Y Cyfarfod Llawn

Plenary

14/12/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol, wrth gwrs, i'r cyfarfod yma. 

13:30
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd yn gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.

Amddiffynfeydd rhag Llifogydd

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OQ57361

Llywydd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n asesu digonolrwydd amddiffyn rhag llifogydd. Yna maen nhw'n cynllunio, yn hyrwyddo ac yn darparu cynlluniau i leihau perygl llifogydd yn eu hardaloedd. Mae Llywodraeth Cymru yn pennu polisi cenedlaethol ac yn darparu cyllid, gan gynnwys £5.24 miliwn ar gyfer cynlluniau yng Ngorllewin Clwyd yn y flwyddyn ariannol hon.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwyf i wrth fy modd bod arian yn cael ei ddyfarnu i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd. Un o'r ardaloedd hynny sydd i lawr i'w gwella yn fuan iawn yw'r llain arfordirol rhwng Tywyn a Bae Cinmel, sydd, wrth gwrs, yn eithriadol o bwysig o ran y tymor ymwelwyr, a lle mae'r amddiffynfeydd môr arfordirol hynny yn diogelu miloedd lawer o eiddo a busnesau. Un o'r pryderon a godwyd gyda mi am y cynlluniau, sydd wedi cael eu cyhoeddi erbyn hyn, ar gyfer gwella'r amddiffynfeydd môr yn yr ardal hon yw nad yw'r cynlluniau yn ddigon deniadol i'r bobl leol na'r ymwelwyr a fydd eisiau defnyddio'r llwybr arfordirol a'r llain arfordirol yn rhan o'u hamwynder lleol ar gyfer cyfleusterau. Yn ogystal â hynny, yn amlwg, ataliwyd nodyn cyngor technegol 15 dros dro o ran gweithredu'r nodyn cyngor technegol newydd, a fydd yn rhoi mwy o amddiffyniad i gartrefi a busnesau yn y dyfodol. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i mi, ar ran Llywodraeth Cymru, y bydd pobl Tywyn a Bae Cinmel yn cael lefel dda o ddiogelwch rhag llifogydd er gwaethaf y ffaith nad yw'r nodyn cyngor technegol newydd wedi cael ei weithredu, a pha sicrwydd allwch chi ei roi o ran pa mor ddeniadol y gall yr amddiffynfeydd rhag llifogydd hyn fod, o ystyried y pryderon am y ffaith bod y rhain mewn ardal cyrchfannau twristiaeth?

Llywydd, diolch i Darren Millar am y cwestiynau yna. Gwn pa mor fawr yw ei ddiddordeb mewn materion llifogydd ac erydu arfordirol yn ei etholaeth, a gwn fod ganddo, yn ei hanes personol ei hun, brofiad uniongyrchol o'r hyn y mae'n ei olygu i ddioddef o lifogydd, felly gwn ei fod yn dod â llawer iawn o angerdd ac arbenigedd i'r materion hyn. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu adolygu'r achos busnes amlinellol ar gyfer cynllun arfordirol Llanddulais-Bae Cinmel. Rydym ni wedi gallu dyfarnu gwerth £450,000 o gyllid i gyngor Conwy ar gyfer yr achos busnes llawn a'r dyluniad manwl. Rwy'n gobeithio y bydd hynny yn gyfle i gymryd i ystyriaeth y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud am y ffaith, yn ogystal â'r angen dybryd i ddiogelu cartrefi pobl, bod yr arfordir yn ased cenedlaethol yma yng Nghymru—mae'n dod â llawer o ymwelwyr—a bod angen gwneud y gwaith hwnnw mewn ffordd sensitif i wneud yn siŵr bod yr agweddau economaidd pwysig iawn hynny yn cael eu cynnal i'r dyfodol. Rwy'n diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am TAN 15, Llywydd. Mae'r dyddiad gweithredu wedi cael ei ohirio am 18 mis fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod y sail ar gyfer seilio'r cyngor hwnnw—y mapiau ac yn y blaen—yn y drefn orau bosibl. Ond diben TAN 15 yw gwneud yn siŵr nad yw tai yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol mewn mannau sy'n eu rhoi mewn perygl uniongyrchol o lifogydd. Nid oes unrhyw ddal yn ôl o gwbl y tu mewn i Lywodraeth Cymru o ddiben sylfaenol TAN 15 a'r nodyn cyngor diwygiedig a fydd yn cael ei gyhoeddi. Rydym ni eisiau ei gael cystal ag y gallwn. Bydd yr oedi yn caniatáu i ni weithio ymhellach gydag awdurdodau lleol ar yr wybodaeth fanwl sy'n sail i'r polisi, ac yna bydd angen iddo wneud yr hyn y mae Darren Millar yn ei ddweud, o ran gwneud yn siŵr ei fod yn diogelu'r cymunedau hynny a fyddai mewn perygl fel arall.

Rwyf i angen gwirio a ellir fy nghlywed i ar hyn o bryd. A all unrhyw un—? Iawn, gellir fy nghlywed. Diolch. Fy mhroblem i yw nad wyf i'n gallu eich clywed chi. Nid yw hynny yn rhoi caniatâd i chi wneud beth bynnag yr ydych chi'n ei ddymuno, ond fe wnaf i alw'r cwestiwn nesaf. Cwestiwn 2, Rhys ab Owen.

13:35
Cyfraddau Ailgylchu

2. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â chyfraddau ailgylchu yng Nghaerdydd? OQ57356

Diolch yn fawr i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Mae Gweinidogion a swyddogion wedi bod yn trafod yn uniongyrchol â Chyngor Caerdydd am ei berfformiad ailgylchu, ac mae’r trafodaethau hynny yn parhau.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae yn siomedig bod cyfraddau ailgylchu Caerdydd gyda’r gwaethaf yng Nghymru. O’r tri awdurdod lleol wnaeth fethu â chyrraedd y targed o 64 y cant ym Mesur Gwastraff (Cymru) 2010, Caerdydd yw’r gwaethaf o bell ffordd, ar 55.8 y cant. A dwi’n siŵr bod cau canolfannau ailgylchu yn Heol Wedal a Heol Waungron yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith wael, ond disgwyliedig, ar y cyfraddau ailgylchu. Ond nid yn unig y mae’r gyfradd ailgylchu yn isel, dyw e ddim yn glir pa fath o ailgylchu sy’n digwydd. Mae’n bwysig yn amgylcheddol ac yn economaidd fod gwastraff yn cael ei addasu yma yng Nghymru at ddibenion gwahanol yn hytrach na mynd dramor, yn enwedig, yn rhy aml o lawer, i wledydd difreintiedig. Felly, sut mae modd cynyddu’r cyfraddau ailgylchu yma yng Nghaerdydd a sicrhau bod gwastraff Cymru yn cael ei ailgylchu a’i ailaddasu yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr am y cwestiynau ychwanegol. Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio’n galed i dreial gwneud mwy i roi’r ffigurau ailgylchu yn y lle ble rŷn ni i gyd eisiau eu gweld nhw. Bydd strategaeth newydd o flaen y cabinet yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos hon ac, fel rwy’n siŵr fod yr Aelod yn gwybod, maen nhw’n mynd i dreial mas nifer o bethau newydd yng Ngorllewin Caerdydd, y lle rwyf i'n ei gynrychioli. Yn Radyr a Llandaf, ym mis Ionawr, bydd system newydd ar waith i dreial rhoi mwy o bethau mewn lle i godi’r ffigurau ailgylchu yn y ddinas. Mae’r swyddogion wedi gweithio’n galed gyda Chyngor Caerdydd i weld beth sydd y tu ôl i’r ffigurau ac mae rhai pethau sydd yn berthnasol i Gaerdydd—mae nifer y tai sy'n HMOs, fel rŷn ni'n eu galw nhw yn Saesneg, yn heriol i Gyngor Caerdydd, ond mae cynllun newydd gyda nhw, a dwi'n hyderus y bydd hwnna'n cael effaith bositif ar y ffigurau.

A dwi'n gwybod, Llywydd, fod y Gweinidog Julie James wedi ymateb i gwestiynau ar lawr y Cynulliad ac wedi rhoi gwybodaeth fanwl am ble mae popeth rŷn ni'n ei gasglu gyda'i gilydd i'w ailgylchu yn mynd. Ac mae mwy na hanner yn cael ei ddelio ag e yma yng Nghymru, ac mae tua 30 y cant yn mynd dros y ffin i Loegr, ac mae rhai pethau yn mynd dramor. Ond mae cynllun gyda ni i dynnu nôl ar faint sydd yn mynd dramor ac i wneud mwy gyda phopeth rŷn ni eisiau ei ailgylchu yma yng Nghymru. 

Diolch, Llywydd. Mae Cyngor Caerdydd, fel y mae'r Aelod blaenorol wedi ei esbonio, wedi methu'n gyson â chyrraedd y targedau ailgylchu a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r cyngor wedi rhagweld y bydd yn rhaid iddo fuddsoddi mewn ailgylchu eilaidd er mwyn eu cyrraedd nhw. Yn wrthnysig, nid oes ganddyn nhw'r gyllideb i weithredu ailgylchu eilaidd, ac mae'r cyngor yn rhagweld y bydd y ddirwy amcangyfrifedig y byddan nhw'n ei hwynebu, oherwydd nad ydyn nhw'n cyrraedd eu targedau ailgylchu, yn fwy na £10 miliwn erbyn 2025. Fel yr wyf i'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno, mae er budd pawb gweld Cyngor Caerdydd yn cyrraedd y targedau ailgylchu hyn, ac i'r cyngor allu buddsoddi mewn ailgylchu eilaidd. Yn wir, gallen nhw hyd yn oed gynhyrchu refeniw iddyn nhw eu hunain drwy wneud y buddsoddiad hwn a chael mynediad at farchnadoedd ailgylchu o ansawdd uchel y bydd y buddsoddiad hwn yn eu hagor. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog esbonio pa gyllid sydd ar gael i gynghorau fel Caerdydd sy'n caniatáu iddyn nhw wneud y gwelliannau hyn, a pha fuddsoddiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gael mynediad at y marchnadoedd ailgylchu o ansawdd uchel hyn y gallai economi Cymru elwa arnyn nhw?

13:40

Wel, rwy'n cytuno â'r Aelod bod cyfleoedd i Gaerdydd fel awdurdod lleol wneud yr hyn yr wyf i'n gwybod y mae'r awdurdod lleol ei hun eisiau ei wneud, sef arallgyfeirio'r polisïau sydd ganddo ar waith a darparu gwell gwasanaethau ar gyfer ei drigolion ei hun, ac yn wir, o bosibl, gallu darparu gwasanaethau i eraill hefyd. Rwy'n credu y dylwn i egluro, Llywydd, bod system ddirwyo wedi'i nodi yn ein rheoliadau. Mae gan Weinidogion ddisgresiwn yn y ffordd gyfyngedig hon: gall Gweinidogion benderfynu naill ai i ddirwyo yn llawn neu i beidio â dirwyo o gwbl—nid oes sefyllfa hanner ffordd ar gael yn ein rheoliadau, ac nid oes gan Weinidogion ddisgresiwn chwaith dros faint y ddirwy. Mae hynny yn cael ei bennu gan fformiwla y mae'r rheoliadau, unwaith eto, yn ei nodi. Felly, nid oes dim byd anochel ynghylch awdurdodau lleol yn cael eu dirwyo, ac, yn y gorffennol, mae Gweinidogion wedi gwneud penderfyniadau erioed ar y sail a oes gan awdurdodau lleol gynlluniau credadwy ar waith i roi eu hunain yn y sefyllfa y mae'r mwyafrif llethol o awdurdodau lleol ynddi yng Nghymru, a chydymffurfio â'r targed yw honno.

Ers datganoli, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 biliwn mewn ailgylchu cartrefi, ac mae llawer iawn o'r arian hwnnw yn mynd i awdurdodau lleol i'w cynorthwyo i greu'r amodau lle mae'r ffigurau da iawn yr ydym ni'n eu gweld yng Nghymru yn rhagori ar ein targed ar sail Cymru gyfan, gyda nifer o awdurdodau lleol yn rhagori ar y targed o 70 y cant sydd y tu hwnt i ni ac na fyddai wedi bod yn bosibl heb fuddsoddiad sylweddol iawn. Mae Caerdydd wedi elwa arni, ond mae'n system y mae'n rhaid iddi fod yn deg i bob awdurdod lleol a gwneud yn siŵr y gellir cynnal y cynnydd—y cynnydd sylweddol iawn y mae pob awdurdod lleol, gan gynnwys Caerdydd, wedi ei wneud—i'r dyfodol.

Fel y gallwch chi ddweud o rai newidiadau gwyllt o glustffonau ar fy rhan i, rwy'n cael trafferth clywed popeth sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac mae honno yn sefyllfa beryglus iawn i Lywydd fod ynddi. Felly, bydd angen i mi alw toriad technegol byr, a byddwn yn ailddechrau cyn gynted ag y gellir datrys fy mhroblem. Toriad technegol byr, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:42.

13:50

Ailymgynullodd y Senedd am 13:52, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Felly, rŷn ni'n barod nawr i ailgychwyn. Ymddiheuriadau am y toriad am resymau technolegol. Felly, dwi nawr yn galw ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i ofyn cwestiynau arweinyddion—Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Heddiw, Prif Weinidog, mae'r astudiaeth gyntaf yn y byd go iawn ar frechlynnau yn erbyn haint omicron wedi cael ei chyhoeddi. Mae'n bwysig nodi bod y data hwn yn deillio o dair wythnos gyntaf yr achosion, felly gallai newid, ond dyma'r astudiaeth ddifrifol gyntaf o'i math. Mae'r canfyddiadau yn dangos bod amrywiolyn y feirws 29 y cant yn ysgafnach, bod dau ddos o frechlyn Pfizer 30 y cant yn effeithiol o ran lleihau trosglwyddiad, ac, yn bwysig, bod dau ddos o frechlyn Pfizer 70 y cant yn effeithiol o ran lleihau niferoedd y mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r ysbyty.

Prif Weinidog, rwy'n sylweddoli mai dim ond newydd gael ei gyhoeddi y bore yma y mae'r data hwn, ond a gaf i eich ymateb i'r astudiaeth hon, ac ymateb eich cynghorwyr? A pha effaith fydd yr wybodaeth hon yn ei chael ar gynlluniau posibl ar gyfer gosod cyfyngiadau ddydd Gwener, ac yn y pen draw osgoi cyfyngiadau symud llwyr yng Nghymru?

Llywydd, diolch i Andrew R.T. Davies am hynna. Rwy'n ymwybodol o'r astudiaeth. Fel y mae'n ei ddweud, dyma'r astudiaeth gyntaf o'i math, ond mae'n anochel ei bod hi felly—fel yr awgrymodd ef ei hun rwy'n credu—yn rhagarweiniol. Mae'n dweud rhywbeth wrthym ni am y cyfnod cynnar. Nid yw'n dweud wrthym ni eto am yr hyn sy'n digwydd wrth i'r amrywiolyn omicron gymryd gafael ac wrth i fwy o wybodaeth ddod i'r amlwg am gynnydd y clefyd. Mae hefyd yn astudiaeth yng nghyd-destun De Affrica, sy'n wahanol mewn sawl ffordd i'n un ni ein hunain. Felly, calonogol yn ei ffordd, ond ni ellir dibynnu arni fel sail gref ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi. Ac mae ymdeimlad lle mae'r materion y mae'n eu hadrodd—difrifoldeb y salwch ac i ba raddau y mae'n dianc rhag y brechlynnau presennol—yn gwestiynau eilradd. Oherwydd os yw cyfradd drosglwyddo'r feirws ar y cyflymder yr ydym ni'n ei gweld ar hyn o bryd yn yr Alban ac yn Llundain, yna, hyd yn oed os yw'n ysgafnach, a hyd yn oed os yw'r brechlyn ychydig yn fwy effeithiol, bydd nifer fawr iawn, iawn o bobl yn mynd yn sâl o hyd, a bydd canran o'r bobl hynny yn mynd yn ddifrifol wael, a bydd y niferoedd mawr hynny yn peri i bobl fod angen cymorth y GIG. Felly, astudiaeth ragarweiniol, na ddylid gor-ddibynnu arni, a hyd yn oed os yw'n sail ar gyfer rhywfaint o optimistiaeth ragarweiniol yn wir, ni fydd yn ein hachub ni rhag yr ymosodiad y mae'r amrywiolyn newydd hwn yn debygol o'i greu ar draws y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru hefyd.

13:55

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac roedd hi'n dda cael rhywfaint o optimistiaeth o'r adroddiad hwnnw a gyhoeddwyd y bore yma.

Yn amlwg, elfen arall o waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw cyflwyno'r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu, ac mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yn cynnal cynhadledd i'r wasg y bore yma, gan sôn y bydd pawb wedi cael cynnig erbyn diwedd mis Rhagfyr, nid o reidrwydd yn cael eu hapwyntiad erbyn diwedd mis Rhagfyr. Pa mor bell i mewn i'r flwyddyn newydd y bydd disgwyl i bobl gael y cynigion hynny cyn iddyn nhw gael y pigiad atgyfnerthu? Oherwydd mae honno yn ystyriaeth bwysig iawn. Un peth yw cael y cynnig; peth arall yw cael y pigiad.

Wel, wrth gwrs, mae arweinydd yr wrthblaid yn llygad ei le yn hynny o beth. Mae ein cynnig ni yr un fath ag y mae yn unman yn y Deyrnas Unedig—sef gwneud yn siŵr bod pawb, erbyn diwedd y mis hwn, wedi cael cynnig. Bydd y cynnig yn ymestyn i'r flwyddyn newydd i'r graddau byrraf posibl. Ond nid yw hynny yn nwylo'r Llywodraeth yn llwyr, oherwydd mae dau beth ar waith yma. Ceir y gyfradd y gallwn ni gynyddu cyflenwad y brechlyn arni—ac mae llawer iawn yn cael ei wneud i wneud yn siŵr bod gennym ni ganolfannau brechu yn agored am fwy o oriau, canolfannau brechu â mwy o lonydd, canolfannau brechu â chapasiti galw i mewn yn ogystal â chapasiti apwyntiadau, dim ond i roi rhai enghreifftiau. Ond, yn ogystal â'r ochr gyflenwi, mae'r ochr alw—i ba raddau y mae pobl yn dod ymlaen i fanteisio ar yr apwyntiadau sy'n cael eu cynnig iddyn nhw. Ac os nad yw pobl yn dod ymlaen yn y niferoedd yr ydym ni angen eu gweld, neu os bydd pobl yn gofyn i'w hapwyntiadau gael eu haildrefnu, yna bydd hynny yn gwthio'r dyddiad hwnnw ymhellach i'r flwyddyn newydd. Felly, os oes un neges y byddwn ni eisiau ei chyfleu yn y sesiwn heddiw—rwy'n gobeithio y bydd llawer o Aelodau'r Senedd yn helpu yn hyn o beth, i rannu'r neges honno hefyd—y neges honno yw nad oes dim byd pwysicach y gall unrhyw unigolyn ei wneud na chadw'r apwyntiad hwnnw sy'n cael ei gynnig iddo. Oherwydd po fwyaf o bobl sy'n cadw'r apwyntiad, cyflymaf y byddwn ni'n trin y niferoedd, ac felly bydd angen llai o ddiwrnodau arnom ni yn y flwyddyn newydd i gwblhau'r rhaglen.

Rydym ni wedi cael y canlyniadau rhagarweiniol hyn y bore yma, Prif Weinidog, o'r arolwg yn Ne Affrica. Mae gennym ni'r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu hefyd, yr wyf i newydd eich holi amdani, a chyflwyniad yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu honno, ond hefyd, yn y gynhadledd i'r wasg a gynhaliodd y Gweinidog iechyd y bore yma, tynnodd sylw at yr effaith ar wasanaethau—gwasanaethau iechyd cyffredinol—boed yn llawfeddygaeth sylfaenol, neu'n llawfeddygaeth ddewisol. Ond un peth y gwnaeth Chris Whitty annerch Cabinet y DU yn ei gylch y bore yma oedd effaith cyfraddau heintio posibl ar weithlu'r GIG. A oes gennych chi unrhyw fodelu a fyddai'n dangos yr hyn y byddai hynny yn gyfystyr ag ef, o safbwynt Cymru, o ran staff y GIG yma yng Nghymru a allai, o bosibl, yn amlwg, fod i ffwrdd o'r gwaith am gyfnod sylweddol o amser, gyda chyfraddau heintio fel y mae Chris Whitty wedi bod yn tynnu sylw Cabinet y DU atyn nhw y bore yma? Ac os yw'r wybodaeth honno gennych chi, a wnewch chi ei rhannu gyda ni, fel y gallwn ni ddeall yr effaith ar wasanaethau'r GIG ledled Cymru?

Wel, diolch i Andrew R.T. Davies am hynna, oherwydd mae hwnna yn bwynt pwysig iawn. Ar ran anoddaf y sbectrwm hwn, fe allem ni weld nifer sylweddol uwch o bobl sydd angen cymorth gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dod wyneb yn wyneb â gwasanaeth lle mae llai o bobl ar gael i ddarparu'r cymorth sydd ei angen, oherwydd bydd yr aelodau staff hynny yn agored i effaith amrywiolyn omicron ochr yn ochr â phawb arall. Nawr, y newyddion da yw bod gennym ni eisoes, yn y poblogaethau hynny, gyfraddau uchel iawn sydd wedi cael y brechlyn atgyfnerthu. Felly, bydd hynny yn diogelu'r gweithlu hwnnw. Ond os byddwn ni'n gweld ton fawr iawn, sy'n effeithio ar nifer fawr iawn o bobl, yna bydd pobl sy'n gweithio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cynnwys ynddi hefyd. Hyd yn oed heddiw, nid yw 11 y cant o'n gweithlu meddygon teulu yn y gwaith oherwydd amrywiolyn delta y coronafeirws. Felly, os gwnewch chi allosod hynny a dychmygu effaith ton omicron o'r math y bydd Chris Whitty wedi bod yn ei ddisgrifio i Gabinet y DU, yna gallwch weld y gallai'r effaith fod yn sylweddol iawn. Nawr, mae hynny i gyd yn cael ei fodelu drwy'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda Phrifysgol Abertawe a chyda'n byrddau iechyd lleol, ac mae camau yn cael eu cymryd—fel y dywedais, yn enwedig drwy flaenoriaethu'r staff hynny ar gyfer yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu—i ddiogelu cynifer o'r bobl hynny â phosibl. Bydd rhai newidiadau i'r gofynion hunanynysu i weld a all pobl ddychwelyd yn ddiogel i'r gweithle eto cyn gynted â phosibl hefyd yn rhan o'r holl ystyriaeth honno. Ond, gall pob un ohonom ni wneud pethau i ddiogelu ein hunain, a thrwy ddiogelu ein hunain rydym ni'n diogelu pobl eraill, ac mae hynny yn cynnwys y bobl y byddwn ni'n dibynnu arnyn nhw i'n helpu os bydd ton omicron yn ein taro fel y mae rhai o'r modelau yn awgrymu y gallai.

14:00

Diolch, Llywydd. Mae rhywfaint o newyddion optimistaidd yn y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies ati, ond mae hefyd yn canfod bod dau ddos o frechlyn AstraZeneca yn cynnig dim amddiffyniad rhag amrywiolyn omicron, er bod yr un cafeatau yn berthnasol i'r dystiolaeth honno—sampl fach, canfyddiadau rhagarweiniol, ac yn y blaen. Mae yn canfod, hyd yn oed yn achos AstraZeneca, y byddai pigiad atgyfnerthu yn cynyddu lefel yr amddiffyniad i 71 y cant. Yn amlwg, mae cael y pigiad atgyfnerthu i bawb erbyn diwedd y mis, rwy'n credu, yn nod pwysig iawn, ond a oes rhywfaint o ystyriaeth yn cael ei rhoi, yng ngoleuni'r dystiolaeth hon, i roi blaenoriaeth i'r rhai a gafodd frechiad AstraZeneca?

Wel, Llywydd, mae Adam Price yn llygad ei le, sef nad yw'r dystiolaeth ar effeithiolrwydd y ddau ddos yn wych ar gyfer Pfizer nac AstaZeneca—roedd hyd yn oed Pfizer, yn yr astudiaeth honno, yn cynnig tua 30 y cant o amddiffyniad—a dyna pam mae'r rhaglen pigiadau atgyfnerthu mor gwbl hanfodol. Oherwydd nid yw dau ddos o AstraZeneca yn eich diogelu chi; mae dau ddos o AstraZeneca a phigiad atgyfnerthu yn mynd â'r amddiffyniad hwnnw i fyny dros 70 y cant. Nawr, byddwn yn parhau i ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yng Nghymru ynghylch sut rydym ni'n blaenoriaethu galw pobl ymlaen i gael eu brechu gyda'r pigiad atgyfnerthu. Ceir rhywfaint o gytgord rhwng rhestr flaenoriaethau'r Cyd-bwyllgor a phobl a gafodd AZ yn y ddwy rownd gyntaf o frechiadau. Felly, mae gan y pethau hyn rywfaint o gysondeb â'i gilydd. Byddwn yn gweithio ein ffordd i lawr yr ystodau oedran, ac rydych chi'n cyrraedd pwynt gyda phobl yn eu 30au pryd yr oeddem ni'n defnyddio Pfizer yn hytrach nag AZ ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Felly, rwy'n credu mai cadw at gyngor y Cyd-bwyllgor, sef galw pobl ymlaen yn nhrefn pa mor agored i niwed clinigol ydyn nhw, yw'r peth iawn i'w wneud, ac i raddau sylweddol, nid i raddau perffaith, ond i raddau sylweddol bydd hynny yn mynd i'r afael â'r mater y mae Adam Price newydd ei godi gyda mi.

Prif Weinidog, adroddwyd y gallai Llywodraeth yr Alban gyhoeddi rhai newidiadau heddiw ynghylch cadw pellter cymdeithasol o ran cymysgu aelwydydd, ond ar ffurf cyngor yn hytrach na rheoliadau. Tybed a yw hynny yn opsiwn polisi sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru. Ac yn flaenorol fe wnaethoch chi ddweud, wrth ystyried mynd i fyny drwy'r lefelau statws rhybudd, y byddech chi'n canolbwyntio ar ddangosyddion rhagfynegi fel niferoedd achosion, yn hytrach na dangosyddion ôl-fynegi fel marwolaethau a niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty. Tybed, o ystyried yr awgrym efallai nad yw'r niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty yn olrhain nifer yr achosion mor agos ag y maen nhw wedi ei wneud gyda thonnau blaenorol, yn seiliedig ar ddata De Affrica, a ydych chi'n bwriadu cymryd rhyw fath o olwg fwy cyfannol, gan edrych ar ddangosyddion rhagfynegi ac ôl-fynegi wrth benderfynu beth fyddai'r ymateb mwyaf cymesur.

Diolch i arweinydd Plaid Cymru am y ddau bwynt yna. Rwyf i wedi cael cyfres o gyfleoedd yn ystod y dyddiau diwethaf i glywed gan Brif Weinidog yr Alban ac i gael rhywfaint o ddealltwriaeth o'r ffordd y bydd Cabinet Llywodraeth yr Alban yn trafod y materion hyn heddiw. Rwy'n credu bod y dull o ganllawiau, canllawiau cryf, ar gael i ni ac yn rhywbeth y byddwn ni eisiau ei drafod fel Cabinet yn ystod yr wythnos hon.

Yn ystod y pandemig, mae pobl yng Nghymru wedi dangos, rwy'n credu, eu bod nhw'n awyddus iawn i glywed y cyngor y maen nhw'n ei gael drwy'r prif swyddog meddygol, gan ein prif wyddonydd, ac fel y mae'n cael ei gyfleu gan Weinidogion, ac mae rhoi cyngor da iddyn nhw yn sicr yn rhan o'r repertoire sydd gennym ni ar gyfer ceisio helpu pobl i gadw eu hunain yn ddiogel. Byddwn ni bob amser yn cymryd cyfres gytbwys o ddangosyddion i ystyriaeth wrth wneud ein penderfyniadau, ac mae hynny yn cynnwys niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty a marwolaethau—[Anghlywadwy.]

14:05

Rwy'n credu y bydd angen i mi dorri ar eich traws, Prif Weinidog. Mae'n ddrwg gennyf i, ond mae'n ymddangos bod problem gyda'ch sain ar hyn o bryd. Gadewch i mi gymryd saib cyflym. Rhowch gynnig arall arni, ac os nad yw'n bosibl, bydd yn rhaid i ni—. Rhowch gynnig arall arni, Prif Weinidog.

Na. Mae gennym ni broblem. Bydd yn rhaid i ni gymryd seibiant technegol arall i ailddechrau sain y Prif Weinidog. Toriad technegol, felly, eto. Ymddiheuriadau am hyn, Aelodau.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:06.

Ailymgynullodd y Senedd am 14:08, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Felly, dychwelwn nawr at ymateb y Prif Weinidog i gwestiwn Adam Price. Prif Weinidog.

Diolch, Llywydd. Y cwbl yr oeddwn i'n ei wneud oedd ailadrodd pwynt yr oeddwn i wedi ei wneud yn gynharach i Andrew R.T. Davies, sef hyd yn oed pe bai'r cyfraddau sy'n mynd i'r ysbyty yn is gyda omicron, os yw'r niferoedd crai o bobl sy'n mynd yn sâl gydag ef yn cynyddu yn sydyn, bydd hynny ynddo'i hun yn arwain at sefyllfa lle byddai angen i nifer fawr o bobl fynd i'r ysbyty.

Mae COVID yn glefyd a drosglwyddir drwy'r awyr, wrth gwrs, ac rydym ni'n gwybod bod awyru da a phuro aer yn effeithiol iawn o ran mynd i'r afael â haint. A oes mwy, Prif Weinidog, y gallem ni fod yn ei wneud yn hyn o beth? Mae Gwlad Belg wedi gosod monitorau carbon deuocsid mewn ysgolion ac, yn wir, gweithleoedd i weld a oes angen gwella awyriad. Mae Iwerddon wedi cyhoeddi buddsoddiad pellach o €60 miliwn yr wythnos hon mewn dyfeisiau puro aer mewn ysgolion, gan ddefnyddio cymysgedd o aer gronynnol effeithlonrwydd uchel a golau uwchfioled. O ystyried yr amcangyfrif o 3,500 o blant sy'n parhau i ddioddef symptomau COVID hir yng Nghymru, onid yw hwn yn fuddsoddiad yn iechyd ein plant, yn ogystal â phawb arall, y dylem ninnau hefyd fod yn ei wneud?

Wel, diolch i Adam Price am y pwynt pwysig yna. Wrth gwrs, mae gennym ni fonitorau carbon deuocsid ar gael yma yng Nghymru nawr ac maen nhw'n cael eu defnyddio mewn ysgolion, ond mae mwy y gellir ei wneud o ran awyru. Mae'n rhan bwysig iawn o'r ffordd y gallwn ni gadw ein gilydd yn ddiogel. Ysgrifennodd y prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio at y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ystod y dyddiau diwethaf yn unig yn rhoi cyngor pellach ar yr hierarchaeth o gamau y gellir eu cymryd i wneud yn siŵr bod pobl sy'n gweithio a phobl sy'n cael eu trin yn ein hysbytai a lleoliadau caeedig eraill o'r math hwnnw yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl, ac awyru oedd un o'r materion a bwysleisiwyd ganddyn nhw yn y llythyr y maen nhw wedi ei anfon. Rydym ni'n parhau i adolygu'r dystiolaeth o rannau eraill o'r byd ar gamau a all fod yn effeithiol o ran cynorthwyo mewn ysgolion ac mewn lleoliadau eraill—gweithleoedd, er enghraifft, yn ogystal ag ysbytai a chartrefi gofal—i helpu i wella awyru a monitro ansawdd aer. A phryd mae syniadau neu atebion ymarferol yr ydym ni'n eu canfod mewn mannau eraill, byddwn yn sicr yn agored i ddysgu ohonyn nhw a gweld beth y gallwn ni ei wneud i gefnogi eu gweithrediad.

14:10
Patentau Brechlynnau COVID

3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ildio patentau brechlynnau COVID? OQ57377

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau i lacio hawliau eiddo deallusol fel y gellir gwneud brechlynnau a phatentau ar gael i wledydd incwm isel i helpu i liniaru'r pwysau sy'n cael eu hachosi gan bandemig COVID-19. Rydym ni wedi cyfleu'r farn honno yn uniongyrchol i Lywodraeth y DU gan fod cyfrifoldeb am hawliau eiddo deallusol yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl.

Diolch. Yn gyntaf, hoffwn gyfeirio'r Aelodau a'r cyhoedd at fy nghyfranddaliadau datganedig sydd gen i o hyd yn AstraZeneca, er nad am lawer hirach. Rwy'n siomedig nad yw AstraZeneca na Pfizer wedi ymateb i'm cais am esboniad ynghylch pam, yng nghanol pandemig byd-eang, nad yw'r cwmnïau cyffuriau aml-wladol hyn wedi hepgor eu patentau ar y brechlynnau hyn sy'n achub bywydau. Wrth gwrs, mae cynsail ar gyfer hyn, o ran hepgor y patentau ar gyffuriau HIV pan dynnodd Nelson Mandela sylw at eu methiant i wneud hynny, a achosodd brotestiadau byd-eang. Yn yr Unol Daleithiau, mae'r Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol yn mynd â Moderna i'r llys. A ydych chi'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau gan Lywodraeth y DU i fynd ag AstraZeneca i'r llys i'w gorfodi i wneud y peth iawn, o gofio na fydd neb yn ddiogel rhag COVID tan fydd digon o bobl wedi cael eu brechu ledled y byd i atal COVID i lefelau y gellir eu rheoli?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gamau o'r fath gan Lywodraeth y DU, a byddwn yn synnu'n fawr iawn pe baen nhw'n barod i gymryd unrhyw gamau, oherwydd maen nhw'n parhau i rwystro cynigion ar gyfer hepgor hawliau eiddo deallusol yn Sefydliad Masnach y Byd. Gwn y bydd Jenny Rathbone yn ymwybodol iawn ei bod hi'n flwyddyn—dros flwyddyn bellach—ers i Dde Affrica ac India gynnig hepgoriad dros dro o hawliau eiddo deallusol ar frechlynnau COVID-19 gan wneud y cynnig hwnnw i Sefydliad Masnach y Byd. Ym mis Mai eleni, cyhoeddodd yr Unol Daleithiau eu bod nhw o blaid hepgoriad o'r fath, ac mae ymhell dros 100 o wledydd bellach wedi rhoi eu pwysau y tu ôl i hynny. Mae nifer gymharol fach o wledydd ledled y byd yn parhau i rwystro'r trafodaethau hynny, ac mae Llywodraeth y DU yn un ohonyn nhw. Cyfarfu Sefydliad Masnach y Byd ddiwethaf ddiwedd mis Hydref, ac mae arnaf ofn mai'r adroddiadau oedd bod trafodaethau ar hepgoriad wedi pallu ac yn ddigyfeiriad oherwydd y llond llaw hwnnw o wledydd. Dyna pam yr wyf i wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn ei annog i dynnu'r Deyrnas Unedig o'r sefyllfa honno; y dylem ni gefnogi'r safbwynt a gyflwynwyd gan Dde Affrica ac India, ond gan yr Unol Daleithiau hefyd, oherwydd byddai hynny'n datgloi'r sefyllfa lle na fyddem ni'n ddibynnol ar ewyllys da cwmnïau fferyllol unigol, ond byddai safbwynt cyson ar draws y byd lle na fyddai hawliau eiddo deallusol yn rhwystr rhag brechu gweddill y byd. Fe'm hatgoffir o'r hyn a ddywedodd cyn Brif Weinidog y DU Gordon Brown ychydig ddyddiau yn unig yn ôl: bod y gorllewin sydd ag adnoddau da yn chwarae rwlét y Rwsiaid gyda COVID-19, a thra nad ydym ni'n gwneud yr ymdrech y mae angen i ni ei gwneud i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu brechu, rywle yn y byd, mae amrywiolyn yn datblygu a allai fod yn un sy'n dianc rhag diogelwch brechlynnau yn llwyr, a fydd yn fwy difrifol na'r fersiynau yr ydym ni'n ymdrin â nhw ar hyn o bryd. Mae er budd pawb, yn yr union ffordd y dywedodd Jenny Rathbone, i wneud yn siŵr bod poblogaeth y byd i gyd yn cael diogelwch brechiad, a byddai hepgoriad dros dro o hawliau eiddo deallusol yn un cam pwysig o ran helpu i sicrhau'r canlyniad hwnnw.

14:15

Rwyf innau'n gwybod hefyd, gan ymateb i rai o'r—. Allwch chi fy nghlywed i, Llywydd? Mae fy llun i wedi diflannu.

Rydym ni'n gallu eich clywed chi, Russell, er nad wyf i'n gallu eich gweld chi ar hyn o bryd. A! ydych, rydych chi yn ôl ar y sgrin. Parhewch.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n ymwybodol bod y DU wedi rhoi'r mwyafrif o unrhyw frechlynnau sydd dros ben yn y DU, wrth gwrs, i COVAX i gynorthwyo gwledydd datblygol, ond rwy'n deall rhywbeth gwahanol i chi, Prif Weinidog, o ran barn ddatblygol aelodau Sefydliad Masnach y Byd ar hepgoriad arfaethedig o rai o ddarpariaethau'r agwedd sy'n gysylltiedig â masnach ar gytundeb hawliau eiddo deallusol i fynd i'r afael â COVID-19. Mae Llywodraeth y DU, yn ôl a ddeallaf, wrthi'n cymryd rhan gadarnhaol yn hynny. Ond a gaf i ofyn, Prif Weinidog, a ydych chi'n rhagweld unrhyw faterion negyddol ynghylch hepgor patentau brechiadau, beth yw canlyniadau anfwriadol hynny, a sut gellir goresgyn y problemau hyn?

Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud, yn fy llythyr at yr Ysgrifennydd Tramor ar y mater hwn yn gynharach yn y flwyddyn, ac yn fwy diweddar at Brif Weinidog y DU, fy mod i wedi bod yn awyddus iawn i ddweud pa mor gryf y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi eu harwain o ran rhaglen COVAX a'r ymdrechion y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud i arwain camau gweithredu ledled y byd yn hynny o beth? Felly, hoffwn gydnabod hynny a'i ailadrodd y prynhawn yma.

Beth yw anfanteision hepgoriad dros dro o hawliau eiddo deallusol? Wel, rwy'n credu mai'r prif un, er fy mod i'n credu ei fod yn beth angenrheidiol i'w wneud, nid yw'n beth digonol i'w wneud ar ei ben ei hun, oherwydd bydd gwledydd nad yw'r seilwaith ganddyn nhw i ddefnyddio'r eiddo deallusol a fydd ar gael iddyn nhw wedyn. Disgrifir yr ochr eiddo deallusol weithiau fel meddu ar y rysáit. Wel, os nad oes gennych chi ffwrn, os nad oes gennych chi'r sosbenni a'r padellau ac nad oes gennych chi bopeth arall sydd ei angen arnoch chi, allwch chi ddim troi'r rysáit yn gynnyrch defnyddiadwy. Dyna pam, yn y ffordd fach iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu cynnig cymorth, y mae ein cymorth mewn lleoedd fel Namibia ac Uganda, er enghraifft, wedi canolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod ni'n cynorthwyo'r lleoedd hynny i sefydlu'r pethau seilwaith hynny sy'n caniatáu i wledydd ddefnyddio brechlynnau wrth i frechlynnau ddod ar gael, oherwydd os nad oes gennych chi nyrsys hyfforddedig, neu os nad oes gennych chi ganolfannau brechu, neu os nad oes gennych chi gyfarpar diogelu personol, yna hyd yn oed os yw'r brechlyn gennych chi, allwch chi ddim gwneud i'r brechlynnau hynny weithio i'ch poblogaeth leol. Os oes dadl am anfantais i hepgoriad patent, rwy'n credu mai dyna'r unig un y byddwn ni'n neilltuo llawer o hygrededd iddo. Mae'n golygu, os nad oes gennych chi bopeth arall sydd ei angen arnoch chi i wneud rhaglen frechu yn effeithiol, nid yw cael hepgor hawliau eiddo deallusol ar frechlynnau yn sicrhau bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch ar lawr gwlad i ddarparu rhaglen o'r fath.

Prif Weinidog, mae Boris Johnson wedi dweud wrth bobl sy'n byw yn y DU nad yw dau frechlyn yn ddigon mwyach i amddiffyn rhag amrywiolyn omicron. Yn Affrica, nid yw 70 y cant o weithwyr iechyd rheng flaen wedi cael un dos. Mae hynny, fel yr ydym ni wedi bod yn ei drafod, i raddau helaeth oherwydd anhyblygrwydd Llywodraethau fel y DU a'r Swistir, yn rhwystro ymdrechion i hepgor patentau ar frechlynnau, pan fo, fel yr ydych chi wedi ei ddweud Prif Weinidog, hyd yn oed Arlywydd UDA sy'n glos gyda'r cwmnïau fferyllol mawr, Joe Biden, o blaid hepgoriad. A ydych chi'n credu ei bod hi'n wir, Prif Weinidog, fod polisi Llywodraeth y DU o rwystro'r ymgais hon i frechu'r byd nid yn unig yn peryglu bywydau dramor yn greulon ac yn ddiangen, ond hefyd yn peryglu bywydau yma yn y DU yn sgil amrywiolion peryglus sy'n debygol o ddatblygu mewn gwledydd sy'n llai abl i gael gafael ar frechlynnau?

14:20

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt pwysig y mae Delyth Jewell yn ei wneud. Nid oes yr un ohonom yn ddiogel nes bod pob un ohonom ni'n ddiogel. A dyna'r achos dros sicrhau bod gwledydd cyfoethog fel y Deyrnas Unedig yn chwarae ein rhan—ein rhan lawn—wrth gynorthwyo gweddill y byd. Nid mater o haelioni yn unig ydyw, mae'n fater o hunan-les goleuedig. Ond hyd nes y gallwn ni fod â gweddill y byd yn y sefyllfa honno, yna'n union fel y dywedodd Delyth Jewell, ac fel y dyfynnais cyn-Brif Weinidog y DU Gordon Brown yn gynharach, rhywle yn y byd bydd amrywiolyn arall yn datblygu ac, y tro nesaf, efallai na fyddwn ni mor ffodus y bydd yr amddiffynfeydd yr ydym wedi'u creu hyd yma mor effeithiol wrth ymateb i'r amrywiolyn hwnnw fel y buon nhw yn erbyn yr amrywiolyn alffa, yr amrywiolyn delta a'r ymdrech fawr nesaf i ymdrin â'r amrywiolyn omicron. Mae angen diogelu'r byd i gyd er mwyn diogelu pob un ohonom.

Yr Amrywiolyn Omicron a Busnesau Lletygarwch

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith yr amrywiolyn Omicron o COVID-19 ar fusnesau lletygarwch yng Nghymru? OQ57352

Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Hyd yma, prin iawn fu effaith uniongyrchol yr amrywiolyn newydd ar fusnesau lletygarwch Cymru. Mae'n anoddach asesu effaith anuniongyrchol drwy edrych ar newid ymddygiad cwsmeriaid. O ystyried lefelau uchel o ansicrwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro datblygiadau'n fanwl ac yn ymateb yn gyflym pe bai angen hynny.

Diolch. Wrth gwrs, rydych chi'n gwybod mai twristiaeth yw asgwrn cefn yr economi yn Aberconwy, fel y mae mewn etholaethau eraill. Mae gan frenhines cyrchfannau gwyliau Cymru, Llandudno, y potensial hefyd—ac mae hyn yn ôl adroddiad diweddar yr wyf wedi bod yn ei ddarllen—i weld nifer yr ymwelwyr dydd yn cynyddu o 2.88 miliwn yn 2018 i 4.8 miliwn yn 2045, teithiau gydag arhosiad dros nos yn gweld cynnydd o 120,000, ac mae'r effaith economaidd yn codi o £388 miliwn yn 2018 i dros £0.5 biliwn erbyn 2045. Mae ein diwydiant lletygarwch wedi ysgwyddo llawer o'r amrywiolion blaenorol mewn gwirionedd. Nawr, mae ein busnesau lleol yn dioddef o ganlyniad i lawer iawn o bobl yn canslo. Mae un entrepreneur wedi colli archebion gwerth £25,000 ac mae'n gorfod ystyried diswyddo pob un o'r wyth aelod o'i staff, ac ailadroddir hyn yn y negeseuon e-bost niferus yr wyf wedi'u cael. Felly, tra'u bod nhw yn dal i aros i fanteisio ar y gronfa £35 miliwn yr ydych chi wedi'i chynllunio i helpu busnesau bach a chanolig i ail-lansio, datblygu, datgarboneiddio a thyfu, a oes unrhyw bosibilrwydd, Prif Weinidog—ac mae'n rhaid i mi ofyn—y byddwch chi'n ystyried cyflwyno cylch arall o grantiau cymorth busnes COVID-19 i helpu ein busnesau i ymdrin â'r hyn sy'n debygol o fod yn gyfnod problemus iawn iddyn nhw?

Diolch i Janet Finch-Saunders am hynna, Llywydd, ac rwy'n llwyr gydnabod yr anawsterau y mae busnesau lletygarwch yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Bydd hi'n gwybod nad yw Llywodraeth Cymru wedi newid unrhyw reolau o ran COVID yng Nghymru yr wythnos hon, ond mae'r newyddion am yr amrywiolyn omicron yn newid ymddygiad pobl, ac nid oes amheuaeth o gwbl bod hynny'n cael effaith ar fusnes yn y diwydiant lletygarwch. Rwyf wedi cael cyfres o drafodaethau gyda chyd-Aelodau yn Llywodraeth y DU dros y penwythnos ynghylch yr hyn y gallai'r Trysorlys fod yn barod i'w wneud i gefnogi busnesau yr effeithir arnyn nhw fel hyn, oherwydd, fel y gwn y bydd yn deall, mae hon yn effaith ar draws y Deyrnas Unedig. Mae busnesau lletygarwch a thwristiaeth ym mhobman yn gweld hyn. 'A fyddwn yn ystyried' yw'r hyn a ofynnodd yr Aelod, a'r ateb i hynny yw 'byddwn', wrth gwrs byddwn yn ystyried yr hyn y gallem ei wneud o'n hadnoddau ein hunain. Yna, byddem yn sicr yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU yn barod i gydnabod yr effaith y mae'r amrywiolyn newydd yn ei chael yn ehangach ar y rhannau hynny o'r economi yr effeithir arnyn nhw fwyaf.

Diolch iddi am ddarllen yr wybodaeth am y dyfodol posibl ar gyfer Llandudno, sy'n gyrchfan gwyliau gwych. Rwy'n gwybod y bydd ganddi hithau hefyd ddiddordeb yn y ffordd y gallwn greu dyfodol o'r math hwnnw i rywle fel Llandudno mewn ffordd sy'n annog twristiaeth gynaliadwy. Mewn rhannau o'r gogledd dros yr haf diwethaf lle gwelsom ni niferoedd uchel o ymwelwyr, gwelsom bryderon dealladwy hefyd, os nad ydych yn cynyddu niferoedd yn y ffordd gywir, rydych yn tanseilio'r pethau sy'n dod â phobl i'r ardaloedd hynny yn y lle cyntaf. Roedd y rheini'n niferoedd calonogol iawn a rannodd yr Aelod â ni yn gynharach, a nawr bydd angen i'r sgwrs ymwneud â sut yr ydym yn tyfu'r diwydiant mewn ffordd sy'n rhoi'r gallu cynaliadwy hwnnw iddo barhau i fod yn ddeniadol i bobl ymhell i'r dyfodol.

14:25

Prif Weinidog, roeddwn eisiau eich holi am ansawdd aer. Rwy'n gwybod, yr wythnos diwethaf, eich bod wedi ymateb i arweinydd y Ceidwadwyr drwy sôn am y Ddeddf aer glân, tybed a wnewch chi roi amserlen glir iawn, os yw hynny'n iawn, ar gyfer eich rhaglen ynghylch cyflwyno Deddf aer glân. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae amserlen gyda ni. Mae'n dechrau gyda'r cynllun, yn mynd trwy'r Papur Gwyn, lan i'r Ddeddf hefyd.

Er fy mod yn gwybod ac wedi gweld yr amserlen ar gyfer y broses honno—y cynllun yn gynnar y flwyddyn nesaf, y Papur Gwyn, yr ymgynghoriad, dyfodiad Bil ar lawr y Senedd yn ddiweddarach yn y tymor—nid yw gennyf i o fy mlaen i, ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod yn nodi'r amserlen honno.FootnoteLink Ond gallaf roi sicrwydd iddi, yn bendant, fod gwaith wedi ei wneud ar amserlen o'r fath yn bendant ac rydym ar y trywydd iawn i'w chyflawni. Yn ystod tymor y Senedd hon, yn y ffordd a ddywedom yn etholiadau'r Senedd, byddwn yn rhoi Bil aer glân o flaen y Senedd.

Mynd i'r Afael ag Anfantais

5. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i'r afael ag anfantais iechyd, cymdeithasol ac economaidd strwythurol mewn ardaloedd lle ceir amddifadedd acíwt a lluosog? OQ57355

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi camau gweithredu ar waith ar draws ein cyfrifoldebau i fynd i'r afael â phenderfynyddion strwythurol iechyd, anfantais gymdeithasol ac economaidd. I ddyfynnu'r Aelod mewn dadl yn y Senedd yn ddiweddar, fodd bynnag, rydym bob amser yn gorfod gwneud hyn wrth nofio yn erbyn Llywodraeth y DU

'sy'n ysgubo'r rhai agored i niwed a'r rhai ar gyflogau isel ymaith.'

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n cydnabod mai nofio yn erbyn y llanw yw hyn, ond mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud gyda rhaglen Llywodraeth Cymru hefyd sy'n buddsoddi'n weithredol yn y cymunedau hyn. Gwn mai lleoedd fel Caerau, cymunedau gwych fel Caerau yn fy etholaeth i, oedd y cyntaf i weld buddsoddiad Dechrau'n Deg. Cawsom y buddsoddiad mewn gofal plant i deuluoedd sy'n gweithio mewn lleoedd fel sefydliad Nantyffyllon, sefydliad y glowyr, a chymorth pandemig ar gyfer prydau ysgol yn ystod y gwyliau, buddsoddiad Ysgol Gynradd Caerau, a llawer mwy. Ond a gaf i ofyn i'r Llywodraeth hon am sicrwydd y byddwn ni, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, yn cynnal y lefel honno o fuddsoddiad yn y bobl hyn a'r lleoedd hyn sydd nid yn unig ei angen, ond yn ei haeddu, fel bod pawb yn cael yr un cyfle ym mhob rhan o Gymru? Maen nhw'n lleoedd gwerthfawr, yn bobl werthfawr, ac os oes angen inni ganolbwyntio'r buddsoddiad yno, yna dylai hynny ddigwydd.

