Y Cyfarfod Llawn
Plenary
07/07/2021Cynnwys
Contents
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb. Croeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda. Dwi eisiau atgoffa Aelodau hefyd bod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag i'r rhai sydd yn ymuno ar fideo.
Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56721
Diolch. Rydym wedi sicrhau bod lefelau digynsail o gyllid ar gael i gefnogi busnesau Cymru drwy'r pandemig. Mae busnesau yn sir y Fflint wedi derbyn £69.7 miliwn mewn cymorth grant ers mis Ebrill 2020, sy'n ychwanegol at ein cymorth helaeth a ddarparwyd gan Busnes Cymru a'r banc datblygu.
Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch am y cymorth hyd yma. Weinidog, mae Llywodraethau Llafur blaenorol Cymru wedi rhoi ffocws cryf ar brentisiaethau, ffaith y dylwn fod yn fwy ymwybodol ohoni na'r rhan fwyaf o bobl oherwydd fy nghyfnod yn gweithio fel peiriannydd. Mae'n rhaid inni hyfforddi'r genhedlaeth nesaf er mwyn sicrhau adferiad gwyrdd ac er mwyn datblygu cynhyrchion gwyrdd y dyfodol. Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod yn awyddus i weld bargen newydd werdd ar gyfer gweithgynhyrchu yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd, mae'n rhaid inni weithio gyda busnesau i ddarparu prentisiaethau sgil uwch, ac i uwchsgilio'r gweithlu presennol hefyd. Weinidog, a ydych yn cytuno, ac a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am eich cynlluniau i sicrhau bod hyn yn digwydd?
Gallaf, ac wrth gwrs, yn ein maniffesto ar gyfer yr etholiad, soniasom am gael Cymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus. Ac rwyf wedi cyfarfod ag ystod o brentisiaid a pheirianwyr y genhedlaeth nesaf yn ystod fy ymweliadau ag Airbus a Toyota, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â rhagor o'n hystod newydd o bobl sy'n dod i mewn i'r gweithlu gyda sgiliau. Ac mewn gwirionedd, mae'r cynllun gweithredu ar gyfer gweithgynhyrchu yn darparu ffocws i gefnogi'r gwaith o ddiogelu ein capasiti gweithgynhyrchu at y dyfodol, a hefyd wrth gwrs, yr angen i ddatgarboneiddio'r ffordd y mae diwydiant yn gweithio yma yng Nghymru. Ac mae'r datganiad ddoe ar ddur—fe fyddwch yn cofio yn y cwestiwn a ofynnoch chi ddoe—yn rhan sylweddol o hyn. Mae'n her, ond mae hefyd yn gyfle. Felly, edrychaf ymlaen at weld mwy o'r sgiliau hynny, i wneud ein heconomi'n wyrddach yn ogystal â'i thyfu yn y dyfodol, ac mae'r Llywodraeth hon yn sicr wedi ymrwymo i'r Gymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus honno.
Diolch am eich ymateb i gwestiynau gan yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae Alun a Glannau Dyfrdwy yn lleoliad strategol yng ngogledd Cymru, gyda'i ffin a chysylltiadau trafnidiaeth pwysig â gogledd-orllewin Lloegr. Mae llawer o fusnesau yn etholaeth Mr Sargeant, ac ar draws gogledd Cymru, yn dibynnu'n fawr ar gydweithredu trawsffiniol cryf, ac er mwyn sicrhau hynny mae angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio'n agos gyda'i gilydd er budd busnesau ledled gogledd Cymru. Weinidog, fe wyddoch i chi a minnau fynychu digwyddiad lansio ar gyfer pecyn ysgogi cyllidol Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn ddiweddar, ac mae'n bartneriaeth bwysig iawn er mwyn sicrhau'r cydweithredu trawsffiniol parhaus hwnnw. Felly, pa asesiad y byddech yn ei wneud o waith Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, a pha gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r cydweithredu trawsffiniol hwnnw? Diolch yn fawr iawn.
Wel, mae'n rhywbeth y mae fy rhagflaenydd, Ken Skates, wedi'i gydnabod, ynglŷn â phwysigrwydd gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a buddiannau economaidd cyffredin. A chredwn fod Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn helpu i ddadlau'r achos dros hynny. Rwyf wedi cyfarfod â hwy ddwywaith bellach ers dod yn Weinidog yr Economi, a chredaf ei bod yn werth ystyried eu pecyn ysgogi o ddifrif. Y cyngor a roddais iddynt, a'r ffordd rwyf wedi'u cyfeirio, yw ein bod am weld hyn yn gweithio—rydym yn cydnabod y bydd buddsoddi yn y rhan hon o Gymru, a thros y ffin, o fudd i fusnesau a gweithwyr o Gymru ac o Loegr hefyd. A'r her yw a fyddwn yn gweld, yn yr adolygiad cynhwysfawr nesaf o wariant, y math o gymorth ariannol sydd ei angen i sicrhau bod y pecyn ysgogi, a'r budd economaidd gwirioneddol y gall ei gynnig i ogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, yn dod yn realiti. Ac rydym yn barod i fod yn bartneriaid adeiladol yn y gwaith o gyflawni hynny.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu twristiaeth yn sir Ddinbych? OQ56749
Mae i sir Ddinbych, a gogledd Cymru gyfan, le amlwg yng ngweithgareddau hyrwyddo Croeso Cymru. Byddwn yn parhau i hyrwyddo cynnig twristiaeth sylweddol sir Ddinbych, ar yr arfordir ac yng nghefn gwlad, gan gynnwys digwyddiadau unigryw fel Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wrth gwrs.
Diolch i chi am eich ateb. Dwi eisiau tynnu eich sylw chi at ymgyrch sydd ar droed i roi cynlluniau ar waith i greu llwybr beicio o Ruthun i Ddinbych ar hyd Dyffryn Clwyd. Nawr, byddai hynny nid yn unig, wrth gwrs, yn cysylltu'r ddwy dref i drigolion lleol—
Mae'n ddrwg gennyf, Llyr. A gaf fi dorri ar eich traws? Credaf fod gennym broblem gyda'r cyfieithu. Felly, a gawn ni aros am funud, inni weld a oes botwm y gall y Gweinidog ei bwyso i wneud iddo weithio?
Fe wnaf i siarad. Ydy'r cyfieithu'n gweithio nawr? Ydym ni'n gallu cario ymlaen? Ie, iawn. Felly, popeth wedi'i sortio. Llyr, gallwch chi gario ymlaen.
Diolch, Llywydd. Yr hyn dwi eisiau ei wneud yw tynnu sylw'r Gweinidog at gynlluniau sydd ar droed i greu llwybr beicio o Ruthun i Ddinbych ar hyd dyffryn Clwyd. Mi fyddai'r llwybr yma, wrth gwrs, yn cysylltu'r ddwy dref i drigolion lleol, o safbwynt teithio lesol, sydd, wrth gwrs, dwi'n gwybod, yn rhan bwysig o'r hyn mae'r Llywodraeth yn awyddus i'w hyrwyddo. Ond mi fyddai fe hefyd yn cynnig atyniad ychwanegol i dwristiaeth wrth gysylltu dwy drefn farchnad hanesyddol, dau gastell canol oesol, wrth gwrs, a dilyn, gobeithio, hen lwybr y rheilffordd i lawr y dyffryn. Felly, yr hyn dwi eisiau ei wneud yw gwahodd y Gweinidog, pan fyddwch chi yn y cyffiniau, i ddod gyda fi i gwrdd â'r criw sy'n ceisio gwireddu'r llwybr yma, dan arweiniad y Cynghorydd Emrys Wynne, i weld y cynlluniau ac i weld y llwybr arfaethedig drosoch chi eich hun, gan gofio hefyd, wrth gwrs, fod yna gynlluniau cyffrous ar droed i adeiladu felodrom awyr agored yng ngogledd Cymru yn Rhuthun hefyd. Mi fyddai creu llwybr beicio i gysylltu'r dref â'r ardal ehangach yn sicr yn gaffaeliad mawr o safbwynt amgylcheddol, ond hefyd, wrth gwrs, fel bydd y Gweinidog dwi'n siŵr yn ei gydnabod, o safbwynt twristiaeth a'r economi leol.
Iawn, rwy’n cydnabod y realiti fod teithio llesol yn darparu cyfleoedd newydd i hyrwyddo twristiaeth mewn sawl rhan o Gymru, ac mae’r fenter y mae’r Aelod yn ei nodi yn enghraifft dda o’r potensial hwnnw. Nid wyf yn siŵr y gallaf roi sicrwydd llwyr iddo y byddaf yn ymweld; rwy'n cael llawer o gyfleoedd a gwahoddiadau i ymweld â gwahanol rannau o Gymru. Ond rwy'n fwy na pharod i fod â mwy o ddiddordeb nid yn unig yn y potensial twristiaeth, ond yn amlwg, gyda chyd-Aelodau sy'n gyfrifol am deithio llesol, i weld sut y gallwn gefnogi'r fenter a nodwyd gan yr Aelod.FootnoteLink
Weinidog, mae busnesau twristiaeth yn sir Ddinbych, yn enwedig y rhai yn fy etholaeth i yn Nyffryn Clwyd, wedi cael eu dinistrio gan y pandemig. Bydd adferiad y sector yn hir ac yn araf, yn enwedig gan ei bod hi'n ymddangos nad oes llawer o fanylion i'w cael ynghylch ailagor ar ôl COVID dros yr haf, sef amser prysuraf y sector yn y bôn. Weinidog, heb lacio cyfyngiadau COVID, mae lleoedd fel y Rhyl, Prestatyn, Bodelwyddan a Llanelwy yn mynd i'w chael hi'n anodd cystadlu â'r mannau cyfatebol yn Lloegr, a fydd yn wynebu fawr ddim rheolau cadw pellter cymdeithasol os o gwbl. Mae gan hyd yn oed yr Alban gynlluniau i lacio eu cyfyngiadau'n gyfan gwbl. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw busnesau twristiaeth yn fy etholaeth dan anfantais o ganlyniad i'r cyfyngiadau parhaus, ac a wnewch chi gyhoeddi cynllun ar gyfer yr adferiad? Diolch.
Credaf fod un neu ddau o bwyntiau i'w gwneud mewn ymateb. Y cyntaf, wrth gwrs, yw bod gennym gynnig mwy hael o lawer i gefnogi busnesau yma yng Nghymru, gan gynnwys y sector twristiaeth, na'r hyn a geir dros y ffin, ac nid yn unig o ran y cymorth cyffredinol rydym wedi'i ddarparu—o leiaf £400 miliwn yn fwy na'r symiau canlyniadol a fyddai'n dod o wariant yn Lloegr—ond y ffaith ein bod yn parhau i ddarparu rhyddhad ardrethi i ystod o fusnesau, pan fo Lloegr eisoes wedi lleihau'r cymorth hwnnw i fusnesau dros y ffin.
Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw bod cryn dipyn o alw eisoes am fusnesau twristiaeth drwy'r haf. Ac yn y sgyrsiau uniongyrchol a gaf gyda'r sector, yr her iddynt yw cael digon o staff i weithio yn y sector ei hun, ac rydym yn gweithio gyda'r sector i annog pobl i weithio, nid yn unig yn dymhorol ond ar sail fwy parhaol mewn diwydiant sy'n talu mwy, efallai, nag y mae pobl yn sylweddoli, a'r buddion y gall y sector ehangach eu cynnig iddynt.
A chredaf mai'r trydydd pwynt yw, pan soniwch am y galw eang i ddod â mesurau cadw pellter cymdeithasol i ben a phennu dyddiadau, fe fyddwch wedi clywed yn gyson ers dros flwyddyn bellach fod ein dull o weithredu yng Nghymru yn cael ei lywio gan ddata yn hytrach na dyddiadau. Rydym yn ystyried y cyngor a gawn gan ein cynghorwyr gwyddonol a'n cynghorwyr iechyd cyhoeddus ein hunain, ac mae angen inni sicrhau cydbwysedd o ran y risgiau i iechyd y cyhoedd y gwyddom eu bod yno o hyd, hyd yn oed wrth inni gefnu ar y pandemig, gobeithio, a byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau gyda'r diwydiant ynglŷn â sut fydd pethau yn y dyfodol. Rwy'n obeithiol ynglŷn â'r penderfyniadau y byddwn yn eu gwneud, ond byddwn yn gwneud hynny mewn modd cyfrifol yn hytrach na chael ein dylanwadu gan alwadau i fynd dros ben llestri a chaniatáu i bopeth ddigwydd ar yr un pryd â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Byddwn yn darparu dyddiadau a data pan fydd hi'n briodol inni wneud hynny ac ni ddylai'r Aelod orfod aros yn hir iawn i'r Cabinet wneud y penderfyniadau hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy groesawu’r datganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog a ddarparwyd i'r holl Aelodau yr wythnos diwethaf ar gynigion Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ailstrwythuro'r gynghrair merched yng Nghymru? Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn cytuno â'r weledigaeth o ddatblygu a gwella'r gêm i fenywod yng Nghymru, ond yn anffodus, er mwyn cyflawni'r nod hwn, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penderfynu ad-drefnu strwythur y gynghrair i fenywod yng Nghymru mewn ffordd y mae gan sawl un ohonom amheuon difrifol yn ei chylch.
Mae a wnelo chwaraeon â theilyngdod, a dyna fel y dylai fod, ac mae codi a disgyn rhwng adrannau'n rhan o'r gêm, ond y canlyniadau ar y cae a ddylai benderfynu hynny. Felly, gyda hynny mewn golwg, hoffwn fynegi fy siom fod timau menywod Llansawel, Cascade a'r Fenni wedi disgyn o uwch adran gêm y menywod fel rhan o'r ailstrwythuro. Er y gwn ei fod yn benderfyniad a wnaed gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac nid gan Lywodraeth Gymru, Weinidog, a gaf fi ofyn pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynglŷn â'r mater hwn, a pha gymorth y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i'r clybiau yr effeithiwyd arnynt yn annheg gan y newid?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ac am y cyfarfod a gefais gydag ef ar 24 Mehefin, pan wnaethom drafod y mater hwn? Wedi hynny, cyfarfûm â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a gwnaethant sawl ymrwymiad rwy'n disgwyl iddynt gadw atynt. Yn gyntaf, gwnaethant gytuno i gyfarfod â'r clybiau yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau ac i drafod unrhyw gymorth pellach y gallai fod ei angen arnynt. Ac rwy'n deall bod cyfarfod cadarnhaol eisoes wedi'i gynnal gyda thîm menywod Cascade, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wedi dweud y byddant yn sefydlu fforwm chwaraewyr ar gyfer haenau 1 a 2 a fydd yn cyfarfod yn fisol ac yn galluogi Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddeall materion yn well o safbwynt y chwaraewyr. Ac maent hefyd yn rhoi adborth i FIFA fod angen i chwaraewyr benywaidd chwarae rhan fwy yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu gêm.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn derbyn bod angen iddynt fyfyrio ar sut y gwnaethant gyfleu'r newidiadau hyn yn gyhoeddus, ac maent hefyd wedi ymrwymo i gynnal deialog agosach â Llywodraeth Cymru drwy gyfarfodydd misol â swyddogion, a chyda minnau hefyd. Ond yn y pen draw, mater i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yw ailstrwythuro gêm y menywod yng Nghymru, ond rwy'n disgwyl iddynt gadw at yr ymrwymiadau y maent wedi'u rhoi i mi.
A gaf fi ddiolch i chi am eich ateb, Ddirprwy Weinidog? Felly, yn unol â'r thema chwaraeon, hoffwn droi yn awr at ddigwyddiadau chwaraeon peilot a gynhaliwyd yng Nghymru. Mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog fis yn ôl, gofynnais am ddiweddariad ar ddigwyddiadau chwaraeon peilot a gynhaliwyd ledled Cymru dros yr wythnosau cyn hynny. Yn ei ateb, dywedodd y byddai set arall o ddigwyddiadau peilot yn cael eu cynnal. Ond yn anffodus, ers iddo ateb y cwestiwn hwnnw, nid oes amserlen bellach wedi ei rhoi, ac ni ddywedodd yn benodol ychwaith pryd y byddai'r amserlen hon yn cael ei darparu. Felly, a gaf fi ofyn i chi pryd y gall y Senedd ddisgwyl mwy o wybodaeth am y set bellach o ddigwyddiadau peilot a addawyd gan y Prif Weinidog?
Ac yn ail, rydym hefyd wedi gweld yn Lloegr, gyda'r Rhaglen Ymchwil i Ddigwyddiadau, pan fynychodd dros 58,000 o bobl ddigwyddiadau dan do ac awyr agored, gan gynnwys gemau yn stadiwm Wembley, na fu unrhyw niferoedd sylweddol o achosion yn gysylltiedig â'r digwyddiadau hyn. Felly, gwyddom y gellir cynnal digwyddiadau chwaraeon yn ddiogel yn Lloegr. Er ein bod wedi gweld canfyddiadau manwl o'r digwyddiadau cam 1 hyn, nid ydym wedi gweld canfyddiadau digwyddiadau peilot Llywodraeth Cymru eto. Felly, a all y Gweinidog gadarnhau pa gymorth sydd ar gael i glybiau sy'n dal i orfod cyfyngu ar faint o gefnogwyr a all ddod i'w stadiwm? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi canfyddiadau ei chynllun digwyddiadau peilot cychwynnol fel y gallwn weld a ellir cynnal y digwyddiadau chwaraeon hyn yn ddiogel yng Nghymru, fel y gwnaethant yn Lloegr, ac fel y gall yr Aelodau o'r Senedd hon a'r cyhoedd ddeall y sail resymegol dros unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol?
Fel y gŵyr yr Aelod, roedd cam 2 y digwyddiadau peilot yn cynnwys naw digwyddiad yma yng Nghymru, gan gynnwys Eid a Tafwyl yng nghastell Caerdydd, Gwarchod y Gwenyn yn Aberhonddu a gêm Cymru yn erbyn Albania. Cwblhawyd pob un o'r rheini'n llwyddiannus a bydd gwaith ar yr adroddiad terfynol yn cael ei gwblhau cyn bo hir. Cyn hynny, mae llawer o'r canfyddiadau eisoes wedi llywio rhai o'r canllawiau diwygiedig ar gyfer digwyddiadau. Rydym yn dal i gael trafodaethau manwl gyda threfnwyr digwyddiadau ynghylch trydydd cam y digwyddiadau peilot, gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau dan do. Felly, bydd y penderfyniadau ar y ffordd ymlaen o ran llacio pellach ar gyfyngiadau ar ddigwyddiadau yn digwydd yn yr adolygiad 21 diwrnod, ac rydym yn derbyn yn llwyr, wrth gwrs, fod gwerth digwyddiadau i'n heconomi ymwelwyr yn sylweddol, ac felly mae angen inni barhau i gefnogi'r sector drwy gydol y cam nesaf.
Credaf ei bod hi'n bwysig dweud, mae'n debyg, wrth edrych ar yr adroddiad a gawsom ar y digwyddiadau peilot yn Lloegr, nad ydynt yn rhoi cymaint o wybodaeth ar hyn o bryd â'r hyn sydd ei angen arnom ynglŷn â throsglwyddiad y feirws yn y digwyddiadau hynny. Ychydig iawn o brofion a gynhaliwyd ar ôl y digwyddiadau. Mae cryn dipyn y mae angen inni ei ystyried pan ydym yn dal i fynd i'r afael â'r cynnydd yn yr amrywiolyn delta ar hyn o bryd. Ond mae'r rhaglen ar gyfer y trydydd cam yn parhau, mae digwyddiadau prawf pellach ar y gweill, a chyhoeddir y manylion cyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.
Diolch am eich ateb. Yn anffodus, mae ychydig o anghysondeb o hyd o ran caniatáu gwylwyr i ddychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon a chlybiau chwaraeon ledled Cymru. Felly, wrth i gefnogwyr ddychwelyd i stadia mewn niferoedd llai, mae rhai o anghysondebau'r rheoliadau COVID yng nghyswllt chwaraeon hefyd wedi cael eu dwyn i fy sylw. Er ei bod yn wych gweld rhai o gefnogwyr Cymru yn dychwelyd i gefnogi tîm rygbi Cymru yn stadiwm Principality ar gyfer y set ddiweddaraf o gemau rhyngwladol, yn ogystal â rhai cefnogwyr yn dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon eraill, mae'r rheolau ynglŷn â hyn yn parhau i fod yn aneglur. Felly, er enghraifft, yn stadiwm Principality, gofynnir i gefnogwyr wisgo masgiau o gwmpas y lleoliad ond gallant eu tynnu pan fyddant yn eu seddau. Yn y cyfamser, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y gall hyd at 100 o gefnogwyr ddychwelyd i gemau Uwch Gynghrair Cymru. Maent hefyd wedi dweud bod yn rhaid gwisgo masgiau bob amser, yn ogystal â gwirio tymheredd a chwblhau holiadur meddygol wrth fynd i mewn, er nad yw hynny'n ofynnol gan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer eu gemau hwy. Mae Criced Morgannwg wedi dweud nad oes angen gwisgo masgiau wrth eistedd, ond fel Undeb Rygbi Cymru, mae angen eu gwisgo wrth gerdded o gwmpas y stadiwm, yn ogystal â gwirio tymheredd wrth fynd i mewn, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ond yn wahanol i Undeb Rygbi Cymru. Felly, mae yna anghysondeb amlwg yno hefyd.
Ceir problem hefyd mewn perthynas â swigod aelwydydd. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn eu canllawiau ar gyfer Uwch Gynghrair Cymru, a Chriced Morgannwg wedi dweud na chaiff y rheini nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd eistedd gyda'i gilydd, ond dywed gwefan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer deiliaid tocynnau ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn, 'Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, nid oes cyfyngiad ar bwy y gallwch fynychu gyda hwy', sy'n wahanol eto i'r rheol chwech, er enghraifft, mewn tafarndai a bwytai. Er fy mod yn deall mai cyfrifoldeb y Gweinidog iechyd yw llunio rheoliadau COVID, eich rôl chi fel y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon yw sicrhau bod gan sefydliadau chwaraeon ddealltwriaeth gyson o reoliadau Llywodraeth Cymru, ac ar hyn o bryd, mae rhai o'r sefydliadau chwaraeon mwyaf yng Nghymru yn dehongli rheoliadau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn mewn ffyrdd tra gwahanol. Felly, a gaf fi ofyn: pa gamau rydych yn eu cymryd nid yn unig i sicrhau bod gan bob corff chwaraeon ddealltwriaeth gyson o'r rheoliadau, ond hefyd fod cefnogwyr sy'n mynychu digwyddiadau chwaraeon yn cael eu trin yr un mor deg â phobl sy'n mynychu lleoliadau eraill, fel tafarndai a bwytai?
Credaf fod y canllawiau a roddwyd i'r holl sefydliadau hyn yn gyson. Mater i'r sefydliadau eu hunain yw cynnal eu hasesiadau risg eu hunain yn seiliedig ar eu lleoliadau, eu niferoedd a sut y byddant yn diogelu yn erbyn yr haint. Felly, boed yn ddigwyddiad dan do neu'n ddigwyddiad awyr agored, mae'r canllawiau'n gyson. Yr hyn nad yw'n gyson, o reidrwydd, yw'r penderfyniadau y mae trefnwyr y digwyddiadau hynny'n eu gwneud ynglŷn â'r lleoliadau a'r niferoedd dan sylw, gan fod hynny'n dibynnu ar yr asesiad risg unigol ar gyfer pob digwyddiad.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod yn croesawu'r ffaith bod y cymorth cyfredol i fusnesau wedi'i ymestyn tan ddiwedd mis Awst, ac roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle, wrth gwrs, a ddarparwyd gan y Gweinidog i gael sesiwn friffio cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud. Ond wrth gwrs, rhai o'r sectorau sy'n cael eu taro galetaf yw'r rheini sy'n dibynnu ar aelodau'r cyhoedd yn cymysgu dan do ac yn agos at ei gilydd, ac mae pob un ohonynt yn weithgareddau sydd naill ai wedi wynebu cyfyngiadau difrifol neu wedi'u gwahardd yn gyfreithiol am ran helaeth o'r flwyddyn ddiwethaf. Er enghraifft, mae'r cyfyngiadau hyn wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau a sefydliadau yn y sector diwylliant, megis theatrau, lleoliadau cerddoriaeth fyw a chlybiau nos. Y diwydiant nos yw pumed diwydiant mwyaf y DU, ond erbyn i glybiau nos allu ailagor, amcangyfrifir y bydd 40 y cant i 50 y cant yn llai ohonynt yn weithredol o gymharu â'r ffigurau cyn COVID. Er bod clybiau nos yn deall eu bod ar gau er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, maent yn teimlo bod yna ddiffyg eglurder sylweddol mewn perthynas ag ailagor.
Wrth gwrs, nid oes modd rhagweld trywydd y pandemig ac ni allwn syrthio i'r fagl o nodi dyddiadau mympwyol ar gyfer ailagor, ond fel y mae pethau, nid oes gan y sector diwylliant unrhyw syniad sut y bydd ailagor yn gweithio. Er bod y cymorth ariannol a ddarparwyd i'r sector wedi'i groesawu, wrth gwrs, bydd angen amser ar fusnesau i baratoi i weithredu; o'm profiad personol, mae hynny'n aml yn golygu oddeutu pedair wythnos o rybudd, a sawl mis mewn rhai achosion. Hyd yn oed os na allant agor yn gyfan gwbl ar hyn o bryd, byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod rhai manylion. Felly, a all y Llywodraeth ddarparu amlinelliad o'r union amodau a fydd yn caniatáu i'r diwydiant ailagor, ac a fydda'n gysylltiedig â'r rhaglen frechu a/neu'r gyfradd heintio er enghraifft, a sut y bydd ailagor yn gweithio i leoliadau lle mae pobl yn agos at ei gilydd yn gorfforol?
Credaf mai'r her wrth roi ateb gonest i'r cwestiwn hwnnw yw nad ydym yn gwybod beth yw'r holl broblemau sy'n codi gyda hynny, ac mae'n rhaid inni fod yn onest ynglŷn â hyn. Gwyddom ein bod ynghanol ymchwydd sylweddol o heintiau coronafeirws. Gwyddom fod y berthynas rhwng yr haint a niwed yn wahanol. Dyma pam nad yw'r gyfradd o bobl mewn ysbytai a marwolaethau wedi codi yn y ffordd a welsom yn y gorffennol. Ac a dweud y gwir, gyda'r cyfraddau a welwn heddiw, pe na bai'r rhaglen frechu wedi bod mor llwyddiannus, byddem eisoes wedi mynd i'r cyfeiriad arall. Nawr, mae hynny'n newyddion da, gan ei fod yn dangos bod gennym fwy o le i symud. Yr hyn na allwn ei ddweud, serch hynny, yw, 'Mae gennym fformiwla bendant yn awr sy'n dweud wrthym faint o niwed a fyddai'n cael ei achosi a'r lle ychwanegol sydd gennym i symud.' Rydym yn gweithio drwy hynny, serch hynny, a'r hyn na allaf ei wneud yw achub y blaen ar y sgyrsiau nad ydym wedi'u gorffen o fewn y Llywodraeth gyda'r cyngor gan ein cynghorwyr gwyddonol nad yw'n derfynol eto, ac yn wir, y cyngor gan ein cynghorwyr iechyd cyhoeddus hefyd. Fodd bynnag, ar draws y Llywodraeth rydym yn deall ein bod mewn cyfnod yn awr lle mae cydbwyso'r niwed i iechyd a'r niwed economaidd a mathau eraill o niwed rydym bob amser wedi gorfod eu hystyried bellach yn symud tuag at y niwed mwy i weithgarwch economaidd. Nid yw hynny'n golygu nad oes cydbwysedd i'w gael, ond credwn ein bod mewn perthynas wahanol.
Felly, fe fyddwn yn parhau i edrych ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar y berthynas sydd wedi newid, nid wedi torri, rhwng yr haint a niwed. Byddwn yn parhau i edrych ar bwysau ar y GIG. Byddwn yn parhau i edrych ar yr effaith ar yr economi. A byddwn yn parhau i edrych ar lwyddiant y rhaglen frechu. Bydd hynny'n caniatáu inni gael y sgyrsiau sydd eisoes yn mynd rhagddynt gyda'r sector digwyddiadau, gyda'r sector lletygarwch, gydag eraill. Clybiau nos yw un o'r ychydig sectorau sydd ar gau o hyd, ac rydym yn awyddus i ddarparu'r math o bersbectif y bydd ei angen arnynt i ganiatáu iddynt ailagor yn ddiogel, ac fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth ateb cwestiynau blaenorol, i feddwl am eu prosesau eu hunain ar gyfer y canllawiau a fydd ar waith, a'u hasesiadau risg eu hunain y bydd angen iddynt eu cynnal ar gyfer eu staff a'u cwsmeriaid.
Diolch, Weinidog, a byddwn yn gobeithio, wrth gwrs, y bydd y sgyrsiau'n parhau gyda'r diwydiant nos fel y gallant gael eglurder wrth inni symud ymlaen. Os caf symud ymlaen at y cynllun cadw swyddi, bydd y Gweinidog unwaith eto'n ymwybodol wrth gwrs ein bod wedi cael sawl trafodaeth y tu allan i'r Siambr ar y pwnc hwn. Mae Llywodraeth y DU wedi dechrau'r broses raddol o ddirwyn y cynllun cadw swyddi i ben. Ers 1 Gorffennaf, bydd y Llywodraeth yn gostwng ei chyfraniad at gyflogau gweithwyr ar ffyrlo o 80 y cant i 70 y cant, ac o 1 Awst, bydd yn talu 60 y cant o gyflog gweithiwr ar ffyrlo, gan adael i'r cyflogwyr dalu'r 10 y cant coll am y tro cyntaf—penderfyniad a fydd yn arwain at ganlyniadau sylweddol i filoedd o fusnesau ledled Cymru. Er mai pobl ifanc oedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr a roddwyd ar ffyrlo i ddechrau, mae ailagor siopau, bariau a bwytai wedi caniatáu i lawer o bobl dan 25 oed ddychwelyd i'r gwaith neu ddod o hyd i swyddi newydd yn y sectorau hynny dros y misoedd diwethaf, ond mae llawer o weithwyr a busnesau'n dal i'w chael hi'n anodd. Gallai gweithwyr hŷn wynebu risg uwch, o gofio bod oddeutu hanner y rheini sy'n dal i fod ar ffyrlo yn 45 oed neu'n hŷn, yn ôl Sefydliad Resolution, sydd wedi dweud yn eu harchwiliad o safonau byw blynyddol ar gyfer 2021 fod y patrwm hwn o weithwyr iau'n dychwelyd o fod ar ffyrlo yn gynt wedi arwain at weithwyr hŷn ar ffyrlo llawn yn wynebu'r risg fwyaf o fod allan o waith am gyfnodau hir. Amcangyfrifir bod cymaint ag un o bob pedwar aelod o staff sy'n dal i ddibynnu ar y cynllun rhwng 55 a 64 oed. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r dadansoddiad demograffig o bobl yng Nghymru sy'n dal i fod ar ffyrlo, ac a yw'r Gweinidog yn rhannu pryderon Sefydliad Resolution mai gweithwyr hŷn a allai wynebu lefelau uwch o ddiweithdra wrth i ddiwedd y cynllun ffyrlo agosáu?
Mae ein safbwynt ar wybodaeth am y farchnad lafur a'r cysylltiadau sydd gennym nid yn unig â'r arolygon ehangach ond gyda'r sectorau busnes eu hunain yn un rydym yn parhau i'w ystyried, wrth inni drafod y llwybr pellach tuag at agor rhannau o'n heconomi, fel rydym yn dal i feddwl y gellir llacio'r cyfyngiadau yn y dyfodol. Dyna'r sgwrs anghyflawn y cyfeiriais ati yn eich cwestiwn cyntaf.
Ni chredaf ei fod mor syml â dweud mai gweithwyr hŷn neu iau a fydd yn cael eu heffeithio, gan y gwyddom fod llawer o weithwyr iau wedi cael eu taro’n galed iawn yn ystod y pandemig hefyd, ac yn y sectorau y sonioch chi amdanynt, mae rhai pobl yn mynd yn ôl i'r gwaith, ond mae'r sectorau hynny hefyd yn wynebu her wirioneddol mewn perthynas â llafur gan fod rhai pobl wedi symud ymlaen i wahanol ddiwydiannau a gwahanol swyddi. Felly, mae gennym her ar draws ystod o oedrannau, a'r risg i bobl iau, os na allant ailymuno â'r byd gwaith, yw y gall hynny gael effaith andwyol ar eu potensial a'u gallu i gyflawni yn y dyfodol. Ac os yw gweithwyr hŷn allan o waith am gyfnod hir, ac os yw cwmnïau'n gwneud penderfyniadau naill ai i leihau eu nifer o staff neu ddod â'r busnes i ben, wrth inni weld y cymorth ffyrlo'n lleihau, mae yna risg wirioneddol, ac rydym wedi gweld hyn sawl gwaith gyda thrychinebau economaidd yn y gorffennol, y gall fod yn anodd iawn i bobl, yn enwedig pobl â sgiliau uwch, ddychwelyd i fyd gwaith ar gyflogau sy'n gymesur, ac mae hynny ynddo'i hun yn cael effaith wirioneddol. Felly, mewn mwy nag un ystod oedran, rydym yn cydnabod ein bod yn rheoli risgiau sylweddol yn yr economi ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod wedi galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei hymagwedd tuag at ffyrlo ac i feddwl am ffordd fwy hyblyg o gefnogi busnesau wrth i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud, ac nid yw'r broses o ailagor ein heconomi wedi'i chwblhau mewn unrhyw ran o'r DU, ac yn yr un modd, nid ydym yn hollol sicr beth fydd yn digwydd yn y pandemig a beth y gall hynny ei olygu i weithgarwch economaidd yn y dyfodol chwaith.
Wrth gwrs, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd wedi rhybuddio y gallai cost ychwanegol i fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd arwain at ddegau o filoedd o weithwyr yn wynebu cael eu diswyddo. Er mwyn sicrhau nad yw lleihau a dirwyn y cynllun ffyrlo i ben yn arwain yng Nghymru at y canlyniad posibl a amlinellwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw waith cynllunio wrth gefn i'w galluogi i barhau i gefnogi gweithwyr a busnesau Cymru drwy ffyrlo os bydd San Steffan yn rhoi'r gorau i'w cymorth?
Ac yn ychwanegol at hyn, wrth gwrs, yng Nghymru, er bod nifer y bobl ar ffyrlo wedi gostwng yn gyson dros yr ychydig fisoedd diwethaf, yr wythnos diwethaf, roedd 88,000 o weithwyr yng Nghymru yn dal i fod ar ffyrlo. Wrth gwrs, rydych wedi rhybuddio eich hun na ddylid dirwyn y cynllun ffyrlo i ben cyn bod economi Cymru'n barod, ac yn San Steffan, mae fy nghydweithiwr Ben Lake wedi cyhuddo Trysorlys y DU o lynu'n ormodol at ddyddiadau mewn perthynas â chymorth ariannol er yr ansicrwydd parhaus mewn perthynas â'r economi. Gyda risg barhaus o ansefydlogrwydd economaidd wrth inni ddod allan o'r pandemig, mae'n hanfodol fod y Trysorlys yn parhau i weithredu yn y ffordd fwyaf hyblyg os yw o ddifrif yn mynd i gynorthwyo pobl a busnesau i ddod allan o'r argyfwng hwn.
Mae Cyngres yr Undebau Llafur hefyd wedi rhybuddio Gweinidogion i beidio â throi cefn ar adferiad economaidd y DU drwy ddirwyn cymorth i weithwyr a busnesau i ben yn rhy fuan. Pe bai sefyllfa iechyd y cyhoedd yn dirywio'n annisgwyl wrth inni agosáu at yr hydref a'r gaeaf, a yw Llywodraeth Cymru yn barod i gamu i'r adwy a chefnogi gweithwyr a busnesau Cymru? A chyda phenderfyniadau’r Canghellor yn plethu â chyhoeddiad Prif Weinidog y DU yr wythnos hon y bydd Lloegr yn llacio'r holl gyfyngiadau o 19 Gorffennaf, a fydd Llywodraeth Cymru yn modelu nid yn unig sut y bydd hyn yn effeithio ar sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru, ond ar yr amgylchedd economaidd hefyd? A yw'r Gweinidog hefyd yn cytuno, os nad yw San Steffan yn gwneud hyn yn iawn, gyda'r sefyllfa economaidd a'r sefyllfa iechyd yn dirywio, y gallai hyn gostio i ni yn hirdymor?
Yn amlwg, os na fydd Llywodraeth y DU yn rhoi ystyriaeth briodol i'r hyn a fydd yn digwydd nesaf gyda'r pandemig y mae pob un ohonom am ei weld yn dod i ben, gallai hynny arwain at ganlyniadau sylweddol o ran iechyd y cyhoedd a'r economi, ac mae digon o sylwebaeth ynglŷn â hynny ac ynglŷn â chydbwyso risg yn y dewis y mae Prif Weinidog y DU wedi'i wneud ar gyfer Lloegr mewn perthynas ag ailagor a'r hyn y gallai hynny ei olygu o ran nifer yr achosion o'r haint, y mae eu gwaith modelu eu hunain wedi dangos y bydd yn cynyddu'n sylweddol.
