Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

24/03/2021

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Llywydd
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg
3. Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021
4. Gorchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021
5. Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
6. Cwestiynau Amserol
7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi
8. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd
9. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd
10. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice
11. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Adalw'r Senedd
12. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau
13. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol
14. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro
15. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol
16. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 05-21
17. Cynnig i Gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd
18. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol
19. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yma'
20. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Edrych ar ddatganoli darlledu: Sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?
21. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Dyfodol Cymru
22. Dadl Fer: Hosbisau plant—Cronfa achub i Gymru
23. Cyfnod Pleidleisio
24. Datganiadau i Gloi

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'n cyfarfod olaf ni o'r pumed Senedd. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau yn y cyfarfod yma, fel ym mhob cyfarfod arall. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.

13:30
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.

Ysgol Feddygol yng Ngogledd Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru? OQ56475

Gwnaf. Ym mis Mehefin 2020, creais grŵp gorchwyl a gorffen i archwilio dichonoldeb cynigion a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer ysgol gwyddorau meddygol ac iechyd yng ngogledd Cymru. Mae'r gwaith hwn bellach wedi symud ymlaen i ddatblygu achos busnes llawn, ac fel y gwyddoch, mae fy mhlaid wedi addo sicrhau yn yr etholiad sy’n dod fod hwnnw’n cael ei gwblhau’n llwyddiannus.

Diolch. Ers i Lafur Cymru gael eu hethol yn ôl yn Llywodraeth ym mis Mai 2016, mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 36 wythnos i ddechrau triniaeth wedi cynyddu o 4,078 i 50,143. Rydych wedi llywodraethu dros gynnydd o 1,130 y cant dros bum mlynedd. Nawr, er ein bod yn sylweddoli bod y pandemig wedi gwaethygu'r sefyllfa, roedd y sefyllfa eisoes yn wael yma yng ngogledd Cymru. Erbyn mis Chwefror 2020, roedd nifer y llwybrau triniaeth a oedd yn aros dros 36 wythnos eisoes wedi cyrraedd 11,296. Mae datblygu ysgol feddygol yn gyflym yn rhan fawr o'r ateb. Mae hyd yn oed Coleg Brenhinol Meddygon Cymru wedi bod yn gefnogol ers amser maith i ehangu ysgol feddygol. Ac fel y dywedasant wrthyf yr wythnos hon, mae bylchau mawr parhaus yn y rota hyfforddeion ym mhob un o'n hysbytai, ac ni all hyn barhau, gan ei fod yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd gofal cleifion. Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethoch chi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar addysg feddygol yng ngogledd Cymru. Er fy mod yn croesawu’r ffaith bod cyfanswm o 19 o fyfyrwyr wedi dechrau eu hastudiaethau ar raglen C21 yn 2019-20, fe ddisgynodd y nifer i 18 o fyfyrwyr yn y flwyddyn wedyn. Pa gamau y byddwch chi'n eu rhoi ar waith i wella ymwybyddiaeth o gyfleoedd yng ngogledd Cymru a sicrhau bod nifer y myfyrwyr sy’n derbyn addysg feddygol yma yn cynyddu yn hytrach na lleihau? Diolch. 

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd cywiro rhai o'r honiadau a wnaed nid yn unig drwy hyn, ond gan yr Aelodau Ceidwadol rheolaidd. Cyn y pandemig, gwelsom yr amseroedd aros gorau mewn chwe blynedd, tan y flwyddyn cyn y pandemig. Yna gwelsom ddirywiad, nid yn unig yng Nghymru, ond ym mhob rhan o'r DU o ganlyniad uniongyrchol i newidiadau treth a phensiwn a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr yn San Steffan. Fe welwch y gydberthynas uniongyrchol honno ym mhob gwlad yn y DU—peidiwch â chymryd fy ngair i am y peth, ewch i siarad â Chymdeithas Feddygol Prydain am yr effaith uniongyrchol a gafodd hynny ar eu haelodau ac ar y gallu i barhau i wella amseroedd aros. 

O ran y pwyntiau am yr ysgol feddygol ac addysg feddygol yng ngogledd Cymru, mae gan y Llywodraeth hon hanes da o wneud penderfyniadau i ehangu cyfleoedd i ymgymryd ag addysg feddygol yng ngogledd Cymru. Rydym wedi ymrwymo nid yn unig i'r grŵp gorchwyl a gorffen a'r gwaith ar gyflwyno achos busnes ar gyfer gogledd Cymru, ond wrth gwrs, fel y nodais, ceir prif addewid maniffesto clir i weld hynny’n cael ei gwblhau’n llwyddiannus os caiff Llafur Cymru eu hail-ethol i arwain Llywodraeth Cymru eto gan bobl Cymru. 

Mae gennym hefyd hanes da o hyfforddi meddygon yng ngogledd Cymru mewn ystod eang o feysydd. Er enghraifft, mewn ymarfer cyffredinol, rydym bellach yn llenwi nifer sylweddol o leoedd hyfforddi meddygon teulu yn rheolaidd. Mewn gwirionedd, rydym yn gorlenwi'r lleoedd hyfforddi hynny, gan gynnwys llenwi'r holl leoedd hyfforddi meddygon teulu sydd ar gael yng ngogledd Cymru hefyd yn rheolaidd . Felly, ar ein cyflawniad, rydym yn cyflawni’n dda, ac ar ein huchelgais ar gyfer y dyfodol, rwy'n credu y bydd pobl Cymru yn parhau i ymddiried ynom ac edrychaf ymlaen at weld beth fydd eu dyfarniad ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai. 

Weinidog, mae ysgol feddygol ar gyfer gogledd Cymru yn rhywbeth y bûm yn galw amdano ers amser maith, ac mae'n rhywbeth sy'n arbennig o bwysig i ranbarth gogledd Cymru. A ydych yn cytuno mai Llywodraeth dan arweiniad Mark Drakeford sydd wedi ymrwymo i gyflawni hyn ac mai'r unig ffordd y mae hyn yn fforddiadwy ac yn bosibl ei gyflawni yw gydag ef yn Brif Weinidog? 

Rwy'n cytuno'n llwyr. Ac mae’r Aelod yn gywir i dynnu sylw at y ffaith bod Llafur Cymru wedi gwneud y gwaith caled fel Llywodraeth ar ehangu cyfleoedd addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru. Rydym wedi gwneud hynny'n llwyddiannus. Mae'n brif addewid maniffesto uniongyrchol clir: os pleidleisiwch dros Lafur Cymru, byddwn yn gweld ysgol feddygol yng ngogledd Cymru yn cael ei chwblhau’n llwyddiannus—mwy o gyfleoedd i hyfforddi ac aros yng Nghymru, ac yn hollbwysig, byddant yn gweithio ochr yn ochr â'r ysgolion meddygol sydd gennym eisoes yn Abertawe a Chaerdydd, yn darparu'r hyn y credaf y bydd yn addysg feddygol o ansawdd uchel, ac i gadw meddygon i hyfforddi yng Nghymru, ac iddynt aros i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru.

13:35

Weinidog, yn ystod ymgyrch y refferendwm, ac ymhell ar ôl hynny, roeddwn bob amser yn teimlo anesmwythyd mawr gan mai un o’r dadleuon mawr dros aros, ac yna dros lesteirio’r bleidlais, oedd y modd y gallai ecsodus o weithwyr yn y GIG effeithio ar y GIG. Roedd hi bron fel pe bai arweinwyr dinesig a gwleidyddion yn dathlu'r ffaith bod gwasanaethau iechyd a hyfforddiant gwledydd eraill yn cael eu hysbeilio gan y DU, ac nid oeddwn yn deall y safbwynt hwnnw. A ydych yn cytuno y bydd ysgol feddygol yng ngogledd Cymru yn rhan o'r ymgyrch i fod yn hunangynhaliol yn y GIG, gan gymryd cyfrifoldeb am hyfforddi ein gweithlu ein hunain, os mynnwch, ac mae'n rhaid bod hynny’n rhywbeth gwirioneddol dda? Diolch. 

Wel, rwy'n credu bod pwyntiau'r Aelod at ei gilydd yn hurt. O ran y sefyllfa gyda'r refferenda a'n gorffennol, mewn gwirionedd mae Brexit wedi bod ac wedi'i wneud ac rydym allan o'r Undeb Ewropeaidd ni waeth a ydym yn hoffi hynny ai peidio. Dyna realiti'r sefyllfa rydym ynddi, a bydd yn effeithio ar ein gallu i recriwtio o aelod-wladwriaethau cyfredol yr Undeb Ewropeaidd. Ac nid wyf yn rhannu barn yr Aelod fod hyn yn ymwneud ag ysbeilio rhannau eraill o'r byd. Rydym yn gweld pobl sy'n hyfforddi yma yn y DU ac sy'n mynd i weithio mewn rhannau eraill o'r byd hefyd. A dylwn atgoffa nid yn unig yr Aelod, ond pawb fod y GIG bob amser wedi bod yn llwyddiant rhyngwladol. Pe na baem wedi recriwtio pobl o bob cwr o'r byd, ni fyddai ein GIG wedi darparu’r gofal eang y mae wedi bod yn ei ddarparu. Ni fyddai’n ymgorffori’r sefydliad cyhoeddus mwyaf poblogaidd y gellir ymddiried ynddo yn y wlad hon. Ewch i mewn i unrhyw ysbyty yng Nghymru, ac fe welwch gast rhyngwladol yn darparu gofal iechyd o ansawdd uchel, gan newid a gwella ein gwlad, nid yn unig fel gweithwyr, ond fel ffrindiau ac aelodau o'r gymuned—pobl rydym yn byw ochr yn ochr â hwy ac y mae eu plant yn mynd i'r un ysgolion â’n plant ni. Rwy'n falch iawn o'n cysylltiadau rhyngwladol. Edrychaf ymlaen at gynnal y cysylltiadau rhyngwladol hynny i recriwtio ac i helpu rhannau eraill o'r byd, ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y Llywodraeth hon yn recriwtio, hyfforddi a chadw mwy o'n staff ar draws y gwasanaeth iechyd—y nyrsys, y meddygon a’r therapyddion a'r gwyddonwyr eraill hynny hefyd y mae pawb ohonom wedi dod i ddibynnu arnynt hyd yn oed yn fwy na'r arfer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. 

Marwolaethau mewn Cartrefi Gofal

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am farwolaethau mewn cartrefi gofal o ganlyniad i COVID-19 yng Nghymru? OQ56498

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cofnodi 1,643 o farwolaethau cofrestredig yn gysylltiedig â COVID-19 ymhlith preswylwyr cartrefi gofal Cymru hyd at 12 Mawrth. Mae hyn oddeutu 21 y cant o'r holl farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19. 

Ar 13 Mawrth y llynedd, fe wnaethoch gyhoeddi cyfarwyddeb i bob bwrdd iechyd ohirio pob gweithgaredd dewisol nad oedd yn weithgaredd brys, er mwyn caniatáu iddynt baratoi ar gyfer y cynnydd disgwyliedig yn y llwyth gwaith wrth ymdopi â'r pandemig. Dyna oedd geiriau eich Llywodraeth ataf mewn llythyr. Ar yr un pryd, roedd Llywodraeth Cymru yn clirio gwelyau GIG trwy anfon cleifion o ysbytai i gartrefi gofal heb iddynt gael eu profi. Roedd yn beth syfrdanol i'w wneud. Roedd y canlyniadau'n angheuol ac fe arweiniodd at drasiedi fawr i lawer o deuluoedd. Erbyn mis Chwefror 2021, mae ystadegau eich Llywodraeth yn dangos bod marwolaethau mewn cartrefi gofal er mis Mawrth 2020 43 y cant yn uwch na'r un cyfnod ddwy flynedd yn ôl. Mae eich plaid yn galw yn awr am ymchwiliad annibynnol i'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r pandemig yn Llundain. Mae Propel, yn 'Ein Contract gyda Chymru', wedi ymrwymo i weithredu ymchwiliad annibynnol yng Nghymru ar y diwrnod cyntaf ar ôl yr etholiad ym mis Mai. O ystyried y niferoedd gwarthus o farwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi mewn cartrefi gofal a bod gweithredoedd eich Llywodraeth wedi gwaethygu'r broblem, a ydych chi'n derbyn bod yn rhaid cynnal ymchwiliad annibynnol i'r modd y mae eich Llywodraeth chi wedi ymdrin ag argyfwng COVID? 

Diolch i Neil McEvoy am y cwestiwn. Mae’n amlwg fod yr hyn sydd wedi digwydd mewn cartrefi gofal yn drasiedi lwyr, ac mae’r Llywodraeth yn cydymdeimlo â’r holl breswylwyr a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch y drasiedi sydd wedi digwydd. Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn cydnabod mai aelodau hŷn a mwy agored i niwed o’r gymdeithas yw’r mwyafrif o'r unigolion sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru, ac maent yn un o'r grwpiau sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ganlyniadau difrifol yn sgil dal y clefyd.   

Awgrymodd y dadansoddiad a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, i edrych ar y ffactorau risg ar gyfer yr achosion o COVID-19 mewn cartrefi gofal, fod effaith rhyddhau o ysbytai ar achosion mewn cartrefi gofal yn isel iawn. Hefyd, cafwyd ymchwil ddiweddar gan Brifysgol Abertawe sydd wedi olrhain taith cleifion o'r ysbyty ar ôl eu rhyddhau i gartrefi gofal, ac amcangyfrifir y gallai hyd at 1.8 y cant o'r cleifion a ryddhawyd o ysbytai i gartrefi gofal fod wedi bod yn cario'r haint. A'r ffactorau a ddylanwadodd ar y canlyniad mewn gwirionedd oedd maint cartref gofal o ran nifer y gwelyau cofrestredig yn ogystal â nifer yr achosion o COVID-19 yn y gymuned, a hynny a gafodd yr effaith fwyaf ar nifer y marwolaethau. Ond beth bynnag a achosodd hyn, mae'n drasiedi ac wrth gwrs, rwy'n cefnogi ymchwiliad i pryd a pham y digwyddodd hyn. Rwy'n credu'n sicr mai dyna'r peth iawn i'w wneud a rhaid inni ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd. 

13:40

Weinidog, un o'r pethau sy'n helpu i ddiogelu preswylwyr cartrefi gofal, wrth gwrs, yw llwyddiant y rhaglen frechu mewn cartrefi gofal ledled Cymru. Ond mae yna unigolion a fydd wedi derbyn eu dos cyntaf mewn cartref gofal ac yna wedi dychwelyd i leoliad gofal gwahanol, eu cartref eu hunain weithiau, heb fod wedi cael ail ddos. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yr unigolion hynny’n cael eu holrhain yn briodol fel y gallant gael eu hail ddos? Nid yw’n ymddangos bod nifer o etholwyr yn fy ardal i wedi cael eu galw’n ôl am yr ail ddos pwysig hwnnw i roi'r amddiffyniad llawn y gall y brechlyn ei gynnig. 

Diolch i Darren Millar am y cwestiwn hwnnw. Mae'r rhaglen frechu yn parhau i fynd rhagddi'n dda. Mewn cartrefi gofal, mae bron i 96 y cant o drigolion cartrefi gofal bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, sy'n gynnydd mawr. Mae'n gwneud pwynt pwysig am bobl yn symud i wahanol leoliadau a sicrhau bod y dos dilynol yn cael ei roi, a byddwn yn sicr yn rhoi camau ar waith i sicrhau ein bod yn rhybuddio lleoliadau ynghylch y posibilrwydd hwnnw fel y gellir dod o hyd i'r bobl hyn. Nid wyf wedi cael gwybod am unrhyw ddigwyddiadau fy hun, ond os yw'r Aelod wedi cael gwybod am ddigwyddiadau o'r fath mae'n amlwg yn bwysig iawn ein bod yn mynd ar drywydd y rheini. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau ac, yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns. 

Diolch, Lywydd. Diolch. Weinidog, rwy’n credu bod eich blaengynllun COVID-19 a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn grynodeb teg iawn o'r sefyllfa sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw. Rwy'n credu ei fod yn amlinellu'n daclus yr heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Ond rwyf hefyd yn teimlo ei fod yn brin iawn o atebion allweddol y mae'n rhaid i ni eu gweld. Felly, er enghraifft, a allech chi egluro pa gynlluniau penodol sydd gennych ar waith i ymdrin â'r argyfwng sy’n gwaethygu mewn perthynas ag amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau dewisol? 

Wel, mae arweinwyr clinigol yn gweithio drwy’r cynlluniau a'r manylion hynny. Roeddwn yn ffodus iawn i gael sgwrs ddefnyddiol iawn gydag arweinwyr clinigol a phrif weithredwr y GIG yr wythnos diwethaf, ac fe aethom drwy'r ffyrdd bwriadol sydd gennym i geisio newid y sefyllfa. Felly, pan fydd y cynllun yn sôn am yr angen i newid rhai o'n ffyrdd o weithio, mae'n cydnabod na allwn ddychwelyd at geisio prynu gweithgaredd a dim ond mater o daro bargen gyda'r sector annibynnol. Felly, rydym yn mynd i fod angen atebion lleol, atebion rhesymol, atebion wedi’u cyfarwyddo’n genedlaethol. Nid oes cynllun cyflawni gweithredol cadarn ar waith yn awr. Daw hynny yn sgil y fframwaith ac fe ddaw yn y cynlluniau nid yn unig gan y byrddau iechyd, ond fel y dywedaf, mae angen sicrhau troshaenau lleol a rhanbarthol.   

Y rheswm arall yw nad ydym wedi cefnu ar y pandemig eto. Felly, mewn gwirionedd, mae'r rhestrau'n mynd i gynyddu cyn i ni gyrraedd y pwynt hwnnw. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod gennym sefyllfa, fel y gwyddoch, lle na all y GIG weithio yr un mor effeithlon yn weithredol, am fod gennym fesurau ychwanegol ar waith o hyd, gofynion profi a chyfarpar diogelu personol, ac rydym hefyd yn dal i fod mewn sefyllfa lle na allwn droi’n ôl at yr holl weithgaredd dewisol sy'n dal i fod wedi’i ohirio—ac unwaith eto, fe fyddwch chi'n gwybod hyn oherwydd gwn eich bod yn edrych ar y ffigurau—am fod ein hunedau gofal critigol yn dal i fod ar fwy na 100 y cant. Felly, gallwch ddisgwyl i fwy o gynlluniau gweithredol gael eu cyflawni, pwy bynnag yw'r Llywodraeth nesaf, a chaiff y gwaith hwnnw ei wneud gan arweinwyr clinigol, ynghyd â byrddau iechyd, a bydd yn rhaid i bwy bynnag yw'r Gweinidog iechyd nesaf benderfynu sut i gefnogi'r rheini a gwneud dewisiadau ynglŷn â meysydd lle mae angen i fyrddau iechyd weithredu ar eu pen eu hunain neu gyda'i gilydd, ac rwy'n credu y bydd y gwaith yn galw am elfen angenrheidiol o gyfarwyddyd gan bwy bynnag yw'r Gweinidog iechyd nesaf. 

13:45

Rydych chi'n siarad am bwysigrwydd cynlluniau gweithredol, ac rwy'n cytuno â chi ei bod hi'n bwysig iawn gweithio gyda'r holl randdeiliaid i ddrafftio cynlluniau gweithredol gwirioneddol gyflawnadwy. Wrth gwrs, er mwyn gwneud y cynlluniau gweithredol hynny'n wirioneddol gadarn, mae'n rhaid i chi gael data da a gwybodaeth gydlynol wirioneddol gyfredol ac rwy'n falch iawn fod eich blaengynllun COVID-19 yn cydnabod hynny, ac rwy’n meddwl bod gennych bennod gyfan ar sut y gallwn wella a defnyddio ein data. Felly, a wnewch chi wrando hefyd ar alwadau sefydliadau, fel Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, sy'n gofyn, nid yn unig am fodelu a chyhoeddi amcanestyniadau ar nifer y bobl sydd angen llawdriniaeth yng Nghymru—oherwydd maent yn dweud nad yw hynny'n glir ac nid ydym yn glir faint o lawdriniaethau dewisol a llawdriniaethau eraill a gafodd eu gohirio neu eu canslo’n llwyr oherwydd y pandemig—ond hefyd maent yn gofyn i chi gyhoeddi lefelau gweithgaredd llawdriniaethau wedi'u cynllunio yn fisol ar gyfer y byrddau iechyd yng Nghymru i annog adferiad gweithgaredd llawfeddygol a sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau llawfeddygol i gleifion? Mewn geiriau eraill, dwyn y byrddau iechyd i gyfrif ar y mater hwn. 

Wel, roedd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn y cyfarfod a ddisgrifiais gydag arweinwyr clinigol ac mewn gwirionedd mae'r canllawiau y maent wedi'u cyhoeddi wedi bod o gymorth i ganiatáu i rywfaint o weithgaredd barhau mewn gwahanol rannau o Gymru, ond mae'n adlewyrchu realiti ein sefyllfa ar lawr gwlad, nid dim ond gyda COVID, ond gyda ffactorau niweidiol eraill sy'n dod i mewn. Oherwydd rwy'n credu mai rhan o hyn yw, rydych chi'n iawn ynglŷn â data a deall beth yw'r data hwnnw, ond mae'n dal i fod yn ymwneud â'r penderfyniadau a'r ddealltwriaeth o ble mae pobl ar y rhestr aros honno. Bydd rhai pobl sy'n flaenoriaeth glinigol uwch a'r ddealltwriaeth o sut y mae hynny'n cael ei wneud i ymdrin â phobl er mwyn osgoi cymaint â phosibl o niwed, a bydd hynny'n wahanol mewn gwahanol feysydd o'r gwasanaeth. Ac unwaith eto, bydd yr Aelod yn gwybod y gall gohirio triniaeth mewn rhai meysydd arwain at niwed na ellir ei wrthdroi, er enghraifft, colli golwg. Mewn meysydd eraill, gall arwain at anesmwythyd a dirywiad yn llesiant yr unigolyn, os ydych yn aros am lawdriniaeth i gymal, er enghraifft. Ond gellir gwella'r niwed hwnnw. Felly, mae'n fater o ddeall sut i flaenoriaethu'r rhestr aros ac yna deall sut rydych yn barnu'n deg lefel y gweithgarwch y mae pob sefydliad yn ei gyflawni.

Felly, byddwn yn fwy na pharod i barhau'r sgyrsiau a gawsom eisoes gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon ar sut y gallwn fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â'r lefelau gweithgaredd sy'n cael eu hailgychwyn, ond peidio â defnyddio, 'Rydych chi rywle ar dabl cynghrair ac mae'n rhaid i chi symud i rywle arall' syml, oherwydd, fel y dywedais, nid yw'r pandemig wedi dod i ben eto. Pan fyddwn wedi symud y tu hwnt i'r pandemig, yna, iawn, rwy'n credu y bydd mwy a mwy o ddata a mwy a mwy o ddisgwyliad o ran fy ymateb i'ch cwestiwn cyntaf: sut rydym wedi llwyddo i baratoi gwahanol ffyrdd o weithio i ddarparu'r lefelau gofynnol o weithgaredd, tra'n gofalu ar yr un pryd wrth gwrs am ein staff a fydd wedi ymlâdd pan ddaw'r pandemig i ben yn y pen draw?

Mae arnaf ofn mai dyma lle rwy'n anghytuno â chi braidd, oherwydd mae pawb yn sôn am 'pan fydd y pandemig ar ben', ac rwy'n credu ein bod wedi mynd heibio i hynny—rydym wedi mynd heibio i'r argyfwng. Rydym bellach mewn sefyllfa lle mae hyn yn endemig. Rydym yn mynd i gael sefyllfa lle rydym yn mynd i fod yn y sefyllfa hon am amser hir iawn. Ni allwn barhau i ddweud, 'O, rydym mewn argyfwng; rydym mewn argyfwng—sut mae ymdopi â hynny?' Mae'n rhaid i ni edrych y tu hwnt i hynny.

Roeddwn yn meddwl bod blaenraglen waith COVID-19 yn cynnwys rhai pethau da, ond daw'n ôl at rai o'r materion a welsom mewn gwirionedd pan wnaethom y grŵp seneddol trawsbleidiol ar sut i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae yna lawer o, 'Rydym yn gwybod beth yw'r heriau', ond nid oes llawer o, 'Sut rydym ni'n mynd i'w datrys?' Ac rydych chi eich hun newydd sôn am ein staff lluddedig yn y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol. A gwrandewais ar gyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol neithiwr yn y digwyddiad coffa yn sôn am ba mor lluddedig ac wedi'u trawmateiddio y mae cynifer o'r staff yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Ac rwy'n poeni, wrth ddarllen y blaengynllun COVID-19 hwn—mae'n sôn am, 'Mae gennym brinder gweithlu'; wel, mae'n fwy na phrinder bach yn y gweithlu. Sut y gallwn reoli hynny yn ogystal â chreu lle i ganiatáu i'r rheini sydd wedi bod yn gweithio mor galed dros y flwyddyn a aeth heibio ac sydd wedi ymlâdd i'r fath raddau—sut y gallwn roi amser iddynt wella a dychwelyd a dechrau mynd ar drywydd yr holl lawdriniaethau dewisol hyn? Ac nid oedd llawer o sôn am bolisïau recriwtio, polisïau ailhyfforddi, polisïau cadw staff. Rydych chi'n gwybod am ein cynllun ni, mae gennym bolisi recriwtio, cadw ac ailhyfforddi cryf iawn. Ni welais lawer o hynny. A allwch roi rhywfaint o drosolwg inni o sut y gallwch gryfhau'r gweithlu gweithgar ond lluddedig hwnnw?

13:50

Gyda phob parch, nid wyf yn meddwl ein bod ni wedi cyrraedd pwynt lle mae COVID bellach wedi'i reoli ac yn endemig. Rwy'n credu mai dyna lle byddwn yn ei gyrraedd, ond nid wyf yn meddwl ein bod ni yno eto. Fel y dywedais, pan fo gofal critigol yn dal i weithredu ar dros 100 y cant o'i gapasiti, a niferoedd sylweddol o gleifion COVID positif yn dal i fod gennym yn ein hysbytai, nid ydym yno eto. Ond rwy'n credu ein bod ar y trywydd iawn, ac mae pob cam o lacio'r cyfyngiadau'n golygu bod maes gweithgaredd arall y gellir ei adfer mewn bywyd ehangach ac mae'n ein rhoi ymhellach ar y llwybr i allu ymdopi â sefyllfa normal newydd ar gyfer ein system iechyd a gofal. Felly, rwy'n meddwl efallai fod gennym bersbectif gwahanol ynghylch pa bryd y daw'r pwynt pan fydd gweithgaredd mwy normal yn gallu ailgychwyn, a chyda phob parch, nid wyf yn credu bod y ffigurau'n cadarnhau ein bod ar y pwynt hwnnw yn awr.

Ond rwy'n gwybod bod realiti'r ffordd y rheolwn ac y gofalwn am ein staff yn eithriadol o bwysig. Felly, fe welwch sylwadau ar hynny yn y cynllun adfer. O ran y manylion, credaf mai mater i faniffestos yr etholiad yw hynny. Ond mae gennym hanes da iawn o ran niferoedd y staff rydym wedi'u recriwtio, hyfforddi a chadw dros y tymor diwethaf hwn a thu hwnt. Rydym wedi llwyddo i sicrhau cynnydd o dros 10,000 yn niferoedd staff y GIG dros dymor y Senedd hon yng Nghymru. Mae hynny'n dangos manteision recriwtio, cadw a hyfforddi cyson. Felly, rwy'n credu y gall pobl ymddiried yn ein cyflawniad, oherwydd mae'n un cryf.

Ond hyd yn oed gyda hynny, a hyd yn oed gyda mantais y buddsoddiad ar gyfer y dyfodol y disgwyliaf y byddwch yn ei weld yn ein maniffesto, mae gennym dasg wirioneddol sylweddol o hyd o ran gofalu am ein staff a pheidio â gosod disgwyliadau afrealistig ynghylch pa mor gyflym y bydd yr ôl-groniad enfawr sy'n bodoli yma'n cael ei leihau a'i ddileu. Rwy'n credu y bydd yn cymryd tymor Senedd llawn yng Nghymru. Dyna'r gonestrwydd y credaf fod angen i bobl Cymru ei glywed. Dyna'r gonestrwydd y credaf fod angen i'n staff ei glywed hefyd, nad ydym yn mynd i ddisgwyl iddynt gael gwared yn gyflym ar yr holl ôl-groniad enfawr sydd wedi cronni o reidrwydd er mwyn atal pobl rhag colli eu bywydau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac fe fyddwch yn clywed mwy gennym ni, gan Lafur Cymru, pan ddaw'n adeg lansio'r maniffesto, a chredaf y byddwch yn clywed digon am gynlluniau recriwtio a chadw staff yn y dyfodol a fydd yn cael eu hariannu ac yn gwbl gyflawnadwy.

Diolch, Llywydd. Wel, yn y sesiwn gwestiynau iechyd a gofal olaf yn y Senedd yma, gaf i ddefnyddio'r cyfle yma i ddiolch i'r Gweinidog a'i swyddogion am eu cydweithio dros y cyfnod diweddar? Dydyn ni ddim wastad wedi gweld lygad yn llygad, ond tra ydw i wedi bod yn barod iawn i gefnogi'r Llywodraeth pan ydw i'n meddwl eu bod nhw wedi cael pethau'n iawn dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i'n gwybod bod y Gweinidog yn sylweddoli pwysigrwydd sgrwtini ac yn gwerthfawrogi rôl gwrthblaid yn ceisio dylanwadu ar bolisi a newid cyfeiriad pan ydyn ni'n meddwl bod angen hynny. Dyna pam, pan oedd y Gweinidog yn dweud bod yna ddim achos dros ysgol feddygol i'r gogledd, roedden ni'n benderfynol o barhau i geisio bwrw'r maen i'r wal, a rydyn ni'n falch o weld newid meddwl ar hynny.

At COVID, mae'r sefyllfa yng Nghymru'n gwella, mae hynny'n dda o beth. Mae yna broblemau yn ardal Merthyr Tudful ac yn fy etholaeth i, yn digwydd bod. Mae isio cefnogi'r ardaloedd hynny rŵan. Mi oedd yna dîm da o wirfoddolwyr allan yng Nghaergybi y bore yma yn rhannu profion COVID o dŷ i dŷ. Roeddwn i'n un ohonyn nhw, yn digwydd bod, ond mae o'n bryder i fi bod proses fel yma, un, yn or-ddibynnol ar wirfoddolwyr a, dau, yn rhoi straen aruthrol ar adnoddau staffio awdurdod lleol. Ydy'r Gweinidog yn cytuno bod angen edrych ar ffyrdd o roi rhagor o gefnogaeth i gynghorau wrth ymgymryd â thasg fel hyn, achos os oes yna ymyriadau fel hyn eu hangen dro ar ôl tro mewn gwahanol gymunedau, rydw i'n ofni bod hynny yn mynd i fod yn anodd i'w ddelifro?

Wel, rwy'n credu bod llawer o wersi i'w dysgu, nid yn unig o'r hyn rydym yn gorfod ei wneud heddiw ac yn y dyddiau i ddod mewn perthynas â Chaergybi—nid Ynys Môn i gyd, ond o amgylch Caergybi, a'r un peth mewn rhannau o Ferthyr Tudful. Rydym wedi dysgu hefyd o'r peilot a gynhaliwyd gyda'r tri awdurdod lleol ar draws Cwm Taf Morgannwg gyda mwy o brofion cymunedol, ac rwy'n siŵr y byddwch wedi gweld yr adolygiad cadarnhaol iawn o'r rhaglen brofi cymunedol honno. Ac mewn gwirionedd, o fewn hynny, rwy'n credu ein bod wedi llwyddo i ymgysylltu'n fwy llwyddiannus â'r cyhoedd mewn perthynas â'r profion hynny ar gyfer cymunedau cyfan na'r cynlluniau peilot yn Lerpwl a Glasgow. Mae hynny'n newyddion da iawn. Llwyddwyd i dynnu sylw at y ffaith ein bod, oherwydd hynny, yn credu ein bod wedi nodi mwy o achosion ac wedi atal mwy o bobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty, gan gynnwys atal nifer o farwolaethau yn ôl pob tebyg.

Mae hynny'n golygu, serch hynny, fod angen inni ddysgu sut y mae angen inni gefnogi awdurdodau lleol. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â chyd-gymorth, mae rhywfaint ohono'n ymwneud â'r drafodaeth barhaus sydd gennym rhwng iechyd, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut rydym yn eu cefnogi. A gallaf ddweud yn onest fy mod wedi gweld arweinwyr llywodraeth leol yn bod yn adeiladol ac yn onest ni waeth beth fo'u plaid, ac nid ydym bob amser wedi cytuno ar bob pwynt, ond rydym wedi dod o hyd i atebion synhwyrol yn fy marn i ar gyfer symud ymlaen, ac fel arfer, rydym yn dal i ddysgu wrth i ni fynd. Y newyddion da, serch hynny, yw ei bod yn ymddangos bod y cynnydd yng Nghaergybi ac mewn rhannau o Ferthyr Tudful yn gwastatáu gyda gostyngiad yn y gyfradd achosion ym Merthyr Tudful yn y ffigurau heddiw yn enwedig. Mae hynny'n newyddion da, nid yn unig i bawb gyda'r potensial o agor gyda mwy o deithio o amgylch Cymru, ond newyddion da i'r cymunedau yn yr ardaloedd sy'n edrych ymlaen at y cam nesaf yn ein llwybr allan o'r cyfyngiadau symud.

13:55

Mae'r wythnos yma'n wythnos o gofio, wrth gwrs, ac yn wythnos o fyfyrio flwyddyn union ar ôl dechrau'r cyfnod clo cyntaf. Mae Prif Weinidog Prydain wedi cyfaddef ei fod o wedi gwneud rhai penderfyniadau anghywir wrth ddelio efo'r pandemig, ond dwi ddim am ofyn y cwestiwn cyfatebol i'r Gweinidog. Beth dwi eisiau i'r Gweinidog ei wneud ydy edrych yn ôl ar yr 20 mlynedd a mwy o reolaeth Llafur o'r gwasanaeth iechyd a gofal yn arwain at y pandemig. Un wers rydyn ni wedi'i dysgu ydy bod gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ddim yn ddigon gwydn i ddelio efo pandemig. Ydy'r Gweinidog yn derbyn na all yr un Llywodraeth arall fforddio gadael gwasanaethau hanfodol mewn cyflwr mor fregus eto?

Ar ddechrau'r pandemig, roedd iechyd a gofal a gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn dal i wella ar ôl degawd o gyni ac fe fyddwch yn cofio'r dewisiadau anodd iawn y bu'n rhaid i'r Llywodraeth ac Aelodau eu gwneud wrth gefnogi cyllidebau ar gyfer symud arian o gwmpas. Credaf mai blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd oedd y peth iawn, ond achosodd hynny anawsterau gwirioneddol i lywodraeth leol ym mhob rhan o'r wlad gan ei fod yn golygu gostyngiad yn incwm llywodraeth leol. Er nad oedd y toriadau y bu'n rhaid iddynt ymdopi â hwy ar y raddfa y bu'n rhaid i gymheiriaid yn Lloegr ei hwynebu, roeddent yn dal i fod yn anhygoel o anodd serch hynny ac roeddent yn rhoi ein partneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn sefyllfa lai teg nag y byddech yn ei ddymuno; roeddent yn llai cadarn nag y dylent fod. Yr un peth gyda'r heddlu, wrth gwrs, sydd wedi bod yn bartneriaid allweddol yn yr ymateb i'r pandemig gyda gostyngiad sylweddol yn y gweithlu a phlismona rheng flaen yn ogystal.

Felly, roeddem yn fwy agored i niwed nag y byddwn wedi dymuno i ni fod ar ddechrau'r pandemig hwn. Er gwaethaf hynny, yr hyn a welsom gan arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol yw parodrwydd gwirioneddol i gydweithio ac mae'n fantais wirioneddol fod hynny wedi tynnu iechyd a llywodraeth leol ynghyd â phartneriaid eraill oherwydd yr angen, a chredaf fod honno'n sail dda i'r bobl hynny gydweithio.

Rydym yn anghytuno ynglŷn ag a ddylid ad-drefnu cyfrifoldebau iechyd a gofal cymdeithasol yn sylweddol. Yn fy marn i, dyna'r peth anghywir i'w wneud—gyda phandemig yn dal i fynd rhagddo—cael ad-drefnu mawr. Ond rwy'n credu bod sail dda nid yn unig i ganmol ymateb iechyd a llywodraeth leol gyda'i gilydd, ond i fod eisiau adeiladu ar hynny yn y math o gydweithio y gwelsom mewn gwirionedd nad oedd mor hawdd ag y dymunem ei weld ar y raddfa a'r cyflymder rydym am ei weld ar gyfer y trawsnewid sydd ei angen o hyd i sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol yn system wirioneddol gynaliadwy sy'n gweithio gyda'n gilydd.

Rhaid ichi gofio i'r sector iechyd a gofal yng Nghymru gychwyn ar ddegawd o gyni ar ôl degawdau o esgeulustod gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol olynol yng Nghaerdydd ac yn San Steffan. Mae'n amlwg i mi nad oedd gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru yn barod ar gyfer y pandemig hwn. Roedd iechyd y cyhoedd a'r sector gofal yn arbennig wedi'u hesgeuluso. Gwyddom fod cynllunio ar gyfer pandemig yn druenus o bell o ble y dylai fod wedi bod ar draws iechyd a gofal. Roedd llawer gormod o ddibyniaeth yn fy marn i ar ymroddiad llwyr staff a fyddai bob amser yn barod i fynd yr ail filltir i ofalu am gleifion, ond a oedd wedi'u gorweithio a heb eu cefnogi ddigon. Dyna pam na all adferiad COVID yn awr olygu mynd â ni'n ôl i'r sefyllfa roeddem ynddi o'r blaen. Nid wyf eisiau ad-drefnu chwaith; rwyf am weld ffocws newydd a dyna pam y mae Plaid Cymru am arwain y gwaith o drawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru, ac ar ôl 20 mlynedd a mwy o fethiant i sicrhau'r trawsnewid roedd ei angen ar iechyd a gofal yng Nghymru cyn COVID, a wnaiff y Gweinidog gytuno nad oes rheswm i bobl gredu y gall Llafur arwain y trawsnewid hwnnw ar ôl COVID ychwaith?

Rwy'n credu ei bod yn ymgais braidd yn ffôl i geisio ailysgrifennu hanes yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r gwasanaeth iechyd a chyllid a gwasanaethau cyhoeddus. Cofiaf dyfu fyny'n ddyn ifanc gyda 18 mlynedd o'r Ceidwadwyr mewn grym yn y DU. Cofiaf ddatganoli'n cael ei greu, cofiaf y chwistrelliad sylweddol o arian cyhoeddus i iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill a ddigwyddodd gyda dyfodiad Llywodraeth Lafur yn 1997. Manteisiodd y sefydliad hwn ar ddull gwahanol iawn o ymdrin â gwariant cyhoeddus a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus oherwydd bod Llywodraeth Lafur ar draws y Deyrnas Unedig, ac nid oes diben ceisio honni nad oedd hynny'n wir—mae'n ffaith, a dyna pam y gwelsom fuddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn union fel y mae'n ffaith ein bod wedi gweld degawd o gyni gan Brif Weinidog a Changhellor Ceidwadol. Ffeithiau yw'r rheini.

O ran cynllunio ar gyfer pandemig, roedd ein gwaith cynllunio wedi'i anelu at rywbeth tebycach i bandemig ffliw, a oedd yn y llond llaw uchaf o risgiau i'r Deyrnas Unedig. Yna, gwelsom rywbeth nad oedd yn ymddwyn yn union fel y mae ffliw wedi'i wneud, felly mae pob un ohonom wedi gorfod dysgu—nid yn unig yma, ond ar draws Ewrop—a chredaf fod yr ymgais i geisio cael safbwynt unigryw o feirniadol ar gynllunio ar gyfer pandemig yma yng Nghymru braidd yn gyfeiliornus, ond gall y cyhoedd benderfynu drostynt eu hunain beth yw eu safbwynt ar hynny. Rydym wedi gweld ymateb aruthrol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a chan y cyhoedd eu hunain, a'r sector preifat, sydd wedi cefnogi ein gwasanaeth iechyd gwladol. Credaf fod y bobl yn ymddiried yn gyffredinol ac yn gwerthfawrogi'r arweiniad y mae'r Llywodraeth hon wedi'i ddarparu i Gymru drwy'r pandemig, a phan ddaw'n fater o bwy rydych yn ymddiried ynddynt i gwblhau'r dasg anorffenedig o'n gweld drwy'r pandemig hwn, rwy'n hyderus y bydd pobl Cymru yn cydnabod y rhan y mae Llafur Cymru wedi'i chwarae yn hynny, ac yn adnewyddu eu ffydd a'u hymddiriedaeth ynom i arwain ein gwlad yn ei blaen ac i gael uchelgais gwirioneddol ar gyfer adeiladu Cymru'n ôl yn well. 

Rwyf wedi mwynhau ein sgyrsiau ar draws y fforwm penodol hwn. Nid wyf yn gwybod a oes gennych gwestiwn atodol yn nes ymlaen, ond nid ydym bob amser wedi cytuno, ac edrychaf ymlaen at weld pobl Cymru yn ffurfio'u barn eu hunain ynglŷn â phwy ddylai wasanaethu yn y rôl hon ac eraill ar ôl yr etholiad ar ddechrau mis Mai.

14:00
Anghydraddoldebau Iechyd

3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru? OQ56499

Un o uchelgeisiau canolog y Llywodraeth hon yw gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau annerbyniol mewn canlyniadau iechyd rhwng ein cymunedau mwyaf a lleiaf cefnog. Byddwn yn parhau i ddefnyddio dull Llywodraeth gyfan o fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd.

Weinidog, mae anghydraddoldebau iechyd yn y DU a Chymru yn peri cryn bryder. Mae dynion yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn byw 10 mlynedd yn llai ar gyfartaledd na'r rheini yn y cymunedau lleiaf difreintiedig, ac i fenywod, mae'r gwahaniaeth bron yn wyth mlynedd. Ac o ran blynyddoedd iach bywyd, mae'r gwahaniaeth bron yn 19 mlynedd, ac mae hynny'n wir am y ddau ryw. Felly, gyda'r math hwnnw o gefndir, dyna pam y cyfarfu Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru ag oddeutu 30 o sefydliadau i edrych ar y sefyllfa hon, ac i ystyried ymchwil a ddangosai y gallai penderfynyddion cymdeithasol iechyd neu afiechyd—tai, addysg a thlodi—fod yn bwysicach i ganlyniadau iechyd na gofal iechyd ei hun, neu'n wir, dewisiadau ynghylch ffordd o fyw. Felly, wrth edrych ar y sefyllfa hon, credant y dylai Llywodraeth Gymru fabwysiadu dull mwy trawsbynciol a chynnwys pob Gweinidog a phob adran i newid yr hyn sydd angen ei newid er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa gwbl annerbyniol hon.

Felly, clywais yr hyn a ddywedoch chi, Weinidog, am ddull Llywodraeth gyfan, ond o ran yr awgrymiadau a’r cynigion hynny gan y coleg brenhinol a’r oddeutu 30 o sefydliadau hynny, a wnewch chi ystyried yn ofalus yr hyn y credant sydd ei angen wrth benderfynu sut y gallwn wneud rhagor o gynnydd ar y materion a'r problemau hirsefydlog hyn?

Ie, credaf fod adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon yn ddefnyddiol i'n hatgoffa o'r angen i weithredu mewn modd trawslywodraethol, gan nad yw'r rhan fwyaf o anghydraddoldebau gofal iechyd yn deillio o weithgarwch gofal iechyd, maent yn deillio o'r penderfynyddion allanol hynny. Dyma pam, er enghraifft, fod Sefydliad Iechyd y Byd wedi cydnabod effaith uniongyrchol ein gwelliannau i ansawdd tai ar ofal iechyd. Mae'r ffaith bod cael cartref cynnes o ansawdd da yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch iechyd wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ac mae ein dull o weithredu yma yng Nghymru wedi cael ei ganmol. Rwy'n falch o ddweud y gallwch weld yr arweinyddiaeth barhaus honno gan Julie James fel ein Gweinidog tai, yn y ffordd y caiff ansawdd y stoc dai ei wella a'r ôl troed amgylcheddol hefyd. Gallwch weld hynny yn y gwaith ar draws addysg, y gwaith rydym wedi'i wneud a'r sgyrsiau ddoe gyda Kirsty Williams a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am yr ymagwedd ehangach tuag at iechyd plant a phobl ifanc, a'u llythrennedd iechyd ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol. Gallwch ei weld yn y gwaith y mae Ken Skates wedi'i wneud ar y contract economaidd, yn sicrhau y ceir dealltwriaeth fod iechyd meddwl a chorfforol yn ganlyniadau allweddol i berthynas waith dda, lle mae gan bobl waith da, telerau ac amodau da. Os edrychwch ar anghydraddoldebau gofal iechyd, maent bob amser yn cydredeg ag anghydraddoldebau economaidd yn ogystal. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, cynnydd y credaf y gallwn fod yn falch ohono. Gwyddom fod llawer mwy i'w wneud a chyfle gwirioneddol i wneud hynny wrth inni geisio ailadeiladu Cymru ar ôl y pandemig hwn, i orffen y gwaith gyda’r pandemig ac ailadeiladu Cymru well a thecach.

14:05

Diolch, Weinidog. Ydy, mae'n wir iawn fod yn rhaid mabwysiadu dull trawsbynciol a thrawslywodraethol er mwyn mynd i'r afael â'r broblem sylweddol hon. Mae'r pandemig wedi amlygu anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru yn glir, ac wedi datgelu canlyniadau methiant hirsefydlog i fynd i'r afael â'r broblem. Ni fu erioed cymaint o angen mynd i’r afael ag achosion cymdeithasol anghydraddoldebau iechyd, fel y dywedoch chi, ac efallai na ddaw gwir raddfa goblygiadau’r pandemig hwn i iechyd a lles pobl Cymru yn glir am sawl blwyddyn eto.

O ran mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau yn ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn benodol, Weinidog, sut rydych chi'n edrych ar wella darpariaeth gofal iechyd ar gyfer ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn sylweddol, darpariaeth gofal iechyd sy'n parchu gwahaniaethau diwylliannol ac sy'n cydnabod y nifer o ieithoedd sy'n cael eu siarad yn ein cymunedau fel y gallwn greu cydraddoldeb gwirioneddol yn y ddarpariaeth?

Wel, ar y mater penodol ynghylch cymunedau o darddiad du ac Asiaidd yma yng Nghymru, rydym wedi gwneud cryn dipyn i gydnabod ein hangen i wella ein gwasanaethau, boed ar gyfer iechyd meddwl neu'n iechyd corfforol. Rydym wedi dysgu mwy fyth ac yn gwneud mwyfwy o waith drwy’r pandemig—er enghraifft, gwaith yr Athro Emmanuel Ogbonna ar ddeall mwy am yr anghydraddoldebau hynny, gwaith yr Athro Keshav Singhal yn cyflawni gwaith asesu risg, yr enghraifft gyntaf yn y DU sy’n cael ei chyflwyno i rannau eraill o'r sector preifat, ond hefyd y broses o gyflwyno’r brechlyn hefyd. Ac o gofio mai John Griffiths a ofynnodd y cwestiwn cychwynnol, efallai ei bod yn briodol sôn am y gwaith y mae John Griffiths a Jayne Bryant wedi'i wneud gyda Chyngor Dinas Casnewydd, gyda'r bwrdd iechyd, ar annog mwy o bobl i gael eu brechiadau, a hefyd ar sicrhau bod y gwasanaeth iechyd a’n systemau gofal ehangach yn ailymgysylltu'n ehangach â gwahanol gymunedau nad ydynt bob amser mor agos at rannau eraill o'r wlad o ran cael mynediad at ofal iechyd o ansawdd da. Felly, mae cynnydd yn cael ei wneud nid yn unig ar un mater, ond i symud hynny yn ei flaen yn fwy cyffredinol.

Fodd bynnag, ar heriau anghydraddoldebau gofal iechyd, byddwn yn dweud wrth yr Aelod, ac unrhyw Geidwadwr arall sydd am geisio honni nad oes ganddynt gyfrifoldeb yn y maes hwn, fod pob dadansoddiad gwrthrychol yn dangos bod polisïau cyni'r Ceidwadwyr a’u hymosodiadau ar fudd-daliadau a chymorth i bobl o oedran gweithio, gan gynnwys budd-daliadau mewn gwaith, wedi cael effaith ddifrifol ar gynyddu tlodi ac anghydraddoldeb, yn enwedig ar leihau'r gwelliannau a wnaed dros ran gyntaf yr 20 mlynedd diwethaf mewn perthynas â threchu tlodi plant, gan fod pob un ohonynt wedi’u colli diolch i’r dewisiadau a wnaed gan ei phlaid. Felly, rhywfaint o hunanfyfyrdod, efallai, ar rôl polisïau Ceidwadol a'r realiti rydym wedi gorfod ymladd yn ei erbyn er mwyn dadwneud y difrod y mae ei phlaid wedi dewis ei achosi.

Tybed a yw'r Gweinidog yn cytuno y gall lleoli cyfleusterau gofal iechyd o'r radd flaenaf yn ein cymunedau tlotach gyfrannu at y gwaith o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Ac os yw'n cytuno â mi ar hynny, a wnaiff ymuno â mi i longyfarch Cyngor Sir Caerfyrddin a'r holl bartneriaid eraill ar ddatblygiad Pentre Awel yn Llanelli, a fydd wedi'i leoli ynghanol rhai o'r wardiau tlotaf yng Nghymru? Rwy'n siŵr y bydd yn ymwybodol y bydd yn cynnwys canolfan gofal clinigol a fydd yn darparu gofal amlddisgyblaethol, canolfan ymchwil clinigol a chanolfan sgiliau llesiant i ganolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, a chanolbwyntio'r hyfforddiant hwnnw yn arbennig ar recriwtio o'r cymunedau hynny eu hunain. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i longyfarch pawb sy'n gysylltiedig â hynny, a tybed a yw'n cytuno y gall y mathau hyn o brosiectau wneud gwahaniaeth go iawn yn y cymunedau lle mae fwyaf o'u hangen.

Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi trafod y mater gyda'r Aelod etholaeth dros Lanelli, fy nghyd-Aelod yn y Llywodraeth, Lee Waters, ac yn fwy cyffredinol, yr her o fuddsoddi mewn cymunedau ledled y wlad. Ac mae'n enghraifft dda o sut y gellir a sut y dylid dwyn gwasanaethau iechyd a gofal lleol ynghyd i ddarparu cyfleusterau o ansawdd gwell, i fuddsoddi yn y gymuned honno ac i ddarparu gwell gwasanaethau, yn yr un ffordd yn union â'r cyfleuster a agorwyd yn ddiweddar yn Aberpennar a welais gyda’r cyngor a'r Aelod lleol dros Gwm Cynon—mae lobïo ac effeithiolrwydd hynny'n dangos nad yw'n ymwneud ag iechyd yn unig; mae’n ymwneud ag iechyd yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ddarparu gwell cyfleusterau. Ac unwaith eto, mae'n mynd yn ôl at y berthynas rhwng iechyd a llywodraeth leol sydd wedi gwella'n sylweddol drwy gydol yr argyfwng, ond cyn hynny hefyd, ac mae cyfle go iawn yma i barhau i fuddsoddi mewn gofal iechyd lleol a darparu cyfleusterau llawer gwell lle mae fwyaf o'u hangen.

14:10
Mynediad at Driniaethau Canser

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at driniaethau canser yn dilyn pandemig COVID-19? OQ56492

Cyhoeddwyd 'Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru - COVID-19: Edrych tua’r dyfodol' ar ddydd Llun 22 Mawrth, ac mae’r Aelod wedi cyfeirio at y ddogfen honno eisoes. Mae’n nodi'r dull y bydd y GIG yn ei ddefnyddio i adfer gwasanaethau fel rhai canser. Rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiad ansawdd ar gyfer canser sy'n nodi'r cyfleoedd ar gyfer gwelliant parhaus i wasanaethau canser yn y blynyddoedd i ddod.

Ac mae'n debyg mai hwn fydd y cwestiwn olaf y byddaf yn ei ateb gan yr Aelod, a hoffwn ddweud nad ydym wedi cytuno bob amser, ond rwyf bob amser wedi gwerthfawrogi ymagwedd onest ac uniongyrchol, ac mae ein dadleuon bob amser wedi bod ar sail ymddiriedaeth, lle gwyddom lle rydym yn anghytuno ac mae unrhyw faterion sydd wedi'u rhannu'n gyfrinachol bob amser wedi cael eu trin yn y ffordd honno, a hoffwn ddymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich geiriau. Rydych yn garedig iawn ac rwyf am ymateb drwy ddweud diolch am eich tryloywder a'ch gonestrwydd ar rai o'r achlysuron pan ydym wedi gorfod edrych ar rai o'r sefyllfaoedd anodd iawn sy'n wynebu ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Wrth gwrs, un o'r sefyllfaoedd anodd iawn sy'n ein hwynebu yw'r ddarpariaeth o driniaethau canser i bobl drwy'r pandemig. Nawr, mae Cymru wedi bod heb gynllun cyflawni ar gyfer canser ers diwedd y llynedd, a ddydd Llun yr wythnos hon, rhybuddiodd Cynghrair Canser Cymru, nad oedd ganddynt fawr o feddwl o’ch datganiad ansawdd na'ch blaenraglen waith COVID-19, fod gofal canser yng Nghymru mewn perygl heb strategaeth ganser newydd. Roedd y cynllun cyflawni a oedd gennych yn 21 tudalen o hyd, ac yn ei le, cafwyd datganiad sydd oddeutu tair tudalen o hyd. Rwyf wedi ei ddarllen; mae'n llawn o sylwebaeth braf a fawr ddim arall. I ddyfynnu'r gynghrair canser,

nid oes map trywydd clir yn y datganiad ansawdd ar gyfer sut y gall gofal canser wella fel y gall Cymru ddal i fyny â'r gwledydd sy'n perfformio orau, ac yn y pen draw, achub mwy o fywydau.