Yn sicr rwy'n gallu rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelod. Rwy'n credu bod ei etholaeth ei hun yn enghraifft wych o'r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraethau Llafur olynol yma yng Nghymru i fynd i'r afael ag anfantais strwythurol. Soniodd Huw Irranca-Davies am Dechrau'n Deg, Llywydd; am wrthgyferbyniad rhwng y ffordd yr ydym ni wedi cynnal a pharhau i fuddsoddi yn Dechrau'n Deg yng Nghymru a'r rhaglen gyfochrog yn Lloegr, a wnaeth waith mor dda yn ystod cyfnod y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn y DU, yn gweld y Ceidwadwyr yn cefnu arni yn ystod y degawd diwethaf.

Ac mae'n fwy na Dechrau'n Deg yn unig; fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae'n ymwneud â'r ffordd yr ydym wedi buddsoddi mewn cyfleusterau gofal plant i deuluoedd sy'n gweithio mewn lleoedd fel Nantyffyllon. Rwy'n gwybod mai fy rhagflaenydd, Carwyn Jones, pan oedd yn Brif Weinidog, a agorodd Ysgol Gynradd Caerau, adeilad newydd i bobl ifanc yr ardal honno. Ac mae ein buddsoddiad mewn gwaith o ymdrin ag anghydraddoldebau strwythurol, Llywydd, wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y gallech eu hystyried yn wasanaethau prif ffrwd safonol hefyd. Gwn fod buddsoddiad mwyaf Cyfoeth Naturiol Cymru mewn coetir cymunedol yng Nghymru yng nghoedwig Llynfi, yn etholaeth yr Aelod—coetir newydd yn tyfu ar hen safle glo.

Ond y peth arall sydd bob amser yn fy syfrdanu'n wirioneddol yn etholaeth Ogwr, Llywydd, yw'r ffordd y mae gweithredu gan wasanaethau cyhoeddus yn ysgogi ymdrech gymunedol eithriadol debyg hefyd—prosiect Skyline, a gwn fod yr Aelod yn gefnogwr brwd o'r datblygiad mawr hwnnw, ac Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau a drafododd gyda mi yn ddiweddar, ei ehangder syfrdanol o weithgarwch a'r ymdeimlad o fenter gymunedol a ddaw yn ei sgil. Mae'n wych gweld, Llywydd, gyda llaw, fod canolfan gymunedol yr ymddiriedolaeth yn cael ei defnyddio gan swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. A dyna fuddsoddiad arall y bydd yr etholaeth yn ei weld gan Lywodraeth Lafur.

Wrth gwrs, pan fyddwch yn ymdrin ag anghydraddoldebau strwythurol sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn, mae angen gwneud mwy. Ond ein gallu i roi pŵer y Llywodraeth ar waith, ochr yn ochr ag ymrwymiad cymunedau lleol, yw'r ffordd y credaf y gallwn ni weld cynnydd, ac yn etholaeth yr Aelod ei hun, yn yr enghreifftiau y mae wedi'u dyfynnu y prynhawn yma, rwy'n credu eich bod yn gweld hynny ar waith heb amheuaeth. 

14:30
Clefyd Niwronau Motor

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella bywydau pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor? OQ57374

Llywydd, diolch i Peter Fox am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau i bawb sydd â chyflyrau niwrolegol, gan gynnwys clefyd niwronau motor. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i benderfynu beth arall y gellir ei wneud i wella bywydau pobl sy'n byw gyda'r clefyd creulon hwn.

Diolch, Prif Weinidog. Anfonodd aelodau'r Senedd neges glir iawn fis diwethaf yn ystod fy nadl, pryd y gwnaethon nhw bleidleisio â mwyafrif llethol i ddod â'r broses addasu annheg bresennol i ben lle mae dioddefwyr MND yn gaeth mewn cartrefi na ellir dianc ohonyn nhw am nad ydyn nhw'n gallu cael y cymorth angenrheidiol mewn pryd. Mae dioddefwyr MND yn glir bod angen disodli'r system bresennol gan un nad yw'n seiliedig ar brawf modd, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog iechyd ac, yn wir, Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn hefyd. Ond nawr mae angen i ni weld canlyniad pendant i ddioddefwyr MND yn dilyn y gefnogaeth unfrydol honno, rwy'n credu. Ac, i'r perwyl hwnnw, Prif Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth gytuno i ofyn, yn wir, i annog awdurdodau lleol i weithredu eu pwerau disgresiwn i weithredu proses garlam ar gyfer addasu tai i bobl sy'n byw gydag MND yng Nghymru, oherwydd wrth i bob mis fynd heibio heb y broses garlam honno, bydd pobl ag MND yn parhau i ddioddef? Diolch, Prif Weinidog.

Llywydd, diolch i Peter Fox am hynna. Roedd ei ragflaenydd, yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth sir Fynwy, Nick Ramsay, hefyd yn eiriolwr brwd dros anghenion pobl sy'n dioddef o glefyd niwronau motor. O ran addasiadau ffisegol penodol, nid yw tair o'r pedair rhaglen y mae Llywodraeth Cymru bellach yn eu cefnogi yn seiliedig ar brawf modd. Mae'r addasiadau ar raddfa fawr ar gyfer y grant cyfleusterau i'r anabl yn seiliedig ar brawf modd, ond nid ydyn nhw bob amser yn fath o addasiadau sydd fwyaf addas i bobl sy'n dioddef o MND o ystyried natur gynyddol y clefyd hwnnw a'r patrwm anrhagweladwy y mae'n ei ddilyn mewn unigolion.

Ond mae'r rhaglen Hwyluso, pan gynyddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y cyllid a roddwn i awdurdodau lleol ar y sail y dylai fod yn rhad ac am ddim ar gyfer yr addasiadau bach a chanolig y mae'r rhaglen Hwyluso yn eu cefnogi, fod yn rhad ac am ddim i'r defnyddiwr, wedi cael ei chroesawu gan bron pob awdurdod lleol. Mae sir Fynwy yn un o'r awdurdodau hynny sydd wedi newid ei gweithdrefnau i sicrhau na chodir tâl ar bobl am y rheini, ac nad yw pobl yn gyfrifol am y grant addasiadau ffisegol a'r rhaglen addasu ymateb cyflym. Felly, rwy'n gobeithio, drwy gefnogi'r rhaglenni hynny sydd â symiau blynyddol sylweddol o arian, y bydd yn caniatáu i awdurdodau lleol fod â dull llwybr carlam ar gyfer pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yng Nghymru. Mae ein ffigurau'n awgrymu bod tua 200 o bobl â'r cyflwr yng Nghymru ar unrhyw un adeg. Mae hynny'n golygu, i unrhyw awdurdod lleol, y dylech allu cael dull uniongyrchol a phersonol ar gyfer anghenion yr unigolyn hwnnw. Mae'r niferoedd yn ddigon bach i gael cynllun personol ar gyfer yr unigolyn hwnnw ac yna i wneud yr addasiadau ar garlam a all wneud cymaint o wahaniaeth iddo.

14:35
Y Gwasanaeth 111

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaeth ffôn 111 yn y gogledd? OQ57392

Llywydd, cafodd gwasanaeth iechyd 111 Cymru ei lansio yn y gogledd ar gyfer unrhyw fater gofal iechyd brys ym Mehefin 2021. Rydyn ni’n buddsoddi adnoddau ychwanegol yn y gwasanaeth, o ran elfennau teleffoni ac elfennau ar-lein. Bydd hyn yn cryfhau’r gwasanaeth ar gyfer y gaeaf a thu hwnt, ac rydyn ni’n parhau i ddenu staff ansawdd uchel.

Diolch ichi am eich ateb, Prif Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae pryderon difrifol yn cael eu mynegi wrthyf nad yw'r gwasanaeth yn gallu ymdopi â maint y galw. Yr ymdeimlad ymhlith gweithwyr nyrsio proffesiynol yw bod y gwasanaeth yn cael ei orlethu, gyda chleifion yn gorfod aros oriau am ymateb sylfaenol. Dywedwyd wrthyf, er enghraifft, fod galwadau, yn ystod yr wythnosau diwethaf heb eu hateb, a bu'n rhaid i un galwr aros 600 munud i gael ei brysbennu. Nawr, mae angen anfon rhai o'r achosion hyn ar frys i'r adran achosion brys, ond oherwydd yr ôl-groniad, wrth gwrs, maen nhw'n cael eu colli a'u gohirio, i'r pwynt pan fo rhai yn rhoi'r gorau iddi. Nid oes unrhyw arbenigwyr pediatrig ar y gwasanaeth 111 yn y gogledd, felly mae achosion sy'n ymwneud â phlant, pan fyddant yn mynd drwodd yn y diwedd, yn cael eu cyfeirio'n syth at yr adran achosion brys. Yn yr un modd, nid oes gan y ganolfan iechyd meddwl 111 ddigon o arbenigedd seiciatrig i ymdrin â'r galw presennol. Felly, a wnewch chi, Prif Weinidog, dderbyn nad yw'r gwasanaeth 111, sydd bellach, fel y dywedwch chi, wedi disodli'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau arferol yn y gogledd, yn cyflawni fel y dylai, oherwydd dyna'r farn a fynegwyd i mi gan weithwyr iechyd proffesiynol pryderus iawn sydd â blynyddoedd o brofiad yn y maes?

Llywydd, fe fyddwn i bob amser eisiau gwrando ar bryderon a godwyd gan leisiau o'r fath. Fe wnes i ymholiad uniongyrchol i'r bwrdd iechyd, gan wybod y byddwn i'n cael y cwestiwn hwn heddiw, a dywedwyd wrthyf nad oedd pryderon o'r math hwnnw wedi'u codi naill ai gan y bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth na chan y bobl sy'n ei ddarparu, er bod y system ym mhobman yng Nghymru o dan bwysau enfawr, ac rydym ar fin gofyn i'r bobl yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i ddarparu'r gwasanaeth 111, mewn rhai achosion, i fod yn rhan o'r system frechu atgyfnerthu newydd. Felly, nid yw'n syndod—ni all fod yn syndod—i neb ganfod nad yw'r system bob amser yn gallu darparu ymateb mor amserol i bobl ag y byddai'n digwydd mewn amgylchiadau tawelach. Gofynnais i'r bwrdd iechyd hefyd a oedd yn cael cwynion gan y cyhoedd am ansawdd y gwasanaeth, ac fe ddywedon nhw wrthyf fod llai nag un o bob 1,000 o ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi cwyno. Felly, nid wyf am eiliad yn diystyru'r pwyntiau pwysig y mae'r Aelod wedi'u codi—a byddaf yn sicrhau eu bod yn cael eu cyfleu i'r bwrdd iechyd—ond rwy'n credu bod mwy nag un adroddiad, mae'n debyg, ynghylch y ffordd y mae'r gwasanaeth yn ceisio darparu ymateb o safon i anghenion pobl yn y gogledd, er gwaethaf y galwadau gwirioneddol yr ydym yn eu rhoi ar y gwasanaeth iechyd yn wyneb y pandemig byd-eang.

14:40
Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y lwfans cynhaliaeth addysg? OQ57390

Llywydd, mae ein hymrwymiad i barhau â'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi'i nodi yn ein rhaglen lywodraethu. Mae adborth gan ddysgwyr yn pwysleisio pwysigrwydd y cymorth hwn i'w helpu i barhau â'u hastudiaethau. Caiff rheolau'r cynllun lwfans eu hadolygu bob blwyddyn cyn agor y cynllun i geisiadau.

Diolch am yr ymateb, Prif Weinidog.  

Yn y lle cyntaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud wrth gydnabod bod cadw'r lwfans ar waith yng Nghymru yn darparu cymorth y mae mawr ei angen i ddysgwyr, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad i ddiogelu'r lwfans yn y rhaglen lywodraethu. Ond tybed a fydd y Llywodraeth yn adolygu'r lwfans ai peidio, yn benodol y swm a delir i fyfyrwyr a'r broses o wneud cais. Ar hyn o bryd, mae'r swm a delir i ddysgwyr yr un swm nawr ag yr oedd pan oeddwn i'n ei gael, ac mae wedi aros yn ei unfan, sef £30 yr wythnos, ers ei gyflwyno yn 2004. Yn y bôn, nid ydym wedi gweld cynnydd mewn bron i 20 mlynedd, felly nid yw wedi cymryd chwyddiant i ystyriaeth o gwbl. Hoffwn droi sylw'r Prif Weinidog at Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, am eiliad yn unig, i ddangos pwynt arall, yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, fel arfer mae ganddyn nhw rhwng 700 ac 800 o ddysgwyr addysg bellach llawn amser sy'n hawlio'r lwfans. Fodd bynnag, mae pryderon bod llawer mwy o fyfyrwyr angen mynediad. Fel y gwyddom, mae'r lwfans yn seiliedig ar brawf modd, ac mae llawer wedi dweud wrthyf fod y ffurflenni'n gymhleth ac yn anodd eu deall. Felly, byddwn yn gobeithio, wrth i'r Llywodraeth adolygu'r lwfans, y bydd y materion penodol hyn yn cael eu hystyried, wrth symud ymlaen.

Llywydd, diolch yn fawr i Luke Fletcher am y cwestiynau ychwanegol. 

Wrth gwrs, rydym yn adolygu'r cynllun yn gyson. Yn ystod y flwyddyn olaf, cyn y pandemig—felly y flwyddyn olaf y byddech chi'n credu y byddai yn gymhariaeth deg—bryd hynny, cefnogwyd dros 20,200 o fyfyrwyr gan y cynllun lwfans cynhaliaeth addysg, ar gost o bron i £18 miliwn. Ac, ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £6 miliwn yn y gronfa ariannol wrth gefn, y gall colegau addysg bellach ei defnyddio, yn union er mwyn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol ar ben natur prawf modd y lwfans ei hun. Rwyf wedi gweld adroddiad Sefydliad Bevan, wrth gwrs, am y ffaith pe baem yn codi'r lwfans i gynnal ei werth mewn termau real y byddai angen i ni fynd i £45. Byddai hynny'n costio £8.2 miliwn arall y flwyddyn, a phe baem yn codi'r trothwyon, i ystyried y pwynt yr oedd Mr Fletcher yn ei wneud am rai pobl ifanc nad oedden nhw'n gallu cael gafael arno, byddai hynny'n mynd â'r buddsoddiad ychwanegol sydd ei angen i dros £10 miliwn. Ac, mae arnaf ofn, ym mhob un o'r pethau hyn, fod yn rhaid gwneud dewisiadau. Mae'r rhaglen lywodraethu, gan gynnwys yr holl gytundebau sydd gennym yn y cytundeb cydweithredu rhwng ei blaid ef a fy mhlaid innau, wedi nodi mai'r prif flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yw prydau ysgol am ddim, gofal plant a'r ystod honno o ymrwymiadau eraill yr ydym wedi'u llunio gyda'n gilydd. Ac er y byddwn, wrth gwrs, yn parhau i adolygu'r lwfans, yr ymrwymiad presennol yw ei gynnal i mewn i dymor y Senedd hon, ac oni bai bod ein setliadau'n dod yn llawer mwy hael nag a nodwyd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, mae'n debyg mai dyna lle bydd rhaid i'n huchelgais aros.

Gofal Iechyd Meddwl

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gofal iechyd meddwl yn Nwyfor Meirionnydd? OQ57383

Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Mae cefnogi iechyd meddwl yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, fel y nodir yn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Rydyn ni’n cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd drwy’r fframwaith ymyriad wedi’i dargedu a thrwy becyn sylweddol o gymorth strategol.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Mae fy etholwr, David Graves, wedi bod yn aros i gael adolygiad annibynnol allanol i fewn i driniaeth a gofal ei fam ar ward Hergest ers dros dair blynedd. Gofynnwyd i Donna Ockenden, awdur adolygiad Ockenden, gynnal yr adolygiad gan y bwrdd iechyd yng Ngorffennaf 2018, ond eto ni ddilynodd y bwrdd y cais hwnnw i fyny. Mae hi, Donna Ockenden, wedi cynnig cynnal yr adolygiad unwaith eto. Dwi'n gwybod hynny am ei bod hi wedi dweud hynny wrthyf i yn bersonol rai wythnosau yn ôl. Yn 2018, fe ysgrifennodd y Gweinidog iechyd presennol at y Gweinidog iechyd ar y pryd yn gofyn ac yn mynnu bod y bwrdd yn cysylltu â Donna Ockenden i gynnal yr adolygiad annibynnol allanol yma. Rŵan bod adroddiad Holden wedi cael ei gyhoeddi, oni ddylwn i alluogi fy etholwr i fedru cau'r bennod drist yma yn ei fywyd trwy alluogi Donna Ockenden i gynnal yr adolygiad allanol annibynnol yma? A wnewch chi, Brif Weinidog, ymuno efo fi yn galw ar y bwrdd iechyd i gysylltu efo Donna Ockenden i'w chomisiynu i wneud y gwaith pwysig yma?

14:45

Diolch i Mabon ap Gwynfor am y pwyntiau yna. Wrth gwrs, dwi'n ymwybodol o achos David Graves, a dwi'n cydymdeimlo gyda fe am bopeth a oedd wedi digwydd a'r profiadau mae wedi'u cael. Dwi ddim wedi gweld dim byd oddi wrth Donna Ockenden, i ddweud y gwir. Os yw hi'n awgrymu rhywbeth, dydy hi ddim, fel dwi wedi gweld, wedi codi hynny gyda'r Llywodraeth. So, dwi ddim yn gallu cefnogi rhywbeth heb weld beth mae hi'n awgrymu. Os oes rhywbeth sydd wedi dod i mewn, wrth gwrs dwi'n fodlon edrych ar beth mae hi'n bwriadu ei wneud.

Comisiynydd Cyn-filwyr

10. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am benodi comisiynydd cyn-filwyr i Gymru? OQ57360

Llywydd, mae penodi comisiynydd cyn-filwyr i Gymru yn fenter gan Lywodraeth y DU, a gyhoeddwyd heb unrhyw drafodaeth na hysbysiad ymlaen llaw gyda Llywodraeth Cymru. Serch hynny, yr wythnos hon mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cyfarfod â'r Gweinidog dros Bobl Amddiffyn a Chyn-filwyr i drafod y penodiad arfaethedig hwn.

Diolch, Prif Weinidog. Mae Brycheiniog a Sir Faesyfed yn gymuned filwrol falch, a soniais yn ddiweddar yn y Siambr am y rhan bwysig y mae'r fyddin yn ei chwarae, yn gymdeithasol ac yn economaidd, yn fy etholaeth i. Rwy'n siarad yn rheolaidd â chyn-filwyr sy'n dweud wrthyf fod angen y swyddogaeth benodol hon yn ein system wleidyddol i ymdrin â'r materion a'r heriau y mae cyn-filwyr yn eu hwynebu. Mae'r Dirprwy Weinidog a minnau wedi cael trafodaethau cadarnhaol iawn ar y mater hwn. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo, os gellir goresgyn y problemau sy'n bodoli rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, y bydd eich Llywodraeth yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU ar benodi comisiynydd cyn-filwyr i Gymru? Diolch, Llywydd.

Llywydd, roeddwn i'n falch iawn yn ddiweddar o dreulio noson ym marics Aberhonddu ac i gyfarfod â rhai staff ymroddedig iawn yno. Llywydd, nid oes unrhyw broblemau yn bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y mater hwn; mae'n fenter gan Lywodraeth y DU yn gyfan gwbl, a gynigiwyd ganddi hi, a gyhoeddwyd ganddi hi, a ariennir ganddi hi. Wrth gwrs, byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU arni, ond mae'n bwysig iawn bod yn glir o le y daw'r fenter a lle mae'r fenter. Gobeithio y bydd y penodiad yn llwyddiant ac y bydd yn darparu pethau da i gyn-filwyr yng Nghymru. Ond y Llywodraeth sydd wedi ei chychwyn ac sy'n ceisio bwrw ymlaen â hi sydd â'r cyfrifoldeb i sicrhau y bydd hynny'n digwydd. Mae'r cyfarfod rhwng y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog dros Bobl Amddiffyn a Chyn-filwyr wedi'i gynllunio i sicrhau, pan fo gennym ran i'w chwarae, ein bod yn ymwybodol o hynny, a byddwn yn sicr yn gwneud hynny'n adeiladol.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, mae aelod o'r gymuned Iddewig yng Nghymru wedi cysylltu â mi ynghylch mynediad i wefan Cadw. Mae'n ymddangos bod pobl sy'n ceisio cael mynediad i'r wefan yn Israel yn cael eu rhwystro rhag gwneud hynny. Nawr, gan ddefnyddio rhwydwaith preifat rhithwir, ceisiais edrych ar hyn fy hun, ac roedd yn ymddangos i mi fod gwefan Cadw yn gwbl hygyrch yn Ffrainc, yr Unol Daleithiau, Sbaen a llawer o wledydd eraill, ond nid i rywun â chyfeiriad darparwr rhyngrwyd yn Israel. Nawr, rwy'n deall y codwyd hyn gyda Cadw mor bell yn ôl â mis Medi ond, hyd yma, ni chymerwyd unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r broblem. Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Cadw yn edrych ar hyn ar frys i geisio mynd i'r afael ag ef, a rhoi esboniad i'r Senedd ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd.

14:50

Yn sicr byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Cadw, Dawn Bowden, ymchwilio i hyn ac adrodd i'r Aelodau cyn gynted ag y bo'n bosibl.

Nos Sul, Trefnydd, roedd darllediad Boris Johnson ar deledu pobl Cymru yn dweud y byddai pawb yn derbyn trydydd brechiad erbyn diwedd y flwyddyn. Nawr, ar y pryd, roedd hwnna'n gyhoeddiad ar gyfer Lloegr yn unig, ac nid dyma'r tro cyntaf i'r Prif Weinidog wneud datganiad a gafodd ei ddarlledu ar setiau teledu yng Nghymru doedd ddim yn berthnasol i ni. Roedd yr un ym mis Mai lawer gwaeth, wrth gwrs, pan gyhoeddodd Mr Johnson bod y cyngor wedi newid o aros gartref i slogan amwys. Nid oedd y cyhoeddiad hwn yn weithredol yng Nghymru. Y cyngor yma oedd y dylai pawb barhau i aros gartref, ac nid oedd esboniad ar y pryd nad oedd y cyhoeddiad yn berthnasol i Gymru. Rwy'n credu ei fod yn amlwg bod angen newid yn y rheolau darlledu er mwyn atal gwybodaeth anghywir rhag gael ei chyhoeddi yma ac achosi dryswch, os nad perygl. Rwy'n falch felly fod y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth yn cynnwys ymrwymiad i edrych ar sefydlu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, gan y gallai'r corff hwn ystyried argymell newid o'r fath. A fyddai modd i'r Llywodraeth amserlennu datganiad ar hyn rywbryd yn y flwyddyn newydd, os gwelwch yn dda, er mwyn rhoi manylion am y camau nesaf? 

Diolch. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, pan fydd Prif Weinidog y DU yn gwneud y cyhoeddiadau hyn, ei fod yn ei gwneud yn glir iawn ei fod, ar yr achlysur penodol hwnnw, yn siarad ar ran pobl Lloegr, a dyna pam yr oedd yn dda iawn gweld ein Prif Weinidog ni yn annerch pobl Cymru mewn modd tebyg nos Lun. Mae'r pwynt yr ydych chi'n ei godi, fel yr ydych chi'n ei ddweud, o fewn y cytundeb cydweithredu rhwng plaid Delyth Jewell a fy mhlaid i, ac rwy'n siŵr, wrth i ni weithio drwy'r 46 o bolisïau, y bydd datganiad yn cael ei ddwyn gerbron y Senedd.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg ynghylch newidiadau arfaethedig y Llywodraeth ar gyfer addysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion yng Nghymru? O 2025 ymlaen, y sôn yw, na fydd ffiseg, cemeg a bioleg yn cael eu cynnig fel pynciau ar wahân mwyach. Yn hytrach, bydd disgyblion yn astudio ar gyfer un dyfarniad gwyddoniaeth integredig sy'n cyfuno'r tri phwnc gyda'i gilydd. Mae hyn wedi arwain at fynegi pryderon bod gwyddoniaeth yn cael, ac rwy'n dyfynnu, 'ei gorsymleiddio', ac mae gan athrawon lawer o bryder am y cwricwlwm newydd. Mae pynciau gwyddoniaeth ar wahân ffiseg, cemeg a bioleg wedi bod yn rhan o'r cwricwlwm ers blynyddoedd maith, ond mae'n ymddangos bod cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau'r cyfle i ddisgyblion yng Nghymru astudio'r gwyddorau penodol hyn yn gyffredin. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog yn gynnar y flwyddyn nesaf ar sut y mae'n bwriadu sicrhau bod safonau addysg gwyddoniaeth yn cael eu cynnal, ac na fydd ei gynnig yn golygu bod gwyddonwyr o Gymru yn y dyfodol, fel Dr Lyn Evans, a arweiniodd arbrofion ar y gwrthdrawydd hadron, yn dod yn fwyfwy prin? Diolch.

Fel rhan o'r cyhoeddiadau sydd wedi eu gwneud, yn sicr nid yw gwyddoniaeth yn cael ei gorsymleiddio. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cryn dipyn o waith ac adnoddau i hyrwyddo pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ar draws pob oedran. Fel y gwyddoch chi, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud llawer o ddatganiadau yn y Siambr, ac yn sicr ar y cwricwlwm ei hun, ac rwy'n siŵr y bydd yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau os oes angen rhagor o wybodaeth.

Trefnydd, hoffwn i gael datganiad ysgrifenedig, os gwelwch yn dda, ynglŷn â darpariaeth o barthau 20 mya mewn ardaloedd lled wledig, yn ogystal â sicrhau bod gyrrwyr yn cadw at y terfyn cyflymder hwnnw. Yn ddiweddar, dwi wedi cwrdd â chynrychiolwyr a thrigolion pentref Gwaelod-y-garth yn ngogledd-orllewin Caerdydd, ac maen nhw'n brwydro i sicrhau mwy o ddiogelwch i gerddwyr, yn enwedig yr henoed a phlant, sy'n gorfod cerdded trwy'r pentref i ddal y bws i'r ysgol uwchradd. Does yna ddim pafin mewn sawl man yn y pentref, ac, am resymau amlwg felly, maen nhw moyn parth 20 mya trwy'r pentref er mwyn ei wneud yn fwy diogel. Ond, fel y gwyddoch chi, Trefnydd, un peth yw cael y terfyn cyflymder; peth arall yw sicrhau bod gymaint o bobl â phosib yn cadw at y cyflymder hwnnw, ac mae hynny yn achosi pryder mewn llefydd ble mae parth 20 mya yn bodoli hefyd yng ngogledd-orllewin Caerdydd, yng Nghreigiau. Felly, a oes modd cael datganiad ysgrifenedig ynglŷn â'r materion hyn, plîs?

14:55

Felly, rwy'n ceisio cofio pryd cawsom ni ddatganiad—rwy'n credu mai datganiad ysgrifenedig ydoedd—ar barthau 20 m.y.a. gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ond nid wyf i'n credu bod hynny'n rhy bell yn ôl. Felly, nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw ganllawiau na rheoliadau eraill sydd wedi dod i rym o ran y parthau 20 m.y.a. ond, os oes, byddaf yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog wneud datganiad ysgrifenedig.

Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddarparu cymorth i deuluoedd cyn-filwyr â chyflyrau iechyd meddwl. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth The Forces in Mind eu hadroddiad newydd, gan ddatblygu model y Gwasanaethau Dulliau Adferol Cyn-filwyr a Theuluoedd. Roedd hyn yn dilyn astudiaeth werthuso dair blynedd, a gafodd ei chynnal gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd, o wasanaeth newydd, y Gwasanaeth Dulliau Adferol Cyn-filwyr a Theuluoedd, neu RAVFS, sy'n defnyddio ymgysylltiad adferol i helpu cyn-bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd i wella eu perthnasoedd, eu cyfathrebu a'u gweithredu teuluol. Mae'r gwasanaeth newydd arloesol hwn yn cael ei darparu gan elusen plant Cymru TGP Cymru, a chafodd ei ddatblygu ar y cyd â GIG Cyn-filwyr Cymru. Fel y mae'r Ymddiriedolaeth The Forces in Mind yn ei ddweud,

'ar hyn o bryd mae bwlch yn narpariaeth y cymorth i deuluoedd cyn-filwyr sydd â chyflyrau iechyd meddwl.'

Mae eu datganiad polisi ar berthnasoedd yn amlinellu, er bod cymorth ar gael i gyn-filwyr, mae eu teuluoedd yn aml yn cael eu hanghofio. Maen nhw'n argymell cymorth mwy integredig i deuluoedd mewn gwasanaethau iechyd meddwl cyn-filwyr, a mwy o gyfranogiad gan y teulu wrth bontio o fywyd milwrol i fywyd teuluol. Mae canfyddiadau'r astudiaeth hon yn awgrymu y gallai gwasanaethau fel yr RAVFS helpu i ddarparu'r cymorth coll hwn a galw am gyflwyniad ehangach, efallai i boblogaeth GIG Cyn-filwyr Cymru, ar draws holl fyrddau iechyd lleol Cymru. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.

Diolch. Rwy'n credu bod Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig, a byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn darparu llawer iawn o wasanaethau ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus i'n cyn-filwyr, y mae'n amlwg bod arnom ni ddyled o ddiolchgarwch iddyn nhw. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog gwasanaethau iechyd meddwl yn ymwybodol o'r adroddiad. Efallai pan fydd hi wedi ei ystyried y gallai hi gael sgwrs â'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, i weld a oes modd gwneud unrhyw beth arall.

Trefnydd, dwi'n siŵr bydd nifer o fy nghyd-Aelodau yn ymwybodol, ond mae'r rhestrau aros gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed i bobl gael asesiadau niwroddatblygiadol megis ADHD ac awtistiaeth yn gallu bod yn erchyll o hir, gyda nifer o bobl o fewn ffiniau bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cysylltu â mi am gymorth ar ôl bod yn aros dros ddwy flynedd am asesiad. Golyga hyn fod gyda ni bobl ifanc yn eu harddegau sydd yn mynd i fod yn gorffen eu haddysg cyn eu bod yn cael asesiad, gan olygu eu bod yn colli allan yn llwyr ar gefnogaeth hanfodol ar amser tyngedfennol. A gawn ni ddiweddariad yn y tymor newydd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, neu ei dirprwyon, am y sefyllfa o ran CAMHS yng Nghanol De Cymru a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau asesiadau o fewn amser rhesymol i blant a phobl ifanc? Nid yw dwy flynedd yn rhesymol, ac mae hyn yn effeithio nid yn unig ar blant a phobl ifanc a'u teuluoedd rŵan, ond hefyd ar eu dyfodol.

Diolch. Wel, rwy'n cytuno; mae dwy flynedd yn amser hir ym mywyd unrhyw un, ond yn sicr ym mywyd person ifanc, ond byddwch chi'n ymwybodol o'r pwysau sylweddol ar ein GIG, nid yn unig yn eich rhanbarth chi ond ledled Cymru ac yn wir y DU. Rwy'n gwybod bod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â'r byrddau iechyd, mewn cysylltiad â CAMHS, a bod cyllid yn cael ei gyflwyno hefyd.

Erbyn hyn, mae gennym ni gytundeb cydweithredu sy'n nodi diwygiadau sy'n swnio'n uchelgeisiol. Mae symud at wasanaeth gofal cenedlaethol yn syniad diddorol, a hoffwn i chi drefnu amser i'r Dirprwy Weinidog gofal cymdeithasol amlinellu'r hyn y mae gwasanaeth gofal cenedlaethol yn ei olygu, y canlyniadau yr ydym ni'n eu disgwyl i bobl, a rhan llywodraeth leol, sydd wedi brwydro'n galed ers blynyddoedd i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da ar adeg o gyfyngiadau cyllidebol tynnach byth. A all y Gweinidog gadarnhau y bydd y gwasanaethau sydd wedi eu comisiynu gan lywodraeth leol y rhai mwyaf modern, neu a ydym ni'n wynebu ad-drefnu mawr o'r hyn y mae llywodraeth leol yn gyfrifol amdano?

15:00

Diolch, ac rydych chi'n iawn, mae gwasanaeth gofal cenedlaethol yn rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru. Rwyf i o'r farn y bydd manteision enfawr iddo ar gyfer pobl y mae angen gofal arnyn nhw, a bydd yn amlwg yn cefnogi'r gweithlu ymroddedig sydd gennym ni yn y sector.

Byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi cyhoeddi £42 miliwn o gyllid yn ddiweddar ar gyfer gofal cymdeithasol. Fe fydd hwnnw'n cael ei ddefnyddio i ehangu gwasanaethau gofal cymdeithasol cymunedol, bydd yn hwyluso'r broses o ryddhau cleifion ysbyty i leoliadau gofal ac yn cefnogi llesiant defnyddwyr ein gwasanaethau gofal cymdeithasol, a bydd â'r fantais hefyd o leihau aildderbyniadau i ysbytai ac yn rhyddhau pwysau ar niferoedd y gwelyau sydd ar gael. Rydym ni'n gwybod bod y galw am ofal cymdeithasol yn cynyddu yn ystod y gaeaf, ac unwaith eto ym mis Medi fe wnaethom ddyrannu £48 miliwn i gefnogi adferiad gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd rydym ni'n edrych ar sut y byddwn yn datblygu'r gwasanaeth gofal cenedlaethol. Mae cyngor gan y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol wedi llywio ein hystyriaethau, ac mae rhai awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r sector annibynnol eisoes ar gynyddu cyflogau, ac rwyf i o'r farn bod hynny i'w annog hefyd i raddau helaeth iawn.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Llunio Dyfodol Cymru—Pennu cerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol

Ac felly rydyn ni'n symud ymlaen i'r eitem nesaf, sef eitem 3. Hwn yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar lunio dyfodol Cymru, sef pennu cerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Rwy'n galw ar y Gweinidog felly i wneud y datganiad yma. Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'i saith nod llesiant, mae gennym ni fframwaith ar gyfer dyfodol Cymru: Cymru gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, a Chymru y byddem ni'n dymuno ei rhoi yn etifeddiaeth i'n plant a'n hwyrion.

Mae gan bob un ohonom ni ran mewn amddiffyn a gwella ein cenedl. Elfen bwysig o hynny yw ystyried sut yr ydym ni am osod y sylfeini gyda'n gilydd yn awr ar gyfer y Gymru well yr ydym ni'n ei dymuno yn y dyfodol. I Lywodraeth Cymru, mae ein gwaith ni o lunio rhaglen waith Cymru yn y dyfodol yn ymwneud â'n symud ni'n agosach at Gymru sy'n well i bawb. Rydym ni'n gosod cerrig milltir cenedlaethol yng nghyd-destun ein hadferiad parhaus ar ôl pandemig COVID-19 yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach.

Ym mis Chwefror, fe wnaethom ni ymrwymo i fap ffyrdd ar gyfer pennu cerrig milltir cenedlaethol cyntaf Cymru, gan ddiweddaru'r dangosyddion cenedlaethol a chyhoeddi adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Rwy'n falch iawn o fod yn siarad heddiw wrth i ni gyflawni'r tri ohonyn nhw a chyhoeddi ein hymateb i'r ymgynghoriad a'n dadansoddiad annibynnol.

Uchelgais y Llywodraeth yw i'r cerrig milltir cenedlaethol hyn ysgogi gweithredu cydweithredol a bod yn fesur allweddol o gyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen mewn nifer o feysydd allweddol. Yn eu hanfod, eu bwriad yw ysgogi cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, ac maen nhw'n adlewyrchu ein penderfyniad ni i wneud hyn. Yn dilyn ein rhaglen ymgysylltu â rhanddeiliaid ac o ganlyniad i'r ymatebion i'n proses ymgynghori ffurfiol, rydym ni wedi mireinio ein cerrig milltir cenedlaethol a'n cyfres o ddangosyddion cenedlaethol, ac rydym ni wedi eu cyflwyno heddiw.

Dirprwy Lywydd, rydym ni'n ymrwymo i ddileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac o ran anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Mae gwaith teg a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ein gweledigaeth ni o Gymru sy'n cydnabod bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym myd gwaith yn hanfodol i gymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial heb unrhyw ystyriaeth o'u cefndir na'u hamgylchiadau. Rydym ni'n gosod targed o 75 y cant o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru i fod â chymwysterau lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Rydym ni'n gwybod bod pobl sydd â chymwysterau a sgiliau lefel uwch yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth barhaus, gydag enillion a chyflog mwy, yn enwedig i'r unigolion hynny o ardaloedd difreintiedig. Oherwydd hyn, rydym ni hefyd yn bwriadu lleihau canran yr oedolion o oedran gweithio nad oes ganddyn nhw ddim cymwysterau i 5 y cant neu'n is ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050.

Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sylweddol o'r math hwn rhwng gwahanol ardaloedd yng Nghymru yn un o uchelgeisiau sylfaenol y Llywodraeth hon a byddwn ni'n mesur cynnydd hirdymor drwy gyfrwng y cerrig milltir cenedlaethol. Bydd ein carreg filltir genedlaethol sy'n canolbwyntio ar sicrhau y bydd o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050 yn mesur y camau sydd wedi eu cymryd i gefnogi pobl ifanc yn ystod cyfnod tyngedfennol yn eu bywydau. Rydym ni'n gwybod bod cyfnodau o anweithgarwch economaidd yn gynnar ym mywyd gwaith unigolyn yn cael effaith niweidiol, a bod pobl ifanc wedi bod yn arbennig o agored i newidiadau o ran cyflogaeth yn sgil pandemig COVID-19.

Rydym ni'n awyddus i weld pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i fod mewn gwaith cynaliadwy o ansawdd da heb unrhyw ystyriaeth i'w hoedran nac ymhle maen nhw'n byw. Dyna pam rydym ni'n ymrwymo i ddileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chodi cyfranogiad grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur.

Fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni weithredu bob amser i ddiogelu iechyd a llesiant pobl Cymru a'n huchelgais ni yw dileu'r cyfan sy'n rhwystro plant rhag cael y dechrau gorau posibl i'w bywydau o ran iechyd. Rydym ni'n gwybod hefyd fod arferion da mewn plentyndod yn aml yn datblygu yn ddewisiadau iach gwell ymysg oedolion. Dyna pam rydym ni'n gosod targed i gynyddu canran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant erbyn 2035 a mwy na 99 y cant erbyn 2050.

O feddwl am ein cyfrifoldeb byd-eang ehangach, rydym ni'n ymrwymo i sicrhau y bydd Cymru dim ond yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau'r byd erbyn 2050. Mae hon yn elfen bwysig o'n gweledigaeth ar gyfer datblygu Cymru gynaliadwy a chadarn ac o'n hymateb parhaus ni i'r argyfwng hinsawdd a natur, gan amddiffyn ein hadnoddau naturiol a mwyaf gwerthfawr. Rydym ni'n addo cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net yng Nghymru erbyn 2050 ac mae'r garreg filltir genedlaethol hon yn adleisio'r targedau presennol yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a'i nod yw annog a galluogi pawb yng Nghymru i chwarae eu rhan wrth leihau allyriadau, gan ein bod ni'n gwybod y bydd newidiadau cymdeithasol ac ymddygiadol yn hanfodol i gyflawni ein hamcanion. Byddwn ni hefyd yn parhau i archwilio sut y gellid cyrraedd y targed pwysig hwn yn gyflymach byth.

Rydym ni'n mynegi o'r newydd ein hymrwymiad i ddiogelu a meithrin twf y Gymraeg drwy sefydlu carreg filltir genedlaethol i gefnogi miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'n hunaniaeth a'n diwylliant ni yng Nghymru ac rydym ni wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i weld yr iaith yn ffynnu a'i hamddiffyn hi.

Ochr yn ochr â'r cerrig milltir cenedlaethol, rwyf i hefyd wedi gosod cyfres wedi ei diweddaru o ddangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd sy'n mesur cynnydd Cymru tuag at y nodau llesiant. O ganlyniad i'r adborth a gawsom yn yr ymgynghoriad, mae'r rhain yn cynnwys mesurau newydd o ran cyfiawnder, teithio, costau tai a chynhwysiant digidol—bob un ohonyn nhw'n faterion y dywedwyd wrthym ni eu bod nhw'n chwarae rhan bwysicach yn ein llesiant cenedlaethol yn awr nag yn y cyfnod cyn y pandemig. Bydd y gyfres estynedig hon o ddangosyddion cenedlaethol yn parhau i'n helpu ni i fesur cynnydd tuag at y saith nod llesiant a'n taith ni tuag at fod yn Gymru decach, wyrddach, a mwy llwyddiannus.

Mae heddiw hefyd yn nodi cyhoeddiad rhifyn diweddaraf adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd mewn un man hygyrch wybodaeth awdurdodol am y tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol sy'n debygol o effeithio ar lesiant Cymru yn y dyfodol. Gall gosod y cerrig milltir cenedlaethol, diweddaru ein dangosyddion cenedlaethol, a bwrw golwg o'r newydd ar dueddiadau'r dyfodol sy'n llywio Cymru sicrhau bod y nodau llesiant yn parhau i fod yn berthnasol i fywydau pobl yn awr a'r heriau yr ydym ni'n eu hwynebu heddiw ac yn y dyfodol. Byddwn ni'n rhoi'r diweddariad cyntaf ar y cynnydd tuag at y cerrig milltir cenedlaethol yn adroddiad llesiant Cymru y flwyddyn nesaf, a byddwn yn parhau â'r sgwrs ynglŷn â cherrig milltir cenedlaethol yn 2022 gyda datblygiad yr ail set o gerrig milltir.

Er mwyn i'r cerrig milltir cenedlaethol fod yn llwyddiannus, mae hi'n hanfodol i bob corff cyhoeddus ystyried y ffordd orau y gall gyfrannu atyn nhw. Maen nhw'n rhan bwysig o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac maen nhw'n gosod y sylfeini ar gyfer llwyddiant. Dirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn o fod yn cyflwyno'r cerrig milltir cenedlaethol hyn i'r Senedd; cerrig milltir sydd â chyfiawnder cymdeithasol, trechu tlodi, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn ganolbwynt iddyn nhw. Rwy'n falch ein bod ni, gyda'n gilydd, yn llunio Cymru sy'n fwy cyfiawn, cyfartal a ffyniannus.

15:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw. Hoffwn i ddechrau drwy wneud ychydig o sylwadau am y don gyntaf o gerrig milltir yn y gobaith o ganolbwyntio ar y sail resymegol y tu ôl iddyn nhw ac yn y gobaith o ddarganfod pam y mae'r Gweinidog o'r farn bod y cerrig milltir hyn yn rhai uchelgeisiol, o ystyried yr amserlen 30 mlynedd.

Yn gyntaf, Gweinidog, o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, y mae gennych chi nod i'w ddileu erbyn 2050, mae'r data sy'n cael eu defnyddio yn aml—ac sydd edi eu defnyddio yn adroddiad 'Llesiant Cymru: 2021' hyd yn oed—yn fesur sy'n seiliedig ar enillion canolrifol llawnamser fesul awr. Mae'r mesur syml hwn yn coladu cyflogau dynion a menywod ac yn eu rhannu â 37 i roi cyfradd fesul awr. Yna mae'n ychwanegu data cyflog fesul awr sydd ar gael ar gyfer nifer bach o fusnesau yn unig. Trwy gynnwys y data hyn, rydych chi'n cael eich canolrif neu werth canol y set ddata.

Ond, y broblem o ran defnyddio'r data hyn yw nad yw hynny'n adlewyrchu cymhlethdod y cysylltiadau cyflogau ar draws sector cyflogedig y gymdeithas. Er enghraifft, nid yw'n ystyried profiad, lefel cymhwystra, hawliau buddion ychwanegol, cysylltiadau pensiwn, ac nid yw'n ystyried proffidioldeb busnesau na safonau'r diwydiant hyd yn oed wrth gymharu cyflogau rhwng swyddogion gweithredol cwmnïau.

At hynny, nid yw'n ystyried ymddygiad y rhywiau. Er enghraifft, a yw dynion yn fwy tebygol o deithio'n bellach na menywod i gael gwaith, ac felly'n gallu bod â swyddi sy'n talu'n well? Beth am amrywiadau daearyddol? A yw'r rhai sy'n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn teithio i Loegr am waith ac felly'n cael cyflogau cyfartalog uwch? A yw menywod yn fwy tebygol o newid eu swyddi na dynion ac, o ganlyniad, yn cael mwy o gyflogaeth ar lefel mynediad? Gall y rhestr fynd yn ei blaen. Ond, yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod menywod yn fwy tebygol o fod yn gweithio llai o oriau, yn cefnogi teuluoedd, ac yn cael amser i ffwrdd i gael plant a bod hynny'n cynyddu'r bylchau rhwng y rhywiau yn sylweddol. Ond pa ystyriaeth sy'n cael ei roi o ran a yw hynny'n cael ei adlewyrchu gan ddynion yn y teulu ai peidio, fel gweithio oriau hirach, neu drwy newid swyddi ar gyfer cyflogau uwch i gefnogi eu teuluoedd? Yn y pen draw, mae angen i ni wybod sut y caiff hyn ei ystyried.

Y broblem o ran defnyddio'r garreg filltir hon, yn seiliedig ar ddata crai o'r fath, yw bod y Llywodraeth a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn cyflyru'r gymdeithas—yn enwedig menywod yn y gymdeithas—i feddwl eu bod nhw'n hanfodol yn cael llai o dâl am wneud yr un gwaith â dynion. Ac eto, nid oes gennych chi unrhyw dystiolaeth sylweddol sy'n deall y cymhlethdod o ran y cyflog rhwng y rhywiau, o'r hyn y gallaf i ei weld, i gefnogi hynny mewn gwirionedd. Rwy'n pryderu, wrth barhau i hyrwyddo cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau heb y data angenrheidiol i gefnogi hynny, eich bod chi mewn gwirionedd yn gwneud mwy o ddrwg na da, drwy greu ymraniad nad yw'n bodoli.

O'ch dadansoddiad amrwd iawn chi, rydych chi wedi adrodd bod menywod yn cael eu talu 1.5 y cant yn fwy, ar gyfartaledd, na dynion am waith rhan-amser, sy'n dangos nad yw menywod yn y gweithle yn cael llai o dâl yn ddefodol. Ond, fel y nodwyd eisoes, mae yna ffactorau llawer iawn mwy cymhleth ar waith, y mae angen eu deall. Felly, o ystyried yr amrywiadau parhaus yn y data, efallai eich bod chi'n cyrraedd eich targedau carreg filltir eisoes, ond hyd nes y byddwch chi wedi mesur gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau yn gywir a hynny'n adlewyrchu'r cymhlethdod o ran y rhywiau yn y gweithle, ni fyddwch chi byth yn gwybod, sy'n golygu yn y pen draw fod cynnwys y garreg filltir hon yn ddibwrpas.

Yn fy nhyb i, byddai cael cyfradd cyflogaeth o 60 y cant ar gyfer pobl anabl yn garreg filltir fwy ystyrlon. Nawr, byddai honno yn garreg filltir uchelgeisiol. I osgoi amheuaeth, hoffwn i dynnu sylw—ac rwy'n awyddus i'w roi ar gofnod—fy mod i'n credu yn angerddol y dylai pawb gael cyflog cyfartal am waith cyfartal, ni waeth beth fo'u rhywedd, eu hil, eu hanabledd neu eu crefydd. Rwy'n gwneud y sylwadau hyn gan fy mod i, yn anffodus, yn gweld y posibilrwydd y gallai'r Llywodraeth hon ddechrau cynllunio deddfwriaeth yn y dyfodol i gyrraedd ei thargedau, heb eu deall nhw'n iawn.

Yn ail, i ymhelaethu ar y ddadl hon, hoffwn i sôn yn fyr iawn am bwynt sydd wedi ei nodi yn adroddiad 'Llesiant Cymru: 2021', yn yr adran sy'n ymwneud â'r rhywiau, ynglŷn ag addysg. Adroddir bod cyfran uwch o ferched na bechgyn yn cyflawni'r deilliannau disgwyliedig o'r cyfnod sylfaen hyd at gyfnod allweddol 3. Mae merched yn dal i gael gwell canlyniadau addysgol mewn TGAU hefyd, ac mae cyfran uwch ohonyn nhw, rhwng 16 a 18 oed, yn aros mewn addysg amser llawn o'u cymharu â bechgyn. Mae hyn yn wir hefyd am y rhai rhwng 18 a 24 oed.

Yr hyn sy'n fy mhoeni i, a llawer iawn o bobl eraill rwy'n amau, yw a yw gwella addysg merched yn dod ar draul addysg bechgyn ai peidio. Mewn gwirionedd, pe byddai cydbwysedd rhwng y rhywiau, dylech chi bob amser gweld cyfran ychydig yn uwch o ferched neu fechgyn yn ennill graddau uwch mewn unrhyw flwyddyn benodol, ond dros gyfnod penodedig, byddai'r gwahaniaethau hynny'n diflannu ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae'r ffaith eich bod chi'n adrodd am y duedd hon yn golygu ei bod hi'n ymddangos bod dulliau addysgu wedi newid o bosibl i ffafrio merched yn hytrach na bechgyn. Yn bersonol, byddai hi'n dda gen i weld dileu'r bwlch cyrhaeddiad addysgol hwn yn ail don cerrig milltir cenedlaethau'r dyfodol.

