Y Cyfarfod Llawn
Plenary
22/12/2021Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.3A, dwi wedi cytuno i gynnull y Senedd fel mater o bwys cyhoeddus ar gyfer datganiad ar COVID-19. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda. A dwi angen atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.
Yr unig eitem y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Prif Weindiog ar ddiweddariad ar COVID-19. Felly, y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Diolch, Llywydd, am y cyfle hwn i annerch y Senedd am yr amrywiolyn omicron o'r coronafeirws a'r sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n datblygu'n gyflym. Mae ychydig dros wythnos wedi mynd heibio ers i'r Gweinidog iechyd ddiweddaru Aelodau cyn i'r Senedd dorri am y toriad. Pan siaradodd hi â chi, roedd 32 o achosion o omicron wedi eu cadarnhau ac roedd cyfradd gyffredinol achosion coronafeirws yng Nghymru yn uchel ond yn sefydlog.
Heddiw, mae'r sefyllfa honno wedi newid yn glir ac mae'r storm yn agosáu. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 941 o achosion o omicron wedi'u cadarnhau erbyn hyn, ac mae'r nifer honno'n codi, ac mae'n bresennol bellach ym mhob ardal yng Nghymru. Omicron yw'r amrywiolyn mwyaf cyffredin yn Lloegr a'r Alban eisoes, a mater o amser yw hi cyn iddo drechu delta i ddod yn ffurf fwyaf cyffredin ar y feirws ledled Cymru hefyd. Ers wythnosau lawer, rydym wedi cael cyfraddau uchel ond sefydlog o'r coronafeirws yng Nghymru, sef tua 500 o achosion fesul 100,000 o bobl. Ond mae'r rhain hefyd wedi codi'n sydyn yn ystod y dyddiau diwethaf. Heddiw, mae'r ffigur hwnnw wedi codi dros 600 fesul 100,000 o bobl, mewn cyfuniad bellach o achosion delta ac omicron. Mae'r niferoedd ar y raddfa hon eisoes yn creu perygl o roi ein gwasanaethau cyhoeddus dan straen sylweddol yn sgil absenoldeb oherwydd salwch, a gallwn ddisgwyl i hyn waethygu wrth inni symud i'r don omicron ar ôl y Nadolig.
Lywydd, drwy gydol y pandemig, rydym wedi adolygu ein rheoliadau coronafeirws bob tair wythnos i sicrhau bod gennym y mesurau diogelwch cywir ar waith i gadw Cymru'n ddiogel. Oherwydd cyflymder y newid, rydym wedi symud i gylch wythnosol o gyfarfodydd y Cabinet ac rydym wedi—[Anghlywadwy.]
Rwy'n credu efallai ein bod wedi colli'r Prif Weinidog. Rwy'n mynd i oedi am eiliad tra gwelwn a allwn glywed y Prif Weinidog eto. Rwy'n credu efallai fod eich cysylltiad wedi'i adfer, Brif Weinidog, felly os gallwch fynd yn ôl frawddeg neu ddwy, rwy'n credu y byddwn wedi cael yr hyn a ddywedoch.
Diolch yn fawr, Lywydd. Roeddwn yn egluro ein bod, oherwydd cyflymder y newid, wedi symud i gylch wythnosol o gyfarfodydd Cabinet. Ers y tro diwethaf i'r Gweinidog iechyd roi'r newyddion diweddaraf i'r Senedd, mae'r Cabinet wedi cyfarfod bedair gwaith mewn wythnos i ystyried y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf, ac rwyf hefyd wedi cynnal trafodaethau dros yr wythnos honno gyda Phrif Weinidog y DU, a Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae cyfarfodydd ffurfiol rhwng pedair gwlad y DU wedi'u cynnal ar o leiaf dri achlysur gwahanol. Mae'r trafodaethau dwys hyn wedi canolbwyntio ar y cyngor gwyddonol a chlinigol diweddaraf a'r data diweddaraf sydd gennym i ystyried pa fesurau diogelwch sydd eu hangen arnom yn y dyddiau cyn ac ar ôl y Nadolig.
Lywydd, oherwydd bod dechrau'r achosion omicron yng Nghymru yn digwydd ychydig ddyddiau ar ôl y prif batrwm mewn rhannau eraill o'r DU, penderfynodd y Cabinet yr wythnos diwethaf y byddem yn parhau ar lefel rhybudd 0 drwy weddill yr wythnos hon a hyd at y Nadolig ei hun. Ond rydym eisoes wedi newid y gyfraith ar gyfer y cyfnod ar ôl y Nadolig ar weithio gartref, i ddarparu hawliau newydd i weithwyr a dyletswyddau newydd i gyflogwyr.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ysgrifennu at bawb ar y rhestr warchod i gynnig cyngor wedi'i addasu iddynt am gadw'n ddiogel a diogelu eu hunain rhag yr amrywiolyn omicron. Rydym yn cynghori pawb yn gryf i fabwysiadu rhagofalon ychwanegol i ddiogelu eu hunain, oherwydd nid oes neb am fod yn sâl dros y Nadolig. Eleni, y Nadolig mwyaf diogel, yn wir, fydd Nadolig llai.
Y peth pwysicaf oll y gallwn i gyd ei wneud yw sicrhau ein bod yn cael ein brechu, ac mae hynny'n golygu cael y brechlyn atgyfnerthu hefyd. Mae'r dystiolaeth i gyd yn dangos ei fod yn hanfodol er mwyn cynyddu ein diogelwch yn erbyn yr amrywiolyn omicron. Mae'r GIG yn blaenoriaethu'r ymgyrch bigiadau atgyfnerthu, a phob dydd mae'n darparu'r lefelau uchaf erioed o frechiadau. Dangosodd y ffigurau a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw fod dros 50,000 o bobl wedi cael pigiad atgyfnerthu ddoe. Ond mae angen i bobl roi blaenoriaeth i'w hapwyntiad i gael y pigiad atgyfnerthu. Ni fydd dim yn bwysicach i ddiogelu eich iechyd ar y diwrnod na mynd i gael y brechlyn atgyfnerthu.
Lywydd, mae amser dyblu omicron rywle o gwmpas dau ddiwrnod. Erbyn Gŵyl San Steffan, gallem weld miloedd lawer o achosion ledled Cymru bob dydd wrth iddo ymsefydlu'n gadarn ym mhob rhan o Gymru. A dyna pam y mae'n rhaid inni roi mesurau diogelwch cryfach ar waith i gadw Cymru'n ddiogel a sicrhau y gall cynifer o fusnesau â phosibl barhau i fasnachu. Y prynhawn yma, rwyf am ymdrin â'r mesurau rydym yn eu rhoi ar waith i ddiogelu pob un ohonom yn ein cartrefi ar wahân i'r mesurau y byddwn yn eu cymryd i wneud mannau cyhoeddus yn ddiogel. Ac rwy'n mynd i ddechrau, Lywydd, gyda'r lleoliadau cyhoeddus hynny. Rydym yn cyflwyno mesurau lefel rhybudd 2 ar gyfer manwerthu, gweithleoedd, busnesau lletygarwch a hamdden, fel y gallant ailagor yn ddiogel ar ôl y Nadolig. Rydym eisoes wedi penderfynu y bydd gemau chwaraeon yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig a bod yn rhaid i glybiau nos gau. Bydd y rhain, ynghyd â'r mesurau lefel rhybudd 2 eraill, yn dod i rym am 6 a.m. ar Ŵyl San Steffan.
Mae'r mesurau lefel rhybudd 2 wedi'u haddasu i'r hyn a wyddom am yr amrywiolyn omicron. Maent yn golygu, yn gyntaf oll, fod gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sy'n agored i'r cyhoedd a gweithleoedd, yn amodol ar y drefn mesurau rhesymol arferol. Yn ail, bydd rheol o chwech yn berthnasol i gynulliadau mewn safleoedd a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau. Bydd angen i bob safle trwyddedig gymryd camau ychwanegol i ddiogelu cwsmeriaid a staff, gan gynnwys gwasanaeth gweini wrth y bwrdd a chasglu manylion cyswllt. Bydd angen gorchuddion wyneb mewn lleoliadau lletygarwch bob amser ar wahân i pan fydd pobl yn eistedd. Ni chaniateir digwyddiadau mawr dan do nac awyr agored mwyach. Uchafswm nifer y bobl sy'n cael ymgynnull mewn digwyddiad awyr agored fydd 50 o bobl, ac mewn digwyddiad dan do, y nifer uchaf fydd 30. Gwneir eithriad ar gyfer timau chwaraeon fel y bydd hyd at 50 o wylwyr yn cael dod at ei gilydd, yn ogystal â'r rhai sy'n cymryd rhan, a gwneir eithriad hefyd, unwaith eto, ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â phlant. Ar gyfer digwyddiadau bywyd pwysig fel priodasau, partneriaethau sifil, angladdau a the angladd, caiff y nifer ei phennu gan allu'r lleoliad i reoli cadw pellter cymdeithasol a mesurau rhesymol eraill. Mewn brecwast priodas neu de angladd, bydd angen i bob gwestai fod wedi cymryd prawf llif unffordd.
Lywydd, rwy'n troi yn awr at y ffyrdd y gallwn ni i gyd gadw'n iach ac yn ddiogel yn ein cartrefi ein hunain ac yn ein bywydau preifat. Mae'r Cabinet wedi penderfynu peidio â gwneud rheolau cyfreithiol newydd ynghylch cymysgu yng nghartrefi a gerddi preifat pobl. Yn hytrach, byddwn yn cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru a'u cryfhau i helpu pobl i wybod beth sydd angen iddynt ei wneud i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Rydym yn dibynnu ar y cyngor a'r arweiniad hwnnw, oherwydd, yn y don nesaf hon o'r coronafeirws, mae rhai amgylchiadau pwysig wedi newid.
Erbyn hyn mae gennym boblogaeth sydd wedi ei brechu i raddau helaeth, ac mae'r pigiad atgyfnerthu'n cael ei gyflwyno'n gyflym ym mhob rhan o Gymru. Ac yn awr, mae gennym yr amddiffyniad sy'n dod drwy ddefnyddio profion llif unffordd, profion y mae pawb ohonom wedi arfer eu defnyddio ac sydd ar gael yn eang. A bron i ddwy flynedd ers dechrau'r pandemig, mae pob un ohonom wedi dysgu llawer ynglŷn â sut y gallwn ddiogelu ein hunain a'r bobl sy'n bwysig i ni.
Dyma'r amser i atgyfnerthu'r ymdrechion hynny, gan ddefnyddio popeth rydym wedi'i ddysgu gyda'n gilydd. Mae omicron yn ffynnu ar gyswllt dynol. Mae pob cyswllt a gawn yn gyfle inni ledaenu neu ddal y feirws. Rydym ar ein mwyaf agored i gael ein heintio yn y cartref, wedi ein hamgylchynu gan ein teulu a'n ffrindiau. Felly, er mwyn cadw'n ddiogel yn y mannau preifat hynny, rydym yn cynghori pawb i gadw at bum mesur syml. Yn gyntaf oll, cyfyngwch ar nifer y bobl sy'n ymweld â'ch cartref. Os yw pobl yn ymweld â chi neu os ydych yn ymweld â phobl eraill, gwnewch y prawf llif unffordd—cyn i chi fynd—fel eich bod yn gwybod eich bod yn ddiogel cyn i'r ymweliad ddigwydd. Os gallwch gwrdd yn yr awyr agored, mae'n fwy diogel na chyfarfod dan do, ac os oes rhaid i chi gyfarfod dan do, gwnewch bopeth yn eich gallu i sicrhau bod y lle hwnnw wedi'i awyru'n dda. Rhowch amser rhwng yr ymweliadau—os ydych yn gweld teulu a ffrindiau, peidiwch â chwrdd â phawb i gyd ar yr un pryd, a pheidiwch ag anghofio'r pethau sylfaenol, y pethau rydym i gyd wedi dysgu eu gwneud, y pellter cymdeithasol, parchu pobl eraill, golchi dwylo ac yn y blaen. Er y byddwn yn dibynnu ar gyngor ac arweiniad cryfach yn y mannau preifat hynny, byddwn yn adfer y drosedd ar wahân o gynulliadau mawr—sef mwy na 30 o bobl dan do neu fwy na 50 o bobl yn yr awyr agored—a bydd hynny'n berthnasol mewn cartrefi a gerddi preifat, yn ogystal ag mewn lleoliadau a reoleiddir.
Wrth gwrs, Lywydd, rydym am i'r mesurau hyn fod ar waith am yr amser byrraf posibl, yn gyson â'r argyfwng iechyd cyhoeddus, a byddwn yn eu hadolygu yn ein cylch tair wythnos, ac ar hyn o bryd, yn fwy rheolaidd na hynny hyd yn oed.
Nawr, mae symud i lefel rhybudd 2 wedi'i gynllunio i helpu busnesau i barhau i fasnachu tra'n cryfhau mesurau i ddiogelu iechyd pobl yn wyneb y don omicron. Ond rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y bydd effaith anochel ar fusnesau. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom gyhoeddi cyllid newydd o £60 miliwn i gefnogi'r busnesau hynny. Heddiw, rydym yn dyblu'r swm hwnnw i £120 miliwn o gymorth newydd i fod ar gael ar gyfer clybiau nos, digwyddiadau, manwerthu, a busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yr effeithiwyd arnynt gan y symud i lefel rhybudd 2. Bydd yn cynnwys cymorth i weithwyr llawrydd, gan adlewyrchu llwyddiant ein cynllun unigryw i Gymru a oedd ar gael yn gynharach yn y pandemig. Bydd Gweinidog yr economi yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y cymorth hwn yfory. Yn ystod y dyddiau diwethaf, rydym wedi lansio dwy gronfa ar wahân i gefnogi digwyddiadau a lleoliadau chwaraeon a sefydliadau diwylliannol a chelfyddydol.
