Y Cyfarfod Llawn
Plenary
30/06/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.
Yr eitem gyntaf ar ein agenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Tom Giffard.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol i Gymru? OQ56695
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i dreialu dull o ymdrin ag incwm sylfaenol fel ffordd o gefnogi'r bobl sydd â'r angen mwyaf. Mae gwaith ar y gweill ac rydym wedi dechrau llunio cynllun peilot i gwmpasu'r gwaith hwn a phennu sut y caiff ei weithredu a'i fesur.
Diolch. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Mae adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, 'Universal Basic Income: An Effective Policy for Poverty Reduction', yn dadlau nad yw incwm sylfaenol cyffredinol yn fforddiadwy, gan beryglu'r gallu i ddarparu gwasanaethau pwysig mewn gofal iechyd ac addysg, gan ychwanegu, a dyfynnaf, nad yw'n
'diwallu anghenion aelwydydd incwm isel sy'n wynebu problemau cymhleth fel dibyniaeth ar gyffuriau, dyledion peryglus, a chwalfa deuluol',
a'i fod yn
'ddatgymhelliad mawr i ddod o hyd i waith',
ac nad
'yw'n fwy hael i'r aelwydydd mwyaf difreintiedig na darpariaethau'r Credyd Cynhwysol.'
Yn ogystal, gwyddom hefyd fod astudiaethau'n dangos mai effaith gyfyngedig y mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ei chael ar ymgysylltiad pobl â'r farchnad lafur at ei gilydd, ac maent hefyd yn gofyn a fyddai cyfradd uwch o incwm sylfaenol cyffredinol mor ddrud fel y byddai'n anodd buddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol eraill, megis cost adeiladu tai cymdeithasol newydd a darparu mwy o drafnidiaeth gyhoeddus cost isel. Felly, gyda'r dystiolaeth yn pentyrru yn erbyn incwm sylfaenol cyffredinol, Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa rai o'n gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y credwch y bydd angen eu torri er mwyn gallu ei fforddio?
Wel, rwy'n siŵr y bydd Tom Giffard wedi darllen yr adroddiad defnyddiol iawn a llawn gwybodaeth, yn fy marn i, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'n awgrymu y gallai cyflwyno cynllun incwm sylfaenol yng Nghymru fod yn gatalydd ar gyfer gwell canlyniadau iechyd a lles i bawb. Yn amlwg, mae'n ddyddiau cynnar. Ceir amrywiaeth o safbwyntiau. Rydym yn edrych ar bob un o'r cynlluniau peilot, yn gwrando ar randdeiliaid, ac yn wir, mae wedi'i groesawu'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ein bod yn bwrw ymlaen â'r cynllun peilot hwn. Mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ymwneud â lleihau tlodi, ond mae hefyd yn ymwneud â rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau a chael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles. Ac rydym yn canolbwyntio ar sut y gellir llunio cynllun peilot incwm sylfaenol bach i gefnogi'r rheini sydd â'r angen mwyaf, gan gynnwys, o bosibl, pobl sy'n gadael gofal.
Ni fydd yn syndod i'r Gweinidog fod Plaid Cymru yn gefnogol iawn i incwm sylfaenol cyffredinol, ac edrychwn ymlaen at weld y cynnig terfynol gan y Llywodraeth ar y cynllun peilot. Yn gyflym iawn, a yw'r Gweinidog wedi cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod trefniant ar waith fel na fydd unrhyw daliad incwm sylfaenol yn cyfrif yn erbyn unrhyw dderbynwyr a allai hefyd fod yn derbyn credyd cynhwysol? Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno mai'r peth olaf yr hoffem ei weld yn digwydd yw bod y rheini sy'n derbyn incwm sylfaenol yn waeth eu byd yn y pen draw.
Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn oherwydd, wrth inni ddatblygu'r cynllun peilot i gyfnod cwmpasu a chamau cynnar, rydym yn canolbwyntio ar sut y gellid llunio'r cynllun peilot i gefnogi'r rheini sydd â'r angen mwyaf, ond gan sicrhau nad yw'r rheini sy'n derbyn budd-daliadau neu daliadau lles yn waeth eu byd o ganlyniad. Felly, yn amlwg, byddwn wedyn yn ymgysylltu, wrth inni gwmpasu'r cynllun peilot, gyda thrafodaethau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau fel y gallwn fwrw ymlaen â'r gwaith. Ond hefyd, rydym wedi dysgu llawer wrth ystyried profiad yr Alban sydd eisoes wedi gwneud cryn dipyn o waith ar hyn, er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu ganddynt gan eu bod eisoes wedi profi hyn o ran treialu incwm sylfaenol cyffredinol yn yr Alban.
Credaf ei bod hefyd yn bwysig iawn fy mod yn tynnu sylw'r Aelod at y ffaith bod y Senedd, y llynedd mewn gwirionedd, hefyd wedi cymeradwyo a derbyn cynnig—mae gennym Senedd newydd bellach, ond y Senedd ddiwethaf—i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru. Felly, credaf fod cryn dipyn o ddiddordeb yn hyn, ac mae angen inni ei ddatblygu yn awr a gwrando ar ein rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn dysgu o brofiad yr Alban a gwledydd eraill ledled y byd, ein bod yn gwneud y gwaith cymhleth, ac yna gallaf sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd, yn drawsbleidiol i'r graddau mwyaf posibl, yn fy marn i, gan fod llawer o ddiddordeb trawsbleidiol yn hyn, hyd yn oed gan y cyn-Aelod o'r Senedd, David Melding, sydd wedi ysgrifennu am hyn yn y gorffennol.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hyrwyddo cydraddoldeb o fewn gweithlu'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OQ56675
Diolch i Altaf Hussain am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo gwell cydraddoldeb ar draws gweithlu sector cyhoeddus Cymru. Yn ogystal â cheisio bod yn gyflogwr enghreifftiol, rydym yn defnyddio ein dull partneriaeth gymdeithasol a'n dylanwad i annog cyflogwyr i fynd gam ymhellach i elwa ar fanteision gweithlu mwy cyfartal a chynhwysol.
Diolch yn fawr iawn. Weinidog, fel un o nifer fach iawn o'r Aelodau o'r Senedd hon o'r gymuned ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, rwy'n ymwybodol iawn o'r heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yn y gweithle hwn, oherwydd eu hethnigrwydd, eu rhywedd a'u cyfeiriadedd rhywiol. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cymdeithas Feddygol Prydain siarter i ysgolion meddygol er mwyn atal a mynd i'r afael ag aflonyddu hiliol. Mae'r siarter yn mynd i'r afael â phedwar maes penodol: cefnogi unigolion i godi llais; sicrhau prosesau cadarn ar gyfer gwneud ac ymdrin â chwynion; prif ffrydio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws yr amgylchedd dysgu; mynd i'r afael ag aflonyddu hiliol ar leoliadau gwaith. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'n hysgolion meddygol i sicrhau na oddefir hiliaeth? Ac a wnewch chi gefnogi siarter Cymdeithas Feddygol Prydain i roi hyder i fyfyrwyr meddygol godi llais pan fo angen? Diolch.
Wel, rwy'n croesawu profiad a thystiolaeth yr Aelod wrth iddo dynnu sylw at y siarter i fyfyrwyr meddygol. Yn wir, rwyf wedi mentora myfyrwyr meddygol o gymunedau duon, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sydd wedi tynnu sylw at rai o'r problemau roeddent yn eu hwynebu gyda rhagfarn a gwahaniaethu. Mae'n hanfodol fod ein sefydliadau addysg uwch yn ymateb i'n cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac y gallwn ymgorffori'r holl fesurau, gan gynnwys y siarter hon ar gyfer myfyrwyr meddygol, yn yr ymateb i'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am eich ymateb cadarnhaol yr wythnos diwethaf, pan gyflwynais ddatganiad ar y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Ei nod yw creu Cymru wrth-hiliol, ac rydym am fod yn enghreifftiol, onid ydym? Felly, mae angen i'n hysgolion meddygol fod ar flaen y gad yn hynny o beth, ond bydd hynny'n arwain—ei weithredu'n llwyddiannus—at farchnad gyflogaeth decach, at system addysg a hyfforddiant decach, a hefyd, yn sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau hynny ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Ond hefyd, mae ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru, a lansiwyd gennym ym mis Mawrth eleni, yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o droseddau casineb ac yn annog pobl i roi gwybod amdanynt, ond mae trafod y peth heddiw yn neges a llais arall a fynegwyd, ac rwy'n croesawu hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae Llywodraethau Cymru wedi bod yn gyfrifol, fel y gwyddoch, am gydlynu mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi yng Nghymru ers dros 22 mlynedd. Fel yr adroddodd Sefydliad Joseph Rowntree y llynedd, Cymru sydd wedi gweld y gyfradd dlodi uchaf o holl wledydd y DU drwy gydol y cyfnod datganoli ers 1999. Yn ychwanegol at hyn, canfu eu hadroddiad 'Tlodi yng Nghymru 2020', fis Tachwedd diwethaf, fod cyflogau ym mhob sector yn is yng Nghymru nag yng ngweddill y DU a bod bron i chwarter pobl Cymru, hyd yn oed cyn y coronafeirws, yn byw bywydau ansicr a bregus mewn tlodi. Ac fel y nododd Sefydliad Bevan hefyd, roedd tlodi'n broblem sylweddol yng Nghymru ymhell cyn COVID-19. Pa gamau gwahanol rydych yn eu cynnig, felly, i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn grymuso ac yn gweithio mewn partneriaeth go iawn gyda'r sector gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac entrepreneuriaid cymdeithasol eraill i helpu i ddarparu atebion i broblemau hirdymor ein cymunedau mwyaf difreintiedig?
Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn, ac yn amlwg, am rannu pryderon Sefydliad Bevan, ac am dynnu sylw at y ffaith eu bod yn poeni bod cynlluniau cymorth COVID Llywodraeth y DU, fel y cynllun ffyrlo a'r ychwanegiadau i gredyd cynhwysol, yn cael eu tynnu'n ôl yn sydyn, a byddwn yn gobeithio y byddai Mark Isherwood a'i gyd-Aelodau yn cefnogi fy ngalwad ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y taliad credyd cynhwysol ychwanegol o £20 yr wythnos yn parhau wedi'r hydref. A dweud y gwir, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, Thérèse Coffey, i sôn wrthi am ein gwaith i wneud y gorau o incwm, a dyma ble rydym yn gweithio mor agos gyda'r trydydd sector wrth gwrs. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd pa mor bryderus rydym ni am effaith ariannol y pandemig, a'r ffaith ei fod wedi cael effaith anghymesur ar y rheini sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Mewn gwirionedd, dyna pam fod gwneud y gorau o incwm a meithrin cadernid ariannol yn allweddol i'r rheini yr effeithir arnynt. Felly, er mai gan Lywodraeth y DU y mae'r ysgogiadau allweddol ar gyfer trechu tlodi—pwerau dros systemau treth a lles—rydym yn gwneud popeth a allwn i leihau effaith tlodi ac i gefnogi'r rheini sy'n byw mewn tlodi.
Diolch. Mae arnaf ofn nad ateboch chi fy nghwestiwn, a dyfynnais amryw o gyrff a nododd fod y problemau hyn yn bodoli ymhell cyn COVID, ac maent yn galw, felly, am newid trywydd. Fel y dywedais yma fis Tachwedd diwethaf, mae adroddiad diweddar yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, 'Building Stronger Welsh Communities: Opportunities and barriers to community action in Wales', yn ymwneud â chyfuno cryfderau a sgiliau pobl leol fel y gallant adeiladu'r seilwaith cymdeithasol a llunio'r gwasanaethau y maent eu heisiau ac y maent eu hangen yn eu hardal. Ar ôl hwyluso sgwrs genedlaethol mewn 20 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ar hyd a lled Cymru, gwelsant fod:
'Datgysylltiad rhwng y Llywodraeth, cyrff cyhoeddus a chymunedau yn rhwystr i weithredu cymunedol, er gwaethaf enghreifftiau o gydweithredu traws-sector',
fod,
'pobl yng Nghymru yn teimlo'n llai a llai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol… nad yw "geiriau teilwng yn cael eu hategu gan gamau gweithredu"... fod cyrff cyhoeddus yn "gwneud pethau i, yn hytrach na gwneud pethau gyda" phobl a chymunedau',
a bod,
'ffyrdd sefydledig o weithio yn y sector cyhoeddus a nodweddir gan gyfathrebu gwael, diffyg ymddiriedaeth, osgoi mentro, gweithio mewn seilos, rhagfarn broffesiynol a diffyg cymhelliad i staff'
yn rhwystrau sylweddol i fwy o weithredu cymunedol. Sut felly y byddwch yn ymgysylltu â hwy a chyrff eraill, fel y rhai y soniais amdanynt, i gynllunio, darparu a monitro ffordd well o weithio ledled Cymru?
Wel, rwy'n amlwg wedi ymateb i'r adroddiad pwysig iawn a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Sefydliad Bevan. Mewn gwirionedd, gwneuthum sicrhau fy mod yn cyfarfod â Victoria Winckler o Sefydliad Bevan yn fuan ar ôl cael y portffolio cyfiawnder cymdeithasol. Mae'n rhaid i gyfiawnder cymdeithasol ymwneud â grymuso cymunedau, ac yn wir, dyna a ddaeth â mi i fyd gwleidyddiaeth. Ac mae'n ymwneud ag ymgysylltu â'n cymunedau i sicrhau ein bod yn gwneud pethau'n iawn o ran yr ymyriadau a wnawn. Ac wrth gwrs, fel y dywedais, mae'r ysgogiadau allweddol ar gyfer trechu tlodi, gweithio gyda'n cymunedau, yn ymwneud â sicrhau y gallant gael y cyngor sydd ei angen arnynt i ddatrys problemau gyda lles, budd-daliadau, tai a dyledion, a chymorth hefyd i gael cyflog cymdeithasol mwy hael drwy ein cynnig gofal plant, ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, ein rhaglen Cartrefi Clyd a phresgripsiynau am ddim. Mae a wnelo hyn â galluogi dinasyddion Cymru i wneud y gorau o'u hincwm, ac mae ein cynllun tlodi plant i weithredu pwyslais ar incwm yn dangos sut y gwnaethom hynny. Ond mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n cymunedau wrth inni fynd i'r afael â'r materion allweddol hyn.
Fel y nodais, y cyrff hyn a nododd yn glir fod y rhain yn broblemau hirsefydlog. Oes, mae'n rhaid inni drin y symptomau, ond mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r achosion hefyd. Mae maniffesto 2021 yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau ar gyfer cymunedau iachach, hapusach a chryfach yng Nghymru yn dechrau drwy ddweud,
'Mae gan bob cymuned yng Nghymru yr adnoddau a’r dylanwad sydd eu hangen i adeiladu capasiti cymunedol ac i ddatblygu a rhedeg ei seilwaith cymdeithasol ei hun.'
Un o ofynion allweddol Diverse Cymru yn eu maniffesto ar gyfer 2021 yw cydgynhyrchu, wrth iddynt ddatgan,
'Rhaid i ddeddfwriaeth, polisi ac ymarfer gael eu cydgynhyrchu gydag unigolion sy’n cynrychioli amrywiaeth Cymru ar draws yr holl nodweddion er mwyn sicrhau parch i bob unigolyn a hybu cydraddoldeb i bawb.'
A nododd briff Sefydliad Bevan ddoe rydych newydd gyfeirio ato ar dlodi yng Nghymru y gwanwyn hwn mai un thema allweddol sydd wedi dod i'r amlwg yw bod ein hadferiad, heb ymyrraeth, yn debygol o fod yn anghyfartal. Pa gynlluniau penodol sydd gennych felly, os o gwbl—yn hytrach nag ailddatgan y sylwadau uchelgeisiol rydych wedi bod yn eu rhannu gyda ni cyhyd ag y gallaf gofio yn y lle hwn, syniadau rwy'n eu rhannu bron yn llwyr—i sefydlu datblygu cymunedol sy'n wirioneddol seiliedig ar asedau fel egwyddor allweddol o fewn datblygu cymunedol, gan rymuso pobl y gymuned a defnyddio cryfderau sy'n bodoli'n barod yn y gymuned i adeiladu cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol?
Ni chredaf ein bod yn anghytuno ar unrhyw beth, Mark Isherwood, o ran y ffordd ymlaen i rymuso cymunedau, ac yn wir, yn ôl pob tebyg, fe gymerodd y ddau ohonom ran yn ystod yr ymgyrch etholiadol mewn hustyngau gyda'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a chlywed am enghreifftiau pwerus o fenter gymdeithasol wrth ymgysylltu â'r gymuned, fel y gallwch ei weld yn llawer o'r mentrau rydym yn eu cefnogi i drechu tlodi bwyd, tlodi tanwydd, a sicrhau bod ein cymunedau yn gallu gwneud defnydd o'r polisïau rydym yn eu cyflwyno i drechu tlodi.
Fe ofynnoch chi i mi ynglŷn â mynd i'r afael â thlodi a sut y gallwn ymgysylltu â'r trydydd sector. Cyfarfûm â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yr wythnos diwethaf, ac un o'r pwyntiau allweddol a wnaed oedd cryfder gwirfoddoli a'r ffyrdd y mae angen inni fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ganlyniad i'r pandemig. Ac yn wir, mae'n bwysig iawn eich bod yn ymuno â mi hefyd i alw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau yn ein system fudd-daliadau lles, sydd wedi cael effaith mor andwyol ar fywydau pobl yn y cymunedau hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rydym wedi clywed eisoes y prynhawn yma am yr adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan, sydd wedi rhoi cipolwg i ni—fel y mae teitl yr adroddiad yn ei awgrymu—ar dlodi yng Nghymru yng ngwanwyn 2021. Mae'r adroddiad yn syfrdanol, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno. Yr hyn sy'n fwy syfrdanol yw'r problemau y mae'r pandemig wedi'u gwaethygu. Nid yw'r anghydraddoldeb amlwg y mae'n ei ddatgelu yn newydd, ac yn fwy gofidus byth, mae'r anghydraddoldeb hwnnw'n gwaethygu; gwaethygu ar adeg pan fo llawer o'r amddiffyniadau a roddwyd ar waith yn ystod y misoedd diwethaf i'r rhai mwyaf agored i niwed bellach yn dod i ben.
Un o'r materion allweddol a drafodir yn yr adroddiad yw'r argyfwng tai sy'n effeithio ar gynifer o'n pobl a'r modd y caiff ei waethygu gan yr anghydraddoldeb hwn. Efallai mai'r ystadegyn mwyaf syfrdanol yw bod 6 y cant o aelwydydd eisoes wedi cael gwybod y byddant yn colli eu cartref. Mae hynny'n cyfateb i 80,000 o aelwydydd sydd eisoes wedi gorfod dod o hyd i gartref newydd neu'n mynd i orfod dod o hyd i un, a hynny er bod gwarchodaeth rhag troi allan yn weithredol pan gasglwyd y dystiolaeth hon. A'r bobl fwyaf agored i niwed yn economaidd ac yn gymdeithasol sy'n gorfod ymdopi â'r argyfwng hwn: aelwydydd incwm is yn bennaf, pobl anabl, oedolion o oedran gweithio. Yn amlwg, mae'r niwed wedi'i wneud i lawer o'r unigolion a theuluoedd sy'n byw mewn ofn a phryder oherwydd sefyllfa ansicr eu cartrefi, ac sy'n wynebu cael eu troi allan, gyda rhai o'r mesurau dros dro sydd wedi eu cefnogi, megis y gwaharddiad ar droi allan heb fai, sydd bellach yn cael eu codi.
Hoffwn groesawu'r grant caledi newydd i denantiaid a gyhoeddwyd heddiw. Bydd yn helpu rhai pobl i aros yn eu cartrefi, ond i lawer, bydd y risgiau’n parhau, ac felly, gyda’r pethau hyn yn dod i ben, y gwaharddiad ar droi allan heb fai, cymorth y cynllun ffyrlo, credyd cynhwysol yn dod i ben, a’r grantiau newydd hyn ond yn cael eu prosesu—yn dechrau cael eu prosesu—erbyn canol mis Gorffennaf, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa gamau y bydd hi a'i Llywodraeth yn eu cymryd, ar wahân i'r grant caledi i denantiaid a'i adnoddau cyfyngedig, i sicrhau nad yw pobl sy'n wynebu ansicrwydd o ran tai yn colli eu cartrefi ac yn llithro drwy'r rhwyd?
Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn, gan ei fod yn mynd at wraidd yr angen i drechu tlodi yng Nghymru a'r her sy'n ein hwynebu. A gaf fi ddweud bod cael rôl y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gyfle enfawr i mi a'r Llywodraeth gyfan fynd i'r afael â'r materion a godwch? Oherwydd mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb y gallai rhai ohonoch fod wedi clywed yr Athro Michael Marmot yn siarad amdano y bore yma ar raglen Today, a’r ffaith bod yr anghydraddoldebau sy'n gwaethygu o ganlyniad i’r pandemig yn golygu bod yn rhaid inni sicrhau adferiad tecach, yn ogystal â gwell, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno mai dyna'r ffordd ymlaen.
Ac o ran trechu tlodi, nid yn unig o ran edrych ar ein gwaith ein hunain a’r ffordd y mae’r rhaglen lywodraethu'n canolbwyntio ar rym ein holl ymdrechion cyfunol ar draws y Llywodraeth gyfan i fynd i’r afael â hyn, dyna pam ein bod yn annog, ac rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi i annog Llywodraeth y DU i ailfeddwl ac ymestyn credyd cynhwysol i sicrhau bod yr £20 yr wythnos yn parhau wedi'r hydref.
Mae ein gwasanaethau cynghori ac eirioli yn gwbl hanfodol er mwyn trechu tlodi hefyd. Felly, fe fyddwch yn ymwybodol o'r gronfa gynghori sengl: mae £9.6 miliwn o gyllid grant ar gael er mwyn darparu gwasanaethau cynghori yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd hynny'n hanfodol i gefnogi'r tenantiaid a fydd yn gallu defnyddio'r gronfa caledi i denantiaid a gyhoeddwyd heddiw. Ond hefyd, dylid cydnabod yr hyn rydym wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, nad yw'n mynd i newid: cyllid o £166 miliwn i awdurdodau lleol drwy'r grant cymorth tai, gan fod atal digartrefedd yn hollbwysig, a dyma ble mae awdurdodau lleol yn chwarae eu rhan i atal pobl rhag bod yn ddigartref. Bydd ein cynllun benthyciadau arbed tenantiaeth—ar gyfer y benthyciadau cost isel sydd ar gael i denantiaid yn y sector preifat—bydd y ffaith eu bod yn symud i mewn i'r grant yn hanfodol bwysig, ond gan weithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i sicrhau ein bod yn cynnwys y gwasanaethau cynghori, Cyngor ar Bopeth, Shelter, yn ogystal â'n hawdurdodau lleol, i sicrhau y bydd y grant caledi i denantiaid yn cael ei ategu a'i gefnogi gan yr holl asiantaethau yn ogystal â'r awdurdodau lleol ar lefel leol.
Diolch. Mae'r un adroddiad wedi canfod nad oes gan un o bob tair aelwyd yng Nghymru ddigon o arian i brynu unrhyw beth tu hwnt i hanfodion bywyd bob dydd. Rŷn ni'n sôn am 110,000 o aelwydydd, tua'r un faint o aelwydydd sydd yn ninas Abertawe. Mae cannoedd o filoedd o bobl ledled ein cenedl yn cael eu gorfodi i fenthyg arian, yn mynd ymhellach i ddyled, yn gorfod torri nôl ar fwyd, dillad, gwres, ac unwaith eto, y rhai sydd wedi gweld y gostyngiad mwyaf yn eu hincwm, medd adroddiad Sefydliad Bevan, sydd wedi gweld y cynnydd uchaf yn eu costau byw.
Trwy ehangu'r ddarpariaeth prydiau ysgol am ddim i'r 70,000 o blant mewn tlodi nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd, gallem leihau tlodi plant ac anghydraddoldeb yn sylweddol, trwy leihau costau byw i rieni sy'n ei chael hi'n anodd, a rhoi dechrau gwell mewn bywyd i'n plant. Mae'n fesur fforddiadwy. Pe bai cymhwysedd yn cael ei ehangu i deulu pob plentyn sy'n derbyn credyd cynhwysol, y gost ychwanegol fyddai £10.5 miliwn. Mae tlodi plant ac anghydraddoldeb cynyddol yn amlwg yn fater cyfiawnder cymdeithasol. Felly, Weinidog, pryd gallwn ni ddisgwyl gweithredu pellach ar ehangu'r ddarpariaeth prydiau ysgol am ddim gan y Llywodraeth?
Diolch am eich cwestiwn. Fe wyddoch fod y Gweinidog wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o brydau ysgol am ddim, a chredaf ei bod yn bwysig iawn nodi eto yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe am y cynnydd yn y nifer sy'n derbyn prydau ysgol am ddim o 66,000 ym mis Ionawr 2020 i 105,000 ym mis Ionawr 2021. Ond hoffwn dynnu sylw hefyd at rai o'r ffyrdd eraill y gallwn gefnogi plant a theuluoedd yn arbennig mewn perthynas â threchu tlodi, a thynnu sylw at gynllun gwella gwyliau’r haf, er enghraifft, sy'n mynd i arwain at lawer o deuluoedd yn ein hysgolion, yn ein cymunedau, yn elwa o gynllun gwella gwyliau’r haf.
Ond bydd angen inni fynd i'r afael â threchu tlodi drwy bob agwedd ar Lywodraeth Cymru, boed yn addysg, tai drwy'r weinyddiaeth newid hinsawdd, swyddi a chyflogadwyedd. Rydym yn mynd i'r afael â diweithdra, yn lleihau anghydraddoldebau economaidd, rydym yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau addysgol gyda'r grant datblygu disgyblion, ac wrth gwrs, mae gennym y cynnig mwyaf hael o brydau ysgol am ddim er mwyn estyn allan at blant yn ystod gwyliau'r ysgol. A gaf fi hefyd dynnu sylw at y cynlluniau gwych sy'n mynd rhagddynt yn y Cymoedd, yng nghwm Llynfi, Aberdâr, Merthyr Tudful a Rhydaman, er enghraifft, gyda chynllun Big Bocs Bwyd? Rwy'n credu efallai yr hoffai Mark Isherwood ymweld â'r cynlluniau hynny hefyd.
Mewn tirwedd economaidd mor llwm, a heb y grym, fel y nodoch yn gynharach, i sicrhau system les decach, fwy trugarog na’r hyn y mae Llywodraeth Dorïaidd San Steffan yn ei chynnig, mae’r gronfa cymorth dewisol yn ffynhonnell gymorth hanfodol. Er bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi swm ychwanegol o arian yn y gronfa cymorth dewisol ac wedi sicrhau bod y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cael cymorth yn fwy hyblyg mewn ymateb i argyfwng COVID, mae'r hyblygrwydd ychwanegol hwn i fod i ddod i ben ym mis Medi. Felly, o ystyried y darlun a baentiwyd gan ymchwil ddiweddar a data'r Llywodraeth ei hun, mae hyn yn peri cryn bryder, o ystyried y bydd pobl yn parhau i wynebu caledi ariannol ac argyfwng ar ôl y dyddiad hwn, pobl y mae'r gronfa cymorth dewisol wedi darparu cymorth hanfodol iddynt mewn cyfnod mor eithriadol o anodd. Felly a wnaiff y Gweinidog a Llywodraeth Cymru ystyried parhau â’r hyblygrwydd ychwanegol ar gyfer cael mynediad at y gronfa cymorth dewisol ar ôl diwedd mis Medi i sicrhau y gall y rheini sydd angen y cymorth hwn gael mynediad ato? Diolch.
Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi gallu ei gyflawni i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau drwy sicrhau bod hyblygrwydd yn y gronfa cymorth dewisol, ond hefyd i sicrhau y gellir gwneud mwy nag un taliad. Roedd hwnnw'n un o'r cyfyngiadau i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y gronfa. Mae'n rhan fawr o'n cynllun gweithredu pwyslais ar incwm, ac yn wir, bydd hefyd yn gysylltiedig iawn â'r cymorth a roddir i denantiaid yn y sector preifat, yn gysylltiedig â'r gronfa caledi i denantiaid.
Cwestiwn 3 i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog. Darren Millar.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i gyn-filwyr yng Nghymru? OQ56685
Mae trydydd adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog yn manylu ar yr ystod eang o gymorth i gyn-filwyr ledled Cymru. Eleni, rydym wedi gweld cynnydd rhagorol gan gynnwys mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer cyn-filwyr, cyllid i gyn-filwyr gael mynediad at addysg bellach ac uwch a chyllid parhaus i'n swyddogion cyswllt y lluoedd arfog.
Diolch am eich ymateb, Ddirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, i nodi Wythnos y Lluoedd Arfog, ymwelais â phencadlys Adferiad Recovery ym Mae Colwyn yn fy etholaeth. Mae Adferiad Recovery yn darparu gwasanaethau i gyn-filwyr drwy eu rhaglen Change Step, sydd wedi bod ar waith ers dros ddegawd. Mae dros 3,000 o unigolion ag anhwylder straen ôl-drawmatig wedi cael cymorth gan y rhaglen benodol honno, ac maent wedi darparu 57,000 awr o gymorth mentora cymheiriaid un i un. Roedd cost y gwasanaeth hwnnw dros y degawd oddeutu £5 miliwn, ac eto £40,000 yn unig o hynny sydd wedi dod gan Lywodraeth Cymru, er bod ymchwil academaidd wedi dangos, am bob £1 a fuddsoddir yn y gwasanaeth, fod hynny'n arbed £7 i bwrs y wlad. A gaf fi ofyn i Lywodraeth Cymru edrych ar yr adnoddau y mae'n eu darparu i gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru, ac i weld a oes cyfle yma i fuddsoddi er mwyn darparu cyllid mwy cynaliadwy i'r rhaglen Change Step, sydd wrth gwrs yn gweithredu ledled Cymru ac sydd wedi bod o fudd i gynifer o fy etholwyr yn ogystal â rhai'r Dirprwy Weinidog ac eraill yn y Siambr hon?
A gaf fi ddiolch i Darren Millar am ei gwestiwn? Gwn fod hwn yn faes rydych yn ymrwymedig iawn iddo ac yn angerddol iawn yn ei gylch yn y gwaith a wnewch gyda'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog hefyd, ac rydych hefyd yn mynychu'r grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog fel gwestai.
Mae'n gwbl briodol inni ganmol y gwaith y gwnaethoch dynnu sylw ato, yn enwedig ar ôl Wythnos y Lluoedd Arfog, pan oedodd nifer ohonom yn y Siambr hon i dalu teyrnged i'r rheini sydd wedi gwasanaethu, a'r rheini sy'n parhau i wasanaethu, y cyn-filwyr a'r cyfraniad a wnânt nid yn unig i'n gwlad, ond i'n cymunedau ledled Cymru. Rôl y trydydd sector a'r elusennau hynny, gwyddom mai hwy yw'r rhai a dim ond oherwydd ein bod wedi gweithio ar y cyd mewn partneriaeth y gallasom ddarparu'r cymorth hwnnw i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Fe fyddwch yn gyfarwydd iawn ag ymarfer cwmpasu'r lluoedd arfog, sy'n tynnu sylw at y cynnydd rydym wedi'i wneud, ond hefyd y gwaith sydd angen ei wneud o hyd a lle'r oedd y bylchau. Felly, yn sicr, rwy'n fwy na pharod i edrych ar y pwyntiau y mae wedi'u codi heddiw ac i ddod yn ôl at yr Aelod, os hoffai gysylltu ynglŷn â hynny hefyd.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau tlodi plant yn Nwyrain De Cymru? OQ56701
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Ddydd Llun, cyhoeddais yr adroddiad cynnydd ar y cynllun tlodi plant i weithredu pwyslais ar incwm, ac mae'n dangos bod ein hymgyrch genedlaethol gyntaf i sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau wedi arwain at £651,504 yn ychwanegol yn cael ei hawlio gan y rheini sydd â hawl i fudd-daliadau, gan gynnwys aelwydydd yn ne-ddwyrain Cymru.
Diolch, Weinidog. Mae cyfradd Cymru o dlodi plant yn uwch yn awr nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU, gydag un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi. Rwy'n poeni ein bod wedi arfer cymaint â chlywed y ffigur hwnnw nes ei fod wedi colli ei rym, felly hoffwn atgoffa'r Siambr mai'r hyn y mae'r ffigur hwnnw—y ffigur un o bob tri phlentyn—yn ei olygu yw bod miloedd o blant yng Nghymru yn mynd i'r gwely'n llwglyd. Maent yn mynd i'r ysgol, i'w dosbarthiadau, gyda'u boliau'n wag, ond maent hefyd yn gorfod ymdopi â'r pryder o wybod bod eu rhieni o dan straen. Efallai eu bod yn teimlo bod yn rhaid iddynt guddio eu sefyllfa rhag eu ffrindiau, felly nid oes ganddynt unrhyw un i siarad â hwy. Yr hyn rwy'n ei ddweud, Weinidog, yw nad effaith gorfforol yn unig sydd i dlodi plant: nid yw'n ymwneud yn unig â diffyg maeth neu fethu cadw'n gynnes neu'n gyffyrddus, er mor niweidiol yw'r pethau hynny; mae hefyd yn ymwneud â'r straen emosiynol, y bwlio a all ddigwydd a'r effaith y gall tlodi ei chael ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem gudd hon?
Diolch i Delyth Jewell am y cwestiynau pwysig iawn hyn. I mi, fel Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, dylwn ddweud na fu erioed amser pwysicach i wneud popeth a allwn i liniaru effeithiau tlodi gyda'r pwerau a'r ysgogiadau sydd gennym. Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, fel y cofiwch, gwnaeth y Prif Weinidog ymrwymiad i ailbeiriannu rhaglenni cyllido presennol er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Ac arweiniodd hynny at yr adroddiad rwyf newydd ei grybwyll, a'r camau gweithredu ymarferol ynddo. Mae'n ymwneud â mwy na chynyddu incwm teuluoedd sy'n byw mewn tlodi, mae hefyd yn eu helpu i adeiladu cadernid. Mae a wnelo hyn â'ch pwyntiau allweddol am yr effaith ar fywydau pobl, ar eu hiechyd meddwl—cefnogi teuluoedd nid yn unig i gynyddu eu hincwm, ond hefyd i sicrhau y gallant ddod o hyd i gyflogaeth a gwella canlyniadau plant a theuluoedd. Mae hon, wrth gwrs, yn dasg drawslywodraethol o ran cefnogi rhaglen Dechrau'n Deg, rhaglen a chanddi rwydwaith cymorth mor bwysig ledled Cymru yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Ond a gaf fi ddweud, unwaith eto, ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar yr hyn a wnawn? Mae dros £60 miliwn ar gael mewn cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yn ystod 2021, £23 miliwn yn ychwanegol hyd at 2022, yn y flwyddyn ariannol nesaf, a'r ymrwymiad rwyf eisoes wedi'i grybwyll i adolygu'r meini prawf cymhwysedd. A gaf fi ddweud bod rhaglen gwella gwyliau’r haf yn gyfle go iawn? Y rhaglen bwyd a hwyl yn ystod gwyliau'r ysgol, a'r 'haf o hwyl' sydd eisoes wedi'i gyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol—rheini fydd y ffyrdd y gallwn estyn allan at y plant hynny a'r teuluoedd hynny, gyda'r potensial i gefnogi'r plant hynny yn y cymunedau a'r cartrefi sy'n byw mewn tlodi.
Weinidog, yn ei strategaeth tlodi plant yn 2015, nododd Llywodraeth Cymru mai ei huchelgais oedd sicrhau nad oedd unrhyw blentyn yn byw mewn tlodi erbyn 2020. Afraid dweud, mae hi bellach yn 2021. Mae Achub y Plant wedi nodi mai Cymru sydd â'r gyfradd tlodi plant uchaf o unrhyw genedl yn y Deyrnas Unedig. Dangosodd ffigurau rhwng 2019 a 2020 fod 31 y cant o blant yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi, o gymharu â 30 y cant yn Lloegr a 24 y cant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd bron i 200,000 o blant yn byw mewn tlodi yma yng Nghymru, gyda chyfran uwch o blant yn cael eu heffeithio nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Weinidog, gwn eich bod wedi cyfeirio at y Llywodraeth ganolog ar sawl achlysur, ond mae Sefydliad Bevan wedi dweud bod diffyg meddwl cydgysylltiedig yn Llywodraeth Cymru, gyda pholisi sy'n canolbwyntio gormod ar gynyddu cyflogaeth ac nad yw polisïau yn gweithio mewn cytgord. Felly, Weinidog, beth yw'r ymateb—beth yw eich ymateb chi yn benodol—i Sefydliad Bevan, a sut y byddwch yn sicrhau bod dull integredig, trawslywodraethol yn cael ei fabwysiadu i ddileu tlodi plant yma yng Nghymru? Diolch.