Yn drydydd ac yn olaf, rwy'n credu bod ceisio lleihau niferoedd y bobl ifanc 16 i 24 oed nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn nod rhagorol. Rwyf i o'r farn bod grymuso pobl ifanc ag egwyddorion gwaith yn hanfodol i'w helpu nhw i gyrraedd eu potensial gorau. Fel gwyddom ni, mae astudiaethau wedi dangos y gall amser a gaiff ei dreulio fel NEET fod ag effaith niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol, a'i fod yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddiweithdra, cyflogau isel neu waith o ansawdd isel yn ddiweddarach mewn bywyd. Ond y targed yr ydych chi wedi ei osod ar gyfer 2050 yw lleihau niferoedd y NEET i ddim ond 10 y cant ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed, ac o gofio mai targed 30 mlynedd yw hwn, nid oes fawr o uchelgais yma, yn arbennig o gofio bod y niferoedd presennol o NEET eisoes ar 10.6 y cant yn Lloegr. Gweinidog, nid yw bod â tharged o 10 y cant yn garreg filltir mewn gwirionedd, onid yw hi? Mae'n weddol ddiystyr, o gofio mai'r sefyllfa bresennol yng Nghymru, o 2020, yw bod 13.9 y cant o bobl 16 i 24 oed—

15:15

—yn NEET. Unwaith eto, o ystyried nad yw'r data samplu yn ystyried cymhlethdod y data mewn modd cywir, er enghraifft o ran symudedd cymharol pobl ifanc a'r rhai sy'n mynychu addysg bellach, colegau neu ysgolion annibynnol, fe allai canran y bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n NEET mewn gwirionedd fod yn llawer is eisoes ac, mewn theori, efallai fod wedi cyrraedd y targed yn barod. Mae hyn yn awgrymu nad oes gan y Llywodraeth lawer o syniadau, ei bod yn pennu targedau y mae'n rhagweld y gall eu cyrraedd yn hawdd fel na ellir ei beirniadu am fethu, ac yn y pen draw, y cyfan y mae'n ei wneud yw esgus gwella bywydau unigolion ledled y wlad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gyda hynny mewn golwg, hoffwn i achub ar y cyfle i ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r Gweinidog, gan fy mod i'n credu mai yfory yw hynny. Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn i chi, Joel, a diolch i chi am eich dymuniadau da. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi pam yr ydym ni'n datblygu'r cerrig milltir cenedlaethol hyn yn ei gyd-destun. Maen nhw'n pennu ein disgwyliadau o ran cynnydd yn ôl y dangosyddion cenedlaethol, ac maen nhw yn ein helpu i ddeall maint a chyflymder presennol y newid, ac a ydym ni ar y trywydd iawn. Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf am ein sefyllfa ni heddiw, wrth i mi wneud y datganiad hwn, yw ei bod hi'n deillio o ymgynghori helaeth, ymgynghoriad ag ymateb da. Rwy'n credu eu bod nhw i gyd wedi eu cyhoeddi heddiw—rydych chi wedi gweld yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Mae'r ymgynghoriad hwnnw yn nodi cynigion ar gyfer y naw carreg filltir genedlaethol yr ydym ni'n eu hystyried heddiw, sy'n cynorthwyo Gweinidogion Cymru, a phob corff cyhoeddus hefyd, i asesu cynnydd tuag at y nodau llesiant.

Roedden nhw'n sylwadau diddorol, yn fy marn i, ynghylch dileu'r bwlch cyflog—sylwadau diddorol sydd, o ran yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn awgrymu bod cefnogaeth frwd iawn i amcan a phwyslais y garreg filltir genedlaethol hon, gyda 95.4 y cant o'r ymatebion yn cytuno â'r ymateb cyffredinol. Rwy'n credu os byddwch chi'n edrych ar ganlyniad yr ymgynghoriadau, daeth yr ymatebion o'r trydydd sector, er enghraifft—daeth cyfran fawr o'r trydydd sector, tua thraean o'r ymatebion, daeth y sector cyhoeddus, yn ogystal ag unigolion, addysg uwch, undebau llafur, amrywiaeth eang o randdeiliaid eraill ymlaen i ymateb i'r ymgynghoriad. Ond byddaf i yn dweud, o ran y materion penodol ynglŷn â'r bwlch cyflog, fod hyn yn bwysig iawn o ran dileu'r bwlch cyflog, ac mae hi'n bwysig ei fod ymwneud ag ethnigrwydd yn ogystal ag anabledd. Fe wnaethoch chi ganolbwyntio ar faterion y rhywiau. Rwyf i o'r farn ei fod hefyd yn ymwneud â chydnabod ein bod ni'n gweithio i sicrhau data mwy cadarn a dibynadwy ar y bwlch cyflog, ac yn enwedig ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig, gan fy mod i'n gwybod, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, eich bod chi'n awyddus i sicrhau bod hyn yn ymwneud â chael ymateb teg a chyfiawn i'r garreg filltir hon o ran dileu bylchau cyflog, sy'n hanfodol bwysig fel y gwyddom ni. Byddwn ni bob amser yn ailedrych ar gerrig milltir wrth i ddata ddod ar gael, yn arbennig o ran y nodweddion gwarchodedig.

Mae hyn yn ymwneud ag ymdrechu ar y cyd. Ie, i lawer, efallai fod 2050 yn ymddangos yn bell i ffwrdd, ond mae'n gymaint o fater gan fod y bwlch cyflog mor sefydledig fel na allwn ei ddatrys dros nos. Nid oes gennym ni'r holl ysgogiadau polisi, fel cyfraith cyflogaeth, sydd wedi ei chadw, ac mae yna lawer iawn o ffactorau economaidd-gymdeithasol ehangach hefyd o ran cyflawni'r cerrig milltir. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch iawn o glywed ein bod ni'n sefydlu uned data cydraddoldeb, ac yn gweithio gyda dadansoddwyr eraill i ystyried gwella'r dystiolaeth o ran y data sydd eu hangen. Ond byddwn i'n dweud, yn enwedig o ran dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, fod adolygu hynny, gan weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, EHRC Llywodraeth y DU, yn hanfodol bwysig. Rydych chi wedi canolbwyntio ar y rhywiau. Ym mis Ebrill 2021, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, ar sail enillion canolrifol llawnamser fesul awr, yn 5 y cant, a heb newid ers 2020. Ar gyfer gweithwyr rhan-amser yng Nghymru, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau oedd 0 y cant, ac o'r 11 o wledydd a rhanbarthau yn y DU lle mae dynion yn ennill mwy na menywod, Cymru sydd â'r bwlch cyflog lleiaf ond un. Ond mae gennym ni fwlch cyflog mawr o ran anabledd, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n cydnabod hynny. Yn ogystal â hynny, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â bwlch cyflog ethnigrwydd hefyd.

Rwy'n falch eich bod wedi canolbwyntio, hefyd, ar y garreg filltir i gael o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Dyma le mae angen i ni edrych hefyd ar y rhagolygon nid yn unig ar gyfer cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2018, ond gan gydnabod hefyd y bydd cyflogadwyedd ein pobl ifanc yn gwella'n fawr o ganlyniad i'r warant i bobl ifanc ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig hefyd. Ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n edrych ar y gyfres o arolygon blynyddol y boblogaeth, a gaiff ei dadansoddi yn ôl oedran ac anabledd, ac edrych ar hyn o ran rhywedd, oedran, anabledd, ethnigrwydd. Mae'n rhaid i ni edrych ar y materion o ran cydraddoldeb, hefyd, i gyflawni hyn. Byddwn ni'n edrych, rwy'n siŵr, ar adroddiad 'Llesiant Cymru' y flwyddyn nesaf, oherwydd bydd hwnnw wrth gwrs yn dechrau nodi a ydym ni'n gweld unrhyw gynnydd a sut yr ydym yn gwneud cynnydd—a hynny ar gyfer Cymru gyfan; ein holl gyrff cyhoeddus—o ran y cerrig milltir cenedlaethol hyn.

15:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r dyhead i greu Cymru gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, y weledigaeth y mae'r Gweinidog wedi ei datgan, yn llywio'r fframwaith sydd wedi ei ategu gan y cerrig milltir a'r dangosyddion sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n siŵr y gall Aelodau o bob plaid gytuno arno. Ond mae'r dyfodol, wrth gwrs, yn ansicr, gyda'r pandemig sy'n parhau o hyd ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, dau ffactor yn unig sy'n newid ein rhagolwg ar y dyfodol hwnnw a'n gallu i'w llunio.

Os mai nod y cerrig milltir cenedlaethol yw pennu llwybr ar gyfer cynnydd Cymru, gan ddefnyddio'r mesurau a fydd yn sicrhau bod y polisïau y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud yn gweithio tuag at y Gymru gryfach, decach a gwyrddach honno, yna mae'n rhaid i ni eu gweld nhw nid yn unig yn llywio polisi ond yn amlwg yn y canlyniadau hefyd. Dylai nod y cerrig milltir cenedlaethol fod i ddangos i bobl Cymru pa gynnydd y mae angen ei wneud o ran y nodau llesiant a'r hyn sy'n cael ei gyflawni, a bod yn fodd i gyfathrebu hefyd sy'n caniatáu i'r cynnydd hwnnw fod yn amlwg yn ein bywydau bob dydd.

Pan fo cymaint o bolisïau'r Llywodraeth yn cael eu cyflawni gan awdurdodau lleol, efallai mai'r darlun lleol yn hytrach na'r un cenedlaethol sydd fwyaf ystyrlon yn aml. Mae'r garreg filltir genedlaethol i greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, er enghraifft, sydd wedi ei mynegi eto heddiw, yn cael ei thanseilio mor aml gan gynllunio gwael a diffyg uchelgais ar lefel leol o ran darpariaeth addysg Gymraeg. Mae'r Gweinidog wedi cydnabod yr anghydraddoldebau sylweddol rhwng gwahanol ardaloedd Cymru, ac mae yna wahaniaethau hefyd o ran y cyflawni sy'n cyfrannu at hyn. A allai setiau data lleol o fewn y dangosyddion ganiatáu i bobl gymharu a chyferbynnu perfformiad yn eu hardaloedd nhw eu hunain a gadael iddyn nhw farnu a yw'r ymdrechion cenedlaethol i lunio'r Gymru y mae llawer ohonom ni'n dymuno ei gweld yn arwain at newid yn eu cymunedau lleol? A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut y caiff y darlun lleol, neu sut y gallai'r darlun lleol, gael ei adlewyrchu yn y dangosyddion a'r rhaglen waith ehangach i Lywio Dyfodol Cymru?

Rwy'n croesawu'r ymrwymiad o ran y targed sero net, sydd wedi ei gynnwys, wrth gwrs, yn y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, ac rwy'n annog i'r gwaith i gyflymu'r targed hwnnw y soniodd hi amdano fod â blaenoriaeth lawn, gan gynnwys datganoli rhagor o bwerau a allai ein galluogi i'w gyrraedd yn gyflymach, oherwydd efallai mai dyma darged pwysicaf ein hoes ni. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ymgais i fynd i'r afael â mater y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac anghydraddoldeb mewn cyflogaeth. Er hynny, gan mai un o'r nodau llesiant yw Cymru fwy cyfartal ac mae lles menywod yn ymestyn y tu hwnt i gynhwysiant economaidd, a allai'r Gweinidog amlinellu sut y caiff diogelwch menywod a'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol eu cynnwys yn adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol', polisïau'r dyfodol, a'r dull hwn o lywio dyfodol Cymru?

Mae'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru wedi aros o gwmpas 30 y cant ers dros ddegawd. Yn y cyfamser, mae tuedd i weithwyr anabl ennill llai na phobl nad ydyn nhw'n anabl, ac mae hyn wedi aros yn yr unfan ers nifer o flynyddoedd. Rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn cyfeirio at hynny heddiw yn ei datganiad a'i hymateb i Joel James, oherwydd rydym ni'n gwybod bod pobl anabl yn wynebu costau byw llawer uwch oherwydd eu hanableddau neu eu cyflyrau, sy'n gwneud y nod hwn o ddileu'r bwlch cyflog anabledd yn bwysicach byth. O gofio mai dim ond yn 2019 y cafodd y bwlch cyflog anabledd ei ychwanegu at ddangosyddion llesiant cenedlaethol Cymru, beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i ddileu'r mater treiddiol hwn yn unol â'r nodau llesiant cenedlaethol?

Ym mis Rhagfyr 2020, canfu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol nad oedd ystyriaethau ar gyfer pobl anabl yn cael eu cynnwys mewn strategaeth a pholisi trafnidiaeth yng Nghymru. Felly, rwy'n falch o glywed bod mesurau newydd ynglŷn â theithio wedi eu cynnwys o ganlyniad i adborth yr ymgynghoriad. Ar hyn o bryd, nid yw'r system drafnidiaeth yng Nghymru o safon ddigonol ar gyfer anghenion pobl Cymru, nac ar gyfer targedau sero net, a dyna pam mae hi'n bwysig ei bod yn cael ei chynnwys yn un o'r dangosyddion erbyn hyn. Serch hynny, fe ddylai unrhyw ddangosydd ynghylch teithio ystyried hygyrchedd a dibynadwyedd i bobl anabl hefyd, oherwydd bydd hyn yn allweddol ar gyfer sicrhau cynhwysiant economaidd a chymdeithasol. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog roi sicrwydd i ni fod hyn yn wir? Diolch.

15:25

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch i chi am y gefnogaeth i'r rhaglen uchelgeisiol iawn hon, i sicrhau ein bod ni yn bwrw ymlaen â hyn o ran y weledigaeth sydd gennym ni o Gymru decach, fwy cyfiawn a gwyrddach. Oherwydd bod hyn yn ymwneud â chenedlaethau'r dyfodol. Yn wir, mae datganiad heddiw yn arwyddocaol iawn. Dyma'r cerrig milltir cenedlaethol cyntaf erioed yr ydym ni'n adrodd arnyn nhw heddiw, yr ydym ni'n eu datgan heddiw, a fydd yn ein harwain ni, Gymru gyfan. Rwy'n credu bod eich pwynt mai cerrig milltir cenedlaethol yw'r rhain, i ddwyn rhywfaint o gysondeb ar lefel leol, lle rydym ni yn gweld y ffaith bod angen i ni ymgysylltu drwy ein cyrff cyhoeddus sydd â'r dyletswyddau llesiant drwy—yn wir, hefyd, drwy'r gwaith y maen nhw'n ei wneud drwy eu byrddau gwasanaethau cyhoeddus gyda'u partneriaid, oherwydd nid un corff cyhoeddus yn unig a fydd yn gwneud y gwahaniaeth.

Mae sefydlu'r cerrig milltir cenedlaethol hynny i Gymru, ochr yn ochr â'r dangosyddion cenedlaethol, yn cynnig mecanwaith cadarn i gynorthwyo Gweinidogion, yn enwedig wrth fonitro cynnydd cenedlaethol. Mae hynny'n hollbwysig o ran yr holl gerrig milltir a'u hamcanion i gyflawni ein saith nod llesiant. Ond mae hi'n hanfodol bod gan y cyrff cyhoeddus hynny y llwybr clir hwnnw hyd at 2050, ac yn uno gyda gweledigaeth unedig iawn i weithio tuag ati. Wrth gwrs, mae hi hefyd yn bwysig ein bod ni'n gallu adeiladu ar hyn o ran ein cytundeb cydweithredu ni, oherwydd bod y rhaglen lywodraethu yn cynnwys llawer iawn o feysydd polisi a fydd yn ein helpu i lwyddo i gyrraedd y cerrig milltir hollbwysig hyn. Mae rhai o'r ymrwymiadau hyn wedi eu hadlewyrchu erbyn hyn yn y cerrig milltir cenedlaethol hyn, wrth gwrs, a gafodd eu pennu cyn, mewn gwahanol ffyrdd, ein cytundeb cydweithredu, ond nawr fe allwn ni adeiladu arnyn nhw, rwy'n gwybod, o ran y ffordd ymlaen.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n codi rhai materion penodol. Mae'r materion sy'n ymwneud â sero net yn hollbwysig o ran y ffordd ymlaen, a'r ffaith ein bod ni'n galluogi hynny i fod yn rhywbeth yr ydym ni am fynd i'r afael ag ef i fod yn rhywbeth y caiff ei adeiladu arno mewn gwirionedd o ganlyniad i'n hymgynghoriadau. Mae'r ymgynghoriadau a ddaeth drwodd ar gyfer y cerrig milltir cenedlaethol yn eglur iawn hefyd, byddwn i'n ei ddweud, o ran bod Cymru yn defnyddio ei chyfran deg yn unig o adnoddau'r byd erbyn 2050. Mae hon yn garreg filltir hollbwysig i'w chysylltu â'n huchelgais sero net. O ran cyflawni hynny, mae'n rhaid i ni edrych ar hynny o ran y cyfleoedd sydd gennym ni. Mae hynny'n eglur. Dyma gyngor diweddaraf ein cynghorwyr arbenigol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ac mae wedi ei gynllunio yn benodol i adlewyrchu'r uchelgais mwyaf posibl, ond mewn gwirionedd yn mynd â hyn ymhellach gyda'r dystiolaeth y byddwn ni'n ei cheisio a'r dystiolaeth y mae angen i ni ei chael. Bob pum mlynedd, mae hi'n ofynnol i ni eisoes, wrth gwrs, gyhoeddi cynlluniau cyflawni pellach sy'n disgrifio yn fanwl ac yn effeithiol sut y byddwn yn cyflawni ein nod sero net. Mae hi mor bwysig bod gennym ni hynny mewn statud, onid yw, ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â hyn a bwrw ymlaen â hyn.

Ac rwy'n falch iawn hefyd eich bod chi wedi canolbwyntio ar y bwlch cyflog anabledd. Rwyf i wedi ymateb i rai o'r materion sy'n ymwneud â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ond, wrth edrych ar y bwlch cyflog anabledd, gyda dadansoddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod bwlch cyflog anabledd yng Nghymru o 9.9 y cant yn 2018, mae hynny'n golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill ar gyfartaledd 9.9 y cant yn llai bob awr na phobl nad ydyn nhw'n anabl. Mae hwnnw'n llai, mewn gwirionedd, y bwlch cyflog, mae'n llai nag ar gyfer y DU gyfan, ac, mewn gwirionedd, hwnnw oedd y pumed lleiaf o 12 gwlad a rhanbarth y DU. Ond mae gennym ni gryn bellter i'w deithio o ran cau'r bwlch cyflog hwnnw, ac, yn amlwg, dyna le mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran y tasglu hawliau anabledd, sy'n cyfarfod bellach—. Ac, wrth gwrs, un o'r pwyntiau a wnes i yn fy natganiad ynglŷn â'r cerrig milltir cenedlaethol yw eu bod wedi eu datblygu yng ngoleuni'r pandemig, yng ngoleuni'r ddealltwriaeth o'r anghydraddoldebau cynyddol a fu i'r rhai mwyaf difreintiedig. A dyna pam mae cysylltu anghydraddoldeb, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, o ran ei effaith ar sut mae hynny'n dylanwadu ar ein cerrig milltir cenedlaethol, mor bwysig.

Ac rwy'n falch hefyd eich bod wedi cydnabod bod rhai cyfleoedd i'w cael gyda'r dangosyddion newydd. Bu ymgynghoriad helaeth yn arwain at ganlyniad heddiw—ymgynghoriad helaeth â'n rhanddeiliaid. Rwyf i wedi disgrifio eisoes sut y gwnaeth pobl gymryd rhan. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod ni, er enghraifft, wedi defnyddio'r grŵp cynghori ar hawliau plant hefyd; cawsom ni sesiwn gyda phanel o bobl ifanc. Fe wnaethon nhw i gyd ymgysylltu â hyn, yn ogystal â gweminarau cyhoeddus a chydlynwyr byrddau gwasanaethau cyhoeddus.

Ond, o ran y dangosyddion newydd, yn enwedig o ran teithio, nid canran y teithiau a wneir drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus, wedi ei chynnwys ar hyn o bryd, mewn trafnidiaeth, hynny yw, o ran y dangosyddion cenedlaethol. Felly, mae hwn yn fwlch y mae angen i ni ei lenwi, ond mae hyn yn ymwneud â sut rydym ni am symud at ddulliau teithio mwy cynaliadwy o ran datgarboneiddio ac iechyd corfforol. Ond yna, wrth gwrs, mae angen i ni edrych ar faterion fel hygyrchedd trafnidiaeth, a chwalu'r rhwystrau penodol hynny, a fydd yn cael sylw yn ein tasglu anabledd, oherwydd yr hyn sy'n allweddol i hyn i gyd, ac sy'n sail i'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud, yw bod hyn yn ymwneud â nodau llesiant sy'n ymwneud â Chymru fwy cyfartal, yn ogystal â Chymru iachach, Cymru gydnerth, a Chymru ffyniannus.

A dyna le mae cyflwyno'r dangosyddion cenedlaethol newydd wedi bod mor bwysig. Felly, o ganlyniad i hyn, dylai hyn gynnwys mwy o gydlyniad cenedlaethol o ran bwrw ymlaen dwyn i gyfrif o ganlyniad i'r cerrig milltir cenedlaethol sy'n gysylltiedig â'r dangosyddion. Bydd hyn yn gosod cyfrifoldeb ar ein hawdurdodau lleol, ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ond hefyd ar bawb sy'n ymwneud â darparu'r cyfleoedd y mae deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn eu cynnig.

15:30

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu bod cyhoeddi'r cerrig milltir hyn yn gam cyffrous iawn, o ran rhoi'r ymdeimlad o ganolbwyntio a bod â ffon fesur i'w defnyddio i fesur y cynnydd. Felly, mae gen i rai cwestiynau ynghylch y cerrig milltir hynny. Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i darged o 75 y cant o oedolion o oedran gweithio i fod yn gymwys hyd lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Serch hynny, sut ydym ni am sicrhau bod pwyslais hefyd ar y prentisiaethau lefel 2 hynny, sydd yn aml yn borth i gymwysterau lefel 3 ac uwch?

Yn ail, rwyf i hefyd yn croesawu'r bwriad i leihau canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau i 5 y cant neu is erbyn 2050. Hoffwn i wybod a fyddai hyn yn cynnwys unrhyw bwyslais ar gynyddu'r ddarpariaeth o ddosbarthiadau sgiliau sylfaenol i oedolion yn y gymuned. Mae wedi ei brofi bod cyrsiau yn y lleoliadau hyn yn hollbwysig i ymgysylltu â'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, felly mae ganddyn nhw ran allweddol, yn fy marn i, wrth gyrraedd y garreg filltir hon.

Ac, yn olaf, mae hefyd yn gadarnhaol gweld y targed i gynyddu canran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant erbyn 2035, a phob un erbyn 2050. Gweinidog, yn y cyd-destun hwn, a fydd pwyslais penodol ar ferched yn eu harddegau, gan fod ymchwil yn dangos yn gyson mai dyma'r grŵp sydd fwyaf tebygol o roi'r gorau i gymryd rhan mewn chwaraeon wedi eu trefnu, yn aml oherwydd pwysau cyfoedion a diffyg hunan-barch? Diolch i chi.

15:35

Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells. Oes, mae yna gyfleoedd pwysig iawn, o ran y cerrig milltir cenedlaethol hyn, i sicrhau bod gennym ni lawer mwy o degwch o ran y gallu i ennill cymwysterau a chyflogaeth. Bydd saith deg pump y cant o oedolion o oedran gweithio yn gymwys hyd at lefel 3 neu uwch erbyn 2050, gan ein bod ni'n gwybod, gyda chymwysterau lefel uwch, fod rhywun yn llawer mwy tebygol o fod mewn cyflogaeth barhaus, ag enillion a chyflogau mwy hefyd. Ond rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni ymestyn allan i'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r cyfle i ennill y sgiliau a'r cymwysterau hynny a phyrth i swyddi sgiliau uwch.

Ac rwy'n credu, os gwnewch chi edrych ar rai o'r lefelau cymwysterau, gan fynd yn ôl i'r cwestiynau blaenorol ynghylch sicrhau bod mwy o gysondeb, yn ogystal â phwyslais daearyddol, ein bod ni'n gallu canolbwyntio ar y rhai y mae angen yr hwb a'r mewnbwn mwy arnyn nhw hefyd, ac yn arbennig o ran y pwyntiau a wnaethoch chi—. Oherwydd bod yn rhaid i ni sicrhau mai pob awdurdod lleol yw hyn—canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau 5 y cant neu'n is; mae pwyslais gwirioneddol ar yr awdurdodau lleol ar gyfer hyn. Ceir amrywio sylweddol. Mae'r cyfrannau uchaf o ran y rhai hynny heb gymwysterau i'w gweld yng nghymoedd y de, yn aml. Ac o ran cyfartaleddau cenedlaethol, dyna y mae angen i ni geisio amdano, er mwyn symud ymlaen. A byddwn yn gweld y gyfran heb unrhyw gymwysterau—bron i bum gwaith yn uwch ar gyfer oedolion sy'n byw yn y 10 y cant o gymdogaethau mwyaf difreintiedig. Felly, bydd y strategaeth cyflogadwyedd y byddwn ni'n ei chyhoeddi yn ystod y gwanwyn yn canolbwyntio llawer mwy ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, darparu cymorth drwy gyfrifon dysgu personol ac, yn fy marn i, ein gwarant i bobl ifanc, a fydd yn hollbwysig i bobl dan 25 oed, fel y gwyddoch chi, ac rydych chi wedi mynegi eich cefnogaeth o ran y materion hynny.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd eich bod chi'n sôn am y cynnydd yng nghanran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant. Ac mae hyn yn ddiddorol, oherwydd rwyf i wedi sôn y bu panel hawliau plant—daeth Cymru Ifanc â phobl ifanc at ei gilydd. Ac o ganlyniad i'r ymgynghoriad, mae'r dangosydd cenedlaethol wedi ei fynegi o'r newydd yn gadarnhaol i ganiatáu pwyslais ar y bobl ifanc nad ydyn nhw'n cynnal unrhyw arferion iach neu dim ond un. Mewn gwirionedd, mae hi hefyd yn bwysig iawn sicrhau bod camau y gellir eu cymryd i ymestyn allan i'r bobl ifanc hynny, yn arbennig menywod ifanc. Felly, materion yw'r rhain sy'n ymwneud â chamau gweithredu sydd gennym ni eisoes, o ran 'Pwysau Iach: Cymru Iach', er enghraifft, sy'n cynnig ystod lawer mwy o faterion i helpu i newid ymddygiad deietegol y boblogaeth. Mae gweithgarwch corfforol, wrth gwrs, yn hollbwysig yn hynny o beth. Ond mae'n ymwneud â sicrhau ein bod ni'n buddsoddi yn ein rhaglen i gyfoethogi gwyliau'r ysgol, yn y gemau stryd yr ydym ni wedi buddsoddi ynddyn nhw, y gronfa chwaraeon cymunedol, ac edrych ar hyn o safbwynt y bobl ifanc hefyd, a dyna pam roedd panel Cymru Ifanc mor bwysig. Diolch i chi.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Nid yw'r un o'r ddwy ohonom ni'n debygol o fod o gwmpas i gael ein holi yn 2050, felly—. Mae hyd yn oed eich targed ar gyfer 2035 ar gyfer gwella arferion iach pobl ifanc 13 mlynedd i ffwrdd. Felly, hoffwn i ofyn i chi ehangu ychydig ar sut yr ydym ni am gael naw o bob 10 o blant yn mabwysiadu dau neu fwy o arferion iach. Rwy'n sylweddoli bod prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ac ymestyn gofal plant i blant dwy flwydd oed yn fannau cychwyn da. Ond mae adroddiad Meilyr Rowlands ar aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, a gyhoeddwyd gan Estyn yr wythnos diwethaf, yn annifyr iawn i'w ddarllen, ac mae hi'n amlwg bod llawer iawn o waith i'w wneud i ddofi agweddau niweidiol ar dechnoleg newydd, yn enwedig ymgysylltu â rhieni a'u hannog nhw i beidio â rhoi'r offer sy'n caniatáu i bornograffi ar-lein fod ar gael i bobl ifanc.

Yn yr un modd, os ydym ni am gael tri chwarter neu fwy o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys hyd at lefel 3, sut bydd hynny yn llywio'r un lefel o sylw y mae angen i ni ei roi i sgiliau technegol, yn hytrach na sgiliau academaidd, yn enwedig o ran sut y mae ysgolion yn hyrwyddo pwysigrwydd y sgiliau hynny? A sut bydd hyn yn llywio'r mesurau yr ydym ni'n eu defnyddio i asesu effeithiolrwydd neu werth ychwanegol ysgolion, yn hytrach na'i bod ychydig yn fwy ar hap na hynny, o ran nifer y plant difreintiedig a allai fod mewn ysgol benodol? Felly, rwy'n credu, yn amlwg—

15:40

—dyma ddechrau'r ddadl, ond, rwy'n credu, pe gallech chi ddweud ychydig mwy am sut y byddwn yn gwella iechyd a lles pobl ifanc mewn gwirionedd, byddai hynny'n fuddiol.

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Ydy, mae 2050 yn teimlo'n bell i ffwrdd, ond mewn gwirionedd yr hyn sydd mor bwysig yw beth rydym ni'n ei wneud o flwyddyn i flwyddyn, a sut rydym ni'n cael ein dwyn i gyfrif a sut y gallwn ni ddefnyddio'r cerrig milltir cenedlaethol a'r dangosyddion cenedlaethol i olrhain cynnydd. Dyna pam mae gennym ni sail statudol i hyn. Byddwn i'n annog cyd-Weinidogion ac Aelodau i edrych ar adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol', oherwydd bod hynny, unwaith eto, yn ddyletswydd statudol, sydd wedi ei chyhoeddi heddiw, ac mewn gwirionedd mae'n helpu ac yn cefnogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru, fel y mae'n ei ddweud, i edrych i'r tymor hwy. Dyma'r adroddiad statudol cyntaf—wel, cafodd yr adroddiad cyntaf o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yr adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol' cyntaf, ei gyhoeddi yn ôl ym mis Mai 2017, ond mae yn rhoi syniad eglur i ni mewn gwirionedd o'r ffordd ymlaen o ran tueddiadau'r dyfodol y mae angen i ni gysylltu â nhw o ran gwneud cynnydd pwysig hwnnw. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr hyn y dylem ni fod yn edrych arno, o ran y tueddiadau hynny yn y dyfodol, i'n galluogi i fynd i'r afael â'r cynnydd. Ac rwy'n credu eich bod chi'n canolbwyntio, yn gwbl briodol, ar ein pobl ifanc a'r genhedlaeth honno, wrth i ni symud ymlaen. Rwyf i wedi ymateb i'r materion sy'n ymwneud ag arferion iach ein pobl ifanc, ac mae angen i ni ymgysylltu â'n pobl ifanc a'n hysgolion, a bydd y cwricwlwm newydd, wrth gwrs, yn ein helpu i symud ymlaen yn y cyswllt hwnnw.

Ond rwy'n credu, o ran canran yr oedolion o oedran gweithio sydd wedi eu cymhwyso i lefel 3 neu uwch erbyn 2050, y bydd hyn yn cael ei arwain gan ein strategaeth cyflogadwyedd newydd i raddau helaeth, ac yn edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael i'n pobl ifanc ar gyfer sgiliau mewn byd newidiol. Mae hynny mewn gwirionedd yn ymwneud â chynyddu ein cymorth ar gyfer sgiliau sylfaenol, sgiliau sylfaen a digidol, a helpu unigolion i gael y sgiliau ar gyfer y byd newidiol yr ydym ni ynddo, gan gynyddu hyblygrwydd y gweithlu, ond ein dysgwyr ifanc wedyn, i ddatblygu'r sgiliau a chael rhai newydd. Ond mae hi, yn amlwg—. O ran yr ymatebion a gawsom ni i'r ymgynghoriad, ystyrir bod hwn yn ganllaw cryf nid i'r Llywodraeth yn unig, ond i'n cyrff cyhoeddus allu canfod y ffordd ymlaen.

Ac rwyf i wedi sôn hefyd am y ffaith ein bod ni wedi newid ein cerrig milltir, yn enwedig o ran arferion iach, i adlewyrchu dull mwy cadarnhaol. Ac rwy'n credu bod cyfranogiad pobl ifanc yn hollbwysig. Mae'n bwyslais ar ddatblygu targedau ac ymyriadau ar gyfer yr arferion allweddol ym mywyd person ifanc, gwelliannau ar lefel ymddygiad, ond yn dangos hefyd, yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, fod yn rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio ar annhegwch, a'r rhai hynny sydd wedi eu gwaethygu yn arbennig sgil y pandemig. Ond a gaf i ddweud ein bod ni'n archwilio opsiynau ar gyfer ymchwil i gael gwell dealltwriaeth o'r ysgogiadau a fydd yn sicrhau ein bod ni'n gallu helpu ein pobl ifanc i allu mabwysiadu'r arferion iach hynny a fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'w bywydau, ond bydd yn rhaid i hynny fod o ganlyniad i ymyrraeth i fynd i'r afael â thlodi. Ac, fel rydych chi'n ei ddweud, mae'n debyg mai darparu ymyrraeth blynyddoedd cynnar o ran gofal plant a phrydau ysgol am ddim yw dau o'r penderfyniadau allweddol pwysicaf yr ydym ni'n gwybod amdanyn nhw ac yr ydym yn gobeithio y byddan nhw'n cael eu gwireddu o ran ein cyllideb a'n cytundeb cydweithredu.

15:45
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu). Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.

Diolch. Ddoe, gosodais i Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), ynghyd â'r memorandwm esboniadol, gerbron y Senedd. Mae datganoli trethi yn bwysig; mae'n darparu ysgogiad sylweddol i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni blaenoriaethau strategol yn well i ddinasyddion a busnesau Cymru. Mae'r pedair blynedd diwethaf o brofiad o ddatganoli trethi wedi galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu gallu treth sylweddol. Rydym ni wedi sefydlu dull penodol i Gymru o lunio polisi treth ac o gyflawni'r polisi hwnnw gan Awdurdod Cyllid Cymru. Mae ein dull gweithredu yn cadw blaenoriaeth ar anghenion dinasyddion, cymunedau a busnesau Cymru.

Mae'r Bil hwn yn darparu ysgogiad cyllidol ychwanegol drwy ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud gwelliannau mewn ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi blaenorol y DU—hynny yw, i dreth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi—a fydd yn effeithio ar addasiad grant bloc Cymru, ac felly'r refeniw sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ar hyn o bryd, bob tro y mae digwyddiad cyllidol yn y DU, rydym ni'n cymryd y risg y gallai fod newid sy'n effeithio ar dreth ddatganoledig, ac efallai nad oes gennym ni'r mecanwaith priodol i ymateb yn gyflym. Gallai newidiadau o'r fath gael goblygiadau i fusnesau, y farchnad eiddo, ac effaith gyllidebol uniongyrchol ar adnoddau Llywodraeth Cymru.

Cafodd hyn ei ddangos ym mis Gorffennaf 2020 pan na ddywedodd Llywodraeth y DU wrthym ni ymlaen llaw eu bod yn torri treth dir y dreth stamp, er gwaethaf y goblygiadau clir i'r farchnad dai yng Nghymru ac adferiad economaidd y DU o'r pandemig. Er y gallwn ni amrywio cyfraddau a throthwyon ar gyfer treth trafodiadau tir drwy reoliadau, ni allwn wneud hyn ar gyfer pob newid.

Caniateir diwygiadau i Ddeddfau trethi Cymru hefyd er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol eraill, fel sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru yn cael eu gosod pan fyddai gwneud hynny'n anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol, er enghraifft, lle mae cytundeb masnach newydd yn dod i ben gyda gwlad arall sydd â goblygiadau i'n trethi.

Bydd hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud newidiadau deddfwriaethol i ddiogelu rhag gweithgarwch osgoi, y gellir ei atal ar unwaith wedyn. Mae hyn yn cynnwys achosion lle bydd mwy o eglurder yn y ddeddfwriaeth yn ei roi y tu hwnt i amheuaeth fwriad arfaethedig y darpariaethau deddfwriaethol, ac a fydd o bosibl o fudd i drethdalwyr drwy roi'r gorau i hyrwyddo cyfleoedd osgoi nad ydyn nhw'n bodoli mewn gwirionedd. Mae camau o'r fath wedi eu cymryd gan Lywodraeth y DU i ddiogelu cyfundrefnau treth a threthdalwyr yn y gorffennol, ac rwyf i'n awyddus i Weinidogion Cymru allu cymryd camau tebyg.

Yn olaf, bydd y Bil hwn hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud newidiadau pan fo penderfyniad llys neu dribiwnlys yn nodi mater y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y gallai elwa ar newid deddfwriaethol, neu ar egluro'r gyfraith yn well. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau sy'n ymwneud â Deddfau trethi Cymru, trethi rhagflaenol y DU, trethi eraill, neu gyfreithiau eraill a allai effeithio ar y trethi datganoledig.

Mae'r Bil hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a allai gael effaith ôl-weithredol. Bydd defnydd ôl-weithredol y pŵer yn cael ei ystyried fesul achos gan y gall y cyfiawnhad dros bob un fod yn wahanol, yn dibynnu ar y diben dan sylw. Fel arfer, bydd hyn yn cael ei gyfyngu i achosion lle bydd y rheoliadau yn arwain at fudd i drethdalwyr Cymru. Er enghraifft, efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno i drethdalwyr Cymru elwa ar ostyngiad i'w rhwymedigaeth dreth o'r un dyddiad ag y cafodd newid ei gyflwyno yn Lloegr. Efallai bydd Gweinidogion Cymru yn dewis cyflawni hynny drwy fabwysiadu, neu addasu, yr un polisi neu bolisi gwahanol.

Fodd bynnag, yn achos gweithgarwch osgoi, efallai y bydd Gweinidogion yn dymuno gallu cyhoeddi y bydd y cynllun yn cael ei gau gan reoliadau yn y dyfodol sy'n dod i rym ar ddyddiad y cyhoeddiad. O dan amgylchiadau o'r fath, gallai trethdalwyr ddisgwyl yn rhesymol i newidiadau ôl-weithredol gael eu cyflwyno sy'n sicrhau eu bod yn talu'r swm cywir o dreth.

Rwy'n cydnabod bod defnyddio deddfwriaeth ôl-weithredol yn gofyn am gyfiawnhad polisi a diogelwch cyfreithiol, ac mai dim ond mewn sefyllfaoedd lle mae angen hynny y dylai cael ei ddefnyddio. Dyna pam y mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad ar ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau sy'n cael effaith ôl-weithredol. Ac mae drafft o'r datganiad hwn wedi ei rannu â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Bydd y Bil yn darparu offeryn ystwyth i Weinidogion Cymru i ddiogelu refeniw Cymru a gaiff ei godi drwy drethi datganoledig, gan gyfrannu at yr ymgyrch dros ddatganoli trethi yn sefydlog. Rydym ni wedi ymgynghori â'n rhanddeiliaid ar gynnwys y Bil, a hoffwn i fanteisio ar y cyfle i ddiolch yn ffurfiol i bawb sydd wedi cyfrannu at ei ddatblygu. Rwy'n edrych ymlaen at y broses graffu a fydd yn dilyn yn awr ac ymgysylltiad adeiladol sefydliadau sydd eisoes wedi cyfrannu a hefyd cyd-Aelodau ar draws y Siambr. Diolch.

15:50

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog. Diolch am y datganiad a diolch i'ch swyddogion am eu briff technegol ddoe yn ein cyd-bwyllgor. Roedd yn ddefnyddiol iawn ac yn ddiddorol iawn. Mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â chi; mae prosesau cyllidebol a threthiant yn bethau cymhleth iawn, ac nid yw'r cymhlethdod hwn ond wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'n iawn, felly, i sicrhau nad yw trethdalwyr Cymru o dan anfantais o'u cymharu â threthdalwyr eraill ledled y DU pan gaiff newidiadau eu gwneud i drethi rhagflaenol, yn ogystal â chau bylchau treth fel bod modd defnyddio arian i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus—mae'n gwbl iawn ein bod ni'n gwneud hynny. Fodd bynnag, fel rhan o'ch ymgynghoriad ar y Bil, rwy'n gwybod bod rhanddeiliaid fel Sefydliad Siartredig Trethu a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr wedi datgan mai eu safbwynt diofyn nhw yw y dylai deddfwriaeth dreth fod mewn deddfwriaeth sylfaenol, ac yn arbennig yn yr achos lle mae deddfwriaeth yn ymwneud ag arfer pwerau trethu, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol iawn. Ac rwyf i'n cytuno â'r egwyddor hon, ac rwy'n siŵr y byddai llawer yn y Siambr—y Siambr rithwir—yn cytuno â hi hefyd.

Rwy'n credu, i adlewyrchu casgliadau'r Pwyllgor Cyllid blaenorol, fod angen mwy o sail ddeddfwriaethol arnom ni i'n prosesau cyllidebu a phennu trethi yng Nghymru i gefnogi'r gwaith democrataidd o graffu ar wariant cyhoeddus a threthiant. Yn hyn o beth, drwy ddefnyddio rheoliadau i wneud newidiadau i drethiant, gallai'r Bil hwn—ac rwy'n pwysleisio 'gallai'—gael ei ddefnyddio i fynd ymhellach na'r bwriad gwreiddiol. Nawr, rwy'n sylweddoli bod terfynau llym ar ddefnyddio'r pwerau o fewn y Bil, ond mae dal rhywfaint o amwysedd ynghylch pryd y mae modd defnyddio'r pwerau. Yn yr ymgynghoriad gwreiddiol, dywedodd y Sefydliad Siartredig Trethu

'mae'r amgylchiadau lle gellid defnyddio pŵer 1 yn gadael disgresiwn eithaf eang'

a bod nifer o dermau sydd wedi eu defnyddio yn yr adran yn amwys a heb eu diffinio. Fodd bynnag, gwrthododd y Llywodraeth y syniad o glo y Senedd ar ddefnyddio pŵer 1. A gaf i ofyn i chi, Gweinidog, y rheswm pam mae hynny'n wir? A allwch chi egluro'r amgylchiadau hefyd—ac rydych chi wedi sôn rhywfaint am hyn eisoes—lle rydych chi'n rhagweld y bydd angen defnyddio'r pŵer i addasu Deddfau trethi Cymru? Ac, yn y pen draw, pwy yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu pa un o'r profion diben yn adran 1 sydd wedi eu bodloni wrth gyflwyno rheoliadau drwy'r Bil?

Yn olaf, cafodd sylwadau eu gwneud yn ystod yr ymgynghoriad gwreiddiol fod perygl wrth wneud newidiadau lluosog drwy bwerau rheoleiddio o wneud y ddeddfwriaeth sylfaenol yn anodd ei dilyn oherwydd cymaint y croesgyfeirio sydd ei angen. Os oes angen llawer iawn o is-ddeddfwriaeth, a fyddai'n bosibl y byddai angen gwaith i atgyfnerthu'r rhain er mwyn sicrhau bod cyfraith treth mor hygyrch â phosibl? Diolch, Gweinidog.

Diolch i Peter Fox am y cwestiynau yna. Rwy'n falch iawn bod y briff a gafodd ei ddarparu gan swyddogion wedi bod yn ddefnyddiol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y broses graffu fanwl, a fydd yn dechrau ar 22 Rhagfyr, fel anrheg Nadolig cynnar i bob un ohonom ni, yn y pwyllgor. Ac rwy'n gwybod y byddwn ni'n edrych yn fanylach ar lawer o'r agweddau hyn, ond rwy'n falch iawn o nodi fy ymateb cychwynnol i rai o'r cwestiynau hynny y prynhawn yma o leiaf.

Un o'r materion sylweddol y gwnaethoch ei godi, yn y bôn, oedd beth am ddefnyddio Bil cyllid, ac rwy'n gwybod bod hyn wedi bod yn fater o ddiddordeb i bwyllgorau cyllid yn y Senedd flaenorol. Fy safbwynt i o hyd yw nad wyf i'n ystyried bod yr amseru'n iawn i gyflwyno cyllideb flynyddol na Bil cyllid y gellir ei ddefnyddio i wneud newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru. Un ystyriaeth allweddol i Ddeddfau trethi Cymru yn benodol yw nad yw nifer yr is-ddeddfwriaeth y mae'r Deddfau hyn wedi eu creu hyd yma yn arwyddocaol o gwbl, ac wrth i ni ddatblygu trethi mwy datganoledig, yna rwy'n credu, o bosibl, y gallai fod dadl gryfach dros Fil cyllid blynyddol, ond byddwn i hyd yn oed yn dadlau pe bai gennym ni Fil cyllid blynyddol, byddai dal angen y pwerau arnom ni y mae'r Bil hwn yn darparu ar eu cyfer, oherwydd eu bod nhw'n galluogi Gweinidogion Cymru i ymateb i ddigwyddiadau allanol na fydden nhw o reidrwydd yn cyd-fynd â chylch Bil cyllid Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, nid yw cyllideb y DU, lle gall newidiadau ddigwydd, ar gylch sefydlog, ac mae'n digwydd yn aml fwy nag unwaith y flwyddyn, ac mae digwyddiadau cyllidol eraill hefyd pan fo modd cyhoeddi newidiadau, er enghraifft, mae cyfraddau treth dir y dreth stamp ym mis Gorffennaf 2020 yn enghraifft o hynny, rwy'n credu. At hynny, bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i fod yn llawer mwy ymatebol i newidiadau ehangach, fel penderfyniadau llys a gweithgarwch osgoi, nag sy'n wir am ddull Bil Cyllid Llywodraeth y DU neu ddull gweithredu Llywodraeth yr Alban, lle caiff newidiadau eu gwneud yn aml drwy Fil cyllid yn unig.

O ran pam nad ydym yn defnyddio pwerau presennol—felly, gan feddwl am ddeddfwriaeth sylfaenol, er enghraifft—nod y Bil yw darparu offeryn hyblyg ychwanegol i ganiatáu i Weinidogion ymateb yn gyflym i amgylchiadau allanol sy'n effeithio ar ein trethi datganoledig. Yn gyffredinol, mae deddfwriaeth sylfaenol yn cymryd tua 12 i 18 mis i ddatblygu a chwblhau'r cylch hwnnw o graffu gan y Senedd, felly ni fyddai'n ein galluogi i ymateb mewn modd ystwyth pe bai angen i ni wneud hynny ar fyr rybudd, er enghraifft, i atal gweithgarwch osgoi treth.

Ac yr oedd cwestiwn hefyd o ran pam, er gwaethaf ymgynghori yn y dogfennau ar glo y Senedd, ein bod ni wedi dileu hynny o'n cynigion. Cafodd y clo ei gynnig yn wreiddiol i alluogi'r Senedd i ddynodi ei chymeradwyaeth o ddefnydd y weithdrefn gadarnhaol a wnaed, ac roedd y polisi gwreiddiol yn cynnig defnyddio pŵer y byddai modd ei ddefnyddio pryd bynnag y byddai Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn hwylus er budd y cyhoedd i wneud hynny. Bwriad y clo oedd ymateb i bryderon y byddai'r pŵer yn anarferol o eang, ond mae'r Bil bellach, fel y mae wedi ei ddrafftio ar hyn o bryd, wedi lleihau cwmpas y pŵer yn fawr i'r pedwar prawf diben hynny, nid oes modd eu defnyddio ond pan gaiff ei ystyried eu bod yn angenrheidiol neu'n briodol. Ac felly mae hynny, yn fy marn i, yn cyfyngu'n ddigonol ar y pŵer fel na fyddai clo y Senedd, a fyddai ei hun wedi bod yn anghonfensiynol ac a allai osod cynsail di-fudd ar gyfer pwerau cadarnhaol a wnaed yn y dyfodol, yn briodol, oherwydd ein bod ni wedi lleihau pethau gyda'r Bil hwn gymaint.

Ac yna i gwblhau hynny, mewn gwirionedd, hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod cwmpas y pŵer wedi ei gyfyngu i'r pedwar diben penodol: yn gyntaf, sicrhau nad yw treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir yn cael eu gosod lle y byddai gwneud hynny yn arwain at beidio â chydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol; diogelu rhag osgoi treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir; ymateb i newidiadau i drethi blaenorol y DU sy'n effeithio neu a allai effeithio ar y swm sy'n cael ei dalu i gronfa gyfunol Cymru; ac yna ymateb i benderfyniadau llysoedd a thribiwnlysoedd sy'n effeithio neu a allai effeithio ar Ddeddfau trethi Cymru neu reoliadau a gaiff eu gwneud oddi tanyn nhw. Felly, yn dilyn yr ymgynghoriad, rydym ni yn wir wedi lleihau cwmpas y Bil, sydd, yn fy marn i, yn dileu'r angen hwnnw bellach ar gyfer clo y Senedd, a oedd yn ein hymgynghoriad gwreiddiol. Ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at archwilio'r materion hyn yn fanylach yn yr wythnosau i ddod.

15:55

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Jest i bigo i fyny ar rai o'r sylwadau blaenorol yn benodol ynglŷn â'r Bil cyllid neu Fil cyllideb blynyddol, dwi'n dal i deimlo fel roeddwn i pan oeddwn i'n cadeirio'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd diwethaf fod hynny'n rhywbeth yn sicr y byddwn i'n dymuno i ni fel Senedd symud tuag ato fe. Dwi'n derbyn beth mae'r Gweinidog yn ei ddweud ynglŷn ag, efallai, pa mor gyflym y gallwn gyrraedd y pwynt yna, ond mae'n sicr yn drafodaeth y byddwn i'n awyddus i'w chadw'n fyw ar bob cyfrif. A dwi'n cytuno hefyd efo'r Gweinidog, boed hynny'n digwydd neu beidio, mae'n dal angen y pwerau y mae'r Llywodraeth yn edrych amdanyn nhw yn y Bil sydd o'n blaenau ni heddiw.

Dwi wedi dweud yn y gorffennol, does gyda fi ddim problem mewn egwyddor i bwerau o'r math yma gael eu rhoi i Weinidogion Cymru. Mae'n gwbl resymol. Mae cael modd i gyflwyno newidiadau ar fyr rybudd fel hyn yn rhywbeth, dwi'n meddwl, sydd yn rhesymol, fel rwy'n dweud, ond mae'n gorfod digwydd o dan amgylchiadau penodol. Byddai methu ag ymateb yn arwain efallai at oblygiadau niweidiol, goblygiadau annheg, at sefyllfa afresymol. Dwi'n credu o dan yr amgylchiadau hynny ei bod hi'n rhesymol ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad yna. Mae'n rhywbeth y mae Llywodraethau eraill yn ei gymryd yn ganiataol o gwmpas y byd. Felly, does dim byd unigryw yn hynny o beth.

