Y Cyfarfod Llawn
Plenary
15/02/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda.
Cyn cychwyn ar ein gwaith ni heddiw, mi wariwn ychydig amser nawr yn adlewyrchu ar y newyddion trist ac annisgwyl ddoe am farwolaeth ein cyn-Aelod a chyfaill i nifer ohonom, sef Aled Roberts. Bu'n Aelod dros y gogledd yma o 2011 i 2016. Mae'n deg dweud bod rhai Aelodau yn medru gwneud argraff fawr mewn cyfnod cymharol fyr—mi oedd Aled yn un o'r rheini. Yn seneddwr o reddf, yn gweithio ar draws pleidiau, lawn mor effeithiol yn cydweithio ag yr oedd e'n herio a sgrwtineiddio, ac yn gwneud yr herio a'r cydweithio gyda gwên a chwrteisi. Mi oedd Aled Roberts yn llawn gobaith am ddyfodol ei wlad a'i iaith. Mi oedd yn apwyntiad ardderchog yn Gomisiynodd y Gymraeg. Mae ei annwyl Rosllannerchrugog, ei iaith, a'i wlad yn dlotach heddiw hebddo, ond fe rydym ni i gyd yn diolch iddo am bopeth gyflawnodd, ac yn meddwl am ei annwyl deulu yn eu colled greulon.
Mi wnaf i nawr ofyn i bob plaid gyfrannu at y teyrngedau i Aled Roberts, drwy gychwyn wrth wahodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, i rannu ychydig sylwadau. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Aled Roberts. Fel dywedoch chi, Llywydd, roedd Aled, wrth gwrs, fel cyn-Aelod yn gyfaill i sawl un ohonom ni yn y Senedd. Boed fel arweinydd cyngor Wrecsam, Aelod o'r Senedd neu fel Comisiynydd y Gymraeg, roedd Aled yn gryf dros gyfiawnder cymdeithasol. Drwy gydol ei yrfa broffesiynol, roedd Aled yn ymdrechu dros yr hyn oedd yn bwysig iddo fe, ac yn fodlon brwydro am chwarae teg.
Pan benodwyd ef fel Comisiynydd y Gymraeg, daeth ag asbri newydd i'r swydd. Roedd yn ddyn pobl, ac roedd yn gomisiynydd oedd yn agored i glywed gan bobl a rhoi cymorth adeiladol. Roedd yn berson didwyll, cynnes a llawn hiwmor. Mawr yw ein dyled ni iddo am ei wasanaeth diflino, ac am ei gyfeillgarwch. Roedd ei angerdd a'i ymroddiad i'r Gymraeg heb ei ail, boed fel organydd yn y capel neu fel cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd. Roedd ei gymuned leol yn Rhos yn hollbwysig iddo, ac, er prysurdeb gwaith, roedd yn wastad yn cefnogi'r gymuned honno.
Rydym yn cydymdeimlo'n fawr gyda'i deulu yn yr amgylchiadau anodd yma wrth gofio amdano yn y Siambr heddiw.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Dyma'r mathau o adegau nad ydych chi byth yn dymuno y bydd yn rhaid i chi eu gwneud, neu os byddwch chi'n eu gwneud, mae rhywun wedi cael bywyd da, llawn a gweithgar ac wedi byw i oedran da. Fe wnaeth Aled fyw bywyd da a gweithgar iawn, ond mae wedi cael ei gymryd oddi wrthym ni yn llawer rhy fuan yn 59 mlwydd oed. Mae'n wir bod Aled yn hwylusydd mewn bywyd, boed y proffesiwn cyfreithiol iddo hyfforddi i ymuno ag ef o Brifysgol Aberystwyth neu'r wleidyddiaeth yr oedd yn ei harddel. A doedden ni ddim ar yr un ochr i'r eil, ond roedd yn sicr yn rhywun a fyddai'n estyn allan ar draws yr eil honno i ddod i gonsensws ac adeiladu Cymru well. A pha un a oedd hynny pan oedd yn gynghorydd yn Wrecsam, yn arweinydd y cyngor, neu yn wir yma fel AS ar gyfer tymor 2011 i 2016, yn sicr gweithiodd yn drawsbleidiol i wneud yn siŵr y gallem ni ddod i'r consensws hwnnw i adeiladu Cymru well a chryfach.
Ac yn benodol, cyrhaeddodd y gwaith a wnaeth pan adawodd y lle hwn a chael ei benodi yn Gomisiynydd y Gymraeg gymunedau ar hyd a lled Cymru i gynyddu'r nifer sy'n defnyddio'r iaith. Ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, mae wedi cael ei gymryd oddi wrthym ni yn llawer rhy ifanc yn 59 oed, ond mae cael eich cymryd oddi wrth eich teulu ar yr oedran hwnnw yn ergyd fwy creulon fyth. Ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn myfyrio ar y trawma y mae hynny wedi ei greu a'r galar y mae hynny wedi ei greu i Llinos a'r plant, a'r teulu ehangach, ac anfonwn ein parch a'n cydymdeimlad mwyaf gwresog atyn nhw ar yr adeg anodd dros ben hon. Rwy'n gobeithio y gallan nhw lapio eu hunain ym mlanced y llwyddiannau a gafodd pan oedd yma, ac yn Wrecsam, ac yn ei fywyd busnes fel cyfreithiwr, yn gwasanaethu ei etholwyr ac yn gwasanaethu ei gleientiaid yn y gogledd.
Ac ar ran Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Wel, fe ddaeth y newyddion echrydus o drist am golli Aled fel sioc aruthrol, wrth gwrs, i nifer ohonom ni. Roeddwn i yn ymwybodol nad oedd e wedi mwynhau'r iechyd gorau yn y flwyddyn ddiwethaf, ond pan dorrodd y newyddion ddoe, fe'n siglwyd ni i gyd gan golli gŵr a oedd yn berson didwyll, cynnes, ffraeth ac angerddol iawn. Ond angerdd addfwyn oedd yn perthyn i Aled—rhywun a oedd yn wastad yn barod i weithio ar draws ffiniau plaid er budd ei gymuned a'i genedl. Ac roedd hynny'n amlwg, wrth gwrs, o'i ddyddiau fe fel arweinydd cyngor Wrecsam, pan oedd ei ddrws e'n wastad ar agor i bawb. Ac, wrth gwrs, fe roddodd e arweiniad clir o ran y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw, gan agor ysgolion Cymraeg newydd yn y sir a sicrhau bod y Gymraeg yn flaenoriaeth gorfforaethol i'r cyngor yn y cyfnod hwnnw. Ac roedd cael y cyfle i gario hynny ymlaen ar lefel genedlaethol, yn ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg, yn rhywbeth dwi'n gwybod roedd Aled yn falch iawn ohono fe.
Mi ges i'r fraint, fel nifer ohonom ni yn y Senedd yma, i weithio'n agos iawn ag e yn y bedwaredd Senedd—y ddau ohonom ni'n cael ein hethol ar yr un diwrnod, wrth gwrs, yn 2011, a'r ddau ohonom ni'n cynrychioli rhanbarth y Gogledd. Ac fe dreulion ni oriau'n rhoi'r byd yn ei le ar y siwrneiau trên hir yna o Wrecsam i Gaerdydd ac yn ôl, a'r sgyrsiau'n amrywio o drafod manylder deddfwriaeth seneddol i berfformiad clwb pêl-droed Wrecsam ar y penwythnos. Wrth gwrs, roedd e yn gefnogwr brwd o'i glwb pêl-droed lleol, ond yn gefnogwr brwd o'i gymuned yn ehangach. Roedd e'n gadeirydd y Stiwt, wrth gwrs, yn Rhos—adeilad y gwnaeth e chwarae rhan ganolog yn ei ailagor e. Roedd e'n canu mewn corau lleol, yn organydd yn ei gapel lleol, yn llywodraethwr ar ysgolion. Dyn ei filltir sgwâr go iawn.
Felly, mae colli Aled yn ergyd drom mewn sawl ffordd, ac, wrth gwrs, mae'n meddyliau ni gyda Llinos a'r hogiau a'i deulu cyfan ar yr adeg anodd yma. Dwi a phawb ym Mhlaid Cymru am estyn ein cydymdeimlad â nhw. Ond dwi hefyd eisiau estyn ein diolch—diolch am yr holl waith wnaeth e, a diolch ei fod e wedi gallu cyflawni cymaint mewn oes a dorrwyd yn llawer iawn rhy fyr.
Ac i gloi'r teyrngedau, mae arweinydd plaid Aled Roberts, Jane Dodds.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, gaf i gydymdeimlo, o'r blaid ac o bawb ohonom ni, dwi'n siŵr, efo Llinos a'r teulu? Sioc fawr i ni i gyd—yma ac yn nheulu'r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd Aled yn un o'r bobl fwyaf caredig, gweithgar a chyfeillgar i fi ac i eraill hefyd. Fe wnaeth Aled gyfraniad aruthrol i fywyd gwleidyddol Cymru ac i'r cymunedau y bu'n eu gwasanaethu. Fel stic o roc, roedd Rhosllannerchrugog trwy Aled. A thra'n bod ni i gyd yn gyfarwydd â gyrfa wleidyddol Aled—yn gwasanaethu ward Ponciau, yn faer, ac yn arweinydd cyngor Wrecsam, neu fel Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru—cymuned Rhosllannerchrugog, a theulu Aled, a ddaeth yn gyntaf bob amser.
Roedd Aled yn awyddus, fel cynghorydd ac fel Aelod o'r Cynulliad—fel yr oedd o ar yr amser—i wneud y pethau bychain ar gyfer ei gymuned, trwy osod paneli solar ar stad dai yn Llai, buddsoddi mewn isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus a iechyd y gymuned, neu trwy fuddsoddi yn ysgolion Wrecsam. A dwi'n gwybod gymaint o anrhydedd iddo oedd medru gweithredu dros yr iaith fel Comisiynydd y Gymraeg, ac i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y fraint o addysg cyfrwng Cymraeg. Fel rhywun o Wrecsam, dwi'n gwybod nad ydy Wrecsam, fel arfer, ddim o reidrwydd yn ardal ble mae'r iaith yn ffynnu. A dyna beth oedd mor arbennig—bod Aled yn gomisiynydd yr iaith: boi o Wrecsam a oedd wedi gwasanaethu ei gymuned, ei wlad, a'i iaith ag urddas, yn esiampl i bob un ohonom. Diolch, Aled.
Diolch ichi i gyd am deyrngedau hyfryd i'r dyn yna, Aled Roberts, o 'angerdd addfwyn', yng ngeiriau un cyfrannydd. Diolch ichi i gyd, ac mi wnaf i'n siwr bod y geiriau yna'n cael eu rhannu gyda theulu Aled Roberts ar ein rhan ni i gyd fel Senedd.
Rydym ni'n symud ymlaen nawr, felly, i'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau'r budd mwyaf posibl o fuddsoddiad y gronfa ffyniant gyffredin yn Nyffryn Clwyd? OQ57678
Llywydd, roedd Llywodraeth y DU yn eglur iawn nad oedd yn gweld unrhyw swyddogaeth o gwbl i Lywodraeth Cymru yng nghynlluniau treialu y gronfa ffyniant gyffredin y llynedd, nid yn nylunio'r cynlluniau treialu hynny na'r penderfyniadau a wnaed ynddyn nhw. Gobeithiaf am wahanol ddull gweithredu pan fydd y cynigion ar gyfer y gronfa yn cael eu cyhoeddi yn y pen draw.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae fy etholwyr eisoes wedi elwa ar agenda codi'r gwastad Llywodraeth y DU. Cafodd prosiectau yn y fro gyfran o bron i £3 miliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf trwy ragflaenydd y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r gronfa adnewyddu cymunedol wedi dod ag arian y mae mawr ei angen ar gyfer prosiectau ar draws fy ardal i, o brosiectau ieuenctid i gynlluniau cyflogaeth a phopeth yn y canol. Felly, Prif Weinidog, os yw Dyffryn Clwyd yn mynd i elwa ar y cynllun ffyniant cyffredin, mae angen i'r ddwy Lywodraeth ar y naill ochr a'r llall i'r M4 weithio law yn llaw. A wnaiff eich Llywodraeth ymrwymo i sicrhau bod yr agenda codi'r gwastad yn llwyddiant llwyr, gan weithio gyda Llywodraeth y DU yn hytrach na dim ond beirniadu o'r cyrion?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno, os yw'r gronfa ffyniant gyffredin yn mynd i lwyddo, yna dylai fod yn ymdrech ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dyna fu ein safbwynt ni ers misoedd lawer iawn. Nid Llywodraeth Cymru yn dymuno chwarae rhan yw'r anhawster; dim ond bod Llywodraeth y DU yn eglur—wedi bod hyd yn hyn, o leiaf—nad oes unrhyw ran o gwbl i ni ei chwarae. Nawr, adroddodd Tŷ'r Arglwyddi—ei bwyllgor dethol cyfansoddiad—ar y mater hwn wythnos neu ddwy yn unig yn ôl. Ymchwiliodd i hanes y gronfa ffyniant gyffredin, a dyma a ddywedodd: diffyg ymgysylltiad Llywodraeth y DU â gweinyddiaethau datganoledig sy'n annefnyddiol ac sydd wedi tanseilio ymddiriedaeth. Dylai fod gan y gweinyddiaethau datganoledig swyddogaeth fwy adeiladol o ran llywodraethu'r gronfa ffyniant gyffredin. Dylai hyn gynnwys penderfyniadau am flaenoriaethau lleol a dyrannu cyllid. Nawr, os yw Llywodraeth y DU yn barod i gymryd cyngor pwyllgor dethol Tŷ'r Arglwyddi, yna bydd gennym ni ddull ar y cyd o wneud penderfyniadau o dan y gronfa. Os yw Llywodraeth y DU yn barod i gynnig hynny, yna bydd Llywodraeth Cymru yn bartner parod.
Prif Weinidog, sut ydych chi'n credu y bydd trigolion Dyffryn Clwyd yn ymateb o wybod y bydd Cymru £1 biliwn yn waeth ei byd dros y tair blynedd nesaf o ganlyniad i addewid a dorrwyd gan y Ceidwadwyr na fyddem ni geiniog yn waeth ein byd?
Wel, Llywydd, diolch i Carolyn Thomas am hynna. Roeddwn i'n meddwl bod gan yr holwr gwreiddiol farn ryfedd dros ben am yr hyn a oedd o fudd pennaf i'w etholwyr ei hun. Mae'n gofyn iddyn nhw ddathlu'r £47 miliwn a gafwyd yng Nghymru o'r gronfa adnewyddu cymunedol heb dynnu sylw at y £375 miliwn y mae Cymru wedi ei golli yn y flwyddyn honno. Nawr, o dan y cyllid blaenorol a ddaeth i Gymru, roedd Dyffryn Clwyd a gogledd Cymru gyfan yn elwa llawer iawn mwy nag unrhyw ddiferu bach o arian o gronfa adnewyddu cymunedol y llynedd: £28.5 miliwn ar gyfer ynni adnewyddadwy, ynni'r môr yn unig, ar draws y gogledd; £7 miliwn ar gyfer prosiectau adfywio mawr, gan gynnwys Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl ac £1 filiwn i uwchraddio gorsaf y Rhyl; a buddsoddiadau mawr yn y gogledd mewn sgiliau ac mewn ymchwil, Llywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n annhebygol iawn y bydd trigolion Dyffryn Clwyd yn dathlu eu bod nhw wedi cael cynnig chwe cheiniog pan ydyn nhw wedi colli punt.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu nifer y prentisiaethau yn Islwyn? OQ57681
Nodwyd y camau hyn gan fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi yr wythnos diwethaf pan ymrwymodd i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu nifer fwy o 125,000 o brentisiaethau pob oed ledled Cymru, gan gynnwys, wrth gwrs, yn Islwyn.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'r ymrwymiad a addawyd gan Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau y bydd o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050 yn arwydd o agenda flaengar y Llywodraeth Lafur sosialaidd hon yng Nghymru. Prif Weinidog, pan fyddaf i'n siarad gyda fy etholwyr, pa un a ydyn nhw'n fam-gu yng Nghrymlyn, yn dad yng Nghwmcarn neu'n berson ifanc yn Crosskeys, yn ddieithriad un o'u pryderon pwysicaf yw'r gyflogaeth, yr hyfforddiant a'r prentisiaethau sydd ar gael yng nghymunedau Islwyn ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr Cymru. Prif Weinidog, gydag £1 biliwn—£1 biliwn—mewn cronfeydd a addawyd ar ôl yr Undeb Ewropeaidd ar goll o'r gyllideb hon yng Nghymru ac y gellir ei briodoli yn uniongyrchol i addewidion a dorrwyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, pa fesurau lliniaru all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod y nod sylfaenol hwn o ail-lunio'r farchnad Lafur yng Nghymru yn cael ei gyflawni? A Prif Weinidog, pa neges sydd gennych chi hefyd i gyflogwyr yn Islwyn am werth prentisiaethau i ddyfodol eu cwmnïau?
Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn yna. Mae hi yn llygad ei lle i dynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi torri yn gynhwysfawr a chefnu ar y sicrwydd pendant hwnnw a gynigiwyd i ni ar lawr y Senedd yn ogystal ag ym mhobman arall—na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ni fydd yr arian sydd ar gael i Gymru yn cyrraedd y lefel a fyddai wedi bod ar gael tra'r oeddem ni'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd yn nim un flwyddyn o'r cyfnod o dair blynedd a gwmpesir gan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Byddai tua £375 miliwn y flwyddyn wedi bod ar gael i Gymru. Byddwn ni'n cael £92 miliwn y flwyddyn nesaf, £161 miliwn yn y flwyddyn wedyn, a hyd yn oed yn nhrydedd flwyddyn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, rydym ni'n cael £345 miliwn yn y pen draw.
Gadewch i mi fod yn eglur, Llywydd, nad yw hwn yn fater syml—[Anghlywadwy.]—rydym ni'n cael ein twyllo o'r hyn a ddywedodd y Llywodraeth yn ei maniffesto ar gyfer etholiad cyffredinol 2019, a'r hyn a ddywedodd y Canghellor yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant ychydig fisoedd byr yn unig yn ôl. Ni fyddwn byth, o dan gynlluniau'r Ceidwadwyr, yn dychwelyd i'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi, heb sôn, fel yr addawyd ganddyn nhw, o leiaf—a dyna'r ymadrodd a ddefnyddiwyd ganddyn nhw, Llywydd, 'o leiaf'—na fyddem ni byth geiniog yn waeth ein byd mewn unrhyw flwyddyn unigol. Nid yw'n wir, ac wrth gwrs mae'n cael effaith ar allu Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y mathau o raglenni sgiliau sy'n hanfodol o ran prentisiaethau.
Mae Rhianon Passmore yn gofyn i mi pa neges y byddwn i'n ei rhoi i gyflogwyr yn Islwyn. Fy neges gyntaf fyddai diolch iddyn nhw—diolch iddyn nhw am y ffordd y maen nhw eu hunain yn chwarae eu rhan wrth gynnig y cyfleoedd a ddaw yn sgil prentisiaethau i bobl ifanc. Rwyf i wedi edrych yn ddiweddar ar yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yn Islwyn sydd eisiau dilyn y llwybr prentisiaeth, ac mae prentisiaethau ar gael yn y bwrdd iechyd lleol, yn yr awdurdod lleol, mewn ysgolion lleol ac yn y sector preifat—ym meysydd manwerthu, teithio a ffitrwydd. Daw'r nifer fwyaf o gyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael yn Islwyn yn y sector gofal, Llywydd—20 cyfle neu fwy ar gael i bobl sy'n barod i fynd i'r diwydiant economi sylfaenol hanfodol y dyfodol hwnnw.
Fy neges i gyflogwyr, fel y dywedais i, yw diolch iddyn nhw am yr ymrwymiad y maen nhw'n ei ddangos eisoes i gynorthwyo gyda'r rhaglen brentisiaethau. Mae'n cyflawni ar gyfer pobl ifanc ond mae'n cyflawni ar eu cyfer nhw hefyd. Mae'n eu helpu i greu gweithlu medrus ac ymroddedig y dyfodol hwnnw. Rydym ni angen mwy o gyflogwyr yn Islwyn a mannau eraill i ddod ymlaen i fod yn rhan o'r buddsoddiad hanfodol hwnnw yn nyfodol Cymru.
Prif Weinidog, rwy'n croesawu ymrwymiad eich Llywodraeth i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf. Fodd bynnag, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod angen i ni sicrhau ansawdd yn ogystal â niferoedd. Mae'n hanfodol bod y prentisiaethau hyn yn hwyluso'r broses o drosglwyddo gweithwyr iau o'r ysgol i'r gwaith ac yn cefnogi'r broses o drosglwyddo gweithwyr presennol i swyddi uwch medrus iawn. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i bennu cyfres o nodau eglur ar gyfer eich rhaglen brentisiaethau fel y gellir mesur cynnydd i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cyflogwyr a hyfforddeion, ac yn darparu'r gweithlu medrus sydd ei angen ar economi Cymru heddiw ac yn y dyfodol hefyd? Diolch.
Rwy'n cytuno yn fawr â syniadau cyffredinol cwestiwn yr Aelod. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ansawdd y cyfleoedd a ddaw yn sgil y rhaglen brentisiaethau. Fel y dywedodd, nid ar gyfer pobl ifanc yn unig y mae; mae'r rhain yn brentisiaethau pob oed—yn aml iawn, pobl sy'n chwilio am ail ddechrau mewn bywyd, cyfle i ailhyfforddi a rhoi eu hunain mewn gwahanol ran o'r farchnad lafur. Dyna pam mae'r rhaglen prentisiaethau modern yng Nghymru yn adlewyrchu'r amrywiaeth eang honno o anghenion.
Rwy'n credu, Llywydd, mai dim ond wythnos neu ddwy yn ôl yr oeddwn i'n trafod gydag Alun Davies y llwyddiant a gafwyd ym Mlaenau Gwent yn y rhaglen rhannu prentisiaeth, lle mae nifer o fusnesau bach yn gallu dod at ei gilydd, unrhyw un ohonyn nhw ar ei ben ei hun yn methu â chefnogi prentisiaeth lawn, ond gyda'i gilydd yn gallu creu'r cyfleoedd hynny ac i elwa arnyn nhw drwy ddod â rhywun i mewn i'r gweithle a rhannu eu dysgu, a rhannu, wedyn, eu sgiliau datblygol rhyngddyn nhw. Dyna pam rydym ni wedi rhoi cymaint o bwyslais ar brentisiaethau lefel graddedig. Gwn y bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r ffordd y mae ein buddsoddiad yn y cyfleoedd lefel gradd hynny wedi gwneud cymaint o wahaniaeth, er enghraifft, yn y clwstwr seiberddiogelwch—y clwstwr seiberddiogelwch mwyaf yn unman yn y Deyrnas Unedig, sydd gennym ni bellach yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae'r ystod honno o gyfleoedd yn golygu ein bod ni'n gallu cyfateb anghenion yr unigolyn gyda'r math o brofiad a fydd yn gwneud y mwyaf i'w helpu i wneud y cynnydd y mae'n chwilio amdano yn ei fywyd ei hun. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n mesur yr holl gyfleoedd hynny. Rydym ni'n eu mesur nhw ar sail niferoedd ond rydym ni'n eu mesur nhw hefyd, fel yr awgrymodd yr Aelod, ar sail ansawdd y profiadau sydd ar gael, yn y cymwysterau sy'n cael eu hennill a'r manteision a ddaw yn sgil hynny i'r economi ehangach.
Cwestiynau nawr gan arweinyddion y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i anfon fy nymuniadau gorau atoch chi? Mae'n dda eich gweld chi yn edrych yn dda a gobeithio y byddwch chi'n dod allan o'ch caethiwed cyn gynted â phosibl. Mae'n dda eich gweld chi ar y sgrin heddiw yn edrych mor dda.
Prif Weinidog, mae mewnfuddsoddiad yn mynd i fod yn hanfodol i adeiladu economi gref a gwydn ar ôl COVID. Beth sydd gan Lywodraeth Cymru o ran cynlluniau i ddenu cyfran fwy o fewnfuddsoddiad i'r Deyrnas Unedig?
A gaf i ddiolch i Andrew R.T. Davies am yr hyn a ddywedodd yn ei sylwadau agoriadol? Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gael fy rhyddhau o gaethiwed ac at fod yn ôl yn y Siambr eto.
Rwy'n cytuno ag ef bod gan fewnfuddsoddiad ran bwysig i'w chwarae yn nyfodol economi Cymru, ochr yn ochr â—nid yn hytrach na, ond ochr yn ochr â'r—buddsoddiad y mae angen i ni ei wneud yn y cwmnïau llwyddiannus hynny sydd eisoes yn gynhenid yma yng Nghymru i'w helpu i dyfu, i'w helpu i barhau i fod wedi'u gwreiddio yma yng nghymunedau Cymru. Rydym ni'n cymryd ystod eang o gamau i annog mewnfuddsoddiad. Mae gan ein swyddfeydd cysylltiadau rhyngwladol mewn gwahanol rannau o Ewrop a thu hwnt i gyd, fel eu prif ddiben, nodi cyfleoedd mewnfuddsoddi, a hefyd cyfleoedd allforio i fusnesau Cymru sydd â'r nod o greu marchnadoedd newydd mewn mannau eraill yn y byd. Mae gen i fy hun gyfres o gyfleoedd yn yr wythnosau nesaf i gyfarfod â llysgenhadon o wahanol rannau o'r byd. Rydym ni bob amser yn canolbwyntio ar y mewnfuddsoddiad sydd gennym ni yma yng Nghymru o'r rhannau eraill hynny o'r byd, i wneud yn siŵr, lle mae cyfleoedd yn bodoli i ychwanegu at hynny, ein bod ni fel Llywodraeth Cymru yn weithgar o ran hyrwyddo'r cyfleoedd hynny ac o ran helpu cwmnïau sy'n dymuno dod i Gymru i lunio'r pecynnau sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau y gallan nhw wneud y trosglwyddiad hwnnw yn llwyddiannus, ac, o feddwl am y cwestiynau rydym ni newydd eu cael, i wneud yn siŵr bod cyflenwad o bobl sydd â'r sgiliau angenrheidiol i fanteisio ar y cyfleoedd hynny.
Mae'n ddiddorol eich bod chi'n dweud hynna, Prif Weinidog, am lunio'r pecynnau, oherwydd yn 2020, dywedodd Britishvolt eu bod nhw eisiau sefydlu gigaffatri celloedd batri yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, gan greu 3,000 o swyddi a 4,000 o swyddi cysylltiedig—cyfanswm o 7,000 o swyddi, yr ail brosiect buddsoddi diwydiannol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n werth ei ailadrodd: yr ail brosiect diwydiannol mwyaf yn hanes y DU. Dyma'r union fath o brosiect y dylem ni fod yn ceisio ei ddenu yma yng Nghymru a sicrhau ei sylfeini yma yng Nghymru. Mae Britishvolt wedi sicrhau cefnogaeth ariannol a bydd yn agor ei gigaffatri yn Northumberland. Mae'n ymddangos bod y prosiect wedi llithro drwy eich bysedd. Beth aeth o'i le, Prif Weinidog?
Roedd Llywodraeth Cymru mewn sgyrsiau gyda Britishvolt. Safle Sain Tathan oedd yn un o'r prif safleoedd yr a ystyriwyd ganddyn nhw. Yn y pen draw, fe wnaethon nhw benderfynu y byddai eu buddsoddiad cyntaf yn rhywle arall. Nid yw hynny'n golygu nad ydym ni wedi cael sgyrsiau pellach gyda nhw. Fel cwmni, maen nhw'n uchelgeisiol i wneud mwy ym maes datblygu batris. Rydym ni'n parhau i fod mewn sgyrsiau â nhw ac os yw'n bosibl dod â'r datblygiad hwnnw i dde Cymru, wrth gwrs mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb gweithredol o hyd ac yn cymryd rhan weithredol yn hynny, ochr yn ochr â llawer o gyfleoedd eraill.
Prif Weinidog, dywedodd eich datganiad i'r wasg ar y cyd a aeth allan pan wnaed y cyhoeddiad nad oedden nhw'n manteisio ar y cynnig o gyfleuster Sain Tathan mai'r rheswm am hynny oedd, a dyma'r dyfyniad o'r datganiad i'r wasg ar y cyd, 'nid oedd modd cyflawni'r amserlenni uchelgeisiol yr oedd y cwmni yn gweithio yn unol â nhw'. Hyd y gwn i, nid yw amserlenni cynllunio ac adeiladu yn gyflymach yng ngogledd-ddwyrain Lloegr nag y maen nhw yma yng Nghymru. Ac eto, mae'r prosiect hwn dal wedi dianc o Gymru ac ar gost enfawr i'n heconomi. Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau gyda phobl sy'n gysylltiedig â'r prosiect, roedd penderfyniad Llywodraeth Cymru, a dweud y lleiaf, yn dangos diffyg brwdfrydedd ac nid oedd byth yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae arolygwr diwydiannol blaenllaw, Chris Sutton, wedi bod yn cynnal adolygiad ar ran Llywodraeth Cymru o'r modd yr ymdriniwyd â'r prosiect.FootnoteLink A wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod yr adolygiad hwnnw ar gael i ni i gyd ei weld, ac a allwch gadarnhau heddiw y cynnydd o ran cwblhau'r adolygiad hwnnw?
Nid wyf i'n cytuno o gwbl â'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid. Roedd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan agos iawn mwn trafodaethau gyda'r cwmni ac aeth y trafodaethau hynny ymlaen i'r camau terfynol un. Os oedd yn ymdrech â diffyg brwdfrydedd, gwnaeth yn rhyfeddol o dda i fod yn y rownd derfynol ar gyfer lleoliad y busnes hwnnw ar gyfer y ffatri gyntaf, fel y dywedais, y mae'n bwriadu ei chreu. Mae sgyrsiau am fuddsoddiadau posibl pellach yn Sain Tathan, neu, yn wir, mewn mannau eraill, yn parhau i fod yn rhan o'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen ag ef. Wrth gwrs, mae'n bwysig, wrth wneud hynny, ein bod ni'n myfyrio ar brofiad ein trafodaethau cychwynnol gyda'r cwmni hwnnw. Dyna pam rydym ni wedi gofyn i ddarn o waith gael ei wneud, ac nid y tu mewn i Lywodraeth Cymru, ond gyda chymorth llygaid allanol hefyd. Oherwydd, i ddychwelyd at fy ateb cyntaf i arweinydd yr wrthblaid, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, pan fydd cyfleoedd gwirioneddol a all ein helpu ni i adeiladu economi Cymru, y byddwn ni bob amser yn cymryd rhan weithredol ac yn awyddus i'r rheini ddwyn ffrwyth. Byddaf yn gwneud yn siŵr, wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo, ei fod yn cael ei adrodd yn briodol i Aelodau eraill y Senedd.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Bydd llawer o bobl wedi gweld Andy Davies o ffilm sobreiddiol Channel 4 o'i ymweliad â Phenrhys yr wythnos diwethaf—cymuned sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd sydd ar fin mynd i dlodi nad ydym yn sicr wedi gweld ei debyg ers y 1980au. Yr wythnos diwethaf, pleidleisiodd Tŷ'r Cyffredin o blaid treth ffawdelw ar gwmnïau ynni. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn anwybyddu'r Senedd honno yn yr un modd ag y mae'n anwybyddu hon. Mae Sbaen wedi torri TAW ar ynni, ond ni wnaiff Llywodraeth y DU hynny, er gwaethaf addewid Johnson a Gove i wneud hynny ar ôl Brexit. Mae Ffrainc wedi capio'r cynnydd i filiau ynni i 4 y cant, ac yn y DU byddan nhw'n codi 54 y cant ym mis Ebrill. A ydych chi'n credu y dylai'r pwerau i drethu a rheoleiddio'r sector ynni, i bennu treth ffawdelw, i dorri TAW, i bennu cap ar brisiau, ac, os oes angen, i adfer perchnogaeth gyhoeddus, fod yma yng Nghymru lle y gallwn ni eu defnyddio, neu yn San Steffan lle na fyddant?
Wel, Llywydd, i mi, nid dyna'r cwestiwn canolog. Rwy'n cytuno yn fawr iawn â'r hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru yn rhan gyntaf ei gwestiwn, fod yna ystod eang o gamau y dylai Llywodraeth bresennol y DU eu cymryd i ddelio ag argyfwng costau byw'r Torïaid. Polisi fy mhlaid i yw y dylid bod treth ffawdelw ar yr elw gros sy'n cael ei wneud gan gwmnïau ynni sy'n elwa ar y cynnydd mewn prisiau, yn union fel y mae pobl ym Mhenrhys a rhannau eraill o Gymru yn dioddef ohonyn nhw.
Ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Julie James at y Gweinidog yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn ôl ym mis Ionawr, gan nodi pum cam ymarferol ar wahân y gellid eu cymryd er mwyn lliniaru effaith y cynnydd ym mhris tanwydd a phethau eraill ar aelwydydd yng Nghymru. Roedd hynny'n cynnwys gostyngiadau mewn TAW, roedd yn cynnwys cap gwahaniaethol ar gynnydd mewn prisiau i ddiogelu'r aelwydydd incwm isaf, soniodd am newidiadau i'r cymorth sydd ar gael drwy Lywodraeth San Steffan, gwnaeth awgrymiadau ynghylch y ffordd y gallai pobl sydd eisoes â dyled gyda chwmnïau tanwydd ymdrin â'r dyledion hynny. I mi, nid yw'n ddewis rhwng a ddylai'r pŵer fod yng Nghymru a'i arfer yma, mae'n fater syml bod arnom angen Llywodraeth yn San Steffan sy'n barod i wneud y peth iawn.
Er bod croeso i'r arian newydd yr ydych chi fel Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi heddiw, yn sicr, a allwch chi ddeall y beirniadaethau a geir gan ymgyrchwyr gwrth-dlodi ynghylch dull ad-dalu'r dreth gyngor, ei fod yn lledaenu'r arian yn rhy denau ac yn methu â thargedu'r bobl sy'n cael eu taro galetaf? Os yw'r sefydliadau yn yr uwchgynhadledd argyfwng costau byw yr ydych wedi'i chynnull ddydd Iau yn cynnig gwell dewisiadau amgen a wnaed yng Nghymru, a ydych chi'n barod i ailystyried, gwella'r cynlluniau yr ydych chi eisoes wedi'u cyhoeddi? A wnewch chi hefyd roi sylwadau ar sut y byddwch chi'n ymdrin â grwpiau fel myfyrwyr, er enghraifft, sydd hefyd yn wynebu costau cynyddol ond sydd wedi'u heithrio i raddau helaeth o'r dreth gyngor, felly ni fyddan nhw'n cael yr ad-daliad? Ac yn achos y gronfa cymorth dewisol, a wnewch chi gytuno i godi'r cap ar nifer y ceisiadau y gall pobl eu gwneud, o bump i saith, fel y mae Cyngres yr Undebau Llafur wedi bod yn galw amdano, fel na fydd gennym filoedd o bobl mewn angen dybryd yn cael eu troi i ffwrdd?
Diolch i Adam Price am y pwyntiau ychwanegol yna. Wel, yn gyntaf oll, wrth gwrs, y pwynt o gael bwrdd crwn yw casglu syniadau newydd a phrofi syniadau yr ydym eisoes wedi'u mabwysiadu gydag ystod eang o bobl o bob cwr o Gymru. Felly, byddwn ni yn sicr yn gwneud hynny ddydd Iau yr wythnos hon. Nid wyf yn credu bod beirniadaeth o'r ad-daliad treth gyngor yng Nghymru yn gwbl deg, oherwydd nid yw yr un dull ag a gymerwyd yn Lloegr. Yn Lloegr bydd yr arian yn cael ei ledaenu'n fwy tenau; yma, byddwn ni'n darparu'r £150 nid yn unig i aelwydydd sy'n talu'r dreth gyngor, ond byddwn hefyd yn darparu'r arian hwnnw i'r 220,000 o aelwydydd sydd wedi'u heithrio o'r dreth gyngor oherwydd ein bod wedi cadw'r system budd-daliadau treth gyngor yma yng Nghymru. Mae hynny'n costio £244 miliwn ar ei ben ei hun, sy'n fwy nag unrhyw swm canlyniadol y gallem ni fod wedi'i gael gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'w chynllun treth gyngor yn Lloegr. Felly, ar ben yr holl gymorth hwnnw, bydd y teuluoedd hynny yn awr yn cael £150 yn ychwanegol i helpu gyda'r argyfwng costau byw. Ac rwy'n credu bod hynny'n effeithlon iawn, ond rwy'n credu ei fod hefyd yn ffordd flaengar iawn o sicrhau bod gennym gyffredinoli cynyddol. Bydd pob cartref ym mandiau A i D yn cael rhywfaint o help, ond bydd yr aelwydydd hynny sydd angen y cymorth mwyaf yn cael cymorth ychwanegol yma yng Nghymru na fydden nhw yn ei gael mewn mannau eraill.
O ran y gronfa cymorth dewisol, dyma gronfa arall a gadwyd yng Nghymru a'i dileu mewn mannau eraill. Rydym yn dod o hyd i swm sylweddol iawn o arian, sy'n fwy, yn llawer mwy nag unrhyw arian a ddaeth atom pan ddilëwyd y gronfa gymdeithasol yn Lloegr. Mae'r gallu i wneud pum cais ar wahân i'r gronfa yn ddau yn fwy nag a oedd yn bosibl pan sefydlwyd y gronfa'n wreiddiol, ac fe wnaethom gynyddu'r nifer o dri i bump i ystyried amodau yn ystod y pandemig. Rydym ni'n mynd i gynnal y nifer uwch hwnnw i'r flwyddyn nesaf er mwyn ystyried yr argyfwng costau byw hefyd, ac rwy'n credu bod hynny, ar ei ben ei hun, yn dangos ein hymrwymiad i roi cymaint o arian ag y gallwn yn uniongyrchol i bocedi'r teuluoedd hynny a fydd yn dioddef fwyaf o'r costau ychwanegol y bydd yn rhaid iddyn nhw eu hysgwyddo nawr.
