Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

02/03/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau hefyd am y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn, ac mae'r rheini, wrth gwrs, yn berthnasol i'r cyfarfod yma.

13:30
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan David Melding. 

Cyfranogiad Dinasyddion

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud penderfyniadau? OQ56355

Llywydd, mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn creu cyfleoedd newydd i annog a galluogi amrywiaeth ehangach mewn gwneud penderfyniadau. Bydd yr adeg unigol fwyaf arwyddocaol o gyfranogiad dinasyddion eleni yn dod yn etholiadau'r Senedd, pan fydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cymryd rhan am y tro cyntaf.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ystyried erbyn hyn bod arloesi a pholisi cyhoeddus yn bwysig iawn ac yn angenrheidiol i gynnwys cyfranogiad dinasyddion, ac, yn wir, mae'n un o'r ffactorau allweddol yn ei fynegai llesiant. Ac a ydych chi'n cytuno â mi, ymhellach i'r ddeddfwriaeth hon, bod yr amser bellach wedi dod i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfranogiad dinasyddion gan ba blaid bynnag sydd mewn sefyllfa i ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru?

Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno â David Melding nad yw cyfranogiad dinasyddion yn rhywbeth i'w ystyried fel digwyddiad untro mewn etholiad, ond bod angen iddo redeg drwy dymor cyfan gweinyddiaeth. Mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn falch iawn o weithio yn agos gyda'r OECD ar nifer o wahanol ddimensiynau polisi, yn bwysicaf oll yn ddiweddar ochr yn ochr â'r gwaith y mae ein cyd-Aelod Huw Irranca-Davies wedi ei arwain ar bolisi economaidd rhanbarthol i Gymru, ac mae cyfranogiad dinasyddion yn sicr, fel y mae David Melding yn ei ddweud, Llywydd, yn un o elfennau allweddol y dyfodol a gynlluniwyd ar ein cyfer gan yr OECD.

Mae Deddf 2021, Llywydd, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru ddatblygu cynllun cyfranogiad y cyhoedd, ac, ochr yn ochr â hwnnw, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth drwy ein cronfa democratiaeth ddigidol, drwy ein cronfa amrywiaeth mewn democratiaeth, y mae'r ddwy ohonyn nhw wedi'u cynllunio i hybu cyfranogiad dinasyddion. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae David Melding wedi ei ddweud y dylai Llywodraeth newydd, pwy bynnag a allai fod yn ffurfio'r Llywodraeth honno, wneud ymgysylltu â dinasyddion yn ganolog i bopeth yr ydym ni'n ei wneud fel thema sy'n rhedeg drwy gydol tymor nesaf y Senedd.

Dim ond os yw'r demos, neu'r bobl yn cymryd rhan y mae democratiaeth yn gweithio yn iawn. Dros y flwyddyn ddiwethaf, oherwydd y pandemig, mae mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o ddatganoli, ond mae'r cynnydd hwnnw yn fregus. Does bosib nad oes angen gweithredu nawr i wneud yn siŵr nad yw pobl yn ymwybodol o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y fan yma yn unig, ond eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n cymryd rhan. Prif Weinidog, os edrychwn ni ar bobl ifanc, mae gan bobl ifanc 16 ac 17 oed gyfle cyffrous eleni i bleidleisio am y tro cyntaf, ond mae addysg wleidyddol yn dal i fod yn bwnc nad yw'n ofynnol yn y cwricwlwm. Yn y blynyddoedd nesaf, byddwn innau hefyd wrth fy modd yn gweld mwy o gynulliadau dinasyddion i bobl ifanc i hyrwyddo ymgysylltiad, ond mae eleni angen gweithredu nawr. Mae disgyblion yn cael eu hyfforddi am lywodraethu Tuduraidd, ond nid yw'r system a ddefnyddir heddiw i ethol y Llywodraeth bob amser yn cael ei hegluro yn iawn. Felly, a ydych chi'n credu bod cyfle yn y diwrnod ysgol eleni i sicrhau y bydd pob pleidleisiwr tro cyntaf yn cael dysgu am hyn cyn yr etholiad, ac, yn y tymor hwy, oni ddylai fod yn ofynnol addysgu addysg wleidyddol?

Llywydd, rwy'n bendant yn cytuno bod cyfle gwirioneddol, wrth i ni symud tuag at yr etholiad, i wneud yn siŵr bod cyfleoedd yn cael eu cymryd i addysgu ein pobl ifanc ar y broses ddemocrataidd a'r rhan bwysig iawn y gallan nhw eu hunain ei chwarae ynddi. Mae Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan yn hynny, ochr yn ochr â Chomisiwn y Senedd, ochr yn ochr â'r Comisiwn Etholiadol. Rydym ni'n cymryd rhan gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod adnoddau ar gael i bobl ifanc, drwy Hwb a dulliau eraill, fel bod y bobl ifanc 16 ac 17 oed hynny a fydd yn ymuno â ni wrth y blwch pleidleisio eleni yn cael pob cyfle sydd ei angen arnyn nhw i ddeall y cyfrifoldebau a'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.

Ond mae'n mynd yn ehangach na hynny, fel yr wyf i'n siŵr y bydd Delyth Jewell yn ei gydnabod. Mwynheais yn arw yr wythnos diwethaf fy sgwrs gyda myfyrwyr Ysgol y Castell yng Nghaerffili. Ac yno, yn naw, yn 10 ac yn 11 oed, mae gennych chi ddinasyddion ifanc sydd â diddordeb llwyr yn nyfodol eu gwlad, mewn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ynddi. A bydd y system sydd gennym ni o gynghorau ysgol a chyfranogiad pobl ifanc mewn addysg yng Nghymru, rwy'n credu, yn ein rhoi mewn sefyllfa dda iawn fel cenedl, wrth i'r bobl ifanc hynny ddod i aeddfedrwydd a chwarae eu rhan eu hunain yn ein democratiaeth.

13:35

Rydym ni'n dweud ein bod ni eisiau hybu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud penderfyniadau, ond, Prif Weinidog, chwe mis yn ôl, nid oedd pedwar o bob 10 o bobl a holwyd yn gwybod bod iechyd wedi ei ddatganoli, neu'n credu ei fod yn cael ei redeg gan San Steffan, y mae eich plaid chi yn camfanteisio arno yn etholiadau'r DU. Oni fyddai'n well pe byddem ni'n symleiddio'r broses o wneud penderfyniadau drwy ddiddymu ein haen ddiangen o Lywodraeth?

Cymorth Iechyd Meddwl

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y capasiti sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ledled Cymru? OQ56351

Diolch i Dr Lloyd am y cwestiwn. Llywydd, mae'r capasiti i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl yng Nghymru yn dibynnu'n fawr ar ddull aml-asiantaeth. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r cymorth wedi cynyddu o fewn y gwasanaeth iechyd a hefyd drwy'r trydydd sector ac awdurdodau lleol.

Diolch am hynna, Prif Weinidog. Nawr, 'digynsail' yw'r gair o ran COVID—rydym ni wedi ei glywed lawer gwaith. 'Digynsail' yw'r gair o ran iechyd meddwl hefyd—mae gennym ni lefelau digynsail o ofid meddwl ymhlith ein pobl heddiw, gyda straen anhygoel a rhestrau aros maith, a chyda staff iechyd meddwl yn cael eu defnyddio ar sail frys mewn mannau eraill, a chyda'u problemau iechyd eu hunain ac yn ynysu eu hunain. Gallwn sôn am gynllunio'r gweithlu, ond mae'r argyfwng iechyd meddwl yn digwydd nawr. Rwyf i wedi codi o'r blaen yr angen i ddefnyddio pawb sydd ar gael i fynd i'r afael â'r her enfawr hon, ac, yn ogystal â'r hyn yr ydych chi wedi ei amlinellu, yn enwedig i ddefnyddio cwnselwyr a therapyddion annibynnol—therapi ymddygiad gwybyddol ac eraill—a'u cynnwys yn y GIG i gynyddu'r capasiti hwnnw. Mae gennym ni weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sydd wedi eu hyfforddi'n broffesiynol nad ydyn nhw'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan y GIG heddiw. Ac mae'r Gweinidog, Eluned Morgan, wedi datgan yn y gorffennol ei bod hi'n agored i'r syniad o weithio gyda byrddau iechyd ar yr agenda hon. Felly, cyfnod digynsail, atebion creadigol ar gyfer nawr—a ydych chi'n cytuno?

Rwy'n cytuno yn llwyr â Dr Lloyd y bydd angen atebion creadigol i ganiatáu i ni ymateb i natur ddigynsail yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Ac fel y dywedodd ef, mae Eluned Morgan, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl, wedi nodi bod Llywodraeth Cymru yn agored i ddefnyddio'r ystod ehangaf o gymorth medrus, proffesiynol ac achrededig sydd ar gael i bobl wrth i ni geisio ysgogi gwahanol fathau o gymorth iddyn nhw ymateb i effaith y 12 mis diwethaf ar iechyd a llesiant meddwl. Dyna pam, yn ogystal â'r arian sydd gennym ni yn uniongyrchol yn y flwyddyn ariannol hon i gryfhau gwasanaethau'r GIG, yr ydym ni wedi dod o hyd i bron i £3 miliwn i gryfhau cyfraniad y trydydd sector, yn enwedig at wasanaethau haen 1 a haen 0, i sicrhau eu bod nhw ar gael i bobl gymaint â phosibl.

