Y Cyfarfod Llawn

Plenary

29/06/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da, bawb. Croeso i'r Cyfarfod Llawn, ac yn enwedig i unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd wedi ymuno â ni unwaith eto yn yr oriel gyhoeddus am y tro cyntaf mewn 15 mis. Croeso i chi i hynny. 

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i bawb—y rhai sydd yn y Siambr a'r rhai sydd yn ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion pwyllgorau. Ychydig o bwyntiau oddi wrthyf i am hyn: fe fyddaf i nawr yn gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 17.2F i ethol Cadeiryddion y pwyllgorau. Dim ond Aelod o'r grŵp gwleidyddol y dyrannwyd y pwyllgor hwnnw iddo a all gael ei enwebu yn Gadeirydd, a dim ond Aelod o'r un grŵp plaid sy'n cael cynnig yr enwebiad. Cytunwyd ar y dyraniad Cadeiryddion i grwpiau gwleidyddol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A. Pan fo gan grŵp plaid fwy nag 20 Aelod, mae'n rhaid i'r enwebiad gael ei eilio gan Aelod arall o'r un grŵp. Yn achos grwpiau plaid sydd â llai nag 20 Aelod, does dim angen eilydd. Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu enwebiad, neu os ceir dau enwebiad neu fwy ar gyfer yr un pwyllgor, cynhelir pleidlais gyfrinachol. Byddaf yn parhau gyda'r enwebiadau ar gyfer gweddill y pwyllgorau hyd nes bydd yr enwebiadau i gyd wedi'u gwneud. 

Felly, rŷn ni'n cychwyn drwy wahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, sydd wedi ei ddyrannu i'r grŵp Llafur. Dwi'n galw am Aelod o'r grŵp Llafur i wneud unrhyw enwebiad. Jayne Bryant. 

Mae'r enwebiad wedi ei eilio. A oes rhagor o enwebiadau? Nac oes. Dwi ddim yn gweld unrhyw enwebiadau eraill. [Torri ar draws.] Oes, dwi'n gweld llaw nawr. Alun Davies, oes gyda chi enwebiad?

Nid wyf i'n mynd i gymryd pwynt o drefn yng nghanol y broses enwebu, ond fe wnaf dderbyn eich pwynt o drefn—[Torri ar draws.] Fe dderbyniaf y pwynt o drefn ar ddiwedd yr enwebiadau. Os nad oes rhagor o enwebiadau ar gyfer y pwyllgor hwnnw—

—oes yna unrhyw wrthwynebiad i'r enwebiad yna?

Unrhyw wrthwynebiad i'r enwebiad yna? Nac oes.

Felly, dwi'n datgan bod Jenny Rathbone wedi cael ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Llongyfarchiadau i Jenny Rathbone. 

Y pwyllgor nesaf i wahodd enwebiadau ar ei gyfer yw'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Dyrannwyd y pwyllgor yma i'r Ceidwadwyr. A oes unrhyw enwebiad i fod yn Gadeirydd?

Cewch enwebu Mark Isherwood. Nid oes angen eilydd. A oes unrhyw wrthwynebiad i enwebiad Mark Isherwood? Nid oes gwrthwynebiad, felly gallaf ddatgan bod Mark Isherwood bellach wedi'i ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Llongyfarchiadau, congratulations, Mark Isherwood.

Fe awn ymlaen nawr i—

—y Pwyllgor Cyllid. Dyrannwyd y Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Cyllid i Blaid Cymru. A oes enwebiad ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid o Blaid Cymru? Delyth Jewell. 

Diolch. Does dim angen eilydd i'r enwebiad. A oes rhagor o enwebiadau ar gyfer y gaderiyddiaeth yna? Sioned Williams.

13:35

Rhys ab Owen. Does dim angen eilydd. Felly, gan fod yna fwy nag un enwebiad, fe fydd yna bleidlais ar gyfer y gadeiryddiaeth yna o'r Pwyllgor Cylliad, ac fe fydd y bleidlais yna'n cael ei chynnal yn gyfrinachol.

Y pwyllgor nesaf, felly, yw'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Dyrannwyd hwn i'r grŵp Llafur. A oes enwebiad o'r grŵp Llafur? Sarah Murphy.

Sarah Murphy, a allwch chi gael eich dad-dawelu? Iawn, dyna chi.

Oes eilydd i'r enwebiad yna o Huw Irranca-Davies? Buffy Williams.

Rydych chi wedi eich dad-dawelu nawr. Ewch ymlaen, Buffy.

Ocê. Diolch yn fawr. A oes unrhyw enwebiad arall ar gyfer Cadeirydd y pwyllgor yma? Unrhyw enwebiad arall?

Unrhyw enwebiad arall? Na, nid wyf yn gweld enwebiad arall.

Felly, dwi'n gallu datgan bod Huw Irranca-Davies wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth—. Na, cyn i fi ddatgan ei fod e wedi cael ei ethol, mae'n rhaid i fi ofyn a oes gwrthwynebiad i'r ffaith bod Huw Irranca-Davies yn cael ei gynnig ar gyfer y swydd yma? Oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly nawr fe allaf i ddatgan bod Huw Irranca-Davies wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a phob hwyl iddo yn y gwaith.

Rwy'n gwahodd enwebiadau nawr ar gyfer y Pwyllgor Deisebau—Petitions Committee—a ddyrannwyd i'r grŵp Llafur. Jayne Bryant.

Jack Sargeant wedi ei enwebu. Oes eilydd?

A oes eilydd? Ken Skates. [Torri ar draws.]

Iawn. Diolch, Ken Skates. A wnaiff Aelodau sy'n sylwi nad ydyn nhw wedi'u tawelu naill ai dawelu eu hunain neu fod yn ofalus beth maen nhw'n ei ddweud? Iawn. Felly, mae gennym ni eilydd ar gyfer—. Rwy'n anghofio pwy nawr—o, Jack Sargeant. Mae'n ddrwg gen i, Jack. [Chwerthin.] A oes enwebiad arall ar gyfer y Pwyllgor Deisebau? Na, ni welaf unrhyw enwebiadau eraill. A oes gwrthwynebiad i Jack Sargeant fod yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Deisebau? Na, ni welaf innau wrthwynebiad ychwaith. Felly, mae Jack Sargeant wedi'i ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Llongyfarchiadau i chi, Jack.

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Rwy'n credu mai dyna'r teitl hiraf yr ydym ni wedi ei gael ar gyfer pwyllgor hyd yma. Enwebiad Plaid Cymru yw hwn. A oes enwebiad gan Blaid Cymru? Llyr Gruffydd.

Diolch, Llywydd. Buaswn i'n dymuno enwebu Delyth Jewell i fod yn Gadeirydd y pwyllgor o dan sylw.

Diolch. Does dim angen eilydd i'r enwebiad. Oes yna enwebiad arall gan Blaid Cymru? Oes yna? Does yna ddim? Ocê, iawn. Does yna ddim enwebiad arall, felly, i'r swydd yna o Gadeirydd—. Rhys ab Owen.

Ocê. Felly, mae yna ddau enwebiad ar gyfer Cadeirydd y pwyllgor diwylliant ac, oherwydd hynny, mi fydd yna bleidlais gyfrinachol ar gyfer y swydd yna.

Y pwyllgor nesaf i'w enwebu ar ei gyfer yw Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Dyrannwyd y Cadeirydd yma i'r Ceidwadwyr. Oes yna enwebiad? Laura Jones.  

13:40

Mae Paul Davies wedi ei enwebu. A oes enwebiad arall gan y grŵp Ceidwadol ar gyfer y Cadeirydd hwn? Nid wyf i'n gweld enwebiad arall. A oes gwrthwynebiad i'r enwebiad hwnnw? Ni welaf unrhyw wrthwynebiad, ac felly mae Paul Davies wedi ei ethol i gadeirio Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Llongyfarchiadau i Paul Davies.

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd nesaf, eto gan y Ceidwadwyr Cymreig. A oes yna enwebiad? Laura Jones. 

Mae'n ddidrafferth iawn pan gaiff ei wneud gan yr un person bob tro, mae'n rhaid i mi ddweud. [Chwerthin.]

Mae Russell George wedi ei enwebu. A oes enwebiad arall gan y grŵp Ceidwadol? Nac oes, ni welaf yr un. A oes gwrthwynebiad i'r enwebiad hwnnw? Gan nad oes gwrthwynebiad y gallaf i ei weld, yna rwy'n datgan bod Russell George wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Llongyfarchiadau, Russell. 

Mae'r Cadeirydd nesaf ar gyfer y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Y grŵp Llafur i enwebu. Jayne Bryant.

Mae'r enwebiad hwnnw wedi ei eilio. A oes enwebiad arall gan y grŵp Llafur? Rhianon Passmore.

Mae Mike Hedges wedi ei enwebu. A oes eilydd ar gyfer yr enwebiad hwnnw? Jack Sargeant.

Cadeirydd, fe fyddwn i wedi hoffi manteisio ar y cyfle heddiw i enwebu Mike Hedges ac Alun Davies fel cyd-gadeiryddion y pwyllgor hwn ar ffurf rhannu swydd, ac, mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n siomedig bod y Pwyllgor Busnes heddiw wedi penderfynu peidio â chaniatáu i drefn cyd-gadeiryddion fynd yn ei blaen. Rwy'n credu ei fod yn gyfle a gollwyd, a hoffwn roi hynny ar y cofnod.

Wel, mae ef ar y cofnod yn awr. Rwy'n amau bod Alun Davies yn dymuno gwneud yr un pwynt, felly man a man i mi ei dderbyn yn awr. Alun Davies, a ydych chi'n dymuno gwneud yr un pwynt, neu a yw ynghylch—?

Ydw, ar bwynt o drefn, roeddwn i'n hynod siomedig bod y Pwyllgor Busnes wedi achub ar y cyfle i rwystro'r ymgeisyddiaeth hon y bore yma a pheidio ag archwilio'r potensial i rannu swydd Cadeirydd pwyllgor. Mae'n ymddangos i mi, ac roedd yn ymddangos, rwy'n credu, i eraill, fod hwn yn gynnig syml iawn ac yn un y gellid bod wedi'i gynnwys yn ein Rheolau Sefydlog presennol. Mae'n ymddangos i mi na roddodd y Pwyllgor Busnes yr ystyriaeth yr oedd yn ei haeddu i hyn, ac mae'n ymddangos i mi ein bod ni bellach yn y sefyllfa yn y Senedd hon lle nad yw'r Aelodau mwyaf ceidwadol bellach yn eistedd ar feinciau'r Ceidwadwyr.

Wel, i ymateb ac i'w roi ar y cofnod, ac yn dilyn y trafodaethau ar bwyllgorau a Chadeiryddion sydd wedi eu cynnal mewn grwpiau ac yn y Pwyllgor Busnes yn ystod y pum wythnos diwethaf, cefais gais brynhawn ddoe gan Mike Hedges ac Alun Davies i rannu swydd Cadeirydd pwyllgor. Rhoddais y cais hwnnw i'r Pwyllgor Busnes fore heddiw. Roedd y Pwyllgor Busnes yn unfrydol nad oedd cefnogaeth i wneud hyn. Byddai newidiadau eithaf sylweddol wedi bod yn angenrheidiol ar gyfer hynny, i'r Rheolau Sefydlog ac i'n gweithdrefnau. Mae'r Pwyllgor Busnes yn awyddus i gynnal adolygiad o'r holl faterion hyn, ond nid oedd gwneud hynny mewn cyfnod mor fyr yn rhywbeth y gallai'r Pwyllgor Busnes ymrwymo iddo, o gofio'r ffaith ein bod ni'n bwriadu ethol ein Cadeiryddion heddiw, ac, felly, mae'r rhain yn faterion y gellir ymdrin â nhw yn y dyfodol.

Hoffwn atgoffa'r holl Aelodau eu bod yn cael cyflwyno eu henwau i'w henwebu a chael eu henwebu a'u heilio yn y lle hwn, fel yr ydym ni wedi ei wneud drwy gydol y prynhawn yma. Nid oes neb yn cael ei rwystro rhag gwneud hynny gan y Pwyllgor Busnes na'r Senedd hon. Etholiad ar gyfer Cadeiryddion yw hwn, ac mae'r holl Aelodau'n gyfartal o ran eu cyfranogiad yn y broses honno.

Rwy'n credu ein bod ni wedi dweud popeth sydd angen i ni ei ddweud ar y cofnod ynglŷn â hynny. Mae'n debyg na fyddwn i wedi bod eisiau cymryd hynny fel pwynt o drefn yng nghanol etholiad, ond fe wnaeth Hefin David fy nal i braidd yn annisgwyl yn y fan yna. A byddwn ni'n dysgu o hynny. 

Felly, ble ydw i? Rwyf wedi colli golwg ar ba bwyllgor yr wyf i wedi'i gyrraedd. A ydym ni wedi ethol y Cadeirydd ar gyfer llywodraeth leol? Naddo. Rydym ni wedi cael dau enwebiad wedi eu heilio. A oes enwebiadau eraill? Gall unrhyw un gael ei enwebu ar yr adeg hon, os oes gennych chi gefnogaeth. Unrhyw enwebiadau eraill? Nac oes. Felly, mae gennym ni etholiad ar gyfer y Cadeirydd hwnnw ar gyfer llywodraeth leol a thai, a chaiff hynny ei gynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Cadeirydd o Blaid Cymru y tro yma. A oes unrhyw enwebiad o Blaid Cymru? Mabon ap Gwynfor. 

13:45

Oes unrhyw enwebiad arall gan Blaid Cymru? Nac oes. Felly, oes unrhyw wrthwynebiad i Llyr Gruffydd fel y Cadeirydd? Nac oes. Ac felly dyna ni, mae Llyr Gruffydd wedi'i ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith. Pob lwc i Llyr yn ei waith. 

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, wedi ei ddyrannu i'r grŵp Llafur. A oes enwebiad? Ken Skates.

O, dyna pam na allech chi enwebu'r un yna. [Chwerthin.] Ac a oes eilydd i Jayne Bryant?

Mae Jayne Bryant wedi cael ei chynnig a'i heilio. A oes rhagor o enwebiadau i'r pwyllgor yna?

Gan nid oes enwebiadau eraill, a oes gwrthwynebiad i Jayne Bryant gadeirio'r pwyllgor yna? Ni welaf unrhyw wrthwynebiad, ac felly, Jayne Bryant, rydych wedi eich ethol i gadeirio'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn awr, sydd wedi'i neilltuo i'r grŵp Llafur. Unrhyw enwebiad ar gyfer Cadeirydd y pwyllgor safonau? Huw Irranca-Davies.

Iawn, diolch. Mae'r enwebiad hwnnw wedi'i eilio. Unrhyw enwebiad arall ar gyfer y pwyllgor safonau? Nac oes. Gan nad oes enwebiad arall, gallaf ddatgan bod Vikki Howells wedi ei hethol yn Gadeirydd ein pwyllgor safonau. Pob lwc i chi gyda'r gwaith hwnnw.

Wedi eu gwneud nhw i gyd? Ie, dyna ni. Dyna derfyn ar y broses enwebu, felly. Ac yn achos yr enwebiadau hynny a gyfeiriwyd ar gyfer pleidlais gyfrinachol, yn unol â'r Rheolau Sefydlog, rwy'n hysbysu'r Aelodau y bydd y pleidleisiau cyfrinachol yn cael eu cynnal yn ystafelloedd pwyllgor 1 a 2 yn y Senedd, a bydd Aelodau'n derbyn e-bost yn fuan i'w hysbysu bod y pleidleisio wedi agor. Bydd y pleidleisio'n dod i ben am 4.30 p.m. neu ar ddiwedd yr ail egwyl, pa bynnag un sydd hwyraf, gan ganiatáu dwy awr ar gyfer pleidleisio. Y clerc fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r broses bleidleisio a'r broses o gyfrif pleidleisiau, y pleidleisiau cyfrinachol. Byddaf yn cyhoeddi'r canlyniad ar ôl y cyfnod pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn heddiw, ar ddiwedd y prynhawn.

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, dyma ni yn mynd ymlaen nawr i gwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz.

Cyfleusterau Addysgol

1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wella cyfleusterau addysgol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56710

Llywydd, drwy ein rhaglen ysgolion a cholegau yr unfed ganrif ar hugain, rydym wedi buddsoddi £48 miliwn mewn cyfleusterau addysgu ar gyfer Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Bydd hyn yn parhau, ac mae £12 miliwn arall yn cael ei gynnig mewn ail don o gyllid rhaglenni.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Ymwelais i yn ddiweddar ag Ysgol wirfoddol a reolir Cosheston yn fy etholaeth i, ble y cyfarfûm â'r pennaeth a chadeirydd y llywodraethwyr. Mae hon yn ysgol hapus, a'r disgyblion yn awyddus i ddysgu gan athrawon brwdfrydig a galluog. Fodd bynnag, codwyd pryderon gyda mi ynghylch y diffyg lle sydd ar gael, sydd wedi gwaethygu oherwydd cyfyngiadau COVID. Mae'r staff yn treulio amser pan nad ydynt yn addysgu yn gweithio o'u ceir neu mewn coridorau, a dim ond un toiled sydd gan y disgyblion i'w rannu rhwng dosbarth o 30 mewn caban dros dro. Er bod addewidion wedi eu gwneud i ddarparu rhagor o gabanau fel ateb dros dro, mae ateb parhaol ar gael, gan fod digonedd o le ar gyfer ystafell ddosbarth wedi ei ganfod yn atig adeilad yr ysgol. A fyddech chi'n cytuno â mi y byddai'n well cael ateb parhaol, er mwyn sicrhau bod ysgol Cosheston a'i seilwaith yn gydnaws i ddarparu amgylchedd dysgu a gweithio addas a phleserus?

13:50

Lywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna ac, yn amlwg, mae'n codi materion sydd yn bwysig i rieni a myfyrwyr yn Cosheston. Y ffordd y mae'r rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yn gweithio, fodd bynnag, yw mai mater i'r awdurdod lleol yw blaenoriaethu eu ceisiadau ac yna eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, sydd â'r gwaith o'u pwyso a'u mesur ledled Cymru ac yna dyrannu cyllid yn unol â hynny. Fel y dywedais yn fy ateb agoriadol, Llywydd, mae sir Benfro eisoes wedi cael rhaglen fuddsoddi sylweddol yng ngham cyntaf rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac, ym mand B, mae £120 miliwn arall yn mynd i gael ei fuddsoddi yn ystad ysgolion a cholegau sir Benfro, ac rwy'n siŵr y bydd y llywodraethwyr a phennaeth ysgol Cosheston yn cyflwyno eu hachos, ochr yn ochr â'r Aelod, i aelodau etholedig Cyngor Sir Penfro wrth iddyn nhw fynd ati i wneud y gwaith anodd o flaenoriaethu.

Diolch. Rwyf i'n adnabod ysgol Cosheston yn dda; fe es i yno. Ond mae gen i gof hirach na'r Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Fel cynghorydd sir Benfro o 1995 ymlaen, gwelais effaith drawsnewidiol buddsoddiad digynsail yn ein hysgolion gan Lywodraethau Cymru olynol. A heddiw, er gwaethaf dros ddegawd o doriadau gan y Torïaid i gyllidebau Cymru, rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddweud bod rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wych Llywodraeth Cymru eisoes wedi ariannu 170 o ysgolion a cholegau newydd yn y cam cyntaf, a 43 o brosiectau eraill sydd ar y gweill yn yr ail gam. Felly, rwy'n cymryd yn ganiataol fod hynny i gyd yn gywir, Prif Weinidog, ac mae gennyf i ddiddordeb mewn gwybod beth yw eich cynlluniau ar gyfer y rhaglen honno wrth symud ymlaen.

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at effaith drawsnewidiol rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, ac nid yw hynny'n fwy gwir yn unman nag yn sir Benfro: ysgol gynradd Eglwys yng Nghymru newydd yn Ninbych-y-pysgod, Ysgol Hafan y Môr, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, ysgol uwchradd newydd, Ysgol Harri Tudur, £6 miliwn wedi ei fuddsoddi yng Ngholeg Sir Benfro ym mand A y rhaglen, a mwy i ddilyn yn awr ym mand B. Ac rwy'n credu bod Joyce Watson yn gwneud pwynt pwysig iawn, Llywydd: nid faint yn unig yw hyn—y nifer fawr iawn hwnnw o ysgolion newydd ac adeiladau wedi'u hadnewyddu y mae'r rhaglen wedi gallu eu darparu—ond ansawdd yr amgylchedd y mae'r rhaglen yn canolbwyntio arno, y ffaith fod gan bob adeilad ei gymeriad unigryw ei hun, bod pob un ohonyn nhw'n darparu cyfleusterau sy'n addas ar gyfer dysgu yn yr unfed ganrif ar hugain, ac mae pob un ohonyn nhw yn anfon neges bwerus at fyfyrwyr sy'n mynychu ar gyfer eu haddysg am y buddsoddiad y mae'r genedl hon yn dymuno ei wneud ynddyn nhw a'u dyfodol. Dyna arwyddocâd y rhaglen, ac roedd Joyce Watson yn llygad ei lle, Llywydd, i dynnu sylw ati.

Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am darged Llywodraeth Cymru i ariannu swyddogion cymorth cymunedol heddlu ychwanegol? OQ56683

Llywydd, diolchaf i Jack Sargeant am hynny. Mae'r rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i ddarparu 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol yng Nghymru. Cadeiriais gyfarfod o Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru ddydd Iau yr wythnos diwethaf, pryd y croesawyd yr ymrwymiad hwn yn eang.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Cyfarfûm yn ddiweddar â chomisiynydd heddlu a throseddu newydd y gogledd, Andy Dunbobbin, a chroesawodd y ddau ohonom swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol Llywodraeth Cymru, ar ben y rhai a ariannwyd eisoes gan eich Llywodraeth chi, ond roedd y ddau ohonom ni'n pryderu'n fawr am fethiant Llywodraeth y DU i ddarparu'r 62 o swyddogion yr heddlu a addawodd y Prif Weinidog ar gyfer Glannau Dyfrdwy. Mewn gwirionedd, am recriwtio yn hytrach na swyddogion ychwanegol y gallai'r Swyddfa Gartref siarad amdano yn ddiweddar ac roedd yn gwbl aneglur o ran pa un a oedd hyn i gymryd lle swyddogion sydd eisoes wedi gadael yr heddlu. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â galwadau gennyf fi ac Andy Dunbobbin i Lywodraeth y DU anrhydeddu ei haddewid, ac a wnewch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am sut y bydd eich Llywodraeth chi yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i roi swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol ar y stryd?

13:55

Llywydd, diolchaf i Jack Sargeant am y cwestiwn yna, ac am ei ymgyrch hirsefydlog i sicrhau bod ei etholaeth yn cael y lefel o blismona y mae ei hangen arni. Bydd yn gwybod bod nifer swyddogion yr heddlu ledled Cymru a Lloegr, yn 2018, yr isaf ers 1981, ac mae hynny o ganlyniad uniongyrchol i'r degawd hwnnw o gyni pan wnaeth y Blaid Geidwadol, flwyddyn ar ôl blwyddyn, orfodi toriadau ar heddluoedd ledled Cymru a Lloegr, ac yn sicr yma yng Nghymru, lle collwyd bron i 500 o swyddogion yr heddlu yn ystod y cyfnod hwnnw.

Er gwaethaf yr addewidion sydd wedi eu gwneud, rwy’n deall pam mae'r Aelod yn mynd ati i ymgyrchu, oherwydd bod gan Alyn a Glannau Dyfrdwy lai o swyddogion yr heddlu yn y flwyddyn 2020 nag a oedd yno yn 2017, er gwaethaf yr addewidion sydd wedi eu gwneud. Felly, rwy'n sicr yn hapus i ymrwymo i weithio ochr yn ochr ag ef a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu newydd Gogledd Cymru i sicrhau'r addewidion sydd wedi eu gwneud gan Lywodraeth y DU i ddadwneud rhywfaint o'r niwed y maen nhw eu hunain wedi ei achosi i ddiogelwch cymunedau, ac i gyflawni'r addewid y maen nhw wedi ei wneud.

Gadewch i mi roi ychydig bach o gysur i'r Aelod, sef ein bod ni wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU, gan y Swyddfa Gartref, eu bod, pan eu bod nhw'n sôn am swyddogion yr heddlu ychwanegol, yn golygu niferoedd sy'n ychwanegol at y rhai sydd eu hangen i gymryd lle pobl sydd wedi ymddeol neu wedi cael eu dyrchafu neu am unrhyw reswm arall wedi gadael y gwasanaeth. Felly, mae'n rhaid i ni eu dwyn i gyfrif am hynny hefyd. Yn y cyfamser, mae Jack Sargeant yn amlwg yn iawn, Llywydd, roedd ein hymrwymiad ni, nid yn unig i gynnal y 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yr ydym wedi eu darparu fel Llywodraeth bron drwy gydol y cyfnod o gyni, ond i ychwanegu 100 arall at hynny, yn boblogaidd ar hyd a lled Cymru. Mae gennym ni grŵp gweithredol wedi'i sefydlu i weithio ar sut y bydd y 100 swyddog newydd hynny'n cael eu recriwtio, eu dyrannu a'u hariannu. Cyfarfu'r grŵp ar 15 Mehefin, a phan gawn ni ei gyngor, byddwn yn symud ymlaen, ac rwy'n gobeithio gweld llawer o'r swyddogion newydd hynny yn cael eu penodi ac yn gweithio yn y gogledd ac yn etholaeth yr Aelod cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Gan fod diogelwch cymunedol yn fater datganoledig, roedd maniffesto Plaid y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ym mis Mai y byddem ni'n cynyddu'r cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu bob blwyddyn, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i recriwtio 20,000 o swyddogion ychwanegol yng Nghymru a Lloegr erbyn 2023. Dyna sy'n digwydd mewn gwirionedd. Sut ydych chi felly yn bwriadu sicrhau bod gwaith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran yr agenda hon, lle mae gan Lywodraeth y DU y targed o recriwtio 6,000 yn fwy o heddweision yng Nghymru a Lloegr erbyn mis Mawrth 2021, gan gynnwys 437 o swyddogion ychwanegol yng Nghymru, 99 yn y gogledd, gyda chynnydd pellach i ddilyn yn y ddwy flynedd nesaf—cofiwch, targed tair blynedd yw hwn—gan gydnabod bod diogelwch cymunedol yn y gogledd yn gwbl ddibynnol ar waith integredig sefydledig Heddlu Gogledd Cymru gyda'u heddluoedd partner cyfagos yng ngogledd-orllewin Lloegr?

Llywydd, rwy'n falch o glywed ffigurau'r Aelod, sy'n dangos bod ei blaid o'r diwedd yn gwneud iawn am rywfaint o'r niwed y gwnaethon nhw i blismona yng Nghymru dros ddegawd—degawd lle'r oedd ef, bob tro y gwnaethon nhw dorri'r gyllideb, yn eu cefnogi i wneud hynny. Rwy'n cytuno ag ef, er hynny, ar bwysigrwydd gweithio ar draws ffiniau i sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl. Dywedais yn fy ateb agoriadol, Llywydd, fy mod wedi cadeirio cyfarfod o Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru ddydd Iau yr wythnos diwethaf, ac roeddwn i'n falch o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r cyfarfod hwnnw ac i glywed ei gyfraniad iddo. Pan fo Llywodraeth y DU yn barod i ddod at y bwrdd yn y ffordd honno, rwy'n croesawu hynny, ac mae'n caniatáu i ni weithio gyda'n gilydd ar feysydd lle ceir pryderon cyffredin a cheir buddiannau clir i bobl Cymru wrth wneud hynny.

14:00

Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu swyddogion cymorth cymunedol, neu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu fel y'u gelwid bryd hynny, am bron i ddegawd. Gallaf bwysleisio unwaith eto fod prif swyddogion Cymru yn fodlon â hynny, maen nhw'n falch o'r cyllid ychwanegol, ac mae wedi cynyddu eu gallu a'u gwelededd, nad oes gan eu cymheiriaid yn Lloegr, ond gan fod plismona yn dal i fod yn fater a gadwyd yn ôl ac felly bod y cyllid ar sail disgresiwn, pa mor ddiogel yw'r cyllid hwn ar gyfer y dyfodol? Diolch.

Mae'r cyllid yn gwbl ddiogel, Llywydd, am weddill tymor y Senedd hon. Roedd maniffesto fy mhlaid i yn ein hymrwymo i hynny ac redd yn ein hymrwymo i'r 100 swyddog ychwanegol a ddarperir yn awr. Gwnaed darpariaeth eisoes yng nghyllideb eleni i ddechrau'r broses honno ac, fel y dywedais, rwy'n edrych ymlaen at weld y broses benodi honno ar waith fel y gallwn ni ddechrau gwario'r arian yr ydym ni wedi ei neilltuo, ac yna adeiladu ar hynny fel ein bod yn ariannu pob un o'r 600 o swyddogion yr ydym ni wedi ymrwymo i'w darparu cyn gynted ag y gall y broses honno eu rhoi ar waith.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl mewn ymateb i'm cyd-Aelod Janet Finch-Saunders, fe wnaethoch chi ddweud:

'y rheswm pam mae statws ardal isel wedi symud i fyny yw oherwydd mewnforio TB gan ffermwyr sy'n prynu gwartheg wedi'u heintio a dod â nhw mewn i'r ardal.'

Achosodd hynny lawer iawn o ofid a loes yn y diwydiant amaethyddol. A ydych chi'n derbyn bod hwnnw'n ddatganiad camarweiniol, Prif Weinidog?

Llywydd, fe ddywedaf i eto ar gyfer y cofnod fod ffurflenni adroddiadau asesu clefydau yn dangos bod wyth o bob 10 achos a gadarnhawyd mewn ardaloedd TB isel—ac ardaloedd TB isel y gofynnwyd i mi amdanyn nhw—i'w priodoli yn bennaf i symudiadau gwartheg. Felly, mae'n bwysig rhoi hynny ar y cofnod hefyd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei gwestiwn, er hynny, gan ei fod yn caniatáu i mi ddweud bod ffermwyr yng Nghymru, wrth gwrs, yn gweithio'n galed iawn yn wir drwy'r cyfundrefnau bioddiogelwch a roddwyd ar waith ganddyn nhw i geisio diogelu eu buchesau rhag TB. Ac mae angen iddyn nhw barhau i wneud hynny, ac mae angen iddyn nhw barhau i wneud hynny ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a phopeth yr ydym ni wedi ei roi ar waith er mwyn parhau i ymladd pla TB mewn gwartheg, y niwed y mae'n ei wneud i'r anifeiliaid eu hunain, ond hefyd yr effaith wirioneddol y mae dal TB mewn buches o wartheg yn ei chael ar y rhai hynny sydd wedi gweithio mor galed yn aml iawn i ddatblygu'r buchesau hynny, ac i ofalu amdanyn nhw. Ni all dim o hynny dynnu oddi wrth y ffeithiau hysbys mai symud gwartheg, mewn ardaloedd lle na cheir llawer o achosion, yn hytrach na lledaenu'r clefyd gan foch daear, sydd y tu ôl i achosion ychwanegol, fel y gofynnwyd i mi gan Janet Finch-Saunders.

Prif Weinidog, gofid y datganiad hwnnw yw eich bod wedi nodi bod ffermwyr yn rhan o'r broblem. Rydych chi'n gwybod ac rwyf innau'n gwybod bod y rheoliadau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru yn mynnu bod yn rhaid i'r holl wartheg, cyn eu symud, gael prawf TB, a bod y prawf hwnnw yn ddilys am 60 diwrnod. Felly, mae'r ffermwyr eu hunain yn gwneud popeth o fewn eu gallu, ynghyd â Llywodraeth Cymru, a bod yn deg, gyda'r rheoliadau y maen nhw wedi eu rhoi ar waith. Byddwn ni'n anghytuno ynglŷn â'r ymgyrch gyffredinol y mae'r Llywodraeth yn ymgymryd â hi yma yng Nghymru, ond rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cydnabod ei fod yn ddatganiad gofidus iawn i'w wneud gennych chi fel Prif Weinidog, o gofio bod pob anifail buchol yng Nghymru ac anifeiliaid sy'n dod i Gymru o Loegr yn cael eu profi cyn eu symud. Felly, a wnewch chi ymddiheuro heddiw am y gofid hwnnw yr ydych chi wedi ei achosi drwy'r datganiad hwnnw i'r gymuned ffermio, gan dderbyn bod gennym ni wahaniaethau polisi ynghylch sut y dylid mynd i'r afael â TB?

Llywydd, gadewch imi ei roi fel hyn. Nid oedd erioed yn fwriad gennyf i beri gofid i neb yn y datganiad a wnes i. Yr hyn yr oeddwn i'n cyfeirio ato oedd bod y cwestiwn a ofynnwyd i mi wedi ceisio rhoi'r bai ar foch daear am y cynnydd mewn TB yn y gogledd mewn ardaloedd lle nad oedd llawer o achosion gan ddweud mai'r ffordd orau o ymdrin â hynny fyddai drwy ddifa moch daear. Nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd y ffaith nad dyna yw polisi'r Llywodraeth, ac nid dyna fyddai'r ymateb cywir ychwaith.

Mae gan ffermwyr eu hunain gyfrifoldebau. Mae ganddyn nhw gyfrifoldebau dros symud gwartheg, ac mae ganddyn nhw gyfrifoldebau dros gyflawni'r drefn brofi, ac rwy'n hapus i ailadrodd unwaith eto fy mod i'n gwybod am yr ymdrechion enfawr y mae ffermwyr yn eu gwneud i gadw eu buchesau'n ddiogel ac i gydymffurfio â'r cyfundrefnau hynny. Pan fo pethau'n dirywio, ac rydym yn ddiau wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o TB yn nyffryn Conwy, yn sir Ddinbych ac yn ardal Pennal, yna mae'n iawn y dylid ymchwilio i'r achosion am hynny ac ymchwilio iddyn nhw gyda meddwl agored. Mae hynny'n cynnwys yr holl chwaraewyr sydd â rhan i'w chwarae o ran cadw'r buchesau hynny yn ddiogel a lleihau TB yn yr ardaloedd hynny.

14:05

Wel, mae'n flin gennyf na allwch chi ymddiheuro ar y cofnod, Prif Weinidog, ond rwy'n ddiolchgar am eich esboniad manylach ynghylch yr hyn a oedd y tu ôl i'ch sylwadau ryw bythefnos yn ôl.

Pe gallwn i fynd i'r afael, yn fy nhrydydd cwestiwn i chi, â'r newid polisi o fewn 72 awr o ran ffordd osgoi Llandeilo, a oedd, rwy'n gwerthfawrogi, yn bolisi y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru mewn cytundeb cyllideb yn 2017. Rwyf i'n digwydd credu bod angen ffordd osgoi ar gyfer Llandeilo, ac rwy'n credu hefyd fod trefi eraill y mae angen ffyrdd osgoi arnyn nhw, megis Dinas Powys yn fy rhanbarth etholiadol fy hun, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers rhyw 50 mlynedd. Ond yr hyn yr wyf wedi'i chael yn anodd ei ddarganfod—. Ond lle'r wyf i wedi cael trafferth dod o hyd i gysondeb yw yn sylwadau'r Gweinidog ar ei draed yma yn y Siambr, a ddywedodd,

'Rwy'n credu y byddai'n edrych yn rhyfedd iawn pe byddem wedi hepgor Llandeilo o'r adolygiad Cymru gyfan a byddwn i yn sicr wedi codi rhai cwestiynau.'