Nawr, yma yng Nghymru, rydym wedi gwneud penderfyniadau bwriadol ynghylch cefnogi busnesau gyda chymorth mwy hael i fusnesau fel y gallant oroesi'r pandemig. Dyna pam y bu modd imi gyhoeddi'r cam pellach o gymorth i fusnesau tan ddiwedd mis Awst, felly ceir rhywfaint o sicrwydd ychwanegol i fusnesau wrth inni barhau i wneud penderfyniadau ynglŷn ag ailagor. Ac roeddwn yn falch o ddarparu sesiwn friffio i chi, ac yn wir, gwnaed y cynnig i lefarydd y Ceidwadwyr hefyd.
Yr her i ni, serch hynny, fydd meddwl sut y gallwn wneud hynny'n fwy llwyddiannus yn y dyfodol a'r adnoddau rydym wedi'u cadw i gefnogi busnesau. Nawr, rydym yn y sefyllfa hon am ein bod wedi rheoli agweddau eraill ar y pandemig mewn ffordd wahanol. Felly, mae gennym fwy o le i symud am ein bod wedi caffael cyfarpar diogelu personol mewn ffordd wahanol, am lai o gost ac yn fwy effeithlon, ac nid ydych wedi gweld unrhyw fath o lwybr i'r breintiedig yng Nghymru gan nad oes un yn bodoli. Hefyd, mae gennym wasanaeth profi, olrhain a diogelu llawer mwy effeithlon sy'n costio llai o lawer na'r system yn Lloegr. Mae hynny wedi rhoi mwy o le i symud er mwyn i ni allu bod yn fwy hael gyda'n cymorth i fusnesau. Rwyf eisoes yn gweithio gyda swyddogion ac yn cael sgyrsiau gyda sectorau busnes ynglŷn â sut y gallem eu cefnogi yn ystod yr adferiad gyda'r adnoddau sydd ar gael.
Wrth gwrs, gallai'r holl bethau hynny fynd i gyfeiriad gwahanol. Yn hytrach na buddsoddi yn yr adferiad a buddsoddi yn sgiliau'r dyfodol ac mewn arloesi, efallai y bydd angen inni fynd yn ôl i fuddsoddi mewn mwy o gymorth brys. Mae gennym rywfaint o allu i wneud hynny, ond os bydd y pandemig yn mynd i gyfeiriad annisgwyl arall, byddem yn disgwyl, wrth gwrs, i Lywodraeth y DU ddarparu adnoddau'r DU i fusnesau ledled y DU pe baem yn y sefyllfa honno. Ond rwy'n obeithiol y bydd modd inni wneud dewisiadau cadarnhaol yn y dyfodol gan sicrhau cydbwysedd priodol rhwng iechyd y cyhoedd a'n dyfodol economaidd.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith technoleg arloesol ar y gweithlu? OQ56729
Diolch am eich cwestiwn. Mae ein cenhadaeth i ailadeiladu'r economi yn adeiladu ar ganfyddiadau adolygiad yr Athro Phillip Brown yn 2019, gyda ffocws ar gyflymu trawsnewid diwydiannol drwy fanteisio ar dechnolegau newydd a tharfol, megis deallusrwydd artiffisial.
Diolch, Weinidog. Yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur, dywed un o bob pedwar gweithiwr yng Nghymru fod monitro a gwyliadwriaeth yn y gwaith wedi cynyddu ers dechrau argyfwng COVID-19. Mae hyn yn cynnwys olrhain a logio gweithwyr wrth iddynt symud gyda strapen arddwrn, gan gynnwys pan fyddant yn mynd i'r toiled; gorfodi gyrwyr i wneud dŵr mewn poteli gan fod algorithm wedi gosod nifer amhosibl o gyflenwadau i'w dosbarthu mewn diwrnod, fel na allant fforddio cymryd seibiant; a'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau ar bobl sy'n gweithio gartref drwy eu gliniadur heb eu caniatâd.
Wrth gyflawni fy ymchwil fy hun gyda'r Athro Lina Dencik yn y labordy cyfiawnder data ym Mhrifysgol Caerdydd, gwnaethom gyfweld â dros 10 undeb llafur gwahanol a chanfod bod y wyliadwriaeth ormesol a helaeth hon yn gwneud i weithwyr deimlo dan straen ac yn ddigymhelliad, ac nad yw eu cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi nac yn ymddiried ynddynt, gan chwalu'r parch angenrheidiol rhwng gweithwyr a chyflogwyr. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau wrth i dechnoleg newydd gael ei chyflwyno i'r gweithle ei bod yn gwella bywydau gweithwyr yn hytrach na'u hamddifadu o urddas?
Credaf mai dyna'r pwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei wneud ar y diwedd, gan y gall technoleg, o'i defnyddio'n gyfrifol, roi mwy o hyblygrwydd i weithwyr a'u galluogi i fod yn fwy cynhyrchiol, fel y mae llawer o fusnesau wedi'i ddarganfod yn ystod y pandemig. Mae'r defnydd arloesol o dechnoleg wedi rhoi rhyddid a gallu i bobl weithio o bell mewn ffordd y maent yn ei gwerthfawrogi.
Nawr, nid yw hynny'n gweithio i bob gweithiwr neu bob busnes, ond gall y defnydd amhriodol o dechnoleg fel y mae'r Aelod yn ei nodi, gyda chyflogwyr diegwyddor, greu amgylchedd o ofn a diffyg ymddiriedaeth. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld ac ni fyddwn yn cefnogi'r defnydd o arferion gwaith technolegol a chysylltiedig â COVID sy'n dod i'r amlwg i greu amgylchedd gormesol neu fygythiol i reoli gweithwyr.
Wrth inni barhau i gael ein trafodaethau yn y dull partneriaeth gymdeithasol rydym wedi'i adeiladu, sydd wedi bod o fudd sylweddol i Gymru drwy'r pandemig, gallaf ddweud y byddwn yn parhau i nodi ein disgwyliadau ar gyfer economi gwaith teg, lle rydym yn cydbwyso anghenion busnesau i wneud elw, ond hefyd eu cyfrifoldebau i ofalu am eu gweithwyr eu hunain. Dyna pam ein bod yn parhau i weithio gyda busnesau eu hunain a chydag undebau llafur sy'n cynrychioli buddiannau'r gweithlu, a byddaf yn sicrhau fy mod yn rhoi mwy o sylw i'r maes penodol hwn, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu sylw at yr ymchwil a wnaed ganddi eisoes ar y mater hwn.
Weinidog, mae'r sgwrs ynghylch deallusrwydd artiffisial yn aml wedi canolbwyntio ar ei effaith ar y gweithlu a sut y gall arwain at lai o swyddi. Fodd bynnag, y gwir amdani yw bod dros 96 y cant o'r holl weithgynhyrchu yng Nghymru yn dod o fentrau busnes bach, ac rydym ni fel gwlad ar ei hôl hi o ran cynhyrchiant o gymharu â chystadleuwyr ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Mae technoleg arloesol yn rhoi cyfle perffaith i leihau’r costau buddsoddi sydd eu hangen ar gwmnïau er mwyn eu gwneud yn gystadleuol, ac mae gan Gymru fusnesau gwych sydd mewn sefyllfa dda i allu gwneud hyn, fel Nightingale HQ ym Mhontypridd. A all y Gweinidog nodi pa gynigion y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i helpu busnesau bach i integreiddio deallusrwydd artiffisial yn eu busnesau a'u helpu i gynyddu eu cynhyrchiant?
Rydym yn edrych ar arloesi digidol ym maes gweithgynhyrchu. Rydym eisoes wedi creu hyb yng Nghymru a gefnogir gennym hefyd, felly rydym yn edrych ar sut y mae hyn yn gweithio i wahanol fusnesau mewn gwahanol sectorau. Mae hefyd yn rhan o'r gwaith rydym yn bwriadu ei ddatblygu ar ddull hollol ranbarthol o ddeall beth fydd yn gweithio mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae a wnelo hynny â grymuso gwahanol ranbarthau yng Nghymru i wneud penderfyniadau gyda'i gilydd. Felly, y gwaith a wnaeth Julie James yn ei rôl weinidogol flaenorol yn creu cyd-bwyllgorau—sut y mae'r gwaith hwnnw'n sail i'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ddatblygiad economaidd rhanbarthol hefyd.
Yr her yw sicrhau nad yw ein gallu i fuddsoddi yn y penderfyniadau a wneir ar y lefel fwyaf priodol yn cael ei danseilio gan newidiadau yn y ffordd y mae strwythurau cyllido'n gweithio hefyd. Felly, mae heriau i Lywodraeth Cymru o ran yr hyn y gallwn ei wneud, ond hefyd dulliau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth a'r gwahaniaethau barn rhyngom ni a Llywodraeth y DU ar sut y defnyddir y ffynonellau cyllid hynny a ddaw yn lle'r cronfeydd Ewropeaidd—bydd hynny'n hanfodol bwysig er mwyn gwneud gwahaniaeth ymarferol i gefnogi mwy o fusnesau a mwy o swyddi yma yng Nghymru.
4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r sector manwerthu yng Nghymru dros y 12 mis nesaf? OQ56717
Diolch. Rydym yn llwyr gydnabod bod pandemig COVID wedi cael effaith aruthrol ar y sector manwerthu. Dyna pam ein bod yn gweithio'n agos gyda hwy i ddatblygu strategaeth fanwerthu a fydd yn amlinellu ein blaenoriaethau a chydweledigaeth ar gyfer dyfodol y sector.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod yr Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, undeb rwy'n aelod ohono, wedi cynhyrchu cynllun adfer manwerthu, sy'n nodi ymyriadau allweddol i gefnogi'r sector. Gan gydnabod, wrth gwrs, fod rhai o'r dulliau wedi'u cadw'n ôl a bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflawni ar rai gofynion allweddol, megis rhyddhad ardrethi llawn i fusnesau manwerthu yng Nghymru, byddwn yn croesawu eich barn ar yr adroddiad hwnnw a pha fesurau pellach y gallech eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod anghenion y sector manwerthu yn ganolog ym mholisi economaidd Llywodraeth Cymru dros y 12 mis nesaf.
Iawn. Mewn gwirionedd, yn fy ymateb cychwynnol, dylwn fod wedi dweud yn glir, pan siaradaf am weithio gyda hwy, y sector manwerthu, rwy'n golygu busnesau ac undebau llafur. Mae'r Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol wedi bod yn adeiladol iawn yn y cynllun adfer manwerthu y maent wedi'i gynnig, a byddaf yn cyfarfod â busnesau ac ochr yr undebau llafur dros yr wythnos nesaf. Oherwydd rydym eisoes wedi bod yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru i sicrhau ein bod yn cynorthwyo'r sector manwerthu i adfer i'r graddau mwyaf posibl. Ac mae'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol yn dibynnu ar yr hyn rydym yn barod i'w wneud yn ogystal â'r hyn y mae busnesau'n barod i'w wneud hefyd, i feddwl am y cynnig a sut y gwnaethant oroesi yn y pandemig. Ond mae hefyd yn dibynnu ar ein hymddygiad ninnau fel defnyddwyr. Am gyfnod hir yn ystod y pandemig, roedd pobl yn awyddus i brynu'n lleol a chefnogi masnachwyr lleol. Os bydd mwy o bobl yn newid i brynu ar-lein ac o bell, yr her yw y gall hynny effeithio ar y stryd fawr a siopa yn y cnawd. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am yr hyn rydym yn barod i'w wneud a sut y mae pobl yn teimlo ynglŷn â dychwelyd i amgylcheddau nad yw llawer ohonom wedi bod ynddynt ers peth amser. Felly, mae her yma ynglŷn ag ymddygiad personol, ond edrychwn ymlaen at weithio gyda'r sector manwerthu, yn fusnesau ac undebau llafur, i sicrhau dyfodol cadarnhaol i fanwerthu yma yng Nghymru.
A gaf fi ddiolch i Vikki Howells am ofyn y cwestiwn hwn heddiw? Ac er bod pob un ohonom yn croesawu'r cymorth a gynigiwyd hyd yma i fusnesau, wrth inni ddechrau dod allan o'r pandemig, credaf ei bod hi'n hanfodol fod rhai pecynnau cymorth presennol yn cael eu diwygio i ennyn hyder ac annog gwario gan ddefnyddwyr yn y sector manwerthu ar y stryd fawr a chanol ein trefi. Ac mae'r gronfa trawsnewid trefi yn hanfodol ar gyfer manwerthu ledled Cymru, ac yn wir, yn fy etholaeth i, ond byrdymor yn unig yw ei ffrydiau cyllido. Felly, Weinidog, a wnewch chi fynd i’r afael â hyn drwy sicrhau y gall pobl gymwys gael mynediad at y gronfa yn fwy hirdymor? Diolch.
Wel, bydd angen i ddewisiadau mwy hirdymor fod yn amodol ar ein hystyriaethau cyllidebol, ond rwy'n falch fod y Llywodraeth hon yn meddwl o ddifrif am fuddsoddi yn nyfodol trefi—ac mae manwerthu'n rhan bwysig o ymdeimlad o le i'r bobl sy'n byw yn y trefi hynny—a sut rydym yn denu mwy o ymwelwyr i ganol trefi i sicrhau bod y busnesau hynny'n hyfyw. Felly, ydw, rwy'n disgwyl y byddwn yn gwneud penderfyniadau pellach ynglŷn â sut i gefnogi trefi ymhellach yn y dyfodol, yn hytrach na chyllid a fydd yn dod i ben ar ôl cyfnod cyfyngedig o amser, ond ni allaf roi syniad pendant i chi ynglŷn â'r dyfodol cyllidebol. Fel y gwyddoch, byddwn yn ymgymryd â'r broses o bennu'r gyllideb dros y misoedd nesaf, ac edrychaf ymlaen at drafod hynny gyda chi, a heb os, bydd sawl cyfle i wneud hynny.
5. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd am effaith economaidd porthladdoedd rhydd? OQ56751
Rwyf wedi cael ystod o drafodaethau ar borthladdoedd rhydd gyda chyd-Weinidogion, gan gynnwys y Gweinidog Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw gynnig gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phorthladd rhydd yng Nghymru. Er hynny, mae Gweinidogion Cymru wedi nodi amodau clir lle gellid defnyddio dull gweithredu ar y cyd, gan gynnwys, yn bwysig, cyllid cydradd â phorthladdoedd rhydd Lloegr.
Diolch am yr ymateb yna. Mae eisiau ystyried pob opsiwn ar gyfer cyfleon newydd i borthladd Caergybi yn fy etholaeth i; dwi wedi edrych ers sawl blwyddyn ar y posibiliadau o ran creu porthladd rhydd. Ond mae eisiau bod yn glir iawn am fanteision posib ac anfanteision posib, ac mae'n anodd pan fo pethau'n cael eu cymylu braidd gan rethreg wleidyddol. Fel dywedodd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan:
Ni ddylai Llywodraeth y DU
'greu porthladd rhydd yng Nghymru at ddibenion optegol neu wleidyddol'.
Mae'n bwysig bod pobl yn deall nad rhyw fath o dividend Brexit ydy hyn, er enghraifft, achos mi ellid, mewn egwyddor, bod wedi cael statws porthladd rhydd tra'n dal yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac mae eisiau, fel mae'r Gweinidog yn ei ddweud, i bobl ddeall bod Llywodraeth Geidwadol Prydain yn cynnig llawer llai ar gyfer porthladdoedd rhydd yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr—rhyw £8 miliwn, o'i gymharu â £25 miliwn. Ond, oes, mae eisiau edrych ar y cyfleon. Felly, all Llywodraeth Cymru, tra'n mynnu cael maes chwarae gwastad o ran cefnogaeth ariannol posib, sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i ddeall yn union pa fanteision a allai ddod i Gaergybi yn ymarferol, ym mha sectorau, a balansio hynny, hefyd, efo sgil-effeithiau negyddol posib?
Gan nad oes gennym gynnig cadarn, dylwn ddechrau drwy ddweud nad oes gennym gynnig i weithio gydag ef. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, mae'r Gweinidog blaenorol wedi ysgrifennu, a bydd y Gweinidog cyllid a minnau'n ysgrifennu eto, cyn ein cyfarfod gyda'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yfory, i nodi, unwaith eto, y paramedrau rydym yn barod i weithio o'u mewn gyda Llywodraeth y DU i edrych ar borthladd rhydd yng Nghymru. Un o'r pwyntiau hynny yw cyllid cydradd. Nid yw hyn yn rhywbeth lle dylid darparu cyfran yn ôl fformiwla Barnett; ymyrraeth sy'n seiliedig ar leoedd yw hi, a dylid rhoi'r un cyllid ag a roddir i unrhyw borthladd rhydd yn Lloegr i unrhyw borthladd rhydd yng Nghymru. Dylwn ddweud yn garedig wrth yr Aelod fod Caergybi yn un porthladd a allai fod yn awyddus i wneud cais i ddod yn borthladd rhydd, oherwydd yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud yw ymgymryd â phroses geisiadau gystadleuol. Nawr, rhan o fy mhryder yw y gallech, yn y pen draw—. Rydym eisoes yn gweld gweithgarwch yn mynd rhagddo i baratoi i ymgeisio am broses nad ydym yn ei deall, nad yw'n fyw eto, a bydd adnoddau'n cael eu gwastraffu wrth wneud hynny, gan y byddai gan borthladdoedd eraill ddiddordeb mewn ymgeisio hefyd. A'r her i ninnau wedyn, pe byddem yn gwneud hyn, yw yr hoffem ddeall yn well a ydym o ddifrif yn creu mwy o weithgarwch neu'n disodli gweithgarwch sydd eisoes yn digwydd.
Mater o ffaith, nid barn, wrth gwrs, yw bod porthladdoedd rhydd eisoes yn bodoli pan oeddem yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd; y Prif Weinidog Cameron a ddaeth â'r porthladdoedd rhydd i ben yn y DU yn 2012. Felly, nid yw'n syniad newydd. Ac mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen arnom yw ymgysylltiad uniongyrchol â'r Trysorlys, gan ei fod yn brosiect sy'n cael ei lywio gan y Trysorlys. Mae'n rhywbeth y mae Canghellor y Trysorlys yn ymrwymedig iawn iddo, ac mae ganddo berffaith hawl i gael meysydd diddordeb personol y mae'n awyddus i'w gweld yn digwydd, ond er mwyn cael porthladd rhydd, mae'n rhaid i'r Gweinidogion sy'n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth y DU ymgysylltu'n iawn â Llywodraeth Cymru fel y Gweinidogion sy'n gwneud penderfyniadau yma er mwyn sicrhau ein bod yn deall yr hyn y gofynnir inni ymrwymo iddo a sut beth fydd y cynnig llawn. A hoffwn allu cael trafodaeth fanylach gyda'r Aelod ac eraill, ond nid wyf yn gallu gwneud hynny, oherwydd, fel y dywedaf, nid oes gennym gynnig iawn i'w drafod.
Janet Finch-Saunders.
O, ni allwn eich clywed ar hyn o bryd, Janet Finch-Saunders. A allwch weld a oes yna fotwm y gallwch ei wasgu? Dywedwch rywbeth, Janet, i weld a allwn eich clywed nawr. Dywedwch rywbeth. Na. Fe ddown yn ôl atoch chi. Galwaf ar Joyce Watson nesaf.
Diolch, Lywydd. Fel y dywedoch chi, Weinidog, mae'r polisi porthladdoedd rhydd, yn wir, yn rhagflaenu Brexit. Fe’i cynigiwyd yn Britannia Unchained, maniffesto 2012 ar gyfer troi’r DU yn economi treth isel wedi’i dadreoleiddio, a ysgrifennwyd gan Aelodau asgell dde'r Llywodraeth Brexit Dorïaidd gyfredol, ac fe wnaeth Prif Weinidog y DU ddigwydd derbyn rhodd o £25,000 gan borthladd Bryste hefyd, felly rwy'n amheus o'r polisi a dweud y lleiaf. Ond fy mhryder uniongyrchol yw effaith Brexit ar borthladdoedd Cymru. Mae gyrwyr lorïau sy'n teithio i ac o Iwerddon yn wynebu mwy a mwy o oedi a biwrocratiaeth, sy'n golygu bod rhai ohonynt yn osgoi porthladdoedd Cymru, ac rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn ystod y flwyddyn o ran niferoedd. Felly, fy nghwestiwn i chi, Weinidog, yw: beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu hyfywedd ein porthladdoedd yn y tymor byr?
Mae gennym heriau gwirioneddol yn y maes hwn, fel y dywed Joyce Watson. Mae gennym ostyngiad o rhwng chwarter a thraean yn y gweithgarwch drwy ein porthladdoedd. Nawr, nid problem yng Nghaergybi yn unig yw honno; mae'n sicr yn broblem fawr i'r fasnach ag ynys Iwerddon a ddaw drwy dde-orllewin Cymru hefyd, drwy'r porthladdoedd yn sir Benfro. Felly, mae hwn yn fater rwyf wedi'i godi dro ar ôl tro wrth ymgysylltu â Llywodraeth y DU i ddeall nad yw hwn, yn ôl pob golwg, yn fater wrth fynd heibio; yn sicr, nid mater o broblemau cychwynnol yn unig mohono.
Drwy weddill yr haf, bydd Llywodraeth Cymru a phob Llywodraeth arall yn y DU yn ymgysylltu'n ddwys â'r Undeb Ewropeaidd wrth inni geisio gweld beth fydd yn digwydd yn dilyn y cytundeb masnach rydd a wnaed. Mae cryn dipyn ar ôl i'w drafod, a bydd hynny'n cael effaith wirioneddol ar hyfywedd a dyfodol porthladdoedd ledled y DU, ond yn enwedig yma yng Nghymru, lle mae pobl yn awyddus i osgoi'r bont a arferai fodoli rhwng ynys Iwerddon a'n porthladdoedd yma yng Nghymru. Mae'n fater o gryn bryder i mi, ac wrth inni geisio creu safleoedd rheoli ffiniau yng Nghymru, o ganlyniad uniongyrchol i Brexit—mae angen inni sicrhau eu bod ar waith, oherwydd y gwiriadau ychwanegol y mae angen inni eu cyflawni fel trydedd wlad—hoffwn weld bod gennym gytundeb ehangach ynglŷn â sut rydym yn mynd i gefnogi porthladdoedd a'r gweithgarwch economaidd sy'n mynd drwyddynt. Golyga hynny fod angen atebion gonest gan Lywodraeth y DU, yn ogystal ag eglurder ar y pethau mewn egwyddor y dywedant eu bod yn barod i'w gwneud i gefnogi porthladdoedd yn y tymor byr, y tymor canolig ac yn fwy hirdymor hefyd.
Ni allaf weld Janet Finch-Saunders ar Zoom mwyach, felly tybiaf nad ydym wedi gallu ailgysylltu. Gadewch inni roi un cynnig arall arni. Gallaf, gallaf eich gweld yn awr, Janet; fodd bynnag, a allaf eich clywed? Na, ni chredaf y gallwn. Rwy'n siŵr y byddwn yn ailgysylltu gyda Janet Finch-Saunders yn y man.
Cwestiwn 6, Cefin Campbell. O—. Cwestiwn 6, Cefin Campbell.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gefnogaeth ariannol a ddarparwyd i'r diwydiant lletygarwch dros y misoedd diwethaf? OQ56745
Hyd yn hyn, heb gynnwys y cymorth a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £56 miliwn i'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch drwy'r gronfa cadernid economaidd, a bydd cyllid brys, wrth gwrs, ar gael yn awr tan ddiwedd mis Awst. Bydd y sector yn parhau i elwa o'n cynllun rhyddhad ardrethi 100 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan, yn wahanol i fusnesau cyfatebol yn Lloegr.
Diolch yn fawr, Weinidog. Byddwch chi'n cofio imi ysgrifennu atoch chi ar fater y diffyg cyllid oedd ar gael i'r sector lletygarwch ar gyfer mis Ebrill yn benodol. Yn eich llythyr ataf i ar 25 Mehefin, rŷch chi'n nodi, a dwi'n dyfynnu, fod 'y pecyn cymorth ariannol i fusnesau Cymru wedi parhau trwy gydol mis Ebrill ac i mewn i fis Mai.' Fodd bynnag, mae busnesau yn y rhanbarth yn dweud wrthyf i nad yw hyn yn gywir. Yn wir, mae dogfen ar wefan Busnes Cymru yn nodi'n glir fod cyllid ar gyfer cymorth penodol i'r sector, y gronfa ERF cam 2, yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 25 Ionawr 2021 a 31 Mawrth 2021. Nid oedd y gronfa nesaf ar gael tan fis Mai, felly sut ŷch chi'n esbonio'r anghysondeb rhwng y wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd ar wefan Busnes Cymru a'r wybodaeth a roesoch chi imi yn eich llythyr ar 25 Mehefin?
Rydym wedi bod o amgylch y trac hwn sawl gwaith, fel y gŵyr yr Aelod, ynglŷn â phryd y caiff y penderfyniadau eu gwneud a sut y mae'r cynlluniau'n ceisio gwrthbwyso'r costau i fusnesau. Felly, bydd y cynllun rydym yn y broses ymgeisio ar ei gyfer yn awr, lle mae'r gwiriwr cymhwysedd ar agor, a bydd y ceisiadau'n agor yr wythnos nesaf, yn ceisio gwrthbwyso costau o ddiwedd y cyfnod diwethaf o gymorth i fusnesau hyd at ddiwedd mis Awst. Dyna'r ffordd rydym wedi gwneud pethau'n gyson, a mater o ffaith, nid barn, yw ein bod yn darparu pecyn cymorth mwy hael i'r busnesau perthnasol y mae'r Aelod yn eu crybwyll yma yng Nghymru o gymharu â Lloegr.
Yr her fawr i ni, serch hynny, yw ein gallu i barhau i gefnogi busnesau drwy'r cyfnod hwn o argyfwng, pan fo'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar eu gallu i fasnachu'n llwyddiannus, a'r hyn y byddwn yn gallu ei wneud wrth inni obeithio gallu cymryd camau pellach i lacio'r cyfyngiadau a chaniatáu mwy o weithgarwch economaidd. Mae hynny'n gysylltiedig â'r pwyntiau a wnaed mewn cwestiynau blaenorol am y cydbwysedd rhwng sefyllfa iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru, llwyddiant ein rhaglen frechu, yr orau yn y byd, a'r gweithgarwch economaidd rydym am ei adfer yn ddiogel a'r cam nesaf yn ein dull o weithredu. Fel y gŵyr yr Aelod, fel rhan o'n proses adolygu 21 diwrnod, cyfnod byr yn unig sydd yna cyn y gallwn wneud penderfyniadau pendant pellach i helpu i roi cymorth i fusnesau yng ngham nesaf yr adferiad.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod UK Hospitality Cymru wedi bod yn galw am strategaeth ariannu ddoeth naw mis newydd i gynorthwyo busnesau i oroesi ac ymadfer, a diogelu swyddi ar gyfer y dyfodol. Nawr, mae busnes lletygarwch yn fy etholaeth yn parhau i ddweud wrthyf eu bod yn dal i fod mewn sefyllfa enbyd a bregus. Felly, a allwch ddweud wrthym a fyddwch yn ystyried derbyn awgrym UK Hospitality Cymru a cheisio datblygu strategaeth naw mis?
Wel, rwyf wedi ymgysylltu'n adeiladol yn ddiweddar â'r sector lletygarwch ac eraill. Rydym yn parhau i siarad, mae fy swyddogion yn cael sgyrsiau rheolaidd gyda chynrychiolwyr o'r sector lletygarwch, ac fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, mater o ffaith, nid barn, yw bod busnesau lletygarwch yng Nghymru yn cael pecyn mwy hael o gymorth ariannol o gymharu â busnesau lletygarwch yn Lloegr. Mewn gwirionedd, eu pryderon yw—maent yn cydnabod eu bod mewn sefyllfa wirioneddol fregus, o hyd—heriau ynghylch staff, gallu buddsoddi mewn sgiliau yn y dyfodol, ac os gallwn symud ymlaen ymhellach, yr hyn y mae hynny'n ei olygu o ran y gallu i addasu naill ai i'r cyfyngiadau wrth iddynt gael eu llacio neu i newidiadau yn y ffordd y mae eu busnes yn gweithredu. Mae'n ymwneud â sut rydym yn darparu sylfaen mor sefydlog â phosibl.
Yr her wrth geisio nodi cynllun ar gyfer cyfnod o naw mis, dyweder, yw na allwn ddweud wrth yr Aelod nag unrhyw un arall, a chyda sicrwydd pendant, sut fydd pethau o ran masnachu dros gyfnod y Nadolig, gan nad ydym mewn sefyllfa i ragweld mor bell â hynny gyda gwir sicrwydd. Byddwn yn gwneud penderfyniadau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf, dros gam nesaf ein taith allan o'r pandemig, gobeithio. Byddwn yn gwneud hynny gyda'r math o ragolygon y gallwn eu rhoi yn gyfrifol ar gyfer y dyfodol, a bydd angen inni barhau i ailwerthuso lle rydym arni o ran y pandemig. Ond mae'r dewis a wneuthum i ddarparu cymorth brys hyd at ddiwedd mis Awst yn rhoi rhywfaint o sicrwydd am weddill yr haf ynghylch y cymorth a fydd ar waith, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy ar y weledigaeth ar gyfer y dyfodol pan fyddwn yn gallu gwneud hynny gyda digon o sicrwydd. Tan hynny, edrychaf ymlaen at y sgyrsiau adeiladol parhaus a gawn ynglŷn â sut rydym yn cefnogi'r sector hwn yn economi Cymru.
Weinidog, rwy'n gwybod mai un o’r elfennau mwyaf poblogaidd o gymorth ariannol i ddarparwyr lletygarwch yn Ogwr oedd y gronfa adfer wedi COVID-19 ar gyfer gwelliannau awyr agored, a bydd pobl yn elwa o'i budd ymhell ar ôl y pandemig. Pan symudodd lletygarwch i'r awyr agored a'r cyfyngiadau COVID yn weithredol, darparwyd grantiau o hyd at £10,000 i dalu am 80 y cant o gostau addasu busnesau ledled Cymru. Felly, dwsin o glybiau chwaraeon a chlybiau cymdeithasol ar draws fy ardal, o Bencoed i Heol-y-Cyw, i Faesteg a phob rhan o'r ardal, ond caffis a bwytai a bariau hefyd, o Flaenogwr i Fryncethin, o Fetws i Felin Ifan Ddu, o Lanharan i Langeinwyr a Llangynwyd, gwnaeth pob un ohonynt fanteisio ar y grant hwnnw, ac maent bellach wedi cynhyrchu darpariaeth awyr agored arbennig.
Felly, a wnaiff y Gweinidog, dros yr haf, roi amser i dderbyn fy ngwahoddiad i ymweld ag un neu fwy o'r tafarnau hyn gyda mi dros yr haf, rhannu peint, sgwrsio â'r staff a'r perchnogion am y cymorth y maent wedi'i gael, ond hefyd beth arall y gallai fod ei angen arnynt dros y misoedd i ddod, ar ôl cyfnod mor heriol? Ac er mwyn tawelu meddwl y Gweinidog, os bydd yn derbyn fy ngwahoddiad, fe brynaf y peint cyntaf. [Chwerthin.]
Roedd yn swnio fel gwahoddiad i hel tafarnau i mi. [Chwerthin.]
Wel, rwy’n canmol yr Aelod am grybwyll cymaint o wahanol leoliadau yn ei etholaeth. Roedd honno'n gamp rwy'n siŵr y bydd eraill yn awyddus i'w hefelychu.
Rwyf wedi gweld yr effaith wirioneddol, a chredaf fod yr Aelod yn iawn fod y ffaith bod yr angen i ddefnyddio mannau awyr agored yn y pandemig yn helpu i newid peth ymddygiad, ac yn y dyfodol, credaf y bydd mwy o bobl yn manteisio ar y mannau awyr agored sydd wedi'u creu. Ac rwy'n gweld rhywfaint o hynny yn y lleoliad y mae fy mab fy hun yn ei fynychu i chwarae criced a rygbi, gyda'r ffordd y maent wedi ehangu eu cynnig awyr agored yn sylweddol, ac mae wedi bod o fudd a gwerth gwirioneddol. Dylwn ddweud, serch hynny, pan fyddaf yn mynd â fy mab i ddigwyddiadau o'r fath, nid wyf yn yfed diodydd alcoholaidd gan fod angen imi yrru'r car.
Ni allaf addo mynd gyda'r Aelod er gwaethaf y demtasiwn, ond rwy'n derbyn y pwynt y mae'n ei godi ynghylch gallu busnesau i addasu a'r budd mwy hirdymor, ac mae'n dangos bod y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud i ddiogelu busnesau yn awr yn arwain at fudd mwy hirdymor, gobeithio, i fusnesau a swyddi, a gallu'r Aelod i ymweld â thafarnau yn ei etholaeth. [Chwerthin.]
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen twf y gogledd? OQ56732
Diolch. Llofnodwyd y cytundeb terfynol gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2020. Credaf y byddai un o Aelodau'r lle hwn wedi bod yn un o'r llofnodwyr. Talwyd y gyfran gyntaf o arian y Llywodraeth i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ym mis Mawrth 2021. Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru sy'n berchen ar y fargen ac yn ei chyflawni.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog, ac mae'n wych gweld sut y gall Llywodraethau'r DU a Chymru weithio gyda'i gilydd i sicrhau budd gwirioneddol i fusnesau a thrigolion ledled gogledd Cymru. Weinidog, mae un o nodweddion allweddol y fargen twf yn ymwneud â sicrhau gwell cysylltedd digidol. A wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r newyddion am rwydwaith gwledig Llywodraeth y DU, a fydd yn hwb enfawr i gyfathrebiadau symudol mewn rhannau gwledig o fy etholaeth, yn ogystal â phrosiectau diweddaraf Prosiect Gigabit, sy'n werth £5 biliwn, a fydd yn darparu mynediad at gysylltiadau band eang sefydlog cyflym iawn i drefi a phentrefi gwledig yn Nyffryn Clwyd? Sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau'r budd mwyaf posibl yn sgil y buddsoddiad newydd hwn ac yn gweithio gyda busnesau i sicrhau eu bod yn manteisio i'r eithaf ar y cymorth ychwanegol i fand eang gwledig? Diolch.
Wel, gwyddom fod band eang yn gyfleustod rheolaidd i fusnesau yn y Gymru drefol a gwledig, ac rwy'n falch iawn o groesawu buddsoddiad yn nyfodol yr economi—yng ngogledd Cymru, mewn rhannau eraill o Gymru. Ac mae wir yn dangos bod modd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gael rhaglen waith lle rydym yn cytuno sut i gefnogi busnesau yn hytrach na chael ein tynnu i mewn i ffrae ddiangen. Hoffwn weld dull gweithredu tebyg yn y ffordd y mae cronfeydd olynol yr Undeb Ewropeaidd nid yn unig yn cael eu defnyddio ond sut y gwneir y penderfyniadau ynghylch eu defnydd, er mwyn caniatáu inni fuddsoddi yn yr ardal ehangach, oherwydd ar hyn o bryd, mae'r prosiectau y mae'r Aelod yn eu disgrifio yn cael eu cyflawni a'u cytuno ar sail gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd. Mae'r gronfa adfywio cymunedol gyfredol, wrth gwrs, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau fynd benben â'i gilydd mewn proses ymgeisio gystadleuol. Credaf fod cyfle llawer gwell i'w gael i edrych ar sut y gallem weithio gyda'n gilydd, ac mae'r bargeinion twf a'n hagenda ranbarthol yma yng Nghymru, wedi'u cefnogi gan waith y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yn darparu cyfle o'r fath.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Tom Giffard.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargeinion dinesig yn ne Cymru? OQ56747
Gwnaf. Mae'r ddwy fargen ddinesig yn gwneud cynnydd da. Mae bargen ddinesig bae Abertawe yn gwneud cynnydd da, gyda phum prosiect wedi'u cymeradwyo a £54 miliwn o gyllid y fargen ddinesig wedi'i ryddhau. Yng Nghaerdydd, mae'r gronfa fuddsoddi wedi ymrwymo £198 miliwn hyd yn hyn ar gyfer 12 prosiect, ac mae naw ohonynt eisoes yn y broses o gael eu cyflawni.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac yn gyntaf oll, hoffwn ddatgan fy mod yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a datgan y buddiant hwnnw lle rwy'n aelod.
Fel y gwyddoch, mae fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, yn cynnwys cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, sy'n rhan o fargen dinas-ranbarth bae Abertawe, yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n rhan o fargen ddinesig Caerdydd. Nid yw'r ardaloedd hyn yn annibynnol ar ei gilydd a byddai llawer o drigolion Castell-nedd Port Talbot—neu Abertawe, o ran hynny—yn elwa o rai o'r prosiectau sydd yn yr arfaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac fel arall. Enghraifft o hyn yw'r prosiect parcio a theithio yng ngorsaf drenau'r Pîl, sydd ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond bydd o fudd mawr i lawer o bobl sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot hefyd, o ystyried ei fod mor agos yn ddaearyddol.