Wel, rhaid i mi ddweud—diolch am y cwestiwn hwnnw—fod yr ymchwil a wnaed gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Sefydliad Joseph Rowntree, Sefydliad Resolution, yr holl sefydliadau uchel eu parch, yn edrych ar effaith rhaglen Llywodraeth y DU o ddiwygiadau treth a lles sydd wedi'u rhewi am bedair blynedd—budd-daliadau wedi'u rhewi am bedair blynedd—a'r ffaith bod hyn yn cael cymaint o effaith ar bwerau mewn perthynas â threth a lles. Mae’r pwerau hynny yn nwylo Llywodraeth y DU. Felly, gobeithio y byddwch hefyd yn cefnogi ymestyn yr £20 o gredyd cynhwysol yr wythnos ar ôl mis Medi. Oni fyddai’n dda pe bai'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi hynny hefyd? Oherwydd mae’n rhaid inni weithio gyda’n gilydd i liniaru effaith tlodi a gwella canlyniadau i bobl sy’n byw mewn tlodi. Ond a gaf fi ddweud pa mor dda oedd gweld cymaint o gefnogaeth i Weinidog yr Economi ddoe pan gyhoeddodd y warant ieuenctid? Oherwydd mae cyflogaeth yn cynnig llwybr cynaliadwy allan o dlodi—gan roi'r cynnig hwnnw i bawb o dan 25 oed. Mae'n ddull cydgysylltiedig o weithredu, wrth gwrs. Mae ein cynllun gweithredu ar dlodi plant yn nodi amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi plant, a gobeithio y byddwch yn darllen adroddiad cynnydd 2019, a’r un a gyhoeddais ddydd Llun.
Weinidog, wrth weithio a gwirfoddoli yn y trydydd sector drwy gydol y pandemig, cefais brofiad uniongyrchol o'r effeithiau niweidiol y mae COVID wedi'u cael ar deuluoedd y Rhondda. Yn anffodus, mae colli incwm a chostau byw cynyddol wedi golygu bod teuluoedd ac unigolion yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Rwy'n ddiolchgar am y darpariaethau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r teuluoedd hyn, ond mae problem wirioneddol o hyd ynghylch y stigma sy'n gysylltiedig â gofyn am gymorth. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru, nid yn unig i helpu i roi diwedd ar y stigma sy'n gysylltiedig â cheisio cymorth, ond i annog teuluoedd y mae taer angen cymorth arnynt i ddefnyddio'r darpariaethau sydd ar gael, yn enwedig dros gyfnod gwyliau'r haf?
Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams, am y cipolwg pwysig hwnnw ar effaith COVID ar gymunedau, a hefyd y ffyrdd y gwnaethoch ymgysylltu, rwy'n gwybod, fel Aelodau eraill, i rymuso cymunedau a gwirfoddolwyr, sydd wrth gwrs yn cynyddu eu parch yn ogystal â'u gallu. Mae hyn yn ymwneud â hawl—hawl i'r budd-daliadau rydym bellach yn sicrhau eu bod ar gael iddynt, ond mae hefyd yn ymwneud â hawl i fod yn rhan o brosiectau fel rhaglen gwella gwyliau'r haf.
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â charchardai a'r gwasanaeth prawf ers yr etholiad? OQ56680
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi. Rwy'n croesawu'r ffaith bod yr holl waith rheoli troseddwyr wedi'i drosglwyddo i'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Cwblhawyd hyn yr wythnos hon. Rwyf wedi cyfarfod â swyddogion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM i ddatblygu cynlluniau ar y cyd.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fel rydych chi'n ymwybodol, un o broblemau mawr y system gyfiawnder yng Nghymru yw'r diffyg data penodol ar Gymru. Pan wnaeth HMPPS roi tystiolaeth i'r comisiwn cyfiawnder yn ôl yn y gwanwyn yn 2019, roedden nhw'n dweud bod eu hystadegwyr nhw'n cydweithio ag ystadegwyr Llywodraeth Cymru i edrych ar lefelau aildroseddu.
Rwyf am droi at y Saesneg i wneud y pwynt nesaf, oherwydd rwyf am ddyfynnu yn union yr hyn a ddywedasant. Aethant ymhellach a dweud bod gweithgor wedi'i sefydlu rhyngddynt hwy a Llywodraeth Cymru
'i edrych ar ddadgyfuno data'
yn ein rhan ni o'r system gyfiawnder. Fy nghwestiwn, felly, Weinidog, yw: sut y mae'r gwaith pwysig hwnnw ar ddadgyfuno data yn mynd yn y rhan bwysig honno o'r system gyfiawnder er mwyn cael data sy'n benodol i Gymru? Diolch.
Diolch, Rhys ab Owen. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, pwynt rwy'n ei godi'n rheolaidd gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn wir, rwy'n cyfarfod â Gweinidog yfory—Alex Chalk—a byddaf yn codi'r mater hwn eto. Roedd mor amlwg yn nadansoddiad comisiwn Thomas; gwn y bydd yn rhywbeth y byddaf yn gweithio arno gyda'r Cwnsler Cyffredinol yn ein his-bwyllgor cyfiawnder yn y Cabinet. Ond mae'r data hwnnw'n hanfodol er mwyn inni ddeall sut y gallwn sicrhau gwell canlyniadau o ran effaith y system cyfiawnder troseddol ar ddinasyddion Cymru.
Weinidog, mewn erthygl ddiweddar yn The Lancet, tynnwyd sylw at y nifer uchel o farwolaethau o ganlyniad i'r coronafeirws mewn carchardai, ac mae hyn er gwaethaf y ffaith bod troseddwyr yn cael eu cloi yn eu celloedd am hyd at 23 awr y dydd i atal lledaeniad y feirws. Bydd hyn yn peri pryder arbennig mewn ardaloedd o amgylch carchardai agored yng Nghymru, megis carchar Prescoed ym Mrynbuga yn fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sut y mae'n gweithio gyda Gweinidog Llywodraeth y DU a'r gwasanaeth carchardai i greu cynllun i fynd i'r afael â lledaeniad y coronafeirws yn ein carchardai, a hefyd sut y mae'n sicrhau bod carcharorion a chymunedau o amgylch carchardai yn cael eu diogelu?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Laura Anne Jones. Yn wir, cyfarfûm â chyfarwyddwr gweithredol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi Cymru heddiw a chawsom y wybodaeth ddiweddaraf am garchardai. Dywedodd—ac fe fyddwch yn croesawu'r adroddiad cynnydd—fod adferiad yn mynd yn dda mewn carchardai. Mae ganddynt bedair lefel. Y bedwaredd lefel, y lefel uchaf, yw pan nad ydynt yn gallu dod allan i wneud gweithgareddau ac maent wedi'u cyfyngu i'w celloedd i raddau helaeth, ac mae lefel 1 yn cyfateb i wasanaeth bron fel arfer. Dywedodd wrthyf heddiw fod pob carchar yng Nghymru ar lefel 2 ar wahân i Abertawe, a fydd yn i symud i lefel 2 yn ddiweddarach yr wythnos hon. Cadarnhaodd hefyd nad oes unrhyw glystyrau o achosion mewn carchardai yng Nghymru a bod achosion ymhlith staff yn isel. Roedd yn gadarnhaol iawn ynglŷn â'r ffaith bod cydweithio agos â'r gwasanaethau datganoledig sydd, wrth gwrs, yn cefnogi ein carchardai, mewn perthynas ag iechyd yn arbennig, sy'n allweddol, ond hefyd mewn perthynas â'r cyfleoedd i garcharorion pan fyddant yn gadael y carchar.
Hoffwn ddweud yn gyflym iawn cymaint rwy'n croesawu uno'r gwasanaeth prawf. Gwnaethom bwyso am hyn ac fe wnaethom ei uno yn ôl ym mis Rhagfyr 2019 cyn i Loegr wneud hynny. Buom yn gwasgu am hynny; nid oedd yn ein pwerau, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod Rory Stewart, y cyn Weinidog, wedi gwasgu am hynny hefyd ac fe wnaethom gyflawni hynny. Ond o ddydd Llun ymlaen, bydd popeth wedi'i uno; mae gennym Wasanaeth Prawf Cenedlaethol, a fydd yn hanfodol i'r cymunedau ac i'r bobl sy'n gadael ac yn ailsefydlu ar ôl gadael carchardai ledled Cymru.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cydlyniant rhwng cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a thrigolion Dyffryn Clwyd? OQ56698
Diolch, Gareth Davies. Drwy ariannu'r rhaglen cydlyniant cymunedol a phrosiect Teithio Ymlaen TGP Cymru, rydym yn darparu cyngor, eiriolaeth a chynhwysiant i feithrin cysylltiadau da rhwng cymunedau yn Nyffryn Clwyd a ledled Cymru, gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ers blynyddoedd lawer, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael trafferth dod o hyd i leoliadau addas ar gyfer safleoedd preswyl a thramwy ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Maent wedi archwilio nifer o safleoedd sydd wedi bod yn anaddas i bawb dan sylw. Fodd bynnag, Weinidog, mae safleoedd Sipsiwn a Theithwyr wedi'u sicrhau ledled gogledd Cymru gan awdurdodau lleol cyfagos. A wnewch chi dderbyn y byddai mabwysiadu dull rhanbarthol o ddarparu safleoedd preswyl a thramwy ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn ffordd well o fynd i'r afael ag anghenion cymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma yn ogystal ag anghenion trigolion lleol?
Nid wyf yn derbyn hynny o gwbl. Rwy'n gobeithio yr edrychwch ar ein cynllun Teithio Ymlaen fel Aelod lleol. Mae gan bob awdurdod lleol gyfrifoldeb i sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu safleoedd digonol sy'n briodol yn ddiwylliannol lle bo angen. Deallaf fod gan Gyngor Sir Ddinbych—rwy'n deall, ac mae'n rhaid inni annog hyn—ddyletswydd gyfreithiol i gynnal asesiad newydd o'r ddarpariaeth i Sipsiwn a Theithwyr bob pum mlynedd, ond nid yw wedi llwyddo eto i gyflawni ei rwymedigaethau. Gadewch i ni obeithio y bydd yr ymgynghoriad yn mynd yn dda. Bydd yn rhaid cael sgyrsiau â theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr a'r gymuned ehangach, gan gynnwys grwpiau cynrychioliadol, dros yr haf. Mae'n hanfodol fod pob awdurdod lleol yng Nghymru—. Rydym wedi gweld dros 200 o leiniau newydd yn cael eu creu a'u hadnewyddu ledled Cymru o ganlyniad i'r buddsoddiad. Ar hyn o bryd rydym yn ariannu prosiectau gwerth £1.2 miliwn i adnewyddu'r ddarpariaeth bresennol, ac mae gennym safleoedd newydd. Dyma'r hyn y mae angen i sir Ddinbych ei wneud yn awr.
7. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cynlluniau ar gyfer banc cymunedol yng Nghymru? OQ56668
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran agor banc cymunedol yng Nghymru? OQ56671
Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 7 ac 8 gael eu grwpio. Mae cynnig y sector preifat i sefydlu banc cymunedol i Gymru yn dibynnu ar gymeradwyaeth reoleiddiol. Mae cynlluniau cyflawni gweithredol yn parhau i ddatblygu ochr yn ochr ag asesiadau rheoleiddiol a gwerthusiad ehangach gan Lywodraeth Cymru, fel y gellir sefydlu Banc Cambria cyn gynted â phosibl ar ôl cael cymeradwyaeth reoleiddiol a phenderfyniadau buddsoddi.
Diolch i chi, Weinidog. Rwyf wrth fy modd fod y cwestiwn hwn wedi ei grwpio gyda chwestiwn Jack Sargeant hefyd, o gofio bod Jack wedi bod yn gefnogwr mor gryf i fanc cymunedol. Mewn adroddiad diweddar ym mhapur newydd sir y Fflint a Wrecsam, The Leader, tynnwyd sylw at y nifer frawychus o ganghennau banc a gollwyd yng ngogledd Cymru. Mae data a gyhoeddwyd gan y papur yn dangos mai De Clwyd yw'r etholaeth yr effeithiwyd arni waethaf yng ngogledd Cymru. Weinidog, a allwch chi amlinellu sut y bydd fy etholwyr yn elwa o greu banc cymunedol ar ôl colli pob banc ond un yn Ne Clwyd?
Rwy'n falch iawn fod Jack Sargeant hefyd wedi codi'r cwestiwn hwn y prynhawn yma. Ar ddiwedd 2021, un banc yn unig a fydd ar ôl i wasanaethu pobl De Clwyd. Mae'r ardal wedi colli 80 y cant o'i banciau ers 2015. Mae'n rhoi preswylwyr mewn perygl wrth iddynt orfod teithio allan o'r dref. Cangen Barclays yn Llangollen yw'r unig gangen banc ffisegol sydd ar ôl yn yr etholaeth.
I mi gael dweud wrth yr Aelodau, mae'r banc cymunedol o fudd mawr a chredaf fod cefnogaeth dda iddo ar draws y Siambr hon. Bydd yn eiddo i'w aelodau ac yn cael ei redeg er budd i'w aelodau. Bydd yn gwella mynediad at wasanaethau bancio a mynediad at arian parod, gyda gwasanaethau bancio dwyieithog amlsianel i bobl a busnesau. Bydd hefyd yn cydweithio ag ecosystem ariannol Cymru, er enghraifft undebau credyd, a bydd yn creu swyddi uniongyrchol hefyd. Nid oes yr un banc cymunedol yn gweithredu yn y DU, ond ni fydd y banc cymunedol cyntaf i weithredu. Nod Banc Cambria yw darparu cyfleuster bancio personol cyffredinol ledled Cymru.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod dros Dde Clwyd am ei eiriau caredig—Ken Skates—a hefyd am ei waith fel Gweinidog hyd yma ar y banc cymunedol, a'r Gweinidog sy'n gyfrifol yn awr, Jane Hutt, am ei hymrwymiad hyd yma? Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn dadlau dros gael banc cymunedol ym Mwcle yn fy etholaeth ers amser maith. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynnydd a wneir ar agor cangen o fanc cymunedol cyntaf Cymru ym Mwcle?
Iawn. Wel, diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant, hyrwyddwr ac arloeswr arall dros y cynnig o fanc cymunedol, ochr yn ochr â chyn-Weinidog yr economi a thrafnidiaeth, Ken Skates, a roddodd y fenter hon ar waith, ac mae mor dda ein bod yn bwrw ymlaen â hyn. Gwn pa mor galed y mae'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy—a Bwcle, credaf fod cyngor y dref wedi ymgyrchu dros fanc cymunedol ym Mwcle. Felly, mae Banc Cambria yn datblygu'r gwaith o gyflwyno ac amseru canghennau, ac rwyf hefyd yn cyfarfod â banciau'r stryd fawr cyn bo hir i drafod materion cyfiawnder cymdeithasol yn sgil cau canghennau banc ledled Cymru gyfan, sy'n destun pryder i bawb yn y Siambr hon.
Diolch ichi am eich ymatebion hyd yn hyn i'r pwyntiau hyn, Weinidog. Yn amlwg, mae rhai cymunedau'n chwilio am fanciau cymunedol yn eu hardaloedd. Roeddwn yn meddwl tybed sut rydych yn blaenoriaethu pa drefi a chymunedau a fyddai â banc cymunedol ynddynt.
Gwaith Banc Cambria yw hwn, wrth iddynt ddatblygu hyn. Rwy'n falch iawn eu bod wedi ceisio cyfarfod ag Aelodau a phobl allweddol, llefarwyr, ar draws y Siambr. Maent yn edrych yn benodol ar weithio mewn partneriaeth ag undebau credyd, felly gallaf roi enghraifft i chi o ran Undeb Credyd Cambrian yng ngogledd Cymru sy'n ymwneud â hyn. Cynnig ydyw o hyd; mae'n rhagweld banciau cymunedol ledled Cymru yn y dyfodol, ond rwy'n siŵr y bydd hyn o ganlyniad i'n buddsoddiad ni, a ddaeth gan Ken Skates yn flaenorol, i gynnal yr astudiaeth ddichonoldeb, yn ogystal â'r rhagolygon ar gyfer lle sydd fwyaf priodol a lle fyddai angen pwynt mynediad at fanc Cambria ar y stryd fawr.
Gan fod cau banciau yn ein trefi a'n pentrefi ledled Cymru yn digwydd yn rhy gyffredin o lawer, mae'r weledigaeth a gyflwynwyd gan y tîm ym Manc Cambria yn un gyffrous. Er enghraifft, yn fy rhanbarth i, un banc yn unig sydd ar ôl yn etholaeth Ogwr, sy'n debyg i'r hyn a glywsom yn Ne Clwyd hefyd. Ac wrth gwrs, mewn rhai etholaethau maent mewn perygl o ddiflannu'n gyfan gwbl. Gallai fod defnydd ehangach na banciau'n unig i'r model cymunedol wrth gwrs. A yw'r Gweinidog wedi ystyried sut y gallwn ddefnyddio model Banc Cambria ar gyfer busnesau eraill a arweinir gan y gymuned—ym maes ynni, er enghraifft—a pha gymorth y bydd y Llywodraeth yn ceisio'i ddarparu?
Ac rwy'n derbyn yn llwyr mai cam nesaf yw hwn yn ôl pob tebyg. Fel y dywedodd yr Aelod, mae angen inni sefydlu Banc Cambria, mae angen inni fynd i'r afael â'r prinder, a'r dinistr yn sgil prinder o ganghennau banc. Ond rwy'n credu y gallai fod yn fodel, oni allai, ac rwy'n siŵr y byddwn yn adeiladu ar hynny gyda'ch cyngor a'ch cefnogaeth hefyd.
A gaf fi ddweud yn gyntaf fod hwn yn sicr yn fater rwyf wedi'i godi fy hun gyda Llywodraethau olynol yng Nghymru? Rwy'n credu i mi godi hyn yn gyntaf gydag Edwina Hart, a oedd mor gefnogol i fy safbwynt ar Fanc Cambria ac ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at fancio cymunedol. Gwrandewais yn astud iawn ar yr atebion a roddwyd, Weinidog, ond credaf mai'r hyn y bydd pobl eisiau ei wybod, yn enwedig lle mae yna drefi yng Nghymru, yn fy etholaeth i, lle'r oedd tri neu bedwar banc ychydig flynyddoedd yn ôl efallai, a lle nad oes unrhyw fanc o gwbl yno bellach. Rwy'n credu y byddant yn awyddus i ddeall amserlenni a gwybod pryd y gwelwn y banc ffisegol cyntaf hwnnw'n ymddangos yn y dref honno eto. [Torri ar draws.] Gwn fod trafodaethau yn y gorffennol—. Rwy'n siŵr, o drafodaethau yn y gorffennol—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf; byddwch yn amyneddgar. Drew, mae'n ddrwg gennyf—. O drafodaethau yn y gorffennol, Weinidog, rwy'n credu y bydd mater yn codi gyda Banc Cambria lle maent wedi dweud y byddant yn gwneud pwynt o fynd i drefi lle nad oes unrhyw fanciau o gwbl. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn, Weinidog, pe gallech ddarparu amserlenni efallai i nodi pryd y gwelwn y banc ffisegol cyntaf yn ymddangos mewn tref am y tro cyntaf.
Rwy'n croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol eang hon y prynhawn yma i greu banc cymunedol i Gymru. Mae'r sector bancio'n cael ei reoleiddio'n dynn, fel y gŵyr yr Aelodau, felly mae'n rhaid inni aros i'r asesiad rheoleiddiol ddod i gasgliad boddhaol. Mae hynny'n ymwneud â sicrwydd i fuddsoddwyr ac aelodau o Fanc Cambria yn y dyfodol. Ond yr hyn a wnânt—eu nod yw agor tua 30 o safleoedd newydd dros y degawd nesaf.
Diolch i'r Gweinidog.
Russell George, fe wnaethoch lwyddo'n ardderchog i ddyfalbarhau gyda'ch cwestiynau er gwaethaf y synau cefndirol ar eich Zoom. Da iawn.
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol ar ffyrdd y gellid hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy ddeddfwriaeth? OQ56672
Diolch, Jack Sargeant. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r sector cyfreithiol ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys deddfwriaeth sy'n ymwneud â chyfiawnder.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymrwymiad amlwg—a'ch ymrwymiad hirsefydlog—i gyfiawnder cymdeithasol. Yn eich sgyrsiau â'r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, pa gyfeiriadau a wnaed at y toriadau i gymorth cyfreithiol, ac a ydych yn cytuno bod toriadau Llywodraeth y DU yn golygu ei bod yn llawer anos i'r rhan fwyaf o bobl, yn enwedig pobl ddosbarth gweithiol, gael cyfiawnder yng Nghymru a ledled y DU gyfan? Ac a wnewch chi hefyd gytuno, Gwnsler Cyffredinol, i gyfarfod â mi a fy swyddfa i drafod y mater hwn ymhellach?
Wel, yn gyntaf oll, rwy'n fodlon cyfarfod â chi ac unrhyw Aelodau eraill mewn perthynas â mynediad at gyfiawnder a'r materion sy'n ymwneud â chymorth cyfreithiol. Mae'n fater rwyf wedi siarad amdano mewn sesiynau blaenorol yn y Senedd, ac wrth gwrs, mae'n ennyn pryderon y farnwriaeth a chomisiwn Thomas hefyd. Pan gyflwynwyd cymorth cyfreithiol ym 1948, wrth gyflwyno'r adroddiad, cafodd ei ddisgrifio gan yr Is-iarll Simon yn y bôn fel GIG o gyngor a chymorth cyfreithiol i'r bobl. Dywedodd:
'Felly, cymeradwyaf yr Adroddiad hwn i'r Tŷ gyda'r ystyriaeth syml hon, na ddylai unrhyw ddinesydd, beth bynnag fo'r anawsterau sy'n deillio o dlodi, fethu cael y cymorth neu'r cyngor cyfreithiol sydd mor angenrheidiol i sefydlu ei hawliau llawn. Rwyf o'r farn bod hwn yn ddiwygiad hanfodol mewn gwir ddemocratiaeth'.
A chredaf fod y sylw hwnnw yr un mor wir heddiw â phan ddaeth y GIG i fodolaeth. Yr hyn sy'n anffodus mewn rhai ffyrdd yn fy marn i yw bod ethos diben cyngor a chymorth cyfreithiol yn cael ei leihau i fod yn fater o gost yn hytrach nag o rymuso pobl yn sylfaenol mewn democratiaeth. Mae hwn yn fater sydd wedi cael sylw. Cafodd ei grybwyll gan yr Arglwydd Neuberger, fel llywydd y Goruchaf Lys, a ddywedodd:
'Mae torri cost cymorth cyfreithiol yn amddifadu'r union bobl sydd fwyaf o angen i'r llysoedd amddiffyn eu gallu i gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol.'
A dywedodd barnwr Goruchaf Lys arall yn 2018, yr Arglwydd Wilson:
'Hyd yn oed lle mae'n ofynnol parhau i ddarparu cymorth cyfreithiol am ddim, er enghraifft i ddiffynyddion sy'n wynebu cyhuddiadau troseddol ac i rieni sy'n wynebu bygythiad y bydd eu plant yn cael eu cymryd oddi arnynt, mae'r DU yn ei ddatgymalu'n anuniongyrchol drwy osod cyfraddau taliadau ariannol i gyfreithwyr ar lefelau mor anfasnachol fel bod y rhan fwyaf ohonynt yn teimlo, yn gyndyn, na allant wneud y gwaith hwnnw. Mae mynediad at gyfiawnder dan fygythiad yn y DU.'
Ac mae wedi bod ers peth amser, ac nid oes ond angen i chi edrych ar y ffigurau dros y degawd diwethaf. Yn 2011, gwerth y gwariant ar gymorth cyfreithiol yng Nghymru mewn termau real oedd £128 miliwn; swm y gwariant ar gymorth cyfreithiol yn awr yw £80 miliwn—gostyngiad o 37 y cant. Gostyngiad sy'n cymharu â gostyngiad o 28 y cant yn Lloegr mewn gwirionedd, a chredaf fod hynny'n dangos nad yn y maes troseddol y bu'r galw gwirioneddol am gymorth cyfreithiol yng Nghymru fel y cyfryw, ond yn hytrach yn bendant iawn yn yr arena gymdeithasol. I bob pwrpas, mae gennym brinder o gyngor bellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi symiau enfawr o arian—
Weinidog, rwy'n gofyn i fy nghyd-Aelodau fod yn gryno yn eu cwestiynau; gofynnaf hefyd i Weinidogion fod yn gryno yn eu hatebion hefyd, os gwelwch yn dda.
Diolch ichi am hynny, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu, felly, y gwnaf orffen ar y cwestiwn penodol hwnnw drwy ddweud, yn y bôn, fod y cyngor a'r cymorth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ymgais i drwsio'r bwlch sy'n bodoli ar hyn o bryd, ond mae hwnnw yn sicr yn drwsio anfoddhaol.
Mae gormod o bobl anabl yn parhau i ddioddef anghyfiawnder cymdeithasol oherwydd y rhwystrau i fynediad a chynhwysiant a roddir yn eu ffordd ar bob lefel o gymdeithas. Ar 24 Chwefror eleni, pleidleisiodd y Senedd o blaid fy nghynnig deddfwriaethol gan Aelod ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain, neu Fil BSL. Fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar yn y Senedd ers 2003, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd yn nhymhorau blaenorol y Senedd, mae hwn yn fater rwyf wedi bod yn ymwneud ag ef ers tro byd yng ngogledd a de Cymru. Byddai fy Mil arfaethedig yn gwneud darpariaeth i annog y defnydd o BSL yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL. Fel y gwyddoch, fodd bynnag, nodi fy nghynnig deddfwriaethol yn unig a wnaeth y bleidlais yma ym mis Chwefror, ac felly mae angen cynnig Bil yn llwyddiannus yn y Senedd hon fel y gall deddfwriaeth fynd rhagddi, gan ddechrau gydag ymgynghoriad cyhoeddus eang. Pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol, felly, neu pa drafodaethau y byddwch yn eu cael, ynglŷn â ffyrdd y gellid hyrwyddo amcanion fy Mil arfaethedig drwy ddeddfwriaeth?
Diolch am y cwestiwn. Yn amlwg, mater i chi yw cynnig deddfwriaethol gan Aelod, a mater i'r Senedd. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw cael trafodaethau ar y cyd â'r proffesiwn cyfreithiol am y ffordd y gallwn ddarparu'r cyngor a'r cymorth sy'n rhoi cefnogaeth i'n cymunedau, yr holl rai mwyaf agored i niwed a'r rhai mewn angen. A hoffwn dynnu eich sylw hefyd at y ffaith mai cynigion y Llywodraeth Geidwadol sydd, i bob pwrpas, wedi eithrio cymorth cyfreithiol o'r holl faterion sy'n ymwneud â lles a meysydd cymdeithasol a arferai fodoli flynyddoedd lawer yn ôl a fyddai bellach, mae'n debyg, yn sylwedd y gefnogaeth i rai o'r amcanion sydd gennych mewn gwirionedd. Ond rwy'n fwy na pharod i gael trafodaethau pellach ar y mater hwnnw.
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch effeithiolrwydd gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder? OQ56703
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Rwyf wedi cael cyfarfod cychwynnol gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i drafod cyllidebau ar gyfer fy nghyfrifoldebau portffolio. Fel y mae comisiwn Thomas yn dweud yn glir, byddai gwariant ar gyfiawnder yn fwy effeithiol pe bai mwy o ddatganoli, gan y byddai hynny'n caniatáu inni fabwysiadu dull system gyfan.
Diolch. Un o'r pethau rhyfeddaf am ein trefniant datganoli yw bod bron i 40 y cant o gyfanswm y cyllid ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru yn dod o Gymru, er nad oes gennym reolaeth yn y maes polisi hwn. Os goddefir yr ymadrodd, mae fel cael y gwaethaf o'r ddau fyd. Fel y dywedodd adroddiad 'Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru',
'Dylai cyfiawnder fod wrth wraidd y llywodraeth.'
A all y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd hon am drafodaethau gyda swyddogion cyfatebol yn San Steffan i gywiro'r anghysondeb hwn?
Wel, bydd trafodaethau'n cael eu cynnal mewn perthynas â'r anghysondebau hynny, ac yn sicr fy mwriad yw mynd ar drywydd y rheini a chael nifer o gyfarfodydd i archwilio materion yn ymwneud â datganoli cyfiawnder, a materion datganoli plismona yn arbennig hefyd. Mae'r rhain yn faterion sydd wedi'u codi ar y llawr hwn lawer gwaith. Credaf fod datganoli'r heddlu a datganoli cyfiawnder yn anochel, oherwydd mae'r rhesymeg yno. Credaf ei bod yn anffodus, mewn llawer o achosion, ei fod wedi'i droi fel pe bai'n rhyw fath o fater tiriogaethol rywsut, ond mae'r broblem go iawn gyda chyfiawnder a datganoli cyfiawnder yn ymwneud â sut y mae'n rhan annatod o'n polisi cymdeithasol ac economaidd, ein sylfeini cymdeithasol. Mae cyfiawnder yn rhan o hynny, ac mae'n un o'r prif ddulliau o gyflawni'r amcanion cymdeithasol sydd gennym.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr ail argraffiad o 'Diwygio ein Hundeb', cyn ei gyhoeddi ddoe?
Roedd y papur 'Diwygio ein Hundeb' ar gael ar ei ffurf wreiddiol i Lywodraeth y DU, ac mae diwygio'r DU—mae'r fersiwn ddiweddaraf sydd wedi'i chyhoeddi hefyd ar gael i Lywodraeth y DU.
Felly, o'r ateb hwnnw, Weinidog, deallaf eich bod wedi rhannu'r ddogfen â hwy a dim mwy na hynny, yn hytrach na'ch bod wedi cael unrhyw ymgysylltiad ystyrlon â Llywodraeth y DU cyn ichi gyhoeddi'r ddogfen honno mewn gwirionedd. A ydych yn derbyn, ar y naill law, na allwch rygnu ymlaen am yr angen am barch cydradd rhwng dwy Lywodraeth pan nad ydych yn rhoi gwybod i Lywodraeth y Deyrnas Unedig pan fyddwch yn cyhoeddi cynigion sy'n effeithio ar y Deyrnas Unedig ac yn siarad am eich agenda ar gyfer ei dyfodol? Pam eich bod yn meddwl ei bod yn iawn i chi gyhoeddi dogfennau o'r fath heb unrhyw ymgysylltiad er mai Gweinidogion Llywodraeth Cymru eu hunain fyddai'r bobl gyntaf i achwyn pe bai Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu dogfen o'r fath, gan awgrymu ei bod yn weithred amharchus? A ydych yn derbyn eich bod yn anghywir i beidio â chael trafodaeth cyn cyhoeddi'r dogfennau hyn ac i beidio ag ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth y DU ar y mater hwn?
Credaf fod yr Aelod wedi gwyrdroi'r sefyllfa'n fawr, oherwydd mae pob mater yn 'Diwygio ein Hundeb', y ddogfen sydd wedi'i diweddaru, yn un a godir dro ar ôl tro mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol a chyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. Nid oes unrhyw beth ynddi o gwbl nad yw wedi'i godi dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU. Un o'r rhesymau pam y'i cyhoeddwyd mewn gwirionedd yw oherwydd yr angen llwyr i'w roi ar glawr, a'i roi at ei gilydd yn adlewyrchiad o'r holl faterion a godwyd, materion a godwyd gan Brif Weinidog Cymru, gan Weinidogion eraill, dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU, ond na ddenodd fawr iawn o ymateb yn anffodus.
Rydych yn dweud ei bod yn gwbl angenrheidiol rhoi'r pethau hyn ar glawr a chyhoeddi'r ddogfen hon—dogfen nad yw'n annhebyg, wrth gwrs, i rifyn cyntaf y ddogfen a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl. Pam ar y ddaear y mae Llywodraeth Cymru yn credu bod nawr yn adeg briodol i drafod dyfodol yr undeb, a ninnau newydd ddod drwy gyfnod anodd iawn gyda'r pandemig, mae gennym bobl yn aros—un o bob tri o bobl ar restr aros yn aros dros flwyddyn am eu triniaeth—pan fo gennym blant ysgol yn gorfod dal i fyny â'u haddysg? Onid ydych chi'n credu mai dyma'r pethau y mae pobl Cymru am i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hwy, yn hytrach na siarad am dincera â'r cyfansoddiad, nad yw'n cael unrhyw effaith sylweddol ar eu bywydau o gwbl ar hyn o bryd? Oni chredwch ei bod yn bryd i chi ddechrau rhoi sylw i'r problemau go iawn?
Wel, dyna'r broblem, welwch chi. Rwy'n anghytuno'n sylfaenol â'ch agwedd. Credaf fod y cyfansoddiad yn gwbl sylfaenol yn yr hyn y gallwn ei wneud, sut rydym yn cyflawni'r hyn sydd yn ein maniffestos, sut y gallwn ddarparu gwasanaethau, a sut y gallwn wneud penderfyniadau sy'n effeithio go iawn ar fywydau pobl. Ac mae'n ymddangos mai'r ffaith amdani yw bod y Ceidwadwyr Cymreig, neu'r Blaid Geidwadol yng Nghymru, yn gwadu realiti ar hyn o bryd. Mae yna broblem. Mae yna broblem sy'n cael ei chydnabod ar draws y pleidiau mewn gwirionedd; cafodd ei chydnabod gan y fforwm rhyngseneddol, gyda llawer o Aelodau Seneddol Ceidwadol amlwg yn aelodau ohono, a chynrychiolwyr Seneddau ledled y DU. Roedd yn cydnabod bod argyfwng yn ein strwythur cyfansoddiadol, ac nad yw'n gweithio. Os nad yw'n gweithio, mae'n golygu ei fod yn effeithio'n andwyol ar y bobl ac ar y ffordd y caiff gwasanaethau a phwerau eu gweithredu. Felly, mae'n effeithio ar fywydau pobl. Mae'n effeithio'n uniongyrchol iawn ar fywydau pobl, ac mae'n siomedig iawn fod y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn gwadu realiti i'r fath raddau, oherwydd y ffordd o ddatrys unrhyw broblem benodol, yn gyntaf oll, yw cydnabod bod yna broblem. Ac mae yna broblem, ac mae 'Diwygio ein Hundeb' yn ddogfen sy'n ceisio cynnig ffordd o ddatrys y problemau hynny, yn hytrach na'u diystyru yn y ffordd y mae'r Aelod yn ei wneud.
Llefarydd Plaid Cymru.
Nid wyf—
Rydych chi wedi cael eich tri.
Nac ydw fel mae'n digwydd; rwyf wedi cael dau.
Roeddwn i'n meddwl eich bod wedi cael tri.
Cefais ddau.
Roedd yn teimlo fel tri. [Chwerthin.]
A gawn ni edrych? Oherwydd rwy'n siŵr eich bod wedi cael un cyflym iawn ac fe gafodd hwnnw ei ateb yn gyflym. [Torri ar draws.] Fe gawsoch un cyflym iawn ar y dechrau un, Darren.
Do, wir?
Do, mae'n ddrwg gennyf ddweud.
Bydd yn rhaid i chi aros tan y bennod nesaf i glywed diwedd y stori. [Chwerthin.]
Fe wnaethoch chi ofyn tri chwestiwn, gan i chi eistedd ar dri achlysur.
A ydych chi'n siŵr fy mod wedi cael tri? [Torri ar draws.] Nid wyf yn eich credu, ond fe edrychaf i weld.
Os ydw i'n anghywir, Darren, fe wnaf ymddiheuro wedyn, ond rwy'n eithaf sicr i chi gael tri.
Mae'n iawn; rwy'n barod i dderbyn hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhys ab Owen.
