Y Cyfarfod Llawn

Plenary

29/09/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, y prynhawn yma i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau, ble bynnag y byddan nhw'n cymryd rhan a ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau hefyd atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Cwestiynau i Weinidog yr Economi yw'r cwestiynau cyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.

Blaenoriaethau Economaidd ar gyfer Preseli Sir Benfro

1. Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro ar gyfer y 12 mis nesaf? OQ56902

Diolch. Mae ein blaenoriaethau’n ymwneud â hyrwyddo economi wyrddach, fwy cyfartal a llewyrchus i bob rhan o Gymru, gan gynnwys Preseli Sir Benfro, wrth inni barhau i weithio’n agos gyda Chyngor Sir Penfro a phartneriaid ar ddatblygu’r fframwaith economaidd rhanbarthol.

Diolch am eich ymateb. Fe sonioch am Gyngor Sir Penfro. Yn amlwg, mae eu strategaeth adfywio ar gyfer 2020-2030 yn nodi'n glir iawn fod yr economi leol yn ddibynnol iawn ar rai sectorau, megis twristiaeth. Ond er y nifer fawr o ymwelwyr, nid oes gan y prif drefi gynnig bywiog o ran manwerthu na hamdden ac mewn termau economaidd maent yn dal i ddirywio. Yn wir, mae'r strategaeth hefyd yn nodi, pan ofynnwyd i fwrdd ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau beth oedd eu prif flaenoriaeth er mwyn cyflawni adfywiad economaidd, eu hateb oedd, 'Seilwaith, seilwaith, seilwaith'. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fuddsoddi yng nghanol trefi sir Benfro, ac a allwch ddweud wrthym pa welliannau seilwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn eu harwain dros y 12 mis nesaf er mwyn hybu'r economi leol yn sir Benfro?

Diolch am eich cwestiwn. Fel y gwyddoch, yn genedlaethol, rydym wedi buddsoddi dros £6.5 miliwn fel rhan o'n menter Trawsnewid Trefi. O ran sir Benfro ei hun, ar gyfer y tair tref ddynodedig sef Penfro, Hwlffordd ac Aberdaugleddau, mae £2.75 miliwn ar gael mewn cymorth benthyciad i helpu i ddatblygu canol y trefi. Felly, mae'n rhan o weithio gyda'r cyngor i ddeall yr hyn y maent yn dymuno gallu ei gyflawni gyda ni er mwyn helpu i sicrhau dyfodol bywiog i gynigion manwerthu yng nghanol ein trefi, i gynyddu nifer yr ymwelwyr, wrth inni geisio cael mwy o ganolfannau i bobl weithio ynddynt hefyd yn wir. Felly, mae hon yn ymdrech go iawn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a'r bobl sy'n rhedeg y trefi hynny gyda Llywodraeth Cymru.

Rheoliadau Diogelwch yn y Gweithle

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y rheoliadau diogelwch yn y gweithle y disgwylir i gyflogwyr yn Nwyrain De Cymru eu dilyn? OQ56929

Gallaf gadarnhau bod fy swyddogion wedi drafftio canllawiau ‘Diogelu Cymru yn y gwaith’, ac wrth wneud hynny, wedi ymgynghori â chydweithwyr yn y maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Cafodd y canllawiau eu trafod a'u cymeradwyo wedyn gan y Cabinet. Mae'r canllawiau'n nodi'r rhwymedigaethau ar bobl sy'n gyfrifol am adeiladau sy'n agored i'r cyhoedd neu lle mae gwaith yn digwydd, a mesurau rhesymol y mae'n rhaid eu hasesu ac asesiadau risg y mae'n rhaid eu cwblhau gyda'u staff a'u cynrychiolwyr.

Diolch am eich ateb cychwynnol, Weinidog. Cefais lythyr gan undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn mynegi, ac rwy'n dyfynnu, 'pryderon gwirioneddol ynghylch diogelwch yn cael ei beryglu gan reolwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghasnewydd, gan roi staff a hawlwyr mewn perygl yng nghanolfan waith Casnewydd mewn modd byrbwyll'. Mae'r llythyr yn nodi cyfres o faterion pryderus, Weinidog, sy'n ymwneud â diffyg mesurau cadw pellter cymdeithasol, awyru gwael a thoriadau i lanhau. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae dau aelod o staff yn cael eu gorfodi i weithio yn y ganolfan waith er eu bod mewn cysylltiad agos â phlant yn eu cartrefi sydd wedi profi'n bositif am COVID. Gyda diwedd y cynllun ffyrlo ar fin digwydd, mae'n debyg y bydd mwy fyth o bwysau ar wasanaethau'r Adran Gwaith a Phensiynau a gallem weld mwy fyth o bobl yn dod i mewn i'r lleoedd anniogel hyn a chynnydd mewn COVID yn y gymuned. A fyddech yn cytuno â mi, Weinidog, fod gweithwyr y sector cyhoeddus yn haeddu eu diogelu a sicrwydd na fyddant yn cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd peryglus yn y gwaith?

Ac yn olaf, Weinidog, pa gamau brys y byddwch yn eu cymryd i ddiogelu gweithwyr a hawlwyr yng nghanolfan waith Casnewydd a chanolfannau ledled Cymru i sicrhau bod safonau diogelwch yn cael eu gorfodi ac nad oes unrhyw aelod o staff na'r cyhoedd yn cael eu rhoi mewn mwy o berygl?

Wel, nid yw hyn yn swnio mor wahanol â hynny i rai o'r heriau a gawsom gyda'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn gynharach yn y pandemig. A gwn fod Aelodau a chanddynt weithwyr yn y DVLA yn Abertawe a fydd yn cofio pa mor anodd oedd cysylltu â'r cyflogwr bryd hynny. Felly, hoffwn ailddatgan ambell bwynt a ddylai fod yn rhai syml. Mae'r gyfraith yng Nghymru yn berthnasol i bob cyflogwr yng Nghymru yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus o ran y disgwyliad eu bod yn cynnal asesiadau risg, ac yn eu cynnal yn briodol, yn cyhoeddi'r wybodaeth, ac yn gwneud hynny gyda'u staff. Y neges gyson yma yng Nghymru, gan y Llywodraeth hon, yw y dylech weithio gartref lle bynnag y bo modd. Nawr, deallaf y bydd cyflogwyr yn cael sgyrsiau gyda'u gweithwyr ynglŷn â'r gallu i weithio gartref—i rai pobl, nid yw bob amser yn bosibl gwneud eu holl waith gartref. Ond hefyd, ceir rhesymau pam y gallai pobl fod yn awyddus i ddychwelyd i'r gweithle—ceir ystyriaethau penodol ynglŷn â llesiant y gweithlu, ynglŷn â phobl sy'n awyddus iawn i fod neu sydd angen bod yn y gweithle. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu y dylai cyflogwyr fynnu bod staff yn gweithio yn yr un ffordd ag y gwnaent cyn y pandemig, mewn swyddfeydd bychain a chaeedig.

Rwy'n deall bod yr Aelod wedi cyfeirio at undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, ac wrth gwrs, rydym yn siarad ag undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol a chyflogwyr ledled y wlad yn rheolaidd. Os oes problemau gwirioneddol na allant eu datrys gyda'r cyflogwr, byddwn yn disgwyl i'r materion hynny gael eu huwchgyfeirio fel y bo'n briodol, ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod pawb yn dilyn gofynion y gyfraith yma yng Nghymru, gan gynnwys rhoi ystyriaeth briodol i gyngor y Llywodraeth hon ynglŷn â sut i gadw pob un ohonom yn ddiogel, gan nad yw'r pandemig hwn ar ben eto.

13:35

Weinidog, mae'n debyg eich bod wedi cyfeirio at y rhan fwyaf o hyn beth bynnag yn yr hyn yr ydych newydd ei ddweud, ond mae'r pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar lawer o ddulliau gweithio confensiynol, ac un o'r dulliau hynny oedd gweithio yn y swyddfa. Mae gweithio gartref, yn ôl Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd, yn cael effaith andwyol ar iechyd meddwl llawer o bobl, gyda 56 y cant o’r bobl a holwyd yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anoddach ymlacio wrth weithio gartref, a 67 y cant yn dweud eu bod yn teimlo llai o gysylltiad â'u cydweithwyr. Er y gall gweithio gartref fod yn fuddiol i fusnesau a sefydliadau, ac efallai i'r gymdeithas yn gyffredinol ar hyn o bryd, mae'n amlwg y gallai sefyllfa lle mae gweithwyr yn defnyddio eu tai fel swyddfeydd dros dro fod yn niweidiol nid yn unig i'r economi, ond hefyd i'w hiechyd meddwl. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i annog mwy o bobl i ddechrau gweithio yn y swyddfa eto, efallai? A gallai hynny fod yn berthnasol i'r lle hwn hefyd.

Wel, mae'r Aelod yn nodi peth o'r effaith ar rai pobl sydd wedi bod yn gweithio gartref. Ac fe wneuthum gydnabod hynny yn fy ateb cyntaf—ceir rhesymau'n ymwneud â llesiant pobl, lle gallai pobl fod yn awyddus i ddychwelyd i'r swyddfa am rywfaint o'r wythnos. Ond y canllawiau a'r cyngor gan y Llywodraeth hon yw gweithio gartref lle gallwch wneud hynny. A'r rheswm am hynny yw'r cyngor clir a gawn sy'n dweud ei fod yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn wrth atal lledaeniad COVID, ac fel rydym wedi'i ddweud dro ar ôl tro, nid yw'r pandemig ar ben eto. Mae a wnelo hyn â sut y llwyddwn i gyrraedd diwedd y pandemig heb gael niwed diangen. Felly, nid yw'n fater o ddweud yn syml y dylai pawb ddod yn ôl i weithio yn y swyddfa fel pe bai'r cyfnod hwn wedi bod a phawb yn gweithio fel y gwnaent cyn y pandemig. Ond yn yr un modd, i rai pobl, mae gweithio gartref wedi bod yn welliant gwirioneddol i ansawdd eu bywyd—o ran cydbwyso cyfrifoldebau y tu allan i'w gwaith, yn ogystal ag yn eu gwaith. Mae llawer o fusnesau'n cydnabod bod cynhyrchiant wedi gwella am fod pobl yn gallu gweithio o bell hefyd. Ac yn fy sgyrsiau â grwpiau busnes, maent yn argyhoeddedig iawn nad yw'r hen ffyrdd o weithio'n debygol o ddychwelyd yn yr un ffordd yn union. Mae manteision i'w cael i gynhyrchiant o fod pobl yn dymuno parhau i weithio gartref am rywfaint o'r wythnos, hyd yn oed pan fydd y pandemig ar ben, yn ogystal â dymuno bod mewn swyddfa. Felly, mae'n fater o gydbwyso'r holl bethau hynny, ond ar hyn o bryd, rwy'n ailadrodd mai'r cyngor gan y Llywodraeth hon, wedi'i gefnogi gan iechyd y cyhoedd, yw gweithio gartref lle bynnag y bo modd. Wrth gwrs, dros y ffin, er nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi'r cyngor hwnnw ar hyn o bryd, fe welwch eu bod yn cydnabod y gallai fod yn rhywbeth y byddant yn gofyn i bobl ei wneud os yw'r pandemig yn parhau i waethygu yn Lloegr hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, ar ôl blwyddyn a hanner, fel y gwyddoch, mae'r cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws bellach yn dod i ben. Nawr, mae'r cynllun ffyrlo wedi bod yn gymorth aruthrol i filoedd o fusnesau a phobl ledled Cymru drwy gydol y pandemig, ac wrth i'r cynllun hwnnw ddirwyn i ben yn awr, bydd rhai busnesau a chyflogwyr yn wynebu heriau difrifol iawn. Wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru wedi gwybod ers peth amser fod y cynllun cadw swyddi ar fin dod i ben ac wedi cael amser i ystyried y ffordd orau y gall gefnogi busnesau Cymru yn y dyfodol. Felly, Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o dueddiadau diweddar y farchnad lafur er mwyn nodi'r mathau o weithwyr a busnesau a allai wynebu trafferthion pan ddaw'r cynllun ffyrlo i ben? Ac a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei gynllunio er mwyn cefnogi busnesau a allai wynebu heriau mewn perthynas â'r farchnad lafur dros y misoedd nesaf?

Wel, rydym yn dal i wynebu ychydig o heriau anodd wrth inni symud ymlaen. Felly, mae'n wir dweud ein bod wedi cynnal asesiad i geisio deall y meysydd gwaith hynny a allai gael eu heffeithio wrth i'r cynllun ffyrlo ddod i ben. Serch hynny, bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr eisoes wedi gwneud dewisiadau, wrth i'r cynllun ffyrlo gael ei leihau ac wrth i fwy o bobl ddychwelyd i'r gwaith a dod oddi ar ffyrlo. Serch hynny, rydym yn disgwyl y bydd rhai cyflogwyr, yn enwedig mewn rhannau llai llewyrchus o'r economi, pan ddaw'r cynllun ffyrlo i ben, yn gwneud dewisiadau ynglŷn â'r hyn y maent yn ei wneud â'u gweithlu, ac a fyddant yn parhau â'u busnes. Nawr, yr hyn sy'n anodd yn hynny o beth yw bod ein hymgysylltiad â'r busnesau hynny'n dibynnu ar eu gweld yn dod i siarad â ni'n uniongyrchol am y math o gymorth y gallent ei gael. Ond rydym yn parhau i weithio gydag ystod o sefydliadau busnes i geisio deall y ffordd orau y gallwn eu cefnogi. Mewn rhai sectorau, wrth gwrs, bydd cymorth sylweddol yn parhau hyd at ddiwedd y flwyddyn—parhad y seibiant ardrethi busnes ar gyfer ystod o sectorau sydd wedi bod o dan bwysau mawr. Ond ni fyddwn yn deall y gwir broblemau yn yr economi tan i'r cynllun ffyrlo ddod i ben, a phan fyddwn yn gweld effaith uniongyrchol y penderfyniadau y bydd busnesau unigol yn eu gwneud. Serch hynny, o'r hyn a glywsom wrth ymgysylltu â hwy, mae'n bur debyg fod busnesau mwy a chanolig eu maint eisoes wedi gwneud y penderfyniadau hynny.

Mae'r her yn un anodd gan y gwyddom nad yw'r pandemig ar ben, ac mae'n bosibl y bydd angen inni roi camau ar waith drwy'r hydref a'r gaeaf o ganlyniad i'r pandemig parhaus. Ein huchelgais, serch hynny, yw peidio â gorfod gwneud hynny, a dyna pam ein bod yn ailadrodd y dylai pobl wneud y pethau bychain ond pwysig i helpu i atal y pandemig rhag cyrraedd sefyllfa unwaith eto lle gallai fygwth gallu ein GIG i weithredu: yn benodol, gwisgo masgiau lle mae angen iddynt wneud hynny; cael prawf yn rheolaidd pan fyddant yn mynd i mewn ac allan o wahanol leoedd; ac wrth gwrs, i atgoffa pobl am y cwestiwn cyntaf gan eich cyd-Aelod, Peter Fox, gweithio gartref lle bynnag y bo modd; a chael y sgwrs synhwyrol honno er mwyn cadw'r coronafeirws dan reolaeth.

13:40

Ond Weinidog, wrth inni gefnu ar y pandemig, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth yn awr ar gyfer cefnogi busnesau. Mae'r rhaglen lywodraethu'n honni ei bod yn cefnogi busnesau Cymru i greu swyddi newydd, dod o hyd i farchnadoedd allforio newydd a buddsoddi yn niwydiannau gwyrdd cynaliadwy y dyfodol. Ond Weinidog, ychydig iawn o dystiolaeth a gafwyd bod y gweithgarwch hwn yn digwydd o gwbl, ac nid ydym wedi gweld gweledigaeth glir eto ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu adeiladu economi Cymru ar ôl y pandemig. Felly, a allwch ddweud wrthym pryd y bydd strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru yn cael ei chyhoeddi fel y gall busnesau weld cyfeiriad teithio Llywodraeth Cymru ar ôl y pandemig? Ac yng ngoleuni eich rhaglen lywodraethu, a allwch ddweud wrthym pa dargedau a osodwyd gennych i chi eich hunain ar gyfer creu swyddi newydd, marchnadoedd allforio newydd a buddsoddiadau newydd yng Nghymru? Oherwydd, os ydych mor uchelgeisiol ag y dywedwch, rhaid eich bod wedi gosod y meincnodau hyn i fonitro eich cynnydd fel Llywodraeth.

Wel, fe welwch nifer o bethau yr ydym eisoes wedi'u gwneud, er enghraifft y gwaith sydd ar y gweill ar gefnogi diwydiannau allforio—y cynllun gweithredu allforio sydd eisoes ar waith. Ond gallwch ddisgwyl clywed mwy gennyf ynglŷn â bwrw ymlaen â'r genhadaeth economaidd dros y mis nesaf. Felly, ni fydd raid i chi aros llawer mwy am fanylion ein huchelgais a'r modd y byddwn yn gweithio gyda busnesau, fel rwy'n dweud, ar adeg sy'n dal i fod yn heriol, ond edrychwn ymlaen at adfer ar ôl y pandemig.

Wel, oes, mae angen inni weld a chlywed mwy gennych, Weinidog, a gweld beth yw eich strategaeth yn y dyfodol wrth inni ddod allan o'r pandemig. Nawr, Weinidog, mae adroddiad Mynegai Ffyniant y Deyrnas Unedig ar gyfer 2021 yn dweud bod rhai ardaloedd o'r DU

'yn wynebu heriau arbennig o sylweddol o ran cynhyrchiant, cystadleurwydd a deinamigrwydd',

ac yn anffodus, mae Cymru'n un o'r ardaloedd hynny.

'Yn nodweddiadol, mae cyfraddau goroesi busnesau yn yr ardaloedd hyn yn isel, llai o fusnesau uwch-dechnoleg, a fawr o fusnesau newydd yn dechrau.'

Dangosodd yr un adroddiad fod gan fusnesau yng Nghymru

'Amgylchedd Buddsoddi gwan gyda chyflenwad isel o gyfalaf, fawr o alw am ehangu, ac mae 31% o brosiectau wedi'u hoedi oherwydd diffyg cyllid',

sef, yn anffodus, y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig. Nawr, mae gwir angen arweiniad ar economi Cymru, ac eto, ers yr etholiad, ychydig iawn a welsom gan Lywodraeth Cymru o ran ei hymrwymiad i economi Cymru, ac mae busnesau ledled Cymru yn haeddu llawer gwell. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym pa syniadau newydd sydd gan Lywodraeth Cymru i greu'r amodau ar gyfer menter yma yng Nghymru? Ac a allwch ddweud yn glir wrth fusnesau yng Nghymru heddiw beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau amgylchedd buddsoddi Cymru fel bod ein busnesau yma yng Nghymru yn cael cyfleoedd i ehangu a thyfu, yn enwedig wrth inni gefnu yn awr ar y pandemig COVID?

Wel, gallwch ddisgwyl clywed mwy gan y Llywodraeth hon am yr hyn y disgwyliwn ei wneud i allu buddsoddi ar y cyd â busnesau. Gallwch ddisgwyl clywed hynny fel rhan o ddiwygiadau pellach wrth fwrw ymlaen â'r contract economaidd. Gallwch ddisgwyl clywed hynny pan fyddaf yn nodi manylion pellach dros y mis nesaf am yr hyn y byddwn yn ei wneud i geisio ailddechrau economi Cymru er mwyn ailgodi'n gryfach. Ond mae hefyd yn realiti diymwad fod buddsoddi mewn cyllid ar gyfer busnes yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod. Mae hefyd yn wir fod buddsoddi yn sgiliau a thalent pobl yn hynod bwysig hefyd, er mwyn helpu i ymdrin â rhai o'r heriau i ffyniant y gwyddom ein bod yn eu hwynebu. A dyna pam fod y datganiad ddoe mor bwysig, ynghylch y sicrwydd sydd ei angen arnom a bod angen i fusnesau allu cynllunio. Os oes cwmwl dros ein gallu i barhau i fuddsoddi mewn sgiliau ar draws yr economi, megis dyfodol y cronfeydd ôl-Ewropeaidd yr ydym yn dibynnu ar draean ohonynt i ariannu ein rhaglen brentisiaethau, mae hynny'n ansicrwydd enfawr i ni ac i fusnesau. Os yw Banc Datblygu Cymru, sy'n cefnogi miloedd o swyddi ym mhob etholaeth a phob rhanbarth yng Nghymru, yn ansicr ynglŷn â'i allu i barhau i gael ei ariannu a'i gefnogi, mae honno, unwaith eto, yn her ymarferol iawn i ni.

Felly, mae penderfyniadau gennym i'w gwneud, a byddaf yn sicr yn nodi'r penderfyniadau y dymunwn eu gwneud a sut y byddwn yn mynd ati i wneud hynny, ond gallem wneud cymaint yn fwy pe bai Llywodraeth y DU o leiaf yn barod i fod yn bartner parod ac adeiladol, ac i wneud penderfyniad i weithio gyda ni, nid yn ein herbyn. Ac edrychaf ymlaen at weld beth sy'n digwydd gyda Michael Gove yn ei weinyddiaeth newydd, ac yn bwysicach fyth, beth sy'n digwydd pan gaiff yr adolygiad o wariant a'r gyllideb eu cyflwyno o'r diwedd ar ddiwedd mis Hydref.

13:45

Diolch, Lywydd. Ac wrth inni ddod allan yn awr ar yr ochr arall i dymor twristiaeth prysur, dylem achub ar y cyfle hwn i fyfyrio ac ystyried y ffordd orau inni hyrwyddo Cymru yn y dyfodol fel cyrchfan cynaliadwy o'r safon uchaf i dwristiaid. Rwy'n siŵr y bydd y Llywydd yn falch o glywed fy mod wedi treulio peth o fy amser yng Ngheredigion dros yr haf, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, wrth gwrs, yn cytuno bod gan ardaloedd fel Ceredigion stori i'w hadrodd a llawer o brofiadau i dwristiaid.

Y gwir amdani yw bod angen inni weld cymorth ariannol i'r sector, gyda ffocws penodol ar dwristiaeth ddiwylliannol a thwristiaeth bwyd, sydd ill dau'n arbennig o berthnasol i gefn gwlad Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ffactoreiddio ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth, i ganiatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth fel rhan o'u rhaglen lywodraethu ar gyfer y tymor hwn. Mae angen inni weithio gyda'n gilydd yn awr gan ymgynghori â'r sector, awdurdodau lleol a chymunedau lleol i ystyried yr holl opsiynau ac i fyfyrio'n ofalus ar fanteision ac anfanteision ardollau mewn gwledydd eraill, megis Ffrainc, Awstria a'r Almaen. A all y Gweinidog amlinellu pa waith pellach sy'n mynd rhagddo ar ardoll twristiaeth a sut y mae'n ei gweld yn gweithio yng Nghymru? Ac a fyddai’n cytuno â mi y dylai unrhyw ardoll flaenoriaethu gwaith i wneud ein cymunedau’n gynaliadwy mewn ffordd sy’n ystyried twristiaeth yn rhywbeth y mae cymunedau’n rhan ohono, yn hytrach na’i fod yn rhywbeth sy’n cael ei wneud iddynt?

Iawn. Edrychwch, rydym yn ffodus iawn o fod wedi cael llawer o alw ychwanegol ar ein diwydiant twristiaeth, ond mae hynny wedi bod yn her i rai o'r cymunedau sy'n gartref i rai o'r cyrchfannau poblogaidd hynny i dwristiaid. Rwyf wedi eu mwynhau fy hun, wrth imi fynd o amgylch Cymru gyda fy nheulu. Rwyf wedi mwynhau amser ar benrhyn Llŷn, ac rwyf wedi mwynhau amser ar Ynys Môn, a chawsom amser gwych yn gweld rhannau o Gymru nad oeddem wedi'u gweld o'r blaen. Ac mae'r rhan fwyaf o dwristiaid yn parchu—roeddem ni, yn sicr—ac yn gwerthfawrogi'r cyfle i dreulio amser a gwario arian yng Nghymru. Yr her sy'n ein hwynebu yw sut i gael diwydiant, fel y dywedwch, sy'n ffyniannus yn ogystal â seilwaith lleol sy'n cefnogi hynny ac nad yw'n anwybyddu buddiannau pobl sy'n byw yn y cymunedau hynny drwy gydol y flwyddyn ond sy'n cydnabod y manteision economaidd y gallant eu cynhyrchu.

Mae'r ardoll twristiaeth yn rhan o'r ystyriaeth honno, a'n man cychwyn ni yw ardoll twristiaeth sydd, fel y nodoch chi, yn adeiladu ar arferion llwyddiannus mewn rhannau eraill o'r byd, gan gynnwys yn Ewrop. Ac roedd llawer ohonom, cyn y pandemig, yn mynd dramor i gyrchfannau mawr fel yr Eidal, Sbaen, Portiwgal a Ffrainc. Mae ganddynt hwy ardollau twristiaeth, ac fel arfer maent wedi'u cynllunio ar gyfer gwneud dewisiadau lleol ac i roi ystyriaeth i amgylchiadau lleol. Felly, pan fyddwn yn ymgynghori, byddaf yn gweithio gyda'r Gweinidog cyllid, gan fod hyn yn ymwneud ag edrych ar yr egwyddorion treth, y bydd adran y Gweinidog cyllid yn ceisio'u diogelu, er mwyn deall sut y gallai hynny weithio, sut y gallai weithio gydag awdurdodau lleol yn gwneud dewisiadau ynglŷn â beth i fuddsoddi ynddo, er mwyn sicrhau bod twristiaeth yn beth cadarnhaol iawn i'r ardaloedd hynny ac yn rhoi ystyriaeth briodol i gyfleusterau a seilwaith.

Diolch, Weinidog. Wrth edrych ymlaen, y tu hwnt i'r adferiad yn y tymor byr i'r tymor canolig ac ar y strategaeth adfer fwy hirdymor, un ffordd y gallwn sicrhau ffyniant i gymunedau lleol yng Nghymru yw drwy gefnogi cwmnïau cydweithredol cymunedol, mentrau cymdeithasol ac economi sylfaenol Cymru. Mae'r pandemig wedi cadarnhau bod economi sylfaenol gref wedi'i chefnogi'n dda yn hanfodol. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, yr economi sylfaenol yw'r economi gyfan. Gwyddom fod pedair o bob 10 swydd yng Nghymru yn rhan o'r economi sylfaenol, a bod £1 ym mhob £3 a werir yng Nghymru yn yr economi sylfaenol honno.

Nawr, mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi argymell ffurfioli egwyddor 'Meddwl yn fach yn gyntaf' i ymgorffori arferion treuliant lleol yng Nghymru. Dylai hyn helpu i gefnogi'r economi sylfaenol, sydd wedi bod yn allweddol yn ystod y pandemig ac wrth hybu economi Cymru yn fwy cyffredinol. Mae rheoleiddio'n chwarae rôl bwysig yn darparu cysondeb a chwarae teg i fentrau bach a chanolig a busnesau lleol, yn enwedig yn yr economi sylfaenol. Fodd bynnag, mae nifer y busnesau bach a chanolig sy'n ystyried gweithio i'r sector cyhoeddus yn gostwng, a disgrifiodd 51 y cant o'r ymatebwyr yn arolwg busnesau bach yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol mai rheoleiddio oedd yr her fwyaf sylweddol.

Yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017, cafwyd ymrwymiad i adolygu rheoleiddio, ond mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi nodi nad yw'n glir pa gamau a gymerwyd i gyflawni'r ymrwymiad hwn. Byddwn yn ddiolchgar i'r Gweinidog pe gallai amlinellu pa gymorth sydd ar waith i fusnesau bach a chanolig a busnesau lleol sy'n ceisio llywio'u ffordd drwy brosesau caffael a rheoleiddio, ac a gynhaliwyd unrhyw adolygiadau ers cynllun gweithredu economaidd 2017, a hefyd, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i flaenoriaethu busnesau lleol dros gorfforaethau sy'n allforio elw fel sylfaen ein heconomi, a sut y maent yn ymgyrchu i ddefnyddwyr wneud yr un peth?

13:50

Iawn, felly y Gweinidog arweiniol sy'n gyfrifol am gaffael yw'r Gweinidog cyllid, ond rydym eisoes yn adolygu gyda grŵp o Weinidogion gan gynnwys fi fy hun ac eraill sut i sicrhau manteision pellach i gadwyni cyflenwi lleol mewn perthynas â chaffael, ac mae busnesau bach a chanolig yn ffactor allweddol i allu gwneud hynny yn ein barn ni. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo yn ogystal â'r nodyn cyfarwyddyd a gafodd ei awdurdodi a'i gyflwyno gan Rebecca Evans yn nhymor diwethaf y Senedd.

Pan edrychwn ar yr economi sylfaenol neu'r economi bob dydd, roeddwn yn falch o weld fy hen gymrawd a chyd-aelod o'r Blaid Lafur, Rachel Reeves, yn sôn am hyn yn ei haraith yn Brighton, wrth iddi siarad am yr economi bob dydd a'i phwysigrwydd a beth y mae hynny'n ei olygu, gan ein bod wedi cydnabod hynny gyda'r gronfa her economi sylfaenol ond hefyd drwy'r gwaith rwy'n bwrw ymlaen ag ef yn awr. A phan welwch y gwaith y bûm yn sôn amdano wrth Paul Davies ynglŷn â beth fydd dyfodol ein cenhadaeth economaidd, bydd yr economi sylfaenol yn dal i fod yn rhan sylweddol o hynny. Ac rwyf bellach ar ochr ychydig yn wahanol i beth o'r gwaith sydd eisoes wedi dechrau. Pan oeddwn yn esgidiau Eluned Morgan—heb yr un sodlau, ond yn ei hesgidiau—fel y Gweinidog iechyd, roeddem eisoes yn siarad bryd hynny am y gwaith y gallem ei wneud a'r hyn a olygai ar gyfer caffael a chwmnïau llai a'r gwasanaeth iechyd gwladol. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau, ac rydym wedi cytuno i wneud gwaith hyrwyddo rhwng ein dwy adran i sicrhau mwy o werth i economïau lleol. Mae'n ymwneud ag ymgorffori hyn fel ffordd arferol o weithio er mwyn sicrhau manteision ym mhob rhan o'n heconomi, a bod pethau'n cael eu llywio nid yn unig gan bris, ond i raddau mwy o lawer, gan werth.

Ac wrth gwrs, mae Sefydliad Bevan hefyd wedi hyrwyddo manteision economi sylfaenol i weithwyr a busnesau Cymru. Cydnabu cyn-ddirprwy Weinidog yr economi, Lee Waters, broblemau gyda gwaith teg, cyflogau isel, a diffyg trefniadaeth gweithwyr yn yr economi sylfaenol yn ôl yn 2019, a nododd adroddiad gan Sefydliad Bevan ym mis Mehefin 2021 fod y problemau hyn yn dal i fod yn gyffredin yn yr economi sylfaenol. Cyflawnwyd adroddiad y sefydliad mewn partneriaeth â TUC Cymru, ac roedd yn cynnwys nifer o argymhellion a geisiai fynd i’r afael â rhai o’r arferion gwael hyn yn y gweithle a nodwyd yn adroddiad Sefydliad Bevan. Felly, byddai'n ddiddorol gwybod beth y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ers hynny i sicrhau bod hawliau, tâl a threfniadaeth gweithwyr yn yr economi sylfaenol yn cael eu cefnogi yn eu cynlluniau, ac a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad o roi argymhellion adroddiad Sefydliad Bevan a TUC Cymru ar waith, er enghraifft drwy roi argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg ar waith yn llawn a datrys rhai o'r materion a amlygodd y Gweinidog blaenorol yn y swydd yn ôl yn 2019?

Fe welwch fod ein huchelgais i fod yn wlad o waith teg wedi'i chyflawni mewn nifer o feysydd, nid yn unig yn y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael a'r hyn y bydd hynny'n ei olygu, ond hefyd yn y gwaith yr ydym yn ei arwain yn yr adran hon wrth fwrw ymlaen â'r contract economaidd. A bydd y cam nesaf yn bwysig iawn o ran ceisio datblygu'r hyn a wnawn ymhellach gan ddweud ar yr un pryd, 'Dyma'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl ar gyfer busnesau sy'n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru', a bydd hefyd yn ymwneud â bod yn awyddus i gael enghreifftiau da o lle mae hynny'n bodoli eisoes, gan fod rhywfaint o hyn yn ymwneud â dangos y gall fod yn bosibl ac y gellir ei wneud ac y gall busnesau barhau i wneud elw. Ac mae hynny'n bwysig gan nad yw'r holl grwpiau busnes yr ydym yn siarad ac yn gweithio gyda hwy yn wrthwynebus i'r agenda hon; hoffent eglurder ar yr hyn sy'n bosibl a beth yw'r disgwyliadau, a byddant yn credu wedyn y gallant redeg busnesau llwyddiannus o fewn y rheolau. Felly, rwy'n optimistaidd am eu hymgysylltiad cadarnhaol iawn â ni, a chredaf y byddwch yn gweld mwy o gamau'n cael eu cymryd yn ystod y tymor hwn, fel bod Cymru o ddifrif yn dod yn wlad o waith teg.

Ynni Gwyrdd yn Ynys Môn

3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â denu buddsoddiad ynni gwyrdd i Ynys Môn? OQ56913

Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i drafod cyfrifoldebau portffolio trawsbynciol. Cyfarfûm â hi ddoe gyda’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae ein swyddogion yn mynd ati ar y cyd i ganfod cyfleoedd ar gyfer denu buddsoddiad mewn ynni gwyrdd ar yr ynys a rhanbarth gogledd Cymru yn ehangach, gan gynnwys trafodaethau â rhanddeiliaid allweddol ar gyfleoedd ynni gwynt ar y môr a manteision cymunedol o fuddsoddiadau ynni lleol.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb. Dwi'n falch o glywed cyfeiriad at ynni gwynt o'r môr. Mae yna gyfle economaidd go iawn i Ynys Môn, dwi'n meddwl, o gynlluniau ynni gwynt arfaethedig BP ym môr Iwerddon, ffermydd gwynt Mona a Morgan. Dwi'n eiddgar iawn i sicrhau mai Caergybi bydd y porthladd i wasanaethu datblygiad Mona. Mi fyddai'n creu swyddi a rhoi sicrwydd hirdymor, ond mae angen buddsoddiad yn y porthladd i hynny allu digwydd. Mae BP yn dweud, gyda llaw, nad oes rhaid cael statws porthladd rhydd er mwyn gwireddu hyn, ond, os ydy o'n gallu bod yn ddefnyddiol, mi fyddai'n dda gweld Llywodraeth Prydain yn rhoi'r un arian i borthladdoedd rhydd yng Nghymru ag y maen nhw'n rhoi i Loegr.

Ond yn bwysicach, dwi'n credu bod angen i Lywodraeth Prydain gyfrannu o'r pot £160 miliwn sydd ganddyn nhw i ddatblygu porthladdoedd ar gyfer prosiectau ynni. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymuno efo fi i bwyso am gyfran o'r cyllid yma i Gaergybi, ac a wnaiff o ymrwymo i roi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi'r datblygiad yna ym mhorthladd Caergybi i ddatblygu'r prosiect yma y byddai o fudd economaidd mawr ar gyfer yr economi leol a'r economi Gymreig?

13:55

Ie, rwy'n awyddus iawn inni wneud mwy na manteisio'n unig ar y cyfle i gynhyrchu mwy o ynni cynaliadwy, ond ein bod hefyd yn gweld y budd economaidd go iawn yn cael ei gadw yng Nghymru. Dyna pam ein bod eisoes yn cael trafodaethau gydag ystod o bobl a fydd yn rhedeg y llinellau newydd a ganiatawyd i geisio sicrhau bod y cadwyni cyflenwi mor lleol â phosibl. Dylai hynny fod o fudd i borthladdoedd ledled Cymru, gan gynnwys Caergybi.

Cefais sgwrs gydag arweinydd Ynys Môn yr wythnos diwethaf ynglŷn â chyfleoedd ar yr ynys, lle mae gennym agenda nad yw'n gwrthgyferbynnu â lle mae'r cyngor yn gweld eu hunain, a'r hyn y maent am ei wneud yn lleol hefyd. Felly, ni chredaf fod hwn yn destun gwrthdaro; mae'n ymwneud â gweld a ydym yn mynd i allu gwneud yr hyn y dymunwn ei wneud mor llwyddiannus ag y byddem yn dymuno'i wneud.

Mae rhai penderfyniadau yma i Lywodraeth y DU eu gwneud hefyd. Ar borthladdoedd rhydd, mae wedi bod yn siomedig nad ydym erioed wedi cael syniad llawer cliriach ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn dymuno'i wneud a chyfle cyfartal i'r gwahanol gynigion am borthladdoedd rhydd ledled y DU. Ni all fod yn iawn eich bod, yn yr Alban a Chymru a Gogledd Iwerddon, yn disgwyl i borthladdoedd rhydd gael eu darparu ar sail wahanol gyda llai o adnoddau na gweddill y DU. Nid fy marn i yn unig yw hynny, fel gwleidydd Llafur Cymru—dyna hefyd yw barn y Pwyllgor Materion Cymreig, dan gadeiryddiaeth ac arweiniad Aelod Seneddol Ceidwadol a chanddo borthladd yn ei etholaeth ei hun hefyd wrth gwrs. Ond yr her yma yw sicrhau tegwch gwirioneddol, a chyfran deg o'r adnoddau sydd ar gael. Dyna'n sicr yw agenda'r Llywodraeth hon, a gallwch ddisgwyl i mi barhau i ddadlau dros weld Caergybi a phorthladdoedd eraill yn gael eu cyfran deg o fuddsoddiad a chymorth yma yng Nghymru.

Yn gyntaf oll, gadewch imi fynegi fy nghefnogaeth innau hefyd i alwad yr Aelod am fuddsoddi ym mhorthladd Caergybi, yn unol â'r cwestiynau a godais gyda'r Prif Weinidog yn y Siambr bythefnos yn ôl. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae gan Ynys Môn gyfleoedd unigryw i gyflenwi ynni gwyrdd oherwydd peth o'r seilwaith sydd yno eisoes, gan gynnwys y porthladdoedd wrth gwrs, yn ogystal â rhywfaint o'r capasiti yn y llinellau pŵer yno, y rhwydweithiau rheilffordd a ffyrdd hefyd, yn ogystal â'r caniatâd presennol ar gyfer ynni ar yr ynys. Ac wrth gwrs, mae'r holl ffactorau hyn yn bwysig iawn ar gyfer denu busnes a buddsoddiad newydd i'r ynys hefyd. Credaf fod canfyddiad weithiau nad yw rhywfaint o'r seilwaith hwn o reidrwydd mor integredig a chysylltiedig ag y gallai fod, felly tybed pa gynlluniau integredig strategol a allai fod gennych i fuddsoddi yn rhywfaint o'r seilwaith presennol, ond hefyd mewn seilwaith newydd i ddenu buddsoddiad pellach ar yr ynys, yn enwedig mewn perthynas ag ynni gwyrdd. Diolch.

Fel y gwyddoch, yn ogystal â'r cynigion ar gyfer ynni gwynt ar y môr, rydym ni, gydag arian Ewropeaidd blaenorol, wedi cefnogi'r posibilrwydd o ynni'r llanw ger Ynys Môn hefyd—potensial gwirioneddol a sylweddol i greu diwydiant newydd, yn ogystal â diwydiant mwy aeddfed sy'n bodoli hefyd. Hoffwn ddweud yn glir—nid oes a wnelo hyn â symud buddsoddiad; byddai hynny'n awgrymu ei fod yn dod o rywle arall. Mae'n ymwneud â thyfu buddsoddiad. Gwn i chi nodi yn ail ran eich cwestiwn eich bod yn dymuno tyfu'r economi o amgylch Ynys Môn, ac mae potensial gwirioneddol yma, ac mae'n golygu y bydd angen inni weithio mewn ffordd adeiladol gyda'r cyngor, ond hefyd gyda Llywodraeth y DU, gan fod rhai o’r pwyntiau y sonioch chi amdanynt ynglŷn â'r seilwaith, a sicrhau bod y grid mewn sefyllfa i allu trosglwyddo’r ynni a gynhyrchir, a’n gallu i gael capasiti storio hefyd, maent yn golygu bod angen i Lywodraeth y DU fod yn rhan o'r gwaith hefyd.