Felly, a gaf fi ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cydweithredu'n digwydd rhwng gwahanol brosiectau'r bargeinion dinesig, yn enwedig ar brosiectau ar y ffiniau a fydd yn effeithio ar fwy nag un o ardaloedd y bargeinion dinesig? A beth arall y gellir ei wneud i wella cydweithredu, fel bod preswylwyr, busnesau a'r cyhoedd yn ehangach yn ymwybodol o'r buddsoddiad na fydd o reidrwydd yn digwydd yn eu rhanbarth hwy?
Credaf fod angen dull gwirioneddol bragmatig yma, ac mae'r gwaith a wnaed ar ddod â rhanbarthau ynghyd i gydnabod eu diddordebau cyffredin yn rhan o'r broses hon. Ac edrychwch, rydym yn deall yn iawn fod Pen-y-bont ar Ogwr mewn sefyllfa lle mae'n edrych tua'r dwyrain i raddau helaeth, ond nid yn llwyr—roedd honno'n sgwrs a gawsom am ffiniau byrddau iechyd, er enghraifft—ac nid yw sicrhau bod Pen-y-bont ar Ogwr yn edrych i un cyfeiriad yn fras ar gyfer eu partneriaeth strategol ranbarthol yn golygu bod gweithgarwch sy'n mynd i fwy nag un cyfeiriad rywsut yn cael ei anghofio neu ei roi o'r neilltu. Felly, ydw, rwy'n disgwyl y gallwn wneud mwy, ac mewn gwirionedd, mae'r ffordd y mae swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gydag ardaloedd y bargeinion dinesig yn enghraifft dda o edrych ar sut y gallant effeithio'n gadarnhaol ar ei gilydd.
Ailadroddaf y pwynt a wneuthum i Gareth Davies: mae enghraifft dda yma yng Nghymru o sut y gall Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio ar y cyd â rhanddeiliaid a phartneriaid, gyda rhaglen waith wedi'i chytuno ar ffiniau a meysydd rydym yn cytuno sut i fwrw ymlaen â hwy. Dyna'n union rydym am ei wneud ar gyfer y dyfodol, a pheidio â chael ein tynnu i mewn i ddull cystadleuol o weithredu lle mae awdurdodau lleol unigol yn ymgeisio yn erbyn ei gilydd ac yn cystadlu â'i gilydd mewn ffordd a fydd yn sicrhau llai o fudd i swyddi a busnesau yma yng Nghymru yn fy marn i.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio gofal cymdeithasol? OQ56719
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar ein Papur Gwyn, 'Ailgydbwyso gofal a chymorth', ar 29 Mehefin. Roedd y Papur Gwyn yn nodi cynigion i ddiwygio gofal cymdeithasol a gwella llesiant. Mae ein rhaglen lywodraethu'n cynnwys ymrwymiadau i fwrw ymlaen â'r cynigion hyn, mewn partneriaeth â'r sector.
Diolch yn fawr am y diweddariad, a diolch yn fawr am y Papur Gwyn. A gaf i'ch annog chi, plis, i beidio aros i Lywodraeth Prydain i wneud unrhyw beth? Maen nhw wedi addo o'r blaen ac wedi cyflawni dim. Mi wnaeth Cymru arwain y gad gyda'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol—Tredegar, Cymru, a chi yn y Blaid Lafur, er tegwch. Pe byddai Nye Bevan wedi aros i'r Torïaid, byddai'r gwasanaeth iechyd heb gael ei sefydlu. Felly, plis, gweithredwch nawr.
Weinidog, hoffwn holi am fater brys mewn perthynas â'r system gofal cymdeithasol, y gellir ei ddatrys yn awr, ac mae hwn yn fater personol i mi. Mewn ymateb i fy nghyd-Aelod Gareth Davies yr wythnos diwethaf, dywedasoch na fu gwaharddiad cyffredinol ar ymweliadau â chartrefi gofal. Yn dechnegol, efallai fod hynny'n wir, ond roedd y realiti'n wahanol iawn a gallaf ddweud hynny o safbwynt personol, gan fod fy nhad, a oedd yn Aelod yma am ddau dymor, yn byw mewn cartref gofal cyfagos yma ym Mae Caerdydd. Mae ganddo ddementia datblygedig. Nid anghofiaf byth mo'r dydd Mawrth cyn gêm yr Alban, pan euthum yno a chael gwybod gan dderbynnydd dagreuol fod y cartref gofal wedi cael ei gau hanner awr ynghynt, a bu ar gau wedyn tan fis Awst. Wrth gwrs, fe’i caewyd eto dros yr ail don, ac mae wedi bod ar gau eto yn awr am y ddau fis diwethaf oherwydd profion COVID positif ymhlith preswylwyr a gweithwyr y cartref gofal, er bod pob un wedi cael dau bigiad, er nad oeddent yn dangos unrhyw symptomau ac er nad oeddent wedi gorfod mynd i'r ysbyty.
Ddirprwy Weinidog, rwy'n deall ei bod hi'n anodd iawn; rwy'n deall yr angen i ddiogelu preswylwyr fel fy nhad, ond rydym am weld ein hanwyliaid. Rwy'n ymwybodol o'r pryderon am yr amrywiolyn delta, rwy'n ymwybodol o'r pryderon am y drydedd don, ond os gwelwch yn dda, a allwch edrych eto ar ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn ag ymweld â chartrefi gofal, fel y gall pobl fel fi a llawer o bobl eraill ymweld â'u hanwyliaid? Diolch yn fawr.
Diolch. A diolch i Rhys ab Owen am ei gwestiwn teimladwy iawn. Gan ddechrau gyda'i sylwadau agoriadol am beidio ag aros am Lywodraeth y DU, byddai'n well gennym gael ateb ar gyfer Cymru a Lloegr, ond rwy'n cytuno'n llwyr na allwn aros am byth. Hoffem gael ateb ar y cyd oherwydd y cysylltiad â'r system fudd-daliadau a'r system drethi. Felly, dyna pam yr hoffem hynny. Ond rydym wedi bod yn aros ers peth amser, ac rwy'n llwyr gydnabod hynny.
Ar yr ymweliadau â chartrefi gofal, dyna rai o'r penderfyniadau anoddaf a wnaed, ac mae'n sefyllfa anodd iawn. Rwy'n deall yn iawn pa mor anodd y bu pethau, mae'n rhaid, o ran ymweld â'i dad, rhywun roeddwn yn ei adnabod yn dda, a bûm yn gweithio gydag ef pan oedd yn Aelod yma. Yr hyn rydym wedi ceisio ei wneud yw cydbwyso diogelwch y preswylwyr â'u hangen i weld eu teulu, ac wrth gwrs, gydag angen y teulu i weld y preswylwyr. Drwy gydol y pandemig, ar bob cam, nid yw ein canllawiau wedi cynnwys gwaharddiad cyffredinol ar unrhyw ymweliadau—mae'r posibilrwydd o gael ymweliadau wedi bod yno o'r cychwyn pan fo'r sefyllfa'n anodd iawn neu'n anobeithiol. Felly, mae'r opsiwn hwnnw wedi bod yno o'r cychwyn.
Ar hyn o bryd, mae'r canllawiau'n glir y gall dau ymwelydd ymweld â phreswylydd cartref gofal. Nid oes rhestr gymeradwy o bobl a all fynd i mewn yn awr; mae pethau'n fwy agored na hynny. Ond yn amlwg, mae cartrefi gofal unigol yn dehongli'r canllawiau yn y ffordd y credant sydd fwyaf diogel i'w preswylwyr. Credaf mai'r peth pwysig yw edrych ar sut y caiff hyn ei ddehongli mewn cartrefi gofal unigol. Ond yn sicr, rydym am i deuluoedd allu gweld eu hanwyliaid, ac rydym am i anwyliaid weld eu teuluoedd, oherwydd yn amlwg, dyna hanfod bywyd teuluol. Gwn pa mor ofnadwy y mae'r sefyllfa wedi bod i gymaint o breswylwyr a'u teuluoedd.
Diolch am eich sylwadau hyd yma, Ddirprwy Weinidog. A gaf fi ychwanegu fy nghefnogaeth i'r Aelod dysgedig dros Ganol De Cymru mewn perthynas ag ymweliadau â chartrefi gofal hefyd? Mae'n sicr yn brofiad rhwystredig i lawer o unigolion ar hyn o bryd. Weinidog, yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld pwysigrwydd a gwaith anhygoel llawer o weithwyr gofal, sydd wedi mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n ddisgwyliedig i ddarparu gwasanaeth eithriadol o gefnogaeth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed, yn enwedig y rhai ar y rheng flaen mewn cartrefi gofal, a'r rhai sy'n darparu cymorth gofal cartref hefyd. Rwy'n credu bod y pandemig wedi tynnu sylw at werth a phwysigrwydd ein gweithwyr gofal cymdeithasol, ond hefyd y cyfleoedd i wella gyrfaoedd yn y sector, drwy uwchsgilio’r gweithwyr hyn, a allai, yn eu tro, leddfu rhywfaint o’r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd. Fel rhan o'ch adolygiad a diwygio cynlluniau ar gyfer y sectorau gofal cymdeithasol, hoffwn ofyn beth yw eich barn ar gylch gwaith y gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen hynny. Pa gefnogaeth y byddech yn ei darparu er mwyn eu huwchsgilio ac er mwyn gwella’r gweithlu pwysig hwn? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Rwy'n credu bod y pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gweithwyr gofal cymdeithasol, ac nid wyf yn credu bod llawer o'r cyhoedd yn ymwybodol o werth y gwaith y maent yn ei wneud. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau ein bod yn defnyddio pob cyfle i'w huwchsgilio, fel y dywedodd yr Aelod, a hefyd i sicrhau eu bod yn cael tâl gwell am yr hyn y maent yn ei wneud. Dyna pam ein bod yn cyflwyno’r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol wrth gwrs. Rydym wedi sefydlu fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sef grŵp sy'n cynnwys undebau llafur, cyflogwyr a sefydliadau perthnasol eraill. Bydd y grŵp hwnnw'n edrych ar yr holl faterion hyn sy'n ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol. Oherwydd, yn ogystal â chynyddu’r cyflog y maent yn ei ennill, rydym eisiau i bobl werthfawrogi swydd gweithiwr gofal cymdeithasol a chydnabod y gwaith pwysig y maent yn ei wneud. Felly bydd y grŵp hwnnw'n edrych ar yr holl faterion hyn, ac yn sicr, mae hyfforddiant yn y swydd a mathau eraill o hyfforddiant yn rhan bwysig iawn o hynny. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle i geisio sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol—fod eu statws proffesiynol yn gwella, a bod llawer mwy o ymwybyddiaeth o'r swydd y maent yn ei gwneud.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant sydd angen gofal lliniarol yn cael y gofal gorau posibl? OQ56741
Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gyda'r bwrdd gofal diwedd oes a gyda rhwydwaith gofal lliniarol pediatrig Cymru gyfan er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus mewn gofal palliative a gofal diwedd oes ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc ar draws Cymru.
Diolch yn fawr. Mae dwy ran i fy nghwestiwn. A all Llywodraeth Cymru amlinellu faint o'r £8.4 miliwn a fuddsoddir yn y sector gofal diwedd oes bob blwyddyn yng Nghymru sy'n mynd tuag at wasanaethau gofal lliniarol pediatrig? Yn ail, mae Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith yn cael llai na 10 y cant o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae hon yn gyfran sylweddol is nag y mae hosbisau plant yn Lloegr a'r Alban yn ei chael gan eu Llywodraethau hwy. A all y Llywodraeth hon felly ymrwymo i gynyddu cyllid y wladwriaeth i ddwy hosbis plant Cymru yn hirdymor, ac i gyfarfod â Thŷ Hafan a Thŷ Gobaith i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hystyried yn yr adolygiad cyllido sydd ar y gweill ar gyfer hosbisau? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Ni allaf roi'r union fanylion i chi ar gyfer yr £8.4 miliwn, ond gallaf ddarparu manylion am y cyllid ychwanegol a roesom yn ystod y pandemig. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi rhoi £12.3 miliwn ychwanegol i hosbisau yn ystod y pandemig, ac o hwnnw, roedd £2.3 miliwn yn benodol ar gyfer ein dwy hosbis i blant yng Nghymru. Felly, dylai hynny roi syniad i chi beth fyddai'r gyfran gymesur mewn perthynas â'r £8.4 miliwn hefyd. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod, yn ein maniffesto, wedi dweud yn glir ein bod eisiau adolygu'r ffordd rydym yn ariannu hosbisau yng Nghymru, ac rydym eisiau cryfhau ein gofal diwedd oes. Mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau. Ceir rhaglen newydd ar gyfer gofal diwedd oes. Byddwn yn cyhoeddi'r cynnig diwygiedig a byddwn yn rhannu'r cynnig hwnnw â rhanddeiliaid yng Nghymru tuag at ddiwedd y mis. Disgwyliwn i hynny gymryd tua thri i bedwar mis, felly gobeithio y bydd hwnnw'n adrodd yn yr hydref.
Weinidog, mae gofal hosbis, yn enwedig i blant, yn bwnc sensitif ac emosiynol, ond mae'r pandemig a'r cyfyngiadau symud wedi gwneud pwnc anodd yn waeth. Y llynedd, cyhoeddodd Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith adroddiad ar y cyd, 'Lleisiau Teuluoedd', i roi llais i bryderon pwysicaf teuluoedd plant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Roeddent yn pwysleisio eu bod angen mwy o'r gofal na all neb ond yr hosbisau ei ddarparu, a hynny ar frys, yn enwedig mewn perthynas â gofal seibiant. A ydych yn cytuno, Weinidog, y byddai model ariannu cynaliadwy yn rhoi hyder i hosbisau plant yng Nghymru gynllunio ac ehangu eu gwasanaethau i ddiwallu'n well anghenion pob plentyn sydd â chyflwr sy'n cyfyngu ar eu bywyd a'u teuluoedd ledled Cymru?
Diolch yn fawr iawn, Natasha. Rydych yn llygad eich lle fod yr adroddiad 'Lleisiau Teuluoedd' yn tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi plant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, a'u teuluoedd hefyd, wrth gwrs, sy'n mynd drwy gyfnod trawmatig iawn yn eu cefnogi. Mae'n argymell y gronfa hollbwysig honno i Gymru; dyna'n union rydym yn edrych arni yn yr adolygiad hwn sy'n cael ei gyflawni ar hyn o bryd ac fe fydd yn adrodd yn yr hydref, fel y dywedais.
Credaf y gallai fod gennych ddiddordeb hefyd mewn clywed fy mod wedi cyfarfod â Gweinidogion o bedair gwlad y DU i rannu arferion gorau, ac i drafod yn benodol sut y caiff pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc yr effeithiwyd arnynt gan ganser eu cefnogi'n briodol yn ystod eu hapwyntiadau. Roedd yn dda cymharu nodiadau gyda'r gwahanol Weinidogion iechyd ar draws y DU o ran yr hyn y maent yn ei wneud i ymateb, a dysgu oddi wrth ein gilydd i sicrhau ein bod i gyd yn gwneud y gorau i bobl yn y maes hynod anodd a sensitif hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ymdrin â'r sefyllfa hon mor sensitif ag y gallwn, yn enwedig ynghanol pandemig.
Weinidog, hoffwn barhau â thema ariannu. Rwy'n ofni fy mod yn troi'n ôl ato, oherwydd rwy'n awyddus iawn i gael atebion gennych. Diolch yn fawr iawn i Peredur ac i Natasha hefyd am godi'r mater pwysig hwn. Cefais sioc fawr o glywed gan Dŷ Gobaith a Thŷ Hafan mai 10 y cant yn unig o'u cyllid a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru. Gadewch inni ddod at wraidd y mater: yn yr Alban, daw 50 y cant o'u cyllid gan Lywodraeth yr Alban; Gogledd Iwerddon, 25 y cant; Lloegr, 21 y cant. Ac eto, dim ond 10 y cant rydym yn ei roi. Rwy'n siŵr y gallem wneud yn well. Felly, fy apêl i chi yw: a gawn ni ymrwymo i gynyddu hynny yn y maes gwirioneddol bwysig hwn ac a allwch chi fod yn llawer cliriach ynglŷn ag amserlenni? Mae yna bedwar mis yn nhymor yr hydref; o fis Medi hyd at y Nadolig. A allwch chi fod ychydig bach yn gliriach ynglŷn â faint rydych chi'n edrych arno a phryd y cawn y canlyniad hwnnw? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, Jane, a hoffwn ei gwneud yn glir ein bod yn cydnabod bod angen inni wneud yn well yn y maes hwn a dyna pam ein bod yn cynnal yr adolygiad hwn; dyna pam yr oedd yn ein maniffesto a dyna pam ein bod wedi symud ymlaen yn gyflym iawn—dim ond ychydig wythnosau yn ôl y cawsom ein hethol ar y maniffesto hwnnw ac rydym eisoes wedi trefnu gweithdy a fydd yn digwydd yn ddiweddarach y mis hwn. Felly, os hoffech fwy o fanylion, rhagwelir y bydd yr adolygiad hwnnw'n cymryd oddeutu tri i bedwar mis. Felly, gallaf fod mor fanwl â hynny. Rydych yn llygad eich lle: gall tymor yr hydref bara'n hir, ond dylai hynny roi gwell syniad i chi o'r union adeg pan fyddwn yn gobeithio adrodd ar y sefyllfa hon, ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a ydych yn teimlo y byddai'n briodol ymddiheuro ar ran Llywodraeth Cymru am fethu ag atal trosglwyddiadau yn yr ysbyty yn ystod ton gyntaf ac ail don y pandemig?
Diolch yn fawr iawn, Russell. Wrth gwrs, mae pob marwolaeth yn y pandemig hwn wedi bod yn anodd, ac i'r rheini sydd wedi dal COVID yn yr ysbyty mae hyd yn oed yn fwy trasig. Rydym yn ymwybodol iawn o anawsterau'r sefyllfa. Wrth gwrs, yr hyn y mae'n rhaid inni ei gofio yw bod y bobl sy'n gwasanaethu yn yr ysbytai hynny hefyd yn perthyn i'r gymuned, a phan oedd lefelau'r trosglwyddiadau'n uchel yn y cymunedau hynny, roedd posibilrwydd bob amser y gallai pobl ddal COVID yn y ffordd honno. Hefyd, rydym newydd glywed, yn deimladwy, sut roedd Rhys ab Owen yn awyddus i weld rhywun sy'n annwyl iddo; mae yna bobl eraill a oedd eisiau gweld eu hanwyliaid yn yr ysbyty hefyd. Dylai hynny ddangos i chi pa mor anodd yw gwneud penderfyniadau a chadw cydbwysedd yn y sefyllfa hon. Bob tro y byddwch yn gadael rhywun i mewn, mae yna risg. A'r risg honno, yn enwedig mewn ysbyty—rydych yn caniatáu i bobl fynd i mewn i un o'r mannau anoddaf a mwyaf sensitif, lle gallai'r problemau fod yn drychinebus pe bai pobl yn dal COVID, ac rydym wedi gweld hynny. Felly, credaf fod y cydbwysedd hwn wedi bod yn eithriadol o anodd. Wrth gwrs, os ydych eisoes yn yr ysbyty, rydych yn debygol o fod yn fwy agored i niwed, ac felly os yw'n mynd i mewn i ysbytai, fel y mae wedi'i wneud, ac fel y bydd yn parhau i'w wneud, mae arnaf ofn—. Ond rydym wedi rhoi'r holl fesurau ar waith; rydym wedi nodi canllawiau llym iawn. Rydym wedi ceisio dysgu wrth inni symud ymlaen gyda hyn, ac wrth gwrs, gyda'r holl heintiau hynny, lle rydym wedi cael achosion yn ymwneud â diogelwch cleifion, ymchwiliwyd yn drylwyr i bob achos i weld beth y gallwn ei ddysgu.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n derbyn yr hyn rydych wedi'i ddweud. O'm safbwynt i, roeddem ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn mynegi pryderon mawr am nifer y bobl a gâi eu heintio mewn ysbytai yng Nghymru o'r haf diwethaf ymlaen. Teimlaf fod Llywodraeth Cymru yn codi'i hysgwyddau ar y pryd, gyda'ch rhagflaenydd yn dweud bod gwersi wedi'u dysgu. [Torri ar draws.] Gallaf glywed y cyn-Weinidog iechyd; dylai fod yn gwrando ar yr hyn rwy'n ei ddweud yn hytrach na diystyru'r hyn rwy'n ei ddweud. Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthych, Weinidog, yw bod ffocws mawr y llynedd ar drosglwyddiad cymunedol—ac ni fyddwn yn diystyru hynny; mae hynny'n gywir, dylid cael y ffocws hwnnw—ond nid oedd gennym y ffocws hwnnw o ran yr haint mewn ysbytai yr haf diwethaf ac y llynedd.
Nawr, gwyddom bellach fod un o bob pedair marwolaeth yng Nghymru yn debygol neu'n bendant o fod wedi digwydd i ganlyniad uniongyrchol i drosglwyddiad o ward i ward. Yn Hywel Dda ei hun, mae'n un o bob tair marwolaeth. Mae hynny'n sylweddol, ac rwy'n siŵr, Weinidog, na fyddech yn anghytuno pa mor sylweddol yw'r ffigurau hynny. Dyna 1,000 o bobl sydd wedi marw yn anffodus, gydag anwyliaid dirifedi yn galaru, pan ellid bod wedi osgoi hyn i raddau helaeth, neu i ryw raddau, pe bai Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n wahanol. Nawr, mae grŵp o 35 o glinigwyr hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru, a chredant mai un o'r cwestiynau y dylid eu gofyn fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw yw sut y gellir arwain sefydliadau gofal iechyd i leihau'r gyfradd farwolaeth hon. Mae hwn yn fater penodol i Gymru, felly a wnewch chi a'r Prif Weinidog roi sylw i'r pryderon a'r galwadau cynyddol, a chytuno i ymchwiliad cyhoeddus i'r ffordd yr ymdriniwyd â'r pandemig COVID-19 yng Nghymru? Fe ddywedoch chi eich hun yn eich ateb eich bod yn dysgu wrth fynd ymlaen. Dyna'r ffordd gywir o fynd ati, ond does bosibl nad yw'n rheswm pam ein bod angen ymchwiliad cyhoeddus i graffu'n briodol ar y broses.
Diolch yn fawr. Byddwn innau hefyd yn gwadu'r awgrym nad ydym wedi bod o ddifrif ynglŷn â'r trosglwyddiad nosocomiaidd o ddifrif mewn ysbytai, trosglwyddiad yr haint mewn ysbytai. Rydym wedi bod yn rhoi camau gofalus iawn ar waith, a bydd unrhyw un sydd wedi bod yn yr ysbyty yn deall pa mor llym y maent o ran pwy sy'n cael caniatâd i fynd i mewn a gwisgo cyfarpar diogelu personol, ac felly rwy'n gwrthod hynny'n llwyr. Fel y dywedwch, rydym yn ymchwilio i bob achos, ac rydym yn ceisio dysgu wrth inni symud ymlaen. Rwy'n gwybod ac rwy'n clywed y galwadau am ymchwiliad cyhoeddus, ac rwyf wedi darllen y llythyr sydd wedi'i ysgrifennu yn ofalus, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrthych ein bod yn dal i fod ynghanol pandemig. Mae angen i ni ymateb i hynny ar hyn o bryd, ac nid yw hyn ar ben. Os edrychwch ar yr amcanestyniadau yn enwedig yn Lloegr, gwyddom eu bod yn sôn yn awr am y posibilrwydd o ddwy filiwn o achosion y dydd. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn gyfan gwbl o ddifrif, a deall nad dyma'r amser inni gymryd rhan mewn ymchwiliad cyhoeddus, ond rydym yn dysgu wrth inni symud ymlaen.
Rwyf hefyd yn gwadu bod hwn yn fater penodol i Gymru. Gadewch inni beidio ag esgus na fu marwolaethau mewn ysbytai o ganlyniad i COVID mewn ysbytai yn Lloegr a'r trosglwyddiad hwnnw mewn ysbytai yn Lloegr. Nid yw hynny'n wir.
Wel, nid oeddwn yn awgrymu hynny o gwbl. Bydd hynny'n wir mewn gwledydd ym mhob rhan o'r byd, ond roeddwn yn awgrymu ei fod wedi digwydd i raddau mwy yng Nghymru a bod angen dysgu gwersi o hynny'n benodol. Nawr, mewn perthynas ag ymchwiliad i Gymru'n unig, a'r ffaith nad ydych yn barod i gyflwyno hwnnw—. Roeddwn yn ofalus iawn yn fy nghwestiwn i beidio â dweud ymchwiliad ar unwaith yn awr. Gofynnais yn benodol ynglŷn â chytuno i ymchwiliad cyhoeddus—dylwn ychwanegu hynny. Ond mae peidio â chytuno i hynny, rwy'n tybio, rwy'n credu, yn dangos diffyg tryloywder ynghylch rôl Llywodraeth Cymru wrth edrych ar sut y mae wedi ymdrin â'r pandemig.
Mae hyn yn fy arwain at fy nghwestiwn olaf, Weinidog, ynglŷn â'r hyder mewn amgylchedd sy'n rhydd o COVID-19, a byddwn yn bryderus iawn—gwn eich bod chithau—am y 4,000 a mwy o bobl nad ydynt wedi mynychu triniaeth diagnosis canser. Byddwn yn awgrymu, a oes unrhyw ryfedd bod pryderon ynghylch ymweld ag ysbyty pan glywn am y ffigurau rwyf wedi'u hamlinellu ac rydym yn ymwybodol ohonynt. Nawr, fe fyddwch chi a minnau'n gwybod, ac rydym yn cytuno, y bydd gennym sefyllfa heriol iawn lle bydd gennym bobl â chanser datblygedig a thriniaeth fwy cymhleth yn awr, a rhybuddiwyd Llywodraeth Cymru am hyn yr haf diwethaf gan weithwyr meddygol proffesiynol, ond nid ydym wedi gweld unrhyw waith sylweddol o ran safleoedd heb COVID na chanolfannau canser sy'n rhydd o COVID-19, sydd wedi bod yn bresennol yn Lloegr ers dros flwyddyn. Byddwn yn awgrymu, yn dilyn cyd-destun fy nghwestiynau cynharach, fod mwy o angen cael canolfannau sy'n rhydd o COVID-19 yma yng Nghymru bellach. Yn anffodus, bydd y penderfyniadau hyn yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau gofal lliniarol wrth i ganser ddod yn amhosibl ei drin os ceir diagnosis yn ddiweddarach, wrth gwrs. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog i gloi, a wnewch chi ddweud wrthym, felly, faint o bobl y mae eich adran wedi'u cyfrif sydd heb gael diagnosis, a pha mor hir yw'r ôl-groniadau? A wnewch chi gyflwyno cynlluniau penodol gerbron y Senedd hon ar fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion canser yn ogystal â dweud wrthym pryd y cyhoeddir cynllun gweithredu'r datganiad ansawdd ar gyfer canser? Diolch, Weinidog.
Diolch yn fawr. Mae'n ddiddorol bod hyn wedi'i gyflwyno fel stori newyddion fawr, syfrdanol. Nid yw hynny'n wir. Rydym wedi bod yn dryloyw ynglŷn â hyn ar hyd y daith, ynglŷn â faint o bobl sy'n dal COVID mewn ysbytai. Fe'i cyhoeddir ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd. Ni wneir hynny yn Lloegr nac yn unman arall. Felly, os oedd unrhyw un eisiau gweld y rhain, nid yw hyn yn newydd, nid yw'n syfrdanol, mae wedi bod yno drwy'r amser a gallech fod wedi mynd ar ei drywydd.
O ran yr ymchwiliad cyhoeddus, mae'n anodd iawn dadgyfuno'r hyn a oedd yn digwydd yng ngweddill y DU oddi wrth yr hyn sy'n digwydd yma. Os edrychwch ar gyfarpar diogelu personol, roedd yna berthynas yno. Yn wir, yn y berthynas honno, yn ddiddorol iawn, roeddem yn rhoi rhywfaint o gyfarpar diogelu personol i rannau o Loegr. Ar frechlynnau, roeddem yn ddibynnol ar y cyflenwad gan gydweithio ledled y Deyrnas Unedig. Felly, mae'n anodd iawn dadgyfuno hyn, a dyna pam rwy'n credu mai'r dull cywir o fynd ati yw cael ymchwiliad yn y DU ond gyda rhyw fath o is-adran i Gymru, lle bydd angen edrych yn fanwl ar yr hyn y gallwn ei ddysgu. Ond gallaf ddweud wrthych ein bod yn ceisio dysgu wrth inni symud ymlaen hefyd.
Rydym yn pryderu'n fawr am nifer y bobl nad ydynt wedi mynychu apwyntiadau mewn perthynas â diagnosis o ganser a'r ffaith bod llai o bobl wedi mynychu'r apwyntiadau hyn o gymharu â blynyddoedd eraill. Dyna pam ein bod wedi cynnal ymgyrch hysbysebu gynhwysfawr iawn i geisio annog pobl i ymgysylltu. Ac wrth gwrs, nid yw triniaethau canser erioed wedi'u hatal. Rydym wedi bod yn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn wasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig.
O ran canolfannau sy'n rhydd o COVID-19, nid wyf yn gwrthwynebu hyn mewn egwyddor. Y broblem sydd gennym yw mai goblygiad hynny yw bod yn rhaid ichi eu gwahanu oddi wrth yr adran damweiniau ac achosion brys a'r math o faterion llosg sy'n dod i mewn i ysbytai. Nawr, Russell, efallai eich bod chi eisiau mynd o gwmpas yn cau adrannau damweiniau ac achosion brys, ond nid wyf fi eisiau gwneud hynny. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn ynglŷn ag ymarferoldeb gwneud i hynny ddigwydd, ond rydym yn ceisio edrych ar ba ddewisiadau eraill sydd i'w cael, ac rwy'n falch o ddweud bod byrddau iechyd wedi cyflwyno rhai syniadau ac rydym yn dadansoddi'r rheini ar hyn o bryd.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi eisiau holi am adferiad y gwasanaeth iechyd hefyd, gan gyfeirio at sawl maes. Mi wnaf innau gyfeirio at y backlog yma o ddiagnosis canser, er yn edrych ar faes gwahanol o hynny. Mae'n bryder meddwl am filoedd o bobl—dros 4,000 yn ôl Macmillan—yn bosib sydd ddim wedi cael diagnosis. Ond mae'n bryder i fi, wrth gwrs, mai beth sydd wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf ydy chwyddo problem oedd yn bodoli yn barod, ac un broblem oedd gennym ni mewn gwasanaethau canser oedd prinder gweithwyr i wneud y gwaith diagnosis. Dwi'n meddwl bod Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn sôn ein bod ni 97 radiolegydd yn brin yma yng Nghymru. Allwch chi ddim cael gwasanaeth diagnosis effeithiol, cyflym heb gael digon o radiolegwyr. Felly, wrth edrych ymlaen at adfer, allwch chi ddweud wrthym ni ba adnoddau fyddwch chi'n eu rhoi mewn lle i ddelifro yn benodol ar ddatrys rhai o'r problemau gweithlu sydd gennym ni?
Diolch yn fawr. Fel mae'n digwydd, dwi newydd ddod off galwad gyda HIW heddiw, lle roeddem ni'n siarad ynglŷn â'r problemau yn arbennig gyda radiolegwyr. Nawr, maen nhw wedi rhoi system mewn lle lle rŷm ni yn cynhyrchu tua 20 o radiolegwyr newydd bob blwyddyn, so mae hynny'n gynnydd eithaf mawr o ble rŷm ni wedi bod yn y gorffennol. Wrth gwrs, beth sy'n bwysig yw'r quality of training maen nhw'n ei gael, a dwi wedi gofyn iddyn nhw hefyd weld beth arall allwn ni ei wneud. Ydy e'n bosibl i ni, er enghraifft, anfon rhai o'r lluniau rŷm ni'n eu cael dramor fel bod nhw'n cael yr analysis dramor?
Felly, dwi yn meddwl bod yna le i ni fod yn ddychmygol o ran sut rŷm ni'n mynd ati i ymdrin â'r backlog yma yn arbennig pan fydd hi'n dod i ganser. Ond mi fyddwch chi'n ymwybodol hefyd ein bod ni wedi darparu £25 miliwn yn ychwanegol er mwyn sicrhau bod yr offer ar gael, fel ein bod ni'n gallu cynyddu a chyflymu'r broses yna, ac mae hynny eisoes wedi mynd i mewn i rai o'n hysbytai ni.
Mi wnaf i droi nesaf at wasanaethau orthopedig. Mae yna her enfawr o'ch blaen chi yn adeiladu capasiti. Dwi a phob Aelod yn fan hyn, dwi'n siŵr, wedi clywed am lawer gormod o gleifion yn aros yn llawer rhy hir mewn poen. Ym mis Ebrill eleni, mi oedd yna 88,000 o bobl yn aros am driniaeth trawma ac orthopedig, gyda 60 y cant yn aros dros 36 wythnos. Rhyw 11 y cant oedd y ffigur yn ôl yn 2019. Mae dros hanner bellach yn aros dros flwyddyn. Wrth gwrs, mi oedd y rhestrau aros yna eto yn rhy hir cyn y pandemig, felly pa sicrwydd allwch chi ei roi i ni y byddwch chi, wrth drio delio efo'r broblem acíwt o backlog ychwanegol y pandemig, yn gwneud llawer mwy na thrio adfer gwasanaethau i sut oedden nhw o'r blaen? Sut byddwch chi rŵan yn llwyddo i drio creu gwasanaethau mwy cynaliadwy i'r hirdymor, achos dyna dŷn ni'n chwilio amdano fo wrth ddod allan o'r pandemig yma?
Wel, dwi eisiau gwneud yn siŵr nad ydym ni'n colli'r cyfle yma o'r pandemig i newid pethau. Mae lot wedi newid eisoes ac mae eisiau i ni glymu mewn yr hyn sy'n dda o ran y newidiadau sydd wedi bod yn y ffordd mae'r gweithlu yn ymddwyn, ond hefyd y systemau rŷm ni'n eu defnyddio. Roeddwn i'n falch i fod yn rhan o gynhadledd dros y penwythnos gyda chymdeithas orthopaedig o India. Mae lot fawr o'n orthopaedic surgeons ni yn dod o India yng Nghymru, ac roedd e'n dda i glywed eu syniadau nhw ynglŷn â sut ddylen ni fod yn cyflymu'r broses. Ac, wrth gwrs, bydd hynny, efallai, yn cynnwys y posibilrwydd o gael canolfannau yn uniongyrchol, efallai'r canolfannau oer yma—y canolfannau uniongyrchol roeddwn i'n sôn amdanyn nhw. Felly, rydym ni jest yn analeiddio i weld sut byddai hynny'n digwydd yn ymarferol a sut byddai hynny'n gallu cael ei ariannu. Ond rŷm ni yn awyddus iawn i weld sut allwn ni ddefnyddio'r achlysur yma i ymdrin â'r broblem ond hefyd i'n cael ni i le gwahanol yn ystod y tymor canolig.
Dwi am gwblhau, os caf i, Llywydd, drwy droi at COVID hir. Mae o'n bryder mawr i fi. Mae gen i bryderon mawr am bobl ifanc, a dweud y gwir, ar hyn o bryd, wrth i gyfyngiadau gael eu codi. Mi gawn ni gyfle i drafod hynny eto. Ond dwi eisiau edrych yn benodol, yn sydyn, ar effaith COVID hir ar y gweithlu iechyd a gofal. O fy ngwaith i fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar COVID hir, dwi'n gweld cyfran ryfeddol o uchel o'r bobl dwi'n siarad â nhw yn bobl sydd wedi mynd yn sâl drwy eu gwaith nhw mewn iechyd a gofal. Mae eisiau edrych ar hyn. Mae eisiau cynnig cefnogaeth iddyn nhw, a dwi eisiau gwybod beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i'w cefnogi nhw, achos maen nhw'n haeddu'r gefnogaeth yna am y gwaith maen nhw wedi ei wneud a'r ffaith eu bod nhw wedi rhoi eu hunain mewn perig yn ystod y pandemig yma. Ond pan fyddwn ni'n edrych ar y gwaith adfer hefyd, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth mae hi'n mynd i'w wneud i wthio am sicrwydd bod y rhain yn cael cefnogaeth i ddod yn ôl i'r gwaith, achos dŷn ni angen sicrhau bod ein gweithlu ni'n llawn, ac mae dioddefwyr COVID hir o fewn y gweithlu iechyd a gofal eisiau mynd yn ôl i'r gwaith i wneud yr hyn maen nhw wedi cael eu hyfforddi i'w wneud? Allwn ni ddim aros yn rhagor am sicrwydd bod yna driniaeth a thegwch yn mynd i gael eu rhoi i'r nifer uchel, dwi'n ofni, o weithwyr sydd yn dioddef yn y ffordd yma.
Diolch yn fawr. Byddwch chi'n ymwybodol, yn ein cyhoeddiad ni am y cynllun newydd ar adferiad, mi roesom ni sylw arbennig i'r rheini oedd yn dioddef o COVID hir a oedd yn gweithio yn ein system iechyd a gofal ni, a sicrhau bod canllawiau ar gael i roi syniad i gyflogwyr i sicrhau eu bod nhw'n gwybod sut ddylai'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth gofal fod yn ymateb i'r rheini sydd yn dioddef o COVID hir. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n glir yn yr adroddiad yna.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gofal cartref yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr? OQ56727
Rwy'n falch fod y cyngor yn symud tuag at gomisiynu gwasanaethau gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rwyf hefyd yn falch o nodi'r ystyriaeth ynghylch taliadau staff, yn unol â fy natganiad llafar diweddar yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol.
