd wir yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru—dyma ein symbol cenedlaethol ynghyd â'r cennin Pedr—a pha gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r broses o gynhyrchu cennin a llysiau eraill yng Nghymru?

Gall y genhinen ymuno â'r blodyn haul a'r cennin Pedr, Llywydd.

Roeddwn i'n meddwl y dylwn i, mae'n debyg, wybod yr ateb i faint o gennin sy'n cael eu tyfu yng Nghymru pan wnaethoch chi ofyn i mi, ond nid wyf i'n credu ein bod ni'n cadw'r wybodaeth honno. Ond roedd hi'n dda iawn mwynhau cennin Cymru ar y fwydlen yn y ffreutur yma yn y Senedd amser cinio. Fel y dywedwch chi, mae gennym ni gysylltiad hir a balch iawn â'r genhinen, ac rwy'n credu ein bod ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd eisiau cael bwyd o Gymru—byddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud hynny droeon yma yn y Senedd. Mae'r sector garddwriaeth yn rhan mor fach o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru—0.1 y cant—ac rwy'n awyddus iawn i wneud popeth o fewn fy ngallu gyda fy mhortffolio materion gwledig i gefnogi cynhyrchwyr Cymru. Efallai y byddai o ddiddordeb i bawb yn y Siambr ein bod ni ar hyn o bryd yn cefnogi cynhyrchwyr o Gymru gyda chais i sicrhau achrediad o dan gynllun dynodiad daearyddol y DU—dyna'r cynllun newydd ers i ni adael yr Undeb Ewropeaidd—ar gyfer dynodiad daearyddol gwarchodedig o gennin Cymru. Ac mae ar hyn o bryd—. Mae craffu ar y cais ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi ffermydd garddwriaethol drwy gyllid ar gyfer Tyfu Cymru ac rydym ni hefyd yn ystyried amaethyddiaeth amgylchedd a reolir, a gaiff ei chyfeirio ati'n aml fel ffermio fertigol, i weld beth y gallwn ni ei wneud i annog cynnydd yn y gwaith o gynhyrchu cnydau fel cennin.

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024

Mae'r datganiad nesaf gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Felly, Lynne Neagle.

Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n lansio'r ail o bum cynllun cyflawni fel rhan o'n strategaeth 10 mlynedd 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Bydd ein cynllun cyflawni ar gyfer 2022-24 yn defnyddio cyfuniad o gyllid, polisïau a deddfwriaeth i ddatblygu dulliau sy'n canolbwyntio’n gryf ar atal a gwneud y dewis iach yn ddewis hawdd.

Bydd y cynllun yn cefnogi adferiad o'r pandemig ac yn ymdrin â'r heriau newydd y mae wedi'u cyflwyno. Mae llawer ohonom ni wedi ei chael hi'n anodd gwneud a chynnal ymddygiad iach cadarnhaol yn ystod y cyfyngiadau symud ac mae'r pandemig wedi dyfnhau anghydraddoldebau iechyd sydd eisoes yn bodoli. Byddwn ni'n defnyddio dulliau wedi'u targedu, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd, a byddwn ni'n cynorthwyo'r rhai sydd eisoes dros bwysau neu'n ordew drwy amrywiaeth o wasanaethau atal, ymyrraeth gynnar ac arbenigol. Er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgil y pandemig, rydym ni wedi gwneud cynnydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf drwy ein cynllun cyflawni cyntaf. Mae hyn er gwaethaf llawer o'n partneriaid allweddol yn briodol yn blaenoriaethu ymateb COVID. Hoffwn i ddiolch i'n partneriaid am eu cefnogaeth barhaus ac yn y dyfodol wrth i ni fwrw ymlaen â'n cynllun uchelgeisiol.

Mae gordewdra yn her gymhleth, ac nid oes atebion syml. Gwyddom ni na all unrhyw un rhan o'r Llywodraeth na'r GIG ddatrys hyn, felly byddwn ni'n gweithredu ar draws y Llywodraeth, gan weithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i sbarduno'r gwaith o gyflawni. Rwyf i heddiw'n amlinellu ein saith maes blaenoriaeth cenedlaethol, sy'n ymgorffori nifer o gamau gweithredu i ddileu rhwystrau i leihau anghydraddoldebau deiet ac iechyd ar draws y boblogaeth. Er mwyn gallu cyflawni'r saith maes hyn, yr wyf i wedi dyrannu dros £13 miliwn o gyllid i gyflawni'r rhaglenni a'r prosiectau sydd wedi'u nodi drwy'r cynllun hwn.

15:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Bydd y cynllun yn datblygu dulliau gweithredu ar draws amrywiaeth o'n hamgylcheddau, o'r ffordd yr ydym ni'n bwyta ac yn prynu bwyd, o'r cartref i'n lleoliadau addysgol a hamdden er mwyn nodi sut y gallwn ni wneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fod yn glir: yr ydym ni'n ceisio newid ffyrdd sefydledig o fyw ein bywydau sydd wedi datblygu dros amser ac sy'n cael effaith negyddol ar ein hiechyd a'n llesiant. Byddaf i'n cyflwyno ymgynghoriad ym mis Mai a fydd yn ystyried cynigion i wella'r amgylchedd pwysau iach. Bydd hyn yn cynnwys meysydd fel hyrwyddo prisiau, labelu calorïau, cynllunio, trwyddedu a gwahardd gwerthu diodydd egni i blant. Rwyf i wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â hyn yn gyflym a chyflwyno deddfwriaeth o fewn oes y cynllun cyflawni hwn. Rwyf i hefyd wedi ymrwymo i ymgymryd â gwaith i gwmpasu dewisiadau ynghylch pwerau trethu, a fydd yn datblygu newidiadau cadarnhaol yr ydym ni wedi'u gweld drwy'r ardoll siwgr.

Mae ysgolion yn gwneud cyfraniad hanfodol i gefnogi ymddygiad iach gydol oes a gallan nhw helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd. Bydd ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, gyda phlant yn cael y cyfle i fanteisio ar ddau bryd iach y dydd ochr yn ochr â'r fenter brecwast am ddim, yn helpu i gefnogi ein nodau. Byddwn ni hefyd yn adolygu rheoliadau bwyd yr ysgol i sicrhau bod prydau ysgol yn gallu ystyried y cyngor maeth gwyddonol diweddaraf i ddarparu dewisiadau iachach.

Rydym ni'n gwybod bod llawer ohonom ni'n fwy segur nag erioed. Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn teithio llesol ac o fewn ein hamgylchedd naturiol i sicrhau bod pobl yn cael cyfleoedd i symud yn eu bywydau bob dydd. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol i gynyddu cyfleoedd i fod yn egnïol.

Mae ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd wrth wraidd ein cynllun cyflawni. Drwy ein rhaglenni treialu plant a theuluoedd sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful ac Ynys Môn, byddwn ni'n gweithio gyda theuluoedd yn uniongyrchol i ddarparu cymorth magu plant o ran arferion iach a gosod ffiniau sy'n ymwneud â bwyd, yn ogystal â chanllawiau ymarferol ar baratoi bwyd. Nod y prosiectau treialu hyn yw dangos dulliau gweithredu sydd wedi dangos tystiolaeth eu bod yn llwyddo ac y mae modd eu hehangu.

Bydd llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan wedi'i adnewyddu yn rhoi darpariaeth gwasanaeth teg ar waith ledled Cymru. Bydd buddsoddi yn cefnogi byrddau iechyd a phartneriaid i barhau i adeiladu system aml-haen, gan gynnig amrywiaeth o ddewisiadau cymorth hyblyg i bobl reoli eu pwysau. Am y tro cyntaf, bydd gwasanaethau plant a theuluoedd lefel 3 arbenigol, gan ddarparu dull aml-ymarferydd, gan gynnwys cymorth seicolegol, i ymdrin â'r amrywiaeth o faterion cymhleth sy'n gysylltiedig â gordewdra. Ochr yn ochr â'r cymorth hwn, mae gwasanaethau a dulliau gweithredu'n parhau i gael eu datblygu yn seiliedig ar ymyrraeth gynnar, gan gynnwys dulliau penodol drwy famolaeth.

Byddwn ni'n gweithio'n agos gyda byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau sy'n cynnig yr effaith fwyaf ac yn rhoi cyfres o ofynion data ar waith i fesur newid. Rwyf i eisiau achub ar y cyfle ar hyn o bryd i'n hatgoffa y bydd newid pendant o ran gordewdra yn cymryd amser, ond yr wyf i wedi ymrwymo i roi'r strwythurau i wneud y newidiadau sydd eu hangen.

Byddwn i hefyd yn datblygu ymgyrch hirdymor ar newid ymddygiad. Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu gwefan GIG ar-lein, ddwyieithog y mae modd ymddiried ynddi i ddarparu cymorth rheoli pwysau i alluogi pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu pwysau a'u hiechyd eu hunain. Bydd hyn yn cyd-fynd â llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan.

Dim ond rhai o'r enghreifftiau o ddyfnder y gwaith sy'n digwydd yw'r camau yr wyf i wedi'u hamlinellu heddiw. Rwyf i wedi ymrwymo i fy swyddogaeth arwain ganolog i sbarduno'r newid sydd ei angen arnom ni. Byddaf i'n cadeirio bwrdd gweithredu cenedlaethol diwygiedig a fydd yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni o fewn y cynllun. Bydd y bwrdd hwn yn dwyn ynghyd uwch arweinwyr allweddol o bob rhan o Gymru i sicrhau ein bod ni'n cyflawni'n gyflym ac i ddarparu'r dadansoddiad beirniadol sydd ei angen arnom ni i sbarduno cynnydd.

Rwyf i wedi ymrwymo i sbarduno newid ar bob lefel. Rhaid inni fabwysiadu dull radical a fydd yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni i helpu i gyflawni'r newidiadau y mae angen i ni eu gweld. Mae gordewdra yn fygythiad difrifol i iechyd ein cenedl sydd wedi bod yn cynyddu ers cenedlaethau, ac ni fydd gwrthdroi hyn yn dasg hawdd. Rwy'n bwriadu adrodd yn ôl yn rheolaidd i'r Siambr ar gynnydd ac rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i weithio ar draws y pleidiau i gyflawni ein hawydd cyffredin i weld pobl yn byw bywydau iachach a hapusach, lle bynnag yng Nghymru y maen nhw'n byw. 

15:10

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad a rhai o'r sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud. Mae gordewdra yn bla ar iechyd ein cenedl. Mae'n broblem; yn hytrach na gostwng, mae'n cynyddu. Mae'n destun pryder bod dwy ran o dair o boblogaeth Cymru nawr dros bwysau neu'n ordew, ac, fel y dywedoch chi yn eich datganiad, y pandemig—mae llawer o bobl wedi cael trafferth yn cynnal ffyrdd iach o fyw, ac mae wedi dwysáu anghydraddoldebau iechyd. Ac mae i'w groesawu eich bod wedi dyrannu dros £13 miliwn i gyflawni cynllun strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Fodd bynnag, rwy'n cytuno â chi fod atal yn well na gwella, ac rwyf i eisiau gwybod sut yr ydych chi'n mynd i sicrhau y bydd yr arian a gaiff ei ddyrannu i fyrddau iechyd a phartneriaid eraill yr ydych chi wedi'u crybwyll yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn cyflawni'r cynllun a'r blaenoriaethau yr ydych chi wedi'u nodi ac yn sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei wario yn y lleoedd cywir ac nad yw'n cael ei wastraffu ar fiwrocratiaeth, sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

Mae'n braf gweld yn eich datganiad eich bod chi'n mynd i ystyried hyrwyddo prisiau, labelu calorïau, cynllunio, trwyddedu a gwahardd diodydd egni i blant. Rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn, ac mae mesurau eraill i'w croesawu. Mae'r rhain yn gamau cadarnhaol, ond mae angen i ni gael ymgyrch cyfryngau wedi'i thargedu ynghylch bwyta'n iach a gwell dewisiadau o ran ffordd o fyw. Yn ystod pandemig COVID, cawsom ni ein llethu gan ymgyrchoedd teledu, radio, cyfryngau cymdeithasol a thaflenni gan Lywodraeth Cymru i gadw pobl yn ddiogel, a chafodd £4.6 miliwn ei wario gennych chi ar hysbysebion cyfryngau cymdeithasol yn unig, ac yr wyf i eisiau gwybod faint o arian fydd yn cael ei ddyrannu i ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch dewisiadau ffordd o fyw iach a bwyta'n iach. Ac fel y dywedwch chi, rydym ni'n ceisio camu yn ôl i ffyrdd sefydledig y mae pobl wedi byw eu bywydau, ac mae hynny'n mynd i fod yn anodd iawn i'w wneud.

Gwelais i hefyd yn eich datganiad sôn am gyflwyno darpariaeth prydau ysgol am ddim ac yr ydych chi'n bwriadu cynyddu manteision maethol y bwyd, a hoffwn i wybod pa gymorth ychwanegol y bydd y Llywodraeth yn ei roi i'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod y bwyd o'r safon da hwnnw'n cael ei fwydo i'n plant, oherwydd yr wyf i'n poeni, os na fydd y cyllid yn cael ei ddarparu, bydd awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd cyflawni hyn.

Mae'n gadarnhaol hefyd gweld y bydd gwefan i helpu gyda rheoli pwysau pobl. Rwy'n credu y bydd hynny'n helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd a phobl y mae angen cymorth arnyn nhw, ac mae hynny'n mynd i fod yn ddwyieithog hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn.

Rwy'n cytuno hefyd fod angen i ni weld mwy o fynediad i'r amgylchedd naturiol a'n cyfleusterau chwaraeon, a pha drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'ch dirprwy gyd-Weinidogion ynghylch helpu i hybu cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ledled Cymru, gan fod gweithgarwch corfforol yn ffordd wych o leihau gordewdra a hefyd helpu gyda phroblemau iechyd meddwl, rwy'n gwybod eich bod chi a minnau yn awyddus iawn i'w gweld nhw'n gostwng?

Gweinidog, un peth rwy'n credu sydd rhywfaint ar goll o'r datganiad yw bod y British Heart Foundation wedi rhyddhau'r papur 'Bias and biology: The heart attack gender gap' yn ddiweddar. Gwnaethon nhw nodi nad yw menywod yn cael eu cymryd o ddifrif pan fyddan nhw'n cael trawiadau ar y galon ac yn cefnogi gwasanaethau rheoli pwysau, felly bydd ymdrin ag anghydraddoldeb pwysau, gobeithio, yn brif flaenoriaeth i chi wrth symud ymlaen. Gobeithio y gallwch chi godi hynny pan fyddwch chi'n ymateb i mi.

Ac yn olaf, Gweinidog, daeth eich datganiad i ben drwy ddweud bod angen i ni fabwysiadu ymagwedd radical, ac yr wyf i'n cytuno'n llwyr â chi ar hynny. Mae hon yn broblem ddofn iawn yn ein cymdeithas. Hoffwn i ein gweld ni weithiau'n mynd ymhellach gydag ymyriadau cyhoeddus eraill mewn rhai meysydd, oherwydd os ydym ni eisiau achub miliynau o bobl sy'n dioddef o salwch a chlefydau sy'n gysylltiedig â gordewdra, bydd yn rhaid iddo fod yn ddull radical a bydd yn rhaid iddo fod yn brif flaenoriaeth i chi ac i Lywodraeth Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch i James Evans am yr amrywiaeth yna o bwyntiau, a hefyd am gydnabod maint y broblem yr ydym ni'n ei hwynebu ac am gydnabod bod y broblem honno wedi gwaethygu'n sylweddol oherwydd y pandemig. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod atal yn well na gwella, ac mae hwn yn gynllun cyflawni, fel rhan o'n strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', sydd wir wedi'i wreiddio'n mewn atal problemau.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am groesawu'r cynigion deddfwriaethol y byddwn ni'n eu cyflwyno, a byddaf i'n edrych ymlaen at weithio gyda chi ac ar draws y pleidiau ar y rheini. Wrth gwrs, nid ein cynigion deddfwriaethol ni yn unig ydyn nhw; rydym ni hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ynghylch y newidiadau y maen nhw'n eu gwneud o ran pethau fel labelu calorïau, cyfyngu ar hysbysebu, newidiadau i gyfansoddiad bwyd babanod ac ati. Felly, mae llawer o waith yn digwydd yn y fan yna.

Gwnaethoch chi sôn am yr ymgyrch wedi'i thargedu yn y cyfryngau, ac mae'n amlwg bod hwn yn faes gwaith eithriadol o bwysig, ond mae hefyd yn faes cymhleth iawn. Felly, mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i sicrhau bod gennym ni'r math cywir o ymgyrch ymddygiadol, oherwydd mae dylanwadu ar ymddygiad, yn enwedig ymddygiad sydd wedi hen ymsefydlu i lawer ohonom ni, yn hynod heriol, ond mae hynny'n flaenoriaeth i ni ynghyd â datblygu'r adnodd GIG hwn, ac yn y dyfodol byddwn ni mewn sefyllfa i ddweud mwy am ariannu hwnnw, ond rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni'r agenda honno. 

Gwnaethoch chi sôn am y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, ac yn amlwg mae hynny'n ymrwymiad wedi'i gostio fel rhan o'n cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, ond nid yw ond yn ymwneud â rhoi prydau ysgol am ddim i blant; rydym ni hefyd eisiau sicrhau bod yr hyn sydd ganddyn nhw o safon maeth uchel, a dyna pam yr ydym ni wedi ymrwymo i adolygu'r safonau maeth. Felly, rwy'n gweithio mewn partneriaeth ac rydym ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth ar y cynllun cyfan hwn, gyda'r Gweinidog addysg ar hynny, ac yn ogystal â hynny, rydym ni hefyd yn cyflwyno safonau prynu cenedlaethol, a fydd yn helpu i gaffael mwy o fwyd iach yn y lle cyntaf. Felly, byddwn ni'n gallu ystyried faint o brotein ac ati, fel rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, felly bydd hynny hefyd yn helpu i ysgogi'r gwaith hwnnw. 

Gwnaethoch chi gyfeirio at yr angen i bob un ohonom ni fod yn fwy egnïol, sy'n amlwg yn gywir. Rydym ni'n parhau i fuddsoddi i sicrhau y gall pobl fod yn fwy egnïol. Mae gennym ni'r gronfa iach ac egnïol, sef £5.9 miliwn, sydd wedi bod ar gael am fwy na phedair blynedd, a'i nod yw gwella iechyd meddwl a chorfforol drwy alluogi ffyrdd iach ac egnïol o fyw. Rwyf i wedi bod yn lwcus iawn i fynd i weld rhai o'r prosiectau hynny ac i weld y ffordd y maen nhw'n gweithio gydag iechyd corfforol a meddyliol pobl i wella ansawdd eu bywyd. Yn ogystal â hynny, eleni, yr ydym ni wedi buddsoddi £4.5 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon cymunedol, ac mae £24 miliwn arall yn cael ei gyflwyno yn ystod y tair blynedd nesaf.

Gwnaethoch chi gyfeirio at adroddiad y British Heart Foundation, ac yn amlwg mae'r British Heart Foundation yn rhanddeiliad allweddol i ni ac yr ydym ni wir yn derbyn yr argymhellion y maen nhw'n eu gwneud. Y syniad gyda'n cynllun rheoli pwysau Cymru gyfan yw y bydd y gwasanaethau hynny ar gael i bawb, ond yr wyf i wir yn ystyried yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud ac rwy'n credu nad ydym ni bob amser yn deall yr amrywiaeth eang o effeithiau a all godi yn sgil problemau iechyd y galon. Nid yw'n fater o drawiadau ar y galon yn unig; mae'n bethau fel dementia, sy'n risg yr ydym ni i gyd eisiau ei lliniaru. Felly, rydym ni wir wedi'n hymrwymo i barhau i weithio gyda'r British Heart Foundation a rhanddeiliaid allweddol ar y gwaith hwnnw. Diolch.

15:15

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad yma heddiw.

Gwn i fod hwn yn fater y mae gan y Gweinidog ddiddordeb brwd ynddo. Bu'r ddau ohonom ni'n gwasanaethu ar y pwyllgor iechyd yn y pumed Senedd yn ystod hynt Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Cyflwynais i'r gwelliant a arweiniodd at y Llywodraeth yn cytuno i gyflwyno strategaeth gordewdra, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog a minnau'n cytuno bod yn wir raid i hyn fod yn flaenoriaeth i ni. Rwy'n credu bod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd y genedl mewn termau corfforol a'n hiechyd fel cenedl ym mhob ffordd sylweddol bosibl. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w groesawu yn y datganiad heddiw.

Rwyf i yn cwestiynu'r rhifau, y symiau o arian sy'n cael eu dyrannu. Mae’n braf gweld £13 miliwn yn cael ei ddyrannu tuag at hyn. Rwy'n rhyw deimlo bod yna sero ar goll o hyd pan yr ydym ni'n sôn am faint y broblem sy'n ein hwynebu ni. Mae rhai ffigurau gan Lywodraeth Cymru yr wyf i wedi'u gweld yn awgrymu y gallai gordewdra gostio tua £86 miliwn bob blwyddyn i GIG Cymru. Byddwn i'n cwestiynu hynny, pan ystyriwch chi'r effaith y gall gordewdra ei chael ar ddiabetes math 2, sy'n cymryd cymaint â 10 y cant o holl gyllideb GIG Cymru. Felly, mae'n rhaid i ni, os ydym ni eisiau elwa ar y canlyniadau, fod yn buddsoddi ar yr ochr ataliol honno, y gallwn ni, ar draws y pleidiau yma yn y Siambr, gytuno bod yn rhaid ei blaenoriaethu. Mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn yr ochr ataliol honno os ydym ni eisiau elwa ar y buddion hirdymor. A byddwn i'n croesawu sylwadau'r Gweinidog ynghylch a yw'n cytuno â mi, mewn gwirionedd, mai'r drafodaeth y mae eisiau iddi hi ei chael o amgylch y bwrdd Cabinet hwnnw yn y Llywodraeth yw ychwanegu'r sero arall hwnnw at y swm hwnnw, sy'n rhywbeth y dylem ni fod yn anelu ato.

Rwy'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar gynllun treialu yn fy etholaeth i ar anghydraddoldebau iechyd, gan weithio gyda theuluoedd a phlant yn benodol. Nid yw byth yn rhy hwyr ym mywyd rhywun, wrth gwrs, i feddwl mewn ffordd iach. Ymunais â chlwb Nifty Sixties yn y Gym of Champions, Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn yng Nghaergybi ddoe. Nid wyf i eto yn fy 60au, er y byddaf i'n dechrau yn fy chweched degawd yn ddiweddarach eleni. Prin y gallwn i gystadlu â'r dynion a'r menywod ifanc hynny a oedd yno, a oedd yn cadw'n heini o gorff a meddwl. Wrth gwrs, mae cadw ein pwysau ni i lawr yn rhan fawr o hynny. Gallech chi weld drwyddyn nhw y budd yr oedden nhw'n ei gael o'r cyfleuster gwych hwnnw sydd gennym ni yng Nghaergybi, ond mae wedi cymryd buddsoddiad i'w roi ar waith—mae angen i ni weld y math hwnnw o fuddsoddiad ym mhob rhan o Gymru.

Un neu ddau gwestiwn arall am hysbysebu. Nododd y ddogfen wreiddiol 'Pwysau Iach: Cymru Iach' y byddai gwaharddiad, erbyn 2030, ar hysbysebu, noddi a hyrwyddo bwydydd sydd â llawer o fraster dirlawn, siwgr a halen mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys gorsafoedd bysiau a rheilffyrdd, digwyddiadau chwaraeon, atyniadau teuluol ac ati. Roedd astudiaeth a ddaeth i'r casgliad bod mesurau tebyg ar fyrddau hysbysebu rheilffordd danddaearol Llundain ers 2019 wedi cael effaith wirioneddol. Cyfrannodd, efallai, at ostyngiad o 1,000 o galorïau o ran prynu pethau nad ydyn nhw'n iach ym masgedi siopa wythnosol pobl—pobl a oedd wedi dod ar draws yr hysbysebion hynny. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran ble yr ydym ni gyda'r mesurau hynny?

Ac o ystyried, yn olaf, fod y Gweinidog wedi nodi y bydd yn gofyn i swyddogion ystyried mesurau sy'n ymwneud â threthiant, pryd y gallwn ni ddisgwyl rhagor o fanylion am hynny? Roeddwn i ar y meinciau hyn pan oedd pobl yn chwerthin am ein pennau am awgrymu y gallem ni gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr. Mae hynny'n digwydd nawr, mae wedi cael ei dderbyn. Mae angen i ni symud ymlaen nawr i fwydydd nad ydyn nhw'n iach hefyd. Ac a yw'r Gweinidog hefyd wedi ystyried galwadau gan elusennau, megis Sefydliad Prydeinig y Galon, i gyfyngu ar ymgyrchoedd hyrwyddo—prynu un, cael un am ddim a'r tebyg—ar fwydydd a diodydd nad ydyn nhw'n rhai iach?

15:20

Diolch yn fawr iawn, Rhun, a diolch am eich croeso i'r cynllun cyflawni yr wyf i wedi'i gyhoeddi heddiw. Fel y gwnaethoch ei ddweud yn gywir, dechreuodd y strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn sgil Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ac mae hi wedi bod yn dda gwneud y gwaith yr wyf i wedi'i wneud ar bwyllgorau ynghylch ymdrin ag anweithgarwch ac ati—mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn.

Gwnaethoch chi gyfeirio at y cyllid ac a yw'n ddigonol. Yn ogystal â'r £13 miliwn i gefnogi, yn uniongyrchol, y gwaith o gyflawni'r strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' am y ddwy flynedd, yr ydym ni hefyd wedi ailflaenoriaethu'r £7.2 miliwn o gyllid atal blynyddol a'r blynyddoedd cynnar o fis Ebrill 2022, a bydd cyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus ar draws byrddau iechyd lleol yn defnyddio hynny i gefnogi ymyriadau yn benodol yn y meysydd gordewdra yn ogystal â'r meysydd polisi tybaco, yn unol â'n strategaethau yn y ddau faes hynny. Ac rydym ni'n gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod cynlluniau ar gyfer y cyllid hwn yn cyd-fynd â'r strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', ac rydym ni wrthi'n cwblhau hynny. Rwyf i hefyd wedi cyfeirio at y cyllid arall, fel iach ac egnïol, a'r arian sy'n mynd ar gyfer cyfleusterau chwaraeon, sydd, wrth gwrs, yn ychwanegol at hynny. Y peth arall y byddwn i'n ei ddweud yw bod gwerthusiad trylwyr iawn yn cael ei gynnwys wrth weithredu'r cynllun cyflawni hwn, a bydd hynny'n ein galluogi ni, yn amlwg, i ystyried a oes angen mwy o arian arnom ni, ac mae hynny'n rhan allweddol iawn o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud.

Diolch i chi am eich croeso i'r cynllun treialu plant a theuluoedd—mae un ohonyn nhw yn eich etholaeth chi. Hefyd i atgoffa'r Aelod ein bod ni'n parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn cyllid ar gyfer gweithgarwch i bobl dros 60 oed hefyd, felly rydym ni'n ymwybodol bod hyn yn beth gydol oes.