Nawr, mae'r gwahaniaethau rhyngom ni a Llywodraeth y DU ar ystod o faterion yn glir iawn, ond yn y cyswllt hwn dylai fod lle i ddull adeiladol a phriodol o weithredu. Felly, edrychaf ymlaen at gyfarfod â Greg Hands, y Gweinidog ynni newydd, y bûm yn ymdrin ag ef yn ei swydd flaenorol fel Gweinidog masnach, i gael sgyrsiau adeiladol iawn am fuddsoddi yn Ynys Môn, mewn ynni adnewyddadwy ac er mwyn cael penderfyniad o'r diwedd ar ddyfodol ynni niwclear, ar Ynys Môn ond yn Nhrawsfynydd hefyd. Mae cyfleoedd i'w cael, ond mae angen peth siarad plaen a rhywfaint o onestrwydd gan Lywodraeth y DU, ac mae angen iddynt wneud penderfyniadau, gan y credaf fod yr achos dros y buddsoddiad hwnnw y tro diwethaf wedi clwyfo rhai pobl wrth iddynt gael eu harwain i feddwl bod buddsoddiad sylweddol ar y ffordd, a'i fod heb ddigwydd wedyn. Felly, hoffem rywfaint o onestrwydd, hoffem weld penderfyniadau'n digwydd a hoffem sicrhau'r budd mwyaf posibl i'n cymunedau lleol.

14:00
Seryddiaeth

4. Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i seryddiaeth o fewn ei pholisi gwyddoniaeth? OQ56903

O ystyried y pwysau presennol ar gyllideb Llywodraeth Cymru, a waethygir gan golli cronfeydd strwythurol, nid yw seryddiaeth yn cael ei hystyried ar hyn o bryd fel blaenoriaeth uchel o fewn y polisi gwyddoniaeth.

Rwy'n siomedig iawn o glywed yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod bod syllu ar sêr a seryddiaeth yn rhywbeth y mae llawer o bobl ledled Cymru'n teimlo'n angerddol yn ei gylch ac mae'n rhywbeth y mae gennyf innau ddiddordeb brwd ynddo mewn gwirionedd. Dechreuais ymddiddori yn y pwnc—[Anghlywadwy.]—y cyfyngiadau symud tra'r oeddem yng nghamau cynnar y pandemig, ac un o'r pethau y credaf eu bod yn drawiadol iawn am Gymru yw bod gennym ardaloedd gwych gydag awyr dywyll, lle mae seryddiaeth yn rhywbeth y gall pobl ei fwynhau i'r eithaf. Un o'r ardaloedd sydd wedi'i bendithio gan awyr dywyll, wrth gwrs, yw ardal o harddwch naturiol eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a fydd, gobeithio, yn dod yn barc cenedlaethol yng ngogledd-ddwyrain Cymru cyn bo hir. A hoffwn alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu arsyllfa genedlaethol i Gymru ym mharc cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy er mwyn hyrwyddo ymchwil wyddonol mewn seryddiaeth ac annog ymwelwyr ac eraill i fod eisiau ymweld â gogledd-ddwyrain Cymru. A gaf fi ofyn i chi ailystyried blaenoriaethu seryddiaeth ac edrych ar y posibilrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei gyflwyno yn y dyfodol?

Gyda phob parch, credaf fod yr Aelod yn gofyn i mi am yr economi ymwelwyr yn hytrach na pholisi gwyddoniaeth. Fodd bynnag, rwy'n credu fy mod yn croesawu ei gefnogaeth i addewid maniffesto Llywodraeth Lafur Cymru i greu parc cenedlaethol o gwmpas bryniau Clwyd. Nid wyf yn siŵr fod pob Aelod Ceidwadol wedi rhannu'r gefnogaeth y mae'n bleser gennyf weld yr Aelod yn ei rhoi. Os oes cynnig difrifol ar gyfer arsyllfa byddwn yn edrych ar y cynllun busnes os caiff ei gyflwyno i ni.

Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o uchelgais yr arbenigwyr twristiaeth seryddiaeth, Awyr Dywyll Cymru, i agor planetariwm cenedlaethol i Gymru ar safle hen lofa'r Tŵr yn Hirwaun. A ydych yn cytuno y gallai'r cyfleuster seryddiaeth arfaethedig hwn roi hwb sylweddol i economi twristiaeth Cymoedd de Cymru, gan adeiladu ar lwyddiant Zip World ar yr un safle a gwella ymhellach adfywiad economaidd ardal Blaenau'r Cymoedd?

Rwy'n cydnabod y gall awyr dywyll fod yn rhywbeth a fydd yn denu pobl i ddod i Gymru, pobl na fyddent fel arall yn gwneud hynny ac mewn gwirionedd, mae'n ased i ni hefyd. Felly, ceir heriau i ni o ran diogelu statws awyr dywyll lle mae'n bodoli. A dylwn ddweud fy mod yn cydnabod bod hen safle'r Tŵr eisoes yn cael effaith gadarnhaol sylweddol fel rhan o'n heconomi dwristiaeth. Felly, mae cynigion pellach ar y safle hwnnw'n bethau y byddwn yn croesawu eu gweld yn fanylach. Rwyf wedi cael cyfle i fwynhau rhywfaint o'r hyn sydd eisoes ar gael, ac edrychaf ymlaen at ymweld eto gyda fy nheulu yn y dyfodol, ond rwy'n credu bod hwn yn faes lle gallwn gael mwy i'w ychwanegu at ein heconomi ymwelwyr sydd eisoes yn llwyddiannus yma yng Nghymru.

Adolygiad Kalifa

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gweithredu adolygiad Kalifa o sector technoleg ariannol y DU? OQ56914

Cefnogodd Llywodraeth Cymru y broses o greu FinTech Cymru yn 2019. Mae'n gorff o aelodau arbennig o weithgar o fyd diwydiant ac mae'n cyfarfod yn rheolaidd â Ron Kalifa, Dinas Llundain a thîm City Finance i fonitro gweithrediad a chyfleoedd adroddiad Kalifa ar gyfer y sector technoleg ariannol yma yng Nghymru.

Diolch. Fel y gŵyr y Gweinidog, nododd adolygiad Kalifa fod prifddinas-ranbarth Caerdydd yn lleoliad ar gyfer clystyrau o gwmnïau technoleg ariannol sy'n dod i'r amlwg. Mae Llywodraeth y DU, drwy Drysorlys Ei Mawrhydi, wedi penodi llysgennad technoleg ariannol i Gymru sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn helpu i ddechrau FinTech Cymru, sefydliad, fel y sonioch chi, sy'n helpu busnesau newydd ym maes technoleg ariannol ac yn hyrwyddo'r rhanbarth fel lleoliad i fusnesau fod eisiau mynd iddo. Rwy'n siŵr fod cefnogaeth drawsbleidiol i ymrwymiad Llywodraeth y DU i hyn, yn enwedig gan fod gan dechnoleg ariannol botensial i fod yn un o sectorau mwyaf gwerthfawr Cymru, ac mae'n talu cyflogau sydd 11 y cant yn uwch ar gyfartaledd. Mae cydberthynas gadarnhaol gref hefyd rhwng talent o safon mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg a nifer y cwmnïau technoleg ariannol mewn rhanbarth. Mae lleoliadau nad oes ganddynt gyflenwad parod o dalent STEM yn llawer llai tebygol o fod â nifer o gwmnïau technoleg ariannol, ac mae gofyn cael o leiaf dri darparwr addysg uwch er mwyn i ardal allu darparu cronfa ddigon mawr o dalent. Mae angen mwy o genetegwyr, therapyddion, cemegwyr, peirianwyr, athrawon STEM, gwyddonwyr amgylcheddol a rhaglenwyr cyfrifiadurol ar Gymru, i enwi rhai rolau yr ydym yn brin iawn ohonynt. Yn eich cylch gwaith, rydych chi'n gyfrifol am wyddoniaeth a pholisi gwyddoniaeth, yn ogystal â chysylltu o ddydd i ddydd gyda'r prif swyddog gwyddonol. Mae gan y Llywodraeth rai mentrau ar gyfer STEM, megis y gwobrau STEM a'r rhaglen Ffocws ar Wyddoniaeth, ac rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi nodi STEM fel blaenoriaeth allweddol. Fodd bynnag, rydym yn dal i fod yn brin iawn o'r gronfa dalent hon. A all y Gweinidog egluro pa gamau penodol y bydd yn eu cymryd, wrth symud ymlaen yn ei rôl newydd, i sicrhau bod arian ar gael i fynd i'r afael â'r prinder hwn? Diolch.

14:05

Wel, mae cwpl o bethau yno yr hoffwn dynnu sylw atynt. Rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda'n prif gynghorydd gwyddonol, ac mewn gwirionedd, mae'r gwerth a gynhyrchir o ymchwil wyddonol yma yng Nghymru yn sylweddol iawn ac rydym yn gwneud yn dda iawn o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU. Lle nad ydym yn gwneud cystal yw ennill arian o brosesau ymgeisio cystadleuol. Felly, mae rhywbeth yno ynghylch—unwaith eto, pwynt ynglŷn â sicrhau ein bod yn cynhyrchu ein cyfran deg, oherwydd pan ddaw arian i Gymru mae'n cael ei ddefnyddio'n dda. Mae honno'n drafodaeth, oherwydd deallwn fod Llywodraeth y DU yn bwriadu buddsoddi mwy mewn gwyddoniaeth, arloesi, ymchwil a datblygu, ac rydym am sicrhau nad yw hwnnw'n mynd i'r triongl aur o amgylch de-ddwyrain Lloegr, ond ei fod yn dod i bob rhan o'r DU, lle bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio'n dda.

A'ch pwynt am sgiliau'n ehangach—wel, cawsom sgyrsiau ddoe a rhai heddiw am fuddsoddi mewn sgiliau a rhai o'r heriau hynny. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, sy'n rhedeg rhaglen i raddedigion sy'n canolbwyntio ar wasanaethau ariannol, data a deallusrwydd artiffisial, ac rwy'n glir iawn ein bod yn darparu rhywbeth, gyda'r diwydiant, sydd o werth gwirioneddol ac yn cael ei werthfawrogi gan y sector. Mae hynny'n rhan o'r rheswm pam y cydnabyddir y clwstwr yma, yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, fel ardal ar gyfer twf posibl, oherwydd mae gennym sefydliadau addysg uwch eisoes sy'n darparu ystod o sgiliau a chyfleoedd, a pharodrwydd o du'r sector i ymgysylltu â'r sefydliadau hynny i ddatblygu sgiliau newydd ymhellach, ac mae'r rhaglen i raddedigion ei hun yn uchel ei pharch o fewn y sector. Felly, rwy'n edrych am fwy o gyfleoedd i dyfu'r sector hwn, gyda'r swyddi a ddaw, ond hefyd swyddi sy'n talu'n dda, i weld bod gan y bobl hynny lwybrau clir yng Nghymru a'u bod yn ein helpu yn economi ehangach Cymru.

Twf Diwydiannol yng Ngorllewin Cymru

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog twf diwydiannol yng ngorllewin Cymru? OQ56910

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gefnogi datblygu economaidd yng ngorllewin Cymru a chyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru sy'n fwy gwyrdd, yn fwy cyfartal ac yn ffyniannus. Mae ein cynllun gweithredu ar weithgynhyrchu, a lansiwyd ym mis Chwefror 2021, yn darparu ffocws ar gyfer diogelu gweithgynhyrchu ledled Cymru yn y dyfodol.

Diolch, Weinidog. Rwy'n ymwybodol o'r cyfleoedd cyffrous niferus sy'n gysylltiedig â'r daith sero-net sy'n bodoli o fewn fy ardal i yn sir Benfro, ac yn arbennig y cyfle enfawr sydd gan Ddyfrffordd y Ddau Gleddau i gefnogi datgarboneiddio diwydiannau yn ne Cymru, a de'r DU yn gyfan hefyd. Mae clwstwr diwydiannol de Cymru yn elfen allweddol o ddarparu'r cyfleoedd hyn, a deallaf fod y clwstwr wedi bod yn gweithio gyda'ch swyddfa i gefnogi'r broses o'i ffurfioli. Mae Llywodraeth Cymru wedi ffurfioli fforymau diwydiannol a chlystyrau bwyd eraill, felly nid yw hwn yn gysyniad newydd. Gyda COP26 wythnosau'n unig i ffwrdd, byddai nawr yn gyfle gwych i Gymru ddangos sut y mae'n gweithio gyda diwydiannau ar y daith gyfunol tuag at sero-net. A gaf fi ofyn i chi roi sicrwydd y bydd—[Anghlywadwy.]—yn cael cymorth gan y Llywodraeth cyn gynted â phosibl, gan roi hwb enfawr i dwf diwydiannol yng ngorllewin Cymru?

Rwy'n hapus i gadarnhau ein bod eisoes yn gweithio yn y ffordd honno ochr yn ochr â diwydiant. Fe sonioch chi am glwstwr diwydiannol de Cymru. Mae hwnnw eisoes wedi derbyn dros £21 miliwn o gyllid clwstwr datgarboneiddio diwydiannol i ddarparu cynllun, gydag amrywiaeth o brosiectau y gellir eu defnyddio ar draws de Cymru. Edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio hefyd â rhaglen bargen ddinesig bae Abertawe a'r uchelgeisiau sydd ganddi ar draws y rhanbarth ehangach. Felly, gallwch ddisgwyl y bydd ymgysylltu parhaus â busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd go iawn sy'n bodoli yng ngorllewin Cymru yn y sector penodol hwn.

Weinidog, hoffwn groesawu'r buddsoddiad o £5 miliwn gan gronfa amaethyddol Ewropeaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu gwledig i ganolfan botelu llaeth yn fy nhref enedigol, Hwlffordd. Ar ôl ei chwblhau, bydd ganddi'r capasiti i botelu llaeth a gynhyrchir yng Nghymru a dyna fydd y cyfleuster cyntaf yng Nghymru i gynnig hyn i safon Consortiwm Manwerthu Prydain. Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod cefnogaeth i fusnesau fel hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dyfu diwydiannau yng Nghymru fel y diwydiant amaethyddol, sydd, wrth gwrs, yn un o'r prif ddiwydiannau yn y rhanbarth hwnnw?

14:10

Ydw, rwy'n credu ei bod yn enghraifft dda iawn o'r hyn rydym yn ei wneud gyda'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd, a Pembrokeshire Creamery Limited yw hi. Mae hyn yn ymwneud â cheisio ychwanegu gwerth i gynhyrchwyr sylfaenol a gwneud y cam cyntaf neu'r ail gam o weithgareddau prosesu yn nes at ble y maent fel bod ganddynt fwy o reolaeth dros y cynnyrch a mwy o werth ychwanegol. Dylai hefyd ein helpu i weithio gyda hwy i fanteisio ar farchnadoedd newydd a rhai sy'n datblygu hefyd.

Dylwn ddweud bod y cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd wedi bod yn llwyddiant mawr hyd yma. Mae'r prosiect penodol hwn yn rhan o dros £135 miliwn a fuddsoddwyd gennym mewn prosiectau cyfalaf newydd sy'n cael eu datblygu ledled Cymru, ac mae'n tanlinellu ein dull o weithredu o blaid busnes, yn enwedig yn y sector amaethyddol allweddol.

Y Diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gryfhau'r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru? OQ56923

Diolch. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio mewn partneriaeth â phrifddinas-ranbarth Caerdydd i sicrhau bod y diwydiant pwysig hwn yn parhau i ffynnu yng Nghymru, yn benodol yng nghlwstwr de-ddwyrain Cymru, sy'n cael ei gydnabod ledled y DU fel un sydd â photensial twf gwirioneddol.

Diolch ichi am hynny, Weinidog. Yr hyn sy'n amlwg yw bod y DU, Cymru yn wir, yn arweinydd byd-eang yn y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, a gwelwyd ymdrech wych dros y blynyddoedd diwethaf i wneud i hynny ddigwydd.

Yn ddiweddar, ymwelais â'r ganolfan Catapwlt Ceisiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghasnewydd, lle siaradais â'r prif swyddog gweithredol yno, a bwysleisiodd pa mor sylfaenol bwysig yw lled-ddargludyddion cyfansawdd, sy'n galluogi'r rhan fwyaf o'n technolegau ar gyfer y dyfodol; yn wir, mae cannoedd ohonynt yn y Siambr hon ar hyn o bryd, ac maent yn ymddangos mewn technoleg feddygol, mewn ffotoneg ac wrth ddatblygu cerbydau trydan.

Ond o siarad gydag ef, mae'n glir iawn fod angen inni ddatblygu a hyrwyddo sgiliau—tipyn o thema heddiw, Weinidog—yn enwedig gan fod hwn yn ddiwydiant blaenllaw i'n gweithlu yn y dyfodol. Weinidog, tybed pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog mwy o'n pobl ifanc i fynd i mewn i'r diwydiant hwnnw a rhoi sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc, ysgolion, colegau a phrifysgolion i fynd i mewn i'r diwydiant hanfodol hwnnw.

Mewn gwirionedd, rydym yn gweithio ochr yn ochr â'r diwydiant i wneud hynny. Roedd un o fy nghyfarfodydd cynnar o fewn y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd. Cyfarfûm ag un o'r cwmnïau a chyfarfûm hefyd â'r Catapwlt, felly rwy'n deall arwyddocâd lledaeniad lled-ddargludyddion eisoes.

Yr her mewn gwirionedd yw eu bod mewn mwy a mwy o'n dyfeisiau—yn eich ffôn symudol a'ch car, wyddoch chi—. Yna daw'r her fwy yn y ffordd yr ydym yn cynhyrchu digon ohonynt, a bod â'r sgiliau i fanteisio arnynt a pharhau â'r ymchwil, y datblygiad a'r arloesi. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o fuddsoddiad yn digwydd o fewn y clwstwr ar gyfer twf pellach.

Yr hyn a fyddai'n ddefnyddiol yw pe bai gennym ymagwedd wirioneddol gydgysylltiedig gyda Llywodraeth y DU, oherwydd rydym wedi bod yn ceisio cael trafodaeth am hyn ers peth amser. Mae fy swyddogion a Gweinidogion blaenorol wedi bod yn ceisio pwyso am fwy o ymgysylltiad, oherwydd, os na allwn gynhyrchu mwy o'r rhain yma, byddwn yn fwy agored i heriau'r gadwyn gyflenwi sy'n dod, ac mae gan rannau eraill o'r byd uchelgeisiau mawr i gynyddu eu cynhyrchiant yn sylweddol yn y maes hwn.

Mae fy swyddogion wedi cyfarfod â swyddogion Llywodraeth y DU yn ddiweddar, a byddaf yn mynd ar drywydd hynny eto i weld a allwn gael ymagwedd wirioneddol gyfunol ledled y DU at hyn. Pe baem yn gwneud hynny, byddai'r clwstwr yn ne-ddwyrain Cymru yn un o'r mannau mwyaf poblogaidd ar gyfer ehangu pellach a chynnydd pellach yn y nifer o swyddi da.

Hoffwn gofnodi, Lywydd, fy mod wedi bod yn aelod o'r tîm prosiect pumed genhedlaeth ym Mhrifysgol Bangor mewn swydd ddi-dâl. Weinidog, mae'r ganolfan prosesu signalau digidol ym Mangor ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd i godi statws Cymru mewn marchnad fyd-eang. Mae Peter Fox yn iawn, rydym yn arwain y ffordd, ond gallem gryfhau ein statws yn y farchnad fyd-eang.

Nawr, mae'r dechnoleg y maent yn ei datblygu yn rhoi sglodyn lled-ddargludydd safonol mewn dyfais weithredol, ac fel peiriannydd gallaf ddweud wrthych fod hynny'n gyflawniad rhyfeddol ac yn arloesol iawn. Felly, a gaf fi ofyn ichi, Weinidog: a wnewch chi gyfarwyddo eich swyddogion i gael trafodaeth gyda'r ganolfan prosesu signalau digidol ym Mangor i weld sut y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo, cefnogi ac integreiddio eu gwaith mewn diwydiant sydd eisoes wedi hen ennill ei blwyf?

Byddwn yn hapus iawn i sicrhau bod y trafodaethau hynny'n digwydd, os nad ydynt yn digwydd eisoes, oherwydd, fel y dywedais, mae hwn yn gyfle gwirioneddol i dyfu, lle mae swyddi da ar gael a dyfodol go iawn ar gyfer y diwydiant hwn. Nid yw hyn yn mynd i ddiflannu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bydd yn dod yn bwysicach—yn bwysicach o ran sicrhau bod y nifer gywir o'r sglodion hyn ar gael, ond hefyd, yn hollbwysig, y sgiliau sy'n mynd ochr yn ochr â hynny i sicrhau ein bod yn datblygu'r dechnoleg honno ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru.

14:15
Blaenoriaethau Economaidd ar gyfer Gogledd Cymru

8. Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru? OQ56919

Diolch. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer gogledd Cymru, fel gyda phob rhan o Gymru, wedi'u nodi yn ein rhaglen lywodraethu, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin eleni.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb cryno, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae rhannau sylweddol o economi gogledd Cymru o fewn y sector adeiladu, ac yn ddiweddar cefais y fraint o gyfarfod â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, y CITB, a amlinellodd rai o'r heriau y maent yn eu profi gyda phrinder sgiliau o fewn y sector. Yn wir, yn ogystal â'r prinder sgiliau presennol, erbyn 2025 ledled Cymru, bydd gan y diwydiant 9,000 o swyddi eraill y bydd angen eu llenwi, ac erbyn 2028 bydd angen llenwi 12,000 o swyddi pellach i gefnogi peth o'r gwaith sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd a'r gwaith ôl-osod y bydd angen ei wneud.

Wrth gwrs, mae cyfle mawr yma ac mae gennym botensial ar gyfer degau o filoedd o swyddi newydd mewn sector medrus iawn, a allai gefnogi ein heconomi. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau y bydd y rhan hon o'r economi yn cyflawni ei photensial yng ngogledd Cymru ac i sicrhau y bydd y galw am swyddi yn y dyfodol yn cael ei ateb?

Wel, mae hyn yn ymwneud â gweithio ochr yn ochr â darparwyr yn y ffordd y dyfarnwn ein prentisiaethau, ond yn fwy na hynny mae'n ymwneud â'n gallu i barhau i fuddsoddi yn y dyfodol. Efallai fod hyn yn swnio ychydig bach fel record wedi torri, ond mae'n bwysig iawn peidio â cholli golwg ar hyn. Mae sicrwydd ynghylch cyllid i gefnogi prentisiaethau yn hynod bwysig ac i ailfuddsoddi yn sgiliau'r gweithlu presennol hefyd. Dyna ein huchelgais—gallu gwneud hynny—oherwydd rydym yn cydnabod bod swyddi da ar gael yn y sector adeiladu, fel y dywedwch, sydd angen sgiliau i'w gwneud ac sy'n talu cyflogau uwch na'r cyflog cyfartalog hefyd. Felly, mae gyrfa dda i'w chael o fewn y diwydiant adeiladu, ac rydym yn gobeithio ehangu'r sylfaen o bobl sy'n mynd i'r maes adeiladu. Nid swydd i ddynion o faint a siâp penodol yn unig ydyw; mae lle i ddynion a menywod allu gweithio yn y sector yn llwyddiannus hefyd. Felly, rydym am weld gweithlu ehangach yn mynd i mewn i'r sector, rydym am fuddsoddi mewn sgiliau yn y dyfodol, rydym am sicrwydd er mwyn gallu gwneud hynny, a byddai sicrwydd gan ein cymheiriaid yn Llywodraeth y DU yn caniatáu inni wneud hynny a chynllunio gyda'r diwydiant. A dylwn ddweud ein bod mewn sefyllfa ffodus yng Nghymru: mae cael perthynas dda iawn â'r sector adeiladu yn sylfaen dda i adeiladu arni.

Weinidog, mae nifer o fusnesau bach yn y sector lletygarwch wedi cysylltu efo fi dros y misoedd diwethaf yn cwyno nad ydy’r cymorth ariannol COVID i fusnesau lletygarwch wedi bod yn deg, gan fod y cymorth hynny yn seiliedig ar nifer y bobl mae’r busnes yn ei gyflogi, heb ystyried gwerth economaidd y busnes i’r economi sylfaenol a’r economi leol. Ac er gwaethaf yr haf da maen nhw wedi’i gael, mae’r busnesau yma yn dal i ddioddef ers trychineb gaeaf y llynedd. Pa gymorth ychwanegol fedrwch chi ei gynnig yn benodol i fusnesau llai fel y tafarndai a’r bwytai bach gwledig yma?

Rydym wedi cynllunio ein cymorth COVID drwy'r pandemig i helpu busnesau i oroesi ac i baratoi ar gyfer masnachu eto. Rydym wedi cael cymorth argyfwng, gan gynnwys ar adegau pan fo'r fasnach honno wedi'i chyfyngu, ac rydym wedi gorfod gwneud hynny ar sail sy'n wrthrychol ac yn deg, a deall y costau sy'n bodoli i'r busnesau unigol hynny. Byddai ceisio cynllunio hynny ar sail gwerth cymdeithasol ehangach yn heriol iawn i redeg y cynllun hwnnw y bu'n rhaid inni ei sefydlu mewn amser byr iawn, a chredaf y byddai'n gymhleth i'r pwynt o fod yn amhosibl ei gyflawni i wneud—. Deallaf pam y mae'r Aelod yn codi'r mater, ond nid wyf yn credu ei bod yn ffordd realistig o redeg y cymorth sydd ar gael.

Dylwn ddweud, yn y sector hwnnw wrth gwrs, y dylai'r busnesau hynny elwa ar gyfnod o flwyddyn o ryddhad ardrethi, yn wahanol i gymheiriaid yn Lloegr, a fydd wedi gweld y cymorth hwnnw'n lleihau. Mae'n ffaith na ellir ei gwadu bod y cynnig cymorth mwyaf hael wedi'i ddarparu i fusnesau yma yng Nghymru. A hyd yn oed pan fyddaf fi'n bersonol yn ymwneud â busnesau yn y diwydiant lletygarwch—nid wyf wedi gallu eu hosgoi yn fy etholaeth i—maent wedi dweud yn glir eu bod yn deall bod cynnig mwy hael yma yng Nghymru na thros y ffin yn Lloegr, ond mae'n dal i fod yn amser heriol. Mae'n ei gwneud yn bwysicach fyth fod pobl yn gwneud y peth iawn a defnyddio'r busnesau hynny, ac ymddwyn yn y ffordd gywir, oherwydd rydym am eu gweld yn agored ac yn masnachu. Nid oes yr un ohonom, gan fy nghynnwys i, am fynd i sefyllfa lle bydd gennym gyfyngiadau pellach yn cael eu cyflwyno am na allwn gadw rheolaeth ar y pandemig ei hun. Pan fyddwn wedi cefnu'n iawn ar y pandemig, ac yn cael cyfnod masnachu cyn y Nadolig sy'n llawer mwy normal, gobeithio, rwy'n credu y bydd y busnesau hyn yn gweld bod cyfleoedd gwirioneddol yn bodoli ar gyfer y dyfodol ac yn ein helpu i recriwtio mwy o staff i'r hyn a ddylai fod, unwaith eto, yn sector lle gellir cael gyrfa go iawn, ac nid swydd yn unig.

14:20
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r cwestiynau nesaf i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac unwaith eto mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ56904

Diolch yn fawr, Paul. Mae gwasanaethau iechyd, fel pob bwrdd iechyd yn y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, o dan bwysau aruthrol yn ymdrin â nifer uwch nag erioed o achosion o COVID yn y gymuned, yn gweld poblogaeth sy’n heneiddio, sector gofal sy'n fregus tu hwnt, bygythiad ffliw y gaeaf, a’r angen i ddarparu brechlynnau i atgyfnerthu a brechu plant 12 i 15 oed. Yn ogystal â hyn, maent yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol, a lle y bo hynny'n bosibl, yn mynd i’r afael â’r rhestrau aros sydd wedi tyfu dros gyfnod y pandemig.

Weinidog, yr wythnos diwethaf heriais y Prif Weinidog ynglŷn â gwasanaethau ambiwlans yn sir Benfro, ac fe'm cyhuddodd o ledaenu sibrydion di-sail, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Oherwydd daw'r sylwadau a gefais ar y mater hwn gan weithwyr rheng flaen y gwasanaeth brys yn sir Benfro sy'n pryderu'n fawr am argymhellion i leihau'r gwasanaeth ambiwlans lleol a'r effaith y byddai'r argymhellion yn ei chael ar y boblogaeth leol ac ar y gweithlu. Daw'r argymhellion i leihau'r gwasanaeth ambiwlans yn sgil y ffaith na fydd asesiadau brys pediatrig ar gael yn ysbyty Llwynhelyg a byddant yn parhau i gael eu trosglwyddo i ysbyty Glangwili tan o leiaf y flwyddyn nesaf. Ac wrth gwrs, gofynnir yn awr i'r fyddin gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans, ac felly nid yw lleihau'r gwasanaeth brys yn sir Benfro yn gwneud unrhyw synnwyr. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymyrryd yn awr i sicrhau na chaiff gwasanaeth ambiwlans brys sir Benfro ei leihau?

Diolch yn fawr, Paul. Rwy'n siŵr y bydd gennych ddiddordeb mewn clywed fy mod yn ymwybodol iawn o'ch pryderon, ac felly rwyf wedi trefnu i'r cynrychiolydd o wasanaeth ambiwlans Cymru roi briff i Aelodau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru ddydd Gwener yr wythnos hon. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn bresennol ac ar gael i allu clywed yn uniongyrchol am y cynlluniau mewn perthynas â gwasanaethau ambiwlans yn ardal Hywel Dda.

Wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod bod Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eisoes yn darparu rhywfaint o wasanaeth; mae criw wedi'u hyfforddi'n arbennig o Grymych, Arberth a Thyddewi yn gwneud gwaith anhygoel, ac felly rydym yn falch iawn o weld hynny. Ond hefyd, fel y clywsoch, rydym yn estyn allan yn awr at y lluoedd arfog i roi rhywfaint o gefnogaeth, a hynny oherwydd ein bod yn gweld mwy o alw yn ystod y cyfnod eithriadol iawn hwn.

Rydych yn sôn am fynd â gwasanaethau o Lwynhelyg, a gadewch i mi fod yn gwbl glir: yr hyn sy'n digwydd oedd bod yna bryder ynglŷn ag ymchwydd yn nifer yr achosion o feirws syncytiol anadlol, ac rydym wedi penderfynu parhau, ac mae Hywel Dda wedi penderfynu parhau, gyda'r gwaith o symud gofal ambiwlans pediatrig dros dro ers mis Mawrth y llynedd, fel y gall staff profiadol fonitro'r plant hynny. A'r ffaith yw bod unrhyw benderfyniadau fel hyn bob amser yn dilyn cyngor clinigwyr.

A rhaid imi ddweud bod y ffordd y mae'r Torïaid yn dal ati i godi cynnen mewn perthynas â Llwynhelyg yn sir Benfro yn peri gofid mawr i mi. Yn 2007—[Torri ar draws.] Yn 2007, fe wnaethoch godi'r bygythiad y byddai Llwynhelyg yn cau. A wyddoch chi beth? Ni chaeodd yr ysbyty. Fe wnaethoch hynny eto yn yr etholiad yn 2010. A gaeodd yr ysbyty? Na wnaeth. Fe wnaethoch hynny eto yn 2011. Ni chaeodd. Yn 2015, ni chaeodd. Yn 2016, ni chaeodd. Drosodd a throsodd rydych chi'n bygwth ac rydych chi'n dychryn pobl i feddwl bod rhywbeth yn mynd i gau pan nad oedd unrhyw fwriad i gau Llwynhelyg. A chredaf y dylech fod â chywilydd ohonoch eich hunain, yn ennyn—[Torri ar draws.]—yn ennyn teimladau yn sir Benfro nad ydynt yn haeddu'r math hwn o sylw mewn gwirionedd.

Mae fy nghwestiwn i yn dilyn trywydd tebyg iawn, a dweud y gwir, i'r cwestiwn gan Paul Davies. Ar adeg pan taw dim ond 48 y cant o alwadau coch sy'n cael eu hateb o fewn wyth munud yn hytrach na'r targed o 65 y cant ar draws ardal Hywel Dda, mae'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn bwriadu torri nifer yr ambiwlansys o dri i ddau yn Aberystwyth ac o dri i ddau yn Aberteifi, a gwneud hyn heb roi gwybod i'r cyhoedd na'r meddygfeydd lleol. Ac, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod bod ein paramedics o dan bwysau difrifol iawn, ac yn aml yn ciwio tu fas i ysbytai yn yr Amwythig, yn Abertawe, yn Glangwili, Llwynhelyg, ac yn y blaen, a ddim ar gael, felly, i ateb galwadau brys yng Ngheredigion, lle mae'r targedau o bedair awr, wyth a 12 awr yn cael eu methu'n rheolaidd. Ac, yn anffodus, yr un yw'r sefyllfa ar draws ardal Hywel Dda yn gyfan gwbl. Dwi'n falch iawn i glywed eich bod chi'n bwriadu rhoi briffio i Aelodau yn y gorllewin. Felly, yn y cyfarfod hwnnw, rwy'n edrych ymlaen i glywed a ydy hi'n dderbyniol, felly, mewn cyfnod o argyfwng i'r gwasanaeth brys, fod yr ymddiriedolaeth yn torri'r gwasanaeth ambiwlans yn Aberystwyth ac Aberteifi gan dros 30 y cant.

14:25

Diolch yn fawr, Cefin. Fel dwi'n dweud, mae'r gwasanaeth dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd. Mae'r cynnydd yn y nifer o bobl sydd yn galw ambiwlansys—dŷn ni byth wedi gweld dim byd tebyg i hwn o'r blaen. Y ffaith yw bod tua 20 y cant o'r galwadau hynny yn ymwneud â COVID, felly mae hi'n gyfnod o bwysau aruthrol. Mae'r 'ailroster-o'—dyna yw'r gwahaniaeth sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd; ailfeddwl ynglŷn â ble mae ambiwlansys yn mynd i gael eu lleoli. Mae lot o waith wedi cael ei wneud ar hwn. Dwi yn gobeithio y bydd cyfle ichi ddod ar ddydd Gwener i wrando ar y gwasanaeth ambiwlans yn egluro beth maen nhw'n ei wneud, pam maen nhw'n ei wneud ef a pham maen nhw'n ymateb yn y modd hwn. Felly, bydd yna gyfle ichi wedyn i ofyn cwestiynau mwy penodol, efallai, fel y rhai rydych wedi'u gofyn y prynhawn yma.

Weinidog, hoffwn dynnu sylw at y buddsoddiad o £68 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn y gwasanaethau iechyd sylfaenol a chymunedol yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a thynnu sylw at y ffaith bod y gymuned leol yn croesawu'r canolfannau gofal integredig yn Aberaeron, Aberteifi, Abergwaun, Cross Hands, Machynlleth a Llanfair Caereinion, ac maent wedi derbyn cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan yr etholwyr sy'n defnyddio'r canolfannau hynny, a'r ffaith eu bod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd y gallant gael gofal a'r ffordd y gallant ddefnyddio'r canolfannau hynny. Felly, a fyddech yn cytuno â mi fod buddsoddiad yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd o safon i drigolion mewn ardaloedd gwledig a wasanaethir gan fwrdd iechyd Hywel Dda?

Diolch yn fawr iawn, Joyce, ac rwy'n cytuno â chi; rwy'n credu ei bod yn bwysig inni ddeall yr hyn y ceisiwn ei wneud yn y lleoedd hyn. Rydym yn ceisio cynyddu'r buddsoddiad, gan ddeall bod gofal sylfaenol yn agwedd allweddol ar sut yn darparwn wasanaethau iechyd, gan sicrhau ein bod yn cael yr holl wasanaethau, lle bo hynny'n bosibl, o dan yr un to. Ac rwy'n falch iawn o weld bod y buddsoddiad sydd wedi mynd i mewn, fel y dywedwch, i Aberaeron ac i Aberteifi wedi cael derbyniad da iawn gan bobl yn yr ardaloedd hynny, ac edrychaf ymlaen yn fawr at ymweld, er mwyn imi allu gweld â'm llygaid fy hun pa mor effeithiol yw'r model hwnnw.

Cymorth Iechyd Meddwl Amenedigol

2. A wnaiff y Gweinidog wneud datganiad am gymorth iechyd meddwl amenedigol? OQ56906

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, sy'n faes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu o fewn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ar gyfer 2019-22. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol ledled Cymru.

Diolch am y wybodaeth ddiweddaraf honno, Ddirprwy Weinidog. Amcangyfrifir bod dros 9,000 o fenywod yng Nghymru yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol, ac mae un o bob pum menyw'n dioddef gyda'u lles emosiynol yn ystod y cyfnod amenedigol. Mae ymchwil gynnar yn awgrymu y bydd y ffigur hwn yn codi'n anochel. Yn anffodus, nid yw hyn yn syndod. Roedd y newidiadau anodd ond mawr eu hangen i wasanaethau a wnaed gan fyrddau iechyd ledled Cymru yn ystod y pandemig yn sicrhau bod mamau, partneriaid a staff yn ddiogel rhag COVID, ond mae hyn wedi cael effaith ddofn ar eu profiad o roi genedigaeth. Mae'n gwbl hanfodol fod mamau a phartneriaid sydd wedi dioddef drwy gydol y cyfnod amenedigol yn cael y diagnosis cywir a'r gefnogaeth gywir. A wnaiff y Dirprwy Weinidog weithio gyda Rhwydwaith Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru a'r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru i sicrhau bod iechyd meddwl amenedigol yn cael ei gynnwys mewn hyfforddiant cyn cofrestru i bob ymarferydd iechyd meddwl a'r holl weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio o fewn y cyfnod amenedigol?

14:30

A gaf fi ddiolch i Buffy Williams am y cwestiwn hwnnw? Rwy'n llwyr gydnabod y materion rydych chi'n tynnu sylw atynt a hefyd yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar brofiadau teuluoedd o gael babanod. Mae hwn yn faes blaenoriaeth i ni; mae'n faes blaenoriaeth yn ein cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl. Erbyn hyn mae gennym wasanaethau iechyd meddwl amenedigol ym mhob rhan o Gymru ac rydym wedi buddsoddi £3 miliwn y flwyddyn yn rheolaidd i gefnogi'r gwasanaethau hynny. Mae byrddau iechyd hefyd yn gweithio tuag at fodloni safonau ansawdd perthnasol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac rydym yn buddsoddi cyllid ychwanegol i wella gwasanaethau iechyd meddwl i gefnogi hynny.

O ran eich cwestiwn am hyfforddiant, fy nealltwriaeth i yw bod iechyd meddwl amenedigol wedi'i gynnwys ar draws llawer o raglenni, er nad wyf yn argyhoeddedig fod y dull hwnnw'n gyson ledled Cymru. Rwyf wedi gofyn i swyddogion sicrhau felly fod y rhwydwaith iechyd meddwl amenedigol yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a darparwyr hyfforddiant i gryfhau a safoni'r dull hwn. Dylwn ddweud bod iechyd meddwl amenedigol yn faes blaenoriaeth i AGIC hefyd. Byddwn yn sicrhau yn ogystal fod hon yn elfen graidd o'r fframwaith hyfforddi sy'n cael ei ddatblygu gan NHS Education for Scotland yr ydym yn ei addasu i'w ddefnyddio yng Nghymru. Bydd yr hyfforddiant amlfodiwl hwn yn sicrhau y bydd yr holl staff sy'n dod i gysylltiad â theuluoedd yn ystod y cyfnod amenedigol yn cael hyfforddiant priodol. Rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd y gwnaethoch ofyn amdano.