Mae'r golygfeydd yr wythnos diwethaf yn Abertawe sef ciw am gynllun rhannu bwyd, ceginau cawl ein dydd, mewn dinas lle mae'r galw am barseli bwyd brys, yn ôl yr adroddiadau, wedi dyblu mewn wythnos yn unig, yn ddelweddau o dlodi torfol nad ydym wedi'i weld ers y 1930au llwglyd. Un o'r sefydliadau mwyaf blaenllaw fydd yn yr uwchgynhadledd ddydd Iau fydd Sefydliad Bevan. Maen nhw ac eraill wedi hyrwyddo'r rôl y gall prydau ysgol am ddim ei chwarae wrth fynd i'r afael â thlodi. A gawn ni ystyried y syniadau y mae'r sefydliad ac eraill yn eu hawgrymu, p'un a yw'n cyflymu cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd, cynyddu'r lefel lwfans prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd ar gyfer disgyblion oedran uwchradd neu ymestyn y cymorth prydau ysgol am ddim a ddarparwyd yn ystod y pandemig dros wyliau'r haf eto eleni? Bydd y newidiadau bach hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer iawn o deuluoedd sy'n byw bywyd ar yr ymyl ar hyn o bryd.
Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn y bydd Sefydliad Bevan yn rhan o'r bwrdd crwn ddydd Iau ac yn croesawu'n fawr y gwaith a wnânt yma yng Nghymru. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cynnwys £22.5 miliwn i ymestyn prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol, drwy wyliau'r Pasg a hyd at ddiwedd gwyliau'r haf eleni hefyd. Mae hynny, unwaith eto, yn arian sy'n mynd yn uniongyrchol i'r teuluoedd hynny a fydd yn ei chael hi anoddaf yn wyneb yr argyfwng costau byw.
Y peth gwirioneddol anodd am y cyfan, Llywydd, yw, fel y dywedodd Adam Price—. Edrychwch ar y frwydr y mae teuluoedd yng Nghymru yn ei hwynebu heddiw cyn i'r prisiau godi ym mis Ebrill, cyn y bydd cyfraniadau yswiriant gwladol yn codi, cyn rhewi trothwyon treth, gan dynnu nifer anghymesur fwy o deuluoedd yng Nghymru i drethiant nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gydag ef fel rhan o'r cytundeb cydweithredu ar ein hymrwymiad ar y cyd i sicrhau, yn ystod tymor y Senedd hon, y bydd pob plentyn oed cynradd yn cael pryd am ddim fel rhan o'i addysg ddyddiol. Mae'n gam mawr ymlaen yma yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i weld beth y gallwn ni ei wneud i gyflymu'r gyfradd y gallwn ni gyflawni'r uchelgais honno arni, yn enwedig yn wyneb y mathau o olygfeydd a ddisgrifiodd yn ei gwestiwn olaf.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflwyno'r cwricwlwm newydd yng Nghymru? OQ57662
Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn, Llywydd. Mae adroddiadau ymchwil yn tynnu sylw'n gyson at yr ymrwymiad, y cymhelliant a'r cynnydd cryf y mae ysgolion yn eu gwneud yn y broses o ddiwygio'r cwricwlwm mwyaf radical ers cenhedlaeth. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda phartneriaid rhanbarthol a lleol i sicrhau bod pob ysgol yn cael y cymorth sydd ei angen wrth iddyn nhw fwrw ymlaen i weithredu'r cwricwlwm ym mis Medi eleni.
Prif Weinidog, wrth i'w ddyddiad gweithredu ddod yn nes, nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld y cwricwlwm newydd yn methu, felly sut ydych chi'n mynd i fynd i'r afael â'r ymchwil a gomisiynwyd gan eich Llywodraeth eich hun sy'n awgrymu mai dim ond 53 y cant o ymarferwyr addysg sydd o'r farn eu bod mewn sefyllfa dda i gynllunio eu cwricwlwm eu hunain yn barod ar gyfer mis Medi 2022, a 67 y cant ohonyn nhw'n credu bod angen cymorth ychwanegol ar eu hysgol? Prif Weinidog, er bod hyblygrwydd i'w groesawu'n fawr ac yn elfen allweddol o'r cwricwlwm newydd, oni chytunwch chi fod angen rhyw fath o raglen ddysgu broffesiynol wirioneddol genedlaethol arnom ni sy'n darparu cysondeb a chefnogaeth i bawb, gan ganiatáu'r hyblygrwydd hwnnw, o ran sut i gynllunio a chyflwyno'r cynnwys cywir sydd ei angen ar gyfer arholiadau—arholiadau nad ydym yn gwybod o hyd sut beth fyddan nhw? Prif Weinidog, mae addysg wedi'i heffeithio'n enbyd yn ystod y pandemig, fel y gwyddoch chi. A ydych chi'n cytuno â mi fod angen y cymorth fframwaith hwn ar athrawon yn awr i sicrhau llwyddiant y cwricwlwm newydd?
Rwy'n cytuno ei bod yn bwysig iawn mynd ati i gefnogi athrawon a phenaethiaid wrth iddyn nhw weithio tuag at weithredu'r cwricwlwm newydd, ond rwy'n credu bod llawer iawn o gymorth o'r math hwnnw wedi'i ddarparu ers i'r ymchwil honno gael ei chynnal, fel y gŵyr yr Aelod, yn ôl ym mis Gorffennaf y llynedd. Cyflwynodd y Gweinidog hyblygrwydd newydd wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd, ac, ar yr un pryd, ataliwyd nifer fawr o ddyletswyddau eraill y mae'n rhaid i ysgolion ymgymryd â nhw er mwyn creu lle i ysgolion ddatblygu eu cynlluniau gweithredu eu hunain ar gyfer y cwricwlwm. Ym mis Medi dilynwyd hynny gyda fframwaith cenedlaethol—yn union y math o fesur yr oedd yr Aelod yn gofyn amdano—fframwaith cenedlaethol gyda chanllawiau ychwanegol ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm, rhwydwaith cenedlaethol newydd wedi'i sefydlu, rhwydwaith proffesiynol. Cynhaliodd 60 o sesiynau ledled Cymru yn nhymor yr hydref, ac mae mwy i ddilyn—y sesiynau hynny'n canolbwyntio ar ddylunio'r cwricwlwm ac yn wir ar gymwysterau. Yna, ym mis Rhagfyr y llynedd, yn ein cyllideb ddrafft, gwnaethom nodi buddsoddiad sylweddol dros y cyfnod tair blynedd cyfan yn benodol i gefnogi ysgolion i weithredu'r cwricwlwm newydd, a dilyn hynny gyda chanllawiau cenedlaethol pellach a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni.
Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, a gydag arweinwyr rhaglenni yn ogystal ag Estyn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y brwdfrydedd sydd ar gael ar gyfer y cwricwlwm newydd ar lefel ysgolion lleol yn cael ei gefnogi gan fframweithiau cenedlaethol, canllawiau sydd ar gael yn genedlaethol, cyllid sydd ar gael yn genedlaethol ym mhob rhan o Gymru. A dydd Iau yr wythnos hon, yn ogystal â chyfarfod bord gron ar argyfwng costau byw'r Ceidwadwyr, bydd Jeremy Miles, y Gweinidog addysg, yn cwrdd â phob pennaeth yng Nghymru i drafod ffyrdd eraill o gefnogi eu hymdrechion.
Prif Weinidog, a minnau'n gyn-athro, rwy'n ymfalchïo yn fy nghysylltiadau agos ag ysgolion yn fy etholaeth, pob un ohonyn nhw'n adrodd yn ffafriol iawn wrthyf ar gyflymder cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Yn wir, ychydig wythnosau'n ôl, mwynheais ymweliad rhithwir ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tref Aberdâr lle'r oedd disgyblion blwyddyn 6 yn awyddus i ddangos eu gwaith gwych i mi ar Cynefin, un o egwyddorion canolog y cwricwlwm newydd. Mae'n amlwg bod arfer rhagorol eisoes yn bodoli. Felly, yn ogystal â'r sylwadau yr ydych chi eisoes wedi'u gwneud am hyfforddiant a rhwydweithiau, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i ni fod yr arfer rhagorol hwnnw'n cael ei gipio a'i rannu?
Wel, Llywydd, diolch i Vikki Howells am hynna. Mae'n adroddiad go iawn gan rywun sy'n gwybod yn union beth yw bod ar y rheng flaen yn ein gwasanaeth addysg. A'r union beth y mae Vikki Howells wedi'i adrodd y prynhawn yma, Llywydd, yw fy mhrofiad i fy hun o siarad â phenaethiaid ac arweinwyr ysgolion ar lefel pwnc hefyd. Rwy'n deall, wrth gwrs, gyda phopeth y mae ysgolion wedi gorfod ymdopi ag ef yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, bod gweithio ar ddiwygio'r cwricwlwm yn her, ond mae'n her y mae ein hysgolion yn ei chyflawni'n frwdfrydig iawn. Maen nhw'n gweld y posibiliadau enfawr y mae'r cwricwlwm newydd yn eu darparu. Rwy'n credu eu bod yn gwerthfawrogi'n wirioneddol y ffordd y mae'r gwaith o'i gyflwyno yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr â'r proffesiwn a gyda llais annatod y proffesiwn yn y ffordd y mae'n cael ei ddatblygu. Ac am y rheswm hwnnw, mae dysgu proffesiynol a sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei wneud mewn un rhan o Gymru yn cael ei rannu ag ysgolion mewn mannau eraill yn gwbl ganolog i'r ffordd yr ydym yn credu y bydd y cwricwlwm hwn yn llwyddo. Soniais am y rhwydwaith cenedlaethol yn fy ateb blaenorol, Llywydd, ond mae'n enghraifft dda iawn o'r ffordd y mae hwn yn gwricwlwm nad yw wedi'i wneud ym Mharc Cathays, ond sy'n cael ei wneud bob dydd mewn ystafelloedd dosbarth ar hyd a lled Cymru gan staff ysgol ymroddedig ac ymrwymedig sydd eisiau ei wneud yn llwyddiant.
4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gefnogi cymunedau sy'n wynebu risg o lifogydd? OQ57679
Llywydd, ein mesurau cymorth yw'r rhai a nodir yn y cytundeb cydweithio a'r rhaglen llywodraethu.
Diolch, Prif Weinidog. Bydd yfory yn nodi dwy flynedd ers i lifogydd dinistriol daro bron i 1,500 o dai a busnesau yn fy rhanbarth yn sgil storm Dennis. Gallwch ddeall, dwi'n siŵr, y trawma parhaus a'r ofn sydd ganddynt bob tro mae'n bwrw glaw yn drwm, fel y mae hi wythnos yma, yn arbennig gan nad yw'r mwyafrif o'r adroddiadau ar y llifogydd hynny eto wedi eu cyhoeddi, nac unrhyw beth wedi newid o ran amddiffynfeydd.
Mae'r National Flood Forum—sefydliad sydd wedi ei leoli yn Lloegr—wedi bodoli ers 2002 i sicrhau bod cymunedau ac unigolion yn teimlo wedi eu cefnogi a'u grymuso i leihau eu perygl o ddioddef llifogydd. Dim ond canran fach iawn o gyllid y maent wedi'i dderbyn hyd yma i weithredu yng Nghymru. Cefnogodd Llywodraeth yr Alban sefydlu fforwm llifogydd yr Alban yn 2009, elusen sydd wedi mynd o nerth i nerth, ac sydd yn derbyn grant o £200,000 y flwyddyn i weithio ar draws yr Alban i ddatblygu grwpiau gweithredu llifogydd lleol—flood action groups—yn ogystal â darparu cymorth ar unwaith pan fydd unigolion a chymunedau yn profi llifogydd. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried manteision cefnogi sefydlu fforwm llifogydd Cymru i rymuso cymunedau mewn perygl yn yr un modd? Ac os nad ydych chi, a yw hyn yn rhywbeth y byddai'r Prif Weinidog yn hapus i'w drafod ymhellach?
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn ychwanegol, a dwi'n cytuno gyda hi—dwi'n siŵr, pan fo'r glaw yn dod i lawr ac mae pobl yn clywed am y tywydd sy'n dod atom ni yng Nghymru dros yr wythnos sydd i ddod, pobl sydd wedi dioddef o lifogydd, wrth gwrs maen nhw'n pryderu ac maen nhw'n becso. Nawr, mae lot o waith wedi mynd ymlaen dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar lefel lleol gyda'r arian sydd wedi dod o'r Llywodraeth yma yng Nghymru i helpu cymunedau lleol i deimlo'n fwy cryf pan fo pethau'n digwydd unwaith eto. Mae pwyllgor annibynnol gyda ni yma yng Nghymru'n barod—pwyllgor annibynnol sy'n cynrychioli cymunedau ledled Cymru ac sy'n ymgynghori â'r Llywodraeth. Os oes mwy o syniadau am sut rŷn ni'n gallu clywed llais pobl leol yng ngwaith y pwyllgor sydd gyda ni yn barod, wrth gwrs, rŷn i'n agored i glywed unrhyw syniadau am sut allwn ni symud yn y cyfeiriad yna.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OQ57675
Llywydd, y bore yma, cyhoeddwyd pecyn cymorth gwerth £330 miliwn i helpu aelwydydd Cymru, gan gynnwys y rhai hynny ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i reoli'r argyfwng costau byw. Mae'r mesurau hyn yn canolbwyntio ar y camau hynny sy'n rhoi arian yn uniongyrchol ym mhocedi'r rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf ganddo.
Diolch, Prif Weinidog, ac rwy'n croesawu'r pecyn cymorth y mae mawr ei angen a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Lafur Cymru, oherwydd yr wythnos diwethaf ymwelais â Splice Child and Family yn y Pîl, sy'n rhedeg banc babanod, a phantri cymunedol Baobab ym Mracla. Tra oeddwn yno, rhannodd y gwirfoddolwyr stori dorcalonnus gyda mi am fam a oedd wedi ymweld yn ddiweddar, yn gyndyn, yn gofyn am gefnogaeth. Mae'r fam honno'n bwyta unwaith bob tri diwrnod i sicrhau ei bod yn gallu bwydo ei phlant, ac, yn drist, mae'r sefyllfa hon yn rhy gyffredin i lawer o bobl yng Nghymru.
Prif Weinidog, mae pobl allan yna sy'n teimlo pryder a chywilydd ynghylch bod angen help llaw arnyn nhw, ac ni ddylai hyn fod yn digwydd. Nid eu bai nhw yw hi fod prisiau bwyd yn cynyddu. Nid eu bai nhw yw hi fod y gost o wresogi eu cartref yn codi, ac nid y nhw a benderfynodd dorri credyd cynhwysol. Nid eu bai nhw yw dim o hyn. Mae hwn yn argyfwng costau byw a grëwyd gan y Torïaid. A ydych chi'n cytuno â mi fod angen i Lywodraeth Dorïaidd y DU gamu ymlaen i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw hwn?
Rwy'n cytuno'n llwyr â Sarah Murphy. Roedd honno'n stori ofnadwy yr oedd yn ei hadrodd yn dilyn ymweliad ganddi, ond ni fydd yn un, yn drist iawn, sy'n anghyfarwydd i lawer o Aelodau'r Senedd. Bydd llawer ohonom, yn ein hetholaeth ein hunain, wedi gorfod helpu teuluoedd sy'n cael eu hunain yn yr union sefyllfa honno, ac fel y dengys y stori honno, menywod sy'n ysgwyddo baich tlodi yn ein cymunedau, ac rwyf innau hefyd wedi cwrdd â mamau sy'n dweud wrthych fod yn rhaid iddyn nhw wneud heb er mwyn sicrhau eu bod yn gallu rhoi bwyd ar y bwrdd i'w teuluoedd.
Dyma fu'r stori, Llywydd, yn awr am y 10 mlynedd diwethaf. Mae hwn yn argyfwng costau byw nad yw wedi'i greu yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae hon yn stori sydd wedi'i datblygu yn y degawd hwnnw o gyni, degawd lle mae anghydraddoldeb, flwyddyn ar ôl blwyddyn, wedi tyfu, ac mae'r baich a osodwyd ar y rhai lleiaf abl i'w ysgwyddo wedi cynyddu.
Nawr, cyfeiriodd Sarah Murphy at y gostyngiad o £20 bob wythnos mewn arian sydd ar gael i'r aelwydydd lleiaf cefnog yng Nghymru gyfan. Ni allaf feddwl am benderfyniad mwy creulon, oherwydd roedd yn benderfyniad bwriadol. Roedd yn benderfyniad pan oedd y Llywodraeth yn gwybod cyn iddyn nhw wneud hynny y byddai hyn yn golygu y byddai plant, plant ar aelwydydd ar hyd a lled Cymru, yn gorfod gwneud heb o ganlyniad i'r hyn a wnaethon nhw.
Felly, yr wyf, wrth gwrs, yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr. Ar ben yr holl bethau yr ydym ni fel Llywodraeth yn ceisio'u gwneud, ac rwy'n falch iawn o'r pecyn yr ydym wedi gallu ei gyhoeddi heddiw, rwy'n ddiolchgar iawn am gymorth ein cydweithwyr yn yr awdurdod lleol i ddarparu'r cymorth hwnnw i'r teuluoedd hynny. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Llywydd, er enghraifft, yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud eisoes i helpu teuluoedd gyda thaliad cymorth tanwydd gaeaf, mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi talu bron i 7,000 o deuluoedd, yn y ffigurau diweddaraf yr wyf wedi'u gweld, ac wedi ymateb i dros 90 y cant o'r holl geisiadau a wnaed. Os gall Llywodraeth Cymru wneud hynny, ac os gall awdurdodau lleol Cymru wneud hynny yng Nghymru, siawns na allai'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan gamu ymlaen a chwarae eu rhan hefyd.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r sector lletygarwch yn ystod y pandemig? OQ57638
Llywydd, darparwyd lefelau digynsail o gymorth ariannol i fusnesau lletygarwch a thwristiaeth drwy gydol y pandemig, ond mae'r gefnogaeth fwyaf wedi dod drwy'r mesurau a gymerwyd i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel yn wyneb argyfwng byd-eang.
Cysylltodd nifer o etholwyr pryderus yn y gogledd â mi sy'n rhedeg busnesau llety hunanarlwyo dilys ynghylch grant cymorth busnes Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn dilyn cyflwyno cyfyngiadau lefel rhybudd 2 ym mis Rhagfyr. Er enghraifft, dywedodd un, 'Mae ein bythynnod fferm yn cysgu 22 mewn clos. Dim ond ar gyfer 30 neu fwy o westeion y mae'r grant ar gael. Collais fy holl archebion dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd wrth i westeion ddewis Lloegr dros Gymru ar gyfer eu gwyliau Nadolig. Dywedodd un arall, 'Mae ein busnes gwyliau bythynnod yn fusnes gwyliau dilys gyda chyfrifon i'w gefnogi, yn darparu mentergarwch, cyflogaeth a gwerth i ardal Dyffryn Dyfrdwy.' Dywedodd un arall, 'Mae fy unig incwm yn dod o'n busnes hunanarlwyo. Mae gostyngiad o 100 y cant yn nifer yr archebion o fis Rhagfyr i fis Chwefror wedi effeithio arnom ni. Rydym yn teimlo bod yna wahaniaethu yn ein herbyn ni.' Pan gyfeiriais i hyn at eich Gweinidog yr economi, atebodd, 'Nid oes cyfyngiadau ar waith ar gyfer cymysgu aelwydydd dan do. Felly nid yw llety hunanarlwyo yn gymwys', ac i hynny atebodd busnesau, 'Fe wnaethom golli archebion oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru ac oherwydd y cyfyngiadau a roddwyd ar waith ar dafarndai a bwytai. Dewisodd fy ngwesteion dreulio cyfnod yr ŵyl mewn rhannau o'r DU lle nad oedd cyfyngiadau'—hynny yw nid Cymru—'A wnewch chi ofyn i'r Llywodraeth ddychwelyd yr arian a gollwyd gan fusnesau Cymru?' Felly, nid yw hwn yn gwestiwn am y cyfyngiadau yr ydych yn eu rhoi ar waith, mae hyn yn ymwneud â'r gefnogaeth i'r busnesau yr effeithiwyd arnyn nhw. Felly, sut ydych chi'n ymateb i'r nifer fawr o fusnesau Cymreig dilys yn y gogledd sydd wedi ysgrifennu ataf i am hyn?
Wel, fe wnaf ymateb yn yr union ffordd y mae'r Aelod eisoes wedi clywed gan Weinidog yr economi: yr oedd y busnesau hynny'n gallu gweithredu. Nid oedd unrhyw gyfyngiadau ar eu gallu i weithredu. Nid yw'n dderbyniol disgwyl i'r trethdalwr gamu i mewn o dan yr amgylchiadau hynny.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd pan fydd awdurdodau lleol yn cyflwyno asesiadau anghenion tai annigonol? OQ57676
Llywydd, gwnaeth adolygiad tai fforddiadwy 2019 gynnig diwygiadau arfaethedig i asesiadau o anghenion tai lleol, gan gynnwys pwerau adolygu a chymeradwyo newydd i Lywodraeth Cymru. Bydd manylion y dull newydd hwn yn cael eu cyhoeddi fis nesaf.
Diolch, Prif Weinidog. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol a dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i asesu a darparu ar gyfer darpariaeth breswyl a darpariaeth dros dro ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, ac eto bron i wyth mlynedd yn ddiweddarach nid oes gan nifer o awdurdodau lleol safleoedd parhaol neu mae ganddyn nhw safleoedd annigonol ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, neu fannau aros teithio annigonol pan fyddant ar eu taith. Felly, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae awdurdodau lleol wedi cael cyllid wedi'i glustnodi gan Lywodraeth Cymru i'w galluogi i wneud darpariaeth briodol, ac eto flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r arian hwn wedi'i adael yn gorwedd ar y bwrdd. Felly, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn camu i'r adwy o ran eu cyfrifoldebau i'r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, gan y bydd y Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, os caiff ei basio, yn troseddoli unrhyw un sy'n stopio ar safle anawdurdodedig?
Wel, Llywydd, roeddwn yn falch iawn bod y Senedd wedi pleidleisio yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru ac wedi dewis atal cydsyniad deddfwriaethol ar y cymalau hynny yn y Bil hwnnw sy'n torri hawliau cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Rwyf yn rhannu'r rhwystredigaeth a fynegwyd gan Jenny Rathbone, Llywydd. Roedd yn Ddeddf a hyrwyddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan Lywodraeth Lafur, a arweiniodd yn 2014 at yr asesiadau hynny o angen. Felly, mae'r ddeddfwriaeth yno, a, phob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu arian i gynorthwyo awdurdodau lleol i gydymffurfio â'u dyletswyddau o fewn Rhan 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ac mae'n siomedig felly nad oes cynnydd wedi'i wneud ym mhob rhan o Gymru. Pan oeddwn i'n Weinidog cyllid, Llywydd, rwy'n cofio cael cyngor, oherwydd nad oedd yr arian yn cael ei ddefnyddio, y dylid lleihau'r arian a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru a'i ddefnyddio at ddibenion eraill. Gwrthodais ddilyn y cyngor hwnnw, oherwydd roeddwn eisiau bod yn siŵr na fyddai'r rhwystr i ddarparu darpariaeth oherwydd nad oedd yr arian ar gael.
Nawr, yn y mis hwn, byddwn ni'n gweld canlyniadau'r asesiadau llety Sipsiwn/Teithwyr y bu'n rhaid i ni eu gohirio y llynedd oherwydd y pandemig. Rydym yn disgwyl eu gweld yn awr erbyn diwedd y mis hwn. A thrwy'r cynigion yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, byddwn yn symud i adolygu cydymffurfiaeth pob awdurdod lleol â'r dyletswyddau hynny drwy'r hyn a fydd yn awr yn adolygiad blynyddol. Bydd yr adolygiad hwnnw'n mabwysiadu dull cyson a chadarn o fonitro cydymffurfiaeth, a bydd yn ein helpu i weithredu'r argymhellion, fel y dywedais i, o adolygiad 2019 sy'n cynnig pwerau ychwanegol i Lywodraeth Cymru wrth oruchwylio'r cynlluniau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu darparu.
Prynhawn da, Prif Weinidog.
8. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau proses bontio teg a chyfiawn i sero net ar gyfer cymunedau gwledig? OQ57674
Llywydd, mae ein cynllun Cymru Sero Net yn seiliedig ar sicrhau pontio cyfiawn ledled Cymru, gan gynnwys mewn cymunedau gwledig. Mae'r cynllun yn cynnwys 123 o bolisïau a chynigion, ac mae'n defnyddio llawer o enghreifftiau byw o gymunedau gwledig Cymru.
Diolch, Brif Weinidog. Hoffwn i godi'r mater am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i blannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y ddegawd hon fel rhan o'r cynllun i gyrraedd net zero erbyn 2050. Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, dim ond 25 y cant o'r cynlluniau i blannu mwy na 50 hectar o goed, sy'n cyfateb i 93 cae pêl-droed—.
Mae undebau'r amaethwyr yn cefnogi agenda hinsawdd a di-garbon y Llywodraeth yn llwyr, ond mae pryder, Prif Weinidog, fod gan bolisïau sy'n ysgogi plannu coed, yn enwedig lle mae cyllid yn fwy na lefel y cymorth sydd ar gael ar gyfer tir amaethyddol, y potensial i effeithio ar ffermio gan denantiaid wedi'i gategoreiddio gan denantiaethau tymor byr. Mae Glastir wedi helpu llawer o ffermwyr i arallgyfeirio, fel y gwyddom ni, felly mae llawer i'w ddysgu, ond rhaid i ni fod yn ymwybodol o ganlyniadau anfwriadol.
Rwy'n edrych ymlaen atoch chi'n ymuno â mi ar ymweliad â ffermwr yn fy rhanbarth i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, rwy'n ymwybodol mai un o'r materion y byddan nhw eisiau'i drafod gyda chi yw plannu coed. A tybed a allwch chi ddweud wrthyf i sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i sicrhau nad yw baich datgarboneiddio yn disgyn yn anghyfartal ar gymunedau gwledig. Diolch yn fawr iawn.
Wel, Llywydd, diolch i Jane Dodds am y cwestiwn yna. Ac, wrth gwrs, mae hi'n wir bod targed uchelgeisiol gyda ni am blannu coed yma yng Nghymru, ac mae hwnna'n bwysig achos dyna'r cyngor rŷn ni wedi ei gael oddi wrth y pwyllgor sy'n ein cynghori ni. I helpu ni i ddod at net zero yma yng Nghymru, bydd yn rhaid i ni blannu lot mwy o goed, a thrwy wneud hynny, mae cyfleon mawr i ffermwyr yma yng Nghymru i wneud pethau sy'n bwysig i ni fel cenedl, ond hefyd i gael arian i wneud pethau sy'n bwysig i ni i gyd.
Wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod plannu coed yn golygu'r goeden iawn yn y lle iawn, ac mae hynny'n rhan annatod o'r cynllun sydd gennym ni. Nid yw'n ymwneud â phlannu unrhyw fath o goeden yn unrhyw le yn unig. Mae'n ymwneud â defnyddio tir nad yw ar gael ar gyfer gweithgareddau eraill y gall ffermwyr eu cyflawni yng Nghymru, ac sydd â gwerth masnachol, ond i ddefnyddio tir nad oes modd ei ddefnyddio fel hynny i dyfu cnwd a fydd o fudd i bob un ohonom ni wrth i ni wynebu newid hinsawdd.
Rwy'n cydnabod y pwynt y mae Jane Dodds yn ei wneud. Mae plannu coed yn gynnig tymor hir, ac os ydych chi'n denant tymor byr, yna mae'n rhaid i chi allu cysoni'r ddau beth hynny. Rydym ni'n ymwybodol o hynny, wrth gwrs, ac yn gweithio gydag undebau'r amaethwyr ac eraill arno. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr ymweliad yr ydym ni'n bwriadu ei wneud gyda'n gilydd, gan y bydd yn haws, yr ydym ni'n gobeithio, i gynnal ymweliadau o'r fath yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod gydag undebau'r amaethwyr yng Nghymru y ffordd y gallan nhw gynorthwyo eu haelodau i fanteisio ar yr hyn sydd, yn fy marn i, yn gyfle pwysig i'r Gymru wledig chwarae ei rhan, fel y gwn i ei bod eisiau'i wneud, wrth fynd i'r afael â'r argyfwng mawr hwnnw ein hoes ni sef newid hinsawdd, a'i wneud mewn ffordd sy'n eu gwobrwyo am y cyfraniad y byddan nhw'n ei wneud.
Diolch i'r Prif Weinidog, a gobeithio'n wir y byddwch chi'n gwneud adferiad llawn a buan o'ch COVID. Pob dymuniad da i chi.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf i unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Diolch, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i alw am ddau ddatganiad yr wythnos hon? Daw'r cyntaf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â chynllun cydnabyddiaeth ariannol gofal cymdeithasol, yn amlwg, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei groesawu'n fawr i'r bobl hynny sydd wedi gweithio ar y rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru, yn enwedig yn ystod y pandemig. Ond mae etholwr wedi codi pryderon gyda mi nad yw pobl eraill a oedd yn gweithio, yn enwedig mewn cartrefi gofal, ym maes arlwyo a glanhau, yn gymwys ar gyfer y taliadau hyn, ac wrth gwrs, maen nhw hefyd wedi bod yn gwneud gwaith ar y rheng flaen, yr wyf i'n teimlo ei fod yn haeddu cael ei gydnabod mewn rhyw ffordd. Felly, hoffwn i Lywodraeth Cymru ystyried hyn a chyflwyno datganiad—naill ai gan y Dirprwy neu'r Gweinidog—i drafod a fyddai modd ymestyn hynny.
Yn ail, a gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd o ran y targedau ffosffad newydd a gafodd eu gosod gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddechrau 2021? Byddwch chi'n ymwybodol bod awdurdodau lleol Cymru yn dal i aros am arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru o ran sut i ddehongli'r penderfyniadau cynllunio a'r ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno, yn erbyn y targedau newydd hynny. Ac mae'n achosi oedi cyn penderfynu ar lawer o geisiadau, gan gynnwys yn fy ardal awdurdod lleol fy hun. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef, mae angen rhywfaint o eglurder arnom ni, a byddai datganiad i'w groesawu'n fawr.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi wedi cyfeirio at ddau fater y mae llawer ohonom ni wedi cael sylwadau arnyn nhw gan ein hetholwyr ein hunain. Roedd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Siambr a chlywodd hi eich cwestiwn chi a bydd hi'n cyflwyno rhagor o wybodaeth, naill ai ar ffurf datganiad ysgrifenedig neu'n ysgrifennu at yr Aelod, ac rwy'n siŵr y bydd llythyr yn cael ei roi yn y Llyfrgell.
O ran eich ail bwynt, rwy'n deall y bydd canllawiau'n cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos iawn.
Mae Caerdydd wedi cael ei disgrifio, Trefnydd, fel prifddinas tlodi tanwydd y DU, gyda chwarter ein trigolion yma yn y brifddinas yn dioddef tlodi tanwydd—yn uwch nag unrhyw ddinas neu dref arall yn y Deyrnas Unedig. Dyna 91,000 o bobl yn dioddef. A gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth ar dlodi tanwydd a'r argyfwng costau byw? Mae Plaid Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw am gefnogaeth ychwanegol, ond mae llawer eto i'w wneud. Rwy'n siŵr bod y Trefnydd yn wrandäwr brwd ar Radio Wales, a chafodd y taliad ei drafod y bore yma ar raglen ffonio Jason Mohammad. Ymhlith y materion a gafodd sylw oedd twf banciau bwyd yn Nhrelái, ac roedd eraill yn nodi, er eu bod yn croesawu'r taliad, eu bod yn pwysleisio y bydd llawer yn dal i gael trafferth.
Y mathau hyn o bwyntiau yw'r rhai y gellid eu gwneud mewn dadl yn amser y Llywodraeth, a gallem ni hefyd nodi rhai o'r materion sy'n ymwneud ag ymateb Llywodraeth y DU. Byddwn ni i gyd yn cofio Llywodraeth Geidwadol y DU yn datgan mai oherwydd ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yr oedd yn rhaid i ni dalu treth ar werth ar brisiau ynni. Gwnaethon nhw addo i ni y byddai prisiau ynni'n gostwng unwaith yr oeddem ni allan o'r Undeb Ewropeaidd. Wel, mae Brexit nawr wedi'i wneud, Trefnydd; pam y mae TAW yn dal i gael ei godi ar ein Biliau?
Felly, dyma'r mathau o bethau y gallem ni eu trafod, Gweinidog. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael o ran Llywodraeth y DU yn dileu'r TAW o 5 y cant? Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ar y benthyciad annigonol o £200 sydd wedi cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU? A beth arall y gallwn ni fel Senedd ei wneud i helpu pobl Trelái, i helpu pobl Caerdydd a ledled Cymru, sy'n dioddef cymaint ar hyn o bryd? Diolch yn fawr.
Diolch. Fel y gwyddoch chi, am 12 p.m. heddiw, cafodd datganiad ysgrifenedig ei gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a, ddydd Iau, bydd y Gweinidog yr wyf i newydd gyfeirio ato, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, yn cynnal uwchgynhadledd costau byw. Dim ond hyn a hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Mae hyn wedi cael ei wneud yn Llundain, gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Rydych chi'n hollol gywir: maen nhw wedi cyflawni Brexit—rwy'n credu mai dyna oedd eu slogan—ond yr hyn y mae angen iddyn ei wneud yw sicrhau bod Brexit yn gweithio i'r DU. Gwnaethon nhw addo prisiau ynni is pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yr oeddwn i'n darllen rhywfaint o ymchwil yr wythnos diwethaf a ddangosodd yr amrywiaeth o wledydd ledled Ewrop lle'r oedd cost ynni, mewn rhai ardaloedd, 50 y cant yn is nag yn y DU.
Mae fy etholwr, Evelyn, a'i mam, Jacqui, wedi cysylltu â mi, ar ôl cael sioc a bod yn hynod siomedig o ddarganfod y bydd Undeb Rygbi Cymru, o fis Medi 2022, yn atal merched rhag chwarae rygbi cymysg dan 12 oed a dan 13 oed. Mae Evelyn yn chwaraewr rhagorol, ac yn gapten chwaraeon dan 12 oed Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â chwarae i Ysgol Gyfun Brynteg. Gwnes i gyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru i ofyn pam a sut y cafodd y penderfyniad hwn i wahardd merched o rygbi cymysg ei wneud. Hyd yma, nid yw Undeb Rygbi Cymru wedi darparu unrhyw dystiolaeth bod ymgynghoriad teg wedi'i gynnal a oedd yn cynnwys gofyn i'r merched yr effeithiwyd arnyn nhw a'u ffrindiau tîm ynghylch eu barn, na bod asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wedi'i gynnal. Fy mhryder i yw nad yw merched wedi cael eu holi ynghylch pam eu bod yn rhoi'r gorau i chwarae rygbi ar ôl cael eu gwahardd rhag chwarae'n gymysg mwyach, nac am eu syniadau ynghylch cynyddu eu cyfranogiad, yn hytrach na'u gwahardd yn unig. Rwyf i wedi codi hyn gyda'r Gweinidog chwaraeon a diwylliant, ac rwy'n aros am atebion i fy nghwestiynau gan Undeb Rygbi Cymru, ond, yn y cyfamser, a wnaiff y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddarparu datganiad ar gyfranogiad merched mewn chwaraeon ledled Cymru?
Diolch. Rwy'n ymwybodol bod Undeb Rygbi Cymru wedi cynnal ymgynghoriad, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Rwy'n credu mai yn ôl yn 2019 ydoedd, ac yna cafodd ei ohirio oherwydd pandemig COVID, ac ni chafodd ei gyflwyno tan eleni. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gwrando ar yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddweud ynghylch y rhwystrau y maen nhw'n teimlo eu bod yn eu hwynebu. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, rydych chi wedi cyflwyno sylwadau i'r Dirprwy Weinidog chwaraeon a diwylliant, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n ymateb i chi pan fydd ganddi ragor o wybodaeth gan Undeb Rygbi Cymru.
Ar 28 Medi y llynedd, gofynnais i am ddadl yn y Siambr ar y mater o deithio'n fwy diogel i farchogion ceffylau yng Nghymru, ac efallai y byddwch chi'n cofio mai eich ymateb chi oedd y byddai dadl o'r fath yn gynamserol, o ystyried y newidiadau i Rheolau'r Ffordd Fawr oedd ar y gweill. Gan fod y newidiadau i Rheolau'r Ffordd Fawr nawr wedi'u cyhoeddi, hoffwn i ofyn eto am ddadl yn y Siambr ar deithio mwy diogel i farchogion yng Nghymru. Rwy'n gofyn am y ddadl hon oherwydd rwy'n credu bod llawer mwy y byddai modd ei wneud i ddarparu llwybrau mwy diogel i farchogion a gyrwyr cerbydau, fel gwell defnydd o arwyddion a chyflwyno'r ymgyrch diogelwch Araf Iawn yn genedlaethol. Rwy'n credu hefyd fod angen gwneud mwy i dynnu sylw at y newidiadau newydd i Rheolau'r Ffordd Fawr er budd pob defnyddiwr ffordd. Yn anffodus, dim ond 22 y cant o lwybrau hygyrch i'r cyhoedd yng Nghymru sy'n agored i farchogion, ac mae llawer o'r llwybrau hyn wedi'u harwynebu i ddarparu ar gyfer beicwyr o dan y ddeddfwriaeth teithio llesol, gan eu gwneud yn gwbl amhriodol i geffylau. Mae llawer mwy o lwybrau hefyd yn mynd yn anhygyrch i farchogion oherwydd y ffensys a'r rhwystrau y mae awdurdodau lleol yn eu codi i atal cerbydau modur rhag cael mynediad atyn nhw. Gyda hyn mewn golwg, rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod gan y gymuned farchogaeth fwy o gyfle i ddweud eu dweud ynghylch cynllunio a gweithredu'r cynllun teithio llesol, nad yw, ar hyn o bryd, yn diwallu eu hanghenion, a gobeithio y bydd modd mynd i'r afael ag ef a'i amlygu yn y ddadl hon. Diolch.
Diolch. Nid wyf i'n ymwybodol a gafodd hyn sylw yn y newidiadau a gafodd eu cyflwyno o ran y newidiadau i Rheolau'r Ffordd Fawr, ond byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog ystyried eich cais.FootnoteLink
Mae gennyf i ddau ddatganiad yr hoffwn i alw amdanyn nhw. Yn gyntaf, mae'r argyfwng costau byw yn taro pawb yn galed, ac ar ymweliad diweddar â fferm deuluol Anthony yn Abercynffig dysgais i faint mae'r argyfwng yn taro ffermwyr. Gwnaethon nhw fanylu ar sut mae chwyddiant wedi cynyddu pris gwrtaith, er enghraifft, o £8,000 i £18,000 y flwyddyn, gyda thueddiadau tebyg ar hyd a lled llawer o'r cyfleustodau a'r offer sydd eu hangen arnyn nhw i gynnal eu fferm. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad ar ba gymorth sydd wedi'i ddarparu i'r gymuned ffermio, nid yn unig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond ledled Cymru, fel y gallan nhw fforddio parhau i weithredu a chyflenwi bwyd o ansawdd uchel i'r farchnad ddomestig yn ystod yr argyfwng costau byw hwn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl glir i'r gymuned ffermio nad yw'r gefnogaeth honno'n dod gan y Torïaid yn San Steffan.