Gwnaethoch chi gyfeirio at drethiant: mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi dechrau gweithio arno. Gwnaethom ni ddechrau rhywfaint o waith cychwynnol yn 2019 pan gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad ar hyn, ac edrychodd hwnnw ar dystiolaeth ryngwladol ac ystyriodd y pwerau posibl y byddai modd eu defnyddio. Roedd hwnnw'n ddarn o waith cam cyntaf, ac rydym ni'n mynd i gomisiynu gwaith arall ar hynny i fireinio rhai cynigion posibl y byddwn ni'n eu datblygu fel rhan o'r cynllun cyflawni dwy flynedd hwn. Rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hynny maes o law.

O ran hyrwyddo prisiau, yn hollol. Rwyf i'n lansio ymgynghoriad yn y gwanwyn a fydd yn ystyried amrywiaeth o ddewisiadau deddfwriaethol, ac un o'r pethau y byddwn ni'n edrych arno yw cyfyngu ar hyrwyddo prisiau bwydydd sydd â llawer o siwgr, braster a halen.

15:25

Diolch yn fawr iawn Gweinidog am eich datganiad, a diolch yn fawr i chi am eich ymrwymiad i'r maes hwn, oherwydd mae hi wir yn gofyn am y lefel honno o ddyfalbarhad ar y mater cymhleth hwn.

Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i Undeb Amaethwyr Cymru yn ddiweddar, sydd wedi addo mynd i ysgolion yn fy etholaeth i a siarad â phlant ynghylch o ble y mae bwyd yn dod. Rwy'n credu bod hynny'n fan cychwyn eithaf sylfaenol, ac yn anffodus, i lawer ohonyn nhw, mae'n ddirgelwch llwyr. Felly, hoffwn i weld gerddi marchnad ym mhob ysgol, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd, ac yr wyf i'n cefnogi eich dull gweithredu'n fawr, i ganolbwyntio ar ardaloedd o amddifadedd. Rydym ni i gyd wedi cwrdd â phlant cyn COVID sydd wedi dechrau yn yr ysgol heb erioed ddefnyddio cyllell neu fforc neu erioed wedi eistedd i lawr o amgylch bwrdd gyda'r teulu i rannu pryd o fwyd, felly rwy'n gwerthfawrogi ei fod yn gyfle gwych i ddefnyddio'r buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd i geisio newid y diwylliant yn ymwneud â bwyd, oherwydd nid yw hi fel hyn yn yr Eidal. Rydym ni wir wedi colli'r ffordd yn y wlad hon. Rydym wedi bod o dan ddylanwad mawr y cynhyrchwyr bwyd hynny sy'n creu gordewdra ac sydd eisiau i ni i gyd fwyta pethau sy'n mynd i'n lladd ni. 

Mae fy nghwestiwn i yn ymwneud mewn gwirionedd â: os ydych chi'n mynd i newid y rheoliadau prydau ysgol, rwy'n cymeradwyo hynny, ond pwy fydd yn monitro ansawdd prydau ysgol? Oherwydd ar hyn o bryd rydym ni'n dibynnu ar lywodraethwyr ysgolion, ac o'u rhan nhw, mewn gwirionedd, mae'n dipyn o ddirgelwch, ac nid wyf i eto wedi gweld llywodraethwyr ysgol yn gyffredinol sy'n ymddiddori yn y mater hwn.

Hefyd, pa ddulliau penodol ydych chi'n eu cynllunio ar gyfer menywod beichiog? Rydym ni'n gwneud llawer iawn o ymdrech i helpu menywod i roi'r gorau i ysmygu, yn gwbl briodol, pan fyddan nhw'n feichiog, ond onid yw'n gyfle euraidd i gael teuluoedd sy'n disgwyl babi i wir newid eu perthynas â bwyd? Ac, yn arbennig, mae'r manteision i blant sy'n bwydo ar y fron, ac i'r fam o golli pwysau ar ôl yr enedigaeth, mor enfawr a gydol oes fel yr hoffwn i weld mwy o fuddsoddiad mewn cynorthwywyr mamolaeth sy'n gallu cefnogi menywod o ran bwydo ar y fron, nad yw'r peth hawsaf yn y byd i'w wneud.

Diolch yn fawr iawn, Jenny, am eich croeso, a diolch i chi hefyd am eich ymrwymiad parhaus yn y maes gwaith hwn. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr, ac rwy'n cydnabod bod gennym ni lawer o waith i'w wneud o ran annog plant a phobl ifanc i fwyta'n iachach.

Ddoe roeddwn i yn Ysgol Gynradd Ysgol-y-Graig yng Nghefn Coed ym Merthyr ar gyfer dechrau cyfres o wersi 'Eat Them To Defeat Them' gan Veg Power. Roeddwn i'n gallu gwylio'r plant yn cael amrywiaeth o wersi gwahanol, i fyny o'r feithrinfa yr holl ffordd drwy'r cyfnod sylfaen, ac roedden nhw'n dysgu am lysiau, yn amlwg rhai nad oedden nhw erioed wedi'u gweld. Rydym yn parhau i gefnogi'r fenter Veg Power, ond hefyd, wrth gwrs, mae gennym ni ein cwricwlwm newydd yn dod i rym, sy'n gyfle enfawr gyda'n maes iechyd a llesiant o ddysgu a phrofiad. Cryfder hynny yw na fydd yn rhannu'r pethau hyn yn wersi penodol yn unig. Bydd hwn yn ddull gweithredu ledled y cwricwlwm i sicrhau bod ein plant ni'n cael y cyfle nid yn unig i ddysgu am yr hyn sy'n iach, ond hefyd i weithredu rhai o'r pethau hynny hefyd.

Gwnaethoch chi sôn am yr ymrwymiad i brydau ysgol am ddim; yn hollol, rydym ni wedi ymrwymo i adolygu'r safonau maeth. Ar hyn o bryd, mae Estyn i fod i ystyried sut mae ysgolion yn cydymffurfio â'r safonau maeth. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, byddwn i'n awyddus iawn i gael trafodaethau gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau bod gan Estyn ganolbwynt parhaus yn y maes hwn, oherwydd mae'n eithriadol o bwysig.

Gwnaethoch chi sôn am bwysigrwydd mamolaeth, ac mae maes blaenoriaeth cenedlaethol 3 yn ein cynllun cyflawni wedi'i gynllunio i gefnogi'r dechrau gorau mewn bywyd, er mwyn galluogi teuluoedd i wneud dewisiadau cadarnhaol o'r cyfnod cyn beichiogrwydd i'r blynyddoedd cynnar. Mae wir yn cael ei gydnabod fel blaenoriaeth yn y cynllun, ac fel rhan o hynny, byddwn ni'n cryfhau'r gwaith i sicrhau bod menywod beichiog yn gallu manteisio ar lwybr rheoli pwysau Cymru gyfan i gefnogi gordewdra beichiogrwydd. Mae gennym ni hefyd amrywiaeth o fentrau i annog a hyrwyddo pwysigrwydd bod â phwysau iach cyn beichiogrwydd, ac o gynnydd iach mewn pwysau yn ystod beichiogrwydd, drwy'r dangosyddion perfformiad allweddol mamolaeth, gan gynnwys sicrhau mynediad i ap Bwyta'n Ddoeth yn ystod Beichiogrwydd.

Gwnaethoch chi gyfeirio hefyd at bwysigrwydd bwydo ar y fron. Mae hynny nawr yn rhan o sylfaen allweddol ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', ac mae gennym ni gynllun gweithredu bwydo ar y fron. Cafodd rhywfaint o'r gwaith ar hynny ei oedi oherwydd COVID, ond mae hynny'n mynd i fod yn ailddechrau nawr. Rwy'n awyddus iawn i weld hynny'n cael ei gyflawni'n gyflym, gyda thargedau a cherrig milltir y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n eu cyrraedd. 

15:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am wneud datganiad hynod bwysig heddiw? Rwy'n croesawu pob gair a ddywedodd hi, yn arbennig felly pan gyfeiriodd hi'n ddiweddar yn ei hymateb i Jenny Rathbone am bwysigrwydd y cwricwlwm newydd. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn gofyn am sicrwydd: a wnaiff y Gweinidog sicrhau'r Aelodau y bydd hi'n parhau i ymgysylltu â'r Gweinidog Addysg wrth ddatblygu a chyflwyno'r cwricwlwm newydd, er mwyn i hwnnw estyn cyfle a galluogi athrawon i fod yn greadigol ac yn arloesol yn y ffordd y maen nhw'n cefnogi datblygiad corfforol pobl ifanc?

Yn ail, a gaf i longyfarch y Llywodraeth am y pwyslais manwl a fu ar y blynyddoedd cynnar a phlant, nid yn unig o ran y datganiad heddiw, ond ar draws pob maes cyfrifoldeb yn y Llywodraeth sy'n ymwneud â phlant? A gaf i ofyn am sicrwydd hefyd y bydd y Gweinidog yn parhau i ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar, o gofio'r dystiolaeth ysgubol sy'n dangos bod y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd yn aruthrol bwysig o ran datblygiad pob unigolyn?

Diolch yn fawr iawn i chi, Ken. Rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw i chi fy mod yn ymrwymedig iawn i'r blynyddoedd cynnar ym mhob agwedd. Rydych chi wedi fy nghlywed i fel Aelod y meinciau cefn yn codi pwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf sawl tro. Felly, mae honno'n flaenoriaeth i mi. Fel roeddech chi'n fy nghlywed i'n esbonio i Jenny Rathbone, y siaradwr blaenorol, mae hwn yn faes blaenoriaeth allweddol ac yn rhan o'r cynllun cyflawni y gwnaethom ni ei gyhoeddi heddiw. Rydych chi yn llygad eich lle i bwysleisio pwysigrwydd y cwricwlwm newydd, ac, fel y dywedais i, nid yw'n rhoi'r materion hyn mewn blychau ar wahân. Mae hyn yn ymgorffori iechyd a llesiant ar draws y cwricwlwm cyfan, a hefyd, yn hanfodol, mae'n sefydlu'r cysylltiadau hynny sydd rhwng iechyd corfforol a meddyliol. Mae'r cynllun hwn heddiw yn gynllun ar draws y Llywodraeth. Mae pob Gweinidog wedi gweld y cynllun, wedi cytuno ar y cynllun, ac fe fyddaf i'n gweithio yn agos iawn gyda'r Gweinidog addysg ynghylch cyflawni agweddau addysg y cynllun, fel rwy'n ei wneud yn barod ynghylch y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant. Felly, rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw heddiw. Diolch i chi. 

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc

Eitem 4 sydd nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun plant a phobl ifanc. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae heddiw'n ddiwrnod arbennig yn hanes Cymru, diwrnod i ni ddathlu'r genedl anhygoel hon ac i arddangos pa mor wych yw Cymru i dyfu i fyny, i fyw ac i weithio ynddi. 

Rwyf wrth fy modd, ar y diwrnod pwysig hwn, i fod yn cyhoeddi'r cynllun plant a phobl ifanc, sy'n nodi ein huchelgais ni ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol. Yng Nghymru, rydym ni'n dymuno'r gorau i'n plant—ein plant ni i gyd, does dim ots beth yw eu cefndiroedd nhw, o ble y maen nhw'n dod, nac ymhle maen nhw'n byw. Rydym ni'n dymuno i bob un ohonyn nhw gael y dechrau gorau mewn bywyd, i fynd ymlaen i fyw'r mathau o fywydau y maen nhw'n awyddus i'w byw, a gwybod eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi.

Fel Llywodraeth, rydym ni'n frwdfrydig iawn ynglŷn â hawliau plant. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i ymgorffori hawliau plant yn ein cyfreithiau ni, a heddiw rydym ni'n datgan o'r newydd ein hymrwymiad i wireddu hawliau plant. Mae'r cynllun yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw yn dod â chydlyniaeth i'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar draws y Llywodraeth ar ran plant a phobl ifanc, ac yn eu rhoi wrth galon ein penderfyniadau ni. Yn y cynllun hwn, rydym ni wedi nodi ein huchelgais, ac wedi nodi saith blaenoriaeth ar draws y Llywodraeth lle'r ydym ni wedi cytuno i gydweithio ar draws ein portffolios gweinidogol, i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n plant a'n pobl ifanc, nawr ac yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, yn cael ei drin yn deg, yn cael y cymorth sydd ei angen arno i symud ymlaen drwy addysg, hyfforddiant ac i gyflogaeth, yn cael ei gefnogi i'w helpu i deimlo cryfder meddyliol ac emosiynol, i gael cyfle teg mewn bywyd, cartref da a diogel i fyw ynddo, a chael y cymorth sydd ei angen arno i aros gyda'i deulu neu ddychwelyd at ei deulu, os yn bosibl.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar yr hyn y byddwn ni'n ei wneud i wireddu ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu i blant a phobl ifanc. Mae'n rhoi cipolwg ar rai o'r gweithgareddau y gwnaethom ni eu sefydlu o'r blaen ac yn nodi rhai o'r gweithgareddau y byddwn ni'n eu datblygu dros y 12 mis nesaf. Yn y Llywodraeth, rydym ni wedi cyflawni llawer iawn, ond fe wyddom ni ei bod hi'n bwysig i ni fynd ymhellach, ac rydym ni'n benderfynol o fynd ymhellach drwy gydol y tymor Seneddol. Yn y flwyddyn i ddod, fe ddaw rhai prosiectau cyffrous yr ydym ni'n bwriadu eu datblygu. Er enghraifft, rydym ni am roi bwndeli babanod i fwy o deuluoedd newydd, yn dechrau ein cwricwlwm newydd i Gymru, yn creu mwy o brentisiaethau, yn gwella gwaith ieuenctid fel gall mwy o bobl ifanc gael llety diogel, adeiladu cartrefi preswyl ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, a dechrau llunio coedwig genedlaethol i Gymru, i enwi dim ond ychydig o bethau. Mae'r cynllun hwn yn seiliedig ar fuddsoddiad sylweddol, fel mae ein cyllideb derfynol ar gyfer 2022-23, a gyhoeddwyd heddiw, yn ei amlygu gyda mwy na £1.3 biliwn o fuddsoddiad yn benodol i'r blynyddoedd cynnar ac addysg, a bron i £0.75 biliwn yn cael ei roi i awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau hanfodol fel ysgolion.

Mae gwrando, siarad ac ymateb i blant a phobl ifanc yn allweddol i ddeall sut mae'r penderfyniadau a wnawn ni yn y Llywodraeth yn effeithio ar eu bywydau nhw ac yn effeithio arnyn nhw. Fe fuom ni'n siarad â 173 o blant a phobl ifanc hyd at 25 oed am y blaenoriaethau sydd yn y cynllun hwn. Roedden nhw'n dweud wrthym ni am y pethau sy'n bwysig iddyn nhw, gan gynnwys cael lleoedd i chwarae, a chael hwyl a dysgu, a gallu cyflawni eu dyheadau beth bynnag fo incwm, gallu neu gefndir ethnig eu teulu nhw, a chael cymorth wrth bontio rhwng cyfnodau bywyd ac wrth wneud dewisiadau bywyd, a chael bod â rhan yn y penderfyniadau ynglŷn â'u bywydau, nid penderfynu ar eu cyfer nhw.

Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i ddiolch i'r plant a'r bobl ifanc sydd wedi helpu i lunio'r cynllun hwn, ynghyd â Phlant yng Nghymru a'r sefydliadau sydd wedi bod yn gweithio gyda nhw i ddod â'r safbwyntiau pwysig hyn. Rwy'n benderfynol o gynnal y sgwrs hon. Mae'r cynllun yn amlinellu sut y byddwn ni'n parhau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc wrth i ni gyflawni ein hymrwymiadau. Mae hyn yn cynnwys adrodd ar gynnydd a'r cyfraniadau yr ydym ni'n eu gwneud at gyrraedd ein cerrig milltir cenedlaethol. Ond wrth gwrs, rydym ni'n deall na allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae llwyddiant y cynllun yn dibynnu arnom ni i gydweithio â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ac ar draws y gymdeithas gyfan, i wella gwasanaethau lleol a chyflawni ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Gadewch i ni wneud hwn yn Ddydd Gŵyl Dewi i'w gofio, a chyfleu neges rymus i blant a phobl ifanc mai Llywodraeth yw hon sy'n gweithio iddyn nhw a bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u cynrychioli yn gyson ym mhob haen o Lywodraeth Cymru.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd i roi'r cynllun plant a phobl ifanc ar waith ac i gyflawni ein huchelgais i wneud Cymru yn lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddi. Diolch.

15:40

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Wrth gwrs, rwy'n dymuno Dydd Gŵyl Ddewi hapus iawn i chi.

Rwy'n siŵr na fydd yna unrhyw anghydweld o ran eich nod datganedig o greu Cymru sy'n lle hyfryd i dyfu i fyny, byw ac, yn wir, gweithio ynddo. Mae hwn yn nod y mae pob un ohonom ni'n ei rannu, ond mae'n un y bydd angen mwy na geiriau teg i'w gyflawni. Mae'r pandemig a chamau gweithredu'r Llywodraeth ar gyfer arafu ymlediad COVID-19 wedi effeithio mewn ffordd ddinistriol ar blant a phobl ifanc, ac ni allwn bwysleisio digon yr effaith a gafodd hyn ar eu haddysg nhw, eu datblygiad emosiynol, eu lles meddyliol, yn ogystal â'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

Cenhedlaeth ein plant ni a gaiff ei llesteirio gan y ddyled ofnadwy a gronwyd yn ystod y pandemig. Maen nhw'n gorfod ymdopi hefyd ag effaith newid hinsawdd, sydd, yn ôl panel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd, yn waeth o lawer nag yr oeddem ni'n ei feddwl o'r blaen. Nid yn unig hynny, fe fyddan nhw'n teimlo'r canlyniadau yn sgil tueddiadau gormesol Rwsia, boed hynny oherwydd effaith y sancsiynau haeddiannol neu ymddygiad ymosodol parhaus arweinyddiaeth Rwsia. Mae hi, felly, yn siomedig nad yw'r cynllun plant a phobl ifanc yn bwriadu cefnogi ein cenedlaethau iau ni i ymdrin â'r heriau presennol a'r rhai i ddod.

Dirprwy Weinidog, pam nad oes unrhyw beth newydd yn eich cynllun chi? A ydych chi o'r farn ei bod hi'n ddigon i ailddatgan y polisi cyfredol? Pam wnaeth Llywodraeth Cymru fodloni ar fod â 2050 yn nod? A ydych chi o'r farn fod hynny'n ddigon uchelgeisiol o ran cerrig milltir unigol? A ydych chi'n teimlo eu bod nhw'n ddigon i feithrin y Gymru y mae plant a phobl ifanc yn awchu amdani hi'n ddelfrydol? Roedd Llywodraethau blaenorol yn dymuno cael gwared ar y NEET, ac eto mae eich cynllun chi nawr yn nodi y byddwch chi'n eu lleihau nhw gan 90 y cant dros y tri degawd nesaf. Beth am ymrwymo i 100 y cant? Dirprwy Weinidog, pam nad yw'r cynllun hwn yn cynnwys unrhyw gamau neu ymrwymiadau i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod? Beth fydd y cynllun yn ei wneud ynghylch mynediad i wasanaethau CAMHS?

Dirprwy Weinidog, er fy mod i'n rhannu eich uchelgeisiau cyffredinol chi, nid wyf i'n credu bod eich cynllun chi'n ddigon uchelgeisiol. Os ydym ni am greu Cymru sy'n lle gwirioneddol hyfryd i dyfu, byw a gweithio ynddo, yna mae angen i ni wneud mwy na dim ond yr hyn y gwnaethoch chi ei amlinellu yn yr hyn a elwir yn gynllun y prynhawn yma.

Diolch i Gareth Davies am y sylwadau yna. Rwy'n falch ei fod e'n cytuno â mi bod Cymru'n lle hyfryd i fyw ynddo, a thyfu i fyny. Rwy'n credu bod y cynllun hwn yn un uchelgeisiol. Rwy'n credu os byddwn ni'n llwyddo i wneud y pethau yr ydym ni'n eu rhoi yn y cynllun hwn, y bydd Cymru yn lle gwell fyth i bobl ifanc a phlant dyfu i fyny ynddo. Yn sicr, nid geiriau teg yn unig yw hyn. Yr hyn sydd yn y cynllun hwn yw ymgais i sicrhau cydlyniad o ran yr holl bethau yr ydym ni'n eu gwneud, felly roedd hi'n rhaid i ni nodi rhai o'r pethau a wnaethom ni a rhai o'r pethau yr ydym ni'n bwriadu eu gwneud. Rydym ni'n dymuno rhoi hynny mewn un ddogfen ar gyfer bod yn atebol. Rydym ni'n dymuno bod yn atebol i blant a phobl ifanc.

Dyna pam yr es i'r wythnos diwethaf, gyda'r Prif Weinidog, i drafod hyn gyda phlant a phobl ifanc—yr hyn yr oedden nhw'n ei feddwl am y cynllun hwn. Roedden nhw wrth eu boddau ein bod ni'n wedi rhoi o'n hamser ac wedi gwneud yr ymdrech i baratoi cynllun a thrafod y cynllun hwnnw gyda nhw. Roedden nhw'n frwdfrydig iawn yn ei gylch ac fe wnaethon nhw godi'r holl bethau sy'n digwydd yn eu bywydau sy'n achos pryder iddyn nhw. Roedden nhw'n falch iawn bod rhywbeth ar gael iddyn nhw nawr i edrych arno ac y gellid mesur hynny bob blwyddyn. Oherwydd yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yw cwrdd â phlant yn flynyddol i geisio mesur yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw yn ystod y flwyddyn honno a'r materion y maen nhw'n dymuno i ni eu diwygio.

Rydych chi'n dweud nad oes unrhyw beth newydd yn y cynllun hwn, ond rhywbeth newydd yw ein bod ni â chynllun plant, peth newydd yw ein bod ni yn y Llywodraeth am fod yn atebol i blant, a pheth newydd yw ein bod ni am fynd yn ôl at blant bob blwyddyn. Rwyf i o'r farn ei fod yn gynllun uchelgeisiol. Yn sicr, mae'r holl faterion yr ydym ni'n mynd i'r afael â nhw yma yn mynd i'r afael â'r materion a achosir gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydych chi'n sôn nad oes dim yn hyn sydd am geisio cefnogi plant. Os edrychwch chi ar yr hyn a wnaethom ni eisoes o ran cael—. Wel, edrychwch ar yr Haf o Hwyl a gawsom ni, roedd honno'n ymdrech enfawr i fynd at blant, a'r Gaeaf Llawn Lles, a'r cynlluniau sydd gennym ni ar gyfer yr haf sydd ar ddod eleni, a'r cynlluniau sydd gennym ni i wella'r cyfle ar gyfer gwaith ieuenctid, y ddarpariaeth ieuenctid i blant, lle'r ydym ni'n rhoi dros £11 miliwn i geisio gwella'r cyfleoedd i blant fod â lleoedd diogel i fynd iddyn nhw. Felly, yn fy marn i, ar Ddydd Gŵyl Ddewi, mae hwnnw'n ymateb digalon iawn. 

15:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Ddirprwy Weinidog, am y datganiad. Ydy, mae Cymru yn lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo fo, ond, wrth gwrs, mae yna anghyfartaledd aruthrol ar y funud, a dydy hynny ddim yn wir ar gyfer pob plentyn. Rydyn ni'n rhannu'r uchelgais angenrheidiol yna fod hyn yn wir i bawb, lle bynnag y bôn nhw yng Nghymru. 

Rwy'n falch o nodi, drwy'r cytundeb cydweithredu rhwng fy mhlaid i a'ch Llywodraeth chi, y byddwn ni'n gallu dechrau darparu ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Cymru, boed hynny drwy'r ddarpariaeth estynedig o brydau ysgol am ddim a gofal plant i fynd i'r afael â newid hinsawdd, neu drwy addysg. Mae Cymru a'r byd yn wynebu llu o argyfyngau, ac fe fydd effaith yr argyfyngau hyn yn pwyso yn drwm iawn ar aelodau ieuengaf ein cymdeithas ni ac ar y cenedlaethau a ddaw. Fe fydd ein plant a'n pobl ifanc yn ysgwyddo baich llawn newid hinsawdd, dirywiad natur, effeithiau hirdymor niferus a dinistriol y pandemig ar ein heconomi ni ac ar eu haddysg nhw. Ar y foment hon, mae'r argyfwng tai a'r mater cynyddol o ail gartrefi yn effeithio ar gymunedau, gan erydu cymunedau i bob pwrpas cyn y gall y plant a'r bobl ifanc a aned yn lleol gael profiad hyd yn oed o fyw a gweithio yno. Plant sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw, ac rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno bod angen mesurau wedi'u targedu arnom ni i sicrhau bod effeithiau'r argyfwng ar blant a phobl ifanc yn cael eu hatal, eu stopio neu eu cyfyngu pan fo hynny'n bosibl drwy gamau wedi'u targedu.

Fe gefais fy nharo, neithiwr hyd yn oed, pan ofynnodd fy mab wyth oed i mi ddiffodd y teledu am ei fod wedi cael llond bol ar glywed y newyddion, ei fod yn teimlo'n drist ac yn teimlo yn ddiymadferth hefyd ar ben popeth y mae ein plant a'n pobl ifanc wedi bod drwyddo drwy'r pandemig i gael gwybod beth sy'n digwydd yn Wcráin a'r effaith y mae hynny'n ei gael hefyd. Mae hwn yn amser brawychus i'n plant a'n pobl ifanc ni—mae'n ddychrynllyd iawn—ac mae yna gymaint y mae gennym ni gyfrifoldeb i'w wneud. Felly, mae hi'n gwbl briodol ein bod ni'n gwrando arnyn nhw, ein bod ni'n gweithio yn ôl y nodau hyn, ond ein bod ni hefyd yn atebol i blant a phobl ifanc. Ac rwy'n cytuno yn llwyr, nid siarad at bobl ifanc a phlant yw hyn, gweithio gyda nhw yw hyn, a rhoi'r un pwysigrwydd i'w hatebion a'u lleisiau nhw.

Un maes lle y gallwn ni yn wir gynnig cymorth wedi'i dargedu fwyaf ac sy'n fwyaf defnyddiol yw ym maes tai, ac mae llawer o effeithiau gwaethaf y pandemig ar ansawdd bywyd ac, yn wir, ar addysg plant a phobl ifanc â'u hanfod yn yr argyfwng tai a hynny sydd wedi gwaethygu'r sefyllfa. Felly, a gaf i ofyn, Ddirprwy Weinidog—? Pan edrychwn ni nawr o ran tlodi tanwydd—ac fe wyddom ni fod hwn yn fater sylweddol sy'n effeithio ar blant a theuluoedd yng Nghymru, gydag un o bob 10 aelwyd â dau blentyn yn gorfod torri'n ôl ar fwyd i blant, ac maen nhw'n gorfod torri'n ôl ar danwydd hefyd—fe wyddom ni y gall tymheredd isel achosi myrdd o broblemau iechyd wrth gynyddu'r risg o leithder hefyd, sy'n cynyddu'r risg fwyfwy o glefydau anadlol mewn plant. Mae angen i ni gynnig cartrefi diogel a chynnes i bob plentyn yng Nghymru. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn rhagweithiol i nodi plant mewn tlodi tanwydd, neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd, i sicrhau y bydd ein cefnogaeth ni o les i'r plant mwyaf agored i niwed? Pryd y gallwn ni ddisgwyl i'r Llywodraeth roi diwedd ar dlodi tanwydd ar aelwydydd sydd â phlant?

