Y Cyfarfod Llawn

Plenary

06/10/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, y prynhawn yma i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf, sydd i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog, gan Natasha Asghar.

Trafnidiaeth Fwy Gwyrdd

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog trafnidiaeth fwy gwyrdd? OQ56949

Diolch am eich cwestiwn. Mae ein strategaeth ar gyfer annog trafnidiaeth fwy gwyrdd wedi'i nodi'n glir yn 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021', sy'n ailadrodd ein hymrwymiad i gyflawni mwy o deithio llesol, mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau allyriadau isel, a chreu cysylltiadau agosach rhwng cynlluniau defnydd tir a thrafnidiaeth yn unol â'r cynllun aer glân i Gymru.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae gennyf deimlad eich bod wedi mwynhau'r cwestiwn hwnnw. Mae arolygon gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru yn dangos bod llawer o gwmnïau'n awyddus i ddefnyddio cerbydau trydan yn ystod y pump i 10 mlynedd nesaf, sy'n newyddion gwych. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae cost cerbydau trydan a diffyg seilwaith gwefru yn rhwystrau allweddol i fusnesau sy'n dymuno datgarboneiddio trafnidiaeth. Golyga'r gost hon fod busnesau bach mewn perygl o gael eu gadael allan o'r system gerbydau trydan, tra bo gan sefydliadau mwy o faint fwy o adnoddau, o bosibl, i gyflwyno'r dechnoleg newydd hon yn eu hamgylcheddau gwaith. Pa gynllun sydd gennych, Ddirprwy Weinidog, i gymell y newid i gerbydau trydan drwy gyflwyno cymhelliadau treth neu gynlluniau sgrapio fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol?

Diolch am eich cwestiwn pwysig, ac yn amlwg, rydym mewn cyfnod o newid o'r motor tanio mewnol i geir trydan, ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fyddwch yn gallu prynu ceir petrol neu ddiesel erbyn diwedd y degawd. Felly, mae hwn yn gynllun y bydd angen inni weithio'n agos arno gyda Llywodraeth y DU, oherwydd ar eich cwestiwn ynglŷn â chynlluniau sgrapio a chymelliadau treth, mae hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth y DU fod yn ei wneud. Nid yw'n rhywbeth y mae gennym allu i'w wneud. Ond mae ystod o bethau y gallwn eu gwneud, a chan weithio gydag awdurdodau lleol, rydym ar fin cyhoeddi ein cynllun gweithredu ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae hwnnw'n nodi cyfres o bethau ymarferol yr ydym yn eu gwneud.

Ar y pwynt ynghylch fforddiadwyedd y cerbydau ac argaeledd y seilwaith ar hyn o bryd, yn amlwg, rydym ar y don gyntaf o ddatblygu. Maent yn ddrud am eu bod yn geir newydd sbon. Nid oes marchnad wedi datblygu eto ar gyfer ceir ail-law, felly, dros amser, bydd hynny'n newid, yn amlwg. O ran y seilwaith gwefru, mae gan Gymru oddeutu 2 y cant o gerbydau trydan ac mae gennym oddeutu 3.5 y cant o'r seilwaith gwefru cyhoeddus. Felly, wrth i gromlin y galw godi, fel y mae'n dangos arwyddion cynyddol o wneud, mae'n amlwg fod angen inni gynyddu'r seilwaith gwefru. Mae hynny'n rhywbeth a gaiff ei arwain gan y sector preifat. Nid yw'r Llywodraeth yn darparu gorsafoedd petrol; nid wyf yn disgwyl iddi ddarparu cyfleusterau gwefru ar raddfa fawr. Dylem ganolbwyntio ar edrych ar ble fydd y farchnad yn methu, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig, fel sy'n digwydd gyda band eang, a mabwysiadu ymagwedd 'o'r tu allan i mewn'. Felly, mae gennym rôl i'w chwarae yn sicr, ond mae'n rôl i'w chwarae gyda llawer o rai eraill.

Yn gyntaf, a gaf fi groesawu'r buddsoddiad y byddwn yn ei weld yn y seilwaith gwefru yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, sef y £450,000 a fuddsoddir mewn cyfleusterau gwefru ar gyfer lleoedd parcio ar ymyl y palmant? Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Ond a fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod trafnidiaeth fwy gwyrdd hefyd yn cysylltu â'r hyn a wnawn gydag annog pobl i ddewis teithio llesol hefyd? Ac a fyddai’n croesawu’r ffaith y bydd y grŵp trawsbleidiol, y caf y fraint o’i gadeirio ac y mae llawer o'r Aelodau yma'n aelodau ohono, yn lansio'r pecyn cymorth i ysgolion newid i deithio llesol gyda’r grŵp teithio llesol ddydd Mawrth nesaf yn ysgol Penyrheol yng Ngorseinon, gyda’r pennaeth a'r disgyblion yno? Oherwydd dyna'r gyfrinach nid yn unig i sicrhau bod plant yn newid i feicio a cherdded i'r ysgol, ond hefyd i sicrhau nad yw rhieni'n gyrru eu plant i'r ysgol, ac yn dewis cerdded gyda hwy a dod o hyd i ddulliau amgen. Felly, mae a wnelo hyn â dod â cheir oddi ar y ffordd yn ogystal â newid i geir trydan.

13:35

Credaf fod hwnnw'n bwynt hollbwysig—rydym am wneud mwy na newid y fflyd bresennol o geir o fod yn geir petrol a diesel i fod yn geir trydan; rydym yn awyddus i weld llai o geir ar y ffordd, am bob math o resymau fod ceir yn achosi niwed. Ond rydym am roi dewis i bobl, a gallwn wneud hynny drwy ddarparu clybiau ceir trydan—rhywbeth rwy'n awyddus iawn i'w weld—gyda chymunedau'n cael mynediad hawdd at glwb ceir fel nad oes angen iddynt fod yn berchen ar fwy nag un car yn y teulu. Ond hefyd, rydym yn edrych ar newid—. Dyma yw hanfod newid dulliau teithio—newid o geir i ddulliau eraill, trafnidiaeth gyhoeddus, a theithio llesol ar gyfer teithiau lleol.

Ac mae'n rhaid imi ganmol Huw Irranca-Davies am y gwaith a'r arweinyddiaeth y mae wedi'i dangos drwy'r grŵp teithio llesol. I'r Aelodau mwy newydd, sy'n dal i ymgynefino â grwpiau trawsbleidiol, byddwn yn dweud bod y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol ymhlith y mwyaf effeithiol, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd y cyfranogiad trawsbleidiol, y ffaith ei fod yn dod â grwpiau o bob rhan o Gymru ynghyd, ac oherwydd y berthynas agos sydd gan Huw Irranca-Davies â'r Llywodraeth, wrth iddo fwydo'r her honno i Weinidogion er mwyn ceisio sicrhau newid. Ac rwy'n falch iawn eich bod yn lansio'r pecyn cymorth i ysgolion, oherwydd yn amlwg, mae addasu'r patrwm presennol o deithiau i'r ysgol yn rhan hanfodol o newid dulliau teithio, a phob lwc iddo gyda'r lansiad hwnnw.

Metro Gogledd Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd metro gogledd Cymru? OQ56973

Gwnaf. Yn ddiweddar, cytunais i roi £9.3 miliwn yn ychwanegol o gyllid i awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu metro gogledd Cymru, gan gynnwys gwelliannau i'r seilwaith bysiau, rheilffyrdd a theithio llesol ar draws y gogledd.

Diolch am eich diweddariadau ar gynnydd metro gogledd Cymru, Ddirprwy Weinidog. Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn falch o weld y gwaith ar y prosiect hwn yn cyflymu, a'r buddion y gallai eu darparu i bobl gogledd Cymru. Cynigiwyd y cynlluniau hyn gyntaf yn 2016, i'w cyflawni oddeutu 2035—felly amserlen o bron i 20 mlynedd ar gyfer cyflawni metro gogledd Cymru. Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n dderbyniol mwyach, yn sicr, a ninnau mewn argyfwng hinsawdd ac yn ceisio annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog beth y bydd yn ei wneud i gyflymu'r rhaglen waith ac i sicrhau ei bod yn ehangu yng ngogledd Cymru.

Diolch. Wel, mae'r metros, mewn gwahanol rannau o Gymru, ar wahanol gamau datblygu. Mae metro de Cymru, er enghraifft, wedi datblygu ymhellach, ac mae'n brosiect hynod gymhleth. Mae'r un yng ngogledd Cymru yn gymysgedd gwahanol o ddulliau teithio—mae llai o reilffyrdd nag sydd gennych yng Nghymoedd de Cymru, er enghraifft, felly mae gan fysiau rôl fwy o lawer i'w chwarae, fel sydd gan deithio llesol. Credaf mai un o'r heriau sydd gennym yw capasiti awdurdodau lleol. Cefais gyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol y bore yma, ynghyd â gweddill fy nghyd-aelodau o'r Cabinet, a buom yn trafod hyn—sut y gallwn ddefnyddio’r cyd-bwyllgorau corfforedig i ddod â gwybodaeth ac arbenigedd a phobl at ei gilydd i geisio creu capasiti ychwanegol, gan weithio ochr yn ochr â Trafnidiaeth Cymru.

Unwaith eto, mae gennym enghraifft yng Nghasnewydd, lle mae uned gyflawni Burns wedi creu model lle mae Trafnidiaeth Cymru, yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos iawn i gyflawni'r cynlluniau a nodwyd yn adroddiad Burns. A chredaf y gallai hynny fod yn fodel ar gyfer y gogledd. Cefais gyfarfod ag is-grŵp trafnidiaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru—dyna i chi lond ceg—fore dydd Gwener, lle bûm yn trafod yr union her hon, a gofynnais iddynt feddwl sut y byddent yn barod i gyfuno eu hadnoddau a sut y gallem eu helpu i ariannu hynny ac i sicrhau ei fod yn cael ei weithredu. Ond credaf fod gan fetro gogledd Cymru botensial enfawr. Bydd yn digwydd fesul cam, ond o ystyried pa mor hanfodol yw gweithredu ar newid hinsawdd a newid dulliau teithio, mae'n ddatblygiad allweddol ar gyfer y rhanbarth.

Fel cynghorydd yn sir y Fflint, a chyn-aelod o'r cabinet dros wasanaethau stryd a phriffyrdd, ac aelod hefyd o'r pwyllgor y sonioch chi amdano yn gynharach, rwy'n ymwybodol o'r cyllid sylweddol ledled y rhanbarth—cyllid ar gyfer y metro. Fodd bynnag, er mwyn codi ymwybyddiaeth a chynyddu ymgysylltiad ar draws gogledd Cymru, mae angen inni sicrhau bod gennym frand arbennig i gysylltu gorsafoedd y metro, trafnidiaeth ar fysiau, llwybrau beicio, a'r gwasanaethau parcio a theithio y mae Llywodraeth Cymru wedi'u hariannu, gan weithio gydag awdurdodau lleol. Byddai argraff arlunydd o'r gorsafoedd newydd arfaethedig yn dda iawn hefyd. Byddai'n helpu i godi ymwybyddiaeth a chynyddu ymgysylltiad â'n cymunedau ynghylch y gwaith sydd ar y gweill a'r gwaith a fydd yn mynd rhagddo yn y dyfodol. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi diweddariad ynglŷn ag arwyddion a brand y metro, gwaith yr oedd Trafnidiaeth Cymru i fod i arwain arno yn 2021? Diolch.

13:40

Wel, diolch am eich cwestiwn, ac rwy'n sicr yn cytuno â chi fod delweddau brand yn bwysig iawn i ennyn cynnwrf ymysg pobl fod newid yn dod, ac i roi ffydd i bobl fod newid yn dod hefyd. Felly, rwy'n derbyn y pwynt. Rwy'n trafod hyn gyda Trafnidiaeth Cymru yng nghyswllt metro de Cymru, felly rwy'n addo ychwanegu hynny at y sgyrsiau rwy'n eu cael ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod; credaf fod ei phwynt yn un cryf.

Diolch i fy nghyd-Aelod ar ochr arall y Siambr, Mr Rowlands, am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn, ac rwy'n cytuno hefyd â fy nghyd-Aelod, Carolyn Thomas, oherwydd mae'n gwestiwn pwysig. Mae'n bwysig fod metro gogledd Cymru yn darparu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a dyma'r rhwydwaith trafnidiaeth y mae gogledd Cymru yn ei haeddu, fel y cytuna'r Gweinidog.

I drigolion Alun a Glannau Dyfrdwy, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod coridor sir y Fflint yn gweithredu fel asgwrn cefn i fetro gogledd Cymru, ond mae hefyd yn ymwneud â chreu canolfannau trafnidiaeth allweddol i gyflawni system aml-ddull a chwbl integredig. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod creu coridor sir y Fflint yn hanfodol i sicrhau y bydd trigolion fy nghymuned, Alun a Glannau Dyfrdwy, yn elwa o fetro gogledd Cymru, sy'n brosiect pwysig iawn?

Wel, dylwn ganmol yr Aelod am ei ddyfeisgarwch yn ceisio cyflwyno'r mater yn y ffordd hon. Wrth gwrs, ffordd ddeuol ddwy lôn 13 cilometr yw coridor sir y Fflint, felly nid yw'n gwbl amlwg i mi ei bod yn rhan annatod o fetro gogledd Cymru, ac mae hefyd wedi'i chynnwys yng nghynllun yr adolygiad ffyrdd, ac ni allaf ragweld pa benderfyniadau y byddant yn eu gwneud, oherwydd yn amlwg, fel rhan o'r adolygiad, mae rôl gan gynlluniau ffyrdd newydd. Nid ydym yn diystyru adeiladu ffyrdd newydd, ond ni ddylai fod yn ateb diofyn i unrhyw broblem drafnidiaeth. Credaf mai dyna'r newid mawr sydd ei angen. Felly, rwy'n rhagweld gweld llai o lawer o gynlluniau ffyrdd, ac y bydd meini prawf a rhesymau clir iawn dros y cynlluniau ffyrdd a gaiff eu datblygu. Bydd cynllun yr adolygiad ffyrdd yn edrych i weld a yw coridor sir y Fflint yn bodloni'r profion hynny dros y flwyddyn nesaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y gwyddoch, dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn hynod bryderus ynghylch nifer yr achosion o lygredd afon. Gwn nad fi yw'r unig un, gan fod nifer o achosion o lygredd wedi'u dwyn i fy sylw'n rheolaidd. Nawr, gadewch imi ddweud yn glir, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, yn sicr, nid wyf yn pwyntio bys at ein ffermwyr. Nawr, ar ôl gwneud gwaith ymchwil, rwy’n poeni am nifer y gollyngiadau gan Dŵr Cymru a wnaed drwy bob gorlif carthffosiaeth cyfunol dros y pedair blynedd diwethaf. Mae'r canfyddiadau'n frawychus iawn. Nifer y gollyngiadau a gofnodwyd gan Dŵr Cymru gan ddefnyddio'r dull cyfrif blociau 12/24 yn 2018 oedd 48,158; 2019—73,517; 2020—104,482, a hyd yn hyn eleni, 59,275. Fel rwyf wedi'i ddweud dro ar ôl tro, ac fel y mae nifer yn ein grŵp wedi adleisio, mae un achos o lygredd yn un yn ormod. Nawr, er bod angen sicrhau ansawdd y data ar gyfer eleni, mae'r ffigurau'n dangos bod cyfanswm yr holl ollyngiadau cyn prosesu drwy'r dull cyfrif 12/24 awr yn 516,270.5 awr. Felly, os rhannwch hynny â 24, down at y ffaith syfrdanol fod Cymru wedi cael gwerth 21,511 diwrnod o ollyngiadau di-stop eleni yn unig. Felly, a fyddech yn cytuno, Weinidog, y gellir ystyried y sefyllfa mewn perthynas â gorlifoedd cyfunol yng Nghymru yn argyfwng bellach? Diolch.

Wel, Janet, rydych yn gwneud pwynt da iawn, sef bod nifer o resymau pam fod angen inni edrych ar achosion o lygredd dŵr ledled Cymru, ac wrth gwrs, ni ellir priodoli'r cyfan i'r un ffynhonnell. Felly, mae angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd yn Nhîm Cymru i sicrhau ein bod yn lleihau unrhyw fath o ddigwyddiad llygredd sy'n effeithio ar ein lefelau trwythiad, dyfroedd ein hafonydd, ein dyfroedd mewndirol, neu yn wir, ein dyfroedd arfordirol, ac mae angen inni wneud hynny gyda'n gilydd. Felly, mae angen i bob sector weithio'n galed i wneud hynny. Mae angen i'n sectorau amaeth a ffermio weithio yr un mor galed â'r cwmnïau dŵr, yn amlwg, a'r cwmnïau carthffosiaeth, llygryddion diwydiannol ar lannau afonydd, a nifer fawr o bobl eraill sy'n dibynnu ar y cyrsiau dŵr, ac sydd angen i'r cyrsiau dŵr fod yn lân ac mewn cyflwr da.

Mae nifer o bethau i'w dweud am hynny. Yn gyntaf, rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r cwmnïau dŵr ar hyn o bryd i sicrhau bod y mecanweithiau prisio a roddir ar waith yn caniatáu iddynt wneud y mathau cywir o fuddsoddiadau ar gyfer y dyfodol, fel y gallwn fuddsoddi yn y rhwydwaith a sicrhau ei fod yn effeithlon, yn effeithiol ac yn gweithio'n galed iawn.

Rydym hefyd yn cynnal adolygiad o nifer o feysydd rheoleiddiol i sicrhau bod y dadansoddiad presennol o bwy sy'n gwneud beth yn nhermau rheoleiddio, a bod gan Lywodraeth Cymru, cwmnïau fel Dŵr Cymru, cwmnïau cyfleustodau ac ati, CNC, awdurdodau lleol—gan fod buddiant gan bob un ohonynt—fod ganddynt y lefel gywir o fecanweithiau rheoleiddio a chyflenwi yn eu priod leoedd, ac yn bwysicach fyth, eu bod yn ffitio gyda'i gilydd yn ddi-dor a gall pobl ddeall pwy sy'n gyfrifol am gyflawni beth ac am reoleiddio beth. Felly, mae hynny'n rhan ohono hefyd.

Ac yna, fe fyddwch yn gwybod cystal â minnau fod gan bob un ohonom rywfaint o gyfrifoldeb personol am hyn hefyd, gan fod llawer o'r gollyngiadau carthion yn enwedig yn digwydd am fod pobl yn rhoi pethau cwbl amhriodol mewn carthffosydd. Felly, cefais sgwrs yr wythnos hon ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud ar lefel y DU yn enwedig, a gallwch helpu gyda hyn—gwn eich bod yn teimlo yr un peth â mi—i sicrhau bod y labelu ar gynhyrchion yn gywir, fel nad oes gennym bethau fel cadachau gwlyb a ffyn cotwm a phethau felly, sy'n dweud 'bioddiraddadwy' pan nad ydynt yn fioddiraddiadwy mewn gwirionedd, neu'n dweud eu bod yn 'iawn i fflysio'—hyd yn oed yn waeth—pan nad ydynt, a gallwn sicrhau nad yw pobl yn tagu'r system gan achosi digwyddiadau. Felly, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud hyn, ond gallaf eich sicrhau ein bod yn fwy na pharod i gydweithio gyda chi a nifer o bobl eraill ledled Cymru, fel tîm, i sicrhau bod gennym y mathau cywir o ymatebion i'r mathau hyn o ddigwyddiadau.

13:45

Diolch. Ac rwy'n falch iawn fy mod wedi llwyddo i sicrhau bod hynny wedi'i gofnodi, eich bod yn deall bod yna broblem gyda hynny.

Ond i ddychwelyd yn benodol at ein cwmnïau dŵr, eleni mae 23 o wahanol leoliadau wedi cael gwerth dros 2,000 awr o ollyngiadau yr un, pum lleoliad wedi cael gwerth dros 3,000 awr a phedwar wedi cael gwerth dros 4,000 awr. Felly, roeddwn yn ddigon pryderus i ysgrifennu atoch, ac fe wnaethoch ymateb gan nodi, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda chwmnïau dŵr Cymru i ddatblygu cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff, a elwir hefyd yn DWMPs, ar gyfer y 25 mlynedd nesaf. Bydd y cynlluniau'n helpu i sicrhau bod ein cwmnïau dŵr yn buddsoddi'n strategol ac yn dryloyw mewn rhwydwaith trin dŵr gwastraff sy'n gadarn ac yn fforddiadwy yn hirdymor ac yn y tymor byr.'

Nawr, yn ddiweddar, yn ein haber ger Deganwy, yn fy etholaeth, mae nifer fawr o drigolion wedi bod yn cwyno am garthffosiaeth amrwd yn arnofio ac arogl erchyll, ac fe wnaeth hyn barhau am beth amser. Felly, ar ôl tynnu sylw Dŵr Cymru at y broblem, ni chymerwyd camau ar unwaith, a chefais fy mherswadio oherwydd hynny i roi gwybod yn uniongyrchol i CNC am y sefyllfa. Ac mae'n ddrwg gennyf, ond mewn nifer o'r achosion hyn, Weinidog, ni ellir honni bod y camau gorfodi a gymerir gan CNC yn hanner digon cadarn. Ychydig wythnosau yn ôl, roedd ein ffermwyr yn cael eu beio am lygredd yn ein hafonydd, a chafodd system ormesol y parthau perygl nitradau ei rhoi ar waith. Felly, Weinidog, pa gamau sydd ar y gweill gennych i sicrhau bod ein cwmnïau dŵr—[Torri ar draws.]—yn chwarae rhan fwy cyfrifol eu hunain drwy beidio â chaniatáu—? A hoffech chi ymyrryd? [Torri ar draws.]

A phan fyddant yn digwydd, fod y cwmnïau a CNC fel y rheoleiddiwr yn rhoi camau llymach ar waith.

Felly, unwaith eto, credaf fod eich casgliad yn ymestyn pethau braidd o'r set o ffeithiau a gyflwynwch. Felly, fel y dywedais yn fy ateb cyntaf, fe wnaf ei ailadrodd: mae llawer iawn o bobl, wrth gwrs, yn effeithio ar gyrsiau dŵr ac ansawdd dŵr ledled Cymru. Mae hynny'n cynnwys pob un ohonom, ein cymunedau, ein diwydiannau, a'r bobl sy'n defnyddio'r dŵr, ac sy'n ei ollwng i'n hafonydd. Mae'n cynnwys, wrth gwrs, y cwmnïau dŵr, ond mae hefyd yn cynnwys ffermwyr a busnesau amaeth, ac mae'n rhaid i bawb chwarae eu rhan. Mae'n rhaid i bawb leihau eu hallyriadau, mae'n rhaid i bawb fwrw ymlaen â ffordd fwy gwyrdd a glanach o ddefnyddio ein cyrsiau dŵr, neu ni fydd modd inni wella eu cyflwr a chynyddu ein bioamrywiaeth, ac ansawdd ein dŵr yn wir.

Felly, wrth gwrs, bydd angen inni weithio gyda'n gilydd, ac fel y dywedais, rydym yn cynnal adolygiad o'n trefn reoleiddiol, y gwaith cyflawni, ac a yw lle dylai fod, a yw'n effeithiol ai peidio, a sut y gallwn gynyddu ein rheoleiddio a gallu ein partneriaid cyflenwi i wella ein cyrsiau dŵr. Felly, mae pawb ohonom yn ceisio cyrraedd yr un lle. Ond nid yw'n fater o bwyntio bys, mae'n rhaid i bawb chwarae eu rhan, ac mae hynny'n sicr yn cynnwys y ffermwyr.

Diolch, Weinidog. Nawr, ar bwnc arall, rwy'n pryderu bod ceisiadau cynllunio wedi dod i stop oherwydd y targedau newydd ar gyfer llygredd ffosffad mewn afonydd. Mae'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi wedi dweud wrthyf fod y gwaith o gyflenwi pob cartref newydd, rhai fforddiadwy a rhai preifat, yn cael ei effeithio mewn nifer o awdurdodau, gan gynnwys Mynwy, Casnewydd, sir Gaerfyrddin, Wrecsam, sir y Fflint, Ceredigion, sir Benfro, parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Phowys. Mewn gwirionedd, mae ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i'r strategaeth a ffefrir gan gyngor Mynwy ar gyfer eu cynllun datblygu lleol newydd yn nodi:

'Rhaid i'r Cynllun Adnau a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd cysylltiedig ddangos niwtraliaeth maethynnau neu welliant er mwyn cael eu hystyried yn gadarn.'

Er fy mod yn gyfarwydd â'r grŵp goruchwylio rheoli ardaloedd cadwraeth arbennig, yr is-grŵp cynllunio a bwrdd prosiect CNC gyda'i nifer o ffrydiau gwaith, a allwch chi egluro i mi sut y gall awdurdod cynllunio lleol ddangos niwtraliaeth maethynnau pan nad yw Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar ddatrysiad neu gynnig unrhyw ganllawiau eto? Diolch.

13:50

Ie, felly, unwaith eto, mae a wnelo hyn â methu cael y gorau o ddau fyd. Felly, ni allwch ddweud eich bod o blaid gwneud rhywbeth i liniaru newid hinsawdd ac yna cwyno am bob mesur a roddwn ar waith er mwyn gwneud hynny. Felly, mae'n rhaid inni wneud pethau'n wahanol. Mae'n rhaid i gynghorau wneud ymdrech, ochr yn ochr â'r holl bartneriaid eraill. Ni allwn barhau i adeiladu'n ddifeddwl ar ein gorlifdiroedd, heb ystyried y llygredd, heb ystyried y systemau carthffosiaeth rydych newydd fod yn sôn amdanynt, heb ystyried gallu'r seilwaith i ymdopi â hynny a chadw ein cyrsiau dŵr yn lân. Felly, mae'n rhaid inni wneud pethau'n wahanol.

Felly, mae a wnelo hyn â dod â grŵp o bobl ynghyd i sicrhau bod yr holl sefydliadau sydd ynghlwm wrth hyn—ac rydym eisoes wedi'u rhestru sawl gwaith heddiw—yn gweithio gyda'n gilydd yng Nghymru i sicrhau ein bod, pan fyddwn yn adeiladu pethau, yn eu hadeiladu i'r safonau cywir gyda'r systemau cywir ar waith, nad ydynt yn gorlwytho'r systemau carthffosiaeth cyfredol, nad ydynt yn rhoi pwysau ar y gweithfeydd trin gwastraff i'r graddau ein bod yn gweld y gollyngiadau rydych newydd fod yn sôn amdanynt, a'n bod yn gwneud hynny fel ein bod yn gwella ac yn cynyddu ansawdd y dŵr a bioamrywiaeth. Nid oes unrhyw ffordd arall ymlaen. Ni allwn gwyno na allwn adeiladu ar y naill law a dweud ar y llaw arall ein bod yn caru’r blaned ac eisiau gwneud rhywbeth yn ei gylch. Nid yw'r ddau beth yn gydnaws.

Weinidog, hoffwn eich holi yn gyntaf ynglŷn â llywodraethu amgylcheddol. Mae Environmental Standards Scotland wedi cychwyn ar eu rôl statudol fel corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol. Mae'r Alban hefyd wedi rhoi egwyddorion amgylcheddol craidd ar waith, gyda dyletswyddau a chanllawiau cysylltiedig, a disgwylir i Fil Amgylchedd San Steffan gael ei basio yn yr hydref gyda swyddfa diogelu'r amgylchedd i ddarparu trosolwg annibynnol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae patrwm yn dod i'r amlwg ym mhobman arall. Argymhellodd rhanddeiliaid yng Nghymru gamau cyfatebol ar gyfer Cymru yng ngwanwyn 2020, ond ni chawsom ymrwymiad cadarn o hyd i amserlen ar gyfer deddfu, sy'n golygu bod gan Gymru fwlch llywodraethu amhenodol. Mae mynediad dinasyddion at gyfiawnder yn sgil torri deddfau amgylcheddol wedi'i leihau, ac nid yw'r amgylchedd yn cael ei amddiffyn cystal. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo'n gadarn os gwelwch yn dda i gyflwyno'r ddeddfwriaeth a addawyd ar egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol yn ail flwyddyn y Senedd hon?

Diolch, Delyth. Rydych chi a minnau wedi trafod y mater hwn sawl gwaith, ac rwy'n llwyr ddeall yr hyn a ddywedwch. Wrth gwrs, gallem fod wedi ystyried ymuno â Llywodraeth y DU gyda'u trefniadau, ond roeddem o'r farn, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno, nad yw'r trefniadau hynny'n gweddu i'r sefyllfa sydd gennym yma yng Nghymru, ac y byddai'n well o lawer pe bai gennym ein system ein hunain ar waith.

Mae gennym drefniant dros dro yn ei le, fel y gwyddoch, ac rydym wedi ymrwymo i gyflwyno trefniadau llywodraethu sy'n addas i Gymru. Bydd y Prif Weinidog yn rhoi—wel, nid wyf yn siŵr ai’r Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol fydd yn gwneud hynny, ond bydd un ohonynt yn gwneud datganiad i’r Senedd cyn bo hir ynglŷn â blynyddoedd nesaf y rhaglen ddeddfwriaethol, a mater iddynt hwy yw gwneud hynny, nid i mi. Ond rydym yn gweithio'n galed iawn y tu ôl i'r llen i sicrhau bod gennym y gallu a'r sgil a'r ddawn i ddod â'r holl linynnau unigol ynghyd i sicrhau, pan fyddwn yn cyflwyno'r trefniadau llywodraethu drwy'r pwyllgorau craffu ac ar lawr y Senedd, eu bod yn addas at y diben. Felly, rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch yn llwyr, ond rydym yn y broses o weithio i sicrhau bod gennym yr holl drefniadau ar waith fel y gallwn gael y trefniadau llywodraethu gorau posibl ar gyfer Cymru. Oherwydd ein bod yn dymuno gwneud hynny, nid oeddwn yn credu ei bod yn briodol ymuno â system Lloegr yn yr achos hwn. Mae arnaf ofn fod hynny wedi arwain at oedi, ond credaf yn y pen draw mai dyna'r llwybr gorau.

Iawn. Edrychaf ymlaen at glywed y datganiad hwnnw pan ddaw.

Byddaf i'n gofyn y cwestiwn nesaf yn Gymraeg, Weinidog. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rŷn ni wedi gweld ymrwymiadau pwysig ar gyfer natur ar lefel y Deyrnas Unedig trwy addewid yr arweinwyr dros natur, y Glymblaid Uchelgais Uchel dros Natur a Phobl, a chompact natur G7 2030. Mae'r ymrwymiad i amddiffyn 30 y cant o dir a môr ar gyfer natur erbyn y flwyddyn 2030. Mae hynny'n garreg filltir allweddol. Mae'n cael ei gyfeirio ato fel 30 erbyn 30, ac mae'n cael ei gefnogi gan Lywodraethau'r Deyrnas Unedig a'r Alban ac mae wedi cael ei gymeradwyo yng Ngogledd Iwerddon. Os ydyn ni'n gweithredu nawr, gall hyn gael ei gyflawni. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud hynny'n glir hefyd, ond does dim datganiad o gefnogaeth i 30 erbyn 30 wedi dod eto gan Lywodraeth Cymru. A fyddech chi, Weinidog, plis yn gallu ymrwymo nawr i sicrhau amddiffyniad effeithiol o 30 y cant o dir a 30 y cant o'r môr yng Nghymru erbyn y flwyddyn yna, sef 2030?

13:55

Diolch, Delyth. Diolch yn fawr iawn. Rwy'n edmygu eich ymdrechion i wneud i mi ddatgan polisi Llywodraeth fel rhan o'r cwestiynau, ond rwyf am wrthsefyll y demtasiwn.

Wrth gwrs, mae gennym gryn ddiddordeb mewn gallu ymuno â chynllun o'r fath; rydym yn edrych i weld a yw hynny'n rhywbeth yr ydym am ei wneud yn ffurfiol iawn yn y ffordd honno yma yng Nghymru, neu a oes llwybrau eraill i Gymru wneud hynny. Rydym yn benderfynol iawn o ddiogelu ein tirweddau naturiol ac yn benderfynol iawn, iawn o wella eu cyflwr. Felly, rwyf wedi cael amryw o gyfarfodydd gyda grwpiau ledled Cymru a chanddynt bryderon mewn perthynas â gwahanol fathau o dirweddau. Mae wedi bod yn addysg ac yn fraint siarad â phob un ohonynt. Felly, ardaloedd amrywiol fel tirweddau coediog, gwastadeddau Gwent, y gwair hir lle clywir cri'r gylfinir, y gorgorsydd, y gwlyptiroedd; mae gennym ystod o dirweddau sy'n galw am fuddsoddiad yn ogystal â chymorth, mae'n rhaid imi ddweud, i'r nifer canmoladwy o bobl sydd eisoes yn gweithio ledled Cymru i ddiogelu a gwella ein tirweddau.

Byddwn mewn sefyllfa i ddweud rhywbeth wrth y Senedd maes o law, Lywydd, ond mae arnaf ofn, Delyth, fy mod am wrthsefyll y demtasiwn a gynigiwch i mi, y trysor a ddaliwch o fy mlaen i fy nghymell i'w wneud yn awr. Felly, nid wyf am wneud hynny yn awr, ond edrychaf ymlaen at allu cyhoeddi rhywbeth maes o law.

Diolch, Weinidog. Yn amlwg, mae gwneud ymrwymiadau o'r natur hon, maent yn symbolaidd, felly mae cymaint o'r egwyddorion hyn sy'n sail i'r ymrwymiadau'n hanfodol bwysig, felly nid wyf am ymddiheuro am alw arnoch i wneud ymrwymiad arall yn fy nghwestiwn olaf, sy’n ymwneud, mewn gwirionedd, â'r datganiad o argyfwng natur a wnaethom fel Senedd ym mis Mehefin, rhywbeth yr oedd pob un ohonom mor falch ohono fel carreg filltir arall. Roedd hynny'n elfen hanfodol o'r cynnig hwn a basiwyd, a alwai ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofynion sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Gwn eto fy mod yn gofyn i chi am dargedau ac ati, ond mae'r pethau hyn—fel y byddwch yn cytuno rwy'n siŵr—yn hynod bwysig wrth lywio'r ffordd y caiff y polisïau hyn eu rhoi ar waith.

Byddai Bil ar egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol yn cynnig cyfrwng delfrydol i wneud hyn, ond Weinidog, yn eich gohebiaeth ddiweddar â'r pwyllgor newid hinsawdd pan oeddech yn cyfeirio at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Amgylchedd y DU, fe wnaethoch wrthod ymrwymo i achub ar y cyfle hanfodol hwn. Fe ddywedoch chi fod yn rhaid aros tan ar ôl y COP15 ym mis Mai 2022 cyn gwneud y penderfyniad hwnnw. Nawr, rwy'n deall, wrth gwrs, pam y byddech chi mewn sawl ffordd yn dymuno gweld canlyniad hynny, ond efallai nad yw aros yn rhywbeth y gallwn fforddio ei wneud. Mae Cymru ymhlith y gwledydd lle mae natur wedi teneuo fwyaf yn y byd. Does bosibl na allem arwain drwy osod nodau uchelgeisiol cyn COP15, a bwrw ymlaen â deddfwriaeth sylfaenol hanfodol i greu penawdau, fel y gallwn, ie, atal a dechrau gwrthdroi colli bioamrywiaeth yng Nghymru erbyn 2030, a sicrhau adferiad erbyn 2050. Felly, Weinidog, yr ymrwymiad olaf rwyf am alw arnoch i’w wneud yw: a wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio’r Bil egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol i gyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol?