A gaf fi gytuno'n llwyr â phopeth y mae Buffy newydd ei ddweud—eilio'r hyn a ddywedodd—ac ailadrodd ei galwadau am fwy o hyfforddiant ledled Cymru yn gyson, fel y dywedoch chi, Weinidog, yn hyn o beth? A gaf fi wneud cais ar gyfer ymwelwyr iechyd yn benodol? A minnau'n fam fy hun ac wedi bod drwy enedigaeth anodd, gwn am bwysigrwydd y rôl y maent yn ei chwarae ym mlwyddyn gyntaf bywyd plentyn a'r flwyddyn gyntaf honno i'r fam o ran canfod iselder ôl-enedigol neu rywbeth sy'n bod gyda'r baban y mae angen inni fod yn ymwybodol ohono. Gall yr ymweliadau rheolaidd hynny achub bywydau. Felly, Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ymwelwyr iechyd a'r gostyngiad yn y niferoedd.

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Laura, a hoffwn ddweud fy mod yn frwd fy nghefnogaeth i ymwelwyr iechyd. Cefais gymorth anhygoel gan fy ymwelydd iechyd ar ôl i mi gael fy mhlentyn cyntaf ac rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn a ddywedoch chi ynglŷn â sut y gallant achub bywydau a'r rôl ddiogelu hanfodol y maent yn ei chwarae hefyd.

Byddai'r hyfforddiant y cyfeiriais ato ar gyfer y cyfnod amenedigol yn gwbl berthnasol i ymwelwyr iechyd hefyd, oherwydd rydym yn cydnabod bod y cyswllt ar ôl rhoi genedigaeth yn digwydd drwy gyswllt ymwelwyr iechyd i raddau helaeth, ac mae bellach yn dechrau dychwelyd i sefyllfa lawer mwy arferol. A byddaf yn codi'r materion rydych wedi'u crybwyll ynghylch recriwtio ymwelwyr iechyd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, dyma'r cyfle cyntaf i mi ei gael i'ch croesawu i'ch swydd ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Weinidog, rydym ar hyn o bryd yn wynebu epidemig iechyd meddwl yma yng Nghymru. Mae atgyfeiriadau wedi cynyddu, mae cynnydd sydyn iawn yn nifer y bobl ifanc sy'n cael eu cadw dan adran 136 ac mae mwy o bobl ifanc yn hunan-niweidio nag erioed o'r blaen. Felly, beth yw blaenoriaethau eich Llywodraeth, wrth symud ymlaen, i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon, oherwydd mae pethau'n gwaethygu ar hyn o bryd, nid gwella?

Diolch am y cwestiwn hwnnw a diolch am eich dymuniadau da. Yn yr un modd, rwy'n awyddus iawn i weithio ar draws y pleidiau i wella iechyd meddwl pawb yng Nghymru.

Rwy'n anghytuno â'r hyn a ddywedoch chi amdanom yn wynebu epidemig iechyd meddwl. Credaf fod angen inni fod yn ofalus iawn ynghylch yr iaith a ddefnyddiwn ac y gall y math hwnnw o iaith arwain at broffwydoliaeth sy'n gwireddu ei hun. Roedd y dystiolaeth yn dangos bod atgyfeiriadau wedi codi'n ddramatig yn gynharach eleni, ond maent yn sefydlogi eto. Ond nid yw hynny'n golygu ein bod yn hunanfodlon mewn unrhyw fodd ynglŷn â'r heriau y byddwn yn eu hwynebu o ganlyniad i'r pandemig, yn enwedig, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n canolbwyntio arno drwy'r amser.

Fy mhrif flaenoriaethau yw sicrhau bod pobl yn cael mynediad at gymorth amserol a phriodol yn ogystal â chyflawni'r diwygiadau rydym ni fel Llywodraeth wedi ymrwymo iddynt o ran sicrhau dull mwy ataliol ac ymyrraeth gynnar mewn perthynas ag iechyd meddwl, a fydd yn atal y problemau hynny rhag gwaethygu i'r mathau o lefelau a welwn yn achlysurol.

14:35

Diolch ichi am hynny, Weinidog. Mewn gwirionedd, mae'r data'n dangos bod gennym broblem ddifrifol iawn yma gydag iechyd meddwl yng Nghymru, a gwn eich bod yn deall hynny. Efallai nad oeddech yn hoffi'r iaith a ddefnyddiais, ond dyna'r cyfeiriad rwy'n ein gweld ni'n mynd iddo gyda hyn, yn anffodus. Mae llawer o blant ifanc sy'n agored i niwed yn dal i gael trafferth i gael eu gweld gan weithiwr proffesiynol—mae 60 y cant o blant ifanc yn dal i aros mwy na phedair wythnos am apwyntiad CAMHS arbenigol. Mae elusennau rwy'n cyfarfod â hwy yn dweud wrthyf nad yw hyn yn dderbyniol. Felly, beth yn union y mae'r Llywodraeth hon wedi'i gynllunio i gefnogi'r plant ifanc hynny, i atal eu hiechyd meddwl gwael? Oherwydd nid ydym eisiau gweld cenhedlaeth o bobl ifanc yn cael eu colli i anhwylderau iechyd meddwl.

Yn sicr, rwy'n llwyr gydnabod maint yr her sy'n ein hwynebu. Y defnydd o'r term 'epidemig' rwy'n anghytuno ag ef, mewn gwirionedd, yn y cyd-destun hwn.

Mae ein dull gweithredu yng Nghymru yn seiliedig i raddau helaeth ar gydnabod bod angen inni hyrwyddo gwytnwch, mae angen inni ymyrryd yn gynnar, ac mae ein holl ddiwygiadau'n seiliedig ar newid y system gyfan, er mwyn sicrhau'r ymyrraeth gynnar a'r dull ataliol sydd eu hangen arnom yng Nghymru. Mae'r ffigurau yr ydych yn tynnu sylw atynt mewn perthynas ag amseroedd aros—fe welsom gynnydd mawr yn nifer yr atgyfeiriadau at CAMHS arbenigol plant a phobl ifanc, ac mae'r ffigur a nodwyd gennych yn gywir. Mae'n amrywio ledled Cymru, ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag is-gadeiryddion i drafod eu perfformiad yn y maes hwn, yn ogystal â chael trafodaethau penodol â'r byrddau iechyd lle ceir problemau penodol.

Y pwynt arall y byddwn yn ei wneud yw ein bod yn gwybod na fydd llawer o'r plant sy'n aros am asesiadau CAMHS arbenigol yn cyrraedd y trothwy ar gyfer CAMHS arbenigol, a dylid eu helpu'n gynharach yn y system mewn gwirionedd. Gwn hefyd fod llawer o wasanaethau haen 0 da iawn ar gael yng Nghymru, ond nad yw teuluoedd bob amser yn manteisio ar y rheini. Felly, yr hyn a fyddai'n ddefnyddiol iawn i mi, ac i blant a phobl ifanc, yw pe gallem i gyd wneud yr hyn a allwn i dynnu sylw at werth yr ymyriadau lefel is hynny hefyd, sef y rhai y bydd llawer o blant a phobl ifanc eu hangen beth bynnag yn ôl pob tebyg.

Diolch ichi am hynny, Weinidog. Fel y gallwch ddweud, mae iechyd meddwl plant ac iechyd meddwl pobl ifanc yn rhywbeth sy'n wirioneddol bwysig i mi, ac mae cymorth ac ymyrraeth gynnar yn bwysig tu hwnt. Rhyngoch chi a minnau, credaf fod tynnu sylw at yr hyn y gall y trydydd sector ei wneud hefyd, i helpu pobl ifanc yn ystod y camau cynnar hynny, yn bwysig iawn. Fodd bynnag, gyda hynny mewn golwg, Weinidog, yn amlwg, rydym wedi gweld yr ymchwydd ar y funud gyda phobl iau a'u hiechyd meddwl, a'r cyfyngiadau symud a'r cyfnodau atal byr sydd wedi achosi hynny, ac mae wedi cael effaith andwyol enfawr ar iechyd meddwl pobl ifanc. Dywedodd tri chwarter y bobl ifanc fod eu hiechyd meddwl yn waeth ym misoedd cynnar y pandemig, ac mae saith o bob 10 o bobl ifanc o Brydain yn ofni y bydd y pandemig yn gwneud eu dyfodol yn waeth. Gyda'r Prif Weinidog yn methu diystyru rhagor o gyfyngiadau symud y gaeaf hwn, a wnewch chi roi gwybod i'r Senedd hon am gynlluniau'r Llywodraeth ar sut y bydd yn atal unrhyw effeithiau negyddol ar bobl ifanc mewn unrhyw gyfyngiadau symud yn y dyfodol? Diolch, Lywydd.

Diolch. Mae eich cwestiwn yn un cymhleth iawn, oherwydd, fel y dywedais pan drafodasom hyn yn gynharach yn yr wythnos, mae'r pethau hyn i gyd yn ymwneud â chydbwyso niwed, onid ydynt? A chymaint ag y mae'n niweidio plant i beidio â bod yn yr ysgol, mae hefyd yn niweidio plant os yw cyfraddau COVID yn uchel iawn a bod llawer o aelodau o'r teulu'n cael eu heffeithio. Felly, mae'r holl bethau hyn yn ymwneud â chydbwyso niwed. Rydym wedi buddsoddi symiau enfawr o arian i gefnogi plant a phobl ifanc drwy gydol y pandemig gyda chymorth llesiant drwy ysgolion, ein pecyn cymorth llesiant iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, cyllid ychwanegol ar gyfer cwnsela mewn ysgolion, a mentrau felly, i sicrhau bod y cymorth yno. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd fod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae yn cadw'r niferoedd a heintir yn isel, fel y gall plant a phobl ifanc aros yn yr ysgol. Ar hyn o bryd, yn amlwg, maent yn ôl yn yr ysgol, ac mae hynny'n wych ac yn dda iddynt, ac rwyf eisiau gweld hynny'n parhau. Ac wrth inni symud ymlaen drwy'r hydref, hoffwn eich sicrhau y bydd iechyd meddwl yn parhau i fod yn ystyriaeth ganolog i'r Llywodraeth hon, yn union fel y mae wedi bod ers dechrau'r pandemig, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc, sy'n brif flaenoriaeth i mi, ac mae wedi bod ers blynyddoedd.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi wnes i gyffroi yr wythnos diwethaf pan glywais i bod y Llywodraeth yn mynd i wneud cyhoeddiad am e-ragnodi, neu e-prescribing. O'r diwedd, meddaf i, a ninnau ddim ond 21 mlynedd i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. Ond mi wnaeth fy nghalon i suddo pan welais i mai'r hyn roedd y Llywodraeth yn ei gyhoeddi oedd y byddai e-ragnodi yn cael ei gyflwyno o fewn pum mlynedd. Pam fod y Llywodraeth mor benderfynol o symud mor ofnadwy o araf ar beth sydd mor bwysig?

14:40

Diolch yn fawr, Rhun. Dwi'n cytuno, mae'n drueni nad ydym ni wedi mynd yn bellach na hyn eisoes, ond mae yna raglen gyda ni mewn lle nawr. Mae £40 miliwn eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer hyn. Dyw hi ddim fel bod dim gwaith o gwbl yn mynd ymlaen; mae gwaith eisoes yn digwydd. Os ydych chi'n edrych ar Abertawe, er enghraifft, mae lot fawr o waith yn cael ei wneud yn yr ysbyty yn fanna. Dwi'n gofyn iddyn nhw, byth a hefyd, 'Pam na allwch chi symud yn gyflymach?', ac un o'r rhesymau maen nhw'n dweud wrthyf fi yw achos bod rhaid ichi ddal dwylo pobl drwy'r system. Does dim pwynt cael yr holl offer, yr holl adnoddau, os nad yw pobl yn defnyddio'r system, ac mae'n rhaid ichi roi'r hyfforddiant yna un-wrth-un. Dyna un o'r rhesymau pam mae'n cymryd gymaint o amser. Dyna yw'r eglurhad dwi wedi'i gael, o leiaf, gan fwrdd iechyd Abertawe. Ond, wrth gwrs, mae hwnna jest yn un elfen ohono. Rydym ni yn gobeithio, lle rŷn ni'n gallu, mynd yn gyflymach pan fo'n dod i primary care. Dwi yn gobeithio gallwn ni weld y system yna. Fydd hi ddim yn bum mlynedd. Gallaf i gadarnhau i chi, os dwi yn y fan yma, fydd hi ddim yn cymryd pum mlynedd. Bydd angen inni fynd yn gyflymach na hynny. 

Diolch am yr ateb yna. Dwi ddim yn credu gair o'r eglurhad yna am yr oedi, a dwi ddim yn meddwl bod y Gweinidog chwaith yn credu'r eglurhad yna am yr oedi. Mae'n 15 mlynedd ers i'r Llywodraeth gyhoeddi'i strategaeth gyntaf ar gyflwyno e-ragnodi. Os ydy hi'n bum mlynedd arall, mi fydd yna 20 mlynedd wedi pasio. Yn y cyfamser, mae Lloegr a'r Alban wedi gallu gafael yn nwylo pobl, neu beth bynnag sydd angen ei wneud, ac wedi llwyddo i gyflwyno e-ragnodi.

Roeddwn i'n siarad efo un meddyg teulu yn ddiweddar a oedd yn embarrassed pan oedd yn siarad efo cydweithwyr dros y ffin, neu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac yn egluro ei bod hi'n dal yn gorfod gweithio ar bapur. I egluro maint y broblem, mae yna un meddyg roeddwn i'n siarad efo fo yn fy etholaeth i sy'n dweud ei fod o'n gorfod delio efo llaw efo 4,000 o repeat prescriptions, ac mae hynny'n golygu diffyg amser, wedyn, i ddelio efo cleifion a gweld cleifion. A'r cwestiwn gan feddyg teulu arall: pam ddim, yn y datganiad yr wythnos diwethaf, ei gwneud hi'n glir y byddwch chi'n barod i flaenoriaethu cyflwyno e-ragnodi mewn gofal sylfaenol? Achos nid dyna beth wnaethon nhw ddarllen i mewn i'r cyhoeddiad.  

Diolch yn fawr. Gallaf i gadarnhau bod hwn yn un o'r 10 blaenoriaeth dwi wedi eu rhoi gerbron fy nhîm i, jest i wneud yn siwr eu bod nhw'n deall y pwysigrwydd dwi wedi'i roi i'r achos yma. Dwi yn cytuno ein bod ni ymhell y tu ôl i bethau. Roedd e'n eithaf sioc i fi weld pa mor bell tu ôl ydym ni o ran e-ragnodi. Dwi yn meddwl bod y gwaith—. Mae e'n waith technegol, mae'n waith lle mae angen ichi gael caniatâd i gael data. Rydym ni'n gweld ar hyn o bryd os mae'n bosibl inni fwrw ymlaen heb ddeddfwriaeth, achos mae'n rhaid inni sicrhau ar hyn o bryd pwy sydd biau'r wybodaeth y mae GPs yn aml iawn yn berchen arno—so, sut ydyn nhw'n mynd i gael caniatâd y cleifion i wneud yn siwr bod y systemau i gyd yn siarad gyda'i gilydd. 

Dwi yn deall bod angen inni fynd yn gyflymach. Dwi'n meddwl y bydd e'n safio lot o amser, yn arbennig i feddygon teulu, i fferyllfeydd. Gallwn ni wella'r system, a bydd e'n arbed arian inni o ran gorbresgreibio, ac yn gwneud yn siwr ein bod ni'n gallu cadw gofal—os ydych chi'n rhoi'r presgripsiwn hwn, bydd rhywbeth yn awtomatig yn dod lan yn dweud y dylech chi ddim, felly, roi'r presgripsiwn yma, achos byddan nhw'n gweithio yn erbyn ei gilydd. Mae honna'n rhaglen eithaf cymhleth, a dyna un o'r rhesymau pam mae'n cymryd amser. Ond gallaf gadarnhau ichi fy mod i ar hwn. Dwi rili am sicrhau ein bod ni'n mynd i fwrw ymlaen yn y maes yma, cyn gynted ag sy'n bosibl. 

Dwi'n falch eich bod chi'n cyfaddef ei fod o wedi dod fel sioc ichi ein bod ni mor bell ar ei hôl hi. Dwi'n gweld eich rhagflaenydd chi'n eistedd yn dawel iawn wrth eich ymyl chi yn fanna, a'r Gweinidog iechyd o'i flaen o oedd y Prif Weinidog presennol, wrth gwrs. Ond, drwy gydol y pandemig yma, rydym ni wedi gweld sut mae gwasanaethau yn gallu symud yn gyflym a chyflwyno newidiadau yn gyflym, pan fo'r arweinyddiaeth a'r ewyllys gwleidyddol yn eu lle. Rydyn ni yn gallu creu gwasanaethau sydd yn gweddu i'n hanghenion ni. Ac mae gweithio ar bapur yn dal y gwasanaeth iechyd yn ôl. Mae staff wedi cael llond bol ac mae cleifion, ar ddiwedd y dydd, yn dioddef. Felly, a gawn ni unwaith eto, yn ddiamwys, ymrwymiad gan y Gweinidog i roi'r un ewyllys gwleidyddol i mewn i gyflwyno hyn, a chyflwyno hyn rŵan, nid o fewn amserlen pum mlynedd? Achos mae pum mlynedd yn amser hir i unrhyw un; yn yr oes ddigidol, mae o'n oes.

14:45

Diolch. Gallaf i roi cadarnhad dyw e ddim yn mynd i gymryd pum mlynedd. Rŷn ni'n mynd i fynd yn gyflymach na hynny. Allaf i ddim rhoi sylw iddo fe—. Dwi ddim yn meddwl y gallwn ni ei gyflwyno fe rŵan, neu nawr, achos mae'n fater cymhleth. Mae'r dechnoleg yn rili gymhleth. Mae'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi yn gymhleth tu hwnt. Mae angen pobl sydd yn rili deall y dechnoleg yma ac mae pob un eisiau yr un bobl ar hyn o bryd. Dyna pam mae HEIW yn cymryd hwn o ddifrif ac yn rhoi gweithredoedd mewn lle fel bod pob un yn deall pwysigrwydd technoleg yn y dyfodol. Felly, mae hwn yn bwynt mae'r holl wasanaeth iechyd yn deall y mae'n rhaid inni symud arno.

Gwasanaethau Strôc Brys

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd gwasanaethau strôc brys yng Nghaerdydd? OQ56928

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n gyfrifol am wasanaethau strôc brys yng Nghaerdydd. Mae cleifion sy'n mynychu adran achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru yn cael blaenoriaeth ar gyfer asesu a delweddu i wneud diagnosis o strôc, ac fe'u rhoddir ar y llwybr strôc sydd wedi'i integreiddio'n llawn.

Diolch, Weinidog. Cafodd un o fy etholwyr ddiagnosis cywir o strôc gan atebwr galwadau 999 ac yn amlwg cadarnhaodd fod angen iddo gael ei weld ar frys yn ysbyty'r Mynydd Bychan. Gan nad oedd yn glir pa mor hir y byddai'n ei gymryd i ambiwlans gyrraedd, dywedodd y teulu wrth 999 y byddent yn mynd ag ef i'r ysbyty eu hunain, ond ar ôl cyrraedd, cawsant eu dal yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys am 27 awr cyn iddo gael ei dderbyn i'r ward strôc acíwt. Nawr, rwy'n llwyr ddeall y pwysau digynsail sydd ar y gwasanaethau brys, ac mae rhoi prawf COVID i bobl sy'n cyrraedd yn ddirybudd yn rhan bwysig o sicrhau ein bod yn cadw COVID allan o ysbytai. Ond gan fod Caerdydd a'r Fro wedi arloesi gyda system frysbennu newydd dros y ffon i atal pobl rhag gorlenwi'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn ystod y pandemig, sut y gallwn wella'r cyfathrebu rhwng 999 a gwasanaeth 24/7 Caerdydd a'r Fro fel bod cleifion, ar ôl cael diagnosis, yn cael eu cyfeirio at y clinigwyr arbenigol y mae angen iddynt eu gweld?

Diolch yn fawr iawn, Jenny. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am sefyllfa eich etholwr. Credaf fod hynny'n amlwg yn gwbl annerbyniol ac yn anodd iawn, ac yn sicr ni ddylai neb fod yn aros 27 awr ar ôl strôc. Ond yn amlwg, mae'n anodd i mi fanylu ar faterion unigol. Fel y dywedwch, mae'r pwysau ar ein gwasanaethau brys yn parhau i fod yn drwm iawn ar hyn o bryd. Mae amrywiaeth gymhleth o heriau cenedlaethol a lleol ar draws y system sy'n effeithio ar lif cleifion, ac mae hynny'n cynnwys galw anhygoel gan y cyhoedd, yn ogystal â gofyn i'r gweithlu sydd wedi bod wrthi am amser mor eithriadol o hir yn awr. Ond fel y dywedwch, credaf fod y system frysbennu yng Nghaerdydd yn rhywbeth arloesol, sy'n ceisio atal gormod o bobl rhag dod i mewn, gan eu cael i ffonio'n gyntaf a cheisio eu cyfeirio i'r lle cywir wedyn. Felly, mae'n syndod braidd na chawsant eu cyfeirio i rywle mwy priodol. Ond efallai mai dim ond ceisio cadw pobl draw o'r ysbyty y mae'r system, yn hytrach na mannau penodol yn yr ysbyty, ac efallai y byddai'n werth cael sgwrs i weld a ellir addasu'r system honno rywfaint. Ond gwn fod gan Gaerdydd raglenni arloesol iawn ar gyfer strôc, fod 72 y cant o gleifion strôc yng Nghaerdydd hefyd wedi cael eu rhyddhau â chymorth a bod yna raglen arobryn wedi bod yng Nghaerdydd a'r Fro, yr ymgyrch Atal Strôc, ac mae 90 y cant o feddygfeydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen honno.

Cyhoeddodd Rhaglen Archwilio Genedlaethol y Sentinel Strôc—y SSNAP—archwiliad ledled y DU o wasanaethau strôc yn ein hysbytai, ac mae Cymru'n chwarae ei rhan yn cyfrannu data'n rheolaidd at y gwaith pwysig hwn. Dangosodd adroddiad eu harchwiliad sefydliadol acíwt ym mis Rhagfyr 2019 mai dim ond 30 y cant o ysbytai ledled y DU oedd â'r lefel a argymhellir o nyrsys cofrestredig yn gweithio ar benwythnosau. A all y Gweinidog gadarnhau a oedd unrhyw un o'r ysbytai hyn yng Nghymru, ac os felly, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gennym y nifer cywir o nyrsys yn ein hunedau strôc? Diolch, Weinidog.

14:50

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Altaf. Yn amlwg, rwyf bob amser yn ymwybodol iawn, pan fyddaf yn ymateb i chi, fy mod yn siarad ag arbenigwr, felly mae'n rhaid i mi bob amser fod yn fwy gofalus gyda chi na neb arall yn y Siambr mae'n debyg. [Chwerthin.]

Credaf ei bod yn gwbl briodol fod yn rhaid inni gadw llygad ar nifer y nyrsys. Ac wrth gwrs, mae gennym ni yng Nghymru ddeddfwriaeth mewn perthynas â hynny, ac mae honno'n ddeddfwriaeth unigryw nad yw'n weithredol ar draws gweddill y Deyrnas Unedig, lle mae lefelau staff nyrsio yn ofyniad cyfreithiol. Ac roeddwn yn falch o allu siarad â'r Coleg Nyrsio Brenhinol y bore yma am y sefyllfa honno a gweithredu hynny. Felly, rydym mewn sefyllfa wahanol i rannau eraill o'r DU o ran nyrsio. Credaf fod pethau eraill y gallwn eu gwneud mewn perthynas â strôc yng Nghymru—mae hyrwyddo ffibriliad atrïaidd o fewn gofal sylfaenol yn rhywbeth arall rwy'n awyddus iawn i weld a allwn fynd ar ei drywydd.

Y Gwasanaeth Ambiwlans

4. Pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i gefnogi gwasanaeth ambiwlans Cymru yn ystod cyfnodau annisgwyl o brysur? OQ56926

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gwasanaeth ambiwlans Cymru i ddarparu gwasanaethau ymatebol brys. Rwyf wedi gofyn i'r prif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans weithio gyda byrddau iechyd, gwasanaeth ambiwlans Cymru a phartneriaid i ddatblygu a chryfhau cynlluniau uwchgyfeirio system gyfan ac i alluogi mwy o reolaeth weithredol dros gyfnod y gaeaf.

Diolch, Weinidog. Roedd yn amlwg iawn, o'n dadl yr wythnos diwethaf ac o'r ffaith bod ein blychau post yn llawn o achosion etholwyr sy'n poeni am hyn fod angen gwneud rhywbeth yn gyflym iawn am y sefyllfa hon. Ond mae'r hyn rwyf eisiau ei ofyn i chi heddiw, Weinidog, yn ymwneud yn benodol â meddygon teulu a chefnogi apwyntiadau wyneb yn wyneb, yn hytrach na'r rhai ar-lein, oherwydd os awn i'r afael â hynny, bydd hynny'n amlwg yn helpu'r gwasanaeth ambiwlans drwy ostwng y niferoedd sy'n mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, oherwydd yr hyn sy'n dod yn fwyfwy amlwg o'r achosion rwy'n eu cael yw bod symptomau'n cael eu colli, ac mae'r bobl hynny wedyn yn mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys ac yn cyfrannu at y ffaith bod adrannau damweiniau ac achosion brys yn orlawn a'r effaith andwyol y mae hynny'n ei chael.

Felly, Weinidog, sut rydym yn coladu'r data'n ganolog? Oherwydd, o'r hyn rwy'n ei ddeall, nid oes casgliad canolog o ddata ar hyn, ac mae'n ymddangos yn bwysig iawn ein bod yn casglu'r data hwnnw er mwyn gwneud y penderfyniadau gwybodus ar sail Cymru gyfan ar hyn, oherwydd mae angen i'r bobl hynny weld meddygon wyneb yn wyneb yn awr, oherwydd mae pethau'n cael eu colli. Ond mae'n rhaid inni gysylltu â'r meddygfeydd i gael y wybodaeth honno, ble bynnag yr awn. Rydym angen i'r data hwnnw gael ei gasglu'n ganolog. Felly, beth rydych chi'n ei wneud am hynny, Weinidog, os gwelwch yn dda? Diolch.

Diolch yn fawr. Wel, rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn onest gyda'r cyhoedd: ni fyddwn yn dychwelyd i'r sefyllfa roeddem ynddi cyn y pandemig. Rydym wedi cyflwyno gwasanaethau digidol newydd ac a dweud y gwir, mae llawer o'r cyhoedd yn eu hoffi. Mae llawer o bobl yn hoffi e-bresgripsiynu, ac yn sicr dyna'r ymateb a gawn yn yr arolygon niferus a gynhelir gennym. Wrth gwrs, bydd bob amser adegau pan fydd angen gweld rhai cleifion wyneb yn wyneb, ac mae hwnnw'n benderfyniad clinigol y mae ein meddygon teulu'n ei wneud bob dydd. A chredaf ei bod yn gwbl briodol mai hwy yw'r bobl sy'n gwneud y penderfyniad clinigol hwnnw. Felly, nid wyf am wneud yr hyn y mae Sajid Javid wedi'i wneud a dweud, 'Mae'n rhaid i chi weld y cleifion hyn wyneb yn wyneb'. Nid ydym yn y sefyllfa honno. Ni fyddwn yn dychwelyd i'r sefyllfa honno; byddwn yn caniatáu i'n meddygon teulu wneud penderfyniad clinigol ynglŷn â'r hyn sy'n iawn, a byddant yn penderfynu a yw'n briodol gweld pobl wyneb yn wyneb.

Ac mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yng Nghymru yn deall bod yna ddewisiadau eraill—y gallwch fynd i'ch fferyllfa, fod lleoedd eraill y gall pobl fynd iddynt, ac y gallant roi cyngor gwych ichi. Gallwch fynd yn syth i weld ffisiotherapydd; nid oes raid i chi fynd drwy'r meddyg teulu bob amser. Yr hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau ein bod yn hyfforddi pobl—derbynyddion—i sicrhau bod ganddynt well dealltwriaeth o ble y dylent gyfeirio pobl.

Ond yn sicr, o ran y wybodaeth, fe fyddwch yn gwybod, rwy'n siŵr, fod yna system lle rydym i bob pwrpas yn talu bonws i feddygon teulu am wella mynediad, ac roedd tua 76 y cant o feddygfeydd meddygon teulu yn gallu cael y bonws hwnnw y llynedd oherwydd bod mynediad bron yn well nag y bu erioed. Nawr, efallai nad oedd yn fynediad wyneb yn wyneb, ond rydym yn cadw llygad ar hynny, a gallaf yn sicr anfon manylion y dadansoddiad atoch os byddai o ddefnydd i chi.

14:55

Mae amseroedd aros ambiwlansys yn y de-ddwyrain yn destun pryder mawr, Weinidog, a chaiff hyn ei ddwysáu gan amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae ffigurau a ryddhawyd yr wythnos hon yn dangos mai ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân sydd wedi perfformio waethaf, yn anffodus, o bob ysbyty yng Nghymru, gyda dim ond pedwar o bob 10 claf yn cael eu gweld o fewn pedair awr yno. Mae llawer o gymunedau yng nghwm Rhymni wedi bod heb adran ddamweiniau ac achosion brys ers cau ysbyty'r glowyr, ac fe gafodd Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach ei agor heb adran ddamweiniau ac achosion brys. Gydag amseroedd aros ambiwlansys hwy, mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi rhybuddio bod cleifion yng Nghymru yn gorfod defnyddio tacsis neu ofyn i'w meddygon teulu eu gyrru i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, a bydd hyn yn waeth yn y de-ddwyrain, a chwm Rhymni yn enwedig, lle mae'n rhaid i bobl deithio ymhellach i gyrraedd eu hadran ddamweiniau ac achosion brys nag y byddent wedi'i wneud pan oedd ysbyty'r glowyr ar agor. Felly, Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth agor trafodaethau gyda'r bwrdd iechyd i adfer adran ddamweiniau ac achosion brys yng nghwm Rhymni yn Ysbyty Ystrad Fawr?

Rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn glir gyda phobl na ddylid mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys na ffonio am ambiwlans ac eithrio mewn argyfwng, ac mae gormod o bobl yn ffonio am ambiwlans pan nad yw'n argyfwng. Nawr, nid yw hynny'n golygu nad oes yna bobl mewn argyfwng yn cael eu colli ar hyn o bryd, a'r rheswm am hynny, fel rwyf wedi esbonio, yw oherwydd bod cynnydd enfawr yn y galw. Rhan o'r rheswm am hyn, wrth gwrs, yw oherwydd ein bod yn cael trafferth cael pobl allan, rhyddhau pobl o'r ysbyty; ni ellir rhyddhau pobl sy'n barod i gael eu rhyddhau oherwydd bregusrwydd ein sector gofal ar hyn o bryd. Dyna pam fy mod yn treulio llawer iawn o amser yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, ar hyn o bryd, i geisio gweld beth y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r system mewn perthynas â gofal fel y gallwn wella'r llif drwy'r ysbytai fel na fyddwn yn gweld pobl yn aros y tu allan i ysbytai mewn ambiwlansys. Ond ni fyddwn yn gallu datrys hynny oni bai ein bod yn datrys y broblem wrth ddrws cefn ysbytai, ac felly rwy'n canolbwyntio ar hynny ar hyn o bryd.

Mewn perthynas ag agor adran ddamweiniau ac achosion brys benodol, nid yw adran ddamweiniau ac achosion brys yn rhywbeth y gallwch ei gonsurio. Mae'n rhaid i chi ddarparu llawer iawn o adnoddau o gwmpas hynny, a pheidiwch ag anghofio, pan fyddwch yn rhoi adran ddamweiniau ac achosion brys mewn man penodol, yr hyn y mae'n ei olygu yw, os daw rhywbeth arall i mewn, caiff eich gofal wedi'i gynllunio ei daro, ac rwy'n ymwybodol iawn fod 20 y cant o boblogaeth Cymru hefyd yn aros am lawdriniaethau ar hyn o bryd. Felly, os rhywbeth, mae angen inni gadw'r rhaniad rhwng y mannau poeth ac oer hynny mewn perthynas ag iechyd fel y gallwn barhau â'r gofal wedi'i gynllunio lle bo angen, ac nid yw agor adrannau damweiniau ac achosion brys ychwanegol o reidrwydd yn ein helpu gyda'n gofal wedi'i gynllunio. Mae'r holl bethau hyn yn gydgysylltiedig, felly byddaf yn cymryd cyngor gan y clinigwyr ar ble sydd orau i agor cyfleusterau damweiniau ac achosion brys.

Deintyddion y GIG

5. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella argaeledd deintyddion y GIG ledled Cymru? OQ56917

Diolch, Jane. Rydyn ni’n parhau i ailgychwyn ar wasanaethau deintyddol y GIG mewn modd diogel, fesul cam. Mae practisau’n blaenoriaethu gofal yn ôl angen ac yn trin achosion brys a phobl sy’n cael problemau yn gyntaf. Mae mesurau yn eu lle i bractisau deintyddol y GIG weld cleifion newydd bob wythnos.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae deintyddiaeth yn parhau i fod yn un o'r meysydd anoddaf yn y ddarpariaeth gofal sylfaenol ar hyn o bryd—materion anadlol yn ystod pandemig. Hefyd, ar ben hynny, ceir problemau hirsefydlog yn ymwneud â darpariaeth y GIG o wasanaethau deintyddol. Rwyf wedi lansio arolwg ac wedi clywed yn ôl gan oddeutu 350 o bobl ar draws canolbarth a gorllewin Cymru ynghylch y sefyllfa o ran deintyddiaeth y GIG, yn enwedig yn ardal Llandrindod. Mae hon yn broblem hirdymor, ac rwy'n siŵr ein bod yn edrych ar ateb mwy hirdymor iddi, ond tra bo hynny'n digwydd, tybed a yw'n werth archwilio atebion mwy arloesol tra bod y diwygiadau hirdymor ar y gweill. Er enghraifft, mae trigolion Machynlleth wedi gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol drwy uned ddeintyddol symudol. A fyddech yn cytuno y gallai cyflwyno cynlluniau tebyg ar draws y Gymru wledig gynnig ateb tymor byr i'r argyfwng gyda darpariaeth y GIG o wasanaethau deintyddol, ac os felly, sut y gallem fwrw ymlaen â hyn mewn ardal fel Llandrindod? Diolch yn fawr iawn.

15:00

Diolch yn fawr iawn, Jane, a diolch am y gwaith rydych yn ei wneud ar hyn o bryd i hyrwyddo deintyddiaeth. Rwyf o blaid arloesi, yn enwedig ar yr adeg hon. Rwy'n falch iawn o weld yr arloesi sy'n digwydd ym Machynlleth. Tybiaf nad y cyfleusterau eu hunain yw'r broblem gydag unedau symudol, ond pwy a gawn i weithio ynddynt. Felly, mae'n haws o lawer datblygu unedau symudol na hyfforddi pobl i'w staffio, a dyna pam rwy'n falch iawn ein bod yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddatblygu'r gweithlu ac i sicrhau ein bod yn bod ychydig yn fwy creadigol o ran y ffordd y defnyddiwn y gweithlu, felly nid ymwneud â deintyddion yn unig y mae hyn—mae'n rhaid iddo ymwneud â phobl eraill sy'n gweithio ar frig eu trwydded, a'u hannog i weithio ar frig eu trwydded. Rwy'n falch iawn, er enghraifft, fod gennym gyfadran Cymru o weithwyr proffesiynol gofal deintyddol ym Mangor, sy'n edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud o ran nyrsys deintyddol, technegwyr deintyddol, therapyddion deintyddol, hylenwyr deintyddol, a'u cael i wneud rhywfaint o'r gwaith rheolaidd o archwilio, neu beth bynnag, gan adael i ddeintyddion drin yr achosion brys.

Mynediad at Feddygon Teulu yng Nghaergybi

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at feddygon teulu yng Nghaergybi? OQ56912

Mae meddygon teulu yn wynebu pwysau enfawr wrth ddelio â’r pandemig, a delio ar yr un pryd â galw uchel oherwydd cleifion â salwch sydd ddim yn gysylltiedig â COVID. Mae mynediad at feddygon teulu yng Nghaergybi wedi bod yn heriol dros y misoedd diwethaf, ond mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn canolbwyntio'n gryf nawr i wella'r sefyllfa.

Ydy, mae'r darlun yn bryderus ar draws Cymru, ac wedi bod, felly, trwy'r pandemig, ond yng Nghaergybi mae problem sylweddol gennym ni ar ôl i ddwy feddygfa orfod cael eu rhoi yn nwylo'r bwrdd iechyd yn 2019, a hynny, mae gen i ofn, oherwydd methiannau sicrhau gweithlu cynaliadwy dros gyfnod o flynyddoedd maith. Dwi'n meddwl bod llwyddiant Plaid Cymru i arwain at sefydlu coleg meddygol ym Mangor yn mynd i fod yn help gwirioneddol ar gyfer y hirdymor, ond mae angen sicrhau'r adnoddau rŵan er mwyn gallu denu meddygon i Gaergybi.

Mae angen canolfan gofal sylfaenol amlddisgyblaethol newydd i Gaergybi a'r ardal. Mae'r cleifion ei angen o, mae'r staff sydd yna rŵan yn ei haeddu fo. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog ymrwymo'n glir i sicrhau bod canolfan o'r fath yn cael ei delifro, a hynny ar frys?

Diolch. Rŷch chi'n ymwybodol bod problemau wedi bod yn hwb Cybi, sydd, wrth gwrs, yn cael ei arwain gan y gwasanaeth iechyd, gan Betsi Cadwaladr, yn uniongyrchol. Dwi'n falch i ddweud bod tri GP nawr wedi cael eu penodi—un sydd wedi dechrau eisoes, un arall yn dechrau ym mis Hydref, a'r llall yn dechrau ym mis Ionawr. Felly, dwi'n gobeithio y bydd hwnna'n gwella'r sefyllfa, ynghyd â thri urgent care practitioner sy'n mynd i ddechrau ym mis Hydref. Felly, mae wedi cymryd sbel i gael y bobl yna mewn lle, ond dwi'n gobeithio nawr y byddwch chi'n gweld newid aruthrol oherwydd y posibilrwydd o recriwtio'r bobl yna i'r safleoedd yna.

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc? OQ56911

Rydym yn defnyddio dull system gyfan i wella a chefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys gweithredoedd ar draws meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a gwaith ieuenctid, gyda ffocws ar atal ac ymyrraeth gynharach, gan sicrhau hefyd fod gwasanaethau arbenigol ar gael pan fo angen.

15:05

Diolch, Weinidog. Un o'r pethau rhwystredig y mae llawer o rieni wedi'u codi mewn perthynas ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc yw mynediad at y gwasanaeth cywir, ac amlygwyd hynny yn adroddiad Comisiynydd Plant Cymru, 'Dim Drws Anghywir'. A chanfu'r adroddiad hwnnw fod llawer o blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n chwilio am gymorth gyda nifer o faterion, gan gynnwys iechyd meddwl, yn teimlo bod y system yn hynod gymhleth. Syrthiodd rhai ohonynt drwy'r bylchau'n gyfan gwbl hyd yn oed, gan olygu na chawsant fynediad at unrhyw gymorth o gwbl. Fel y dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, roedd llawer yn curo ar y drws anghywir neu'n aros am wasanaethau yn y ciw anghywir. Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dull 'dim drws anghywir' o weithredu gwasanaethau i blant a phobl ifanc yng Nghymru?

A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiwn atodol? Mae hwn yn un o fy mhrif flaenoriaethau, ac mae gwir angen inni ddod â'r sefyllfa lle mae plant a phobl ifanc yn mynd at y drws anghywir i ben. Dyna pam rwy'n gweithio'n agos ar draws y Llywodraeth, yn enwedig gyda'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ar weithredu ein fframwaith meithringar, grymusol, diogel a dibynadwy newydd, sy'n offeryn cynllunio i alluogi byrddau partneriaeth rhanbarthol i ddarparu'r cymorth cynnar a'r gefnogaeth well y gwyddom ei bod yn fwyaf priodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Rwy'n cyfarfod â'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn rheolaidd. Rwyf wedi trefnu i fynd i ymweld â hwy. Rwyf hefyd yn codi'r mater yn rheolaidd gydag is-gadeiryddion, ac mae pawb yn deall bod hwn yn brif flaenoriaeth i mi, ynghyd â chysylltu â'n dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl.