Ac mae'r bobl hynny sydd ag arbenigedd mewn therapi ymddygiad gwybyddol wedi bod yn rhan o'r daith honno hefyd, yn enwedig o ran darparu deunydd ar-lein, lle gall pobl, yn eu hamser eu hunain ac mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw, fanteisio ar y mathau o ddulliau, ymarferion a ffyrdd o ymateb i anghenion iechyd meddwl y gallwn ni fanteisio arnyn nhw erbyn hyn. Felly, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Dr Lloyd—i ymateb i'r amgylchiadau digynsail yr ydym ni ynddyn nhw, bydd dychymyg, creadigrwydd a pharodrwydd i fanteisio ar yr holl gapasiti sydd ar gael yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n ail-lunio ein gwasanaethau iechyd ar gyfer y dyfodol.

Yr wythnos diwethaf, galwodd y Sefydliad Iechyd Meddwl am strategaeth draws-Lywodraeth Cymru newydd ar atal problemau iechyd meddwl, gan gynnwys mynediad ehangach at ragnodi cymdeithasol, fel prosiectau celfyddydol, prosiectau rhwng cymheiriaid a mynediad at natur, a chamau i roi sylw i iechyd meddwl gwledig. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i nifer o etholwyr sydd wedi ymddeol a anfonodd e-bost ataf yr wythnos diwethaf yn dweud,

Rydym ni'n dechrau dioddef problemau iechyd oherwydd y cyfyngiadau symud erbyn hyn. Yn feddyliol, allwn ni ddim cymryd llawer mwy. Mae'r lonydd lle'r ydym ni'n byw yn gul, ond yn heb gyfyngiad arnynt, yn beryglus, ac mae traffig yn symud yn gyflym iawn. Yn sicr, nid ydyn nhw'n ddiogel i gerdded arnyn nhw. Hyd yn hyn, roeddem ni'n deall y rhesymau dros beidio â chaniatáu swigod. Ar hyn o bryd, mae hynny yn teimlo yn anobeithiol iawn. Nid yw pobl fel ni yn gweld unrhyw un, yn siarad ag unrhyw un ac yn dechrau cael problemau iechyd oherwydd yr ynysu hwn. A wnewch chi apelio ar Lywodraeth Cymru os gwelwch yn dda, gan fynegi pryderon pobl fel ni, gan fod llawer iawn ohonyn nhw yn y Gymru wledig? Y cwbl yr ydym ni'n ei ofyn yw am reol teithio estynedig i wahanol draethau neu fannau agored lleol a'n swigod fel y gallwn ni siarad, crio a chefnogi?

13:40

Wel, Llywydd, dywedais ar ddiwedd yr adolygiad tair wythnos diwethaf fy mod i'n gobeithio mai'r adolygiad tair wythnos presennol fyddai'r un olaf pryd y byddai'n rhaid i ni ofyn i bobl gynnal dull aros gartref o ymdrin â'r pandemig. O gofio bod y niferoedd yn parhau i ostwng a bod brechu yn parhau i gael ei gyflwyno yn llwyddiannus yng Nghymru, rwy'n dal yn obeithiol, ar ddiwedd y cylch tair wythnos hwn, y bydd modd cynnig mwy o gyfleoedd i bobl, o dan yr amgylchiadau y mae Mark Isherwood wedi eu disgrifio, gael yr ymarfer corff y maen nhw ei eisiau, ac o bosibl i ddod o hyd i fwy o gyfleoedd i bobl gyfarfod yn ddiogel yn yr awyr agored. Bydd hyn i gyd, Llywydd, fodd bynnag, yn cael ei wneud yn bennaf o fewn yr heriau iechyd cyhoeddus parhaus sy'n ein hwynebu oherwydd y feirws hwn.

Rwy'n siŵr na fyddai'r bobl sydd wedi cysylltu â Mr Isherwood—yr etholwyr sydd wedi ymddeol y cyfeiriodd atyn nhw—yn dymuno i ni wneud unrhyw beth a fyddai'n peryglu'r tir y gweithiwyd yn galed i'w ennill y maen nhw ac eraill yng Nghymru wedi ei sicrhau drwy'r ymdrechion yr ydym ni wedi eu gwneud gyda'n gilydd. Mae'r ymdrechion hynny yn dwyn ffrwyth a, chyn belled â'u bod nhw'n parhau i wneud hynny, rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa i ymateb i'r mathau o negeseuon y mae'r Aelod wedi eu cyfleu i ni y prynhawn yma.

Prif Weinidog, bythefnos yn ôl roeddem ni'n falch o gynnal digwyddiad byw ar Facebook yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr, o dan y teitl 'Mental Health—It's Good to Talk', ac mae'n bleser gen i ddweud bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl yn bresennol, yn ogystal â Megan o Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, Mental Health Matters, Siediau Dynion lleol a llawer o sefydliadau ac unigolion eraill sydd â phrofiad o lygad y ffynnon o heriau iechyd meddwl hefyd. Ymhlith y materion niferus a godwyd, roedd dwy thema yn flaenllaw. Y cyntaf oedd yr angen i barhau i gynyddu'r buddsoddiad cyffredinol mewn cymorth a gwasanaethau iechyd meddwl o'r buddsoddiad i fyny'r gadwyn, yr ydych chi wedi sôn amdano, Prif Weinidog, drwodd i therapïau a'r gwasanaethau acíwt. A'r ail oedd yr angen i fuddsoddi mewn iechyd meddwl amenedigol i'r ddau riant, rhywbeth a godwyd yn arbennig gan yr ymgyrchydd o Fro Ogwr, Mark Williams. A diolchaf i'r Gweinidog, gyda llaw, am wahodd Mark i gyfarfod dilynol gydag eraill, o fewn diwrnodau, i drafod hyn. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi pa ymrwymiad y gallwch chi ei roi i barhau i hybu'r buddsoddiad mewn cymorth a gwasanaethau iechyd meddwl drwyddi draw ac i iechyd meddwl amenedigol y ddau riant, a hefyd i helpu i ddileu'r stigma ynghylch materion iechyd meddwl—gan roi gwybod i bobl ei bod wir yn dda iawn i siarad am iechyd meddwl?

Wel, Llywydd, diolchaf i Huw Irranca-Davies am y cwestiynau ychwanegol yna. O ran buddsoddi ymlaen mewn iechyd meddwl, bydd yn gwybod gosodwyd y gyllideb ddrafft gerbron y Senedd rai wythnosau yn ôl, ac yn y gyllideb derfynol a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach heddiw, byddwn yn buddsoddi £42 miliwn arall mewn iechyd meddwl. Mae'r swm unigol mwyaf o arian yn ein cyllideb iechyd yn cael ei neilltuo i iechyd meddwl, a bydd hwn yn fuddsoddiad ychwanegol sylweddol yn y flwyddyn ariannol nesaf o ran cynnal y gwasanaethau hynny, a fydd, fel y dywedodd Dr Lloyd, mor angenrheidiol yn y misoedd i ddod. 

O ran  gwasanaethau amenedigol, rwy'n falch o allu cadarnhau i'r Aelodau ein bod ni'n dal i fod ar y trywydd iawn i wahodd y cleifion cyntaf i'r gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol preswyl newydd sy'n cael ei greu yn Ysbyty Tonna, nid nepell o etholaeth yr Aelod ei hun. Roedd hwnnw yn ymrwymiad a roddwyd gan fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething, y byddem ni'n creu cyfleuster newydd i gleifion mewnol ym maes iechyd meddwl amenedigol, a bydd hynny yn cael ei gyflawni cyn yr etholiadau, er gwaethaf yr heriau sylweddol iawn y mae coronafeirws wedi eu hachosi i'r adeiladwyr, sy'n gweithio yn galed iawn i wneud yn siŵr y gellir cwblhau popeth yn Ysbyty Tonna mewn pryd i groesawu'r cleifion cyntaf hynny.

Ac yn olaf, hoffwn longyfarch yr Aelod ar y digwyddiad a drefnwyd ganddo. Mae cael gwared ar stigma ym maes iechyd meddwl yn ymdrech gyson, onid yw? Nid yw'n frwydr yr ydym ni'n mynd i'w hennill drwy un digwyddiad neu un ymgyrch yn unig. Mae'n dal yn her wirioneddol i bob un ohonom ni, a gwn fod Aelodau ar draws y Siambr wedi chwarae eu rhan yn hyn i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i egluro i bobl bod siarad am iechyd meddwl, bod yn agored am brofiadau, cael y cymorth a all ddilyn oddi wrtho wedyn, dyna'r ffordd yr ydym ni'n erydu'r stigma parhaus y mae'r rhai sy'n dioddef o salwch meddwl yn parhau i'n hysbysu amdano, yn anffodus.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Mae Llafur fel gamblwr sy'n betio popeth ar ennill grym yn San Steffan bob pum mlynedd—dyna farn maer Llafur Manceinion, Andy Burnham. Prif Weinidog, onid dyna fu hanes gwleidyddiaeth Cymru am y 100 mlynedd diwethaf?

Wel, Llywydd, yn amlwg, nid yw'n ddisgrifiad o wleidyddiaeth Cymru dros y 100 mlynedd diwethaf mewn unrhyw ffordd, neu fel arall sut byddem ni'n siarad heddiw yn y sefydliad sydd gennym ni yma yng Nghymru, Senedd rymus sydd ag annibyniaeth gweithredu, gyda phwerau deddfu sylfaenol? Pe byddai gosodiad cychwynnol yr Aelod yn wir, yna ni fyddai dim o hynny yn wir.