Gobeithio bod hynny'n golygu y caf fi bedwar yn awr. [Chwerthin.] Diolch yn fawr—
—Ddirprwy Lywydd. Dywedodd Rhun ap Iorwerth ddoe lle'r oedd yn credu bod y cynllun yn ymddatod—y broblem sylfaenol gyda'ch bod chi'n diogelu'r undeb yn gyntaf a rhoi pobl Cymru yn ail. Ond heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar weithrediad eich cynllun, ac a yw'n ffinio ar iwtopia, fel y dywedodd Martin Shipton y bore yma yn The Western Mail.
Yn gyntaf, hoffwn ganolbwyntio ar Lywodraeth y DU. Yr Ysgrifennydd Gwladol—.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ddweud yn syth bin ddoe ei fod e'n gwrthod eich cynllun. Rydyn ni wedi cael dadl gref heddiw gan Mr Millar yn erbyn y cynllun. Bydd e'n amhosib cyflawni hyn heb Lywodraeth y DU. Gwnaethon nhw wrthod dod i—. Gwnaeth y Swyddfa Gartref wrthod rhoi tystiolaeth i gomisiwn Silk, comisiwn nhw eu hunain. Sut ydyn ni'n mynd i gael Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod yn rhan o'r cynllun yma? Ydych chi'n aros, ydych chi'n ddibynnol ar i Lywodraeth Lafur ddod unwaith eto yn San Steffan, oherwydd, os ydych chi'n edrych ar etholiadau, os ydych chi'n edrych ar is-etholiadau, dyw hynny ddim yn bosib unrhyw bryd yn fuan? Diolch.
Wel, rydych chi'n codi cwestiwn dilys iawn. Mae'n un y gofynnir i ni dro ar ôl tro. Beth rydych chi'n ei wneud pan fyddwch mewn sefyllfa amhosibl, lle mae gennych Lywodraeth y DU sy'n ymddangos, i bob pwrpas, fel pe bai'n anymwybodol o'r holl brotestiadau, yr holl ddadleuon, pob ymgais a wneir i ymgysylltu, a chanlyniad hynny wedyn yw dirywiad yn y berthynas?
Wel, edrychwch, rwy'n meddwl mai'r peth cyntaf yw hyn: nid yw llywodraethau'n bodoli am byth. Mae llywodraethau'n newid, mae gwleidyddiaeth yn gyfnewidiol, ac mae momentwm gwleidyddol yn newid. Felly, nid wyf yn diystyru, yn gyntaf, pwysigrwydd y ffaith bod yna feysydd lle gallwn wneud gwelliannau, lle gellir ymgysylltu, lle ceir meysydd cyfiawnder, er enghraifft, y gallwn naill ai ymdrin â hwy mewn perthynas â'n pwerau ein hunain neu drwy ymgysylltu. Ceir meysydd lle'r ydym yn ymgysylltu ar hyn o bryd â Llywodraeth y DU mewn perthynas â newid cyfansoddiadol, a chafwyd rhai meysydd eraill mewn perthynas â sicrhau cyfiawnder, er enghraifft.
Ond dyma fy marn i: pan fyddwch mewn sefyllfa amhosibl o'r fath, pan fyddwch yn cydnabod bod problem fod y DU ar fin chwalu—fe welwn beth sy'n digwydd yn yr Alban, a gwelwn beth sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon, a gwelwn hyd yn oed y pwysau sy'n cronni rhwng y Llywodraeth ganolog yn Lloegr a rhanbarthau Lloegr—i ble'r ewch chi mewn gwirionedd? Ymddengys i mi mai'r ffordd i fynd yw ymgysylltu â phobl Cymru ar y sail mai gyda phobl Cymru y mae sofraniaeth, i ddatblygu consensws a momentwm ar gyfer cefnogaeth, cefnogaeth wleidyddol, ond hefyd i ddarganfod yn union beth y mae pobl Cymru am ei gael ar gyfer eu dyfodol: beth ddylai ddigwydd yng Nghymru, pe bai rhai pethau'n digwydd—beth ddylai natur y berthynas honno fod? Oherwydd credaf mai consensws, os gellir ei adeiladu o ganlyniad i broses briodol o ymgysylltu â phobl Cymru, yw'r grym cryfaf y gall Llywodraeth Cymru ei gael wrth ddadlau dros newid a sicrhau bod newid yn digwydd.
Credwch fi: mae newid yn dod. Y cwestiwn yw rheoli newid mewn ffordd benodol sydd fwyaf buddiol i bobl Cymru. Ond bydd yn rhywbeth a fydd yn cael ei benderfynu yma yng Nghymru. Efallai y ceir comisiynau. Mae comisiwn ar y gweill gan y Blaid Lafur. Rwy'n siŵr y bydd comisiynau a digwyddiadau eraill, a bydd ein proses, a fydd yn broses Gymreig, yn bwydo i mewn i unrhyw brosesau lle gall fod budd i bobl Cymru, ond bydd hefyd yn ceisio adeiladu cynghreiriau â'r rheini sydd hefyd yn gweld yr angen am newid cyfansoddiadol ledled y DU.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Ond mae ail broblem, onid oes? Nid Llywodraeth y DU yn unig sydd ddim yn gwrando. Nid yw eich Plaid Lafur seneddol eich hun yn gwrando ychwaith. Diflannodd yr ymrwymiad i ddatganoli cyfiawnder o faniffesto 2019; yn 2020, ar ôl cyhoeddi adroddiad y comisiwn ar gyfiawnder, dywedodd Chris Bryant, mewn dadl yn San Steffan, ei fod yn erbyn datganoli cyfiawnder, ac mae wedi dweud o'r blaen nad yw datganoli yn fater datganoledig; mae Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid wedi siarad yn erbyn datganoli cyfiawnder yn y gorffennol; mae arweinydd yr wrthblaid wedi bod yn gwbl dawel ar y mater. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei hochr ei hunain, hyd yn oed, i'ch cefnogi gyda'r cynllun hwn?
Wel, rydym yn gweithio ar sail maniffesto Llafur Cymru sydd wedi cael ei gefnogi gan Blaid Lafur Cymru ac sydd wedi'i gymeradwyo mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru. Mae Plaid Lafur y DU wedi sefydlu ei chomisiwn ei hun, ac wedi mabwysiadu mandad ar gyfer hynny, sydd, yn fy marn i, yn un o'r safbwyntiau cyfansoddiadol mwyaf radical, yn sicr ers cenedlaethau, ac mae honno'n broses y credaf ei bod yn gadael yr holl opsiynau ar agor ar gyfer diwygio neu'r camau sydd angen eu cymryd yng nghyswllt y materion cyfansoddiadol sy'n dod i'r amlwg yn y DU. Felly, byddwn yn bwydo i mewn i hynny. Byddwn yn cyflwyno ein safbwynt ein hunain fel Plaid Lafur Cymru ac mewn perthynas â'r mandad sydd gennym, ac o ran y gwersi a ddysgir o'r sgwrs y byddwn yn ei chael gyda phobl Cymru.
Diolch yn fawr. Gaf i godi trydedd broblem sydd gyda chi—nid yn unig Llywodraeth y Deyrnas Unedig, nid yn unig eich grŵp seneddol yn San Steffan, ond hefyd gweddill Llywodraethau Prydain? I ddiwygio'r undeb, bydd yn rhaid ichi gael cefnogaeth nid yn unig Llywodraeth San Steffan, ond hefyd Llywodraeth SNP yr Alban, Llywodraeth Gogledd Iwerddon—pwy bynnag fydd mewn pŵer fanna—a hefyd meiri Lloegr. Pa drafodaeth ŷch chi wedi ei chael gyda Llywodraethau eraill a chyda'r meiri? Ac a ydych chi wir am inni gredu bod Llywodraeth yr SNP yn mynd i fod yn cefnogi'r cynigion yma? Felly, Cwnsler Cyffredinol, pan fydd y problemau yma yn dod yn ormod, pan fydd y cynllun yn methu, beth yw'r ail gynllun? Beth yw plan B? Diolch.
Wel, mae gan yr SNP yn yr Alban, os cymerwn hynny'n gyntaf, wrth gwrs, ei fandad ei hun, ac mae'n fandad go iawn gan bobl yr Alban o ganlyniad i etholiad diweddar Senedd yr Alban. Hefyd, lle bu buddiannau cyffredin gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, fe wyddoch wrth gwrs y bu cydweithio agos iawn ar amrywiaeth eang o faterion cyfansoddiadol. Rwyf wedi cyfarfod droeon â chymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban i siarad am rai o'r materion hyn, a lle ceir tir cyffredin, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r amcanion sydd gennym o ran y budd i bobl Cymru, fel y gwnânt yn yr Alban hefyd.
Ar fater y meiri rhanbarthol ac yn y blaen—credaf ei bod yn bwysig iawn cael trafodaethau gyda'r rheini. Mae'r rheini'n ffurfiau ar lywodraeth ddatganoledig; ffurf wahanol iawn a ffurf ad hoc iawn efallai ar lywodraeth ddatganoledig—gwahanol iawn i'r hyn a ragwelwyd gan Kilbrandon yn yr adroddiad yn 1974, a dyna graidd problem lawer dyfnach o ran pam ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi yn awr. Ond fel y dywedais yn fy ateb diwethaf, credaf mai'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yng Nghymru yw ymgysylltu a bod yn glir ynglŷn â ble mae'r consensws yng Nghymru ar gyfer newid, adeiladu ar y consensws hwnnw ac ymgysylltu â'r holl bobl eraill a fyddai'n rhannu diddordeb cyffredin mewn diwygio cyfansoddiadol o'r fath. Fel y dywedais, rwy'n credu bod diwygio cyfansoddiadol yn anochel. Yn anffodus, mae canlyniadau—mae canlyniadau andwyol, os nad ymdrinnir â hyn mewn ffordd flaengar ac mewn ffordd gydlynol. A'r nodwedd fwyaf siomedig yn awr, wrth gyhoeddi'r diwygio yn Llywodraeth y DU—yw ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi claddu ei phen yn y tywod ar y materion gwirioneddol sy'n ein hwynebu ni i gyd ar hyn o bryd.
3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am asesiad cyfreithiol Llywodraeth Cymru o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2021? OQ56679
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae Deddf Marchnad Fewnol y DU 2021 yn tanseilio pwerau hirsefydlog y Senedd a Gweinidogion Cymru mewn materion sydd o fewn y cymhwysedd datganoledig. Yn yr her a gyflwynwyd gennym i'r Ddeddf, rydym wedi cael caniatâd i apelio. Mae'r Llys Apêl yn nodi ei fod yn codi materion pwysig o egwyddor ar y berthynas gyfansoddiadol rhwng y Senedd a Senedd y Deyrnas Unedig.
Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ymateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Cafodd y cwestiwn ei fframio cyn inni gael y newyddion hapus hwnnw gan y llys wrth gwrs. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau y byddwch yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i'r Senedd hon—[Anghlywadwy.]—yn mynd rhagddo. Fy nghwestiwn i chi—[Anghlywadwy.]—yw hwn: rydym wedi trafod a dadlau ynghylch Deddf y farchnad fewnol ar sawl achlysur gwahanol yn ystod ei thaith drwy Senedd y Deyrnas Unedig a buom yn trafod sut y bydd yn effeithio ar ein pwerau yma yn y Senedd hon. Byddwn yn ddiolchgar pe baech chi, fel Gweinidog, yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd inni ar ffurf datganiad ysgrifenedig, efallai, ynglŷn â sut y defnyddir y pwerau hynny, oherwydd mewn perthynas â'r ddadl rydym yn ei chael ar hyn o bryd, credaf y byddai'n ddefnyddiol i bob ochr i'r ddadl ddeall effaith benodol y Ddeddf ar lywodraethiant y Deyrnas Unedig hon, yn ogystal â'r effaith gyffredinol o ran cydbwysedd pwerau. Felly, byddai'n ddefnyddiol inni ddeall y pwerau penodol a gaiff eu defnyddio, yr hyn y cânt eu defnyddio ar ei gyfer a beth yw eu heffaith ar y pwerau a ddelir yn y lle hwn.
Wel, diolch am hynny. Ac yn gyntaf, ar y datganiad am y camau cyfreithiol eu hunain, rydym yn aros wrth gwrs am wrandawiad llys. Fe gyhoeddais—. Cyn gynted ag y cefais yr hysbysiad, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig, ac rydych wedi'i gael, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, ac wrth gwrs, byddaf yn ei ddiweddaru fel y bo'n briodol wrth i amser fynd yn ei flaen.
Ar fater pwerau Deddf y farchnad fewnol, ydw, rwy'n credu bod y cais a wnewch yn un hollol resymol, fod angen inni fod yn effro i'r ffordd y mae'r pwerau hynny'n cael eu defnyddio, a phwerau mewn cwmpas ychydig yn ehangach o amgylch Deddf y farchnad fewnol—nid y rheini'n unig, ond y ffordd y mae materion, yn sgil deddfwriaeth ôl-Brexit, y ffordd y mae mwy o bwerau cydamserol yn dod i'r amlwg, y ffordd y mae cytundebau blwch dogfennau'n cael eu defnyddio i fynd heibio, neu wedi cael eu defnyddio, i fynd heibio i gytundeb Sewel weithiau, statws Sewel ac yn y blaen.
Ond yr enghraifft ddiweddaraf y mae pob un ohonom yn ymwybodol ohoni wrth gwrs yw pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun ar gyfer Cymru—cynllun sydd, mewn gwirionedd, yn torri'r holl ymrwymiadau a roddwyd na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr UE. Rhoddwyd y camau hynny ar waith gan ddefnyddio pwerau Deddf y farchnad fewnol heb unrhyw ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru o gwbl, er gwaethaf y mandad clir iawn sydd gennym mewn perthynas â statudau datganoli, bwriad y Senedd ei hun o ran beth yw pwerau a chyfrifoldebau'r Senedd hon mewn gwirionedd. Felly, dyna oedd y defnydd pwysig cyntaf o'r pwerau hynny, sy'n parhau, ond mae llawer mwy, ac rwy'n bwriadu edrych yn gynhwysfawr nid yn unig ar Ddeddf y farchnad fewnol ond ar yr holl ddarnau eraill o ddeddfwriaeth lle mae materion yn codi ynghylch eu perthynas â statws ac uniondeb y lle hwn a'r ffordd y maent yn effeithio ar ein gallu i gyflawni dros bobl Cymru, yn enwedig yn y meysydd y pryderwn yn fawr amdanynt—safonau bwyd, safonau amgylcheddol, sy'n amlwg yn feysydd sy'n debygol o gael eu heffeithio, o bosibl, gan gytundebau masnach Llywodraeth y DU.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw a'r datganiad ysgrifenedig y mae wedi'i wneud ar y mater. Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ei safbwynt, gan ddadlau nad oes dim o fewn y Ddeddf yn newid cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. A dyfarnodd y llys adrannol fod ymdrechion y Llywodraeth i wrthdroi'r Ddeddf drwy ddefnyddio llysoedd yn hytrach na'r system wleidyddol yn amhriodol, ac mae ymgais aflwyddiannus ei ragflaenydd yn yr achos llys eisoes wedi costio'n ddrud yn amser y gwasanaeth sifil ynghyd ag £87,458 o arian trethdalwyr hyd yma. A wnaiff gadarnhau i'r Senedd y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn rhoi'r gorau i'w hymdrechion i geisio ailymladd y refferendwm a gwrando ar ewyllys pobl Cymru, a bleidleisiodd, rwy'n ei atgoffa ef a'r Aelod a ofynnodd y cwestiwn yma heddiw, i adael yr Undeb Ewropeaidd, a pheidio â gwastraffu mwy o arian trethdalwyr ar apelio yn erbyn hyn eto, a dechrau canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig i bobl fy rhanbarth, Dwyrain De Cymru a Chymru, fel adfer yr economi wedi'r pandemig, gwella addysg Cymru a lleihau rhestrau aros y GIG?
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rwy'n tybio bod y cwestiwn wedi dyddio cyn iddi hi neu ei chynghorydd gael cyfle i ddarllen y datganiad ysgrifenedig a wneuthum, oherwydd cyflwynwyd yr apêl ac mae'r apêl wedi bod yn llwyddiannus mewn gwirionedd, a bydd gwrandawiad ar yr apêl honno. Ac mae'n ddiddorol iawn fod barnwr y llys apêl wedi cydnabod y mater cyfansoddiadol sylweddol y mae wedi'i godi, a dyna pam y caniatawyd hynny mewn gwirionedd.
Ar yr honiad nad oes unrhyw bwerau wedi'u dileu, y gwir amdani yw bod hynny'n hollol anghywir—er enghraifft, mater cymorth gwladwriaethol, sydd bellach yn fater a gedwir yn ôl ond nad oedd yn flaenorol. Nawr, mae hynny'n arwyddocaol iawn o ystyried y ffordd y gall Llywodraeth Cymru arfer ei phwerau economaidd. Ond rwy'n gwneud y pwynt pellach eto ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig: rydych chi'n iawn, pan fyddwch chi'n siarad gyda phobl ar garreg y drws, nid y cyfansoddiad yw'r peth cyntaf y byddant yn gofyn yn ei gylch. Ond os ewch chi, er enghraifft, at bobl Cymru a dweud, 'Beth yw eich barn am ddiogelwch cymunedol? Pa mor ddiogel yw eich cymuned yn eich barn chi?' byddant yn dechrau siarad am, 'Wel, mae angen inni weld yr heddlu yma, mae angen inni sicrhau gwell ymgysylltiad', ac yn y blaen, ac yna mae'n rhaid i chi esbonio mewn gwirionedd nad yw plismona wedi'i ddatganoli wrth gwrs, ac nid yw pobl yn deall hynny. Pan soniwch mai un o'n hamcanion yw cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a'ch bod yn darganfod bod cyfle cyfartal yn fater a gedwir yn ôl. Mae'r hyn sydd yno'n afresymegol, ac mae arnaf ofn fod yr Aelod wedi syrthio i'r fagl, ynghyd â'i chyd-Aelodau, o roi eu pen yn y tywod ac anwybyddu'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd a'r cyfleoedd sy'n bodoli i fynd i'r afael â rhai o'r anghysondebau hyn.
Gwnsler Cyffredinol, rydych wedi dweud y byddwch yn awr yn cyflwyno apêl i herio'r ymosodiad enbyd hwn ar gymhwysedd y Senedd. O'r diwrnod cyntaf, nododd Plaid Cymru y bygythiad i'n pwerau democrataidd y bu'n rhaid ymdrechu'n galed i'w hennill, a'r realiti yw bod uwchfwyafrif yma yn y Senedd hon dros ymestyn y pwerau hynny, ond mae Llywodraeth San Steffan yn gwadu'r mwyafrif a'r mandad hwnnw. Mae eu gweithredoedd bellach mor haerllug fel bod hyd yn oed Gweinidogion Llafur yma a arferai amddiffyn yr undeb yn cwestiynu ei allu i gyflawni dros bobl Cymru. Felly, Gwnsler Cyffredinol, gan eich bod yn cyhoeddi sgwrs genedlaethol am ein pwerau yn y dyfodol, gan gynnwys goblygiadau Deddf y farchnad fewnol wrth gwrs, a wnewch chi gadarnhau y bydd yr holl opsiynau'n cael eu trafod yn y broses honno, gan gynnwys cynllun wrth gefn pe bai'r DU yn chwalu yn sgil annibyniaeth i'r Alban neu Iwerddon unedig?
Wel, mae'n rhaid i union baramedrau a natur yr ymgysylltiad yn y sgwrs sy'n mynd i ddigwydd fod yn agored. Ni allwch ddweud, 'Rydym yn mynd i gael sgwrs gyda phobl Cymru am ddyfodol Cymru ac am y materion hyn,' a dweud wrth bobl, 'Gyda llaw, ni allwch drafod y peth hwn, ac ni allwch drafod y peth arall.' Credaf fod gennyf syniad da lle gallai fod rhywfaint o gonsensws, ond byddwn yn profi hynny pan gawn y sgwrs. I mi, yr hyn a fydd yn bwysig yn y sgwrs yw ei bod yn ymgysylltu'n ehangach nag â'r gymdeithas gyfundrefnol yn unig. Rwy'n falch iawn, er enghraifft, y bydd gan TUC Cymru eu comisiwn eu hunain ar fater hawliau yn y gweithle a lle yn fwyaf arbennig y dylai'r pwerau hynny fod. Credaf fod hwnnw'n gam sylweddol iawn ymlaen, dan arweiniad Shavanah Taj, ysgrifennydd rhanbarthol newydd TUC Cymru. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn ymgysylltu â'r sefydliadau sydd â gwreiddiau gwirioneddol yn ein cymunedau, ond hefyd mae'n rhaid inni edrych ar y ffyrdd rydym yn ymgysylltu â'r bobl yn ein cymdeithas nad ydynt yn ymgysylltu, y bobl sydd wedi cefnu ar y system wleidyddol yn y bôn. Rwyf wedi dweud sawl gwaith—ac efallai y byddaf yn gorffen gyda'r pwynt hwn—mae gennym argyfwng democratiaeth yn ein gwlad pan nad yw 40 y cant o bobl yn pleidleisio yn etholiadau San Steffan y DU, pan nad yw 50 y cant yn pleidleisio yn etholiadau'r Senedd a phan nad yw 60 y cant yn pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Mae hwnnw'n argyfwng democratiaeth yn fy marn i, ac un o ddibenion y sgwrs hon fydd ailymgysylltu â'r bobl, gwneud popeth a allwn i ddod o hyd i ffyrdd o rymuso unigolion mewn cymunedau, a llywodraethiant Cymru hefyd.
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gynigion ar gyfer comisiwn sefydlog i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru? OQ56688
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn gweithio'n gyflym i sefydlu'r comisiwn. Rydym am iddo arwain sgwrs gyda phobl Cymru i ganfod consensws ymysg dinasyddion a chymdeithas ddinesig ynglŷn â datganoli a'r cyfansoddiad. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach am y comisiwn y mis nesaf.
Rydym yn croesawu'r datganiad hwnnw a'r ffocws mawr ar ymgysylltiad dinesig ehangach â phobl yng Nghymru. Os caf droi, hefyd, at gynnig 20 o'r ddogfen 'Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU', yr ail argraffiad, mae'n dweud yno,
'Ein barn ni o hyd'—
barn Llywodraeth Cymru—
'yw bod angen ystyried diwygio cyfansoddiadol yn y dyfodol o safbwynt y DU gyfan, ond',
meddai,
'nid oes ymrwymiad eto gan Lywodraeth y DU ar gyfer y drafodaeth genedlaethol ledled y DU y mae'n amlwg bod ei hangen.'
Felly, a gaf fi ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol sut y mae'n gweld y gallai'r gwaith yma yng Nghymru ddylanwadu ar y ddadl gyfansoddiadol ehangach yn y DU? A pha gamau penodol y bydd yn eu cymryd i berswadio Llywodraeth y DU, neu yn absenoldeb partner parod yno am y tro, Seneddau'r DU—gan gynnwys y ddwy siambr yn San Steffan—a'r maeryddiaethau sydd ar gynnydd ledled y DU i adeiladu'r achos hwnnw, fod angen confensiwn cyfansoddiadol ledled y DU yn ogystal â'r gwaith y gellid ei wneud yma yng Nghymru?
Diolch yn fawr am y cwestiwn ystyrlon hwnnw, a chwestiwn anodd iawn i'w ateb, yn sicr yn yr amser y mae'r Dirprwy Lywydd yn mynd i ganiatáu i mi. Buom yn dadlau ers blynyddoedd lawer am gonfensiwn—mae confensiwn yn fecanwaith ar gyfer dod â'r holl faterion hyn at ei gilydd a phenderfynu ar ddyfodol y DU. Beth yw diben y DU? Sut y dylai fodoli? Beth ddylai ei hegwyddorion sylfaenol fod? A ddylai fodoli, hyd yn oed? Felly, bu dadlau ers amser maith ar fater confensiwn. Un o'r problemau, i ryw raddau, fel rydych wedi nodi, yw bod y cyfle i gael confensiwn o'r fath yn dechrau diflannu, yn enwedig pan fydd gennych bethau'n symud fel y maent yn yr Alban, pan welwch y problemau sydd bellach yn dod i'r amlwg yng Ngogledd Iwerddon, yn ogystal â pheth o'r anghytuno sydd wedi digwydd yn Lloegr ei hun hyd yn oed. Y peth cyntaf yw bod yn rhaid cael proses o ymgysylltu parhaus. Rhaid cael proses lle'r ydym yn ceisio ymgysylltu'n barhaus â Llywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech i ymgysylltu mewn ffordd synhwyrol a rhesymegol â Llywodraeth y DU.
Credaf mai'r pwynt sy'n rhaid ichi ei wneud, wrth gwrs, yw, os oes gennych y lefel hon o her o'ch blaen, bydd peidio â mynd i'r afael â hi yn achosi mwy o broblemau, ac mae'r risg o rannu a chwalu'r DU, fel y dywedodd y Prif Weinidog droeon, yn agosach nag y bu erioed yn ystod ei oes, ac mae'n sicr yn agosach nag y bu erioed yn fy oes i. Fel y dywedais, credaf fod yn rhaid inni ffurfio cynghreiriau â'r rheini ym mhob plaid sy'n cydnabod hynny, ac rwy'n weddol hyderus—ac fe wyddoch o'r rhan a chwaraeoch chi yn y fforwm rhyngseneddol yr oeddwn innau hefyd yn rhan ohoni ar y pryd—o faint y cytundeb cyffredinol a geir ar draws y pleidiau, gan gynnwys Ceidwadwyr blaenllaw megis Bernard Jenkin, a oedd yn gadeirydd Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol dylanwadol y DU, ac ar draws y gwahanol Seneddau a Chynulliad Gogledd Iwerddon hefyd, pan oeddem yn gallu ymgysylltu ag ef, nad yw'r trefniadau presennol yn gweithio, nad ydynt yn addas i'r diben, eu bod yn cael eu gwaethygu yn awr gan y sefyllfa rydym ynddi o ganlyniad i'r newid cyfansoddiadol yn sgil gadael yr UE, ac os nad yw'n addas i'r diben, mae'n rhaid i chi fynd i'r afael â hynny, a'r cwestiwn yw sut y mae mynd i'r afael â hynny mewn gwirionedd.
Felly, byddwn yn dal i alw am y confensiwn hwnnw, oherwydd mae honno'n ffordd o ddod â phawb at ei gilydd i geisio mynd i'r afael â hyn mewn ffordd resymegol. Ond heb hynny, fe wnawn arwain y gwaith ein hunain o benderfynu ble mae Cymru arni. Yr hyn sy'n rhaid digwydd yng Nghymru yw na ddylai unrhyw ddiwygio cyfansoddiadol fod yn ddictad gan unrhyw gomisiwn sydd wedi'i leoli yn Llundain neu unrhyw ran arall o'r DU heblaw Cymru. Rhaid inni bennu ein dyfodol ein hunain, ac fel y dywedais, yr wythnos diwethaf rwy'n credu, i mi, mae sofraniaeth wedi newid o'r sefyllfa a oedd gennym pan sefydlwyd datganoli gyntaf. Ar y pryd, datganoli grym i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon a wnaed, ond ers creu deddfwrfeydd, mae sofraniaeth bellach gyda'r bobl a chyda'r Seneddau, ac yn fy marn i, y cysyniad o gyd-sofraniaeth yw'r unig un sydd ag unrhyw hygrededd yn perthyn iddo ac rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod yn sail i bob diwygiad cyfansoddiadol yn y dyfodol.
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol ynghylch effaith deddfwriaeth a chanllawiau ar lefelau ffosffad mewn ardaloedd cadwraeth arbennig afonol? OQ56692
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw'r pwnc yn un rwy'n gyfarwydd iawn ag ef, ond gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru ac CNC wedi ymrwymo i fynd i'r afael â llygredd yn naw ardal cadwraeth arbennig afonol Cymru. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r sector cyfreithiol ar y mater hwn hyd yma.
Diolch i chi am yr ateb. Rwy'n deall bod y rheoliadau sy'n effeithio ar afonydd mewn ardal cadwraeth arbennig yn deillio o reoliadau cadwraeth cynefinoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig 2017. Er hynny, mae nifer o ardaloedd gwledig yn rhwystredig iawn ynglŷn â'r ffordd y mae'r canllawiau hyn wedi cael eu cyflwyno, gyda fawr ddim ymgynghori na thrafod ymlaen llaw wedi digwydd gydag awdurdodau lleol na datblygwyr tai. Mae'r canllawiau cynllunio yn codi nifer o gwestiynau i awdurdodau lleol, yn enwedig ynghylch eu gallu i gyflawni eu dyraniadau tai fel y nodwyd yn eu cynlluniau datblygu lleol. Mae rhai cynlluniau datblygu lleol bellach wedi cael eu gohirio o ganlyniad i hyn, sy'n achosi pob math o broblemau.
O ran datgloi rhai o'r safleoedd datblygu hyn, bydd angen cadarnhad o fuddsoddiad gan Ddŵr Cymru i ychwanegu triniaeth ffosffad i'r safleoedd trin dŵr gwastraff sy'n gwasanaethu'r ardaloedd hyn. Yn anffodus, nid yw hyn yn debygol o gael ei gyhoeddi tan 2022, a fydd e ddim yn cael ei weithredu tan 2025. Mae hyn, wrth gwrs, yn mynd i achosi oedi pellach i'r broses gynllunio. Felly, pa drafodaeth ŷch chi wedi'i chael gyda Gweinidogion y Llywodraeth ar yr angen i edrych ar y fframwaith deddfwriaethol yn y maes hwn i sicrhau bod trafodaethau yn digwydd rhwng y prif gyrff yng Nghymru i geisio mynd i'r afael â'r pryderon sydd wedi cael eu mynegi? Diolch yn fawr.
Rwy'n sicr yn ymwybodol o'r pryderon, ac mae'r pryderon hynny wedi'u codi yn y Siambr hon mewn dadleuon droeon. Rwy'n ddiolchgar i chi am ailffocysu ar y rheini a chodi'r rheini eto.
Cafwyd nifer o drafodaethau sy'n parhau. Nid yw'n briodol i mi ymyrryd ar bortffolio Gweinidog arall sydd â chyfrifoldeb penodol dros y maes hwn. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp goruchwylio'r gwaith o reoli ardaloedd cadwraeth arbennig i ymgysylltu â'r rhanddeiliaid perthnasol ac i ddatblygu a chyflawni'r mesurau sydd eu hangen i helpu i wella lefelau ffosffad yng Nghymru. Mae Dŵr Cymru hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi trefnu i gyfarfod ag awdurdodau lleol mewn perthynas â'r materion hyn, a deallaf hefyd fod tîm gwasanaethau datblygwyr Dŵr Cymru mewn cysylltiad â swyddogion cynllunio awdurdodau lleol, a'u bod yn darparu gwybodaeth am allu ffosffad. Rwy'n gyfyngedig mae'n debyg yn yr hyn y gallaf ei ddweud ymhellach am reoliadau yn benodol. Mae adolygiad barnwrol ar y gweill, ac ni fyddai'n briodol imi wneud sylwadau pellach yn hynny o beth.
Cwestiwn 6, Rhys ab Owen.
Wel, Ddirprwy Lywydd, roedd gennyf bedwerydd cwestiwn wedi'r cyfan.
6. Beth yw’r amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ56678
Diolch am y cwestiwn. Mae ein rhaglen lywodraethu yn dangos yn glir ymrwymiad y Llywodraeth hon i fwrw ymlaen â'r achos a wnaed gan y comisiwn ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru. Bydd is-bwyllgor y Cabinet ar gyfiawnder, sydd newydd ei gyfansoddi, yn pennu ein hagenda. Fi fydd cadeirydd y pwyllgor, a fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ar 8 Gorffennaf.
Diolch yn fawr ichi am yr ateb hwnnw, a dwi'n falch iawn eich bod chi yn cwrdd ar 8 Gorffennaf. Un o'r problemau mawr gafodd ei godi yn y comisiwn cyfiawnder oedd y diffyg cydweithio, efallai, gyda'r system gyfiawnder yng Nghymru, ac argymhelliad clir oedd sefydlu cyngor cyfreithiol Cymru—law council for Wales. Beth sy'n stopio hynny rhag cael ei sefydlu, a phryd gaiff e ei sefydlu? Diolch.
Yn gyntaf, diolch am eich cwestiwn a diolch hefyd, yn amlwg, am eich mewnbwn sylweddol iawn yng ngwaith comisiwn Thomas a'r adroddiad. Nodaf fod yr adroddiad hwnnw, fel y credaf imi ddweud ar y pryd, yn adroddiad o ansawdd rhyngwladol o ran ei safon. Efallai nad yw hynny'n llai na'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, ond hefyd gweddill y panel o arbenigwyr o Gymru yn y sector barnwrol a chyfreithiol a gyfrannodd at y dadansoddiad pwysig hwn o'r system farnwrol a materion yn ymwneud â mynediad at gyfiawnder a chyfraith weinyddol, a bydd hynny'n cael effaith am flynyddoedd lawer.
O ran cyngor cyfraith Cymru, gallaf ddweud wrthych fy mod wedi bod yn cael amryw o drafodaethau ynglŷn â hynny. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hynny. Rydym wedi ymgysylltu â Chymdeithas y Cyfreithwyr, sydd wedi cytuno i weithredu fel ysgrifenyddiaeth ar gyfer sefydlu cyngor cyfraith Cymru. A gobeithiaf y bydd cyhoeddiad mwy ffurfiol cyn bo hir ynghylch sefydlu cyngor cyfraith Cymru. Bydd cyngor cyfraith Cymru, wrth gwrs, yn annibynnol ar y Llywodraeth; mae hynny'n hynod bwysig. Gallaf roi'r sicrwydd hwn, fodd bynnag, i'r graddau y bydd cyngor cyfraith Cymru, pan gaiff ei sefydlu, yn dymuno ymgysylltu â mi, byddaf yn rhoi'r holl gymorth ac anogaeth i ymgysylltu ag ef fel y dymunant, gan fy mod yn ei ystyried yn ddatblygiad pwysig iawn yn y sector cyfiawnder yng Nghymru, a datblygiad system farnwrol Cymru.
7. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i'w gwneud yn ofynnol cael cardiau adnabod gyda llun er mwyn pleidleisio? OQ56691
Rwyf wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU nad yw Llywodraeth Cymru am i gardiau adnabod pleidleiswyr fod yn ofynnol mewn etholiadau datganoledig. Rydym yn pryderu am effaith weithredol bosibl hyn, ynghyd â chynigion eraill Llywodraeth y DU, ar weinyddiaeth a hygyrchedd etholiadau datganoledig, ac ar brofiad pleidleiswyr.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n bryderus iawn am effaith cardiau adnabod pleidleiswyr a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar yr etholwyr yn fy rhanbarth yng Ngogledd Cymru. Mae'n debygol iawn y bydd y camau gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn atal y nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau, yn enwedig ymhlith y cymunedau mwyaf difreintiedig. Dylid osgoi codi rhwystrau diangen o'r fath rhag cymryd rhan yn ein democratiaeth ar bob cyfrif. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai etholiadau fod mor agored, atebol a hygyrch â phosibl, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru weithio i sicrhau na fydd angen cardiau adnabod gyda llun ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol yma yng Nghymru? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn craff iawn, a chwestiwn pwysig iawn am y Bil etholiadau, sydd newydd gael ei gyhoeddi, rwy'n credu, a ninnau ond newydd weld ei fanylion. Ond rwyf am ddweud bod trafodaethau pedairochrog wedi'u cynnal ar hyn; rwyf wedi ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth y DU ar hyn, ac mae gennyf gyfarfod dwyochrog pellach cyn bo hir i drafod agweddau ar y ddeddfwriaeth a'i pherthnasedd.
Y peth cyntaf y credaf y byddwn yn ei ddweud yw bod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddulliau gwahanol iawn o ymgymryd ag etholiadau. Mae pawb yn dymuno gweld etholiadau rhydd a theg, ond rydym am sicrhau bod yr etholiadau hynny mor agored â phosibl, mor dryloyw â phosibl, mor hygyrch â phosibl. Rydym yn dymuno gweld unrhyw un a hoffai bleidleisio nid yn unig yn gallu pleidleisio mor hawdd â phosibl ac mor deg â phosibl, ond i'w pleidlais gael ei chyfrif, felly rydym yn edrych ar nifer o faterion yn ymwneud â'r system etholiadol. Mae'n rhaid imi ddweud bod ein hymagwedd ni'n arddel hygyrchedd a didwylledd, ac nid wyf yn cytuno â'r ymagwedd sy'n cael ei mabwysiadu gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyflwyno cardiau adnabod. Nawr, mae'n ddigon posibl mai'r ensyniad yw y bydd prosesau'r etholiadau seneddol yn wahanol, ei bod yn ddigon posibl y bydd ganddynt broses wahanol. Rwyf am gyflwyno'r dadleuon sydd gennym ynghylch pam na fyddem yn hoffi gweld hynny yng Nghymru. Mae iddo oblygiadau o ran gweinyddu etholiadau yng Nghymru, ond wrth gwrs, mae etholiadau seneddol y DU yn fater a gedwir yn ôl. O ran etholiadau’r Senedd, a'n hetholiadau llywodraeth leol, nid oes gennym unrhyw fwriad o gwbl i gyflwyno neu gefnogi’r cysyniad o gardiau adnabod.