Yn fwyaf damniol, ânt rhagddynt i ddweud nad ydynt yn credu

fod hwn yn ymateb digon manwl i'r argyfwng presennol ym maes gofal canser, ac nid yw'n nodi uchelgais digonol ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru.

Weinidog, fe ddywedoch chi fod gennych uchelgais go iawn i Gymru yn eich ateb i Rhun ap Iorwerth, felly a allwch ddweud ychydig mwy wrthym am yr uchelgais go iawn hwnnw ar gyfer gwasanaethau canser, a sut rydych yn ymateb i'r sylwadau damniol braidd am gynlluniau eich Llywodraeth i drin canser dros y blynyddoedd i ddod, pe baech yn ddigon ffodus i ffurfio'r Llywodraeth nesaf?

Wel, rydym eisoes wedi dechrau ar y llwybr tuag at wella canlyniadau i bobl â chanser. Os edrychwch nid yn unig ar y niferoedd ond ar wella canlyniadau yng Nghymru, rydym wedi gwneud cystal â rhannau eraill o'r DU, ac o gofio bod Cymru yn rhan hŷn a thlotach o'r DU, byddech yn disgwyl gweld bwlch posibl yn y gwelliant i'r canlyniadau. Mae hynny'n dangos y cynnydd rydym wedi'i wneud. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol o'r dewis rwyf wedi'i wneud i fabwysiadu dull mwy tryloyw o ddeall ble rydym arni o ran darparu’r gofal sydd ei angen ar bobl gyda'r llwybr canser sengl newydd, a chredaf y bydd hwnnw'n arwain at welliannau. Rydym wedi gweithio ar hynny gyda chlinigwyr canser a Chynghrair Canser Cymru.

Gwnaethom nodi yn 'Cymru Iachach' mai datganiadau ansawdd fyddai'r cam nesaf i sicrhau bod cynlluniau cyflawni ar wahân yn ganolog i atebolrwydd, cynllunio a chynnydd yn ein sefydliadau. Felly, mae'r datganiad ansawdd yn nodi'r canlyniadau a'r safonau disgwyliedig y byddwn yn eu gweld. Ni fwriedir iddo fod yn gynllun cyflawni, yn gynllun gweithredol ynddo'i hun. Fodd bynnag, bydd cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu yn y misoedd nesaf, gyda Chynghrair Canser Cymru a chlinigwyr yn cyfrannu ac yn cymryd rhan yn y gwaith hwnnw. Yna, bydd gweithrediaeth y GIG yn sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni yn y rhan ganolog o ble mae byrddau iechyd yn cyflawni hefyd. Rhan o'n her oedd cael cynllun ar wahân, ar wahân i'r prosesau cynllunio a gweithredu eraill yn y gwasanaeth iechyd. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau canser yn ganolog i hynny, ac atebolrwydd cliriach. Felly, gallwch ddisgwyl gweld manylion gweithredu cynlluniau lefel byrddau iechyd, cynlluniau Felindre, a’r trosolwg cenedlaethol hefyd. Felly, fe welwch ddwy ran wrth i hyn gael ei gyflwyno i gymryd lle’r rhaglen gyflenwi flaenorol, a chredaf y bydd hynny'n atgyfnerthu'r uchelgais sydd gan bob un ohonom ar gyfer gofal canser o ansawdd uchel, a chredaf y bydd honno'n ffordd ddibynadwy o ymdrin â'r gwelliant y mae pob un ohonom yn dymuno’i weld mewn gwasanaethau a chanlyniadau canser.

Weinidog, clywais yr hyn rydych newydd ei ddweud, ond mae etholwr sydd wedi dioddef o ganser y fron wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod bellach wedi cael diagnosis o ganser eilaidd y fron—nid yw’n 30 oed eto—a’i bod wedi’i siomi gyda’r datganiad ansawdd, am ei bod yn nodi nad oes unrhyw ddata go iawn ar bobl sy'n byw gyda chanser eilaidd y fron yng Nghymru ac mai dim ond un nyrs arbenigol ar ganser eilaidd y fron sydd i'w gael yng Nghymru. Nawr, rwyf wedi darllen y datganiad ansawdd, ac fel y nodoch chi'n gwbl gywir, ceir cyfeiriad ynddo at gynllun gweithredu treigl sydd i'w ddatblygu—cynllun treigl tair blynedd. Ond mae'n debyg fod pobl yn dymuno gwybod beth yn union y mae hynny'n ei olygu. Felly, pryd y gallwn gael union fanylion y cynllun hwnnw fel bod pobl yn deall yr hyn y bydd angen i’r byrddau iechyd ei gyflawni? A hefyd, yn y datganiad ansawdd, mae'n sôn am y gweithlu, ond amlygwyd y pryderon am y gweithlu yn yr adroddiad gan y grŵp trawsbleidiol ar ganser; pryd y gallwn gael cynllun manwl ar y ffordd rydych hefyd yn mynd i weithredu a chynyddu'r gweithlu er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael ac yn gweithio i'r bobl?

14:15

Wel, credaf eich bod yn gofyn nifer o wahanol gwestiynau yno, felly rwyf am geisio ymdrin â lle rydym arni gyda'r cynllun gweithredu yn gyntaf a'i berthynas â'r datganiad ansawdd ar ganser. Bydd yn rhaid i'r cynlluniau gweithredu nodi sut y byddant yn bodloni'r canlyniadau a'r safonau rydym wedi'u nodi yn y datganiad ansawdd, a dyna'r pwynt. Felly, bydd yn rhaid i bob bwrdd iechyd nodi sut y maent yn bodloni'r disgwyliadau hynny a bydd gan weithrediaeth y GIG rôl hefyd fel yr arweiniad canolog, os mynnwch, y galwodd yr adolygiad seneddol amdano, a gwnaethom nodi ein hymateb yn 'Cymru Iachach', y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal. Felly, dyna'r llwybr rydym arno a byddwch yn gweld y fframwaith hwnnw wedyn ac fe fydd yn agored, gan y bydd angen i fyrddau iechyd gyhoeddi'r hyn y maent yn mynd i'w wneud.

Bydd gennym hefyd fwy o dryloywder a data o'r llwybr canser sengl wedyn a'r ffigurau y byddwn yn eu darparu ar bob cam. Mae canser yn her amlweddog ac mae'n croesi ystod o feysydd triniaeth eraill. Felly, pan ydym yn sôn am y gweithlu, nid y gweithlu canser yn unig mohono, gan fod llawer o'r llawfeddygon rydym yn sôn amdanynt hefyd yn cyflawni llawdriniaethau eraill, ac mae'r gweithlu diagnostig rydym yn sôn amdano yn gwneud gwaith diagnostig arall hefyd. Er enghraifft, y rhaglen wella ar endosgopi a gyfarwyddir yn ganolog, a fydd yn sicr o fudd i wasanaethau canser, ond i ystod o wasanaethau eraill hefyd. Felly, credaf weithiau ei bod yn anodd dweud mai dim ond gweithlu canser sydd i’w gael. Mae angen inni feddwl, wrth gwrs, am feysydd lle rydym am weld gwelliant parhaus sy’n ymwneud yn fwy penodol â chanser, ond mae hefyd yn effeithio ar y gwasanaeth ehangach hefyd.

Pan fyddwch chi a minnau'n sefyll ar faniffesto i geisio cael ein hailethol i'r lle hwn, rwy'n hyderus y bydd yn cynnwys cynlluniau i ailfuddsoddi yn y gweithlu a chael mwy o'n staff—gan gofio’r lefelau mwyaf erioed o staff y GIG sydd gennym eisoes—y credaf y byddant yn nodi llwybr i barhau â'r gwelliant mewn gwasanaethau canser a welsom dros y tymor diwethaf hwn, ac i fynd i'r afael â'r ôl-groniad gwirioneddol a sylweddol sydd wedi datblygu mewn gwasanaethau canser a gweddill ein GIG o anghenraid yn ein hymateb i'r pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy.

Gwasanaethau Iechyd yn y Rhondda

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella gwasanaethau iechyd i bobl yn y Rhondda? OQ56505

Diolch. Mae Cwm Taf Morgannwg yn parhau i ymateb gydag ystwythder ac arloesedd i’r galw ac i’r pwysau yn sgil y pandemig i gynnal a gwella gwasanaethau iechyd. Mae'r bwrdd iechyd yn cynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol yn barhaus ochr yn ochr â’r gwaith o ofalu am gleifion yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19. A bydd yr Aelod yn ymwybodol o glwstwr Rhondda o feddygon teulu a'r ffordd y maent wedi llwyddo i aildrefnu'r ffordd y maent yn darparu triniaethau er mwyn sicrhau eu bod yn ystyried anghenion y pandemig.

Flwyddyn wedi’r cyfyngiadau symud mae llawer wedi newid. Ar ddechrau 2020, roedd llawer ohonom yn y Rhondda a thu hwnt yn ymladd i gadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae cynlluniau canoli eich Llywodraeth Lafur, diolch byth, wedi’u rhoi o'r neilltu, ac am byth y tro hwn, gobeithio.

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos pa mor hanfodol yw capasiti ysbytai a pha mor bwysig yw gwasanaethau iechyd lleol, ac mae angen inni ddysgu'r gwersi hynny. Ym Mhlaid Cymru, rydym am fynd gam ymhellach a sefydlu canolfan ddiagnosis canser yn y Rhondda, felly a wnewch chi gefnogi hynny? Ac a ydych bellach wedi gweld gwerth cynnal meddygaeth frys dan arweiniad meddygon ymgynghorol mewn ysbytai fel Ysbyty Brenhinol Morgannwg am gyfnod amhenodol? Ac os ydych, a wnewch chi ymrwymo yn awr, os byddwch yn y Llywodraeth wedi'r etholiad ym mis Mai, y byddwch yn diystyru dod â'r cynlluniau hyn i gau adrannau damweiniau ac achosion brys yn eu holau, am gyfnod amhenodol, ac na fyddant yn opsiwn yn y dyfodol o’ch rhan chi?

Ni fu cynllun gan y Llywodraeth erioed i gau gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol; roedd yn rhaid i'r bwrdd iechyd ymdrin â realiti methu recriwtio staff. Mae'n fater o lwyddiant i bob un ohonom fod y bwrdd iechyd wedi llwyddo i recriwtio digon o feddygon, gan gynnwys meddygon ymgynghorol, i sicrhau adferiad y gwasanaeth hwnnw. Ac mewn gwirionedd, wrth weld Aelodau eraill o bob rhan o ardal Cwm Taf Morgannwg ar yr alwad hon, dylwn ddweud ei bod yn ffaith y byddai'r gwasanaeth hwnnw wedi methu heb gymorth meddygon ymgynghorol o rannau eraill o'r bwrdd iechyd. Pan ymwelais ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg, cyfarfûm â meddygon ymgynghorol o Ysbyty Tywysoges Cymru a oedd wedi dod i'r ysbyty hwnnw i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau, ac nad oedd yn methu. Gwnaeth hynny gynnal gwasanaeth a rhoi lle i'r bwrdd iechyd fynd allan i recriwtio unwaith eto, a gwnaethant hynny'n llwyddiannus. Nid oes angen ailedrych ar y mater hwn felly gan fod ganddynt ddigon o staff. Yr her yw parhau i recriwtio a chadw staff yn yr ardal, er mwyn sicrhau nid yn unig fod gwasanaethau'n lleol ond eu bod o ansawdd uchel, a bydd dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal yma yng Nghymru yn golygu y bydd angen inni adnewyddu ein gweithlu'n barhaus ac edrych eto ar y ffordd orau o ddarparu gofal o'r ansawdd gorau. Bydd y rhan fwyaf o'r gofal hwnnw'n lleol. Bydd angen i ofal arbenigol iawn fynd i ganolfannau arbenigol; yn sicr, byddwn i'n barod i deithio am y gofal gorau i mi a fy nheulu. Ond ni chredaf y dylai unrhyw un ohonom fod o dan unrhyw gamargraff fod bygythiad i wasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol. Wrth inni siarad yn awr, neu wrth nesu at yr etholiad, rwy'n gobeithio y bydd pobl yn y Rhondda a thu hwnt yn cydnabod ac yn derbyn y sicrwydd hwnnw ynghylch dyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol.

14:20
Gofal Sylfaenol yn Llanharan

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y ddarpariaeth o ofal sylfaenol yn ardal Llanharan? OQ56476

Diolch. Mae angen datblygu darpariaeth gofal sylfaenol ymhellach yn Llanharan. Mae datblygiadau tai sylweddol wedi'u cynllunio yn yr ardal. Er bod digon o gapasiti gofal sylfaenol ar hyn o bryd, wrth i'r datblygiadau tai hynny fynd rhagddynt, mae'n anochel y bydd angen mwy o gapasiti, ac rwy'n cydnabod diddordeb hirsefydlog yr Aelod yn y mater hwn.

Weinidog, diolch am eich ateb, ac rwyf am gofnodi fy niolch diffuant i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac i gyngor Rhondda Cynon Taf a dau o'r cynghorwyr lleol—Roger Turner a Geraint Hopkins—sydd wedi gweithio mewn partneriaeth gyda mi drwy gyfres o gyfarfodydd, nid yn unig dros y 12 mis diwethaf ond ers dwy, dair, pedair, pum mlynedd, ar gwmpasu datblygiad posibl canolfan iechyd a lles newydd yn ardal Llanharan. Fel y dywedwch, mae'r boblogaeth wedi tyfu, mae'n dal i dyfu, ac er bod y ddarpariaeth yno'n cael ei gwasanaethu'n dda gan feddygon teulu lleol o Donysguboriau, Pont-y-clun, Pencoed ac ati, bydd angen mwy. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ar y cam yn awr lle dywedir wrthym fod parodrwydd gwirioneddol i ystyried darparu canolfan.

Weinidog, a gaf fi ofyn i chi: os byddwch yn cael eich ailethol, ac os byddwch yn dal yn yr un rôl ar ôl yr etholiad, a wnewch chi weithio gyda mi, gweithio gyda'r bwrdd iechyd, gyda RhCT a chyda chynghorwyr lleol i wireddu’r cysyniad hwnnw o'r math o beth a welsom mewn lleoedd fel y Gilfach Goch a lleoedd eraill, lle mae nid yn unig meddygon teulu, ond therapyddion galwedigaethol, ceiropractyddion, nyrsys ardal a bydwragedd yn gweithio o ganolfan yn lleol er budd ac er lles holl bobl Llanharan a'r cyffiniau?

Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny, ac fel y gwyddoch, rwyf eisoes wedi cyfarfod â chi a'r Cynghorydd Geraint Hopkins, ac eraill, i drafod yr heriau yn yr ardal leol. Credaf eich bod yn iawn i nodi dyfodol amlddisgyblaethol—meddygon teulu’n gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, nyrsys, therapyddion eraill, i ddarparu cyfres ehangach o wasanaethau. Unwaith eto, credaf hefyd ei bod yn bwysig defnyddio’r bartneriaeth y bydd y bwrdd iechyd ei hangen gyda'r cyngor, er mwyn deall beth yw'r gwasanaethau hynny. Efallai mai iechyd a gwasanaethau y tu allan i iechyd fydd yn gwneud canolfan yn Llanharan yn llawer mwy deniadol i'r boblogaeth leol ac yn darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl, yn union fel y mae'r enghraifft yng nghwm Cynon, yn Aberdâr, yn ei ddangos. Credaf y bydd mwy o hynny’n digwydd yn y dyfodol, a gallwch ddisgwyl gweld mwy o hynny, gobeithio, yn y maniffesto rwy'n disgwyl i'r ddau ohonom sefyll arno. Ac edrychaf ymlaen at weld beth y mae'r pleidleiswyr yn ei ddweud, ac yna, pwy bynnag yw'r Prif Weinidog newydd, ac a fyddaf yn dychwelyd yma ai peidio, yn dibynnu, wrth gwrs, ar bwy yw'r Prif Weinidog.

Cyfraddau Heintio COVID-19 yn Nwyrain De Cymru

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau heintio COVID-19 yn Nwyrain De Cymru? OQ56500

Gwnaf. Mae gostyngiad graddol wedi bod ar draws Dwyrain De Cymru mewn cyfraddau heintio a chyfraddau profion positif. Mae cefnogaeth barhaus i’r cyfyngiadau sydd ar waith yn hanfodol os ydym am sicrhau bod y duedd gyffredinol hon ar i lawr yn parhau.

Diolch, Weinidog. Mae’r gyfradd achosion wedi bod yn syfrdanol o uchel ym Merthyr Tudful dros yr wythnosau diwethaf, er fy mod yn falch o weld y niferoedd yn gwastatáu. Gwn fod y bwrdd iechyd wedi nodi mai rhai rhesymau tebygol pam ein bod wedi gweld y cynnydd hwnnw fyddai am fod rhai aelwydydd estynedig wedi bod yn cymysgu a phobl heb fod yn dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol. Un o gryfderau ein cymunedau yn y Cymoedd yw ein hagosrwydd, ond yn ystod y pandemig, rydym wedi dioddef oherwydd y cysylltiadau agos hynny.

Weinidog, bydd lleiafrif o bobl wedi credu camwybodaeth am y feirws, a byddwn yn gofyn i chi, yn gyntaf, sut rydych yn ceisio atal y wybodaeth anghywir honno rhag lledaenu ar Facebook, gan weithio gyda'r bwrdd iechyd. Bydd llawer o deuluoedd hefyd yn ei chael hi'n anodd iawn goroesi ar y taliad hunanynysu fel y mae ar hyn o bryd, ac yn dibynnu ar neiniau a theidiau i ofalu am eu plant, pobl sy'n ofni y byddant yn colli eu swyddi os nad ydynt yn mynd i’w gwaith. Felly, a gaf fi ofyn i chi, yn olaf, pa gymorth ychwanegol rydych yn ystyried ei roi i gymunedau fel Merthyr Tudful, lle'r ymddengys bod lleiafrif o bobl yn ei chael hi'n anodd iawn?

14:25

Fe fyddwch yn falch o glywed fy mod wedi trafod yr holl faterion hyn gyda'r Aelod etholaeth Dawn Bowden a'r pryderon ynghylch sut y mae'r gymuned yn cael ei chefnogi i wneud y dewis cywir, a sut rydych yn ceisio perswadio pobl i fod yn onest os ydynt wedi dal COVID ac yn cydnabod eu hunain eu bod wedi bod wedi mynd yn groes i'r rheolau. Dyna ran o'r rôl allweddol sydd gan ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu wrth gyfeirio pobl i fynd i gael y taliadau ynysu—mae llawer o bobl nad ydynt yn cyflwyno cais amdanynt pan allent wneud hynny—i sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth sydd ar gael, yn ariannol, ond hefyd y cymorth ehangach i sicrhau bod pobl yn gallu hunanynysu’n llwyddiannus, ac i gydnabod os yw cymuned gyfan yn cefnogi'r cyfyngiadau ac yn gweithredu yn unol â hwy, ein bod yn llawer mwy tebygol o barhau i reoli cyfraddau coronafeirws a dod o hyd i ffordd gynaliadwy allan o'r sefyllfa bresennol. Mae'n newyddion da fod y cyfraddau wedi gostwng ym Merthyr Tudful yn y ffigurau heddiw—cwymp eithaf sylweddol; mae angen inni weld hynny'n parhau yn y dyfodol. Ac mewn gwirionedd, rydym yn gweithio ochr yn ochr â'r cyngor a'u swyddogion, yn ogystal â chynrychiolwyr etholedig lleol, a'r bwrdd iechyd. Felly, mae ehangu profion cymunedol a’u hargaeledd yn rhan o hynny. Mae'n ymwneud ag annog pobl i roi gwybod ac iddynt gael hyder, os byddant yn profi'n bositif, y cânt eu cefnogi i ynysu drwy ddulliau ariannol a dulliau eraill. Bydd angen inni wneud mwy o hyn, oherwydd wrth inni ddod allan o’r cyfyngiadau symud gyda mwy o lacio, gallwn ddisgwyl gweld cynnydd yn y trosglwyddiad ar lefel leol. Mae hwn yn brawf da i ni i weld pa mor llwyddiannus y gallem fod wrth gefnogi pobl er mwyn helpu pob un ohonom i weld diwedd ar y pandemig.

Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro

8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd i bobl sir Benfro? OQ56478

Rydym yn cydweithio gyda'r bwrdd iechyd, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynllunio ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol, ochr yn ochr â gofalu am gleifion yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19, yn ogystal â gweithio tuag at ddarparu gwasanaethau ehangach a mwy rheolaidd wrth gwrs, lle a phan fo'n ddiogel i wneud hynny.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Nawr, yn anffodus, gostyngodd nifer yr atgyfeiriadau canser brys yn ddramatig rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2020, ac mae Cancer Research UK wedi dweud yn glir, pan fydd y cleifion hyn yn dod i mewn i'r system, y bydd yn achosi problemau capasiti sylweddol ym maes diagnosteg. Yn wir, gwyddom mai canran y cleifion sy'n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod lle ceir amheuaeth o ganser yw 65.9 y cant yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Nawr, gwrandewais yn ofalus iawn ar yr ymatebion a roesoch i fy nghyd-Aelod Angela Burns yn gynharach, ond o ystyried rhybuddion Cancer Research UK, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynllunio'n benodol ar gyfer gweithlu diagnostig a all ymdopi ag unrhyw gynnydd yn y galw yn y dyfodol? Fe'ch clywais yn dweud bod angen y cymorth cywir ar y gweithlu, ond beth a wnewch yn benodol i gefnogi'r gweithlu, fel y gellir cymryd camau wedyn i gynyddu nifer y bobl sy'n dechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod, ac fel y gall pobl yn fy etholaeth gael y driniaeth frys sydd ei hangen arnynt?

Wel, fe fydd yr Aelod yn gallu gweld y swydd ychwanegol a ariannwyd gennym, a'n bod wedi sicrhau bod pobl yn cael hyfforddiant drwy'r gweithlu diagnostig ledled Cymru. Rydym mewn sefyllfa gref gyda'n swyddi gwag, a recriwtio pobl i'r swyddi hynny i hyfforddi cenhedlaeth arall. Fe fyddwch hefyd yn cofio'r buddsoddiad a wneuthum yn y gweithlu diagnostig a hyfforddi'r gweithlu diagnostig hwnnw. Mae canolfan hyfforddi yn etholaeth Huw Irranca-Davies, rwy'n credu, ym Mhencoed, lle byddwch yn gweld y bobl hyn sy'n croesawu'r buddsoddiad, a'r ffaith ei fod yn eu helpu nid yn unig i ddod yma yn y lle cyntaf, ond i aros yma hefyd. Felly, credaf fod gennym hanes da o ran gwelliannau ymarferol yn y gweithlu. Fe fyddwch yn gweld mwy o fanylion ynghylch gwella a chynyddu ein gweithlu pan ddaw'r maniffesto, ond fel y dywedaf, byddwn yn cwblhau tymor y Senedd hon, hyd yn oed ar ôl effeithiau parhaus cyni, gyda mwy na 10,000 o staff ychwanegol yn y GIG. Mae'n gyflawniad cadarn y credaf y gall pobl yng Nghymru ymddiried ynddo wrth inni edrych ymlaen at y dyfodol ac ailadeiladu gwasanaethau gwell a thecach a gwlad well a thecach, ac fel y dywedaf, edrychaf ymlaen at benderfyniad y cyhoedd yn yr etholiadau ar ddechrau mis Mai eleni.

14:30
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.

Cefnogi Llesiant ac Iechyd Meddwl

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogi llesiant ac iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru? OQ56485

Mae amrywiaeth o gymorth iechyd meddwl ar gael yng Ngorllewin De Cymru, o ran gwasanaethau sydd yn cael eu darparu nid jest gan y trydydd sector ond hefyd gan yr NHS. Mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth noddfa ym Mae Abertawe, sydd wedi’i ddatblygu gan wasanaethau iechyd meddwl ynghyd â bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg a’r elusen iechyd meddwl Hafal.

Diolch am hynna, Weinidog. Allaf i ofyn pa gynnydd sydd yna i ymdrin ag afiechyd meddwl mewn argyfwng, yn union fel rydyn ni'n ymdrin ag afiechyd corfforol mewn argyfwng? Efo trawiad ar y galon, er enghraifft, mae'r meddyg teulu'n gallu ffonio meddyg yn yr ysbyty yn uniongyrchol a chael mynediad brys y diwrnod hwnnw i'r claf ar fyrder. Roeddem ni'n gallu gwneud hynna efo salwch meddwl mewn argyfwng 20 mlynedd yn ôl, ond ddim rhagor. Rydyn ni wedi colli'r cysylltiad uniongyrchol rhwng y meddyg teulu a'r arbenigwr seiciatryddol yn yr ysbyty. Pa obaith sydd o adfer yr hen gysylltiad oesol?

Diolch yn fawr, Dai. Dwi'n gwybod bod lot fawr o waith wedi cael ei wneud o ran y gwasanaethau brys, a dyna ble dŷn ni wedi bod yn canolbwyntio ein gwaith ni ar hyn o bryd o ran iechyd meddwl. Achos beth oedd yn digwydd oedd ein bod ni mewn sefyllfa lle, pan oedd pobl yn codi'r ffôn, rhai o'r unig wasanaethau a oedd ar gael, yn arbennig ar ôl 5 o'r gloch yn y prynhawn, oedd gwasanaethau brys. Ac yn aml, nid yr heddlu neu hyd yn oed y gwasanaeth ambiwlans yw'r llefydd gorau i ymdrin â phethau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. Dyna pam mae gwaith aruthrol wedi cael ei wneud eisoes, o dan ymbarél y concordat, i sicrhau ein bod ni'n edrych ar hwn mewn manylder, ein bod ni'n cydweithredu gyda'r trydydd sector, a bod yna ddarpariaeth mewn lle. Achos beth dŷn ni wedi ei sylweddoli oedd, o ran y rhan fwyaf o'r bobl a oedd yn dod mewn i'r gwasanaethau brys, efallai nad gwasanaeth iechyd meddwl, o ran iechyd meddwl pur, oedd ei angen arnyn nhw, ond efallai bod angen mwy o help cymdeithasol ac economaidd arnyn nhw. Felly mae'r gwaith yna'n cael ei wneud.

Byddwch chi, dwi'n siŵr, yn ymwybodol bod Bae Abertawe wedi bod yn cynnal peilot o ran un pwynt cyswllt ar gyfer iechyd meddwl, wrth ffonio'r rhif 111. A bydd hwnna nawr yn cael ei ehangu i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Yr un peth arall dwi'n meddwl sy'n werth ei danlinellu yw'r ffaith bod gyda ni gynllun nawr sy'n helpu i gludo pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Dyw hi ddim yn briodol, wrth gwrs, i gymryd pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl mewn car heddlu, er enghraifft. Dyna pam dŷn ni'n peilota rhaglen newydd yn y maes yma hefyd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Weinidog, ddoe, nodais bryderon ynghylch cymorth i blant ifanc, a phlant sy’n mynd yn ôl i ysgolion, sydd wedi’i chael hi’n anodd, rwy'n credu, yn ystod y pandemig hwn, a sut y gallwn fod yn sicr fod digon o adnoddau ar gael iddynt allu elwa o therapïau siarad, therapyddion a chwnselwyr. Rwy'n poeni'n fawr ein bod yn dal i fod yn brin o'r niferoedd o gwnselwyr a therapyddion yn y maes hwnnw. Beth y gallwch ei wneud i sicrhau, wrth i blant ddychwelyd i ysgolion, wrth inni wynebu’r 12 mis nesaf, yn ôl pob tebyg, o heriau i rai o’r plant hyn, y bydd digon o therapyddion, a therapyddion siarad yn enwedig, ar gael i ateb y galw a ddaw yn sgil hyn?

Diolch yn fawr, Dai. Rwy'n bryderus iawn am y sefyllfa hon. Gwyddom fod y comisiynydd plant wedi dod i’r casgliad fod oddeutu 67 y cant o'n plant rhwng 12 a 18 oed yn dioddef gyda rhyw fath o orbryder ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae bod heb drefn ddyddiol yn mynd i beri problem i lawer o bobl, ac rwy'n gobeithio y gwelwn y lefelau hynny’n gostwng yn awr, wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol.

Ond yn bendant, bydd grŵp ohonynt angen cymorth parhaus. Dyna pam fod gennym ddull cynhwysfawr yn awr o edrych ar blant a phobl ifanc. Gwyddom fod 80 y cant o broblemau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn dechrau pan fydd pobl yn blant neu'n bobl ifanc, a dyna pam ei bod yn gwneud synnwyr inni ganolbwyntio ar hyn. Mae gennym ddull ysgol gyfan, felly mae cyllid ychwanegol sylweddol yn cael ei ddarparu i ysgolion, ac rydym hefyd yn ymestyn ein cymorth i gynnwys cymorth cynnar a chefnogaeth ychwanegol, a fydd yn cael ei gyflwyno o fis Gorffennaf y flwyddyn nesaf, i sicrhau bod yr holl wasanaethau gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd fel nad yw plant yn bownsio o un rhan o’r system i’r llall.

Gall y trydydd sector wneud llawer o'r gwaith hwnnw. Cefais fideoalwad y bore yma mewn gwirionedd; cawsom ein hail gyfarfod o'r grŵp trosolwg a gweithredu ar gyfer Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc. Un o'r agweddau y buom yn edrych arnynt y bore yma yw a oes gennym y gweithlu iawn ar waith, gan ei bod yn amlwg fod yn rhaid inni ddal ati i geisio cynyddu’r datblygiad hwnnw. Felly, mae'r gwaith yn parhau. Mae'n mynd rhagddo. Mae angen inni wneud mwy yn ôl pob tebyg, ond yn amlwg, byddwn yn cadw llygad. Rwy'n gobeithio y bydd y ffaith ein bod eisoes wedi darparu oddeutu £9 miliwn i gyd ar gyfer y maes hwn roi rhywfaint o gysur i chi ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.

14:35
Gorbryder yn Dilyn y Cyfyngiadau Symud

2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl sy'n dioddef o orbryder yn dilyn y cyfyngiadau symud? OQ56488

Diolch yn fawr, Jack. Rydym wedi ymrwymo £4 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf i wella mynediad at gymorth anghlinigol ar gyfer materion iechyd meddwl lefel isel fel gorbryder, a bydd hyn yn adeiladu ar gyllid rydym wedi'i ddarparu eleni i wella cymorth, gan gynnwys cyflwyno therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom wedi siarad â phobl sy'n profi gorbryder am y tro cyntaf, pobl sy'n ansicr beth sy'n digwydd iddynt, ac yn bendant yn ansicr ynglŷn â pha gymorth sydd ar gael iddynt. Ceir llawer o drigolion Alun a Glannau Dyfrdwy, a ledled Cymru, nad ydynt wedi bod allan fawr ddim ers yr adeg hon y llynedd. Nid yn unig eu bod yn orbryderus am y coronafeirws, maent yn bryderus am fynd allan i'r byd. I rai, bydd y gorbryder yn fwy eithafol, ac mae'n ddigon posibl y bydd yn arwain at byliau o banig, rhywbeth nad wyf ond wedi'i brofi unwaith yn fy mywyd, yn fuan ar ôl i Dad farw, ac mae’ n rhywbeth na fyddwn yn ei ddymuno i unrhyw un. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hyn, ac i sicrhau bod y GIG wedi'i arfogi'n llawn i helpu pobl, hen ac ifanc, o bob cefndir, sy’n dioddef o orbryder, gan gynnwys y rheini na fyddent yn adnabod yr arwyddion a sut i ofyn am gymorth?

Diolch yn fawr, Jack. Diolch yn fawr iawn am bopeth rydych wedi'i wneud i hyrwyddo mater iechyd meddwl. Ers ichi fod yn y Senedd, rydych wedi bod yn un o hyrwyddwyr mwyaf blaenllaw'r mater hwn. Hoffwn bwysleisio fy niolch i chi am fod mor onest am rai o'r problemau rydych wedi brwydro yn eu herbyn. Diolch yn fawr, gan fod hynny'n helpu pobl i siarad amdano. Mae’n rhaid imi ddweud mai ychydig iawn o bethau cadarnhaol sydd wedi deillio o'r pandemig, ond credaf fod y ffaith bod pobl i'w gweld yn siarad am iechyd meddwl—y bydd y stigma, gobeithio, yn cael ei leihau o ganlyniad i hyn. Oherwydd, a dweud y gwir, ni all fod llawer o bobl sydd heb eu cyffwrdd gan orbryder mewn rhyw ffordd yn ystod y pandemig. Nid ydynt wedi gwybod a fyddant yn cadw eu swyddi, nid ydynt wedi gwybod a yw eu rhieni'n mynd i ddal y feirws, nid ydynt wedi gwybod a fydd eu plant yn dioddef o fod ar ei hôl hi'n academaidd—mae pob un o'r pethau hyn yn arwain at orbryder. Credaf y gall pawb gydymdeimlo â gorbryder erbyn hyn mewn ffordd nad oedd pawb yn ei wneud o'r blaen o bosibl. Felly, mae hynny'n glir.

Yr hyn rydym wedi ceisio’i wneud, Jack, yw sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ba gymorth sydd ar gael os ydynt yn cael pyliau o banig o'r fath. Yn amlwg, mae gennym linell gymorth iechyd meddwl CALL, sydd ar gael 24 awr y dydd. Rydym wedi rhoi mwy o gapasiti tuag at  hynny. Fel y dywedaf, mae gennym y therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein. Ond un o'r pethau allweddol a oedd yn bwysig iawn i mi pan gefais fy mhenodi gyntaf oedd pa mor hawdd yw cael mynediad, gwybod i ble y gallwch fynd i gael mynediad at y pethau hyn. A’r hyn a welwch yn awr—rwy'n gobeithio bod yr holl Aelodau o’r Senedd wedi cael copi o'r e-bost a anfonais i sicrhau bod pawb yn gwybod bellach fod yn rhaid i bob bwrdd iechyd nodi’n gwbl glir pa gymorth sydd ar gael yn eu rhanbarth. Mae’n rhaid i hynny fod yn hygyrch mewn ffordd hawdd iawn. Felly, mae digon o gymorth ar gael, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yn gwybod ble i fynd a chyfeirio at y cymorth hwnnw. Diolch yn fawr, Jack, am bopeth rydych wedi'i wneud ar y pwnc.

Roedd hwnnw'n ateb cynhwysfawr iawn, Weinidog. A gaf finnau achub ar y cyfle i ganmol Jack Sargeant am y gwaith aruthrol y mae wedi'i wneud ym maes iechyd meddwl, sydd mor bwysig, yn enwedig yn ystod misoedd y pandemig a'r cyfyngiadau symud? Roedd yn bleser gweithio gyda thad Jack, Carl Sargeant, yn y Senedd ar ystod o faterion. Roedd yn angerddol am y materion hynny ac rwy'n falch o weld bod Jack wedi parhau yn yr un modd i hyrwyddo materion sydd o bwys gwirioneddol i'r bobl yn ein cymunedau.

Weinidog, fel rydych newydd awgrymu, mae'n debygol y byddwn yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl cymunedol i'r rheini sy'n dioddef yn sgil gorbryder ac iselder, fel un o ganlyniadau pwysig y pandemig mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd, ac yn ôl pob golwg, gallai hynny barhau am beth amser, ac arwain at gost sylweddol. Pa drafodaethau rydych wedi'u cael gydag is-gadeiryddion byrddau iechyd lleol ledled Cymru, neu'n wir, gyda'r Gweinidog iechyd, gan gysylltu â'r byrddau iechyd hynny—y rheini sy'n gyfrifol am iechyd meddwl cymunedol a gofal sylfaenol—i sicrhau y bydd gwasanaethau lleol y GIG yn cael y ffocws sydd ei angen arnynt? Oherwydd yn amlwg, nid yn unig eu bod wedi bod o dan straen yn ystod y pandemig, ond byddant o dan straen am beth amser i ddod, wrth geisio ymdopi â chanlyniadau’r cyfnod heriol hwn.

14:40

Diolch yn fawr, Nick. Yn sicr, mae’r cymorth iechyd meddwl cymunedol hwnnw’n gwbl hanfodol, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio rhoi’r cymorth hwnnw, cyn belled ag y bo modd, mor agos at adref â phosibl, oherwydd, yn gyffredinol, nid yw cymorth iechyd meddwl yn rhywbeth y gallwch ei ddatrys unwaith ac am byth; mae'n rhaid ichi gael perthynas barhaus, mae'n rhaid ichi barhau i weithio arno. Dyna pam fod rhoi’r cymorth hwnnw yn y gymuned yn llawer mwy gwerthfawr, a dyna’n sicr rydym yn ceisio’i wneud.

Rwyf wedi cyfarfod â'r is-gadeiryddion ar fwy nag un achlysur bellach ers imi gael fy mhenodi i'r rôl hon, ac rwyf wedi dweud yn gwbl glir wrthynt i ba gyfeiriad yr hoffwn weld pethau'n mynd. Un yw bod gwir angen inni ddargyfeirio mwy o arian i gymorth haen 0—y cymorth cynnar iawn hwnnw—fel nad ydym yn gweld y problemau hyn yn datblygu ac yn dod yn fwy cymhleth ac yn anos eu trin. Felly, mae cymorth cynnar yn gwbl hanfodol. Yr ail beth yw bod gwir angen inni ddargyfeirio mwy o arian tuag at gefnogi plant a phobl ifanc fel cyfran o'r gyllideb. Felly, dyna'r ddwy neges rwyf wedi'u cyfleu’n gwbl glir i'r is-gadeiryddion, yn ogystal, wrth gwrs, â thanlinellu eu cyfrifoldeb i sicrhau bod yr holl wasanaethau hyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Hoffwn i ddiolch i Jack Sargeant hefyd am roi cwestiwn mor bwysig gerbron, a thalu teyrnged i'w dad, Carl Sargeant, a oedd wedi fy helpu i pan wnes i gael nifer o broblemau gyda gorbryder yn sgil perthynas negyddol a dinistriol yn y gorffennol. Roedd e wedi bod yn gefn i fi, a heb ei gefnogaeth e, dwi ddim yn credu y buaswn i wedi dod mas mor gadarn ag yr ydw i wedi dod dros y blynyddoedd.

Ond mae fy nghwestiwn i ar anhwylderau bwyta. Dwi wedi treulio fy ngyrfa i gyd yn ymgyrchu ar anhwylderau bwyta, a dŷn ni wedi clywed gan Beat Cymru, sydd wedi gwneud gwaith clodwiw yn y maes yma, fod anhwylderau bwyta wedi tyfu yn ystod COVID. Mae'r gorbryder yna, eu bod nhw'n teimlo fel nad yw rhai o'r gwasanaethau ar gael iddyn nhw, eu bod nhw ddim yn cael y gefnogaeth sy'n angenrheidiol iddyn nhw, yn rhywbeth sydd yn ddybryd ar hyn o bryd. Dwi'n deall beth rydych yn ei ddweud, Weinidog, ynglŷn â siarad am iechyd meddwl, ond mae pobl wedi cael digon o siarad hefyd; maen nhw eisiau gweithredu. Ac mae yna ddiffyg gwasanaethau ar lawr gwlad i bobl sydd â llu o broblemau iechyd meddwl gwahanol. 

Fy apêl i chi, ar fy niwrnod olaf i yn y Senedd, yw sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn gwella i'r dyfodol, fel nad yw pobl yn gorfod cael gwasanaethau preifat yn y dyfodol, fel nad ydyn nhw'n gorfod teimlo fel bod eu bywyd nhw mor wael eu bod nhw eisiau dod â'u bywyd nhw i ben, fel bod mamau newydd yn gallu cael y gefnogaeth sydd yn angenrheidiol iddyn nhw. Dyna yw fy apêl i chi fel Llywodraeth nawr ac i unrhyw lywodraeth sydd yn dod gerbron ym mis Mai. 

Diolch yn fawr, Bethan, a diolch am bopeth rwyt ti wedi ei wneud yn y maes yma. Dwi'n gwybod bod hwn yn rhywbeth rwyt ti wedi bod yn ymgyrchu arno fe ers sbel. Yn sicr, un o'r pethau dwi'n poeni amdano yw'r ffaith ein bod ni, yn arbennig ym maes anhwylderau bwyta, wedi gweld cynnydd yn ystod y pandemig. Mae hwn yn rhywbeth dwi wedi gofyn i fy nhîm i ffocysu arno fe.

Mae'n rhaid inni ddeall bod hyn wedi bod yn fwy o broblem. Rydyn ni wedi rhoi mwy o arian mewn iddi yn ystod y pandemig, ond dwi wedi gofyn i weld os oes angen inni roi fwy o arian i mewn iddi, achos dwi yn poeni am y sefyllfa yma. Beth sy'n hollol glir gyda'r anhwylder yma yw bod yn rhaid i chi ymyrryd yn gynnar. Os nad ydych yn ymyrryd yn gynnar, mae'r problemau yn gallu bod yn rili difrifol, ac felly, unwaith eto, yr ateb, o'm safbwynt i, yw sicrhau bod yr arian yna ar gael ar gyfer mudiadau fel Beat, sydd yn gwneud gwaith mor anhygoel.

Un o'r pethau mae'n rhaid inni ei sicrhau yw bod mwy o bobl ar lefel primary care yn fodlon anfon pobl at Beat tra'u bod nhw'n aros, efallai, i weld rhywun yn y gwasanaeth iechyd os oes yna unrhyw broblemau o ran aros am amser hir. Mae'n rhaid inni gael yr ymyrraeth gynnar yna tra bod pobl yn aros a dyw hwnna ddim wastad yn gweithio. Unwaith eto, dwi wedi gofyn bod hwnna yn cael ei wneud.

Ond dwi eisiau diolch i ti hefyd, Bethan, am bopeth rwyt ti wedi'i wneud o ran gofal perinatal ac iechyd meddwl hefyd. Dwi'n gwybod dy fod ti wedi gwneud gwaith arbennig yn y maes yma a diolch yn fawr i ti am bopeth rwyt ti wedi'i wneud yn ystod y Senedd. Mae wedi bod yn gyfnod hir iawn i ti a dwi'n gwybod dy fod ti wedi rili cael effaith aruthrol ar y Senedd yma, a diolch am bopeth rwyt ti wedi'i wneud.

14:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Symudwn at gwestiynau'r llefarwyr yn awr, a daw’r cyntaf y prynhawn yma gan lefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ail gam o'r gronfa adferiad diwylliannol gan roi ychydig mwy o sicrwydd i'r sector celfyddydau a diwylliannol. Mae yna un agwedd y mae'r sector wedi ei chodi efo mi yn barod, sef hygyrchedd y cynllun. Oes gennych chi gynlluniau yn eu lle i sicrhau bod y broses ymgeisio yn un deg, yn enwedig i unigolion sydd ddim â'r modd i ennill y ras, fel petai, a dwi'n sôn yn benodol am unigolion efo anableddau neu salwch sydd yn eu gwneud hi'n anodd llenwi ffurflenni yn sydyn, a hefyd unigolion sydd â chyfrifoldebau gofal neu waith ac felly sy'n methu bod ar gael i eistedd o flaen y cyfrifiadur am amser penodol? 

Ac yn ail, o ran y gronfa, mae ysgolion perfformio wedi methu â gwneud defnydd llawn o gymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth ar draws y sectorau gwahanol. Mae'n debyg nad ydyn nhw'n ticio'r bocsys angenrheidiol i fanteisio ar y cronfeydd sydd wedi cael eu sefydlu. Felly, wnewch chi ystyried ehangu'r sail mynediad at y gronfa adferiad diwylliannol yn yr ail gam yma er mwyn gwneud yn siŵr y gall y sefydliadau unigryw a phwysig yma dderbyn cefnogaeth?

Diolch yn fawr, Siân. Yn gyntaf, dwi jest more blês ein bod ni wedi gallu cyhoeddi'r arian ychwanegol yma. Dyw hwn ddim yn rhywbeth sydd yn digwydd yn Lloegr yn yr un modd, ac, yn sicr, mae'r help rŷn ni wedi gallu ei roi i bobl sydd yn llawrydd—freelancers—yn rhywbeth sydd yn wirioneddol wedi cael ei werthfawrogi achos does dim o hynny yn digwydd yn Lloegr. Yn sicr, roeddwn i'n ymwybodol yn ystod y cyfnod cyntaf fod yna broblemau achos roedd cymaint o bobl ac roedd y broses yn anodd i rai pobl o ran cyrraedd mewn pryd. Erbyn i ni fynd trwy'r camau i gyd, roeddem ni'n hyderus bod pob un a oedd eisiau ac angen ymgeisio wedi cael y cyfle i wneud hynny. Felly, wnaeth neb golli mas. Efallai, yn y rownd gyntaf ac erbyn diwedd y cyfnodau gwahanol, fe fyddwn ni wedi sicrhau bod pob un a oedd angen ymgeisio wedi cael y cyfle i wneud hynny. Felly, dwi'n gobeithio na fyddwn ni'n gweld y broblem welon ni yn ystod y tymor cyntaf, nid o achos unrhyw broblemau a oedd yn bwrpasol, ond jest o achos capasiti'r system i 'cope-io'. Felly, rŷn ni mewn sefyllfa wahanol nawr. Rŷn ni'n gwybod pwy oedd wedi trio y tro cyntaf, so fe fydd e lot yn haws achos bydd y wybodaeth yna i gyd gyda ni. Felly, dwi'n gobeithio bod hygyrchedd y broses lot yn well hefyd.

A diolch yn fawr am ofyn am yr ysgolion perfformio. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny, ac felly mi af yn ôl i ofyn beth yw'r sefyllfa gyda'r rheini.

I droi at faes arall sydd yn rhan o'ch dyletswyddau chi, sef digwyddiadau mawr, dwi ar ddeall fod y Llywodraeth wedi comisiynu adroddiad annibynnol am y strategaeth digwyddiadau mawr. Dwi'n deall bod gwaith wedi cychwyn ymhell cyn i'r pandemig ein taro ni a'i fod o wedi cael ei gwblhau hefyd ond nad ydy'r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi. Fedrwch chi egluro pam nad ydy'r adroddiad wedi'i gyhoedd ac a fedrwch chi roi rhyw fath o flas o beth oedd yn yr adroddiad yna? Ac a fyddwch chi yn ei gyhoeddi fo—rydw i'n gwybod nad oes llawer o amser ar ôl rŵan cyn y cyfnod etholiad—neu a fydd yr adroddiad yma yn aros ar y silff i gasglu llwch?

14:50

Diolch yn fawr, Siân. Fel ŷch chi'n ymwybodol, mi wnaethon ni gomisiynu hwn cyn i'r pandemig daro, ac, yn amlwg, os oes yna unrhyw beth wedi cael ei effeithio gan y pandemig, digwyddiadau mawr yw hynny. Felly, i raddau, rhan o'r broblem yw y gwnaeth lot o'r adroddiad gael ei ysgrifennu cyn y pandemig, ac felly, yn amlwg, mae angen addasu nawr yn wyneb beth sy'n digwydd gyda'r pandemig, achos mae'r help sydd ei angen ar y sector nawr yn hollol wahanol i beth fyddai wedi bod ei angen cyn y pandemig. Felly, rŷn ni wedi gofyn i'r awdur ystyried hynny ac, felly, mae’r adroddiad yn dal i fod yn nwylo'r awdur, ac rŷn ni'n aros i'r awdur ddod nôl atom ni o hyd cyn ein bod ni'n gallu cyhoeddi'r adroddiad yna. Ond dwi'n gobeithio—. Dwi wedi bod yn pwyso i gael yr adroddiad yna wedi cael ei gyhoeddi ers tipyn nawr. 

Felly, gobeithio y caiff o weld golau dydd ac y gwnawn ni weld yn union beth ydy'r argymhellion ar gyfer cyfeiriad y gwaith yma i'r dyfodol.

Jest i droi yn olaf at yr angen, rydw i'n credu, am strategaeth gwbl newydd ar gyfer y celfyddydau a'r sector diwylliannol yng Nghymru, dwi'n meddwl y bydd cynnal diwydiant creadigol bywiog ac arloesol efo cefnogaeth dda yn helpu Cymru i addasu i'r dirwedd ôl-COVID-19 mewn sawl ffordd. Ond y broblem ar hyn o bryd ydy bod adrannau'r Llywodraeth yn gweithio mewn seilos, ac, wrth symud at y Senedd nesaf, mae angen i'r celfyddydau, ein hiaith ni, yr iaith Gymraeg, a'n treftadaeth ni fod yn bwysig ar draws Llywodraeth, ac mae angen gosod y materion yma—y Gymraeg, y celfyddydau, diwylliant, chwaraeon—wrth wraidd polisi cyhoeddus a gweithredu gan Lywodraeth ganol a llywodraeth leol a'u tynnu nhw i mewn i ddatblygu economaidd, maes iechyd, addysg, yr amgylchedd ac yn y blaen. Ydych chi, felly, yn cytuno, o ran y celfyddydau yn benodol, fod angen cyfeiriad strategol, holistaidd, newydd a chynhwysol er mwyn datblygu’r sector yma i fod yn wirioneddol wrth wraidd popeth mae'r Llywodraeth yn ei wneud?

Wel, dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni wedi cyhoeddi Cymru Creadigol, ein bod ni wedi symud ymlaen gyda'r project yna, ein bod ni wedi deall bod y diwydiant yma yn rhywbeth sydd yn cyfrannu mewn ffordd aruthrol i'n heconomi ni—. Os ŷch chi'n edrych ar y cynnydd o ran nifer y bobl sydd yn gweithio yn y celfyddydau, mae tua 50 y cant o gynnydd wedi bod yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae e wedi bod yn gynnydd aruthrol, ac, wrth gwrs, mae yna le inni ehangu yn fwy. Un o'r pethau rŷn ni wedi ei wneud yw canolbwyntio ar geisio sicrhau bod hyfforddi yn y lle cywir, a dwi'n meddwl bod yna le inni fynd ymhellach ar hynny. Dwi'n deall beth ŷch chi'n dweud o ran y perygl ein bod ni'n gweithio mewn seilos, ac, yn sicr, dwi'n gobeithio, os byddwn ni i gyd yn dod nôl y tro nesaf, y bydd hwn yn rhywbeth lle byddwn ni'n gweld mwy o waith ar draws y Llywodraeth.

Yn sicr o ran y Gymraeg, dwi wedi cymryd papur i'r Cabinet yn ddiweddar i danlinellu'r ffaith bod yn rhaid inni fynd lot ymhellach nag ŷn ni wedi mynd hyd yn hyn a bod yn rhaid inni sicrhau bod yna gyfrifoldeb ar bob adran y tu fewn i'r Llywodraeth i brif ffrydio'r Gymraeg. Wrth gwrs, rwy'n gobeithio, pan fyddwn ni'n dod nôl, y bydd yna raglen weithredu newydd ac y bydd yna ddisgwyl i bob adran yn y Llywodraeth gyfrannu mewn rhyw ffordd i ddangos beth maen nhw'n ei wneud o ran symud pethau ymlaen ynglŷn â'r Gymraeg.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy sôn am yr ymgysylltiad rydym wedi'i gael? Rwyf wedi mwynhau cysgodi'r briff hwn. Cawsom sesiynau briffio yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf ar yr heriau diwylliannol sy’n ein hwynebu o ran darparu cyllid. Fodd bynnag, hoffwn siarad am iechyd meddwl a chefais fy nghalonogi gan eich cyfeiriadau yn gynharach at y sector cyrff anllywodraethol. A wnewch chi ymuno â mi i ganmol pobl ifanc sydd o ddifrif ynglŷn â'u hiechyd meddwl, yn ogystal â derbyn y cymorth sydd ar gael gan ysgolion a sefydliadau fel y Sgowtiaid, sydd hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith hwn bellach?

14:55

Diolch yn fawr iawn, David, a diolch am yr holl waith rydych wedi'i wneud nid yn unig ar y portffolio hwn, ond hefyd am eich gwaith dros gymaint o flynyddoedd. Rydych wedi bod yn gonglfaen go iawn i ddatblygiad y sefydliad hwn, a hoffwn ddiolch yn bersonol i chi am bopeth rydych wedi'i wneud, yn anad dim am sicrhau bod y Blaid Geidwadol wedi aros gyda datganoli, a gobeithio y byddant yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Felly, diolch yn fawr iawn, David, am bopeth rydych wedi'i wneud. Rydych wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol ryfeddol i Gymru.

Ond hefyd, hoffwn achub ar y cyfle hwn i sôn am—rwy'n gobeithio nad oes ots gennych, oherwydd rydych yn sôn am y gwaith a wnaed i gadw mewn cysylltiad ar ochr ddiwylliannol pethau—y gwaith rhagorol a wnaed gan fy nghyd-Aelod Dafydd Elis-Thomas yn ystod ei gyfnod rhyfeddol. Mae'n ffordd mor wych iddo orffen gyrfa fel gwleidydd etholedig sydd, wrth gwrs, wedi rhychwantu degawdau lawer, ac mae ei gyfraniad i fywyd Cymru wedi bod yn wirioneddol ryfeddol. Bydd y llyfrau hanes yn cael eu hysgrifennu ryw ddydd, ac rwy'n gobeithio y byddant yn nodi cyflawniad anhygoel ei waith dros gymaint o flynyddoedd, yn gyntaf oll, rwy’n credu, fel yr Aelod ieuengaf yn Nhŷ’r Cyffredin, wedi iddo fynd yno pan oedd oddeutu 27 oed, treuliodd flynyddoedd lawer yn y siambr honno, heb golli unrhyw gyfle i hyrwyddo achos datganoli Cymreig, ac yn sicr, gwnaeth cyfraniad aruthrol yma yn y sefydliad hwn, yn anad dim fel Llywydd, gan roi ei stamp ei hun ar y rôl honno, ond hefyd, wrth gwrs, gan orffen ei yrfa wleidyddol yn y sefydliad hwn yn hyrwyddo'r achosion y gwn ei fod yn eu caru cymaint.