Dylwn ddweud hefyd fy mod yn falch iawn fod y byrddau iechyd yn gwneud cynnydd da ar weithredu eu pwyntiau cyswllt unigol, sydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth enfawr ac yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad mwy amserol at y cymorth sydd ei angen arnynt. Ac yn ychwanegol at hynny, rydym yn cynyddu buddsoddiad yn ein cymorth haen 0 i sicrhau bod cymorth anghlinigol ar gael hefyd, oherwydd yn dilyn fy ateb i James Evans yn gynharach, credaf ei bod yn bwysig iawn nad ydym yn meddygoli trallod plant a phobl ifanc, yn enwedig yng nghyswllt pethau fel y pandemig, sydd wedi bod yn anodd ac yn straen i bob un ohonom. Felly, rydym yn ceisio rhoi'r holl ymyriadau hynny ar waith ar draws y system gyfan, ond gan sicrhau hefyd fod plant a phobl ifanc sydd angen cymorth mwy arbenigol yn ei gael mewn modd amserol.

Cefnogi Staff y GIG

Mae pob un ohonom yn cydnabod bod ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod o dan bwysau sylweddol a pharhaus am gryn dipyn o amser. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau a chyllid wedi'i dargedu i ategu cymorth lleol yn y gweithle.

Diolch yn fawr, Weinidog, ac rydych yn llygad eich lle, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr a thu hwnt yn cytuno bod yr aberth a wnaed gan staff rheng flaen gwych y GIG dros y 18 mis diwethaf yn haeddu cael ei gydnabod. Ac nid yn unig am mai dyna yw'r peth iawn i'w wneud, ond hefyd am fod arnom angen iddynt barhau i weithio oherwydd, yn gyntaf, nid yw COVID wedi diflannu, ac yn ail, mae heriau eraill ar y ffordd i herio'r GIG. Mae cadw staff yn frwydr allweddol i ni ac i'r Llywodraeth, ac fel y dywedwch, rydych yn cael sgyrsiau, ond fel rhan o'r negodiadau cyflog hyn gydag undebau llafur sy'n cynrychioli'r staff rheng flaen, maent wedi cyflwyno cyfres o geisiadau ar ran y gweithwyr rheng flaen. Weinidog, efallai y gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Siambr y Senedd heddiw am y trafodaethau hynny, ac ymrwymo y bydd y sgyrsiau hynny'n parhau mewn modd cydweithredol yn y dyfodol, fel y dylent.

Diolch yn fawr iawn, Jack, ac a gaf finnau dalu teyrnged i'r gwaith anhygoel y mae gweithwyr ein GIG wedi'i wneud yn ystod y cyfnod mwyaf heriol yn hanes y GIG, heb os? Rydym yn llwyr werthfawrogi'r gwaith y maent wedi'i wneud. Mewn perthynas â chyflogau'r GIG wrth gwrs, roeddem wedi sefydlu gyda'r undebau y dylid edrych ar gorff adolygu'r GIG a chorff adolygu'r meddygon a'r deintyddion. Cymerasant dystiolaeth o bob agwedd ar y gweithle, ac roedd dealltwriaeth y byddent yn cynnig awgrym o ran sut y dylai codiad cyflog edrych. Fe wnaethant gynnig awgrym o 3 y cant. Wrth gwrs, rydym wedi awgrymu y gallwn wneud hynny ar 3 y cant. Mae'n anodd iawn inni fynd ymhellach oherwydd, a dweud y gwir, nid ydym wedi cael yr arian gan Lywodraeth y DU. Pe byddem yn cael yr arian gan Lywodraeth y DU, byddem mewn sefyllfa wahanol.

Mae'r trafodaethau gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur yn parhau. Rydym yn trafod a oes unrhyw welliannau ychwanegol a allai ategu'r dyfarniad cyflog, ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Ond credaf ei bod yn bwysig inni hefyd danlinellu'r ffaith ein bod wedi rhoi'r taliad untro o £735 y pen, a rhaid inni gofio'r gweithwyr gofal hefyd, ac fel y dywedais eisoes, dyma'r rhan fwyaf bregus o'r gwasanaeth cyfan ar hyn o bryd, ac rwy'n canolbwyntio ar hynny. Rwyf hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau, gyda Julie Morgan, y gallwn ddarparu'r cyflog byw cyn gynted â phosibl, gan fod hynny oll yn effeithio ar y gwasanaeth y gall y GIG ei ddarparu ar hyn o bryd.

15:10
3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn i'r Gweinidog addysg, ac i'w ofyn gan Siân Gwenllian.

COVID-19: Tarfu ar Addysg

1. Pa gamau pellach y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd mewn ymateb i darfu difrifol ar addysg yn gynnar yn y tymor ysgol newydd yn sgil cynnydd yn yr achosion o COVID-19? TQ567

Rwy'n cydnabod bod hwn wedi bod yn ddechrau heriol i'r flwyddyn ysgol. Rŷm ni'n parhau i weithio'n agos gydag ysgolion, gyda llywodraeth leol, gydag undebau dysgu, a gydag arbenigwyr iechyd cyhoeddus, i fonitro'r sefyllfa a phenderfynu pa gamau sydd eu hangen i sicrhau ein nod gyffredin o sicrhau bod plant yn gallu bod yn yr ysgol yn dysgu.

Diolch am yr ateb yna. Dwi'n credu bod angen i chi ddangos cydymdeimlad efo pryderon rhieni, pobl ifanc a staff a dangos eich bod chi yn gwrando ac yn ystyried gweithredu, os bydd rhaid—hynny yw, yn fodlon tynhau'r rheolau os bydd angen. Mi fyddai egluro'r rhesymeg o ran pwy ddylai ynysu a phwy ddylai fynd i'r ysgol yn helpu, ac mae etholwyr yn dweud wrthyf i fod y cyngor maen nhw'n ei gael, un ai'n gwrthdaro, neu dydyn nhw ddim yn cael unrhyw gyngor o gwbl, ac felly mae angen sylw i hynny.

Er gwaethaf ymdrechion staff rheng flaen, mae problemau ac anghysondebau mawr efo'r system profi ac olrhain. Mae yna gymaint yn fwy y gellid ei wneud o ran awyru'r adeiladau hefyd. Mae angen i rieni a phlant a phobl ifanc a staff gael sicrwydd fod ysgolion mor ddiogel â phosib, ac mae yna ddyletswydd arnoch chi i dawelu'r pryderon ar fyrder a dangos eich bod chi'n barod i weithredu hefyd. Ydych chi'n cytuno efo hynny?

Hoffwn i ddodi ar y record fy niolch i i'r sector addysg am y gwaith caled maen nhw wedi bod yn ei wneud i gadw'r ysgolion mor saff ag sydd yn bosib. Gwnes i ysgrifennu i brifathrawon ac i arweinwyr colegau ddoe yn cydnabod y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud. Rwy'n cydnabod, fel gwnes i yn yr ateb blaenorol, fod y cyfnod diweddar yma wedi bod yn heriol iawn, gyda rhifau yn cynyddu. Mae buddiant a llesiant ein pobl ifanc ni wrth wraidd pob penderfyniad rydw i'n ei wneud fel Gweinidog ac mae ein Llywodraeth ni yn ei wneud. Yn y llythyr gwnes i ysgrifennu ddoe, roeddwn i'n esbonio'r sefyllfa ar hyn o bryd a'r camau rŷm ni yn eu cymryd—er enghraifft, bod y cynllun brechu i blant rhwng 12 ac 15 yn dechrau wythnos nesaf. Rŷm ni'n cadw i fonitro'r sefyllfa o ran y cyngor rŷm ni'n rhoi, wrth gwrs, ac rwy'n deall bod consérn ynglŷn â rhai o'r rheoliadau sydd mewn lle, ac rŷm ni'n edrych ar ffyrdd o gyfathrebu hynny yn well fel bod pobl yn deall beth yw'r rheoliadau a beth yw'r rhesymau dros y rheoliadau. Mae hynny hefyd yn bwysig.

Rŷm ni wedi cadarnhau bod y gronfa yn parhau i ariannu staff cyflenwi yn y cyfnod yma, bod y monitors carbon deuocsid yn dechrau cyrraedd ysgolion yr wythnos nesaf, ac ein bod ni'n edrych ar beth mwy y gallem ni ei wneud i gefnogi'r system profi ac olrhain i sicrhau eu bod nhw'n gwneud y gorau y gallen nhw hefyd. Rŷm ni wedi clywed wrth rieni ac athrawon ynglŷn ag ysgolion arbennig a disgyblion gydag anghenion meddygol arbennig, a bydd cyngor pellach yn dod ar y ddau beth hwnnw yn fuan iawn hefyd. Hoffwn i hefyd ddweud bod y cyd-destun, wrth gwrs, yn heriol i brifathrawon ac athrawon sydd yn edrych ar sut maen nhw'n delio â'r sialensiau staffio—edrych ar beth mae hynny'n ei wneud i'r amserlen ac ati. Felly, rwy'n cydnabod yn iawn fod y penderfyniadau yma'n heriol ar hyn o bryd.

Rŷn ni wedi gweld yn y ffigurau sydd wedi cael eu cyhoeddi ar ddechrau'r wythnos hon fod y cyfraddau achosion mewn plant o dan naw ac o dan 19 wedi'u lleihau yn yr wythnos diwethaf. Mae hynny'n arwydd cynnar, ond rwy'n gobeithio hefyd yn arwydd gobeithiol i ni.

15:15

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Siân Gwenllian am dynnu sylw'r Gweinidog at y pwnc hwn y prynhawn yma, gan fy mod yn dymuno canolbwyntio ar fy etholaeth yn Nyffryn Clwyd yn sir Ddinbych, lle hyd yn oed heddiw rydym wedi cael ysgol yn cau oherwydd achosion o COVID, gan darfu'n fawr ar addysg plant. Rwy'n meddwl tybed—. Wel, mae'n ddrwg gennyf, hoffwn ganolbwyntio ar ardaloedd gwledig a pha gynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfleusterau addysg barhaus i bobl a allai fod yn cael trafferth cael cysylltiad band eang mewn ardaloedd gwledig, fel nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl oherwydd achosion o COVID mewn ysgolion. Diolch.

Ar gwestiwn olaf yr Aelod mewn perthynas â chymorth i ysgolion gwledig—yn wir, cymorth i bob ysgol—a’r angen i allu darparu ar gyfer dysgu o bell yn ôl y gofyn, yn amlwg, credaf ein bod mewn sefyllfa wahanol iawn bellach o gymharu â dechrau'r pandemig, yn rhannol oherwydd y buddsoddiad sylweddol tu hwnt a wnaed er mwyn sicrhau bod ysgolion yn gallu darparu tabledi a gliniaduron i ddysgwyr er mwyn iddynt allu gweithio o bell, yn ogystal â'r MiFi a dyfeisiau eraill yr ydym wedi gallu eu hariannu er mwyn helpu gyda rhai o'r heriau sy'n gysylltiedig â band eang y soniodd yr Aelod amdanynt yn ei gwestiwn.

Mae wedi bod yn rhan bwysig iawn o'n cyllid adnewyddu a diwygio, a gyhoeddais yn yr haf—y tymor diwethaf—ac mae'r Sefydliad Polisi Addysg ac eraill wedi cydnabod bod hynny'n cael effaith arbennig o fuddiol o ran y ddarpariaeth ddigidol. Gwn ei fod yn cytuno bod hynny'n bwysig tu hwnt.

Weinidog, yn dilyn yr hyn a ddywedodd Gareth, mae wedi amlinellu eithafion yr hyn sy'n digwydd: mae'n ddiwedd mis Medi ac rydym eisoes yn gweld ysgolion yn cau a grwpiau blwyddyn cyfan yn aros gartref. Rheswm arall am hynny yw prinder staff, gyda phobl yn aros gartref gyda COVID, felly hoffwn wybod pa gynlluniau wrth gefn sydd gennych ar waith i helpu'r ysgolion y mae'r broblem honno'n effeithio arnynt.

Un o'r problemau hefyd gyda phobl yn colli addysg ar hyn o bryd yw'r diffyg eglurder, fel y crybwyllais wrthych mewn pwyllgor—y diffyg eglurder i rieni ynghylch beth i'w wneud os oes ganddynt achos o COVID yn eu teuluoedd. Rydych yn dweud bod cyngor y Llywodraeth yn eglur iawn, sef os oes COVID ar rywun, mae gweddill y teulu'n dal i fynd i'r gwaith, i'r ysgol a beth bynnag arall, ond mae penaethiaid dan bwysau aruthrol ac yn dod ataf o bobman i ddweud bod rhieni mewn penbleth ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd, mae'r disgyblion mewn penbleth. Maent yn poeni am fod pobl yn dod i'r ysgol pan fyddant yn gwybod bod COVID ar rywun arall yn eu teulu, ac mae pryderon ynglŷn â hynny.

Credaf fod y cylch tair wythnos yn rhy hir mewn gwirionedd i ymateb i'r hyn sy'n digwydd, gyda niferoedd COVID yn codi'n sylweddol ar hyn o bryd. Felly, sut y bwriadwch ailedrych ar hynny ac edrych ar y cyngor? Fel y dywedodd y Gweinidog iechyd meddwl yn gynharach, gwn ei bod yn anodd cydbwyso pethau, ac mae cael hyn yn iawn mor bwysig. Rydym am i blant fod yn yr ysgol, ond rydym hefyd am iddynt fod yn ddiogel. Gwn eich bod o dan gryn dipyn o bwysau, ond hoffwn pe gallech wneud sylwadau ar hynny yn gyflym.

Hefyd—yn gyflym iawn, Lywydd—rydym wedi cyrraedd sefyllfa lle mai plant rhwng—pobl ifanc, mae'n ddrwg gennyf, rhwng—10 a 19 oed yw'r grŵp gyda'r nifer fwyaf o bobl â COVID ar hyn o bryd, gydag oddeutu 2,000 o achosion ym mhob 100,000 o bobl bellach, a chyfartaledd yn unig yw hwnnw; mewn rhai rhannau o Gymru, mae'r ffigur yn codi bob dydd. Felly, mae rhoi'r brechlyn i bobl 12 i 16 oed yn hanfodol, a gwn y bydd y broses honno'n dechrau ar 4 Hydref, ond pa gynlluniau sydd gennych ar waith i gyflymu'r broses o'i ddarparu? Diolch.

Rydym yn rhagweld y bydd pob plentyn yn y grŵp oedran hwnnw wedi cael cynnig y brechlyn ym mis Hydref drwy wahoddiadau i ganolfannau brechu torfol. Ar y pwynt a wnaeth yr Aelod am y cynnydd mewn achosion yn y garfan 10 i 19 oed, dylwn ddweud y bydd cynnal llawer iawn o brofion ar ddisgyblion asymptomatig yn yr ystod oedran honno o reidrwydd yn arwain at nodi mwy o achosion. Dyna'n amlwg y mae wedi'i gynllunio i'w wneud, a chredaf yr wythnos diwethaf fod ychydig dros 40 y cant o'r holl brofion a gynhaliwyd ar sail galw i mewn wedi'u rhoi i blant 18 oed ac iau. Felly, mae hynny'n esbonio'n rhannol y niferoedd a welwn, ac rwy'n adleisio'r pwynt a wneuthum yn gynharach fod y garfan benodol honno—ymddengys bod cyfradd yr achosion wedi gostwng yn ystod yr wythnos ddiwethaf o gymharu â'r wythnos flaenorol, sy'n rhywbeth y gwn y byddai'r Aelod hefyd yn ei groesawu.

Ar y canllawiau, mae'n bwysig fod hyn yn glir, ac mae'r canllawiau wedi'u nodi'n glir iawn ar wefan Llywodraeth Cymru yn ein cyfathrebiadau, ond hoffwn achub ar y cyfle hwn i'w nodi. Rydym yn adolygu'r canllawiau hyn yn barhaus—yn yr ysgol a thu hwnt—i adlewyrchu'r dystiolaeth a'r canllawiau gorau a mwyaf diweddar a gawn. Ar lefel rhybudd 0, nid yw'n ofynnol i unrhyw un o dan 18 oed sy'n gysylltiad agos ond nad yw'n symptomatig hunanynysu. Felly, mae angen cyfiawnhad arbennig iawn dros ofyn i bobl hunanynysu o dan yr amgylchiadau hynny, a chredaf fod gofyn i bobl ifanc gadw at reolau sy'n fwy llym na'r rheolau y mae oedolion yn glynu atynt, pan fyddant yn llai tebygol o gael eu niweidio a phan fo oedolion wedi cael—y mwyafrif llethol—wedi cael eu brechu, credaf fod hwnnw'n safbwynt heriol iawn i ddechrau ohoni.

Ceir rhagdybiaeth synnwyr cyffredin, ac rwy'n ei deall yn llwyr, y bydd holl aelodau'r teulu'n dal, neu y bydd y rhan fwyaf o aelodau'r teulu'n dal COVID o fod achos yn y cartref. Nid yw hynny wedi'i brofi yn y dystiolaeth fel rydym yn ei deall ar hyn o bryd. Yn amlwg, caiff y pethau hyn eu hadolygu'n barhaus, ond nid yw hynny i'w weld yn y sefyllfa fel yr ydym yn ei deall ar hyn o bryd. Yr hyn a welir yw'r math o beth y clywsom gyd-Aelod yr Aelod, James Evans, yn ei ddisgrifio mewn cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl yn gynharach, sef yr effaith andwyol sylweddol iawn ar bobl ifanc o ganlyniad i beidio â bod yn yr ysgol. Felly, mae hynny'n dweud wrthym, o'r hyn a ddeallwn ar hyn o bryd, fod cydbwysedd y niwed yn cefnogi'r polisi cyfredol.

15:20

Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ofyn gan Joyce Watson, ac i'w ateb gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Joyce Watson.

Diogelwch Menywod

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus? TQ568

Diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn. Ddoe, gwneuthum ddatganiad ar ddiogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus. Yng Nghymru, rydym yn datblygu ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd, yn y gweithle ac yn y cartref, er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

Diolch, Weinidog, a diolch, Lywydd, am dderbyn fy nghwestiwn. Fel y gwnaethoch nodi yn eich datganiad ysgrifenedig ddoe, Weinidog, mae'n destun tristwch fod yn rhaid i chi gyhoeddi datganiad arall am fod merch ifanc arall wedi colli ei bywyd. Ei henw yw Sabina Nessa, ac mae'n rhaid i bob un ohonom gofio a dweud ei henw.

Nid yw menywod a merched yn teimlo'n ddiogel mewn mannau cyhoeddus. Mae aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn aml yn cael ei alw'n epidemig, ond nid yw'n newydd. Fe wyddoch gystal ag unrhyw un, Weinidog, ei fod yn endemig yn ein cymdeithas. Yr hyn sydd wedi newid, serch hynny, yw'r ffordd y gall menywod a merched, drwy'r cyfryngau cymdeithasol a gwefannau, droi eu galar a'u dicter yn wrthwynebiad torfol, ac mae ymgyrchoedd fel y Rhuban Gwyn, Everyone's Invited ac Our Streets Now yn gwneud gwaith rhagorol yn codi ymwybyddiaeth ac yn lobïo dros ddiwygio diwylliannol.

Rwy'n croesawu eich ymrwymiad i gryfhau strategaeth trais yn erbyn menywod Cymru i gynnwys ffocws ar fannau cyhoeddus a gweithleoedd. Ond hefyd mae angen i Lywodraeth y DU wneud aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn drosedd benodol, ac fe geisiodd Harriet Harman wneud hyn gyda Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd sydd bellach yn mynd drwy dŷ'r Arglwyddi. A gaf fi annog Llywodraeth Cymru i roi pwysau ar San Steffan yng nghyswllt hynny?

Ond o ran yr hyn y gallwn ei wneud yn awr yng Nghymru, fe ddywedoch chi yn eich datganiad:

'Nid lle menywod yw addasu eu hymddygiad, ond lle'r rhai sy’n cam-drin.'

Ac mae hynny'n hollol wir. Ond mae angen i ninnau wneud i fenywod a merched deimlo'n ddiogel yn gyhoeddus, yn enwedig gyda bywyd nos yn ailagor a myfyrwyr yn dychwelyd i'r brifysgol. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i argymell y fenter mannau diogel, sef rhwydwaith o leoliadau a chymorth sy'n rhoi lloches i unrhyw un sy'n teimlo dan fygythiad, mewn perygl neu'n ofnus? Mae ar waith yng Nghaerdydd yn awr, a gall pobl lawrlwytho'r ap mannau diogel i ddod o hyd i'r drws agored agosaf ar eu ffordd adref. Gwn fod gwestai yn Abertawe a mannau eraill hefyd wedi mabwysiadu cynlluniau tebyg. Mae'n sicr yn rhywbeth y dylem geisio'i ehangu yng Nghymru, a byddwn yn ddiolchgar iawn am gymorth Llywodraeth Cymru i wneud hynny. Heddiw, ysgrifennais at Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd i ofyn a allwn ni yma ddefnyddio a chynnig man diogel i gadw pobl yn ddiogel ym Mae Caerdydd. Roeddwn yn falch iawn o glywed fy mod wedi cael ymateb cadarnhaol. Galwaf ar bawb yma yn yr adeilad hwn i gefnogi’r cais hwnnw, ac nid wyf yn disgwyl i unrhyw un beidio â gwneud hynny. Diolch.

15:25

Wel, a gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ofyn y cwestiwn hwn y prynhawn yma, yn dilyn fy natganiad ddoe, ac yn wir, am ei hymrwymiad hirdymor, hirsefydlog i ymladd trais yn erbyn menywod, ymhell cyn iddi gael ei hethol i’r Senedd hyd yn oed? Ac i Aelodau newydd, mae yna adeg bwysig iawn i ddod, gyda'r Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod a Phlant. Mae pob plaid yn cymryd rhan, a chawn weld beth y gallwn ei wneud eleni, ond mae'n bwysig iawn, a bydd pobl o amgylch y Siambr yn dechrau gwisgo'r rhubanau gwyn.

A gaf fi ddweud hefyd fod hyn yn newyddion da iawn, fod y fenter mannau diogel—y gallai'r Senedd, gobeithio, ddod yn un ohonynt? Bydd y Comisiwn, rwy'n siŵr, yn ystyried hynny'n ofalus iawn. Ac rwy’n llongyfarch yn arbennig y busnesau yng Nghaerdydd a ddechreuodd y fenter mannau diogel hon—y busnesau hynny, FOR Cardiff—gan gydnabod mai partneriaid yw'r rhain oll—y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector—sy’n dod ynghyd i fynd i’r afael â’r pla hwn, y trais endemig yn erbyn menywod.

Felly, hoffwn roi sicrwydd i'r Senedd heddiw y bydd ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol nesaf yn mynd i'r afael ag elfennau ehangach o hyn, sef trais yn erbyn menywod mewn mannau cyhoeddus ac yn y gweithle. Rydym bob amser wedi nodi ein huchelgais fel Llywodraeth Cymru i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Mae'n broblem gymdeithasol, fel y dywedais yn fy natganiad, sy'n galw am ymateb cymdeithasol, ac mae'n ymwneud â herio agweddau a newid ymddygiad y rheini sy'n cam-drin. Ac mae hyn yn hollbwysig, ond hefyd, fel y dywedais yn fy natganiad, ni fydd Cymru'n anwybyddu camdriniaeth. Ond rwy'n falch fod comisiynwyr heddlu a throseddu, y byrddau diogelwch cyhoeddus, oll yn dod ynghyd. Rydym yn ymgynghori ar ein strategaeth ddrafft, a gwn y bydd ymgyrchoedd Byw Heb Ofn yn mynd i'r afael â'r broblem enfawr hon o ran ymwybyddiaeth o stelcio, aflonyddu, cam-drin a thrais yn erbyn menywod ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys ar y stryd ac mewn mannau cyhoeddus eraill.

A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am godi'r mater hwn inni allu siarad amdano yn y Senedd? Ac wrth gwrs, codais fater yr angen i gryfhau’r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y Senedd ddoe yng ngoleuni llofruddiaeth erchyll Sabina Nessa. Ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi cyhoeddi datganiad yn ddiweddarach brynhawn ddoe yn nodi bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i gryfhau'r strategaeth i gynnwys ffocws hollbwysig ar drais yn erbyn menywod mewn mannau cyhoeddus yn ogystal â'r cartref.

Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau cymorth arbenigol a hanfodol bwysig y strategaeth yn cael eu hariannu drwy glytwaith o gomisiynau a grantiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn ogystal â photiau arian elusennol, yn aml gyda chontractau byr. Mae gwasanaethau arbenigol yn nodi bod lefelau a phrosesau cyllido'n parhau i fod yn wahanol yn ôl gwahanol awdurdodau lleol, byrddau iechyd, comisiynwyr heddlu a throseddu. A gaf fi ofyn am ymrwymiad felly i weithredu model cyllido cynaliadwy, gyda ffocws ar atal ac ymyrraeth gynnar, a gofyn sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau ei bod yn cyflawni'r diben hwn ac yn goruchwylio'r cyllid hwnnw ar lefel genedlaethol a lleol, yn unol â'r galwadau, sy'n cael eu llywio gan brofiadau gwasanaethau arbenigol? Diolch.

Diolch yn fawr, Sioned Williams, ac fe'ch clywais yn codi'r cwestiwn ddoe yn y Senedd, yn y datganiad busnes. A diolch am godi'r mater hollbwysig hwnnw ynglŷn ag ymyrraeth gynnar, atal a rôl y sefydliadau arbenigol, sy'n rhoi cryn dipyn o gymorth inni ddatblygu'r strategaeth bum mlynedd nesaf. Mewn gwirionedd, cawsom fenter strategaeth gyllido, a gadeiriwyd gan Yasmin Khan, un o'n cynghorwyr cenedlaethol, i ddod â'r gwasanaethau arbenigol ynghyd, ac yn wir, pawb sy'n ariannu'r gwasanaethau arbenigol hefyd, ac i symud ymlaen fel bod gennym ddull cenedlaethol mwy cydlynol o gyllido, a fydd, wrth gwrs, yn cynnwys partneriaethau rhanbarthol ac ar lefel leol hefyd, er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau arbenigol yn cael eu hariannu'n llawn yng Nghymru.

15:30

Rwy'n ddiolchgar iawn am gael fy ngalw, ac rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, am godi'r mater hwn. Ond mae'n peri tristwch fod yn rhaid inni siarad am y materion hyn, er yn iawn ein bod yn gwneud hynny, o ystyried y digwyddiadau diweddar. Nid wyf am ailadrodd yr hyn y mae cyd-Aelodau wedi'i ddweud heddiw, ond Weinidog, rwyf am fod yn gwbl onest ac yn gwbl glir yma: lle dynion yw newid eu hymddygiad, a lle dynion yw annog dynion eraill i newid eu hymddygiad. Weinidog, fe sonioch chi am y diwrnod rhyngwladol sydd i ddod, a Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd, a byddaf yn annog yr holl Aelodau o'r Senedd, holl Weinidogion y Llywodraeth, a chydweithwyr sy'n gweithio yn yr adeilad hwn, a dynion y tu allan i'r adeilad hwn, fod yn rhaid i bob un ohonom wneud addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel ynglŷn â thrais dynion yn erbyn menywod. Weinidog, a wnewch chi ddefnyddio eich statws o fewn Llywodraeth Cymru i barhau i ledaenu'r neges mai lle dynion yw newid eu hymddygiad? Diolch.

Diolch yn fawr, Jack Sargeant. Rhaid mai dyna'r ymateb mwyaf pwerus i gwestiwn gwreiddiol Joyce, gan Jack Sargeant. Mae'n siarad nid yn unig am 25 Tachwedd, am Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, ond drwy gydol y flwyddyn, fel llysgennad Rhuban Gwyn, am drais dynion, am gamddefnyddio pŵer dynion dros fenywod. A'r ffaith bod trais yn erbyn menywod yn amlwg yn dal i fod yn endemig iawn yn y cartref, ond yn y gymuned, mewn mannau cyhoeddus, yn y gweithle, a wynebu hyn fel mater y teimlwn yn awr y byddwn yn mynd i'r afael ag ef drwy ein cwricwlwm newydd, o ran y cyfrifoldebau a'r cyfleoedd i edrych ar hyn yn ein haddysg, gan addysgu bechgyn yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ymhlith merched. Mae'n rhaid i hyn ymwneud â chodi mater anghydraddoldeb yn ogystal â materion diogelwch a wynebir gan fenywod a merched, a rhoi diwedd ar bob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r cyntaf o'r rheini gan Rhys ab Owen.

Diolch yn fawr, Lywydd. Fel bachgen ifanc, cododd yr enw Betty Campbell sawl gwaith mewn sgyrsiau gartref. Roedd hi yn yr ysgol gyda fy modryb, a thrwy addysg a gwleidyddiaeth leol yng Nghaerdydd daeth yn ffrindiau da gyda fy nhad. Roeddwn bob amser yn edmygu Betty. Yn ifanc, ni wyddwn ddim am ei chyflawniadau—daeth hynny'n ddiweddarach. Ond hyd yn oed fel person ifanc, cefais brofiad o'r cymeriad anhygoel yma gyda'r fflach wrthryfelgar a'i throadau ymadrodd gwych—a gallai dynnu rhywun oddi ar eu pedestal yn gyflym iawn.

Hi oedd y cynghorydd annibynnol yn Butetown adeg sefydlu'r lle hwn, a hoffwn sôn am ddwy stori o'r achlysur hwnnw y credaf eu bod yn crynhoi ei phersonoliaeth yn berffaith. Roedd bws wedi'i drefnu i gludo'r bobl bwysig yn ôl o Dŷ Hywel at eu ceir. Perswadiodd fy nhad Betty i ddod ar y bws, a pherswadiwyd y gyrrwr bws gan Betty i fynd rownd ffordd arall heibio i ystâd Butetown, i fynd â hi adref. Felly, aeth y bws ar daith i Butetown, a dyna lle'r arhosodd y bws, y tu allan i'w thŷ am oesoedd, wrth iddi orffen siarad â phawb ar y bws. Roedd hi'n byw wrth galon y gymuned a wasanaethai. Ac yna tua'r un pryd, cofiaf fod mewn cinio i nodi'r achlysur, ac roedd hi'n eistedd wrth ymyl un o swyddogion y Frenhines, ac roeddent yn cyd-dynnu'n dda iawn—gallai gyd-dynnu â phawb. Ond ar ôl ychydig, gofynnodd iddo, 'Wel, beth ydych chi'n ei wneud?', a daeth rhyw deitl mawreddog yn ôl. Yn gyflym, gofynnodd Betty, 'Wel, sut mae cael y swydd honno? Ni sylwais arni'n cael ei hysbysebu.' Chwarddodd yntau lawn cymaint ag y gwnaeth pawb arall.

Mae'r heriau y llwyddodd i'w goresgyn yn hysbys iawn: mae'r ffaith mai hi oedd un o'r chwe disgybl cyntaf yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Caerdydd, a ddaeth yn Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn ddiweddarach, yn anhygoel; y pennaeth du cyntaf yng Nghymru yn y 1970au; ac ysbrydoliaeth i filoedd ar filoedd. Clywais Betty'n dweud sawl gwaith ei bod yn falch o fod yn ddu ac yn falch o fod yn Gymraes—âi'r ddau beth law yn llaw, roeddent yn mynd law yn llaw i Betty.

Rwy'n ddiolchgar i dîm Monumental Welsh Women am sicrhau mai cerflun Betty Campbell yw'r cyntaf o lawer o gerfluniau a fydd yn ymddangos i goffáu menywod yng Nghymru. Ond os caf ddweud, nid oes neb yn fwy addas i fod yn gyntaf na Betty? Diolch yn fawr.

15:35

Ac mae'n debyg nad oes neb yn fwy addas i dreulio dau funud, 29 eiliad o ddatganiad 90 eiliad arni. [Chwerthin.]

Bydd Clwb Llenyddol Casnewydd a Gwent yn dechrau ar eu tymor jiwbilî yn 75 oed pan fyddant yn cyfarfod heno. Mae'r clwb wedi bod yn cyfarfod yn fisol am ginio a sgwrs ar thema lenyddol rhwng mis Medi a mis Mai bron yn ddi-dor ers ychydig ar ôl yr ail ryfel byd. Er i'r pandemig darfu rhywfaint arnynt, cafwyd llawer o gyfarfodydd ar Zoom.

Cynhaliwyd ei gyfarfod cyntaf yng Ngwesty'r Westgate ar 23 Ebrill 1947, a chredir ei fod yn un o'r clybiau llenyddol hynaf yng Nghymru. Croesawodd Casnewydd a Gwent nifer o ffigurau llenyddol dros y blynyddoedd, gan gynnwys yr awdur blaenllaw, Lady Healey; yr ieithydd, David Crystal; y milwr a'r awdur, Peter Kemp; a'r bardd, awdur a dramodydd, Dannie Abse. Mae'n falch o fod wedi meithrin awduron newydd o Gymru, yn ogystal â dod ag awduron cenedlaethol a rhyngwladol cydnabyddedig o gefndiroedd amrywiol i Gasnewydd, ac mae gan y clwb aelodaeth sy'n tyfu o bob cwr o'r ddinas, y wlad a'r byd. Maent yn ymdrechu i drafod ystod eang o bynciau, gyda sgyrsiau y tymor hwn yn cynnwys 'Crime Cymru', 'Black Writers 1600-1900', a hyd yn oed 'Viking Sagas'.

Mae'n gyflawniad enfawr i grŵp fel hwn barhau i fynd ar ôl 75 mlynedd, ac rwyf am ddiolch i bawb sydd wedi helpu dros y degawdau, gyda diolch arbennig i'r holl bwyllgor presennol, dan arweiniad Dr Alun Isaac, ac i Sue Beardmore, sydd wedi helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb drwy gydol y pandemig. Nid oes terfyn ar eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad, ac fel aelod balch, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddigwyddiadau'r flwyddyn hon, a hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddod i gysylltiad. Mae'r tymor hwn yn addo bod yn flwyddyn ardderchog.

Heddiw yw Diwrnod Calon y Byd ac er mwyn codi ymwybyddiaeth, mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi bod yn cynnal sesiwn galw heibio ar risiau'r Senedd. Roedd yn dda fod cynifer o'r Aelodau'n gallu bod yn bresennol heddiw.

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru hefyd yn lansio ymgyrch newydd ar effaith clefyd y galon ar fenywod. Mae menywod ddwywaith yn fwy tebygol o farw o glefyd coronaidd y galon nag o ganser y fron, ond mae ymwybyddiaeth o'r risg o glefyd y galon i fenywod yn isel tu hwnt. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu bod 50 y cant o fenywod yn fwy tebygol na dynion o gael diagnosis cychwynnol anghywir i drawiad ar y galon. Bob blwyddyn, caiff degau o filoedd o fenywod eu derbyn i ysbytai yma yng Nghymru oherwydd trawiad ar y galon, ac eto canfu Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru nad oedd y rhan fwyaf o'r cyhoedd yng Nghymru yn gwybod bod clefyd y galon yn un o brif achosion marwolaeth i fenywod yng Nghymru.

Mae Llywodraethau'r DU a'r Alban wedi ymrwymo i gynllun clinigol ar gyfer eu cyfryw wledydd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd a wynebir gan fenywod, ac mae'n briodol yn fy marn i fod Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi dewis lansio eu hymgyrch newydd heddiw. Maent yn gobeithio, fel finnau, y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddatganiad cydraddoldeb iechyd menywod a fydd yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a brofir gan fenywod â chlefyd y galon. A byddwn yn gobeithio y byddai datganiad cydraddoldeb o'r fath yn ceisio gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd, diagnosis amserol, triniaeth deg a mynediad teg at wasanaethau adsefydlu cardiaidd i fenywod ledled Cymru. Diolch, Lywydd.

Diolch yn fawr i bawb am yr eitem yna, a felly nawr byddwn ni'n cymryd toriad ar gyfer gwneud newidiadau yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:39. 

15:50

Ailymgynullodd y Senedd am 15:51, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dementia

Croeso nôl. Yr eitem nesaf yw eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv). Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7773 Luke Fletcher, Rhun ap Iorwerth, Paul Davies, Janet Finch-Saunders, Jenny Rathbone, Jack Sargeant, Delyth Jewell, Altaf Hussain, Jane Dodds, Rhys ab Owen, Joel James, Peredur Owen Griffiths, Mabon ap Gwynfor, Sioned Williams, Gareth Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) effaith sylweddol pandemig COVID-19 ar bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru a phobl y mae dementia yn effeithio arnynt;

b) pwysigrwydd gofalwyr di-dâl o ran sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gallu gweithredu yn ystod y pandemig.

2. Yn nodi ymhellach yr angen am ddiagnosis cywir o ddementia i ganiatáu i ofalwyr di-dâl, y systemau iechyd a gofal cymdeithasol a chyrff a darparwyr gwasanaethau eraill gynllunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gywir, fel y nodir yn y cynllun gweithredu cenedlaethol ar ddementia.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ariannu ymchwil i ddatblygu dulliau diagnostig cywir i sicrhau bod pobl sy'n cael diagnosis o ddementia yn gallu cael y cymorth cywir ar unwaith ar ôl cael diagnosis;

b) ariannu cymorth ôl-ddiagnostig ar gyfer pob math o ddementia ledled Cymru;

c) sefydlu arsyllfa ddata dementia genedlaethol i sicrhau cywirdeb mewn data dementia a chasglu, dadansoddi a lledaenu data ar ddementia i bob darparwr gwasanaeth sy'n dymuno cael gafael ar ddata i helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau dementia ledled Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Busnes yn ogystal â chyd-Aelodau ar draws y Senedd am eu cefnogaeth i hwyluso'r ddadl hon. Heddiw, edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl, sy'n amlwg iawn yn fater trawsbleidiol. Cyflwynais y cynnig hwn yn y Senedd gan gofio am ddwy fenyw yn fy nheulu a oedd yn byw gyda dementia tuag at ddiwedd eu hoes: Dorothy Walker, a gofir yn annwyl fel Dot, sef fy hen fam-gu, a Sandra Lewis, fy mam-gu, a fu farw yn gynharach eleni.

Mae dementia yn derm cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio nifer o gyflyrau sy'n effeithio ar yr ymennydd. Y math mwyaf cyfarwydd o ddementia yw clefyd Alzheimer. Fodd bynnag, mae pob cyflwr sy'n gysylltiedig â dementia yn effeithio ar yr unigolyn mewn gwahanol ffyrdd, sy'n golygu y gall anghenion pob claf dementia amrywio o gyflwr i gyflwr yn go eithafol. Cafodd fy mam-gu, Sandra Lewis, ddiagnosis o ddementia cyrff Lewy, amrywiolyn nad yw'n gyfarwydd iawn sydd â chysylltiad agos â chlefyd Alzheimer a chlefyd Parkinson. Mae dementia cyrff Lewy yn golygu bod claf yn cael anhawster gyda symud, canolbwyntio ac effrogarwch, a'i fod yn gweld drychiolaethau. I fy nheulu, roedd gwybod a chael y diagnosis cywir yn hollbwysig, o ystyried y gofal penodol yr oedd ei angen arni. Fodd bynnag, mae hyn yn haws ei ddweud na'i wneud, ac am beth amser, roedd yna ansicrwydd ynglŷn â'r hyn yr oedd fy mam-gu yn byw gydag ef. Dim ond lleygwr ydw i mewn materion meddygol, ac mewn gwirionedd mae'n debyg fod galw fy hun yn lleygwr ychydig yn rhy garedig, ond mae cyrraedd cam lle cafwyd sawl diagnosis gwahanol yn dangos i mi fod lle i wella. Yn wir, fe gafwyd sawl diagnosis, yn amrywio o glefyd Alzheimer i broblemau'n ymwneud â chalsiwm a'r thyroid, ac yn y cyfamser, nid oedd fy mam-gu'n cael y gofal yr oedd ei angen arni ac roedd ansawdd ei bywyd yn dirywio'n gyflym. 