Unwaith eto, Delyth, rwyf am wrthsefyll eich galwad, mae arnaf ofn, ond rwyf yn ei deall, wrth gwrs. Rydym am sicrhau bod—. Rydym wedi datgan yr argyfwng natur; mae pob un ohonom yn cytuno â'r hyn a ddywedwch am golli bioamrywiaeth a'r angen i amddiffyn ein tirweddau, wrth gwrs ein bod. Yr hyn rydym am ei wneud yw sicrhau bod gennym y camau ar waith i ddiogelu a gwella'r tirweddau hynny. Wrth gwrs, byddwn yn gosod targedau—dyna sut y byddwch yn ein dwyn i gyfrif—ond nid yw'r targedau eu hunain yn gwneud unrhyw beth ond mesur a ydym yn llwyddo neu'n methu. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynlluniau gweithredu i sicrhau ein bod yn gwneud y gwaith, ac rwyf am wneud hynny gydag Aelodau o'r Senedd a'r pwyllgorau a chyda chynghorwyr gwyddonol allanol. Rydym yn cynnull grŵp cyngor technegol a fydd yn ein helpu i wneud hynny a chyda'r nifer fawr o grwpiau o arbenigwyr amatur ledled y wlad sydd wedi gweithio mor galed yn eu meysydd penodol, i ddeall a gwybod beth sydd angen ei wneud yn eu tirweddau penodol. Felly, nid wyf yn mynd i ruthro pethau; byddwn yn rhoi’r targedau ar waith fel y gellir ein dwyn i gyfrif, ond yn bwysicach fyth, byddwn yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod gennym y set gywir o gynlluniau gweithredu ledled Cymru i roi’r diogelwch a’r gwelliannau sydd eu hangen arnom ar waith, ac nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn ei wneud yn gyflym. Rwyf am sicrhau bod y cynlluniau hynny'n gywir, nad ydynt yn arwain at ganlyniadau anfwriadol, a'n bod yn diogelu'r holl dirweddau iawn yn y lleoedd iawn. Felly, nid yw hwnnw'n ateb cyflym, ond mae'n ateb, ac rwy'n deall yn llwyr yr angen i roi targedau ar waith ar ôl inni gytuno ar y camau hynny, er mwyn sicrhau wedyn ein bod yn gwneud yr hyn a ddywedwn.

14:00
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddynodi Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol? OQ56955

Diolch am y cwestiwn, Carolyn. Rydym wedi ymrwymo i greu parc cenedlaethol newydd i Gymru ar gyfer ardal syfrdanol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy. Mae gwaith ar y gweill gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu rhaglen enwebu gynhwysfawr a fydd yn cynnwys yr holl asesiadau, a'r gwaith ymgysylltu ac ymgynghori a fydd yn angenrheidiol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Gwn fod llawer o bobl yn yr ardal leol yn gyffrous ynghylch y posibilrwydd o wneud yr enwebiad hwn, a fydd yn cydnabod harddwch a threftadaeth naturiol unigryw'r parc. Bydd yn rhoi hwb i reoli twristiaeth ac yn helpu i greu swyddi cynaliadwy. Yn 2000, cyflwynodd Llywodraeth Lafur yr Alban Ddeddf Parciau Cenedlaethol (Yr Alban) a oedd ond yn 41 tudalen o hyd, i fod yn weithdrefn symlach ar gyfer enwebu dau barc cenedlaethol yn yr Alban, y Cairngorms a Loch Lomond, a golygodd hynny mai pedair blynedd a gymerodd. Digwyddodd ymgynghoriad cyhoeddus yng nghamau 1 a 2 er hynny, sef un o'r prif gwestiynau sy'n codi, rwy'n credu. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen arfaethedig ar gyfer cyflawni statws y parc cenedlaethol? Rwy'n poeni y gallai gymryd amser hir. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Carolyn. Rwy'n rhannu eich pryder. Gofynnodd y Prif Weinidog a minnau i swyddogion gynnal ymarfer trwyadl iawn i edrych ar yr amrywiaeth o opsiynau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol sydd ar gael i gyflawni'r nodau y dymunwn eu cyflawni. Cawsom gyngor cyfreithiol manwl iawn arno. Rydych yn llygad eich lle fod Deddf Parciau Cenedlaethol (yr Alban) wedi newid y prosesau enwebu yn yr Alban, ac yn dilyn hynny, roedd y broses enwebu'n gyflymach—oddeutu dwy i dair blynedd. Ond cymerodd y ddeddfwriaeth ei hun amser hir iawn i'w drafftio a'i chyflwyno, felly mae'n rhaid i chi ystyried y newid i'r ddeddfwriaeth sylfaenol yn ogystal â'r enwebiad.

Yn gyffredinol yng Nghymru, rwy'n credu ein bod wedi penderfynu nad dyna'r ffordd gyflymaf o'i wneud, mae'n debyg, er fy mod yn deall y demtasiwn ac fe wnaethom edrych arno'n ofalus iawn. Rydym am wneud yr holl beth yn y tymor penodol hwn. Nid ydym am roi'r ddeddfwriaeth sylfaenol ar waith ac enwebu wedyn. Credwn ein bod wedi dod o hyd i ffordd o wneud hynny. Credwn ein bod wedi dod o hyd i ffordd o'i wneud gan sicrhau bod yr holl waith ymgysylltu ac ymgynghori cywir yn digwydd. Mae angen inni ystyried holl safbwyntiau pobl leol, ac yn y pen draw efallai na fyddwn yn ei wneud, os mai dyna fydd yr ymgynghoriad yn ei ddweud. Ond rydym yn gobeithio'n fawr y gallwn gyflwyno'r achos dros y parc cenedlaethol a'r diogelwch y mae'n eu cynnig, a'r cyfleoedd bywyd gwell i'r bobl sy'n byw o fewn y parc cenedlaethol hefyd. Ond rydym wedi edrych yn fanwl iawn ar beth yw'r ffordd gyflymaf o'i wneud, a chredaf ein bod wedi penderfynu mynd gyda'r system bresennol a'r prosesau sydd ynghlwm wrth hynny.

Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynlluniau i droi ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol, mynegwyd pryderon wrthyf gan bobl y mae eu bywoliaeth yn seiliedig ar fusnesau ffermio da byw a thir yn yr ardal o harddwch naturiol eithriadol. Pa drafodaeth ac ymgysylltiad a gawsoch felly gyda phobl y mae eu bywoliaeth yn seiliedig ar fusnesau ffermio da byw a thir yn ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy cyn gwneud eich cyhoeddiad? Os nad ydych wedi cael y drafodaeth honno, pa gynlluniau sydd gennych i gysylltu â hwy yn awr er mwyn sefydlu a mynd i'r afael â chwestiynau, anghenion a sefyllfaoedd ar lawr gwlad?

Diolch, Mark. Yn amlwg, uchelgais yw'r hyn sydd gennym yma, felly mae angen mynd drwy'r holl brosesau sydd eu hangen yn awr i weld a yw'r uchelgais yn un a rennir gyda'r bobl sy'n byw yn yr ardal y byddem yn awyddus iawn i'w gweld yn cael ei henwebu er mwyn iddi gael y diogelwch gwell a ddaw yn sgil hynny. Ond wrth gwrs, byddwn yn mynd drwy'r ymarferion ymgynghori'n ofalus ac yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu mor eang â phosibl â'r holl bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn chwarae yn ardal y parc cenedlaethol arfaethedig. Byddwn yn cychwyn ar y broses honno gyda meddwl hollol agored i sicrhau ein bod yn ystyried yr holl safbwyntiau, gan obeithio'n fawr ar yr un pryd y gallwn berswadio pobl y bydd y diogelwch a'r enwebiad ychwanegol y gall parc cenedlaethol eu cynnig yn gwella'r cynnig i dwristiaid a bywydau a bywoliaeth y bobl sy'n byw yn yr ardal. Mae honno'n broses y byddwn yn dechrau arni gyda phroses ymgynghori ac ymgysylltu lawn mewn golwg, ac yn amlwg byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i'r broses honno fynd rhagddi.

14:05
Band Eang Cyflym Iawn

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i gysylltu mwy o eiddo yng ngogledd Cymru â band eang cyflym iawn? OQ56945

Diolch am y cwestiwn. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gysylltedd, ond rydym yn parhau i gamu i mewn i ddarparu cysylltedd. Mae 7,508 o adeiladau bellach wedi cael mynediad ffeibr llawn yng ngogledd Cymru o dan gynllun cyflwyno ffeibr llawn gwerth £56 miliwn Llywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i ddarparu atebion cysylltedd drwy ein cronfa band eang lleol a'n cynllun mynediad band eang.

Mae hynny'n wych i'w glywed, Weinidog. O ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a hefyd o ystyried y cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n gweithio gartref neu o bell o ganlyniad i'r coronafeirws, a fyddech yn cytuno y dylid ystyried band eang yn wasanaeth cyffredinol, fel y Post Brenhinol, ac y dylai fod ar gael i bawb?

Dyna'r pwynt allweddol yn y ddadl sy'n rhaid inni barhau i'w bwysleisio. Mae hwn bellach yn wasanaeth cyfleustodau hanfodol. Clywaf gan Aelodau ar draws y Siambr am anawsterau y mae eu hetholwyr yn eu cael wrth geisio sicrhau cysylltedd, ac mae'n rhwystr gwirioneddol i allu cyflawni swyddogaethau hanfodol mewn cymdeithas. Ond oherwydd ideoleg neu syrthni, mae Llywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am fand eang, yn gwrthod rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i sicrhau bod gan bawb hawl i fod wedi'u cysylltu. O ganlyniad, gwelwn amrywiaeth o gynlluniau pragmatig yn cael eu dyfeisio i geisio datrys yr hyn sydd yn ei hanfod yn ddiffyg strwythurol. Fel y dywedwch, mae gan y Post Brenhinol, cwmni sy'n cael ei redeg yn breifat, rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwasanaeth i bawb am yr un gost, a rhaid i'r un peth ddigwydd gyda band eang.

Trafnidiaeth Gymunedol

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o drafnidiaeth gymunedol yng Nghwm Cynon? OQ56960

Ar hyn o bryd, caiff Cwm Cynon ei wasanaethu gan gynllun trafnidiaeth gymunedol a weithredir gan Accessible Caring Transport. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu cymorth ariannol ar gyfer y gwasanaeth hwn, gan ddefnyddio'r grant cynnal gwasanaethau bysiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'u harian eu hunain.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Accessible Caring Transport yn achubiaeth i'r rhai sydd angen trafnidiaeth gymunedol yn fy etholaeth i, ac mae wedi bod ar flaen y gad yn darparu cludiant i gleientiaid at ofal iechyd hanfodol yn ystod y pandemig. Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, mae maniffesto Plaid Gydweithredol Cymru, 'Owning the Future', yn ymrwymo ASau Llafur a Chydweithredol fel fi i ddiogelu rôl anhepgor trafnidiaeth gymunedol. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog gytuno i gyfarfod â mi ac ASau Llafur a Chydweithredol eraill i drafod hyrwyddo a diogelu'r sector, yn ogystal â chyfle i annog twf darparwyr cydweithredol a mentrau cymdeithasol ym maes trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru?

Wrth gwrs, byddwn yn hapus i gyfarfod â fy nghyd-Aelodau o Blaid Gydweithredol Cymru yn y Senedd i drafod hyn. Mae gan drafnidiaeth gymunedol ran bwysig i'w chwarae fel rhan o'r gymysgedd o atebion a welwn er mwyn newid dulliau teithio. Rydym yn treialu ein gwasanaeth bws Fflecsi ein hunain gyda Trafnidiaeth Cymru, gwasanaeth sy'n mabwysiadu egwyddor debyg i drafnidiaeth gymunedol, sef darparu hyblygrwydd er mwyn diwallu anghenion pobl, gan roi'r defnyddiwr yn gyntaf. Rwy'n ymwybodol fod Accessible Caring Transport yn etholaeth yr Aelod wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer y rhai sy'n ei chael yn anodd neu'n amhosibl defnyddio bysiau confensiynol, ac mae'n darparu bwlch pwysig yn y farchnad. Mae sut y gallwn barhau i wneud hyn a sut y gall Rhondda Cynon Taf fforddio parhau i'w wneud o ystyried yr heriau cyllidebol y mae pawb ohonom yn eu hwynebu, yn gwestiwn byw, a byddwn yn hapus iawn i drafod hynny gyda hi ac Aelodau eraill.

Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, daeth y rhaglen Cysylltu Cymunedau i ben yn gynharach na'r disgwyl am nad oedd dull Llywodraeth Cymru o wahodd a dethol y prosiect yn cydymffurfio â gofynion rheoliadau Ewropeaidd. Mae'r rhaglen Cysylltu Cymunedau wedi bod yn achubiaeth i bobl fregus allu defnyddio gwasanaethau hanfodol, ac i gynnal lefel o ryddid na fyddent fel arall yn gallu ei mwynhau. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno bod angen sylweddol am gymorth i barhau i dyfu cyfleusterau teithio cymunedol, yn enwedig mewn lleoliadau gwledig a lled-wledig fel Bro Morgannwg a RhCT, lle gall cysylltiadau trafnidiaeth fod yn annibynadwy. A all y Dirprwy Weinidog amlinellu pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r gymdeithas dolenni cymunedol er mwyn darparu ffrwd newydd o gyllid ar gyfer teithio cymunedol? Diolch.

14:10

Bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â'r manylion hynny. Nid yw gennyf ar flaen fy mysedd yr eiliad hon. Fodd bynnag, mae'r pwynt cyffredinol y mae'n ei wneud yn un teg, fel y nodais yn awr, yn y cwestiwn, ac rwy'n hapus i fynd ar drywydd hynny.FootnoteLink

Gwrthbwyso Carbon

6. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru'n eu rhoi i gwmnïau sy'n defnyddio tir Cymru at ddibenion gwrthbwyso carbon? OQ56962

Diolch am y cwestiwn. 

Safon wirfoddol yw'r cod carbon coetiroedd ar gyfer prosiectau creu coetiroedd yn y DU. Fe'i cefnogir gan bob un o'r pedair Llywodraeth ac mae'n darparu mecanwaith i dirfeddianwyr allu cymryd rhan yn y farchnad garbon. Mae gwefan y cod yn rhoi arweiniad i brosiectau sydd â diddordeb mewn dal a storio carbon o goetiroedd.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae'n wir i ddweud bod cefnogaeth gyffredinol i amcan Llywodraeth Cymru i weld Cymru yn dod yn wlad garbon niwtral erbyn 2050, ond mae'n amlwg fod yna broblemau yn y farchnad garbon ar hyn o bryd, yn arbennig fel mae hyn yn effeithio ar ein tir amaethyddol. Mewn cyfres o atebion i gwestiynau ysgrifenedig wrthyf i, mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau erbyn hyn fod arian cyhoeddus drwy gynllun Glastir yn mynd i gwmnïau y tu allan i Gymru er mwyn plannu coed. Mae ffermydd cyfan ar draws Cymru yn cael eu prynu at y diben hwn, gyda chwmnïau rhyngwladol yn gwerthu'r carbon ar y farchnad ryngwladol. Yn anffodus, pan fydd darn o dir fferm yn cael ei werthu fel hyn, nid yw'r tir yma ar gael bellach i ffermwyr Cymru ar gyfer gwrthbwyso carbon, a'r un mor bwysig, fydd e ddim ar gael chwaith i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd yr amcan o fod yn net sero. Felly, beth yw'r ateb i'r broblem? Wel, mae'n bosib newid y system ariannu neu ddefnyddio'r system gynllunio. Felly, Weinidog, ydy Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod problem, ac ydych chi'n barod i gymryd camau drwy newid y system ariannu a'r system gynllunio i fynd i'r afael â hyn? Diolch yn fawr.

Rydym yn sicr yn cydnabod bod perygl o broblem go iawn yma, ond ar yr un pryd rydym yn rhoi cymorth i dirfeddianwyr ar hyn o bryd os ydynt am blannu coed ar eu tir, ac mae'n rhaid iddynt wneud hynny yn unol â chynllun plannu coed. Felly, ni allwch dorri unrhyw hen goeden ar unrhyw hen dir; rhaid i chi gael eich cynllun plannu coed wedi'i gymeradwyo. Mewn gwirionedd, un o'r pethau a drafodwyd gennym—. Mae fy nghyd-Aelod, Lee Waters, fel y gwyddoch, newydd wneud astudiaeth ddofn o goed, ac un o'r pethau a gododd ynddi oedd y gwrthwyneb llwyr i hynny, sef bod y cynlluniau plannu coed weithiau'n rhwystr i blannu coed. Mae'n amlwg fod yn rhaid inni gael y cydbwysedd yn iawn. I fod yn glir iawn cyn inni ddechrau'r sgwrs, nid ydym yn credu mai gwrthbwyso yw'r ffordd i fynd. Yn amlwg, yr hyn y dylech ei wneud yw lleihau eich allyriadau, felly nid yw'n iawn llygru cymaint ag y mynnwch a phlannu coed. Felly, rydym yn glir iawn fod gwrthbwyso ar gyfer cwmnïau sydd eisoes wedi lleihau eu hallyriadau i'r pwynt lle na ellir eu lleihau ymhellach gyda thechnolegau cyfredol, ac felly mae angen rhywfaint o wrthbwyso.

Rydym yn rhan o grŵp y pedair gwlad ar goetiroedd ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth yr Alban yn darparu'r ysgrifenyddiaeth ar ei gyfer. Rwy'n hapus iawn i siarad â Llywodraeth yr Alban, a fydd â phroblemau tebyg i ni. Yn sicr, nid ydym am weld tir amaethyddol da yn cael ei brynu at y diben hwn a'i orchuddio â choed heb unrhyw reswm da dros wneud hynny. Rydym am sicrhau bod y goeden gywir yn cael ei phlannu yn y lle iawn ar y tir cywir yng Nghymru, a bod tir amaethyddol da yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu bwyd. Felly, byddwn yn edrych arno. Cefais gyfarfod da iawn gyda Undeb Amaethwyr Cymru yn gynharach hefyd ar yr union bwynt hwn. Rwy'n ymwybodol iawn o bryder pobl ynglŷn â hyn, felly byddwn yn parhau i'w fonitro. Nid oes llawer iawn ohono'n digwydd ar hyn o bryd, ond rwy'n gweld y perygl y gallai ddigwydd. Felly, byddwn yn parhau i'w fonitro. Rwyf hefyd yn awyddus iawn i edrych ar ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gaffael tir o'r math hwnnw at ddibenion cymunedol ac ar gyfer cynlluniau ffermwyr ifanc ac yn y blaen. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi a chydag eraill i sicrhau bod gennym yr holl amddiffyniadau cywir ar waith, gan annog y bobl iawn i blannu'r goeden gywir yn y lle iawn.

Y peth olaf yr hoffwn ei ddweud yw bod llawer o arian ar gael ar gyfer hyn. Hoffem helpu ein ffermwyr i ddenu'r arian hwnnw i'w ffermydd, unwaith eto er mwyn plannu'r goeden gywir yn y lle iawn at y diben cywir. Felly, nid nad ydym eisiau arian o'r farchnad masnachu allyriadau; rydym am ei gael yn y lle iawn ac i'r bobl iawn ac er budd y cymunedau cywir. Felly, mae cydbwysedd i'w daro yma. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi ac eraill ledled Cymru i sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd cywir hwnnw—ein bod yn elwa ar arian sydd ar gael a'n bod yn ei ddefnyddio i'r perwyl cywir yng Nghymru.

Cysondeb Landlordiaid

Hoffwn ddatgan buddiant a chyfeirio'r Aelodau ac aelodau o'r cyhoedd at gategori 8, tir ac eiddo, ar fy nghofrestr buddiannau.

14:15

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) (Diwygio) 2021 ar gysondeb landlordiaid yn y sector rhentu preifat? OQ56950

Ie. Diolch, Janet. Bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, fel y'i diwygiwyd yn ddiweddar gan Ddeddf 2021, yn cynyddu diogelwch deiliadaeth ac yn symleiddio'r ddeddfwriaeth ar rentu'n sylweddol, gan sicrhau bod yr holl hawliau a chyfrifoldebau allweddol yn cael eu nodi mewn contract ysgrifenedig. Bydd hyn yn cefnogi parhad ac o fudd i denantiaid a landlordiaid fel ei gilydd.

Diolch. Ar adeg cymryd meddiant ar unrhyw gartref, gall landlord wynebu costau o fwy nag oddeutu £30,000 wrth ystyried rhent a gollwyd, ffioedd cyfreithiol ac yn aml, difrod y bydd angen ei gyfrifo. Wrth gwrs, bydd hynny'n digwydd pan nad yw tenantiaid yn cyflawni eu rhwymedigaethau hwy yn y les. Nawr, adroddir am oedi ar bob cam o'r broses o gymryd meddiant, gyda'r amser canolrifol yn 21.1 wythnos erbyn mis Mawrth 2020. Gyda'i gilydd, mae hyn yn arwain at ddiffyg hyder sylfaenol ein landlordiaid yn system y llysoedd fel y mae ac mae perygl o danseilio'r amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer gwneud iawn a roddwyd mewn grym i denantiaid drwy'r Ddeddf rhentu cartrefi.

Nawr, fel y dywedodd Propertymark wrthyf, mae perygl gwirioneddol y bydd landlordiaid, yn enwedig y rhai sy'n berchen ar un eiddo, yn gadael y sector hwn sy'n darparu cartrefi mawr eu hangen. Nawr, ym mis Hydref y llynedd, argymhellodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y dylid cynnal ymchwiliad i'r angen am dribiwnlys tai annibynnol a phenodol yng Nghymru. Felly, Weinidog, a wnewch chi gadarnhau pa drafodaethau a gawsoch i adolygu'r posibilrwydd o ddatblygu tribiwnlys tai penodol i Gymru? Diolch.

Wel, wyddoch chi, Janet, weithiau, rwy'n teimlo ychydig yn flinedig o'r ffordd y mae'r Ceidwadwyr bob amser yn gwrthwynebu mesurau y dywedant eu bod yn mynd i atal cyflogaeth ar yr isafswm cyflog ac atal landlordiaid rhag dod i mewn i'r sector cartrefi rhent os oes unrhyw fath o reoleiddio, er gwaethaf yr holl dystiolaeth i'r gwrthwyneb. Felly, gadewch imi ddweud yn glir fod y ddeddfwriaeth rhentu cartrefi yn amlwg yn gwneud y broses o rentu'n decach ac yn fwy diogel, ond mae'n dal i fod gan landlordiaid ddulliau at eu defnydd o ennill meddiant lle caiff contract ei dorri.

A hoffwn ddweud bod data gan Rhentu Doeth Cymru yn dangos inni fod y sector rhentu preifat yn tyfu ar hyn o bryd mewn gwirionedd ac nad yw'n crebachu, er gwaethaf yr holl rybuddion gennych chi ac eraill. Felly, roedd gennym 207,000 eiddo ym mis Rhagfyr 2019 ac mae gennym 216,000 ym mis Awst eleni. Mae nifer y landlordiaid cofrestredig hefyd wedi parhau i dyfu; roedd gennym 102,711 ar ddiwedd mis Rhagfyr 2019, 106,936 ar ddiwedd mis Rhagfyr 2020 a 107,059 ar ddiwedd mis Awst. Felly, fe welwch gynnydd parhaus yn nifer y landlordiaid ac nid gostyngiad, er gwaethaf proffwydoliaethau enbyd pobl ar y meinciau gyferbyn. Felly, nid yw'n wir o gwbl fod cyflwyno trwyddedu, cofrestru a systemau tecach yn atal landlordiaid. Ac fel y dywedaf yn barhaus, mae landlordiaid da yn hoffi rheoleiddio da, maent am gael eu digolledu'n deg am y cartrefi da iawn a ddarparant i bobl a'r cyfan a wnawn ni yw sicrhau bod yr arferion sy'n dwyn anfri ar y sector yn sgil gweithredoedd nifer fach iawn o unigolion yn cael eu dileu fel y gellir gwobrwyo ein landlordiaid da. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i weithredu'r ddeddfwriaeth rhentu cartrefi, fel y dywedais. Rwy'n awyddus iawn i gyflawni ein hymrwymiad i gael o leiaf chwe mis o amser paratoi ar gyfer tenantiaid, landlordiaid ac eraill drwy roi'r dogfennau allweddol y byddant eu hangen iddynt, a bydd hyn yn dechrau digwydd dros y misoedd nesaf.

Ar y tribiwnlys, rwy'n hapus iawn i barhau i edrych ar hynny. Nid wyf yn anghytuno â'r syniad o dribiwnlys tai mewn gwirionedd, ond mae'n rhaid ei osod yn ei gyd-destun, felly mae nifer o bethau eraill y bydd angen inni edrych arnynt ar yr un pryd. Ond nid wyf yn anghytuno ag egwyddor hynny mewn gwirionedd; mater o edrych ar y manylion fydd hi, fel bob amser.

Lleihau Allyriadau

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau allyriadau fel rhan o Gymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang? OQ56971

Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun cyflawni nesaf ar gyfer Cymru gyfan, sero-net Cymru, cyn COP26. Mae'r cynllun yn nodi'r camau sy'n rhaid i bob un ohonom eu cymryd drwy gydol tymor y Senedd hon, ac mae'n dechrau ein taith ddatgarboneiddio tuag at sero-net, gan gynnwys ein dull economi gylchol ar gyfer helpu i fynd i'r afael ag allyriadau defnydd.

Nid yr argyfwng byd-eang nesaf yw'r argyfwng hinsawdd a natur; mae eisoes gyda ni. Nid yw'n broblem y gallwn ei gadael i'n plant a'u plant hwythau. Rhaid inni weithredu yn awr. Fel Llywodraeth, ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddatgan argyfwng hinsawdd, i wahardd ffracio ac i osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn dros 60,000 o gartrefi fel rhan o'r degawd diwethaf o weithredu. Mae'r degawd nesaf o weithredu yn gwbl allweddol, ac mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae. Fel gwlad, rydym ar y blaen yn fyd-eang ym maes ailgylchu, ond mae rhwystrau gwirioneddol i drigolion yn ein cymunedau rhag gallu chwarae eu rhan yn y trawsnewidiad gwyrdd. Sut y bydd y Gweinidog nid yn unig yn annog ond yn cynorthwyo trigolion ledled Cymru i fyw bywyd gwyrddach?

14:20

Diolch, Buffy. Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae her newid hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol i bawb weithredu a gweithredu ar unwaith, fel y dywedais dro ar ôl tro. Nid wyf yn ymddiheuro am wneud hynny, ac efallai ei bod hi'n werth i'r Aelodau arfer â fy nghlywed yn ei ddweud, oherwydd byddwn yn ei ddweud yn ofnadwy o aml dros y blynyddoedd nesaf.

Rydym wedi dweud yn gwbl glir fod yn rhaid i'n cynllun Cymru sero-net fod yn gynllun i Gymru gyfan. Mae'n cynnwys addewidion i weithredu gan unigolion a sefydliadau ledled Cymru, yn ogystal â sut y gallant helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae ein cymunedau yn ei chwarae yn helpu i leihau allyriadau, yn ogystal ag ymdrin ag effeithiau newid hinsawdd ar eu bywydau hefyd. Felly, byddwn yn parhau i gefnogi sawl rhaglen grant i alluogi cymunedau i weithredu eu hunain. Felly, mae gennym y rhaglen camau cynaliadwy a gaiff ei rhedeg gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a ariannir drwy'r cyllid cyfrifon segur. Cefais gyfarfod da iawn gyda hwy yn ddiweddar iawn ynglŷn â sut y gallwn ddenu'r arian hwnnw i Gymru. Mae gennym raglen adnewyddu Cymru, sy'n rhoi cymorth i gymunedau nodi a gweithredu ar newid hinsawdd, o brosiectau ynni adnewyddadwy, i brosiectau tyfu bwyd yn y gymuned a'r mentrau effeithlonrwydd ynni a nododd hi. A hefyd gall pobl roi camau ar waith eu hunain drwy gerdded a beicio mwy, cynyddu effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi, lleihau defnydd ac ailddefnyddio eitemau, prynu'n lleol a phrynu cynnyrch mwy cynaliadwy. Mae gennym nifer fawr o raglenni sy'n canolbwyntio ar gefnogi unigolion i gymryd y camau hynny.

A hoffwn ddweud hyn hefyd wrth bobl ifanc Cymru sy'n gwrando heddiw—nid cyngor anobaith yw hyn. Gallwn newid hyn, ond rhaid inni wneud hynny, bob un ohonom, yn ein bywydau ein hunain ac yn ein cymunedau a gweithredu gyda'n gilydd. Felly, gyda'n gilydd gallwn yn bendant wneud gwahaniaeth a'n cyfrifoldeb ni yma yn y Senedd ac fel Llywodraeth yw rhoi'r platfformau ar waith i alluogi ein cymunedau i wneud y peth iawn.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.

Aflonyddu mewn Ysgolion

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod disgyblion yn cael eu hamddiffyn rhag aflonyddu mewn ysgolion? OQ56975

Mae gennym amrywiaeth o ganllawiau a chymorth i sicrhau diogelwch plant a phobl ifanc. Rwyf hefyd wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn sefydliadau addysg, a bydd y canfyddiadau'n chwarae rhan bwysig yn cefnogi sefydliadau ac yn llywio polisi Llywodraeth Cymru.

Diolch am hynny, Weinidog. Mae gwefan Everyone's Invited, lle gall disgyblion adrodd yn ddienw am gamdriniaeth ac aflonyddu, wedi taflu goleuni ar broblem sylweddol. Mae dros 90 o ysgolion yng Nghymru wedi cael eu henwi yn yr ymgyrch ar-lein, ond mae'r realiti'n debygol o gynnwys llawer mwy. Mae tystiolaeth Everyone's Invited yn peri gofid mawr, gyda rhai disgyblion yn dweud bod merched mor ifanc ag 11 oed dan bwysau i anfon lluniau noeth neu dderbyn lluniau noeth nad ydynt mo'u heisiau gan fechgyn. Gwyddom fod Ofsted wedi casglu yn ei adolygiad yn Lloegr fod aflonyddu rhywiol wedi'i normaleiddio i bobl ifanc erbyn hyn, ac rwy'n falch ynglŷn â'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'r ddweud a'i wneud gydag Estyn yn cynnal eu hadroddiad ar y mater. Wrth baratoi ar gyfer y canfyddiadau, pa fesurau ac adnoddau y mae'r Gweinidog yn paratoi i'w rhoi ar waith fel y gellir gweithredu ar y canfyddiadau cyn gynted â phosibl?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw, ac rwy'n rhannu gyda hi—. Roeddwn yn drist ac yn bryderus iawn wrth ddarllen y dystiolaeth ar wefan Everyone's Invited, ac mae unrhyw fath o aflonyddu, neu gam-drin yn wir, yn gwbl annerbyniol. Gwn y byddwn i gyd am i'r neges honno gael ei hanfon yn glir iawn o'r Siambr hon.

Rydym wedi cyflwyno mesurau eisoes cyn yr adroddiad gan Estyn. Mae nifer o'r eitemau a nodwyd yn adroddiad Ofsted yn ymyriadau sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru. Yn ogystal â'r rhai a oedd eisoes ar waith, ysgrifennais at bob un o'r ysgolion a nodwyd ar wefan Everyone's Invited. Ond rwyf am adleisio'r pwynt a wnaeth yr Aelod, ac mae'n bwynt pwysig iawn—rhaid inni beidio â chymryd yn ganiataol mai'r ysgolion hynny yw'r unig ysgolion lle gallai'r pethau hyn fod yn digwydd, ac mae llythyr wedi mynd at bob ysgol yng Nghymru i nodi'r camau y maent yn eu cymryd i ddiogelu eu dysgwyr. Yn ogystal â hynny, mae swyddogion yn fy adran yn gweithio, gydag awdurdodau lleol a chydag ysgolion unigol, i nodi arweinydd ar gyfer addysg rhyw a chydberthynas mewn dysgu proffesiynol a fydd yn helpu i gefnogi datblygiadau yn y maes hwn wrth inni dderbyn ein hadroddiad gan Estyn. Ac yn ychwanegol at hynny, yn ogystal â chomisiynu adnoddau ychwanegol yn y maes hwn i gefnogi ysgolion a dysgwyr, rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael, ac sydd mewn llawer o achosion yn cael eu defnyddio'n eang iawn, mor hygyrch â phosibl i ysgolion ac i ddysgwyr.

Ac yn olaf, wrth gwrs, mae amrywiaeth o linellau cymorth yn bodoli eisoes y gall unrhyw ddioddefwr aflonyddu neu gamdriniaeth gysylltu â hwy, ac maent yn rhoi cyngor personol a phenodol iawn. Ond fel y dywedais, bydd gennym gorff pellach o wybodaeth yn adroddiad Estyn a fydd yn ein helpu i siapio polisi y tu hwnt i hynny.

14:25

A allwch chi roi gwybod i'r Senedd am gamau sydd ar waith i hyrwyddo parch a thosturi yn yr ysgol, o ystyried y rôl hanfodol y mae'r ddau beth yn ei chwarae yn hyrwyddo lles ymhlith dysgwyr, ac yn creu dysgwyr hyderus na chânt eu dallu gan gywilydd yn ddiweddarach mewn bywyd? Ac a wnewch chi ymrwymo hefyd i adrodd i'r Senedd am unrhyw arfarniadau o'r manteision y gallai prydau ysgol am ddim i bawb eu cynnig mewn perthynas â dileu embaras a chywilydd yn yr ysgol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fel rhan o'r gwaith o gyflwyno rhan addysg rhyw a chydberthynas y cwricwlwm newydd yn effeithiol, ac yn ogystal â'r gwaith y bydd ysgolion yn ei wneud i wireddu'r maes iechyd a lles o ddysgu a phrofiad sy'n rhan annatod o'r cwricwlwm, mae hynny'n galw am arbenigedd, amser ac adnoddau arbenigol i sicrhau bod y math o amgylchedd cefnogol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn ei gwestiwn ar gael yn yr ysgol ar gyfer ein dysgwyr, i gynnal eu hyder a'u hymdeimlad ohonynt eu hunain.

Ym mis Mawrth eleni, fel y gŵyr yr Aelod, fe wnaethom gyhoeddi canllawiau statudol i ysgolion ar ddatblygu'r dull ysgol gyfan o ymdrin â lles dysgwyr, ac yng nghymuned ehangach yr ysgol yn wir. Mae rhan o hynny'n ymwneud â chynorthwyo ein pobl ifanc i feithrin gwytnwch drwy ddatblygu perthynas ymddiriedus ag eraill yn amgylchedd yr ysgol a thu hwnt, a hefyd i gefnogi athrawon, fel eu bod yn cael cymorth i allu ymdrin â materion y byddant yn dod ar eu traws a allai fod y tu hwnt i'w cymhwysedd uniongyrchol. Fel y gŵyr yr Aelod, mae gwaith eisoes ar y gweill mewn perthynas ag ymestyn cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Rwy'n awyddus iawn i rannu ein cynnydd yn y pethau hynny gyda'r Aelodau yn y Senedd maes o law.

Ffermydd Teulu Cymraeg

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch effaith ieithyddol ffermydd teulu Cymraeg yn cael eu gwerthu i gwmnïoedd er mwyn plannu coed ar gyfer rhaglenni gwrthbwyso carbon? OQ56943

Rwy'n cynnal trafodaethau gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar sawl mater sy'n berthnasol i'n portffolios, ac wedi cael trafodaeth benodol gyda'r Dirprwy Weinidog ar y cwestiwn penodol hwn. Mae cyflawni'n targedau adeiladu coetiroedd yn allweddol i'r maes newid hinsawdd ac yn creu ffynhonnell incwm newydd i ffermwyr, yn cynnwys ffermwyr sydd mewn teuluoedd sy'n siarad Cymraeg. Rŷn ni’n cydnabod na ddylai buddsoddiadau effeithio ar gymunedau, na chwaith newid y math o dirfeddianwyr.

Roeddwn i'n synnu i glywed eich cyd-Weinidog gynnau yn dweud nad yw'r Llywodraeth yn meddwl bod hwn yn broblem anferth, achos dwi'n ymwybodol o 10 fferm yng nghyffiniau dyffryn Tywi'n unig sydd wedi cael eu prynu gan gwmnïau masnachol, a gwelon ni Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud yr wythnos yma eu bod nhw yn gweld adroddiadau wythnosol. Dyma fersiwn amaethyddol y creisis ail gartrefi ehangach, oherwydd dyw teuluoedd fferm lleol ddim â'r capasiti ariannol i gystadlu gyda'r cwmnïoedd allanol yma, a beth dŷn ni'n ei weld ydy symudiad tuag at batrwm perchnogaeth tir sydd yn debycach i'r hyn welon ni yn y ganrif cyn y diwethaf. A dweud y gwir, mae'r potensial o ran diboblogi yn ymdebygu i'r hyn gwelon ni yn yr Alban gyda chliriadau'r ucheldiroedd yn y ddeunawfed ganrif. Ac, wrth gwrs, yn ddieithriad yn fy achos i, teuluoedd fferm Cymraeg oedd y rhain, ac mae hynny'n wir am y rhan fwyaf o'r ffermydd trwy Gymru oherwydd natur y diwydiant. Felly, colli tir, colli iaith. A allwn ni gael astudiaeth traw effaith gan yr uned gynllunio ieithyddol o fewn eich adran i weld yr effaith y gall hyn ei gael ar drosglwyddo iaith o fewn ein cymunedau Cymraeg ni?