Fel cyfeiriodd Gareth Davies ato hefyd, fe wyddom ni fod gwasanaethau arbenigol CAMHS—. Fe welsom ni'r data ym mis Chwefror a oedd yn cadarnhau bod canran y cleifion sy'n cael eu hapwyntiad cyntaf o fewn pedair wythnos wedi gostwng i'r gyfradd isaf a fu erioed sef 22 y cant. Mae'r ystadegau hyn yn syfrdanol ac yn dangos methiant i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd meddwl sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Gadewch i ni fod yn eglur, mae bron i bedwar o bob pump o bobl ifanc yn aros dros fis am eu hapwyntiad cyntaf ynglŷn ag iechyd meddwl, ac nid yw hynny'n ddigon da. Mae pob un ohonom ni'n clywed straeon torcalonnus gan deuluoedd ac yn uniongyrchol gan bobl ifanc sy'n awyddus iawn i gael eu gweld. Mae angen i ni fod â darpariaeth gadarn ar waith fel gall cleifion dderbyn y driniaeth orau bosibl cyn gynted â phosibl, cyn i'w sefyllfa nhw waethygu, fel gwelsom ni'n rhy aml o lawer. Felly, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu'r cynnydd angenrheidiol o ran gwasanaethau CAMHS, a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ganiatáu i bobl ifanc gael gafael ar gymorth yn gynt, cyn iddyn nhw gyrraedd sefyllfa y mae angen y gofal arbenigol hwn arnyn nhw? 

15:50

Diolch, Heledd, am y pwyntiau pwysig iawn hyn, ac rwyf i'n cytuno yn llwyr â hi ynglŷn ag anghydraddoldebau yng Nghymru y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw. Rhywbeth teimladwy iawn oedd clywed eich sylwadau chi am eich mab yn gwrando ar y teledu, ac mae llawer o bobl wedi dweud hynny wrthyf innau am y dioddefaint sy'n cael ei gyfleu, a phan feddyliwch chi am yr hyn sy'n digwydd i'r plant, mae hynny'n llorio rhywun, mewn gwirionedd. Felly, rwy'n deall yn iawn pam roedd ei mab hi'n gofyn am ddiffodd y teledu, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio mai sôn am blant yng Nghymru yr ydym ni yn hyn o beth ac maen nhw mewn sefyllfa lawer gwell na sefyllfa llawer o blant ledled y byd, yn enwedig ar hyn o bryd.

Mae hi'n gwbl gywir bod y pandemig wedi bod yn anodd iawn i blant, ac fe wyddom ni fod plant wedi dioddef o unigedd cyfnodau hir o beidio â bod mewn cysylltiad â'u ffrindiau, a'n bod ni wedi gorfod ymdrechu i'w cyflwyno nhw o'r newydd, bron iawn, i'r ysgol. Ac felly mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn, ac rwy'n cydnabod popeth a ddywedodd hi. Fe waethygwyd hynny gan yr argyfwng costau byw, unwaith eto, y mae'r Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei allu i fynd i'r afael ag ef, dan arweiniad y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol o ran ymchwilio i ffyrdd o helpu i leddfu rhai o'r sefyllfaoedd pryderus iawn sy'n codi gyda phobl sydd heb ddigon o arian i brynu bwyd. Unwaith eto, roeddech chi'n sôn am yr argyfwng tanwydd, ac, unwaith eto, mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael ag ef o ran arian, y grant y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi llwyddo i'w drefnu.

Ond mae hi'n gwbl hanfodol, fel dywed yr Aelod, ein bod ni'n nodi'r plant hynny sydd yn y perygl mwyaf, a dyna pam rwyf i o'r farn ei bod hi mor bwysig ein bod ni wedi bod â'n gwasanaeth blynyddoedd cynnar, a bod gennym ni leoedd fel Dechrau'n Deg a anelir ac a ddarperir yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ar hyn o bryd, lle byddwn ni'n gallu nodi lle mae'r plant sydd mewn perygl arbennig. A hefyd, drwy'r cytundeb cydweithredu, rydym ni'n bwriadu ymestyn Dechrau'n Deg i blant dwy flwydd oed ledled Cymru, ac fe fydd hynny eto'n rhoi cyfle i ni allu darganfod pwy yw'r plant hynny, oherwydd mae angen y llygaid a'r clustiau ar lawr gwlad arnom ni i allu gwneud felly.

Ac, wrth gwrs, mae mater tai yn fater enfawr, ac rydym ni wedi ymrwymo i adeiladu mwy o dai i fod ar gael am rent teg, a hefyd ar gyfer mynd i'r afael â materion hirsefydlog tai a adeiladwyd heb ystyriaeth i newid hinsawdd ac mae angen eu ôl-ffitio nhw. Felly, mae gennym ni raglen uchelgeisiol ar gyfer hynny.

Ac yna, beth ydym ni'n ei wneud ynglŷn â'r plant sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl o ganlyniad i bopeth sydd wedi digwydd? Rwy'n derbyn bod rhestr aros ar gyfer CAMHS. Rydym ni'n ceisio rhoi mwy o gymorth i gamau cynt fel nad yw plant yn cyrraedd y cam lle mae angen y gwasanaeth CAMHS arnyn nhw. Er enghraifft, rydym ni'n cynnig gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion, ac mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn ceisio sicrhau bod cyfleoedd ar gael yn llawer cynt yn y system ar gyfer triniaeth. Felly, rydym ni'n dymuno trin y plant cyn iddyn nhw gyrraedd sefyllfa o fod ag angen CAMHS. Rwy'n credu mai yn y fan honno y dylem ni wneud yr ymdrech.

Ond yn olaf, mae'n debyg, mewn gwirionedd, pan fyddwn ni wedi cael y drafodaeth hon, mae hyn yn swnio yn ddigalon iawn, y sefyllfa yn fyd-eang, hynny yw. Mae popeth sy'n digwydd yn ddigon digalon ar hyn o bryd, felly fe hoffwn innau ymateb hefyd gan ddweud fy mod i o'r farn fod llawer o bethau calonnog yn digwydd hefyd, ac rydym ni'n symud ymlaen gyda llawer o bolisïau gan weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod plant, gyda'r holl bethau ofnadwy hyn sydd yn digwydd, yn gallu byw'r bywydau gorau posibl iddyn nhw, a mwynhau eu hunain a chael y math o blentyndod yr ydym ni'n dymuno iddyn nhw ei gael. 

Diolch i chi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'r cynllun hwn yn llwyr, gan nodi amrywiaeth o gamau yr ydym ni'n eu cymryd yma yng Nghymru i sicrhau bod pob plentyn yn profi'r dechrau gorau yn ei fywyd, nawr ac yn y dyfodol. Ond mae yna bedair elfen o'r cynllun yr hoffwn i gyffwrdd â nhw, ac fe fyddwn i'n gwerthfawrogi ymateb cryno gennych chi ynglŷn â'r pedwar maes.

Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r ffaith bod eiriolaeth i blant a phobl ifanc mewn gofal, neu sy'n ymwneud â gwasanaethau gofal, yn cael ei gynnwys. Amlygodd ymchwil Tros Gynnal Plant 2019 bryderon sylweddol ynghylch darparu gwasanaethau ymweliadol eiriolaeth preswyl annibynnol gan ddarparwyr preifat. A gaf i ofyn i chi, felly, yn gyntaf, pa gamau a gymerir i sicrhau bod pob plentyn mewn gofal, does dim ots pwy yw'r darparwr, yn gallu cael gafael ar eiriolaeth annibynnol?

Yn ail, yn dilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Heledd, rwy'n croesawu'n fawr iawn y pwyslais a roddir ar iechyd meddwl a lles yn y cynllun hwn. Ond, fel y clywsom ni, gyda 78 y cant o gleifion yn cael eu cyfeirio at wasanaethau CAMHS, mae angen i ni wella'r sefyllfa. Rwy'n derbyn yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud: bod angen i ni sicrhau nad yw plant yn cyrraedd gwasanaethau CAMHS. Ond i'r rhai hynny sydd eu hangen, mae angen ymateb cynt arnyn nhw. Felly, fe hoffwn i glywed pa nodau penodol sydd gan Lywodraeth Cymru o ran lleihau rhestrau aros CAMHS.

Yn drydydd, nid oes unrhyw ymrwymiad o ran swyddogaeth darparwyr er elw mewn gofal preswyl i blant a phobl ifanc—mater allweddol a godwyd dro ar ôl tro, fel yr ydych chi a minnau wedi siarad amdano, gan bobl ifanc â phrofiad o ofal, ac yn un y gwn sydd â rhan bwysig wrth ariannu gwasanaethau plant. A gaf i ofyn am sicrwydd gennych chi bod y cynnig hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth?

Ac yn olaf—

15:55

Rydych chi wedi gofyn tri chwestiwn ac rydych chi wedi mynd ymhell tros amser, felly rydym ni am ei gadael hi ar y tri yna. Dirprwy Weinidog. 

Iawn, diolch yn fawr iawn, a diolch yn fawr iawn i chi, Jane, am groesawu'r cynllun hwn gyda'r fath frwdfrydedd. Mae eiriolaeth i blant mewn gofal, yn fy marn i, yn gwbl hanfodol. Fel y gwyddoch chi, un o'n prif amcanion ni yn y Llywodraeth yw gwella sefyllfa plant mewn gofal, ac fe geir cysylltiad gwirioneddol rhwng hynny â'ch trydydd cwestiwn chi hefyd, ynglŷn â darparwyr nid-er-elw, oherwydd rydym ni'n dymuno trawsnewid y system ofal. Rydym ni'n awyddus i gadw cymaint o blant â phosibl yn eu cartrefi eu hunain a gyda'u teuluoedd eu hunain. Rydym ni'n awyddus iddyn nhw aros gartref gyda'u teuluoedd, os yw hynny'n bosibl; os nad yw'n bosibl, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael gofal, rydym ni'n awyddus iddyn nhw gael eu lleoli ar bwys eu teuluoedd ac nid ydym ni'n dymuno i blant, os yw'n bosibl o gwbl i osgoi hynny, gael eu lletya ymhell o'u cynefin.

Mater o eiriolaeth yw hwnnw, oherwydd, yn amlwg, mae hi'n bwysig iawn fod plant yn gallu cael dweud eu dweud. Ar hyn o bryd, rydym ni'n ystyried sicrhau y gall gwasanaethau eiriolaeth preswyl annibynnol mewn gwasanaethau preswyl annibynnol hefyd fod ag eiriolaeth i'r plant yn y gwasanaethau hynny.

O ran y darparwyr er elw, mae hyn yn rhywbeth sydd, fel rydych chi'n dweud, wedi cael ei godi dro ar ôl tro gan bobl ifanc â phrofiad o ofal sy'n ddig oherwydd bod yr anffawd yn eu bywydau wedi arwain at elw i bobl eraill. Felly, mae hon yn un o flaenoriaethau pennaf y Llywodraeth, yn hollol, ond rhan o drawsnewid y system ofal gyfan yw hyn fel bydd llai o blant yn mynd i ofal a bod yn rhaid i'r plant sy'n gorfod dod i ofal wedyn—y bydd cymaint o blant â phosibl y mae'n rhaid eu rhoi mewn gofal yn cael eu rhoi lle nad oes elw yn y sefydliadau sy'n darparu ar eu cyfer nhw. Felly, rwy'n gallu eich sicrhau chi'n llwyr fod honno'n un o'n blaenoriaethau pennaf ni.

O ran iechyd meddwl a'r mater ynglŷn â CAMHS, rwy'n dweud unwaith eto fy mod i o'r farn ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n canolbwyntio ein hymdrechion ni ar geisio lleihau nifer y ceisiadau i CAMHS, a fydd wedyn yn cwtogi'r rhestrau aros, pe gallem ni drin rhagor o blant yn y gymuned.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno datganiad pwysig heddiw—un y mae gennyf i, wrth gwrs, ddiddordeb mawr ynddo, sydd â'r tri phlentyn gorau yng Nghymru, yr wyf i'n dad iddyn nhw. Fel roeddech chi'n sôn, Dirprwy Weinidog, yn eich datganiad, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn dymuno'r gorau i blant Cymru. Fe fyddai Aelodau ar draws y Siambr yn sicr yn cytuno ein bod ni i gyd yn dymuno'r hyn sydd orau i blant Cymru. Rwy'n pryderu, serch hynny, ein bod ni'n symud i ffwrdd oddi wrth y rhagdybiaeth mai rhieni sy'n gwybod orau beth sy'n llesol i'w plant nhw, a rhieni sy'n gyfrifol yn y pen draw am eu plant, a rhieni yw'r patrymau gorau o ymddygiad i'w plant hefyd. A gwaith y Llywodraeth, yn fy marn i, yw—. Ac rwyf i o'r farn y byddem ni i gyd yn cytuno y dylai'r Llywodraeth fod yno i gefnogi rhieni i ymgymryd â'r cyfrifoldeb mawr hwn wrth fagu eu plant. Yng ngoleuni hyn, roeddwn i'n bryderus o nodi yn eich datganiad chi heddiw nad oedd unrhyw sôn am y geiriau 'rhiant', 'rhieni', 'mam' neu 'dad' o gwbl. Nid wyf i'n siŵr ai diofalwch oedd hynny neu hwnnw yw'r llwybr y mae Llywodraeth Cymru yn ei gerdded, oherwydd mae hi'n hanfodol bod cymorth addas yn cael ei roi i rieni a bod swyddogaeth y rhieni yn cael ei hyrwyddo gan y Llywodraeth a bod llais y rhieni yn flaenllaw ym marn y Llywodraeth yma—

16:00

—er mwyn i chi glywed llais y rhieni. Felly—. Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe ofynnaf i gwestiwn. Sut ydych chi am sicrhau, yn eich cynllun, na chaiff swyddogaeth y rhieni ei diystyru, a pha gamau penodol y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod llais y rhieni yn flaenllaw yn eich cynlluniau chi?

Diolch yn fawr iawn, Sam Rowlands, am y pwynt pwysig yna, ac, yn sicr, rydym ni'n dymuno rhoi cymorth i rieni. Fel y dywedais i yn fy ymateb i Jane Dodds, rydym ni'n dymuno symud at system sy'n estyn cymaint o gefnogaeth ag y gallwn ni i rieni ar gyfer ffyniant plant ac iddyn nhw allu aros gyda'u rhieni, a dyna pam rydym ni wedi buddsoddi llawer mewn dosbarthiadau rhianta, pam rydym ni wedi rhoi cymorth i rieni drwy 'Magu plant. Rhowch amser iddo', lle'r ydym ni'n rhoi awgrymiadau ynghylch sut y gallwch chi reoli'r amseroedd anodd a brofwch wrth fod yn rhieni—sut rydych chi'n ymdrin â phlant dwy flwydd oed a'r stranciau a'r plant sy'n gwrthod bwyta, a'r holl bethau y mae'r rhan fwyaf ohonom ni wedi bod drwyddyn nhw, pryd, o fy rhan fy hunan yn bersonol, roeddwn i'n falch iawn o gael unrhyw help neu gyngor oddi wrth y Llywodraeth neu gan unrhyw un, mewn gwirionedd. Rwyf i o'r farn mai dyna'r ffordd iawn o edrych ar hyn, sef bod y rhan fwyaf o rieni yn chwilio am gyngor a chymorth mewn gwirionedd, ac nid wyf i'n credu y dylem ni ystyried hyn fel Llywodraeth yn dod i mewn ac yn dwyn y gwaith oddi ar y rhieni. Mae'r rhain ar gael i estyn cyngor, ac, yn y rhan fwyaf o achosion, mae pobl yn falch dros ben o gael gair o gyngor ac arweiniad, gan ymwelwyr iechyd, gan feddygon teulu, gan athrawon, o'r sectorau gwirfoddol i gyd, oddi wrth yr holl grwpiau sydd ar gael i helpu a chefnogi teuluoedd. Felly, nid wyf i'n credu y dylem ni fyth ystyried bod y Llywodraeth yn ceisio disodli gwaith y rhieni. Rydym ni ar gael i helpu rhieni, ac rwy'n credu bod y swm o arian a'r ymrwymiad y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi i sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar gael yn arwydd o'n hymrwymiad ni i'r rhieni yn ogystal ag i'r plant.

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif

Eitem 5 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar urddas yn ystod y mislif. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae mislif yn naturiol. Nid dewis mohono. Mae pob un ohonom ni naill ai'n ei gael, neu wedi ei gael, neu'n adnabod pobl sy'n ei gael. Nid rhywbeth budr mohono ac nid yw'n achos cywilydd. Ni ddylai neb fod o dan anfantais oherwydd eu bod yn cael mislif. Fe ddylai cynhyrchion mislif fod ar gael i bawb, yn ôl yr angen, i'w defnyddio mewn man preifat sy'n ddiogel a gweddus. Ond, yn anffodus, nid yw hynny'n digwydd pob amser.

Cafwyd y ddadl ddiwethaf ar y mater hwn yn 2018, pan amlygodd ymchwil gan Plan International effaith tlodi mislif ar ferched yn y DU. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae pobl yng Nghymru yn wynebu argyfwng costau byw digynsail, a ysgogwyd gan godi biliau ynni i'r entrychion. Datgelodd ciplun Sefydliad Bevan o dlodi ym mis Rhagfyr nad oes gan fwy na thraean o aelwydydd Cymru ddigon o arian i brynu unrhyw beth y tu hwnt i hanfodion bob dydd. Fe fyddaf i'n siarad â rhanddeiliaid ynglŷn â'r mater hwn yn aml. Rwyf i wedi clywed yn uniongyrchol gan fenywod yng Nghymru, wrth ddewis rhwng talu am fwyd, rhent, biliau neu gynhyrchion mislif, mai cynhyrchion mislif yw'r eitem gyntaf i'w gadael oddi ar y rhestr. A gadewch i mi ddweud hyn eto: fe geir pobl yng Nghymru heddiw sy'n cael eu gorfodi i fynd heb ofal mislif sylfaenol ar gyfer gallu bwydo eu plant. Nid yw hynny'n dderbyniol i Lywodraeth Cymru, ac ni chaiff hynny ddigwydd.

Dyna pam mae Llywodraeth Cymru, yn gynharach y mis hwn, wedi ymrwymo £110,000 yn ychwanegol i awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod lleoliadau cymunedol fel banciau bwyd a llyfrgelloedd yn cael stoc gyflawn o gynhyrchion rhad ac am ddim i gynorthwyo'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Rydym ni hefyd yn dyrannu dros £400,000 i ehangu cyrhaeddiad y grant yn 2022-23, ac mae hyn dros ben y £3.3 miliwn yr ydym ni'n ei ddarparu eisoes bob blwyddyn i ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol ledled Cymru. A dyna pam hefyd rydym ni'n gweithio i sicrhau bod cynhyrchion rhad ac am ddim ar gael mewn llochesau menywod ledled Cymru. Rydym ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi mislif ers blynyddoedd lawer, ac, ers 2018, rydym ni wedi darparu dros £9 miliwn o gyllid i sicrhau bod cynhyrchion ar gael ym mhob ysgol a choleg yng Nghymru ac ar draws cymunedau ar gyfer y rhai sydd ar incwm isel. Fe sefydlwyd y ford gron urddas yn ystod mislif, gan ddod â rhanddeiliaid arbenigol, gweithredwyr a phobl ifanc at ei gilydd i weithio gyda'i gilydd, ac mae'r ford gron wedi cynnig cyngor a chyfarwyddyd drwy gydol ein gwaith ni ynglŷn ag urddas yn ystod mislif, ac fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'w haelodau am eu cefnogaeth.

Fe ddaeth cau ysgolion a lleoliadau cymunedol yn ystod penllanw pandemig COVID-19 â heriau yn ei sgil o ran sicrhau bod cynhyrchion mislif yn cyrraedd y rhai mewn angen ac, yn ôl ymchwil gan Plan International, roedd dros 1 miliwn o ferched yn y DU yn ei chael hi'n anodd fforddio neu gael gafael ar gynhyrchion mislif yn ystod y pandemig. Yng Nghymru, fe fuom ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gan unigolion, hyd yn oed yn y cyfnod clo, y cynhyrchion yr oedd eu hangen arnyn nhw. Fe ddaeth awdurdodau lleol Cymru o hyd i ffyrdd arloesol a chreadigol o wasanaethu eu cymunedau nhw, gan gynnwys anfon cynhyrchion yn syth i gartrefi pobl, i sefydlu gwasanaethau tanysgrifio a chynnig talebau, ac fe hoffwn i gydnabod yr ymateb cadarnhaol gan ein holl bartneriaid ni yn yr awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd hwn.

Wrth gwrs, mae mwy o waith i'w wneud eto i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael i bawb sydd eu hangen nhw, ac rydym ni wedi ymrwymo i nodi ac ymateb i anghenion ein cymunedau ni. Fore heddiw, fe ddaethom ni ag awdurdodau lleol at ei gilydd i rannu arfer gorau ac ystyried sut rydym ni am sicrhau bod cynhyrchion ar gael mewn cymunedau heb wasanaeth digonol. Ond dim ond dechrau'r gwaith yw darparu cynhyrchion. Mae mynd i'r afael â thlodi mislif yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ond, os ydym ni wir am ddryllio'r cywilydd a'r gwaradwydd sy'n gysylltiedig â mislif, yna fe fydd rhaid i ni godi ein huchelgeisiau ni a gweithio i sicrhau urddas i bawb yn ystod mislif.

Felly, beth gredwn ni yw ystyr urddas yn ystod mislif? Ystyr hynny yw blaenoriaethu cael gwared ar dlodi mislif a mynd i'r afael â'r ystod o faterion sy'n effeithio ar brofiad unigolyn o fislif yn ystod ei oes. Mae urddas yn ystod mislif yn rhoi ystyriaeth i'r cysylltiad rhwng mislif a materion iechyd ehangach, sy'n arbennig o bwysig gan ein bod ni heddiw yn nodi dechrau Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis yn genedlaethol. Mae urddas yn ystod mislif yn cymryd effaith amgylcheddol llawer o gynhyrchion plastig untro i ystyriaeth, ac effeithiau rheoli mislif yn y gweithle, mewn addysg, ac ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol.

I gyflawni'r diffiniad hwn o urddas yn ystod mislif, mae angen i ni gymryd camau ar draws y Llywodraeth, a dyna pam rydym ni am gyhoeddi ein cynllun gweithredu strategol urddas yn ystod mislif yn ddiweddarach eleni, ac mae'r cynllun yn ystyried urddas yn ystod mislif i rai sydd â nodweddion gwarchodedig croestoriadol ac yn ceisio gwneud darpariaeth ar gyfer heriau ychwanegol neu ofynion diwylliannol. Mae urddas yn ystod mislif a thlodi mislif yn faterion o ran hawliau plant, ond mae'r cynllun yn cymryd ymagwedd gydol oes at gyflawni urddas yn ystod mislif drwy roi ystyriaeth i gefnogaeth i rai sy'n mynd drwy'r perimenopos a'r menopos hefyd.

Rydym wedi nodi nifer o gamau uchelgeisiol i helpu i gyflawni ein gweledigaeth, gan gynnwys ymgyrch i ddechrau sgwrs genedlaethol am fislif i ddryllio mythau a mynd i'r afael â gwaradwydd; ymrwymiad i 90 y cant hyd 100 y cant o'r holl gynhyrchion a brynir dan grant urddas yn ystod mislif i fod yn ddi-blastig, yn cynnwys llai o blastig neu blastig y gellir eu hailddefnyddio erbyn 2026; a sicrhau bod adnoddau addysgol ac ymarferol ar gyfer urddas yn ystod mislif ar gael i fusnesau ledled Cymru i wneud urddas yn ystod mislif yn fwy eang yn y sector preifat; a hyrwyddo polisïau yn y gweithle ynglŷn ag urddas yn ystod mislif a'r menopos; ac ariannu rhaglenni addysg a hyfforddiant i hyrwyddo'r defnydd o gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio; a datblygu map cynnyrch misglwyf rhyngweithiol i helpu unigolion i ddod o hyd i gynhyrchion am ddim yn eu hardaloedd. Yn olaf, mae addysg, wrth gwrs, yn hanfodol hefyd i gyflawni ein nod ni o ran urddas yn ystod mislif. Rwy'n falch iawn fod y cod addysg perthnasoedd a rhywioldeb a'r canllawiau statudol yn cynnwys addysgu llesiant mislif ar amseroedd priodol o ran datblygiad. Fe fydd hynny'n rhoi'r wybodaeth a'r hyder i ddysgwyr geisio cymorth ac ymdrin â'r newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd drwy gydol eu bywydau.

Fe hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Plant yng Nghymru, Women Connect First, Fair Treatment for the Women of Wales ac aelodau ein bord gron urddas yn ystod mislif am eu heiriolaeth barhaus a'u cefnogaeth wrth i ni wireddu ein gweledigaeth gyffredin. Ac rwy'n hyderus, drwy weithio mewn partneriaeth, y byddwn ni'n cyflawni ein gweledigaeth ni i fyw yn y Gymru lle nad oes gan neb gywilydd neu warth o ran mislif ac y gellir siarad yn agored ac yn hyderus amdano, os ydyn nhw'n cael mislif neu beidio. Diolch.

16:10

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae hyn i'w groesawu yn fawr ac rydym ninnau ar y meinciau hyn yn llwyr gefnogi'r amcan o gael gwared ar dlodi mislif a sicrhau urddas yn ystod mislif yng Nghymru. Mae hwn yn fater sy'n effeithio nid ar leiafrif bychan yn unig, Dirprwy Lywydd, ond ar hanner ein poblogaeth ni. Mae hwn yn fater enfawr ac mae'n rhywbeth y dylid bod wedi mynd i'r afael ag ef amser maith yn ôl.

I rai a oedd yn y Senedd ddiwethaf, ac efallai eich bod chi'n cofio, Gweinidog, fe siaradais i am sut na allwn ni ddibynnu ar rieni a theuluoedd bob amser i addysgu a siarad yn agored am bynciau mor bwysig â mislif, rhywbeth sy'n anodd ei ddeall i'r teuluoedd hynny y mae hi'n gwbl arferol iddyn nhw siarad yn agored am bethau fel hyn, ond mae hwn yn fater gwirioneddol, am lu o resymau. Ac roeddwn innau'n un o'r merched hynny nad oedd yn ei weld yn dod nac yn gwybod beth i'w wneud am y peth, ac roeddwn i'n aml yn ei chael hi'n anodd iawn siarad am y peth, felly mae sefyll i fyny nawr yn dipyn o beth i mi. Ond mae hwn yn rhywbeth y mae angen ei drafod.

Fe ddywedais i, yn ystod dadleuon y Bil addysg yn y Senedd ddiwethaf honno, fy mod i wedi fy nghalonogi gan y cyfle y mae'r cwricwlwm newydd yn ei ddarparu yn hyn o beth i addysgu, mewn modd sy'n briodol i oedran, ar bynciau pwysig fel rhain a sicrhau bod pob plentyn yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arno. Mae angen i ni roi addysg lawn a phriodol i bob merch a menyw ifanc ar fislif o fewn addysg rhyw a chydberthynas i sicrhau y bydd yr addysg yn cwmpasu o ddechrau cael eich mislif i gam y menopos, gan gynnwys gwybodaeth hanfodol am gyflyrau fel endometriosis, y bu fy ffrind da ac Aelod blaenorol yn y fan hon Suzy Davies yn ymgyrchu gydag angerdd iddo fod yn rhan o'r cwricwlwm newydd yn ystod tymhorau Seneddol blaenorol.