Felly, pam, mewn 72 awr, y newidiodd safbwynt y polisi neu ai gwleidyddiaeth ariannu prosiectau lleol Gweinidogion yn unig yw hyn?

Wel, Llywydd, nododd y Gweinidog, yn dilyn ei ddatganiad ar lawr y Senedd, safbwynt Llywodraeth Cymru. Gadewch i mi fod yn glir: pan fydd y Llywodraeth hon yn taro cytundeb gyda phlaid arall, ein bwriad yw anrhydeddu'r cytundeb hwnnw. Bu gennym gytundeb gyda Phlaid Cymru mewn cylch cyllideb blaenorol. Roedd hynny'n cynnwys ffordd osgoi yn Llandeilo, a bydd yr adolygiad o ffyrdd, sy'n bolisi pwysig iawn ac a gaiff ei gynnal yn unol â'r hierarchaeth drafnidiaeth a bennwyd gennym ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd, yn anrhydeddu'r cytundeb a wnaethom.

Diolch, Llywydd. Mae adroddiad diweddaraf y Sefydliad Bevan a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn ddigon i sobri unrhyw un. Dwi'n gobeithio y gwnaiff o ddeffro'r Llywodraeth yma i weld dyfnder effaith tlodi ar ein cymunedau ni—problemau sydd wedi dod yn fwy amlwg, wrth gwrs, yn ystod y pandemig yma. Mae o'n dangos yn glir iawn yr anghydraddoldebau dwfn iawn sydd yn ein cymdeithas ni: un o bob 10 cartref heb sicrwydd am ddyfodol y to uwch eu pen nhw; 80,000 wedi cael clywed yn y pandemig bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i gartref newydd. Ond o yfory, mi fydd y polisi 'no evictions' yn dod i ben. O ystyried canfyddiadau'r adroddiad yma, a wnewch chi ailystyried hynny?

Wel, Llywydd, wrth gwrs fy mod i'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am y ffordd y mae'r pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau a oedd eisoes yn llawer rhy amlwg yn ein cymdeithas, ac mae'r Llywodraeth hon yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i bwyso yn ôl yn erbyn llif cynyddol anghydraddoldeb yma yng Nghymru. Ond mae'n llanw sy'n codi oherwydd y camau sy'n cael eu cymryd mewn mannau eraill.

Pan gyfarfûm â Changhellor y Trysorlys rai wythnosau yn ôl, achubais ar y cyfle i bwyso arno am yr angen i beidio â gostwng yr £20 yr wythnos y mae teuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol yn ei gael yng Nghymru, mewn ymateb i'r pandemig. Estynnodd y Canghellor hynny yn ei gyllideb ym mis Mawrth hyd at ddiwedd mis Medi, ond mae'r wythnosau hynny yn prysur ddiflannu, ac unwaith eto mae'r teuluoedd hynny yn wynebu'r posibilrwydd, yn y dyfodol agos o golli £1,000 mewn blwyddyn—£1,000 sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr bob wythnos i'r plant sy'n byw yn y teuluoedd hynny. Pwysleisiais y pwynt hwnnw mewn modd mor rymus ag y gallwn gyda'r Canghellor.

O ran troi allan, gadewch i mi egluro i'r Siambr—a chaiff hyn ei nodi'n fanylach gan fy nghyd-Weinidog Julie James—mai rheoliadau coronafeirws yw'r rheoliadau sydd wedi atal troi allan. Mae'n rhaid eu cyfiawnhau yn ôl y gyfraith ar sail y pandemig, ac wrth i rannau eraill o'n cymdeithas weld mwy o normalrwydd yn cael ei adfer, yna mae'n rhaid adfer mwy o normalrwydd mewn rhannau eraill o fywyd Cymru. Pe na byddem wedi gwneud hynny, rwy'n credu nad oes amheuaeth o gwbl y byddai Llywodraeth Cymru wedi cael ei herio yn y llysoedd gan landlordiaid sydd â buddiant dilys mewn amddiffyn eu buddiannau eu hunain yn y cytundeb rhwng landlord a thenant.

Nawr, rydym ni wedi gwneud llawer iawn yn ystod y pandemig i gryfhau'r cymorth sydd ar gael i denantiaid: ymestyn cyfnodau rhybudd, darparu taliadau tai dewisol ychwanegol, ariannu llinell gymorth dyledion y sector rhentu preifat a'r canolfannau cyngor ar bopeth, yn ogystal â'r miliynau ar filiynau sylweddol iawn o bunnoedd yr ydym ni wedi'u gwario drwy awdurdodau lleol i fynd ati i ymdrin â phroblemau digartrefedd a sefydlogi sefyllfa tai pobl. Wrth i'r amser ddod pan fo rhaid dileu'r rheoliadau hynny, bydd y Gweinidog yn nodi rhagor o gymorth y byddwn ni yn ei roi i denantiaid yn y sefyllfa honno er mwyn lleihau'r risgiau sydd gan bobl o fod yn ddigartref a gorfod cael eu hailgartrefu mewn ffyrdd eraill gan awdurdodau statudol.

14:10

Prif Weinidog, fe'm trawyd gan un gair yn y fan yna: 'normal', 'normalrwydd'—rhywbeth yr ydym ni i gyd yn edrych ymlaen ato, mewn sawl ffordd, yng nghyd-destun y pandemig hwn. Ond mae tlodi wedi mynd yn rhy normal o lawer; mae tlodi plant wedi mynd yn llawer rhy normal, ymhell cyn dyddiau'r pandemig. Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru ddoe mai tlodi plant yw'r her fwyaf sy'n wynebu eich Llywodraeth chi. Roedd hynny'n wir cyn y pandemig hwn. Fel yr ydym ni wedi dadlau ers misoedd lawer, mae'r comisiynydd plant yn dadlau y dylid ymestyn prydau ysgol am ddim yn awr. Gallech chi gyflymu eich adolygiad o hynny, gallech chi wneud yr hyn yr ydym ni wedi bod yn galw amdano ac ymestyn prydau ysgol am ddim i blant ym mhob teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol. O gofio'r neges sobreiddiol yn yr adroddiad hwnnw gan Sefydliad Bevan heddiw, pam na wnewch chi yn union hynny?

Wel, Llywydd, oni fyddai mor syml â hynny y gallai Llywodraeth Cymru gonsurio allan o'r awyr y miliynau lawer iawn o bunnoedd y byddai eu hangen i gyflwyno polisi o'r fath, gyda'r holl gyfleoedd eraill i wneud pethau pwysig ym mywyd plant yng Nghymru a dinasyddion eraill Cymru y byddai'n rhaid eu hepgor drwy wneud hynny. Mae arnaf i ofn bod bod mewn Llywodraeth yn fater o ddewisiadau, nid atebion hud a lledrith pan eich bod yn dweud, 'Beth am ddod o hyd i £100 miliwn i wneud rhywbeth?' fel pe na byddai hynny yn costio dim i unrhyw beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud. Nid yw'n bosibl ychwaith, yn y ffordd yr awgrymodd yr Aelod, i gyflymu'r broses o gasglu data y mae eu hangen arnom ni i gynnal yr adolygiad. Bydd data'r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion ar gael a byddant ar gael yn y ffordd arferol. Nid oes gan Lywodraeth Cymru ychwaith y gallu i roi cyfarwyddyd a fyddai'n rhoi'r data hynny i ni o'r pedwar gwynt.

Yn y cyfamser, Llywydd, mae'n bwysig rhoi rhai ffeithiau ar y cofnod hefyd. Yn y mis cyn y pandemig, felly pan oedd pethau—i ddefnyddio gair yr Aelod—yn normal, cyn y pandemig byd-eang, roedd 66,000 o blant yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim. Y mis diwethaf, y ffigur oedd 105,000, felly mae hynny bron i 40,000 o blant ychwanegol yn derbyn prydau ysgol am ddim yng Nghymru mewn ychydig dros flwyddyn. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon eisiau cynyddu nifer y plant yng Nghymru sy'n gallu manteisio ar y cynnig hwnnw, ond bydd yn rhaid i ni wneud hynny mewn ffordd sy'n cael ei llywio gan y data diweddaraf ac sy'n cael ei negodi drwy gylch y gyllideb, pryd y bydd llawer iawn o anghenion pwysig iawn y bydd ei blaid ef ac Aelodau eraill y Senedd hon yn dadlau drostyn nhw, ac y bydd yn rhaid i ni, yn y pen draw, eu pwyso a'u mesur yn erbyn ei gilydd a gwneud y gorau y gallwn ni o'r adnoddau hyn, sy'n anochel yn gyfyngedig, a fydd ar gael i ni. 

14:15

Roedd honna'n rhestr hir iawn o esgusodion ynghylch pam nad yw'r Llywodraeth wedi cymryd y camau, mewn dros 20 mlynedd, a allai o leiaf ddangos i ni fod Cymru o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â thlodi plant. Ond, o dlodi plant i'r anghyfiawnder tai yr oeddwn yn sôn amdano, o anghyfiawnder economaidd i gyflogau is yng Nghymru—mae credyd cynhwysol, felly, wedi bod yn drychineb i deuluoedd yng Nghymru. Gall datganoli fod a dylai fod yn llinell amddiffyn rhwng San Steffan a Chymru, pe byddai'n cael ei ddefnyddio hyd eithaf ei botensial. Ond, o gofio'r gyfres o anghyfiawnderau economaidd a chymdeithasol yr wyf newydd eu crybwyll—mae llawer mwy ohonyn nhw—o ganlyniad i'r ffaith fod Cymru wedi ei chlymu i San Steffan, wedi'i dwysáu, ie, drwy ddiffyg gweithredu Llywodraethau Llafur olynol, a allwch chi wir ddal at eich sylwadau yn ôl ym mis Ebrill bod y system fudd-daliadau yn rhan o'r glud sy'n dal y Deyrnas Unedig gyda'i gilydd? Ac, mewn gwirionedd, a allwch chi ddweud o ddifrif nad oes dewis arall yn hytrach na pharhau i ymwreiddio'r tlodi yr ydym yn ei weld yng Nghymru wrth fod yn rhan o'r DU?

Wel, Llywydd, wrth gwrs mae dewisiadau amgen i'r polisïau sy'n ymwreiddio tlodi, ac mae fy mhlaid i wedi dadlau'n gyson dros y polisïau hynny. Datganoli yw'r llinell amddiffyn yn erbyn effeithiau gwaethaf y polisïau hynny. Mae ein polisïau yn ychwanegu at gyflog cymdeithasol teuluoedd yma yng Nghymru—yr holl bethau yr ydym yn eu darparu ar y cyd, y byddai'n rhaid i bobl ddod o hyd iddyn nhw fel arall o'u pocedi eu hunain. Dim ond un enghraifft o hynny yw presgripsiynau am ddim.

Rydym wedi anghofio sut beth yw gorfod pwyso a mesur pa un o dri phresgripsiwn y gallwch fforddio talu amdano oherwydd na allwch fforddio talu amdanyn nhw i gyd, oherwydd nad yw teuluoedd yng Nghymru bellach yn wynebu'r cyfyng-gyngor hwnnw. Mae teuluoedd yng Nghymru hyd at £2,000 bob blwyddyn yn well eu byd oherwydd y gyfres honno o benderfyniadau y mae Llywodraethau olynol wedi'u gwneud yma yng Nghymru sy'n gadael arian ym mhocedi pobl.

Mae hwnnw'n amddiffyniad gwirioneddol. Mae hwnnw'n amddiffyniad gwirioneddol y mae teuluoedd yng Nghymru yn ei deimlo, oherwydd bod ganddyn nhw arian na fyddai ganddyn nhw mewn amgylchiadau eraill—oni bai am y camau y mae'r Senedd wedi'u cymryd, ni fyddai'r arian hwnnw yno iddyn nhw allu gwneud y penderfyniadau hynny. Felly, nid wyf i'n credu ei fod yn helpu neb i weithredu fel pe na byddai datganoli wedi bod o gymorth i neb, oherwydd mae wedi bod o gymorth enfawr, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i deuluoedd ym mhob rhan o Gymru.

Llywydd, rwy'n credu y dylai'r system fudd-daliadau, o gael ei rhedeg yn briodol, fod yn rhan o'r hyn sy'n rhwymo'r Deyrnas Unedig gyda'i gilydd. Nid yw'r ffaith fod pensiynau yn cael eu talu yng Nghymru yn y ffordd y maen nhw yn dibynnu am eiliad ar Gymru yn unig. Mae'n dibynnu ar y gronfa lawer mwy honno o risgiau sy'n cael eu rhoi yn y gronfa honno, ac yna gwobrau yn cael eu rhannu rhyngom. Dim ond un enghraifft yw honno o'r ffordd y mae system fudd-daliadau ledled y DU yn parhau i fod er budd pobl Cymru.

Gallai fod yn llawer mwy manteisiol i ni, wrth gwrs, pe byddai Llywodraeth gydag ymrwymiad gwirioneddol i ailddosbarthu, i ddefnyddio'r peiriant ailddosbarthu y dylai'r system nawdd cymdeithasol fod. Ond, ni ddylid camgymryd y ffaith fod un blaid mewn Llywodraeth dros dro yn methu â chyflawni hynny am y potensial sydd gan y system honno i sicrhau'r manteision hynny i bobl Cymru.

Gwasanaethau Band Eang

3. Pa gefnogaeth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru am ei rhoi i gymunedau fedru cael mynediad at well gwasanaeth bandeang? OQ56711

Diolch yn fawr, Llywydd, i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Nid yw cyfrifoldeb dros wasanaethau band eang wedi ei ddatganoli i Gymru. Er hynny, mae’r Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi mewn mynediad gwell drwy ein cronfa band eang lleol, ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru a'n cynllun ffeibr.

Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Byddwn i'n falch petaech chi'n cadarnhau bod y cronfeydd yna i gyd yn agored ac yn fyw ar hyn o bryd. Dwi wedi cael cyswllt gan rai cymunedau, yn cynnwys cyngor Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch a chyngor Cyffylliog yn sir Ddinbych, sydd wedi cytuno i weithio gyda chwmni i ddod â band eang ffeibr i’r ardal, a chymryd mantais, wrth gwrs, o’r cyllido sydd a’r gael o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r bwriad wedyn o fanteisio ar yr ariannu ychwanegol sy’n dod o gyfeiriad Llywodraeth Cymru. Cyn yr etholiad mi ddywedwyd bod yr ariannu hwnnw yn dod i ben oherwydd y cyfnod etholiadol. Ers hynny, maen nhw'n dal i aros am sicrwydd bod y cronfeydd hynny bellach ar agor unwaith eto. Mae hynny, wrth gwrs, fel y gallwch chi ei ddychmygu, yn destun rhwystredigaeth, oherwydd mae yna dros 1,000 o gartrefi yn yr ardal dwi’n sôn amdani hi—y rhan fwyaf ohonyn nhw â mynediad sâl at fand eang. Ac rŷn ni'n gwybod am ardaloedd eraill ar hyd a lled Cymru, sydd yn bennaf, wrth gwrs, mewn ardaloedd gwledig, sy’n wynebu yr un sefyllfa. Felly, allwch chi gadarnhau pryd fydd y cymunedau hyn yn cael cadarnhad fod ariannu ar gael er mwyn taclo problem sydd, wrth gwrs, yn dal i fod yn broblem yn fwy na fyddai unrhyw un ohonom ni yn ei ddymuno?

14:20

Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn ychwanegol yna. Y broblem yw bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi newid y cynllun sydd gyda nhw. Maen nhw newydd lansio sgîm newydd i helpu pobl yn y sefyllfa y mae Llyr Gruffydd wedi cyfeirio ato. Rŷn ni wedi cytuno nawr gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y cynllun newydd, ac rŷn ni’n dal i fod yn benderfynol i roi arian ychwanegol ar ben cynllun y Deyrnas Unedig i bobl yma yng Nghymru. Dwi’n meddwl, heddiw, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi datganiad sy’n rhoi mwy o fanylion am y cynllun newydd ac yn cadarnhau y bydd yr arian sydd wedi dod o’r blaen o’r Llywodraeth yma yng Nghymru—£3,000 i unigolion, £7,000 i fusnesau—yn parhau. Dwi ddim cweit yn siŵr pryd bydd cynllun y Deyrnas Unedig yn agor i bobl, ond o beth dwi wedi'i weld heddiw, fydd hwnnw ddim yn rhy bell nawr.

Brif Weinidog, amcangyfrifir bod tua 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi nodi eu bod yn teimlo'n unig bob amser neu'n aml, ac mae'n amlwg bod yn rhaid ystyried unigrwydd ac arwahanrwydd fel blaenoriaeth iechyd cyhoeddus. Felly, i bobl hŷn, mae mynediad at wasanaeth band eang gweddus yn hollbwysig. Mae hyn wedi helpu pobl i aros yn gysylltiedig â theulu a ffrindiau a chael mynediad at wasanaethau ar-lein defnyddiol, yn enwedig yn ystod y pandemig. Brif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i gynyddu cynhwysiant digidol ledled y wlad? A sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gan bobl hŷn, ym mhob rhan o Gymru, fynediad at wasanaethau band eang priodol er mwyn diogelu iechyd meddwl a lles pobl hŷn? 

Diolch i Paul Davies hefyd am y cwestiwn. Gwelais i'r ymchwil roedd e'n cyfeirio ato am yr effaith mae'r pandemig wedi'i gael ar bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain ac ar yr henoed yn enwedig. Rŷn ni'n bwrw ymlaen gyda'r buddsoddiadau rŷn ni wedi'u rhoi fel Llywodraeth. Fel y dywedais i yn yr ymateb gwreiddiol, nid ein cyfrifoldeb ni yw e i roi gwasanaethau band eang yma yng Nghymru, ond rŷn ni wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd i helpu i ddosbarthu y gwasanaethau yna i bobl ym mhob cwr o Gymru. O ran pwysigrwydd ei wneud e, mae'r pandemig wedi rhoi golau ar hynny. Rŷn ni'n mynd i fwrw ymlaen gyda phob cynllun sydd gyda ni a rhoi mwy o arian i wneud hynny hefyd. Ar ben yr arian rŷn ni'n mynd i'w roi i helpu pobl sy'n mynd ar ôl cynllun newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rŷn ni'n bwrw ymlaen gyda chronfa leol sy'n rhoi £10 miliwn i awdurdodau lleol a busnesau i'w helpu nhw. Bydd mwy o arian ar gyfer y rhaglen sydd wedi dod ar ôl Superfast Cymru. Bwriad y Llywodraeth yw adeiladu ar bopeth rŷn ni wedi'i wneud yn barod, a'i wneud e mewn ffordd sy'n helpu pobl ym mhob cwr o Gymru, ac yn canolbwyntio ar bobl sydd ddim wedi cael band eang ac sy'n byw ar eu pennau eu hunain yn y dyfodol.

14:25

A gaf i anfon dymuniadau gorau i'r Prif Weinidog a'i deulu hefyd?

Mewn arolwg ddechrau'r mis hwn, roedd mwy na 50 y cant o ymatebwyr o ardaloedd gwledig yng Nghymru yn teimlo nad oedd y rhyngrwyd yn gyflym ac yn ddibynadwy, yn enwedig pobl yn sir Benfro, Ceredigion a sir Gaerfyrddin. Dim ond 36 y cant o bobl mewn ardaloedd gwledig oedd â band eang cyflym iawn, o'i gymharu â 67 y cant mewn ardaloedd trefol. Tybed a allai'r Prif Weinidog wneud sylw am gyflwyno band eang cyflym iawn, gan ein helpu ninnau i gyd, hefyd, i fod yn glir ynglŷn â'r cyfrifoldeb dros gyflwyno band eang cyflym iawn. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i Jane Dodds, Llywydd, a diolch am beth ddywedodd hi i ddechrau.

O ran cyfrifoldeb, mae'n gwbl glir nad yw hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli; cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw. Yn y modd y byddech yn ei ddisgwyl, o gofio eu hoffterau ideolegol, yr oedden nhw'n credu y gallen nhw ddibynnu ar y farchnad i ddarparu gwasanaeth o'r math hwn. Yn amlwg, mae'r farchnad wedi methu, a bydd y farchnad bob amser yn methu yn y lleoedd hynny y mae Jane Dodds wedi cyfeirio atyn nhw. Bydd y farchnad yn gofalu am ardaloedd poblog lle mae arian i'w wneud ac ni fydd byth yn darparu gwasanaeth yn y Gymru anghysbell a gwledig, lle bydd y gost o ddarparu band eang cyflym i eiddo penodol bob amser yn fwy na'r arian sydd i'w adennill oddi wrth y bobl sy'n byw yno. Dyna pam y camodd Llywodraeth Cymru i mewn. Dyna pam yr oeddem ni'n rhan o Cyflymu Cymru yn nhymor blaenorol y Senedd—dros £200 miliwn wedi ei fuddsoddi a band eang cyflym a dibynadwy wedi ei ddarparu i 733,000 o adeiladau.

Mae mynediad at fand eang ffeibr llawn, ar 21 y cant o safleoedd yng Nghymru, yn uwch nag yn Lloegr ac yn yr Alban. Roedd yn siomedig, rwy'n meddwl, fod cynlluniau Llywodraeth y DU, a oedd i ddarparu band eang gigabit i bob safle yn y DU erbyn 2025, wedi eu cwtogi ers hynny. Yn hytrach na'i fod yn ymrwymiad o 100 y cant, fel y cyhoeddwyd ar y cychwyn, mae bellach wedi ei ostwng i 85 y cant, a'r broblem yw, fel yr oedd Jane Dodds yn awgrymu, rwy'n credu, y bydd y 15 y cant ychwanegol hwnnw yn parhau i fod y bobl hynny yn y rhannau gwledig a mwy anghysbell hynny o Gymru lle mae'r costau dan sylw yn sylweddol iawn. Byddwn ni'n parhau, gyda'n rhaglen olynol i Cyflymu Cymru, a chyda'r rhaglenni eraill yr wyf i wedi eu hamlinellu yn fy atebion cynharach, Llywydd, i ategu'r hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, gan wario arian Cymru lle y dylid buddsoddi arian y DU yn fwy hael, er mwyn parhau i geisio dod o hyd i ffyrdd o ddarparu'r math o gysylltiadau band eang cyflym a dibynadwy yr ydym i gyd wedi dysgu eu bod mor bwysig yn ystod y 15 mis diwethaf, ac sy'n arbennig o arwyddocaol yn y cymunedau gwledig hynny.

Yr Amrywiolyn Delta yn Ne Clwyd

4. Beth yw asesiad cyfredol y Prif Weinidog o ledaeniad amrywiolyn Delta yn Ne Clwyd? OQ56670

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r amrywiolyn delta bellach yn gyffredin yn Ne Clwyd ac mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae ein rhaglen frechu yn parhau i gynnig y ffordd orau o fynd i'r afael â lledaeniad.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'n amlwg mai cael eich brechu yn llawn yn erbyn COVID yw amddiffyniad gorau dinasyddion rhag y feirws ofnadwy hwn a'r amrywiolion niferus ohono. A wnewch chi amlinellu sut, yn ogystal â bod ymhlith y gwledydd sy'n perfformio orau yn y byd o ran y dos cyntaf, y mae Cymru mor llwyddiannus wrth gyflymu'r broses o gyflwyno ail ddos y brechiad?

Diolch i Ken Skates am hynny. Mae e'n gwneud pwynt pwysig, wrth gwrs—nad yw un dos yn amddiffyniad digonol rhag coronafeirws, yn enwedig yr amrywiolyn delta newydd. Rydym ni mewn sefyllfa dda iawn yng Nghymru, Llywydd, oherwydd cwblhawyd ein cynnig o'r dos cyntaf o frechlyn i bob oedolyn yng Nghymru yn llawer cynt na'n cynlluniau gwreiddiol, ac yn llawer cynt na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu ein bod wedi gallu newid pwyslais ein rhaglen hyd yn oed yn fwy erbyn hyn i gyflymu'r broses o roi'r ail ddos o'r brechlyn, ac mae'r ffigurau'n galonogol iawn yma yng Nghymru. Mae gennym ni dros naw o bob 10 o bobl eisoes yn cael ail ddos o'r brechlyn ymhlith preswylwyr cartrefi gofal, pobl dros 80 oed, pobl dros 70 oed, gweithwyr gofal iechyd, ac, o yfory ymlaen, credaf y byddwn yn mynd dros 90 y cant o ran pawb yn eu 60au hefyd.

Mae ffigurau heddiw yn dangos bod 87 y cant o bobl rhwng 55 a 59 oed wedi cael y ddau ddos o'r brechlyn yng Nghymru eisoes, a'r hyn yr ydym yn ei wneud gyda'r 0.5 miliwn o ddosau o'r brechlyn y byddwn yn eu darparu dros y pedair wythnos cyn i ni adolygu'r cyfyngiadau coronafeirws nesaf yw lleihau'r amser rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos i ddim mwy nag wyth wythnos i bawb sydd dros 40 oed. Mae hynny'n golygu, erbyn i ni ddod i adolygu ein rheoliadau, y bydd pobl dros 40 oed yng Nghymru mewn sefyllfa dda iawn yn wir i gael yr amddiffyniad llawn y mae brechu yn ei ddarparu.

A byddaf yn adleisio'r hyn a ddywedodd Ken Skates, Llywydd, am bwysigrwydd hynny, a'n harwyddair canolog yma yng Nghymru, nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddod ymlaen i gael brechiad yng Nghymru. Pa un a yw hwnnw'n ddos gyntaf, neu eich bod heb gael yr ail ddos, y cyfan y mae'n rhaid i chi ei wneud yw cysylltu â'ch bwrdd iechyd lleol a gwneir trefniadau i chi ddal i fyny â'r hyn nad ydych chi wedi ei gael. Ac mae hynny'n bwysig iawn i'r unigolyn, ond mae'n bwysig iawn oherwydd po fwyaf o bobl yr ydym wedi'u brechu â dos dwbl, y mwyaf yw'r amddiffyniad sydd gennym ni i gyd rhag y feirws ac unrhyw amrywiolyn yn y dyfodol y gallai ei daflu tuag atom. 

14:30

Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb i Mr Skates. A gaf i ymuno â chi a'r Aelod dros Dde Clwyd i annog pawb i gael gafael ar y brechlyn hwn cyn gynted ag y bo modd oherwydd, fel y dywedwch, mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth i bawb? Cefais y fraint yn ddiweddar o ymweld â fferyllfa gymunedol yn fy rhanbarth i, lle yr oedd clinig COVID ac yr oedden nhw'n rhoi'r brechlyn COVID i'r rhai a oedd yn gallu cael mynediad i'r fferyllfa gymunedol. Ac fe'm trawodd tra'r oeddwn i yno fod gan fferyllfeydd cymunedol, mewn gwirionedd, ran mor bwysig i'w chwarae, ac efallai rhan fwy i'w chwarae yn y dyfodol wrth weinyddu'r brechlyn COVID-19.

Felly, yn eich dyhead, a dyhead bob un ohonom, i weld cyflwyno'r brechlyn yn cyflymu, yn Ne Clwyd a ledled Cymru gyfan, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda fferyllfeydd cymunedol i weld sut y gallan nhw chwarae fwy byth o ran wrth helpu i gyflymu'r gwaith o roi'r brechlyn yng Nghymru?

Wel, Llywydd, rwyf i'n sicr yn cytuno â'r Aelod ynglŷn â'r rhan y mae fferyllfeydd cymunedol wedi ei chwarae yn yr holl ymdrech frechu. Cryfder y ffordd yr ydym wedi gwneud pethau yng Nghymru yw ein bod ni wedi cael ffordd aml-ddimensiwn o ddarparu'r brechlyn, drwy ofal sylfaenol, drwy fferyllfeydd cymunedol, drwy ganolfannau brechu torfol, drwy ganolfannau brechu symudol.

Yr hyn yr ydym ni wedi ceisio ei wneud yw dau beth, rwy'n credu. Un ohonyn nhw yw graddnodi'r mecanwaith cyflawni i ddaearyddiaeth rhan benodol o Gymru, ac yna, yn ail, graddnodi'r ddarpariaeth i'r gwahanol grwpiau oedran yr ydym yn eu targedu, a darparu cyfleoedd i frechu mewn ffordd sy'n bodloni amgylchiadau bywyd gwahanol grwpiau oedran. Ac yn hynny o beth, mae fferylliaeth gymunedol wedi chwarae rhan bwysig iawn, a gwn y bydd yn rhan o'r repertoire cymysg o ddarparu brechlynnau ar gyfer y dyfodol wrth i ni geisio parhau i sicrhau ein bod yn darparu cynigion brechu mewn ffordd sydd fwyaf cyfleus, fwyaf hygyrch, ac yn fwyaf rhwydd i bobl mewn trefn—ac, unwaith eto, rwy'n diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd, ac ategaf yr hyn a ddywedodd—er mwyn i ni sicrhau bod y nifer fwyaf posibl o bobl yn cael eu brechu yng Nghymru.

Diogelwch ar Drenau

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar drenau yn ystod y pandemig? OQ56708

Wel, diolch yn fawr i Siân Gwenllian, Llywydd. Mae'r pandemig COVID wedi creu heriau mawr i bob gweithredwr trenau. Mae diogelwch staff a theithwyr yn hollbwysig. Mae cydbwyso galw, capasiti a diogelwch yn her ddyddiol, wrth i gymdeithas ddod mas o lefelau blaenorol o gyfyngiadau.

14:35

Mae etholwyr yn Arfon yn deall pam bod caffis a llefydd bwyta yn gofalu bod eu cwsmeriaid yn cadw pellter cymdeithasol ac yn cadw at brotocolau olrhain a chysylltu. Ac mae hynny wrth gwrs yn ofynnol o dan y gyfraith, er mwyn atal lledaeniad COVID. Ond dydy fy etholwyr i ddim yn deall pam nad oes canllawiau tebyg ar drenau Trafnidiaeth Cymru, lle does yna ddim pellhau cymdeithasol ar gerbydau, a dim track and trace ar waith, ac felly mae yna berygl gwirioneddol bod y feirws yn cael ei ledaenu ar draws y wlad. Fedrwch chi gynnig esboniad am y gwahaniaeth yma, os gwelwch yn dda?

Wel, fe allaf i dreial, wrth gwrs. Achos mae'r cyd-destun yn wahanol. Ac mae'r pethau y mae Siân Gwenllian wedi eu codi am y profiadau y mae pobl yn Arfon wedi eu cael, wrth gwrs dwi'n ymwybodol o hynny—dwi wedi gweld beth sydd wedi digwydd. Ac mae'r rhain yn heriau ymarferol anodd iawn. Mae teithwyr ar drenau yn gyfnewidiol iawn, gyda theithwyr yn ymuno ac yn gadael y trên ym mhob gorsaf, ac mae hwnna'n hollol wahanol i gaffis, onid yw e? A beth mae'r bobl sy'n rhedeg y system yn treial ei wneud yw asesu nifer o bethau sy'n creu risg yn y system. Fe fyddai hi'n bosibl i redeg rhagor o drenau, a thrwy hynny leihau gorlenwi, ond byddai hynny yn golygu gorfod cwtogi ar y drefn lanhau bresennol, sydd ei hun yn lleihau'r risg o heintio, yn enwedig gyda'r staff sy'n gweithio ar y trenau. So, does dim atebion syml. A beth dwi'n siŵr amdano yw, mae pob un sy'n gweithio yn y maes yn gweithio bob dydd i dreial rhedeg y system mewn ffordd sy'n cadw pobl yn ddiogel—pobl sy'n gweithio yn y maes, pobl sy'n teithio ar drenau hefyd, a'i wneud e mewn sefyllfa sy'n heriol iawn, pan dŷn ni'n treial ailagor cymdeithas. Ni'n treial ffeindio mwy o bosibiliadau i bobl, a phan fydd pobl yn teithio mewn niferoedd sy'n codi, mae hynny'n heriol i bobl sy'n rhedeg y systemau sydd gyda ni.

Prif Weinidog, hoffwn gytuno â chi ar yr union beth a ddywedasoch—fy mod yn cymeradwyo'r holl weithredwyr trafnidiaeth sydd wedi bod yn gweithio o dan amgylchiadau mor anodd. Ond rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cael £70 miliwn i helpu i dalu costau gweithredu yn ystod y pandemig. Mae'n ychwanegol i'r £153 miliwn o gyllid brys a ddarparwyd i Trafnidiaeth Cymru y llynedd. A allech chi ddweud wrthyf, Prif Weinidog, faint o'r cyllid hwn oedd ac sydd ei angen ar gyfer mesurau diogelwch ar drenau, megis ymbellhau cymdeithasol, hysbysiadau newydd, glanhau a glanweithdra ychwanegol? A hefyd, Prif Weinidog, pryd ydych chi'n disgwyl gwybod faint o arian ychwanegol y bydd ei angen ar Trafnidiaeth Cymru i dalu costau gweithredu wrth i gyfyngiadau leihau yn 2021-22? Diolch.

Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol pwysig yna, ac yn wir am dynnu sylw at y miliynau o bunnau y bu'n rhaid eu buddsoddi, nid yn unig i gadw'r system trenau yn ddiogel, ond i gadw'r system trenau yn rhedeg o gwbl. Pe byddai'r system trenau, yn ystod y 15 mis diwethaf, wedi gorfod dibynnu ddim ond ar y derbyniadau—yr arian y mae'n ei gael gan y cyhoedd sy'n teithio—yna ni fyddai trên wedi bod yn rhedeg yn unman yng Nghymru. Ac eto, gwyddom pa mor hanfodol yw cludiant cyhoeddus i gynifer o'n cyd-ddinasyddion. Felly, rwy'n credu mai £177 miliwn a ddarparwyd y llynedd i gadw'r rheilffyrdd i weithio, ac mae'r Aelod yn iawn fod £70 miliwn arall wedi ei nodi yn y gyllideb atodol gyntaf y byddwn yn ei darparu i barhau i gefnogi'r system, hyd at yr hydref. Ac mae'n union fel y dywedodd yr Aelod. Wrth gwrs, mae'n cefnogi'r holl fesurau diogelwch hynny sy'n cael eu gweithredu bob dydd, ond mae hefyd yn cefnogi sylfaen refeniw syml y system, tra bod nifer y teithwyr yn dal i gael ei gyfyngu oherwydd yr argyfwng iechyd y cyhoedd.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn hefyd, Llywydd, y bydd hi'n yn debygol y bydd yn rhaid i ni ddarparu cymorth ychwanegol i'n system cludiant cyhoeddus—trenau a bysiau—y tu hwnt i'r hydref i ganiatáu iddyn nhw ehangu nifer y teithwyr y gallan nhw eu cario yn ddiogel a pharhau i weithredu o dan y cyfyngiadau parhaus a ddaw yn sgil coronafeirws. Byddwn yn gweithio ar hynny gyda'r diwydiant, a byddwn yn cyflwyno cynigion pellach yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn. Yn y cyfamser, mae gan y system yr hyder sy'n dod drwy wybod bod cyllid ychwanegol wedi ei nodi a fydd yn eu helpu i barhau i weithredu o nawr hyd at yr hydref.

14:40

Prif Weinidog, cyfarfûm yn ddiweddar â Trafnidiaeth Cymru i drafod gwasanaeth rheilffordd Treherbert. Rwy'n gwybod pa mor anodd y bu hi i gymudwyr a staff Trafnidiaeth Cymru gyda llai o wasanaethau a'r angen i gadw pellter cymdeithasol. Gadewais y cyfarfod yn teimlo'n optimistaidd. Mae cynlluniau ar y gweill i gynyddu nifer y cerbydau a'r gwasanaethau o fis Medi ymlaen. Felly, y penwythnos diwethaf, roeddwn yn siomedig iawn o dderbyn cwynion gan drigolion y Rhondda a oedd wedi eu gadael yng Nghaerdydd oherwydd bod gwasanaethau'n cael eu canslo heb ddarparu cludiant arall yn ôl adref. A wnaiff y Prif Weinidog gyfarfod â mi a Trafnidiaeth Cymru i fynd i'r afael â'r problemau ar reilffordd Treherbert, ac i drafod cynlluniau ar gyfer safle Barics Pentre a gaffaelwyd yn ddiweddar gan Trafnidiaeth Cymru?