Cardiau adnabod: mae'r rhesymeg drostynt yn ymwneud â mynd i'r afael â thwyll pleidleiswyr. Wel, o ran nifer yr euogfarnau am dwyll pleidleiswyr yn etholiad cyffredinol 2019, cafwyd pedair euogfarn a dau rybuddiad yn y Deyrnas Unedig gyfan. Nid oes unrhyw sail dystiolaethol dros wneud hyn, ac mae'n arwain at un cwestiwn yn unig sef pam ei fod yn cael ei gyflwyno, yn debyg i fesurau a gyflwynir hefyd mewn rhannau o America, sy'n cael eu hyrwyddo yno, ac mae awgrym cryf iawn fod hyn yn ymwneud i raddau mwy ag atal pleidleiswyr na chynnal etholiadau rhydd a theg ac agored. Fel y dywedaf, byddaf yn dadlau achos Llywodraeth Cymru ac yn egluro safbwynt Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau hynny, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr hon a'r Senedd maes o law pan fyddwn yn gwybod mwy.
Weinidog, nid yw profi mai ni yw pwy a ddywedwn ydym ni mor anarferol â hynny, boed er mwyn profi ein hoedran i brynu diod neu dân gwyllt o siop, neu brawf i agor cyfrif banc, neu drwydded yrru i logi car, mae'n rhan o fywyd modern ac yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn gyfarwydd â'i wneud. Os yw'n ddigon da ar gyfer y gweithgareddau hynny, pam ddim ar gyfer rhywbeth mor bwysig â phleidleisio? Weinidog, gwn fod y rheini ar y chwith gwleidyddol yn ystyried hyn yn sarhad ar ein democratiaeth, er mai er mwyn gwarchod a diogelu'r broses ddemocrataidd y caiff cardiau adnabod gyda llun eu hystyried. Os ydych yn erbyn y syniad o bleidleiswyr yn profi pwy ydynt, pa gamau eraill y credwch y dylid eu cymryd i sicrhau cadernid ein proses ddemocrataidd?
Diolch am eich cwestiwn. Credaf eich bod wedi gofyn y cwestiwn o chwith, y tu ôl ymlaen. Y cwestiwn yw: os ydych yn dymuno gosod cyfyngiadau a rhwystrau a gwrthbwysau o bob math, a gallech fynd ymhellach o lawer, mae'n rhaid ichi ddweud, 'Wel, mae'n rhaid cael rheswm dros wneud hynny.' Mae pob un ohonom yn dymuno gweld system etholiadol rydd, deg, agored a chadarn. Credaf fod gennym system etholiadol rydd, deg, agored a chadarn. Felly, ni allaf ond gofyn y cwestiwn: os nad oes sylfaen dystiolaethol dros gyflwyno newid a fydd yn ei gwneud yn anos i bobl bleidleisio, a allai beri rhwystrau ychwanegol i bobl rhag pleidleisio, pam fod hyn yn digwydd?
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Sioned Williams.
8. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch priodoldeb y ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud â chludiant o'r cartref i'r ysgol? OQ56697
Diolch am eich cwestiwn. Nododd y Llywodraeth flaenorol y dylid adolygu teithio gan ddysgwyr a'r ddeddfwriaeth sy'n sail i hynny. Mae'r pandemig, fodd bynnag, wedi atal y broses honno rhag cael ei chwblhau. Mae hwn bellach yn fater y bydd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog newid hinsawdd yn ei ystyried, yng nghyd-destun rhaglen lywodraethu newydd.
Diolch. Rwy'n ymwybodol fod trafodaethau wedi'u cynnal yn nhymor diwethaf y Senedd ynghylch pa mor briodol yw'r ddeddfwriaeth gyfredol mewn perthynas â chludiant rhwng y cartref a'r ysgol. Nid yw'r ddeddfwriaeth cludiant rhwng y cartref a'r ysgol sydd mewn grym ar hyn o bryd yn darparu cludiant am ddim i blant ysgol gynradd os ydynt yn byw o fewn dwy filltir i'w hysgol, neu o fewn tair milltir ar gyfer disgybl ysgol uwchradd.
Nawr, mae pob un ohonom wedi clywed am achosion, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr hon, gan ein hetholwyr lle mae plant yn gorfod cerdded yn bell iawn i'r ysgol, yn aml yn y tywyllwch yn ystod misoedd y gaeaf ac yn y glaw, weithiau am dros awr, fel mewn achos y tynnwyd fy sylw ato'n ddiweddar yng Nghastell-nedd Port Talbot. Yn anffodus, mae mater cyfiawnder cymdeithasol yn codi yma hefyd. Er y gall disgyblion o gefndiroedd dosbarth canol yn aml fanteisio ar gael eu cludo i'r ysgol gan eu rhieni, neu dalu am seddi sbâr ar gludiant awdurdodau lleol, nid yw disgyblion o gefndiroedd difreintiedig mor lwcus â hynny bob amser, ac yn aml ni allant fforddio talu am basys bws preifat neu am docynnau arferol. Ymddengys bod y system yn annheg a chredaf fod angen ei newid. A ydych felly wedi cynnal trafodaethau â Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar y mater hwn? A ydych yn credu bod angen a dyhead i newid y ddeddfwriaeth yn y maes hwn? Diolch.
Wel, mae'r ddeddfwriaeth a pha mor ddigonol yw hi yn amlwg yn fater sy'n cael ei adolygu. Mae nifer o sylwadau wedi'u gwneud am Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ers ei gyflwyno, ac wrth gwrs, mae llawer o newidiadau demograffig wedi digwydd hefyd. Roedd y Mesur yn nodi'r fframwaith cyfreithiol sy'n ymwneud yn benodol â theithio a chludiant, a chafwyd gohebiaeth nid yn unig gan Aelodau o'r Senedd, ond hefyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, gan aelodau o'r cyhoedd a Chomisiynydd Plant Cymru yn galw am adolygu'r Mesur. Felly, mae'r adolygiad hwnnw, fel y dywedais, wedi cychwyn. Nid yw wedi'i gwblhau, ond mae ar y gweill, a bydd y Gweinidog perthnasol, wrth gwrs, yn adrodd ar ganlyniad yr adolygiad hwnnw maes o law.
Diolch, Weinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:12.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:21, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Eitem 3, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd pob cwestiwn yn cael ei ateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Rhys ab Owen.
1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ymdrechion i ddiogelu'r Senedd i sicrhau bod Aelodau a staff yn ddiogel? OQ56682
Mae gennym ystod o fesurau diogelwch ar waith i ddiogelu Aelodau a staff. Rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu De Cymru, sy’n darparu presenoldeb arfog, mae gennym fynediad at wasanaethau diogelwch a chuddwybodaeth eraill, ac rydym yn cynnal archwiliadau cefndir ar bob deiliad pàs. Mae swyddogion diogelwch o holl ddeddfwrfeydd y Deyrnas Unedig yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd i drafod trefniadau a phryderon. Mae ein swyddogion diogelwch yn darparu hefyd sesiynau briffio diogelwch rheolaidd, gan gynnwys cyngor un i un, ac rydym yn cynghori ac yn cefnogi Aelodau a’u swyddfeydd etholaethol ar faterion diogelwch.
Diolch yn fawr ichi, Llywydd. Roedd yn braf gweld yr oriel gyhoeddus ar agor ddoe, a gobeithio y bydd ardaloedd eraill o’r Senedd yn ailagor i’r cyhoedd yn fuan. Pa gamau mae’r Comisiwn wedi’u cymryd i sicrhau bod ystâd y Senedd yn ddiogel, yn ymwneud â COVID, i holl ddefnyddwyr yr adeilad?
Adeilad cyhoeddus yw'n Senedd ni. Pobl Cymru sydd biau'r Senedd yma, ac mae pobl Cymru i fod cael mynediad i’w Senedd nhw. Rŷn ni wedi sicrhau, dros y flwyddyn ddiwethaf o’n gwaith ni fel Senedd, bod y mynediad yna yn ddiogel o ran COVID, drwy sicrhau fod y mynediad yna ar-lein. Ond, wrth gwrs, rŷn ni i gyd eisiau cyrraedd sefyllfa lle mae pobl unwaith eto yn rhan o’n hystâd ni fan hyn, nid dim ond ni fel Aelodau ac aelodau o staff. Felly, byddwn ni’n cymryd y camau penodol pan fo'n ddiogel i’w gwneud i ganiatáu fwyfwy o ddefnydd o’r ystâd, ond mae’n rhaid gwneud hynny o fewn y cyfundrefnau sy’n bodoli, a phellter cymdeithasol yn enwedig, er mwyn cynnal diogelwch ein staff ni, ein Haelodau ni ac unrhyw ymwelydd i'r ystâd yma.
2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gyflwyno trefniadau rhannu swyddi ar gyfer Aelodau'r Senedd? OQ56696
Fe wnaeth y gwaith a gynhaliwyd yn ystod y bumed Senedd gan y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad a'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd amlygu ystod o fuddiannau yn sgil rhannu swyddi yn y Senedd, gan gynnwys y posibilrwydd o wella amrywiaeth yn ein Senedd. Hefyd, nododd y panel arbenigol a'r pwyllgor yr heriau cyfreithiol ac ymarferol sy'n ymwneud ag atebolrwydd y bydd angen eu goresgyn er mwyn caniatáu ar gyfer rhannu swyddi ar gyfer Aelodau o'r Senedd. Byddai cyflwyno trefniadau rhannu swyddi i Aelodau o'r Senedd yn gofyn am newidiadau deddfwriaethol, yn ogystal ag am ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran deall sut byddai cynrychiolydd etholedig yn cyflawni ei rôl.
Diolch. Rydyn ni'n gwybod bod yna lawer o rwystrau sy'n annog grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys menywod, rhag sefyll am swydd etholedig. Gall yr oriau hir fod yn anodd delio â nhw, yn enwedig yn sgil gofynion gofal plant, gofalu neu gyfrifoldebau eraill. Fel dŷch chi wedi sôn, yn ystod tymor diwethaf y Senedd, argymhellodd dau adroddiad y dylid caniatáu rhannu swyddi os eglurwyd hynny yn agored i'r etholwyr, a bod y gost yr un peth â chost AS unigol. Galwodd yr adroddiad gan bwyllgor y Senedd ar ddiwygio etholiadol am ymrwymiad i gymryd camau deddfwriaethol yn gynnar yn y chweched Senedd i ddiwygio ein deddfwrfa a chryfhau ein democratiaeth yng Nghymru. Sut ydych chi'n gweld yr agenda hon yn cael ei datblygu ar sail drawsbleidiol, a pha fath o amserlenni rydych chi'n eu rhagweld cyn cyflwyno deddfwriaeth?
Diolch am y cwestiwn yna. Mae'r ffaith bod y cwestiwn wedi'i osod, ac ambell i fater yr wythnos yma, wedi ein hatgoffa ni o'r diddordeb sydd yna mewn rhannu swyddi ar gyfer hyrwyddo amrywiaeth. O edrych nôl ar waith y pwyllgor ar ddiwygio etholiadol, un o argymhellion y pwyllgor hwnnw oedd i'r chweched Senedd, yn gynnar, fod yn sefydlu grŵp ar draws y pleidiau i edrych ar y camau ymarferol sydd angen eu cymryd i hyrwyddo rhannu swyddi. Mae rhannu swyddi'n gallu golygu rhannu swyddi, wrth gwrs, fel Aelod o'r Senedd, a'r rhwystrau rydych chi wedi cyfeirio atyn nhw—yn ddeddfwriaethol o ran hynny—a rhai o'r materion byddai angen eu goresgyn, ond wedyn, wrth gwrs, rhannu swyddi fel rydyn ni wedi'i drafod yr wythnos yma eisoes, o ran rhai o'r swyddogaethau o fewn y Senedd lle nad oes angen newidiadau deddfwriaethol ond mae angen ystyriaeth fanwl ar sut mae cyflawni hynny. O ran amserlen, fel roeddech chi'n gofyn, fe wnaeth argymhelliad y pwyllgor ar ddiwygio etholiadol sôn bod angen cymryd camau cyflym i sefydlu'r grŵp trawsbleidiol yma nawr i edrych ar y camau nesaf. Fe fyddaf i yn trafod ar draws y pleidiau i sicrhau ein bod ni yn edrych ar y camau sydd angen eu gwneud, ac yn gwneud hynny yn gynnar yn ystod y tymor yma.
Mae fy nghwestiwn yn ymwneud ag edrych ar rannu swyddi ar gyfer Aelodau o'r Senedd. Rydych chi, Lywydd, a'r Dirprwy Lywydd, yn rhannu swydd, i bob pwrpas, wrth i chi reoli trafodion y Senedd. A wnaiff y Comisiwn ystyried caniatáu i swyddi eraill, fel Cadeiryddion pwyllgorau a chomisiynwyr, gael eu rhannu? Clywais yr hyn a ddywedasoch yn eich ateb i'r cwestiwn diwethaf, ond credaf fod hyn yn rhywbeth nad oes angen hyd yn oed newid y Rheolau Sefydlog i'w wneud; dim ond rhywbeth y dylem edrych arno efallai, a chael caniatâd i'w brofi. Nid wyf yn gwybod a yw'n mynd i weithio; gallai fod yn drychineb llwyr, ac os felly, gallwch newid yn ôl yn gymharol hawdd. Os mai'r peth cyntaf a wnawn i brofi rhannu swydd yw cael dau unigolyn yn sefyll etholiad, a'i fod yn drychineb, mae gennym bum mlynedd o ddioddef yn sgil y ffaith ei fod yn drychineb.
Diolch am eich sylwadau ar hynny. Rwy'n cytuno. Fel y dywedais yn fy ateb i Sioned Williams, mae nifer o rolau amrywiol yn y Senedd hon a allai edrych ar sut y gellid eu cyflawni drwy rannu swyddi. Mae rhai o'r rheini, fel y dywedwch, Mike Hedges, o fewn y ddeddfwriaeth gyfredol, a byddai angen newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn unig, yn ogystal â rhywfaint o eglurder ar y gweithdrefnau dan sylw. Cynigiodd y pwyllgor ar ddiwygio etholiadol y dylid sefydlu gweithgor yn gynnar yn nhymor y Senedd hon i edrych ar yr amryw agweddau ar rannu swyddi a allai weithio—ac mae angen inni gofio hyn—at ddibenion cynyddu amrywiaeth. Mae hynny'n fy atgoffa, wrth gwrs, wrth ystyried y modd y gwnaethom ethol Cadeiryddion ddoe—ac rwy'n llongyfarch yr holl Gadeiryddion a etholwyd ddoe—roedd dwy ran o dair o'r Cadeiryddion a etholwyd ddoe yn ddynion, a 100 y cant ohonynt yn wyn, ac nid yw hynny'n adlewyrchu Cymru, na'r Senedd hon yn wir, ac felly, mae'n ein hatgoffa sut y mae angen inni weithio i sicrhau ein bod yn hyrwyddo amrywiaeth ym mhob agwedd ar ein gwaith.
3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am dalu'r cyflog byw go iawn i weithwyr a chontractwyr y Senedd? OQ56689
Cyfradd y Living Wage Foundation yn y Deyrnas Gyfunol, ac eithrio Llundain, ar hyn o bryd, yw £9.50 yr awr. Yr isafswm cyflog mynediad ar gyfer gweithwyr y Comisiwn yw £10.50 yr awr ar hyn o bryd. A cytunodd y Comisiwn blaenorol, o fis Ebrill 2020, y dylid talu pob staff contract y Comisiwn yn unol â'r isafswm cyflog mynediad i staff y Comisiwn, ac felly, yr isafswm cyflog i bob contractwr yw £10.50 yr awr hefyd.
Rwy'n croesawu'r ateb hwnnw, ac rwy'n cydnabod ac yn talu teyrnged i waith Aelodau eraill yn y pumed Senedd a wthiodd yr agenda hon yn galed iawn, oherwydd pwysigrwydd ein calon ddemocrataidd yma yng Nghymru fel cenedl, ac arwain drwy esiampl.
Tybed a gaf fi ofyn a oes mwy yn awr y gallwn ac y dylem ei wneud i arwain drwy esiampl, naill ai drwy hepgoriadau y gallwn feddwl amdanynt nad ydym efallai'n ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd, neu fel arall, drwy rannu profiad sefydliad fel hwn ag eraill o ran y ffordd rydym yn hyrwyddo'r cyflog byw gwirioneddol mewn gwirionedd, nid yn unig i'r gweithwyr, ond ymhellach, yn ddwfn y tu hwnt i'r sefydliad i bawb sy'n dod i gysylltiad â'r sefydliad hwn?
Ie, yn wir, a chredaf y gallwn fod yn falch fel cyflogwr ein bod bellach yn cyflogi ein holl staff a'n staff dan gontract uwchlaw'r cyflog byw gwirioneddol, ac rwy'n talu teyrnged yn arbennig yma i Joyce Watson sydd wedi hyrwyddo hyn yn y Senedd ddiwethaf, ac yn y Comisiwn. Ac rwy'n credu, gobeithio, y gallwn feddwl ynglŷn â sut y mae ein hesiampl ni yma o weithio gyda'n contractwyr i sicrhau bod y cyflog byw gwirioneddol, uwchlaw'r cyflog byw gwirioneddol, yn cael ei dalu i weithwyr dan gontract yn dangos, drwy drafodaeth, y gallwn gyrraedd man lle nad oes neb sy'n gweithio i ni, gyda ni yma yn y Senedd, o dan anfantais, boed wedi'u cyflogi'n uniongyrchol, wedi'u cyflogi gan Aelodau o'r Senedd, neu wedi'u cyflogi gan ein contractwyr.
4. Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i gefnogi'r ymgyrch rhuban gwyn? OQ56673
Yn y gorffennol, mae'r Comisiwn wedi cefnogi'r ymgyrch Rhuban Gwyn drwy gynnal digwyddiad blynyddol yn y Senedd, a thrwy godi arian drwy werthu rhubanau gwyn yn siopau Tŷ Hywel a'r Senedd. Mae cyfyngiadau'r coronafeirws yn parhau i effeithio ar ein gallu i gynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb, ond byddwn yn parhau i ddangos cefnogaeth i'r ymgyrch Rhuban Gwyn drwy godi ymwybyddiaeth ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol, a thrwy bostio hysbysiadau ar fewnrwyd yr Aelodau a'r staff.
Yn ystod y pandemig, mae'r Comisiwn wedi bod yn ymwybodol o risg uwch o achosion o gam-drin domestig, gan mai gweithio gartref fu'r norm, ac rydym wedi rhoi mwy o fesurau cymorth ar waith a rhoi gwybod amdanynt i'n staff a'n Aelodau.
Diolch, Lywydd, ac fe fyddwch yn gwybod fy mod yn llysgennad Rhuban Gwyn balch iawn, ac rwy'n angerddol ynglŷn â lledaenu'r neges y dylai pob dyn wneud, ac yn bwysig, y dylai pob dyn gadw addewid y Rhuban Gwyn. Gwn eich bod chi eich hun, ac aelodau eraill o'r Comisiwn, yn y gorffennol a'r presennol, yn hyrwyddo'r achos hwn yn frwd, ac fel rydych wedi'i ddweud, rydych yn aml yn cefnogi'r achos ac wedi gwneud hynny dros flynyddoedd lawer.
Yn y Senedd ddiwethaf, roedd y Comisiwn yn edrych ar y posibilrwydd o gael achrediad Rhuban Gwyn, ac rwy'n awyddus i wybod pa gynnydd a wnaed mewn perthynas â hynny.
Ie, Jack Sargeant, diolch, a diolch am fynd ar drywydd hyn gyda ni fel Comisiwn, ac rwy'n gobeithio eich bod yn teimlo eich bod yn curo ar ddrws agored mewn perthynas â hyrwyddo'r Rhuban Gwyn.
Wedi dweud hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, er gwaethaf ein diddordeb mewn cael achrediad Rhuban Gwyn, mae'n ddrwg gennyf am orfod defnyddio'r pandemig fel rheswm dros beidio â chyflawni hyn hyd yma. Ond ar ôl rhoi mesurau cymorth mwy ymarferol ar waith ar gyfer ein staff yng nghyd-destun y pandemig a gweithio gartref, credaf ei bod yn awr yn amser i'r Comisiwn newydd edrych eto ar yr hyn rydych wedi'i gynnig o'r blaen, ac wedi'i gynnig eto heddiw, mewn perthynas ag achrediad Rhuban Gwyn, a byddwn yn gwneud hynny, fel Comisiwn.
5. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei bolisi TGCh ar gyfer y chweched Senedd? OQ56681
Polisi'r Comisiwn yw darparu gwasanaethau technoleg gwybodaeth diogel ac addasadwy, sy'n caniatáu i Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn i weithio'n effeithlon ac yn hyblyg. Er enghraifft, mae gan bob defnyddiwr yr opsiwn i ddewis dyfeisiadau symudol i'w helpu i weithio'n hyblyg ac i gael gafael ar raglenni a gwybodaeth y Comisiwn drwy wasanaeth cwmwl.
Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am hynny. Cefais fy synnu'n fawr wrth ddarllen adran 2 o'r polisi, lle mae'n datgan yn glir iawn y gall Comisiwn y Senedd, heb rybudd, wirio a gwneud a chadw copïau o'r holl wybodaeth, sy'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, alwadau ffôn ac unrhyw gyfathrebiadau electronig, gwybodaeth wedi'i storio, a data a anfonwyd, a grëwyd neu a gynhwysir o fewn system TGCh y Senedd. Mae'r rhain yn bwerau ymwthiol eithriadol y mae Comisiwn y Senedd, i bob golwg, wedi'u rhoi iddo'i hun, ac yn llawer mwy ymwthiol na'r pwerau a fyddai ar gael i'r heddlu neu'r gwasanaethau diogelwch, pe baent yn ymchwilio i droseddau heb ofyn am gymeradwyaeth farnwrol. Ac mae'n ymddangos i mi, fod y lefel hon o ysbïo neu fusnesu posibl ar Aelodau etholedig, sy'n gwneud eu gwaith ar ran pobl Cymru, yn gwbl annerbyniol. Hoffwn ofyn i Gomisiwn y Senedd dynnu'r rhan hon o'r polisi yn ôl ar frys, ailysgrifennu'r polisi hwn, gyda chydweithrediad yr Aelodau, ac yna gallwn gael polisi y mae pob un ohonom yn teimlo'n rhan ohono, lle nad ydym yn teimlo ein bod yn cael ein trin fel troseddwyr.
Gallaf sicrhau'r Aelodau o'r Senedd hon nad ydynt yn cael eu trin fel troseddwyr, ac nid yw'r Comisiwn ychwaith yn defnyddio unrhyw un o'r canllawiau hyn at ddibenion ysbïo neu fusnesu, ac rwy'n hapus i weithio gydag Aelodau a Chomisiynwyr i ddarparu sicrwydd, ac i adolygu'r polisi hwn, os oes angen, ac felly, gallwn wneud hynny. Ond mae'r polisi hwn ar waith i ddiogelu Aelodau a hefyd i sicrhau, os oes ymchwiliadau i gamdriniaeth o unrhyw fath neu ymddygiad troseddol wedi'u cyflawni gan unrhyw Aelod neu aelod o staff, ein bod yn gallu ymchwilio i'r wybodaeth honno. Ond mae'r gallu i wneud hynny o fewn cyfyngiadau rydym wedi'u gosod arnom ni ein hunain, ac nid yw, mewn unrhyw ffordd, yn ymarfer pysgota a all ddigwydd gan y Comisiwn. Ond fel y dywedais, rwy'n berffaith hapus, gan ei fod bellach wedi cael ei godi mewn cwestiwn yma, i ddarparu unrhyw sicrwydd ac i adolygu, os oes angen.
6. A wnaiff y Comisiwn gadarnhau ei drefniadau ar gyfer cwrdd yn ystod y tymor sydd i ddod? OQ56705
Penodwyd y Comisiynwyr ar gyfer y Senedd yma ar 23 Mehefin, a'r bwriad yw y bydd eu cyfarfod ffurfiol cyntaf yn digwydd cyn diwedd y tymor. Mae'r Comisiwn fel arfer yn cwrdd rhyw ddwy, tair gwaith bob tymor, ac mae'n gallu cwrdd yn ôl yr angen yn ychwanegol hefyd. Cyhoeddir egwyddorion llywodraethiant y Comisiwn a'r darpariaethau ategol ar y wefan.
Diolch i chi am eich ateb, Lywydd. Fel un o'r Aelodau newydd o'r Senedd hon, roedd yn ymddangos i mi fod diffyg cysylltiad braidd rhwng rhai o'r cynigion newydd roedd y Comisiwn yn eu cyflwyno mewn rheolau a newidiadau i reolau yn ein gwaith, a'r hyn roedd Aelodau'n ei geisio mewn gwirionedd. Felly, rwy'n meddwl tybed, gyda threfniadau cyfarfod ac amserlen ar waith, sut y byddwch yn defnyddio'r cyfarfodydd hynny ac yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu ag Aelodau, yn hysbysu'r Aelodau, ynghylch unrhyw newidiadau posibl yn y dyfodol?
Wel, diolch am godi hynny, ac rwy'n ymwybodol fod nifer o faterion wedi bod o ddiddordeb i Aelodau, hen ac ifanc, yn ymwneud â newidiadau sydd wedi digwydd o ganlyniad i benderfyniadau gan y Comisiwn neu benderfyniadau eraill, ac mae sicrhau bod Aelodau'n teimlo bod y penderfyniadau a wneir yn cael eu gwneud ar eu rhan, ac mewn ymgynghoriad ag Aelodau, yn bwysig i mi fel cadeirydd y Comisiwn ac rwy'n siŵr ei fod yn bwysig i'r Comisiynwyr eraill hefyd, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn parhau i wella yn hyn o beth. Awgrymaf fod pob Aelod bob amser yn darllen eu negeseuon e-bost. Mae'n ddigon posibl fod beth bynnag rydych yn cwyno amdano wedi'i anfon atoch mewn e-bost ar ryw bwynt, ac nid yw hyn ar eich cyfer chi'n benodol, Sam Rowlands, gan eich bod yn Aelod newydd. Ond nid yw anfon negeseuon e-bost yn ffordd arbennig o effeithiol bob amser o gyfathrebu ac ymgynghori. Felly, mae angen inni wella yn hynny o beth.
Rwy'n arbennig o awyddus i'r Comisiwn ymgysylltu ag Aelodau hefyd, yn ogystal â sicrhau ein bod yn ymgysylltu â'r grwpiau, yn fwy ffurfiol o bosibl nag y gwnaethom hyd yma, a'r staff grŵp, fel ein bod yn sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn destun ymgynghori digon da ac yn seiliedig ar wybodaeth ddigon da fel bod y Comisiynwyr yn gwneud y penderfyniadau gorau posibl ar ran yr Aelodau ac fel nad oes neb yn teimlo eu bod wedi'u drysu gan unrhyw newid penodol i reol. Nid yw hynny'n golygu y bydd pob Aelod bob amser yn cytuno â phob penderfyniad y mae'r Comisiwn yn ei wneud neu'n ei newid, ond mae angen iddynt fod yn benderfyniadau gwybodus o leiaf.
7. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i gynyddu bioamrywiaeth ar ystâd y Senedd? OQ56690
Er bod mannau gwyrdd yn gyfyngedig ar ein hystâd, mae'r Comisiwn wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf i annog bioamrywiaeth. Gwnaethom gyflwyno dau gwch gwenyn ychydig flynyddoedd yn ôl, ac ychwanegwyd trydydd cwch yr haf diwethaf. Rydym wedi gwella cynefinoedd i gynnal peillwyr, gan gynnwys amrywiaeth o blanhigion a blodau ym maes parcio Tŷ Hywel, a llain o flodau gwyllt ar hyd ochr y Senedd sydd eleni'n gartref i amrywiaeth o degeirianau. Yn ein strategaeth garbon niwtral, rydym yn ymrwymo i ddyblu faint o ofod gwyrdd sydd o amgylch yr ystâd—rhywbeth rydym eisoes wedi dechrau gweithio arno—er mwyn gwella bioamrywiaeth a llesiant.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Ers ymuno â'r Senedd fis diwethaf, rwyf wedi bod yn falch iawn o glywed am rai o'r mesurau sydd ar waith i annog bywyd gwyllt, gan gynnwys y gwenyn ar adeilad y Pierhead. Hoffwn i'r Senedd hon arwain y ffordd gyda'r defnydd o dechnegau arloesol i annog bioamrywiaeth, ac a wnaiff y Comisiwn ymrwymo i ymchwilio i ffyrdd o annog rhywogaethau brodorol ar yr ystâd yma ym mae Caerdydd, gan gynnwys plannu blodau gwyllt ar dir nas defnyddir? Mae'n swnio fel pe baech eisoes yn gwneud hynny, felly mae hynny'n wych, diolch.
Ydym, ac rydym yn awyddus i gynyddu'r hyn a wnawn. A chlywais eich cwestiwn i'r Dirprwy Weinidog yr wythnos diwethaf, ac rwy'n deall bod gennych rôl newydd yn hyrwyddo bioamrywiaeth a phlannu blodau gwyllt yn benodol. Ac yn sicr os oes gennych ddiddordeb, gan fod Jenny Rathbone wedi bod yn hyrwyddo llawer o'r materion hyn yn y Senedd hyd yma, byddai staff y Comisiwn a ninnau fel Comisiynwyr yn awyddus i weithio gyda chi ac i gyflwyno'ch syniadau hefyd. Rydym yn gweithio gyda'n staff Comisiwn—gyda'r rhai sydd â diddordeb arbennig mewn hyrwyddo hyn—i weld sut y gallwn wella'r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer bioamrywiaeth ar ein hystâd, o gofio, wrth gwrs, fod gennym gyfyngiadau yn yr amgylchedd trefol rydym ynddo, ond hefyd gyda'r tir cyfyngedig sydd gennym ar ein hystâd. Ond nid yw'r rheini'n rhesymau dros beidio â gwella. Felly, edrychaf ymlaen at weithio gyda chi—Aelodau hen a newydd—gyda syniadau newydd ynglŷn â sut y gallwn wella hyn i'r senedd nesaf—i mewn i'r chweched senedd.
8. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i adeiladu ar ymgyrch pleidlais 16 i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael cyfle i ymgysylltu gyda gwaith yn y Senedd? OQ56707
Rydym wrthi'n gwerthuso llwyddiant yr ymgyrch pleidlais 16, a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth honno, ynghyd â data ar y nifer a bleidleisiodd, i lywio ein dull o ymgysylltu â phobl iau yn y dyfodol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r defnydd o sesiynau rhithwir gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid wedi bod yn amhrisiadwy o ran cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Byddwn yn parhau i ymgorffori hynny yn yr hyn a gynigwn i bobl iau yn ystod y chweched Senedd. Mae'r ymgyrch ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru ar y gweill, gydag enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr yn lansio ar 5 Gorffennaf. Dyma fydd craidd ein gwaith ymgysylltu â phobl ifanc dros y ddwy flynedd nesaf.
Gwych. Diolch o galon i chi a diolch hefyd am y rôl wnaethoch chi ei chwarae i sicrhau bod gan bobl ifanc 16 a 17 yr hawl i bleidleisio yn yr etholiad eleni. Er i nifer o bobl ifanc fanteisio ar y cyfle hwnnw, dwi'n falch iawn o glywed y byddwch chi yn ymchwilio o ran sut oedd effeithiolrwydd yr ymgyrch honno, ond hefyd mae gen i ddiddordeb gwybod: ydy'r ymchwil yna hefyd yn mynd i gynnwys y rheini a wnaeth ddewis peidio â phleidleisio y tro yma? Rwy'n clywed gan nifer o bobl ifanc a oedd yn gyffrous iawn am y cyfle i bleidleisio eu bod nhw wedi ei cael hi'n anodd argyhoeddi eu cyfoedion i ddefnyddio'u llais, oherwydd eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw ddim efo digon o wybodaeth ac ati a'u bod nhw ddim yn deall y lle yma digon. Felly, gan feddwl bod nifer o bobl yn 11 oed a 12 oed rŵan a fydd yn pleidleisio mewn pum mlynedd, oes yna fwriad i fynd ati i ddeall pam wnaeth pobl ddim dewis pleidleisio hefyd er mwyn llunio strategaeth i'r dyfodol?
Mae hwnna'n bwynt pwysig iawn, a hefyd, wrth gwrs, yr her i sicrhau bod pobl ifanc yn cofrestru yn y lle cyntaf. Mae'r ddau beth yn gysylltiedig, a'r ddau beth yn bwysig, ac felly fe fydd angen inni, wrth inni adlewyrchu ar yr etholiad a'r profiad mae pobl ifanc newydd ei gael o dderbyn yr hawl i bleidleisio'n 16 ac 17, sut y penderfynon nhw i bleidleisio a pham penderfynodd nifer ohonyn nhw efallai i beidio â phleidleisio—. Ac felly, yn sicr, dwi'n cytuno bod y ddwy agwedd o'r gwaith yna a'r ddwy garfan o bobl yna—mae'n bwysig i drafod gyda'r rhai a bleidleisiodd gyda'u hawliau newydd a'r rhai ddewisodd i beidio â gwneud neu doedd ddim hyd yn oed yn ymwybodol fod gyda nhw'r hawl i wneud hynny. Felly, ie, cytuno. Mae clywed lleisiau'r holl bobl ifanc yn bwysig iawn wrth inni feddwl amboutu sut rŷn ni'n paratoi ar gyfer etholiadau'r dyfodol, gan gynnwys, wrth gwrs, y bydd etholiad llywodraeth leol y flwyddyn nesaf ac fe fydd yna do unwaith eto newydd o bobl yn cael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf.
Diolch, Llywydd.
Yr eitem nesaf yw cwestiynau amserol, ac, yn gyntaf, Mabon ap Gwynfor.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bolisi dadfeddiannu Llywodraeth Cymru? TQ557
Gweinidog.
A all rhywun agor meicroffon y Gweinidog? Dyna ni, Weinidog.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi negodi polisi gyda'i holl landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru i beidio â throi pobl allan i ddigartrefedd. Nid oes polisi dadfeddiannu yn y sector rhentu preifat, ac mewn gwirionedd mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau na welwyd eu tebyg ar waith i gefnogi tenantiaid, atal digartrefedd a'u cynorthwyo i aros yn eu cartrefi.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Weinidog. Fel rydyn ni wedi clywed yn barod brynhawn yma, mae'r rheoliadau sy'n gwarchod pobl rhag dadfeddianaeth yn dirwyn i ben yn rhannol heddiw. Mae'r newyddion am y grant i gynorthwyo pobl sy'n cael trafferth talu rhent i'w groesawu, ond mae peryg y bydd hwn yn gwbl annigonol i ateb y galw go iawn.
Ond hefyd does gan y Llywodraeth yma ddim record da o sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y bobl sydd ei angen, os edrychwch chi ar y ffaith bod 1,500 o bobl wedi datgan diddordeb yn y cymhorthdal tenancy saver loan, ac mae ond 41 wnaeth dderbyn unrhyw gymhorthdal, ac mae degau o filoedd o bobl yn fwy ar fin canfod eu hun mewn sefyllfa ariannol bregus os ydy ymchwil y Sefydliad Bevan yn gywir.
Rydyn ni eisoes wedi clywed bod y Llywodraeth yn ariannu cynghorau sir i fynd i'r afael â digartrefedd, ond y gwir trist ydy bod nifer o gynghorau sir yn parhau i gartrefu pobl mewn gwestai, er enghraifft. Mae yna beryg go iawn y gwelwn ni gynnydd yn y nifer sy'n ddigartref oherwydd hyn, heb sôn am y ffaith bod y polisi dadfeddiannu am ddod i ben yn llwyr ym mis Medi, yr un pryd â bydd y ffyrlo yn dod i ben. Oni ddylid cymryd pob cam posib i osgoi bod rhywun yn mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf, a pha gamau ydych chi am gymryd i sicrhau bod yna fwy o dai addas ar gael i gartrefu pobl sydd ar fin canfod eu hun yn ddigartref yn y tymor byr? Diolch.