Wel, rwy'n croesawu'r ymateb hwnnw i fy nghwestiwn yn fawr, oherwydd hoffwn dynnu sylw'r Gweinidog at y llythyr a anfonwyd gan Ben-y-bont ar Ogwr ar 16 Mehefin, lle gwnaethant gyflwyno cynnig diddorol, yn fy marn i, wrth ailgomisiynu gofal cartref, a fydd yn digwydd eleni, nid yn unig i dreialu newid i'r cyflog byw gwirioneddol—mae'n adeg amserol i'w wneud—ond hefyd i gyflwyno mwy o hyblygrwydd i'r ffordd y maent yn darparu gofal cartref, yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi fel y defnyddiwr terfynol, yn llawer mwy hyblyg, yn seiliedig nid yn unig ar anghenion gofal ond anghenion cymdeithasol yr unigolyn dan sylw hefyd. Ac rydym wedi gweld y gwaith hwn yn gweithio'n dda mewn ardaloedd eraill yr ymwelais â hwy pan oeddwn yn gwneud y gwaith rydych chi'n ei wneud yn awr yng Nghaerdydd a'r Fro, a gweld sut roedd hynny'n gweithio mor dda i'r defnyddiwr ond hefyd sut roedd yn gwneud i'r staff eu hunain deimlo eu bod wedi'u grymuso ac i ddefnyddio'u sgiliau a'u profiad yn briodol. Felly, tybed a ydych wedi cael amser i ystyried hynny, yn ogystal â'u gwahoddiad yn y llythyr hwnnw i ymweld â'r timau gofal integredig y maent yn eu gweithredu gyda Chwm Taf sydd wedi bod yn destun adroddiadau ac adborth rhagorol gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n ymwybodol ac wedi cael y llythyr gan Ben-y-bont ar Ogwr, ac roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn darllen am eu cynllun peilot arfaethedig i dalu gweithwyr gofal cartref ar lefel y cyflog byw gwirioneddol a hefyd i gyflwyno mwy o hyblygrwydd i'r ddarpariaeth. Rwy'n credu ei fod wedi disgrifio sut y gall hyblygrwydd fod o fantais fawr i ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Mae'n gwybod ein bod wedi sefydlu'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol a byddaf yn gofyn iddynt ystyried pa ran neu rannau o'r sector a ddylai fod yn fan cychwyn ar gyfer cyflwyno'r ymrwymiad, oherwydd rydym yn awyddus iawn i wneud hyn mewn ffordd gydgynhyrchiol, gan weithio gyda'r undebau llafur a chyflogwyr a chan weithio gyda llywodraeth leol, wrth gwrs. Hynny yw, ein nod cyffredinol yw y bydd pob gweithiwr gofal cymdeithasol cymwys yn cael y cyflog byw gwirioneddol o fewn tymor y Llywodraeth hon. Ond o ran lle rydym yn dechrau, byddaf yn trafod hynny gyda'r fforwm ac rwy'n ddiolchgar iawn i Ben-y-bont ar Ogwr am gyflwyno'u cynnig.
Diolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno'r cwestiwn hwn. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, ac fel y dywed Huw yn gywir, mae gweithwyr gofal cartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr a gweithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru wedi chwarae rhan bwysig iawn yn y pandemig hwn.
Ond rwy'n credu nad yw gofal cartref yn dechrau ac yn gorffen gyda'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny. Un agwedd ar ofal cartref—ac weithiau mae'n cael ei hanghofio mewn gwirionedd—yw rôl fferyllfeydd cymunedol a'u darpariaeth o feddyginiaethau a gwasanaethau eraill i'r rhai sydd naill ai'n gwarchod neu'n methu gadael eu cartrefi. Ymwelais yn ddiweddar â fferyllfa Porthcawl, sy'n darparu gwasanaethau i'r rhai sy'n gwarchod neu'n methu gadael eu cartrefi i ddarparu meddyginiaeth neu wasanaethau eraill ar draws yr ardal leol i'r gymuned ehangach. Yn aml iawn, y bobl sy'n derbyn gofal cartref sydd fwyaf tebygol o dderbyn gwasanaethau fel hyn, ond er gwaethaf y gwaith da sy'n cael ei wneud gan fferyllfa Porthcawl yn hyn o beth, mae'r ddarpariaeth yn eithaf bylchog ledled Cymru, sy'n golygu bod llawer o bobl sy'n agored i niwed mewn ardaloedd eraill yn methu cael y gwasanaethau hanfodol hyn. Felly, a gaf fi ofyn pa asesiad a wnaethoch o rôl fferyllfeydd cymunedol yn darparu gwasanaethau penodol i'r rhai sy'n derbyn gofal cartref a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gwasanaethau hyn er mwyn eu safoni ledled Cymru?
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, mae fferylliaeth gymunedol yn gwbl hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau, a darparu gwasanaethau i'r rheini sy'n derbyn gofal cartref hefyd.
Rwy'n credu bod gan fferyllfeydd cymunedol record dda iawn o ddarparu gwasanaethau, ac rwy'n ymwybodol yn bersonol o lawer o unigolion a theuluoedd sydd wedi dibynnu ar fferyllfeydd cymunedol i ddarparu'r feddyginiaeth ac i fod yn gyswllt â gwasanaethau eraill. Felly, rydym yn sicr yn ymwybodol iawn ac yn gefnogol iawn i rôl fferyllfeydd cymunedol, a byddwn yn ceisio gwneud popeth yn ein gallu i gynyddu eu rôl, oherwydd rwy'n credu ei bod yn gwbl allweddol ein bod yn cyrraedd yr holl bobl sydd angen y cymorth ychwanegol a geir drwy'r gwasanaethau. Credwn fod fferyllfeydd cymunedol yn gwbl hanfodol.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o driniaeth breifat o fewn y GIG? OQ56718
Cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau i ateb anghenion eu poblogaeth leol. Mae'n ofynnol i fyrddau iechyd ddefnyddio capasiti lleol y gwasanaeth iechyd yn y lle cyntaf, ac yna, unrhyw gapasiti sydd ar gael yn y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, gan ddefnyddio capasiti yn y sector annibynnol dim ond pan nad oes unrhyw opsiwn arall.
Diolch ichi am hynny.
Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma am boen a dioddefaint aruthrol pobl sy'n aros am wasanaethau ar hyd a lled y wlad, yn dilyn y pandemig neu wrth i'r pandemig ddominyddu'r gwasanaeth iechyd gwladol. Weinidog, a yw'n bryd inni ystyried atal y defnydd o adnoddau'r GIG ar gyfer gwaith preifat er mwyn sicrhau bod holl adnoddau'r gwasanaeth iechyd gwladol yn cael eu darparu ar gyfer y rhai mwyaf anghenus a'r rhai sy'n dioddef fwyaf o boen ac sydd angen gwasanaethau, ac nid i'r rheini sy'n gallu talu?
Mae'n ben-blwydd y gwasanaeth iechyd gwladol yr wythnos hon wrth gwrs, a phan oedd Nye Bevan yn creu'r gwasanaeth iechyd gwladol, roedd am greu gwasanaeth a oedd yn diwallu anghenion pobl mewn angen, ac nid y rhai sy'n gallu fforddio talu. Felly, yn yr argyfwng y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ei wynebu heddiw, onid yw'n bryd ein bod yn atal yr holl ddefnydd o'r sector preifat a gwaith preifat o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol i sicrhau bod anghenion pobl mewn angen yn cael eu diwallu?
Diolch yn fawr, Alun. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith bod yna gannoedd o filoedd o gleifion yn llythrennol, gyda llawer yn aros mewn poen difrifol am lawdriniaeth. Gallaf eich sicrhau, ar wahân i COVID a pharatoi'r GIG ar gyfer y gaeaf, mai mynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn yw fy mhrif flaenoriaeth.
Nawr, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y mwyafrif helaeth o staff y GIG wedi mynd ymhell y tu hwnt i alwad dyletswydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Caiff meddygon ymgynghorol eu contractio i gynnal nifer penodol o sesiynau y maent yn eu darparu i'r GIG, ac mae'n rhaid iddynt wneud hynny cyn iddynt gynnig unrhyw waith ychwanegol y tu allan i'r GIG.
Canfu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru fod lefel gweithgarwch y sector preifat yng nghyfleusterau'r GIG oddeutu 0.02 y cant o'r holl weithgarwch, felly mae'n lefel isel iawn beth bynnag. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn cydnabod bod arosiadau hir ar hyn o bryd yn golygu bod rhai cleifion yn gwneud y penderfyniadau anodd hynny i fynd yn breifat, ond gallaf eich sicrhau bod pob claf yn cael ei weld yn nhrefn blaenoriaeth glinigol.
Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau bod y rhai sydd angen gofal brys yn cael eu gweld yn gyntaf. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi ein mesurau ar waith, fel y buom yn sôn yn gynharach, i baratoi'r GIG er mwyn ein rhoi mewn sefyllfa well ar gyfer y tymor canolig, nid yn unig i fynd i'r afael â'r argyfwng uniongyrchol sy'n ein hwynebu heddiw.
Weinidog, mae Clinig Pen-y-bont ar Ogwr yn glinig preifat sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae'n unigryw i Gymru, ac am y 24 mlynedd diwethaf mae wedi gweithio mewn partneriaeth â'r GIG, gyda mwy na 50 o feddygon ymgynghorol yn gweithio yn y clinig ac yn Ysbyty Tywysoges Cymru, tra bod elw'n cael ei roi yn ôl i'r GIG lleol.
Gwyddom i gyd fod y GIG yn sefydliad rhyfeddol, ond ni ddylem ei guddio rhag partneriaethau ystyrlon a buddiol sy'n cyflawni ar gyfer cleifion. A wnaiff y Gweinidog archwilio'r canlyniadau a gyflawnwyd gan y bartneriaeth hon fel y gall byrddau iechyd eraill ystyried manteision adeiladu capasiti yn y ffordd hon? Diolch.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Altaf. Nid wyf yn gwybod digon am y bartneriaeth benodol hon i wneud sylwadau arni, ond byddaf yn sicrhau fy mod yn ymchwilio ymhellach. Gwn fod rhai o'r bobl roeddwn ar alwad â hwy ddydd Sadwrn yn ymwneud ag Ysbyty Tywysoges Cymru, felly byddaf yn edrych ymhellach i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei ddysgu o hynny. Diolch.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56720
Mae practisau meddygon teulu ledled Cymru yn darparu ystod eang o opsiynau i gleifion gael mynediad at wasanaethau drwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Mae brysbennu clinigol yn arf allweddol i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, ar yr adeg gywir, gan y person cywir.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Mae mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn broblem gynyddol yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac amlygwyd hyn yn yr wythnosau diwethaf—ddwywaith, mewn gwirionedd—ym meddygfa St Mark yng Nghei Connah, lle mae'n amlwg fod yna brinder meddygon, ac yn Queensferry, lle mae practis yn cael ei symud, neu o bosibl yn cael ei symud, i Gei Connah, oherwydd nad yw'r adeilad presennol yn addas at y diben.
Weinidog, gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi gyfarfod â'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â'r broblem ym meddygfa St Mark a sicrhau bod ganddynt nifer digonol o feddygon teulu? A wnewch chi hefyd ofyn i'ch swyddogion ymchwilio i'r posibilrwydd o adeiladu canolfan feddygol newydd bwrpasol i wasanaethu Queensferry a'r cymunedau cyfagos?
Diolch yn fawr, Jack. Gwn fod rhai problemau wedi codi'n benodol gyda meddygfa yng Nghei Connah yn yr wythnosau diwethaf. Credaf na ddylai rhai o'r materion a welsom yno, lle anfonwyd neges fod y practis wedi'i gau mewn gwirionedd, ac yn cynghori cleifion i ffonio rhif arall, fod wedi digwydd. Mae'r bwrdd iechyd yn ymwybodol iawn o hynny. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gofio, wrth gwrs, fod ein clinigau a'n gwasanaethau wedi'u hadeiladu ar y bobl sy'n eu darparu, a gallant hwythau hefyd fynd yn sâl, a dyna a ddigwyddodd yn yr achos penodol hwn.
Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig fod gennym sefyllfa lle rydym, wrth gwrs, yn edrych ar y seilwaith mewn perthynas â meddygfeydd ledled Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fod llawer iawn o waith i'w wneud mewn perthynas ag uwchraddio meddygfeydd ledled Cymru. Mae gennym ymrwymiad yn ein maniffesto i greu meddygfeydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rydym yn gobeithio gwneud hynny ar ffurf rhyw fath o system hybiau fel ein bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i roi hynny ar waith. Mater i'r bwrdd iechyd lleol fydd penderfynu ar y flaenoriaeth ar gyfer pennu'r rheini. Felly, byddwn yn cynnal trafodaethau pellach gyda hwy, ond rydym yn edrych i weld sut y gallwn gyflawni'r ymrwymiad hwnnw a oedd wedi'i nodi'n glir iawn yn ein maniffesto.
Wel, cefais gopi o e-bost claf at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf, yn cwyno bod diffyg meddygon teulu parhaol ym meddygfa St Mark yng Nghei Connah bellach yn 'achosi problemau mawr gan na ellir trefnu apwyntiad i weld meddyg'. Ceisiwyd ffonio'r dderbynfa o 8 y bore ymlaen ar 22, 23 a 24 Mehefin, ac ar bob achlysur, buont yn aros am 45 munud cyn cael gwybod nad oedd unrhyw apwyntiadau ar ôl. Ar 28 Mehefin, roedd neges lais yn dweud bod y feddygfa ar gau. Wrth ymateb i mi, dywedodd y bwrdd iechyd mai gwraidd y broblem oedd salwch annisgwyl dau feddyg teulu a oedd i fod yn bresennol ac ar ddyletswydd ddydd Llun, gan ychwanegu bod hyn o ganlyniad i salwch sydyn ac mae hyn bellach yn destun ymyrraeth gan y tîm ardal i sicrhau nad yw'r sefyllfa hon yn digwydd eto. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn mynd i'r afael â'r broblem a nodwyd cyn 28 Mehefin, ac mae problemau tebyg yn cael eu nodi gan etholwyr sy'n gleifion mewn practisau eraill.
Pa ymgysylltiad a gawsoch neu y bwriadwch ei gael gyda'r cyrff proffesiynol perthnasol, lle mae naw mlynedd bellach ers i Gymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru lansio ymgyrchoedd yn rhybuddio aelodau fod y bom yn tician, a saith mlynedd ers i bwyllgor meddygol gogledd Cymru ddod i'r Cynulliad a rhybuddio bod ymarfer cyffredinol yng ngogledd Cymru mewn argyfwng?
Wel, diolch yn fawr iawn. Nawr, ers lansio ein hymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' mae gogledd Cymru yn arbennig wedi elwa o nifer fwy o benodiadau i hyfforddiant ymarfer cyffredinol. Felly, y llynedd, recriwtiwyd 29 o hyfforddeion newydd i gynlluniau hyfforddi arbenigol ym Mangor, yn Nyffryn Clwyd ac yn Wrecsam. Felly, credaf y dylai hynny ddangos i chi fod llawer o waith yn cael ei wneud ar hyn, yn benodol gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Mae'r mater arall rydych yn sôn amdano, yn ymwneud â mynediad at feddygon teulu, a gwnaethom nodi safonau a gyhoeddwyd gennym yn ôl ym mis Mawrth 2019, ac roedd cyfres gyfan o safonau roedd angen i feddygon teulu ymateb iddynt cyn cael y taliad ychwanegol a oedd yn ddyledus—ac rwyf wedi ysgrifennu at yr Aelodau heddiw i nodi pwy a gafodd beth a phwy a gyflawnodd beth mewn perthynas â chyrraedd y safonau hynny. Felly, mae gennym fesurau a ffyrdd o geisio rhyngweithio ac ymgysylltu, a byddwn yn gwneud hynny yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda gwasanaethau meddygon teulu, i sicrhau y gallwn wella mynediad i'n cleifion ledled Cymru. Gallaf roi gwybod i chi fod tua 76 y cant o bractisau ledled Cymru wedi cyrraedd yr holl safonau mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn ystod oriau arferol, ac mae hynny'n cymharu â 65 y cant y llynedd. Ond rwy'n ymwybodol iawn fod hynny'n awgrymu na wnaeth 24 y cant lwyddo i wneud hynny, a dyna'r rhai y mae angen inni ganolbwyntio arnynt.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru? OQ56738
Diolch, Luke. Mae cyflawni'r camau gweithredu a nodir yn ein cynllun gweithredu ar gyfer dementia 2018 i 2022 yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i weithio gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol a rhanddeiliaid i wneud hyn, ac i nodi meysydd lle mae angen cynnydd pellach.
Diolch, Ddirprwy Weinidog, ac fel y gwyddoch mae'n siŵr, mae sawl math gwahanol o ddementia yn ogystal â chlefyd Alzheimer, sef y ffurf fwyaf cyffredin, sy'n effeithio ar tua 75 y cant o bobl yng Nghymru. Dementia cyrff Lewy yw'r ail fath mwyaf cyffredin o ddementia ymhlith pobl hŷn, math roedd fy mam-gu yn byw gydag ef, ond ni wyddys llawer amdano ac mae'r symptomau'n wahanol iawn i glefyd Alzheimer. Pa strategaethau sydd ar waith i sicrhau bod byrddau iechyd yn gwneud diagnosis cywir o'r is-fathau o ddementia, ac yn eu cofnodi'n gywir, i sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth orau bosibl, a bod gofalwyr a theuluoedd yn cael y cymorth cywir?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol hwnnw, Luke. Ac rydych wedi codi mater pwysig iawn, oherwydd rydym yn rhy aml yn siarad am ddementia fel cyflwr hollgynhwysol, ond fel rydych wedi nodi'n gywir, mae'n cwmpasu ystod o wahanol gyflyrau. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn sicrhau bod pobl yn cael diagnosis cywir, a hefyd bod y diagnosis cywir hwnnw'n cael ei gofnodi'n gywir. Y llynedd, cyhoeddwyd cylchlythyr iechyd yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau asesu'r cof a gwasanaethau gofal sylfaenol gofnodi diagnosis rhywun o ddementia yn gywir yn ôl codau READ penodol a gyhoeddir. Hefyd, cyhoeddwyd llwybr newydd o safonau dementia i Gymru gyfan yn ddiweddar, sy'n atgyfnerthu'r angen i wneud hynny, ac er mwyn denu cyllid o'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia, mae'n ofynnol i sefydliadau gyd-fynd â'r safonau hynny. Felly, bydd hynny'n helpu i hybu'r cynnydd hwnnw, ond hefyd mae gwaith pellach yn mynd rhagddo i ymgorffori'r angen i gofnodi'r diagnosis yn briodol. Ond rwyf hefyd yn hapus iawn i chi ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion am eich pryderon, gan fy mod yn cydnabod bod hwn yn fater rydych yn teimlo'n gryf yn ei gylch. Byddwn yn hapus iawn i edrych ar hyn yn fanylach ac i gwrdd â chi i'w drafod ymhellach. Diolch.
7. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella systemau digidol o fewn GIG Cymru? OQ56716
Ein blaenoriaeth yw adeiladu ar yr ymateb digidol trawiadol i bandemig COVID, a gweithredu ffyrdd newydd o weithio a'n galluogodd i ddefnyddio llwyfannau digidol i gefnogi ein gwasanaethau olrhain cysylltiadau a darparu brechlynnau rhagorol yng Nghymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn gwybod bod datrysiadau TG wedi'u dyfeisio ers blynyddoedd bellach gan ymarferwyr o fewn y GIG, megis ap pwrpasol y mae dau feddyg teulu yn fy etholaeth yn ei ddatblygu gyda chwmni lleol. Bydd yr ap hwn yn galluogi cleifion i gael mynediad at eu cofnodion, i feddyginiaethu eu cyflyrau eu hunain yn well ac i archebu presgripsiynau rheolaidd, gan rymuso'r meddygon teulu hefyd i ledaenu gwybodaeth iechyd y cyhoedd. Weinidog, sut rydych chi'n sicrhau, serch hynny, fod Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn gallu goruchwylio'r mathau hyn o ddatrysiadau ac allosod arferion gorau a'u cynnwys yn eu dull 'unwaith i Gymru'?
Diolch yn fawr iawn, Vikki, a gwn fod rhai meddygon teulu wedi bod yn anhygoel o arloesol yn y ffordd y maent wedi ymateb i'r pandemig, gan wybod ei bod yn anodd cwrdd â phobl wyneb yn wyneb o dan rai amgylchiadau, ac felly maent wedi bod yn ddyfeisgar iawn, ac mae'n wych clywed bod hynny'n digwydd yn eich etholaeth. Rwy'n sicr yn hapus iawn i drosglwyddo—os gallwch drosglwyddo'r wybodaeth honno i mi, fe wnaf yn siŵr ei bod yn cyrraedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sydd bellach wedi cymryd drosodd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wrth gwrs, a gwn eu bod yn gweithio'n galed i nodi technolegau newydd a thechnolegau sy'n datblygu sydd â photensial i wella gwasanaethau iechyd a gofal. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny, a byddaf yn cyfarfod â phennaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru yr wythnos nesaf.
8. Beth yw asesiad presennol y Gweinidog o ledaeniad amrywiolyn delta ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OQ56742
Mae'r amrywiolyn delta yn parhau i ledaenu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mewn mannau eraill yng Nghymru, ond ar hyn o bryd mae gan Ben-y-bont ar Ogwr gyfraddau heintio cymharol isel o gymharu â llawer o ardaloedd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Mae ein rhaglen frechu yn parhau i gynnig y ffordd orau o ymladd y lledaeniad.
Diolch, Weinidog. Yn ystod ymgyrch yr etholiad, cyfarfûm â llawer o bobl sy'n gwerthfawrogi'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r pandemig, ac yn enwedig ymagwedd ragofalus y Prif Weinidog tuag at lacio cyfyngiadau symud, gan eu bod yn ofnus ac yn bryderus iawn ynghylch llacio'r cyfyngiadau symud yn rhy gyflym. Roedd yr ardal rwy'n ei chynrychioli, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, yn un o'r ardaloedd yr effeithiwyd arni waethaf yn ystod ail don y pandemig, ac mae hwnnw'n brofiad nad ydym am ei ailadrodd. Dim ond newydd gael hyder i fynd yn ôl allan eto y mae llawer o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned, a phan gyfarfûm â staff yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ychydig wythnosau yn ôl, roedd yn amlwg eu bod hwythau hefyd yn pryderu'n fawr am don arall o achosion COVID. Felly, gyda hynny mewn golwg, a allech chi amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu diogelu rhag y feirws ofnadwy hwn a'i amrywiolion niferus cyn inni geisio llacio'r cyfyngiadau symud ymhellach?
Wel, diolch yn fawr iawn, Sarah, ac a gaf fi eich sicrhau na fydd diwrnod rhyddid mawr yma yng Nghymru mewn perthynas â COVID gyda chyfraddau'n cynyddu fel y maent? Mae'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr yn wirioneddol anghredadwy, pan welwch y cyfraddau'n cynyddu fel y maent. Bydd ein penderfyniadau'n seiliedig ar wyddoniaeth, byddant yn seiliedig ar dystiolaeth, ac rydym yn falch iawn o weld nifer y bobl yng Nghymru sydd wedi manteisio ar y cyfle i gael y brechlyn, a gwyddom yn awr fod yna wanhau pendant pan welwn y berthynas rhwng dal y feirws a chael y brechlyn a'r nifer sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty a nifer y marwolaethau. Felly, dyna'r newyddion da.
Y newyddion da arall yw bod oedolion wedi bod yn manteisio ar y cyfle hwn. Mae problem o hyd gyda phobl iau, a dyna pam ein bod wedi sefydlu canolfannau galw i mewn, a sefydlwyd ledled Cymru y penwythnos diwethaf. Ond rwy'n credu bod yn rhaid inni hefyd fod yn realistig a deall y bydd yn rhaid inni fyw gyda COVID; ni fydd yn diflannu. Ond bydd angen inni wneud hynny mewn ffordd ragofalus, gan ddeall y bydd yna bob amser bobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau ac mae angen inni fod yn sensitif iddynt hwythau hefyd, tra'n deall, wrth gwrs, y mathau eraill o niwed y mae pobl yn eu dioddef. Yn benodol, mae yna niwed economaidd, niwed i iechyd meddwl a niwed cymdeithasol y mae'n rhaid inni eu cadw mewn cof hefyd. Felly, yr wythnos nesaf, byddwn ni fel Llywodraeth yn nodi ein camau nesaf mewn perthynas â'r feirws a'n cynllun yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog. Fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr tra bod newidiadau yn digwydd yn y Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:22.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:31, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.
Eitem 3, cwestiynau amserol. Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r galwadau gan arweinwyr y 22 o awdurdodau lleol Cymru i Lywodraeth Cymru adolygu pwerau a chylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru? TQ562
Rwy'n croesawu adborth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn sicr, mae angen inni sicrhau bod ein cyrff, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yn y sefyllfa orau i gyflawni ein huchelgeisiau amgylcheddol sylweddol. Rydym yn dechrau gyda'r adolygiad o swyddogaethau rheoli perygl llifogydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddynt yn y strategaeth llifogydd genedlaethol.
Diolch. Ni fyddwn wedi'i alw'n 'adborth i'w groesawu'. Cefais sioc, ac rwy'n siŵr bod gweithwyr ar y rheng flaen wedi cael sioc hefyd, a hwythau'n gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru, fod pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru bellach wedi galw am adolygiad. Roedd y llythyr a anfonwyd gan arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnwys sylwadau brawychus, Weinidog, megis,
'wrth ymdrin â digwyddiadau ar lefel leol gall fod tensiynau o hyd ynghylch penderfyniadau a dewisiadau'.
Ac mae nifer o arweinwyr wedi awgrymu nad yw pethau fel y dylent fod. Mae awdurdodau lleol yn galw arnoch i gwestiynu pa mor dda y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni eu swyddogaethau, ac a ellid cael model gweithio amgen, mwy effeithiol. Credwn fod hynny'n sicr. Fel y dywedasom yn 2018, dylid chwalu'r cwango. Mae wedi mynd o un argyfwng i'r llall.
Collodd sgandal y cytundeb pren o leiaf £1 filiwn i drethdalwyr Cymru. Er bod adroddiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth wedi'i lunio ar gost o £45,000 i'r trethdalwr, anwybyddodd Cyfoeth Naturiol Cymru y cyngor a gwahardd saethu adar hela ar dir cyhoeddus. Yn ei ymchwiliad i lifogydd mis Chwefror, canfu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fod rôl a gwasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u hymestyn y tu hwnt i gapasiti, ac mai dim ond tua hanner y 70 o staff ychwanegol roedd eu hangen—a hynny yn ôl y prif weithredwr a 'Llifogydd yng Nghymru ym mis Chwefror 2020: Adolygiad Rheoli Digwyddiadau Llifogydd'—30 yn unig a gafodd eu penodi.
Canfu'r adroddiad adran 19 diweddar gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fod llifogydd ym Mhentre wedi'u hachosi gan weddillion pren yn golchi oddi ar ochr y mynydd ac yn blocio cwlfert lleol. Fe wnaethant bwyntio bys yn bendant iawn at Cyfoeth Naturiol Cymru. Methiant arall. Yn Aberconwy, gorfodwyd tirfeddianwyr lleol i wneud gwaith ar arglawdd Tan Lan, wedi i Cyfoeth Naturiol Cymru wrthod talu. Roeddent yn dweud y byddai'r gwaith yn costio £150,000 i'w wneud, ac mae fy etholwyr wedi llwyddo i wneud y gwaith am £15,000. Ac rydym yn dal i ddisgwyl ateb ynglŷn â'n cais cymunedol yn galw am garthu afon Conwy, diogelu Castell Gwydir, a chael gwared ar y siâl sy'n cronni o gwmpas pont Llanrwst.
Nid fi yw'r unig un sydd heb unrhyw hyder o gwbl yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ymateb yn effeithiol i lifogydd, ac o'r herwydd, rwyf wedi egluro y dylem gael asiantaeth lifogydd genedlaethol i Gymru, sy'n canolbwyntio 100 y cant ar lifogydd. A ydych chi'n cytuno â hynny?
Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru dalu iawndal i'r trigolion yr effeithiwyd arnynt yn y Rhondda. A ydych yn ymchwilio i'r posibilrwydd o wneud hynny? Ac a ydych yn cytuno y dylech ymateb i lythyr y Cynghorydd Andrew Morgan drwy ymrwymo i adolygu sut y gellid modelu Cyfoeth Naturiol Cymru yn well wrth symud ymlaen?
Mae nifer y cwynion rwy'n eu derbyn am Cyfoeth Naturiol Cymru yn awr, a'r diffyg ymddiriedaeth sydd gan y cyhoedd yn y sefydliad hwn yn awr, yn peri cryn bryder. A wnewch chi wrando ar eiriau'r 22 arweinydd awdurdod lleol sydd â'u gwybodaeth leol eu hunain ac sy'n gwybod beth sy'n gweithio iddynt hwy a beth nad yw'n gweithio? Ac a wnewch chi edrych, os gwelwch yn dda, Weinidog, unwaith ac am byth, ar ailstrwythuro Cyfoeth Naturiol Cymru? Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch ichi am hynny, Janet Finch-Saunders. Nid wyf yn siŵr pa un o'ch cwestiynau niferus roeddech eisiau i mi ganolbwyntio arnynt, felly rwyf am ganolbwyntio ar y rhai sydd bwysicaf yn fy marn i. Yn gyntaf oll, rwyf eisoes wedi cael cyfarfod gyda thîm arwain Cyfoeth Naturiol Cymru, lle rwyf wedi bod yn hynod glir ynglŷn â fy nisgwyliadau ar gyfer sut y byddant yn rheoli adnoddau yn y dyfodol, sut y byddant yn rheoli'n gyffredinol, a'u perthynas ag awdurdodau cyhoeddus ledled Cymru mewn dull tîm Cymru o weithredu.
Rydym eisoes yn cynnal adolygiad o'r trefniadau rheoli llifogydd, fel y dywedais. Mae gennym nifer fawr o drefniadau rheoleiddio yn dod yn ôl o Ewrop, ac rwyf eisoes wedi gofyn am drefnu adolygiad o strwythur a darpariaeth y pwerau rheoleiddio newydd hynny. Mae angen inni fod yn ymwybodol hefyd o allu Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar yr holl adolygiadau hyn ar yr un pryd â darparu eu gwasanaethau hanfodol ar lawr gwlad.
Rwyf wedi gofyn i bob awdurdod rheoli llifogydd adolygu eu prosesau wrth i ni nesáu at y gaeaf nesaf. Rydym eisoes wedi cynnal dau ymarfer brys i sicrhau bod pawb yn gwybod pwy ddylai fod yn gwneud beth os bydd llifogydd eithafol neu ddigwyddiadau tywydd eraill yn digwydd yn ystod y gaeaf nesaf. Ac wrth gwrs, rwyf mewn cysylltiad agos â'r gymdeithas llywodraeth leol, corff y mae gennyf berthynas ragorol ag ef drwy gymwynasgarwch fy nghyfaill agos a fy nghyd-Aelod Rebecca Evans fel Gweinidog llywodraeth leol, i barhau i drafod yn gadarn â hwy a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae angen imi ddatgan buddiant yn y mater hwn, gan fy mod yn byw yng nghymuned Pentre, ac fe gefais fy effeithio yn bersonol gan lifogydd 2020.
Weinidog, fel y gwyddoch, mae gennyf fy mhryderon a fy rhwystredigaethau fy hun gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Fe ddioddefodd dros 200 eiddo a busnes lifogydd yn y Rhondda y llynedd. Cymerwyd camau ar unwaith gan Lywodraeth Cymru, Dŵr Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf i gyweirio'r systemau cwlfert a draenio. Darparwyd deialog glir ar gyfer y preswylwyr drwyddi draw. Yn anffodus, ni ellir dweud hyn am Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae trigolion yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd yn teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn teimlo bod diffyg atebolrwydd o fewn y corff cyhoeddus. Rwy'n rhannu'r safbwyntiau hyn.
Roedd ymddygiad Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dilyn rhyddhau adroddiad adran 19 cyngor Rhondda Cynon Taf ar lifogydd Pentre yn warthus. Mae gwrthod cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ddigwyddiadau ofnadwy y llynedd yn sarhaus, o ystyried bod tystiolaeth glir mewn lluniau a fideos o weddillion pren o dir Cyfoeth Naturiol Cymru yn blocio'r cwlfert uwchben Pentre. Dylai cyrff cyhoeddus fod yn barod i gydweithredu â chyrff cyhoeddus eraill er budd trigolion. Nid ydym wedi gweld hynny o gwbl gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Rhondda. Am y rhesymau hyn, rwy'n credu bod angen adolygiad brys ar Cyfoeth Naturiol Cymru, a byddwn yn gwerthfawrogi cyfarfod gyda'r Gweinidog i drafod hyn ymhellach er budd y trigolion a'r busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd.
Diolch am y sylwadau hynny, Buffy. Rwyf eisoes wedi croesawu adroddiad adran 19 Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â llifogydd 2020 ym Mhentre, ac rwy'n cydymdeimlo â'r holl drigolion, gan eich cynnwys chi, a ddioddefodd yn sgil y llifogydd yn y tywydd eithafol hwnnw y llynedd.
Mae'n amlwg fod yna rai canfyddiadau sy'n peri pryder mawr, ac mae'n amlwg fod angen dysgu gwersi yn dilyn y llifogydd dinistriol hynny. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf wedi cydnabod hyn yn eu hadroddiadau, a gwn eu bod yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag argymhellion i wella lefel yr amddiffyniad rhag llifogydd a ddarperir i'r gymuned. Ni allaf roi sylwadau ar y materion unigol sy'n ymwneud ag iawndal ac yn y blaen am resymau amlwg. Rwy'n fwy na bodlon cwrdd â chi ac arweinwyr awdurdodau lleol, ac mewn gwirionedd, credaf fod gennym gyfarfod o'r fath yn syth ar ôl y cwestiwn amserol hwn. Felly, byddaf wrth fy modd yn cymryd rhan yn y cyfarfod hwnnw a rhoi ystyriaeth bellach i'r hyn y gallwn ei wneud.
Rwy'n awyddus iawn i ystyried yr adborth gan arweinwyr awdurdodau lleol, partneriaid cyflenwi eraill, a'r cyhoedd yng nghyd-destun y gwersi y mae angen i ni eu dysgu. Mae angen inni hefyd sicrhau bod pob awdurdod rheoli perygl llifogydd yn cydweithio i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer cymuned Pentre a'r cymunedau eraill ledled Cymru, er mwyn egluro'r camau y maent wedi'u cymryd ers y llifogydd yn 2020 ac i roi sicrwydd na fydd hynny'n digwydd eto yn y gaeaf sydd i ddod.
Fodd bynnag, fel y gwyddoch, rydym wedi datgan argyfwng hinsawdd a natur yn y Senedd oherwydd ein hinsawdd newidiol a'r rheidrwydd i ddiogelu rhag i ddigwyddiadau tywydd eithafol ddod yn llawer mwy cyffredin. Felly, rwy'n deall ac yn derbyn difrifoldeb y sylwadau rydych wedi'u gwneud a byddwn yn sicr yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r holl awdurdodau rheoli perygl llifogydd perthnasol i sicrhau bod gennym gynlluniau argyfwng cadarn ar waith, a'n bod wedi cymryd yr holl gamau angenrheidiol i wneud popeth y gallwn ei wneud i fod mor barod â phosibl ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
Mae'n iawn inni ofyn cwestiynau i Cyfoeth Naturiol Cymru a chodais yr union fater hwn ddoe yn y Senedd, ond rwy'n bryderus ynghylch cywair y sylwadau a wnaethpwyd heddiw. Yn y pen draw, rwy'n credu bod angen inni gofio bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Yn eu hadolygiad a'u hadroddiad eu hunain ar y llifogydd, dywedasant eu bod wedi eu tangyllido a bod hynny wedi'i gofnodi ers nifer o flynyddoedd, ac fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, mae angen 60 i 70 aelod ychwanegol o staff arnynt, ac maent yn dal i fod heb eu cael.
Felly, a gaf fi ofyn am beidio â gwneud Cyfoeth Naturiol Cymru yn fwch dihangol ar hyn yn unig, ond ei bod yn bryd inni gael ymchwiliad annibynnol llawn i'r llifogydd? Oherwydd, wrth i weddill adroddiad adran 19 gael ei gyhoeddi, nid Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig fydd ar fai—bydd cwestiynau yn cael eu gofyn i Lywodraeth Cymru; bydd cwestiynau'n cael eu gofyn i awdurdodau lleol; bydd cwestiynau'n cael eu gofyn i Dŵr Cymru. Mae gan nifer o sefydliadau gyfrifoldeb am lifogydd ac mae'n ddarlun cymhleth iawn, a cheir rhesymau gwahanol. Hyd yn oed yn yr adroddiad adran 19, dywedir bod rhywfaint o fai ar gyngor Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â'r draeniau ym Mhentre hefyd, felly nid oedd yn canolbwyntio ar Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig.