Disgrifiwyd annibyniaeth gennych heddiw yn The National, Prif Weinidog, fel ymateb pedwaredd ganrif ar bymtheg i broblem unfed ganrif ar hugain, gan fynd ymlaen i gynnig rheolaeth gartref yn hytrach na hynny, syniad o'r 1880au. Y broblem yw na fydd rheolaeth gartref byth yn datrys y broblem sylfaenol yn niffyg democrataidd Cymru. Fel y dywedodd pennaeth Llafur dros IndyWales, Bob Lloyd, ddoe yn y Daily Express:

Dros y 100 mlynedd diwethaf mae Cymru wedi pleidleisio dros blaid sosialaidd mewn etholiadau domestig, ac eto nid yw wedi cael yr hyn y mae wedi gofyn amdano.

Ac os nad ydych chi'n cytuno â Bob Lloyd, a wnewch chi o leiaf gydnabod bod gan Sam Pritchard, cadeirydd Plaid Gydweithredol Cymru, y mae llawer o'ch cyd-Aelodau yn y Senedd yn perthyn iddi, rywfaint o resymeg i'w ddadl mai annibyniaeth yw'r ffordd orau o sicrhau cymdeithas fwy cyfartal, oherwydd ni fyddai Cymru wedi ei rhwymo gan batrymau pleidleisio pobl yn ne Lloegr. Nid ydym ni erioed wedi pleidleisio dros y Torïaid yng Nghymru, ac eto rydym ni wedi cael Llywodraethau Torïaidd ddwy ran o dair o'r amser. A oes unrhyw reswm i gredu y bydd hynny yn wahanol yn y dyfodol?

Yr hyn y byddwn i'n ei weld yn wahanol yn y dyfodol, Llywydd, yw ymwreiddio'r setliad presennol fel na all unrhyw Lywodraeth yn San Steffan ei ddiddymu yn unochrog. Rwyf i eisiau setliad newydd i'r undeb fel bod lle Cymru ynddo yn cael ei barchu yn llawn a bod y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar sail pedair gwlad yn cael eu gwneud ar sail cyfranogiad cyfartal, lle na all unrhyw un sy'n rhan o hynny drechu trwy bleidlais neu ddefnyddio ei awdurdod i orfodi ei hun ar eraill. Yn hynny o beth, fy marn i a barn fy mhlaid yn y Senedd hon fydd barn y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru, oherwydd yr hyn y mae'r rhan fwyaf o boblogaeth Cymru o'i blaid yw rheolaeth gartref yn yr ystyr mai dim ond yma yng Nghymru y bydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru am Gymru yn cael eu gwneud, ond nad ydym ni'n torri ein hunain oddi wrth bopeth y gallwn ni ei gyflawni gyda'n gilydd trwy gymdeithas wirfoddol pedair gwlad ar draws y DU. Dyna y mae pobl Cymru yn ei ffafrio. Dyna mae fy mhlaid i wedi sefyll drosto erioed.

Ddoe, wfftiodd eich cydweithiwr Chris Bryant AS, gefnogwyr annibyniaeth fel 'plentynnaidd'. Rydych chi eich hun wedi awgrymu bod cefnogwyr annibyniaeth Cymru yn fewnblyg ac yn 'adain dde yn eu hanfod'. Wrth i arolygon diweddar ddangos bod mwy na hanner pleidleiswyr Llafur o blaid annibyniaeth erbyn hyn, a bod y gefnogaeth honno ar ei huchaf ymhlith ein pobl ifanc, ar y cwestiwn cenedlaethol, onid y mudiad annibyniaeth, yn hytrach na chi, Prif Weinidog, sy'n edrych nid at yn ôl ond ymlaen at ddyfodol ein gwlad?

13:50

Llywydd, croesawaf unrhyw un sydd eisiau trafod dyfodol ein gwlad, a dylid trin pob barn yn briodol a chyda pharch. Fy marn i yw'r un yr wyf i newydd ei hesbonio i chi, ac rwy'n credu ei bod yn farn y mae'r rhan fwyaf o bobl flaengar yn y wlad hon yn ei rhannu. Nid ydyn nhw eisiau cenedlaetholdeb mewnblyg. Nid ydyn nhw eisiau dyfodol i'n gwlad lle'r ydym ni'n cael ein rhwygo allan o'r Deyrnas Unedig. Maen nhw eisiau dyfodol i'n gwlad lle mae gan Gymru gyfres rymus o alluoedd i wneud penderfyniadau drosom ein hunain ar y pethau sy'n effeithio ar bobl yma yng Nghymru, ond maen nhw hefyd eisiau gallu cydweithio, ar y cyd, ochr yn ochr â phobl flaengar mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, boed hynny yn ne Lloegr neu ogledd Lloegr neu yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, lle gall pobl flaengar ddod at ei gilydd i rannu agenda yn wirfoddol. Rydym ni'n cyflawni mwy gyda'n gilydd nag yr ydym ni ar wahân. Dyna fy marn i, a dyna fydd y farn y bydd Plaid Lafur Cymru yn ei mynegi yn yr etholiad hwn. Bydd yr Aelod yn parhau i wneud ei ddadl i dynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Mae ganddo hawl i wneud hynny, yn sicr, ond rwy'n credu y bydd yn canfod, unwaith eto, mai llais lleiafrifol yw hwnnw yma yng Nghymru, a bod y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn parhau i gredu mai mewn sefydliadau grymus yma yng Nghymru y mae dyfodol ein gwlad, mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus.

Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Prif Weinidog. Wrth ymgyrchu i fod yn arweinydd y blaid Lafur, addawodd Keir Starmer i wrthdroi toriadau'r Torïaid i'r dreth gorfforaeth a dywedodd na fyddai unrhyw gamu yn ôl o egwyddorion craidd Llafur. Yr wythnos hon, dywedodd Keir Starmer ei fod yn gwrthwynebu cynnydd i'r dreth gorfforaeth. Pa safbwynt ydych chi'n ei gefnogi, Prif Weinidog?

Llywydd, nid wyf i'n gyfrifol am y dreth gorfforaeth, ac nid wyf i'n bwriadu trafod safbwyntiau ar faterion nad oes gen i, fel Prif Weinidog, unrhyw atebolrwydd i'r Senedd amdanyn nhw.

Wel, rwy'n rhyfeddu at yr ateb yna, oherwydd rydych chi'n treulio wythnos ar ôl wythnos yn trafod pwyntiau nad oes gennych chi gyfrifoldeb amdanyn nhw. Ond un maes y mae gennych chi gyfrifoldeb amdano yw'r dreth gyngor, Prif Weinidog, a cheir swm enfawr o gyllid canlyniadol sydd wedi dod i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU—gwerth £5.8 biliwn o gymorth. Mae argyfwng costau byw yn datblygu nawr, wrth i'r argyfwng COVID hwn daro'r economi yn galed iawn. Un mesur y gallech chi ei gymryd i helpu gyda'r dreth gyngor yw ei rhewi yma yng Nghymru i helpu teuluoedd ar hyd a lled Cymru. A wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio'r pwerau sydd gennych chi i rewi'r dreth gyngor a defnyddio'r symiau canlyniadol i ariannu'r bwlch cyllido?

Llywydd, yr hyn yr wyf i'n ymrwymo iddo yw aros tan fod cyllideb yfory allan o'r ffordd a'n bod ni'n sicr ynghylch faint o arian sydd gennym ni ar gael i ni yma yng Nghymru i'w ddefnyddio y flwyddyn nesaf. Byddwn wedyn yn ystyried at ba ddibenion y gellid ei ddefnyddio. Rwy'n credu yr wythnos diwethaf bod yr Aelod yn fy annog i ddefnyddio'r arian hwnnw i gynorthwyo busnesau yma yng Nghymru. Heddiw, mae eisiau i mi rewi'r dreth gyngor. Rwy'n deall pam mae eisiau gwneud hynny, oherwydd gorfodwyd y cynnydd mwyaf yn y dreth gyngor yng Nghymru y llynedd, wrth gwrs, gan gyngor Conwy dan reolaeth y Ceidwadwyr. Felly, os yw'n gofyn i mi amddiffyn talwyr y dreth gyngor yng Nghymru rhag y Blaid Geidwadol, byddaf yn meddwl am hynny yn ofalus iawn.