Diolch am y cwestiwn, sy'n deillio, rwy'n siŵr, o awydd gwirioneddol a rennir gan bawb yng Nghymru, rwy'n gwybod, i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â phla digartrefedd, yn enwedig gyda mesurau ataliol. Rwy'n hynod falch o'r mesurau y mae pawb yn y sector wedi'u rhoi ar waith ledled Cymru yn ystod y pandemig, a ni yw'r wlad sydd wedi cyflawni orau o bell ffordd yn y DU i sicrhau nad yw pobl wedi bod yn ddigartref ar ein strydoedd drwy'r pandemig. Mae pawb yn y sector wedi gweithio'n galed, gan ddod at ei gilydd o'r sectorau statudol a gwirfoddol ym mhob rhan o Gymru i sicrhau y gall hynny ddigwydd.
Rydym yn dal i roi ychydig o dan £2 filiwn y mis i awdurdodau lleol, yn ogystal â'r cyllid arferol a rown iddynt, er mwyn sicrhau bod pobl sy'n ddigartref ar hyn o bryd yn dal i gael eu trin â'r urddas a'r parch y maent yn eu haeddu, a'u bod yn cael eu cartrefu mewn llety dros dro. Rwy'n derbyn yn llwyr fod y llety dros dro hwnnw'n amrywiaeth o wahanol wasanaethau—wrth gwrs ei fod, oherwydd rydym mewn sefyllfa na welwyd ei thebyg erioed o'r blaen.
Ar hyn o bryd, mae tua 1,000 o bobl ddigartref yn troi at wasanaethau awdurdodau lleol bob mis, ac ar hyn o bryd rydym yn gweld tua 400 ar gyfartaledd o'r bobl hynny'n cael eu symud i lety parhaol. Bydd Aelodau a oedd yma yn y Senedd ddiwethaf yn gwybod, oherwydd cytunodd y Senedd â ni fod angen ariannu awdurdodau lleol i gyflymu'r broses o adeiladu tai yn ystod y pandemig—. A byddwch hefyd yn cofio, rwy'n siŵr, ein bod wedi cadw'r diwydiant adeiladu ar agor drwy'r pandemig er mwyn gwneud hynny. Felly, mewn gwirionedd, mae 400 o bobl yn cael eu cartrefu'n barhaol bob mis yn ymdrech eithriadol gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac adeiladwyr tai eraill i adeiladu'r tai rydym eu heisiau.
Rwy'n gwbl benderfynol na fyddwn yn dychwelyd i ddogni yn y sector tai ac y byddwn yn parhau i sicrhau bod pobl sydd angen gwasanaethau digartrefedd yn cael eu trin â'r urddas a'r parch y maent yn eu haeddu. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio'n gyflym i weithredu ein Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a bydd honno'n mynd i'r afael â nifer o'r materion y mae Mabon wedi'u codi yn ei gwestiwn. Rydym yn gweithio'n gyflym i wneud hynny. Mae yna gymhlethdodau gwirioneddol, na fydd y Dirprwy Lywydd yn diolch i mi am eu crybwyll yn yr amser sydd gennyf mewn cwestiwn amserol, ond rwy'n fwy na pharod i'w trafod mewn ffordd drawsbleidiol, fel rydym wedi'i wneud ar sawl achlysur arall. A bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr. Wrth gwrs, heddiw, fel y dywedasoch yn gywir, rydym wedi cyhoeddi bod y system grantiau'n dod i rym. Rydych yn iawn i ddweud nad oedd y benthyciadau mor effeithiol ag y byddem wedi hoffi, am amryw o resymau, ac felly rydym yn cyhoeddi grant yn awr. Bydd meini prawf cymhwysedd ar gyfer hwnnw. Bydd ein partneriaid awdurdod lleol, sydd wedi gweithio mor galed gyda ni yn ystod y pandemig i ddarparu gwasanaethau, yn cyflawni hynny ar ran Llywodraeth Cymru, drwy'r gronfa galedi. Ac rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi cael cytundeb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y Llywodraeth er mwyn hwyluso hynny cyn gynted â phosibl.
Rydym yn poeni'n fawr am yr argyfwng tai yng Nghymru. Yn ddiweddar iawn, cyflwynodd Plaid Cymru ddadl i'r Senedd yn enw Siân Gwenllian ar yr argyfwng tai, a hynny'n gwbl briodol—cynnig na wnaethom ei ddiwygio, oherwydd ein bod yn cytuno'n llwyr. Gwir natur yr argyfwng yw'r broblem real sydd gennym gyda'r llwybr, os hoffech, i ddigartrefedd. Ac felly mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi gweithio gyda ni i hwyluso pecyn o gyngor a chyllid i asiantaethau cynghori i gynorthwyo gyda materion sy'n ymwneud â chwalu perthynas a chwnsela ac arweiniad i unigolion, gan gynnwys arweiniad ar ddyledion, cymorth iechyd meddwl ac yn y blaen, er mwyn atal hynny rhag digwydd. Ac rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Lynne Neagle hefyd i sicrhau bod cymorth ar gamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl ar gael yn y sector.
Hoffwn gloi drwy ddiolch o waelod calon i'r sector am y gwaith y maent wedi parhau i'w wneud drwy gydol y pandemig ac am y gwaith y maent yn dal i'w wneud yn awr i sicrhau nad oes gennym bobl yn dychwelyd go iawn i'r strydoedd yng Nghymru, a bod gweithwyr allgymorth yn cael eu pennu ar gyfer y bobl sy'n dal i gysgu allan mewn niferoedd bach iawn yng Nghymru, ac rydym yn gweithio'n galed i'w cyfeirio at wasanaethau.
Hoffwn ddatgan buddiant mewn eiddo yn y sector rhentu preifat.
Nawr, fel yr adroddodd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl ym mis Ionawr, mae tua 60 y cant o'n landlordiaid preifat wedi colli incwm rhent o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae 22 y cant wedi colli mwy na £5,000, ac mae 36 y cant wedi dweud bod colledion yn parhau i gynyddu. Mae'n rhaid iddynt dalu eu biliau, ac os caiff y contract ei dorri, weithiau, dadfeddiannu yw'r unig ffordd y gall landlord ddiogelu ei fywoliaeth ei hun.
Nawr, realiti'r mater yw, os bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn cyfeiriad llai na chefnogol i'n landlordiaid sector preifat gwerthfawr, gallai hynny olygu bod oddeutu traean o'n stoc o dai rhent preifat yn cael ei dynnu oddi ar y farchnad neu ei symud i'r sector gosod llety gwyliau/Airbnb, sydd eisoes yn temtio rhai landlordiaid sydd wedi cael llond bol gan ei fod gymaint yn fwy proffidiol ac yn llawer llai o drafferth a bod yn onest. Byddai hyn yn ei gwneud hi'n anos i bobl ddod o hyd i gartref. Byddai'n cynyddu cost rhent yr eiddo sy'n weddill. Nawr, rwy'n siŵr na fyddai Plaid Cymru yn dymuno cefnogi canlyniadau o'r fath, felly mae'n bryd iddynt weithio gyda ni i gyd, yn drawsbleidiol, i sicrhau bod ein tenantiaid a'u perchnogion eiddo yn wir—
A wnewch chi ofyn y cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda?
—yn cael bargen deg. Gwnaf. Mae rhoi diwedd ar fesurau cyfreithiol i atal dadfeddiannu yn ddechrau da. Felly, mae'n bwysig fod tenantiaid yn cael eu cefnogi i symud i eiddo y gallant ei fforddio'n well. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried polisïau megis cyflwyno pasbortio blaendaliadau? Diolch.
Diolch am y cwestiwn. Credaf fy mod wedi deall ei fod, ar y diwedd yno, yn ymwneud â chyflwyno pasbortio blaendaliadau. Mae gennym ystod o fesurau rydym yn hapus i edrych arnynt yn y sector rhentu preifat i alluogi tenantiaid i symud rhwng cartrefi, lle mae hynny'n angenrheidiol i'w teuluoedd, ac fel y dywedais, rydym yn gweithio'n galed i weithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi, a fydd yn caniatáu mwy o amddiffyniad i denantiaid yn y sector rhentu. Os yw Janet Finch-Saunders yn pryderu'n fawr am landlordiaid sy'n colli incwm, byddai'n gwneud yn dda iawn i'w cyfeirio at ein cynllun a fyddai'n caniatáu iddynt drosglwyddo eu tŷ i reolaeth awdurdodau lleol am incwm gwarantedig ar lefel y lwfans tai lleol. Mae'r cynllun wedi bod yn boblogaidd iawn gyda landlordiaid ers amser hir, am nad oes yn rhaid iddynt fynd i'r 'drafferth'—fel y dywedodd hi—o gael tenantiaid mwyach. Mae'n diogelu tenantiaid ac mae'n rhoi incwm sicr iddynt, sydd o fudd i bob parti. Felly, os yw'n pryderu am hynny, byddwn yn argymell yn gryf ei bod yn argymell y cynllun hwnnw'n eang i'r landlordiaid y mae hi mewn cysylltiad â hwy.
Mae'n iawn yn dweud bod gennym nifer fawr o landlordiaid rhesymol ledled Cymru, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt. Maent yn gweithio'n galed i sicrhau eu bod yn edrych ar ôl eu tenantiaid, ac yn gyfnewid am hynny, wrth gwrs, byddant yn ddiolchgar fod y tenant bellach yn gallu cael grant i ad-dalu'r rhent nad oeddent yn gallu ei dalu heb unrhyw fai arnynt hwy o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws. Nid ydym yn sôn am ryw fath o denant anodd sy'n gwrthod talu rhent yn fwriadol; rydym yn sôn am fodau dynol hollol resymol sydd mewn sefyllfa na allant ei rheoli heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, a dyna pam y mae'r Llywodraeth hon yn barod i'w cynorthwyo hwy, a'r landlordiaid wrth gwrs, sy'n cael yr arian felly, ac mae'r Llywodraeth hefyd yn atal y trychineb dynol o fod nifer fawr o bobl yn ddigartref, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd eisiau gweld hynny.
Diolch, Weinidog. Ac yr ail gwestiwn gan Laura Anne Jones.
2. Yn sgil sylwadau a wnaed gan y Gweinidog mewn sesiwn friffio i'r wasg ar y coronafeirws ddydd Llun, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru i weithredu eu rheolau diogelwch COVID-19 eu hunain yn y tymor nesaf? TQ559
Roedd fy nghyhoeddiad ddydd Llun yn rhan o sgwrs a fydd yn parhau gyda'n partneriaid dros weddill y tymor hwn. Byddwn wedyn yn cyhoeddi'r fframwaith cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd, a byddwn yn rhoi'r rhybudd angenrheidiol i ysgolion er mwyn iddynt allu symud at y ffordd newydd hon o weithio yn y tymor ysgol nesaf. Rydym yn cydnabod bod angen cynllunio gofalus er mwyn sicrhau ein bod sicrhau cymaint â phosibl o ddysgu ac yn cadw pawb mor ddiogel â phosibl.
Byddwn yn dweud 'Diolch', Weinidog, ond ni ddarparwyd yr eglurder y gwn y mae'r sector, y disgyblion a'r rhieni ei eisiau. Weinidog, mae'n ymddangos bod yna duedd gynyddol lle rydych chi a'ch Llywodraeth eisiau annerch y wasg yn gyntaf cyn dod i lawr y Siambr hon, sef y drefn briodol wrth wneud newidiadau polisi mawr yn y sector addysg.
Gwelwn duedd gynyddol yn y Llywodraeth yn hyn o beth ac nid dyma'r ffordd gywir o wneud pethau. Ddoe, roedd y Prif Weinidog yn ddigon haerllug i feirniadu diffyg parch Prif Weinidog y DU, ein Prif Weinidog Prydeinig, tuag at y Senedd hon, ac eto, drwy wneud hynny, a mynd at y wasg yn gyntaf heb ddod i lawr y Siambr hon, rydych yn dangos diffyg parch at y Senedd hon drwy beidio â dilyn y drefn briodol. Mae yna ffordd iawn o wneud pethau, Weinidog, a gweddill y Llywodraeth. Nid dyma'r ffordd iawn o'i wneud. Os ydym eisiau i'r Senedd hon gael ei pharchu i'r un graddau â Senedd y DU, nid dyma'r ffordd gywir o fynd ati.
A gaf fi ddiolch i'r Llywydd am gydnabod pa mor bwysig yw hi i'r Gweinidog sefyll gerbron y Senedd heddiw a'r angen amserol am hynny, a'r angen dybryd am hynny? Ac roedd angen mwy o eglurder arnom heddiw, Weinidog. Mae'r sector yn ysu am fwy o eglurder ar ôl eich sesiwn friffio i'r wasg, a dywedodd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon ei bod yn gwbl ddryslyd, a dywedodd hefyd y gallai eich cynigion fod yn aflonyddgar iawn a chynyddu nifer y cysylltiadau agos yn hytrach na'u lleihau. Mae dryswch llwyr yn gyffredinol ynglŷn â'r hyn y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd. A ydych yn rhoi'r pwerau i ysgolion unigol? A ydych yn eu rhoi i awdurdodau lleol? Beth ydych chi'n ei wneud, Weinidog? Dyma roeddwn yn gobeithio ei glywed gennych heddiw.
Nid yw'n iawn eich bod am drosglwyddo'r cyfrifoldeb, y bai a phopeth i benaethiaid. Os yw hynny'n wir, nid yw honno'n sefyllfa y dylai penaethiaid fod ynddi, yn enwedig ar ôl y pandemig hwn a'r holl straen sydd wedi bod arnynt. Nid yw'n iawn. Chi ddylai fod yn gyfrifol am hyn, Weinidog, ac os nad ydych eisiau bod yn gyfrifol, os ydych eisiau datganoli peth o'r cyfrifoldeb, dylai fynd i awdurdodau lleol, fel bod ysgolion yn ardaloedd yr awdurdodau lleol yn gwneud y peth cywir o leiaf. Weinidog, mae'n—
A allwch chi ofyn cwestiwn yn awr?
Iawn. Yn olaf, ar fasgiau, Weinidog, dylech fod yn arwain yn genedlaethol ar hynny. Nid yw masgiau mewn ystafelloedd dosbarth yn angenrheidiol mwyach. Nid oes unrhyw effaith ar wahân i'r effaith ar lesiant y plentyn a'r gallu i gyfathrebu yn y dosbarth; mae eich cynghorwyr gwyddonol eich hun wedi dweud eu bod yn gwneud mwy o niwed nag o les. Felly, Weinidog, os gwelwch yn dda, a allwch chi ddod i'r Siambr hon gyda datganiad llawn yn rhoi eglurder? Mae pythefnos ar ôl tan ddiwedd y tymor hwn ac mae angen i athrawon ac ysgolion baratoi ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi.
Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn pellach hwnnw. Nid wyf yn cydnabod y darlun dryslyd y mae'n ei ddisgrifio. Yn ein trafodaethau gyda'n partneriaid yn y sector addysg yn uniongyrchol, rydym wedi bod yn glir iawn y byddwn am gael trafodaethau gyda hwy mewn perthynas â datblygiadau wrth iddynt ddigwydd mewn ysgolion, a byddwn bob amser am gael y trafodaethau hynny ymlaen llaw. Fel y dywedais yn fy ateb cynharach, rydym yn cael y trafodaethau hynny yn ystod y tymor hwn, ac o ran yr amseru, sef y pwynt y gorffennodd ag ef, fel y dywedais, byddwn yn cyhoeddi'r fframwaith yn seiliedig ar y trafodaethau gyda'n partneriaid cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd. Bydd ysgolion yn cael y rhybudd y byddant ei angen er mwyn gallu cyflwyno'r trefniadau hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol. Bydd angen cynllunio ar gyfer gwneud hynny, a byddant yn cael amser i wneud hynny.
Rwy'n falch o'i chlywed yn siarad am lesiant yn ei chwestiwn. Rydym i gyd, ym mhob rhan o'r system ysgolion, wedi ymrwymo i lesiant a chynnydd ein dysgwyr, a rhai o'r ymyriadau a fu ar waith o anghenraid. Soniodd am orchuddion wyneb mewn ysgolion yn ei chwestiwn, a gwyddom fod hynny'n effeithio ar lesiant a phrofiad addysgol pobl ifanc yn yr ysgol, ac felly rydym am sicrhau bod y rheini, yn amlwg, yn cael eu lleihau, yn gyson â lefel y risg. Y gwir bellach yw bod ysgolion yn gwasanaethu gwahanol gymunedau mewn gwahanol rannau o Gymru, a bydd gwahanol lefelau o drosglwyddiad mewn gwahanol gymunedau. Felly, pan ddywedwn fod angen lleihau'r camau hynny yn gyson â'r risg, mae'r risg honno hefyd yn amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru, ac felly roedd yr hyn a gyhoeddais ddydd Llun yn ddull gwahanol o weithredu, a fydd yn hwyluso'r defnydd o gyfres o fesurau mewn ysgolion gan adlewyrchu'r risg leol. Ond fel y dywedais hefyd ddydd Llun, nid yw hyn yn rhyw fath o—os caf ei ddisgrifio fel hyn—ryddid di-ben-draw i bawb; nid dyna yw'r bwriad. Bydd fframwaith cenedlaethol yn berthnasol mewn amgylchiadau lleol, a thrafodir y fframwaith hwnnw gyda'n partneriaid dros weddill tymor yr haf, a bydd ysgolion yn gallu cael gafael ar gyngor proffesiynol ar iechyd y cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan eu timau rheoli digwyddiadau lleol, ac yn y blaen. Felly, bydd set glir iawn o rolau a chyfrifoldebau'n cael ei chyfleu'n glir, a bydd ysgolion yn cael y cymorth a'r arweiniad a'r hyblygrwydd i gael y mesurau sy'n adlewyrchu eu proffil risg lleol.
Mae angen i Lywodraeth arwain ac nid gadael penderfyniadau cymhleth i ysgolion ac athrawon sydd dan bwysau anferth yn barod. Mae hynny'n annheg, yn anghyfrifol ac yn creu anghysondeb mawr. Felly, mi fyddwn i'n erfyn arnoch chi i wrando ar y gri gynyddol sy'n dod o'n hysgolion ni a rhoi arweiniad clir a chyson.
A gaf i ofyn i chi am gynlluniau brechu plant a phobl ifanc? Yn amlwg, mae'n rhaid dilyn cyngor y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwnedd o ran brechu plant a phobl ifanc, ond fydd y cyngor yna ddim ar gael tan ddiwedd Gorffennaf. Os bydd y gwyddonwyr yn dweud y bydd brechu yn ddiogel, ac mae hi'n edrych yn debyg mai dyna fyddan nhw yn ei ddweud, oes gennych chi drefniadau ar waith rŵan er mwyn rowlio'r brechlynnau allan yn ystod mis Awst? Mae disgwyl tan fis Medi yn gadael pethau'n hwyr iawn, ac mae yna gyfle i wneud rhywbeth penodol dros yr haf. Mae'r dystiolaeth ar effeithiolrwydd brechu yn erbyn trosglwyddiad y feirws yn awgrymu mai rhaglen frechu oed ysgol ydy un o'r atebion amlycaf.
Diolch am y cwestiwn. Gaf i sicrhau Siân Gwenllian fod arweiniad cenedlaethol clir yn y maes hwn? Bydd y fframwaith yn fframwaith cenedlaethol a fydd yn dangos ystod o ymyraethau sydd yn berthnasol i risg. Mae amgylchiadau lleol, wrth gwrs, yn berthnasol i hynny, fel byddwn i'n sicr y byddai hi'n cydnabod, a bydd cyngor ar gael ar lefel leol a hefyd ar lefel genedlaethol er mwyn sicrhau nad oes ymyraethau yn digwydd sydd yn ormodol o ran y risg. Rwy'n sicr yn rhannu'r nod o fod yn moyn gweld cyn lleied o effaith ar ddysgwyr ag sydd yn gyson â lefel y risg, a realiti'r sefyllfa yw bod hynny yn amrywio. Felly, mae'r cynllun cenedlaethol fydd yn cael ei ddatgan yn cefnogi ysgolion i ymateb i'r risg hynny mewn ffordd gyson, sydd yn seiliedig ar ganllawiau ac ar gyngor.
O ran brechu, dydyn ni ddim yn gwybod eto beth fydd y cydbwyllgor yn cynghori, ac mae'n rhaid aros tan ein bod ni'n cael y cyngor hwnnw cyn fy mod i'n gallu ateb ei chwestiwn hi ynglŷn â beth yn union fyddwn ni'n ei wneud, ond fe wnaf i roi'r sicrwydd iddi fod gennym ni gynlluniau wrth gefn beth bynnag fydd y cyngor ddaw allan oddi wrth y cydbwyllgor.
Diolch, Gweinidog.
Eitem 5 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad. Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gant a dau ddeg saith o flynyddoedd yn ôl ar 23 Mehefin 1894, digwyddodd ffrwydrad aruthrol yng nglofa'r Albion yng Nghilfynydd. Roedd y ffrwydrad i'w glywed bedair milltir i ffwrdd. Roedd y sŵn hwnnw a chwmwl trwchus o fwg sylffad rhagargoel erchyll o'r dinistr a oedd wedi digwydd. Cafodd strwythurau haearn eu rhwygo o'r tir, eu plygu fel gwifrau a'u saethu gryn bell gan rym y ffrwydrad. Roedd nifer y bywydau a gollwyd yn fwy trawmatig byth. Cafodd Cilfynydd ei ddisgrifio gan The Cardiff Times a The South Wales Weekly News fel lle tebyg i ddinas y meirw. Lladdwyd 290 o ddynion a bechgyn y diwrnod hwnnw, gyda'r ieuengaf yn ddim ond 13 oed. Hwn oedd y digwyddiad mwyngloddio gwaethaf ond un yng Nghymru ar ôl trychineb Senghennydd yn 1913. Er bod y rhan fwyaf o'r rhai a fu farw wedi'u henwi, ni fu modd enwi 11 ohonynt. Yn 1907, dadorchuddiwyd cofeb er anrhydedd iddynt ym mynwent Llanfabon gan Mabon, llywydd adnabyddus Ffederasiwn Glowyr De Cymru.
Yr wythnos diwethaf, cynhaliais y cyntaf o'r hyn a fydd, gobeithio, yn ddigwyddiad blynyddol wrth y gofeb honno i anrhydeddu'r rhai a gollodd eu bywydau yn yr Albion. Mewn gwasanaeth teimladwy dan arweiniad y Tad Gareth Coombes, a chyda chynrychiolwyr o Ysgol Gynradd Cilfynydd ac Ysgol Uwchradd Pontypridd, gosodasom flodeugedau a chawsom wasanaeth teimladwy i gofio'r effaith ar eu teuluoedd a'r gymuned ehangach. Dioddefodd y glowyr, eu teuluoedd a'r gymuned golled ddifrifol y diwrnod hwnnw. Y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw cofio'r drasiedi honno.
Gyda phencampwriaeth tennis Wimbledon wedi dechrau'r wythnos hon, rwy'n falch iawn o longyfarch grŵp o drigolion Castell-nedd sydd wedi gwneud gwaith adnewyddu ar gyrtiau tennis y dref. Ac maent wedi cael eu cydnabod gan y Gymdeithas Tennis Lawnt yn eu gwobrau blynyddol fel un o'r prosiectau tennis cymunedol gorau yn y DU. Tipyn o gamp.
Ffurfiwyd Tenis Castell-nedd yn 2018 gan breswylwyr ardal Heol Dyfed, gyda'r bwriad o ailagor cyrtiau tenis oedd wedi bod ar gau ers 10 mlynedd. Mewn llai na tair blynedd, gwnaeth y grŵp o wirfoddolwyr lwyddo i godi dros £100,000 i osod wyneb newydd ar y cyrtiau, a chodi ffensys cadarn newydd. Mae'r grŵp yn falch iawn o sicrhau bod yr adnodd yma ar gael i'r gymuned gyfan, ac wedi cadw'r pris o logi cwrt o fewn cyrraedd pawb.
Mae'r cyrtiau yn cael eu defnyddio gan yr Urdd a gan ysgolion lleol, gan gynnwys Ysgol Gymraeg Castell-nedd, sy'n chwarae ar y cyrtiau bob dydd yn ystod y tymor hwn. Yn ogystal, trefnwyd hyfforddiant tenis i blant yn rheolaidd, ac mae sesiwn tenis cymdeithasol i oedolion yn cael ei chynnal bob prynhawn dydd Sadwrn i'r rheini sydd am chwarae a gwneud ffrindiau.
Mae'n bleser gen i felly i longyfarch y grŵp yn ffurfiol am eu gwaith yma ar lawr y Siambr, a dymuno pob llwyddiant i Tenis Castell-nedd yn y dyfodol. Diolch.
Trist oedd clywed yr wythnos hon y bydd capel Bryn Seion yn Ystrad Mynach yn cau ei ddrysau am y tro olaf ddydd Sul. Mae’r capel wedi gwasanaethu’r ardal ers 1906, ac wedi bod yn ganolbwynt bywyd Cymraeg nid yn unig yn nhref Ystrad Mynach, ond trwy'r cwm cyfan. Cangen yr hen gapel yn Hengoed oedd hi, a dros flynyddoedd lawer bu cenedlaethau o deuluoedd yn marcio cerrig milltir bywyd y tu mewn i'w waliau: bedyddiadau, priodasau, angladdau. Bu cymaint ohonom yn mynychu clwb ieuenctid, Band of Hope, yn y festri pan oeddem yn fach, ac yn cymryd rhan yn nrama’r geni—weithiau’n Mair, weithiau’n fugail, weithiau’n seren yn y nen.
Nid adeilad yn unig oedd Bryn Seion, ond canolbwynt cymuned: lle i ddathlu a chysegru, i goffáu a galaru, adeilad lle’r hoffech chi weld y waliau nid yn unig yn siarad ond yn dawnsio, yn canu eu gorfoledd. Bydd ei golled yn cael ei deimlo nid yn unig yng nghymuned y Bedyddwyr, ond mewn teuluoedd ac mewn strydoedd ar wasgar trwy'r cwm. Ac er bydd y niferoedd yn y gwasanaeth yn gyfyng ddydd Sul, yn yr ysbryd bydd y capel dan ei sang â hen gyfeillion.
Nesaf yw'r cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Cyllid. Galwaf ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Siân Gwenllian.
Cynnig NDM7746 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Alun Davies (Llafur Cymru), a Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyllid.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, debynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn. Galwaf ar Gareth Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7713 Gareth Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n ymgorffori dull sy'n seiliedig ar hawliau wrth ddatblygu, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wrth wneud penderfyniadau a allai effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru;
b) ymestyn y ddyletswydd sylw dyledus i awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru;
c) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn ymhlith pobl hŷn ac awdurdodau cyhoeddus Cymru;
d) ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd Pobl Hŷn, pobl hŷn a rhanddeiliaid perthnasol eraill cyn gwneud neu ddiwygio'r cynllun hawliau pobl hŷn; ac
e) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau cyhoeddus Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Busnes am roi'r cyfle gwych hwn imi annerch y Senedd y prynhawn yma a chyflwyno'r cynnig hwn. Mae'n anrhydedd mawr, fel un o Aelodau mwyaf newydd y Senedd, i gyflwyno'r cynnig cyntaf ar gyfer deddfwriaeth yn y chweched Senedd. Mae'r ffaith bod y cynnig hwn wedi cael cefnogaeth o bob rhan o'r Siambr yn dangos bod pob plaid yma'n malio am hawliau pobl hŷn.
Yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cymru sydd â'r gyfran uchaf yn y pedair gwlad o bobl dros 65 oed. Mae dros un o bob pump o'n poblogaeth wedi cyrraedd oedran ymddeol y wladwriaeth, ac mae nifer y bobl dros 65 oed yn fwy na nifer y bobl o dan 15 oed, sy'n golygu ein bod yn boblogaeth sy'n heneiddio. Dros y ddau ddegawd nesaf, bydd nifer y bobl dros 65 oed yn cynyddu oddeutu 40 y cant. Er bod ein demograffeg yn newid, nid yw ein cymdeithas yn addasu, sy'n golygu bod hawliau pobl hŷn yn cael eu herydu.
Rydym wedi cymryd camau yng Nghymru i ddiogelu hawliau plant a phobl ifanc—a hynny'n gwbl briodol. Diolch i'r sefydliad hwn, rydym wedi ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng nghyfraith Cymru, ac wedi gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ym mhob dim a wnawn. Rwyf am roi'r un amddiffyniadau â'r hyn a fwynheir gan ein plant i'n cenhedlaeth hŷn.
Bydd y cynnig deddfwriaethol sydd ger eich bron heddiw, os caiff ei dderbyn, yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau sy'n effeithio ar bobl hŷn wedi rhoi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn. Mabwysiadwyd y ddogfen ddwy dudalen hon gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig bron i 30 mlynedd yn ôl yn1991, ac mae'n nodi 18 o egwyddorion. Mae'r egwyddorion craidd hyn wedi'u grwpio gyda'i gilydd mewn pum thema: annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunangyflawniad ac urddas—pethau y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Ond nid yw'r pethau hyn bob amser yn cael eu rhoi i'n pobl hŷn, yn anffodus, fel yr amlygwyd dros y 15 mis diwethaf.
Mae pandemig y coronafeirws wedi taro pobl dros 65 oed yn galetach nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o farw o'r feirws, yn fwy tebygol o ddioddef o unigrwydd ac arwahanrwydd o ganlyniad i gyfyngiadau, ac yn fwy tebygol o ddioddef o ganlyniad i fesurau a roddwyd ar waith i leihau'r effaith ar ein GIG. Darganfu arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Age Cymru, Cymru Egnïol, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, Fforwm Pensiynwyr Cymru, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru, Women Connect First, a Senedd Pobl Hŷn Cymru yr effaith wirioneddol y mae'r pandemig wedi'i chael ar bobl hŷn. Soniodd ymatebwyr sut yr effeithiodd y cyfyngiadau symud nid yn unig ar eu hiechyd meddwl, ond ar eu hiechyd corfforol hefyd. Soniodd cynifer â saith o bob 10 am brofiad negyddol wrth geisio cael gafael ar ofal iechyd, gydag un o bob pump wedi canslo apwyntiadau. Yr hyn a'm tarodd fwyaf, fodd bynnag, oedd y sylw gan un ymatebydd. 'Rwy'n pryderu, pan fydd y cyfyngiadau symud ar ben,' meddai, 'y byddwn yn ei chael hi'n anodd wrth i ddarparwyr gwasanaethau ailddechrau esgeuluso anghenion y rheini ohonom sydd bob amser wedi byw dan gyfyngiadau, beth bynnag am y pandemig.'
Ni allwn ganiatáu i anghenion pobl hŷn gael eu hesgeuluso mwyach. Bydd fy neddfwriaeth arfaethedig yn sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu parchu a'u diogelu. Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig sydd ger eu bron y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Cofiwch fod gan siaradwyr dri munud ar yr eitem hon ac nid pum munud.
I'ch atgoffa, gan mai dyma'r tro cyntaf i Aelod gyflwyno datganiad, mae'n dair munud i siaradwyr, nid pum munud fel mewn dadl arferol. Janet Finch-Saunders.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi, Gareth, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon yma yn y Siambr. Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnewch yn fedrus iawn ynglŷn â cheisio cyflwyno'r Bil hwn—oni bai ei fod yn cael ei roi mewn deddfwriaeth, bydd pethau'n aros yn union yr un fath.
Yn sicr, mae profiadau pobl hŷn yn ystod y pandemig wedi cryfhau'r achos dros ddiogelu eu hawliau ymhellach yn y gyfraith. Nid dyma'r tro cyntaf i ni fel Ceidwadwyr Cymreig ofyn am gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Bydd gan bob un ohonom straeon am etholwyr yn ein hetholaethau sydd wedi bod angen cymorth, ac mewn rhai achosion, nid oedd unrhyw un ganddynt i'w cynorthwyo. Er enghraifft, yn Aberconwy, mae clwb rotari dyffryn Conwy a Golygfa Gwydyr wedi bod yn darparu gwasanaeth banc bwyd. Gadewch inni adeiladu ar y momentwm hwnnw i helpu eraill drwy greu'r ddyletswydd ddyledus y mae ein pobl hŷn yn ei haeddu. Byddai hyn yn helpu i atal camgymeriadau difrifol sy'n digwydd dro ar ôl tro, fel pobl hŷn a phobl sy'n agored i niwed dan bwysau i lofnodi ffurflenni adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) 'na cheisier dadebru', yr oedi na ellir ei gyfiawnhau wrth gynnal profion mewn cartrefi gofal, a bylchau rhwng ymweliadau â chartrefi gofal a chanllawiau yn seiliedig ar y realiti ar lawr gwlad.
Mae'n bosibl fod dros 140,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn dioddef rhyw fath o gamdriniaeth, a hoffwn ddiolch i'r comisiynydd pobl hŷn, Heléna Herklots, am y gwaith y mae'n ei wneud ar y mater hwn. Mae'n amlwg o'r adroddiad diweddar 'Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy'n Profi Camdriniaeth yng Nghymru' fod angen mwy o weithredu. Mae'r argymhellion yn cynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru adolygu strategaethau a pholisïau perthnasol er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael ag anghenion ein pobl hŷn, ac i lunwyr polisi, comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau ystyried sut y gellir diwallu anghenion pobl hŷn sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.
Gwyddom fod ein bysiau cymunedol, a'r prinder ohonynt, yn creu mwy fyth o arwahanrwydd cymdeithasol i'n pobl hŷn. Gallwn helpu drwy greu'r ddyletswydd i roi sylw dyledus i egwyddor y Cenhedloedd Unedig y soniwch amdani y dylai pobl allu byw mewn amgylcheddau diogel. Dychmygwch y gwahaniaeth y byddai'n ei wneud pe bai'n rhaid i Weinidogion, awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac awdurdodau eraill yng Nghymru roi sylw dyledus i'r angen i bobl hŷn gael mynediad at ofal iechyd a thai digonol. Byddai'n helpu i sbarduno camau gweithredu i fynd i'r afael â'r amcangyfrif pryderus y bydd Cymru, erbyn 2035, yn brin o 5,000 o unedau tai gofal. Byddwn yn brin o 7,000 o welyau gofal nyrsio a 15,000 o unedau tai i bobl hŷn.
Gallai'r ddyletswydd helpu i dynnu sylw at yr angen am weithredu ar frys i fynd i'r afael â'r ffaith ddinistriol fod 70 y cant o bobl hŷn wedi cael profiad negyddol o gael gafael ar ofal iechyd yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae gennyf etholwyr yn dod i mewn bob dydd yn awr yn teimlo eu bod wedi'u hanghofio oherwydd COVID; maent mewn poen enbyd, gyda diffyg triniaeth a diffyg mynediad at feddygon teulu. Rhaid inni gryfhau'r hawliau hynny. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n llwyr gymeradwyo a chefnogi'r galwadau gan fy nghyd-Aelod newydd, Gareth Davies. A diolch i chi, Gareth, am ddod â mater mor bwysig i lawr y Senedd hon mor fuan yn eich gyrfa wleidyddol yma. Diolch.
Diolch yn fawr i Gareth Davies, o Ddyffryn Clwyd, lle ces i fy ngeni, am gyflwyno'r cynnig yma.
Hoffwn siarad i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd. Fi yw llefarydd Plaid Cymru ar gymunedau a phobl hŷn, ac fel y cyfryw, mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb brwd ynddo. Mae'r cynnig hwn yn amserol o gofio am nifer o benawdau a welsom yn ystod yr wythnosau diwethaf. Gwelsom ymchwil sy'n dangos bod pobl hŷn yn teimlo fwyfwy eu bod wedi'u gwahanu oddi wrth y gymdeithas. Yn rhannol, deillia hyn o hen arfer o ddibynnu ar arian parod, a chydag amharodrwydd i fabwysiadu bancio ar-lein, mae hyn yn ychwanegu at y teimlad o gael eu hanwybyddu, eu gadael allan o bethau a'u gadael ar ôl. Dywedwyd hefyd mai unigrwydd yw'r normal newydd i lawer o bobl hŷn. Ni ddylem dderbyn na goddef hyn. Efallai fod y rhan hon o gymdeithas ymhlith rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed ac i lawer ohonom, y bobl sy'n golygu fwyaf i ni.