Os gwelwch yn dda, o gofio'r anghydfod cyhoeddus hwn ac o ystyried yr holl bryderon a godwyd, a allwn ni gael yr ymchwiliad annibynnol hwnnw i'r llifogydd, er mwyn i bobl gael cyfiawnder a'r atebion y maent yn eu haeddu, ac a gawn ni fynd i'r afael â llifogydd unwaith ac am byth ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na chomisiynu adolygiad ar ôl adolygiad, a mynd i'r afael â'r achos sylfaenol a datrys y mater hwn ar frys?
Wel, diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny, Heledd. Rwy'n sicr yn cytuno â'r sylwadau lle'r oeddech yn canmol gwaith y nifer fawr o staff Cyfoeth Naturiol Cymru a weithiodd y tu hwnt i alwad dyletswydd yn ystod y llifogydd. A hoffwn ychwanegu fy niolch i'r staff hynny, gan gynnwys y staff sy'n gweithio'n benodol ar y materion hyn. Roedd staff o bob rhan o'r sector cyhoeddus yn gweithio'n galed iawn yn y cyfnod cyn y llifogydd ac yn wir yn ystod yr argyfwng wedyn—ymhell y tu hwnt i alwad dyletswydd, ac rwy'n sicr eisiau diolch iddynt am wneud hynny.
Fel y dywedais, rydym eisoes wrthi'n adolygu'r trefniadau rheoli llifogydd. Rydym eisoes wedi adolygu'r rheini gyda nifer o gyrff cyhoeddus ac rwyf eisoes wedi cyfarfod â thîm arwain Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn trafod fy ngofynion wrth symud ymlaen i gael cyswllt â hwy fel rhan o'n dull tîm Cymru, yn union fel yr amlinellwyd gennych.
Fel rwyf eisoes wedi'i esbonio i chi sawl gwaith yn y Senedd, nid wyf yn cytuno â'ch galwad am ymchwiliad annibynnol. Credaf fod hynny'n dargyfeirio adnoddau oddi wrth y mater dan sylw. Rwy'n sylweddoli nad ydych yn cytuno â hynny, ond mae arnaf ofn nad wyf yn cytuno â chi ar y pwynt hwnnw. Byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r holl bartneriaid eraill ledled Cymru i sicrhau ein bod yn ystyried yr holl wersi a ddysgwyd a bod gennym yr adnoddau cywir ar gael yn y lle iawn ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
Hoffwn atgoffa pawb fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn llawer mwy nag awdurdod amddiffyn rhag llifogydd. Maent yn cyflogi 1,900 o staff ac mae ganddynt gyllideb o £180 miliwn. Nid yw hwn yn sefydliad bach heb ddigon o adnoddau ac rwy'n credu bod angen i'r cyhoedd yng Nghymru ddeall hynny yng ngoleuni'r sylwadau sy'n cael eu gwneud heddiw.
Diolch, Weinidog.
Eitem 4: datganiadau 90-eiliad. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y penwythnos hwn, cymerais fy nghamau cyntaf ar The Big Walk 2021, taith gerdded a gynhelir gan Prostate Cymru, fel rhan o dîm enwogion Carol Vorderman. Nawr, credaf fy mod yn siarad ar ran pawb yn y Siambr hon pan fynegais fy sioc wrth gael fy ystyried yn rhywun enwog, er imi gael y fraint o gynrychioli pobl Ogwr ers blynyddoedd lawer. Ond y bobl wirioneddol bwysig yn hyn yw'r nifer fawr o bobl sy'n cymryd rhan yn The Big Walk 2021 ym mhob rhan o Gymru, gan gerdded 26 milltir dros fis Gorffennaf, mewn llawer o deithiau cerdded byr neu hir, gan godi arian i gynorthwyo'r ymchwil ac i gefnogi'r holl deuluoedd sy'n wynebu'r effaith y mae diagnosis o ganser y prostad yn ei chael a chodi ymwybyddiaeth hefyd, ac yn aml maent yn ei wneud oherwydd eu bod hwy eu hunain neu rywun y maent yn ei adnabod a'i garu wedi cael y diagnosis hwnnw.
Bydd un o bob wyth dyn—un o bob wyth—yn dioddef gyda iechyd y prostad, ac i'r rheini sydd â hanes teuluol ohono, mae'n cynyddu i un o bob tri. Felly, gall pobl gofrestru o hyd i gerdded 26 milltir dros fis Gorffennaf, a gwneud milltir y dydd neu wneud y cyfan ar unwaith, beth bynnag sy'n gweddu iddynt. Er efallai na fyddwn i gyd yn gallu cerdded gyda'n gilydd eto eleni oherwydd cyfyngiadau COVID, gallwn fod gyda'n gilydd mewn ysbryd bob cam o'r ffordd. Felly, ewch i prostatecymru.com i gael gwybod mwy, a chofrestrwch eich hun hyd yn oed. Yna, ewch am dro, mwynhewch y llwybrau cerdded hardd sydd gennym yma yng Nghymru, a helpwch ni i sicrhau'r gofal, y cymorth a'r sylw meddygol gorau i'r rhai sy'n brwydro yn erbyn y canser mwyaf cyffredin y gwneir diagnosis ohono yn y DU. Diolch i bawb yn Prostate Cymru am yr holl waith a wnânt, ac i'r cerddwyr a'r noddwyr sy'n camu allan i achub dynion yng Nghymru.
Ar 11 Gorffennaf 2021 bydd hi'n chwe mlynedd ar hugain ers hil-laddiad Srebrenica, lle cafodd dros 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd Bosniaidd eu llofruddio yn yr erchyllter gwaethaf ar bridd Ewrop ers yr ail ryfel byd. Heddiw, rwy'n ymuno â channoedd o bobl eraill ledled y wlad i addunedu i sicrhau na fyddwn byth yn anghofio am yr hil-laddiad hwnnw. Thema Diwrnod Cofio Srebrenica eleni yw ailadeiladu bywydau. Mewn ffyrdd gwahanol iawn, mae'r pandemig COVID wedi arwain at golled ac anawsterau i filiynau, gan chwalu unigolion a chymunedau sydd bellach yn ceisio ailadeiladu eu bywydau. Wrth inni symud ymlaen i ailadeiladu ein cymunedau yn sgil llawer o heriau iechyd a heriau economaidd y mae pobl ag agendâu cynhennus yn rhy awyddus i fanteisio arnynt, byddwn yn cofio ysbryd goroeswyr yr hil-laddiad sydd, er gwaethaf y casineb a'r dinistr erchyll y bu'n rhaid iddynt ddioddef eu hunain, wedi bod yn ailadeiladu eu bywydau gydag urddas a thrugaredd a hynny heb fod eisiau dial neu hyrwyddo rhaniad neu gasineb. Mae hyn yn fwy ysbrydoledig a rhyfeddol byth o ystyried yr hyn y maent wedi'i ddioddef. Rwy'n ailddatgan yr ymrwymiad i weithio tuag at ddileu gwahaniaethu, gwrthod casineb ac anoddefgarwch a helpu i adeiladu cymdeithas gryfach, fwy diogel a mwy cydlynol yma yng Nghymru. Diolch.
Yr eitem nesaf yw'r cynigion i gytuno ar aelodaeth pwyllgorau. Mae 12 cynnig o dan yr eitem hon, a byddan nhw'n cael eu trafod gyda'i gilydd. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol—Darren Millar.
Cynnig NDM7753 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Sarah Murphy (Llafur Cymru), Ken Skates (Llafur Cymru), Altaf Hussain (Ceidwadwyr Cymreig), Sioned Williams (Plaid Cymru) a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Cynnig NDM7754 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Ken Skates (Llafur Cymru), Buffy Williams (Llafur Cymru), Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig), James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) a Siân Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Cynnig NDM7755 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Alun Davies (Llafur Cymru), Carolyn Thomas (Llafur Cymru), Joel James (Ceidwadwyr Cymreig), Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) a Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
Cynnig NDM7756 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hefin David (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Sarah Murphy (Llafur Cymru), Samuel Kurtz (Ceidwadwyr Cymreig), a Luke Fletcher (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.
Cynnig NDM7757 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Mike Hedges (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Joyce Watson (Llafur Cymru), Gareth Davies (Ceidwadwyr Cymreig), a Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cynnig NDM7758 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Joyce Watson (Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig), a Delyth Jewell (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Cynnig NDM7759 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hefin David (Llafur Cymru), Alun Davies (Llafur Cymru), Carolyn Thomas (Llafur Cymru), Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig), a Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Cynnig NDM7760 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Mike Hedges (Llafur Cymru), Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) a Cefin Campbell (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.
Cynnig NDM7761 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Buffy Williams (Llafur Cymru), Joel James (Ceidwadwyr Cymreig) a Luke Fletcher (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Deisebau.
Cynnig NDM7762 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. John Griffiths (Llafur Cymru), Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
2. Rhianon Passmore (Llafur Cymru) ar ran Vikki Howells (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru) ar ran John Griffiths (Llafur Cymru), Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) ar ran Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) ar ran Heledd Fychan (Plaid Cymru), yn aelodau amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Cynnig NDM7763 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mike Hedges (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Alun Davies (Llafur Cymru).
Cynnig NDM7764 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Bryant (Llafur Cymru) yn lle Jack Sargeant (Llafur Cymru), a Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Cynigiwyd y cynigion.
Rwy'n cynnig.
Diolch. Os nad oes unrhyw wrthwynebiad, dwi'n cynnig bod y pleidleisiau ar y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynigion yn ôl Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar fusnesau bach a thwristiaeth. Galwaf ar Hefin David i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7744 Hefin David, John Griffiths, Delyth Jewell
Cefnogwyd gan Carolyn Thomas, Paul Davies, Peredur Owen Griffiths, Rhun ap Iorwerth, Sarah Murphy, Vikki Howells
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r rôl sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen.
2. Yn nodi pwysigrwydd busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein cymunedau a'n heconomïau lleol.
3. Yn nodi ymhellach yr anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y chweched Senedd er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod ganddynt y gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cymraeg ardderchog, by the way.
A chithau hefyd.
Nid wyf yn gwybod a wyf fi wrth fy modd neu'n siomedig fy mod yn gweld, o'r cyngor pleidleisio gan y chwipiaid, fod Llywodraeth Cymru yn pleidleisio o blaid ein cynnig heddiw. Rwy'n credu y byddwn yn poeni braidd, mae'n debyg, pe baent yn newid eu meddyliau ar ddiwedd y ddadl. Nod y ddadl heddiw yw clywed barn yr Aelodau. Rwyf eisiau ceisio agor hyn a chlywed barn yr Aelodau ar y mater allweddol hwn wrth inni sôn am ailadeiladu ac adfer ar ôl y pandemig. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed barn yr Aelodau o bob rhan o'r Siambr, felly nid wyf wedi ysgrifennu araith i gloi; rwyf am geisio crynhoi'r pethau allweddol sy'n cael eu dweud drwy'r ddadl.
Yr hyn yr hoffwn ganolbwyntio arno wrth agor, serch hynny, yw rôl arbennig busnesau bach mewn cadwyni cyflenwi, a'r rôl y gallant ei chwarae yn yr adferiad. Hoffwn edrych ar rôl a natur y sector twristiaeth sylfaenol, ac yn enwedig y rhannau ohono a gaiff eu hanghofio amlaf. Gallwch ddychmygu lle maent, o gofio mai fi a gyflwynodd y ddadl hon. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ei chefnogi hefyd. Hoffwn edrych ar ganlyniadau llacio cyfyngiadau symud, sy'n amserol yn fy marn i o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yr wythnos hon yn y DU, a'r hyn a fydd yn digwydd yr wythnos nesaf pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ddydd Mercher, a goblygiadau ardoll dwristiaeth yr hoffwn ei hystyried.
O ran natur a rôl y busnes bach, credaf ein bod yn aml yn camddeall rôl busnesau bach. Nid peiriannau cyflogaeth mohonynt. Yn wir, mae nifer y busnesau bach o'i gymharu â maint y boblogaeth yn weddol sefydlog dros amser. Rwy'n credu bod gennym rywbeth tebyg i 6 miliwn o fusnesau bach yn y DU ar hyn o bryd—bron i 6 miliwn—ac o'r rheini, mae'r mwyafrif llethol ohonynt, dros eu hanner, yn cyflogi llai na 10 o bobl. Felly, ni allwn ddisgwyl i fusnesau bach fod yn beiriannau cyflogaeth. Clywaf bobl yn dweud mai busnesau bach yw anadl einioes yr economi, ond mewn gwirionedd, maent yn rhan eithaf sylfaenol o'r economi. Maent yn bodoli, ond nid ydynt yn beiriannau twf cyflym. Maent yn darparu sefydlogrwydd. Roeddent yn arfer dweud yn y 1970au y byddai problem diweithdra wedi ei datrys pe bai pob busnes bach yn cyflogi un gweithiwr ychwanegol. Wel, pe bai hynny'n wir, byddai wedi digwydd erbyn hyn, ac nid yw'n mynd i ddigwydd. Ond nid cyflogaeth yw'r unig amcan ychwaith, oherwydd gwyddom am dlodi mewn gwaith hefyd.
Credaf mai un o'r pethau allweddol sydd gan fusnesau bach yw cyfalaf cymdeithasol. Mae'n un o'r opsiynau allweddol sydd ganddynt fel elfen amgen yn lle cyflogaeth. Mae cyfalaf cymdeithasol yn allweddol oherwydd dyna lle mae'r wreichionen greadigol yn digwydd, pan fydd pobl yn rhyngweithio. Dyna lle mae busnesau cynaliadwy yn cael eu creu. Pan fydd pobl yn rhyngweithio â'u teulu a'u ffrindiau, gelwir hynny'n fondio cyfalaf cymdeithasol. Dyna pryd y mae busnesau bach yn dod o hyd i'w traed ac yn darganfod eu sylfaen. Ond mae twf busnesau bach yn digwydd drwy bontio cyfalaf cymdeithasol, pan fyddwn yn siarad â busnesau bach eraill, rhwydweithiau eraill. Fy mhryder ynglŷn â'r pandemig yw ei fod wedi crebachu rhwydweithiau mewn ffordd a fydd yn cymryd amser hir i'w hailadeiladu. Felly, mae ailadeiladu'r rhwydweithiau busnes hynny dros amser yn wirioneddol bwysig. Hoffwn weld hynny'n rhan allweddol o strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, nid yn unig creu busnes ond creu rhwydweithiau busnes. Os yw busnesau'n mynd i dyfu a llwyddo, credaf y bydd hynny'n gwbl allweddol.
Ni fydd y BBaChau ar eu pen eu hunain yn y sector twristiaeth yn ein galluogi i adfer; nid ydym yn ddigon naïf i gredu y bydd hynny'n ddigon. Mae'n rhaid i'r sector twristiaeth chwarae rhan yn yr adferiad, a mwy o ran nag a chwaraeai cyn y pandemig. Credaf fod hynny'n bwysig. Rydym yn aml yn meddwl mai twristiaeth yw ardaloedd glan y môr yng Nghymru, Bannau Brycheiniog, Yr Wyddfa, Eryri. Ystyriwn y rheini yn ardaloedd twristiaeth allweddol. Ond fe fyddwch yn gwybod bod gan Gymoedd de Cymru—a gallaf weld y Gweinidog, Dawn Bowden, yn cytuno—lawer iawn i'w gynnig. Mae gan ein cymuned ym mwrdeistref Caerffili lawer iawn i'w gynnig, ac rwy'n credu nad oes digon o bwyslais wedi bod arno fel lleoliad twristiaeth. Rydym yn sôn am deithiau dydd i gastell Caerffili, ond mae'n gymaint mwy na hynny. Mae gan Gaerffili gymaint mwy i'w gynnig. Cyfarfûm â'r Gweinidog yng nghastell Caerffili—pryd oedd hyn, dair wythnos yn ôl—ac roeddem yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £5 miliwn er mwyn i Cadw drawsnewid castell Caerffili fel lleoliad y flwyddyn nesaf. Ond yr hyn rydym hefyd eisiau ei wneud yw gwella'r strydluniau, rydym eisiau gwella'r llwybr twristiaeth, oherwydd mae'r rhwydweithiau cymdeithasol hynny y mae busnesau bach yn dibynnu arnynt hefyd yn dibynnu ar y gymdeithas y maent yn gweithredu ynddi. Felly, nid yw'n ymwneud â gwella un lleoliad yn unig, ond yn hytrach, â gwella'r amgylchedd yn ei gyfanrwydd.
Mae gennym hefyd faenordy Llancaiach Fawr o'r ail ganrif ar bymtheg. Mewn gwirionedd, fy nhad a wnaeth hwnnw'n weithredol pan oedd yn gadeirydd pwyllgor cynllunio Cyngor Dosbarth Cwm Rhymni ym 1982, a gallaf brofi hynny i chi. Os nad ydych yn fy nghredu—gwelaf fod y fainc flaen yn edrych yn amheus—gallaf brofi hynny i chi, oherwydd mae plac yno gyda'i enw arno. Ac os yw'r Dirprwy Weinidog eisiau dod i ymweld â'r lle, gallaf ddangos y plac iddi hithau hefyd, er bod angen ei lanhau os oes gan Lywodraeth Cymru rywfaint o arian ar gyfer hynny. Mae gennym barc Penallta hefyd ac mae gennym Barc Cwm Darran. Mae gennym gofeb genedlaethol glowyr Cymru a'r gerddi yn Senghennydd. Mae'n werth ymweld â'r rheini, ac rwy'n gwybod bod Tywysog Cymru wedi ymweld â'r lleoliad hwnnw yn y gorffennol; rwyf wedi gweld y llofnod yn y llyfr ymwelwyr. Mae gennym rodfa goedwig Cwm Carn; mae honno yn etholaeth Rhianon Passmore, ond ni fyddai'n maddau i mi pe na bawn i'n sôn amdani. Mae gennym gyrsiau golff fel Bryn Meadows a Bargoed. Mae gennym westai fel Neuadd Llechwen. Mae tafarn Murray's ym Margoed yn eithaf anhygoel, ac mae Aber Hotel bellach yn gweini bwyd. Mae'n rhaid i mi ddweud y pethau hyn oherwydd fy mod wedi'u gweld, maent yn bodoli ac maent yn anhygoel. A hefyd, gyda llaw, os ydych chi awydd mynd i sba, gallwch fynd i sba Captiva ym Mhwll-y-pant, cael triniaeth adweitheg gan Emma Burns Complementary Therapies, neu fynd at Lisa Morgan Beauty yng Nghanolfan Glowyr Caerffili.
Felly, rydym yn edrych ar yr heriau—[Torri ar draws.] Mae hyn i gyd yn mynd ar Facebook; rydych yn gywir. Rydym yn meddwl am yr heriau rydym yn eu hwynebu yn ein cymunedau o ganlyniad i COVID. Un o'r pethau a ddywedodd rhywun wrthyf ar fy nhudalen Facebook, pan ddywedais wrthynt nad oedd y cyhoeddiad yn Lloegr nad berthnasol i Gymru, oedd, 'Mae gennyf grwpiau mawr iawn o ffrindiau sydd bellach yn archebu gwestai ac yn teithio i Loegr. Mae gennyf ddigon o ffrindiau yn Llundain hefyd sydd bellach yn mynd ar wyliau i Ddyfnaint a Chernyw. Ni fydd twristiaeth Cymru yn cael unrhyw archebion o dan y cyfyngiadau presennol. Bydd swyddi'n cael eu colli yn anffodus'. Wel, fe wnes chwiliad i hyn. Mewn gwirionedd, mae'n anodd iawn dod o hyd i rywle i aros yng Nghymru yr haf hwn. Mae pobl yn mynd ar wyliau yn y wlad hon, ac nid wyf yn credu bod yn rhaid i ni boeni nad yw'r sector twristiaeth yn cael ymwelwyr eleni.
Hoffwn ddweud rhywbeth am lacio rheolau hefyd. Mae arolygon barn yn dangos nad yw'r rhan fwyaf ohonom eisiau i'r rheolau gael eu llacio'n rhy helaeth, yn enwedig mewn perthynas â masgiau. Mae perygl gwirioneddol y bydd y rhan fwyaf ohonom yn cadw draw o leoliadau lletygarwch pan nad yw gwisgo masg yn orfodol mwyach. Byddai hyn yn effeithio'n niweidiol ar y sector twristiaeth. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed beth fyddai'r Ceidwadwyr yn ei ddweud am hynny. Ond rwy'n credu bod canlyniadau, a hoffwn i'r Llywodraeth ystyried hynny fel rhan o'u hadolygiad yr wythnos nesaf. Rwy'n gwybod ei fod yn ymwneud â thystiolaeth glinigol ac rwy'n gwybod ei fod yn ymwneud yn llwyr â'r hyn y mae'r swyddog meddygol yn ei ddweud, ond fe allai fod canlyniadau anfwriadol os yw'r Prif Weinidog yn dweud nad oes gorfodaeth i wisgo masgiau mwyach.
Yn olaf, hoffwn sôn am yr ardoll dwristiaeth, oherwydd rwy'n siŵr nad oes amheuaeth y bydd y Ceidwadwyr yn sôn amdani, a hoffwn glywed beth sydd gan Blaid Cymru i'w ddweud am hyn hefyd. Mewn gwirionedd, rwy'n cefnogi ardoll dwristiaeth yn y ffordd y mae'n cael ei chynnig drwy awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru. Ond mae angen mwy o eglurder arnom, Weinidog, ynglŷn â diben yr ardoll, oherwydd dywedir na fydd yn cael ei neilltuo. Felly, sut y bydd hynny'n gweithio? Sut y bydd yr ardoll arfaethedig yn gweithio? Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dweud wrthym fod angen i Lywodraeth Cymru gydnabod rhagofal a phryderon llawer yn y sector ynghylch y cynnig. Ni fyddem eisiau iddo fygwth hyfywedd, ond ar yr un pryd, rwyf eisoes wedi sôn am olwg y stryd yng Nghaerffili. Pe bai gan gyngor Caerffili ffynhonnell ychwanegol o gyllid i ddatrys rhai o'r materion hynny y gellir eu targedu'n uniongyrchol mewn perthynas â thwristiaeth, credaf y byddai'n rhywbeth y dylem ei groesawu. O ganlyniad, credaf na fydd ardoll dwristiaeth, os caiff ei gwneud yn iawn, yn niweidio twristiaeth. Gallai wella twristiaeth yn yr ystyr honno mewn gwirionedd. Ond rwy'n credu mai'r hyn rydym ei eisiau'n wirioneddol yw mwy o fanylion am hynny. Credaf fod angen inni glywed sut y bydd hynny'n cael ei wneud. Sylwaf fod Adam Price wedi dweud yn 2017 ei fod yn syniad a haeddai gael ei archwilio. Felly, hoffwn wybod beth yw safbwynt Plaid Cymru, ac rwy'n fwy na pharod i glywed mwy gan y Ceidwadwyr ynglŷn â pham na ddylid ei wneud. Efallai y dof yn ôl ato, felly, wrth grynhoi ar y diwedd.
Yn olaf, mae rhan allweddol o'n cynnig yn ymwneud â rhanddeiliaid, ac os yw adferiad yn mynd i weithio, credaf fod angen i leisiau busnesau bach chwarae rhan yn yr hyn sy'n dod nesaf. Mae gan y sector twristiaeth lais enfawr yn yr hyn y maent eisiau ei weld. Byddwn yn pryderu pe byddem yn gweld ffyniant eleni a bod hwnnw'n cael ei ddilyn gan fethiant y flwyddyn nesaf, pan fydd pawb yn penderfynu mynd dramor eto. Rwy'n credu bod yn rhaid i leoliadau twristiaeth fod yn ofalus, oherwydd os byddant yn codi crocbris eleni bydd hynny'n atal pobl y flwyddyn nesaf, ond ar yr un pryd mae angen i ni hefyd edrych ar ganlyniadau marchnad chwyddedig eleni a fydd yn llai wedyn y flwyddyn nesaf. Tybed beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hynny. Sut y maent yn cynllunio ymlaen llaw, nid ar gyfer 2021, ond ar gyfer 2022, a pha randdeiliaid y byddant siarad â hwy er mwyn datrys y mater hwnnw a chynllunio ar gyfer y sefyllfa gylchol honno?
Felly, drosodd atoch chi—at yr Aelodau. Rwyf eisiau clywed yr hyn a fydd yn cael ei ddweud heddiw. Rwyf am wneud nodiadau fel lladd nadroedd, a gobeithio y byddaf yn gwneud cyfiawnder â'r hyn a fydd wedi'i ddweud ar ddiwedd y ddadl.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw a'r cyfle i siarad am rôl busnesau bach yn cynnal economïau lleol. Fel y dywedodd yr Aelod dros Gaerffili, mae busnesau bach yn ganolog i'n pentrefi a'n trefi, ac mewn ardaloedd fel fy etholaeth i, mae'r busnesau bach hynny'n rhan o sector twristiaeth a lletygarwch blaenllaw. Yn anffodus, tarodd y pandemig lawer o'r busnesau hynny'n galed, ac er bod rhai wedi gallu goroesi'r storm, nid oedd eraill mor ffodus. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i fusnesau, ac mae busnesau yn sir Benfro wedi bod yn ddiolchgar am y cymorth hwnnw. Fodd bynnag, i lawer, nid aeth yr arian hwn yn ddigon pell i wneud iawn am golli refeniw drwy gydol y pandemig. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod llawer o fusnesau wedi syrthio drwy'r rhwyd ac nad oeddent yn gallu cael cymorth yn gyflym, gan fygwth cynaliadwyedd eu busnesau.
Yn ystod y pandemig, cynhaliais gyfres o fforymau twristiaeth lleol rhithwir, gyda fy Aelod Seneddol lleol, i glywed gan fusnesau am yr heriau roeddent yn eu hwynebu, ac fe'i gwnaethant yn glir iawn mai'r hyn roeddent ei angen fwyaf gan Lywodraeth Cymru oedd cefnogaeth, ac eglurder yn wir. Roedd llawer yn teimlo nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwrando arnynt a bod polisïau a rheoliadau Llywodraeth yn cael eu gwneud heb ystyried yr effaith y byddent yn ei chael ar fusnesau llai.
Nawr, mae'r cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector busnesau bach a'r sector twristiaeth er mwyn integreiddio'r ddau sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny. Mae angen i'n strategaeth economaidd ganolbwyntio ar gynnal a datblygu ein diwydiant twristiaeth fel un o sylfeini ein heconomi sydd o bwys cenedlaethol. Mae gennym gyfoeth o ran treftadaeth, iaith, morweddau, cefn gwlad, chwaraeon a chestyll, ac ni ddylem byth danbrisio pa mor bwysig yw twristiaeth i ni yng Nghymru gyda chymaint o fusnesau'n dibynnu arni. Mae'r busnesau sy'n rhan o'n sector twristiaeth yn dibynnu'n fawr ar ddiwydiannau eraill megis lletygarwch, ffermio a chynhyrchu bwyd yn ogystal â datblygu canol trefi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol. Ni allwn danbrisio pwysigrwydd datblygiadau ffyrdd, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a buddsoddiad yng nghanol y trefi hynny i'w cynnal a'u cadw'n ddeniadol i ymwelwyr.
Cytunaf â rhanddeiliaid fel y Ffederasiwn Busnesau Bach fod angen i Weinidogion weithio gyda'r diwydiant i sefydlu sut y byddwn yn ymadfer ar ôl y pandemig a sut ddyfodol sydd o'n blaenau, nid yn unig fel ymateb i COVID, ond oherwydd bod dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar economi gref wedi'i chynnal gan fusnesau bach fel anadl einioes ein cymunedau.
Nawr, mae'r cynnig yn cydnabod ymgyrch Llywodraeth Cymru i annog pobl i fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a chefnogi ein sector twristiaeth yn y wlad hon. Wrth i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar hyrwyddo gwyliau yng Nghymru, mae'n hanfodol fod Gweinidogion yn gweithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn. Er mwyn cydnabod potensial ein cynnig twristiaeth yn llawn, mae'n rhaid cydweithio â'r sector. Yn anffodus, yn hytrach na hynny, amlinellodd rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru gynlluniau i ymgynghori ar ddeddfwriaeth i ganiatáu i awdurdodau lleol godi ardoll dwristiaeth, er gwaethaf yr effaith andwyol y bydd y dreth honno'n ei chael ar y sector. Nawr, gofynnodd yr Aelod dros Gaerffili, ar ddechrau'r ddadl hon, inni fynegi barn ar dreth dwristiaeth bosibl. Wel, mae'n debyg na fydd yn synnu clywed fy mod yn gwrthwynebu treth dwristiaeth; mae'n rhywbeth y mae busnesau yn sir Benfro yn ei erbyn ac rwy'n cytuno â hwy y gallai gael effaith ddinistriol ar y sector ar adeg pan fo'n ceisio sefydlogi yn dilyn y pandemig.
Nawr, mae gennym gyfle, ar ôl y pandemig, i fod yn arloesol yn y ffordd y cefnogwn fusnesau bach, a busnesau newydd yn enwedig, ac efallai y bydd y Gweinidog yn dweud wrthym wrth ymateb i'r ddadl hon beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â busnesau newydd mewn sectorau sy'n bodoli eisoes fel twristiaeth a lletygarwch, sy'n hanfodol i ni fel gwlad.
Yn gynharach eleni, dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans
'ar ôl y pandemig, bydd cyfle i adeiladu Cymru newydd sy'n cael ei gyrru gan fusnesau arloesol ac entrepreneuraidd yn y wlad hon sydd â delfrydau cymdeithasol ac amgylcheddol wrth wraidd popeth a wnânt.'
Wrth gwrs, mae'n llygad ei le: mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fanteisio ar y cynnydd mewn gweithgarwch entrepreneuraidd ac annog busnesau newydd fel ffordd o ysgogi adferiad economaidd. Mae Cymru angen strategaethau a syniadau newydd i gefnogi busnesau newydd ac mae arni angen strategaeth sy'n ceisio tyfu ein heconomi drwy gydnabod pwysigrwydd busnesau bach ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru greu'r meddylfryd newydd hwnnw yn awr.
Ddirprwy Lywydd, mae'r economi dwristiaeth yn cefnogi tua 16,000 o swyddi llawn amser ac yn dod â £585 miliwn i sir Benfro yn unig, ac mae'n sector rhyng-gysylltiedig sy'n cefnogi ein diwydiannau ffermio, lletygarwch a chreadigol. Ac wrth wraidd y ffigurau hynny mae busnesau bach, felly mae'n rhaid inni atgoffa ein hunain pa mor bwysig yw busnesau bach i'n heconomïau lleol o ran darparu swyddi hanfodol a datblygu cadwyni cyflenwi lleol ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.
Mae'r pwynt wedi cael ei wneud yn barod yn y ddadl: pan dŷn ni'n meddwl am y diwydiant twristiaeth, dŷn ni'n tueddu canolbwyntio'n bennaf ar ein harfordiroedd, ein mynyddoedd, a'n parciau cenedlaethol. Ond mae Cymru yn disgleirio gyda chymaint o lefydd hardd sydd yn gudd, efallai; gemau disglair o dan yr wyneb sy'n haeddu denu mwy o ymwelwyr.
Dŷn ni eisoes hefyd wedi clywed yn y ddadl am ba mor angenrheidiol yw hi i helpu'r diwydiant twristiaeth—sector sydd yn wynebu tri gaeaf, fel mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi'n hatgoffa. Collodd chwarter y busnesau yn y sector yng Nghymru dros 80 y cant o’u refeniw arferol yn 2020, felly mae’n amlwg bod angen strategaeth i helpu adferiad y busnesau hyn.
Ond, hoffwn i weld rhan o’r strategaeth honno yn canolbwyntio ar helpu busnesau bach mewn rhanbarthau fel y de ddwyrain, sy’n ceisio denu ymwelwyr i’r cymunedau yma, sydd yn hyfryd ac sydd yn fywiog—strategaeth sydd yn helpu hosteli sy’n gwasanaethu’r rhai sy’n cerdded neu sydd yn beicio ar lwybr y Taf; sy’n cynorthwyo bwytai a tea rooms sy’n edrych mas dros ein cestyll a’n golygfeydd gogoneddus; sy’n cefnogi grwpiau sydd yn dathlu ein treftadaeth ddiwydiannol—mae'r pwynt yma wedi cael ei sôn amdano fe ychydig yn beth yr oedd Hefin yn ei ddweud—gyda phennau’r pyllau, y traphontydd neu'r viaducts, a'r gwaith maen mawreddog a oedd unwaith mor ogoneddus.
Hoffwn i weld y strategaeth yma yn egluro sut y bydd yn gweithio gyda grwpiau lleol hefyd, drwy weithio gyda busnesau bach sydd wedi’u hymgorffori yn eu cymunedau; sydd yn hybu ymwybyddiaeth o draddodiadau Cymraeg; ac sydd yn defnyddio cadwyni cyflenwi a chynnyrch lleol. Mae gennym gyfle yma i arddangos mwy o gynnyrch lleol ac i gefnogi cymaint o gadwyni cyflenwi bychain sydd wedi dioddef cymaint gyda Brexit a’r pandemig.
Dylai unrhyw drafodaeth am adferiad ar ôl COVID ffeindio ffyrdd o rymuso ein cymunedau—ie, efallai trwy levy; mae'n rhaid i ni ystyried hynny—a meithrin twristiaeth sydd yn foesegol, ethical tourism, sydd ddim yn defnyddio’r golygfeydd fel cefndir yn unig ar gyfer digwyddiadau a allai fod yn digwydd yn unrhyw le. Dyma dwristiaeth sydd ddim yn ychwanegu at yr argyfyngau hinsawdd neu natur.
Er budd cyflogwyr a’n cymunedau ni hefyd, rwy’n mawr obeithio y bydd y strategaeth sy’n deillio o hyn oll yn adlewyrchu’r pwyntiau dwi wedi eu codi heddiw. Bydd mwy o bobl yn mynd ar wyliau yn nes at gartref eleni, ac maent yn debygol o ddod ar draws agweddau godidocaf ein cenedl o’r newydd. Gadewch i ni ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod pobl wastad yn gallu teimlo'r un rhyfeddod hwnnw pan fyddent yn ymweld â Chymru, a’u bod yn dysgu ein hanesion difyr.
Diolch am gynnig y ddadl hon, Hefin. Wedi fy ysbrydoli gennych chi, hoffwn ddweud wrthych am y rhyfeddodau sydd ar gael yng Nghanol Caerdydd; er enghraifft, y trysorau sydd ar gael am ddim yn ein hamgueddfa genedlaethol ym Mharc Cathays, gyda llawer ohono yno diolch i ddyfeisgarwch, cariad at gelfyddyd ac agwedd entrepreneuraidd y chwiorydd Davies. Mae eu casgliad eithriadol o baentiadau argraffiadol, a adawyd ganddynt i'r genedl, yn un o'r casgliadau pwysicaf o waith gan argraffiadwyr y tu allan i Lundain.
Mae mynediad am ddim i gastell Caerdydd i drigolion Caerdydd. Mae parc Bute yn cynnwys borderi llysieuol bendigedig, yn ogystal â llwybr beicio a cherdded gwych ar hyd afon Taf, yr holl ffordd i gastell Caerffili.
Felly, mae'n anffodus iawn fod llawer o deuluoedd sydd ond yn byw pellter taith fws yn unig o'r atyniadau gwych hyn byth yn ymweld â hwy. Un o'r diffiniadau o dlodi yw nad yw pobl byth yn gadael cyffiniau eu cymunedau eu hunain. Gwn fod yr amgueddfa genedlaethol yn gwneud llawer o waith i ehangu nifer ac amrywiaeth eu hymwelwyr â'r amgueddfa genedlaethol a Sain Ffagan, lleoliad sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal â'i hasedau eraill. Ond mae yna lawer o bobl nad ydynt yn gwybod o hyd sut i gyrraedd yno, ac mae'n rhaid inni gydnabod bod pobl sy'n byw mewn tlodi wedi eu cyfyngu gan gost trafnidiaeth gyhoeddus am ddiwrnod allan i'r teulu.
Yn ôl ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ni all oddeutu chwarter yr holl aelwydydd ledled Prydain fforddio wythnos o wyliau blynyddol, ac mae'r ffigur ar gyfer Cymru'n unig yn debygol o fod yn uwch oherwydd bod lefel yr amddifadedd yn uwch yng Nghymru. Felly, mae angen inni gadw hynny mewn cof, eleni o bob blwyddyn, pan fo cymaint o gyfleoedd i fusnes twristiaeth Cymru, er mwyn sicrhau ein bod yn ceisio gwneud cymaint â phosibl, fel bod pawb yn cael rhyw fath o wyliau ar ôl yr 16 mis mwyaf heriol a brofodd unrhyw un ohonom erioed.