Lywydd, mae'r cyd-destun ehangach rydym yn gwneud y penderfyniadau hyn ynddo hefyd yn parhau i newid yn gyflym. Mae'r Gweinidog iechyd yn cyhoeddi newidiadau heddiw i'r rheolau hunanynysu ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phlant rhwng pump ac 17 oed sy'n gysylltiadau i rywun sydd wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19. Gofynnir iddynt gymryd prawf llif unffordd dyddiol am saith diwrnod yn hytrach na hunanynysu. Dyma yw'r hyn a elwir yn drefn profion dyddiol i bawb sy'n dod i gysylltiad ag achos positif. Bydd pawb sy'n cael profion dyddiol negyddol yn cael parhau i fynd i'r gwaith fel arfer, tra'n dilyn yr holl gamau eraill rydym yn gwybod eu bod yn helpu i gadw eu hunain yn ddiogel. Heddiw, mae'r Gweinidog iechyd hefyd yn derbyn cyngor gan y prif swyddog meddygol am newidiadau posibl i drefniadau hunanynysu i'r rhai sy'n mynd yn sâl. Heddiw hefyd, rydym yn disgwyl yr argymhellion sydd ar y ffordd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch brechu plant ifanc.
Lywydd, rydym bellach yn dechrau ar gyfnod difrifol iawn arall yn y pandemig hwn ac mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein hunain a chadw Cymru'n ddiogel wrth i Gymru ailagor ar ôl y Nadolig. Mae'r Llywodraeth wedi adolygu'r holl dystiolaeth wyddonol a'r data iechyd cyhoeddus sy'n datblygu'n gyflym ac rydym yn parhau i wneud penderfyniadau angenrheidiol i ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl. Gyda chefnogaeth pobl ledled Cymru, fe wnawn oroesi’r storm hon, a daw dyddiau gwell eto y tu hwnt i'r amrywiolyn omicron. Lywydd, diolch yn fawr iawn.
Arweinydd Torïaid Cymru, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i chi am adalw'r Senedd heddiw i roi cyfle i'r Aelodau holi'r Prif Weinidog am y cyfyngiadau y mae'r Llywodraeth wedi'u cyhoeddi? A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i'r Prif Weinidog am hwyluso sesiwn friffio y bore yma i Weinidog iechyd yr wrthblaid a minnau gydag Aelodau o dîm y gell cyngor technegol sy'n cynghori Llywodraeth Cymru?
Brif Weinidog, a fydd y mesurau a gyhoeddir heddiw yn golygu o ddifrif y gellir osgoi cyfyngiadau symud cenedlaethol yn y flwyddyn newydd, neu hyd yn oed gyfnod atal byr yn y flwyddyn newydd? Rwy'n derbyn bod gennym sefyllfa sy'n newid yn gyflym, ond mae llawer o bobl yn teimlo ein bod ar daith nad oes modd ei hatal tuag at gyfyngiadau pellach yn y flwyddyn newydd. Felly, a ydych yn hyderus y bydd y cyfyngiadau rydych wedi'u cyhoeddi heddiw yn golygu y gellir osgoi'r cyfyngiadau symud cenedlaethol/cyfnod atal byr a allai ein taro yn y flwyddyn newydd?
Yn ail, mae'r broses o wneud y penderfyniadau hyn, fel rydych wedi'i hamlinellu, wedi symud o gylch tair wythnos i gylch wythnosol, ac yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi cael tri chyhoeddiad gwahanol. Ond ni all fod yn iawn, Brif Weinidog, fod newyddiadurwyr yn trydar ar nos Lun fod ganddynt ddatganiad i'r wasg dan embargo a fydd yn dod allan am hanner nos gyda chyhoeddiadau sylweddol yn y datganiad i'r wasg hwnnw, pan nad yw Aelodau'r Senedd wedi cael unrhyw wybodaeth o gwbl gan y Llywodraeth. A allwch roi sicrwydd i mi y byddwch yn annerch Senedd Cymru a'i Haelodau drwy roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar sail reolaidd, ac a wnewch chi ddarparu briff i Aelodau'r Senedd gan y prif swyddog meddygol, rhywbeth sydd wedi digwydd yn San Steffan ar gyfer pob Aelod, fel y gall Aelodau gael y wybodaeth ddiweddaraf sy'n bosibl?
A allwch gadarnhau mai'r senarios y mae'r Llywodraeth yn edrych arnynt wrth fodelu yw'r senarios achos gorau a gwaethaf a gyflwynir i chi, felly ceir amrywiaeth o opsiynau i lywio eich penderfyniadau, yn hytrach nag un senario yn unig? A hefyd, ar yr arian a'r iawndal a ddyrannwyd—a chlywaf o'ch datganiad y bydd mwy o wybodaeth yfory gan Weinidog yr economi—a fydd y wybodaeth honno'n wybodaeth lawn a chyflawn, fel bod busnesau'n gwybod sut i gael gafael ar yr arian sydd ar gael i'w digolledu am y cyfyngiadau, fel na fyddwn yn gweld ailadrodd y gronfa cadernid economaidd, lle daeth yr arian i ben o fewn 24 awr a lle cafodd ceisiadau eu hatal?
Ai difrifoldeb y salwch a fydd yn effeithio ar bobl yw'r ysgogiad sy'n sail i'r cyfyngiadau hyn, neu'r cyfraddau salwch rydym yn debygol o'u gweld mewn gwasanaethau allweddol a busnesau? Oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall sut y mae'r dystiolaeth sy'n esblygu yn dangos nad yw omicron yn ymddangos fel pe bai'n cael yr effaith y mae'r feirws delta wedi'i chael yn yr ail a'r drydedd don a welsom o'r feirws ofnadwy hwn.
A allech hefyd gadarnhau heddiw yr effaith ar wasanaethau fel gwasanaethau trên, y gwelwn eu bod yn rhedeg ar 70 y cant o'r amserlen yn unig? Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, er eu bod yn cael eu heffeithio gan absenoldeb a chyfraddau salwch wrth inni nesu at gyfnod prysur y Nadolig, gall gweithredwyr trenau weithredu 90 y cant o'r amserlen. Mae hon yn ystyriaeth bwysig i bobl sy'n gwneud cynlluniau dros gyfnod y Nadolig i ddeall sut yr effeithir ar y gwasanaeth penodol hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu gwybodaeth wrth ymateb i mi.
Fe gyfeirioch chi yn eich datganiad am dorri amseroedd hunanynysu, fel y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi heddiw, yn amlwg, ac rwy'n sylweddoli y bydd y Gweinidog iechyd yn gwneud cyhoeddiad pellach ar hynny. Pa fath o amserlen rydym yn edrych arni ar gyfer y cyhoeddiad hwnnw? Oherwydd bydd hyn yn rhan hollbwysig o allu dod â phobl yn ôl i'r gwaith, os bernir, wrth gwrs, ei bod yn briodol ac yn angenrheidiol inni fabwysiadu'r canllawiau hynny yma yng Nghymru.
Hefyd, mae dirwyo gweithleoedd, mater y rhoesoch chi sylw iddo yn eich cynhadledd i'r wasg, wedi achosi rhywfaint o ddryswch, ac mae'n ymddangos o dan y rheoliadau hyn y gallech gael dirwy am fynd i'r gwaith, ond nid am fynd i'r dafarn. A oes angen sefydlu'r rheoliadau hyn, sy'n amlwg yn creu'r deinamig hwnnw o fewn y gweithle? Oherwydd er ein bod am gadw'r gweithle mor ddiogel â phosibl, i'r cyflogai a'r cyflogwr, rhaid cael goddefgarwch o fewn y gweithle i ddeall y gwahanol ddiffiniadau o waith ledled Cymru gyfan. A wnewch chi amlinellu ble y byddech yn disgwyl i'r dirwyon hynny gael eu rhoi? Sylwaf o'ch cynhadledd i'r wasg eich bod wedi dweud nad oes unrhyw ddirwy wedi'i rhoi hyd yma, er bod y rheoliadau hyn wedi bod ar waith ers peth amser.
Mewn perthynas â'r canolfannau brechu, rwy'n cael adroddiadau o wahanol ardaloedd—yn ardal Caerdydd a'r Fro, beth bynnag—fod llawer o fiwrocratiaeth yn atal pobl rhag dod i helpu fel brechwyr. Cefais un nyrs ddoe yn tynnu sylw at sut y bu'n rhaid iddi lenwi chwe ffurflen wahanol i gael ei hystyried yn frechwr pan oedd hi eisoes wedi gwneud y rhaglen frechu yn ystod y don gyntaf. Felly, dylem yn sicr annog yr unigolion hynny i gamu ymlaen a gwirfoddoli. A allech dynnu sylw hefyd at y ffordd y credwch fod eich Llywodraeth yn gweithio gyda byrddau iechyd i osgoi atal llawdriniaeth ddewisol, o ystyried, yn amlwg, effaith y feirws COVID a welwn ledled Cymru ar hyn o bryd? Yn benodol, mae rhai byrddau iechyd wedi cyhoeddi y bydd llawdriniaeth ddewisol yn cael ei chanslo am y dyfodol y gellir ei ragweld. A ydych yn rhagweld byrddau iechyd eraill yn dilyn yr arweiniad hwnnw gan y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru?
Fy mhwynt olaf i chi, Brif Weinidog, yw bod rhai gwledydd eisoes yn nodi'r angen am bedwerydd dos atgyfnerthu oherwydd, yn amlwg, yr amser y mae'r pigiad atgyfnerthu'n aros yn effeithiol ac yn cynnig yr amddiffyniad mwyaf. A oes gwaith yn cael ei wneud yn Llywodraeth Cymru i ysgogi rhaglen o'r fath wrth inni symud o'r gaeaf i'r gwanwyn, er mwyn sicrhau bod pedwerydd dos atgyfnerthu ar gael, yn enwedig i unigolion a oedd yn y garfan gyntaf i gael y pigiad atgyfnerthu yn ôl ym mis Medi a mis Hydref? Diolch, Brif Weinidog.
Lywydd, a gaf fi ddiolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am y cwestiynau adeiladol iawn hynny, ac am ei gyfranogiad rheolaidd yn y sesiynau briffio rydym yn gallu eu cynnig iddo ef ac uwch lefarwyr eraill? Byddaf yn gwneud fy ngorau i fynd drwy set eithaf hir o gwestiynau mor gyflym ag y gallaf.
Mae'r mesurau rydym wedi'u rhoi ar waith wedi'u cynllunio i lefelu'r gromlin ac i ddiogelu bywydau a'r GIG. Yn bendant, nid ydym ar daith na ellir ei hatal tuag at gyfyngiadau symud. Dywedwyd wrthyf dro ar ôl tro fod pobl allan yno'n dweud eu bod yn gwybod bod Llywodraeth Cymru ar fin cyhoeddi cyfyngiadau symud ar 18 Rhagfyr, ar 22 Rhagfyr, ac nid oes dim o hynny wedi bod yn wir. Os gweithredwn gyda'n gilydd a gwneud yr holl bethau y gallwn eu gwneud yn ein bywydau ein hunain, mae gennym gyfle i wneud gwahaniaeth. Mae llawer o bethau nad ydym yn eu gwybod o hyd am omicron a sut y bydd yn ein taro, ac ni allaf ddiystyru pethau. Rwyf yn yr un sefyllfa yn union â Gweinidogion y DU yn hynny o beth. Rydym i gyd yn dysgu ac ni allwn ddiystyru pethau. Ond mae'r mesurau rydym wedi'u cyhoeddi, a fydd ar waith o 6 a.m. ar Ŵyl San Steffan, wedi'u cynllunio i liniaru'r risg y bydd angen ymyriadau mwy difrifol.
Ni allaf fod yn gyfrifol am y ffordd y mae newyddiadurwyr yn torri embargo neu'n adrodd ar bethau. Dylid bod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y diwrnod hwnnw. Rwy'n ymddiheuro na ddigwyddodd hynny, a'r rheswm na ddigwyddodd yw bod rhaid gwneud popeth ar frys, a'r nifer anochel o gyfyngedig o bobl sy'n gorfod ysgwyddo'r holl faich.
Yr wythnos nesaf cyrhaeddir diwedd y cylch tair wythnos presennol. Rydym bob amser yn cyhoeddi cyngor y prif swyddog meddygol, a byddwn yn gwneud hynny eto, ochr yn ochr ag adroddiad y gell cyngor technegol a phopeth arall sy'n cyfrannu at ein penderfyniadau. Nid senarios gorau a gwaethaf y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael, ond yr achos gwaethaf rhesymol—felly, nid y gwaethaf, ond yr achos gwaethaf sy'n dal i fod o fewn ffiniau'r hyn a allai ddigwydd yn rhesymol—ac yna cawn sefyllfa fwyaf tebygol. Felly, nid yr orau, ond yr un sy'n fwyaf tebygol. Dyna'r ddwy senario a gawn fel mater o drefn.
Bydd Gweinidog yr economi yn rhoi cymaint o fanylion â phosibl yfory ar y cymorth i fusnesau. Unwaith eto, mae'n rhaid ei roi ar waith yn gyflym iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol am y cymorth y byddant yn ei ddarparu. Ac rydym yn parhau i fod mewn sgyrsiau'n uniongyrchol gyda busnesau i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf defnyddiol iddynt hwy. Rydym i gyd wedi dysgu pethau o gynlluniau blaenorol. Rwyf am i'r arian gael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl, ond os ydych yn gwario £120 miliwn o arian cyhoeddus, mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau ei fod yn gosteffeithiol hefyd. Er y byddwn yn rhoi cymaint o fanylion ag y gallwn yfory, bydd rhai pethau y gallem fod mewn trafodaethau gyda'r sector yn eu cylch o hyd, er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl.