So, diolch yn fawr iawn, Dafydd, am bopeth rwyt ti wedi ei wneud drosom ni yma yn y Senedd ond hefyd dros ein gwlad ni.

David, diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn ar bobl ifanc hefyd. Wrth gwrs, mae'n hanfodol fod pobl ifanc o ddifrif ynglŷn â'u hiechyd meddwl. Rwy'n falch iawn fod cymaint ohonynt o ddifrif am hyn bellach. Ymddengys eu bod yn trafod y mater lawer mwy. Credaf fod hwn yn gyfnod anodd iawn i bobl ifanc. Mae llawer ohonynt heb fod gyda'u ffrindiau ers amser maith, maent wedi bod heb y drefn ddyddiol roeddent wedi arfer â hi, ac wrth gwrs, y peth arall na fu'n rhaid i'r un ohonom ni ymdopi ag ef pan oeddem yn ifanc yw gorthrwm llwyr y cyfryngau cymdeithasol. Credaf fod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni fod o ddifrif yn ei gylch a rhaid inni helpu'r plant hyn i ddatblygu gwytnwch yn wyneb rhywbeth nad oedd yn rhaid i'r un ohonom ni ei wynebu mor ifanc. Gwn ein bod wedi rhoi cymorth sylweddol i helpu pobl ifanc. Gwn fod angen i ni wneud mwy, ond gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwbl glir fod angen inni wneud mwy o gynnydd eto yn y maes hwn nag a wnaethom hyd yma, gyda'r dull ysgol gyfan a'r dull system gyfan ac wrth gwrs, diwygio ein cwricwlwm, sydd, wrth gwrs, ag iechyd meddwl yn ganolog i'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni.

Diolch am eich ateb caredig, Weinidog, ac yn sicr, hoffwn ategu'r deyrnged a roesoch i Dafydd Elis-Thomas.

Rwyf hefyd am ganmol Mind, sy'n gweithio'n agos gyda Hafal a sefydliadau eraill. Credaf fod y sector iechyd meddwl yn rhagorol yn ei waith cydweithredol—mae'r cyrff ymbarél yn effeithiol iawn am eu bod yn gweithio gyda'i gilydd. Un o'r prif bethau y maent yn gofyn inni ganolbwyntio arnynt—ni waeth pa blaid a ddaw'n Llywodraeth nesaf Cymru—yw'r angen am ymgyrch gwrth-stigma. Nawr, rwy'n siomedig yn yr ystyr fod hyn wedi'i godi yn holl etholiadau'r Cynulliad a'r Senedd yn y gorffennol, mae'n debyg, ac mae'n dal i fod yn broblem go iawn. Felly, a wnewch chi ategu fy ngobaith y bydd pwy bynnag sy'n Llywodraeth ym mis Mai yn rhoi hyn ar frig y rhestr?

15:00

Yn sicr, David, ac a gaf fi ddweud wrthych mai un o'r pleserau o fod yn y swydd hon oedd cyfarfod yn rheolaidd â'r sefydliadau trydydd sector sy'n gwneud gwaith mor wych yn ein cymunedau, ac mae Mind a Hafal yn ddau o'r sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol arwyddocaol? Un o'r pethau allweddol i mi yw bod yn rhaid i ni sicrhau nad mesur sut rydym yn taro targedau o ran amserlenni yn unig a wnawn. Rhaid inni gael ymdeimlad o sut beth yw'r canlyniadau yn sgil yr ymyrraeth, ac felly mae gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud yn gwbl allweddol, ac yn sicr rhywbeth roeddwn yn hapus iawn i'w wneud yn gynharach yr wythnos diwethaf oedd siarad a gwrando ar blant sy'n rhan o gyngor iechyd ieuenctid Caerdydd a'r Fro a hefyd, ar y penwythnos, y grŵp rhanddeiliaid ieuenctid cenedlaethol, oherwydd rwy'n credu o ddifrif fod gwrando ar bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn gwbl hanfodol, oherwydd mae angen inni wybod ganddynt hwy beth sy'n gweithio, ac os yw'n gweithio.

Ond yn sicr, o ran y stigma, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod ni fel Llywodraeth wedi penderfynu ein bod am barhau i gefnogi Amser i Newid Cymru. Cefais fy synnu'n fawr fod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi penderfynu torri'r rhaglen honno ynghanol pandemig. Roedd yn benderfyniad syfrdanol gan y Llywodraeth Geidwadol yn fy marn i, ond gallaf eich sicrhau y byddwn yn parhau i ymladd y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth sydd wedi newid yn ystod y pandemig—fod pobl yn fwy parod i siarad am eu pryderon ac i sylweddoli y gallant estyn allan a bydd pobl yn deall bod hyn yn bendant yn rhywbeth nad yw'n anghyffredin mwyach.

Mae'n ymddangos ein bod wedi colli David Melding am ei drydydd cwestiwn. David, a allwch chi fy nghlywed?

Gallaf, rwyf wedi cael fy ailgysylltu. A allwch chi fy nghlywed, Ddirprwy Lywydd?

Af ymlaen at fy nghwestiwn olaf. Torrodd y cysylltiad pan oedd y Gweinidog yn mynd i ymosod ar y Blaid Geidwadol rwy'n credu—

Rwy'n credu eich bod yn canolbwyntio ar blaid y DU yn hytrach na Phlaid y Ceidwadwyr Cymreig, ond nid wyf eisiau diwedd cas i fy nghwestiynau. A gaf fi ddweud fy mod wedi cael fy annog gan gyfranogiad Llywodraeth Cymru gyda'r Comisiwn Elusennau yn y rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau, y gwyddoch efallai eu bod yn edrych ar gyfrifon segur, yn y bôn, ac yn ceisio trosglwyddo'r arian hwnnw lle bo'n briodol at ddibenion elusennol gweithredol. A ydych yn cytuno â mi y dylai elusennau iechyd meddwl gael blaenoriaeth uchel iawn wrth hyrwyddo'r rhaglen ragorol hon sy'n cael ei rhedeg gan y Comisiwn Elusennau?

Yn bendant, David. Byddwn yn cytuno â chi fod hynny'n gwneud synnwyr llwyr, y dylid cyfeirio rhywfaint o'r arian hwnnw at yr elusennau iechyd meddwl hynny. Felly, byddwn yn eich cefnogi yn hynny o beth.

Diolch yn fawr iawn unwaith eto, David.

Diolch yn fawr am bopeth rydych chi wedi'i wneud i ni yng Nghymru hefyd.

Y Gymraeg fel Iaith Gymunedol

3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynigion i gryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ56486

Diolch yn fawr, Helen. Bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu £1.2 miliwn i’r mentrau iaith yn y gorllewin a’r canolbarth yn 2021-22 i hybu a hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn y gymuned. Rŷn ni hefyd wrthi’n gweithredu argymhellion awdit cymunedol i gryfhau’r Gymraeg ar draws cymunedau Cymru yn sgil COVID.

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am eich ymateb. Dwi'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol iawn o faint mor galed mae'r mentrau iaith a grwpiau cymunedol eraill yn gweithio, fel Menter Cwm Gwendraeth Elli, a fel maen nhw wedi dioddef y llynedd trwy golli digwyddiadau sydd mor bwysig iddyn nhw—y festivals, y digwyddiadau cymunedol, sydd yn bwysig iawn iddyn nhw o ran creu cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg, ond hefyd sydd yn bwysig iawn o ran incwm y mudiadau, felly. Dwi'n falch i glywed am y buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud, ond a ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi y dylai Llywodraeth nesaf Cymru, pwy bynnag ydyn nhw, flaenoriaethu cefnogaeth i'r mudiadau cymunedol yma er mwyn sicrhau bod nhw'n gallu para nes maen nhw mewn sefyllfa lle maen nhw'n gallu codi mwy o arian eu hunain, achos mae'n bell o fod yn glir y byddan nhw'n gallu cynnal y math yna o ddigwyddiadau cymunedol yn ystod yr haf yma chwaith? 

15:05

Diolch yn fawr, Helen Mary, ac yn sicr rŷm ni'n ymwybodol o'r gwaith aruthrol mae'r mentrau iaith wedi bod yn gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Un o'r pethau rŷm ni wedi gwneud yn ystod y pandemig yw sicrhau bod ni wedi cael audit cymunedol i weld beth yw'r effaith ar y Gymraeg yn ystod y pandemig, achos mae yna lot o grwpiau, wrth gwrs, wedi methu dod ynghyd yn ystod y cyfnod yna, ac mae'r mentrau iaith wedi helpu ni gyda lot o'r gwaith yna o sicrhau bod ni'n gwybod beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. Dwi yn falch bod ni wedi gallu rhoi arian ychwanegol i'r ganolfan yn Llandeilo—£0.2 miliwn ym mis Mawrth i Menter Dinefwr—felly rŷm ni wedi gallu rhoi arian iddyn nhw, a dwi yn gobeithio bod hwnna'n gam ymlaen. 

Ond un o'r pethau rŷm ni wedi'i wneud yw o ganlyniad i'r audit, fe ddaethom ni â grŵp at ei gilydd ac mae naw o argymhellion wedi dod ger ein bron ni. Ac un o'r pethau rŷm ni'n gobeithio gwneud yw rhoi siâp newydd ar y mentrau iaith—rŷm ni wedi gwneud hyn gyda'r mentrau iaith—i sicrhau bod nhw efallai'n symud tir fel bod nhw'n deall bod rhan bwysig nawr o'u gwaith nhw'n ymwneud â datblygu economaidd, yn hytrach na jest gwaith i fynd mas i'r cymunedau i wthio'r Gymraeg. Mae actually cynnal a chadw a thrio datblygu swyddi yn yr ardal gobeithio yn mynd i ddod yn rhan o'u gwaith craidd nhw. Rŷm ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda nhw ar hynny, a dwi'n gobeithio bydd hwnna'n helpu i'w sefydlogi nhw am y tymor hir. 

Dyma'r cwestiwn mwyaf priodol fel cwestiwn olaf yma yn y Senedd hon. Ar ôl priodi, fe wnes i symud i bentref Cymraeg ei iaith yn y canolbarth a phenderfynais i fod yn ddewr ac i ddefnyddio fy Nghymraeg sylfaenol iawn, i ddatblygu'r iaith ac i fagu fy mhlant yn ddwyieithog. Ac ers cyrraedd y Senedd, fy ngweithle, wrth gwrs, dwi wedi bod yn llefarydd fy mhlaid ac rwy'n gobeithio yn enghraifft i holl ddysgwyr nad oes rhaid i chi fod yn gywir bob amser er mwyn ei gael yn iawn. 

Weinidog, jest hoffwn i ddweud diolch i chi am ein perthynas waith dda dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae rhannu uchelgais realistig ar gyfer twf defnydd yr iaith, dealltwriaeth o le'r dysgwr a lle'r gweithiwr yn y weledigaeth, wedi gwneud hynny'n haws. Felly, dim syndod efallai mai dyma fy nghwestiwn. Bydd defnydd o'r Gymraeg gan famau sy'n gweithio yn hanfodol i lwyddiant strategaeth 2050. Yn ogystal â threulio mwy o amser gyda'u plant ifanc, rydym ni'n gwybod bod menywod yn fwyaf tebygol o gefnogi plant gyda gwaith ysgol, a bod yn fwyaf tebygol o gymdeithasu â theuluoedd eraill yn y cylchoedd chwarae a'r ysgol. Mae'r ffordd rydym ni'n cymdeithasu yn y gweithle hefyd wedi ei adeiladu ar wrando a rhannu trwy siarad. Sut ydych chi'n gafael yn y pethau gorau am sut mae menywod yn cymdeithasu a chyfathrebu yn eich cynllun iaith nesaf? 

Diolch yn fawr, Suzy, ac rwyt ti wirioneddol yn fodel o beth rŷm ni'n treial ei gyflawni gyda'r strategaeth Gymraeg, rhywun sydd wedi datblygu o ran hyder yn y Gymraeg, a diolch i ti am gyfrannu nid yn unig wrth ddysgu Cymraeg ac wrth ymarfer Cymraeg, ond hefyd wrth siarad Cymraeg gyda dy blant di, ac maen nhw hefyd yn helpu ni i gyrraedd 1 miliwn. Felly, diolch yn fawr i ti am hynny. 

Yn sicr, o ran mamau sy'n gweithio, dwi'n gwybod bod y gwaith rŷch chi wedi bod yn wneud ers sbel wedi bod yn pwysleisio'r angen yma i sicrhau bod dysgwyr yn dod yn rhan o beth rŷm ni'n treial ei gyflawni fan hyn, a gweithwyr. Mae'r ffaith bod chi'n pwysleisio rôl y fam, rôl y fenyw yn rhywbeth rŷm ni'n cydnabod. Dyna pam, er enghraifft, rydym ni wedi dod lan gyda pholisi newydd o ran trosglwyddo iaith yn y teulu, ac rŷm ni'n cydnabod bod rôl y fam yn hyn o beth yn hollbwysig; y dechrau o'r dechrau a thrio cael pobl i feddwl, cyn eu bod nhw'n cael plant, pa iaith maen nhw eisiau siarad gyda'u plant nhw hefyd.

Ond un prosiect rŷm ni wedi symud ymlaen gydag e yn ystod y sesiwn yma yw'r rhaglen Cymraeg Gwaith. Dwi'n gwybod bod hwnna yn rhywbeth roeddech chi yn gefnogol iawn ohoni, wrth gwrs. Mae hi wedi bod yn anodd gwneud hynny yn ystod y pandemig, ond dwi'n gobeithio byddwn ni'n cael cyfle i fynd yn ôl at hynny, a oedd yn profi i fod yn llwyddiannus iawn. Ond jest i danlinellu fy niolch i ti, Suzy, am bopeth rwyt ti wedi gwneud yn y Senedd yma, am bopeth rwyt ti'n gwneud dros yr iaith Gymraeg, a dwi'n siŵr bod dy gyfraniad di hefyd yn mynd i gael ei weld fel rhywbeth sydd wedi gwneud gwahaniaeth, nid jest yma yn y Senedd ond ar lawr gwlad. A diolch yn fawr i ti am bopeth rwyt ti wedi'i wneud.

15:10
Iechyd Meddwl Da

4. Beth yw polisïau Llywodraeth Cymru i adeiladu partneriaethau ar gyfer iechyd meddwl da yng Nghymru? OQ56497

Mae gweithio mewn partneriaeth yn rhan sylfaenol o'n strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Fe'i hategir gan drefniadau cenedlaethol a lleol gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys y GIG, iechyd y cyhoedd, awdurdodau lleol, yr heddlu a'r sector gwirfoddol, fel rhan o'r dull amlasiantaethol sydd ei angen i wella iechyd meddwl.

Weinidog, un mater pwysig yw iechyd meddwl dynion a'u tuedd i beidio â siarad am eu teimladau a'u problemau, fel rydym wedi'i drafod droeon. Felly, mae'n bwysig cyrraedd dynion gyda'r negeseuon cywir drwy amrywiaeth o ddulliau a sefydliadau, a chael modelau rôl da wrth gwrs. O ystyried proffil a chyrhaeddiad pêl-droed proffesiynol, rwy'n credu bod rhan gref gan ein clybiau i'w chwarae, ac rwy'n falch iawn fod y tîm rwy'n ei gefnogi, Clwb Pêl-droed Casnewydd, wedi dangos arweiniad cadarn iawn yn y maes hwn. Ddwy flynedd yn ôl, hwy oedd yr unig glwb yng Nghymru—a dim ond y pedwerydd, mewn gwirionedd, yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr—i lofnodi'r Siarter Iechyd Meddwl ar gyfer Chwaraeon a Hamdden. Maent bellach yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau yn y ddinas i ddatblygu polisïau ar gyfer iechyd meddwl da. Mae ganddynt chwaraewyr fel llysgenhadon iechyd meddwl, gan gynnwys siarad am eu hanawsterau a'u profiadau eu hunain. Mae County in the Community yn sicrhau bod gweithgareddau cymunedol yn cynnwys negeseuon iechyd meddwl da. Mae ganddynt 'ddydd Mercher llesiant', lle mae'r cyfryngau cymdeithasol, a gwefan y clwb yn wir, yn cael eu defnyddio i gyfleu gwybodaeth a chyngor. Maent yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Credaf ei bod yn enghraifft dda i chwaraeon yng Nghymru yn gyffredinol, Weinidog, a tybed a wnewch chi ymuno â mi, pan fydd amgylchiadau'n caniatáu, i ymweld â'r clwb a thrafod y mentrau hyn a sut y gellir adeiladu arnynt ar gyfer y dyfodol.

Diolch yn fawr, John. Yn sicr, gwn fod eich ymrwymiad i Gasnewydd ac i'r mater pwysig hwn yn rhywbeth sy'n werth ei danlinellu. Roeddwn yn teimlo'n freintiedig iawn i allu siarad â rhai pobl yng nghymuned Casnewydd yr wythnos diwethaf i drafod mater iechyd meddwl, felly diolch am drefnu hynny. 

Yn sicr, dyma un o'r pethau roeddwn yn canolbwyntio arnynt cyn imi ddod yn Weinidog iechyd meddwl, wrth ddechrau ymgyrch o'r enw 'I pledge to talk', gan weithio gyda Mind Cymru yng nghanolbarth Cymru, pan ganfuwyd bod tri achos o fewn cyfnod byr iawn, mewn cymuned fach, lle'r oedd dynion wedi cyflawni hunanladdiad. Roedd effeithiau hynny drwy'r gymuned yn aruthrol. Mae'n gwbl glir fod yn rhaid inni gael dynion i siarad, ac mae'n rhaid inni ddysgu gwrando hefyd. Yn sicr, ceir rhai enghreifftiau gwych o hyn yn digwydd. Felly, mae gennym Sheds Dynion, sy'n fenter wych yn fy marn i, ond credaf fod gan glybiau pêl-droed rôl benodol iawn yma, oherwydd gallant—. Mae ganddynt fath o effaith Heineken; gallant gyrraedd rhannau na all eraill eu cyrraedd, ac yn arbennig, efallai, estyn allan at grwpiau oedran iau nad ydynt am drafod iechyd meddwl o bosibl. Rwy'n eu canmol yn fawr am y rôl weithredol y maent wedi'i chwarae'n mynd i'r afael o ddifrif â'r mater hwn, ac yn sicr rwy'n falch iawn o weld eu bod yn gwneud hyn. Bydd yn rhaid inni weld beth sy'n digwydd ar ôl yr etholiad nesaf i weld a fyddaf yn dal i fod yn y rôl hon, ond yn sicr, os byddaf, byddwn yn hapus i ddod.

Ond yn sicr, o ran yr hyn sy'n digwydd nesaf, edrychwch, rwy'n canolbwyntio'n fawr ar y ffaith bod gweithgareddau plant yn cael dechrau eto ar 27 Mawrth. Rwy'n credu bod chwaraeon mor dda i iechyd meddwl pobl am eu bod yn digwydd yn yr awyr agored, ac fel rhywun sydd wedi ymrwymo i wneud 10 km y dydd yn ystod y Grawys, mae'n rhannol er mwyn sicrhau eich bod yn dechrau arfer newydd, mae'n gwneud yn siŵr ein bod yn codi ac yn symud, ac rwy'n credu y gallai llawer o bobl elwa o ddisgyblaeth o'r fath a dechrau arfer newydd, a chredaf y byddai clybiau pêl-droed yn wych am wneud hynny.

15:15
Pyliau o Banig a Gorbryder

5. Pa wasanaethau sydd ar waith i gefnogi pobl sy'n dioddef o byliau o banig a gorbryder? OQ56493

Mae amrywiaeth o gymorth ar gael i helpu pobl sy'n dioddef o orbryder a phyliau o banig. Mae'r rhain yn cynnwys adnoddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru megis Darllen yn Well Cymru, therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein a'n llinell wrando a chymorth cymunedol. Mae amrywiaeth o gymorth hefyd ar gael gan ein partneriaid yn y sector gwirfoddol.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Roeddem yn sôn am stigma'n gynharach, ac a gaf fi ddweud, pan fûm yn siarad yn y Siambr am fy mhrofiad fy hun o gael pyliau o banig wrth roi gwasanaeth gwleidyddol, cefais fwy o ymateb am hynny nag am unrhyw beth a wneuthum erioed yn fy ngyrfa? Fe hoffodd ymhell dros 100,000 yr hyn a roddais ar y cyfryngau cymdeithasol ar hynny, a chredaf fod hyn yn dangos—. Roeddent yn fyd-eang, gyda llaw. Mae'n dangos yr angen inni siarad am hyn, ond hefyd i wella gwasanaethau. Felly, fe'm calonogwyd gan y cwrs therapi gwybyddol ymddygiadol sydd wedi'i ddatblygu—rwy'n credu mai SilverCloud yw ei enw. Nawr, mae yn ei gamau cynnar; tybed pryd rydym yn debygol o weld y dystiolaeth o'r rhaglen honno a'r nifer sy'n manteisio arni a'i heffeithiolrwydd. Ond o ystyried bod modelu Llywodraeth Cymru yn awgrymu y gallai fod cynnydd o hyd at 40 y cant yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol, lle byddai'r rhan fwyaf o wasanaethau gorbryder yn cael eu darparu wrth gwrs, mae'n ymddangos i mi fod darpariaethau ar-lein—[Anghlywadwy.]

Ymddengys ein bod wedi colli David; rwy'n credu bod ei gysylltiad yn wael, felly—. Na, mae'n ddrwg gennyf am hynny. Rwy'n credu ein bod yn mynd i symud ymlaen. Os cawn David yn ôl, efallai y caf weld a allwn gael ateb i'w gwestiwn. A gawn ni symud ymlaen at gwestiwn 6, Mark Isherwood?

Sector y Celfyddydau

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sector y celfyddydau yng Ngogledd Cymru? OQ56477

Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru, drwy ein partneriaeth â'r cyngor celfyddydau statudol, yn darparu cyllid yn flynyddol i gefnogi'r celfyddydau ledled Cymru. Mae'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £63 miliwn wedi bod yn hanfodol i gefnogi llawer o sefydliadau, ac mae'n debyg mai'r enghraifft orau yng ngogledd Cymru yw'r buddsoddiad cychwynnol o £3 miliwn a ddarparwyd gennym fel Llywodraeth ar gyfer Theatr Clwyd.

Diolch. Rwy'n falch eich bod wedi sôn am hynny, oherwydd mae'r prosiect cyfalaf i ailddatblygu Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug wedi'i lunio i ddiogelu theatr gynhyrchu fwyaf Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fel y dywed Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Theatr Clwyd yn hanfodol i lesiant pobl yng ngogledd Cymru, drwy ei rhaglen o sioeau apelgar o ansawdd uchel a'i gwaith allgymorth rhagorol mewn meysydd fel dementia a chyfiawnder ieuenctid. Ond mae hefyd yn darparu swyddi, yn denu ymwelwyr i Gymru ac yn codi proffil theatr Cymru gyda'i henw da ledled y DU.

Yn 2018, dyfarnwyd £1.2 miliwn iddynt tuag at ddatblygu'r cynllun, pan gydnabu'r Prif Weinidog yn ysgrifenedig fod i Theatr Clwyd arwyddocâd cenedlaethol ac fe wnaeth eu hannog i barhau â datblygiad y cynllun. Dilynwyd hyn gan gais cynllunio llwyddiannus ar gyfer adeilad rhestredig gradd II y theatr yn 2019. Cadarnhaodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu £5 miliwn nesaf o gymorth ym mis Ebrill 2020, er gwaethaf y pandemig, a'r hydref diwethaf, fel y dywedwch, cytunodd Llywodraeth Cymru i ryddhau £3 miliwn dros ddwy flynedd ariannol i gadw'r prosiect i symud hyd at y gwaith adeiladu. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yng ngwanwyn 2022, ac mae angen ymrwymiadau erbyn hydref 2021 i sicrhau cynnydd a chymhwysedd ar gyfer codi rhagor o arian. Sut felly yr ymatebwch i bryderon y bydd Theatr Clwyd mewn perygl difrifol o gau heb gyllid Llywodraeth Cymru i hyn, a'r angen iddi sicrhau nad yw penderfyniadau ar hyn yn cael eu gohirio?

15:20

Rwy'n derbyn y cyfrifoldeb sydd gennyf ar hyn o bryd fel Gweinidog y celfyddydau dros Theatr Clwyd, ond hefyd fel rhywun sydd wedi cefnogi'r theatr ers ei sefydlu gyntaf, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych wedi'i ddweud am ei chyfraniad. Ond mae lleoliadau celfyddydol eraill ar draws y gogledd, fel Galeri yng Nghaernarfon, Ucheldre yng Nghaergybi, Pontio ym Mangor, Frân Wen, Theatr Bara Caws, Mostyn, Dawns i Bawb, Canolfan Grefft Rhuthun ac wrth gwrs, Canolfan Gerdd William Mathias. Mae gennym ystod eang o leoliadau celfyddydol a gweithgareddau celfyddydol rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi, ac mae'r rhain i gyd yn rhan o Bortffolio Celfyddydau Cymru cyngor y celfyddydau. Ac rwy'n croesawu'n fawr y ffordd y mae cronfa loteri cyfalaf cyngor y celfyddydau yn gweithio ochr yn ochr â Phortffolio Celfyddydau Cymru cyngor y celfyddydau, ac rwy'n mawr obeithio y bydd hyn—wel, rwy'n sicr—y bydd hyn yn parhau, oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn deall, fel y clywsom heddiw, fod diwylliant yn ganolog i weithgarwch Llywodraeth ddatganoledig.

3. Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM7681 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021. Mae'r Gorchymyn yn gwneud newidiadau technegol i'r broses o enwebu ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd a drefnwyd ar gyfer 6 Mai. Roedd y newidiadau'n pennu mai'r amser cau ar gyfer enwebiadau yw 4 p.m. ar 8 Ebrill, fel y gellir prosesu a chyhoeddi enwebiadau'n amserol, a galluogi ymgeiswyr nad ydynt yn byw yng Nghymru i nodi etholaeth seneddol yn y DU ar eu ffurflenni enwebu, lle nad ydynt yn dymuno i'w cyfeiriad cartref gael ei gyhoeddi. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau y gall yr etholiad fynd rhagddo'n drefnus yn ystod y pandemig. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad i gyfrannu. Mick Antoniw.

Diolch, Lywydd. Fe fuom yn ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore Llun, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt rhinweddau. Mae ein pwynt rhinweddau cyntaf yn nodi bod y Gorchymyn yn diwygio'r ffurflen cyfeiriad cartref, sy'n caniatáu i ymgeiswyr ofyn am beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref ar ffurflenni enwebu. Lle caiff hwn ei ddefnyddio, rhaid i'r ymgeisydd ddarparu enw etholaeth y Senedd y maent yn byw ynddi. Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn yn caniatáu i ymgeiswyr sy'n byw y tu allan i Gymru ond yn y DU ddarparu enw etholaeth seneddol y DU y maent yn byw ynddi. Mae'r newid hwn yn berthnasol i etholiad Senedd 2021 yn unig, ond mae'r memorandwm esboniadol yn nodi y bydd angen ei ymgorffori mewn Gorchymyn diwygiedig neu newydd ar gyfer etholiadau dilynol y Senedd.

Mae ein hail bwynt rhinweddau'n ymwneud â'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru. Er ein bod yn croesawu'r ffaith bod ymgynghoriad wedi'i gynnal cyn i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud, nid yw'r memorandwm esboniadol yn sôn am unrhyw drafodaethau gyda swyddogion canlyniadau etholaethau. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru gadarnhau a gafodd unrhyw drafodaethau gyda swyddogion canlyniadau etholaethau, ac os felly, beth oedd canlyniad y trafodaethau hynny. Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym mai'r swyddogion canlyniadau rhanbarthol sy'n gyfrifol am gysylltu â swyddogion canlyniadau etholaethau'r Senedd yn eu rhanbarth er mwyn sicrhau dull cyson o weinyddu etholiad y Senedd ledled eu rhanbarth. Felly, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â hwy ar y sail hon.

Yn ogystal, un o'r swyddogion canlyniadau rhanbarthol yw cadeirydd bwrdd cydlynu etholiadol Cymru, sydd â'r rôl o sicrhau cysondeb gweinyddiaeth ac arferion etholiadol ledled Cymru. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym hefyd ei bod yn ymgynghori â changen Cymru o Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, sy'n cynrychioli gweithwyr etholiadol proffesiynol ledled Cymru, a chadarnhaodd ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiadau fod y safbwyntiau a fynegwyd yn ystod y trafodaethau hyn wedi cael eu hystyried cyn i'r Gorchymyn gael ei wneud. Diolch, Lywydd.

Diolch. Does gyda fi ddim rhagor o siaradwyr. Ydy'r Gweinidog eisiau ymateb o gwbl?

Iawn. Felly, gwnaf holi'r cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld nag yn clywed gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

15:25
4. Gorchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021
5. Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Eitem 5 yw'r eitem nesaf, Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021. A dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig yma eto—Julie James.

Cynnig NDM7678 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1, Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 17 Mawrth, dywedais wrth yr Aelodau fy mod wedi gosod Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021—testun y ddadl heddiw. Nodais hefyd y byddwn yn gosod Rheoliadau Deddf Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Ymestyn Cyfnod Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Cymru) 2021 heddiw o dan y weithdrefn negyddol. Gyda'i gilydd, bydd y ddwy set o reoliadau'n ymestyn ymhellach, tan ddiwedd mis Mehefin, yr amddiffyniadau cyfredol rydym wedi'u rhoi ar waith. Mae'r amddiffyniadau hyn, yn y rhan fwyaf o achosion, yn atal beilïaid neu swyddogion gorfodi'r Uchel Lys rhag gweithredu gwarantau meddiannu neu orchmynion troi allan, a hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid roi rhybudd o chwe mis cyn ceisio meddiant.

Bydd yr eithriadau i'r trefniadau hyn yn parhau'n gyfyngedig iawn—er enghraifft, trais yn y cartref, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu dresmasu. Bydd y cyfyngiadau ar orfodi gorchmynion meddiannu gan feilïaid neu swyddogion gorfodi'r Uchel Lys yn parhau i gael eu hadolygu'n rheolaidd yn ystod y cyfnod y maent mewn grym i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn angenrheidiol ac yn gymesur. Bydd ymestyn yr amddiffyniadau hyn yn sicrhau bod tenantiaid yn gallu aros yn eu cartrefi tra bod cyfyngiadau coronafeirws yn parhau. Bydd hyn yn diogelu iechyd y cyhoedd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu troi allan, neu sydd mewn perygl o gael eu troi allan, i ddigartrefedd, ac yn enwedig digartrefedd ar y stryd, lle mae mwy o berygl y gallent fod yn agored i ddal y feirws, a'r tebygolrwydd y byddant yn ei ledaenu. 

Bydd y mesurau hyn hefyd yn lleihau'r pwysau presennol ar wasanaethau cyngor a chymorth tai a digartrefedd, a allai ei chael yn anodd ymdopi fel arall oherwydd y galwadau presennol sy'n gysylltiedig â'r pandemig ac argaeledd llety dros dro a llety camu ymlaen. Er bod rhai mesurau eraill yn cael eu llacio i raddau cyfyngedig, mae'r amddiffyniadau a gynigir gan y rheoliadau hyn yn parhau'n hanfodol, yn enwedig yng nghyd-destun y perygl y gallai amrywiolion newydd o'r feirws gynyddu ei drosglwyddadwyedd, neu ddifrifoldeb ei effaith, neu drydedd don bosibl o heintiau. Rwy'n cydnabod y gallai ymestyn yr amddiffyniadau dros dro hyn am gyfnod pellach achosi anawsterau i rai landlordiaid yn y sector rhentu preifat. Fodd bynnag, fy mhrif flaenoriaeth yw diogelu iechyd y cyhoedd ar yr adeg hon.

Bydd yr Aelodau am wybod bod gweinyddiaethau eraill yn rhannu'r farn hon. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'n ddiweddar y bydd cyfyngiadau tebyg yn Lloegr yn cael eu hymestyn tan ddiwedd mis Mai, tra bod Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi y bydd y trefniadau yno'n cael eu hymestyn tan ddiwedd mis Medi. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig. Diolch.

Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiad, Deddfwriaeth a Chyfiawnder i gyfrannu—Mick Antoniw.

Diolch, unwaith eto, Lywydd. Unwaith eto, gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore Llun, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys pedwar pwynt rhinweddau, y bydd rhai ohonynt, wrth gwrs, yn gyfarwydd i'r Aelodau.

Mae ein pwynt rhinweddau cyntaf yn nodi bod y rheoliadau hyn yn cyffwrdd â hawliau landlord o dan erthygl 1 o brotocol 1 y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. A nodwn fod eithriadau wedi'u cynnwys yn y rheoliadau sy'n caniatáu ar gyfer troi allan mewn amgylchiadau penodol; bod y rheoliadau'n cael eu gwneud am gyfnod penodedig yn unig; maent i'w hadolygu ar gylch tair wythnos rheolaidd; a'u bod yn cael eu gwneud yng nghyd-destun yr argyfwng iechyd presennol. Yn ogystal, nodwn hefyd ystyriaeth y Llywodraeth o gymesuredd y rheoliadau hyn yn y memorandwm esboniadol.

Mae ein hail bwynt rhinweddau'n nodi na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau, ac mae ein trydydd pwynt rhinweddau'n nodi nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi. Wrth wneud ein trydydd pwynt, rydym yn tynnu sylw at y ffaith bod y memorandwm esboniadol yn ceisio nodi crynodeb o effaith bosibl y rheoliadau, sy'n darparu rhywfaint o asesiad ansoddol o'u heffaith.

Mae ein pedwerydd pwynt rhinweddau, a'r pwynt terfynol, yn tynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau hyn yn ychwanegu oddeutu 12 wythnos at y cyfnod o amser na fydd landlord yn gallu meddiannu eu heiddo oherwydd rhent heb ei dalu. Felly, ar y cyd â rheoliadau blaenorol a basiwyd ym mis Ionawr 2021 a mis Rhagfyr 2020, rydym yn tynnu sylw at y ffaith y bydd landlordiaid wedi eu hatal rhag adennill meddiant oherwydd rhent heb ei dalu am gyfnod sylweddol. Gall ôlddyledion rhent rhai landlordiaid gael effaith economaidd niweidiol arnynt, ac o'r herwydd, nodwn fod y memorandwm esboniadol yn cynnwys asesiad y Llywodraeth o'r risg hon. Diolch, Lywydd.

Does gyda fi ddim unrhyw un yn siarad yn y ddadl; dwi ddim yn gwybod a ydy'r Gweinidog eisiau ymateb o gwbl. Julie James.

Ocê. Felly, fe wnawn ni ofyn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld na chlywed gwrthwynebiad, ac felly mae'r eitem wedi ei chymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

15:30
6. Cwestiynau Amserol
7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi

Felly eitem 7 yw'r eitem nesaf, y cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ar y Biliau cydgrynhoi. A dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i symud y cynnig yn ffurfiol. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7668 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i cyflwyno Rheol Sefydlog 26C newydd, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw, i gyfrannu.

Ac rwy'n croesawu'r cynnig, a fydd, os caiff ei dderbyn, yn rhoi gweithdrefnau ar waith a fydd yn galluogi'r Senedd ymhellach i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Dechreuodd ein pwyllgor ystyried cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cydgrynhoi cyfraith Cymru yn gynnar yn 2017. Buom yn craffu ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru), cyn iddo gael ei basio gan y Senedd hon ym mis Gorffennaf 2019. Yn anad dim, mae'n gosod dyletswydd ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru i baratoi o leiaf un rhaglen ar gyfer pob Senedd, gan ddechrau gyda'r chweched, a fydd yn cynnwys gweithgareddau y bwriedir iddynt gyfrannu at broses o gydgrynhoi cyfraith Cymru.

Mae cael gweithdrefn Rheol Sefydlog a fydd yn hwyluso'r broses o gyflwyno a chraffu ar Filiau cydgrynhoi o'r fath yn rhan hanfodol o'r broses o wella llyfr statud Cymru. O ystyried ein rôl yn craffu ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru), ymgynghorodd y Pwyllgor Busnes â ni ar fersiwn ddrafft o'r Rheol Sefydlog. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am ei ymateb i'r sylwadau a ddarparwyd gennym yn ein gohebiaeth yn 2019.

Felly, gan droi at y Rheol Sefydlog arfaethedig ei hun, dylai cydgrynhoi ymwneud yn unig â'r gyfraith sy'n bodoli eisoes. Tynnaf sylw'r Aelodau at baragraff 24 yn adroddiad y Pwyllgor Busnes, sy'n crynhoi cyrhaeddiad y Rheol Sefydlog 26C.2 arfaethedig, a'r hyn y caiff Bil cydgrynhoi ei wneud. Fe wnaethom nodi nifer o bwyntiau mewn perthynas â'r rhan benodol hon o'r Rheol Sefydlog pan ysgrifenasom at y Pwyllgor Busnes. Rwy'n croesawu'r cadarnhad gan y Pwyllgor Busnes y bydd rôl glir a phwysig i bwyllgor cyfrifol y Senedd asesu a barnu'r hyn sy'n briodol ac o fewn paramedrau'r Rheol Sefydlog 26C.2 arfaethedig. Bydd cydgrynhoi cyfraith Cymru yn dasg sylweddol, ac ni ddylid bychanu rôl y pwyllgor cyfrifol a'r gwaith sydd ynghlwm wrth hyn.

Hoffwn dynnu sylw hefyd at y posibilrwydd o weld dau Fil cydgrynhoi yn mynd rhagddynt ochr yn ochr fel pecyn, rhywbeth sydd wedi'i ddogfennu yn adroddiad y Pwyllgor Busnes. Y cyntaf fyddai prif Fil cydgrynhoi, a byddai ail Fil yn cynnwys diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes yng ngoleuni'r prif Fil. Byddai angen i gyfnodau diwygio ar gyfer dau Fil ddigwydd yn olynol, a rhagwelir y byddai'r Biliau hyn yn llwyddo neu'n methu gyda'i gilydd.

Yn ein gohebiaeth â'r Pwyllgor Busnes, fe wnaethom gydnabod sylwadau a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol y bydd yna broses o ddysgu wrth i'r Biliau cydgrynhoi cyntaf gael eu cyflwyno. Cytunwyd â'r Cwnsler Cyffredinol y dylid adolygu'r weithdrefn ar ôl i'r Senedd graffu ar y Bil cydgrynhoi cyntaf, er mwyn sicrhau bod y Rheolau Sefydlog a'r gweithdrefnau'n addas at y diben a fwriadwyd ar eu cyfer.

A hoffwn gloi fy nghyfraniad drwy ddweud nad yw hygyrchedd llyfr statud Cymru yn fater sydd ond yn effeithio arnom ni fel Aelodau wrth inni ymgymryd â'n dyletswyddau yma. Bydd gwella hygyrchedd cyfraith Cymru'n helpu ymarferwyr cyfreithiol sy'n gweithio yng Nghymru, ond hefyd, mae hygyrchedd y gyfraith a mynediad at gyfiawnder yn mynd law yn llaw. Diolch, Lywydd.

Rwy'n falch ein bod yn trafod yr eitemau niferus hyn ar y Rheolau Sefydlog ar wahân. Ni ofynnais am hynny drwy ddynodi gwrthwynebiad i'w grwpio er mwyn ymestyn y pumed Cynulliad yn ddiangen—rydym am weld y Cynulliad yn cael ei ddiddymu, nid ei barhau'n artiffisial ac yn ddiangen. Felly, rwy'n credu, serch hynny, fod llawer o'r Rheolau Sefydlog hyn yn rhai o sylwedd, a cheir ystod o faterion gwahanol sy'n haeddu dadleuon ar wahân yn fy marn i. Ac rwy'n credu bod dogfennau rhagorol wedi'u paratoi hefyd ar gyfer y Pwyllgor Busnes ar bob un ohonynt sydd hefyd yn haeddu sylw.

Ar gydgrynhoi, roeddwn yn meddwl i ddechrau fod cydgrynhoi'r gyfraith yn beth synhwyrol a heb fod yn ddadleuol iawn, mae'n debyg. Ac wrth gwrs, mae darpariaethau ar gyfer cydgrynhoi cyfreithiau yn San Steffan. Fodd bynnag, ar ôl ystyried ymhellach, nid wyf yn credu bod hynny'n wir bellach, a chredaf yn un peth y bydd y Rheol Sefydlog hon ar gydgrynhoi yn hwyluso'r llwybr at fwy o ddeddfu gan y lle hwn, ac nid wyf yn cefnogi hynny.

Cyfeiriodd Cadeirydd y pwyllgor at bwysigrwydd cydgrynhoi cyfraith Cymru, ond wrth gwrs, nid oes gennym awdurdodaeth ar wahân yng Nghymru. Mae gennym gyfraith Cymru a Lloegr, fel y'i cymhwysir yng Nghymru. A chredaf fod y pwynt hwnnw'n codi amheuon am lawer o'r pwyntiau eraill rwyf wedi'u gwneud ynghylch pam y mae hyn yn beth sydd mor amlwg yn dda i'w wneud a heb fod yn ddadleuol, i gynorthwyo defnyddwyr a gwella mynediad at gyfiawnder a hygyrchedd, ac yn y blaen.

Ym mhapur y Pwyllgor Busnes, credaf fod paragraff 2 yn cyflwyno'r achos o'r ochr arall yn eithaf da. Mae'n cyfeirio at y ffaith bod Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad wedi ystyried hyn yn ei adroddiad 'Deddfu yng Nghymru'. Cawn ddiffiniad o gydgrynhoi, neu o leiaf ddisgrifiad o gydgrynhoi'r gyfraith fel,

'mynd i'r afael â darn o gyfraith sydd wedi dadfeilio oherwydd yr haenau o ddiwygiadau ac addasiadau a wnaed iddo, a llunio un testun glân, yn unol â'r arfer cyfoes gorau.'

Nawr, nid wyf yn siŵr a yw hynny'n wir. Yn amlwg, wrth i gyfreithiau gael eu diwygio a newidiadau'n cael eu gwneud, a diwygiadau ac addasiadau, gall hynny gynyddu cymhlethdod, a gall wneud y cyfreithiau'n anos i'w defnyddio, ar gyfer ymarferwyr cyfreithiol ac o ran hygyrchedd i'r cyhoedd, ond yn aml mae hynny'n ffactor o gymhlethdod cynyddol y gyfraith, yn hytrach nag adlewyrchu, o reidrwydd, ei fod yn dod o wahanol statudau neu wahanol leoedd. Wrth i hynny ddigwydd, wrth gwrs, mae'n cynyddu'r risg o amwysedd neu wrth-ddweud, ond i'r graddau fod hynny'n digwydd, daw cydgrynhoi'r gyfraith yn broses ddadleuol oherwydd ei bod o bosibl yn datrys neu o leiaf yn dylanwadu ar yr amwysedd a'r gwrth-ddweud. A phan ddywed y pwyllgor y byddai'n arwain at un testun glân, nid wyf yn credu bod hynny'n wir yng nghyd-destun datganoli, a chyd-ddatganoli.

Yr hyn y byddai'n arwain ato, yn y rhan fwyaf o feysydd, yw testun i Gymru ac ystod wahanol o destunau ar gyfer mannau eraill yn y DU, neu o leiaf ar gyfer Lloegr, a dros amser daw'n bosibl y bydd dehongliad o'r ddau gorff cyfraith gwahanol yn dod yn wahanol, neu ei bod yn anodd iawn bod yn siŵr eich bod yn edrych ar y gyfraith gywir o ran y gyfraith achosion, oherwydd os oes gennych farnwr sy'n dehongli pethau mewn ffordd benodol, ond sy'n gwneud hynny yng Nghymru, nid yw'n glir a yw hynny wedyn yn cael ei nodi gan farnwyr yn Lloegr sy'n dehongli cyfraith Cymru a Lloegr fel y bo'n gymwys i Loegr. Ac wrth gwrs, mae llawer mwy o ddehongli o ran maint y gwaith yn digwydd yn Lloegr. Ac os cydgrynhoir, neu y cyfeirir at y pethau hynny o'r ddeddfwriaeth flaenorol, gall fod yn heriol iawn i'r cyfreithwyr a'r ymarferwyr olrhain y newidiadau hynny'n ôl i'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru, ac a yw'r newidiadau hynny—. Efallai fod rhai ohonynt yn rhwymol, ond maent wedi'u gwneud gan gyfeirio at statudau eraill a darpariaethau eraill sydd, i bob golwg, wedi'u cydgrynhoi'n un testun glân, ond nid yw'n un testun glân oherwydd bod y gyfraith yn parhau i fodoli fel yr oedd yn Lloegr. Ac mae hynny, i mi, yn bwrw amheuaeth ar hyn oll, a bwriadwn wrthwynebu'r Rheol Sefydlog newydd hon i hwyluso'r llwybr at y math hwn o ymddygiad deddfwriaethol pellach.

15:35

Diolch. Does gyda fi ddim mwy o siaradwyr ar yr eitem yna. Felly, y cynnig yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau cydgrynhoi. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Eitem 8 yw'r eitem nesaf, a'r cynnig yma yw i ddiwygio Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n galw eto ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i symud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7669 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 21, 26, 26A, 26B, 27 a 30C, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n credu efallai mai dyma fy hoff eitem o'r rhai rydym yn eu trafod heddiw, am ei bod yn diwygio ein Rheolau Sefydlog i adlewyrchu ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Adroddiad cymharol fyr a aeth i'r Pwyllgor Busnes. Mae'n dweud, 'Pe bai'r pwyllgor'—sef y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol—

'Pe bai’r pwyllgor o’r farn nad oedd deddfwriaeth yn cydymffurfio â’r egwyddor sybsidiaredd, câi wneud sylwadau ysgrifenedig—'. 

Mae hynny'n ymwneud â sybsidiaredd. Ac yna mae'n mynd rhagddo:

'i bwyllgor perthnasol Tŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi, a hynny er mwyn cynnwys y sylwadau hynny mewn barn resymedig i’w chyflwyno gan y pwyllgor i awdurdodau perthnasol yr UE.'

Felly, mae hynny'n ymwneud â sybsidiaredd ac, yn ôl pob sôn, â phroses gyfreithiol ar gyfer sicrhau ei fod yn cael ei gymhwyso. Yr hyn nad yw'r papur yn ei ddweud yw a ddefnyddiwyd y broses honno erioed, ac os felly, a gafodd unrhyw effaith erioed. Ond mae'r papur wedyn yn parhau,

'Mae sybsidiaredd wedi'i wreiddio yn y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd a beidiodd â bod yn gymwys yn y DU ar y diwrnod ymadael.'

Nawr, rwy'n anghytuno â'r ymadrodd hwnnw'n gryf iawn. Mae sybsidiaredd yn golygu gwneud penderfyniadau ar y lefel isaf bosibl, ac nid oedd y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi diwedd ar sybsidiaredd; mae'n cynyddu sybsidiaredd yn helaeth drwy symud nifer enfawr o bwerau a oedd wedi'u harfer ar lefel yr Undeb Ewropeaidd fel eu bod yn cael eu harfer naill ai yn San Steffan neu gennym ni yng Nghaerdydd. Cynnydd mewn sybsidiaredd yw hynny, nid rhoi diwedd arno. Wrth gwrs, roedd yn gysyniad y gwnaeth John Major wthio i'w gael wedi'i gynnwys yn y cytuniad ym Maastricht, ac rwy'n amau pa mor gymwys ydoedd mewn gwirionedd yn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn sicr yn ymarferol, os nad yn y termau statudol penodol a ddisgrifiwyd, bydd llawer mwy o'r sybsidiaredd hwn gan ein bod bellach y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Ond mae'n synhwyrol, wrth gwrs, ein bod yn dileu'r ddarpariaeth hon sydd bellach yn ddiangen, os bu'n unrhyw beth heblaw diangen erioed, o'r Rheolau Sefydlog.

Y cwestiwn arall y mae hyn yn ei godi yw: beth am y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol? Pan oeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Busnes am gyfnod ar ddechrau'r Cynulliad hwn, rwy'n cofio i'r pwyllgor gael ei ddisgrifio, yn answyddogol o leiaf, fel y pwyllgor Brexit. Ac roeddwn wedi deall ei fod yno i helpu gyda'r ddeddfwriaeth helaeth y bu'n rhaid ei hailystyried yng ngoleuni Brexit ac i sicrhau bod ein llyfr statud yn ymdrin yn briodol â gofynion Brexit a faint o waith y byddai hynny'n galw amdano. Felly, cytunais i sefydlu'r pwyllgor hwnnw, ond roeddwn wedi deall mai pwyllgor dros dro i'r Cynulliad hwn ydoedd, gyda hynny'n ffocws iddo. A dywedwyd wrthym fod pwyllgorau, yn y pedwerydd Cynulliad, wedi'u gorlwytho cymaint a bod cymaint o ddeddfwriaeth fel bod angen y pwyllgor deddfwriaeth ychwanegol hwn arnom, pwyllgor y gellid ei gyfuno ag edrych ar Brexit. Ond nid wyf yn siŵr faint o ddefnydd a fu arno ar gyfer hynny, neu a yw pwysau deddfwriaeth yn cyfiawnhau cael pwyllgor pellach, ac fel y clywsom yn gynharach, mae Brexit bellach ar ben. Felly, pam y mae'r pwyllgor hwn gennym o hyd? Ac a ddylem gael unrhyw gyfeiriadau yn y Rheolau Sefydlog i awgrymu y dylai barhau i'r chweched Cynulliad neu Senedd mewn unrhyw ffordd?

15:40

Does gen i ddim siaradwyr eraill. Felly, y cynnig yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nag oes. Neb yn gwrthwynebu ar y pwynt yma, felly, ac felly mae'r cynnig yma yn cael ei gymeradwyo yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd

Eitem 9 yw'r eitem nesaf a chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog sydd yn ymwneud â busnes cynnar yn dilyn etholiad Senedd. Rebecca Evans i gyflwyno'n ffurfiol. 

Cynnig NDM7670 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 6, 7, 8 a 17, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Dywedwyd wrthym ym mhapur y Pwyllgor Busnes ar dynnu enwebiad yn ôl, nad yw enwebiad y Prif Weinidog na gweithdrefnau ethol Llywydd yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl, ac mae'r ddwy Reol Sefydlog yn defnyddio iaith orfodol i'w gwneud yn ofynnol cael cylchoedd pleidleisio pellach os nad oes unrhyw ymgeisydd yn llwyddiannus mewn cylch pleidleisio penodol. Felly, wrth gwrs, nid ydynt yn cynnwys darpariaethau penodol sy'n ymwneud ag ymgeisydd yn tynnu'n ôl, oherwydd mae ganddo iaith orfodol sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r broses honno gael ei chwblhau, ac os ydych yn ymgeisio am un o'r swyddi hyn o dan ein Rheolau Sefydlog, rydych yn ymrwymo i gwblhau'r broses honno. Ac os ceir cytundeb gwleidyddol yn sgil canlyniad cyfartal, fel y byddai rhai Aelodau o'r Cynulliad yn newid eu pleidlais mewn pleidlais yn y dyfodol, dylem gael y bleidlais honno yn y dyfodol fel y gallwn eu gweld yn newid eu pleidlais, ac fel bod hynny'n gyhoeddus, ac yn hollbwysig, dylem barchu a chymhwyso ein Rheolau Sefydlog. Ac mae arnaf ofn yn yr achos hwn, na ddigwyddodd hynny.

Lywydd, fe ddywedoch chi wrthym na allai'r Rheolau Sefydlog ystyried pob senario bosibl ac mewn sefyllfaoedd o'r fath, eich cyfrifoldeb chi yw dehongli'r Rheolau Sefydlog. Ond nid oedd angen dehongli'r Rheolau Sefydlog hyn. Fel y dywedodd y Pwyllgor Busnes, maent yn defnyddio 'iaith orfodol'. Fe benderfynoch chi fod yr iaith yn afresymol ac fe benderfynoch chi wneud rhywbeth arall, ac o ganlyniad i hynny, ni chafodd arweinydd Plaid Cymru, eich plaid chi, yr embaras o gael pleidlais bellach a cholli'r bleidlais honno, ar ôl mynd i mewn i'r broses hon o dan y Rheolau Sefydlog cytûn hynny a gafodd eu datgymhwyso wedyn ran o'r ffordd drwodd, mae arnaf ofn. Nid ydym yn cefnogi'r newidiadau hyn. Roeddem o'r farn bod honno'n broses synhwyrol, y broblem yw na chafodd ei chymhwyso. Ni ddylech godeiddio i barchu cynsail pan nad oedd y cynsail hwnnw, yn fy marn i o leiaf—ac nid wyf wedi clywed unrhyw farn fel arall sy'n argyhoeddi—yn cydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog a oedd mewn grym ar y pryd.