Ond, ochr yn ochr ag addysg, mae angen i ni sicrhau hefyd, yn fy marn i—fel hawl ddynol sylfaenol, fe fyddwn i'n dadlau—bod cynhyrchion mislif ar gael i bawb sydd eu hangen nhw, ac, fel rydych chi'n dweud, Gweinidog, mewn ffordd urddasol, ac yn rhad ac am ddim, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd mewn lleoliadau addysgol. Fel gwyddom ni, Gweinidog, mae plant a phobl ifanc yn treulio rhan helaeth o'u hwythnos mewn lleoliad addysgol ac yn debygol o ddechrau eu mislif neu gael mislif yn ystod diwrnod felly. Rydym ni, wrth gwrs, yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddarparu cynhyrchion yn rhad ac am ddim i leoliadau addysgol ers 2018, ond yr hyn nad yw'r Llywodraeth hon wedi gallu ei sicrhau eto yw cyflwyno'r cynhyrchion hynny yn ein hysgolion ni. Ar hyn o bryd rydym ni mewn sefyllfa lle mae'n rhaid i'r disgyblion ofyn i athrawon fynd i ddatgloi cwpwrdd iddyn nhw gael gafael ar gynhyrchion mislif. Nid yw honno'n ymddangos i mi'n ffordd urddasol o gwbl i'r merched hyn gael gafael ar yr hyn sydd ei angen arnyn nhw, yn enwedig, er enghraifft, os mai dyn yw'r athro hwnnw sy'n rhaid gofyn iddo ef. Fe fyddwn i'n sicr wedi bod yn rhy swil o lawer i ofyn am bethau o'r fath yn yr ysgol. Mae angen datrysiad sy'n fwy parhaol ac yn fwy urddasol. Fe fyddwn i'n awgrymu rhywbeth tebyg i strwythurau parhaol yn ein toiledau mewn ysgolion uwchradd a cholegau ledled Cymru ar ffurf peiriant gwerthu efallai sy'n dosbarthu'r cynhyrchion hyn, y byddai'r cynhyrchion, wrth gwrs, yn rhad ac am ddim, a gellid dadlau y byddai hynny'n rhoi ateb mwy parhaol mewn ysgolion cynradd hefyd, oherwydd, fel gwyddom ni, Gweinidog, mae llawer o ferched yn cychwyn yn gynnar iawn yn hyn o beth.

Fe gafodd llawer o ferched yr wyf i'n eu hadnabod, a minnau hefyd, brofiad annifyr o gael ein dal mewn angen. Yn ffodus, nid papur toiled fel papur trasio sydd ar gael yn ein hysgolion ni erbyn hyn, ond mae angen i ni sicrhau bod popeth sydd ei angen gan bob merch, gan gynnwys cynhyrchion mislif sydd ar gael yn rhwydd iddynt. Felly, a gaf i ofyn, Gweinidog, i chi sicrhau'r Senedd hon heddiw y byddwch chi'n gwneud popeth yn eich gallu i wneud yn siŵr bod datrysiad urddasol i ddarpariaeth cynhyrchion mislif yng Nghymru a hwnnw drwy gyfrwng rhoi peiriannau dosbarthu parhaol yn ein toiledau ni? Rwyf i wedi siarad â llawer o ysgolion yn ystod y misoedd diwethaf ac fe geir problem wirioneddol—problem amlwg—yng ngham dosbarthu yn yr ysgol, ac mae hynny'n mynd yn groes i'r hyn yr ydych chi'n bwriadu ei wneud a'r hyn yr ydym ni i gyd yn gobeithio amdano ac yn awyddus i'w gyflawni.

Hefyd, wrth gwrs, rydych chi wedi amlinellu yn eich datganiad na all rhai merched na menywod mewn rhai teuluoedd fforddio cynhyrchion mislif, ac fel rydych chi'n dweud, fe waethygwyd y sefyllfa honno gan y pandemig. Ac, yn erchyll iawn, am eu bod nhw'n gostus, yn aml nid ydyn nhw'n cael eu prynu, i wneud yn siŵr bod digon o fwyd i'r teuluoedd. Ac rydych chi'n iawn, Gweinidog, ni all hyn barhau.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno â chi hefyd, Gweinidog, pan ydych chi'n sôn am ymestyn cymorth i awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod lleoliadau cymunedol, fel banciau bwyd a llyfrgelloedd, â chyflenwad llawn o gynhyrchion mislif i gynorthwyo'r rhai sydd â'r angen mwyaf—yn rhad ac am ddim, wrth gwrs. Felly, Gweinidog, drwy'r hyn a ddysgais i fy hunan, rwy'n ymwybodol o'r angen i ymestyn hyn i glybiau chwaraeon ledled ein gwlad, felly rwyf i am ofyn i'r cynlluniau hyn ymestyn i'r lleoedd hynny hefyd fel na fydd yn rhaid inni fyth weld merch neu fenyw arall yn gorfod hepgor chwaraeon oherwydd gweithrediad naturiol y corff.

Gweinidog, roeddwn i'n falch iawn o weld, o ystyried bod ein plant a'n pobl ifanc ni mor ymwybodol o effeithiau amgylcheddol a'u dymuniad nhw i wneud rhywbeth yn ei gylch, eich ymrwymiad chi, sef fy mhrif gwestiwn i, i sicrhau bod 90 y cant i 100 y cant o'r cynnyrch sy'n cael ei brynu ag arian Llywodraeth Cymru yn ddi-blastig, rhywbeth y mae ymgyrchydd lleol anhygoel o Gymru, Molly Fenton, sydd ond yn 19 oed, wedi ymgyrchu yn frwd drosto. Mae hi'n gwbl briodol ein bod ni ag agwedd amgylcheddol at hyn sy'n ofalus. Felly, Gweinidog, pa wiriadau a roddir ar waith i sicrhau bod hynny'n digwydd, os gwelwch chi'n dda, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn rhagweithiol wrth helpu ein hysgolion a'n hawdurdodau lleol ni i roi'r cysylltiadau cywir iddyn nhw i'w galluogi nhw i wneud hyn? Diolch.

16:15

Diolch yn fawr, Laura Anne, a diolch am fod mor adeiladol yn eich—. Wyddoch chi, mae pob un ohonom, y menywod yma, yn gwybod beth yr ydych chi wedi bod yn ei ddweud am eich profiadau, yn anffodus. Mae'n rhaid i ni wneud gymaint o newid, onid oes? Ond mewn gwirionedd, rwy'n credu mai un o'r pethau a ddywedais yn fy natganiad yw mai un o'n nodau yw cael y sgwrs genedlaethol hon, felly rydym yn dechrau hynny heddiw. Ac mae'n sgwrs y mae angen i bob un ohonom ei chael, ac, mewn gwirionedd, fe wnaeth darparu'r grantiau hynny yn ôl yn 2018 alluogi awdurdodau lleol i ddechrau cael y sgyrsiau ac ysgolion hefyd.

Ond hoffwn i ddechrau ar eich pwynt am addysg cydberthynas a rhywioldeb, oherwydd, wrth gwrs, roeddech chi yma pan oeddem yn trafod hyn. Hoffwn i ddiolch i Suzy Davies, yn arbennig—cyn AS, Suzy Davies—am godi proffil llesiant mislifol, yn arbennig wrth graffu ar y Bil cwricwlwm ac asesu, gan hyrwyddo ei gynnwys yn y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae cymaint o gyfle gyda'r cwricwlwm newydd o ran addysgu llesiant mislifol ar gamau sy'n briodol o ran datblygiad mewn bywyd, a hefyd rhoi'r wybodaeth a'r hyder i'n disgyblion, ein myfyrwyr ysgol, i geisio cymorth ac ymdrin â'r newidiadau corfforol ac emosiynol hynny sy'n digwydd trwy fywyd.

Nawr, roeddwn i'n ffodus iawn y bore yma i gwrdd â grŵp o ddisgyblion o ddwy ysgol leol, o Ysgol Gynradd Radnor ac Ysgol Uwchradd Fitzalan. Gofynnais am gyfarfod â nhw oherwydd eu bod wedi cymryd rhan gyda Phlant yng Nghymru i'n helpu i ymateb i'r ymgynghoriad yr ydym wedi ei gael ar urddas mislif. Roedd yn wych bod gen i ddau fyfyriwr ifanc o Ysgol Gynradd Radnor, dwy ferch, ac yna dau fachgen a dwy ferch o Ysgol Uwchradd Fitzalan, ac roedden nhw i gyd wedi bod yn ymwneud â gweithdai a thrafodaethau. Yn ddiddorol, yn Fitzalan, penderfynon nhw gael y bechgyn a'r merched at ei gilydd ar gyfer y trafodaethau hyn—cymerodd pawb ym mlwyddyn 7 ran ynddyn nhw a blwyddyn 8 hefyd. Ac yn Radnor, blynyddoedd 5 a 6 hefyd. Felly, fe wnaethon nhw siarad yn wirioneddol o'r galon ac o'u profiad. Roedd yn ddadlennol iawn.

Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yr ysgolion hynny, pob awdurdod lleol, pob coleg addysg bellach, wedi derbyn ein cynnig o grant urddas mislif ers 2018. Maen nhw wedi ymgymryd â'r cynllun, maen nhw wedi dysgu ffyrdd o ddosbarthu cynhyrchion, maen nhw wedi mynd i'r afael â stigma. Gofynnais iddyn nhw mewn gwirionedd beth oedd ystyr 'stigma' yn eu barn nhw ac roedden nhw'n llygaid eu lle, dywedon nhw mai 'stigma' oedd cael eich gwthio i edrych yn wahanol neu eich gwneud i deimlo'n wahanol. Roedden nhw mor glir ynglŷn â sut roedden nhw'n teimlo. Dywedon nhw wrthym am newidiadau yn yr ysgol, lle bu'n rhaid iddyn nhw fynd i gasglu cynhyrchion yn y coridor yn flaenorol, ond erbyn hyn roedden nhw mewn man lle'r oedden nhw'n teimlo'n gyfforddus. Ond fel y dywedon nhw i gyd, pam y dylem ni deimlo cywilydd wrth gasglu'r cynhyrchion? Ond roedden nhw'n ardderchog.

Hoffwn i ddweud yn gyflym fod yn rhaid i ni edrych ar effaith cyllid, mae'n rhaid i ni estyn allan i'r cymunedau hynny nad ydyn nhw'n cael eu gwasanaethu'n llawn; mae'n rhaid i ni edrych ar leoliadau newydd i sicrhau bod y cynhyrchion ar gael. Rydym yn cynnal gwerthusiad o'r grant eleni, a'r peth allweddol yw gwrando ar y rhai hynny sydd â phrofiad bywyd o'r mislif a hefyd sut y mae'n cael ei reoli mewn ysgolion. A'r hyn sy'n ddiddorol yw ein bod hefyd wedi trafod y ffaith y gallai eu cynghorau ysgol gymryd rhan a'i roi ar agenda'r cynghorau ysgol. Fe wnaethon nhw ddysgu cymaint i mi yn gyflym iawn yn wirioneddol drwy fod gyda'n gilydd, ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill y Senedd ar draws y Siambr yn gweld eu bod yn dymuno dysgu; roedd y bechgyn eisiau ymgysylltu ac roedden nhw'n sôn am dadau a dynion a oedd yn athrawon yn ymgysylltu hefyd, sy'n hanfodol bwysig, oherwydd bod yn rhaid i bawb ei rannu.

Felly, mae Molly Fenton, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod, yn fenyw ifanc rymus iawn o ran effeithiau amgylcheddol, ac mae gan lawer ohonom ni bobl ifanc fel hyn yn ein hetholaethau i sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed hwnnw. Rydym ni wedi dweud bod yn rhaid i 90 i 100 y cant o'r holl gynhyrchion mislif fod yn rhai y gellir eu hailddefnyddio neu'n rhai eco-gyfeillgar erbyn 2026, ond mae'n rhaid i ni dreialu hyn. Mae'n rhaid i ni gydnabod nad yw hyn yn rhywbeth hawdd, syml; mae angen i chi feddwl hefyd am gyfleusterau mewn ysgolion o ran y toiledau, ac ati, mannau preifat, basnau ymolchi, mynediad preifat iddyn nhw. Ond rydym ni wedi, mewn gwirionedd, hefyd—ac mae wedi dod o awdurdodau lleol—cytuno i wario 20 y cant o'r grant urddas mislif ar addysg neu hyfforddiant, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio ac sy'n eco-gyfeillgar.

Rwy'n credu, i ddweud yn olaf, fy mod i wedi dweud yn fy natganiad—mewn ymateb i'ch pwynt am chwaraeon, er enghraifft, a mynediad at gyfleusterau ehangach—fod yn rhaid i hyn fod yn weithredu ar draws y Llywodraeth. Mae hynny'n weithredu ar draws y Llywodraeth nad yw'n ymwneud â mi yn unig fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ond yn amlwg y Gweinidog addysg, iechyd, iechyd meddwl a llesiant, plant a chwaraeon. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn hyn o beth, yn wir, fel sydd gan bawb yn y Siambr hon.

16:20

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am y datganiad.

Roedd yr ymgyrch gyntaf i mi ei rhedeg erioed yn ymwneud ag urddas mislif. Yn yr un modd â Laura Anne Jones, rydym ni wedi bod yn yr un sefyllfa. Rwy'n cofio roedd gennym ni doiledau awyr agored yn yr ysgol gyfun yr es i iddi, a fyddai'n rhewi yn y gaeaf. Roedden nhw'n bethau ofnadwy, ofnadwy. Ac rwy'n cofio nad oedd biniau yn y ciwbiclau ar gyfer cynhyrchion y mislif, felly bu'n rhaid i chi, yn blentyn ifanc 12 oed, adael y ciwbicl gyda'ch cynnyrch mislif brwnt, a'i roi yn y bin o flaen pawb arall. Aeth yr athrawon â'r merched i gyd i mewn i ystafell i ddweud y drefn wrthym ni oherwydd ein bod yn blocio'r toiledau, a nodais fod rheswm dros hynny. Ni wrandawodd neb arnaf i ar y pryd, oherwydd yn anffodus nid oedd gan lais y dysgwr yr un gwerth ag sydd ganddo heddiw. Diolch byth, mae hynny wedi newid.

Gwyddom mai pobl fwyaf bregus ein cymdeithas sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan ddiffyg urddas mislif a thlodi mislif, gan gynnwys pobl sydd eisoes yn wynebu digartrefedd, sydd ar incwm isel, ag anableddau, ac yn dioddef o gamwahaniaethu systemig am eu bod nhw'n aelodau o grwpiau ymylol. Y bobl yma sy'n gorfod mynd heb bethau elfennol eraill, tocio ar gyllidebau prin ar gyfer nwyddau ac anghenion bob dydd eraill, neu'n gorfod ymdopi ag effaith diffyg nwyddau neu gyfleusterau mislif.

Hyd yn oed cyn i'r argyfwng costau byw wasgu ar y bobl yma ymhellach, roedd lefelau tlodi cywilyddus Cymru yn golygu bod llawer gormod yn cael eu hunain yn y sefyllfa yma. Ac rwy'n falch o ymdrechion Plaid Cymru a'r ymgyrch lwyddiannus a arweiniwyd gan Elyn Stephens, cynghorydd Plaid Cymru ifanc ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar y pryd, nôl yn 2017, a lwyddodd i dynnu sylw at effaith tlodi mislif ac at sicrhau cyllid ychwanegol i gynghorau i geisio mynd i'r afael â'r broblem hon yn y pen draw. Ac rwy'n cytuno â'r Gweinidog ei bod yn anorfod bod yr argyfwng costau byw yn mynd i ddwysáu tlodi a diffyg urddas mislif, ac felly mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gwneud mwy i atal y modd y mae'n cael effaith andwyol ar bobl sydd dan bwysau economaidd digynsail ac, yn fwy eang, ar gydraddoldeb cymdeithasol, economaidd, iechyd a rhywedd.

Diffyg incwm sydd, yn aml iawn, wrth wraidd diffyg urddas. Mae'r pandemig hefyd wedi effeithio ar allu pobl ifanc i fedru cael cefnogaeth a mynediad at nwyddau mislif mewn lleoliadau addysg, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich datganiad. Rwy'n croesawu yr adnoddau a'r cyllid ychwanegol sydd wedi cael eu darparu gan y Llywodraeth i daclo'r broblem yma, ond hoffwn wybod sut mae'r Llywodraeth am sicrhau y bydd y nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi ac sydd angen nwyddau mislif yn cael eu cefnogi yn ystod yr argyfwng costau byw—y tu hwnt i'r lleoliadau addysgiadol, efallai, a'r lleoliadau cyhoeddus rŷn ni wedi eu trafod. Ydy'r Llywodraeth yn gofyn i'r partneriaid lleol sy'n derbyn y gefnogaeth ariannol yma i daclo hyn i adrodd ar eu heffeithiolrwydd, wrth sicrhau bod y rhai sydd angen y cymorth yn ei dderbyn? Beth sydd angen ei wella, Weinidog? Fel y sonioch chi, mae yna bobl sy'n gorfod gwneud dewisiadau na ddylen nhw, yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain, orfod eu gwneud, felly sut mae'r gwerthusiad yna yn digwydd?

Ar hyn o bryd, mae'r diffyg addysg mislif a'r stigma yn ymwneud â'r mislif wedi arwain, yn anffodus, at lawer o bobl ifanc yn cael y mislif heb wybodaeth am beth y dylai'r mislif arferol fod. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni ddylai poen mislif fod yn gwbl wanychol nac annioddefol. Fodd bynnag, rydym ni wedi creu cymdeithas lle mae disgwyl i rai pobl ifanc sy'n cael y mislif ddioddef y boen a derbyn ei bod yn rhan arferol o'u bywyd, neu, mewn llawer o achosion, ni chredir bod y boen mor wael.

Rwy'n croesawu ac yn cefnogi'r ffaith y gallwn ni newid hyn drwy addysg. Rwy'n falch y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd a'r canllawiau statudol yn helpu i sicrhau bod gan ddysgwyr yr wybodaeth i ddeall iechyd mislifol yn well.

Ond bydd effaith mislif trwm, cyflyrau gynaecolegol, yn aros gydag unigolyn am oes, ac mae'n effeithio ar eu haddysg a'u gwaith. Felly, o ystyried hyn ac o ystyried bod y mis hwn yn Fis Gweithredu ar Endometriosis, hoffwn i wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i feithrin diwylliant lle mae pobl sy'n cael y mislif yn cael y lle a'r urddas i gymryd amser i ffwrdd o addysg neu o waith heb i hyn effeithio'n andwyol arnyn nhw, megis wynebu camau disgyblu neu golli addysg. Diolch.

16:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Sioned Williams, yn amlwg yn ymgyrchydd ar hyd eich oes o'r adeg honno pan oeddech yn fyfyrwraig ysgol bwerus iawn. Cawsoch y brotest honno yn eich ysgol a gwnaethoch wahaniaeth, gan ddangos eich bod yn barod i sefyll dros eich egwyddorion a dod â phobl at ei gilydd hefyd fel y gallen nhw deimlo eu bod wedi eu grymuso gan eich datganiad. Ac, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod llawer o ymgyrchwyr wedi eu crybwyll y prynhawn yma, ac mae angen y lleisiau hynny arnom ni. Roedd y bobl ifanc y gwnes i gyfarfod â nhw heddiw o Ysgol Gynradd Radnor ac Ysgol Fitzalan i gyd yn rhai felly hefyd, ac yn awyddus iawn i fynd i'r afael â llawer o'r materion yr ydych wedi myfyrio arnyn nhw.

Rwyf i yn ystyried hyn yn rhan fawr o fy swyddogaeth fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, felly, do, cawsom uwchgynhadledd bwerus iawn ar fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ar 17 Chwefror. Gwnaethom ganolbwyntio'n fawr ar dlodi tanwydd, dim digon ar dlodi bwyd, ac rydym am fynd ar drywydd hynny, felly bydd y datganiad hwn heddiw a'ch sylwadau chi yn cyfrannu'n uniongyrchol at y ffordd y byddwn yn bwrw ymlaen â'n cynllun gweithredu urddas mislif. Rwy'n credu, mewn sawl ffordd, mai'r peth trist yw ein bod ni wedi bod yn sôn am dlodi mislif, ac yna'i symud i urddas mislif, ond, mewn gwirionedd, mae yn ei ôl mor llym: tlodi mislif ydyw, ac eithrio'r ffaith ein bod yn estyn allan ac yn darparu'r grant hwn.

Dros y blynyddoedd nesaf—wel, y flwyddyn nesaf—rydym yn bwriadu ehangu'r ddarpariaeth, sef eich cwestiwn chi, er enghraifft, i gynnwys clinigau iechyd rhywiol, gwasanaethau lleol eraill. Mae'n rhaid i ni gydnabod ar bob oed, nad dim ond yn yr ysgol mae'r broblem, mae'n ymwneud â'r ifanc a'r rhai hŷn—menywod o bob oed nes iddyn nhw gyrraedd y menopos. Ni wnes i sôn am y ffaith ei bod yn bwysig iawn i ni gynnwys colegau addysg bellach, eu bod nhw yn rhan ohono yn ogystal ag ysgolion, ond hefyd ei bod nhw ar gael i bob claf mewnol mewn ysbytai.

Cafodd neges gref iawn ei chyfleu heddiw gan bobl ifanc, sef yr hoffen nhw i hyn fod yn gyffredinol. Mae'r stigma, yn rhannol, yn ymwneud a'r mislif, ond hefyd, nid oedden nhw eisiau i'r cynhyrchion hyn am ddim fod ar gael i rai pobl yn unig, ond i bawb. Rwy'n credu y gwnaethoch chi sôn am hynny, Laura Anne. Dylai hyn fod yn ddarpariaeth gyffredinol.

Buom ni hyd yn oed yn siarad heddiw am ffyrdd y gallem estyn allan i ferched ifanc a menywod eraill na fyddem, er enghraifft, o reidrwydd—. Sut ydym ni'n cefnogi'r cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr? Estyn allan iddyn nhw. A chawsom ni lawer o sesiynau mewn gwirionedd gyda menter Plant yng Nghymru, gyda Women Connect First, yn edrych ar brofiadau gwahanol bobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cyrraedd y cymunedau hynny nad ydyn nhw'n cael eu gwasanaethu'n ddigonol.

Rydym yn chwilio'n gyson am leoliadau newydd, nid mewn banciau bwyd yn unig. Ydy, mae banciau bwyd bellach, yn amlwg, yn fan lle mae cynhyrchion mislif ar gael, ond roedd un awgrym heddiw y gallem ei ystyried efallai, a gallwn i ddychmygu y byddai'n rhywbeth y byddai'n rhaid i ni ei dreialu, sef danfon cynhyrchion mislif, fel y gwnaethom yn ystod y cyfyngiadau symud, yn syth i gartrefi pobl ifanc, fel bod hyn yn rhywbeth sy'n digwydd: rydych chi'n cael eich cynhyrchion mislif. A hefyd y ffaith ei bod yn bwysig iawn eich bod wedi sôn am effeithiolrwydd yr hyn yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Bydd y gwerthusiad yn bwysig wrth i ni fwrw ymlaen â hyn, ond ar hyn o bryd mae'n rhaid i ni gynnal yr elfen gyllid honno, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud pethau'n iawn ac yn estyn allan i'r holl leoliadau a mannau eraill lle gellir ei ddarparu. Mae'n rhywbeth yr wyf i'n credu eto—ac rwy'n falch bod y Gweinidog addysg wedi ymuno â ni hefyd—ei fod yn ymwneud â dysgu. Roedd yn wych gweld y bechgyn a'r merched ifanc hyn heddiw yn dweud, 'Ydym, rydym ni eisiau meddwl amdano, oherwydd rydym ni eisiau meddwl amdano o ran ein mamau yn ogystal â'n chwiorydd a'n cyd-ddisgyblion yn yr ysgol.'

16:30

Diolch yn fawr am y datganiad. Roeddwn i'n gwrando'n astud ar yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei ddweud ac rwy'n credu hefyd fod angen i ni feddwl am gynaliadwyedd yr hyn yr ydym yn ei wneud, oherwydd bod urddas yn eithriadol o bwysig ac mae angen i ni sicrhau bod gan bawb y cynhyrchion mislif sydd eu hangen arnyn nhw i ymdrin â'u mislif misol, ond mae'n rhaid i ni hefyd feddwl am yr amgylchedd a sut y gallwn hyrwyddo cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio lle bo'n briodol. Roeddwn i'n siarad â rhywun yn un o rannau tlotach fy etholaeth i y diwrnod o'r blaen a nododd mai dim ond tair gwaith y caniateir i chi fynd i'r banc bwyd, rwy'n credu, felly er y gallech gasglu rhywfaint o gynhyrchion mislif na ellir eu hailddefnyddio, ni fyddan nhw'n ddigonol os na chewch chi fynd yn ôl. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed faint o waith sy'n cael ei wneud ar hyrwyddo'r 'Mooncup' ar gyfer y menywod hynny sy'n weithredol yn rhywiol—ni fyddwn yn rhoi 'Mooncup' i ferch 11 oed a oedd newydd gael ei mislif cyntaf—ond hefyd nicers a phadiau y gellir eu hailddefnyddio fel bod gan y bobl y mae angen cymorth ariannol arnyn nhw gyda'u cynhyrchion mislif rai ar gyfer mis pedwar a mis pump. Yn amlwg, mae gan hyn oblygiadau, er enghraifft, o ran sut yr ydym yn cynllunio toiledau ein hysgolion, fel y mae Sioned Williams wedi sôn amdano eisoes mewn modd mor amlwg. Mae angen i ni sicrhau, ym mhob ysgol uwchradd, ac yn y grwpiau oedran hŷn mewn ysgolion cynradd, fod mynediad i doiledau gyda basn golchi dwylo wedi'i gynnwys yn y ciwbicl fel y gall pobl newid eu cynhyrchion ag urddas.

Rwy'n credu ei bod yn wych ein bod yn cael y sgwrs hon yma y prynhawn yma, oherwydd roeddwn i'n edrych ar gynnig cynnar a ysgrifennwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Ionawr 2021 mewn ymateb i'r ffaith bod TAW wedi ei dileu ar damponau a phadiau untro ond nid ar y rhai y gellir eu hailddefnyddio. Dim ond 31 o bobl yn Nhŷ'r Cyffredin i gyd, gan gynnwys, mae'n rhaid i mi ddweud, un o'r rhai y tu ôl i'r cynnig, Jim Shannon, Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd, dyn da—. Pam mai dim ond 31 o 630 o Aelodau Seneddol oedd yn credu bod hwn yn fater pwysig? Roeddwn i'n meddwl tybed pa sgyrsiau y gallech chi fod wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU i geisio eu cael nhw i weld y peth yn gyfannol ac i sicrhau ein bod yn cael gwared ar TAW ar y cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio hefyd, oherwydd y rhain yw'r rhai yr ydym ni eisiau i'r rhan fwyaf o bobl eu defnyddio. Nid ydyn nhw'n addas ar gyfer rhywun sy'n gwersylla neu mewn llety dros dro nad oes modd iddyn nhw ddefnyddio peiriant golchi, ond i bobl eraill maen nhw'n hollol addas.