Wel, mae'r newid yn economi cefn gwlad wrth gwrs yn elfen cwbl greiddiol o ran cynllunio polisi iaith, felly mae'r pethau yma o dan drosolwg cyson. Nid clywed yr hyn wnaeth yr Aelod ddweud gwnes i yn ateb y Gweinidog Newid Hinsawdd. Dyw e ddim yn glir eto beth yw maint y broblem. Dŷn ni ddim eisiau hwn i fod yn broblem, ac rŷn ni eisiau cydweithio gyda ffermwyr i sicrhau na fydd e yn broblem. O ran y gwerthuso rŷn ni wedi'i wneud eisoes o'r polisi, prin yw'r dystiolaeth ar hyn o bryd o ran newid perchnogaeth tir i fuddsoddwyr. Allan o dros 1,100 o gwsmeriaid, mae gan 35 o gwsmeriaid gyfeiriadau y tu allan i Gymru. Rŷm ni wedi gwneud gwaith i edrych ar o ble mae'r cynigion yma'n dod, ac mae 17 o'r 35 prosiect sydd wedi cael eu hariannu trwy gynllun grant coetir Cymru o dan 6 hectar, felly mae'n anhebygol, yn y cyd-destun hwnnw, mai cynrychioli buddsoddwyr mawr sydd am droi tir cyfan yn goetiroedd yw'r rheini. Ond mae'n bwysig, fel gwnes i ddweud yn gynharach, ein bod ni'n cadw golwg ar hyn ac, os oes tystiolaeth yn datblygu ei fod yn broblem, dyna rŷm ni eisiau ei gywiro.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Weinidog, cysylltodd mudiad Mercher y Wawr â mi yn ddiweddar, yn mynegi pryder bod siaradwyr Cymraeg yn wynebu heriau o ran cynnal busnes bancio wyneb yn wyneb ac ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg. Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod busnesau ar draws Cymru yn gweithredu'n ddwyieithog? A pha gymorth ychwanegol sy'n cael ei gynnig i'r busnesau hynny sy'n methu â chydymffurfio â'r gofynion hyn?

Wel, mae gyda ni amryw ffyrdd o gefnogi busnesau ar draws Cymru i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac rwy’n talu teyrnged i’r gwaith y mae’r mentrau iaith yn ei wneud ym mhob cymuned yng Nghymru i gefnogi’r economi leol i ddarparu gwasanaethau o'r fath, ynghyd hefyd â gwasanaeth Helo Blod, sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu a Helo Blod Lleol, sy’n gweithredu drwy’r mentrau iaith er mwyn gwneud yn union beth y mae'r Aelod yn sôn amdano fe. Ond hefyd, rwy'n ymwybodol iawn fod darpariaeth bancio yn cael ei gyfyngu mewn ardaloedd o Gymru. Rwy'n gwybod am enghreifftiau penodol o hynny ac mae hyn yn fater i fusnesau, ond fel y mae'r cwestiwn yn ei ddweud, hefyd i fudiadau yn ehangach na hynny. Rŷm ni wedi bod yn edrych, fel y mae'r Aelod yn gwybod, ar impact, dros y flwyddyn ddiwethaf, o newidiadau, gan gynnwys COVID, er enghraifft, ar fudiadau Cymraeg yn ein cymunedau ni ac mae cynllun gweithredu gyda ni yn delio â'r anghenion sydd yn codi yn sgil hynny.

Diolch. Rydym i gyd yn cytuno ein bod am weld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ym mhob cornel o'r genedl. Yn aml, mae Dinbych-y-Pysgod, sydd yng nghanol fy etholaeth, yn cael ei ystyried yn gymuned draddodiadol Gymraeg ei hiaith, ond mae'r ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Hafan y Môr, wedi cael ei disgrifio gan y cynghorydd lleol fel 'bursting at the seams', ac mae Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd hefyd yn orlawn. Gyda'r cynnydd yn y galw gan rieni i'w plant fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, sut mae'r Gweinidog yn bwriadu cefnogi'r galw cynyddol hwn a sicrhau nad yw cyllid ar gyfer y ddarpariaeth addysg bresennol yn cael ei effeithio?

Wel, mae'r Aelod yn llygad ei le wrth ddweud fod y galw am addysg Gymraeg mewn ysgolion mewn mannau yng Nghymru ddim yn cael ei ddiwallu, felly, yn sicr mae angen mwy o uchelgais yn y ddarpariaeth mewn amryw gymuned ar draws Cymru. Ar hyn o bryd, fel bydd yr Aelod yn gwybod, mae'r awdurdodau lleol yn gweithio ar eu cynlluniau strategol er mwyn darparu addysg Gymraeg yn eu hardaloedd nhw er mwyn i'r rhain ddod i rym erbyn yr amser hyn y flwyddyn nesaf, mwy neu lai. Rwy'n disgwyl gweld y rheini ym mis Ionawr. Maen nhw wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda swyddogion yn Llywodraeth Cymru a chyda'i fforymau iaith lleol er mwyn sicrhau yr hyn rwyf i eisiau ei weld yn y cynlluniau hynny—eu bod nhw'n uchelgeisiol, ac nid yn unig eu bod nhw'n diwallu'r galw, ond eu bod nhw hefyd yn cyfrannu at greu'r galw, a'u bod yn esbonio ac yn gwerthu, fel petai, y syniad o addysg Gymraeg. Ond fel y mae'r Aelod yn ei ddweud, mewn amryw gymunedau, mae hynny'n digwydd eisoes—mae'r galw yn ehangach na'r ddarpariaeth. Felly, ynghyd â hynny, rŷm ni wedi, wrth gwrs, eleni darparu cronfa ehangach er mwyn adeiladu ysgolion cynradd Cymraeg ac rwyf yn gobeithio y bydd cynigion diddorol a chreadigol yn dod i wario'r arian hynny.

Diolch. A phan wnaethoch eich datganiad ar 'Cymraeg 2050' cyn toriad yr haf, gofynnais y cwestiwn hwn i chi, ond yn anffodus ni chefais ateb iddo. Dywedoch chi eich bod am annog siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychwelyd o brifysgol i helpu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion. Tynnais sylw at y ffaith bod hyn yn ei wneud yn fwy anodd i recriwtio athrawon o'r tu allan i Gymru, felly yn lleihau'r cymysgedd o ddoniau a chefndiroedd y mae athrawon newydd yn dod â nhw i'n hysgolion. A allwch chi egluro nawr sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod unrhyw un sy'n dymuno dysgu yng Nghymru, ond nad oes ganddo'r sgiliau iaith, yn gallu dod o hyd i swydd fel athro yng Nghymru? Diolch.

14:35

Wel, mae'n bosibl i bobl ddysgu yng Nghymru er nad oes gyda nhw sgiliau iaith penodol. Beth dŷn ni eisiau ei weld—. Ac mae gyda ni gynllun peilot yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i annog myfyrwyr yn ein prifysgolion ni i weithio fel athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddysgu'r Gymraeg yn ein hysgolion ni. Byddwn ni'n cyhoeddi manylion pellach am y peilot hwnnw maes o law, ond mae'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Diolch, Lywydd. Mi oeddwn i'n falch iawn o weld bod niferoedd profion COVID positif mewn ysgolion wedi gostwng yn sylweddol yn ystod yr wythnos diwethaf—dwi'n siŵr eich bod chithau yn falch o weld hynny hefyd—gostyngiad o 44 y cant. Ond mae ysgolion yn parhau i fod mewn sefyllfa fregus iawn, wrth gwrs, efo rhai dosbarthiadau efo hanner y disgyblion wedi profi'n bositif am COVID. Mae prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru dros iechyd, Dr Rob Orford, wedi tynnu sylw at fater o bryder arall ar ben hyn, sef y gallai ail ymddangosiad afiechydon anadlol a gafodd eu hatal yn ystod y cyfnod clo diwethaf achosi problemau. Hynny yw, gall plant gael eu cyd-heintio efo COVID a salwch arall sy'n effeithio ar yr ysgyfaint ac yn y blaen—ffliw, annwyd ac ati. Mae hyn yn bryder. Fedrwch chi roi asesiad i ni, neu ydy'r Llywodraeth yn gwneud asesiad, o'r risg penodol yma, sy'n gysylltiedig efo diffyg imiwnedd ymhlith plant? Ac yn sgil hynny, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yn safleoedd diogel dros y gaeaf?

Wel, mae'r cynlluniau sydd gyda ni eisoes ar waith—y fframweithiau sy'n gweithio ym mhob rhan o Gymru—bwriad y polisi hwnnw, wrth gwrs, yw sicrhau bod ein hysgolion ni yn saff ar gyfer ein dysgwyr ni a'n hathrawon ni a'r gweithlu ehangach, a bod y mesurau sy'n cael eu cymryd yn ein hystafelloedd dosbarth ni ac yn ystâd ehangach yr ysgol yn adlewyrchu anghenion yr ysgol ei hun ond hefyd y cyd-destun iechyd lleol o ran iechyd cyhoeddus. O ran y pwynt penodol y gwnaeth yr Aelod ei godi ynglŷn â'r cyngor penodol, mi wnaf i ystyried hynny gyda'r gwyddonydd a gweld beth y gallaf i ei rannu gydag Aelodau yn ehangach am hynny.

Diolch. Mi fyddai hynna'n ddefnyddiol iawn, a dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo fi bod awyru yn yr adeiladau ysgol yn hollbwysig, yn enwedig rŵan, o feddwl efallai bod yna gyd-heintio yn digwydd, sy'n gwneud y broblem yn waeth.

Mi fuaswn i'n licio gofyn i chi am broblem arall ynglŷn â diogelwch ysgolion, sef asbestos, a beth ydy'ch ymateb chi i'r canfyddiad diweddar bod asbestos mewn 60 y cant o ysgolion Cymru. Mae gwybodaeth ddiweddar wedi datgelu bod yna fwy na 900 o ysgolion yn cynnwys asbestos. Felly, hoffwn i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu cynghorau sir ac ysgolion i fonitro, ac, yn bwysicach, i gael gwared ar asbestos.

Diolch am y cwestiwn pellach hwnnw. Trwy'r arian revenue support grant dŷn ni'n ei ddarparu i awdurdodau lleol, mae'n bosib iddyn nhw ddefnyddio'r ffynhonnell arian honno i sicrhau bod eu hysgolion nhw'n mynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Ond dŷn ni hefyd yn gweithio gyda'r Health and Safety Executive a chydag Ystadau Cymru i gefnogi arfer da i ddelio ag asbestos mewn ysgolion ac mewn adeiladau coleg hefyd. A dŷn ni hefyd yn darparu canllawiau penodol i awdurdodau lleol i'w helpu nhw i fynd i'r afael â'u cyfrifoldebau nhw o ran monitro, a, phan mae angen hynny, cael gwared ar asbestos yn eu hadeiladau nhw.

Mi fyddwch chi'n gwerthfawrogi bod yr undebau yn benodol yn gofyn am weithredu brys ar y mater yma, ac yn gobeithio am newyddion i'r perwyl yna gennych chi yn fuan.

O ganlyniad i'r pandemig, rydym ni'n gwybod bod ysgolion, staff a disgyblion wedi bod o dan bwysau anferth. Mae yna adroddiad diweddar gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru sy'n tynnu sylw at sut mae'r pandemig wedi effeithio ar les addysgwyr, yn enwedig ar yr arweinwyr yn yr ysgolion—eu lles nhw'n cael ei effeithio gan lwyth gwaith, mesurau atebolrwydd, y broses arolygu, materion staffio a phersonél, a hefyd, wrth gwrs, ariannu a rheoli cyllidebau. Mae yna faich gwaith aruthrol ar eu hysgwyddau nhw.

Felly, a fedrwch chi amlinellu pa gamau byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau lles arweinwyr ein hysgolion ni, a sut mae'r Llywodraeth yn mynd i fod yn ymateb i'r pwysau sy'n cael ei achosi ar draws ystod o feysydd o ganlyniad i lwyth gwaith arolygiadau a rheoli cyllidebau?

14:40

Wel, mae hyn yn gwestiwn pwysig iawn, a dwi eisiau cydnabod y pwysau mae prifathrawon ac athrawon o dan ar hyn o bryd, ac wedi bod dros y cyfnod o flwyddyn a mwy yn ddiweddar. Rôn i'n trafod bore dydd Mawrth gydag awdurdodau lleol ac undebau dysgu, a'r undebau gweithlu addysg mwy eang na hynny, ac yn gofyn iddyn nhw i basio ymlaen ein diolch ni fel Llywodraeth, ac, rwy'n siŵr, ein diolch ni fel Senedd, i'w gweithleoedd am yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud mewn amgylchiadau anodd dros y flwyddyn ddiwethaf. 

O ran darpariaeth benodol i gefnogi llesiant ac iechyd meddwl arweinwyr ysgol, rŷn ni wedi bod yn gwneud amryw o bethau. Mae'r fframwaith ysgol gyfan ar gyfer llesiant yn cynnwys ymyraethau sydd yn cefnogi athrawon a phenaethiaid hefyd, gan gynnwys darpariaeth benodol gan Education Support ac eraill, er mwyn iddyn nhw hefyd gael gofod i allu delio â'r pwysau sydd wedi bod yn realiti iddyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf. 

O ran adnoddau pellach, rŷn ni wedi, wrth gwrs, trwy renew and reform, darparu symiau sylweddol o arian er mwyn recriwtio mwy o staff er mwyn codi ychydig o'r pwysau ar benaethiaid mewn ysgolion i ddelio yn benodol ag impact COVID. Felly, mae hynny wedi cael yr effaith o gynyddu darpariaeth a chynyddu capasiti yn ein hysgolion ni, a hefyd, o ran cwestiwn atebolrwydd ac asesiadau, bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, am y camau gwnes i ddatgan yn ystod yr haf o ran codi rhai o'r gofynion hynny dros y cyfnod yma, gan ddeall yn iawn bod y pwysau sy'n dod yn sgil hynny, efallai nad oes croeso i hynny ar hyn o bryd wrth i ysgolion ddelio â sialensiau COVID hefyd.

Ac ynghyd â hynny, mae gyda ni weithgor gydag awdurdodau lleol ac undebau sydd yn gweithio ar fesurau y gallwn ni eu cymryd i leihau gofynion biwrocrataidd efallai ar ein hysgolion ni er mwyn sicrhau ein bod ni'n codi'r hyn o bwysau y gallwn ni. 

Lleoliadau Annhraddodiadol

4. Sut mae Llywodraeth Cymru'n galluogi dysgwyr i ddysgu mewn lleoliadau annhraddodiadol? OQ56968

Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn nodi ein hymrwymiad i lwyddiant a llesiant pob dysgwr. Mae addysg heblaw yn yr ysgol yn rhan integredig o'r continwwm addysg. Mae addysg heblaw yn yr ysgol yn ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc sydd, am ba reswm bynnag, angen cymorth wedi'i deilwra y tu allan i ysgolion prif ffrwd.

Weinidog, diolch ichi am eich ateb. Mae'n fy atgoffa o ddau fater a godwyd gan drigolion Cymru sydd eisiau cael mynediad at addysg ond na allant wneud hynny. Ceisiodd un preswylydd yn Alun a Glannau Dyfrdwy wneud cymhwyster addysg ôl-raddedig yng ngholeg Cheshire East, sefydliad lle gall dysgwyr o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig gael cyllid i'w fynychu, ond yn anffodus, nid ydym yn cydnabod y cwrs, ac er ei fod ar garreg ei drws, ni allai fynychu'r cwrs oherwydd hynny.

Weinidog, fe fyddwch hefyd yn ymwybodol o bryderon a godwyd drwy un o ddeisebau'r Senedd—ac rwyf eisiau ei gwneud yn glir yma nad wyf yn siarad ar ran y pwyllgor; rwy'n siarad fel Aelod o'r Senedd. Ond nododd y ddeiseb honno nad yw cyllid ôl-raddedig ond yn gymwys ar gyfer prifysgolion traddodiadol, gan eithrio myfyrwyr sy'n dewis gwneud gradd Meistr mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg neu feddygaeth drwy ddarparwyr amgen. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi mai'r sefydliad gorau yn aml yw'r un y gall y dysgwr gael mynediad ato, ac na ddylem osod rhwystrau yn ffordd pobl sy'n ceisio cael cymwysterau?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel ym mhob rhan o'r DU—. Mae gan bob rhan o'r DU drefn lle mae darparwyr addysg yn gymwys i gael cymorth drwy'r trefniadau priodol ym mhob un o'r pedair gwlad, ac nid yw'r ffaith bod un sefydliad yn gallu bod yn gymwys yn un o'r gwledydd yn golygu'n awtomatig eu bod yn bodloni'r meini prawf ym mhob un o'r pedair gwlad. Byddai angen iddynt gyflwyno ceisiadau am gydnabyddiaeth mewn unrhyw wlad lle gwneir cais am gyllid. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, CCAUC sy'n gyfrifol am lawer o'r broses mewn perthynas â'r cwestiynau hyn. Ar hyn o bryd, mae angen i ddarparwyr amgen wneud cais am ddynodiad penodol i'w cyrsiau er mwyn i fyfyrwyr o Gymru allu cael cymorth i fyfyrwyr. Pwrpas hynny wrth gwrs yw i ddiogelu'r pwrs cyhoeddus, ond i ddiogelu buddiannau myfyrwyr hefyd, fel y gallwn sicrhau bod y darparwyr yn gallu bodloni'r meini prawf perthnasol er budd y myfyrwyr eu hunain. Os oes unrhyw fyfyriwr unigol yng Nghymru yn pryderu am statws cwrs y gallent fod â diddordeb ynddo, byddwn yn argymell mai'r cam cyntaf yw cysylltu â darparwr y cwrs i wirio y bydd cymorth i fyfyrwyr ar gael cyn derbyn y lle hwnnw. Dyna'r adeg pan fydd modd gofyn unrhyw gwestiynau a allai godi.

14:45

Hoffwn ddiolch i Mr Sargeant hefyd am godi'r cwestiwn hwn y prynhawn yma. Fel y gwnaethoch ei gydnabod, Weinidog, i rai dysgwyr, nid dysgu traddodiadol mewn ysgolion yw'r dewis gorau iddynt bob amser. Mae llawer o bobl ifanc yn aml yn ffynnu mewn lleoliadau anhraddodiadol, sy'n eu galluogi i symud i fyny'r ysgol addysgol ar eu cyflymder eu hunain, a chanolbwyntio efallai ar feysydd diddordeb penodol sy'n fwy addas ar eu cyfer, ac yn wir, yn fy mhrofiad fy hun, roeddwn yn rhywun a addysgwyd gartref hyd at oedran ysgol uwchradd, a gwn o lygad y ffynnon pa mor dda y gall rhai lleoliadau anhraddodiadol weithio i rai teuluoedd. Efallai fod y canlyniad yn amheus yn fy achos i yma, ond yn sicr, roedd y profiad o fudd i fy nheulu. Ond wrth gwrs, mae llawer o'r cyfleoedd a gyflwynir gan leoliadau anhraddodiadol yn seiliedig ar ddewis rhieni. Felly, Weinidog, sut y byddwch yn parhau i gefnogi rhieni i allu dewis y lleoliad cywir i'w plant ddysgu yn y ffordd fwyaf effeithiol?

Wel, yng nghyd-destun y cwestiwn y mae'n ei godi am addysg ddewisol yn y cartref—ac rydym yn cydnabod y ffordd wylaidd y mae'n cyflwyno manteision hynny, rwy'n credu—hoffwn atgoffa'r Aelod, o bob un o'r pedair gwlad yn y DU, Cymru sy'n darparu'r cymorth mwyaf hael i'r gymuned addysg ddewisol yn y cartref. Mae'r cyllid ar gyfer y lefel honno o gymorth y flwyddyn hon oddeutu £1.7 miliwn. Fel y gŵyr, yn y Senedd flaenorol, cafwyd ymgynghoriad ar gyflwyno newidiadau i'r trefniadau rheoleiddio mewn perthynas ag addysg ddewisol yn y cartref er mwyn cefnogi awdurdodau lleol a'r gwaith y gallant ei wneud gyda rhieni sy'n dewis addysgu gartref. Rwy'n glir yn fy meddwl bod angen i hynny fod yn rhan o gynnig ehangach sy'n gallu cefnogi addysgwyr yn y cartref yn y ffordd y mae'n disgrifio, ac rwy'n falch iawn fod Cymru'n arwain y ffordd ar draws y DU gyda'r ddarpariaeth honno.

Cofrestru i Bleidleisio

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch gweithio gydag ysgolion a cholegau i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cofrestru i bleidleisio? OQ56947

Mae cefnogi pobl ifanc i arfer eu hawliau democrataidd yn flaenoriaeth, nid dim ond o ran addysg, ond er budd y Llywodraeth gyfan. Rwy'n trafod gyda’r Cwnsler Cyffredinol ffyrdd o gydweithio er mwyn cynyddu nifer y bobl ifanc 16 ac 17 oed sy’n cofrestru.

Diolch yn fawr ichi, Weinidog, oherwydd mae e'n hollbwysig, onid yw e? Dyma pam rydym ni fan hyn—rydym ni'n trafod dyfodol y bobl ifanc yma, a siom fawr, siŵr o fod, i'r rhan fwyaf ohonom ni fan hyn heddiw, oedd cyn lleied o bobl ifanc wnaeth bleidleisio: hanner y bobl 16 ac 17. Llai na hanner wnaeth gofrestru i bleidleisio. Problem arall, wrth gwrs, yw'r hygyrchedd i bleidleisio. Dwi'n cofio siarad ag un ferch ifanc, 17 mlwydd oed, ar ôl i'r bocsys pleidleisio gau, yn dweud ei bod wedi methu â chael cyfle i bleidleisio. Aeth hi'n syth o'r ysgol i'w gwaith hi, ac, felly, heb gael cyfle i bleidleisio. Pa drafodaethau ydych chi, fel Llywodraeth, yn eu cael gydag ysgolion a cholegau er mwyn dangos i'r bobl ifanc y pwysigrwydd o bleidleisio, ond hefyd i wneud e'n fwy hygyrch iddyn nhw bleidleisio? Diolch yn fawr. 

14:50

Wel, rwy'n rhannu diddordeb yr Aelod mewn sicrhau ein bod ni'n cynyddu lefel gofrestru pobl 16 ac 17. Rhyw 43 y cant o bobl yr oed hynny wnaeth gofrestru, o gymharu â rhyw 77 y cant o'r boblogaeth yn gyffredinol, felly mae'n sicr bod angen cefnogi'n pobl ifanc ni i allu cofrestru. Mae dwy elfen o ran y gwaith rydw i'n gallu ei wneud i sicrhau ein bod ni'n gwneud hynny. Mae rhan ohono fe ynghlwm â'r gwaith ar y cwricwlwm, a bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, pa mor bwysig yw ymwybyddiaeth o'r cyd-destun democrataidd a'n sefydliadau ni yma yng Nghymru i ddelifo'r cwricwlwm mewn ffordd sydd yn cefnogi ein dysgwyr ni. Ond hefyd, mae gennym ni ambell ymyrraeth benodol ar waith, yn cynnwys, yn yr etholiad diwethaf—efallai fod yr Aelod yn gwybod am hyn—yn un o'r ysgolion yn ei ranbarth ef, beilot ar gyfer sicrhau bod disgyblion yn gallu cwestiynu gwleidyddion ar-lein, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus. Rŷn ni wrthi'n gwerthuso'r peilot yna'n ffurfiol ar hyn o bryd gyda'r gobaith o allu ei ymestyn mewn ffordd sydd yn cefnogi'n hysgolion ar draws Cymru. Un o'r pethau eraill rŷn ni wedi bod yn ei wneud yw darparu ffynhonnell arian i bob awdurdod lleol yng Nghymru i allu cefnogi recriwtio pobl i gynyddu lefel gofrestru ymhlith pobl sydd newydd gael yr hawl, yn cynnwys pobl 16 ac 17, neu bobl sydd, ar y cyfan, ddim wedi dewis cofrestru. Felly, mae ymyraethau penodol ar waith o ran y cwricwlwm, ond hefyd o ran cefnogi disgyblion yn fwy uniongyrchol.

Prosiectau Adeiladu Ysgolion Newydd

6. Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod pob prosiect adeiladu ysgolion newydd yn ddi-garbon? OQ56953

Mae gan y sector addysg rôl sylfaenol yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng hinsawdd. Roeddwn yn trafod hyn mewn cyfarfod ag Aelodau eraill o'r Cabinet ac arweinwyr awdurdodau lleol y bore yma. Dyna pam y mae carbon sero-net yn ystyriaeth allweddol o dan fuddsoddiad y rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a pham y mae cyllid ychwanegol eisoes ar gael i gefnogi prosiectau peilot carbon sero-net mewn ysgolion.

Nid wyf yn hollol siŵr a yw carbon sero-net yn ystyriaeth allweddol neu'n rhwymedigaeth ym mhob prosiect newydd, felly efallai y gallech egluro hynny. Roeddwn eisiau tynnu sylw at y ffaith fy mod, mewn bywyd blaenorol, yn arolygydd lleyg gydag Estyn, ac roeddwn mewn ysgol yn y Cymoedd—roedd hyn dros ddegawd yn ôl—a oedd wedi gosod pwmp gwres o'r ddaear yn ei adeilad newydd, ond roeddent yn dweud na wyddent sut i'w ddefnyddio, felly roeddent yn dal i ddefnyddio nwy. Nid oedd hynny'n ymwneud â'r hyn yr oeddem yn ei arolygu mewn gwirionedd, ond gadewais y lle gan feddwl, 'Mae hyn yn ofnadwy.' Rwy'n ymwybodol o ysgolion yng Nghaerdydd lle nad yw'r system ddŵr llwyd, er enghraifft, erioed wedi gweithio, neu mae'r systemau digidol ar gyfer rheoli adeiladu mor gymhleth fel nad oes neb yn gwybod sut i'w defnyddio. Felly, Weinidog, beth a wnewch i sicrhau bod awdurdodau lleol yn codi'r safon mewn gwirionedd ac yn sicrhau, pan fyddant yn cymeradwyo prosiectau, eu bod yn gwybod bod pob system yn yr adeilad yn gweithio'n iawn a bod y defnyddiwr terfynol, sef yr ysgol, yn gwybod sut i ddefnyddio'r offer hwn?

Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, os caf fi ddweud. Ar y pwynt cyntaf, mewn perthynas â charbon sero-net, rydym ar y daith i sicrhau bod pob ysgol yn ysgol carbon sero-net, ond yn amlwg, nid ydym yn agos at gyrraedd y lan ar hyn o bryd. Ein tasg fel Llywodraeth yw gwneud cynnydd mor gyflym â phosibl ar hyd y llwybr hwnnw. Y rôl y mae'r cynlluniau peilot yn ei chwarae yn hynny o beth yw ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau a nodwyd gan yr Aelod yn ail ran ei chwestiwn, sef sut y gellir cyflawni rhai o'r gofynion polisi hynny'n ymarferol. Felly, mae cwestiynau yma am aeddfedrwydd peth o'r dechnoleg, am rai problemau capasiti y gadwyn gyflenwi. Mae pob un o'r rheini'n gyfyngiadau ymarferol ar ba mor gyflym y gallwn symud ar hyd y llwybr hwnnw. Ond dyna rôl y cynllun peilot—ein helpu i wneud hynny'n gyflymach.

Ar yr ail bwynt, ynglŷn â sut y cysylltwn y gwaith o adeiladu'r adeilad â gweithrediad yr adeilad, fel y dywed ei chwestiwn, er mwyn cael gwerth llawn o'r buddsoddiad hwnnw a'r budd llawn yn amgylcheddol, mae angen inni sicrhau bod dealltwriaeth rhwng awdurdodau lleol a'u rheolwyr ystadau ynglŷn â sut y mae'r adeiladau di-garbon newydd yn gweithio. Un o'r materion y mae'r prosiectau peilot yn eu harchwilio yw sut y gallwn ddatblygu adnoddau addysgu a dysgu, i gefnogi'r ysgolion eu hunain a hefyd i ddarparu cymorth a hyfforddiant technegol i helpu'r staff i gynnal a gweithredu'r ysgolion mewn ffordd sy'n eu galluogi i fanteisio'n llawn ar y pethau hyn.

Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi targed lleihau allyriadau carbon o 37 y cant erbyn 2025, a 67 y cant erbyn 2030. Pa asesiadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud o allbwn carbon presennol ein hysgolion a pha fuddsoddiad sydd ei angen ganddo i gynorthwyo pob ysgol i gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon ei Lywodraeth?

14:55

Wel, gan adleisio'r pwynt a godwyd yn y drafodaeth yn gynharach, yn sicr, gallwn wneud mwy o gyfraniad na'r hyn a wnawn ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod wedi gosod polisi i ni ein hunain o sicrhau ein bod yn symud tuag at ysgolion carbon sero-net, ond mae angen gwneud hynny mewn ffordd y gellir ei chyflawni, ac mae'r cynlluniau peilot a lansiwyd gennym—mae un ym Mro Morgannwg, mae un yn sir y Fflint, mae tair ysgol yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu hystyried o dan y trefniadau—yn ein helpu i ddeall beth arall sydd angen inni ei wneud a pha mor gyflym y gallwn symud ar hyd y llwybr i sicrhau bod yr ystâd ysgolion ym mhob rhan o Gymru yn manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf, y dulliau adeiladu diweddaraf, er mwyn cyflawni ei chyfraniad tuag at ddatgarboneiddio'r ystâd gyhoeddus yng Nghymru.

Dal i Fyny ym Maes Addysg

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddal i fyny ym maes addysg ar ôl y pandemig? OQ56966

Lles a chynnydd ein dysgwyr yw fy mhrif flaenoriaeth. Mae'r cynllun adnewyddu a diwygio yn nodi sut y byddwn yn cefnogi'r dysgwyr yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig. Rydym wedi dyrannu dros £160 miliwn tuag at y cymorth hwn y flwyddyn ariannol hon—mwy o wariant y pen i ddysgwyr nag unrhyw le arall yn y DU.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n amlwg yn falch iawn fod gan Lywodraeth Cymru gynllun, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni, fel Aelodau o'r Senedd, yn gallu monitro gweithrediad a chynnydd y cynllun hwnnw. A gaf fi ofyn, a fyddwch yn cyhoeddi cerrig milltir allweddol ac yn sicrhau bod adroddiadau rheolaidd ar gael i Aelodau o'r Senedd er mwyn sicrhau ein bod yn gallu mynd i'r afael â'r rhaglen ddal i fyny y mae angen iddi ddigwydd ar gyfer y bobl ifanc a'r plant ledled Cymru sydd wedi eu gadael ar ôl i'r fath raddau gyda'u haddysg yn ystod y pandemig?

A gaf fi annog yr Aelod efallai i fyfyrio ar y term 'dal i fyny'? Nid wyf yn siŵr mai dyna'r ffordd orau o gymell ein dysgwyr yng nghyd-destun y flwyddyn/18 mis y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u cael. Gwn fod rhannau eraill o'r DU wedi dewis y term hwnnw, ond rwy'n credu y bydd cynnig ffordd fwy cefnogol i ddysgwyr o ddisgrifio'r modd yr ydym yn ceisio eu helpu yn fwy effeithiol yn y pen draw.

Ar y pwynt penodol y mae'n ei wneud serch hynny, am gynnydd yn erbyn y cynllun adnewyddu a diwygio, rwy'n credu fy mod am ei gyfeirio at y diweddariad a gyhoeddais ym mis Medi ynghylch gweithredu'r cynllun adnewyddu a diwygio, sy'n cynnwys ymrwymo adnoddau ychwanegol ar gyfer addysg drochi yn y Gymraeg, cymorth i athrawon newydd gymhwyso a chymorth ar gyfer adferiad dysgu. Felly, credaf fod hynny'n rhoi eglurhad iddo o'r sefyllfa ddiweddaraf o ran sut y mae'r cyllid yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgolion. Gwn y bydd yn croesawu'r ffaith mai'r egwyddor sylfaenol ar gyfer y rhaglen hon yw sicrhau bod ysgolion eu hunain yn gwneud y dyfarniadau gorau posibl i gefnogi'r dysgwyr. Hwy sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu carfannau penodol, ac felly dyna yw egwyddor sylfaenol, os mynnwch, y ffrwd gyllido hon. Ond hefyd byddaf yn gwerthuso effaith y cynllun—mae hyn eisoes ar y gweill mewn gwirionedd—a byddaf yn hapus i rannu canlyniadau hynny gyda'r Aelodau maes o law wrth gwrs.

Weinidog, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â thad disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol sydd wedi colli gwerth misoedd o'i addysg a'i ddatblygiad hollbwysig yn ystod y pandemig wrth gwrs, ac yn wahanol i'w blant eraill, ni fu cyfle i barhau ag addysg arbenigol iawn ei fab gartref. Nid yw'r awdurdod lleol wedi cynnig unrhyw hyfforddiant i rieni wneud hyn y tu allan i oriau gwaith arferol. A gaf fi ofyn felly pa ddarpariaethau adfer addysg penodol a wneir ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, sydd ond wedi gallu cael lefel gyfyngedig o ddysgu yn y cartref yn ystod y cyfyngiadau symud? Hefyd, a all Llywodraeth Cymru ddarparu pecynnau profion poer LAMP PCR anymwthiol rhad ac am ddim ar gyfer y cartref a phrofion cyfnodol ar gyfer yr ysgol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol na allant wneud profion swab ymwthiol? Mae llawer o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hanfon adref ac yn gorfod ynysu, gan olygu eu bod yn colli mwy fyth o ysgol am na allant ddefnyddio'r dulliau profi ymwthiol er mwyn dychwelyd i'r ysgol yn ddiogel. Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei ddau gwestiwn pwysig. Ar yr ail bwynt, byddaf yn ysgrifennu ati'n benodol ynglŷn â hynny, os caf. Ar y pwynt cyntaf, mae'r rhaglen adnewyddu a diwygio a nodais yn awr wedi'i phwysoli'n benodol i adlewyrchu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion, felly mae'r cyllid sy'n dilyn hynny a'r dyraniad i ysgolion yn adlewyrchu hynny'n benodol a dylai fod ar gael i wneud darpariaeth benodol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n cydnabod yr heriau a ddisgrifia i'r etholwr a ysgrifennodd ati. Dyna un o'r rhesymau pam y dyrennir yr arian yn y ffordd honno.

15:00
Safonau Uchel mewn Addysg

8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod safonau uchel mewn addysg yn cael eu cyflawni? OQ56951

Cenhadaeth ein cenedl yw codi safonau addysg ar gyfer ein holl blant a phobl ifanc. Byddwn yn parhau i wneud hyn drwy ein rhaglen ddiwygio eang a buddsoddiad mwy nag erioed, yn ogystal â chymorth wedi'i dargedu ar gyfer carfannau penodol a dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed.

Diolch, Weinidog. Yn dilyn sylw Jenny Rathbone am arolygiadau ysgolion, credaf fod arolygiadau ysgolion yn hanfodol i sicrhau bod darpariaeth addysg o safon uchel ar gael ledled Cymru. Fodd bynnag, mae ffigurau a gafwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn dangos bod 189 o ysgolion wedi cael eu harolygu ddiwethaf rhwng saith a 10 mlynedd yn ôl, a 417 o ysgolion eraill wedi'u harolygu rhwng pump a saith mlynedd yn ôl. Arolygwyd un ysgol yng Nghymru dros 10 mlynedd yn ôl, Weinidog. Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod arolygiadau ysgolion yn annigonol ymhell cyn y coronafeirws, sy'n golygu y gallai cannoedd o ysgolion ledled y wlad fod wedi bod yn tangyflawni ers blynyddoedd. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd yn awr yng ngoleuni'r ffigurau hyn i sicrhau bod ysgolion yn cael eu harolygu'n iawn a bod pobl ifanc yn cael yr addysg y maent yn ei haeddu? Diolch.

Wel, credaf fy mod yn cytuno â phwynt yr Aelod ynghylch pa mor bwysig yw sicrhau bod ysgolion yn cael eu harolygu'n rheolaidd er mwyn darparu gwybodaeth i ni am atebolrwydd ysgolion yn ehangach. Fel y gŵyr, yn y dyfodol, o dan y cwricwlwm newydd, cynhelir arolygiadau'n llawer mwy rheolaidd. Ar hyn o bryd, fel y gŵyr, mae Estyn wedi atal eu rhaglen arolygu graidd ar gyfer y tymor hwn, i gydnabod yr heriau y mae ysgolion wedi eu hwynebu dros y 12 i 18 mis diwethaf. Yn ystod tymor y gwanwyn y flwyddyn nesaf, bydd Estyn yn dechrau treialu eu trefn arolygu newydd gydag ysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot hwnnw. Felly, bydd hynny'n darparu sylfaen wahanol, wrth symud ymlaen, ar gyfer y drefn arolygu honno. Ond yn sicr, rwy'n ategu'r pwynt a wnaeth am bwysigrwydd hynny fel rhan o’n proses atebolrwydd yn gyffredinol.