Rydym hefyd wedi clywed sut y mae sgamiau wedi cynyddu'n ddramatig ers dechrau'r pandemig. Gwyddom fod pobl hŷn yn aml yn dioddef o'r math hwn o drosedd. Mae hefyd yn wir mai hwy yw'r rhai sy'n cael eu targedu fwyaf. Mae hyn yn peri i heddluoedd newid eu polisïau recriwtio, fel bod ganddynt gwnstabl sy'n fwy abl i ymchwilio i'r troseddau hyn. Wedyn, wrth gwrs, mae'r penawdau a welsom ar ddechrau'r pandemig ac yn wir, drwy gydol y pandemig: yr effaith ar gartrefi gofal. Nid oedd y cyfraddau marwolaethau mewn cartrefi gofal yn dderbyniol, ac mae'n rhaid dysgu gwersi. Roedd y trigolion a oedd yn ddigon ffodus i osgoi dal y coronafeirws yn dal i gael eu heffeithio'n fawr drwy golli'r hawl i ymweliadau gan deulu a ffrindiau.
Mae'n bosibl cynnal pellter cymdeithasol, hyd yn oed yn ystod pandemig, er mwyn diogelu ac atal y feirws rhag lledaenu. Roedd y gwaharddiad cyffredinol ar ymweliadau o dan unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys ymweliadau awyr agored gan gadw pellter cymdeithasol, yn golygu bod llesiant wedi gwaethygu'n sylweddol i lawer o breswylwyr cartrefi gofal. Byddai cyfleu neges glir fod hawliau pobl hŷn yn bwysig ac yn cael eu diogelu yn y gyfraith yn beth pwerus i'r Senedd hon ei wneud. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn glir ein bod ni, yn y Senedd hon, yn parchu ein pobl hŷn. Yn bwysicaf oll, bydd yn dweud wrth ein pobl hŷn ein bod yn malio. Mae hynny'n rhywbeth gwerth ei gefnogi. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch, Gareth, am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol cyntaf i'r Senedd newydd hon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal a diogelu hawliau holl bobl hŷn Cymru. Rwy'n glir nad yw oedran yn lleihau hawl unigolyn i gael ei drin ag urddas a pharch. Mae'r pandemig, fel y mae siaradwyr yma heddiw eisoes wedi nodi, wedi miniogi ymwybyddiaeth cymdeithas o bwysigrwydd hawliau dynol, a chyfeiriwyd sawl gwaith at rai o'r materion sydd wedi codi yn ystod y pandemig.
Hoffwn wneud ychydig o bwyntiau i egluro rhai o'r datganiadau a wnaed. Ar ymweld â chartrefi gofal, ni fu unrhyw waharddiad cyffredinol ar ymweliadau â chartrefi gofal. Mae bob amser wedi bod yn bosibl i ymwelwyr fynd i gartrefi gofal mewn amgylchiadau penodol, ond rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud: at ei gilydd, mae wedi bod yn sefyllfa drist iawn i bobl mewn cartrefi gofal a'u perthnasau. Ond ni fu unrhyw waharddiad cyffredinol.
Fel y dywedaf, mae'r pandemig wedi miniogi ein hymwybyddiaeth, ond cyn yr achosion cyntaf o COVID-19 mewn cartrefi gofal, roedd rhaglen waith eisoes ar y gweill i wneud hawliau'n real i bobl hŷn. Mae hawliau pobl hŷn eisoes wedi'u hymgorffori yn Neddf Hawliau Dynol y DU 1998, ac mae oedran yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn benodol yng Nghymru, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, ac mae'n rhoi llais cryf i bobl hŷn yn y trefniadau ar gyfer unrhyw ofal y gallai fod ei angen arnynt.
Fel rhan o'n gweithgarwch i gydgynhyrchu strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio, trefnwyd gweithgor i ddatblygu canllawiau ymarfer, i ddangos sut y gall gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sefydlu dull sy'n seiliedig ar hawliau. Roedd aelodaeth y grŵp yn cynnwys pobl hŷn, academyddion blaenllaw a chynrychiolwyr o'r trydydd sector a'r comisiynydd pobl hŷn. Mae'r canllawiau, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020, yn defnyddio enghreifftiau ymarferol i ddangos sut y gall awdurdodau lleol roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Mae'n dangos sut y gall newidiadau syml i'r ffordd rydym yn gweithio gynnal hawliau dynol unigolyn a gall gael effaith fawr ar eu llesiant.
I lawer, bydd y canllawiau hyn yn ailddatgan mai'r dull y maent yn ei arfer yw'r un cywir. Fodd bynnag, rwyf am i'r canllawiau lywio pob agwedd ar gynllunio gwasanaethau—comisiynu, tendro, darparu a gwerthuso. Byddaf yn parhau i gael cyngor gan grŵp cynghori'r Gweinidog ar heneiddio ar sut y defnyddiwn yr adnoddau hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol. Cynhyrchodd y grŵp fersiwn o'r canllawiau hyn ar gyfer pobl hŷn hefyd, ac rwy'n gobeithio y caiff y ddwy ddogfen eu defnyddio gyda'i gilydd i lywio sgyrsiau ac ysbrydoli dealltwriaeth gyffredin o effaith drawsnewidiol dull sy'n seiliedig ar hawliau.
Ym mis Ionawr 2020, fe wnaethom gynnal ymgyrch hawliau pobl hŷn a hyrwyddwyd drwy'r wasg, hysbysebion radio a'r cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn parhau i nodi opsiynau ar gyfer hyrwyddo hawliau wrth inni gyhoeddi'r strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ym mis Medi. Bydd gennym gynllun cyflawni ategol erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd dull sy'n seiliedig ar hawliau yn hanfodol i wireddu ein 10 amcan llesiant, fel y nodir yn ein rhaglen lywodraethu newydd. Dau o'r amcanion yw: diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n agored i niwed; a dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at grwpiau eraill mewn cymdeithas sydd hefyd yn profi effaith ddifaol anghydraddoldeb ac yn haeddu cael eu hawliau wedi'u diogelu'n well. Bu galwadau i ddeddfu'r Confensiwn ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, a hefyd i ddod â chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yn rhan o gyfraith Cymru, ac rydym yn cefnogi'r galwadau hyn. Fodd bynnag, byddai cyflwyno darnau ar wahân o ddeddfwriaeth i fynd i'r afael ag anghenion grwpiau unigol yn arwain at ddull tameidiog o weithredu. Gall hefyd ei gwneud yn anos deall sut y mae pobl sy'n byw gyda mwy nag un nodwedd warchodedig yn profi anghydraddoldeb.
Ceir dadl gref dros fabwysiadu ymagwedd fwy uchelgeisiol a chyfannol tuag at ddeddfu ar gyfer hawliau dynol. Er mwyn llywio'r dull hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil i archwilio'r opsiynau sydd ar gael i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae'r ymchwil yn ystyried y posibilrwydd o ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru ac a allai fod angen deddfwriaeth newydd, megis Bil hawliau dynol i Gymru neu newidiadau i'r ddeddfwriaeth bresennol. Mae'r adroddiad drafft terfynol wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac rydym bellach yn gallu dweud y rhagwelir ei gyhoeddi erbyn diwedd cyfnod yr haf. Fel rhan o'r gwaith, cyfarfu'r tîm ymchwil â fforwm cynghori'r Gweinidog ar heneiddio, a nifer o sefydliadau cydraddoldeb cymunedol sy'n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol. Hefyd, casglwyd tystiolaeth drwy gyfrwng grwpiau ffocws gan grwpiau lleiafrifol ar y cyrion sydd â phrofiad byw, a bwriedir i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar unrhyw opsiynau neu fodelau deddfwriaethol sy'n codi o'r ymchwil.
I gloi, er fy mod wedi ymrwymo i gynnal a diogelu hawliau holl bobl hŷn Cymru ac yn derbyn llawer o'r pwyntiau a wnaed gan y cyfranwyr yn y ddadl heddiw, ni allaf gefnogi'r cynnig hwn. Pan fyddwn yn deddfu, dylem wneud hynny'n gyfannol ar gyfer y gymdeithas gyfan ac mewn ffordd sy'n cydnabod cymhlethdod bywydau a phrofiadau pobl.
Nid oes unrhyw Aelod wedi gofyn am ymyrraeth, felly galwaf ar Gareth Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr eto, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb y prynhawn yma am eu cyfraniadau gwych.
Soniodd Janet Finch-Saunders am y ddeddfwriaeth a fu'n flaenoriaeth i'r Ceidwadwyr Cymreig ers peth amser bellach, diogelu hawliau ymhellach, pobl oedrannus wedi'u hynysu, a'r gefnogaeth gymunedol wych gan glwb rotari Llandudno, ac eraill yn y gymuned leol, sydd yno i helpu ein pobl oedrannus mewn cyfnod arbennig o anodd yn ystod y pandemig dros y 15 mis diwethaf, a'r ymagwedd gyfannol honno a ddaw o ganlyniad i hynny. Oherwydd, yn y bôn, mae'n rhestr ddiddiwedd o anghenion, weithiau, gyda rhai unigolion, ac mae hynny'n bwysig iawn i'w nodi.
Diolch yn fawr iawn hefyd i Peredur, sydd â diddordeb mawr yn y pwnc hwn. Mae'n dda eich gweld yn llefarydd Plaid Cymru ar hyn, ar bwnc rydych chi'n teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch. Tynnwyd sylw at y diffyg cyfleusterau bancio ar-lein neu ddiffyg gwybodaeth—neu ddiffyg gwybodaeth posibl—pobl oedrannus ynglŷn â sut i wneud defnydd o hynny, ac roeddent yn teimlo wedi'u hynysu o ganlyniad, a sgamiau a chyfraddau marwolaethau mewn cartrefi gofal yn cynyddu.
A diolch yn ogystal i Julie Morgan am ymdrin yn briodol â hawliau dynol a deddfwriaeth y DU sydd eisoes ar waith. Ond credaf ei bod hi'n eithaf siomedig na allwch gefnogi hwn y prynhawn yma. Mae gennym gyfle yma lle mae gennym bwerau datganoledig i ddeddfu ar y pethau hyn, ac mae gan Lywodraeth Cymru gyfle da i sefyll dros y boblogaeth sy'n ffurfio un rhan o bump o'r wlad hon, ac mae'n gyfle gwych i wneud hynny y prynhawn yma. Rwyf am ddod yn ôl a dweud nad yw hyn yn wleidyddol, mae ganddo gefnogaeth drawsbleidiol. Cefais negeseuon cefnogol gan Aelodau Llafur o'r Senedd hyd yn oed y prynhawn yma. Felly, wyddoch chi, mae'n dangos bod hwn yn gonsensws, ac mae'n braf pan fyddwn yn cytuno ar bethau. Felly, rwy'n eithaf siomedig na all Llywodraeth Cymru ei gefnogi y prynhawn yma.
Rwyf am orffen drwy annog cyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig sydd ger eich bron y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:32.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:43, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Darren Millar.
Yr eitem nesaf yw eitem 7, dadl Plaid Cymru: hinsawdd a bioamrywiaeth. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7725 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019.
2. Yn nodi y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) yn cyfarfod yr hydref hwn i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang.
3. Yn credu y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth.
4. Yn cydnabod yr angen i gau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol a grëwyd drwy adael yr UE.
5. Yn datgan argyfwng natur.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol;
b) deddfu i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pan fyddwn yn meddwl am y byd naturiol, rydym yn meddwl am ddigonedd, onid ydym—coedwigoedd toreithiog, mynyddoedd epig, afonydd byrlymus. Ond mae'r byd naturiol yn cynnwys ecosystemau cyd-ddibynnol, cadwyni bwyd a chynefinoedd sy'n plethu ac yn cydgysylltu, a phan ddechreuwch gael gwared ar unrhyw ran ohono, mae'n cael effaith annileadwy ar y cyfan.
Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno'r ddadl heddiw oherwydd ein bod yn credu bod yna argyfwng natur sy'n cydfodoli ochr yn ochr â'r argyfwng hinsawdd, ac onid awn i'r afael â'r argyfyngau hyn gyda'i gilydd, ni fyddwn yn goresgyn y naill neu'r llall ohonynt. Ond Ddirprwy Lywydd, er bod gennym dargedau ar gyfer allyriadau carbon, nid oes mecanwaith cyfatebol ar gyfer byd natur, dim targedau i olrhain sut y byddwn yn cyfyngu ar faint o fioamrywiaeth sy’n cael ei cholli ac yn gwrthdroi hynny. Ac wrth sôn am y pwynt hynny, hoffwn roi’r holl ffigurau, targedau, acronymau, a geiriau technegol i un ochr am funud, gan fod hynny’n gwneud i rai pobl golli diddordeb. Yr hyn rydym yn sôn amdano yw bywyd planhigion, bywyd anifeiliaid, y prydferthwch sy’n gwneud ein cenedl a’n byd yn syfrdanol, yr hyn sy’n gwneud i feirdd greu barddoniaeth, sy’n gwneud i gantorion ganu, y tir rydym wedi’i etifeddu, ac y gobeithiwn ei drosglwyddo ymlaen i genedlaethau’r dyfodol. Mae’n rhywbeth y sy'n werth brwydro drosto. Mae’n rhywbeth sy’n werth ei ddiogelu a’i feithrin, a sicrhau ein bod yn ei warchod a’i ddathlu.
Ond, gan droi’n ôl at y targedau hynny, oherwydd maent yn chwarae rhan bwysig— mae targedau'n gosod y cywair a'r cyfeiriad—sut y mae'r dirwedd honno'n edrych yn rhyngwladol? Daeth targedau'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i ben yn 2020; roeddent yn dargedau byd-eang i wrthdroi colli bywyd gwyllt a dirywiad yn yr amgylchedd naturiol, a chadarnhaodd y Cenhedloedd Unedig ein bod ni i gyd wedi methu'n llwyr â’u cyflawni. A phan fyddwch yn methu cyflawni targed fel hwnnw, nid yw'n aros yn ei unfan—mae'r golled honno, y dirywiad hwnnw, yn parhau i ddigwydd yn gyflym. Mae'r sefyllfa'n gwaethygu. Mae gennym rwymedigaeth yn awr i ailosod targedau bioamrywiaeth ac i ategu'r rheini â buddsoddiad, gyda chynlluniau ar gyfer atebion ar sail natur, prosiectau i ganolbwyntio ar adfer rhywogaethau a newidiadau a fydd yn blaenoriaethu cynefinoedd gwyrdd a glas iach ledled Cymru.
Heddiw, rwy'n falch o gael fy mathodyn hyrwyddwr rhywogaethau gyda mi: fi yw hyrwyddwr rhywogaethau'r gardwenynen feinlais, un o lawer o rywogaethau yng Nghymru y mae eu niferoedd wedi lleihau dros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Oherwydd colli cynefin, am fod pobl yn torri gweirgloddiau blodeuog neu'n adeiladu arnynt, mae niferoedd y wenynen hon yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 90 y cant ers y 1970au. Erbyn hyn, mae gan wastadeddau Gwent yn fy rhanbarth un o'r unig boblogaethau a geir ar yr ynysoedd hyn, a dyna pam ei bod mor bwysig nad yw gwastadeddau Gwent a safleoedd eraill o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cael eu defnyddio ar gyfer ffermydd solar, neu ffyrdd yn wir. Dyna pam fod y gwaith y mae Cyfeillion Gwastadeddau Gwent yn ei wneud mor bwysig.
Nawr, yn anffodus mae'r gardwenynen feinlais ymhell o fod ar ei phen ei hun fel rhywogaeth sydd mewn perygl. Canfu'r adroddiad ar sefyllfa byd natur yn 2019 fod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. Dyna 10 y cant o'n planhigion, 36 y cant o famaliaid a 5 y cant o infertebratau fel gloÿnnod byw, malwod a gwenyn. Ac unwaith eto, rwy'n gwybod y gallwn i gyd fynd ar goll neu gael ein gorlethu gan y ffigurau weithiau, y canrannau, a gwrando ar y rhestrau hyn—yr hyn y mae'n ei olygu yw bod ecosystemau cyfan yn cael eu peryglu. Mae rhywogaethau o loÿnnod byw wedi gostwng 52 y cant yng Nghymru ers 1976, ac mae mamaliaid fel y wiwer goch a llygod y dŵr mewn perygl o ddiflannu. Mae poblogaethau draenogod wedi gostwng 60 y cant ers 1995, o fewn fy oes i, ac mae niferoedd y llinos werdd drawiadol wedi gostwng 71 y cantl. Nawr, ers y 1970au, mae 73 o rywogaethau wedi'u colli yng Nghymru; maent wedi mynd, ac mae cyflymder y difodiant hwnnw'n cynyddu.
Nawr, y trychinebau hyn, y trallod hwn—ni sydd ar fai. Mae colli natur yn cael ei lywio gan weithgareddau dynol fel rheolaeth amaethyddol, trefoli ein tirweddau, llygredd afonydd, llygredd aer, rheoli coetiroedd. Oes, mae yna ffactorau eraill: newid hinsawdd—rhywbeth rydym ni, unwaith eto, yn cyfrannu ato—yn ogystal â rhywogaethau estron goresgynnol. Ond wrth inni gyfrannu tuag at y dirywiad, rydym hefyd yn dioddef o ganlyniad iddo. Mae natur yn darparu ein cynhaliaeth a'n bwyd, ein hegni a'n meddyginiaethau. Mae'r adroddiad asesu byd-eang ar fioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau, sydd unwaith eto'n deitl hir, ond mae'n cydnabod bod colli natur yn cyfrannu at dlodi, at iechyd y cyhoedd a gwrthdaro. A byddwn yn ychwanegu annhegwch sy'n pontio'r cenedlaethau at y rhestr honno. Rydym yn dwyn rhywogaethau na fyddant byth yn cael rhannu'r byd â hwy oddi wrth genedlaethau'r dyfodol. Rydym yn eu hamddifadu o deimladau o ryfeddod, o lawenydd, ar y blaned hon, heb sôn am gwestiwn moesoldeb a’r ffaith nad oes gennym hawl i ddinistrio'r byd naturiol.
Felly, Ddirprwy Lywydd, beth sy'n rhaid digwydd? Mae'n hen bryd inni ddatgan argyfwng natur yng Nghymru, ac fel y mae ein cynnig yn nodi, yn sgil y datganiad hwnnw, mae'n rhaid felly i Lywodraeth Cymru gyflwyno targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth a dechrau cynllunio sut i adfer yr hyn a gollwyd. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i sefydlu corff llywodraethu annibynnol i Gymru. Nawr, nodaf fod gwelliant y Ceidwadwyr yn galw am gydweithrediad ac wrth gwrs, mae cydweithredu'n hanfodol ar y mater hwn, ond ni ellir mynd i'r afael â'r argyfwng ar sail y DU. Mae Bil Amgylchedd y DU yn sôn am swyddfa diogelu'r amgylchedd ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig. Mae gan yr Alban ei chorff safonau amgylcheddol ei hun. Mae angen i ni yng Nghymru gyflwyno ein deddfwriaeth sylfaenol ein hunain, ein strwythur llywodraethu ein hunain, felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil natur, Bil llywodraethu amgylcheddol—beth bynnag y dewiswch ei alw—gwneud iddo weithio, sicrhau ei fod yn cwmpasu targedau natur, gwneud iddo sefydlu corff llywodraethu cadarn yn lle'r amddiffyniadau a gollwyd ar ôl inni adael yr UE, sicrhau bod yr holl bortffolios gweinidogol, yn enwedig amaethyddiaeth a newid hinsawdd, yn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn, a sicrhau y gellir dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif os ydynt yn gweithredu mewn ffyrdd nad ydynt yn cyd-fynd â’r nod o wrthdroi colli bioamrywiaeth.
Mae Croeso Cymru yn gwneud llawer o'n golygfeydd ysblennydd yn ei hysbysebion, ac mae'n defnyddio'r slogan 'Find Your Epic'. Oni bai ein bod yn datgan argyfwng natur yng Nghymru heddiw, oni bai ein bod yn trin yr argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu gyda'r un ymdeimlad o frys, ac oni bai ein bod yn cymryd y camau a nodir yn ein cynnig i wrthdroi'r dirywiad, ni fydd unrhyw beth 'epig' i'w gael ar ein bryniau cyn bo hir. Bydd yr holl harddwch, yr holl fywyd hwnnw, yr holl amrywiaeth wedi ei golli. Dywedodd Jules Renard:
'Nid oes nefoedd ar y ddaear, ond mae yna ddarnau ohoni.'
Gadewch inni chwarae ein rhan i sicrhau bod jig-so natur yn cadw ei gyfoeth, ac nad yw'r darnau sy'n ffurfio'r jig-so mawreddog hwn o'r byd naturiol yn mynd ar goll am na allem drafferthu eu hachub.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y cyfle i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ar lywodraethu amgylcheddol ers i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6:
'gweithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU ar yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac adfer natur.'
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Ie, rwy'n cynnig y gwelliannau, diolch, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar AoS.
Pan wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd tua dwy flynedd yn ôl, roeddem i gyd yn gobeithio fel Aelodau y byddai hyn yn sbarduno ton o weithredu gartref yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Fodd bynnag, nid oeddem yn disgwyl cyfres o fethiannau ar gychwyn cynnydd o'r fath. Nid oeddem yn disgwyl i argyfwng ac adferiad natur gael eu hanwybyddu. Mae peth o'r diffyg gweithredu hwnnw'n cynnwys y ffaith nad yw capasiti solar ffotofoltäig Cymru ond wedi cynyddu llai nag 1 y cant ers 2019, pum prosiect ynni dŵr newydd yn unig a gomisiynwyd yn 2019, ac mae cynlluniau ynni dŵr preifat bach ar ymyl y dibyn yn awr oherwydd penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i dynnu rhyddhad ardrethi busnes yn ôl. Er bod ansawdd aer gwael yn cyfrannu at ddisgwyliad oes byrrach a marwolaethau, hyd at gyfanswm sy'n cyfateb i hyd at 1,400 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, rydym i gyd yn gwybod bod y Prif Weinidog a'i Lywodraeth wedi methu cyflawni'r Ddeddf aer glân a addawyd yn y maniffesto. Yn wir, bydd y Gweinidog newydd yn gwybod bod y sector pŵer wedi dominyddu'r gostyngiadau mewn allyriadau, ac yn benodol, cau gorsaf bŵer Aberddawan. Felly, mae taer angen gweithredu ledled Cymru. Roedd hyd yn oed yr adroddiad ar y rheoliadau newid hinsawdd yng Nghymru 2021 yn nodi
'Yn awr, rhaid troi’r rhethreg yn gamau beiddgar a phendant.'
Cawsom ein hatgoffa o hyn yn ddiweddar, gyda'r trydydd asesiad o risgiau newid hinsawdd yn datgelu
'Mae sgôr frys 26 o risgiau newid hinsawdd yng Nghymru wedi cynyddu.'
Mae'r rhain yn cynnwys y risgiau i rywogaethau tiriogaethol a chynefinoedd o ganlyniad i blâu, pathogenau a rhywogaethau goresgynnol, gyda bylchau mewn polisi megis diffyg monitro gwell, unrhyw fesurau gwyliadwriaeth ac ymateb cynnar; y risg i amaethyddiaeth a choedwigaeth o ganlyniad i blâu a phathogenau a rhywogaethau goresgynnol; methiant grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru i gyfeirio'n benodol at risgiau penodol sy'n ymwneud â newid hinsawdd neu gamau ymaddasu i reoli risgiau cynyddol sy'n gysylltiedig â phlâu a phathogenau ar gyfer iechyd anifeiliaid a gedwir; a'r risg i rywogaethau a chynefinoedd morol a physgodfeydd yn sgil amodau hinsawdd sy'n newid, gyda pholisi cyfredol nad yw'n cynnwys camau gweithredu manwl gyda chanlyniadau penodol ar gyfer y sector morol, cynlluniau ar gyfer cynnydd, nac adroddiadau sy'n cydnabod maint y risgiau newid hinsawdd sy'n ein hwynebu.
Yn sgil yr enghreifftiau diweddar iawn hyn, ni ddylai fod unrhyw amheuaeth fod yn rhaid inni ddatgan argyfwng natur hefyd bellach. Mae'n rhaid inni wneud hyn, wrth ystyried bod yr 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' diweddaraf wedi canfod bod y duedd gyffredinol yn dangos dirywiad difrifol. Fel y mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi amlygu, gydag ystod mor eang o ysgogiadau, ni allwn fynd i'r afael â'r argyfwng natur fel atodiad i'r argyfwng hinsawdd yn unig. Yn wir, mae gan fesurau newid hinsawdd botensial i niweidio natur, megis plannu coed mewn mannau amhriodol a seilwaith ynni adnewyddadwy wedi'i leoli'n wael.
Felly, rwy'n falch o alw am weithredu penodol ar golli bioamrywiaeth. Mae Plaid Cymru yn gywir; dylem ddilyn penderfyniad Llywodraeth y DU a chyflwyno gofynion sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Yn yr un modd, bydd Aelodau'n gwybod o'r Senedd ddiwethaf fy mod wedi rhoi fy nghefnogaeth yn llawn i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru. Bydd Llyr Gruffydd, Mike Hedges, Jenny Rathbone a Joyce Watson yn cofio ac yn deall o'n gwaith pwyllgor blaenorol y gellid ystyried pwynt 4 yn un direidus, a bod y bwlch wedi'i achosi yn sgil gohirio trefniadau hirdymor gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n erfyn arnoch i gefnogi gwelliant 1.
Yn yr un modd, byddai'n aeddfed i bawb ohonom gefnogi gwelliant 2 a gweithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU ar yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac adferiad natur. Nid yw natur yn ymwybodol o unrhyw ffin ar ynysoedd Prydain. Yn wir, rwy'n obeithiol iawn y gellir cyflawni cydweithrediad domestig o'r fath, a chydweithrediad rhyngwladol o bosibl hyd yn oed eleni, diolch i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol COP15.
Rwyf am ddirwyn i ben drwy gyfeirio at waith Jason Singh, sy'n credu y byddem yn rhoi mwy o sylw i blanhigion pe baem yn gallu eu clywed. Yng Ngerddi Kew, mae wedi creu seinweddau yn seiliedig ar y signalau trydanol a gynhyrchir o fewn planhigion wrth iddynt ymateb i'w hamgylchedd, a'u trosi'n seinweddau arallfydol i ni eu clywed. Mae 'Extinction Songs' yn rhoi llais i natur sy'n galw arnom i weithredu'n gadarnhaol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y datganiad o argyfwng natur heddiw yn sbarduno cresendo o weithredu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hyn, yn hytrach na nodyn drwg, fel y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r argyfwng hinsawdd hyd yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
A gaf fi ddweud wrth Delyth Jewell, a gyflwynodd y ddadl hon yn enw Siân Gwenllian, gymaint rwy'n croesawu hyn? Ac mae'n teimlo, nid yn unig fel pe bai yna gonsensws trawsbleidiol yn tyfu erbyn hyn, ond bod momentwm go iawn y tu ôl i'r argyfwng newid hinsawdd, yr argyfwng natur a'r argyfwng bioamrywiaeth hefyd. A dylai hynny fod yn galonogol i'r Gweinidog, a siaradodd yn gynharach heddiw mewn digwyddiad a fynychwyd gan Llyr ac eraill ar y ffordd rydym yn diogelu'r gorau yn ein hamgylchedd morol, yn ogystal â manteisio'n gynaliadwy ar yr amgylchedd morol hefyd. Siaradodd y Gweinidog yn huawdl iawn yn ei sylwadau yn y ddadl honno, ond rwy'n falch iawn o'r ffaith bod gennym, mor gynnar yn y chweched Senedd, y momentwm cynyddol hwn i fod eisiau gwneud y peth iawn, dilyn y dystiolaeth, gan wneud y penderfyniadau caled ac anodd weithiau, a gwelaf fod y Gweinidog, Lee Waters, newydd ymuno â ni ac fe fydd yn gyfarwydd iawn â hynny o'r cyhoeddiadau wythnos yn ôl ar yr adolygiad ffyrdd hefyd: dilyn y dystiolaeth, dilyn y data newid hinsawdd, y data bioamrywiaeth.
Wrth gwrs, mae hefyd yn dod yn sgil cynnig a gyflwynwyd yn y lle hwn ar 15 Mehefin ac a gydlofnodwyd gan Llyr a Janet a Jane Dodds, cynnig a gyfeiriai at y COP15 nesaf—Cynhadledd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol—ac a alwai ar
'Lywodraeth Cymru i gefnogi canlyniad llwyddiannus yn nghynhadledd COP15 drwy egluro ei chefnogaeth i darged byd-eang ar gyfer atal a dechrau gwrthdroi'r broses o golli bioamrywiaeth erbyn 2030 a sicrhau adferiad sylweddol erbyn 2050, ac ymrwymo i adlewyrchu hyn mewn cyfraith ddomestig, gan ymgorffori targedau ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd.'
Ac wrth gwrs, adlewyrchir hynny'n gryf iawn yn y cynnig sydd o'n blaenau heddiw.
Ond mae maint yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud wedi bod yn hysbys ers cryn dipyn o amser ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru wedi ei gydnabod hefyd. Pan aethant ati i ddiweddaru'r cynllun gweithredu adfer natur, roedd yn cydnabod mewn sylwadau rhagarweiniol fod yn y fframwaith ôl-2020 ar gyfer cynllun strategol y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol hyd at 2050
'ychydig iawn o dargedau Aichi 2020 sydd wedi'u cyflawni a bod bioamrywiaeth yn dal i ddirywio.'
Roedd yn cydnabod:
'Fe wnaeth adroddiad yr Intergovernmental Science-Policy Platform on Biodiversity and Ecosystem Services...yn 2019... ddisgrifio colli bioamrywiaeth fel perygl cynddrwg â'r argyfwng hinsawdd',
ac mae hynny wedi'i ymgorffori yn y cynnig hwn yma heddiw. Ac wrth gwrs, tynnodd sylw hefyd at yr angen i fynd i'r afael â'r bwlch llywodraethu ar ôl gadael yr UE. Ac ar wahân i'r agweddau gwleidyddol ar hyn, gwyddom fod risg amlwg o fwlch llywodraethu yn aros, wedi inni adael yr UE. Nid pwynt gwleidyddol yw hwn; mae'n bwynt realiti pragmatig y mae angen inni fynd i'r afael ag ef, ac mae'n cyfeirio at yr angen i newid y ffordd rydym yn ymdrin â rheoli tirwedd yma, drwy ffermio cynaliadwy hefyd, a byddwn yn dod at hynny yn ystod y Senedd hon.
Ond cyfeiriodd hefyd at rai o'r camau gweithredu tymor byr sydd eu hangen ar frys. Mae'n dweud bod angen inni gydlynu'r ymatebion i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng bioamrywiaeth. Mae hynny o fewn y cynnig hwn heddiw. Rwy'n llwyr gefnogi hyn. Mae'n dweud bod angen inni fynd i'r afael â'r bwlch cyllido ar ôl gadael yr UE ar gyfer mesurau amaeth-amgylcheddol—mae'r Llywodraeth yn bwrw ymlaen â hynny; mae angen inni gefnogi hynny—a bod angen inni ddarparu cyfeiriad gofodol ar gyfer gweithredu ar fioamrywiaeth. Nid yw cynnig atebion tameidiog bach neu gynlluniau peilot ac yn y blaen yn ddigon mwyach; mae angen inni wneud hyn ar raddfa fawr ac mewn meintiau gofodol mawr, er mwyn gwella cyflwr y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig, ar y tir ac ar y môr yn ogystal, ac archwilio mecanweithiau ariannu newydd a chynaliadwy, ac yn y blaen.
Felly, gwyddom fod yn rhaid inni fwrw ymlaen â hyn. Rwy'n croesawu'r geiriad yn fawr ynghylch cau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol, ynghylch canolbwyntio ar Gynhadledd y Partïon i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn yr hydref, ynghylch targedau, oherwydd mae targedau'n bwysig. Mae peryglon bob amser gyda thargedau, eich bod yn dewis y targedau anghywir ac yn cael canlyniadau negyddol, ond credaf ein bod yn ddigon clyfar i oresgyn hynny. Rwy'n credu hynny o ddifrif. Mae ymrwymiad gan y Llywodraeth i'w wneud, ac mae'r gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy'r targedau hynny'n bwysig.
Felly, Weinidog, credaf fod y ddadl hon yn ddefnyddiol—mae'n wirioneddol ddefnyddiol—ac edrychaf ymlaen at eich ymateb, ond teimlaf fod momentwm trawsbleidiol yn awr y tu ôl i'r mathau hyn o newidiadau, sy'n dda i'w weld. Ni ddylid ei ystyried yn fygythiad i'r Llywodraeth; dylid ei ystyried yn gymorth i'r Llywodraeth wneud y peth iawn, dilyn y dystiolaeth, a gwneud penderfyniadau anodd iawn weithiau hefyd.
Fi ydy pencampwr llinos y mynydd—aderyn bychan, hardd, prin. Ond, diolch i waith adfer cynefin y llinos yn Eryri gan amaethwyr ac eraill, mae yna arwyddion fod y rhywogaeth ar gynnydd unwaith eto. Felly, mae gobaith. O gynllunio, o wneud y gwaith adferol, o weithio mewn partneriaeth, mae modd adfer rhywogaethau prin. Mae'r sefyllfa sy'n wynebu natur yng Nghymru a'r byd yn glir i bawb, ac mae'r ystadegau yn sobreiddiol. Mi fydd pob sector, pob cymuned, a phob cornel o Gymru yn cael eu heffeithio'n ddifrifol gan ddirywiad natur. A'r rhai fydd yn teimlo'r effeithiau fwyaf fydd ein plant a'n pobl ifanc—y genhedlaeth nesaf.
Mae llawer o bobl ifanc yn pryderu am y dyfodol, ac mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth unrhyw wlad i gynnig atebion, i ddangos fod yr argyfwng natur yn cael ei gymryd o ddifri ac, yn bwysicach na dim, i osod allan y camau clir y gellid eu dilyn i oresgyn y sefyllfa. Drwy adfer natur a chaniatáu mwy o gyfleoedd i blant gael mynediad at natur, fe fedrwn ni gynnig ystod eang iawn o fuddiannau i'n plant a'n pobl ifanc ni, i'w haddysg, eu hiechyd a'u lles, ac yn bwysicaf oll, mi fedrwn ni gynnig gobaith am y dyfodol. Ond mae'n rhaid i ni atal y dirywiad drwy osod targedau cyfreithiol i wyrdroi dirywiad bioamrywiaeth, ac yna dilyn hynny drwy greu cynnydd gwirioneddol mewn bioamrywiaeth.
Yn ôl ymchwil gan Estyn, mae'r rhan fwyaf o ymarferwyr yn nodi bod dysgu yn yr awyr agored yn hyrwyddo ymgysylltiad a mwynhad plant mewn dysgu. Ond er bod yna fanteision hollol glir i blant a phobl ifanc yn deillio o'u cyswllt â'r amgylchedd naturiol, mae ymchwil wedi dangos bod faint o amser mae plant yn ei dreulio ar brofi byd natur yn dirywio, heb sôn am y ffaith bod natur ei hun yn dirywio ac yn crebachu ar draws y wlad, gan ei gwneud hi'n anoddach fyth i blant a phobl ifanc fwynhau'r byd naturiol. Ac yn waeth fyth, mae'r dirywiad mewn natur a'r diffyg mynediad at natur sy'n deillio ohono, yn effeithio ar blant mewn tlodi yn fwy na neb arall, gan waethygu anghydraddoldeb cymdeithasol ac o ran iechyd ac addysg.
Mae bioamrywiaeth yn dirywio, does dim amheuaeth am y ffaith yna, ond mi fedrwn ni wneud rhywbeth amdano fo. Mae'n rhaid diogelu llinos y mynydd, mae'n rhaid i ni adfer natur er budd pobl Cymru i'r dyfodol ac er budd dyfodol Cymru. Felly, rydyn ni'n galw ar y Gweinidog a'r Llywodraeth i wneud y peth cywir er budd natur, er budd addysg, er budd iechyd ein plant a phobl ifanc ac er budd y genhedlaeth nesaf, a'r ffordd ymlaen ydy gosod fframwaith cadarn efo ffocws ac amcanion clir drwy gyflwyno targedau adfer natur. Diolch yn fawr.