Cytunaf yn llwyr: mae arnom angen twristiaeth gynaliadwy drwy'r amser fel y gall mwy o bobl nad ydynt wedi'u cyfyngu i wyliau ysgol fwynhau safleoedd niferus Cymru o harddwch naturiol eithriadol, sydd gyda ni drwy gydol y flwyddyn. Mae Edwards Coaches, rwy'n gwybod, yn gwneud gwaith gwych yn cael pobl nad oes ganddynt ffordd o deithio i fynd i lefydd ar eu pen eu hunain, ac mae hwnnw'n wasanaeth gwerthfawr iawn sy'n cael ei werthfawrogi gan lawer, yn enwedig pobl hŷn nad ydynt yn dymuno mynd i leoedd yn y car. Ond os awn ni i gyd i Ynys y Barri pan fydd yr haul yn gwenu, y cyfan a gawn yw tagfa draffig. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cefnogi pobl fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i sicrhau ein bod yn annog pobl i fynd i'r lleoedd llai cyfarwydd ac nad yw pawb yn ceisio mynd i fyny'r Wyddfa, ac rydym wedi gweld rhai o'r golygfeydd gwarthus a ddigwyddodd dros y Pasg y llynedd.
Felly, o ystyried yr anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni, hoffwn holi pa fenthyciadau sydd ar gael i ehangu'r capasiti i ddarparu llety ar gyfer pobl yng Nghymru, o ystyried bod ceisio archebu gwely a brecwast neu westy y tu hwnt i'r hyn sy'n bosibl i'r rhan fwyaf o bobl, pa fenthyciadau a allai fod ar gael. Er enghraifft, i ffermwyr a allai fod eisiau adeiladu toiledau a chawodydd i'w galluogi i gynnig darpariaethau gwersylla i deuluoedd sy'n byw yn ein dinasoedd, neu fusnesau eraill a allai fod eisiau ehangu eu darpariaeth garafanio ac sydd angen sicrhau ei bod yn bodloni gofynion y cyfyngiadau iechyd y cyhoedd. Felly, rwy'n credu ei bod yn ddadl bwysig iawn, ond rwy'n meddwl bod gwir angen inni sylweddoli bod gwyliau'n rhan mor bwysig o lesiant pobl, ac i chwarter ein teuluoedd yn ôl pob tebyg, mae'n rhywbeth sydd y tu hwnt i'w cyrraedd yn llwyr.
Diolch am gyflwyno'r ddadl heddiw, Mr Hefin David. Fel y gwyddom i gyd, ac fel sydd wedi'i amlinellu eisoes, mae'r diwydiant twristiaeth yn hanfodol i ffyniant economaidd Cymru. I mi yng ngogledd Cymru ac i'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, mae'n cyflogi tua 40,000 o bobl, yn cyfrannu tua £3.5 biliwn y flwyddyn i'r economi leol ac fel y cyfryw, mae'r ffocws trawsbleidiol a'r gefnogaeth i'r sector yma y prynhawn yma i'w groesawu'n fawr.
Mae'n werth ystyried nad yw'r pwysau yn y sector hwn yn sgil y pandemig COVID-19 wedi diflannu a'i fod yno o hyd. Hynny yw, yr adeg hon y llynedd roedd pwysau gwirioneddol yn y sector. Ac rydym yn sôn am bron i 100 y cant o fusnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch yn gorfod cau am gyfnod estynedig, gydag oddeutu 80 y cant o staff wedi eu gosod ar ffyrlo. Felly, er ei fod wedi'i grybwyll, daw'r pethau cadarnhaol ynghylch gweld ffyniant yma yr haf hwn ar ôl cyfnod anodd tu hwnt i'r sector, ac ni ellir diystyru hynny ar chwarae bach. Ac fel y dywed y cynnig, dyma'r adeg i Lywodraeth Cymru weithio gyda chynrychiolwyr o'r gymuned fusnesau bach a thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth drwy gydol y flwyddyn. Oherwydd mae gwyliau tramor, fel y gwyddom, yn aneglur ar hyn o bryd ac nid yw'n hawdd ei wneud, mae'n debyg. Mae'n gyfle mawr yn awr i wneud Cymru'n gyrchfan, ac fel y gwyddom, pan ewch chi i rywle ar wyliau, rydych yn debygol iawn o ddychwelyd yno. Felly, mae denu cynulleidfa newydd, grŵp newydd o gwsmeriaid i Gymru, yn gyfle enfawr dros yr haf hwn a'r blynyddoedd i ddod.
Ar y pwynt ynglŷn â bod yn gyrchfan twristiaeth drwy gydol y flwyddyn—a diolch i'r Aelod am gynnwys hwnnw yn y cynnig heddiw—oherwydd credaf mai dyna un o'r pethau strategol allweddol y dylid ei archwilio gan mai dyna sy'n mynd i wneud y sector a'r diwydiant yn fwy cynaliadwy ledled Cymru. Ac yn wir, mae'r Aelodau wedi manteisio ar y cyfle i sôn am rai o'r busnesau twristiaeth yn eu hardal, ac fe soniaf am un neu ddau yr euthum iddynt yn ddiweddar. Roedd yn dda iawn gweld distyllfa wisgi Penderyn yn agor yn Llandudno, ac rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau'n gwerthfawrogi ymweliad â hi o bryd i'w gilydd, ond atyniad dan do mewn cyrchfan glan môr yw hwnnw, sy'n atyniad i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn mewn gwirionedd. Yn yr un modd, Surf Snowdonia neu Barc Antur Eryri yn nyffryn Conwy—cefais y fraint o agor eu gwesty newydd yno, gwesty Hilton, ochr yn ochr â'u gweithgareddau adrenalin dan do. Mae'n brofiad drwy gydol y flwyddyn a fydd yn gwneud y busnes hwnnw a'r sector cyfan yn fwy cynaliadwy. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt allweddol iawn a gyflwynwyd gan yr Aelod heddiw, ac rwy'n croesawu ac yn gwerthfawrogi cefnogaeth y Llywodraeth i'r busnesau hynny hefyd.
Y rhan arall sy'n werth ei nodi—ac rwy'n sicr yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru iddi, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU—yw gwaith ar y bwrdd uchelgais economaidd yng ngogledd Cymru, oherwydd, o'i fewn, er enghraifft, cynigir adeiladu academi dwristiaeth. Mae'r sgiliau sydd eu hangen yn y sector twristiaeth yn bwysig iawn, oherwydd, os gallwn uwchsgilio'r sector hwnnw, byddwn yn creu gwell swyddi ac atyniadau twristiaeth o ansawdd gwell, sydd wedyn, yn eu tro, yn creu economi gryfach ar gyfer y sector hwnnw. Felly, rwy'n credu mai dyna'r ddau faes strategol mawr y byddwn yn gofyn i'r Aelod, eu rhoi o dan yr adran strategol, wrth iddo fynd ati fel lladd nadroedd i wneud nodiadau.
O dan y meysydd uniongyrchol, nid wyf yn mynd i roi sylwadau ar dreth dwristiaeth, oherwydd rwy'n siŵr eich bod yn eithaf clir ynglŷn â'r safbwynt ar yr ochr hon i'r Siambr, ond rwy'n credu bod tri phwynt cyflym yr hoffwn eu gwneud a fyddai'n cael effaith uniongyrchol ar y sector. Y cyntaf yw cynllun clir iawn drwy'r haf a thu hwnt i'r busnesau hynny, oherwydd maent angen cynllunio cyn belled ag y bo modd i'r dyfodol. Yr ail yw adolygiad o'r mesurau cadw pellter cymdeithasol, oherwydd mewn gwirionedd mae'r rheoliad penodol hwnnw yng Nghymru yn gwneud pethau'n llai cystadleuol o gymharu â gwledydd eraill o fewn y Deyrnas Unedig. A'r trydydd yw bod angen dybryd am gymorth i recriwtio i'r diwydiant ar hyn o bryd. Mae llawer o'r busnesau hynny'n ei chael hi'n anodd recriwtio staff, ac os oes camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi hynny, byddai hynny i'w groesawu.
Felly, i gloi, mae'n sector hollbwysig i ni yma yng Nghymru. Rwy'n falch iawn, wrth gwrs—hysbyseb cyflym yma—i gynnal cyfarfod cyntaf y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth yfory. Felly, yr holl Aelodau hynny, rwy'n siŵr ei fod yn eich dyddiadur; edrychaf ymlaen at eich gweld yno brynhawn yfory. Mae cyfleoedd enfawr inni fanteisio arnynt dros y misoedd nesaf i gefnogi'r sector twristiaeth, i weld twf, ond hefyd i weld twf cynaliadwy hefyd drwy'r pethau strategol allweddol y soniais amdanynt yn ogystal. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Hefin David am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r Senedd heddiw? A gwn fod nifer o Aelodau wedi'i defnyddio i dynnu sylw at gyrchfannau twristiaeth gwych yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau; fe fyddwch yn falch o wybod na fyddaf yn gwneud hynny. Nid wyf am sôn am lan y môr Aberafan mewn ymgais i ennill ffafriaeth y Dirprwy Lywydd yn fy rhanbarth. [Chwerthin.] Ni fyddwn yn breuddwydio gwneud hynny.
Y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yn benodol yw un o'r sectorau sydd wedi dioddef waethaf ers i'r pandemig daro, a hoffwn groesawu'r lefelau digynsail o gefnogaeth a roddwyd i'r diwydiant gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Gellid dadlau mai twristiaeth a lletygarwch yw'r sectorau yn ein heconomi sydd wedi dioddef fwyaf dros y 18 mis diwethaf, drwy wahaniaethau difrifol neu'r addasiadau a osodwyd ar y sector, neu drwy gael eu gorfodi i gau'n gyfan gwbl. Mae'r ffaith bod rhai ohonynt yn dal i sefyll a gweithredu heddiw yn dyst i wydnwch y perchnogion busnesau bach hynny, eu staff a'r sector cyfan, ac fel y trafodwyd eisoes, gwyddom pa mor bwysig yw'r sector lletygarwch i economi Cymru.
Cyn y pandemig, cyflogai'r sector oddeutu 174,000 o bobl, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ac ychwanegai oddeutu £3.6 biliwn at werth ychwanegol gros Cymru. Mae hyn yn gwneud lletygarwch yn un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 10 y cant o'r gweithlu cenedlaethol. Gwyddom hefyd fod hwn yn sector sydd wedi elwa'n anghymesur o gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU. Ond tynnodd baromedr twristiaeth diweddaraf Cymru sylw at y newyddion calonogol fod tua 69 y cant o weithredwyr mewn rhyw ffordd yn hyderus y gallant redeg eu busnes yn broffidiol am weddill y flwyddyn, ond nid yw'r hyder hwnnw'n gyson ar draws y sector. Felly, er bod yr economi'n dechrau ailagor, mae rhai busnesau'n dal i gael trafferth o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus. Er enghraifft, mae'r mwyafrif—62 y cant—o fusnesau yn y sector twristiaeth yn gweithredu ar lai na chapasiti llawn, maent wedi cael llai o ymwelwyr nag arfer, ac er bod gan oddeutu 40 y cant o'r busnesau a oedd wedi derbyn archebion ymlaen llaw i mewn i 2021 fwy na'r arfer ar yr adeg hon o'r flwyddyn, nid yw'r addewid hwnnw wedi ei rannu ym mhob sector. Felly, yn y sector llety â gwasanaeth, dim ond 60 y cant o'r capasiti sydd ar gael sydd wedi'i archebu, o'i gymharu â 90 y cant yn y sector hunanarlwyo.
Felly, yn fwy nag unrhyw haf arall, yr haf hwn a ddylai fod yn haf i fynd ar wyliau yn y DU ac yng Nghymru, ac er fy mod yn rhannu optimistiaeth Hefin David ar gyfer y sector yn 2021, mae'n haf o gyfle a heriau i'r sector, oherwydd mae yna sectorau sy'n dal i gael trafferth gyda niferoedd ymwelwyr. Roedd tafarndai a chaffis yn gweithredu gyda 63 y cant yn llai o ymwelwyr nag arfer yn ystod hanner tymor mis Mai, ac roedd darparwyr gweithgareddau yn gweithredu ar 82 y cant yn llai o ymwelwyr nag arfer.
Mae'r pandemig wedi pwysleisio ymhellach y ddibyniaeth ar dwristiaeth a'r sector lletygarwch yn ogystal â busnesau bach eraill i gefnogi swyddi ac economïau lleol yng nghymunedau Cymru. Fodd bynnag, mae llawer o'r swyddi hyn yn parhau i fod mewn perygl, er bod yr economi'n dechrau ailagor. Canfu ymchwil a wnaed gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith fod bron i un o bob pum swydd yng Nghymru mewn sectorau a gaewyd, sef, yn fwyaf aml, teithio, twristiaeth, lletygarwch a manwerthu nad yw'n hanfodol, sef y rhai y mae cyfyngiadau COVID-19 wedi effeithio fwyaf arnynt. Yn ôl Banc Datblygu Cymru, roedd tua 21 y cant o BBaChau yng Nghymru wedi cau neu oedi masnachu dros dro yn ystod y pandemig, gyda'r rhan fwyaf o'r rhain, unwaith eto, yn y sector hamdden a lletygarwch, ac nid oedd gan draean o BBaChau unrhyw gronfeydd arian wrth gefn, neu lif arian ar ôl ar gyfer mwy na thri mis.
Felly, gyda hyn i gyd mewn golwg, erys y cwestiwn: beth y gallwn ei wneud i gefnogi'r sector sydd mor hanfodol i economi Cymru fel y gwyddom, ond sydd hefyd wedi wynebu aflonyddwch sylweddol ar yr un pryd? Er bod grantiau a phecynnau cymorth y Llywodraeth gan y ddwy Lywodraeth wedi cael croeso mawr iawn, nid yw'r rhan fwyaf o fusnesau yn y maes hwn rwyf wedi siarad â hwy eisiau dibynnu ar y grantiau hyn am byth. Felly, un o'r pethau y gallai Llywodraeth Cymru ei ystyried yn ei hadolygiad nesaf yw gweld a oes lle ganddynt i allu edrych ar ostwng y gofyniad i gadw pellter cymdeithasol o 2m i'r rheol 1m a mwy, fel sy'n digwydd eisoes yn Lloegr a'r Alban. Mae'n debyg y byddai hyn yn mynd ymhellach nag unrhyw fesurau ariannol a gynigir i fusnesau ac yn caniatáu iddynt allu gweithredu'n ddiogel, ond hefyd mor agos at normalrwydd â phosibl. Oherwydd, wrth i'n hymgyrch frechu yng Nghymru a ledled y DU barhau, mae angen inni ofyn i ni'n hunain, 'Wel, os nad nawr, pryd?' Byddai newid bach fel hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i sector sydd wedi cael trafferth dros y 18 mis diwethaf.
Er fy mod yn ymwybodol fod diwydiannau eraill wedi'u heffeithio gan y pandemig COVID, twristiaeth a lletygarwch yn aml yw'r rhai sydd wedi gweld yr effeithiau mwyaf difrifol, ac rwy'n gobeithio bod cynllun adfer allweddol ar gael i helpu'r diwydiant i ffynnu, nid yn unig yr haf hwn, ond yn 2022 a thu hwnt.
Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ac am y cyfle i ymateb, a diolch i Hefin David am gyflwyno'r pwnc heddiw, a chredaf y dylai deimlo'n falch ac yn gadarnhaol y bydd y Llywodraeth yn pleidleisio o blaid y cynnig. [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod. [Chwerthin.]
Ers dechrau'r pandemig, ein nod o'r cychwyn oedd cefnogi unigolion, busnesau a chymunedau, ac mae hynny wedi llywio ein hymateb i'r argyfwng, ond hefyd ein dull o adfer yr economi. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod rôl sylfaenol busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru a'r economi sylfaenol a'i heffaith ar lesiant y genedl ymhell cyn argyfwng COVID. Mae rhannau helaeth o'r sector hwn na ellid eu cau, gan eu bod yn darparu seilwaith i fywyd bob dydd ac yn diwallu anghenion hanfodol aelwydydd o ddydd i ddydd.
Mae'r rhaglen lywodraethu newydd yn ein hymrwymo i adeiladu ar ein dull o wella a chefnogi'r economi sylfaenol, felly byddwn yn parhau i ddarparu cymorth i fusnesau drwy Busnes Cymru ac i ddatblygu cronfa cefnogi cwmnïau lleol i helpu i gefnogi busnesau lleol, ac i weld hynny'n cael ei gyflawni mewn gwahanol feysydd o weithgarwch y Llywodraeth—yn enwedig y ffordd y ceisiwn gyflawni gwariant caffael.
Nawr, rwyf bob amser wedi deall bod busnesau bach a chanolig eu maint yn sector eithriadol o bwysig yn economi Cymru, ac rwy'n cydnabod sylw rheolaidd Hefin David na ddylem gyfeirio atynt fel anadl einioes economi Cymru, a'r ffigurau y mae wedi'u dyfynnu'n rheolaidd dros gyfnod o amser, a bydd yr Aelodau mwy newydd yn dod i arfer â hynny. Ond nid o ran eu nifer yn unig y maent yn bwysig, maent hefyd yn hanfodol i'r ffordd y mae ein heconomi a'n cymunedau lleol yn gweithredu, a dylwn ddweud bod llawer o sgwrsio yma wedi bod am fusnesau bach a chanolig mewn pentrefi a threfi. Mae hynny'n bwysig, ond gallaf ddweud, fel rhywun sy'n cynrychioli rhan fawr o'r brifddinas, maent yn rhan hynod bwysig o fywyd ein dinasoedd hefyd. Mae'n rhan berthnasol o fywyd bob dydd.
Nawr, rydym wedi siarad yn rheolaidd am y ffaith bod Llywodraeth Cymru, ers dechrau'r pandemig, wedi darparu mwy na £2.5 biliwn o gymorth i fusnesau, ac mae hynny wedi'i gynllunio'n fwriadol i ategu'r gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Gyda'r gefnogaeth honno, rydym wedi gallu diogelu cannoedd o filoedd o swyddi ar draws ein heconomi, ac rwy'n falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud dros gyfnod datganoli, ond yn enwedig pan fyddwn wedi cael ein profi'n fwy nag ar unrhyw adeg arall o'r blaen dros y 18 mis diwethaf.
Nawr, wrth inni edrych tuag at adferiad economaidd, rhaid inni ystyried yn awr sut rydym yn gwneud ein gwasanaethau, gan gynnwys y cymorth a ddarparwn drwy Busnes Cymru, yn fwy effeithiol ac wedi'u teilwra'n well i anghenion cwmnïau a busnesau ar hyd a lled Cymru. Ac yn sicr mae angen inni wneud yn siŵr fod ein busnesau'n barod ac wedi eu cefnogi wrth inni barhau ar y daith o fod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd a chefnu ar y pandemig COVID. Mae angen edrych yn arbennig ar fusnesau, gan gynnwys busnesau bach a chanolig eu maint, sy'n mewnforio ac yn allforio a sut rydym yn eu cefnogi gyda'r heriau gwirioneddol sy'n codi o'r gwrthdaro mewn masnach a gyflwynwyd bellach.
Mae ein perthynas â'r gymuned fusnes drwy gydol y pandemig wedi bod yn allweddol, ynghyd ag undebau llafur, a'r ddarpariaeth o bartneriaeth gymdeithasol gref. Ac rwy'n falch o'r ffaith y byddwn yn adeiladu ar hynny, wrth symud ymlaen, o fewn y tymor hwn. Ac fel fy rhagflaenydd, rwy'n gwerthfawrogi'r cyfle i ymgysylltu'n rheolaidd â'n partneriaid cymdeithasol, ac rydym yn gwrando ar y pryderon ac yn rhannu meddylfryd cynnar Llywodraeth Cymru. Rydym yn clywed o bryd i'w gilydd nad yw pobl yn cael gwrandawiad neu eu bod yn cael eu hanwybyddu, ac eto rydym yn cysylltu ac yn ymgysylltu'n rheolaidd â grwpiau cynrychioliadol o fewn y sectorau hynny. Ond wrth gwrs, mae hynny'n golygu na allwn siarad â phob busnes unigol. Ond pan fyddaf yn siarad â sefydliadau busnes, maent hwy eu hunain yn dweud nad yw'r berthynas â'r Llywodraeth a phartneriaid ehangach erioed wedi bod cystal, oherwydd y ffordd y mae'r pandemig wedi ein gorfodi at ein gilydd. Nawr, credaf fod hynny, ynghyd ag agenda gwaith teg rhagweithiol y Llywodraeth hon, yn dangos pa mor bell o flaen y gweddill rydym ni yn ein meddylfryd partneriaeth.
Nawr, mae'n amlwg fod llawer o'r ddadl hon wedi canolbwyntio ar fusnesau twristiaeth a lletygarwch a'r rôl y maent yn ei chwarae yn ein darlun economaidd presennol ac yn y dyfodol. Ac nid ydym yn bychanu pa mor heriol y bu'r pandemig i'r sector hwn a sut y mae'n parhau i fod yn her wirioneddol, hyd yn oed yn awr. Dyna pam y mae dros £54 miliwn o gymorth wedi'i ddarparu hyd yma i helpu cwmnïau i oroesi. Dyna pam yn ogystal, gyda chymorth y sector, y mae Llywodraeth Cymru, gyda Croeso Cymru, wedi datblygu cynllun adfer twristiaeth a lletygarwch.
Nawr, rwy'n cydnabod bod llawer o bobl, fel y dywedwyd heddiw, yn edrych ymlaen at wyliau ar ôl y flwyddyn ddiwethaf ac—o gofio'r hyn y mae Jenny Rathbone wedi'i ddweud—mae llawer o bobl yn methu fforddio mynd ar wyliau. Gyda'r ansicrwydd parhaus y soniwyd amdano mewn perthynas â theithio tramor, rydym wedi dweud ac wedi gwneud yn glir mai dyma'r flwyddyn i gael gwyliau gartref a mwynhau'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig—ar yr arfordir, yn y wlad ac yn ein trefi a'n dinasoedd hefyd.
Nawr, rydym yn cydnabod ac rydym wedi siarad yn aml am y gofal sydd ei angen o hyd gydag amrywiolyn Delta er gwaethaf ein rhaglen frechu lwyddiannus, ond rydym bellach wedi symud oddi wrth yr hyn roeddem yn sôn amdano o'r blaen, am 'Hwyl fawr. Am y tro.'; bellach mae gennym ddull rhagweithiol o fod eisiau i bobl ddod ar wyliau yng Nghymru, ond i wneud hynny'n ddiogel. Dyna pam ein bod wedi gofyn i bobl gymryd rhan yn ymgyrch Addo, i fod yn dwristiaid cyfrifol mewn unrhyw ran o Gymru y maent yn ymweld â hi. A byddwn yn annog pobl unwaith eto i gefnogi busnesau lleol sydd wedi cael eu taro'n galed gan y pandemig ac i feddwl am y dewisiadau y mae pob un ohonom yn eu gwneud.
Nawr, unwaith eto, clywsom gan lawer o bobl yn y ddadl hon am y cyfan sydd gan Gymru i'w gynnig, ac rwy'n croesawu'r hyn a oedd gan Hefin David i'w ddweud wrth geisio cystadlu ag ymdrech flaenorol Huw Irranca i sôn am lawer o wahanol weithredwyr yn ei etholaeth ac ar draws bwrdeistref sirol ehangach Caerffili. Ac rwyf hefyd yn cydnabod y ffaith bod llawer o atyniadau ar agor o fewn trefi a dinasoedd hefyd. A rhoddodd Jenny Rathbone enghreifftiau o rai o'r rheini o fewn y brifddinas. Rwyf hefyd yn cydnabod yr her o weld pobl y tu allan i'r cyffiniau lle maent yn byw. Mae'n rhywbeth rwy'n ei gydnabod fel Aelod etholaeth. Pan af i ddwyrain Caerdydd, rwy'n cwrdd â llawer o deuluoedd nad ydynt yn dod i ganol Caerdydd neu'n wir, i Fae Caerdydd ac felly nid ydynt yn manteisio ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig yn lleol.
Er hynny, rwyf wedi cael y pleser yn y swydd hon o ymweld ag amrywiaeth o atyniadau, gan gynnwys Zip World—efallai eich bod wedi gweld y lluniau—ond hefyd yn y gwyliau a gefais yn barod eleni ar benrhyn Llŷn a'r llynedd pan euthum i Gricieth hefyd. Nawr, mae'n dangos o ddifrif fod yna atyniadau i ymwelwyr sy'n agored ac yn ddiogel—perchnogion cyfrifol, ond mae angen i ni fod yn gyfrifol hefyd yn y ffordd rydym yn eu defnyddio.
Nawr, rwyf am ganolbwyntio ar y daith ailadeiladu honno, a dyna pam ein bod yn datblygu'r cynllun adfer ar gyfer y dyfodol yn 'Dewch i Lunio'r Dyfodol', a gyhoeddwyd ym mis Mawrth. Mae llawer o'r ymyriadau a drafodir yn y cynllun eisoes yn cael eu cyflawni, ond wrth gwrs rwy'n ymwybodol fod newid gwirioneddol wedi bod hyd yn oed ers hynny. Ond rydym yn glir iawn, fel y noda'r cynnig, ynglŷn â thri pheth: natur dymhorol y cynnig—y cynnig drwy gydol y flwyddyn—a chynyddu gwariant pobl sy'n dod i Gymru, ond hefyd ehangder yr hyn sy'n cael ei gynnig. Ac mae'r cynllun hwnnw'n cael ei adolygu i sicrhau ei fod yn parhau i gyd-fynd â'r rhaglen lywodraethu newydd.
A bydd hynny'n cynnwys bwrw ymlaen â chynigion y rhaglen lywodraethu a'r ymrwymiadau maniffesto i archwilio ardoll dwristiaeth. Bydd ymgynghoriad arni i ddeall sut y gellid ei defnyddio'n hyblyg i gefnogi buddsoddiad gan awdurdodau lleol yn eu seilwaith twristiaeth lleol.
Dylwn ddweud wrth orffen fy mod yn ddiolchgar iawn am gyfraniadau amhrisiadwy ein rhanddeiliaid allweddol yn y sector ehangach a helpodd i lunio'r cynllun adfer pwysig hwn wrth symud ymlaen, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda hwy. Ein huchelgais o hyd yw creu economi sy'n gweithio i bawb, wedi'i gwreiddio yn ein gwerthoedd sy'n seiliedig ar newid blaengar, er mwyn symud ymlaen mewn ysbryd o gydweithrediad a'n budd cyffredin.
Nid oes unrhyw rai o'r Aelodau wedi dweud eu bod yn dymuno siarad, felly galwaf ar Hefin David i ymateb i'r ddadl.
Mae'n dda fy mod yn adnabod y Gweinidog yn ddigon da i beidio â chael fy nhramgwyddo gan beth o'r pryfocio a wnaeth yn ei araith. Dof at y pethau a ddywedodd mewn eiliad, ond roeddwn am wneud sylw am gyfraniad Delyth Jewell, oherwydd rwy'n credu ein bod wedi cael ein geni yn yr un ysbyty, wedi mynd i'r ysgol yn yr un dref ac rwy'n byw yn awr yn y man lle cafodd hi ei magu, a hefyd, efallai eich bod wedi sylwi, fe wnaethom ymladd am yr un sedd yn etholiad y Senedd. Felly, gallwch ddeall pam fod gennym yr un farn ar dwristiaeth yn ein cymuned yma mewn perthynas â Dwyrain De Cymru—Dwyrain De Cymru, ond Caerffili hefyd—ac fe siaradodd am golli 80 y cant o refeniw arferol yn ystod y pandemig. Y pryder sydd gennyf, rwy'n meddwl, gan adlewyrchu'r hyn a ddywedais, yw bod perygl fod y gost honno'n cael ei throsglwyddo i'r defnyddiwr yn y cyfnod uniongyrchol i ddod ac y gallai hynny gael effaith andwyol pan soniwn am ddarpariaeth trwy gydol y flwyddyn. Felly, mae hwnnw'n bryder. Ac nid wyf yn beio neb, gyda llaw; mae'n fecanwaith marchnad naturiol y byddech yn disgwyl iddo ddigwydd, ac fel democrat cymdeithasol, rwy'n credu y byddwn yn disgwyl i'r Llywodraeth ymyrryd pan nad yw'r mecanwaith marchnad hwnnw'n gweithio, a chredaf mai dyna'r her. Nid wyf yn credu bod y Gweinidog wedi cyrraedd hynny'n llwyr yn ei araith, ond credaf mai dyna'r her, y gallem weld canlyniad niweidiol yn hydref 2021 a 2022, a chredaf fod Delyth Jewell wedi cydnabod hynny.
Wedyn, os dof at y datganiadau a wnaed gan y tri Cheidwadwr, Paul Davies, Sam Rowlands a Tom Giffard, roedd yn dda iawn clywed, a byddwn yn dweud wrth Sam a Tom hefyd pa mor rhagorol yw'r cyfraniadau rydych yn eu gwneud fel Aelodau newydd, a gwn o brofiad pa mor anodd yw hi, yn enwedig y tro cyntaf, i godi a siarad. Mae'n dod yn haws gydag amser, ond gallaf weld eich bod wedi cael hwyl arni.
Un o'r pethau nad wyf yn credu y cafodd ei ateb gan y Ceidwadwyr, serch hynny, oedd pam y mae'r gwrthwynebiad i ardoll dwristiaeth mor gryf. Felly, dywedodd Paul Davies yn ei gyfraniad ei fod yn credu y gallai gael effaith ddinistriol, ond nid wyf yn credu iddo egluro pam, oherwydd ceir modelau ym mhob rhan o'r byd lle mae ardoll dwristiaeth yn gweithio, a chredaf fod y Llywodraeth a byddwn yn dweud bod ymateb y Gweinidog yn weddol ysgafn—rwy'n credu y byddai'n cytuno ei hun—yn eithaf ysgafn yn ei ymateb, ac efallai mai'r rheswm am hynny oedd i chi ddweud bod ymgynghoriad yn mynd rhagddo ac fe gaiff ei gyflwyno mewn modd hyblyg. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n dal i gael ei lunio, ac rwy'n tybio felly fod pont i'w hadeiladu o hyd rhwng gwrthwynebiad llwyr a'i gyflwyno, a hoffwn weld sut yr adeiladir y bont honno a datrys yr anghytundeb.
Ac i ddod at sylwadau Sam Rowlands. Dywedodd dri pheth: cynllun ar gyfer yr haf—rwy'n deall hynny'n iawn; adolygu mesurau cadw pellter cymdeithasol, a chefnogi recriwtio. Efallai un diwrnod y clywn ychydig mwy, yn fuan, am gefnogi recriwtio, ond yn enwedig am adolygu mesurau cadw pellter cymdeithasol, fe dynnais sylw yn fy araith at y gwrth-ganlyniadau posibl nad ydym wedi'u deall yn iawn eto, os cewch wared yn llwyr ar fesurau cadw pellter cymdeithasol yn gyfan gwbl heb fod pobl yn teimlo'n ddiogel yn y lleoliadau hynny, maent yr un mor debygol o gadw oddi yno. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddod o hyd i gydbwysedd yno rhwng y cyngor clinigol a diogelwch a'r sefyllfa economaidd a byw gyda COVID. Ac fe fyddaf yn onest gyda chi, nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU wedi gwneud pethau'n iawn, a bydd Llywodraeth Cymru yn darganfod yr wythnos nesaf a ydynt yn gwneud pethau'n iawn ai peidio, a chredaf fod y cyhoeddiad ddydd Mercher nesaf yn bwysig.
A Jenny Rathbone, roedd eich cyfraniad yn deimladwy iawn mewn gwirionedd. Pan soniwch am deuluoedd—chwarter y teuluoedd, rwy'n credu ichi ddweud—nid yw eu chwarter yn gallu fforddio gwyliau mewn cyrchfannau, a hynny oherwydd bod y lleoliadau mor ddrud, ond hefyd oherwydd trafnidiaeth gyhoeddus, a hefyd am fod tlodi'n caethiwo pobl yn eu cymunedau. Rwy'n credu ei bod hefyd yn broblem ddiwylliannol a chymdeithasol, nad ydych yn edrych y tu hwnt i'ch cymunedau. Rwyf wedi'i weld fy hun, nad ydych yn edrych y tu hwnt i'ch cymunedau a'ch bod yn treulio eich holl amser bron yn eich cymuned. Credaf y byddai'n rhyddhad seicolegol gwych i allu nodi'r pethau hynny sy'n gymharol hawdd i'w cyrraedd a gallu ymweld â hwy, ond hefyd y syniad o gefnogi amrywio a darparu lleoliadau cost isel i bobl a fyddai'n gallu eu fforddio felly—byddai hwnnw'n syniad da iawn. Byddai Bluestone yn rhy ddrud i'r bobl rydych chi'n sôn amdanynt, ond mae cyfleoedd i ddatblygu fersiynau cost is nad ydynt wedi'u datblygu eto. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Un o'r pethau rwyf wedi sylwi arnynt yw mai dim ond mynd ar Facebook sydd angen ichi ei wneud a gallwch weld pobl yn fy nghymuned yn defnyddio'r gymuned o'r newydd, a'r pethau sydd i'w cael am ddim o gwmpas y lle: parc gwledig Penallta, ymweld â Llancaiach Fawr—mae'n anhygoel, Llancaiach Fawr, gyda llaw, mae'n werth ymweld â'r lle—ac mae cyfleoedd yno i wneud hynny.
Felly, credaf fod rhaniadau clir yn y Siambr, yn enwedig ar y dreth dwristiaeth ac ar lacio mesurau cadw pellter cymdeithasol. Credaf fod gan y Llywodraeth fwy i'w ddweud o hyd, mi gredaf, am 2021, hydref 2021 a 2022. Rwy'n dal i gredu bod mwy i'w ddweud, a chredaf fod y Llywodraeth yn dal i weithio ar yr ateb i rai o'r ymatebion tenau a roddodd y Gweinidog, ac yn enwedig gyda'r ardoll dwristiaeth. Ond serch hynny, gadewch inni ddefnyddio hyn fel cyfle cadarnhaol yn awr i geisio dod o hyd i dir cyffredin, a dod o hyd i'r atebion i'r cwestiynau rydym wedi'u codi yn y ddadl hon, gobeithio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych chi'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:36.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:48, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
[Anghlywadwy.]—rhwydwaith ffyrdd yw'r ddadl honno. Dwi'n galw ar Natasha Asghar i gyflwyno'r cynnig. Natasha Asghar.
Cynnig NDM7748 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at:
a) methiant llywodraethau olynol Cymru i fynd i'r afael â phroblemau gyda thagfeydd a llygredd aer ar y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru;
b) dosbarthiad annheg buddsoddiad cyfalaf yn y rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru;
c) y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael a thoriadau mewn gwasanaethau bysiau, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.
2. Yn nodi â phryder penderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi pob cynllun gwella ffyrdd newydd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) adeiladu ffordd liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 a'r A470, a deuoli'r A40 i Abergwaun;
b) cael gwared ar gynigion i alluogi cyflwyno prisio ffyrdd yng Nghymru;
c) gwella mynediad i seilwaith gwefru cerbydau trydan yn sylweddol;
d) gweithio gyda gweithredwyr bysiau a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn ymarferol i bobl ym mhob rhan o'r wlad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Yn y ffilm Back to the Future, mae Doc Brown yn dweud wrth Marty McFly, 'Ffyrdd? Ni fyddwn angen ffyrdd lle rydym ni'n mynd.' Wrth wrando ar y geiriau hynny, gallai'n hawdd fod wedi bod yn siarad am Gymru heddiw. Mae'n ffaith drist eu bod yn adlewyrchu agwedd Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, mae angen ffyrdd ar Gymru o hyd i weithredu ar gyfer cymudo a chludo nwyddau. Yn y pen draw, mae economi Cymru yn dal i ddibynnu'n fawr ar ffyrdd.
Fel yr adroddodd y Ffederasiwn Busnesau Bach yn 2019, dywedodd 86 y cant o'r cwmnïau a holwyd fod buddsoddi mewn seilwaith ffyrdd yn eithaf pwysig neu'n bwysig iawn, a dyma oedd eu blaenoriaeth bwysicaf o ran trafnidiaeth. Fodd bynnag, mae Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi methu mynd i'r afael â phroblem tagfeydd cynyddol yng Nghymru, drwy gyfuniad o ddifaterwch ac anghymhwysedd. Rhwng 2000 a 2019, dim ond 2.8 y cant o gynnydd a welwyd yn y rhwydwaith ffyrdd, er bod cyfaint y traffig ar y ffyrdd wedi cynyddu 29.5 y cant dros yr un cyfnod. Nid oes modd gwadu bod rhai prosiectau seilwaith ffyrdd yn hwyr yn cael eu cwblhau neu wedi mynd dros y gyllideb. Mae eraill, fel ffordd liniaru'r M4, wedi cael eu haddo ac yna eu canslo. Mae eu methiant i fynd i'r afael â thagfeydd cynyddol, yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd gwael, yn effeithio'n fawr ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl Cymru.