Datganiad gan y Llywydd

Cyn inni symud ymlaen at fusnes y Senedd, hoffwn i gyfeirio at y digwyddiadau ar yr ystad neithiwr. Dwi eisiau cadarnhau wrth Aelodau fod bygythiadau i ddiogelwch a lles Aelodau, ein staff ni a'n hymwelwyr yn gwbl annerbyniol, a bod gormod ohonoch wedi profi bygythiadau o'r math neithiwr wrth rai protestwyr. Mae yna le, wrth gwrs, i brotest di-drais—mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi cymryd rhan mewn protest o'r fath—ond mae protest fygythiol i les unigolion naill ai yma yn y Senedd neu unrhyw le yng Nghymru yn gwbl annerbyniol. Mi fydd yr awdurdodau perthnasol yn adolygu'r digwyddiadau neithiwr ac mi fyddaf i mewn sefyllfa i ddiweddaru Aelodau maes o law.

A chan fy mod yn sôn am neithiwr, cefais gais gan Aelod i wneud datganiad personol mewn perthynas â'i absenoldeb o'r bleidlais neithiwr. Derbyniais y cais hwnnw ychydig cyn 1.30 p.m. heddiw. Nid oeddwn wedi cael amser i ystyried y cais hwnnw hyd yn oed, heb sôn am gytuno iddo, pan gafodd cynnwys y datganiad ei rannu gyda'r wasg ac ar Twitter ychydig cyn 2.15 p.m. Rwy’n ystyried y datganiad hwnnw'n wybodaeth gyhoeddus bellach ac nad oes angen ei wneud i’r Senedd mwyach.

Rwyf am achub ar y cyfle, fodd bynnag, i ailadrodd wrth yr holl Aelodau mai cyfrifoldeb pob Aelod unigol yw sicrhau eu bod yn bresennol yn ddigon cynnar ac mewn pryd i bleidleisio lle bynnag y byddwch, ac yn enwedig os ydych yn pleidleisio o leoliad am y tro cyntaf.

3. Cwestiynau Amserol

Dwi'n symud ymlaen nawr i'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf—yr unig gwestiwn—gan Sioned Williams.

Credyd Cynhwysol

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i liniaru effeithiau penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu y cynnydd mewn credyd cynhwysol o heddiw ymlaen? TQ569

Wel, diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch am eich cwestiwn pwysig iawn. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflawni'r weithred waethaf o ostwng y gwastad drwy dorri'r ychwanegiad o £20 at y credyd cynhwysol, gan gondemnio cannoedd o filoedd o deuluoedd gweithgar i fyw ar ffin tlodi. Ni fyddwn yn cefnu ar deuluoedd yng Nghymru. Bydd ein cronfa cymorth dewisol yn eu helpu i gadw eu cartrefi'n gynnes a bwydo eu plant.

Diolch, Weinidog, a diolch, Llywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol pwysig hwn. 

Daw’r ychwanegiad o £20 at y credyd cynhwysol i ben heddiw. Bydd y penderfyniad creulon hwn gan Lywodraeth Dorïaidd ddideimlad yn San Steffan yn effeithio ar dros 275,000 o aelwydydd tlotaf Cymru. Mae hynny'n un o bob pum cartref. Yn ôl Sefydliad Bevan, bydd yr effaith yn waeth ar deuluoedd Cymru, gan fod cyfran uwch o deuluoedd yma yn hawlio credyd cynhwysol neu gredyd treth gwaith. Ac i deuluoedd â phlant, effeithir ar bedwar o bob 10 teulu; dyna bedwar o bob 10 teulu â phlant yng Nghymru a fydd yn teimlo'n sydyn fod eu rhwyd ddiogelwch i'w gweld dipyn yn llai diogel o heddiw ymlaen. Daw'r toriad heddiw wrth i gostau byw yng Nghymru a chostau ynni aelwydydd godi—mae prisiau nwy'n uwch nag erioed heddiw yn y DU—ac mae dyledion aelwydydd yn dyfnhau.

Yr ateb, yn ôl Llywodraeth San Steffan: gweithiwch ddwy awr yn ychwanegol. Ar wahân i galongaledwch llwyr y datganiad hwn, mae hefyd yn gwbl gyfeiliornus. Mae credyd cynhwysol yn fudd-dal graddedig, sy'n golygu bod eich taliad yn lleihau 63c am bob punt a enillwch, felly ar gyfer swydd sy'n talu £10 yr awr, bydd yn cymryd llawer mwy na dwy awr i ennill £20 yn ychwanegol. Ar ben hynny, mae swyddi gan 38 y cant o'r bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yng Nghymru. Maent yn dibynnu ar gredyd cynhwysol am nad yw eu gwaith yn talu digon. Roeddwn yn gwrando ar fam yn cael ei chyfweld ar Radio Wales y bore yma; mae hi a'i gŵr yn gweithio'n llawnamser. Maent ar gredyd cynhwysol; maent yn mynd i fod yn waeth eu byd. Dywedodd y bydd y toriad yn cyfateb i werth pedair wythnos o siopa bwyd.

Gan fod dyletswydd gan Lywodraeth Cymru tuag at bobl Cymru, hoffwn wybod pa gynlluniau newydd penodol sydd gan Lywodraeth Cymru i liniaru effaith y penderfyniad trychinebus hwn ar ein teuluoedd tlotaf, a fydd hefyd, wrth gwrs, yn golygu bod £286 miliwn yn cael ei dynnu o'n heconomïau lleol. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £500 miliwn ar gyfer cronfa gymorth i aelwydydd i helpu cartrefi agored i niwed dros y gaeaf, sydd wedi golygu bod £25 miliwn ar gael i Lywodraeth Cymru. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn hanner digon o arian i lenwi'r twll creulon a grëwyd yn incwm yr aelwydydd tlotaf yn sgil dod â'r ychwanegiad at y credyd cynhwysol i ben, ac ni fydd yn diwallu anghenion y niferoedd cynyddol, yn anochel, o bobl sy'n wynebu tlodi tanwydd, sy'n fater o fywyd neu farwolaeth wrth i'r gaeaf agosáu. Felly, hoffwn wybod a fydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio peth o'r arian hwn i helpu cwsmeriaid sy'n byw mewn tlodi tanwydd ac sydd mewn dyled i gwmnïau ynni yn enwedig, gan y bydd y penderfyniad heddiw wedi effeithio ar lawer ohonynt.

Ac yn olaf, pryd y bydd Llywodraeth Cymru o’r diwedd yn cefnogi galwadau eang am ddatganoli pwerau lles i Gymru, fel y gallwn sicrhau bywyd gweddus i bawb, yn hytrach na gadael y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ar drugaredd San Steffan am byth, rhywle nad yw byth yn mynd i roi blaenoriaeth i les pobl Cymru? Nid yw San Steffan erioed wedi malio am bobl Cymru, ac ni fydd byth yn gwneud hynny. Dewis gwleidyddol oedd cyflwyno'r toriad hwn; mae ffurfio system well yn galw am ewyllys wleidyddol. Pa bryd y gwnewch chi fel Llywodraeth benderfynu mai digon yw digon?

15:05

Diolch yn fawr, Sioned Williams, a geiriau pwerus iawn, sy'n cael eu rhannu a'u hadleisio o ran yr hyn a ddywedoch ar yr ochr hon i'r Senedd. Rwy'n gwybod, ac rydych yn llygad eich lle, fod hwn yn benderfyniad creulon, ac ymateb y Canghellor, fel y dywedwch, i ddod â'r ychwanegiad i ben yw bod yn rhaid canolbwyntio ar swyddi, ond mae dros 97,000 o bobl sy'n derbyn credyd cynhwysol yng Nghymru yn gweithio, ac mae 76,000 o bobl ar gredyd cynhwysol yn y grŵp heb ofyniad i wneud unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae'r rheini'n bobl anabl a phobl a chanddynt gyfrifoldebau gofalu y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud na allant weithio; maent yn y grŵp heb ofyniad i wneud unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith. Pa mor greulon yw hi y bydd y bobl hynny hefyd yn colli'r incwm blynyddol hollbwysig o £1,040, ac oddeutu 275,000 o deuluoedd incwm isel yn colli cyfanswm o £286 miliwn? Ac mae'n rhaid i mi ddweud, ydy, wrth gwrs, mae'n golygu ei dynnu allan o'n heconomi hefyd.

Y toriad arfaethedig fydd y gostyngiad mwyaf dros nos i gyfradd sylfaenol o nawdd cymdeithasol ers dechrau'r wladwriaeth les fodern dros 70 mlynedd yn ôl. Ac rwyf hefyd yn diolch i bawb, nid yn unig yma yn y Senedd, ond yn Stormont, San Steffan a Holyrood, lle mae pob un o'r pwyllgorau wedi cyfarfod a chondemnio hyn; comisiynwyr plant pob gwlad; nifer o elusennau a grwpiau ffydd; heb sôn am yr holl Geidwadwyr sydd yn erbyn hyn, gan gynnwys cyn Ysgrifenyddion Gwladol dros Waith a Phensiynau.

A gaf fi ymateb i'ch cwestiynau penodol drwy ddweud bod y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am y gronfa gymorth i aelwydydd gwerth £500 miliwn yn warthus? Pum miliwn ar hugain o bunnoedd i Gymru. Ni all byth wneud iawn am yr arian a gollwyd gan gannoedd o filoedd o deuluoedd ledled Cymru, felly rydym yn gweithio ar gynigion i sicrhau y gwerir yr arian yn y ffordd fwyaf effeithlon o ran effaith y toriad creulon hwn ar incwm eu haelwydydd. Felly, rwy'n ddiolchgar i chi am godi'r pwynt hwn heddiw. Oherwydd mewn gwirionedd, mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi dweud, o ganlyniad i hyn, fod un o bob pedwar o bobl bellach yn dweud ei bod yn debygol iawn y bydd angen iddynt fynd heb brydau bwyd—64,000 o bobl yng Nghymru, hynny yw. Ac mae un o bob pump yn dweud ei bod yn debygol iawn na fyddant yn gallu fforddio cynhesu eu cartrefi y gaeaf hwn—61,000 o bobl yng Nghymru—a hynny cyn y codiad diweddaraf ym mhris tanwydd.

Felly, yn gyflym iawn hefyd, ac rwyf eisoes wedi cyhoeddi ein bod yn ymestyn y gronfa cymorth dewisol sydd gennym yng Nghymru—£25.4 miliwn yn ychwanegol yn ystod y pandemig. Rydym yn ei hymestyn ac rydym hefyd yn cynnwys yr hyblygrwydd a ymgorfforwyd gennym yn y gronfa cymorth dewisol. Bydd hynny'n parhau tan y gwanwyn, ond bydd gennym hefyd—unwaith eto—ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau, gan weithio gydag awdurdodau lleol a Cyngor ar Bopeth. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pawb yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Felly, unwaith eto, ar eich pwynt olaf, mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym system nawdd cymdeithasol a weinyddir gyda thrugaredd ac sy'n deg o ran y ffordd y mae'n trin pobl. Fe wyddoch ein bod yn asesu hyn yn ofalus mewn perthynas â'n sefyllfa yng Nghymru, ac wrth gwrs, gallai datganoli rhai pwerau sy'n ymwneud ag elfennau o nawdd cymdeithasol ddarparu ystod ehangach o offer inni allu trechu tlodi. Rydym wedi ymateb i hynny, wrth gwrs, ac i argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr arferai John Griffiths ei gadeirio. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny o ddefnydd i ddangos sut rydym yn ceisio ymateb i'r toriad creulon, diangen hwn i incwm a bywydau'r bobl dlotaf yng Nghymru, sydd, fel y dywedais, yn cyfrannu at ein heconomi, ein cymunedau, a'n cymdeithas.

15:10

Ym mis Ebrill 2020, fel ymateb un flwyddyn i bandemig COVID-19, rhoddwyd ychwanegiad dros dro o £20 yr wythnos i lwfans safonol y credyd cynhwysol. Yn ei gyllideb ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Canghellor y DU estyniad i'r ychwanegiad dros dro hwn am chwe mis arall, ochr yn ochr â thaliadau ymlaen llaw eraill o'r credyd cynhwysol. O'r cychwyn, roedd yr ychwanegiad dros dro am amser cyfyngedig ac mae'n gamarweiniol esgus fel arall.

Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe ynglŷn â chodiad cyflog i'r GIG, ni all y Llywodraeth hudo arian o'r gwynt. Mae Llywodraeth y DU, a gyflwynodd becyn cymorth COVID gwerth £407 biliwn, gan gynnwys chwistrelliad o £9 biliwn i’n system les, a £2.14 biliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22, bellach yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn swyddi a sgiliau wrth inni ymadfer wedi'r pandemig. Yn ogystal â hyn, fel y clywsom, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi cronfa gymorth newydd gwerth £500 miliwn i aelwydydd sydd ar gael i helpu'r rhai mwyaf anghenus wrth inni wynebu camau olaf yr adferiad, gobeithio, a bydd hwnnw'n cefnogi miliynau o aelwydydd. Bydd y Llywodraethau datganoledig yn cael £79 miliwn ohono, felly sut y bydd Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod ei chyfran lawn o'r arian hwn yn helpu'r rhai mwyaf anghenus yng Nghymru?

Rwy’n synnu nad yw Mark Isherwood wedi gwrando ar fy atebion i’r cwestiynau a ofynnwyd mor bwerus gan Sioned Williams y prynhawn yma. Gallaf ei atgoffa, efallai, mai Stephen Crabb, yr Aelod Seneddol Ceidwadol, a nododd mai'r gwir amdani yw, hyd yn oed pe cedwir y taliad o £20 yr wythnos, na fyddai hynny'n gwneud iawn am yr incwm y mae ein haelwydydd tlotaf wedi'i golli, oherwydd y toriadau difrifol flwyddyn ar ôl blwyddyn i'w budd-daliadau, a gyflwynwyd gan flynyddoedd o doriadau lles—blynyddoedd o doriadau lles, Mark Isherwood. Cyfaddefodd Stephen Crabb ei fod yn rhan o'r tîm hwnnw a wthiodd fwy o weithwyr i mewn i dlodi. Mae'n un o'ch cyd-Geidwadwyr yn San Steffan.

Hefyd, a gaf fi dynnu sylw at y ffaith fy mod yn edrych ar ogledd Cymru ac Aberconwy, un etholaeth yn unig, lle mae 4,750 o aelwydydd yn hawlio credyd cynhwysol, a 45 y cant ohonynt yn gweithio? Bydd 2,756 o blant mewn aelwydydd a fydd yn colli'r £20 yr wythnos hwnnw. Mark, rydych chi bob amser yn siarad o blaid ac yn dadlau dros y trydydd sector yn eich cymuned. A ydych chi'n gwrando arnynt yng ngogledd Cymru?

Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn, gan ei fod yn bwysig tu hwnt ac mae hyn yn digwydd heddiw, yn awr, i deuluoedd. Fel y dywedodd y Gweinidog, dyma'r toriad mwyaf i fudd-daliadau ers 1945—un o'r rhai mwyaf erioed, a dweud y gwir. Ar ôl mwy na 10 mlynedd o doriadau Torïaidd—[Torri ar draws.] Newydd ddechrau ydw i. Ac ni chewch wneud ymyriad beth bynnag.

15:15

Ie, gwnewch hynny a chroeso—ar ôl mwy na 10 mlynedd o doriadau Torïaidd, pan fo gweithwyr eisoes yn wynebu gorfod dewis rhwng bwyta a gwresogi. Darllenais y llythyr gan y gweinyddiaethau datganoledig at Brif Weinidog y DU yn gofyn iddo wrthdroi'r penderfyniad hwnnw. Gwn ei fod wedi bod yn brysur yn dweud jôcs ym Manceinion, ond a yw wedi trafferthu ymateb i'r llythyr hwnnw? Oherwydd mae'r teuluoedd y mae'n eu gwneud yn dlotach heddiw yn haeddu atebion, ac nid perfformiad gan glown. Clywais Mark Isherwood yn dweud na all Llywodraethau hudo arian o'r awyr. Wel, hoffwn pe bai'n ystyried sut y mae pobl yn mynd i hudo bwyd ar eu bwrdd ac arian i'w roi yn eu mesuryddion nwy, gan mai dyna rydym yn sôn amdano yma heddiw mewn gwirionedd.

Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rwyf wedi ymateb i lawer o'r pwyntiau pwysig a dilys a wnaethoch. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod y llythyr hwn a anfonwyd ar y cyd gan Brif Weinidog yr Alban, Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog a dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon at Boris Johnson, yn galw arno, yn ei annog, i beidio â bwrw ymlaen â'r toriad cwbl ddiangen hwn. Yn y llythyr hwnnw, maent yn dweud

'bydd hyn yn cynyddu tlodi a chaledi heb sicrhau unrhyw fuddion cymdeithasol neu economaidd gwirioneddol. Dywedodd Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Dlodi Eithafol a Hawliau Dynol—wrth alw arnoch i wrthdroi’r toriad hwn—er mwyn sicrhau gweithlu iach a chymwys, fod yn rhaid i’ch Llywodraeth ddarparu lefelau digonol o ddiogelwch cymdeithasol. Mae blynyddoedd o rewi budd-daliadau yn golygu nad yw Credyd Cynhwysol wedi codi i'r un graddau â chostau byw cynyddol.'

Ac wrth gwrs, fel y dywedais, mae'r gronfa £500 miliwn a ddosbarthwyd ar sail ddewisol yn gwbl annigonol i wneud iawn am y diffyg o £6 biliwn mewn gwariant nawdd cymdeithasol a fydd yn deillio o'r toriad hwn.

Mae'n gwbl amlwg fod Llywodraeth y DU yn troi clust fyddar hyd yn oed i apeliadau pobl o'u plaid eu hunain a chyn Ysgrifenyddion Gwladol dros Waith a Phensiynau. Felly, credaf fod yn rhaid inni ddibynnu ar yr hyn y gallwn ei wneud ein hunain. Yn amlwg, mae croeso mawr i'r cynnydd yn y gronfa cymorth dewisol, ond tybed pa sgyrsiau y gallech eu cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y weinyddiaeth newid hinsawdd ynglŷn â sut y gallem gyflymu'r gwaith o ôl-osod tai cymdeithasol. Oherwydd yn amlwg, dyna lle mae nifer fawr iawn o'r rhai sy'n derbyn credyd cynhwysol yn byw, ac felly maent yn mynd i fod £20 yr wythnos yn waeth eu byd. Hefyd, beth y gallwn ei wneud i unioni, rywsut, yr anghydbwysedd llwyr yn y bwyd sy'n pydru ar goed ac ar fin cael ei ddifa mewn lluniau gwrthun ar y ffermydd am y rheswm syml na allwn gael y sgiliau cywir i unioni'r problemau sydd gennym gyda diogelwch ein cyflenwad bwyd? Felly, beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod bwyd nad yw'n cael ei gasglu ar hyn o bryd yn cyrraedd y bobl sydd ei angen fwyaf?

Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn pwysig. Mae gennym £25 miliwn wedi'i ddyrannu—fel y dywedais, swm gwarthus—i Gymru. Yr hyn y ceisiais ei wneud—. Cyn gynted ag y clywsom am y dyraniad hwnnw, rwyf wedi gofyn i bawb yn Llywodraeth Cymru, 'Beth ydyw?' Mae'n swm untro o arian; nid yw'n rheolaidd. Mae'n swm untro o arian, sef yr anoddaf i'w wario mewn modd cynaliadwy. Felly, mae pob Gweinidog yn ymateb o ran sut y credant y gallwn ddefnyddio'r cyllid hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol, ac wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd eich pwyntiau heddiw'n werthfawr iawn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd.

4. Datganiadau 90 eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Mike Hedges. 

Diolch, Lywydd. Mae cyfarwyddwr cerdd côr Orpheus Treforys, Joy Amman Davies, wedi ymddeol eleni ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth gyda’r côr. Mae safon canu côr Orpheus Treforys yn fyd-enwog. Ganed Joy yng Nglanaman ac enillodd ysgoloriaeth i gael hyfforddiant piano yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru cyn mynychu Prifysgol Bangor. Ymunodd Joy â chôr Orpheus Treforys fel cyfeilydd ym 1991, ac yna yn 2007, daeth yn gyfarwyddwr cerdd y côr. Mae hi wedi gwneud cryn dipyn o deithio gyda'r côr, i leoliadau fel Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd a Thŷ Opera Sydney. Yn ogystal â chôr Orpheus Treforys, mae hi wedi bod yn gyfeilydd gwadd i gorau eraill ac wedi cyfeilio i lawer o gantorion enwog o Gymru. Yn ystod y pandemig COVID, nid yw Joy wedi stopio, gan weithio mor galed ag erioed, a chynnal ymarferion ar-lein ddwywaith yr wythnos, a recordio caneuon yn rhithwir, gan ddenu dros 0.25 miliwn o wylwyr ar-lein. Mae ei chariad at y côr a chariad y côr tuag ati hithau yn amlwg iawn, a bydd y cantorion a'r rhai ohonom sy'n mynychu cyngherddau côr Orpheus Treforys yn rheolaidd yn ei gweld hi'n chwith iawn ar ei hôl. Hoffwn ddiolch i Joy yn gyhoeddus. Diolch am eich ymrwymiad, eich ymroddiad a'ch cariad at gerddoriaeth. Ni chredaf fod sŵn gwell i'w gael na chlywed côr Orpheus Treforys yn canu 'Myfanwy'.

15:20

Bythefnos yn ôl, daeth y newyddion trist am farw'r gyflwynwraig a'r cynhyrchydd radio Magi Dodd yn 44 mlwydd oed. Ganed a magwyd Magi ym Mhontypridd, lle bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton ac Ysgol Rhydfelen, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ddechrau'r ganrif hon, daeth yn llais cyfarwydd ar donfeddi Radio Cymru—ar raglenni C2 ac fel cyflwynydd Dodd Com—ac yn fwy diweddar bu'n cynhyrchu rhaglenni ac yn cyflwyno Cwis Pop ar Radio Cymru. Mae llu o bobl wedi talu teyrnged iddi, gyda phawb yn nodi ei hangerdd am Bontypridd ac am y sin roc Gymraeg, tra hefyd yn pwysleisio ei charedigrwydd a'i phersonoliaeth afieithus. Fe ysgogodd hi genhedlaeth a mwy o bobl i rannu ei chariad at gerddoriaeth Gymraeg, gan ddenu cynulleidfaoedd newydd i'r orsaf. Prin oedd y cyflwynwyr o’r Cymoedd ar Radio Cymru bryd hynny, ac fel y dywedodd Huw Meredydd Roberts:

'Fe ddaeth hi'n un o gyflwynwyr pwysicaf yr orsaf yn fy marn i—yn llais i genhedlaeth o bobl ifanc o gymoedd y de ar ein gwasanaeth cenedlaethol.'

Bûm i weld mam Magi wythnos diwethaf, a dywedodd wrthyf am y caredigrwydd a'r cariad maent wedi ei dderbyn fel teulu gan bobl Pontypridd a thu hwnt, a'i fod fel petai fod pawb ym Mhontypridd wedi nabod Magi. Dwi ddim yn amau bod hyn yn wir. Bydd Pontypridd a Chymru yn lle tlotach hebddi, a hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i'w phartner, Aled, ei theulu, ei chydweithwyr a'i ffrindiau heddiw. Gorffwys mewn hedd, Magi.

Y mis hwn yw Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron. Amlygodd marwolaeth seren Girls Aloud, Sarah Harding, o ganser y fron yn ddiweddar, a hithau ond yn 39 mlwydd oed, pa mor eithriadol o bwysig yw gwneud popeth a allwn i frwydro yn erbyn y clefyd erchyll hwn. Mae'r pandemig wedi arwain at ostyngiad mawr yn nifer y bobl yr amheuir fod ganddynt ganser y fron sy'n cael eu cyfeirio at arbenigwr. Yn anffodus, cafodd gwasanaethau sgrinio eu hatal dros dro, ac er i driniaeth llawer o gleifion barhau heb newid, cafodd triniaethau eraill eu gohirio a'u canslo. Mae'n hanfodol felly fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag adran ganser y GIG ac elusennau canser i gefnogi adfer gwasanaethau canser y fron yn ogystal â chynllunio eu dyfodol hirdymor. Yn ddiweddar, cyhoeddodd GIG Lloegr y byddai'n ariannu archwiliad cenedlaethol o ganser metastatig y fron. Rwy'n deall bod GIG Cymru hefyd yn cael trafodaethau am gynnwys Cymru yn yr archwiliad, ac rwy'n mawr obeithio y gwneir penderfyniad cyn bo hir i gynnwys Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau yn y gwasanaethau i gleifion canser y fron. Oherwydd ni waeth a ydych yn dad-cu neu'n fam-gu, yn fam, yn dad, yn ŵr, yn fab neu'n ferch, nid yw canser y fron yn gwahaniaethu, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i weithio gyda'n gilydd a chefnogi'r rheini sy'n ymladd, edmygu'r goroeswyr, anrhydeddu'r rhai sy'n ein gadael, a gweithio i ganfod canser y fron, trin canser y fron, a chodi ymwybyddiaeth ohono yn y dyfodol.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu dadl ar eitemau 5-8

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar y pedair eitem nesaf. Dwi'n galw ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Siân Gwenllian.

Cynnig NDM7802 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(ii) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NDM7798, NDM7799, NDM7800 ac NDM7801 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 6 Hydref 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y pedwar cynnig o dan eitemau 5, 6, 7 ac 8 i sefydlu pwyllgorau a chytuno ar eu haelodaeth a threfniadau pleidleisio eu grwpio i gynnal dadl arnynt, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Oes gwrthwynebiad i hynny? Nac oes. 

15:25
5., 6., 7. & 8. Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd a Chynnig o dan Reolau Sefydlog 17.2T, 17.3, 33.6 a 33.8 i ethol aelodau a Chadeirydd i'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, i atal y Rheolau Sefydlog dros dro mewn cysylltiad â'r pwyllgor hwnnw, a chytuno ar drefniadau pleidleisio yn y pwyllgor

Galwaf yn awr, felly, ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol—Siân Gwenllian.

Cynnig NDM7798 Elin Jones

Cynnig bod Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar waith y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw fater sy'n berthnasol i'r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

Cynnig NDM7799 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. 

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) John Griffiths (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig) a Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a

b) David Rees (Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Cynnig NDM7801 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

1. Yn sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw:

a) ystyried y casgliadau a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn y Bumed Senedd fel y nodir yn ei adroddiad Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf a osodwyd gerbron y Senedd ar 10 Medi 2020;

b) erbyn 31 Mai 2022, gwneud argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi ar Fil Llywodraeth Cymru i Ddiwygio'r Senedd.

3. Yn cytuno y caiff y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.

Cynnig NDM7800 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) Jayne Bryant (Llafur Cymru), Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig), Siân Gwenllian (Plaid Cymru), a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd;

b) Elin Jones (Llywydd) fel aelod o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd;

c) Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

3. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.37 i 17.39 yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

4. Yn penderfynu, lle mae angen pleidlais i waredu busnes, y bydd pleidleisio yn y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd yn gweithredu fel a ganlyn:

a) dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff y cadeirydd bleidleisio;

b) ni chaiff y Llywydd bleidleisio;

c) caiff pob aelod arall o'r Pwyllgor bleidleisio ac, os ydynt yn perthyn i grŵp gwleidyddol, mae pob aelod yn cael un bleidlais ar gyfer pob aelod o'r grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn iddo (gan gynnwys ei hun a'r Llywydd a'r Dirprwy os yw’n aelodau o'i grŵp gwleidyddol);

d) rhaid pasio penderfyniad i gytuno ar argymhellion i'r Senedd ar bleidlais lle mae'r aelodau sy'n pleidleisio o'i blaid yn cario o leiaf 40 pleidlais.

Cynigiwyd y cynigion.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, felly mae'r cynigion yna wedi'u derbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mi fyddwn ni nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu ambell i newid yn y Siambr. Diolch yn fawr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:25.

15:35

Ailymgynullodd y Senedd am 15:37, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

9. Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM7793 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dydd Sul 10 Hydref yw diwrnod iechyd meddwl y byd.

2. Yn cydnabod effaith COVID-19 ar gymorth iechyd meddwl ac anghydraddoldebau iechyd meddwl.

3. Yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl ifanc sy'n dod i'r ysbyty gyda phroblemau hunan-niweidio wedi codi 39 y cant ers 2007.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys yn ei strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd newydd y flwyddyn nesaf:

a) camau i weithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pumed Senedd, 'Cadernid Meddwl' a 'Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach';

b) adroddiadau blynyddol a phennu targedau ar gyfer amseroedd aros i gael triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys lleihau ôl-groniadau;

c) cyflwyno canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol;

d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir.

5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf iechyd meddwl newydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar destun iechyd meddwl a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Dydd Sul yma, 10 Hydref, yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Dylem fanteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio ar ein hiechyd meddwl ein hunain, a iechyd meddwl ein ffrindiau a'n teulu, a'r hyn y gallwn ni fel Aelodau o'r Senedd ei wneud i hybu iechyd meddwl cadarnhaol ledled Cymru. Mae hefyd yn ddiwrnod lle mae angen i bob un ohonom ystyried a rhoi amser i ofyn i rywun sut y maent yn teimlo. Mae'n ddiwrnod pan ddylem anfon neges destun at hen ffrind, cael sgwrs Zoom gyda chydweithiwr neu gyfarfod am goffi gydag aelod o'r teulu. Efallai na fyddwch chi byth yn gwybod y gwahaniaeth y gall gweithred fach ei wneud i rywun sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. 

Nid yw COVID-19 wedi bod yn garedig i'n hiechyd meddwl. Ac yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y plant ac oedolion sy'n dioddef. Byddai'n anghywir i mi beidio â dechrau drwy sôn am waith nifer fawr o elusennau iechyd meddwl ledled Cymru a'r DU sy'n gwneud gwaith gwych ym mhob un o'n cymunedau. Mae Mental Health Matters yn darparu gwasanaethau hanfodol, megis hybiau llesiant a grwpiau cefnogi cymheiriaid ar gyfer gorbryder ac iselder, tra bod y Samariaid yn gweithredu gwasanaeth llinell gymorth sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Gwirfoddolwyr sy'n ateb y galwadau, a hwy yw'r arwyr di-glod sydd heb amheuaeth wedi achub bywydau di-rif ac sydd yno i ni yn ein hawr o angen, ac mae angen i ni fod yno iddynt hwy yn eu hawr hwythau o angen. 

Yng Nghymru, mae COVID-19 wedi amlygu anghydraddoldebau iechyd meddwl a oedd eisoes yn bodoli o dan Lywodraeth Lafur Cymru, gyda llawer o wasanaethau wedi eu hymestyn i'r eithaf, ôl-groniadau cynyddol a llai o bobl yn cael cymorth mawr ei angen. Amlinellodd Mind Cymru yn eu hadroddiad 'Rhy hir i aros' fod miloedd o bobl, hyd yn oed cyn y pandemig, yn aros yn hirach nag erioed i gael therapi seicolegol. Gwelsant na chyrhaeddwyd y targed o 80 y cant o bobl yn cael eu gweld o fewn 26 wythnos yn unrhyw un o'r 17 mis hyd at fis Awst 2020. Ond nid oes amheuaeth fod COVID-19 wedi gwneud y broblem yn waeth, oherwydd wrth gymharu mis Awst 2020 â'r un cyfnod yn 2019, tra bod nifer y bobl a oedd yn aros i ddechrau therapïau seicolegol wedi gostwng o 7,198 i 5,208, canfu Mind hefyd fod nifer y bobl sy'n aros yn hwy na 26 wythnos wedi codi 4 y cant, a bod y rhai sy'n aros yn hirach na blwyddyn wedi codi 17 y cant. Ac efallai nad yw hyd yn oed y gostyngiad yn nifer yr unigolion ar y rhestr aros yn newyddion mor dda ag y mae'n swnio. Mae'n golygu, yn ôl pob tebyg, fod llai o bobl yn gofyn am gymorth yn y lle cyntaf i gael yr help sydd ei angen arnynt, oherwydd y pandemig.

Ac yn anffodus, mae pawb ohonom yn gwybod am yr effaith y mae'r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar ein hiechyd meddwl, yn enwedig pobl iau. Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020, dywedodd dros hanner oedolion Cymru a thri chwarter y bobl ifanc fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu at ei gilydd yn ystod misoedd cynnar y pandemig. Ac er bod pryder am y pandemig yn gyffredinol wedi lleihau ymhlith oedolion y DU, o 42 y cant ym mis Chwefror 2021, roedd unigrwydd wedi codi o 10 y cant ym mis Mawrth 2020 i 26 y cant flwyddyn yn ddiweddarach. Ac efallai'n fwyaf amlwg, roedd mwy na 10 marwolaeth ym mhob 100,000 o'r boblogaeth yn 2020 yn hunanladdiad, ac mae'r gyfradd honno yn aml dair i bedair gwaith yn uwch ymhlith dynion nag ymhlith menywod. 

Mae angen i'r strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd nesaf adlewyrchu'r newidiadau sylweddol a welsom yn y Gymru ôl-COVID. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno ein bod mewn sefyllfa wahanol iawn heddiw i ble'r oeddem ddwy flynedd yn ôl, ac mae angen i strategaeth newydd adlewyrchu hynny. Felly, yn y goleuni hwn, mae gwelliannau'r Llywodraeth heddiw yn siomedig iawn. Heddiw, mae gennym gyfle gwirioneddol i gyflwyno strategaeth hirdymor er mwyn sicrhau adolygiad priodol o wasanaethau iechyd meddwl fel eu bod yn addas ar gyfer heddiw a'r dyfodol. Felly, mae eu gweld wedi'u glastwreiddio gan welliannau'r Llywodraeth yn gyfle a gollwyd go iawn. Rydym angen targedau, ac rydym angen canlyniadau, a'r Senedd hon i allu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu cylch. Ac mae arnaf ofn nad yw gwelliannau'r Llywodraeth yn cyflawni'r un o'r amcanion hynny. 

Mae ein cynnig yn adeiladol. Nid ydym yn ei gyflwyno heddiw i daflu bai ar y Llywodraeth nac unrhyw un arall. Er bod problemau amlwg yn y gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru cyn y pandemig, rydym i gyd yn cydnabod bod y flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi rhoi straen anhygoel ar ein gwasanaethau iechyd meddwl. Mae angen diweddaru'r atebion i fynd i'r afael â'r broblem er mwyn adlewyrchu hynny, a dyna pam y galwaf ar bob Aelod o'r Senedd i gefnogi ein cynnig heddiw.

15:40

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.  

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:  

Yn nodi’r ymrwymiad i adolygu’r dystiolaeth, y data a’r ddarpariaeth gwasanaethau bresennol ar gyfer hunan-niweidio i bobl o bob oed yng Nghymru.

Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r canlynol:

a) gweithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd, 'Cadernid Meddwl' a 'Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach';

b) cryfhau a chyhoeddi data amseroedd aros iechyd meddwl a gwella perfformiad ledled Cymru;

c) cyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol;

d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU yn addas ar gyfer Cymru ac yn gyson â deddfwriaeth berthnasol bresennol yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

'cyflwyno rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl a lles ieuenctid ataliol'.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau defnyddio'r cyfle yma, yn syml iawn, i erfyn ar y Llywodraeth a'r Gweinidog yma i godi'u gêm, i ddangos mwy o frys yn eu hymateb i'r argyfwng iechyd meddwl rydyn ni'n ei wynebu ar hyn o bryd. Ac mae'r Gweinidog ei hun, yn un, dwi'n gwybod, sy'n teimlo'n angerddol am y maes iechyd meddwl. Dyna pam ei bod hi yn ei swydd. Ond mae angen i'r angerdd hwnnw rŵan droi yn benderfynoldeb i weithredu o ddifri, ar raddfa fawr, heb unrhyw oedi. Mi gefnogaf i yn unrhyw ffordd y gwaith hwnnw. Rydyn ni wedi cydweithio, o'r blaen, ar bwyllgor. Does yna ddim rheswm pam na allwn ni i gyd, yn fan hyn, fod yn gwbl gytûn ar beth sydd angen ei wneud, er y byddwn ni, wrth gwrs, yn dod â syniadau gwahanol at y bwrdd ar sut i'w gyflawni o, ac mae'n bwysig ein bod ni, er mwyn symud ymlaen, yn rhannu syniadau. Mi gefnogwn ni'r cynnig Ceidwadol. Rydyn ni, ar y meinciau yma, wedi cynnig cynigion tebyg ein hunain yn y gorffennol. Dwi'n gobeithio gall pawb yma gefnogi ein gwelliant ninnau hefyd. Mwy am hwnnw yn y man.