Y mater pwysig iawn arall yma yn fy marn i—ac rwy'n ei chael yn anos asesu'r mater hwn, ond mae'n bwysig tu hwnt—yw'r un sy'n ymwneud â Rheol Sefydlog 6 ac yn enwedig Rheol Sefydlog 8, yr un mewn perthynas â'r Prif Weinidog. Fe gymeraf Reolau Sefydlog 6.9 a 6.10 fel enghraifft, yn hytrach na Rheol Sefydlog 8. Lle mae gennych ddau Aelod yn sefyll, pa un bynnag sy'n cael y bleidlais fwyaf sy'n dod yn Brif Weinidog, ond wedyn os bydd tri neu fwy'n sefyll, ceir darpariaeth wahanol o ran beth yw'r rhwystr i ddod yn Brif Weinidog. Mae hynny'n fy nharo'n rhyfedd iawn. Nid yw'n glir pam y dylai nifer yr ymgeiswyr cychwynnol adlewyrchu'r rhwystr gofynnol i ddod yn Brif Weinidog. Mae'n fater gwirioneddol ddifrifol, os oes gennym dri neu fwy o Aelodau'n sefyll, fod gofyn i un o'r Aelodau hynny gael mwyafrif o'r holl bleidleisio, gan gynnwys y rhai sydd wedi ymatal a phapurau pleidleisio a allai fod wedi eu difetha, yn hytrach na lluosogrwydd, yn enwedig o gofio bod hynny'n wahanol lle ceir dau ymgeisydd. Rwy'n credu bod honno'n ddarpariaeth ryfedd iawn. 

At ei gilydd, rydym yn gwrthwynebu'r newidiadau hyn, yn gyntaf ar sail y newid arall roeddwn yn ei drafod yn awr, ond hefyd, at ei gilydd, ar sail hyn. Oherwydd pe baem yn cadw hyn a'n bod yn cael Rheol Sefydlog 6.10, o leiaf fel y mae'n gymwys i'r Prif Weinidog, mae'n golygu, hebddo—heb y newid—pe bai grŵp Diddymu o Aelodau yn y Cynulliad nesaf, dyweder, cyn belled â'n bod yn sicrhau bod tri neu fwy o Aelodau'n sefyll ac na fyddai fel arall, yna drwy ddifetha pleidleisiau a chymryd rhan ond ymatal, gallem o bosibl atal penodiad Prif Weinidog, os ceir lluosogrwydd ond nid mwyafrif o blaid yr ymgeisydd sydd ar y blaen. Felly, byddai gennym Gynulliad neu Senedd o hyd, ond heb Brif Weinidog a heb Lywodraeth Cymru oddi tano, a fyddai'n gam cadarnhaol, fel y byddem ni yn ei asesu. Felly, byddai'r posibilrwydd o rwystro penodiad Prif Weinidog a gadael y sefyllfa mewn limbo—efallai y gallai Llywodraeth y DU gamu i mewn a'n cynorthwyo—yn un y byddem yn ei groesawu.

Am y rheswm hwnnw, ni fyddwn yn pleidleisio dros y newidiadau hyn, ond rwy'n sicr yn deall pam y mae aelodau eraill o'r Pwyllgor Busnes wedi'u cynnig, o ystyried yr anghysondeb enfawr a phwysig iawn rhwng y sefyllfa a'r rhwystr sy'n berthnasol lle mae dau neu dri neu fwy o Aelodau a fyddai'n hoffi bod yn Brif Weinidog ar y dechrau; ac wrth gwrs, mae'r sefyllfa yr un fath ar gyfer y Llywydd.

15:45

Does neb arall eisiau siarad, felly y cynnig y tro yma yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â busnes cynnar yn dilyn etholiad y Senedd. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, mae yna wrthwynebiad i hynny ac fe fydd y bleidlais yn cael ei ohirio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar sub judice. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'n ffurfiol—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7671 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 13.15 a 17.28, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Credaf y gallai'r rhain hefyd fod yn welliannau eithaf pwysig ac nid wyf yn hollol siŵr pam eu bod yn cael eu gwneud. Credaf fod rhai ohonynt yn synhwyrol, fel y cyfeiriadau at y comisiynwyr a'r ombwdsmon. Mae dileu'r rheini a chael darpariaeth gyffredinol yn hytrach na cheisio diweddaru ar gyfer pob comisiynydd neu ombwdsmon penodol yn ymddangos yn synhwyrol.

Ond ar hyn o bryd, mae gennym reol sy'n caniatáu i'r Llywydd benderfynu y gellir codi mater sy'n ymwneud ag achosion barnwrol gweithredol. Ac mae ein Rheolau Sefydlog wedi datgan y gellir codi'r mater os yw'r Llywydd yn fodlon ei fod yn amlwg yn ymwneud â mater o bwys cyhoeddus, neu benderfyniad gan Weinidog, a chredaf fod hynny'n synhwyrol. Heb hynny, mae gennym sefyllfa lle gall unrhyw un hawlio adolygiad barnwrol—gallwch gyflwyno un o'r rheini ac mae cynsail na ddylai'r gost drwodd i'r cam caniatâd fod yn fwy na chwpl o £1,000 efallai ac weithiau gall hynny gymryd sawl mis—ac ar ôl gosod yr hawliad hwnnw, mae hynny wedyn yn achos gweithredol yn y llys, ac fel deddfwrfa, ni allwn drafod unrhyw fater y mae hynny'n ymwneud ag ef.

Credaf fod hynny'n rhy eang o lawer, yn enwedig ym maes adolygiadau barnwrol sy'n cwestiynu penderfyniadau awdurdodau cyhoeddus. Os bydd Gweinidog yn penderfynu rhywbeth sy'n destun dadl wleidyddol a bod rhai ohonom yn ei gefnogi ac eraill heb fod yn ei gefnogi, a'n bod am barhau i drafod y rhinweddau, mae'n ymddangos y byddai'r newid hwn yn y Rheolau Sefydlog yn darparu ar gyfer torri'r drafodaeth honno ar Aelodau etholedig am fod un dinesydd preifat, dyweder, yn penderfynu hawlio adolygiad barnwrol. Ni all hynny fod yn iawn yn fy marn i. Mae yna eithriad yn y Rheol Sefydlog newydd a gynigir, ond mae'n llawer culach. Ac wrth gwrs y dylem drafod deddfwriaeth, neu is-ddeddfwriaeth, ond pam ar y ddaear na allwn drafod penderfyniad sydd wedi'i wneud gan Weinidog sy'n ddadleuol am fod rhywun arall mor wrthwynebus iddo fel eu bod yn hawlio adolygiad barnwrol? Ceir cyfeiriad,

'ac eithrio i'r graddau a ganiateir gan y Llywydd',

ond mae'n eithriad llawer culach. Mae sefyllfaoedd lle dylai'r Llywydd ystyried caniatáu i ddadl barhau hyd yn oed os oes mater gerbron y llysoedd wedi'u nodi bellach, a phan nad ydynt wedi'u nodi, rwy'n credu y bydd yn llawer anos i Lywydd ganiatáu i drafodaeth o'r fath barhau. 

Yn amlwg, ar hyn o bryd, mae'n iawn fod gennym gyfyngiadau ar faterion sy'n mynd gerbron rheithgor neu achos ar fater teuluol, ond ar gyfer achosion eraill lle mae gennych farnwr neu farnwyr yn eistedd, yn enwedig ym maes adolygiadau barnwrol, credaf fod y syniad na allwn ni fel deddfwyr drafod unrhyw faterion o'r fath yn anghywir. Mae'r perygl y bydd ein dadl yn dylanwadu ar y barnwr neu'r barnwyr yn  fach iawn yn fy marn i ac mae'n rhywbeth y gallent ymdrin yn hawdd ag ef. Rwy'n credu bod dyfarnu na chawn drafod hyn o gwbl yn hollol anghywir. Mae gennym ffyrdd cwbl synhwyrol o ymdrin â'r mater ar hyn o bryd—mae gennym eitem arno yn nes ymlaen—a chredaf y dylai'r dulliau hynny barhau, yn hytrach na newid y Rheolau Sefydlog mewn ffordd gwbl ddiangen.  

15:50

Does neb arall eisiau siarad, felly y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â sub judice? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe ohiriaf i'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Adalw'r Senedd

Eitem 11 sydd nesaf, cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar adalw'r Senedd. Rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynnig—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM7672 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Adalw’r Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i cyflwyno Rheol Sefydlog 12.3A newydd, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Credaf fod y gwelliannau hyn yn synhwyrol ar y cyfan. Ar hyn o bryd, dim ond ar gais y Prif Weinidog y cawn adalw'r Senedd, yn amodol ar benderfyniad y Llywydd. Ei phenderfyniad hi ydyw, ond fel y mae'n darllen ar hyn o bryd, credaf mai dim ond ar gais y Prif Weinidog y gellir ei wneud. Nid yw'n ymddangos i mi ei bod hi'n iawn atal y ddeddfwrfa rhag cael ei hadalw oni bai bod pennaeth y weithrediaeth yn dymuno hynny, felly rwy'n cefnogi'r newidiadau hyn. Mae'n agor y gallu i rywun arall adalw'r Senedd—y gall y Llywydd gymryd y cam i'w hadalw ond pan fydd hi neu ef yn gwneud hynny, dylai fod wedi ymgynghori â'r Prif Weinidog a'r Pwyllgor Busnes. Rwy'n credu bod hynny'n synhwyrol ar y cyfan. Bûm yn ystyried a allai hefyd fod yn synhwyrol ei gwneud yn ofynnol fan lleiaf i ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes ar adalw pan gaiff ei gynnig gan y Prif Weinidog, ond at ei gilydd, os yw'r Prif Weinidog a'r Llywydd yn cytuno, rwy'n fodlon i'r newid gael ei wneud, oherwydd rwy'n credu bod dod ag ail ben i mewn ar gyfer adalw'r Senedd yn welliant. Diolch.

Y cwestiwn yw, felly: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas ag adalw'r Senedd? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn? Dwi ddim yn meddwl fod yna, ac felly fe dderbynnir y cynnig yna yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau

Item 12 yw'r nesaf, cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar aelodaeth pwyllgorau yw'r rhain. Aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig yn ffurfiol—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM7673 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Unwaith eto, credaf, ar y cyfan, fod hwn yn newid rwy'n ei gefnogi i'r Rheolau Sefydlog. Rwy'n credu ei bod yn destun gofid ein bod wedi colli sylfaen deddfwriaeth y DU a oedd yn darparu, os na allem ddod i gytundeb o ddwy ran o dair ynghylch cyfansoddiad ein pwyllgorau, y dylid cymhwyso D'Hondt. Credaf fod hynny'n rhoi ôl-stop sylfaenol a diogelwch i'r broses, sydd i raddau'n cael ei golli. Ond rwy'n credu ei bod yn well ei gael yn y Rheolau Sefydlog na pheidio â'i gael o gwbl. Er mai fy newis i fyddai iddo fod yn Ddeddf Seneddol y DU sy'n farnadwy yn llysoedd Cymru a Lloegr, nid dyna a geir, o ystyried y newid anffodus, yn fy marn i, sydd eisoes wedi digwydd. O ystyried hynny, rwy'n credu ei bod yn syniad da, mae'n debyg, i gael yr ôl-stop hwn yn y Rheolau Sefydlog, fel bod D'Hondt yn gymwys os na allwn ddod i gytundeb ar bwyllgorau drwy fwyafrif o ddwy ran o dair. Rwy'n credu mai dyma un o'r achosion prin lle rwy'n credu fy mod o blaid gweld Aelodau Llafur a Phlaid Cymru yn arfer eu mwyafrif o ddwy ran o dair i geisio rhwymo Cynulliadau neu Seneddau yn y dyfodol, am mai deddfwriaeth y DU oedd hon, ac yn anffodus fe'i collwyd ac mae'n cael ei hadfer a'i hailsefydlu gyda mwyafrif o ddwy ran o dair fel roedd Senedd y DU wedi darparu ar ei gyfer yn wreiddiol. Felly, ar y mater hwn, credaf fod y cynnig yn un da, er ei fod yn rhwymo Senedd yn y dyfodol. Diolch.

15:55

Y cynnig, felly, yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas ag aelodaeth pwyllgorau. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn? Na, dwi ddim yn gweld—[Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Oes. Ymddiheuriadau, wnes i ddim ei weld e'n sydyn iawn. Felly, dwi wedi gweld gwrthwynebiad ac fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

13. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol

Eitem 13 yw'r nesaf, sef cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, newidiadau amrywiol. Aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7674 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 1, 11 a 20 fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae'n dda gweld o leiaf un Aelod arall yn cymryd rhan yn y broses i'r graddau eu bod yn gwrthwynebu, er ei bod yn ymddangos fy mod ar fy mhen fy hun yn siarad am y dadleuon hyn. Roedd yr adran hon ar newidiadau amrywiol yn arbennig o ddiddorol yn fy marn i. Mae yma amrywiaeth o newidiadau gwahanol i'r Rheolau Sefydlog, mewn meysydd go wahanol mewn gwirionedd, ond mae arnaf ofn na allaf fynnu dadleuon ar wahân ar y rhain, felly fe wnaf ymdrin â hwy fel grŵp.

Mae gennym gynllun pensiwn y Senedd, a gallaf ddeall pam y cynigir y newid hwn i'r graddau ei bod yn ymddangos bod y Rheolau Sefydlog presennol yn gwrth-ddweud y trefniadau sydd gennym lle mae'r bwrdd taliadau wedi cymryd cyfrifoldeb am benodi'r ymddiriedolwyr i'r cynllun pensiwn, ac eto roedd gennym y Rheol Sefydlog 1.7 hon o hyd, rheol sy'n sefydlu proses sy'n cystadlu i bob golwg. Nid wyf yn glir pam y mae'r bwrdd taliadau yn gwneud hyn. Rheolau'r cynllun yw'r rhain, ac mae'r cynllun pensiwn er budd ei aelodau, pensiynwyr presennol a phensiynwyr y dyfodol, a gwaith yr ymddiriedolwyr yw goruchwylio eu buddiannau'n briodol o fewn y gyfraith. Felly, o ystyried hynny, pam y mae gennym y corff annibynnol hwn, y bwrdd taliadau, yn penderfynu sut y dylid penodi pobl i gynrychioli buddiannau aelodau? Fel gyda'r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol yn Nhŷ'r Cyffredin, gyda'r bwrdd taliadau sydd gennym yma, mae'n debyg ei bod yn egwyddor dda cael y rhaniad hwn rhwng Aelodau a chorff annibynnol sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch dognau Aelodau, fel petai, ond nid yw'n ymddangos mai dyna sy'n digwydd yma.

Mae ein cyfraniadau pensiwn yn cael eu talu, mae'r system wedi'i sefydlu. Hoffwn weld y cynllun pensiwn yn cael ei reoli'n well, gan ganolbwyntio mwy ar adenillion. Mae gennyf bryderon penodol am y pwyslais ar y giltiau indecs gyswllt a'r methiant i gael dyraniad cytûn tuag at ecwitïau'r DU, sydd wedi bod yn perfformio'n llawer cryfach yn ddiweddar. Ond does bosibl nad oes budd i'r Aelodau o reoli'r cynllun hwnnw'n dda, a diddordeb gan y Comisiwn i'w weld yn cael ei reoli'n dda, fel y gellir lleihau cyfraniadau arian trethdalwyr yn y dyfodol, a byddwn wedi meddwl bod hynny i'w weld yn cael ei wneud yn dda gyda'r ymddiriedolwyr o dan y gyfraith gyffredin sy'n cynrychioli buddiannau'r aelodau, ac mae hynny'n eithaf priodol o'i fewn. Felly nid yw'n eglur i mi pam nad ydym yn gwneud hynny a chael corff annibynnol i benderfynu yn lle hynny. Ond ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod y rheini'n gwrth-ddweud ei gilydd. Nid wyf yn gweld hynny fel rheswm dros wrthwynebu hyn, er pe bai'n bosibl cael pleidlais ar y Rheol Sefydlog benodol hon, yn hytrach na chael y rhain wedi'u grwpio mewn meysydd mor wahanol, efallai y byddwn wedi ffurfio barn wahanol.

Maes arall sy'n ddiddorol yma yw'r gwahaniaeth rhwng Aelodau etholaeth ac Aelodau'r rhestr. Dywedwn yn ein Rheolau Sefydlog y dylid trin Aelodau etholaethol a rhanbarthol yn gyfartal a'u bod o werth cyfartal. Mae'n ymddangos bod rhai Aelodau'n bwrw amheuaeth ar hynny weithiau, ond dyna'r ddarpariaeth yn y Rheolau Sefydlog, a chredaf ei bod yn gywir. Ac eto, mae gennym y Rheol Sefydlog sydd â darpariaeth ar ymddiswyddo sydd ond yn cyfeirio at adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac nid adran 11, ac mae hynny wedyn yn golygu ei bod yn gymwys ar gyfer yr etholaeth ond nid y rhanbarth. Ond nid wyf yn hollol siŵr pam fod angen Rheol Sefydlog 1.9. Mae ganddi ddarpariaeth lle mae'n dweud 'neu fel arall' beth bynnag, felly ceir disgresiwn eang ac nid wyf yn gweld pam fod angen inni fynd y tu hwnt i'r cyfeiriad statud at swydd wag er mwyn penderfynu drwy ddefnydd synhwyrol o'r Saesneg a chyfeirio angenrheidiol at y llysoedd pan fydd swydd yn dod yn wag, ac o ystyried ei bod mewn deddfwriaeth, mae'n debyg y byddai hynny'n drech na dehongliad y Rheolau Sefydlog beth bynnag, felly nid wyf yn siŵr a oes angen y Rheol Sefydlog hon. Yn fy marn i, mae'n bosibl ei bod yn ddiangen ac efallai y byddai'n well ei dileu, ond o ystyried ei bod yno, credaf ei bod yn well iddi gyfeirio at y darpariaethau rhanbarthol ac etholaethol yn y Ddeddf ar sail gyson, felly nid wyf yn bwriadu ei gwrthwynebu.

Credaf hefyd ei bod yn synhwyrol tynnu Cadeirydd y Pwyllgor Busnes o'r cyfeiriad—credaf fod cryn dipyn o drafod ar hynny pan ymunais â'r Pwyllgor Busnes ar ddechrau'r tymor—ac i'r graddau fod y Pwyllgor Busnes yn cael ei gadeirio gan y Llywydd. Mae'n ymddangos yn briodol na ddylai fod yn rhan o'r cydbwysedd pleidiol, er gwaethaf aelodaeth bosibl y Llywydd o blaid wleidyddol. Diolch.

16:00

Does neb arall eisiau siarad, felly'r cynnig yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i wneud newidiadau amrywiol. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn—y cynnig yma? Nac oes. Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

14. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro

Eitem 14 yw'r nesaf, y cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog dros dro, a'r aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7675 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 a 34, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes ynghylch defnyddio pleidleisio electronig o bell o dan Reol Sefydlog 34.14A, yn dilyn etholiad y Senedd, gan gynnwys at ddibenion ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Felly, mae gennym ystod o Reolau Sefydlog dros dro y mae hyn yn berthnasol iddi. Credaf ei bod yn briodol y tro hwn, mae'n debyg, eu bod yn cael eu cymryd gyda'i gilydd, ac yn gyntaf, yr estyniad ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant; credaf fod hynny wedi'i gyflwyno fel darpariaeth dros dro. Yn fy marn i, dylem ganiatáu pleidleisio drwy ddirprwy—ac rwy'n siarad mewn gwirionedd mewn amgylchiadau heb ystyried COVID lle ceir rhagdybiaeth o gyfarfod yn y cnawd a phresenoldeb yng Nghaerdydd—ar gyfer absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth neu absenoldeb rhiant priodol arall o dan y statud, o bosibl, a'n trefniadau cytundebol ein hunain. Ond os cawn hynny, mae'n cael cryn effaith rhwng y Llywodraeth a'r wrthblaid, a chredaf fod arnom angen yr eithriad cul hwn oherwydd hawliau mamolaeth a thadolaeth. Nid yw'n ymddangos yn iawn i mi y gellid eithrio'r unigolion hynny rhag pleidleisio mewn cysylltiad â'u swydd. Mae'n dda gweld bod Llywodraeth y DU wedi gwneud newid yn ddiweddar o ran Gweinidogion y DU mewn senario o'r fath, a chredaf ei bod yn iawn inni gael hyn. Yn bersonol, credaf mai dim ond yr agwedd gul benodol hon ar bleidleisio drwy ddirprwy y dylid ei gwneud yn barhaol, ond os nad yw hynny'n digwydd, credaf fod yr estyniad o fis Ebrill i fis Awst yn un da.

Ond rwy'n credu bod y cyfranogi o bell a wnawn, rwy'n credu ei fod yn newid y cydbwysedd rhwng y Llywodraeth a'r wrthblaid, oherwydd mae angen i'r Llywodraeth gael ei phleidleisiau i gael ei busnes drwodd; ni all fentro colli pleidlais drwy beidio â chael pobl i bleidleisio, felly i'r graddau ein bod yn pleidleisio o bell o'n cartrefi, yn hytrach na'i bod yn ofynnol i ni fod yng Nghaerdydd neu o bosibl yn pleidleisio o bell lle bynnag y digwyddwn fod, credaf fod hynny o fudd i'r Llywodraeth, oherwydd mae'n ei gwneud yn haws iddi gael ei busnes. Nid oes rhwystr o orfod cael ei holl Aelodau yng Nghaerdydd ar adeg benodol pan fydd pleidlais yn digwydd. Felly, ceir y newid hwnnw, ac nid wyf yn cefnogi estyniad ehangach i bleidleisio drwy ddirprwy oherwydd hynny.

Rydym yn ymestyn y Rheolau Sefydlog dros dro mewn perthynas â'r hybrid a'r gweithio'n gyfan gwbl o bell, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall; nid wyf yn siŵr pam ein bod yn dal i weithio'n gyfan gwbl o bell yn hytrach na gweithio hybrid, fel y maent yn ei wneud yn San Steffan, ac i'r graddau y gallai barhau i Senedd y DU hyd at fis Mai neu fis Mehefin, rwy'n credu ei bod yn briodol y dylem gael y potensial o leiaf i'r opsiwn hybrid barhau. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda rhai o fy nghydweithwyr yn y blaid ynghylch y pleidleisio o bell; fy nheimlad i yw efallai y dylech gyfarfod yn gorfforol mewn Senedd, ac mae rhai wedi meddwl bod cyfranogi o bell yn dda, a dylem ei wneud yn safon, oherwydd byddai hynny'n caniatáu i'n hadeilad gael ei addasu at ddibenion gwahanol mwy cynhyrchiol a defnyddiol, a gallai arbed symiau sylweddol o arian i'r trethdalwr. Ar y cyfan, serch hynny, o ran yr opsiynau hybrid ac o bell—yn sicr yr hybrid yw'r un sydd orau gennyf, felly mae'n debyg mai parhau â'r Rheolau Sefydlog dros dro hynny am gyfnod byr o leiaf y tu hwnt i'r etholiad yw'r peth iawn i'w wneud, o leiaf o ran cael yr opsiwn i ddarparu ar gyfer cyfarfodydd hybrid. Felly, o ran y Rheolau Sefydlog dros dro hyn, rydym yn bwriadu cefnogi eu hymestyn. Diolch. 

16:05

Does neb arall i siarad. Felly, y cynnig yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â'r Rheolau Sefydlog dros dro. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, felly mae'r rheolau yna wedi cael eu derbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

15. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol

Eitem 15 yw'r nesaf. Eitem 15 yw'r cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog a'r diffiniad o grwpiau gwleidyddol. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig, Rebecca Evans. 

Cynnig NDM7676 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 1, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar grwpiau gwleidyddol. Ar ôl llawer o drafod a dadlau, mae'r gwelliant hwn yn ceisio egluro nid yn unig y trothwy ar gyfer ffurfio grwpiau, ond hefyd yr egwyddorion sylfaenol. Mae'n nodi mai grŵp gwleidyddol yw grŵp o dri Aelod o leiaf sy'n perthyn i'r un blaid wleidyddol gofrestredig a enillodd o leiaf un sedd yn etholiad blaenorol y Senedd—neu dri neu fwy o Aelodau nad ydynt yn bodloni'r meini prawf hynny sydd wedi hysbysu'r Llywydd o'u dymuniad i gael eu hystyried yn grŵp gwleidyddol ac wedi bodloni'r Llywydd fod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol. Yn eu hanfod, yr hyn y mae'r newidiadau hyn yn ceisio'i gynnal yw egwyddorion atebolrwydd democrataidd a sefydlogrwydd yn ein Senedd, sy'n hanfodol i'r ffordd y mae ein sefydliad yn gweithredu ac yn cael ei weld. Nid yw'r newidiadau'n atal grwpiau newydd rhag cael eu ffurfio, ond maent yn cynnig system fwy cadarn er mwyn cadw cydbwysedd.

Mae cael eich cydnabod fel grŵp yn dod â breintiau sylweddol yn ei sgil, ac er lles uniondeb y sefydliad hwn, nid yw ond yn iawn fod o leiaf rai profion gofynnol ar waith. Os derbynnir y cynnig hwn, rhaid i'r Llywydd gyhoeddi canllawiau i'r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17 ar ddehongli a chymhwyso Rheol Sefydlog 1.3(ii).

Mark Isherwood. Ni allaf weld Mark Isherwood ar hyn o bryd. Os yw—a, ie. Mark Isherwood, a oedd gennych broblem gyda'ch band eang?

Iawn, o'r gorau. Felly rydych chi wedi bod yn gwrando ar y ddadl. Mark Isherwood.

Diolch. Mae'n flin gennyf ddweud mai'r unig ffordd o ddisgrifio'r gwelliant arfaethedig hwn i'r Rheolau Sefydlog yw annymunol, llawdrwm ac awdurdodus sy'n arfer rheolaeth fympwyol a gormesol dros eraill. Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Busnes ar hyn:

'Nid oes gan y cynnig hwn gefnogaeth unfrydol y Pwyllgor Busnes. Gwnaethpwyd y cynnig gan Rebecca Evans AS (y Trefnydd) ac fe’i cefnogwyd gan Sian Gwenllian AS sydd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(ii), gyda'i gilydd yn cynrychioli 39 pleidlais ar y Pwyllgor. Nid yw Mark Isherwood AS na Caroline Jones AS, sy'n cynrychioli cyfanswm o 14 pleidlais, yn cefnogi'r cynnig; maent yn cefnogi cadw’r Rheol Sefydlog bresennol.'

O dan yr esgus, ac rwy'n dyfynnu:

'Yn ystod y Bumed Senedd, mae aelodaeth y grwpiau gwleidyddol a’r broses o ffurfio a diddymu’r grwpiau hyn wedi bod yn fwy cyfnewidiol nag erioed o’r blaen,'

mae cynghrair anfad rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn honni bod y lefel hon o gyfnewidioldeb yn annymunol, ac y dylid cyfyngu ar greu grwpiau gwleidyddol newydd yn awtomatig yn yr hyn sydd i fod yn Senedd y bobl i'r rhai sy'n cynnwys tri neu fwy o Aelodau'n perthyn i'r un blaid wleidyddol gofrestredig a enillodd sedd neu seddau yn etholiad cyffredinol diweddaraf y Senedd, oni bai bod y Llywydd yn fodlon fod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol. Wel, er y byddai'r cynnig hwn wedi bod yn llawn cymaint o fudd pleidiol i fy mhlaid i ag i Lafur a Phlaid Cymru, mae wedi'i dargedu'n glir mewn ffordd gwbl anweddus ac anaddas, gan arddangos meddylfryd bwli'r iard chwarae yn hytrach na'r gwleidydd cyfrifol sy'n cydnabod mai'r hyn sy'n nodweddu democratiaeth gynrychioliadol yw'r modd y mae'n trin y lleiafrifoedd o'i mewn.

Mae dulliau o gadw cydbwysedd effeithiol mewn systemau democrataidd cynrychioliadol yn hanfodol os yw'r systemau hynny i barhau, ac eto mae'r cynnig hwn yn ceisio tanseilio'r egwyddor sylfaenol hon. Fel y mae fy nghyd-Aelodau yng ngwrthblaid swyddogol y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud wrthyf, dylem gadw at y trefniadau presennol. Mae'r rhain eisoes yn rhoi rhywfaint o ddisgresiwn i'r Llywydd ac yn deg i bleidiau bach. Gall pleidiau newydd ddod i'r amlwg mewn democratiaethau bywiog fel Cymru, ac maent yn gwneud hynny, fel y dangoswyd drwy gydol bodolaeth y Senedd. Ac awtsh, jerimandro ar ei waethaf yw hyn, lle mae jerimandro wedi'i gynllunio i roi mantais annheg i bleidiau gwleidyddol a chadw swyddogion gwael mewn grym—diffiniad geiriadur; nid wyf yn cyfeirio at unrhyw beth yn bersonol.

Dywedaf wrth yr Aelodau gyferbyn felly: cyn ichi ddilyn chwipiaid eich plaid i bleidleisio ar y mater hwn, gofynnwch i chi'ch hun ai dyma'r ffordd rydych am i'r Senedd ifanc hon yng Nghymru fynd. Rwy'n gobeithio nad ydych am weld hynny'n digwydd. 

16:10

Mae fy ngrŵp yn gwrthwynebu'r cynigion hyn yn gryf gan ein bod yn teimlo eu bod yn wrth-ddemocrataidd. Effaith y cynigion hyn fydd amddifadu Aelodau annibynnol o'r cyfle i gydweithio ar faterion cyffredin, amddifadu Aelodau annibynnol o'r gallu  i fwydo i mewn i waith y sefydliad hwn, ac amddifadu Aelodau annibynnol o'r un cyfleoedd ag sydd gan y rhai mewn pleidiau gwleidyddol sefydledig, yr union bleidiau gwleidyddol rydym wedi'u gwrthod ac yn gynyddol, y pleidiau gwleidyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru wedi'u gwrthod.

Mae angen mwy o gefnogaeth ar Aelodau annibynnol, nid llai, gan nad oes ganddynt fanteision peiriant plaid y tu ôl iddynt. Ac rwyf wedi clywed y ddadl na all Aelodau annibynnol ffurfio grŵp am nad ydynt yn rhannu'r un credoau gwleidyddol, yr un delfrydau, ac mae hynny'n anghywir. Rydym i gyd yn rhannu'r gred gryfaf mai'r bobl sy'n ein hethol sydd fwyaf pwysig; nid arweinwyr pleidiau na'r rhai sy'n rhoi arian mawr iddynt—y cyhoedd. Felly, mae gan bob un ohonom nod cyffredin i ddwyn y blaid sydd mewn grym i gyfrif.

Dyna pam ein bod yn gweld mwy a mwy o Aelodau annibynnol mewn seddau, a pham mai dim ond traean o'r etholwyr y mae'r pleidiau traddodiadol gyda'i gilydd yn y Senedd hon yn eu cynrychioli. Byddwn yn gweld mwy a mwy o Aelodau annibynnol yn y dyfodol, ac felly galwaf ar yr Aelodau i wrthod y cynigion hyn yn enw tegwch a democratiaeth. Diolch.

Mae'n dda cael rhai cyd-Aelodau i ddadlau gyda hwy ar hyn. Diolch i Mark Isherwood a Caroline Jones am eu cyfraniadau; mae'n debyg y dylwn ddiolch hefyd i Rebecca a oedd yn garedig wrthyf yn ei sylwadau. Hoffwn ymddiheuro hefyd i'r Ceidwadwyr Cymreig oherwydd pan glywais gyntaf am y cynnig eithriadol hwn gan y Pwyllgor Busnes, cefais fy nghamarwain fod rheolwr busnes y Ceidwadwyr wedi'i gefnogi. Cefais wybod nad oedd hynny'n wir, felly rwy'n ymddiheuro'n llwyr am fy nghamgymeriad cychwynnol wrth ymateb i'r newyddion. Roeddwn yn meddwl ei fod wedi rhoi araith dda iawn yn gynharach. 

Ac wrth ddarllen yr adroddiad gan y Pwyllgor Busnes, ac rwyf wedi gweld y clerc sydd wedi'i ysgrifennu, mae'r gwelliant 'achos yn erbyn'—paragraffau 12 i 14—yn cael ei roi'n huawdl iawn. Ni allaf ddweud yr un peth am y gwelliant 'achos dros', ond credaf mai'r rheswm dros hynny, hynny yw, cafodd ei ddisgrifio gan Mark Isherwood fel un annymunol, llawdrwm ac awdurdodus. Ond yr hyn y byddwn yn ei bwysleisio yw ei bod yn ymddangos i mi fod Plaid Cymru a Llafur yn camddefnyddio eu mwyafrif o ddwy ran o dair yn y Senedd bresennol er mwyn rhwymo Senedd olynol, i bob pwrpas. Maent yn ofni na fyddant yn cael y mwyafrif hwnnw; gyda'i gilydd, mae'n siŵr y byddant yn taflu rhywbeth arall at ei gilydd, ond heb fwyafrif o ddwy ran o dair ni fyddent yn gallu newid y Rheolau Sefydlog, felly maent wedi penderfynu defnyddio eu mwyafrif o ddwy ran o dair yn y pumed Senedd i benderfynu beth y dylai'r Rheolau Sefydlog fod ar gyfer y chweched Senedd yn y meysydd dadleuol hyn sy'n rhai pleidiol iawn.  

Sylwaf nad yw cynnig blaenorol i gynyddu maint lleiaf grŵp o dri i bedwar wedi dod drwodd i'r fersiwn derfynol. Nid wyf yn siŵr ai'r rheswm am hynny yw bod arolygon barn yn dangos bod Plaid Diddymu Cynulliad Cymru bellach mewn sefyllfa lle rhagwelir y byddwn yn cael pedair sedd, felly credwyd nad oedd yn angenrheidiol nac yn ddefnyddiol i wneud y newid hwnnw, ond beth bynnag mae'n aros ar dair sedd. Nid oes gennyf ddadl benodol ar sail egwyddor ynglŷn â beth ddylai maint grŵp fod, ond rwy'n fodlon â thair sedd.

Rydym hefyd wedi colli rhai o'r canllawiau ychwanegol arfaethedig a gynigiwyd yn wreiddiol. Dywedwyd wrthym y gallai hefyd nodi y gall y Llywydd ystyried a oes gan grŵp fandad democrataidd sylweddol ac amlwg i ymffurfio ac a yw'n rhannu athroniaeth wleidyddol a fyddai'n glir i'r etholwyr. Nid wyf yn siŵr sut y mae Llywydd i fod i benderfynu ar y pethau hynny, ac mae'n dda, o leiaf, nad yw'r rhan honno wedi dod drwodd. Fodd bynnag, mae gennym ganllawiau sydd eisoes—. Roeddwn yn meddwl y dylai'r Llywydd lunio canllawiau o dan y Rheolau Sefydlog hyn, ac eto mae'r canllawiau eisoes wedi'u llunio cyn i'r newidiadau i'r Rheolau Sefydlog gael eu pasio. Ac o dan Reol Sefydlog newydd arfaethedig 1.3A, dywedir wrthym y dylai'r Llywydd ddarparu canllawiau sy'n ymwneud â Rheol Sefydlog 1.3(ii) newydd, ond mae'r canllawiau y mae'r Llywydd eisoes wedi'u cyflwyno fel atodiad, o dan 1.3A fel y dylai fod, mewn gwirionedd yn ymwneud yn rhannol o leiaf ag 1.3(i). Felly, rydym eisoes mewn sefyllfa ddryslyd. Mae'r canllawiau'n dweud:

'Gall is-etholiadau hefyd newid cyfansoddiad gwleidyddol y Senedd mewn ffordd sy'n ei gwneud yn briodol cydnabod grŵp newydd.'

Wel, mae hynny'n ymwneud yn rhannol o leiaf, fel y dywedais, ag 1.3(i), sy'n diffinio grŵp gwleidyddol fel

'grŵp a chanddo o leiaf dri Aelod sy’n perthyn i’r un blaid wleidyddol gofrestredig a enillodd o leiaf un sedd yn etholiad blaenorol y Senedd'.

Felly, os bydd plaid yn ennill un neu ddwy sedd, ond nad oes ganddi'r tair ar gyfer grŵp, ni fydd yn gallu ffurfio grŵp, ond os bydd yn ennill is-etholiad yn ddiweddarach, bydd yn gallu ffurfio grŵp o dan 1.3(i). Felly, Lywydd, pam eich bod wedi cyhoeddi canllawiau o dan 1.3A sydd i fod i ymwneud ag 1.3(ii), ac eto'n ymwneud, yn rhannol o leiaf, ag 1.3(i)? Mae arnaf ofn ei fod yn nodweddiadol o sut rydym yn cymhwyso ein Rheolau Sefydlog a'r math o agwedd a welwn tuag atynt yn y lle hwn. Rwy'n credu ei bod yn amhriodol rhoi disgresiwn mor eang i swydd y Llywydd, a byddai ei arfer yn anochel yn tynnu ei deiliad i ddadl bleidiol wleidyddol. Efallai mai dyna a ddymunir. Ysgrifennais at y Llywydd ar 23 Chwefror gyda rhai o'r pwyntiau hyn. Ni chefais ateb. 

Wedi'r cyfan, fel y'u lluniwyd, gallai rhai ddarllen y newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog fel pe baent wedi'u cynllunio ex post i atal ffurfio grŵp y Blaid Brexit roeddwn yn rhan ohono. Byddwn yn dadlau bod i bleidiau mawr fradychu eu pleidleiswyr drwy addo cyflawni Brexit a'i rwystro wedyn yn argyfwng cenedlaethol neu'n ddigwyddiad mawr sy'n newid teyrngarwch i grwpiau. Gellid dadlau bod y rhan fwyaf o gefnogwyr y Ceidwadwyr a drodd eu cefnau ar eu plaid i bleidleisio dros Blaid Brexit yn etholiadau Ewrop ym mis Mai 2019, etholiad a enillodd Plaid Brexit, yn rhaniad mewn plaid wleidyddol gofrestredig, ond a fyddech chi fel Llywydd yn ei ystyried felly? Fe'ch gwelsom yn oedi cyn cydnabod y grŵp hwnnw am wythnos, a'r honiad oedd eich bod wedi gwneud hynny er mwyn holi i'r Comisiwn Etholiadol a oedd yn blaid gofrestredig, er bod y gofrestr o bleidiau yn ddogfen gyhoeddus ar-lein, wedi'i diweddaru mewn amser real ac ar gael i bawb.

Heddiw, rydym wedi gweld o ran Caroline Jones, rwy'n cymryd, ei bod bellach yn gyhoeddus sut y gwnaethoch ymateb iddi hi, ei beirniadu am ffurfio grŵp Plaid Brexit a dweud eich bod wedi disgwyl gwell ganddi. Ac eto, mae'r Rheolau Sefydlog hyn yn cynnig rhoi disgresiwn i'r Llywydd benderfynu a ddylid ffurfio grŵp, a hynny ar sail canllawiau, sydd eisoes yn groes i'r Rheol Sefydlog y mae i fod wedi'i wneud oddi tani, ond y realiti yw y byddai'n ddisgresiwn, a byddai'n cael ei arfer gan Lywydd, mae arnaf ofn, yn ôl barn wleidyddol bersonol y Llywydd dan sylw, boed hynny am Brexit neu unrhyw beth arall, ac nid dyna sut y dylai Senedd weithredu. Mae'n anghywir. Ni ddylid penderfynu ar y materion hyn ar y sail honno.

Dywedir wrthym y byddai argyfwng cenedlaethol yn cyfiawnhau newid i ymlyniad pleidiol. A yw COVID yn dod o fewn hynny? A yw'n iawn cael gwahanol grwpiau oherwydd hynny? Beth am os yw plaid wleidyddol fawr yn cael ei chymryd drosodd gan arweinydd gwrth-semitig? A yw'n iawn bryd hynny i Aelodau ffurfio grŵp gwahanol, neu a oes disgwyl iddynt aros yn yr un grŵp a chefnogi'r blaid honno yn yr etholiad a dweud, 'Dylai fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig', fel y gwelsom yn 2019? Nid wyf yn credu y dylai fod yn fater i Lywydd ei benderfynu, nac i ganllawiau, na'r Pwyllgor Busnes—mwyafrif o ddwy ran o dair yno ar hyn o bryd, ond nid yn y dyfodol yn ôl pob tebyg—ei ddefnyddio. Dylai fod yn benderfyniad i Aelodau etholedig, gan fod yn atebol i'w hetholwyr mewn democratiaeth.

Mae'r darpariaethau ar gyfer Aelodau annibynnol yn warthus. Hynny yw, os bydd unigolion, mewn etholiad cyffredinol, yn cael eu hethol i'r lle hwn fel Aelodau annibynnol—rhwystr uchel iawn—os bydd tri neu fwy ohonynt yn gwneud hynny, pam ar y ddaear y dylid eu gwahardd rhag cael grŵp? Mae'n amddiffyn buddiannau breintiedig y pleidiau sefydledig sy'n ceisio gwasgu cystadleuwyr allan. Mae'r rhwystr eisoes yn uchel iawn i aelodau annibynnol ddod i mewn ac os bydd tri ohonynt yn gwneud hynny, nid yw'r syniad na ddylid caniatáu iddynt ffurfio grŵp, ond y gallent wneud hynny o bosibl pe baent yn ennill is-etholiadau yn ddiweddarach, yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Mae'r darpariaethau hyn yn annheg; ni ddylai'r rhai sy'n eu cyflwyno, y rhai sy'n drafftio canllawiau sy'n anghyson â hwy ac sydd wedi dangos eu tuedd eu hunain ar y pethau hyn o'r blaen, fod yn gwneud hyn. Rydym yn eu gwrthwynebu. Diolch.

16:20

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diddorol clywed catalog o ddadansoddiadau Mark Reckless am wahanol faterion cyfansoddiadol y Senedd. Diolch iddo am gymryd cymaint o ddiddordeb yn Rheolau Sefydlog ein Senedd genedlaethol, sefydliad y mae o ac eraill yma y prynhawn yma, yn anffodus, eisiau cael ei wared, wrth gwrs, yn groes i fandad cyson ein pobl. Nid buddiannau ein Senedd genedlaethol a'n gwlad ni sydd wedi bod dan sylw yn y drafodaeth hyd yma.

Beth bynnag, troi at eitem 15. Dwi yn credu ei bod hi'n bwysig cymryd y ddau gymal sydd yn y newid yma i'r Rheolau Sefydlog yn ymwneud â diffiniad o grwpiau gwleidyddol efo'i gilydd. Maen nhw'n gweithio fel un, efo'r cyntaf yn gwarchod hawliau pleidiau lleiafrifol i ffurfio ein grwpiau yn awtomatig, a'r ail yn rhoi disgresiwn i'r Llywydd ganiatáu ffurfio grwpiau nad oes ganddyn nhw fandad clir. Mae'r ail gymal yn sicrhau digon o hyblygrwydd i'r Llywydd wrth i amgylchiadau newid.

Felly, dydy'r rheolau newydd ddim yn mynd i atal grwpiau newydd rhag ffurfio. Ond beth fydd yna fydd system llawer mwy cadarn mewn lle. Mae'r newid yma yn mynd i roi mwy o dryloywder a gwell drefn, yn wahanol i'r hyn sydd wedi bod yn bosib yn y Senedd hon, ac, o wneud hynny, yn gwarchod enw da ein Senedd genedlaethol. Mae'r newid hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd atebolrwydd democrataidd ac yn mynd i greu gwell sefydlogrwydd i'r sefydliad yn y dyfodol. Mae yna lawer o feddwl a thrafod wedi digwydd ynglŷn â'r union eiriad ynglŷn â'r newid yma, ac felly dwi'n annog pawb sy'n dymuno cadw enw da ein Senedd a chynnal ei sefydlogrwydd i gefnogi'r newid yma.

Y cynnig, felly, yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â'r diffiniad o grwpiau gwleidyddol. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

16. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 05-21

Reit, felly, eitem 16, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, adroddiad 05-21. A Chadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM7679 Jayne Bryant

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 05-21 a osodwyd gerbron y Senedd ar 17 Mawrth 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y Comisiynydd Safonau dros dro mewn perthynas â chŵyn ynghylch ymddygiad Helen Mary Jones AS. Cyfeiriwyd y mater hwn at y Comisiynydd Safonau gan yr Aelod ei hun. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd ac mae ein hadroddiad yn nodi canfyddiadau ac argymhellion y pwyllgor o ran y sancsiwn o gerydd yr ystyrir ei fod yn briodol yn yr achos hwn. 

Mae'r ffeithiau sy'n gysylltiedig â'r gŵyn a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhellion wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor. Nododd y pwyllgor hefyd, a chanmolodd yr Aelod am hunangyfeirio i'r comisiynydd, gan gyfaddef ei bod wedi torri cod ymddygiad yr Aelodau. Ar ôl drafftio'r adroddiad, ysgrifennodd yr Aelod at y pwyllgor gydag ymddiheuriad llawn i'r Senedd a derbyniodd argymhelliad y pwyllgor yn llwyr. Mae hwn wedi'i atodi i'n hadroddiad.

Hwn fydd yr adroddiad olaf ar gŵyn a gyflwynir gerbron y Senedd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y pumed Senedd. Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Busnes, ac fel y nodir yn llythyr y Llywydd at yr Aelodau, a osodwyd gerbron y Senedd ar 17 Mawrth, bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn rhoi'r gorau i unrhyw weithgarwch pellach wrth inni ddechrau ar y toriad a chyfnod yr etholiad. Fel pwyllgor, rydym wedi gweithredu ar bob adroddiad a ddaeth i law. Fodd bynnag, mae rhai materion heb eu cwblhau a heb fynd drwy bob cam o'r weithdrefn. Mater i'r pwyllgor olynol fydd penderfynu a chyhoeddi maes o law.

Felly, bydd y sefyllfa o ddechrau'r toriad fel a ganlyn: bydd unrhyw adroddiadau a dderbynnir gan y Comisiynydd Safonau, neu benderfyniadau apêl a dderbynnir gan berson annibynnol â chymwysterau cyfreithiol, yn cael eu cydnabod gan ysgrifenyddiaeth y pwyllgor. Bydd unrhyw adroddiad o'r fath yn cael ei gadw'n gyfrinachol hyd nes y bydd Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cael ei sefydlu yn y chweched Senedd. Gall pwyllgor safonau'r chweched Senedd ailddechrau ystyried unrhyw gwynion yn erbyn Aelod sy'n cael ei ethol yn ôl yn yr etholiad. Os oes adroddiadau heb eu cyhoeddi sy'n ymwneud ag achosion o dorri rheolau gan Aelod nad yw'n cael ei ethol yn ôl yn yr etholiad, mater i'r pwyllgor safonau newydd fydd trefnu cyhoeddi'r adroddiadau hynny. Efallai na fydd y sancsiwn gwreiddiol a argymhellwyd ar gael mwyach wrth ofyn i'r Senedd nodi'r adroddiadau. Mater i'r pwyllgor safonau newydd hefyd fydd cyhoeddi unrhyw adroddiadau dienw lle bu ymchwiliad ffurfiol gan y comisiynydd ond na chanfuwyd unrhyw gamwedd ar ran yr Aelod. Gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor.

16:25

Does gyda fi ddim siaradwyr yn y ddadl yma, felly dwi'n cymryd bod y Cadeirydd ddim eisiau ymateb i hynny. Ac felly, dwi'n gofyn y cwestiwn: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yn cael ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

17. Cynnig i Gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i gymeradwyo'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor safonau unwaith eto i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM7680 Jayne Bryant

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr adolygiad o'r cod ymddygiad dyddiedig 17 Mawrth 2021 ('yr adroddiad').

2. Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021, i ddod i rym ar ddechrau'r chweched Senedd.

3. Yn nodi’r canllawiau sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymddygiad a nodir yn atodiad A i’r adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae'n bleser mawr gennyf ofyn heddiw i'r Senedd fabwysiadu'r cod ymddygiad diwygiedig, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

Mae'r pumed Senedd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, ac yn erbyn y cefndir hwn rhan allweddol o waith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad oedd cynhyrchu cod ymddygiad diwygiedig a chanllawiau cysylltiedig. Wrth ailddrafftio'r cod, mae'r pwyllgor wedi ceisio rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r safonau a ddisgwylir gan Aelodau ac i gysoni'r cod yn well â'r polisi urddas a pharch a fabwysiadwyd gan y Senedd ym mis Mai 2018. Er mwyn gwneud hyn, mae'r pwyllgor wedi ystyried ei brofiadau ac argymhellion yr adroddiadau gan y comisiynydd safonau, a'r comisiynydd safonau dros dro, yn ystod y Senedd hon, wedi siarad â nifer o randdeiliaid, gan gynnwys cyn gomisiynwyr safonau, wedi ymgynghori â'r cyhoedd, yn ogystal â'r holl Aelodau o'r Senedd, ac wedi cynnal ymchwil i'r defnydd o godau ymddygiad mewn Llywodraethau lleol a chenedlaethol yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae dwy brif elfen i'r cod wedi'i ailddrafftio: yn gyntaf, nifer o egwyddorion ymddygiad trosfwaol y mae'n rhaid i Aelodau eu dilyn. Yn ogystal ag egwyddorion sefydledig Nolan, rydym wedi cynnwys egwyddor parch ychwanegol, sy'n nodi:

'Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn modd sy'n lleihau cyfle cyfartal, rhaid iddynt
barchu urddas pobl eraill a pheidio ag ymddwyn yn wahaniaethol neu mewn
modd nas dymunir.'

Drwy gynnwys yr egwyddor hon, rydym am anfon neges glir fod hon yn egwyddor allweddol o fywyd cyhoeddus sy'n berthnasol i Aelodau o'r Senedd a'i bod yn fan cychwyn i fynd i'r afael â'r pryderon gwirioneddol mewn perthynas ag urddas a pharch a godwyd ar draws cymdeithas yn ystod tymor y Senedd. I gyd-fynd â'r egwyddorion lefel uchel, mae gan ail elfen y cod gyfres o 24 o reolau nad ydynt yn hollgynhwysol a fydd yn nodi, mewn termau clir a chryno, yr ymddygiad y mae'n rhaid i'r Aelodau ei ddilyn. Daw'r cod diwygiedig i rym ar ddechrau'r chweched Senedd, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i atgoffa'r holl Aelodau sy'n sefyll i gael eu hailethol fod y cod yn berthnasol 24/7, o'r pwynt y cewch eich ethol yn Aelod o'r Senedd.

Mae'r pwyllgor yn credu bod y cod diwygiedig hwn bellach yn adlewyrchu'r safonau cyfoes a ddisgwylir gan bobl mewn bywyd cyhoeddus. Yn ein hadroddiad etifeddiaeth, rydym yn argymell y dylid adolygu'r cod ar ganol tymor y Senedd nesaf, yng ngoleuni profiad, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n berthnasol i'r cyd-destun gwleidyddol, cyfansoddiadol a diwylliannol rydym ni, Aelodau o'n Senedd sy'n esblygu, yn gweithredu o'i fewn.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i gofnodi fy niolch i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor sydd wedi bod yn ardderchog, yn enwedig Meriel Singleton sydd wedi bod yn rhagorol bob amser. At hynny, hoffwn ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor sydd wedi gweithio gyda'i gilydd drwy gydol hyn ac wedi mynychu llawer o gyfarfodydd ychwanegol er mwyn gallu cyflawni pethau. Diolch. Gofynnaf i'r holl Aelodau dderbyn y cynnig fel y'i cyflwynwyd a mabwysiadu'r cod ymddygiad newydd.

16:30

Does neb eisiau siarad yn y ddadl, felly fe wnaf i symud i holi'r cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar y cynnig yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

18. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol

Yr eitem nesaf yw eitem 18, a dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid yw hyn ar ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r fframwaith cyllidol. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r ddadl yma, Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM7682 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi’n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma ar ymchwiliad y pwyllgor i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r fframwaith cyllidol. Mi liciwn i ddiolch, ar y cychwyn, i bob un, wrth gwrs, gyfrannodd at yr ymchwiliad yma, ac i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd hefyd am ei hymateb hi i'n hadroddiad ni. Fe wnaethon ni 12 argymhelliad, ac rŷn ni'n falch iawn bod y Gweinidog wedi derbyn 11 ohonyn nhw yn llawn, a'r un arall mewn egwyddor. Mi hoffwn i hefyd ddiolch i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Chomisiwn y Senedd am eu hymatebion nhw hefyd i'n hadroddiad ni.

Yn 2014, wrth gwrs, fe welon ni un o'r newidiadau mwyaf erioed yn setliad datganoli Cymru. Roedd Deddf Cymru 2014 yn darparu ar gyfer datganoli pwerau dros drethi, gan gynnwys cyfraddau treth incwm Cymru, y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Er mwyn galluogi'r pwerau yn Neddf 2014 i gael eu gweithredu, daeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gytundeb ar ffurf y fframwaith cyllidol. Mae'r fframwaith cyllidol hefyd yn trafod terfynau benthyg Llywodraeth Cymru a'i hopsiynau ar gyfer rheoli'r gyllideb, ac mae'n ymdrin â sgil-effeithiau o ran polisi a threfniadau gweithredu. Wrth i ddiwedd y Senedd hon agosáu, roedden ni yn teimlo ei bod hi'n bwysig, felly, i ni edrych ar y ffordd y cafodd y pwerau hyn eu cyflwyno, ac i edrych hefyd ar effeithiolrwydd y fframwaith cyllidol.

Fel rhan o'r ymchwiliad hwn, fe wnaethon ni estyn sawl gwahoddiad i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i roi tystiolaeth. Rŷn ni'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Gwladol sydd wedi ymgysylltu â ni ar yr ymchwiliad yma ac ynglŷn â’r adferiad ariannol yn sgil COVID-19, ond mi roedd hi'n siomedig bod y Prif Ysgrifennydd wedi gwrthod ein gwahoddiadau ni. Mae Deddf Cymru 2014 yn hanfodol i'r setliad datganoli, ac mae rolau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annatod wrth gyflawni amcanion y Ddeddf. Er ein bod ni'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Gwladol am ei gyfraniad ef, dim ond cwestiynau ynghylch ei gyfrifoldebau fe yr oedd e'n gallu eu hateb, wrth gwrs. Felly, doedden ni ddim yn gallu deall safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar nifer o faterion cyllidol pwysig, gan gynnwys y broses o ddatganoli trethi a chreu trethi newydd, tryloywder yn y broses o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch penderfyniadau cyllido a sut y gellir herio penderfyniadau o'r fath, y posibilrwydd o adolygu fformiwla Barnett, a hefyd doedd yna ddim cyfle i ni drafod cynyddu pwerau benthyg.