Wedi dweud hynny i gyd, cyn gallu cefnogi deddfwriaeth sy'n grymuso Gweinidogion fel hyn, mae'n rhaid i ni i gyd fod yn hyderus fod y cyfyngiadau angenrheidiol yn eu lle i wneud yn siŵr bod y paramedrau yn glir o ran, yn gyntaf, o dan ba amgylchiadau mae'r Gweinidog yn gallu gweithredu, yn ail, i ba raddau mae'r Llywodraeth yn gallu gweithredu, ac yn drydydd wedyn wrth gwrs, bod yna fesurau cryf yn eu lle i sicrhau craffu a phroses o roi cydsyniad seneddol amserol, neu mor fuan ag sy'n bosib ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud. Ar yr olwg gyntaf, mae'r ddeddfwriaeth i fi yn edrych yn eithaf rhesymol ar y ffryntiau yna, ond yn amlwg dwi'n edrych ymlaen i graffu ar y ddeddfwriaeth arfaethedig dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Dim ond un neu ddau o gwestiynau gen i yn benodol i chi, Weinidog. Mae yna risg, wrth gwrs—ac efallai rydyn ni wedi ei weld e'n digwydd mewn cyd-destunau eraill—dros amser, fod pwerau fel hyn yn cael eu defnyddio gan Weinidogion i fynd tu hwnt i'r awdurdod a roddwyd iddyn nhw. Felly, allwch chi gadarnhau ar y record y prynhawn yma mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol yn unig a phan fod dim opsiynau amgen y byddech chi yn bwriadu defnyddio'r pwerau fyddai'n dod i Weinidogion Cymru yn y Bil yma?

A hefyd, er mwyn cydbwyso pethau ychydig, efallai, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i roi i gynnwys lleisiau neu bersbectifau mwy annibynnol yn y broses o benderfynu gweithredu'r pwerau yma? Hynny yw, mae'r awgrym wedi cael ei wneud efallai fod yna rôl mwy ffurfiol i'r Llywydd, o bosib, yn y broses. Mi wnaeth Prifysgol Caerdydd, wrth gwrs, yn eu hymateb nhw i'r ymgynghoriad llynedd, awgrymu bod angen sicrhau amrywiaeth yn y grŵp sy'n penderfynu pryd y dylid ddefnyddio'r pwerau hyn, a byddwn i efallai â diddordeb i glywed sut ŷch chi'n bwriadu cyflwyno rhyw ffordd o gydbwyso o fewn y broses. Diolch.

16:00

Diolch yn fawr am godi'r gyfres yna o gwestiynau, ac am, ar y cyfan, groesawu'n gynnes yr angen am y Bil, ond yn amlwg, rydych chi'n edrych ymlaen at y broses graffu sydd o'n blaenau. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n parhau i ddychwelyd at y cwestiwn a oes angen Bil cyllid ar hyn o bryd ai peidio, ond fel y dywedais i, byddwn ni'n parhau i adolygu hynny wrth i amgylchiadau ddatblygu a newid yn y dyfodol. Er mwyn rhoi sicrwydd, rwy'n credu bod paramedrau'r Bil yn ddigon clir, yn enwedig gan ein bod ni wedi ei leihau bellach i'r pedwar diben hynny y dylai'r Bil gael ei ddefnyddio ar eu cyfer, ac yr wyf i newydd eu hamlinellu mewn ymateb i Peter Fox. Ond rydym ni hefyd yn cydnabod gwir bwysigrwydd yr angen am graffu priodol, a dyna pam yr ydym ni wedi cynnwys mesurau diogelu sylweddol gwirioneddol, yn fy marn i, yn y Bil o ran y weithdrefn.

Byddai'r Bil yn caniatáu i reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft gael eu gosod ar ffurf ddrafft am o leiaf 20 diwrnod cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno i'r bleidlais. Yn amlwg, os byddan nhw'n cael eu cymeradwyo, bydd modd gwneud y rheoliadau hynny, a gall rheoliadau aros am gyfnod hwy na'r 20 diwrnod cyn eu cyflwyno i'r bleidlais. O dan y weithdrefn gadarnhaol a wnaed, byddem yn ceisio cael y cyfnod hwnnw am 60 diwrnod. Ac yn amlwg, os bydd y bleidlais yn cael ei cholli, neu os daw'r cyfnod o 60 diwrnod i ben, yna mae'r rheoliadau hynny yn peidio â chael effaith o'r dyddiadau hynny, ac rydym ni wedi rhoi barn ar waith ar yr hyn y byddem ni'n ei wneud pe bai'r rheoliadau hynny yn methu. Mae'r mesurau diogelu yr ydym ni wedi eu rhoi o amgylch y weithdrefn gadarnhaol a wnaed, yn benodol, rwy'n credu, yn bwysig, oherwydd dim ond pan fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y rheoliadau'n angenrheidiol oherwydd brys a dim ond at y pedwar diben yr wyf i wedi eu disgrifio y bydden nhw'n cael eu defnyddio. Un enghraifft, rwy'n credu, fyddai angen ymateb ar frys pan fyddai oedi cyn atal cynllun osgoi treth yn arwain at golli refeniw sylweddol.

Nid yw'r dull arfaethedig o weithredu yn y Bil hwn yn ddigynsail ac ni fydd yn anghyfarwydd i ymarferwyr treth. Er enghraifft, mae adran 109 o Ddeddf Cyllid 2003 yn rhoi pŵer pwrpasol i Drysorlys EM wneud rheoliadau i wneud newidiadau yn syth ond dros dro i ddeddfwriaeth treth dir y dreth stamp, ac mae rheoliadau sy'n cael eu gwneud o dan hyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol dros dro, sy'n debyg i weithdrefn gadarnhaol a wnaed y Senedd, sy'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw gael eu cymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin o fewn 28 diwrnod eistedd er mwyn cael yr effaith barhaol honno. Felly, nid wyf i'n credu bod yr hyn yr ydym ni'n ei gynnig yma yn anarferol nac yn newydd yn yr ystyr hwnnw, er ei fod yn rhywbeth a fydd yn ein galluogi i ymateb yn gyflym iawn i newidiadau. O ran swyddogaethau i unigolion a phartïon, rwy'n siŵr y cawn ni gyfle i archwilio hynny'n fanylach yn y pwyllgor maes o law, ac ar lawr y Senedd, wrth gwrs. Diolch yn fawr iawn.

16:05
5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cefnogi’r bwriad i greu Banc Cymunedol ar gyfer Cymru

Eitem 5 yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar gefnogi’r bwriad i greu banc cymunedol ar gyfer Cymru. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan y DU un o'r systemau bancio manwerthu lleiaf amrywiol yn Ewrop. Mae'n system lle mae nifer fach o fanciau mawr iawn yn tra-arglwyddiaethu. Mae'r banciau hyn yn gweithredu yn ôl model busnes gwerth cyfranddalwyr traddodiadol sy'n ceisio gwneud y mwyaf o elw i'w perchnogion. Mae banciau manwerthu'r stryd fawr, fel y gwyddom ni, yn cilio o lawer o'n strydoedd mawr ar gyflymder cynyddol a brawychus. Yn ôl data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae nifer y canghennau banc yn y DU wedi gostwng 4,390, neu 39 y cant, rhwng 2012 a 2021. Mae'r cylchgrawn defnyddwyr Which? yn amcangyfrif mai dim ond 277 o ganghennau banc a chymdeithasau adeiladu fydd ar ôl yng Nghymru erbyn diwedd 2022.

Mae ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gefnogi creu banc cymunedol i Gymru yn ceisio mynd i'r afael â methiant y farchnad hon o ran y bwlch yn y ddarpariaeth, effeithiolrwydd, a mynediad at wasanaethau bancio o ansawdd yng Nghymru. Mae ein gweledigaeth ar gyfer banc cymunedol Cymru yn un sy'n seiliedig ar y model cydfuddiannol, sy'n eiddo i'w aelodau, ac sy'n cael ei redeg ar eu cyfer, yn hytrach na gwneud y mwyaf o elw i gyfranddalwyr. Bydd yn fanc cymunedol modern, fydd yn cynnig gwasanaeth llawn, gyda'i bencadlys yng Nghymru. Bydd yn cynnig cynhyrchion a gwasanaethau dwyieithog mewn sawl ffordd wahanol gan gynnwys yn ddigidol, ar-lein ac mewn canghenau. Bydd y banc yn hwyluso buddsoddi'n lleol ac yn gwella'r gwaith o adeiladu cyfoeth cymunedol, gan ail-ddefnyddio cynilon fel benthyciadau ac atal cyfalaf rhag gadael ein gwlad. Bydd yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau a strydoedd mawr, gan wneud gwasanaethau bancio bob dydd yn haws eu defnyddio i bob dinesydd waeth beth fo'u hincwm neu gyfoeth, yn ogystal ag i fusnesau bach ledled Cymru, wrth gwrs.

Rydym ni'r Llywodraeth, fodd bynnag, yn effro i'r heriau sylweddol o sefydlu banc cymunedol. Er bod nifer o fanciau cymunedol yn cael eu datblygu ledled y DU, nid oes banc cymunedol wedi'i sefydlu eto. Mae banciau cydweithredol a chydfuddiannol newydd yn wynebu mwy o heriau o'u cymharu â banciau eraill sy'n dilyn y model cyfranddalwyr. Mae hyn yn arbennig o wir o ran sicrhau cyfalaf datblygu a rheoleiddio, sy'n ei gwneud hi'n anodd camu i'r farchnad ac yna tyfu yn organig. Yn ogystal, mae cymwyseddau deddfwriaethol a rheoleiddiol y sector bancio yn faterion a gadwyd yn ôl. Felly, rydym yn dibynnu ar feddylfryd ac uchelgais cwmnïau'r sector preifat sy'n rhannu ein gweledigaeth a'n hethos er mwyn sefydlu a gweithredu banc cymunedol i Gymru.

Ers i'n gwaith i gefnogi creu banc cymunedol i Gymru gael ei archwilio am y tro cyntaf, mae banciau traddodiadol y stryd fawr wedi encilio o'n strydoedd mawr yn llawer cynt. Yn awr yn fwy nag erioed, mae nifer gynyddol o gymunedau ledled Cymru yn cael eu gadael heb fynediad corfforol i'r hyn a ddylai fod yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol yn ein barn ni. Nid yw effaith yr encilio hwn yr un fath ym mhobman, gyda chymunedau gwledig a'r unigolion a'r busnesau hynny ledled Cymru sy'n fwy dibynnol ar arian parod a'r berthynas wyneb yn wyneb yn cael eu taro galetaf.

Er gwaethaf yr ymgyrchoedd cymunedol amlwg niferus a gefnogir gan aelodau o bob lliw gwleidyddol yn y Senedd, mae banciau traddodiadol wedi parhau i gau canghennau. Rwy'n croesawu y gefnogaeth drawsbleidiol barhaus i greu banc cymunedol i Gymru a chydnabod bod cwestiynau'r Aelodau yn ddealladwy yn canolbwyntio fwyfwy ar yr amserlenni cyflawni, y cynlluniau i gyflwyno canghennau, a chynhyrchion a gwasanaethau i'w cynnig gan y banc cymunedol. Mae'r cwestiynau hynny'n adlewyrchu anghenion a phryderon cymunedau yn etholaethau'r Aelodau ledled Cymru.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith archwiliadol a wnaed gan Cambria Cydfuddiannol Ltd, cymdeithas gydweithredol a sefydlwyd i archwilio'r posibilrwydd o greu Banc Cambria fel banc cymunedol i Gymru. Bu'r gwaith hwn yn hanfodol wrth lywio strategaeth gyflawni Banc Cambria, ac o ganlyniad gyda datblygu ei berthynas â sefydliad ariannol sy'n bodoli eisoes. Mae'r hyn yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn ailddatgan ein cred bod gan y dull hwn fwy o botensial i ddarparu banc cymunedol hyfyw a chynaliadwy. Mae'r dull hwn hefyd yn cyd-fynd â'r argymhellion a wnaed yn adroddiad 'Mynediad at Fancio' gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Senedd ym mis Hydref 2019. Credwn fod y dull hwn yn cefnogi cydweithio ar draws y sector, yn lleihau'r risgiau ac yn lleihau'r costau i'r pwrs cyhoeddus, ac yn cynyddu'r cyflymder y gellir datblygu a lansio Banc Cambria yn ddiogel.

Yr wythnos diwethaf, cyfarfu'r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau â'r timau sy'n ceisio sefydlu Banc Cambria i drafod y cynnydd a wnaed, y camau nesaf a'r meysydd lle y gellir defnyddio cymorth Llywodraeth Cymru orau i wella cyflymder y datblygiad a'r ddarpariaeth. Mae'n bleser gennyf ddiweddaru a hysbysu'r Aelodau, ac rwy'n croesawu y cyhoeddiad heddiw gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn datgan ei bwriad i ddatblygu ei dull o ddarparu banc cymunedol yng Nghymru. Mae darparu banc cymunedol yn addas iawn i'r gymdeithas gydfuddiannol Cymreig honno sydd â'i phencadlys yng Nghasnewydd. Maen nhw wedi bod yn gwasanaethu ac yn cefnogi aelodau a chymunedau ar draws de a gorllewin Cymru i gynilo a ffynnu ers dros 150 o flynyddoedd. Gan eu bod yn gymdeithas gydfuddiannol, maen nhw eisoes yn sefydliad sy'n gweithredu i ddiben arbennig, gan alluogi cymunedau i gael cymorth a chefnogaeth ariannol mewn lleoliadau sy'n gyfleus iddynt.

Er bod llawer o waith i'w wneud o hyd, gyda cherrig milltir allweddol ac agweddau pellach i benderfynu arnynt ar y gweill i Lywodraeth Cymru, y gymdeithas a Cambria Cydfuddiannol, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu'r holl gymorth priodol ac angenrheidiol er mwyn helpu i gyflymu'r broses o sefydlu a chyflwyno Banc Cambria ledled Cymru. Mae bellach yn briodol i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy arwain ar y cyfathrebu ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen. Rydym yn cydnabod ac yn cytuno bod datblygu systemau cadarn, diogel a chydymffurfiol yn hollbwysig i'r gymdeithas, ei haelodau presennol ac i aelodau Banc Cambria yn y dyfodol. Byddaf yn cwrdd â'r gymdeithas a Cambria Cydfuddiannol yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ac i ddeall ble y gall ein cymorth ychwanegu'r gwerth mwyaf. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau fel y bo'n briodol yn dilyn camau penderfynu allweddol. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:10

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r tîm yn Banc Cambria am yr amser a roeson nhw yn ystod y misoedd diwethaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi a chyd-Aelodau am ddatblygiad banc cymunedol i Gymru. Ar ôl gweithio o'r blaen yn y sector cymdeithasau adeiladu cydfuddiannol am fwy na dau ddegawd, rwy'n croesawu yn arbennig y ffaith bod partneriaeth y banc â Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy wedi'i chyhoeddi heddiw, gan ganiatáu sefydlu'r gofynion gweithredol i sicrhau bod modd darparu.

Wrth siarad yma yn 2010, codais gyda'r Prif Weinidog ar y pryd y gofynion o ran rheoli risg a digonolrwydd cyfalaf a rheoleiddio y byddai'n rhaid i fanc newydd gydymffurfio â nhw, na fyddai'n rhaid i bartner a oedd yn fanc neu gymdeithas adeiladu sefydledig gydymffurfio â nhw. Yn 2013, galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am sefydlu Buddsoddi Cymru, rhwydwaith o fanciau buddsoddi rhanbarthol sydd wedi'u gwreiddio mewn cymunedau lleol, i fenthyca i fusnesau bach a rhoi cyngor a chymorth yn seiliedig ar y model partneriaeth hwn. Yn 2017, arweiniais ddadl ar wasanaethau bancio yn y fan yma, a alwodd ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r model bancio cymunedol nid-er-elw a ddatblygwyd wedyn yng Nghymru gan Responible Finance, a gynigiodd weithio gydag undebau credyd mewn meysydd lle na all undebau credyd weithredu, a darparu cyllid a chymorth i bobl, busnesau a mentrau cymdeithasol na allant gael gafael ar gyllid gan fanciau'r stryd fawr.

Mewn ymateb i bumed Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad, cwestiynodd y Ffederasiwn Busnesau Bach a yw'r ateb o greu banc cymunedol yn gorgyffwrdd â phethau eraill y gallai offerynnau a sefydliadau eraill sydd gennym ni eisoes ar waith yng Nghymru fod mewn sefyllfa well i'w wneud. Ac felly, gan fod hwn yn fuddsoddiad masnachol i Lywodraeth Cymru, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni diwydrwydd dyladwy a dadansoddiad trwyadl o'r cynllun busnes ar gyfer banc cymunedol cyn buddsoddi pellach. Felly, Gweinidog, pa brosesau a ddilynwyd a pha ddiwydrwydd dyladwy sydd wedi digwydd hyd yma i roi sicrwydd i bobl Cymru cyn i'r cynllun fynd yn ei flaen?

Wrth gwrs, wrth gyflawni diwydrwydd dyladwy, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr effaith y bydd banc cymunedol yn ei chael ar y sector undebau credyd. Roedd hi'n glir o adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn 2019 fod gan undebau credyd bryderon difrifol iawn am yr effaith y gallai banc cymunedol ei chael arnynt. Yn wir, ysgrifennodd prif weithredwr Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro ar ran grŵp o 11 undeb credyd yng Nghymru i dynnu sylw at y ffaith y byddai bwriad Banc Cambria i ddarparu benthyciadau personol ar sail model cydweithredol yn cystadlu'n uniongyrchol ag undebau credyd, ac y byddai'n bygwth cynaliadwyedd y rhwydwaith undebau credyd yng Nghymru yn y dyfodol. Ac felly, yng ngoleuni'r pryderon hyn, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw cynaliadwyedd undebau credyd yn cael ei fygwth gan ddatblygiad banc cymunedol? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag undebau credyd sy'n awyddus i weithio gyda nhw ond sy'n awyddus i sicrhau nad yw Banc Cambria yn cymryd eu busnes na'u cyllid? O ystyried partneriaeth Swyddfa'r Post â banciau'r DU, gallai Banc Cambria hefyd gael effaith ar wasanaethau swyddfeydd post. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud felly o effeithiau Banc Cambria ar y sector swyddfeydd post? A pha drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Swyddfa'r Post ynghylch sefydlu banc cymunedol yng Nghymru?

Gallai creu banc cymunedol gael effaith drawsnewidiol ar gymunedau lleol, yn enwedig cymunedau gwledig sydd wedi colli presenoldeb banc ar eu stryd fawr. Mae'n galonogol bod Banc Cambria eisoes wedi dweud bod cymunedau gwledig wrth wraidd yr hyn y maen nhw'n ceisio'i wneud. Mae Banc Cambria wedi ei gwneud hi'n glir eu bod yn gobeithio agor o leiaf un gangen lle mae tystiolaeth bod y sylfaen cwsmeriaid yn dioddef yn arbennig o wael o allgáu ariannol. Ac mae'r Prif Weinidog eisoes wedi sôn am leoli cangen ym Mwcle, sir y Fflint. Sut, felly, y penderfynir ar leoliadau'r canghennau, a pha sicrwydd y gallwch ei roi y bydd cymunedau gwledig sydd wedi'u hallgáu'n ariannol ar frig y rhestr flaenoriaethau? A pha sicrwydd y gallwch ei roi inni fod gan Lywodraeth Cymru y gallu i gynnig y model hwn i bob rhan o Gymru, os yw'n profi, fel y gobeithiwn, i fod yn llwyddiannus?

Mae'n hanfodol fod gennym ni'r sylfaen sgiliau gywir i gefnogi'r sector. Mewn ymateb i bumed Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad, dywedodd y Gymdeithas Banc Cynilon Cymunedol y byddai canfod y bobl sydd â'r cyfuniad cywir o sgiliau a chymhelliant moesegol i fod eisiau creu rhywbeth yng Nghymru yn anoddach na chanfod yr arian i gefnogi banc cymunedol.

16:15

Felly, Gweinidog, pa waith sy'n cael ei wneud i adnabod a darparu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r model ar gyfer y dyfodol? Ac yn olaf, sut mae mynediad i'r canghennau ar gyfer pobl anabl sydd â namau gweladwy a chudd yn cael ei gynllunio?

Diolch am y gyfres helaeth o gwestiynau. Os caf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n credu bod heddiw'n ddiwrnod mawr a phwysig iawn: mae cael sefydliad ariannol sefydledig yn cadarnhau'n gyhoeddus ei fod yn bwriadu datblygu'r cynnig mewn partneriaeth ac mai ef fydd y sefydliad sefydledig i fwrw ymlaen â materion yn gam cadarnhaol iawn ymlaen. Ac fel y dywedais i yn fy agoriad, nid oes unrhyw fanc cymunedol o'r raddfa hon neu sy'n dilyn y model hwn wedi'i sefydlu eto yn unman yn y DU. Felly, mae hwn yn faes polisi newydd lle mae Cymru'n arwain, ac rwy'n falch iawn bod gennym ni sefydliad ariannol cydfuddiannol sy'n barod ac yn fodlon cydweithio gyda ni, mewn modd a ddylai fod nid yn unig i ddarparu mwy o wasanaethau bancio cymunedol, ond mae'n debyg y bydd yn drawsnewidiol i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy ei hun. Felly, mae hwn yn ddiwrnod cadarnhaol iawn, ac mae llawer o'r cwestiynau y mae Mark Isherwood wedi'u gofyn yn gwestiynau yr ydym ni eisoes wedi cael trafodaethau yn eu cylch ac y disgwyliaf y clywn ni fwy amdanyn nhw wrth inni symud ymlaen, oherwydd—. Eich pwyntiau ynghylch, 'A yw'r banc cymunedol yn gorgyffwrdd â gwasanaethau eraill?'—wel, mewn gwirionedd, mae arnom ni eisiau cefnogi a sefydlu banc cymunedol oherwydd encilio gwasanaethau bancio traddodiadol o lawer o gymunedau. Rwy'n gwybod fod hwn yn fater sydd, fel y dywedais i yn fy agoriad, yn cael ei gefnogi gan Aelodau o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol yn y Senedd, oherwydd mae gan bob un ohonom ni brofiad o wasanaethau bancio traddodiadol yn diflannu o gymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli. Mae'r un peth yn wir i Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau trefol i raddau helaeth, yn ogystal â'r rhai sy'n wledig i raddau helaeth. Felly, mae her wirioneddol yma, yn hytrach na phroblem bod gorgyffwrdd, fel darlun eang.

Ond o ran sut y bydd y partneriaethau hynny'n gweithio, gan gynnwys, er enghraifft, y partneriaethau y byddem yn disgwyl eu gweld gyda'r mudiad undebau credyd, mae'r rheini'n bethau yr ydym ni'n disgwyl gweld mwy o fanylion amdanyn nhw mewn cynnig buddsoddi, ond hefyd mae gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan Fanc Cambria oherwydd, wrth gwrs, maen nhw'n rhan o'r mudiad cydweithredol a chydfuddiannol, felly maen nhw wedi sefydlu perthynas ag amrywiaeth o undebau credyd. Ond mae'n gwbl resymol i rai undebau credyd gwestiynu sut y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw a'u busnes ac na fydd hyn yn y pen draw yn rhywbeth sy'n gwasgu cystadleuaeth lle mae gwasanaethau eisoes yn cael eu darparu, yn hytrach na darparu gwasanaethau i gymunedau yr ydym ni'n cydnabod nad ydyn nhw'n cael eu gwasanaethu'n dda ar hyn o bryd.

O ran eich cwestiwn am waith diwydrwydd dyladwy gan Lywodraeth Cymru, byddwn ni ac unrhyw fuddsoddwr arall yn sicr yn gwneud gwaith diwydrwydd dyladwy yn dilyn cynnig buddsoddi. Ac rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa nawr lle mae sir Fynwy wedi cadarnhau y byddant yn gwneud hynny, felly byddaf yn disgwyl cael cynnig buddsoddi priodol ganddyn nhw i ni edrych arno, i graffu arno, a bydd angen iddyn nhw hefyd, wrth gwrs, sicrhau eu rheoleiddiwr eu hunain am y cynigion y maen nhw'n bwriadu eu gwneud a'r hyn y mae'n ei olygu i'w haelodau presennol, yn ogystal ag ar gyfer rhai yn y dyfodol hefyd. Ac eto, mae hyn yn mynd yn ôl at un o'r pwyntiau a wnaethoch chi yn eich rhestr o enghreifftiau, lle rydych chi wedi codi materion tebyg, ynghylch y ffaith y dylai bod â sefydliad sefydledig olygu ein bod yn gallu lansio banc cymunedol yn gyflymach na phe baem ni fel arall wedi ceisio dechrau o'r newydd.

Rwy'n cydnabod eich pwyntiau am Swyddfa'r Post, ac, wrth gwrs, ar un adeg, roedd posibilrwydd o fanc post wedi'i sefydlu'n briodol—mae'r rheini'n faterion sydd yn nwylo Llywodraeth y DU, ac, wrth gwrs, bu cysylltiad sefydledig rhwng Swyddfa'r Post a Banc Iwerddon ers rhai blynyddoedd. Felly, unwaith eto, rydym ni'n edrych ar dirwedd lle mae gwasanaethau'n bodoli ac yn edrych ar sut y gallwn ni ychwanegu at yr hyn sy'n bodoli yn hytrach na chystadlu â gwasanaethau sefydledig sydd eisoes yn darparu gwasanaeth gweddus i gymunedau ledled y wlad. 

O ran, rwy'n credu, eich sylwadau ehangach, fe hoffwn i ddweud hyn am undebau credyd: rydym ni'n disgwyl y bydd cytundebau asiantaeth neu bartneriaeth ar waith. Fyddech chi ddim yn disgwyl i'r rheini i gyd gael eu sefydlu gyda chyhoeddiad heddiw, ond ein disgwyliad yw y bydd hyn yn ychwanegiad gwirioneddol at y gwasanaethau bancio ac ariannol sydd ar gael mewn llawer o'n cymunedau, ac rwy'n credu bod hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen. Rwy'n credu mai dim ond pan fyddwn ni'n manylu ar y cynigion sydd i'w cyflwyno y gellir ateb y manylion sylweddol yr ydych chi'n chwilio amdanyn nhw yn llawer o'ch cwestiynau, gan gynnwys, wrth gwrs, sut mae sefydliad newydd Banc Cambria yn disgwyl sefydlu canghennau a'r meini prawf y bydd yn eu defnyddio o ran ble yr hoffai sefydlu'r rheini yn y dyfodol. Ond edrychaf ymlaen at ddiweddaru Mr Isherwood ac Aelodau eraill dros y misoedd nesaf.

16:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y bydd llawer o Aelodau'n sôn, mae'n siŵr, mae'r datganiad hwn, yn wir, yn amserol; mae bron yn teimlo fel stori newyddion beunyddiol y dyddiau hyn bod canghennau banc yn cau yn ein trefi a'n pentrefi ledled Cymru. Rhwng 2015 a 2019, collodd Cymru dros ddwy ran o bump o'i changhennau banc—dyna 239 o ganghennau'n gyfan gwbl. Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru, er enghraifft, yn fy etholaeth gartref yn Ogwr, dim ond un gangen banc sydd ar ôl yn yr etholaeth gyfan ac mae hynny ym Maesteg.

Mae'n bwysig cofio hefyd nad sôn am ganghennau banc yn unig yr ydym ni, rydym ni hefyd yn sôn am beiriannau twll yn y wal, hefyd, yn cau, sy'n golygu bod tueddiadau tuag at fancio digidol a chymdeithas ddi-arian yn dechrau eithrio rhai grwpiau'n ariannol, a fydd, wrth gwrs, yn fwy difrifol mewn ardaloedd gwledig. Y gwir amdani yw y bydd gweithredoedd y sector bancio masnachol yn debygol o waethygu anghydraddoldeb rhanbarthol, a dyna pam mae Plaid Cymru yn croesawu datblygiad Banc Cambria ac, yn benodol, yn croesawu'r ffaith y bydd Cymru'n arwain y ffordd yn y DU drwy gael y banc cymunedol cyntaf, math o fanc sy'n gyffredin ledled y byd. A byddwn yn annog Aelodau i ddarllen am ba mor gyffredin yw banciau cymunedol yn yr Unol Daleithiau. Ac, wrth gwrs, gyda Banc Cambria, caiff yr arian a fuddsoddir ei fuddsoddi yng Nghymru er budd y rhai sy'n galw Cymru'n gartref, sy'n golygu y gallai fod potensial enfawr ar gyfer datblygu economaidd yn rhai o'n hardaloedd mwy difreintiedig.

Mae'n bwysig bod Banc Cambria, fel y mae Mark Isherwood eisoes wedi cyfeirio ato rwy'n credu, yn cael ei ystyried yn fanc i Gymru gyfan, yn enwedig pan ymddengys hi fod llawer o fanciau'r stryd fawr wrthi'n cefnu ar Gymru. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Gweinidog roi unrhyw arwydd o ble y bydd Banc Cambria yn ceisio sefydlu ei don gychwynnol o ganghennau banc, yn ogystal â lle y gallai Banc Cambria fod â'i bencadlys. Clywais Gasnewydd yn cael ei grybwyll yn y datganiad; mae'n bwysig, rwy'n credu, fod ei bencadlys y tu allan i Gaerdydd, ond, fel bachgen o Bencoed, byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn i estyn gwahoddiad a dweud na fyddai ots gen i weld cangen wedi agor ym Mhencoed, nac i Fanc Cambria hyd yn oed gael ei bencadlys yno. Ond mae'n bwysig, wrth gwrs, bod Banc Cambria yn bresennol mewn cymunedau ledled Cymru, o gymunedau ar y ffin i'r Cymoedd, i'r Fro Gymraeg ac i'n trefi glan môr.

Wrth gwrs, un mater cyson a gawn ni gyda banciau yng Nghymru yw bod diffyg gallu, neu anallu, i fancio drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym ni wedi clywed am sawl stori—un ddiweddar gyda HSBC—lle mae cymunedau Cymraeg wedi cael eu siomi yn hyn o beth. Rwy'n croesawu, fel y nododd y Gweinidog yn ei ddatganiad, y bydd gwasanaethau ar gael yn ddwyieithog. Ond a allai'r Gweinidog roi unrhyw arwydd a fydd holl wasanaethau Banc Cambria yn ddwyieithog ai peidio, gan gynnwys gwasanaethau mewn cangen yn ogystal â bancio ar-lein?

Yn olaf, chwe mis yn ôl, gofynnais i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a oedd Llywodraeth Cymru wedi ystyried sut y gallem ni ddefnyddio model cymunedol Banc Cambria ar gyfer busnesau eraill lle mae'r awenau yn nwylo cymunedau, efallai ym maes ynni neu ddur, er enghraifft, a pha gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu ar gyfer hyn. Roedd y Gweinidog ar y pryd yn ymddangos yn agored i'r syniad, ond roedd am ganolbwyntio ar sefydlu Banc Cambria yn gyntaf, sy'n gwbl ddealladwy. Ond gan y bu peth cynnydd yn natblygiad Banc Cambria, a bod y portffolio bancio cymunedol wedi'i symud i'ch portffolio, Gweinidog, a oes mwy o ystyriaeth wedi'i rhoi i sut y gellid defnyddio'r model hwn mewn mannau eraill yn economi Cymru?

16:25

Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n cytuno â'ch sylwadau am yr her o ran nad yw hyn yn ymwneud â gwasanaethau cangen yn unig, ond am fynediad at wasanaethau arian parod hefyd—nid peiriannau twll yn y wal yn unig ond, yn arbennig, peiriannau twll yn y wal di-dâl hefyd. Mae rhan o'r ymgyrch y tu ôl i hyn yn gydnabyddiaeth bod ymadawiad canghennau traddodiadol a gwasanaethau arian parod yn golygu bod rhaniad cynyddol rhwng y rhai sydd â sgiliau digidol, yn enwedig bancio ar ddyfeisiau symudol, ond hefyd y rhai y mae angen arian parod arnyn nhw i redeg eu busnes arferol o ddydd i ddydd. Felly, mae her yma, o ran peidio â gweithredu a'r hyn a fyddai gennym ni fel arall.

Rwy'n falch o'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud yn llwyddiannus dros gyfnod o amser, gyda chymorth nifer o bleidiau, o ran ceisio darparu gwasanaethau ariannol drwy undebau credyd yn arbennig hefyd. Ond rwy'n credu y bydd Banc Cambria yn llenwi bwlch penodol sy'n dal i fodoli, ac rwy'n falch o gael cefnogaeth eang Plaid Cymru wrth wneud hynny.

Byddwn yn disgwyl i gynlluniau manylach ynghylch canghennau gael eu cyflwyno gyda'r cynnig buddsoddi hwnnw, ond mae Banc Cambria yn dweud eu bod yn disgwyl agor hyd at tua 30 o ganghennau yn ystod eu degawd cyntaf. Nawr, nid yw'n brawf teg dweud bod disgwyl i Fanc Cambria agor nifer cyfatebol o ganghennau i'r hyn y mae canghennau traddodiadol a hirsefydlog wedi eu cau, ac i allu gwneud hynny o fewn cyfnod byr. Rydym ni'n dal i edrych ar rywbeth sydd, fel y dywedais i, yn ymyriad polisi newydd, i allu creu banc cymunedol newydd. Ac rydych chi'n gywir i dynnu sylw at y ffaith bod gan rannau eraill o'r byd rwydwaith gwahanol iawn, ac nad oes gennym ni, fel y dywedais i yn fy agoriad, sector bancio amrywiol iawn o gwbl. Mae'r banciau mwy newydd sydd wedi dechrau cystadlu yn tueddu i fod yn fanciau ar-lein. Felly, mae bwlch o hyd y credwn ni y gall Banc Cambria helpu i'w lenwi.

Pan ddaw'r cynnig buddsoddi manwl hwnnw, nid diwydrwydd dyladwy fydd yr unig elfen o hynny. Mae arnom ni eisiau gweld beth yw eu bwriad ac i osod cynllun ar gyfer sut y byddan nhw'n egluro ble yr hoffen nhw sefydlu canghennau a gwasanaethau. Felly, rwyf yn sylweddoli, gyda llawer o'r cwestiynau a ofynnir heddiw, na fyddaf yn gallu rhoi atebion pendant ichi, ond i allu dweud eu bod yn disgwyl sefydlu canghennau newydd dros y degawd cyntaf. Maen nhw'n disgwyl gallu dweud mwy am y cynhyrchion a'r gwasanaethau y byddan nhw yn eu darparu. Bydd y cynnig buddsoddi yn helpu i fanylu ar hynny ac i egluro hynny.

Mae'r ffaith bod Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn gwneud hyn eisoes yn golygu bod gennym ni sefydliad sydd â'i bencadlys yng Nghymru. Mae pencadlys y Gymdeithas yng Nghasnewydd, a heb edrych ar y ddau Aelod etholaeth ar gyfer dinas Casnewydd, byddwn wedi meddwl yr hoffen nhw weld Banc Cambria yn parhau i gael ei sefydlu ac â'i bencadlys yn y ddinas honno. Nid wyf yn ceisio codi cynnen rhwng rhanbarthau, ond y pwynt ydy bod gennym ni sefydliad ariannol sefydledig sydd â'i bencadlys a'i wreiddiau yng Nghymru ac sydd wedi bod yma ers canrif a hanner. Mae hynny'n beth da, o ran yr addasrwydd yr ydym ni'n chwilio amdano ar gyfer rhywun sydd wedi ymrwymo i wasanaethau bancio cymunedol.

Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, na fyddant yn ymwneud â chefnogi busnesau. Rwy'n credu y byddan nhw—yn enwedig busnesau llai. Yr her fydd, os ydym ni'n edrych ar unedau economaidd mwy, ynghylch o ble y daw'r cyfalaf ar gyfer hynny. Felly, nid fy mod yn dweud na chân nhw ac na chaniateir iddyn nhw wneud hynny; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r angen i sefydlu'r model bancio cymunedol yn gyntaf fel gwasanaeth priodol sy'n llwyddiannus, ac yna mae'n ymwneud ag uchelgais y sefydliad a'r hyn y gall ei gyflawni mewn gwirionedd.

Ond, unwaith eto, nid wyf yn siŵr y byddai'n brawf teg dweud bod yn rhaid iddo ymwneud â'r un raddfa o gyllid y gallech ei weld fel arall mewn diwydiannau fel y sector dur. Ond mater i'r sefydliad yw nodi cynnig buddsoddi priodol y gall Llywodraeth Cymru ei gefnogi. A gallaf ddweud mai fy nisgwyliad i yw na fydd gwasanaethau Cymraeg ar-lein yn unig; bydd gwasanaethau Cymraeg mewn canghennau hefyd. Mae'n rhan o'r atyniad o gael partneriaeth briodol gyda sefydliad lleol sy'n deall yr angen i wneud hynny. Felly, rwy'n credu y byddai'n beth da i'r gwasanaethau iaith a bancio cymunedol, yn ogystal ag i ehangder yr hyn y byddwn yn gallu ei wneud dros amser. Y cam cyntaf, serch hynny, yw cyhoeddiad cyhoeddus heddiw am y sefydliad ariannol. Y cam nesaf fydd cynnig buddsoddi priodol a'r gwaith diwydrwydd dyladwy, ac yna gobeithiwn y byddwn yn bwrw ymlaen i sefydlu canghennau Banc Cambria yn ystod tymor y Senedd hon.

16:30

Mae gennyf sawl Aelod sy'n dal yn dymuno siarad, felly a wnewch chi i gyd wneud yn siŵr eich bod yn cadw o fewn eich dyraniad amser? Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ein helpu drwy fod yn gryno yn ei atebion. Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fe wyddoch chi, yn amlwg, y bûm i'n ceisio gweithio'n galed iawn i ddod â changen banc cymunedol i Fwcle yn fy etholaeth i, ac rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi bod ymrwymo i ddechrau banc cymunedol cyntaf Cymru ac agor cangen yn un beiddgar ac yn un i'w groesawu. Felly, rwyf yn ddiolchgar iawn i chi a'ch swyddogion, ond hefyd yn ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Ken Skates, am ei amser yn hyrwyddo'r syniad yn y Llywodraeth. Ac rwy'n credu ei bod hi'n drawiadol bod gennym ni wir gefnogaeth drawsbleidiol i'r syniad yma. Rwy'n credu fod hynny'n dangos y Senedd ar ei gorau.

Mae'r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn dod â ni gam enfawr yn nes at fanc cymunedol trwyddedig yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hynny'n gyflawniad aruthrol wrth wireddu uchelgais y syniad hwn. Nawr, er mai Banc Cambria fydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru, rwy'n gwybod y bydd llawer ledled y DU yn gwylio i ddilyn eu harweiniad, ond y cwestiwn pwysig i drigolion Bwcle, Gweinidog, yw: pryd y bydd canghennau Banc Cambria yn agor ar ein strydoedd mawr, a pha mor hir y bydd hynny'n ei gymryd?

Ond, Dirprwy Lywydd, os wnewch chi ganiatáu imi wrth gloi, rwy'n gwybod fod gen i dipyn o enw fel Sinach y Senedd, ond rwyf i yn yr ysbryd Nadolig hwnnw heddiw ac, fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, rwyf weithiau'n canu carolau Nadolig, ac rwyf yn canu'r un peth ag yr wyf wedi'i ganu o'r blaen, felly'r cwbl yr hoffwn ar gyfer y Nadolig, Gweinidog, yw banc ym Mwcle. Diolch yn fawr.

Wel, rwy'n siŵr y bydd y bobl dda ym Manc Cambria wedi'ch clywed chi cyn heddiw, yn ogystal â heddiw, ac rwy'n gwybod y byddan nhw'n ymddiddori yn y ddadl heddiw y mae'r holl Senedd yn rhan ohoni. Edrychwch, rydym yn disgwyl derbyn cynnig buddsoddi dros y flwyddyn galendr nesaf, felly yn ystod 2022, a bydd angen i ni wedyn gynnal ein hymarfer diwydrwydd dyladwy, fel yr wyf wedi'i nodi o'r blaen. Felly, ni allaf roi union amserlen i chi ar gyfer hynny. Ond y disgwyliad amlinellol yw y gallem ni weld canghennau'n dechrau agor cyn diwedd 2023. Bydd angen i ni weld manylion hynny a ble y byddant yn y cynnig buddsoddi, a mater i Fanc Cambria yw cyflwyno eu cynnig ac i nodi sut y bydden nhw'n ceisio lleoli canghennau newydd a ble y bydden nhw'n dechrau arni. Rwy'n siŵr y bydd ceisiadau eraill, ond, fel y dywedais i, mae'r Aelod wedi bod yn gyson iawn am Fanc Cambria.

Mae'n werth nodi, pan siaradais yn gynharach am gytundebau asiantaeth, mai un o'r pethau y mae Banc Cambria eisoes wedi'i wneud yw rhywfaint o waith gydag Undeb Credyd y Cambrian yn y gogledd i edrych ar gytundeb asiantaeth posibl a allai eto helpu i sicrhau fod y gwasanaethau hynny ar gael i fwy o bobl ac i wneud hynny mewn ffordd sy'n bartneriaeth wirioneddol, yn hytrach nag mewn modd a fydd yn cystadlu â gwasanaethau undebau credyd hefyd. Mae amrywiaeth o bethau'n dod o hynny, a dyna pam y ceisiais nodi fy mod yn edrych ymlaen at allu dychwelyd yma gyda mwy o fanylion fel y gellir dechrau sefydlu canghennau, ac yna bydd hynny'n ffitio'n daclus i'r sector cyfiawnder cymdeithasol a bancio cymunedol mewn ffordd y credaf y byddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedyn yn Weinidog arweiniol, unwaith y bydd wedi'i sefydlu'n iawn.

A gaf i ychwanegu at y gefnogaeth drawsbleidiol a adleisiwyd drwy'r Siambr rithwir y prynhawn yma? Diolch yn fawr i'r Gweinidog ac i'ch tîm ac i'r Prif Weinidog hefyd am eich holl waith yn cyflwyno hyn. Mae'n ddatblygiad cyffrous, arloesol a thra bod gen i'r cyfle hwn, mae canolbarth Cymru eisiau datblygu ei sector ariannol, ac mi fyddem ninnau hefyd yn croesawu pencadlys Banc Cambria yn unrhyw le yng nghanolbarth Cymru. Felly, ystyriwch hynny hefyd.

Mae mor bwysig i ardaloedd trefol a gwledig, ac fe hoffwn i ddim ond dal sylw ar yr heriau sy'n wynebu ardaloedd gwledig heb eu banciau. Cefais y fraint fawr o gyfarfod â Banc Cambria yn Llanidloes, tref a gollodd ei banc diwethaf yn 2017, ac yn y Gelli Gandryll, lle rwy'n byw, caeodd y banc diwethaf yn 2018. Felly, mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ac arloesol iawn. Mae banciau'n hanfodol mewn ardaloedd gwledig gan eu bod yn cefnogi busnesau bach, maen nhw'n cefnogi ffermwyr ac amaethyddiaeth, ac maen nhw'n cefnogi'r rhai na allan nhw gael mynediad i'r rhwydweithiau digidol. Felly, rydym ni'n croesawu hyn.

Nid wyf am ofyn eto y cwestiynau a ofynnwyd o'r blaen, oherwydd rydych chi wedi bod yn glir bod datblygiadau i ddod o hyd, ond byddwn yn gofyn ac yn annog bod Banc Cambria a chithau'n gallu parhau i gyfathrebu'n effeithiol â'r cymunedau yr effeithir arnyn nhw gan golli eu banciau a bod proses ymgynghori dda sy'n caniatáu i bobl gyfrannu at hynny. Hoffwn hefyd adleisio safbwynt Luke Fletcher ar yr iaith Gymraeg, ac rydych chi eisoes wedi rhoi'r sicrwydd ynghylch sut y gall Banc Cambria fodloni'r disgwyliadau hynny. Diolch yn fawr, Gweinidog. Diolch yn fawr iawn.

16:35

Diolch, a diolch eto am y croeso eang. A'r sylw am ymgynghori a'r posibilrwydd i ganghennau newydd fod yn gatalydd gwirioneddol ar gyfer adfywio'r stryd fawr yn ogystal â chyfoeth cymunedol, mae hynny'n sylw yr wyf yn gwybod bod gan Aelodau ar draws y Siambr ddiddordeb mawr ynddo, a sut i wneud hynny mewn ffordd yr ydym ni'n ei deall a bod Banc Cambria, pan fyddan nhw'n datblygu cynnig, yn deall sut y gallan nhw wneud hynny, a gweithio gyda chymunedau yn hytrach na gwneud rhywbeth i gymunedau. Credaf y bu hynny yn ganfyddiad gydag enciliad rhai canghennau bancio traddodiadol, bod pobl wedi teimlo bod pethau wedi'u gwneud iddyn nhw heb ystyried yr effaith o reidrwydd. Ac mae'n broblem yn y Gymru drefol hefyd, ond rydym ni'n cydnabod ei bod hi'n arbennig o ddifrifol yng nghefn gwlad Cymru. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ddiolch i'r tîm; y tîm yma yn Llywodraeth Cymru—mae rhai o'n swyddogion wedi gweithio'n eithriadol o galed ar yr hyn sy'n faes cymhleth a dyrys—ond hefyd y tîm yng Nghymdeithas Adeiladu Sir Fynwy sydd wedi ymrwymo mewn difri calon i gyflawni hyn. Heb yr ymrwymiad hwnnw ganddyn nhw, ni fyddem ni yma heddiw a byddem yn dal i siarad am syniad yn hytrach na chynnig priodol lle y gallwn ni ddisgwyl cynnig buddsoddi pendant y flwyddyn nesaf. Felly, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, ac rwy'n gwybod y bydd Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, ynghyd â Banc Cambria, yn parhau i wneud hynny hefyd.

A gaf i ddweud 'diolch' am eich datganiad, Gweinidog? Rydych chi wedi cyfeirio at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn helaeth, fel y mae Mark Isherwood wedi gwneud hefyd, ond roedd yn fraint gen i gadeirio'r pwyllgor hwnnw, ac rwy'n credu ei bod hi'n wych ein bod ni, ar sail drawsbleidiol, wedi cefnogi gwaith Banc Cambria yn fawr iawn ac wedi gwneud cyfres o argymhellion, a oedd, gobeithio, wedi helpu i symud materion yn eu blaen.

Gydag arian cyhoeddus, Gweinidog, a gaf i ofyn sut y byddwch chi a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod chwarae teg i bawb, ac yn enwedig i gymdeithasau adeiladu nad ydyn nhw'n ymwneud â Banc Cambria efallai?

Mae hwnnw'n gwestiwn teg, ac, edrychwch, yr hyn yr ydym ni'n edrych arno yw, rydym ni'n edrych ar rywbeth a fyddai'n gynnig buddsoddi priodol ar sail fasnachol. Felly, nid yw fel pe baem ni'n ceisio darparu llinellau credyd ffafriol; mae'n ymwneud â dod o hyd i bartner a all ddarparu cynnig buddsoddi masnachol manwl iawn, darparu elw ar fuddsoddiad y byddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Ac felly, byddai gwaith diwydrwydd dyladwy priodol ynghylch hynny, ac ni fyddai hyn, mewn ffordd, yn dangos ffafriaeth, 'Rydym ni'n gofalu am un sefydliad.' Ac, mewn gwirionedd, roedd galwad agored, ac aeth Banc Cambria ati eu hunain i chwilio am amrywiaeth o sefydliadau i weithio gyda nhw a siarad â nhw. Roedd Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy eisiau gwneud hyn, yn barod i wneud hyn, ac yn cydnabod bod angen i'r sefydliad fod wedi ymrwymo mewn ffordd nad oedd ar rai sefydliadau eisiau bod. Nawr, mae hynny'n gwbl deg. Mater i bob sefydliad yw penderfynu sut y mae am reoli ei hun a buddsoddi ei egni ei hun. Rwy'n falch iawn o fod â Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy fel partner dibynadwy, yn gweithio gyda ni nawr.

A dylwn i ddweud ein bod ni wedi ystyried argymhellion y cyn bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau a gadeiriwyd gan yr Aelod—mae'n debyg y byddwn yn cytuno â llawer mwy o bethau a ddywedodd fel Cadeirydd y pwyllgor nag yn ei swyddogaeth bresennol. Ond, na, rydym ni wedi cymryd o ddifrif yr hyn a ddywedodd y pwyllgor, ac mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni allu gweithio o sail lle gwyddom ni fod cefnogaeth drawsbleidiol ac y gallwn ni geisio darparu rhywbeth a ddylai wneud gwahaniaeth, lle gall pawb gydnabod ein bod ni'n gwneud rhywbeth i fynd i'r afael ag angen gwirioneddol. Ni waeth sut y mae pobl yn pleidleisio, mae gwir angen ledled Cymru i ni wneud rhywbeth i lenwi'r bwlch hwn mewn gwasanaethau bancio lleol.

Diolch, Gweinidog. Mae banc cymunedol Cymru yn syniad pwysig iawn, gan roi ei aelodau a'i gymunedau yn gyntaf yn hytrach na chyfranddalwyr ac elw. Ynghyd â llawer o fy etholwyr, edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau yn cael eu cyflwyno, ond nodaf eich sylwadau ynghylch yr heriau o ran rhoi'r model newydd ar waith.

Fe wnaethoch chi sôn am fanciau traddodiadol yn encilio'n gynt nag erioed o'r stryd fawr, ac rwy'n drist i nodi mai banc Barclays fu'r diweddaraf i adael y stryd fawr yn Aberdâr. Un syniad y gofynnodd etholwyr imi ei godi gyda Barclays yw'r syniad o ganolfan fancio lle gall nifer o fanciau ddod at ei gilydd mewn un adeilad ar y stryd fawr i gynnig eu gwasanaethau i'r gymuned. Gweinidog, byddwn yn croesawu eich barn ar ganolfannau bancio, ynghylch a allen nhw fod yn rhan o'r ateb i wasanaethau bancio yn gadael y stryd fawr. Fe wnes i gyfarfod â phenaethiaid Barclays ddoe a chyflwyno'r syniad hwn iddyn nhw. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf i eu bod nhw eisoes yn gweithio gyda banciau eraill i ddatblygu'r cysyniad hwn, gyda'r ganolfan fancio gyntaf ar fin agor yn Lloegr yn fuan. Felly, gyda hynny mewn golwg, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda'r sector i geisio sicrhau canolfannau bancio yng Nghymru?