Dwi yn erfyn ar y Llywodraeth, achos mae'r argyfwng yn mynd yn waeth ac yn waeth. Yr wythnos yma eto, mi ddaeth y newyddion ataf i am berson ifanc arall yn colli eu bywyd ar ôl brwydro'n hir efo problemau iechyd meddwl. Dwi'n meddwl am y boen aeth y person yna drwyddo fo, a'r boen mae ei deulu o a'i ffrindiau yn mynd drwyddo fo rŵan. Dwi'n clywed, wedyn, am ferch o'r un ardal, oedd hefyd wedi colli'i bywyd yn ddiweddar. Dŷn ni'n gwybod am y straen mae'r pandemig wedi ei roi ar ein pobl ifanc ni. Maen nhw wedi colli gymaint: colli cerrig milltir pwysig yn eu bywydau; colli cwmnïaeth; colli normalrwydd; strwythur; colli addysg; ac, ie, colli mynediad at wasanaethau, oherwydd pwysau COVID ar y gwasanaethau hynny. 

Ond, wrth gwrs, mi oedd y diffyg cynaliadwyedd hwnnw a diffyg adnoddau mewn gwasanaethau iechyd meddwl yno ymhell cyn i'r feirws daro. Ydy hi'n dderbyniol bod bachgen ifanc o fy etholaeth i'n cael ei gynghori i fynd y tu allan i’w fwrdd iechyd ei hun i chwilio am gefnogaeth am anhwylder bwyta achos nad oes gan y meddyg teulu ddim hyder yn y ddarpariaeth yn lleol, ac wedyn yn gorfod disgwyl misoedd lawer am apwyntiad? Ac mae eraill, wrth gwrs, yn aros llawer hirach na misoedd—mae flynyddoedd yn gallu bod am apwyntiad am therapi ac ambell i driniaeth.

Mae adroddiad cynnydd ar waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, ‘Cadernid Meddwl’, a gyhoeddwyd bron union flwyddyn yn ôl rŵan, ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad gwreiddiol, yn dweud:

‘mae ein plant a phobl ifanc yn dal i gael trafferth dod o hyd i’r gefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl y mae ei hangen arnynt, boed ar adeg gynnar i helpu i atal problemau rhag datblygu, neu’n hwyrach, pan fydd pethau wedi gwaethygu a bod angen cymorth a gofal arbenigol.’

Rŵan, y Gweinidog iechyd meddwl presennol oedd yn cadeirio’r pwyllgor hwnnw ar y pryd, ac mi fydd hi, dwi yn reit siŵr, yn eiddgar i fwrw ymlaen i wireddu’r tri phwynt canolog yr oedd yn yr adroddiad hwnnw, a’r tri phwynt yr oedden nhw’n gofyn amdanyn nhw, sef bod angen gwneud mwy i wneud gwelliannau yn gyflymach; bod angen gweithio mewn modd system gyfan efo bob rhan o’r gwasanaeth yn chwarae ei rhan; a bod effaith y pandemig yn gwneud cynnydd yn fwy angenrheidiol nag erioed.

Rydym ni wedi amlinellu rhai o’n syniadau penodol ni yn y gwelliant heddiw. Rydym ni’n galw eto am rwydwaith o ganolfannau llesiant ar draws Cymru lle gall pobl ifanc gael cefnogaeth cyn i broblemau dyfu yn broblemau acíwt. Ond heb os, ein nod ni, wrth gwrs, ydy gwella a chyflymu mynediad at ofal a thriniaeth ar bob lefel, ac, fel dwi’n dweud, mae’n rhaid i ni gyd fod â ffocws berffaith glir ar y nod yna.

Mae yna berig, wrth gwrs, i welliant Llywodraeth, fel yr un sydd gennym ni’r heddiw yma, gael ei weld fel, ‘Peidiwch â phoeni, rydym ni’n gwneud popeth yn barod. Mae ein commitment ni yn ddigon clir.’ Ond dydy geiriau ddim yn ddigon. Plîs, Weinidog, dangoswch y commitment yna drwy weithredoedd rŵan ar gyfer y boblogaeth gyfan, ond yn enwedig ein pobl ifanc ni.

15:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth fynd i'r afael â materion iechyd meddwl, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pob sefydliad sy'n gallu chwarae rhan yn gwneud hynny, a bod pob sefydliad yn meddwl am yr hyn y gallant ei wneud i helpu'n weithredol, ac rwy'n falch iawn fod gennym glwb pêl-droed Casnewydd yn fy ardal leol sydd wedi bod yn awyddus iawn i wneud hynny. Maent wedi bod yn edrych ar sut y gallant estyn allan y tu hwnt i'w gweithgarwch craidd, fel petai, o fod yn glwb pêl-droed llwyddiannus—ac rwy'n gobeithio y cawn gryn lwyddiant ar y cae y tymor hwn. Maent yn estyn allan i'r gymuned, maent yn gwneud llawer o waith cymunedol, ac o ran iechyd meddwl, hwy oedd y pedwerydd clwb yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr i lofnodi siarter ar chwaraeon a hamdden a sut y gall pŵer chwaraeon a'r modelau rôl pwerus y gall pêl-droedwyr eu cynnig helpu gwaith iechyd meddwl. Felly, rwy'n credu ei bod yn galonogol iawn fod sefydliad fel clwb pêl-droed Casnewydd yn meddwl yn y ffordd honno.

Hwy oedd y clwb pêl-droed cyntaf yng Nghymru i lofnodi'r siarter, a gobeithio y bydd eraill yn dilyn, ac maent yn benderfynol o'i wneud yn llwyddiant. Mae'n ymwneud â bod yn rhan o rwydwaith, gweithio gyda phartneriaid fel yr awdurdod lleol a'r gwasanaeth iechyd, cael yr holl bartneriaid i lofnodi addewid i fwrw ymlaen â gwaith ar y cyd a deall sut y gallant gydweithio'n effeithiol, a monitro'r gwaith hwnnw wedyn i sicrhau y gwneir cynnydd go iawn. Mae'n ymwneud â negeseuon cadarnhaol, trechu gwahaniaethu, a defnyddio pŵer y clwb pêl-droed a'r chwaraewyr pêl-droed. A chredaf ei fod yn bwysig i iechyd meddwl dynion yn enwedig, sy'n broblem benodol; mae dynion weithiau'n arbennig o amharod i siarad am iechyd meddwl, i gyfaddef eu bod yn fregus. A phan fyddant yn gweld modelau rôl pwerus, megis pêl-droedwyr, yn barod i wneud hynny, yn barod i rannu eu profiad a'u problemau, rwy'n credu o ddifrif y gall hynny fod yn bwerus iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei ddangos. Mae ganddynt bobl sydd â chyfrifoldeb dynodedig o fewn y clwb i fwrw ymlaen â hyn. Maent wedi cysylltu â'r holl gynrychiolwyr gwleidyddol rheng flaen yn lleol, fel fi. Felly, mae'n datblygu'n gydymdrech sylweddol. A hoffwn dynnu sylw hefyd at waith Cyngor Dinas Casnewydd yn rhan o hyn, ond hefyd mewn perthynas â'u prosiect Arrow, sy'n gweithio'n arbennig gyda phobl ifanc ar eu problemau iechyd meddwl, ac yn gweithio gyda'r holl ysgolion yn yr ardal. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n cael ei gydnabod fel arfer da, ac mae'n enghraifft o sefydliad sy'n mynd gam ymhellach, gan wneud rhywbeth y tu hwnt i'w weithgareddau craidd, er mwyn deall heriau iechyd meddwl a helpu i'w trechu.

Felly, os ydym o ddifrif am wneud y cynnydd sydd angen inni ei wneud yng Nghymru, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno bod angen i'r holl sefydliadau a all ychwanegu at ymdrech gyfunol y gwasanaeth iechyd a phartneriaid allweddol gamu i'r adwy. Rhaid iddo fod yn fusnes i bawb, onid oes? Ac rwy'n credu bod sefydliadau fel clwb pêl-droed Casnewydd, Cyngor Dinas Casnewydd, yn dangos esiampl dda, ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o rai eraill ledled Cymru yn efelychu eu gweithredoedd, a'u llwyddiant, gobeithio.

15:50

Daw 'Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach' i'r casgliad yn glir fod effeithiau ehangach COVID-19 wedi effeithio'n sylweddol ar fywydau plant a'n pobl ifanc. Ac unwaith eto, rwy'n mynd i dalu teyrnged i Lynne Neagle am yr holl waith a wnaethoch gyda 'Cadernid Meddwl', a gwn am eich angerdd a'ch ymroddiad i weld gwelliant yn iechyd meddwl ein pobl ifanc.

Mae arolwg Barnardo's o ymarferwyr y DU yn profi hyn, oherwydd nododd 95 y cant o'r 275 o ymatebwyr gynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n wynebu problemau iechyd meddwl a llesiant. Ein dyletswydd i'n pobl ifanc yng Nghymru yw sicrhau y gweithredir ar yr holl alwadau yn yr adroddiad 'Ddwy flynedd yn ddiweddarach', megis gwella dulliau o gyfeirio, mynd i'r afael â'r bylchau yn y gwasanaeth, darpariaeth ar gyfer y lefel is, cymorth therapiwtig, a gwaith pellach ar fonitro ansawdd ac argaeledd gwasanaethau. Rhaid i'r un peth fod yn wir am y gwasanaethau i oedolion.

Yn anffodus, yng ngogledd Cymru, ac yn fy etholaeth i, rwy'n gweld anghysonderau o'r fath yn wythnosol. Fe roddaf gipolwg i chi ar un o fy achosion, sy'n profi pa mor enbyd yw'r sefyllfa erbyn hyn. Am nad oes gan dîm iechyd meddwl cymunedol Conwy ddigon o weithwyr cymdeithasol o fewn y tîm, atgyfeiriwyd un o fy etholwyr bregus iawn at dîm llesiant cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn warthus, er bod CMHT—y tîm iechyd meddwl—yn ymwybodol o ganlyniad yr atgyfeiriad, cafodd unigolyn bregus ei ryddhau ganddynt o ofal. Mae'r awdurdod lleol bellach wedi cadarnhau na chawsant atgyfeiriad gan CMHT. Canfu adolygiad gyda seiciatrydd ymgynghorol y dylai'r unigolyn fod wedi cael cydlynydd gofal. Wrth inni siarad—ac er i mi ofyn dros y chwe wythnos diwethaf, ac er bod fy etholwr wedi'i ryddhau o ofal, fel rhan o fesurau COVID, dros 18 mis yn ôl—mae'r etholwr yn dal i fod ar y rhestr aros. Ac mae'r sefyllfa'n gwaethygu. Gan nad oes cydlynydd gofal, esboniwyd na ellir cael cynllun gofal a thriniaeth. Wel, mae'n ddrwg gennyf, ond eisteddais yma yn ystod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, lle mae'r cynlluniau hyn i fod yn weithredol ond nid yw hynny'n wir. Felly, mae'n safon warthus o ofal a sylw i unigolyn bregus iawn.

Mae arnom angen adroddiadau blynyddol sy'n rhoi darlun gonest o ddifrifoldeb y sefyllfa ar lawr gwlad, ac mae angen inni helpu'r Senedd hon yng Nghymru i ddeall pa gamau sydd eu hangen i gefnogi gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy'n cynorthwyo ein cymunedau. Rwyf am weithio gyda Lynne ar hyn, ac rwyf wedi bod yn gwneud hynny hyd yma fel Aelod dros etholaeth. Rwyf am weld cynllun gweithlu iechyd meddwl clir, ac rwyf am weld strategaeth argyfwng yn cael ei rhoi ar waith ar gyfer y tymor byr. Yn rhan o hyn, rwy'n eich annog i gefnogi'r ymgyrch hon i weld gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol hyfforddedig ym mhob meddygfa ar draws ein hetholaethau.

Unwaith eto, wrth siarad â meddygon teulu—siaradais ag un heddiw, ac fe ddywedodd, 'Ar yr adeg yr oedd gennym nyrs iechyd meddwl yn ein practis, golygai nad oedd raid inni atgyfeirio ymlaen; gallem drin pobl ar y pryd'. Felly, mae'r angen i yrru hyn yn ei flaen yn ddybryd wrth inni gofio—ac mae hyn yn drist iawn i'w ailadrodd—bod mwy na 3.2 miliwn o eitemau gwrth-iselder wedi'u presgripsiynu gan feddygon teulu yng Nghymru yn y chwe mis ar ôl y pandemig COVID, cynnydd o 115,660 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, tra bod nifer y bobl a atgyfeiriwyd ar gyfer therapïau siarad wedi gostwng draean. 

Hoffwn gloi drwy atgoffa'r Senedd, ochr yn ochr â'r cynnydd torcalonnus o 40 y cant yn nifer y bobl ifanc sy'n mynd i'r ysbyty ar ôl hunan-niweidio, ein bod yn parhau i weld cyfradd hunanladdiad sy'n peri pryder yng Nghymru—10.3 marwolaeth fesul 100 y cant o'r boblogaeth yn 2020. A chefais nodyn yn fy mewnflwch heddiw gan y Samariaid sy'n sobreiddiol, a byddaf yn ei ddarllen yn llawnach yn nes ymlaen, ond maent yn pryderu'n fawr am yr achosion y maent yn ymdrin â hwy.

Nawr, er fy mod yn deall, Ddirprwy Lywydd, fod amgylchiadau gwahanol yn achos pob un o'r 285 o fywydau a gollwyd, mae'n ffaith bod nifer y bywydau yr effeithir arnynt yn sylweddol uwch pan ystyriwch y teulu a'r anwyliaid sy'n cael eu gadael i ddygymod ar ôl digwyddiadau mor drasig. Nid yw'n iawn mai'r unig gyswllt swyddogol y bydd rhai teuluoedd yn ei gael yw swyddogion yr heddlu yn rhoi gwybod iddynt am y golled drasig, a dyna ni. Mae'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn dod yn grŵp mewn perygl eu hunain ac mae angen cymorth ymarferol arbenigol arnynt, ac nid yn unig yn syth wedyn.

Er fy mod yn edrych ymlaen at weld cyhoeddi fframwaith cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gofal profedigaeth yng Nghymru, mae astudiaeth interim gan Brifysgol Caerdydd wedi canfod bod angen lefelau uchel o gymorth emosiynol.

15:55

Iawn. Felly, gadewch i bawb ohonom gydweithio â'r Gweinidog, gyda'r Dirprwy Weinidog, yn drawsbleidiol, a sicrhau y gallwn ddychwelyd yma ymhen blwyddyn a gweld bod yr ystadegau ar gyfer y diffyg cefnogaeth wedi gostwng. Diolch.

Mae'n siŵr y dylai hapusrwydd plant fod yn un o'r metrigau y mae unrhyw Lywodraeth neu gymdeithas o ddifrif yn eu cylch. Nawr, nid yw bob amser yn hawdd mesur hapusrwydd na nodi sut y mae bodlonrwydd yn amlygu ei hun, ond pan fydd patrymau'n datblygu ac yn dal eu gafael, mae'n rhaid i bob un ohonom gymryd sylw. Y llynedd, cyhoeddwyd astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd a oedd wedi cyfweld â phlant mewn 35 o wledydd ym mhob cwr o'r byd. Gofynnodd yr astudiaeth iddynt pa mor hapus y teimlent gartref, yn yr ysgol, am eu dyfodol, amdanynt eu hunain, ac mewn sawl agwedd, plant Cymru oedd â rhai o'r sgoriau isaf. Digwyddodd y cyfweliadau ymhell cyn COVID, ac fel y mae Platfform wedi atgoffa'r Aelodau o'r Senedd wrth baratoi ar gyfer y ddadl heddiw, tarodd COVID-19 y rhai a oedd eisoes yn cael yr amser caletaf. Gwn ein bod i gyd wedi arfer clywed gwleidyddion yn siarad am ymchwil neu ystadegau neu ganfyddiadau, a'r duedd yw ein bod yn mynd yn fyddar iddynt, ond yr astudiaeth honno—dyma'r math o beth a ddylai ein hysgwyd a mynnu ein sylw. Dylai beri dychryn i ni. Oherwydd yn anffodus nid yw'r canfyddiadau'n unigryw. Mae 'Adroddiad Plentyndod Da 2021' gan Gymdeithas y Plant yn edrych ar atebion a roddwyd gan blant rhwng 10 a 15 oed i ddynodi pa mor hapus ydynt, ac roedd y sgoriau hapusrwydd cymedrig ar gyfer sut y mae'r plant hynny'n teimlo am fywyd yn gyffredinol, eu cyfeillgarwch ag eraill a'u hymddangosiad yn is na phan ddechreuodd yr arolwg yn 2009-10. Rwyf wedi bod yn edrych ar yr adroddiad, a rhai o'r amcangyfrifon mwyaf poenus y gellir eu hallosod ar gyfer plant Cymru yw bod tua 24,000 o blant yng Nghymru wedi nodi lefelau isel o hapusrwydd yn yr ysgol, a dywedodd 30,000 eu bod yn anhapus ynglŷn â'u hymddangosiad.

Nawr, ceir materion cymdeithasol ehangach y dylid mynd i'r afael â hwy yma—ehangach nag y gall unrhyw un Lywodraeth ymdrin â hwy ar ei phen ei hun—yn ymwneud â'r pwyslais a osodwn ar ymddangosiad, yr effaith y gall Instagram a chylchgronau ei chael ar ddelwedd y corff a'r ffyrdd y gall bwlio fod yn waeth ar y platfformau hyn ac o'u oherwydd. Rhaid cydnabod a chynllunio ar frys i fynd i'r afael â'r pethau hynny a'u trechu, oherwydd rydym yn sôn yma am deimladau sy'n ddychrynllyd o gyffredin i gynifer o blant.

Ond yn ehangach, beth y gallwn ei wneud i helpu plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl? Ddirprwy Lywydd, mae ein gwelliant, fel y'i nodwyd, yn galw am gyflwyno rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl a llesiant ataliol i ieuenctid. Dylai'r cymorth hwnnw yn y gymuned fodoli ochr yn ochr â chwnsela sydd ar gael mewn ysgolion, fel bod gan bobl ifanc rywle y gallant ymddiried ynddo i droi ato bob amser pan fyddant ond angen sgwrsio drwy eu problemau, rhywle lle maent yn teimlo'n ddiogel. Nawr, mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn y mae Cymdeithas y Plant wedi galw amdano, sef hybiau mynediad agored sy'n cynnig cymorth galw heibio ar sail hunangyfeirio. Ond Ddirprwy Lywydd, beth am y plant a'r bobl ifanc sydd mewn argyfwng? Rwy'n gwybod bod y comisiynydd plant wedi cyhoeddi adroddiad yr wythnos hon yn pwysleisio'r angen am ofal argyfwng ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc. Tynnodd sylw at y ffaith nad yw ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys yn lleoedd priodol i bobl ifanc orfod mynd iddynt pan fyddant mewn argyfwng, fod angen llochesau a chanolfannau argyfwng iechyd meddwl pwrpasol ar gyfer pobl ifanc, ac roedd hyn yn taro tant. Dywedodd y comisiynydd fod disgwyl yn rhy aml i blant a phobl ifanc ddilyn llwybrau anhyblyg nad ydynt bob amser yn gweithio iddynt, a wynebu amseroedd aros hir.

Dywedais ar ddechrau fy sylwadau, Ddirprwy Lywydd, nad yw bob amser yn hawdd mesur hapusrwydd. Yn anffodus, ar adegau mae'n rhy hawdd mesur anhapusrwydd eithafol pan fydd yn arwain at argyfwng, ciwiau o bobl yn aros am wasanaethau wedi'u gorlethu, metrigau anobaith sy'n ymestyn o'n blaenau. Gwn fod y Llywodraeth am gael hyn yn iawn, gwn fod y Gweinidog eisiau hynny'n fawr, felly ochr yn ochr â'r angen ymarferol am ganolfannau argyfwng ar gyfer hybiau cymunedol, a gawn ni ailffocysu'r dangosyddion a ddefnyddiwn ar gyfer llesiant plant? Yn ogystal â'r pethau allanol y gallwn eu mesur, fel cyrhaeddiad, cyflogaeth a thai, a gawn ni dalu mwy o sylw i'r hyn y mae plant yn ei deimlo yn eu pennau, sut y maent yn ymdopi, yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym am beth sy'n digwydd? A gawn ni ddilyn cyngor Cymdeithas y Plant a chynnwys y dangosyddion hynny yn y modd y cynhelir arolygon yng Nghymru i lywio polisi cyhoeddus, ie, ac i wrando ar y plant hynny, oherwydd efallai mai dyna'r ymyrraeth fwyaf pwerus y gallem ei gwneud?

16:00

Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Rwyf wedi dweud ar fwy nag un achlysur fod y pandemig COVID wedi amlygu'r gwendidau yn llawer o'n gwasanaethau, ac yn anffodus mae diffyg cynnydd ar ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl o'r radd flaenaf yn enghraifft arall o sut y mae'r wlad hon bellach yn ei chael hi'n anodd. Nid yw iechyd meddwl yn adnabod ffiniau, nid yw wedi'i gyfyngu i un rhan o'r boblogaeth. Gall effeithio ar unrhyw unigolyn, o ba statws bynnag, ac er bod llawer y gallwn ei wneud i gynnal iechyd meddwl da, weithiau gall realiti bywyd fod yn rhy llethol.

Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar effaith iechyd meddwl ar blant a phobl ifanc, a phwysigrwydd cael hyn yn iawn. Mae pwyllgorau blaenorol y Senedd wedi canolbwyntio ar blant ac iechyd meddwl. Cyhoeddwyd yr adroddiad 'Cadernid Meddwl: Ddwy Flynedd yn Ddiweddarach' yn 2020, ac er bod rhai newidiadau cadarnhaol wedi'u gwneud i'r ddarpariaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, y casgliad oedd bod

'plant a phobl ifanc yn dal i gael trafferth dod o hyd i’r gefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl y mae ei hangen arnynt'.

Dadleuodd y pwyllgor nad yw gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl yn digwydd yn ddigon cyflym, mae bylchau o fewn y gwasanaethau presennol, ac mae effaith y pandemig yn golygu bod yr angen am ffocws cryf ar iechyd emosiynol a meddyliol plant yn fwy hanfodol nag erioed. Gwn ein bod yn dyrannu llawer o arian i wasanaethau iechyd meddwl a'i bod yn her anodd yn hanesyddol i recriwtio'r nifer gywir o glinigwyr â'r cymysgedd cywir o sgiliau i wasanaethau iechyd meddwl. Mae hon yn broblem gyda'r gweithlu sy'n rhaid ei blaenoriaethu os ydym am allu ymateb i ofynion y presennol a'r dyfodol. Er bod Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn cymryd camau i ddeall galwadau a deall pa mor effeithiol yw'r llwybrau presennol, dangosodd canfyddiadau cynnar yr adroddiad yn glir fod plant a phobl ifanc yn ei chael yn anodd defnyddio'r gwasanaeth, am ei fod yn canolbwyntio gormod ar oedolion.

Fel llawfeddyg orthopedig, dyma un o'r rhesymau pam fy mod eisiau inni fynd i'r afael â'r angen am ofal brys ar gyfer iechyd meddwl. Nid yw gwasanaethau'n adlewyrchu realiti bywyd. Os gall dyn dorri ei goes yn hwyr ar nos Sadwrn a chael ei drin gan glinigydd mewn adran ddamweiniau ac achosion brys, pam na all yr un egwyddor fod yn berthnasol i rywun sydd wedi dioddef niwed i'r meddwl? Gellir trwsio toriadau ac yn gorfforol, gorau po gyflymaf y caiff y toriadau hynny eu trin; mae'r un peth yn wir am salwch meddwl, mae'r gobaith o sefydlogi a gwella yn well os ymatebir iddynt yn gyflym. Nid oes gan y dyn sydd wedi torri ei goes fwy o hawl i gael cymorth na pherson ifanc yn ei arddegau y mae ei feddwl wedi torri. Nid oes ganddo fwy o hawl i gael cymorth parhaus i wella na pherson ifanc yn ei arddegau sydd angen cyfnod o gymorth ar gyfer ei iechyd meddwl. Nid oes ganddo fwy o hawl i gael blaenoriaeth pan fydd, ymhen chwe mis, yn torri ei goes arall na'r person yn ei arddegau sy'n cael pwl arall o salwch meddwl. Mae'n bryd inni fynd i'r afael â'r anghydbwysedd, a hynny ar frys. Diolch.

16:05

Mae'r ddadl hon heddiw yn un hynod bwysig ac yn addas o ran ei hamseriad. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn profi problemau iechyd meddwl, ac mae data'n dangos bod lefelau pryder o fewn y boblogaeth yn uwch nag yr oeddent chyn y pandemig. Mae COVID-19, wrth gwrs, wedi effeithio ar les meddyliol pob un ohonom, ond i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl a oedd yn bodoli eisoes, mae'r pandemig wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd.

Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl pobl ifanc, gyda lefelau pryder yn uwch nag yr oeddent, ac mae ymchwil yn dangos bod problemau iechyd meddwl fel arfer yn dechrau pan fo unigolion yn blant neu'n bobl ifanc. Felly, rwy'n croesawu—yn croesawu'n fawr—er gwaethaf cyni, y £5 miliwn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru i wella ac ehangu cwnsela mewn ysgolion, i ariannu awdurdodau lleol i recriwtio a hyfforddi cwnselwyr, i ariannu'r gwaith o ddatblygu hyfforddiant proffesiynol i staff ysgolion ar faterion llesiant, a gwella lles meddyliol plant.

Fel cyn-athro, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi ein bod yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer lles meddyliol pobl ifanc. Ac er bod darparu cymorth iechyd meddwl yn hanfodol, mae blaenoriaethu gwasanaethau i wella mesurau ataliol hefyd yn bwysig. Gydag incwm Cymru ar lefelau 2010 yn 2021, mae cyni yn bendant wedi ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau, ar weithwyr cymdeithasol, ac ar dimau argyfwng iechyd meddwl.

Ac i mi, a siarad yn bersonol, gwn fod cerddoriaeth yn hynod bwysig i fy lles meddyliol. Ond yn anffodus, nid yw honno'n fraint y gall pawb ei mwynhau heddiw ledled Cymru. Ni all y gwaith o wella iechyd meddwl fod yn adweithiol yn unig, mae'n rhaid iddo fod yn rhagweithiol ac yn gyfannol. Gwyddom eisoes fod gwella mynediad at y celfyddydau a chwaraeon, gan ein galluogi i fynegi ein creadigrwydd, yn gwella ein lles meddyliol, ac mae'n rhaid iddo fod yn rhan hanfodol o'n strategaeth gelfyddydol ehangach i wella iechyd meddwl. Rydym yn aros i'r gwaith sydd ar y ffordd ar y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol ddod i ben, ac rwy'n annog buddioldeb a chraffter, a strategaeth gerddoriaeth genedlaethol i Gymru sy'n addas i'r diben, wedi'i hariannu'n dda ac sy'n darparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, llesiant a chenedlaethau'r dyfodol. Ac mae mwy y gallwn ac y dylem ei wneud. 

Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr, ond mae'n rhaid i'r Torïaid gyferbyn gydnabod hefyd—mae'n rhaid iddynt gydnabod, ac nid ydynt yn gwneud hynny—fod ffactorau fel ansicrwydd incwm, diffyg arian a dyled yn effeithio'n gryf ar iechyd meddwl, ac mae'r rhai sydd eisoes ar incwm is yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl. Mae'n destun pryder mawr, Ddirprwy Lywydd, i gloi, y bydd y toriad credyd cynhwysol o £20 gan Lywodraeth Dorïaidd y DU sy'n dod i rym heddiw—mae'r ddadl hon yn addas, fel y dywedais—yn cael effaith negyddol gref ar iechyd meddwl nifer fawr o'r bobl sy'n ei gael.

Felly, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd gwasanaethau'n cael eu gwella ledled Cymru, er gwaethaf cyllidebau cyni parhaus, i sicrhau nad oes neb dan anfantais o ran eu mynediad at wasanaethau oherwydd eu lleoliad? A pha sicrwydd y gallwch ei roi, Weinidog, y rhoddir blaenoriaeth i wasanaethau ataliol, gan gynnwys o fewn y strategaeth a'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, i wella lles meddyliol cyfannol, wrth inni ymadfer wedi'r pandemig hwn a chamu i Gymru iachach a brafiach? Diolch. 

Roeddwn wrth fy modd pan benodwyd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant newydd oherwydd gwn am ei hangerdd personol i fod eisiau mynd i'r afael â'r problemau a gawsom yn ein gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc dros y blynyddoedd, ac roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan luniodd ei adroddiad 'Cadernid Meddwl'. Ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn gallu mynd i'r afael â llawer o'r pryderon sydd, yn anffodus, fel y mae pawb ohonom yn gwybod, yn parhau yn sgil yr adroddiad hwnnw. Derbyniwyd llawer o'r argymhellion gan Lywodraeth Cymru wrth gwrs, ac ni dderbyniwyd rhai eraill, er mawr ofid i Gadeirydd y pwyllgor ar y pryd. Ond yn gwbl amlwg, mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni weithio arno ar sail drawsbleidiol i fynd i'r afael ag ef ac rydym bob amser wedi gwneud hynny mewn perthynas ag iechyd meddwl yn y Senedd hon dros y blynyddoedd.

Mae fy etholaeth i, wrth gwrs, wedi'i lleoli yn yr ardal a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae'n destun gofid mawr i mi fod y bwrdd iechyd hwnnw wedi wynebu heriau mawr yn y gorffennol yn ei ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl, gyda'r gofal gwarthus a roddwyd i bobl oedrannus ar ward Tawel Fan yn uned Ablett. A hefyd, yn anffodus, mae problemau enfawr a sylweddol yn dal i fod yno. Mae'n parhau i fod yn destun mesurau arbennig i bob pwrpas, y lefel uchaf o ymyrraeth, mewn perthynas â'r heriau iechyd meddwl hynny sydd ganddo o hyd, er bod tua chwe blynedd ers i'r sefydliad gael ei wneud yn destun mesurau arbennig. Ddirprwy Weinidog, rwy'n credu y byddwn yn dibynnu arnoch chi i godi'r mater hwnnw'n uwch ar y rhestr flaenoriaethau, fel y gallwn sicrhau bod pobl gogledd Cymru yn cael y lefelau gofal a thriniaeth, mynediad at driniaeth, y maent yn ei haeddu.

Gwyddom ar hyn o bryd—. Ydw, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.

16:10

Diolch, Darren Millar, am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n croesawu'r ddadl hon. Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref, ond dylem gofio ei fod bob dydd mewn gwirionedd. Ac o ran lefel y cymorth a'r gwasanaethau, credaf fod yr Aelod yn iawn: mae angen inni fynd i'r afael â'r problemau hynny ac roeddwn yn falch hefyd fod y Gweinidog wedi cael y portffolio hwn, gyda'i hangerdd gwirioneddol.

Dywedaf hyn fel rhywun sy'n ystadegyn go iawn o'r un o bob pedwar o bobl ag iechyd meddwl: a ydych chi'n cytuno â mi, mewn gwirionedd, fod gan bedwar o bob pedwar o bobl iechyd meddwl, ac ar rai dyddiau mae fy un i'n waeth na'ch un chi, ac fel arall, ac mae hwnnw'n fater y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef, ac fel rydych wedi'i awgrymu, mae angen gwella rhai gwasanaethau a'u gwneud yn fwy hygyrch? Mae yna lefel o wasanaeth, fel yr awgrymodd John Griffiths, gyda chlwb pêl-droed Casnewydd—clwb gwych—ond hefyd mae yna wasanaeth rydym yn ei ddarparu i'n gilydd, ac mae'r Aelod wedi codi fy nghalon ar fy nyddiau ofnadwy, pan nad oeddwn eisiau canolbwyntio ar y diwrnod, gyda choflaid syml a chwtsh. Mae hynny yr un mor bwysig. A ydych chi'n cytuno â hynny?

Rwy'n sicr yn cytuno fod cwtsh syml yn gwneud gwahaniaeth enfawr weithiau ac rwyf hefyd yn cydnabod bod pawb yn cael diwrnodau gwael gyda'u hiechyd meddwl. Gallant deimlo'n isel neu'n ofidus neu'n bryderus am bob math o bethau gwahanol. Ac mae'n rhaid inni gydnabod na ddylai fod stigma ynghlwm wrth iechyd meddwl gwael. Mae'n rhaid inni sicrhau, fel y dywedodd Altaf Hussain, ei fod yn cael yr un flaenoriaeth ag iechyd corfforol pobl ac yn anffodus nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd.

Hoffwn ddychwelyd at yr ystadegau yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, asesiadau iechyd meddwl o fewn 28 diwrnod i bobl o bob oedran: dim ond 59 y cant o bobl sy'n cael eu gweld o fewn y targed hwnnw. Ac i bobl ifanc, yn anffodus, Ddirprwy Weinidog, mae'n waeth byth: ychydig dros chwarter sy'n cael eu hasesu o fewn y targed hwnnw, y cyfnod o 28 diwrnod, ac mae hyn er gwaethaf y ffocws a roddwyd i'r mater dair blynedd yn ôl pan gyhoeddwyd yr adroddiad, 'Cadernid Meddwl'. Gwyddom hefyd fod un o bob pedwar o'r rheini'n aros am amser hir iawn am therapi ar ôl eu hasesu, hyd at 18 mis mewn rhai achosion yng ngogledd Cymru, ac yn amlwg nid yw hynny'n ddigon da pan fyddwn yn sôn am fywydau pobl ac eisiau eu harfogi â'r gallu i wella eu hiechyd meddwl drostynt eu hunain.

Adeiladwyd yr uned CAMHS yn Abergele, gwasanaeth pobl ifanc gogledd Cymru, yn 2008. Fe'i hagorwyd gan Edwina Hart, y Gweinidog iechyd ar y pryd. Roedd 18 o welyau yn yr uned honno, ac mae 18 o welyau yn yr uned honno o hyd, ond nid yw erioed wedi'i defnyddio ar gapasiti llawn. Ar hyn o bryd, dim ond 12 o welyau sy'n cael eu defnyddio gan bobl sydd eu hangen, ac yn anffodus rydym yn dal i anfon pobl filltiroedd i ffwrdd dros y ffin i Loegr er mwyn iddynt gael gwasanaethau y gallent eu cael ar garreg eu drws yng ngogledd Cymru.

Felly, hoffwn eich annog, Ddirprwy Weinidog: cadwch eich ffocws ar y mater hwn. Gwn yn bendant fod eich calon gyda phawb yn y Siambr hon yn eich awydd i fynd i'r afael â'r heriau hyn, ond byddai fy etholwyr a minnau'n ddiolchgar iawn pe baech yn rhoi amser i ganolbwyntio ar yr heriau sydd wedi bodoli'n gyson yng ngogledd Cymru ers chwe blynedd bellach. Gwyddom fod enghreifftiau o arferion da ledled y wlad, ond hoffem pe baent i'w gweld yn fwy cyson yn ein hardal ni.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi siarad heddiw. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, a chyda Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn agosáu, mae hwn yn gyfle da i drafod pwysigrwydd diogelu a chefnogi ein hiechyd meddwl a'n llesiant. Mae 12 mis wedi bod ers i ni ddechrau gweithredu ein cynllun cyflawni, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a ddiwygiwyd mewn ymateb i'r pandemig, ac rwy'n edrych ymlaen at adrodd ar ein cynnydd i'r Aelodau mewn datganiad yn y Siambr hon yr wythnos nesaf.

Mae'r pandemig wedi cael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl ni i gyd mewn sawl ffordd wahanol iawn. Fel y mae Jack Sargeant wedi nodi, mae gan bob un ohonom iechyd meddwl, ac ar rai dyddiau mae'n dda, ar rai dyddiau nid yw cystal. Rydym wedi gweld bod rhai pobl wedi teimlo'n bryderus ac ynysig ac ar eu pen eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud a rhai pobl hefyd yn bryderus ynglŷn ag ailymuno â chymdeithas wrth i'r cyfyngiadau gael eu codi. I rai, gwyddom fod y pandemig yn gyfle i ailgysylltu â chymunedau, wrth i gymdogion gefnogi ei gilydd, ac wrth i deuluoedd allu treulio mwy o amser gyda'i gilydd. Dyna pam, er bod effaith COVID yn debygol o fod yn niweidiol, ei bod yn hanfodol inni ddeall yr effaith ar rai grwpiau mewn mwy o fanylder.