Mae ffigurau a ddarparwyd gan Gymdeithas Alzheimer yn nodi bod y gyfradd ddiagnosis bresennol ar gyfer dementia oddeutu 50 y cant. Gyda'r gyfradd ddiagnosis hon, gwyddom am oddeutu 25,000 o bobl sy'n byw gyda dementia, er yr amheuir bod y ffigur go iawn yn agosach at 50,000 o bobl, sy'n golygu bod hanner y bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru yn mynd heb y cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn ddirfawr. Os edrychwch ar gyflwr fy mam-gu, tua 5 y cant o gleifion sy'n cael diagnosis o ddementia cyrff Lewy, ond unwaith eto, amcangyfrifir bod y ffigur yn nes at 20 y cant. 

Fel y nododd llawer o elusennau dementia yn gywir, bydd ymchwil yn curo dementia. Yng Nghymru, nid yw ond yn deg cydnabod y gwaith y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud yn y maes. Ar y pwynt hwn, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei gwaith ar y mater. Rwy'n ei olygu'n ddiffuant pan ddywedaf hyn: o'n cyfarfodydd gyda'n gilydd, gallaf weld yr ysgogiad personol sydd gennych i fynd i'r afael â'r broblem ac rwy'n hynod ddiolchgar. Gwelsom gynnig sganiau PET yng Nghymru, sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi arwain at ddiagnosis mwy cywir ac amserol, ac mae'r cynllun gweithredu ar ddementia yn darparu y dylai'r Llywodraeth ymateb ac ariannu gwasanaethau pan fo angen.

Ond mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar hyn yn awr, ac fe allwn adeiladu arno drwy greu arsyllfa ddementia genedlaethol, sy'n debyg o ran ei chwmpas i'r un a sefydlwyd eisoes gan Sefydliad Iechyd y Byd. Fel y gŵyr yr Aelodau eisoes, fy mhrif ffocws fel aelod o Blaid Cymru yw'r economi, ac yn yr economi, mewn ffordd debyg i iechyd, mae data'n hollbwysig. Bydd sefydlu arsyllfa yn ein galluogi i ledaenu a dadansoddi data sy'n ymwneud â dementia a fydd yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau, ac fe allai ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen mewn perthynas â'r cynllun gweithredu ar ddementia a fyddai'n ei gadw'n gynllun sy'n esblygu'n barhaus yn seiliedig ar ein data diweddaraf.

Fel y gwnes i gyfeirio ato yn barod, mae anghenion gofal yn amrywio'n sylweddol o gyflwr i gyflwr. Gallant fod yn gorfforol neu'n feddyliol. Felly, mae diagnosis cywir yn golygu y gall y rhai sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr ddarparu'r gofal sydd ei angen arnynt. Mae rhan bwysig o'r gofal hwn yn ymwneud ag iaith. Gall y rhai sy'n byw gyda dementia anghofio siarad ail iaith, felly gall siaradwyr Cymraeg, er enghraifft, anghofio sut i siarad Saesneg. Pan  soniwyd am ansawdd bywyd, does dim byd mwy sylfaenol i fywyd na'r gallu i gyfathrebu. Mae'n bwysig nad ydym yn anghofio hyn wrth symud ymlaen, a'r pwysigrwydd o gael diagnosis cywir er mwyn creu cynllun gofal personol.

Wrth i bawb ohonom dyfu'n hŷn a byw'n hirach, bydd nifer yr achosion o ddementia'n cynyddu, felly mae hwn yn fater y mae angen inni fynd i'r afael ag ef yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mae gennym ffordd bell i fynd cyn i wasanaethau dementia gyrraedd lle mae angen iddynt fod, ond rwy'n gobeithio y gall fy nghynnig fynd beth o'r ffordd i helpu'r Llywodraeth gyrraedd yno. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig.

15:55

Dwi'n falch o gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma, a dwi'n ddiolchgar i Luke Fletcher am arwain y drafodaeth. Dwi'n falch o ymuno ag Aelodau o bob rhan o'r Siambr i alw ar Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia yn well. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod tua 1,300 o bobl yn byw gyda dementia ym Mhreseli Sir Benfro, a thra bod y bobl hynny yn byw yn y gymuned, mae llawer ohonynt yn teimlo eu bod nhw ddim yn rhan ohoni. Dyw llawer o bobl ddim yn ddigon hyderus i adael eu cartrefi ac ymgysylltu yn eu hardal leol, felly mae yna broblem wirioneddol gyda ni, a dyna pam mae'n hynod o bwysig bod Llywodraethau ar bob lefel a chymunedau lleol yn ymgysylltu'n well â'r rhai sy'n byw gyda dementia.

Yn wir, fel cymdeithas, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i helpu i greu cymuned lle mae'r gwasanaethau presennol yn fwy cynhwysol o bobl â dementia. Yn fy etholaeth i, mae caffis cof neu memory cafes mewn lleoedd fel Aberdaugleddau ac Abergwaun, sy'n darparu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol lle gall pobl gwrdd, siarad a dysgu mwy am ddementia a chael gwybodaeth am ba gefnogaeth sydd ar gael. Dyma'r math o fenter y mae'n rhaid i ni ei hyrwyddo a'i hannog ledled Cymru. Mae'n hanfodol bod Llywodraethau ar bob lefel yn grymuso gweithredu cymunedol ac yn cydweithio'n well i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddementia yn ein cymunedau trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth ym mhob siop a busnes, fel y gall staff a gwirfoddolwyr ddeall dementia yn well. Bydd hyn yn sicr yn helpu cwsmeriaid sy'n byw gyda dementia i deimlo'n fwy hyderus pan fyddan nhw allan yn y gymuned.

Dwi'n siŵr bod Aelodau'n gyfarwydd â'r fenter cymunedau sy'n gyfeillgar i ddementia, neu dementia-friendly communities, sy'n anelu at greu cymunedau ledled y Deyrnas Unedig sy'n fwy cyfforddus i bobl sydd yn byw gyda dementia, ac yn fwy hygyrch i bobl sy'n byw gyda dementia. Gall hyn fod yn unrhyw beth o fod yn fwy amyneddgar gyda chwsmer yn talu wrth y til mewn siop i gyfathrebu'n gliriach dros y ffôn. Mae'r cyfan yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i bobl sy'n byw gyda dementia. Dwi'n falch iawn o weld lleoedd fel Hwlffordd a Solfach wedi eu cofrestru fel cymunedau cyfeillgar i ddementia, ac mae hefyd yn galonogol gweld sefydliadau fel heddlu Dyfed-Powys a gwasanaeth tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru hefyd yn cael eu cofrestru fel hyrwyddwyr sy'n gyfeillgar i ddementia.

Dwi'n ymwybodol o drafodaethau blaenorol bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol i'r fenter cymunedau sy'n gyfeillgar i ddementia. Ond efallai mewn ymateb i'r ddadl hon, gall y Dirprwy Weinidog ein diweddaru ni ar ba ganlyniadau a gyflawnwyd ers i Lywodraeth Cymru addo ei chefnogaeth i'r ymgyrch yma. Dwi'n gwerthfawrogi nad oes dull un-ateb-i-bawb o fynd i'r afael â dementia, gan bod pobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu heffeithio mewn gwahanol ffyrdd, a hefyd efallai na fydd yr hyn sy'n gweithio mewn lleoliadau trefol o reidrwydd yn gweithio mewn ardaloedd mwy gwledig.

Rŷn ni'n gwybod bod heriau wrth ddarparu cefnogaeth a gofal priodol i'r rhai sy'n byw gyda dementia, yn enwedig yn y cymunedau gwledig rwy'n eu cynrychioli. Fe welon ni adroddiad ar brofiadau byw pobl gyda dementia yn cael ei gyhoeddi yn ôl yn 2017, a oedd yn dweud bod heriau penodol mewn perthynas â thrafnidiaeth, ymwybyddiaeth gyffredinol o ddementia, a mynediad at gefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, rwy'n methu â gweld unrhyw gamau penodol sydd wedi cael eu cymryd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn, ac efallai, unwaith eto, y bydd y Dirprwy Weinidog yn bachu ar y cyfle heddiw i nodi pa gefnogaeth sy’n cael ei darparu i bobl sy'n byw gyda dementia mewn ardaloedd gwledig, a hefyd y rhai sydd eisiau cyrchu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Nawr, mae yna heriau hefyd sy'n wynebu gofalwyr pobl â dementia. Rŷn ni'n gwybod ei fod yn cael effaith ddinistriol ar fywyd teuluol a pherthnasoedd personol, ac i rai gofalwyr, gall byw gyda rhywun â dementia fod yn arbennig o anodd, ac yn anffodus arwain at broblemau gyda phryder ac iselder. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru i helpu pobl i gael bywyd ochr yn ochr â gofalu, a oedd yn edrych ar seibiannau byr a gofal seibiant. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog roi ei hasesiad o'r darn hwnnw o waith, a sut mae'r gwaith hwnnw wedi llunio cynllun cyflawni'r grŵp cynghori gweinidogol ar ofalwyr. Mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi nawr yn yr hydref.

Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, mae yna rai enghreifftiau gwych o fentrau lleol sydd wedi'u sefydlu gan lawer o grwpiau i gefnogi ac i wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru, ac mae angen rhannu'r arfer gorau hynny. Felly, rwy’n annog Aelodau nawr i gefnogi’r cynnig yma y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn i chi.

16:00

Hoffwn ddiolch i Luke Fletcher am gynnig y ddadl hon, ac mae lefel y diddordeb yn dangos ein bod ni i gyd yn ymwybodol o ba mor bwysig yw'r pwnc hwn. Rydym yn wynebu epidemig o ddementia—nid fy asesiad i yw hynny, ond asesiad arbenigwr blaenllaw ym maes meddygaeth pobl hŷn. Mae angen inni wneud ymchwil fel mater o frys i'r cysylltiad rhwng llygredd aer a dementia. Mae angen inni ddeall—. Gwyddom fod clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn cael ei achosi gan lygredd aer, ond beth am effaith anadlu gronynnau i'r llif gwaed, sy'n cyrraedd yr ymennydd yn y pen draw? Yr wythnos diwethaf, siaradodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant am ein hamgylchedd gordewogenig, a'r gormodedd o hysbysebion bwyd sothach, sy'n golygu nad yw pobl yn bwyta digon o'r pethau sy'n rhoi maeth i'w hymennydd, a gormod o'r pethau sy'n tagu eu rhydwelïau.

Yn ystod y cyfnod clo, gwelsom effaith enfawr ar bobl â dementia, ond yn enwedig y rhai sy'n gofalu am bobl â dementia, oherwydd mae'r holl wasanaethau cymorth arferol a oedd ar gael yn flaenorol wedi chwalu, yn y rhan fwyaf o achosion. Cadarnhawyd hyn gan ymchwil a wnaed yng Nghymru yn ogystal ag mewn rhannau eraill o Ewrop. Mae hwn wedi bod yn gyfnod ofnadwy iawn, ac wrth gwrs mae wedi achosi straen i bobl â dementia a'u gofalwyr. Rwy'n ymwybodol fod Cyngor Abertawe, ers i'r pandemig ddechrau, wedi gorfod diddymu dau wasanaeth gofal a chymorth dementia allweddol, nyrsys Admiral a'r tîm cymorth gwasanaethau dementia. Felly, mae bwlch sylweddol bellach yn y ddarpariaeth ar gyfer gofalwyr a'r rhai sy'n byw gyda dementia. Mae gofalwyr yn adrodd am effaith y prinder staff gofal cartref difrifol yn y maes, sy'n golygu bod eu pecynnau gofal hefyd yn cael eu lleihau neu eu diddymu'n llwyr. Felly, mae teuluoedd yn gorfod dibynnu ar aelodau eraill o'r teulu, neu gymdogion, i gael unrhyw fath o seibiant o gwbl, ac mae hyn yn wirioneddol ddifrifol.

Ynghanol y storm berffaith hon, cefais siom o glywed bod y Gymdeithas Alzheimer wedi penderfynu, fis diwethaf, na fyddent yn ailagor y ganolfan gofal dydd yn Oldwell Court yn fy etholaeth i, canolfan a oedd wedi bod ar gau ers dechrau'r pandemig. Roedd hyn yn amseru ofnadwy, i'r gofalwyr ac i'r bobl a arferai fwynhau mynd yno. Ni chafwyd cyfle i drafod beth yw'r opsiynau eraill, ac yn wir, ar hyn o bryd nid oes unrhyw opsiynau eraill. Mae'r ddarpariaeth yng Nghaerdydd, ar hyn o bryd, wedi'i chyfyngu i un ganolfan gofal dydd, yr asesir ei bod yn ddiogel i gymryd saith defnyddiwr gwasanaeth ar unrhyw ddiwrnod penodol. Mae hynny ar gyfer Caerdydd gyfan, a'r lle mae pobl sydd â'r problemau mwyaf difrifol yn mynd iddo—y rhai sy'n crwydro, y rhai sy'n mynd yn dreisgar o bryd i'w gilydd oherwydd eu bod mor ddryslyd—mae hwnnw ar gau oherwydd bod asbestos yn yr adeilad. Mae'n anhygoel. Mae hyn mor ofnadwy, ac mae'r baich ar ofalwyr a'r diflastod a'r diffyg ysgogiad, yn enwedig i'r rhai sydd â'r dryswch mwyaf dwys, yn ofnadwy iawn. Nid iaith yn unig sydd mor bwysig i ddal gafael arni, mae bwyd hefyd yn eithriadol o bwysig. Pan ymwelais â chanolfan ddydd Minehead yn Llanrhymni yn ddiweddar, roedd cogydd gwych yno. Roedd y defnyddwyr gwasanaeth yn ysgrifennu llythyrau'n gwerthfawrogi'r bwyd cartref gwych roeddent yn ei gael. Felly, mae hynny'n wych hefyd, ond mae cerddoriaeth hefyd yn rhan mor bwysig o'r hyn nad yw pobl yn ei golli. Pam nad yw'n bosibl gwneud sesiynau cerddoriaeth dros y ffôn, dros fideo, hyd yn oed os na all gwasanaethau wyneb yn wyneb ddychwelyd eto?

Ond a dweud y gwir, yn y tymor hir, mae arnom angen gwasanaethau sy'n deall dementia yn ein holl weithgareddau cymunedol, yn yr hybiau cymunedol sydd gennym yng Nghaerdydd, a hefyd ein clybiau garddio, ein clybiau bowlio, ein clybiau dartiau—mae angen i'r holl bethau eraill y mae pobl hŷn yn mwynhau eu gwneud fod ar gael i bobl â dementia, oherwydd rydym yn sôn am sbectrwm enfawr o ran angen. I rai pobl, mae'n amhosibl cymryd unrhyw ran mewn gweithgareddau cyffredin ond i eraill, mae'n gwbl bosibl cyn belled â'n bod yn ymwybodol o'r anghenion penodol sydd ganddynt a sut y gallent fynd yn ddryslyd o bryd i'w gilydd, a sut y gallwn leddfu hynny. Felly, mae llawer iawn o waith i'w wneud ac mae hon yn ddadl hynod o bwysig. 

16:05

Diolch yn fawr i Luke am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron heddiw, a dwi'n falch iawn o gael cymryd rhan ynddi hi. 

Mae dementia yn glefyd creulon sy'n cael effaith enfawr ar filoedd o deuluoedd ledled Cymru. Gwn am ei effaith ddinistriol ar fy nheulu fy hun oherwydd roedd dementia ar fy hen fodryb. Byddwn yn clywed llawer o straeon personol a phwerus yn cael eu rhannu yn ystod y ddadl hon, felly i ategu hynny, roeddwn am ganolbwyntio ar yr hyn a oedd gan sefydliadau'r trydydd sector i'w ddweud am yr hyn y gellid ei wneud i helpu i wella bywydau pobl a lleddfu ergyd dementia.

Mae Cymdeithas Alzheimer Cymru yn amcangyfrif bod tua 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia, a dim ond amcan yw hwn gan mai dim ond 50 y cant yw'r gyfradd ddiagnosis bresennol, fel y clywsom. Disgwylir i'r ffigur hwnnw ddyblu erbyn 2050. Mae cael darlun mor anfanwl o ddementia yng Nghymru yn golygu nad yw llawer o bobl yn cael y cymorth y maent ei angen neu'n ei haeddu. Mae hefyd yn golygu bod llawer sy'n cael cymorth yn ei gael yn hwyrach nag y dylent, gan arwain at ganlyniadau gwaeth i bawb dan sylw.

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod tua 4,000 o bobl yng Nghymru yn aros am asesiad gan y gwasanaeth asesu cof oherwydd ôl-groniad COVID. Yn ogystal â diagnosis gwell a chynharach, mae Cymdeithas Alzheimer Cymru o blaid arsyllfa ddata dementia genedlaethol, fel y clywsom gan Luke yn gynharach, i gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth am ddementia i'r holl asiantaethau a darparwyr gwasanaethau sydd angen data cywir i'w helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau dementia ledled Cymru.

Mae llawer o deuluoedd sydd â phrofiad o ddementia yn gwybod bod baich gofal yn aml yn syrthio arnynt hwy. Gwyddom o'r cyfyngiadau symud cyntaf o ganlyniad i'r coronafeirws fod teulu a ffrindiau wedi treulio 92 miliwn o oriau ychwanegol yn gofalu am anwyliaid â dementia. Ers i'r pandemig ddechrau, amcangyfrifir bod gofalwyr di-dâl wedi darparu gwerth £135 biliwn o ofal ledled y DU. Mae gofalwyr di-dâl wedi cael eu cymryd yn ganiataol, ond ar ba gost iddynt hwy? Ni all hyn barhau. 

Mae'r pandemig wedi dwysáu'r anawsterau presennol i gael gafael ar wasanaethau cymorth priodol, asesiadau gofalwyr a gofal seibiant. Mae'r ffaith bod y system gofal cymdeithasol wedi'i thanariannu ers cyhyd wedi gadael llawer o bobl heb unman i droi. Fe waethygodd symptomau dementia i lawer oherwydd diffyg cymorth arbenigol yn ystod y pandemig. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu'r gwersi o'r pandemig. Amlygodd y pandemig y diffygion yn y system, ac mae'n hollbwysig fod y rhai sydd â'r cyfrifoldeb a'r pŵer i ailadeiladu'r system mewn sefyllfa well i ymdrin â'r mathau o straen eithafol a welsom dros y 18 mis diwethaf.

Trof yn awr at y system gofal cymdeithasol yng Nghymru—mater rwyf wedi'i godi eisoes yr wythnos hon gyda'r Prif Weinidog, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, oherwydd gweithredoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a reolir gan y Blaid Lafur a'r cynlluniau dinistriol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion anabl. Mae cymaint i'w wella, a hyd nes y gwelwn bolisïau radical yn y maes hwn, bydd cleifion, eu teuluoedd a'r staff sy'n gweithio yn y sector hwn yn parhau i ddioddef. Dylai'r newid radical hwnnw fod ar ffurf uno gofal cymdeithasol a gofal iechyd. Rydym wedi bod yn galw am hyn ers bron i ddegawd, ac eto nid yw i'w weld damaid yn nes. Pe bai gofal yn rhad ac am ddim lle mae ei angen a phe bai newid diwylliant a fyddai'n golygu bod gweithwyr gofal yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi o ran cyflog ac amodau, byddai newid sylweddol i weithwyr yn y sector, a hefyd i'r cleifion sydd angen y gwasanaeth hanfodol hwn. Byddai uno nid yn unig o fudd i'r rhai â dementia, ond i bawb sydd angen gofal cymdeithasol. Rwy'n annog y Llywodraeth i wneud yr hyn sy'n iawn i bobl Cymru. Diolch.

16:10

Hoffwn ddatgan buddiant, gan fy mod yn gadeirydd Brynawel Rehab Wales. 

Rwy'n falch o fod wedi cefnogi'r cynnig hwn i'w drafod a diolch am fy ngalw i siarad y prynhawn yma. Mae dementia yn glefyd creulon: creulon i'r unigolyn ac i'w teuluoedd. Mae hefyd yn un a fydd yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus i ddiwygio er mwyn diwallu anghenion pobl, lle bydd angen gofal mwy hyblyg o ansawdd gwell wrth i fwy o bobl wynebu'r salwch hwn.

Rydym yn heneiddio. Mae dementia ar gynnydd, ac mae byw bywyd da yn dod yn her fawr—yn her y mae'n rhaid inni ei goresgyn. Mae ein cynnig yn galw'n briodol am yr angen i sicrhau diagnosis cywir o gyflwr rhywun a sicrhau bod y pecyn cymorth cywir ar gael yn gyflym. Mae'n rhaid inni gydnabod hefyd fod gan oddeutu un o bob 10 o bobl â dementia ryw fath o niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol—a elwir yn ARBD—yn enwedig mewn pobl iau o dan 65 oed, lle mae ARBD yn effeithio ar tua un o bob wyth o bobl. Gellir ei wrthdroi a cheir gwell prognosis os ceir diagnosis cynnar.

Mae cynllun gweithredu Cymru ar gyfer dementia yn dod i ben y flwyddyn nesaf, ac er fy mod yn croesawu llawer o'r teimladau a'r ymrwymiadau hyd yma, mae angen inni fod yn fwy uchelgeisiol er mwyn gallu sicrhau bywyd o ansawdd da i bobl â dementia. Oherwydd y camau gweithredu sydd wedi'u cynnwys ynddo, roedd y cynllun yn dweud y byddai mwy o bobl yn cael diagnosis cynharach gan eu galluogi i gynllunio a chael gafael ar gymorth a gofal cynnar pe bai angen. Edrychaf ymlaen at weld y Gweinidog yn amlinellu sut y mae'r cynllun hwn wedi gweithio i unigolion a pha dystiolaeth sy'n dangos bod mwy o bobl wedi cael diagnosis yn gynharach.

Pan gaiff pobl ddiagnosis, mae rhai'n ofni'r hyn y gallai ei olygu iddynt hwy. Mae llawer o bobl eisiau gofal gartref, yn agos at eu teuluoedd a'u cymdogion, gan barhau i fod yn rhan o'r gymuned. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei werthfawrogi, ac i bobl hŷn â dementia, ni allwn fyth danbrisio pwysigrwydd teulu a phwysigrwydd bod yn gyfarwydd â'r hyn sydd o'n cwmpas a'n hardal leol. Yn anffodus, mae llawer o bobl yn gorfod mynd i gartref gofal yn y pen draw, nid am na ellir ymateb i'w cyflwr yn eu cartrefi eu hunain, ond oherwydd problemau cyllid. I rai pobl, nid yw'n ymwneud â'r hyn sydd orau iddynt hwy, ond yn hytrach yr hyn sydd orau i'r wladwriaeth a chyfleustra pobl eraill. Mae hynny'n peri tristwch imi ac mae angen inni feddwl yn fwy creadigol ynglŷn â helpu pobl i aros gartref am fwy o amser.

Mae ein sector gofal yn ei chael hi'n anodd, ac mae'r pandemig wedi amlygu gwendidau yn ein gallu i gynnal sector o ansawdd uchel. Mae'r Prif Weinidog wedi ymgyrchu'n flaenorol ar bolisi o symud darpariaeth gofal tuag at y sector dielw, er mwyn rhyddhau mwy o fuddsoddiad. Mae hyn yn synhwyrol, ond mae angen inni feddwl am ba fathau o gartrefi a adeiladwn, sut y cânt eu cynllunio, eu lleoli a'u cysylltu.

Mae hefyd yn ymwneud â'r gwasanaeth a ddarparwn, y bywydau a'r profiadau dyddiol y gallwn eu cefnogi. Mae cynllun y Llywodraeth yn sôn yn briodol am ddatblygu cysylltiadau rhwng cartrefi a'r gymuned, ond mae angen inni oedi ac ailfeddwl sut y dylai'r cartrefi hyn edrych yn y dyfodol, a'r amgylchedd y maent yn ei ddarparu. Mae hefyd yn ymwneud â'r ffordd y gall teuluoedd barhau i fod yn rhan o ofal a bywydau eu hanwyliaid. 

Hoffwn weld gwasanaethau'n cael eu hintegreiddio yn gyflymach, gan gynnwys partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Yn y bôn, fodd bynnag, mae angen inni weithio drwy'r ffordd yr ydym yn adeiladu capasiti mewn gofal i ymateb i'r cynnydd tebygol yn y rhai a fydd yn byw gyda dementia pan fyddant yn hŷn. Mae angen inni ddysgu gan bobl a'u teuluoedd am y mathau o bethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth iddynt hwy, yr hyn sy'n bwysig iddynt hwy yn eu bywydau a sut y gallwn ni, gyda'n gilydd, eu helpu i gael hynny. Hoffwn gael sicrwydd y prynhawn yma y bu rhywfaint o gynnydd ac ymrwymiad i fod yn fwy uchelgeisiol yn y modd yr awn ati i ddarparu gofal a gwasanaethau i bobl â dementia. Diolch.

16:15

Yn amlwg, mae pobl ar draws y Siambr yn uniaethu â'r hyn y mae pobl yn ei ddweud. Rwyf wedi bod yma gyda fy meiro yn rhoi llinell drwy gryn dipyn o'r hyn yr oeddwn am ei ddweud, byddwch yn falch iawn o glywed, Ddirprwy Lywydd. Rwyf innau hefyd eisiau cydnabod bod dementia wedi effeithio'n uniongyrchol ar lawer ohonom yn y Senedd hon. Bu farw fy mam o ddementia a bu farw fy nhad o glefyd Alzheimer. Rwyf eisiau talu teyrnged i bawb a ofalodd am ein teulu i gyd, a fy rhieni, i fyny yng ngogledd Cymru; diolch yn fawr iawn i chi i gyd.

Mae ceisio lleihau nifer yr achosion o ddementia yn hynod o gymhleth. Mae llawer ohonynt heb gael diagnosis, oherwydd yr heriau sy'n ein hwynebu yn sgil COVID ar hyn o bryd, felly rwy'n croesawu'r ddadl hon a gyflwynwyd gennych chi, Luke—diolch—fel cyfle i ailddatgan ein hymrwymiad cyfunol i'r mater pwysig hwn.

Byddwn hefyd yn croesawu eglurhad gan y Dirprwy Weinidog, fel y dywedwyd, ynglŷn ag a fydd y cynllun gweithredu ar gyfer dementia yn cael ei ymestyn y tu hwnt i 2022, ac edrychaf ymlaen at weld hwnnw, fel y dywedwyd, yn fwy uchelgeisiol, o ran gwelliant â ffocws mewn gofal dementia yng Nghymru.

Rwyf hefyd eisiau sôn rhywfaint am ddementia mewn ardaloedd gwledig. Mae cymorth dementia mewn ardaloedd gwledig yn arbennig o heriol.

Diolch yn fawr iawn. Ddydd Llun, ymwelodd Darren Millar a minnau â Gwasanaethau Gofal Croesffyrdd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru yn eu canolfan ddementia newydd yng ngogledd Cymru. Clywsom fod hon yn unigryw yng Nghymru, wedi'i chontractio a'i hariannu drwy fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ond yn cael ei rhedeg ar sail elusennol. Clywsom am eu cynlluniau i greu hyb arferion gorau yng nghanolbarth Cymru, gyda hybiau lloeren yn y dwyrain a'r gorllewin. A wnewch chi ymuno â mi i annog Llywodraeth Cymru i edrych ar hwn fel model arfer gorau?

Diolch, Mark; diolch am yr ymyriad hwnnw. Wrth gwrs, fe wnaf ymuno â chi; unrhyw beth sy'n gwella gwasanaethau ac yn gwella'r modd y darperir gwasanaethau i'r rhai sy'n dioddef o ddementia a'u gofalwyr mewn ardal wledig fel Canolbarth a Gorllewin Cymru—byddwn yn hapus iawn i ymuno â chi ac eraill i gefnogi hynny wrth symud ymlaen.

Mae dementia yn effeithio ar dros 17,000 o bobl yng nghefn gwlad Cymru, ond ceir anawsterau enfawr wrth geisio defnyddio cymorth arbenigol. Mae rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus gwael mewn ardaloedd gwledig yn arwain at ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd i'r rhai yr effeithir arnynt, gan nad ydynt yn gallu gwneud defnydd o'r gwasanaethau arbenigol hynny.

Fel y clywsom hefyd, mae'n bwysig iawn nad ydym yn anghofio am ofalwyr yn rhan o'r ddadl hon hefyd. Mae anawsterau wrth geisio cael gofal seibiant, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig unwaith eto, yn gwneud bywydau gofalwyr yn fwy heriol wrth iddynt frwydro gyda phwysau cyfrifoldebau gofalu a rhwydwaith cymorth sy'n crebachu ar ôl COVID. A gall fod embaras a chywilydd weithiau ynghlwm wrth ddiagnosis neu'r posibilrwydd o ddiagnosis o glefyd Alzheimer a dementia, a gallaf siarad am hynny fel rhywun yr effeithiwyd arni'n bersonol.

Mae'r gwaith y mae ein gofalwyr di-dâl yn ei wneud yn cael ei dangyfrif, ac mae'n bwysig ein bod yn cefnogi eu gwaith yn briodol. Mae fy mhlaid wedi cynnig cynnydd o £1,000 yn y lwfans gofalwr er mwyn sicrhau ein bod yn cydnabod eu cyfraniad, ac rwy'n siŵr fod eraill hefyd eisiau sicrhau bod y cyfraniad hwnnw'n cael ei gydnabod.

Rwy'n gorffen unwaith eto drwy ddiolch i Luke—diolch yn fawr iawn ichi—am gyflwyno'r ddadl hon ac rwy'n gobeithio y gallwn i gyd weithio ar draws y pleidiau i sicrhau urddas i'r rhai rydym yn eu caru, i'w gofalwyr, a gwerthfawrogiad parhaus a'r gwobrau a'r gydnabyddiaeth gywir i'r staff sy'n edrych ar eu holau mor fedrus. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Rwy'n falch o gael y cyfle i gyfrannu i’r ddadl heddiw, ac rwy’n diolch i’m cyd-Aelod Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Luke Fletcher, am godi’r mater pwysig hwn am yr angen i ddatblygu a gwella dulliau diagnostig ac ariannu cymorth er mwyn cefnogi’r degau o filoedd o bobl yng Nghymru sydd wedi’i heffeithio gan bob math o ddementia. Rwy’n dweud degau o filoedd, achos fel rŷn ni wedi clywed, yn hytrach na ffigur pendant, y gwir yw dŷn ni ddim yn siŵr o’r union nifer. Yn ôl Cymdeithas Alzheimer's Cymru, mae hanner yr 50,000 o bobl maen nhw’n meddwl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru heb ddiagnosis. Bu farw fy nhad o glefyd Alzheimer chwe blynedd yn ôl. Roedd e’n un o’r rhai na chafodd ddiagnosis na’r cymorth meddygol nac ymarferol am gyfnod rhy hir, ac, yn wir, hyd yn oed wedi iddo gael diagnosis, bu’n rhaid i fy mam ymdopi â’r hyn mae hi’n ei ddisgrifio fel proses anodd—mor anodd, rhy anodd—o ganfod gwybodaeth a chael mynediad at gymorth clinigol ac ymarferol. Mae’r disgwyliadau o a’r gofynion ar ofalwyr di-dâl yn hyn o beth, pobl sy’n aml yn fregus ac ar ben eu tennyn yn emosiynol ac yn gorfforol, yn gwbl afresymol ac yn creu gofid, pryder a rhwystredigaeth. Mae angen sicrhau system llawer gwell o ddarparu gwasanaethau dementia a'r cymorth cywir i bobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.

O wybod yr hyn aeth mam a fy nhad drwyddo, yr anawsterau y profon ni fel teulu o ran cael mynediad at wasanaethau cefnogaeth a’r asesiadau oedd eu hangen i gyrchu’r gefnogaeth honno, gallaf ddychmygu yn gwmws pa mor ofnadwy mae’r cyfnod COVID wedi effeithio ar sefyllfa sydd eisoes yn annerbyniol i lawer gormod o bobl. Mae 4,000 o bobl, yn ôl Cymdeithas Alzheimer's Cymru, yn aros am asesiad cof tyngedfennol ac allweddol sy’n agor y drws at driniaethau a chymorth. Rwy’n cefnogi galwad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru bod angen cyllid penodol i gynyddu capasiti a sicrhau hygyrchedd cyfartal i isadeiledd diagnostig a chreu llwybr clinigol llawer gwell o ran cael mynediad at driniaethau.

Yn ystod y pandemig hefyd fe ddwysaodd y gofyn ar ofalwyr di-dâl, fel rŷn ni wedi’i glywed gan Jenny Rathbone ac eraill, ac effaith y cyfnod clo yma wedi gwaethygu symptomau dementia a’r diffyg buddsoddiad cywilyddus yn ein system gofal cymdeithasol, gan adael pobl heb y gefnogaeth oedd ei hangen arnyn nhw. Gadawyd ein cartrefi gofal, ble mae cymaint o bobl sy’n byw gyda dementia yn byw, yn agored lled y pen i’r pandemig. Mae hynny yn sgandal y bydd angen i Lywodraeth Cymru ateb amdano. Ond mae angen gweithredu nawr i geisio cynnau fflam o obaith yn y cyfnod tywyll hwn sydd wedi effeithio’n anghymesur ar bobl â dementia.

Oherwydd natur gymhleth dementia, mae angen mawr am ddata hirdymor o ansawdd, ac felly rwy'n falch o gefnogi'r alwad yn y cynnig i Lywodraeth Cymru sefydlu arsyllfa ddata dementia genedlaethol i wella'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau dementia. Fel cyn-aelod o staff, rwy'n falch fod Prifysgol Abertawe yn fy rhanbarth yn chwarae rhan allweddol mewn ymchwil dementia amlddisgyblaethol sy'n arwain y byd. Mae gennym arbenigedd yma yng Nghymru y gallwn ac y mae'n rhaid inni ei ddatblygu ymhellach. Yn anffodus, bydd gormod ohonoch, fel minnau, yn gwybod o brofiad pam y mae'r cynnig hwn yn bwysig. Ni allwch byth fod yn barod am yr effaith y bydd dementia yn ei chael arnoch pan fydd yn taro eich teulu, ond gallwn ni fel cenedl fod yn fwy parod, wedi'n harfogi â gwybodaeth, cymorth priodol a gofal.

Pan ges i fy ethol, fe ddwedais wrth Beti George, a gollodd ei gwr, David Parry-Jones, i dementia, y byddwn yn gwneud popeth posib i wella cefnogaeth i bobl fel hi a’i gwr. ‘Digon o siarad wedi bod yn y Senedd, Sioned’, meddai hi, ‘Mae angen gweithredu.’

Hoffwn gofnodi fy niolch i Luke Fletcher am fynd o gwmpas yn gofyn am gefnogaeth i'r ddadl hon heddiw, ac roeddwn yn falch iawn o'i chyd-gyflwyno.

Nawr, ni ellir gwadu bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith andwyol enfawr ar bobl sy'n byw gyda dementia o ryw fath ac wedi'u heffeithio ganddo. Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Gymdeithas Alzheimer, adroddodd 95 y cant o ofalwyr eu bod wedi dioddef effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl neu gorfforol. Ac yn anffodus iawn—wyddoch chi, mae'n anodd darllen yr ystadegau hyn yn uchel, ond roedd dros chwarter y bobl a fu farw gyda COVID-19 rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2020 yn y DU yn dioddef o dementia. Felly, mae'n fy mhoeni pan fydd cynllun gweithredu Cymru ar gyfer dementia yn datgan:

'Mae angen inni feithrin cysylltiadau pellach rhwng cartrefi gofal a gwasanaethau cymunedol, a byddwn yn disgwyl i’r timau dementia ‘o amgylch yr unigolyn’ ddarparu cymorth arbenigol a rheolaidd i gartrefi gofal. Rydym hefyd yn annog meddygfeydd teulu i gynnig gwasanaeth newydd gwell ar gyfer gofal preswyl a nyrsio yng Nghymru.'

Nawr, deilliodd hynny—. Dywedodd 75 y cant o'r cartrefi gofal a holwyd ei bod yn anodd am fod meddygon teulu'n amharod i ymweld â phreswylwyr yno. Felly, mae'r dystiolaeth yn dangos nad yw cartrefi gofal wedi bod yn cael gwasanaeth gwell gan feddygon teulu. Felly, byddai'n dda gennyf glywed pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â hyn.

Y mis hwn, Meddyg Care yw'r grŵp cartref gofal cyntaf i sefydlu gwasanaeth nyrsys admiral yng Nghymru. Felly, er bod gan sefydliadau eraill gynghorwyr dementia, sy'n cynnig arweiniad gwerthfawr i bobl â'r cyflwr a'u teuluoedd, mae nyrsys admiral yn mynd y tu hwnt i gyngor—maent yn cynnig cymorth ac arbenigedd arbenigol cynhwysfawr i deuluoedd a'r rhai sy'n byw gyda chymhlethdodau dementia. Ac wrth ddarllen ymlaen, cefais fy synnu ymhellach o weld nad oes nyrsys admiral yng ngogledd Cymru. Felly, Weinidog, tybed pa adolygiad y gallech ei wneud fel Llywodraeth i helpu nyrsys cofrestredig i ddod yn nyrsys admiral. Byddai hyn yn cyd-fynd â'r canlyniad canlynol yn y cynllun gweithredu ar gyfer dementia sy'n dweud:

'Mae gan staff y sgiliau i’w helpu i adnabod pobl â dementia a theimlo’n ddigon hyderus a chymwys i gefnogi anghenion yr unigolion ar ôl cael diagnosis.'

Gall nyrsys admiral helpu gofalwyr di-dâl hefyd, gan y gall nyrsys o'r fath eu harfogi â thechnegau rheoli straen a strategaethau ymdopi a all wedyn helpu i'w cysylltu â gwasanaethau seibiant a darparu addysg a hyfforddiant arbenigol i ofalwyr. Yn wir, mewn gwirionedd, ni ddylem fod yn gweld oedi yn awr cyn gweithredu unrhyw gamau a allai arwain at gynnig mwy o gymorth i ofalwyr di-dâl.

Y peth trist yw bod 40 y cant o'r rheini'n teimlo na allant reoli eu cyfrifoldebau gofalu. Nid yw 72 y cant wedi cael unrhyw seibiant yn ystod pandemig COVID-19, ac mae 73 y cant wedi dweud eu bod wedi gorflino o ganlyniad i ofalu yn ystod y pandemig. Felly, rwy'n cytuno â Gofalwyr Cymru, Age UK, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor, Oxfam GB a Rethink Mental Illness, sydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ein gofalwyr di-dâl sy'n darparu oriau sylweddol o ofal i gleifion â dementia yn cael y seibiannau sydd eu hangen arnynt.

Nawr, er fy mod yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn darparu £3 miliwn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi gofal seibiant brys a datblygu cronfa seibiant byr, rwy'n ymwybodol fod rhai gofalwyr di-dâl yn ymgymryd â chyfrifoldebau pellach. Felly, unwaith eto, mae'n ymwneud â'r data—y data pwysig y mae ei angen arnom—fel y gallwn edrych, mewn gwirionedd—neu gallwch chi fel Llywodraeth edrych—ar sut y gallwch leddfu'r pwysau y maent yn ei deimlo.

Yn olaf, fel y mae Cymdeithas Alzheimer Cymru wedi nodi, mae Cymru mewn sefyllfa unigryw, gyda chyllid penodol ar gyfer dementia at ei defnydd ac ymchwilwyr medrus yn y maes. Yn ogystal ag annog ymchwilwyr i wneud cais am gyllid o dan y cynllun gweithredu ar gyfer dementia, rwyf eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach, drwy ariannu ymchwil i ddatblygu dulliau diagnostig manwl i sicrhau y gall pobl sy'n cael diagnosis o ddementia gael cymorth cywir ar unwaith ar ôl cael diagnosis. Rwyf eisiau gweld arsyllfa ddata dementia genedlaethol yn cael ei sefydlu, ac rwyf hefyd eisiau sicrhau bod cymorth ôl-ddiagnostig yn cael ei ariannu ar gyfer pob math o ddementia ledled Cymru.