Mae gan Gymru beth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Rwyf wedi sôn droeon ers i mi fod yma fod gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau PM10 uwch na naill ai Birmingham neu Fanceinion, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Mae tagfeydd ar ffyrdd Cymru yn ffactor pwysig yn hyn o beth. Nid yn unig fod traffig sy'n stopio ac ailgychwyn yn gollwng mwy o nwyon tŷ gwydr na thraffig sy'n llifo'n rhydd, mae hefyd yn achosi i fwy o lygredd gronynnol gael ei ollwng. Bydd llif cyson o draffig yn lleihau faint o ronynnau a ryddheir gan draul brêcs a theiars, yn ogystal â chyfyngu ar y carbon deuocsid y mae ceir sy'n cyflymu yn ei gynhyrchu.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng newid hinsawdd yn 2019. Fodd bynnag, nid ydynt yn darparu'r seilwaith i sicrhau bod cerbydau trydan yn ddewis amgen dilys yn lle rhai sy'n defnyddio tanwydd ffosil. Mae Cymru ar ei hôl hi i raddau helaeth o gymharu â llawer o'r Deyrnas Unedig mewn perthynas â phwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan. Er bod gan yr Alban 7.5 o bwyntiau gwefru cyflym i bob 100,000 o bobl, dim ond 1.8 i bob 100,000 o bobl sydd gan Gymru. Mae eu methiant i fynd i'r afael â newid hinsawdd wedi arwain at adweithiau difeddwl fel rhewi prosiectau adeiladu ffyrdd yn hytrach na gwella trafnidiaeth gyhoeddus a lleddfu tagfeydd ar ffyrdd Cymru.
Dywedodd yr AS Llafur Mark Tami fod penderfyniad sy'n atal cynlluniau ar gyfer cynllun ffordd newydd yn sir y Fflint yn siomedig iawn. Mae gorfodi pobl allan o geir heb ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol fel dewis arall yn anymarferol. Mae nifer y teithiau bws lleol yng Nghymru wedi gostwng o 100 miliwn y flwyddyn yn 2016-17 i 89 miliwn yn 2019-20. Gan nad oes gan 80 y cant o ddefnyddwyr bysiau gar at eu defnydd, mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru wrthdroi'r duedd hon er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd ac annog cymudwyr i beidio â defnyddio eu ceir yn y pen draw. Ond rhaid gwneud hyn yn iawn ac nid drwy fyw mewn byd delfrydol, gydag arian yn cael ei daflu at rywbeth heb fawr ddim canlyniad, os o gwbl.
Fel y dywedais yn y ddadl ar wasanaethau bysiau bythefnos yn ôl, nid yw'r grant cynnal gwasanaethau bysiau wedi cynyddu yng Nghymru ers ei sefydlu chwe blynedd yn ôl. Mae'r cyllid fesul teithiwr ar gyfer gwasanaethau bysiau yn annigonol ac yn cymharu'n wael â'r hyn a ddarperir ar gyfer teithwyr rheilffyrdd. Mae'n bosibl bod Greta Thunberg wedi croesawu'r ffaith bod prosiectau adeiladu ffyrdd newydd wedi'u rhewi, ac rydym i gyd yn ei hedmygu am ei chredoau a'i hymroddiad cryf i ymgyrchu yn erbyn newid hinsawdd. Rwy'n cydnabod ei bod yn fodel rôl gwych i fenywod a phobl ifanc ac mae ganddi gredoau angerddol, ond rwy'n cynrychioli barn y rhai sy'n byw yng Nghymru, y rhai sy'n gorfod defnyddio ein ffyrdd is-safonol, a'r rheini na allant ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Rydym i gyd wedi gweld yr adroddiadau newyddion, ac rwyf wedi cael negeseuon dirifedi gan bobl ledled Cymru—y gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin—yn mynegi eu dicter a'u siom ynghylch cyhoeddiad y Dirprwy Weinidog. Mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu gwario £75 miliwn ar deithio llesol, bron i £29 miliwn ar drafnidiaeth gyhoeddus a £9 miliwn ar seilwaith gwefru di-allyriadau. Mae hyn i'w ganmol, ond beth am y ffyrdd sydd gennym eisoes yma yn awr? Rhaid inni gael rhaglen o welliannau i'n rhwydwaith ffyrdd ac nid moratoriwm. Pan ddeuthum yn Aelod o'r Senedd hon chwiliais am ddogfen—unrhyw ddogfen—i roi rhyw syniad i mi o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth. Er syndod i mi, ar ôl chwilio ym mhob man a gofyn i nifer o bobl, deuthum o hyd i nifer o adroddiadau gan wahanol bobl a sefydliadau, ond dim byd penodol gan Lywodraeth Cymru am eu cynlluniau hirdymor. Nid oes dim yn ysgrifenedig am uwchraddio'r A55, un o'r ffyrdd pwysicaf yn y Deyrnas Unedig, sydd yno, yn y pen draw, i ddarparu cyswllt hanfodol i boblogaeth gogledd Cymru, a rhwng porthladd prysur Caergybi a ffyrdd prifwythiennol allweddol fel yr M6 a gweddill y Deyrnas Unedig.
Mae angen inni ddeuoli'r A40 i Abergwaun, gan agor y rhanbarth i fuddsoddiad gan fusnesau a chaniatáu mwy o fynediad i dwristiaid. Mae'r A470 yn ddychrynllyd, gydag ond ychydig iawn o leoedd ar gyfer pasio cerbydau arafach. Pe bai hon yn cael ei gwella byddai'n agor canolbarth Cymru ac yn caniatáu ar gyfer cynnydd mewn buddsoddiad yn y rhanbarth, rhywbeth y byddai pawb yn ei groesawu. Pa ystyriaeth a roddwyd i leddfu'r pwysau ar yr M4 drwy adeiladu cyffordd traffordd ar yr M48 lle'r arferai bythau tollau Hafren fod? Yn y pen draw, byddai'r cysylltiad yn lleddfu'r pwysau ar gyffyrdd 23 a 24, gan ddarparu mynediad uniongyrchol i Gyffordd Twnnel Hafren. Pe gallai traffig sy'n mynd i Gaerdydd neu Gasnewydd adael y ffyrdd yng Nghyffordd Twnnel Hafren a bod cymudwyr yn defnyddio'r gwasanaeth trên uniongyrchol i mewn i'r dinasoedd, gallai hyn unwaith eto leihau tagfeydd ar yr M4 yn sylweddol.
Mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi newid ei feddwl ynglŷn â rhewi gwaith adeiladu ffyrdd drwy ganiatáu i brosiect ffordd osgoi Llandeilo barhau. Honnodd y Prif Weinidog, 'Pan fydd y Llywodraeth hon yn dod i gytundeb gyda phlaid arall, byddwn yn ei anrhydeddu'. Fodd bynnag, yng nghytundeb Llafur-Plaid Cymru ar y gyllideb, cytunwyd ar ffigur o £3 miliwn i gefnogi'r gwaith o lunio a datblygu trydedd bont dros y Fenai, ac eto rydym i gyd yma o hyd, ac nid yw'r drydedd bont wedi'i hadeiladu. Mae taer angen adeiladu ar Ynys Môn, fel sawl rhan o Gymru, er mwyn dechrau lleihau tagfeydd. Beth am brosiectau sy'n galw am gytundebau rhwng nifer o randdeiliaid, megis ffordd osgoi Cas-gwent? A yw'r Dirprwy Weinidog yn mynd i ganiatáu i drafodaethau o'r fath i archwilio dichonoldeb y prosiect fynd rhagddynt neu a fyddant hwythau'n ddarostyngedig i'r rhewi hefyd?
Lywydd, mae dros ddau ddegawd o Lywodraethau Llafur wedi methu mynd i'r afael â thagfeydd ar ein ffyrdd, ac mae safonau gwael trafnidiaeth gyhoeddus Cymru yma i bawb eu gweld. O'r hyn a gesglais, nid oes integreiddio na chynllun cadarn ar waith rhwng polisi a chyflawniad Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn amau eu bwriad am un eiliad, ond ni allaf weld y golau ym mhen draw'r twnnel, ac nid oes yr un o'r Gweinidogion wedi fy argyhoeddi fel arall. A dweud y gwir, rwy'n teimlo bod yn well gan Lywodraeth Cymru archwilio trethi ffordd a dirwyon er mwyn datgymell pobl weithgar rhag defnyddio cerbydau preifat. Felly, mae'n bryd cael cyfeiriad newydd, a dyna pam fy mod yn sefyll o'ch blaen chi heddiw i wneud y cynnig. Diolch.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw. Wrth gwrs, yn y rhan o Gymru rwy'n ei chynrychioli, rydym wedi bod yn cael dadl ynghylch y cydbwysedd rhwng ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ers cryn dipyn o amser, mewn perthynas â'r tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd a llawer o ffyrdd eraill yn ogystal. Bellach mae gennym waith comisiwn Burns a'r uned gyflawni ar waith i ddatblygu'r gwelliannau angenrheidiol.
Os gallwn greu system a chynnig trafnidiaeth gyhoeddus well o lawer drwy waith comisiwn Burns, rwy'n credu'n bersonol y byddwn yn lliniaru'r problemau hyn gyda thagfeydd ar y ffyrdd o amgylch Casnewydd. Ni fydd yn hawdd, mae hynny'n sicr—nid yw byth yn hawdd newid ymddygiad a dulliau teithio—ond mae heriau newid hinsawdd a'r amgylchedd yn ei gwneud yn gwbl glir yn fy marn i nad oes dewis arall ond gwneud y newid hwnnw. Bydd gwaith comisiwn Burns yn bwysig i'n galluogi i wneud hynny yn y rhan hon o dde-ddwyrain Cymru.
Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru bellach wedi dileu'r llwybr gwarchodedig ar gyfer ffordd liniaru'r M4, oherwydd rwy'n gwybod bod hynny'n hanfodol i sicrhau'r warchodaeth sydd ei hangen ar wastadeddau Gwent ac ar gyfer datblygu cynaliadwy ar wastadeddau Gwent. Rwy'n falch iawn o gadeirio gweithgor sy'n edrych ar sut rydym yn bwrw ymlaen â datblygu cymunedol, diogelu'r amgylchedd a bioamrywiaeth ar y gwastadeddau hynod werthfawr hynny. Mae gwaith da iawn wedi'i wneud gan y bartneriaeth Gwastadeddau Byw, a bydd hynny'n creu gwaddol ar gyfer y dyfodol. Mae wedi adeiladu sylfaen dda o weithgarwch cymunedol ar y gwastadeddau, gan weithio gyda'r awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a busnesau. Bydd hynny'n ein rhoi mewn sefyllfa dda wrth inni ddatblygu'r gwaith a fydd yn creu gwaddol cynaliadwy a fydd mor bwysig ar gyfer y dyfodol.
Wrth gwrs, nid gwastadeddau Gwent yn unig sy'n hanfodol o ran yr hyn sydd angen inni ei weld er mwyn herio'r niwed a wnaed i'n hinsawdd a'n hamgylchedd. Mae llawer o broblemau lleol wedi dod i'r amlwg mewn perthynas â llygredd aer, ac mae hynny mor allweddol i iechyd y cyhoedd. Unwaith eto, mae angen inni weld newid dulliau teithio os ydym am sicrhau gwelliant gwirioneddol yn ansawdd ein haer ar gyfer iechyd a budd amgylcheddol o amgylch Casnewydd. Dyna pam rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'r cyllid sydd ganddi i deithio llesol, oherwydd mae hynny'n rhan bwysig iawn o'r hafaliad cyffredinol mewn perthynas â gwella ansawdd aer a goresgyn heriau newid dulliau teithio.
Gwn fod sawl agwedd ar bolisi Llywodraeth Cymru yn gyrru i'r cyfeiriad iawn mewn perthynas â hyn. Un agwedd ar hynny yw'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya ar gyfer ein ffyrdd trefol mewnol, oherwydd, unwaith eto, bydd hynny'n ein galluogi i gael traffig oddi ar y ffordd, gwella diogelwch ar y ffyrdd, cael mwy o bobl i feicio a cherdded, ac yn wir, mwy o blant i chwarae y tu allan i'w cartrefi a mwy o bobl oedrannus i gerdded. Gan eu bod yn gallu gwneud hynny'n fwy diogel, mae'n creu mwy o ymgysylltiad cymunedol ac ysbryd cymunedol er budd pawb.
Rwyf o ddifrif eisiau gweld yr uned gyflawni, sydd bellach wedi'i sefydlu o dan gomisiwn Burns, yn bwrw ymlaen â'u hargymhellion gyda gweithredu cynnar da; gweld y buddsoddiad teithio llesol yn cael ei wireddu'n lleol; gweld y terfynau cyflymder 20 mya ar waith cyn gynted â phosibl. Ac os gallwn wneud hynny i gyd, wyddoch chi, a llawer mwy ar ben hynny yn wir, byddwn yn gwneud y math o gynnydd y mae angen inni ei weld yng Nghymru os ydym o ddifrif ynghylch ymateb i heriau newid hinsawdd: mynd i'r afael â llygredd aer; creu amgylchedd gwell; ymdrin â thagfeydd ar ein ffyrdd a galluogi pobl i gyrraedd lle mae angen iddynt fynd yn gyflymach, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon. Diolch yn fawr, Lywydd.
Rwy'n falch o fod yn rhan o'r ddadl hon heddiw. Gwn ei bod yn ddadl nad yw llawer o bobl am inni ei chael o bosibl, yn sicr rhai o'r cyd-Aelodau gyferbyn yn y Siambr, ond mae'n un bwysig. Mae'n debyg y byddaf yn canolbwyntio mwy ar bwynt 2 o'r cynnig, sef penderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi pob cynllun gwella ffyrdd newydd. Rwy'n credu bod ofn mawr fod 'oedi' yn air ffug; 'atal' ydyw mewn gwirionedd, a dyna'r pryder mawr: a fydd rhai o'r pethau hyn yn cael eu hailgychwyn pan gânt eu hasesu ymhellach?
Teimlaf fod y Llywodraeth o bosibl yn gwneud drwg iddi hi ei hun yma drwy dynnu buddsoddiad mewn seilwaith yn y dyfodol yn ôl, buddsoddiad y mae cymaint o'i angen i ategu eu dyheadau eu hunain mewn perthynas â newid hinsawdd. Fel y nododd Natasha, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i ddileu'r seilwaith a fydd yn ein galluogi i newid i ffordd wahanol o deithio yn y dyfodol, gyda mwy o gerbydau trydan a cherbydau tanwydd amgen. Credaf inni glywed sôn hefyd am enghraifft o lle gellir cyfiawnhau buddsoddi mewn ffyrdd newydd—sef ffordd osgoi Cas-gwent. Bydd llawer o bobl yn gwybod mai elfen bryn Hardwick o'r A48, wrth iddi deithio i fyny drwy Gas-gwent, yw un o'r ffyrdd mwyaf llygredig yng Nghymru gyfan erbyn hyn mae'n debyg, ac mae llawer o gerbydau sy'n mynd ar y draffordd o Swydd Gaerloyw yn gyrru ar honno. Mae'n sefyllfa ofnadwy yno a rhaid mynd i'r afael â hi. Byddai buddsoddi mewn ffordd osgoi yn helpu'r agenda werdd mewn gwirionedd, a byddai'n troi Cas-gwent yn lle a allai ddod yn dref werdd. Felly, ni ddylem droi cefn ar brosiectau newydd fel hynny, ac rwy'n falch o'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi yn hynny o beth hyd yma. Peidiwch â gadael i beth o'r meddylfryd hwn atal cynnydd yn y meysydd allweddol hynny.
Yn wir, gallwn ddadlau'r un peth ynglŷn â'r M4. Gwn fod y ddadl honno'n un dreuliedig ym marn llawer o bobl, ond mae'n hollbwysig. Rwyf wedi bod yn teithio arni y rhan fwyaf o wythnosau bellach wrth i mi ddod yma, a hyd yn oed ar derfyn cyflymder o 50 mya, mae'n dal i fod yn eithaf prysur. Rwy'n gweld lefelau traffig yn dychwelyd i lefelau cyn COVID. Yn wir, rwyf hyd yn oed wedi bod yn y twnelau'n symud yn araf ac rwy'n anadlu'r mygdarth yn y twnelau hynny yn fy nghar fy hun. Dyn a ŵyr beth fyddai'n digwydd pe byddem ar stop yn y twnelau hynny. Wyddoch ch, unwaith eto, dyma lle gall seilwaith, buddsoddi mewn seilwaith, alluogi'r pethau hyn i ddigwydd. Mae pawb yn cytuno â'r angen am well gwasanaeth cyhoeddus neu fuddsoddiad mewn teithio llesol. Rwy'n defnyddio beic trydan; byddwn wrth fy modd yn gallu beicio i lawer o leoedd, ond y gwirionedd yw ein bod flynyddoedd i ffwrdd o allu cael dulliau teithio amgen yn lle priffyrdd. Ac yn wir, gallai'r pethau hyn gydfodoli, ond mae'n rhaid inni feddwl yn ofalus iawn sut rydym am symud ymlaen.
Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i feddwl yn ddwys am y negeseuon hynny ynghylch y penderfyniad i oedi'r broses o wella ffyrdd. Mae'n iawn pwyso a mesur, ond peidiwch â rhoi'r gorau i ddarnau pwysig iawn o seilwaith sydd eu hangen i alluogi ein heconomi i anadlu ac i gynnal y boblogaeth sy'n tyfu a'r angen cynyddol am deithio ar draws y sir. Felly, Lywydd, yn sicr, byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw, a hoffwn annog eraill i wneud hynny hefyd. Diolch.
Mae cyffyrddiad o'r Jekyll a Hyde am y cynnig hwn, onid oes? Ar y naill law, cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau ynghylch llygredd aer, yr angen am fwy o fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gwella pwyntiau gwefru cerbydau trydan a gweithio gyda gweithredwyr bysiau—maent i gyd yn faterion pwysig iawn. Yna, mae'n ymddangos bod ail a thrydedd ran y cynnig yn tandorri'r rhan gyntaf, wrth sôn am adeiladu ffordd liniaru'r M4, doed a ddelo. Hyd yn oed wrth i Gymru flaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, cerbydau trydan, bydd angen ffyrdd arnom o hyd, Lywydd, ond pam nad yw'r cynnig yn sôn am lonydd blaenoriaeth? Pam nad yw'n sôn am gynlluniau i addasu ffyrdd ar gyfer bysiau a thramiau a cherbydau trydan ac ar gyfer priffyrdd trydan yn unig? Gallai'r ddadl hon fod wedi sbarduno trafodaeth am ddatganoli treth ffyrdd a tholl ar danwydd, am ddatganoli'r ardoll ar gerbydau nwyddau trwm fel y gallem greu ardoll eco newydd yn ei lle yn seiliedig ar ddefnydd o ffyrdd, opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus lleol ac allyriadau. A pham nad yw'r cynnig yn sôn am barthau allyriadau isel yn ein dinasoedd, gan integreiddio'r rhwydwaith teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, neu'n cynnig syniadau am lonydd beicio mewn ardaloedd cymudo? Gallai'r Ceidwadwyr fod wedi manteisio ar y cyfle hwn i argymell syniadau ar gyfer wynebu argyfyngau'r unfed ganrif ar hugain, yn lle ein llethu gan syniadau o'r ugeinfed ganrif.
Ond mae rhan gyntaf y cynnig, Lywydd, yn codi pryderon hanfodol am lygredd aer—dyna'r hyn rwyf am ganolbwyntio arno. Pan fydd pobl yn siarad am ffyrdd, neu unrhyw brosiect seilwaith mawr, caiff ei wisgo fel arfer mewn iaith am bweru'r dyfodol, y daith i yfory, ond mae ein hobsesiwn cyfunol â choncrit yn golygu mai plant yw'r difrod cyfochrog. Dywedir bod tagfeydd traffig yn tagu prifwythiennau ein gwlad, ond mae hefyd yn tagu ysgyfaint ein plant. Mae'n ein caethiwo mewn dyfodol o fwrllwch a tharmac. Nid anghyfleustra yn unig ydyw, mae'n lladdwr araf. Mae Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn gweithio gyda llawer ohonom ar ymgyrch i gyflwyno Deddf aer glân yng Nghymru. Y rheswm pam ein bod am gael y Ddeddf honno yw bod plant sy'n tyfu i fyny ger y strydoedd mwyaf llygredig bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef am nad yw eu hysgyfaint yn datblygu fel y dylent. Rydym yn byw mewn adeg o bandemig, pan fo feirws anadlol bron â bod wedi dod â'r byd i stop, felly ni ddylem anwybyddu hynny. Gall cysylltiad tymor byr hyd yn oed waethygu cyflyrau fel asthma plentyndod a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae cysylltiad hirdymor â nitrogen deuocsid yn gysylltiedig ag afiachusrwydd anadlol cronig—afiachusrwydd cronig. Nid ydynt yn dermau y dylem fod yn eu lleisio'n ysgafn fel pe baent yn dderbyniol neu'n normal, dylent lenwi pob un ohonom â chywilydd. Credir bod asthma ar bron i 10 y cant o'r holl blant sy'n byw yng Nghymru, ac i bawb sy'n byw o fewn 50m i ffordd fawr, mae'r risg o ddatblygu canser yr ysgyfaint yn cynyddu hyd at 10 y cant.
Mae'n gwaethygu, Lywydd. Mae llygredd aer yr un mor ddrwg i fenywod beichiog ag ysmygu. Mae'n cynyddu'r risg o esgor cynamserol a marw-enedigaeth. Os caiff babi ei eni'n gynamserol, gall olygu pwysau geni isel, ysgyfaint nad ydynt wedi datblygu'n ddigonol a gall arwain at farwolaeth babanod yn fuan ar ôl eu geni. Ac mae astudiaethau'n gweld cysylltiad rhwng mygdarth ceir a chamesgoriad. Mae un astudiaeth yn awgrymu y gall mygdarthau o'r fath gynyddu'r perygl o golli beichiogrwydd 16 y cant. Gadewch i ni beidio â diystyru hynny am fy mod wedi dechrau dyfynnu ffigurau. Mae'r rheini'n fywydau nad ydynt yn dechrau. Drwy fethu gweithredu ar lygredd aer, rydym yn gamblo gyda chyfleoedd bywyd cenedlaethau nad ydynt wedi'u geni eto. Rydym yn condemnio plant i dyfu i fyny gydag ysgyfaint diffygiol heb ddatblygu'n llawn. Dylai'r cynnig hwn fod wedi dod i ben gyda'r cymal cyntaf. Dyna'r sgandal. Mae arnom angen Deddf aer glân i Gymru, nid yn y datganiad deddfwriaethol nesaf, nid ymhen ychydig fisoedd, mae arnom ei hangen yn awr, ac mae arnom ei hangen yn ddybryd.
Gareth Davies. Dyna chi.
A allwch chi fy nghlywed yn awr?
Gallwn. Parhewch.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fel Aelod o'r Senedd hon sy'n cynrychioli etholaeth yng ngogledd Cymru, gwn yn rhy dda am fethiannau ein rhwydwaith trafnidiaeth. Rwy'n defnyddio'r term hwnnw'n llac iawn, oherwydd mae'n fwy o gasgliad o lwybrau na rhwydwaith. Gall fy etholwyr deithio i Fanceinion neu Lundain yn haws ac yn gyflymach nag y gallant gyrraedd eu prifddinas eu hunain i lawr yma yng Nghaerdydd. Deillia hyn o ddiffyg cysylltiadau ffyrdd gweddus, a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy yn ogystal. Disgrifiodd busnesau yn ne Cymru yr M4 o amgylch Casnewydd fel troed ar gorn gwddf economi Cymru. I ni, i fyny yma yng ngogledd Cymru, mae'r A55 yn cael yr un effaith. Ers bron i chwarter canrif, mae Llywodraethau Cymru wedi methu mynd i'r afael â'r problemau, sydd wedi arwain at fwy o dagfeydd traffig. Rydych wedi methu sicrhau y gall pobl deithio o gwmpas Cymru ar gyfer gwaith neu at ddibenion hamdden, ac wedi methu mynd i'r afael â'r diffyg dewisiadau dibynadwy eraill yn lle'r cerbyd preifat. Heb welliannau i'r A55 i hybu capasiti a chynyddu cysylltiadau ar draws y llwybr hwn, bydd fy etholaeth i a gogledd Cymru i gyd yn parhau i gael eu dal yn ôl yn economaidd.
Ac mae'n ofid i mi fod y Llywodraeth hon wedi cefnu ar ffyrdd. Nid awn i'r afael â materion yn ymwneud â'r hinsawdd nac ansawdd aer drwy gael gwared ar welliannau i'r seilwaith. Rwy'n cefnogi safbwynt y seneddwyr Llafur Mark Tami a Jack Sargeant, sydd wedi condemnio'r oedi i'r llwybr coch. Mae'r penderfyniad hwnnw nid yn unig yn effeithio ar Alun a Glannau Dyfrdwy, mae'n effeithio ar bob etholaeth ar hyd coridor yr A55, ac mae'n ychwanegu at y tagfeydd. Mae hynny, yn ei dro, yn ychwanegu at gynnydd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn effeithio'n ddifrifol ar ansawdd aer. Mae traffig sy'n stopio ac ailgychwyn yn gollwng mwy o ddeunydd gronynnol. Hyd nes y bydd gan fy etholwyr ddewis amgen glân a dibynadwy yn lle'r car, byddant yn parhau i ddibynnu ar gerbydau personol i fynd o A i B, ac oni bai eich bod yn bwriadu chwalu pob ffordd, bydd hynny'n golygu bod mwy a mwy ohonynt yn eistedd mewn traffig sy'n stopio ac ailgychwyn. Oni allwn sicrhau y gall ein seilwaith ffyrdd fodloni'r gofynion, bydd ein hansawdd aer a'n hallyriadau yn parhau i ddirywio. Y dewis arall yw trafnidiaeth gyhoeddus orlawn ac annibynadwy. Ni allwch orfodi newid i ddulliau teithio os na cheir trafnidiaeth amgen.
Yr hyn y mae angen inni ei dderbyn yw'r ffaith nad yw'r car yn mynd i ddiflannu, felly rhaid inni wneud y car yn wyrddach. Mae'n anffodus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi methu paratoi i newid i gerbydau di-allyriadau. Mae gennym lai o bwyntiau gwefru trydan ledled Cymru na chynghorau Wandsworth a San Steffan gyda'i gilydd. Dim ond 60 o'n pwyntiau gwefru sy'n bwyntiau gwefru cyflym. Mae gennym record waeth fyth gyda bysiau hydrogen neu drenau trydan. Rydym am i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth gwrs, ac eto yn fy rhan i o'r wlad, mae'r drafnidiaeth honno'n dal i ddefnyddio'r tanwydd ffosil mwyaf brwnt, sef diesel. Mae'n bryd rhoi'r gorau i feio'r modurwyr am fethiannau Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr iawn.
'Mae ein tŷ ar dân.' Dyna a ddywedodd Greta Thunberg. Mae gennym argyfwng hinsawdd, a phan fydd gennym argyfwng, yn union fel y gwelsom gyda COVID, mae pethau y gallwn barhau â hwy, ac mae rhai pethau y mae'n rhaid inni roi'r gorau iddynt. Ac mae hwn yn gynnig sgitsoffrenig braidd, os nad oes ots gennych imi ddweud. Er fy mod yn cytuno â rhai pethau ynddo—ynglŷn â mwy o bwyntiau gwefru trydanol, ac rwy'n cytuno bod angen inni edrych ar ein seilwaith bysiau. Ni allwn glywed gan y Ceidwadwyr eich bod yn cefnogi bioamrywiaeth un wythnos ac eisiau mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac yna, ar y llaw arall, eich bod am adeiladu mwy o ffyrdd. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl. Rhaid inni roi'r gorau i rywbeth, a lle mae angen inni fynd yw meddwl ein bod yn dod allan o'n cerbydau ac yn buddsoddi mewn gwell trafnidiaeth gyhoeddus. Mae cyflymder bysiau'n gostwng yn gyflymach nag unrhyw fath arall o drafnidiaeth. Mae ffigurau Stagecoach yn dangos gostyngiad o 13 y cant yng nghyflymder bysiau rhwng 1995 a 2015, gan ei gwneud yn ofynnol i gael chwe bws ychwanegol i bob gwasanaeth.
Mae cerbydau trydan yn wych, ac rydym am gael hynny, ond maent yn mynd i ddod yn lle cerbydau tanwydd, nid yn ychwanegol atynt, ac felly, nid oes arnom angen ffyrdd newydd. Yn bendant, rhaid inni fuddsoddi mewn cerbydau trydan.
Dyma a ddywedodd Andrew R.T. Davies y llynedd yn eich cynhadledd Geidwadol:
'Credaf yn angerddol fod egwyddorion amgylcheddol yn egwyddorion cynhenid Geidwadol, ac fel rhywun sy'n dadlau dros gyfrifoldeb personol, maent yn mynd at wraidd yr hyn rydym yn credu ynddo.'
Rwy'n erfyn arnoch, os ydych chi'n credu go iawn mewn newid hinsawdd, os ydych yn credu mewn bioamrywiaeth, nid yw adeiladu ffyrdd newydd yn cydweddu â hynny. Felly, dim mwy o ffyrdd newydd yng Nghymru, ac nid wyf am adeiladu ffyrdd newydd, rwyf am adeiladu pontydd. Rwyf am adeiladu pontydd ar draws y Siambr hon fel y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael o ddifrif â'r argyfwng hinsawdd. Diolch yn fawr iawn.
Wel, heddiw mae fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau'n galw am lawer o bethau—maent yn ddewisiadau synhwyrol iawn—ond o'm safbwynt i, am uwchraddio'r A55 ar frys. Mae hwn yn llwybr prifwythiennol allweddol sydd nid yn unig yn cefnogi'r chweched porthladd gyrru i mewn ac allan mwyaf yn y DU yng Nghaergybi ond sydd hefyd yn dod â nwyddau a masnach i fy etholaeth hardd yn Aberconwy.
Yn anffodus, nid yw cyflwr ffyrdd gwael a thanfuddsoddi yng ngogledd Cymru yn ddim byd newydd. Drwy gydol y pumed Senedd, ymgyrchais yn ddi-baid i weld fy llwybrau gwledig lleol yn gwella a therfynau cyflymder yn gostwng o 60 mya i ddiogelu ein cymunedau gwledig. Byddai hyn yn cael effaith fuddiol o wneud ffyrdd yn fwy diogel, yn gwella cyflwr ffyrdd ac yn annog teithio llesol. A diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am wrando ar alwadau, ac erbyn hyn mae gennym ardaloedd lle mae rhai mesurau wedi'u rhoi ar waith. Mae mwy i'w wneud, fodd bynnag.
Ond er i'r Prif Weinidog ddweud wrthyf y byddai'r canllawiau 'Gosod terfynau cyflymder lleol yng Nghymru' yn cael eu hadolygu o haf 2020 ymlaen, nid yw hyn wedi digwydd eto. Felly, rwy'n glir fod yn rhaid newid o'r strategaeth adweithiol bresennol tuag at orfodi polisi rhagweithiol o hyd. Ni allwn aros mwyach i ddamweiniau ddigwydd cyn i'r newidiadau angenrheidiol i derfynau cyflymder gael eu gwneud. Felly, byddwn yn croesawu ymrwymiad gan y Dirprwy Weinidog heddiw y bydd adolygiad o'r fath o'r terfynau cyflymder yn cael ei gynnal.
Nawr, er ei fod yn destun pryder mawr fod y weinyddiaeth Lafur hon yng Nghymru wedi penderfynu oedi pob prosiect adeiladu ffyrdd newydd, efallai y bydd hyn yn rhoi cyfle i swyddogion y Llywodraeth adolygu'r camau cynllunio ar gyfer pob gwaith ffordd. Ar hyn o bryd, mae gwaith ar yr A5 ger Capel Curig a'r A470 drwy ddyffryn Conwy yn achosi aflonyddwch mawr a sylweddol wrth inni nesáu at dymor twristiaeth yr haf. Ar ôl 15 mis o her ddifrifol i'w busnesau, dyma'r peth olaf sydd ei angen arnynt.
Nawr, mae ein dadl yn tynnu sylw'n briodol at y ffaith bod gan Gymru beth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU, gydag ymchwil ddiweddar yn canfod bod gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau PM10 sy'n uwch na Birmingham neu Fanceinion. Yn ogystal â thanlinellu'r angen am Ddeddf aer glân, mae'r ffaith hon hefyd yn dynodi angen i gefnogi dulliau glanach o deithio. Fodd bynnag, rydym yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â llawer o'r DU gyda phwyntiau gwefru cyflym, gyda dim ond 60 o'r 990 o bwyntiau gwefru yng Nghymru yn bwyntiau gwefru cyflym. A chyda mwy na 500,000 o geir trydan bellach yn teithio ar ein ffyrdd, mae angen cywiro hynny ar frys.
Er fy mod yn croesawu'r cyhoeddiad ariannu diweddar gan Ofgem, a fydd yn helpu gorsaf reilffordd Llandudno i gyflawni ei hymrwymiadau i gerbydau trydan drwy gynnwys newidydd 1,000 kVA i ddarparu 600 kW o orsafoedd gwefru, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi newid hirdymor. Felly, galwaf ar y Gweinidog i amlinellu sut y bydd yn gweithio gyda'n cymdeithasau tai a'n hawdurdodau lleol i gynyddu'r ddarpariaeth wefru cerbydau trydan ar y stryd i aelwydydd heb dramwyfa.
Yn yr un modd, o dan Lafur Cymru, mae nifer y teithiau bws lleol yng Nghymru wedi gostwng o 100 miliwn y flwyddyn yn 2016-17 i 89 miliwn yn 2019-20. Felly, un ffordd o ymateb i'r duedd hon yw hyrwyddo rhinweddau gwyrdd y diwydiant. Yn ddiweddar, mae Llew Jones International o Lanrwst wedi prynu dau gerbyd hybrid, a fydd yn lleihau eu defnydd o ddiesel tua 65 y cant. Byddant hefyd yn gweithredu llwybr cyntaf TrawsCymru yng Nghonwy, a fydd â dau gerbyd cwbl drydanol yn gweithio ar amserlen gynyddol rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog erbyn diwedd mis Medi. Ond mae angen cymorth ar ein gweithredwyr bysiau hefyd i helpu i wneud y newidiadau hyn, megis drwy gronfa arbenigol i helpu i wneud y gwelliannau angenrheidiol i'w cerbydau gwyrdd newydd, megis cynwysyddion a gwefrwyr. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog gyflwyno'r achos dros hynny yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.
Mae'r chweched Senedd yn adeg i ailgychwyn y sgwrs hon, i roi cerbyd y Llywodraeth yn y gêr ôl a dadwneud y blynyddoedd o ddiffyg gweithredu ar dagfeydd traffig, terfynau cyflymder a newid hinsawdd. Am y rheswm hwn, galwaf ar bawb yn y Siambr heddiw, ac ar Zoom, i gefnogi cynnig ein dadl. Diolch, Lywydd.
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gyfrannu—Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Roeddwn yn arbennig o falch o glywed Janet Finch-Saunders ar y diwedd yno'n dweud ei bod yn bryd inni ailgychwyn y drafodaeth yn y chweched Senedd, ac fe'm calonogwyd yn fawr bythefnos yn ôl pan glywais Janet Finch-Saunders yn dweud bod cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd
'yn rhybudd pwysig i Gymru',
ac fe'm calonogwyd hefyd pan glywais hi'n dweud wythnos yn ôl
'Yn awr rhaid troi'r rhethreg yn gamau beiddgar a phendant'
pan alwodd arnom i ddatgan argyfwng natur.
Rwyf wedi bod yn darllen am rywbeth o'r enw anghyseinedd gwybyddol, sy'n gysyniad seicolegol lle nad yw dwy weithred neu ddau syniad yn gyson yn seicolegol â'i gilydd, a dyna rwyf wedi'i glywed yn y Siambr y prynhawn yma gan y Ceidwadwyr. Rydym wedi cael pythefnos o wynt poeth yn datgan eu rhinweddau gwyrdd wrth alw am weithredu beiddgar ar newid hinsawdd a mynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth a natur, ac araith ar ôl araith gyda'r un hen rwtsh o'r un hen bolisïau sydd wedi ein harwain at y sefyllfa rydym ynddi heddiw. [Torri ar draws.] Mae yna wrth-ddweud rhwng galw am gamau gweithredu gwahanol i gyflawni canlyniadau gwahanol a galw arnom wedyn i barhau i fuddsoddi arian mewn prosiectau sy'n cynnwys carbon, a thrwy gynyddu traffig, yn cynhyrchu carbon nid yn unig i ni, ond i genedlaethau'r dyfodol y maent yn dweud eu bod yn sefyll drostynt.
Nawr, yn amlwg, wrth edrych ar eu hwynebau, nid ydynt yn deall yr hyn rwy'n ei ddweud, ac mae hyn yn—[Torri ar draws.] Os ydym o ddifrif ynglŷn ag ailgychwyn y sgwrs yn y Senedd hon, rhywbeth sy'n rhaid inni ei wneud os ydym am gyrraedd targedau'r Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddyblu'r gostyngiadau mewn allyriadau a gyflawnwyd gennym dros y 30 mlynedd diwethaf dros y 10 mlynedd nesaf, rhaid inni wneud hynny ar draws y Siambr hon. Nid oes unrhyw ddiben gwneud areithiau er mwyn ennill penawdau hawdd, ond o ran y cam cyntaf sy'n rhaid inni ei gymryd i roi'r rhethreg honno ar waith, trown yn hytrach at y cyfraniadau slic hyn am wneud yr un peth, a lladd arnom am wneud cam â modurwyr a siomi pobl. Nonsens yw hyn, ac mae arnaf ofn fod angen i'r Ceidwadwyr wynebu hyn, fel pob plaid yn y Siambr hon. Mae gwrth-ddweud ar bob ochr yma. Yr ymateb cyffredinol i fy nghyhoeddiad ynglŷn ag oedi cynlluniau adeiladu ffyrdd oedd: 'Rydym yn cytuno â'r egwyddor, ac eithrio'r cynllun ffyrdd yn ein hetholaeth ni.' A gallaf ddeall hynny fel Aelod etholaeth fy hun, ac mae cynlluniau ffyrdd yn fy etholaeth sydd wedi ennyn cefnogaeth gref, ac mae dweud wrth bobl, 'Mae angen inni oedi ac ystyried' yn neges wleidyddol anodd i'w rhoi i bobl.