Rydym yn parhau i gryfhau'r trefniadau a roddwyd ar waith ar ddechrau'r pandemig. Mae ein cymorth dadansoddi yn tynnu sylw at y dystiolaeth a'r canlyniadau diweddaraf o arolygon poblogaeth yng Nghymru a ledled y DU. Rydym wedi sefydlu bwrdd cyflawni a throsolwg y Gweinidog ar iechyd meddwl, a gadeirir gennyf fi'n bersonol. Mae'n rhoi mwy o sicrwydd i mi am y cynnydd a wneir ar gyflawni ein rhaglen waith iechyd meddwl, ond hefyd mae'n rhoi cyfle imi herio os teimlaf nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud neu nad yw pethau'n cael eu gwneud yn ddigon cyflym. Yn bwysig iawn, mae aelodaeth y bwrdd yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddi i gryfhau ein cymorth dadansoddol.

Mae dadansoddi'n dangos, er bod lefelau pryder wedi aros yn uwch nag yr oeddent cyn y pandemig, ein bod wedi gweld amrywiadau, ac yn ddealladwy, mae lefelau pryder wedi gostwng wrth i gyfyngiadau gael eu llacio. Mae agweddau ar iechyd a llesiant personol, pryder am iechyd a llesiant pobl eraill, a chyllid personol i gyd wedi achosi pryderon i unigolion i wahanol raddau yn ystod y cyfyngiadau symud. Gwyddom hefyd nad yw'r effaith wedi'i theimlo'n gyson ar draws pob grŵp. Dengys ymatebion i arolygon fod rhai grwpiau o bobl, megis rhai â chyflyrau iechyd meddwl a oedd yn bodoli eisoes, oedolion ifanc, cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, rhai ar aelwydydd incwm is a menywod, er enghraifft, yn adrodd am lefelau uwch o bryderon iechyd meddwl nag eraill, ac wedi gwneud hynny drwy gydol y pandemig. Gwyddom fod arolygon gan Gomisiynydd Plant Cymru hefyd yn tynnu sylw at yr effaith ar blant a phobl ifanc.

Ym mis Hydref 2020, diwygiwyd ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' mewn ymateb i'r newidiadau hyn a thystiolaeth arall, ac mae bellach yn cynnwys ystod o gamau gweithredu newydd neu gamau gweithredu wedi'u cyflymu i ddarparu cymorth ychwanegol lle mae ei angen fwyaf. Yn fwyaf arbennig, rydym wedi cryfhau ac ehangu ein cynnig haen 0 i ddarparu mynediad agored at ystod o gymorth iechyd meddwl anghlinigol. Gellir cael mynediad at hwn dros y ffôn neu ar-lein ac nid oes angen atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol. Caiff llawer o'r cymorth hwn ei ddarparu gan y trydydd sector, a hoffwn ategu diolch Tom Giffard iddynt, ac maent hefyd mewn sefyllfa mor dda i gyrraedd y cymunedau mwyaf bregus ac sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf ledled Cymru. Gwyddom hefyd, i rai grwpiau, fod goresgyn stigma wrth geisio cymorth iechyd meddwl yn arbennig o anodd. Felly, mae ein cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl yn cynnwys camau gweithredu penodol a oruchwylir gan is-grŵp stigma a gwahaniaethu ein bwrdd partneriaeth cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl. Mae hwn yn cynnwys grŵp gorchwyl a gorffen penodol ar gyfer pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sydd ar hyn o bryd yn adolygu pa gamau pellach sydd eu hangen i gynorthwyo cymunedau amrywiol i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl.

Mewn perthynas â'r cynnig heddiw, rwyf hefyd yn cydnabod yr angen i gryfhau ein trosolwg mewn ymateb i nifer yr achosion o hunan-niweidio yng Nghymru. Mae ymchwil a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe yn dangos, er ein bod wedi gweld cynnydd mewn hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc dros y 10 mlynedd diwethaf, fod y niferoedd wedi gostwng ar draws pob oedran yn ystod y pandemig, yn seiliedig ar nifer y derbyniadau i'r ysbyty ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae nifer yr achosion o hunan-niweidio bellach yn debyg i'r lefelau cyn y pandemig. Ond nid wyf yn hunanfodlon mewn unrhyw ffordd. Mae ymddygiad hunan-niweidio yn gymhleth, ac nid yw data derbyniadau'r GIG ond yn un elfen o'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddeall lefelau hunan-niweidio yng Nghymru yn well. Fe wnawn bopeth yn ein gallu i leihau nifer yr achosion o hunan-niweidio. Gallaf gadarnhau bod uned gomisiynu gydweithredol GIG Cymru a Gwelliant Cymru yn sefydlu rhaglen waith i adolygu'r dystiolaeth a'r data i gefnogi ein dulliau o atal hunan-niweidio.

Mewn ymateb i sylwadau Janet Finch-Saunders am gyfraddau hunanladdiad, a gaf fi sicrhau'r Aelod ein bod yn monitro cyfraddau hunanladdiad yn agos iawn fel sy'n digwydd ledled y DU? Mae'r dystiolaeth ar hyn o bryd yn awgrymu nad ydym yn gweld cynnydd yn y cyfraddau hunanladdiad o ganlyniad i'r pandemig, ond nid ydym mewn unrhyw ffordd yn hunanfodlon ynglŷn â hynny. Dyna pam ein bod yn cyflwyno ffordd o gadw gwyliadwriaeth mewn amser real fel y gallwn—[Torri ar draws.] Ewch chi.

16:20

Diolch. Yn ddiweddar, mae Esgob Bangor wedi cysylltu â mi ac wedi nodi ei bryderon real, difrifol ynglŷn â nifer y bobl sy'n cyflawni hunanladdiad yng ngogledd Cymru. Yn fwyaf arbennig, mae wedi tynnu sylw at ddynion ifanc. A yw'n bosibl, felly—? Mae wedi gofyn—roeddwn am ysgrifennu atoch—a fyddech yn ystyried cynnal cyfarfod fel y gallwn drafod y pryderon hynny. Oherwydd os oes clerigwr yn dweud bod problem, yn amlwg, mae'n aelod gweithgar o'r gymuned, a chredaf y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'w bryderon.

Diolch am hynny, Janet. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod â'r unigolyn a grybwyllwch, ond dylwn ailbwysleisio nad ydym, diolch byth, yn gweld cynnydd yn y cyfraddau hunanladdiad ar hyn o bryd. Mae'n bwysig iawn fod pob un ohonom yn wirioneddol gyfrifol yn yr iaith a ddefnyddiwn ynglŷn â hunanladdiad, oherwydd pan soniwn am gyfraddau, mae pobl yn dweud pethau fel, 'Cyfraddau'n mynd drwy'r to', ac yn y blaen. Mae pobl fregus yn clywed hynny a gall ddylanwadu ar eu hymddygiad.

Rydym yn cadw gwyliadwriaeth mewn amser real fel ein bod yn ymwybodol, heb orfod aros am gwestau, beth yw'r gyfradd hunanladdiad wirioneddol ar sail barhaus. Ac mae hyn hefyd yn golygu y gallwn roi cymorth ar unwaith i'r teuluoedd a'r bobl eraill sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad. Rydych yn llygad eich lle am effaith hunanladdiad; mae'n dinistrio teuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan. Yr hyn rydym eisiau ei wneud—ac rwy'n hyderus ein bod yn gwneud cynnydd ar hynny—yw sefydlu llwybr profedigaeth ar ôl hunanladdiad a sicrhau ei fod ar gael i bawb y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt. 

I droi, felly, at wasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig, fel y gŵyr yr Aelodau, maent wedi parhau i fod ar gael yn ystod y pandemig, ond mae amseroedd aros i gael cymorth wedi'u heffeithio ac nid yw rhai targedau wedi'u cyrraedd. Rydym yn cydnabod bod amseroedd aros ledled Cymru, yn enwedig i blant a phobl ifanc, yn her, ond gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod yn benderfynol o fynd i'r afael â'r her honno fel mater o frys.

Fodd bynnag, nid newid targedau na chreu rhai newydd yw'r ateb yma. Drwy fy nghysylltiad rheolaidd â byrddau iechyd, rwy'n pwyso arnynt gyda fy nghynlluniau i fynd i'r afael ag amseroedd aros, ac rwyf wedi mynd gam ymhellach pan fyddaf wedi teimlo bod y sefyllfa'n fwy difrifol, tra'n cydnabod nad yw hyn yn rhywbeth y gellir ei ddatrys dros nos. Ac fel y dywedais eisoes, rydym wedi buddsoddi'n helaeth yn ein cymorth mynediad agored haen 0. Ar yr un pryd, rwy'n benderfynol o ddatblygu ein dull system gyfan o ymyrraeth gynnar ac atal ar gyfer plant ac oedolion er mwyn sicrhau y gall pawb gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Bydd hyn yn helpu i leddfu'r pwysau ar y gwasanaeth a lleihau amseroedd aros. 

Rydym yn gwneud cynnydd da o ran gwella gofal argyfwng, a byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn yn fy natganiad yr wythnos nesaf. Gallaf ailadrodd ein hymrwymiad i sicrhau bod un pwynt cyswllt iechyd meddwl 24/7 ar gael i bob oedran ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn mis Ebrill 2022. Fodd bynnag, un elfen yn unig yw ymateb y GIG yn yr ymateb trawslywodraethol ac amlasiantaethol ehangach sydd ei angen. Fel y dywedodd John Griffiths yn ei gyfraniad, mae iechyd meddwl yn fusnes i bawb.

Rwy'n deall yn iawn fod sicrhau bod cael y gweithlu cywir ar waith yn hollbwysig, ac mae ein cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl yn cynnwys hyn fel nod sylfaenol. Yn ogystal ag ehangu'r gweithlu, rydym hefyd angen y cymysgedd cywir o weithwyr proffesiynol sy'n gallu darparu cymorth iechyd meddwl. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwneud cynnydd da ar ddatblygu gweledigaeth a chynllun gweithlu trawsnewidiol mwy hirdymor ar gyfer iechyd meddwl a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar weithlu'r GIG yn ei gyfanrwydd, felly yn ogystal â'r gwaith blaengynllunio y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ei wneud, rwyf hefyd yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud yn awr i gryfhau ein gweithlu presennol yng ngoleuni'r pwysau presennol ar y gweithlu a'n rhagolwg o gynnydd yn y galw iechyd meddwl. Byddaf yn dweud mwy am hynny wrth y Siambr maes o law. 

Rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi oherwydd yr ymyriad, ond rydych wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny.

A gaf fi droi, felly, at welliant Plaid Cymru? Rwyf wedi trafod y cynlluniau hyn y mae Plaid Cymru yn eu cyflwyno gyda Rhun ap Iorwerth o'r blaen, ond credaf mai ein dull presennol o sicrhau bod cymorth ataliol yn cael ei ddarparu ar draws nifer o leoliadau—drwy ysgolion, colegau, clybiau ieuenctid a gwasanaethau, lle mae plant yn byw eu bywydau bob dydd—yw'r un cywir. Bydd ein fframwaith NYTH newydd, a gydgynhyrchir gyda phobl ifanc ledled Cymru, ynghyd â'n dull ysgol gyfan, yn cyflawni hynny.

A gaf fi gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ddweud bod ysgogi newid a gwelliant mewn cymorth iechyd meddwl, yn enwedig i blant a phobl ifanc, wedi bod yn ganolog yn fy ngwaith yn y Senedd hon? O dan fy arweiniad i, cyhoeddwyd adroddiad 'Cadernid Meddwl' y pwyllgor plant a phobl ifanc. Rwy'n falch o'r newidiadau a ddaeth yn sgil yr adroddiad hwnnw, yn enwedig datblygu ein dull ysgol gyfan a rhoi ffocws cryf iawn ar ymyrraeth gynnar. Mae mwy o waith i'w wneud ar draws y system gyfan, ond gall yr Aelodau fod yn sicr fy mod yn gwbl benderfynol o gyflawni'r agenda hon ar gyfer plant ac oedolion yn fy rôl newydd yn y Llywodraeth. Diolch yn fawr.

16:25

Diolch i bob un Aelod am gyfrannu i'r ddadl ac i'r Dirprwy Weinidog am ymateb.

Diolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan, ac i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb a'i phenderfyniad diwyro i sicrhau'r newid angenrheidiol yn hyn o beth.

Rydym yn sefyll yma ar adeg dyngedfennol, ac o ystyried bod y pwnc sy'n cael ei drafod heddiw mor berthnasol, byddwn ar fai pe na bawn yn rhannu fy stori bersonol fy hun. Fel yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, rwyf finnau hefyd yn ystadegyn. Fel nifer o bobl y llynedd, yn ystod y cyfyngiadau symud, pan oedd newydd-deb gweithio gartref wedi pylu a phan nad oeddem ond yn gweld ffrindiau ar gwisiau galwadau Zoom, roeddwn yn teimlo'n ynysig ac yn unig, a châi hyn ei ddwysáu gan y ffaith fy mod yn byw ar fy mhen fy hun. Fel y soniodd Delyth Jewell, yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, mae'n anodd ei fesur, ac nid oeddwn yn sylweddoli bod hyn yn digwydd ar y pryd, fy mod yn cael trafferth. Roeddwn yn fyr fy nhymer ac yn bigog. Yn hytrach na mynd ar deithiau cerdded yn gynnar yn y bore, byddwn yn cuddio o dan y dwfe. Rwy'n edrych yn ôl yn awr ac yn sylweddoli, gydag eglurder llwyr, fod fy iechyd meddwl dan straen. Diolch byth, wrth i'r cyfyngiadau symud lacio, gallwn gyfarfod â ffrindiau a gwneud chwaraeon. Gwn mai cerddoriaeth oedd y peth i'r Aelod dros Islwyn; i mi, chwaraeon ydoedd. Teimlwn fy iechyd meddwl yn gwella ar unwaith. O siarad â ffrindiau a chydweithwyr, gwn nad fi oedd yr unig un a deimlai fel hyn yn ystod y cyfyngiadau symud.

Ond mae'n dangos nad oes neb yn ddiogel rhag iechyd meddwl gwael. Bydd llawer ohonom, ar ryw adeg, yn dioddef i wahanol raddau. Fel y dywedodd Altaf Hussain, nid oes ffiniau i iechyd meddwl ac nid yw'n gwahaniaethu. Fodd bynnag, fel y nododd yr Aelod dros Orllewin De Cymru, Tom Giffard, yn briodol, roedd gwasanaethau iechyd meddwl Cymru yn ei chael hi'n anodd ymhell cyn COVID, ac fel y mae, rwy'n amau y bydd yr un anawsterau'n parhau ymhell ar ôl y pandemig. Dyna pam y mae'r cynnig hwn sydd gerbron yr Aelodau heddiw mor bwysig. Mae wedi bod yn anodd gwrando ar yr ystadegau niferus y prynhawn yma: bydd un o bob pedwar yn dioddef problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau; mae unigrwydd wedi cynyddu i 26 y cant yn ystod y pandemig; mae cynnydd sydyn wedi bod yn nifer y gwrth-iselyddion sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn, fel y soniodd yr Aelod dros Aberconwy; a'r ffaith nad yw targed Llywodraeth Cymru o gyflawni 80 y cant o asesiadau gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod wedi'i gyrraedd dros yr wyth mis diwethaf. O ganlyniad i hyn, gwelsom sefydliadau a arweinir gan y gymuned ledled Cymru yn arwain y ffordd drwy ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl sy'n achub bywydau.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i ddau sefydliad elusennol sy'n gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl. Yn sir Benfro, cafodd y cyn filwr Barry John syniad: helpu i gefnogi cyn-filwyr ein lluoedd arfog gyda'u hiechyd meddwl drwy therapi celf. O'r syniad hwnnw, ganed Oriel VC yn Noc Penfro a Hwlffordd. Gyda chefndir artistig Barry a'i gysylltiad â gwaith iechyd meddwl, fe welodd yr angen yn y gymuned am ei arbenigedd a'i brofiadau. Nawr, mae Oriel VC yn gweithio gyda chyn-filwyr, pobl hŷn, plant, ac unrhyw un sy'n teimlo bod angen amser arnynt i gymdeithasu a mynegi eu hunain drwy gelf. Yn genedlaethol, mae sefydliadau fel Sefydliad DPJ sy'n gweithio gyda'n cymuned amaethyddol, sector sydd â lefelau brawychus o uchel o broblemau iechyd meddwl, i roi cymorth i rannu'r baich i'r rhai sydd ei angen. Wedi trasiedi hunanladdiad Daniel Picton-Jones, penderfynodd ei weddw, Emma, greu'r sefydliad i gefnogi iechyd meddwl pobl yn y sector ffermio, i'r rheini sy'n teimlo'n union fel y teimlai Daniel, gan roi'r cymorth na wyddai ef sut i'w gael iddynt.

Nid yw'r elusennau eithriadol hyn ond yn ddwy enghraifft ymhlith llawer sy'n darparu cymorth, arweiniad, clust i wrando a hyd yn oed ysgwydd i grio arni ar gyfer y rhai sydd ei hangen. Ac wrth ymateb i'r Aelod o Ddwyrain Casnewydd, mae'r hyn y mae clwb pêl-droed Casnewydd yn ei wneud yn wych. Gwn yn bersonol fod chwaraeon yn ysgogiad mor wych i wella iechyd meddwl. Ond ni ddylai fod yn rhaid i glybiau chwaraeon ac elusennau wneud y gwaith hwn ar eu pen eu hunain. Dyna pam y mae'r cynnig hwn mor bwysig—i gyflwyno canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol, cynllun gweithlu iechyd meddwl clir ac adroddiadau blynyddol a thargedau ar gyfer amseroedd aros am driniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys lleihau ôl-groniadau.

Po fwyaf a ddysgwn am iechyd meddwl, yn wir, po fwyaf y siaradwn am iechyd meddwl, gorau oll y gallwn ddarparu cymorth defnyddiol wedi'i dargedu i'r rheini yn ein bywydau sy'n cael trafferth gyda chyflyrau iechyd meddwl. Mae'n iawn i beidio â bod yn iawn, ond nid yw'n iawn inni beidio â gwneud dim ynglŷn â'r ddarpariaeth iechyd meddwl. Ddirprwy Weinidog, rwy'n edrych ymlaen at eich datganiad ar y ddarpariaeth iechyd meddwl yn y dyfodol, ond heddiw, rwy'n annog yr holl Aelodau i bleidleisio dros y cynnig hwn. Diolch yn fawr.

16:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar dâl gweithwyr gofal iechyd. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7791 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi ymdrechion Unite, Unsain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i sicrhau cyflog teg i bob gweithiwr gofal iechyd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn ei thrafodaethau presennol â'r undebau gofal iechyd, i ymrwymo i godiad cyflog mewn termau real uwchlaw'r hyn a gynigiwyd gan gorff adolygu cyflogau'r GIG.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi diolch iddynt; rydym wedi eu cymeradwyo; rydym wedi dod i'w gwerthfawrogi yn fwy nag erioed efallai dros y 18 mis diwethaf. Ond ar ôl aberthu cymaint, mae gweithwyr iechyd a gofal y GIG ledled Cymru yn haeddu cael eu gwobrwyo’n iawn ac yn deg drwy eu cyflog. Y peth lleiaf y credwn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yw sefyll ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru ac ymrwymo i godiad uwch na'r hyn a gynigiwyd gan gorff adolygu cyflogau'r GIG, nad yw, wrth gwrs, yn cadw i fyny â chwyddiant hyd yn oed. Dyna pam ein bod yn cynnal y ddadl hon heddiw.

Yr hyn a wnaeth profiadau'r pandemig wrth gwrs oedd atgyfnerthu'r hyn a wyddem eisoes am y GIG a'r gweithlu iechyd a gofal—gweithlu a oedd yn dioddef oherwydd prinder staff a morâl isel, a oedd yn gweithredu mewn amgylchedd heb ddigon o fuddsoddiad ac adnoddau. Nawr, ychwanegwch doriad cyflog mewn termau real at hynny, ac nid oes unrhyw ryfedd fod cymaint o weithwyr iechyd a gofal wedi pleidleisio drwy eu hundebau a’u cyrff cynrychioliadol i fynegi eu dicter ynglŷn â'r hyn a roddwyd iddynt.

Ers pa bryd y mae Llywodraeth Cymru yn efelychu'r hyn a welsom gan Lywodraeth y DU, a gynigodd, wrth gwrs, yn gyntaf oll, y cynnig gwarthus hwnnw o 1 y cant, cyn ei gynyddu wedyn i 3 y cant? Credwn y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy na hynny. 'Nid yw arian yn tyfu ar goed', meddai'r Prif Weinidog. Mae'n llygad ei le, wrth gwrs, ond credaf y byddai methu buddsoddi, cefnogi, denu a chadw staff—y staff gorau, y mae eu hangen arnom—mewn iechyd a gofal yn creu perygl o ddinistrio unrhyw obaith o dwf, o forâl mewn iechyd a gofal, ac o feithrin y staff y dylem fod yn eu trysori.

Mewn arolwg diweddar, nododd aelodau o Gonffederasiwn GIG Cymru mai recriwtio a chadw'r gweithlu yw un o'r prif heriau sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod gyrfaoedd yn y GIG yn parhau i fod yn gynnig deniadol, er mwyn sicrhau bod y gweithlu'n parhau i fod yn awyddus i ddarparu gofal o fewn y GIG, a gallu fforddio gwneud hynny, mae angen i'r gweithlu wybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae cyflog teg yn ganolog i hynny.

Yn ystod y pandemig, darparodd y gweithlu nyrsio yng Nghymru ofal clinigol cymhleth bob dydd—gan ddangos arweinyddiaeth; gan roi cymorth tosturiol i gydweithwyr, i gleifion a'u teuluoedd. Mae'n wir fod gweithwyr gofal iechyd bob amser wedi darparu'r lefel honno o ofal ac ymroddiad 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Ond ni allwn gymryd hynny'n ganiataol. Mae angen inni gydnabod bod prinder cronig o staff yng ngweithlu Cymru. Mae'n methu denu digon o unigolion i'r proffesiynau gofal iechyd; yn methu annog staff gofal iechyd i aros. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r prinder presennol yn y gweithlu a sicrhau bod y proffesiynau gofal iechyd yn opsiwn gyrfa deniadol—yn un sy'n talu'n dda ac wedi'i gefnogi'n ystyrlon. Mae cyflog teg yn ganolog i hynny.

Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi arwain y frwydr i sicrhau bod nyrsys yng Nghymru'n cael cyflog sy'n cydnabod eu cyfraniad i gymdeithas, nid i'r GIG yn unig. Drwy gydol y pandemig, mae pob un ohonom wedi bod yn dyst i nyrsio ar ei fwyaf trawiadol—hynod drawiadol—ac wedi gweld, yn gwbl gywir, ei fod yn broffesiwn medrus iawn, sy'n haeddu cyflog teg, ac mae arnom ddyled enfawr i'r proffesiwn nyrsio, fel i weithwyr eraill ym mhob rhan o'r system iechyd a gofal. Ond erbyn hyn, maent yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, a phwy all eu beio?

Mae undebau a chyrff cynrychioliadol wedi cynnal ymgynghoriadau cyflog. Canfu ymgynghoriad cyflog gan Unsain Cymru fod 87 y cant o weithwyr gofal iechyd wedi pleidleisio i wrthwynebu'r cynnig; mae aelodau'r GIG o undeb Unite Cymru wedi pleidleisio i wrthod eu codiad cyflog o 3 y cant; dywedodd 93.9 y cant o aelodau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a bleidleisiodd eu bod yn credu bod y dyfarniad cyflog yn annerbyniol, gyda 6.1 y cant yn unig yn dweud ei fod yn dderbyniol. Y prynhawn yma, mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi penderfynu cynnal pleidlais ddangosol ar weithredu diwydiannol yn Lloegr, gyda disgwyl i benderfyniad ar gyfer Cymru gael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Rydym yn clywed bod y Llywodraeth mewn trafodaethau gyda’r undebau, ac rwy'n gobeithio y bydd yr undebau’n llwyddiannus yn y trafodaethau hynny er lles y gweithwyr, er lles eu haelodau. Ac efallai y gall y Gweinidog gadarnhau heddiw fod y trafodaethau hynny'n cynnwys codiad cyflog ystyrlon—fod y posibilrwydd o godiad cyflog ystyrlon ar y bwrdd. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol a'i aelodau wedi mynegi cryn rwystredigaeth ynghylch awgrymiadau eu bod rywsut wedi bod yn tynnu allan o drafodaethau gyda'r Llywodraeth; y Llywodraeth sydd wedi bod yn dweud, 'Nid ydych i drafod codiad cyflog ystyrlon'. Deallaf y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal mor gynnar ag yfory, o bosibl, ac unwaith eto, efallai y gall y Gweinidog gadarnhau bod codiad cyflog ystyrlon ar y bwrdd.

Mae mesurau eraill a ystyrir wrth edrych ar dâl ac amodau, mesurau fel mwy o wyliau blynyddol a thâl gwyliau, i'w croesawu wrth gwrs, ond does bosibl na all y Llywodraeth dderbyn, yn y pen draw, er mwyn dangos diolch a gwerthfawrogiad a chydnabyddiaeth o'r gwaith a wnaed gan ein gweithwyr iechyd a gofal, fod yn rhaid i hynny gynnwys codiad cyflog mewn termau real yn awr. Mae'n bryd gwobrwyo ein gweithwyr iechyd a gofal â chytundeb cyflog teg newydd.

16:35

Rwyf i wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod ymroddiad ac aberth holl staff y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

2. Yn croesawu'r lefelau hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i bob rhanbarth a gwlad yn y DU, gan gynnwys Cymru, mewn cyllidebau olynol ac yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

3. Yn nodi argymhellion corff adolygu cyflogau annibynnol y GIG yng Nghymru a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ddyfarnu codiad cyflog o 3 y cant i staff y GIG.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar frys ag amodau gwaith fel cymorth iechyd meddwl, cadw staff, uwchsgilio a llenwi bylchau staffio o fewn y GIG, er mwyn sicrhau bod gennym weithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac ychwanegu fy niolch innau i'r gweithwyr gofal iechyd sydd wedi cadw Cymru'n ddiogel ac wedi ymladd mor galed yn ystod y pandemig yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws?

Rwy’n cynnig gwelliant 1, Ddirprwy Lywydd, yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar, a chredaf yn gryf, fel y mae pob un o'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei gredu yma yn y Senedd, y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod yn benodol ymroddiad holl staff y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ni fyddem yn y sefyllfa hon heddiw oni bai am ymdrechion enfawr ein gweithwyr gofal iechyd. Credaf na fydd unrhyw amheuaeth ar draws y Siambr hon, Ddirprwy Lywydd, fod y GIG wedi bod dan bwysau aruthrol dros y 18 mis i ddwy flynedd ddiwethaf, a chredaf ei bod yn braf fod Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid ychwanegol yn ystod y cyfnod hwnnw wrth gwrs, yn cynnwys £8.6 biliwn i ymladd y coronafeirws, y £2 biliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22, ac wrth gwrs, yr £1.9 biliwn o gyllid ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei wario ar y GIG dros y tair blynedd nesaf.

O'm rhan i, credaf mai'r hyn yr hoffwn ei ddweud yn y cyfraniad hwn yw nad mater o gyflog yn unig yw gofalu am ein gweithwyr gofal iechyd. Mae honno'n elfen bwysig, ond credaf ei bod yn bwysig hefyd fod Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael ag amodau gwaith; cymorth iechyd meddwl—mae hyn yn dilyn y ddadl flaenorol a arweiniwyd gennym ni fel Ceidwadwyr Cymreig wrth gwrs; cadw staff; ac uwchsgilio bylchau staffio yn y GIG i sicrhau bod y gweithlu'n addas ar gyfer y dyfodol. Credaf mai'r hyn y dylem ei wneud yw ceisio ysgwyddo rhywfaint o'r pwysau, gan leddfu'r pwysau ar ein gweithwyr gofal iechyd drwy sicrhau y darperir nifer ddigonol o staff. Dyma un o'r rhesymau pam fy mod wedi cyflwyno Bil cyfamod GIG Cymru yn y bleidlais Aelodau yn ddiweddar. Byddai'r Bil hwn yn gwarantu y bydd y GIG yn parhau i fod mewn dwylo cyhoeddus, yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ac yn gwarantu bod staff y GIG bob amser yn cael y cyflog a argymhellir gan gorff adolygu cyflogau'r GIG, sy'n gorff annibynnol. Ac nid yn unig hyn, byddai'n ymdrechu hefyd wrth gwrs i wella llesiant staff gydag oriau gwaith mwy hyblyg, mwy o wyliau, mwy o fynediad at ofal plant a chymorth iechyd meddwl. Mae'r rhain yn gynlluniau pendant ar gyfer dyletswydd i gefnogi staff y GIG yn ystod eu gyrfaoedd.

Mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi dweud y dylid trin gweithwyr rheng flaen yn wahanol o fewn y dyfarniad cyflog. Rydym wedi dadlau o'r blaen fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu ymrwymiadau cyflog i'r proffesiwn nyrsio, sydd ar wahân i staff eraill y GIG, a dylai fod mai rôl i Lywodraeth Cymru yw siarad ag undebau a'r corff adolygu cyflogau annibynnol i drafod y posibiliadau hyn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:40

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu ag undebau llafur GIG Cymru gan gynnwys ynghylch cyflogau'r GIG.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Gallaf gofio’r datganiad a wnaeth Joel James yn ystod y ddadl ar y Bil partneriaeth gymdeithasol, ac roedd yn ddatganiad eithaf cryf. Y geiriau a ddefnyddiodd, maent ar y sgrin gennyf yma:

'mae'r Llywodraeth hon yn poeni'n bennaf am ofalu am eu cyflogwyr undebau llafur.'

A, 'Siawns na all y Dirprwy Weinidog weld bod problem amlwg o ran sut y bydd undebau llafur yn cael dylanwad gormodol ar bolisi'.

Dyna'r geiriau a ddefnyddiwyd gan Aelod o feinciau’r Ceidwadwyr, ac ar y pryd, roedd gennyf bryderon dybryd am yr hyn a ddywedwyd, a mynegwyd llawer o bryderon yn y Siambr hon ynglŷn â hynny. Ond mae angen inni gofio mai'r undebau llafur yw cynrychiolwyr mwyaf effeithiol y gweithlu a welwyd yn y wlad hon. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda fy undeb llafur fy hun, Unsain, am y mater hwn, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi cael y sgwrs honno, yn enwedig fel cadeirydd grŵp Unsain yr Aelodau o'r Senedd, ac rwy'n hwyluso cysylltiadau rhwng Aelodau o'r Senedd ac Unsain fel y gellir cael y trafodaethau hynny.

Os oes beirniadaeth o'r Llywodraeth yn y mater hwn, ac rwy'n teimlo bod beirniadaeth, gallai'r undebau llafur—. Rwyf wedi dweud hyn wrth y Gweinidog fy hun yn breifat, fy mod yn teimlo y gallai'r undebau llafur fod wedi cymryd rhan fwy cynhwysfawr a dyfnach yn gynharach yn y broses hon. Credaf fod hwnnw'n fater y byddwn yn gobeithio y byddai'r Gweinidog yn ei gydnabod. A gwn fod system, corff annibynnol sy'n argymell cyflogau'r GIG ac sydd wedi'i sefydlu at y diben hwnnw, ond serch hynny, nid ydym yn dda i ddim os nad ydym yn gwrando ar y gweithlu, a'r corff sy'n cyflawni hynny yw'r undebau llafur. Felly, hoffwn pe bai'r Gweinidog yn ymateb ar y mater hwnnw.

Er hynny, ddoe, yn yr ymateb i arweinydd Plaid Cymru, dywedodd y Prif Weinidog yn glir mai pot cyfyngedig o gyllid sydd ar gael, gyda llawer o alwadau arno, a dyna’n union pam fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i gyflwyno diwygio cyfansoddiadol a gweld y cysyniad o ffederaliaeth radical a fyddai’n rhyddhau Llywodraeth Cymru i wneud yn union fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei araith. Un o'r pethau yr hoffwn eu gweld, er enghraifft, yw ardoll Holtham, ond byddai'n rhaid inni weld pwerau wedi'u dosbarthu'n wahanol ar draws y Deyrnas Unedig hon er mwyn codi ardoll Holtham am ofal cymdeithasol.

Mae'r Cynghorydd Carol Andrews yn gynghorydd Llafur ym Margoed, ond mae hi hefyd yn nyrs yn Ysbyty Ystrad Fawr. Tynnodd fy sylw at yr ymdrechion arwrol y mae hi a nyrsys eraill yn eu gwneud yno, yn enwedig drwy gyfnod COVID. Mae ei merch, Megan, newydd raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn nyrsio, a bydd yn nyrs wych yn y dyfodol.

Mae gweithwyr y GIG yn haeddu gwell cytundeb cyflog, ac rwy'n falch o glywed bod y drafodaeth honno'n parhau gyda Llywodraeth Cymru. Ac Unsain, yn hytrach na chyfarfod ag arweinydd Plaid Cymru, byddwn yn dweud wrth Unsain eu bod yn iawn i gyfarfod yn lle hynny â Llywodraeth Cymru, a pharhau â'r trafodaethau hynny, oherwydd fy mhryder yw, pan gynhelir trafodaethau gyda'r gwrthbleidiau, a'r pwyntiau hynny wedyn yn cael eu gwneud er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae'n tynnu oddi ar ddifrifoldeb y mater hwn. Yr hyn sydd angen ei wneud, fel y mae'r Gweinidog yn ei wneud, yw parhau â'r sgwrs adeiladol honno. A gwn mai dyna sy'n digwydd gydag undebau cyfrifol, fel fy un i, Unsain, ac edrychwn ymlaen at glywed canlyniad hynny. Gwyddom fod potensial ar gyfer gweithredu diwydiannol; rwy’n annog y Gweinidog a’r undebau i weithio gyda’i gilydd i wneud popeth a allant i osgoi hynny.

16:45

Efallai dylwn i fod yn dechrau drwy ddatgan diddordeb: buodd fy ngwraig yn nyrsio ar hyd ei bywyd nes ei bod hi wedi gorfod ymddeol yn ddiweddar, ac mae llawer iawn o'r nyrsys oedd yn gweithio gyda hi yn parhau i fod yn ffrindiau agos i ni fel teulu. Ac oherwydd hynny, dwi wedi gweld, dwi wedi bod yn llygad-dyst i effaith y pandemig arnyn nhw fel nyrsys dros y 18 mis diwethaf. Ar lefel bersonol, dwi wedi gweld y straen maen nhw wedi'i ddioddef, yr heriau maen nhw wedi gorfod eu hwynebu, a'r blinder ofnadwy maen nhw nawr yn ei deimlo. Ac mae'r hyn dwi wedi'i weld yn cael ei gadarnhau gan arolwg diweddar gan yr RCN, sy'n dangos bod rhyw 38 y cant o nyrsys yn ystyried gadael y proffesiwn oherwydd amodau gwaith anodd a phwysau gwaith enbyd, gyda 58 y cant ohonyn nhw'n credu taw cyflog cwbl annigonol sydd wrth wraidd eu hanfodlonrwydd.

Mae problemau cadw staff, methiant i recriwtio, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, a'r ffaith bod cynifer i ffwrdd o'u gwaith oherwydd salwch, wedi gwaethygu'r sefyllfa i bwynt lle mae gennym erbyn hyn yng Nghymru argyfwng yn y maes iechyd a gofal. A does dim dwywaith yn fy meddwl i, felly, y byddai rhoi codiad cyflog mwy na'r 3 y cant sy'n cael ei argymell yn ffordd o gadw staff profiadol, drwy ddangos eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu, ynghyd â denu pobl ifanc i mewn i'r proffesiwn.

Fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, mae cynnig 3 y cant o godiad cyflog i nyrsys yn golygu, mewn termau real, leihad yn eu cyflog, a hynny ar ben yr 1.25 y cant y byddan nhw'n gorfod ei dalu yn ychwanegol o yswiriant gwladol, a hefyd heb sôn am y cynnydd sylweddol mewn costau byw.