Rwy'n eich annog chi i gyd i ymuno â Luke Fletcher drwy gefnogi'r cynnig clodwiw hwn. Diolch.

16:30

Mae'r meddwl dynol yn beth gwerthfawr a bregus. Rydym yn byw gyda'n hatgofion a phan gânt eu dwyn oddi wrthym a chyflwr fel dementia yn gafael, gall fod yn greulon ac yn wanychol. Fel y clywsom, amcangyfrifir bod 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia, ond mae'n effeithio nid yn unig ar unigolion, ond ar deuluoedd cyfan sy'n gorfod ymdopi â galar a cholled bob dydd, er bod eu hanwyliaid yn eistedd o'u blaenau. 

Roedd dementia ar fy mam-gu, Doreen. Bu byw hyd nes ei bod hi dros ei chant oed, ond cymerwyd blynyddoedd olaf ei bywyd oddi wrthi'n raddol, fesul darn. Roedd hi wedi bod yn gogydd ac yn bobydd brwd ac roedd hi'n pobi pice ar y maen ar ei charreg bobi tan ei bod bron yn 98 oed, ond byddai'n anghofio ychwanegu'r siwgr neu'r halen neu'n eu gadael ar y garreg bobi eiliad yn rhy hir. Dyna oedd rhai o'r arwyddion cyntaf.

Roedd hi'n arfer gwnïo a chrosio a byddai'n dwli dweud wrth bobl ei bod wedi gwneud gwisg ysgol gyfan i fy nhad pan oedd yn fach, yn cynnwys y siaced ysgol ramadeg gyda'r defnydd brethyn main a brynasai ym marchnad Pontypridd, ac wedi prynu bathodyn yr ysgol a'i wnïo ar y siaced. Ond fe welodd golli'r cysur a gâi o wnïo a defnyddio ei dwylo fwy a mwy yn ei blynyddoedd olaf. Byddai'r postmon yn ei gweld yn y ffenestr, yn eistedd yno, heb fod yn gwnïo mwyach, ond yn edrych allan ac yn gwylio'r byd yn mynd heibio.

Roedd fy mam-gu wrth ei bodd yn cerdded. Pan oedd fy chwaer a minnau'n fach, byddem yn mynd ar deithiau cerdded ar fynydd Nelson i bigo mwyar duon a llus, ond fwy a mwy, wrth iddi fynd ymhellach i mewn i'w 90au ac wrth i'r dementia dynhau ei afael, byddai'n meddwl y gallai gerdded ymhellach nag y gallai, a byddai'n parhau i gerdded ar y llwybrau anwastad ger ei chartref, yn gwbl ddall i'r perygl o gwympo. Rwy'n ei chofio'n ffonio tŷ fy rhieni un diwrnod a minnau'n ateb, a gofynnodd i mi, 'Pam na allaf wneud yr holl bethau y byddwn yn arfer eu gwneud?', a dyheai am allu cerdded a cherdded. Byddai'n teimlo'n rhwystredig a byddai'n unig, ac er bod fy rhieni'n galw gyda hi bob dydd, yn ogystal â gofalwyr, byddai'n teimlo'n drist ac yn anghofio eu bod wedi bod yno. 

Pan ddirywiodd ei chyflwr, cytunodd y byddai'n fwy cyfforddus ac yn fwy diogel mewn cartref, er ei bod yn dal i gwympo, ac ar ôl un gwymp, aeth i Ysbyty'r Tywysog Charles gyda fy mam a chafodd ei chadw—menyw yn ei nawdegau; 99 mlwydd oed—ar droli mewn coridor am naw awr. Nid bai'r meddygon na'r nyrsys na'r criw ambiwlans oedd hyn, ond bai'r system sy'n tanariannu ei gwasanaeth iechyd i'r graddau fod gwraig 99 oed wedi'i gadael heb gymorth arbenigol ynghanol y nos. Mae arnom angen gwasanaethau dementia ar draws gofal sylfaenol, ac ysbytai a chartrefi gofal wedi'u hintegreiddio a'u hariannu'n briodol. Mae angen inni fuddsoddi ac ymchwilio i sut i sicrhau diagnosis mwy cywir o ddementia ac mae taer angen mwy o gefnogaeth arnom i gleifion a'u teuluoedd ar ôl cael diagnosis fel nad ydynt yn cael eu hamddifadu o ragor o rym.

Ond Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf y tristwch a nodweddai ei blynyddoedd olaf gyda ni, cafodd fy mam-gu fywyd hapus iawn. Ac er i ddementia ei hamddifadu o gymaint o atgofion, roedd hi'n canu tan y diwedd. Roedd hi wrth ei bodd yn canu. Ei ffefrynnau oedd 'Danny Boy' a 'Mother Machree' a chanodd y ddwy gân ar ei phen-blwydd yn gant oed. Nid wyf erioed wedi clywed neb arall yn canu 'Mother Machree', felly pan glywaf y geiriau hynny, rwy'n meddwl amdani hi a hoffwn rannu rhai o'r geiriau gyda chi wrth gloi, Ddirprwy Lywydd.

'Mae lle yn fy ngof, / Fy mywyd, mi wyt ti'n ei lenwi, / All neb arall ei gymryd, / Fydd neb byth yn ei wneud. / Rwy'n caru'r arian annwyl / Sydd yn disgleirio yn dy wallt, / A'r talcen sydd yn rhychog i gyd, / Ac yn grychiog â gofid. / Rwy'n cusanu'r bysedd annwyl, / Ac ôl traul arnynt er fy mwyn i, / Bendith Duw arnot a'i ofal amdanat, / Mam Machree.'

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Luke Fletcher am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw ac am gysylltu â mi mewn modd mor adeiladol cyn y ddadl hon? Mae Luke wedi siarad gyda'r fath ddewrder am brofiadau ei deulu ei hun o ddementia. Gobeithio na fydd ots ganddo imi ddweud, yn fy mhrofiad personol i, mai anaml y daw gwir ymladdwyr o blith y rhai sydd heb eu creithio, a gwn y bydd gan bobl sy'n byw gyda dementia ymladdwr pwerus ynoch chi yn y Siambr hon, Luke.

Hoffwn ddiolch hefyd i bawb arall sydd wedi siarad heddiw ac rwy'n cydnabod bod y rhain wedi bod yn gyfraniadau anodd i'w gwneud ac yn boenus i Aelodau ac yn bwysig iawn i bawb eu clywed.

Mae'r 18 mis diwethaf hyn wedi bod yn anhygoel o anodd i bawb, ond i neb yn fwy na phobl sy'n byw gyda dementia. Mae colli trefn arferol, newidiadau i gymorth, ansicrwydd a'r cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal wedi gwneud sefyllfa heriol hyd yn oed yn anos. Dyna pam fy mod yn falch, yr wythnos diwethaf, ar Ddiwrnod Clefyd Alzheimer y Byd, i allu lansio'r ddogfen 'Cynllun gweithredu dementia: cryfhau'r ddarpariaeth mewn ymateb i COVID-19'. Datblygwyd y ddogfen gyda'n partneriaid i ategu 'Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia', ac mae'n adlewyrchu'r blaenoriaethau a ddaeth i'r amlwg yn ystod y pandemig.

Mae nifer o'r blaenoriaethau hyn yn cyd-fynd â ffocws y ddadl heddiw, er enghraifft mynediad cyfartal a dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymchwil a datblygu, a dysgu a datblygu. Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd fel rhan o'n diweddariad mewn perthynas â'r cynllun gweithredu. Bydd cyd-Aelodau'n gwybod bod ein cynllun gweithredu ar ddementia wedi'i gydgynhyrchu gyda phobl sy'n byw gyda dementia, ac yn yr un modd, cafodd ein cynllun adfer ei gydgynhyrchu gydag aelodau o'n bwrdd cyflawni a throsolwg dementia, sy'n cynnwys y rhai sy'n byw gyda dementia yn ogystal â phartneriaid trydydd sector, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n rhan o'r gwaith hanfodol hwn.

Mae'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn cydnabod y rôl hollbwysig a chwaraewyd gan ofalwyr di-dâl yn y pandemig; rwy'n cytuno'n llwyr. Mae strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr di-dâl a lansiwyd gan fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, ar 23 Mawrth yn ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi pob gofalwr di-dâl yng Nghymru i gael bywyd ochr yn ochr â gofalu. Nid yw'r gwaith hwn erioed wedi bod yn bwysicach. Mae gwaith yn mynd rhagddo gydag aelodau o grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr a'r grŵp ymgysylltu â gofalwyr ar ddatblygu cynllun manwl i'w gyhoeddi yr hydref hwn, a bydd siarter newydd i ofalwyr yn cyd-fynd â hyn. Sefydlwyd y gronfa cymorth i ofalwyr gennym yn ystod y pandemig. Caiff ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'i nod yw cefnogi gofalwyr di-dâl sydd o dan bwysau ariannol, a gallaf gadarnhau, hyd yma, fod bron i 6,000 o ofalwyr di-dâl wedi cael y cymorth hwn eisoes. Rydym hefyd yn dyrannu £3 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i ateb y cynnydd a ragwelir yn y galw am wasanaethau seibiant traddodiadol a newydd wrth i gyfyngiadau symud gael eu llacio.

Mae Luke yn iawn i bryderu'n arbennig am yr angen am ddiagnosis cywir o ddementia. Unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr. Gwn o brofiad fy nheulu fy hun pa mor hanfodol yw cael diagnosis prydlon a chywir os yw teuluoedd yn mynd i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. I mi, mae'n fater o hawl sylfaenol hefyd. Ni fyddem yn dweud wrth glaf canser fod ganddynt ganser heb ddweud wrthynt pa fath o ganser sydd ganddynt, ac yn sicr, dylai'r un peth fod yn wir i'r rhai sy'n byw gyda dementia.

Mae'r ddogfen gysylltiedig y cyfeiriais ati'n gynharach yn cadarnhau bod diagnosis amserol yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Gwella Cymru yn datblygu eu gallu i adrodd ar gyfraddau diagnosis yn fisol er mwyn cefnogi'r gwelliant sydd ei angen yn y maes hwn. Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi cylchlythyr i fyrddau iechyd yng Nghymru yn gofyn am i asesiadau cof a gwasanaethau gofal sylfaenol gofnodi diagnosis dementia unigolyn yn erbyn codau Read y cytunwyd arnynt i'w gwneud hi'n bosibl darparu gwybodaeth gywir, a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid eleni i ymgorffori hyn ymhellach. Mae'r codau Read hyn yn cefnogi'r broses o gofnodi gwahanol is-fathau o ddementia, gan gynnwys dementia corff Lewy.

Yn yr hydref, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar y camau gweithredu yn y cynllun gweithredu ar ddementia. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth ynglŷn â pha gymorth a gynigir i deuluoedd, a mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae cyllid ar gael i fyrddau partneriaeth rhanbarthol a sut y caiff hwnnw ei ddefnyddio. Byddaf hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â sut y caiff pobl eu cynorthwyo i gael mynediad at wasanaethau yn eu dewis iaith, gan fy mod yn cydnabod, i bobl sy'n agored i niwed, fod hwn yn fater sylfaenol o angen ac nid o ddewis.

Mewn ymateb i sylwadau Jane ar y cynllun gweithredu ar ddementia, a gaf fi gadarnhau mai'r bwriad bob amser oedd cael cynllun newydd, ond bod y cynllun presennol yn destun gwerthusiad? Ar hyn o bryd mae hynny'n—. Roedd ychydig ar ei hôl hi, ond mae'r gwaith maes ar fin digwydd yn awr, a bydd y gwerthusiad hwnnw'n llywio ein cynllun newydd yn y dyfodol. A hoffwn ddweud wrth Altaf Hussain hefyd, mewn perthynas â niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol, ein bod wedi ymgynghori ar hynny a byddaf yn cyhoeddi fframwaith newydd ar hynny'n fuan iawn.

I droi at ymchwil a datblygu, mae gan hynny rôl allweddol i'w chwarae yn gwella gofal dementia, a chredaf fod gennym stori dda i'w hadrodd am hynny yma yng Nghymru. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o chwe phrifysgol yn y DU sy'n arwain ymchwil fel rhan o Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU. Mae'r brifysgol yn arwain menter fawr sy'n ceisio helpu ymchwilwyr ym mhob cwr o'r byd i archwilio'r ffactorau risg sy'n cyfrannu at glefyd Alzheimer. Hefyd, mae cyfleoedd ariannu ar lefel prosiect eisoes ar gael drwy raglenni'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ynddynt, ac rydym yn gweithredu dull cenedlaethol a chydweithredol yng Nghymru, gan gynnig sganiau FDG PET gyda'r nod o gynyddu diagnosis effeithiol ac amserol o ddementia. Daw hyn yn sgil cynllun peilot llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac o ganlyniad, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru bellach wedi comisiynu sganiau FDG PET ar gyfer dementia yn genedlaethol.

Mae gan unrhyw un sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr hawl i ofyn am asesiad. Mae cynllun personol sy'n mynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig i'r unigolyn yn rhan hanfodol o daith dementia unrhyw un. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein dull gweithredu ac yn dysgu o'r arferion da ledled Cymru, er enghraifft Canolfan Enfys yn Llannerch Banna, sydd wedi cael cydnabyddiaeth yng ngwobrau 2020 ac sy'n dangos pwysigrwydd hanfodol gwrando ar bobl sy'n byw gyda dementia.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi 'Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru' newydd yn ddiweddar. Mae'n hyrwyddo dull gofal integredig system gyfan, ac rydym wedi dweud yn glir y bydd angen i bob prosiect sy'n derbyn cyllid o'r gronfa gofal integredig ar gyfer y cynllun gweithredu ar ddementia gydymffurfio â'r safonau newydd. Mae hyn yn cynnwys ffrwd waith benodol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eitemau data ar gyfer adrodd a sicrwydd. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu'r eitemau data hyn yn hanfodol a bydd yn chwarae rhan bwysig wrth lunio gwasanaethau dementia yn y dyfodol, felly rwy'n cydnabod galwad yr Aelod am arsyllfa ddata dementia genedlaethol a'r hyn sy'n sail iddi.

Drwy'r gwaith a amlinellais a thrwy gryfhau ein cysylltiadau â'r byd academaidd, rwy'n gobeithio y gallwn gyflawni'r un canlyniadau. Yn sicr, o'm rhan i, mae hyn yn cyd-fynd yn llwyr â bwriad ein polisi presennol. Adroddir yn genedlaethol ar y data a sefydlwn ar asesiadau a chymorth dementia a bydd yn agored i'r un lefel o graffu â data ansawdd a pherfformiad arall y GIG. Gan weithio gyda'n gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddi, cefnogir y data gweithredol hwn hefyd drwy fonitro ymchwil a thystiolaeth gyhoeddedig yn barhaus, a byddwn yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â'n colegau brenhinol a chlinigwyr, sy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hyrwyddo'r dystiolaeth ddiweddaraf er mwyn llywio polisi. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn cydnabod, er efallai ein bod â barn ychydig yn wahanol ynglŷn â sut i gyrraedd yno, fod y ddau ohonom ar drywydd yr un amcanion.

Rwy'n gobeithio hefyd y bydd yn derbyn fy sicrwydd, fel Dirprwy Weinidog ac fel rhywun sydd hefyd wedi dadlau dros y rhai sy'n byw gyda dementia yn y Senedd hon, fy mod wedi ymrwymo i gyflawni hyn yn gyflym. Rwy'n gwbl benderfynol o wella gofal a chymorth i'r rhai sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, Luke Fletcher, ac Aelodau eraill ar draws y Siambr, i gyflawni'r agenda hon ledled Cymru. Diolch yn fawr.

16:40

Dirprwy Lywydd, fel gŵyr nifer yn y Siambr heddiw, mae diwygio'r sector gofal yn bwysig iawn i fi. Fel nifer, mae fe'n bersonol hefyd. Dywedwyd ddoe yn y Siambr fod y gair 'crisis' yn cael ei orddefnyddio. Digon gwir, o bosib, ond mae'n sicr yn grisis yn y sector gofal, a gwaethygu y mae'r crisis yn mynd i'w wneud. Dyma un rheswm pam yr ydw i mor falch i gloi'r ddadl hollbwysig yma heddiw.

Fel y mae pawb arall wedi'i wneud, rwyf am ddiolch i Luke am fynd ar drywydd hyn, am gyflwyno'r ddadl hon. Roedd yn ddadl anodd i wrando arni—dadl anodd iawn i wrando arni—rhaid bod gennych galon galed iawn os na chawsoch eich cyffwrdd gan y ddadl heddiw, ond mae'n galonogol gweld cefnogaeth drawsbleidiol, a'n bod ni i gyd yn barod i gydweithio i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn.

Roedd Paul Davies yn sôn am bobl gyda dementia ddim yn teimlo fel rhan o'u cymuned a hynny'n wir hyd yn oed mewn rhywle fel Preseli Penfro, ble mae yna gymaint o gymunedau agos atoch chi. Dwi'n siŵr bod pethau hyd yn oed yn waeth mewn ambell i fan arall. Ac roedd Paul yn sôn am yr angen i bobl gael hyfforddiant ynglŷn â dementia. Dwi wedi profi gormod o weithiau ymatebion cas at bobl sy'n dioddef o dementia—pobl ddim yn deall, pobl ddim yn dangos amynedd, pobl yn eu hanwybyddu nhw, pobl yn cael eu trin yn dwp. Mae Paul a nifer eraill—a Janet hefyd—wedi sôn am arferion da mewn rhai mannau. Mae'n rhaid inni gael strategaeth genedlaethol fan hyn. Rŷn ni wedi siarad gormod ar hyd y blynyddoedd am arferion da fan hyn a fan draw; mae angen inni gael approach cenedlaethol. Dylai pethau ddim dibynnu ar unigolion neu ar sefydliadau unigol.

Soniodd Jenny Rathbone am yr angen am fwy o ymchwil—yn yr achos hwn, i lygredd aer a bwyd sothach. Ni allaf ond rhoi tystiolaeth anecdotaidd yma, ond ag yntau yn un o dri, fe gafodd fy nhad a'i chwaer ddementia, a hwythau wedi byw ar hyd eu hoes yng Nghaerdydd, ond ni ddigwyddodd i'w chwaer hŷn sy'n agosáu at 90 yn awr ac sydd wedi byw y rhan fwyaf o'i hoes mewn lleoliad gwledig. Credaf fod rhywbeth yn hynny, Jenny, yn y cyswllt â llygredd aer, ac mae'n rhywbeth y mae angen ymchwilio iddo.

Unwaith eto, ni ddylai seibiant fod yn ddibynnol ar garedigrwydd unigolion na gwaith rhai sefydliadau; mae arnom angen dull gweithredu cenedlaethol. Dywedodd Peredur mai gwaethygu a wnaiff y sefyllfa. Mae'n wir. Mae angen inni wneud pethau yn awr. Fe wnaeth Adam Price, sydd hefyd yn dod at hyn o safbwynt personol, osod system gofal cymdeithasol genedlaethol am ddim wrth wraidd maniffesto Plaid Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pleidiau eraill yn gwneud yr un peth. Dyna sydd ei angen arnom. Soniodd Altaf Hussain unwaith eto am yr angen am ymchwil, a'r angen i sicrhau ansawdd bywyd. Ni ddylai dementia ddynodi diwedd bywyd o ansawdd. Gall pobl ddal i gael bywyd da gyda dementia. 

Talodd Jane Dodds deyrnged i'r gofalwyr a gynorthwyodd ei rhieni. Gallaf innau hefyd dystio i hynny, Jane. Mae'r gwaith y maent wedi'i wneud, yn enwedig yn ystod y pandemig hwn, wedi bod yn gwbl anhygoel, ac mae angen eu gwerthfawrogi cymaint mwy. Fe sonioch chi am unigrwydd, ac mae hynny mor wir am y dioddefwr a hefyd y gofalwr di-dâl—y wraig, neu'r gŵr, neu'r plentyn. Maent yn aml yn teimlo'n unig, maent yn aml yn teimlo'n fregus heb unrhyw gymorth, fel y nododd Sioned. Soniodd Mark Isherwood unwaith eto, yn ei ymyriad defnyddiol, am arfer da mewn mannau eraill, ond nid yw hynny'n ddigon da. Nid yw'n ddigon da.

Soniodd Delyth am y rhwystredigaeth a'r unigrwydd, am fethu gwneud yr hyn yr arferent ei wneud. Do, gwelais y rhwystredigaeth honno, profais y rhwystredigaeth honno. Soniodd am ei mam yn canu; gallaf gofio'n dda am fy mam-gu'n canu emynau Cymraeg ymhell wedi i'w dementia ddatblygu, ac yn adrodd Salm 23 fel yr hen wraig yn Wythnos yng Nghymru Fydd

'Yr Arglwydd yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.'

Sioned Williams, mae'n wir am y pwysau anhygoel sydd ar bobl fel eich mam wrth ofalu am eich tad. Cofiaf ddarllen llythyr diagnosis fy nhad yn 2013 a doedd dim syniad gen i beth fyddai'r dyfodol yn ei gynnig. Ac mae hynny'n wir; roeddech chi'n hollol iawn pan oeddech chi'n sôn nad oes dim byd yn eich paratoi chi am fywyd gyda dementia. Mae angen cefnogaeth gynnar, mae angen cynyddu'r capasiti, fel y dywedoch chi, Sioned, er mwyn creu hynny.

A all y Gweinidog, yn y dyfodol, amlinellu i ni sut y bydd yn mynd i'r afael â hyn, y cynnydd yn y capasiti a'r galwadau gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion i wneud hyn? Rwy'n falch fod y gwaith unigryw yng Nghymru sy'n helpu i gael diagnosis cynnar o ddementia yn cael ei ymestyn ar lefel genedlaethol. Hoffwn wybod pryd y bydd hynny'n digwydd.

Fel y soniodd Sioned a Luke, byddai elusennau fel y Gymdeithas Alzheimer yn croesawu rhagor o fanylion, yn croesawu'r data dementia cenedlaethol. Mae'n anhygoel, yn 2021, nad oes gennym atebion sylfaenol i gwestiynau sylfaenol am ddementia, fel faint o bobl sy'n byw gyda dementia, faint o bobl sy'n darparu gofal di-dâl i bobl â dementia, sut y gellir cefnogi'r bobl hyn, faint o bobl sy'n cael diagnosis o wahanol fathau o ddementia, faint o bobl sydd â dementia cynnar, fel yr awgrymodd Altaf yn ei araith. Mae'r rhain yn atebion sylfaenol, ac mae angen inni ddatblygu cynllun ar gyfer y dyfodol—cynllun cywir, cynllun ar sail tystiolaeth, a chynllun hirdymor. Yn anffodus, fel un sydd wedi gweld tri allan o bedwar o rieni fy rhieni, fy nhad, a'i chwaer yn dioddef o ddementia, gallaf ddweud wrthych, Ddirprwy Lywydd, fel y pwysleisiodd Luke Fletcher, fod pob achos yn gwbl wahanol. Mae arnom angen dull sy'n canolbwyntio'n wirioneddol ar yr unigolyn ar gyfer llunio polisïau yng Nghymru. I wneud hynny, mae arnom angen cymaint o ddata â phosibl.

Ddirprwy Weinidog, rwy'n falch eich bod yn y rôl hon; yn fwy balch nag y gallwch chi ei ddychmygu, yn wirioneddol falch, oherwydd gwn fod hyn yn bersonol i chi, fel i eraill, ac mae yna ysgogiad wrth wraidd yr hyn a wnewch. Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda chi, Luke ac eraill yn y Siambr hon ar fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn, oherwydd yn wir, mae angen cydweithrediad trawsbleidiol ar hyn, ac mae angen gweithredu arno yn awr.

Oherwydd dyma'r sector anghofiedig, y sector gofal—wedi ei ddadariannu, wedi ei danbrisio, a'i weithwyr a'r gofalwyr yn cael eu tandalu. Fel Aelodau o Senedd Cymru, mae'n rhaid i ni anfon neges glir i bobl mas fanna heddiw. Beth yw'n pwrpas ni fel arall, oni bai ein bod ni yn gallu dweud wrth deuluoedd, gofalwyr, preswylwyr cartrefi gofal a phawb sy'n byw gyda dementia ein bod ni yn mynd i wneud rhywbeth, ein bod yn gwrando arnoch, a'n bod ni'n barod i weithredu drostoch chi? Mae gormod o Lywodraethau, fan hyn ac yn San Steffan, ac o wahanol liwiau, wedi esgeuluso'r mater pwysig yma yn rhy hir. Maen nhw wedi ei fwrw fe i ffwrdd—kicked to the long grass. Fe wnes i addewid tebyg i Sioned i Beti George, ac mae hi'n cysylltu'n gyson i sicrhau ein bod ni'n gwneud rhywbeth. Rhaid gweithredu nawr i bobl fel mam Sioned, i bobl fel fy mam i, i bobl fel Beti George a'r rheini roedden nhw'n gofalu amdanyn nhw, dros y teuluoedd a gynrychiolir yma heddiw gyda chi, a dros deuluoedd ledled Cymru. Heddiw, gyfeillion, cofiwn am y sector anghofiedig, a gweithredwn drosti. Diolch yn fawr.

16:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pasys COVID

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar basys COVID. Rwyf wedi cael fy hysbysu na fydd y cynnig o dan yr eitem hon yn cael ei gynnig. Galwaf ar Tom Giffard i gadarnhau hynny.

Ymddangosodd y cynnig canlynol ar yr agenda:

Cynnig NDM7783 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pleidlais ystyrlon ar gyflwyno pasys COVID cyn iddynt ddod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru.

2. Yn credu, pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu bod angen cyflwyno pasbortau COVID, fod yn rhaid dod â'r gofyniad hwn gerbron Senedd Cymru am bleidlais sylweddol cyn iddynt gael eu cyflwyno.

3. Yn cydnabod bod ailagor cymdeithas wedi digwydd o ganlyniad i'r rhaglen frechu lwyddiannus ledled y DU.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yng ngoleuni bwriad datganedig y Llywodraeth i ddod â'r mater hwn i bleidlais yn y Senedd yr wythnos nesaf, ni fyddwn yn cyflwyno'r ddadl hon heddiw.

Ni chynigiwyd cynnig NDM7783.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trafnidiaeth

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Rydym yn symud ymlaen i eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth. Galwaf ar Joel James i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7784 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu effaith economaidd gadarnhaol dileu tollau croesi Afon Hafren.

2. Yn gresynu at gynigion Llywodraeth Cymru a allai arwain at daliadau i fodurwyr sy'n defnyddio'r M4, yr A470, yr A55 a chefnffyrdd eraill.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddiystyru cyflwyno tollau a phrisiau ffyrdd ar ffyrdd Cymru;

b) hyrwyddo trafnidiaeth fwy gwyrdd drwy gymryd camau fel:

i) cynyddu'r ddarpariaeth o bwyntiau gwefru trydan ar rwydwaith ffyrdd Cymru;

ii) hyrwyddo teithio llesol ymhellach; a

iii) ymestyn tocynnau bws am ddim i bobl rhwng 16 a 25 oed.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae dileu tollau pont Hafren wedi bod o fudd enfawr i bobl Cymru. Wrth i Lywodraeth y DU lacio gafael y tollau yn 2017, cafodd busnesau a chymudwyr eu rhyddhau o feichiau ariannol enfawr, gyda rhai modurwyr yn arbed cymaint â £1,400 y flwyddyn. Heb os, bydd cael gwared ar dollffordd pont Hafren wedi agor de Cymru i lawer o fusnesau a fyddai wedi gweld tollffordd fel rhwystr i gynnal masnach. O ganlyniad, mae dileu'r tollau wedi arwain at hwb blynyddol amcangyfrifedig o dros £100 miliwn i economi Cymru. Mae'r sector technoleg wedi gweld twf digynsail yng Nghaerdydd, gan arwain prif ddinasoedd y DU ar 7 y cant, yn gyfartal â Manceinion ac ar y blaen i Lundain a Bryste. Credaf—ac yn wir, mae fy mhlaid yn credu—mai mygu'r twf hwnnw a wnâi cyflwyno tollffyrdd newydd.

Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog a llawer yma, mae arolygon a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi gofyn i ddefnyddwyr ffyrdd ynglŷn â thalu am ddefnyddio rhannau o'r M4 a'r A470 mewn ymgais i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael. Deallwn fod hyn yn rhan o gyfrifoldeb cyfreithiol Llywodraeth Cymru i arolygu camau gweithredu eraill posibl a allai helpu i wella ansawdd aer. Gofynnais gwestiwn ysgrifenedig yn ystod y toriad, a gallaf ddiolch hefyd i fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, am ei gwestiwn i'r Prif Weinidog ar y mater hwn, ac i'r Prif Weinidog am ei ymateb ddoe. Rwy'n siŵr y byddai wedi mynd beth o'r ffordd i dawelu meddwl y cyhoedd yn ehangach nad oedd argymhellion yn ymwneud â thollffyrdd yn rhan o flaengynllun presennol Llywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, heb amheuaeth, rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y bydd arolygu pobl ynglŷn â thollffyrdd a bod yn benodol iawn am yr M4 a'r A470 fel lleoliadau posibl yn rhoi'r syniad ym meddyliau pobl fod hwn yn gam gweithredu y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried. Gobeithio y gall y Llywodraeth gydnabod y pryder sylweddol ymhlith modurwyr a busnesau y byddai hyn wedi'i achosi. Felly, pwynt y cynnig hwn heddiw yw ein bod am ddiystyru tollffyrdd yn llwyr fel mesur i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael yn y dyfodol.

Yn ne Cymru yn arbennig, rydym yn wynebu problem ansawdd aer. Amlygodd erthygl ddiweddar gan y BBC y modd y mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach yn credu bod effeithiau ansawdd aer gwael yn llawer gwaeth nag a feddyliwyd yn flaenorol. Felly, mae'r ddadl hon yn amserol yn yr ystyr ein bod yn cael cyfle i drafod ansawdd aer gwael, sydd ar lefel argyfyngus. Rydym wedi cyflwyno'r cynigion pellach i geisio mynd i'r afael â'r pryderon hyn.

Hoffwn gofnodi y byddwn i, a fy mhlaid, yn gwrthwynebu cyflwyno tollau fel ateb i ansawdd aer gwael ar y sail y byddant yn cael effaith ddinistriol ar weithwyr ar y cyflogau isaf, a fydd yn gorfod talu swm anghymesur o'u hincwm i ddefnyddio'r ffyrdd, a hwy yw'r rhai mwyaf tebygol o fod â cherbydau hŷn. At hynny, byddai cyflwyno tollau yn sicr o wthio gyrwyr i geisio eu hosgoi a theithio ar hyd ffyrdd llai. Byddai hyn, wrth gwrs, yn achosi cynnydd mewn traffig ac yn y pen draw yn gostwng ansawdd aer mewn mannau eraill. Gwelsom hyn gyda chreu parth cerddwyr ar Stryd y Castell yng Nghaerdydd, pryder y mae'r Prif Weinidog wedi'i fynegi ei hun yn y Siambr hon.

Mae problem yn codi wrth groesawu cerbydau trydan fel ateb pwysig i ansawdd aer gwael. Fodd bynnag, ychydig iawn o ddarpariaeth sydd gan Gymru fel gwlad o bwyntiau gwefru trydan. Mae llawer o'r rhai sy'n defnyddio cerbydau trydan ar hyn o bryd yn gallu gosod pwyntiau gwefru yn eu cartrefi, ond mae llawer o bobl yng Nghymru'n byw mewn fflatiau a thai teras, lle mae angen iddynt barcio gryn bellter o'u cartrefi a byddent yn ei chael hi'n anodd defnyddio pwyntiau gwefru trydan.

Er bod gan yr Alban 7.5 pwynt gwefru cyflym i bob 100,000 o bobl, dim ond 1.8 sydd gan Gymru. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pwyntiau gwefru trydan yn gyflymach, oherwydd bydd hynny'n sbardun allweddol i annog pobl i fuddsoddi mewn cerbydau trydan fel dewis amgen dilys yn lle cerbydau diesel a phetrol. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd angen o leiaf 55,000 o bwyntiau gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd yng Nghymru erbyn 2030 er mwyn cynnal digon o gerbydau trydan. Mae gwir angen inni wybod, heb wleidyddoli'r mater, a yw'r targed hwn yn debygol o gael ei gyflawni, oherwydd mae prinder pwyntiau gwefru yn prysur ddod yn ffactor sy'n cyfyngu ar berchnogaeth cerbydau trydan.

Credaf mai un o'r ffyrdd gorau posibl o fynd i'r afael â'n hansawdd aer gwael yw drwy ddefnyddio mesurau arloesol yn well. Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog yn barod, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y pwyllgor newid hinsawdd yn mynegi fy mhryder nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ddigon parod i ddefnyddio dulliau arloesol ar gyfer datrys problem ansawdd aer gwael. Er enghraifft, mae gan fysiau yn Lloegr ddyfeisiau sy'n gallu hidlo aer wrth iddynt deithio, gan gael gwared ar lygredd aer gronynnol a chwythu aer pur allan y tu ôl iddynt. Gall y dyfeisiau hyn gael gwared ar hyd at 1.25 kg o ronynnau o'r aer bob blwyddyn, a chredaf ei bod yn warthus nad yw'r dyfeisiau hyn ar bob bws yng Nghymru. Yn yr un modd, mae'r Iseldiroedd, ymhlith gwledydd eraill, bellach yn defnyddio tyrau puro aer, sy'n gallu puro hyd at 3.5 miliwn metr ciwbig o aer y dydd. Pam nad yw'r tyrau hyn ar ein cylchfannau? Mae'r rhain yn atebion eithaf costeffeithiol i broblem fawr.

Mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi cryn bwyslais ar eu cynllun teithio llesol, gan annog pobl i feicio a cherdded. Yn academaidd, mae hwn yn ateb gwych i'r broblem ac yn un yr wyf fi a fy mhlaid yn ei gefnogi. Rydym am weld y cynllun teithio llesol yn ehangu i gyflawni ei wir botensial. Fodd bynnag, yn fy marn i caiff ei lesteirio gan ddau beth pwysig sydd angen eu datrys cyn y gall y cynllun teithio llesol lwyddo mewn gwirionedd. Y cyntaf yw nad yw ffyrdd yn ddigon diogel i feicwyr. Er bod y llwybrau beicio pwrpasol yn darparu llwybrau teithio diogel, mae teithio ar ffyrdd i ac o'r llwybrau pwrpasol yn beryglus iawn. Mae'r ochr fewn i ffyrdd yn aml iawn yn llawn tyllau a cherrig, sydd nid yn unig yn gwneud beicio'n annymunol, ond yn beryglus. Mae yna fygythiad hefyd o gael eich taro gan geir, faniau a lorïau. Er bod mwyafrif y gyrwyr yn ystyriol tuag at feicwyr, mae rhai gyrwyr yn dal i fod yn llawer rhy ymosodol tuag at feicwyr, yn eu cam-drin yn eiriol ac weithiau hyd yn oed yn mynd ati'n fwriadol i geisio eu taro oddi ar eu beiciau. Yn aml iawn, mae ceir a lorïau yn gyrru'n rhy agos at feicwyr wrth iddynt fynd yn rhwystredig ynglŷn â chyflymder teithio. Mae beicwyr yn cael eu gorfodi i fynd ar y pafin gan gerbydau, mae'n rhaid iddynt ymdopi â drysau ceir yn agor yn sydyn, ac os cânt eu gwthio oddi ar eu beiciau, maent yn aml yn cwympo ar ymylon ffyrdd sy'n aml wedi'u gorchuddio gan wydr wedi torri, hoelion, anifeiliaid marw a sbwriel o bob math.

Yn 2019, roedd dwy farwolaeth ymhlith defnyddwyr cerbydau am bob biliwn o filltiroedd, ac i feicwyr roedd yn 29 ac i gerddwyr roedd yn 35. O ran anaf difrifol, roedd y gyfradd yn 29 achos o anafiadau difrifol i bob biliwn o filltiroedd ymhlith defnyddwyr cerbydau, tra bod y gyfradd i feicwyr yn 1,255, ac i gerddwyr yn 504. Yn yr arolwg cenedlaethol o agweddau tuag at deithio, cytunai dwy ran o dair o'r boblogaeth dros 16 oed ei bod yn rhy beryglus i feicio ar ffyrdd. Yn y pen draw, i feicwyr nid oes ots pwy sydd ar fai—byddant bob amser yn waeth eu byd o gael eu taro gan gerbyd. Ddydd Llun, cafwyd adroddiad gan y BBC am farwolaeth Andy Fowell, meddyg ymgynghorol wedi ymddeol a fu farw pan fu ei feic mewn gwrthdrawiad â bws yn Eryri. Er bod beicwyr a cherddwyr yn defnyddio'r llwybrau teithio llesol, maent yn gwneud ymarfer corff a chyda hynny, maent yn anadlu'n ddyfnach, ac mewn ardaloedd o ansawdd aer gwael, ni all hynny ond bod yn beth drwg.

Yn olaf, hoffwn ddweud am docynnau bws am ddim a sut y byddai eu cynnig i rai rhwng 16 a 25 oed yn ffordd wych o annog pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc i flaenoriaethu'r defnydd o fysiau drwy gydol eu bywydau. Rwyf fi a fy mhlaid o'r farn y byddai hyn yn helpu i annog y newid ymddygiad sydd ei angen i hyrwyddo teithio ar fysiau fel dewis amgen ymarferol yn lle'r car. Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwneud y cynnig.

17:00

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd yn:

1. Cydnabod ei bod yn argyfwng hinsawdd ac yn nodi mai trafnidiaeth sy’n gyfrifol am 17 y cant o allyriadau Cymru

2. Galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i leihau nifer y teithiau a wneir mewn ceir ac i annog pobl i newid eu ffordd o deithio i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol;

b) dilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddatgarboneiddio cerbydau a buddsoddi yn y seilwaith gwefru, a’i gydgysylltu, er mwyn i bobl allu troi at ddefnyddio cerbydau a beiciau trydan yn hyderus.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Delyth Jewell i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. 

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Dileu pwyntiau 1 a 2.

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Dileu pwynt 3(a) a rhoi yn ei le:

'Gwella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a gwyrddach cyn ystyried cyflwyno tollau a phrisio ffyrdd ar ffyrdd Cymru'.

Gwelliant 4—Siân Gwenllian

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 3(b):

ceisio datganoli llawn, gyda chyllid digonol, ar gyfer pob gwasanaeth rheilffordd yng Nghymru;

rhoi'r dasg i Drafnidiaeth Cymru o greu rhwydwaith rheilffyrdd i Gymru gyfan, sy'n cysylltu'r gogledd â'r de a'n galluogi traffig rheilffordd rhwng y prif ganolfannau poblogaeth;

cyfuno rheilffyrdd â gwasanaeth bws a reoleiddir i sicrhau bod opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei ddarparu ar gyfer pob rhan o Gymru, gan gynnwys trefi bach a phentrefi sydd â chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus achlysurol yn unig ar hyn o bryd;

rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol sefydlu eu cwmnïau bysiau trefol eu hunain;

pennu targed cenedlaethol lle bydd 10 y cant o'r holl deithiau'n cael eu gwneud drwy feicio neu deithio ar sgwteri erbyn 2030;

archwilio cynigion ar gyfer priffyrdd a thwneli trydan yn unig mewn ardaloedd lle mae llygredd aer uchel a thagfeydd.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y gwelliannau hynny. 

Pan ddatganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yn 2019, roedd llawer ohonom yn disgwyl gweld gweithredu radical, ac mewn rhai meysydd polisi rydym wedi gweld uchelgais cryf mewn perthynas â chartrefi, ynni, coedwigaeth—mae'r rhestr yn parhau—i gyd wedi'i glymu gyda'i gilydd gan darged sero-net beiddgar ar gyfer 2050, ond gwyddom i gyd fod angen uchelgais mwy radical, a mwy o weithredu'n sail iddo. Mae'r ddadl heddiw yn ymwneud â thrafnidiaeth, maes polisi y mae arnaf ofn fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei nodau ynddo er gwaethaf y ffaith bod 17 y cant o allyriadau Cymru yn deillio ohono.