Wel, Llywydd, diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am y cyfarfod yr oedd hi wedi'i gael a'r cynlluniau sydd gan Trafnidiaeth Cymru mewn gwirionedd ar gyfer gwasanaethau ychwanegol. Bwriedir i'r gwasanaethau ychwanegol, gan gynnwys gwasanaethau i Dreherbert, ddechrau ddiwedd mis Awst, fel eu bod ar waith cyn ailddechrau'r tymor ysgol ym mis Medi.

Edrychwch, rwy'n deall yn iawn y rhwystredigaeth a deimlwyd gan bobl a gafodd eu dal yn yr hyn a oedd yn fethiant signalau o amgylch gorsaf Caerdydd Canolog yn hwyr nos Sadwrn diwethaf, ond un o'r pethau technegol hynny ydoedd. Methodd signal, nid oedd trenau'n gallu rhedeg, ac, er bod Trafnidiaeth Cymru wedi ymdrechu i ddod o hyd i wasanaethau bysiau newydd ar rybudd byr iawn, dim ond dau o'r 16 bws yr oedden nhw wedi eu harchebu yn wreiddiol oedd yn gallu cyrraedd ar yr adeg pan oedd angen i bobl deithio ymhellach i ffwrdd, ac erbyn i fwy o fysiau gyrraedd roedd llawer o bobl wedi gwneud eu ffordd eu hunain adref, a gwn fod Trafnidiaeth Cymru wedi ymddiheuro i bobl yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i'r hyn a oedd yn fater technegol na ellir ei ragweld.

Rwy'n falch iawn bod yr Aelod wedi sôn am Trafnidiaeth Cymru yn prynu safle Barics Pentre. Bydd hynny'n galluogi cau'r groesfan reilffordd yno, yr aseswyd ei bod yn un o'r croesfannau risg uchaf ar lwybr Cymru, a bydd safle Barics Pentre hefyd nawr yn gallu cael ei ddefnyddio fel iard adeiladu ar gyfer parhau â'r rhaglen trawsnewid y metro. A byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Trafnidiaeth Cymru gyfarfod â'r Aelod i ymchwilio ymhellach i rai o'r datblygiadau hynny a'r materion y mae hi wedi eu nodi yn ei chwestiwn y prynhawn yma.

Cymorth i Fusnesau

6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i fusnesau y mae ymbellhau cymdeithasol wedi effeithio arnynt yn ystod y pandemig? OQ56712

Wel, diolch i'r Aelod am hynny, Llywydd. Drwy gydol y pandemig, rydym wedi darparu £5.7 miliwn o gyllid i gefnogi busnesau canol trefi yn uniongyrchol i wneud addasiadau i fodloni gofynion ymbellhau cymdeithasol.

Diolch, Prif Weinidog. Mae llawer o fusnesau wedi ailagor yn dilyn y cyfyngiadau symud diwethaf. Maen nhw wedi gwneud hynny gyda llai o gapasiti. Mae hyn yn ddieithriad yn golygu llai o incwm. Rwyf wedi cael sylwadau gan stiwdio ioga yn Nwyrain De Cymru sydd wedi ailagor yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, ond dim ond traean o'u cleientiaid arferol maen nhw'n gallu eu croesawu drwy'r drws. Mae eu gorbenion yn aros yr un fath. Cawsant fenthyciad adfer y llynedd, a chawsant gymorth gan y Llywodraeth ym mis Mawrth eleni. O ganlyniad i hyn i gyd, maen nhw ar fin cau, gyda dim ond £100 yn eu cyfrif busnes ddiwedd yr wythnos diwethaf. Mae lleoedd sy'n annog ffordd iach ac egnïol o fyw yn hanfodol ar gyfer llesiant ac iechyd corfforol a meddyliol da. Sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi busnesau fel y stiwdio ioga yn fy rhanbarth i, i oroesi'r heriau economaidd a ddaw yn sgil ymbellhau cymdeithasol?

14:45

Wel, Llywydd, a gaf i gydnabod yn llwyr yr heriau sy'n cael eu hachosi i fusnesau na allant weithredu yn y ffordd y bydden nhw wedi'i wneud oni bai am yr angen i amddiffyn eu defnyddwyr rhag y risgiau y mae'r coronafeirws yn eu hachosi i staff ac i ddefnyddwyr fel ei gilydd? Rwy'n falch bod y busnes wedi gallu elwa ar rywfaint o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr Aelodau wedi gweld bod Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi swm ychwanegol o arian yn benodol i helpu'r busnesau hynny sy'n parhau naill ai i beidio â gallu gweithredu o gwbl, neu i weithredu dan yr amgylchiadau y mae Mr Griffiths newydd eu hamlinellu. A bydd mwy o help gan Lywodraeth Cymru wrth i'r argyfwng hwn barhau ac wrth i fusnesau geisio dychwelyd at allu masnachu yn y ffordd yr oedden nhw'n gallu'i wneud ar un adeg. Yn y cyfamser, i fynd yn ôl at gwestiwn gwreiddiol yr Aelod, mae'r holl fuddsoddi ychwanegol hwnnw y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu yn golygu, drwy'r addasiadau ffisegol hynny—y seddi awyr agored, yr awniadau, yr addasiadau ar y stryd, y llefydd gweini awyr agored, y cysylltiadau trydanol—yr holl bethau niferus hynny yr ydym wedi gallu cynorthwyo busnesau â nhw yng Nghymru, gan gynnwys yn rhanbarth yr Aelod ei hun, yn golygu bod busnesau wedi gallu addasu i'r amgylchiadau newydd hynny ac o leiaf fasnachu i'r graddau mwyaf posibl sy'n gymesur â'r peryglon parhaus y mae'r coronafeirws yn eu darparu.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Gweinidog busnes, mae'n ddigon hawdd i'r Gweinidog addysg gyhoeddi, i'r wasg yn gyntaf, newid seismig yn y ffordd y mae addysg yn ymdrin â'r argyfwng mwyaf iddynt orfod ei wynebu—gan gyhoeddi'r newid enfawr hwn o ran cyfrifoldeb ac unrhyw gyfle o gael y bai am gael gwared ar y masgiau, y swigod a'r pellter cymdeithasol i ysgolion unigol. A allai'r Gweinidog ofyn i'r Gweinidog wneud datganiad brys ar lawr y Siambr hon, yn hytrach na briff i'r wasg, yn amlinellu sut yn union y bydd yn sicrhau na fydd loteri cod post yn digwydd nawr o ran darparu addysg yng Nghymru?

Ac yn sgil y cyhoeddiad hwnnw hefyd, Llywydd, a gaf i ofyn i'r Gweinidog perthnasol am eglurder brys ynghylch gwisgo masgiau, gyda phwyslais arbennig ar y safiad ar fasgiau mewn ystafelloedd dosbarth, lle mae cynghorwyr gwyddonol y Llywodraeth ei hun wedi dweud eu bod yn gwneud mwy o niwed nag o les? Sut y gall y Llywodraeth hon ddweud wrth bawb eich bod yn cael eich arwain 100 y cant gan wyddoniaeth, ac yna'n symud atebolrwydd o ran gwneud penderfyniadau ar rywbeth yr ydych chi'n honni ei fod mor bwysig, fel gwisgo masg, i bobl nad ydynt yn ymwybodol o'r un cyngor gwyddonol? Nid yw hyn yn deg i benaethiaid ein hysgolion. Ac fe fyddwn i hefyd yn rhybuddio bod hyn yn anfon neges ddryslyd i'r cyhoedd yng Nghymru, ynghylch a oes gwir angen cadw at y cyngor gwyddonol. A gaf i annog y Gweinidog i gael rhywfaint o eglurder gan y Gweinidog ynglŷn â'r newid hwn ar y llawr hwn yn y Siambr hon? Diolch.

Rwy'n credu bod y cynadleddau i'r wasg—ac fe wnaethoch chi gyfeirio at gynhadledd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i'r wasg ddoe—wedi bod yn dda iawn o ran rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd, y bobl y mae'r pandemig COVID-19 yn effeithio fwyaf arnynt, a'r rheoliadau yr ydym ni wedi'u rhoi ar waith, ac mae'r Gweinidog yn dod gerbron y Siambr hon y rhan fwyaf o wythnosau mewn cysylltiad â'i bortffolio.

O ran masgiau mewn ystafelloedd dosbarth, unwaith eto, fel Llywodraeth, nid yn unig rydym wedi cyflwyno'r penderfyniadau a wnaed; rydym wedi sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r rhesymau pam y gwnaed y penderfyniadau hynny, ac rwy'n siŵr y bydd arweinydd yr wrthblaid yn ymwybodol o hynny. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi cael cyfarfodydd gyda'n prif gynghorydd gwyddonol a'n prif swyddog meddygol pan ydym wedi gwneud y penderfyniadau hynny, a'r wyddoniaeth y tu ôl iddyn nhw. Felly, mae'r dystiolaeth honno a'r wyddoniaeth honno yn bendant ar gael.

Hoffwn i godi mater y bydd y Trefnydd yn gyfarwydd ag ef yn ei rôl weinidogol. Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, mae Gweinidogion tebyg iddi hi yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gweithio gyda phartneriaid yn y sector i greu rhaglen dal a rhyddhau—catch and release—ar gyfer y tiwna glas, yr Atlantic bluefin tuna, sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn y moroedd o gwmpas sir Benfro a Cheredigion yn ddiweddar, sydd yn newyddion da, wrth gwrs. Mae rhaglenni tebyg sy'n cyfuno gwyddoniaeth forol a physgota masnachol wedi dod â buddion deublyg o ran casglu data ar y naill law a chreu hwb economaidd i gymunedau arfordirol ar y llaw arall. Mae cynlluniau tebyg eisoes mewn grym mewn llefydd fel Sweden, Denmarc a Gweriniaeth Iwerddon. Yn anffodus, yng Nghymru rŷn ni ar ei hôl hi, ac mae'n ymddangos bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gadael partneriaid pwysig fel Ffederasiwn Pysgotwyr Môr Cymru allan o'r drafodaeth a allai ddod ag arbenigedd a gwybodaeth bwysig pe bydden nhw'n cael eu cyfle i gyfrannu. Felly, er fy mod i wedi ysgrifennu y bore yma at y Gweinidog yn amlinellu'r achos yn fwy manwl, a gaf i ar frys ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru cyn yr haf ar eu cynlluniau i gyflwyno rhaglen dal a rhyddhau a thagio—CHART—yng Nghymru? Gyda thymor y tiwna yn dechrau ym mis Awst, dŷn ni ddim am i'r llong hon hwylio ar draws y Deyrnas Unedig gyda Chymru'n cael ei gadael ar y lan, yn colli allan ar fuddion a allai fod yn enfawr i'n cymunedau glan môr. Diolch yn fawr.

14:50

Diolch. Nid wyf wedi gweld y llythyr y gwnaethoch ei ysgrifennu ataf i y bore yma. Ond rwy'n gwybod bod rhywfaint o gyngor yn aros amdanaf ar fy nesg i fyny'r grisiau y byddaf i'n sicr yn ei glirio cyn diwedd yr wythnos hon, a byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n ysgrifennu at yr Aelod gydag ymateb i'w lythyr, gyda fy mhenderfyniad.

A gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Llywodraeth ynghylch cladin ar adeiladau? Yn Nwyrain Abertawe ac ardal SA1, mae cladin gan sawl adeilad ac mae nifer fawr o unigolion yn bryderus iawn am y gost o gael gwared arno a gwneud yr adeiladau'n ddiogel. Rwy'n gwybod bod y broblem hon hefyd yn bodoli mewn etholaethau eraill, gan gynnwys Gorllewin Abertawe a Chaerdydd—nid wyf eisiau eu rhestru oherwydd mae'n debyg y byddaf yn cael rhywfaint ohonynt yn anghywir. Ond mae angen help ac ateb ar bobl i ymdrin â'r broblem hon. Mae pobl yn cael nosweithiau di-gwsg. Rydym ni'n sôn yn aml am y niwed i iechyd meddwl pobl. Os oes gennych chi adeilad gwerth £100,000 neu £150,000 ac rydych yn sylweddoli nad yw'n werth dim bellach ac rydych yn dal i dalu amdano, ni allaf feddwl am unrhyw beth gwaeth i effeithio ar eich iechyd meddwl. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cael datganiad o'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, a pha drafodaethau y maen nhw'n eu cael â San Steffan, oherwydd mae yna lawer o bobl sy'n poeni'n fawr iawn am hyn.

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ac, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon eisiau sicrhau bod adeiladau uchel mewn sefyllfa dda i amddiffyn bywydau os, yn anffodus, y bydd tân yn digwydd. Wrth gwrs, nid cladin yw'r unig bryder ynghylch adeiladau preswyl uchel. Yr hyn a wnawn ni fel Llywodraeth yw argymell dull cyfannol o adfer adeiladau, ac mae hynny hefyd yn cynnwys systemau rhybuddio am dân, gwacáu adeiladau a llethu tân. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog y Gweinidog Newid Hinsawdd a'i swyddogion yn gweithio i ddatblygu rhaglen ariannu sydd wedi'i chynllunio i dargedu'r gefnogaeth gywir ar gyfer mater cymhleth ond pwysig iawn.

O ran eich cwestiwn ynghylch Llywodraeth y DU, rwy'n ymwybodol, fel Llywodraeth, ein bod ni eisoes wedi ymrwymo £32 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am unrhyw gyllid canlyniadol yn dilyn eu cyhoeddiad diweddar.

Hoffwn i ddechrau drwy ddatgan fy muddiant fel cynghorydd sir ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae gan y gogledd enw eithriadol o dda am ddarparu digwyddiadau o'r radd flaenaf a bod yn gyrchfan o'r radd flaenaf. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi datblygu strategaeth ddiwylliant arloesol newydd sy'n rhoi diwylliant wrth wraidd yr holl ddatblygiadau economaidd ac adfywio, gan fanteisio ar bopeth y mae gan y diwylliant hwnnw i'w gynnig. Yn sicr, fel chi, roeddwn i wrth fy modd o weld bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwneud cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025, a bydd y cais hwn yn creu cysylltiadau ledled Conwy a ledled y gogledd, rhwng cymunedau gwledig a threfol, rhwng cenedlaethau hŷn ac iau, a rhwng ein mynyddoedd a'r môr. Gyda Chonwy wrth y llyw ac yn gweithio gyda phartneriaid ledled y gogledd, byddai ennill gwobr Dinas Diwylliant y DU yn sicrhau manteision hirdymor i Gymru gyfan a byddai, unwaith eto, yn rhoi ein gwlad ar y radar rhyngwladol am y rhesymau iawn. Byddwn i'n croesawu datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu ei chefnogaeth i gais Conwy i sicrhau teitl Dinas Diwylliant y DU ac i glywed sut y byddai'r Llywodraeth yn gweithio gyda'r awdurdod lleol i sicrhau ein bod ni'n llwyddiannus yn y cais hwn. Diolch yn fawr iawn.

14:55

Diolch. Wel, o wybod hanes y digwyddiadau y llwyddodd cyngor Conwy i'w cyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maen nhw'n bendant wedi bod yn eithriadol ac, yn sicr, byddaf yn gofyn i Weinidog yr Economi gyflwyno datganiad ysgrifenedig.

Dau gais sydd gen i i'r Llywodraeth, yn ymwneud â'r un pwnc, a dweud y gwir. Yn y lle cyntaf, buaswn yn gofyn yn garedig i'r Trefnydd i sicrhau bod y Prif Weinidog yn ysgrifennu at Gymdeithas Bêl-droed Cymru i longyfarch carfan pêl-droed cenedlaethol Cymru ar yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni yn yr Ewros. Mae yna wastad ychydig o rwystredigaeth, efallai, y gallem ni, ar ddiwrnod arall, fod wedi mynd ychydig yn bellach yn y gystadleuaeth, ond pan fyddwn ni'n gweld rhai o'r timau honedig fawr sydd hefyd wedi mynd allan yn yr un rownd â ni, dwi'n meddwl ein bod ni mewn cwmni da, ac mae hynny'n ein hatgoffa ni, efallai, o ba mor dda mae'r garfan wedi gwneud a'n bod ni i gyd, wrth gwrs, yn falch iawn o'r hyn maen nhw wedi ei gyflawni. 

A gaf i hefyd ofyn i'r Llywodraeth ysgrifennu at UEFA i ofyn iddyn nhw beidio â mabwysiadu'r un fformat mewn cystadlaethau yn y dyfodol, oherwydd mae wedi creu annhegwch y tro yma—y ffaith, wrth gwrs, fod rhai gwledydd wedi gorfod teithio miloedd lawer o filltiroedd i gyflawni eu gemau nhw, tra bod yna wledydd eraill, wrth gwrs, wedi teithio dim o gwbl gan eu bod nhw wedi chwarae eu gemau grŵp i gyd gartref? Mae hynny wedi rhoi mantais annheg i rai gwledydd ac wedi creu anfantais annheg i wledydd eraill, ac mae hynny yn erbyn ysbryd y gystadleuaeth, yn fy marn i. Mi fyddai llythyr gan y Llywodraeth at UEFA yn mynegi hynny ar ran, efallai, y Senedd yma ac yn sicr ar ran cefnogwyr pêl-droed Cymru a charfan bêl-droed Cymru, yn rhywbeth y buasem ni'n ei werthfawrogi. 

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch cyflawniadau sgwad Cymru o ran cyrraedd yr 16 olaf am yr eildro—rwyf wedi aros erioed i'r sgwad gyrraedd twrnamaint mawr am y tro cyntaf, dim ond iddyn nhw wneud hynny ddwywaith. A phe byddai rhywun wedi dweud wrthyf ychydig wythnosau'n ôl y byddem ni'n mynd allan o'r twrnamaint yr un pryd â Ffrainc, byddwn i wedi credu y byddem o leiaf wedi cyrraedd y rownd gynderfynol. Felly, rwy'n credu, fel y dywedwch chi, eu bod nhw wedi gwneud gwaith gwych. Ac roedd yn rhwystredig iawn ddydd Sadwrn, ond fe wnaethom ni i gyd fwynhau'r daith i gyrraedd yr 16 olaf hyd at ddydd Sadwrn diwethaf. Felly, yn sicr, byddaf i'n gofyn i'r Prif Weinidog ysgrifennu at Gymdeithas Bêl-droed Cymru, os nad yw eisoes wedi gwneud hynny.

Rwy'n credu bod eich ail bwynt ynghylch yr annhegwch—. Yn sicr, pan fydd gennych chi dwrnamaint sy'n mynd o gwmpas 11 o wledydd, nid wyf i'n bersonol yn gweld pam y dylai unrhyw wlad chwarae gartref. Ac, fel y dywedoch, roedd yn annheg iawn nad oedd rhai gwledydd wedi teithio o gwbl—rhai a oedd yn chwarae heno—ac fe deithiodd ein gwlad ni, rwy'n credu, 5,500 milltir. Felly, yn sicr, os yw UEFA yn mynd i'w gymryd i fwy nag un wlad, rwy'n credu bod angen rhywfaint o gydraddoldeb na welwyd y tro hwn, yn bendant.

Trefnydd, rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad ddoe, os ydych chi wedi cael eich brechu yng Nghymru, y gallwch chi lawrlwytho pàs COVID Cymru ar-lein er mwyn dangos, i bwy bynnag sydd angen gwybod, eich bod chi wedi eich diogelu gan ddau bigiad. Ac mae hyn yn ymddangos i mi yn enghraifft dda iawn o sut yr ydym ni'n defnyddio deallusrwydd artiffisial a data ar-lein i sicrhau nad ydym yn defnyddio adnoddau gweithwyr iechyd proffesiynol ar gyfer rhywbeth y mae modd ei wneud yn electronig. Felly, mae hynny'n beth ardderchog. Tybed a oes modd inni gael datganiad gan y Gweinidog iechyd ar y trefniadau ar gyfer tystysgrifau brechu i'r rhai sydd wedi cael un pigiad yng Nghymru a'r llall yn Lloegr. Mae llawer iawn o fy etholwyr i sydd, er enghraifft, yn astudio yng Nghaerdydd ond yn byw yn Lloegr neu rywle arall, ac mae angen inni sicrhau nad ydynt yn gyndyn o gael y brechiad cyn gynted â phosibl am eu bod yn wynebu'r cymhlethdod o fethu â gallu dangos eu bod wedi cael dau bigiad. Felly, byddai hynny'n wych, os gallem gael y datganiad hwnnw—byddai datganiad ysgrifenedig yn iawn. 

Yn ail, nid yw'r pandemig wedi diflannu, ac mae llawer o gyfyngiadau o hyd ar y rhyddid i symud. Nid wyf i'n sôn am wrthwynebiad y Swyddfa Gartref i geiswyr lloches, ond am yr argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n ei gwneud yn ofynnol inni reoli'r rhyddid i symud o un wlad i'r llall. Mae ysgolion iaith yn fy etholaeth i wedi cael eu heffeithio’n fawr, yn amlwg, gan anallu myfyrwyr tramor i ddod i astudio Saesneg yma. Nid oes ganddyn nhw unrhyw gwsmeriaid o gwbl, ac roedd ganddyn nhw rai o'r blaen. Felly tybed a gawn ni ofyn i Weinidog yr economi ystyried, yn hytrach na rhoi grantiau i sefydliad na all weithredu dan y model busnes arferol, y byddai modd eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau i bobl yn y wlad hon y mae angen Saesneg arnyn nhw, dosbarthiadau ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill—er enghraifft, pobl sydd wedi cael statws ffoadur yn ddiweddar—fel y gallan nhw ddod yn aelodau llawer mwy effeithiol yn economaidd o'n cymuned. Yn yr un modd, rwy'n credu y gallech chi gael yr un gyfatebiaeth ar gyfer cerddorion, dyweder, nad yw'n hyfyw yn ariannol iddynt gynnal cyngherddau, oherwydd y cyfyngiadau ar niferoedd mewn unrhyw le penodol, ond sydd yn amlwg yn meddu ar sgiliau gwych ac y gallem fod yn eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau mewn ysgolion neu mewn cartrefi gofal neu rywle arall.

15:00

Diolch, Jenny, am y ddau bwynt hynny. O ran eich pwynt cyntaf ynglŷn â'r gallu i gael yr ardystiad ar-lein, rwy'n credu, fel yr ydych chi'n ei ddweud, fod croeso mawr iddo. Ac fel y gwyddoch chi, mae'r Gweinidog iechyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn wythnosol o ran pandemig COVID-19, felly byddaf yn gofyn iddi ystyried rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ei diweddariad wythnosol nesaf.

O ran eich cwestiwn ynghylch Saesneg fe ail iaith ac ysgolion iaith, mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd ac ansicr, fel yr ydych chi'n ei ddweud, i fusnesau ac yn amlwg i'r diwydiant addysgu Saesneg yn ei gyfanrwydd. Rydym yn cefnogi busnesau sydd—. Yn amlwg, byddai busnes fel hwnnw'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes, er enghraifft, ac unrhyw grantiau cysylltiedig yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, ac, wrth gwrs, mae gennym ni'r gronfa cadernid economaidd, sy'n unigryw i Gymru. I unrhyw fusnesau sydd â throsiant o lai na £85,000 sy'n gymwys ar gyfer y rownd ddiweddaraf o'r gronfa gadernid economaidd—ac mae'n gyfle da i ddweud hyn heddiw—mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yfory, felly efallai y byddai modd eu hannog i wneud cais erbyn yfory ac, fel arall, mae gennym ni arian gan Fanc Datblygu Cymru y gallan nhw fanteisio arno hefyd. Fe ddylwn i dynnu sylw at borth pontio'r UE a phorth Busnes Cymru ar gyfer cyngor hefyd.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar fesurau i annog pobl i newid i gerbydau trydan yma yng Nghymru? Mae cynllun grant Llywodraeth y DU ar gyfer ceir, faniau a thryciau trydan wedi'i ddiweddaru i dargedu modelau llai costus ac adlewyrchu amrywiaeth ehangach o gerbydau fforddiadwy i bobl. Mae hyn yn caniatáu i gyllid y cynllun fynd ymhellach a helpu mwy o bobl i newid i gerbyd trydan. O 18 Mawrth, bydd Llywodraeth y DU yn darparu grantiau o hyd at £2,500 ar gyfer cerbydau trydan neu geir sy'n costio dan £35,000. Cafodd y grant ceir trydan ei gyflwyno 10 mlynedd yn ôl i ysgogi'r farchnad gynnar ar gyfer cerbydau di-allyriadau. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog pobl yma yng Nghymru i newid i gerbydau trydan? Diolch.

Diolch. Rwy'n gwybod bod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd—ac yn sicr, yn nhymor diwethaf y Llywodraeth, Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth—rywfaint o gyllid sylweddol wrth symud ymlaen i sicrhau bod y seilwaith ar waith, oherwydd, wrth gwrs, nid oes angen i bobl newid i geir trydan heb gael y seilwaith hwnnw ar waith, felly mae cyllid sylweddol wedi mynd gan Lywodraeth Cymru tuag at hynny. Nid wyf yn gwybod a ydym yn ceisio efelychu'r cynllun y gwnaethoch chi gyfeirio ato gan Lywodraeth y DU, ond byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod os felly.

Gweinidog, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ceisio sicrhau £5 miliwn o'i gronfeydd wrth gefn ar gyfer yr ardal leol, wrth inni ddod allan o'r pandemig. Rydym ni i gyd yn gwybod bod cynghorau ledled Cymru wedi dangos arweiniad ac arloesedd lleol yn ystod y pandemig, ac, wrth inni ddod allan ohono nawr, a fyddai'r Gweinidog yn trefnu datganiad i'r Senedd archwilio sut y byddai modd manteisio ar gapasiti llywodraeth leol i gydweithio'n agosach er mwyn sbarduno ein hadferiad economaidd? Diolch.

Diolch, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod fod awdurdodau lleol wedi gweithio'n eithriadol o galed ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, nid yn unig yn ystod y pandemig, ond cyn y pandemig. Ac maent wedi camu ymlaen i'n helpu ni gyda'n profi, olrhain, diogelu a dosbarthu parseli bwyd. Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn y Siambr ac mae wedi clywed eich cais ac mae'n fodlon darparu datganiad arall.

Diolch i'r Trefnydd. Dyma ni, felly, yn cyrraedd diwedd yr eitem yna, ac fe fyddwn ni nawr yn cynnal egwyl fer er mwyn gwneud newidiadau yn y Siambr.

15:05

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:05.

15:15

Ailymgynullodd y Senedd am 15:16, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwygio ein Hundeb

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Prif Weinidog: diwygio ein hundeb. Galwaf ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Wel, Dirprwy Lywydd, rydw i'n ddiolchgar am y cyfle i wneud y datganiad hwn heddiw. Rydym ni'n cyhoeddi dogfen 'Diwygio ein Hundeb' ar ei newydd wedd, dogfen sy'n cynnwys ein cynigion ymarferol ar gyfer llywodraethu ar y cyd yn y Deyrnas Unedig. Cafodd hon ei chyhoeddi yn gyntaf gennym yn 2019.

Rydw i wedi dweud sawl gwaith cyn hyn, yn ystod yr etholiad y mis diwethaf, ac wedi hynny, fod y Llywodraeth Cymru hon yn credu mewn undeb cryf a llwyddiannus. Mae uniad gwirfoddol o wledydd sy'n gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth yn dda i Gymru. Ar yr un pryd, mae'r Deyrnas Unedig ar ei hennill fod Cymru yn un o'r partneriaid hynny sy'n rhan ohoni hi. Mae ein dinasyddion ni'n cael budd go iawn o'r bartneriaeth honno. Rydym ni'n elwa ar rannu adnoddau ac ar ein hanes cyffredin o gynnydd cymdeithasol. Mae'r Deyrnas Unedig wedi bod yn beiriant pwerus ar gyfer ailddosbarthu adnoddau, a gall fod eto.

Nawr, Dirprwy Lywydd, pan fydd yr undeb yn gweithredu yn y ffordd honno—creu'r GIG, sefydlu isafswm cyflog, pasio Deddf priodas gyfartal—mae hynny'n cryfhau'r berthynas sy'n ein rhwymo ni gyda'n gilydd. Yn anffodus, mae Llywodraeth bresennol y DU yn feunyddiol yn methu o ran helpu i gyflwyno'r achos dros undeb o undod rhwng pobloedd y wladwriaeth amlwladol hon a'r holl fanteision y gall yr undeb eu cynnig i ni. Canlyniad hynny, fel y dywedodd Syr David Lidington, y cyn ddirprwy Brif Weinidog ddwy flynedd yn ôl, mewn darlith fis diwethaf, yw bod yr undeb, meddai ef,

'mewn mwy o berygl nawr nag ar unrhyw adeg arall yn ystod fy oes i.'

Nawr, Llywydd, mae'r sefyllfa honno'n gwneud yr achos dros ailgyhoeddi 'Diwygio ein Hundeb' yn fwy arwyddocaol byth.

Yn ystod tymor hwn y Senedd, fe fydd yn rhaid i'r Aelodau fynd i'r afael â chyfres o gwestiynau cyfansoddiadol, fel effaith protocol Gogledd Iwerddon, a bwriad datganedig Llywodraeth yr Alban i gynnal refferendwm arall ar annibyniaeth i'r Alban. Nawr, Dirprwy Lywydd, fe ddywedir byth a beunydd wrthyf i nad oes neb yn codi'r materion hyn ar garreg y drws, ac mae hynny'n wir o ran theori gyfansoddiadol bur, ond fel mater o ganlyniad ymarferol, mae'n sicr yn bwysig eu hystyried ac mae'n gwneud gwahaniaeth i bob un o'n cyd-ddinasyddion ni bob dydd, boed hynny'n gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru sy'n ceisio allforio i Ogledd Iwerddon neu'n deuluoedd sy'n ceisio cyfiawnder mewn system llysoedd y mae'r cyn Arglwydd Brif Ustus Arglwydd Thomas wedi dod i'r casgliad ei bod yn achos siomiant iddynt. Ac mae hynny'n golygu fod yna her o ran arweinyddiaeth i bob plaid a phob Aelod unigol o'r Senedd hon wrth fynd i'r afael o ddifrif â'r materion cymhleth a heriol hyn.

Nid yw haeriadau syml bod annibyniaeth yn cynnig ateb hud a lledrith i ddatrys pob problem yn ddigonol i ateb yr her honno. Ond mae'r rheini nad oes ganddynt fwy i'w gynnig na chwifio'r faner a chanu'r anthem Brydeinig yn fwy euog byth. Ni chaiff y Deyrnas Unedig ei hachub gan symbolaeth wag fel hyn. A llai byth y gellir ei diogelu gan gythruddion bwriadol Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, trwy ddileu pwerau a chronfeydd, diystyru confensiwn Sewel dro ar ôl tro, na mynd trwy'r holl bethau dinistriol sy'n deillio o'r ymddygiad unochrog ymosodol sy'n aml yn nodwedd rhy amlwg o Lywodraeth bresennol y DU.

Ond, Dirprwy Lywydd, nid oes raid iddi fod fel hyn, fel y dengys 'Diwygio ein Hundeb'. Mae'r ddogfen hon yn ailedrych ar ein cynigion ni ar gyfer Teyrnas Unedig lwyddiannus a chadarn ac yn eu mynegi nhw o'r newydd. Mae'n rhoi'r dadleuon hyn yn y cyd-destun newydd a ddaeth i fodolaeth oherwydd digwyddiadau ers ei chyhoeddiad gwreiddiol ym mis Hydref 2019: ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, etholiad cyffredinol, y profiad o ddelio â phandemig byd-eang, gwaith y grŵp ffederaliaeth radical, sefydlu confensiwn cyfansoddiadol i'w lywyddu gan y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown, a'n hetholiad ni yng Nghymru ym mis Mai eleni. Ac er gwaethaf y llwyfan cymhleth a chystadleuol ar gyfer ei lansiad, yn ei hanfod, mae 'Diwygio ein Hundeb' yn nodi fformiwla ar gyfer undeb a all dyfu a ffynnu, nid er gwaethaf datganoli, ond oherwydd datganoli.

Mae'n cychwyn o'r cynnig radical ond syml fod sofraniaeth, bron 25 mlynedd ers dechreuad prosiect datganoli, wedi cael ei gwasgaru erbyn hyn ymysg pedair deddfwrfa etholedig y Deyrnas Unedig. A bod y Deyrnas Unedig yn gallu parhau i fodoli, nid oherwydd bod un corff sofran yn San Steffan, sy'n gallu gwrthdroi popeth y mae pobl yn y pedair gwlad yn penderfynu arno, ond oherwydd, fel mae'r grŵp diwygio cyfansoddiadol hynod nodedig hwnnw'n ei awgrymu, bod pobloedd y Deyrnas Unedig wedi dewis parhau i gronni eu sofraniaeth a diogelu'r hawliau cymdeithasol ac economaidd y mae dinasyddion ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig wedi eu hennill—wedi brwydr galed—iddyn nhw eu hunain.

Nawr, pan gaiff y cynnig canolog hwn ei amgyffred fe fydd yna lawer yn deillio o hynny: sefydlogrwydd datganoli, ac eithrio drwy benderfyniad gan bobl Cymru yn ein hachos ni; ail-lunio'r ffin ddatganoledig, neilltuedig; codio a lleihau cwmpas confensiwn Sewell; diwygio ac ymwreiddio peirianwaith newydd gan lywodraeth i ddod â'r pedair gwlad at ei gilydd at ddibenion cyffredin; a threfniadau newydd yn lle fformiwla Barnett, yn seiliedig ar angen a dirymu gallu mympwyol y Trysorlys sy'n llesteirio'r setliad presennol o hyd.

Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i ddweud eto heddiw, fel y gwneuthum yn 2019, nad yw'r 20 cynnig a nodir yn ein dogfen ni'n cael eu cyflwyno ar y sail eu bod yn cynnwys yr atebion i gyd. Cyhoeddi'r ddogfen yw ein cyfraniad ni i'r ddadl, dadl na ellir ei hosgoi ac sydd ag angen dirfawr amdani. Yn hyn o beth, bydd Llywodraeth Cymru yn nodi cyn toriad yr haf sut rydym am fynd ati i ymgysylltu'n uniongyrchol â chymdeithas sifil a dinasyddion Cymru ynglŷn â'r materion hyn, ac fe fydd 'Diwygio ein Hundeb' ar gael bellach ar ei ffurf ddiweddaraf i lywio'r ddadl hon.

Dirprwy Lywydd, hoffwn orffen ar nodyn gobeithiol. Rydw i wedi fy argyhoeddi yn ddi-os ei bod hi'n bosibl adnewyddu ac adfywio ein hundeb mewn ffyrdd a fydd yn caniatáu iddo ffynnu ar gyfer y tymor hwy. I wneud hynny, bydd angen meddwl yn ofalus, defnyddio ein dychymyg a chydweithio. Rhaid inni weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth, a rhaid inni barchu ein gilydd, pob un.