Yn dilyn hynny, fe ysgrifennais i at y Prif Ysgrifennydd mewn perthynas â'r materion hyn, ac fe gawsom ni ymateb neithiwr, a dweud y gwir. Yn anffodus, mae llawer o'r materion hyn yn parhau i fod heb eu datrys, ac mae'r ffaith bod y Prif Ysgrifennydd wedi gwrthod dod i gyfarfod wedi tanseilio gwerth y broses o ddatganoli cyllidol. Dyw ei lythyr ef hefyd ddim yn mynd i'r afael, gyda llaw, â sut mae'r Senedd i fod i graffu ar drefniadau cyllidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru os nad yw'r Prif Ysgrifennydd yn fodlon bod yn bresennol i ateb cwestiynau Aelodau ar y mater yma.

Fe ddechreuon ni'r ymchwiliad hwn yn ystod dyddiau cynnar y pandemig COVID-19, ac mae'r dystiolaeth a gawson ni, ochr yn ochr â'r materion ymarferol a ddaeth i'r amlwg o ran y trefniadau cyllido yn ystod y pandemig, wedi dangos bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig adolygu'r prosesau cyllido ar fyrder. Mae’r ymateb cyllidol i’r pandemig wedi arwain at swm sylweddol o arian yn cael ei wario ar lefel y Deyrnas Unedig sydd, wrth gwrs, wedyn wedi codi nifer o faterion o ran y ffordd y mae’r fframwaith cyllidol a’r fformiwla Barnett yn gweithredu yng Nghymru.

Mae’r pwyllgor yn cydnabod y lefel ddigynsail o ansicrwydd ynghylch cyllidebau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’i hadolygiad o wariant yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i ffactorau fel Brexit, etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, a’r pandemig COVID-19. Er ein bod ni'n deall yr anawsterau wrth ddarparu setliadau aml-flwyddyn o dan yr amgylchiadau presennol, rŷn ni’n pryderu bod Llywodraeth Cymru, yn ystod y tair blynedd diwethaf, wedi gorfod llunio cyllideb ddrafft ar sail dyraniad cyllidol o un flwyddyn yn unig, sydd wrth gwrs yn ei gwneud hi'n anodd i Lywodraeth Cymru wneud cynlluniau a phenderfyniadau cyllidol hirdymor. Mae hwn yn fater yr hoffem ni fod wedi ei drafod â’r Prif Ysgrifennydd. Fodd bynnag, rŷn ni yn falch bod y Gweinidog wedi cytuno â’n hargymhelliad ni i barhau i fynd i’r afael â’r angen am fwy o sicrwydd drwy ddyraniadau cyllid aml-flwyddyn ac eglurder ynghylch amseriad digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn 2019, fe argymhellodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd y Deyrnas Unedig y dylai’r Trysorlys fynd i’r afael â’r diffyg tryloywder ynghylch penderfyniadau cyllido, ac fe dderbyniodd y Trysorlys yr argymhelliad hwnnw. Fodd bynnag, fe wnaethon ni ganfod bod y trefniadau ar gyfer cyllido Cymru yn gymhleth a bod diffyg tryloywder yn eu cylch. Fe glywon ni am ddiffyg ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y cyfnod cyn yr adolygiad o wariant hefyd. Mae’r diffyg tryloywder hwn yn gwneud gwaith craffu effeithiol yn anoddach, gan ei bod yn anodd cael dealltwriaeth glir o’r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

Rŷn ni’n croesawu ymateb y Gweinidog a oedd yn nodi y byddai Llywodraeth Cymru’n cefnogi’n frwd camau i wella tryloywder y penderfyniadau cyllido ac y byddai’r Llywodraeth yn mynd hyd yn oed yn bellach drwy awgrymu y dylai trefniadau cyllido a gytunwyd ar y cyd gymryd lle’r system bresennol, gan ddod â bargeinion a chytundebau dwyochrog i ben er mwyn dod â chysondeb ac eglurder i drefniadau cyllidol yn y Deyrnas Unedig.

Yn ogystal â’n pryderon ynghylch y ffordd y caiff penderfyniadau cyllido eu gwneud, rŷn ni hefyd yn pryderu bod y broses bresennol o herio penderfyniadau drwy’r Cydbwyllgor Gweinidogol yn annigonol. Yn y bôn, Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r rheithgor a’r barnwr yn y broses hon. Rŷn ni’n credu y dylid cael proses ddyfarnu annibynnol.

Mae’r pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch hyblygrwydd cyllidol Llywodraeth Cymru mewn adroddiadau blaenorol ar gylchoedd y gyllideb. Rŷn ni’n parhau i gefnogi galwadau am hyblygrwydd ar gyfer cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i fod yn fwy strategol yn ei chynlluniau hirdymor. Mae’r pandemig presennol wedi pwysleisio’r achos o blaid hyblygrwydd fel hyn hyd yn oed yn fwy. Doedd trefniadau cyllidol Cymru ddim wedi’u dylunio ar gyfer pandemig byd-eang, ac mae’n hanfodol ein bod ni'n ystyried sut y gellir gwneud newidiadau yn sydyn, pan fydd angen gwneud hynny, i sicrhau ymatebion priodol gan lywodraethau datganoledig. Ar ôl dweud hynny, rydyn ni’n falch bod y Prif Ysgrifennydd wedi cytuno i gais Llywodraeth Cymru i gario ychydig o’i chyllid ychwanegol ar gyfer COVID ymlaen at y flwyddyn ariannol nesaf.

Er bod ymwybyddiaeth o ddatganoli cyllidol yng Nghymru yn cynyddu, fe glywon ni fod ymwybyddiaeth o drethi datganoledig yn isel ymhlith busnesau a gweithwyr proffesiynol. Hefyd, fe ddangosodd ein hymarfer ymgysylltu digidol fod ymwybyddiaeth o’r pwerau cyllidol sydd wedi’u datganoli i Gymru yn isel ymhlith y cyhoedd. Ac roedd hynny'n destun pryder penodol, y ffaith nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o gyfraddau treth incwm Cymru, er wrth gwrs bod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn eu talu nhw’n rheolaidd. Dwi'n ailadrodd y sylwadau, felly, dwi wedi eu gwneud o’r blaen yn y Siambr yma, sef bod angen i'r Llywodraeth a’r Senedd wneud mwy i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r materion yma.

Rŷn ni’n falch bod y Gweinidog yn cytuno ei bod hi’n bwysig parhau i godi ymwybyddiaeth o drethi Cymru a’i bod yn cefnogi’r rôl bwysig sydd gan y Senedd o ran addysgu, ymgysylltu a hysbysu’r cyhoedd yng Nghymru ynghylch datganoli cyllidol. Rwy’n falch o glywed hefyd gan Gomisiwn y Senedd fod codi ymwybyddiaeth yn rhan o strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu'r Comisiwn ac y bydd yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ar y mater hwn.

Roedd tystiolaeth a ddaeth i law yn awgrymu y dylid adolygu’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, ac mai nawr yw’r amser i Gymru roi ar waith trefniadau trethu mwy blaengar. Mae’r pwyllgor yn croesawu gwaith Llywodraeth bresennol Cymru i ymchwilio i ddichonolrwydd disodli’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig a rhoi treth gwerth tir lleol yn eu lle, yn ogystal â’i hymrwymiad i archwilio sut y byddai ailbrisio a diwygio’r dreth gyngor yng Nghymru yn effeithio ar y sylfaen drethu ac incwm aelwydydd er mwyn gwneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar.

Fe roddodd Deddf 2014 yr hawl i Lywodraeth Cymru ofyn am y cymhwysedd i gyflwyno trethi newydd ac fe ofynnodd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gymhwysedd dros dreth ar dir gwag nôl yn 2018, ond erbyn Cyfarfod Llawn olaf y bumed Senedd yma heddiw, dyw’r cymhwysedd hwnnw'n dal ddim wedi’i ddatganoli. Yn wir, fe glywon ni nad yw profiad Llywodraeth Cymru hyd yma o geisio cymhwysedd dros bwerau trethu ychwanegol wedi bod yn rhwydd nac yn syml. Er ein bod ni’n cydnabod y gallai’r dreth newydd gymryd yn hirach oherwydd y camau sy’n rhaid eu cymryd i sicrhau bod y broses yn un esmwyth, dyw’r dreth hon ddim yn un hynod ddadleuol, ac rwy’n siŵr nad oedd yr un ohonom ni’n disgwyl i’r broses gymryd cyhyd.

Fe ofynnon ni i’r Ysgrifennydd Gwladol a yw’r broses ar gyfer datganoli’r cymhwysedd dros gyflwyno trethi newydd yng Nghymru yn addas i’r diben, ac rŷn ni’n gwerthfawrogi’r ffaith ei fod e yn fodlon trafod y mater yma â’r Trysorlys, ond, wrth gloi, mae’n rhaid pwysleisio unwaith eto mai dyna'n union pam yr oeddem ni’n awyddus i siarad â’r Prif Ysgrifennydd ei hun yn uniongyrchol, gwahoddiad, wrth gwrs, y mae e wedi'i wrthod. Diolch.

16:40

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd am ei gyflwyniad. Dylwn ddweud hefyd ein bod wedi bod yn ddiolchgar am ei arweinyddiaeth drwy gydol y Senedd hon hefyd, oherwydd, ers iddo ddod yn Gadeirydd, mae wedi arwain y pwyllgor fel Cadeirydd mewn ffordd sydd wedi dangos grym y system bwyllgorau a phŵer ei esiampl ei hun fel Cadeirydd. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am hynny, ac yn ddiolchgar hefyd i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor a staff ymchwil am eu gwaith caled.

Gobeithio eu bod yn gwybod ei fod yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Yn ei gyflwyniad, gwnaeth y Cadeirydd ein pwyntiau'n glir iawn, a chredaf fod adroddiad y pwyllgor yn glir yn ei gasgliadau, ac nid oes angen fawr o esboniad pellach ar lawer o'r pwyntiau a wnaethpwyd yn yr adroddiad hwnnw a'r argymhellion y cytunwyd arnynt gan y pwyllgor. Fel aelodau eraill o'r pwyllgor, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am eu hymagwedd hael tuag at yr adroddiad ac am dderbyn rhai o'n hargymhellion allweddol.

Mae'r pwyllgor yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar weithredu'r trethi newydd a ddatganolwyd i'r lle hwn. Mae'n ymddangos bod yr holl strwythurau treth newydd wedi'u hymgorffori'n gymharol hawdd a heb fawr ddim aflonyddwch, os o gwbl. Nid wyf wedi gweld fawr ddim tystiolaeth, os o gwbl, fod ein sefydliadau neu'r trethdalwyr wedi profi anawsterau o ganlyniad i'r newidiadau i'r system drethu, ac mae hyn yn bwysig, oherwydd mae'n dangos y gallwn newid strwythurau treth y Deyrnas Unedig yn sylfaenol a gwneud hynny heb yr aflonyddwch y mae llawer o bobl yn ei ofni ac y mae rhai gwleidyddion yn sicr yn ceisio'u cymell a chreu'r ofnau hynny. Mae wedi'i wneud yn gymharol syml a chymharol hawdd, a'i wneud am y tro cyntaf yn y ffordd honno, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt sylfaenol bwysig i'w wneud.

Ceir un agwedd nad yw wedi gweithio, wrth gwrs, sef y broses a ddisgrifiwyd gan y Cadeirydd yn rhan olaf ei sylwadau ynghylch trethiant newydd. Nid yw wedi gweithio oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi ei atal rhag gweithio, ac rwy'n credu bod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â hynny hefyd. Mae rhai ohonom, Ddirprwy Lywydd, yn ddigon hen i gofio dyddiau ofnadwy'r Gorchmynion cydsyniad deddfwriaethol a'r cynigion y treuliasom amser yn eu trafod yn Senedd 2007. Mae arnaf ofn ein bod yn dychwelyd at y dyddiau hynny heb ddysgu dim o wersi'r dyddiau hynny, ac yn sicr mae'n rhoi cyfle i'r rheini sydd ag awydd penodol i lesteirio ewyllys pobl Cymru, ewyllys Llywodraeth Cymru ac ewyllys ein Senedd, a chredaf fod hynny'n rhywbeth rydym yn ei weld yn digwydd ar hyn o bryd. Ond rydym yn bwriadu cymryd rhan yn y ddadl hon.

Hoffwn droi fy sylw hefyd at yr ohebiaeth a gawsom y bore yma gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys. Mae'n llythyr eithriadol mewn sawl ffordd, Ddirprwy Lywydd. Mae ar wahanol adegau yn haerllug, yn arwynebol, yn fawreddog, yn nawddoglyd, yn sarhaus, yn ddirmygus, yn rhwysgfawr—gallwn barhau, ond nid wyf am brofi amynedd pawb drwy wneud hynny. Ond yn fwy na dim, mae'n ymateb cwbl annigonol i'r materion a godwyd gan y pwyllgor, ac mewn sawl ffordd, mae'n tanlinellu'r pwyntiau a wnaethpwyd yn gynharach heddiw gan dri Gweinidog cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n gwneud yr achos yn fwy pwerus nag y gallwn i ei wneud dros ailwampio fframwaith cyllidol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol. Ddirprwy Lywydd, gwrandewch ar yr iaith a ddefnyddir gan yr Ysgrifennydd cyllid yn y llythyr hwn. Ym mharagraff 10, 'Hyblygrwydd ariannol':

Rwyf wedi darparu hyblygrwydd ychwanegol sylweddol eleni,

meddai—'Rwyf wedi darparu'. Ac mae'n parhau ym mharagraff 11:

Darparais warant ddigynsail o gyllid ymlaen llaw.

Ac mae'n parhau:

Cytunais hefyd y gallai Llywodraeth Cymru gario cyllid sy'n seiliedig ar Barnett yn ei flaen.

Mae hyn yn dangos yn glir nad oes sgwrs, dim negodi, dim democratiaeth, a fawr ddim atebolrwydd yn ein fframweithiau ariannol a'n strwythurau ariannol yn y Deyrnas Unedig. Rhaid bod hyn yn annerbyniol i unrhyw un sy'n credu yn nyfodol y Deyrnas Unedig a dyfodol democratiaeth ac atebolrwydd yn y Deyrnas Unedig. Ni all strwythurau ariannol y DU a'r berthynas rhwng y Llywodraethau ar yr ynysoedd hyn gael eu pennu gan fympwy un Gweinidog, pwy bynnag y mae'r Gweinidog hwnnw'n credu ydyw. Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio—sylwais ar yr wyneb hwnnw, fe fyddaf yn gyflym—y byddwn yn gallu gweld yr adroddiad hwn nid fel pen draw, ond fel man cychwyn ar gyfer strwythurau ariannol y Deyrnas Unedig a diwygio ac adfywio democrataidd.

Wrth gloi, rwy'n dymuno ymddeoliad hir a hapus iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn gweld colli rhoi prawf ar eich amynedd os caf fy ailethol i'r Senedd nesaf.

16:45

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud y byddaf yn siŵr o weld colli eich herio i gadw at yr amser? Ond dyna ni; rwy'n credu i mi fethu yn hynny o beth. Mark Isherwood.

Diolch. Fel y dywed ein hadroddiad, mae Deddf Cymru 2014 yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol i ddatganoli pwerau trethu a benthyca i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr oedd bryd hynny—Senedd Cymru erbyn hyn—a Llywodraeth Cymru. Roedd y pwerau hyn yn rhoi arfau pellach i Lywodraeth Cymru amrywio lefel y dreth a gwariant yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr 2016, cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol newydd, a oedd yn benodol yn cefnogi datganoli treth tir y dreth stamp, y dreth trafodiadau tir erbyn hyn, treth tirlenwi, y dreth gwarediadau tirlenwi erbyn hyn, a chreu cyfraddau treth incwm Cymreig. Mae ein hadroddiad yn datgan bod

'y dystiolaeth a roddwyd i'r ymchwiliad, ochr yn ochr â'r materion bywyd go iawn a brofwyd gyda'r trefniadau cyllido drwy gydol pandemig COVID-19 wedi dangos bod angen i'r mecanweithiau cyllido gael eu hadolygu ar frys gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.'

Er bod cyllideb Llywodraeth Cymru o tua £18 biliwn y flwyddyn yn cael ei hariannu'n bennaf drwy'r grant bloc a dderbynnir gan Drysorlys y DU, mae tua 20 y cant bellach yn cael ei ariannu o refeniw treth ddatganoledig, ac mae'n hanfodol fod hwn yn cynyddu atebolrwydd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru. Fel y dywed ein hadroddiad, 

'Defnyddir Fformiwla Barnett i gyfrifo newidiadau i’r grant bloc yn seiliedig ar
gynnydd neu ostyngiad yng ngwariant Llywodraeth y DU mewn meysydd lle
mae’r ddarpariaeth gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru wedi’i datganoli'

ac

'wedi bod yn destun galwadau am ddiwygio ers amser maith'.

Fe'i haddaswyd fel rhan o gytundeb fframwaith cyllidol Cymru i gynnwys ffactor sy'n seiliedig ar anghenion, gan roi o leiaf £115 y pen i Lywodraeth Cymru am bob £100 y person o gyllid cyfatebol yn Lloegr, gan gydnabod yn benodol yr angen am wariant lefel uwch yng Nghymru. Fodd bynnag, cadarnhaodd adolygiad o wariant y DU yn 2020 y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £123 y pen yn 2021-22 am bob £100 y pen yn Lloegr, sy'n cyfateb i tua £1 biliwn yn fwy nag y cytunodd Llywodraeth Cymru ei fod yn deg i Gymru o'i gymharu â Lloegr. Mae ein hadroddiad yn datgan

'Cynigiwyd y byddai adolygiad cyfnodol o anghenion cymharol yng Nghymru yn cadw’r ffactor sy’n seiliedig ar anghenion yn gyfredol er mwyn sicrhau bod Cymru’n cael cyllid priodol. Mae’r potensial ar gyfer adolygu fformiwla Barnett yn faes y mae’r Pwyllgor yn bwriadu ei drafod ymhellach gyda’r Ysgrifennydd Gwladol.'

Fodd bynnag, fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru pan holwyd ef am hyn bythefnos yn ôl,

ar hyn o bryd rydym yn gweithio o fewn system y cytunwyd arni gan Lywodraeth Cymru, ac felly, yn ein barn ni, mae'n ddiangen ailedrych arni. Yn y bôn, yr hyn y gallwn ei wneud gyda rhywfaint o'r arian a'r mentrau y buom yn sôn amdanynt y bore yma yw cael llawer mwy ar ben yr hyn y mae Barnett yn ei ddarparu, ac unwaith eto, credaf fod hwnnw'n gam cadarnhaol iawn ymlaen i Gymru

a

Gwnaeth y Trysorlys yn sicr fod y symiau canlyniadol Barnett ar gael ymlaen llaw, gan gydnabod y byddai peidio â gwneud hynny ond yn creu oedi yn y system ac felly'n atal gallu Llywodraeth Cymru i gael arian i leoedd sydd ei angen ar frys.

Yn ei hymateb i'n hadroddiad, fel y clywsom, derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un ond un o'i 12 argymhelliad yn ymwneud â datganoli cyllidol a threthi Cymreig. Fodd bynnag, derbyniodd mewn egwyddor yn unig argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â'r argymhelliad a dderbyniwyd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd y DU yr eir i'r afael â'r diffyg tryloywder ynghylch penderfyniadau ariannu, gan ddweud, er y byddai'n llwyr gefnogi mwy o dryloywder ynghylch penderfyniadau ariannu, mai mater i Drysorlys EM yw sicrhau ei fod yn bodloni unrhyw ymrwymiadau a wnaed i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd y DU.

Ar ôl i mi ofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol yn y pwyllgor bythefnos yn ôl pa ymgysylltiad a gafodd â Llywodraeth Cymru neu'r Trysorlys ynghylch yr honiadau gan Lywodraeth Cymru nad yw'r mecanwaith ar gyfer datganoli cymhwysedd i gyflwyno trethi newydd i Gymru yn addas at y diben, dywedodd y byddai'n hapus iawn i godi hynny gyda'r Trysorlys. Fel y dywed Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ei ymateb i adroddiad y pwyllgor, mae fframwaith gwariant y DU

wedi'i gynllunio i alluogi Llywodraeth y DU i reoli gwariant ar sail blwyddyn ariannol, gan gynnwys effaith gwariant Llywodraeth Cymru.

Dywedodd ei fod wedi darparu

hyblygrwydd ychwanegol sylweddol eleni i gydnabod yr heriau a wynebir

ac mae'n

cytuno y gallai Llywodraeth Cymru gario unrhyw gyllid sy'n seiliedig ar Barnett uwchlaw'r £5.2 biliwn gwarantedig ymlaen i 2021-22 yn ogystal ag unrhyw ad-daliadau rhyddhad ardrethi busnes—hyn oll ar ben trefniadau Cronfa wrth Gefn Cymru.

Fel y dywed hefyd fodd bynnag, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r adnodd ychwanegol y mae'n ei gael o'r fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion yn effeithiol, ac

mae'r trefniadau ar gyfer addasu'r grant bloc yn helpu i gynyddu ymreolaeth ac atebolrwydd Llywodraeth Cymru, tra'n eu hamddiffyn rhag effeithiau DU gyfan,

pwynt allweddol a hollbwysig. Diolch.

16:50

Mae yna lawer i'w groesawu yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid yma. Mi wnaf i nodi nad ydw i'n aelod o'r pwyllgor ers peth amser erbyn hyn, ond mi hoffwn i ddiolch i Llyr Gruffydd am ei waith o yn cadeirio'r pwyllgor, ac i'r tîm, dwi'n gwybod, sydd yn ei gefnogi fo o ran y tîm clercio. Dwi wedi colli cael bod ar y pwyllgor yna.

O ystyried bod Deddf 2014 wedi bod yn weithredol ers pum mlynedd, a'n bod ni'n edrych ymlaen tuag at gyfnod o ailadeiladu ar ôl COVID, mae hwn yn amser da, dwi'n meddwl, i adolygu lle rydyn ni'n sefyll pan mae'n dod at bwerau ffisgal y Llywodraeth. Ar bapur, o leiaf, mae hwn wedi bod yn gyfnod arwyddocaol iawn o ran datblygiad pwerau a gallu ffisgal Llywodraeth Cymru. Mi oedd o'n gam hynod arwyddocaol ymlaen ein bod ni fel Senedd yn gyfrifol nid dim ond am wario arian yng Nghymru, ond am godi'r arian yna, ac wrth gwrs dyna'r sefyllfa rydyn ni eisiau bod ynddi hi.

Dwi'n cofio, pan drafodwyd y graddfeydd Cymreig o dreth incwm am y tro cyntaf yn y Senedd, mi ddywedais i ac eraill ein bod ni'n edrych ymlaen at weld sut y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau dros drethiant, ac dwi'n meddwl ei bod hi'n deg i ddweud mai cyfyngedig fu'r datblygiadau. I fod yn deg, mae'r ymdrechion diweddar i gyflwyno treth tir gwag wedi cael eu gwneud yn anoddach drwy amharodrwydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dwi'n meddwl, i gydweithio ar gyflwyno hynny. 

Ond os ydym ni'n edrych ar rywbeth fel treth cyngor, ychydig iawn mewn difrif sydd wedi cael ei wneud i fynd i'r afael â'r annhegwch rydym ni'n gwybod sydd yn bodoli efo treth cyngor, ac mae'r adroddiad yma yn cyfeirio at hynny. Do, mae'r Llywodraeth wedi cymryd rhai camau i liniaru pan mae'n dod at effaith treth cyngor ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas, ond ychydig sydd wedi'i wneud o hyd er mwyn adolygu a diwygio'r dreth ei hun. Mi ddywedodd y Gweinidog yr wythnos diwethaf y byddai unrhyw ddiwygiadau yn cymryd tymor cyfan o'r Senedd—ac, wrth gwrs, mae hynny'n iawn; mae'n dasg enfawr—ond mae yna fwy o siawns o gyrraedd pen eich taith os ydych chi'n cychwyn ar y daith honno mewn difrif. Oes, mae yna waith ymchwiliadol wedi bod yn mynd ymlaen. Mae yna beth astudio mapiau, os liciwch chi, wedi bod, ond mae'r handbrec yna'n dal ymlaen yn dynn. Dwi'n atgoffa'r Senedd eto o'r dystiolaeth sydd yna gan yr IFS, er enghraifft, am y problemau efo treth cyngor—y 10 y cant tlotaf mewn cymdeithas yn talu rhyw 8 y cant o'u hincwm mewn treth cyngor, a'r 40 y cant mwyaf cyfoethog yn talu dim ond 2 y cant. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hwn ar fyrder. 

Yn symud ymlaen, mae'r pandemig wedi tanlinellu eto, onid yw, pa mor anaddas ydy'r cytundeb ffisgal presennol. Dwi, wrth gwrs, a Phlaid Cymru, yn cytuno efo canfyddiadau'r pwyllgor bod angen cynyddu ffiniau benthyg, ac y byddai hi'n dda o beth gweld rhagor o hyblygrwydd yn cael ei gyflwyno o ran gallu'r Llywodraeth i dynnu arian lawr o'r gronfa wrth gefn, er enghraifft. Dwi'n meddwl bod y diffyg hyblygrwydd yna, fel sydd wedi cael ei nodi droeon, wedi bod yn broblem yn ystod y flwyddyn eithriadol ddiwethaf yma, ac wedi atal y Llywodraeth rhag gallu gweithredu mewn ffordd dwi'n gwybod y byddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru eisiau gallu ei wneud. Ond hefyd, ar y llaw arall, mae'n bwysig nodi, hyd yn oed efo'r pwerau cyfyngedig sydd gennym ni, bod Gweinidogion ar brydiau wedi methu â defnyddio'r rheini, a beth rydyn ni angen dwi'n meddwl, fwy nag erioed, ydy Llywodraeth sydd yn barod i wthio ffiniau'r cytundeb ffisgal presennol. Dwi'n gweld ychydig iawn o dystiolaeth bod y Llywodraeth Lafur yma'n wirioneddol eisiau gwthio'r ffiniau yna. 

O edrych ar argymhelliad 10 yn yr adroddiad, mae hynny yn rhoi pwyslais ar y mater rydyn ni'n ymwybodol ohono fo ers talwm, sydd wedi dod yn fwy amlwg yn ddiweddar, sef yr angen am fwy o sicrwydd amlflwyddyn neu multi-year funding allocations. Dwi'n gobeithio y gallwn ni gyd gytuno ar yr angen am eglurder hefyd ar amseru prif ddigwyddiadau ffisgal Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ydy, mae COVID wedi bod yn sbaner yn y wyrcs yn hynny o beth, ond wrth symud ymlaen mae angen i hyn fod yn flaenoriaeth, dwi'n meddwl, ar gyfer gwella'r sefyllfa bresennol.

Fel mae'r adroddiad yn pwyntio allan, mae ymgysylltu cyhoeddus ar faterion ffisgal yn bwysig iawn hefyd. Mae angen i waith diweddar sydd wedi cael ei wneud i gynyddu ymwybyddiaeth o'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru rŵan y gallu i amrywio trethi barhau i mewn i'r Senedd nesaf, fel mae argymhellion 1 a 2 yn eu nodi. Ac i gloi, Dirprwy Lywydd, yn y Senedd nesaf dwi'n meddwl bod yna lawer o waith sydd angen ei wneud er mwyn gwella gallu a chapasiti ffisgal Llywodraeth Cymru. Wrth i ni ddod allan o'r pandemig rŵan mi fydd angen i'r Llywodraeth nesaf fod yn barod, fel dwi'n dweud, i wthio ffiniau'r cytundeb presennol a bod yn barod i ddefnyddio'r pwerau sydd ganddi lle mae hi'n briodol i wneud hynny. 

16:55

Mae wedi bod yn fraint cael eistedd fel aelod o Bwyllgor Cyllid Senedd Cymru, ac mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â gwaith y pwyllgor hwn yn edrych ar Ddeddf Cymru 2014, deddf a arweiniodd at y newidiadau mwyaf i setliad datganoli Cymru mewn dros 800 o flynyddoedd. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd am ei waith caled ac i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor am gydweithio'n ddyfal, er gwaethaf gwahaniaethau ideolegol a gwleidyddol, ac rwy'n codi fy het ddiarhebol i'r Cadeirydd yn hyn o beth.

Roedd yn galonogol clywed tystiolaeth fod gweinyddu trethi datganoledig yn gweithio'n dda, gan gynnwys gweinyddiaeth Awdurdod Cyllid Cymru, sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o weithredu trethi Cymreig yn llwyddiannus. Fodd bynnag, fel y dywedwyd, ceir materion y mae'r adroddiad hwn yn ceisio tynnu sylw atynt—materion sydd o bwys mawr i Gymru. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar gasgliad 5 yr adroddiad, sef:

'ynghyd â’r angen am dryloywder ar gyfer y penderfyniadau cyllido a wneir gan Lywodraeth y DU, mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen proses annibynnol ar gyfer herio’r penderfyniadau hyn.'

Nodaf er gwybodaeth baragraff 276 o'r adroddiad sy'n datgan bod y pwyllgor

'yn pryderu am y mecanwaith a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU i wneud penderfyniadau cyllido a’r broses i Lywodraeth Cymru herio penderfyniadau o’r fath. Mae angen tryloywder ar gyfer y penderfyniadau cyllido a wneir gan Lywodraeth y DU, ac mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen proses annibynnol ar gyfer herio’r penderfyniadau hyn—nid yw’r llwybr presennol o herio penderfyniadau drwy Gyd-bwyllgor y Gweinidogion yn foddhaol gan nad yw’n ddyfarniad annibynnol.'

Wrth i ddatganoli yng Nghymru aeddfedu, 21 mlynedd wedi iddo ddod i fodolaeth, mae'r angen i Lywodraeth y DU ddangos mwy o barch tuag at bwerau Senedd Cymru, a dealltwriaeth ohonynt, yn amlwg iawn. Ac yn fyr, os caf, roedd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Gymru—ac rwy'n pwysleisio 'dros'—yn ŵr digon hoffus yn wir, ond methodd ateb y cwestiynau a ofynnwyd yn llwyr. Er hynny, a bod yn deg, methodd prif swyddog y Trysorlys ymddangos ger bron y pwyllgor ac ymhellach, ymddengys ei fod wedi methu sicrhau unrhyw dryloywder i'n gwaith craffu o Gymru drwy'r post. Ac ar adeg dyngedfennol pan fo'r DU yn gadael yr UE a'r DU yn adfer cronfeydd strwythurol yr UE, mae hyn, yn fy marn i, yn sarhad sylfaenol ar y lle hwn, ac mae'n cryfhau virement ymreolaeth ariannol blaenorol Cymru yn ôl i Whitehall. Enghraifft o hyn—ac yn groes i eiriau'r Ysgrifennydd Gwladol—yw bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, amcan 1, 2, 3 a 4 yn flaenorol, heb gael ei gynnwys yng nghylchoedd ariannu diweddaraf y DU. Felly, bydd yn fater a fydd, mae'n siŵr, yn codi yn yr etholiad sydd i ddod ac yn chweched Senedd Cymru, pan gaiff ei hethol—mater o bwys mawr i Gymru.

17:00

Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron. Mae cyflwyno trethi Cymreig, ymestyn pwerau benthyca, a gweithredu'r fframwaith cyllidol wedi bod yn ddatblygiadau sylweddol ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn adlewyrchiad amserol o'r hyn a gyflawnwyd hyd yma, ac yn bwysicach, o'r hyn sydd i'w wneud o hyd. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at amrywiaeth o faterion allweddol, a materion ar gyfer y tymor hwy mewn llawer o achosion. Rwy'n falch o dderbyn 11 o'r 12 argymhelliad a derbyn mewn egwyddor argymhelliad 11, sy'n dweud mai Cyfrifoldeb Trysorlys EM yw cyflawni.

Mae argymhellion 1 i 3 yn mynd i'r afael â'r mater heriol o godi ymwybyddiaeth o drethi Cymreig ymhlith dinasyddion a sefydliadau. Er bod y cynnydd o 14 y cant mewn ymwybyddiaeth o gyfraddau treth incwm Cymreig yn galonogol, cytunaf y dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddatblygu'r gwaith hwn, gan ymgysylltu, lle bo'n briodol, â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a'r Senedd.

Fel yr adlewyrchir yn argymhelliad 4, ceir rhyng-gysylltiadau pwysig rhwng trethiant a pholisïau eraill, ac un o'r rhai mwyaf allweddol yw'r ffordd rydym yn cryfhau sylfaen drethi Cymru. Rhoddir crynodeb o waith diweddar Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn fy adroddiad diweddaraf ar bolisi treth yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn. Fodd bynnag, bydd hon yn parhau i fod yn ystyriaeth bwysig ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n falch bod y pwyllgor yn cytuno, yn argymhelliad 5, y dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau deddfwriaethol i weithredu'n gyflym a lle bo angen i ymateb i newidiadau i'r polisi treth. Dylai'r hyblygrwydd hwn atal colli refeniw treth a gwyrdroi ymddygiad economaidd. 

Mae fy ymateb ysgrifenedig i argymhelliad 6 yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o archwilio dichonoldeb cael treth gwerth tir leol yn lle'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Rhoddir rhagor o fanylion yn fy adroddiad, 'Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru: Crynodeb o'r Canfyddiadau', a gyhoeddais ddiwedd mis Chwefror.

Yn fy ymateb ysgrifenedig, roeddwn yn falch o nodi barn Llywodraeth Cymru ar ddatganoli treth ar enillion cyfalaf i Gymru, fel y gofynnwyd amdani yn argymhelliad 7. Mae pryderon am ganlyniadau anfwriadol, heriau ymarferol, a'r effaith bosibl ar ffrydiau refeniw Cymru, ynghyd â'n profiad hyd yma o'r broses o ddatganoli trethi newydd, yn golygu nad yw hon yn dreth y bwriadwn geisio ei datganoli ar yr adeg hon.

Mewn ymateb i argymhelliad 8, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill ar lunio set ddata incwm hydredol a fyddai'n ein galluogi i olrhain effeithiau cyfraddau treth incwm Cymreig. Disgwyliwn i CThEM ddatblygu hyn yn ystod y chwe mis nesaf. Rwyf wedi darparu ymateb ysgrifenedig i argymhelliad 9 sy'n gofyn sut rydym yn adolygu gwaith CThEM i leihau gwallau codio. Er fy mod wedi bod yn falch o weld y gostyngiad yn nifer y gwallau dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, bydd hwn yn parhau i fod yn fater pwysig i'w fonitro. Mae argymhellion 10 ac 11 yn adlewyrchu rôl a chyfrifoldebau pwysig Llywodraeth y DU i roi eglurder a sicrwydd i Lywodraeth Cymru ynghylch cyllid. Rydym yn parhau i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU dros adolygiadau gwariant aml-flwydd a mwy o sicrwydd a rhybudd ynghylch amseriad digwyddiadau cyllidol y DU, fel y nodir yn argymhelliad 10. Cytunaf yn llwyr ag argymhelliad 11 y pwyllgor y dylid cael mwy o dryloywder ynghylch penderfyniadau ariannu. Fodd bynnag, cyfrifoldeb Trysorlys EM yw cyflawni ei ymrwymiadau i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mewn ymateb i argymhelliad 12, rwy'n derbyn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyfrifiadau o'r symiau canlyniadol a gafwyd yn sgil cyhoeddiadau gwariant Llywodraeth y DU. Er, fel yr amlygwyd yn fy ymateb ysgrifenedig, yn aml gall diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU ei gwneud yn anodd amcangyfrif yr effaith y tu allan i ddigwyddiadau cyllidol.

Hefyd, rwy'n croesawu'r pum casgliad y daeth y pwyllgor iddynt yn ei adroddiad. Rwy'n ategu ei ganmoliaeth i Awdurdod Cyllid Cymru, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn y broses o gyflwyno trethi Cymreig, yn enwedig llwyddiant ei fuddsoddiad technolegol. Rwy'n falch o nodi ystyriaeth y pwyllgor fod strategaeth dreth Llywodraeth Cymru wedi sicrhau, ar y cyfan, fod trethi Cymreig yn deg i'r busnesau a'r unigolion sy'n eu talu, ac mae hon yn egwyddor allweddol ar gyfer trethi Cymreig. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y pwyllgor i gynyddu terfynau benthyca cyfalaf, mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio cronfa wrth gefn Cymru a mwy o dryloywder mewn penderfyniadau ariannu a wneir gan Lywodraeth y DU, ac mae'r rhain i gyd yn feysydd rydym wedi bod yn mynd ar eu trywydd gyda Llywodraeth y DU.

Hoffwn hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor nad wyf eto wedi cael ymateb i fy llythyr at Lywodraeth y DU ynglŷn â sefydlu porthladdoedd rhydd yng Nghymru, llythyr a anfonais ar 4 Chwefror. Roedd y llythyr yn mynegi parodrwydd Llywodraeth Cymru i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU ac yn nodi'r amodau y byddai angen eu bodloni. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau ein hymrwymiadau i waith teg ac y byddai gwaith diogelu'r amgylchedd yn cael ei gynnal a sicrwydd y byddai unrhyw borthladd rhydd yng Nghymru yn cael yr un lefelau ariannu ag a ddarperir yn Lloegr, ac rwy'n siomedig nad wyf wedi derbyn ymateb eto.

Felly, i gloi, Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Cyllid am ei adroddiad ac am y ffordd drylwyr ac adeiladol y mae wedi ymgymryd â'i rôl yn craffu ar y modd y cafodd pwerau Deddf Cymru 2014 eu gweithredu dros y pum mlynedd diwethaf. Diolch yn fawr. 

17:05

Diolch. Nid oes unrhyw Aelod wedi dweud eu bod yn dymuno gwneud ymyriad, ac felly galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr iawn. Dwi eisiau diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad, wrth gwrs, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl yma. Dwi eisiau diolch yn arbennig, hefyd, i'r Gweinidog, nid yn unig am ei hymateb hi heddiw, ond am y modd y mae hi wedi ymwneud â gwaith y pwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf. Mae yn sicr wedi cyfoethogi a bod yn help mawr i'n hystyriaethau ni fel pwyllgor. A gan fod Aelod neu ddau wedi cyfeirio at y Dirprwy Lywydd, dwi'n awyddus i ategu'r dymuniadau gorau a diolch i chi, hefyd, am y cyfraniad mawr rŷch chi wedi'i wneud i waith y Senedd yma dros nifer o flynyddoedd. Yn sicr, mi fydd yna golled ar eich ôl chi.

Jest i bigo lan ar un neu ddau o'r sylwadau'n sydyn, o fewn y cyfyngiadau amser. Mae'n glir bod y broses o ofyn am gymhwysedd dros drethi newydd ddim yn gweithio. Tair blynedd, fel yr oeddwn i'n ei ddweud wrth agor y ddadl, ar ôl gofyn am gymhwysedd dros dreth ar dir gwag, dŷn ni dal ddim callach; dŷn ni ddim yn teimlo ein bod ni fymryn yn nes i'r lan. Ac, os oes yna fwriad am resymau gwleidyddol i wrthod, wel, dywedwch hynny, Lywodraeth y Deyrnas Unedig, achos mae rhywun yn teimlo weithiau ein bod ni'n mynd rownd mewn cylchoedd. Os oes yna broblemau ac os oes yna gwestiynau dilys i'w gofyn, gofynnwch nhw, neu, fel arall, dywedwch yn syth beth yw'ch bwriad chi.

Mae ambell Aelod wedi cyfeirio at y ffaith bod y pandemig, wrth gwrs, wedi amlygu rhai o'r gwendidau yn y trefniadau cyllidol. Wel, gadewch inni felly roi'r rheini mewn trefn. Un o'r pethau sydd wedi fy siomi i fwyaf, a dweud y gwir, dros y flwyddyn ddiwethaf yw ein bod ni'n cael un dehongliad o beth maen nhw'n ei ddyrannu i Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac ein bod ni'n cael dehongliad gwahanol iawn o beth maen nhw'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. A dyw hynny ddim yn adlewyrchu'n dda ar ddim un o'r ddwy Lywodraeth, heb sôn, wrth gwrs, am y fframwaith cyllidol a'r setliad datganoli. Mae e i gyd yn amlygu, yn fy marn i, pa mor annigonol yw'r trefniadau sydd yn eu lle.

Nawr, mae arwyddocâd cyfansoddiadol yr adroddiad a'r ddadl yma, i fi, yn mynd i galon datganoli, ac mae e yn sicr yn mynd i galon y berthynas weithredol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru. Gallaf i ddim ond pwysleisio y bydd yn rhaid cymryd camau ychwanegol, wrth gwrs, yn ystod y chweched Senedd, i gefnogi'r gwaith o ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rŷn ni fel pwyllgor wedi awgrymu, yn ein hadroddiad gwaddol, bod y Pwyllgor Cyllid nesaf yn gweithio gyda'r Llywodraethau datganoledig eraill a chyda Phwyllgor Materion Cymreig San Steffan er mwyn trio annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymgysylltu yn well â'r darnau hynny o waith sy'n berthnasol iddyn nhw; dŷn ni ddim yn disgwyl iddyn nhw ddod ger ein bron ni bob tro rŷm ni'n teimlo ein bod ni eisiau clywed ganddyn nhw. Ond yn sicr pan dŷn ni'n sôn am Ddeddf Cymru 2014 a'r fframwaith cyllidol, mae rôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwbl greiddiol i'n hystyriaethau ni ynglŷn â sut mae'r broses a'r trefniadau hynny'n gweithio neu beidio.

Nawr, mae craffu ar faterion cyllidol yn un o'n cyfrifoldebau mawr ni fel Aelodau o'r Senedd, a dwi eisiau diolch o waelod calon i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor dros y bum mlynedd ddiwethaf. Mae hefyd wedi bod yn fraint cael cadeirio y Pwyllgor Cyllid. Ond dwi yn cadw'r diolch olaf a'r diolch mwyaf i'r rhai sydd wedi gweithio y tu ôl i'r llenni, y rhai sydd wedi gweithio'n dawel o'r golwg i gefnogi'n gwaith ni ar y pwyllgor. Ac mae'r tîm clercio, tîm clercio'r pwyllgor, o dan arweiniad Bethan Davies, a thîm ymchwil y Senedd wedi bod yn gefn mawr inni fel Aelodau ac wedi sicrhau bod gwaith y pwyllgor yn raenus ac yn effeithiol bob tro. Gwnaf gloi, felly, drwy ddweud wrthyn nhw yn benodol, ar ran holl aelodau presennol ac aelodau blaenorol y Pwyllgor Cyllid, diolch o galon i chi i gyd.

17:10

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

19. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yma'

Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yn hyn', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig hwnnw, Nick Ramsay.

Cynnig NDM7667 Nick Ramsay

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yma', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw.

Mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i Gadeiryddion pwyllgorau ddechrau trafod sut y dylai'r Senedd fynd ati i graffu ar adroddiadau statudol Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy'n ystyried gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ond pan fyddaf yn cymharu'r adeg honno â nawr, caf fy nharo gan faint y mae tirwedd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi newid, yn bennaf oherwydd ein bod ni i gyd wedi gorfod dod i delerau ag effaith ddinistriol pandemig byd-eang.

Cyn i mi siarad am ein canfyddiadau allweddol, hoffwn gofnodi diolch y pwyllgor i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad mewn cyfnod mor heriol. Yn benodol, hoffwn ddiolch yn arbennig i'r canlynol: swyddogion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a roddodd dystiolaeth mor werthfawr i ni ar anterth ail don y pandemig; myfyrwyr o Goleg Gwent ac INSPIRE Training Wales yn Abertawe, a fu'n trafod ac yn cyflwyno eu barn i ni ar yr adeg pan oedd dysgu wyneb yn wyneb yn amhosibl. Hoffwn ddiolch hefyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddodd eu hadroddiad eu hunain ar weithredu'r Ddeddf hon, ac am gytuno i gyflwyno eu canfyddiadau allweddol i ni ar ffurf gryno. Cafodd cyfanswm o 97 o sefydliadau eu bwydo i mewn i'r ymchwiliad—ffigur y teimlem ei fod yn dyst i gryfder y teimladau am y ddeddfwriaeth hon.

Er mai ychydig iawn o bobl a fyddai'n gwrthwynebu'r hyn y mae'r Ddeddf hon yn ceisio'i gyflawni, roedd llawer yn amheus ai deddfwriaeth oedd y ffordd gywir o'i gyflawni, ac mae'n dal yn wir fod llawer yn amheus a yw'n ei chyflawni. Fodd bynnag, nid yw amheuaeth yn ddigon da mwyach os ydym am lunio dyfodol gwell i genedlaethau'r dyfodol.

Dylwn ddechrau drwy ddweud bod hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn effeithio ar bob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, ac mae gwahanol gyrff cyhoeddus yn wynebu heriau gwahanol. Efallai fod un peth yn ei gwneud yn anodd i fyrddau iechyd weithredu'r Ddeddf, ond efallai na fydd yr un peth hwnnw'n effeithio ar awdurdodau lleol. Bu'n rhaid inni gymryd cam yn ôl ac edrych ar y darlun ehangach: pa rwystrau oedd yn gyffredin i'r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus, os nad pob un, a pha broblemau sylfaenol oedd wrth wraidd ymdrechion pawb i weithredu'r Ddeddf?

Mae'r Ddeddf yn eang, yn gyfannol, ac ni fydd yr un corff cyhoeddus unigol yn gallu gwireddu unrhyw un o'r saith nod llesiant ar ei ben ei hun. Mae cyrff cyhoeddus wedi dod at ei gilydd i wneud i'r Ddeddf weithio. Mae gan lawer o sefydliadau ac unigolion gyfrifoldebau o dan y Ddeddf, gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sy'n hyrwyddo'r Ddeddf ac yn helpu cyrff cyhoeddus i'w gweithredu. Roeddem am ddarganfod a oedd y comisiynydd yn gwneud ei gwaith yn effeithiol, ac a oedd Llywodraeth Cymru ei hun yn arwain ar weithredu'r ddeddfwriaeth a mynd â chyrff cyhoeddus ar daith sy'n galw am newid sylweddol yn y meddylfryd a diwylliant. 

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a arweiniodd y gwaith hwn oherwydd bod ein cylch gwaith yn eang, ac mae hynny'n ein galluogi i ystyried deddfwriaeth drawsbynciol o'r fath sy'n effeithio ar bob agwedd ar fusnes Llywodraeth Cymru. Felly, beth a ddysgwyd am y pum mlynedd cyntaf ers gweithredu'r Ddeddf? Wel, gwelsom fod Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus wedi dechrau'n araf, ac nad oedd pob un o'r cyrff cyhoeddus hynny'n rhoi blaenoriaeth i weithredu'r Ddeddf. Dywedodd llawer o gyrff cyhoeddus wrthym am effaith cyni ar eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau statudol, heb sôn am weithredu deddfwriaeth uchelgeisiol fel y Ddeddf hon. Daethom i'r casgliad nad oes angen mwy o arian ar gyrff cyhoeddus i weithredu'r Ddeddf, sy'n ymwneud â gwneud pethau'n wahanol, ac nid gwneud pethau ychwanegol. Fodd bynnag, drwy fabwysiadu'r pum ffordd o weithio, credwn y bydd cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswydd datblygu cynaliadwy ac y bydd ganddynt allu i weithio'n fwy economaidd, effeithlon ac effeithiol. 

Roeddem yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill bellach yn gwneud cynnydd. Mae polisi'r Llywodraeth bellach yn creu argraff gryfach gydag egwyddorion datblygu cynaliadwy, ond mae mwy i'w wneud o hyd. Clywsom hefyd, wrth ymateb i'r pandemig, fod rhwystrau i gydweithredu, integreiddio a chynnwys—tair o'r pum ffordd o weithio, fel y'u gelwir—wedi'u chwalu. Mae gennym reswm dros gredu bod hyn wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid diwylliannol. Rydym yn annog cyrff cyhoeddus i gadw'r cynnydd hwn wrth iddynt symud eu ffocws o ddydd i ddydd i'r tymor hwy a thu hwnt, wrth inni ddechrau ymadfer o'r pandemig. 

Gwnaethom gyfeirio'r rhan fwyaf o'n hargymhellion at Lywodraeth Cymru, oherwydd yn y pen draw hi sy'n gyfrifol am sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus. Penderfynwyd bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn esiampl yn ei harweinyddiaeth, a gosod naws a chyfeiriad gweithredu'r Ddeddf yn gynyddol ac yn llwyddiannus. Gwnaethom 14 o argymhellion, a hoffwn dynnu sylw at rai ohonynt heddiw.

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei holl bolisi a deddfwriaeth yn y dyfodol yn gyson â'r Ddeddf. Rhaid iddi roi'r gorau i greu mwy o gyrff partneriaeth a gofynion adrodd newydd ar draws deddfwriaeth a chanllawiau statudol. Mae'r dirwedd sector cyhoeddus wedi mynd yn ddiangen o fiwrocrataidd a dryslyd, ffactor sydd wedi bod yn rhwystr mawr i weithredu'r Ddeddf hon. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i nodi'n glir sut y dylai'r cyrff partneriaeth allweddol weithio o fewn fframwaith y Ddeddf hon, a sut y gellir lleihau biwrocratiaeth a dyblygu. 

Rydym hefyd wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ailystyried ei dull o ariannu byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Nid ydym yn credu y dylai cyrff cyhoeddus gael arian ychwanegol. Fodd bynnag, credwn y gellid ffurfioli cyfraniadau ariannol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn egluro pa adnoddau sydd ar gael iddynt. Rydym yn cydnabod datganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog ar 19 Chwefror ar 'Llunio Dyfodol Cymru: Cyflawni'r Cerrig Milltir Llesiant Cenedlaethol a'r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol ac adroddiad ar ddyfodol Cymru'. Cyhoeddwyd hwn dair wythnos ar ôl i ni graffu ar Lywodraeth Cymru yn y pwyllgor, ac mae'n ymrwymo i ddatblygu meysydd gwaith hanfodol o dan y Ddeddf hon. Roedd y rhain hefyd yn feysydd a gododd mewn tystiolaeth, ac roeddem yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o ba gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf, sut y gall ddarparu sicrwydd ariannol tymor hwy i gyrff cyhoeddus, a llunio ei llythyrau cylch gwaith yn well o amgylch y Ddeddf ar gyfer cyrff a noddir.

Fodd bynnag, nid Llywodraeth Cymru yn unig a ddylai wneud yn well. Rydym yn annog comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a chyrff cyhoeddus i barhau i ddatblygu cysylltiadau adeiladol er mwyn gwneud defnydd llawn o waith ac arbenigedd y comisiynydd a'i swyddfa. Rydym hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i'r comisiynydd flaenoriaethu cymorth i gyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y gwaith o gyflawni'r ddeddfwriaeth. Ac yn olaf, i gwblhau'r cylch archwilio, dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru ddisgwyl mwy gan gyrff cyhoeddus a thynnu sylw, lle bo'n briodol, at lle nad yw'r Ddeddf wedi'i mabwysiadu'n dda. 

Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hir a heriol ond—a chredaf y gallaf ddweud hyn ar ran holl aelodau'r pwyllgor—bu'n ymchwiliad gwerth chweil hefyd. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddadl yn parhau ymhell i'r dyfodol fel bod y ddeddfwriaeth bwysig hon yn parhau i fod yn flaenllaw mewn polisi cyhoeddus ac yn y pen draw yn cyflawni ei bwriad. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau yn y ddadl heddiw. 

17:20

Diolch. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n ymwybodol o'r ffaith eich bod wedi caniatáu 15 eiliad i chi'ch hun ymateb i'r ddadl. [Chwerthin.] Pymtheg eiliad i ymateb i'r ddadl—rwy'n credu mai dyna fydd un o'r ymatebion cyflymaf mewn unrhyw ddadl i ni ei chael y tymor hwn. Jenny Rathbone.

Diolch. Credaf fod hon yn ddadl fer iawn ar gyfer adroddiad eithaf hir a darn pellgyrhaeddol iawn o ddeddfwriaeth. Ond beth bynnag, gadewch inni roi cynnig arni. Mae'n anodd gwneud cyfiawnder ag ehangder y ddeddfwriaeth yn y ddadl hon, ond mae'n rhywbeth y bydd angen inni ddod yn ôl ato yn sicr. Rwy'n credu ei bod wedi torri llwybr newydd yn bendant ac yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, ac os na fyddai'n bodoli, byddai'n rhaid i ni ei dyfeisio a dweud y gwir, o ystyried maint yr heriau sy'n ein hwynebu yn awr. Hoffwn ddiolch i'r tîm clercio a'r staff ymchwil, a fu'n ymwneud yn frwdfrydig iawn â'r ymchwiliad hwn ac a gasglodd y cyfoeth o dystiolaeth a gawsom, ar lafar a/neu'n ysgrifenedig, ar draws Cymru gyfan, oherwydd yn amlwg, bu'n rhaid cymryd yr holl dystiolaeth yn rhithwir.