Yn ail, hoffwn i ymuno â fy nghyd-Aelod Sarah Murphy i ofyn am ddatganiad ar yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â'r gostyngiad anochel yn nifer y merched sy'n chwarae rygbi o ganlyniad i benderfyniad Undeb Rygbi Cymru i roi'r gorau i ariannu timau cymysg ar ôl 11 oed. O'r sgyrsiau y mae Sarah a minnau wedi'u cael, mae'n ymddangos bod Undeb Rygbi Cymru yn beio merched am beidio â bod eisiau chwarae rygbi neu'n wfftio'r gostyngiad mewn merched sy'n chwarae rygbi fel digwyddiad naturiol. Pa ffordd bynnag yr ydych chi'n dewis edrych arno, mae'n gam yn ôl ac mae wedi achosi pryder mawr. Rwy'n credu yn sylfaenol, os ydym ni eisiau newid y diwylliant yn ein cymdeithas, na allwn i ddod o hyd i well le i ddechrau na'n timau rygbi, yn enwedig mewn cymunedau fel fy un i a Sarah, lle mae'r clwb rygbi, yn amlach na pheidio, yn ganolog i'r gymuned. Wedi'r cyfan, mae rygbi ar gyfer pawb.
Diolch. Felly, mewn ymateb i'ch ail gwestiwn, nid wyf i'n credu bod gennyf i ddim arall i'w ychwanegu at yr hyn y dywedais i yn fy ateb i Sarah Murphy, dim ond i ddweud fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Undeb Rygbi Cymru efallai'n mynd yn ôl ac yn edrych ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad, gweld a oes unrhyw beth arall y gallan nhw ei dynnu allan ohono, neu ewch i'r clybiau rygbi a chael y sgyrsiau hynny os oes angen. Ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog diwylliant a chwaraeon, os nad ydych chi wedi ysgrifennu ati, wedi fy nghlywed yn dweud fy mod yn siŵr y bydd hi'n ymateb i Sarah yn y dyfodol agos iawn, ond efallai y byddai'n ddoeth i chi ysgrifennu ati hi hefyd.
O ran yr argyfwng costau byw, byddwch chi'n ymwybodol o'r datganiad ysgrifenedig heddiw o'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i bawb, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys y gymuned ffermio hefyd. Gwnaethoch chi sôn yn benodol am brisiau gwrtaith, ac yr oedd hyn yn rhywbeth y trafodais i gyda fy nghymheiriaid o bob rhan o'r DU yng nghyfarfod grŵp rhyng-weinidogol diwethaf DEFRA y gwnaethom ni ei gynnal, oherwydd mae'n amlwg nad mater i Gymru yn unig yw hwn; mae hyn ledled y DU. Nid ydym ni'n ystyried unrhyw gymorth ychwanegol penodol, ond mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei fonitro'n agos. Ond rwy'n gobeithio y gall pawb sy'n gymwys gael gafael ar y cyllid ychwanegol. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais i wrth Rhys ab Owen: dim ond hyn a hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud; mae hyn yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth y DU ymdrin ag ef.
Mae gennyf i gais am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Yn gyntaf, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddarparu caeau chwaraeon 3G a 4G a chynlluniau i gynyddu'r nifer ledled Cymru. Ni allaf i bwysleisio gormod pa mor bwysig y mae caeau 3G a 4G, sy'n eich galluogi i chwarae am gyfnodau hir ar gae yn hytrach na chael dim ond dwy gêm mewn diwrnod, ac sydd hefyd yn caniatáu iddyn nhw gael eu defnyddio ar adegau pan fo'r caeau arferol, neu'r caeau glaswellt, yn llawn dŵr.
Fy ail gais yw datganiad gan Lywodraeth Cymru ar y posibilrwydd y bydd Cymru'n rhan o gais ar y cyd ar gyfer twrnamaint Ewro 2028 a'r gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd datganiad ar y cyd gan y pum cymdeithas bêl-droed,
'Yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb helaeth, a oedd yn asesu'r cyfleoedd posibl mewn pêl-droed rhyngwladol, mae cymdeithasau pêl-droed Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban, Cymru a Gweriniaeth Iwerddon wedi cytuno i ganolbwyntio ar gais i gynnal... EWRO 2028'.
Byddwn i'n falch iawn o weld rhai o gemau Ewro 2028 yn cael eu chwarae yng Nghymru, felly beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran ceisio rhoi cymaint o gefnogaeth ag y gallan nhw i Gymdeithas Bêl-droed Cymru?
Diolch. Mae buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon yn rhan allweddol o'n rhaglen lywodraethu, ac mae'n bwysig iawn, os ydym ni eisiau annog cyfranogiad ychwanegol a chefnogi iechyd a llesiant ein cenedl, ein bod ni wir yn ystyried lle yr ydym ni'n buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon. Rydym ni wedi cyhoeddi £4.5 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf ar gyfer eleni, gan ddod â chyfanswm ein buddsoddiad ar gyfer eleni i fwy na £13.2 miliwn i gefnogi ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Rydym ni hefyd wedi dyrannu £24 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi Cymru yn ystod y tair blynedd nesaf, ac y bydd cyllid yn cefnogi nid yn unig gwella'r cyfleusterau presennol sydd gennym ni, ond hefyd yn datblygu cyfleusterau newydd, ac mae hynny'n cynnwys caeau 3G.
O ran eich ail gais, fel y gwnaethoch chi sôn, mae'r pum Llywodraeth a'r pum cymdeithas bêl-droed o bob rhan o'r DU ac Iwerddon wedi cytuno ar y cyd i gwmpasu dichonoldeb cais FIFA yng Nghwpan y Byd 2030, ac rwy'n credu i'r Cymdeithasau Pêl-droed ddod i'r casgliad yn eithaf cyflym na fyddai cais am gwpan y byd yn llwyddiannus—roedd yn annhebygol y byddai'n llwyddiannus ar hyn o bryd—ac maen nhw nawr wedi nodi eu bwriad i ddatblygu cais ar y cyd rhwng y DU ac Iwerddon i gynnal pencampwriaethau Ewropeaidd UEFA yn 2028. Felly, mae'n amlwg y bydd y Gweinidog, ac ar draws y Llywodraeth, yn parhau i ymgysylltu'n agos iawn â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Llywodraethau a'r Cymdeithasau Pêl-droed eraill i allu gwerthuso'r costau ac, wrth gwrs, manteision cynnal twrnamaint o'r fath.
Trefnydd, hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru—sef PEDW. Fel y gwyddoch chi efallai, dechreuodd y gwasanaeth newydd hwn ar 1 Hydref 2021. Nawr, er iddyn nhw gael rhybudd ymlaen llaw o 14 mis gan Neil Hemington, y gyfarwyddiaeth gynllunio, ar 11 Hydref, rwyf i wedi gorfod anfon llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn tynnu sylw at bryderon nad oedd gan swyddogion yr adran unrhyw fynediad llawn i'r system gwaith achos a dogfennau newydd, ac felly nid ydyn nhw nawr yn gallu darparu gwybodaeth hanfodol am apeliadau cynllunio byw. Bum mis ers gweithredu PEDW, mae problemau difrifol yn dal i gael eu hwynebu, ac mae wedi'i godi gyda mi yn fy etholaeth, ac, yn wir, mae Owen Hughes, golygydd busnes uchel ei barch y Daily Post, wedi adrodd bod oedi wrth apelio cynllunio nawr yn oedi buddsoddiadau busnes yng Nghymru. Felly, byddwn i'n falch pe bai'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad yn egluro sut y bydd yn sicrhau bod PEDW yn dechrau gweithredu'n effeithiol ac, wrth gwrs, i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o apeliadau ar frys. Diolch.
Diolch. Fel y dywedwch chi, dim ond ychydig fisoedd sydd ers i'r gwasanaeth newydd hwn ddechrau. Rydych wedi ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac yr wyf i'n siŵr y bydd hi'n ymateb i chi yn y dyfodol agos.
Hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar ganoli gwasanaethau iechyd yn Nwyrain De Cymru—hynny yw, y ffaith bod pobl nawr yn gorfod teithio i wahanol ysbytai er mwyn cael triniaethau gwahanol. Mae etholwr wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r ffaith mai dim ond yn Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach y bydd yr holl weithdrefnau diagnostig ar y fron yn cael eu cynnal, a bydd hynny'n golygu y bydd angen i etholwyr fynd ar deithiau hir ar drafnidiaeth gyhoeddus os nad oes ganddyn nhw gar. Felly, i rywun o Gilwern, er enghraifft, ond hefyd pentrefi a threfi ar draws y rhanbarth, gallai hyn olygu teithiau a fydd yn gymhleth, yn hir ac yn cynnwys nifer o newidiadau. Yn aml bydd yn rhaid i gleifion aros yn yr oerfel i fws arall ddod. Mae fy etholwr wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd angen amrywiaeth o apwyntiadau diagnostig ar bobl sydd angen triniaeth canser ac felly bydden nhw'n dioddef fwy nag unwaith. Ac mae'r gwasanaeth cludo cleifion hefyd yn golygu amseroedd aros hir. Pan agorodd Ysbyty Athrofaol y Faenor, dywedwyd wrth bobl ar draws y de-ddwyrain y byddai'n golygu gwell gwasanaethau, ond yr wyf i'n pryderu neu'n rhannu pryder trigolion ein bod ni nawr yn gweld llai o fynediad uniongyrchol at ofal. Mae staff y bwrdd iechyd yn gwneud gwaith aruthrol—mae angen eu canmol—ond hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â mynediad i wahanol ysbytai gan fod gwahanol wasanaethau'n cael eu darparu mewn lleoliadau gwahanol, oherwydd y peth olaf y mae pobl sy'n sâl ei angen yw straen ychwanegol.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'ch pwynt olaf. Yn amlwg, mater i'r bwrdd iechyd yw darparu gwasanaethau, ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn monitro'r materion hyn yn agos iawn ac, rwy'n gwybod, ei bod hi'n cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd yn rheolaidd. Rydym ni'n gweld gwasanaethau arbenigol—wrth gwrs ein bod ni—ac nid ydym ni eisiau i gleifion orfod teithio i lawer o ysbytai i drin yr un cyflwr, ond, wrth gwrs, mae'n anghenraid weithiau os oes gennych chi gyflwr penodol ac efallai y bydd yn rhaid i chi deithio ychydig ymhellach. Ond, fel y dywedais i, mater i'r bwrdd iechyd yw hwn.
Rwy'n credu bod trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn rhywbeth sy'n bwysig iawn. Gwnaethoch chi gyfeirio at Ysbyty Athrofaol y Faenor, ac yr wyf i wedi clywed llawer o Aelodau'n cyfeirio at broblemau etholwyr ynghylch hynny, a gwn i, unwaith eto, fod y Gweinidog yn gweithio'n agos iawn gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd mewn cysylltiad â hyn.
Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar bolisi'r Llywodraeth ar gyfer y Cymoedd. Byddwch chi'n ymwybodol, ers yr etholiad y llynedd, mai ychydig iawn o gyfleoedd sydd wedi bod i drafod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ddatblygu polisi, a pholisi economaidd yn arbennig, ar gyfer Cymoedd y De. Hoffwn i'r ddadl honno gael ei llywio gan ddau ddatganiad, gydag adroddiad, yn gyntaf oll, ar waith tasglu'r Cymoedd. Rhoddodd nifer o Weinidogion nifer o ymrwymiadau, gan gynnwys fi fy hun, yn y Senedd ddiwethaf ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru, ond nid oes adroddiad wedi bod ar alldro'r hyn yr oedd tasglu'r Cymoedd wedi'i gyflawni yn y cyfnod hwnnw a p'un a oedd wedi ymdrin â'i dargedau a'u cyflawni ai peidio. Felly, hoffwn i weld adroddiad ar waith tasglu'r Cymoedd yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.
Ac mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano ar raglen y Cymoedd Technoleg. Rhaglen fuddsoddi gwerth £100 miliwn yw hon, sy'n canolbwyntio ar fy etholaeth i fy hun ym Mlaenau Gwent. Ar hyn o bryd mae'n cyrraedd y pwynt hanner ffordd, a byddai'n amser da, rwy'n credu, i ni edrych yn ôl ar yr hyn y mae wedi'i gyflawni yn ystod y pum mlynedd diwethaf a beth yw'r cynlluniau ar gyfer cyflawni yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Diolch. Gofynnaf i Weinidog yr Economi gyhoeddi dau ddatganiad ysgrifenedig ar y ddau fater hynny—tasglu'r Cymoedd a'r Cymoedd Technoleg.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ansawdd dŵr yn Afon Gwy. Yr wythnos diwethaf, gwnes i gyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ansawdd dŵr, Rebecca Pow, ac mae hi eisiau gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i wella ansawdd dŵr yn Afon Gwy a ledled Cymru. Cafodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ei gwahodd i'r cyfarfod hwnnw ac mae'n drueni na allai hi fod yn bresennol. Felly, a wnaiff y Trefnydd ofyn i'r Gweinidog ddod i'r Siambr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch pa gyfarfodydd rhynglywodraethol sydd wedi'u cynnal ar ansawdd dŵr, a sut y mae'n bwriadu gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i wella ein dyfrffyrdd mewndirol yng Nghymru? Diolch, Llywydd.
Gwelais i'r llythyr yn gwahodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i gyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU. Yn anffodus, fel y gallwch chi ddychmygu, mae ein dyddiaduron yn llawn iawn; mae angen ychydig mwy o rybudd arnom ni na thri neu bedwar diwrnod. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn gweithio'n adeiladol iawn—fel y gwnes i pan oeddwn i yn y portffolio hwnnw—gyda Llywodraeth y DU, ac, yn amlwg, mae ein rhaglen lywodraethu ni'n ein hymrwymo ni i wella ansawdd dŵr. Yn amlwg, mae llygredd Afon Gwy yn rhywbeth sydd wedi bod yn y cyfryngau ac yn sicr yn ein bagiau post. Dangosodd asesiad cychwynnol CNC o lefelau P yn ardaloedd cadwraeth arbennig ein hafonydd, a oedd yn cynnwys Afon Gwy, mai'r rheswm bod cyrff dŵr yn methu targedau P yn dod o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae'r achosion yn gymhleth iawn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n parhau i weithio gyda CNC, ein bod ni'n parhau i weithio gyda Dŵr Cymru, a'n bod ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU.
Mi hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Trefnydd yn ei rôl fel y Gweinidog dros faterion gweledig ac amaeth. Mae Uwch-gomisiynydd Awstralia i'r Deyrnas Unedig yn ymweld ag Ynys Môn yr wythnos yma. Dwi'n wastad yn mwynhau croesawu ymwelwyr i'r ynys, wrth gwrs, ond mi fydd George Brandis yn cyfarfod â ffermwyr a fydd yn eiddgar iawn, dwi'n siŵr, i godi eu pryderon nhw ynglŷn ag effaith y cytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig ag Awstralia ar ôl Brexit.
Mae ffermwyr yn dweud wrthyf yn rheolaidd eu bod nhw'n poeni am hyn. Mae'r undebau amaeth yn dweud eu bod nhw'n ei chael hi yn anodd gweld unrhyw beth i helpu ffermwyr Cymru yn y cytundeb masnach ac, yn wir, eu bod nhw, yn fwy na dim, yn ei weld o fel rhywbeth sy'n manteisio cystadleuwyr ffermwyr Cymru yn Awstralia. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog ar y camau sy'n cael eu cymryd i geisio gwarchod ffermwyr Cymru rhag y bygythiad y mae'r cytundeb masnach yma rhwng y Deyrnas Unedig ac Awstralia yn ei gynrychioli iddyn nhw?
Diolch i chi. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn. Fe geir y cytundeb masnach ag Awstralia. Fe geir y cytundeb masnach â Seland Newydd. Os nad ydym ni'n ofalus, fe fyddwn ni'n gweld effaith gronnol y bargeinion masnach, a allai ddifrodi llawer iawn ar ein cymuned ffermio ni yma yng Nghymru. Yn amlwg, un pwnc sy'n peri pryder gwirioneddol i mi yw safonau. Mae hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n gweld ein marchnad ni'n cael ei gorlenwi â mewnforion o wledydd nad ydyn nhw'n cadw at ein safonau uchel iawn ni o ran iechyd a lles anifeiliaid, na'n safonau amgylcheddol uchel iawn ni ychwaith.
Dyma rywbeth y mae Gweinidog yr Economi yn arwain arno—cytundebau masnach. Rwy'n gweithio yn agos iawn gydag ef yn hyn o beth. Mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei drafod yn Grŵp Rhyngweinidogol DEFRA fel yr oeddwn i'n sôn gynnau. Pan fydd gennyf i ragor o wybodaeth ynglŷn ag ystyriaeth o'r effaith gronnol, fe fyddaf i'n hapus iawn i wneud datganiad.
Diolch i'r Trefnydd.
Y datganiad nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—diweddariad ar COVID-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'r sefyllfa gyfredol o ran iechyd y cyhoedd a chanlyniad yr adolygiad diweddaraf o reoliadau coronafeirws, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf.
Mae Cymru ar lefel rhybudd 0 ar hyn o bryd. Rydym ni wedi mynd heibio i benllanw omicron dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, ac rydym ni'n gynyddol ffyddiog bod niferoedd yr achosion yn prinhau. Mae heintiadau yn y gymuned yn prinhau. Mae nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19 yn lleihau, a nifer y bobl mewn gofal critigol gyda COVID-19 yn ddiweddar yw'r lleiaf ers mis Gorffennaf 2021. Mae'r rhain i gyd, wrth gwrs, yn newyddion cadarnhaol iawn.
Wrth gwrs, fe geir rhai rhesymau i ni ddal ati i fod yn ofalus. Mae hi'n amlwg nad yw'r pandemig ar ben eto. Mae COVID, yn anffodus, yn parhau i fod gyda ni. Y gyfradd o achosion, ar sail profion PCR cadarnhaol, yw 326 o achosion fesul 100,000. Mae hon yn gyfradd uchel iawn o hyd, er nad yw hi mor uchel â'r cyfraddau eithriadol a welsom ni yn anterth y don omicron.
Rydym ni'n cadw llygad barcud hefyd ar achosion o is-amrywiolyn omicron, o'r enw BA.2. Mae honno'n ffurf fwy trosglwyddadwy fyth o'r feirws na'r un yr ydym ni wedi dod i arfer â hi. Daeth bron i 250 o achosion i'r golwg yng Nghymru hyd yn hyn. Fe fu yna rywfaint o ddyfalu mai dyna'r hyn sy'n gyrru'r gyfradd uchel o achosion yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd.
Llywydd, cyn i mi droi at ganlyniad yr adolygiad 21 diwrnod, fe hoffwn i fyfyrio am eiliad ar y cynnydd a'r gwahaniaeth aruthrol a wnaeth ein rhaglen frechu wych ni. Wrth i ni nesáu at ddwy flynedd ers yr achos cyntaf o ddiagnosis coronafeirws yng Nghymru, fe weinyddwyd dros 6.8 miliwn dos o'r brechlyn COVID-19. Mae mwy na naw o bob 10 o bobl wedi cael un dos, mae 86 y cant wedi cael dau ddos, ac mae 67 y cant wedi cael dos atgyfnerthu. Mae brechu wedi helpu i newid cwrs y pandemig hwn, gan wanhau'r cyswllt rhwng y feirws â salwch difrifol, mynediad i ysbyty, a marwolaeth i gymaint ohonom ni. Mae brechu wedi achub bywydau di-rif, ac mae cyflymder ein rhaglen atgyfnerthu ni wedi ein helpu ni wrth dawelu storm omicron, heb os nac oni bai.
Rwy'n falch fod ein system ar-lein ni ar gyfer aildrefnu apwyntiadau bellach yn fyw ac yn cael ei chyflwyno a'i hintegreiddio yn raddol i gynlluniau cyflenwi brechlyn COVID-19 y byrddau iechyd. Dyma offeryn arall i fyrddau iechyd allu darparu dulliau ychwanegol i bobl ar gyfer cysylltu i aildrefnu eu hapwyntiadau nhw os nad yw'r un a roddwyd iddyn nhw'n gyfleus. Fe fydd byrddau iechyd yn parhau i fod â llinellau ffôn ar gael i bobl nad ydyn nhw'n cael y neges testun ar gyfer aildrefnu neu sy'n methu â mynd trwodd i'r gwasanaeth aildrefnu ar-lein. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru, ac fe fyddwn i'n annog unrhyw un nad yw wedi cael ei frechu eto, neu nad yw wedi gorffen ei gwrs brechlyn, i ddod i gael ei bigiadau.
Er na chafodd hyn ei gyhoeddi yn swyddogol eto gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, rwyf i wedi cael cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch brechu pob plentyn pump i 11 oed. Rwyf i wedi cytuno i'w gynnig, ac rydym ni'n gweithio gyda byrddau iechyd i weithredu'r cynnig hwn. Rydym ni'n aros am gyngor o ran a ddylai'r carfannau mwyaf agored i niwed gael brechiad atgyfnerthu arall i'w diogelu nhw dros fisoedd y gwanwyn a'r haf. Rydym ni'n gweithio gyda'r byrddau iechyd i gynllunio ar gyfer sefyllfaoedd amrywiol i sicrhau ein bod ni'n hyblyg ac yn barod i roi unrhyw gyngor ar waith wedi i mi ystyried hyn yn ofalus.
Llywydd, hoffwn i droi nawr at yr adolygiad. Hwn oedd yr adolygiad tair wythnos cyntaf o'r mesurau diogelu sydd gyda ni ar lefel rhybudd 0. Gan fod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn gwella'n gyffredinol, mae'r Cabinet wedi penderfynu mai aros ar lefel rhybudd 0 fyddwn ni. Gallwn ni hefyd ddechrau llacio rhai o'r mesurau diogelu sydd ar waith. Byddwn ni'n mynd ati yn ofalus i wneud hyn, ac yn gweithredu gam wrth gam.
O ddydd Gwener yma, 18 Chwefror, ymlaen, byddwn ni'n dileu'r gofyniad i ddangos pàs COVID i gael mynediad i ddigwyddiadau mawr dan do ac yn yr awyr agored, ac i glybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. O 28 Chwefror ymlaen, byddwn ni'n dileu'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn rhai mannau cyhoeddus dan do. Ond bydd hyn yn dal i fod yn ofyniad cyfreithiol ym mhob lleoliad manwerthu, ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mewn lleoliadau iechyd a gofal. Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i wella, rydym ni'n gobeithio gallu dileu'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn llwyr erbyn diwedd mis Mawrth.
Rydym yn gweithio yn agos gydag ysgolion i'w helpu nhw i gynllunio i ddechrau gweithredu yn unol â'r fframwaith penderfyniadau lleol unwaith eto. Bydd hyn yn digwydd yn syth ar ôl y gwyliau hanner tymor. Ni fydd angen gorchuddion wyneb fel mater o drefn mewn ystafelloedd dosbarth ar ôl hynny, ond dylid parhau i'w gwisgo mewn ardaloedd cymunedol mewn ysgolion uwchradd. Bydd y rheolau ynghylch hunanynysu yn parhau ar waith yma yng Nghymru. Mae'r trefniadau hyn yn bwysig er mwyn torri cadwyni trosglwyddo'r feirws ac i atal rhagor o bobl rhag cael eu heintio.
Ar ôl yr adolygiad nesaf, rydym ni'n bwriadu cyhoeddi cynllun pontio ar gyfer byw gyda coronafeirws. Cynllun fydd hwn i weithredu pan fydd yr holl gyfyngiadau cyfreithiol sydd wedi cael eu gwneud o dan y ddeddfwriaeth diogelu iechyd frys wedi cael eu dileu. Rŷm ni nawr yn gallu symud yn ein blaenau a dechrau codi'r cyfyngiadau fesul dipyn, gan adael rhai eraill yn eu lle. I bobl Cymru sydd wedi dilyn y rheolau a'r mesurau i'w cadw nhw a'u hanwyliaid yn ddiogel y mae'r diolch i hynny. Hoffwn i ddiolch i bawb am chwarae eu rhan nhw. Diolch hefyd, wrth gwrs, i staff ein gwasanaeth iechyd a staff gofal cymdeithasol am barhau i weithio yn ddiflino trwy'r cyfnod anodd hwn.
Nid yw COVID-19 wedi diflannu. Wrth inni ddechrau llacio'r cyfyngiadau hyn, byddwn ni'n parhau i fonitro'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd, ond mae'r darlun hwnnw yn gwella yng Nghymru. Mae hynny yn rhoi y gobaith inni y gallwn ni gynllunio ar gyfer dyfodol gwell. Diolch, Llywydd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac am y briff yn gynharach hefyd a oedd ar gael i aelodau'r pwyllgor iechyd? Gwerthfawrogwyd hynny'n fawr iawn. Gweinidog, rwy'n hapus iawn gyda rhai o'r manylion yn eich datganiad chi. Rydych chi'n sôn am ostyngiad yng nghyfraddau ysbytai a'r rhai mewn gofal critigol gyda COVID-19 ar eu lefelau isaf ers mis Gorffennaf 2021. Rydych chi'n dweud bod hynny'n gadarnhaol iawn, ac rwyf i'n cytuno â chi'n llwyr. Mae hon yn sefyllfa gadarnhaol dda iawn i fod ynddi hi. Fe ewch chi ymlaen i ddweud bod coronafeirws yn parhau i fod gyda ni, yn anffodus. Ond fe fydd hwnnw gyda ni am byth; yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall a dyna ddywed gweithwyr iechyd proffesiynol wrthym ni. Felly, mae'n rhaid i ni ddysgu byw gyda coronafeirws. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n amlinellu a ydych chi'n cytuno â'r safbwynt hwn.
Ar ôl 19 wythnos, rydym ni, o'r diwedd, wedi penderfynu cael gwared ar y pasbortau brechu. Wrth gwrs, mae hynny'n fy mhlesio i'n fawr iawn, am eu bod nhw'n aneffeithiol, ac yn gostus i fusnesau, heb unrhyw dystiolaeth eu bod nhw'n gwneud unrhyw beth gwirioneddol i rwystro ymlediad coronafeirws na chynyddu cyfraddau brechu. Yn fy marn i, ni ddylai Llywodraeth Lafur Cymru fod wedi dod â'r penderfyniad ger ein bron i fod â phasbortau COVID yn y lle cyntaf un. Roeddech chi'n dweud y gall busnesau barhau i fod â phasbortau brechu yn wirfoddol; a ydych chi wedi cael unrhyw arwydd gan fusnesau eu bod nhw'n awyddus i wneud felly, ac os ydych chi, o ba sectorau arbennig y daeth hynny? Fe fyddai hi'n ddefnyddiol i ni gael gwybod hynny.
Rwyf i wedi gofyn i chi ar sawl achlysur am dystiolaeth o ran y pasbortau COVID, ac rydych chi naill ai wedi dweud wrthyf i eich bod chi wedi defnyddio tystiolaeth ryngwladol ynglŷn â phasbortau brechu o wledydd lle nad yw'r niferoedd sydd wedi manteisio ar frechlynnau yn fawr iawn—wrth gwrs, yng Nghymru, nid yn y sefyllfa honno yr ydym ni; rydym ni mewn sefyllfa lawer gwell, lle mae 86 y cant, fel roeddech chi'n dweud yn eich datganiad chi heddiw, wedi cael yr ail ddos ac mae 67 y cant wedi cael y brechiad atgyfnerthu—neu rydych chi wedi dweud bod y dystiolaeth sy'n dangos pa mor effeithiol ydyn nhw wedi cael ei chyhoeddi eisoes. Ond fe hoffwn i eich cyfeirio chi at eich cell cyngor technegol chi ddoe. Pan oedden nhw'n cyhoeddi gwybodaeth, roedden nhw'n dweud y ceir llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch effeithiolrwydd y pàs COVID o ran rhwystro heintiadau, o gofio nad oes yna werthusiad sylweddol wedi bod o'r ymyriadau hyn. Rydych chi'n dweud yn aml mai un mesur ymhlith llawer yw hwn, ond mae'r gell yn mynd ymlaen i ddweud, er bod potensial i hwnnw leihau heintiadau ynghyd â'r mesurau eraill, mai parhau i fod yn brin y mae'r dystiolaeth a adolygwyd gan gymheiriaid i ddangos hynny. Felly, rwyf i am ofyn i chi unwaith eto am y dystiolaeth honno. A gafodd y dystiolaeth honno ei chasglu yng Nghymru, a phryd y caiff y dystiolaeth honno ei chyhoeddi? Mae angen i ni werthuso effeithiolrwydd pasys COVID, oherwydd fe geir y posibilrwydd eu bod nhw wedi peri niwed mawr i economi'r nos, heb fod o fawr ddim lles i iechyd y cyhoedd.
Gweinidog, rwyf i am ofyn i chi am y cynnydd o ran ôl-groniad y rhestrau aros. Wrth gwrs, fe wyddom ni ein bod ni mewn sefyllfa yma yng Nghymru lle mae un o bob pump o boblogaeth Cymru yn dal i fod ar restr aros ac mae un o bob pedwar wedi bod yn aros am dros flwyddyn, ac mae hynny'n cyfateb i un o bob 19 yn Lloegr ac un o bob 13 yn yr Alban. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd GIG Lloegr, wrth gwrs, ei gynllun i ymdrin â'r ôl-groniad, ac rwy'n credu, yn y pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf, Gweinidog, i chi ddweud y byddech chi'n edrych ar y cynllun hwnnw gyda diddordeb. Felly, fe hoffwn i gael unrhyw asesiad cynnar a wnaethoch chi o'r cynllun yn Lloegr. Pa agweddau yn y cynllun hwnnw, yn eich barn chi, sy'n briodol i'w trosglwyddo i'ch cynllun chi pan fyddwch chi'n ei gyhoeddi ef ym mis Ebrill?
Gweinidog, yn eich datganiad chi heddiw, rydych chi'n sôn am gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch brechlyn i bob plentyn pump i 11 oed, felly efallai y gwnewch chi roi rhyw syniad i ni o ba ystyriaethau y gwnaethoch chi eu rhoi i fanylion cyflwyno'r cynllun hwnnw ar gyfer y grŵp oedran penodol hwn.
Ar y cyfan, Gweinidog, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf am lacio cyfyngiadau COVID ymhellach. Fe hoffwn i eich holi chi ynglŷn ag ynysu gorfodol, o ystyried cymaint o drafod a fu ar y mater hwn. Rydych chi a'ch cyd-Aelodau wedi mynegi syndod a siom ynghylch dod â hynny i derfyn yn Lloegr, ac mae eich Llywodraeth chi'n dweud yr hoffech chi weld y dystiolaeth i gefnogi'r cam hwn. Felly, fy nghwestiwn i yw: pa dystiolaeth a hoffech chi ei gweld yn hynny o beth? Ac yn ail, mae Gweinidog yr economi, Vaughan Gething, wedi dweud y gellid terfynu hynny yng Nghymru cyn diwedd y mis nesaf. Felly, pa dystiolaeth sydd wedi llywio'r datganiad hwnnw, os, fel yr ydych chi'n dweud, nad oedd yna unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau penderfyniad Llywodraeth y DU ynglŷn â hynny? Ac yn drydydd, mae eich cyd-Aelodau chi yn y Llywodraeth wedi honni na roddodd Llywodraeth y DU rybudd i chi am eu penderfyniad nhw. Fe allai hynny fod, wrth gwrs, am eu bod nhw'n awyddus i wneud y cyhoeddiad yn Nhŷ'r Cyffredin i ddechrau, yn hytrach na'i drosglwyddo i newyddiadurwyr yn gyntaf i gyd. Ond rwyf i am ofyn i chi: pa mor aml ydych chi'n rhybuddio Gweinidogion Llywodraeth y DU am eich penderfyniadau chi yn y fan hon?
Diolch yn fawr iawn, Russell. Wrth gwrs, fe fydd yn rhaid i ni ddysgu byw gyda COVID. Ni fydd yn marw o'r tir, ni fydd yn diflannu, a dyna pam, yn yr adolygiad tair wythnos nesaf, y gwelwch chi ni'n datblygu strategaeth tymor hwy ar gyfer ein dull ni o ymdrin â hynny.
Rwyf i am neidio, os nad oes ots gennych chi, at eich pwynt olaf, sef ynysu gorfodol, oherwydd mae cyswllt yn hyn o beth, yn fy marn i. Yr anhawster yw bod Llywodraeth y DU yn gweithredu fel pe bai'r cyfan drosodd, a'r gwir amdani yw, os ydych chi'n darllen cyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, mewn gwirionedd, mae hi'n sobri dyn i feddwl beth arall a allai fod rownd y gornel. Ar hyn o bryd, rydym ni'n gwneud yn dda, ond ni wyddom ni ddim beth allai ddod nesaf.
Gadewch i mi roi rhai amcanion i chi am yr hyn a allai ddod nesaf. Maen nhw'n dweud ei bod hi bron yn sicr y daw amrywiad genetig o'r feirws a fydd yn gwneud brechlynnau cyfredol yn aneffeithiol. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, SAGE sy'n dweud hynny. Maen nhw'n dweud, o ran y clefyd llai difrifol gyda omicron—felly, y bu'n llai difrifol o'i gymharu â'r hyn a welsom ni'n flaenorol—nid ydym ni'n debygol o weld hynny eto; mae'n fwy tebygol o fod yn debycach i delta. Unwaith eto, nid fi sy'n dweud felly, gwyddonwyr sy'n dweud felly. Mae'r cyngor yn dweud wrthym ni hefyd ein bod ni'n debygol o weld tonnau newydd o amrywiolion. Felly, gadewch i ni fod yn ymwybodol ein bod ni, wrth gwrs, mewn sefyllfa well ar hyn o bryd, ond mae'n debyg nad yw datgymalu'r amddiffynfeydd i gyd yn syniad synhwyrol. Yn amlwg, mae gennym ni lawer o waith meddwl, ac mae'n rhaid i ni ddeall bod perthynas agos iawn—yn wir, dibyniaeth, i raddau—gyda'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, ac felly, fe fydd yr hyn y maen nhw'n ei benderfynu yn effeithio ar yr hyn y gallwn ninnau ei benderfynu yma. Felly, mae hi'n bwysig, pan fyddwn ni'n sôn am ddysgu byw gyda COVID, ein bod yn deall nad ystyr hyn yn unig yw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, ond yr hyn a allai fod yn dod tuag atom neu beidio yn y dyfodol.
O ran pasbortau brechu, fe wyddom ni, yn achos delta, er enghraifft, fod y brechiad wedi helpu i leihau trosglwyddiad. Felly, pe byddech chi'n dod i gysylltiad â rhywun, roeddech chi'n llai tebygol o'i drosglwyddo ymhellach, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth pan ydych chi'n mynd i le caeedig dan do. Fe geir tystiolaeth ryngwladol hefyd sy'n awgrymu eu bod nhw'n cynyddu'r niferoedd sy'n derbyn y brechlynnau. Felly, mae'r dystiolaeth honno'n bodoli, ac, wrth gwrs, dim ond un mesur ydyw hwnnw mewn cyfres o fesurau eraill. Rydych chi'n gofyn am dystiolaeth trwy'r amser; ble mae eich tystiolaeth chi sy'n awgrymu eu bod nhw wedi difrodi economi'r nos? Nid wyf i'n siŵr a oes yna lawer o dystiolaeth i awgrymu bod y pasys COVID, mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Rwy'n deall, os ydych chi'n cau clwb nos ac nad ydyn nhw'n gallu agor eu drysau, mae hynny'n wahanol. Nid sôn am hynny'r oeddech chi. Sôn yr oeddech chi am basys COVID, ac fe fyddai hi'n ddefnyddiol iawn i ni gael gwybod o ble daw eich tystiolaeth chi am hynny, oherwydd rhai o'r awgrymiadau a gefais oedd bod mwy o bobl, mewn gwirionedd, yn teimlo yn hyderus wrth fynd allan gyda'r wybodaeth bod pobl eraill o'u cwmpas nhw wedi cael eu brechu.
O ran rhestrau aros, rydym ni mewn sefyllfa anodd iawn, ac nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU ac, yn wir, yn fyd-eang. Fe fu'n rhaid i ni gymryd camau i ddiogelu'r cyhoedd. Fe geir canlyniadau yn sgil hynny ac, wrth gwrs, fe fydd gennym ni waith enfawr wrth fynd i'r afael â'r ôl-groniad hwnnw. Dyna pam y byddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun ni ym mis Ebrill. Mae gennym ni broses integredig i'r cynllun tymor canolig. Mae gennym ni system nawr lle yr ydym ni'n aros am y byrddau iechyd i gyflwyno eu cynlluniau nhw. Fe fyddwn ni'n asesu'r cynlluniau hynny ac fe welwn ni a ydyn nhw'n briodol o ran ein cyfeiriad a'n huchelgais ni yn Llywodraeth Cymru. Mae gennym ni ddigon o bethau, rwy'n credu, yr hoffem ni eu dysgu o ardaloedd eraill. Rwy'n gwybod eich bod chi'n awyddus iawn i weld dulliau rhanbarthol. Fe hoffwn innau weld hynny hefyd. Ond rwyf i o'r farn fod angen i ni roi ystyriaeth i bethau fel hyn.