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Rwyf yn cofio yn dda—rwy'n credu o bosib ein bod ni wedi ei gyd-lofnodi a'i drafod gyda'n gilydd—gan gyflwyno'r cynnig ychydig flynyddoedd yn ôl ar dlodi mislif ac urddas mislif, a dechreuodd hynny'r sgwrs yn y Siambr hon. Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar faterion yr effaith amgylcheddol o ran defnyddio cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio neu sy'n eco-gyfeillgar. Fe wnaethom ni drafod hynny hefyd gyda'r bobl ifanc y bore yma, oherwydd eu bod nhw hefyd yn bryderus iawn am y peth. Mae ganddyn nhw eco-bwyllgorau, maen nhw'n pryderu'n fawr am newid hinsawdd ac effeithiau amgylcheddol hefyd, ond nid yw o reidrwydd yn mynd i fod o fewn y cynhyrchion mislif sydd wedi eu darparu y bydd ganddyn nhw'r posibilrwydd o ddewis y tu hwnt i badiau a thamponau. Fe wnaethom ni drafod y ffaith, unwaith eto, y gallai cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio fel Mooncup, padiau brethyn, nicers mislif, dodwyr tampon y gellir eu hailddefnyddio—. Roedden nhw eisiau ei drafod, ond mae'n rhaid i hyn fod yn rhywbeth i'r ysgol gyfan. Mae hyn hefyd yn ymwybyddiaeth ysgol gyfan. Rwy'n siŵr y bydd Jeremy hefyd yn cydnabod ei hun, ac eraill hefyd, pan fyddwch yn mynd i ysgolion ac ysgolion newydd, rwyf i bob amser yn gofyn, 'Ble mae'r toiled gyda'r basn ymolchi yn yr ystafell ei hun?' Nid dim ond y toiled i'r anabl.

Mae'n rhaid i ni feddwl am hyn ym mhob agwedd ar ein dysgu cynaliadwy, oherwydd ei fod yn ymwneud â dysgu cynaliadwy a dull system gyfan. Rydym yn gwybod, mewn gwirionedd, fod yn rhaid i'r holl addysgu llesiant mislifol hwn drwy addysg cydberthynas a rhywioldeb ystyried y ffaith, hefyd, y gall fod poen a dioddefaint hefyd, sydd, mor aml—. Roedd y bobl ifanc hyn heddiw, o oedran blwyddyn 7 i flwyddyn 8 neu 9, yn dal i gael rhai o'r profiadau a gawsom ni, fenywod cenhedlaeth hŷn, ac ni ddylai hynny fod yn wir. Ond roedden nhw mor falch eu bod nhw'n dod i siarad â Gweinidog am y peth, ac yn teimlo ein bod ni'n gwrando arnyn nhw o ddifrif. Rwy'n gwybod y bydd y pwyntiau sydd wedi eu gwneud heddiw yn bwysig iawn iddyn nhw. Rwy'n mynd i rannu'r datganiad, ac rwy'n siŵr yr hoffen nhw gael trawsgrifiad o'r datganiad hwn hefyd.

16:35

Diolch am y datganiad hynod o bwysig hwn. Hoffwn ddatgan fy mod i'n gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf, ac mi oeddwn i'n rhan o'r gweithgor a edrychodd ar hyn. Roeddwn i'n falch o glywed Sioned yn sôn am Elyn Stephens. Mi oedd hi'n ddewr aruthrol, fel merch ifanc, yn dod i mewn i gyngor ac yn dechrau sôn am fislif. Byddech chi wedi gweld y sioc ar wynebau'r cynghorwyr ac roedden nhw'n teimlo'n anghyfforddus ofnadwy, ond os ydych chi'n newid gair 'mislif' am 'fynd i'r tŷ bach' a sôn am bapur tŷ bach, sef yn union beth wnaeth Elyn, mae pobl yn dechrau gwrando. Dwi'n meddwl mai dyna ydy'r peth fan hyn—os oedden ni'n sôn am bapur tŷ bach, mae o'n no-brainer, ond gan ei fod o ddim yn effeithio ar bob un person ar y funud, dydyn ni ddim yn cael yr un math o drafodaeth. Byddwn i'n meddwl, petasem ni'n cael trafodaeth am bapur tŷ bach, byddai'r Siambr yma'n llawn, neu ar Zoom heddiw, oherwydd mae hwn yn fater sydd o bwys i ddynion a merched—pob un ohonom ni—a dyna sy'n bwysig o ran cael y drafodaeth hon.

Mae'r ochr o ran addysg yn allweddol bwysig, ac nid dim ond i ferched, fel eu bod nhw'n deall beth sy'n digwydd i'w cyrff, ond i'r dynion hynny sy'n mynd i fod yn ffrindiau ac yn gyflogwyr yn y dyfodol, oherwydd, yn aml, dyna lle rydyn ni'n gallu bod fwyaf cefnogol. Yn fy swydd flaenorol, mi wnes i gael hyfforddiant o ran y menopos. Mi oedd o'n bolisi gan Amgueddfa Cymru i godi ymwybyddiaeth i bawb o ran y menopos, a bod gennym ni hyrwyddwyr menopos. Roedd o'n ddefnyddiol i fi—dwi heb gyrraedd yr oed yna eto, ond mi wnes i ddysgu gymaint o ran hynny, a hefyd o ran sut i reoli pobl sydd yn mynd drwy'r menopos. Mae'n eithriadol o bwysig ein bod ni yn agored am bethau fel hyn.

Y prif beth dwi'n meddwl sy'n her inni i gyd ydy'r pwyntiau sydd wedi cael eu codi o ran yr anghysondeb ar y funud—yr anghysondeb o ran gallu cael gafael ar y cynnyrch yn yr ysgolion, yr hawl hyd yn oed i fynd i'r tŷ bach y mae pobl yn gorfod gofyn amdano fo rŵan, a'r syniad yna bod yna ryw bŵer gan athrawon i'ch atal chi rhag mynd i'r tŷ bach rhag ofn i rywun wneud rhywbeth. Wel, roedd pobl yn gwneud papur tŷ bach yn wlyb ac yn eu taflu nhw ar y to ac ati pan oeddwn i yn yr ysgol. Mae o'n hollol hurt. Er bod y cynnyrch ar gael rŵan, rydym ni'n dal yn clywed straeon am ferched yn gwaedu drwy eu dillad gan fod yr hawl yna wedi cael ei wrthod iddyn nhw fynd i'r tŷ bach ar adegau. Mae yna anghysondeb. Rydyn ni angen bod yn trafod hyn fel ei fod o ddim yn broblem yn y Gymru fodern.

Mae hwn yn hawl sylfaenol, mae o'n fater o urddas, mae yna gyfrifoldeb arnom ni i gyd oll fan hyn i barhau i siarad amdano fo. Dwi'n falch eithriadol o Elyn Stephens, pan gododd hi hyn, oherwydd mi gafodd hi ei herio gan ddweud ei bod hi ddim yn broblem a bod yna ddigon o gynnyrch ar gael. Dydy hynny ddim yn wir. Mae yna fwy i'w wneud, a dwi'n falch eithriadol o weld y cynllun hwn ac i gydweithio ar draws y pleidiau i sicrhau mater o urddas ar rywbeth sy'n gyfan gwbl naturiol.

Diolch yn fawr iawn, Heledd Fychan. Unwaith eto, mae'n rhaid i ni dalu teyrnged i'r holl arloeswyr hynny sydd wedi gwneud eu marc. O ran awdurdodau lleol—ac rwy'n cofio pan oedd Elyn Stephens yn bwrw ymlaen â hyn—mewn gwirionedd, mae awdurdodau lleol wedi croesawu hyn. Mae gennym ni fwrdd crwn, mae gennym ni gynrychiolaeth o'r awdurdodau lleol, swyddogion o'r cyngor. Mae'n rhaid i ni beidio byth ag anghofio ein swyddogion, oherwydd gall cynghorwyr ddweud, 'Rydym ni eisiau hwn a'r llall', ond mewn gwirionedd, y swyddogion sy'n gorfod cyflawni.

Rwy'n cofio'r Cynghorydd Philippa Marsden, pan ddaeth yn arweinydd cyngor Caerffili, yn dod i gyfarfod. Nid oes gennym ni ddigon o fenywod yn arweinwyr cynghorau, ac roedd yn wych iawn pan ddaeth i'r cyfarfod, yn ystod amserlen brysur, oherwydd ei bod hi'n teimlo ei bod mor bwysig. Mewn gwirionedd, rwy'n cyfarfod ag arweinwyr cabinet trawsbleidiol ar faterion cydraddoldeb, ac mae urddas mislif yn uchel ar yr agenda. Mae gennym ni grwpiau gwych, elusennau—rwyf i bob amser yn cofio un ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac un yn Wrecsam—sy'n gwneud gwaith. Ni ddylai fod, gan fynd yn ôl at y pwyntiau a wnaed yn gynharach, yn fater o allu eu cael yn y banc bwyd yn unig os ydych yn y sefyllfa honno. Mae'n rhaid iddyn nhw fod ar gael yn ein hysgolion, ac mae'n rhaid i ni feddwl am wyliau ysgol hefyd. Gallwn ni feddwl am hyn o ran y diwrnod ysgol, mewn gwirionedd, a mynediad at hyn—mae'n rhan bwysig o'r ymgynghoriad.

Rwy'n credu bod goleuedigaeth yn y gweithle yn hollbwysig. Mae'n dda clywed bod yr amgueddfa genedlaethol wedi cael yr oleuedigaeth honno o ran y menopos. Byddwn i'n dweud, o ran y menopos, fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfrannu at dasglu menopos dan arweiniad Llywodraeth y DU—mae newydd ddechrau ar ei waith y mis hwn. Ni wnes i ymateb i'r pwynt am endometriosis, ond mae gennym ni ein grŵp gweithredu iechyd menywod, ac maen nhw hefyd yn edrych ar y materion sy'n ymwneud ag endometriosis. Mae'n fater hollbwysig yn y gweithle—dyma'r math o beth y mae pwyllgor cydraddoldeb TUC Cymru yn ei drafod hefyd. Ond mae angen i ni edrych yn arbennig ar y cymunedau hynny nad ydyn nhw'n cael eu gwasanaethu'n ddigonol lle mae angen i ni estyn allan.

Yn olaf, o ran toiledau ysgol, pan ymgynghorodd y comisiynydd plant cyntaf oll, Peter Clarke—ac rwy'n sôn am 20 mlynedd yn ôl—â phobl ifanc ar yr hyn yr oedden nhw eisiau iddo roi sylw iddo, dywedon nhw doiledau ysgol. Rwy'n credu bod hynny'n dweud y cyfan, onid yw? Rwy'n credu ein bod ni wedi trawsnewid, yn ein hysgolion newydd gwych, ond mae'n dal i fod yn broblem. Dyma'r lle mwyaf preifat ac anodd i ferched o ran y mislif, ond yn aml i fechgyn hefyd o ran bwlio. Amgylchedd yr ysgol yw'r hyn mae angen i ni fynd i'r afael ag ef pan fyddwn yn edrych ar y mater hwn.

16:40
6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu newydd ar Anableddau Dysgu
7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050—Y camau nesaf

Eitem 7 sydd nesaf, sef datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar 'Cymraeg 2050', y camau nesaf. Jeremy Miles i wneud y datganiad hwnnw. 

Diolch, Lywydd. Heddiw, dwi’n cyflwyno adroddiad blynyddol ar ein strategaeth iaith, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr', a hynny ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21, blwyddyn olaf y Llywodraeth ddiwethaf.

Cyn cychwyn heddiw, os caf i, Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg. Roedd Aled yn achub ar bob cyfle i ysbrydoli a chefnogi’r rheini oedd angen cymorth a chyngor. Yn gymeriad hynaws, caredig a gonest, mae colli Aled yn ergyd aruthrol i bawb oedd yn ei adnabod, ac i Gymru.

Roedd hi’n flwyddyn heriol i bawb, gyda COVID-19 yn bresennol drwy gydol y flwyddyn adrodd, a phob un ohonon ni, wrth gwrs, yn gorfod dysgu i addasu ein ffordd o fyw—gartref, yn y gwaith ac yn ein cymunedau. Oherwydd hyn, bu peth newid i’n trefniadau arferol o gasglu a chyhoeddi data, a dyna pam fod oedi wrth gyhoeddi’r adroddiad hwn eleni.

Daeth heriau i faes y Gymraeg, fel i holl feysydd gwaith y Llywodraeth, yn ystod y flwyddyn, ond daeth hefyd amrywiol gyfleoedd i arbrofi ac arloesi. Rhaid diolch i’n holl bartneriaid ar hyd a lled y wlad am eu parodrwydd i addasu a’u brwdfrydedd i fentro i feysydd newydd. Cynhaliwyd Eisteddfod T ac Eisteddfod AmGen am y tro cyntaf, cyhoeddwyd ein polisi 'Trosglwyddo’r Gymraeg a’i Defnydd mewn Teuluoedd', cynhaliwyd ymgynghoriad ar ein polisi seilwaith ieithyddol, a chafodd ymgynghoriad ar gategorïau newydd i ddisgrifio ysgolion yn ôl eu darpariaeth Gymraeg ei gynnal hefyd.

Oedd, roedd hon yn flwyddyn anodd ar brydiau ond roedd hi’n flwyddyn gynhyrchiol hefyd. Gallwch chi weld y manylion yn llawn yn yr adroddiad ei hun. Er mai cyfle i edrych yn ôl yw adroddiad blynyddol, dwi am edrych ymlaen hefyd heddiw, yn debyg iawn i’r hyn wnes i yn ystod fy araith ddiweddar ar Ynys Môn pan ges i gyfle i rannu fy ngweledigaeth am ein hiaith, wrth nodi 60 mlynedd ers traddodi 'Tynged yr Iaith'. Roeddwn i’n falch o gychwyn heddiw drwy gyhoeddi pa brosiectau sydd am gael cyfran o'r £30 miliwn o arian cyfalaf i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Hefyd, braf oedd cyhoeddi ein bod yn rhoi £1.2 miliwn yn ychwanegol i'r Urdd, er mwyn i'r sefydliad barhau i adeiladu ar ôl COVID a sicrhau parhad i'w gwasanaethau cymunedol a phrentisiaethau.

Dyma'r tro cyntaf inni ddod ynghyd i drafod y Gymraeg ers cyhoeddi'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Rwy'n falch o ddweud fy mod i eisoes wedi dechrau ar y gwaith gyda Cefin Campbell, ac yn ffyddiog y bydd ein gwaith ar y cyd yn gynhyrchiol. Ein nod, wrth gwrs, yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'n hiaith erbyn 2050. Ac mae'r nod yma'n parhau'n gyson ymhob rhan o'n gwaith wrth inni ddefnyddio ymyraethau amrywiol i'w gyrraedd. Dyw pob ymyrraeth ddim am weithio ymhob rhan o Gymru, a rhaid i bob ymyrraeth fod yn addas at yr amgylchiadau. Felly, wrth inni symud ymlaen ar ein taith i filiwn o siaradwyr Cymraeg, mae'n bwysig ein bod ni'n clywed, yn gwrando ac yn dysgu o brofiad y rheini sy'n byw yn ein cymunedau ni ar draws Cymru, y rheini sy'n cychwyn ar eu taith ieithyddol, neu sydd heb gael y Gymraeg yn rhan o'u bywyd bob dydd ers sbel.

Ac wrth imi sôn am wrando ar bobl, mae'r ymgynghoriad ar-lein ar y cynllun tai cymunedau Cymraeg newydd ddod i ben. Diolch i bawb a gymerodd o'u hamser i ymateb. Rwy'n edrych ymlaen at drafod gyda Dr Simon Brooks a'r comisiwn newydd rŷn ni'n ei sefydlu i fwrw golwg ar sut fyddwn ni'n gweithredu'r argymhellion a ddaw yn ei sgil.

Rydw i wedi sôn tipyn am gymunedau dros yr wythnosau diwethaf am y syniad o gydweithio â chymunedau lleol i'w helpu nhw i greu mudiadau cydweithredol—mudiadau sy'n gweithio yn y gymuned, er lles y gymuned ac yn rhoi nôl i'r gymuned, grymuso cymunedau, creu cyfleoedd lleol i bobl leol i lwyddo'n lleol, a chael ein harwain gan realiti'r sefyllfa ieithyddol mewn gwahanol rannau o Gymru. 

Dwi am i bopeth dwi'n ei wneud fel Gweinidog y Gymraeg fod yn seiliedig ar gynnal neu gynyddu'r defnydd o'n hiaith ni. Fe gofiwch chi fod cynyddu defnydd yn rhedeg drwy ein holl gynlluniau ar gyfer tymor y Senedd hon. 'Defnydd, nid jest darpariaeth', dyna a ddywedais i yn fy araith ychydig wythnosau nôl, a dyna dwi'n ei ddweud eto heddiw. Fe welsoch chi'r datganiad diweddar ar y cyd â Phlaid Cymru yn sôn am sut y byddwn ni'n cydweithio â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu gwersi Cymraeg am ddim i'r gweithlu addysg, boed yn athrawon neu'n gynorthwywyr, o fis Medi ymlaen, felly hefyd i bobl ifanc o dan 25 oed—creu ail gyfle i lawer o bobl gael parhau ar eu taith ieithyddol gyda'r Gymraeg. Ac rwy'n edrych ymlaen at sgwrsio gyda rhai o'r bobl ifanc yma wrth iddyn nhw fynd ati i ddysgu neu ailgydio yn ein hiaith.

Mae canlyniadau'r cyfrifiad ar eu ffordd dros y misoedd nesaf—a na, dwi ddim yn gwybod beth yw'r ffigurau; dydyn nhw ddim yn cael eu rhannu cyn eu cyhoeddi. Ond erbyn yr haf, fe fyddwn ni'n gwybod faint o bobl Cymru sy'n gallu siarad Cymraeg—yn gallu siarad ein hiaith, nid yn defnyddio ein hiaith, a dyna ni nôl eto at y defnydd yma. Dyw'r cyfrifiad ddim yn mesur defnydd, ond mae'r ffigurau'n bwysig hefyd, wrth gwrs, gan eu bod nhw'n darparu data defnyddiol am ein hiaith ymhob rhan o Gymru, ac mae'n amlwg bod cysylltiad rhwng y niferoedd sy'n gallu siarad yr iaith a'i defnydd.

Rhywbeth arall fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n ei ddweud dros y misoedd diwethaf yw bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac fe fyddaf i'n parhau i'w ddweud e. Mae'n neges bwysig, ac yn un rwy'n credu'n gryf ynddi hi. Mae'n rhan o beth sy'n ein gwneud ni'n ni, ac mae'n gyfrifoldeb arnom ni i gyd i ddod at ein gilydd yn y Senedd hon ac ar hyd a lled y wlad i sicrhau ei dyfodol. Ac mae angen hefyd inni gofio fod gan bawb ei ran, mae gan bawb ei lais; mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.

16:45

Diolch yn fawr, Llywydd, a Dydd Gŵyl Dewi Sant hapus ichi, i'r Gweinidog ac i'r Siambr. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad heddiw, a chyfeiriaf Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau. Hoffwn hefyd gysylltu fy hun â geiriau teimladwy'r Gweinidog am farwolaeth drist Aled Roberts. Gadewch inni obeithio mai un o gymynroddion Aled fydd gweld datblygiad yr iaith yr oedd yn ei charu ac a dreuliodd gymaint o amser yn ei hyrwyddo. 

Mae'r iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o'n diwylliant, ein hanes a'n treftadaeth, a thros yr wythnos diwethaf rydym wedi gweld pa mor hawdd y gall y tair sylfaen genedlaethol hyn gael eu herydu, eu hymosod arnynt a'u torri. Mae hunaniaeth cenedl yn seiliedig ar ei diwylliant, ei phobl ac, wrth gwrs, ei hiaith. Gwelaf y polisi Cymraeg 2050 yn rhan o ystod o fentrau a fydd nid yn unig yn cryfhau ein hunaniaeth yma yng Nghymru, ond hefyd yn cryfhau ein lle unigryw fel rhan o'r Deyrnas Unedig.

Gyda'r datganiad hwn wedi ei roi ar Ddydd Gŵyl Dewi, byddai'n esgeulus imi beidio â nodi dathliad ein nawddsant heddiw, dyn o orllewin Cymru a gafodd ei gydnabod gan y Pab dros 1,900 o flynyddoedd yn ôl. Bu Dewi Sant fyw bywyd duwiol, ac mae ei ddathlu fel ein nawddsant yn rhywbeth sy'n ein huno ni yma yng Nghymru. Mae'r iaith yn agwedd ar y diwylliant sy'n ychwanegu gwerth at ein cenedl fawr, ac mae strategaeth Cymraeg 2050 yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu a thyfu'r iaith am genhedlaeth i ddod. O ystyried hirhoedledd strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, mae cyfleoedd i graffu ar y Llywodraeth yn hanfodol er mwyn sicrhau bod canlyniadau'n cyrraedd targedau.

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'm mhryderon ynghylch atebolrwydd y rhaglen hon, yn enwedig gan ei bod yn debygol na fydd neb yn y Llywodraeth yma yn atebol yn y flwyddyn 2050. Dyna pam mae'r cyfle hwn mor bwysig, ac rwy'n sicr yn croesawu ei hadroddiad blynyddol manwl a ddarllenais â diddordeb mawr. Roeddwn yn hynod falch o weld y Gweinidog yn cydnabod gwaith pwysig ein sefydliadau gwirfoddol, a sut maen nhw'n gweithio o fewn y cymunedau i hybu a thyfu'r Gymraeg. Fel cadeirydd clwb ffermwyr ifanc sir Benfro, rwyf wedi gweld pa mor werthfawr yw cwlwm y Gymraeg i'r gymdeithas, yn enwedig i'n pobl ifanc. Ond rhaid i Lywodraeth Cymru beidio â dibynnu ar sefydliadau trydydd sector yn unig i wneud ei gwaith drostynt. Mae gan Gymru bentwr o botensial, a gall datblygu ein pobl ifanc yn siaradwyr dwyieithog neu hyd yn oed deirieithog sicrhau bod pobl yn eistedd ar y llwyfan rhyngwladol. 

Yn wir, o ystyried hyn, hoffwn dynnu eich sylw at fy mhryderon ynghylch trywydd hanesyddol y nifer sydd yn astudio ar gyfer dysgwyr blwyddyn 11 sydd wedi cofrestru i gymryd rhan yn TGAU Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith. Yn y 12 mlynedd diwethaf, mae canran y dysgwyr blwyddyn 11 sydd wedi cymryd rhan yn TGAU Cymraeg iaith gyntaf wedi cynyddu 3 y cant yn unig, ffigur nad yw'n cyd-fynd â naratif, geiriau na pholisi Llywodraeth Cymru. Ac er fy mod yn falch o weld bod y ganran sy'n dilyn cwrs llawn TGAU Cymraeg ail iaith wedi cynyddu'n aruthrol, mae gennyf bryderon am addasrwydd y cymhwyster hwn. Os yw'r TGAU Cymraeg ail iaith hwn yn gweld dysgwyr yn dysgu ymadroddion gorsyml ac nad yw'n datblygu dysgu'r iaith yn ddyfnach, pan ddaw i broffesiynau mewn bywyd hŷn, fel addysgu, gallant fod o dan anfantais.

Ond nid yma yn unig y mae fy mhryderon. Gwn am achosion lle mae siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf rhugl wedi dewis sefyll cyrsiau TGAU Cymraeg ail iaith dim ond i gryfhau eu siawns o ennill gradd A neu A*. Weinidog, fel y gwyddoch, mae gennych fy nghefnogaeth i'r polisi hwn. Ydy, mae'n uchelgeisiol, ond cefnogaf y bwriadau sydd ganddo. Gyda'r ewyllys gorau yn y byd, nid chi fydd Gweinidog y Gymraeg pan ddaw'r cynllun hwn i ben yn y flwyddyn 2050, a dyna pam mae e mor bwysig ein bod yn cadw llygad beirniadol ar sut mae'n datblygu. Gobeithio fod fy nghyfraniad heddiw yn cael ei gymryd yn y ffordd y'i bwriadwyd fel ffrind beirniadol, a critical friend, achos dim ond trwy weithio a newid cwrs, os a phryd y bydd angen, y bydd y polisi hwn yn llwyddiannus. Diolch. 

16:50

A gaf i ddiolch i Samuel Kurtz am y ffordd adeiladol wnaeth e ymgymryd â'r cwestiwn, a'r ffaith ei fod e'n ein hatgoffa ni pa mor fyrhoedlog mae gyrfaoedd gweinidogol yn gallu bod. [Chwerthin.] Diolch o galon i chi am fy atgoffa i o hynny.

Ond fe wnaeth Samuel Kurtz wneud dau bwynt pwysig iawn ar gychwyn ei gwestiwn, hynny yw bod angen atebolrwydd a bod angen cyfle i Aelodau a chyrff allanol hefyd allu craffu ar waith y Llywodraeth, ac rwy'n derbyn bod hynny'n gwbl elfennol. Dyna beth yw'r rhaglen a dyna beth yw'r datganiad yma. Dyna beth yw'r adroddiad; mae'n gosod allan y targedau, mae'n dangos yn glir ddigon lle rŷn ni'n cyrraedd y targedau, a lle mae angen mwy o waith ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r sialensau, efallai, sydd ychydig yn fwy hirdymor, ac mae'n caniatáu cyfleoedd ac yn rhoi sail i chi allu craffu ar hynny. Felly, rwy'n croesawu hynny ac mae'r Llywodraeth yn croesawu hynny.

Mae'r pwynt wnaethoch chi orffen arno fe yn bwysig hefyd, hynny yw bod y dirwedd y mae'r iaith yn bodoli oddi mewn iddi yn gyson newid, onid yw hi? Felly, rŷn ni wedi gweld newid mawr dros y 60 mlynedd ers 'Tynged yr Iaith'. Gellir dadlau, dros y cyfnod diwethaf, fod ein cymunedau ni wedi trawsnewid o ran y pwysau ar gymunedau Cymraeg yn benodol, ond hefyd ffactorau eraill, ac mae angen bod yn onest am yr angen i newid ac ymateb i'r newidiadau hynny. Hefyd, mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu o'r hyn rŷn ni'n ei wneud—mae pethau'n llwyddo ac mae pethau'n methu, ac mae angen adnewyddu yn sgil y wybodaeth honno a bod yn ddewr ac yn onest am y broses o wneud hynny. Felly, rwy'n sicr yn cefnogi'r thema honno yng nghwestiwn yr Aelod.