Wel, mae gennym ni Capten Ôl-ddoethineb yn San Steffan a'r Athro Gwneud Ychydig i lawr yma yn y bae, nad yw'n barod i wneud unrhyw beth gyda'r pwerau sydd ganddo i helpu teuluoedd sydd o dan bwysau ar hyd a lled Cymru. Un cam y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig, serch hynny, yw cyflwyno parthau perygl nitradau. Dim ond yr wythnos diwethaf, soniodd eich arweinydd yn San Steffan am gynorthwyo ffermwyr, yng nghynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, am y gwaith gwych y maen nhw wedi ei wneud, yr holl ffordd drwy'r pandemig, yn bwydo'r genedl. Y bore yma, mae Aelodau wedi cael llythyr gan Glanbia, prosesydd llaeth mawr, yn dweud pa mor niweidiol y gallai'r rheoliadau fod i gyflenwadau o laeth ffres yma yng Nghymru yn y dyfodol, a sut y byddai'n ddigon posibl y bydd yn rhaid iddyn nhw ystyried adleoli eu cyfleusterau cynhyrchu neu ad-drefnu eu gweithrediadau yma yng Nghymru. Mae eich Gweinidog eich hun wedi sefyll ar lawr y Cyfarfod Llawn a, dro ar ôl tro—o leiaf saith gwaith—dywedodd na fyddai'n gweithredu'r rheoliadau hyn tra bod y pandemig yn ei anterth. Yn y pen draw, mae'r rheoleiddwyr hefyd yn bwrw golwg ar y rheoliadau hyn drwy ddweud y bydd ganddyn nhw ganlyniadau gwrthnysig. Felly, yn hytrach na chadw'r ffugenw 'Yr Athro Gwneud Ychydig', a wnewch chi ymyrryd nawr a gwneud yn siŵr nad yw'r rheoliadau hyn yn cael eu rhoi ar waith a fydd yn cael effaith mor niweidiol ar y gyflenwad o gynnyrch da, iachus o Gymru, ac, yn y pen draw, effaith ddinistriol ar y diwydiant amaethyddol yma yng Nghymru?

13:55

Llywydd, edrychaf ymlaen at bleidleisio o blaid y rheoliadau ar lawr y Senedd yfory. Byddan nhw'n cefnogi'r ffermwyr hynny nad ydyn nhw'n llygru ein tir. Byddan nhw'n cefnogi'r ffermwyr hynny sy'n deall bod eu henw da a'u hincwm yn y dyfodol yn dibynnu ar eu gallu i ddangos bod y safonau amaethyddiaeth yma yng Nghymru ymhlith yr uchaf. Byddan nhw'n gwneud eu cyfraniad sy'n gwbl angenrheidiol i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng amgylcheddol sy'n ein hwynebu. Nid fi yw'r person sydd eisiau gwneud ychydig, neu, yn ei achos ef, gwneud dim, i droi'r llanw llygredd amaethyddol yn ôl. Bydd ei blaid yn pleidleisio o blaid llygredd parhaus yma yng Nghymru yfory. Mae fy mhlaid i yn benderfynol y byddwn ni'n cymryd y camau sy'n angenrheidiol, ar ôl blynyddoedd lawer o geisio unioni hyn drwy ddulliau gwirfoddol. Byddwn yn cynorthwyo'r ffermwyr hynny sy'n gwneud y peth iawn eisoes drwy gosbi'r rhai sy'n llygru ein tir, ein dŵr a'n hamgylchedd yn gyson ac yn fwriadol, a dylai'r Aelod fod â chywilydd o'r ffaith ei fod, wythnos ar ôl wythnos, yn dod yma i wneud hyn yn brif flaenoriaeth wrth ofyn cwestiynau i mi, pan allai yntau chwarae ei ran hefyd, yn hytrach nag ymarfer siarad gwag, i wneud rhywbeth ymarferol i helpu'r genedl hon i gynorthwyo'r ffermwyr hynny sy'n gwneud y peth iawn eisoes a gwneud y cyfraniad y mae angen i ni ei wneud i sicrhau dyfodol y rhan hardd ond bregus hon o'n planed.

Y Trên a ddaeth oddi ar y Cledrau yn Llangennech

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith amgylcheddol y trên a ddaeth oddi ar y cledrau yn Llangennech y llynedd? OQ56369

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Roedd effaith amgylcheddol y trên yn dod oddi ar y cledrau ymhlith y fwyaf sylweddol yng Nghymru ers trychineb y Sea Empress 25 mlynedd yn ôl. Bydd monitro'r safle a'r ardal gyfagos, sy'n cynnwys pedwar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac ardal gadwraeth arbennig, yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, a gwn y bydd eisiau ymuno â mi i longyfarch y gwasanaethau cyhoeddus ar y ffordd y maen nhw wedi cydweithredu o ran y gwaith glanhau, sydd, hyd yma, wedi bod yn llwyddiannus iawn, o ystyried maint y broblem, fel y noda'r Prif Weinidog yn gywir.

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod dau grŵp o fusnesau wedi cael eu heffeithio mewn modd arbennig o wael, er nad yn hir iawn, gan y trên yn dod oddi ar y cledrau. Un o'r rheini oedd y diwydiant casglu cocos pwysig iawn, a'r llall, wrth gwrs, oedd ffermwyr sy'n pori ar y glannau isel hynny ger yr afon. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol y bu cais a gafodd ei wneud i Lywodraeth Cymru ystyried a allai rhywfaint o gymorth ariannol dros dro fod ar gael i'r casglwyr cocos a'r porwyr tra bo cyfrifoldeb am y trên yn dod oddi ar y cledrau ac iawndal hirdymor yn dod yn bosibilrwydd. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod llawer o'r rhain yn fusnesau bach iawn; maen nhw'n gweithredu ar sail elw eithaf isel ac o dan amgylchiadau anodd. Felly, tybed a all y Prif Weinidog ddweud wrthyf i heddiw pa un a all Llywodraeth Cymru edrych yn ffafriol ar y cais hwnnw a phryd y gellid gwneud penderfyniad, gan dderbyn yn llwyr bod hon yn gyfres anarferol iawn o amgylchiadau.

Llywydd, diolchaf i Helen Mary Jones am y cwestiynau pellach yna. Rwyf yn sicr yn ymuno â hi i longyfarch y gwasanaethau cyhoeddus hynny a wnaeth waith mor rhyfeddol ar y pryd fel bod trychineb amgylcheddol ar raddfa fwy fyth yn cael ei hosgoi. A dim ond yr wythnos hon yr oeddwn i'n clywed gan Lee Waters, yr Aelod dros Lanelli, am ei ymweliad â'r safle ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, pan lwyddodd i weld graddfa'r gwaith adfer a wnaed drosto'i hun. A thrwy ef a thrwy eraill, wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r effaith ar gasglwyr cocos yn enwedig o'r ffaith nad oedden nhw'n gallu cyflawni eu gweithgareddau arferol tra bod lefel yr halogyddion amgylcheddol yn yr aber yn cael eu harolygu. Mae'n iawn, fel yr oedd Helen Mary Jones yn ei awgrymu, bod yn rhaid i'r llygrwr dalu yn y pen draw am y difrod sydd wedi ei wneud, ond nid yw gwaith y gangen ymchwilio i ddamweiniau rheilffordd yn dod i gasgliad yn gyflym.

Yn y cyd-destun hwnnw, gwn fod fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths yn disgwyl cael cyngor o fewn oddeutu'r 10 diwrnod nesaf ynghylch pa un a yw'n bosibl llunio cynllun drwy Lywodraeth Cymru lle gellid darparu rhywfaint o gymorth dros dro i'r diwydiannau hynny. Nawr, ni allaf ragweld natur y cyngor y bydd y Gweinidog yn ei gael, ond gwn ei bod wedi bod yn awyddus iawn i gael y cyngor hwnnw gan ei swyddogion rhag ofn y bydd yn bosibl, cyn cwblhau'r ymchwiliad i'r ddamwain rheilffordd, er mwyn cynnig rhywfaint o gymorth i'r rheini yr effeithiwyd arnyn nhw yn fwyaf uniongyrchol.

14:00
Cymorth i Fusnesau

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ym Merthyr Tudful a Rhymni? OQ56373

Llywydd, yn etholaeth yr Aelod, mae'r gronfa fusnes cyfyngiadau eisoes wedi talu grantiau gwerth bron i £2 filiwn i gannoedd o gwmnïau. Darparwyd dros £0.5 miliwn drwy'r gronfa lletygarwch, hamdden a thwristiaeth. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gynorthwyo busnesau yn ardal Merthyr Tudful a Rhymni wrth i ni adfer yn sgil y pandemig.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n amlwg bod yr ymyraethau hyn gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol i siawns llawer o fusnesau yn fy etholaeth i, ac felly hefyd yr angen pendant i Ganghellor y DU gadarnhau estyniad y cynllun ffyrlo yn rhan o gyhoeddiad cyllideb y DU yfory.

Gallaf ddweud wrthych chi, Prif Weinidog, bod buddsoddiadau Llywodraeth Cymru mewn cymorth busnes, mewn gorsaf fysiau newydd, yn y gwelliannau metro, mewn prentisiaethau a llwyddiant cynllun prentisiaethau Aspire, o ran llofnodi'r contract ar gyfer gwelliannau'r A465, mewn ailddatblygu Ysbyty'r Tywysog Siarl ac mewn ailddatblygu ac adeiladu ysgolion newydd i gyd yn gamau cadarnhaol a fydd yn galluogi fy etholaeth i i symud ymlaen. Ond a gaf i ofyn i chi ystyried y posibilrwydd o becyn ysgogi pellach i helpu i'n symud ni o'r pandemig, a fydd yn helpu i adfer masnach a rhoi hwb i'n strydoedd mawr, ac i helpu busnesau twristiaeth, lletygarwch, hamdden ac awyr agored drwy'r misoedd nesaf? Ar yr un pryd, a allwch chi roi sicrwydd i mi y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau cyfrifol y mae angen i bob un ohonom ni eu gwneud i gadw Cymru yn ddiogel, gan sicrhau mwy o degwch a rhoi pobl yn ôl yn y gwaith?