O ran brechu plant, nid yw'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cyhoeddi ei adroddiad eto, er bod llawer o arwyddion yn y papur The Guardian ac mewn mannau eraill sy'n awgrymu bod rhai wedi bod yn gollwng cyfrinachau. Mae hi'n drueni ac mae hi'n anodd deall pam nad yw hwnnw fyth wedi cael ei gyhoeddi. Ond rwyf i wedi gweld copi o'r cyngor hwnnw ac fe fyddwn ni'n dechrau cyflwyno brechiadau ar gyfer plant pump i 11 oed. Wrth gwrs, mae hwn yn debygol o fod yn benderfyniad anodd iawn i'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, oherwydd yn gyffredinol, nid yw plant yn dioddef salwch mor ddifrifol ac mae llai ohonyn nhw'n mynd i ysbytai, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i'r Cyd-bwyllgor gydbwyso hynny â'r posibilrwydd o golli ysgol. Felly, mae'n rhaid i ni ystyried materion amrywiol iawn o ran brechu plant mor ifanc â phum mlwydd oed, wrth gwrs, felly rydym ni am fod mewn sefyllfa lle byddwn ni'n disgwyl i'r plant hynny fod yng nghwmni oedolyn. Fe fydd angen caniatâd deallus, ond fe fydd cyfle i frodyr a chwiorydd, er enghraifft, gael eu hapwyntiadau ar yr un amser. Fe wneir y rhan fwyaf o'r gwaith hwn—mewn gwirionedd, fe wneir y cyfan mewn canolfannau iechyd yn hytrach nag mewn ysgolion, felly rwy'n gobeithio y bydd hynny'n ddefnyddiol i chi.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Dwi'n falch o glywed bod yr hyder yn cynyddu, bod achosion yn lleihau a'r niferoedd sydd angen gofal ysbyty yn lleihau. Dwi'n fodlon efo'r agwedd bwyllog a'r amserlen wrth symud ymlaen tuag at godi'r ychydig fesurau diogelwch sydd ar ôl mewn lle. Mewn difri, ychydig o gyfyngiadau uniongyrchol sydd yna, bellach, ar ein bywydau ni.
O ran pasys COVID, gyda llaw, roeddwn i'n trafod efo'r Aelod dros y de-ddwyrain wrth fy ymyl i yn fan hyn am un digwyddiad diwylliannol mawr sydd eisoes wedi penderfynu, 'Na, does dim rhaid defnyddio pasys COVID, ond dŷn ni am barhau i wneud, oherwydd ei fod o'n rhoi hyder i ni wrth drefnu digwyddiad.' Felly, dwi'n meddwl bod yna'n dal bobl sy'n dymuno gallu rhoi camau mewn lle er mwyn tawelu ofnau pobl, achos dwi'n cytuno efo asesiad y Gweinidog, er fy mod i'n gwthio arni i symud ymlaen mor bwrpasol â phosib tuag at gyhoeddi'r cynllun trosiannol ar gyfer symud i'r cyfnod endemig nesaf—. Dwi yn cytuno efo'r asesiad bod y pandemig ddim drosodd, ac yn rhyfeddu bod Llywodraeth Prydain yn barod i hawlio, bron, fod y cyfan drosodd a bod eisiau cael gwared ar bob mesur diogelwch. A tra dwi a'r Gweinidog, dwi'n siŵr, yn eiddgar i symud i'r cyfnod endemig o fyw efo COVID, nid anghofio am y pandemig ac anghofio am COVID mae hynny'n ei olygu.
O ran yr is-amrywiolyn BA.2, tybed a oes yna unrhyw wybodaeth ychwanegol ynglŷn ag unrhyw batrymau lleoliad a tharddiad yr is-amrywiolyn hwnnw y mae gwyddonwyr yn gallu canolbwyntio arnyn nhw er mwyn dysgu mwy amdano fo? Dyna fy nghwestiwn cyntaf i. Yn ail, brechu plant o bump i 11 oed: mi fyddwn i'n gwerthfawrogi rhagor o fanylion am y camau nesaf. Dwi yn ymwybodol, mae'n rhaid dweud, o alwadau gan rieni, gan staff mewn addysg, gan weithwyr iechyd a gofal i wthio'r cynnig yma o frechiad ymlaen â chymaint o frys a phosib, oherwydd pryder, o bosib, mai ymysg plant mae'r feirws yn lledaenu fwyaf, a'r effaith y mae hynny'n ei gael ar aelodau eu teuluoedd nhw sydd yn methu gweithio, a'r effaith, wrth gwrs, sy'n parhau o hyd ar addysg plant, lle mae yna golli ysgol am amser hir. Ac o bosib, a allech chi roi hynny yng nghyd-destun y penderfyniad i gael gwared ar yr angen i wisgo gorchudd wyneb mewn ysgol hefyd, oherwydd mae yna bryder, fel dwi'n ei ddweud, fod angen cymryd pob cam posib i geisio atal lledaeniad o fewn ysgolion?
Un mater olaf hefyd, fel trydydd pwynt. Dwi wedi cael cyswllt pellach efo'r RNIB, a hynny'n dilyn ateb ysgrifenedig y cefais i gan y Gweinidog ar ddiwrnod olaf mis Ionawr, a hwnnw'n ateb cwestiwn lle roeddwn i wedi gofyn ynglŷn â chymorth i bobl ddall neu sydd â golwg rhannol allu defnyddio profion. Mae yna'n dal bryderon yn y gymuned o bobl sydd yn cael trafferth defnyddio profion oherwydd problemau â'u llygaid. Gaf i ofyn i'r Gweinidog: ydy hi'n barod i drafod ymhellach efo'r RNIB beth all gael ei wneud i helpu'r rheini, yn enwedig y rhai sy'n methu, am ba bynnag reswm, â defnyddio platfformau digidol i chwilio am help? Achos mae'r gyfundrefn brofi yn dal yn rhan bwysig o'n hymateb ni i'r pandemig, ac mae'n bwysig ei bod hi'n gyfundrefn y mae pawb yn gyfforddus yn ei defnyddio.
Diolch yn fawr, Rhun, a dwi'n falch eich bod chi'n cytuno â'r agwedd bwyllog rŷn ni wedi bod yn ei chymryd. Ac fel rŷch chi'n dweud, ychydig iawn o gyfyngiadau sydd ar ôl nawr. A dwi yn cytuno y bydd rhai yn dal i ddymuno defnyddio pasys COVID mewn rhai achlysuron. Rŷn ni i gyd yn awyddus i'r pandemig yma fod drosodd, ond nid dyna'r ffordd mae COVID yn gweithio. Mae gan COVID ei feddwl ei hun ac mae'n bihafio yn ei ffordd ei hun, ac nid ni sy'n mynd i reoli beth yw'r bennod nesaf.
Jest o ran BA.2, mae yna lot fawr o dystiolaeth yn Denmark—dyna lle rŷn ni'n gweld lot fawr o BA.2. Felly, mae lot o waith ymchwil yn cael ei wneud ar hynny ar hyn o bryd, yn dysgu mwy am BA.2. Un peth rŷn ni yn gwybod yw ei fod e'n symud lot yn gyflymach hyd yn oed nag omicron, felly rŷn ni'n fwy tebygol o weld ymlediad cyflym. Y cwestiwn yw—. A dwi'n gwybod bod llawer yn meddwl mai hwnnw fydd yr amrywiolyn mwyaf penodol rŷn ni'n ei weld yn ein cymunedau ni.
O ran vaccinations i blant pump i 11, rŷn ni eisoes yn rhoi cynllun mewn lle i sicrhau bod hyn yn digwydd. Dŷn ni ddim yn mynd i'w wneud ar frys, yn yr un ffordd ag y gwnaethom ni, yn amlwg, dros y Nadolig. Mae hynny'n rhannol oherwydd dyw'r perygl ddim mor fawr iddyn nhw. Ac rŷn ni hefyd yn aros i glywed, wrth gwrs, o'r JCVI, os bydd angen booster ar y booster i'r henoed yn y gwanwyn. Ac felly byddwn i yn bendant eisiau ystyried pa un sydd yn gorfod cael blaenoriaeth. Felly, mae jest rhaid inni ystyried, ymysg yr holl bethau eraill mae'n rhaid inni eu gwneud, pan fo'n dod i'r vaccination, beth sydd angen i ni ei wneud. Felly, dwi'n siŵr byddaf i yn cael lot mwy o gyngor ar hynny.
O ran yr RNIB, mae'n ddrwg gyda fi i glywed bod rhai yn dal i gael trafferthion o ran defnyddio profion—mwy na hapus i gynnal trafodaeth ar hynny. Felly, gallwn ni ddilyn i fyny ar hynny wedyn.
Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad chi ynglŷn â COVID-19 y prynhawn yma, ac rwyf fi, fel fy nghyd-Aelodau i yn y fan hon, yn croesawu'r llacio ar y cyfyngiadau ledled Cymru. Gweinidog, fel gwyddoch chi, fe roddodd COVID-19 bwysau enfawr ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys ni, ac ar nos Sul roedd tua 17 o ambiwlansys yn sefyll y tu allan i Ysbyty Treforys, yn aros i gleifion gael eu derbyn a'u gweld. Mewn adran damweiniau ac achosion brys dros y penwythnos, fe glywais i gan barafeddyg rheng flaen bod trigolion Brycheiniog a Maesyfed yn aros wyth awr fel rheol am ymateb ambiwlans categori 1. A thros y penwythnos, bu'n rhaid i wraig â phoenau yn ei brest aros dros bum awr am ambiwlans, ac nid oedd unrhyw ambiwlans o gwbl ar gael yn fy etholaeth i. Gweinidog, rwyf i wedi codi hyn droeon, rydym ni wedi trafod hyn lawer gwaith yn y fan hon, ond fe hoffwn i wybod pa fesurau newydd y gwnaethoch chi, a gwasanaeth ambiwlans Cymru, eu rhoi ar waith i geisio rheoli amseroedd aros am ambiwlansys. Oherwydd nid yw pobl yn aros wyth awr a mwy yn sefyllfa foddhaol ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi yn hynny o beth. Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr iawn, James, ac rwyf innau'n bryderus iawn am y sefyllfa ynglŷn ag ambiwlansys, a dyna pam yr wyf i wedi cyfarfod â phrif weithredwr y gwasanaeth ambiwlans y bore yma, dim ond ar gyfer ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud i wella'r sefyllfa. Rydym ni wedi recriwtio 127 o bobl ychwanegol eisoes ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans—fe ddigwyddodd hynny dros y misoedd diwethaf. Y peth arall i'w gofio, wrth gwrs, yw bod y lluoedd arfog yn ein cefnogi ni ar hyn o bryd, felly mae hwnnw'n rhywbeth arall a welsom ni sydd wedi bod o gymorth hefyd. Rydym ni wedi gweld nifer ychwanegol o bobl yn ein helpu ni gyda galwadau 111 a galwadau 999, ac rwy'n falch o ddweud bod hynny wedi helpu i atal tua 11 i 15 y cant rhag cael eu cludo, felly mae 11 i 15 y cant yn llai o bobl yn cael eu cludo i ysbytai, yn sgil y gwasanaeth hwnnw.
Rydym ni wedi gweld sefyllfa arbennig o ddifrifol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym mis Ionawr, lle gwelwyd cyfnod trosglwyddo anodd iawn—llawer o ambiwlansys, fel yr ydych chi'n ei awgrymu, yn aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. Cynhaliwyd uwchgynhadledd y bore yma i asesu'r sefyllfa o ran risg, a chafwyd uwchgynhadledd risg i asesu beth yw'r gwir niwed a achosir yma, oherwydd, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd ar haenau o bob math. Felly, nid ydym ni'n gallu cael pobl o'r ysbyty oherwydd bod y gwasanaeth gofal mor fregus, ac fe fyddwch chi'n clywed mwy am yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yn y maes hwnnw gan fy nghyd-Aelod yn y man. Mae hi'n amlwg ein bod ni wedi rhoi cyllid ychwanegol sy'n sylweddol i'r GIG. Rydym ni'n edrych hefyd ar adolygiad o'r rhestr ddyletswyddau yn dilyn yr adolygiad o'r galw a'r capasiti a gynhaliwyd yn gynharach y llynedd. Felly, mae'r sefyllfa yn un anodd, ac, wrth gwrs, fe geir cyfraddau gweddol fawr o salwch hefyd y mae angen i chi eu hystyried nhw.
Felly, mae'r pethau hyn i gyd yn creu'r storm berffaith hon, ond rydych chi, fel finnau, yn awyddus i gael gwybod am yr atebion yn hytrach na'r problemau. Dyna pam yr ydym ni'n dal ati i wyntyllu a cheisio meddwl am syniadau newydd, ac mae hi'n amlwg eu bod nhw wedi lliniaru'r sefyllfa, ond mae'r gofynion yn parhau i fod yn aruthrol o fawr, felly mae gennym ni gynllun chwe phwynt gofal argyfwng a brys yr ydym ni'n ei ddilyn hefyd. Rhywbeth i'r tymor hwy yw hwnnw, ond, yn amlwg, mae'r sefyllfa yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael â hi ar hyn o bryd yn un ddyrys.
Rwy'n croesawu safbwynt Llywodraeth Cymru o ran mabwysiadu dull synhwyrol o lacio cyfyngiadau COVID ar sail y dystiolaeth, oherwydd, fel dywedodd y Gweinidog eisoes, nid yw COVID wedi diflannu ac mae hi'n dal i fod yn anodd iawn rhagweld ei gwrs. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i fod yng Nghymru, fel llawer un arall, drwy gydol y pandemig, lle mae'r rheolau hunanynysu yn parhau. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod hi'n llawer mwy synhwyrol i ni lacio'r rheolau o dipyn i beth yn hytrach nag ymagweddu fel Llywodraeth Boris Johnson yn San Steffan, sydd, i bob golwg, yn cael ei harwain nid gan y wyddoniaeth ond gan y polau piniwn? Ac a gaf i ofyn hefyd a oes gan Lywodraeth Cymru amserlen ar gyfer brechu plant pump i 11 oed? Fe wn i fod hwnnw'n rhywbeth y mae fy etholwyr i ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn awyddus iawn i gael mwy o wybodaeth amdano. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Sarah. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni, drwy gydol y pandemig hwn, wedi ceisio dilyn y dull hwnnw sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a dyna pam y cawsom ni ein syfrdanu ryw gymaint gan gyhoeddiad Llywodraeth y DU nad oedden nhw wedi, yn amlwg, ei drafod gyda neb, bron â bod, o ran terfynu hunanynysu. Felly, mae hi'n drueni ein bod ni'n cyrraedd sefyllfa fel hon, ac mae hi'n weddol amlwg mai dyfais yw hon i dynnu sylw oddi wrth y sefyllfa wleidyddol anodd iawn y mae Johnson yn ei chael ei hun ynddi hi ar hyn o bryd.
O ran yr amserlen ar gyfer plant pump i 11 oed, rydym ni'n amlwg yn aros am y cyngor ffurfiol hwnnw gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Nid wyf i'n hollol siŵr beth yw achos yr oedi. Fe wyddom ni ei fod ar gael, ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n gallu bwrw ymlaen â'n cynlluniau ni. Yn amlwg, roeddem ni'n credu y gallai'r cyngor fod ar ei ffordd, felly fe wnaethpwyd llawer iawn o waith paratoi eisoes, ond ni allwn ni fwrw'r maen i'r wal yn derfynol yn hyn o beth nes bod y cyhoeddiad terfynol hwnnw gennym ni oddi wrth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yr ydym ni'n gobeithio ei weld yn fuan iawn.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Felly, fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 4, sef datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: y Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol. Ac rwy'n galw ar Julie Morgan.
Diolch. Rwy'n falch iawn o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am y cynnydd aruthrol a wnaethom ni o ran talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, un o'n blaenoriaethau allweddol ni yn y rhaglen lywodraethu. Ym mis Mehefin, fe wnes i ddatganiad ar y dull y byddwn ni'n ei ddefnyddio i weithredu'r ymrwymiad hwn ac fe eglurais i y byddwn ni'n gofyn i'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol am ei gyngor ynglŷn â'r ffordd orau o'i ddatblygu.
Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol a minnau gwrdd â'r fforwm ym mis Gorffennaf i ofyn yn bersonol am ei gefnogaeth yn ogystal â thrafod yr heriau posibl. Fe wnaethom ni ofyn i'r fforwm ystyried a rhoi cyngor ynglŷn â rhai materion cymhleth, gan gynnwys: pwy ddylai gael eu cynnwys yn y codiad; gwahaniaethau cyflog, cysgu i mewn, ac amser teithio; sut y gallem ni wneud yn fawr o effaith cyllid a pha heriau y gallem ni eu rhagweld wrth roi hyn ar waith i sicrhau bod y broses o'i gyflwyno yn un lwyddiannus. Fe weithiodd y fforwm yn gyflym iawn i baratoi ei gyngor erbyn diwedd mis Hydref, ac rwy'n hynod ddiolchgar am waith y fforwm am ei gyflawni yn ôl amserlenni mor heriol, ac mae ei gyngor ef wedi ein helpu ni'n fawr wrth lywio ein penderfyniadau ni.
Ym mis Rhagfyr, fe wnes i gyhoeddi y byddem ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol o £9.90 yr awr i weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig mewn cartrefi gofal a gofal cartref, yn y gwasanaethau i oedolion a'r gwasanaethau i blant, a chynorthwywyr personol a ariennir drwy daliadau uniongyrchol.
Mae canolbwyntio ar y gweithwyr hyn yn cydnabod ein huchelgais ehangach ni i wella ansawdd gwasanaethau ac ymdrechu i sicrhau parch cydradd â gwasanaethau iechyd cyhoeddus allweddol eraill drwy eu proffesiynoli. Mae cynnwys cynorthwywyr personol sy'n cael eu talu drwy daliadau uniongyrchol yn adlewyrchu bod y swyddi hyn yn aml yn debyg iawn i swydd gweithiwr gofal cartref, ac rydym ni'n awyddus i barhau i ddiogelu llais a rheolaeth defnyddwyr y gwasanaethau o ran sut y caiff y cymorth sy'n angenrheidiol ei ddarparu ar eu cyfer nhw, sef yr egwyddor allweddol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fe wyddom ni y bydd galwadau i fynd ymhellach, ond mae hi'n hanfodol ein bod ni'n cyflawni'r ymrwymiad hwn mewn ffordd ystyriol sy'n ein galluogi ni i sicrhau bod hynny'n gynaliadwy ac yn fforddiadwy. Yn ogystal â hynny, er mai ein hymrwymiad gwreiddiol ni oedd cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol yn ystod tymor y Senedd hon, mae ein dull gweithredu ni'n caniatáu i ni ei gyflwyno nawr o fis Ebrill ymlaen, gan helpu'r sector i wynebu ei heriau cyfredol o ran recriwtio a chadw yn gynt na'r disgwyl.
Rydym ni wedi cyhoeddi y bydd £43 miliwn ar gael i awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gynnig y cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill ymlaen. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfraniad tuag at y gost o gynnal gwahaniaethau ar ben isaf y graddfeydd cyflog. Fe fydd hyn yn helpu i roi rhywfaint o hyblygrwydd yn y cyllid. Mae hyn yn bwysig ar gyfer helpu i osgoi ansefydlogrwydd yn y bandiau cyflog is hyn. Mae swyddogion yn gweithio yn agos gyda chyfarwyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol a rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector gofal cymdeithasol i ddatblygu canllawiau gweithredu i gefnogi'r broses o'i gyflwyno'n llwyddiannus o fis Ebrill ymlaen.
Fe fyddwn ni hefyd yn comisiynu gwerthusiad annibynnol a deinamig o'r gweithredu i fonitro effaith, gan gynnwys sicrhau bod y cyllid yn nwylo'r gweithwyr y bwriedir iddyn nhw elwa arno mewn da bryd, a bod y canllawiau ar gyfer gweithredu yn effeithiol o ran cefnogi comisiynwyr a chyflogwyr. Fe fydd hyn yn ein helpu ni hefyd i ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud yn y dyfodol, a llywio amcangyfrifon o ran ariannu i'r blynyddoedd i ddod.
Rydym ni'n deall yr heriau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu wrth i staff edrych ar sectorau eraill sydd â thelerau ac amodau sy'n ymddangos yn fwy deniadol. Felly fe fyddwn ni hefyd yn gwneud taliad ychwanegol o £1,498 i'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny y byddwn ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol iddyn nhw. Fe fydd staff gofal uwch a rheolwyr mewn cartrefi gofal a gofal cartref yn cael y taliad hwn hefyd am ei fod yn amlygu ein hymrwymiad ni i godi statws, a gwella telerau ac amodau ein gweithlu gofal cymdeithasol proffesiynol ni. Fe fydd y taliad hwn yn golygu y bydd gweithwyr gofal cymdeithasol ar y gyfradd dreth sylfaenol yn cael un taliad ychwanegol o £1,000 yn eu pecyn cyflog nhw. Fe fydd manylion y cynllun hwn yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Rydym ni'n awyddus i weld mwy o bobl yn ymuno â'r sector gofal cymdeithasol ac yn dilyn gyrfa hir sy'n rhoi boddhad. Rydym ni'n disgwyl y bydd y taliad ychwanegol a'r cyflog byw gwirioneddol yn cael eu prosesu yng nghyflog pobl o fis Ebrill i fis Mehefin, oherwydd cymhlethdod y sector gofal a'r nifer fawr o gyflogwyr dan sylw. Er nad ydym ni'n disgwyl i'r codiad cyflog byw gwirioneddol, na'r taliad ychwanegol, ddatrys problemau'r sector i gyd o ran recriwtio a chadw staff, rydym ni o'r farn eu bod nhw'n gam cyntaf gwerthfawr a hanfodol, yn enwedig o ran helpu i gadw gweithwyr drwy'r cyfnod anodd iawn hwn.
Fe fyddwn ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol ynglŷn â'r camau priodol i'w cymryd i wella telerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol yn fwy eang, fel sut y dylid cymhwyso'r diffiniad o 'waith teg' ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a nodi beth y dylai ffurf arferion gwaith da fod mewn gofal cymdeithasol. Rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i greu gweithlu mwy cadarn sy'n ennill cyflogau gwell ym maes gofal cymdeithasol, a chefnogi'r sector drwy'r cyfnod heriol hwn i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o safon y gall pobl ddibynnu arnyn nhw.
Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelod dynodedig Plaid Cymru ynglŷn â'n hymrwymiad ni i gytundeb cydweithredu o ran dyfodol gofal cymdeithasol. Mae hynny'n cynnwys sefydlu grŵp arbenigol i gefnogi ein huchelgais cyffredin ni i lunio gwasanaeth gofal cenedlaethol, sy'n rhad ac am ddim lle bod angen. Fe fyddwn ni hefyd yn parhau i integreiddio iechyd a gofal yn well, ac yn gweithio tuag at gydnabyddiaeth a gwobr hafal i weithwyr iechyd a gofal. Diolch.
Diolch i chi. Fe hoffwn i alw nawr ar Gareth Davies i siarad.
Diolch yn fawr iawn, Comisiynydd, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Ac mae hi'n siomedig iawn eich bod chi'n parhau i anwybyddu cyngor pawb sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol. Ni fydd y cyflog truenus sy'n cael ei gynnig yn denu pobl i'r sector gofal, ac ni fydd y bonws o £1,000 a ddadorchuddiwyd gennych chi, gyda chryn sbloet, yn gwneud hynny ychwaith. Gyda biliau'r aelwyd fel maen nhw ar hyn o bryd, ni all gweithwyr gofal fforddio byw ar y cyflog pitw a gynigir. Ni ddylech chi gymryd mantais ar garedigrwydd nac ymroddiad gweithwyr gofal. Mae'r bobl anhygoel hyn yn estyn gofal hanfodol i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni, ac fe ddylid eu gwobrwyo nhw am hynny. Fel y mae hi, nid yw gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn ddewis deniadol, ac oni bai eich bod chi'n gwasgu'r danadl ac yn derbyn nad ydyw £9.90 yr awr yn ddigonol, ac oni bai ein bod ni'n talu cyflog teilwng i weithwyr gofal, fe fydd yr argyfwng yn y sector yn mynd yn drychineb. Nid yn unig y bydd gennym ni broblem recriwtio, ond fe fydd cadw staff yn broblem hefyd.
Mae angen i ofal cymdeithasol fod yn yrfa sy'n rhoi boddhad, ac ni all y gwobrau fod yn rhai ysbrydol yn unig, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn faterol hefyd. Ac nid yw taliadau untro, er eu bod nhw i'w croesawu, yn ddigonol. Nid yw talu llai na'r sector manwerthu yn ddigonol. Felly, pam ydych chi'n parhau â'r polisi cyflog byw gwirioneddol, pan fo'r sector a'r undebau yn dweud nad ydyw hwnnw'n ddigonol? A ydych chi wir yn credu y bydd talu'r cyflog byw gwirioneddol yn gwneud unrhyw beth i fynd i'r afael â'r problemau o ran recriwtio a chadw staff y mae'r sector yn eu hwynebu? Dirprwy Weinidog, un o'r dewisiadau y gwnaethoch chi eu cyflwyno oedd alinio gofal cymdeithasol â graddfeydd cyflog y GIG, a fyddai'n costio tua £54 miliwn yn ôl eich amcangyfrifon chi. Pam nad aethoch chi ar hyd y trywydd hwnnw? Ai dim ond ar sail y gost yr oedd hynny? Ac a fyddech chi'n ymuno â mi i groesawu cyhoeddiad Cyngor Sir Fynwy, sy'n cael ei redeg gan y Ceidwadwyr Cymreig, y byddan nhw'n talu £10.85 yr awr i'w staff gofal nhw? A ydych chi'n disgwyl y bydd awdurdodau lleol eraill yn dilyn esiampl ragorol sir Fynwy?
Ac roeddech chi'n dweud yn eich datganiad chi fod eich dull mesuredig chi'n un cynaliadwy. Sut all hwnnw fod yn gynaliadwy os nad yw'n gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio ar hyn o bryd? Pam wnaethoch chi ddewis bonws untro eleni, yn hytrach na defnyddio'r £96 miliwn ychwanegol i dalu cyflog gwell i'r staff cyfan? Ni all staff ddibynnu ar fonysau, ac ni ellir eu cyfrif nhw tuag at bethau fel morgeisi. Pa asesiad a wnaethpwyd o effaith y polisi hwn wrth helpu i gadw staff? Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, rwy'n croesawu eich nod chi o weld mwy o bobl yn ymuno â'r sector gofal ac yn dechrau gyrfa hir a gwerth chweil, fel dylai hi fod. I wneud gofal cymdeithasol yn yrfa werth chweil, mae'n rhaid i ni sicrhau mwy na phecyn cyflog gwerth chweil, mae'n rhaid i ni sicrhau telerau ac amodau gwerth chweil hefyd. Pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd yn hynny o beth, neu a oes yn rhaid i'r sector aros wrth i chi â Phlaid Cymru drin a thrafod eich cynlluniau chi ar gyfer gwasanaeth gofal cenedlaethol? Diolch i chi.
Wel, rwy'n diolch i Gareth Davies am y sylwadau yna, ac rwy'n rhyfeddu i ryw raddau at ei agwedd ef tuag at y cyhoeddiad hwn. Mae hwn yn sicr yn gam cyntaf tuag at wella bywydau gweithwyr gofal cymdeithasol, ac fe'i croesawyd yn eang, yn ogystal â'r taliad o £1,000. Felly, rwy'n synnu'n fawr at ei agwedd ef at y datganiad hwn heddiw. Pam ydym ni wedi talu £9.90? Dyna oedd yr ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu ni; roedd hwnnw'n ymrwymiad maniffesto hefyd. Dyma'r swm sy'n cael ei gynghori gan Sefydliad Resolution. Fe gaiff ei fonitro gan y Comisiwn Gwaith Teg, ac yn flynyddol, maen nhw'n argymell codiad. Ac felly rydym ni'n dilyn cyfarwyddiadau'r comisiwn hwnnw. Ac fel rwyf i'n dweud, dyma'r hyn yr oeddem ni wedi ymrwymo iddo.
Roeddem ni'n falch iawn o gael y cyfle i dalu'r £1,000, ar ben hynny, sy'n gysylltiedig â thalu'r cyflog byw gwirioneddol, oherwydd rydym ni'n ceisio proffesiynoli'r sector. Fe wnaethom ni sefydlu'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Fe'n cynghorwyd ni ynglŷn â'r dull o gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol, ac maen nhw'n edrych ar y telerau ac amodau yr ydym ni'n cytuno eu bod nhw mor bwysig. Ac rwy'n credu i mi ddweud yn fy natganiad na fydd hyn yn ddigon ar ei ben ei hun. Cam cyntaf yw hwn, a'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yw gweithio yn agos iawn gyda'r fforwm gwaith teg, sydd wedi bod o gymorth aruthrol wrth roi cyngor i ni, ac edrych wedyn ar y telerau ac amodau a gweld sut y gallwn ni feithrin y gweithlu gofal cymdeithasol er mwyn cydnabod mai proffesiwn ydyw, ac fe fyddan nhw'n gallu cyflawni eu dyletswyddau nhw yn y wybodaeth eu bod nhw'n cael eu talu, a bod hwnnw'n dâl rhesymol gyda thelerau ac amodau rhesymol. Felly, rwy'n falch iawn o glywed bod rhai awdurdodau lleol yn talu mwy na'r cyflog byw gwirioneddol. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o bobl yn talu dros ben hynny, a mater i'r cyflogwyr yn unig yw penderfynu a ydyn nhw'n dymuno talu mwy. Ond rwyf i o'r farn fod angen i ni gydnabod bod hwn yn gam tuag at hyrwyddo'r sector gofal cymdeithasol ac fe roddwyd croeso cyffredinol iddo.
Rwy'n galw yn awr ar Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Cadeirydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw yn fras, gyda'r cynnydd tuag at gyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol. Mae Plaid Cymru wedi galw ers tro am gynnydd sylweddol mewn cyflogau yn y sector hwn. Gall swyddi gofal cymdeithasol roi boddhad, ond maen nhw'n swyddi heriol a chyfrifol iawn. Dylid gwobrwyo'r swyddi hyn yn unol â hynny. Mae Plaid Cymru am gael cydraddoldeb cyflog a pharch cyfartal rhwng staff iechyd a gofal cymdeithasol. Byddai cyflawni hyn yn mynd gryn ffordd tuag at atal y llif o weithwyr gofal yn gadael y sector. Er bod y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am daliad bonws o £1,000 i weithwyr gofal i'w groesawu, rwy'n poeni mai dim ond papuro dros y craciau, sy'n rhai dwfn ac wedi hen sefydlu mewn gofal cymdeithasol, y bydd hyn. Rwy'n ofni na fydd hyn yn gwneud fawr ddim i ddenu neb i'r sector, ac rwy'n amau y bydd yn dwyn perswâd ar unrhyw un sy'n ystyried gadael i aros.
Fel y dywedais i yn gynharach, mae'r datganiad hwn heddiw yn gam ymlaen tuag at gyflawni cyflog byw gwirioneddol. Byddwn i'n llawer hapusach pe bai'r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â darparu cyflog byw i bob gweithiwr gofal ar unwaith. Ni fydd y cyhoeddiad heddiw o fawr o gysur i weithwyr gofal sydd hyd yn hyn heb gael y cyflog byw, ac efallai y byddant yn aros am ddwy flynedd arall cyn ei gael, yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth. Mae'r argyfwng costau byw eisoes yma, ac mae'n mynd i waethygu'n fawr. Mae gweithwyr gofal yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau fel y mae pethau; mae arnyn nhw angen y codiad cyflog hwnnw gorau po gyntaf. A wnaiff y Dirprwy Weinidog felly egluro cyflymder cyflwyno'r cyflog byw i weithwyr gofal? Pryd mae'n disgwyl i 50 y cant o weithwyr gofal fod yn ennill y cyflog byw? Neu pryd y mae'n disgwyl iddo fod yn 75 y cant neu 90 y cant o'r staff? Am resymau a grybwyllwyd eisoes, a oes unrhyw bosibilrwydd o gyflwyno'ch ymrwymiad yn gynt fel bod pob gweithiwr gofal yn cael yr isafswm cyflog cyn eich dyddiad yn 2024 ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad hwn?
Er bod y datganiad hwn yn ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol, rwyf eisiau sôn am y rhan allweddol y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae mewn cymdeithas. Ni allwn anghofio eu cyfraniad aruthrol. Rwy'n ategu galwadau'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu hamddiffyn rhag caledi ariannol gan Lywodraeth Cymru. Gallwch wneud hyn drwy gynyddu'r gwaith o lobïo Llywodraeth y DU i ddiwygio lwfans gofalwr i'w godi i'r un lefel o leiaf â lwfans ceisio gwaith. Dyma un o'r adegau hefyd pan all unrhyw un sy'n gwerthfawrogi tegwch a pholisïau blaengar fwrw llygad eiddigeddus dros drafodion yn yr Alban. Yno, mae ganddyn nhw atodiad lwfans gofalwr, sy'n cael ei dalu ddwywaith y flwyddyn gan Social Security Scotland. Mae hyn yn tanlinellu'r angen am system fudd-daliadau ar wahân i Gymru fel y gallwn lunio system budd-daliadau mwy tosturiol yma yng Nghymru sy'n debyg i'r un yn yr Alban. Dirprwy Weinidog, ble ydych chi'n sefyll ar y mater hwn? A fyddwch chi'n lobïo am y pwerau i allu gwneud hyn? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr am y sylwadau cadarnhaol iawn yna ac am groesawu hyn fel cam tuag at—cam i'r cyfeiriad cywir, ddywedwn ni? Rwy'n llwyr gefnogi'r sylwadau y mae'r Aelod wedi'u gwneud. Rydym eisiau cyrraedd cydraddoldeb cyflog a pharch. Gwyddom fod gweithwyr gofal yn gwneud gwaith hynod gyfrifol a gwelwn hwn, unwaith eto, fel y dywedaf, fel y cam cyntaf ar y daith honno.
O ran cyflymder cyflwyno'r cynllun, dywedais yn fy natganiad pwy fyddai'n ei gael mewn gwirionedd, sef yr holl weithwyr gofal sy'n darparu gofal yn uniongyrchol ac sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, y rhai sy'n darparu gofal yng nghartrefi pobl, y gweithlu gofal cartref, a chynorthwywyr personol sy'n cael taliadau uniongyrchol. Felly, bydd yr holl grwpiau hynny'n dechrau cael y cyflog byw o fis Ebrill ymlaen. Gwelwn y flwyddyn gyntaf fel blwyddyn bontio, ond bwriadwn i'r holl bobl hynny gael yr arian yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf hon. Oherwydd cymhlethdod y sector, oherwydd y nifer fawr o gyflogwyr—. Gan fod 80 y cant o hyn yn y sector preifat, bydd hyn yn golygu y gallai gymryd peth amser i weithio allan, ond gobeithiwn y dylen nhw ei gael rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, ac mae'r un peth yn wir am y taliad o £1,000.
Ei bwynt olaf am ofalwyr di-dâl, ni allwn i gytuno mwy. Rwy'n credu bod gofalwyr di-dâl wedi ysgwyddo llawer o'r baich yn ystod y pandemig hwn, ac rwy'n cytuno'n llwyr eu bod wedi dioddef caledi ariannol. Gwyddom hynny, ac rydym wedi gweld, o'r holl arolygon gofalwyr sydd wedi'u cynnal, y straen y maen nhw wedi'i ddioddef. Rwy'n gresynu at y ffaith nad ydym yn rheoli lwfans gofalwr yma yng Nghymru, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r galwadau gan y sector y dylid cynyddu lwfans gofalwr.
Dirprwy Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma, ac rwyf innau hefyd yn cydnabod rhai o'r pryderon a godwyd gan fy nghyd-Aelod Gareth Davies, ond rwy'n cael fy nghalonogi wrth weld bod Llywodraeth Cymru yn dod ymlaen i roi'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru a chydnabod y gwaith hanfodol pwysig y maen nhw'n ei wneud yn gofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Gadewch i ni obeithio bod mwy y gallwn ni ei wneud wrth symud ymlaen i wella cyflogau gweithwyr gofal ar draws y sector.
Gweinidog, tynnais sylw yn y datganiad busnes yr wythnos diwethaf at y sefyllfa ym Mhowys lle mae pecynnau gofal yn cael eu trosglwyddo'n ôl i'r awdurdod lleol oherwydd y prinder mawr o staff gofal. Gweinidog, gwn fod y bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn bwriadu sefydlu academi iechyd a gofal ym Mhowys, ond, Dirprwy Weinidog, pa ymyraethau eraill y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud i sicrhau bod gennym ddigon o staff gofal yn y sector hwn wrth symud ymlaen, ar ben y cyhoeddiad i'w groesawu a wnaethoch chi heddiw?
Diolch yn fawr iawn, James, am groesawu'r cyhoeddiad a'r sylwadau yr ydych wedi'u gwneud. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddenu mwy o bobl i'r system. Rwy'n ymwybodol bod pecynnau gofal yn cael eu rhoi yn ôl oherwydd prinder staff. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn i geisio denu mwy o weithwyr gofal. Rydym wedi cael ymgyrch hysbysebu enfawr, y bydd llawer o bobl wedi'i gweld. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gwario—. Rydym wedi rhoi arian i Gofal Cymdeithasol Cymru i hysbysebu'r swyddi gwag yn y sector hwn a hefyd i hyrwyddo pa mor werthfawr yw'r swydd honno. Rwy'n credu, fel y mae pob un ohonoch yn cydnabod, na allech wneud gwaith llawer mwy gwerthfawr na gofalu am bobl sy'n agored i niwed. Hefyd, rydym wedi bod yn cynnig hyfforddiant am ddim i bobl sydd eisiau dod i mewn i'r sector, ac rwy'n croesawu'r cynnig ar gyfer yr academi iechyd a gofal. Rwy'n credu mai'r mater allweddol yw bod yn rhaid i ni sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio'n agosach o lawer gyda'i gilydd, a bydd hynny'n datrys llawer o'r problemau hyn. Dyna pam y mae'r Gweinidog iechyd a minnau wedi bod yn gweithio mor agos gyda'n gilydd ac yn cyfarfod bob wythnos gyda chynrychiolwyr o'r byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol yn y pwyllgor gweithredu gofal. Ond rwy'n credu mai cydweithio fydd yn ein galluogi ni i symud ymlaen.
Rwy'n croesawu'r datganiad a'r cyhoeddiad yn fawr iawn. Rwy'n dechrau o'r gred y dylai pawb yng Nghymru gael eu talu o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni fod yn ei wthio ym mhob ffordd bosibl. Yr ail beth yr hoffwn i ei ddweud yw fy mod yn croesawu'r ymrwymiad gwreiddiol i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol yn nhymor y Senedd hon, ac rwy'n falch y caiff ei gyflwyno o fis Ebrill ymlaen, gan helpu i ariannu gwasanaethau gofal sy'n wynebu problemau recriwtio a chadw. Ond, mae angen parch a chyflog cyfartal arnom rhwng y sector iechyd a gofal. Pa mor aml y gwelwn ni bobl sy'n gweithio mewn gofal yn mynd i weithio ym maes iechyd oherwydd y gallan nhw gael mwy o dâl yn gwneud yr un swydd fwy neu lai?