Mae'n amlwg ei fod yn waith sy'n mynd rhagddo, ond mae'n debyg mai pethau fel y cynllun 'Llwybr Newydd' sydd newydd gael ei gyhoeddi yw'r enghraifft orau o Lywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio. Ac rwy'n credu mewn gwirionedd fod y cynllun hwnnw'n gyson ac yn gredadwy iawn mewn gwirionedd am ei fod wedi defnyddio'r Ddeddf i feddwl yn wirioneddol ddwfn am rywbeth mor gymhleth ag ailwampio'n llwyr y ffordd rydym yn symud o amgylch ein gwlad.

Roedd gan gynllun adfer y GIG lawer o nodweddion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol hefyd ac a dweud y gwir, os na all pob corff cyhoeddus gydweithio'n effeithiol, meddwl am y tymor hir, ac integreiddio, atal a chynnwys y cyhoedd yn yr heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y Senedd nesaf, fe fyddwn yn ei chael hi'n anodd dros ben, oherwydd bydd ein hadnoddau'n gyfyngedig a'r heriau'n enfawr.

Mae Nick eisoes wedi cydnabod bod y pandemig wedi gwneud i ni feddwl yn wahanol iawn ynglŷn â sut rydym yn gwneud pethau, ond ar ben hynny, mae gennym her newid hinsawdd a'r argyfwng natur yn hofran drosom hefyd, a'r tarfu ar y berthynas fasnachu sefydledig ag Ewrop. Felly, rydym yn wynebu heriau o sawl cyfeiriad.

Felly, mae rhai cyrff cyhoeddus ymhellach ar hyd y llwybr i fabwysiadu Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol nag eraill, ac mae rhai'n dal i ddadlau nad yw cyllidebau blynyddol yn caniatáu iddynt gynllunio ar gyfer y tymor hir nac ymrwymo i waith integredig a chydweithredol, ond er bod newidiadau ar yr ymylon o ran sut y dyrennir cyllidebau, mae eraill yn cydnabod yn llawn fod y gyllideb graidd ar gyfer busnes craidd pa gorff bynnag sydd dan sylw yn gwbl rhagweladwy, ac mae'n rhaid inni ddiolch i'r bobl a ddyfeisiodd Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol am ein hannog o ddifrif i feddwl sut y gallwn wneud pethau'n fwy effeithlon, sut y gallwn integreiddio mwy, sut y gallwn ddileu dyblygu ymdrechion yn y cyfnod heriol tu hwnt sydd o'n blaenau.    

17:25

Mae'n bleser gen i siarad yn fyr yn y ddadl hon ac i dalu teyrnged i'm cyd-aelodau o'r pwyllgor, ein Cadeirydd a'r tîm clercio am y gwaith pwysig gyda'r ymgynghoriad hwn a thrwy gydol y blynyddoedd diwethaf. Mae'n syndod mawr taw dyma oedd y tro cyntaf i'r Senedd graffu ar weithrediad y Ddeddf, Deddf sydd mor bwysig, mor uchelgeisiol, ond nad yw wedi cael y cymorth angenrheidiol ers iddi gael ei phasio.

Gobeithio'n wir y gall hyn newid yn y dyfodol agos iawn, achos mae'r adferiad wedi COVID yn cynnig cyfle i newid cymaint o bethau: fel mae'r adroddiad yn ei ddweud, cyfle i lunwyr polisi asesu sut y gellir ail-greu gwasanaethau cyhoeddus er gwell, a hefyd cyfle i ailedrych ar yr arwyddion, yr indicators, y ffyrdd rŷn ni'n pwyso a mesur llwyddiant yn sgil y Ddeddf—cyfle i ailfframio'r cyfan.

Rwy'n ymwybodol bod cyrff megis ColegauCymru wedi gwneud y pwynt hwn yn eu tystiolaeth inni. Wedi'r cyfan, bydd cyd-destun fel mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu dros y blynyddoedd nesaf yn dra gwahanol i'r hyn fuasai'r rhai oedd wedi llunio'r Ddeddf wedi ei ragweld. Mae angen i Llywodraeth siarad â chyrff cyhoeddus wrth iddynt ailystyried hyn, ynghyd ag aelodau'r cyhoedd.

Mae'r darn yma o ddeddfwriaeth, fel sydd wedi cael ei ddweud eisoes, yn un gall fod yn arloesol, ac rŷn ni'n byw mewn cyfnod lle mae newidiadau radical yn gallu digwydd. Cyfle fydd gan y Senedd nesaf i wireddu potensial y Ddeddf bellgyrhaeddol hon. Ond heb y cymorth angenrheidiol na'r arweinyddiaeth gan y Llywodraeth, gwastraff fydd y cyfle hwnnw. Gan ddiolch eto i'r tîm clercio am eu holl waith ac i bawb oedd wedi rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor, diolch yn fawr.

Hoffwn innau hefyd ddiolch i'r Cadeirydd a staff y pwyllgorau am eu gwaith digynsail ar graffu cenedlaethau'r dyfodol mewn tirwedd rithwir, a darparu arferion gorau a welwyd gyntaf yng Nghymru ar fynediad ac ymgysylltu, fel y nodais wrth aelodau Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad ac wrth gwrs, ar draws y gwaith cyfrifon cyhoeddus yn y Senedd. Mae'r Aelod dros Fynwy, Nick Ramsay, wedi bod yn Gadeirydd gwych ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac er gwaethaf gwahaniaethau ideolegol clir, mae wedi ceisio consensws yn barhaus. Felly, hoffwn ddiolch iddo am ei broffesiynoldeb a'i wasanaeth cyhoeddus hir fel Cadeirydd y pwyllgor ac i'r Senedd hon yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi gwneud gwaith rhagorol, fel y mae'r adroddiad hwn yn dangos, ond mae llawer o heriau o'n blaenau gyda'r Ddeddf hon ac mewn perthynas â defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn wir, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol wrth y Senedd na fyddai Cymru ar ei cholled yn dilyn Brexit, felly dychmygwch fy mhryder wrth ddarllen nad yw Islwyn, sydd wedi'i leoli yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar y rhestr o 100 o ardaloedd blaenoriaethol a glustnodwyd ar gyfer gwariant rhanbarthol i gymryd lle cronfeydd yr UE, er bod cymunedau yn Islwyn ymysg y tlotaf yn Ewrop, ffaith a danlinellwyd gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig wrth feirniadu'r toriadau dyfnaf i rwyd ddiogelwch y wladwriaeth les yn ein hanes. Nid yw hynny'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dyna pam y mae'r adroddiad hwn mor bwysig; hwy yw cenedlaethau ein dyfodol ni. Roeddwn wrth fy modd yn gweld bod yr ymgynghoriad ar bobl ifanc yn cynnwys detholiad o fyfyrwyr o Goleg Gwent yn Crosskeys, ac fe'm trawyd gan sylw un person, 'Pan gaewyd y pyllau glo, cynyddodd cyfradd tlodi. Collasom ein diwydiannau traddodiadol. Mae arnom angen economi gref.' Felly, meddyliais wrthyf fy hun, bedwar degawd yn ddiweddarach, mae yna wirionedd yno rydym yn dal i ymgodymu ag ef—sut y symudwn o orffennol diwydiannol enwog Cymru i'r dyfodol mwy disglair. Bydd tlodi endemig yn dal i gyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol, ac mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn dystiolaeth feiddgar a welwyd gyntaf yng Nghymru o'r hyn y gall Senedd Cymru ei gyflawni drwy gydweithio. Roedd yn arloesol pan gafodd ei chyflwyno gan ein diweddar gyfaill Carl Sargeant, ac mae'r gwaith o sicrhau ein bod yn rhoi bywyd iddi yn parhau.

Ac i gloi, fel y dywed yr adroddiad sydd ger ein bron, gwaith y Senedd hon a'i Haelodau yw sicrhau bod Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn ganolog i holl waith a meddylfryd y Llywodraeth a Senedd Cymru. Mae argymhelliad 13 yn gosod her ger bron y Senedd hon a'i Phwyllgor Busnes, ac os caf, Ddirprwy Lywydd, mae'n nodi sut y gallwn

'sicrhau bod strwythur Pwyllgor y Senedd yn hwyluso gwaith craffu effeithiol ar ddeddfwriaeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a materion eraill sy’n pontio meysydd polisi a phortffolios Gweinidogol.'

Felly, gadewch iddi fod yn her allweddol y mae Aelodau'r chweched Senedd yng Nghymru yn ymateb iddi, gan fod cenedlaethau'r dyfodol angen hyn wrth inni ddechrau ar y daith i fyd ôl-bandemig ac ôl-Brexit. Diolch.

17:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am arwain yr ymchwiliad i wreiddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a beth arall y gellir ei wneud i sicrhau ei llwyddiant. Rwy'n credu bod y dull a fabwysiadwyd yn dangos na all un pwyllgor yn unig ystyried y ddeddfwriaeth, ac nad yw'n gyfrifoldeb un Gweinidog Llywodraeth Cymru ychwaith; ein cyfrifoldeb a'n dyletswydd ar y cyd yw hyrwyddo a chyflawni datblygu cynaliadwy ym mhob peth a wnawn. A'r ffordd rydych wedi cynnal yr ymchwiliad gyda chyfraniad cymaint o sefydliadau, fel y dywedodd y Cadeirydd, a oedd am rannu eu tystiolaeth, a hefyd y gwaith gyda phobl ifanc sy'n adlewyrchu ysbryd y Ddeddf. Ac mae cyhoeddi'r adroddiad, ochr yn ochr â'r adroddiadau gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn rhoi arweiniad defnyddiol ar y camau y mae angen i ni ac eraill eu cymryd i gyflymu'r broses o weithredu'r Ddeddf.

Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers cychwyn prif ddyletswyddau'r Ddeddf, er mai cyfnod byr yw hwn yng nghyd-destun cenedlaethau'r dyfodol. Serch hynny, mae wedi bod yn gyfnod o newid sylweddol, ac mae'r Aelodau wedi adlewyrchu hynny yn y ddadl hon. Rydym wedi wynebu cyni pellach, rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, rydym wedi teimlo effeithiau newid hinsawdd a dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pob agwedd ar ein bywydau wedi cael ei newid gan y coronafeirws. Gallai unrhyw un o'r heriau hyn fod wedi bod yn ddigon i arafu cynnydd unrhyw Lywodraeth, ond er gwaethaf yr holl heriau hyn, rydym wedi cyflawni'r addewidion a wnaethom i bobl Cymru bum mlynedd yn ôl.

Yn ystod y misoedd diwethaf, ochr yn ochr â'r pandemig ac ymateb iddo, a gwneud hynny yn ysbryd y Ddeddf, rydym hefyd wedi gweld defnydd cynyddol o ddull llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn llunio dyfodol Cymru: Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth yn cyhoeddi'r genhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu'r economi y mis diwethaf, sydd bellach am y tro cyntaf yn golygu mai economi llesiant yw diben sylfaenol gweithgarwch datblygu economaidd y Llywodraeth; Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn cyhoeddi 'Mwy nag Ailgylchu', strategaeth hirdymor hyd at 2050 i wireddu'r economi gylchol yng Nghymru, a ddatblygwyd gyda Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ganolog iddi; y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cyhoeddi'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael drafft, enghraifft fyw o sut rydym yn sicrhau, wrth i ddeddfwriaeth gael ei datblygu, ei bod yn gweithio gyda Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ac yn ei hategu drwy ei dyletswydd llesiant; a'r wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg sut y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol drwy lansio rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu i Gymru, sef blaendal ar ddyfodol ein pobl ifanc, sy'n cynnig cyfleoedd i bawb o bob cefndir; a ddoe ddiwethaf, fy natganiad yn cyhoeddi'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, ymdrech gydweithredol, ac rydym yn ddiolchgar i gynifer o sefydliadau a phobl ledled Cymru a fu'n ymwneud yn y broses o'i gyd-greu, gan ein helpu i sicrhau Cymru fwy cyfartal.

Bydd angen ystyried yr argymhellion a'r casgliadau yn adroddiad y pwyllgor yn ofalus, a mater i'r Llywodraeth nesaf fydd myfyrio ac ymateb yn llawn yn yr hydref, ond mae'n dda ein bod wedi gallu cael y ddadl hon i'w gydnabod, ei dderbyn a myfyrio arno heddiw. Yn gynharach eleni, sefydlais fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol llesiant cenedlaethau'r dyfodol, er mwyn dod â chynrychiolwyr y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector at ei gilydd i ystyried gwaith sy'n datblygu, a chefnogi a chynghori ar gam nesaf gweithredu'r Ddeddf yn genedlaethol a'r nodau datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol gyda'i saith nod llesiant yn darparu gweledigaeth hirdymor o Gymru y cytunwyd arni gan y Senedd yn ôl yn 2015. Mae'n ein rhoi ar sylfaen gref i'n harwain drwy'r dirwedd ddieithr hon. Ac mae meddwl am y tymor hir, cynnwys pobl ifanc, yr holl bobl o bob cenhedlaeth, cydgysylltu polisïau a darparu gwasanaethau, cydweithio ar draws pob sector, a chanolbwyntio ar atal yn hanfodol i weithio'n fwy cynaliadwy. Yr hyn sy'n helpu i osod Cymru ar wahân yw gwaith y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol annibynnol, a sut y caiff yr ymdrechion i sicrhau llwybr cynaliadwy i Gymru eu cefnogi ar draws Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Ddirprwy Lywydd, oherwydd y Ddeddf, byddwn yn dweud bod Cymru'n wahanol. Rydym yn gwneud penderfyniadau o blaid pobl, o blaid y blaned, ar gyfer y presennol ac ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr.

17:35

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sy'n dymuno gwneud ymyriad, felly galwaf ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl, a byddaf yn hael a rhoi ychydig mwy na 15 eiliad i chi.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gweld colli'r cloc digidol hwnnw yn y Siambr. Efallai fod angen i mi gael un bach ar y sgrin yma.

A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, a hefyd i'r Gweinidog am ei sylwadau rhagorol? Fel y dywedais wrth agor, mae'n bwysig iawn fod craffu ar y Ddeddf hon yn parhau yn y Senedd nesaf. Fel y dywedodd Delyth Jewell, dechreuasom y broses graffu honno yn yr ymchwiliad hwn, y tro cyntaf inni edrych arni'n iawn.

Yn syml iawn, mae cyfle i'r Ddeddf hon newid yr holl ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithio a'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu yng Nghymru. Mae potensial mawr ganddi cyn belled â bod argymhellion ein hymchwiliad yn cael eu gweithredu a'u monitro yn y Senedd nesaf. Yn syml, mae angen tynnu'r cymhlethdodau ohoni, mae angen symleiddio'r Ddeddf, mae arnom angen ailffocysu'r hyn sydd mewn egwyddor yn effeithiol iawn, yn ddeddfwriaeth dda iawn, ond sydd wedi bod yn llai effeithiol nag y gallai fod yn ymarferol oherwydd rhai o'r materion sy'n codi wrth ei gweithredu.

A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hwn? A gaf fi ddiolch hefyd i aelodau'r pwyllgor yn ystod fy amser yn ei gadeirio dros y pum mlynedd diwethaf? Dylwn ddiolch hefyd i Llyr Gruffydd, a'r Cadeiryddion eraill a gymerodd ran, pan benderfynwyd mai'r ymchwiliad cyfrifon cyhoeddus oedd y cyfrwng gorau ar gyfer edrych ar y Ddeddf hon a chraffu arni. Mae'n drawsbynciol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen edrych arno a'i fonitro yn y dyfodol, er mwyn sicrhau nad ychwanegiad yn unig ydyw, a'i bod yn cael ei phrif ffrydio drwy bob polisi.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, diolch enfawr i fy nghlercod am eu cefnogaeth dros y pum mlynedd diwethaf, a hefyd i staff Archwilio Cymru, sydd wedi darparu cymorth mawr i'r pwyllgor hefyd. Rwy'n siŵr y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y chweched Senedd yn parhau'r gwaith gwerthfawr y buom yn ei wneud yn y pumed Senedd. Edrychaf ymlaen at ddarllen adroddiadau'r pwyllgor yn y dyfodol, ac rwy'n dymuno'n dda i fy holl gyd-aelodau o'r pwyllgor yn y dyfodol. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

20. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Edrych ar ddatganoli darlledu: Sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?

Eitem 20 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Archwilio datganoli darlledu: Sut all Cymru feddu ar y cyfryngau sydd eu hangen arni?' Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Bethan Sayed.

Cynnig NDM7666 Bethan Sayed

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Edrych ar ddatganoli darlledu: Sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?’ Fe’i osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mawrth 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn i chi, Dirprwy Lywydd, a hefyd, fel rhan o'm cyfraniad olaf, hoffwn i ddweud pob lwc i chi yn beth bynnag rydych chi'n ei wneud yn y dyfodol. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi fel Dirprwy Lywydd ac fel Aelod o'r Senedd yma.

Mae'n bleser o'r mwyaf cael agor y ddadl heddiw ar ein hadroddiad sy'n edrych ar ddatganoli darlledu a sut all Cymru feddu ar y cyfryngau sydd eu hangen arni. Cyn imi ddechrau, mae'n rhaid i mi nodi mai dyma fydd fy nghyfraniad olaf fel Cadeirydd y pwyllgor hwn. Dwi eisoes wedi rhoi ar gofnod fy mod i wedi dweud diolch yn fawr iawn i'r holl staff ac i bawb sydd wedi cyfrannu i'r pwyllgor ar hyd y blynyddoedd, ond diolch eto i chi am eich holl waith. Hoffwn i roi hwnna ar y record yma heddiw eto.

Gan droi at yr adroddiad, dylid ystyried yr adroddiad yma fel penllanw'r pum mlynedd o waith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud yn y maes hwn. Mae'r adroddiad yn un sy'n adeiladu ar adroddiadau blaenorol, a hefyd y gwaith sgrwtini rheolaidd a wnaethom ni gyda'r BBC, S4C, Ofcom ac eraill. Yn amlwg, mae'r pwyllgor yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y prif bleidiau yn y Senedd, ond ar y cwestiwn pwysig yma, barn y pwyllgor oedd nid, 'A ddylid datganoli darlledu?' ond, 'Faint o ddarlledu y dylid ei datganoli?' Mae hwn yn newid sylweddol, yn fy marn i, o le roeddem ni cyn i'r pwyllgor penodol yma fodoli, a chyn i ni gael unrhyw fath o sgrwtini ar y cyfryngau yma yng Nghymru.

Yn ystod yr ymchwiliad, clywom ni fod y cynnwys sydd ar gael i Gymru yn y cyfryngau yn annigonol. Dyma oedd ein man cychwyn ar gyfer argymhelliad 1, sy'n galw am fwy o gyfrifoldebau dros ddarlledu i Gymru ac sy'n herio Llywodraeth Cymru, San Steffan ac Ofcom i nodi sut y gellir gwella'r cynnwys a ddarperir yn y cyfryngau i gynulleidfaoedd yng Nghymru.

Mae'r diffygion hyn hefyd yn ymestyn i gynnwys newyddion a materion cyfoes, ac fe glywom ni anfodlonrwydd eang am y cynnwys sydd ar gael i gynulleidfaoedd Cymru. Rydym ni gyd yn cytuno am y rôl hanfodol y mae'r cynnwys hwn yn ei chwarae mewn democratiaeth weithredol. O ganlyniad i'r casgliad hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa ganolog barhaus i gefnogi newyddiaduraeth newyddion sy'n atebol ac sy'n cael ei darparu ar hyd braich. Roeddwn i'n falch iawn i dderbyn gohebiaeth ddoe gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad yma mewn egwyddor, gyda mwy o fanylion i ddilyn.

O ran datganoli S4C a darlledu gwasanaeth cyhoeddus iaith Gymraeg, fe glywom ni fod y degawd diwethaf wedi gweld gostyngiad mewn incwm o 37 y cant i’r sianel ers 2010. Ac efallai yn bwysicach na hynny, daeth y pwyllgor i’r casgliad ei bod yn sefyllfa anarferol iawn i bwerau dros S4C fod yn nwylo Gweinidogion yn Llundain, yn hytrach na Gweinidogion y wlad lle mae’r iaith sydd i’w chlywed ar S4C yn cael ei siarad. Felly, mae argymhelliad 4 yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatganoli i Gymru bwerau dros S4C a materion eraill sy’n ymwneud â darlledu gwasanaeth cyhoeddus iaith Gymraeg.

Dwi'n credu bod e'n bwysig imi nodi yn y fan yma y byddai rhai ohonom ni ar y pwyllgor wedi mynd yn bellach, wrth gwrs, i ddatganoli mwy na S4C a materion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg, ond dwi'n credu ein bod ni wedi dod yn bell gydag ennyn cefnogaeth drawsbleidiol ar y mater pwysig yma, a dyna pam mae'r adroddiad yma mor bwysig.

Gan droi at gystadleuaeth gan gwmnïau ffrydio, a throi at dueddiadau ehangach yn y tirlun darlledu, mae'n amlwg ein bod yn byw drwy gyfnod o newid strwythurol enfawr. Mae statws ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, y BBC ac ITV, a fu unwaith yn flaenaf yn y maes, dan fygythiad yn sgil cystadleuaeth gan ddarparwyr gwasanaethau fideo ar alw drwy danysgrifio fel Netflixes ac Amazons y byd. Ystyriodd ein hadroddiad y modelau ariannu a rheoleiddio ar gyfer ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn fanwl. Er nad yw'n bosibl ymdrin â'r rhain yn yr amser cyfyngedig sydd gennyf yma heddiw, roeddwn am dynnu sylw at ein hargymhelliad 7 sy'n edrych ar y berthynas rhwng darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a'r llwyfannau ffrydio ar-lein.

Mae natur anghymesur y gystadleuaeth, ynghyd â materion fel y lleihad yn yr amlygrwydd a roddir i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn y canllaw rhaglenni, wedi ein harwain i'r casgliad y dylai gwasanaethau ffrydio byd-eang gael eu rheoleiddio i gryfhau'r ecosystem cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Ac yn ein hargymhelliad 7, rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried codi ardollau ar gwmnïau ffrydio byd-eang mawr i ariannu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, neu ofynion i ddarlledu mwy o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus.

Wrth gloi, mae'n amlwg fod newid ar y ffordd i dirwedd y cyfryngau ac mewn sawl ffordd mae'r newid hwn yn anochel. Fodd bynnag, yr hyn nad yw'n anochel yw'r modd y rheolir y broses o newid. Mae gennym gyfle i sicrhau ein bod yn rheoli'r newid hwn mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion penodol Cymru a buddiannau ein gwlad fel cenedl fodern, ddwyieithog. Mae'r adroddiad hwn yn nodi rhai cynigion cadarn ar sut y gallwn sicrhau ein bod yn cael y cyfryngau rydym eu hangen ac yn eu haeddu drwy becyn o argymhellion. Heb weithredu, rydym yn wynebu'r risg y bydd sefyllfaoedd yn parhau i ddirywio yma yng Nghymru i gynulleidfaoedd ledled Cymru, ac nid ydym yn haeddu hynny. 

Am y tro, mae'r ddadl heddiw hefyd yn nodi diwedd pennod bwysig yn stori'r Senedd hon. Mae'r pwyllgor hwn wedi tynnu sylw Aelodau o'r Senedd yn ehangach yn gyson at faterion sy'n ymwneud â darlledu a chyfathrebu. Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y bydd y pwyllgor hwn yn parhau yn y chweched Senedd, ac yn bwysicaf oll, y ceir atebolrwydd wrth fesur cynnydd, yn enwedig ym maes cyfathrebu lle nad yw llawer o'r elfennau hynny wedi'u datganoli, fel y gwyddom.

Felly, diolch gen i am y tro. Rwy’n edrych ymlaen at gyfraniadau Aelodau prynhawn yma, a hoffwn i gymeradwyo’r adroddiad hanesyddol yma heddiw i’r Senedd. Diolch yn fawr iawn. 

17:40

Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i Bethan am ei harweiniad rhagorol fel Cadeirydd y pwyllgor. Rydych wedi arwain y pwyllgor gydag egni, brwdfrydedd ac ymrwymiad, ac mae hynny'n amlwg yn yr adroddiadau rhagorol y mae'r pwyllgor wedi'u cynhyrchu. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Helen Mary Jones, a helpodd mor fedrus yn ystod eich cyfnod mamolaeth.

Rwyf am wneud dau bwynt. Mae'r cyntaf, mewn gwirionedd, yn cyfeirio'n ôl at waith anhygoel Alexis de Tocqueville yn y 1830au, a edrychai ar weithrediad democratiaeth Americanaidd. Dywedodd fod gwasg rydd ac egnïol yn gwbl hanfodol er mwyn i ddiwylliant democrataidd ffynnu, a chredaf fod y syniad hwnnw'n parhau i fod mor wir heddiw ag ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, mae angen newyddiaduraeth o ansawdd da yng Nghymru, ac mae angen mwy o newyddiaduraeth leol. Rwy'n cymeradwyo ymdrechion y BBC yn hyn o beth, ond mae angen mwy ohono. Nid yw'n syndod mai un o'r datblygiadau mawr yn ystod cyfnod COVID yw bod llawer o bobl wedi dechrau sylweddoli graddau pwerau Llywodraeth Cymru dros iechyd y cyhoedd ac iechyd yn ehangach. Mae hynny'n arwydd o'r bwlch a fu mewn gwirionedd yn y sylw a roddwyd i wleidyddiaeth Cymru, ac nid yw'n gwasanaethu ein dinasyddion o gwbl mewn gwirionedd. Mae darlledu, y prif gyfrwng y dyddiau hyn, er mai papurau newydd a geid o'r blaen yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn allweddol i gadw ein democratiaeth yn iach.

Rwy'n gwneud yr ail bwynt fel aelod o'r pwyllgor yn hytrach na llefarydd fy mhlaid ar ddarlledu. Rwyf bob amser wedi meddwl bod sefyllfa S4C a darlledu yn y Gymraeg yn anghyson. Nid oes llawer o wledydd yn y byd sydd ag ieithoedd cenedlaethol corfforedig nad ydynt yn iaith fwyafrifol, ac sydd â systemau llywodraethu datganoledig ond sydd wedyn yn cadw'r swyddogaeth ddarlledu iaith leiafrifol yn ôl ar lefel y wladwriaeth. Maent i gyd yn ei ddatganoli, am mai dyna lle mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud orau. Caiff pobl eu dwyn i gyfrif, ond hefyd mae'n cyd-fynd â pholisi iaith ehangach, ymhell y tu hwnt i ddarlledu. Felly, rwy'n credu o ddifrif ei bod yn bryd inni edrych ar hyn a phwyso am ddatganoli S4C a darlledu yn y Gymraeg yn gyffredinol. Rwy'n dweud am fy mhlaid fy hun—rwy'n gwybod oherwydd roeddwn yn rhan o beth o'r drafodaeth—fod y blaid wedi bod â diddordeb mawr yn hyn o'r blaen, ac yn sicr mae Llywodraethau Ceidwadol wedi archwilio'r posibilrwydd o ddatganoli S4C, gyda bwriad mai dyna oedd yr opsiwn gorau. Ni allaf siarad ar ran Llywodraethau blaenorol o dan Lafur ar lefel y DU, ond rwy'n tybio eu bod hwy wedi edrych arno hefyd. Felly, credaf ei bod yn bryd inni gyflawni hynny, neu o leiaf ofyn amdano, a darparu'r math hwnnw o wasanaeth, oherwydd mai'r Senedd a Llywodraeth Cymru all roi'r sylw a'r amser sydd ei wir angen er mwyn i ddarlledu yn y Gymraeg ffynnu. Gallem fod mor llwyddiannus â chenhedloedd llai o amgylch Ewrop o ran ein hallbwn creadigol, yn ogystal â gwella ansawdd newyddiaduraeth.

Hoffwn orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy dalu teyrnged i chi. Ers 22 mlynedd, rydych wedi gwasanaethu eich plaid yn deyrngar fel eiriolwr tra galluog a thra hael, ond hefyd yn fywiog iawn pan oedd angen i chi ymrafael â phen mwy garw deialog wleidyddol—ond bob amser gyda haelioni a hiwmor mawr. Rydych wedi dangos yr haelioni a'r hiwmor hwnnw, ac awdurdod, os caf ddweud, yn eich rôl fel Dirprwy Lywydd, a byddwn i gyd yn edrych yn ôl gyda phleser a diolch mawr am eich gwasanaeth yn y Senedd hon. Diolch yn fawr iawn.

17:45

Diolch. Prin y gallaf eich ceryddu am fynd dros yr amser wedi'r deyrnged hynod o hael honno, felly diolch yn fawr iawn. Ni ddywedaf ddim am y ffaith eich bod wedi mynd dros yr amser. Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bwysicach nag erioed i sicrhau datganoli darlledu i Gymru, nid yn unig er lles ein democratiaeth, ond, fel mae'r pandemig wedi dangos, er lles ein hiechyd cyhoeddus hefyd. Mae Plaid Cymru felly yn croesawu'r adroddiad yma yn frwd iawn. Am y tro cyntaf yn hanes gwleidyddiaeth Cymru, mae gennym ni gonsensws trawsbleidiol o blaid datganoli o leiaf rhai elfennau o ddarlledu. Mae'n rhaid talu teyrnged arbennig i Bethan Sayed fel Cadeirydd y pwyllgor am ei harweinyddiaeth ar y mater penodol yma. Rwyt ti wedi bod yn gwthio'n galed dros hyn dros y pum mlynedd diwethaf, dwi'n gwybod. Diolch, Bethan, am dy angerdd, a diolch am dy ddyfalbarhad mewn sawl maes, ac yn benodol am dy rôl yn rhoi seiliau cadarn i'r pwyllgor yma fel rhan annatod o'n Senedd cenedlaethol i'r dyfodol. 

Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro mai yn nwylo'r Senedd y dylai grym dros ddarlledu yng Nghymru fod, ac nid yn nwylo sefydliad San Steffan, sy'n gwybod braidd dim, ac yn poeni hyd yn oed yn llai am ein cymunedau ni. Ac i fod yn hollol glir, mi fyddai Llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo i geisio sicrhau'r pwerau dros ddatganoli darlledu. A fydd y pleidiau eraill yn ymrwymo i wneud yr un peth? Wel, cawn ni weld yn reit fuan. Mi fyddai datganoli darlledu yn helpu'r bobl sy'n byw yng Nghymru i ddeall yn well yr hyn sy'n digwydd yn eu gwlad eu hunain, a pheidio gorfod derbyn camwybodaeth gan gyfryngau San Steffan, sy'n methu'n deg â deall datganoli, fel rydyn ni wedi'i weld yn rhy aml dros gyfnod y pandemig, gwaetha'r modd. Mi fyddai hefyd yn rhoi’r cyfle sydd mawr ei angen arnom i adeiladu cyfryngau Cymreig amrywiol, sy'n adlewyrchu anghenion a buddiannau'r Gymru fodern fel democratiaeth sy'n aeddfedu.

Gan droi at S4C, oes yna unrhyw wlad arall yn y byd yn rhoi'r pŵer dros ei phrif sianel a darlledwr cyhoeddus i wlad arall? Roedd hi'n dda gweld David Melding yn egluro yn wir nad ydy hynny ddim yn digwydd mewn gwledydd eraill. Mae S4C yn gweithredu yn unol â chylch gwaith sy'n cael ei bennu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd â dyletswydd statudol i sicrhau bod S4C yn cael cyllid digonol. Mi ddywedodd y pwyllgor bod hynny yn sefyllfa anarferol—bod y pwerau dros S4C yn gorwedd yn Llundain yn hytrach nag yn ein gwlad ni ein hunain. Mi roedd sefydlu S4C nôl yn 1982 yn hwb aruthrol—yn hwb aruthrol i'n cenedl ni, i'n hunaniaeth ni, ac i'n diwylliant ni. Roeddwn i'n digwydd bod yn lwcus i fod yn rhan o'r ymgyrch honno nôl yn yr 1980au. Mae yna lawer mwy angen ei wneud, ac mae yna lawer o waith i adeiladu ar lwyddiant bodolaeth S4C. Ond mae'n rhaid inni gydnabod bod yr hinsawdd wleidyddol yn hynod o fregus, ac mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus iawn, iawn ynglŷn â'r sianel. 

Yn ôl yr adroddiad, mi ddylai'r chweched Senedd gynnwys pwyllgor sy'n trafod polisi'r cyfryngau fel rhan ganolog o'i gylch gwaith. Ac mi fyddwn i'n meddwl, yn y pen draw, fod angen llawer iawn mwy na phwyllgor; mae angen corff annibynnol o Lywodraeth er mwyn cael y drafodaeth honno ynghylch y cyfryngau yng Nghymru, a thrafodaeth debyg ynglŷn â sefydlu corff. Mae honno'n drafodaeth i'r Senedd nesaf erbyn hyn—

17:50

Rwyf newydd orffen. Roeddwn am ddweud, Ann, fy mod yn dymuno'r gorau i chi yn y dyfodol, a diolch yn fawr i chi am eich cyfraniad i'r Senedd dros gynifer o flynyddoedd. Mae wedi bod yn amhrisiadwy.

A gaf i gymryd y cyfle hefyd i ddymuno'n dda i'r Dirprwy Weinidog, Dafydd Elis-Thomas, ar ei ymddeoliad o? Diolch yn ddiffuant iddo fo am ei gyfraniad pwysig wrth i'n democratiaeth ni wreiddio a ffynnu. Diolch yn fawr. 

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor diwylliant am y ddadl heddiw, ac am eu hymdrechion dros y pum mlynedd diwethaf dan gadeiryddiaeth Bethan Sayed. Rwy'n siŵr ei bod wedi bod yn Gadeirydd da iawn. Yn anffodus, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn anghytuno â'r adroddiad y maent wedi'i gynhyrchu. Er ei fod yn llawn bwriadau da, credaf fod yr adroddiad yn seiliedig ar gynsail ffug. Wedi'r cyfan, pwy sy'n penderfynu pa gyfryngau sydd eu hangen ar Gymru? Mae hon yn farn ar werth cyn inni ddechrau hyd yn oed. Pam y byddwn yn tybio nad oes gan Gymru y cyfryngau y mae eu hangen eisoes? Pe bai angen rhywbeth arall arni, byddai marchnad fasnachol amdano y byddai rhai darlledwyr eisoes wedi manteisio arni. Felly, mae gan Gymru'r union gyfryngau y mae pobl Cymru am eu cael mewn gwirionedd. Os rhowch rywbeth arall i bobl Cymru drwy ddictad y Senedd, byddwch yn rhoi rhywbeth iddynt y mae'r Senedd am iddynt ei gael, nid rhywbeth y mae pobl Cymru am ei gael mewn gwirionedd.

Mae gennym ormod o ymyrraeth wleidyddol eisoes â theledu yng Nghymru, os caf ganolbwyntio ar y teledu am eiliad, ac mae'r adroddiad hwn yn cynnig mwy fyth. Mae'r BBC yn sefydliad rhagfarnllyd, a oedd yn ffafrio 'aros' dros 'adael', ac sy'n ffafrio'r chwith dros y dde, ac yng Nghymru, mae ganddi duedd annymunol i gael ei stwffio'n llawn o genedlaetholwyr Cymreig. Y diwrnod o'r blaen, pwy gafodd ei phenodi'n bennaeth cynnwys BBC Cymru? Rhuanedd Richards, cyn brif weithredwr Plaid Cymru. Mae BBC Cymru'n ymdrechu'n daer i anwybyddu fy mhlaid i, Diddymu'r Cynulliad, drwy ein gadael allan o ddadleuon yr arweinwyr yn yr etholiad hwn, er bod arolygon barn yn ein gosod yn llawer uwch na'r Democratiaid Rhyddfrydol, y bwriadant eu cyflwyno o'n blaenau ni. Dyma fesur o'r rhwydweithio yn y dirgel rhwng BBC Cymru, y chwith gwleidyddol a chenedlaetholdeb Cymreig, sydd wedi bod yn tagu bywyd dinesig yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Llai o ymyrraeth wleidyddol sydd ei hangen ar y cyfryngau, nid mwy.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y dylem gael rhaglen newyddion sy'n canolbwyntio ar Gymru. Beth y byddai hynny ei olygu mewn gwirionedd? Os oes gennym News at Six sy'n canolbwyntio ar Gymru, beth yw diben hynny pan fo gennym Wales Today eisoes? Sut y byddai'n gweithio? Ar News at Six byddai gennym Lucy Owen yn siarad â Nick Servini yn sefyll y tu allan i Senedd y DU yn sôn am sut yr effeithiodd digwyddiadau'r dydd ar Gymru. Yna, ar Wales Today byddai gennym Jen Jones yn siarad â Teleri neu Ione a byddent yn chwilio'n ddyfal am ddeunydd. Yn y pen draw byddai gennym brif straeon am ddafad yn disgyn i lawr ochr y bryn yng Nghricieth. Neu byddem yn saethu at ddarllediad byw o gyfarfod cyffrous o'r pwyllgor materion cyfansoddiadol yma yn y Senedd, gyda chyfweliad hyd yn oed yn fwy cyffrous gyda Mick Antoniw wedyn. Y cyfan yn bethau cyfareddol i edrych ymlaen atynt, os yw'r pwyllgor diwylliant yn cael ei ffordd.

Dyma lle mae'r adroddiad yn methu mewn gwirionedd, oherwydd mae gwleidyddion yn ceisio barnu beth sy'n gwneud teledu da. Mae'n debyg bod rhaid gosod mwy o raglenni a wneir yng Nghymru yng Nghymru. Pam? Rhaid gofyn pa hawl sydd gan aelodau'r pwyllgor i ddweud wrthym beth y mae'r cyhoedd sy'n gwylio ei angen? Pe bai ei angen arnom, byddem eisoes yn ei gael. Gyda phob dyledus barch, mae'r adroddiad hwn yn nonsens llwyr a bydd Diddymu'n pleidleisio yn ei erbyn. Ond diolch i'r pwyllgor am ei ymdrechion yn gwbl ddiffuant, er fy mod yn anghytuno.

Diolch hefyd i'r Dirprwy Lywydd, Dafydd Elis-Thomas a Jane Hutt—a allai ddod yn ôl, wrth gwrs—ond os na welaf yr un ohonoch, diolch yn fawr i chi am eich cymorth yn ystod fy amser yn y Senedd. Diolch yn fawr iawn a hwyl fawr. 

17:55

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth?

Diolch yn fawr, Ann, a diolch am y fraint o gael fy llywyddu gennyt ti ar y diwrnod olaf yn y lle hwn. Mae'n cyfeillgarwch ni a'n perthynas ni yn y gogledd, a lot o gydweithio gwleidyddol wnawn ni ddim sôn amdano fo heddiw, yn mynd yn ôl am ddegawdau. Rwyt ti wedi bod yn seren yn ein plith ni, ac yn arbennig felly yn y swydd llywyddu. 

Dwi'n croesawu adroddiad y pwyllgor. Dwi'n ddiolchgar iawn amdano fo. Rydym ni wedi gweld pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a darlledu yn arbennig yn ystod yr argyfwng rydym ni'n dal i weithio ein ffordd drwyddo fo. Ac rydym ni wedi gweld mor bwysig yw cael cyfryngau datganoledig a lleol sydd yn gallu adrodd am argyfyngau iechyd cyhoeddus i'r boblogaeth sy'n cael ei heffeithio. Mae'n bwysig ein bod ni ddim yn anghofio'r cyfraniad yna a'n bod ni yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi digwydd y tro hwn. 

Dwi hefyd yn ddiolchgar i'r cyfryngau am eu partneriaeth effeithiol gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r diwydiannau creadigol, oherwydd mae hynny yn allweddol i ni—bod y gwaith creadigol rydym ni wedi ei wneud yn gallu digwydd mewn perthynas agos gyda'r cyfryngau. A dyna sydd yn fy mhoeni i dipyn bach am y cynnig hwn ac am y sôn am ddarlledu. Dwi wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r gair 'darlledu' ers blynyddoedd, oherwydd y diweddar annwyl Euryn Ogwen, a ddysgodd lot o bethau i fi. Fo oedd y cyntaf a ddysgodd i fi bwysigrwydd y gair 'digidol'. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd y gair yn ei feddwl cyn i Euryn roi darlith gryno i fi am y peth. Ac ers hynny, dwi wedi ceisio edrych ar bob math o arwyddion diwylliannol sy'n cael eu gwneud ar draws llwyfannau a'u gweld nhw fel ffurfiau digidol sydd yn ddiwylliant newydd inni i gyd fod yn rhan ohono fo. Felly, dwi ddim yn meddwl bod yna ystyr mewn sôn am ddatganoli darlledu, ond mae yna ystyr mewn sôn am sicrhau fod yr holl fyd digidol a chyfathrebol yn gallu sicrhau lle i Gymru. Ac wrth gwrs, mae hynny'n haws erbyn hyn, yn y cyd-destun digidol, gan nad yw'r hen ddarlledwyr mawr gwladol—er bod gennym ni ddarlledwyr gwaeth rhyngwladol, efallai, na'r rhai gwladol—yn gallu cyrraedd y modd y mae pobl yn gallu cyfathrebu yn ddigidol.

Nawr, rydyn ni wedi bod yn gwneud ambell beth yn ystod y cyfnod yma i geisio sicrhau bod yna lais cryfach i Gymru ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae gennym ni femorandwm o gyd-ddealltwriaeth gydag Ofcom ac ynglŷn â phenodiadau i Gymru. Ond y peth pwysicaf sydd wedi digwydd, wrth gwrs, yw cyhoeddiad chwyldroadol y BBC yr wythnos diwethaf ar y cynllun chwe blynedd i ail-greu'r BBC fel sefydliad gwirioneddol ddatganoledig sydd yn adlewyrchu, wel, diwedd y Deyrnas Unedig fel y gwyddom amdani—dyna sy'n digwydd, ac mae'r BBC yn fodlon arwain y ffordd ar hyn ac mae'r ymrwymiad cyhoeddus yma i'w groesawu. Felly, dwi'n edrych ymlaen am fwy a mwy o ddatganoli darlledu a datganoli'r byd digidol ac i Lywodraeth nesaf Cymru gyfrannu mwy hyd yn oed nag ydym ni wedi llwyddo ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf i ddylanwadu ar ran pobl Cymru ar y cyfryngau y maen nhw'n eu gwylio a'u gweld. Diolch.

18:00

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sydd wedi dweud eu bod yn dymuno gwneud ymyriad. Felly, galwaf ar Bethan Sayed i ymateb i'r ddadl. Bethan.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb, dwi'n credu, sydd wedi ymateb i'r drafodaeth yma heddiw.

Diolch i David Melding am eich cyfraniad ar y pwyllgor. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda phawb mewn gwirionedd, oherwydd mae wedi rhoi cyfle inni drafod y mater pwysig hwn mewn ffordd gydsyniol ac mewn ffordd lle gallwn geisio cyrraedd pwynt lle nad oedd yn rhaid inni gynhyrchu adroddiadau lleiafrifol neu lle nad oedd yn rhaid inni geisio gwneud hwn yn fater cynhennus, a gallai fod wedi bod felly'n hawdd. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r modd y gwnaethoch ymdrin â'r gwaith hwn ac yn bendant, byddwn yn cytuno ynghylch anghysondeb gwneud penderfyniadau ynglŷn ag S4C—ein darlledwr Cymraeg cenedlaethol—mewn man arall. Dylid gwneud y rheini yma yng Nghymru yn bendant. Ac er bod COVID wedi dangos ein bod wedi cael mwy o sylw yn y wasg, fel y dywedodd Siân Gwenllian, mae'n dal yn dameidiog ac mae llawer i'w wneud eto. Ond diolch eto am eich holl waith caled ac am gydnabod bod angen mwy o newyddion lleol arnom. Byddwn yn dweud wrth yr Aelodau o'r Senedd nad ydynt yn teimlo bod angen mwy o newyddion lleol yma yng Nghymru, wel, mae ei angen er mwyn craffu arnom fel y gallwn ddod yn fwy atebol i bobl Cymru ac fel y gallwn wedyn sicrhau bod y penderfyniadau rydym yn eu gwneud yn effeithiol ac yn rhai rydym yn eu gwneud yn ddifrifol iawn.

Siân Gwenllian, diolch yn fawr iawn i chi am eich gwaith chi ar y pwyllgor hefyd. Roeddech chi'n aelod o'r pwyllgor ac yn aelod diwyd hefyd, a dwi'n falch iawn eich bod chi wedi cael y cyfle i weithio gyda fi ar y pwyllgor yma. Pwerau dros ddatganoli darlledu—a fydd y pleidiau eraill yn dod i gefnogi hyn yn eu maniffestos? Wel, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni weld beth fydd yn digwydd yn y mis nesaf, ond, yn sicr, rwy wedi clywed yn iawn beth y mae Plaid Cymru yn mynd i'w wneud.

O ran S4C, dŷch chi'n dweud yr un peth â David Melding—mae'r pwerau angen bod yn ein gwlad ni ei hun, a hefyd yn sôn am gorff annibynnol a fyddai'n gallu gweithredu ar ôl y Senedd nesaf, petasai Plaid Cymru mewn pŵer. Wrth gwrs, bydd hwnna i'w weld nawr, os yw'r etholiad yn llwyddiannus i Blaid Cymru, ond diolch eto i chi am eich cyfraniad chi.

Rwy'n ei chael hi'n anodd gwybod beth i'w ddweud am gyfraniad Gareth Bennett. Cawsom lawer o sesiynau tystiolaeth gan bobl â diddordebau penodol yn y cyfryngau. Cawsom bobl a oedd yn academyddion, pobl sy'n gweithio yn y sector. Nid rhestr ddymuniadau gan bwyllgor y Senedd yw hon. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth real—gwaith caled, o un diwrnod i'r llall. Mae undebau llafur hefyd wedi gofyn inni edrych ar y mater oherwydd roeddent yn dweud eu bod am siarad am ddatganoli darlledu ond maent yn ei chael hi'n anodd codi'r materion hyn gyda'u penaethiaid yn Llundain. Ceir pryderon gwirioneddol ynghylch pobl yn gorfod mynd i Lundain ar drenau a bysiau i gyfweliadau er mwyn cymryd rhan mewn pethau fel Casualty sy'n cael ei ffilmio yma yng Nghymru. Wyddoch chi, mae arnom angen mwy o newyddion am ein heconomi leol, oherwydd mae papurau newydd lleol wedi dod i ben dros y blynyddoedd, ac mae lleoedd fel Port Talbot wedi'u gadael yn dlotach o'r herwydd. Mae angen mwy o newyddion arnom fel y gellir craffu ar bobl fel chi yn y penderfyniadau a wnewch, fel na fydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, gobeithio, yn cael unrhyw Aelodau o'r Senedd yn nhymor nesaf y Senedd. Felly, dyna pam rwy'n dweud bod ein pwyllgor yn bwysig. Efallai eich bod yn meddwl ei fod yn nonsens, ond rwy'n gwneud llawer o waith caled tu hwnt ar hyn, felly nid nonsens yw'r hyn rwy'n ei wneud a hoffwn i chi wybod hynny ar ddiwedd tymor y Senedd hon. Peidiwch â dweud bod pobl sydd wedi gweithio'n galed ar hyn yn gwneud nonsens. Rwy'n falch o fy ngwaith a gwaith Aelodau eraill y grŵp trawsbleidiol ar y pwyllgor hwn, ac rydych yn ffôl yn ei farnu yn y ffordd hon ar ddiwedd y tymor hwn.

Diolch i'r Gweinidog Dafydd Elis-Thomas am ei gyfraniad. Diolch ichi am amlinellu'r ffaith bod pethau wedi newid ar ran Llywodraeth Cymru a'ch meddylfryd yn y maes yma, ac, fel dywedais i ar y cychwyn, mae Lee Waters wedi ysgrifennu atom ni fel pwyllgor ddoe yn dweud y byddan nhw'n cefnogi yr hyn yr ydym ni'n gofyn amdano mewn egwyddor, o ran creu y fund yna ar gyfer newyddiaduraeth yma yng Nghymru, i sicrhau bod twf.

Yn sicr dydyn ni ddim yn gofyn am unrhyw beth sydd yn mynd i gael ei ddylanwadu gan Lywodraeth Cymru; mae angen i bopeth fod yn hyd braich, ond dwi'n credu ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y gwaith yma, er nad yw elfennau o ddarlledu wedi cael eu datganoli. Yn sicr mae yna fomentwm nawr; mae newid. Mae yna femorandwm o gyd-ddealltwriaeth rhwng y BBC, Ofcom, ITV yma yng Nghymru. Maen nhw'n fodlon dod i'r pwyllgor i gyfrannu, i drafod gyda ni. Hoffwn i orffen drwy ddiolch iddyn nhw am ddod i mewn atom, a gobeithio'n wir y bydd pwyllgor o'r fath yn bodoli yn y Senedd nesaf. Mae'r pwyllgor hwn wedi cael Lord Hall a Tim Davie i mewn i roi tystiolaeth ac wedi eu dwyn nhw i gyfrif am yr hyn maen nhw'n ei wneud yma yng Nghymru.

Ar ddiwedd y dydd, mae ein democratiaeth ni yn weddol newydd, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael ein dwyn i gyfrif, bod pobl Cymru yn cael y wasg maen nhw'n ei haeddu a'u bod nhw'n gallu darllen am eu bywydau bob dydd yn y wasg hynny. Mae'n rhaid inni weithredu, a dyna pam dwi mor falch o gyflwyno'r adroddiad yma ichi heddiw. Diolch yn fawr iawn.

18:05

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A wyf i'n gweld gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Ydw. Mae'n ddrwg gennyf, rhaid imi barhau i edrych o amgylch yr oriel o wynebau. Iawn, rydym yn gweld gwrthwynebiad, felly fe ohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

21. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Dyfodol Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Siân Gwenllian. 

Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddyfodol Cymru, a galwaf ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7683 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod llywodraethau olynol Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu â gwella cyfleoedd bywyd pobl Cymru.

2. Yn cydnabod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud o ran yr economi.

3. Yn nodi bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar gyfer ôl-groniadau cyn i'r pandemig ddod i ben.

4. Yn nodi ymhellach bod cyn Brif Weinidog Cymru hefyd wedi cyfaddef bod Llafur wedi tynnu ei llygad oddi ar y bêl ar addysg.

5. Yn cydnabod, er mwyn ailadeiladu Cymru, fod angen newid cyfeiriad a chael llywodraeth newydd ar 6 Mai 2021, a fydd yn darparu cynllun adfer i Gymru, sy'n cynnwys:

a) creu 65,000 o swyddi newydd, gydag o leiaf 15,000 o swyddi gwyrdd;

b) mynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn amseroedd aros yng Nghymru;

c) rhoi gorau i danariannu ein pobl ifanc;

d) adeiladu'r seilwaith sydd ei angen ar Gymru gan gynnwys ffordd liniaru'r M4 ynghyd ag uwchraddio'r A40 a'r A55;

e) cefnogi pobl gyda chostau byw drwy rewi'r dreth gyngor am ddwy flynedd;

f) rhoi Cymru ar y llwybr tuag at sero net erbyn 2050.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chyn imi ddechrau a gwneud y cynnig yn ffurfiol, a gaf fi gofnodi fy niolch i chi fel Dirprwy Lywydd, gan mai dyma'r ddadl olaf, am y gwasanaeth rydych wedi'i roi i'r Cynulliad, yn rhinwedd eich swydd fel yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd, ond hefyd yn eich rôl fel Cadeirydd gwahanol bwyllgorau ac yn awr fel Dirprwy Lywydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf? Mae bob amser wedi bod yn bleser gweithio gyda chi, a gwneud cynnydd gobeithio mewn meysydd lle gallem fod yn rhannu pryderon cyffelyb. Ond rwy'n derbyn bod y rhaniad gwleidyddol weithiau wedi bod yn anodd ei bontio, ond mae bob amser wedi'i wneud gyda hiwmor da, ac rwy'n dymuno'n dda i chi ar gyfer y dyfodol, Ddirprwy Lywydd.

Rwy'n gwneud y cynnig sydd ar y papur trefn heddiw yn ffurfiol yn enw Mark Isherwood. Rwyf am ymdrin â'r gwelliannau i ddechrau, os caf. Mae'n amlwg na fyddwn yn derbyn gwelliant 1, sydd, yn ôl arfer yr hen Lywodraeth, yn un 'dileu popeth a rhoi hunanganmoliaeth i'r Llywodraeth a'i hamser mewn grym yn ei le', sydd, a dweud y gwir, os edrychwch ar y ffordd y mae pethau'n edrych ar hyn o bryd yn yr economi, yn y gwasanaeth iechyd a meysydd eraill o raglen y Llywodraeth, heb ddarparu Deddf aer glân, ffordd liniaru'r M4, parthau perygl nitradau, sy'n ddim mwy nag ymarfer torri a gludo dros 40 mlynedd, ar ôl i'r Gweinidog ddweud ar ddim llai na 12 achlysur na fyddai'r Llywodraeth yn cyflwyno rheoliadau mor ddinistriol i'r economi wledig ar lawr y Senedd tra bod argyfwng COVID yn dal ar ei anterth, ond eto mae'n ymddangos ei bod yn benderfynol o'u cyflwyno ym mis Ebrill eleni, dim Bil awtistiaeth, ac fel y clywsom yn y cwestiynau iechyd y prynhawn yma, dim cynllun canser nac adnewyddu cynllun canser, nid oes gennyf unrhyw syniad sut ar y ddaear y gall y Llywodraeth hon ymroi i hunanganmoliaeth, a chredaf y bydd gan bobl Cymru farn ar hynny wrth inni ddechrau ar yr ymgyrch etholiadol, a phan ddaw 6 Mai, gobeithio y byddant yn bwrw eu pleidlais yn unol â hynny.