Gadewch inni siarad am dollau, pwnc sydd eisoes wedi codi. Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu'r syniad fod modurwyr yng Nghymru yn talu i ddefnyddio ffyrdd er mwyn ceisio mynd i'r afael â llygredd aer. Yn amlwg, mae Deddf aer glân yn rhywbeth rwy'n ei gefnogi'n gryf, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi mynd ymhellach hyd yma nag ymgynghori â'r cyhoedd ar y mater, gan awgrymu tollau o amgylch yr M4 yn ardal Casnewydd a'r A470 yn ardal Pontypridd. Yn sgil beirniadaeth—a gwn fod hyn eisoes wedi codi yn y cyfraniad blaenorol—mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes unrhyw gynlluniau pendant ar gyfer y tollau hyn. Ac mae hyn yn anodd—rwy'n cydnabod bod hwn yn fater anodd. Mae pawb ohonom am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae'n sefyllfa anodd iawn, ond byddai'r tollau hyn, o'u cyflwyno, yn brifo'r tlotaf mewn cymdeithas.

Gwyddom fod mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng llygredd yn galw am feddwl integredig a dulliau o annog pobl i newid eu harferion mewn ffyrdd a fydd yn dod â hwy gyda ni. Hyd yn oed gyda'r tollau ar waith i groesi afon Hafren, er enghraifft, dros nifer o flynyddoedd cynyddodd y traffig oddeutu 4 y cant o flwyddyn i flwyddyn. Yn aml, yr hyn y byddai tollau'n ei wneud mewn gwirionedd yw cymell pobl i osgoi'r taliadau drwy ddilyn llwybr arall drwy gymunedau, gan arwain at fwy o dagfeydd a llygredd aer mewn trefi a phentrefi bach.  

Ond mae'r broblem yn dal i fodoli hefyd fod dileu tollau croesi afon Hafren hefyd wedi cynyddu traffig, ac felly wedi cynyddu allyriadau carbon a llygredd aer. Mae data gan Highways England wedi dangos, ar ôl cael gwared ar y tollau hynny, fod cynnydd o 18 y cant wedi bod yn y traffig sy'n croesi pont Hafren ei hun, a chynnydd o 34 y cant dros yr hen bont Hafren. Felly, gyda thollau neu heb dollau, mae'r allyriadau'n codi. Mae'n ymddangos bod ein harferion wedi gwreiddio'n ddwfn.

Nawr, mae llawer o bobl a busnesau yn dal i ddibynnu ar ffyrdd, ac mae angen newid dramatig i gyrraedd sero-net erbyn 2050. Byddwn yn croesawu sylwadau gan y Dirprwy Weinidog am gynlluniau i fuddsoddi mewn cerbydau trydan a'r seilwaith gwefru, ymchwil a datblygu i wella technolegau sy'n bodoli eisoes ac i ddatblygu technolegau'r dyfodol. Gallai Llywodraeth Cymru archwilio syniadau fel priffyrdd trydan yn unig a thwneli mewn ardaloedd lle ceir llygredd aer uchel a thagfeydd. Yn hollbwysig, Ddirprwy Lywydd, credwn y dylai Cymru fod yn gymuned gydgysylltiedig o gymunedau, ac mae angen i bobl ledled Cymru gael eu cysylltu â'i gilydd gan system drafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig gyda mwy o ddibyniaeth ar ddulliau teithio ecogyfeillgar. Rwy'n cydnabod bod hwn yn faes y mae'r Dirprwy Weinidog yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno y bydd angen mwy fyth o fuddsoddiad i allu gwireddu'r uchelgais. Beth am ofyn i Trafnidiaeth Cymru greu rhwydwaith rheilffyrdd i Gymru gyfan sy'n cysylltu'r gogledd a'r de a galluogi traffig rheilffordd rhwng prif ganolfannau poblogaeth? Beth am gyfuno rheilffyrdd â gwasanaeth bws wedi'i reoleiddio, a beth am roi pŵer i awdurdodau lleol sefydlu eu cwmnïau bysiau trefol eu hunain? Ac wrth gwrs, rhaid inni weld datganoli'r holl wasanaethau rheilffyrdd yn llawn yng Nghymru, gyda chyllid digonol. Nid yw'r sefyllfa bresennol ar gyfer y rheilffyrdd wedi gweithio. A allwn ni ymddiried yn San Steffan i gyflawni newidiadau hanfodol yng Nghymru? Credaf ein bod eisoes yn gwybod yr ateb i hynny.

Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, gadewch inni sicrhau ein bod yn mynd â phobl gyda ni ar y daith hon. Gadewch inni beidio â chosbi'r rhai sy'n methu ei fforddio. Gadewch inni yn hytrach gynnig gwell cyfleoedd trafnidiaeth iddynt. Beth am wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a'i wneud yn wyrddach cyn meddwl am dollau a phrisiau ffyrdd ar ffyrdd Cymru.

17:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, ni wneuthum eich clywed yn fy nghyflwyno.

Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gan Joel James ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae Delyth Jewell newydd ei ddweud hefyd. Pan fydd gennych bont gyda tholl ar ei thraws, mae'n gyfyngiad ar weithgarwch economaidd. Roedd hynny'n rhybudd clir, nid gan wleidydd ond gan ddarlithydd uchel ei barch mewn ysgol fusnes yng Nghymru—geiriau syml ond doeth a craff. Gall Llywodraethau'r DU sy'n cael eu rhedeg gan y Ceidwadwyr weld y pethau hyn, ac yn wir maent wedi gweld eu cyfle i gael gwared ar rwystrau i economi Cymru, oherwydd maent yn deall beth sydd ei angen ar economi ffyniannus. Un o'r rheini, fel y clywsom eisoes gan Joel James, oedd diddymu'r tollau cyfyngol wrth groesi afon Hafren. Ni ddylid anghofio'r gwersi a ddysgwyd o hyn. Arweiniodd dileu'r tollau at ddatgloi de Cymru, lle mae dwy ran o dair neu fwy o'r boblogaeth yn byw. Buddsoddodd Llywodraeth y DU yng Nghymru y diwrnod hwnnw drwy eu dileu. Roeddent am i'n heconomi gael ei rhyddhau ac fe wnaethant hynny. Arweiniodd cael gwared ar y tollau at arbed tua £1,400 y flwyddyn i'r cymudwr cyfartalog ac i fusnesau, fel y clywsom eisoes, yn ogystal â rhoi hwb enfawr i economi Cymru.

Ni ddylem fod o dan unrhyw gamargraff, Aelodau: byddai tollau ar y ffyrdd yn cael canlyniad negyddol enfawr ar yr economi yma. Byddent yn gweithredu fel troed arall ar gorn gwddf ein heconomi. Mae buddsoddwyr a diwydiant angen Llywodraeth sy'n gweithio gyda hwy, gan helpu i iro olwynion llwyddiant yma, nid y gwrthwyneb. Efallai fod bwriad da i gynigion Llywodraeth Cymru, ond dônt ar adeg pan ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth yn ei gallu i weithio i helpu ein heconomi i dyfu a ffynnu fel na wnaethant erioed o'r blaen. Gwelsom pa mor fregus y gall ein cadwyni cyflenwi fod ar adegau, a bydd seilwaith heb ei gysylltu'n dda a llyffethair ychwanegol fel tollau yn gwneud hynny'n waeth. Nid oes dianc rhag hynny.

Ac ar ôl mwy na dau ddegawd, mae'n warthus mai economi Cymru yw'r un sy'n dal i dangyflawni waethaf ym Mhrydain. Dyna waddol economaidd ofnadwy y mae Llywodraethau Llafur olynol yn y lle hwn yn ei adael i'n plant a'n hwyrion. Mwy o dollau a'r tâl atal tagfeydd posibl fyddai'r hoelen olaf yn yr arch, a fyddai'n sicr o achosi i lu o fuddsoddwyr posibl mewn busnesau sy'n bodoli eisoes fynd i rywle arall. Mae angen inni chwalu rhwystrau sy'n llesteirio twf economaidd, nid eu codi. Mae angen i ddileu rhwystrau i fewnfuddsoddi a thwf economaidd yn y dyfodol gan hyrwyddo trafnidiaeth werdd fod yn flaenoriaeth allweddol yn awr. Mae ymchwil a datblygu yng Nghymru wedi bod yn druenus o wael o'i gymharu â'n cymdogion yn y DU ac mae angen gwrthdroi hyn, fel y gellir cyflymu tanwyddau amgen y dyfodol, megis hydrogen gwyrdd, i bweru ein dulliau o symud nwyddau yn y dyfodol, gan gyrraedd ein targedau lleihau carbon fel canlyniad ychwanegol. Mae angen i groesawu a hyrwyddo trafnidiaeth werdd yn y dyfodol gydnabod pob math o drafnidiaeth, gan gynnwys cerbydau nwyddau trwm. Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig ar symud hyn i gyd yn ei flaen, yn enwedig gyda phwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan. Mae angen i hyn newid, Weinidogion. Gall Cymru fod yn agored o ddifrif i fusnes os gweithredir yn awr i atal penderfyniadau trychinebus rhag cael eu gwneud yn ogystal â hyrwyddo trafnidiaeth fwy gwyrdd. Diolch yn fawr.

17:10

Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon heddiw. O edrych ar welliant Llywodraeth Cymru sy'n tynnu sylw at arwyddocâd trafnidiaeth wrth wynebu her newid hinsawdd a lleihau allyriadau, a chyngor Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ar leihau teithiau ceir a sicrhau bod mwy o bobl yn newid i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, fe'm hatgoffir yn glir ein bod yn wynebu'r heriau hynny i raddau helaeth yn ne-ddwyrain Cymru. Wrth gwrs, dyna pam y cafwyd yr ymchwiliad i ffordd liniaru bosibl ar gyfer yr M4; penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen; sefydlu comisiwn Burns; ac yn awr, wrth gwrs, mae gennym y grŵp gweithredu, gyda'r dasg o fwrw ymlaen ag argymhellion y comisiwn.

Felly, yn ne-ddwyrain Cymru, o amgylch Casnewydd, mae'r heriau yno. Mae'r penderfyniadau wedi'u gwneud a'r strwythurau wedi'u sefydlu i ymateb i'r heriau hynny. Yr hyn yr ydym yn aros amdano'n eiddgar iawn yn awr, a'r hyn y mae pobl yn Nwyrain Casnewydd a'r cyffiniau yn aros amdano'n eiddgar iawn, yw gweld argymhellion Burns yn cael eu gweithredu.

Mae rhywfaint o rwystredigaeth ar hyn o bryd nad ydym yn gweld gweithredu ar gyflymder ac ar y raddfa sy'n angenrheidiol. Rwyf wedi cyfarfod â'r comisiwn ac wedi cael trafodaethau gyda gwahanol gyrff sydd â chyfrifoldeb, ac mae gwir angen inni ddod o hyd i ffyrdd ymlaen. Mae yna rai enillion cynnar, fel petai, sy'n bosibl. Rydym wedi gweld datblygiadau'n ymwneud â theithio llesol ac mae angen inni weld mwy, oherwydd rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd eisoes am bwysigrwydd teithio llesol i gael ffyrdd mwy ecogyfeillgar, iach a blaengar o symud pobl o gwmpas.

Mae angen inni weld datblygiadau cynnar ar ffurf gwell llwybrau bysiau a ffyrdd o gael mwy o bobl ar fysiau. Mae gwasanaeth bws fflecsi diddorol yng Nghasnewydd yn awr sy'n cael mwy o gefnogaeth gan deithwyr wrth inni ddod allan o'r gwaethaf, gobeithio, o'r pandemig, wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio a'n bod yn nesu'n agosach at fywyd fel yr oedd cyn y pandemig. Ond mae angen inni wneud rhywbeth ar raddfa lawer mwy yng Nghasnewydd mewn gwirionedd i gael pobl yn ôl ar ein bysiau mewn niferoedd llawer mwy.

Wrth gwrs, mae gwasanaethau trên a seilwaith ar gyfer trenau'n cymryd cryn dipyn o amser i'w hadeiladu a'u datblygu, ac mae'n eithaf anodd, efallai, i gael yr enillion cynnar hynny mewn perthynas â rheilffyrdd. Ond rwy'n meddwl ein bod yn ffodus yn Nwyrain Casnewydd fod Magwyr gennym, sy'n enghraifft dda iawn o ble y gallem wneud cynnydd cynnar o ran cael mwy o bobl ar ein trenau ac oddi ar y ffyrdd, a hynny oherwydd bod grŵp ymroddedig iawn yno wedi bod yn gweithio tuag at orsaf rodfa Magwyr ers sawl blwyddyn. Maent wedi cael cyfarfodydd di-rif gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Network Rail ac eraill wrth gyflwyno eu cynigion a chwilio am gymorth a phartneriaeth. Felly, mae posibilrwydd ym Magwyr o ddefnyddio llawer o waith sydd eisoes wedi digwydd a llawer o'r broses sydd eisoes wedi'i gwneud, efallai, i fwrw ymlaen ag enghraifft gynnar o sut y gallwn ymateb i'r her o gael pobl oddi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Byddwn yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, yn dilyn y ddadl hon heddiw, a chan gwybod maint yr heriau yn ne-ddwyrain Cymru, y broses yr ydym wedi mynd drwyddi, y sefyllfa yr ydym ynddi'n awr a'r uned gyflawni sydd bellach â thasg fawr o'i blaen—y bydd angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gennym ddigon o ffocws a phwysau i wneud cynnydd er mwyn sicrhau nad ydym yn llithro'n ôl o gwbl o ran y momentwm a adeiladodd o benderfyniad ffordd liniaru'r M4, comisiwn Burns, a sefydlu'r uned gyflawni. Mae gwir angen inni fwrw ymlaen a chyflawni, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill, yn sicrhau bod hynny'n digwydd.

17:15

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Nid cynlluniau codi tâl am ddefnyddio ffyrdd yw'r ateb i dagfeydd, na'r llygredd aer a grëwyd o ganlyniad i draffig llonydd. Clywsom Aelodau'n cwyno am yr anhrefn traffig dyddiol ar hyd rhannau o'r M4 yn ne Cymru. I lawer o fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd, mae diflastod tagfeydd ar yr A55 yr un mor rhwystredig ac yn rhwystr i dwf.

Mae'r diflastod dyddiol a wynebir gan gymudwyr wedi cynyddu o ganlyniad uniongyrchol i ddiffyg buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn ein seilwaith trafnidiaeth. Ers 22 mlynedd, mae Llafur Cymru wedi dinistrio ein seilwaith gwasanaethau cyhoeddus. Gwelsom ostyngiad enfawr yn nifer y teithiau bws lleol. Mae hyn yn newyddion arbennig o wael i fy etholwyr, gan nad oes gan 21 y cant o aelwydydd yn ardal gogledd sir Ddinbych gar neu fan at eu defnydd.

Yn anffodus, nid yw'r sefyllfa ar y trenau'n llawer gwell. Ni all Llywodraeth Cymru feio gweithredwyr preifat am y llanastr a wynebwn ar ein rhwydwaith rheilffyrdd—hwy sydd wedi bod yn rhedeg ein trenau ers 2018. Ac eto, er gwaethaf addewidion mawr, mae wedi bod yn fethiant mwy fyth. Mae'r diffyg gwasanaethau yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn syfrdanol. Mae llawer o'r trenau wedi rhoi'r gorau i redeg ar adegau prysur—sydd wedi gwneud i lawer o fy etholwyr ysu am weld dyddiau Arriva yn dychwelyd—hyd yn oed i'r pwynt lle nad oes gwasanaeth yn rhedeg i'r gorllewin o Gaer rhwng 5 p.m a 7 p.m. ar ddiwrnodau'r wythnos, ac mae hynny'n syfrdanol, o ystyried mai dyna'r oriau prysuraf. Efallai fod pethau'n ddrwg bryd hynny, ond o leiaf roeddent yn gyson. I'r rhai sydd â cherbyd preifat at eu defnydd, nid yw'n syndod y byddai'n well ganddynt eistedd mewn tagfa ar yr A55—fe wyddant o leiaf y byddant yn cyrraedd eu cyrchfan yn y pen draw.

Rydym i gyd yn derbyn yr angen i fynd i'r afael â llygredd aer yn ogystal â'r angen i weithredu ar newid hinsawdd. Fodd bynnag, nid cosbi defnyddwyr y ffyrdd yw'r ffordd, ac ni fydd codi tâl am ddefnyddio ffyrdd yn ysgogi newid i ddulliau teithio.  Mae pobl yn dibynnu ar y car am nad oes dewis arall, yn enwedig yn fy rhan i o'r byd. Y ffordd o sicrhau aer glân yw drwy wella ffyrdd, nid drwy gyfyngu ar eu defnydd. Ffyrdd yw'r cyswllt hanfodol rhwng cymunedau. Gallwn fynd i'r afael â llygredd ac allyriadau carbon deuocsid drwy wella'r cerbydau sy'n defnyddio'r cysylltiadau hanfodol hyn. Ond unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn methu yn hyn o beth. Mae gan ddau fwrdeistref yn Llundain fwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan na Chymru gyfan. Mae prinder difrifol o bwyntiau gwefru ar hyd yr A55, sy'n ei gwneud yn anodd iawn i unigolion a busnesau roi'r gorau i'r peiriant tanio mewnol. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn treialu cynllun tacsi gwyrdd, ond oni welwn gynnydd enfawr yn y seilwaith gwefru, mae cynlluniau o'r fath yn mynd i barhau i fod yn fentrau trefol yn unig. Mae arnom angen seilwaith gwefru, nid cynlluniau codi tâl, os ydym am ddatgarboneiddio trafnidiaeth o ddifrif a gwella ansawdd aer, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.

Dwi wedi bod yn gwrando’n astud ar bawb yn cyfrannu heddiw, a dwi’n clywed lot o ddadleuon sy'n gwrth-ddweud ei gilydd mewn ffordd. Un sialens i’r Torïaid, wrth gwrs, ydy’r diffyg buddsoddiad gan y Llywodraeth Brydeinig cyn i’r Senedd hon fod yn bodoli, oherwydd mae hon wedi bod yn broblem sydd efo ni ers degawdau, ac er bod yna feirniadaeth gen i o ran Llywodraeth Cymru hefyd ers i ni gael y Senedd hon, mae yna gyfrifoldeb ar Lywodraeth Prydain hefyd, a dwi’n meddwl bod yn rhaid inni gyd gydnabod hynny.

Mae’n ddadl gymhleth, onid ydy, oherwydd trafnidiaeth ar un llaw, ond hefyd, fel rydyn ni’n gweld, mae’r argyfwng hinsawdd yn greiddiol i hyn i gyd, a hefyd iechyd cyhoeddus—maen nhw i gyd yn cysylltu efo’i gilydd. Ac er bod fy mod i wedi mynegi pryderon yn gynharach o ran tollau o ran yr A470, dwi ddim yn erbyn y syniad o dollau neu weithredu radical os ydy o yng nghyd-destun ehangach. I mi, pan fuodd trigolion yn derbyn holiaduron dros yr haf, cysylltu efo mi nid i gwyno y byddai'n rhaid iddyn nhw dalu i ddefnyddio'r A470 oedd trigolion ardal Pontypridd, ond pryderu ynglŷn â'r effaith y byddai hyn yn ei gael ar gymunedau a llygredd aer. A'u cwestiwn nhw i fi oedd: 'Rydyn ni'n byw mewn ardal rŵan lle mae mae pawb yn dweud bod llygredd aer yn broblem, ei fod o'n beryglus. Felly, rydych chi'n mynd i ddod â mwy o draffig drwy ein cymunedau ni?'

Mi fydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol fy mod i wedi ysgrifennu ato fo yn gofyn, yn ddiweddar, am y dystiolaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha mor effeithiol mae gweithredu 50 milltir yr awr o ran ardal rhwng Pontypridd ac Upper Boat wedi bod. Mi wnaethoch chi ddod â datganiad yn gynharach yr wythnos yma yn sôn bod yna ostyngiad o 47 y cant yn y lefelau nitrogen deuocsid yn yr ardaloedd hyn wedi dod, ond dwi'n methu â ffeindio'r data yna yn unman ar y funud, a byddwn i wrth fy modd pe bai modd cael gweld hynny. Oherwydd i fi, mi fyddai gweld bod effaith pethau fel 50 milltir yr awr wedi gwneud gwahaniaeth yn creu—o ran y cymunedau hynny sydd yn dioddef lefelu uchel o lygredd aer ar y funud, mi fyddai fo yn tawelu eu meddyliau nhw i weld bod pethau'n gwella. Wedyn, os ydy'r data yna, os gwelwch yn dda, ar gael, mi fyddwn i'n eu gwerthfawrogi.

Yn ystod y ddadl yn gynharach, mi oedd y cysylltiad posib rhwng dementia a llygredd aer wedi'i grybwyll. Ond, yn 2018, fe gyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd adroddiad ynglŷn â llygredd aer ac iechyd plant, ac mi ddangosodd hwnnw'n glir sut y gall llygredd aer effeithio ar niwroddatblygiad a gallu gwybyddol a sbarduno asthma a chanser mewn plant. Hefyd, gall plant sydd wedi cael eu magu mewn mannau gyda lefelau uchel o lygredd aer fod mewn mwy o berygl o gael clefydau cronig fel clefyd cardiofasgwlaidd yn ddiweddarach mewn bywyd.

Felly, i mi, mae'r holl beth o ran trafnidiaeth gymaint mwy, onid ydy, na jest y mater o ran sut ydyn ni'n teithio i lefydd. Mi fuaswn i'n gobeithio ein bod ni i gyd yn gytûn, er bod yna rai dadleuon wedi cael eu rhoi heddiw o ran hawl modurwyr ac ati, a hawl pobl i ddefnyddio ceir ac ati. Oni ddylwn ni i gyd fod yn gweithio i gael gwared ar gyn gymaint o geir â phosib oddi wrth ein ffyrdd? Wedi'r cyfan, argyfwng hinsawdd. Mi welson ni weithredu radical o ran yr argyfwng efo COVID ac ati; mi welson ni ei bod hi'n bosib lleihau traffig ar ein lonydd ni, fod yna ffyrdd amgen o fyw.

Mi oeddwn i wedi fy nhristau bore yma yn cropian o Bontypridd i'r bae hwn yn fy nghar, o weld bod lefelau'r traffig yr un mor wael â mi oedden nhw cyn COVID. Mi oedd o'r gwaethaf dwi wedi ei weld ers cyn COVID. A'r rheswm roeddwn i yn y car yn hytrach na'r trên oedd oherwydd bod yn rhaid i fi fod yn Ynysybwl erbyn 19:45 heno yma, a dyna'r unig ffordd mai sicrhau fy mod i yno er mwyn bod mewn cyfarfod efo'r rhai dwi'n eu cynrychioli.

Felly, mae hi'n broblem o ran buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. A dwi'n meddwl hefyd am bawb sydd yn methu â fforddio trafnidiaeth gyhoeddus ar y funud. Mae'n broblem ehangach. Rydyn ni wedi sôn, mewn trafodaethau blaenorol ers mis Mai, ynglŷn â buddsoddi mewn gwasanaeth bysiau ac ati. Dwi'n gwerthfawrogi bod y Dirprwy Weinidog wedi sôn am bwyslais hyn, ond dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn gytûn felly: mae'n rhaid inni feddwl yn holistig. Mae rhoi yr holl wrthddadleuon yma ynglŷn â hawliau pawb—mi fydd yn rhaid inni wneud rhai penderfyniadau anodd. Efallai y bydd tollau yn un o'r rheini yn y dyfodol, ond, am rŵan, dydy o ddim yn opsiwn. Edrych ar y pethau amgen, ond mae eu hangen nhw ar frys. Allwn ni ddim aros pan fo yna argyfwng hinsawdd. Mae angen gweithredu.

17:20

Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwyf am wrthbrofi un neu ddau o'r pethau y mae'r Ceidwadwyr eisoes wedi'u dweud. Rwyf am gwestiynu greal sanctaidd effaith gadarnhaol dileu tollau croesi afon Hafren. Efallai y bydd Peter Fox yn cofio cymaint y cynyddodd y pwysau ar dai yn yr ardaloedd o amgylch sir Fynwy, wrth ymyl ein ffin â Lloegr, oherwydd, yn amlwg, roedd yn fwy deniadol i bobl a oedd yn byw yn ardal Bryste ddod i fyw mewn tai rhatach yng Nghymru. Felly, yn amlwg, gallai hynny gynyddu llawer o'r traffig cymudo, sy'n amlwg yn cynyddu ein hallyriadau carbon. Wrth gwrs, rwy'n parchu'r ffaith ei fod wedi gostwng y costau i bobl a oedd yn gorfod mynd i weithio ar yr ochr arall i'r ffin am nad oeddent yn gallu cael gwaith addas yng Nghymru, ond serch hynny, mae cost sylweddol wedi deillio o ddileu'r tollau ar bont Hafren, a chydnabyddir hynny'n llawn yn adroddiad Awdurdod Cyfun Gorllewin Lloegr y mae Caerdydd yn aelod ohono. Mae'n sôn am gost fawr y tagfeydd cynyddol i'r rhanbarth, cost y maent yn ystyried ei bod yn £300 miliwn y flwyddyn, a bod dileu tollau pontydd Hafren yn debygol o fod wedi gwaethygu'r broblem. Felly, maent bellach yn ystyried mesurau rheoli galw, megis codi tâl ar y ddwy ochr i afon Hafren er mwyn codi refeniw ar gyfer dewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy amgen.

Hefyd, hoffwn gywiro Joel James ynglŷn â'r syniad mai Caerdydd, rywsut, yw'r ddinas sy'n tyfu fwyaf yn y DU o ganlyniad i ostwng y tollau. Caerdydd oedd y ddinas a oedd yn tyfu gyflymaf yn y DU yn barod, cyn y tollau, a gobeithio y gwelwn dwf ychydig yn llai oherwydd effaith yr holl draffig ar lefelau anghyfreithlon o lygredd aer. Pam ar y ddaear y byddem am ddiystyru tollau fel ysgogiad polisi os canfyddwn fod llygredd aer yn un o brif achosion dementia? Rwy'n cyfeirio'n ôl at y ddadl a gawsom yn gynharach. Rhaid inni ei gael yn yr arfogaeth rhag ofn y bydd ei angen arnom, oherwydd ni allwn barhau i wneud ein poblogaeth yn agored i lefelau anghyfreithlon o lygredd aer. 

Hoffwn eich atgoffa o ddyfyniad gan eich arweinydd eich hun. 'Mae angen i'r ddynoliaeth dyfu i fyny a dod yn oedolyn', meddai Boris Johnson. Wel, rwy'n credu bod angen i'r Ceidwadwyr Cymreig dyfu i fyny a dod yn oedolion. Mae gennym argyfwng hinsawdd, ac mae hynny'n golygu bod rhaid inni newid ein ffyrdd. Gadewch imi egluro wrthych beth y mae hynny'n ei olygu. Roedd tystiolaeth i'r pwyllgor newid hinsawdd a'r amgylchedd gan Sustrans yn ein hatgoffa nad yw newid o gerbydau diesel a phetrol yn mynd i fod yn ddigonol i gyrraedd ein targedau lleihau allyriadau carbon y gwnaethoch chi, y Torïaid, bleidleisio drostynt. Felly, hyd yn oed os yw pob car newydd yn un allyriadau isel iawn erbyn 2035, bydd yn rhaid inni leihau nifer y milltiroedd a deithiwn yn ein ceir 58 y cant rhwng 2016 a 2035 os ydym am osgoi'r trychineb o beidio â chyrraedd ein targedau lleihau carbon. Felly, bydd yn rhaid inni wneud pethau'n wahanol.

Hoffwn ofyn i Joel James sut y teithiodd i'r Senedd heddiw, oherwydd, os na fyddwn ni yn newid ein ffyrdd, ni allwn ddisgwyl i bobl eraill—

17:25

Wel, dyna syniad da; dyna pam y gall arwain ar y—. Ond y pwynt yw, os ydym am gynnig tocynnau bws am ddim i bobl ifanc 16 i 25 oed—rhywbeth nad wyf yn ei ddiystyru fel syniad gwych—rhaid inni gyfrifo sut y byddwn yn talu am wneud hynny. Yn yr un modd, rwyf am—. Rwy'n cwestiynu'r syniad gan Gareth Davies y byddai'n well gan bobl eistedd mewn ciw ar yr A55. A fyddai'n well ganddynt wneud hynny na thalu toll i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus—o ddifrif?

Ac yn olaf, rwy'n credu fy mod am—[Torri ar draws.] Hoffwn ein hatgoffa mai un o'r bobl eraill sy'n edrych ar y tollau yw eich Canghellor chi. Ac yn gwbl briodol hefyd, oherwydd mae'r doll ar danwydd yn werth £40 biliwn i'r Trysorlys ar hyn o bryd, ac mae honno'n talu am yr holl wasanaethau pwysig y mae pawb ohonom yn eu caru—

—ac yn eu gwerthfawrogi. Felly, sut y down o hyd i arian yn lle'r £40 biliwn hwnnw pan nad yw pobl yn prynu petrol a diesel mwyach ac yn defnyddio ceir sy'n cael gwefru gan ynni adnewyddadwy, neu fel arall ni fydd yn werth dim?

Felly, os yw Llywodraeth y DU yn ystyried codi tâl fel mecanwaith, fel a ddefnyddir yn eang mewn mannau fel Ffrainc—ac nid yw'r byd wedi rhoi'r gorau i droi yn Ffrainc—ac fel a ddefnyddir yn eang ar dwnnel Dartford i'r dwyrain o Lundain, pam ar y ddaear na allai fod yn arf polisi yn y wlad hon, os oes arnom ei angen? Pam—

17:30

—fod gyrwyr ceir yn credu bod ganddynt hawl ddwyfol i deithio am ddim ar ein ffyrdd pan fo'n rhaid i bob un ohonom ni dalu pan fyddwn yn mynd ar y trên neu ar fws?

I ateb Jenny Rathbone, y rheswm pam y mae pwysau ar sir Fynwy yw am na wnaeth eich Llywodraeth chi adeiladu tai yn y lle cyntaf, dyna oedd y broblem.

Weinidog, fel y gwyddom i gyd, ein ffyrdd ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig yw'r rhydwelïau hanfodol sy'n ein cysylltu ni i gyd. Mae'r ddynoliaeth wedi creu rhwydwaith cymhleth o ffyrdd sy'n cysylltu cymunedau ym mhob rhan o Gymru ac wedi dod â ni i gyd yn agosach at ei gilydd. Ac mae wedi gwneud y gemau rygbi a phêl-droed lleol hynny'n llawer haws i bobl eu mynychu.

Rhaid inni beidio byth ag anghofio'r aberth, yr amser a'r ymdrech a aeth i gysylltu ein gwlad. Rydym yn defnyddio ein rhwydwaith ffyrdd i gludo nwyddau a gwasanaethau ar draws pellteroedd hir a byr i dyfu ein heconomi yma yn y Deyrnas Unedig. Roedd y rhwydwaith ffyrdd hefyd, am y tro cyntaf mewn hanes dynol, yn rhoi cyfle i bobl a oedd â cherbyd neu ddulliau eraill o deithio i wneud hynny ar draws ein gwlad fawr ac ymweld â lleoedd, rhywbeth a oedd, ar un adeg, yn cael ei ystyried yn ddim mwy na breuddwyd. Ni ddylid tanbrisio'r rhyddid yr ydym i gyd yn ei fwynhau heddiw ar ein ffyrdd.

Fodd bynnag, mae'r amseroedd wedi newid. Rydym yn deall y pwysau real ar ein hamgylchedd. Rydym wedi symud at ddulliau mwy cynaliadwy o deithio. Mae  datblygiad y car trydan wedi bod yn un o ddyfeisiadau gwych y cyfnod modern, ac rydym mewn sefyllfa bellach i symud at drafnidiaeth fwy gwyrdd, gan ddefnyddio pŵer hydrogen, a rhaid i'r Llywodraeth hon wneud mwy i fuddsoddi yn y technolegau gwyrdd a rhoi hwb i'r chwyldro gwyrdd hwnnw. Ac rwyf am dalu teyrnged gyflym i Riversimple, sy'n arwain y ffordd yng Nghymru gyda'r dechnoleg hon.

Yn fy etholaeth i ym Mrycheiniog a Maesyfed, mae'r rhwydwaith ffyrdd yn hanfodol bwysig i fy etholwyr sy'n teithio'n bennaf allan o'r sir i weithio oherwydd y drafnidiaeth gyhoeddus wael sy'n gwasanaethu ein cymunedau. Mae'r cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru'n eu llunio ar gyfer teithio llesol yn wych os ydych yn byw mewn dinas, ond os ydych yn byw yng nghefn gwlad Cymru, mae eich mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn llawer mwy cyfyngedig, ac mae'r Llywodraeth yn anghofio hyn dro ar ôl tro. Dyna pam fy mod mor bryderus ynglŷn â galwadau Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ffordd a thollau ffyrdd yng Nghymru, gan honni eu bod yn diogelu'r amgylchedd. Os yw'r Llywodraeth hon am ddiogelu'r amgylchedd, efallai y dylech roi'r gorau i roi cyllid trethdalwyr tuag at faes awyr, neu efallai y dylech newid y fflyd gyfan o geir Gweinidogion o fod yn rhai sy'n rhedeg ar ddiesel i fod yn rhai sy'n rhedeg ar ynni gwyrdd, ond ni allaf eich gweld yn gwneud hynny. Mae gennych ambell Nissan Leaf, felly rydych chi'n mynd rywfaint o'r ffordd i ddatrys y broblem. Ac efallai y gallech hefyd gyflawni'r Ddeddf aer glân yr ydych yn hoffi siarad llawer iawn amdani.

Mae angen inni weld y Llywodraeth hon yn buddsoddi mwy o arian mewn pwyntiau gwefru trydan ac yn darparu mwy o gyllid ar gyfer ymchwil a datblygu pŵer hydrogen. Y gwir amdani yw y bydd trethi ffyrdd yn atal y tlotaf yn ein cymdeithas rhag gallu teithio a mwynhau eu bywydau yn y ffordd y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr nad yw'r Aelodau Llafur am wneud dim i niweidio'r tlotaf yn ein cymdeithas. Credaf y dylai Llywodraeth Cymru fod yn dryloyw a chynhyrchu papur sy'n dangos inni pwy fydd y tollau a'r trethi hynny'n eu taro galetaf. Pobl dlawd y wlad hon yr hoffwch ddweud eich bod yn eu cynrychioli—[Torri ar draws.] Na, nid wyf am dderbyn ymyriad, nid oeddech chi am dderbyn un yn gynharach.

Mae hyn yn ymddangos i mi fel cam ideolegol a fydd yn costio i fusnesau ac yn taro ein heconomi mewn ffordd na allwch ei rhagweld. Bydd yn cyfyngu ar ryddid dinasyddion Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth na allaf ei dderbyn. Mae'n drueni heddiw fod Llafur wneud gwneud eu 'dileu'r cyfan' arferol i'n cynnig, gan osgoi'r pwnc unwaith eto. Gobeithio y bydd yr Aelodau yn y Siambr hon yn cefnogi ein cynnig. Rydym yma i wella bywydau pobl Cymru, nid eu hamddifadu o'u rhyddid dan sosialaeth ac ychwanegu beichiau ychwanegol i'w bywydau. Felly, gofynnaf i bob Aelod yn y Siambr gefnogi'r cynnig Ceidwadol hwn a chefnogi pobl weithgar Cymru. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd yn rhaid i Aelodau ateb cwestiynau eu hwyrion un diwrnod ynglŷn â'r hyn a wnaethant pan gyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig rybudd coch am gyflwr y blaned, ac yn seiliedig ar eu cyfraniadau y prynhawn yma, y cyfan a glywsom yw ymdrechion i greu rhaniadau. Dyna a glywsom y prynhawn yma. Dro ar ôl tro, ymdrech i rannu pobl yn seiliedig ar anwireddau. Clywsom Joel James yn agor y ddadl drwy ddweud bod cryn bryder ymhlith modurwyr. Mae'r pryder hwnnw wedi codi yn sgil y ffaith bod y Ceidwadwyr wedi bod yn pweru algorithmau Facebook dros yr haf, gan gynhyrfu'n fawr ar sail ffeithiau ffug.

Dywed James Evans fod galwadau gan y Llywodraeth hon i gyflwyno cynlluniau i godi tâl ar y ffyrdd. Fe ddywedodd hynny. Ni chynhyrchodd unrhyw dystiolaeth ar gyfer hynny o gwbl. Nid oes galwadau gan y Llywodraeth hon i gyflwyno cynlluniau i godi tâl ar y ffyrdd, fel y cydnabu Joel James yn ateb y Prif Weinidog ddoe i Tom Giffard. Gwnaeth yn glir iawn beth oedd y tu ôl i'r holiadur a ddosbarthwyd dros yr haf. Mae Llywodraeth y DU yn casglu tystiolaeth fel y mae'n rhaid i ni ei wneud drwy orchymyn llys i edrych ar wahanol opsiynau. Mae hwn yn opsiwn y mae'n rhaid inni edrych arno fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth a gasglwn ar gyfer y Ddeddf aer glân. Gwnaethom yn glir iawn nad yw'n rhan o'r pecyn polisi y bwriadwn bwyso arno. Felly, maent yn gwybod hynny ac eto maent yn parhau i chwifio'r faner i geisio creu rhaniadau ar adeg pan ydym yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur.

Mae hwn yn gyfnod difrifol, mae angen i wleidyddion difrifol roi ystyriaeth ddifrifol ac ymatebion difrifol, ac mae meinciau'r Ceidwadwyr wedi dangos eto y prynhawn yma nad ydynt o ddifrif ynglŷn â'r broblem. Ac fel y dyfynnodd Jenny Rathbone, gwelsom Boris Johnson yr wythnos hon yn dweud bod angen i ddynoliaeth fod o ddifrif ynglŷn â'r sefyllfa hon, ac nid oes gan y Ceidwadwyr Cymreig unrhyw ddiddordeb mewn mynd i'r afael â'r dewisiadau anodd sy'n ein hwynebu. A chredaf eu bod yn anonest iawn yn dod gerbron y Siambr hon dro ar ôl tro, gan gefnogi targedau, ein hannog i fynd yn gyflymach, ein hannog i fod yn fwy beiddgar, ond pan ddaw'n fater o'r pethau y mae angen i chi eu gwneud i sicrhau newid mewn gwirionedd, maent yn rhedeg i guddio bob tro, y tu ôl i'r un hen ystrydebau, ac mae'n dechrau mynd yn fwrn, gan fod Julie James a minnau, bob dydd, yn ymrafael â chymhlethdodau'r newid y mae'n rhaid inni fynd drwyddo, gan wrando ar gyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd y mae Llywodraeth y DU eu hunain wedi'i sefydlu, sy'n mynd yn groes i'r hyn a ddywedwyd gan bawb ohonoch chi. Felly, hoffwn awgrymu wrth y Ceidwadwyr Cymreig fod yr amser yn dod pan fydd yn rhaid iddynt wynebu ffeithiau a thyfu i fyny, neu fel arall dylent gau eu cegau, oherwydd nid yw hyn yn adeiladol i'r her a wynebwn fel Llywodraeth wrth geisio mynd i'r afael â'r problemau anodd hyn. [Torri ar draws.] Os yw'r Aelodau'n credu bod honno'n iaith anseneddol, gallwn ddweud pethau llawer gwaeth, a bod yn onest. [Chwerthin.]