Mae gen i ddau gwestiwn. A yw'r £43 miliwn, a fydd ar gael i awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gyflawni'r cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill ymlaen, yn ddigonol i ariannu'r cynnydd? Ac, a yw'r £1,498 ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, a fydd yn cael y cyflog byw gwirioneddol, yn cynnwys cogyddion a darparwyr gofal eraill nad ydyn nhw'n ddarparwyr uniongyrchol? Yn olaf, a gaf i atgoffa'r Aelodau sut y mae'r Scottish National Party yn yr Alban wedi cynyddu tlodi?
Diolch yn fawr iawn, Mike, a diolch yn fawr am eich croeso i'r cynigion hyn. Rwy'n cytuno yn llwyr fod angen talu'r cyflog byw gwirioneddol i bawb yng Nghymru, ond yr hyn yr ydym yn mynd i'r afael ag ef yma yw'r bobl sy'n darparu gofal cymdeithasol yn uniongyrchol. A'r rhai sy'n ei gyflawni'n anuniongyrchol, wrth gwrs, rwy'n credu y dylid talu'r cyflog byw gwirioneddol iddyn nhw hefyd, ond yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud yw rhoi hwb i'r proffesiwn gofal cymdeithasol i symud tuag at gydraddoldeb â'r hyn a geir yn y GIG.
Mae'r £43 miliwn, yn ein barn ni, yn ddigonol. Rydym wedi penderfynu ar y ffigur hwnnw drwy weithio'n agos iawn gyda'r ADSS—Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol—ac mae'r £43 miliwn hwn yn cynnwys £6.7 miliwn a fydd yn dod o'r byrddau iechyd, a fydd yn dod o'r gyllideb iechyd i dalu am y gofal y mae'r byrddau iechyd yn ei gomisiynu. Felly, rwy'n ffyddiog y bydd y £43 miliwn yn ddigon i ariannu'r cynnig hwn.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n croesawu hwn fel cam mawr i'r cyfeiriad cywir. Byddwch yn ymwybodol bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo yn ein maniffesto ar gyfer etholiadau'r Senedd i gyfradd cyflog o £10 yr awr, sydd dim ond 10c yn fwy nag eich un chi, ac roeddwn yn gobeithio y byddech wedi gallu ymestyn at hynny, ond yn amlwg rwy'n sylweddoli bod hyn yn rhywbeth yr ydym ni i gyd eisiau gweithio tuag ato o ran cydnabyddiaeth ehangach o'r gweithlu gofal cymdeithasol.
Cyfeirioch chi at y ffaith y bydd uwch staff gofal a rheolwyr mewn cartrefi gofal ac uwch reolwyr mewn gofal cartref hefyd yn derbyn y bonws, sy'n cael ei roi i'r gweithlu gofal cymdeithasol eleni, ond ni chlywais unrhyw gyfeiriad at staff cegin na glanhawyr yn y cartrefi gofal hyn, mae pob un ohonyn nhw'n gweithio'n galed iawn ac wedi gwneud drwy gydol y pandemig, ac rwy'n credu hefyd fod angen eu cydnabod o ran y cyfraniad y maen nhw wedi'i wneud. A allwch chi gadarnhau heddiw y byddwch yn ystyried a oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau er mwyn cydnabod y swyddogaethau hynod werthfawr a hanfodol hynny y mae staff cegin a staff glanhau mewn cartrefi gofal wedi bod yn eu gwneud yn ystod y pandemig, drwy roi'r un bonws iddyn nhw ar ôl treth â'r hyn y bydd y gweithwyr gofal rheng flaen hyn hefyd yn ei gael?
Diolch, Darren Millar, am groesawu'r taliad hwn fel cam i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n croesawu ei gefnogaeth. Bydd, bydd uwch staff gofal a rheolwyr yn cael y taliad ychwanegol, ac rwy'n credu fy mod eisiau ailadrodd, mewn gwirionedd, mai ein diben yw ceisio proffesiynoli'r gweithlu—y rhai sy'n rhoi gofal yn uniongyrchol, y rhoddwyr gofal uniongyrchol.
Gwnaethom ni roi dau daliad cydnabyddiaeth yn ystod y pandemig: un yn 2020 ac un yn 2021; un o £500 ac un o £725. Aeth yr un cyntaf at yr holl staff yn y maes gofal cymdeithasol. Er enghraifft, mewn cartrefi gofal, roedd pawb a oedd yn gweithio yn y cartrefi gofal wedi'u gael, ac aeth y £725 i'r holl staff iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, taliadau cydnabyddiaeth oedd y rheini, ond nid yw hyn yn daliad cydnabyddiaeth yn y modd hwnnw. Roedd y taliadau cydnabod yn cydnabod y risgiau a gymerodd y staff hynny a sut yr oedden nhw mor agos at holl beryglon y pandemig, mewn gwirionedd, a'r hyn a wnaethon nhw gyfrannu. Felly, taliadau cydnabyddiaeth oedd y rheini; nid yw hwn yn daliad cydnabyddiaeth.
Mae hwn yn daliad a fydd yn cael ei weithredu ynghyd â'r cyflog byw gwirioneddol ac mae'n ceisio symud y staff gofal cymdeithasol sy'n darparu'r gofal hwn yn uniongyrchol i gorff proffesiynol. Ar ei ben ei hun, nid yw'n ddigon; rwy'n credu ein bod wedi dweud hynny eisoes heddiw. Mae llawer iawn mwy y mae'n rhaid ei wneud o ran telerau ac amodau a datblygiad a chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant—yr holl bethau hynny—a dyna'r pethau yr ydym ni eisiau symud ymlaen atyn nhw nesaf, ond nid ydym yn peidio â chydnabod yr hyn y mae'r staff eraill hynny wedi'i wneud mewn unrhyw ffordd.FootnoteLink
Diolch, a diolch, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddwn yn awr yn atal y trafodion i ganiatáu newid yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon, a bydd y gloch yn cael ei chanu dwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:55.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:02, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Eitem 5 fydd yr eitem nesaf y prynhawn yma, a hwnnw yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma—Julie James.
Cynnig NDM7917 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Ionawr 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae'r rheoliadau hyn yn rhan o gyfres ehangach o offerynnau statudol yr wyf i'n eu gosod i gefnogi gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o fy natganiad ysgrifenedig fis diwethaf mai bwriad Llywodraeth Cymru yw y bydd holl ddarpariaethau'r Ddeddf yn dechrau ym mis Gorffennaf eleni. Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, bydd yn ofynnol i nifer o offerynnau statudol gefnogi gweithrediad y Ddeddf o ddydd i ddydd. Er enghraifft, yr wyf eisoes wedi gosod offerynnau statudol sy'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i landlordiaid ei darparu i bob deiliad contract yn y dyfodol, a rheoliadau a fydd yn sicrhau bod y llety y mae landlordiaid yn ei osod yn ffit i fod yn gartref.
Mae rheoliadau diwygio Atodlen 9A sydd ger ein bron heddiw yn helpu i sicrhau bod landlordiaid yn cyflawni eu cyfrifoldebau o ran safon a diogelwch eu heiddo, ac yn gysylltiedig â'r gofynion ffitrwydd i fod yn gartref. Mae Atodlen 9A i'r Ddeddf eisoes yn cyfyngu ar landlordiaid o dan rai amgylchiadau rhag arfer cymal terfynu landlord mewn contract safonol cyfnod penodol, neu roi hysbysiad landlord o dan adran 173 neu adran 186 o'r Ddeddf i derfynu contract pan nad yw deiliad y contract ar fai. Un enghraifft o un o'r amgylchiadau hyn yw pan fo'r landlord wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad statudol i ddarparu datganiad ysgrifenedig o'i gontract meddiannaeth i ddeiliad y contract.
Bydd rheoliadau diwygio Atodlen 9A yn ychwanegu pedwar cyfyngiad pellach ar allu landlord i roi hysbysiad landlord neu sbarduno cymal terfynu. Y rhain yw: os nad oes tystysgrif perfformiad ynni wedi'i darparu mewn cysylltiad â'r eiddo sy'n cael ei osod; os nad yw larymau mwg neu larymau carbon monocsid gwifredig wedi'u gosod; neu os nad yw adroddiad cyflwr trydanol dilys neu dystysgrif diogelwch nwy wedi'i ddarparu mewn cysylltiad â'r eiddo. Os nad yw landlord wedi bodloni'r gofynion hyn, ni fydd yn gallu cyflwyno hysbysiad "dim bai" na sbarduno cymal terfynu. Ein nod wrth wneud y rheoliadau hyn yw annog landlordiaid i gyflawni'r rhwymedigaethau pwysig sy'n ymwneud â diogelwch effeithlonrwydd ynni'r eiddo a osodir ganddyn nhw, ac rydym yn ceisio cyflawni hyn drwy gyfyngu ar unrhyw landlord nad yw wedi cydymffurfio â'r rhwymedigaethau hyn rhag gallu cyhoeddi hysbysiad "dim bai" i ddod â chontract i ben neu i sbarduno cymal terfynu mewn contract cyfnod penodol. Bydd y cyfyngiad hwn yn gymwys hyd nes y byddant wedi unioni pethau.
I grynhoi, dylid gweld y rheoliadau hyn yng nghyd-destun ein nod cyffredinol o wella diogelwch deiliadaeth ar gyfer deiliaid contract nad ydyn nhw wedi torri telerau eu contract, a'n hymgyrch ehangach i gefnogi proffesiynoldeb cynyddol y sector rhentu preifat a darparu cartref diogel i bawb yng Nghymru. Rwyf wedi nodi'r pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn cysylltiad â'r rheoliadau hyn ac wedi ymateb i'r pwyllgor ar yr holl bwyntiau a godwyd. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Gydag eich gwahoddiad, dyma fydd y cyntaf o bum araith y byddaf yn eu gwneud am waith craffu fy mhwyllgor dros yr wythnosau diwethaf. Rydw i felly yn bwriadu cadw ffocws i’m cyfraniadau.
Fe geisiaf gadw hyn mor fyr â phosibl. Gwnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 31 Ionawr, ac mae ein hadroddiad i'r Senedd yn cynnwys dau bwynt adrodd rhagoriaeth. Mae'r rheoliadau hyn, fel y dywedodd y Gweinidog, yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i osod dau gyfyngiad pellach ar allu landlord i roi hysbysiad sy'n ceisio meddiant—yn gyntaf, os nad oes tystysgrif perfformiad ynni wedi'i darparu, ac, yn ail, os nad yw gofynion iechyd a diogelwch penodol wedi'u bodloni.
Nodwyd yn ein hadroddiad fod rheoliadau 3 a 4 yn atal landlord rhag rhoi hysbysiad os bydd rhwymedigaethau statudol penodol yn cael eu torri. Bydd unrhyw ddarpariaeth sy'n ymyrryd ag eiddo unigolyn, neu ddefnydd o'r eiddo hwnnw, o bosibl yn tanio erthygl 1, protocol 1 y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Nid yw'r memorandwm esboniadol yn cynnwys cyfiawnhad dros yr ymyrraeth â hawliau dynol. Felly, fel y cyfryw, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru ddarparu manylion yr asesiad hawliau dynol a wnaeth mewn cysylltiad â'r rheoliadau penodol hyn. Yn ei hymateb i'n hadroddiad, eglurodd y Llywodraeth, ar yr amod bod landlord yn cydymffurfio â'r ddwy rwymedigaeth statudol, fod unrhyw effaith niweidiol yn cael ei lliniaru. O'r herwydd, roedd y Llywodraeth yn fodlon bod y rheoliadau'n wir yn gydnaws â'r confensiwn ar hawliau dynol.
Tynnodd ein hail bwynt adrodd sylw at y defnydd o bwerau Harri VIII. Nid y Gweinidog hwn yn unig sy'n gyfarwydd â ni'n tynnu sylw at y rhain. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol, yn yr achos hwn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil ar y pryd, gofynnodd ein pwyllgor blaenorol am eglurhad mewn cysylltiad â'r cyfiawnhad dros ddefnyddio'r pwerau Harri VIII hyn. Nododd ymateb y Gweinidog ar y pryd fod angen i'r Llywodraeth gael yr hyblygrwydd i ymateb i'r ffordd y mae'r dirwedd dai yn esblygu dros amser ac i wneud darpariaeth briodol yn ôl yr angen. Yn ei hymateb i'n pwynt adrodd, nododd y Llywodraeth yr ymateb i gais ein pwyllgor blaenorol am eglurhad ar y defnydd o bwerau o'r fath, ond nododd nad oedd ganddi ddim byd pellach i'w ychwanegu. Felly, rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni alw hon yn gêm gyfartal ei sgôr am y tro.
Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch i'r Gweinidog hefyd.
Hoffwn gyfeirio Aelodau at fy ffurflen datgan buddiant fy hun ynghylch perchnogaeth eiddo.
Gweinidog, diolch i chi am osod y rheoliadau hyn, a gallaf gadarnhau y byddwn ni'n pleidleisio o blaid. Dylid o leiaf ddarparu tystysgrifau perfformiad ynni a dylid bodloni gofynion Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd i fod yn Gartref) (Cymru) 2022 yn sicr. Yn wir, nid yw ond yn gwrteisi cyffredin i ddisgwyl i landlordiaid osod larymau carbon monocsid hefyd. Bob blwyddyn, mae tua 30 o farwolaethau damweiniol o hyd oherwydd gwenwyno carbon monocsid acíwt yng Nghymru a Lloegr, a thros 200 o achosion o wenwyno nad ydyn nhw'n angheuol ond bod angen triniaeth mewn ysbyty.
Ni allaf weld unrhyw wrthwynebiad ychwaith i gael adroddiad cyflwr trydanol. Gallai hyn fod yn gam cadarnhaol o ran sicrhau bod ein cenedl yn gweld llai o danau trydan yn cael eu hachosi gan wifrau, ceblau a phlygiau. Ledled Cymru, roedd 772 o ddigwyddiadau rhwng 2014 a 2019. Un o amcanion y rheoliadau yw atal landlordiaid rhag ceisio cymryd camau troi allan dialgar fel y'i gelwir mewn sefyllfaoedd lle mae deiliad contract wedi tynnu eu sylw at fater o ddiogelwch neu gyflwr gwael—yn gwbl briodol. Rhaid mynd i'r afael â materion diogelwch, cyflwr gwael ac unrhyw dai annigonol sy'n arwain at sefyllfaoedd peryglus.
Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cryn dipyn o waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf i fynd i'r afael ag arferion gwael gan landlordiaid yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cynllun cofrestru a thrwyddedu landlordiaid a gynlluniwyd i godi safonau proffesiynol yn y sector. Gan fod y cynllun hwn, rwy'n credu, tua phum mlwydd oed yn awr, hyd yn oed os nad heddiw, hoffwn i'r Gweinidog wneud datganiad ar ryw adeg ynglŷn â'r manteision i landlordiaid a thenantiaid y mae Rhentu Doeth Cymru wedi'u cyflwyno mewn gwirionedd. Gwyddom yn awr fod 4,584 o achosion o ddadgofrestru neu landlordiaid wedi'u gwneud yn anweithredol yn Rhentu Doeth Cymru rhwng 2018 a 2021.
Er fy mod yn cydnabod eich bod wedi cael ymgynghoriad cyhoeddus ar gynyddu'r cyfnod rhybudd lleiaf ar gyfer troi allan heb fai yn 2019, byddai gennyf rai pryderon o hyd nad oes ymgynghoriad ffurfiol wedi'i gynnal yn benodol mewn cysylltiad â'r rheoliadau hyn. Mae'n amlwg o'r grwpiau rhanddeiliaid yr wyf yn eu cynnal ac yn siarad â hwy o fewn y sector fod y rhaniad hwn rhyngddyn nhw a Llywodraeth Cymru yn bodoli o hyd. Byddai'n helpu'n fawr pe gallech ddefnyddio pob cyfle posibl i ymgysylltu a chydweithredu â nhw. Felly, pe bai rheoliadau pellach mewn cysylltiad â'r sector rhentu ar gael, a wnewch chi sicrhau'r sector y bydd cyfle newydd iddyn nhw ymgynghori â nhw? Diolch.
Mabon ap Gwynfor. Mabon ap Gwynfor.
Diolch. Doeddwn i ddim wedi clywed yn glir fanna—mae'n flin gen i. Diolch yn fawr iawn i'r Llywydd am hynny. A gaf i hefyd ddatgan diddordeb a thynnu eich sylw at fy nghofrestr buddiannau? Mae'r rheoliadau yma yn gam sylweddol i’r cyfeiriad cywir er mwyn gwella ansawdd tai yng Nghymru. Byddwn ni felly yn cefnogi'r cynnig yma heddiw, ond cyfyd ambell i bwynt yr hoffwn eglurhad yn eu cylch, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog.
Mae’r rheoliadau yn gosod allan cyfyngiadau ar roi rhybuddion. Os nad ydy landlord yn cyrraedd y safonau, yna caiff ei annog i gydymffurfio â’r disgwyliadau er mwyn medru rhoi rhybudd i’r tenant. Ond, beth am y tenantiaid sydd wedi eu cloi mewn llety preifat o safon isel, ac sydd ddim mewn safle i adael oherwydd amgylchiadau ariannol neu eraill? Os nad ydyn nhw’n cyflwyno rhybudd neu os nad ydy’r landlord yn gwneud hynny, yna beth sydd am annog y landlord i sicrhau fod yr eiddo yn cyrraedd y safonau angenrheidiol bryd hynny?
O ran effeithlonrwydd, mi fyddwch yn gwybod mai Cymru sydd â’r stoc dai hynaf yn y wladwriaeth hon, a’r sector rhent breifat sydd efo’r stoc dai hynaf hefyd, efo canran uwch o dai o ansawdd gwael. Ac mae canran y tai yn y sector rhent breifat wedi cynyddu yn sylweddol ers 1981. Dangosodd arolwg cyflwr tai Cymru 2017-18 ei bod wedi cymryd 10 mlynedd i gyfartaledd y band effeithlonrwydd wella o fand E i fand D. Yn naturiol, fflatiau oedd y mwyaf effeithiol efo 55 y cant o fflatiau â chyfradd effeithlonrwydd band C neu well, o’u cymharu â thai, oedd â 25 y cant yn unig yn cyrraedd y lefel yma. Ac mae’r tai yn ein cymunedau gwledig yn llai effeithiol fyth. Felly, pa gamau mae’r Llywodraeth am eu cymryd i gyflymu’r broses o wella ansawdd tai, o ystyried ei fod wedi cymryd 10 mlynedd i wella effeithlonrwydd ynni o un band i’r llall yn unig? Sut bydd y Llywodraeth yn targedu eu gweithredoedd er mwyn sicrhau bod effeithlonrwydd yn gwella yn yr ardaloedd lleiaf effeithlon, yn benodol yn ein cymunedau gwledig?
Bydd y rheoliadau yma yn sicr yn creu cytundeb hir a chymhleth i’r tenant, efo nifer fawr o’r rheoliadau yn cael eu hymgorffori yng nghorff y cytundeb rhwng y tenant a’r landlord. Sut mae disgwyl i bobl gyffredin ddeall beth ydy eu hawliau mewn dogfen mor hirfaith? Felly, pa gamau mae’r Llywodraeth am eu cymryd i wneud y broses yn symlach, neu pa gymorth fydd ar gael i sicrhau fod tenantiaid yn deall y cytundeb?
Yn olaf, o ran y Ddeddf yn ehangach, mi fyddwch yn gwybod fod y Ddeddf, fel ag y mae wedi ei llunio, yn gwneud pethau yn anodd iawn i’r enwadau crefyddol sydd yn gosod tai fel mans i’w gweinidogion, ficeriaid neu arweinyddion crefyddol. Mae rhai enwadau wedi dechrau gwerthu eu tai oherwydd yr anawsterau yma yn barod. Mae’r cyfnod rhybudd o chwe mis yn cael ei ostwng i ddau fis i bobl cyflogedig i’r cwmni sydd yn berchen yr eiddo, ond dydy hyn ddim yn berthnasol i enwadau crefyddol. A wnewch chi ystyried addasu’r Ddeddf ymhellach i adlewyrchu statws cyflogedig gweinidogion, ficeriaid ac arweinyddion crefyddol, neu a fyddech, Weinidog, gystal â chael cyfarfod rhwng Cytûn a minnau yn y dyfodol agos i drafod y sefyllfa ymhellach? Diolch yn fawr iawn.
Y Gweinidog nawr i ymateb i'r ddadl—Julie James.
Diolch, Llywydd. Rwyf eisoes wedi mynd i'r afael â'r materion ar y Ddeddf Hawliau Dynol o ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Rydym yn fodlon iawn bod y Ddeddf yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth hawliau dynol, fel y nododd Huw.
O ran y pwyntiau a wnaeth Janet, mae nifer y landlordiaid yn amrywio dros amser wrth i landlordiaid newydd fynd i mewn i'r farchnad ac eraill yn gadael. Felly, mae hi yn llygad ei lle wrth ddweud bod ffigurau gan Rhentu Doeth Cymru yn dangos ychydig dros 4,500 o achosion o ddadgofrestru dros y tair blynedd ariannol ddiwethaf, a gallai rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, fod wedi bod yn ddyblygiadau anghywir. Roedd bron i 30,000 o gofrestriadau landlordiaid newydd hefyd yn ystod yr un cyfnod. Mae bob amser yn dda darllen i waelod y dudalen, fe ddywedaf i.
Felly, nid oes cysylltiad uniongyrchol â nifer yr eiddo rhent preifat gan y gall nifer yr eiddo a ddelir gan bob landlord newid hefyd. Rwy'n deall bod y ffigurau diweddaraf gan Rhentu Doeth Cymru yn dangos bod nifer yr eiddo yn y Sector Rhentu Preifat yn debyg i'r amcangyfrifon stoc anheddau cyhoeddedig, sydd wedi aros ychydig dros 200,000 ers tua 2015—felly, er gwaethaf y rhybuddion enbyd am yr un peth yn y stoc. Yn amlwg, gall y newidiadau mewn deddfwriaeth gyflwyno rhywfaint o leihad dilynol yn yr hyblygrwydd sydd gan landlord ar hyn o bryd, ond ni fydd y ddeddfwriaeth yn effeithio'n sylweddol ar y sbardun pwysicaf ar gyfer buddsoddi yn y sector rhentu preifat, sef cyfradd yr enillion ar y buddsoddiad wrth gwrs.
O ran pwynt cyntaf Mabon, mae'r Ddeddf eisoes yn darparu ar gyfer rhwymedigaeth ffitrwydd newydd ar landlordiaid, ac yn amddiffyn tenantiaid rhag cael eu troi allan yn ddialgar os ydynt yn ceisio gwaith atgyweirio. Ceir canllawiau iaith clir ar y contract, a fydd ar gael. Rwyf eisoes wedi ystyried y pwynt gorchmynion crefyddol, Mabon. Cawsom sgwrs helaeth yn ystod hynt y Ddeddf ddiwygio gyda nhw, ac rwyf wedi dweud wrth yr eglwys, os oes angen cyngor ar gymhwyso'r gyfraith i'w trefniadau penodol, os bydd angen cyngor arnyn nhw, neu unrhyw grwpiau ffydd enwadol eraill neu arweinwyr ffydd. Dylai hynny wedyn fod ar wahân o ran cymhwyso'r gyfraith. Mater i'r llysoedd fydd gwneud y penderfyniad.
Felly, mae arnaf ofn nad oes gennyf unrhyw fwriad i eithrio eiddo a feddiannir ar gyfer gweinidogion crefydd neu arweinwyr ffydd eraill, o ran y mater hwnnw, na chadw cyfnod rhybudd o ddau fis ar gyfer eiddo sy'n eiddo i'r eglwys, gan fy mod o'r farn bod gan bobl sy'n denantiaid yr eglwys hawl i'r un faint o ddiogelwch â phobl eraill. Heblaw am hynny, Llywydd, rwy'n credu i mi ymdrin â phob pwynt yn fy sylwadau agoriadol, ac rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau i'r Senedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad. Nac oes. Felly, rŷn ni'n derbyn y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 sydd nesaf: Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7920 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Ym mis Mawrth 2021 cymeradwyodd y Senedd y rheoliadau gan sefydlu pedwar cyd-bwyllgor corfforedig newydd, neu CJCs, yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021, a sefydlodd CJC de-ddwyrain Cymru.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod y rheoliadau sefydlu yn nodi'r swyddogaethau craidd y bydd y CJCs yn eu cyflawni. Y rhain yw: y ddyletswydd i baratoi cynllun trafnidiaeth rhanbarthol; y ddyletswydd i baratoi cynllun datblygu strategol; a'r gallu i arfer y swyddogaeth llesiant economaidd—hynny yw, y pŵer i wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd eu hardal.
Mae'r dull o ddatblygu'r model CJC hyd yma wedi bod yn un o gyd-ddatblygu a chydweithio agos â llywodraeth leol, drwy ddull graddol o ddatblygu'r fframwaith deddfwriaethol y bydd CJCs yn gweithredu ynddo ac i'w weithredu. Roedd hyn yn cynnwys cytundeb na fyddai'r swyddogaethau craidd yn cael eu cychwyn tan 2022, er mwyn darparu cyfnod o amser i CJCs sefydlu'r trefniadau gweinyddol a llywodraethu angenrheidiol.
Fel rhan o'r dull hwn, wrth ddatblygu'r rheoliadau sefydlu, dewisodd pob rhanbarth pryd yn union y byddent eisiau i'w swyddogaethau craidd ddechrau. Dewisodd rhanbarth de-ddwyrain Cymru ddechrau eu swyddogaethau craidd ar 28 Chwefror 2022, fel rhan o raglen uchelgeisiol i drosglwyddo'r gweithgaredd bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd hwn i'r cyd-bwyllgor corfforaethol cyn gynted â phosibl. Etholwyd y tri CJC arall i ddechrau eu swyddogaethau craidd ar 30 Mehefin 2022. Fodd bynnag, fel rhan o'r gwaith paratoi yn ystod y cyfnod gweithredu, nodwyd nifer o faterion technegol mewn cysylltiad â thrin treth o fewn CJC, yn enwedig mewn cysylltiad â TAW. Mae arweinwyr CJC y de-ddwyrain wedi gofyn am newid dyddiad dechrau eu swyddogaethau er mwyn caniatáu amser i fynd i'r afael â'r materion technegol hyn.
Mae'r rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw yn ymateb i'r cais hwn ac yn ceisio diwygio dyddiad dechrau swyddogaethau craidd CJC y de-ddwyrain o 28 Chwefror 2022 i 30 Mehefin 2022. Bydd hyn yn dod â CJC y de-ddwyrain yn unol â'r pwynt lle mae'r tri CJC arall yng Nghymru yn dechrau arfer eu swyddogaethau.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw a'r rheoliadau sydd wedi'u nodi ger ein bron hefyd. Fel y gŵyr y Gweinidog, rwy'n siŵr, ac mae llawer o bobl yn ymwybodol o hyn, rwy'n ddilynwr brwd o gyd-bwyllgorau corfforedig. Roeddwn yn llawn chwilfrydedd o'u gweld ar y papur gorchymyn yma heddiw.
Fel yr ydych chi wedi'i amlinellu, Gweinidog, mae swyddogaethau allweddol cyd-bwyllgor corfforedig de-ddwyrain Cymru yn ymwneud â llesiant economaidd, swyddogaethau trafnidiaeth a datblygu strategol, ac maen nhw'n ceisio'r oedi hwn o ran eu dyddiad cychwyn hyd at ddiwedd mis Mehefin 2022. Mae hynny'n bryder, wrth gwrs, fod rhai o'r materion a nodwyd gennych wedi'u nodi. Ac mae'n cyfrannu at rai o'r materion yr ydym wedi'u codi ar y meinciau ochr hyn ynghylch pryderon am gyd-bwyllgorau corfforedig a'r pryderon ynghylch pa mor werthfawr y byddan nhw, neu beidio, yma yng Nghymru. Ond gan fod y cais hwn wedi dod yn uniongyrchol gan gynghorau, mae'n amlwg hefyd ei fod yn cael rhywfaint o effaith andwyol arnyn nhw ac ar eu gwaith y maen nhw'n ceisio'i gwblhau, ac mae hynny'n peri pryder.
Byddai gennyf i ddiddordeb, Gweinidog, mewn deall y dyddiad newydd, sef 30 Mehefin, nid yn unig ar gyfer y de-ddwyrain ond ar gyfer y cyd-bwyllgorau corfforedig eraill—. Pa mor ffyddiog ydych chi ynghylch hwnnw fel dyddiad pan fydd CJCs yn gallu bod ar waith yn iawn. Ac fe wnaethoch chi amlinellu yn eich datganiad hefyd y berthynas a'r gwaith sydd gennych gyda chynghorau wrth weithredu'r rhain. Byddai'n dda gennyf wybod sut yr ydych chi'n teimlo ynghylch y berthynas honno yn awr, wrth weithredu CJCs, ac i sicrhau eu bod yn cael eu hariannu'n ddigonol, oherwydd os yw'r pethau hyn yn mynd i ddigwydd, ac y maen nhw, wrth gwrs, mae angen iddyn nhw weithio cystal â phosibl, a sicrhau eu bod yn cael eu hariannu a chael yr adnoddau digonol fel y gallan nhw wneud y gwaith gorau posibl i wasanaethu eu cymunedau.
Felly, i gloi, Llywydd, fel Ceidwadwyr yma yr ydym wedi bod yn bryderus, ac yn parhau i bryderu, wrth weithredu CJCs, ond yr ydym yn gwerthfawrogi eu bod yno ac mae angen cymorth arnyn nhw i wneud iddyn nhw weithio. Felly, yng ngoleuni'r gymysgedd hon o fod yn bryderus ynghylch y CJCs ond hefyd eisiau cefnogi cynghorau i fod yn barod iawn i weithredu rhai o'r rheoliadau hyn, byddwn yn ymatal ar y rheoliadau heddiw, a gobeithio y gwelwn ni rai gwelliannau yn y maes hwn, cyn gynted â phosib. Diolch, Llywydd.
Y Gweinidog i ymateb.
Diolch yn fawr iawn i Sam Rowlands am ei gyfraniad yn y ddadl heddiw, ac am gadarnhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn mabwysiadu ymagwedd bragmatig at y rheoliadau, o gofio nad ydym yn cael y ddadl heddiw am ddymunoldeb CJCs, ond yn ymateb i gais gan un CJC, CJC de-ddwyrain Cymru, i newid y dyddiad cychwyn. Felly, rwy'n ddiolchgar am y dull pragmatig sy'n cael ei gymryd yna.
Mae CJCs yn ffordd arloesol a phwerus i awdurdodau lleol yng Nghymru weithio mewn partneriaeth, ac wrth gyd-ddatblygu'r ddeddfwriaeth sy'n sail iddyn nhw, gwnaethom ymgynghori'n helaeth â phartneriaid mewn llywodraeth leol, gan gynnwys gyda thrysoryddion. Fodd bynnag, yn anffodus, dim ond pan ddechreuom ni gyda'r cynllunio gweithredol manwl yr haf diwethaf y codwyd yr angen i ddarparu'r gallu i CJCs adennill TAW yn yr un modd ag y gall awdurdodau lleol, ond rydym yn gweithio'n agos iawn gyda CJCs ar hyn. Rydym wedi gwneud cais ac achos busnes i Lywodraeth y DU i sicrhau bod CJCs yn gallu adennill TAW yn yr un modd ag y mae awdurdodau lleol yn ei wneud, ac mae'n gais annadleuol i Lywodraeth y DU, ac rydym yn gobeithio y caiff y mater hwn ei ddatrys yn gyflym.
A dylwn ychwanegu bod nifer fach o faterion eraill, technegol i raddau helaeth, wedi dod i'r amlwg wrth eu gweithredu, ond maen nhw hefyd ar y gweill, ac maen nhw'n cynnwys y ddarpariaeth i CJCs gael mynediad uniongyrchol at fenthyca, drwy'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, a hefyd newidiadau mewn cysylltiad â threth gorfforaeth a threth incwm, ac mae deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r pwyntiau hyn yr un mor annadleuol yn cael ei chynllunio ar hyn o bryd. Felly, dim ond i roi sicrwydd bod y materion eraill hyn ar y gweill hefyd. Diolch eto am gyfraniad Sam Rowlands y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae yna wrthwynebiad, a dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7 sydd nesaf, sef y Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma—Lee Waters.
Cynnig NDM7919 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Fel y mae'r Gweinidog dros gyllid newydd ei ddweud yn ei dadl, un o swyddogaethau craidd y cyd-bwyllgorau corfforedig newydd yw cyflawni dyletswydd i baratoi cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, ac fel yr ydym newydd glywed, bydd y ddyletswydd hon yn trosglwyddo'n ddiweddarach yn 2022. A'r hyn yr wyf yn ceisio'i wneud heddiw yw addasu deddfwriaeth sy'n cyfeirio at ddyletswydd yr awdurdod lleol i baratoi cynlluniau trafnidiaeth lleol ac yna sicrhau bod y polisïau yn y cynlluniau trafnidiaeth lleol presennol yn parhau mewn grym nes i'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd gael eu cymeradwyo. Rydym hefyd yn dirymu Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014, sy'n galluogi awdurdodau lleol i gydweithio i lunio cynlluniau trafnidiaeth lleol.
Mae'r Senedd eisoes wedi cytuno i sefydlu CJCs, ac y dylid trosglwyddo'r swyddogaeth cynllunio trafnidiaeth o'r awdurdodau lleol. A heddiw rwy'n gofyn i Aelodau wneud diwygiadau technegol canlyniadol a gwelliannau trosiannol sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Byddwn yn ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelodau i gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw. Diolch.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Dyma fy ail gyfle i siarad ar y cynigion hyn ger ein bron ni y prynhawn yma ac rwy'n mynd i fod hyd yn oed yn fyrrach ar y daith hon. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 7 Chwefror ac mae ein hadroddiad i'r Senedd yn cynnwys un pwynt adrodd technegol. Mae'r rheoliadau, fel y dywedodd y Gweinidog, yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i'r addasiadau i Ddeddf Trafnidiaeth 2000, a wnaed gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021, a nodwyd yn ein hadroddiad fod y rheoliadau ar wahanol adegau yn cyfeirio at adran 108(2A)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, sy'n ymwneud â datblygu polisïau yn hytrach nag adran 108(2A)(b), sy'n ymwneud â gweithredu polisïau. Fodd bynnag, nodwyd gennym, ar adegau eraill yn y rheoliadau, mai dim ond at adran 108(2A) yn ei chyfanrwydd y cyfeirir, felly nid oedd yn glir i ni pam yr hepgorwyd y cyfeiriad at baragraff (a) mewn rhai mannau, o ystyried mai dim ond datblygu polisïau y mae'r rheoliadau'n ymdrin â nhw ac nid eu gweithredu. Felly, mae hwn yn bwynt technegol yma.
Ond yn ei hymateb i'n hadroddiad, esboniodd y Llywodraeth, yn achos cyd-bwyllgorau corfforedig, fod rheoliadau 2021 wedi addasu adran 108(2A) i'r perwyl nad oedd bellach yn cyfeirio at weithredu polisïau, ac felly, mae'r Llywodraeth o'r farn bod cyfeiriadau at adran 108 yn y rheoliadau sydd ger ein bron heddiw yn gywir. Rydym yn ddiolchgar i'r Llywodraeth am yr eglurhad hwn a'i hymateb. Diolch.
Y Dirprwy Weinidog nawr i ymateb, os yw e'n dymuno.
Diolch i Huw Irranca-Davies am ei sylwadau ac am yr adborth gan ei bwyllgor, ac rwy'n falch ein bod wedi cytuno ar ffordd ymlaen, a gobeithio y gall yr Aelodau gefnogi'r rheoliadau.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf yw'r Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma—Julie James.
Cynnig NDM7921 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018, o ganlyniad i'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae rheoliadau 2018 yn pennu ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd planhigion, ac yn benodol, ffioedd penodol sy'n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwiriadau mewnforion planhigion a chynhyrchion planhigion. Diben gwiriadau o'r fath yw lleihau risg bioddiogelwch a diogelu Cymru rhag lledaeniad plâu a chlefydau niweidiol.
Ar 14 Medi 2021, estynnodd Llywodraeth y DU amserlen y cyfnod graddoli trosiannol ar gyfer cyflwyno a chyflwyno'n raddol reolaethau ar y ffin ar fewnforion glanweithdra a ffytoiechydol o'r Undeb Ewropeaidd i Brydain Fawr. Mae'r amserlen ddiwygiedig yn oedi rheolaethau penodol am bedwar mis arall, o 1 Mawrth i 1 Gorffennaf eleni. Diben hyn yw adlewyrchu'r heriau a wynebir gan y sectorau mewnforio a chyflenwi bwyd yn ystod y misoedd diwethaf wrth i ni wella o'r pandemig, sydd wedi effeithio ar gadwyni cyflenwi ledled Ewrop ac yn fyd-eang.
Cyflawnwyd y diwygiad hwn i'r amserlen drwy ddiwygio rheoliadau rheolaethau swyddogol 2021. Mae wedi darparu un dyddiad ar draws holl wledydd Prydain Fawr pan fydd gweddill y dogfennau, gwiriadau adnabod a ffisegol ar blanhigion a chynhyrchion planhigion sydd i'w cyflwyno'n raddol yn dechrau cael eu cymhwyso i holl nwyddau SPS. Fodd bynnag, mae angen diwygiad canlyniadol pellach o hyd i sicrhau bod Cymru'n cyd-fynd yn llwyr â'r amserlen hon. Mae ein rheoliadau presennol yn gofyn am gyflwyno ffioedd iechyd planhigion o 1 Mawrth ymlaen, ac mae'r gwelliant arfaethedig sydd ger eich bron heddiw yn ceisio sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn adlewyrchu'r amserlen a nodir bellach yng ngweddill Prydain Fawr, gyda chyflwyno ffioedd iechyd planhigion o'r dyddiad newydd, sef 1 Gorffennaf 2022. Mae hwn yn welliant bach ond hanfodol sy'n sicrhau na fydd busnesau a mewnforwyr planhigion a chynhyrchion planhigion yng Nghymru o dan anfantais. Diolch.