Ar welliannau 2 a 3 gan Siân Gwenllian, mae'n amlwg na fyddwn yn derbyn y gwelliannau hynny sydd ond yn ceisio achosi mwy o anhrefn cyfansoddiadol drwy roi refferendwm annibyniaeth wrth wraidd rhaglen lywodraethu unrhyw lywodraeth genedlaetholgar dros y pum mlynedd nesaf. Ai dyna sydd ei angen ar y wlad wrth ddod allan o bandemig COVID, pan mai'r hyn sydd ei angen ar y wlad mewn gwirionedd yw sefydlogrwydd economaidd, parhad cyfansoddiadol a buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus, fel y gallwn fynd i'r afael â'r holl amseroedd aros sy'n bodoli o fewn y gwasanaeth iechyd, lle mae un o bob pump o bobl ar restr aros yma yng Nghymru? Mae'n amlwg nad eir i'r afael â hynny drwy'r anhrefn cyfansoddiadol y mae Plaid Cymru yn ei argymell drwy eu gwelliannau ac yn wir, drwy eu hymrwymiadau ym mhum mlynedd cyntaf eu cynllun llywodraethu, pe baent byth yn gweld golau dydd.

Rydym am dynnu sylw pobl Cymru at beth yw'r cyfleoedd go iawn ar ôl 22 mlynedd o fethiant Llafur yma yng Nghymru. Os cymerwch gyflogau, er enghraifft, yng Nghymru mae cyflogau £55 yn llai nag i weithwyr yn yr Alban, er iddynt gychwyn yn 1999 ar yr un gyfradd yn union ar ddechrau datganoli, a heddiw mae gweithiwr yn yr Alban yn mynd â £55 yr wythnos yn fwy adref na gweithiwr yng Nghymru, a bydd gweithiwr o Loegr yn mynd â £52 yr wythnos yn fwy adref. Sut y gall y Llywodraeth roi unrhyw ganmoliaeth iddynt eu hunain am lwyddiant economaidd pan fydd gennych fwlch o'r fath rhwng y lefelau cyflog sydd wedi agor ar hyd cyfnod datganoli?

Ac fel y dywedais, mewn perthynas ag iechyd a'r economi yn enwedig, wrth edrych ar sylwadau Dirprwy Weinidog yr economi yn dweud bod y Llywodraeth wedi tynnu eu llygad oddi ar y bêl ac nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud, mae hynny, yn amlwg, yn cael ei gadarnhau gan yr ystadegau sy'n dangos beth sy'n digwydd yma yn yr economi ehangach ledled Cymru. A chyda'r gwasanaeth iechyd mewn cyflwr sy'n galw am gynllun adnewyddu a chynllun i sicrhau ein bod yn cael yr amseroedd aros i lawr—un o bob pump o bobl ar restr aros, dim cynllun cyflawni ar gyfer canser ar waith, dim ond datganiad ddechrau'r wythnos—mae'n amlwg fod y Gweinidog iechyd wedi colli ei afael ac wedi colli ei ffordd pan ddaw'n fater o adfywio'r gwasanaeth iechyd a gwobrwyo ein staff iechyd ymroddedig sydd wedi darparu pontydd o dosturi at bobl ar hyd a lled Cymru, a gweithio'n ddiflino i sicrhau, pan fydd angen eu cymorth ar bobl, ei fod yno iddynt. Mae arnom angen newid pan ddaw 6 Mai, a'r Ceidwadwyr Cymreig fydd yn cynnig y newid hwnnw.

Ac mae gweld y Llywodraeth yn eu gwelliant yn canmol ei hun wrth sôn am addysg a chodi safonau ar dablau cynghrair PISA, er mai eu plaid hwy sydd wedi gyrru'r safonau hynny i lawr dros 22 mlynedd cyntaf y Llywodraeth yma yng Nghymru, ac mae dweud mewn gwirionedd eich bod yn gwneud llwyddiant o addysg yn haerllug tu hwnt a dweud y lleiaf, pan fo angen mwy o athrawon yn yr ystafell ddosbarth ac angen buddsoddiad yn ein haddysg fel y gallwn gael y cyrsiau galwedigaethol ac academaidd sy'n pweru ein heconomi i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. A chyda'r Ceidwadwyr yn hyrwyddo 65,000 o swyddi newydd, gyda 15,000 ohonynt yn swyddi gwyrdd, y buddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd i gael 1,200 o feddygon a 3,000 o nyrsys, yn ogystal â 5,000 o athrawon, ac adeiladu seilwaith ym mhob rhan o Gymru, a sicrhau, pan fyddwn yn gwneud ymrwymiad maniffesto i ddarparu ffordd liniaru'r M4, buddsoddi mewn gwaith gwella ar yr A40 a'r A55, bydd pobl Cymru'n gwybod y byddwn yn cyflawni hynny, yn ogystal â helpu gyda chymorth ar gyfer yr argyfwng costau byw sy'n digwydd ar hyn o bryd drwy rewi'r dreth gyngor. Ni all fod yn iawn—ni all fod yn iawn—fod y dreth gyngor wedi codi 200 y cant a bod pobl, wrth inni siarad, yn gweld cynnydd yn y trethi o 4, 5, 6 y cant yn dod drwy'r drws ym mhob rhan o Gymru. Nid yw hynny'n iawn pan fo mynegai prisiau defnyddwyr yn 0.4 o 1 y cant—cyhoeddwyd hynny heddiw—a bod aelwydydd yn gorfod wynebu'r baich hwnnw o bwysau cyllidebu ychwanegol ar arian prin. A dyna pam rwy'n falch iawn o ddweud y byddai Llywodraeth Geidwadol newydd yn y dyfodol yn rhewi'r dreth gyngor am y ddwy flynedd nesaf, ac yn sicrhau ein bod yn gwneud ein dyletswydd o ran cyflawniad amgylcheddol—ein bod yn falch iawn o weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni sero net erbyn 2050.

Mae'r rhain i gyd yn ymrwymiadau pwysig sy'n bwysig i bobl Cymru, a chan mai hon yw dadl olaf pumed tymor y Cynulliad hwn, wrth inni fynd allan i ymgyrchu a dechrau'r ymgyrch etholiadol, bydd pobl yn gweld y syrthni sydd wedi gafael yn Senedd Cymru drwy gael Llafur mewn grym am 22 mlynedd, wedi'u cynnal gan eu cynorthwywyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn pleidleisio dros newid ar 6 Mai. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn pleidleisio heno dros y cynnig sydd ger eu bron ac yn diystyru'r gwelliannau a gyflwynwyd yn enw'r Llywodraeth ac yn enw'r cenedlaetholwyr. A dyna pam rwy'n gwneud y cynnig yn enw Mark Isherwood ar bapur trefn y Ceidwadwyr Cymreig.

18:10

Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a COVID-19, wedi:

a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;

b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar gyfartaledd;

c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;

d) Datgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;

e) Adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r rhai sy’n rhentu.

2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf ar Delyth Jewell i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Delyth.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd Cymru dim ond yn adfer yn llwyr drwy ethol llywodraeth newydd a fydd yn gadael i bobl Cymru, nid San Steffan, benderfynu ar ein dyfodol.

Yn credu bod angen newid cyfeiriad ar Gymru drwy ganiatáu i bobl Cymru ddweud eu dweud ynghylch a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol drwy gynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, er mwyn ailadeiladu Cymru, y dylai'r Senedd nesaf gael pwerau dros faterion sydd wedi'u cadw yn ôl i San Steffan ar hyn o bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni, ac Ystâd y Goron.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am bopeth dros y blynyddoedd ac am eich cyfeillgarwch chi.

Rwy'n cynnig gwelliannau ein grŵp. Mae'n briodol inni gau'r Senedd hon gyda dadl sy'n edrych tuag at ein dyfodol. Mae'r dyfodol hwnnw'n llawn posibilrwydd os dewiswn gredu ynom ein hunain fel cenedl, a rhoi'r gorau i roi ein ffydd yn ninistrwyr anhydrin San Steffan a grymuso ein pobl yn lle hynny. Rhaid imi gymeradwyo haerllugrwydd y grŵp Ceidwadol am gyflwyno'r cynnig hwn, y blaid sydd wedi torri biliynau oddi ar gyllideb Llywodraeth Cymru drwy gyni, wedi dwyn pwerau gan Gymru heb fandad ac wedi torri addewidion ar ariannu morglawdd Abertawe a thrydaneiddio prif reilffordd de Cymru. Eu plaid hwy sy'n dymuno ffrwyno a chaethiwo ein cenedl, plaid y Jacob Rees-Moggs a ddywedodd wrth ASau yr wythnos diwethaf mai iaith dramor yw'r Gymraeg, dirmyg ysgafala San Steffan tuag at bopeth nad yw'n Seisnig. Dim ond pan fydd Cymru'n ethol Llywodraeth a fydd yn galluogi'r bobl i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain, i ffwrdd o San Steffan, y bydd yn cyrraedd ei llawn botensial. Gwlad maint Cymru sy'n gallu adeiladu economi ffyniannus, ymffrostio mewn llywodraeth a chymdeithas sy'n adlewyrchu'r gwerthoedd ac a fydd yn meithrin ein diwylliant a'n hiaith, tra'n croesawu pawb sydd am wneud Cymru'n gartref iddynt.

Efallai fod system San Steffan yn ein rhwystro ar hyn o bryd, ond mae gobaith yn dod o hyd i ffordd, oherwydd mae herfeiddiwch yng nghalonnau pawb sy'n byw yng Nghymru, penderfyniad i frwydro yn eu blaen. Mae'n herfeiddiwch ag iddo wreiddiau dwfn. Wedi'r cyfan, rydym yn genedl hynafol a bywiog sydd wedi gorfod goresgyn caledi mawr. Y bardd David Jones a nododd fod Bleddyn Fardd, yn ei Farwnad i Lywelyn ap Gruffydd yn ystod gaeaf ofnadwy 1282, yn dal i feddu ar yr ehofnder gwych i allu cyfeirio at Gymru a oedd wedi'i chlwyfo i'r byw fel 'Cymru fawr'—Cymru fawr pan oedd popeth wedi'i chwalu a'i golli. Felly, rydym wedi camu ymlaen o drywaniad creulon y waywffon ar lannau'r Irfon ar y noson dyngedfennol honno i'r gwanwyn gobeithiol hwn yn 2021, gan edrych ar gymaint sydd wedi torri yn ein cymdeithas, a faint sy'n rhaid inni ei ailadeiladu.

A Chymru fawr yn sefyll o hyd. Cymru fawr sy'n wynebu dyfodol gyda statws cryfach, gorwelion ehangach, dyfalbarhad sy'n ddyfnach nag ymdrechion unrhyw blaid arall i'w chefnogi. Mae'r hyn fydd yn ein diffinio o'n blaenau, nid y tu ôl. 

A gwnaf i gloi, Dirprwy Lywydd, trwy ddyfynnu geiriau'r anfarwol John Davies ar ddiwedd ei lyfr Hanes Cymru pan mae'n trafod y ffaith bod nifer o haneswyr wedi gofyn pa bryd y bu Cymru:

'Ysgrifennwyd y llyfr hwn yn y ffydd a’r hyder na fu hi eto yn ei llawnder’.

18:15

Rwyf fi fy hun wedi eich adnabod ers imi fod yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ôl yn 2003. Rydych chi wedi bod yma ers amser maith. Rydych wedi gwneud llawer iawn, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn gweld eich colli.

Mae Cymru'n wlad a chanddi botensial enfawr, Ddirprwy Lywydd. Yn anffodus, dros y 22 mlynedd diwethaf, mae Cymru nid yn unig wedi methu cyflawni'r potensial hwnnw, ond ar gynifer o fesurau, mae wedi disgyn tuag at yn ôl. Yn dlotach, mae ein heconomi'n creu llai o gyfoeth i'w phobl, ac mae cyfraddau siopau gwag ar y stryd fawr wedi cynyddu. Mae cyllid ysgolion wedi methu dal i fyny â chyllid yn Lloegr; o ganlyniad, mae safonau ysgolion wedi gostwng. Wrth gymharu'n rhyngwladol, Cymru bellach yw'r wlad sy'n perfformio waethaf yn y DU, ac mae'n cymharu â hen wledydd y bloc Sofietaidd.

Bellach gennym ni y mae'r unig GIG yn y DU sydd wedi cael toriad yn ei gyllideb. Rydym yn gwario bron i £1 filiwn yn llai ar y GIG bob blwyddyn oherwydd y penderfyniad unllygeidiog hwnnw. Dyblodd rhestrau aros y GIG yn y flwyddyn cyn y pandemig, ac maent wedi cynyddu wyth gwaith yn ystod y cyfnod.

A phwy sydd ar fai am y methiannau hyn? Nid Llafur, does bosibl, nid y Blaid Lafur sydd wedi bod mewn Llywodraeth yng Nghymru am y ddau ddegawd diwethaf, does bosibl. Wrth wynebu degawdau o fethiannau a cholli cyfleoedd, unig ymateb Llafur bob amser yw ymosod ar Lywodraeth y DU, fel plant yn beio rhywun arall. Roedd Vaughan Gething yn gynharach heddiw yn gyflym i ymwrthod ag unrhyw gyfrifoldeb dros fethu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yng Nghymru a amlygwyd gan y pandemig hwn ger bron cenedl wedi'i brawychu sydd bellach yn sylweddoli, diolch i angen dybryd Mark Drakeford i wneud pethau'n wahanol er mwyn gwneud pethau'n wahanol, pwy y gallant ei feio am fethiant llwyr Llywodraethau Llafur olynol i fynd i'r afael â phroblemau allweddol a chydraddoldebau yn ein cymunedau tlotaf ar draws fy ardal i, Dwyrain De Cymru a Chymru, cymunedau y maent yn honni eu bod yn eu cefnogi.

Cymru yw'r rhan dlotaf o'r DU a chanddi hi y mae'r gyfradd uchaf o dlodi. Rhywbeth i ymfalchïo ynddo, Lywodraeth Cymru? Nid wyf yn credu hynny. A allech fod wedi gwneud rhywbeth i helpu gyda hyn dros y ddau ddegawd diwethaf? Rwy'n meddwl y gallech. Ni allwch guddio mwyach, Lywodraeth Lafur Cymru, oherwydd mae pobl yn ein gwlad bellach yn deall mwy am bwy sy'n rheoli beth, a bydd yn ddadlennol ac yn ddiddorol gweld, ar ôl yr etholiad hwn, os ydynt yn credu eich bod wedi gwneud gwaith da. Economi Cymru oedd y wannaf yn y DU cyn i'r pandemig daro o ganlyniad i 20 mlynedd o fethiant Llafur. Cyfaddefodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Llafur yr Economi a Thrafnidiaeth, nad oes gan Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw syniad beth y maent yn ei wneud ar yr economi. Eich hanes Llafur o wastraffu arian—. Boed ar astudiaethau dichonoldeb a pharatoadau ar gyfer ffordd liniaru'r M4, Cylchffordd Cymru, Pinewood, a llawer o bethau eraill—rydych wedi gwastraffu ein harian. Mae ein gwlad yn gweiddi am newid. Ar ôl degawdau o sefyll yn ei hunfan, colli cyfleoedd, a diffyg gweledigaeth gan Lafur, mae ein gwlad angen i bobl y wlad hon gefnogi'r Ceidwadwyr Cymreig i ffurfio Llywodraeth ym mis Mai. Dyma'r unig ffordd y gallwn sicrhau bod yr economi a busnesau'n codi'n ôl ar eu traed ac y gallwn eu helpu i ffynnu unwaith eto. Dyma'r unig ffordd y bydd Cymru'n cyflawni ei gwir botensial, drwy adeiladu ffordd liniaru'r M4 a fydd yn sicrhau ein bod yn denu'r buddsoddiad yng Nghymru y buom yn galw amdano ers degawdau. Rhaid gwneud hyn ochr yn ochr ag argymhellion y comisiynydd trafnidiaeth er mwyn manteisio i'r eithaf ar botensial economaidd Cymru. Nid yn unig hynny, byddwn yn sicrhau ein bod yn creu Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol sy'n addas i'r diben, ac y gall ein pobl ifanc ymfalchïo ynddi.

Mae ein GIG wedi bod yn arwyr dros y flwyddyn ddiwethaf yn enwedig, a byddwn yn ddyledus iddynt am byth. Mae angen inni eu helpu i wella, gwasanaethau a staff, yn y cyfnod adfer hwn rydym yn symud i mewn iddo, a buddsoddi yn y gwasanaethau sydd eu hangen i adfer ein cenedl, buddsoddi mewn gwasanaethau a buddsoddi yn yr anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth o wasanaethau a amlygwyd gan y pandemig. Byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn buddsoddi yn ein gwlad a'i phobl, fel y nododd Andrew R.T. Davies yn gynharach. Rwy'n falch o weledigaeth fy mhlaid ar sut i wneud i'r wlad hon ffynnu eto, sut i'w helpu i wella, a sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i'w helpu i wneud y gorau o'u bywydau drostynt eu hunain a'u teuluoedd.

18:20

A gaf fi hefyd dalu teyrnged i'r gwaith rydych wedi'i wneud ymhell cyn imi ddod yma i'r Senedd hon? Fe welir eich colli'n fawr iawn, ac mae eich presenoldeb a'ch gwaddol yn gadarn iawn wir, felly diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon, y ddadl lawn olaf cyn inni gau'r sesiwn hon, ac wrth wneud hynny, mae'n werth edrych yn ôl, oherwydd i rai pobl, mae'n wydr hanner gwag; i rai pobl, nid oes gwydr i ddal unrhyw beth o gwbl. Felly, rwy'n credu ei bod yn werth edrych ar rai pethau yma o ran cyflawniad, a chyflawniad Llafur mewn Llywodraeth yma dros y pum mlynedd diwethaf yn dilyn degawd a mwy o gyni, ac ni ellir ei ddiystyru, oherwydd cafodd Cymru ei gwerthu am lai na'i gwerth yn gyson gan Lywodraeth y DU dros y degawd hwnnw a'i throi allan i gardota. Yn wyneb y cyfnod pontio Ewropeaidd, rhoddwyd cymaint o ymdrech, cymaint o adnoddau tuag at hynny, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddyfodol Cymru, a wynebu'r heriau sydd bob amser yn bresennol, sef newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, a hefyd, wrth gwrs, yr her na welodd unrhyw Lywodraeth o gwbl mo'i thebyg sef trychineb COVID-19.

Ond er gwaethaf hynny hyd yn oed, yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi cyflawni pob un—pob un—o'n haddewidion fel Llywodraeth Cymru, Llafur Cymru. Gwnaethom gyflawni'r addewid uchelgeisiol digynsail ar y cynnig gofal plant ar gyfer addysg gynnar a gofal plant am ddim, a therapi lleferydd ac iaith ac yn y blaen i blant tair a phedair oed, i bob teulu, teuluoedd sy'n gweithio, am 48 wythnos o'r flwyddyn, ac fe'i cyflwynwyd i 14,500 o blant a'u teuluoedd ym mis Ionawr 2020. Gwnaethom gyflawni'r toriadau treth i bob busnes bach yng Nghymru, gyda'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ym mis Ebrill 2018; nid yw dros hanner yr holl fusnesau yng Nghymru bellach yn talu unrhyw ardrethi o gwbl, ac rwy'n siarad â llawer ohonynt yn fy etholaeth. Gwnaethom ddarparu 100,000 o brentisiaethau o safon ar gyfer pob oedran, ac o fewn y prentisiaethau hynny—cyraeddasom y targed yn 2020, gyda llaw—roedd bron i 60 y cant o'r prentisiaethau'n cael eu cyflawni gan bobl 25 oed a throsodd, gan roi ail gyfle iddynt yn eu gyrfaoedd ac yn eu swyddi ac mewn bywyd, a gwnaethom gyflwyno'r gronfa triniaethau newydd ar gyfer afiechydon sy'n bygwth bywyd. Cyn y gronfa triniaethau newydd, arferai gymryd 90 diwrnod i sicrhau bod meddyginiaethau a thriniaethau newydd eu cymeradwyo ar gael gan y GIG. Dim ond 13 diwrnod y mae'n ei gymryd bellach—13 diwrnod.

Ac wrth gwrs, gwnaethom ddyblu'r terfyn cyfalaf i'r rhai sy'n mynd i ofal preswyl: fe'i dyblwyd, mewn gwirionedd, ddwy flynedd yn gynharach na'r disgwyl. Dyma'r cynllun mwyaf hael yn y DU, felly pan fyddant yn mynd i ofal preswyl, bellach gall pobl gadw hyd at £50,000 o'u henillion haeddiannol, a gwn fod hynny'n bwysig iawn i'r bobl sy'n byw yn fy etholaeth. Ac wrth gwrs, o ran safonau ysgolion rydym wedi buddsoddi mewn mwy na brics a'r morter yn unig, gwnaethom gyflawni ein haddewid i roi £100 miliwn tuag at wella safonau ysgolion, nid brics a morter yn unig, ond lleihau maint dosbarthiadau babanod, a sefydlu'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, a arweinir erbyn hyn gan rai o fy nghyn-benaethiaid yma'n lleol, a gwella addysgu a dysgu Cymraeg. Ond nid hynny'n unig, Ddirprwy Lywydd. Er gwaethaf yr heriau o ddod i mewn ar ôl cyni, er gwaethaf heriau Brexit, er gwaethaf yr holl heriau eraill a gawsom, rydym wedi cefnogi mwy na 36,000 o blant mewn ardaloedd difreintiedig bob blwyddyn drwy ein rhaglen Dechrau'n Deg. Ie, dyna'r rhaglen Dechrau'n Deg y maent wedi ei thorri a'i darnio yn Lloegr. Fe wnaethom ni ei chynnal ac rydym wedi dal ati i fuddsoddi ynddi. Rydym wedi darparu gofal plant ar gyfer—

18:25

Yn wir, fe wnaf. Rydym wedi darparu gofal plant i 9,600 o blant drwy'r cynllun cymorth gofal plant drwy gyfnod y coronafeirws.

Ddirprwy Lywydd, gallwn barhau. Un o'r pethau y dylai pobl farnu'r Llywodraeth hon neu unrhyw Lywodraeth arno, ac unrhyw blaid arno, yw ei chyflawniad, ac un peth y gallwn ei warantu yw ein bod nid yn unig wedi cyflawni ein haddewidion, ond aethom ymhellach, a bydd dyfodol Cymru mewn dwylo da os ailetholwn Lywodraeth Lafur Cymru. Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl drwy gydnabod, yn ystod y pumed Senedd hon, y bu rhai ymyriadau cadarnhaol mewn perthynas â'r economi a seilwaith trafnidiaeth, yn ogystal â symudiadau i annog gweithgarwch entrepreneuraidd, ond rhaid dweud nad yw'r 15 mlynedd blaenorol o reolaeth Lafur, gyda helpu medrus Plaid Cymru ar un adeg, wedi bod yn ddim llai na thrychinebus i Gymru ac i economi Cymru.

Mae llawer gormod o amser ac arian wedi'i wario ar beirianneg gymdeithasol yn hytrach na thwf adeiladol i'r economi. Yr hyn rwy'n ei olygu wrth beirianneg gymdeithasol yw lledaeniad y trydydd sector yng Nghymru, strategaeth glir o greu swyddi i'r bechgyn lle mae bron bob swydd weithredol wedi ei llenwi gan aparatshiciaid Llafur. Yn ogystal, gwelsom fethiant llwyr y fenter Cymunedau yn Gyntaf, na chreodd unrhyw swyddi go iawn, ond a arweiniodd at lu o swyddi gweinyddol. Mae Merthyr Tudful yn enghraifft wych o'r methiant hwn, lle gwariwyd £1.25 miliwn o'r £1.5 miliwn a ddyrannwyd i'w sefydliad Cymunedau yn Gyntaf ar gyflogau gweinyddol. Mae cyfanswm gwariant yr arbrawf cymdeithasol wedi costio £410 miliwn i drethdalwyr Cymru rhwng 2001 a 2016, pan dynnwyd y plwg o'r diwedd.

Addawyd diwygio llywodraeth leol, gan droi 22 awdurdod lleol yn wyth awdurdod. Gellid dweud na ddigwyddodd hyn am fod y Blaid Lafur yn nwylo'r undebau llafur, sy'n gwrthwynebu ad-drefnu o'r fath. Mae hanes echrydus i addysg yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf—ysgolion dirifedi mewn mesurau arbennig, ac fel yn Nhorfaen, gwnaed yr awdurdod addysg lleol hyd yn oed yn destun mesurau arbennig. Ar hyn o bryd mae gennym dair o'r pedair ysgol uwchradd mewn mesurau arbennig. Mae methiant llwyr y Llywodraeth Lafur i fynd i'r afael â phroblemau addysgol wedi arwain at ostyngiad dramatig mewn cymwysterau ar gyfer y mwyafrif helaeth o ddisgyblion ysgol, i'r graddau y gallwn ddweud yn awr fod gennym genhedlaeth goll o blant. Anwybyddwyd cymwysterau galwedigaethol bron yn gyfan gwbl yn ystod y cyfnod hwn, er, a bod yn deg, gellir dweud eu bod yn cael sylw bellach, yn hwyr iawn.

Mae'r Llywodraeth Lafur yn cwyno am y ffaith ein bod wedi colli arian Ewropeaidd fel y'i gelwir—mewn gwirionedd, arian Prydeinig yn dod yn ôl i ni ar ôl i'r UE gymryd tua'i hanner ydyw. Y gwir amdani yw mai'r rheswm pam roeddem yn gymwys i gael yr arian oedd ein bod yn parhau i fod yn un o ranbarthau tlotaf yr UE, gyda 25 y cant o'n poblogaeth yn byw mewn tlodi a gydnabyddir yn swyddogol, gwaddol 20 mlynedd o reolaeth Lafur yng Nghymru.

Mae Llafur wedi bod yn colli ei phleidlais graidd ymhlith y boblogaeth ddosbarth gweithiol am yr 20 mlynedd diwethaf. Pryd y bydd yn newid ei pholisïau i'r rhai y mae'r bobl hyn yn eu harddel? Gellir dweud mai datgysylltiad y sefydliad hwn oddi wrth bobl Cymru, fel y mae ei wrthodiad i dderbyn pleidlais Brexit yn ei ddangos, pan bleidleisiodd niferoedd mawr o bobl ddosbarth gweithiol dros adael yr UE, sy'n achosi'r ymbellhau oddi wrth y Blaid Lafur. Mae Cymru a'i phobl weithgar yn haeddu gwell. Efallai y bydd y weinyddiaeth yn gwrando ar y bobl. Rhaid inni ddiwygio—bydd y Blaid Ddiwygio'n sicrhau'r diwygio hwnnw.

A gaf fi orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy eich llongyfarch ar eich cyfraniad gwych? Rydych yn eicon yn y sefydliad hwn. Fy nymuniadau gorau'n ddiffuant i chi ble bynnag a beth bynnag y dymunwch ei wneud yn eich ymddeoliad.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ffaith drist fod Llywodraethau Cymru olynol dan arweiniad Llafur wedi methu gwella cyfleoedd bywyd pobl Cymru. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae Llafur Cymru wedi methu cadw llygad barcud ar eu harferion gwario eu hunain. Gwastraffwyd cannoedd o filiynau o bunnoedd ar brosiectau oferedd, mentrau busnes aflwyddiannus a chwangos wedi'u rheoli'n wael. Ni all y dystiolaeth ond cyfeirio at Lee Waters a'i gasgliad nad yw Llafur Cymru, ers 20 mlynedd, wedi gwybod yn iawn beth y maent yn ei wneud ar yr economi.

Mae Llafur Cymru hefyd wedi llywyddu dros gacoffoni o argyfwng yn GIG Cymru: nid yw amseroedd aros canser wedi eu cyrraedd ers 10 mlynedd; nid yw'r targed o 95 y cant ar gyfer cleifion sy'n treulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys erioed wedi'i gyrraedd; ac nid yw'r targed o 95 y cant ar gyfer cleifion sy'n aros llai na 26 wythnos am driniaeth wedi'i gyrraedd ers 10 mlynedd. Er iddo gael bron i £83 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymyriadau a chymorth gwella rhwng 2015 a 2019, o saith bwrdd iechyd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a brofodd y lefel uchaf a gofnodwyd o ddigwyddiadau diogelwch cleifion, ac mae rhestrau aros yn parhau i gynyddu allan o reolaeth. Mae GIG Cymru wedi gwneud gwaith gwych yn trin ein trigolion hyd yn oed cyn y pandemig, ond mae'n bryd iddynt gael arweiniad sy'n grymuso eu hymdrechion.

Mae Llafur Cymru wedi siomi ein ffermwyr. Mae parth perygl nitradau Cymru gyfan bellach yn peryglu bywoliaeth pobl yng nghefn gwlad, gan achosi pryderon iechyd meddwl difrifol. Nid yw'r Papur Gwyn ar amaethyddiaeth yn hyrwyddo cynhyrchu bwyd, ac rydych yn eistedd ar strategaeth twbercwlosis a welodd ladd 9,762 o anifeiliaid yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2020. Yn wir, mae'r amgylchedd yn haeddu gwell na'ch methiant llwyr i gyflawni addewid arweinyddiaeth Mark Drakeford i greu Deddf aer glân, a'ch anallu i gyflwyno cynlluniau dychwelyd ernes ledled Cymru. 

Fel y nododd adroddiad diweddar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig,  

'Yn awr, rhaid troi’r rhethreg yn gamau beiddgar a phendant.'

Ni ddaw'r camau hynny gan Lafur Cymru, na'ch cyfeillion ym Mhlaid Cymru yn wir. Ac wrthynt hwy, rwy'n dweud mai bod yn rhan o'r undeb sydd orau i'n gwasanaeth iechyd ac i Gymru yn wir. Mae tua 13,500 o drigolion Cymru wedi'u cofrestru gyda phractis meddyg teulu yn Lloegr. Bod yn rhan o'r undeb sydd orau i'n heconomi. Mae tua 70,000 o bobl yn teithio allan o Gymru i weithio. Bod yn rhan o'r undeb sydd orau i'n trethdalwyr. Tra byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn rhewi'r dreth gyngor, byddai eich nonsens cenedlaetholgar dinistriol yn arwain at dreth uwch o tua £3,700 y pen.

Ym mis Mai, bydd y genedl hon ar groesffordd a gall pobl Cymru ddewis pleidleisio o blaid newid. Gadewch i ni am unwaith yn awr roi diwedd ar y cyfeiliornad fod angen inni newid cyfeiriad drwy gynnal refferendwm annibyniaeth. Mae angen newid, oes, ond newid cyfeiriad drwy groesawu arweinyddiaeth newydd fyddai hwnnw. Gyda'n cynllun gweithredu ac adfer, dim ond y Ceidwadwyr Cymreig a all sicrhau yfory llawer mwy disglair i Gymru. Diolch.

18:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ychwanegu fy llais at y rhai sy'n dweud pa mor ddiolchgar ydynt i chi am eich arweiniad cadarn a phenderfynol yn eich swydd fel Dirprwy Lywydd? Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn, yn ystod eich cyfnod yn y swydd, am eich arweiniad a'ch cefnogaeth, ac mewn gwirionedd, byth ers i mi ymuno â'r Cynulliad yn ôl yn 2011, rwyf wedi bod yn ddiolchgar am eich cyfeillgarwch, eich cyngor, eich arweiniad da a'ch presenoldeb cyson, eich hiwmor da, eich chwerthin a'ch hwyl. Byddaf yn gweld eich colli'n fawr, Ann, fel y bydd y gweddill ohonom, ac rwy'n dymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r Aelodau am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon. Credaf fod y Ceidwadwyr yn eithaf dewr i gyflwyno cynnig, sydd, fel arfer, yn dangos cyn lleied o gysylltiad sydd ganddynt â phobl Cymru, ac mae'n rhoi cyfle inni arddangos yr holl ffyrdd niferus rydym wedi sefyll dros bobl Cymru dro ar ôl tro, wrth gwrs, yn wyneb bygythiad y Torïaid.

Mae ein gwelliant yn nodi llond llaw yn unig o'n cyflawniadau fel Llywodraeth, a byddaf yn hapus i restru llawer mwy mewn munud, ond roeddwn yn meddwl y byddwn yn dechrau drwy rannu gyda chi y gwelliant gwreiddiol roeddwn yn ei ystyried, a byddai wedi dweud hyn: 'dileu popeth'—wrth gwrs, oherwydd bod y cynnig yn hurt—'a rhoi yn ei le: cynnig bod ein Senedd yn gresynu at y ffaith, er gwaethaf 20 mlynedd o ddatganoli, fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi addo peidio â gwario'r un geiniog ar bethau nad ydynt wedi'u datganoli'n llawn, pethau fel ein 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a ariennir gennym ni; yn gresynu bod y Ceidwadwyr wedi methu cynnig pecynnau cymorth busnes cystal â'n rhai ni sy'n well na dim arall a gynigir yn y DU; yn gresynu bod Ceidwadwyr y DU wedi gwastraffu £37 biliwn ar gontractau profi ac olrhain i'w ffrindiau, £37 biliwn a ddisgrifiwyd gan gyn Ysgrifennydd Parhaol y Trysorlys fel y rhaglen gwariant cyhoeddus fwyaf di-glem erioed; yn gresynu bod y Torïaid wedi diddymu'r lwfans cynhaliaeth addysg ac Erasmus, tra bod y Llywodraeth hon wedi camu i'r adwy i ddiogelu'r manteision amlwg sy'n dod gyda'r ddau gynllun; yn gresynu yn wir at y modd y mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru a'r DU yn dirmygu datganoli. Mae hyn yn arbennig o amlwg ar hyn o bryd, mewn adroddiadau diweddar fod y Ceidwadwyr yn gresynu 'caniatáu i Lywodraeth Cymru redeg eich GIG eich hun ac ymateb i COVID-19'—ac rwy'n dyfynnu.

Wel, Ddirprwy Lywydd, nid ydym ni ar y meinciau hyn yn rhannu'r safbwyntiau hynny. Yn wir, oherwydd y Llywodraeth hon ac ymroddiad gweision cyhoeddus rhyfeddol ledled Cymru, rydym wedi dangos sut y dylid ei wneud. Mae gennym raglen brofi ac olrhain ragorol, sy'n cael ei rhedeg gan ein hawdurdodau lleol ein hunain, a heb ei rhoi ar gontract allanol i'r cynnig uchaf. Mae gennym un o'r rhaglenni brechu gorau yn y byd, gyda dros 50 y cant o'r boblogaeth oedolion wedi cael eu dos cyntaf. Gennym ni y mae'r pecyn cymorth busnes mwyaf hael yn y DU, sy'n dangos mai Llafur yw plaid arloesedd ac entrepreneuriaeth. Rydym wedi darparu gwerth dros £1.5 biliwn o arian ychwanegol i'n GIG, ac wedi sicrhau dros 580 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol, ac rydym wedi rhannu peth ohono â Lloegr. Rydym wedi cryfhau ein rhaglen prydau ysgol am ddim ac wedi dosbarthu dros 2.1 miliwn o flychau bwyd i'r rhai ar y rhestrau gwarchod. Rydym wedi ychwanegu dros £13 miliwn at ein cronfa cymorth dewisol i helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf gan y pandemig. Rydym wedi darparu gwerth £20 miliwn o gyllid brys i awdurdodau lleol ac wedi cartrefu dros 7,000 o bobl yn ystod y pandemig, ac yn wahanol i Loegr, nid ydym erioed wedi symud oddi wrth ein polisi 'pawb i mewn' yn ystod y pandemig hwn, ac rydym yn falch iawn o hynny. Rydym wedi darparu taliad 'diolch' o £500 i staff a staff gofal y GIG, taliad y mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi gweld yn dda i'w drethu. Rydym wedi sefydlu cronfa gwerth £18 miliwn i weithwyr llawrydd, cronfa nad yw'n bodoli yn Lloegr, ac wedi sicrhau gwerth dros £90 miliwn o gymorth i'n sectorau diwylliannol allweddol, ar adeg pan oedd y Torïaid yn dweud wrth artistiaid am ailhyfforddi fel arbenigwyr TG.

Mae'r Torïaid yng Nghymru wedi fflip-fflopian dros fesurau y maent yn eu cefnogi ac nad ydynt yn eu cefnogi. A hwythau wedi'u clymu wrth Lywodraeth anwadal yn y DU, maent wedi gwneud y dewis anghywir dro ar ôl tro. Mae'n realiti rhyfedd pan fo gennym Blaid Geidwadol sydd am ddadariannu'r heddlu a chael gwared ar bob un o'n 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, plaid nad yw'n dangos unrhyw edifeirwch am wastraffu £37 biliwn yn hytrach nag ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ac sydd wedi profi'n wan ar fusnes, yn ddi-hid tuag at weithwyr llawrydd, ac yn galongaled ar fater prydau ysgol am ddim. Nid dyma yw ein cyflawniad ni yng Nghymru.

Dim ond cipolwg yw ein gwelliant ar y ffordd rydym wedi ymladd dros bobl Cymru dro ar ôl tro, y ffordd rydym wedi cryfhau ein GIG, wedi diogelu swyddi, wedi darparu 100,000 o brentisiaethau, wedi adeiladu ysgolion, wedi diwygio ein cwricwlwm, wedi ymladd yn erbyn newid hinsawdd, wedi adeiladu 20,000 o gartrefi, wedi creu gweledigaeth ar gyfer twristiaeth a diwylliant, wedi cryfhau ein hawdurdodau lleol, wedi buddsoddi yng nghanol y dref, wedi ymestyn gofal plant, wedi helpu pobl a busnesau i dalu llai o dreth ac ardrethi, wedi blaenoriaethu hawliau gweithwyr a'r bartneriaeth gymdeithasol, wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer iechyd meddwl. Rydym wedi cyhoeddi cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol na welwyd mo'i debyg o'r blaen. Ni oedd y genedl gyntaf i ddarparu proffylacsis cyn-gysylltiad ledled y DU. Gwnaethom gyflwyno gwasanaeth cydnabod rhywedd. Rydym wedi ymrwymo i dasglu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a wynebir gan bobl anabl. Rydym wedi cynyddu ein cyllid i fynd i'r afael â thrais a cham-drin domestig. Rydym wedi buddsoddi mewn teithio llesol, mewn creu lleoedd, a dod o hyd i atebion tai i heriau fel tlodi tanwydd, demograffeg newidiol a lleihau allyriadau carbon. Mae ein cymunedau a'n trefi arfordirol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, a dyna pam, er gwaethaf penderfyniad Llywodraeth Dorïaidd y DU i atal y cyllid pwysig hwn, ein bod wedi ymrwymo i ddarparu £6 miliwn ar gyfer ein trefi arfordirol.

Ddirprwy Lywydd, mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen, ac felly hefyd ein penderfyniad diwyro y byddwn, gyda'n gilydd, yn cadw Cymru i symud yn ei blaen. Lywydd, ar yr ochr hon i'r tŷ, rydym yn falch iawn o gyflawniad y Llywodraeth hon. Er gwaethaf heriau COVID a Brexit, rydym wedi cadw ein llygaid ar ddyfodol y wlad hon, ac ar y gobeithion y mae pawb ohonom yn eu rhannu. Diolch.

18:35

Diolch. Nid oes yr un Aelod wedi nodi eu bod yn dymuno gwneud ymyriad; felly, galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi hefyd ddechrau gyda theyrnged i chi? Fel Aelod o'r Senedd etholaeth gyfagos, rwyf wedi gweld drosof fy hun pa mor galed rydych chi'n gweithio ar ran eich etholwyr, a bydd yn golled fawr iddynt pan fyddwch yn rhoi'r gorau iddi. Rydych chi'n ddygn; rydych chi'n ymgyrchydd gwleidyddol gwych. Yn wir, rydych chi a minnau wedi mynd i drafferthion gyda'n pleidiau ein hunain am ymgyrchu weithiau dros faterion ar yr un ochr i'r ddadl, ond mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi, ac rydych chi wedi bod yn gydymaith teithio gwych hefyd ar sawl taith i fyny ac i lawr ar y trên rhwng gogledd a de Cymru.

A gaf fi droi at bwnc y ddadl hon, sef methiannau'r Blaid Lafur dros yr 20 mlynedd diwethaf? Roeddwn i'n meddwl bod y Gweinidog wedi ceisio gwneud gwaith da ohono, ond mae'n anodd iawn gwneud gwaith teilwng ohono pan fydd eich cyflawniad fel Llywodraeth mor erchyll. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r Blaid Lafur a'u cynorthwywyr bach ym Mhlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi difetha rhannau helaeth o wasanaethau cyhoeddus Cymru a'n heconomi. Rydym wedi gweld y methiannau sy'n amlwg iawn o hyd wrth gwrs yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, er gwaethaf y gwaith aruthrol y maent wedi'i wneud yn ymateb i'r pandemig. Mae gennym wasanaeth iechyd gwladol a oedd mewn argyfwng cyn mis Mawrth y llynedd. Mae argyfwng recriwtio yn dal i fodoli yn ein gwasanaeth iechyd gwladol—rhywbeth rydych chi wedi bod yn gyfrifol amdano ers dros 20 mlynedd. Gwyddom fod amseroedd aros allan o reolaeth yn llwyr; gwyddom nad yw amseroedd targed ar gyfer pobl sy'n mynd i mewn ac allan o'n hadrannau achosion brys erioed wedi'u cyrraedd; ac wrth gwrs, hoffwn eich atgoffa chi a'r bobl sy'n gwylio'r ddadl hon mai Llywodraeth Lafur Cymru, unwaith eto, yw'r unig Lywodraeth erioed yn hanes y Deyrnas Unedig sydd wedi torri cyllideb y GIG—rhywbeth nad wyf yn credu ei fod yn gyflawniad y gallwch fod yn falch iawn ohono. Ac yna, wrth gwrs, mae Betsi Cadwaladr, yn fy iard gefn fy hun, wedi bod yn dihoeni mewn mesurau arbennig am fwy o amser nag unrhyw sefydliad GIG mewn hanes ac mae'n dal i fod â phroblemau sydd eto i'w datrys.

Os edrychwch ar addysg, mae pobl eisoes wedi cyfeirio at y ffaith mai gan Gymru y mae'r system addysg sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan ar brofion Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Ac nid dim ond y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, dyma'r unig genedl yn y Deyrnas Unedig sydd yn hanner isaf tablau cynghrair y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—nid yw hwnnw'n gyflawniad i ymfalchïo ynddo. Ac nid yw'n syndod, mewn gwirionedd, o ystyried y bwlch cyllido fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr dan oruchwyliaeth eich Llywodraeth chi. 

Ac ar ein heconomi wedyn, mae gennym Weinidog—gwn ei fod yn casáu cael ei atgoffa o hyn, ond mae gennym Weinidog yn adran yr economi a ddywedodd nad oedd gan Lywodraeth Cymru syniad beth oedd yn ei wneud ar yr economi, ac roedd yn llygad ei le. Gallaf ei weld yn dal ei ben yn ei ddwylo, ac mae'n iawn iddo wneud hynny. Rydym yn anobeithio gyda chi, Lee Waters, ynglŷn â chyflwr ein heconomi yma yng Nghymru ar ôl dau ddegawd a mwy o Lafur—

18:40

Fe wnaf yn sicr. Rwy'n credu bod y pleidleiswyr yn yr etholiad nesaf yn wynebu dewis llwm iawn: mae ganddynt anhrefn cyfansoddiadol gyda Phlaid Cymru; mae ganddynt gyfle i bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd wedi gwneud eu nyth gyda'r Blaid Lafur dros y pum mlynedd diwethaf; neu gallant bleidleisio dros y Blaid Lafur a chael pum mlynedd arall o fethiant. Ond rwyf am eu hannog i bleidleisio dros blaid sydd â chynllun—cynllun ar gyfer mwy o feddygon, mwy o nyrsys, mwy o athrawon, ar gyfer uwchraddio ein seilwaith ffyrdd yng ngogledd Cymru, gorllewin Cymru a de Cymru, ar gyfer cyllid teg i'n cynghorau ledled y wlad ac ar gyfer plaid sydd o ddifrif ynglŷn â'r amgylchedd, plaid a fydd yn gwahardd plastigau untro yng Nghymru ac a fydd hefyd yn darparu Deddf aer glân i'n gwlad.

Rydym yn blaid sydd ag atebion i broblemau Cymru. Rydym am weld mwy o swyddi, ysbytai gwell ac ysgolion o'r radd flaenaf. Felly, rwy'n annog pawb yn y Siambr hon heddiw—y Siambr rithwir hon—i bleidleisio dros ein cynnig ac i anfon y neges honno at bobl Cymru fod y dewis yno iddynt ac y dylent bleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydw, rwy'n gweld gwrthwynebiadau, felly, fe ohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

22. Dadl Fer: Hosbisau plant—Cronfa achub i Gymru

Symudwn ymlaen at eitem 22, sef y ddadl fer, a symudaf yn awr at ddadl fer heddiw i ofyn i Mark Isherwood siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis—Mark Isherwood.

Diolch. A gaf fi ddechrau eto drwy ddweud cymaint rwyf wedi mwynhau gweithio gyda chi, yn enwedig yng ngogledd Cymru, ac yn bersonol, cymaint y byddaf yn gweld eich colli?

Symudaf ymlaen at fy araith. Rwyf wedi cytuno i gyfraniadau gan Rhun ap Iorwerth a Dawn Bowden ar ddiwedd yr araith hon. Amcangyfrifir bod 3,600 o blant yng Nghymru yn byw gyda chyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd. Er bod gan oddeutu 800 o'r plant hyn anghenion gofal lliniarol parhaus sy'n galw am gysylltiad â gwasanaethau ysbytai, dim ond tua hanner y rhain sy'n cael seibiant mewn hosbisau plant ar hyn o bryd. Bydd yr astudiaeth o ddigwyddedd a nifer yr achosion a gomisiynwyd yn ddiweddar gan grŵp craidd bwrdd gofal diwedd oes Cymru gyfan yn rhoi ffigurau mwy diweddar inni am nifer y plant ag anghenion gofal lliniarol, a disgwylir y bydd y ffigur hwn yn cynyddu'n sylweddol yn eu hadroddiad.

18:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol yn y Senedd hon, noddais a siaradais yn nigwyddiad Wythnos Gofal Hosbis Hospice UK ym mis Hydref 2019, pan ddywedais fod hosbisau plant yn dweud 

er eu bod yn gweithredu ar sail "prynu un, cael saith neu wyth am ddim", cyllid gwastad statudol y maent wedi bod yn ei gael ers deng mlynedd.

Y mis canlynol, arweiniais ddadl yma, gan nodi adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol ar anghydraddoldebau mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol, pan ddywedais,

'Mae hosbisau plant Cymru yn galw am weithredu ar yr argymhellion a wnaed gan adroddiad y grŵp trawsbleidiol ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru ariannu'r astudiaeth sy'n archwilio'r galw am ofal lliniarol i blant yng Nghymru ac i ba raddau y mae hynny'n cael ei gyflawni.'

Flwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd y ddwy elusen hosbis plant yng Nghymru, Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, eu hadroddiad ar y cyd, 'Lleisiau ein Teuluoedd'. Roedd yr adroddiad hwn yn cyflwyno'n rymus ac yn glir, ac yn eu geiriau hwy,

pryderon pwysicaf teuluoedd sydd â phlant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd.

Roeddent yn galw hosbisau plant yng Nghymru yn 'achubiaeth', ac yn dweud eu bod angen mwy o'r gofal na all ond hosbisau ei ddarparu a hynny ar frys, yn enwedig mewn perthynas â gofal seibiant. Mae'r adroddiad yn amlinellu eu cynnig i symud tuag at fodel ariannu cynaliadwy sy'n cyd-fynd yn well ag elusennau hosbisau plant ym mhob gwlad arall yn y DU. Bydd yr arian hwn yn rhoi hyder i hosbisau plant yng Nghymru allu cynnal ac ehangu eu gwasanaethau er mwyn diwallu'n well anghenion pob plentyn sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd, ledled y wlad, gan helpu yn eu tro i wireddu uchelgais Cymru i fod yn wlad dosturiol. Maent yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i sefydlu cronfa achub ar gyfer hosbisau plant yn nhymor nesaf y Senedd ac yn sicr, bydd fy mhlaid i'n ymrwymo i'r addewid hwnnw. 

Mae hosbisau plant yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau plant a theuluoedd y mae eu byd wedi ei droi wyneb i waered gan ddiagnosis o salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Gyda theuluoedd yn disgrifio hosbisau plant fel eu hachubiaeth, dywedodd y mwyafrif helaeth o deuluoedd a holwyd ar gyfer yr adroddiad mai hosbisau oedd eu hunig ffynhonnell neu eu prif ffynhonnell o ofal seibiant. Fodd bynnag, gan ddibynnu bron yn gyfan gwbl ar gyllid elusennol, dim ond tua chwarter yr amser y gallant ddiwallu'r anghenion hynny. Mae'r neges yn glir iawn: mae angen mwy o gymorth ar deuluoedd a hynny ar frys. Nid yw'n ymwneud â chyllid COVID, er eu bod yn ddiolchgar amdano. Mae'n ymwneud â chreu ffynhonnell ariannu gynaliadwy fel nad ydynt yn dibynnu ar haelioni'r cyhoedd yng Nghymru am 90 y cant neu fwy o'u cyllid, yn enwedig ar yr adeg hon o ansicrwydd economaidd mawr. 

Ac nid yw'n ymwneud â seibiant yn unig. Fel rhan o'r ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol, maent yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi plant a theuluoedd yn eu hosbisau, gartref, yn yr ysbyty, ac yn ein cymunedau, gan gynnwys gweithwyr cymorth i deuluoedd, cymorth i frodyr a chwiorydd, cwnsela profedigaeth a gofal diwedd oes.

Ddydd Llun, siaradais â Nerys Davies o Lanrwst, un o nifer o deuluoedd a rannodd eu stori hosbis gyda mi. Cafodd mab Nerys, Bedwyr, sy'n bump oed, ac sydd bellach yn defnyddio Tŷ Gobaith, ddiagnosis o syndrom genetig Coffin-Siris ddwy flynedd yn ôl. Mae'r cyflwr yn achosi anabledd dysgu sylweddol ac mae'n eithriadol o brin, gyda dim ond 200 o blant yn cael diagnosis ohono yn fyd-eang. Mae Bedwyr hefyd yn cael ei fwydo drwy diwb, mae ganddo broblemau anadlu ac nid yw'n gallu siarad. Fel y dywed Nerys, 'Nid yw hynny'n ei atal rhag cyfathrebu serch hynny. Mae'n cyfathrebu llawer drwy symudiadau, felly mae'n mynd â chi i'r gegin, i'r cwpwrdd, lle cedwir ei fyrbrydau. Mae e'n ddireidus iawn.' Mae gofalu am blentyn sydd â chyflwr fel un Bedwyr yn rôl amser llawn. Fel y dywed Nerys, 'Rydych chi'n edrych ymlaen yn fawr at y pethau bach y mae pobl eraill yn gallu eu cymryd yn ganiataol, fel gallu cysgu yn y nos neu eistedd i fwyta pryd o fwyd mewn heddwch, hyd yn oed os mai dim ond ffa pob ar dost yw'r pryd, neu ddim ond i gael cwpanaid o de. Mae seibiant hosbis mor bwysig i ni fel rhieni, yn gorfforol ac yn feddyliol, oherwydd hebddo, mae teuluoedd yn mynd i wynebu argyfwng yn y pen draw. Bydd hynny'n costio llawer mwy i'r gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd ymdrin ag ef yn y pen draw.' Fel y dywedodd wrthyf hefyd, 'Gallwn fynd i Ysbyty Gwynedd, ond mae gan Dŷ Gobaith wybodaeth arbenigol ar gyfer plant, ac mae'n wasanaeth un-mewn-miliwn i bob un ohonom.'

Daeth Bryn a Liz Davies o Fae Cinmel yn ymwybodol am y tro cyntaf fod gan eu baban yn y groth gyflwr ar y galon yn y sgan 20 wythnos. Yn ddwy oed, ar ôl cael dwy lawdriniaeth fawr eisoes, cafodd Seren ddiagnosis hefyd o anhwylder genetig eithriadol o brin. Roedd Seren wrth ei bodd gyda'i hymweliadau seibiant â Thŷ Gobaith. Gan ei bod mor hapus ac yn cael gofal gan nyrsys proffesiynol, a oedd yn gwybod am ei chyflwr ac yn ei ddeall, roedd Liz a Bryn yn teimlo y gallent ddal i fyny ar gwsg mawr ei angen ac ailwefru eu batris, a threulio amser gyda'u mab, Iwan. Meddai Bryn, 'Roedd yn dawelwch meddwl gwybod bod Seren mewn dwylo da iawn, a rhoddodd hynny amser i ni wneud yn siŵr fod Iwan yn cael plentyndod hefyd.' Yn anffodus, bu farw Seren ym mis Ionawr eleni, yn ddim ond chwe blwydd oed.

Dioddefodd Oliver Evans o Acrefair haint feirysol pan oedd yn fabi sydd wedi ei adael gyda chlefyd cronig yr ysgyfaint a phroblemau gyda'i arennau. Er mwyn goroesi, mae angen iddo fod wedi'i gysylltu 24 awr y dydd â'i gyflenwad ocsigen personol ei hun, a chymryd cyfres gyfan o wahanol feddyginiaethau. Fel y dywedodd ei fam, 'Yn ystod cyfyngiadau symud COVID, pan oeddem yn gwarchod, maent hwy yno drwy'r amser hefyd, yn fy ffonio'n rheolaidd i gadw llygad arnom a chynnig help a chyngor, a hyd yn oed yn dod i siarad drwy'r ffenestr mewn cyfarpar diogelu personol llawn. Fe wnaethant hyd yn oed ein helpu drwy gasglu holl feddyginiaeth Oliver a dod ag ef atom. Ni allaf ddechrau meddwl sut beth fyddai bywyd i ni heb Dŷ Gobaith. Hwy'n bendant yw ein hachubiaeth.'