Gyda chweched Cynhadledd ar hugain y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, COP26, i'w chynnal yn Glasgow o dan lywyddiaeth y DU ymhen pedwar mis, mae'r ddadl hon yn ailbwysleisio'r angen am sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth.
Mae gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn ailbwysleisio'r angen i Lywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU ar yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac adfer natur. Wedi'r cyfan, yn wahanol i bêl-droed, nid yw natur yn adnabod unrhyw ffiniau. Mae natur mewn argyfwng ledled Cymru. Er gwaethaf tirweddau godidog a golygfeydd hardd Cymru, mae bywyd gwyllt yng Nghymru yn dirywio'n ddifrifol. Canfu 'Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur 2019' fod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru dan fygythiad o ddiflannu ac mae crynodeb diweddaraf yr 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' yn canfod bod cydnerthedd ecosystemau yng Nghymru yn dirywio yn unol â thueddiadau byd-eang.
Adlewyrchir y dirywiad hwn hefyd yn niferoedd y gylfinir yng Nghymru. Fel hyrwyddwr rhywogaeth y gylfinir yng Nghymru ers 2016, rwy'n gweithio gyda Gylfinir Cymru, menter gydweithredol rhwng asiantaethau'r Llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol, gan gynnwys undebau'r ffermwyr, a ffurfiwyd i geisio gwrthdroi dirywiad enbyd y gylfinir yng Nghymru—ymbarél ecolegol neu rywogaeth ddangosol. Mae'r DU yn cynnal hyd at chwarter poblogaeth nythu fyd-eang y gylfinir yn rheolaidd ac ystyrir bellach mai'r gylfinir yw'r flaenoriaeth gadwraethol bwysicaf yn y byd adar yng Nghymru a'r DU. Mae niferoedd nythu'n dirywio'n sylweddol yng Nghymru, i lawr 44 y cant dros y degawd diwethaf. Ar lefelau presennol y dirywiad, bydd y gylfinir wedi diflannu fel poblogaeth nythu yng Nghymru erbyn 2033 heb unrhyw ymyrraeth. Mater o flynyddoedd sydd gennym i achub y rhywogaeth eiconig a diwylliannol bwysig hon a'i llais arallfydol yn nhirlun Cymru.
Ym mis Mehefin 2019, mynychais yr uwchgynhadledd gyntaf erioed ar y gylfinir yn 10 Stryd Downing, ochr yn ochr ag uwch-adaregydd Cyfoeth Naturiol Cymru a rheolwr prosiect Curlew Country. Clywsom y bydd angen digon o adnoddau i gynghori, annog a chynorthwyo grwpiau o ffermwyr i ddod at ei gilydd i ddarparu, monitro a hyrwyddo'r gylfinir a bioamrywiaeth ar draws tirweddau, a bod angen deall y manteision lluosog i rywogaethau niferus o safbwynt cydnerthedd ecosystemau, diwylliant a threftadaeth naturiol y gellir ei gyflawni drwy weithgarwch cadwraeth y gylfinir. Clywsom hefyd fod plannu conwydd ar ucheldiroedd yn eang wedi arwain at golli cynefin enfawr ac nid y tir lle plannwyd y coed yn unig a arweiniodd at y dirywiad yn nifer yr adar; peidiodd y tir mewn ardal fawr o amgylch y goedwig â bod yn gynefin cynaliadwy i adar sy'n nythu ar y ddaear, gan fod y goedwig yn darparu gorchudd delfrydol i ysglyfaethwyr, llwynogod, brain tyddyn a moch daear yn bennaf.
Felly, rhaid i'r nod clodwiw o gynyddu coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru sicrhau bod gennym y coed cywir yn y lle iawn i ddiogelu bioamrywiaeth yn iawn. Mae'r adolygiad o fanteision bioamrywiaethol ac ecosystemaidd ehangach adfer y gylfinir a chymhwyso hynny i Gymru—adroddiad a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru—yn datgan bod papurau wedi darparu amrywiaeth eang o dystiolaeth yn dangos y byddai adfer y gylfinir o fudd i rywogaethau lluosog, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, gan ategu ein dealltwriaeth o'r gylfinir fel rhywogaeth ddangosol. Er enghraifft, mae ysgyfarnogod yn rhoi genedigaeth ar wyneb y tir, tir fferm fel arfer, lle mae'r anifeiliaid ifanc yn aros heb symud, yn debyg i'r gylfinir, y betrisen, yr ehedydd neu'r gornchwiglen, sy'n dodwy eu hwyau mewn gwâl fas neu nyth ar dir fferm agored. Felly, mae'n ymddangos bod gweithgarwch cadwraeth sydd o fudd i adar sy'n nythu ar y ddaear hefyd yn cefnogi ysgyfarnogod er enghraifft.
Mae Gylfinir Cymru wedi bod yn gweithio ar gynllun gweithredu i Gymru ar gyfer y gylfinir, a gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gymeradwyo. Bydd yn nodi'r ardaloedd pwysicaf ar gyfer y gylfinir yng Nghymru ac yn pwysleisio pwysigrwydd cynllun ffermio cynaliadwy wedi'i gynllunio'n dda ac wedi'i ariannu'n dda, fel y gall ffermwyr wneud y peth iawn ar gyfer y gylfinir yn y lleoedd hyn. Mae cyrff anllywodraethol wedi croesawu cyllid ar gyfer y gylfinir sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ac CNC eleni, ond maent wedi tynnu sylw at y ffaith bod system gaffael Cyfoeth Naturiol Cymru a'r diffyg cyllid aml-flwyddyn yn golygu nad oedd yr arian ar gael ar gyfer y tymor nythu hwn, ac na fydd ar gael ar gyfer y nesaf ychwaith. At hynny, dim ond ar brosiectau cyfalaf y gellid ei wario, ond pobl sy'n mynd i achub y gylfinir a natur. Mae gwir angen sicrhau cydgysylltiad da a phobl ar lawr gwlad i gyflawni hyn. Mae gwerth cynhenid i natur, ond mae hefyd—
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
—yn chwarae rhan bwysig. Mae arnom ei angen ar gyfer y bwyd rydym yn ei fwyta, yr aer rydym yn ei anadlu, a'r dŵr rydym yn ei yfed. Rwy'n dod i ben. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos ei bod o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r argyfwng natur drwy ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod blwyddyn gyntaf y Llywodraeth i osod targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer adfer natur er mwyn cyfuno ymdrechion ar draws y Llywodraeth a sectorau eraill i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth. Diolch.
Fel y mae eraill wedi dweud, rydym yn prysur golli bioamrywiaeth yng Nghymru, gyda'r 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' diweddaraf yn datgan bod y duedd gyffredinol yn dangos dirywiad difrifol, sy'n adlewyrchu sefyllfa fyd-eang argyfwng natur a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Ceir perygl o ddyfodol dystopaidd, gyda'r unig anifeiliaid a fydd yn goroesi yn anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm ac ysglyfaethwyr fel llygod mawr. A allai Kenneth Grahame ysgrifennu The Wind in the Willows heddiw, ac a yw plant yr oes fodern yn gwybod am yr anifeiliaid y mae'n sôn amdanynt? Cymerwch foch daear, nad yw llawer yn y Siambr hon yn eu hoffi, gan eu bod yn cael y bai am TB mewn gwartheg. Maent yn bwyta gwlithod, llygod a llygod mawr. Y perygl o golli ysglyfaethwyr ar frig y gadwyn fwyd yw y gall niferoedd yr anifeiliaid sy'n is i lawr y gadwyn fwyd gynyddu, fel y gwna cwningod, yn unol â'r Fibonacci. A ydych chi'n cofio Awstralia?
Mae colli bioamrywiaeth yng Nghymru yn cael ei yrru gan nifer o ffactorau a ysgogir gan bobl, gan gynnwys rheolaeth amaethyddol, newid hinsawdd, trefoli, llygredd, newid hydrolegol, rheoli coetiroedd a rhywogaethau estron goresgynnol, a'r mwyaf cyffredin ohonynt yn fy etholaeth i yw clymog Japan.
Mae angen deddfwriaeth sylfaenol ar frys i fynd i'r afael â'r bwlch a adawyd ar ôl yn y gwaith o oruchwylio a gorfodi cyfraith amgylcheddol o ganlyniad i adael yr UE. Yn anffodus, mae Cymru ar ei hôl hi o'i chymharu â holl rannau eraill y DU o ran sicrhau llywodraethu amgylcheddol effeithiol ar ôl Brexit. Ymrwymodd Llywodraeth flaenorol Cymru i gyflwyno Bil llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol yn y chweched Senedd. Edrychaf ymlaen at y cyfle i bleidleisio drosto, a gobeithio y cawn ei weld yn fuan.
Mae canlyniad economaidd pandemig COVID-19 i'w deimlo ledled Cymru, a bydd i'w deimlo ar draws ein heconomi am flynyddoedd lawer. Fodd bynnag, drwy fynd i'r afael â dirywiad bioamrywiaeth, gyda chyfres o dargedau clir ar gyfer cyflawni'r gwaith, gallwn greu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon ledled y wlad. Drwy fuddsoddi mewn natur, mewn adfer cynefinoedd a sgiliau gwyrdd, gallwn roi hwb i'r gweithlu a'r economi.
Canfu adolygiad diweddar Dasgupta fod ein heconomïau, ein bywoliaeth a'n llesiant i gyd yn dibynnu ar ein hased mwyaf gwerthfawr: natur. Mae ein hymgysylltiad anghynaliadwy â natur yn peryglu ffyniant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Pwysleisiodd yr adolygiad hefyd fod bioamrywiaeth yn rhan annatod o iechyd ecosystemau, a gallu ecosystemau i ddarparu manteision hanfodol i gymdeithas. Felly, mae colli bioamrywiaeth yn effeithio ar ein system cymorth bywyd.
Mae targedau adfer natur yn allweddol i sbarduno newid i economi sy'n gadarnhaol o ran natur. Fel y gwelwn gyda sero net, mae gan dargedau statudol rôl allweddol yn siapio buddsoddiad, nid yn unig ar draws y Llywodraeth ond ar draws sectorau. Mae grŵp Aldersgate, cynghrair o randdeiliaid lluosog sy'n cynnwys rhai o'r busnesau mwyaf yn y DU, wedi galw am reoleiddio amgylcheddol cryfach, wedi'i ategu gan dargedau amgylcheddol uchelgeisiol a chlir, i roi sicrwydd mawr ei angen i fusnesau yn hirdymor i wneud buddsoddiadau sy'n cynyddu cydnerthedd ac yn creu manteision economaidd a chyflogaeth posibl. Gallai buddsoddi mewn creu ac adfer cynefinoedd ar raddfa fawr gynnal miloedd o swyddi gwyrdd newydd a fyddai'n helpu i amsugno sioc economaidd y flwyddyn ddiwethaf. Bydd hyn hefyd yn helpu i ddatblygu sylfaen sgiliau cadwraeth natur yng Nghymru i ateb anghenion y dyfodol ac yn y pen draw, i ddarparu'r sylfaen ar gyfer symud tuag at economi carbon isel sy'n gadarnhaol o ran natur.
Mae 150 o randdeiliaid o bob rhan o Gymru wedi datblygu cynnig ar gyfer gwasanaeth natur cenedlaethol, ac mae adroddiad gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar wedi amcangyfrif y gallai gwasanaeth natur cenedlaethol gefnogi hyd at 7,000 o swyddi gwyrdd yng Nghymru. At hynny, mae buddsoddi mewn atebion ar sail natur yn cynnig elw sylweddol ar fuddsoddiad. Yn ôl adroddiad gan Cambridge Econometrics i'r RSPB, mae pob £1 a fuddsoddir mewn adfer cynefin mawndir a morfa heli a chreu coetiroedd yn sicrhau £4.62, £1.31 a £2.79 o fudd yn y drefn honno. Drwy fuddsoddi mewn atebion ar sail natur, gallem wella ansawdd dŵr ac aer yn sylweddol, hybu ecodwristiaeth, atal llifogydd, storio carbon, a hybu bioamrywiaeth wrth gwrs, ynghyd â manteision eraill dirifedi. Ni allwn fforddio gwahanu ein heconomi oddi wrth natur; mae ein heconomi'n dibynnu arni ac mae'n bodoli o'i mewn.
Er mwyn sicrhau adferiad gwyrdd go iawn yng Nghymru, rhaid inni fuddsoddi mewn natur. Drwy gyflwyno targedau adfer natur sy'n rhwymo mewn cyfraith i adfer a chreu amrywiaeth eang o gynefinoedd yng Nghymru, gallem gyflawni ar ran yr economi, creu miloedd o swyddi tra'n cyflawni dros natur a dros yr hinsawdd. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif eisiau sicrhau adferiad gwyrdd, rhaid i fuddsoddi mewn natur fod yn darged blaenoriaethol absoliwt i ni. Byddai'n rhoi cyfeiriad clir ar gyfer gweithredu i adfer natur, tra'n rhoi darlun clir hefyd ar gyfer creu swyddi yn y dyfodol a'r disgwyliadau i'n diwydiannau ein helpu i gyrraedd ein nodau amgylcheddol. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch iawn o fod yn hyrwyddwr rhywogaeth y wennol ddu ardderchog. Rwy'n cynrychioli'r etholaeth fwyaf trefol yng Nghymru, ac mae gweld a chlywed gwenoliaid duon yn un o ryfeddodau ein nosweithiau haf. Trelái yng Ngorllewin Caerdydd yw un o'u hoff leoliadau yn yr haf. Nododd arolwg yn 2019 14 o safleoedd nythu yn yr adeiladau hynny. Ni fu modd cynnal arolwg y llynedd, a bydd canlyniadau'r arolwg eleni ar gael ym mis Awst, ond mae gennym un darn o dystiolaeth gan aelod o'r RSPB a ddywedodd, 'Roeddwn yn Nhrelái ddechrau'r wythnos diwethaf, ac roedd llawer iawn o wenoliaid duon yn hedfan uwchlaw'r toeon'. Felly, rwy'n disgwyl i'r niferoedd nythu yno fod yn uchel. Os oes unrhyw waith adnewyddu ar eiddo'r cyngor neu gymdeithasau tai i ddigwydd yno, dylid ystyried gwenoliaid duon sy'n nythu a gosod blychau nythu. Byddai'n drueni mawr pe na bai cynllunwyr dinasoedd yn ymwybodol o bwysigrwydd yr ardal i wenoliaid duon. Rhaid iddynt gynnwys darpariaeth nythu yn eu gofynion ar gyfer datblygiadau perthnasol.
Er gwaethaf y dystiolaeth gadarnhaol honno, yn y categori oren y mae'r wennol ddu o ran statws cadwraeth ledled y DU. Yng Nghymru, cafodd ei gofnodi gan yr arolwg o adar nythu fel yr aderyn sy'n dirywio gyflymaf o ran ei niferoedd ers 1994. Mae'r niferoedd sy'n nythu yng Nghymru wedi gostwng i dri chwarter—dirywiad cyflymach nag ar draws y DU gyfan. Felly, beth yw'r rhesymau dros y dirywiad hwn? Ystyrir mai'r bygythiad allweddol yw colli safleoedd nythu pan gaiff adeiladau eu hadfer neu eu dymchwel. Anaml y bydd gwaith lliniaru'n digwydd, ac nid wyf yn ymwybodol o asesiadau effaith amgylcheddol sy'n digwydd sy'n rhoi sylw dyledus i hyn. Beth am y diffyg adnoddau bwyd i wenoliaid duon? Mae'n debyg fod y defnydd o bryfladdwyr yn cyfyngu ar niferoedd infertebratau hedegog sy'n fwyd iddynt.
Ar hyn o bryd, mae'r RSPB yn dweud nad oes tystiolaeth fod y dirywiad yn deillio o broblemau ar diroedd gaeafu yn Affrica i wenoliaid duon neu ar hyd eu llwybrau mudo. Gallai hynny newid gyda newid hinsawdd, ond am y tro, yn amlwg, yr hyn sy'n digwydd ym Mhrydain sydd ar fai, oherwydd nid yw rhannau eraill o Ewrop yn gweld yr un dirywiad. Felly, mae gwir angen inni fod o ddifrif ynglŷn â hyn. Rhaid gosod blychau gwenoliaid duon a briciau gwenoliaid duon fel mater o drefn ar bob adeilad newydd addas o uchel. Gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi bod yn edrych yn rhagweithiol ar hyn ac yn gweithio i'w ymgorffori mewn cyfraith gynllunio, a byddwn yn falch iawn o glywed pryd y gallwn wireddu hynny.
Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o'r argyfwng natur. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn mynd i bleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru, ac mae hynny'n wych, ond nid yw datgan argyfwng natur yn mynd i fod yn ddigon. Bydd yn rhaid i bob un ohonom dorchi llewys er mwyn atal rhywogaethau cyfan rhag diflannu, rhywbeth sy'n anochel fel arall, ac ni allwn ganiatáu hynny er mwyn cenedlaethau'r dyfodol, fel y nododd Delyth Jewell eisoes.
Rhaid inni droedio'n fwy ysgafn ar y ddaear hon. Amser cinio, clywais i a nifer o'r Aelodau eraill am y dinistr a achosir nid yn unig i'r tir, ond hefyd i'n cefnforoedd, a gwn fod y Gweinidog wedi mynychu'r digwyddiad hwnnw hefyd. Ar ôl i'r Gweinidog adael, soniais am y rhaglen ddogfen Seaspiracy, sydd ar y rhyngrwyd, ac sy'n gwbl erchyll. Rydym yn dinistrio ein cefnforoedd ym mhob rhan o'r byd, oherwydd trachwant yn y bôn, ac mae'n rhaid inni wneud rhywbeth am hynny. Nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl fod cytundeb Llywodraeth y DU ar adael yr UE wedi gwneud y tamaid lleiaf o wahaniaeth i ddinistr ein moroedd o amgylch ein hynys, ac mae'n amlwg wedi lleihau ein gallu i berswadio pobl eraill, gwledydd eraill, i gydweithio er mwyn atal rhywogaethau cyfan rhag diflannu ar draws ein cefnforoedd.
Gallech ddadlau bod gadael marchnad rydd yr UE, ar ôl cau'r drws yn glep ar allu'r diwydiant pysgota i allforio i'r cyfandir, yn offeryn di-fin ar gyfer adfer bioamrywiaeth a gollwyd, oherwydd, os na allwch eu gwerthu, rydych yn annhebygol o'u pysgota o'r dŵr. Ond nid yw hynny'n gysur i fusnesau bwyd môr Cymru—
A wnewch chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
—fel y cynhyrchwyr cregyn gleision a dyfir ar raffau sy'n gweithredu busnes cynaliadwy heb ran yn y camfanteisio diwydiannol ar ddyfroedd Cymru gan fusnesau Ewropeaidd mawr, sy'n parhau. Edrychaf ymlaen at glywed sut y bydd y Llywodraeth yn ymdrin â'r mater sylweddol hwn.
Mae diogelu'r amgylchedd a bioamrywiaeth yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed a ledled Cymru, o'r pwys mwyaf i'n hamcanion hirdymor i wella'r amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r pleidiau ar draws y Senedd hon yn cytuno bod yn rhaid i ni wrthdroi colli bioamrywiaeth, a gweithio i sicrhau ein bod ar flaen y gad yn fyd-eang yn creu amgylchedd ffyniannus ar gyfer natur, er mwyn darparu safonau byw uwch i bobl Cymru a diogelu ein hamgylchedd.
Mae Brycheiniog a Sir Faesyfed yn fyd-enwog oherwydd parc cenedlaethol hardd Bannau Brycheiniog, sy'n rhedeg ar draws cefnen ddeheuol fy etholaeth, a chwm Elan i'r gogledd, sy'n drysor yng nghoron Cymru. Mae'n denu pobl o bob cwr o'r byd—o heicwyr i ferlotwyr, rhedwyr llwybrau a phobl sy'n ymddiddori ym myd natur. Mae cynnal a gwella'r amgylchedd yn hanfodol i'r economi a'r bobl sy'n byw yn fy nghymuned.
Mae rhan gyntaf y ddadl hon yn galw am ofynion sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Mewn egwyddor, rwy'n cefnogi hyn at ei gilydd, ond byddaf yn ei chael hi'n anodd ei gefnogi os yw'r targedau a weithredir yn dod ar draul yr economi wledig a swyddi pobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Rwyf eisoes yn gweld deddfwriaeth ffosffad benodol gan CNC yn effeithio'n enfawr ar adeiladu tai gwledig. Rhaid inni fod yn hynod ofalus i sicrhau'r cydbwysedd cywir.
Mae'r ddadl hon yn galw am sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru. Rwy'n credu mewn llywodraeth fach, ac ni chredaf y dylid gwario symiau enfawr o arian cyhoeddus pan allem weithio dros y ffin gyda Llywodraeth y DU yn fy marn i i reoli'r materion hollbwysig hyn. Nid mater i Gymru yn unig yw gwella a diogelu bioamrywiaeth, ond mater i'r DU gyfan.
Wrth iddynt gloi'r ddadl, rwyf am weld rhesymau cliriach gan y rhai a'i cynigiodd pam y dylid sefydlu'r sefydliad hwn yn annibynnol yng Nghymru, a pham na ellid ei rannu â Llywodraeth y DU mewn dull cydgysylltiedig go iawn o fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Rwy'n pryderu y gallai ddod yn sefydliad arall a fydd ond yn gwastraffu arian ac yn cyflawni fawr ddim pan ellid defnyddio'r arian yn well mewn rhannau eraill o Gymru i wella'r amgylchedd.
Fel y dywedais, rwyf o ddifrif yn awyddus i weithio ar draws y pleidiau yn y Siambr hon i helpu a gwella bioamrywiaeth a'n hamgylchedd, ac rwy'n croesawu sgyrsiau gyda'r pleidiau gyferbyn i weld sut y gallaf wneud hynny drwy gydol y Senedd hon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Dwi'n ffodus fy mod i'n cynrychioli etholaeth sy'n gyforiog o fywyd gwyllt; meddyliwch am fforestydd glaw Celtaidd Maentwrog, llonyddwch Enlli neu Gors Barfog Cwm Maethlon. Mae'r ardal yn gartref i gasgliad rhyfeddol o fywyd gwyllt, o'r falwen lysnafeddog yn Llyn Tegid i lili'r Wyddfa, ond maen nhw o dan fygythiad.
Dwi am ganolbwyntio’n sydyn ar gyfraniad y cyhoedd a'r sector gwirfoddol, sy'n chwarae eu rhan wrth geisio sicrhau yr amrywiaeth naturiol godidog yma sydd gennym ni. Yn fy etholaeth i, mae Cymdeithas Eryri, sy'n elusen gadwraeth ar gyfer ardal Eryri, yn gweithio ym mhob tywydd i warchod a gwella ardal y parc cenedlaethol. Mae'r gymdeithas yn estyn allan i gydweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill, fel awdurdod y parc, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac eraill i weithredu ei rhaglen Caru Eryri. Mae Caru Eryri yn ddibynnol ar wirfoddolwyr i gario allan y gwaith o glirio sbwriel, cynnal lwybrau a darparu cyngor cyfeillgar i helpu ymwelwyr i gael ymweliad diogel a chyfrifol, gan barchu'r cymunedau a bywyd gwyllt, a hynny ar draws ardal Eryri.
Mae'r gwirfoddolwyr yn gwneud y gwaith diflino a gwerthfawr yma rhwng mis Ebrill a mis Hydref, gan dderbyn hyfforddiant, offer a chefnogaeth er mwyn medru gwneud eu gwaith. Tu allan i'r misoedd yma, mae'r gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yma yn brysur gyda gwaith megis gwarchod ac adfer gwlypdiroedd, coedlannau a mawnogydd, a rheoli rhywogaethau ymledol. Mae'r fyddin yma o wirfoddolwyr yn cynrychioli miloedd o oriau o weithredu amgylcheddol yn flynyddol. Maen nhw'n gwneud hyn er mwyn gwarchod byd natur a mannau arbennig a'i gwneud hi'n bosib i bobl eraill a chenedlaethau'r dyfodol fwynhau godidogrwydd naturiol yr ardal arbennig yma.
Y rheswm dwi'n sôn yn benodol am Gymdeithas Eryri ydy er mwyn dangos bod y gweithredu sy'n digwydd ar hyn o bryd i warchod natur a bioamrywiaeth yn ddibynnol ar unigolion ac elusennau bach a mawr, lleol a chenedlaethol. Mae miloedd o wirfoddolwyr eraill yn gwneud gwaith tebyg i sefydliadau eraill hefyd, wrth gwrs. Ond fedrwn ni ddim dibynnu ar wirfoddolwyr i roi o'u gwirfodd yn unig. Maen nhw a'r elusennau a chymdeithasau yn y maes, megis Cymdeithas Eryri, yn disgwyl arweiniad cenedlaethol, ac i'r Llywodraeth weithredu hefyd.
Maen nhw'n croesawu'r gweithredu positif, lle mae Cymru'n cynorthwyo i arwain y ffordd, ond yr hyn y mae'r gwirfoddolwyr yma ac eraill am ei weld ydy'r Llywodraeth yn ymrwymo i dargedau clir ar gyfer adfer byd natur a deddfu er mwyn cau'r bwlch o ran rheolaeth amgylcheddol. Mae'r gwirfoddolwyr yn chwarae eu rhan, ond ble mae'r arweiniad? Maen nhw am weld y Llywodraeth yn gweithredu ar yr hinsawdd ac adfer byd natur. Ac ar ben hyn, yn ogystal â phenawdau a geiriau cynnes, maen nhw am weld tystiolaeth fesuradwy o effeithlonrwydd y gweithredoedd yma. Yn olaf, maen nhw am wybod faint mae'r rhai hynny sy'n gyfrifol am warchod yr amgylchedd yn atebol am eu gwaith. Mae'r bobl yma wedi dangos y ffordd; rŵan, mae'n rhaid i'r Llywodraeth gamu i fyny a gweithredu.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn, bawb, am gymryd rhan yn y ddadl. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i roi'r mater hwn gerbron y Siambr mor gynnar yn nhymor newydd y Senedd. Fel y mae pobl wedi dweud, ni fyddwn yn gwrthwynebu'r cynnig. Yn wir, rwy'n falch iawn o'i gefnogi. Wrth gwrs, rydym yn gosod newid hinsawdd a natur yn y canol yn holl benderfyniadau'r Llywodraeth newydd hon. Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n ein hwynebu. Yn fyd-eang, mae colli bioamrywiaeth yn dal i ddigwydd ar gyfradd frawychus, ac mae'r sefyllfa yng Nghymru yn debyg, gyda dirywiad cyflym ein rhywogaethau a'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr.
Serch hynny, Ddirprwy Lywydd, roedd yn galonogol gwrando ar nifer o'r Aelodau yn sôn am y rôl hyrwyddwr rhywogaethau sydd ganddynt. Gwn fod pobl yn falch iawn o'r rhywogaethau y maent wedi'u hyrwyddo, a soniodd nifer o Aelodau amdanynt. Yn bersonol, fi yw hyrwyddwr rhywogaeth y wystrysen frodorol, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o weld ail-hadu'r gwelyau wystrys brodorol o amgylch Abertawe ac arfordir Gŵyr. Gwn mai fy nghyd-Aelod Lee Waters yw hyrwyddwr rhywogaeth y draenog, sy'n adnabyddus am fod yn ddangosydd ecosystem dda, ac yn ysglyfaethwr gwlithod a phlâu eraill yr ardd. Felly, rydym ninnau hefyd yn falch iawn o'n rhai ni. Rydym yn hapus iawn i weithio gyda'r hyrwyddwyr rhywogaethau ar draws y Siambr, ac rwy'n annog unrhyw Aelod newydd nad oes ganddo rywogaeth i'w hyrwyddo eto i fabwysiadu un cyn gynted ag y gallwch. Rydych yn dysgu llawer iawn am yr ecosystem sydd ei hangen i gynnal eich rhywogaeth a hefyd am y camau y gallwch eu cymryd er mwyn ei hyrwyddo.
Yn arbennig, ar y blychau gwenoliaid duon, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod yn eu cynnwys yn ein rhaglen dai arloesol. Mae gennym frics gwenoliaid duon yn mynd i fyny ar nifer o dai cymdeithasol ledled Cymru, ac rydym yn edrych—ac mae fy nghyd-Aelod Lee Waters yn enwedig yn edrych—ar fioamrywiaeth ar hyd llwybrau ffyrdd a llwybrau rheilffyrdd, gan gynnwys ymgorffori blychau gwenoliaid duon a blychau nythu eraill fel y bo'n briodol ar hyd y llwybrau hynny. Felly, gall y mathau hyn o gamau gweithredu wneud gwahaniaethau bach ond pwysig iawn yn y ffordd y mae adar mudol yn enwedig yn cael eu derbyn yng Nghymru. Ac rwy'n falch iawn o fod wedi'u gweld; dim ond yn ddiweddar iawn y gwelais wennol ddu yn fy ngardd fy hun, ac roedd yn olygfa hyfryd.
Ac wrth gwrs, rydym wedi cydnabod yr argyfwng natur sy'n gwaethygu ac rydym ni, ynghyd â gweddill y byd, yn cydnabod yn llwyr nad ydym eto wedi gwneud digon o gynnydd tuag at y nod o wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Ac wrth gwrs, mae cysylltiad anorfod rhwng yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Mae'r naill yn deillio o'r llall. Newid hinsawdd yw un o'r prif ffactorau sy'n arwain at golli bioamrywiaeth. Gall newidiadau yn y tymheredd neu lawiad beri i gynefinoedd a rhywogaethau gael eu colli, gan leihau cydnerthedd yr ecosystemau yn gyffredinol. Nid yw'n fater o naill ai/neu, neu 'braf i'w gael'; mae cysylltiad cwbl annatod rhwng y pethau hyn. Gall colli bioamrywiaeth, yn enwedig mewn mannau fel mawnogydd, leihau gallu natur i storio carbon, gan waethygu newid hinsawdd mewn cylch dieflig cynyddol. Rhaid inni ymyrryd yn y cylch hwnnw a gwrthdroi'r newid.
Nid yw hyn yn beth bach i'w ddweud, ac mae'n beth mwy fyth i'w wneud. Rydym i gyd yn gwybod hynny. Ond nid yw'n gwbl anobeithiol, ychwaith. Mae pethau y gallwn ac y dylem eu gwneud o hyd, ond nid yw'r rhain yn bethau hawdd ac nid ydynt yn bethau syml. A bydd yn rhaid i lawer ohonoch yma yn y Siambr ystyried eich blaenoriaethau penodol eich hun yn ofalus iawn yn ogystal â'r ffordd rydych yn ymddwyn, a Llywodraeth Cymru hefyd, oherwydd bydd angen inni wneud hyn gyda'n gilydd a gwneud y penderfyniadau anodd iawn hynny.
Felly, mae lleihau'r pwysau uniongyrchol ar natur yn sgil newid hinsawdd yn ogystal â llygredd a defnydd anghynaliadwy yn rhan annatod o'r camau sydd eu hangen i atal colli bioamrywiaeth. Fel Llywodraeth, rydym yn gweithredu i leihau'r pwysau mawr ar ein hecosystemau. Bydd hyn yn cynnwys gwella ansawdd dŵr, lleihau llygredd aer, datgarboneiddio a'r economi gylchol. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn ein hamgylchedd naturiol i adfer a chreu rhwydweithiau ecolegol gwydn ledled Cymru. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn darparu'r manteision niferus y mae llawer o Aelodau wedi sôn amdanynt yn y ddadl heddiw, megis rheoli llifogydd, adfer pridd, dal a storio carbon a chaniatáu i rywogaethau symud, ac yn wir, i addasu i'r newid.
Mae llawer o'n gwaith cyfredol yn cyfrannu at y rhwydweithiau natur hyn yn awr. Bydd cynllun Creu Coetir Glastir a'r goedwig genedlaethol yn cefnogi bioamrywiaeth drwy greu coetiroedd mwy cymysg, gan wella a chysylltu coetiroedd presennol wrth i ni fynd yn ein blaenau. Ac unwaith eto mae fy nghyd-Aelod, Lee Waters, wedi archwilio gweithgarwch plannu coed yng Nghymru yn fanwl i weld sut y gallwn sicrhau ein bod yn plannu mwy o'r coed cywir mewn mwy o'r mannau cywir cyn gynted â phosibl er mwyn gwella ein coetiroedd, gwella ein gallu i ddal a storio carbon ac wrth gwrs, er mwyn creu ein coedwig genedlaethol.
Bydd y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndir hefyd yn gwella cydnerthedd ecosystemau mawndir ledled y wlad ac yn cyfrannu at liniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae gennym brosiect ardderchog ar y gweill yng ngogledd Gŵyr, yn etholaeth fy nghyd-Aelod Rebecca Evans, sef cynllun Cwm Ivy, lle'r ydym yn helpu i adfer y morfa heli yng ngogledd Gŵyr i greu tua 39 hectar o forfa heli yn sgil gorlif dros yr amddiffynfeydd môr yng Nghwm Ivy. Bydd y morfa heli newydd wrth gwrs yn helpu i ddarparu cynefin i wrthbwyso'r golled debygol o gynefin morfa heli yn y dyfodol oherwydd cyfuniad o gynnydd yn lefel y môr oherwydd newid hinsawdd a'r angen am amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd arfordirol ledled Cymru. Ac fel hyn, mae angen inni gael rhaglen integredig, o amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer ein cymunedau ond hefyd i liniaru'r effaith ar rywogaethau sydd angen y mannau rhynglanwol hyn i allu ffynnu. Wrth gwrs, mae morfeydd heli hefyd yn cyfrannu at ddal a storio carbon a nifer o wasanaethau ecosystem eraill.
Y rheswm rwy'n dweud hynny, Ddirprwy Lywydd, yw oherwydd nad yw'r economi a'n hecoleg, ein natur a'n hecosystemau yn gwrthdaro. Mae llawer o'r pethau rydym am eu gwneud i liniaru effeithiau newid hinsawdd ac i helpu i gynyddu ac adfer bioamrywiaeth hefyd yn helpu ein heconomi, a gall y pethau hynny fynd law yn llaw. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol nad yw'r Siambr hon yn eu gweld fel pethau sy'n gwrthdaro, fel dewis naill ai/neu, ond yn hytrach fel cyfanwaith integredig y gallwn gydweithio arno i sicrhau bod gan bobl swyddi'r dyfodol nad ydynt yn dinistrio ein planed.
Mae gennym gronfa rhwydweithiau natur, gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, i wella cyflwr, cysylltedd a chydnerthedd rhwydweithiau safleoedd gwarchodedig ar y môr ac ar y tir yng Nghymru i'w galluogi i weithio'n well wrth wraidd y rhwydweithiau natur—ardaloedd hanfodol o gydnerthedd ecolegol lle gall cynefinoedd a rhywogaethau ffynnu ac ehangu. Rhaid i hyn fod yn ganolog i'n polisi rheoli tir cynaliadwy yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i symud cymorth ariannol a ddarparwn ar gyfer amaethyddiaeth fel ein bod yn gwobrwyo ffermwyr yn iawn am y canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol y maent yn eu cyflawni ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys dŵr ac aer glân wrth gwrs, dal a storio carbon a chreu ac adfer cynefinoedd gwerthfawr ar eu tir.
Rydym yn cydnabod hefyd mai rhan bwysig o fynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd yw ymgysylltu a chyfeirio grym unigolion a chymunedau lleol i weithredu, a thynnodd Mabon ac eraill sylw yn dda iawn at yr hyn y gall cymunedau lleol ei wneud pan ddônt at ei gilydd yn eu hardal leol. Mae ein cronfa rhwydweithiau natur hefyd wedi'i chynllunio i greu rhwydweithiau o bobl sy'n cymryd rhan yn y safleoedd hynny, a gwneir hyn drwy gynyddu nifer ac arallgyfeirio canolfannau gwirfoddoli, cefnogi mentrau gwyddoniaeth dinasyddion, a chynlluniau hyfforddi megis Kickstart. Roeddwn yn meddwl bod enghraifft Mabon yn un dda iawn hefyd.
Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn annog pawb i ymgysylltu â natur, i werthfawrogi natur ac i greu natur ar garreg eu drws. Fel y nododd Siân, rhaid canolbwyntio ar ardaloedd trefol, yn enwedig cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru a'r rhai lle nad yw natur yn hygyrch iawn iddynt, er mwyn sicrhau bod pob un o'n cenedlaethau iau, cenedlaethau'r dyfodol, yn ymwneud â'r amgylchedd naturiol.