Does gyda fi ddim cyfranwyr eraill i'r ddadl yma. Dwi'n cymryd nad yw'r Gweinidog angen gwneud unrhyw sylwadau i gloi. Felly, dwi'n gofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, felly fe dderbynnir y cynnig yma yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9 sydd nesaf a'r rheini yw'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7918 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022. Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r lluosydd at ddibenion ardrethu annomestig ar gyfer 2022-23. Yn 2017, nododd Llywodraeth Cymru ei bwriad i newid y mesur chwyddiant a ddefnyddir i gyfrifo'r lluosydd yng Nghymru o'r mynegai prisiau manwerthu i'r mynegai prisiau defnyddwyr o 1 Ebrill 2018. Mae hyn wedi'i weithredu o'r blaen drwy Orchmynion blynyddol a gymeradwywyd gan y Senedd hon. Yn dilyn hynt Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, cynnydd yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr yw'r sefyllfa statudol ddiofyn erbyn hyn. Ar 20 Rhagfyr, cyhoeddais y penderfyniad i symud i ffwrdd o'r sefyllfa hon ar gyfer 2022-23. Yn hytrach, bydd y lluosydd yn cael ei rewi. Mae angen cymeradwyo'r rheoliadau cyn y bleidlais ar yr adroddiadau cyllid llywodraeth leol ar setliadau terfynol llywodraeth leol a'r heddlu ar gyfer 2022-23, neu cyn 1 Mawrth 2022, pa un bynnag sydd gynharach. Felly, rwy'n ceisio cymeradwyo'r rheoliadau hyn cyn y bleidlais ar yr adroddiad ar setliad yr heddlu yn ddiweddarach heddiw.
Bydd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022 yn pennu'r lluosydd fel ei fod yn parhau ar y lefel a bennwyd ar gyfer 2020-21 a 2021-22, sef 0.535. Bydd y rheoliadau'n golygu na fydd cynnydd yn y biliau ardrethi i'w talu gan fusnesau a pherchnogion eiddo annomestig eraill yn 2022-23. Gwnaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 newid parhaol i'r sail ar gyfer cynyddu'r lluosydd o 1 Ebrill 2022. Ein bwriad yw defnyddio CPI yn y dyfodol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y rheoliadau. Mae polisi ardrethi annomestig wedi'i ddatganoli i raddau helaeth. Mae rhewi'r lluosydd yn atal cynnydd mewn biliau ardrethi y byddai talwyr ardrethi yn eu hwynebu fel arall. Bydd y newid hwn yn helpu busnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y pwysau y maen nhw wedi bod yn eu hwynebu, gan gynnal y llif sefydlog o refeniw treth ar gyfer gwasanaethau lleol. Mae'r newid yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn buddsoddi £35 miliwn i dalu am gost y rhewi fel na fydd unrhyw effaith ar y cyllid a ddarperir ar gyfer gwasanaethau lleol. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Y prynhawn yma rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd fel llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid. Fel grŵp, byddwn yn cefnogi'r rheoliadau hyn. Fel y gwyddom i gyd, mae busnesau wedi profi tarfu sylweddol a cholledion ariannol yn ystod y pandemig, ac felly bydd rhewi lluosydd NDR yn unol â'r hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r DU yn helpu i leddfu'r pwysau ar fusnesau. Fodd bynnag, hoffwn wneud pwynt byr bod ardrethi busnes yng Nghymru yn dal yn uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU. Er enghraifft, y lluosydd yng Nghymru yw 53.5c, ac yn Lloegr, y lluosydd safonol yw 51.2c, ac ar gyfer busnesau bach, mae'n 49.9c. Mae hyd yn oed y gyfradd eiddo uwch yn yr Alban yn 52.4c ac mae'n amlwg yn is na'r gyfradd safonol yng Nghymru. Ac felly rwy'n credu y gellid gwneud mwy i leihau'r lluosydd i greu amgylchedd mwy cystadleuol i fusnesau Cymru, yn ogystal â'u helpu nid yn unig i wella o'r pandemig, ond i ffynnu.
Yn olaf, byddwn i'n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno lluosydd hollt, fel y gall busnesau llai elwa ar gyfraddau ardrethi annomestig is. I mi, mae braidd yn annheg bod disgwyl i fusnesau o'r fath dalu'r un lluosydd â busnesau mawr, ac felly byddai lleihau'r baich ar fusnesau llai yn helpu i roi hwb amserol iddyn nhw. Diolch.
Y Gweinidog cyllid i ymateb i hynny.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig am gadarnhau cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r rheoliadau heddiw. Wrth gwrs, nid yw'r llefarydd, yn ei gyfraniad, yn sôn am gynllun rhyddhad ardrethi parhaol Llywodraeth Cymru i fusnesau bach, sydd, wrth gwrs, yn cefnogi degau o filoedd o fusnesau ledled Cymru gyda'u cyfraddau, gyda llawer yn talu dim ardrethi o gwbl. Ac wrth gwrs, mae busnesau yma yng Nghymru yn dal i elwa yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden o dalu dim cyfraddau yn y flwyddyn ariannol hon, oherwydd y penderfyniad a wnaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu blwyddyn lawn o ryddhad, o'i gymharu â llai o ryddhad dros y ffin yn Lloegr. Ac, wrth gwrs, bydd cydweithwyr yn gyfarwydd â'r ffaith y bydd busnesau yn y sectorau hynny sydd wedi cael eu crybwyll yn cael rhyddhad ardrethi o 50 y cant yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan gydnabod y pwysau mae'r busnesau hynny a'r sectorau hynny wedi ei deimlo. Ond, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig i'r rheoliadau heddiw.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, rŷn ni'n derbyn y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10 yw'r eitem nesaf. Cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal yw'r eitem yma, ac felly dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cynnig—Eluned Morgan.
Cynnig NDM7913 Eluned Morgan
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr. Heddiw, rwy'n argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal. Mae hwn yn Fil mawr a chymhleth, sydd, er ei fod yn gymwys i Loegr yn unig i raddau helaeth, yn cynnwys rhai darpariaethau sy'n berthnasol i Gymru, a nifer o ddarpariaethau sy'n gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Mae rhai o'r meysydd hynny, fel systemau gwybodaeth am feddyginiaethau, gordewdra a chytundebau iechyd rhyngwladol yn cynnwys darpariaethau y bydden ni am i ddinasyddion Cymru elwa ohonyn nhw.
Yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd ar 1 Medi a'r ail femorandwm a osodwyd ar 17 Rhagfyr, ni allwn argymell cydsyniad i'r Bil gan fod gen i bryderon y byddai'r Bil, fel y mae wedi’i ddrafftio, yn cael effaith andwyol ar gymhwysedd datganoledig mewn rhai meysydd. Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, rydym ni wedi dod â'r Bil i sefyllfa lle gallaf argymell cydsyniad fel sydd wedi’i nodi yn fy nhrydydd memorandwm, a osodwyd ar 28 Ionawr. Nid yw amser, mae arnaf fi ofn, yn caniatáu i mi redeg drwy bob un o'r cymalau hyn sy'n ymgysylltu â'r broses cydsyniad deddfwriaethol heddiw. Yn hytrach, byddaf yn amlinellu consesiynau'r DU i'n prif feysydd sy'n peri pryder a lle mae'r DU wedi ymestyn darpariaethau i Gymru ar fy nghais.
Yn gyntaf, roedd nifer o gymalau'r Bil yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i arfer pwerau mewn perthynas â Chymru mewn rhai meysydd o fewn cymhwysedd datganoledig. Mewn tri o'r meysydd hynny, cyrff hyd braich, rheoleiddio proffesiynol ac adrodd gorfodol, rydym ni wedi sicrhau consesiynau pwysig gan Lywodraeth y DU i'w gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud deddfwriaeth o dan y darpariaethau hynny o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig.
O ran cytundebau gofal iechyd rhyngwladol, mae'r Bil wedi'i ddiwygio i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig er mwyn gweithredu cytundebau o'r fath. Ac mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar ymgysylltu â'r Llywodraethau datganoledig wrth ddatblygu cytundebau gofal iechyd cyfatebol newydd a diwygiedig eisoes wedi'i gytuno ac wedi’i ddarparu i'r pwyllgorau craffu i'w helpu i ystyried y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil.
O ran systemau gwybodaeth am feddyginiaethau, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud deddfwriaeth o dan y darpariaethau hynny o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig. Nawr, bydd yr ymgynghoriad hwn hefyd yn cael ei gefnogi gan femorandwm cyd-ddealltwriaeth, wedi'i ddatblygu a'i gytuno â'r Llywodraethau datganoledig, gan nodi manylion ar sut y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal.
Fy ail faes pryder cyffredinol fu'r pwerau a geir mewn nifer o gymalau—149, 144 a 91—sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau mewn Mesur neu Ddeddf gan Senedd Cymru. Nawr, er y gall fod gennym ni bryder am y rhain, maen nhw mewn gwirionedd yn gymalau safonol, ac mae'n ffaith ein bod ni yn yr un modd yn cymryd pwerau yn Neddfau'r Senedd i wneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi darparu enghreifftiau o sut y gellir defnyddio'r pwerau hyn. Byddai'r diwygiadau'n debygol o fod o natur fach, er enghraifft, newid enw sefydliad yn Lloegr y cyfeirir ato yn neddfwriaeth y Senedd.
Ar 9 Chwefror, fe wnaeth yr Arglwydd Kamall ddatganiad ger bron y blwch dogfennau ar sut y gellid defnyddio'r pwerau hyn. Yng ngoleuni'r holl sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU, a'r datganiad ger bron y blwch dogfennau, rwyf yn ystyried bod y risg a gyflwynir i Gymru gan y darpariaethau hyn yn dderbyniol. Mae consesiynau nodedig eraill wedi'u trafod mewn perthynas â chofrestrau meddyginiaethau cleifion ledled y DU, lle'r ydym ni wedi sicrhau gwelliannau pwysig o ran casglu a defnyddio data cleifion o Gymru.
Yn olaf, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cytuno i'm cais i ymestyn nifer o ddarpariaethau pwysig i Gymru. Mae'r rhain yn cynnwys troseddoli profion gwryfdod a'r arfer cysylltiedig o hymenoplasti. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn cefnogi'r gwaith o wahardd yr arferion gwrthun hyn yng Nghymru. Gyda'i gilydd, rwy'n fodlon bellach y gall y Senedd roi ei gydsyniad i'r Bil. Diolch yn fawr, Llywydd.
Galwaf nawr, yn gyntaf, ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Russell George.
Diolch, Llywydd. Rwy’n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae ein barn ar y darpariaethau a nodir yn yr adroddiad wedi’i restru yn yr adroddiad rydyn ni wedi'i gyflwyno, ond hoffwn dynnu sylw'r Gweinidog a'r Aelodau at rai meysydd. Yn gyntaf oll, cymal 87, sy'n darparu ar gyfer sefydlu system gwybodaeth am feddyginiaethau ledled y DU. Mae perchnogaeth data, ac, wrth gwrs, rhannu data yn faterion sensitif a rhaid i'r hawliau diogelu fod ar waith i amddiffyn data personol a meddygol cleifion Cymru, wrth gwrs. Felly, mae'r Bil wedi'i ddiwygio i'w gwneud yn ofynnol ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar unrhyw reoliadau neu gyfarwyddiadau sy'n ymwneud â systemau gwybodaeth am feddyginiaethau sy'n effeithio ar Gymru. Felly, rwy’n cytuno â'r Gweinidog fod hyn i'w groesawu. Ond mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhynglywodraethol i ategu'r ymgynghoriad hwn i'w gytuno o hyd, fel rwyf yn deall, felly byddem ni’n croesawu, rwy’n meddwl, rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog am amserlen ddisgwyliedig y memorandwm cyd-ddealltwriaeth.
Mae cymal 135, a ychwanegwyd at y Bil ym mis Tachwedd, yn ceisio dysgu gwersi o bandemig COVID, ac mae'n gwneud darpariaeth i alluogi rheolaethau i gael eu cymhwyso mewn pandemig yn y dyfodol neu argyfwng iechyd y cyhoedd i gyflenwi cynhyrchion meddygol a ddefnyddir ar gyfer brechlynnau neu atal a thrin clefydau a allai ddod yn bandemig. Felly, mae'r mesurau hyn yn synhwyrol, ond byddem ni’n croesawu sicrwydd gan y Gweinidog mai dim ond pan fydd argyfwng iechyd cyhoeddus neu bandemig wedi'i ddatgan y gellir defnyddio'r pwerau, ac y gallai unrhyw ddefnydd o'r pwerau gael ei ategu gan gydnabyddiaeth briodol neu ddigonol ar gyfer contractau fferylliaeth.
Rwy’n troi at ddarpariaethau, neu'r pwerau, yng nghymalau 91, 144 a 149 i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud diwygiadau canlyniadol, gan gynnwys deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd, heb gydsyniad. Efallai y byddai wedi darparu amddiffyniadau gwell a mwy tryloyw ar gyfer y setliad datganoli yn y tymor hwy pe bai'r gofynion cydsyniad wedi'u cynnwys ar wyneb y Bil, ond rydyn ni’n nodi bod Llywodraeth y DU wedi rhannu gwybodaeth am sut y byddai pwerau o'r fath yn cael eu defnyddio, ac wedi cytuno i wneud datganiad ger bron y blwch dogfennau ar y mater hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar, os wyf fi wedi deall yr hawl hon, pe gallai'r Gweinidog gadarnhau p’un a yw'r datganiad y cytunwyd arno wedi'i wneud yn Nhŷ'r Cyffredin neu a yw'n fodlon bod y sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU wedi lleihau'r risg gyfansoddiadol i lefel dderbyniol.
Ac yn olaf, o ran y broses LCM ei hun, fel pwyllgor, mae gennym ni bryderon ynghylch y defnydd cynyddol o gynigion cydsyniad deddfwriaethol fel mecanwaith ar gyfer deddfu ar faterion sydd wedi'u datganoli i Gymru. Ac fel mater o egwyddor, mae'n perygl, wrth gwrs, o danseilio rôl y Senedd fel corff deddfu sylfaenol mewn meysydd sydd â chymhwysedd deddfwriaethol datganoledig. Felly, fel mater o ymarferoldeb, gydag amser cyfyngedig ar gael i graffu, yn enwedig pan fydd darpariaethau’n cael eu hychwanegu drwy ddiwygiadau yn hwyr, mae'n cynyddu'r risg, wrth gwrs, am ganlyniadau anfwriadol neu anrhagweladwy y gellid eu nodi a'u lliniaru fel arall drwy graffu. Felly, rydym ni wedi gwneud nifer o argymhellion yn y maes hwn sydd wedi'u cynnwys yn ein hadroddiad. Diolch, Llywydd.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sydd nesaf. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Rydym wedi cynhyrchu dau adroddiad yn ymdrin â'r tri memorandwm cydsyniad a osodwyd gan y Gweinidog ar y Bil hwn. Cwblhawyd y cyntaf fis Rhagfyr diwethaf, a dim ond prynhawn ddoe y gosodwyd yr ail.
Nawr, o ystyried nifer yr argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn ein hail adroddiad ar femoranda Rhif 2 a Rhif 3, fe wnaethom roi copi cynnar i'r Gweinidog er mwyn llywio'r ddadl y prynhawn yma'n well, ac rwy’n diolch i'r Gweinidog am ymateb yn ffurfiol i'n hadroddiad y bore yma hefyd.
Llywydd, ein hadroddiad ar femoranda Rhif 2 a Rhif 3 oedd ein trydydd adroddiad ar hugain nawr ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol. Dyma fy nhrydydd cyfraniad y prynhawn yma. Felly, gyda'ch gwahoddiad chi, Llywydd, byddaf yn siarad yn y tair dadl ar wahân ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol heddiw ar gyfer tri Bil gwahanol yn y DU, cymaint yw’r graddau mae Llywodraeth y DU yn wir yn deddfu ar faterion datganoledig.
Roedd ein hadroddiad cyntaf yn cynnwys wyth argymhelliad i'r Gweinidog. Yn ein hail adroddiad, a osodwyd gerbron y Senedd brynhawn ddoe, rydym ni wir wedi cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud ers mis Rhagfyr diwethaf, tra ein bod ni hefyd yn gwneud rhai argymhellion pellach i'r Gweinidog.
Ni fyddaf yn mynd drwy bob un o'n hadroddiadau ar y memoranda'n fanwl, ond maen nhw ar gael i'r Aelodau os ydyn nhw’n dymuno darllen y pwyntiau a wnaethom a'n pryderon yn llawn cyn pleidleisio y prynhawn yma. Fodd bynnag, byddaf yn troi at dynnu sylw at lond llaw o faterion arwyddocaol yn unig.
Gadewch i mi ddechrau ar ddiwedd ein hail adroddiad. Mae llawer o'r darpariaethau yn y Bil wedi'u cynnwys ar gais Llywodraeth Cymru. Nawr, er ein bod wedi gwneud rhai argymhellion yn ein hadroddiadau i fynd i'r afael â'n pryderon mewn rhai meysydd, nid ydynt yn cymryd lle unrhyw beth, byddem yn dadlau ar ein pwyllgor, dros allu Aelodau'r Senedd i brofi a gwella deddfwriaeth drwy gyflwyno gwelliannau i Filiau Cymru a gyflwynwyd i'r Senedd—y pwynt a godwyd gan fy nghyd-Gadeirydd.
Rydym ni’n ymwybodol o'r heriau mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu, yr ydym ni, yn wir, yn ymchwilio iddyn nhw fel pwyllgor, ond ni ddylai hynny fwrw cysgod dros y risg gyfansoddiadol i'r setliad datganoli sy'n deillio o'r defnydd parhaus a chronnol o Filiau'r DU mewn meysydd datganoledig i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru.
Yn wir, mae'r Gweinidog wedi cydnabod a derbyn bod y risg gyfansoddiadol honno'n bodoli. Mae mewn du a gwyn ym memorandwm Rhif 3. Mae'r Bil hwn yn cynnwys pwerau Harri VIII eang, pwerau a fyddai'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Arglwydd Ganghellor i ddiwygio Deddfau a Mesurau'r Senedd, yn ogystal ag, yn wir, Deddf Llywodraeth Cymru 2006, heb gydsyniad y Senedd.
Mae'r Gweinidog wedi derbyn sicrwydd gan Lywodraeth y DU, o ymrwymiad blwch dogfennau, i fodloni ei phryderon ynghylch defnyddio'r pwerau hyn, ac rydyn ni wedi clywed hynny. Ond nid yw ymrwymiadau blwch dogfennau, er eu bod yn rhan o flwch offer y llywodraeth, yn rhwymo. Maen nhw’n agored i newid, dydyn nhw ddim yn darparu rôl i'r Senedd hon. Er bod Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn gyfaddawd priodol, â phob parch, dydyn ni ddim yn rhannu'r farn honno.
Mae'r Gweinidog wedi datgan bod canlyniad y trafodaethau y cytunwyd arno rhwng y Llywodraethau wedi arwain at, ac rwy’n dyfynnu, 'fân risg gyfansoddiadol'. Yn ein barn ni, nid yw'r casgliad hwn, a'r ffaith bod y Gweinidog yn ei dderbyn, yn wir, yn dderbyniol. Ni ddylid peryglu elfennau o setliad datganoli Cymru oherwydd bod Bil y DU yn cael ei ddefnyddio i ddeddfu mewn maes datganoledig.
Felly, fe wnaethom ofyn i'r Gweinidog egluro a mesur yr hyn mae’r 'mân risg gyfansoddiadol' hon yn ei olygu, a, Gweinidog, fe wnaethoch chi amlinellu hyn i ni yn y trydydd memorandwm. Rydyn ni’n nodi’r hyn yr oedd gennych chi i'w ddweud am hyn yn y llythyr a gawsom y bore yma. Rydych chi wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf bod yr ymrwymiad blwch dogfennau, yr wyf fi newydd gyfeirio ato, bellach wedi'i wneud. Fodd bynnag, rydyn ni’n teimlo nad ydych chi wedi egluro'n llawn o hyd beth yw'r risg gyfansoddiadol honno, y gwnaethoch chi ei chyflwyno i sylw'r Senedd, ac eithrio datgan yn y Siambr y prynhawn yma fod y risg honno'n 'dderbyniol'. Felly, Gweinidog, tybed a allech chi ddweud mwy yn eich ymateb i gloi ar y risg hon ac efallai rhoi esboniad ysgrifenedig llawnach i'r pwyllgor cyn gynted â phosibl.
Yn ein hail adroddiad, fe wnaethom ailadrodd argymhelliad o'n hadroddiad cyntaf y dylai'r Gweinidog ofyn am welliant i'r Bil fel na all Gweinidogion y DU ddefnyddio ei bwerau i wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gall Aelodau'r Senedd weld pwysigrwydd hyn. Felly, fe wnaethom ofyn i'r Gweinidog gadarnhau ei bod wedi gofyn am welliant o'r fath a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y sefyllfa ddiweddaraf.
Felly, Gweinidog, rydyn ni’n siomedig eich bod wedi cadarnhau nad ydych chi wedi cysylltu â Llywodraeth y DU i ofyn am wneud gwelliant o'r fath, a byddai gennym ni ddiddordeb yn y rhesymeg y tu ôl i beidio â gwneud hynny, oherwydd mae pwynt pwysig o egwyddor yma sy'n berthnasol: mae’r ffordd y gallai un Llywodraeth ddefnyddio pwerau ar unrhyw adeg fod yn gallu bod yn wahanol iawn, iawn i'r ffordd y gall Llywodraeth yn y dyfodol eu defnyddio yn y blynyddoedd i ddod. Felly, byddwn yn eich annog chi, a byddai'r pwyllgor yn eich annog chi, i fyfyrio ymhellach ar y mater hwn.
Yn olaf, hoffwn fynd i'r afael â chymal 136 o'r Bil, sy'n ymwneud â gweithredu cytundebau gofal iechyd rhyngwladol. Mae'r sefyllfa yma nawr yn welliant o'i gymharu â'r Bil fel y cafodd ei gyflwyno gyntaf i Senedd y DU y llynedd. Roedd y cymal hwn yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig i weithredu cytundebau gofal iechyd i Gymru. Mae gwelliannau i'r Bil yn golygu y bydd gan Weinidogion Cymru y pwerau hyn nawr, ac mae hynny'n ddatblygiad i'w groesawu. Ond, ar ôl cael y pwerau hyn, ein barn ni yw mai Gweinidogion Cymru ddylai fod y rhai sy’n eu harfer. Lle nad ydyn nhw’n gwneud hynny, ac yn lle hynny maen nhw’n gofyn neu'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i wneud hynny, sy'n golygu y byddai'r Senedd yn ennill y blaen unwaith eto, dylai Llywodraeth Cymru roi esboniad manwl i'r Senedd cyn i reoliadau o'r fath gael eu gwneud—nid 'dylai' ond 'rhaid', byddem yn dadlau—ac esbonio pam nad yw wedi'i ddeddfu yng Nghymru. Felly, rwy’n gobeithio y gall y Gweinidog yn ei hymateb gadarnhau mai dyma ei bwriad nawr ac y gall roi'r sicrwydd hwnnw i ni. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Mi hoffwn i egluro pam y byddaf i a Phlaid Cymru'n gwrthwynebu—a gwrthwynebu'n chwyrn—y mesur cydsyniad deddfwriaethol yma. Mae hwn yn Fil eang iawn y mae o'n berthnasol iddo fo. Mae o'n cynnwys elfennau, fel y dywedodd y Gweinidog, y mae hi'n eiddgar i'w gweld yn cael eu hymestyn i Gymru. Does gen i yn sicr ddim gwrthwynebiad i weld rhannu deddfwriaeth debyg ar draws yr ynysoedd yma mewn maes fel ei gwneud hi'n drosedd i brofi gwyryfdod, er enghraifft. Wrth gwrs ein bod ni'n cefnogi cymryd y cam hwnnw, ond, fel pwyllgor iechyd, pan ydyn ni'n edrych ar y cynnwys yn y modd yna, mi ydyn ni hefyd yn nodi dro ar ôl tro pa mor anghyfforddus ydyn ni ynglŷn â'r defnydd o'r broses yma.
Roeddwn i'n croesawu'r geiriau gan Gadeirydd y pwyllgor, Russell George, i gloi ei gyfraniad o, fod yna bryder yn cael ei leisio dro ar ôl tro o fewn y pwyllgor ynglŷn ag impact y mesurau cydsyniad yma ar integriti datganoli. Y mwyaf mae Llywodraeth Cymru'n cydsynio, y mwyaf dwi'n ofni bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei grymuso i wneud mwy, i gymryd camau pellach i danseilio integriti y setliad datganoli fel ag y mae o—setliad sydd wedi cael ei gefnogi gan bobl Cymru—oherwydd yr angen i sicrhau bod y sgrwtini mwyaf manwl posib yn gallu cael ei gynnal yma yng Nghymru ar faterion sydd yn berthnasol i'n poblogaeth ni, ac, ie, ar feysydd lle y byddem ni'n bosib iawn yn dymuno dilyn yr un cyfeiriad â'n cyfeillion ni mewn rhannau eraill o'r ynysoedd yma, ond mae'n rhaid i'r sgrwtini yna ddigwydd yma yng Nghymru.
Mae'n rhaid cael yr amser i wneud y sgrwtini yna. Gallwn ni ddim cael yr amser drwy ddilyn proses chwit-chwat o gydsyniad deddfwriaethol o'r math yma. Ac fel rydw i'n dweud, o ran cynnwys a bwriad sawl elfen o'r Bil yn San Steffan, gallwn, mi allwn ni gytuno, ond gallwn ni ddim anwybyddu'r tanseilio sydd yn digwydd yma, a dyna pam ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwrthwynebu'n gadarn yr ymgais yma sy'n un o nifer cynyddol, wrth gwrs, ar draws holl feysydd polisi'r Senedd. A dwi'n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth am nodi mor glir nad ydy o, fel minnau, yn ystyried mai risg gyfansoddiadol fach rydyn ni'n ei hwynebu. Mae'r effaith gronnus o'r mesurau yma yn creu risg wirioneddol i ddyfodol datganoli, ac oni bai ein bod ni fel Senedd yn gwneud yn glir ein pryderon am hynny, wel, pwy sydd am wneud?
Galwaf nawr ar y Gweinidog iechyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch yn fawr i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon, a diolch yn arbennig i aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a diolch yn arbennig am yr adroddiadau. Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu ymateb i'r rheini y bore yma.
Rydych chi wedi clywed bod yr ymrwymiadau blwch dogfennau eisoes wedi'u rhoi, a'r hyn a roddwyd yw rhywfaint o fanylion am yr union beth a olygir wrth y math o ddehongliad cyfansoddiadol yr oedden nhw'n meddwl amdano. Felly, yn bennaf mae'n golygu newid enw sefydliad—pe byddent yn mynd i wneud hynny yn Lloegr, byddent yn newid yr enw. Felly, fe wnaethon nhw roi rhai enghreifftiau, a dyna'r holl bwynt o gael yr ymrwymiad blwch dogfennau hwnnw, oherwydd yna gallwch eu dal i gyfrif, oherwydd mae wedi'i ddweud ar lawr y tŷ, ac mae gennych chi rywbeth i apelio yn ei erbyn, i bob pwrpas. Felly, rwy'n derbyn eich pwynt, dim ond am eich bod chi'n cael ymrwymiad gan y Llywodraeth hon, pwy a ŵyr beth allai fod gan y Llywodraeth yn y dyfodol, ond gallwch apelio, fel y gŵyr yr Aelod, i'r hyn sy'n cael ei ddweud ar lawr y tŷ i gael gwell ymdeimlad o'r hyn a olygir gan y math o amodau sy'n ymwneud â'r cytundebau hynny.
Rŷn ni wedi cynnal safbwynt negodi cryf gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig drwyddi draw, ac mae hynny wedi arwain at nifer o welliannau pwysig. Ar yr achlysur yma, gaf i ddweud ein bod ni wedi negodi? Rŷn ni wedi cael lot o'n ffordd ein hunain, rŷn ni wedi dod yn bell iawn, ac maen nhw wedi deall ein dadleuon, a dwi'n falch i weld bod hynny wedi digwydd. O ran y—
—gwelliannau canlyniadol, rwy'n deall nad yw hyn yn ffordd ddelfrydol o wneud cyfraith. Rydyn ni i gyd yn deall hynny. Ond dydyn ni ddim mewn sefyllfa, bob amser, i gael y perffaith, ac felly, wrth gwrs, mae risg gyfansoddiadol i Gymru. Y cwestiwn yw: faint o risg ydych chi'n barod i'w chymryd? Ar ddechrau'r broses hon, roedd yn risg gyfansoddiadol yn rhy bell, a dyna pam na fyddwn i wedi argymell ein bod yn derbyn y memorandwm. Nawr, rwy'n credu ein bod ni wedi cael digon o sicrwydd fel bod y risg gyfansoddiadol yn llai.
Ond hefyd rwy'n credu na ddylem golli'r cyfle i amddiffyn pobl Cymru, yn enwedig pan fyddwch chi'n gweld rhywbeth fel troseddoli profion gwryfdod. Pam na fyddem ni am ymrwymo i hynny? Ydyn ni mewn gwirionedd am aros am flynyddoedd a blynyddoedd a blynyddoedd nes y gallwn gael hynny mewn proses ddeddfwriaethol yma, tra bod Lloegr yn bwrw ymlaen? Na, byddai'n well gennyf fi fwrw ymlaen ag ef a mynd ar y bws gyda nhw ar y mater penodol hwnnw. Felly, mae achlysuron. Nawr, wrth gwrs rwy'n deall bod hynny'n golygu ei bod yn anodd i chi graffu—rwy'n deall hynny, ac felly, dydw i ddim yn credu y byddwch chi'n ein gweld yn gwneud hynny'n rhy aml, ac—. Rwy'n credu eich bod yn awyddus i ddod yn ôl i mewn yma, onid ydych chi?
Ymyriad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, rwy'n derbyn y ffordd rydych chi'n egluro hyn, bod cydbwysedd yma rhwng y flaenoriaeth wirioneddol o roi polisi da ar waith y byddai Llywodraeth Cymru a phobl Cymru am ei weld yn erbyn cydbwysedd, fel mae wedi'i egluro, sy'n lleihau'r risg gyfansoddiadol. Ond, efallai y byddai sicrwydd ychwanegol, i Aelodau'r Senedd, pe bai defnydd annisgwyl o'r pwerau sydd wedi'u cynnwys yma, o ran Deddf Cymru 2006, neu fod Llywodraeth yn y dyfodol wedi dewis camddehongli'r sicrwydd a roddwyd yn y blwch dogfennau gan Weinidog, mai bwriad Llywodraeth Cymru fyddai amddiffyn y sefydliad hwn a'r setliad cyfansoddiadol yn gadarn.
Wel, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw, yn sicr. Wrth gwrs, byddem ni am wneud hynny. Felly, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi, a phe byddem yn eu gweld nhw'n manteisio ar y sefyllfa, byddem yn chwarae'r diawl gyda nhw. Felly, rwy'n credu y gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi. A hefyd rwy'n hapus i roi'r sicrwydd i chi, o ran cytundebau rhyngwladol, pe bai'r rheini'n digwydd, yna byddem ni'n gallu rhoi rhywfaint o rybudd ymlaen llaw i'r Senedd. Felly, gobeithio y bydd hynny'n rhoi sicrwydd penodol i chi a'ch pwyllgor.
So, diolch yn fawr iawn, a dwi yn gofyn i Aelodau i gefnogi'r cynnig yma. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig yna tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 11 sydd nesaf. Hwn yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i wneud y cynnig yma—Mick Antoniw.
Cynnig NDM7915 Jeremy Miles
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cymwysterau Proffesiynol sy'n ymwneud â diogelu ymreolaeth rheoleiddwyr ac ymgynghori â rheoleiddwyr, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Rwy’n croesawu’r cyfle i esbonio cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar ran y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a nodi pam fy mod yn argymell bod y Senedd yn atal cydsyniad i'r Bil Cymwysterau Proffesiynol. Rwyf i’n ddiolchgar i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y memoranda, ac am yr adroddiadau manwl a defnyddiol y maen nhw wedi'u cynhyrchu.
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi ymateb i'r cwestiynau a'r argymhellion yn y ddau adroddiad. Yn benodol, rwy’n sylwi bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn parhau i rannu fy mhryderon â bodolaeth y pwerau cydamserol yn y Bil, barn a rennir hefyd gan y Senedd pan drafodwyd cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil am y tro cyntaf ar 5 Hydref a phleidleisiodd yr Aelodau'n llethol dros atal cydsyniad i'r Bil. Ers y ddadl hon, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno gwelliannau i gymal 1, ac wedi cyflwyno cymalau 14 a 15 i'r Bil.
Fel y gwyddoch chi, y cyngor i'r Senedd yw na allwn ni gymeradwyo'r Bil ar ei ffurf bresennol. Er gwaethaf Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a minnau'n gwneud ein pryderon yn glir iawn, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod dileu'r pwerau cydredol a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Arglwydd Ganghellor yn y Bil hwn i ddeddfu mewn perthynas â Chymru mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru o'r farn na ddylid bod ag unrhyw bwerau cydamserol yn y Bil hwn. Fodd bynnag, mewn ymdrech i fod yn adeiladol, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi dweud wrth Lywodraeth y DU ar sawl achlysur y gallai fod yn barod i argymell cydsyniad i'r Bil hwn, gan gynnwys cymalau 1, 14 a 15, os gwneir diwygiad i'w gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Arglwydd Ganghellor gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn gwneud unrhyw ddeddfwriaeth mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru. Fodd bynnag, mae'n siomedig iawn nad yw Llywodraeth y DU wedi bod yn barod i wneud unrhyw welliant o'r fath. Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi methu â darparu unrhyw ddadansoddiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eu barn na ellir gwneud y pwerau cydredol yn y Bil hwn yn amodol ar ofyniad i gael cydsyniad gan Weinidogion Cymru.
Maen nhw wedi gwneud ymrwymiad anffurfiol na fyddan nhw’n deddfu mewn meysydd cymhwysedd datganoledig nac yn defnyddio'r pwerau yn y Bil i danseilio'r setliad datganoli. Fodd bynnag, gan nad yw'r ymrwymiad hwn yn y Bil ei hun ac felly nad yw'n rhwymol, nid yw'n cael unrhyw effaith statudol. Mae Llywodraeth Cymru yn pryderu'n fawr y gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio'r pwerau cydredol yn y Bil hwn i weithredu cytundebau masnach a allai yn y dyfodol gwmpasu proffesiynau y mae rheoleiddio wedi'u datganoli i Gymru ar eu cyfer. Felly, yn absenoldeb gofyniad am gydsyniad, gallai Llywodraeth y DU wneud newidiadau i reoleiddio'r proffesiynau hyn heb gydsyniad Gweinidogion Cymru, gan danseilio rôl ein rheoleiddwyr gweithlu, y safonau a bennwyd gennym ni ar gyfer y proffesiynau hyn, a thanseilio gofynion cymwysterau a chofrestru oherwydd eu cyfyng gyngor i sicrhau bargen.
Ein casgliad ni yw bod darpariaethau cymalau 1, 14 a 15 o fewn y Bil yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, ac nid ydym yn argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r Bil hwn fel ag y mae. Rwy’n annog holl Aelodau'r Senedd i wrthod y cynnig a gwrthod cydsyniad i’r Bil ar ei ffurf bresennol. Diolch, Llywydd.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch eto, Llywydd. Mae'n wych croesawu cyn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ei rôl bresennol yma heddiw. Rwy’n nodi’r sylwadau y mae wedi'u gwneud wrth agor nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu rhoi cydsyniad i'r memorandwm hwn, ond mae rhai o'r sylwadau yr wyf i am eu gwneud yn berthnasol rhag ofn y bydd y sefyllfa honno'n newid wedyn.
Ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 2 ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol oedd yr ugeinfed adroddiad y mae ein pwyllgor wedi'i gynhyrchu ar femoranda cydsyniad, ac roedd yn dilyn ein hadroddiad ar y memorandwm gwreiddiol, a gyhoeddwyd ym mis Medi, sef ail adroddiad LCM ein pwyllgor. Hyd yn oed ar y cam cynnar iawn hwnnw, fe wnaethom nodi fod yr hyn yr oeddem ni’n eu hystyried yn rhai tueddiadau anffodus yn dod i'r amlwg, a byddaf yn troi at y rhain mewn munud. Nid yw'n rhoi unrhyw lawenydd i ni sefyll yma eto yn dweud ein bod yn gweld y tueddiadau hyn yn parhau. Mae'r signalau sy'n peri pryder yno.
Fel y soniais yn gynharach y prynhawn yma, mae Biliau'r DU yn cael eu cyflwyno i ni sy'n cynnwys, fel mae'r Gweinidog a'r Cwnsler Cyffredinol newydd ei ddweud, pwerau cydredol—pwerau y gall Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol eu harfer mewn perthynas â Chymru. Ac er ein bod yn deall bod y Gweinidog, yn wir, fel y dywedodd heddiw, yr un mor bryderus am bwerau o'r fath, mae ein hadroddiad diweddaraf ar y Bil unwaith eto'n tynnu sylw at y ffaith mai'r dull a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datrys y broblem hon yw rhoi rôl gydsynio i Weinidogion Cymru pan fydd rheoliadau o'r fath i'w gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Ond, Llywydd, byddem ni’n dadlau bod hyn, unwaith eto, yn osgoi rôl y Senedd fel y ddeddfwrfa yng Nghymru. Felly, nid ydym ni, fel Aelodau'r Senedd, yn cael cyflawni rôl o ran effeithio'n uniongyrchol ar fanylion deddfwriaeth sylfaenol ar faterion datganoledig, a hefyd, yn dilyn hynny, wrth gyflawni ein rôl wrth graffu ar is-ddeddfwriaeth a fydd yn dod yn gyfraith yng Nghymru.
Tuedd ychwanegol a phryderus yw effaith gyfunol pwerau cydredol a phwerau Harri VIII a fyddai'n galluogi Gweinidogion Llywodraeth y DU i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006—mae thema gyffredin yma y prynhawn yma—ein prif statud datganoli, heb gydsyniad y Senedd hon. Rwy'n swnio fel tôn gron, ond bydd y dôn hon yn parhau i chwarae cyn belled â bod hyn yn dal i godi. Cytunodd y Gweinidog i'n hargymhelliad yn ein hadroddiad cyntaf ac yn wir mae wedi gofyn am welliant i'r Bil i atal Deddf 2006 rhag cael ei diwygio drwy ddulliau o'r fath. Yn ein hail adroddiad, gofynnwyd i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn, ac rydym ni’n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ymateb i'n hadroddiad diweddaraf ddiwedd yr wythnos diwethaf.