A gaf fi ddweud fy mod yn credu bod y ddadl am ddifrifoldeb omicron yn colli'r pwynt i raddau? Mae nifer y bobl a fydd yn mynd yn sâl gyda'r amrywiolyn omicron yn golygu, hyd yn oed pe bai'n llai difrifol, na fydd hynny'n atal y cynnydd enfawr yn y galw a allai fod yn sgil pobl yn mynd yn sâl. Fe wnaeth un o ddirprwy brif swyddogion meddygol Lloegr mewn cyfarfod COBRA ei egluro yn y ffordd hon: pe bai omicron ond yn hanner mor ddifrifol â delta, mae hynny'n prynu 48 awr i chi o ran yr effaith y bydd omicron yn ei chael ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, mae trosglwyddadwyedd omicron yn broblem eilaidd mewn ffordd, yn hytrach na phroblem sylfaenol, ac nid wyf yn credu bod y dystiolaeth fel y caiff ei hadrodd mewn rhai papurau newydd heddiw mor syml ag y maent yn ei ddweud. Y dystiolaeth a welais—. Rwy'n ychwanegu'r cafeat arferol yma, y gwn y bydd arweinydd yr wrthblaid yn ei ddeall, fod tystiolaeth newydd yn dod i'r amlwg bob dydd. Mae'r dystiolaeth a welais hyd yn hyn yn dynodi, os ydych wedi cael coronafeirws yn barod, y gall omicron gael effaith lai difrifol arnoch os cewch eich ailheintio, ond os ydych yn dal y coronafeirws am y tro cyntaf ac mai eich dos cyntaf ohono yw omicron, mae'n debygol o fod yr un mor ddifrifol ag unrhyw fath cynharach arall o'r feirws.
Ar wasanaethau trên, mae Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg cymaint o drenau ag y gall gyda nifer y staff sydd ar gael iddo, ac effeithir ar y sefyllfa ar draws rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn union fel yr effeithir arnom ni yma yng Nghymru. Mewn ffordd, mae hynny'n cysylltu ag un o gwestiynau diweddarach Andrew Davies. Wrth gwrs, rydym yr un mor bryderus ynghylch omicron yn effeithio ar nifer fawr o bobl y mae angen iddynt fod yn y gweithle, mewn busnesau preifat ac mewn gwasanaethau cyhoeddus, gyda'r bobl sy'n mynd mor ddifrifol wael fel mai dim ond gwely ysbyty fydd yn ddigon ar eu cyfer. Mae'r ddau beth hynny'n bwysig iawn.
Rydym wedi symud heddiw i'r drefn newydd ar gyfer pobl sy'n gysylltiadau i bobl sydd â'r coronafeirws. Mae gan y Gweinidog iechyd gyngor o'i blaen heddiw ar drefn a allai fod yn wahanol i bobl sy'n dioddef yn uniongyrchol o'r feirws, ond fe fydd hi'n awyddus i edrych ar gyngor gan ein prif swyddog meddygol ein hunain ac eraill, a gwn y gwnaiff ei phenderfyniad cyn gynted ag y gall. Gwn fod y cyngor hwnnw eisoes wedi mynd iddi, a bydd yn rhan o'r hyn y bydd yn ei wneud heddiw.
A gaf fi ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am gyfle cynnar i unioni rhai o'r straeon sydd wedi cylchredeg am y gweithle? Oherwydd mae hon yn stori ddi-sail mewn gwirionedd. Fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, rydym yn adfer rheolau a oedd gennym yn gynharach yn y pandemig. Nid rheolau newydd yw'r rhain fel y cyfryw. Maent yn rheolau rydym wedi'u defnyddio o'r blaen. Maent yno i greu chwarae teg lle mae cyflogwyr a gweithwyr yn gwybod beth yw eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Fe'u cynlluniwyd i ddiogelu gweithwyr, nid eu cosbi. Pan oedd gennym y rheolau hynny ar waith yn gynharach yn y pandemig, nid oes cofnod ein bod wedi gallu dod o hyd i unrhyw un yn cael dirwy. Maent yno i wneud yn siŵr fod pawb yn deall y rheoliadau. A phan oeddwn yng nghyngor partneriaeth gymdeithasol yr wrthblaid yn gynharach heddiw, croesawodd cyflogwyr y rheoliadau oherwydd bod y rheoliadau eu hunain yn ddefnyddiol, hyd yn oed os nad yw'r adroddiadau arnynt wedi bod felly. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a sefydliadau cyflogwyr eraill ac i undebau llafur a Chyngres yr Undebau Llafur am yr holl gymorth y maent yn ei roi i ni i sicrhau bod gweithleoedd a gweithwyr yn deall beth yw'r rheolau mewn gwirionedd, a beth y maent yno i'w wneud.
Mae arnaf ofn fod effaith pobl yn absennol o'r gweithle a'r pwysau ar y GIG yn golygu bod rhaid atal llawdriniaeth ddewisol mewn rhai rhannau o Gymru. Ceir fframwaith gwneud penderfyniadau lleol sy'n caniatáu i fyrddau iechyd raddnodi hynny yn ôl eu hamgylchiadau eu hunain a gallant ddechrau llawdriniaeth ddewisol eto pan fydd yr amgylchiadau'n caniatáu iddynt wneud hynny.
Mae'n ddrwg gennyf glywed bod pobl yn teimlo bod y broses o fod yn frechwr yn rhwystredig. Rydym yn ei leihau i'r lleiafswm y credwn sy'n ddiogel. Os yw rhywun yn rhoi brechlyn i rywun arall, mae angen inni wybod eu bod wedi'u hyfforddi'n briodol i wneud hynny. Mae'r rheolau sydd yno ar gyfer pigiadau atgyfnerthu ac ar gyfer brechu plant, er enghraifft, yn wahanol i'r rhai a fyddai wedi bod yno yn y don gyntaf o frechu. Ac mae angen inni sicrhau bod pobl yn cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt i allu brechu'n ddiogel. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r cannoedd o bobl sydd wedi camu ymlaen. Nid oes gennym broblem gyda'r cyflenwad o frechwyr a brechlynnau yng Nghymru ar hyn o bryd—gallwn frechu pawb sy'n dod i gael brechiad. Mae problem o hyd gyda phobl yn methu apwyntiadau. Roedd cyfradd o 18 y cant o bobl heb fynychu eu hapwyntiad mewn rhai canolfannau brechu yng Nghymru ddoe. Mae hynny bron yn un o bob pump o bobl yn methu apwyntiadau pan gânt eu gwahodd. Ac os gallem berswadio'r bobl hynny i wneud yr apwyntiad yn brif flaenoriaeth, byddai hynny'n ein helpu i gael yr amddiffyniad hwnnw allan i gynifer o bobl â phosibl.
Yn olaf, Lywydd, credaf mai Israel yn unig sydd wedi symud at bedwaredd raglen frechu gynhwysfawr gyda'r pigiad atgyfnerthu ac fe wnaethant hynny heddiw. Ond mae Israel wedi bod ar y blaen i wledydd eraill yr holl ffordd drwy'r broses frechu. Rydym yn edrych ar y dystiolaeth o ran pa mor hir y mae'r pigiad atgyfnerthu presennol yn cynnig yr amddiffyniad mwyaf posibl i chi. Ac os yw'n ymddangos bod yr amddiffyniad yn pylu a bod angen inni wneud mwy yn ddiweddarach i mewn i'r flwyddyn nesaf, yna wrth gwrs, ochr yn ochr â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, byddwn yn ceisio rhoi rhaglen o'r fath ar waith. Diolch yn fawr iawn.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch am y datganiad, Brif Weinidog, a hefyd am y gallu i mi a'n llefarydd iechyd, Rhun ap Iorwerth, gael ein briffio gan aelodau o'r gell cyngor technegol. A gaf fi ddweud yn gyffredinol fod fy mhlaid yn credu mai cyflwyno mesurau diogelwch rhagofalus mewn ffordd gymesur yw'r peth iawn i'w wneud o ystyried yr ansicrwydd sylweddol rydym yn dal i'w wynebu mewn perthynas ag effaith bosibl yr amrywiolyn omicron a'r potensial i'r effaith fod yn sylweddol mewn rhai senarios.
Ynghylch y modelu y cyfeirioch chi ato gan Brifysgol Abertawe, y gwelsom beth ohono yn y sesiwn friffio, a gaf fi ofyn pryd y gallwch gyhoeddi hwnnw? Credaf ei bod yn bwysig o ran cyfathrebu'r cyd-destun rydych yn gwneud y penderfyniadau hyn ynddo fod y cyhoedd yn gallu gweld drostynt eu hunain y gwahanol senarios a fu'n gefndir i'ch penderfyniadau. A allech ddweud ychydig mwy am y modelu a wnaed, fel y dywedoch chi, ar wahanol senarios o ran difrifoldeb, ond hefyd, yn enwedig o ystyried yr ansicrwydd ynghylch difrifoldeb y clefyd, hyd yn oed yn y senarios lle mae lefel y difrifoldeb yn isel, fel roeddech yn ei awgrymu yn eich ymateb cynharach fod cynnydd sylweddol o hyd yn y nifer sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd y nifer uchel iawn o achosion ac yn wir, yn y modelu a welais—uchafbwynt uwch nag a welsom o'r blaen—o ran achosion a hyd yn oed o ran niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty?
Nawr, mewn perthynas â'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â difrifoldeb, mae rhywfaint o newyddion cadarnhaol wedi dod i'r amlwg, rwy'n meddwl, yn ystod yr ychydig oriau diwethaf, o Dde Affrica, am y posibilrwydd o effaith 80 y cant yn ysgafnach yr amrywiolyn o ran y nifer sy'n mynd i'r ysbyty ac yn wir, y nifer lai sy'n mynd i'r ysbyty ac yn datblygu clefyd difrifol. Mewn perthynas ag adroddiad Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU—y credaf fod crynodeb ohono wedi'i ryddhau yn answyddogol—a ydych wedi gweld unrhyw ran o'r wybodaeth honno eto, Brif Weinidog? A sut rydych chi'n ystyried peth o'r wybodaeth sy'n cael ei rhyddhau i'r cyhoedd? Mae'n bwysig cydnabod bod cafeatau, hyd yn oed yn adroddiad Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, sy'n nodi, fel y dywedwch, y bydd nifer uchel o achosion o hyd os yw'r trosglwyddiad yn uchel iawn ac yn wir, bydd rhai pobl yn dal i fynd yn sâl ac angen mynd i'r ysbyty.
O ran y sefyllfa gyda staff y GIG, a ydych wedi modelu'r effaith bosibl honno? A pha mor bwysig yw hynny wrth ddod i'ch penderfyniad ynglŷn â'r lefel 2 addasedig hon rydych yn ei chyflwyno? A phe baech wedi cael ymateb cadarnhaol gan y Trysorlys, mewn perthynas â'r cais am gymorth ffyrlo, a fyddech chi, Brif Weinidog, yn dewis polisi gwahanol ac yn edrych ar lefel uwch o ddiogelwch nag y credwch y gallwch ei wneud wrth gydbwyso'r gwahanol fanteision iechyd cyhoeddus yn erbyn y costau cymdeithasol ac economaidd a dynol ehangach sy'n gysylltiedig â'r mesurau diogelwch hynny?
Ychydig o gwestiynau penodol. Fe'ch clywais yn ailadrodd yr hyn a ddywedoch chi yn y gynhadledd i'r wasg, ynghylch rheoliad 18B—y ddirwy i gyflogeion nad ydynt yn gweithio gartref pan fyddant yn gallu gwneud hynny. Nid wyf eto wedi gallu darganfod yr union ddirwy benodol a gyflwynwyd yn gynharach. Os na allwch wneud hynny yn awr, efallai y gallech ddweud wrthym pa bryd y crëwyd y ddyletswydd benodol honno yn flaenorol, yn hytrach na'r ddyletswydd gyffredinol i aros gartref oni bai bod gennych esgus rhesymol. Ac o ran y cyfathrebu, byddai'n ddiddorol clywed yr hyn a ddywedodd y TUC yng nghyfarfod y bartneriaeth gymdeithasol. Ychydig oriau yn ôl roeddent yn trydar,
'Mae dirwyo gweithwyr sy'n cael eu gorfodi i mewn i'r gwaith gan eu penaethiaid yn bolisi gwael'
ac roeddent yn dal i'ch annog i ailfeddwl y bore yma. Felly, a ydych wedi cael sgwrs ddiweddarach gyda TUC Cymru, ac a yw eu safbwynt mewn perthynas â hynny wedi newid?
A wnewch chi ddweud rhywbeth ynglŷn â champfeydd llai, i roi'r sicrwydd iddynt, er eu bod yn llai o faint, y gallant fanteisio ar hyblygrwydd o fewn y rheoliadau—os nad yw 2m yn bosibl, y gallant roi mesurau lliniaru eraill ar waith?
Ar y rheolau newydd, o bosibl, o ran cysylltiadau agos a defnyddio'r profion llif unffordd, a wnewch chi egluro: a ydym yn sôn am gysylltiadau cartref neu gysylltiadau agos neu'r ddau yn yr achos hwnnw?
Ac mewn perthynas â gweithwyr iechyd, oherwydd bod amrywiolyn omicron yn fwy trosglwyddadwy, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd tuag at ddarparu masgiau FFP3 gradd uwch i weithwyr gofal iechyd? A chan y bydd llawer o weithwyr gofal iechyd wedi cael eu trydydd pigiad atgyfnerthu yn gynharach, a fyddant yn cael blaenoriaeth mewn perthynas ag unrhyw bedwaredd don o bigiadau atgyfnerthu yn y dyfodol?
A ble rydym ni arni yn y drafodaeth am frechu byd-eang? Rydym yn sylweddoli pa mor bwysig yw hynny yn sgil ein profiad o omicron wrth gwrs. Mae'r Senedd wedi pasio cynnig pwysig, a gyflwynwyd gan Heledd Fychan, fy nghyd-Aelod, yn ein hatgoffa, oni bai ein bod yn cael ein brechu ym mhobman, nid ydym yn ddiogel yn unman, ac mae hynny'n sicr wedi'i gadarnhau gan ddigwyddiadau'r dyddiau diwethaf.
Llywydd, diolch yn fawr i Adam Price am y cwestiynau.