16:40

Diolch. Mae'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru gyda'r banc cymunedol yn ddull newydd o ran polisi nad yw wedi bod yn llwyddiannus yn unman arall. Mae canolfannau bancio yn treialu'r hyn y gallen nhw ei wneud, ac mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw atyn nhw fel rhan o'r ateb ar gyfer y dyfodol. Felly, rydym ni'n disgwyl cael adroddiad arbrofol ar ganolfannau bancio ar y cyd yn fuan, ac rwy'n deall bod dau gynllun yn arbrofi gyda chanolfannau bancio, un yn Swydd Lanark ac un yn Essex, ac mae yna hefyd fynediad cymunedol at gynllun arbrofol arian parod yn cael ei ddatblygu yn y Gelli Gandryll. Felly, byddwn yn edrych gyda gwir ddiddordeb ar y tri chynllun arbrofol gwahanol hynny i ddeall yr hyn y gallai hynny ei ddweud wrthym ni, naill ai am ein cynnig ni o ran sefydlu banc cymunedol, neu a oes ffyrdd eraill o geisio darparu gwasanaethau cynhwysiant ariannol i gymunedau ledled Cymru. Mae'n ddrwg gen i glywed bod Barclays yn bwriadu gadael Aberdâr. Mae'r Aelod yn tynnu sylw'n daclus iawn at yr union her yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael â hi, a byddwn i'n fwy na pharod i'w diweddaru hi ac eraill am yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r sector bancio manwerthu presennol a'r posibiliadau o ganolfannau bancio sy'n helpu i lenwi rhai o'r bylchau y maen nhw yn eu gadael ar ôl.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Byddwch chi'n ymwybodol, Gweinidog, imi gyfarfod â Banc Cambria yn Abertyleri rai wythnosau'n ôl i drafod y posibilrwydd o leoli cangen yn y dref. Mae llawer o'n cymunedau yn y Cymoedd wedi gweld gwasanaethau ariannol yn cael eu tynnu'n ôl ac wedi gweld caledi gwirioneddol, i fusnesau lleol a phobl leol, o ganlyniad i hynny. Bydd llawer o bobl yn edrych ar hyn fel cyfle i weld gwasanaethau ariannol yn ôl ar y stryd fawr fel rhan o gyfle i adfywio canol trefi yn y Cymoedd ac mewn mannau eraill. A fyddech chi, Gweinidog, yn gweithio gyda Banc Cambria, ac Aelodau sy'n cynrychioli seddi yn y Cymoedd, i edrych ar sut y gallwn ni sicrhau bod gennym ni raglen o ganghennau a chyfle i sicrhau bod gwasanaethau ariannol ar gael i bobl ar hyd a lled y wlad lle bynnag y bo nhw'n byw, boed hynny'n Abertyleri, Tredegar, Glynebwy, Brynmawr neu rywle arall? Diolch.

Yn wir, rwy'n deall bod yna bobl nad ydyn nhw'n byw yn etholaeth yr Aelod, ond rwy'n ei ganmol am sôn am nifer o'i drefi etholaethol. Edrychwch, mae her wirioneddol, ac mae'r Aelod yn tynnu sylw at yr her yma eto, am adfywio canol trefi yn creu dyfodol llwyddiannus iawn i'n strydoedd mawr lleol, ac mae'n bwysig iawn o ran ymdeimlad o le yn y trefi hynny a'r hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl am y man lle maen nhw'n byw. Felly, byddwn i'n fwy na pharod i barhau â'r sgwrs gydag ef wrth i ni gael y cynnig buddsoddi ynghylch Banc Cambria, wrth i ni ddeall mwy o'r manylion am ble maen nhw'n bwriadu lleoli eu canghennau, ond yn hollbwysig sut mae hynny'n cyd-fynd â'n hymyriadau eraill beth bynnag. Oherwydd nid oes a wnelo hyn â Banc Cambria yn unig—ac rwy'n sylweddoli na ddywedodd yr Aelod hynny—ond sut y gall ychwanegu at yr hyn yr hoffem ni ei wneud i sicrhau bod dyfodol gwirioneddol i drefi'r Cymoedd a threfi eraill ledled y wlad. Felly, byddwn i'n fwy na pharod i barhau â'r sgwrs honno gyda'r Aelod pan fo ar ei orau yn adeiladol.

A gaf i ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am geisio mynd i'r afael â'r broblem anodd iawn a deimlir ym mhob cymuned ledled Cymru, a hefyd ymestyn y diolch hynny i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy? Gwyddom fod y DU yn cael ei gwasanaethu'n wael gan nifer o fanciau mawr sy'n anwybyddu adborth cwsmeriaid ac yn parhau i fabwysiadu polisi o gefnu ar fancio cymunedol. Yn wyneb gwrthwynebiad cyffredinol bron ac anfodlonrwydd cwsmeriaid, maen nhw'n parhau i gau canghennau sydd wedi bod â rhan amlwg iawn yn ein strydoedd mawr ledled Cymru. Felly, Gweinidog, a allwch chi gadarnhau y bydd creu banc cymunedol i Gymru yn rhoi lles cyn pres, ac a wnewch chi gadarnhau y bydd banc cymunedol newydd Cymru yn cyflawni ar gyfer y llawer, nid yr ychydig, ar fodel cydfuddiannol cydweithredol, gan gynnwys gyda'n partneriaid sefydledig o'r undebau credyd? Ac yn olaf, sut yr wyf yn sicrhau y caiff ein banc newydd i bobl Cymru a'i pheiriannau twll yn y wal eu sefydlu ar strydoedd mawr Islwyn ar gyfer cymunedau ynysig fy Nghwm penodol i, sydd wedi'u gwreiddio mewn cydweithredu diwydiannol, ac sydd bellach wedi eu hesgeuluso'n wael iawn gan y model cyllid traddodiadol seiliedig ar elw? Diolch.

Wel, os oedd Banc Cambria yn amau brwdfrydedd Aelodau i gael banc cymunedol llwyddiannus i Gymru gyda phresenoldeb priodol ym mhob etholaeth a chymuned yn yr etholaethau hynny, dylai pob rhithyn o amheuaeth fod wedi diflannu ar ôl cyfraniadau'r Aelodau heddiw. Rwy'n cydnabod bod angerdd Aelodau yn ddilys oherwydd yr etholaethau a'r rhanbarthau yr ydych chi'n eu gwasanaethu, lle'r ydych chi'n gweld effaith uniongyrchol banciau'n gadael a'r hyn y mae'n ei olygu, yn enwedig i'r rhai sydd fwyaf tebygol o fod yn agored i niwed neu wedi'u hallgáu'n ariannol. Dyna pam rwy'n gadarnhaol iawn ynglŷn â'r ffaith ein bod yn gallu ffurfio partneriaeth â sefydliad cydfuddiannol, lle nad ydyn nhw'n bwriadu tynnu arian allan o Gymru i fynd i gyfranddalwyr eraill. Yr aelodau yw eu prif ddiddordeb ac mae arnyn nhw eisiau ailfuddsoddi yn y cymunedau hynny.

Rwyf yn credu bod gennym ni sefydliad addas iawn ar gyfer yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i gyflawni gyda Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy. Edrychaf ymlaen at dderbyn y cynnig buddsoddi ac edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch hynny. Yn fwy na hynny, edrychaf ymlaen at weld a all Banc Cambria ddechrau sefydlu canghennau o fewn canol tymor y Senedd hon, nid yn unig o ran y canghennau cyntaf a sefydlir, ond hefyd i'r cymunedau eraill hynny a hoffai weld sefydlu cangen banc cymunedol. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod dros Islwyn yn gwneud ei phwynt yn rymus ac yn uniongyrchol i Fanc Cambria am fanteision a buddion mynd i Islwyn, yn union fel y bydd Aelodau eraill yn gwneud yr un peth ar gyfer eu hetholaethau hefyd. Diolch yn fawr, Rhianon Passmore, a diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

16:45
6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19

Eitem 6 heddiw yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: diweddariad ar COVID-19. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr amrywiolyn omicron sy'n symud yn gyflym iawn, ei effaith ar Gymru a'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yma. Yn fy natganiad diwethaf i'r Aelodau, dywedais mai dim ond mater o amser oedd hi nes i omicron gyrraedd Cymru, ac yn anffodus, roedd hynny’n wir. Cadarnhawyd yr achos cyntaf yng Nghymru ychydig ddyddiau'n ddiweddarach ac, o heddiw ymlaen, mae 32 o achosion wedi'u cadarnhau. Mae'r niferoedd yn tyfu bob dydd, ac mae'n rhaid i ni fod yn barod iddyn nhw godi'n gyflym ac yn sydyn.

Mae'r amser dyblu ar gyfer omicron yn ddau i dri diwrnod ar hyn o bryd. Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi amcangyfrif, os bydd yr amrywiolyn yn parhau i dyfu ar y gyfradd bresennol, mai dyma fydd y straen amlycaf, gan gyfrif am fwy na 50 y cant o'r holl heintiau COVID-19 yn y DU erbyn canol mis Rhagfyr. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau heb eu hatal, bydd mwy na miliwn o heintiau omicron yn y DU erbyn diwedd mis Rhagfyr. Mae'r Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidog yr Alban wedi rhybuddio fod ton lanw o achosion ar ei ffordd. Mae'r sefyllfa'n ddifrifol iawn.

Rydym yn dal i ymdrin â'r amrywiolyn delta yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae tystiolaeth bryderus bod omicron wedi ennill ei blwyf yn ein cymunedau eisoes. Bellach mae achosion wedi'u cadarnhau ym mhob ardal bwrdd iechyd. Cyrhaeddodd y DU drwy deithio rhyngwladol ac roedd yr achosion cychwynnol wedi'u cysylltu â theithio. Erbyn hyn, mae trosglwyddo cymunedol eang a pharhaus mewn sawl rhan o Loegr ac yn yr Alban hefyd. Nid yw'r rhan fwyaf o achosion yng Nghymru yn gysylltiedig â theithio. Pan siaradais â chi ddiwethaf am omicron, roedd llawer nad oeddem yn ei wybod. Diolch i waith arbenigwyr ac ymchwilwyr ledled y byd, rydym yn dysgu mwy bob dydd. Gwyddom bellach fod gan omicron fantais o ran twf dros delta, a gallai hyn fod o ganlyniad i osgoi imiwnedd neu drosglwyddo, ond gallai fod o ganlyniad i'r ddau.

Mae omicron o leiaf mor drosglwyddadwy â delta. Mae'n ymarferol ei fod yn fwy trosglwyddadwy. Rydym yn aros am dystiolaeth bellach, ond os ydyw, mae ganddo'r potensial i heintio nifer fawr o bobl, a allai droi'n gynnydd mewn derbyniadau i'r ysbyty. Rydym yn symud i gyfnod anoddaf y flwyddyn ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a gofal. Mae'r GIG eisoes yn hynod o brysur o ganlyniad i bwysau'r gaeaf a dal i fyny â thriniaethau a gafodd eu gohirio yn gynharach yn y pandemig. Byddai hyd yn oed cynnydd bach mewn derbyniadau COVID-19 yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau a gweithlu blinedig ac, a dweud y gwir, wedi'i lethu.

Gwyddom hefyd fod omicron yn dangos gostyngiad mewn diogelwch imiwnedd rhag haint ac nid oes gennym ddigon o wybodaeth o hyd i wybod a fydd yn achosi math mwy difrifol o salwch. Sut mae'r amrywiolyn yn ymddwyn mewn gwahanol boblogaethau gyda chyfraddau brechu gwahanol a phroffiliau demograffig gwahanol yw canolbwynt astudiaeth ddwys ledled y byd. Dros y penwythnos, datgelodd data sy'n dod i'r amlwg nad yw dau ddos o'r brechlyn yn ddigon i'n hamddiffyn rhag omicron. Mae'r dos atgyfnerthu yn hanfodol ar gyfer cryfhau ein diogelwch.

Mae dros 1.1 miliwn o bobl eisoes wedi cael brechlyn atgyfnerthu yng Nghymru. Roeddem eisoes yn cynyddu cyflymder a chyflwyno'r rhaglen frechu wrth i'r canfyddiadau newydd hyn ddod i'r amlwg, ond byddwn yn awr yn mynd ymhellach a byddwn yn mynd yn gyflymach. Ein nod yw cynnig apwyntiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Rhagfyr. Mae hwn yn ymgymeriad enfawr. Bydd yn flaenoriaeth i'r GIG a bydd yn golygu ail-ganolbwyntio cymaint o weithgarwch nad yw'n fater brys â phosibl dros yr wythnosau nesaf ar y rhaglen frechu fel y gallwn sicrhau'r amddiffyniad mwyaf posibl. Byddwn yn gofyn i holl staff y GIG sy'n gallu, i weithio yn ein canolfannau brechu. Byddwn yn ymestyn canolfannau brechu i'w capasiti mwyaf, gan ymestyn oriau agor a darparu model hybrid o apwyntiadau galw i mewn a rhai a drefnwyd ymlaen llaw.

Rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cynnig i gael y brechlyn. Rhowch flaenoriaeth i hyn os gwelwch yn dda. Mae'n un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun. 

Dirprwy Lywydd, mae hon yn sefyllfa sy'n peri pryder ac yn symud yn gyflym iawn. Ond, ar hyn o bryd, mae nifer yr achosion o omicron sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru yn dal i fod yn isel, ac rydyn ni'n parhau i ymateb i don delta. Ond, rhaid inni i gyd fod yn barod i weithredu'n gyflym i ddiogelu iechyd pobl. Yn yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws, mae'r Cabinet wedi ystyried pa fesurau amddiffyn sydd eu hangen nawr i ymateb i'r don delta bresennol a'r camau y mae angen inni eu rhoi ar waith i baratoi ac amddiffyn rhag cynnydd mewn achosion yn sgil yr amrywiolyn omicron. Rydyn ni wedi penderfynu newid i gylch adolygu wythnosol, er mwyn gallu monitro'r sefyllfa o ran iechyd cyhoeddus yn ofalus. Am y tro, byddwn yn aros ar lefel rhybudd 0, ond rydyn ni wedi adeiladu ar y mesurau rydyn ni wedi eu cyflwyno yn ystod y pythefnos diwethaf sy'n ymwneud â hunanynysu a theithio rhyngwladol. 

Rŷn ni bellach yn cynghori pobl yn gryf i brofi eu hunain ymlaen llaw—hynny yw, i wneud prawf llif unffordd cyn mynd allan i lefydd prysur neu i unrhyw ddigwyddiadau, a hefyd cyn teithio neu cyn ymweld â ffrindiau a theulu. Rŷn ni wedi cyhoeddi canllawiau i fyfyrwyr sy'n paratoi i adael y coleg a'r brifysgol cyn y Nadolig ynglŷn â chymryd profion cyn teithio. Os yw'r prawf yn bositif, arhoswch gartref. Mae angen ichi hunanynysu a threfnu prawf PCR. Rŷn ni wedi gwneud mân newidiadau i'n rheolau i egluro bod rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn sinemâu a theatrau ac yn ystod gwersi gyrru proffesiynol neu brofion gyrru ymarferol. Rŷn ni hefyd yn cynghori pobl yn gryf i wisgo gorchudd wyneb mewn tafarndai a bwytai pan nad ydyn nhw wrth y bwrdd neu ddim yn bwyta neu'n yfed. Rŷn ni wrthi'n gwneud rhai newidiadau technegol i'r pàs COVID. Dylid cymryd profion llif unffordd o fewn 24 awr, yn hytrach na'r cyngor blaenorol o 48 awr. A hefyd o ran y pàs COVID, rŷn ni'n cael gwared ar dystiolaeth o imiwnedd naturiol, yn unol â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yn Lloegr, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno ei chynllun B mewn ymateb i omicron. Rŷn ni'n ystyried sut i gefnogi ymweliadau mwy diogel mewn cartrefi gofal ac ysbytai i sicrhau ein bod ni'n diogelu'r pobl sydd fwyaf agored i niwed. 

Dirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod pryderus ac yn un sy'n ansicr i bob un ohonon ni. Rŷn ni wedi wynebu heriau gyda'n gilydd o'r blaen, ac mae angen inni gydweithio gyda'n gilydd nawr, edrych ar ôl ein gilydd a chadw'n gilydd a Chymru yn ddiogel. Diolch yn fawr.

16:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Gweinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a'r copi ymlaen llaw heddiw, a hefyd am y briff y gwnaethoch ei roi i Aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda'ch swyddogion? Roedd hynny'n ddefnyddiol y bore yma hefyd. Cytunaf â chi, Gweinidog; mae pryder mawr yma, oherwydd mae cymaint o ansicrwydd a gwyddom fod omicron yn prysur ddod yn brif straen ar draws y DU ac yng Nghymru. Wrth gwrs, cytunaf mai cynyddu'r rhaglen frechu yw'r flaenoriaeth ac mae'n rhaid ehangu'r rhaglen frechu'n gyflym.

A gaf i ofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich mesurau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio? A gaf fi ofyn am negeseuon, yn gyntaf oll? Gan y Prif Weinidog, yn ei ddatganiad ddoe a heddiw—y neges yw, 'Ewch am eich brechlyn atgyfnerthu, a gwnewch hynny yn flaenoriaeth'. Ond i lawer o bobl ledled Cymru, nid dyna'r mater mewn gwirionedd, oherwydd maen nhw’n barod; maen nhw'n barod i gael eu brechlyn atgyfnerthu. Credaf mai'r cwestiwn yw sut y gallan nhw wneud hynny. I lawer o bobl, er gwaethaf y negeseuon ei fod yn flaenoriaeth, mae'n fater o eistedd ac aros nes i chi gael eich gwahoddiad. Dyna'r realiti yma. Felly, dyna rai o'r materion o ran negeseuon yr oeddwn eisiau eu codi gyda chi am hynny. Oherwydd byddwn i'n dychmygu bod unrhyw un yn y Senedd rithwir hon heddiw yn teimlo'r un ffordd. Rwy'n barod i ollwng popeth i gael fy mrechlyn atgyfnerthu. Rwyf eisiau gwybod sut rwy'n mynd i ganfod lle rwy'n mynd i'w gael, pryd gaf fi wybod, beth ddylwn i ei wneud ac erbyn pa ddyddiad os nad wyf wedi cael fy ngwahoddiad. Felly, os dyna'r cwestiynau sydd gennyf i ac Aelodau yn y Siambr rithwir hon y prynhawn yma, dyna fydd y cwestiynau gan bobl ledled Cymru. Credaf mai dyna'r elfen bwysig yma o ran cyrraedd y targedau yr ydych chi wedi'u nodi—y targedau uchelgeisiol yr ydych chi wedi'u gosod i gynnig y gwahoddiad i bob oedolyn erbyn diwedd y flwyddyn.

Ynghylch y mesurau eraill o ran y nifer sy’n manteisio hefyd, yn eich papur briffio heddiw, fe wnaethoch sôn am gynlluniau ar gyfer cynyddu oriau agor. Fe wnaethoch sôn am hynny yn eich datganiad heddiw, ond nid wyf yn credu i chi sôn am yr amseroedd. Credaf yn y briff heddiw, os wyf yn iawn, eich bod wedi sôn am gynyddu amseroedd agor o 9 a.m. i 8 p.m. A gaf i awgrymu, i lawer o bobl, y gallant gyrraedd cyn 9 a.m. os yw hynny'n briodol? Gall llawer o bobl fod yn bresennol ar ôl 8 p.m. Felly, gaf fi ofyn i chi ailystyried amseroedd agor hirach efallai? Oherwydd byddwn yn awgrymu ei bod yn anodd iawn cyrraedd eich targed os na fydd yr amseroedd agor yn cael eu hymestyn ymhellach.

Law yn llaw â'r cwestiwn hwnnw, wrth gwrs, mae gwirfoddolwyr hefyd. Rydych chi wedi sôn am weithio gyda'r trydydd sector, ac rwy’n croesawu hynny. A wnewch chi nawr lansio ymgyrch recriwtio ledled Cymru ar gyfer gwirfoddolwyr? Oherwydd heb os nac oni bai mae angen i hynny ddigwydd ar frys. A gaf fi ofyn i chi beth yw eich cynlluniau o ran llenwi bylchau pan nad yw pobl yn cyrraedd, yn anffodus, ar gyfer apwyntiadau? Mae'n rhwystredig iawn, rwy'n gwybod. Ond pan nad yw pobl yn cyrraedd, beth yw'r cynlluniau ar gyfer llenwi'r apwyntiadau hynny gyda rhychwant amser byrrach?

Fe wnaethoch ddweud yn eich datganiad fod data sy'n dod i'r amlwg wedi datgelu nad yw dau ddos o'r brechlyn yn ddigon i'n hamddiffyn rhag omicron. A wnewch chi egluro a yw hyn dim ond yn gysylltiedig ag AstraZeneca, neu'r ddau frechlyn? A faint o ran y mae'r amser ers cael brechlyn yn ei chwarae i amddiffyn eich hun yn erbyn yr amrywiolyn newydd hwn? A gaf fi hefyd ofyn pa gynlluniau sydd gennych chi o ran canslo llawdriniaethau sydd wedi’u trefnu? Fe wnaethoch chi sôn ychydig am hynny heddiw hefyd. Rwyf yn pryderu am fod un o bob pump o bobl ledled Cymru eisoes ar restr aros, felly pa ymdrechion yr ydych chi’n eu gwneud i atal rhestrau aros rhag cynyddu ymhellach yn hyn o beth, a pha gynnydd sy'n cael ei wneud ar ganolfannau llawfeddygol, fel yr wyf wedi'i amlinellu o'r blaen?

Ac yn olaf, mae'n ymddangos bod rhywfaint o ddata cadarnhaol, data cynnar, sy'n dangos bod cyfraddau marwolaethau yn Ne Affrica wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y dyddiau diwethaf, felly tybed pa asesiad sydd wedi'i wneud o rannau eraill o'r byd lle mae'r amrywiolyn newydd wedi datblygu'n sylweddol sy'n dod â rhywfaint o obaith ac anogaeth y gellir ei dynnu o'r data hwnnw.

17:00

Diolch yn fawr, Russell. Brechu yw'r flaenoriaeth nawr, ac os ydym eisiau diogelu ein GIG wrth fynd i fis Ionawr yn arbennig, yna dyma'r amser i wneud y gwaith hwn, a dyna pam yr ydym wedi rhoi mwy o hwb i’n system mewn gwirionedd, i sicrhau y gellir cyflwyno'r rhaglen frechu honno'n llawer cyflymach, ond nid yn y ffordd anhrefnus yr ydym wedi'i gweld yn Lloegr. Yng Nghymru, rydym yn gwneud pethau'n wahanol. Rydym yn ceisio paratoi pethau cyn gwneud cyhoeddiad. Fe welsoch y golygfeydd hynny yn Lloegr dros y penwythnos—miloedd o bobl yn cyrraedd canolfannau brechu, dim cynllun, ac nid oedd meddygon teulu hyd yn oed wedi cael gwybod. Rydym yn gwneud pethau'n wahanol iawn yma yng Nghymru. Rydym yn cael sgwrs yn gyntaf, rydym yn paratoi’r cyfan, ac yna rydym ni’n gwneud cyhoeddiad. Dyna'n union yr ydym wedi bod yn ei wneud.

Mae rhai manylion i’w cadarnhau. Fel y gallwch ddychmygu, mae hon yn dasg enfawr y byddwn yn ei hwynebu. Beth fydd yn digwydd yw, pan fydd yn amser i'ch brechu, byddwch yn cael neges testun neu byddwch yn cael galwad ffôn, felly mae'n bwysig bod pobl wedi rhoi eu manylion cyswllt i'w meddyg teulu fel bod gennym eich manylion cyswllt diweddaraf. Yna byddwn yn cyrraedd pwynt pan fyddwn yn rhoi gwybod i chi'n gyhoeddus os dylech fod wedi bod yn y grŵp o bobl a ddylai fod wedi'u galw. Felly, rydym yn glynu wrth awgrym y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu y dylem frechu pobl yn nhrefn blaenoriaeth o ran bod yn agored i niwed, mewn gwirionedd—felly mae'n ddull sy'n gysylltiedig ag oedran ac yn ddull sy'n gysylltiedig â salwch, fel yr argymhellwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Rydym ni'n mynd i gadw at hynny.

Mae'n bosibl y byddwn yn ymestyn yr amseroedd agor y tu hwnt i 8 o'r gloch, felly mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei weithio allan nawr. Mae hynny'n debygol o ddigwydd, yn sicr yn rhai o'n canolfannau mwy. Mae'r ymgyrch recriwtio eisoes wedi dechrau. Rydym wedi dweud wrth bobl y gallant gofrestru a'n helpu o ran gwirfoddoli, felly mae hynny eisoes wedi'i wneud, ac mae proses ar wahân ar gyfer gwirfoddolwyr sy'n weithwyr iechyd proffesiynol. Rydym hefyd yn aros am ymateb gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i'n cais am gefnogaeth gan y fyddin hefyd.

O ran y bylchau, rydym yn siomedig iawn. Mewn rhai ardaloedd rydym yn gweld llawer o bobl nad ydyn nhw'n dod ar gyfer eu brechiad, ac mae hynny'n sefyllfa wirioneddol anodd sy'n codi, a dyna pam mae angen i ni danlinellu'r ffaith bod hwn yn gyfle hanfodol i bobl ei gymryd a chael y brechlyn atgyfnerthu hwnnw. Felly, yr hyn yr ydym wedi ei wneud bob amser yw cael system o or-lenwi apwyntiadau, a byddwn yn gor-lenwi eto i sicrhau nad ydym yn cael y bylchau hynny.

Mae'n wir nad yw dau ddos o AstraZeneca yn ddigon yn sicr, ond mae hefyd yn wir o ran Pfizer hefyd. Dyna pam ein bod yn gwthio hyn mewn gwirionedd gydag ymdeimlad gwirioneddol o frys. Rydym yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu pan ddaw'n fater o'r bwlch rhwng dosau. Maen nhw wedi cytuno ei bod yn bosibl lleihau'r amser rhwng dosau—yr ail ddos a'r dos atgyfnerthu—o chwe mis i dri mis, felly rydym yn dilyn y cyngor gwyddonol ar hynny.

O ran canslo llawdriniaethau sydd wedi’u trefnu, rwyf am danlinellu bod hwn yn fwrlwm tair wythnos yr ydym yn sôn amdano—mae'n gyfnod o dair wythnos o weithgarwch, ac yna gobeithio y byddwn yn gallu mynd yn ôl i ryw fath o normalrwydd, sut bynnag y mae normalrwydd yn edrych y dyddiau hyn. Felly, mae'n bwysig i bobl ddeall hynny.

Ar y sefyllfa o ran cyfraddau marwolaethau yn Ne Affrica, rwyf wedi bod yn ceisio darllen am hyn y prynhawn yma. Yr hyn sy'n amlwg yw bod yr arbenigwyr yn rhybuddio nad yw profiad De Affrica o bosibl yn ddangosydd dibynadwy o ran omicron mewn gwledydd eraill. Felly, roedd 72 y cant o'r boblogaeth honno wedi profi haint COVID blaenorol. Nid yw hynny'r un sefyllfa ag yma yn y DU. Mae gennym ddemograffeg wahanol, mae gennym boblogaeth hŷn yma, mae gennym wahanol wendidau i glefydau, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn deall, oherwydd bod y system yn wahanol yn Ne Affrica, ein bod yn gweld cyfraddau'r ysbyty—. Rwy'n credu mai'r peth call i'w wneud yw bod yn ofalus, paratoi ar gyfer y gwaethaf a gobeithio am y gorau.

Diolch, Llywydd. Rydw innau'n sicr yn cytuno efo'r Gweinidog bod y sefyllfa yn ddifrifol tu hwnt, a dwi'n diolch ymlaen llaw i'r holl weithwyr hynny mewn gwasanaethau iechyd a gofal, a gwasanaethau brechu a phrofi ac olrhain, ac yn y blaen, sydd eto yn mynd i fod o dan bwysau mawr yn y cyfnod o'n blaenau ni, a hwnnw'n gyfnod o bwysau mawr beth bynnag, heb omicron.

Dwi'n gobeithio, i roi nodyn mwy positif, fod peth o'r dystiolaeth gynnar rydan ni'n ei gweld yn mynd i brofi yn gywir, a'n bod ni efallai yn symud i mewn i bennod o'r pandemig lle mae'r feirws, o bosib, yn llai peryglus. Ond, wrth gwrs, am rŵan, dydyn ni ddim yn gwybod hynny, ac mae'n rhaid sylweddoli bod yna niferoedd uchel iawn yn mynd i gael y feirws rŵan. Hyd yn oed os ydy cyfradd y bobl sy'n mynd yn wirioneddol sâl yn is, mae o'n mynd i olygu pwysau mawr ar ein gwasanaethau iechyd ni oherwydd y niferoedd. 

Dwi, wrth gwrs, yn cefnogi'r egwyddor o gyflymu'r broses o roi'r brechlyn booster, ond y perig sydd gennym ni rŵan, dwi'n meddwl, ydy bod disgwyliadau pobl yn uchel iawn, iawn, a dwi ddim eto wedi gweld y cynllun sydd yn rhoi hyder bod y rhaglen yn barod i fynd. Mae'r gwaith yn sicr yn adeiladu yn dda, a dwi'n ddiolchgar am y diweddariadau rydyn ni wedi'u cael gan y Gweinidog y pnawn yma ac mewn datganiad yn gynharach heddiw. Ond tra'i bod hi'n sôn am chaos yn Lloegr—fe welais innau yr un lluniau hefyd—dwi innau, mae gen i ofn, yn clywed adroddiadau am chaos yma yng Nghymru mewn llefydd, efo pobl yn troi fyny i ganolfannau brechu ac yn cael eu troi i ffwrdd oherwydd bod ganddyn nhw apwyntiad ym mis Ionawr, tra bod pobl eraill oedd ddim wedi cael apwyntiad eto, oherwydd eu bod nhw'n llai o flaenoriaeth, yn cael cerdded i mewn a chael y booster. Dydy hynny ddim yn gwneud llawer o synnwyr.

Mae angen eglurder ar beth sy'n digwydd i weithwyr allweddol sydd ddim yn weithwyr iechyd a gofal—heddlu ac athrawon. Oes yna ffordd iddyn nhw gael y brechiad ynghynt? Lle mae'r cynlluniau cadarn i fynd i'r afael â brechu pobl yn eu cartref, y bobl hynny sydd yn rhy fregus ac â phroblemau symudedd ac yn methu mynd i mewn i ganolfannau brechu? Mae'n rhaid i gyfathrebu fod yn glir yn wastad efo cleifion, ie, ond efo cydweithwyr o fewn gwasanaethau iechyd. Dydy o'n gwneud dim synnwyr i mi pan fydd un feddygfa yn dweud mai clywed ar Facebook wnaethon nhw bod yna ganolfan frechu walk-in yn yr ardal. Mae'n rhaid i hyn gael ei dynhau, ac mae'r cwestiynau yn lluosog, onid ydynt? Pa bryd fydd y canolfannau brechu cerdded-i-mewn yn agor? A fydd yna rai ym mhob un rhan o Gymru? A fydd pobl yn cael teithio o un ardal i'r llall rhwng siroedd, rhwng ardaloedd bwrdd iechyd, hyd yn oed i Lundain os ydyn nhw wedi clywed bod yna ganolfan frechu yn fanno, fel y gwnaeth un awgrymu wrthyf i yn gynharach? Dyma'r math o bethau rydyn ni angen eglurder arnyn nhw.  

Dwi'n gwybod gymaint o her mae'r Llywodraeth, y byrddau iechyd a timau brechu yn ei hwynebu, a dwi'n ddiolchgar am ymroddiad pawb ar wyneb y graig, a dwi'n dymuno'n dda i bawb yn y cyfnod sydd o'n blaenau ni, ond mae angen i'r negeseuon yna fod yn gwbl glir, achos nid mynnu cael y booster heddiw neu yfory mae pawb, ond eisiau gwybod beth yn union sydd o'u blaenau nhw. Maent yn hapus i glywed y bydd popeth yn iawn yr wythnos nesaf neu'r wythnos wedyn, a beth fydd yn digwydd os nad ydyn nhw wedi cael eu tro erbyn hynny. 

At y pwysau ar yr NHS wrth i frechu gael ei flaenoriaethu, ydy, mae hynny'n anochel. Mae'n anochel, mae'n siŵr, yn y sefyllfa rydyn ni ynddi hi fod yna beth gohirio yn mynd i fod ar driniaethau a fyddai wedi digwydd fel arall. Dydy o ddim yn ddigon, mae gen i ofn, i glywed bod y Gweinidog yn obeithiol y bydd pethau'n dod yn ôl i drefn wedyn. Wel, na, mae eisiau cynllun clir i ddod â phethau yn ôl i drefn. Ydyn, rydyn ni'n gobeithio y bydd hon yn broses fydd drosodd mewn ychydig wythnosau, ond mae'n rhaid i'r cynllun ynglŷn â sut i ddod yn ôl on track, fel petai, fod yn glir ar gyfer y cyfnod ar ôl hynny. Felly, mi fyddai eglurder ar hynny yn dda. 

Yn olaf, rydw innau'n gobeithio'n fawr na fydd angen cyflwyno cyfyngiadau llawer mwy llym yr ochr yma i'r Nadolig am resymau lles pobl, a rhesymau cymdeithasol a rhesymau economaidd hefyd. Mi fyddai'n sicr angen gwybod am gefnogaeth ariannol i fusnesau, ac ati, a fyddai'n dioddef pe bai angen cyfyngiadau ar ôl hynny. Ond dwi yn croesawu'r cyhoeddiadau heddiw ynglŷn â'r cryfhau sydd yna ynglŷn â sawl elfen sylfaenol, rŵan—gwisgo mygydau mewn mwy o lefydd, a chynghori pobl yn gryfach, hefyd—oherwydd er, fel dwi'n dweud, fy mod i, fel pawb, dwi'n siŵr, yn gobeithio gallu osgoi cyfyngiadau uwch am rŵan, all pethau chwaith ddim cario ymlaen cweit fel ag yr oedden nhw, ac mae gan bob un ohonom ni ein rhan i chwarae yn ymateb i'r bygythiad newydd yma.

17:10

Diolch yn fawr, Rhun. Dwi'n meddwl eich bod chi'n eithaf iawn fod niferoedd uchel iawn yn mynd i gael yr amrywiolyn omicron yma, a dwi'n derbyn bod y disgwyliadau yn uchel iawn, ond byddwn i'n hoffi gofyn i'r cyhoedd i aros tan eu bod nhw'n cael eu galw, er mwyn inni gadw trefn ar hwn. Roedd 26,000 o bobl wedi cael eu brechu ddoe, felly rŷm ni eisoes wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y dyddiau diwethaf. O ran pobl sy'n cael eu brechu yn y cartref, rŷm ni wedi rhoi ysgogiad ychwanegol i GPs nawr fynd ati i helpu i gynyddu'r niferoedd fydd yn cael y brechlyn yn y cartref. Fe fydd walk-ins gyda ni, ond fyddan nhw ddim yr un peth ag sydd gyda nhw yn Lloegr, achos rŷm ni'n benderfynol o wneud yn siŵr bod pobl ifanc, er enghraifft, sy'n ffit ac yn 20 mlwydd oed, ddim yn cael y brechlyn cyn pobl sydd yn risg uchel, sy'n 64 mlwydd oed. Felly, bydd walk-ins ar gael, ond byddan nhw ar gyfer cohort arbennig o bobl, felly byddwn ni'n gwneud pethau ychydig yn wahanol i'r ffordd maen nhw'n ei wneud e yn Lloegr.

O ran pethau'n mynd nôl i drefn ac on track, Rhun, os wyt ti'n gwybod beth mae Ionawr yn edrych fel yn yr NHS, ti'n gwneud lot gwell job na fi, achos dwi'n meddwl bod y sefyllfa'n mynd i fod yn anodd iawn ym mis Ionawr. Dydyn ni ddim yn gwybod sut mae omicron yn mynd i effeithio ar yr NHS. Dydyn ni ddim yn gwybod faint o weithwyr fydd off yn sâl o ran omicron. Felly, yn amlwg, mae'n anodd inni ragweld beth fydd Ionawr yn edrych fel. Felly, mae gyda ni cynllun ar gyfer y tair wythnos nesaf. Mae'n wastad gyda ni cynllun gaeaf ar gyfer yr NHS. Mae hynny eisoes mewn lle. Ond, yn amlwg, efallai fydd yn rhaid inni addasu yn wyneb y ffaith bod yr amrywiolyn yma yn mynd i roi pwysau cynyddol ar y sector. 

Bydd y Cabinet yn cwrdd, yn amlwg, yn nes ymlaen yn ystod yr wythnos i benderfynu a oes angen mwy o gyfyngiadau i'n cadw ni'n saff dros y Nadolig.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, a diolch hefyd i'n hyrwyddwyr brechlyn yn y GIG. Gweinidog, gwyddom fod yr amrywiolyn omicron i bob pwrpas yn lleihau imiwnedd a gyflawnwyd gan ddau ddos o'r brechlyn i ddim byd bron yn achos Oxford-AstraZeneca ac i'r amddiffyniad lleiaf posibl rhag haint yn achos Pfizer, ond nid yw hynny'n golygu na fydd y dosau dwbl yn helpu pobl i frwydro yn erbyn salwch difrifol yn sylweddol o ganlyniad i gael eu heintio â COVID-19. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi a gofyn i bobl 'gymryd prawf llif unffordd cyn mynd' a hefyd galw ar bobl Islwyn i gael brechlyn atgyfnerthu y Nadolig hwn, i gadw eu hunain yn ddiogel, cadw eu teuluoedd yn ddiogel, a chadw Cymru'n ddiogel? A phan fydd pobl yn gofyn, 'Pam cael y brechlyn atgyfnerthu ar ôl dau ddos?', onid yw'n gywir y bydd y brechlyn atgyfnerthu yn cynyddu lefelau imiwnedd i dros 70 y cant, ac, fel y dywedodd un gohebydd, y dos cyntaf yw addysg ysgol gynradd eich corff, mae'r ail ddos yn debyg i anfon eich corff i'r ysgol uwchradd, ac mae'r dros atgyfnerthu yn debyg i brifysgol, gan ddyfnhau ac ehangu gallu ein corff ein hunain i ymladd y feirws dieflig hwn?

Yn olaf, Gweinidog, y tu allan i'r grwpiau blaenoriaeth, pryd byddwch yn bwriadu agor lonydd a chanolfannau galw i mewn i bobl Islwyn, yn ogystal ag ymestyn oriau agor canolfannau brechu yn sylweddol? Diolch.

Diolch, Rhianon. Rydych chi'n llygad eich lle; nid yw'r dos dwbl yn ddigon. Ond y peth olaf yr ydw i eisiau ei wneud yw peri i bobl sydd heb gael unrhyw ddosau o gwbl benderfynu peidio â chael brechiad. Dyma'r rhai yr wyf yn dal i bryderu fwyaf amdanyn nhw—pobl nad ydyn nhw wedi cael unrhyw amddiffyniad o gwbl. Mae ein hadrannau gofal dwys o dan bwysau aruthrol, a rhan o hynny yw bod pobl yno nad ydyn nhw wedi cael brechiadau o gwbl, ac mae'n rhoi pwysau ar ein system gofal dwys yn ddiangen. Rwyf yn pledio'n wirioneddol â phobl i feddwl sut mae eu gweithredoedd yn cael effaith wirioneddol ar bobl eraill, yn yr ystyr y gallen nhw fod yn cymryd gwely ysbyty y gallai rhywun arall fod yn ei gymryd ar gyfer argyfwng nad achoswyd ganddyn nhw eu hunain. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael pobl i ddeall eu cyfrifoldeb i'r gymuned ehangach a'r gymdeithas ehangach yma. Gan nad oes yr un ohonom yn gwybod sut y byddem yn ymateb pe baem yn dal coronafeirws, felly mae angen i ni danlinellu hynny mewn gwirionedd.

Byddwn, fel y pwysleisiais, yn gwneud canolfannau galw i mewn, ond ni fyddant ar sail rydd i bawb; byddant mewn carfannau penodol. Felly, mae'r holl bethau hynny'n cael eu cyfrifo yn ystod y dyddiau nesaf. Ond yn llythrennol—pa ddiwrnod ydy hi heddiw? Dydd Mawrth—rydym wedi bod yn gweithio drwy'r penwythnos ar hyn ac, yn amlwg, mae llawer iawn i'w roi ar waith i gynyddu'r rhaglen hon mewn gwirionedd. Mae eisoes wedi cael hwb, ond mae angen i ni ddyblu'r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud, felly mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd. Ac rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd sefyll gyda'n gilydd a diolch i weithlu'r GIG am y gwaith anhygoel maen nhw wedi'i wneud, ond, yn fwy na dim, rydyn ni nawr yn gofyn iddyn nhw fynd yr ail filltir unwaith eto; ar adeg sensitif o'r flwyddyn, pan fyddan nhw eisiau bod gyda'u teuluoedd, rydym yn gofyn iddyn nhw ganslo eu gwyliau—yr holl bethau hyn. Mae'n ofyn enfawr arall i'r bobl sydd wedi rhoi cymaint ohonyn nhw eu hunain yn barod.

17:15

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, yn ogystal â thrafod gyda'ch swyddogion a chaniatáu iddynt friffio aelodau'r pwyllgor iechyd yn gynharach y prynhawn yma.

Gweinidog, er ei bod yn bwysig ein bod yn ymateb i'r darlun sy'n datblygu o ran omicron, mae'n hanfodol nad ydym yn gor-ymateb —byddai hyn yn creu mwy o niwed na lles. Rwyf yn croesawu'r ffaith na chyflwynwyd unrhyw ymyriadau newydd nad ydyn nhw'n ffarmacolegol ddydd Gwener, ond mae angen i ni ganolbwyntio ar ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed, felly, gyda hynny mewn golwg, Gweinidog, diweddarwyd y canllawiau i gartrefi gofal ddydd Gwener, ond nid yw'n sôn yn benodol am yr amrywiolyn omicron. A fyddwch chi'n diweddaru'r canllawiau i adlewyrchu effaith bosibl yr amrywiolyn newydd? Ac yn benodol, Gweinidog, mae arwyddion cynnar o'r gallu i drosglwyddo omicron yn dangos y gallai fod wedi'i drosglwyddo drwy aerosol yn fwy nag amrywiolion eraill, felly, gyda hynny mewn golwg, Gweinidog, a fyddwch yn rhoi gwell cyfarpar diogelu personol i staff cartrefi gofal, megis masgiau FFP3? Wrth gwrs, y ffordd orau o ddiogelu staff a phreswylwyr cartrefi gofal yw'r brechlyn atgyfnerthu. Felly, Gweinidog, pryd y gallwn ddisgwyl i holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal gael eu pigiadau atgyfnerthu, oherwydd, fel y mae, nid yw un o bob tri aelod o staff ac 16 y cant o'r trigolion wedi cael brechlyn atgyfnerthu eto?

Yn olaf, Gweinidog, gyda'r straen ar y GIG dros y misoedd nesaf, bydd pwysau enfawr i symud cleifion o ysbytai ac i'r system ofal. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw hyn yn dod yn gludwr a fyddai'n trosglwyddo COVID i'r sector gofal? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Gareth. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fod gor-ymateb yn rhywbeth yr ydym, yn amlwg, yn ymwybodol iawn ohono. Gwyddom nad yw'r sefyllfa'n ymwneud ag iechyd yn unig; mae'n ymwneud â chanlyniadau economaidd, canlyniadau cymdeithasol, canlyniadau iechyd meddwl; mae'n rhaid i ni gydbwyso'r holl bethau hyn yn erbyn y potensial i lethu ein GIG. Felly, mae'r holl bethau hyn yn bethau yr ydym yn eu rhoi yn y gymysgedd cyn i ni feddwl am gyflwyno unrhyw amddiffyniadau newydd.

O ran y canllawiau sy'n cael eu diweddaru ar gyfer cartrefi gofal, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r sector, cael sgyrsiau gyda'r sector—felly, nid ydym yn eu gorfodi; rydym yn siarad â nhw am yr hyn sy'n bosibl, beth sy'n ymarferol a beth fydd yn gweithio. Felly, rydym yn gweithio gyda'r sector. A dwi'n meddwl ein bod ni'n ymwybodol iawn y bydd pethau'n newid yn gyflym iawn. Felly, fe wnaethoch sôn am beidio â gor-ymateb. Mae gennym 30 o achosion yng Nghymru. Mae pethau'n mynd i newid yn gyflym iawn ac mae'n debyg y bydd yn rhaid i ni addasu sut yr ydym yn monitro ein canllawiau mewn cysylltiad â chartrefi gofal.

O ran cyfarpar diogelu personol, rydym wedi gwneud mwy o waith mewn cysylltiad â masgiau FFP3 ac, unwaith eto, mae ein clinigwyr yn edrych ar hyn, i weld a yw hyn yn rhywbeth y mae angen ei gyflwyno. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi fod yn ymwybodol iawn ei fod yn ofyn mawr i ofyn i bobl wisgo masgiau FFP3 drwy'r dydd; mae'n rhywbeth y maen nhw, weithiau, yn amharod i'w wneud hefyd. Felly, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cyrraedd y lle iawn gyda hyn; mae'r sgyrsiau hynny'n parhau.

O ran brechlyn atgyfnerthu i breswylwyr a gweithwyr cartrefi gofal—preswylwyr cartrefi gofal, rydym hyd at tua 85 y cant eisoes. Felly, rwy'n credu bod hynny'n lefel eithaf uchel. Felly, rydym yn falch o hynny, ond mae gennym ychydig o ffordd i fynd i gyrraedd y 97 y cant sydd wedi cael y cwrs cyntaf cyflawn. Rhywfaint o hynny, nid yw oherwydd nad ydyn nhw wedi cael cynnig; y rheswm dros hynny yw bod amgylchiadau a rhesymau gwahanol pam y dylai hynny ddigwydd. Gweithwyr cartrefi gofal—rydym hyd at 67 y cant o weithwyr cartrefi gofal sydd wedi cael y dos atgyfnerthu. Felly, yn amlwg, rydym yn awyddus i weld a allwn godi hynny'n uwch. Mae ein tystiolaeth yn awgrymu nad rhyddhau pobl o'r ysbyty oedd yn gyfrifol am gario heintiau i gartrefi gofal, mewn gwirionedd—. Roedd rhan ohono oherwydd bod gennym sefyllfa lle'r oedd gweithwyr cartrefi gofal yn mynd o gartref gofal i gartref gofal a, phan fydd yn y gymuned, mae'n anodd iawn ei gadw allan o unrhyw le arall. Mae astudiaethau rhyngwladol wedi dangos hynny. Mae ceisio adeiladu wal o amgylch y lleoedd hyn bron yn amhosibl. Felly, dyna mae'r dystiolaeth ryngwladol wedi'i ddangos i ni. Felly, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu, a dyna pam mae angen sicrhau ein bod yn profi ac yn profi ac yn profi eto, pan ddaw'n fater o gartrefi gofal.

17:20

Rŷn ni wedi cael neges glir iawn gennych chi heddiw, Weinidog, i bobl aros am apwyntiad. Ond dwi wedi cael llu o alwadau heddiw a negeseuon gan bobl yn gofyn pryd y bydd walk-ins yn fy rhanbarth i, a gweld bod yna fyrddau iechyd ac ati yn hybu hyn. Wedyn, dwi yn ofni bod yna rhyw fath o banig allan yna, a dwi'n meddwl nad yw'r negeseuon yma sy'n gwrthdaro efo'i gilydd yn help ar y funud yma, o weld bod yna rai ardaloedd yn gallu cael walk-ins a rhai eraill ddim. Felly, mae cael eglurder ar hynny yn hollbwysig.

Mae'n ddrwg gen i hefyd swnio fel tôn gron, ond mi oeddwn yn gobeithio heddiw cael, fel rhan o'ch datganiad, ddiweddariad ynglŷn â'r pàs COVID o ran y bobl sy'n methu â chael eu brechu am ryw reswm. Dwi wedi codi hyn gyda chi ar nifer o achosion ers 2 Tachwedd. Ar wefan Llywodraeth Cymru, mae'n parhau i ddweud bod y system yma'n cael ei datblygu i sicrhau bod pobl yn gallu cael pàs COVID os oes ganddyn nhw eithriad, neu maen nhw'n methu â chael brechlyn, neu'n methu â chymryd prawf llif unffordd am resymau meddygol ac ati.

A oes modd cael diweddariad o ran pryd y bydd y system yma ar gael, os gwelwch yn dda? Oherwydd mae pobl yn dal i bryderu a methu â chael at bethau fel mynd i weld sioeau ac ati, neu fynd i sinemâu, ac yn poeni bod pobl sydd ag awtistiaeth ac ati yn cael eu harddel rhag gweithgareddau ar y funud oherwydd bod y system yma mor araf yn cael ei rhoi yn ei lle, o'i gymharu efo'r hyn dŷn ni wedi'i weld yn Lloegr. Diolch.

Diolch, Heledd. Dwi'n meddwl ei bod hi'n rili bwysig bod pobl yn deall bod ein system ni yng Nghymru yn wahanol i'r system yn Lloegr. Dŷn ni ddim yn mynd i gael walk-ins fel yn Lloegr. Dyw e ddim yn mynd i fod yn free-for-all fan hyn. Rŷn ni'n mynd mewn trefn. Felly, dwi ddim yn gwybod o ble mae pobl yn cael y syniad ein bod ni'n ei wneud e yn y ffordd maen nhw yn Lloegr. Dŷn ni ddim. Rŷn ni'n mynd i fynd ar system lle'r ŷm ni'n mynd yn ôl oedran a pha mor fregus yw pobl.

Dwi'n gwybod bod pobl efallai yn anghyffyrddus gyda hynny, ond dyna beth rŷn ni'n ei wneud. Rŷn ni'n dilyn y canllawiau sydd wedi dod oddi wrth y JCVI. Felly, bydd walk-ins, ond byddan nhw'n walk-ins ar gyfer grwpiau arbennig—ar gyfer, er enghraifft, clinical at-risk groups. Byddan nhw'n cael, 'Reit, heddiw yw'r diwrnod am eich walk-in chi.' Neu bobl sy'n 55-59 oed, 'Heddiw yw eich diwrnod chi.' Fydd e ddim yn free for all fel yw e yn Lloegr.

Dŷn ni ddim eisiau gweld pobl yn oeri tu fas yng nghanol y gaeaf, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Beth sy'n digwydd fanna yw survival of the fittest; pobl ffit sydd yn gallu ciwio yn y sefyllfa yna. Mae'n rhaid inni fynd yn ôl gofalu a diogelu pobl sydd yn fwy bregus. Dŷn ni ddim yn mynd i ymddiheuro am hynny.