Llywydd, diolchaf i Dawn Bowden am y cwestiynau yna. Rwy'n falch o allu dweud wrthi y bydd y £30 miliwn, sef y buddsoddiad diweddaraf yr ydym ni wedi ei ddarparu yng nghronfa benodol y sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, y bydd y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y gronfa honno yn agor ar 3 Mawrth, bore yfory, ac y bydd y gronfa ei hun yn agor ar 9 Mawrth. Gwn y bydd busnesau yn etholaeth yr Aelod a fydd yn ceisio cael rhagor o gymorth a chefnogaeth o'r gronfa honno, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dod o hyd i'r £30 miliwn hwnnw i ymestyn y cymorth sydd ar gael i fusnesau, nid yn unig ym Merthyr Tudful a Rhymni, wrth gwrs, ond ledled Cymru.

Bydd y gyllideb a fydd yn cael ei gosod y prynhawn yma, Llywydd, yn dangos swm mawr pellach o arian wedi'i neilltuo gan Lywodraeth Cymru i barhau i gynorthwyo busnesau yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am yr angen i Lywodraeth y DU barhau i fuddsoddi yn y cymorth y mae'n ei roi i bobl barhau i gael eu cyflogi wrth i ni gyrraedd, gobeithio, diwedd ton bresennol yr argyfwng. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r arian sydd ar gael gennym ni fel Llywodraeth Cymru i ddarparu'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Fel y cadarnhaodd Canolfan Llywodraethiant Cymru yn ddiweddar drwy ei dadansoddiad annibynnol ei hun, rydym ni eisoes wedi rhagori o rai cannoedd o filiynau o bunnoedd ar y cyllid canlyniadol a gawsom ni gan Lywodraeth y DU at ddibenion cymorth busnes.

Tai Fforddiadwy

5. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cyrraedd ei tharged ar gyfer tai fforddiadwy? OQ56346

Llywydd, rwy'n falch iawn o gadarnhau y byddwn ni'n rhagori ar y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn. Mae'r datganiad dros dro diweddaraf yn dangos yr adeiladwyd ychydig yn llai na 3,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn 2019-20, y cyfanswm blynyddol uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2008.

14:05

Prif Weinidog, yn dilyn yr etholiad diwethaf yn 2016, cawsoch gyfarfod â fy nhad—chi fel Gweinidog Cyllid ac ef fel Gweinidog tai—i gynllunio sut y byddech chi'n cyrraedd targed uchelgeisiol Llafur Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy. Nawr, gyda'ch gilydd, fe wnaethoch chi gyflwyno dull cyflawni a chyllid i sicrhau bod hyn yn digwydd. Eich arweinyddiaeth chi ac arweinyddiaeth dad wnaeth ddarparu'r rhaglen hon; fe wnaeth ef balu'r sylfeini ac fe wnaethoch chithau osod y teils ar y toeau. Dylem ni i gyd fod yn falch iawn o'r cyflawniad hwn.

Ledled Cymru, mae tai fforddiadwy wedi eu hadeiladu, ac mae trigolion wedi gallu cael cartrefi y mae mawr eu hangen. Cysylltodd un o'r trigolion hyn â mi a ddywedodd ei bod hi, drwy fy ngwaith a fy nghefnogaeth i, wedi gallu cael gafael ar un o'ch cartrefi fforddiadwy chi a dad ar adeg o anhawster gwirioneddol yn ei bywyd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai dyma Llafur Cymru yn cyflawni dros ein cymunedau ac yn bod yno i'n trigolion pan eu bod nhw fwyaf ein hangen ni?

Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Jack Sargeant am y cwestiwn yna? Rwy'n cofio'r cyfarfod y mae'n cyfeirio ato yn eglur. Yn gynnar yn nhymor y Senedd hon, roedd swyddfa Carl Sargeant a'm swyddfa i drws nesaf i'w gilydd. Roeddwn i newydd gael fy mhenodi yn Weinidog cyllid, roedd ef yn gyfrifol am weithredu addewid maniffesto Llafur i greu 20,000 o dai fforddiadwy newydd mewn cyfnod o bum mlynedd—y nifer fwyaf yn holl gyfnod datganoli. Rwy'n cofio yn eglur iawn Carl yn dod i mewn i'm swyddfa ac yn dweud wrthyf i, 'Rwyf i angen swm mawr iawn o arian, ac rwyf i ei angen yn gyflym iawn.' Y ddadl yr oedd yn ei gwneud i mi oedd, er mwyn cyrraedd 20,000 o dai fforddiadwy, roedd ef angen y rhan fwyaf o'r buddsoddiad yn ystod dwy flynedd gyntaf tymor y Senedd i roi'r rhaglen ar waith, i ddechrau adeiladu'r tai, ac wrth wneud hynny byddem ni'n cyrraedd y targed uchelgeisiol.

Mae'n deyrnged. Mae'n deyrnged iddo ef, yn enwedig, fy mod i'n gallu dweud heddiw bod y targed hwnnw wedi'i gyflawni, oherwydd oni bai am y dadleuon iddo ef eu sbarduno a grym y ddadl a arweiniodd at roi'r cyllid hwnnw ar waith, yna ni fyddai'r targed uchelgeisiol hwnnw wedi ei gyrraedd. Dyna nod amgen y Blaid Lafur. Byddwn yn mynd i'r etholiad nesaf gyda chyfres o raglenni uchelgeisiol yn y fan yma i Gymru. Ond, Lywydd, ni fyddan nhw'n uchelgeisiol yn unig, byddan nhw'n gredadwy hefyd. Os byddwn ni'n dweud y byddwn ni'n gwneud rhywbeth, yna byddwn ni'n ei gyflawni. Dywedasom y byddem ni'n darparu 20,000 o dai fforddiadwy. Byddwn wedi gwneud hynny a mwy. A'r math o berson a ddaeth i siarad â Jack am y tŷ sydd ganddi i fyw ynddo erbyn hyn, bydd pobl o'r fath ym mhob un etholaeth yma yng Nghymru.

A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, am y gwaith sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan ein cymuned cyn-filwyr yng Nghymru fynediad digonol at dai? Gwn y byddwch chi, fel minnau, yn cofio bod yr wythnos hon, wrth gwrs, yn nodi pen-blwydd arbennig i'r cyn-filwyr hynny a fu'n rhan o ryfel y Gwlff, a gwn fod llawer o gyn-filwyr sydd wedi dioddef o anhwylder straen wedi trawma yn arbennig wedi ei chael hi'n anodd iawn weithiau i addasu i fynd yn ôl i fywyd sifil, ac yn anffodus mae rhai ohonyn nhw yn canfod eu hunain ar ein strydoedd yn y pen draw. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod digartrefedd ymhlith ein cymuned cyn-filwyr yn cael ei ddileu, os gwelwch yn dda?

Diolch i Darren Millar am y cwestiwn pwysig yna. Rwy'n falch iawn o allu adrodd, yn rhan o'r ymdrech enfawr a wnaed gan ein cydweithwyr mewn awdurdodau lleol, gan gymdeithasau tai ac eraill yn y sector gwirfoddol, fel y bydd yn gwybod, bod cannoedd a channoedd o bobl a fyddai fel arall wedi bod yn ddigartref ar y stryd yng Nghymru wedi cael cynnig llety yn y flwyddyn eithriadol hon, ac mae hynny yn sicr wedi cynnwys pobl sydd wedi gadael y lluoedd arfog ac y gall bywyd fod yn frwydr iddyn nhw wrth geisio addasu i wahanol ffordd o fyw eu bywydau.

Nawr, yma yng Nghymru, rwy'n credu bod gennym ni hanes balch o'r hyn yr ydym ni wedi gallu ei gyflawni gyda'n gilydd, ac rwy'n cydnabod yn llwyr bod hon yn agenda gwbl drawsbleidiol yr ydym ni wedi ei dilyn yma yng Nghymru, boed hynny ym maes iechyd meddwl, boed hynny yn gyfleoedd cyflogaeth. Ac roeddwn i'n falch iawn o allu cadarnhau i'r Aelod yn ddiweddar bod syniad a gyflwynodd i mi am y tro cyntaf ynghylch sicrhau cyfweliadau i bobl a oedd wedi gadael y lluoedd arfog am swyddi yn Llywodraeth Cymru, ein bod wedi gallu bwrw ymlaen â hynny, ac o ran tai hefyd. Mae'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb penodol dros faterion cyn-filwyr, Hannah Blythyn, wrth gwrs, yn Ddirprwy Weinidog yn yr adran sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros dai. Ac mae gwneud yn siŵr nad yw pobl sydd wedi gadael y lluoedd arfog yn canfod eu hunain yn mynd yn ddigartref, ond bod ganddyn nhw gyfleoedd tai eraill a llawer gwell ar eu cyfer, mae hynny yn sicr yn rhan o'r agenda, yr agenda cyn-filwyr ehangach, sydd gennym ni yng Nghymru.

14:10

Prif Weinidog, mae'n dda bod eich Llywodraeth yn rhagori ar ei tharged ei hun o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Senedd hon, er bod penawdau diweddar yn awgrymu bod datblygwyr preifat yn ystyried nad yw Cymru yn ddewis arbennig o ddeniadol ac yn nodi llawer o resymau, gan gynnwys y system gynllunio a'r ffaith mai rheoliadau Cymru yw'r rhai mwyaf beichus yn y DU. Rydym ni'n gwybod nad yw'r targed o 20,000 yn agos at fodloni'r galw gwirioneddol, felly beth yw eich cynllun i annog amrywiaeth o ddarparwyr i adeiladu yma yng Nghymru? Diolch.