Ni ddylai'r rhai sy'n credu ym manteision yr undeb ei gymryd yn ganiataol. Mae'n rhaid cyflwyno'r achos cadarnhaol dros y Deyrnas Unedig, a'i gyflwyno unwaith eto, dro ar ôl tro. Dylai'r achos hwnnw fod yn seiliedig ar gapasiti ar gyfer diwygio, a rhaid edrych tua'r dyfodol. Rhaid inni beidio â chamu nôl i'r gorffennol, na gwneud y camsyniad amlwg fod y system bresennol yn gweithio'n dda. Mae'r achos cadarnhaol hwnnw yn cael ei gyflwyno yn y ddogfen rydym ni'n ei chyhoeddi heddiw. Rydw i'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ymateb iddi yn yr un ysbryd. Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr.

15:25

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, diolch am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Mae'n eironig, braidd, pan ddihunais i y bore yma ac edrych ar y penawdau ar WalesOnline a gwefan y BBC, a gweld bod Llywodraeth Cymru yn cyhuddo Llywodraeth y DU o anwybyddu Senedd Cymru mewn dull ymosodol, ac wrth imi edrych heddiw ar drefn y cyfarfod a gweld nad oes datganiad addysg yma, er gwaethaf, yn amlwg, y gynhadledd i'r wasg a gynhaliwyd ddoe gan y Gweinidog addysg, ac nid oes datganiad wedi bod gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â mynd i'r afael ag amseroedd aros. Y rhain yw'r materion mawr y mae pobl yn awyddus i siarad â mi amdanynt, fel Aelod o'r Senedd hon. Rwyf i o'r farn mai'r rhain yw'r materion y dylem ni fod yn canolbwyntio arnynt, yn hytrach nag ar ddadl gyfansoddiadol a thrafodaeth chwe wythnos yn unig ar ôl yr etholiad—neu saith wythnos ar ôl yr etholiad.

Ond, chi yw'r Llywodraeth, a chi sydd â'r hawl i bennu busnes y dydd, ac rydym ni'n trafod ac yn dadlau yn ôl busnes y dydd. Mae'n ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru, dro ar ôl tro, yn sôn am bwerau sydd wedi cael eu dihysbyddu. Fe fyddwn i'n falch o gael gwybod pa bwerau sydd wedi cael eu dwyn oddi ar y sefydliad hwn, yn eich barn chi, wedi refferendwm a dadl Brexit. Nid wyf i fy hunan erioed wedi clywed Gweinidog yn dod ymlaen ac yn dweud beth sydd wedi ei ddwyn.

Fe fyddwn i'n falch o gael deall pam hefyd, yn eich datganiad ysgrifenedig, yr ydych yn sôn am Dorïaid o blith y rhai a ddaeth i mewn i'r Senedd yn 2021 yn chwifio llieiniau sychu llestri. A yw hynny'n helpu'r ddadl mewn gwirionedd? Rwy'n cytuno â chi o ran y Goruchaf Lys, Tŷ'r Arglwyddi, a chysylltiadau rhynglywodraethol, ond nid wyf yn cytuno â chi pan gaiff rhywbeth sarhaus ei fynegi fel hyn.

Mae'n rhaid i'r ddadl o blaid yr undeb gael ei mynegi a'i dadlau a'i thrafod trwy'r amser. Y rhaglen frechu, y buddsoddiad o £8.2 biliwn, dwy Ddeddf Llywodraeth Cymru: mae'r rhain yn ddatblygiadau cadarnhaol yn y ddadl gyfansoddiadol. Ond, nid ydym yn derbyn bod angen datganoli cyfiawnder troseddol a phlismona. Yn wir, pan edrychodd comisiwn Silk ar hynny, roedd yn dweud y byddai hynny'n costio £100 miliwn. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gost pe byddai'r pwerau hyn yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru, oherwydd mae'r ffigur hwnnw bron yn 10 mlwydd oed erbyn hyn?

Rwy'n awyddus i gael dadl adeiladol gyda Llywodraeth Cymru o ran newid cyfansoddiadol a datblygu. Ond, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni ganolbwyntio ar faterion ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd, addysg a'r economi yn ein gwlad wych ni o ddydd i ddydd. Rwy'n credu'n angerddol fod yr undeb yn well undeb o fod â Chymru gref yn rhan o'r undeb hwnnw, ac rwy'n credu, fel y dywedais i, fod yna ddadl i'w chael ynghylch y Goruchaf Lys, Tŷ'r Arglwyddi, a chysylltiadau rhynglywodraethol. Ond, ni fydd y Llywodraeth hon yma ym Mae Caerdydd yn llwyddo wrth siarad am chwifio Jac yr Undeb ar lieiniau—neu Dorïaid yn chwifio llieiniau sychu llestri—nodaf na wnaeth y Prif Weinidog ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw yn ei anerchiad i'r Senedd heddiw, ond mae yno yn ei ddatganiad ysgrifenedig. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar am atebion i'r cwestiynau hyn a ofynnais iddo.

Ond, gallaf gadarnhau, o'r meinciau hyn, ein bod ni'n ymfalchïo yng Nghymru, ein cenedl wych ni, o fewn y Deyrnas Unedig ac yn angerddol yn ei chylch, ac fe fyddwn ni'n dadlau'n gyson o blaid ei lle hi o fewn y Deyrnas Unedig, mewn undeb cryf o genhedloedd, sy'n gyfartal ac yn uchel eu parch. Nid ydym ni o'r farn fod y ddadl y mae Llywodraeth Cymru yn ei herlyn o ran mater cyfiawnder troseddol yn un sy'n gyfredol nac yn un y mae pobl Cymru yn dymuno ei gweld yn digwydd, ond rwy'n credu y gellir gweld cynnydd mewn meysydd eraill.

15:30

Rwy'n diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei gyfraniad ef. Dechreuodd drwy ddweud y byddai'n well gan bobl Cymru inni siarad am addysg a'r gwasanaeth iechyd, ac eto i gyd, rwy'n nodi, pan gafodd ef gyfle i ofyn cwestiynau i mi, ei fod ef wedi dewis peidio ag ymdrin â'r naill fater na'r llall. Yn wir, ni allaf i ond nodi, yn ystod yr wythnosau sydd wedi mynd heibio ers yr etholiad erbyn hyn, nad yw wedi dewis gofyn cwestiwn imi am y pandemig byd-eang sy'n parhau i ddal ei afael ar Gymru. Felly, gwneud dewisiadau yr ydym ni i gyd, ac mae arweinydd yr wrthblaid yn gwneud ei ddewisiadau yntau.

Nid wyf i'n cytuno ag ef o ran ei awgrym cyffredinol na ddylem ni ganolbwyntio cymaint ar faterion cyfansoddiadol. Nid oes gennym ni ddewis ond canolbwyntio arnyn nhw. Rydym ni'n ymdrin â nhw bob dydd. Pan fyddaf i'n cyfarfod, fel y gwnaf i'n wythnosol, â Michael Gove ac arweinwyr y Seneddau eraill yn y DU, rwy'n gweld gyda mwy o fanylder pa mor fawr yw'r straen sydd ar Ogledd Iwerddon, a'r effaith y mae protocol Gogledd Iwerddon yn ei chael ar y berthynas rhwng y Llywodraeth yno a'r Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig.

Fe etholwyd Llywodraeth yr Alban ar gynsail refferendwm arall ar annibyniaeth i'r Alban. Pe byddai hynny'n digwydd, fe fyddai'n digwydd yn ystod tymor y Senedd hon. Sut allem ni beidio â mynd i'r afael â'r materion hynny yn y fan hon os ydym ni o ddifrif yn eu cylch nhw? Rwy'n siŵr bod arweinydd yr wrthblaid o ddifrif yn ei ymrwymiad ef i barhad y Deyrnas Unedig. Y pwynt yr wyf i'n ceisio ei wneud y prynhawn yma yw na fyddwn ni'n gallu cyflwyno'r achos hwnnw os na threuliwn ni rywfaint o amser nawr yn ystyried sylwedd yr achos hwnnw. Fe fydd yn rhaid inni berswadio pobl ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig ei bod er eu lles nhw i barhau i fod yn perthyn i'r Deyrnas Unedig. Ni fyddwn ni'n gwneud hynny heb gynnal y dadleuon i'w hargyhoeddi nhw o hynny, ac i'r diben hwnnw y cynlluniwyd ein dogfen ni. Fe'i cynlluniwyd i ddangos bod yna ffordd arall o drefnu'r Deyrnas Unedig a fyddai, yn fy marn i, yn meithrin achos cymhellol dros ei pharhad hi. Ni fyddwch chi'n meithrin yr achos hwnnw drwy ddwyn penderfyniadau oddi ar y Senedd a etholwyd i'w gwneud nhw.

Os na all yr Aelod feddwl am un, gadewch imi roi'r tri hyn iddo. Fe benderfynodd Llywodraeth y DU ein dihysbyddu ni o'r pwerau sydd gennym i lunio cynllun iawndal ar gyfer pysgotwyr yma yng Nghymru. Cafodd hynny ei ddatganoli inni ers dechrau datganoli, ac eto, yn ystod y cyfnod ar ôl Brexit, yn hytrach na'n bod yn gallu cynllunio system a fyddai'n addas i Gymru, ac yna'n defnyddio cyllid i weithredu'r cynllun hwnnw, fe benderfynodd Llywodraeth y DU mai hi sy'n llunio'r cynllun i Gymru, ac roedd hynny'n osgoi unrhyw graffu yma yn y Senedd drwy weithredu felly. Mae Llywodraeth y DU yn aml yn bygwth—roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud hynny dim ond yr wythnos diwethaf—gorfodi porthladd rhydd ar Gymru heb unrhyw gytundeb gan Lywodraeth Cymru. Ac i fod yn glir, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dweud y byddwn ni'n barod i gytuno ar borthladd rhydd ar y telerau a nodir gennym ni yn ein llythyr dyddiedig fis Chwefror y llynedd, llythyr na chafwyd ateb iddo byth.

A dyma'r drydedd enghraifft iddo: anwybyddu barn ddiamwys y Senedd hon o ran confensiwn Sewel—nid dim ond nawr o ran materion gwladol pwysig. Er nad wyf i'n cytuno â defnydd Llywodraeth y DU o gonfensiwn Sewel, gallaf o leiaf ddeall pam mae'n teimlo bod angen iddi wneud felly yn yr amgylchiadau hynny. Ond yn ystod ein hetholiad ni yma, fe welsom enghraifft o fater arferol iawn, pryd y dylid bod wedi gofyn i'r Senedd hon am ei chydsyniad—gan fod hynny'n gyfleus i Lywodraeth y DU fe aeth ati a gweithredu beth bynnag, heb i hynny gael ei roi gerbron yr Aelodau yn y fan hon fel sy'n ofynnol yn y setliad cyfansoddiadol. Dyna ddiffyg parch i'r setliad datganoli heb falio dim, sydd wedi mynd yn nodwedd o feddylfryd Llywodraeth bresennol y DU. Mae hyn yn difrodi datganoli, mae'n difrodi'r Deyrnas Unedig.

Mae yna well ffordd na honno. Mae ein dogfen ni'n ei nodi, nid am fod yr holl atebion gennym eisoes, ond am ein bod ni'n credu mewn dadl sy'n ddifrifol. Fe gefais fy nghalonogi gan rai o'r pethau a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am ei ymrwymiad ef i'r ddadl ddifrifol honno. Ni fynegais i'r sylwadau a ailadroddodd ef sawl gwaith yn ei gwestiynau, oherwydd mae pob datganiad y mae Gweinidog yn y Llywodraeth yn ei wneud yn nodi 'gwiriwch yn ôl y traddodi' ar ei ddiwedd. Roedd yr Aelod yn gwirio, ac eto i gyd nid oedd wedi ystyried y byddai'n dilyn yr hyn a ddywedais yn hytrach na dogfen nad oeddwn i wedi ei defnyddio. Fe benderfynais i ymatal rhag defnyddio'r ymadrodd hwnnw am rai o'r rhesymau a amlinellodd ef ei hun.

Gadewch inni obeithio, ar draws y Siambr, y gallwn ni barhau i gael y trafodaethau hollol angenrheidiol hyn—y rhai ohonom ni sy'n credu bod achos i'w ddadlau o blaid y Deyrnas Unedig ond ni ellir gwneud hynny heb ei fod ar sail dyfodol amgen i ni, dyfodol sy'n ystyried ein buddiannau cyfunol ni mewn cymdeithas wirfoddol o genhedloedd—rwy'n dyfynnu Mrs May, ei Brif Weinidog Ceidwadol blaenorol ef—lle'r ydym ni'n aros gyda'n gilydd gan ein bod ni'n gwybod fod yr achos dros wneud hynny mor rymus.

15:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, ond gadewch imi ddweud wrthych yn fy marn i ble fydd y cynllun hwn sydd gennych yn dechrau dadfeilio. I mi, ym mrawddeg gyntaf un y rhagair y mae hynny. Y cwestiwn yr ydych chi'n ei ofyn yn y frawddeg gyntaf honno yw hwn: sut mae gwneud ein hundeb ni'n gryf ac yn gadarn? Siawns mai'r cwestiwn allweddol y dylai Prif Weinidog Cymru fod yn ei ofyn yw sut y gellir gwasanaethu buddiannau Cymru a buddiannau pobl Cymru yn y ffordd orau i'r dyfodol, sut y gallwn ni feithrin cenedl a all gyflawni dyheadau pobl Cymru yn y ffordd orau, a all gynllunio ar gyfer dyfodol tecach, mwy cyfiawn, mwy agored a mwy llewyrchus. Beth bynnag fo'r dadleuon a gyflwynwyd gennych chi ar yr ymylon, mae mynnu mai'r ffordd orau o wasanaethu ein dyfodol ni yw fel rhan o'r Deyrnas Unedig hon, doed a ddelo—y DU hon o anghydraddoldebau sefydledig, llwgrwobrwyo COVID, elitiaeth coleg Eton—a bod yn rhaid cadw'r DU hon wrth wraidd pob ateb cyfansoddiadol, ar wahân i fethu â deall cyflwr presennol y ddadl ar ddyfodol Cymru, yn anwybyddu'r dystiolaeth eglur na fydd Llywodraethau'r DU, o ba liw bynnag, byth yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf, neu'n wir prin y byddan nhw'n eu hystyried nhw wrth wneud rhai penderfyniadau allweddol.

Rydych yn dweud eich bod yn gwrthod yr hyn yr ydych chi'n ei alw yn ymddygiad unochrog ymosodol Llywodraeth y DU. Ond er y gallai'r Llywodraeth arbennig hon yn y DU, ie, fod yn fwy amlwg ei jingoistiaeth, ac yn fwy awyddus na llawer o Lywodraethau blaenorol i ddatgan rhyw fath o enedigaeth o'r newydd i'r ymerodraeth, y gwir amdani yw, hyd yn oed wrth i ddatganoli, y broses ei hun, flodeuo, fod gan Lywodraeth y DU y pŵer terfynol hwn bob amser i ymaflyd yn yr awenau yn unochrog. Rydym ni wedi gweld bod y Llywodraeth Geidwadol hon yn San Steffan bellach yn ceisio tanseilio Senedd a Llywodraeth genedlaethol Cymru mewn dull systematig. Ac i'r Ceidwadwyr yn y fan hon, mae dweud y byddai'n well ganddyn nhw fod yn siarad am iechyd ac addysg na chanolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol, ar wahân i'ch atgoffa chi eich bod wedi dewis treulio awr yr wythnos diwethaf yn siarad am y refferendwm Brexit bum mlynedd yn ôl, rwy'n eich atgoffa chi mai'r rheswm am hyn yw ein bod ni'n dymuno gallu gwneud penderfyniadau gwell o ran iechyd ac addysg a swyddi y mae angen inni fod â'r seiliau gorau i adeiladu'r genedl newydd hon arnyn nhw.

Prif Weinidog, mae eich adroddiad chi'n rhoi'r cyd-destun i ni—eich egwyddorion arweiniol, fel petai. Rydych chi'n dweud eich bod wedi credu bob amser yn undod pobl gwledydd cyfansoddol y DU. Rwyf innau hefyd yn credu yng ngrym yr undod hwnnw, mewn llawer ffordd. Ond fe all yr undod hwnnw fod ar sawl ffurf. Fe allai Cymru annibynnol hefyd—ac rwy'n meiddio dweud y byddai'n dymuno, rwy'n siŵr—fod yn rhan o gymdeithas ehangach o wledydd yr ynysoedd hyn, a'r tu hwnt o ran hynny, gan ddewis cydweithredu a chefnogi ei gilydd, mewn llu o ffyrdd gwirfoddol. Mae pobl fel fi'n cael eu galw'n ymneilltuwyr yn aml, ond nid dyhead i ymneilltuo oddi wrth unrhyw beth sy'n fy sbarduno i, nid wyf i'n cael fy ngyrru gan ddyhead i dorri pethau i fyny. Rwy’n ymddiddori mewn adeiladu pethau: meithrin Cymru newydd ac, wrth wneud hynny, meithrin perthynas newydd rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn a thu hwnt.

Mae angen inni gael dadl wirioneddol sydd heb fod yn gibddall. Mae hynny'n wir o ran dwy ochr y drafodaeth ar annibyniaeth. Ni ddylai unrhyw un dwyllo ei hun y bydd cymryd rheolaeth derfynol o'n tynged ni ein hunain yn beth hawdd iawn o'r cychwyn cyntaf. Fe geir heriau difrifol yn gysylltiedig â'r newidiadau mwyaf difrifol. Ond os ydych chi, Prif Weinidog, o ddifrif ynghylch meithrin awdurdod Cymru, mae'n rhaid ichi gofleidio pob dewis hefyd—a pheidio â bod yn gibddall—hyd yn oed os mai eich greddf chi, fel y gwyddom ni, yw ceisio cadw'r undeb.

Yr hyn sydd gennym ni yn yr adroddiad hwn yw ailysgrifennu cynigion blaenorol Llafur, ac mae gennych chi bob hawl i wneud hynny. Mae elfennau o'r hyn a gynigiwch yn gynigion yr ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn eu hybu ers blynyddoedd lawer fel modd i atgyfnerthu datganoli yn y byrdymor. Ond yn sicr, ar yr adeg hon yn ein taith genedlaethol, a chyda bygythiad mor wirioneddol â'r bygythiad o du Llywodraeth y DU i gywirdeb democratiaeth ein cenedl ni, ni allwn ganiatáu i hyn ddisodli'r math o ddadleuon y gwn i ein bod ni, fel cenedl, yn ddigon aeddfed i'w cynnal. Felly, gadewch inni beidio â thincera, a chan ein bod ni'n cynnig cyfrannu gyda'n gilydd at ailgynllunio'r hyn yr ydym yn ei adnabod nawr fel y DU, er ein lles ni i gyd, gadewch imi ofyn hyn i chi: beth am gael trafodaeth ar botensial Cymru annibynnol, hyblyg, deg ac uchelgeisiol yn flaenoriaeth inni, ac nid dim ond setlo i gadw'r DU doed a ddelo? 

15:40

Rwy'n diolch i Rhun ap Iorwerth am hynny. Nid wyf i am feirniadu'r Aelod am ddadlau achos ei blaid ef ei hun. Mae wedi gwneud hynny'n huawdl y prynhawn yma, ac mae ganddo bob hawl bosibl i wneud hynny. Ond yr hyn sydd gennyf i i'w ddweud wrtho ef yw hyn: fe ofynnodd pam nad ydym ni'n gweld y foment hon yn foment i ddechrau trafod y posibilrwydd a nododd ef. Mae'n rhaid imi ddweud wrtho ein bod ni newydd gael y foment honno; dim ond ychydig iawn o wythnosau yn ôl y daeth y foment honno. O stiwdio i stiwdio roeddwn i'n sefyll yn ymyl arweinydd ei blaid ef wrth i hwnnw roi'r posibilrwydd sydd newydd gael ei amlinellu gerbron pobl Cymru. Dro ar ôl tro, wrth wraidd ymgyrch y blaid honno oedd y posibilrwydd a'r prosbectws yr ydym ni newydd ei glywed. Honno oedd y foment i drafod hynny, ac fe gawsom ni ddyfarniad ar hynny gan bobl Cymru.

Dyna pam rwy'n credu nad hon yw'r foment i barhau i feddwl y dylem ni dreulio'r pum mlynedd nesaf yn siarad am gynnig na chaiff ei roi gerbron pobl Cymru. Yr hyn y dylem ni fod yn sôn amdano yw sut rydym am wneud y mwyaf o'r trefniadau sydd gennym, a dyna'r hyn y mae'r ddogfen hon yn ceisio ei wneud. Mae hwn yn brosbectws sylfaenol wahanol i'r un a nodwyd gan Rhun ap Iorwerth. Mae ef yn sôn am rym undod, ond mae'n debyg nad wyf i erioed wedi credu mai'r ffordd orau o arddangos grym undod yw drwy ymadael â rhywbeth. Rwyf i o'r farn eich bod yn dangos grym undod drwy aros ynddo a thrwy lunio dyfodol lle gallwn barhau i arddangos y pethau sy'n ein huno ni â'n gilydd, yn hytrach na'r pethau a all ein gwahanu ni. Mae hwnnw'n fater anos sydd â thaer ofyn amdano, oherwydd y Llywodraeth sydd gennym ni.

Fe ddywedodd llefarydd Plaid Cymru fod Llywodraethau'r DU bob amser wedi bod â'r gallu i ddadwneud penderfyniadau a ddatganolwyd i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fe wêl yn ein cynnig ni ein bod ni'n dweud na ddylai hyn ddigwydd, y dylid rhoi'r gorau i ymarfer yr hawl honno nawr. Ond hyd nes i'r Llywodraeth hon fod mewn grym, roedd pob Llywodraeth flaenorol wedi gweithredu gyda deddfiad ymataliol yn y cyswllt hwn. Rhoddodd pob Llywodraeth Lafur yn ystod degawd cyntaf datganoli fwy o bwerau, a mwy o gyfrifoldebau i'r Senedd, ac ni chymerwyd yr un pŵer yn ôl ac ni weithredwyd erioed yn erbyn unrhyw gynnig a basiwyd gan y Senedd hon dan gonfensiwn Sewel. Hyd yn oed pan oedd Mrs May yn Brif Weinidog, roeddem ni'n gallu dod i gytundeb â Llywodraeth y DU mewn trafodaethau dan arweiniad David Lidington, mewn ffordd a oedd yn osgoi rhai o'r peryglon y gallai'r ddau ohonom ni eu dirnad pe bai Llywodraeth y DU yn defnyddio'r pwerau a oedd yn ei meddiant. Dim ond ers mis Rhagfyr 2019 yr ydym ni wedi gweld Llywodraeth sy'n benderfynol o ddefnyddio'r pwerau hynny, a dyna pam mae cyhoeddi ein dogfen ni mor bwysig, oherwydd mae'n cynnig gobaith gwahanol i'r un a nodwyd gan yr Aelod, ac a oedd, fel y dywedais, wedi ei roi'n uniongyrchol iawn gerbron pobl Cymru ychydig wythnosau yn ôl ac wedi cael ei wrthod yn uniongyrchol iawn ganddyn nhw hefyd.

Rwyf i o'r farn fod yna sgyrsiau amgen i'w cael. Fe wn i y bydd yna Aelodau o'i blaid ef yn fodlon cael hynny. Nid oherwydd y cânt eu cludo i'r man delfrydol yn eu golwg nhw, ond am eu bod nhw'n cydnabod bod tir eto i'w ennill yn y cyfamser. Iddyn nhw, fe fydd honno'n sefyllfa dros dro; i eraill fe fydd yn rhywbeth mwy parhaol. Ond rwy'n dal i gredu bod y sgwrs yn un y byddai unrhyw un yn y Senedd hon sydd â diddordeb difrifol yn nyfodol y Senedd, ei lle hi yn y Deyrnas Unedig—unrhyw un sydd â diddordeb gwirioneddol yn dymuno ymrwymo i gael y sgwrs honno.

15:45

Fe hoffwn i allu gwneud yn siŵr bod pawb sydd wedi rhoi eu henwau i lawr yn cael cyfle i siarad, felly a gaf i eich atgoffa mai un munud sydd gennych chi? Ac yn y munud hwnnw gofynnwch eich cwestiynau, a pheidiwch â mynd dros eich munud, os gwelwch chi'n dda. Mike Hedges.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad. Mae gennyf i dri sylw a dau gwestiwn. Ni all undeb o bedair rhan weithio pan yw Lloegr rhwng pump a chwe gwaith yn fwy o faint na'r tair arall gyda'i gilydd. Mae'n rhaid i ddatganoli fod yr un fath ar gyfer pob gwlad a rhanbarth datganoledig, fel y mae yn achos taleithiau America a Länder yr Almaen, ond mae'n rhaid i ddatganoli beidio â diweddu yng Nghaerdydd.

Yr unig bobl hyd yma sydd â pholisïau cyson yw Plaid Cymru o ran annibyniaeth ac Abolish o ran dod â'r Senedd i ben, ac mae'r ddwy blaid am i hynny fod yn unig ddewis. Rwyf i wedi bod yn cefnogi 'devo-max' ers tro byd, ac rwy'n gwybod beth mae hynny'n ei olygu yn fy meddwl i, ond rwy'n siŵr bod gan eraill ddiffiniadau gwahanol o hynny, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen inni ddechrau ei drafod.

Y ddau gwestiwn yw: yn gyntaf, pa bwerau y mae angen eu cadw ar gyfer San Steffan? Ac a ellir cynhyrchu rhestr lawn a phwynt terfyn ar gyfer datganoli er mwyn eu trafod? Fel y dangoswyd gan Ogledd Iwerddon, fe ellir datganoli gwahanol bwerau ar wahanol adegau.

Yn ail, pa drafodaeth a gawsoch chi gyda meiri rhanbarthol yn Lloegr? A ddylem ni hefyd gynnwys arweinwyr siroedd mawr Lloegr fel y gallwn gael trafodaeth gydlynol ar ddatganoli, fel nad yw datganoli'n ymwneud â dim ond Lloegr fawr iawn a thri lle bach iawn arall?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n cynnig fy marn i ar gwestiwn cyntaf Mike Hedges, ond fy marn i yw honno, ac fe fydd pobl eraill yn amrywio. Rwyf i o'r farn mai aelod-wladwriaethau sydd fwyaf cymwys i gynnal materion tramor, fel y byddai wedi bod yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o amddiffyn a chynnal y lluoedd arfog yw ar sail y DU gyfan. Ac fel y nodais i mewn ateb cynharach y prynhawn yma, rwy'n credu bod system nawdd cymdeithasol sy'n symud arian ac adnoddau o amgylch y Deyrnas Unedig i'r lle y mae'r angen mwyaf yn rhywbeth sy'n cael ei weithredu orau yn y ffordd honno. Felly, dyna dair enghraifft, ac efallai y bydd gan bobl eraill rai eraill neu fwy na hynny.

O ran meiri rhanbarthol yn Lloegr, rwyf wedi cael cyfarfod diweddar gyda'r mwyafrif o bell ffordd o feiri rhanbarthol. Rwy'n credu bod Mike Hedges yn gwneud pwynt pwysig: nid ymwneud â'r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn unig y mae datganoli. Mae'n ymwneud â Lloegr hefyd. Mae mynd i'r afael â mater Lloegr a sut mae pobl yn Lloegr yn eu gweld nhw eu hunain o fewn yr undeb hwn yn rhan angenrheidiol a phwysig iawn o'r sgwrs hon.

Aeth wythnos arall heibio, mae ein heconomi ni dan bwysau, mae rhestrau aros y GIG dan bwysau, mae ein sector addysg ni dan bwysau, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn awyddus i wastraffu amser hanfodol yn siarad am ddiwygio pellach i'r undeb. Mae'n ddrwg gennyf i, ond mae gan fy etholwyr i, y Senedd hon a Llywodraeth Cymru faterion llawer pwysicach i ymdrin â nhw. Dros y blynyddoedd, mae mwy a mwy o bwerau wedi cael eu datganoli i'r lle hwn, mewn ymdrech i wella bywydau pobl Cymru a gwneud penderfyniadau yn nes adref. Mae mynnu mwy o bwerau a diwygio'r undeb, yn fy marn i, yn gamgymeriad difrifol.

Mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â'r materion y tynnais i sylw atynt yn gynharach, oherwydd dyna mae'r bobl yn dymuno inni fwrw ymlaen â'i wneud. Mae pobl Cymru wedi cael llond bol ar y gemau cyfansoddiadol hyn, ac mae cyflwyno dadleuon fel hyn, a datganiadau, yn llen fwg i fethiannau eich Llywodraeth chi. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi a'ch Llywodraeth ymrwymo nawr i dynnu'r freuddwyd gwrach hon oddi ar y bwrdd?

15:50

Rwyf i'n croesawu'r papur hwn—diolch yn fawr iawn i chi, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r papur hwn am ei fod yn ymwneud â busnes, yn ymwneud â bargeinion masnach sy'n effeithio ar ein ffermwyr a'n busnesau sy'n cael eu gwneud heb unrhyw fewnbwn oddi wrthym ni. Mae'r papur yn ymwneud ag iechyd a sut rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y pandemig hwn yn cael ei reoli. Mae'n ymwneud â Chymru ac mae'n ymwneud â dyfodol Cymru, a dyna pam mae'n bwysig.

Yr hyn yr wyf i am ei ofyn, Prif Weinidog, yw eich bod chi'n ystyried rhaglen o ymgysylltu â phobl Cymru. Rwy'n cytuno â chi, yn yr etholiadau diwethaf i'r Senedd, fod y rhan fwyaf o bobl wedi pleidleisio yn erbyn annibyniaeth, ond ni wnaeth llawer ohonyn nhw, yn enwedig y bobl ifanc. Roedd niferoedd mawr o bobl, yn sgil Yes Cymru, yn awyddus i roi ystyriaeth i annibyniaeth, neu â diddordeb yn hynny, ac felly fe fyddwn i'n croesawu'r cyfle i ymgysylltu ag ystod eang o bobl i sicrhau bod gennym Gymru gref a holliach o fewn y DU. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Jane Dodds.

Pleser oedd clywed cyfraniad difrifol i'r ddadl hon. Ac fe fydd fy nghyd-Weinidog Mick Antoniw yn cyflwyno cynigion pellach ynghylch sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen â'n hymrwymiad ni i gael sgwrs gyfansoddiadol ar gyfer Cymru. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Jane Dodds, sef bod yn rhaid i'r sgwrs hon fynd y tu hwnt i bleidiau gwleidyddol, mae'n rhaid iddi fynd y tu hwnt i'r bobl hynny sy'n rhan o'r sgwrs eisoes, ac mae'n rhaid iddi estyn allan i gymdeithas ehangach Cymru lle mae gan bobl ddiddordeb yn y pethau hyn. Rwyf i o'r farn mai diystyriol iawn, fel y gwnaeth yr holwr blaenorol, yw amddifadu pobl yng Nghymru fel pe na baent yn ddigon atebol i gymryd diddordeb yn eu dyfodol cyfansoddiadol eu hunain. Mae pobl o lawer o gefndiroedd, mewn llawer o sefydliadau ac, fel y dywedodd Jane Dodds, ein pobl ifanc ni hefyd, yn deall arwyddocâd yr hyn sydd yn y fantol yma, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at sgwrs sy'n eu cynnwys nhw mewn ffordd rymus i'n helpu ni i feddwl am y materion pwysig iawn hyn a'r hyn y maen nhw'n ei olygu i'w dyfodol nhw yn ogystal â'n dyfodol ni.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am eich cynllun chi.

Nid wyf yn amau eich didwylledd chi o gwbl, na didwylledd y Cwnsler Cyffredinol, ond eto i gyd cael eu gwrthod a wnaiff eich galwadau chi am hunanlywodraeth gan y Llywodraeth yn San Steffan, Llywodraeth sydd ag obsesiwn ynglŷn â chanoli pwerau. Drwy'r canrifoedd a thros y cyfandir, mae San Steffan wedi anwybyddu'r alwad am hunanlywodraeth nes ei bod yn rhy hwyr a hynny'n digwydd yn anochel—annibyniaeth—sefyllfa de facto y cenhedloedd yn y byd sy'n annibynnol erbyn hyn. Ac rwy'n ategu geiriau fy nghyd-Aelod Jane Dodds sef na chafodd annibyniaeth ei wrthod ar y papur pleidleisio. Prif Weinidog, rydych chi'n ymwybodol o ymgeiswyr yn eich plaid chi eich hun sydd o blaid annibyniaeth. Mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol, wrth gerdded o amgylch Gorllewin Caerdydd, o dai sydd â phosteri Yes Cymru yn ogystal â rhai Llafur ar eu ffenestri, ac o sylw Jane Dodds am lawer o bobl ifanc sydd â diddordeb yn hynny. Nid yw'r cynllun hwn yn mynd yn ddigon pell, Prif Weinidog. Fe ddylai ystyried lles ac fe ddylai ystyried yr hyn a fydd yn digwydd yn anochel sef y bydd y Llywodraeth Geidwadol yn gwrthod eich cynllun. A wnewch chi ystyried hynny, os gwelwch chi'n dda? Diolch yn fawr.

Wel, diolch i Rhys ab Owen hefyd.

Wel, mae e'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â sut y gellir datblygu'r cynllun hwn ymhellach, beth arall y gellid ei ychwanegu ato, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed ymhellach ganddo am y pethau hynny. Nid wyf yn credu, serch hynny, y bydd yn hyrwyddo ei achos ef ei hun os nad y'n barod i wynebu'r dewis uniongyrchol iawn a roddwyd i bobl Cymru yn ôl ym mis Mai, ac yn fy marn i, dyma'r dewis mwyaf amlwg yn holl hanes datganoli. Fel y dywedais i, fe fûm i'n sefyll mewn stiwdios teledu, ac ar y naill law imi roedd yno rywun yn dadlau dros ddiddymu datganoli yn gyfan gwbl, a diddymu'r Cynulliad yn gyfan gwbl, ac fe ddadleuodd ef ei achos i bobl Cymru. Ar y llaw arall imi roedd yno rywun a oedd yn ceisio perswadio pobl y dylid tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig yn gyfan gwbl, ac fe roddodd yr achos hwnnw wrth galon ei ymgyrch ef. Ac fe gollodd Plaid Cymru dir—nid ennill tir, fe gollodd dir yn yr etholiad hwn, ac nid wyf i'n credu y gallaswn i fod yn fwy eglur, dro ar ôl tro, mewn darllediadau, mewn taflenni, ar bob cyfle a gefais, i ddweud bod y Blaid Lafur yn sefyll dros ddatganoli grymus oddi mewn i Deyrnas Unedig lwyddiannus. Ac yn y pen draw, dyna oedd dewis pobl yng Nghymru, ac rwy'n credu bod angen hefyd i bobl ym Mhlaid Cymru fod yn barod i—. 'Agwedd gibddall', meddai Rhun ap Iorwerth.  Wel, mewn byd cibddall, yna rwy'n credu bod rhaid rhoi rhywfaint o ystyriaeth i hynny hefyd.