O ran pobl sy'n methu â chael eu brechu, mae lot o waith wedi cael ei wneud ar hwn, Heledd. Rŷn ni wedi analeiddio faint o bobl sy'n methu â chael eu brechu ac sy'n methu â chymryd prawf llif unffordd. Rŷn ni'n meddwl mai dim ond rhwng 100 a 500 o bobl sydd yn y sefyllfa honno. Felly, os yw pobl yn y sefyllfa honno, mae angen iddyn nhw gysylltu â'u meddyg nhw. Bydd hwnna’n mynd ar system, a bydd hwnna wedyn yn cael ei roi ar y pàs ar ran y person, ac felly fe fyddan nhw’n gallu cael y pàs yna. Dŷn ni ddim wedi gwneud hynny eto. Y rheswm pam mae hwnna jest wedi mynd ar saib ar hyn o bryd yw achos ein bod ni i gyd yn mynd ar y broses brechu yma. So, rŷn ni’n taflu popeth at hwnna; yr un bobl sy’n gwneud yr holl waith yma. Ond mae lot o’r gwaith wedi’i wneud. Rŷn ni’n gwybod, mwy neu lai, pwy yw’r bobl yma. Mae’r gwaith yna i gyd yn barod, ond mae’n rhaid inni jest gael y systemau i siarad gyda’i gilydd. So, rŷn ni’n gwybod pwy yw’r bobl. Dim ond tua 100 i 500 o bobl sydd yna. So, pan fo pobl yn troi lan i gemau rygbi yn mynd, 'O, dwi'n esempt', fyddan ni’n ffaelu gwneud hynny rhagor, achos bydd e i gyd ar y pàs COVID, bydd yn dangos yn glir—os ŷch chi’n esempt, bydd yn dod lan yn awtomatig.

17:25
7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gwenidog Newid Hinsawdd ar ddiogelwch adeiladau, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.

Diolch, Llywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am fater pwysig diogelwch adeiladau. Mae cryn dipyn o waith wedi ei wneud ar y mater pwysicaf a mwyaf cymhleth hwn ers i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ddiwethaf ym mis Gorffennaf. Rwy'n falch iawn o roi gwybod i chi ein bod ni wedi cyhoeddi ein hymateb i'r Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau heddiw. Cawsom ni 95 o ymatebion, ac rwy'n diolch i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu meddyliau a'u barn. Mae'r ymatebion yn dangos ymrwymiad i newid, cefnogaeth eang i ysbryd a chyfeiriad ein diwygiadau, ac i weithio gyda ni i lunio'r drefn yn y dyfodol.

Ein bwriad ni yw sicrhau mai diogelwch sydd wrth wraidd adeiladau preswyl aml-feddiannaeth, nid dylunio, bod cyfrifoldebau'r rhai sy'n berchen ar adeiladau, yn eu rheoli ac yn byw ynddyn nhw yn glir, a bod preswylwyr yn cael dweud eu dweud. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma, ond byddwch yn dawel eich meddwl y bydd mwy o gyfleoedd i gyfrannu a llunio polisi. Byddaf i'n ysgrifennu at bartneriaid allweddol yn y flwyddyn newydd i'w gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgorau. Rydym ni hefyd yn datblygu gwaith penodol sy'n ymwneud ag ymgysylltu â phreswylwyr a lesddeiliaid a fydd yn elwa ar ein diwygiadau, ac i'r rhai sydd hefyd yn wynebu heriau gwirioneddol nawr gyda diffygion presennol yn eu hadeiladau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau a'u dirnadaeth heb eu hidlo yn cael eu cofnodi a'u hadlewyrchu'n briodol yn y system newydd a'n bod ni'n deall sut orau i gyfleu'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd gyda phasbortau adeiladau a gwaith cysylltiedig. Mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i'r atebion iawn ar gyfer y maes hollbwysig hwn.

Fel y mae'r Aelodau yn ymwybodol, rydym ni wedi manteisio ar y cyfle i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddefnyddio'r cyfle i sicrhau bod agweddau ar eu Bil Diogelwch Adeiladau yn berthnasol i Gymru. Bydd hyn yn helpu i wella'r ffordd y caiff adeiladau preswyl uchel iawn eu dylunio a'u hadeiladu, ac mae'n cyd-fynd â'r cynigion sydd wedi eu nodi gennym ni yn ein Papur Gwyn. Mae Bil Llywodraeth y DU yn cynnwys newidiadau arfaethedig i Ddeddf Mangreoedd Diffygiol 1972, a fydd yn gweld estyniadau i'r amser y mae modd cyflwyno hawliad gerbron y llysoedd am waith adeiladu diffygiol, ac a fydd, mewn rhai achosion, yn cael effaith ôl-weithredol. Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda'r Swyddfa Gartref ar Ddeddf Diogelwch Tân 2021, sydd wedi gweld diwygiadau pwysig i Gymru—yn arbennig, mae amlen allanol adeiladau wedi ei chynnwys yn benodol yn y drefn diogelwch tân bresennol.

Yn dilyn cefnogaeth aruthrol i'r cynigion yn ein Papur Gwyn, ysgrifennais at bob awdurdod lleol, awdurdod tân ac achub a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Medi ynghylch sefydlu tîm arolygu ar y cyd a fydd yn cefnogi gweithgareddau gorfodi o ran adeiladau presennol yma yng Nghymru. Bydd y broses o recriwtio'r tîm yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Mae hyn i gyd yn golygu y bydd dyfodol diogelwch adeiladau yng Nghymru yn gwella'n aruthrol. Er fy mod i wedi fy nghyffroi gan y datblygiadau hyn, rwy'n ymwybodol iawn bod llawer ohonoch chi a'ch etholwyr yn pryderu'n briodol am yr heriau sy'n wynebu lesddeiliaid presennol ar hyn o bryd. Rwyf i wedi dweud dro ar ôl tro na ddylai lesddeiliaid orfod talu'r bil i wneud eu hadeiladau yn ddiogel, ond rwyf i hefyd wedi dweud nad yw'r atebion yn hawdd. Yma yng Nghymru, fel mewn rhai rhannau eraill o'r DU, rydym ni wedi dweud ers y cychwyn fod hyn yn ymwneud â llawer mwy na chladin, ac nid dim ond mater i'r rhai hynny sydd mewn blociau uchel iawn ydyw. Yng Nghymru, rydym ni bob amser wedi bod yn ymwybodol bod hyn yn gofyn am ddull cyfannol, neu bydd perygl o adael pobl yn agored i risg barhaus. Rydym ni'n gwneud cynnydd sylweddol, gan fod yn gyson yn ein huchelgais i ddatrys materion ar y sail gyfannol honno.

Mae'r ymateb i'r gronfa pasbortau diogelwch adeiladau, a gafodd ei lansio'n gynharach eleni, wedi bod yn gadarnhaol iawn, wrth i dros 100 o ddatganiadau o ddiddordeb gael eu cwblhau hyd yma. Caiff y datganiadau o ddiddordeb hyn eu hasesu, a bydd yr arolygon helaeth sydd eu hangen ar yr adeiladau hyn i sicrhau bod gennym ni ddealltwriaeth gyson a chadarn o anghenion pob adeilad unigol a graddfa gyffredinol y dasg yn cael eu dwyn ymlaen. Rydym ni'n penodi contractwyr drwy gronfa sefydledig o ddarparwyr achrededig i gynnal yr arolygon sy'n sicrhau cysondeb o ran arbenigedd ac ansawdd arolygon. Rydym ni'n ymdrin â hyn mewn ffordd gynlluniedig a chydgysylltiedig sy'n rhoi darlun cynhwysfawr o'r materion diogelwch sy'n bresennol, ac yn lleihau straen ac anghyfleustra i breswylwyr. Bydd yr arolygon cyntaf yn dechrau'n gynnar yn y flwyddyn newydd, gan flaenoriaethu'r adeiladau hynny sydd wedi eu nodi fel risg uchel drwy'r broses mynegi diddordeb.

Fodd bynnag, er ein bod ni'n gwneud cynnydd da, rwy'n cydnabod bod y pwysau ariannol o fyw yn yr adeiladau hyn yn mynd yn annioddefol i rai pobl. Nid wyf i'n dymuno gweld dyfodol hirdymor pobl yn cael ei ddifetha gan fethdaliad, cael eu troi allan a digartrefedd posibl. Dyna pam rwy'n ymrwymo i gynllun cymorth lesddaliad newydd i helpu nifer bach o lesddeiliaid sy'n cael eu hunain mewn caledi ariannol sylweddol iawn. Bydd manylion llawn y cynllun yn cael eu darparu yn y flwyddyn newydd, ond rwy'n gobeithio gallu darparu'r dewis, mewn nifer cyfyngedig o achosion, i lesddeiliaid werthu. Bydd y cynllun yn targedu darpariaeth lle mae ei hangen fwyaf mewn adeiladau sydd â diffygion sydd wedi'u nodi lle na all lesddeiliaid unigol werthu eu heiddo ar y farchnad agored ac yn cael eu hunain mewn caledi ariannol sylweddol oherwydd costau cynyddol.

Rwyf yn cloi, Llywydd, drwy ailddatgan fy safbwynt: mae'n rhaid i ddatblygwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am y diffygion adeiladau hyn gamu ymlaen a gwneud mwy i ddatrys yr argyfwng. Nhw greodd y problemau hyn ac maen nhw'n parhau i adael lesddeiliaid yn wynebu caledi ariannol ac yn dioddef o straen a phryder. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf hon yn dangos ymrwymiad parhaus y Llywodraeth hon i ddiogelwch adeiladau a'r gwaith dwys sy'n cael ei wneud. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i'r agenda hon gan Blaid Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â nhw ar y mater hollbwysig hwn wrth symud ymlaen. Diolch.

17:30

Diolch, Gweinidog, am y datganiad hwn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi siarad yn helaeth am yr argyfwng brawychus hwn sy'n wynebu deiliaid tai sydd nawr yn wynebu problemau'r cladin hwn. Felly, hoffwn i ymuno â chi i adleisio bod yn rhaid i'r datblygwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am y diffygion adeiladu hyn gamu i'r fei i ddatrys yr argyfwng hwn. Ac os oes unrhyw un ohonyn nhw'n gwylio yma heddiw, mae'n rhaid i'r baich a rhywfaint o'r cyfrifoldeb syrthio arnoch chi, neu arnyn nhw, ac mae'n rhaid i chi dderbyn eich cyfrifoldebau. Mae'n foesol anghywir bod lesddeiliaid yn parhau i wynebu caledi ariannol ac yn dioddef o ofn, straen a phryder.

Mae hefyd yn peri pryder mawr nad yw Llywodraeth Cymru yn gwybod maint yr anawsterau yn yr adeiladau hyn, ond rwy'n ymwybodol hefyd o'r dasg aruthrol sydd gennych chi o'ch blaen wrth nodi'r fath beth. Mae'r ffaith bod  y fath amwysedd honno yn parhau dros bedair blynedd ers trychineb Tŵr Grenfell yn peri pryder mawr ac mae'n codi cwestiynau ynghylch pa mor gyflym y gallwch chi, Gweinidog, geisio gwella diogelwch tua 148 o adeiladau uchel iawn.

Rydych chi wedi esbonio y bu 100 o ymatebion i'r gronfa pasbort diogelwch adeiladau ac y bydd yr arolygon cyntaf yn dechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Felly, fy nghwestiwn i yw: pa mor fuan y gallwn ni ddisgwyl unrhyw ganlyniadau a gweithredu ar unrhyw argymhellion, fel arolygon? Pa gynllun wrth gefn sydd gennych chi ar waith ar gyfer achosion lle nad yw adeilad yn dod o dan fynegiant o ddiddordeb? Rwyf i yn cytuno â'r angen am gynllun cymorth lesddaliad ac, unwaith eto, bydd gennym ni ragor o fanylion am hyn yn y flwyddyn newydd. A allwch chi egluro heddiw faint o arian yr ydych chi'n bwriadu ei ddyrannu i'r cynllun?

Rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith bod yr ymateb i'r Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau wedi ei gyhoeddi bellach. Yn y gorffennol, eglurais i fod llawer o newidiadau yn yr ymgynghoriad yr wyf i'n eu croesawu, ond mae gen i rai pryderon o hyd ynghylch nifer o bwyntiau. O ran categorïau risg, byddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi ysgrifennu atoch chi, gan nodi fy mod i'n pryderu ynghylch rhesymoldeb cael tŷ sydd wedi ei drosi'n ddwy fflat yn yr un categori â bloc pum llawr, pwrpasol o fflatiau. Felly, fel rhan o'ch ymrwymiad i ystyried priodoldeb model tri chategori, a fyddech chi'n ystyried rhannu categori 2 yn ddau—felly, gan ei wneud yn ehangach?

Rwyf i hefyd yn cytuno bod angen asesiadau risg tân blynyddol ar bob categori. Fodd bynnag, unwaith eto, rwy'n codi'r pryderon hyn ynghylch dod o hyd i bersonau â chymwysterau addas. Mae eich tîm chi wedi dweud wrthyf i o'r blaen nad oes unrhyw amcangyfrifon eto o ran faint o unigolion â chymwysterau addas sydd yng Nghymru i asesu tua 37,000 o eiddo yn flynyddol. A oes unrhyw gynnydd wedi bod o ran sefydlu a oes prinder, a sut yr ydych chi'n bwriadu mynd i ymdrin â hyn?

Mae gen i ddiddordeb yn y pyrth, ond rwy'n dal i bryderu am y posibilrwydd y byddai'r trydydd yn golygu y bydd y prif gontractwr, gyda'r prif ddylunydd, yn llunio datganiad terfynol yn cadarnhau bod yr adeilad yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Ac, yn rhan o'ch ystyriaeth bellach o'r mater hwn, a wnewch chi ymrwymo i ddiwygio'r cynigion er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynnal gwiriadau ffisegol, a bod y risg sy'n cael ei hachosi gan y rhai yr ydym ni'n gwybod erbyn hyn eu bod yn adeiladwyr twyllodrus—a gadewch i ni ddweud hynny, oherwydd dyna beth ydyn nhw—yn cael ei leihau?

Yn olaf, byddwch chi'n ymwybodol bod yr oruchwyliaeth reoleiddiol bresennol yng Nghymru wedi ei rhannu rhwng y tri awdurdod tân ac achub a'r 22 o rai lleol. Rwyf i wedi sôn am efallai cael un rheoleiddiwr cenedlaethol, ac roeddwn i'n falch o ddarllen bod dull cenedlaethol o ymdrin â'r rheoleiddiwr wedi cael mwy o gefnogaeth na dulliau cyflenwi lleol a rhanbarthol. Wrth symud ymlaen, a wnewch chi ragor o waith i greu un rheoleiddiwr cenedlaethol? Diolch. Diolch, Llywydd.

17:35

Diolch, Janet Finch-Saunders. Rwy'n credu, yn fras, ein bod ni yn yr un lle. Rydych chi wedi cyfuno problemau'r lesddeiliaid presennol â sut y gallai'r drefn newydd edrych ychydig. Felly, o ran y drefn newydd wrth symud ymlaen, pan fyddwn ni'n symud y ddeddfwriaeth yn ei blaen, wrth gwrs bydd gan y Senedd a'i phwyllgorau gyfle i edrych ar y ddeddfwriaeth honno, craffu arni ac ychwanegu ati neu awgrymu gwelliannau i'r ddeddfwriaeth honno. Ac rwy'n credu bod consensws eithaf mawr ar draws y Senedd, felly byddaf i'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i fynd i wir fanylion hynny wrth i ni fwrw ymlaen â hynny. Ond, yn hollol, holl ddiben y drefn newydd yw ei gwneud yn hynod o glir pwy yw deiliaid y ddyletswydd, sy'n gyfrifol ar bob cam, pwy sy'n cymeradwyo a beth sy'n digwydd ar gyfer y cyfnod meddiannu. Mae technoleg wedi symud ymlaen ac yn y blaen a byddem ni'n disgwyl llawer iawn mwy o arolygiadau wrth fynd nag a fu'n bosibl hyd yma, ac, wrth gwrs, rydym ni'n mynd i ddysgu gwersi o'r gorffennol. Felly, rwy'n credu, wrth symud ymlaen, fod llawer o gonsensws.

O ran lle'r ydym ni ar hyn o bryd, un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni yw nad yw lesddeiliaid cyffredin yn deall yr hyn sydd o'i le ar eu hadeiladau—maen nhw'n gwybod nad oes dim gyda nhw—ac mae'r ffurflenni Systemau Waliau Allanol wedi gwneud hynny'n waeth oherwydd ein bod ni wedi cynnal arolygon. Felly, rhan o'r hyn yr ydym ni wedi gorfod ei wneud yw ein bod ni wedi gorfod gweithredu fel brocer ar eu cyfer nhw, os mynnwch chi, i sicrhau bod yr arbenigedd yn mynd i mewn, ac nad ydym ni'n gwaethygu'r broblem drwy gael pentwr o bobl nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn gymwys i ddweud wrthyn nhw beth sydd o'i le ar yr adeilad ac yn y blaen. Mae'n ymddangos ein bod ni'n mynd yn eithaf araf, ond mewn gwirionedd mae hynny'n beth eithaf anodd a llafurus i'w wneud. A hefyd, nid dim ond rhywun sy'n dod i mewn ac yn cael golwg ar eich waliau yw'r arolygiadau hyn; mae'r rhain yn wirioneddol ymyrrol. Mae'n rhaid i'r bobl gael tyllau mawr yn yr adeilad ac mae gennych chi bobl fedrus iawn sy'n edrych i weld beth yn union sydd wedi digwydd y tu mewn i'r waliau ac yn y blaen. Mae'r rhain yn bethau eithaf ymyrrol i bobl wrth iddyn nhw ddigwydd, felly mae'n rhaid i ni fod yn gwbl sicr ein bod ni'n ei wneud unwaith, ein bod ni'n ei wneud yn gywir a'n bod ni'n cael y darlun iawn ar y diwedd.

Y gwir yw nad ydym ni'n gwybod beth yw'r broblem ym mhob un o'r adeiladau, oherwydd nid oes gennym ni olwg pelydr-x; ni allwn ni edrych drwodd i weld a yw'r bylchau tân i gyd yn eu lle neu os yw'r adrannau'n gweithio ac yn y blaen. Rydym ni wedi bod yn glir ers y cychwyn nad yw hyn yn ymwneud â'r cladin yn unig. Un mater oedd y cladin, ond mae llawer o faterion eraill sydd wedi dod i'r amlwg. Felly, rwy'n falch iawn y bydd y cynllun pasbortau adeiladau yn caniatáu i ni wneud hynny. Bydd yn caniatáu i ni helpu'r lesddeiliaid a phartïon eraill â diddordeb i fynd drwy'r broses o ddarganfod beth yn union ydyw sydd o'i le ar yr adeilad, ac yna bydd yn rhaid i ni edrych i weld beth o hynny y gall cynllun y Llywodraeth ei gywiro i wneud hynny—cynllun grant, os gallaf i lwyddo i wneud hynny o bosibl.

Ond hefyd, Janet, rwy'n ymwybodol iawn nad wyf i eisiau gweithredu ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym ni'n mynd i geisio eu rhestru yn nhrefn risg hefyd, oherwydd nid oes gen i gronfa ddiderfyn. Ni fyddwn i'n mynd i wleidyddiaeth hynny, ond rwyf i wedi siomi gyda'r swm o arian sydd gennym ni o ganlyniad i holl—. Ni chawsom ni'r symiau canlyniadol a gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU, a nawr, rydym ni yr ochr arall i adolygiad cynhwysfawr o wariant. Felly, dyma le'r ydym ni nawr, ond nid hwn yw'r swm o arian y byddem ni wedi dymuno ei gael. Felly, mae'n bwysig iawn sicrhau ein bod ni'n ymdrin â'r adeiladau lle mae'r risg uchaf a'r materion risg uchaf drwyddi draw, yn hytrach nag ar sail y cyntaf i'r felin. Hoffwn i sicrhau'r holl lesddeiliaid allan yno ein bod ni'n gwneud hynny, ac os mai chi yw'r ugeinfed i fynd drwy'r broses, nid yw hynny'n golygu y bydd yr arian wedi dod i ben, ac y byddwn ni'n cadw llygad ar hynny drwyddi draw.

A'r rheswm yr wyf i wedi cyhoeddi'r cynllun yr wyf i wedi ei gyhoeddi heddiw, yw oherwydd fy mod i'n ymwybodol iawn ei fod yn mynd yn annioddefol i rai pobl. Felly, gan dybio eu bod nhw mewn sefyllfa lle na allan nhw werthu eu heiddo ar y farchnad agored, yna byddwn ni'n rhoi cynllun ar waith a fydd yn eu hachub, os mynnwch i—achub morgeisi ar eu cyfer. Bydd dwy elfen i hynny. Byddan nhw naill ai'n gallu gwerthu'r tŷ i ni ac yna os ydyn nhw'n dymuno aros yno a'i rentu, gallan nhw wneud hynny, neu gallan nhw adael, cymryd yr arian a dechrau eto yn rhywle arall. Rwy'n gwybod o siarad â llawer iawn o'r trigolion bod llawer o bobl a fydd â diddordeb mawr mewn cynllun o'r fath. Felly, roeddwn i eisiau codi ymwybyddiaeth pobl bod y cynllun hwnnw ar gael erbyn hyn, ac y byddwn ni'n ceisio gwneud hynny yn y flwyddyn newydd drwy broses mynegiant o ddiddordeb debyg.

17:40

Prynhawn da, a gobeithio bod pawb yn fy nghlywed i. Dyna ni, a diolch yn fawr iawn i’r Gweinidog am y datganiad. Gadewch i ni gymryd ennyd i’n hatgoffa ein hunain pam ein bod ni'n trafod y mater yma heddiw. Yn syml, mae’r system diogelwch adeiladau presennol yn un sydd wedi caniatáu diwylliant o dorri corneli er mwyn cynyddu elw, ar draul diogelwch y cyhoedd.  

Fedrwn ni fyth, felly, anghofio’r drychineb yna yn Grenfell nôl yn 2017. Yn oriau mân y bore, ar 14 Mehefin 2017, dechreuodd tân losgi drwy floc preswyl Grenfell 24 llawr o uchder yng ngorllewin Llundain, gan ladd 78 o bobl. Mae’n meddyliau ni'n parhau i fod efo’u hanwyliaid nhw, wrth gwrs.

Mae nifer o’r rhai a lwyddodd i ddianc, teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau, a thystion i’r erchyllbeth honno, yn dal i fyw efo'r creithiau, ac yn parhau i ddioddef. Mae pobl yn byw mewn ofn ac wedi dioddef yr ofn yma am dros bedair mlynedd—pedair mlynedd heb weithredu. Mae yna wyth mis ers yr etholiad, wyth mis heb ddeddf benodol Gymreig. Mae lesddeiliaid a thenantiaid wedi cael eu dal mewn eiddo nad ydynt yn gallu ei adael. Mae ansawdd eu bywydau a’u hiechyd meddwl wedi dirywio o ganlyniad. Mae’n hen bryd i ni ymateb i’r sefyllfa hunllefus yma efo brys, drwy raglen diwygio gynhwysfawr, cymorth ariannol pellach ac amserlen glir. 

Fel llefarydd fy mhlaid dros dai a chynllunio, dwi am gymryd eiliad i groesawu’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth. Mae’r cytundeb yn cynnwys amryw o ymrwymiadau, gan gynnwys ymrwymiadau i ddiwygio’r system diogelwch adeiladau presennol yn sylweddol, ac i gyflwyno ail gam cronfa diogelwch adeiladau Cymru. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio efo'r Gweinidog wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, dwi’n gresynu’r ffaith na ddaeth y datganiad yma ynghynt, a dwi am bwysleisio'r angen i’r Llywodraeth gadw mewn cyswllt cyson efo’r rhanddeiliaid. Wedi’r cyfan, pwysau ymgyrchwyr a gwleidyddion fel Rhys ab Owen sydd wedi sicrhau bod y mater yn cael y sylw yma o'r diwedd.

Dwi am droi at un agwedd o’r datganiad lle dwi’n credu bod angen mwy o fanylder, os gwelwch yn dda. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at gynllun mortgage buy-out, cynllun lle mae pobl mewn caledi ariannol ac yn byw mewn adeiladau uchel sydd efo problemau diogelwch yn cael ymgeisio am gynllun lle bydd y Llywodraeth yn prynu’r fflat ac yn ei roi i landlord cymdeithasol. Mae’n debyg nad oes yna syniad clir o ran faint o bobl allai fod yn gymwys i’r cynllun, dim ond cyfeiriad at unigolion mewn caledi ariannol, ac na fydd y cynllun ychwaith yn dod i rym am o leiaf tri mis.

Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, os caf i, egluro faint o bobl fydd yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn? Llywydd, beth yn union y mae’r Llywodraeth yn golygu wrth ddweud pobl mewn 'caledi ariannol difrifol'? Hynny ydy, beth ydy’r meini prawf ar gyfer y categori yma? Hefyd, erbyn pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r cynllun yma ddod i rym yn union, os gwelwch yn dda? Pa gymorth gall y Llywodraeth ei gynnig wedyn i'r rhai sy'n dioddef materion diogelwch adeiladu yn y cyfamser? A beth am bobl sydd ddim yn disgyn i ddiffiniad y Llywodraeth o galedi ariannol?

Eto, tra’n ystyried y rhan o’r datganiad yma sy’n sôn am ddeiliaid les presennol a’r gobaith o gynnig cymorth i brynu eu heiddo yn y flwyddyn newydd, does dim llawer o fanylion. Llywydd, fedrith y Gweinidog gynnig ychydig mwy o fanylion inni, os gwelwch yn dda, ar faint o gyllid fydd yn cael ei neilltuo yn union?

Mae’n eithaf clir y gall problemau godi o ran pris eiddo hefyd, fel rydyn ni wedi ei weld yn ddiweddar. Felly, beth fydd yn digwydd a pha ddatrysiadau all y Llywodraeth eu cynnig, os nad ydy pobl yn cytuno efo gwerth y farchnad wrth werthu'r eiddo yma? A phwy yn union fydd yn gweinyddu’r broses? Yn olaf, pa hawliau fydd gan denantiaid sydd yn rhentu gan landlordiaid sydd efo les? Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Mabon. Ni fyddaf i'n ailadrodd yr hyn a ddywedais i wrth Janet Finch-Saunders o ran amseriad hyn. Mae'n amlwg yn rhwystredig iawn, ac mae pob un ohonom ni'n meddwl am drychineb Grenfell a brwydr y bobl a oroesodd hynny am gyfiawnder, wrth gwrs, ond y gwir yw bod hwn yn faes cyfreithiol hynod gymhleth, ac mae wedi bod ar frig fy agenda yr holl amser yr wyf i wedi bod yn Weinidog tai. Yn sicr, nid oes angen i mi gael unrhyw un arall yn ei roi yno.

Mae wedi bod yn fater gwirioneddol o bryder i ni gael hyn yn iawn, i beidio â chyhoeddi cynlluniau nad ydyn nhw'n gweithio, sydd wedi digwydd dros y ffin droeon, ac nid yw hynny'n datrys y broblem. A hefyd, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar lobïo Llywodraeth y DU i roi nifer o bethau ar waith y gall Llywodraeth y DU yn unig ei wneud. Felly, fel rhan o fy natganiad heddiw, er enghraifft, rwy'n sôn am ymestyn y cyfnod cyfyngu ar gyfer camau gweithredu cytundebol i'r rhai sy'n gallu manteisio ar hynny, ac rwy'n falch iawn o weld hynny, er na fydd hynny yn sicr yn datrys y broblem ar gyfer yr holl adeiladau sydd gennym ni, yn enwedig y rhai sydd wedi eu hadeiladu gyda model cyfrwng at ddibenion arbennig ynghlwm wrthyn nhw.

Fel y dywedais wrth Janet Finch-Saunders, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym ni gynllun sy'n ein galluogi i edrych yn gyfannol ar bob adeilad, sy'n ein galluogi i ddeall beth yn union yw ei broblemau a beth fyddai ei angen i'w gywiro. Ac yna, a dweud y gwir, i ddeall beth yw'r angen ar gyfer y contractwyr sydd â'r sgiliau i wneud hynny, a pheidio â chael pawb yn ceisio eu cael i gyd ar unwaith, gan gamystumio'r farchnad a chynyddu'r prisiau. Felly, rydym ni'n camu i mewn. Nid ein cyfrifoldeb ni ydyw mewn gwirionedd, ond rwy'n teimlo'n gryf iawn mewn gwirionedd y byddwn ni'n gallu helpu'r lesddeiliaid i lywio cam adfer adeiladau hynny, oherwydd fel arall bydd llu o broblemau y gall pob un ohonom ni eu gweld ar unwaith. Felly, er fy mod i'n deall yn llwyr rwystredigaeth y lesddeiliaid, rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa dda wrth symud ymlaen ar gyfer hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at y dadansoddiad o'r pasbortau adeiladau.

O ran y cynllun prynu i adael, neu'r cynllun cymorth lesddeiliaid, nid wyf i'n gwybod yn iawn yr ateb i'ch holl gwestiynau, Mabon. Yr hyn yr ydym ni eisiau'i wneud yw, rydym ni eisiau gweld, a dweud y gwir, faint o bobl sydd wedi ceisio gwerthu eu tŷ ar y farchnad agored ac wedi methu â gwneud hynny oherwydd ei fod yn eu rhoi mewn ecwiti negyddol neu oherwydd bod y telerau y gallan nhw wneud hynny oddi tanyn nhw yn rhy gosbol iddyn nhw allu cyfrif hynny. Rwyf i'n awyddus i weld yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu pobl sy'n mynd i ôl-ddyledion morgais, er enghraifft, neu sydd ag anawsterau ariannol difrifol eraill oherwydd eu bod wedi llwyddo i dalu eu morgais ond, o ganlyniad i hynny, mae ganddyn nhw anhawster ariannol arall. Rwy'n barod i edrych ar bobl sy'n amlwg mewn sefyllfaoedd gorlenwi o ganlyniad i orfod aros, efallai, mewn eiddo a oedd â'r bwriad yn wreiddiol o fod yn gartref cyntaf ond nawr maen nhw'n deulu mwy. Mae nifer o feysydd caledi yr ydym ni'n barod i'w hystyried.

Rydym yn ystyried prisiadau a fydd yn cael eu gwneud gan y swyddfa brisio, yn yr un modd ag yr ydym ni'n ei wneud ar gyfer prisio prynu gorfodol. Ond, wrth gwrs, nid yw hyn yn orfodol. Os nad yw'r person dan sylw yn hoffi'r prisiad y gallwn ni ei gynnig, nid yw'n orfodol mewn unrhyw ffordd iddyn nhw gymryd rhan yn y cynllun. Mae hwn yn gynnig gan y Llywodraeth i'r bobl hynny sy'n dymuno manteisio arno. Os nad yw person yn dymuno manteisio arno, mater iddyn nhw yw hynny yn llwyr. Roeddwn i'n awyddus iawn i sicrhau, i'r bobl hynny a oedd yn dymuno aros yn eu cartref ond a oedd yn ei chael yn amhosibl yn ariannol o ystyried lle maen nhw gyda phrisiau ac yn y blaen, y gallen nhw wneud hynny, ac os nad oedden nhw, eu bod nhw'n gallu dechrau eto rhywle arall.

Bydd y cynllun newydd ar waith ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd. Dyna pryd y bydd y gyllideb ar gael, ond bydd yn cymryd yr ychydig fisoedd i ni rhwng hynny i ddatrys y broses ymgeisio a dechrau prosesu pobl sy'n dymuno bod yn rhan o hynny. Nid dyma'r math o beth y gallwch chi ei gyhoeddi heddiw a'i ddechrau yfory; mae'n rhaid i ni weithio ochr yn ochr â'n rhanddeiliaid i'w roi ar waith. Ond roeddwn i hefyd yn awyddus iawn i'w gyhoeddi cyn y Nadolig, gan fy mod i'n credu bod angen i bobl sy'n teimlo'n anobeithiol wybod bod y rhyddhad hwnnw ar y ffordd a dechrau edrych ymlaen at allu manteisio arno. Rwy'n credu y byddwn i'n anonest, Llywydd, os byddwn i'n dweud bod gen i'r holl atebion i'r cwestiynau yr oedd Mabon wedi eu gofyn, ond rwyf i'n edrych ymlaen at weithio gyda'r lesddeiliaid eu hunain i sefydlu beth fyddai'r cynllun gorau i gyrraedd y bobl y mae angen cymorth arnyn nhw fwyaf. 

17:45

Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi gofyn amdano dros gyfnod o amser; mae'n fater o bryder difrifol. Fel y Gweinidog, sydd â'r datblygiad ar ochr arall yr afon, mae gen i ddatblygiad SA1, lle mae nifer o'r eiddo hyn. Un o'r problemau mwyaf, serch hynny, Gweinidog, yw bod rhai o'r rhain wedi eu hadeiladu gan sefydliadau nad ydyn nhw mewn busnes mwyach, fel Carillion, a adeiladodd rai ohonyn nhw. Mae'r anhawster o gael unrhyw arian ganddyn nhw, hyd yn oed pe bai gennym ni'r gallu i wneud hynny, yn rhywbeth sy'n destun pryder. Fel y dywedais i, rwy'n croesawu'r cynnig yn fawr iawn. Rwy'n credu bod y Gweinidog yn sicr yn symud i'r cyfeiriad iawn ar hyn. Ond a ydych chi'n mynd i roi rhagor ddiweddariadau i ni wrth i ni symud ymlaen? Er bod rhywfaint o arian ar gael, yn sicr nid yw'n mynd i fod yn ddigon, ydyw, i ddatrys problemau pawb yn un o'r eiddo hyn. Fe wnaethoch chi sôn am sut yr ydych chi'n mynd i geisio blaenoriaethu nid y dyddiad y mae pobl yn gwneud cais, ond cyrraedd y bobl sydd fwyaf mewn angen. Rwy'n croesawu hynny yn fawr, ond a fyddwch chi'n gallu cysylltu, neu a fydd un o'ch swyddogion yn gallu cysylltu â nhw, y rhai hynny yn y ddwy ardal yn fy etholaeth i, yn South Quay ac Altamar, lle mae gennym ni lawer iawn o bobl yno, i drafod hyn gyda nhw? Maen nhw wedi cael eich datganiad heddiw, gan fy mod i wedi ei anfon atyn nhw, ond a fydd eich swyddogion yn gallu siarad â nhw ac egluro iddyn nhw ble yn union y maen nhw, a sut y bydd yn effeithio arnyn nhw?

17:50

Diolch, Mike. Byddwn, wrth gwrs, yn gallu cynnal sesiynau briffio technegol ar gyfer preswylwyr mewn adeiladau i'w cynorthwyo i wneud cais yn yr un modd ag yr ydym ni wedi ei wneud ar gyfer y cynllun pasbortau adeiladau. Rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn deall yr amrywiaeth lawn o gymorth sydd ar gael iddyn nhw. Hefyd, wrth gwrs, fel rhan o'r datganiadau o ddiddordeb, rydym ni'n gallu dechrau cymryd rhai o'r camau rhagarweiniol tuag at ddeall lefel y risg sydd gan yr adeilad. Hoffwn i fod yn glir iawn nad dim ond ar yr adeg y byddwn ni'n dechrau gwneud yr ymchwiliadau ymyrrol y byddwn ni'n gallu deall lefel y risg; mae gan lawer o'r lesddeiliaid ryw syniad eisoes o rai o'r materion y maen nhw'n eu hwynebu. Felly, gallwn ni ddod at rai casgliadau rhagarweiniol ar unwaith pan fydd y pasbortau wedi eu cwblhau. Rydym ni'n dymuno gallu gwneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar y problemau gwaethaf yn gyntaf, yr holl ffordd drwodd.

Hefyd, mae'n deg dweud na fydd modd datrys holl broblemau pob adeilad ar un tro. Mae angen sawl ymgais ar lawer o'r pethau hyn. Oherwydd y ffordd y mae'r system yn cael ei dal ar y wal, mae'n rhaid i chi dynnu'r cladin yn gyntaf, ac yna'r system, ac yna gwneud yr ymchwiliadau ymyrrol ac yn y blaen. Felly, mae'n llawer mwy cymhleth na dod i mewn, trwsio'r adeilad, a gadael eto, mae arnaf i ofn. Felly, byddwn ni'n gweithio gyda llawer o'r adeiladau hyn ymhell i'r dyfodol, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o fersiynau o'r sgwrs hon.

Rwy'n hapus iawn, Llywydd, i ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd pan fyddwn ni'n gwybod yn union lefel y pasbortau adeiladau sydd wedi mynd drwy'r broses, ac yn wir ar ôl i ni ddechrau cael datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y cynllun cymorth lesddeiliaid. Rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod y Senedd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf mor aml ag sy'n angenrheidiol i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth ar led, ac rwy'n ddiolchgar iawn i ASau ar draws y Siambr am gyfleu'r wybodaeth hon i'w trigolion yn y ffordd y mae Mike Hedges newydd ei disgrifio.

Diolch i chi, Gweinidog. Mae hwnnw'n ddatganiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n diolch i chi am eich ymrwymiad i wneud hyn yn iawn. Nid mater gwleidyddol yw hwn; mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn dymuno ymdrin ag ef a'i wneud yn well i'r trigolion sydd wedi bod yn dioddef cymaint. Rwy'n cydnabod y gwaith da y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud i ymdrin â hyn. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, mae'n fater hynod o gymhleth ac nid yw'n mynd i gael ei ddatrys dros nos, ond rwy'n falch ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad iawn. Gofynnodd Mabon rai o'r cwestiynau y byddwn i wedi eu gofyn, ac rydych chi wedi esbonio hynny, ac rwy'n deall nad oes gennych chi'r holl atebion nawr, ond byddwn ni'n dysgu mwy am y cynllun wrth iddo gael ei gyflwyno yn y gwanwyn.

Mae pwynt arall sy'n gysylltiedig â hyn i gyd yr hoffwn i ei godi, er hynny, Gweinidog, ac mae'n ymwneud â threth trafodiadau tir sy'n cael ei chodi wrth brynu cartref. Mae gan un o fy etholwyr i eiddo amlwg yn natblygiad Celestia. Fe wnaeth brynu cartref teuluol newydd gyda'i bartner yn ôl yn 2019, ac roedd wrthi'n gwerthu ei fflat yr oedd wedi ei brynu ei hun. Roedd yn gwerthu honno i helpu i ariannu ei gartref nesaf, heb unrhyw fwriad i gael ail gartref o gwbl. Fodd bynnag, oherwydd problemau o ran cael y dystysgrif EWS1 honno, wrth i ddatblygwr y bloc fflatiau gadarnhau bod problemau cydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân, nid oedd yr etholwr yn gallu gwerthu'r fflat. Roedd hyn yn golygu y cafodd gyfradd uwch o dreth trafodiadau tir ei chodi arno, gan y barnwyd ei fod yn berchen ar ail eiddo. Roedd y gyfradd uwch hon yn cyfateb i tua £12,000 yn fwy nag y byddai wedi ei chodi yn wreiddiol pe na bai'r mater hwn yn bodoli. I wneud pethau'n waeth, mae'n annhebygol y bydd yn gallu adennill y tâl treth trafodiadau tir uwch, gan fod gwaith adfer yn debygol o gymryd cryn dipyn o amser, ac felly mae unrhyw werthiant yn y dyfodol yn debygol o fynd y tu hwnt i'r cyfnod o dair blynedd ar gyfer hawlio yn ôl y gyfradd uwch o dreth trafodiadau tir.

Yn Lloegr, rwyf i ar ddeall bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu caniatáu estyniad i'r cyfnod y mae modd hawlio yn ôl dreth dir y dreth stamp oherwydd problemau diogelwch tân sy'n achosi problemau o ran gwerthu. Gweinidog, a yw hyn yn rhywbeth y gallech chi ystyried ei gyflwyno o leiaf fel mesur tymor byr i helpu perchnogion tai sy'n cael eu dal yn ôl gan y mathau hyn o faterion? Mae'n rhywbeth, rwy'n meddwl, a fyddai'n ffordd o leddfu ychydig o'r pwysau eraill hynny y mae rhai yn eu hwynebu. Diolch i chi am hynny.

17:55

Diolch, Peter. Gallaf i weld bod fy nghyd-Weinidog y Gweinidog cyllid yn gwrando ar eich cwestiwn chi yn y fan yno. Mae yn ei phortffolio hi, ond gallaf i gadarnhau ein bod ni wedi cael rhai trafodaethau rhagarweiniol ynghylch a oes modd ystyried ymestyn y cyfnod amser i werthu'r tŷ pan fo'n amlwg yn drefniant pontio. Nid ydym ni wedi cyrraedd diwedd y trafodaethau hynny eto, ond rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fyddwn ni wedi gwneud hynny.

Diolch yn fawr i'r Gweinidog am ei datganiad.

Rwyf i, fel Mike Hedges hefyd, wedi anfon eich datganiad at lawer o ymgyrchwyr yma ym Mae Caerdydd, ac mae'r ymatebion yr wyf i wedi eu cael i gyd wedi croesawu'r datganiad hwn gennych chi. Maen nhw'n ddiolchgar eich bod chi wedi ailadrodd unwaith eto na fydd lesddeiliaid yn talu'r bil. Rwy'n ddiolchgar i chi am sôn y bydd rhywfaint o gymorth technegol ychwanegol i lesddeiliaid lywio'r broses hon.

Rwy'n deall eich bod chi sôn mewn ymateb i Mabon ap Gwynfor nad oes angen i neb eich atgoffa o'r amser sydd wedi mynd heibio ers Grenfell, ond dyna y mae trigolion yn sôn amdano drwy'r amser—mae amser yn ffactor hollbwysig iddyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi, Gweinidog, a gyda'r trigolion, i sicrhau y bydd cymorth addas i'r diben ar gael cyn gynted â phosibl, oherwydd dyna y mae angen iddyn nhw ei wybod yn ddirfawr—pryd y byddan nhw'n gallu cael cymorth o'r gronfa.

Rwy'n edrych ymlaen hefyd at weithio gyda Janet Finch-Saunders, Peter Fox, ac rwy'n gwybod bod Andrew R.T. Davies wedi bod yn llafar iawn am hyn yn y gorffennol—y rhai hynny yn y Blaid Geidwadol—i sicrhau cefnogaeth briodol gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn llawer rhy bwysig i'w droi'n gêm wleidyddol. Rydym ni wedi gweld, onid ydym ni, yn ddiweddar, y canlyniadau trasig yn y Môr Udd pan nad yw dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol. Gadewch i hynny fod yn rhybudd i ni am gladin, gadewch i hynny fod yn rhybudd i ni am domenni glo. Mae'r rhain yn faterion peryglus nad oes modd eu troi'n gêm wleidyddol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r rhai ar feinciau'r Ceidwadwyr i lobïo Llywodraeth y DU am gefnogaeth briodol.

Yn naturiol, Gweinidog, rwy'n croesawu'ch addewid o gefnogaeth i nifer bach o lesddeiliaid sy'n cael trafferthion ariannol sylweddol. Rwy'n falch bod cefnogaeth wedi ei rhoi i bobl y mae eu dyfodol hirdymor yn cael ei felltithio gan fethdaliad o bosib, troi allan a digartrefedd o bosib. Ac eto, mae llawer o rai eraill, fel y gwnaethoch chi sôn mewn ymateb i un o'r cyfraniadau, sydd wedi eu gadael—fel y gwnaethoch chi sôn, teuluoedd sy'n tyfu, pensiynwyr sy'n dymuno symud i'r llawr gwaelod, pobl sy'n dioddef yn ddifrifol o broblemau iechyd meddwl. Yn ddiweddar, Gweinidog, cefais e-bost am lesddeiliad a oedd wedi lladd ei hun yn drasig oherwydd y straen meddyliol yr oedd yn ei ddioddef. Hyd y gwn i, nid oedd yn wynebu methdaliad, troi allan na digartrefedd, ond ni allai weld unrhyw ddihangfa. Rwy'n falch i chi ddweud yn eich ymateb i Mabon ap Gwynfor y byddwch chi'n cymryd safbwynt eang am y rhai sy'n ei chael hi'n anodd, sydd wedi cael caledi ariannol sylweddol.

Mae lesddeiliaid yn parhau i bryderu am gael eu llethu gan gostau rheoleiddio ychwanegol sy'n gysylltiedig ag unrhyw drefn diogelwch adeiladau yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio bod hynny wedi ei ystyried yn eich cynlluniau, Gweinidog, ac y gallwch chi warantu na fydd preswylwyr yn wynebu unrhyw gost ychwanegol oherwydd gwaith ar ddiogelwch adeiladau. Bydd y Bil diogelwch adeiladau y gwnaethoch chi sôn amdano yn golygu y bydd yn rhaid i drigolion dalu'r bil o hyd, ac nid wyf i'n credu y bydd ymestyn y cyfnod cyfyngu y gwnaethoch chi ei grybwyll hefyd yn eich datganiad yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i'r mwyafrif llethol o'r rhai sydd wedi eu heffeithio arnyn nhw. Ni fyddan nhw'n gallu mynd i'r afael â'r datblygwyr mawr hyn yn ariannol o hyd. Fel y gwnaeth Mike Hedges sôn, nid yw llawer o'r datblygwyr hyn mewn busnes mwyach. Yn wir, cafodd rhai eu creu yn benodol i adeiladu datblygiad, ac yna eu diddymu a'u dirwyn i ben.

Gorffennodd y Gweinidog ei datganiad yn gryf, gan ddweud bod yn rhaid i ddatblygwyr, a'r rhai sy'n gyfrifol am y diffygion adeiladau hynny, gamu i'r fei a gwneud mwy i ddatrys yr argyfwng hwn. Rwy'n cytuno'n llwyr, Gweinidog. Sut byddwch chi'n eu cael i gamu i'r fei? A fyddan nhw'n cael eu herio? A fyddan nhw'n cael eu henwi a'u cywilyddio, ac a fydd Llywodraeth a llywodraeth leol yn defnyddio eu pŵer caffael sylweddol i sicrhau na fydd y datblygwyr nad ydyn nhw'n camu ymlaen, y datblygwyr nad ydyn nhw'n cymryd cyfrifoldeb am y sgandal ofnadwy hwn, yn ennill contractau na chymorth y sector cyhoeddus mwyach? Diolch yn fawr.  

18:00

Diolch, Rhys. Rwy'n croesawu'ch cefnogaeth. Yn y Senedd flaenorol, cawsom ni waith trawsbleidiol da. Cymerodd Janet Finch-Saunders a'n cyd-Aelod David Melding, yn arbennig, ddiddordeb, ac rwy'n gwbl sicr, pan ddaw'r Bil yn ei flaen, y byddwn ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd ar draws y Siambr ar roi'r drefn ddiogelwch orau posibl ar waith ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Fel yr ydych chi'n ei ddweud yn gwbl briodol, yn y cyfamser, rydym ni'n straffaglu â gwaddol y gyfundrefn wael iawn a oedd ar waith sydd wedi achosi'r holl anawsterau hyn ac, a dweud y gwir, safon gwbl warthus y gwaith a'r dull cowbois ffwrdd-â-hi o ymdrin â diogelwch sydd wedi ei ddangos yn glir gan lawer o'r adeiladau hyn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r datblygwyr sydd wedi camu ymlaen ac sydd wedi rhoi o leiaf rhywfaint o arian ar y bwrdd ar gyfer rhai o'r datblygiadau yng Nghymru i ddechrau'r broses adfer. Mae nifer nad ydyn nhw wedi gwneud hynny. Rwy'n cymryd cyngor cyfreithiol ar beth yn union y gallwn ni ei wneud am y rhai nad ydyn nhw wedi gwneud hynny. Byddwch chi'n gyfarwydd iawn â'r ffaith bod llawer o'r datblygiadau hyn wedi eu hadeiladu gan gwmnïau cyfrwng dibenion arbennig; nid nhw yw'r cwmni daliannol o reidrwydd. Mae'n anodd iawn dweud na all y cwmni penodol hwnnw wneud gwaith yn y dyfodol, oherwydd byddwch chi'n darganfod yn gyflym iawn nad yr un cwmni ydyw, yn gyfreithiol, ac yn y blaen. Felly, mae'n ddeniadol iawn, y cynnig yr ydych chi'n ei roi i mi, ond mae'n anodd iawn ei wneud yn ymarferol, fel rwy'n ei ddweud, wrth i'r cwmnïau hyn ymddangos dros y lle a diflannu eto yr un mor gyflym.

Bydd Mike yn ymwybodol iawn yn Abertawe o un achos penodol y mae modd ei ddefnyddio'n wirioneddol yn gwestiwn arholiad ar yr hyn a all fynd o'i le, oherwydd mae'r adeiladwr gwreiddiol, yr ail adeiladwr, yr holl yswirwyr a sawl cwmni daliannol ar ôl hynny i gyd wedi mynd yn fethdalwyr, un ar ôl y llall. Felly, mae hi wir yn wers o ran sut i beidio ag adeiladu. Bydd gennym ni'r holl wersi hynny o'n blaenau wrth i ni edrych ar ein cyfundrefn newydd ond, yn y cyfamser, rydym ni wedi ein gadael yn ceisio datrys cymhlethdodau dryslyd y sefyllfa bresennol, a dyna pam yma yng Nghymru, yn hytrach na chael yr un dull gweithredu i bawb, fe wnaethom ni ei ystyried fesul adeilad, oherwydd bod pob un ohonyn nhw'n unigryw ac yn wahanol ac, yn anffodus, cymhlethdod hynny yw pam ei fod yn cymryd cyhyd, ac nid oherwydd nad yw ar frig ein hagenda, gallaf i eich sicrhau chi. Mae hyd yn oed y ffordd yr ydym ni'n cael y syrfewyr i ddod i mewn a gwneud yr adeiladau mewn ffordd ddilyniannol sy'n golygu nad yw'r pris yn mynd drwy'r to o ganlyniad i rymoedd y farchnad, ac yn y blaen, wedi bod yn gymhlethdod. Felly, rwyf i'n eich sicrhau chi fy mod i'n awyddus iawn i weithio ar draws y Siambr ar y ddwy agwedd hyn. 

O ran Llywodraeth y DU, rwyf wedi fy siomi yn fawr nad ydym ni wedi gallu cael eglurder ar rai o'r cyhoeddiadau y maen nhw wedi eu gwneud. Ond, yn fwy diweddar, rydym ni wedi gweithio'n dda iawn gyda'n gilydd ar nifer o agweddau ar ddiwygiadau i lesddeiliaid, ac yn y blaen, testun cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ddiweddarach heddiw. Mae'n bwysig iawn deall mai lesddaliad yw un o'r meysydd datganoli mwyaf cymhleth, gyda rhywfaint ohono wedi ei ddatganoli a rhywfaint ohono wedi ei gadw yn ôl, ac mae ymylon anniben datganoli yn amlwg iawn. Felly, mae gorfod llywio eich ffordd drwy hynny i gyd yn rhywbeth yr wyf i wir yn teimlo trueni dros y lesddeiliaid wrth ei wneud, a dyna pam rwy'n hapus iawn i gynnig cymaint o wybodaeth dechnegol ag y gallwn ni i helpu pobl i lywio'r dyfroedd stormus iawn hyn.     

Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae ein pwyllgor wedi cytuno bod diogelwch adeiladau yn flaenoriaeth allweddol dros dymor y Senedd hon. Rydym ni eisoes wedi ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil diogelwch adeiladau a byddwn ni'n adrodd ar hynny cyn bo hir, ac rydym ni hefyd yn disgwyl y byddwn yn craffu ar Fil Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn ystod tymor y Senedd hwn. Ymatebodd ein pwyllgor blaenorol, yr oeddwn i hefyd yn gadeirydd arno, i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn 'Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru' ar ddiwedd y pumed Senedd. Felly, rwyf i'n croesawu'n fawr y cynnydd yr ydych chi wedi ei osod ger ein bron heddiw, Gweinidog, a chyhoeddi'r ymatebion i'r Papur Gwyn. Mae'n hanfodol ymdrin â'r materion a gafodd eu codi yn yr ymatebion wrth symud ymlaen. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy, Gweinidog, am Fil diogelwch adeiladau y Senedd, gan gynnwys efallai ryw syniad o'r amserlen yn hynny o beth. Ac un peth yr ydym ni'n ymwybodol iawn ohono fel pwyllgor yw bod pobl, yn amlwg, yn teimlo'n gryf iawn y dylen nhw allu teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, ac mae hynny o'r pwys mwyaf iddyn nhw. A dyna pam mae diogelwch adeiladau wedi bod yn flaenoriaeth mor frys i bob un ohonom ni, gan gynnwys y pwyllgor, ers trychineb Grenfell. Rydym ni fel pwyllgor yn dal i fod yn derbyn gohebiaeth gan breswylwyr sy'n teimlo'n rhwystredig ynghylch y cynnydd araf o ran cwblhau'r gwaith adferol a thalu am y gwaith hwnnw.

Rydych chi wedi sôn am weithio gyda phreswylwyr a lesddeiliaid. Gweinidog, tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am hynny, oherwydd bod ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid eraill yn gwbl allweddol, a'u mewnbwn nhw a fydd yn hanfodol i sicrhau bod mesurau yn y dyfodol yn diwallu eu hanghenion. Felly, os gallech chi ddweud ychydig mwy am y gwaith ymgysylltu y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud a sut y bydd eu barn yn cyfrannu mewn gwirionedd at ddatblygu polisi yn y dyfodol, Gweinidog, byddwn i'n ddiolchgar. Ac yn olaf, gan ddychwelyd at y datblygwyr, rwy'n gwybod eich bod chi wedi cynnal digwyddiad bord gron yn yr hydref, ac fel y gwnaethom ni gyfeirio ato eisoes, fe wnaethoch chi fynegi parodrwydd, rwy'n credu, i roi ar goedd y datblygwyr hynny nad oedden nhw'n barod i ymuno â'r drafodaeth. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am hynny eto, a beth fydd yn gyhoeddus. Diolch yn fawr.

18:05

Diolch, John. Rwy'n edmygu'ch pwyllgor yn gofyn i mi yn gyson am amserlenni ar gyfer y Bil, ond mae arnaf i ofn bod fy ateb yr un fath â'r un a roddais i yn y pwyllgor, sef y byddwn ni'n trafod yr amserlen gyda chi pan gaiff y Bil ei gyflwyno, a'n bod ni'n gobeithio cael yr amser hiraf posibl i graffu yn y cyfnod pwyllgor yn benodol, oherwydd fy mod i'n awyddus iawn i sicrhau bod y Bil hwn yn gydsyniol ar draws y Siambr, os yw hynny'n bosibl. Felly, byddaf i'n sicr yn dod i'r pwyllgor gydag amserlen maes o law pan fydd y cytundeb wedi ei nodi yn llawn, ac rwyf i'n ymrwymo'n llwyr i fod eisiau cael yr amser hiraf posibl i'r pwyllgor edrych ar y Bil a sicrhau ein bod ni'n cael y consensws hwnnw ar draws y darn.

Rydym ni wedi gwneud llawer o waith ymgysylltu ar y Papur Gwyn yn barod, a chawsom ni lawer o ymatebwyr i hynny, ond fe wnaeth yr ymatebion gydnabod hefyd fod meysydd yr oedd angen eu cwmpasu, mireinio ac egluro yn fwy, felly rydym ni wrthi'n gwahodd partneriaid allweddol i barhau i weithio gyda ni ar ddatblygu rhai o'r cynigion hynny ac i ymuno â gweithgorau arbenigol a fydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd, i fireinio'r cynigion hynny. Felly, rwyf i'n eich sicrhau ein bod ni'n awyddus iawn i gael y diwydiant arolygu, y perchnogion eiddo eu hunain, a lleisiau'r lesddeiliaid yn amlwg iawn yn y ddadl honno, i sicrhau ein bod ni'n cael y drefn yn iawn. A byddaf i'n eich atgoffa ei fod yn raddol, y drefn, felly yn y cyfnod dylunio, adeiladu a meddiannaeth y bydd hyn yn cael ei ddwyn ymlaen. Felly, rwy'n hapus iawn i ymrwymo i hynny. Rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ac, yn wir, y Senedd, wrth i'r trafodaethau hynny fynd yn eu blaenau.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, rwy'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol o fy mrwdfrydedd dros dynhau Rhan L o'r rheoliadau adeiladu fel bod pob adeilad newydd yn addas i'r diben yn ein byd sydd dan fygythiad yr hinsawdd. Dyma'r buddsoddiad mwyaf y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud erioed, ac yn wir nid ydyn nhw'n haeddu bod datblygwyr yn llwytho costau cudd arnyn nhw ac yn eu hannog nhw i brynu adeiladau nad ydyn nhw'n addas i'r diben naill ai o ran diogelwch neu effeithlonrwydd tanwydd yr adeilad. Felly, rwyf i'n cefnogi yn llwyr, fel y mae pawb rwy'n siŵr, ein bod ni'n sicrhau bod diogelwch nid dylunio wrth wraidd yr adeiladau aml-feddiannaeth hyn. Gan ei bod dros bedair blynedd ers trychineb Grenfell, pa newidiadau sydd wedi eu gwneud i reoliadau adeiladu yn ogystal â'r monitro sydd ei angen i sicrhau bod y cynlluniau'n cael eu llunio i'r fanyleb gymeradwy fel nad oes rhaid i unrhyw un sy'n prynu cartref heddiw fynd drwy'r artaith y mae pobl sy'n byw yn yr adeiladau sâl hyn wedi gorfod ei dioddef am yr holl flynyddoedd hyn?

Diolch yn fawr iawn, Jenny. Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn o'ch brwdfrydedd dros Ran L, yr ydym ni'n gobeithio ei chyflwyno ddechrau'r flwyddyn nesaf, ac yn arbennig o ran effeithlonrwydd ynni cartrefi, ac yn y blaen. Wrth gwrs, mae rheoliadau adeiladu yn cynnwys llawer mwy nag effeithlonrwydd ynni yn unig; maen nhw'n cynnwys cyfres gyfan o agweddau ar ddiogelwch, fel yr ydych chi newydd ei amlinellu. Ac rydym ni wedi gwneud un neu ddau o newidiadau i hynny, felly, yn amlwg, fe wnaethom ni wahardd gwahanol fathau o gladin yn gynnar iawn ar ôl tân Grenfell, fel y gwnaeth Lloegr. Bu nifer o addasiadau bach o'r math hwnnw wrth i ni fynd ymlaen, ond nid ydym ni wedi gwneud unrhyw newidiadau cynhwysfawr eto, oherwydd ein bod ni'n bwriadu gwneud hynny o ganlyniad i'r Papur Gwyn. Ac rydym ni'n newid y drefn gyfan yn llwyr; nid mân newidiadau yw'r rhain, mae hyn yn wahaniaeth ansoddol hollol wahanol. Yr oedd yn destun llawer o ddadlau yn y pumed Senedd a byddwn ni mewn sefyllfa cyn bo hir iawn i allu dechrau ar y gwaith craffu hwnnw yma yn y chweched Senedd.

O ran sicrhau bod yr adeiladau sy'n cael eu hadeiladu yn awr yn addas i'r diben, gallaf i eich sicrhau chi ein bod ni wedi cael sgyrsiau hir gydag arolygiaethau amrywiol ynghylch y ffordd orau o wneud hynny, ond rwy'n ofni ei bod yn debyg bod rhai adeiladau yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd y bydd ganddyn nhw broblemau tebyg os nad yw'r datblygwyr yn camu i'r fei i'r dasg o sicrhau eu bod yn derbyn eu cyfrifoldebau. A dyna un o'r rhesymau yr ydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar eu Bil nhw, oherwydd dim ond y DU sydd â'r pŵer i newid y cymalau rhwymedigaethau a'r cyfnodau cyfyngu ar gyfraith contractau, sef yr hyn yr ydych chi'n sôn amdano yn y fan yno. A dyna un o anawsterau'r maes cyfreithiol hwn, oherwydd nad yw rhywfaint ohono wedi ei ddatganoli, mae rhywfaint ohono wedi ei gadw a rhywfaint ohono heb ei gadw. Felly, rydym ni wedi bod yn ceisio llywio hynny wrth i ni fynd ymlaen. Felly, mae Llywodraeth y DU, fel y dywedais i yn fy natganiad, wedi ymrwymo'n ddiweddar i ymestyn y cyfnod cyfyngu i bobl sydd ar fin mynd i feddiannu adeilad, felly bydd ganddyn nhw 30 mlynedd i ddwyn y datblygwr i gyfrif yn y dyfodol.

Bydd angen gwneud pethau eraill, felly byddwn ni'n gweithio'n galed iawn gyda gweithwyr proffesiynol trawsgludo ac asiantau tai er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth y mae pobl yn ei chael pan fyddan nhw'n prynu eu heiddo yn addas i'r diben. Ac mae hynny'n cynnwys yr holl faterion sy'n ymwneud â lesddaliad, taliadau a chyfrifoldebau hefyd, Jenny, cyn ac ar ôl y Papur Gwyn. Yn amlwg, ar ôl y Papur Gwyn, bydd yn llawer symlach ac yn fwy uniongyrchol. 

18:10
8. Y Cwricwlwm i Gymru—Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 8, y Cwricwlwm i Gymru, y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, a dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i gyflwyno'r cynnig yma—Jeremy Miles.

Cynnig NDM7864 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb i'w ystyried gan y Senedd.

Mae angen inni helpu'n plant a'n pobl ifanc i fynd o nerth i nerth ym mhob agwedd ar fywyd, fel eu bod yn tyfu i fod yn oedolion sy'n unigolion iach, hyderus. Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb rôl gadarnhaol ac amddiffynnol i'w chwarae yn addysg [Anghlywadwy.] Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i'w chyflawni o ran creu amgylchedd diogel a grymusol sy'n cefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau cydberthnasau boddhaus, iach a diogel drwy gydol eu bywydau.

Rŷn ni hefyd yn gwybod bod plant a phobl ifanc sydd â chydberthnasau cryf ac ymdeimlad cadarnhaol o'u hunain ac sy'n gallu deall a rheoli eu hemosiynau a'u lles eu hunain mewn sefyllfa well i gyrraedd eu potensial llawn yn y dyfodol. Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn rhoi'r egwyddorion hyn wrth wraidd y dysgu. Rydym am i'n pobl ifanc ffynnu er mwyn iddynt allu ymateb yn gadarnhaol i fyd sydd yn newid a bod yn barod am y bywyd sydd o'u blaenau.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae gan blant yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed ac sy'n caniatáu iddyn nhw lywio'r byd cymhleth yr ydym ni'n byw ynddo—un sy'n wahanol iawn i'r byd y cawsom ni ein magu ynddo. Fel cymdeithas, rydym ni'n dod yn fwyfwy ymwybodol o ddatblygiadau mewn technoleg, gan gynnwys dylanwad cynyddol y cyfryngau cymdeithasol a'r cynnydd yn y defnydd o gyfathrebu a dyfeisiau digidol. Yn y cyd-destun hwn, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn gymorth pwysig i alluogi dysgwyr i lywio'r newidiadau hyn a'u cadw'n ddiogel rhag niwed.

Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb swyddogaeth bwysig hefyd i ymateb i ystod eang o faterion a heriau brawychus y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, sydd wedi eu hamlygu'n fwy diweddar, boed yn cadw'n ddiogel ar-lein, aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, neu amlygiad plant a phobl ifanc i ddelweddau rhywiol a phornograffi. Mae'n hanfodol bod gan ein dysgwyr ddealltwriaeth o'r materion hyn, ond mae hefyd yn hanfodol ein bod ni'n eu cynorthwyo i fod yn ddiogel mewn amgylchedd cynhwysol sy'n gefnogol i bob plentyn a'n bod ni'n paratoi ein hathrawon a'n hymarferwyr i ymdrin â'r materion hyn. Rydym ni wedi parhau â'r safbwynt y dylai'r holl ddysgu mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol ac mae'r camau a amlinellir yn y cod yn ganllaw i roi dealltwriaeth i ymarferwyr o'r hyn sy'n debygol o fod yn briodol yn ddatblygiadol. Mae hyrwyddo a chynorthwyo perthnasoedd iach eisoes yn rhan allweddol o'n dull o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae eisoes wedi llywio'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Bydd strategaeth ddrafft newydd Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cyd-fynd â'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd a'r canllawiau statudol.

Yn fwy cyffredinol, rydym yn parhau i hyrwyddo perthnasoedd iach yn y ffordd yr ydym yn cefnogi teuluoedd ac unigolion sy'n agored i niwed. Drwy hyrwyddo cysyniad cyson o beth yw perthnasoedd iach, byddwn yn cefnogi ein dull cymdeithas gyfan o roi terfyn ar gam-drin menywod a merched yng Nghymru. Bydd ein strategaeth newydd i atal trais yn erbyn menywod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei chyflawni drwy ddull partneriaeth gwirioneddol, gan gynnwys addysg, iechyd, yr heddlu, gwasanaethau arbenigol, a goroeswyr i greu'r glasbrint ar gyfer gweithredu.

Ar 26 Tachwedd, ysgrifennais at Aelodau'r Senedd, gan rannu'r canllawiau statudol drafft ar addysg cydberthynas a rhywioldeb. Yn y canllawiau hyn, y mae'n rhaid eu darllen gyda'r cod, bydd yr Aelodau'n sylwi ei bod yn glir y dylai'r dull o ymdrin ag addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn gadarnhaol, yn amddiffynnol ac yn ataliol, gan ystyried sut y gellir cynorthwyo dysgwyr i gael yr wybodaeth i adnabod pob math o wahaniaethu, trais, cam-drin ac esgeulustod, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae dolen wedi ei gynnwys mewn pecyn adnoddau i gefnogi ysgolion a lleoliadau ar drais yn erbyn menywod a merched.

Hoffwn i dalu teyrnged yn arbennig a diolch i sefydliadau fel y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, Cymorth i Ferched Cymru ac eraill am eu cefnogaeth barhaus i addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol a'u cyfraniadau dros y misoedd diwethaf wrth i ni gryfhau'r maes dysgu hwn o fewn y canllawiau a'r cod statudol, a fydd yn cefnogi diogelwch dysgwyr drwy eu galluogi i gydnabod perthnasoedd a sefyllfaoedd anniogel neu niweidiol.

Mae adroddiad diweddar Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg yn anodd iawn ei ddarllen, ac mae nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ein cymdeithas ymhlith pobl ifanc yn annerbyniol. Mae hefyd yn glir bod trais yn erbyn menywod a merched yn llawer rhy gyffredin, ac rwyf i'n credu'n gryf y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn helpu i gefnogi dysgwyr i ffurfio a meithrin ystod o berthnasoedd iach wedi eu seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd. Tynnodd adroddiad Estyn sylw hefyd at y ffaith bod gan ein disgyblion LHDTC+ brofiadau personol sylweddol o aflonyddu geiriol, homoffobig. Mae unrhyw fath o fwlio yn gwbl annerbyniol.

Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei gwireddu, Dirprwy Lywydd, mewn ffordd sy'n gynhwysol, yn unol ag egwyddorion cydraddoldeb. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn gallu gweld eu hunain, eu teuluoedd, eu cymuned a'i gilydd yn cael eu hadlewyrchu ar draws y cwricwlwm ac yn gallu dysgu gwerthfawrogi gwahaniaeth ac amrywiaeth fel ffynhonnell o gryfder. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chynwysoldeb LHDTC+. Mae hyn yn cyfrannu at gymdeithas gydlynol, deg a chyfiawn sy'n rhoi'r sgiliau am oes i ddysgwyr. Rydym yn glir bod angen arbenigedd, amser ac adnoddau arbenigol ar addysg cydberthynas a rhywioldeb i fod yn effeithiol. Bydd hyn yn sicrhau bod amgylchedd cefnogol yn cael ei greu i alluogi dysgwyr ac ymarferwyr i fod yn ddiogel, er mwyn trafod a dysgu am faterion a allai fod yn sensitif neu'n heriol.

Un o'r prif flaenoriaethau i ni dros y misoedd nesaf fydd cynorthwyo ysgolion a lleoliadau cyn gweithredu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae cynllun cenedlaethol o ddysgu proffesiynol ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gydag ymarferwyr a phartneriaid. Yn gynharach eleni cyhoeddais gyllideb o £100,000 i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd uchel, a fydd yn helpu i ddatblygu hyder a dealltwriaeth athrawon o ran darparu addysg cydberthynas a rhywioldeb gynhwysol o ansawdd uchel. Rydym yn trafod gyda rhanddeiliaid ac ymarferwyr allweddol i nodi unrhyw fylchau ac i gomisiynu adnoddau newydd o ansawdd uchel, pan fo'u hangen, i gefnogi'r gweithredu hwnnw. Bydd ein sgyrsiau rhwydwaith cenedlaethol â'r sector yn gyfle hefyd i drafod y gwaith o weithredu addysg cydberthynas a rhywioldeb ymhellach.

Hoffwn i ddiolch i'r ymarferwyr yn y gweithgor addysg cydberthynas a rhywioldeb am eu gwaith caled ac am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i ddatblygu'r cod hwn. Hoffwn i ddiolch hefyd i'r sefydliadau sy'n cynnwys crefydd, hawliau, rhanddeiliaid sy'n cynrychioli buddiannau plant, ac arbenigwyr am gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r cod hwn. Mae llawer gormod ohonoch i'ch enwi'n unigol, ond nid yw fy niolch yn llai personol. Rwyf i mor falch bod y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb hwn yn ennyn cymaint o gonsensws a chefnogaeth o bob rhan o'r gymdeithas ddinesig. Edrychaf ymlaen at y cyfraniadau yn y ddadl ac at ddeialog ag Aelodau ar y maes dysgu pwysig hwn. Diolch yn fawr iawn. 

18:15

Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod yn gwbl warthus mai dim ond 30 munud sydd gennym ni i drafod rhywbeth sydd mor sylfaenol bwysig, yn ystod yr wythnos olaf cyn y toriad.

Mae cymaint o'i le ar y cod ar ei ffurf bresennol, a'r canllawiau, sydd o bwys enfawr ac yn ganllaw i'n hathrawon. Cafodd y canllawiau hanfodol hyn, a oedd ar goll i ddechrau, eu cyhoeddi gan y Llywodraeth hon yn hwyr neithiwr. I graffu arnyn nhw'n briodol, mae dadl 30 munud yn unig yn sarhad ar y Senedd, y rhieni, athrawon a phlant ledled Cymru.

Dirprwy Lywydd, cyn i mi geisio mynd i'r afael â'r llu o bryderon sydd gan y meinciau hyn, rwy'n diolch i'r Llywydd am gydnabod pwysigrwydd y ddadl hon yn flaenorol a chaniatáu mwy o hyblygrwydd o ran amseriadau, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ymestyn hynny i fy nghyfraniad i, gan fod angen neilltuo digon o amser i graffu ar hyn a'i drafod yn ddigonol. Mae'n hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn ac nad yw'n cael ei ruthro drwodd, gan y bydd hyn yn effeithio'n fawr ar genedlaethau o blant yng Nghymru.

Rydym ni i gyd eisiau cael addysg cydberthynas a rhywioldeb sydd o ansawdd uchel, yn ddiogel, yn briodol i oedran, yn gwbl gynhwysol, ac yn wyddonol gywir i'n plant. Bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle unigryw i ni fynd i'r afael o'r diwedd â rhai o faterion pwysig yr oes sydd ohoni a'u haddysgu i hyrwyddo perthnasoedd iach, ymwybyddiaeth ac i amddiffyn ein plant. Rydym ni'n croesawu hyn. Fodd bynnag, mae angen i ni ei wneud yn iawn. Mae angen iddyn nhw fod y negeseuon iawn, y cynnwys iawn, wedi eu cyflwyno gan athrawon sydd wedi eu hyfforddi'n llawn neu gan gyrff allanol sy'n cadw at y canllawiau caeth a gaiff eu gosod. Felly, mae angen i'r canllawiau hyn a'r cod fod yn glir ac wedi eu seilio ar wirionedd. Mae hyd yn oed y teitl yn fy mhoeni i—dileu'r gair 'rhyw' o deitl addysg cydberthynas a rhywioldeb a defnyddio 'rhywioldeb' yn ei le—fel y mae dileu pob cyfeiriad at 'ferch', 'bachgen', 'menyw'. Mae'n hurt o ddryslyd, yn beryglus i gyfyngu ar ddefnyddio rhywedd, ac mae'n fy nharo i fel Llywodraeth sy'n poeni'n fwy am hyrwyddo syniadaeth nag addysgu ffeithiau i'n plant a'u hamddiffyn. Mae hepgor unrhyw dermau rhywedd yn y cod, a bod yn onest, yn syfrdanol. Nid yw'r hyn sydd wedi ei gyflwyno yn addysg rhyw sydd wedi ei seilio ar ffeithiau ac sy'n gywir yn fiolegol, ond yn trwytho plant mewn syniadaeth ynghylch hunaniaeth rhywedd. Mae dileu 'rhyw' yn tanseilio diogelu, yn erydu'r cysyniad o breifatrwydd, ffiniau a chydsyniad, gan roi merched yn arbennig mewn perygl—mae cod lle mae merched a menywod yn anweledig, ar wahân i gyfeiriadau at eu gweithrediadau corfforol, yn fwy na gwrth-reddfol. Mae merched a menywod yn bodoli, ac mae'n syfrdanol bod lleiafrif bach yn ceisio ein dileu o gymdeithas.

Mae angen i'n blaenoriaeth fod ar ddiogelu plant, gan roi'r ffeithiau iddyn nhw mewn modd sy'n briodol i'w hoedran. Rwy'n cytuno'n llwyr â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sydd wedi siarad yn erbyn y cod hwn heddiw, ac yn ailadrodd ei galwadau ac rwy'n credu y byddai'n gam cwbl resymol i gynnwys yn benodol ac yn glir yr angen i ddeall y sail rywedd i drais a'r materion rhywedd penodol ar gyfer perthnasoedd iach ar wyneb y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb. Ac, wrth ymateb i wrthodiad y Llywodraeth, mae'n wir bod cyfeiriad at Ddeddfau yn y dogfennau hyn, sef Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ond, y tu hwnt i hynny, nid oes unrhyw beth o gwbl yn y deilliannau dysgu sydd â'r pŵer i newid patrymau neu agweddau gwrywaidd cyfredol at drais rhywiol a domestig. O ystyried bod y troseddau hyn ar gynnydd, yn enwedig mewn ysgolion, fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae'n hanfodol manteisio ar y cyfle yn awr i fynd i'r afael â hyn. Yn yr un modd, ceir cyfeiriad at y Ddeddf Cydraddoldeb. Gallwn i fynd ymlaen, ond, Dirprwy Lywydd, nid oes amser. Ond, yn y bôn, mae diben y Ddeddf hon wedi ei erydu yn y cod hwn. Bydd llwyddiant y cod hwn yn dibynnu ar gefnogaeth a chydweithrediad gan rieni, gofalwyr, teuluoedd ac athrawon ledled Cymru, ond mae'r rhain yn god a chanllawiau anodd eu dilyn, dryslyd ac nid ydyn nhw'n ffeithiol gywir, sy'n defnyddio termau wedi eu diffinio'n wael nad oes ganddyn nhw unrhyw sail yn y gyfraith ac, rwyf i'n credu, na fydd yn cael y gefnogaeth honno.

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu'n fwriadol lu o bryderon a gafodd eu codi yn y drafft cychwynnol, ac mae'r canllawiau yn dal i fethu â mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion. Nid oes unrhyw sôn o hyd am y safonau sy'n ofynnol ar gyfer cyflenwyr neu ddarparwyr deunydd addysgol trydydd parti, y mae angen, yn fy marn i, eu cymeradwyo gan Estyn. Mae'r iaith yn y cod yn parhau i fod yn anrhyweddol, yn anghywir ac yn ddryslyd, a allai arwain at effaith andwyol, Gweinidog. Hoffwn i fynd ymlaen, ond, unwaith eto, nid oes digon o amser. Ac mae'n dal i beidio â chynnwys effaith pornograffi ar gymdeithas ac unigolion—yn briodol i oedran, wrth gwrs. Yn wir, bod yn briodol i oedran yw un o'r pethau pwysicaf y mae angen i ni ei sicrhau drwy'r dogfennau hyn. Ond, oherwydd rhwyddineb a thuedd gynyddol o rannu delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol, fel yr ydym ni wedi ei drafod yn ddiweddar yn y Senedd, mae angen mynd i'r afael â hyn.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae llawer o ddiffygion clir ac amlwg yn y dogfennau hyn o hyd, ac maen nhw'n ddryslyd iawn o ran eu cynnwys ac nid ydyn nhw'n addas i'r diben. Mae'n hanfodol bod angen i'r canllawiau hyn fod yn glir, yn gryno ac yn gadarn os yw'n mynd i fod yn ganllaw i addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb mewn modd cyson ledled Cymru ac os yw'n mynd i gael yr effaith a ddymunir. Os bydd y cod hwn yn mynd drwodd fel y mae, rwy'n rhybuddio'r Senedd hon na fydd yn mynd i'r afael â'r materion y mae'n bwriadu eu datrys, ni fydd yn mynd i'r afael â'r hyn y mae'r Llywodraeth hon ei hun yn dymuno mynd i'r afael ag ef, ac ni fydd yn gyfraniad teilwng at wella bywydau'r cenedlaethau nesaf o blant Cymru. Byddwn ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn hyn heddiw, ac rwy'n annog y Senedd i ddilyn ein hesiampl. Rwy'n gobeithio y gellir ailgyflwyno'r canllawiau hyn, wedi eu diwygio, i'r Senedd yn y flwyddyn newydd a chraffu arnyn nhw yn iawn, fel y maen nhw'n ei haeddu ac y dylai fod. Diolch.

18:25

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl bwysig hon ar ran Plaid Cymru. Mae hon yn agwedd mor allweddol o'r cwricwlwm newydd, ac yn agwedd rŷn ni wedi bod yn gyson gefnogol ohoni drwy gydol taith y cwricwlwm newydd drwy'r Senedd, gan y bydd, gobeithio, yn arwain at gyfle hanesyddol i feithrin agweddau a dealltwriaeth o gydraddoldeb yn ein cymdeithas o ran ymagwedd at y rhywiau, rhywedd a rhywioldeb.

Rwy'n hynod o falch o nodi bod addysg cydberthynas a rhywioldeb wedi derbyn cefnogaeth eang gan ymarferwyr a dysgwyr fel ei gilydd, yn ogystal â chyrff cyhoeddus a rhieni. Roedd y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y cod drafft yn gefnogol ar y cyfan i'r dull cyffredinol o ymdrin ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, gydag agweddau cadarnhaol tuag at y dull a gymerwyd yn cael eu llywio gan wahanol safbwyntiau. Roedd cymaint o'r rhai wnaeth ymateb yn deall y byddai darparu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn effeithiol wrth gefnogi lles plant a phobl ifanc ac wrth hyrwyddo hawliau'r plentyn, a bod y ddarpariaeth honno'n adlewyrchu neu'n adeiladu ar arferion addysgu presennol mewn ysgolion.

O ran lles plant a phobl ifanc, roedd yn cael ei gydnabod y byddai darpariaeth briodol yn darparu cyfleoedd iddynt ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hyder i archwilio eu bydoedd a'u sfferau cymdeithasol yn ddiogel ac yn hyderus, ac yn diogelu eu lles emosiynol a chorfforol. Yn y pen draw, y gobaith, wrth gwrs, yw y bydd yn galluogi plant a phobl ifanc i ganfod eu ffordd yn hyderus ac yn ddiogel o fewn cymdeithas sy'n newid yn barhaus—cymdeithas wahanol iawn, fel dywedodd y Gweinidog, i'r un y gwnaethon ni gael ein magu ynddi.

Yn ogystal, ystyriwyd bod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn hanfodol wrth ddarparu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o berthnasoedd sydd â pharch wrth eu craidd, ac wrth ddarparu gwybodaeth gytbwys a diduedd a all amddiffyn a grymuso plant a phobl ifanc—syniad sy'n cael ei gefnogi ymhellach gan y pwyslais pellach ar hawliau'r plentyn oddi mewn i'r cynigion sy'n deillio o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Erbyn hyn, ers yr ymgynghoriad ar y cod drafft, gwnaed newidiadau i'r cod, ac mae'r rhain wedi'u hamlinellu'n rhannol gan y Gweinidog. Felly, byddwn yn gobeithio y gallai'r Gweinidog ddarparu mwy o fanylion am y newidiadau, y rhesymeg y tu ôl i newid y cod a sut mae'n credu y bydd y newidiadau hyn yn effeithio'n gadarnhaol neu'n cryfhau darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Gan roi'r agweddau da i'r naill ochr, mae rhai materion sy'n ymwneud â pherthnasoedd a rhywioldeb yn parhau i fod yn gyffredin yng nghymdeithas Cymru, ac rwy'n gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon, y gall y Gweinidog daflu rhywfaint o oleuni ar sut y bydd yr agwedd hon ar y cwricwlwm yn helpu i unioni'r problemau hyn. Fel y clywsom mewn adroddiad diweddar gan Estyn, canfuwyd bod disgyblion dan bwysau'n rheolaidd i anfon lluniau noeth, a merched yn cael eu haflonyddu am hyd eu sgertiau. Yn hyn o beth, dywedodd tua hanner y disgyblion uwchradd eu bod wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol gan gyd-ddisgyblion, bod dwywaith cymaint o ferched wedi dweud eu bod wedi wynebu aflonyddu rhywiol gan fechgyn, a bod 46 o'r rhai a oedd wedi cael profiad ohono wedi penderfynu peidio â dweud wrth unrhyw un arall. Mae'n frawychus, ond nid yw'n syndod llwyr gweld bod 71 y cant o ddisgyblion fechgyn ac 82 y cant o ddisgyblion sy'n ferched wedi dweud eu bod wedi gweld aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn ysgolion uwchradd.

Rydym yn croesawu'r dull addysg gyfan yn y cwricwlwm newydd o roi terfyn ar gasineb at fenywod a thrais yn erbyn menywod a merched. Ac yng ngoleuni'r canfyddiadau brawychus hyn yn adroddiad Estyn, mae'n gliriach nag erioed bod angen darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb gadarn arnom yn ein cwricwlwm, a bod y ddarpariaeth hon yn grymuso disgyblion i ymddiried yn eu hathrawon, sefyll i fyny i'w cyfoedion ac adrodd ar bob math o aflonyddu rhywiol. Gobeithio y gallai ymateb y Gweinidog i'r ddadl hon egluro sut y gallai darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb fynd ati i unioni'r broblem erchyll a pharhaus hon yn ein hysgolion.

Fel y cyfeiriodd y Gweinidog yn ei ddatganiad, canfu arolygwyr Estyn hefyd fod lawer o ddisgyblion LHDTC+ wedi cael llawer o brofiadau personol o fwlio ac aflonyddu homoffobig, a bod y rhan fwyaf o ddisgyblion LHDTC+ a arolygwyd gan Estyn yn dweud eu bod nhw'n meddwl mai dim ond ychydig o athrawon fyddai'n gwneud unrhyw beth yn ei gylch pe bydden nhw'n clywed sarhad homoffobig yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn. Mae'n destun pryder nodi bod rhai o'r ymatebion mwy gwrthwynebol i'r ymgynghoriad yn aml yn cuddio rhagfarn ac agweddau gwahaniaethol yn erbyn pobl drawsryweddol, felly hoffwn i gofnodi ac ailddatgan fy ymrwymiad i a fy mhlaid i sicrhau bod angen clywed a chadarnhau lleisiau a phrofiadau LHDTC+, a'n haddewid parhaus i hyrwyddo hawliau LHDTC+. Wrth ymateb i'r ddadl hon, byddwn i'n gwerthfawrogi pe gallai'r Gweinidog egluro yn fwy sut y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn helpu myfyrwyr LHDTC+, yn ogystal â'u cydweithwyr a'u hathrawon, i greu amgylchedd o well dealltwriaeth a mwy grymusol a thosturiol yn ein hysgolion. 

Rwy'n credu hefyd fod yn rhaid gwneud—

18:30

[Anghlywadwy.]—wrth gloi, ynglŷn â sut y bydd pynciau eraill yn y cwricwlwm newydd yn cryfhau neu'n cefnogi darpariaeth addysg cydberthynas rhywioldeb a'i nodau craidd. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu'n hir ac yn galed er mwyn gweld mwy o bwyslais ar hanes Cymru, gan gynnwys hanes LHDTC+ yng Nghymru yn y cwricwlwm newydd, ac rwy'n falch o weld y cyfeiriad at hyn yn ein cytundeb cydweithredu gyda'r Llywodraeth. Mae'n gwbl hanfodol bod disgyblion yn dysgu'r cyd-destun hanesyddol, sut wnaethon ni gyrraedd lle'r ydym ni nawr fel cymdeithas, os ydyn nhw am ddeall a chanfod eu ffordd o fewn y gymdeithas honno. Felly, hoffwn wybod, wrth gloi, sut mae darpariaeth addysg cydberthynas rhywioldeb yn cael ei hadlewyrchu a'i chefnogi gan bynciau eraill yn y cwricwlwm fel hanes. Diolch.

Byddaf yn pleidleisio yn erbyn cod addysg cydberthynas a rhywioldeb Llywodraeth Cymru heddiw. Fel y bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o ddadleuon a gafodd eu cynnal yn y Senedd flaenorol, rwyf i o'r farn mai rhieni yw prif addysgwyr eu plant, nid y wladwriaeth, ac rwyf i'n credu bod camau Llywodraeth Cymru i ddileu hawl rhieni i dynnu eu plant yn ôl o wersi addysg rhyw enfawr tuag yn ôl o ran hawliau a dewis rhieni, ac, o ystyried y ffaith na chaiff rhieni dynnu eu plant yn ôl o wersi addysg rhyw mwyach, mae'n gwbl hanfodol bod y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd mor barchus a chynhwysol â phosibl i'r amrywiaeth eang o safbwyntiau sydd gan bobl ar y pwnc pwysig iawn hwn. Ond mae'n flin gen i ddweud nad yw'r cod sydd ger ein bron heddiw a'r canllawiau statudol drafft a gafodd eu rhannu ag Aelodau yn hwyr y bore yma yn gwneud hynny. Yr hyn sydd yn amlwg yw bod Llywodraeth Cymru yn ceisio celu cyfres ddadleuol o syniadau y mae llawer iawn o ddadlau yn eu cylch fel rhyw fath o gatalog sefydlog o wirioneddau y dylid eu haddysgu i bob disgybl yn y wlad. Ond mae'r realiti ymhell o hynny. Y gwir amdani yw bod llawer iawn o ddadlau, hyd yn oed o fewn y gymuned LHDTC+, ar yr effaith y gallai'r cod ei chael, yn enwedig ar hawliau menywod, ac mae pryderon gwirioneddol bod barn pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru mewn perygl o gael eu cythreulio a gwahaniaethu yn eu herbyn.

Mae pwyslais mawr iawn yn y cod ar barch, ond mae'n amlwg nad yw'n ymddangos bod y parch hwnnw'n ymestyn i lawer o Gristnogion, Mwslimiaid, Iddewon, Hindŵiaid, Sikhiaid, aelodau o grefyddau eraill, aelodau o'r gymuned LHDTC+ na'r rhai y gallai eu barn fod yn groes i'r rhai y mae Llywodraeth Cymru yn eu harddel. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y cod a'r canllawiau drafft wedi eu dylanwadu'n fawr o safbwynt ideolegol sy'n ymwybodol iawn o bechu, ac mae'r canllawiau drafft yn arbennig yn sgrechian hynny. O'r 4,000 o eiriau sydd ynddyn nhw, rydym yn gweld y geiriau 'gwryw' yn cael ei grybwyll unwaith yn unig; 'benyw' ddwywaith, a'r ddau wrth drafod anffurfio organau rhywiol menywod; nid yw 'dynion' yn ymddangos o gwbl, nac ychwaith y geiriau 'merch', 'bachgen', 'syth' na 'heterorywiol'. Nid yw unrhyw god addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n ceisio osgoi'r geiriau hyn yn werth y papur y mae wedi ei ysgrifennu arno.

Nawr, fel Llywodraeth y dydd, rwy'n parchu bod gennych yr hawl i gynllunio'r cwricwlwm yn y ffordd yr ydych chi'n ei ystyried sy'n addas, ond nid oes gennych chi'r hawl i addysgu cwricwlwm amhriodol, wedi ei lwytho'n rhywiol, sy'n hyrwyddo dealltwriaeth o sut y mae gan bawb hawl i, ac rwy'n dyfynnu, 'perthnasoedd pleserus' i blant mor ifanc ag 11 oed. Mae gwneud hynny heb ganiatâd rhieni, yn fy marn i, yn gwbl annerbyniol, felly rwy'n annog yr holl Aelodau heddiw i wrthod y cod hwn a'r canllawiau drafft sy'n deillio ohono, ac yn annog Llywodraeth Cymru i ddechrau o'r dechrau, i ymgysylltu'n fwy â rhieni, i ymgysylltu'n fwy â chymunedau ffydd ac amrywiaeth fwy amrywiol o leisiau o'r gymuned LHDTC+. Rwy'n eich annog i ddatblygu cod newydd sy'n mynd i'r afael â'u pryderon.

18:35

Rwy'n anghytuno'n barchus â Darren Millar. Rwy'n credu ei fod yn wirioneddol ofnadwy ar gyfer hawliau plant os nad ydyn nhw'n gwybod beth sy'n digwydd iddyn nhw pan fyddan nhw'n mynd drwy'r glasoed. Pam mae cynifer o ferched nad oes ganddyn nhw syniad beth sy'n mynd i ddigwydd iddyn nhw pan fyddan nhw'n dechrau eu mislif? Ac mae hynny'n syfrdanol, ac yn frawychus iawn ac yn ddiangen o araf. Ac rydym ni'n wirioneddol yn byw yn y gwaethaf o bob byd, lle mae rhyw yn cael ei ddefnyddio i werthu popeth, boed yn bornograffi niweidiol neu'n gwerthu'r esgidiau diweddaraf, neu'r bêl-droed, neu gar. Felly, mae angen yn llwyr i ni fynd i'r afael â hyn, fel y gwelsom yn adroddiad brawychus Meilyr Rowlands ar yr hyn yr oeddem ni eisoes yn ei wybod oedd yn digwydd—yr aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion sy'n digwydd drwy ffonau clyfar pobl a llwyfannau ar-lein eraill. Mae'n wirioneddol anghyfforddus, ac nid yw'r rhan fwyaf o'r bwlio a'r aflonyddu rhywiol hwn yn digwydd mewn ysgolion, mae'n digwydd y tu allan i'r ysgol, er ei bod yn ddigon posibl ei fod yn digwydd yn yr ysgol hefyd. Ond yn wirioneddol, mae'n tanlinellu pwysigrwydd y bartneriaeth gydweithredol â theuluoedd, yn ogystal â hawl y person ifanc i gael rhywfaint o synnwyr o wahanol berthnasoedd sydd gan blant ac oedolion. Dyma realiti eu bywydau, ac os nad ydym yn esbonio iddyn nhw sut y gallen nhw ddymuno archwilio eu personoliaeth a'u rhywioldeb, heb roi unrhyw gyd-destun iddyn nhw ar gyfer yr holl bethau erchyll eraill y mae rhyw yn cael ei ddefnyddio ar eu cyfer, i lygru pennau pobl yn ogystal â'u bywydau—. Mae angen gwirioneddol i ni gymryd y mater hwn o ddifrif. Ac mae gen i ffydd yng ngallu athrawon i fynd i'r afael â'r mater hwn mewn ffordd sy'n briodol i oedran sy'n rhoi cysur i bobl nad oes unrhyw beth anarferol am eu sefyllfa deuluol benodol, oherwydd bod rhai o bob siâp a maint, tra bod gennym ni fuddiannau masnachol sy'n targedu plant a phobl ifanc ac yn eu hannog i feddwl am bethau mewn ffordd sy'n gwbl artiffisial a niweidiol.

Felly, mae angen gwirioneddol i ni fynd i'r afael â hyn, oherwydd fel arall, bydd gennym ni bobl yn tyfu i fyny yn meddwl bod rhyw yn ymwneud â bod yn greulon ac yn dreisgar, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae'n ymwneud â bod yn gariadus, a chyfeillgarwch cadarn a pharch at eich gilydd. Felly, mae gennym ni broblem fawr yma, ac mae'n debyg mai fy nghwestiwn i heddiw i'r Gweinidog yw a yw'n credu y dylem ni fod yn gwahardd ffonau clyfar mewn ysgolion ac yn cynghori rhieni mewn gwirionedd, nad yw'n syniad gwych rhoi ffonau clyfar i bobl ifanc lle gallan nhw gael gafael ar yr holl bethau niweidiol sy'n digwydd ar y rhyngrwyd nad yw wedi ei reoli o gwbl ar hyn o bryd, yn anffodus. 

Mae drafft y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb hwn yn welliant enfawr ar yr un a gafodd ei anfon gyda'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, fel y mae heddiw, ni allwn ei gefnogi. Mae gennym ni rai pryderon enfawr o hyd, ac rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog fynd i'r afael â nhw, a dod â chod diwygiedig yn ôl y gall pawb yn y Siambr hon ei gefnogi.

Egwyddor arweiniol y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, yn ôl y Ddeddf o leiaf, yw bod yn rhaid i wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol i'r dysgwyr. Rwy'n pryderu nad yw'r cod hwn yn dangos yn ddigonol sut y gellir cyflawni hyn a sut y caiff hyn ei gyflawni. Mae'r ffaith y bydd yn rhaid i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar benderfynu beth sy'n briodol yn ddatblygiadol i bob plentyn yn rhoi gormod o faich ar y lleoliadau hynny. Sut mae ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar wedi eu paratoi i wneud y penderfyniadau hynny? Nid yw athrawon yn arbenigwyr mewn datblygiad plant, ac eto mae gofyn iddyn nhw ddadansoddi pob plentyn a phenderfynu ar eu cam datblygu. Mae'r cod hwn wedi ei ddatblygu gyda chyfnodau eang. Yn ôl y ddogfen ei hun:

'Cynlluniwyd y cyfnodau i roi dealltwriaeth i ymarferwyr o'r hyn sy'n debygol o fod yn briodol o safbwynt datblygiad.'

Ac nid yw hyn yn ddigon da.

Mae hefyd yn peri pryder y gellid addysgu plant yn wahanol, o fewn dosbarthiadau neu grwpiau blwyddyn, gan eu bod ar wahanol gamau datblygu, ond nid yw'n glir a fydd mesurau diogelu ar waith i atal plant rhag cael gafael ar ddeunydd nad yw'n briodol i'w datblygiad nhw. Mae'r diffyg mesurau diogelu yn gwneud y cod cyfan hwn yn anaddas. Mae hynny, ynghyd â'r ffaith y gofynnir i ni wella'r cod heb weld y canllawiau cysylltiedig erioed—

18:40

Gareth, a wnewch chi aros am eiliad? Joyce Watson, a ydych chi eisiau gwneud ymyriad? Joyce, a ydych chi eisiau gwneud ymyriad? Gallaf weld eich bod yn gwneud arwydd.

Wel, rwyf i bron â gorffen. Rwyf i fwy neu lai wedi gorffen, Dirprwy Lywydd, felly nid wyf yn siŵr a fyddai llawer o bwynt, mewn gwirionedd.

Iawn. Gofynnir i ni gymeradwyo'r cod heb hyd yn oed gweld y canllawiau cysylltiedig, sy'n golygu nad oes modd i ni gymeradwyo'r cod hwn heddiw, ac rwy'n annog yr Aelodau i wrthod cynnig y Llywodraeth a galw ar Weinidogion i ailddrafftio'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb gyda rhywfaint o dystiolaeth gryfach. Diolch yn fawr iawn.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i hefyd wedi fy siomi mai dim ond 30 munud sydd wedi ei drefnu ar gyfer yr eitem bwysig iawn hon heno yn awr, a hefyd yn siomedig mai dim ond yn hwyr neithiwr y cafodd y canllawiau drafft hynny eu cyhoeddi. Mae yn ei gwneud yn anodd craffu'n briodol ar faes gwaith pwysig iawn. Gan roi hynny o'r neilltu, er efallai fod llawer o fwriad y cod a gyflwynir heddiw yn dda, rwyf i yn rhannu pryderon yr Aelodau ynghylch diffyg cydnabyddiaeth o swyddogaeth rhieni a diffyg nodi hynny'n glir o ran eu cyfrifoldeb wrth addysgu a chefnogi eu plant.

Yn bennaf oll, cyfrifoldeb rhiant yw sicrhau bod eu plant yn cael eu haddysgu yn y ffordd y maen nhw'n ei hystyried sydd orau ac yn fwyaf priodol i'w plentyn ac mae'n bwysig cofio mai rhieni sy'n gyfrifol yn y pen draw am addysg a lles eu plentyn, ac mai rhieni sy'n adnabod eu plant orau, a swyddogaeth y Llywodraeth yw cefnogi rhieni i ymgymryd â'r fraint ryfeddol hon a'r cyfrifoldeb mawr hwn. Felly, gyda hyn mewn golwg, mae'n peri pryder mawr na fydd gan rieni, o dan y cod hwn, ddewis yn y maes dysgu personol a phwysig iawn hwn—yn syth pan fydd plant ifanc yn dair oed, bydd y wladwriaeth yn cael yr ymyriad hwnnw, heb ddewis rhieni yn ei gylch.

Ac yn wir, rwyf i wedi cael nifer o athrawon yn cysylltu â mi ynglŷn â'u pryderon am y newid hwn o fodel addysg traddodiadol a arweinir gan rieni i un nawr sy'n rhoi llawer mwy o gyfrifoldeb a phwysau arnyn nhw fel athrawon. Felly, ar wahân i'r dewis hwnnw gan rieni, rwyf i hefyd wedi cael athrawon yn cysylltu i fynegi eu pryder am y diffyg amddiffyniad a roddir i ferched a menywod yn y cod hwn, a hoffwn i ddyfynnu un athro a ysgrifennodd ataf ar y mater hwn, a ddywedodd:

'Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo syniadaeth yn ein hysgolion nad yw'n cael ei chefnogi gan dystiolaeth gref. Dylid cefnogi athrawon i helpu i sicrhau bod ein disgyblion yn cael addysg perthynas a rhyw sy'n briodol i'w hoedran ac yn wyddonol gywir. Dylem ni hefyd fod yn cefnogi Deddf Cydraddoldeb 2010, lle mae rhyw yn nodwedd warchodedig a chaniateir darparu gwasanaethau, mannau ac amddiffyniadau un rhyw i sicrhau diogelwch, preifatrwydd ac urddas menywod.'

Dyna ddyfyniad gan athro a ysgrifennodd ataf ar y mater hwn. Ac rwy'n credu bod yr athro hwn yn tynnu sylw at bwynt pwysig iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cymryd amser i fyfyrio ar hyn a chyflwyno fersiwn well o'r hyn sydd o'n blaenau yma heddiw.

Felly, yng ngoleuni hyn, a fy mhryder sylweddol o ran y cyfeiriad teithio cyffredinol wrth wthio addysg sy'n canolbwyntio ar rieni o'r neilltu, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cod brysiog a gwael hwn, a fydd yn tynnu cyfrifoldeb oddi wrth rieni ac yn rhoi mwy o bwysau ar ein hathrawon. Diolch yn fawr iawn.

Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelodau hynny sydd wedi croesawu'r cod sydd yn destun y drafodaeth hon heddiw? A gaf i gychwyn trwy ddiolch i Sioned Williams am y ffordd y gwnaeth hi osod ei sylwadau yn y ddadl hon? Mae cynnwys a sylwedd cyfraniadau yn bwysig, ond hefyd mae'r ffordd maen nhw'n cael eu cyfrannu, a'r tôn, yn bwysig pan fo'n fater mor bwysig â hwn, felly dwi'n ddiolchgar iddi am hynny, ac am gyfeirio at y gefnogaeth eang sydd i'r dogfennau sydd o'n blaenau ni heddiw, a'r gwaith sydd wedi digwydd mewn ystod eang o fudiadau, o leisiau, er mwyn creu'r polisïau a'r dogfennau sydd o'n blaenau ni—y math o leisiau yn union yr oedd Darren Millar yn ein hannog ni i sicrhau eu bod nhw'n cael cyfrannu at y drafodaeth. Maen nhw wedi cyfrannu, ac rwy am ategu ei diolch hi iddyn nhw am wneud hynny.

Gwnaeth Sioned Williams ofyn i fi yn benodol pa newidiadau sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r broses honno o ymgynghori. Mae ystod eang o newidiadau wedi'u gwneud, yn dangos cymaint o ddyfnder oedd yn y sylwadau y gwnaethom ni eu derbyn, o ran hawliau, o ran y UNCRC, o ran egwyddorion diogelwch ac o ran y rôl i rieni roedd Darren Millar a Sam Rowlands yn sôn amdani. Mae pob un o'r rheini wedi gweld cynnydd a newidiadau o ganlyniad i'r ymgynghoriad. Fe fuodd Estyn yn cydweithio â ni i sicrhau bod eu gwaith nhw yn ein hysgolion ni—gwnaeth Sioned Williams gyfeirio ato fe—yn edrych ar aflonyddwch, a bod ffrwyth y broses honno yn cael ei gynnwys hefyd yn y cod. Felly, rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am hynny.