Wel, Llywydd, rwyf yn falch o'r safonau sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae'n gwbl hanfodol, pan fydd tai newydd yn cael eu hadeiladu, eu bod nhw'n dai sy'n addas ar gyfer y dyfodol, eu bod nhw'n dai a fydd yn gwneud eu cyfraniad at y targedau di-garbon net yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw ar gyfer 2050. A gwn fod rhai adeiladwyr tai sy'n ei chael hi'n anodd bodloni'r safonau sy'n ofynnol, ond maen nhw'n gwbl angenrheidiol. Mae'r ffaith y cyrhaeddwyd 8,000 o'n 20,000 o gartrefi fforddiadwy drwy'r cynllun Cymorth i Brynu yn dangos i mi bod gennym ni adeiladwyr tai yng Nghymru sy'n gallu darparu tai o safon yn unol â'r safonau sydd eu hangen arnom ni yma. Byddwn yn parhau i fod â safonau ar gyfer adeiladu tai yng Nghymru nad ydyn nhw'n ein gadael gyda gwaddol enfawr o ôl-ffitio'r tai hynny i'w gwneud yn addas ar gyfer y math o ddyfodol carbon-niwtral y mae angen i ni ei gael. Rwy'n falch iawn bod gennym ni safonau a fydd yn sefyll i'w harchwilio gan genedlaethau'r dyfodol, fel y mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei ofyn gennym ni.

Darparu Brechlyn COVID-19

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu'r brechlyn COVID-19 yng Nghaerffili i grŵp blaenoriaeth 6 y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio? OQ56378

Llywydd, rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni yn erbyn ein targed nesaf o ganol mis Ebrill ar gyfer grwpiau 5 i 9, yn amodol ar gyflenwad wrth gwrs. Nos Wener, roedd nifer y brechiadau a roddwyd gan ein GIG yn fwy na'r marc 1 filiwn. Mae pob un o'r 21 meddygfa deulu yn ardal Caerffili wedi cofrestru ac yn darparu'r brechlyn.

O ran gofalwyr di-dâl, mae rhai wedi cysylltu â mi sy'n derbyn lwfans gofalwyr ac yn pryderu nad ydyn nhw'n yn bodloni bob un o'r tri maen prawf ar gyfer cymhwyso i gael brechlyn ym mlaenoriaeth 6 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher diwethaf. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd felly, os ydych chi'n derbyn lwfans gofalwyr, y byddwch chi'n cael eich galw ym mlaenoriaeth 6?

Diolchaf i Hefin David, Llywydd, am hynna. Nodwyd y canllawiau gennym ni, fel y dywedodd yr Aelod, ar 24 Chwefror, ac, fel yr esboniais yr wythnos diwethaf ar lawr y Senedd o ran pobl ag anawsterau dysgu sydd hefyd wedi'u cynnwys yng ngrŵp blaenoriaeth 6, mae ein canllawiau wedi'u cynllunio i gymryd golwg fwy blaengar ar nifer y gofalwyr di-dâl y gellir nodi eu bod nhw'n gymwys i gael eu brechu yma yng Nghymru. Ni wnaethom gyfyngu ein hunain i lwfans gofalwyr, oherwydd roeddem ni'n credu bod hynny yn rhy gyfyngol. Byddwn i'n synnu'n fawr os oes pobl sy'n gallu hawlio lwfans gofalwyr na allan nhw ddod â'u hunain o fewn y system yr ydym ni wedi cytuno arni erbyn hyn yma yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r sefydliadau gofalwyr—Gofalwyr Cymru, er enghraifft—a gydweithredodd â ni i lunio'r ffurflen ar-lein y byddwn ni'n ei defnyddio fel y gall pobl sy'n ofalwyr di-dâl ddangos eu bod nhw'n gymwys i gael eu cynnwys yng ngrŵp blaenoriaeth 6. Wrth gwrs, os oes enghreifftiau unigol lle nad yw pobl yn cael eu nodi drwy'r llwybr yr ydym ni wedi ei gyflwyno, yna byddem ni'n awyddus iawn i glywed hynny fel y gallwn ni unioni hynny. Ond ein nod, fel y dywedais, yw cael dull cynhwysol o ymdrin â grŵp blaenoriaeth 6, gan gynnwys gofalwyr di-dâl. Mae'n rhaid i ni gael meini prawf, Llywydd. Allwn ni ddim cael system hunanardystio yn unig. Ond mae'r system yr ydym ni wedi ei llunio wedi ei llunio mewn cytundeb â sefydliadau gofalwyr eu hunain.

14:15
Addysg sy'n Seiliedig ar Ymchwil

7. Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer gwella addysg sy'n seiliedig ar ymchwil yng Nghymru? OQ56375

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn cynnwys buddsoddiad uniongyrchol mewn ymchwil addysg o ansawdd uchel, i sicrhau bod llunwyr polisi yn cael y cyngor gorau, bod gan athrawon y dystiolaeth orau i lywio eu harfer, a bod disgyblion a myfyrwyr yn cael y profiad dysgu gorau posibl.

Diolch am yr ateb yna. Yn amlwg, argymhellodd adolygiad Reid, oherwydd tanfuddsoddiad hanesyddol Cymru mewn ymchwil a diffyg sylfaen economaidd ymchwil breifat, y dylai Llywodraeth Cymru arwain ar hyn drwy gynyddu cyllid drwy gronfa dyfodol Cymru gyda chyllid mwy sylweddol—o leiaf tua £30 miliwn. Ond, y llynedd, dim ond £7 miliwn wnaeth eich Llywodraeth ei roi yn y gronfa benodol hon. Y llynedd, fe wnaeth eich Llywodraeth hefyd dorri twf cyllid rhagolygol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer prifysgolion Cymru i gwmpasu cyrsiau premiwm drutach, ac mae llawer ohonyn nhw ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth, ac mae Cymru hefyd yn gwario llai ar sail gros ar ymchwil a datblygu na gwledydd eraill y DU, yn anffodus. Mae'n rhaid i hyn newid, yn fy marn i. A allwch chi amlinellu i ni yn y fan yma heddiw yr hyn yr ydych chi'n bwriadu ei wneud i unioni'r tanfuddsoddiad hwn mewn ymchwil, yn enwedig drwy brifysgolion a cholegau, i wneud yn siŵr y gall Cymru fod yn gyfartal â gweddill y DU a gweddill y byd?

Nid wyf i'n credu bod yr Aelod yn cynnig darlun cytbwys o lwyddiant sector ymchwil Cymru. Mae'r llwyddiant y mae wedi ei gael yn tynnu cyllid i lawr o Horizon 2020 yn gwbl y tu hwnt i'r hyn y byddech chi'n ei ddisgwyl gan gymuned ymchwil o'r maint sydd gennym ni yma yng Nghymru, a thrwy gronfeydd Ewropeaidd yn fwy cyffredinol, rydym ni wedi buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn capasiti ymchwil yma yng Nghymru. Rhan o hynny yn y blynyddoedd diwethaf fu gwella gallu'r sector i dynnu cyllid i lawr o gynghorau ymchwil y DU, ac mae gennym ni enghreifftiau ymchwil yma yng Nghymru lle mae'r nifer sy'n tynnu i lawr o'r cynghorau ymchwil ar sail y DU wedi bod yn cynyddu yng Nghymru. Ond, yn ogystal â thynnu mwy o gyllid i lawr, mae effaith yr ymchwil yn rhywbeth y gallwn ni fod yn arbennig o falch ohoni, oherwydd mae ymchwil Cymru yn cael effaith fawr. Yn y mynegeion dyfynnu ymchwil y mae prifysgolion yn eu defnyddio, mae ymchwil Cymru yn cael effaith 75 y cant yn uwch na'r cyfartaledd byd-eang a 12 y cant yn uwch na chyfartaledd y DU, ac mae cyfran Cymru o'r 5 y cant uchaf o'r cyhoeddiadau mwyaf poblogaidd ddwywaith y cyfartaledd byd-eang. Cafodd y ffigurau hyn eu nodi yn ddarbwyllol iawn gan ein prif gynghorydd gwyddonol, yr Athro Peter Halligan, pan oedd ef a minnau yn rhan o agor sefydliad ymchwil newydd ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Gwener diwethaf—sefydliad y gwn y bydd gan yr Aelod ddiddordeb ynddo, olynydd Academi Morgan. Mae'r synnwyr o uchelgais yno yn y brifysgol i ddenu rhagor o gyllid i barhau i ddarparu ymchwil effeithiol yn dweud wrthyf i fod y sector yn parhau i fod mewn sefyllfa gadarn yma yng Nghymru.

Diagnosteg Canser

8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella diagnosteg canser yn sgil pandemig y coronafeirws? OQ56376

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae buddsoddiad pellach mewn offer diagnostig a thwf yn y gweithlu diagnostig ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd i greu capasiti newydd mewn gwasanaethau canser wrth i ni ddod allan o'r pandemig.