Diolch iddo am ei gyfranogiad rheolaidd iawn ochr yn ochr â Rhun ap Iorwerth yn y sesiynau briffio y gallwn eu darparu, ond hefyd am ddynodi ar ddechrau'r hyn a ddywedodd am gefnogaeth gyffredinol i'r angen i roi camau rhagofalus a chymesur ar waith i ddiogelu pobl Cymru. Byddwn yn cyhoeddi'r gwaith modelu; rydym yn cyhoeddi cyngor y gell cyngor technegol a gawn yn rheolaidd, yn aml ochr yn ochr â'r cylch tair wythnos. Gwn y bydd Mr Price yn gwybod, yn y ddealltwriaeth sy'n datblygu'n gyflym, fod y model yn cael ei ddiweddaru'n gyson. Felly, roedd ganddo ragdybiaeth benodol ynghylch pa mor gyflym y byddem yn gallu cyflwyno'r pigiad atgyfnerthu yng Nghymru—rydym yn amlwg yn rhagori ar hynny o gryn dipyn, a bydd angen ailgyflunio'r model er mwyn ystyried hynny. Mae'r model yn gwneud rhagdybiaethau am ymddygiad pobl, a chredaf ein bod wedi gweld, yn ystod yr wythnosau diwethaf, fod ymddygiad pobl yn fwy sensitif i beryglon omicron nag y byddem wedi'i feddwl o bosibl. Mae data De Affrica mewn perthynas â difrifoldeb yn ddefnyddiol wrth gwrs, ond mae 70 y cant o boblogaeth De Affrica wedi'u heintio'n ddiweddar mewn ton delta enfawr a ledaenodd drwy Dde Affrica. Felly, credaf y byddai hynny'n gyson â'r cyngor a welais yn gynharach sy'n dynodi, os ydych eisoes wedi eich heintio â'r coronafeirws a'ch bod wedyn yn cael omicron, y bydd yn llai difrifol. Ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu, os nad ydych wedi cael dos blaenorol, y byddai'r effaith yn llai difrifol.
Mae'n rhaid graddnodi'r model hefyd yn erbyn tystiolaeth sy'n newid mewn perthynas â hyd arhosiad, er enghraifft. Felly, efallai fod pobl sy'n mynd yn sâl gydag omicron yn gwella'n gyflymach ac felly yn yr ysbyty am lai o amser, a byddai hynny'n cael effaith ar y senarios y mae'r model yn eu nodi. Felly, byddwn yn cyhoeddi'r model, ond mae hyd yn oed yn fwy amhendant ar hyn o bryd nag y byddai wedi bod ar adegau eraill o brofiad y coronafeirws.
Mae modelu staff y GIG wedi bod yn bwysig i ni, wrth gwrs. Mae lefelau salwch yn y GIG yn uwch yr wythnos hon na'r wythnos diwethaf, gan fod mwy o bobl yn mynd yn sâl o delta a dechrau'r omicron a welwn yn awr yng Nghymru. Ond nid staff y GIG yn unig, fel y gwn y bydd arweinydd Plaid Cymru yn gwybod, ond staff yn y sector cartrefi gofal. Rhan o'r pwysau yn ein gwasanaeth iechyd yw ei bod yn anos rhyddhau pobl i'w cartrefi eu hunain neu i gartrefi gofal y gaeaf hwn am nad oes gennym staff yno i allu gofalu am bobl. Ond mae'n ymwneud â mwy nag iechyd a gofal cymdeithasol yn unig, mae'n ymwneud â gallu awdurdodau lleol i redeg gwasanaethau casglu sbwriel, er enghraifft. Yr holl bethau hanfodol hynny sy'n dod o dan bwysau os oes gennym fwy o bobl yn methu bod yn y gweithle.
Ar ffyrlo, nid yw'r galwadau a wnaethom, ochr yn ochr â Phrif Weinidog yr Alban a'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yng Ngogledd Iwerddon, wedi cael eu hateb eto gan Lywodraeth y DU. Nid yn gymaint y byddem yn gwneud penderfyniadau gwahanol am yr hyn y byddwn yn ei wneud ar unwaith, oherwydd gallwn gynnwys y rheini o'n hadnoddau ein hunain, o drwch blewyn; ond os oes angen i ni fynd ymhellach, nid yw'r sefyllfa'n deg. Os bydd Gweinidogion Lloegr yn penderfynu bod angen iddynt fynd ymhellach, byddant yn cael cefnogaeth y Trysorlys i wneud hynny. Os bydd unrhyw Lywodraeth ddatganoledig yn penderfynu gwneud hynny, nid oes gennym y warant honno. Mae hynny'n annheg. Dylai pob un ohonom allu gwneud penderfyniadau ar sail iechyd y cyhoedd yn unig yn yr un modd ag y gall Gweinidogion Lloegr ei wneud ar gyfer Lloegr, ac yn ôl yr hyn a welaf, nid ydym wedi cyrraedd sefyllfa lle rydym yn mynd i'r afael â hynny'n briodol.
Os deallais y cwestiwn yn iawn, Lywydd, y rheolau gweithio gartref rydym yn eu dyblygu yn awr yw'r rhai a oedd gennym ar ddechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2020, ac roedd y TUC yng nghyngor partneriaeth gymdeithasol yr wrthblaid y bore yma, a byddwn yn parhau ein deialog â hwy.
Ar gyfer campfeydd llai, mae'r mesurau rhesymol eraill y gallant eu rhoi ar waith yn caniatáu iddynt weld a allant agor ar sail pellter cymdeithasol o lai na 2m. Byddai'n rhaid iddynt gael pellter o 2m o hyd lle bynnag y gallent, a byddai'n rhaid iddynt fod yn hyderus fod y mesurau lliniaru yn ddigonol i'w galluogi i weithredu'n ddiogel. Ond yn y cyngor y byddwn yn ei roi i'r sector byddwn yn dyrchafu'r ffaith bod y mesurau lliniaru hynny ar gael iddynt, a gobeithio y bydd hynny o gymorth iddynt wrth bwyso a mesur eu gallu i barhau i ddarparu gwasanaeth. Cysylltiadau pobl mewn system gyswllt agos fydd y cysylltiadau y byddai'r gwasanaeth profi, olrhain, diogelu wedi cysylltu â hwy, felly dyna sut rydym yn diffinio'r rheini, rwy'n credu.
Ar fasgiau gradd uwch, edrychwch, mae hyn wedi bod yn destun cryn dipyn o ddadlau yn ystod y pandemig ar ei hyd. Dyna pam y sefydlwyd grŵp arbenigol. Mae'n cael ei arwain gan glinigwyr. Edrychodd y grŵp hwnnw ar yr holl dystiolaeth, yn enwedig y dystiolaeth aerosol mewn perthynas ag omicron, ychydig dros wythnos yn ôl. Daethant i'r casgliad nad oedd unrhyw newid yn eu cyngor, ond maent hwythau hefyd wedi dyrchafu, yn y cyngor y maent wedi'i ddarparu, yr hyblygrwydd sydd yno mewn lleoliadau iechyd i ddefnyddio masgiau FFP3 lle mae bygythiadau penodol y mae angen eu hystyried. Ac rydym wedi sicrhau ein bod wedi trosglwyddo'r cyngor dyrchafedig hwnnw i wasanaeth iechyd Cymru.
Bob tro y cawsom iteriad newydd o'r rhaglen frechu, rydym wedi dilyn cyngor blaenoriaethu'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Felly, os bydd pedwaredd rhaglen o bigiadau atgyfnerthu, byddwn yn cael cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Yn gyffredinol, mae'n dilyn y patrwm y cyfeiriodd Adam Price ato: mae'n edrych i weld y bobl a gafodd y brechiad olaf gynharaf ac y gallai'r amddiffyniad fod wedi pylu gyflymaf, ac rydych yn mynd yn ôl at y bobl hynny yn gyntaf. Ond pe bai'r cyngor yn wahanol i hynny, byddem yn dibynnu ar y cyngor arbenigol hwnnw.
Ac yn olaf, Lywydd, rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, a chyd-Aelodau sydd wedi bod yn dilyn y cyngor y mae'r cyn Brif Weinidog, Gordon Brown, wedi bod yn ei roi ar ran Sefydliad Iechyd y Byd yn y maes hwn, a rhoddodd ddiweddariad pellach ar hynny ddoe ddiwethaf, rwy'n credu: nid oes neb yn ddiogel hyd nes bod pawb yn ddiogel rhag y clefyd ofnadwy hwn. Ac i ddyfynnu Gordon Brown, mae'r gorllewin cyfoethog yn wynebu'r risg o chwarae rwlét y Rwsiaid gydag iechyd eu poblogaethau yn y dyfodol drwy beidio â gwneud popeth yn eu gallu i ddarparu brechlynnau ledled y byd. Hyd nes y gwnawn ni, y risg yw bod amrywiolyn newydd arall, mewn poblogaeth sy'n wynebu risg am nad ydynt wedi cael eu brechu, yn bwrw ffrwyth heddiw, a'r tro nesaf efallai na fyddwn mor lwcus y gallai fod yn llai difrifol neu fod ei allu i oresgyn y brechlyn yn gyfyngedig. Felly, nid mater o haelioni syml yw'r achos dros yr ymdrech fyd-eang fawr honno, ond mater o hunan-les goleuedig. Rydym yn gwneud hyn i ddiogelu ein hunain yn ogystal â diogelu'r poblogaethau eraill hynny. Ochr yn ochr ag eraill yn y Deyrnas Unedig, nid yn unig yn y byd gwleidyddol, ond ymhell y tu hwnt iddo, rydym yn annog Llywodraeth y DU i barhau i roi arweiniad. Ac rwyf am ddweud eu bod wedi rhoi arweiniad pwysig yn y maes hwn, ond credwn fod mwy y gellid ei wneud, a hoffem eu hannog i wneud hynny i gyd i'n diogelu ni yn ogystal ag eraill.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Mae gennym nifer fawr o Aelodau o hyd sy'n dymuno siarad, felly a gaf fi ofyn i bawb sy'n cyfrannu yn awr i gadw o fewn yr amser, os gwelwch yn dda, fel y gallwn fynd drwy gynifer ohonoch â phosibl? Hefin David.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n werth nodi y pleidleisiwyd ar yr hysbysiadau cosb benodedig am y tro cyntaf yn gynnar yn 2020 yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, adran 21, ac nid oes plaid yn y Siambr hon nad oedd yn eu cefnogi ar y pryd, felly mae'n fater o bwys. Fodd bynnag, ar y pryd, roeddent yn berthnasol i bawb, oherwydd bod pawb â dyletswydd gyfreithiol i aros gartref, ond erbyn hyn i gyflogwyr a gweithwyr yn unig dan yr amgylchiadau hyn y maent yn berthnasol, felly mae ychydig o newid yno. Felly, hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog—. Rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan bobl sy'n poeni am dorri'r gyfraith a chyflawni trosedd yn anfwriadol. Beth y byddai'n ei ddweud wrth rywun sydd wedi ysgrifennu ataf gyda'r pryderon hynny, nad ydynt yn llwyr ddeall y mesur 'esgus rhesymol'? Sut y gallant ddeall hwnnw a rhoi'r camau priodol ar waith ar gyfer gweithio gartref?
Ac yn olaf, dau gwestiwn ymarferol: a yw profion gyrru a gwersi gyrru'n cael parhau, a gwasanaethau cyswllt agos yn parhau fel arfer? Ac a yw oriau agor ar gyfer safleoedd trwyddedig yn parhau fel arfer? Diolch.
Diolch i Hefin David am y cwestiynau hynny, Ddirprwy Lywydd. Nid yw'r oriau agor wedi newid; bydd gwasanaethau cyswllt agos yn ailagor ar ôl y Nadolig a bydd yn rhaid iddynt weithredu o dan y drefn newydd yn awr. Nid yw profion gyrru o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, oherwydd eu bod yn cael eu trefnu gan un o asiantaethau'r DU. Gall gwersi gyrru barhau yng Nghymru, ond mae'n rhaid cael camau lliniaru priodol, oherwydd mae'n anochel eich bod yn eistedd yn agos at rywun arall.
Diolch i'r Aelod am nodi'r ffaith nad yw'r drefn sydd wedi achosi rhywfaint o bryder yn drefn newydd a'i bod wedi'i chymeradwyo gan y Senedd ar ddechrau'r pandemig. Gall pobl sydd wedi cael eu dychryn gan yr hyn a ystyriaf yn ffordd ddi-fudd o adrodd am hyn i gyd ddibynnu ar y ffaith mai dim ond rhywun sy'n mynnu bod mewn gweithle pan fydd yn gwbl glir y gallent weithio'n llwyddiannus gartref a allai wynebu cosb. Mae pob neges a gawsom gan TUC Cymru drwy'r holl bandemig wedi dweud nad yw'r mesurau diogelwch i weithwyr wedi bod yn ddigonol bob amser, lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu galw'n ôl i'r gweithle heb fod y drefn mesurau rhesymol wedi'i rhoi ar waith yn briodol. Mae'r rheoliadau hyn yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i'r gweithwyr hynny; gallant ddweud wrth y cyflogwr, 'Ni allaf ddod i weithio ar y telerau hynny, oherwydd, pe bawn yn gwneud hynny, byddwn yn cyflawni trosedd, ac ni allwch fy rhoi yn y sefyllfa honno.' Nawr, os oes angen cyngor ar bobl yn eu hamgylchiadau unigol eu hunain, fy nghyngor i iddynt bob amser fyddai sicrhau eu bod yn aelod o undeb llafur a gallant gael y cyngor y bydd yr undeb llafur hwnnw'n ei ddarparu. Ac yn ogystal â bod y TUC yng nghyngor y bartneriaeth gymdeithasol y bore yma, roedd yr undebau mawr sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o weithwyr a allai gael eu heffeithio i gyd yno hefyd.
Ac fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn am yr awgrym gan gyflogwyr a'r mudiad undebau llafur y byddent i gyd yn anfon cyngor at eu haelodau y prynhawn yma i'w gwneud yn glir eu bod yn ystyried bod y rheoliadau'n ddefnyddiol, ar yr amod eu bod yn cael eu deall a'u defnyddio'n briodol yn y ffordd a fwriedir.