15:55

Beth bynnag yw ein barn ni, yr unigolion sydd yn y Siambr hon, boed hynny'n status quo, annibyniaeth, devo-max, diwygiad radical o'r undeb, nid oes unrhyw amheuaeth fod hwn yn ymyriad enfawr gan Lywodraeth etholedig yn y ddadl ynghylch diwygio cyfansoddiadol yma yng Nghymru, ond o ran sut y byddai hynny'n effeithio ar y DU yn ehangach hefyd. Ac fe geir rhai cynigion radical yn hyn o beth. Er nad yw'n mynd mor bell ag y byddai rhai'n ei ddymuno ac yn mynd yn rhy bell ym marn eraill, mae'r rhain yn gynigion difrifol nad oes gennyf i amser i'w rhestru'n llawn, ond corff goruchwylio annibynnol newydd ar gyfer cyllid; datganoli yn nodwedd barhaol na ellir ei dadwneud heb ewyllys pobl Cymru na'r Alban na Gogledd Iwerddon; Tŷ'r Arglwyddi i fod yn senedd, yn adlewyrchu rhannau daearyddol o'r DU, a Gweinidogion Cymru yn cael dweud eu dweud o ran cysylltiadau a masnach ryngwladol. Ond gadewch imi ofyn, yn fy unig gwestiwn i: rydym ni'n edrych ymlaen at fanylion ymgysylltiad y gymdeithas sifil yng Nghymru, ond beth am yr ymgysylltu â Thŷ'r Arglwyddi yn ei sefyllfa gyfredol, a'r pleidiau sydd â diddordeb cyfansoddiadol yn y fan honno? Oherwydd er nad yw Llywodraeth y DU yn awyddus i wrando ar hyn o bryd, Dirprwy Lywydd, mae'n ddigon posibl y byddan nhw'n dymuno gwrando a helpu i lunio dyfodol y DU, yn ogystal â Chymru, ar agenda o ddiwygio.

Dirprwy Lywydd, rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies am yr hyn a ddywedodd ef am ddifrifoldeb y ddogfen. Fe gyfeiriais i yn fy natganiad at y grŵp diwygio cyfansoddiadol. Aelodau Tŷ'r Arglwyddi yw aelodau'r grŵp hwnnw i raddau helaeth, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae yna waith difrifol iawn, iawn yn cael ei wneud gan bwyllgorau dethol yn Nhŷ'r Cyffredin, yn ogystal ag yn Nhŷ'r Arglwyddi. Efallai nad yw'r Llywodraeth yn gwrando eto, ond fe fydd yn rhaid i'r Llywodraeth hon wynebu gwirionedd yr hyn a wnaeth o ran Gogledd Iwerddon, a phryd y bydd Llywodraeth yr Alban yn dymuno cymryd ei mandad o ran cynnal refferendwm. A phan fydd yn rhaid iddi wynebu'r gwirioneddau hynny, o leiaf fe fydd yn gweld bod yna gronfa o waith. Mae hyn yn cynnwys y gwaith a wneir yma yng Nghymru, ond y gwaith sy'n cael ei wneud yn Nhŷ'r Arglwyddi hefyd, ac, fel y dywedais i, y tu allan i'r Llywodraeth yn Nhŷ'r Cyffredin. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies am ein parodrwydd ni i gymryd rhan yn y sgyrsiau hynny hefyd, ac mae cyhoeddi'r ddogfen hon yn rhan o hynny. Dyna pam rydym ni wedi gwneud hyn: er mwyn cael rhywbeth yno sydd wedi'i ddiweddaru ac sy'n cynrychioli cyflwr presennol meddylfryd Llywodraeth Cymru; a gall y rhannau eraill hynny o'n peirianwaith cyfansoddiadol ni sy'n barod i gymryd diddordeb difrifol yn hynny i gyd o leiaf wybod beth rydym ni'n ei feddwl, a sicrhau bod hynny'n rhan o'u hystyriaethau nhw wrth iddynt ddod i gyfrannu at y gronfa o syniadau y mae arnom ni eu hangen yn fawr iawn.

Prif Weinidog, yn y fersiwn ysgrifenedig o'ch datganiad llafar chi heddiw, fe wnaethoch gyfeirio at chwifio baner yr undeb gan rai o'm cyd-Aelodau yn y Senedd hon yn 'symbolaeth wag'. Y dyfyniad uniongyrchol oedd:

'Ni fydd y Deyrnas Unedig yn cael ei hachub gan y math o symbolaeth wag sydd, yn anffodus, wedi bod yn amlwg hyd yn oed yn ein trafodion ni ein hunain—Torïaid llieiniau sychu llestri 2021'—

meddech chi. Prif Weinidog, mae pobl ledled Cymru yn chwifio baner yr undeb oherwydd yr hyn y mae'n arwydd ohono: balchder yn y wlad yr ydym ni'n byw ynddi, ac nid yw hynny'n wahanol i'm cyd-Aelodau yn y Senedd yn gwneud yr un peth. Fe wn i, yn eich ateb chi i Andrew R.T. Davies, eich bod wedi ceisio ymbellhau oddi wrth fersiwn ysgrifenedig eich datganiad llafar, ond dogfen oedd honno a anfonwyd yn eich enw chi gan eich Llywodraeth chi, ac felly y chi sy'n gyfrifol am ei chynnwys. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, a ydych chi wedi myfyrio ar y sylwadau hyn ac a ydych chi o'r farn fod y bobl gyffredin hynny mewn cymunedau ledled Cymru sy'n teimlo balchder ym maner yr undeb yn ymhél â symbolaeth wag hefyd? 

16:00

Wel, Llywydd, dydw i ddim eisiau treulio fy mhrynhawn yn gorfod rhoi gwersi elfennol i aelodau newydd o'r wrthblaid am y ffordd y mae'r Senedd yn gweithio. Rwy'n gyfrifol am yr hyn yr wyf yn ei ddweud a'r hyn sydd ar Gofnod y Senedd. Os ydych chi eisiau gwybod beth yr wyf yn ei ddweud, dyna lle mae'n rhaid i chi fynd. Caiff Aelodau y fraint o gael copïau ymlaen llaw o'r hyn y gallwn i ei ddweud, ac mae'n dweud ar y gwaelod y dylech wirio hynny yn erbyn yr hyn a ddywedaf mewn gwirionedd. Nawr, rwy'n credu—. Gobeithio na fydd angen i mi ailadrodd hynny eto, oherwydd mae'n wers elfennol iawn ar y ffordd y mae'r lle hwn yn gweithredu.

Fe wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd: mai Llywodraeth yw hon sy'n ymddangos ei bod yn ymroi i wacter symbolau, sy'n credu, drwy chwifio baneri a pherswadio pobl y bydd corws o'r gân Brydeinig rywsut yn cadarnhau'r undeb—. Wel, rwy'n credu i hynny lwyddo o leiaf i uno pobl mewn ymdeimlad o ddirmyg tuag at y syniad hwnnw, mai dyma lefel y difrifoldeb y maen nhw wedi gallu ei fagu fel Llywodraeth sydd i fod i ysgwyddo'r cyfrifoldebau hynny.

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Gwarant i Bobl Ifanc

Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog yr Economi—gwarant i bobl ifanc. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae pobl a busnesau ledled Cymru wedi wynebu un o'r blynyddoedd anoddaf yn ystod cyfnod o heddwch. Yn fy swydd o fod yn Weinidog economi Cymru, fy mlaenoriaeth yw sicrhau ein bod, yn yr adferiad, yn rhoi'r cymorth cywir i unigolion a busnesau i helpu pob un ohonom i adeiladu Cymru decach, wyrddach a mwy ffyniannus.

O fewn hynny, mae angen i ni roi gobaith i bobl ifanc ar gyfer y dyfodol a sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu gadael ar ôl. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n cefnogi pobl ifanc i ennill y sgiliau a'r profiadau y bydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo, boed hynny mewn cyflogaeth, addysg neu drwy ddechrau eu busnes eu hunain.

Mae ein rhaglen lywodraethu wedi ymrwymo i ddarparu gwarant i bobl ifanc. Bydd hon yn rhaglen uchelgeisiol sydd â'r bwriad o roi cynnig o gymorth i bawb o dan 25 oed ledled Cymru i'w helpu gyda  gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth. Gyda'r warant hon, rwyf eisiau sicrhau nad oes cenhedlaeth goll yma yng Nghymru.

Mae gwarant i bobl ifanc yn rhan allweddol o'n hymdrechion i helpu pobl ifanc i fynd i mewn i fyd gwaith a llywio'u ffordd drwyddo. Rwyf wedi ymrwymo i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc i ddechrau a newid eu stori, gan gefnogi eu taith wrth iddyn nhw adael yr ysgol, wrth iddyn nhw symud i, neu adael, coleg neu brifysgol, a chefnogi'r rhai sy'n wynebu diweithdra neu hyd yn oed ddiswyddiadau.

Hoffwn gydnabod a diolch i'r llu o fusnesau, darparwyr hyfforddiant ac addysg sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi ein pobl ifanc i fyd gwaith a thrwy'r byd gwaith. Mae hyn yn cynnwys eu gwaith gyda ni ac eraill i gyflwyno rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru, hyfforddeiaethau, prentisiaethau, Busnes Cymru, Syniadau Mawr Cymru, ReAct, Kickstart, Ailgychwyn a'r Rhaglen Gwaith ac Iechyd. Mae gennym eisoes lawer o'r cydrannau y mae mawr eu hangen i roi'r sail i ni ar gyfer gwarant llwyddiannus i bobl ifanc. Fodd bynnag, bydd ymrwymiad i bob un o'n pobl ifanc 16 i 24 oed yn gofyn am ganolbwyntio o'r newydd ar gydgysylltu cyfleoedd, yn lleol ac yn genedlaethol.

Felly, heddiw, rwyf i eisiau rhannu a nodi'r camau cychwynnol y bwriadaf eu cymryd i sicrhau ein bod yn datblygu gwarant llwyddiannus i bobl ifanc. Ac mae'n bwysig nodi mai dim ond y camau cyntaf y byddwn yn eu cymryd yw'r rhain. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r rhaglen hon esblygu.

Yn gyntaf, rwy'n lansio galwad i weithredu ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, y trydydd sector, y sector preifat, y sectorau addysg a hyfforddiant, a chyda phartneriaid yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod i gyd yn chwarae ein rhan i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru, i sicrhau ein bod yn darparu'r cynnig gorau posibl i'n pobl ifanc.

Rydym eisiau i leisiau pobl ifanc fod wrth wraidd datblygiad ein gwarant. Dyna pam, dros yr haf, y byddaf yn cynnal sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc ac yn dechrau ymgynghori â phobl ifanc a rhanddeiliaid.

Yn drydydd, rwyf wedi gofyn i Cymru'n Gweithio fod yn borth i'n gwarant i bobl ifanc, i adeiladu ar eu model cryf a llwyddiannus eisoes o ddarparu cyfarwyddyd gyrfaoedd a chymorth cyfeirio. O 30 Medi eleni ymlaen, bydd ganddyn nhw dîm ar waith i ddechrau olrhain a monitro ein cynnig wrth iddo ddatblygu a chefnogi pobl ifanc.

Rwyf yn cydnabod tirwedd newidiol cyfleoedd cyflogaeth. Mae angen i ni ysbrydoli a chefnogi mwy o'n hentrepreneuriaid ifanc. Dyna pam y mae rhan o'n cynnig yn cefnogi pobl ifanc sydd ag uchelgais i ddechrau eu busnes eu hunain. Byddwn yn sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn cael gafael ar y cymorth cywir i'w helpu i oresgyn rhwystrau i ddechrau a chynyddu cynaliadwyedd mentrau newydd. Bydd Busnes Cymru, gyda chymorth wedi'i deilwra drwy Syniadau Mawr Cymru, yn rhoi'r cymorth hwn i bobl ifanc.

A bydd Cymru'n Gweithio yn dechrau cynllun arbrofol newydd i baru swyddi. Bydd y cynllun arbrofol hwn yn helpu pobl ifanc a gefnogir gan Cymru'n Gweithio i sicrhau cyflogaeth ac yn helpu cyflogwyr i lenwi eu swyddi gwag. Nawr, mae'r cynllun arbrofol hwn eisoes wedi dechrau ar sail gychwynnol yng ngogledd Cymru a Chaerdydd, a byddwn yn annog pob cyflogwr sydd â swyddi gwag yn yr ardaloedd hyn i gysylltu â Cymru'n Gweithio.

Gwyddom fod ein pobl ifanc yn allweddol i lwyddiant Cymru yn y dyfodol. Mae eu doniau, eu sgiliau a'u creadigrwydd yn hanfodol i sicrhau twf a chystadleurwydd ein gwlad. Fel gwlad, rydym yn dal i wynebu heriau enfawr nawr a phan fydd y pandemig ar ben o'r diwedd. Rwy'n falch o arwain y gwaith ar warant i bobl ifanc, ac rwy'n gobeithio y bydd y pleidiau ar draws y Siambr yn cefnogi nod y Llywodraeth hon i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll yma yng Nghymru. Diolch.

16:05

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Yn gyffredinol, rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, ac rwy'n croesawu sylw'r Gweinidog am sicrhau na chollir cenhedlaeth yn dilyn y pandemig a chytunaf ei bod yn hanfodol bod gan bobl ifanc y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer swyddi heddiw ac yn wir, ar gyfer y dyfodol. 

Nawr, er mwyn dechrau mynd i'r afael â maint yr her hon, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a darparwyr sgiliau ledled Cymru, ac rwy'n falch o weld galwad i weithredu ar draws pob sector, er efallai y gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am yr alwad hon i weithredu a pha fath o ymgysylltu fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf i sicrhau bod pob sector yn cydweithio er mwyn darparu'r cynnig gorau posibl i'n pobl ifanc.

Mae'r datganiad heddiw yn ei gwneud yn glir bod angen diwylliant o gydweithio â darparwyr sgiliau a chyflogwyr wrth ddatblygu gwarant i bobl ifanc, a dyna pam y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymrwymo i ymgynghoriad cynhwysfawr â'r rhai a allai wneud y cynllun hwn yn llwyddiant.

Nawr, mae'r datganiad heddiw hefyd yn cadarnhau mai Cymru'n Gweithio fydd y porth i'r warant hon, a chroesawaf eu swyddogaeth fel sefydliad cygysylltu canolog ar gyfer y warant. Rwy'n falch o weld bod y cynllun paru swyddi arbrofol wedi cychwyn yng ngogledd Cymru a Chaerdydd, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am ganlyniadau'r cynlluniau arbrofol hynny, gan ei bod yn hanfodol bod Cymru'n Gweithio yn cysylltu â busnesau i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gefnogi o ddifrif. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn dweud ychydig mwy wrthym ni am sut y bydd gwarant i bobl ifanc yn cael ei gwneud yn ddeniadol i fusnesau ym mhob rhan o Gymru a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu annog mwy o gyflogwyr i gymryd rhan yn y rhaglen yn y dyfodol. 

Nawr, gwyddom fod pandemig COVID-19 yn parhau i gael effaith economaidd anghymesur ar bobl ifanc ledled Cymru, a dangosodd adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod pryderon difrifol am bobl ifanc o ran rhagolygon swyddi a'r posibilrwydd o orfod talu mwy o dreth yn y dyfodol i dalu am y cynlluniau cymorth ariannol a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig. Yn wir, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod oddeutu 11,000 o bobl ifanc 16 i 18 oed a 36,000 o bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yng Nghymru. Felly, er bod y nod o gynnig hyfforddiant neu gyflogaeth i bob person ifanc yn ganmoladwy, mewn gwirionedd gall fod yn eithaf anodd ei gyflawni, ac felly mae'n hanfodol bod gwarant i bobl ifanc yn cael ei hariannu'n ddigonol i fynd i'r afael â maint yr her. 

Nid yw'r datganiad heddiw yn rhoi syniad i ni o lefel yr adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn ei neilltuo i'r warant, ond mae'n hanfodol bod y wybodaeth honno ar gael fel y gallwn graffu ar y gwariant hwnnw. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym faint yn union o arian a fydd yn cael ei neilltuo i sicrhau bod y cynllun hwn yn llwyddiant.

Dirprwy Lywydd, yr hyn sy'n allweddol i sicrhau llwyddiant y cynllun yw monitro ac adolygu effeithiolrwydd y warant yn rheolaidd, felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymrwymo heddiw ynghylch sut y mae'n bwriadu monitro cynnydd y cynllun yn y dyfodol a pha mor rheolaidd y mae'n bwriadu cyhoeddi data a gwybodaeth am ganlyniadau a'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun ymhlith pobl ifanc a busnesau ledled Cymru. Nawr, rydym wedi gweld gwarant i bobl ifanc ar waith yn yr Alban ac mae gwaith da yr wyf yn siŵr y gellir ei ddysgu o hynny, yn enwedig o ran sut mae Llywodraeth yr Alban yn ymgysylltu â'r gymuned fusnes a sut y mae'n sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chlywed wrth ddatblygu'r warant, ac efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym pa wersi y mae wedi eu dysgu o fodel yr Alban a sut mae hynny wedi llywio datblygiad y warant i bobl ifanc yma yng Nghymru.

Wrth gwrs, un gwahaniaeth rhwng model yr Alban a'r un yng Nghymru yw'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cynnwys hunangyflogaeth yn y warant i bobl ifanc. Mae data gan Dŷ'r Cwmnïau yn dangos bod dros 19,000 o gwmnïau newydd o Gymru wedi'u creu yn 2020 wrth i nifer cynyddol o unigolion benderfynu sefydlu eu busnesau eu hunain, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o hybu a chefnogi entrepreneuriaeth ledled Cymru. Nawr, mae'r datganiad heddiw yn sôn am swyddogaeth Busnes Cymru a chynllun Syniadau Mawr Cymru er mwyn darparu cymorth, er y byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am ei gynlluniau i gefnogi entrepreneuriaid ifanc a chynyddu cynaliadwyedd mentrau newydd.

Mae'n bwysig bod cyrhaeddiad y warant i bobl ifanc yn cael ei deimlo ledled Cymru, a gwn o gynrychioli etholaeth sy'n aml yn teimlo ei bod wedi ei hesgeuluso gan Lywodraeth Cymru nad yw holl gynlluniau'r Llywodraeth yn cael eu datblygu ledled y wlad. Mae'r datganiad heddiw yn sôn am sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc, ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am yr ymgynghoriad a sut y mae'n mynd i sicrhau bod barn pobl ifanc ym mhob rhan o Gymru yn cael ei chlywed, ac efallai y gwnaiff gadarnhau pa un a fydd gwybodaeth yn cael ei chasglu ar lefel awdurdod lleol fel y gellir cymryd camau pellach wedyn, os nad yw ardaloedd yn ymgysylltu.

Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad a dweud unwaith eto fy mod i'n gobeithio bod y warant i bobl ifanc yn llwyddiant? Rydym yn rhannu'r un uchelgais yn y fan yma, a hynny yw cyflawni ar gyfer ein pobl ifanc a sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant wrth i ni symud allan o'r pandemig. Ond mae'n rhaid cael cydweithrediad cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru, darparwyr addysg a sgiliau a'r gymuned fusnes i wneud y warant i bobl ifanc yn llwyddiant, ac mae'n rhaid i'r warant fod yn gynhwysol ac yn ymatebol i anghenion pobl ifanc sy'n byw ym mhob rhan o Gymru heddiw. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:10

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn deall, o ystyried nifer y cwestiynau y mae wedi eu gofyn, na fyddaf yn gallu ymdrin â phob un ohonyn nhw mewn un eisteddiad, neu fel arall ni fydd unrhyw siaradwr arall yn cael cyfle i gyfrannu, a byddaf yn trethu amynedd y Cadeirydd.

O ran eich pwyntiau ehangach am—[Torri ar draws.] O ran eich pwyntiau ehangach am randdeiliaid ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, mewn gwirionedd, dyma un o'r pethau sydd, yn fy marn i, yn gyfle gwirioneddol yn yr haf, felly mae gwneud datganiad cynnar yn ymwneud yn rhannol â'i gofnodi er mwyn i'r rhanddeiliaid hynny ymgysylltu'n fwy ffurfiol â ni. Rydym eisoes wedi gweld nifer o fusnesau sy'n frwdfrydig iawn ynghylch potensial y warant yn cysylltu cyn i mi wneud cynnig, ac rwy'n credu bod hynny'n galonogol iawn, mewn gwirionedd. Rydym eisoes wedi cael ColegauCymru—mae'r sector addysg bellach yn gweld bod ganddyn nhw yn bendant ran i'w chwarae; maen nhw eisiau ymgysylltu ar yr hyn y gallan nhw ei wneud i adeiladu ar yr hyn y maen nhw eisoes yn ei ddarparu—ac amrywiaeth o randdeiliaid o lywodraeth leol i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ac, wrth gwrs, i'r bobl ifanc eu hunain.

Ond rhan o'r rheswm y soniais am yr Adran Gwaith a Phensiynau yw bod ganddyn nhw swyddogaeth eisoes o ran darparu rhai cyfleoedd i bobl fynd i fyd gwaith, a'r hyn yr wyf eisiau ei sicrhau yw bod gennym ni ddull nad yw'n darparu dull anghyson, gan olygu ein bod yn gwneud pethau sy'n torri ar draws pethau y maen nhw yn eu gwneud ac i'r gwrthwyneb hefyd. Ac mewn gwirionedd, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn awyddus i wneud mwy ym maes cyflogadwyedd unwaith eto, felly rwyf eisiau sicrhau bod gennym ni ddull cydnaws. Felly, mae swyddogion yn cyd-dynnu'n dda iawn ac mae angen i ni sicrhau bod yr atebion cywir yn cael eu darparu i helpu pobl i fyd gwaith.

Ac ar eich pwynt am y cynllun paru swyddi arbrofol, ydw, rwy'n gobeithio y bydd y cynllun arbrofol hwnnw yn ein helpu i gyflwyno'n genedlaethol, oherwydd mae hwn yn gynnig cenedlaethol gwirioneddol. Mae gan Cymru sy'n Gweithio ôl troed cenedlaethol gwirioneddol; byddan nhw'n gallu ein helpu ar draws y wlad gyfan gyda phartneriaid eraill hefyd. Ond, mewn gwirionedd, mae angen i ni ddeall y cynllun arbrofol ac yna gweld a oes angen i ni ei wella ymhellach i'w gyflwyno ym mhob rhan o'r wlad, gan gynnwys wrth gwrs yn y gorllewin; nid oes angen i rannau eraill o Gymru ofni cael eu hanwybyddu.

Ac rwy'n credu bod rhywbeth yn y fan yma ynghylch adeiladu ar yr hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud i helpu pobl i fynd i fyd gwaith a'r hyn y gallwn ei wneud eisoes. Felly, mae gennym raglen eisoes gyda phrentisiaid ifanc, lle mae cyflogwyr eisoes yn cael cymorth ychwanegol i gyflogi prentisiaid iau. Mae gennym ni eisoes ein rhaglen ReAct a mwy; rydym mewn gwirionedd yn darparu cymhorthdal cyflog yn y flwyddyn gyntaf i bobl sy'n cael eu derbyn hefyd. Felly, mae gennym ni nifer o ysgogiadau a chyfleoedd yr ydym eisoes yn eu defnyddio, ac mae'n ymwneud â sut yr ydym yn adeiladu ar y rheini yn llwyddiannus i sicrhau nad ydym ond yn goddef nifer y bobl ifanc y tu allan i fyd addysg a hyfforddiant. Dyna pam y bydd angen i ni weithio ochr yn ochr â phobl sy'n gweithio cyn i bobl fod yn barod i ailymuno â byd addysg, hyfforddiant neu waith hefyd.

O ran eich pwyntiau bras am y gyllideb, mae adnoddau eisoes wedi eu rhoi yn y maes hwn ym mhob adran beth bynnag. Wrth i ni fynd drwy'r haf a bod gennym gynnig wedi ei ffurfio'n llawnach, byddaf yn gallu ei amlinellu yn well yn yr hydref, gan gynnwys eich pwynt ar sut yr ydym yn monitro llwyddiant, byddaf yn gallu dweud mwy am sut yr ydym yn ymrwymo gwahanol rannau o gyllidebau, nid yn unig o fewn fy adran i, ond mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru hefyd, i wneud hyn yn llwyddiant, ac fel bod pobl yn gallu gweld yn dryloyw sut y byddwn yn monitro'r llwyddiant hwnnw hefyd.

Mae fy swyddogion yn cael sgyrsiau rheolaidd â Llywodraethau ledled y DU, gan gynnwys Llywodraeth yr Alban, ac rwy'n siŵr y bydd yr SNP yn falch iawn o gael Torï Cymreig i ganmol peth o'u gwaith. Rydym yn edrych ar sut maen nhw wedi gwneud rhywfaint o hyn, i ddysgu o'r hyn sy'n gweithio, a dyna'r pwynt: peidio â phoeni am y gwahaniaeth ideolegol, ond deall beth sy'n gweithio, a sut, a byddwn yn gwneud hynny drwy sicrhau y ceir sgwrs ystyrlon gyda phobl ifanc. Bydd angen i hynny fod yn seiliedig ar y sefydliadau sy'n bodoli eisoes, felly byddai'n rhyfedd pe na byddem ni'n gofyn i Senedd Ieuenctid Cymru beth oedd eu barn, er enghraifft, ond hefyd i wneud rhywfaint o ymgysylltu pwrpasol â phobl ifanc mewn gwahanol rannau o'r wlad i ddeall rhai o'r gwahanol heriau, oherwydd gallai pobl ifanc yma yng Nghaerdydd y gallwn i fod yn eu cynrychioli, wynebu cyd-destun gwahanol i bobl sy'n byw, er enghraifft, ar benrhyn Llŷn, neu yn rhan yr Aelod o Gymru hefyd.

Yn olaf, ar y pwynt hwnnw am ymgynghori, rwy'n disgwyl i hyn beidio â chael ei wneud mewn ffordd draddodiadol, gan ofyn i bobl ymateb i ymgynghoriad ac anfon nodiadau ysgrifenedig, ond yn hytrach yn y ffordd yr ydym ni wedi arfer gorfod gweithio pan nad ydym i gyd yn yr un lle, ond hefyd ar-lein, i annog pobl i fynegi barn i'n helpu i gyflawni'r math cywir o ganlyniadau. Rwyf yn croesawu ei gefnogaeth gadarnhaol ar y cyfan i'r warant i bobl ifanc gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll.

16:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae llawer i'w groesawu yn y datganiad heddiw. Mae'n debyg iawn i gynnig Plaid Cymru yn ystod yr etholiad. Edrychwn ymlaen at weld y manylion, a byddwn yn cadw llygad ar ei weithrediad er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Mae'n gadarnhaol gwybod bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar enghreifftiau eraill, nid yn unig yn y DU, gobeithio, ond yn yr UE hefyd. Rwyf yn dweud yn aml—ac mae'n eithaf anodd i ni gyfaddef weithiau—pan fo gennym syniad da, mai'r tebygolrwydd yw bod rhywun eisoes wedi meddwl am y syniad hwnnw, felly mae bob amser yn dda dysgu o brofiadau pobl eraill, fel nad ydym yn syrthio i'r un trapiau.

Pan weithredwyd cynlluniau tebyg yn Ewrop, cydnabu staff lleol sy'n gweithio ar y gweithredu nad oedd interniaethau a lleoliadau gwaith bob amser o'r safonau uchaf. Er bod mesurau'n cael eu cymryd i sicrhau ansawdd, nid oedd bob amser yn bosibl i staff lleol fonitro lleoliadau mewn modd systematig. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau, yn rhan o swyddogaeth Cymru'n Gweithio, y byddan nhw'n sicrhau bod ansawdd swyddi yn bodloni safonau y cytunwyd arnyn nhw? Roedd asesiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o gynlluniau tebyg yn amlygu diffyg data dibynadwy, ac roedd yn anodd dod ar draws dangosyddion. Roedd anawsterau wrth gasglu data a dangosyddion yn amlwg ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol o ran y boblogaeth darged, gwasanaethau a chanlyniadau. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cael data ar gyfrannau'r bobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio at bob dewis posibl yn y cynllun? Hefyd, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adrodd ar y rhai sy'n cael gwaith diogel o ganlyniad i gymryd rhan yn y cynllun?

Os caf i hefyd symud ymlaen at hawliau gweithwyr ifanc am eiliad, mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag undebau i sicrhau bod adferiad economaidd Cymru yn canolbwyntio ar swyddi o ansawdd da a grymuso gweithwyr ifanc, ac mewn gwirionedd, maen nhw wedi lansio ymgyrch newydd i godi aelodaeth undebau ymhlith gweithwyr ifanc. Mae arolwg TUC Cymru a YouGov wedi dangos bod degau o filoedd o weithwyr yn wynebu triniaeth annheg a diffyg cyfle yn y gwaith. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall gweithwyr ifanc osgoi'r swyddi ansicr ac o ansawdd gwael sy'n nodweddu'r adferiad o'r dirwasgiad diwethaf?

Yn olaf, o ran yr adferiad gwyrdd, mae gennym ni gyfle gwirioneddol i helpu ein pobl ifanc a'n planed drwy sicrhau bod y swyddi hyn yn helpu i gyfrannu at ein hadferiad economaidd gwyrdd. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r warant i fod yn rhan allweddol o'n hadferiad cyflym yng Nghymru, a allai flaenoriaethu cartrefi gwyrddach, gwell cludiant cyhoeddus, ynni adnewyddadwy a band eang cyflym? Diolch yn fawr.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. O ran eich pwynt cyffredinol cyntaf am ansawdd y cyfleoedd a ddarperir, rydym ni wedi bod drwy rywfaint o hyn o'r blaen, o ran creu Twf Swyddi Cymru, am y cyfraddau cyflog sydd ar gael, ac am ansawdd y gwaith a ddarperir, ond hefyd yn yr hyn a wnawn eisoes i fonitro'r canlyniadau mewn prentisiaethau. Rydym mewn gwirionedd wedi cael adborth da gan brentisiaid eu hunain, ond hefyd busnesau sydd wedi helpu i'w derbyn.

Yn yr ymweliadau yr wyf wedi gallu eu gwneud, rwyf wedi cwrdd â chyfres o brentisiaid yn y ddau gwmni mawr, pan ymwelais ag Airbus yn y gogledd, ond hefyd rwyf wedi bod yn Toyota, yn gweld rhai o'u prentisiaid, a gweld yr hyn y maen nhw'n ei wneud i fuddsoddi mewn mwy o brentisiaid. Mae hynny'n newyddion da iawn. Roedden nhw o bosibl yn edrych ar ddyfodol gwahanol, ond maen nhw'n parhau i fuddsoddi mewn niferoedd uchel o brentisiaid, ac mae hynny'n ddarpariaeth yr ydym yn awyddus iawn i'w weld mewn cyflogwr mawr o'r math hwnnw, ond mewn busnesau llai hefyd. Dyna pam, pan fyddwch yn edrych ar y gwaith yr ydym ni wedi ei wneud ar amrywiaeth o bethau, er enghraifft, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, nid yw hynny'n darparu cyfleusterau dysgu o ansawdd uchel yn unig. Ond oherwydd y ffordd yr ydym ni wedi gweithio ar fudd-daliadau cymunedol, mae gennym ni bron bob amser weithwyr ifanc a phrentisiaid newydd yn dod drwodd yn y prosiectau adeiladu hynny hefyd, ac yn cael gyrfa mewn sector y gwyddom ei fod mewn lle da i ddarparu cyflogau gwaith o ansawdd da sy'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y dyfodol.

Felly, rydym ni'n cymryd hynny o ddifrif, ac mae'r un peth yn wir mewn hyfforddeiaethau pan fyddwch yn ystyried rhoi cyfleoedd i bobl sydd o dan 18 oed i ymgymryd â mwy o brofiad ym myd gwaith, hyd yn oed os ydyn nhw wedyn yn mynd ymlaen i ddewis opsiynau hyfforddiant yn hytrach na mynd i fyd gwaith yn uniongyrchol bryd hynny.

Felly, ydw, rwy'n disgwyl i ni allu paru a deall ansawdd yr hyn sy'n digwydd. Mae hynny oddi mewn, os hoffech chi, i safbwynt y system, ond hefyd yn yr adborth uniongyrchol gan unigolion eu hunain hefyd. A byddwch yn ymwybodol bod gan lawer o'n darparwyr systemau datblygedig i ddeall yr adborth am eu darpariaethau eisoes, a pha un a yw'n gwneud gwahaniaeth i'r bobl ifanc sy'n manteisio ar y cyfleoedd hynny.

O ran olrhain canlyniadau yn ehangach, dyna pam y soniais am Cymru'n Gweithio a'r hyn y mae'n mynd i'w wneud o ddiwedd mis Medi, oherwydd bydd y tracio hwnnw yn ein helpu i ddeall mwy am yr hyn sy'n cael ei wneud, gyda'r hyn yr ydym eisoes wedi ei ddechrau i adeiladu arno a'r hyn yr ydym wedyn yn ei ddechrau ac yn ei wella hefyd, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn deall effaith yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Fel arall, os ydym ni ddim ond yn parhau â'r hyn yr ydym yn ei wneud eisoes, yna nid ydym mewn gwirionedd yn ychwanegu at yr hyn yr ydym eisoes yn ei ddarparu ac nid ydym mewn gwirionedd yn bodloni maint yr her y gwyddom sy'n bodoli.

Ac mae'n mynd ymlaen, mi gredaf, at eich pwynt chi am TUC Cymru a'u hymgyrch, oherwydd mae'r byd gwaith eisoes wedi newid. Roedd yn newid cyn y pandemig ac mae llawer o gyflymu wedi bod yn y newid ym myd gwaith o ganlyniad iddo. Mae hynny'n amlwg yn golygu bod angen i undebau llafur newid y ffordd y maen nhw'n trefnu, ac rydym ni wedi gweld llwyddiannau yn hynny o beth, er enghraifft, GMB a'u cydnabyddiaeth o fewn Uber, ond mae llawer o rannau eraill o'n heconomi sydd wedi newid yn sylweddol ers i mi fod yn berson gwirioneddol ifanc yn hytrach na'r cyfnod o fy mywyd yr wyf yn canfod fy hun ynddo yn awr.

Ond mae hyn i gyd yn rhan o agenda yr ydym yn ei hadnabod, oherwydd rydym wedi gweld cyflymu ym myd manwerthu ar-lein, er enghraifft, sut mae gennym ni hynny ochr yn ochr ag adeiladau ffisegol ar ein strydoedd mawr, a phobl ifanc yn gweld gyrfaoedd—mae llawer o bobl ifanc yn gweithio ym maes manwerthu, lletygarwch ac eraill ac nid swyddi tymhorol yn unig ydyn nhw o reidrwydd. Gallan nhw fod yn swyddi o ansawdd da ar gyfer gyrfa hirach a phriodol hefyd. Ac rydym yn cydnabod yr agenda ar waith teg ym mhob rhan o'n heconomi. Felly, gallwch ddisgwyl i Weinidogion mewn mwy nag un rhan o'r Llywodraeth barhau nid yn unig i siarad am waith teg, ond bydd Aelodau'n craffu ar sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hynny mewn nifer o adrannau. A byddwch yn gweld hynny, er enghraifft, yn y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael, ond hefyd y gwaith y bydd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt yn parhau i gymryd diddordeb ynddo hefyd.

Yn ddiddorol—byddaf yn gorffen ar hyn, Dirprwy Lywydd, y pwynt hwn—ar y pwynt am her yr amgylchedd a'r cyfleoedd i gael swyddi gwyrddach ac ardaloedd twf, mae hynny'n rhan fawr o'r hyn yr ydym eisoes yn ei weld. Felly, yn fy ymweliadau ac yn y cyhoeddiad heddiw am dechnoleg batris, roeddwn yn siarad â Yuasa Battery yng Nglynebwy am yr hyn y maen nhw'n ei wneud, ac mae hynny yn gyfle mawr i'n sector adnewyddadwy hefyd, a nifer y gweithwyr sydd ganddyn nhw yno, yn yr un ffatri honno a'r hyn y bydd hynny'n ei olygu i rannau eraill o'n heconomi. A phan gyfarfûm â phobl ifanc ar ymweliad blaenorol â Gyrfa Cymru yr wythnos diwethaf, roedden nhw’n glir iawn eu bod yn deall effaith y ffordd yr ydym yn cynhyrchu pŵer, y ffordd yr ydym eisoes yn symud ac yn mynd o amgylch ein byd, a'r rhagolygon ar gyfer eu dyfodol ac ar gyfer y plant y maen nhw eto i'w cael hefyd. Felly, mewn gwirionedd, mae pobl ifanc yn gyfarwydd iawn â'r ffordd y mae'r byd yn gweithio nawr a'r hyn y mae'n ei olygu i ddyfodol y blaned, ac maen nhw eisiau math gwahanol o ddyfodol.