17:35

Nawr, gwnaed cyfres o bwyntiau y ceisiaf fynd i'r afael â hwy yn eu tro. Fe'm trawyd gan ddadl Joel James. Dywedodd ei fod o blaid Deddf aer glân ond ei fod yn erbyn datgymhellion, ac roedd ei ddisgrifiad o sut brofiad oedd beicio yn destun penbleth i mi. Clywsom am bobl yn glanio ar ymylon ffyrdd wedi'u hamgylchynu gan anifeiliaid marw a sbwriel, a rhaid imi ddweud, nid dyna fy mhrofiad i o feicio, a byddwn yn awgrymu bod hynny'n eithaf anghyffredin. Gwelais ei fod allan gyda Sustrans dros yr haf, ac fe'm calonogwyd yn fawr gan hynny, ond nid wyf yn siŵr a aeth ar gefn y beic mewn gwirionedd. Ond o ddifrif, hoffwn ddweud bod hyfforddiant beicio i oedolion yn rhan bwysig iawn o'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud, oherwydd mae gan lawer o bobl ganfyddiadau ynglŷn â sut brofiad yw beicio ar deithiau byr nad ydynt wedi'u gwreiddio mewn realiti, ac mae'r canfyddiadau ffug hynny'n rhwystrau gwirioneddol i newid ymddygiad pobl. Felly, un o'r pethau yr ydym yn edrych arno drwy ein buddsoddiad mwy nag erioed mewn teithio llesol, y mwyaf y pen mewn unrhyw ran o'r DU, yw sut y gallwn alluogi oedolion i ailhyfforddi, i feicio'n ddiogel ac yn gyfforddus, fel y gellir chwalu'r mythau y mae Joel James wedi bod yn eu lledaenu.

Daeth yn amlwg hefyd o gyfraniad rhyfeddol Gareth Davies mai ei gysyniad o Ddeddf aer glân, y maent yn dal i ddweud wrthym eu bod am ei chyflwyno, yw y dylem adeiladu mwy o ffyrdd o ganlyniad. Felly, mae honno'n gyfres ddiddorol iawn o gynigion, oherwydd mae mwy o ffyrdd yn cynhyrchu mwy o garbon ac yn cynhyrchu mwy o nitrogen deuocsid o'r traffig y maent yn ei ysgogi. Byddwn wrth fy modd yn clywed mwy.

Mae'r ddadl yn ymwneud â'r cerbyd ei hun. Os ydym yn gwella ansawdd y cerbydau o ddiesel a phetrol i drydan ar nifer cynyddol o ffyrdd, dyna'r pwynt rwy'n ei wneud, yn hytrach na'r ffyrdd presennol gyda cheir diesel.

Rwy'n deall y ddadl, rwyf hefyd yn deall y dystiolaeth, ac mae'r dystiolaeth gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn dangos nad yw hynny'n wir, oherwydd os ydych yn adeiladu mwy o ffyrdd, rydych wedi ymgorffori carbon yn y ffyrdd eu hunain, sy'n gynhyrchwyr allyriadau sylweddol. Mae cynhyrchu'r ceir ychwanegol a ddaw o'r gofod ffordd ychwanegol ynddo'i hun yn cynhyrchu carbon. A hyd yn oed pe bai gennych 100 y cant o geir trydan, rhywbeth sydd flynyddoedd lawer i ffwrdd, rydych yn dal i fod angen cynhyrchu ynni ychwanegol i'w pweru, ar ben yr holl fanteision negyddol eraill sydd gennym o fod gormod o geir yn ein trefi a'n dinasoedd, gyda lledaeniad siopau y tu allan i'r dref yn bygwth ac yn lladd canol trefi yn un, ac rwy'n eu clywed yn cwyno am hynny hefyd. Felly, mae arnaf ofn nad yw'r ddadl yn gwrthsefyll craffu ar y ffeithiau.

Ond nid wyf yn credu bod ganddynt ddiddordeb yn y ffeithiau; mae ganddynt ddiddordeb mewn cynhyrfu pobl yn hytrach na wynebu'r dewisiadau anodd y mae'n rhaid i ni, fel cymdeithas, eu hwynebu i wneud cynnydd yn erbyn yr her gymdeithasol ddirfodol hon. Ac unwaith eto, rwy'n dweud wrth yr Aelodau, er mwyn cyrraedd y targedau newid hinsawdd yr ydym i gyd wedi ymrwymo iddynt, mae angen inni wneud mwy o doriadau yn y 10 mlynedd nesaf i allyriadau nag y llwyddasom i'w gwneud dros y 30 mlynedd diwethaf. Nid wyf wedi clywed un cynnig difrifol gan y Ceidwadwyr ynglŷn â sut y byddent yn gwneud hynny, a hoffwn ofyn iddynt feddwl am hynny, a gwneud cyfraniad adeiladol i'r heriau sydd o'n blaenau.

I droi at rai o'r cyfraniadau eraill sy'n haeddu ymateb mwy difrifol, rwy'n cytuno'n llwyr gyda Delyth Jewell mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw gwella trafnidiaeth gyhoeddus cyn inni ddechrau meddwl am dollau. Ond fel y nododd Jenny Rathbone yn gywir, y Llywodraeth Geidwadol sydd wedi dweud na fydd hi'n gyfreithlon i werthu ceir diesel a phetrol erbyn diwedd y degawd hwn, ac mae hynny'n golygu y bydd angen newid yr holl sylfaen drethu. Os nad oes gennych geir petrol, ni allwch godi treth ar betrol; felly mae angen i chi ddod o hyd i ffordd arall o gynhyrchu'r £40 biliwn y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato.

Hoffwn glywed y syniadau oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr, oherwydd maent yn beiriant syniadau arloesol y prynhawn yma hyd yn hyn ynglŷn â sut i gynhyrchu'r refeniw hwnnw. Ond mae'n debyg fod codi tâl ar bobl yn ôl faint y maent yn ei yrru yn syniad synhwyrol; mae'n sicr yn syniad y mae Trysorlys eu Llywodraeth eu hunain yn edrych arno wrth inni siarad. Ond unwaith eto, nid oes a wnelo hyn â dadl ddifrifol i drafod syniadau difrifol; mae hyn yn ymwneud ag abwyd clicio a cheisio dosbarthu taflenni i pobl sy'n pryderu am y dewisiadau sy'n rhaid i bob un ohonom eu hwynebu fel cymdeithas. Mae gennym gynlluniau difrifol ar gyfer newid dulliau teithio, ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus, ar gyfer rhoi dewisiadau amgen go iawn a realistig i bobl ynghyd ag ymgyrch newid ymddygiad, i roi'r cymhellion a'r wybodaeth i bobl er mwyn ceisio eu hannog i ymddwyn yn wahanol.

Rwy'n ymddiheuro i'r Aelodau am fethu ymdrin â'r holl bwyntiau dilys a wnaethant, ond roeddwn yn meddwl ei bod yn werth rhoi amser i geisio datglymu'r nonsens a glywsom gan y Blaid Geidwadol fel y gallwn ddechrau canolbwyntio fel Senedd ar atebion go iawn i broblemau go iawn yn hytrach na malu awyr yr wrthblaid.

17:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw? Agorodd fy nghyd-Aelod, Joel James, y ddadl heddiw, gan alw ar y Llywodraeth mewn nifer o feysydd, ond yn gyntaf oll, nododd Joel effaith gadarnhaol dileu tollau croesi afon Hafren. Roeddwn yn credu'n wirioneddol y gallai hyn fod yn rhywbeth y byddai pob Aelod yn cytuno yn ei gylch, ond nid yw hynny'n wir. Rwy'n gwerthfawrogi sylwadau Jenny Rathbone yn ei chyfraniad heddiw; nid wyf yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd, ond rwy'n gwerthfawrogi'r pwyntiau a wnaethpwyd. Credaf yn wirioneddol fod yna effaith gadarnhaol wedi deillio o ddileu tollau croesi afon Hafren.

Hefyd, nododd Joel James ein pryder am yr argymhellion gan y Llywodraeth ynglŷn â'r tollau posibl ar yr M40, yr A470, yr A55, a chefnffyrdd eraill. Dywedodd y Dirprwy Weinidog nad ydynt yn argymhellion; mae'n arolwg sy'n awgrymu y gallai hyn ddigwydd. Felly, credaf fod peth gwahaniaeth barn ynglŷn ag ystyr 'argymhelliad'.

Hefyd, nododd fy nghyd-Aelod, Joel James, awgrymiadau cadarnhaol gennym ni fel Ceidwadwyr Cymreig ynghylch hyrwyddo trafnidiaeth wyrddach, ynghylch cefnogi'r ddarpariaeth o bwyntiau gwefru trydan, sy'n rhywbeth rwy'n teimlo'n angerddol amdano fy hun. Credaf fod rôl i'r Llywodraeth yma i gefnogi pwyntiau gwefru trydan ledled Cymru, oherwydd mae'n rhaid inni dorri cylch yr iâr a'r wy; ni chaiff pwyntiau gwefru trydan mo'u hadeiladu hyd nes bod gennym geir trydan, ac ni welir cynnydd cyflym yn niferoedd y ceir trydan yr hoffem eu gweld oni bai bod gennym bwyntiau gwefru yn eu lle. Felly, mae rôl i'r Llywodraeth gamu i mewn yma nes y gall y sector masnachol chwarae ei ran yn y ddarpariaeth honno.

Hefyd, hyrwyddo teithio llesol ymhellach; rwy'n gwerthfawrogi cyfraniad Aelodau eraill a siaradodd yn dda yn y ddadl heddiw, John Griffiths ac eraill, a soniodd am fentrau yn eu hardaloedd eu hunain, fel y maent wedi'i wneud o'r blaen. A chynnig tocynnau bws am ddim i rai rhwng 16 a 25 oed hefyd; credaf fod rhywfaint o sôn am gost hynny. Rwy'n credu efallai mai Jenny a soniodd am hynny. Wel, mae wedi'i gostio, oherwydd roedd yn gynnig ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig; roedd yn rhywbeth a gafodd ei gostio yn y maniffesto hwnnw hefyd.

Diolch i Delyth Jewell am gynnig gwelliant Plaid Cymru heddiw, a hefyd i Heledd Fychan am siarad am y pwyntiau hynny. Ar welliant Plaid Cymru, credaf ein bod yn cytuno at ei gilydd â'r pwyntiau a wnaed yn y cyfraniadau ac yn y gwelliant a gyflwynwyd. Credaf mai'r unig gwestiwn a fyddai gennym yw bod rhai costau uchel posibl yn rhai o'r meysydd a amlinellodd Plaid Cymru yn eu gwelliant, felly credaf ein bod ni fel Ceidwadwyr am wybod mwy am y costau hynny cyn y gallem eu cefnogi. Ond ceir egwyddor gyffredinol o gefnogaeth, rwy'n meddwl, i welliannau Plaid Cymru heddiw.

Siaradodd fy nghyd-Aelodau eraill y prynhawn yma—Peter Fox, Gareth Davies—a chyflwynwyd awgrymiadau cadarnhaol i'r Llywodraeth yn fy marn i. Gallaf weld y Dirprwy Weinidog yn chwerthin. Ond fe gafwyd sylwadau cadarnhaol, ac ni nododd y Dirprwy Weinidog yr un ohonynt o gwbl—fe wnaeth eu diystyru, gan ddweud wrthym am gau ein cegau, ac nid wyf yn credu bod hynny'n briodol o gwbl. Ond yr hyn y mae fy nghyd-Aelodau'n ei nodi yw bod gwahaniaeth yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae'n rhaid inni gael trafnidiaeth gyhoeddus ar waith os ydych am gael pobl i newid o ddefnyddio'r car i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae bylchau enfawr o hyd yn y Gymru wledig o ran y ddarpariaeth honno, ac yn anffodus credaf fod y rheini sy'n byw yn fy etholaeth i, ac mewn ardaloedd fel Brycheiniog a Maesyfed—yn anffodus nid oes dewis arall i'r mwyafrif llethol o bobl heblaw cael car. Felly, dyna lle mae'n rhaid inni ymdrechu i wella ein seilwaith a gwella'r ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus. 

Rhaid imi ddweud y byddwn wedi gwerthfawrogi ymateb mwy cynhwysfawr gan y Dirprwy Weinidog i'r awgrymiadau cadarnhaol a gyflwynwyd gennym heddiw. Credaf ein bod wedi cyflwyno awgrymiadau mewn ysbryd cydweithredol. Rwy'n meddwl bod llawer y gallem fod wedi cytuno arno heddiw, fel y Ddeddf aer glân. Mae llawer y gallwn gytuno arno, ond gwrthodwyd hynny yn hytrach na'i drafod mewn unrhyw ffordd gadarnhaol heddiw. Ond diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'n dadl y prynhawn yma.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Mae hynny'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio. Fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr i wneud y paratoadau ar gyfer pleidleisio. Felly, toriad. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:48.

17:50

Ailymgynullodd y Senedd am 17:52, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar dementia. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Luke Fletcher. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, 14 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

Eitem 5 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dementia: O blaid: 40, Yn erbyn: 0, Ymatal: 14

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 7 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r gwelliant cyntaf i'w bleidleisio arno. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei dderbyn. 

Eitem 7 - Gwelliant 1 - Cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 28, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM7784 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd yn:

1. Cydnabod ei bod yn argyfwng hinsawdd ac yn nodi mai trafnidiaeth sy’n gyfrifol am 17 y cant o allyriadau Cymru.

2. Galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i leihau nifer y teithiau a wneir mewn ceir ac i annog pobl i newid eu ffordd o deithio i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol;

b) dilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddatgarboneiddio cerbydau a buddsoddi yn y seilwaith gwefru, a’i gydgysylltu, er mwyn i bobl allu troi at ddefnyddio cerbydau a beiciau trydan yn hyderus.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal ac 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

17:55

Eitem 7 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio, ond mae'r ddadl fer i ddilyn, ac felly unrhyw Aelodau sy'n gadael i wneud hynny yn dawel ac yn gyflym.

Dylai unrhyw Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel ac yn gyflym.

9. Dadl Fer: Cyhoeddi adroddiad Holden—Amser ar gyfer tryloywder ar wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru

Rwy'n galw ar Llyr Gruffydd i gyflwyno'r ddadl fer yn ei enw e. Llyr Gruffydd i gychwyn, pan fydd y Siambr yn ymdawelu. Llyr Gruffydd.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser i fi gael cyflwyno'r ddadl fer yma y prynhawn yma ar y testun 'Cyhoeddi adroddiad Holden—Amser am dryloywder ar wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru'. Er gwybodaeth i'r Llywydd, dwi wedi cytuno i roi munud o fy amser i, yn gyntaf, Rhun ap Iorwerth, wedyn Mark Isherwood, wedyn Darren Millar, ac yn olaf Mabon ap Gwynfor.

Gwasanaethau iechyd meddwl yw un o'r heriau mwyaf i'n GIG, ac yn anffodus mae'n her gynyddol. Dyna pam y mae'n bwysig ein bod yn dysgu gwersi o brofiadau blaenorol a'n bod yn onest drwy gydnabod camgymeriadau a methiannau pan fyddant yn digwydd. Nodwyd bod gwasanaethau iechyd meddwl yng  ngogledd Cymru yn un rheswm pam fod angen gosod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig dros chwe blynedd yn ôl, gan y Gweinidog iechyd ar y pryd—sef Prif Weinidog Cymru erbyn hyn wrth gwrs. Roedd hwnnw'n ddatganiad clir ac yn gydnabyddiaeth o fethiannau a chamgymeriadau blaenorol, ac yn hynny o beth roedd y cam yn un i'w gymeradwyo, er efallai'n anochel, ond roedd yn sicr yn siomedig iawn. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni yn awr yw nad ydym, chwe blynedd yn ddiweddarach, yn gweld cynnydd yn y sector hwn. Yn lle hynny, rwy'n ofni ein bod yn gweld diwylliant o gelu a gwrthod derbyn cyfrifoldeb ar lefel uchaf y Llywodraeth a'r bwrdd iechyd. Ffocws y ddadl hon yw methiant y bwrdd iechyd hyd yma i ryddhau adroddiad Holden, ac mae hynny, yn fy marn i, yn symptom o broblem ehangach.

Cafodd yr adroddiad ei lunio yn ôl yn 2013, ar ôl i ddwsinau o weithwyr iechyd chwythu'r chwiban ar ymarfer gwael yn uned iechyd meddwl Hergest ym Mangor. Cafwyd 700 tudalen o dystiolaeth ddamniol ganddynt nad oedd cleifion iechyd meddwl yn cael y driniaeth yr oeddent ei hangen ac yn ei haeddu. Yn ogystal, roedd cleifion oedrannus agored i niwed â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu gosod ochr yn ochr â phobl a oedd yn gaeth i gyffuriau a phobl ag anghenion difrifol eraill, mewn ffordd gwbl amhriodol. Nid oedd staff yn gallu llenwi ffurflenni Datix—y ffurflenni mewnol ar gyfer adrodd am broblemau—oherwydd cyfyngiadau amser, felly roedd y problemau'n cael eu gadael i waethygu gan yr uwch-reolwyr. Roedd yn rysáit ar gyfer trychineb, ac wrth gwrs digwyddodd trychineb yn y pen draw wrth i gleifion gyflawni hunanladdiad o ganlyniad i risgiau crogi na ddylent fod wedi bod yno.

Byddech yn dychmygu y byddai adroddiad ar broblem o'r fath wedi gallu nodi atebion a chyfrifoldeb. Rwy'n gobeithio ei fod wedi gwneud hynny, ond wrth gwrs ni allaf fod yn siŵr am nad yw'r adroddiad erioed wedi gweld golau dydd. Hyd heddiw, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gwrthod rhyddhau'r adroddiad er gwaethaf ceisiadau, a galwadau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn fwy diweddar. Hyd y gwn i, nid oes unrhyw reolwr wedi'i ddisgyblu'n uniongyrchol, er y datgelwyd yr wythnos diwethaf fod dau reolwr wedi'u symud. Mae'r methiant hwn i fod yn atebol am unrhyw fethiannau wedi bod yn symptom o'r holl fater anffodus hwn. Ac yn hytrach na mynnu bod rheolwyr yn cymryd cyfrifoldeb, yr hyn a welsom, wrth gwrs, oedd chwythwyr chwiban yn cael eu gwneud yn fychod dihangol. Yn hollbwysig, mae'r un risgiau a ysgogodd adroddiad Holden wyth mlynedd yn ôl heb gael eu dileu o'r uned, ac mae canlyniadau i hyn—canlyniadau difrifol.

Yn gynharach eleni, cyflawnodd menyw o Gaernarfon hunanladdiad ar yr uned, a gallodd wneud hynny am fod yr un risgiau crogi a oedd yn bresennol ddegawd yn ôl heb gael eu dileu, er i adroddiad Holden dynnu sylw atynt. Mater mewnol i'r bwrdd iechyd fyddai hyn oni bai am ddau beth, a dyma pam y mae'n bwysig codi'r mater yn y ddadl hon yn y Senedd heno. Yn gyntaf, fel y soniais, roedd gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru eisoes yn destun pryder digonol chwe blynedd yn ôl i hynny gael ei nodi fel un o'r rhesymau pam y gosodwyd y bwrdd iechyd dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru. Felly, roedd y Llywodraeth yn ymwybodol fod yna broblemau. Yn fwy penodol, y llynedd, rhoddodd y Dirprwy Weinidog iechyd meddwl ar y pryd, y Gweinidog iechyd erbyn hyn, a fydd yn ymateb i'r ddadl hon heddiw, sicrwydd i mi yn y Siambr hon y byddai'n darllen yr adroddiad ac yn rhoi ei sylw i'r mater. 

Ar 4 Tachwedd y llynedd, yn y Siambr yma, Weinidog, fe ddywedoch chi wrthyf i, mewn ymateb i gwestiwn gen i, eich bod chi'n gobeithio y byddwn i'n rhoi amser i chi i edrych ar yr adroddiad a gweld a deall ychydig mwy ar y cefndir. Dwi'n dyfynnu—eich geiriau chi oedd, 

'mi wna i edrych ar adroddiad Holden a gweld yn union beth yw'r sefyllfa yn fan hyn.' 

Dyna eich geiriau chi ar 4 Tachwedd. Ers yr addewid hwnnw, bron i flwyddyn yn ôl erbyn hyn, dydyn ni wedi cael dim byd ymhellach gan y Gweinidog a dim byd ymhellach gan Lywodraeth Cymru. Ond beth rydym ni yn ei wybod, wrth gwrs, yw bod marwolaethau yn dal i ddigwydd ar unedau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru a bod niferoedd y digwyddiadau difrifol a chleifion yn dod i niwed wedi cynyddu blwyddyn ar ôl blwyddyn. Dau ddeg pump o achosion yn y tair blynedd diwethaf yn unig. Pob un yn sgandal, pob un yn drasig, a nifer ohonyn nhw, dwi'n siwr, yn rhai y dylid fod wedi'u hosgoi, tra bod eich Llywodraeth chi yn eistedd ar eich dwylo ar y mater yma. 

Felly, fe ddywedoch chi wrthym yn y Siambr y byddech yn darllen yr adroddiad, ac nid oes gennyf reswm dros amau a yw hynny wedi digwydd, ond yn awr, Weinidog, heno, mae angen i chi egluro i ni, yn gyntaf, pam nad yw adroddiad Holden wedi'i gyhoeddi o hyd; yn ail, pam nad yw argymhellion yr adroddiad wedi'u cyflawni; ac yn drydydd, mae angen i chi egluro pam y mae pobl yn dal i farw mewn unedau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru pan ddylai'r risgiau hynny fod wedi'u dileu.

Mae hon yn sgandal drasig y gellir bod wedi ei hosgoi. Mae'n sgandal am nad oes neb wedi cael ei ddwyn i gyfrif am y methiannau hyn. Ac nid methiannau staff rheng flaen wedi'u gorlethu yw'r rhain. Dyma fethiannau hirdymor uwch-reolwyr sydd wedi parhau i gael eu cyflogi gan y bwrdd iechyd, a rhai ohonynt â swyddi uchel iawn ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Roedd modd osgoi hyn am fod staff, teuluoedd a Holden wedi canu'r larwm sawl blwyddyn yn ôl. A'r drasiedi yw na weithredwyd, neu na weithredwyd yn ddigonol o leiaf, hyd yma, ac mae hynny'n golygu bod pobl sy'n agored i niwed yn dal i farw mewn unedau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Ac rwy'n defnyddio'r lluosog, oherwydd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gwelsom farwolaethau ar Hergest a hefyd yn uned Ablett yng ngogledd Cymru.

Araf iawn fu'r cynnydd o ran cael y ffeithiau allan yn agored, ac mae'n bryd i'r Llywodraeth hon ddangos rhywfaint o arweiniad, ac mae'n bryd i chi gyfaddef eich bai mewn perthynas â Holden. Gadewch inni gael yr adroddiad hwn wedi'i gyhoeddi fel y gallwn i gyd weld drosom ein hunain beth oedd angen ei wneud yn ôl bryd hynny, a'r hyn y mae angen ei wneud yn awr, fel y gallwn ddechrau darparu'r gwasanaethau iechyd meddwl y mae pobl gogledd Cymru yn eu haeddu.

18:00

Diolch i Llyr am ddod â'r mater yma o'n blaenau ni heddiw ac, yn wir, am ei waith ar y mater dros gyfnod o flynyddoedd. Gadewch i mi fod yn hollol blaen: mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dal i wynebu problemau difrifol iawn efo'i wasanaethau iechyd meddwl. Mae uned Hergest yn dal i fod yng nghanol cwestiynau difrifol iawn am ddiogelwch cleifion. Ac, oedd, mi oedd hi'n rhy hwyr i ddod â'r bwrdd allan o fesurau arbennig. Er gwaethaf ymdrechion staff i chwythu'r chwiban, er mwyn trio arwain at welliannau, er gwaethaf ymgyrchoedd gan gleifion a theuluoedd, rydyn ni eto, yn yr wythnosau diwethaf, wedi bod yn sôn am golled bywyd yn Hergest, am gwestiynau cwbl sylfaenol am yr amgylchiadau. Mi wnaeth Robin Holden wrando ar staff oedd eisiau lleisio'u pryderon, ond allaf i ddim gorbwysleisio'r niwed sy'n cael ei wneud, yr amheuon sy'n cael eu cadarnhau o hyd, wrth i'r bwrdd fethu â chyhoeddi'r adroddiad a methu â chael eu gweld yn bod yn gwbl dryloyw. 

Rydym yn sôn am faterion difrifol, dwfn sy'n effeithio ar ddiogelwch cleifion, gan arwain at golli bywydau yn drasig. Rydym hefyd yn sôn am effeithiau ar staff rheng flaen gweithgar, sy'n poeni'n enbyd am y gofal y gallant ei gynnig oherwydd problemau gyda thanfuddsoddi a thanariannu. Rhaid derbyn cyfrifoldeb o'r diwedd, a gweithredu ar hynny yn sgil y blynyddoedd o fethiannau mewn gofal iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Mae'r ddadl heddiw'n canolbwyntio ar sut y mae rhyddhau adroddiad Robin Holden yn sicr o fod yn gam hanfodol tuag at fynd i'r afael â phroblemau ehangach a mynd at achosion y problemau trasig hyn unwaith ac am byth.

18:05

Bedair blynedd ar ôl i mi fynegi pryderon wrth Lywodraeth Cymru am y tro cyntaf, rhybuddiodd adroddiad Holden yn 2013, a gomisiynwyd ar ôl marwolaethau cleifion a chwynion gan 42 o staff, fod uned seiciatrig Hergest yn Ysbyty Gwynedd mewn trafferthion difrifol. Deallaf fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gofyn i staff a gafodd eu beirniadu yn adroddiad Holden am roi bywydau mewn perygl i ysgrifennu'r papur at y bwrdd. Ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrthod datgelu'r adroddiad llawn, dyfarnodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth y dylai'r bwrdd iechyd ddatgelu copi llawn gyda dim ond enwau unigolion a oedd yn destun y cwynion wedi'u hepgor. Fodd bynnag, mae Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru yn dweud na allant roi unrhyw gamau ar waith oherwydd absenoldeb manylion a gwybodaeth benodol.

Rhaid inni beidio â chaniatáu i hyn gael ei ddiystyru fel hen hanes. Fel y clywsom, mae dau glaf yn unedau iechyd meddwl gogledd Cymru wedi crogi eu hunain ac un wedi ceisio crogi ei hun dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae teuluoedd yn nodi methiant diamod y fframwaith rheoleiddio i ymateb i Holden gan bob corff statudol. Mae'r cyfrifoldeb bellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau tryloywder ac i ddangos nad yw'n rhan o unrhyw ymgais i gelu ffeithiau.

Mae'n peri digalondid mawr i mi wybod bod gennym Lywodraeth Cymru yma sydd wedi methu ymyrryd hyd yma i sicrhau y gellir lledaenu goleuni haul diheintiol ar yr adroddiad—adroddiad Holden—yr ydym yn ei drafod. Gwyddom fod problemau dwfn yn ein gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, ac rwyf am ofyn i'r Gweinidog, ynghyd â'r corws o leisiau sydd eisoes wedi siarad, a'r siaradwyr sydd eto i siarad: faint yn rhagor o bobl sy'n mynd i orfod marw? Faint yn rhagor o bobl agored i niwed sy'n mynd i orfod dioddef niwed yn ddiangen? Faint yn rhagor o deuluoedd sy'n mynd i orfod colli eu hanwyliaid cyn y gwelwn y camau radical sy'n angenrheidiol er mwyn datrys y problemau sylfaenol sydd gennym o hyd yn ein gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru oddeutu chwe blynedd ar ôl iddynt gael eu nodi fel methiannau digonol i'r graddau fod y bwrdd iechyd wedi'i osod dan fesurau arbennig? Nid yw'n ddigon da. Ac rydym yn disgwyl i chi, fel Gweinidog iechyd newydd, gamu i'r adwy, i wneud pobl a oedd yn gyfrifol am y methiannau hyn yn atebol er mwyn inni gael rhywfaint o gyfiawnder i'r teuluoedd sydd wedi colli eu hanwyliaid a'r cleifion y gwnaed cam â hwy mewn modd mor drasig.

Diolch yn fawr iawn i ti, Llyr, am ddod â'r ddadl yma gerbron. Dwi am ddechrau fy nghyfraniad byr i drwy dalu teyrnged i etholwr i mi yn Nwyfor Meirionnydd, David Graves—mab y diweddar Jean Graves, a fu farw ym Mehefin 2016. Mae David wedi bod yn ddygn yn ei ymgais ddiflino dros gyfres o flynyddoedd wrth geisio sicrhau bod yr adroddiad yma'n cael ei ryddhau'n llawn. Cafodd Jean ei rhoi yn uned Hergest oherwydd ei salwch meddwl. Roedd ganddi ddementia cynnar. Yn anffodus, bu iddi hi hefyd ddioddef yn Hergest. Roedd ei hanghenion gofal hi fel dynes oedrannus efo afiechyd meddwl yn wahanol iawn i anghenion preswylwyr eraill, iau, rhai efo problemau cyffuriau. Yn anffodus, nid dim ond Jean a ddioddefodd yn Hergest, ac mae'r ffaith bod offer clymu—ligature points—yn dal i fod mewn unedau ble mae cleifion mewn perig o ddwyn terfyn ar eu bywydau eu hun yn dangos yn glir nad ydy'r gwersi wedi cael eu dysgu. A does dim syndod, oherwydd mae yna ymgyrch fwriadol wedi bod i gelu adroddiad Holden. Rhaid i rywun gymryd cyfrifoldeb am y methiannau erchyll a ddaeth i'r golwg yn dilyn Holden ac, yn wir, Ockenden. Ond, yn fwy na hynny, os ydym ni i gael hyder yn y gwasanaethau iechyd meddwl unwaith eto a dysgu'r gwersi'n llawn, yna mae'n rhaid gweld yr adroddiad yn cael ei ryddhau yn ei gyfanrwydd. Diolch.

Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon ac i gofnodi fy mod yn cydnabod ymrwymiad bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i barhau i wella gwasanaethau iechyd meddwl.

Nawr, er fy mod i a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn herio'r bwrdd iechyd i gynyddu cyflymder newid mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl—ac mae'r ddwy ohonom wedi codi hyn gyda'r bwrdd iechyd ar sawl achlysur—rwy'n cydnabod yr effaith y bydd y lefel hon o graffu dros gynifer o flynyddoedd yn ei chael ar forâl staff. I ddechrau, hoffwn gofnodi fy mod yn cydnabod ymdrechion holl staff y bwrdd iechyd ac yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnânt.

Yn 2013, comisiynwyd Robin Holden gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i gynnal adolygiad o uned seiciatrig Hergest yn dilyn cwynion gan staff, ac rwy'n gyfarwydd â chynnwys yr adroddiad, a rhaid imi ddweud ei fod yn ddeunydd darllen anghyfforddus. Nawr, mater i'r bwrdd iechyd yw'r alwad am gyhoeddi'r fersiwn lawn heb ei golygu o adroddiad Holden, a bydd rhai'n ymwybodol fod achos ar y gweill ar hyn o bryd gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Felly, nid yw'n briodol i mi wneud sylwadau ar yr agwedd benodol hon yn y ddadl. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod yn disgwyl i'r bwrdd iechyd gyflawni ei rwymedigaethau statudol i bobl gogledd Cymru, o ran bod yn agored a thryloyw, a hefyd, yn bwysig, i'w staff, drwy ddiogelu cyfrinachedd pobl sy'n lleisio pryderon. Wrth gwrs, rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau hefyd ei fod yn cyflawni ei rwymedigaeth gyfreithiol mewn perthynas â diogelu data.

Mae bob amser yn bwysig nodi, yn dilyn yr adolygiad, fod adroddiad cryno wedi'i gyhoeddi gan y bwrdd iechyd yn 2015, a oedd yn cynnwys yr argymhellion a wnaed gan Robin Holden. Yn dilyn hynny, comisiynodd y cyfarwyddwr meddygol gweithredol a'r cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth waith i sicrhau bod argymhellion adroddiad Holden wedi'u gweithredu, ac fe'i cyflwynwyd ar gyfer craffu gweithredol ac i bwyllgor ansawdd, diogelwch a phrofiad y bwrdd iechyd ym mis Ionawr 2021. Nawr, rhoddodd hyn sicrwydd fod camau wedi'u cymryd ac yn parhau i fod ar waith yn erbyn pob un o argymhellion yr adroddiad, ac mae fy ffocws yn awr ar sicrhau bod y bwrdd iechyd yn parhau i weithredu ar yr argymhellion hynny.

Nawr, fel y gwyddom i gyd, roedd adroddiad Holden yn un o nifer o adolygiadau annibynnol a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd mewn ymateb i bryderon am ansawdd gofal iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac a arweiniodd at ei osod dan fesurau arbennig yn 2016. Nawr, ers hynny, mae llawer wedi digwydd, a gwnaeth y bwrdd iechyd gynnydd yn erbyn y cerrig milltir a nodir yn y fframwaith mesurau arbennig, gan gynnwys yn benodol gwella llywodraethu ac ansawdd, a gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl. Fodd bynnag, rwy'n glir fod llawer i'w wneud o hyd, a dyna pam y mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu. Rhaid inni gofio bod ymyrraeth wedi'i thargedu yn lefel uchel o ymyrraeth gyda gwaith craffu parhaus gan Lywodraeth Cymru sy'n cydnabod bod y bwrdd iechyd yn parhau i fod ar daith wella. Penodwyd prif weithredwr newydd i lywio'r bwrdd iechyd ar ei daith wella, ac mae'n amlwg fod llawer mwy o drosolwg a chraffu ar wasanaethau iechyd meddwl ar lefel y bwrdd erbyn hyn.

Mewn iechyd meddwl, mae rhan o'r sefydliad a welodd newid staff parhaus wedi'i sefydlogi bellach, rwy'n falch o ddweud, ac mae'r sefydlogrwydd hwn ar lefel reoli wedi dechrau cynyddu hyder yn y gwasanaeth ynglŷn â chyflawni. Mae gwelliannau i strwythurau sefydliadol a strwythurau llywodraethu wedi'u rhoi ar waith gyda ffordd systematig o nodi ac adrodd ar broblemau wrth iddynt ddigwydd. Mae'r un gwelliannau hefyd yn caniatáu i newidiadau gael eu gweithredu'n fwy effeithlon ac effeithiol. Mae gwaith arloesol a arferai gael ei weld mewn pocedi ynysig bellach yn cael ei ledaenu'n llawer ehangach, ac mae tystiolaeth glir o lawer mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau. Er enghraifft, mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a oedd gynt yn cael eu rhedeg fel tri gwasanaeth is-ranbarthol gwahanol a digyswllt wedi'u dwyn ynghyd, gan ei gwneud yn bosibl cynnal arferion gorau ar draws y gwasanaeth cyfan a chaniatáu gwasanaeth mwy integredig a chydlynol. Ac erbyn hyn mae llawer mwy o aliniad rhwng gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn y bwrdd iechyd a'r rhai sydd ar waith i gefnogi plant a phobl ifanc.

Mae trosolwg strategol llawer cryfach hefyd ar y tair ardal ranbarthol, sydd mor bwysig mewn ardal ddaearyddol fawr fel Betsi Cadwaladr. Mae menter 'Mi FEDRAF' yn enghraifft dda arall o welliannau arloesol i wasanaethau iechyd meddwl, sy'n darparu mynediad hawdd at gymorth a chynnig dewis arall yn lle mynd i'r ysbyty. Mae'r bwrdd iechyd bellach wedi ail-lansio ei strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ar gyfer gogledd Cymru, sy'n arwain at weithio mewn partneriaeth llawer cryfach gyda phartneriaid awdurdodau lleol a thrydydd sector ar draws y rhanbarth—felly, yn hanfodol i gefnogi elfen ataliol ac ymyrraeth gynnar iechyd meddwl.

Yn unol â'r fframwaith ymyrraeth wedi'i thargedu a roddwyd i'r bwrdd iechyd ym mis Chwefror, mae'r bwrdd wedi cymeradwyo'r pedwar matrics aeddfedrwydd ac asesu llinell sylfaen ar gyfer iechyd meddwl yn ei gyfarfod bwrdd ar 20 Mai. Nawr, mae'r matricsau'n fanwl iawn, ac rwy'n bwriadu iddynt fod yn ddogfennau deinamig sy'n cael eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd, ac maent yn canolbwyntio ar feysydd i'w gwella. Y bwrdd iechyd sy'n berchen arnynt, ac fe'u datblygwyd gyda'r staff ar lawr gwlad sydd wedi dangos crebwyll gwirioneddol ynghylch yr anawsterau y maent yn eu hwynebu a'r her sydd o'u blaenau. Felly, ceir llawer o gyflawniadau allweddol, ac rwy'n hapus i ysgrifennu at Aelodau sy'n gofyn i mi nodi'r rheini.

Nawr, rwy'n falch o ddweud bod swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â'r bwrdd iechyd i adolygu cynnydd yn erbyn y matricsau, ac rwy'n croesawu'r tryloywder a'r agwedd agored a ddangosir gan y bwrdd iechyd fel rhan o'r broses hon. Mae'r bwrdd hefyd wedi bod yn realistig iawn, ac yn ei asesiad ei hun mae wedi cydnabod bod llawer o waith i'w wneud. Ac er fy mod yn cydnabod bod y sgoriau llinell sylfaen yn isel, maent yn adlewyrchu arfarniad gonest o'r sefyllfa y mae'r bwrdd iechyd ynddi. Mae'n bwysig nodi nad yw'r sgoriau hyn yn adlewyrchu'r maes cyfan, ond yn hytrach, y meysydd sy'n destun ymyrraeth wedi'i thargedu. Maent yn gosod llinell sylfaen gref y gallwn olrhain cynnydd yn ei herbyn drwy'r pedwar matrics aeddfedrwydd. Bydd adfer a thrawsnewid yn cymryd amser, ond rydym wedi'i gwneud yn glir yn gyson i'r bwrdd iechyd mai gallu dangos tystiolaeth o welliannau i wasanaethau yw'r allwedd i symud ymlaen ar draws y matricsau gyda golwg ar isgyfeirio pellach.

A'r wythnos diwethaf, cafwyd trafodaeth bord gron ar iechyd meddwl dan gadeiryddiaeth prif weithredwr GIG Cymru, a oedd hefyd yn cynnwys cadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd ac uwch-arweinwyr y gwasanaeth iechyd meddwl. Diben y ford gron, a oedd hefyd yn cynnwys swyddogion Archwilio Cymru, AGIC a Llywodraeth Cymru, oedd agor trafodaeth onest ac agored ar sefyllfa flaenorol y bwrdd iechyd lleol, asesu'r sefyllfa bresennol a gwneud yn siŵr fod y mecanweithiau cywir bellach ar waith i sicrhau gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Ac rwy'n dawel fy meddwl bod yna gytundeb eang, yn dilyn y cyfarfod hwnnw, ynglŷn â natur agored a thryloyw y bwrdd iechyd.

Ond rwyf hefyd am gydnabod y digwyddiadau trasig yn ddiweddar yn y bwrdd iechyd, a gallaf sicrhau'r Aelodau fod y digwyddiadau hyn wedi'u cofnodi'n ffurfiol fel rhan o bolisi cofnodi digwyddiadau cenedlaethol GIG Cymru, ac maent yn destun ymchwiliad. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd gynnal adolygiad amserol i sicrhau bod materion diogelwch uniongyrchol yn cael eu nodi a bod camau'n cael eu rhoi ar waith yn eu cylch, ac i leihau'r risg o niwed i gleifion. Dylai prosesau gefnogi diwylliant cyfiawn i sefydliadau a staff allu teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i nodi, adrodd a dysgu o ddigwyddiadau diogelwch cleifion.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro, ac yn bwysig, i gefnogi'r bwrdd iechyd. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd sy'n gysylltiedig â phroses ffurfiol yr ymyrraeth wedi'i thargedu rhwng swyddogion a'r bwrdd iechyd, yn ogystal â thrafodaethau rheolaidd ar berfformiad ac ansawdd a diogelwch. Mae'r rhain wedi'u gwreiddio mewn her gadarn, ond byddwn hefyd yn ystyried pa gymorth pellach y gallwn ei gynnig fel Llywodraeth. Mae'n amlwg fod yna wir awydd i gyflawni newid a sicrhau gwelliant, a'n dyletswydd i bobl gogledd Cymru yw cefnogi'r bwrdd iechyd i gyflawni ar eu rhan. Diolch, Lywydd.

18:15

Diolch yn fawr i'r Gweinidog, ac mae hynny'n dod â'n gwaith ni am y dydd heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:19.