Brif Weinidog, a gaf fi ofyn faint o bobl sydd yn yr ysbyty gyda'r amrywiolyn newydd yn awr, ar hyn o bryd? Ac mae pryder gwirioneddol fod rhai byrddau iechyd—Betsi Cadwaladr yn arbennig—yn canslo llawdriniaethau a gynlluniwyd i sicrhau bod rhaglen y pigiad atgyfnerthu yn cael ei chwblhau. Nawr, y mis diwethaf, gwelsom fod 40,000 o bobl yn aros dros flwyddyn am driniaeth, a 9,000 dros ddwy flynedd, a phob un mewn poen, o bosibl, wrth aros am driniaeth. Felly, a ydych yn hyderus fod rhaglen y pigiad atgyfnerthu yn cael ei chyflwyno'n ddigonol i fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu a bod hynny'n cael effaith i'w groesawu ar wasanaethau a gynlluniwyd y GIG? A beth y gellir ei wneud i dynnu pwysau oddi ar y GIG a pha sicrwydd y gallwch ei roi i gleifion ledled Cymru na fydd eu llawdriniaethau'n cael eu gohirio'n sylweddol?
Lywydd, ymddiheuriadau am y ffaith fy mod yn sganio'r wybodaeth sydd gennyf o'm blaen, ac na allaf weld ffigur y bobl sydd mewn ysbytai yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae'r ffigur hwnnw ar gael. Mae'n nifer gymharol fach ar hyn o bryd, ond gwn y bydd Russell George wedi gweld y ffigurau o Lundain ac o Fanceinion a'r cynnydd cyflym iawn a fu yno yn ystod yr wythnos diwethaf yn nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd omicron, gyda nifer o'r achosion cychwynnol ymhlith pobl yn eu 20au a'u 30au, er eu bod wedi symud i fyny'r ystodau oedran ers hynny hefyd. Felly, oherwydd ein bod y tu ôl i'r gromlin—rydym yn ddigon ffodus i gael y fantais fach honno yng Nghymru—mae'r niferoedd yng Nghymru ar hyn o bryd yn fach. Ond mae arnaf ofn fod yn rhaid inni edrych ar y patrwm mewn mannau eraill a pharatoi ein hunain ar gyfer hynny. A gaf fi ddweud ei bod yn anochel fod cyfaddawdau yn yr hyn y gallwn ei wneud? Os ydym am i'r rhaglen frechu gael ei chyflwyno ar y cyflymder—[Anghlywadwy.]
Mae'n edrych yn debyg fod y Prif Weinidog wedi rhewi eto. Fe rown funud neu ddwy iddo i weld a allwn ei gael yn ôl. Ac wrth inni aros am y Prif Weinidog, a gaf fi hysbysu'r Aelodau fod y Llywydd hefyd yn cael anawsterau—
—y caiff ei chyflwyno—
Brif Weinidog, fe wnaethom eich colli am eiliad. Cawsoch eich rhewi. Tua 30 eiliad.
O'r gorau. Rwy'n credu y gwnaf—. Gobeithio fy mod yn egluro bod rhai cyfaddawdau anochel pan fydd gennych weithlu sefydlog a'ch bod yn gofyn iddynt gyflawni rhaglen bwysig arall, fel rhaglen frechu sy'n mynd i gynnig pigiad atgyfnerthu i bawb sy'n gymwys yng Nghymru cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Y newyddion da yw eich bod wedi cyfyngu'r ymdrech honno i gyfnod byr iawn, ac yna bydd y bobl hynny'n cael eu rhyddhau yn ôl i wneud yr holl bethau eraill rydym am iddynt eu gwneud. Dylwn ei gwneud yn glir nad prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r unig fwrdd iechyd sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau hynny, ond cyhyd â bod pobl yn dod i gael eu brechu fel yr hoffem iddynt ei wneud, gobeithio y bydd y cyfnod y caiff pobl eu dargyfeirio i'r ymgyrch i ddarparu'r pigiad atgyfnerthu mor fyr ag sy'n bosibl.
Ac fel roeddwn yn dweud tra roeddem yn aros, mae band eang y Llywydd wedi methu, a thra'n bod yn ceisio gweld a allwn gael Aberaeron yn ôl ar-lein, fe wnaf barhau. Luke Fletcher.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gan sôn am ddirwyo gweithwyr am y tro, os edrychwch ar y memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar gyfer y rheoliadau hyn a'r datganiad a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar yr ail ar bymtheg a heddiw mae'n amlwg fod y Llywodraeth yn credu bod y berthynas rhwng gweithiwr a chyflogwr yn gytbwys. Mae meddwl bod cyfrifoldeb yn cael ei rannu rhwng cyflogwr a gweithiwr, gyda phob parch, Brif Weinidog, yn naïf, a gall unrhyw un sy'n gweithio mewn swydd isafswm cyflog ddweud wrthych ble mae'r pŵer mewn gwirionedd, ac mae gennym sectorau lle nad yw undebau llafur mor bwerus ag y byddem am iddynt fod. Rwy'n cydnabod bod geiriad rheoliad 18B wedi'i ddefnyddio yn y gorffennol, ond roedd hynny, wrth gwrs, mewn cyd-destun gwahanol, ac fel y nododd Adam Price a Hefin David eisoes, mae'r rheoliadau hynny o dan 18B bellach wedi'u nodi'n annibynnol ar unrhyw ddyletswydd gyffredinol a allai fod wedi'i nodi yn y gorffennol. Rwy'n cydnabod hefyd wrth gwrs yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei gynhadledd i'r wasg heddiw nad oes dirwyon wedi'u rhoi hyd yma, ond rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cael gwared ar y dirwyon i weithwyr. Yr egwyddor yma, yn fwy na dim arall, sy'n fy ngwneud i'n anghyffyrddus, a dylai'r cyfrifoldeb ddisgyn ar gyflogwyr.
Ond os caf ofyn hefyd am y cymorth i fusnesau yn fyr iawn, roeddwn yn ddiolchgar am y sesiwn friffio a ddarparwyd gan Weinidog yr economi y bore yma. Rwy'n sylweddoli y bydd Gweinidog yr economi yn rhoi rhagor o fanylion yfory, ond a allai'r Prif Weinidog o leiaf ddarparu rhywfaint o wybodaeth heddiw ynglŷn â phryd y gall busnesau ddisgwyl cymorth? Mae llawer o bryder ymhlith busnesau ar hyn o bryd ac maent angen y sicrwydd y bydd cymorth yn cyrraedd mewn pryd, gyda llawer ohonynt, mae'n siŵr, yn cysylltu ag Aelodau wrth inni siarad.
Lywydd, mewn perthynas â chymorth busnes amserol, ein nod yw defnyddio rhai o'r systemau a ddefnyddiwyd gennym yn gynharach yn y pandemig. Felly, bydd y taliadau hyn yn mynd yn uniongyrchol i fusnesau heb fod angen proses ymgeisio gymhleth, er y bydd swm ar wahân o arian lle gellir gwneud cais i bobl y mae eu hamgylchiadau y tu hwnt i'r hyn y byddai'r ddibyniaeth ar allu awdurdodau lleol i anfon cymorth grant allan yn darparu ar ei gyfer. Felly, bydd Gweinidog yr economi yn nodi'r amseroedd hynny yfory, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o hyder i fusnesau y bydd yr arian yn ein gadael a gyda hwy cyn gynted ag y gallwn.
Clywais yr hyn a ddywedodd yr Aelod mewn perthynas â'r rheoliadau gweithio gartref, ond nid wyf yn credu imi glywed unrhyw beth nad oeddwn wedi'i glywed yn gynharach, Lywydd, ac i fod yn gyflym ac er mwyn yr Aelodau eraill, nid oes gennyf ragor i'w ychwanegu ar y mater hwnnw.
Y ffordd arferol o gymharu gweithredu a diffyg gweithredu yw cael sampl rheoli. Mae Brasil a thaleithiau deheuol Unol Daleithiau America wedi rhoi sampl rheoli o'r fath i ni, ond gyda chyfraddau marwolaethau trychinebus yn y gwledydd hynny. Hoffwn godi dau bwynt: yn gyntaf, fod camau'n cael eu cymryd yn erbyn archfarchnadoedd a chwmnïau bysiau nad ydynt yn gorfodi gwisgo masgiau; ac yn ail, fod budd brechlynnau a phigiadau atgyfnerthu i leihau heintiau, cyfraddau trosglwyddo a chyfraddau marwolaethau yn cael ei egluro i'r cyhoedd.
Lywydd, mae Mike Hedges yn gwneud pwynt pwysig iawn, fod rhai Llywodraethau ledled y byd, yn anffodus, yn fwriadol wedi gwrthod rhoi'r camau a fyddai'n diogelu eu poblogaethau ar waith, ac mae'r canlyniadau yno i unrhyw un eu gweld. Bydd y drefn newydd ar ôl y Nadolig yn rhoi rhwymedigaethau newydd ar gyflogwyr—nid gweithwyr rheng flaen, ond rheolwyr safleoedd—i sicrhau eu bod yn eu rhedeg yn unol â'r risgiau newydd sy'n bodoli yn sgil y coronafeirws. Rydym yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda'r holl sectorau hynny i atgyfnerthu'r cyfrifoldebau, y cyfrifoldebau cyfreithiol, a fydd ganddynt yng Nghymru yn awr.
Mae'r pwynt olaf a wnaeth Mike Hedges yn bwysig iawn, ynglŷn â cheisio cyfleu i bobl pa mor bwysig yw cael pigiad atgyfnerthu. Os ydych wedi cael eich brechu ddwywaith gyda'r brechlyn AZ, fel y bydd llawer o bobl yn y Senedd, lefel isel iawn o amddiffyniad y mae'n ei gynnig i chi yn erbyn yr amrywiolyn omicron, yn anffodus. Os cewch bigiad atgyfnerthu, pigiad atgyfnerthu Pfizer neu Moderna, mae'r amddiffyniad hwnnw'n codi eto i hyd at 75 y cant. Felly, nid oes unrhyw frechlyn byth yn mynd i roi sicrwydd llwyr, ond gyda phigiad atgyfnerthu, rydych wedi cynyddu eich amddiffyniad yn erbyn yr amrywiolyn omicron yn sylweddol iawn. Fel y dywedaf, nid oes dim yn bwysicach i chi ei wneud y diwrnod hwnnw na mynd i gael eich pigiad atgyfnerthu, oherwydd bydd yn eich helpu, ac ar y cyd mae'n helpu i gadw Cymru gyfan yn ddiogel.
Brif Weinidog, nos Lun penderfynodd Llywodraeth Cymru wahardd gwylwyr o leoliadau chwaraeon yng Nghymru, ac ar yr un pryd cyhoeddodd gronfa o £3 miliwn i dalu am golli refeniw i glybiau a lleoliadau chwaraeon sy'n mynd i fod ar eu colled o ganlyniad. Ond hyd yn hyn ychydig iawn o fanylion a gafwyd ynglŷn â sut y gellir gwneud cais amdano neu sut yn union y caiff ei ddyrannu, ac er hynny, mae arnaf ofn fod y £3 miliwn, ar yr wyneb o leiaf, yn edrych fel diferyn bach yn y môr o'i gymharu â'r refeniw a gollir yn sgil y penderfyniad hwnnw. Felly, er enghraifft, mae gemau cartref clwb pêl-droed Abertawe a chlwb pêl-droed Caerdydd yn dod â thua £200,000 yr un i mewn mewn incwm diwrnod gêm yn unig, felly pe bai'r gronfa'n talu am y colledion hynny, er enghraifft, byddech yn gweld tua un rhan o bymtheg o'r gyllideb gyfan wedi mynd mewn un diwrnod ar un gêm, sy'n golygu na fydd y digwyddiadau mawr hyn yn cael eu digolledu'n llawn neu ni fydd dim ar ôl ar gyfer clybiau a lleoliadau llai a chwaraeon eraill. Nid ydym yn gwybod ychwaith am ba hyd y bydd yn rhaid i'r gronfa hon ddigolledu clybiau, gan ei bod yn amlwg nad ydym yn gwybod eto pryd y daw'r cyfyngiadau hyn i ben. Felly, a gaf fi ofyn i'r Prif Weinidog amlinellu sut yn union y bydd y cynllun hwn yn gweithio i glybiau a lleoliadau chwaraeon, a pha sefydliadau sy'n debygol o gael eu heffeithio'n ariannol gan gyfyngiadau'r cynllun?
Lywydd, cynllun yw hwn sydd wedi'i gynllunio ar gyfer digwyddiadau mawr. Gwnaethom ofalu ymlaen llaw ein bod wedi casglu gwybodaeth gan y clybiau dan sylw cyn gwneud penderfyniad ynghylch yr incwm y credent y byddent yn ei golli pe bai'n rhaid iddynt chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig, a gallaf sicrhau'r Aelod nad diferyn bach yn y môr yw £3 miliwn, ac rydym yn hyderus ei fod yn ddigon i allu digolledu'r clybiau hynny am y ffordd y byddant yn gallu gweithredu yn awr. Nid am gyfnod amhenodol, wrth gwrs. Nid oes yr un ohonom yn gwybod pa mor hir y bydd angen i hyn barhau a byddwn yn adolygu'r swm hwnnw o arian yn rheolaidd iawn, ac os bydd yn rhaid i'r cyfyngiadau fynd y tu hwnt i'r pwynt lle bydd y £3 miliwn yn ddigonol, bydd y sgyrsiau rhwng y Gweinidog cyllid a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y sector hwnnw yn ailddechrau.
Diolch i chi am y sylwadau, Brif Weinidog. Roeddwn i am dynnu sylw at briodasau ac angladdau, felly dwi'n ddiolchgar iawn i chi am y sylwadau rydych chi wedi'u gwneud, ond mae'r sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud yn awgrymu y bydd y pwysau ar y trefnwyr i ddehongli beth sydd yn ddigonol neu beth sydd yn ddiogel, ac yn y blaen, ar adeg sydd yn adeg ddigon annymunol i'r rheini sy'n trefnu angladdau neu'n stressful i'r rheini sy'n trefnu priodasau. Felly, a gawn ni ychydig yn fwy o eglurder, os gwelwch yn dda, ynghylch hynny? Mae'r Alban, wrth gwrs, wedi cyhoeddi na fydd yna gyfyngiad ar niferoedd mewn priodasau ac angladdau fanna. Tybed a fyddech chi'n fodlon rhoi eglurder tebyg i'r Alban?