Ar y mater hwn, mae'n ymddangos bod y Gweinidog wedi mynd ar drywydd trafodaethau helaeth gyda Llywodraeth y DU, ac mae hynny wir i'w groesawu. Mae’r ffaith, felly, nad yw'r newidiadau angenrheidiol hynny i'r Bil wedi'u gwneud hyd yn oed yn fwy anffodus. Fel y mae pethau, gallai pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil hwn, os cânt eu deddfu ac wedi hynny, gael eu defnyddio, fel y dywedais i, i ddiwygio Deddf 2006, ac ni allwn gymryd hyn fel chwarae bach. Felly, penderfynodd y pwyllgor ddefnyddio'r memorandwm hwn, Llywydd, a'r Bil hwn fel enghraifft pan wnaethom ysgrifennu'n ddiweddar at y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol. Fe wnaethom dynnu sylw at amrywiaeth o faterion cyffredin, fel y rhai yr wyf i newydd eu hamlinellu, a gofyn iddo, o ystyried ei gyfrifoldebau yn y maes hwn, roi ystyriaeth o safbwynt Llywodraeth y DU i'r materion yr oeddem ni’n eu codi. Rydym ni’n cymryd hyn o ddifrif iawn.
Cyn cloi, fe wnaf sôn yn fyr am yr ail argymhelliad yn ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 2. Yn y memorandwm gwreiddiol, tynnodd y Gweinidog sylw at gyfyngiad yn yr hyn sydd bellach yn gymal 16 o'r Bil a ddisgrifiodd fel 'unigryw i bwerau Gweinidogion Cymru'. Mae'r cymal hwn i bob pwrpas yn mewnforio cyfyngiadau a nodir yn Neddf 2006 sy'n berthnasol i wneud deddfwriaeth sylfaenol gan y Senedd hon i broses gwneud rheoliadau Gweinidogion Cymru. Byddem yn dweud bod hyn nid yn unig yn bŵer anarferol ond annymunol i'w gymryd. Mae'r Gweinidog o'r farn bod sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU yn golygu bod rhai pryderon wedi cael sylw. Fodd bynnag, ni ddarperir unrhyw wybodaeth ym memorandwm Rhif 2 ynghylch natur y sicrwydd hwn. Hyd y gwyddom ni, nid oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i wyneb y Bil. O'r herwydd, ac wrth i hyn fynd rhagddo, byddem yn gofyn i'r manylion hynny gael eu darparu.
Yn ei ymateb i'n hadroddiad, nododd y Gweinidog hefyd fod pryderon bod Llywodraeth y DU wedi tybio y dylai Biliau'r DU sy'n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gael eu drafftio bob amser mewn ffordd sy'n sicrhau bod cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a chymhwysedd Gweithredol Gweinidogion Cymru yn cyd-fynd, ac, o gofio bod Llywodraeth y DU bellach yn cytuno bod achosion lle nad yw cymwyseddau o'r fath yn cyd-fynd, mae'r Gweinidog yn fodlon â'r canlyniad. Ond, Gweinidog, rydyn ni’n dal yn aneglur ynghylch sut nad yw'r cymal yn cynrychioli cyfyngiad ar bwerau Gweinidogion Cymru. Rwyf i’n ymwybodol eich bod wedi rhannu gohebiaeth berthnasol ar hyn gyda Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ac, er y byddwn yn eich croesawu i ddweud mwy y prynhawn yma, efallai y gallwn i ofyn i chi ymrwymo i roi esboniad ysgrifenedig pellach i'n pwyllgor cyn gynted â phosibl. Diolch, Llywydd.
I fi, mae'r prynhawn yma yn crisialu'r problemau sydd gennym ni fel Senedd gyda'r mesurau cydsyniad deddfwriaethol. Fe wnaiff fy nghyfaill Sioned Williams siarad ar ran Plaid Cymru ynglŷn â'r Bil cenedligrwydd yn nes ymlaen, Bil erchyll a fydd yn arwain at farwolaethau nifer o bobl, rhan o becyn o Filiau sy'n cael eu pasio gan Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd.
Yna, mae gyda ni'r Bil iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, Bil y mae'r Llywodraeth fan hyn yng Nghymru yn cydsynio i roi caniatâd iddo; Bil, fel mae Cadeirydd y pwyllgor wedi dweud, a fydd yn rhoi pwerau o'r newydd i Weinidogion y Deyrnas Unedig. Mae'r Gweinidog iechyd wedi galw hwnna yn risg bychan i setliad cyfansoddiadol ein gwlad ni. Nid risg bychan yw hynny, yn fy marn i, pan ŷm ni'n edrych ar y Llywodraeth sydd gyda ni ar hyn o bryd yn San Steffan—Llywodraeth sydd yn tynnu grymoedd, Llywodraeth sydd yn tynnu hawliau oddi wrth bobl. Nid risg bychan yw e. Fe wnaeth y Gweinidog ddweud, os gwnawn nhw dynnu nôl o'r hyn maen nhw wedi'i addo wrth y despatch box,
'bydden ni'n chwarae'r diawl â nhw.'
Wel, nid soapbox yw'r Senedd yma ond deddfwrfa, deddfwrfa mae pobl ein gwlad wedi pleidleisio ar ei chyfer. Yn 2011, pan wnaeth pobl Cymru bleidleisio gyda mwyafrif enfawr o blaid cyfreithiau cynradd yn y Senedd yma, doedd dim syniad gyda nhw y byddem ni yn rhoi hawl i Lywodraeth erchyll y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd i dynnu'r grymoedd yna i ffwrdd. Dyna beth sy'n mynd i allu digwydd gyda'r Bil yna, a dyna hefyd sy'n digwydd gyda'r Professional Qualifications Bill.
Dyna'r Bil rwy'n ei drafod ar hyn o bryd. Bydd y Bil hwn yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU wneud is-ddeddfwriaeth o fewn meysydd datganoledig. Dydyn ni ddim yn cytuno â hynny, ni fyddwn yn rhoi cydsyniad y tro hwn, ond unwaith eto, rydym ni'n fwy na pharod i roi caniatâd i'r ddeddfwriaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Ni all Llywodraeth Cymru gael y geiniog a'r deisen. Naill ai rydym ni'n anhapus bod ganddyn nhw bwerau i ddeddfu, naill ai rydym ni'n pryderu am y risg gyfansoddiadol i'r lle hwn, neu dydyn ni ddim. Ble'r ydym ni yn hyn o beth?
Mae'r syniad hwn ein bod yn pryderu yn y fan yma nad yw ar wyneb y Bil na fyddan nhw'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol, nad yw ar wyneb y Bil na fyddan nhw'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, sef sylfaen ein setliad datganoli, ac eto mewn cynnig cydsyniad deddfwriaethol blaenorol, fe wnaethom ni ddisgrifio hynny fel mân risg gyfansoddiadol. Wel, dydw i ddim yn fodlon cymryd unrhyw risg o ran cyfansoddiad Cymru pan fyddwn ni'n ystyried y Llywodraeth hon. Mae'r syniad bod addewid blwch dogfennau yn golygu rhywbeth—nid yw'n rhwymo'r Llywodraeth bresennol hon, ac yn sicr nid yw'n rhwymo unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol. Pam rydym ni'n caniatáu i ni ein hunain syrthio i'r fagl hon dro ar ôl tro?
Rwy'n cytuno bod gan lawer o'r Biliau hyn sy'n dod ger ein bron gymalau da ynddyn nhw—cymalau y byddwn, wrth gwrs, yn eu cefnogi—ond rhaid i ni benderfynu: ai ein rôl ni fel Senedd Cymru yw deddfu ar ran pobl Cymru o fewn ein setliad datganoli presennol, neu rôl Llywodraeth Geidwadol y DU?
Dŷn ni'n methu â dal unrhyw despatch box promise mewn gwirionedd i gyfrif. Mi allen nhw ei anwybyddu e'n llwyr, a gallem ni gicio ffys—
gallwn ni chwarae'r diawl gymaint ag y mae'r Gweinidog iechyd ei eisiau—
a wnawn nhw ddim gwrando arnom ni. Pryd wnawn ni, gyfeillion, ddweud mai digon yw digon? Wnawn ni ddim pasio mwy o rymoedd yn ôl, neu gallaf ddweud wrthych chi, erbyn yr etholiad nesaf, bydd yna Senedd hollol wahanol fan hyn. Edrychwch ar y ffigurau. Ym mlwyddyn gyntaf y pumed Senedd, roedd yna 10 Bil wedi dod o flaen gydag LCM, a hynny gydag 80 o clauses. Yn barod yn y Senedd yma, sydd ddim yn flwydd eto, mae 17 Bil a bron i 400 o clauses. Maen nhw'n newid ein setliad datganoledig ni o flaen ein hwynebau, o flaen ein llygaid ni. Unwn fel Senedd i wrthwynebu hynny. Diolch yn fawr.
Galwaf nawr ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl yma.
Diolch, Llywydd. Fe wnaf ymateb yn gyntaf i sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a hefyd i'w hysbysu—. Rwyf i'n siŵr bod Aelodau'n ymwybodol, wrth gwrs, o fewn y cymalau penodol hyn 114 a 115—ac, wrth gwrs, y cyfeiriad at gymal 16—nad oes cefnogaeth yn unrhyw un o'r Llywodraethau datganoledig i'r cymalau penodol hyn, ac mae'r un pryderon ac arsylwadau wedi'u gwneud yn hynny o beth. Ac mae'r pwynt yr ydych chi'n ei wneud hefyd o ran yr agwedd graffu, rwy'n credu, yn gwbl gywir. Mae'n bryder. Mae'n fater sy'n codi pan fyddwn ni'n delio â deddfwriaeth yn y modd penodol hwn. Rydych chi'n gwneud pwyntiau dilys mewn perthynas â phwerau Harri VIII, ac rydych chi'n iawn hefyd y bu trafodaethau helaeth iawn a hynod o droellog—ar hyn ac ar lawer o rai eraill—sy'n mynd drwyddo gymal fesul cymal. Mae'n bwysig deall union raddfa'r trafod a'r negodi hynny sy'n digwydd.
Mae'n destun pryder, wrth gwrs, pan fydd gennych chi'r materion hynny sy'n cael eu codi a bod trafodaethau'n digwydd, a phan wrthododd un o'r partïon roi unrhyw sylfaen dystiolaethol ar gyfer y sefyllfa maen nhw'n ei chymryd—mae hynny, wrth gwrs, yn peri cryn bryder. Rydych chi'n iawn, wrth gwrs, fod cymal 16 yn anghyson i bob pwrpas mewn rhai ffyrdd, ac rwy'n credu bod y pwynt rydych chi'n ei wneud am y sicrwydd, unwaith eto, yn ddilys. Mae hwn, wrth gwrs, yn LCM lle'r ydym ni'n argymell gwrthod, neu beidio â rhoi cydsyniad.
Os gallaf fi fynd â ni ymhellach ymlaen i'r—
A wnewch chi gymryd ymyriad?
O, yn sicr.
Gwnaf, os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn fodlon.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol.
Y ffaith na fydd Llywodraeth San Steffan hyd yn oed yn caniatáu cais rhesymol y bydd Llywodraeth Cymru yn cydsynio i unrhyw newidiadau y byddan nhw'n eu gwneud, neu unrhyw is-ddeddfwriaeth y byddan nhw'n ei wneud, o fewn meysydd datganoledig—. Onid yw hynny'n dangos y diffyg parch llwyr sydd ganddyn nhw tuag atom ni fel Senedd?
Mae'n sicr yn rhywbeth sy'n peri cryn bryder cyfansoddiadol, ac mae'n amlygu hefyd y camweithredu yn y trefniadau cyfansoddiadol sydd gennym ni. Rwy’n credu bod cytundeb cyffredin, mae'n debyg, ar yr angen—bod yn rhaid i'r cyfansoddiad ddechrau dod yn draddodadwy yn rhywle ar hyd y ffordd. Wrth gwrs, rydyn ni wedi trafod yr adolygiad rhynglywodraethol a'r trefniadau newydd, a allai fod yn gam tuag at hynny. Ond, unwaith eto, maent yn annhraddodadwy, a rhaid i ni aros i weld sut maen nhw’n gweithio.
Fodd bynnag, os gallaf gyfeirio at rai o'r pwyntiau y gwnaethoch chi eu codi, o ran gosod memoranda cydsyniad deddfwriaethol, a'r nifer ohonynt. Wrth gwrs, nid yw hyn yn rhywbeth sydd o fewn dewis Llywodraeth Cymru nac, yn wir, y Senedd. Mae'n ofynnol i ni, drwy'r Rheolau Sefydlog, ymdrin ag unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth a allai effeithio ar bwerau'r lle hwn, neu a allai eu haddasu. Felly, ni allwn ddianc rhag y ffaith fod yno ac rydym ni’n delio â nhw. A'r nifer ohonyn nhw—. Yr hyn y maen nhw’n ei adlewyrchu mewn gwirionedd yw faint o ddeddfwriaeth sy'n dod gan Lywodraeth y DU.
Nawr, bydd adegau, wrth gwrs, pan fydd pethau, o fewn y darnau hynny o ddeddfwriaeth, na fydd gennym ni fel rhan o'n rhaglen ddeddfwriaethol y byddem ni am eu gweld mewn gwirionedd, neu na fyddem ni am eu gwadu i bobl Cymru. Fe wnaeth y Gweinidog iechyd sôn, wrth gwrs, am yr hymenoplasti ac un neu ddau o feysydd eraill. Wrth gwrs, yr ateb syml yw, 'Wel, fe wnawn ni ddeddfu ein hunain.' Ond y realiti yw, os mai dyna yw ein hunig ymateb bob tro y bydd rhywbeth felly'n codi, yna'r hyn sy'n digwydd i bob pwrpas yw bod Llywodraeth y DU yn penderfynu beth yw ein blaenoriaethau deddfwriaethol, a beth yw ein rhaglen ddeddfwriaethol. Bob tro y byddan nhw’n cyflwyno darn o ddeddfwriaeth fel hynny, rydyn ni’n dweud, 'O, wel, rydyn ni’n eithaf hoffi hynny, ond rydym ni’n mynd i wneud hynny ein hunain.' Felly, mae'n rhaid i ni wedyn ddargyfeirio oddi wrth ein blaenoriaethau ein hunain a'n rhaglen ddeddfwriaethol a'n hadnoddau ein hunain er mwyn gwneud hynny.
Felly, dydw i ddim yn credu y dylid bod cywilydd o ran cymryd pethau da sydd o fudd i bobl Cymru yn y ffordd benodol honno, ac yn sicr i beidio â rhoi Llywodraeth y DU mewn sefyllfa lle nad ydym ni, i bob pwrpas, yn gwneud fawr mwy nag ymateb i flaenoriaethau a chyfeiriad Llywodraeth y DU. Pe byddem ni'n mabwysiadu'r dull gweithredu hwnnw'n unig, dyna i bob hanfod beth fyddai'n digwydd, oherwydd ym mhob un o'n blaenoriaethau, byddem ni’n colli rhai ohonynt, a byddem mewn gwirionedd yn cyfeirio ein hadnoddau at ddatblygu a gweithredu'r blaenoriaethau deddfwriaethol hynny er mwyn ymgymryd â'r mentrau hynny bob tro y byddan nhw’n codi mewn darn o ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU. Felly, rwy’n credu bod yn rhaid i ni roi hynny yn y cyd-destun hwnnw.
Mae'n debyg mai'r unig ffordd arall o gwblhau hyn, mewn gwirionedd, yw, wrth gwrs, fy mod yn credu ein bod, mae'n debyg, yn cytuno'n llwyr ar y sail, o ran y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn, na ddylid rhoi cydsyniad. Mae'r cynnig yn rhoi’r mater o gydsyniad i'r Senedd, ac mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod y Senedd yn pleidleisio yn erbyn y cynnig ac yn atal ei gydsyniad mewn perthynas â'r Bil penodol hwn. Diolch, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly mae'r bleidlais ar yr eitem yma yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 12 sydd nesaf. Hwn yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig yma—Jane Hutt.
Cynnig NDM7922 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig heddiw, y cynnig cydsyniad ar y fframwaith ar gyfer pennu oedran ym Mil Cenedligrwydd a Ffiniau y DU. Byddaf yn galw ar Aelodau i atal cydsyniad ar y cymalau ar y fframwaith ar gyfer pennu oedran yn y Bil hwn. Rwyf yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, am ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac am eu hadroddiadau diweddar. Sylwaf fod y rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn cytuno â'r sefyllfa yr wyf yn ei chyflwyno i'r Senedd heddiw.
Bydd Bil Cenedligrwydd a Ffiniau Llywodraeth y DU yn tanseilio yn sylfaenol ein gweledigaeth cenedl noddfa, y mae'r Senedd wedi'i chymeradwyo. Ac rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog: mae'r Bil yn drasiedi ar y gweill. Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol a minnau ddatganiad ar 6 Rhagfyr ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Yn y datganiad hwnnw, fe wnaethom ddweud,
'Credwn y bydd llawer o’r darpariaethau yn y Bil yn torri confensiynau rhyngwladol ac egwyddorion cyfiawnder, gan osod amodau eithafol ac anorchfygol yn eu hanfod ar bobl sy’n troi atom i’w diogelu.'
Darpariaethau'r Bil yw'r gwrthwyneb i'r hyn sydd ei angen i gyflawni'r nod a nodwyd o wneud mewnfudo'n fwy diogel ac yn fwy effeithiol, ac mae atebion tosturiol ac effeithiol. Rydym wedi cyflwyno'r rhain i Lywodraeth y DU. Rydym wedi codi pryderon dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU am effaith y Bil ar Gymru. Rydym wedi gofyn am fanylion y cymalau sy'n ymwneud ag asesu oedran o fis Mai ymlaen, heb lwyddiant. Nid ydyn nhw wedi rhoi unrhyw sicrwydd boddhaol, nid oes unrhyw welliannau wedi'u cyflwyno i fynd i'r afael â'r pryderon y mae Llywodraeth Cymru wedi'u codi.
Felly, Llywydd, o ran y Bil a'r darpariaethau a gwmpesir gan y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, mae'n cynnwys y posibilrwydd o gyfeirio asesiad oedran at fwrdd asesu oedran cenedlaethol newydd yn y DU, i'w gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu tystiolaeth lle mae'r awdurdod lleol yn penderfynu cynnal yr asesiad eu hunan, a chreu dull o asesu oedran sy'n cyferbynnu'n uniongyrchol â'n dull ni yng Nghymru ar hyn o bryd ym mhecyn cymorth asesu oedran Llywodraeth Cymru, gan gynnwys defnyddio dulliau gwyddonol, fel y'u gelwir, o asesu oedran ceiswyr lloches sy'n blant.
Nid yw'r Bil yn cydnabod cyd-destun datganoledig Cymru ac mae'n rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy'n gosod swyddogaethau ar awdurdodau datganoledig Cymru. Mae'r arfer o asesu oedran plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches yn cael ei wneud yn bennaf i bennu mynediad i wasanaethau cymdeithasol, gofal a chymorth. Ac mae awdurdodau lleol yn cynnal yr asesiadau hyn i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael yn agored i niwed pan fydd wedi'i wahanu oddi wrth ei rieni neu ofalwyr. Yng Nghymru, rydym ni'n trin pob plentyn ar ei ben ei hun sy'n ceisio lloches fel plentyn sy'n derbyn gofal, ac mae hyn wedi'i nodi yng nghyfraith Cymru o dan Ran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae ein safbwynt polisi yn deillio o'n hymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i weithredu er lles pob plentyn.
Bydd gan awdurdodau lleol yr her o lywio dau ddull statudol sy'n groes i'w gilydd o asesu oedran. Yn y pen draw, gall y Bil hwn arwain at dribiwnlys yn gwneud penderfyniadau o blaid penderfyniadau asesu oedran yr Ysgrifennydd Gwladol, a fydd yn tresmasu ar benderfyniadau asesu oedran awdurdodau lleol Cymru.
Ac nid wyf yn cytuno y dylai Llywodraeth y DU drwy'r Bil hwn allu tanseilio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd drwy ei gwneud yn ofynnol i atgyfeirio plant sy'n destun dadl ar oedran at wneuthurwyr penderfyniadau eraill a benodir gan y Swyddfa Gartref neu orfodi tystiolaeth neu ddulliau penodol o asesu oedran nad ydynt yn cael eu hystyried yn arfer da yng Nghymru. Felly, gofynnaf i'r Aelodau atal eu caniatâd i'r darpariaethau niweidiol iawn hyn yn y Bil hwn heddiw. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Russell George.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rwyf yn cyflwyno barn ei aelodau yn ei gyfanrwydd. A gaf i ddweud 'diolch' i'r Gweinidog am ymateb i'n hadroddiad, a gafodd ond ei osod heddiw, rwy'n credu? Ac rwy'n credu iddo gyrraedd fy mewnflwch dim ond 30 munud yn ôl.
Fel y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud ei hun, mae'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn Fil mawr a chymhleth; mae iddo oblygiadau i iechyd a gofal cymdeithasol ac i hawliau a diogelu plant, rydym ni'n falch, felly, o allu cydlynu ein tystiolaeth gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn lleihau dyblygu, ac rydym hefyd yn ddiolchgar i randdeiliaid a oedd yn gallu rhannu eu barn gyda ni o fewn amserlen dynn iawn hefyd.
Er bod y rhan fwyaf o'r Bil yn ymdrin yn bennaf â materion sy'n ymwneud â mewnfudo, sydd y tu allan i gwmpas pwerau'r Senedd, mae cymalau 48, 49 a 51 i 55, sy'n ymwneud ag asesu oedran ceiswyr lloches, plant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches, a chymal 80, pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol, yn effeithio ar feysydd gofal cymdeithasol nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Felly, daethom i'r casgliad bod angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd.
Ni ddarperir unrhyw wybodaeth am gostau ariannol y cymalau asesu oedran arfaethedig yn y Bil, ac felly gwnaethom argymell, pe bai'r Bil yn cael ei basio fel y'i drafftiwyd, fod Llywodraeth Cymru yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd unrhyw oblygiadau ariannol sy'n deillio o'r Bil yn cael eu talu gan Lywodraeth y DU yn unol â'r datganiad o bolisi ariannu.
Hefyd, byddem yn ddiolchgar am sicrwydd gan y Gweinidog y bydd cymorth iechyd meddwl a lles priodol ar gael i bobl yr effeithir arnyn nhw gan y defnydd o ddulliau gwyddonol o asesu oedran, pe bai dulliau o'r fath yn cael eu defnyddio yng Nghymru. Ac mae ein barn ar y darpariaethau sy'n ymwneud ag asesiadau oedran wedi'u nodi yn ein hadroddiad, ond byddwn yn canolbwyntio ar ddau gymal yn benodol. Cymal 49: ar hyn o bryd, mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn cynnal asesiadau oedran lle mae unrhyw amheuaeth ynghylch oedran person, ac felly mae'r penderfyniad ynghylch oedran yn cael ei wneud ar lefel ddatganoledig. Felly, mae'r Bil yn cynnig newid y broses hon i greu system ledled y DU, fel y soniwyd amdani. Mae cymal 49 yn darparu y gall awdurdod lleol gyfeirio person sy'n destun dadl o ran oedran at y person dynodedig i asesu ei oedran. Fel arall, gall yr awdurdod lleol gynnal asesiad oedran ei hun, neu os yw'r awdurdod yn fodlon bod y person yr oedran y maen nhw'n honni, gallan nhw hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig o hyn, ac mae'r cymal hwn hefyd yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau sy'n gosod swyddogaethau ar awdurdodau datganoledig Cymru.
Felly, clywsom nifer o bryderon am y ddarpariaeth, gan gynnwys y diffyg manylion yn y Bil ynghylch swyddogaeth, pŵer, cyfansoddiad ac annibyniaeth y person dynodedig, a sut y bydd y person dynodedig yn ymgysylltu â Chymru ac yn ystyried y meysydd hyn sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru sy'n hanfodol i unrhyw broses asesu. Felly, ar ôl ystyried y dystiolaeth gan randdeiliaid, daethom i'r casgliad na ddylai'r Senedd gydsynio i gymal 49, a'r rheswm am hyn yw bod prosesau eisoes ar waith ar gyfer asesiadau oedran yng Nghymru y gallai cymal 49 eu tanseilio.
Ac mae cymal 51 yn rhoi'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ynghylch dulliau gwyddonol ar gyfer asesu oedran. Mae hefyd yn caniatáu i'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau wneud dehongliad negyddol o hygrededd person os yw'n gwrthod cael asesiad oedran gwyddonol heb reswm da. Felly, daethom i'r casgliad na ddylai'r Senedd gydsynio i gymal 51 ar y sail bod rhanddeiliaid fel y Coleg Nyrsio Brenhinol, Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr wedi dweud wrthym nad oes tystiolaeth bod dulliau gwyddonol o asesu oedran yn effeithiol. Felly, nid ydym ychwaith wedi ein darbwyllo y gellir cyfiawnhau cynnal gweithdrefnau meddygol ymwthiol posibl ar blant a phobl ifanc a allai fod wedi cael eu trawmateiddio eisoes gan eu profiadau bywyd.
Cododd gweithwyr iechyd proffesiynol bryderon hefyd ynghylch a oedd cynnal asesiadau oedran yn gyson â'u moeseg broffesiynol o weithredu er lles gorau'r person. Felly, rydym yn nodi, yn ogystal â rhoi gweithwyr proffesiynol o'r fath mewn sefyllfa anodd efallai, fod rhai rhanddeiliaid wedi awgrymu y gallai fod goblygiadau i les gweithwyr iechyd proffesiynol eu hunain, yn ogystal ag effeithio ar eu gallu i feithrin ymddiriedaeth gyda'r person ifanc sydd angen cymorth. Nid oedd yn glir ychwaith i ba raddau y bydd yn ofynnol i gyrff GIG Cymru gymryd rhan yn y broses asesu oedran, ond gallai hyn roi cryn alw ar weithlu sydd eisoes wedi'i orlethu.
I gloi, Llywydd, credwn fod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer cymalau 49, 51 i 55 ac 80, oherwydd eu bod yn gwneud darpariaethau o fewn cymhwysedd datganoledig y Senedd. Fodd bynnag, ar sail y dystiolaeth a gawsom, ni allai'r pwyllgor argymell y dylai'r Senedd roi ei chydsyniad. Diolch, Llywydd.
Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg nawr. Jayne Bryant.
Diolch, Llywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, ychydig iawn o amser a roddodd amserlen graffu'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol i bwyllgorau gasglu tystiolaeth. Ar 18 Ionawr, fe wnaethom ni, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ysgrifennu ar y cyd at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac at sefydliadau ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol plant, hawliau plant a ffoaduriaid a phlant sy'n ceisio lloches i ofyn am eu barn ar amrywiaeth o faterion sy'n berthnasol i'r Memorandwm. Roeddwn wedi pennu dyddiad cau ar gyfer ymateb o ddim ond 10 diwrnod yn ddiweddarach i'n galluogi i ystyried eu barn yn ystod ein cyfarfod ddydd Iau diwethaf. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r 13 sefydliad a ymatebodd i'n hymgynghoriad o fewn amserlen mor dynn, ac i'r Gweinidog am y wybodaeth ychwanegol werthfawr a roddodd i ni.
Ystyriwyd cymalau'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau y mae Llywodraeth Cymru yn credu bod angen cydsyniad y Senedd arnynt. Gwnaethom ganolbwyntio ein gwaith craffu ar oblygiadau'r cymalau hynny i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Canolbwyntiodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y gwnaethom gydgysylltu'r gwaith o gasglu tystiolaeth ag ef, ar y goblygiadau i'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, fel y clywsom eisoes gan Gadeirydd y pwyllgor hwnnw.
Cyn i mi grynhoi ein canfyddiadau, tynnaf sylw at y ffaith nad oedd pob aelod o'r pwyllgor yn cytuno â holl gasgliadau ac argymhellion y pwyllgor. Mae ein hadroddiad terfynol yn rhoi rhagor o fanylion. Mae ein casgliadau cyntaf yn ymwneud ag a oes angen cydsyniad y Senedd. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol Cymru yn cynnal asesiadau oedran o geiswyr lloches sy'n destun dadl ar oedran sy'n cael eu cyflwyno yng Nghymru. Maen nhw'n gwneud hynny o fewn y fframwaith a nodir ym mhrif becyn cymorth asesu oedran Llywodraeth Cymru. Ymhlith pethau eraill, mae Rhan 4 o'r Bil hwn yn rhoi pwerau i Ysgrifennydd Gwladol y DU gynnal asesiadau oedran drwy'r bwrdd asesu oedran cenedlaethol arfaethedig. Mae'n cyflwyno dulliau gwyddonol mewn asesiadau oedran ac yn sefydlu tribiwnlys i glywed apeliadau sy'n ymwneud ag asesiadau oedran. Mae hyn yn effeithio ar faes datganoledig gofal cymdeithasol. Cytunwn felly â Llywodraeth Cymru fod cymalau 48 i 49 a 51 i 55 yn Rhan 4, ynghyd â chymal 80 yn Rhan 7, yn gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn honni nad oes angen cydsyniad y Senedd ar unrhyw ddarpariaethau yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Ni allem gysoni'r farn hon ag effaith y darpariaethau yn y Bil. Felly, rydym yn pryderu bod Llywodraeth y DU yn gweithredu heb roi sylw dyledus i adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 drwy ddeddfu mewn perthynas â materion datganoledig heb gydsyniad y Senedd.
Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi ein barn am y dulliau arfaethedig o asesu oedran. Dywedodd y 13 sefydliad a ymatebodd i'n hymgynghoriad, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, BMA Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrthym fwy neu lai yr un peth: nid oes digon o dystiolaeth bod technegau asesu oedran gwyddonol yn ddigon cywir i gyfiawnhau'r trallod y gallant ei achosi. Clywsom hefyd gan y comisiynydd plant, y Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid, cynrychiolwyr awdurdodau lleol ac eraill fod asesiadau oedran gwyddonol fel y'u cynigiwyd yn y Bil a deunydd esboniadol yn anghyson â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn seiliedig ar gysondeb y dystiolaeth a gawsom, rydym yn argymell bod y Senedd yn atal cydsyniad deddfwriaethol heddiw.
Mae'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd. Efallai mai prin yw'r cyfleoedd pellach i Lywodraeth Cymru ofyn am unrhyw newidiadau i'r Bil i adlewyrchu pryderon ein pwyllgor ac efallai'r Senedd yn ehangach. Fodd bynnag, gall Llywodraeth Cymru gymryd camau i geisio dylanwadu ar unrhyw reoliad y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud gan ddefnyddio pwerau yn y Bil hwn.
Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw technegau asesu oedran gwyddonol yn cael eu cyflwyno yng Nghymru drwy reoliadau gan ddefnyddio pwerau a nodir yn y Bil. Fel pwyllgor, rydym wedi cytuno y bydd hawliau plant yn ganolog i'n gwaith drwy'r chweched Senedd. Nid oedd pob aelod o'r pwyllgor yn gallu cefnogi'r holl gasgliadau a'r argymhellion yn ein hadroddiad. Fodd bynnag, roeddem yn gallu rhoi sylw i un casgliad pwysig: beth bynnag fo'r dull a ddefnyddir i asesu oedran ceiswyr lloches neu fudwyr, rhaid i hawliau plant fod wrth wraidd y broses. Rydym yn annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sydd nesaf—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser dilyn y ddau o fy nghyd-Gadeiryddion pwyllgor. Ac a gaf i ddweud, ar y pumed achlysur yr wyf wedi codi y prynhawn yma, diolch i dîm clercio'r pwyllgor a fy nghydweithwyr yn ogystal am ystyried y materion hyn? Ac a gaf i nodi yn fyr amddiffyniad ysbrydoledig gan y Cwnsler Cyffredinol yn gynharach ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a oedd yn ddiddorol iawn, a byddwn yn dychwelyd at hyn? Mae bob amser yn barod i ymwneud â'r pwyllgor ac rwy'n siŵr y byddwn yn archwilio'r materion hyn ymhellach.
Felly, yn fy nghyfraniad olaf y prynhawn yma, trown at Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Os nad yw pobl wedi blino ar fy llais i erbyn y cam hwn, Duw â'n helpo. Gwnaethom un argymhelliad wrth ystyried ac adrodd ar hyn. Nodom y cymalau y mae'r Gweinidog o'r farn bod angen cydsyniad y Senedd arnyn nhw a nodom hefyd nad yw Llywodraeth y DU yn credu bod angen cydsyniad y Senedd. Cytunodd ein hadroddiad â'r Gweinidog fod yn wir angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymalau hyn a chydnabu hefyd nad yw'n argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i gynnwys y cymalau hyn yn y Bil.
Mynegodd ein hadroddiad bryderon, er enghraifft, y gall rheoliadau o dan y Bil osod swyddogaethau ar awdurdodau datganoledig mewn perthynas â gofal cymdeithasol ac na fydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru na'r Senedd roi cydsyniad mewn amgylchiadau o'r fath. Mae Cyd-Gadeiryddion a'u pwyllgorau wedi sôn am y rhain hefyd. Rydym yr un mor bryderus am y pwerau sydd ar gael i'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau a allai ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol gan y Senedd, heb unrhyw ofyniad am ei gydsyniad. Hyd y gwyddom ni, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y pwerau hyn—mae'n thema yr wyf i'n dychwelyd ati eto—fel y gellid eu defnyddio hefyd i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 drwy reoliadau. Fel yr wyf wedi nodi o'r blaen yn fy nghyfraniadau y prynhawn yma o ran Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol eraill, credwn fod dull gweithredu o'r fath yn annerbyniol yn gyfansoddiadol.
Ond yr hyn sy'n gwneud y sefyllfa'n fwy cymhleth yw—fel y cyfeiriais ato ar ddechrau'r cyfraniad hwn—y ffaith nad yw Llywodraeth y DU o'r farn bod darpariaethau'r Bil yn dod o fewn cymhwysedd y Senedd hon. Nawr, cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn, mae'r ddadl hon yn ddiangen ac nid oes angen cydsyniad y Senedd, er bod y Bil, yn ein barn ni a barn Llywodraeth Cymru a phwyllgorau eraill, yn effeithio ar faes datganoledig gofal cymdeithasol. Felly, yng ngoleuni'r sylwadau hyn, gofynnodd ein hargymhelliad unigol, mewn tair rhan, i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am faterion amrywiol cyn y ddadl heddiw. Ac rydym yn ddiolchgar iawn am yr ymateb manwl a gawsom gan y Gweinidog.
Gofynnodd rhan gyntaf ein hargymhelliad am y wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch a yw darpariaethau'r Bil yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gofynnodd yr ail ran i'r Gweinidog egluro a yw, fel rhan o'i thrafodaethau, wedi gofyn am welliannau i'r Bil sy'n berthnasol i'n pryderon ynghylch y pwerau i wneud rheoliadau sy'n cael eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol i weithredu mewn meysydd datganoledig, ac a allai ganiatáu diwygio Deddf 2006.
Yn ei hymateb, ac mewn perygl o ailadrodd rhywfaint o'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yn gynharach, mae'r Gweinidog wedi dweud wrthym sut yr oedd wedi codi pryderon dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU, gan gynnwys ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, ond nad oedd wedi cael unrhyw sicrwydd boddhaol mewn ymateb. Ac esboniodd wrthym hefyd sut na wnaeth y Swyddfa Gartref ymgysylltu â Llywodraeth Cymru am bryderon ynghylch asesu oedran oherwydd eu safbwynt o fod yn fater a gadwyd yn ôl, sy'n golygu nad oedd cyfle iddynt fynd ar drywydd gwelliannau, gan gynnwys o ran ein pryderon am y pwerau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Nododd hefyd, mor ddiweddar ag 8 Chwefror, fod y Swyddfa Gartref wedi ysgrifennu i ddweud nad oedd sefyllfa Llywodraeth y DU wedi newid, bod holl gymalau'r Bil o fewn cymhwysedd a gadwyd yn ôl ac nad oes angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y cymalau sy'n ymwneud ag asesu oedran. Felly, rydym yn rhannu siom a rhwystredigaeth glir y Gweinidog am y diffyg ymgysylltiad adeiladol â Llywodraeth y DU ar y materion hyn, yn bennaf am na chafwyd gohebiaeth a addawyd ymhellach yn esbonio safbwynt Llywodraeth y DU yn fanylach. Byddem yn ddiolchgar iawn i dderbyn copïau o unrhyw ohebiaeth bellach ar y mater hwn, o ystyried ein diddordeb—diddordeb parhaus—mewn cysylltiadau rhynglywodraethol.
Ac mae hynny'n dod â ni i drydedd ran ein hargymhelliad, a ofynnodd a fydd y Gweinidog yn ymgysylltu â'r gweithdrefnau datrys anghydfodau yn unol â'r pecyn terfynol o ddiwygiadau a gyhoeddwyd yn yr adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar o gysylltiadau rhynglywodraethol. Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog y byddai'n rhoi ystyriaeth bellach i reoli hyn drwy'r peiriannau newydd, ac, unwaith eto, edrychwn ymlaen at gael ein cadw mewn cyswllt â datblygiadau ar y mater pwysig iawn hwn. Diolch yn fawr iawn.
Ddoe, roeddwn gydag aelodau o Ddinas Noddfa Abertawe a'r bobl y maen nhw'n eu cynorthwyo sy'n ceisio lloches. Roedd mewn digwyddiad gwych ym mwyty Hoogah, sydd wedi addo cefnogi Dinas Noddfa Abertawe yn ddiweddar yn eu nod o hyrwyddo diwylliant o groeso i geiswyr lloches a ffoaduriaid, ac i fod yn lle diogel i'r rhai sy'n chwilio am gartref newydd yn y ddinas.
Dyna'r union bobl y mae Dinas Noddfa Abertawe yn eu cynorthwyo: pobl. Pobl sy'n ffoi rhag erledigaeth, perygl, rhyfel, newyn, anobaith. Pobl sydd eisiau i'w plant fyw mewn heddwch, i gael pob cyfle i allu cymryd eu lle yn y byd heb ofn. Pobl. Ni allai'r teimladau a fynegwyd tuag at y bobl y cyfarfûm â nhw ddoe, sef tosturi a dealltwriaeth, fod yn fwy gwahanol i'r rhai a hybir gan y Bil hwn. Ddoe, roedd ofn, anobaith, dicter y byddai Llywodraeth y DU, drwy'r Bil hwn, yn tanseilio'n sylfaenol ac yn wrthun hanes Cymru o groeso a'n dyhead i fod yn genedl noddfa. Ac nid yw'r ffordd y mae'n diystyru hawliau plant, unwaith eto mor ganolog i'n gweledigaeth genedlaethol yma yng Nghymru, yn gwneud dim llai na throi'r stumog.