Mae buddsoddi yn ein hamgylchedd naturiol yn cyfrannu at ein huchelgais a nodir yn y rhaglen lywodraethu i adeiladu economi werdd gryfach. Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi datblygu sgiliau a swyddi gwyrdd, fel y dywedais. Fel gwlad fach, mae gennym uchelgeisiau ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng natur nid yn unig ar lefel leol, ond ar y llwyfan byd-eang hefyd. Rydym yn cefnogi datblygiad fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020 y confensiwn ar amrywiaeth biolegol, sy'n galluogi gweithredu beiddgar i sbarduno newid er mwyn atal colli bioamrywiaeth. Mae ein blaenoriaethau'n cynnwys prif ffrydio ystyriaeth o fioamrywiaeth ym mhob penderfyniad, cryfhau capasiti a gallu i weithredu atebion ar sail natur, a rhannu arferion gorau yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Rydym wrthi'n datblygu'r fframwaith monitro a dangosyddion ôl-2020, gan weithio gyda DEFRA ar lefel y wladwriaeth. Rydym yn rhagweld fframwaith bioamrywiaeth byd-eang newydd gyda nodau a thargedau clir yn dilyn y confensiwn ym mis Hydref.
Drwy broses Caeredin ar gyfer llywodraethau is-genedlaethol rydym wedi llofnodi datganiad Caeredin, sy'n galw ar bartïon i'r confensiwn i gymryd camau cryf a beiddgar i sicrhau newid trawsnewidiol. Mae hefyd yn cydnabod rôl hanfodol llywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol yn y broses o gyflawni'r weledigaeth honno.
Ddirprwy Lywydd, gallwn barhau i siarad am tua 40 munud am yr holl bethau rydym yn eu gwneud, ond gallaf weld eich bod yn colli amynedd. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn fodd bynnag, a chredaf mai'r peth olaf rwyf am ei gyfleu i bobl yw bod angen inni gael corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer hynny, a byddwn yn edrych ar dargedau bioamrywiaeth, ond byddwn yn edrych ar y rheini yng nghyd-destun y fframwaith byd-eang, fframwaith y DU, ac i sicrhau nad oes gennym ganlyniadau anfwriadol yn sgil gosod targedau mewn maes penodol sy'n golygu bod meysydd pwysig eraill yn cael eu colli. Byddaf yn croesawu gwaith ar draws y pleidiau yn y Siambr hon i sicrhau ein bod yn gosod y targedau sy'n llywio'r camau gweithredu sy'n bwysig. Nid y targedau sy'n sbarduno'r newid, ond y camau gweithredu. Dull o fesur yn unig yw'r targedau—mae angen y camau gweithredu i sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan lawn yn y gwaith o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur ar y llwyfan byd-eang. Diolch.
Galwaf ar Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.
Ddirprwy Lywydd, am ddadl wych yw hon wedi bod.
Rwy'n diolch i Janet Finch-Saunders am ei haraith. Rwy'n cydnabod hefyd nad yw datgan argyfwng ar ei ben ei hunan ddim yn cyflawni digon, fel roedd y Gweinidog newydd ddweud. Dyna pham rŷn ni hefyd yn cynnig targedau ar lywodraethiant y pethau sydd angen cael eu gwneud, ond rwy'n hoffi'r ddelwedd o obaith a'r cresendo o weithredu yr oedd hi'n sôn amdano.
Cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at y teimlad o gresendo, ymdeimlad cynyddol o gefnogaeth drawsbleidiol, ac rwy'n croesawu ei gefnogaeth yntau hefyd.
Diolch i Siân Gwenllian am siarad eto am y gobaith sy'n dod o'r ffaith y gall y rhywogaethau prin gael eu hachub, a hefyd am siarad am ba mor bwysig yw hi i wyrdroi'r dirywiad er mwyn plant.
Fe'n hatgoffwyd gan Mark Isherwood am ffrâm ryngwladol ein dadl, wrth gwrs. Mae wedi bod mor wych clywed Mark, Siân, Jenny, Julie ac Aelodau eraill yn siarad am y rhywogaethau y maent yn eu hyrwyddo. I'r Aelodau ifanc—wel, i'r Aelodau newydd, dylwn ddweud, yn y Senedd, a allai fod yn genfigennus ynglŷn â'r holl rywogaethau y buom yn siarad amdanynt sy'n cael eu hyrwyddo, rwy'n siŵr y bydd Cyswllt Amgylchedd Cymru mewn cysylltiad cyn mis Medi. Mae yna raglen, a byddai'n wych pe gallai cynifer â phosibl ohonoch fod yn rhan ohoni.
Siaradodd Mike Hedges am y dyfodol dystopaidd posibl, lle na fydd plant yn adnabod yr anifeiliaid yn rhai o'n llyfrau mwyaf poblogaidd, ac roedd Luke Fletcher yn sôn sut y gallwn hybu'r economi drwy fuddsoddi mewn natur, a hybu ecodwristiaeth ac atal llifogydd. Dywedodd fod ein heconomi'n dibynnu ar natur ac yn bodoli o'i mewn. Clywch, clywch.
Nawr, cyflwynodd Jenny Rathbone safbwynt pwysig iawn i'r ddadl hon yn fy marn i: effaith trefoli ar fywyd gwyllt, yn benodol y gwenoliaid duon y soniodd Jenny amdanynt. Rwyf wrth fy modd gyda'r ymadrodd a ddefnyddiodd Jenny, 'Rhaid inni droedio'n ysgafnach ar y ddaear hon.' Am ymadrodd gwych yw hwnnw, ac yna'r persbectif gwrthgyferbyniol a gyflwynwyd gan James Evans am Fannau Brycheiniog. Nawr, James, rwy'n gobeithio bod modd i'r pwyntiau a wnaeth Luke yn gynharach leddfu rhywfaint ar rai o'r pryderon a fynegwyd gennych am yr economi wledig, ond rwy'n cydnabod bod hon yn ystyriaeth bwysig. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn dweud yr hoffech weithio'n drawsbleidiol ar hyn.
Diolch, Mabon, hefyd am y cyfraniad am y natur godidog sydd yn Nwyfor Meirionnydd, Cymdeithas Eryri, ynghyd â phŵer cymunedau. Mae hynna'n elfen mor bwysig.
Diolch, yn olaf, i'r Gweinidog am gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig. Ymddangosodd gwenoliaid duon yng nghyfraniad y Gweinidog hefyd, a chredaf fod y pwynt a wnaeth y Gweinidog yn wirioneddol bwysig, nad peth bach yw dweud hyn, a'i fod hyd yn oed yn fwy o beth i'w wneud. Mae'n her bwysig, yn amlwg, fod angen inni wneud mwy na datgan argyfwng natur yn unig—rhaid inni gefnogi hynny drwy weithredu.
Nawr, mae'n glir o'r cyfraniadau fod natur mewn argyfwng yng Nghymru, ond bod hefyd gennym ni gyfle nawr i newid hynny—cyflwyno targedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol, fydd yn llywio buddsoddiad, monitro a gwelliant, canys heb ddeddfwriaeth yn y gorffennol, dydy'r targedau sydd wedi cael eu gosod ddim wedi cael eu gwireddu. Rwy'n deall safbwynt y Ceidwadwyr yma, ond buaswn i'n erfyn arnyn nhw i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio. Am ddatganiad clir fyddai hynny—bob plaid yn ein Senedd yn cefnogi.
Nawr, o rai o'r cyfraniadau gwych a huawdl a gawsom heddiw, rwy'n tybio mai un o'r pwyntiau pwysicaf a ddeilliodd o'r ddadl yw nad er mwyn ein cenhedlaeth ein hunain yn unig y gweithredwn, y bobl sy'n byw ar y blaned hon yn awr; rydym yn ei wneud er mwyn y cenedlaethau sydd eto i gael eu geni—plant y mae eu hiechyd, eu hapusrwydd a'u sgiliau rhyngbersonol yn elwa cymaint o fod allan ynghanol gogoniant natur. Os ydym o ddifrif am flaenoriaethu llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rhaid i weithredu ar yr argyfwng hwn fod o'r pwys mwyaf.
Felly, Ddirprwy Lywydd, wrth gloi hoffwn ailadrodd ein galwadau y gobeithiaf yn fawr y cânt eu pasio yn awr. Rhaid cael datganiad o argyfwng natur. Rhaid inni gael targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith i atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, a rhaid inni gael dull annibynnol o lywodraethu'r amgylchedd yng Nghymru. Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio ac yn disgwyl ein bod ar fin cymryd cam pendant a hanesyddol yn y Senedd hon. Rwy'n cymeradwyo ein cynnig i'r Siambr, ac yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n pleidleisio i ddatgan argyfwng hinsawdd a natur.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad ar Zoom gan Darren Millar, felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rydym ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ond fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr ar gyfer paratoi ar gyfer y bleidlais yna. Diolch.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:43.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:48, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, a'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar Fil ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, 17 yn ymatal, saith yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Eitem 6 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn: O blaid: 29, Yn erbyn: 7, Ymatal: 17
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar hinsawdd a bioamrywiaeth. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 7 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 40, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
A dyna ni. Felly, os ydy'r cynnig wedi ei dderbyn, mae'r cynnig wedi ei dderbyn, a fydd yna ddim pleidleisiau ar y gwelliannau. Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio.
Felly, fe awn ni ymlaen yn ein gwaith i'r ddadl fer, a dwi'n galw ar James Evans i siarad ar y pwnc sydd wedi'i ddewis ganddo fe. Felly, James Evans.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon, ni fyddaf yn mynd dros yr amser, fel y gwneuthum y tro diwethaf inni gael dadl, a dyrannaf funud o fy amser i Laura Anne Jones, Peter Fox a Mabon ap Gwynfor.
Mae'r Aelodau yn y Siambr a'r rhai sy'n gwylio o bell yn anghytuno ynglŷn â llawer o bethau. Y tro hwn, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar rywbeth y credaf y gallwn i gyd gytuno yn ei gylch—yr angen mawr i wneud popeth posibl i gynnal a gwella ansawdd ein dŵr yn ein hafonydd yng Nghymru. Yr afonydd yng Nghymru yw'r llinynnau arian rhwng ein hucheldiroedd a'r arfordir. Maent yn gartref i amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt. Maent yn cynnig cyfle i fwynhau hamdden ac yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses o dyfu ein heconomi drwy ddenu twristiaid i'n gwlad wych. Mae gennym afonydd eiconig yng Nghymru, megis y Cleddau, y Teifi a'r Tawe, ac wrth gwrs, y Wysg a'r Gwy, sy'n mynd drwy fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed. Mae'r rhain wedi'u dynodi'n ardaloedd cadwraeth arbennig. Maent yn gartref i rywogaethau gwerthfawr fel yr eog, misglen berlog yr afon a chimwch yr afon, ac maent oll angen inni eu diogelu. Mae afonydd yr ardaloedd cadwraeth arbennig yn cael pob clod amgylcheddol, ond ni ddylem leihau pwysigrwydd afonydd fel Conwy, y Taf a'r Tawe. Mae'r afonydd hynny'n mynd drwy ein cymunedau mwy o faint ac mae gennym ddyletswydd o ofal i'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd hynny i wella ansawdd dŵr ledled Cymru.
Y milwyr traed ym mrwydr Llywodraeth Cymru i wella afonydd yw swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, cangen o'r Llywodraeth i bob pwrpas sy'n atebol yn unig i'r Prif Weinidog a'i gyd-aelodau o'r Cabinet. Ar ddiwedd 2020, pan oedd pobl yn edrych ymlaen at wneud y gorau o Nadolig o dan gyfyngiadau COVID, cyhoeddodd CNC ganllawiau i awdurdodau cynllunio eu gweithredu ar unwaith. Mae'r canllawiau'n berthnasol i'r mwyafrif helaeth o geisiadau cynllunio ar gyfer datblygu lle ceir perygl o gynyddu'r ffosffadau sy'n mynd i mewn i gyrsiau dŵr yn nalgylchoedd naw ardal cadwraeth arbennig afonol yng Nghymru. Oni all y datblygiadau hyn ddangos y gallant fod yn niwtral neu'n negyddol o ran ffosffad, nid oes gan yr awdurdodau cynllunio unrhyw opsiwn heblaw gwrthod y ceisiadau hyn. Mae'r canllawiau'n berthnasol i dai, swyddfeydd, ffatrïoedd a hyd yn oed i'r teulu sy'n dymuno adeiladu estyniad ar gyfer baban newydd-anedig neu berthynas deuluol oedrannus. Ac eto, nid ydynt yn berthnasol yn nalgylchoedd afonydd Conwy, y Taf a'r Tawe, a rhaid meddwl tybed pam. Er hynny, dywedaf eto: rydym i gyd am weld ansawdd dŵr yn gwella. Ond mae'n rhaid cwestiynu a anwybyddwyd mesurau eraill mwy effeithiol ac a yw CNC a'r rhai sydd eisiau adeiladu tai, swyddfeydd neu doiledau newydd wedi syrthio'n ysglyfaeth i gyfraith canlyniadau anfwriadol.
Rwy'n croesawu ymrwymiad Dŵr Cymru i uwchraddio eu seilwaith, ond mae hon yn rhaglen hirdymor nad yw'n mynd i'r afael â'r broblem bresennol. Yn fy etholaeth i, er enghraifft, dim ond dau waith trin dŵr Dŵr Cymru, yn Nhalgarth a Llandrindod, sy'n gallu tynnu'r ffosffadau i safon dderbyniol ar hyn o bryd. Mae hyn ymhell islaw'r hyn sy'n ofynnol. Yn rhy aml o lawer, clywn fod carthffos heb ei thrin a dŵr llawn ffosffad yn cael ei ollwng o waith trin dŵr i mewn i'n cyrsiau dŵr. Felly, mae hynny'n ein gadael mewn sefyllfa lle mae'r fflat mam-gu yn Llanwrtyd neu'r toiledau yn Aberhonddu sy'n defnyddio carthffosydd cyhoeddus yn cael eu gwahardd i bob pwrpas gan CNC am y byddant yn ychwanegu swm eithriadol o fach at y lefelau ffosffad cyffredinol sy'n mynd i mewn i'n hafonydd. Ac eto, gwelwn benderfyniad polisi gan Lywodraeth Cymru yn cael ei roi ar waith heb ymgysylltiad angenrheidiol â rhanddeiliaid, heb gyllid na buddsoddiad digonol a heb roi'r atebion i allu rhoi camau unioni ar waith. Unwaith eto, mae polisi'r weinyddiaeth yn tagu datblygiad, gan roi CNC, Dŵr Cymru ac awdurdodau cynllunio mewn sefyllfa amhosibl, a gosod y bai a'r cyfrifoldeb am reoli ffosffad ar ysgwyddau'r adeiladwr a deiliaid tai cyffredin. Mae'r polisi hwn yn lladd gobeithion a dyheadau cynifer o bobl sy'n ceisio cael troed ar yr ysgol dai ac yn tagu'r economi. Mae hefyd yn cyfyngu ar dargedau Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer adeiladu tai, ac rwyf wedi'i ddweud droeon yn y Siambr hon o'r blaen: mae'n dangos nad yw'r llaw chwith yn siarad â'r llaw dde.
Ond gadewch i mi awgrymu ychydig o syniadau mewn ysbryd cydweithredol, gan fod problem a rennir yn broblem wedi'i haneru. Mae amaethyddiaeth yn aml yn cael ei chyhuddo o fod yn ffynhonnell bwysig o lygredd ac mae un digwyddiad llygredd amaethyddol yn un yn ormod. Ffermwyr yw gwarcheidwaid ein cefn gwlad ac maent yn malio'n fawr am ansawdd ein hamgylchedd a'n tirweddau. Mae ffermwyr yn llawn dychymyg ac egni ac wrth inni drafod y mater hwn yma, mae llawer wrthi'n ystyried dulliau o wella'r ffordd y maent yn rheoli gwastraff ac ansawdd dŵr. Ond Weinidog, mae angen help arnynt. Rwy'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau ar waith i fynd i'r afael â llygredd dŵr amaethyddol, megis gorchuddio storfeydd tail, ond nid yw'r cymorth ariannol yn mynd yn ddigon pell. Felly, os yw Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddatrys llygredd amaethyddol, mae angen i chi roi eich arian ar eich gair.
Nid oes gan yr awdurdodau cynllunio yng Nghymru ganllawiau clir ychwaith ar sut i gymhwyso'r rheoliadau hyn, gan adael ceisiadau'n sownd yn y broses gynllunio. Felly, Weinidog, rwy'n eich annog i ymgysylltu'n ehangach â rhanddeiliaid awdurdodau cynllunio, adeiladwyr a phenseiri a'u hasiantau, fel y gallant i gyd ddeall sut i ddehongli'r canllawiau dryslyd hyn.
Er bod gan Dŵr Cymru nod hirdymor i uwchraddio'r gwaith trin dŵr gwastraff, mae angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn, ac mae angen rhoi pwysau i sicrhau bod hyn yn digwydd. Rhaid inni edrych hefyd ar fesurau dros dro. Gallem edrych ar gyfleusterau parod i drin carthion ar y safle, nodwedd a welir yn aml mewn ardaloedd gwledig fel fy un i ac eraill yn y Siambr hon. Ac eto, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod cyfyngiadau difrifol ar ddefnyddio cyfleusterau o'r fath yn yr ardaloedd cadwraeth arbennig afonol i'r pwynt lle mae cannoedd lawer o unedau preswyl, dwsinau o gynigion masnachol a llawer o welliannau i gartrefi yn sownd yn y system gynllunio. Felly, Weinidog, efallai y gallech edrych ar hyn a helpu i ddatrys y broblem.
Nid yw hon yn broblem newydd. Yn Llychlyn a'r Almaen yn benodol, mae terfynau llym wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer, a datblygwyd atebion technegol i sicrhau bod all-lifoedd o weithfeydd trin carthion preifat yn gwella ansawdd y dŵr yn eu hafonydd mewn gwirionedd. Mae'r rhain ac atebion eraill wedi'u cynnig i awdurdodau lleol yng Nghymru gan ymgeiswyr, ond mae CNC yn eu hanwybyddu neu'n gwrthod eu hystyried na rhoi sylwadau hyd yn oed ar lwybrau arfaethedig drwy'r sefyllfa gynyddol annifyr hon.
Yn fy ardal i, mae gennym gannoedd o geisiadau ar gyfer cartrefi, gyda llawer ohonynt yn dai fforddiadwy, sydd wedi dod i stop. Teimlir rhwystredigaeth debyg yng nghyd-destun datblygiadau swyddfa, siopau a thai cyngor newydd yn y sector cyhoeddus hyd yn oed, ac nid dyma'r unig brosiectau sydd ar y gweill. O'r ysgol newydd i'r cynllun cymdeithas dai, y ffatri newydd, a hyd yn oed ymdrechion i roi cartref i berthynas oedrannus neu aelod newydd o'r teulu, mae'r rhagolygon yn llwm i lawer o ddatblygiadau ledled Cymru.
Weinidog, mae gennych bŵer i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae gennych fom amser amgylcheddol yn aros amdanoch yn afonydd trefi'r cymoedd mewn rhannau helaeth o ogledd a de Cymru, gan ei bod yn ymddangos eu bod wedi'u hesgeuluso gan CNC, a galwaf arnoch i ymuno â ni i chwilio am ateb uniongyrchol ac effeithiol i'r argyfwng hwn a threfnu cyfarfod rhwng CNC, Dŵr Cymru a rhanddeiliaid eraill mewn uwchgynhadledd frys i ddod o hyd i atebion i fynd i'r afael â'r broblem hon, neu fel arall bydd eich targedau adeiladu cartrefi yn cael eu methu a bydd llawer o bobl a busnesau'n dioddef y canlyniadau am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch, Lywydd.
Laura Jones.
Diolch, Lywydd. A allwch chi fy nghlywed? Iawn. Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i James am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr? Lywydd, rwy'n byw dafliad carreg i ffwrdd o afon Wysg, ac yn agos iawn at afon Gwy, dwy afon hardd yr hoffwn iddynt barhau i fod yn lân ac wedi'u diogelu. Ond mae'r ffordd y caiff y rheoliadau hyn eu gweithredu wedi dangos unwaith eto ei bod yn well gan Lywodraeth Cymru estyn am yr ordd yn hytrach na'r torrwr cnau a gweithio yn erbyn busnesau yn hytrach na gyda hwy.
Fel y dywedodd James Evans yn gynharach, nid wyf yn credu y byddai'r un ohonom yn y Siambr hon yn gwadu bod angen inni leihau faint o ffosffadau sy'n mynd i gyrsiau dŵr. Ond mae cyflwyno'r nodyn cynghori newydd i awdurdodau cynllunio dros nos yn gyfystyr â rheoleiddio drwy'r drws cefn yn y bôn. Mae'n enghraifft o lywodraethu gwael, sydd wedi gadael datblygwyr ac adrannau cynllunio heb ffordd glir ymlaen, ac mae hynny'n creu canlyniadau anfwriadol. Er enghraifft, mae gan Gasnewydd un o'r marchnadoedd tai sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Mae prisiau'n codi i'r entrychion, yn rhannol oherwydd cryfder economi gorllewin Lloegr. Felly, er mwyn sicrhau bod pobl leol yn dal i allu fforddio prynu cartref iddynt eu hunain, mae angen inni barhau i adeiladu tai. Fodd bynnag, oherwydd bod y gofynion newydd hyn yn cael eu cyflwyno dros nos, mae wedi rhoi stop ar rai datblygiadau, fel y dywedodd James, gan greu tagfa yn y system a chodi prisiau'r datblygiadau sy'n llwyddo i symud ymlaen o ganlyniad, gan waethygu'r broblem ymhellach.
Ac o ran y datblygwyr sydd heb unrhyw fodd o hwyluso'r gwaith uwchraddio angenrheidiol i seilwaith dŵr gwastraff, Lywydd, nid oes unrhyw arwydd fod y tagfeydd hyn yn mynd i ddiflannu'n fuan. Ac os ydych chi'n adeiladwr yn Nwyrain De Cymru, a fyddech yn dewis buddsoddi yng Nghymru pan fydd yn rhaid i chi ymgodymu ag amgylchedd busnes gelyniaethus ac anrhagweladwy fel hwn, neu daro draw dros y ffin lle ceir economi gryfach yn Lloegr, neu roi'r gorau iddi'n gyfan gwbl efallai? Mae hwnnw'n benderfyniad y mae dwsinau o fusnesau'n ei wneud yn fy rhanbarth bob dydd, Lywydd, oherwydd eu bod wedi cael digon.
Nid oedd angen iddi fod fel hyn. Mae ein cwmnïau dŵr eisoes yn cydnabod mai hwy sy'n gyfrifol am rhwng chwarter a thraean y lefelau ffosffad yn ein hafonydd. Pe bai busnes bach neu fferm yn gyfrifol am gymaint o lygredd yn yr afon, byddwn yn tybio y byddai CNC yn defnyddio grym llawn y gyfraith i'w cael i wneud beth bynnag y gallent ei wneud i gydymffurfio. Felly, pam nad yw CNC a Llywodraeth Cymru wedi mynnu bod y cwmnïau dŵr yn gwneud y buddsoddiad hwn? Pam nad yw wedi eu cefnogi i wneud y buddsoddiadau hyn? Pam nad yw wedi gohirio'r rheolau nes bod y seilwaith dŵr gwastraff angenrheidiol yn ei le? Mae'r Llywodraeth—
Bydd angen i mi dorri ar eich traws yn awr, oherwydd rwyf wedi bod yn hael iawn gyda'r amser. Rwy'n sylweddoli nad ydych yn gweld y cloc fel rydym ni'n ei weld yn y Siambr, ond rwyf am alw'r ddau Aelod arall hefyd. Diolch. Peter Fox.
Diolch, Lywydd, a diolch, James, am roi munud o'ch amser i mi. Ac fe ddechreuaf arni'n syth—rwy'n llwyr gefnogi popeth rydych wedi'i ddweud heddiw. Ac er mwyn dangos y pwysau y mae'n ei roi ar y system gynllunio yn sir Fynwy, er enghraifft, ar hyn o bryd mae gennym 105 o dai ar y farchnad agored, sy'n geisiadau cynllunio wedi cael eu dal yn ôl, gyda 77 o dai fforddiadwy yn sownd yn y system. Ac mae'n debygol o godi i 379 o geisiadau cynllunio yn sownd yn y system, gyda 157 o'r rheini'n dai fforddiadwy. Ac mae hynny'n wirioneddol bwysig—yn ddinistriol i'r ymgeiswyr, yn ddinistriol i'r bobl ifanc sy'n aros am gartrefi. Ac mae angen inni ddod o hyd i ateb yma. Gan fod Dŵr Cymru, yn amlwg, wedi ymrwymo'r rhan fwyaf o'u cyfalaf yn awr, mae angen ateb lle mae Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru ac awdurdodau lleol yn dod at ei gilydd yn gyflym iawn ac yn dod o hyd i ffordd o ddatrys y sefyllfa hon, oherwydd ni all yr atebion technegol sy'n bodoli gynnig y niwtraliaeth sydd ei hangen mewn perthynas â gollyngiadau ffosffad. Diolch, Lywydd.
Diolch yn fawr iawn i James am yr amser i gyfrannu i'r ddadl, a diolch am ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw. Wrth gwrs, mae llygredd dŵr yn fater sydd angen mynd i'r afael ag ef, ac mae angen gwneud hynny gyda chydweithrediad y rhanddeiliaid. Yr hyn dŷn ni wedi ei weld yma, serch hynny, ydy Cyfoeth Naturiol Cymru yn adnabod problem ond yn methu â chydweithio gyda rhanddeiliaid i ganfod datrysiad rhesymegol. Mae yna gynlluniau, fel dŷn ni wedi clywed gan Peter Fox jest rŵan, ar gyfer datblygu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy yn cael eu hatal ar hyn o bryd oherwydd y polisi yma. Mae gyda ni gynlluniau datblygu lleol, parthau dinesig a fframwaith datblygu cenedlaethol oll gyda pheryg o gael eu hymyrryd efo'r polisi newydd a byrbwyll yma.
Mae angen i ni edrych ar gydweithio efo'r darparwyr dŵr i weld pa fuddsoddiad sydd ei angen ar unedau trin dŵr, neu edrych i arallgyfeirio pibau i wlypdiroedd presennol neu ddatblygu gwlypdiroedd newydd. Rhaid dysgu'r gwersi, felly, a sicrhau bod pob rhanddeiliad yn rhan o'r sgwrs cyn bod penderfyniadau mor bellgyrhaeddol yn cael eu gwneud yn y dyfodol. Ac, yn yr achos yma, mae angen tynnu'r rhanddeiliaid ynghyd i weld sut fedran nhw oll chwarae rhan mewn canfod datrysiad hirdymor i'r broblem. Diolch.
Y Gweinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl yma—Julie James.
Diolch, Lywydd. Mae rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy a gwella ein hasedau amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn gwbl ganolog i uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru. O ystyried ein hamcanion strategol a gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae angen inni fabwysiadu dull ecosystem gyfan. Mae angen inni weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i leihau crynodiadau o faethynnau. Bydd hyn yn sicrhau bod afonydd Cymru mor gydnerth â phosibl i wrthsefyll pwysau cyfredol a phwysau a ddaw yn y dyfodol.
Rwy'n siŵr nad oes angen imi bwysleisio pa mor ganolog yw argaeledd dŵr glân ac amgylchedd dŵr iach i'n heconomi, ein llesiant a'n hunaniaeth genedlaethol. Rydym yn wynebu heriau sylweddol i reoli ein hadnoddau naturiol yn y dyfodol. Mae angen inni weithredu yn awr i sicrhau bod gan Gymru amgylchedd dŵr ffyniannus sy'n cael ei reoli'n gynaliadwy. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn cymryd camau i ddiogelu'r adnodd naturiol gwych hwn. Mae dyletswydd arnom hefyd i ofalu am holl afonydd Cymru, yn enwedig y rhai sy'n bwysig yn rhyngwladol ac sydd wedi'u dynodi'n ardaloedd cadwraeth arbennig. Gallwn fod yn falch fod gennym naw dalgylch afon wedi'u dynodi yng Nghymru, yn rhan o rwydwaith mwy o safleoedd gwarchodedig ledled Cymru, a phob un yn hanfodol i helpu i fynd i'r afael â'n hargyfwng natur a'n hargyfwng hinsawdd.
Fel y crybwyllwyd eisoes, mae'r dyfroedd hyn yn cynnal peth o fywyd gwyllt mwyaf arbennig Cymru, fel yr eog, misglen berlog yr afon, a chimwch yr afon. Mae ardaloedd cadwraeth arbennig hefyd yn fannau hamdden ac ymlacio hanfodol, ac mae corff cynyddol o dystiolaeth y gall mynediad at natur, gan gynnwys afonydd, gael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd meddwl pobl.
Roedd mabwysiadu targedau ffosfforws tynnach yn yr ardaloedd cadwraeth arbennig gan CNC yn ymateb i dystiolaeth a chyngor gwyddonol gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae ffosfforws yn elfen sy'n digwydd yn naturiol. Fel arfer, caiff lefelau isel ohono ei ryddhau'n araf o ffynonellau naturiol. Fodd bynnag, mae gweithgaredd dynol hefyd yn gyfrifol, oherwydd y ffordd rydym yn rheoli ein tir a'r modd y cawn wared ar ein dŵr gwastraff a'n carthion. Mae newid hinsawdd hefyd yn chwarae rôl. Mae hafau cynhesach a sychach yn lleihau llifoedd yn ystod y tymor tyfu, gan arwain at lefelau uwch o faethynnau yn ein dyfroedd.
Pam y mae ffosfforws mor niweidiol i'r amgylchedd dŵr? Wel, hyd yn oed ar grynodiadau is, gall ffosfforws effeithio'n negyddol ar ecoleg cyrs. Mae'n achosi ewtroffigedd: gostyngiad sylweddol yn yr ocsigen sydd ar gael o fewn y system afonydd. Mae gormodedd o faethynnau yn arwain at ffyniant algâu ar yr wyneb, gan ladd y rhywogaethau dyfrol islaw. Nododd asesiad CNC o lefelau ffosfforws fethiant syfrdanol ein hardaloedd cadwraeth arbennig afonol, gyda dim ond 39 y cant yn pasio'r targed gofynnol. Mae'r cyngor dilynol a roddodd CNC i awdurdodau cynllunio yn adlewyrchu cyflwr presennol ein dyfroedd. Fe'i cynlluniwyd i sicrhau nad yw datblygiadau yn yr ardaloedd sensitif hyn yn digwydd er anfantais i'n hamgylchedd. Mae cyngor CNC yn cyd-fynd â dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn 2018, y cyfeirir ato'n gyffredinol fel 'achos yr Iseldiroedd'. Mae'r dyfarniad, o dan y gyfarwyddeb cynefinoedd, yn gofyn am warant nad yw unrhyw ddatblygiad arfaethedig yn effeithio ar nodweddion naturiol ardaloedd cadwraeth natur. Oni ellir profi bod datblygiad yn niwtral—er enghraifft, nad yw'n cynyddu lefelau maethynnau presennol—rhaid peidio â rhoi caniatâd cynllunio. Mae'r gyfraith achosion yn rhan o gyfraith a gedwir yn ôl gan yr UE o dan y cytundeb ymadael, ac mae rhwymedigaeth ar Gymru i gydymffurfio â hi.
O ganlyniad i asesiad Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n amlwg fod angen inni fabwysiadu agwedd fwy rhagofalus tuag at ddatblygu mewn ardaloedd cadwraeth arbennig. Mae angen mwy o asesu ar bob un o'r prosiectau arfaethedig er mwyn deall yr effaith amgylcheddol yn llawn. Mae angen sicrwydd na fydd lefelau maethynnau'n codi. Ceir atebion, ac mae llawer ohonynt yn atebion ar sail natur sy'n gallu gwrthbwyso llygredd ffosfforws tra'n caniatáu i ddatblygiadau ddigwydd. Mae'r rhain yn gymhleth fodd bynnag, ac mae angen i bob sector yr effeithir arnynt eu harchwilio ar sail y dalgylch unigol, gan ddod â datblygwyr, ffermwyr, cwmnïau dŵr a'r rheoleiddwyr at ei gilydd. Mae'n gwbl angenrheidiol ein bod yn arfer dull traws-sectoraidd o leihau lefelau ffosfforws mewn ardaloedd cadwraeth arbennig yng Nghymru er mwyn diogelu amgylchedd naturiol ein hafonydd. Mae'r pwysau'n lluosog, o ollyngiadau carthion, dŵr ffo amaethyddol, tanciau carthion a chysylltiadau diffygiol. Nid un peth yn unig sy'n achosi llygredd, ac mae'r pwysau'n amrywio yn dibynnu ar nodweddion dalgylch afon penodol. Mae angen rheoli ein hafonydd ac amgylchedd Cymru yn gyfannol.
Wrth symud ymlaen, mae angen inni sicrhau cydbwysedd teg rhwng yr amgylchedd a'r economi. Nid oes angen i'r ddau gau ei gilydd allan. Mae twf gwyrdd yn fwy na dyhead iwtopaidd; dyma'r unig ateb hirdymor i'r argyfwng hinsawdd a natur rydym yn ei brofi, ac rydym newydd fod yn ei drafod yn y Siambr yn wir. Ac yn y ddadl honno, dywedais fod angen inni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y gofynnwn amdano gan ofyn hefyd am ddatgan argyfwng hinsawdd a natur. Mae hwn yn un o'r pethau hynny lle mae'n rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn a wnawn i'n hafonydd a lliniaru effeithiau ein datblygiadau blaenorol. Er mwyn rheoli'r broblem honno, mae cynllun prosiect wedi'i sefydlu yn CNC sy'n cyflawni prosiect afonydd yr ardaloedd cadwraeth arbennig, yn ymchwilio a mynd i'r afael â llygredd ffosfforws mewn afonydd, gan gynnwys afonydd Gwy, y Wysg, y Cleddau, Teifi isaf a'r Ddyfrdwy, ac mae hynny'n rhan o gynllun corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2021-22. O dan y cynllun prosiect, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor a datganiadau sefyllfa i randdeiliaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau cynllunio lleol. Mae agweddau eraill ar y cynllun yn canolbwyntio ar safonau ansawdd dŵr, asesiadau cydymffurfio ac ymyriadau i gyflawni gwelliannau i ansawdd dŵr. Yn wir, ceir ymrwymiad i gynyddu gwaith monitro a chasglu data hefyd.
Mae fy swyddogion wedi sefydlu grŵp goruchwylio rheolaeth ardaloedd cadwraeth arbennig hefyd er mwyn darparu trefniadau llywodraethu lefel uchel a chyfeiriad strategol i helpu i gyflymu nifer o feysydd gwaith perthnasol. Gan fod y mater hwn yn effeithio ar lawer o sectorau a rhanddeiliaid, mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r adrannau polisi perthnasol, yn ogystal â rhanddeiliaid allanol allweddol, i ddarparu ffocws ar gyfer ymatebion amlsectoraidd cydweithredol. Hefyd, sefydlwyd is-grŵp cynllunio sy'n cynnwys cynllunwyr awdurdodau lleol, i gynrychioli Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru, yr Arolygiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Dŵr Cymru ac CNC, i ystyried y goblygiadau penodol ar gyfer blaenoriaethau'r system gynllunio a gwell canllawiau cynllunio.
Fel y mae asesiad risg diweddar ar gyfer y DU o newid hinsawdd yn ei amlygu, mae cynefinoedd a rhywogaethau dŵr ffres yn arbennig o sensitif i dymheredd dŵr uchel a sychder. Mae achosion llygredd a'r bygythiad y maent yn eu hachosi i'n hecosystemau afonydd naturiol yn sgil cynnydd yn nhymheredd dŵr yn arbennig o ddifrifol. Mae tymereddau cynhesach mewn afonydd yn gostwng lefelau ocsigen ac yn cynyddu cyfraddau prosesau cemegol biolegol. Mae hyn yn arbennig o wir am gyfraddau twf algâu a maethynnau. Mae angen inni weithredu'n bendant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, fel y dywedodd pawb yn y ddadl flaenorol, fel y gall pobl ddal ati i drysori adnoddau naturiol cyfoethog Cymru am genedlaethau i ddod, a dyna'n union y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud, Lywydd.
Diolch i'r Gweindog. Dyna ddiwedd, felly, ar ein gwaith ni am y dydd heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:09.