16:20

Cyfeiriodd y Gweinidog at Gyrfa Cymru, gan gyfeirio'n arbennig at y rhan y byddan nhw'n ei chwarae wrth gyflawni'r warant i bobl ifanc. Sut y bydd e'n sicrhau y byddan nhw'n cael eu cefnogi, y byddan nhw'n cael digon o adnoddau a bod eu staff yn cael eu talu'n briodol i gyflawni'r rhaglen hon?

Mae'n un o'n heriau mawr ni. Rwy'n cofio'n dda siarad â Gweinidogion sydd wedi symud ymlaen i wahanol rannau o'r Llywodraeth, am yr her honno, sef sut yr ydym am sicrhau adnoddau ar gyfer Gyrfa Cymru, a'r heriau cyllidebol mawr iawn yr oedd yn rhaid i ni eu hwynebu. Dyna ran o'r rheswm pam, o ran cylch nesaf y gyllideb, y mae angen i ni weld yn yr ystod o wasanaethau hyn, eu heffaith o ran y Llywodraeth gyfan. A phan euthum i Gyrfa Cymru yng Nghaerdydd i gwrdd â phobl a oedd wedi cael eu cefnogi, roedd yr effaith y mae'r mentoriaid a'r cynghorwyr wedi ei chael ar helpu pobl i wneud eu dewisiadau eu hunain yn glir iawn.

Felly, yn gyffredinol, gallaf roi ymrwymiad i chi y byddwn yn parhau i gymryd diddordeb yn y ffordd yr ydym yn darparu adnoddau ar gyfer Gyrfa Cymru i gyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym ni ar eu cyfer, a'u rhan hwy mewn cyflawni'r warant. A byddwn, wrth gwrs, yn gweithio ochr yn ochr â nhw gan y bydd angen iddyn nhw gyflawni eu rhwymedigaethau fel cyflogwr. Os oes gan yr Aelod bwyntiau mwy penodol, byddaf yn hapus i gwrdd ag ef y tu allan i'r Siambr i drafod y rheini.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae cynllun paru swyddi arbrofol Cymru'n Gweithio yn swnio'n gadarnhaol iawn o ran integreiddio'r cyflenwad a'r galw. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau, serch hynny, fod swyddi gwag a gynigir yn swyddi o ansawdd da ar gyfer y dyfodol, a hefyd bod cyfleoedd cyflogaeth mewn cymunedau fel Cwm Cynon yn cael eu hehangu a'u meithrin fel nad ydym yn gweld pobl o'r Cymoedd yn gorfod teithio i ddinasoedd er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd?

Yn olaf, rwy'n croesawu'r sylwadau ynghylch cefnogi pobl ifanc i ddod yn entrepreneuriaid. Mae'n ymddangos i mi y gallai fod cyfleoedd ychwanegol i gefnogi mathau tebyg o fentergarwch drwy fodelau cydweithredol neu fentrau cymdeithasol. A wnewch chi hefyd edrych ar sut y gellid integreiddio'r rhain a'u cefnogi yn y cynnig?

16:25

Ie. O ran eich pwynt cyntaf, ynglŷn â sicrhau bod gennym ni olwg briodol ar ansawdd y swyddi a'r cyflogau sy'n cael eu talu a'r hyn y mae'n ei olygu i bobl sy'n mynd i fyd gwaith, mae hynny'n rhan o'r pwynt yr oeddwn i'n ceisio ei wneud mewn ymateb i Luke Fletcher hefyd, ynglŷn â'r ffaith ein bod yn cymryd diddordeb yn ansawdd yr hyn yr ydym yn ei ddarparwn. Ni all hyn ymwneud â sianelu pobl i swyddi o ansawdd gwael nad oes ganddyn nhw ddyfodol yn y tymor hwy, oherwydd mewn gwirionedd nid yw hynny'n mynd i roi profiad o'r byd gwaith yr ydym ni eisiau i bobl ei gael, ac ni fydd yn ein helpu i adeiladu'r economi decach, wyrddach a mwy ffyniannus y mae pob un ohonom ni eisiau ei gweld, ac mae hynny'n cynnwys ystod o gymunedau'r Cymoedd.

Roeddwn i'n falch iawn o ymweld â chi yng Nghwm Cynon a gweld rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddod â phobl yn ôl i fyd addysg a hyfforddiant gyda phobl nad ydyn nhw'n llwyddo mewn addysg brif ffrwd a'r hyn y mae hynny'n ei wneud mewn gwirionedd wrth eu paratoi i fynd i fyd gwaith yn llwyddiannus. Mae hynny'n ymwneud â chreu swyddi mewn cymunedau lleol, yn ogystal â darparu mynediad i ganolfannau cyflogaeth eraill, ac rwyf hefyd yn credu, wrth gwrs, y bydd gwella trafnidiaeth ledled y wlad yn golygu bod cyfleoedd i fusnesau dyfu gyda sylfaen gostau wahanol y tu allan i rai o'n dinasoedd hefyd. Ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam y mae gennyf ddiddordeb mewn busnesau newydd, oherwydd gwyddom nad oes gennym ni yr un lefel o fusnesau newydd yng Nghymru, ac nid yn unig twf y busnesau hynny ond faint o'r busnesau hynny sy'n goroesi y tu draw i'w blwyddyn gyntaf. Felly, mae'n her allweddol i ni weld mwy o fusnesau yn tyfu i oroesi, i fod yn llwyddiannus, ac yna i'r busnesau hynny sy'n tyfu i ddod yn gyflogwyr canolig eu maint, ac os byddant yn tyfu i fod yn gyflogwyr mawr, faint o'r rheini a fydd yn dal i fod ym mherchnogaeth Cymry ar y diwedd, i feddwl sut y bydd economi'r dyfodol yn edrych. Mae hwn yn gyfle mawr i helpu i newid y ffordd y mae'r byd gwaith yn gweithio ar hyn o bryd, ac nid dim ond gorfod derbyn byd sy'n newid o'n cwmpas.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, ar ôl gweithio a gwirfoddoli mewn addysg a chymunedau yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, rwyf i bob amser wedi dweud, os rhowch chi gyfle i bobl ifanc, naill ai drwy gyflogaeth neu wirfoddoli, ei bod yn rhyfeddol beth y gallan nhw ei gyflawni. Roeddwn i'n falch o sefyll ar faniffesto a oedd yn cynnwys gwarant i bobl ifanc, naill ai gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth. Bydd y datganiad heddiw gan y Gweinidog yn newyddion da i bobl ifanc yn y Rhondda. Mae talent yn dod ar sawl ffurf, a bydd gwarant i bobl ifanc yn gadael i'n pobl ifanc ddisgleirio ac yn caniatáu iddyn nhw wneud cyfraniad cadarnhaol i'n cymunedau. A wnaiff y Gweinidog gyfarfod â mi i drafod sut y bydd y warant i bobl ifanc yn llesol i bobl ifanc yn y Rhondda?

Gwnaf, byddaf yn hapus i gwrdd â hi yn unigol i siarad am y Rhondda. Gwn fod diddordeb gan Aelodau etholaethol eraill o'i chwmpas i gael sgwrs am yr hyn y bydd hyn yn ei olygu i'r Cymoedd, ac mae gennyf i ddiddordeb mawr yn y cyfleoedd y gallwn ni eu creu ar gyfer pobl yn eu cymunedau eu hunain, yn ogystal ag mewn cymunedau yn yr ardal teithio i'r gwaith ehangach. Felly, byddaf yn hapus iawn i wneud hynny a'i drefnu gyda'm swyddfa.

Diolch, Weinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:28.

16:35

Ailymgynullodd y Senedd am 16:38, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hybu Cydraddoldeb LGBTQ+ yng Nghymru

Yr eitem nawr i'w thrafod yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar hybu cydraddoldeb LGBTQ+ yng Nghymru. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad—Hannah Blythyn.

Diolch, Llywydd. Adnabyddir mis Mehefin mewn lleoedd ledled y byd fel Mis Pride: cyfle i fyfyrio ar ba mor bell yr ydym ni wedi dod a'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni gyda'n gilydd, i ddathlu ein cymunedau LHDTC+, ac i dalu teyrnged i'r arloeswyr a ddaeth o'n blaenau—y gweithredwyr a'r cynghreiriaid sydd wedi gwneud yr hyn a ymddangosai unwaith yn amhosibl. Mae hefyd yn amser i bwyso a mesur a chynyddu ein hymdrechion i greu Cymru fwy cyfartal, lle mae pawb yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi ac yn teimlo'n rhydd i fod yn nhw eu hunain.

Y Mis Pride hwn, rwyf am achub ar y cyfle i ailddatgan ymrwymiad a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i hybu cydraddoldeb LHDTC+ yng Nghymru. Y tro diwethaf i orymdaith Pride gael ei chynnal drwy strydoedd ein prifddinas, yr oeddwn yn falch o ymuno â'n Prif Weinidog ar flaen yr orymdaith. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Pride yn y gorffennol, ond nawr rydym yn rhoi'r gefnogaeth hon ar sylfaen fwy cadarn, i helpu gyda chynllunio a chynaliadwyedd hirdymor—nid yn unig ar gyfer un digwyddiad, ond wrth gydnabod y rhan y mae Pride yn ei chwarae fel mudiad ar lawr gwlad. Byddwn yn sicrhau bod £25,000 o gyllid newydd ar gael i Pride Cymru eleni a byddwn yn ymgorffori'r cymorth hwn, a llawer mwy, yn y dyfodol.

Yn bwysig, ochr yn ochr â hyn, byddwn hefyd yn sefydlu cronfa Pride newydd ledled Cymru i gefnogi digwyddiadau ar lawr gwlad ledled y wlad. Byddwn yn cefnogi mudiadau llai i ffynnu ac i helpu i sicrhau y caiff pob unigolyn LHDTC+ gymryd rhan yn yr hyn sydd gan Pride i'w gynnig. Bydd rhagor o wybodaeth am y cyllid newydd yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosibl, a byddaf yn rhannu'r wybodaeth honno gydag Aelodau a sefydliadau pan fydd hi ar gael. Mae hyn yn adeiladu ar ein hanes o gefnogaeth i'r gymuned LHDTC+ yma yng Nghymru, o fwrw ymlaen â diwygio'r cwricwlwm sy'n ymgorffori addysg LHDTC+, i sefydlu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd a dod y genedl gyntaf yn y DU i gynnig proffylacsis cyn-gysylltiad am ddim yn y GIG. Yn ystod COVID-19 sefydlwyd grant lleoliad LHDTC+ pwrpasol a, dim ond yn ystod y mis hwn, rhoddodd ein Prif Weinidog waed ochr yn ochr ag actifydd hoyw a oedd hyd at yr adeg hon wedi ei wahardd rhag gwneud hynny.

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn unig rydym wedi gwneud cynnydd rhyfeddol, ond mae gwaith i'w wneud o hyd a llawer o feddyliau i'w newid. Gwyddom yn iawn fod pobl LHDTC+ yn dal i wynebu heriau gwirioneddol, anfantais, anghydraddoldeb, gwahaniaethu a chasineb. Ym mis Ionawr eleni sefydlwyd panel arbenigol annibynnol i helpu i nodi a llunio'r camau nesaf ar gyfer hybu cydraddoldeb LHDTC+. Ym mis Mawrth, cyflwynodd y panel hwn ei adroddiad, a oedd yn cynnwys 61 o argymhellion o dan chwe phrif thema: hawliau dynol a chydnabyddiaeth, diogelwch, cartref a chymunedau, iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, a'r gweithle. Defnyddiwyd gwaith y panel arbenigol hwn i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer hybu cydraddoldeb LHDTC+ yng Nghymru, a bydd y cynllun uchelgeisiol, traws-Lywodraethol hwn yn nodi'r camau pendant y byddwn yn eu cymryd i wella bywydau pobl LHDTC+, i fynd i'r afael â gwahaniaethu, ac i wneud Cymru y wlad fwyaf ystyriol o LHDTC+ yn Ewrop yn y pen draw.

Bydd y cynllun hwn yn destun ymgynghoriad ddiwedd mis Gorffennaf, ond cyn hynny roeddwn eisiau rhannu ychydig o bwyntiau allweddol. Byddwn yn sefydlu panel arbenigol LHDTC+ yn ffurfiol i helpu i roi ein cynllun ar waith a dwyn y Llywodraeth i gyfrif o ran cynnydd. Fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu, rydym yn bwriadu ceisio datganoli pwerau mewn cysylltiad â chydnabod rhywedd ac archwilio'r dull gorau o weithredu i'n galluogi i wahardd therapi trosi yng Nghymru, ni waeth beth fo'r oedi gan Lywodraeth y DU. Byddwn hefyd yn penodi cydgysylltydd Pride cenedlaethol i gefnogi ein holl waith yn y maes hwn, a bydd y manylion yn cael eu cwmpasu yn ystod y misoedd nesaf. Gwyddom fod materion sy'n wynebu'r gymuned LHDTC+, fel eraill, yn aml-ddimensiwn yn aml, ac felly bydd y cynllun gweithredu hwn yn canolbwyntio'n ddigynsail ar groestoriadedd ac yn cyd-fynd â'n gwaith i hybu hawliau dynol, gan gynnwys y cynllun cydraddoldeb strategol, y cynllun cydraddoldeb rhywiol, y fframwaith gweithredu ar gyfer anabledd ac, wrth gwrs, ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol arloesol.

Bron i 52 mlynedd yn ôl i heddiw, ar 28 Mehefin 1969, digwyddodd yr hyn a elwir bellach yn derfysgoedd Stonewall. Roedd pobl draws ar flaen y gad yn y protestiadau hyn, ac eto maen nhw heddiw yn dal i wynebu rhagfarn, casineb a gwahaniaethu sylweddol. Safodd y gymuned draws dros hawliau pawb yn ein mudiad bryd hynny, gan baratoi'r ffordd i bobl fel fi allu bod yn ni ein hunain, a heddiw rydym ni'n sefyll gyda'r gymuned draws. Nid yw ehangu hawliau un grŵp yn golygu erydu hawliau un arall. Rydym bob amser yn gryfach gyda'n gilydd. Ar ben-blwydd terfysgoedd Stonewall ym mis Mehefin 1970, digwyddodd yr orymdaith Pride gyntaf. Ganed Pride allan o brotest, ac er ei bod yn iawn i ni gydnabod a dathlu pa mor bell yr ydym wedi dod, nid yw cynnydd yn anochel, ac mae Pride yn parhau i fod mor ganolog heddiw ag yr oedd hanner canrif yn ôl. Wrth i'r Mis Pride hwn ddirwyn i ben, gadewch i ni gofio y gallwn, gyda'n gilydd, barhau i greu newid a chynnydd, gydag uchelgais gyfunol o'r newydd i wireddu Cymru fwy cyfartal. Diolch.

16:40

Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad y prynhawn yma a dweud cymaint yr ydym yn croesawu'r camau y mae hi wedi eu cymryd i gefnogi'r gymuned LHDTC+. Mae angen i ni wneud mwy i sicrhau nad dim ond lle diogel i fyw ynddo yw Cymru, ond lle yr ydym yn dathlu amrywiaeth o bob math, felly rwy'n croesawu'r cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi heddiw, yn enwedig ar gyfer mentrau ar lawr gwlad.

Fel plaid, rydym yn credu'n gryf y dylai pawb yn y Deyrnas Unedig fod yn rhydd i fyw eu bywydau a chyflawni eu potensial, ni waeth beth fo'u rhyw neu eu hunaniaeth rhywedd. Un o'm pryderon mwyaf yw lefel y troseddau casineb a'r cam-drin y mae pobl yn eu hwynebu. Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Galop, roedd wyth o bob 10 ymatebydd wedi profi troseddau casineb gwrth-LHDT+ ac iaith casineb ar-lein yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Hefyd, roedd pump o bob 10 ymatebydd wedi eu cam-drin ar-lein 10 gwaith neu fwy. Mae'n rhaid i'r ymddygiad gwarthus hwn ddod i ben. 

Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r gymuned LHDTC+ i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lle diogel i bawb, ni waeth beth fo'u rhywioldeb neu eu cyfeiriadedd rhywiol. Mae'n destun pryder mawr fod troseddau casineb, er 2017, yn seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol wedi cynyddu gan 13 y cant tra bod troseddau casineb yn erbyn pobl draws wedi mwy na dyblu. Hefyd, mae bron i un o bob pedwar o bobl LHDT wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu eu hunaniaeth rhywedd yn ystod y 12 mis diwethaf. Edrychaf ymlaen at weld mwy o gynigion y Gweinidog i fynd i'r afael â throseddau casineb yn arbennig, gan fy mod yn credu y gallem ni fel cenedl ddangos arweiniad gwirioneddol yn y maes hollbwysig hwn.

Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi nodi rhai meysydd allweddol i'w cyflawni yn rhan o'r cynllun gweithredu ar gyfer hybu cydraddoldeb LHDTC+ yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at ganlyniadau'r ymarfer ymgynghori ar ôl iddo gael ei gwblhau. Er fy mod i'n croesawu creu'r panel arbenigol LHDTC+ yn ffurfiol i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am gynnydd, byddwn hefyd yn disgwyl i'r Llywodraeth fod yn agored i'r Senedd wrth roi cyfrif am gynnydd hefyd. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddadl flynyddol ar gyflawni'r cynllun, er mwyn sicrhau y gall y Senedd gyfan archwilio'r hyn sydd wedi gweithio a sut y mae cynnydd yn cael ei sicrhau? A wnaiff y Gweinidog hefyd gyhoeddi, yn rhan o'r cynllun, gyfres o gerrig milltir allweddol i'w cyrraedd a sut y byddan nhw'n cael eu cyflawni, fel y gall y gymuned LHDTC+ fod yn ffyddiog eich bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn? A wnaiff y Gweinidog amlinellu hefyd pa drafodaethau cynnar y mae wedi eu cael gyda'n gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y GIG a llywodraeth leol, am bwysigrwydd y gweithle? Mae gwahaniaethu yn digwydd mewn gwahanol ffurfiau, ac mae gan y sector cyhoeddus, fel y prif gyflogwr yng Nghymru, ran allweddol i'w chwarae. Diolch.

16:45

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniadau ac am ei gefnogaeth? Rwy'n credu, wyddoch chi, fod hwn yn faes, fel y dylai fod, y gallwn godi uwchlaw safbwyntiau gwleidyddiaeth plaid yn ei gylch ac ymdrechu gyda'n gilydd i geisio cydraddoldeb, ac i wneud Cymru yn lle diogel i bawb.

Rwy'n falch fy mod wedi gallu cwrdd â chi o'r blaen, gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a siarad am y gwaith, ac rydym yn awyddus iawn i'ch cynnwys o ran bwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu LHDTC+, pan fyddwn yn ei gyhoeddi yn yr haf. A byddaf yn sicr yn ystyried y pwyntiau a wnaethoch chi o ran pwysigrwydd y sefydliad hwn, y Senedd hon, wrth fonitro'r cynnydd hwnnw hefyd, ac rwy'n credu ei fod yn sicr yn rhywbeth y gallaf fi a'm cyd-Weinidogion ddod yn ôl ato o ran sut y gallwn wneud hynny mewn gwirionedd. A byddwn yn croesawu parhad hynny'n fawr—swyddogaeth y Senedd, i ddal ein traed at y tân, i sicrhau bod cynlluniau gweithredu yn dod yn gamau gwirioneddol ac yn dechrau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac adeiladu ar y gwaith yr ydym eisoes wedi ei wneud. Ac mae'r Aelod yn cyffwrdd â'r realiti anffodus a thrist sef bod gormod o bobl yn dal i wynebu casineb a throseddau casineb dim ond am fod yn nhw eu hunain, am gerdded i lawr y stryd, mynd o gwmpas eu busnes dyddiol, bod yn y gwaith, bod y tu allan i'w cartref. A gwn fod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn ei swyddogaeth flaenorol, wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU o ran yr hyn sy'n cael ei wneud ar lefel y DU i fynd i'r afael â throseddau casineb, a bydd yn sicr yn rhan annatod o'n cynllun gweithredu LHDTC+ ninnau.

Ac roedd y pwynt olaf, mi gredaf, a wnaeth yr Aelod yn ymwneud â'r rhan sydd gan y sector cyhoeddus a gweithleoedd i'w chwarae o ran arwain y ffordd, o ran bod yn lle diogel i bobl, a chredaf fod hyn yn sicr yn swyddogaeth o ran ein cydweithwyr yn yr undebau llafur. A phan fyddwn ni'n sôn am waith teg a dod yn genedl o waith teg, mewn gwirionedd, mae cael bod yn chi eich hunan a theimlo y gallwch chi fod yn chi eich hunan yn y gwaith yn ganolog i hynny. Oherwydd nid yw ddim ond yn ymwneud â, wyddoch chi, os ydych chi yn y gweithle, a'ch bod yn teimlo'n ddiogel, yna gallwch roi llawer mwy ohonoch eich hun i'r gwaith hwnnw, ac nid dim ond ar gyfer eich iechyd a'ch lles, ond o ran cynhyrchu a natur gynhyrchiol y gweithle hwnnw hefyd.  

Wel, mae'n bleser gwirioneddol dilyn y cyhoeddiad hwn gan y Dirprwy Weinidog y prynhawn yma, ac i siarad ar y cyfle cyntaf y mae'r Senedd hon wedi ei chael i drafod cydraddoldeb LHDTQ+ yng Nghymru, ac rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad.

Fel llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau, rwy'n angerddol dros sicrhau nad ydym fel cenedl byth yn rhoi'r gorau i ymdrechu i wireddu gwir gydraddoldeb LHDTQ+, a'n bod yn rhoi cynwysoldeb wrth galon ein cymdeithas. Mae Plaid Cymru eisiau gweld Cymru lle mae lleisiau LHDTQ+ yn cael eu clywed a'u cadarnhau ym maes addysg, yn y gwaith, yn ein holl gymunedau, ac rydym yn cydsefyll gyda phob unigolyn LHDTQ+ mewn undod. Fe fyddwn yn parhau i frwydro am gynnydd ac am wir gydraddoldeb i gynnal yr hawliau a enillwyd, ac i greu dyfodol gwell i bawb lle mae pawb yn rhydd i fyw fel maen nhw'n dymuno, ac rŷn ni'n croesawu'r gefnogaeth ariannol i Pride Cymru. A bydd Plaid Cymru'n parhau i bwyso i gael yr hawl i ddeddfu ar faterion cydraddoldeb wedi'u datganoli yn llawn, fel y gallwn ni sicrhau y gall y Senedd hon roi diwedd ar ragfarn a chamwahaniaethu.

Mae'n braf gweld bod cymaint o argymhellion wedi'u gosod mas ac yn mynd i fwydo mewn i'r cynllun gweithredu. Felly, hoffwn i holi ychydig o gwestiynau pellach ar hynny. Beth yw amserlen y cynllun gweithredu? A yw'r argymhellion yn mynd i fod yn rhai sy'n para dros un tymor o Lywodraeth, neu ydyn nhw'n edrych tu hwnt i hynny i'r dyfodol o ran y meini prawf a'r cerrig milltir yr oedd Altaf Hussain yn siarad amdanyn nhw? Pa mor aml bydd y Llywodraeth—a dwi'n meddwl bod hyn yn allweddol—yn adrodd ar y cynllun, yn adolygu ac yn diweddaru'r cynllun? Rŷn ni'n gwybod, fel y soniwyd am droseddau ar-lein, fod y mathau o gamwahaniaethu yn datblygu, onid ydyn nhw, ac yn newid o flwyddyn i flwyddyn.

Mae'r argymhellion wedi'u rhannu mewn i feysydd gwahanol, er enghraifft y byd gwaith, maes addysg, iechyd ac yn y blaen. Yn ôl Cymorth i Ferched Cymru, mae 97 y cant o fenywod LHDTQ+ a ymatebodd i holiadur diweddar yn dweud eu bod nhw wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gwaith. Os mai dyna yw'r sefyllfa, mae angen trawsnewidiad cyflym, onid oes, yn niwylliant ein gweithleoedd. Felly, sut ydych chi fel Llywodraeth yn mynd i weithredu fel un uned drawslywodraethol er mwyn mynd i'r afael â sefyllfaoedd fel hyn? Hoffwn wybod hefyd pa adnoddau ariannol sydd yn mynd i fod ar gael ar gyfer gweithredu'r cynllun, achos mae'n rhaid, wrth seilwaith, i gynnal yr egwyddorion yma.

Rwy'n croesawu'r nod o geisio datganoli grymoedd mewn perthynas â'r Ddeddf cydnabod rhywedd—rhywbeth mae Plaid Cymru wedi pwyso'n gyson amdano fe. Ydy'r Dirprwy Weinidog, felly, yn cytuno gyda ni fod yna gymaint yn fwy y gallwn ni wneud o ran dileu anghydraddoldeb petawn ni'n datganoli mwy o rymoedd dros gyfiawnder i Gymru? 

Dylai Mis Pride Cymru, wrth gwrs, fod yn achlysur o lawenydd, o lawenydd yn unig, a gobeithio rhyw ddydd mai dyna fydd yr achos, yn darparu cyfle inni ddathlu ein hundod a'n hewyllys i sicrhau cydraddoldeb. Ond, yn anffodus, fel gwnaethoch chi sôn, rhaid wynebu'r anghyfiawnderau sy'n bodoli o hyd ar gyfer pobl LHDTQ+, wrth inni, yn eich geiriau chi, fyfyrio ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma. Felly, i orffen, pa gynlluniau neu waith sydd ar y gweill mewn ymateb i'r lleisiau gwrth-LHDTQ+ sydd ar gynnydd yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol? Diolch.

16:50

Diolch. Diolch i chi am y cyfraniad yna—cyfraniad gwirioneddol gynhwysfawr ac angerddol. Rwy'n eich croesawu i'ch swydd, yr ydych mor amlwg yn angerddol drosti, ac edrychaf ymlaen at gael gweithio gyda chi mewn gwirionedd ar y meysydd hyn lle ceir uchelgais a rennir i weld gwir gydraddoldeb a chynhwysiant ledled Cymru. Byddaf yn gwneud fy ngorau i geisio ymdrin â'r holl bwyntiau a chwestiynau a godwyd gennych.

Buom yn siarad unwaith eto am aflonyddu rhywiol yn y gweithle ac, yn sicr, mae angen i ni feithrin diwylliant lle nad oes dim goddefgarwch o hynny, ac mae gwaith wedi'i wneud, ond mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud o hyd. Ac rwy'n credu bod rhan i'w chwarae ar draws y Llywodraeth o ran sut yr ydym yn defnyddio'r holl ysgogiadau hynny sydd gan Lywodraeth i sicrhau nad neges yn unig yw hon, ond yr hyn sy'n digwydd yn ymarferol. Fel y dywedais mewn ymateb blaenorol, mae rhan i'w chwarae gan y sector cyhoeddus, mae rhan i—. Rydym yn gweld llawer o sefydliadau sydd mewn gwirionedd—. Pe byddech chi wedi dweud wrthyf yn fy arddegau pan oeddwn yn tyfu i fyny y byddai cynifer o sefydliadau corfforaethol yn gyflym iawn yn rhoi baner Pride ar eu proffil Twitter yn ystod Mis Pride a gweiddi o'r uchelfannau, sut y maen nhw'n cefnogi—. Ond mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sut mae hynny'n gweithio'n ymarferol yn y gweithle, ac rydym wedi dod ymhell am eu bod yn gwneud hynny, oherwydd ni allech erioed fod wedi dychmygu hynny 20 mlynedd yn ôl. Ond, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r hyn sy'n gweithio yn ymarferol. Ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, i ni, fel rhan o'r cynllun gweithredu a rhan o'r broses o'i weithredu, sut yr ydym yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym i wneud gwahaniaeth, boed hynny drwy'r sector cyhoeddus yn unig, neu hefyd drwy gyllid y Llywodraeth a'n grantiau cydraddoldeb a chynhwysiant hefyd.

Felly, o ran y cynllun gweithredu LHDTC+, y nod yw ymgynghori arno, lansio ymgynghoriad ym mis Gorffennaf, dros yr haf, ac yna byddwn yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu hynny ac i gynnwys sefydliadau yn rhan o hynny hefyd, ac yna efallai dod yn ôl i'r Senedd hon yn dilyn hynny gyda mwy o fanylion o ran yr amserlen a sut y byddem yn gobeithio cyflawni llawer o'r camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun hwnnw. Rwy'n credu mai un o'r pethau y gallech chi ei ddweud—mae'n debyg ei fod yn rhywbeth sy'n symudol iawn ac mae'n ymwneud â bod â cherrig milltir a bod â dogfen fyw, sy'n anadlu, sy'n rhywbeth y mae angen i ni ei hailystyried mewn gwirionedd. Rwy'n glir iawn nad yw'n rhywbeth sydd ddim ond yn dweud, 'Dyma ein cynllun gweithredu a nawr rydym yn mynd i'w roi ar y silff draw yn y fan yma ac yna peidio â gwneud dim yn ei gylch.' Mae'n amlwg iawn, mewn gwirionedd, y gallem weld y camau hynny ac y byddem yn gallu eu mesur yn erbyn llwyddiannau a rhannu profiadau bywyd pobl yn rhan o hynny, oherwydd mai profiadau byw luniodd y cynllun hwnnw, ac, mewn gwirionedd, i wybod pa un a ydym yn cael y canlyniadau cywir hynny drwy glywed gan bobl sy'n byw drwy hynny hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn am gam-drin ar-lein. Mae'n mynd â chi yn ôl; mae'n debyg y bydd pobl o oedran penodol yn y Siambr yn cofio'r dywediad a ddywedwyd wrthych gan eich mam efallai, 'Bydd ffyn a cherrig yn torri eich esgyrn, ond ni fydd geiriau byth yn eich brifo,' ac nid wyf i'n credu y gallai hynny fod ymhellach o'r gwirionedd. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ystyriol iawn ac rwy'n credu bod gennym ni sefyllfa o awdurdod, pob un ohonom ni nawr yn y Siambr hon, i ddefnyddio ein safle nid yn unig i dynnu sylw at bethau ond i feddwl cyn i ni drydar, meddwl cyn i ni siarad, ac weithiau gall y geiriau a rhai o'r dadleuon y cyfeiriasoch chi atyn nhw nawr fod yn wenwynig iawn ar Twitter, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n credu ei bod yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni nid yn unig i dynnu sylw at hynny, ond i feddwl a gweithredu mewn modd caredig yn y ffordd yr ydym yn trin ei gilydd, gyag urddas sylfaenol fel cyd-ddynion.

16:55

A minnau'n rhywun o oedran arbennig, cofiaf y ffordd y cafodd Peter Tatchell ei erlid gan y wasg pan safodd yn Bermondsey 40 mlynedd yn ôl, dim ond oherwydd ei ddewisiadau rhywiol, a gobeithio ein bod wedi dod ymhell ers hynny, ond, yn amlwg, mae llawer mwy o waith i'w wneud. Rwy'n siŵr y bydd pobl wrth eu boddau bod Llywodraeth Cymru yn ceisio pwerau i wahardd therapi trosi yng Nghymru, oherwydd dyna un o'r pethau mwyaf gwarthus—i feddwl y gallai pobl gael eu gorfodi i newid eu safbwyntiau a'u dewisiadau rhywiol.

Rwy'n falch iawn bod nifer cynyddol o bobl ifanc, yn fy etholaeth i, yn teimlo'n ddigon hyderus i fynegi eu rhywioldeb fel rhai nad ydynt yn heterorywiol ac eisiau cysylltu â phobl eraill i weithio ar arferion da yn ein hysgolion uwchradd. Fe'm trawyd yn arbennig gan ddyn ifanc 14 oed a gysylltodd â mi, yn gofyn am gyngor ar sut i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a sut i ymgysylltu ag ysgolion eraill ar arferion da o ran grwpiau LHDT yn yr ysgol. Felly, mae hynny'n wych, ac rwy'n siŵr y bydd yr addysg perthynas a rhywioldeb newydd yn chwarae rhan bwysig iawn o ran sicrhau bod pob ysgol yn fannau lle na wahaniaethir yn erbyn plant am nad yw eu rhieni'n cyfateb i'r ddelwedd bocs siocled Siôn a Siân o deulu.

Croesawaf yn arbennig eich ymagwedd lawr gwlad at y gronfa Pride Cymru gyfan hon, oherwydd mae rhai pobl yn pryderu bod dathliadau Pride wedi dod yn ddigwyddiad sy'n rhy fasnachol, a gefnogir gan gorfforaethau yn hytrach nag yn ymgais i sicrhau bod pob cymuned ledled Cymru yn lleoedd lle gall pobl o ddewisiadau LHDTCRh deimlo mor gyfforddus ag unrhyw un arall â bod yn rhan o'u cymuned. Felly, byddwn yn ddiolchgar am ychydig mwy o wybodaeth ynghylch sut y mae hynny'n mynd i weithio, er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd pob rhan o Gymru.

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad, ac rwy'n gwybod bod gennych chi hanes profedig yn y gorffennol fel cefnogwr ymroddedig o'r gymuned LHDTC+ a diolch am bopeth yr ydych chi wedi ei wneud. O ran y cwestiwn a ofynnwyd gennych ynghylch Pride, mae Pride wedi newid yn sylweddol yn y 50 mlynedd ers i ni weld gorymdaith gyntaf Pride, ac mae'n bwysig iawn nad yw pobl iau, yn enwedig, yn teimlo eu bod yn cael eu prisio allan o Pride. Ac felly, rwy'n credu—. Ganed Pride, fel y dywedasom, allan o brotest, ac mewn gwirionedd mae'r gefnogaeth i Pride ar lawr gwlad yn ymwneud â chydnabod ei fod yn fudiad i gefnogi cymunedau a chefnogi pobl mewn cymunedau ledled Cymru.

O ran y cyllid ar gyfer cefnogi Prides ledled Cymru, bydd hyn yn rhan o'r cynllun gweithredu LHDTC+ ac yn gysylltiedig â chyllid cydraddoldeb a chynhwysiant yn y dyfodol, a byddwn yn awyddus i siarad â gwahanol sefydliadau a sefydliadau ar lawr gwlad, Prides, i weld beth fyddai'n eu helpu orau o ran gallu bwrw ymlaen â hynny. Oherwydd, fel rhywun—. Rydych chi'n sôn am werth y digwyddiadau hyn mewn cymunedau, ac mae'n wych gweld ein prifddinas yn dathlu Pride, ond rwy'n credu na allwch chi danbrisio'r effaith y mae'n ei gael ar gymunedau llai, cymunedau gwledig, ledled y wlad wrth ddweud wrth bobl bod lle diogel iddyn nhw ac i fod yn gartrefol ynddo. Oherwydd, gan siarad yn bersonol, rwyf wedi bod yn Pride Caerdydd, rwyf wedi bod yn Pride Llundain, Pride Abertawe, a hyd yn oed Pride Doncaster, ond ni wnaeth yr un ohonyn nhw fy ngwneud i mor emosiynol â phan gymerais i ran mewn gorymdaith Pride drwy'r dref lle rwyf i'n byw erbyn hyn, lle yr oeddwn yn arfer mynd ar y bws iddi yn fy arddegau i siopa. Mae'n dref farchnad, yn dref farchnad fach, ar ddiwrnod y farchnad, ac roedd gweld pobl a oedd yn mynd ynghylch eu busnes arferol, yn gwneud eu siopa, yn stopio gyda'u plant i guro dwylo ac ymuno yn rhywbeth na allwn i byth ei ddychmygu, ac rwy'n gwybod na allai llawer o bobl eraill ychwaith, flynyddoedd yn ôl. Ac rwy'n credu bod hynny'n gydnabyddiaeth o ba mor bell yr ydym ni wedi dod ond hefyd i beidio â bod yn hunanfodlon a sylweddoli bod gwaith i'w wneud o hyd, ac mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n llwyr i barhau. 