14:20

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r gostyngiad dramatig yn nifer y bobl â symptomau canser sy'n ceisio triniaeth wedi bod yn ganlyniad trasig y mesurau i reoli lledaeniad COVID. Mae'r astudiaeth a gynhaliwyd gan Cancer Research UK wedi darganfod nad oedd bron hanner y bobl â symptomau canser posibl wedi cysylltu â'u meddyg teulu yn ystod ton gyntaf y pandemig. Ar wahân i atgyfnerthu'r neges bod y GIG yn agored i fusnes, beth arall y gall eich Llywodraeth chi ei wneud i sicrhau ein bod yn lleihau'r ôl-groniad mewn diagnosteg ac yn gwella'r cyfle o oroesi i'r rhai sydd nawr yn ceisio triniaeth? Diolch.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig iawn hwnnw. Mae'n rhoi cyfle imi ategu'r hyn sydd newydd ei ddweud—bod gwasanaethau canser wedi bod ar agor yng Nghymru o ddechrau'r pandemig. Rydym yn wirioneddol yn annog pobl i fynd i weld eu meddyg os oes ganddyn nhw arwyddion neu symptomau. Mae'r system yno, mae'r system ar agor, mae'r system yn barod i gynnig y math o gymorth sydd ei angen arnoch chi. Rwy'n deall, wrth gwrs, fod pobl, yn ystod y pandemig, wedi bod eisiau amddiffyn y GIG, ac yn bryderus ynghylch mynd i weld y meddyg pan oedden nhw'n gwybod bod y coronafeirws yn ehangu. Ond ers dechrau'r pandemig, ym mis Ebrill y llynedd, cafodd cyfarwyddiadau eu rhoi i'r gwasanaeth iechyd i flaenoriaethu gofal canser, ac mae'r gwasanaethau hynny wir wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau eu bod wedi parhau i fod ar gael. Adferwyd rhaglenni sgrinio am ganser yn ystod yr haf y llynedd, ac mae'r rhaglenni sgrinio hynny wedi parhau i fod ar agor drwy gydol yr ail don hon. Y neges glir yw—a dyma'r un y mae Caroline Jones ei hun newydd ei chrybwyll, ac yr wyf i eisiau ymhelaethu arni y prynhawn yma—os ydych chi'n teimlo o gwbl fod gennych chi arwyddion neu symptomau y dylen nhw gael sylw, gwnewch apwyntiad i siarad â'ch meddyg teulu, oherwydd mae'r system ganser yng Nghymru yma ac yn aros i gynnig y cymorth sydd ei angen arnoch.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad busnes gan y Trefnydd. Dwi'n galw ar Rebecca Evans i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Diolch. Diolch—'Prif Weinidog', roeddwn i bron â'ch galw chi—Llywydd. [Chwerthin.]

Trefnydd, mae plant a phobl ifanc ledled Lloegr yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth o ddydd Llun nesaf. Yma yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion ysgolion uwchradd yn y tywyllwch ynghylch pryd y byddant yn cael dychwelyd, ar wahân i'r ffaith na fydd hynny tan dymor yr haf. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo y bydd plant yn dychwelyd i'r ysgol yn llawn-amser. Gweinidog, yn system rybuddio eich Llywodraeth eich hun, mae ysgolion i fod i aros ar agor i bob disgybl ar lefel rhybudd 4. Mae'r rhan fwyaf o ardaloedd y cynghorau yn bodloni eich meini prawf ar gyfer lefelau 2 neu 3, gyda lefel yr achosion yn debyg i'r rhai ar ddiwedd mis Medi. Gyda'r cynnydd cyflym o ran brechu a phrofion llif unffordd ar gyfer staff ysgol bellach, ni all llawer o deuluoedd ddeall pam mae ysgolion yn aros ar gau i'r rhan fwyaf o ddisgyblion. A allwch chi ddweud wrthym ni pryd y bydd y Gweinidog Addysg neu'r Prif Weinidog mewn sefyllfa i wneud datganiad clir a diamwys ynghylch ailagor ysgolion i bob disgybl? Diolch.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwn i ailbwysleisio mai blaenoriaeth y Llywodraeth yw sicrhau bod plant yn gallu ailddechrau eu dysgu. Rydym ni'n deall yr effaith y mae eleni wedi'i chael ar blant, ar eu dysgu, ond hefyd y manteision ehangach hynny a gaiff plant o fod yn yr ysgol. A dyna pam yr ydym wedi buddsoddi cymaint eleni, ac yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, er mwyn helpu plant i ddal i fyny ac yn y blaen. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau a theuluoedd gartref yn awyddus iawn i ddeall y camau nesaf, a bydd y Gweinidog yn darparu'r wybodaeth honno i'n cyd-Aelodau cyn gynted ag y bo modd, ond, wrth gwrs, mae gennym hynny o fewn cyd-destun yr adolygiad tair wythnos. Mae arnaf ofn mai dyna'r cyfan y gallaf i ei ddweud heddiw. Ond hoffwn ailbwysleisio, mewn gwirionedd, fod hwn yn faes blaenoriaeth i ni, a thynnu sylw at y cyngor yr oedd gennym ni, wrth gwrs, sef, pe byddem yn caniatáu i bob plentyn fynd yn ôl i'r ysgol ar unwaith, y gallai hynny arwain at gynnydd o rhwng 10 a 50 y cant yn y gyfradd R. Yn amlwg, nid oedd hynny'n rhywbeth yr oeddem ni'n barod i'w wneud. Felly, mae'n rhaid i'r plant ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth fesul cam ac mewn ffordd ddiogel. Ond rwy'n gwybod y bydd cydweithwyr yn awyddus i ddarparu mwy o wybodaeth cyn gynted ag y gallwn ni.

14:25

Clywais ymateb y Prif Weinidog yn gynharach i'r cwestiwn ynghylch blaenoriaeth brechu i ofalwyr di-dâl. Rwyf i wedi cael nifer o bobl yn y Rhondda yn cysylltu â mi yn dweud eu bod nhw naill ai'n ofalwyr di-dâl neu fod ganddyn nhw gyflyrau iechyd sylfaenol ond nad ydyn nhw wedi cael eu rhoi yn y categorïau blaenoriaeth. Rydym ni'n ymwybodol bod ffurflen ar ei ffordd i ofalwyr di-dâl allu cofrestru eu manylion, a gobeithio ar ôl hynny y byddan nhw'n cael cynnig brechlyn yn eithaf buan. Ond a all eich Llywodraeth roi rhagor o fanylion neu wybodaeth i etholwyr sy'n pryderu y dylen nhw fod yn cael brechlyn ond nad ydyn nhw? Allwch chi egluro sut y byddan nhw'n cael eu hadnabod a'u blaenoriaethu? A fydd ffurflen ar gael i bawb sy'n teimlo y dylen nhw fod yn flaenoriaeth ond nad ydyn wedi cael eu hystyried yn flaenoriaeth at ddibenion brechu?

Mae datganiad gennym ni gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fel yr eitem nesaf o fusnes y prynhawn yma, ac mae'r datganiad hwnnw'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn benodol ynghylch y cynllun brechu. Felly rwy'n gwybod y bydd hyn yn rhywbeth y bydd gan gyd-Aelodau ddiddordeb mewn clywed amdano a holi yn ei gylch yn ystod y cwestiynau yn dilyn y datganiad. Gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau, ac rydym wedi ceisio cymryd dull mor eang â phosibl o weithredu hyn, felly nid yw'n fater o gyfyngu hyn i bobl sy'n cael lwfans gofalwr, ond sicrhau bod yr holl bobl y mae angen iddyn nhw gael y brechlyn yn gallu gwneud hynny. A dyna pam rydym ni wedi cymryd y dull gweithredu ehangach hwnnw ac yn datblygu'r ffurflen y cyfeiriodd Leanne Wood ati. Ond rwy'n credu y byddai'n well bod fy nghydweithiwr, y Gweinidog iechyd, yn ateb y cwestiynau manylach yn yr eitem nesaf o fusnes.

Gweinidog, rydym yn agosáu at ddiwedd y Senedd hon, ac rwy'n credu mai dyma'r cyfnod tair wythnos diwethaf y bydd gennym ni ddatganiad i'w drafod. Byddwn i'n ddiolchgar iawn felly os gallech naill ai ofyn am ddatganiad llafar neu ddatganiad ysgrifenedig ar y pynciau canlynol.

Yn gyntaf oll, y mynediad at ofal sylfaenol. Rydym ni'n ymwybodol, drwy'r pandemig, fod y gwasanaeth iechyd gwladol cyfan, gofal sylfaenol ac eilaidd, wedi gweithio'n dda i gefnogi anghenion ein cymunedau, ond mae rhannau o'r wlad lle mae cyfle i fanteisio ar ofal sylfaenol, cyfle i fanteisio ar wasanaethau meddygon teulu, wedi bod yn broblem wirioneddol. Mae buddsoddiad mawr wedi bod yn fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent, ond mae yna ardaloedd o hyd lle mae gennym ni adnoddau gwych, ond ni allwn gael mynd i weld y meddygon teulu a chael y gofal sylfaenol y mae arnom ni ei angen. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Llywodraeth wneud datganiad ynghylch hynny.

Yr ail fater yw COVID hir. Gwyddom fod nifer cynyddol o bobl erbyn hyn sydd wedi dod drwy drawma COVID ei hun ond sydd wedi cael eu gadael yn ymdopi â chanlyniadau COVID hir. Rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn hoffi deall beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i sicrhau bod cymorth a gwasanaethau a thriniaeth ar gael i bobl yn y dyfodol i'w cefnogi yn eu hadferiad. Diolch.