Mae hosbisau plant yn darparu gofal a chymorth gydol oes dwys iawn, yn bennaf dros gyfnod estynedig, blynyddoedd lawer yn aml, yn hytrach na'r gofal dwys iawn sy'n aml yn digwydd yn sydyn ond am gyfnod cymharol fyr sy'n fwy cyffredin yn y sector oedolion. Nid yw mater cyllid anghyfartal i hosbisau plant yng Nghymru yn newydd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maent wedi syrthio ar ôl gwledydd eraill y DU o ran y cymorth sydd ar gael i'r teuluoedd mwyaf agored i niwed hyn. Mae hosbisau plant yn yr Alban yn cael hanner eu cyllid gan y wladwriaeth. Yn Lloegr, mae'n 21 y cant; yng Ngogledd Iwerddon, mae'n 25 y cant. Cyhoeddodd Gweriniaeth Iwerddon yn ddiweddar y byddai'n ariannu 30 y cant o gostau rhedeg hosbisau plant. Yng Nghymru, mae'r ffigur cymharol yn llai na 10 y cant.

Yr hyn sydd wedi newid yw'r dystiolaeth a gasglwyd yn adroddiad 'Lleisiau ein Teuluoedd', ynglŷn â'r effaith y mae'r setliad ariannu cyfyngedig hwn yn ei chael ar rai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Dyna pam eu bod yn galw am gronfa achub i hosbisau plant yng Nghymru, er mwyn ariannu nosweithiau ychwanegol hanfodol o ofal mewn hosbisau plant i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yng Nghymru. Roedd 'Lleisiau ein Teuluoedd' yn glir: mae nosweithiau ychwanegol o seibiant dan arweiniad nyrsys ar gyfer pob plentyn a theulu, gyda chefnogaeth yr hosbisau, yn hanfodol i iechyd meddwl a'r berthynas rhwng aelodau'r teulu cyfan, ac yn eu hachub rhag torri. Caniatáu i hosbisau ddatblygu perthynas gadarnhaol â'r teulu drwy gydol oes plentyn, gan sefydlu gwaith partneriaeth dibynadwy, a dealltwriaeth ddyfnach o anghenion y plentyn a'r teulu. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at ofal diwedd oes a chymorth profedigaeth mwy effeithiol, a chanlyniadau gwell i'r teuluoedd ar yr adeg y maent yn wynebu'r anochel a'r torcalon o golli eu plentyn. Lleihau derbyniadau heb eu cynllunio a derbyniadau mewn argyfwng i'r ysbyty i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, gan leihau'r baich ar y GIG yn ei dro. Sicrhau y gall ein hosbisau gynnal ac ehangu eu gofal mewn meysydd eraill, megis ffisiotherapi a chymorth therapiwtig arall, cymorth a chyngor clinigol, ac fel rhan o ecosystem ehangach darparwyr gofal diwedd oes y GIG a chymorth profedigaeth. Rhoi hyder ariannol i hosbisau gynllunio i ehangu gwasanaethau cynaliadwy, a chyrraedd mwy o blant a theuluoedd, gan wybod y gallant ddiwallu eu hanghenion heb amddifadu eraill o wasanaethau hanfodol. Cefnogi llywodraeth leol i fodloni ei gofynion statudol mewn perthynas â gofal seibiant, na ellir ei fodloni heb sector hosbisau plant cynaliadwy. Symud Cymru o waelod tabl y gwledydd cartref, o ran cyllid y pen i hosbisau plant. Ac yn y pen draw, sicrhau bod Cymru'n cymryd cam hanfodol ymlaen yn ein cenhadaeth genedlaethol i ddod yn wlad dosturiol.

Rwyf am orffen drwy ddyfynnu'r hosbisau plant eu hunain, a ddywedodd wrthyf: 'Rydym yn falch o fod yn elusennau. Nid ydym yn chwilio am gardod, rydym yn chwilio am rywbeth sy'n gwarantu i'r teuluoedd hyn y byddwn yno ar eu cyfer. Rydym am ddiwallu'r angen.' Yn olaf, ond nid yn lleiaf, roeddent yn dweud, 'Mae cyllid statudol yn gorffen wrth ein drysau ar hyn o bryd. Byddai agor hyn yn ein galluogi i gynnig mwy o ofal seibiant a mwy o wasanaethau i'r rhai sydd ein hangen.' Sut y gallai unrhyw un anghytuno â hynny? Diolch.

18:55

Diolch, Mark Isherwood, am y cyfle i ddweud ychydig eiriau yn y ddadl olaf un yn y pumed Senedd, ac mae hi'n ddadl bwysig iawn. Yr oll dwi eisiau ei ddweud ydy na allwn ni orbwysleisio pwysigrwydd y gofal sy'n cael ei gynnig yn ein hosbisau plant ni yng Nghymru. Ac mae cael ymrwymiad cwbl gadarn gan y Llywodraeth i sicrhau cefnogaeth i'r sector yma yn allweddol. Dwi'n edrych ymlaen, gobeithio, i gael cyfle i gynyddu'r gefnogaeth honno yn y chweched Senedd. 

Dwi eisiau ategu galwad Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan i sefydlu lifeline fund, cronfa fyddai'n gwneud yn union beth mae hi'n ei ddweud, sef bod yn achubiaeth i'r hosbisau eu hunain, yn cefnogi a chynnal eu gwaith nhw, yn caniatáu ymestyn eu gwaith, ond, yn allweddol, yn gwneud hynny er mwyn cynnig lifeline i'r teuluoedd sydd mor ddibynnol ar y gwasanaethau. Mae yna ddiffyg dybryd o ofal seibiant i blant a dyma gyfle i roi sylfaen gadarnach i wasanaethau mewn blynyddoedd i ddod. 

Diolch, Mark Isherwood, am gyflwyno'r ddadl bwysig iawn hon, ac roeddwn am ddweud mor addas yw hi ein bod yn trafod mater mor bwysig ar ddiwrnod olaf tymor y Senedd hon. Ac rwyf am siarad yn fyr iawn am deulu yn fy etholaeth.

Rwyf eisiau siarad am Caden. Mae'n byw gyda'i fam, Lisa, ym Merthyr Tudful, a dywedodd Lisa fod ei bywyd wedi stopio y diwrnod y cafodd hi Caden, oherwydd wedyn daeth yn nyrs iddo, 24 awr y diwrnod, saith diwrnod yr wythnos. Credaf y gall llawer o rieni newydd uniaethu â hynny, yn enwedig wrth ymdopi â'r pandemig, ond pan ychwanegwch y straen o wybod bod gan y bachgen bach hwn salwch sy'n cyfyngu ar fywyd ac y gallai'r bywyd hwnnw ddod i ben ar unrhyw adeg, gallai'r pwysau hwnnw fod yn aruthrol. Cyn mynd i Dŷ Hafan a chael gofal seibiant, dywedodd Lisa fod y pwysau'n aruthrol iddi, nid oedd yn ymdopi ac roedd hi'n gwadu'r modd roedd y pethau hyn yn effeithio arni. Diolch byth, fe gafodd y gofal seibiant a gynigiwyd i Caden a'i deulu wared ar y pwysau hwnnw: fe wnaeth ganiatáu iddynt ddal i fyny â'u cwsg; rhoddodd le diogel iddynt siarad am yr heriau roeddent yn eu hwynebu; ac roedd Caden wrth ei fodd yn chwarae a rhyngweithio â phlant eraill. Newidiodd bopeth i'r teulu hwnnw.

Dyna pam y mae'r teuluoedd hyn yn cyfeirio at y gofal a gânt mewn hosbisau fel achubiaeth, fel y mae Mark Isherwood eisoes wedi'i ddweud, a pham y mae cymaint o angen cronfa achub bwrpasol. Rwy'n nodi bod adolygiad ar ariannu hosbisau wedi'i gyhoeddi, ac rwy'n croesawu hynny, ond gwyddom eisoes nad yw anghenion y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru'n cael eu diwallu'n llawn. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn i gyd ymrwymo heddiw, fel un o weithredoedd terfynol y Senedd hon, i sicrhau bod cronfa achub yn flaenoriaeth ar unwaith i'r Senedd nesaf.

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl, Vaughan Gething. 

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl bwysig hon i'r Siambr ac i Dawn Bowden a Rhun ap Iorwerth am y cyfraniadau y gwrandewais arnynt. Ac rwy'n cydnabod y straeon y mae pob un ohonynt wedi'u hadrodd am yr effaith uniongyrchol y mae hosbisau plant yn ei chael, nid yn unig ar y plant, ond ar eu teuluoedd ehangach a'u gofalwyr hefyd. Rwy'n cydnabod, a dylwn ddweud, Lywydd, fod un o'r hosbisau plant yn fy etholaeth i mewn gwirionedd. Mae hosbis Tŷ Hafan yn Sili, ym mhen deheuol De Caerdydd a Phenarth. Felly, cyn fy amser fel Gweinidog yn y Llywodraeth, roedd gennyf rywfaint o ddealltwriaeth eisoes o'r gwasanaethau eithriadol o bwysig y mae hosbisau'n eu darparu ar gyfer gofal diwedd oes, ond yn fwy na hynny, fel y dywedais, y cymorth y maent yn ei ddarparu i gleifion, teuluoedd a gofalwyr.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bob blwyddyn, mae ein hosbisau plant yn cefnogi tua 500 o blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yma yng Nghymru, ac mae'r cydbwysedd hwnnw o ofal diwedd oes a gofal parhaus i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal yn deillio o gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yn aml yn digwydd dros nifer o flynyddoedd. Rwyf hefyd am gydnabod y cymorth a'r cyngor amhrisiadwy y mae ein hosbisau plant yn eu darparu i deuluoedd ar gyfer rheoli poen a symptomau gofidus eu plentyn, ond hefyd, fel y dywedodd yr Aelodau, y seibiant byr y gallant eu cynnig i deuluoedd, y cymorth gofal diwedd oes tosturiol a'r gefnogaeth emosiynol hyd at a thu hwnt i farwolaeth plentyn. Mae ymchwil yn dangos bod nifer gyffredinol y plant a'r bobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd wedi cynyddu, ac mae modelu'n awgrymu y bydd y niferoedd hynny'n parhau i gynyddu ychydig flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y degawd nesaf. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod disgwyliad oes yn cynyddu, gyda phobl yn byw'n hirach oherwydd datblygiadau mewn triniaethau a thechnolegau meddygol. O ganlyniad, mae mwy o bobl ifanc yn symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, sydd wedi bod yn her i hosbisau'r plant hynny, wrth iddynt reoli'r pontio yng ngofal pobl y maent wedi'u hadnabod ers amser maith. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gofal lliniarol a gofal diwedd oes i oedolion a phlant yn barhaus. Byddwn yn parhau i weithio gyda hosbisau i sicrhau eu bod yn gallu cael y cymorth a'r cyllid sydd ei angen arnynt. Ar hyn o bryd rydym yn buddsoddi £8.4 miliwn bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol. Mae llawer o hwn, wrth gwrs, yn mynd i gefnogi hosbisau oedolion a phlant. Rydym hefyd wedi dyrannu £9.3 miliwn o gyllid brys i hosbisau drwy gydol y pandemig er mwyn diogelu eu gwasanaethau clinigol craidd ac i gryfhau cymorth profedigaeth. Credaf fod pob un ohonom yn ymwybodol fod eu ffynonellau incwm arferol gan y cyhoedd wedi lleihau'n sylweddol drwy'r flwyddyn eithriadol a aeth heibio. Yn wir, mae dros £2 filiwn o'r arian wedi'i ddyrannu i'n hosbisau plant yma yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'r bwrdd gofal diwedd oes i adolygu cyllid ar gyfer hosbisau, ac mae'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Yn dilyn y ddadl flaenorol yn y Siambr ar ofal lliniarol ym mis Chwefror, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith ehangach sy'n mynd rhagddo ar draws gofal lliniarol i oedolion a phlant. Roedd yn cynnwys ymarfer pwyso a mesur gan y bwrdd gofal diwedd oes, a fydd yn sefydlu llinell sylfaen o gapasiti ar draws y gwasanaethau i oedolion a'r gwasanaethau i blant. Bydd hefyd yn cynnig ystyriaeth o'r datblygiadau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion yn y dyfodol. Rwy'n credu mai dyna'r pwynt sydd wedi'i wneud yma mewn gwirionedd: sut y mae sicrhau bod cyllid yn diwallu'r anghenion y deallwn y byddant yn digwydd yn y dyfodol. Mae'r ymarfer pwyso a mesur, a fydd ar gael yn ddiweddarach y mis hwn, wedi'i lywio gan fodel gwasanaeth i fynd i'r afael â mynediad teg i blant â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd yng Nghymru a ddatblygwyd gan Dr Richard Hain. Ef yw'r arweinydd clinigol ar gyfer gofal lliniarol pediatrig yng Nghymru. Cadarnhaodd y datganiad ysgrifenedig hefyd y caiff yr ymarfer pwyso a mesur ei gefnogi gan asesiad modd o ofal lliniarol pediatrig, a bydd hwnnw'n darparu data cadarn i gynllunio gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yma yng Nghymru. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei gomisiynu ar hyn o bryd.

Y mis diwethaf, cyfarfûm â phrif weithredwyr Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith i drafod yr adroddiad 'Lleisiau ein Teuluoedd' a'u hargymhelliad ar gyfer cronfa achub. Cawsom drafodaeth ddefnyddiol ac adeiladol ar y symudiad tuag at fodel ariannu mwy cynaliadwy ar gyfer hosbisau—un sy'n cyd-fynd yn well ag elusennau cyffelyb yng ngwledydd eraill y DU—a phwysigrwydd gofal seibiant wrth gwrs. Rydym yn parhau i werthfawrogi'r cymorth a'r gefnogaeth y mae ein holl ofalwyr di-dâl yn eu darparu mewn amgylchiadau sy'n aml yn anodd iawn yn emosiynol. Maent yn rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal yma yng Nghymru. Dyna pam rwy'n falch ein bod ni wedi lansio ein strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl ddoe. Mae'r strategaeth honno'n amlinellu ein cefnogaeth bresennol i ofalwyr di-dâl ac yn edrych ymlaen at sut y gallwn wella cymorth i sicrhau bod pob gofalwr yn cael bywyd ochr yn ochr â'u cyfrifoldebau gofalu. Mae'n nodi pedair blaenoriaeth genedlaethol ddiwygiedig i'w dilyn gan gynllun cyflawni manylach yr hydref hwn. Mae seibiant a gwyliau byr yn faes ffocws allweddol yn y strategaeth newydd honno.

Mae'r cymorth presennol i ofalwyr di-dâl, wrth gwrs, yn cynnwys cyllid o fewn y setliad llywodraeth leol i awdurdodau lleol allu cyflawni eu dyletswydd i gefnogi gofalwyr di-dâl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym hefyd yn darparu £1 filiwn o gyllid blynyddol i fyrddau iechyd lleol a'u partneriaethau gofalwyr, ynghyd ag arian sydd ar gael drwy'r gronfa gofal canolraddol. Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn parhau i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau, gan dargedu grwpiau allweddol, a all gynnwys darparu cymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol i ofalwyr. Mae hynny'n cynnwys cyfleoedd ar gyfer gwyliau byr. Rydym hefyd yn darparu cyllid i Gronfa'r Teulu i ddarparu grantiau i deuluoedd a phlant anabl ar gyfer seibiant a gwyliau byr ac eitemau eraill.

Yr wythnos hon, cyhoeddais y fframwaith clinigol cenedlaethol. Mae'n nodi sut y dylai gwasanaethau clinigol ddatblygu dros y degawd nesaf ac yn cadarnhau bod datganiadau ansawdd yn cael eu cyflwyno i bennu disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol. Mae'r fframwaith clinigol cenedlaethol yn disgrifio sut y bydd llwybr clinigol a rhaglenni cenedlaethol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, megis gofal diwedd oes, yn cefnogi gwell cynlluniau system a gwella ansawdd wrth ddarparu ein gwasanaethau. Bydd rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn cael ei sefydlu, unwaith eto gyda datganiad ansawdd lefel uchel ar gyfer datblygu gofal diwedd oes, a bydd hynny ynddo'i hun yn codi proffil gofal diwedd oes yn sylweddol o fewn ein byrddau iechyd ac yn sicrhau ffocws newydd ac atebolrwydd i'r agenda hon.

Er bod gwaith yn cael ei wneud, rwyf wedi ymestyn y cynllun cyflawni presennol ar gyfer gofal diwedd oes i fis Mawrth y flwyddyn nesaf, ynghyd ag £1 filiwn o gyllid i gefnogi ei weithrediad, tra bod y trefniadau newydd hynny'n cael amser i sefydlu a gwreiddio'n iawn. Bydd yr estyniad hwn yn caniatáu inni fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd a modelau gofal newydd y bu'n rhaid eu defnyddio yn ystod y pandemig, yn ogystal ag ystyriaeth o flaenoriaethau gan unrhyw Lywodraeth newydd yng Cymru. Byddai angen i unrhyw gynllun newydd ar gyfer darparu gofal diwedd oes gael ei lywio gan glinigwyr a lleisiau cleifion a chyd-fynd â'r weledigaeth a nodir yn y fframwaith clinigol cenedlaethol. Mae'r gwaith o ddatblygu'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal profedigaeth hefyd yn parhau, a bydd yr Aelodau'n gwybod bod hynny bellach yn destun ymgynghoriad wyth wythnos. Mae hwnnw'n nodi egwyddorion craidd a safonau gofynnol, ac unwaith eto fe'i cefnogir gan £1 filiwn o gyllid ychwanegol. Goruchwyliwyd y fframwaith hwnnw gan y grŵp llywio cenedlaethol ar brofedigaeth, sy'n cynnwys cynrychiolaeth o hosbisau ac elusennau profedigaeth plant a phobl ifanc ymhlith ei aelodau.

Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i rôl hanfodol ein holl staff hosbis, yn hosbisau oedolion a phlant, a'r gwaith y maent yn ei wneud yn darparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Yn benodol ar gyfer y ddadl hon, hoffwn gydnabod y cyfraniad a wnânt i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd sy'n byw gyda salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Rwy'n hynod ddiolchgar i bob un ohonynt am gynnal y gefnogaeth hanfodol hon drwy gydol y pandemig yn yr amgylchiadau mwyaf anodd. Gallaf sicrhau'r Siambr fod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel i oedolion a phlant. Byddwn yn parhau i weithio gyda hosbisau plant ac oedolion ledled Cymru i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw, gan gynnwys yr adolygiad, ac yna'r canlyniadau yn sgil cyflawni'r adolygiad o gyllid. Diolch, Lywydd.

19:05

Diolch i'r Gweinidog. Mae hwnna'n golygu ein bod ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fe wnawn ni gymryd toriad byr tan bod y bleidlais yn gallu cychwyn. Toriad byr, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:07.

19:15

Ailymgynullodd y Senedd am 19:15, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

23. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, y Biliau cydgrynhoi. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn fy enw i. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 7 - Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi: O blaid: 51, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 9 yw'r eitem i'w phleidleisio arni nesaf, sef y cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ar fusnes cynnar yn dilyn etholiad y Senedd, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, un yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 9 - Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd: O blaid: 50, Yn erbyn: 4, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Cynnig ar eitem 10 yw'r cynnig nesaf, sef y cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ar sub judice. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 10 - Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice: O blaid: 51, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

A'r cynnig nesaf i bleidleisio arno yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ar aelodaeth pwyllgorau. Dwi'n galw am y bleidlais ar y cynnig yma. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Eitem 12 - Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau: O blaid: 49, Yn erbyn: 6, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar eitem agenda 15, sef y cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ar ddiffiniad o grwpiau gwleidyddol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 15 - Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol: O blaid: 38, Yn erbyn: 17, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig i gymeradwyo'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 17 - Cynnig i Gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd: O blaid: 49, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar 'Edrych ar ddatganoli darlledu: Sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?' A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Bethan Sayed. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

19:20

Eitem 20 - Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Edrych ar ddatganoli darlledu: Sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?: O blaid: 50, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r pleidleisiau nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddyfodol Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 21 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf, felly dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.

Eitem 21 - Gwelliant 1 - Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 28, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2 nesaf. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 21 - Gwelliant 2 - Cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 10, Yn erbyn: 44, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 nawr, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 21 - Gwelliant 3 - Cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 10, Yn erbyn: 44, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7683 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a COVID-19, wedi:

a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;

b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar gyfartaledd;

c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;

d) Datgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;

e) Adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r rhai sy’n rhentu.

2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal ac, felly, rydw i angen, ar y bleidlais olaf un, defnyddio fy mhleidlais fwrw.

Rwy'n gwybod pa ffordd rwy'n pleidleisio, ond nid wyf yn gwybod sut i bleidleisio'n rhithwir fy hun, credwch hynny neu beidio. Rydych chi i gyd wedi bod yn ei wneud ers misoedd bellach. Felly, rwy'n bwrw fy mhleidlais yn erbyn y cynnig ac felly, y cynnig terfynol fel y'i diwygiwyd: o blaid y cynnig 27, neb yn ymatal, ac yn erbyn y cynnig 28.

Eitem 21 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Nawr, parodd hynny syndod i mi braidd, fy mhleidlais olaf un yn bleidlais fwrw gan y Cadeirydd. Mae rhywfaint o ddrama Shakespeareaidd yn perthyn i hynny, rwy'n siŵr. [Chwerthin.]

24. Datganiadau i Gloi

Beth bynnag, rydym bellach yn cyrraedd yr eitem olaf ar yr agenda heddiw ac eitem olaf ein gwaith fel Senedd yn ystod y tymor pum mlynedd hwn, ac rydym ar fin clywed sylwadau gan yr Aelodau na fydd yn dychwelyd i'r Senedd. Hwy yw'r Aelodau sy'n gwybod yn awr na fyddant yn dychwelyd, ond fel y dywedodd Jocelyn Davies wrthym unwaith, nid yw'r gweddill ohonom yn gwybod eto a fyddwn yn dychwelyd ai peidio. Cafodd eraill eu hethol yn 2016 wrth gwrs ac nid ydynt yma heddiw, ac rydym yn eu cofio'n annwyl ac yn gweld eu colli'n fawr.

Rŷn ni'n cofio'n annwyl iawn am Carl Sargeant, Steffan Lewis, a Mohammad Asghar.

Rwy'n eistedd mewn Siambr wag, bron yn wag. Byddai'n dda gennyf pe gallem fod wedi cael pob un ohonoch yma yn y Siambr y prynhawn yma, heno, i ffarwelio â'n gilydd ac i ddymuno pob lwc i'n gilydd, ond nid yw hynny i fod; dim ond fi a'r Dirprwy Lywydd heno. Rwyf am wahodd y rhai ohonoch sy'n dweud eich geiriau olaf yn y Senedd yn awr, ac rwy'n mynd i ddechrau drwy ofyn i chi rannu rhai o'ch sylwadau gyda ni, Suzy Davies.

19:25

Diolch yn fawr, Lywydd. Byddai'n dda gennyf pe baem yno yn y Siambr hefyd. Ni allaf gredu bod dros 40 mlynedd ers imi fynd allan i ddosbarthu taflenni dros bleidlais 'ie' yn 1979, ac nid wyf yn credu fy mod yn disgwyl bryd hynny—neu hyd yn oed yn awr, mewn gwirionedd—y byddwn yn diolch i chi i gyd yr holl amser hwn yn ddiweddarach o fainc flaen Geidwadol rithwir yn Senedd Cymru. Mae lle rydym yn awr yn fy atgoffa ychydig o 1979—y math hwnnw o deimlad o aflonyddwch a bygythiad ac ofn a diffyg grym, a'r ymatebion torfol i anghyfiawnderau hirsefydlog. Ond nid wyf yn derbyn y ddadl y bydd datganoli'n arwain yn anochel at annibyniaeth nac y dylid ei ddileu. Fel Ceidwadwr Cymreig, rwy'n dathlu sybsidiaredd—gair ofnadwy—ac rwy'n dathlu pragmatiaeth, yr allwedd i newid a'r allwedd i oroesi i'n holl seneddau a'n hundeb, a gobeithio y bydd yn adfer cywair y drafodaeth yn y Siambr hon hefyd, sydd, yn anffodus, wedi suro ers inni ddod i gysylltiad â gwahanol ffyrdd o edrych ar y byd.

Mae'n wir fod pobl Cymru wedi cymryd mwy o amser nag y byddwn wedi'i obeithio i'w mentro hi gyda phleidleisiau datganoledig. Ond er hynny, cyfeiriodd Kirsty Williams at densiwn creadigol rhwng y Llywodraeth a'r Senedd ddoe, a dyna pryd y mae'r Senedd hon wedi bod ar ei gorau a'n hetholwyr yn cael eu gwasanaethu'n dda. A dyna pryd y mae wedi teimlo'n dda i fod yma. Ond nid ydym bob amser wedi cael hynny. Rydym ni, y Senedd, yn cynrychioli'r bobl; nid dim ond y garfan letchwith ydym ni. Mae angen inni wneud cyfraith dda, mae angen rhwymedïau i hawliau, ac mae'r weithrediaeth hirsefydlog wedi anghofio ein rôl o bryd i'w gilydd.

Os wyf wedi gwneud fy marc yn yr wrthblaid, rwy'n falch, ond nid oes dim yn newid heb gymorth eraill, felly diolch i fy etholwyr am y fraint o'u cynrychioli, a fy staff, sydd wedi ei gwneud mor bosibl eu gwasanaethu, yn enwedig Jayne Isaac, sydd wedi bod gyda mi o'r dechrau. Diolch i fy nghyd-Aelodau pwyllgor a fy staff dros y blynyddoedd, a diolch i Lynne Neagle a Bethan Sayed, a gafodd eu geni i gadeirio eu priod bwyllgorau—Bethan, bydd gennym Pinewood bob amser. A fy nymuniadau gorau i'r Llywydd, y Dirprwy Lywydd, y prif weithredwr a phob un aelod o staff y Comisiwn sy'n cadw'r lle hwn i fynd, yn enwedig i Nia Morgan, y cyfarwyddwr cyllid, am ei hamynedd gyda mi fel Comisiynydd, ac i fy nghyfeillion yn fy ngrŵp a'i arweinwyr am roi i mi'r portffolios a'r pwyllgorau a oedd yn fwyaf addas i mi, yn enwedig i Paul am fy rôl amrywiaeth ac am agor Cymru newydd i mi. A dywedaf wrthych i gyd heb betruso fod y Senedd hon yn ymateb yn well i anghenion Cymru pan fydd yn adlewyrchu ei phoblogaeth. Mae angen i bob plaid, yn enwedig fy un i, roi trefn arnynt eu hunain mewn perthynas â chynrychiolaeth gyfartal, ac nid wyf yn petruso ychwaith i ddweud, er ei bod wedi bod yn llawenydd yn aml ac yn fraint gweithio gyda chi i gyd bob amser, rwy'n credu mai gweithio gyda nifer fwy o fenywod nag mewn unrhyw senedd y gallaf ei chofio sy'n gwneud y galwadau di-stop a'r aberth bersonol yn werth chweil, oherwydd mae'n Senedd lle gall menyw gyffredin fel fi gredu ei bod yn perthyn a lle gall pob dinesydd weld ei bod yn perthyn, felly—

diolch o galon am y fraint.

Diolch. Rwy'n sefyll yma yn fy araith olaf ar ôl treulio'r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn y Siambr hon. O fod yn Aelod benywaidd ieuengaf y Senedd, mae bywyd wedi newid, oherwydd rwy'n eich gadael ar ôl ymgyrchu'n angerddol yn erbyn anghyfiawnderau ar draws fy rhanbarth a thu hwnt. Rwy'n eich gadael fel person mwy aeddfed, sydd wedi gwneud camgymeriadau ond sydd wedi dysgu oddi wrthynt, fel menyw sy'n dal yn driw i fy egwyddorion, er mor anodd yw hynny i'w wneud yn y gêm hon a elwir yn wleidyddiaeth, ac fel mam newydd falch i Idris.

Mae Llywodraeth Cymru yn Llywodraeth ffeministaidd yn ôl ei honiad ei hun, ond rydym ymhell o fod yn gymdeithas ffeministaidd, na hyd yn oed yn un gyfartal. Dyma fi, gyda'r nos, wedi gollwng fy mhlentyn mewn gofal plant y bore yma, yn methu dweud nos da wrtho. Mae hyn yn wir am bob teulu. Os ydym am i wleidyddiaeth fod yn wirioneddol gynrychioliadol, rhaid inni fynd ymhellach i newid ein diwylliant. Rhaid i'r Senedd nesaf ei gwneud yn flaenoriaeth gynnar. Mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf y bydd fy ymadawiad yn golled i Gymru. Mae'n debyg na fydd eraill yn dweud hynny. Ond mae fy newis i, fel cynifer o famau newydd, yn un rwy'n teimlo fy mod wedi cael fy ngorfodi i'w wneud. Fel gwneuthurwyr penderfyniadau, cawsom gyfle i fabwysiadu argymhellion y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad, ond rydym yn awr yn gweld canlyniad bachu'r enillion hawdd. Bron i 20 mlynedd yn ôl, etholodd Cymru y Senedd 50:50 gyfartal rhwng y rhywiau gyntaf, ond ers 2003, mae wedi bod yn lleihau'n barhaus. Mesurir Llywodraeth wirioneddol ffeministaidd yn ôl ei gweithredoedd, nid ei geiriau. Bu'n rhaid i mi ymgyrchu i gael rhywun a allai weithio yn fy lle dros fy nghyfnod mamolaeth fy hun. Nid oedd gennym broses ar waith ar gyfer Aelod locwm o'r Senedd. Gallem fod wedi mynd i mewn i'r Senedd nesaf yn arwain o'r brig ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau, rhannu swyddi, cwotâu amrywiaeth. Mewn cyfnod digynsail, pan fydd menywod yn ofni bod ein hawliau'n crebachu i'r hyn oeddent yn y 1970au oherwydd effaith y pandemig, bydd y Senedd hon yn dod i ben gan wybod y dylai fod wedi gwneud mwy.

Ond rwyf am orffen yma ar yr hyn rwy'n ei wneud orau, sef cefnogi'r rhai sydd angen i mi fod yn llais iddynt. Felly, rwy'n gorffen gydag un alwad derfynol ar ran cenhedlaeth Cymru'r dyfodol. Er gwaethaf y ddadl rymus a gyflwynais ochr yn ochr â Lynne Neagle a Leanne Wood, mae cyfyngiadau mamolaeth yn dal i fod ar waith yng Nghymru. Creodd Llywodraeth Cymru asesiad risg yn ôl ym mis Tachwedd, ac eto dyma ni ym mis Mawrth ac nid oes dim wedi newid. Ond i leiafrif bach iawn, mae menywod beichiog yn geni eu plant ar eu pen eu hunain, heb gefnogaeth partner geni tan y camau olaf o esgor. Felly, ar ran y tadau sy'n cysgu mewn ceir a chysgodfannau bysiau fel nad ydynt yn colli genedigaeth eu plentyn, y menywod sy'n dioddef drwy gamesgoriad heb neb i ddal eu llaw, y mamau newydd, fel fi, sy'n dod o'r ysbyty ar ôl llawdriniaeth fawr oherwydd bod angen cefnogaeth ein partner arnom, a'r babanod, y rhai heb unrhyw lais sy'n dioddef fwyaf, rhowch ddiwedd ar y cyfyngiadau hyn. Mae COVID-19 yn ddifrifol iawn, ond o ystyried mai hunanladdiad yw'r achos marwolaeth mwyaf ymhlith mamau newydd yn y flwyddyn gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth, mae diogelu eu hiechyd meddwl hefyd yn fater o bwysigrwydd cenedlaethol. Gweithredwch, rhowch ddiwedd ar y cyfyngiadau hyn, ac atgoffwch fenywod a theuluoedd yng Nghymru nad ydynt wedi cael eu hanghofio, eu bod yn bwysig.

Diolch. Viva gweriniaeth Cymru.

19:30

Wel, nid oedd i fod i orffen fel hyn, oedd e? Roeddem i gyd i fod i fynd i ryw westy lleol lle gallwn fod wedi prynu diod i chi i gyd a dweud diolch—diolch yn fawr am eich cwmnïaeth, am y cyfeillgarwch, am y berthynas drawsbleidiol a fu rhyngom dros y blynyddoedd. Rwy'n mynd i weld colli llawer iawn ohonoch, ac rwy'n dymuno'n dda i chi i gyd, beth bynnag y byddwch yn ei wneud—sefyll etholiad, ceisio dod yn ôl. Dim gormod o lwc dda i rai o'r pleidiau eraill efallai, ond fel unigolion. Oherwydd un o'r pethau rwyf wedi ei werthfawrogi'n fawr yn y Senedd hon yw'r gallu mewn gwleidyddiaeth i ffurfio cyfeillgarwch drawsbleidiol, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i'r Senedd nesaf ei gofio mewn gwirionedd, a'i gofio'n dda.

Un o'r pethau trist iawn yw bod y bwrdd taliadau wedi lleihau cymaint ar allu pobl i aros yn hwy ar ôl gwaith a dod i adnabod ei gilydd fel na allwn sgwrsio, siarad mewn coridorau, yr adnabyddiaeth real honno rwy'n ei chofio o'r ychydig Seneddau cyntaf roeddwn yn Aelod ohonynt. Ac mae'n bwysig iawn, os ydych chi'n Aelod newydd dros Lafur, Plaid Cymru neu'r Ceidwadwyr, neu unrhyw blaid arall, a'ch bod yn ymuno—edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y pumed Senedd hon, pa mor anodd y bu i rai pobl deimlo eu bod wedi'u hintegreiddio yn y corff gwleidyddol. A pham y mae hynny'n bwysig? Yn fy marn i, mae'n bwysig oherwydd mae mwy na gwleidyddiaeth yn unig ar waith. Democratiaeth ydyw, ac mae angen inni goleddu'r ddemocratiaeth honno a gwneud iddi dyfu. Credaf mai dyna'r ffordd i'w wneud, cael meinciau cefn cryf, pwyllgorau cryf, grwpiau trawsbleidiol cryf, i ddwyn pa Lywodraeth bynnag sydd mewn grym i gyfrif, ac nid Llywodraeth y dydd yn unig, ond pob un o'n pleidiau. Oherwydd mae rhan i'w chwarae gan y garfan letchwith, Aelodau'r meinciau cefn, yr unigolion sydd â safbwyntiau cryf, ac mae'n ein gwneud i gyd yn well.

Ni allaf ddod â hyn i ben heb ddweud un peth arall, sef ei bod wedi bod yn fraint enfawr cael cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Lle arall y gallai merch o Loegr fod wedi dod iddo a chael plant sy'n Gymry, gŵr o'r Alban, ar ôl teithio'r byd, ac rwyf wedi teimlo cymaint o groeso ac yn gymaint o ran o'r etholaeth honno? Ac rwy'n gweddïo'n fawr y bydd pwy bynnag sy'n ei chael hi nesaf yn ei charu cymaint â mi. Mae gan bobl farn amdani; maent yn gweld bryniau gwyrdd tonnog Sir Gaerfyrddin neu draethau tywod Sir Benfro, ond fel cymaint o Gymru, mae'n feicrocosm o lawer o wahanol bobloedd, llawer o wahanol ddiwylliannau, llawer o wahanol grefyddau, o'r cyfoethog iawn i'r rhai heb ddim byd o gwbl. P'un a wnaethant bleidleisio drosof fi neu dros unrhyw un arall, maent oll yn etholwyr annwyl i mi ac rwyf wedi bod yn falch iawn o'u cynrychioli ac o'u cynrychioli yma, oherwydd yn yr etholaeth mae llawer o bobl a allai eu helpu gyda materion gofal cymdeithasol neu faterion gofal iechyd, ond fi yw'r unig un—. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, roedd hynny i fy atgoffa, Lywydd, mai dim ond tair munud sydd gennyf; ni allaf ei ddiffodd. Ond roeddwn am ddweud am bawb ohonom yma yn y Senedd, ni yw'r unig bobl sy'n gallu cynrychioli ein hetholaethau. Dyma ein prif swydd. Dyma lle mae'n rhaid inni wneud i bethau weithio dros Gymru. Diolch, ac edrychwch ar ôl eich hunain. Byddaf yn gweld eich colli i gyd.

A gyda llaw, nid wyf yn ymddeol—rwyf am wneud hynny'n glir iawn—felly rwy'n gobeithio eich gweld i gyd eto mewn bywyd gwahanol. Cymerwch ofal. 

19:35

Diolch yn fawr, Angela Burns, a diolch am wneud fy ngwaith drosof ac amseru eich hun. [Chwerthin.] Mae hwnnw'n ddatblygiad arloesol ar gyfer y chweched Senedd. Kirsty Williams.

Wel, Lywydd, codaf am y tro olaf fel un o'r rhai gwreiddiol, dosbarth 1999 sydd yma o hyd, heb eu tarfu gan weithredoedd Duw, yr etholwyr, na loteri system y rhestr ranbarthol. Ond o ddifrif, mae wedi bod yn bleser. Ond Lywydd, mae wedi dod ychydig yn rhy ffasiynol i ddibrisio gwleidyddiaeth, i ladd ar ddemocratiaeth, i danseilio ein Senedd a'n Llywodraeth ein hunain. Ac rwy'n cytuno efallai nad yw'n berffaith, ac nid wyf yn credu ein bod am gael system berffaith heb ddadl na thrafodaeth, sef yr hyn sy'n arwain at newid gwirioneddol, ond yr hyn a adeiladwyd gennym, yr hyn rydym yn ei adeiladu, yw democratiaeth sy'n addas i holl bobl ein gwlad. Nid yw byth yn rhywbeth sydd wedi ei wneud; mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i bob un ohonom barhau i'w wneud, parhau i'w berffeithio, parhau i'w ymestyn, ac rwyf mor falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â chymaint o bobl eraill i gyfrannu at y prosiect hwnnw.

Rwy'n dal i gredu'n angerddol fod gwleidyddiaeth, fel y'i disgrifiwyd gan Robert Kennedy, yn broffesiwn anrhydeddus, ac mae anrhydedd mewn dod o hyd i dir cyffredin er lles cyffredin ar draws y pleidiau a'r polisïau. Mae pob plaid ddifrifol yn y Senedd wedi gwneud ei chyfraniad ei hun i newid a chyflawni dros Gymru dros fy nau ddegawd yma, ac er gwaethaf ein hieuenctid cymharol fel democratiaeth, mae hynny'n arwydd o'n haeddfedrwydd fel sefydliad a diwylliant gwleidyddol—bod yn ddigon dewr i gyfaddawdu a chydweithio mewn modd dibynadwy ac agored pan fydd yr achlysur yn mynnu hynny. Mae gwahaniaethau'n iach, ond yn bendant nid heb werthoedd sylfaenol, cwrteisi a pharch, ac wrth gynnal y parch hwnnw at ein gilydd, rhaid inni gofio bob amser fod y prosiect hwn yn fwy nag unrhyw un ohonom. 

Yn olaf, Lywydd, rwyf am gofnodi fy niolch i'r staff sydd wedi fy nghefnogi i a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros y blynyddoedd, mewn swyddfeydd etholaethol ledled y wlad ac yn y Senedd. Hoffwn ddiolch am gymorth y gwasanaeth sifil yma yng Nghymru yn ddiweddar. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau o'r Senedd am y cyfeillgarwch, y gwmnïaeth ac ie, am yr hwyl a gefais yma. Ac yn anad dim arall, wrth gwrs, hoffwn ddiolch i bobl Brycheiniog a Sir Faesyfed am eu cefnogaeth dros y ddau ddegawd diwethaf. Efallai fy mod yn rhagfarnllyd, ond nid oes gennyf amheuaeth nad ein hetholaeth ni yw'r orau y gallai unrhyw un fod wedi cael y fraint o'i chynrychioli. Diolch o galon. 

Lywydd, mae fy ngyrfa wedi bod yn hanes dau sefydliad ac mae rhywbeth pwysig yn eu cysylltu. Y sefydliadau yw'r Deml Heddwch a'r Cynulliad, sydd bellach yn Senedd. A'r hyn sy'n eu cysylltu i mi yw mater hawliau plant.

Y Deml Heddwch yw adeilad art deco gorau Caerdydd, ond efallai ei fod yn sefydliad cenedlaethol nad yw'n cael ei werthfawrogi'n ddigonol. Mae'n hafan i'r sector gwirfoddol, ac yn fan lle mae rhai o'i gynadleddau a'i seminarau gorau wedi'u cynnal. Dechreuais fy ngwaith yno yn 1989: y flwyddyn y daeth y rhyfel oer i ben a'r flwyddyn y mabwysiadodd y DU Ddeddf Plant 1989 a phan fu i'r Cenhedloedd Unedig hyrwyddo a mabwysiadu'r confensiwn ar hawliau'r plentyn. Fel swyddog Unicef yng Nghymru, trefnais yr hyn a oedd yn un o'r cynadleddau cyntaf yn y byd i gyd ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. A chafodd confensiwn y Cenhedloedd Unedig effaith fawr ar waith cynnar y sefydliad hwn, ac yn wir mae'n dylanwadu ar ein gwaith o hyd.

Lywydd, y foment y byddaf bob amser yn fwyaf balch ohoni yn fy mywyd proffesiynol yw bod wedi eistedd yng nghyfarfod cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd Cymru wedi dod yn genedl wleidyddol, ac roeddwn yno i gymryd rhan ac arsylwi, er fy mod wedi gwrthwynebu'r datblygiad hwnnw. Am fraint, am anrhydedd oedd cael eich derbyn i sefydliad roeddech wedi ei wrthwynebu a chael eich gwahodd i wneud cyfraniad, ac i'r cyfraniad hwnnw gael ei werthfawrogi. 

Bu'n rhaid i'r Cynulliad cyntaf amsugno a gweithredu'n gyflym ar ganfyddiadau adroddiad Waterhouse, 'Ar Goll mewn Gofal'. Un o ganlyniadau'r bennod ddiflas honno oedd ein bod wedi sefydlu'r comisiynydd plant cyntaf yn y DU, ac mae'r swydd honno wedi bod yn gymaint o lwyddiant. Byth ers hynny, achos plant sy'n derbyn gofal, a elwir bellach yn blant sydd wedi cael profiad o ofal, sydd wedi bod agosaf at fy nghalon. Am fwy o flynyddoedd nag rwy'n dymuno ei gofio, rwyf wedi cadeirio'r grŵp hollbleidiol, a diolch i'n hysgrifenyddiaeth, y corff anllywodraethol gwirioneddol wych hwnnw, Voices from Care, am eu harweiniad. Roedd yn anrhydedd fawr, hefyd, fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i mi gadeirio grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant, ac rydym wedi gwneud llawer o waith, ac mae llawer iawn mwy i'w wneud eto i sicrhau bod pobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal yn cael y cyfle gorau posibl mewn bywyd.

Mae gormod o bobl a sefydliadau i ddiolch iddynt, ond rhaid sôn am rai, felly ymddiheuriadau i'r rhai rwy'n eu gadael allan. Hoffwn ddiolch i staff y Comisiwn, drwy gydol fy ngyrfa ond yn enwedig yn ystod fy nghyfnod fel Dirprwy Lywydd. Ac Elin, hoffwn ddiolch i chi am y ffordd rydych wedi arwain y sefydliad hwn yn y pumed Senedd. Hoffwn ddiolch i'r holl gyd-Aelodau rwyf wedi gwasanaethu gyda hwy, o bob plaid, ond yn enwedig y rhai o fy mhlaid fy hun, y credaf fy mod wedi'u gwylltio ar brydiau drwy fod ychydig yn rhy ddrygionus efallai. Hoffwn ddiolch i fy nheulu a fy ffrindiau, sydd wedi bod yno yn ystod y dyddiau anoddach i gynnal fy ysbryd. Yn anad dim, hoffwn ddiolch i fy staff, ac yn bennaf i fy nghynorthwy-ydd personol ers 22 mlynedd—fy mhartner gwleidyddol, mewn gwirionedd—Sarah Sharpe. Ac yn olaf, i bobl Canol De Cymru, diolch i chi am ganiatáu imi eich gwasanaethu. Rwy'n credu ei bod bellach yn ddiogel i mi ddweud fy mod wedi bod yn un o gefnogwyr Dinas Abertawe ar hyd fy oes, ond Caerdydd sydd bob amser wedi dod wedyn. Diolch yn fawr.

19:40

Diolch yn fawr, Llywydd, ac i chi mae'r diolchiadau cyntaf, am ddatblygu cyfansoddiad ein Senedd ni, ac yna am ymestyn ei neges i'r cyhoedd, ac yn arbennig i'r ieuenctid yng Nghymru.

Hoffwn i ddiolch yn ogystal, wrth gwrs, i'r holl swyddogion sydd wedi gwneud ein gwaith ni fel Aelodau etholedig yn bosib yn y Senedd, yn ei grwpiau, ei phwyllgorau, yn y Comisiwn ac yn Llywodraeth Cymru, ond yn arbennig yn ein hetholaethau, lle mae'r staff cynorthwyol yn gwneud y gweithgaredd democrataidd yn bosib. Ac, wrth gwrs, diolch i'r etholwyr, yn fy achos i sydd wedi newid ffiniau sawl gwaith: Meirionnydd, yna Nant Conwy, ac yn ddiweddar Dwyfor yn ogystal.

Ac yna, un gair o rybudd. Yn y blynyddoedd cynnar, bu rhaid inni ymgyrchu yn gyson i ddatblygu ein Cynulliad cymysglyd yn gyfansoddiadol yn Senedd go iawn. A gaf i ddweud fy mod i'n gweld arwyddion fod yna bobl, nid yma, ond ymhellach i'r dwyrain, sydd yn awyddus i wanhau datganoli yn y Deyrnas Unedig unwaith eto? Ac felly'r her i ni yw cydweithio gyda'n brodyr a'n chwiorydd yn yr Alban ac arbennig yng Ngogledd Iwerddon, yn ogystal â Lloegr, er mwyn diogelu amrywiaeth y Deyrnas Unedig ryfedd hon.

19:45

Wel, diolch. Ac mae'r gêm newydd ddechrau, felly fe fyddaf yn gyflym. [Chwerthin.]

Lywydd, fe ymunais â'r sefydliad ifanc hwn 22 mlynedd yn ôl fel cynrychiolydd cyntaf erioed Dyffryn Clwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ôl bryd hynny, roeddem wedi ein cyfyngu i drafod is-ddeddfwriaeth gyffrous, megis Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion (Diwygio) (Cymru), Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru), a ffefryn pawb ar y pryd—

—Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Diwygio) (Cymru). Nawr, er mor bwysig oedd y rheini, nid oes lle iddynt mewn llawer o faniffestos etholiadol. Felly, yn 1999, y Cynulliad oedd yr wyneb newydd; y sefydliad newydd a oedd yn dal i brofi ei werth, a hyd yn oed ei hawl i fodoli, a rhywbeth y mae'n rhaid inni barhau i brofi ein hunain yn deilwng ohono bob dydd.

Felly, mae unrhyw un sy'n fy adnabod yn gwybod nad wyf yn swil. Nid wyf erioed wedi bod ofn sefyll dros yr hyn rwy'n ei gredu, nid wyf erioed wedi bod ofn sefyll dros gredoau fy mhlaid—ac weithiau, maent wedi bod ychydig yn wahanol—neu'r bobl rwyf wedi cael y pleser o'u cynrychioli ers 22 mlynedd a mwy, hyd yn oed os yw hyn weithiau wedi codi eich gwrychyn. Felly, os wyf wedi codi eich gwrychyn dros y 22 mlynedd, roeddech ar yr ochr anghywir i fy nadl.

Felly, gellir ystyried gwleidyddiaeth yn negyddol yn aml, ac mae yna rai sy'n teimlo ein bod yn rhy glyd, y tu mewn i swigen yma ym Mae Caerdydd, ac mae eraill yn teimlo ein bod yn dadlau er mwyn dadlau. Nawr, er y gallai hyn fod yn wir i nifer fach o bobl, mae'r mwyafrif llethol o Aelodau a sefydliadau rwyf wedi gweithio gyda hwy dros y ddau ddegawd yn malio'n fawr am ein gwlad ac eisiau ei gwneud yn well, er y gallem anghytuno ynglŷn â sut rydym yn cyflawni hynny.

Felly, fel yr Aelod cyntaf o'r meinciau cefn i basio deddfwriaeth—a gwn eich bod i gyd wedi cael llond bol ar glywed amdani, gan gynnwys proses arteithiol y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol—rwy'n falch o'r gwaddol rwy'n ei adael ar draws Cymru. Ac i'r rheini ohonoch nad ydych yn gwybod beth ydyw, deddfwriaeth i osod chwistrellwyr oedd hi—i'w gwneud yn orfodol i osod chwistrellwyr—ym mhob cartref newydd a gâi ei adeiladu. A digwyddodd hynny oherwydd datganoli. Oherwydd datganoli ac ymrwymiad gan Lywodraeth Lafur Cymru ar y pryd, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sicrhau ei bod yn orfodol i osod chwistrellwyr, ac roedd yn rhywbeth roeddwn yn falch iawn ohono. Er hynny, yn frawychus, nid yw hyn yn digwydd yn Lloegr o hyd, a gellid achub llawer o fywydau pe bai'r mesur costeffeithiol hwn yn cael ei gyflwyno. Sawl gwaith rydych wedi fy nghlywed yn dweud hynny?

Ond yn fy mhum mlynedd ddiwethaf, fel Dirprwy Lywydd, rwyf wedi bod yn hynod falch o ledaenu ein stori a'n ffyrdd arloesol newydd o weithio, a rhannu fy angerdd dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a thegwch mor eang â phosibl. Mae'r angerdd a ddaeth â mi i'r byd gwleidyddol yn dal i fy sbarduno i gydnabod bod cymaint mwy i'w wneud o hyd. Rwy'n credu bod Bethan Sayed wedi dweud bod mwy i'w wneud o hyd; rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi dweud bod mwy i'w wneud. Ac felly, er nad wyf yn ceisio cael fy ailethol i'r Senedd ym mis Mai, fel Angela ac eraill, nid oes gennyf unrhyw fwriad o ymddeol. Rwy'n bwriadu gwneud defnydd da o'r profiad a'r arbenigedd a gefais yn ein Senedd drwy barhau i fod yn ymgyrchydd dros yr achosion rwy'n credu ynddynt a dadlau dros ogledd Cymru sydd mor annwyl i mi.

Felly, gan mai dyma'r tri chanfed a thrydydd ar ddeg ar hugain Cyfarfod Llawn y tymor hwn—ac os yw'r ffigurau'n anghywir, byddaf yn beio staff y Comisiwn, oherwydd rwyf newydd ei gael oddi ar flaen yr agenda y bore yma—rwy'n eich gadael gyda thri pheth: cadwch eich areithiau'n fyr, mae llai bob amser yn fwy; ewch allan ac adrodd stori wych ein Senedd yng Nghymru; a gadewch i ni i gyd fynd allan i gefnogi ein tîm pêl-droed cenedlaethol. Rwy'n mynd i'ch cefnogi i gyd—wel, rwy'n mynd i geisio cefnogi'r 60 ohonoch—gan wisgo coch. Efallai na fydd rhai ohonoch yn gwisgo coch ac efallai y gwnaf fi ddal i'ch cefnogi. Ond rwy'n mynd i fod yn gefnogwr brwd i'n Senedd—ac roeddwn i'n gwybod fy mod i'n mynd i wneud hyn—rwy'n mynd i fod yn gefnogwr brwd i'n Senedd, ei mawredd, a byddaf yn cefnogi pawb ohonoch o'r ystlys. Diolch yn fawr iawn. Diolch.

Diolch yn fawr iawn i Ann Jones.

Rwyf wedi ystyried mai ni oedd Tîm Jones, Ann, a bu sawl cyfeiriad yn ymwneud â phêl-droed hyd yma heno, felly gadewch i mi ychwanegu un arall. Rydym yn mynd i barhau i weld ein gilydd, ac rydym yn mynd i barhau i weld ein gilydd yn gyntaf pan fydd y torfeydd yn dychwelyd ar gyfer y gêm gyntaf pan fydd y Rhyl yn chwarae Aberystwyth unwaith eto, a byddwn yno i'w cefnogi. A diolch am eich holl gefnogaeth i mi, a phopeth rydych wedi'i wneud i'r Senedd hon dros y blynyddoedd. Rydych chi'n teimlo dros y Senedd hon, ac rydych am iddi lwyddo ar gyfer y dyfodol ac i'r Aelodau a fydd yn cael eu hethol yma yn yr etholiad nesaf hefyd.

Felly, diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau amhrisiadwy heno, wrth gwrs, yn siarad eich geiriau olaf, ond hefyd dros y ddwy ddegawd ddiwethaf yma i nifer fawr ohonoch chi. Diolch i chi i gyd, ac i Ann yn enwedig am y cydweithio hwylus iawn dros y bum mlynedd diwethaf.

Dwi hefyd, fel pawb arall, eisiau diolch i'n staff ni—i staff y Comisiwn yn gyntaf, ac i staff hefyd y grwpiau gwleidyddol—am eich ymroddiad chi i'n bywyd seneddol a'n bywyd democrataidd ni yma yng Nghymru, ac am ein cynorthwyo ni mor effeithiol fel Aelodau, yn y Senedd yma, ar Zoom, ac yn ein hetholaethau ni hefyd.

Pobl Cymru biau'r awenau nawr. Nhw sydd i benderfynu pwy fydd yma am y bum mlynedd nesaf. Pobl Cymru biau'r Senedd hon. Ac felly, am heno, pob dymuniad da i chi i gyd. Cwtsh mawr rhithiol i chi i gyd, a nos da.

19:50

Daeth y cyfarfod i ben am 19:51.