17:00

Hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad. Mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gynnal cydraddoldeb, ac efallai eich bod yn gwybod bod Comisiwn y Senedd wedi bod yn falch erioed o fod yn sefydliad enghreifftiol o ran cynhwysiant LHDTC+. Rydym wedi gweithio, ac yn parhau i weithio, gyda'r rhwydwaith LHDTC+, Stonewall Cymru a phartneriaid eraill i ddod yn gyflogwr mwy cynhwysol, gan ddatblygu diwylliant sy'n gwahodd pawb i fod yn wir yn nhw eu hunain. A dyna yw ystyr hyn: pawb yn wir yn nhw eu hunain. Felly, rydym yn falch o'r daith yr ydym wedi ymgymryd â hi i gael ein cydnabod yn un o'r cyflogwyr cynhwysol LHDTC+ gorau yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, ac fel y cyflogwr gorau yn y DU yn 2018. Ac rwy'n nodi hyn oherwydd fy mod i'n teimlo yn gryf iawn bod yn rhaid i ni arwain drwy esiampl, ac rwy'n credu bod hynny yn enghraifft o arwain yn y maes hwn.

Fel y dywedasoch eisoes, Dirprwy Weinidog, mae'r wythnos hon yn nodi pen-blwydd terfysgoedd Stonewall yn Efrog Newydd, ar ddiwedd Mis Pride. Felly, o ran symud ymlaen, mae gennym ni ddatganiad, mae gennych chi fwriad. Ai eich bwriad chi yw siarad â chyflogwyr yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus i geisio, os hoffech, gopïo ac efelychu'r hyn yr ydym wedi llwyddo i'w gyflawni yn y fan yma gyda chymorth pobl eraill?

Diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn a'i gwaith yn y maes hwn hefyd, gydag Aelodau eraill o'r Senedd a Chomisiwn y Senedd hefyd. Rwy'n credu, fel y dywedwch, ei bod yn iawn fod enghraifft wych o ddemocratiaeth yng Nghymru, ein Senedd, Senedd Cymru, yn arwain y ffordd o ran creu gweithleoedd cynhwysol a diogel. Ac rwy'n credu ei fod yn mynd yn ôl at yr hyn a ddywedasom o'r blaen, na allwch danbrisio'r gwahaniaeth y byddai'n ei wneud i unigolion wrth iddyn nhw deimlo y gallant fod yn nhw eu hunain yn eu lle gwaith hefyd.

Gan ddychwelyd at arolwg gan y TUC ychydig flynyddoedd yn ôl, o weithwyr LHDT+ ledled y DU, canfu fod dau o bob pum ymatebydd wedi cael eu haflonyddu neu wedi dioddef gwahaniaethu yn eu herbyn gan gydweithiwr, a dim ond traean a ddywedodd hynny wrth eu cyflogwr. Felly, er nad ydym eisiau i hynny ddigwydd yn y gweithle, dylai pobl deimlo'n abl hefyd, mewn gwirionedd, os oes digwyddiad—. Mae'n gas gennyf ddefnyddio'r term, oherwydd nid cellwair yw e, oherwydd mae rhywbeth sy'n jôc i un unigolyn yn niweidiol i rywun arall, ond mae angen i bobl deimlo, os dywedir rhywbeth, eu bod yn teimlo'n ddigon diogel a chyfforddus i godi'r mater hwnnw gyda'u rheolwr llinell neu'r unigolyn priodol. Ac felly rwy'n credu bod clod yn ddyledus am y gwaith y mae'r Senedd wedi'i wneud ar hynny, ac rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn rhannu'r enghreifftiau hynny gyda gweithleoedd ac enghreifftiau eraill mewn mannau eraill yng Nghymru o fusnesau sydd wedi gwneud y peth iawn ac sy'n arwain y ffordd, ac, unwaith eto, yn gweithio gyda'n cydweithwyr ar draws y mudiad undebau llafur i sicrhau nad eithriad ydyw, ond y norm. Dyma sut y dylai pob gweithle fod.

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog heddiw. Daw rhai o'm hatgofion gorau o ddigwyddiadau Pride yng Nghymru. Ni fydd cydgysylltydd Pride a chronfa Pride benodol ddim ond yn gwella'r dathliadau.

Ni allaf gredu bod therapi trosi yn dal i gael ei drafod. Rwy'n cefnogi'n llwyr yr addewid heddiw i wahardd pob agwedd ar therapi trosi yng Nghymru.

Yn ddiweddar, roeddwn yn bresennol yn agoriad swyddogol y busnes Loaded Burgers and Fries yn y Rhondda, sy'n cael ei redeg gan Lauren Bowen, sydd wedi'i henwebu ar gyfer y wobr Entrepreneur Rhagorol yn y Gwobrau Amrywiaeth Cenedlaethol 2021. Ymwelais hefyd ag Ysgol Gyfun Treorci i lofnodi eu wal o wahaniaeth yn ystod Wythnos Amrywiaeth. Roedd yn braf ac yn galonogol bod mewn ysgol sy'n dathlu cynhwysiant. Mae Bethan Howell, athrawes yn yr ysgol, gan siarad am ei phrofiad, wedi helpu nifer o fyfyrwyr LHDTC+ yn yr ysgol. Mae cynhwysiant LHDTC+ yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein hysgolion. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion eraill ledled Cymru i fod yn fwy cynhwysol o ran LHDTC+?

17:05

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a thynnu sylw at rywfaint o'r gwaith rhagorol sy'n digwydd mewn ysgolion yn ei hetholaeth ei hun yn y Rhondda, ond hefyd ledled Cymru? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn siarad am hyn a'i rannu hefyd fel y gallwn ni gefnogi athrawon a sefydliadau mewn mannau eraill, a chyhoeddodd fy nghyd-Aelod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles yn ddiweddar y byddem ni'n rhoi £100,000 i helpu athrawon i gael yr offer a'r gefnogaeth a'r adnoddau cywir a hyder i addysgu yn y ffordd hon, nid yn unig fel rhan o berthnasoedd ac addysg rhyw, ond o ran y cwricwlwm newydd, felly diolch i'r yr ysgolion hynny am bopeth maen nhw'n ei wneud ac am yr enwebiadau a'r gydnabyddiaeth. A hefyd gwnaethoch chi sôn am Bethan Howell ynghylch popeth y mae hi'n ei wneud, y gwahaniaeth a wnaeth wrth iddi siarad am ei phrofiadau hi—. Oherwydd rwy'n credu, fel yr ydym ni wedi'i ddweud o'r blaen, fod gwelededd yn bwysig, oherwydd ni allwch chi fod yr hyn na allwch chi ei weld, ac mae angen i bobl ifanc gael yr esiamplau da hynny'n wrth dyfu i fyny hefyd.

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwaith Teg a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn Gofal Cymdeithasol

Y datganiad nesaf yw'r un gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar waith teg a'r cyflog byw gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol. A'r Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad. Julie Morgan.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o allu amlinellu heddiw ein dull o sicrhau mai'r cyflog byw gwirioneddol yw'r gyfradd isaf a gaiff ei dalu i weithwyr gofal yng Nghymru. Rydym ni wedi mynegi ein cefnogaeth ers tro byd i gyflog byw gwirioneddol y Sefydliad Cyflog Byw, ac mae hyn yn rhywbeth yr hoffem ni ei weld yn cael ei weithredu hyd a lled pob sector o'r economi. Ond rydym ni'n cydnabod bod angen cymryd camau ychwanegol i sicrhau ei fod yn cael ei weithredu ym maes gofal cymdeithasol. Dyna pam y mae'n elfen allweddol o'n rhaglen lywodraethu ac yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer tymor y Senedd hon.

Yn ystod y pandemig, dechreuodd gweithwyr gofal cymdeithasol gael cydnabyddiaeth ehangach am y rhan bwysig sydd ganddyn nhw yn darparu gofal a chymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Fodd bynnag, nid oes mwy o gydnabyddiaeth na gwobr deg. Rydym ni wedi ymrwymo i greu gweithlu cryfach sy'n cael eu talu'n well ym maes gofal cymdeithasol. Mae gwella cyflogau gweithwyr gofal yn cefnogi ein hymrwymiad i Gymru decach, ac yn sail i wasanaethau gofal cymdeithasol o ansawdd da y mae llawer o bobl yn dibynnu arnyn nhw.

Y llynedd, gwnaethom ni gynnal y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Mae'r fforwm yn grŵp partneriaeth cymdeithasol lle mae ein partneriaid wedi dod at ei gilydd i ystyried sut y mae modd gwella amodau gwaith gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae partneriaeth gymdeithasol yn dwyn ynghyd undebau llafur, cyflogwyr a'r Llywodraeth i nodi a gweithredu atebion sy'n arwain at well ganlyniadau. Mae'n ffordd sefydledig o weithio yng Nghymru. Felly, byddaf i'n disgwyl i'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol ein helpu ni i ddatblygu'r ymrwymiad cyflog byw gwirioneddol. Mae hwn yn ymrwymiad hirdymor, a rhaid i ni weithio gyda'n gilydd gydag ef i sicrhau ei fod yn arwain at newid cynaliadwy hirdymor.

Rydym ni'n bwriadu cychwyn yn gynnar yn nhymor y Senedd; byddaf i'n gofyn i'r fforwm gwaith gofal cymdeithasol am eu cyngor ar y ffordd orau o ddatblygu'r ymrwymiad hwn a sut y gallwn ni sicrhau, wrth wneud hynny, nad ydym ni'n ansefydlogi'r sector bregus a chymhleth hwn. Rwyf i hefyd eisiau gweithio ar y cyd â'r fforwm i ddeall sut y gallem ni sicrhau bod y cyllid hwn yn cael yr effaith fwyaf posibl.

Mae gwaith teg yn ymwneud â mwy na thâl. Mae'r diffiniad o waith teg yr ydym ni wedi'i fabwysiadu yng Nghymru yn cynnwys chwe nodwedd, gyda chydraddoldeb a chynhwysiant yn llinyn cyffredin ym mhob un o'r rhain. Mae'r nodweddion yn cynnwys, er enghraifft, llais gweithwyr a chynrychiolaeth gyfunol, diogelwch a hyblygrwydd, twf a dilyniant, ac amgylcheddau gwaith diogel, iach a chynhwysol. Mae angen i ni fod yn hyderus y bydd arian cyhoeddus yn golygu bod gweithwyr yn well eu byd a'r sector yn gryfach, ac y bydd arian cyhoeddus yn gatalydd ac yn sbardun i gyflogwyr sy'n cyflwyno amrywiaeth ehangach o fudd-daliadau ac arferion gwaith teg i weithwyr.

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn haeddu gwobr deg, ac mae ymdeimlad o frys wrth sicrhau bod hynny'n digwydd, ac yr wyf i eisiau gweld grŵp cyntaf o weithwyr yn cael y taliad yn gynnar yn nhymor hwn y Llywodraeth. 

17:10

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Fodd bynnag, mae'n sector cymhleth, ac rydym ni'n gwybod y bydd angen ymdrin â newid hirdymor gyda llaw gadarn, a rhaid iddo fod yn seiliedig ar ystyriaeth ofalus. Bydd angen i ni fynd ati fesul cam i weithredu'r ymrwymiad hwn, sy'n golygu na fydd pob gweithiwr yn cael y cyflog byw gwirioneddol ar yr un pryd. Y rheswm dros hyn yw ein bod ni'n cydnabod y bydd angen amser ar gyflogwyr a chomisiynwyr i addasu i newidiadau. Rydym ni eisiau sicrhau nad ydyn nhw byth yn cael eu tynnu nôl.

Mae hwn yn sector lle mae cannoedd o gyflogwyr a degau o filoedd o weithwyr. Mae'r mwyafrif llethol—tua 85 y cant o wasanaethau—yn y sector annibynnol. Dim ond un neu ddau o gartrefi neu wasanaethau bach y mae nifer fawr o ddarparwyr sector annibynnol yn eu cynnal, a nhw yw'r cyflogwr. Mae hyn yn golygu bod cyflog, telerau ac amodau yn amrywio ledled y sector. Mae cyfraddau cyflog gweithwyr gofal yn amrywio o wasanaeth i wasanaeth a ledled awdurdodau lleol. Rydym ni'n deall bod nifer fach o gyflogwyr eisoes yn talu'r cyflog byw gwirioneddol. Fodd bynnag, nid felly y rhan fwyaf ohonyn nhw.

Er ein bod ni'n buddsoddi arian cyhoeddus, mae heriau o ran gorfodi cyflogwyr i fynd ymhellach na'r isafswm statudol a gafodd ei bennu gan Lywodraeth y DU. Bydd angen i ni weithio drwy'r trefniadau comisiynu i wneud i hyn ddigwydd. Mae angen i ni fanteisio ar y trefniadau gweithio cryf sydd gennym ni rhwng darparwyr a chomisiynwyr.

Bydd yr ymrwymiad hwn yn helpu i gefnogi recriwtio, ond mae'n bwysig, wrth weithredu'r ymrwymiad, nad ydym ni'n creu heriau newydd i ddarparwyr. Dyna pam y mae ymgysylltu â phob rhan o'r sector, drwy bartneriaeth gymdeithasol, mor bwysig. Mae hyn yn dangos cymhlethdod y materion y mae angen i ni weithio drwyddyn nhw.

Byddaf i'n gofyn i fod yn bresennol yn fforwm mis Gorffennaf, pan fyddaf i'n gofyn i aelodau'r fforwm wneud argymhellion i mi ynghylch y dull gorau o sicrhau bod gweithwyr gofal yng Nghymru yn mwynhau cyflog tecach erbyn 2024. Byddaf i'n gofyn i'r fforwm ymgysylltu â'r sector wrth iddo ymgymryd â'r gwaith hwnnw. Rwy'n cydnabod y bydd yr ymrwymiad hwn yn cael effaith ar rannau o'r sector nad ydyn nhw yn cael eu cynrychioli'n uniongyrchol yn y fforwm, ac felly byddwn ni hefyd yn sicrhau bod ymgysylltu ar yr ymrwymiad hwn yn ehangach nag aelodaeth y fforwm. Pan fyddaf i'n cwrdd â'r fforwm ym mis Gorffennaf, byddaf i'n gofyn iddyn nhw ystyried pa ran o'r sector ddylai fod yn fan cychwyn i ni. Byddaf i'n gofyn i'r fforwm adrodd yn ôl i ni, ac yn dilyn hynny byddaf i'n gwneud datganiad arall ar ein cynlluniau ar gyfer gweithredu'r ymrwymiad hwn.

Rydym ni wedi ymrwymo i wneud gofal cymdeithasol yn ddewis gyrfa hirdymor, lle mae gweithwyr o'r farn eu bod yn cael eu gwobrwyo a'u cefnogi'n briodol. Mae hyn yn hanfodol os ydym ni eisiau cryfhau'r gweithlu. Bydd cryfhau'r gweithlu yn sail i ddatblygu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd yn sicrhau bod y sector yn gallu diwallu anghenion newidiol ein cymunedau. Dyma'r sylfaen ar gyfer cryfhau gwasanaethau. Mae hyn yn ymwneud â darparu Cymru decach a chryfach.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad y prynhawn yma.

Mae'n siomedig iawn bod cyflog teg i weithwyr gofal cymdeithasol mor bell i ffwrdd. Byddwn i wedi meddwl, Dirprwy Weinidog, gyda'n plaid ni'n addo talu o leiaf £10 yr awr i staff ym maes gofal cymdeithasol, a Phlaid Cymru yn addo cynyddu'r cyflog mewn termau real, mai cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol fyddai'r isafswm lleiaf y byddech chi wedi'i wneud. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi'i fwrw o'r neilltu ac wedi gofyn i bwyllgor lunio argymhellion—er ni ddylai hynny fod yn syndod, o ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru wedi trin y gweithlu gofal cymdeithasol yn ystod y 15 mis diwethaf. Staff gofal cymdeithasol yw rhai o'r gweithwyr â'r cyflogau isaf, ond roedd disgwyl iddyn nhw fynd uwchlaw a thu hwnt i’w dyletswydd yn ystod y pandemig. Rydym ni i gyd yn cofio'n iawn y £500 a gafodd ei addo i staff gofal y llynedd, a gafodd ei lesteirio gan betruso ac oedi oherwydd methodd Llywodraeth Cymru â thrafod y mater gyda'r Trysorlys cyn anfon ei datganiad i'r wasg. Dirprwy Weinidog, rydym ni'n ddiolchgar i chi gywiro hyn gyda thaliad ychwanegol, ond nawr, a wnewch chi ymddiheuro'n gyhoeddus i bawb a gollodd y taliad cychwynnol, ac a wnewch chi roi'r dasg i'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i edrych y tu hwnt i'r cyflog byw gwirioneddol? A fyddwch yn gofyn iddyn nhw edrych ar dâl salwch, a gafodd ei amlygu yn ystod y pandemig hwn?

Gwnaeth ymchwiliad gan Dŷ'r Arglwyddi ddarganfod bod cartrefi gofal a oedd yn dibynnu ar y rhai a oedd yn ariannu eu gofal eu hunain yn gallu talu staff bron ddwywaith cyflog y cartrefi hynny a oedd wedi'u hariannu gan awdurdodau lleol. A ydych chi'n cytuno, Dirprwy Weinidog, fod yn rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu hariannu'n briodol er mwyn ariannu staff gofal cymdeithasol yn briodol? A wnewch chi sicrhau'r Siambr hon y bydd setliadau llywodraeth leol yn y dyfodol yn caniatáu i'n cynghorau dalu cyflog teg i staff gofal cymdeithasol?

Wrth gwrs, nid wrth y swm yr ydym ni'n ei dalu iddyn nhw yn unig yr ydym ni'n gwerthfawrogi ein staff; mae sut yr ydym ni'n eu trin nhw a'r ffordd yr ydym ni'n eu hyfforddi nhw bron yr un mor bwysig â thalu cyflog teg. Yn anffodus, mae gan Gymru weithlu gofal cymdeithasol sydd wedi colli brwdfrydedd ac wedi digalonni ers amser maith. O ganlyniad, rydym ni wedi gweld y cyfraddau trosiant staff uchaf erioed a niferoedd uchel iawn o swyddi gwag.

Dirprwy Weinidog, gosododd Llywodraeth flaenorol Cymru darged o gyflogi 20,000 yn fwy o staff gofal cymdeithasol erbyn diwedd y degawd hwn. Ai eich bwriad chi o hyd yw gwneud hynny ac, os felly, a wnewch chi amlinellu'r camau y byddwch chi'n eu cymryd i gyflawni'r targed hwn? Yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, mae gennym ni 9 y cant o swyddi ym maes gofal cymdeithasol i oedolion heb eu llenwi a chyfradd trosiant staff o 13 y cant. Ym maes gofal cartref, mae'r gyfradd drosiant yn 30 y cant enfawr y flwyddyn. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno, oni bai ein bod ni'n mynd i'r afael â digalondid staff, bydd y mater cyflog yn eilradd? Ar wahân i fater cyflog teg, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y proffesiwn yn fwy deniadol i staff presennol a'r rhai sy'n ystyried dilyn proffesiwn gofalu?

Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi, Dirprwy Weinidog, i wella cyflog ac amodau staff sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, i sicrhau bod gwaith gofal yn dod yn broffesiwn mwy dymunol, ac yn adlewyrchu'n deg y gwerth yr ydym ni'n ei roi ar y staff anhygoel sy'n gweithio ym maes gofal. Diolch yn fawr iawn. 

17:15

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y sylwadau yna, a hoffwn i ailadrodd ein hymrwymiad llwyr i'r gweithlu gofal cymdeithasol. Yn sicr, nid yw'r mater cyflog wedi'i fwrw ymaith. Fel y dywedais i yn fy natganiad, mae angen i ni wneud hyn yn ofalus ac yn ochelgar oherwydd ei fod yn gymhleth iawn—. Mae'r sector gofal yn gymhleth iawn, ac mae angen i ni wneud hynny mewn partneriaeth, gan weithio gydag undebau llafur, gweithio gyda chyflogwyr a gweithio gyda phartïon eraill â diddordeb. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni symud ymlaen yn y math hwnnw o ffordd, a byddai'n ffôl iawn ceisio rhuthro a gwneud hynny. 

Serch hynny, rydym ni eisiau symud cyn gynted ag y gallwn ni oherwydd ein bod ni'n cydnabod bod staff gofal cymdeithasol wedi cael cyflog isel iawn am gyfnod hir iawn. Felly, rydym ni'n bwriadu gweithredu rhai rhannau o'r sector cyn gynted ag y gallwn ni. Rwy'n gobeithio erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf y byddwn ni'n gallu dechrau talu rhai rhannau o'r sector, ond rydym ni'n dibynnu ar y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i weithio gyda ni, yn y ffordd ar y cyd yr wyf wedi'i disgrifio, i benderfynu pwy ddylai fod y gweithwyr gofal cymdeithasol cyntaf i gael y cynnydd. Ac, wrth gwrs, gweithio gyda'r awdurdodau lleol, yr oedd ef wedi sôn amdanyn nhw, i sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd nod cyffredin, oherwydd rwy'n credu mai'r hyn y mae'r pandemig wedi'i wneud yw gwneud i bawb sylweddoli ein bod ni eisiau sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael gwell cytundeb, ac yn sicr nid oes ganddyn nhw hynny nawr.

Rydym ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol ac mae hynny'n flaenoriaeth yn ein rhaglen lywodraethu ac, wrth gwrs, mae'n gyfradd gyflogau sy'n cael ei chyfrifo'n annibynnol bob blwyddyn i dalu gwir gostau byw. A chaiff ei adolygu—mae'r Sefydliad Cyflog Byw yn achredu sefydliadau sy'n talu'r cyflog byw—ac felly dyma'r ffordd fwyaf priodol, rwy'n credu, o symud ymlaen. Ond rydym ni'n ymwybodol y bydd angen gwneud mwy, ond rwy'n credu y bydd darparu'r cyflog byw gwirioneddol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gweithwyr gofal. Ond rydym ni'n derbyn ei fod yn un cam ymlaen. 

Rwy'n credu iddo gyfeirio at ddigalonni'r staff gofal. Yn sicr, maen nhw wedi bod drwy newid enfawr ac wedi wynebu anawsterau aruthrol na allem ni fyth fod wedi dychmygu y bydden nhw wedi'u gwneud. Ond rwy'n credu bod talu'r ddau daliad bonws arbennig yn gynnydd mawr iddyn nhw, oherwydd siaradodd llawer ohonyn nhw â mi a dweud sut roedd hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu cydnabod, a bod eu gwaith yn cael ei gydnabod. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn i geisio cynyddu'r gwaith o broffesiynoli'r staff gofal cymdeithasol drwy gofrestru. Mae hynny'n rhywbeth yr oeddem ni'n ei wneud cyn i'r pandemig ein taro ni, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth a fydd yn sicrhau bod y staff gofal cymdeithasol yn ymfalchïo yn eu proffesiwn. Felly, diolchaf iddo ef am ei sylwadau, ond rwy'n credu ein bod ni'n mynd ar y ffordd iawn.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad, ac mae hwn yn rhywbeth dwi'n ei groesawu fel cam i'r cyfeiriad cywir. Mae yna frawddeg yn y datganiad sy'n fy mhoeni i. Mi ddywedasoch chi yn ystod y pandemig fod gweithwyr gofal wedi dechrau derbyn y gydnabyddiaeth ehangach am y rôl bwysig maen nhw'n ei chwarae yn darparu gofal a chefnogaeth i'r bobl sydd eu hangen fwyaf. Mae hynny'n wir, wrth gwrs, ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, fod yna ryw ddealltwriaeth newydd wedi dod o bwysigrwydd y sector yma, ond does yna byth esgus i Lywodraeth fod dim ond yn deffro rŵan, yn ystod pandemig, i werth y sector yma, a dyna pam dwi mor rhwystredig ei bod hi wedi cymryd pandemig i ni ddod at y pwynt yma lle mae yna gydnabyddiaeth yn dechrau cael ei dangos iddyn nhw o ran lefel eu cyflog.

Mae yna rywbeth y gallech chi ei wneud. Ydy, mae hi'n gorfod bod yn broses ofalus. Mi fyddwn i'n licio gweld y broses yn digwydd yn llawer cyflymach na dwi wedi'i gweld yn cael ei hamlinellu gan y Dirprwy Weinidog heddiw, ond, oes, mae yna gamau i'w dilyn. Un peth y gallai'r Llywodraeth ei wneud, felly, fyddai pan fydd y cynnydd yn cael ei gyflwyno yn y ffordd briodol, ei fod o'n cael ei 'backdate-io' i gynnwys elfennau o'r pandemig lle mae gweithwyr gofal wedi mynd ymhell tu hwnt beth fyddai unrhyw un yn ei ddisgwyl ohonyn nhw wrth ofalu am y bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw.

Pam cynnig y cyflog byw gwirioneddol yn hytrach na'r £10? Nid dim ond ni a'r Blaid Geidwadol; mae undeb Unsain wedi argymell y dylai £10 fod y ffigur. Oes yna reswm pam? Achos rydych chi'n agos ato fo—rhyw £9.50 ydy'r ffigur erbyn hyn. Pam pitsio hwn yn is pan fo yna gryn waith wedi cael ei wneud ar hyn, yn cynnwys gan yr undebau llafur priodol, i benderfynu beth fyddai'r lefel? Gadewch i ni fod yn onest; dydy £10 yr awr ddim yn agos at fod yn ddigon chwaith.

Nid dim ond lefel y cyflog sydd yn bwysig. Mae cyfran llawer rhy fawr o'r gweithlu ar gytundebau sero oriau. Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi cynnig cynigion dro ar ôl tro yn y Senedd yma, yn gofyn, 'Plis, wnewch chi fynd i'r afael â hyn ac atal y cytundebau sero oriau o fewn y sector yma?' Mae'r Llywodraeth wedi dewis gwrthod hynny. A ydy o'n fwriad gennych chi rŵan, ochr yn ochr â'r cynnig yma o gynyddu cyflog, i fynd ar ôl y mater hwnnw?

Ac ar y bonws, yn olaf, dwi'n cyd-fynd efo llefarydd y Ceidwadwyr fod Llywodraeth Cymru wedi delio efo mater y bonws mewn ffordd gwbl shambolic, mewn difri, ac y dylid bod wedi rhoi'r hwyaid mewn rhes cyn gwneud cyhoeddiadau, ac rydym ni'n gwybod faint o oedi a fu oherwydd y blerwch, bryd hynny. Ond, hynny ydy, y Trysorlys Ceidwadol, yn y pen draw, wnaeth fethu â delio efo'r mater yn y ffordd ddifrifol yr oedd o'n ei haeddu a ffeindio datrysiad, fel bod y problemau yn gallu cael eu datrys. Ac un broblem sy'n codi dro ar ôl tro gen i ac Aelodau eraill ar y meinciau yma ydy'r bobl sydd wedi colli credyd cynhwysol wrth iddyn nhw gael cynnig y bonws. Ydy hwnnw'n rhywbeth rydych chi'n dal yn trio mynd i'r afael â fo, yn cynnwys y posibilrwydd o gynyddu'r bonws i'r rheini sydd wedi gweld eu hunain yn colli arian a fyddai wedi dod fel arall o dan y credyd cynhwysol?

17:20

Diolch i Rhun ap Iorwerth am yr holl bwyntiau yna. O ran pam y cyflog byw gwirioneddol yn hytrach na'r £10 y gwnaeth ef ei grybwyll, rwy'n credu i mi ymateb i hynny, i lefarydd y Ceidwadwyr. Mae'r cyflog byw gwirioneddol yn rhoi sicrwydd i weithwyr y bydd eu cyfraddau cyflog yn cael eu hadolygu'n annibynnol ac yn deg bob blwyddyn. Yn hytrach na ffigur untro, fel £10, mae modd rhoi sicrwydd i weithwyr y caiff ei ddiweddaru bob blwyddyn. Mae'r Sefydliad Cyflog Byw yn sefydliad uchel ei barch sy'n gwneud cyfrifiad ac maen nhw wedi cynnig  £9.50, ac rwy'n credu y bydd yn gam mawr ymlaen pan fyddwn ni'n gweithredu'r £9.50 ar gyfer pob gweithiwr gofal cymdeithasol. Rwyf i'n cydnabod ei fod yn gam i'r cyfeiriad iawn, ond fel y dywedais i, rydym ni'n dibynnu'n fawr wedyn ar y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i weithio ar yr holl faterion hyn gyda ni.

Ac mae'r holl bwyntiau eraill ynghylch y bonws y gwnaeth ef sôn amdanyn nhw, fe wyddoch chi, rwy'n credu, yn amlwg, y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi parhau i drethu'r bonws a hefyd yn caniatáu iddo effeithio ar y buddion yn rhywbeth yr oedd ganddyn nhw'r pŵer i'w wneud, ac mae'r ffaith nad oedden nhw wedi'i wneud yn dangos eu diffyg cydymdeimlad â gweithwyr gofal cymdeithasol.

Y pwyntiau eraill y mae ef yn eu gwneud ynghylch y contractau dim oriau a'r gydnabyddiaeth wahanol i weithwyr gofal cymdeithasol, mae'r rheini i gyd yn bethau y bydd y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol yn eu hystyried. Ond rydw i wir yn teimlo bod hwn yn gam ymlaen a byddwn ni'n darparu'r cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol erbyn 2024, ond byddwn ni'n dechrau ei gyflawni erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf ac rwy'n credu bod hynny'n amserlen resymol.

17:25

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am y diffiniad o weithwyr gofal cymdeithasol. Mae'n fater sydd wedi'i godi gyda mi ac rwyf i, yn fy nhro, wedi ysgrifennu atoch chi yn ei gylch—nad yw rhai mathau o weithwyr wedi'u cynnwys yn y cynllun cydnabod gofal cymdeithasol, er enghraifft, eiriolwyr a staff cymorth busnes.

Yn ail, rwy'n croesawu eich sylwadau ynghylch gwneud gofal cymdeithasol yn ddewis gyrfa hirdymor. A allwch chi ddweud unrhyw beth arall am waith Llywodraeth Cymru o ran gofal cymdeithasol a'r agenda sgiliau? Dylem ni i gyd gydnabod bod gofal cymdeithasol yn swydd fedrus, wrth gwrs, ond sut y gallwn ni sicrhau ei fod yn wir yn cael ei ystyried felly?

Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau yna. Mae'n amlwg bod y mater ynglŷn â phwy sydd wedi cael y taliad cydnabod wedi achosi rhai problemau, yn enwedig gyda'r bobl y mae hi wedi sôn amdanyn nhw—eiriolwyr a chymorth busnes. Ond diben rhoi'r bonws i weithwyr gofal cymdeithasol oedd ei roi i'r rhai sydd wir yn darparu'r gwasanaeth. Ac rydym ni wir yn dymuno y gallem ni ei ddosbarthu'n llawer ehangach, ond wrth gwrs, mae terfyn ariannol i'r hyn y gallwn ni ei wneud mewn gwirionedd. Felly, un o'r tasgau cyntaf y byddwn ni'n gofyn i'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol ei gwneud, yw gweithio gyda ni i ddiffinio pwy fydd y gweithwyr gofal cymdeithasol a fydd yn cael y cyflog byw gwirioneddol, ac ni fydd hynny'n hawdd ei wneud. Dyna pam yr wyf i wedi dweud, mewn gwirionedd, fod hon yn broses gymhleth a pham nad ydym ni eisiau ei rhuthro. Mae'n amlwg bod rhai gweithwyr yn weithwyr gofal cymdeithasol, er enghraifft, pobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal preswyl neu bobl sy'n darparu gofal cartref, ond mae llu o bobl eraill y mae'n rhaid eu hystyried. Felly, dyna fydd un o dasgau cyntaf y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, ac rwy'n falch iawn y byddwn ni'n gwneud hynny ar y cyd â'r undebau a gyda chyflogwyr a sefydliadau eraill.

Nawr, wrth geisio annog pobl i ddewis gofal cymdeithasol fel dewis gyrfa, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cofrestru gweithwyr cartref a nawr mae'n symud ymlaen at gofrestru gweithwyr gofal preswyl. Mae'r broses gofrestru yn amlygu'r sgiliau sydd gan gynifer o bobl, a beth allai fod yn bwysicach na gofalu am unigolyn oedrannus, agored i niwed neu blentyn sy'n agored i niwed? Mae'n un o'r swyddi pwysicaf y mae modd ei gwneud, a thrwy eu hysbysebu—mae ganddyn nhw broses hysbysebu sy'n uchel ei pharch ac sydd, mewn gwirionedd, wedi cael ei hefelychu gan wledydd eraill yn y DU, gan yr Alban yn benodol—maen nhw wedi llwyddo i ddenu pobl i wneud cais am swyddi gweithwyr gofal cymdeithasol. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â hi bod yn rhaid i ni gyfrannu popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y swyddi hyn yn parhau i fod yn swyddi llwyddiannus i bobl, lle maen nhw'n teimlo bod ganddyn nhw yrfa o'u blaenau. Ac rwy'n credu mai gwneud yn siŵr bod eu cyflog yn gwella yw un o'r camau cyntaf tuag at hynny.

8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021

Eitem 8: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig. Eluned Morgan.

17:30

Cynnig NDM7724 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron ni heddiw.

Roedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn gosod y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y pedair lefel rhybudd a ddisgrifir yn y cynllun rheoli coronafeirws. Ers mis Chwefror, a than yn ddiweddar, roeddem ni wedi gweld y darlun yn gwella yng Nghymru. Roedd nifer yr achosion o'r coronafeirws, a nifer yr achosion o bobl a oedd yn gorfod yn mynd i'r ysbyty oherwydd y feirws, wedi bod yn gostwng. Mae hyn wedi ein galluogi i wneud newidiadau sylweddol i'r cyfyngiadau, gan ganiatáu i bobl fwynhau mwy a mwy o ryddid gyda phob adolygiad sydd wedi'i gynnal. Fel mae'r rheoliadau'n nodi, rhaid i'r cyfyngiadau gael eu hadolygu bob tair wythnos. Yn yr adolygiad ar 4 Mehefin, oherwydd y pryderon cychwynnol am ledaeniad yr amrywiolyn delta, penderfynwyd y byddai'r newidiadau i symud i lefel rybudd 1 yn cael eu gwneud cam wrth gam. Dywedom y byddem yn ailedrych ar y sefyllfa o fewn yr un cyfnod adolygu, a chafodd adolygiad ychwanegol ei gynnal bythefnos yn ddiweddarach.