O ran y cwestiwn ar gymhwyster Cymraeg TGAU, fel y bydd yn gwybod, mae hyn ar hyn o bryd yn fater y mae Cymwysterau Cymru yn edrych arno; mae'n destun pwysig iawn. Mae cyfnod yr ail iaith yn dirwyn i ben. Dŷn ni ddim eisiau trafod y Gymraeg fel syniad o iaith gyntaf ac ail iaith. Mi wnes i orffen fy natganiad yn sôn am yr iaith yn perthyn i bawb. Beth rwyf i eisiau ei weld, ac rwy'n sicr bod cefnogaeth eang yn y Siambr i hyn, yw un continwwm ieithyddol, lle mae pawb yn gwybod lle maen nhw ar y siwrnai; mae pawb ar yr un siwrnai ond, efallai, ar fannau gwahanol ar yr un llwybr. Mae hynny wir yn bwysig, rwy'n credu. Rŷn ni eisiau gweld ein system addysg ni yn caniatáu inni greu siaradwyr hyderus dwyieithog, ond y gwirionedd yw bod pobl yn dechrau o fannau gwahanol ar y llwybr hwnnw, ac mae hynny jest yn realiti yn ein cymunedau ni a lle mae'r iaith.

Ond y syniad sydd yn sail i'r polisi o ddarparu gwersi am ddim i bobl tan eu bod nhw'n 25 yw jest rhoi cymaint o gyfleoedd ag y gallwn ni i sicrhau bod pobl yn manteisio ar y cyfle naill ai i ailafael yn y Gymraeg neu ddysgu am y tro cyntaf. Felly, mae gwaith i'w wneud i sicrhau ein bod ni'n deall ymhle ar y continwwm ieithyddol y mae cymwysterau ac addysg i oedolion, ond mae'r gwaith yn waith pwysig i'w wneud.

16:55

Diolch, Weinidog, am y datganiad. Hoffwn innau ategu eich teyrnged i Aled Roberts. Mi fynychais y British-Irish Parliamentary Assembly gyda Sam Kurtz dros y dyddiau diwethaf yma, ac mae'n rhaid i mi ddweud yr oedd yna cymaint o deyrngedau twymgalon ar draws y ddwy ynys hyn—pobl oedd wedi gweld Aled pan oedd yn rhoi tystiolaeth ger eu bron nhw yn 2019 ac a oedd yn edmygu'n aruthrol yr hyn dŷn ni'n ei wneud yng Nghymru. Ond, yn benodol, mi oedd o ei hun wedi creu argraff ryfeddol ac wedi ysgogi Llywodraethau eraill i ystyried sut y medran nhw weithredu a sut y medran nhw efelychu rhai o'r pethau gwych yr oedd o ar flaen y gad yn eu harwain yn y fan yna, ac mi oedd hi'n braf gweld hynny yn cael ei gydnabod yno.

O ran yr adroddiad yma, mae'n ddifyr, onid ydy hi, edrych yn ôl ar 2020-21? Mae rhai o'r heriau yn dod drosodd yn yr adroddiad hwn, ond yn sicr dwi'n meddwl mai'r adroddiad nesaf fydd yn rhoi'r trosolwg i ni o ran effaith y pandemig yn wirioneddol, felly, o ran y Gymraeg. Yn sicr, dwi'n ffan fawr o infographics, ac mae yna straeon gwych i'w dweud yn yr infographics sy'n cyd-fynd â'r cynllun, o ran y niferoedd yn ymwneud â gwersi ar-lein o ran dysgu Cymraeg—dŷn ni'n gwybod am y niferoedd sydd eisiau trio ar Duolingo ac ati, ac mae'r awydd yna gan rai pobl, efo mwy o amser gartref ac ati, i ymwneud â'r iaith i'w groesawu.

Ond y pegwn arall ydy'r heriau hynny efo addysgwyr ifanc. Dwi'n gwybod yn yr ardal dwi'n ei chynrychioli, Rhondda Cynon Taf, lle mae'n her aruthrol o ran y targedau i gyrraedd y filiwn o siaradwyr beth bynnag, ein bod ni'n gweld effaith y pandemig yn barod, efo'r rhieni yn gwneud y dewis anodd i gymryd eu plant allan o addysg Gymraeg oherwydd eu bod nhw'n gweld eu bod nhw gormod ar ei hôl hi, eu bod nhw'n poeni am eu datblygiad nhw ac ati.

Ar hyn o bryd, dydy pob cyngor ddim yn mesur yn gyson pam fod rhywun yn gadael addysg Gymraeg a beth ydy'r rhesymau dros hynny. Dŷn ni wedi trafod yn y gorffennol yr angen i ddeall hynny yn well er mwyn gwybod sut dŷn ni'n gallu ymyrryd, a dwi'n meddwl mai un o'r heriau mawr i ni, o ran cael targed uchelgeisiol, ydy deall pam, os ydych chi wedi gwneud y dewis yna o ran addysg Gymraeg, nad ydych chi'n parhau gyda'r trywydd hwnnw. Mae'n rhaid inni ddeall hynny, dwi'n meddwl.

Yn sicr, mae o i gyd yn eithaf anecdotaidd ar hyn o bryd, ond mae yna nifer o anghysondebau eraill dwi hefyd wedi'u trafod efo chi yn y gorffennol o ran mynediad at addysg Gymraeg. Mae'n un peth cael hawl, ond mae'r syniad o fynediad yn eithriadol o bwysig. Wedyn, os nad ydych chi hefyd yn gallu cael mynediad i glybiau brecwast neu glybiau ar ôl ysgol ac ati, os nad ydy'r ysgol Gymraeg honno o fewn pellter cerdded ac os nad oes gan eich rhieni chi neu ofalwyr car i fynd â chi i'r ysgol, yna mae yna heriau gwirioneddol. Dyna un o'r pethau efo'r model unfed ganrif ar hugain, efo campws. Ydy, mae yna fuddsoddiad aruthrol, ond mae'n dal i fod problem enfawr o ran cael y cysondeb ar y mynediad hwnnw. Mae'r un peth yn wir o ran trochi ac anghenion dysgu ychwanegol. Dydy o ddim yn gydradd ar y funud. Ac ydy, dwi'n cytuno efo chi; efallai buaswn ni'n gallu ffurfio parti llefaru o ran 'Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb'. Mae hwnna'n rhywbeth roedd lot o bobl yn nodio arno fo—Eisteddfod T ac Amgen ac ati. Ond mae o'n rhywbeth dŷn ni angen bod yn ei ddweud, ac yn dweud yn Saesneg, ond yn ei olygu hefyd. Mae'n un peth bod hi'n perthyn i bawb, ond mae angen bod yna hawl gwirioneddol gan bawb i ymwneud â'r iaith yn y ffordd maen nhw'n dewis gwneud.

Dwi'n ategu pwyntiau Sam Kurtz o ran y cyhoeddiad a gafwyd gan Cymwysterau Cymru ynglŷn â'r ddau gymhwyster gwahanol—croesawu'n fawr. Mae yna gymaint o bethau yn y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru fydd yn mynd tuag at y targed o filiwn o siaradwyr, ond mae'r syniad o gontinwwm mor eithriadol o bwysig, ac un o'r pethau byddwn i yn hoffi gwybod o ran—. Dwi'n rhannu'r pryderon o ran yr ailfrandio yma. Roeddwn i yn croesawu gweld bod Cymwysterau Cymru wedi rhoi yn bendant mai ar gyfer ysgolion Saesneg oedd y cymhwyster arall, ond dal i fod—mae yna ddau gymhwyster yn mynd i fodoli. Felly, ydy'r Gweinidog yn credu bydd y newidiadau a grybwyllwyd yn y cyhoeddiad diweddar ynghylch TGAU Cymraeg yn debygol o helpu i gyflawni'r nod o greu un continwwm dysgu ac asesu? Os penderfynir ar ddau arholiad, mae'n rhaid dangos y gorgyffwrdd rhwng y naill a'r llall, a chael gwared ar y nenfwd cyrhaeddiad a chaniatáu i ddisgyblion gyrraedd lefel cyrhaeddiad uwch beth bynnag yw cyd-destun ieithyddol yr ysgol.

Her arall aruthrol yw o ran recriwtio at y gweithlu addysg. Mi welsom ni Mudiad Ysgolion Meithrin yn sôn, er gwaethaf y llwyddiannau maen nhw'n eu cael, fod yna heriau aruthrol o ran cael digon o staff, ac mae hyn yn rhywbeth o ran anghenion dysgu ychwanegol ac ati. Felly, beth yn union yw'r uchelgais newydd o ran gweithlu addysg? Faint yn ychwanegol o athrawon sydd angen ar gyfer y sector Cymraeg, ac erbyn pryd, i gwrdd â thargedau Cymraeg 2050? Pam aros tan y Ddeddf addysg Gymraeg cyn pennu uchelgais, pan yw cynllun 10 mlynedd yn cael ei baratoi ar hyn o bryd?

17:00

Diolch i Heledd Fychan am ystod o gwestiynau. Fe wnaf i fy ngorau i allu eu hateb nhw'r gorau y gallaf i. O ran yr her mae COVID wedi cyflwyno inni, mae hi'n iawn i ddweud bod hynny wedi golygu bod rhai profiadau wedi bod yn gadarnhaol—hynny yw, pobl yn dysgu Cymraeg am y tro cyntaf—ond hefyd sialensiau o ran rhai yn penderfynu dwyn plant allan o addysg Gymraeg. Mae'r darlun yn eithaf anghyson, buaswn i'n dweud, ar draws Cymru. Mae enghreifftiau cadarnhaol hefyd, ynghyd â'r enghreifftiau efallai oedd yn llai cadarnhaol wnaeth yr Aelod sôn amdanyn nhw.

Mae'r gwaith rŷm ni wedi buddsoddi ynddo fe o ran aildrochi a'r gwaith mae RhAG yn ei wneud gyda ni i gyd yn mynd i'r afael â sut gallwn ni sicrhau nad yw hynny'n digwydd a bod rhieni yn gallu parhau yn eu hymroddiad ac ymrwymiad i addysg Gymraeg i'w plant. Dwi'n derbyn y pwynt rŷch chi'n ei wneud o ran casglu data ar benderfyniadau. Mae hynny'n rhan o'r gwaith rŷm ni'n edrych arno fe ar hyn o bryd.

O ran y cwestiwn ehangach o fynediad hafal i addysg Gymraeg, rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r nod hwnnw. Dyna bwrpas y Bil addysg cyfrwng Gymraeg sydd gyda ni ar y gweill. Byddwn ni'n gweithio ar y cyd gyda Plaid Cymru ar hynny. Mae'r elfen ddaearyddol yn bwysig i hynny. Mae'r rhifau yn bwysig, o ran craffu, o ran cyrraedd y nod, ond mae elfen ddaearyddol bwysig i hynny hefyd o ran lle mae'r ddarpariaeth a lle mae'r cymunedau sydd angen yr ysgolion. Mae trafnidiaeth yn elfen o hynny hefyd.

Jest ar y pwynt olaf, o ran y cymhwyster, mae'n hawdd dweud—os caf i ei ddodi fe ffordd hyn—ein bod ni eisiau cael gwared ar ail iaith a bod eisiau un cymhwyster, ond beth mae hynny yn ei olygu ar lawr gwlad? Rwyf wedi clywed pobl yn dweud, 'Wel, efallai eich bod chi'n cael cymhwyster ar y cyd i bawb, a wedyn elfen wahanol sy'n cyfateb i lefel o sgil wahanol.' Ar ddiwedd y dydd, mae gyda chi ddau gymhwyster yn y byd hwnnw hefyd. Felly, y peth pwysig, rwy'n credu, yw'r pwynt wnaethoch chi ei wneud, bod nad oes nenfwd, os hoffech chi, ar eich gallu chi i allu dysgu Cymraeg. Mae e'n rhan o gynllun cyfredol Cymhwysterau Cymru i gael cymhwyster ychwanegol hefyd mewn ysgolion Saesneg lle mae'n bosib mynd tu hwnt i'r TGAU, os hoffwch chi, yn yr ysgol. Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad diddorol inni edrych arno fe er mwyn sicrhau bod dilyniant i bobl sydd yn gwneud y TGAU newydd hwnnw. 

O ran y rhifau, dŷch chi'n dweud, 'Pam aros tan y Bil?' Yr ateb positif yw: dŷn ni ddim yn aros tan y Bil. Mae'r gwaith wedi bod yn mynd yn ei flaen gyda rhanddeiliaid ar edrych ar gynllun drafft ar hyn o bryd. Byddwn ni, wrth gwrs, yn trafod hwnnw ymhellach gyda chi. Mae eisiau bod yn greadigol, rwy'n credu, o ran sut rŷn ni'n denu pobl i'r proffesiwn, eu cynnal nhw yn y proffesiwn, beth yw'r cymhellion i wneud hynny, beth yw'r broses o ddarparu cefnogaeth yn ddigon cynnar yn y siwrnai ysgol bod pobl ifanc yn meddwl am ddysgu drwy'r Gymraeg fel gyrfa gyffrous i'w dilyn. Felly, mae lot o bethau creadigol iawn gallwn ni eu gwneud, ond mae e'n heriol. Dyw hi ddim yn bosib i orfodi pobl i wneud y dewis yna. Roedd gyda ni rhyw 5,000, dwi'n credu, mwy neu lai, o athrawon oedd yn gallu dysgu drwy'r Gymraeg; roedd angen rhyw 5,500 y flwyddyn hon, felly rŷn ni yn brin o'r targed, ond mae'n sefyllfa heriol. 

Mi wnaethoch chi sôn am y cynllun 10 mlynedd. Mae cynlluniau strategol 10 mlynedd gyda ni; nawr mae angen cynllun recriwtio 10 mlynedd sy'n ateb i hynny, a dyna'r gwaith rŷn ni'n edrych ymlaen at ei wneud ar y cyd gyda chi.

17:05

Fel eraill, liciwn i ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ddweud gair omboutu Aled Roberts. Llywydd, mi fyddwch chi a sawl Aelod fan hyn yn cofio ei gyfraniadau fe fan hyn yn ein Siambr ni, a dwi'n cofio fe'n siarad yn glir ac yn dod â phobl at ei gilydd, ac un o'r pethau roedd Aled yn gallu ei wneud oedd uno pobl, creu syniad a dod â phobl at ei gilydd wrth wneud hynny. Dwi'n gwybod, pan oeddwn i'n dechrau fel Gweinidog y Gymraeg, Aled oedd un o’r bobl gyntaf rôn i'n mynd atynt am gyngor, a dwi'n gwybod y bydd pob un ohonom ni reit ar draws y Siambr eisiau estyn ein cydymdeimladau at y teulu, a chydnabod y golled i ni fel cenedl, a chydnabod y cyfraniad roedd Aled wedi'i wneud.

Dwi'n croesawu'r datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, a dwi'n croesawu'r dôn dŷch chi wedi’i mabwysiadu ers ichi gael eich penodi i’r swydd yma. Dwi'n credu ei bod hi'n hynod o bwysig. Pan wnes i osod y targed o filiwn o siaradwyr, rôn i'n glir yn fy meddwl i: miliwn o bobl a all ddefnyddio'r Gymraeg, miliwn o bobl a all siarad a mwynhau'r Gymraeg, nid jest miliwn o bobl a all ysgrifennu arholiad rhyw brynhawn Mercher rhyw ben, ac anghofio fe yn syth wedi hynny—miliwn o bobl a all fwynhau ein hiaith ni a'n diwylliant ni, ac mae hynny yn hynod o bwysig.

Y cwestiwn liciwn i osod ichi y prynhawn yma, Gweinidog, yw hyn, omboutu hybu. Pan ôn i'n dysgu Cymraeg, roedd cyngherddau Blaendyffryn—bydd y Llywydd yn cofio’r rhain hefyd—yn gwneud mwy i fi i hybu’r Gymraeg, mwynhau’r Gymraeg, nag unrhyw wersi wnes i. Wnes i ddim cael gwersi yn yr ysgol, ond mater gwahanol ydy hynny.

Ond mae’n rhaid creu’r cyfle lle gall pobl fwynhau’r Gymraeg, a lle dyw'r Gymraeg ddim yn iaith y dosbarth, ond iaith fyw ym mywydau pobl. A dwi eisiau ystyried, Gweinidog, sut rydyn ni'n gallu gwneud hynny. Dwi'n becso ambell waith ein bod ni wedi gwastraffu gormod o amser, gormod o egni, gormod o adnoddau ar bethau fel safonau oedd yn creu biwrocratiaeth, yn lle hybu'r ffaith ein bod ni'n gallu mwynhau'r iaith, a dwi'n credu bod hynny'n hynod o bwysig.

A’r peth olaf liciwn i ofyn amdano yw lle’r Gymraeg yn y byd technegol newydd. Pan wy'n siarad gyda Alexa gartref, dwi'n siarad yn Saesneg gyda hi—neu gyda fe, neu beth bynnag yw Alexa—ac os ydw i'n defnyddio'r Gymraeg, wrth gwrs, fydd Alexa ddim yn deall y Gymraeg, a dŷn ni i gyd yn gwybod, fel mae technoleg yn datblygu, bod y syniad o reoli technoleg trwy ein llais ni yn mynd i fod yn fwy a mwy pwysig. Felly, Gweinidog, yn y weledigaeth mae'n amlwg sydd gyda chi yn y ffordd dŷch chi wedi bod yn gweithredu, ble mae'r Gymraeg, ble mae dyfodol y Gymraeg, yn y byd technegol, a sut ydyn ni'n mynd i sicrhau bod gyda ni'r strwythur mewn lle yn y Llywodraeth i hybu'r Gymraeg ac i estyn mas o'r Gymru bresennol i greu'r Gymru Gymraeg newydd?

Diolch o galon i Alun Davies am y cwestiynau hynny, ac wrth gwrs am ei waith sylfaenol e'n datgan y polisi yn y ei gyfnod ef fel Gweinidog y Gymraeg. Rwy'n cytuno'n llwyr gydag ef pa mor bwysig yw nid jest, fel petai, gallu, ond y cwestiwn o ddefnydd hefyd. Mae'r arolygon blynyddol rŷn ni'n edrych arnyn nhw yn dangos bod y ffigurau o bobl sydd yn datgan eu bod yn defnyddio'r Gymraeg llawer yn uwch na'r rheini sydd yn y cyfrifiad, ond y cyfrifiad, fel bydd e'n gwybod, yw'r maen prawf ar gyfer y polisi ers i Lywodraeth Cymru etifeddu hynny yn ôl yn 2012. Felly, mae'r cwestiwn o ddefnydd y Gymraeg yn gwbl greiddiol i bopeth rwyf eisiau ei wneud fel Gweinidog.

O ran hybu'r Gymraeg, rôn i'n sôn bore yma am y buddsoddiad rŷn ni'n ei wneud mewn addysg Gymraeg, ond hefyd fe wnes i sôn am y buddsoddiad rŷn ni'n ei wneud yng ngweithgaredd yr Urdd, yn eu helpu nhw i greu rhwydwaith ehangach o swyddogion datblygu a phrentisiaethau yn ein cymunedau efallai mwy difreintiedig drwy'r Gymraeg, felly, pethau sydd yn cynorthwyo normaleiddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol tu allan i'r dosbarth, ac mae hynny'n gwbl elfennol i hwn hefyd.

O ran y cwestiwn ehangach yma o hybu, buaswn i'n dweud bod hybu'n derm cyffredinol, ond mae amryw o bethau'n digwydd o fewn hynny. Felly, mae rhan ohono fe'n gyngor i fusnes, rhan ohono fe'n creu gofodau uniaith, grymuso cymunedau, fel rôn i'n sôn amdano, drwy waith co-operatives ac ati, y dechnoleg—fe ddof i nôl at hwnna mewn eiliad—a hefyd y defnydd o wyddor ymddygiadol. Hynny yw, dyw pobl sy'n gallu'r Gymraeg ddim yn defnyddio'r Gymraeg—pam? Beth yw'r pethau gallwn ni eu gwneud i'w hannog nhw i wneud hynny? Strategaeth drosglwyddo, hyfforddi arweinyddion, outreach gyda chymunedau ffoaduriaid i ddysgu'r Gymraeg—mae pob un o'r pethau yma yn elfennau o'r broses honno o hybu. Ond, wrth edrych ar yr elfennau unigol, mae'n amlygu bod y cyfrifoldeb ar amryw o'r pethau yna'n perthyn i amryw o gyrff ac ati. Felly, mae'n bwysig, rwy'n credu, o ran tryloywdeb a bod pobl yn gweld eu cyfrifoldeb, ein bod ni'n edrych ar yr elfennau yna'n unigol.

Mae'r cwestiwn olaf yn gwestiwn pwysig a diddorol o ran beth rŷn ni'n ei wneud ym maes technoleg, ac rwy'n credu, ar ôl y ddwy flynedd rŷn ni wedi'u cael, rŷn ni'n gweld yn glir beth yw'r sialensau o ran defnyddio Microsoft Teams, o ran defnyddio Zoom ac ati. Ond gallaf i roi, gobeithio, rywfaint o gysur iddo fe i ddweud ein bod ni'n gweithio ar y cyd â Microsoft er mwyn sicrhau bod y gallu i ddefnyddio cyfieithu ar y pryd yn Teams. Rŷn ni wedi bod yn gwneud hynny ers amser, felly hir yw pob aros, efallai, gallwn ni ei ddweud. Ond rŷn ni yn gwybod nawr bydd swyddogaeth cyfieithu ar y pryd sylfaenol yn cael ei rhyddhau y mis hwn, ym mis Mawrth, neu fis Ebrill, a bydd Microsoft yn ychwanegu at y swyddogaethau hynny dros amser. Ac rŷn ni hefyd wedi bod yn trafod gydag amryw o gwmnïau technoleg eraill i weld beth mwy gallan nhw ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei lle haeddiannol yn eu darpariaeth nhw. Mae'n sicr bod cyfle pwysig inni'n fanna hefyd.

17:10
8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022

Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cyflwyniad yma. Eluned Morgan.

Cynnig NDM7928 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Chwefror 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd, a chyfarchion o Dŷ Ddewi ar Ddydd Gŵyl Dewi. O ran Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, mae'n rhaid adolygu'r mesurau coronafeirws bob tair wythnos. Cafodd yr adolygiad tair wythnos diwethaf ei gwblhau ar 10 Chwefror. Gyda mwy a mwy o bobl wedi cael y brechiad, gan gynnwys y brechiad atgyfnerthu, a diolch i waith caled ac ymdrechion pawb dros Gymru gyfan, rŷn ni'n hyderus bod cyfraddau'r coronafeirws yn syrthio. Gallwn ni edrych ymlaen felly at ddyddiau gwell o'n blaenau ni. Gam wrth gam ac yn ofalus, fe allwn ni ddechrau dileu rhai o'r mesurau amddiffyn sy'n dal i fod ar waith ar lefel rhybudd 0. Ond dydyn ni ddim am ddileu'r holl fesurau i gyd gyda'i gilydd. Rhaid cofio nad yw'r pandemig drosodd eto. Yng Nghymru, fe fyddwn ni'n dal i wneud penderfyniadau ar gyfer diogelu iechyd y bobl sy'n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol sydd ar gael i ni.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r prif reoliadau ac fe ddaethon nhw i mewn i effaith ar 18 Chwefror 2022. Roedd y rhain yn cynnwys dileu'r gofyniad cyfreithiol i ddangos pàs COVID er mwyn cael mynediad i ddigwyddiadau awyr agored a lleoliadau, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Ond, wrth gwrs, fe all digwyddiadau a lleoliadau barhau i ddefnyddio pàs os byddan nhw'n dymuno gwneud hynny.

Mae'r rheoliadau'n cael eu diwygio hefyd i ymestyn yr exemptions ar gyfer unigolion sydd wedi cael eu brechu'n llawn sy'n cael eu nodi fel cysylltiadau agos i rywun sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws. Felly, o hyn ymlaen, does dim rhaid i'r rheini sydd wedi cael brechlynnau sydd wedi'u cymeradwyo dramor i hunanynysu rhagor os ydyn nhw wedi cael eu hadnabod fel cysylltiad agos.

Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn ymestyn y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 tan 28 Mawrth 2022. Er gwaethaf y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y rheoliadau hyn, mae Cymru'n dal i fod ar lefel rhybudd 0 ac mae'n dal i fod yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am y cyfyngiadau a'r gofynion yn y prif reoliadau ac ystyried pa mor gymesur ydyn nhw bob 21 diwrnod. Ddydd Gwener, pan fyddwn ni'n rhannu canlyniad ein hadolygiad 21 diwrnod nesaf o'r rheoliadau, fe fyddwn ni hefyd yn cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer y tymor hir.

Dwi'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig. Diolch, Llywydd.

17:15

Gweinidog, a gaf i ategu’r sylwadau a wnaethoch chi ar gyflwyno'r brechiadau yn llwyddiannus, a phawb sydd wedi gweithio mor galed i ddarparu'r brechiadau hynny i'n galluogi i gyrraedd lle rydyn ni wedi’i gyrraedd nawr wrth lacio'r cyfyngiadau ar ein bywydau bob dydd? Wrth gwrs, mae hyn ar ôl dwy flynedd o amser anodd iawn i gymunedau a phobl ledled Cymru. Felly, rydw i’n croesawu rhan helaeth o'r rheoliadau heddiw.

Byddwch yn gwybod, wrth gwrs, Gweinidog, am fy ngwrthwynebiad i a'r Ceidwadwyr Cymreig i basys COVID; roedd y rhain yn benderfyniad anghywir a dydyn ni heb weld y dystiolaeth eu bod wedi bod yn effeithiol. Fodd bynnag, y penderfyniad cywir yw fod Llywodraeth Cymru bellach yn cael gwared ar y pasys COVID, felly rydw i, wrth gwrs, yn croesawu hynny. Fe wnaethoch chi sôn yn eich sylwadau, Gweinidog, y bydd elfen wirfoddol o hyd i’r pasys COVID, felly byddai gen i ddiddordeb gwybod pa lefel o adnoddau sydd ei hangen gan Lywodraeth Cymru i wasanaethu hynny'n wirfoddol i'r rhai sy'n manteisio ar yr opsiwn hwnnw.

Gweinidog, rydych chi’n aml yn sôn bod Lloegr yn eithriad. Wel, wrth gwrs, mae Cymru'n eithriad nawr o ran dod â chyfyngiadau COVID i ben. Rydyn ni wedi cael dyddiad gan Lywodraeth yr Alban; rydyn ni’n gwybod fod y dyddiad wedi mynd heibio i Loegr ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi bod cyfreithiau COVID yn dod i ben ar gyfer y rhan honno o'r DU. Felly, mae Cymru bellach yn eithriad. A gaf i ofyn, yn y set nesaf o reoliadau, allwn ni nawr ddisgwyl i chi roi'r dyddiad i ni pan ddaw'r holl gyfreithiau COVID sy'n weddill i ben?

Yn gynharach y prynhawn yma, Gweinidog, fe wnes i ac Aelodau eraill o'r Siambr hon gyfarfod grwpiau o grŵp teuluoedd profedigaeth COVID. Mae bob amser yn emosiynol iawn i'r bobl hynny sy'n adrodd eu straeon am aelodau o'r teulu sydd, yn drist, wedi marw, ond beth maen nhw’n ei ddisgwyl yw ymchwiliad sy'n benodol i Gymru. Felly, gaf i ofyn eto, Gweinidog, i chi roi sylw i'r union bwynt hwn? Maen nhw am gael ymchwiliad ac rydyn ni’n gwybod bod llawer o gyrff iechyd ledled Cymru am gael ymchwiliad Cymru gyfan. Rydych chi wedi dweud, ac mae'r Prif Weinidog wedi dweud dro ar ôl tro, fod Cymru'n gwneud pethau'n wahanol. Rydyn ni yn gwneud pethau'n wahanol, felly byddwn i’n cwestiynu pam y byddech chi’n hoffi cuddio rhag y craffu hwnnw y byddai ymchwiliad penodol i Gymru gyfan yn ei gyflwyno. Felly, ar yr adeg hwyr hon nawr, Gweinidog, rwy’n gobeithio y gallwch chi ddod â rhywfaint o gadarnhad positif i'r teuluoedd hynny heddiw sydd unwaith eto'n gofyn am yr ymchwiliad penodol hwnnw i Gymru gyfan.

Dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i. Prin ydy'r newidiadau, mewn difrif, ond mae bob un yn arwyddocaol wrth inni symud tuag at gyfnod mwy endemig. Ond, mae'n gwneud synnwyr, fel sylw cyntaf, i ymestyn y prif reoliadau tan ddiwedd Mawrth. Dŷn ni'n dal ddim wedi rhoi'r pandemig y tu cefn i ni, ond yn ymarferol, prin iawn ydy'r mesurau amddiffyn statudol sy'n dal mewn lle. Mi ydw i'n gwneud y sylw unwaith eto ein bod ni yn fan hyn yn sôn am newidiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn barod, a gan fod pethau'n symud yn eithaf graddol erbyn hyn, dwi’n meddwl y gallem ni fod yn delio â materion mewn ffordd mwy amserol. Ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau gallu edrych ymlaen tuag at y camau olaf yna o godi cyfyngiadau neu godi y mesurau amddiffyn.

Ychydig o sylwadau gen i—rhyw ddau bryder. Gaf i ofyn i'r Gweinidog beth ydy'r safbwynt bellach ar barhad profi yng Nghymru, a beth ydy'r dadleuon mae'r Gweinidog yn eu rhoi i Lywodraeth Prydain ynglŷn â hyn? Mae o wedi cael ei godi gan aelodau o'r cyhoedd, etholwyr i mi: os oes yn rhaid talu am brofion llif unffordd, er enghraifft, yn Lloegr, wel, beth fydd goblygiadau hynny i Gymru, lle, wrth gwrs, mae presgripsiwns am ddim? Ac yn enwedig, mi fydd angen meddwl yn ofalus beth fydd angen ei wneud o ran darparu profion ar gyfer pobl sy'n agored i niwed neu ofalwyr, er enghraifft.

Y mater arall: os ydy gofynion hunanynysu yn dod i ben fel camau nesaf, sut mae sicrhau cefnogaeth i'r rhai mwyaf bregus? Achos, fel efo cymaint o elfennau o'r pandemig, mae'r bregus a charfannau bregus o fewn cymdeithas wedi dioddef yn anghyfartal, a'r peth olaf rydym ni eisiau ei wneud ydy gweld parhad o'r anghyfartaledd yna wrth inni symud allan o'r pandemig. Felly, mi fyddwn i'n croesawu sylwadau ar hynny.

Ac yn olaf gen innau hefyd, mi oedd hi'n fraint gen i noddi digwyddiad yma yn y Senedd heddiw yma, lle cafodd Aelodau ar draws y pleidiau gyfle i gyfarfod â rhai o'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid dros y ddwy flynedd ddiwethaf—ymgyrchwyr sydd wedi bod yn galw am ymchwiliad annibynnol penodol i Gymru. Mi wnes i, fel nifer o rai eraill, drio rhoi'r achos mor frwd a phenderfynol ag y gallem ni dros gael ymchwiliad penodol Cymreig. Methu a wnaethom ni yn hynny o beth, a dwi'n gresynu at hynny; mae'r teuluoedd hefyd. Ond rŵan, beth sydd angen sicrhau ydy bod yr ymchwiliad sydd ar gyfer y Deyrnas Gyfunol gyfan yn edrych ar bethau o bersbectif Cymreig. Felly, dwi wedi ysgrifennu heddiw at dîm yr ymchwiliad cyhoeddus hwnnw i ofyn am sicrwydd y bydd yr ymgyrchwyr Cymreig a'u timau cyfreithiol nhw yn cael bod yn dystion sylfaenol i'r ymchwiliad hwnnw, a nid fel rhyw ychwanegiad at y criw ymgyrchu yn Lloegr neu drwy y Deyrnas Unedig. A wnaiff y Gweinidog ymuno â'm galwad i i sicrhau eu bod nhw yn cael eu trin fel grŵp ar wahân, er mwyn sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed o fewn yr ymchwiliad hwnnw?

17:20

Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Wrth gwrs—[Anghlywadwy.]

Ocê. Rŷn ni wedi'ch colli chi am gyfnod.

Mae'n ymddangos fod gennym ni broblem dechnegol gydag ymateb y Gweinidog.

Ydyn. Trïwch eto. Dechreuwch o'r dechrau eto, Gweinidog. Dwi'n credu efallai eich bod chi nôl gyda ni nawr. Rŷch chi'n bell yn Nhyddewi fanna, mae'n amlwg, felly trïwch eto.

Ocê, diolch yn fawr. Jest i ddweud ein bod ni i gyd yn hapus iawn bod y brechlynnau a'r cynllun brechu wedi bod yn hynod o lwyddiannus yma yng Nghymru. Wrth gwrs, rŷn ni mewn sefyllfa nawr lle dŷn ni ddim yn mynd i barhau gyda'r pasys, ond, wrth gwrs, mae cyfle gan bobl, os ydyn nhw'n moyn, i ddefnyddio'r rheini. Ac, wrth gwrs, os ydy hi yn rhywbeth maen nhw'n penderfynu ei gwneud, wrth gwrs, bydd hwnna'n rhywbeth a fydd yn rhaid iddyn nhw ei benderfynu ac, yn amlwg, bydd yna ddim adnoddau yn dod o Lywodraeth Cymru ar gyfer hynny o ganlyniad i hynny.

Yn wahanol i Loegr, Russell, rydyn ni'n hoffi dilyn y wyddoniaeth yn hytrach na'r wleidyddiaeth yma yng Nghymru o ran delio â COVID, ac rwy'n falch iawn o ddweud ei bod hi'n ymddangos bod y cyhoedd yng Nghymru wedi ymateb yn gadarnhaol i hynny, gyda thua 70 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi'r dull mae Llywodraeth Cymru wedi'i gymryd yng Nghymru, o'i gymharu â thua 40 y cant yn cefnogi dull y Ceidwadwyr yn Lloegr. Duw a ŵyr sut y daethon nhw i 40 y cant, ond dyna ni.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn hefyd i bobl nodi y bydd yr adolygiad 21 diwrnod, wrth gwrs, pan fyddwch chi'n clywed o ran ein cynlluniau hirdymor, y dydd Gwener nesaf hwn, gan y Prif Weinidog.

Rwy'n falch o glywed eich bod chi wedi cwrdd â'r grŵp teuluoedd mewn profedigaeth. Mae'r rhain bob amser yn gyfarfodydd anodd iawn. Mae'r bobl hyn wedi colli anwyliaid ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n hynod sensitif a dealladwy. Mae llawer ohonom ni wedi colli anwyliaid i COVID ac, wrth gwrs, pan ddaw'n fater o ymchwiliad penodol i Gymru, rydyn ni wedi gwneud ein safbwynt yn gwbl glir ar hynny droeon yn y Siambr.

Rhun, o ran parhad profi, bydd lot mwy o fanylion ynglŷn â beth yw'n cynlluniau ni ar gyfer profi yn y dyfodol ar ddydd Gwener. Rŷn ni, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw hi i ddiogelu pobl sydd yn fregus a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd eich bod chi wedi cwrdd â'r bobl sydd wedi colli anwyliaid a dwi'n siŵr y clywoch chi'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog y prynhawn yma ynglŷn â'u cyfle nhw i gwrdd â phobl o ran beth sy'n digwydd yn Lloegr gyda'r inquiry yna. Diolch yn fawr.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Rheoliadau Wyau (Cymru) 2022

Eitem 9 sydd nesaf, Rheoliadau Wyau (Cymru) 2022, a dwi'n galw ar y Gweinidog materion gwledig i wneud y cynnig yma'n ffurfiol.

Cynnig NDM7929 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Wyau (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Does yna ddim siaradwyr, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig? Na, does yna ddim gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig yma. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7927 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Rheoli Cymorthdaliadau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd.  Rwy’n cynnig y cynnig. Rydw i’n ddiolchgar i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hadroddiadau ar y Bil Rheoli Cymhorthdal, ac rwy’n diolch iddyn nhw am eu sylwadau. Cafodd cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ei gyflwyno ar 6 Ionawr, oedd yn egluro ein safbwynt ar y cymalau a nodwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ac ni chodwyd unrhyw gamau pellach.

Mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 wedi gwneud rheoli cymhorthdal yn fater a gadwyd yn ôl. Fodd bynnag, mae'n effeithio'n sylweddol ar faterion nad ydynt yn cael eu cadw yn ôl fel datblygu economaidd, amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mae effaith y Bil hwn ar ardaloedd nad ydynt yn cael eu cadw yn ôl yn codi pryderon. Rydyn ni angen fframwaith rheoleiddio manwl sy'n gweithio gyda datganoli, nid yn erbyn datganoli.

Busnesau yw ein partneriaid ni ac maen nhw’n galw'n briodol am eglurder a sicrwydd ynghylch pa gymorth sy'n gydnaws â threfn rheoli cymhorthdal y DU. Mae'r cynigion yn y Bil yn methu'r prawf sylfaenol hwn. Maen nhw i bob pwrpas yn rhoi pwerau eang i'r Ysgrifennydd Gwladol lunio'r drefn yn y dyfodol heb fawr o graffu gan Senedd y DU, a dim o gwbl gan y Senedd hon.

Unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi dangos ei difaterwch i'r goblygiadau i fusnesau, swyddi a'r economi yng Nghymru. Mae dealltwriaeth elfennol o'r setliad datganoli yn ei gwneud yn glir bod hyn yn creu dryswch ac ansicrwydd sy'n peryglu buddsoddiad yn ein heconomi.

Mae'r Bil hwn yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfeirio dyfarniadau cymhorthdal neu gynlluniau a roddir mewn meysydd polisi datganoledig at yr uned cyngor ar gymhorthdal annibynnol yn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, ac mae'n ymestyn y gofynion cadw yn ôl sydd ar waith ar ddyfarniadau neu gynlluniau sy’n cael eu cyfeirio. Os bydd yn cael ei ddeddfu, bydd hyn yn tanseilio pŵer Gweinidogion Cymru i weithredu mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd datganoledig.

Ni fydd y pwerau hyn yn ymestyn i Weinidogion Cymru lle mae cymorthdaliadau'n effeithio ar gymhwysedd datganoledig. Gallai hyn greu gwrthdaro buddiannau i'r Ysgrifennydd Gwladol os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn am atgyfeiriad ar gyfer dyfarniad neu gynllun gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd gan ffanffer mawr ddyddiau'n flaenorol yn unig, er enghraifft. Mae'r Bil hwn yn adlewyrchu buddiannau gwleidyddol cul Llywodraeth y DU yn unig yn hytrach nag anghenion ehangach y DU.

Er gwaethaf ceisiadau mynych i Weinidogion y DU wneud newidiadau, nid oes unrhyw beth sylweddol wedi'i wneud, ac rwy'n pryderu'n fawr y gallai'r Bil fod â goblygiadau ymarferol a chyfansoddiadol pellgyrhaeddol i Gymru. Mae'r Bil hwn yn tanseilio statws deddfwriaeth sylfaenol ddatganoledig a bydd yn ei gwneud yn anos cefnogi rhanbarthau difreintiedig. Mae'n gwneud buddsoddi yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn llai deniadol drwy fethu â darparu map cymorth rhanbarthol y DU gyfan. Mae hyn yn gwrth-ddweud codi'r gwastad yn uniongyrchol drwy ddileu'r mecanwaith a gynlluniwyd i atal y Llywodraeth rhag buddsoddi'n fwy ym Mayfair na Merthyr.

Felly, rwy’n cynnig bod y Senedd yn gwrthod cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Rheoli Cymhorthdal.

17:30

Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. 

Diolch, Lywydd. Rydym wedi cyhoeddi dau adroddiad ar y memorandwm a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, y cyntaf ym mis Rhagfyr a'r ail yr wythnos diwethaf. 

Mynegodd ein hadroddiad cyntaf ein pryderon ynglŷn â'r Bil. Rydyn ni’n credu y gallai'r cynigion rheoli cymhorthdal—ac rydyn ni’n dweud hyn yn ein hadroddiad—gael effaith niweidiol ar ddatganoli ac ar arfer swyddogaethau datganoledig, yn enwedig mewn ffyrdd a allai gyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru a sefydliadau cyhoeddus i ariannu prosiectau angenrheidiol. Felly, mae effaith bosibl y Bil hwn yn debyg i effaith Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, nad oedd y pumed Senedd yn cydsynio iddi yn wir.

Yn ystod ein gwaith craffu, roedd hi’n siomedig dysgu o dystiolaeth y Gweinidog cyllid i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig nad oedd cysylltiadau rhynglywodraethol, sydd, wrth gwrs, yn fater o bryder mawr i ni ar ein pwyllgor, wedi bod mor gynhyrchiol ag y dylent fod yn ystod datblygiad y Bil. Mynegodd ein hadroddiad y gobaith nad yw hyn yn cynrychioli tuedd gan Lywodraeth y DU o wrthod cydweithredu ac ymgysylltu'n adeiladol lle mae gan ddeddfwriaeth y potensial i danseilio'r setliad datganoli a gallu Llywodraeth Cymru i gyflawni polisi mewn meysydd datganoledig. Byddai dull gweithredu o'r fath, fel rydyn ni’n ei ddweud yn ein hadroddiad, yn peryglu cymhlethu’r ddealltwriaeth gyffredinol o ddatganoli ymhellach, yn enwedig pan fo'r setliad presennol eisoes yn ddiangen o gymhleth. At hynny, gallai greu ansicrwydd i fusnesau, i sefydliadau'r sector cyhoeddus ac i lywodraeth leol, yn ogystal â biwrocratiaeth ddiangen drwy greu cyfraith wael sy'n anodd i ddinasyddion ei deall, ac yn wir mae hynny'n hau amheuaeth ynghylch ble mae ffiniau datganoli. Felly, roedden ni’n cael y ffaith fod llywodraeth y DU wedi gwrthod cydweithredu ac ymgysylltu'n llawn â Llywodraeth Cymru i fod yn syfrdanol, oherwydd mae'n amlwg bod llawer mwy i'w ennill o Lywodraethau yn cydweithio'n adeiladol ac yn dod o hyd i ddull sy'n deg, yn weithredol ac yn ymarferol o fewn y fframwaith cyfansoddiadol presennol.

Byddaf yn troi yn awr at y cymalau penodol sy'n destun cydsyniad y Senedd. Yn ein hadroddiad cyntaf, nodwyd ein bod yn cytuno â Llywodraeth Cymru bod angen cydsyniad ar gyfer cymalau 63 i 69, 70 i 75 ac 80 i 92 o'r Bil. Ar y pryd, nid oedd yn glir i ni a oedd Llywodraeth Cymru o'r farn bod cymalau 41 a 42 hefyd yn gofyn am gydsyniad y Senedd. Felly, rydyn ni’n croesawu penderfyniad y Gweinidog cyllid, a phenderfyniad Gweinidog yr economi, i osod memorandwm atodol oedd yn cadarnhau eu cred bod angen cydsyniad ar y cymalau hyn hefyd, ac rydyn ni’n cytuno â'r asesiad hwnnw.

Roedd ein hadroddiad cyntaf yn cefnogi galwadau Llywodraeth Cymru am gyflwyno gwelliannau mewn perthynas â nifer o gymalau yn y Bil. Nid oes rhaid dweud y dylai Llywodraeth Cymru, er enghraifft, gael y pwerau priodol i wneud is-ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r Bil mewn meysydd polisi sydd eisoes wedi'u datganoli. Rydyn ni hefyd yn rhannu rhwystredigaeth y Gweinidog ynghylch y diffyg manylion ar wyneb y Bil, ac rydyn ni’n nodi bod Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu mewn is-ddeddfwriaeth ac mewn cyfres o ganllawiau i'w dilyn. I'r perwyl hwnnw, hoffwn dynnu sylw at argymhelliad a wnaethom ni yn ein hadroddiad cyntaf, y dylai Llywodraeth y DU gyhoeddi rheoliadau a chanllawiau drafft i seneddwyr ac Aelodau'r Senedd hon yn y DU ystyried manylion y gyfundrefn rheoli cymhorthdal a deall yn well effeithiau posibl y Bil hwn. Felly, fe wnaethom ni ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol cyn y Nadolig yn gofyn am ei farn ar yr argymhelliad hwn, ond, mae'n flin gen i ddweud, nid ydym ni wedi cael ymateb eto.

Fe wnaeth ein hail adroddiad dynnu sylw at farn pwyllgorau yn Nhŷ'r Arglwyddi am y Bil hwn. Wrth ddod â'm sylwadau i ben, hoffwn dynnu sylw'n benodol at sylwadau penodol a wnaed gan gadeirydd Pwyllgor Craffu Fframweithiau Cyffredin Tŷ'r Arglwyddi, y Farwnes Kay Andrews. Mae wedi dweud bod Pwyllgor Craffu'r Fframweithiau Cyffredin yn pryderu fwyfwy am effaith y Bil a'i ryngweithio â fframweithiau cyffredin, er enghraifft, er nad yn gwbl ecsgliwsif, mewn perthynas â chymorth amaethyddol. O ganlyniad, mae'r pwyllgor hwnnw'n ystyried hyn fel

'mater difrifol iawn sy'n effeithio ar weithrediad yr Undeb.'

Ni fydd yn syndod bod fy mhwyllgor yn rhannu'r pryderon mawr hynny ynghylch rhyngweithio'r Bil â'r fframweithiau cyffredin a'i oblygiadau i bolisi datganoledig, a gobeithio, wrth gofnodi'r sylw hwn, nid y Senedd yn unig fydd yn nodi'r sylwadau hyn, ond hefyd y pwyllgorau perthnasol yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi sydd â diddordeb mawr yn hyn hefyd. Diolch yn fawr.

17:35

Rwyf yn dymuno siarad i gefnogi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw. Er gwaethaf y gefnogaeth honno, rwy'n credu ei bod hi'n amharchus iawn i lythyrau fod yn mynd gan bwyllgorau'r Senedd hon ac nad yw'r ohebiaeth honno yn cael ymateb. Mae hynny'n annerbyniol ac mae angen ymdrin â hynny.

Rwy'n credu mai'r realiti yw fod Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, bob amser wedi gwrthwynebu'r Bil hwn am eu bod yn gwrthwynebu Brexit. Dyna'r realiti. Roeddech chi'n hapus iawn i'r UE ddal pwerau rheoli cymhorthdal, ac ni chlywais air yn y Siambr hon unwaith yn ystod yr amser yr oeddem ni'n aelod o'r UE, gan unrhyw un o Weinidogion Llywodraeth Cymru, yn cwyno am y ffaith bod y pwerau rheoli cymhorthdal yn cael eu cynnal ym Mrwsel. Ond nawr, fel plaid a Llywodraeth, mae'n ymddangos eich bod yn cymryd safbwynt gwleidyddol iawn yn erbyn Llywodraeth y DU sy'n dal yr un pwerau, sydd, yn fy marn i, o bosibl yn niweidiol i fusnesau Cymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi mynd y tu hwnt i geisio gweithio ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, ac yn wir y gweinyddiaethau datganoledig eraill, i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon rydych chi wedi'u hamlinellu heddiw. Ond, wrth gwrs, yn anffodus, mae'n ymddangos nad yw'r ymdrechion hynny wedi llwyddo. Dyma'r realiti: rydyn ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd a dydyn ni ddim bellach wedi'n rhwymo gan reolau cymorth gwladwriaethol biwrocrataidd a beichus yr UE, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig oherwydd erthygl 10 o brotocol Gogledd Iwerddon. Am y tro cyntaf erioed, mae gennym ni yma yn y DU y rhyddid i gynllunio cyfundrefn rheoli cymhorthdal ddomestig sy'n adlewyrchu ein buddiannau strategol a'n hamgylchiadau penodol. Mae angen cyfundrefn rheoli cymhorthdal ledled y DU i sicrhau bod cymorthdaliadau—[Torri ar draws.] Byddaf yn hapus i gymryd ymyriad.

Fe wnes i wrando ar yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud; rydych chi'n dweud ein bod ni wedi cael cyfle i gynllunio cyfundrefn benodol ar gyfer rheoli cymhorthdal ledled y DU yn yr achos hwn. Ydych chi, felly, yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi anwybyddu'r holl sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon?

Dydw i ddim yn credu ei fod wedi anwybyddu'r sylwadau sydd wedi'u gwneud.

Rydw i wedi cydnabod na fu ymateb i'r pwyllgor, sydd, yn fy marn i, yn destun gofid mawr, ac mae hynny'n annerbyniol. Rydw i eisoes wedi nodi fy marn am hynny.

Gan ddychwelyd at yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud, mae angen cyfundrefn rheoli cymhorthdal ledled y DU i sicrhau nad yw cymorthdaliadau'n ystumio cystadleuaeth yn ormodol o fewn marchnad fewnol y DU. Nawr yn fwy nag erioed, yn enwedig ar ôl y pandemig coronafeirws, rydyn ni angen cryfder a sefydlogrwydd ein hundeb economaidd fel Teyrnas Unedig fel y gallwn ni adeiladu'n ôl yn well. Bydd y dull newydd o reoli cymhorthdal yn darparu un fframwaith cydlynol i ddiogelu marchnad fewnol y DU gan rymuso gweinyddiaethau datganoledig, grymuso Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, i gynllunio cymorthdaliadau sydd wedi'u teilwra ac unigryw i ddiwallu anghenion lleol, heb wynebu'r fiwrocratiaeth ormodol y bu'n rhaid i ni ddod ar ei thraws gyda'r drefn flaenorol pan oedd yn cael ei rhedeg gan yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y Bil hwn yn sicrhau'r newid cyfundrefn rydyn ni ei angen. Bydd hefyd yn cefnogi—ac fel glywais i sylwadau'r Gweinidog am godi'r gwastad—yr agenda codi'r gwastad. Rwy'n gwybod eich bod wedi cael trafodaethau am anghydraddoldebau rhanbarthol gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU pan ydych chi wedi bod yn trafod y mater hwn ac mae eich swyddogion wedi bod yn trafod y mater hwn. Maen nhw wedi rhoi sicrwydd y bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â—[Torri ar draws.] Maen nhw wedi rhoi sicrwydd y byddan nhw'n helpu i gyflawni'r math o ystyriaethau yr ydych chi wedi'u rhoi mewn perthynas â'r agenda codi'r gwastad, ac wrth gwrs bydd yn ein helpu ni i gyflawni'r agenda carbon sero-net yn ogystal â chefnogi'r adferiad economaidd hwnnw y gwnes i ei grybwyll yn gynharach o COVID-19.

Bydd hon yn system hyblyg, ystwyth, wedi'i theilwra sy'n mynd i gefnogi twf busnes yma yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU, ac wrth gwrs bydd yn hyrwyddo cystadleuaeth. Mae angen i ni sicrhau bod gennym ni gyfundrefn gymhorthdal sy'n gweithio i Gymru ac sy'n gweithio i'r DU, nid un, fel yr un flaenorol, oedd yn gweithio i'r UE. 

17:40

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith ac am eu hymdrechion i ymgysylltu â Llywodraeth y DU a chael eglurder. Mae'n destun gofid, yn fy marn i, nad oes ymateb wedi dod i law. Rhaid i mi ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n gwbl ddidwyll â Llywodraeth y DU ar y mater hwn i geisio cael y canlyniadau gorau i ni yma yng Nghymru. Mae rhai gwelliannau wedi'u cynnig, ond nid ydyn nhw'n mynd yn agos at fynd i'r afael â'r pryderon sydd gennym ni. Mae gennym ni bryderon am y diffyg manylion ar wyneb y Bil, am yr anghydbwysedd cyffredinol mewn grym yn y Bil a diffyg unrhyw gydsyniad neu ymgynghori, hyd yn oed, gyda'r Llywodraethau datganoledig. Rydym ni'n pryderu am yr effaith annerbyniol ar egwyddorion cyfansoddiadol, yn enwedig mewn perthynas â'r adolygiad barnwrol o ddeddfwriaeth sylfaenol ddatganoledig. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n pryderu bod system gyfreithiol ddwy haen ymddangosiadol yn cael ei chreu lle nad yw deddfwriaeth sylfaenol a grëwyd gan y Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd—[Torri ar draws.] Mewn munud—mewn perthynas â Chymru yn cael yr un parch â deddfwriaeth a grëwyd yn San Steffan mewn perthynas â Lloegr. Ac wrth gwrs, rydw i'n pwysleisio nad yw ein pryderon yn ymwneud ag adolygiad barnwrol yn gyffredinol; mae'n ymwneud â'r diffyg cydraddoldeb hwnnw yn y ffordd y canfyddir deddfwriaeth. 

Rwy'n ddiolchgar i chi am gymryd yr ymyriad. Rydych chi newydd restru llu o bryderon—

Rwy'n siŵr bod gennych chi gatalog o fwy. Ond gaf i ofyn i chi: gallai'r holl bryderon hynny fod wedi cael eu gwneud yr un fath i drefn cymhorthdal flaenorol yr UE; wnaethoch chi erioed godi un o'r pryderon hynny gyda'r Comisiwn Ewropeaidd mewn perthynas â'r gyfundrefn flaenorol, y bu'n rhaid i ni ei dioddef am gynifer o flynyddoedd?

Un o'r prif bryderon sydd gen i am y cynigion ar ran Llywodraeth y DU yw nad oes map ardaloedd â chymorth o gwbl. Roedd hynny'n ffordd y gallen ni sianelu a chanolbwyntio gwariant ar ardaloedd difreintiedig Cymru a ledled y DU o dan y gyfundrefn flaenorol, ac mae hynny wedi mynd yn llwyr. Ni fydd unrhyw ffordd nawr i fuddsoddiad wahaniaethu rhwng Mayfair a Merthyr, ac mae'n rhaid fod hynny yn gwbl anghywir. Rydym ni wedi clywed yr hyn sydd gan Weinidogion Llywodraeth y DU i'w ddweud o ran y sicrwydd maen nhw wedi'i roi. Cawsom sicrwydd na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i Brexit. Cawsom sicrwydd na fyddai Cymru'n colli pwerau o ganlyniad i Brexit. Nid yw'r ddau sicrwydd hynny wedi dwyn ffrwyth, felly ni fyddaf yn cymryd sicrwydd gan Lywodraeth y DU ar y pwynt hwn. Os ydyn nhw am gael y sicrwydd hwnnw, mae angen iddyn nhw eu rhoi ar wyneb y Bil. 