Hefyd, roeddwn i eisiau gofyn, wythnos diwethaf fe ddywedoch chi, Brif Weinidog, y dylai meddygon symud cleifion i'r boreau er mwyn ryddhau'r prynhawniau ar gyfer brechu. Wrth gwrs, o wneud hyn, fe fydd cleifion yn disgwyl felly cael apwyntiad yn y boreuon, ond mae'r boreuon eisoes yn llawn efo meddygon. A gawn ni eglurder ynghylch trefniadau meddygon, felly, os gwelwch yn dda—meddygon teulu—er mwyn rheoli disgwyliadau cleifion?
Ac, yn olaf, mae'r rheoliadau yma rydych chi wedi eu cyflwyno yn ddibynnol, i raddau helaeth, ar brofion llif ochrol, ond dwi'n clywed yn Nwyfor Meirionnydd fod yna—[Anghlywadwy.]
Nid oes recordiad o weddill y cyfraniad hwn ar gael yn yr iaith wreiddiol.
Nid oes recordiad ar gael o’r cyfraniad hwn yn yr iaith wreiddiol.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:36.
Ailymgynullodd y Senedd am 14:45, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Draw atoch chi, Brif Weinidog.
Gyda meddygon teulu, rŷn ni'n defnyddio gwasanaethau meddygon teulu i helpu pobl sy'n gaeth i'r tŷ, a hefyd i roi'r rhaglen frechu i bobl mewn cartrefi preswyl. Os ydych chi mas ar eich pen eich hunain yn brechu pobl, mae'n bwysig i gael lefel o hyfforddiant digon da i wneud hynny heb gael cymorth pobl eraill, fel sydd ar gael mewn canolfannau brechu.
Gyda'r profion LFD, rŷn ni'n lwcus yma yng Nghymru fod digon o brofion gennym ni. Dwi'n gwybod bod y system o ddosbarthu'r profion wedi bod dan straen, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno gyda Royal Mail i ddyblu faint o brofion maen nhw'n gallu eu dosbarthu, a rŷn ni'n mynd i ddefnyddio'r system maen nhw wedi'i threfnu yma yng Nghymru hefyd. A rŷn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i gael y profion mas i'r bobl achos rŷn ni'n mynd i ddibynnu arnyn nhw am nifer o bethau yn y dyfodol.
Brif Weinidog, mae digwyddiadau parkrun yng Nghymru yn bwysig iawn i iechyd y cyhoedd, gan eu bod yn caniatáu i bobl gael ymarfer corff gwerthfawr a manteision cysylltiedig. Yn ystod COVID, maent wedi datblygu fframwaith yn fyd-eang sy'n effeithiol iawn am sicrhau diogelwch a gwrthsefyll y feirws. Maent yn barod iawn i weithio gyda Llywodraeth Cymru a swyddogion, Brif Weinidog, i geisio dod o hyd i ffordd drwodd i barhau digwyddiadau parkrun i'r flwyddyn newydd a thu hwnt, a tybed a allech ymrwymo heddiw i alluogi'r trafodaethau a'r sgyrsiau hynny i ddigwydd. Rwy'n siŵr eu bod wedi digwydd, i ryw raddau, ond gwn eu bod yn awyddus iawn i gyfrannu manylion.
A hoffwn ofyn ynglŷn â'r rhaglen frechu, Brif Weinidog, fel y dywedoch chi, rwy'n clywed gan y rhai sy'n darparu'r brechiadau fod lefel eithaf uchel o bobl nad ydynt yn mynychu, ac mae rhai o'r bobl sy'n darparu'r brechlyn yn rhwystredig nad oes cymaint o hyblygrwydd ag yr hoffent i ddefnyddio'r brechlynnau sbâr a fyddai fel arall yn cael eu gwastraffu i frechu pobl nad ydynt yn dod i gael eu brechu o dan y blaenoriaethau presennol ar hyn o bryd. Felly, tybed a ellid cyhoeddi canllawiau i alluogi mwy o hyblygrwydd yn hynny o beth.
Ac yn olaf—
John, rydych chi wedi cael amser, ac mae'n rhaid inni barhau i symud ymlaen. Mae gennym lawer o bobl sydd am ofyn cwestiynau.
O'r gorau, diolch.
Diolch yn fawr i John Griffiths am y cwestiwn, Dirprwy Lywydd.
Ar ddigwyddiadau parkrun, maent yn cael parhau. Bydd terfyn o 50 o bobl yn gallu cymryd rhan yn uniongyrchol yn y ras—nid yw hynny'n cynnwys pobl sy'n ymwneud â stiwardio neu wirfoddoli ynddynt. A lle mae'r digwyddiadau parkrun ar gyfer pobl iau o dan 18 oed, gall nifer ddiderfyn gymryd rhan. Rwy'n credu fy mod yn ymwybodol eisoes o rai digwyddiadau parkrun sydd, oherwydd y niferoedd, yn rhedeg nifer penodol ar un adeg yn y dydd a set arall o bobl yn nes ymlaen. Felly, bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd, ac rwy'n siŵr ein bod yn siarad â'r sector. Ond o dan y rheolau rydym wedi'u cyhoeddi heddiw, gall digwyddiadau parkrun barhau. Rhaid iddynt barhau o fewn y rheolau, ond nid yw'r rheolau'n afresymol.
Rwy'n rhannu rhwystredigaeth y bobl sydd wedi canslo eu gwyliau Nadolig, sy'n gwneud hyn i gyd gyda brechu ar ben popeth arall rydym wedi gofyn iddynt ei wneud dros y 21 mis diwethaf, pan nad yw pobl yn dod i'w hapwyntiad ac nad ydynt wedi bod yn ddigon cwrtais i roi gwybod i bobl y bydd hynny'n digwydd. Mewn gwirionedd, credaf fod llawer o hyblygrwydd yn y system ac mae gan lawer o leoliadau restrau wrth gefn y maent yn eu galw i mewn neu ffyrdd eraill o ddefnyddio brechlynnau a fyddai fel arall yn cael eu gwastraffu. Ond y ffordd orau oll o atal brechlynnau rhag cael eu gwastraffu yw i bobl ddod i'w hapwyntiadau ac yna byddai'r broblem yn lleihau. Byddaf yn sicrhau ein bod ni, unwaith eto, yn tynnu sylw pobl at yr hyblygrwydd sydd yno eisoes i bobl geisio llenwi'r niferoedd os nad yw pobl yn mynychu, pan ddylent wneud hynny, yn fy marn i.
Mae'n ymddangos yn drueni i orfod defnyddio rhywfaint o fy nghyfraniad i ailadrodd hyn, ond teimlaf fod angen ei ddweud, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Andrew R.T. Davies am sicrhau bod y Senedd yn cael ei pharchu wrth gyflwyno cyfyngiadau newydd drwy awgrymu y dylid adalw'r Senedd heddiw, a diolch i'r Llywydd am ganiatáu i hynny ddigwydd. Rwy'n pryderu nad yw'r rheini yn y Blaid Lafur sy'n dadlau dros fwy o bwerau i'r Senedd yn dangos parch ati ar ei ffurf bresennol hyd yn oed. Mae'r broses seneddol yn un bwysig a dylid cadw ati. Mae gwahardd pethau am hanner nos drwy ddatganiadau i'r wasg yn ychwanegu dryswch a phryder pellach i'n busnesau a sefydliadau chwaraeon ledled y wlad. Brif Weinidog, a ydych yn credu bod hon yn ffordd briodol o redeg Llywodraeth? Rydym yn gwerthfawrogi eich ymddiheuriad yn awr, ac yn gwbl briodol felly, ond nid dyma'r tro cyntaf iddo ddigwydd. Felly, a gaf fi ailadrodd galwadau gan Andrew R.T. Davies am ddiweddariadau rheolaidd?
Ddirprwy Lywydd, rydym wedi gweld busnesau a sefydliadau chwaraeon yn ei chael hi'n anodd goroesi. Gallai'r cyfyngiadau hyn fod yn ddigon amdanynt i lawer o hoff sefydliadau lleol, felly mae'n hanfodol ein bod yn gweld y data sy'n gyrru'r penderfyniadau hyn, fel y gallwch fynd â'r cyhoedd gyda chi, yn enwedig gan mai cyhoeddi canllawiau yn unig a wnewch, fel y dywedwch, Brif Weinidog. A fydd yn rhaid inni osod cyfyngiadau rhagofalus o'r fath bob tro y bydd amrywiolyn newydd yn dod i'r amlwg? Efallai fod angen inni ddechrau meddwl ychydig yn wahanol i wneud mwy i baratoi ar gyfer amgylchiadau o'r fath? Bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith ddinistriol ar lawer, a dyna'r realiti. Os ydym am ryddhau gweithwyr, pam nad ydym eisoes wedi torri amser hunanynysu o 10 diwrnod i saith diwrnod, fel y gwnânt yn Lloegr, ac fel y profwyd yn feddygol? A byddai'n rhyddhau gofal cartref, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, staff y GIG, y rhai rydym yn poeni cymaint amdanynt. Ddirprwy Lywydd, yn gyffredinol, ar gyfer lle rydym yng Nghymru yn awr, nid yw'r mesurau hyn yn ymddangos fel pe baent yn cyd-fynd â'r data. Bellach, mae gennym gyfyngiadau sy'n cosbi—
Mae eich amser ar ben yn awr, oherwydd rydych wedi gofyn ychydig o gwestiynau. Mae angen inni symud ymlaen, oherwydd mae'n dal i fod gennyf nifer fawr o'ch plaid sydd eisiau siarad.
A gaf fi ailadrodd galwadau inni beidio â rhoi cap ar nifer y bobl sy'n mynd i'r digwyddiadau parkrun felly, os gwelwch yn dda, Ddirprwy Lywydd, oherwydd nid yw hynny'n ymddangos yn gytbwys? Diolch.
Wel, a bod yn onest rwy'n gwrthod y rhan fwyaf o'r hyn y mae'r Aelod newydd ei ddweud. Mae'r ffordd y mae'n meddwl ei bod mewn gwell sefyllfa i ddeall yr hyn y mae'r data'n ei ddweud wrthym na'r prif swyddog meddygol a'r prif wyddonydd yn peri penbleth i mi. Ni fyddaf ychwaith yn newid y rheolau ar gyfer un sector yn artiffisial pan fo'r rheolau yno i'n diogelu ni i gyd. Fe ddywedodd yr Aelod un peth roeddwn yn cytuno ag ef, sef y bydd hwn yn dod yn glefyd endemig yn hytrach na phandemig, a bydd yn rhaid i bawb ohonom ddysgu dod o hyd i ffyrdd o fyw gydag ef.
Ar ei phwynt cyntaf, rwy'n ddigon naïf i barhau i gael fy synnu gan hyfdra Aelodau Ceidwadol y Senedd, Lywydd. Eglurais ac ymddiheurais am y ffaith na chyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig yn gynharach yn yr wythnos. Mae'r Senedd hon wedi cyfarfod yn barhaus, drwy doriad ar ôl y toriad, er mwyn i Weinidogion ddod i ateb cwestiynau, a gwneud datganiadau a chymryd rhan mewn dadleuon gyda'r Senedd. Yn San Steffan, lle mae ei phlaid hi wrth y llyw, nid oes dim o hynny'n digwydd. Prin ein bod mewn sefyllfa i fod angen darlithoedd ar yr hyn sy'n iawn ac yn briodol gan blaid sy'n osgoi'r math o graffu y mae'r Senedd hon wedi llwyddo i'w ddarparu'n barhaus.
Hoffwn ategu sylwadau John Griffiths am parkruns. Mae rhai pobl wedi sôn yn barod ar Twitter am fynd dros y ffin i Loegr i'w mynychu os oes cyfyngiadau fan hyn. Oes modd edrych ar eithriad penodol, oherwydd ein bod ni'n gwybod bod manteision i gadw'n heini, o ran ymladd y feirws ac o ran iechyd meddwl cymaint o bobl hefyd? Hefyd, o ran rinciau iâ, yn enwedig rhai parhaol, megis Canolfan Iâ Cymru, oedd wedi gorfod aros ar gau y tro diwethaf roeddem ar lefel 2 o ran cyfyngiadau, oes modd cael eglurder ar hynny, os gwelwch yn dda? A hefyd, ydy'r ffaith bod rhai o'r mesurau yn dod i rym, megis o ran meysydd chwarae, yn golygu nad ydy'r pasys COVID wedi bod yn effeithiol? A oes yna fwriad i ailedrych ar hynny, gan gofio nad oes yn dal system yn ei lle i sicrhau ei bod hi'n hawdd i bobl sy'n methu cael brechlyn neu gymryd prawf llif unffordd gael pàs, megis pobl ag awtistiaeth? Diolch.
Lywydd, nid y pasys COVID sydd wedi newid, ond cyd-destun eu defnydd. Mae pasys COVID wedi bod yn rhan lwyddiannus iawn o'n mesurau diogelwch yn erbyn yr amrywiolyn delta. Rydym yn wynebu math gwahanol o'r coronafeirws yn awr—un sy'n symud yn gyflymach o lawer—a rhaid inni asesu'r defnydd o basys COVID yn y cyd-destun newydd hwnnw. Ni fydd canolfannau sglefrio'n cau yn y trefniadau rwyf wedi'u hamlinellu y prynhawn yma, a gall digwyddiadau parkrun fynd yn eu blaenau. Rwy'n dechrau teimlo mwy o benbleth yn awr oherwydd y ffocws sy'n cael ei roi arnynt. Gall hanner cant o bobl gymryd rhan mewn parkrun ac nid yw hynny'n cynnwys y bobl sydd yno i helpu i wneud iddo ddigwydd. Os oes mwy na 50 o bobl am gymryd rhan, mae'r ateb yn eithaf syml: trefnwch amser arall pan all y bobl eraill hynny wneud y peth defnyddiol a phwysig iawn hwnnw. Felly, mae'n amlwg nad yw'r syniad na ellir cynnal digwyddiadau parkrun yn wir.