Ddirprwy Lywydd, bûm yn siarad neithiwr ag uwch brif nyrs, sydd wedi rhoi bron i 40 mlynedd o’i bywyd i’r GIG. Dywedodd wrthyf yn deimladwy iawn nad yw hi erioed, drwy gydol ei gyrfa hir, wedi teimlo mor isel, mor lluddedig a heb ei gwerthfawrogi. Dywedodd wrthyf sut yr oedd hi a'i chydweithwyr, yn ystod dyddiau cynnar y pandemig fel nyrs gymunedol, yn ymweld â chleifion heb gyfarpar diogelu personol digonol, heb wybod a oedd COVID ar y cleifion hynny, cleifion a oedd wedi'u rhyddhau o'r ysbyty yn aml, a pha mor ofnadwy o agored i niwed y teimlent. Ac eto, drwy hyn i gyd, fe wnaethant barhau heb ochel rhag eu rhwymedigaethau i'r cleifion yn eu gofal. Rhoddodd y gweithwyr iechyd dewr hyn eu bywydau eu hunain mewn perygl er mwyn achub bywydau eraill, a gweithio oriau hir, blinedig, ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellid disgwyl iddynt ei wneud, i ofalu am bobl a oedd yn dibynnu'n llwyr arnynt. A gwelsom enghreifftiau dirifedi o aberth anhunanol ledled y wlad, ac mewn amgylchiadau gwaeth nag a welsom ers yr ail ryfel byd dangosodd ein gweithwyr iechyd stoiciaeth ac argyhoeddiad diarbed ac ysbrydoledig.

Rwy'n dod at y diwedd.

A phan oeddem yn clapio, fel y clywsom yn gynharach, rhoddwyd gobaith iddynt y byddai'r Llywodraethau, o'r diwedd, yn rhoi cyflog teg iddynt i gydnabod y tasgau heriol y maent yn eu cyflawni bob dydd. Ond yn anffodus, mae hynny wedi troi’n siom. Iddynt hwy, mae'r clapio byddarol ar garreg ein drysau wedi dod yn adlais pell wrth i'r anobaith a'r dadrithiad lifo'n ôl, gan nad oedd y clapio byth yn mynd i dalu eu biliau a'u morgais ac am y bwyd ar y bwrdd.

Felly—a dwi'n gorffen gyda hyn—does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Byddai un penderfyniad gan y Llywodraeth i roi'r tâl sydd yn deilwng iddyn nhw yn newid y sefyllfa'n llwyr, yn rhoi'r haeddiant iddyn nhw y maen nhw i gyd yn eu haeddu. Diolch yn fawr iawn.

Wel, byddwn wedi cymryd pedwar munud a hanner pe bawn yn gwybod fy mod yn mynd i'w gael.

16:50

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi gweithio gyda nyrsys ar hyd fy oes, ac mae'n iawn ein bod yn cydnabod cyfraniad ein holl weithwyr gofal iechyd ar draws y GIG a gofal cymdeithasol. Gwyddom fod y 18 mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol. Fel cymaint o rai eraill yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'r rheini ar y rheng flaen ym maes gofal wedi bod yn dyst i drasiedi ddynol y pandemig. Mae adroddiad corff adolygu cyflogau'r GIG, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn adroddiad eithriadol o fanwl sy'n seiliedig ar gorff sylweddol o dystiolaeth, cyflwyniadau a dadansoddiadau. Mae'r ddogfen yn cynnwys amryw o bwyntiau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a nododd y byddai penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn ag a fyddai unrhyw arian ychwanegol sydd ei angen yn dod o gyllidebau presennol maes o law.

Mae pob un ohonom yn cydnabod y byddai angen i Weinidogion Cymru a fyddai'n gwneud unrhyw godiad pellach i gyflog staff ddod o hyd i'r arian hwnnw o'r cyllidebau presennol, ac yn eu tystiolaeth i'r adolygiad, dywedodd Llywodraeth Cymru, po uchaf y dyfarniad cyflog, yr anoddaf fyddai'r dewisiadau ynglŷn â sut i ddod o hyd iddo a blaenoriaethau eraill i GIG Cymru. Rwy’n falch fod Llywodraeth Geidwadol y DU nid yn unig wedi darparu £8.6 biliwn i Gymru yn yr ymdrech i frwydro yn erbyn y coronafeirws, yn ychwanegol at fwy na £2.1 biliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22, ond eu bod wedi cyhoeddi hefyd y byddant yn buddsoddi £1.9 biliwn ychwanegol yn GIG Cymru dros y tair blynedd nesaf. Yn fy marn i, os yw Llywodraeth Cymru eisiau talu am godiadau pellach, prin y gallant ddweud eu bod yn brin o arian. Rwy'n cydnabod pa mor anodd yw hyn i lawer o staff sy'n credu y dylid gwobrwyo eu cyfraniad.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n teimlo yr un fath am ein staff gofal cymdeithasol hefyd. Yn y pandemig, i raddau helaeth fe anwybyddodd y cyfryngau a'r naratif gwleidyddol waith y rheini sy'n gofalu am lawer o bobl hŷn a oedd yn agosáu at ddiwedd eu bywydau oherwydd COVID-19, gan brofi'r trawma yn y sector cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio, lle'r oedd trigolion yn marw ar gyfradd gyflymach, a lle daeth yr aelodau hynny o staff yn aelodau teuluol ar fenthyg yn yr oriau olaf hynny, wrth iddynt eu cysuro ar y diwedd. Datgelodd y pandemig pa mor wael yw ein cydnabyddiaeth o gyfraniad ein staff gofal cymdeithasol. Mae'n rhaid inni unioni hyn. Ac er fy mod yn croesawu'r cynigion i fynd i'r afael â chyflog fel rhan o drefniadau comisiynu newydd ar gyfer y gwasanaethau gofal cymdeithasol, mae angen inni fod yn gadarn wrth lywio mwy o arian tuag at gefnogi'r rhan hanfodol hon o'n sector iechyd a gofal. Diolch yn fawr iawn.

Eisoes, yn y Senedd yma, rydyn ni wedi trafod yr egwyddor o UBI a'r pwysigrwydd o roi urddas i bobl trwy eu bod nhw'n cael incwm digonol i fyw. Y Llywodraeth Lafur, wrth gwrs, ddaru gyflwyno'r isafswm cyflog er mwyn trio rhoi rhyw lefel o sicrwydd ac urddas i'r gweithlu. Mae'r egwyddor sylfaenol, felly, o gael cyflog teg am eich gwaith, gan roi urddas i bobl, wedi hen basio. Ond eto, dyma ni yn 2021 yn gorfod dadlau dros roi cyflogau teg i weithwyr—cyflog sy'n adlewyrchu eu gwaith, eu hymrwymiad a'u gallu, ac, yn wir, cyflog fydd yn denu pobl i yrfa o ofal.

Mae dros hanner gweithlu y gwasanaeth iechyd yn brif gyfranwyr incwm i'w haelwydydd. Mae degau o filoedd o deuluoedd yng Nghymru yn ddibynnol ar gyflogau nyrsys er mwyn medru byw, cadw to uwch eu pennau a bwyd yn eu boliau. Yn fwy syfrdanol fyth, mae un o bob pump o'r gweithlu yn gorfod cael cyflogaeth arall ar ben gweithio i'r gwasanaeth iechyd. Onid yw hyn yn ei hun yn ddigon i ddangos pwysigrwydd cyflogaeth y gwasanaeth iechyd, ac nad yw cyflog bresennol y gweithlu yn ddigonol i nifer o bobl? 

Yn ôl ymchwil drylwyr y Royal Society for Arts, Manufactures and Commerce, mae bron i 60 y cant o weithlu y gwasanaeth iechyd yn methu â chael balans teg rhwng bywyd a gwaith, a hynny oherwydd eu bod nhw'n gweithio fwy o oriau nag maen nhw'n cael eu talu amdanyn nhw, ac yn aml yn gweithio sifftiau anghymdeithasol. Yn wir, mae tri chwarter y gweithlu nyrsio yn dweud eu bod nhw'n gweithio goramser, gan arwain at gynnydd mewn lefelau straen ac afiechydon meddwl, ynghyd â phroblemau eraill. Mae hyn, yn ei dro, yn gostus i'r gwasanaeth iechyd. Datgelodd cais rhyddid gwybodaeth i fwrdd iechyd y gogledd cyn y pandemig fod 77,000 o ddiwrnodau staff wedi cael eu colli o ganlyniad i straen, oedd yn gyfwerth â £5.5 miliwn i'r gwasanaeth. Does dim syndod felly fod nifer uchel o bobl yn gadael gweithlu'r gwasanaeth iechyd, ond mae'r pres yno ond yn cael ei roi i'r mannau anghywir. Mae hyn, yn ei dro, yn arwain at ddibyniaeth ar nyrsys asiantaeth a chostau llawer iawn uwch i'r gwasanaeth iechyd—degau o filiynau o bunnoedd y flwyddyn, ac yn cynyddu yn flynyddol.

Bythefnos yn ôl cafwyd dadl yma am y gwasanaeth ambiwlans, a phawb yn gytûn fod y diffyg gwelyau yn yr ysbytai yn rhan greiddiol o'r broblem. Er mwyn diwallu hynny, rhaid wrth gwrs gael rhagor o nyrsys, ac mae'n wybyddus bellach, ers degawd a mwy, am y prinder staff nyrsio. Mae gwaith Anne Marie Rafferty'n dangos yn ddiymwad fod prinder nyrsys yn arwain at gynnydd yng nghyfradd marwolaethau ymhlith cleifion. Mae diffyg nyrsys yn arwain at fwy o ddamweiniau, camgymeriadau a chynnydd mewn heintiau. Ydyn ni'n wirioneddol yn disgwyl diwallu'r anghenion nyrsio heb roi cyflog teg iddyn nhw? A phwy yw'r bobl sydd yn dioddef mwyaf o'r ansicrwydd economaidd yma?

16:55

Dwi'n dod i ben rŵan. Menywod, pobl ddu, pobl Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig eraill, sef y rhelyw sydd yn gwneud i fyny y gweithlu nyrsio. Dyma'r un garfan o bobl sydd ar waelod pob tabl anghyfiawnder a thegwch, ac, unwaith eto, dyma'r bobl sy'n dioddef oherwydd y polisi yma i fethu â'u talu nhw'n iawn. Dyma'r bobl sy'n cynnal ein gwasanaethau iechyd ni—hebddyn nhw byddai'r gwasanaeth yn dymchwel. Mae'n rhaid inni ddangos ein diolch nid trwy glapio, ond drwy roi tâl teg iddyn nhw. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

A gaf fi atgoffa’r Aelodau, pan ydym yn cael dadl 30 munud, mai tair munud yw'r cyfraniadau? Ac yn enwedig pan fydd eich plaid yn cyflwyno'r ddadl honno am 30 munud, cadwch at hynny fel y gall pawb gael cyfle i siarad.

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ddewis y pwnc hwn i'w drafod heddiw, gan ei fod yn caniatáu imi ailadrodd barn Llywodraeth Cymru ar y pwnc pwysig hwn. Nawr, mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn ddidrugaredd. Mae'r pandemig yn parhau i effeithio'n sylweddol ar gleifion a staff, a hoffwn dalu teyrnged heddiw a gofyn i'r Aelodau gydnabod y galwadau corfforol ac emosiynol anhygoel a wynebwyd gan ein gweithlu o ganlyniad i geisio ein cadw ni oll yn ddiogel.

Nawr, er mwyn pennu codiadau cyflog, sefydlwyd proses adolygu cyflogau annibynnol. Mae llywodraethau, undebau llafur a chyflogwyr yn cyflwyno tystiolaeth i'r corff adolygu cyflogau er mwyn iddynt ei hystyried cyn gwneud eu hargymhellion. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi eu hannibyniaeth yn fawr, a gwnaed hynny'n glir eleni ar ôl i Lywodraeth Dorïaidd y DU, wrth gyflwyno eu tystiolaeth, orfodi cap mympwyol o 1 y cant ar yr hyn y dywedasant y byddent yn ei dalu i weithwyr y GIG. Cynhaliodd y corff adolygu cyflogau eu hasesiad annibynnol, ac argymell codiad o 3 y cant ar gyfer eleni. Ariannwyd argymhelliad y corff adolygu cyflogau o 3 y cant yma yng Nghymru o gyllid presennol adran iechyd Llywodraeth Cymru. Ni roddwyd unrhyw arian neu gyllid canlyniadol ychwanegol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU tuag at ariannu cyflogau'r GIG.

Rwy’n llwyr gefnogi’r angen am gyflog teg a fforddiadwy i weithwyr y GIG, ond yn anffodus, ni allaf wneud hyn heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, oherwydd, er mwyn cynyddu cyfradd cyflog sylfaenol—

Diolch, rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. A ydych yn cydnabod, o ganlyniad i'r setliad presennol gyda Llywodraeth y DU, fod Cymru'n derbyn oddeutu £1.20 am bob £1 ar gyfer y gwasanaeth iechyd datganoledig? Mae hynny'n eich galluogi, pe baech yn dymuno gwneud hynny, i roi 20 y cant yn ychwanegol at yr hyn a dalwch i aelodau staff ar hyn o bryd. A ydych yn derbyn—[Torri ar draws.] A ydych yn derbyn mai dyna'r—[Torri ar draws.] A ydych yn derbyn—[Torri ar draws.] Gallaf glywed yr heclo. Gallaf weld y Prif Weinidog yn gwenu. Ef yw'r un a darodd fargen gyda’r Trysorlys i gael yr iawndal hwnnw. Dyna'r gwir, dyna'r ffeithiau, a ydych yn derbyn bod gennych fwy o adnoddau na Llywodraeth y DU i dalu eich staff?

Ddim o gwbl. Yr hyn rwy'n ei wybod yw bod pobl yn y GIG sydd wedi bod yn gweithio'n galed drwy gydol y pandemig hwn yn haeddu eu dyfarniad cyflog o 3 y cant, a dylai fod wedi dod gan Lywodraeth y DU. Yn lle hynny, rydym wedi gorfod dod o hyd i'r arian o'r cyllidebau a oedd gennym yma eisoes. Golyga hynny ein bod i bob pwrpas wedi gorfod gwneud toriadau mewn meysydd eraill gan ein bod am sicrhau ein bod yn gwobrwyo'r bobl hyn sydd wedi bod yn gweithio mor galed drwy gydol y pandemig. Ac fe ddywedaf wrthych faint y byddai'n ei gostio. Er mwyn inni ddod o hyd i 1 y cant, bydd yn costio £50 miliwn y flwyddyn i ni. Bydd mynd ymhellach na 3 y cant yn eithriadol o anodd. Ac yn anffodus, yn wahanol i Blaid Cymru, nid oes gennym goeden arian hud i fynd i’r afael â hynny, a byddai’n ddiddorol iawn clywed gan Blaid Cymru beth yn union y byddent yn ei dorri er mwyn dod o hyd i’r cyllid ychwanegol y dywedant y byddent yn ei dalu, gan fod yn rhaid iddo ddod o gyllideb y GIG. Felly, beth y byddech chi'n ei dorri? Mae'n rhaid ichi fod o ddifrif ynglŷn â gwleidyddiaeth. Nid ydych o ddifrif. Mae a wnelo hyn ag iaith blaenoriaethau. Dyna y siaradai Aneurin Bevan amdano. Rydym yn gwybod am hynny. Rydym yn gwneud y penderfyniadau anodd hynny, nid ydych chi byth yn eu gwneud. Dywedwch wrthym beth y byddech chi'n ei dorri yn ei le. Nid ydych yn gwneud hynny.

Rwy'n sicr yn deall cryfder teimladau staff a'u hundebau llafur. Rydym yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr undebau llafur o'r rhan fwyaf o undebau'r GIG. A byddaf yn eu cyfarfod eto yfory. Ac maent hwy, a ninnau, yn cytuno, er gwaethaf yr amgylchiadau anodd iawn hyn, fod ein dull partneriaeth gymdeithasol yn darparu'r mecanwaith gorau posibl ar gyfer dod o hyd i'r ateb gorau posibl. Ac maent yn parhau i wthio’n galed iawn ar ran eu haelodau am fuddion ac ychwanegiadau i ategu'r cynnig o 3 y cant i staff gweithgar ac ymroddedig ein GIG.

Ac er fy mod wedi ymrwymo i gyflog teg i GIG Cymru, mae gweithwyr gofal cymdeithasol hefyd wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at ein cadw'n ddiogel yn ystod y pandemig, ac rydym yn ysu am recriwtio mwy o bobl i'r gwasanaeth gwerthfawr hwn, a fydd yn tynnu'r pwysau oddi ar staff y GIG. Ac yn wahanol i staff GIG Cymru, telir cyflogau is na'r cyflog byw gwirioneddol i lawer o weithwyr gofal cymdeithasol, ac mae'n rhaid i'w cyflog hwythau fod yn flaenoriaeth hefyd.

Nid wyf am wrando ar unrhyw wersi gan y Torïaid ar y pwnc hwn. Nid ydynt wedi rhoi’r cyllid ychwanegol y dylem fod wedi’i gael i ni. Mae'r sgyrsiau'n parhau. Maent yn anodd, maent yn drylwyr, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau canlyniad teg i bawb. Ac wrth gwrs, mae pob un ohonom yn awyddus i osgoi anghydfod diwydiannol. Yn sicr, mae gweithwyr y GIG yn haeddu cael eu cydnabod am eu gwaith ar yr adeg hynod heriol hon, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i roi'r hyn y maent ei eisiau o fewn yr hyn sydd ar gael i ni.

17:00

Diolch am eich holl gyfraniadau, gan ddechrau gyda Russell George, a agorodd mewn ffordd bwyllog, drwy dalu teyrnged i'n gweithwyr iechyd. Ond nid yw hyn yn ymwneud â dangos ymrwymiad, geiriau caredig am y gweithlu; mae'n ymwneud â'u talu'n briodol. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog iechyd pan feirniadodd Lywodraeth y DU am ei gweithredoedd mewn perthynas â'i hamharodrwydd i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy'r setliad i Gymru. A dweud y gwir, roedd cyfraniad Darren Millar yn un y gallai bachgen ysgol fod wedi'i wneud pan awgrymodd, rywsut, fod arian ychwanegol yn dod i Gymru drwy fformiwla Barnett ar gael i'w wario. Onid yw wedi clywed am anghenion—anghenion yng Nghymru sydd wedi'u dyfnhau gan weithredoedd ei Lywodraeth Geidwadol ef?

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw pob rhan o'r £1.20 am bob £1 a ddaw yn cael ei wario ar y gwasanaeth iechyd. Nid yw'r gwasanaeth iechyd yn derbyn y £1.20 yng Nghymru am bob £1 a werir, felly mae capasiti o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn ein GIG ac i dalu staff y GIG yn wahanol, pe bai Llywodraeth Cymru yn dymuno gwneud hynny.

Ond eich dadl chi yw lladd ar Gymru a lladd ar ddatganoli, felly ni allwn fod o ddifrif yn ei chylch yn y cyd-destun hwn.

Dywedodd y Gweinidog wrthym y dylai Plaid Cymru flaenoriaethu. Y fraint o fod yn Llywodraeth yw'r gallu i gyllidebu i flaenoriaethu, onid e? Ac yn sicr, mae'n rhaid i fuddsoddi yn ein hased mwyaf gwerthfawr, ein gweithlu iechyd a gofal, fod yn flaenoriaeth go iawn. Gwahoddodd y Gweinidog bob un ohonom i dalu teyrnged i weithwyr iechyd a gofal; mae hyn yn ymwneud â thalu teyrnged drwy gyflog teg. A diolch i'n gweithlu am eu gwaith, ond yn awr, maent angen cytundeb cyflog teg.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Dadl Plaid Cymru: Pwysau Gaeaf y GIG

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. 

Eitem 11, dadl Plaid Cymru, pwysau gaeaf y gwasanaeth iechyd gwladol. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7792 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gaeaf i fynd i'r afael â'r pwysau y mae'r GIG yn ei wynebu yn ystod misoedd y gaeaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

Mae hon yn ddadl sydd wedi cael ei hysgogi gan dreigl amser, treigl amser efo problemau yn dwysáu o fewn ein gwasanaethau iechyd a gofal ni. Y gaeaf yn nesáu, yn wir y teimlad bod pwysau'r gaeaf yma yn barod, ac eto ein bod ni heb weld cynllun gan y Llywodraeth ar gyfer y gaeaf eleni. Fe lwyddon nhw i'w gyhoeddi fo yn amserol iawn erbyn canol Medi y llynedd a hynny wedi'r misoedd hynod, hynod heriol yna adeg y pandemig. Y gwir amdani ydy bod cleifion angen yr hyder bod cynllun mewn lle a bod staff angen gwybod bod y camau mewn lle i o leiaf drio tynnu'r pwysau oddi arnyn nhw dros y gaeaf. Does dim ots faint o weithiau rydyn ni'n talu teyrnged i staff, rydyn ni'n dweud y geiriau unwaith eto: a hynny am eu hymroddiad a'u haberth, a'u gwaith drwy'r cyfnod diweddar, dydy geiriau ddim yn gwneud y tro, rywsut.

Dwi'n gwybod mai cefnogaeth mae staff yn chwilio amdano fo. Ers i ni gyflwyno'r cynnig yma, dwi yn falch bod y Llywodraeth wedi dweud bod y cynllun ar ei ffordd. Byddan nhw'n cyhoeddi cynllun y gaeaf ar 18 Hydref. Mi fyddwn ni'n disgwyl bron i bythefnos arall, ac mae yna, dwi'n gwybod, wir benbleth a siom ei bod hi wedi cymryd cyhyd, ond beth allwn ni wneud rŵan, wrth gwrs, efo pythefnos ar ôl, ydy trio dylanwadu ar y cynllun hwnnw, a beth rydyn ni eisiau ei wneud ydy amlinellu rhai o'r meysydd yna y mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym ni y maen nhw am eu gweld yn flaenoriaethau. Rydym ni wedi crynhoi'r mewnbwn hwnnw gan wahanol fudiadau a sefydliadau ar draws iechyd a gofal mewn i bump o feysydd rydyn ni'n credu sydd yn gwbl allweddol i'w cael yn iawn yn y cynllun y gaeaf yma, a dwi'n ddiolchgar iawn i'r rheini sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma.

Mae'r rhaglen bum pwynt sydd gennym ni yn dilyn, mewn difrif, siwrnai y claf drwy wasanaethau gofal, achos mae'n rhaid edrych ar y system gyfan. Yn gyntaf, mae eisiau canolbwyntio ar yr ataliol—dwi'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno efo hynny—a hefyd arwyddo pobl i'r llefydd iawn i dderbyn gofal. Mae pethau mor syml â rhaglenni grutio palmentydd yn gallu bod yn werthfawr o ran atal damweiniau, hyd yn oed; mae sicrhau bod pobl yn gynnes yn eu cartrefi yn bwysig er mwyn atal llawer o broblemau iechyd. Ac, wrth gwrs, pan fydd pobl yn mynd yn sâl, fel sydd yn anochel i lawer, mae eisiau gwneud yn siŵr bod y negeseuon ar sut i gael mynediad i wasanaethau yn hollol glir, yn annog pobl i beidio â galw ambiwlans neu fynd i uned achos brys oni bai bod gwir angen gwneud hynny, er enghraifft, a sicrhau bod y ffyrdd amgen o gael gofal yn cael eu cefnogi'n iawn.

Mae'r ail bennawd gennym ni yn ymwneud â'r mynediad cyntaf un yna i ofal iechyd drwy ofal sylfaenol. Mae'n rhaid dod o hyd i ffyrdd o ryddhau amser staff iechyd i weld cleifion. Ymhlith y camau angenrheidiol yn fanna y mae cyflymu'r symudiadau at gyflwyno technoleg newydd—dadl yr ydym ni wedi'i chael yn y fan hon yn ddiweddar—yn cynnwys e-ragnodi, wrth gwrs. Mi all hyd yn oed mesurau fel dod â rhagor o staff, yn cynnwys meddygon teulu, yn ôl o ymddeoliad dros gyfnod y gaeaf fod yn rhywbeth y gellid gwneud gwaith brys arno fo. Ac mae sicrhau hefyd, dwi'n meddwl, mynediad i bobl hŷn at ofal sylfaenol yn allweddol, a dwi'n cyfeirio'r Gweinidog at adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan mewn cydweithrediad efo Cynghrair Henoed Cymru, 'Mynediad pobl hŷn i wasanaethau meddyg teulu'. Mae'n ddogfen ymchwil bwysig iawn, dwi'n credu.

Yn drydydd, cryfhau gwaith diagnostig a chyfeirio. Mae rhaid gweld parhad, er enghraifft, gwasanaethau sgrinio drwy'r gaeaf. Mae yna risg go iawn y gall cyfraddau goroesi canser lithro'n ôl am y tro cyntaf ers degawdau, ac mae'r gaeaf heb os yn hynny o beth yn creu sialensiau ychwanegol. Mae'n rhaid sicrhau bod gwasanaethau canser yn cael eu gwarchod y gaeaf yma, bod cleifion yn derbyn diagnosis a thriniaeth brydlon, ac wrth gwrs mae angen rhoi hyn yn y cyd-destun ehangach mwy hirdymor, yr angen am gynllun canser cenedlaethol. Mae materion y gweithlu yn gyffredinol yn faterion mwy hirdymor hefyd, ond mae eisiau rhywsut gallu blaenoriaethu'r elfen yna o gryfhau gweithlu sydd angen sylw rŵan, yn syth, y gaeaf yma.

Y bedwaredd thema, yr her o gynyddu capasiti: dwi'n edrych ymlaen i glywed datganiad y Llywodraeth wythnos i ddydd Llun, a dwi'n gobeithio y bydd ymrwymiad i greu hybs COVID-lite cadarn yn rhan o hynny.

Ac, yn olaf, mae trefniadau'r gaeaf yma o ran sicrhau llif cleifion drwy'r system iechyd ac ymlaen i ofal cymdeithasol yn bwysicach nag erioed. Mi glywn ni fwy am hynny gan fy nghyd-Aelod i yn y man. Rydyn ni wedi clywed am brofiadau pobl efo'r gwasanaeth ambiwlans, er enghraifft. Mewn un llythyr y cefais i yr wythnos yma, roedd rhywun wedi aros bron 24 awr am ambiwlans. Llif cleifion drwy'r system ydy'r broblem yn y fan honno. Rydyn ni i gyd wedi clywed profiadau tebyg.

Does yna ddim cuddio'r her o'n blaenau ni y gaeaf yma. Mi fydd angen adnoddau sylweddol, ond mi fydd angen arloesedd syniadau hefyd. Felly, dwi'n edrych ymlaen at glywed y cyfraniadau y prynhawn yma.

17:10

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Hydref 2021.

Cynigiwyd gwelliant 1.

A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ail ddadl bwysig hon y prynhawn yma? Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn llwyr gefnogi cynnig Plaid Cymru, felly byddwn yn cefnogi hwnnw heddiw. Wrth gwrs, rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am gynllun pwysau gaeaf ers cryn dipyn o amser, felly nid oes amheuaeth nad yw'n gwbl hanfodol cael y cynllun hwnnw i ddangos i'r Senedd hon, i ddangos i bobl Cymru a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, beth yw cyfarwyddyd y Gweinidog i'n byrddau iechyd ar adeg pan wyddom nad oes digon o staff ar gael a phan fydd rheoli ac atal heintiau'n mynd yn anos. 

Yn drasig, y gaeaf diwethaf gwelsom bobl yn marw oherwydd trosglwyddiad COVID-19 o un ward i'r llall mewn mannau a ddylai fod yn ddiogel i gleifion, felly ni allwn fforddio caniatáu i hyn ddigwydd eto fel y gwnaeth y llynedd. Gwyddom fod rhestrau aros yn dal i fod yn hir iawn: mae un o bob pedwar yn dal i aros dros flwyddyn am driniaeth ac mewn cymhariaeth, yn Lloegr mae'r ffigur hwnnw'n un o bob 16. Felly, ni all cleifion Cymru sydd wedi bod yn aros dros flwyddyn fforddio aros yn hirach am driniaeth hanfodol, oherwydd gwyddom y rhesymau am hynny.

Fel y gwnaeth Rhun wrth agor, rwy'n croesawu datganiad y Llywodraeth y byddant yn cyhoeddi eu cynllun ar 18 Hydref. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod hynny fis yn ddiweddarach nag y'i cyhoeddwyd gan ragflaenydd y Gweinidog y llynedd, yn 2020, ac wrth gwrs daw'r cynllun ar ôl pwysau parhaus gan y gwrthbleidiau dros yr wythnosau diwethaf hefyd.

Nawr, fel rhan o'r cynllun hwnnw, mae angen inni weld gweithredu'n digwydd mewn nifer o feysydd. Mae arnom angen y wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd hon yng Nghymru am y cynnydd y mae'r Gweinidog yn ei wneud ar y cynlluniau a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd lleol ar gyfer hybiau rhydd o COVID; mae arnom angen diweddariad i'r Senedd hon yng Nghymru ar greu canolfannau diagnosis cymunedol, fel y gellir dod o hyd i'r rhai a allai fod â chanser neu gyflyrau eraill yn gyflym; mae arnom angen diweddariad i'r Senedd hon fel rhan o'r cynllun hwnnw ar gynnydd rhaglen brechiad atgyfnerthu COVID a ffliw, a sut y caiff hyn ei weithredu drwy gydol yr hydref a'r gaeaf; mae arnom angen y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae ysbytai'n cynllunio ar gyfer rheoli ac atal heintiau'n well drwy gydol cyfnod y gaeaf; hefyd, wrth gwrs, mae angen inni gael y wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gynlluniau ar gyfer gofal brys y gaeaf hwn.

Credaf fod staff y GIG, cleifion ysbyty a chleifion Cymru yn gyffredinol angen sicrwydd fod gan Lywodraeth Cymru gynllun i'w cadw'n ddiogel y gaeaf hwn, felly fel Ceidwadwyr Cymreig byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Rwy'n dyfalu ein bod i gyd yn gyfarwydd â phwysau arferol y gaeaf sy'n dod gyda thymor y ffliw, a'r straen cyffredinol ar iechyd yn ystod y gaeaf, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar ein meddygfeydd a'n hysbytai. Y tro hwn, wrth gwrs, gyda COVID a'r ôl-groniad cynyddol o driniaethau, mae'r pwysau'n debygol o fod hyd yn oed yn fwy nag arfer. 

I mi, fel cynrychiolydd Dwyrain Casnewydd, Ddirprwy Lywydd, yr hyn a welaf yn awr yn fy mag post yw llawer o bryder ynghylch mynediad at wasanaethau meddygon teulu, ynghylch pethau sylfaenol fel y system ffôn a gallu cael apwyntiadau wyneb yn wyneb pan fo'n briodol. Mae'n amlwg fod rhai o'r problemau'n rhagflaenu'r pandemig, ond maent yn sicr wedi gwaethygu, a chredaf fod y cyngor iechyd cymuned, er enghraifft, wedi dangos tystiolaeth o hynny yn eu gwaith.

Mae'n broblem sylfaenol, gyda phobl yn ffonio'n barhaus ac yn methu mynd drwodd ar y ffôn o fewn y cyfnod dynodedig pan gânt drefnu apwyntiad y diwrnod hwnnw. Pan lwyddant i fynd drwodd, mae'n rhy hwyr i drefnu apwyntiad y diwrnod hwnnw a dywedir wrthynt am ffonio yfory, ac yna byddant yn mynd drwy'r un profiad eto, ac yn amlwg, maent yn anobeithio ynglŷn â chael yr apwyntiad wyneb yn wyneb y maent am ei gael. Wrth gwrs, credaf fod hynny'n arwain at bwysau ychwanegol ar ofal heb ei drefnu adrannau damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai, oherwydd bydd rhai pobl yn mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys wedyn pan na ddylent wneud hynny. Ceir problemau pellach yno gyda rhyddhau o'r ysbytai ac argaeledd staff gofal cartref a chartrefi gofal. 

Mae'r fath goctel o broblemau'n bodoli ar hyn o bryd, ac i ryw raddau, roedd yn bodoli cyn y pandemig, ond mae'n sicr wedi gwaethygu o ganlyniad i COVID-19. Tybed beth y gall y Gweinidog ei ddweud heddiw am weithredu gan Lywodraeth Cymru ar hyn. I ba raddau y ceir asesiad o'r problemau hyn, gan weithio gyda'r byrddau iechyd lleol, i ddeall pa wasanaethau meddygon teulu sy'n cael problemau penodol, er enghraifft, gyda'u systemau ffôn, pa uwchraddio sy'n digwydd i'r systemau ffôn hynny er mwyn datrys y problemau, pa feddygfeydd meddygon teulu sy'n cael problemau penodol gyda darparu'r hyblygrwydd angenrheidiol mewn perthynas ag apwyntiadau wyneb yn wyneb, a beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hynny? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyngor iechyd cymuned i ddeall y dystiolaeth a phrofiadau pobl? 

Rwy'n gwybod bod angen hyblygrwydd, Ddirprwy Lywydd. Mae rhai pobl eisiau defnyddio'r technolegau newydd i gyrchu gwasanaethau, ond mae rhai eisiau gwasanaethau wyneb yn wyneb, a phan fyddant yn briodol, mae'n amlwg fod angen eu darparu. Felly, byddwn yn ddiolchgar am rai ymatebion gan Lywodraeth Cymru i'r materion penodol hynny. 

17:15

Mae pobl hŷn yn rhan fawr a phwysig o'm portffolio i ar gyfer Plaid Cymru. Yn ystod yr wythnos diwethaf, ces i gyfle i wneud webinar gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Roedd yn sesiwn ar-lein a lansiodd adroddiad cyflwr y genedl gan y comisiynydd. Un o'r prif bwyntiau oedd yn cael ei wneud yn ystod y webinar oedd y dirywiad sylweddol yn iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn oherwydd y pandemig. Canfu'r adroddiad hefyd bod pobl hŷn wedi ei chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau yn y gymuned, yn enwedig gwasanaethau iechyd a gofal, dros y 18 mis diwethaf. 

Roedd un ystadegyn yn yr adroddiad yn amlwg iawn i mi, sef bod llai na chwarter o bobl hŷn yn ei chael hi'n hawdd cael gafael ar wasanaethau iechyd ar-lein. O ystyried ein bod ni'n byw fwyfwy mewn oes ddigidol gyda llawer o wasanaethau a oedd unwaith yn wasanaethau wyneb yn wyneb yn mynd ar-lein, mae hyn yn golygu bod pobl hŷn yn cael eu hamddifadu fwyfwy a'u gwthio i ymylon cymdeithas. Dydyn ni'n methu â gadael i hyn barhau, a hoffwn glywed sut mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu mynd i'r afael â'r broblem gynyddol yma.  

Un agwedd ar iechyd sy'n fwy tebygol o effeithio ar bobl hŷn, ond sydd hefyd yn gallu taro pobl o unrhyw oed, yw gwasanaethau canser. Mae lle i wella yn y gwasanaethau hyn os ydym am sicrhau'r canlyniad gorau i gleifion. Byddai'n ddefnyddiol cael y wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar ganser. Mae angen inni weld arweinyddiaeth gref ar gyfer canser yng Nghymru, a dylai cynlluniau clir gynnwys targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer olrhain cynnydd tuag at y tymor hwy. Mae Plaid Cymru hefyd am weld mwy o fuddsoddi mewn staff, offer a seilwaith os ydym am wella cyfraddau goroesi canser.

Mae'r bylchau yng ngweithlu'r GIG yn parhau i fod yn bryder mawr sy'n llesteirio'r galw cynyddol ac ymdrechion i leihau amseroedd aros a gwella canlyniadau. Dylid buddsoddi yng ngweithlu'r GIG ar frys. Gwyddom fod y gaeaf yn dod bob blwyddyn, ac eto mae bob amser i'w weld fel pe bai'n dal Llywodraethau olynol ar y droed ôl. Rhaid cael ffordd o dorri'r cylch o un argyfwng y gaeaf ar ôl y llall. Credaf fod llawer mwy o gyfle i gyflawni mesurau ataliol, fel rhaglen raeanu fwy trwyadl a chynhwysfawr ar gyfer palmentydd. Bob gaeaf, mae llawer o bobl mewn adran damweiniau ac achosion brys am eu bod wedi torri esgyrn ar ôl llithro ar balmentydd rhewllyd. Bydd llawer o gynghorau'n ymatal rhag graeanu palmentydd a phrif lwybrau cerdded oni bai bod cyfnod hir o eira neu rew; nid oes ganddynt adnoddau i'w wneud.

Yn fy mhrofiad fy hun fel cynghorydd cymuned, gwn mai diffyg adnoddau yw'r rheswm mwyaf cyffredin pam y bydd awdurdod lleol yn gwrthod gwneud hyn pan ofynnwn ar ran trigolion. Dylem ofalu am ein palmentydd yn ogystal â'n ffyrdd. Nid yw'n dderbyniol gofyn i bobl aros gartref yn ystod y tywydd oer oherwydd diffyg adnoddau. Drwy fod yn rhagweithiol ar hyn a rhoi adnoddau ac arweiniad i awdurdodau lleol weithredu arno, byddwn yn caniatáu i bobl fyw eu bywydau drwy gydol y gaeaf yn ogystal â lleddfu'r baich ar y GIG. Gobeithio y gall y Llywodraeth gefnogi hynny.