Mae mwy o waith ei angen o ran hyfforddi proffesiynol, a mwy o waith ei angen o ran adnoddau, ac mae'r rheini yn rhan bwysig o'r ymateb i'r sialensau yr oedd Estyn yn eu disgrifio yn y ddogfen, ac sydd wrth wraidd llawer o'r ymyraethau a'r trefniadau sydd ar waith yn y cod hwn heddiw. Gwnaeth hi ofyn i fi beth oedd cyfraniad y cod i ddealltwriaeth o anghenion y cymunedau LHDT; fel dyn hoyw fy hun, rwy'n browd iawn o'r cyfle i allu dod â'r cod hwn o'n blaenau ni heddiw, cod sydd yn gynhwysol ac sydd caniatáu i ni i gyd weld ein hunaniaeth ni yn cael ei hadlewyrchu yn y drafodaeth yn ein hysgolion ni mewn ffordd addas iawn.

Gwnaeth Laura Anne Jones gyfraniad agoriadol ac rwy'n credu y byddwn i'n dweud, yn fwy o dristwch nag o ddicter, fy mod i'n anghytuno â bron pob un rhan o'i chyfraniad. Nid wyf i'n credu iddo adlewyrchu realiti'r cod a'r canllawiau statudol sydd ger ein bron yma heddiw o gwbl.

I'w roi ar gofnod, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod Laura Anne Jones a Sam Rowlands yn credu bod y canllawiau wedi eu cyhoeddi neithiwr, bod Darren Millar yn credu eu bod wedi eu cyhoeddi y bore yma, ac nad oedd Gareth Davies yn credu eu bod wedi eu cyhoeddi o gwbl; i'w roi ar gofnod, cawson nhw eu rhannu ag Aelodau, fel sy'n gonfensiynol, ar 26 Tachwedd. Yn gonfensiynol, byddan nhw'n cael eu cyhoeddi ar ôl y ddadl hon gan eu bod yn ymwneud â chod nad yw wedi ei gymeradwyo gan y Senedd hyd yn hyn. Felly, roeddwn i'n dymuno eu cyhoeddi ymlaen llaw, yng ngoleuni'r drafodaeth a oedd yn digwydd ynghylch y cod cyn y ddadl hon. Mae wedi bod ar gael i'r Aelodau am o leiaf bythefnos, ac rwy'n gobeithio y bu hynny o gymorth i'r Aelodau eraill o leiaf.

Mae yna gyfeiriadau niferus, fel y soniais yn fy natganiad agoriadol, at rai o'r pwyntiau yr oedd Laura Anne Jones yn fy herio arnyn nhw. Mae'n glir iawn o'r canllawiau statudol, Dirprwy Lywydd, pa mor bwysig yw deddfwriaeth trais yn erbyn menywod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhan o'r cynllun hwn, a pha mor bwysig yw'r polisi hwn yn rhan o'n polisi ehangach i ddileu trais yn erbyn menywod a merched. Rwy'n gobeithio i mi wneud hynny'n glir iawn yn fy sylwadau agoriadol ac mae'n sicr yn glir o'r canllawiau statudol. Nododd Laura Anne Jones hefyd fod diffyg cyfeiriadau at bornograffi ac ystrydebau rhyw, rwy'n credu. Ymdrinnir â'r ddau yn benodol, Dirprwy Lywydd, i'w roi ar gofnod, gan gyfeirio at ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dysgwyr o sut mae deunydd rhywiol yn y cyfryngau yn aml yn cynrychioli rhywedd, gweithgareddau rhywiol, ymddangosiad corfforol a pherthnasoedd mewn ffyrdd afrealistig a niweidiol, a'r pwysigrwydd bod dysgwyr yn gwybod sut i ymateb yn ddiogel i ystrydebau rhywedd a rhywiol ac ymddygiad annheg a'u herio. Mae'r ddau wedi eu nodi yn y llythyr a anfonais at yr Aelodau y bore yma, gan ymateb i rywfaint o'r drafodaeth a'r ddadl gyhoeddus.

Dirprwy Lywydd, os caf i, un o'r cyfraniadau pwysicaf y gallwn ni ei wneud yn y Senedd hon yw cymryd y camau hynny gyda'n gilydd sy'n helpu i'n gwneud ni'n genedl fwy cynhwysol, caredig ac iach, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n maddau myfyrdod personol i mi: rwy'n edrych ar y diwygiadau addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd hyn ac yn meddwl faint y byddwn i fy hun wedi elwa ar gwricwlwm a oedd â'r math hwn o addysg wrth ei wraidd, un lle gallai fersiwn iau o fy hun weld ei hun yn cael ei adlewyrchu yn ôl ato, a'r hwb gwych i les, i hunan-barch a'r sicrwydd a ddaw yn sgil hynny. Roedden nhw'n adegau gwahanol, Dirprwy Lywydd, ond os ydym ni wedi ymrwymo yn wirioneddol i roi addysg i'n plant a'n pobl ifanc sy'n caniatáu iddyn nhw weld eu hunain wrth ei wraidd, i'w cadw'n ddiogel rhag niwed a'u galluogi i ddatblygu perthnasoedd iach, yna gadewch i ni gymryd y cam nesaf hwnnw ar y daith honno heddiw. Felly, hoffwn i ddiolch i bawb a fydd yn bwrw eu pleidlais heddiw dros y cod hwn. Mae'n weithred bwysig, Dirprwy Lywydd. I rai ohonom ni, mae Cymru gynhwysol yn fwy nag amcan gwleidyddol; mae'n rhag-amod hanfodol i les ac, yn wir, i ddiogelwch. A, Dirprwy Lywydd, mae'r diwygiadau hyn yn helpu i wireddu hynny i'n holl blant heddiw, ac i genedlaethau'r dyfodol.

18:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A  oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Nesaf, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10, Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021, eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad. 

9. & 10. Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021, a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Cynnig NDM7865 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2021.

Cynnig NDM7866 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2021.

Cynigiwyd y cynigion.

Mae etholiadau'n hanfodol i'n democratiaeth, a dylid cymryd unrhyw beth sy'n effeithio arnyn nhw o ddifrif. Rwy'n falch o ddod â'r rheoliadau hyn ger eich bron ac i glywed barn cyd-Aelodau yn y Siambr heddiw ar Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021. Am y tro cyntaf erioed, mae'r ddeddfwriaeth sydd i'w thrafod yn cydgrynhoi—.

Rwy'n credu fy mod i'n cael problemau technegol yn y fan yna, Llywydd. Nid wyf yn siŵr pa mor bell yr oeddwn  i wedi mynd gyda fy sylwadau cyn i chi fy ngholli, ond byddaf yn ceisio dychwelyd i—. Helo, Llywydd.

Iawn. Rwy'n credu ein bod ni wedi clywed popeth y gwnaethoch ei ddweud, Rebecca, felly gallwch barhau. Rydym ni'n dal i'ch clywed chi.

Gwych, iawn. Rwy'n mynd i newid i fy nghopi papur gan nad yw fy sgrin yn gweithio'n iawn.

Iawn. Diolch, Llywydd. Am y tro cyntaf erioed, mae'r ddeddfwriaeth sydd i'w thrafod yn cydgrynhoi'r rheolau ar gyfer etholiadau lleol yn ddwyieithog, ac mae wedi ei theilwra'n benodol i etholiadau Cymru a'n masnachfraint ein hunain. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y ddau ddarn mawr hyn o ddeddfwriaeth, am dynnu sylw at eglurder y dogfennau ategol, ac am groesawu'r gwaith o gydgrynhoi'r gyfraith yn y maes hwn.

Roedd y rheolau presennol sy'n rheoli trefniadau gweinyddu ein hetholiadau yn gweithio'n dda ar y cyfan, ac yn sicrhau bod ein prosesau etholiadol yn dryloyw ac yn deg. Ond, cawson nhw eu llunio ar sail Cymru a Lloegr a'u hysgrifennu yn Saesneg yn unig. Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 yn cydgrynhoi'r gyfraith yn y maes hwn lle bo angen, yn moderneiddio'r iaith ac yn ei gwneud yn fwy hygyrch. Yn bwysicaf oll, mae'r offerynnau statudol hyn yn gwneud y newidiadau ymarferol i'r rheolau ar gyfer etholiadau cynghorau yng Nghymru, sydd eu hangen oherwydd y fasnachfraint newydd sydd wedi ei chynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Dyma fydd y tro cyntaf i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys gael pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r rheolau yr ydym ni'n eu trafod yn benllanw cyfnod manwl o ymgynghori a ddechreuodd gyda datganoli cyfraith etholiadol i Gymru, a'r ddogfen ymgynghori 'Diwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yng Nghymru' yn 2017. Er bod y rhan fwyaf o'r arferion sy'n sicrhau bod ein hetholiadau'n rhedeg yn ddidrafferth yn aros yr un fath, bydd rhai rheolau newydd pwysig yn cael eu cyflwyno, a bydd llawer ohonyn nhw yn helpu i'w gwneud yn haws sefyll fel ymgeisydd.

Bydd gan ymgeiswyr mewn etholiadau lleol y dewis i beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref, os byddan nhw'n dymuno. Mae'n rhaid i swyddogion canlyniadau wneud trefniadau i ymgeiswyr gyflwyno eu papurau enwebu yn electronig. Bydd ymgeiswyr mewn prif etholiadau cyngor yn cael hunan-enwebu ac ni fydd angen iddyn nhw gael enwau 10 o danysgrifwyr etholwyr lleol mwyach. Bydd ymgeiswyr mewn etholiadau cynghorau cymuned hefyd yn cael hunan-enwebu, ac ni fydd angen iddyn nhw gael enwau dau danysgrifiwr etholwyr lleol.

Bydd angen i ymgeiswyr gynnwys manylion aelodaeth pleidiau gwleidyddol yn ystod y 12 mis blaenorol ar ffurflenni enwebu. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth ychwanegol bwysig i'r etholwyr. Mae'r rheolau newydd wedi cadw'r fformiwlâu presennol sy'n gysylltiedig â nifer yr asiantau pleidleisio a chyfrif a gaiff fod yn bresennol yn y cyfrif. Mae'r rhain wedi eu cadw yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r hyn a ddysgwyd o gynnal cyfrifiadau etholiad y Senedd y llynedd. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau.

18:55

Wel, mae arnaf i ofn dweud eich bod chi'n mynd i gael eich siomi, oherwydd nid oes gen i neb i'w alw ar hyn o bryd. Nid oes neb wedi mynegi bwriad i siarad. Ni allaf weld neb yn gwirfoddoli ar hyn o bryd i rannu eu barn â chi, Gweinidog. Rwy'n amau nad oes angen i chi, felly, ymateb i unrhyw beth na chafodd ei ddweud, oni bai eich bod eisiau gwneud sylw i gloi.

Na, diolch eto i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r gwaith. Rwy'n gwybod y bydd cyd-Aelodau yn cytuno â mi y bydd cael cyfres o reolau yn benodol ar gyfer etholiadau lleol Cymru yn gwella hygyrchedd y gyfraith yn y maes hwn yn sylweddol, a'i fod yn gam sylweddol iawn ymlaen ar gyfer etholiadau Cymru. Diolch.

Diolch. Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, ychwaith. Ac felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021

Eitem 11 sydd nesaf, a'r rheini yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cynnig. Eluned Morgan.

Cynnig NDM7863 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Rhagfyr 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron ni heddiw. Drwy gydol y pandemig, mae'r Llywodraeth hon wedi gweithredu'n gyflym mewn ymateb i'r cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf. Mae ein safbwynt wedi bod yn gymesur: llacio cyfyngiadau pan fo'n ddiogel i wneud hynny, a'u tynhau pan fo hynny'n gwbl angenrheidiol er mwyn diogelu Cymru.

Ers 7 Awst, nid oes yn rhaid i unigolion sydd wedi eu brechu'n llawn, a'r rhai o dan 18 oed, hunanynysu mwyach, os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos ag achos positif. Ond mewn ymateb i gynnydd mewn achosion, newidiodd ein cyngor ar 29 Hydref i argymell bod cysylltiadau aelwyd sydd wedi eu brechu neu o dan 18 oed yn hunanynysu nes cael canlyniad prawf PCR negatif. Mae'n ofynnol i gysylltiadau sydd heb eu brechu hunanynysu am 10 diwrnod yn y ddau senario. Mae cyd-destun y pandemig wedi newid unwaith yn rhagor.

Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, cafodd yr amrywiolyn omicron o'r coronafeirws ei ganfod am y tro cyntaf ar 23 Tachwedd a'i ddynodi'n amrywiolyn sy'n peri pryder gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 26 Tachwedd. Erbyn hyn mae gennym ni nifer o achosion yng Nghymru, ac arwyddion o drosglwyddo cymunedol ledled y DU. Rydym ni'n barod i ymateb yn gyflym i unrhyw amrywiolyn sy'n dod i'r amlwg—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Mae'n ddrwg iawn gen i. Unrhyw amrywiolion sy'n peri pryder, drwy ymchwiliadau dwys a chamau iechyd cyhoeddus cadarn i arafu unrhyw ledaeniad yn ein cymunedau. Er ein bod yn dal i ddysgu am yr amrywiolyn omicron, mae ei ymddangosiad yn ddatblygiad difrifol ac yn fygythiad i iechyd y cyhoedd. Er bod y niferoedd yn parhau i fod yn fach iawn, mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth i ganfod ac atal lledaeniad yr amrywiolyn i ohirio trosglwyddo cymunedol mor hir â phosibl, wrth i ni ddysgu mwy ac yn gallu rhoi'r brechlyn atgyfnerthu i fwy o bobl.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 yn darparu, pan fydd oedolyn wedi cael gwybod y bu mewn cysylltiad agos ag unigolyn sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws sydd, neu a allai fod, yr amrywiolyn omicron, mae'n rhaid i'r oedolyn hunanynysu am 10 diwrnod, ni waeth beth fo'i statws brechu. A phan fydd oedolyn yn cael gwybod bod plentyn y mae'n gyfrifol amdano wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws sydd, neu a allai fod, yr amrywiolyn omicron, mae'n rhaid i'r plentyn ynysu am 10 diwrnod.

Llywydd, gadewch imi fod yn glir iawn. Nid yw'r mesurau newydd hyn wedi cael eu cyflwyno ar chwarae bach, ond gyda'r lefel uchel hon o ansicrwydd, mae'n iawn ein bod ni'n parhau i fod yn wyliadwrus. Bydd y mesurau newydd yn y rheoliadau yn ein helpu ni i ddiogelu Cymru wrth inni ddeall yr amrywiolyn yn well a phenderfynu ar ein camau nesaf. Rwy’n falch iawn bod gyda ni gyfle i drafod y cynnig hwn heddiw. Dwi'n edrych ymlaen at glywed sylwadau'r Aelodau a dwi'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig.

19:00

Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i gyfrannu—Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd a diolch, Gweinidog. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe a gosodwyd ein hadroddiad yn syth wedyn.

Cododd ein hadroddiad yr hyn y bydd Aelodau bellach yn eu cydnabod fel pwyntiau rhagoriaeth eithaf cyfarwydd o dan Reol Sefydlog 21.3, sef tynnu sylw at unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol a diffyg ymgynghori ffurfiol. Mae ein trydydd pwynt adrodd rhagoriaeth yn nodi nad yw'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau yn cyfeirio at asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau y mae wedi'u gwneud mewn cysylltiad â'r rheoliadau hyn i gyhoeddi adroddiadau ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym, er nad yw asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i baratoi a'i gyhoeddi mewn cysylltiad yn benodol â'r rheoliadau hyn oherwydd yr angen i'w rhoi ar waith ar frys, y bydd asesiad effaith cryno yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

Nid dyma'r tro cyntaf i'n pwyllgor godi pwynt rhagoriaeth yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau y mae wedi'u gwneud o ran asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. Mae'n dod yn dipyn o thema sy'n codi dro ar ôl tro y mae'r Gweinidog, yn anffodus, yn cael ei dal ynddi. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn eto i roi rhywfaint o adborth sydd gobeithio yn wirioneddol adeiladol i Lywodraeth Cymru. Credaf y byddai'n helpu—ac mae ein pwyllgor yn credu y byddai'n helpu—Aelodau'r Senedd a Llywodraeth Cymru, ac unrhyw un, mewn gwirionedd, yn dilyn gwaith craffu'r Senedd ar y materion hyn, pe bai'r memoranda esboniadol i reoliadau coronafeirws yn darparu gwybodaeth am asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb fel mater o drefn. Byddai cynnwys yr hyn a ddylai fod yn wybodaeth sylfaenol yn y memoranda esboniadol hyn, yn ein barn ni, yn gymharol syml i'w wneud ac yn arwain at fwy o dryloywder wrth lunio'r ddeddfwriaeth. Gweinidog, diolch yn fawr iawn a gobeithio bod hynny'n awgrym defnyddiol ar gyfer rheoliadau o'r math hwn yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r mesurau hyn heddiw, sydd, yn ein barn ni, yn gymesur ac yn amlwg o fudd i iechyd corfforol y cyhoedd yng Nghymru. Rydym yn cytuno â'r darpariaethau ar gyfer hunanynysu domestig i adlewyrchu'r sefyllfa sy'n datblygu ac arafu trosglwyddo'r feirws yn y gymuned. Byddwn yn eich cefnogi heddiw. Fodd bynnag, dylem bob amser gofio canlyniadau anfwriadol cyfyngiadau a chyfnodau clo ar iechyd meddwl a llesiant trigolion Cymru. Gwelsom, yn ystod y gyfres ddiwethaf o gyfyngiadau, fod nifer y bobl a oedd yn ceisio cymorth wedi mynd yn fwy ac yn fwy. Felly, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau ac ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i effaith unrhyw gyfyngiadau yn y dyfodol ar iechyd a llesiant pobl Cymru? Diolch, Llywydd.

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau newydd yma heddiw. Maen nhw'n synhwyrol iawn ar adeg sydd yn amlwg yn un peryglus unwaith eto yn y pandemig. Mae'n bwysig gwneud y pethau sylfaenol yn iawn ac, wrth gwrs, mae ynysu yn un o'r pethau sylfaenol hynny mae angen bod yn reit llym ynglŷn ag o ar y pwynt yma. Felly, dwi'n croesawu'r newid hwn, sydd yn ymddangos i ni, yn sicr, yn gymesur i'r bygythiad newydd rydym ni'n ei wynebu. Yn sgil yr amrywiolyn newydd, yr un apêl y gwnaf: tra'n gobeithio, fel y dywedais i'n gynharach, na fydd angen cymryd camau llym o ran cyflwyno cyfyngiadau eang ar unigolion a chymdeithas rhwng rŵan a'r Nadolig, mi rydw i'n credu ei bod hi'n bwysig fel mater o egwyddor, os oes yna fwriad i ddod a'r rheini ymlaen, ein bod ni fel Senedd yn gallu ymgynnull yn rhithiol er mwyn gallu sgrwtineiddio a phleidleisio ar y rheini hefyd. Diolch yn fawr iawn ichi.

19:05

Diolch yn fawr. Diolch, Huw, a diolch am ystyriaeth eich pwyllgor. Byddwn yn apelio atoch i ystyried pa mor frysiog yr oedd yn rhaid i ni gyflwyno y rhain. Wrth gwrs, rydym bob amser yn awyddus iawn i wneud asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, a bydd asesiad effaith cryno yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Wrth gwrs, gofynnir i'r holl bobl sydd i gyd wedi torchi llewys eisoes i wneud cymaint o bethau ychwanegol ar yr un pryd. Felly, rydym yn awyddus iawn. Rwy'n derbyn eich awgrym. Fe welaf pa mor ymarferol yw hynny ac a fyddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth yn yr achos penodol hwn oherwydd brys y sefyllfa.

James, rydym yn ymwybodol iawn o ganlyniadau anfwriadol gofyn i bobl hunanynysu, yn enwedig ar iechyd meddwl pobl, a dyna pam y trafodais gyda'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl yr effaith ar iechyd meddwl yr wythnos hon, am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y lle hwn, ac roedd yn glir iawn i mi ei bod wedi gofyn am hyrwyddo llinell gymorth iechyd meddwl CALL ymhellach yn wyneb hyn.

Rhun, diolch, yn amlwg, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd o ran unrhyw newidiadau arfaethedig. Rydym yn ymdrin â hyn mewn amser real. Mae'n digwydd syrthio ar adeg pan fydd y Senedd yn cau, ac yn amlwg byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos â'r Llywydd, a fydd, rwy'n siŵr, yn gwneud rhai penderfyniadau ynghylch a fydd angen galw'r Senedd yn ôl ai peidio.

Y cwestiwn nawr, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig ar y rheoliadau yma? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig hwnnw? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn o dan Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Y cynnig nesaf o dan eitem 12 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir). Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma—Julie James.

Cynnig NDM7867 Julie James

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Mae'r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Sylfaenol) yn Fil byr sy'n dechrau'r broses o ymdrin â phwnc mawr iawn, diwygio lesddaliad. Amcanion polisi datganedig y Bil yw gwneud perchnogaeth lesddaliad yn decach ac yn fwy fforddiadwy i lesddeiliaid drwy sicrhau na fydd rhydd-ddeiliaid yn gallu gwneud hawliadau ariannol mwyach am rent tir prydlesi newydd. Mae'r Bil yn gwneud hyn drwy gyfyngu rhent tir ar brydlesi preswyl hir newydd ar dai a fflatiau i un hedyn pupur y flwyddyn. Mae hyn i bob pwrpas yn golygu na fydd gan renti tir ar brydlesi newydd unrhyw werth ariannol. Mae'r Bil hefyd yn gwahardd codi taliadau gweinyddu mewn cysylltiad â rhenti hedyn pupur, gan atal taliadau o'r fath rhag dod yn ffordd amgen o wneud elw.

Nid yw'r Bil yn ymdrin â'r materion sy'n effeithio ar lesddeiliaid presennol. Bydd angen deddfwriaeth bellach i ddiwygio perchnogaeth tai lesddaliad, gan gynnwys y diwygiadau sy'n cael eu cynnig gan Gomisiwn y Gyfraith, yr wyf wedi'u croesawu o'r blaen. Mae'r Bil hwn yn paratoi'r ffordd ar gyfer y diwygiadau pellach hynny drwy atal rhenti tir rhag cael eu codi ar brydlesi newydd. Mae datrys y problemau ar brydlesi presennol yn fater llawer mwy cymhleth, fel yr adlewyrchir gan yr argymhellion manwl iawn a gynhyrchwyd gan Gomisiwn y Gyfraith.

Diolchaf i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud wrth ystyried ac adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Nodaf y pryderon y maen nhw wedi'u codi yn eu hadroddiadau, gan gynnwys eu beirniadaeth o'r dull a gymerwyd gennym i osod y memorandwm atodol, ac rwyf wedi ymateb yn ysgrifenedig i nifer o'u hargymhellion. Ond, rwy'n credu'n gryf fod cydsynio i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU sy'n sicrhau gwelliannau hanfodol i system yr ydym i gyd yn ei hystyried yn annheg yn gwbl briodol—yn wir, y peth iawn i'w wneud.

Rwyf eisoes wedi nodi fy mwriad i weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU i gyflawni'r broses o ddiwygio'n gyfan gwbl lesddaliad yn ddeddfwriaethol, a dim ond y cam cyntaf yw'r Bil hwn. Er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael yn gynhwysfawr â'r holl faterion, mae'n bosibl bod y diwygiadau hyn yn ymwneud â mater datganoledig tai yn ogystal â materion nad ydyn nhw o fewn cymhwysedd y Senedd. Er mwyn sicrhau diwygiadau cynhwysfawr sy'n gweithio i lesddeiliaid yng Nghymru nad ydyn nhw yn gadael bylchau posibl o ran amddiffyn, credaf mai deddfwriaeth y DU sydd fwyaf tebygol o fod y ffordd fwyaf effeithiol a synhwyrol o ymdrin â'r diwygiadau hyn.

Ond, gadewch i mi fod yn glir: pe na bai darpariaethau'r Bil hwn yn gymwys yng Nghymru, byddai lesddeiliaid yma yn y dyfodol, o dan anfantais ariannol sylweddol iawn o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr. Byddai unrhyw ddeddfwriaeth y gallem ei chyflwyno i unioni'r sefyllfa honno yn anochel yn cymryd cryn amser i'w drafftio a chytuno arni. Nid wyf yn credu y dylid rhoi lesddeiliaid yng Nghymru yn y sefyllfa honno ac felly anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig a chydsynio i'r Bil. Diolch.

19:10

Diolch yn fawr, Llywydd. Gwnaethom osod ein hadroddiad fel pwyllgor ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn brynhawn ddoe. Mae diwygio lesddaliad yn faes o ddiddordeb i'r pwyllgor, ac roedd cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio yn rhywbeth y gwnaethon ni ei godi gyda chi, Gweinidog, yn ystod ein sesiwn graffu ar 22 Medi.

Rydym yn croesawu'r penderfyniad i osod rhent tir ar brydlesi newydd ar un hedyn pupur y flwyddyn symbolaidd, gan gyfyngu rhenti tir i ddim gwerth ariannol i bob pwrpas. Nodwn nad yw'r Bil yn berthnasol i brydlesi presennol. Nodwn hefyd nad yw'r Bil yn mynd i'r afael â gwendidau eraill yn y system lesddaliad, fel taliadau gwasanaeth a materion eraill y mae lesddeiliaid yn eu hwynebu. Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y rhaglen o ddiwygio lesddaliad ac ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith?

Ystyriodd ein pwyllgor y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol am y tro cyntaf ar 22 Medi. Fodd bynnag, roedd LCM hwnnw'n hen oherwydd bod diwygiadau sy'n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud deddfwriaeth ddirprwyedig wedi'u gwneud i'r Bil ar 20 Gorffennaf, ond ni osodwyd LCM atodol. Ysgrifennom at y Gweinidog ar 24 Medi, gan ofyn pryd y byddai LCM atodol yn ymwneud â'r gwelliannau hynny'n cael ei gyhoeddi. Yn anffodus, ni osododd y Gweinidog un tan 26 Tachwedd, bedwar mis ar ôl i'r Bil gael ei ddiwygio. Wrth gwrs, mae Rheolau Sefydlog y Senedd yn darparu y dylid gosod LCM atodol fel arfer heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl cyflwyno gwelliannau.

Mae'r oedi o bedwar mis cyn gosod y LCM atodol wedi cyfyngu'n sylweddol ar ein gallu fel pwyllgor i graffu ar y gwelliannau mewn modd amserol. Rydym yn siomedig mai ychydig iawn o amser a gawsom i ystyried y LCM atodol pellach a osodwyd ar 3 Rhagfyr, er ein bod yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes am ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau hyd at y bore yma. Ond, wrth gwrs, roedd yr amserlenni'n dal yn dynn iawn. Gweinidog, a wnewch chi ymrwymo yn y dyfodol i osod LCM heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl cyflwyno gwelliannau perthnasol i Fil? A wnewch chi hefyd ymrwymo i roi digon o amser i bwyllgorau ystyried ac adrodd ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol?

Rydym hefyd yn bryderus ac yn siomedig nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth o ran pryd y daw'r Ddeddf i rym. Yn hytrach, mae'r Ddeddf yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchmynion cychwyn. Yn yr un modd, nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau i wneud diwygiadau canlyniadol a allai fod yn angenrheidiol o dan y Bil. Rhoddir y pwerau hyn i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig. Dylai fod gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud deddfwriaeth ddirprwyedig yng Nghymru mewn meysydd datganoledig, nid yr Ysgrifennydd Gwladol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi geisio gwelliannau i'r Bil fel bod gan Weinidogion Cymru bwerau cyfatebol i'r rhai sydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i basio is-ddeddfwriaeth?

Rydym yn pryderu ymhellach na fydd y gyfraith ar ddiwygio lesddaliad mor hygyrch i bobl Cymru ag y dylai fod. Gweinidog, fe wnaethoch chi ddweud wrth y pwyllgor mai'r Bil yw'r cam cyntaf, ond arwyddocaol, tuag at weithredu diwygiadau eang ar gyfer lesddaliad fel deiliadaeth, ac y bydd Bil arall yn y DU sy'n ymdrin â diwygiadau yn cael ei gyflwyno. Fe wnaethoch chi ddweud wrthym hefyd y bydd rhai meysydd pwysig eraill o ddiwygio lesddaliad yn cael eu datblygu ar sail Cymru'n unig yn y Bil diogelwch adeiladu arfaethedig yn ystod tymor y Senedd hon. Heb os nac oni bai bydd gwneud y diwygiadau hyn drwy ddarnau lluosog o ddeddfwriaeth yn lleihau hygyrchedd cyfraith Cymru. Felly, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu sut y byddwch yn sicrhau bod y gyfraith yng Nghymru mor hygyrch ag y dylai fod?

Llywydd, er gwaethaf y pryderon hyn yr wyf newydd eu hamlinellu, mae'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn gweld manteision cymhwyso'r diwygiadau hyn i Gymru cyn gynted â phosibl, ac o gael dull gweithredu ar gyfer Cymru a Lloegr. Ond, fel y soniais, roedd diffyg craffu yn golygu nad oeddem yn gallu rhoi honiadau ar brawf fel y byddem wedi hoffi ei wneud. Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bwyllgorau'r amser a'r adnoddau angenrheidiol i allu chwarae rhan ystyrlon yn y broses cydsyniad deddfwriaethol. Diolch yn fawr.

19:15

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sydd nesaf, Huw Irranca-Davies. 

Diolch, Llywydd. Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiadau ar y memorandwm cyntaf, a'r memorandwm atodol, memorandwm Rhif 2, yr wythnos diwethaf. Yn anffodus, nid oedd digon o amser i ni ystyried memorandwm Rhif 3 ac adrodd arno. 

Byddai'n well i mi nodi ar ddechrau hyn fy mod weithiau'n teimlo fel Jeremiah deddfol a chyfansoddiadol, ond rydym eisiau ei gwneud hi'n glir fel pwyllgor mai ein bwriad yw nid yn unig dangos lle mae gennym ni bryderon, ond hefyd, tynnu sylw'n adeiladol at feysydd a allai helpu i osgoi'r heriau rheolaidd hyn gan y pwyllgor, mae rhai ohonyn nhw bellach yn dilyn patrwm clir a rhagweladwy.

Memorandwm yw'r sail ar gyfer ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer Bil, wrth gwrs. Yn anffodus, daethom i'r casgliad nad oedd y memorandwm penodol hwn yn addas i'r diben ac yn is na'r safon y byddem yn ei hystyried yn dderbyniol. Ymhlith pethau eraill, prin yw'r wybodaeth i egluro sut y mae'r darpariaethau'n ymwneud â diwygio lesddaliad yng Nghymru, sy'n bwynt allweddol. O fewn y memorandwm, ceir cyfeiriadau parhaus at bwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, er bod hwn yn faes datganoledig. Er bod y memorandwm yn cydnabod y byddai Llywodraeth Cymru yn wir yn ceisio pwerau gweithredol tebyg i Weinidogion Cymru, ychydig o ymdrech a wnaed i egluro pa bwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol y byddai hyn yn berthnasol iddyn nhw.

Felly, o ganlyniad, gwnaethom argymell, cyn y ddadl heddiw, y dylai'r Gweinidog egluro pam nad yw'r memorandwm yn canolbwyntio ar Gymru wrth esbonio'r cymalau perthnasol, y mae pob un ohonyn nhw yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, a pham nad oedd y memorandwm yn cyfeirio at agweddau ehangach ar y rhaglen diwygio lesddaliad a'i pherthnasedd i feddylfryd y Llywodraeth ar ddefnyddio Bil y DU. Felly, yn anffodus, mae'r pwyllgor yn dal i weld ymateb y Llywodraeth yn gwbl anfoddhaol. Rydym yn deall bod y Bil i'w wneud ar sail Cymru a Lloegr, ond mae'r memorandwm yn ymwneud ag amgylchiadau yng Nghymru, ac roedd angen i hynny fod yn ganolbwynt. Nid yw'r esboniad ynghylch pam na chafodd materion cymhwysedd eu datrys yn ddigonol yn y memorandwm yn ein hargyhoeddi ni o gwbl.

Nawr, diwygiwyd y Bil yn Senedd y DU ym mis Gorffennaf 2021, i roi'r pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau yr wyf wedi cyfeirio atyn nhw o'r blaen. Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau a godwyd gennym am y pwerau hyn ar 16 Tachwedd, ond buom yn aros tan 26 Tachwedd i gael, fel y soniodd y Cadeirydd arall, femorandwm Rhif 2 yn esbonio'r gwelliannau hyn. Mae hyn tua phedwar mis ar ôl i'r gwelliannau gael eu cytuno yn Senedd y DU. Felly, mae dau fater i'w datrys yma—yr oedi wrth osod memorandwm Rhif 2, a'r pwerau, y byddaf yn dod atyn nhw wedyn, i wneud rheoliadau sydd i'w cadw gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Felly, mae'r oedi, am ba reswm bynnag, wrth gyfleu gwybodaeth hanfodol i'r pwyllgor tan yn hwyr yn y broses gydsynio, wedi lleihau'n sylweddol faint o amser a gawsom i graffu'n effeithiol ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i geisio cydsyniad i ddeddfu drwy gyfrwng Bil Llywodraeth y DU mewn maes datganoledig, sy'n destun gofid, gan ein bod yn credu y gallai golwg gynharach fod wedi ein helpu ni a'r Llywodraeth.

Gan droi nawr at fater y pwerau i wneud rheoliadau a ddirprwywyd i Weinidogion Cymru, tra bod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi'u rhoi iddyn nhw ym mis Gorffennaf, cadwyd rhai gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Nid oedd esboniad y Gweinidog am y dull hwn yn argyhoeddi'r pwyllgor, a fydd yn dadlau y dylai Gweinidogion Cymru gael yr holl bwerau i wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig, ac na chânt eu cadw gan yr Ysgrifennydd Gwladol, hyd yn oed gyda rhesymu'r Gweinidog y gallant fod yn cael eu harfer yn aml, neu oherwydd disgwyliad na fyddai polisi'n ymwahanu rhwng Cymru a Lloegr. Byddai rhoi'r holl bwerau i Weinidogion Cymru yn sicrhau y bydd yr holl reoliadau sy'n ymwneud â diwygio lesddaliad, fel sy'n gymwys yng Nghymru, hefyd yn ddwyieithog ac yn destun craffu gan y Senedd. Bydd hefyd yn osgoi cael rhai rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a rhai gan yr Ysgrifennydd Gwladol, nad yw, unwaith eto, yn gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

Roeddem hefyd o'r farn y dylai Gweinidogion Cymru gael rheolaeth dros gychwyn y darpariaethau diwygio lesddaliad ar gyfer Cymru yn dilyn Cydsyniad Brenhinol. Ni fyddai dull gweithredu o'r fath yn atal yr un darpariaethau rhag cael eu cychwyn yng Nghymru ar yr un pryd â rhai Lloegr; byddai'n golygu bod y pŵer gweithredol a'r craffu yn gorwedd yma yng Nghymru. Felly, cyn ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer y Bil, gwnaethom argymell y dylai'r Gweinidog sicrhau ei fod yn cael ei ddiwygio i sicrhau bod gan Weinidogion Cymru yr holl bwerau i wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig. Ac rydym yn dal i'w chael yn anodd deall pam nad yw'r argymhelliad hwn wedi'i dderbyn. Efallai y byddai wedi'i dderbyn, byddem yn awgrymu, pe bai memorandwm Rhif 2 wedi'i osod yn fwy amserol, a bod cyfle i weithredu'n gynharach mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor a osodwyd yn gynharach wedi hynny.

Felly, mae'r pwyllgor o'r farn bod caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn maes datganoledig yn ddatblygiad annymunol, ac mae'n un a allai osod cynsail sy'n peri gofid. Oherwydd, wrth wneud hynny, nid yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi mesurau diogelu iddyn nhw eu hunain pe bai'r Ysgrifennydd Gwladol, naill ai nawr neu yn y dyfodol, yn gwneud rheoliadau nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â nhw.

Nawr, wrth i ni barhau i amlygu, ac fel yr oedd yn ymddangos bod y Gweinidog yn cydnabod mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, bod defnyddio Bil Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth mewn maes datganoledig yn rhoi llai o gyfle i graffu'n fanwl na defnyddio Bil a gyflwynwyd i'r Senedd. Ni all aelodau'r Senedd, er enghraifft, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyflwyno gwelliannau i brofi, herio a dylanwadu ar Weinidogion Cymru—mae hwn yn ddull allweddol o graffu. At hynny, diogelu anghenion a buddiannau Cymru yn llawn drwy ddeddfwriaeth yw swyddogaeth y Senedd mewn meysydd datganoledig, yn hytrach na'r Gweinidog neu ei swyddogion drwy gysylltiadau rhynglywodraethol.

Ac yn olaf, Llywydd, gwnaethom argymell y dylai'r Gweinidog egluro sut y mae'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn gyson â'i hegwyddorion ei hun ar gyfer defnyddio Biliau'r DU i ddeddfu. Er i'r Gweinidog roi esboniad—a diolchwn iddi am hynny—mae ei hymateb yn codi materion pellach sy'n ymwneud â'r egwyddorion hyn, y bydd ein pwyllgor yn ceisio eu harchwilio ymhellach y flwyddyn nesaf. Diolch yn fawr iawn.

19:20

Ar nodyn mwy cadarnhaol, rwy'n croesawu'r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Sylfaenol) a'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Gweinidog, mae dros filiwn o gartrefi yn y DU yn cael eu gwerthu ar ffurf lesddaliad, a bydd y ddeddfwriaeth hon yn mynd gryn ffordd—mewn gwirionedd, ymhell—i helpu miloedd o berchnogion cartrefi sy'n cael eu dal mewn trap lesddaliad. A gallaf ddweud yn uniongyrchol, ar ôl gweld rhai o fy nhrigolion, a roddodd eu henw i lawr ar gyfer eiddo hyfryd, yna prynu'r eiddo, symud i mewn i'r eiddo, dim ond i ddarganfod ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach nad oedden nhw mewn gwirionedd yn berchen ar y tir yr adeiladwyd ar y tŷ arno. O dan y gyfraith bresennol, mae llawer o bobl yn wynebu rhenti tir uchel, a all, o'u cyfuno â morgais, wneud iddyn nhw deimlo eu bod yn dal i dalu rhent ar eiddo y maen nhw'n berchen arno. Gwyddom hefyd y gall rhenti tir cynyddol hefyd ei gwneud yn anodd i lesddeiliaid werthu neu hyd yn oed ailforgeisio eu heiddo.

Nawr, yn ôl ymchwil a luniwyd gan Propertymark yn 2018, dywedodd 93 y cant o ymatebwyr yr arolwg na fydden nhw yn prynu eiddo lesddaliad arall, cymaint oedd y canlyniadau hunllefus yr oedd llawer ohonyn nhw yn eu hwynebu. Dywedodd traean eu bod yn ei chael hi'n anodd denu prynwr, oherwydd nad oedden nhw'n berchen ar y rhydd-ddaliad. Bydd y newid cadarnhaol hwn i'r ddeddfwriaeth, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan, nawr yn golygu y bydd miliynau o lesddeiliaid yn cael yr hawl i ymestyn eu prydles am gyfnod hyd at 990 o flynyddoedd gyda'r rhent tir yn sero. O'r herwydd, gallai cymeradwyaeth ar gyfer y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn sicr eu helpu i arbed miloedd o bunnau y flwyddyn, gan roi tawelwch meddwl iddyn nhw hefyd. I eraill, lle mae hawlio rhent tir fel rhan o brydles hir breswyl newydd, mae'r ffaith na fydd bellach yn fwy nag un hedyn pupur y flwyddyn yn newid pwysig.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r ffaith y bydd y Bil hwn yn gwahardd rhydd-ddeiliaid rhag codi ffioedd gweinyddu am gasglu rhent hedyn pupur, sy'n golygu na fydd lesddeiliaid yn y dyfodol yn wynebu hawliadau ariannol am rent tir. Rydym hefyd yn croesawu'r ffaith y bydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn cynyddu atebolrwydd o ran lesddeiliaid, drwy wneud darpariaeth iddyn nhw adennill rhenti tir a godwyd yn anghyfreithlon drwy'r tribiwnlys prisio lesddaliadau yng Nghymru.

Nawr, rwy'n cydnabod, ac yn parchu, y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y memorandwm a osodwyd gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Bil, sef nad oedd yn addas i'r diben, ac a oedd wedi disgyn islaw'r safon a ystyriwyd yn dderbyniol. Mae'n amser i'r bobl hyn sydd wedi cael eu dal yn y trap hwn symud ymlaen. Gyda'r camau blaengar a chadarnhaol yr wyf newydd eu hamlinellu, y llwyddwyd i'w cyrraedd ar ôl cydweithio'n weithredol â rhanddeiliaid, rwy'n galw yn awr ar bleidiau eraill yn y Senedd hon i ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig drwy bleidleisio i gefnogi'r newidiadau mwyaf arwyddocaol i gyfraith eiddo mewn cenhedlaeth, mae'n debyg. Diolch yn fawr, Llywydd.

Dwi am nodi ar y cychwyn fan hyn y bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn hwn fel mater o egwyddor. Mae'r Llywodraeth bellach wedi gosod cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer 14 o Filiau'r Deyrnas Gyfunol o fewn misoedd cyntaf y Senedd hon. Mae hyn yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall, ac eithrio 2020. Mae nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n dod ger ein bron yn destun pryder. Mae pob cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn cwtogi ar ein grymoedd ni fel Senedd ac felly yn ymosodiad ar ddemocratiaeth Gymreig. Mae dau o bwyllgorau'r Senedd hon wedi codi pryderon eang ynghylch dogfennau'r memorandwm yma, fel mae'r Gweinidog eisoes wedi nodi ac mae'r Cadeiryddion wedi nodi.

Dywed y Gweinidog nad ydy hi am i bobl Cymru gael anfantais gan y byddai'n cymryd cyhyd i Gymru ddatblygu ein deddfwriaeth ein hun. Ond pam nad ydy'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw waith i'r perwyl yma eisoes? Ble mae'r ddadl yma'n gadael y Senedd a diben datganoli? Dwi'n grediniol na ddylid rhoi caniatâd yma heddiw. Dwi'n anfodlon â'r dull cwbl annigonol sydd gyda ni wrth ymdrin â'r broses. Doedd yna ddim digon o amser i graffu ar y Bil na'r memorandwm yn y pwyllgor tai a llywodraeth leol, er enghraifft, ac mae'n amlwg bod gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd ei hun farn lom iawn ar y memorandwm yma, fel rydym ni wedi clywed.

Dydy'r Senedd ddim chwaith wedi cael cyfle i graffu ar y gwelliannau i’r Bil mewn unrhyw fodd ystyrlon heblaw am ryw drafodaeth fach yma heno. Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r diwygiadau mewn Bil o du'r Deyrnas Gyfunol yn hytrach na chyflwyno ei Bil ei hun, yn golygu nad yw Aelodau nac ychwaith rhanddeiliaid wedi gallu gwneud unrhyw argymhellion heb sôn am newidiadau i ddeddfwriaeth sydd yn effeithio ar Gymru ac sydd wedi'i datganoli.

Mae gan Gymru ei llais ei hun ac mae gennym ni'r Senedd yma i fod yn fforwm i leisio'r farn honno, ond mae'r hawl elfennol yma yn ein democratiaeth yn cael ei wadu i bobl Cymru heno. Os aiff pethau ymlaen fel hyn, yna mae'n codi cwestiwn am ddyfodol datganoli. Byddai'n siwtio San Steffan i'r dim i gael dim mwy na phwyllgor gwaith yn cydsynio'r Deddfau yma yn hytrach na chorff democrataidd grymus yn creu deddfau mewn ymateb i broblemau yma yng Nghymru.

Dwi'n arbennig o bryderus bod y Mesur yn gosod cynsail beryglus trwy roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol yn lle Gweinidogion Cymru. Bydd cydsynio hwn yn golygu nad oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau i wneud gwelliannau canlyniadol, a allai fod yn angenrheidiol o dan gymal 21 yma, er enghraifft. Dyma enghraifft glir o sut y byddwn ni wedi colli grymoedd yng Nghymru. Dim ond yr Ysgrifennydd Gwladol yn Llundain sydd â'r pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â ffurf a chynnwys hysbysiadau, yn un o'r cymalau. Does dim cyfeiriad at sut mae'n berthnasol i Gymru, fel sydd wedi cael ei nodi efo siaradwyr blaenorol.

Ac yn olaf, fydd gan Weinidogion Cymru ddim rheolaeth ynghylch pryd y daw'r Ddeddf i rym. Gweinidog, a ydych chi'n credu bod y sefyllfa yma'n dderbyniol? Rydych chi'n dadlau bod rhaid cael cysondeb rhwng Cymru a Lloegr, Weinidog, ond onid ydych yn credu bod y ddadl yma'n gosod cynsail beryglus pan fydd hi'n dod i ddatganoli? Dyma weld datganoli yn crebachu o dan ein trwynau ac nid yn unig nad oes yna ymladd yn ôl, ond bod y Llywodraeth yma yn annog hynny. Nid dyma fy niffiniad i o sefyll cornel Cymru. Yn sgil y diffyg craffu priodol, nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol, annigonolrwydd dogfennau ategol a'r bygythiad go iawn i'r Senedd yma a'r setliad datganoli trwy drosglwyddo pwerau i Weinidogion y Deyrnas Gyfunol dros feysydd polisi datganoledig, mi fyddwn i'n annog fy nghyd-Aelodau i bleidleisio yn erbyn hwn heddiw. Diolch.

19:25

Diolch, Llywydd. Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. I ateb un o'r pethau penodol a godwyd nad oeddwn yn ymdrin â nhw yn fy sylwadau agoriadol, rwy'n deall rhwystredigaeth yr Aelodau ynghylch amseriad y memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol. Yn wreiddiol, roeddem o'r farn y gallem ni gyflwyno un LCM atodol mewn cysylltiad â'r Bil hwn a oedd yn cwmpasu'r holl welliannau a wnaed iddo, a fyddai wedi bod yn llawer mwy defnyddiol i Aelodau'r Senedd na nifer o femoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol sy'n ymdrin â gwahanol welliannau ar wahanol adegau. Fodd bynnag, yn anffodus, bu oedi llawer hirach o ran cyflwyno gwelliannau dilynol gan Lywodraeth y DU nag y bu'r disgwyl ar y dechrau. Yn y pen draw, ni ddigwyddodd tan 30 Tachwedd, ac erbyn hynny roeddwn eisoes wedi penderfynu cyhoeddi'r LCM atodol gohiriedig, felly roedd wedi ei ddal yn yr amserlen. Rwy'n hapus iawn i weithio, fel y mae Huw yn ei awgrymu, gyda'r pwyllgorau ar y broses i'w wneud yn symlach ac i ddeall gan y pwyllgorau a yw ffrwd o femoranda cydsyniad deddfwriaethol unigol ar bob gwelliant unigol yn fwy defnyddiol yn y pen draw na cheisio eu cydgrynhoi nhw.

O ran y tri phŵer rheoleiddio y mae Aelodau wedi'u crybwyll, ac eithrio'r rhai sy'n ymwneud â gwelliannau nad ydyn nhw wedi'u dirprwyo, rwy'n fodlon nad ydyn nhw'n hanfodol mewn unrhyw ffordd i weithredu'r ddeddfwriaeth yn effeithiol. Mae'r tri yn bwerau heb eu dirprwyo ar gyfer defnyddio gorchmynion hysbysiadau mewn cysylltiad ac eithrio prydlesi busnes o'r ddeddfwriaeth. Mae'n anodd iawn deall sut y byddem byth yn gorchymyn hysbysiad gwahanol yng Nghymru at y diben hwn. Mae'n fater technegol iawn. Yr ail yw i reoliadau gael eu gwneud sy'n diwygio'r diffiniad o brydlesi cynllun cyllid cartref, sydd wedi'u heithrio o'r Bil. Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddefnyddio hwn yn Lloegr, ac nid oes rheswm pam y byddem ni byth yn ei ddefnyddio yng Nghymru. A'r un olaf yw'r pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol. Nid yw hynny'n anarferol o gwbl, a phan fydd deddfwriaeth yn cael ei gwneud gan y Senedd, mae'n aml yn cynnwys y pŵer i Weinidogion Cymru wneud newidiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall nad yw wedi'i datganoli yn y DU. Felly, nid wyf yn credu bod hynny o unrhyw arwyddocâd gwirioneddol, ymhell o'r arwyddocâd a roddir iddo gan Aelodau achlysurol.

Yn y pen draw, Llywydd, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y pryderon y mae Aelodau wedi'u codi, yn enwedig ynghylch faint o amser a roir ar gyfer craffu. Byddwn ni'n sicr eisiau gweithio gyda'r pwyllgorau i sicrhau bod ganddyn nhw yr amser mwyaf sydd ar gael iddyn nhw. Ond, yn y pen draw, mae'r Bil hwn yn ddeddfwriaeth sylfaenol dda sy'n mynd i'r afael ag annhegwch amlwg yn y system. Wrth gwrs, mae llawer mwy i'w wneud, ac, mewn ateb i un cwestiwn gan John Griffiths, deallwn fod Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno'r Bil diwygio lesddaliad nesaf yn y sesiwn seneddol nesaf. Mae llawer mwy i'w wneud, ond mae hwn yn gam cyntaf hanfodol o ran sicrhau tegwch i lesddeiliaid yng Nghymru, ac anogaf bob Aelod i gefnogi'r cynnig. Diolch.

19:30

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi'n aros am eiliad i weld a ydw i'n gweld unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Gallwch chi ddangos eich llaw. [Gwrthwynebiad.] Ydw, dwi'n gweld llaw yn dangos gwrthwynebiad, ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr i baratoi ar gyfer y pleidleisiau hynny. Toriad byr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:32.

19:35

Ailymgynullodd y Senedd am 19:37, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

13. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf heno, felly, ar eitem 8, y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y Cwricwlwm i Gymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Mae yna un Aelod yn dal i bleidleisio. Os ydy e'n cael trafferth gwneud, fe wnaf i alw am ei bleidlais ar lafar.

Mark Drakeford. Os gall Mark Drakeford gael ei ddad-dawelu, gallwn i ofyn i'w bleidlais gael ei bwrw ar lafar am nad yw wedi'i bwrw'n electronig.

Diolch. Cau'r bleidlais. Felly, o blaid 42, neb yn ymatal, 16 yn erbyn, ac mae'r cynnig yna wedi cael ei dderbyn.

Eitem 8. Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb: o blaid 42, yn erbyn 16, ymatal 0

Derbyniwyd y cynnig

Yr eitem nesaf i bleidleisio arni yw eitem 12, a hwn ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir), a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. O blaid 45, un yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi cael ei gymeradwyo.

19:40

Eitem 12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir): o blaid 45, yn erbyn 12, ymatal 1

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ni, felly, dyna ddiwedd ar ein pleidleisiau ni am heddiw. Diolch yn fawr iawn i bawb, a nos da i chi.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:41.