Roeddwn am sôn am yr hyn a ddywedoch chi yn gynharach am faint y gyfradd heintio a'r straen y bydd yn ei roi ar wasanaethau cyhoeddus yn sgil absenoldeb oherwydd salwch. Rwyf wedi llwyddo i fynd o gwmpas yr holl gartrefi gofal yng Nghanol Caerdydd i ddiolch iddynt am eu hymroddiad gwych i ofalu am ein dinasyddion sy'n agored i niwed a hefyd i dynnu sylw at y rôl y maent yn ei chwarae i sicrhau bod gan y rhai nad oes angen iddynt fod yn yr ysbyty mwyach rywle diogel i wella ac ymadfer a chael gofal gan bobl sy'n malio amdanynt. Ac rwyf hefyd wedi cael sgyrsiau gyda gweithwyr iechyd rheng flaen sy'n digwydd byw yn fy etholaeth, a lefel yr ymroddiad y maent yn parhau i'w arddangos er eu bod yn gweithio oriau diddiwedd yn ceisio ymdopi â'r galw cynyddol am wasanaethau iechyd, ond sy'n dal i fod eisiau cymryd rhan rywsut yn y rhaglen bigiadau atgyfnerthu ddiweddaraf i chwarae eu rhan—. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, sut y cawn y cyhoedd i ddeall bod Llywodraeth y DU yn parhau i rwystro ymdrechion Sefydliad Iechyd y Byd i ildio'r hawlfraint ar yr holl frechlynnau sydd wedi bod mor llwyddiannus yn diogelu ein bywydau yn y gwledydd cyfoethog, fel nad oes neb wedi'u diogelu, yng ngeiriau Gordon Brown, oni bai bod pawb wedi'u diogelu? Gan ein bod yn byw mewn pentref byd-eang, oni wnawn hyn—oni wnawn 2022 yn flwyddyn brechu byd-eang—rydym yn mynd i symud o un argyfwng i'r llall. Pa mor hir y gallwn barhau i ddisgwyl i'n gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen ddal ati i fynd yr ail filltir? Ni allwn wneud hynny, ac felly mae'n rhaid inni wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i ddatrys y pandemig hwn drwy gael pawb wedi'u brechu cyn i ryw amrywiolyn newydd ymddangos na fydd y rhaglen frechu yn ein diogelu rhagddo.
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddechrau drwy adleisio popeth a ddywedodd Jenny Rathbone am ymroddiad y bobl sy'n gweithio yn y sector gofal ac yn y GIG? Bydd y rhan fwyaf ohonom yn yr alwad hon heddiw gartref ar Ddydd Nadolig gydag aelodau o'n teulu neu gyda ffrindiau, a byddant hwy yn y gwaith. A byddant yn mynd ati i ddarparu'r gofal rydym yn dibynnu arnynt i'w ddarparu. Felly, rwy'n cysylltu fy hun yn llwyr â'r hyn a ddywedodd. Nid effaith gorfforol yn unig yw effaith y pandemig ar y gweithwyr hynny—mae'n fwy na'r oriau a'r oriau a'r oriau y maent yn eu gwaith; mae wedi bod yn dreth emosiynol ar y gweithwyr hynny hefyd. Cefais sgwrs yn ddiweddar gyda meddyg teulu benywaidd ifanc sy'n byw yn fy etholaeth i a dywedodd wrthyf yn y ffordd fwyaf ddi-ffws am y fideo roedd wedi'i wneud ar gyfer ei phlant ifanc rhag ofn y byddai hi ei hun yn cael ei heintio â'r coronafeirws ac yn marw—ei bod, bob dydd, yn rhoi ei hun mewn perygl er mwyn gofalu am bobl eraill. Mae'n anodd dychmygu, mewn gwirionedd, onid yw, y dreth emosiynol y mae hynny'n ei achosi i bobl sy'n teimlo eu bod yn gwneud hynny—yn ei wneud yn barod, yn ei wneud am mai dyna'r gwaith roeddent wedi dewis ei wneud mewn bywyd a'i wneud ar ein rhan ni. Rhaid ei bod yn rhwystredig iawn i bobl sy'n gwneud hynny—i gredu nad yw pob cam y gellid ei gymryd yn cael ei gymryd i reoli datblygiad amrywiolion newydd ledled y byd. Mae'r deunydd a gyhoeddodd Gordon Brown—rhan o'i waith ar gyfer Sefydliad Iechyd y Byd yr wythnos hon—yn dangos y gellir gwneud y gwaith hwn, cyn belled ag y gellir ysgogi'r ewyllys wleidyddol i'w wneud.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rwy'n ôl yn y Senedd yn awr. I'r rhai ohonoch na welsant fy ngholli, collwyd y cysylltiad band eang yn Aberaeron, ond mae'n ymddangos ei fod wedi datrys ei hun yn awr.
Rydym ychydig dros yr amser eisoes, ond credaf y gallwn redeg am ychydig funudau ychwanegol. Os gallwn gael cwestiynau byr ac atebion cryno, fe geisiaf alw cymaint â phosibl. Paul Davies.
[Anghlywadwy.]—yn naturiol, mae’r negeseuon yma wedi cael effaith ddramatig ar ein busnesau yma yng Nghymru yn barod, o siopau i’r sector lletygarwch. Nawr, yn amlwg, bydd cyfyngiadau pellach yn cael eu cyflwyno nawr i fusnesau o ddydd Sul nesaf ymlaen, ond a allwch chi ddweud wrthym ni a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw asesiad effaith economaidd mewn perthynas â’r cyfyngiadau newydd hyn? Ac, os felly, a wnewch chi gyhoeddi’r wybodaeth hon er mwyn i ni ddeall yr effaith ar swyddi ac ar yr economi yma yng Nghymru yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, oherwydd byddwn i yn dychmygu y byddech chi fel Llywodraeth wedi gwneud hyn, er mwyn i chi allu paratoi a chynllunio ymlaen pa fath o gefnogaeth ariannol fydd ei heisiau ar fusnesau dros y misoedd nesaf?
Wel, Llywydd, wrth gwrs, rŷn ni’n cydnabod yr effaith mae cyfyngiadau yn ei chael yn y byd busnes, ond bydd siopau yn ailagor yng Nghymru ar ôl y Nadolig, bydd lletygarwch yn gallu mynd ymlaen, a bydd swyddfeydd yn ailagor hefyd. Wrth gwrs, rŷn ni wedi bod mewn cysylltiad gyda’r sectorau i baratoi ar gyfer yr effaith y mae'r cyfyngiadau'n mynd i'w chael. Dyna beth sydd wedi dod at y ffigurau rŷn ni wedi eu cyhoeddi heddiw, a dyna beth fydd tu ôl i'r manylion y bydd y Gweinidog yn eu cyhoeddi yfory. Rŷn ni wedi cyhoeddi, trwy’r pandemig, y wybodaeth sydd gyda ni a’r dadansoddiad rŷn ni wedi’i wneud o’r wybodaeth, a dwi’n siŵr bydd hynny'n mynd i barhau, jest fel mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio’r wybodaeth sydd gyda nhw, pan oedd y Canghellor yn dweud beth mae e wedi’i ddweud yn barod yr wythnos hon.
Dwi’n deall bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi bod gemau cynghreiriau Cymru—rhai adran ac ardal—yn cael eu gohirio am y tro gan nad ydy 50 o gefnogwyr yn mynd i fod yn ddigon i’r gemau fod yn gynaliadwy yn ariannol. Rŵan, mi fydd hyn yn creu rhwystredigaeth fawr i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr, ond hefyd yn creu problemau llif arian. Allwch chi egluro pa gymorth ariannol fydd ar gael ar gyfer y clybiau fydd yn cael eu heffeithio—y clybiau mawr, ond hefyd y clybiau bach, fel y rhai sydd yn etholaeth Arfon?
Wel, Lywydd, rydym i gyd yn rhwystredig ynglŷn â'r bennod ddiweddaraf o'r coronafeirws. Nid oedd yr un ohonom am fod yn y sefyllfa hon, a dim ond ychydig wythnosau'n ôl roedd gennym lwybr gweddol syml ar gyfer Cymru, pan oeddem ond yn ymdrin â delta, tuag at y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Yn anffodus, mae omicron yn realiti, ac mae'n cael effaith ar sawl agwedd ar fywyd Cymru, gan gynnwys y rhwystredigaethau sy'n cael eu teimlo'n fawr, rwy'n siŵr, ymhlith y clybiau pêl-droed llai. Efallai fy mod yn anghywir, Lywydd, ond credaf mai'r hyn a gofiaf yw bod y gymdeithas bêl-droed wedi cyflwyno bwlch a oedd eisoes yn mynd i fod yno, yn hytrach na bwlch cwbl newydd yn y rhaglen, ond efallai fy mod wedi camddeall hynny. Mae ein swyddogion yn parhau i fod mewn deialog â'r sefydliadau cynrychioliadol hynny. Ni allwn ddarparu ar gyfer pob digwyddiad posibl a allai ddigwydd i bob un grŵp y mae coronafeirws yn effeithio arnynt, ond lle gallwn gynorthwyo, credaf ein bod wedi dangos, yn y symiau sylweddol iawn o arian rydym eisoes wedi'u cyhoeddi yr wythnos hon, ac eto heddiw, ein bod yn barod i ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym i gefnogi'r sectorau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y penderfyniadau rydym yn gorfod eu gwneud i helpu i gadw pobl Cymru'n ddiogel.
Brif Weinidog, yn sgil cyhoeddi'r mesurau newydd rydym yn gyfarwydd â rhai ohonynt ers o'r blaen, er ei fod yn becyn gwahanol, rwyf fi, fel llawer o Aelodau'r Senedd, yn cael cannoedd o ymholiadau o wahanol fathau, o natur amrywiol iawn, sy'n effeithio ar fusnesau a sefydliadau. Ar y sail ein bod yn mynd i mewn i gyfnod y Nadolig yn awr, yn ogystal â'r cyngor lefel rhybudd 2 sydd wedi'i gyhoeddi ac sydd wedi'i ddiweddaru eisoes, cyngor rydym yn ei rannu ag etholwyr, tybed a fydd cwestiynau cyffredin yn cael eu cyhoeddi o fewn y dyddiau nesaf? Ac a yw wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch eu gallu i ymateb drwy wasanaethau rheoleiddio a rennir, er enghraifft, neu swyddogion cyllid grant lleol i unrhyw ymholiadau sydd ganddynt dros gyfnod y Nadolig? Mae diffyg cyngor yn bryder wrth inni fynd i mewn i'r cyfnod allweddol hwn.
Lywydd, byddwn yn cyhoeddi rhagor o gyngor a gwybodaeth, gan gynnwys cwestiynau cyffredin. Gwn y bydd yr Aelod yn deall mai wythnos Nadolig yw hon. Mae yna bobl sydd wedi gwneud cynlluniau eraill yn eu bywydau, ac maent yn aml yn bobl sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed a heb fawr o amser iddynt hwy eu hunain ers wythnosau ac wythnosau ac wythnosau. Felly, mae nifer y dwylo ar y llyw yn fwy cyfyngedig nag y byddai, ond bydd pawb sy'n gallu yn gwneud yr hyn a allant i sicrhau bod cyngor ar gael.
Rydym mewn cysylltiad â CLlLC. Siaradodd arweinydd CLlLC yng nghyngor y bartneriaeth gymdeithasol yn gynharach y bore yma. Rwy'n ddiolchgar iawn, fel bob amser, i'n cydweithwyr awdurdod lleol am eu parodrwydd i fynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir ganddynt fel arfer, yn enwedig gyda pharatoi'r systemau a fydd yn caniatáu i'r cymorth busnes gyrraedd y bobl y'i bwriedir ar eu cyfer.
Brif Weinidog, gyda'r gofyniad newydd i weithio gartref yn ei le, rwy'n siŵr y gallwn i gyd dderbyn nad yw llawer o'r bobl sy'n defnyddio bysiau i gymudo i'r gwaith ac oddi yno yn deithwyr ar y rhwydwaith bysiau mwyach. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn ymwybodol y bydd Llywodraeth Cymru, mae'n debyg, yn tanysgrifennu colledion Trafnidiaeth Cymru, ond pa gamau y byddwch yn eu cymryd i gefnogi gweithredwyr bysiau ledled Cymru a fydd hefyd yn gweld cwymp mewn gwerthiant tocynnau yn y pen draw? Ac a fyddwch yn pwyso ar Trafnidiaeth Cymru i fod yn barod i ehangu'r gwasanaethau yn gyflymach nag a welsom ar ôl cyfnodau o gyfyngiadau symud a chyfyngiadau blaenorol, yn enwedig yn ystod cyfnodau o alw mawr, megis digwyddiadau chwaraeon, yn ogystal â galluogi pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddychwelyd i'r gwaith pan fydd yn bosibl gwneud hynny eto? Diolch.
Lywydd, byddwn yn cyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer y sector trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys y sector bysiau, ynglŷn â sut y gallant weithredu'n ddiogel mewn cyfundrefn cadw pellter cymdeithasol o 2m, gan roi'r cysur iddynt fod mesurau lliniaru y gallant eu cymryd i ymdopi â'r galw a fydd yn dal i fod yno. Bydd honno'n lefel wahanol o gyngor, ac fel y dywedaf, canllawiau statudol a gyhoeddir gennym y tro hwn. Gwn y bydd Trafnidiaeth Cymru am redeg cymaint o wasanaethau ag y gallant, ar yr amod y gallant wneud hynny'n ddiogel. Effeithir ar eu staff gan yr amrywiolyn omicron, a chan yr amrywiolyn delta yma yng Nghymru, a lle mae llai o bobl ar gael i ddarparu gwasanaeth, mae'n rhaid i natur y gwasanaeth hwnnw newid er mwyn parhau'n ddiogel.