Nawr, rwy'n deall y pryderon sy'n bodoli, ac rwyf am gofnodi nad yw'r adolygiad ffyrdd a gyhoeddwyd gennym yn golygu ein bod yn rhoi diwedd ar fuddsoddi mewn ffyrdd yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gallwn newid o wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru a gwario mwy o arian ar gynnal a chadw ein ffyrdd a buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn sy'n rhoi dewis ystyrlon i bobl. A dyna'r gair pwysig: dewis. Nid yw hyn yn ymwneud â mynnu unrhyw beth neu orfodi pobl i wneud unrhyw beth; mae'n ymwneud â rhoi dewis amgen realistig i bobl, rhywbeth na allwn ei wneud os ydym yn parhau i arllwys buddsoddiad i mewn i gynlluniau sy'n cynhyrchu allyriadau carbon ychwanegol. A byddaf yn cyhoeddi aelodau'r panel a'r cylch gorchwyl cyn bo hir, lle bydd rhagor o fanylion ar gael. Am y tro, gallaf ychwanegu, ar gynlluniau unigol, y bydd y panel adolygu yn datblygu ei feini prawf adolygu ei hun ac yn cyflwyno adroddiad cychwynnol i Weinidogion o fewn tri mis i'w benodi ar y prosiectau buddsoddi mewn ffyrdd o fewn cwmpas yr adolygiad.
Rydym yn gwneud cyfres o bethau eisoes. Roedd cyhoeddi ein strategaeth drafnidiaeth i Gymru yn gynharach eleni yn nodi bod nod clir gennym bellach i gynyddu dulliau teithio drwy drafnidiaeth gynaliadwy o draean i 45 y cant o deithiau erbyn 2040. Ac mae'n rhaid i'r buddsoddiad ddilyn hynny, ac mae'n dilyn yn rhesymegol, os ydym am wario mwy o arian ar gynnal ffyrdd, gwario mwy o arian ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwario mwy o arian ar deithio llesol, fod hynny'n golygu bod yn rhaid inni wario llai o arian ar gynlluniau sy'n cynhyrchu allyriadau carbon ychwanegol.
Dywedodd nifer o siaradwyr Ceidwadol—a dywedodd Gareth Davies hyn, rwy'n credu—ein bod yn cael gwared ar fuddsoddiadau seilwaith. Nid ydym yn gwneud y fath beth. Rydym yn buddsoddi mewn seilwaith sy'n annog pobl i leihau eu hallyriadau carbon. Felly, nid yw hyn yn cael gwared ar unrhyw fuddsoddiadau seilwaith. Rydym yn newid y pwyslais, ond rydym yn ei wneud ar sail tystiolaeth, a dyna beth sydd angen i'r adolygiad ei wneud a dyna pam y mae angen iddo gymryd ei amser i'w wneud. Mae angen iddo edrych ar faint o hyblygrwydd sydd gennym mewn perthynas â charbon o fewn y targedau newid hinsawdd roeddem i gyd yn eu cefnogi bythefnos yn ôl. Nawr, mae cefnogi'r egwyddor yn cynnwys cefnogi'r arfer, felly mae arnom angen dadansoddiad o faint o hyblygrwydd sydd gennym mewn perthynas â charbon ar gyfer trafnidiaeth, gydag 17 y cant o'r elfennau sy'n cyfrannu at allyriadau carbon i chwarae â hwy, a pha rôl sydd i ffyrdd o fewn yr hyblygrwydd hwnnw mewn perthynas â charbon. Ac mae'n ddigon posibl o ganlyniad i hynny y bydd dadleuon dros ffyrdd er mwyn mynd i'r afael ag ansawdd aer, er enghraifft—mai ffordd yw'r ateb cywir. Nid ydym yn dechrau o'r safbwynt nad dyna'r ateb cywir. Ac os felly, gallwn fwrw ymlaen â chynlluniau ffyrdd sydd â manteision eraill, ond ni allwn fwrw ymlaen â phob cynllun ffordd a chyrraedd ein targed allyriadau carbon. Mae hynny'n amlwg, ac mae'n galw am newid ffordd o feddwl.
Nawr, y peth arall sy'n werth ei grybwyll yw'r buddsoddiad rydym yn ei wneud mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym wedi cyhoeddi grant o £17 miliwn i gyngor Blaenau Gwent ar gyfer rhoi pedwar trên yr awr ar reilffordd Glynebwy, fel rhan o weithredu argymhellion Burns. Bwriad y 58 argymhelliad oedd dangos sut y gallai system drafnidiaeth gyhoeddus fodern leihau tagfeydd yng Nghasnewydd, mynd i'r afael â'r problemau y bwriadwyd i gynllun yr M4 eu datrys am hanner y pris, mewn ffordd sy'n lleihau allyriadau ac yn helpu cyfiawnder cymdeithasol—nad yw gwario £2 biliwn ar gynllun ffordd yn ei wneud, pan ystyriwch nad yw chwarter y bobl yn meddu ar gar.
Rydym hefyd yn ymestyn gwasanaeth bws Fflecsi ar alw Casnewydd ar draws y ddinas gyfan fel model ar gyfer datblygu hynny ledled Cymru, ac mae gennym gyfres o gynigion ar gyfer y Gymru wledig, lle mae'r problemau hyn yn wahanol ac yn galw am ddull gwahanol o weithredu, ond gwyddom o sawl enghraifft ryngwladol ei bod yn gwbl bosibl caniatáu i newid ddigwydd o ran dulliau teithio mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n credu bod gan glybiau ceir a chlybiau ceir trydan ran bwysig iawn i'w chwarae yn hynny. Nid oes angen inni fod yn berchen ar geir lluosog ym mhob cartref os oes dewis hyblyg arall ar gael i gymunedau ei ddefnyddio, ac eleni rydym yn gwario £8 miliwn drwy'r gronfa trawsnewid cerbydau allyriadau isel iawn gwerth £38 miliwn i gynghorau gyflwyno pwyntiau gwefru ychwanegol i gerbydau trydan yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Felly, rydym eisoes wedi ymrwymo i wneud llawer, ond mae angen inni wneud llawer mwy i gyrraedd y targedau rydym i gyd wedi ymrwymo i'w cyrraedd, ac mae gan yr adolygiad ffyrdd ran bwysig i'w chwarae yn hynny. Ond mae angen i'r Aelodau ar draws y Siambr ddygymod â'r ffaith nad oes diben ymrwymo i dargedau oni bai eich bod yn barod i ddilyn y camau sydd eu hangen i weithredu'r targedau hynny. Diolch.
Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Wrth grynhoi'r ddadl hon, hoffwn ddiolch yn gyntaf i'm holl gyd-Aelodau am y cyfraniadau pwysig a diddorol y maent wedi'u gwneud, a chanmol fy nghyd-Aelod o dde-ddwyrain Cymru am arwain y ddadl hon. Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb.
Seilwaith trafnidiaeth effeithiol, cydgysylltiedig ac integredig yw'r hyn y mae pobl Cymru nid yn unig yn ei haeddu, ond dyna hefyd sydd ei angen arnynt i gyrraedd eu potensial. Y feirniadaeth a gaiff ei chyfeirio'n aml at Lywodraeth Cymru yw bod gormod o sylw i'r Gymru drefol, gan adael y Gymru wledig ar ôl, ac rwy'n teimlo bod hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â thrafnidiaeth. Rydym wedi gweld heddiw fod diffyg seilwaith trafnidiaeth yn fater sy'n ein plagio yma yng ngogledd Cymru, yn ne Cymru, yng nghanolbarth Cymru, a minnau yng ngorllewin Cymru hefyd.
Fel y soniwyd, bythefnos yn ôl gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad i'r Senedd yn oedi nifer o brosiectau ffyrdd, gan siomi llawer o gymunedau ledled Cymru. Rwy'n cytuno â fy nghyd-Aelod Peter Fox—pan glywaf 'oedi', credaf mai'r hyn a olygir yw 'wedi'i ganslo', ac os bydd y prosiectau hyn yn cael y golau gwyrdd ac yn mynd yn eu blaenau, byddant yn anochel wedi eu gohirio.
Fodd bynnag, roeddwn yn falch o gael sicrwydd ynglŷn â'r gwaith hirddisgwyliedig i uwchraddio'r A40 yn Llanddewi Felffre, ac y bydd hwnnw'n digwydd. Mae hwn yn gynllun sydd wedi'i drafod ers nifer o flynyddoedd, ac mae wedi wynebu oedi diddiwedd. Edrychaf ymlaen at gael gwybod pryd y bydd y peiriant cloddio wedi torri tir ar y prosiect hwn a phryd y caiff ei gwblhau'n llawn. Yn amlwg, byddai'n well gennyf fi a'r gymuned fusnes weld yr A40 yn cael ei deuoli yr holl ffordd i borthladd Abergwaun, rhywbeth y gwn fod fy nghyd-Aelod Paul Davies yn Preseli Sir Benfro wedi galw amdano ac wedi dadlau drosto ers tro byd. Ond bydd y gwaith uwchraddio cyfredol ar yr A40 yn gwella rhai o'r mannau cyfyng ar y llwybr hwn a achoswyd gan gerbydau nwyddau trwm trawsgyfandirol, carafanau, cerbydau amaethyddol a thraffig arall sy'n symud yn araf wrth deithio ar un gerbytffordd.
Mae angen imi fynegi rhai pryderon ynghylch y llythyr a anfonwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol at y Dirprwy Weinidog ac y derbyniodd yr holl Aelodau gopi ohono, llythyr a oedd nid yn unig yn croesawu oedi'r prosiectau uchod, ond hefyd yn galw am roi ystyriaeth bellach i ailystyried prosiectau a gafodd sêl bendith. Ddirprwy Weinidog, mae digon o ansicrwydd eisoes—peidiwch â chaniatáu i fwy gael ei greu.
Nid yw'r car yn mynd i unman, ond yr hyn sy'n newid yw'r ffordd y caiff ei bweru, ac mae hwn yn bwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod Delyth Jewell a Gareth Davies ill dau yn eu cyfraniadau. Rydym ar daith, fel y mae'r Deyrnas Unedig gyfan, i ddileu ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, ond mae angen inni sicrhau bod pob cwr o Gymru yn cael eu cefnogi ar y daith hon. Mae gennym ffordd bell i fynd o hyd, ac mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau'r un ffocws ar sicrhau bod gan ardaloedd gwledig yr un mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydanol ag a geir yn y prif ardaloedd trefol. Ac ynglŷn â'r Ddeddf aer glân y soniodd Delyth Jewell a'r Dirprwy Weinidog amdani, ceir cefnogaeth o bob rhan o'r Siambr, a Dirprwy Weinidog, fe fyddwch yn gwthio wrth ddrws agored os yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r Bil aer glân hwnnw.
Hoffwn sôn i orffen hefyd pa mor bwysig yw hi i drafnidiaeth gyhoeddus ddiwallu anghenion cymuned wledig. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i dynnu ceir oddi ar y ffordd, ac mae llawer o bobl mewn ardaloedd fel yr etholaeth rwy'n ei chynrychioli heb fod mewn sefyllfa i fod yn berchen ar gar. Mae hyn yn achosi problemau os ydynt yn gweithio y tu allan i oriau gwaith naw tan bump arferol, yn enwedig mewn diwydiannau fel y sector lletygarwch. Cefais fy hysbysu yn ddiweddar mai ychydig ar ôl 6 p.m. y mae'r bws olaf yn gadael Dinbych-y-pysgod yn ôl i Hwlffordd yn sir Benfro ar nosweithiau'r wythnos. Nid yw hynny'n caniatáu i bobl gyfrannu at ein heconomi a datblygu o'i mewn. Mae rhai busnesau mwy o faint yn gallu darparu cludiant i'w staff eu hunain, ond eithriad yn hytrach na'r rheol yw hyn yn aml. Gellir ystyried hyn yn ffactor sy'n cyfrannu at y ffordd y mae busnesau yn y sector yn wynebu heriau cynyddol i lenwi'r swyddi gwag rydym i gyd wedi clywed amdanynt yn ein hetholaethau ein hunain.
Wrth gloi, Lywydd, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig i roi hwb o adrenalin i'n heconomi drwy godi'r droed oddi ar ein corn gwddf economaidd, helpu i lanhau ein haer a chael Cymru i symud unwaith eto. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]
Oes, mae gwrthwynebiad.
Ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, fe fyddwn ni'n atal y cyfarfod dros dro er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais yna.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:31.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:37, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio felly, a'r unig bleidlais y prynhawn yma yw'r bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y rhwydwaith ffyrdd. A dwi'n galw am bleidlais felly ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi cael ei wrthod.
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Rhwydwaith Ffyrdd: O blaid: 15, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio, ond mae yna un eitem arall o fusnes i'w chwblhau.
Yr eitem yna yw'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer yna yn cael ei chyflwyno heddiw gan Peredur Owen Griffiths. A dwi'n galw arno fe i gyflwyno'r ddadl ar y pwnc sydd wedi ei ddewis ganddo.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac os caf hysbysu'r Aelodau fy mod wedi cytuno i gais gan Sioned Williams i wneud cyfraniad byr ar ddiwedd y ddadl hon.
Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi bod yn ymgyfarwyddo â gwahanol agweddau ar fy mhortffolio. Fi yw'r llefarydd ar gymunedau a phobl hŷn. Fel y gallech ddisgwyl, mae rhan fawr o hyn yn ymwneud â gofal cymdeithasol. I'r rheini ohonoch sy'n fy adnabod, ni fydd yn syndod fy mod wedi bod yn siarad â'r bobl rwy'n cwrdd â hwy am wahanol agweddau ar fy mhortffolio. Yn wir, pan ymwelais â fy neintydd, nid oedd yn syndod fod deintyddiaeth ac iechyd y geg wedi codi, yn enwedig iechyd y geg mewn cartrefi gofal.
Yn ystod ein sgwrs, soniodd fy neintydd am rai o'i gleifion hirdymor, ac fe welodd rai ohonynt yn symud i gartrefi gofal. O dan ei ofal, roedd ei gleifion wedi cadw eu dannedd a'r deintgig yn iach am flynyddoedd lawer, nes iddynt symud i gartref gofal. Mae wedi cael sioc wrth weld faint o'i gleifion sydd wedi profi dirywiad dramatig yn iechyd y geg ers symud i gartref gofal. Yna soniais am y sgwrs hon wrth ffrind i mi. Roeddent yn adleisio'r profiad. Roedd gan eu tad ddementia a bu'n rhaid iddo symud i gartref gofal. Pan roddodd y gorau i fwyta, roeddent yn tybio mai dementia oedd y rheswm dros hynny, ond mewn gwirionedd y ddannodd oedd y rheswm. Roedd iechyd ei geg wedi dirywio'n ddramatig ar ôl iddo symud i gartref gofal.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Nawr, mae staff mewn cartrefi gofal yn gweithio'n galed tu hwnt—nid wyf yn credu bod llawer yma a fyddai'n gwadu hynny—ond yn anochel, mae pethau'n symud i lawr y rhestr flaenoriaethau. Yn wir, i lawer ohonom dros y 18 mis diwethaf, mae gofal deintyddol wedi mynd yn llai o flaenoriaeth oherwydd yr angen am gadw pellter cymdeithasol, ac rwy'n siŵr fod cartrefi gofal, sydd wedi bod yn arbennig o agored i niwed yn sgil yr haint yn ystod y pandemig, wedi bod yn ymwybodol o hyn.
Yn ôl ei natur, gofal deintyddol yw un o'r gwasanaethau iechyd anoddaf i'w hadfer yn ystod pandemig. Roedd y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yr wythnos diwethaf yn cydnabod y broblem, ac nid wyf yn credu y bydd llawer o bobl yn anghytuno â honiadau megis, a dyfynnaf,
'Yn ystod pandemig feirws anadlol, deintyddiaeth yw un o’r meysydd mwyaf cymhleth mewn gofal sylfaenol i gyfyngu arno, ei ddarparu ac i sicrhau ei adferiad.'
Mae hyn yn rhannol oherwydd bod cynifer o'i weithdrefnau'n creu aerosolau, a hefyd agosrwydd y deintydd at eu claf pan fydd yn darparu gofal deintyddol. Mae hyn wedi golygu bod llawer o ddeintyddion ond yn cyflawni galwadau am driniaeth frys, felly bu'n rhaid gohirio archwiliadau am y tro. Ofnaf fod hyn yn arbennig o wir mewn cartrefi gofal.
Er mwyn cyrraedd craidd y ddadl hon, rhaid inni droi'r cloc yn ôl i 2014, pan gyhoeddodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru adroddiad o'r enw 'Lle i'w alw'n gartref'. Adolygiad oedd hwn o ansawdd y gofal y mae pobl hŷn yn ei gael mewn cartrefi gofal. Canfu'r adroddiad fod diffyg gofal deintyddol mewn llawer o ardaloedd a llawer o gartrefi gofal. Wrth sefydlu ei gasgliadau, defnyddiodd yr adroddiad dystiolaeth gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain, a dynnodd sylw at y ffaith bod lefelau uchel o angen deintyddol nas diwellir ymhlith preswylwyr cartrefi gofal, gyda llawer ohonynt ond yn derbyn gofal deintyddol pan fyddant yn datblygu problem.
Diolch byth, arweiniodd pwysau o'r fath at raglen iechyd y geg Gwên am Byth y Llywodraeth ddiwethaf yn 2015, gyda'r nod o wella hylendid y geg a gofal y geg i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal, drwy ddatblygu dull cyson o weithredu i Gymru gyfan. Ei nod oedd llenwi'r bylchau mewn gofal deintyddol i bobl hŷn mewn cartrefi gofal drwy sicrhau bod polisi gofal y geg cyfredol ar waith; drwy hyfforddi staff mewn gofal y geg; a thrwy gadw cofrestr o'r hyfforddiant hwnnw. Ei nod hefyd yw sicrhau bod preswylwyr yn cael asesiadau gofal y geg yn rheolaidd gan arwain at gynllun gofal personol, a'u cyfeirio at dîm deintyddol os oes angen.
Yn 2019, cyhoeddwyd y byddai'r cyllid ar gyfer y rhaglen hon yn cael ei ddyblu i £0.5 miliwn y flwyddyn i sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chyflwyno'n llawn ym mhob cartref gofal yng Nghymru yn ystod 2020-21. Roedd hyn i'w groesawu, yn amlwg. Mae gofal deintyddol da yn hanfodol i gynifer o agweddau ar iechyd. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, cafwyd tystiolaeth gynyddol y gallai fod cysylltiad rhwng clefyd y deintgig a dementia. Hyd yn oed i bobl â dannedd gosod, mae hylendid y geg da yn hanfodol, gan y gall arfer gwael arwain at niwmonia allsugno. Ond ers y diweddariad a gawsom gan y Gweinidog iechyd blaenorol ar 23 Rhagfyr 2019, nid ydym wedi cael unrhyw ddiweddariadau pellach na datganiadau gan y Llywodraeth ar y mater.
Os credaf fod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, gall llawer iawn ddigwydd mewn dwy flynedd—ac mae hyn yn arbennig o wir pan ystyriwch ddigwyddiadau'r ddwy flynedd diwethaf. O fewn ychydig wythnosau i gyhoeddi'r diweddariad diwethaf o'r rhaglen Gwên am Byth ym mis Rhagfyr 2019, dechreuodd y newyddion ledaenu am y coronafeirws, ac mae hyn yn amlwg wedi dominyddu'r agenda iechyd byth ers hynny. Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae'r coronafeirws wedi newid cymaint o'r hyn rydym yn ei wybod, ond mae hyn yn arbennig o wir am y sector cartrefi gofal.
Nawr, roeddwn yn gobeithio y byddai datganiad y Llywodraeth yr wythnos diwethaf yn sôn am ofal y geg mewn cartrefi gofal, ond ni wnaeth hynny. Soniwyd am COVID, mesurau rheoli a chontractau. Soniwyd am dargedau, amserlenni ac offer. Soniwyd am grwpiau agored i niwed, mesurau amrywiol a dyheadau gwerthfawr, ond ni chafwyd sôn yn benodol am iechyd y geg mewn cartrefi gofal. Ac o ystyried bod y diweddariad diwethaf sydd gennym o'r rhaglen Gwên am Byth yn rhagflaenu'r pandemig, hoffwn roi'r mater hwn yn ôl ar yr agenda gyda'r ddadl hon.
Mewn blog y llynedd, dywedodd Tom Bysouth, cadeirydd pwyllgor ymarfer deintyddol cyffredinol Cymru o Gymdeithas Ddeintyddol Prydain fod grwpiau mewn perygl wedi dod, ac rwy'n dyfynnu, yn 'fom sy'n tician' ers dechrau'r pandemig. Dywedodd fod Gwên am Byth wedi'i gohirio ynghyd â'r Cynllun Gwên, sydd wedi'i anelu at blant. Dywedodd na ddylai oedolion a phlant sy'n agored i niwed ddod yn grwpiau coll yn y pandemig hwn mewn perthynas â gofal deintyddol, ac rwy'n cytuno'n llwyr.
Yn y cyfamser, tystiolaeth anecdotaidd yn unig sydd gennyf i bwyso arni, fel y profiadau y siaradais amdanynt ar ddechrau'r ddadl hon. Gwyddom i gyd fod hylendid y geg yn hollbwysig. Gwyddom fod cynnydd wedi'i wneud—mae llai o ddannedd gosod mewn gwydrau o ddŵr wrth erchwyn gwelyau o'i gymharu ag ychydig ddegawdau yn ôl yn unig. Y rheswm am hyn yw datblygiadau ym maes gofal deintyddol. Fy ofn yw bod hyn wedi dirywio'n fawr yn ystod y pandemig. Codaf y mater hwn yma yn y Siambr heddiw, nid i feirniadu'r Llywodraeth, na chartrefi gofal preswyl, nac ymarferwyr deintyddol, sy'n gweithio mor galed, ond er mwyn sicrhau bod gofal deintyddol i bobl hŷn ar yr agenda, ei fod yn cael ei archwilio'n weithredol a bod cynlluniau wrth gefn yn cael eu llunio i ymateb i'r newidiadau ysgubol y mae'r pandemig byd-eang hwn wedi'u hachosi mewn gofal cymdeithasol. Mae angen y cynlluniau hyn. Os ydynt wrthi'n cael eu cynllunio, mae angen inni glywed amdanynt.
Rydym yn dweud wrth ein plant yn gyson am bwysigrwydd brwsio eu dannedd. Yn wir, pan fyddwn yn cael ein dannedd cyntaf, mae'r bobl sy'n gofalu amdanom yn dweud wrthym yn gyson fod yn rhaid inni frwsio ein dannedd. Dylai hyn fod yn wir drwy gydol ein bywydau. Dylem helpu ein pobl hŷn mewn cartrefi gofal i gynnal yr arferion plentyndod hynny. Dyna pam ei bod mor bwysig fod y pwnc hwn yn parhau ar yr agenda. Yn ogystal, gwyddom y gall iechyd y geg ddirywio mewn cyfnod byr o amser, felly rhaid inni ystyried sut y gellir darparu gofal deintyddol o'r radd flaenaf i breswylwyr cartrefi gofal yn ystod pandemig. Gobeithio bod hyn yn rhywbeth y gallwn i gyd gytuno arno. Gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd i adfer y momentwm ar y mater pwysig hwn. Ac rwy'n gobeithio y gallwn ddarparu mwy na gwên yn unig. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o allu gwneud cyfraniad byr i'r ddadl bwysig hon. Mae'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn nodi, oherwydd y pandemig, sydd wedi gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, fod pobl hŷn a'r rhai sy'n cael eu hystyried yn fregus yn glinigol yn wynebu heriau cynyddol wrth gyrchu pob math o ofal deintyddol, ac mae'n amlwg bod rhai mewn cartrefi gofal yn y categori hwnnw. A chredaf, hyd yn oed cyn y pandemig, fod yna angen am ffocws ychwanegol ar y maes hwn a mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb yn y ddarpariaeth ddeintyddol ar draws y cenedlaethau.
Mae nod Llywodraeth Cymru yn y maes hwn i'w ganmol, a chroesawaf y canllawiau ynghylch sicrhau bod unigolion yn cael eu cefnogi i ofalu am eu dannedd, bod cyflenwadau iechyd y geg priodol ar gael a bod iechyd y geg unigolion yn cael ei fonitro. Ond y cwestiwn allweddol i mi yw sut ydyn ni'n tracio hyn. Ymddengys bod diffyg ymchwil cyfredol ar y mater hwn yng Nghymru, a byddwn yn ddiolchgar o glywed pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i olrhain nodau Gwên am Byth. Sut ydych chi'n gwybod os yw canllawiau'r Llywodraeth yn cael eu cyflawni? Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am godi'r pwnc pwysig hwn am wasanaethau deintyddol ar gyfer pobl mewn cartrefi gofal. Fel y mae Aelodau'n gwybod, nod rhaglen Gwên am Byth, a gyflwynwyd yn 2015, sydd wedi'i chyfeirio ati, yw gwella hylendid y geg a gofal y geg ar gyfer pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal drwy ddatblygu dull cyson ar draws Cymru gyfan. Nawr, mae'r rhaglen yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy sicrhau bod gan rai o'r bobl fwyaf agored i niwed fynediad teg ac addas at ofal iechyd y GIG. Rŷn ni'n gwybod bod iechyd y geg cynifer o'r bobl hynny yn gwaethygu pan fyddant yn symud i gartrefi gofal, yn aml o ganlyniad i ddirywiad yn eu hiechyd a'r ffaith nad ydyn nhw wedi bod yn symud gymaint yn y blynyddoedd cyn hynny, gan gynnwys pobl sy'n byw gyda dementia.
Mae Gwên am Byth yn cyd-fynd â 'Cymru Iachach', ymateb y gwasanaethau deintyddol ac iechyd y GIG. Mae egwyddorion y rhaglen yn gofyn i gartrefi gofal sicrhau y pethau canlynol: y peth cyntaf yw bod polisi gofal ceg cyfredol ar waith; yn ail, bod staff yn cael eu hyfforddi mewn gofal y geg; yn drydydd, bod preswylwyr yn cael asesiad gofal y geg yn gyson; yn bedwerydd, bod yr asesiad yn arwain at gynllun gofal unigol, gyda'r nod o helpu i gynnal hylendid ceg da; ac yn bumed, bod preswylwyr yn cael eu cyfeirio at y tîm deintyddol pan fo angen.
Mae ein profiad yn dilyn pum mlynedd gyntaf y rhaglen wedi dangos bod sicrhau gwell iechyd y geg i bobl mewn cartrefi gofal yn gymhleth ac yn heriol. Mae dros hanner cartrefi gofal bellach yn cymryd rhan yn rhaglen Gwên am Byth, ac mae bron 8,000 o breswylwyr yn cymryd rhan. Rŷn ni wedi cael adborth cadarnhaol gan staff cartrefi gofal, preswylwyr, gofalwyr a gwasanaethau deintyddol cymunedol sy'n darparu'r rhaglen. O ganlyniad i'r cynnydd sy'n cael ei wneud, yn 2019 cyhoeddodd fy rhagflaenydd y byddai'r cyllid yn cael ei ddyblu i £0.5 miliwn, a dwi'n falch bod Peredur wedi nodi hyn. Diolch am hynny.
Mae'r rhaglen bellach yn rhan allweddol o raglen Cartref Gofal Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i darparu gan Gwelliant Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd. Mae integreiddio gyda Gwelliant Cymru wedi cryfhau Gwên am Byth ymhellach fel rhan annatod o waith cenedlaethol Cymru i wella iechyd y geg ymhlith oedolion.
Dŷn ni ddim yn cael llawer o drafodaethau ar y funud hon sydd ddim yn sôn am yr effaith enfawr y mae pandemig COVID wedi cael ar ddarpariaeth ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys amharu ar wasanaethau deintyddol cyffredinol a rhaglenni iechyd y geg i boblogaethau ar draws Cymru. Yr wythnos diwethaf, fel nodoch chi, rhannais i ddatganiad ysgrifenedig gydag Aelodau yn amlinellu'r cynnydd graddol mewn gwasanaethau deintyddol, a chadarnhau y bydd yr elfen diwygio contractau o'r newidiadau i'r system rŷn ni'n rhagweld yn cael ei gohirio tan fis Ebrill 2022. A thra bod COVID-19 yn parhau i beri pryder o ran iechyd y cyhoedd, mae angen i dimau deintyddol gynnal y mesurau rheoli heintiau.
Yn ystod pandemig feirws anadlol, mae deintyddiaeth wedi bod yn un o'r meysydd gofal sylfaenol mwyaf cymhleth i geisio ei leihau, ei ddarparu a'i adfer, yn arbennig o ystyried pa mor gyffredin yw triniaeth aerosol fel llenwadau, a pha mor agos yw'r clinigwr i'r person wrth ddarparu gofal deintyddol. Es i i'r deintydd yr wythnos diwethaf, a phan ddaeth y deintydd mewn, roedd e fel gweld rhywun oedd newydd ddod o gerdded ar y lleuad; roedd cymaint o offer arnyn nhw. Wrth i wasanaethau gynyddu eu capasiti yn raddol, mae timau deintyddol yn parhau i flaenoriaethu gofal brys. Maen nhw'n delio ag anghenion grwpiau sy'n agored i niwed, ac yn ymdrin â rhestr aros hir ar gyfer triniaethau yn sgil lleihau gwasanaethau deintyddol ac yn ailgyflwyno asesiadau a gofal rheolaidd wrth i'r capasiti gynyddu. Bydd rhai o'r bobl hynny sy'n agored i niwed ac angen gofal brys yn cynnwys pobl mewn cartrefi gofal sy'n rhan o raglen Gwên am Byth.
Felly, gwyddom y bydd gwasanaethau'n parhau i ddychwelyd yn raddol, ac rydym yn cydnabod nad yw pobl ledled Cymru wedi cael yr archwiliadau rheolaidd y maent wedi arfer â hwy. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth wedi addasu i flaenoriaethu gofal brys, a hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i dimau deintyddol a byrddau iechyd am eu hymrwymiad a'u hymroddiad yn ystod y 15 mis diwethaf i gynnal mynediad at wasanaethau deintyddol hanfodol i'r rheini yn y boblogaeth sy'n dioddef poen a phroblemau. Ac ydy, mae hynny'n cynnwys pobl mewn cartrefi gofal.
Nawr, gwyddom fod hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn, ac rydym yn cydnabod yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar aelodau unigol o'r tîm deintyddol ac ar y proffesiwn cyfan. Wrth i beryglon COVID-19 leihau, bydd modd darparu mwy o driniaethau. Nawr, mae arnom angen i bractisau deintyddol barhau i ddilyn mesurau llym ar gyfer rheoli heintiau, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, i ddiogelu staff practisau, cleifion a'r gymuned ehangach. Anogir practisau i weld cleifion gan ddefnyddio cyfnodau ailalw addas, wedi'u pennu yn ôl anghenion a risg eu cleifion.
Nawr, o ystyried yr angen i warchod preswylwyr sy'n agored i niwed mewn cartrefi gofal, cafodd ymgysylltiad wyneb yn wyneb gweithredol yn ystod cyfnod cyntaf y pandemig ei oedi. Nid oedd y rhan fwyaf o weithwyr gofal deintyddol proffesiynol yn gallu mynd at staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn uniongyrchol ar gyfer cyswllt wyneb yn wyneb ar y pryd, sef yr hyn rydych chi wedi'i nodi. Fodd bynnag, parhaodd llawer o dimau deintyddol cymunedol lleol mewn cysylltiad â'r cartrefi gofal drwy e-bost a chyswllt galwadau ffôn. Sefydlwyd y Cwtsh Cartrefi Gofal—rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid i reolwyr cartrefi gofal—gan Cartrefi Gofal Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i gynorthwyo rheolwyr cartrefi gofal yn ystod a thu hwnt i'r pandemig. Nawr, mae'r llwyfan hwn yn rhoi cyfle i Gwên am Byth arwain at integreiddio â staff cartrefi gofal i ddarparu gwybodaeth am iechyd a hylendid y geg a sesiynau datblygu sgiliau.
Mae rheoli heintiau ac ynysu mewn cartrefi gofal yn llawer anos nag yn amgylchedd clinigol rheoledig ysbyty neu glinig deintyddol. Yn aml, mae gan bobl sy'n derbyn gofal cymdeithasol gyflyrau isorweddol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o gael eu heintio ac o farw o COVID-19. Mae rhai pobl angen cymorth corfforol gydag agweddau ar fywyd bob dydd, fel bwyta, ymolchi a gofal y geg, gan wneud ynysu llwyr yn anodd iawn iddynt. Nawr, mae hyn wedi ychwanegu cymhlethdod pellach at ddarpariaeth y rhaglen yn ystod y pandemig.
Mae'r angen am gyswllt wyneb yn wyneb mewn cartrefi gofal yn cael ei adolygu'n rheolaidd, a bydd timau lleol yn cael eu harwain gan ddarparwyr gwasanaethau ar lefel y gweithgarwch ym mhob cartref gofal. Mae timau Gwên am Byth wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd â chartrefi gofal drwy gydol y pandemig, tra'n monitro a rheoli anghenion sy'n dod i'r amlwg lle bo'n briodol. Mae hyn wedi sicrhau dull o weithredu a oedd yn blaenoriaethu anghenion brys, yn ogystal â darparu gwasanaethau deintyddol yn ehangach yng Nghymru. Ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r gwasanaethau deintyddol cymunedol ledled Cymru am yr ymdrechion y maent wedi'u gwneud i sicrhau y gall preswylwyr cartrefi gofal gael cyngor ac ymyriadau lle bo'n briodol drwy gydol y pandemig.
Nawr, lawn cymaint â heriau a chymhlethdod darparu gwasanaethau deintyddol, rwy'n cydnabod yn llawn yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael mewn cartrefi gofal. A thynnir sylw at y ffaith bod gan gartrefi gofal wahanol lefelau o brofiad neu adnoddau gweithlu i allu cymryd rhan lawn yn rhaglen Gwên am Byth. Mae'n ganmoladwy fod llawer o gartrefi gofal eisoes wedi ymgysylltu'n llawn â'r rhaglen a'u bod yn cyflawni rhagoriaeth o ran safonau gofal y geg. Fodd bynnag, erys y nod a oedd gennym cyn y pandemig: rydym yn disgwyl gweld bod y rhaglen ar gael ac yn cael ei chynnig ym mhob cartref gofal i bobl hŷn yng Nghymru.
Er mwyn mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn ac ehangu mynediad at y rhaglen, rwyf wedi cyflwyno cynnig a dull gweithredu symlach gyda'r bwriad o gynorthwyo mwy o gartrefi gofal i gyrraedd y safonau gofynnol hanfodol a chymryd rhan. Fe'i gelwir yn Gwên am Byth Hanfodol. Bydd y cartrefi sydd eisoes yn cymryd rhan lawn yn parhau i gael eu cefnogi i gynnal rhagoriaeth o ran safonau gofal y geg. Gellir cychwyn y dull symlach mewn cartrefi gofal nad ydynt wedi dechrau'r rhaglen neu sydd wedi ei chael hi'n anodd cydymffurfio â'r dull presennol i Gymru gyfan. Drwy fabwysiadu'r dull hwn, gellir cynnwys pob cartref gofal ledled Cymru yn y rhaglen, a gall pob preswylydd elwa o'r manteision sy'n cael eu cynnig drwy Gwên am Byth. Mae'r rhaglen, gan gynnwys cynnig Gwên am Byth Hanfodol, bellach yn ailddechrau.
Gyda llwyddiant cyflwyno'r brechlyn, y defnydd o hyfforddiant digidol ac argaeledd dyfeisiau llif unffordd, mae'r risg i staff deintyddol cymunedol o fynd i gartrefi gofal bellach yn llawer iawn llai. Mae'r adferiad yn mynd rhagddo'n dda, ac rydym wedi ymgorffori gwersi o'r pandemig yn y rhaglen wrth inni edrych ymlaen, gan gynnwys mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol i ddarparu'r elfen hyfforddi, a fydd yn arwain at wneud y cynnig i bob cartref gofal preswyl yng Nghymru. Wrth i'r gwasanaethau barhau i ymadfer, rwy'n gobeithio y bydd y cynnig symlach yn galluogi pob cartref gofal i fod yn rhan o'r rhaglen hon, gan sicrhau bod gan rai o'n grwpiau mwyaf agored i niwed fynediad at y darpariaethau iechyd y geg sydd eu hangen arnynt. Ond diolch yn fawr am dynnu sylw'r Senedd at y mater pwysig hwn. Diolch.
Diolch, Weinidog, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:00.