Dwi eisiau ymddiheuro os yw'r araith yma yn swnio'n debyg iawn i'r drafodaeth y cawsom ni yr wythnos diwethaf. Yr wythnos diwethaf, mi roddais i ddiweddariad ar gyhoeddiadau'r Prif Weinidog. Ond, heddiw, mae yna gyfle inni dderbyn yn ffurfiol y newidiadau i'r rheoliadau yna mewn ffordd sy'n ffurfiol, a lle mae'r Senedd yn rhoi ei stamp swyddogol arnyn nhw. Fel y cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 18 Mehefin, gan ailadrodd y neges yn ei gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener diwethaf, rŷn ni wedi cytuno i oedi unrhyw lacio mawr tan yr adolygiad ar 15 Gorffennaf. Y rheswm am hyn yw'r cynnydd mewn achosion o'r coronafeirws ledled Cymru, a'r ansicrwydd parhaus am yr amrywiolyn delta. Mae dulliau gweithredu tebyg wedi'u mabwysiadu ledled y Deyrnas Unedig.  

Fel y cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 18 Mehefin, ac yna ei ailadrodd yn ei gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener diwethaf, rydym ni wedi cytuno i oedi unrhyw lacio mawr tan yr adolygiad ar 15 Gorffennaf. Mae hyn o ganlyniad i'r cynnydd mewn achosion coronafeirws ledled Cymru gyfan, a'r ansicrwydd parhaus ynglŷn â'r amrywiolyn delta. Mae dulliau tebyg wedi'u mabwysiadu ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r oedi hwn yn bwysig am ddau reswm. Yn gyntaf, bydd yn caniatáu i ni frechu mwy o bobl. Byddwn ni'n canolbwyntio ar ail ddosau, yr ydym ni'n gwybod eu bod yn darparu lefel uchel o ddiogelwch yn erbyn yr amrywiolyn delta. Yn ail, bydd yn rhoi mwy o amser i ni ddeall effaith brechu ar y cysylltiad rhwng achosion, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau.

Er ein bod ni wedi penderfynu gohirio'r symudiad llawn i lefel rhybudd 1 tan o leiaf 15 Gorffennaf, rydym ni wedi gwneud rhai mân addasiadau i'r rheoliadau i'w gwneud yn haws eu cymhwyso a'u deall. Mae gwelliant Rhif 13 i'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw yn caniatáu i nifer y bobl sy'n cael ymgynnull mewn gwledd briodas neu bartneriaeth sifil neu wylnos gael ei benderfynu yn ôl maint y lleoliad. Bydd uchafswm nifer y bobl sy'n bresennol yn cael ei bennu gan asesiad risg. Rydym ni'n cydnabod bod y rhain yn adegau arwyddocaol iawn ym mywydau pobl, ac rydym ni wedi ceisio eu blaenoriaethu yn ystod y pandemig lle gallwn ni. Rydym ni hefyd wedi egluro yn y rheoliadau fod lleoliadau adloniant bach ar lawr gwlad—fel cerddoriaeth a chomedi—yn gallu gweithredu ar lefel rhybudd 2 neu'n is. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r sector lletygarwch ehangach.

I wneud hyn, rydym ni wedi cynnwys eithriad i'r cyfyngiadau digwyddiadau, a allai fel arall eu hatal rhag agor gyda mwy na 30 o bobl yn bresennol. Rydym ni wedi egluro ein rheolau ar y mesurau y mae'n rhaid i rywun sy'n gyfrifol am safle a reoleiddir, fel bwyty neu dafarn, eu rhoi ar waith. Yn benodol, rydym ni wedi egluro nad oes angen i unigolyn sy'n gyfrifol am safle sicrhau pellter cymdeithasol o 2m o fewn grŵp o chwech o bobl. Bydd hyn yn berthnasol mewn safleoedd awyr agored neu dan do ac mewn mannau fel ar drên neu mewn digwyddiadau. Rydym ni'n dal i gynghori pobl i ymarfer ymbellhau cymdeithasol lle bo hynny'n bosibl a'u bod yn ymatal rhag ysgwyd llaw a chofleidio. Bydd safleoedd a reoleiddir hefyd yn gyfrifol am gynnal asesiad risg a rhoi ar waith unrhyw fesurau sydd wedi'u nodi i leihau'r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â choronafeirws yn y safleoedd hyn. Mae'r un rheoliad ar y mesurau y mae disgwyl i fusnesau eu cymryd wedi'u hailddrafftio i adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf ar reoli risgiau. Mae hyn yn cynnwys ystyried awyru fel mesur lliniaru pwysig. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau statudol diwygiedig i roi esboniad ychwanegol ynghylch y newidiadau hyn.

Ac yn olaf, bydd plant ysgol gynradd yn cael aros dros nos mewn canolfannau addysg awyr agored preswyl—rhan hanfodol o'u profiad addysg. Bydd hyn yn ddull graddol ond, o 21 Mehefin, bydd plant yn eu grwpiau cyswllt ysgol neu swigod dosbarth yn cael aros dros nos yn y canolfannau hyn. Mae'n bwysig ein bod ni'n dileu cyfyngiadau cyn gynted â'u bod yn anghymesur, o ystyried yr effaith gymdeithasol ac economaidd sylweddol y maen nhw'n eu cael ar bobl a busnesau yng Nghymru, ac oherwydd y rheswm hwnnw rwy'n annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch, Llywydd

17:35

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Gweinidog, am y rheoliadau heddiw ac am eu cyflwyno. Gallaf i ddweud yn sicr y byddwn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r rheoliadau heddiw sydd wedi'u cyflwyno'n ôl-weithredol, oherwydd mae'n amlwg eu bod yn llacio nifer o gyfyngiadau, gan gynnwys, fel y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, briodasau ac angladdau, sydd, fel yr oeddech chi wedi'i ddweud, yn adegau bywyd pwysig i deuluoedd. Rwy'n cytuno â'ch holl deimladau ynghylch hynny. Rwy'n falch iawn o weld y rheini yn y rheoliadau presennol hyn.

Rwyf i hefyd yn falch iawn—rwy'n gwybod ein bod ni wedi siarad amdano o'r blaen—ynghylch canolfannau addysgol awyr agored ac aros dros nos. Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Y pryder sydd gennyf i—a gobeithio y caiff hyn ei gymryd fel gwers i'w dysgu efallai—yw amser paratoi'r cyhoeddiadau hyn, oherwydd mae angen amser ar lawer o fusnesau i newid eu trefniadau, ac mae ysgolion eisoes yn gwneud trefniadau ymlaen llaw oherwydd rhesymau amlwg. Felly, os oes amser paratoi byr, yna ni fydd amser cyn diwedd y tymor ysgol er mwyn defnyddio'r rheoliad penodol hwnnw. Rwy'n pryderu y bydd rhai ysgolion, efallai o Loegr, sydd fel arfer yn dod i Gymru, yn mynd i Loegr eleni, ac yna byddan nhw'n parhau i fynd i Loegr yn hytrach na dod yn ôl i Gymru.

Rwy'n nodi'r diwygiad i reoliad 16 o'r prif reoliadau, ac rwy'n gweld bod eglurhad yno ar asesiadau risg a gaiff eu gwneud gan bobl sy'n gyfrifol am safleoedd a reoleiddir, gan gynnwys y rheol cadw pellter cymdeithasol 2m. Rwy'n croesawu'r gwelliant penodol hwnnw'n fawr. Rwy'n credu bod hynny'n dda ac yn gywir. Rwy'n sylwi hefyd fod yn rhaid i safleoedd, o dan y gofyniad newydd, sicrhau bod ganddyn nhw ardaloedd sydd wedi'u hawyru'n dda. Byddwn i'n ddiolchgar, efallai wrth grynhoi, os oes gennych chi unrhyw fanylion eraill yn hynny o beth. Rwy'n meddwl yn benodol am fusnes lle efallai, oherwydd strwythur yr adeilad, mae'n anodd iawn gwneud newidiadau, ac a oes unrhyw gymorth busnes ar gael i helpu'r busnesau penodol hynny. Rwy'n siŵr ei fod nid yn unig yn berthnasol i fusnesau, ond i ardaloedd cyhoeddus eraill hefyd.

Byddwn i hefyd yn ddiolchgar pe byddai modd i chi egluro polisi eich Llywodraeth ar leihau lledaeniad COVID mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Ddoe, gwn fod eich cyd-Weinidog y Gweinidog addysg wedi dweud mai, yn fuan, mater i safleoedd unigol fydd penderfynu ar eu rheolau diogelwch COVID eu hunain yn y dyfodol, ac ni fydd swigod dosbarth na gofyn i ysgolion nodi cysylltiadau agos eu hunain. Gwn o adroddiadau ddoe fod rhai o'r undebau wedi amlinellu y byddai'r polisi hwn yn anymarferol o'u safbwynt nhw, ac y dylai'r penderfyniadau ar ddiogelwch COVID fel y rhain gael eu penderfynu gan glinigwyr yn hytrach nag athrawon. Dyna oedd barn yr undebau ddoe. Felly, byddwn i'n croesawu eich barn a'ch syniadau ar hynny, o ran a ydych chi'n cytuno â safbwynt yr undeb ar hynny, neu a ydych chi, wrth gwrs, yn cytuno â'ch cyd-Weinidog y Gweinidog addysg.

A siarad am ddychwelyd at ryw normalrwydd eto, gallaf weld bod Llywodraeth y DU wedi ailymrwymo eto i'w dyddiad sef 19 Gorffennaf. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud yr un peth fwy neu lai ar gyfer 19 Gorffennaf hefyd, ac mae'n sôn ynghylch mynd i lefel 0. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi cael trafodaethau hir ar hyn yn y Siambr hon, ynglŷn â chael dyddiad pendant fel hwnnw. Erbyn hyn, rydym ni'n gweld mwy o heintiau yng Nghymru, wrth gwrs, ond rydym ni nawr ar bwynt lle nad ydym ni wedi gweld unrhyw farwolaethau COVID yn cael eu hadrodd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am yr wythnos gyntaf ers y pandemig. Wrth gwrs mae cael yr ystadegyn hwnnw yn newyddion cadarnhaol iawn i ni. Hefyd, mae gwelyau cyffredinol ac acíwt sy'n cael eu defnyddio gan gleifion COVID nawr ar eu lefel isaf ers dechrau'r pandemig, yr holl fisoedd hynny yn ôl. Felly, rwy'n gofyn y cwestiynau mae'n debyg yn sgil hynny.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu ffigurau ar gyfer yr amrywiolyn delta yn ddiweddar, sy'n dangos 117 o farwolaethau o 92,000 o achosion o'r amrywiolyn delta. Mae gennyf i amrywiaeth eang o ystadegau yma, na fyddaf i'n mynd drwyddyn nhw, ond, yn y bôn, mae'r ystadegau'n amlinellu os ydych chi wedi cael y ddau frechiad hynny, yna mae'n mynd i fod yn annhebygol iawn y byddwch chi'n mynd i'r ysbyty. Felly, rwy'n gwybod fy mod i'n mynd i swnio'n ailadroddus yma, Gweinidog, ond, rydym ni'n dyheu yn fawr am y dyddiad hwnnw. Rydym ni'n gwybod nawr—newyddion da eto—fod 89 y cant o'r rheini dros 18 oed wedi cael eu brechiad cyntaf yng Nghymru. Mae hynny'n newyddion da, cadarnhaol. Felly, yn hynny o beth, gyda'r holl wybodaeth hon yn dod at ei gilydd, rwy'n gobeithio'n fawr y byddwch chi'n gallu rhoi rhyw syniad i ni nawr pryd y byddwn ni'n cael y dyddiad hwnnw o ran codi'r cyfyngiadau hynny a dychwelyd i ryw radd o normalrwydd. Rwy'n gobeithio, un wythnos pan fyddaf i'n gofyn y cwestiwn hwnnw, y byddwch chi'n gallu rhoi'r dyddiad hwnnw i ni.

Gweinidog, nid normalrwydd i fusnesau yn unig, wrth gwrs, ac addysg, sy'n bwysig, ond mae hefyd yn ymwneud â dod â'r GIG yn ôl i'w gapasiti drwy driniaeth reolaidd a'i alluogi i ymdopi â'r ôl-groniad enfawr sy'n ein hwynebu ni yng Nghymru. Nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth y byddwn ni'n parhau i ofyn y cwestiynau hyn drwy gydol adferiad y GIG o COVID-19. Ond rwy'n deall bod GIG Lloegr wedi bod yn cynyddu ei gapasiti'n gyson i leihau'r ôl-groniadau yno, ac y bydd yn gweithio tuag at gapasiti o 115 y cant yn y tymor canolig, i reoli eu rhestrau aros. Mae hefyd wedi gallu sefydlu safleoedd rhydd o COVID ledled byrddau iechyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ddechrau gyda chanolfannau canser. Felly, a gaf i eich holi chi am gapasiti yma yng Nghymru? A oes unrhyw dargedau canran capasiti y byddwch chi'n gweithio tuag atyn nhw yn hynny o beth? Beth ydym ni'n debygol o'i weld yn ystod tymor y Senedd hon? Rwy'n sylwi hefyd eich bod chi wedi amlinellu, o'r blaen, eich pryderon am y 30,000 yn llai o ymholiadau canser a gafodd GIG Cymru—[Torri ar draws.]—hyd yn hyn eleni. Rwy'n cytuno, wrth gwrs—

17:40

—gyda hynny hefyd. Ydw i wedi mynd ymlaen yn rhy hir, Llywydd? Dof i ben yn y fan yna, oherwydd mae'r Llywydd newydd yn y gornel fanna wedi dweud wrthyf fy mod i'n mynd dros amser. Gorffennaf yn y fan yna, felly, Llywydd wrth gefn yn y gornel, a gofyn ynghylch cynlluniau byrddau iechyd lleol o ran canolfannau sy'n rhydd o COVID a thriniaeth reolaidd yn hynny o beth hefyd.

Eluned Morgan a gododd—

Dadl yw hon, nid datganiad. Rwyf i wedi cael pryd o dafod am y ffordd rwy'n cadw amser yn barod; ni fyddaf i'n derbyn pryd o dafod oherwydd fy nealltwriaeth o'r Rheolau Sefydlog ar ddadleuon. Rhun ap Iorwerth, os ydych chi'n dymuno cyfrannu, rwy'n awgrymu eich bod chi'n dechrau nawr, .

Roedd yn fwy o fater o ofyn am eglurhad yn hytrach na rhoi pryd o dafod i chi.

Diolch, Weinidog, am y datganiad o gwmpas y rheoliadau newydd yma. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau yma, er mai cyd-destun y rheoliadau yma ydy penderfyniad i beidio â llacio ymhellach. Mi oedd yna gyfle yma i edrych ar ambell i elfen ac i wthio'r ffiniau o beth oedd yn bosib o gwmpas priodasau ac yn y blaen, a dwi'n sicr yn croesawu hynny fel egwyddor—y dylid bod yn chwilio am beth sy'n bosib i'w wneud yn ddiogel drwy'r amser. Felly, dwi'n croesawu hynny.

Mae gen i jest rhyw bedwar neu bump o gwestiynau yn sydyn. Rydych chi'n sôn eto am bwysigrwydd awyr iach ac awyru—dwi'n croesawu hynny yn fawr iawn. Beth am godi sbec y masgiau rydyn ni'n disgwyl i weithwyr iechyd a gofal eu gwisgo? Mae yna dal bwysau ar y Llywodraeth i fynnu gwisgo masgiau FFP3—mi fyddem ni'n gwerthfawrogi diweddariad ar hynny. Gaf i ofyn am eglurhad ar rywbeth ddywedoch chi wythnos yn ôl? Mi ddywedoch chi:

'O ran myfyrwyr, mae'n glir ei bod hi'n bosibl i bobl gerdded i mewn a chael eu brechlyn. Mae'n bwysig bod pobl yn deall hynny—dos cyntaf neu'r ail ddos hefyd.'

Mae'n gwaith ymchwil ni'n awgrymu mai dim ond dau fwrdd iechyd, Hywel Dda a Betsi Cadwaladr, sy'n cynnig walk-ins—canolfannau walk-in—mor syml â hynny heb apwyntiad. Posibl allwch chi egluro beth ydy'r sefyllfa, ac os nad ydy hyn ar gael ym mhob ardal bwrdd iechyd, ydy o'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn ei wthio, achos dwi'n meddwl ei fod o angen cael ei ddatblygu fel rhan o'r cynnig i ddod â mwy o bobl i mewn mor fuan â phosibl i gael y brechiad. 

Mi wnaf i nodi yn y fan hyn anfodlonrwydd mawr, mawr ar draws y byd addysg yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog addysg ddoe. Fel Gweinidog iechyd, lle mae dealltwriaeth o reolau a chysondeb y ffordd mae'r rheolau'n cael eu gweithredu ar draws Cymru'n bwysig yn y frwydr yn erbyn y feirws, a fyddech chi'n galw ar y Gweinidog addysg i edrych eto ar ambell i elfen o'r hyn ddywedodd o ddoe o ran rhoi pwerau yn nwylo ysgolion unigol a'r dryswch allai ddigwydd yn sgil hynny? 

Ac mae gen i gwestiwn hefyd ynglŷn â'r Gweinidog iechyd newydd yn San Steffan. Oes cyfarfod wedi digwydd yn barod, neu a ydych chi wedi ceisio cael cyfarfod efo'r Gweinidog iechyd newydd, yn benodol i ofyn ynglŷn â'i fwriad penderfynol o i wthio ymlaen, mae'n ymddangos, efo'r dyddiad i godi pob cyfyngiad ar 19 Gorffennaf yn Lloegr, ac i ystyried goblygiadau hynny i Gymru, a'r drafodaeth fydd ei hangen rhyngoch chi fel Gweinidogion iechyd ynglŷn â hynny?

Ac yn olaf, y Gymraeg—yr ap newydd sydd i alluogi pobl i ddangos tystysgrif i gadarnhau eu bod nhw wedi cael eu brechu. Mi glywsom ni'r Prif Weinidog yn dweud nad ydy o ar gael yn y Gymraeg. Mi ddylid, bob amser, beth bynnag y cyd-destun, sicrhau bod darpariaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd. Mae hwnna'n gwestiwn, ond hefyd gaf i dynnu eich sylw chi at yr anfodlonrwydd mawr a'r ypsét sydd wedi cael ei achosi? Mae nifer o bobl sydd wedi cysylltu efo fi yn gweld eu cerdyn brechu nhw efo'r Gymraeg yn cael ei chroesi allan—yn cael ei lenwi i mewn yn Saesneg, sy'n iawn os nad ydy'r staff yn siarad Cymraeg, ond y Gymraeg yn cael ei chroesi allan. Mae cael brechiad wedi dod yn rhywbeth eithaf emosiynol i lot o bobl, ac mae gweld y Gymraeg yn cael ei thrin yn y ffordd yna wedi achosi ypsét i sawl un sydd wedi cysylltu efo fi.

17:45

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle i siarad ynghylch yr hyn y mae rhai gweithredwyr yn ei ddisgrifio fel y 'sector anghofiedig', sef canolfannau addysg awyr agored preswyl Cymru. Mae'r diwydiant werth tua £40 miliwn i'r economi, gyda mwy na 1,700 o bobl yn cael eu cyflogi. Cyn COVID, roedd 44 o ganolfannau yng Nghymru, a dangosodd ffigurau ym mis Mawrth fod o leiaf pump wedi cau yn ystod y 12 mis diwethaf.

Yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae gennyf Antur Bae Morfa, y gwnes i ymweld â hi ddiwedd y mis diwethaf. Gwnaethon nhw ddangos pryderon gwirioneddol ynglŷn â'r ffaith nad oedd ailagor y sector yma yng Nghymru yn adlewyrchu'r ffaith bod gweddill y DU wedi ailagor, gan roi eu busnesau dan anfantais ddilys, fel yr oedd fy nghyd-Aelod Russell wedi sôn yn gynharach. Mewn e-bost yn dilyn fy ymweliad â Bae Morfa, fe wnaethon nhw ysgrifennu:

'Siaradais i ag ysgol yn Swindon ddoe a oedd i fod i ymweld mewn pythefnos. Maen nhw'n gweddïo y gallan nhw ymweld, i'w plant nhw, dyma fydd eu hunig wyliau, mae'n debyg, tan eu bod yn ddigon hen i adael eu cartrefi yn oedolion. Nid yw rhai wedi gweld y môr erioed nac wedi cerdded ar y tywod, ac eto mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthod y cyfle hwn i'r plant hyn.'

Mae hyn yn dangos pwysigrwydd y cyfleusterau hyn a'r lleoliadau hyn i addysg plant, oherwydd mae'r hyn yr ydym ni'n ei ddysgu mewn bywyd yn fwy na'r hyn a gaiff ei addysgu i ni mewn ystafell ddosbarth yn unig. Codais i'r mater hwn gyda'r Gweinidog addysg yn dilyn fy ymweliad, a chefais wybod na fyddai'r busnesau hyn yn ailagor nes i Gymru symud yn llwyr i lefel rhybudd 1. Yn yr adolygiad diwethaf o reoleiddiad COVID, symudodd Cymru nid yn llwyr i lefel rhybudd 1, ond yn hytrach symudiad rhannol, gydag ymlacio mewn rhai meysydd. O ganlyniad, nid oedd addysg awyr agored yn rhan o'r adolygiad hwn, ac roedd y ffaith eu bod yn parhau ar gau yr adeg yma yn eu rhoi o dan anfantais o'u cymharu â disgyblion cyfatebol yn Lloegr. Collodd y busnesau hyn yng Nghymru ymweliadau ac efallai na fyddan nhw byth yn eu cael yn ôl, wrth i ysgolion benderfynu mynd â'u disgyblion i ganolfannau addysg awyr agored yn Lloegr. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod ysgolion Cymru ar agor, er gwaethaf y ffaith bod y busnesau hyn yn cyflwyno mesurau diogelwch i gynorthwyo ymbellhau cymdeithasol a chaniatáu swigod grwpiau ysgol, ac er gwaethaf yr wyddoniaeth a'r data sy'n dangos bod y risg i'n pobl ifanc yn anhygoel o isel. Roedd yn teimlo, meddai'r busnesau hyn, fod synnwyr cyffredin ar goll pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru y rheoliadau COVID hyn.

Er i Lywodraeth Cymru roi eglurhad bythefnos lawn ar ôl y symudiad cychwynnol i lefel 1 a oedd yn caniatáu i ysgolion cynradd ymweld â'r canolfannau awyr agored preswyl hyn ar yr unfed ar hugain o'r mis hwn, mae'r penderfyniad hwn wedi'i alw'n niwlog gan y diwydiant, ac yn ôl pob golwg nid yw'n cyd-fynd â gweddill y DU. Er y gallai fod yn hawdd meddwl bod y materion hyn ar gyfer y sector hwn bellach wedi'u datrys, gan eu bod wedi gallu ailagor i ysgolion cynradd, nid yw hynny'n wir.

Gweinidog, rwy'n eich annog chi, os gwelwch yn dda, i wneud mwy o waith i egluro'r rheolau ar gyfer y busnesau hyn i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â busnesau eraill ledled y DU fel nad ydyn nhw o dan anfantais mwyach, a hefyd, gan fod y busnesau hyn wedi'u cau am fwy o amser na busnesau cyfatebol yn Lloegr, eich bod chi'n gweithio gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet i sicrhau eu bod nhw'n cael cymorth ariannol priodol. Diolch.

17:50

Fel y byddwch yn ymwybodol, Canolfan Iâ Cymru yw’r unig ganolfan iâ sy’n parhau ar gau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r ganolfan, sydd dim ond nepell o’r Senedd hon, wedi bod ar gau am 15 mis. Y gobaith oedd y byddai hyn wedi newid ar 21 Mehefin, ond penderfynwyd gohirio hyn ymhellach.

Canolfan Iâ Cymru yw’r ganolfan iâ mwyaf modern yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddi system rheoli adeiladau fodern i reoli llif awyr iach a gwres i greu pa bynnag amodau sy'n cael eu hystyried yn ddiogel. Nid oes gan lawer o leoliadau dan do systemau o'r fath. Ar ben hynny, mae y ganolfan iâ gyda nenfwd a chyfaint aer llawer uwch na'r lleoliadau dan do sydd eisoes ar agor fel sinemâu, canolfannau bowlio ac ati.

A allaf ofyn bod ystyriaeth frys yn cael ei rhoi i’r mater hwn, gan ei fod yn cael effaith andwyol ar bawb sydd yn gysylltiedig â'r ganolfan? Mae’n ymddangos yn anghyson iawn bod ein sglefrwyr iâ ni yn medru teithio i Loegr i hyfforddi mewn canolfannau llawer llai modern, a methu â defnyddio’r un sydd yma yng Nghymru. Diolch.

Diolch yn fawr. Roedd cryn dipyn o faterion yn y fan yna. Fe wnaf i geisio mynd drwyddyn nhw'n gyflym cyn gynted ag y gallaf i. Yn gyntaf oll, ar briodasau, rydym ni bob amser wedi bod yn bryderus iawn am briodasau. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl sy'n cynnal busnesau yn y sector hwn wir wedi dioddef yn ystod y cyfnod hwn. Rydym ni hefyd yn ymwybodol iawn mai dyma'r union fath o le y gallai'r feirws ledaenu ynddo, lle nad yw pobl wedi gweld ei gilydd ers amser maith, felly mae'n rhaid i ni gadw hynny mewn cof, a dyna pam yr ydym ni wedi gorfod cymryd agwedd ofalus iawn at ailagor priodasau. Ond rydym ni'n falch iawn ein bod ni wedi gallu symud ychydig yn gyflymach yn y maes hwnnw gyda'r diwygiadau penodol hyn.

O ran yr amser paratoi, mewn byd delfrydol, mae'n broblem, onid yw? Nid oes modd trefnu priodas dros nos. Mae angen amser paratoi hwy ar bobl er mwyn trefnu, a'r broblem sydd gennym ni yw ein bod ni'n cael adolygiad tair wythnos. Yr hyn nad ydym ni wedi'i wneud yng Nghymru yw rhoi ymrwymiad hirdymor i'r hyn sy'n debygol o ddigwydd, a hynny oherwydd ein bod ni wedi gwylio'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr, lle maen nhw wedi gwneud addewidion ac maen nhw wedi'u torri dro ar ôl tro, gan fod y feirws wedi adweithio ac ymateb mewn ffordd wahanol i'r hyn a gafodd ei fodelu. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol y gall pethau newid yn gyflym, ac rydym ni'n cymryd ymagwedd lawer mwy gofalus, oherwydd nid ydym ni eisiau codi disgwyliadau y mae angen eu chwalu wedyn, sef yr hyn sydd wedi digwydd dro ar ôl tro yn Lloegr.

Awyru—rydym ni'n awyddus iawn i danlinellu pwysigrwydd hynny; rwyf i'n falch bod Rhun wedi tanlinellu hynny. Rwy’n credu, yn arbennig, yn yr haf, ei bod yn amser da i atgoffa pobl bod llif aer, mewn gwirionedd, yn ffactor pwysig.

O ran lledaeniad mewn ysgolion, rwy'n credu mai'r hyn y mae'r Gweinidog addysg wedi'i ddweud yw y bydd fframwaith ar gyfer gwneud y penderfyniadau hyn. Nid yw'n fater i bob ysgol benderfynu ar hap yr hyn sy'n mynd i ddigwydd; bydd fframwaith y byddan nhw’n gweithio ynddo a chaiff hwnnw ei ddatblygu yn ystod yr wythnosau nesaf fel ein bod ni'n barod i ddod yn ôl i ysgolion ym mis Medi gyda dealltwriaeth o beth allai'r amgylchiadau gwahanol hynny fod, oherwydd efallai y bydd gennym ni rai rhannau o'r wlad lle mae'r feirws yn rhedeg yn wyllt, a rhannau eraill lle mae'r feirws ar lefel isel.

Nid oes gennym ni ddyddiad terfyn yng Nghymru. Nid ydym ni'n mynd i roi dyddiad terfyn yng Nghymru. Ac roeddwn i'n meddwl ei bod yn ddiddorol iawn mai'r peth cyntaf a wnaeth yr Ysgrifennydd iechyd newydd yn Lloegr oedd cyhoeddi, 'Iawn, dyna ni, mae diwrnod rhyddhau yn dod.' Ac rwyf i wedi ysgrifennu ato, rwy'n falch o ddweud, dim ond i'w groesawu i'w swydd ond hefyd i ddweud pa mor bwysig yw dilyn y data. A dyna'r dull yr ydym ni wedi'i gymryd yng Nghymru. Fel arfer, cawn gyfarfodydd wythnosol o Weinidogion iechyd y pedair gwlad. Nid wyf i wedi clywed bod hynny'n mynd i gael ei ganslo, felly rwy'n tybio y bydd hwnnw'n mynd yn ei flaen. 

Rwy'n falch iawn o weld y ffigurau, sydd i'w croesawu'n fawr, yr ydym ni'n eu gweld yng Nghymru o ran y nifer y bobl yn yr ysbyty sydd â COVID erbyn hyn. Rydym ni i lawr i 88 o bobl yn yr ysbyty gyda COVID. Mae hynny 21 y cant yn is na dydd Mawrth diwethaf. Felly, mae'r arwyddion yn edrych yn dda iawn, ac felly—. Mae'n neges eithaf anodd, onid yw, i'w rhoi i'r cyhoedd, i ddweud, 'Mewn gwirionedd, mae cyfraddau'r achosion yn codi, ond maen nhw'n lefelu o ran derbyniadau i'r ysbyty.' Felly, mae'n rhaid i ni feddwl sut yr ydym ni'n mynd i ymdrin â hynny yn ystod yr wythnosau nesaf, ac wrth gwrs, byddwn ni'n cael cyfle i gael ychydig mwy o ddata fel y gallwn ni fod yn gwbl glir ynghylch y sefyllfa. Ond mae'n edrych yn gadarnhaol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud.

Ac o ran cael y GIG yn ôl i'w gapasiti, mae pwyslais gwirioneddol ar hyn nawr. Mae'n anodd iawn, oherwydd mae'r cyfraddau'n cynyddu'n sylweddol, a bydd pobl sy'n gweithio yn ein GIG a fydd yn dal COVID yn y gymuned ac yna bydd yn rhaid iddyn nhw hunanynysu. Felly, mae'n rhaid i ni gofio y bydd gweld y niferoedd hynny'n cynyddu yn y gymuned hefyd yn cael effaith yn ein hysbytai, ar y bobl sy'n gweithio yno. 

O ran pobl yn gallu cerdded i mewn, fel myfyrwyr, dwi'n gwybod yn sicr fod hynny'n bosibl yng Nghaerdydd, felly bydd yn ddiddorol i weld—. Dwi'n barod i fynd i ffwrdd a jest sicrhau bod y canllawiau'n glir ar hynny, ond dyna fy nealltwriaeth i, a gwnaf i fynd i ffwrdd a sicrhau bod pob un yn ymwybodol o hynny. 

O ran tystysgrif yn Gymraeg, wrth gwrs rŷn ni'n siomedig iawn ein bod ni'n methu cael hwnna ar hyn o bryd. Nid ein system ni yw hi. Rŷn ni wedi ei wneud yn glir ers y dechrau gyda Llywodraeth Prydain ein bod ni angen cael hwn yn y Gymraeg hefyd. Mae'r system yn cymryd amser. Does gan yr Alban na Gogledd Iwerddon ddim hwn fel rhan o'u systemau nhw o gwbl eto. Mae dal wythnosau i fynd tan fod eu systemau nhw'n gallu ymuno. Dwi'n flin iawn i glywed am y Gymraeg yn cael ei chroesi allan, a gwnaf i edrych i mewn i hynny i ffeindio mas beth yn union sy'n digwydd. Ond yn sicr dyw hwnna ddim wedi dod fel canllaw oddi wrth y Llywodraeth. 

O ran ailagor canolfannau preswyl awyr agored, roeddem ni'n falch ein bod ni wedi gallu agor ar gyfer plant ysgol gynradd, ond mae'n gwbl glir, os ydych chi'n mynd i gael grŵp mawr o bobl at ei gilydd a'u bod yn mynd i aros dros nos, y bydd y siawns y bydd y feirws yn lledaenu yn eithaf uchel. A dyna'r rheswm pam yr ydym ni'n cymryd y mesurau hyn. Nid ydym ni ond yn caniatáu i dair aelwyd wahanol ddod at ei gilydd ar hyn o bryd; os ewch chi ymhell y tu hwnt i hynny, wrth gwrs—. Ar ryw adeg bydd yn rhaid i ni gyrraedd y pwynt hwnnw, bydd yn rhaid i ni ddeall, ond ar hyn o bryd rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn ofalus iawn. Rydym ni wedi ceisio ymateb i'r sector drwy ddweud, 'Gallwch, gallwch chi fynd â phlant ysgol gynradd', oherwydd yr union bwyntiau yr oeddech chi wedi'u gwneud. I rai o'r plant hyn, dyma'r unig wyliau y byddan nhw'n eu cael eleni a dyma'r unig gyfle iddyn nhw fynd allan o'r tŷ. Rydym ni'n sensitif iawn i hynny, a dyna pam yr oeddem ni'n awyddus i gymryd y cam hwnnw ymlaen. Ond wrth gwrs, plant cynradd, rydym ni'n gwybod, os ydyn nhw'n dal y feirws, eu bod yn annhebygol iawn o ddioddef yn y ffordd y bydd y plant hŷn. Ac rydym ni, wrth gwrs, wedi rhoi cymorth ariannol.

O ran y ganolfan iâ, rŷn ni wedi gofyn am gyngor penodol ar hwn ac, wrth gwrs, achos tymheredd isel yr iâ, mae'n glir bod y posibilrwydd o ledu'r feirws yn fwy, a dyna pam rŷn ni wedi cymryd yr approach rŷn ni wedi. Ond, wrth gwrs, rŷn ni'n edrych ar y posibilrwydd o sicrhau bod pobl sy'n gweithio yna'n broffesiynol, sglefrwyr iâ proffesiynol, yn gallu gweithio. 

17:55

Diolch. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

18:00
Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau: Canlyniadau

Fydd yna ddim angen, felly, heddiw am bleidlais, sydd yn dod â fi at yr eitem olaf y prynhawn yma, sef y datganiad ar ganlyniadau'r pleidleisiau cyfrinachol ar gyfer Cadeiryddion y pwyllgorau. Mi wnaf i ddarllen y canlyniadau hynny nawr. Fe wnawn ni gychwyn gyda'r Pwyllgor Cyllid. Dyma ganlyniad, felly, y bleidlais ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Rhys ab Owen, 27 o bleidleisiau; Peredur Owen Griffiths, 30 o bleidleisiau; ac un wedi ymatal. Felly, mae Peredur Owen Griffiths wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Llongyfarchiadau iddo fe.

Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yw'r canlyniad nesaf—y Cadeirydd hynny. Nifer y pleidleisiau ar gyfer Heledd Fychan oedd 13, ar gyfer Delyth Jewell 44, ac yn ymatal un. Felly, mae Delyth Jewell wedi ei hethol yn Gadeirydd y pwyllgor hynny.

A'r pwyllgor olaf i'w ddatgan yw'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a dyma'r canlyniad ar gyfer hynny: John Griffiths, 31 o bleidleisiau; Mike Hedges, 27 o bleidleisiau; ac yn ymatal, neb. Felly, mae John Griffiths wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

Llongyfarchiadau i'r tri yna ar eu hetholiadau nhw ac i bob Cadeirydd sydd wedi cael ei ethol y prynhawn yma, a phob lwc i bawb gyda'u gwaith. Diolch yn fawr i bawb. Dyna ddiwedd ein gwaith ni am y prynhawn.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:01.