Brif Weinidog, yr hyn yr hoffwn ei glywed gennych yw 'diolch' mawr i'r athrawon sydd wedi cadw'r ysgolion ar agor, yn aml iawn mewn amgylchiadau anodd oherwydd gostyngiad yn y niferoedd, a chais hefyd, cyn i'r siopau ailagor o dan fwy o gyfyngiadau, am barch tuag at y gweithwyr manwerthu hynny, fel nad ydym yn mynd i mewn i 2022 gyda'r un straeon ofnadwy am weithwyr manwerthu yn cael eu cam-drin, ar lafar ac yn gorfforol, fel y gwelsom y flwyddyn hon. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson am y pwyntiau hynny. Hoffwn ddiolch i'r holl bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys athrawon. Gwyddom fod tymor yr hydref wedi bod yn dymor heriol mewn sawl rhan o Gymru, gydag ymdrechion pobl yn y rheng flaen—staff addysgu, cynorthwywyr addysgu, pobl eraill sy'n gwneud ysgolion yr hyn ydynt. Rydym wedi dibynnu'n fawr arnynt, a diolch iddynt hwy a'r holl bobl eraill hynny. Soniais am weithwyr casglu sbwriel yn gynharach—hebddynt hwy, gwyddom na fyddai'r bywyd gwaraidd rydym wedi arfer ei fyw yr un fath.
Rwyf am adleisio'r hyn a ddywedodd Joyce Watson: mae ein gweithwyr manwerthu wedi bod yn weithwyr rheng flaen yn ystod y pandemig. Pan oedd popeth arall ar gau, roeddent yno bob dydd yn wynebu aelodau o'r cyhoedd, yn aml ar adeg pan oeddem yn gwybod llawer llai nag a wyddom yn awr ynglŷn â sut i gadw ein gilydd yn ddiogel rhag y pandemig hwn. Hwy oedd arwyr di-glod y pandemig, ac mae'n gwbl warthus fod aelodau o'r cyhoedd, lleiafrif bach, fe wyddom—. Yn y pen draw, pan fyddwch yn mynd adref, nid ydych yn cofio'r holl bobl a oedd yn garedig wrthych; rydych yn cofio'r nifer fach o bobl sy'n cyflawni'r pethau gwarthus y cyfeiriodd Joyce Watson atynt. Rwy'n condemnio'n llwyr y bobl sy'n credu nad yw'r rheolau'n berthnasol iddynt hwy, ac sy'n credu y gallant wyntyllu eu rhwystredigaethau ar bobl sydd ond yno'n gwneud eu gorau, o un diwrnod i'r llall, heb gael eu talu'n arbennig o dda am wneud hynny. Oni bai am yr ymdrechion hynny, byddem i gyd wedi bod mewn lle llawer iawn anoddach.
Diolch ichi am ateb cwestiynau, Brif Weinidog. Fel y gwyddom, mae Llywodraeth y DU wedi darparu bron i £9 biliwn i fynd i'r afael â COVID-19 yng Nghymru hyd yma, a gwyddom fod £270 miliwn ychwanegol yn dod i Gymru i'w wario ar ymgyrch y pigiadau atgyfnerthu a'r cymorth ariannol i fusnesau. Sylwaf hefyd fod Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud bod gan y Llywodraeth tua £500 miliwn o gyllid COVID-19 heb ei neilltuo ar ôl yn y gyllideb ar gyfer eleni. Felly, gwyddom fod swm sylweddol o arian, ac rwy'n falch iawn o weld dyblu'r cymorth i fusnesau heddiw. Ddydd Llun, fe wnaethoch nodi eich cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ond pa bryd y byddwch yn gosod rhaglen gymorth fwy cynhwysfawr yn ychwanegol at yr hyn rydych wedi'i gyhoeddi heddiw, gan ragweld beth y gallai fod ei angen wrth symud ymlaen? Ac yn olaf, i gydnabod tymor yr ŵyl, a fydd pantomeimau a'u lleoliadau'n cael cymorth? Diolch.
Diolch i Peter Fox am y pwyntiau hynny. Rwy'n cydnabod, fel y ceisiaf ei wneud bob amser—y pwynt y mae wedi'i wneud—y symiau sylweddol o arian y mae Llywodraeth y DU wedi'u neilltuo ar gyfer ymdrin â'r pandemig. Y pwynt i'w gofio, serch hynny, yw bod hwnnw ar gyfer ymdrin â holl ganlyniadau'r pandemig, nid yn unig yr effaith a welwn ar fusnesau, ond popeth rydym wedi gofyn i'r gwasanaeth iechyd ei wneud: y system olrhain, y rhaglen frechu, y mesurau ychwanegol rydym wedi gorfod eu rhoi ar waith yn y sector cartrefi gofal, y £24 miliwn a gyhoeddodd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog addysg, yn ychwanegol at yr holl arian ychwanegol rydym wedi'i roi i ysgolion a cholegau i gefnogi'r bobl ifanc sy'n wynebu arholiadau y flwyddyn nesaf, a'r ymdrech enfawr a welwyd i gartrefu pobl ddigartref yn ystod y pandemig. Rydym yn darparu miliynau o bunnoedd bob mis i awdurdodau lleol yng Nghymru i ganiatáu iddynt barhau i wneud hynny. Dyna pam y mae gennym £500 miliwn, neu beth bynnag yw'r ffigur heddiw, ar ôl yn ystod chwarter olaf y flwyddyn ariannol hon, oherwydd mae cyllidebu doeth yn dweud nad ydych yn defnyddio'r holl arian sydd gennych ar y diwrnod cyntaf—rhaid ichi rannu'r arian fesul tipyn. A diolch byth ei fod gennym, gan mai dyna sut ein bod wedi gallu cyhoeddi'r £120 miliwn.
Rhaid imi ddweud yn garedig wrth yr Aelod, oherwydd gwn ei fod yn gwylio'r pethau hyn yn agos, nad yw'r £270 miliwn gan Lywodraeth y DU yn arian ychwanegol; gallu ydyw i dynnu arian ymlaen y maent eisoes wedi'i ddarparu i ni, ac os byddwn yn ei ddefnyddio yn awr efallai na fydd ar gael i ni yn y dyfodol. Bydd hynny'n dibynnu ar benderfyniadau gwario a wneir yn Lloegr, yn hytrach na phenderfyniadau gwario a wneir yng Nghymru. Felly, nid arian ychwanegol syml ydyw o gwbl. Y ffaith ein bod wedi cynnal ein hadnoddau fel bod gennym arian wrth gefn o hyd yn y chwarter diwethaf hwn yw'r hyn sydd wedi ein galluogi i fwrw ymlaen a gwneud y cyhoeddiadau hynny yn ystod y dyddiau diwethaf ar gyfer y sector chwaraeon, ar gyfer y sector diwylliannol ac yn awr ar gyfer busnesau'n fwy eang. Byddwn yn gwneud dyraniadau pellach, rwy'n gwbl siŵr, i helpu'r gwasanaeth iechyd i dalu am raglen bigiadau atgyfnerthu gyflymach ac i helpu eraill a fydd ag anghenion nad ydynt wedi gallu cyllidebu ar eu cyfer oherwydd effaith omicron yn y misoedd sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol hon.
Ymddiheuriadau i'r rhai nad wyf wedi gallu eu galw. Yn olaf, Gareth Davies.
Rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr, Lywydd. Diolch am fy ngwasgu i mewn ar y diwedd, a diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am eich datganiad y prynhawn yma. Rwyf am ganolbwyntio fy nghwestiwn ar ofal cymdeithasol a chartrefi gofal, os yw'n bosibl, oherwydd roeddwn yn darllen drwy ddata Iechyd Cyhoeddus Cymru y bore yma a oedd yn dweud bod 70 y cant o'r gweithlu wedi'u brechu, ac 86 y cant o breswylwyr cartrefi gofal. Gyda'r ymgyrch i ddarparu pigiadau atgyfnerthu, rwy'n meddwl tybed sut fydd hi arnynt a sut y sicrhewch fod y gweithlu a phreswylwyr cartrefi gofal yn cael eu brechu. Ac nid yw'r canllawiau i ymwelwyr wedi'u diweddaru ers mis Gorffennaf—hynny yw ymwelwyr, nid canllawiau uniongyrchol ar gyfer cartrefi gofal. Felly, pa gymorth ychwanegol sy'n cael ei gynnig i breswylwyr cartrefi gofal dros gyfnod y Nadolig i sicrhau bod preswylwyr yn dal i allu cael eu gweld gan deuluoedd?
Os caf, ar y diwedd, rwyf am sôn yn fyr am addysg mewn ysgolion, a gofyn a fydd ysgolion yn gallu ailagor ym mis Ionawr, o ystyried y pwysau ar hyn o bryd. Rwy'n credu eu bod i fod i ailagor ar 10 Ionawr. A allwch roi unrhyw sicrwydd i'r sector addysg heddiw, Brif Weinidog? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mewn perthynas ag ysgolion, bydd yr Aelodau'n gwybod bod y Gweinidog addysg wedi ysgrifennu at bob pennaeth cyn diwedd y tymor yn pennu dau ddiwrnod cyntaf y tymor ysgol newydd fel diwrnodau cynllunio a pharatoi. Yn y llythyr hwnnw at benaethiaid, gofynnodd i ysgolion baratoi ar gyfer dau fath o ddyfodol. Mae un yn ddyfodol lle mae plant yn dal i fod yn yr ystafell ddosbarth i raddau helaeth, ond bod angen mesurau diogelwch, yn sgil omicron, ar ben uchaf y sbectrwm o fesurau diogelwch a nodir yn y fframwaith lleol y gall ysgolion ei ddefnyddio. Mae hynny'n golygu pethau fel gwisgo masgiau a ffyrdd eraill y gall ysgolion liniaru effaith y feirws. Yr ail ddyfodol y mae'n dweud y dylai ysgolion baratoi ar ei gyfer yw dyfodol lle mae'n rhaid iddynt ddychwelyd dros dro at gymysgedd o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a dysgu ar-lein, oherwydd gall athrawon fynd yn sâl neu fod nifer y plant sydd â'r coronafeirws yn cynyddu. Ar hyn o bryd, nid oes neb ohonom yn gallu rhagweld ar ba sail y bydd pob ysgol yng Nghymru yn gallu ailagor, ond mae'r ddau ddiwrnod cynllunio yn caniatáu i'r bobl sydd agosaf at y penderfyniadau hynny weithredu'r trefniadau y bydd eu hangen arnynt ar gyfer y naill senario neu'r llall, ac i allu gwneud y penderfyniadau sy'n adlewyrchu'n fwyaf agos yr amgylchiadau y maent hwy eu hunain yn eu hwynebu.
Ar gartrefi gofal, roeddwn yn credu, Lywydd, ein bod newydd gyhoeddi canllawiau ychwanegol i ymwelwyr. Ymddiheuriadau os mai ar fin cael eu cyhoeddi y maent, ond rwyf wedi gweld y canllawiau, felly gwn eu bod yno, ac am ryw reswm, yn fy mhen, roeddwn yn meddwl ein bod eisoes wedi'u cyhoeddi. Mae'n caniatáu i ymweliadau fynd rhagddynt dros gyfnod y Nadolig, ond mae'n ceisio sicrhau eu bod yn cael eu gwneud yn ddiogel. Gwn y bydd yr Aelod yn ymwybodol fod coronafeirws yn mynd i mewn i gartrefi gofal mewn sawl ffordd wahanol, mae'n feirws cyfrwys iawn. Ond un o'r ffyrdd y daw i mewn yw pan fydd pobl eraill yn ymweld ac yn dod ag ef gyda hwy, felly mae pawb am osgoi hynny os yw'n bosibl o gwbl.
Ar niferoedd staff a phreswylwyr cartrefi gofal sydd wedi cael y pigiad atgyfnerthu, credaf fod y niferoedd yn uchel ac maent yn parhau i godi. Rhan o'r rheswm pam nad yw pawb wedi cael pigiad atgyfnerthu yw oherwydd na fydd rhai pobl yn ddigon iach i gael pigiad atgyfnerthu, bydd rhai pobl wedi cael coronafeirws yn y gorffennol diweddar, ac mae'n rhaid i chi adael hyn a hyn o ddyddiau cyn y gallwch gael y pigiad atgyfnerthu. Fel y dywedais wrth ateb cwestiwn cynharach, Lywydd, rydym yn paratoi'r gweithlu gofal sylfaenol i'n helpu gyda brechiadau cartrefi gofal, oherwydd rydych yn ymdrin â phoblogaeth sy'n agored i niwed, y bydd gan lawer ohonynt gyflyrau gofal iechyd eraill. Os ydych chi'n unigolyn 30 oed neu 40 oed iach sy'n dod i ganolfan frechu dorfol, rydym wedi gallu cynnull pobl eraill sy'n gallu helpu gyda hynny, ond mae angen pobl â'r lefel o wybodaeth a sgiliau meddygol cyflawn sydd gan ein gweithlu gofal sylfaenol er mwyn gallu cynnig brechiadau'n llwyddiannus ac yn ofalus mewn lleoliad cartref gofal, a dyna sut rydym yn defnyddio'r gweithlu yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog, a diolch i bawb am gyfrannu'r prynhawn yma.
Gadewch imi fanteisio ar y cyfle am yr eildro i ddymuno Nadolig llawen iawn i chi. Peidiwch â chymryd hyn yn y ffordd anghywir, ond gobeithio na fydd raid imi ddymuno Nadolig llawen i chi am y trydydd tro; rwy'n siŵr na fydd angen imi wneud hynny.
A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi hwyluso'r cyfarfod yma'r prynhawn yma—y staff sydd wedi gweithio i sicrhau bod y cyfarfod yn gallu gweithredu mor effeithiol, gydag one notable exception, sef fy mand llydan i yn Aberaeron? Ond nid bai staff oedd hwnna. A gaf i hefyd ddiolch ymlaen llaw i bawb fydd yn gweithio yng Nghymru, drwy Gymru i gyd, drwy'r Nadolig yma, i'n cadw ni i gyd yn saff, ac fe fydd hynny siŵr o fod yn cynnwys rhai ohonoch chi sydd yn y cyfarfod yma hefyd? Felly, gobeithio y bydd pawb yn edrych ar ôl eu hunain, edrych ar ôl eu teuluoedd a'u ffrindiau a'u cymunedau, ac mi wnaf i edrych ymlaen at eich gweld chi, gobeithio, yn y flwyddyn newydd. Pob hwyl. Nadolig llawen i chi i gyd.
Daeth y cyfarfod i ben am 15:21.