Mae Gweinidogion Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi honni bod y mesurau yn y Bil wedi'u hanelu at dorri costau i'r pwrs cyhoeddus, torri gangiau sy'n smyglo pobl, ac amddiffyn pobl sy'n ceisio lloches. Fodd bynnag, mae arbenigwyr yn y maes yn anghytuno'n llwyr. Amnesty yw un o'r sefydliadau niferus sydd wedi dadlau y bydd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn gwaethygu system noddfa y DU. Mae'r model o loches sy'n cael ei gynnig, yn ôl y Cenhedloedd Unedig, yn un
'fyddai'n cosbi'r rhan fwyaf o ffoaduriaid sy'n ceisio lloches'
ac felly
'yn tanseilio rheolau ac arferion diogelu ffoaduriaid rhyngwladol sefydledig.'
Mae The Good Law Project wedi mynd mor bell â dweud y bydd y Bil yn ymgorffori hiliaeth yn neddfwriaeth y DU drwy gymal draconaidd 9, a fyddai'n galluogi Ysgrifennydd Gwladol i dynnu dinasyddiaeth gwladolion Prydeinig heb rybudd.
A hyd yn oed os edrychwn ar hyn o safbwynt ariannol, nid yw dadl Llywodraeth y DU bod y newidiadau y mae'n eu cynnig yn seiliedig ar arbed arian a wariwyd ar y gost uchel dybiedig o gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gwneud unrhyw synnwyr. Canfu adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan glymblaid Together With Refugees y byddai'r Bil yn dyblu'r costau hyn i £2.7 biliwn. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal y Bil annynol hwn, popeth a allwn ni i amddiffyn y rhai a fyddai'n cael eu croesawu a'u trysori fel dinasyddion newydd Cymru rhag y darpariaethau hiliol, peryglus hyn yn y Bil sy'n dad-ddynoleiddio.
Fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, darllenais ymatebion y sefydliadau sy'n gweithredu yng Nghymru ym maes iechyd a gofal cymdeithasol plant, hawliau plant a'r rhai sy'n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, i'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn sydd ger ein bron heddiw. Roedd y pryderon ynghylch effaith y Bil hwn ar Gymru o ran y cymalau sy'n ymwneud ag asesu oedran plant, a gynhwysir yn Rhan 4 o'r Bil, yn anorchfygol. Roedd y consensws bod y Bil yn effeithio ar y meysydd gofal cymdeithasol datganoledig ac yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ar awdurdodau datganoledig Cymru yn gwbl glir.
Roedd yr ansoddeiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio'r cynigion, a oedd yn cynnwys dulliau asesu oedran gwyddonol ymwthiol, meddygol a'r hyn a elwir yn ddulliau asesu oedran gwyddonol mewn perthynas â cheiswyr lloches ar eu pen eu hunain nad oes ganddyn nhw ddogfennau i brofi eu hoedran, yn cynnwys y geiriau 'annigonol', 'amhriodol' a 'trawmatig'. A dywedodd y comisiynydd plant wrthym, fel y mae'r Bil, y bydd yn niweidiol i hawliau sylfaenol plant, a nodir yn y confensiwn.
Rydym yn llwyr gefnogi dadansoddiad y Gweinidog o'r cymalau hyn, a barn y Llywodraeth y dylid atal cydsyniad. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn gwrthwynebu'n sylfaenol unrhyw ymgais i danseilio hawl a phŵer y Senedd hon i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig, yn enwedig yn wyneb awydd digynsail Llywodraeth San Steffan i danseilio ein hawdurdod datganoledig, ein hunaniaeth genedlaethol a'n hawl ddemocrataidd i benderfynu pa fanteision sydd i'n cymunedau ein hunain. Ac mae Bil fel hwn yn blaenbrosesu ein rhesymau dros wrthwynebu.
Dywedodd yr athronydd Hannah Arendt mai colli dinasyddiaeth yw'r golled, yn ei hymadrodd enwog 'yr hawl i gael hawliau'. Roedd yn myfyrio ar y dotalitariaeth a'i gorfododd i ffoi o'i mamwlad, yr Almaen, ei dinasyddiaeth wedi'i thynnu oddi arni, ymlaen i Ffrainc, i Bortiwgal, gan ymgartrefu yn yr Unol Daleithiau yn y pen draw. Fel y canfu hi a miliynau o bobl eraill yn Ewrop yn y 1940au, roedd y byd, yn ei geiriau hi,
'yn canfod unrhyw dim byd sanctaidd yn noethni haniaethol bod yn ddynol.'
Yr hyn a sylweddolodd Arendt oedd bod angen dinasyddiaeth er mwyn i hawliau dynol gael eu deddfu. Gwadu dinasyddiaeth person, lle i berthyn, yw gwadu eu hawliau sylfaenol iddynt.
Dylai'r genedl yr ydym ni'n ei hadeiladu yng Nghymru roi hawliau i'w dinasyddion. Yr hyn y mae'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau hwn yn ei wneud yw dileu hawliau. Mae gwerthoedd cenedlaetholdeb cyfoes Cymreig fel y'u hamlygir yng ngwleidyddiaeth Plaid Cymru yn gwrthwynebu'n sylfaenol y cenedlaetholdeb Prydeinig senoffobig a ymgorfforir yn y Bil hwn. Rhaid i ni anfon y neges gryfaf bosibl heddiw o'r lle hwn, o'r genedl noddfa yr ydym yn dyheu amdani, na fyddwn yn sefyll o'r neilltu, na fyddwn yn cydsynio.
Mae llawer o bethau y gallem ni i gyd eu dweud, y rheini ohonom sy'n gwrthwynebu'r cydsyniad hwn heddiw, am y Bil hwn, ac mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu dweud. Ond rwy'n mynd i ganolbwyntio yma'n arbennig a siarad ar y mater dan sylw, ac mae'r mater dan sylw yn ymwneud ag archwiliadau meddygol ac asesiadau oedran o ffoaduriaid dan oedran ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches—plant. Ac rwy'n credu bod un neges y mae'n rhaid iddi fod yn gwbl glir yma heddiw: rydym yn sôn am blant. Rydym yn sôn am blant sydd wedi dioddef trawma, nid dim ond plant sydd wedi cyrraedd ac maen nhw'n mynd i fynd i ryw asesiad erchyll na fydd yr holl broffesiwn meddygol sydd wedi ymateb i geisiadau i ymateb gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei ddilysu. Maen nhw'n dweud nad oes tystiolaeth i gefnogi bod yr asesiadau meddygol hyn yn gywir. Felly, mae angen i ni ddechrau yn y fan yna. Mae'r proffesiwn meddygol eu hunain, sydd wedi ymateb, yn dweud nad oes gan yr asesiadau hyn unrhyw rinwedd.
Yn ail, ac rydym wedi ei glywed yn cael ei ddweud, ac yn bwysicach, plant yw'r rhain. Maen nhw'n blant wedi'u trawmateiddio a gofynnir i ni roi caniatâd i broses i roi trawma pellach iddynt, proses na fyddan nhw'n gallu ei wrthwynebu, oherwydd ni fydd ganddyn nhw lais yn y gwrthwynebiad hwnnw. A bydd beth bynnag a wneir iddyn nhw yn eithaf trawmatig ynddo'i hun, ac mae'n siŵr o achosi straen wedi trawma, ac mae hynny eisoes wedi'i gyfeirio ato yma. Heb sôn, wrth gwrs, am eu breuder meddyliol pan fyddan nhw'n dechrau ar y broses a hwnnw'n cynyddu o ganlyniad i fynd drwy'r broses honno. Felly, nid oes unrhyw ran o hwn yn newyddion da.
Os byddan nhw'n methu, wrth gwrs, byddwch wedyn yn rhoi plant mewn cyfleusterau i oedolion, ac eto heb unrhyw amddiffyniad o gwbl, dim hawl i apelio—i gyd wedi'u tynnu allan o'u dwylo. Fel y gwyddoch chi i gyd, rwy'n un o sylfaenwyr y grŵp hollbleidiol ar fasnachu a chaethwasiaeth. Nid wyf yn credu y byddai'n rhaid i chi ddefnyddio llawer iawn o ddychymyg i ddeall goblygiadau rhoi plant ar eu pen eu hunain mewn cyfleusterau lle bydden nhw'n dod yn ddioddefwyr posibl masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth. Mae llawer o straeon am hynny eisoes yn digwydd yn y cyfleusterau hynny wrth i ni siarad. Ac, wrth gwrs, byddan nhw'n cael eu gwahanu mewn rhai achosion oddi wrth eu teuluoedd, felly yn yr un modd ni fyddan nhw'n gallu codi eu lleisiau ar ran y plant oherwydd rywsut mae'r Llywodraeth hon yn ddigon bodlon taflu hawliau'r plant hynny, anwybyddu'r ddynoliaeth sylfaenol y byddech yn disgwyl ei chael pan fyddwch yn sôn am blant sydd wedi dioddef trawma.
Felly, rwy'n falch iawn ei bod yn ymddangos bod yr holl bobl a gymerodd dystiolaeth yn dweud, 'Na, ni fyddwn yn rhoi caniatâd. Ni fyddwn yn rhoi caniatâd i drin plant sy'n cael eu hunain yn y DU hon yn annynol a'u trawmateiddio.'
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl nawr. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau pwerus i'r ddadl bwysig iawn hon y prynhawn yma? Fe ddechreuaf drwy ddiolch i Gadeiryddion y pwyllgorau—Cadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—am y ffordd drylwyr y maen nhw wedi archwilio'r dystiolaeth ac wedi ystyried fy marn a fy safbwynt, a hefyd wedi ymgynghori'n eang ac yn drylwyr i ddod i'r farn sydd ganddyn nhw, ac, wrth gwrs, mae'r mwyafrif yn cefnogi fy marn y dylem atal cydsyniad i'r cymalau niweidiol iawn hyn yn y Bil hwn.
Diolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Cadeirydd, Jayne Bryant, am allu rhannu gyda ni heddiw rai o'r safbwyntiau sydd wedi dod yn ôl o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwnnw. Cyfarfûm yn wir â Chlymblaid Ffoaduriaid Cymru. Mae'n ddiddorol hefyd clywed y safbwyntiau hynny sydd wedi'u mynegi ac sy'n dod atom gan Aelodau ar genedl noddfa. Cyfarfu Sioned Williams â'r bobl hynny yn Abertawe a oedd yn mynegi eu pryder. Mynegwyd y pryder hwnnw ledled Cymru, ac, fel y dywedodd Joyce Watson, mae hyn mor ddifrifol o ran y plant sydd wedi dioddef cymaint o drawma i ddod i geisio'r noddfa honno gyda ni.
Rwyf yn falch iawn ein bod yn glir iawn yn ein rhaglen lywodraethu—a dyfynnaf o'n rhaglen lywodraethu—ein bod wedi ymrwymo i
'Parhau i gefnogi a chynnal hawliau plant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches.'
Rydym yn parhau i gynnal yr hawliau hynny, a dyna pam y mae'n rhaid i ni sefyll gyda'n gilydd heddiw a bod yn glir iawn yn ein hymateb i Lywodraeth y DU, oherwydd rydym yn falch o fabwysiadu dull 'plentyn yn gyntaf, mudwr yn ail', sy'n cynnal y buddiannau gorau a'r hawliau i ddarparu gofal a chymorth i blant yng Nghymru, ac nid yw unrhyw gynnig polisi sy'n ymddangos fel pe bai'n lleihau'r sefyllfa statudol—mae'n sefyllfa statudol sydd gennym yng Nghymru—yn un y dylem ni ei chefnogi.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, fel yr wyf wedi'i ddweud, ein bod yng Nghymru yn trin pob plentyn ar ei ben ei hun sy'n ceisio lloches fel plant sy'n derbyn gofal. A rhaid i ni ailadrodd hynny, unwaith eto: dyma'r hyn yr ydym wedi cytuno iddo yn y Senedd hon yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, oherwydd mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer ystod o swyddogaethau asesu, ac rydym yn trin yr asesiad o oedran fel rhan o'r swyddogaethau asesu 'beth sy'n bwysig' a ddarperir yn y Ddeddf, ac mae holl swyddogaethau'r gwasanaethau cymdeithasol wedi'u datganoli'n llawn i Lywodraeth Cymru. Holl swyddogaethau'r gwasanaethau cymdeithasol. Dyna pam mae hyn mor hanfodol.
A hefyd, yn olaf ar y pwynt hwn, i fyfyrio gydag Aelodau fod gennym bolisi sy'n bodoli ar ddefnyddio adroddiadau meddygol mewn asesiadau oedran. I grynhoi, pecyn cymorth yw hwn. Mae'n dweud, am ddulliau gwyddonol o asesu oedran:
'Nid yw'r Pecyn Cymorth hwn yn argymell nac yn cefnogi'r defnydd o arholiadau meddygol fel penderfynyddion oedran. Mae'r wyddoniaeth sy'n sail i bennu oedran yn amhendant, yn aneglur a beth bynnag, bernir bod rhoi pobl ifanc i arholiadau meddygol goresgynnol yn foesol anghywir.'
Felly, wrth i ni gloi'r ddadl hon heddiw, Llywydd, rhaid i mi ddweud eto ac ailadrodd bod y Bil hwn gan Lywodraeth y DU yn amlwg yn gwneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig y Senedd. Diolchaf i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei gyfraniad heddiw, oherwydd byddaf yn dilyn y pwyntiau a wneuthum yn ei lythyr. Credaf fod hwn yn fater hollbwysig o ran parchu ein cymhwysedd datganoledig a'r hyn yr ydym wedi cytuno arno drwy ddeddfwriaeth yma yng Nghymru, gan gynnal hawliau plentyn yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Felly, mae'n amlwg bod y Bil Llywodraeth hwn yn gwneud darpariaeth o fewn y cymhwysedd datganoledig. Rydym yn gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol, ac felly mae'n amlwg iawn heddiw fod yn rhaid i ni, fel Senedd, atal cydsyniad i gynnwys y darpariaethau hyn yn y Bil.
I gloi, fe ddywedaf, gan grynhoi eto yr hyn y mae Jayne Bryant ac Aelodau eraill wedi'i ddweud, fod yn rhaid i hawliau plant fod wrth wraidd popeth a wnawn, wrth wraidd ein hystyriaethau y prynhawn yma, i bob Aelod. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly mi wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yna.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar setliad yr heddlu 2022-23. Dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig yma—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7916 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2022-23 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Heddiw rwy'n cyflwyno i'r Senedd hon, fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throsedd yng Nghymru ar gyfer 2022-23. Yn gyntaf, ac yn enwedig o ystyried digwyddiadau'r ddwy flynedd ddiwethaf, hoffwn i gofnodi fy niolch i'r heddlu am y rhan y maen nhw wedi'i chwarae yn cadw ein cymunedau'n ddiogel wrth gynnal y safonau uchaf o ddyletswydd ac ymroddiad.
Caiff y cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi'u datganoli, caiff y darlun ariannu cyffredinol ei bennu a'i lywio gan benderfyniadau'r Swyddfa Gartref. Rydym ni wedi cynnal y dull sefydledig o bennu a dosbarthu cydran Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.
Mae tri newid technegol a gweinyddol i'r trefniadau ariannu eleni. Mae'r rhain yn deillio'n bennaf o benderfyniadau'r Swyddfa Gartref ac ychydig iawn o oblygiadau ymarferol sydd ganddyn nhw i gomisiynwyr heddlu a throsedd yng Nghymru. Ers adolygiad cynhwysfawr o wariant 2015, mae'r Swyddfa Gartref wedi trosglwyddo cyllid yn flynyddol i Lywodraeth Cymru er mwyn i ni gyflawni ein cyfraniad y cafodd ei gytuno arno i gyllid yr heddlu. O 2022-23 ymlaen, bydd y trosglwyddiad hwn yn dod i ben a bydd y cyllid yn cael ei ddarparu gan y Swyddfa Gartref drwy grant yr heddlu a'r grant ychwanegol. Bydd hyn yn arwain at gyfraniad Llywodraeth Cymru at blismona yn gostwng ychydig o dan £30 miliwn i £113.5 miliwn, er nad oes effaith ar lefel gyffredinol y cyllid ar gyfer heddluoedd o ganlyniad.
Yn ail, er mwyn hwyluso'r broses o drosglwyddo'n fwy esmwyth tuag at gadw ardrethi annomestig rhannol ar gyfer rhanbarthau'r fargen ddinesig a thwf, mae addasiad technegol wedi'i wneud i gyfansoddiad cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid yr heddlu. Mae'r newid hwn yn gweld cyfran yr ardreth annomestig y mae heddluoedd yn ei gael yn gostwng o 5 y cant i 0.1 y cant, a'r grant cynnal refeniw yn cynyddu i wrthbwyso'r gostyngiad hwn. Unwaith eto, newid technegol yw hwn na fydd yn arwain at golli unrhyw gyllid ar gyfer unrhyw heddlu.
Yn olaf, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu trosglwyddo cyllid ar gyfer y gangen arbennig o brif grant yr heddlu i'r grant plismona gwrth-derfysgaeth yn unol â chyllideb 2021-22. Gan fod y cyfanswm sy'n cael ei drosglwyddo yn seiliedig ar gyllideb 2021-22 yr heddluoedd, a bydd yn parhau ar y lefel honno ar gyfer 2022-23, bydd y trosglwyddo yn cael effaith sero net ar heddluoedd.
Fel y cafodd ei amlinellu yn fy nghyhoeddiad ar 2 Chwefror, mae cyfanswm y cymorth refeniw heb ei neilltuo ar gyfer gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ar gyfer 2022-23 yn £432 miliwn cyn yr addasiad sy'n cael ei wneud ar gyfer trosglwyddo'r gangen arbennig. Cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r swm hwn yw £113.5 miliwn, a'r gwariant hwn y mae gofyn i chi ei gymeradwyo heddiw. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi gorgyffwrdd â'i fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith terfyn isaf. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2022-23, y bydd comisiynwyr heddlu a throsedd ledled Cymru a Lloegr i gyd yn cael cynnydd o 5.9 y cant mewn cyllid o'i gymharu â 2021-22 cyn yr addasiad sy'n cael ei wneud ar gyfer trosglwyddo'r gangen arbennig. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ad-dalu gwerth cyfanswm o £62.9 miliwn i sicrhau bod pob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru yn cyrraedd lefel y terfyn isaf.
Y cynnig ar gyfer y ddadl heddiw yw cytuno ar adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y comisiynwyr heddlu a throsedd, sydd wedi'i osod gerbron y Senedd. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Fel yr ydym ni wedi clywed, mae cyllid ar gyfer pedwar heddlu Cymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor, gyda'r Swyddfa Gartref yn gweithredu fformiwla gyffredin sy'n seiliedig ar anghenion i ddosbarthu cyllid ledled heddluoedd Cymru a Lloegr, ac elfen Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gysondeb ledled Cymru a Lloegr. Cafodd toriadau cyllideb yr heddlu hyd at 2014 eu cyhoeddi am y tro cyntaf yn natganiad cyllideb Llafur ym mis Mawrth 2010 yn y DU, a nododd fod maint y diffyg yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian. Rwy'n credu mai dyna oedd dyfyniad Mr Darling.
Ers 2015, mae Llywodraeth y DU wedi codi ei chyfraniad at gyllid cyffredinol yr heddlu yn unol â chwyddiant, ac, ers 2019, mae Llywodraeth y DU y wedi cyhoeddi buddsoddiad o dros £1.1 biliwn i gynyddu nifer swyddogion yr heddlu a rhoi adnoddau i heddluoedd ymdrin â throseddu. Mae Llywodraeth y DU nawr wedi cyhoeddi cynnydd cyffredinol o £1.1 biliwn o gyllid gan yr heddlu o'i gymharu â setliad ariannu 2021-22, gan ddod â'r cyfanswm i £16.9 biliwn, a chadarnhaodd gyfanswm cyllid grant tair blynedd ar gyfer ein heddluoedd. Mae hyn yn darparu £540 miliwn yn ychwanegol erbyn 2024-25 i recriwtio'r 8,000 o swyddogion heddlu olaf i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU o 20,000 o swyddogion ychwanegol ledled Cymru a Lloegr erbyn 2023. Mae pob heddlu'n cael cynnydd o 5.9 y cant mewn cyllid craidd, ac yn gyffredinol mae'r pecyn ariannu ar gyfer Cymru a Lloegr yn gynnydd o 7 y cant mewn arian parod y llynedd, gyda gogledd Cymru, er enghraifft, yn cael cynnydd o 8.4 y cant. Mae Cymru hefyd wedi elwa ar raglenni eraill Llywodraeth y DU, gyda Heddlu Gogledd Cymru, er enghraifft, yn derbyn dros £0.5 miliwn o gronfeydd strydoedd mwy diogel a diogelwch menywod yn y nos Llywodraeth y DU.
Bydd cyllid i gomisiynwyr yr heddlu a throsedd yn cynyddu hyd at £796 miliwn yn ychwanegol, gan gymryd defnydd llawn hyblygrwydd praesept y dreth gyngor, gyda'r dreth gyngor yn cynyddu 5.5 y cant eleni yn ne Cymru a Gwent, 5.3 y cant yn Nyfed-Powys, a 5.14 y cant yn y gogledd. Ledled Cymru, mae hyn yn cyfateb i eiddo band E yn talu llai na 30 y cant yn ychwanegol yr wythnos.
Yn ôl yr arolwg troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr, y dangosydd gorau o dueddiadau hirdymor mewn troseddu, cynyddodd troseddau blynyddol cyffredinol 14 y cant, ond roedd hyn yn cynnwys cynnydd o 47 y cant mewn twyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron, a gostyngodd troseddu ac eithrio hyn 14 y cant, wedi'i ysgogi yn bennaf gan ostyngiad o 18 y cant mewn troseddau lladrata. Mae cyfraddau troseddu cyffredinol eraill yng Nghymru, fel y gwyddom ni, yn weddol isel o'u cymharu â gweddill y DU ar gyfartaledd.
Fel y dysgais i pan ymwelais i â Titan, uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol y gogledd-orllewin, yr amcangyfrif oedd bod 95 y cant neu fwy o droseddu yn y gogledd yn gweithredu ar sail drawsffiniol i'r dwyrain a'r gorllewin, a bron dim ar sail Cymru gyfan. Mae Heddlu Gogledd Cymru, felly, yn cydweithio â phum heddlu yng ngogledd-orllewin Lloegr i ymdrin â throseddau cyfundrefnol difrifol. Felly, byddai datganoli plismona yn wallgofrwydd gweithredol ac yn ffolineb ariannol. Diolch yn fawr.
A gaf innau hefyd ategu diolch y Gweinidog i'r heddlu am y gwaith maen nhw wedi ei wneud ac yn ei wneud, yn enwedig o dan yr amgylchiadau heriol eithriadol dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yma? Fyddwn ni ddim yn gwrthwynebu'r cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw, ond mae yna ychydig sylwadau dwi'n awyddus i'w gwneud, yn bennaf, wrth gwrs, y ffaith ein bod ni'n teimlo nad yw'r fformiwla yn delifro i Gymru fel y dylai hi. Mae'r fformiwla, er enghraifft yn gwahaniaethu, neu'n disgrimineiddio yn erbyn talwyr treth cyngor yng Nghymru. Mewn rhai ardaloedd, fel gogledd Cymru, trethdalwyr lleol sy'n ariannu 50 y cant o gyllideb yr heddlu, ond mae hynny'n cymharu wedyn gyda dim ond 30 y cant mewn rhai ardaloedd fel y west midlands a Northumbria, lle mae trethdalwyr lleol yn cyfrannu dim ond 30 y cant at y costau hynny. Felly, mae yna gwestiynau ynglŷn ag annhegwch neu anghydbwysedd yn hynny o beth.
Dyw'r Swyddfa Gartref chwaith ddim ar hyn o bryd yn darparu unrhyw gyllido ychwanegol i heddlua Caerdydd fel prifddinas. Rŷn ni'n gwybod ei bod hi'n denu, wrth gwrs, ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol, a hynny'n dod â phwysau ariannu ychwanegol yn ei sgil e, ond does dim byd yn dod o'r Swyddfa Gartref ar gyfer hynny, er bod yna ddarpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer Llundain, er bod yna ddarpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer Caeredin, ac er bod yna ddarpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer Belffast. Felly mae yna annhegwch eto yn fanna yn y modd rŷn ni'n cael ein hariannu yma yng Nghymru.
Buaswn i'n dadlau'n gryf hefyd, wrth gwrs, nad yw'r fformiwla cyllido yn cydnabod yn ddigonol yr heriau a'r problemau penodol sydd yn dod, wrth gwrs, o geisio heddlua cymunedau gwledig. Rŷn ni'n clywed yn gyson yn y Siambr yma y consýrn ynglŷn â lladrata ar ffermydd yng nghefn gwlad, rydyn ni'n clywed am ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, a dyw'r heriau unigryw yna yn y cyd-destun gwledig ddim yn cael eu cydnabod yn ddigonol, yn ein barn ni. Felly, mae angen edrych ar y fformiwla, a buasai'n dda clywed cefnogaeth, gobeithio, gan Lywodraeth Cymru i hynny wrth ymateb i'r ddadl yma.
Y tu hwnt i'r fformiwla ac ariannu yma, wrth gwrs, mae'n rhaid inni beidio â jest edrych ar y setliad yma ar ei ben ei hunan.
Rhaid i ni beidio â'i ystyried ar ei ben ei hun. Mae angen i ni edrych, wrth gwrs, yn fwy eang y tu hwnt i'r setliad ar y swyddogaeth ehangach sydd gan Lywodraeth Cymru o ran ymdrin â rhai o achosion sylfaenol troseddu, ac mae gwir angen i'r cyllidebau craidd gan Lywodraeth Cymru sicrhau ein bod ni'n darparu'n ddigonol ar gyfer gwasanaethau ieuenctid, ar gyfer rhaglenni camddefnyddio sylweddau, ac ar gyfer llwybrau gyrfa gwell i'r rhai a allai fod yn agored i rai materion sy'n ymwneud â thorri'r gyfraith, a sicrhau bod gan bobl gyfleoedd ar gyfer y dyfodol a'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i wneud y gorau y gallan nhw o'r cyfleoedd sydd ar gael.
Mae angen i ni sicrhau, wrth gwrs, ein bod ni'n gweld hyn yn ei gyfanrwydd. Ac, byddwn i'n dadlau, yn amlwg, y byddai datganoli plismona i Gymru yn gam cadarnhaol i helpu i ymdrin â llawer o'r materion hyn. Dyma'r unig wasanaeth brys nad yw wedi'i ddatganoli, ac wrth gwrs mae wedi'i ddatganoli mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Felly, byddai'n llawer mwy ymarferol a rhesymegol datganoli'r system gyfiawnder a phlismona i Gymru fel y gallwn ni gael yr un manteision a gaiff eu mwynhau gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Diolch.
Hoffwn i groesawu'r ddadl y prynhawn yma, yn enwedig gan ei bod hi'n rhoi cyfle i ni gydnabod y camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd i ddiogelu ein cymunedau a gwneud ein cymdogaethau'n fwy diogel. Yn wir, yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, rwyf i wedi gweld yn uniongyrchol pa mor bwysig yw'r cyllid hwn i'n cymunedau lleol ni. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo 60 o swyddogion polisi ychwanegol ar gyfer strydoedd Dyfed-Powys, ac, o siarad â swyddogion lleol yn yr heddlu, rwy'n gwybod pa mor werthfawr y bydd y 60 o swyddogion heddlu ychwanegol wrth helpu i ymdrin â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws fy etholaeth i a rhai fy nghyd-Aelodau sy'n cael eu cynrychioli gan Heddlu Dyfed-Powys.
Fodd bynnag, hoffwn i ddefnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw'r Aelodau at bla troseddau gwledig, ac yn arbennig rôl cydlynydd troseddau gwledig a bywyd gwyllt Cymru, Rob Taylor. Ar hyn o bryd, mae Rob saith mis i mewn i swydd 12 mis, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. A bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod i wedi codi'r sefyllfa hon yn y Siambr o'r blaen, sawl gwaith. Mae troseddu yng nghefn gwlad yn achosi gofid difrifol i'n cymunedau gwledig, o ddwyn cerbydau amaethyddol a phoenydio defaid i fandaleiddio nythod bywyd gwyllt, mae troseddau gwledig yn aml wedi mynd heb eu hadrodd tra bod eu dioddefwyr yn parhau i deimlo eu heffeithiau a'u canlyniadau ofnadwy. Ar ôl gweithio gyda Rob a gweld ei angerdd a'i benderfyniad heintus yn uniongyrchol, mae'n amlwg y bydd e'n gwneud popeth posibl yn ei frwydr i leihau troseddau gwledig.
Yn ddiweddar, fe wnes i wahodd Rob i fy etholaeth fy hun i gwrdd â ffermwyr lleol fel rhan o ddigwyddiad brecwast i drafod ei waith a'i flaenoriaethau. Roedd ffermwyr lleol yn gallu holi Rob a gofyn y cwestiynau treiddgar. Roedd y ffermwyr hefyd yn gallu cwrdd â'u swyddogion heddlu troseddau gwledig lleol. Fodd bynnag, yr oeddwn i a'r rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn siomedig o glywed nad yw Rob wedi cael ymrwymiad cadarn eto gan Lywodraeth Cymru y bydd y cyllid ar gyfer ei swydd yn ymestyn y tu hwnt i'r cyfnod o flwyddyn a oedd yn wreiddiol, gan ddwyn amheuaeth ar allu Rob i gwblhau ei waith a chael yr effaith o bwys honno mewn gwirionedd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi, os ydym ni eisiau cael cefnogaeth gan heddluoedd Cymru, ei bod yn hanfodol ein bod ni'n gwneud hon yn swydd barhaol, gan ddileu'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'r angen i wneud cais am gyllid o flwyddyn i flwyddyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Byddaf yn hapus i gymryd ymyriad.
Meddwl ydw i tybed a ydych chi o'r farn pe byddai'r heddlu'n cael ei ariannu'n briodol gan Lywodraeth y DU, yna ni fyddai angen i Lywodraeth Cymru ei roi arian i'w helpu a darparu hwnnw?
Wel, dyma'r pwynt yr oeddwn i'n mynd i ddod ato. Un awgrym sydd wedi'i gynnig i mi gan swyddogion heddlu lleol yn Heddlu Dyfed-Powys yw bod y comisiynwyr troseddau gwledig eu hunain, neu'r comisiynwyr heddlu a throsedd eu hunain, yn gallu cyfrannu at ariannu'r swydd hon er mwyn sicrhau ei dyfodol hirdymor. Ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i ei archwilio—gweld pedwar comisiynydd heddlu a throsedd Cymru yn dod at ei gilydd, yn cydweithio i gefnogi Rob yn ei waith a'r cyllid hwnnw yn y dyfodol.
Felly, i gloi, Llywydd, hoffwn i ofyn ac mae gennyf i ddiddordeb mewn dysgu a yw'r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU neu'i chyd-Aelodau yn y Cabinet i sicrhau dyfodol hirdymor y swydd bwysig hon. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid nawr i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n diolch i'r Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw, ac mae'n amlwg iawn y parch sydd gan bob un ohonom ni at waith yr heddlu a'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn ein cymunedau ledled Cymru, yn amlwg yn rhan gwbl allweddol o'n teulu gwasanaeth cyhoeddus, gan weithio gyda byrddau iechyd, cynghorau lleol a phartneriaid eraill.
Fe wnaf ymateb i rai o'r pwyntiau penodol sy'n ymwneud â'r cynnig sydd o'n blaenau heddiw. Yn gyntaf oll, cafodd y pwynt ei godi ynghylch datganoli plismona. Wrth gwrs, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hi'n glir ein bod yn cefnogi datganoli plismona. Dyma'r unig wasanaeth brys nad yw wedi'i ddatganoli, ac rwy'n credu y byddai unioni hyn yn galluogi cydweithio cryfach â'r gwasanaethau brys eraill yng Nghymru. A byddai hefyd yn galluogi i ddeddfwriaeth yn y dyfodol sy'n effeithio ar blismona a diogelwch cymunedol yng Nghymru gael ei addasu'n briodol i'n hamgylchiadau yng Nghymru, a byddai'n amddiffyniad rhag gwneud newidiadau deddfwriaethol nad yw'r Senedd yn cytuno â nhw.
Mae'r pwynt ynghylch adolygu'r fformiwla yn bwysig iawn, ac ar hyn o bryd mae adolygiad o'r fformiwla honno ar y gweill, gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eu bwriad i gwblhau'r gwaith hwn cyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae'r Swyddfa Gartref yn cydnabod bod fformiwla ariannu bresennol yr heddlu yn hen ac nad yw nawr yn adlewyrchu'n gywir y galwadau ar blismona, ac mae wedi ymrwymo i gyflwyno fformiwla newydd sy'n dosbarthu'r cyllid grant craidd yn deg ac yn dryloyw i'r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Felly, mae cam technegol yr adolygiad nawr ar y gweill, a bydd hynny'n cyflwyno cynigion ar gyfer trefniadau ariannu newydd, ac mae grŵp sector uwch a grŵp cyfeirio technegol wedi'u hymgynnull gyda chynrychiolaeth gan y sector plismona ac arbenigwyr perthnasol i arwain ar ddatblygu'r fformiwla. Bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio'n agos gyda'r sector drwy gydol yr adolygiad, a bydd unrhyw gynigion yn amlwg yn destun ymgynghoriad llawn. Ond mae'n bwysig i ni fod barn y Senedd hon a Llywodraeth Cymru yn cael ei chymryd at wraidd yr adolygiad hwnnw.
Rydym ni'n parhau i weithio gyda'r heddlu i nodi a datblygu unrhyw gyfleoedd y gwelwn ni yma yng Nghymru, fel sydd wedi'i nodi gan ein hymrwymiad i gynyddu ein 500 o swyddogion cymorth cymunedol i 600 o swyddogion. Ac rydym ni'n parhau i egluro ein cefnogaeth i ddatganoli plismona, fel y dywedais i, fel y gallwn ni gyflawni yn erbyn anghenion, blaenoriaethau a gwerthoedd Cymru.
A wnaiff y Gweinidog gymryd ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy'n gwerthfawrogi hynny, Gweinidog, ac rwy'n croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i gefnogi Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol. Ond a ydych chi'n cytuno â mi ei bod braidd yn ormod i feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig honni nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon, pan ddaeth y Prif Weinidog Johnson i Lannau Dyfrdwy yn 2019 ac addo 96 o swyddogion ychwanegol ar gyfer Glannau Dyfrdwy, ac nid ydym ni wedi cael dim un?
Yn sicr. Rwy'n credu bod Jack Sargeant wedi cyfleu hynny'n dda iawn o ran sut na allwch chi ei chael hi y ddwy ffordd. Allwch chi ddim galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy ym maes plismona a gwrthwynebu datganoli plismona ac ar yr un pryd peidio â chyflawni addewidion Llywodraeth y DU ar gyfer plismona yn ein cymunedau yng Nghymru.
Er bod y setliad, ar yr wyneb, yn ymddangos yn un da, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod rhai comisiynwyr yr heddlu a throsedd wedi mynegi pryder, pan ystyriwch chi'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, a cham olaf rhaglen cynyddu niferoedd yr heddlu gan Lywodraeth y DU, yn y bôn maen nhw'n cael setliad arian parod gwastad. Wrth gwrs, mater i'r Swyddfa Gartref yw hwn. Serch hynny, rydym ni wedi ymrwymo i—[Torri ar draws.] Fe gymraf yr ymyriad.
A fyddech chi'n cydnabod, o ran y swyddogion ychwanegol, fod y nifer sydd wedi'i addo ar y trywydd iawn i'w gyflawni erbyn 2023, fod Cymru wedi cael ei chyfran lawn o hynny, a bod lle mae heddluoedd yn gosod y swyddogion hynny yn fater gweithredol i'r heddluoedd hynny?
Mae Llywodraeth Cymru eisiau i Gymru gael ei chyfran deg o swyddogion ychwanegol, ond gadewch i ni ystyried beth mae 'ychwanegol' yn ei olygu yn yr ystyr hwn. Mae nifer swyddogion yr heddlu ledled Cymru a Lloegr wedi gostwng yn aruthrol drwy gydol y cyfnod cyni, felly nid yw Llywodraeth y DU ond yn ceisio gwneud yn iawn am rywfaint o'r gostyngiad yn nifer swyddogion yr heddlu yr ydym ni wedi'i weld yn ystod y blynyddoedd beth bynnag. Ac mae ein cymunedau wedi teimlo eu colled hefyd.
Symudaf ymlaen at gwblhau fy nghyfraniad heddiw, Llywydd—gan ailadrodd ein hymrwymiad ni i weithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throsedd a phrif gwnstabliaid, i sicrhau bod unrhyw newidiadau'n cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol a phlismona rheng flaen yng Nghymru.
Caiff elfen olaf cyllid yr heddlu, wrth gwrs, ei chodi drwy braesept y dreth gyngor. Yn wahanol i Loegr, rydym ni wedi cadw'r rhyddid i'n comisiynwyr heddlu a throsedd yng Nghymru wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cynnydd yn y dreth gyngor. Mae gosod y praesept yn rhan allweddol o swydd comisiynwyr yr heddlu a throsedd, sy'n dangos atebolrwydd i'r etholwyr lleol. Rwy'n gwybod y bydd comisiynwyr, mewn cyfnod o bwysau cynyddol ar aelwydydd lleol, yn ystyried hyn yn ofalus. Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Senedd.
Y cwestiwn nawr, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Unrhyw wrthwynebiad? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yna yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mi fyddwn ni nawr yn cymryd egwyl fer ar gyfer paratoi ar gyfer y cyfnod pleidleisio heno. Felly, egwyl fer nawr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:17.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:21, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Eitem 6 yw'r eitem gyntaf â phleidlais arni, sef Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Diwygio) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, 14 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022: O blaid: 39, Yn erbyn: 0, Ymatal: 14
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 7 yw'r bleidlais nesaf, Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022: O blaid: 39, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 10 yw'r bleidlais nesaf, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Eluned Morgan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal: O blaid: 43, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 11 sydd nesaf. Hwn yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Eitem 12. Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yw hwn. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae'r cydsyniad wedi ei wrthod, felly, ar eitem 12.
Eitem 12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Dyna ni, dyna ddiwedd ar ein pleidleisiau am y prynhawn yma.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:25.
Cywiriad: Nid yw Chris Sutton yn cynnal adolygiad o'r modd yr ymdriniwyd â'r prosiect.