17:20

Rydych yn llygad eich lle; bob blwyddyn cawn aeaf. Mae cynllun diogelu ar gyfer y gaeaf yn rhywbeth rhesymol i ofyn amdano, ac fel y nododd cyd-Aelodau y prynhawn yma, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gosod ei hamcanion fel mater o drefn er mwyn i'n system iechyd a gofal allu ymateb i bwysau galw tymhorol cynyddol tra'n ceisio darparu gofal wedi'i gynllunio a llawdriniaethau. Yn wir, roedd cynllun o'r fath ar gael ar gyfer y cyfnod diweddaraf, 2020-21. Er iddo gael ei gyhoeddi yn ystod y pandemig ac mewn ymateb iddo i raddau helaeth, dangosodd fod gan y Llywodraeth rôl yn arwain a chefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ystod cyfnod heriol. Yn fy marn i, mae arnom angen cynllun, targed cyflawn gydag adnoddau da, wedi'i dargedu at y mesurau y dylai ein swyddogion wybod eu bod yn mynd i weithio er mwyn sicrhau y gall iechyd a gofal gydweithio'n agosach wrth ymateb i'r galw.

Gwyddom fod risg uwch y bydd angen i gleifion ffliw fynd i'r ysbyty. Byddai tymor y ffliw y llynedd wedi bod yn wannach oherwydd y mesurau a weithredwyd i ymdopi â COVID, megis cau lleoliadau cymdeithasol a phobl yn methu cymysgu yng nghartrefi ei gilydd neu wedi'u cyfyngu i raddau helaeth rhag gwneud hynny. Felly, er y byddai nifer yr achosion o'r ffliw wedi bod yn llai, bydd lefel yr imiwnedd hefyd yn is am y byddai llai o gyfle i gymysgu â theulu, ffrindiau a chydweithwyr. Bydd y risg, felly, o fwy o bobl yn mynd yn sâl eleni, ac yn fwy sâl, ychydig yn uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol, ac mae angen cynllunio ar gyfer hynny.

Rwyf hefyd am i'r Llywodraeth fod yn agored ac yn onest ynghylch niferoedd y bobl dros y gaeaf sy'n dal y ffliw a chael eu derbyn i'r ysbyty. I gefnogi ein system iechyd a gofal, credaf y dylai'r Llywodraeth ystyried amrywiaeth o gamau gweithredu. Rhif 1: asesu'r capasiti mewn gofal sylfaenol ac a oes angen gwelliannau tymor byr yn yr ystod o dimau amlddisgyblaethol i helpu i'n cael drwy gyfnod y gaeaf. Bydd llawer o bobl angen cael eu gweld mewn gofal sylfaenol, gan gynnwys y tu allan i oriau, felly mae sicrhau capasiti a chymysgedd sgiliau cywir yn hanfodol. Rhif 2: mae angen inni sicrhau hefyd fod cymorth ar gael i wella mesurau rhyddhau cynnar o ysbytai er mwyn lleihau hyd arosiadau mewn ysbytai acíwt a chymunedol, a lleihau'r straen ar reoli gwelyau. Rhif 3: mae angen inni nodi capasiti yn ein hysbytai ar gyfer y bobl fwyaf oedrannus y bydd angen eu derbyn, yn anffodus, mewn ymateb i'r ffliw. Yn absenoldeb cynllun penodol, a chan gymryd y bydd y Gweinidog y prynhawn yma yn diystyru'r galwadau hyn, byddaf am gael sicrwydd fod y Llywodraeth yn archwilio ystod o fesurau, gan roi ystyriaeth lawn i faint posibl yr her dros y misoedd nesaf. Mae pobl wedi bod yn rhybuddio am hyn ers peth amser; nawr yw'r amser i weithredu. Diolch.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr am y ddadl. Mae arnaf i ofn na fydd hi ddim yn bosibl i fi fanylu ar yr holl bwyntiau—nifer sydd yn ddilys iawn, dwi'n meddwl—yn ystod y pedair munud nesaf, ond mi gawn ni gyfle, gobeithio, unwaith y bydd y cynllun gaeaf yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Eleni, mae'r pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn gwbl ddi-baid. Mae effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol pandemig COVID-19 wedi ei gwneud hi'n anodd tu hwnt i staff rheng flaen ymroddedig. A gall y gaeaf hwn, unwaith eto, fod y mwyaf heriol yn hanes y GIG, gyda gofynion parhaus y pandemig a galwadau cynyddol am wasanaethau iechyd eraill—effaith feirysau anadlol y gaeaf, fel y mae Altaf Hussain newydd ei grybwyll, y bregusrwydd yn ein system gofal cymdeithasol y soniodd sawl un amdano, yr angen i barhau â mesurau rheoli atal heintiau, a gorflinder ymhlith staff y GIG, gyda rhai ohonynt yn absennol o'u gwaith gyda COVID.

Amlinellir ein dull o reoli'r pandemig yng nghynllun rheoli'r coronafeirws, sy'n cael ei ddiwygio a'i ailgyhoeddi wrth i'r sefyllfa newid. Gwnaethom hefyd gyhoeddi dogfen edrych ymlaen ym mis Mawrth, yn dangos sut y byddem yn ailadeiladu'r GIG. Yng ngoleuni pwysau cynyddol, gwnaethom adolygu ac ailgyhoeddi ein fframwaith dewisiadau lleol yn ddiweddar i gefnogi penderfyniadau lleol i ddiogelu cleifion a staff. Ac mae disgwyliadau cynllunio yn cael eu cyfleu'n flynyddol i sefydliadau'r GIG drwy ein fframwaith cynllunio. Gofynnwyd i sefydliadau ledled Cymru weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cynlluniau i fodloni gofynion iechyd a gofal cymdeithasol pobl Cymru yn ddiogel. Mae'r amrywiadau yng nghyfraddau achosion COVID-19 yn ychwanegu at gymhlethdod cynllunio gwasanaethau, ac mae angen inni barhau i fod yn barod i ymateb i amgylchiadau sy'n newid yn gyflym.

Yn ddiweddarach y mis hwn, fel y gwyddoch, byddwn yn cyhoeddi ein cynllun gaeaf cynhwysfawr ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, i nodi ein blaenoriaethau mewn ymateb i bwysau disgwyliedig ac eithriadol y gaeaf. Mae'r blaenoriaethau hyn eisoes yn hysbys, a chyflawnir rhai ohonynt yn barod ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, gyda ffocws ar leihau'r risg y bydd angen triniaeth ysbyty ar bobl a chadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Rwy'n falch o ddweud bod llawer o'r pwyntiau y soniodd Rhun ap Iorwerth, yn sicr, amdanynt ynglŷn â'r angen i edrych ar atal, a sicrhau ein bod yn cyfeirio pobl i'r lleoedd iawn—mae llawer o hynny eisoes yn digwydd. Mae gennym ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi sy'n mynd i'r afael â'r materion y gofynnodd John Griffiths amdanynt: sut y mae dweud wrth bobl ble i fynd? Sut y mae cael pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau cywir? Felly, mae llawer o hynny'n cael ei wneud eisoes, a gwyddom fod angen inni gadw'r ffocws ar leihau'r risg y bydd angen triniaeth ysbyty ar bobl a chadw pobl yn ddiogel ac yn iach.

17:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Bydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu cefnogi gan ein buddsoddiad o £140 miliwn ar gyfer adfer a £48 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i'r staff iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob cwr o Gymru. Maen nhw wedi gweithio'n ddiflino, gydag ymroddiad a thosturi, i ddarparu gwasanaethau drwy gydol y pandemig. Mae diogelu iechyd a lles ein staff yn un o'n prif flaenoriaethau ni y gaeaf hwn. Dwi'n edrych ymlaen at roi gwybodaeth fanylach pan fyddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun gaeaf ni cyn hir.

Diolch yn fawr iawn, a diolch am gyfraniadau'r Aelodau ac ymateb y Gweinidog. Rydyn ni wedi clywed cyfeiriad at broblemau cyfarwydd iawn i bob un ohonom ni yma yn y Senedd, ac wedi clywed llawer o syniadau ar draws y pleidiau, a bod yn deg, ar gyfer yr ymateb y gellid ei roi mewn lle. O ran y Gweinidog, dwi ddim yn meddwl y byddem ni'n disgwyl mwy, ychydig ddyddiau, neu lai na phythefnos, cyn cyhoeddi'r cynllun ei hun, nag amlinelliad o rai o'r egwyddorion fydd yn cael eu dilyn ganddi, ac mi edrychwn ni ymlaen at weld cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, hyd yn oed os ydw i'n gorfod ychwanegu'r geiriau 'o'r diwedd' ar ddiwedd hynny hefyd. 

Allwn ni ddim dod allan o'r gaeaf yma mewn gwaeth sefyllfa nag yr ydyn ni'n mynd i mewn iddo fo, mewn difrif, a hynny oherwydd cyflwr truenus gwasanaethau oherwydd y pwysau sydd wedi bod arnyn nhw. Bellach na hynny, mae'n rhaid, rhywsut, i'r gwasanaeth allu delio efo pwysau ychwanegol y gaeaf yma—gaeaf COVID arall, wrth gwrs—a dod allan ohono fo efo arwyddion clir, beth bynnag, bod sefyllfa gyffredinol gwasanaethau iechyd a gofal a'r prognosis ar gyfer y gwasanaethau hynny'n edrych yn well, a dyna'n sicr yr her sydd o'n blaenau ni. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r eitem tan y bleidlais a fydd yn digwydd yn y cyfnod pleidleisio.

17:30

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cyn cynnal y bleidlais, fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr i sicrhau bod y dechnoleg a phopeth yn barod.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:30.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:34, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

12. Cyfnod Pleidleisio

Felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 9, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd meddwl. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

17:35

Eitem 9 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1, felly, yw'r bleidlais nesaf, ac os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn. Mae gwelliant 2 wed ei ddad-ddethol.

Eitem 9 - Gwelliant 1 - cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM7793 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dydd Sul 10 Hydref yw diwrnod iechyd meddwl y byd.

2. Yn cydnabod effaith COVID-19 ar gymorth iechyd meddwl ac anghydraddoldebau iechyd meddwl.

3. Yn nodi’r ymrwymiad i adolygu’r dystiolaeth, y data a’r ddarpariaeth gwasanaethau bresennol ar gyfer hunan-niweidio i bobl o bob oed yng Nghymru.

4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r canlynol:

a) gweithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd, 'Cadernid Meddwl' a 'Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach';

b) cryfhau a chyhoeddi data amseroedd aros iechyd meddwl a gwella perfformiad ledled Cymru;

c) cyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol;

d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU yn addas ar gyfer Cymru ac yn gyson â deddfwriaeth berthnasol bresennol yng Nghymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 9 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 52, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Eitem 10 yw'r eitem nesaf i bleidleisio arno—dadl Plaid Cymru ar dâl gweithwyr gofal iechyd. Dwi'n galw am bleidlais felly ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 41 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 10 - Dadl Plaid Cymru - Tâl Gweithwyr Gofal Iechyd - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Yn galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 10 - Gwelliant 1 - Cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2, felly, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant yna wedi ei gymeradwyo.

Eitem 10 - Gwelliant 2 - cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7791 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi ymdrechion Unite, Unsain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i sicrhau cyflog teg i bob gweithiwr gofal iechyd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu ag undebau llafur GIG Cymru gan gynnwys ynghylch cyflogau'r GIG.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, 14 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 10 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 39, Yn erbyn: 0, Ymatal: 14

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Y bleidlais nesaf ar eitem 11, sef dadl Plaid Cymru ar y pwysau gaeaf ar y gwasanaeth iechyd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig heb ei dderbyn.

Eitem 11 - Dadl Plaid Cymru - Pwysau Gaeaf y GIG - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

17:40

Galwaf am bleidlais, felly, nawr, ar welliant 1, yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Eitem 11 - Gwelliant 1 - cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 53, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7792 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Hydref 2021.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 11 - Dadl Plaid Cymru - cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 53, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

13. Dadl Fer: Addas ar gyfer yr 21ain Ganrif: Sut y gall Cymru gwella'r gefnogaeth y mae'n ei rhoi i helpu pobl i oresgyn dibyniaeth ar sylweddau

Fe fyddwn ni'n symud ymlaen yn awr i'r ddadl fer, yn enw Peredur Owen Griffiths. Fe wnawn ni gychwyn y ddadl fer mewn munud wrth i Aelodau adael y Siambr. Y ddadl fer, felly. Peredur Owen Griffiths.

Diolch, Llywydd. Mae Luke Fletcher a Jenny Rathbone wedi gofyn i gael munud o fy amser i, so dwi wedi cydsynio i hynny. Diolch yn fawr.

Aeth dros 40 mlynedd heibio ers i'r Unol Daleithiau ddatgan eu rhyfel yn erbyn cyffuriau. Ers hynny, mae gwahanol weinyddiaethau ar draws y byd wedi copïo'r uwch-bŵer ac wedi dilyn polisi o fabwysiadu dull llym o fynd i'r afael â chyffuriau, ond heb fawr o dystiolaeth ei fod yn trechu dibyniaeth, neu'n trechu'r gafael sydd gan gangiau troseddol ar yr ardaloedd lle maent yn gweithredu. Mae'r ffaith bod y rhyfel honedig hwn yn dal i gael ei ymladd, heb unrhyw ddiwedd yn y golwg, yn dweud rhywbeth. Mae'r DU, o dan wahanol Lywodraethau dros y blynyddoedd, wedi dilyn ôl troed ei chyfaill ar draws yr Iwerydd yn ôl y disgwyl, a hynny gyda chanlyniadau hawdd eu rhagweld. Mae marwolaethau cyffuriau yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel mewn rhannau helaeth o'r DU. Rhaid inni gofio bod cost ddynol y tu ôl i bob marwolaeth, cost sy'n taro ffrindiau a theulu'r ymadawedig am flynyddoedd wedyn. Fel gyda phob ystadegyn, ni ddylem byth golli golwg ar y gost ddynol i gymdeithas ac i'n cymunedau, ac ni ddylem anghofio am y llanastr y mae'r polisi hwn yn ei achosi mewn gwledydd lle bydd cartelau cystadleuol yn ymladd yn ddyddiol dros gynhyrchiant cyffuriau. Mae Mecsico yn enghraifft wych o wlad sydd wedi'i dadsefydlogi o ganlyniad i'r polisi cyffuriau hwn.

Yr hyn rwyf am ei wneud heno yw dadlau o blaid sgwrs genedlaethol sy'n ceisio sefydlu system well, fwy tosturiol wedi'i harwain gan brofiad o drin pobl sy'n gaeth i gyffuriau. Mae angen inni ddeall profiad bywyd yr holl bobl dan sylw, a rhoi ystyriaeth briodol i bob ateb posibl. Pa blaid bynnag a gynrychiolwch yn y Senedd, neu beth bynnag yw eich barn am gamddefnyddio sylweddau neu gaethiwed, rwy'n gobeithio y gallwn gytuno nad yw'r sefyllfa bresennol yn gweithio. Os nad ydych wedi eich argyhoeddi, efallai y gallech ofyn i chi'ch hun, os oedd y rhyfel yn erbyn cyffuriau'n gweithio, pam na ddaeth i ben genedlaethau yn ôl. 

I ddychwelyd at yr ystadegau, nid yw'r darlun yng Nghymru cynddrwg ag mewn rhannau o Loegr, yn ôl ystadegau diweddaraf 2020. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cofnododd Cymru ei chyfradd isaf o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau ers 2014. Roedd y gyfradd o 51.1 o farwolaethau ym mhob miliwn o bobl hefyd yn is na chyfradd Lloegr o 52.1 o farwolaethau ym mhob miliwn. Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol gafeat pwysig wrth ryddhau'r ffigurau hyn, sef y gallai oedi yn y broses o gofrestru marwolaethau yng Nghymru fod wedi effeithio ar y ffigur. Fodd bynnag, ddegawd yn unig yn ôl, roedd gan Gymru gyfradd genedlaethol o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau a oedd yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr. Felly, efallai fod marwolaethau cyffuriau i lawr yng Nghymru ar ôl cyrraedd uchafbwynt erchyll, ond maent yn dal i fod yn rhy uchel. A yw'n bosibl y gallai ymagwedd wahanol gynhyrchu canlyniadau gwell? A allai ymagwedd wahanol leihau nifer y marwolaethau, lleihau'r defnydd o gyffuriau a lleihau'r dylanwad niweidiol a gaiff gangiau cyffuriau ar ein cymunedau yng Nghymru?

Mae un o'r enghreifftiau rhyngwladol mwyaf syfrdanol o ymarfer da i'w gweld ym Mhortiwgal. Roedd problem gyffuriau ddifrifol iawn yn arfer bodoli yno. Yn y ddau ddegawd ers iddynt ddad-droseddoli cyffuriau, maent wedi lleihau nifer y marwolaethau'n sylweddol yn ogystal â'r niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Yn sgil y penderfyniad ymwybodol hwn i ddatblygu dull o weithredu ar sail iechyd, caiff y rhai sy'n cael eu dal gyda chyffuriau at ddefnydd personol yn eu meddiant eu trin yn weinyddol yn hytrach na'u dedfrydu i garchar. Golyga hyn nad yw'n arwain at gofnod troseddol. Mae cyffuriau'n dal i gael eu cymryd oddi arnynt, a gall meddiant arwain at ddirwy neu wasanaeth cymunedol yn y pen draw. Pa mor fuddiol y gallai ymagwedd o'r fath fod yma yng Nghymru, lle mae gennym rai o'r cyfraddau carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop?

A pha mor effeithiol y bu'r polisi ym Mhortiwgal? Fel y nododd gwefan Transform mewn erthygl ddiweddar ym mis Mai eleni, ac rwy'n dyfynnu,

'Yn 2001, roedd cyfraddau marwolaethau cyffuriau ym Mhortiwgal yn debyg iawn i gyfartaledd yr UE. Tra bod cyfraddau wedi gostwng ym Mhortiwgal yn sgil diwygio, cynyddu a wnaethant ar draws gweddill Ewrop yn yr un cyfnod o amser. O 2011 ymlaen mae Portiwgal a gweddill yr UE wedi dangos tueddiad tebyg, gan godi tan 2015/6—ond mae'r bwlch rhwng y ddau'n parhau i fod yn llawer mwy na'r hyn ydoedd cyn y diwygio. Mewn termau real, mae cyfraddau marwolaethau cyffuriau ym Mhortiwgal yn parhau i fod ymhlith rhai o'r isaf yn yr UE: 6 marwolaeth ym mhob miliwn ymhlith pobl 15-64 oed, o'i gymharu â chyfartaledd yr UE o 23.7 y miliwn (2019). Mae bron iawn yn amhosibl eu cymharu â'r 315 o farwolaethau y miliwn ymhlith rhai rhwng 15 a 64 oed a welwyd yn yr Alban, sydd dros 50 gwaith yn uwch na chyfraddau Portiwgal.'

Diwedd y dyfyniad. Nid yw'n syndod fod gwledydd a rhanbarthau eraill ledled y byd yn dechrau sylwi ar y gwersi y gellir eu dysgu gan Bortiwgal.

Nid wyf am i'r ddadl fer hon fod am gyffuriau anghyfreithlon yn unig, pan fo alcohol yn achosi cymaint o ddioddefaint mewn cymunedau a theuluoedd ledled Cymru. Byddwn ar fai pe na bawn yn sôn am alcohol pan fo ystadegau wedi awgrymu'n flaenorol fod oddeutu 10 o bobl yn marw bob wythnos yng Nghymru o achosion sy'n gysylltiedig ag alcohol. Amcangyfrifir hefyd fod oddeutu 60,000 o gleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty yng Nghymru oherwydd alcohol, gan gostio tua £159 miliwn y flwyddyn i'r GIG. Gyda'r GIG yn gwingo o dan y pwysau, rhaid bod dod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael ag effeithiau andwyol camddefnyddio alcohol yn flaenoriaeth. Rwyf am inni gyrraedd sefyllfa lle mae pobl sy'n cymryd y cam dewr o ofyn am gymorth i oresgyn caethiwed, boed ar gyfer cyffuriau neu ar gyfer alcohol, yn gwybod y bydd cymorth cynhwysfawr ar gael pan fydd ei angen arnynt.

Nid wyf yn esgus fod yr holl atebion gennyf—nid wyf yn credu bod unrhyw un yn meddu ar yr holl atebion—ond hoffwn ddechrau trafodaeth yma heddiw ynglŷn â sut y gallem fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn fwy effeithiol a sicrhau bod pobl sy'n gaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Rwyf am i'r gwahanol asiantaethau sy'n gyfrifol am gynorthwyo'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau ddod at ei gilydd yn rheolaidd i siarad am eu problemau a'u sylwadau gydag Aelodau o'r Senedd. Dyna pam rwy'n mynd ati i ddechrau grŵp trawsbleidiol ar gamddefnyddio sylweddau fel y gallwn ddatblygu arferion gorau. Rwyf wedi cael cefnogaeth asiantaethau allweddol fel Kaleidoscope eisoes, ond rwy'n gobeithio y bydd llawer o sefydliadau a ffigurau eraill yn ymuno â ni. Rwyf hefyd wedi cael cefnogaeth mwy na dau Aelod o'r Senedd o wahanol bleidiau i ffurfio'r grŵp trawsbleidiol; rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy ohonoch yn ymuno.

Yr hyn yr hoffwn i a fy mhlaid ei weld yw datganoli pwerau cyfiawnder i Gymru yn y pen draw, a phan fydd hynny'n digwydd, ein bod yn llunio system sy'n dosturiol, yn lleihau niwed ac yn rhyddhau'r gafael sydd gan lawer o gangiau troseddol ar y gwan a'r bregus yn ein cymunedau. I'r perwyl hwnnw, rwy'n gobeithio y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth chi, Weinidog, i ymgysylltu â'r grŵp hwn a datblygu polisi sy'n ceisio cyflawni'r nodau hyn a dechrau sgwrs ehangach sy'n arwain at ddull mwy effeithiol o fynd i'r afael â cham-drin sylweddau, camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth ar sylweddau. Diolch yn fawr.

17:45

Hoffwn ddiolch i Peredur am gyflwyno'r ddadl fer hon, a gallaf gadarnhau y byddaf yn edrych ymlaen yn fawr at ymuno â'i grŵp trawsbleidiol. Mae Peredur yn iawn; nid yw'r rhyfel yn erbyn cyffuriau'n gweithio ac nid yw erioed wedi gweithio. Rydym wedi bod ar y groesffordd hon ers dros bedwar degawd. Y gwir amdani yw bod ein hanallu i gael sgwrs aeddfed am gyffuriau wedi arwain at ddioddefaint yn fyd-eang—dioddefaint defnyddwyr, dioddefaint cymunedau wedi'u chwalu gan asiantaethau'r Llywodraeth a chartelau troseddol sy'n ymladd am bŵer dros y farchnad.

Rwy'n llwyr gefnogi dad-droseddoli'r defnydd o gyffuriau. Mae'r dull llym o weithredu a fabwysiadwyd gennym fel cymdeithas ers degawdau yn troseddoli pobl a allai fod yn defnyddio cyffuriau'n feddyginiaethol neu fel adloniant heb niweidio eraill, ac nid yw troseddoli'r rhai sy'n gaeth yn gwneud dim i'w helpu i newid eu bywydau. Mae'n bwysig cofio nad yw dad-droseddoli yn cyfreithloni unrhyw gyffur. Yn hytrach, mae'n newid y modd y mae awdurdodau'n ymdrin â mân achosion o feddiant cyffuriau ac yn trin defnyddwyr fel rhai a allai fod yn fregus, yn hytrach na fel troseddwyr. Mae dad-droseddoli cyffuriau yn dileu'r stigma hwnnw ac yn cael cymorth i bobl pan fyddant fwyaf o'i angen.

Mae gennym enghreifftiau megis Portiwgal, fel y nododd Peredur, sy'n dangos i ni sut y gallwn wneud i hyn weithio. A gwyddom yn union beth sydd ei angen i wneud iddo weithio. Ac unwaith eto, hoffwn ailadrodd y bydd Plaid Cymru yn cefnogi ac yn galw am ddatganoli rhagor o bwerau cyfiawnder fel y gallwn fynd i'r afael â'r broblem hon yn awr. Mae angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith. Mae mor syml â hynny. Diolch.

17:50

Ystadegau diddorol iawn o Bortiwgal, ond nid wyf yn argyhoeddedig ein bod yn y wlad hon yn carcharu pobl am ddefnyddio cyffuriau mewn gwirionedd; rwy'n credu ein bod yn carcharu pobl am ddelio cyffuriau. Ac rwy'n parhau'n ymrwymedig i wneud hynny, yn syml oherwydd mae'r niwed a wneir i'n pobl ifanc drwy eu tynnu i mewn i'r llinellau cyffuriau a dinistrio eu bywydau yn llwyr yn niweidiol tu hwnt. Ac felly nid wyf wedi fy argyhoeddi eto ynglŷn â'r achos dros ddad-droseddoli.

A tybed a yw'n mynd i fod yn fwled hud beth bynnag, oherwydd mae caethiwed yn symptom o drallod. Nid oes llawer o wahaniaeth rhwng dibyniaeth ar gamblo, ar alcohol, ar gyffuriau presgripsiwn, ar bornograffi neu ar sylweddau sy'n anghyfreithlon ar hyn o bryd. Mae pob un ohonynt yn alwad am help, ac mae'n ymwneud â deall yn well sut y gallwn gael unigolion yn fwy gwydn yn emosiynol i'w galluogi i wrthsefyll y caethiwed sy'n peri iddynt geisio boddi eu tristwch ond sy'n gallu difa eu bywydau, yn llythrennol, a bywydau aelodau o'u teuluoedd hefyd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni sicrhau bod gennym wasanaethau i helpu pobl i oresgyn eu caethiwed, sy'n gwbl bosibl. A chredaf y dylem dalu teyrnged i'r holl bobl sy'n gweithio gyda phobl gaeth o bob math i sicrhau eu bod yn gallu dod yn ddinasyddion gwell a byw bywydau gwell.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Peredur am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am ei gyfraniad meddylgar iawn, a diolch hefyd i Luke Fletcher a Jenny Rathbone am eu cyfraniadau, a chadarnhau hefyd i Peredur fy mod yn hapus iawn i ymgysylltu â'i grŵp trawsbleidiol newydd ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef?

Mae'n hanfodol ein bod yn atgyweirio effeithiau dinistriol camddefnyddio sylweddau i'r rhai sy'n ymladd caethiwed os ydym am helpu pobl i fyw bywyd y tu hwnt i hynny. Rhaid inni ddarparu cymorth a thriniaeth, a gweithio hefyd i chwalu stigma a rhoi gobaith i'r rhai a fydd, yng nghrafangau caethiwed, yn teimlo'r anobaith gwaethaf. 

Ers i mi ddod i'r swydd, rwyf wedi cyfarfod â nifer o bobl a sefydliadau sy'n ymwneud â'r maes camddefnyddio sylweddau, ac mae'r gwaith a lefel yr ymrwymiad yn y maes hwn wedi creu argraff fawr arnaf. Yn ystod y pandemig, gwnaed ymdrechion enfawr ac maent yn parhau i gael eu gwneud gan y rhai sy'n rhedeg gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i sicrhau bod cymorth a chefnogaeth hanfodol yn parhau i gael eu darparu i rai o'r unigolion mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae gwasanaethau camddefnyddio sylweddau wedi ymateb yn gyflym i addasu i heriau'r pandemig, ac rwyf am gofnodi fy niolch i'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector am yr ymdrech aruthrol hon.

Diwygiwyd ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019-22 ym mis Ionawr, yng ngoleuni coronafeirws, i sicrhau bod y gwaith a gâi ei wneud ac sy'n parhau i gael ei wneud yn cyrraedd y lefel o angen sy'n esblygu. Mae ein byrddau cynllunio ardal a phartneriaid eraill yn ymdrechu i gyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun, ac rwyf wedi ymrwymo i'w cefnogi i wneud hynny. Ac mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o ymrwymiad i'r maes. Rydym yn buddsoddi bron i £55 miliwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau bob blwyddyn. Dyrennir dros £25 miliwn ohono i'n byrddau cynllunio ardal camddefnyddio sylweddau ac mae bron i £21 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer helpu byrddau yng Nghymru. Mae byrddau cynllunio ardal yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allweddol i gomisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn eu hardal leol, yn seiliedig ar angen lleol.

Yn 2020-21, gwnaethom sicrhau hefyd fod bron i £4.8 miliwn arall ar gael i gefnogi ein hymateb i'r pandemig. Roedd dros £3 miliwn ohono i gefnogi darparu buprenorffin chwistrelladwy hirweithredol cyflym, neu Buvidal fel y'i gelwir, i gyn-ddefnyddwyr heroin mewn perygl, rhywbeth y byddaf yn sôn amdano yn nes ymlaen. Roedd y gweddill yn cynnwys cyllid i gefnogi gofynion cyfarpar diogelu personol, lleoliadau adsefydlu preswyl ychwanegol a chronfa cynhwysiant digidol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a allai fod wedi eu hallgáu'n ddigidol.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi diogelu a gwella'r gyllideb camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, ac ni ellir dweud yr un peth am Lywodraethau mewn rhannau eraill o'r DU. Cyhoeddwyd adolygiad y Fonesig Carol Black o wasanaethau triniaeth yn Lloegr ym mis Gorffennaf, ac fel yn Lloegr, rydym eisoes wedi bwrw ymlaen ymhell ar lawer o'i hargymhellion. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau, rwy'n falch o ddweud, wedi'i wreiddio'n gadarn o fewn dull sy'n canolbwyntio ar iechyd a lleihau niwed. Rydym hefyd wedi diogelu ac wedi clustnodi ein cyllid camddefnyddio sylweddau, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r maes tai ac ar draws iechyd meddwl i fynd i'r afael â her anghenion sy'n cyd-ddigwydd ac anghenion cymhleth.

Ar yr agenda sy'n cyd-ddigwydd, gydag iechyd meddwl a llesiant ehangach yn fy mhortffolio, rwy'n glir fod cyfleoedd da ar gael i barhau i wella drwy gydweithio yma ac ar draws y Llywodraeth, ac rwy'n benderfynol o wneud yr hyn a allaf i gyflawni hynny.

Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gefnogi gwaith y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth inni adeiladu ar y llwyddiant dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau ymagwedd 'pawb i mewn' wrth ymdrin â digartrefedd, ac y gellir darparu cymorth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau cofleidiol. Roedd hwn yn ymgymeriad enfawr, a oedd yn cynnwys dros 2,000 o bobl ar y dechrau, gyda dros 800 angen gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, a hynny yn ystod misoedd cyntaf y pandemig yn unig. Roedd rhai o'r rhain yn newydd i wasanaethau a chanddynt yr anghenion mwyaf cymhleth.

Mae cyfanswm o dros 13,300 o bobl wedi'u cartrefu ers dechrau'r pandemig, gyda dros 3,000 o atgyfeiriadau at wasanaethau camddefnyddio sylweddau. Rwy'n falch iawn o'n gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl, sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi'r bobl fwyaf bregus, ac rydym wrthi bellach yn datblygu'r dull ailgartrefu cyflym ar gyfer y dyfodol. Rydym eisoes wedi buddsoddi £1 filiwn ychwanegol y flwyddyn i fynd i'r afael ag anghenion cymhleth, ym maes camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl fel ei gilydd, ar gyfer unigolion o fewn y gwasanaethau digartrefedd.

Mae cyflwyno Buvidal, y soniais amdano'n gynharach, wedi lleihau'n sylweddol yr angen i ddefnyddwyr gwasanaeth fynychu fferyllfeydd a chlinigau cymunedol, gan ddiogelu eu hiechyd hwy ac iechyd gweithwyr allweddol. Mae dros 1,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth bellach yn elwa o'r driniaeth hon, a cheir cryn dipyn o dystiolaeth anecdotaidd fod nifer yn profi canlyniadau llawer gwell.

Yng Nghaerdydd, gwelsom y person cyntaf yn y DU yn cael y cymorth hwn drwy eu meddygfa, ac mae Cymru'n arwain y DU, os nad y byd, gyda'r driniaeth newydd arloesol hon. Cefais gyfle yn ddiweddar i gyfarfod â menyw ifanc a oedd wedi elwa o'r driniaeth hon, a chlywais yn uniongyrchol am yr effaith gwbl drawsnewidiol a gafodd arni hi. Mae adolygiad cyflym ar y gweill o'r driniaeth newydd hon, ei manteision a'i gwerth am arian, ar gyfer llywio polisi yn y dyfodol.

Er bod hyd yn oed un farwolaeth sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yn drasiedi ac yn un yn ormod, fe'm calonogwyd i weld bod data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer mis Awst 2020, y cyfeiriodd Peredur ato eisoes, yn nodi'r gyfradd isaf ers 2014 o farwolaethau camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru. Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld nifer y marwolaethau camddefnyddio cyffuriau yn gostwng yn ystod 2020. Er ei bod yn braf gweld nifer y marwolaethau'n gostwng, byddwn yn gwerthuso'r ystadegau ar gyfer Cymru, gan ystyried ffactorau daearyddol, sylweddau a sefyllfaoedd, a byddwn yn gweithio'n agos gyda grwpiau lleihau niwed a byrddau cynllunio ardal er mwyn ffurfio ymateb polisi priodol i sicrhau gostyngiad pellach parhaus yn y dyfodol.

Rhan allweddol arall o'n hagenda lleihau niwed yw ein menter nalocson genedlaethol, lle'r ydym wedi gwneud cynnydd rhagorol. Datblygiad pwysig mewn perthynas â nalocson yw'r gwaith a wnawn gyda'r heddlu i alluogi swyddogion i gario chwistrell trwyn nalocson tra ar ddyletswydd. Rydym hefyd wedi ariannu cynllun peilot lle'r oedd defnyddwyr cyffuriau'n dosbarthu nalocson i'w gilydd ar y strydoedd. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae wedi arwain at ystyried ailadrodd y model ym mhob rhan o Gymru.

Rydym yn dyrannu £1 filiwn o gyllid blynyddol wedi'i glustnodi ar gyfer darparu gwasanaethau adsefydlu a dadwenwyno preswyl haen 4. Ym mis Ebrill 2020, lansiwyd ein fframwaith triniaeth breswyl newydd, Rehab Cymru, sy'n cynnig dros 30 o leoliadau, gan gynnwys tri yng Nghymru. Mae Rehab Cymru yn darparu rhestr gymeradwy o ddarparwyr gwasanaethau adsefydlu preswyl a'r gallu i weld mathau o driniaeth, rhestri prisiau, lleoliadau ac adroddiadau arolygu er mwyn helpu defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol i ddewis. Ers cyflwyno ein fframwaith adsefydlu preswyl, gwnaed cyfanswm o 238 o atgyfeiriadau drwy Rehab Cymru, rhwng ei ddechrau ym mis Ebrill 2020 a mis Gorffennaf 2021.

Fodd bynnag, rwy'n pryderu bod data dros dro ar farwolaethau sy'n deillio'n uniongyrchol o gamddefnyddio alcohol yn ystod 2020 yng Nghymru a Lloegr, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021, yn dangos cynnydd sylweddol. Efallai fod llawer o ffactorau wedi cyfrannu at hyn, ac rydym yn ystyried y rheini. Fodd bynnag, tra'n bod yn aros am y ffigurau terfynol, rwy'n gobeithio y gallwn fynd i'r afael yn fwy effeithiol â'r broblem drwy weithredu isafbris uned ar gyfer alcohol, a chamau gweithredu fel datblygu'r fframwaith trin niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol sydd i'w gyhoeddi cyn bo hir.

Er fy mod yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon ac amlinellu'r gwaith a'r canlyniadau cadarnhaol sy'n cael eu cyflawni, nid wyf yn hunanfodlon o gwbl; mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Ond rwyf wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth, byddaf yn parhau i ddatblygu ein hymrwymiadau yn y cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau ac wrth gwrs, byddaf yn ystyried beth arall y gallai fod angen inni ei wneud wrth inni barhau i ymateb i'r pandemig a'i effeithiau ehangach. Diolch yn fawr.

18:00

Dyna ddiwedd nawr, felly, ar ein gwaith ni am y dydd heddiw. Diolch yn fawr i bawb, a nos da. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:02.