Yn gyffredinol, Llywydd, mae'r Bil Rheoli Cymhorthdal yn enghraifft arall eto o ymosodiad Llywodraeth y DU ar ddatganoli. Mae'r diffyg manylion, fel y gwnes i ei ddweud, ar y Bil yn golygu bod gofyn i'r Senedd lofnodi siec wag arall, a allai rwymo ein dwylo wrth ddatblygu cyfreithiau yn y dyfodol mewn meysydd datganoledig. Ac eto, mae'r anghydbwysedd yn y Bil o ran pwerau, ynghyd â'r diffyg pwerau ymgynghori a chydsynio ar gyfer Llywodraethau datganoledig wrth ddatblygu a diweddaru'r gyfundrefn gymorthdaliadau, yn peryglu gwrthdroi'r broses ddatganoli yn llechwraidd drwy'r Bil, gan alluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i ymyrryd mewn meysydd cymhwysedd datganoledig.

I gloi, byddaf yn amlwg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i fy nghydweithwyr am ddatblygu'r Bil, ond rwy'n ailadrodd fy nghais bod y Senedd yn gwrthod cydsyniad deddfwriaethol. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Y cynnig nesaf yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu i eitemau 11 a 12 gael eu trafod. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig hwnnw. 

17:45

Cynnig NNDM7937 Lesley Griffiths

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu NNDM7935 a NNDM7936 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Mawrth 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cynnig, felly, yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Dim gwrthwynebiad i wneud hynny. Felly, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yr eitemau nesaf, felly, yw eitem 11 ac eitem 12, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, ac oni bai fod yna Aelod yn gwrthwynebu hyn caiff y ddau gynnig o dan eitemau 11 a 12, cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, eu grwpio i'w trafod ond fe fydd yna bleidleisiau ar wahân i eitemau 11 a 12. Dwi ddim yn gweld bod gwrthwynebiad i'r grwpio hynny.

11. & 12. Legislative Consent Motion on the Police, Crime, Sentencing and Courts Bill—Motion 1, and Legislative Consent Motion on the Police, Crime, Sentencing and Courts Bill—Motion 2

Felly, dwi'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gyflwyno'r cynigion yma. Jane Hutt. 

Cynnig NNDM7935 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ynghylch 'Diddymu Deddf Crwydraeth 1824 etc' i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynnig NNDM7936 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ynghylch 'Gosod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar gynulliadau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar brotestiadau un person', a 'Gorchmynion Carlam i Ddiogelu Mannau Cyhoeddus', i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i yma heddiw i gyflwyno dau gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd Llywodraeth y DU. Dyma'r ail ddadl rydyn ni wedi'i chynnal mewn perthynas â'r Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl gyntaf. Mae'r angen am ddwy ddadl yn adlewyrchu natur gymhleth ac anhrefnus y Bil, ond mae'n bwysig bod gan y Senedd lais terfynol ar yr hyn sydd wedi'i gynnwys. Ac, yn anffodus, ni fu'n bosibl dilyn gweithdrefnau arferol a chaniatáu craffu priodol ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 5, y gwnes i ei gosod ar 28 Chwefror. Nid dyma'r ffordd y byddem ni’n dewis gwneud deddfwriaeth yng Nghymru, ond nid yw'r amserlen a bennwyd gan Senedd y DU ar gyfer yr hyn sy'n ddarn cymhleth ac eang o ddeddfwriaeth wedi gadael unrhyw ddewis arall i mi. 

Mae'r colledion sylweddol a brofwyd gan Lywodraeth y DU yng Nghyfnod Adroddiad Tŷ'r Arglwyddi wedi golygu bod camau terfynol y Bil wedi dod yn destun y 'broses ping-pong' fel mae’n cael ei galw. Heddiw, rydym ni’n trafod y gwelliannau y cytunwyd arnynt gan Dŷ'r Arglwyddi ar 17 Ionawr a gwelliannau Llywodraeth y DU a gyflwynwyd mewn ymateb i'r rheini ar 22 Chwefror. Yn unol â'm hymagwedd at y ddadl flaenorol, rwyf wedi edrych ar y Bil yn gyfannol. Mae'r gwelliannau a wnaed yng Nghyfnod Adroddiad yr Arglwyddi a'r rhai a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU mewn ymateb yn cynnwys darpariaethau sy'n dod o fewn cymhwysedd y Senedd, bydd rhai ohonyn nhw’n gwneud newidiadau pwysig a fydd o fudd i Gymru. Fodd bynnag, mae gwelliannau Llywodraeth y DU hefyd yn gosod, neu'n ailosod, darpariaethau yn y Bil o fewn cymhwysedd na fyddem ni’n ei dderbyn. Mae'r gwelliannau hyn yn ymosodiad ar yr hawl i brotestio'n heddychlon, a rhaid i ni sefyll yn erbyn y rhain. 

Rydw i wedi gosod pum memorandwm yn ystod y chweched Senedd mewn perthynas â'r Bil hwn, ac mae'r rhain yn ymwneud â gwelliannau Llywodraeth y DU a osodwyd yn ystod gwahanol gamau diwygio yn Senedd y DU a'r gwelliannau a wnaed yng Nghyfnod Adrodd yr Arglwyddi. Rwy’n cyfeirio at y Bil fel y cafodd ei gyhoeddi ar 18 Ionawr 2022. Fel atodiad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 5, fe wnes i gyhoeddi tabl cymharu, sy'n nodi'r cymalau ar gyfer pob un o gamau'r Bil. Ar gyfer y gwelliannau perthnasol yng nghymhwysedd y Senedd, mae'r tabl hwn hefyd yn nodi effaith y gwelliannau a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 22 Chwefror ar y gwelliannau y cytunwyd arnynt yn Nhŷ'r Arglwyddi. 

Llywydd, gan droi at gynnig Rhif 1, sy'n ymwneud â'r cymal rwy'n argymell bod y Senedd yn rhoi cydsyniad iddo, rwy’n argymell y dylai Aelodau'r Senedd gytuno ar y cynnig hwn. Pleidleisiodd Tŷ'r Arglwyddi ar 17 Ionawr i gynnwys gwelliant a fyddai'n diddymu Deddf Crwydradaeth 1824. Cyflwynodd Llywodraeth y DU welliant ar 22 Ionawr sy'n wahanol o ran geiriad i’r gwelliant y cytunwyd arno gan Yr Arglwyddi ond a fyddai'n dal i ddod â'r darn hwn o ddeddfwriaeth hen ffasiwn ac atchweliadol i ben. Rydym ni wedi gwneud ein barn yn glir mewn trafodaeth â Llywodraeth y DU, ymhell cyn i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd gael ei osod, nad yw'r Ddeddf bellach yn addas i'r diben yn yr unfed ganrif ar hugain ac y dylid ei diddymu. Yn wir, nid yw erioed wedi bod yn addas i'r diben. Dylen ni symud ymlaen nawr o gyfraith sy'n troseddoli rhywun yn seiliedig ar eu sefyllfa dai. Gall hyn ond gwneud sefyllfa anodd yn waeth ac mae'n fwy tebygol o arwain rhywun i lawr llwybr anobeithiol. Rydym ni wedi gweithio gyda'r heddluoedd yng Nghymru i annog symud i ffwrdd o'r defnydd o'r Ddeddf Crwydradaeth. Rydym ni’n canolbwyntio ar fabwysiadu partneriaeth a dull cydweithredol o fynd i'r afael â chysgu ar y stryd, drwy helpu pobl oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol drwy'r grŵp gweithredu digartrefedd i ddatblygu dull strategol o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. A'n gweledigaeth yw y dylai digartrefedd bob amser fod yn brin, yn fyr a pheidio â chael ei ail-adrodd, sydd, yn ymarferol, yn golygu gwasanaethau cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar gamau ataliol ac ailgartrefu cyflym i'r rhai sy'n profi digartrefedd. Gan ddefnyddio'r pwerau o dan y Ddeddf Crwydradaeth mae symud rhywun ymlaen yn dieithrio'r person hwnnw’n unig, ac mae'n atgyfnerthu drwgdybiaeth gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r dull hwn yn oedi'r pwynt lle gellir rhoi cymorth i rywun sy'n cysgu ar y stryd, ac mae hyn yn fwy tebygol o'u gwthio i ffwrdd oddi wrth y cymorth hwnnw ac i berygl. 

Roeddwn i hefyd am fanteisio ar y cyfle i sôn bod y Farwnes Newlove, comisiynydd dioddefwyr blaenorol, wedi cyflwyno gwelliant pwysig a fyddai wedi gweld casineb at fenywod yn cael ei ddosbarthu fel trosedd gasineb, a gefnogwyd gan Arglwyddi bryd hynny. Roeddwn i’n falch bod hyn wedi digwydd, gan ei fod yn rhywbeth yr wyf i wedi galw amdano ers tro. A byddwch yn cofio i ni gynnal dadl bwysig ar 2 Chwefror eleni am stelcian, ac fel rhan o hynny, gosododd y Ceidwadwyr Cymreig welliant yn croesawu penderfyniad yr Arglwyddi i dderbyn gwelliant y Farwnes Newlove, ac fe wnaethom ni i gyd gefnogi hynny yn y Siambr. Ysgrifennais at yr Aelodau ar 19 Chwefror yn tynnu sylw at y ffaith bod gwelliannau a wnaed yn Nhŷ'r Arglwyddi yn debygol o gael eu gwrthdroi. Yn fy llythyr, galwais ar y Senedd i anfon neges unedig i gefnogi gwneud casineb at fenywod yn drosedd gasineb, ac rwy’n croesawu bod cydweithwyr o bob rhan o'r Siambr hon wedi lleisio'r un teimladau.

Felly, roeddwn i’n siomedig bod Tŷ'r Cyffredin wedi dewis gwrthdroi'r gwelliant Newlove fel mae’n cael ei alw. Mae hwn yn gyfle a gollwyd i ychwanegu at yr hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud i ddileu trais yn erbyn menywod a merched, ac i fynd i'r afael â'r diwylliant gwrth-fenywaidd sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn. Felly, rydw i’n cyflwyno cynnig Rhif 1 i'r Siambr ac yn gofyn i'r Aelodau roi cydsyniad i'r cymal. 

Gan droi nawr at gynnig Rhif 2, sy'n ymwneud â chymalau rwy'n argymell bod y Senedd yn atal cydsyniad ar eu cyfer, rwy'n argymell bod Aelodau'r Senedd yn gwrthod y cynnig hwn. Roeddwn i’n siomedig bod Llywodraeth y DU, fel rhan o Drydydd Darlleniad, wedi cofnodi eu bod yn credu nad oedd rhannau o'r Bil a wrthodwyd gan y Senedd ar 18 Ionawr o fewn cymhwysedd. Rwy’n anghytuno'n sylfaenol â'r asesiad hwn, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau, lle mae effaith wirioneddol ar ardaloedd datganoledig, i wneud ein safbwynt yn glir iawn. Fy asesiad i yw, pan fo'r cymalau protest sydd wedi’u cynnwys yn y Bil yn ymwneud â mesurau lleihau sŵn, eu bod yn dod o fewn cymhwysedd y Senedd.  

Roeddwn i’n falch o weld bod yr Arglwyddi hefyd wedi gwrthod cymalau yn ymwneud â'r ymosodiad ar yr hawl i brotestio'n heddychlon. Yn wir, roedden nhw’n cyd-fynd â'r safiad a gymerwyd gan y Senedd ar 18 Ionawr, lle gwnaethom ni hefyd wrthod y cymalau a oedd yn gosod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus, ar gynulliadau cyhoeddus ac ar brotestiadau un person. Mewn ymateb, mae Llywodraeth y DU wedi dewis mynd ati'n fwy llym drwy ailgyflwyno'r cymalau hyn i'r Bil. Mae cyfle i ni unwaith eto anfon neges unedig at Lywodraeth y DU na all, ac na fydd dileu'r hawl sylfaenol hwn i ddweud ein dweud yn cael ei oddef.

Yn wir, mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â phrotestiadau erbyn hyn yn mynd ymhellach fyth, gyda chyflwyno gorchmynion diogelu mannau cyhoeddus llwybr carlam. Byddai'r ddarpariaeth hon yn golygu y byddai awdurdodau lleol yn gallu hwyluso gorchmynion diogelu mannau cyhoeddus mewn perthynas ag ysgolion neu safleoedd yn eu hardal sy’n cael eu defnyddio fel canolfannau brechu a phrofi os ydyn nhw wedi bod yn destun protestiadau neu arddangosiadau. Ond, Llywydd, gadewch i mi fod yn glir, mae rhai o'r digwyddiadau a adroddwyd y tu allan i'n canolfannau brechu wedi bod yn ffiaidd, yn enwedig lle bu aflonyddu ar staff a phobl sy'n dod ar gyfer brechiadau. Diolch byth, ar y cyfan, mae'r protestiadau wedi bod yn heddychlon. Fodd bynnag, pan nad ydyn nhw, mae'r fframwaith cyfreithiol presennol yn rhoi digon o gyfle i sicrhau safleoedd brechu heb gyfyngu ar yr hawl i brotestio.

Mae mecanweithiau sy'n bodoli eisoes i gyflawni'r canlyniad a ddymunir, felly mae'r ddarpariaeth hon yn debygol o greu mwy o ddryswch. Ac mae hyn yn golygu nad oes gofyniad nac angen i gynnwys mesur newydd, llawer mwy llym, ac er y gallem ni anghytuno â'r safiad mae’r rhai sydd yn erbyn brechu yn ei chymryd ac yn credu y dylai unioni'r safbwyntiau hyn fod drwy addysg, nid grym, byddai'r newid sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU yn disodli'r hyn sy'n ddulliau teg a chymesur o gadw cydbwysedd gyda'r gorchmynion hyn, heb wella'n ystyrlon lefel y diogelwch y maen nhw’n ei ddarparu ar gyfer ysgolion a safleoedd brechu. Rwy’n galw eto ar Lywodraeth y DU i ailfeddwl am y ffordd y maen nhw’n dewis delio â phrotestiadau. Felly, rydw i’n cyflwyno cynnig Rhif 2 i'r Siambr, ac yn gofyn i'r Aelodau atal cydsyniad ar gyfer y cymalau hyn. Diolch. 

17:55

Er ymdrechion diflino rhai gwleidyddion o bob plaid yn Senedd y Deyrnas Gyfunol a'r dadleuon unwaith eto neithiwr, a aeth ymlaen tan yr oriau mân, mae'n amlwg na allwn ni ddibynnu ar fecanwaith methedig San Steffan i'n hamddiffyn ni yng Nghymru rhag eithafiaeth beryglus Llywodraeth y Torïaid, sy'n bygwth tanseilio hawliau sifil a hawliau sylfaenol.

Rwyf wedi sôn o'r blaen, yn ein dadl flaenorol ar y pwnc hwn, ein bod ni fel plaid yn rhannu pryderon Llywodraeth Cymru am yr elfennau didostur, hiliol ac anghymesur sy'n bygwth ein cymdeithas a'n cymunedau—y gwerthoedd sy'n ganolog i weledigaeth Plaid Cymru o ran goddefgarwch, rhyddid barn a thegwch.

Rwyf hefyd wedi sôn dro ar ôl tro—yn wythnosol, mae'n teimlo weithiau—fod Plaid Cymru yn credu mai Senedd Cymru ddylai ddeddfu mewn meysydd polisïau datganoledig. Ni allwn ddewis a dethol cymalau os ydym wir yn credu ac am amddiffyn yr egwyddor honno. Mae gwneud hynny yn wyneb awydd digynsail Llywodraeth San Steffan i danseilio ein hawdurdod datganoledig yn hanfodol.

Rydym ni, felly, yn gwrthwynebu'r ddau gynnig sydd ger ein bron ni y prynhawn yma. Yr wythnos hon, yn fwy nag erioed, rydym wedi deall pwysigrwydd codi llais i uno mewn rali a phrotest—pwysigrwydd yr hawl i wneud hynny heb ofn, a heb fod grym y wladwriaeth yn medru mygu'ch llais a'ch hawl i fynnu newid neu fynegi gwrthwynebiad.

Rydym ni, y prynhawn yma, wedi uno yn ein canmoliaeth o ddewrder y rhai yn Rwsia sy'n protestio yn erbyn trais gwallgof a chreulon Putin a'i weithredoedd anghyfreithlon ac annynol wrth ymosod ar Wcráin. Mae'r modd y mae'r Bil yn ymosod ar yr hawl i brotestio yn gwbl groes i'n hanes ni, i'n gwerthoedd ni ac i'n credoau ni fel cenedl, ac yn cefnogi awtocratiaeth.

Sawl gwaith ydym ni wedi siarad yma hefyd am yr angen i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, ac eto cafodd y gwelliant i wneud casineb at fenywod yn drosedd gasineb, a gyflwynwyd gan yr Arglwyddi, ei wrthod gan Aelodau Seneddol y Torïaid? Mae hyn ar adeg pan fo ymddiriedaeth yn yr heddlu, yn enwedig ymddiriedaeth menywod, wedi'i ddifrodi gymaint, ac mae troseddau sy'n cael eu hysgogi gan gasineb rhywedd yn cynyddu ac erlyniadau'n gostwng.

Mae cymaint o gymalau eraill wedi'u cynnwys yn y Bil hirfaith ac anhrefnus hwn, ac mae yn anhrefnus, a fydd yn cael effaith anghymesur ar leiafrifoedd, ar fenywod, ar blant, ar grwpiau ymylol ac ar ein hawliau sifil, a bydd yn sicr yn gwaethygu'r anghydraddoldebau yn ein system gyfiawnder—system gyfiawnder, os yw'n wirioneddol am wasanaethu buddiannau pobl Cymru, i wasanaethu ein cymunedau'n wirioneddol a chefnogi ein gweledigaeth o system lywodraethu deg, atebol, a fydd yn ein hamddiffyn rhag awdurdodaeth ymledol a bwriadol Llywodraeth Dorïaidd San Steffan, y mae'n rhaid ei datganoli i Gymru. Diolch. 

Mae cyfyngu'r hawl i brotest gyhoeddus braidd yn eironig yng nghyd-destun trosi Damasîn Llywodraeth y DU i bwysigrwydd llywodraeth ddemocrataidd pan ddaw'n fater o ymosodiad Rwsia ar Wcráin, rwy'n credu, o ystyried y ffordd mae Llywodraeth y DU wedi ymddwyn ers 2019, gan ymdrechu i ragderfynu Senedd pan nad oedden nhw am gael eu harchwilio ganddyn nhw, a rhai o'r digwyddiadau a'r materion gwirioneddol ddifrifol sydd bellach yn hedfan o amgylch ein gwlad yng ngoleuni'r miliynau ac, yn wir, biliynau coll mewn perthynas â maffia Rwsia a chontractau a ddyfarnwyd i ffrindiau a chysylltiadau Llywodraeth y DU heb gystadleuaeth agored yn ystod argyfyngau COVID.

Yn 2020 cofnododd y Comisiwn Etholiadol fod chwe aelod o'r Cabinet ac wyth Gweinidog iau wedi cymryd arian gan fusnesau a/neu unigolion sy'n gysylltiedig â Rwsia. Yn ôl y radio y bore yma, rydyn ni nawr yn sôn am hyd at £25 biliwn wedi'i ddwyn i'r wlad hon gan maffia Rwsia, sy'n swagro o amgylch y DU a phrynu eiddo heb ddatgan pwy sy'n berchen arno mewn gwirionedd, a'r cyfan mewn ymdrech i wyngalchu twyll-enillion wedi'i ddwyn gan bobl Rwsia. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol warthus ein bod yn wynebu Bil sy'n ceisio cyfyngu ar brotest gyhoeddus, oherwydd mae'n amlwg bod angen mynnu bod Llywodraeth y DU yn cynnal y broses ddemocrataidd, yn parchu'r Comisiwn Etholiadol—pan fyddan nhw'n ceisio tanseilio ei annibyniaeth mewn gwirionedd—ac yn ein galluogi i ddarganfod pa effaith mae'r holl arian hynod hwn yn ei chael ar ein democratiaeth a faint o arian mae wedi'i roi i'r Blaid Geidwadol ledled y DU. Mae'r rhain yn faterion gwirioneddol ddifrifol ac yn rhai na allwn ni atal pobl rhag protestio yn eu cylch a gofyn yr holl gwestiynau cywir. Mae angen i ni gael atebion i'r cwestiynau hyn, ac rwy'n credu, yn y cyd-destun hwnnw, fod angen i ni wrthwynebu'r cymalau hyn yn bendant, y mae Tŷ'r Arglwyddi wedi gwneud eu hymdrechion gorau i'w hadfer, oherwydd dyna sut mae Llywodraeth ddemocrataidd yn edrych.

18:00

Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, ni allwn ond ystyried y cymalau yr aseswyd eu bod yn cyffwrdd â materion datganoledig ac o fewn cymhwysedd y Senedd. Er bod cymalau sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau ac yn dod â newid cadarnhaol pwysig i Gymru, rydw i'n argymell bod y Senedd yn rhoi cydsyniad, ac mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, diddymu Deddf Crwydradaeth 1824, sy'n gam pwysig o ran dad-droseddoli digartrefedd. Rydym ni wedi ymgyrchu dros hynny ers nifer o flynyddoedd. Felly, mae'n bwysig ein bod yn cefnogi'r ddarpariaeth hon; fel arall byddwn ni'n rhoi Cymru dan anfantais.

Ond rwy'n siomedig bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y newidiadau pwysig hynny a wnaed yng Nghyfnod Adroddiad yr Arglwyddi, nid yn unig o ran y protestiadau—ac mae'r cyfraniadau hynny'n bwysig heddiw gan Aelodau—ond yn arbennig rydw i eisiau dynnu sylw eto at y gwelliant a fyddai'n gwneud casineb at fenywod yn drosedd gasineb, oherwydd roeddem ni i gyd yn cytuno ar hynny yma yn y Siambr hon. Roeddem ni i gyd yn cytuno ar hynny yn y Siambr hon, ac fe wnaethon ni groesawu penderfyniad Tŷ'r Arglwyddi i gefnogi'r gwelliant, a gyflwynwyd gan y Farwnes Newlove. Ac i ddweud eto, byddai'r gwelliant hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol i lysoedd drin gelyniaeth yn seiliedig ar rywedd fel ffactor gwaethygol wrth ystyried dedfrydau am droseddau, ac eithrio troseddau rhywiol a throseddau cam-drin domestig penodol. A byddai'n ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i brif swyddogion yr heddlu gadw data am nifer yr adroddiadau sy'n ymwneud â throseddau o'r fath. Fel rydyn ni wedi'i ddweud, ac rydyn ni wedi cytuno yn y Siambr hon, rhaid i gasineb at fenywod fod yn drosedd gasineb a chael ei drin felly. Rhaid i ni i gyd barhau i gefnogi hyn, ac mae'n cyd-fynd mor dda gyda'n hymagwedd at drais yn erbyn menywod a merched, ac rydym ni wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol gref, rwy'n credu, am hynny. 

Ond o ran y rhannau o'r Bil sydd mewn cymhwysedd sy'n llechwraidd, sy'n effeithio'n negyddol ar hawliau pobl, sydd wedi'u mynegi heddiw, mae gennym ni gyfle unwaith eto i gyflwyno ffrynt unedig a sicrhau bod ein gwrthwynebiadau, unwaith eto, yn cael eu clywed. Felly, rydw i'n eich annog, i ddod i'r casgliad—

Diolch. Roeddwn i wedi gobeithio gwneud cyfraniad o ddau neu dri munud. Yn amlwg, nid oes gen i amser ar gyfer hynny, ond ydych chi'n cydnabod—? Rydych chi'n cyfeirio at y trechu yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac ni ellir cynnwys rhai o'r mesurau a wrthodwyd gan yr Arglwyddi nawr yn y ddeddfwriaeth derfynol. Ydych chi'n cydnabod bod y rhain yn cynnwys un o'r cynigion mwyaf amlwg, a fyddai wedi ei gwneud yn anghyfreithlon i brotestwyr achosi aflonyddwch difrifol drwy gloi eu hunain i bethau? Ac a ydych chi'n cydnabod, yn fwy cyffredinol, nad yw'r mesurau a'r pwerau newydd a gynigiwyd yn wreiddiol i atal protestiadau yng Nghymru a Lloegr os bernir eu bod yn rhy swnllyd ac aflonyddgar bellach yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth hon? Yn wir, nid yw llawer o'r pethau rydym ni'n clywed gwrthwynebiadau iddyn nhw bellach yn y ddeddfwriaeth hon ac ni ellir eu cynnwys ynddo, a byddai'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth gynnig Bil gwahanol i'w cyflwyno.

Hoffwn ddweud eto, Mark Isherwood, ein bod ni wedi codi ein pryderon am gymalau sy'n effeithio ar yr hawl i brotest gyfreithlon a heddychlon, ac er bod trefn gyhoeddus yn fater a gadwyd yn ôl, mae'r elfennau sŵn yn ymwneud â'r amgylchedd, sy'n dod o fewn ein cymhwysedd deddfwriaethol. Ond y peth am y Bil hwn, a thrwy gydol y daith, yw bod ymgais wedi bod i ddelio â phrotest, yn enwedig targedu mathau penodol o brotest, rydyn ni hefyd, rwy'n credu, yn eu cael yn annerbyniol. A'r gwelliannau hynny a basiwyd gan yr Arglwyddi—fe wnaethom groesawu'r gwelliannau hynny—fe aethon nhw drwodd, a chael eu gwrthod gan Dŷ'r Cyffredin; Llywodraeth y DU unwaith eto'n hyrddio hyn. Unwaith eto, rwy'n credu bod hyn yn dangos y diffyg parch nid yn unig i'r Senedd hon, ond hefyd i'r broses ddemocrataidd.

Felly, Llywydd, rwy'n annog cydweithwyr nawr i gefnogi cynnig Rhif 1, gan ddiddymu'r Ddeddf Crwydradaeth. I'r cymalau hynny, rydym ni'n argymell bod cydsyniad yn cael ei roi, ond yn gwrthod cynnig Rhif 2 a'r ymosodiad ar yr hawl i brotestio, sy'n cynnwys y cymalau rwyf i'n argymell bod cydsyniad yn cael eu hatal ar eu cyfer.

18:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 12. A ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad eto, felly fe fydd y bleidlais yn digwydd yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ar hynny, byddwn ni'n cymryd y cyfnod pleidleisio nesaf, ond, cyn hynny, fe fydd angen i ni gymryd toriad, jest i baratoi ar gyfer y bleidlais, sy'n rhithiol i rai. Toriad byr, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:06.

18:10

Ailymgynullodd y Senedd am 18:10, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

13. Cyfnod Pleidleisio

Dyma'r ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly. Eitem 8 yw'r bleidlais gyntaf. Y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022 yw'r bleidlais yma, ac mae'r cynnig wedi'i gyflwyno gan Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, 14 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r rheoliadau hynny wedi cael eu cymeradwyo.

Eitem 8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022: O blaid: 38, Yn erbyn: 0, Ymatal: 14

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 10 yw'r bleidlais nesaf, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 37 yn erbyn, felly mae'r cydsyniad yna wedi'i wrthod.

Eitem 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau: O blaid: 15, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Eitem 11 sydd nesaf, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, cynnig 1. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig hynny, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Eitem 11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd—cynnig 1: O blaid: 40, Yn erbyn: 11, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 12 yw'r bleidlais nesaf, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, cynnig 2. Mae'r bleidlais wedi cael ei gynnig gan Jane Hutt. Dwi'n agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 37 yn erbyn, ac felly mae'r cydsyniad ar gyfer y cynnig yna wedi'i wrthod.

Eitem 12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd—cynnig 2: O blaid: 15, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:13.