Diolch i Alun Davies am godi'r ddau fater hynny. Wrth iddo siarad, roeddwn i'n edrych i weld a fyddai cyfle i gael datganiad llafar yn ystod y tair wythnos sydd gennym ar ôl yr wythnos hon. Byddaf yn siarad â fy nghyd-Aelodau yn dilyn y datganiad busnes heddiw am yr holl geisiadau yr ydym yn eu cael. Fodd bynnag, os na allwn ddarparu datganiad llafar, yna rwy'n gwybod yn sicr o ran COVID hir yn benodol, y bydd y Gweinidog yn awyddus i ddarparu datganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddodd ychydig wythnosau'n ôl ynghylch y cymorth yr ydym yn ceisio'i rhoi ar waith i bobl.

Trefnydd, fe ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog fod £42 miliwn—rwy'n credu mai dyna oedd y ffigur a roddodd—wedi'i glustnodi yn y gyllideb derfynol ar gyfer mynd i'r afael â materion iechyd meddwl yng Nghymru. Tybed pryd y byddai modd inni gael dadansoddiad o'r gwariant hwnnw, os gwelwch yn dda. Mae gennyf i ddiddordeb arbennig yn y rhan y gall chwaraeon ei chwarae i helpu gyda phroblemau iechyd meddwl. Hefyd, un mater yr wyf i wedi'i godi mewn Cyfarfodydd Llawn blaenorol yw ardaloedd gwledig a materion iechyd meddwl, sy'n aml yn cael eu hanwybyddu.

Yn ail, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog iechyd o ran gwasanaethau strôc, yn dilyn yr adroddiad ym mis Medi ynghylch sut mae COVID yn effeithio ar oroeswyr strôc yng Nghymru?

Ac, yn olaf, os caf i, Llywydd, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn edrych ar effeithiolrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae honno'n mynd i fod yn ddadl y byddwn ni'n ei chael yn ystod yr wythnosau nesaf. Rydym ni'n sôn llawer ynghylch adferiad gwyrdd, ond rwy'n credu, pan ddown ni allan o'r pandemig a'r cyfyngiadau symud, y bydd y demtasiwn o fynd yn ôl at rai o'r hen ffyrdd o wneud pethau yn eithaf cryf. Felly, a gawn ni ddatganiad, ac efallai drywydd cychwynnol, o ran sut y bydd adeiladu'n ôl yn well yn edrych yn ymarferol, er mwyn inni gadarnhau hyn yn y meddwl cyhoeddus, a'n bod ni i gyd yn gwybod i ble'r ydym yn mynd yn y dyfodol fel ein bod ni'n wirioneddol yn adeiladu'n ôl yn well ac nid dim ond yn siarad amdano?

14:30

Diolch i Nick Ramsay. Mae'n rhoi cyfle gwych imi dynnu sylw cydweithwyr at y ffaith y bydd y gyllideb derfynol, yn cael ei chyhoeddi am 3 o'r gloch y prynhawn yma, ac ynddo fe welwch chi ragor o fanylion ynghylch y dyraniadau yr ydym ni'n eu gwneud ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan gynnwys gwariant ar iechyd meddwl.

O ran gwasanaethau strôc, byddaf i'n gwneud eich cais yn hysbys i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r perwyl hwnnw.FootnoteLink

Ac o ran yr adferiad gwyrdd ac adeiladu'n ôl yn well, unwaith eto rwy'n credu y cawn ni gyfle diddorol i archwilio rhywfaint o hynny yn y ddadl derfynol ar y gyllideb yr wythnos nesaf, lle bydd cyfle i gydweithwyr ofyn rhai cwestiynau pellach am y pecyn ysgogi cyfalaf o £220 miliwn a gyhoeddwyd gennym yr wythnos hon, sy'n cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer tai, ac rydym yn canolbwyntio'n benodol ar dai gwyrdd, er enghraifft. Ac yn y gyllideb byddwch chi hefyd yn gweld cyllid ar gyfer symud ysgolion i fod yn ddi-garbon ac yn y blaen. Felly, llawer o bethau cyffrous i'w trafod yn y gyllideb derfynol yr wythnos nesaf, a fydd yn berthnasol iawn i'r adferiad gwyrdd.

Yn gyntaf, roeddwn i eisiau codi pryderon gyda chi ynglŷn â sylwadau a wnaeth gwas cyhoeddus y GIG yr wythnos diwethaf. Gwnaeth James Moore, a oedd ar secondiad ar y pryd i Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sylwadau ofnadwy yn cymharu triniaeth siaradwyr Saesneg ag apartheid. Felly, ymgyrch yn erbyn ysgol Gymraeg newydd yng ngorllewin Cymru oedd hon. Nawr, er gwaethaf y ffaith bod hyn yn gwbl hurt, sef cymharu profiadau apartheid â mater yng Nghymru lle mae'r Gymraeg yn iaith gyfartal â'r Saesneg, mae'n amhriodol i rywun yn y sefyllfa hon wneud sylwadau o'r fath. Ac, ar y pryd, ceisiodd AaGIC olchi eu dwylo o hyn drwy ddweud mai mater preifat ydoedd, a'i fod wedi'i ddweud yn breifat. Bellach mae wedi cael ei drosglwyddo'n ôl i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac rwy'n gwybod eu bod yn cymryd camau. Ond mae hyn yn mynd yn ehangach na'r ymddiriedolaeth ambiwlans, oherwydd mae James Moore hefyd yn arweinydd y GIG ar gyfer arweinyddiaeth dosturiol. 

Felly, hoffwn i gael datganiad gan Lywodraeth Cymru i ofyn ichi beth arall yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad ydych yn goddef unrhyw un sy'n gweithio i'r GIG, neu unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall, yn gwneud sylwadau mor ofnadwy ynghylch y Gymraeg, a bod gennych chi ddull dim goddefgarwch o ymdrin â hyn yn y dyfodol. 

Mae fy ail gais i am ddatganiad yn ymwneud â grwpiau datblygu babanod sy'n digwydd yn ystod y pandemig penodol hwn. Gwyddom nad ydyn nhw wedi gallu cwrdd wyneb yn wyneb yn ystod y cyfyngiadau symud, a'u bod wedi troi at wneud y dosbarthiadau hynny ar Zoom. Yn ystod y dyddiau diwethaf yn unig, mae deiseb newydd wedi dechrau, sydd wedi casglu 100 o lofnodion eisoes, i geisio cael y dosbarthiadau wyneb yn wyneb hynny'n rhedeg unwaith eto. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i hyn fel bod modd i'r rhieni a'r babanod hynny, sydd eisiau gweld datblygiad yn y camau cynnar hynny, gyfarfod ac yna ymarfer yn y dosbarthiadau hynny? Diolch. 

Diolch i chi am godi'r materion hyn. Rwy'n ategu'r teimladau a gafodd eu gwneud eisoes gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a'r Gymraeg, sydd wedi dweud bod y sylwadau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn gwbl annerbyniol. Oherwydd, wrth gwrs, rydym ni'n genedl sy'n wirioneddol falch o'n hanes a'n diwylliant, ac mae'r iaith Gymraeg yn rhan gwbl annatod i hynny. Ac mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ni p'un a ydym ni'n siarad Cymraeg ai peidio, ac rwy'n credu bod y mwyafrif helaeth o Gymry yn gwbl falch ac yn angerddol dros yr iaith hefyd.

Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi siarad â chadeirydd AaGIC, a gwn iddi bwysleisio wrth AaGIC pa mor bwysig yw rhan y Gymraeg wrth wasanaethu'r cyhoedd yng Nghymru gyfan. Ac, wrth gwrs, nawr byddai hynny'n fater i AaGIC ei ddatblygu'n fewnol er mwyn sicrhau bod hynny'n cael yr amlygrwydd a'r parch y mae ei angen arno yn y dyfodol, ond mae Eluned Morgan wedi cymryd y mater hwn o ddifrif.

Ac o ran grwpiau datblygu babanod, mae amrywiaeth eang o ddosbarthiadau wyneb yn wyneb y byddem ni wrth ein bodd yn eu gweld yn cael eu hagor cyn gynted ag y bydd y sefyllfa'n ddiogel i wneud hynny. Yn amlwg, mae grwpiau o bob math sydd mor bwysig i'n hiechyd meddwl a'n lles, ond yn benodol gwn fod gan y grwpiau datblygu babanod ddiben arbennig hefyd. Felly, bydd hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried wrth inni symud trwy bob un o'r cyfnodau adolygu tair wythnosol.

14:35

A gaf i ofyn am ddatganiad ynghylch cyflwr y sector hedfan yng Nghymru? Mae gan y Canghellor, yn y gyllideb heddiw, y cyfle olaf i Lywodraeth y DU ymestyn y cynllun ffyrlo, i roi cefnogaeth sectoraidd benodol i'r sector hedfan yng Nghymru. Mae'r sector hedfan yng Nghymru ar fin methu os na fydd rhywbeth yn digwydd—cwmnïau fel GE Aviation Wales yn fy etholaeth i, sydd mewn perygl economaidd o golli cannoedd o swyddi medrus yng Nghymru, a rhannau eraill o'r sector hedfan. Yn GE yn Nantgarw, mae 180 o ddynion ychwanegol wedi eu rhoi ar ffyrlo tan 30 Ebrill, gan adael ar hyn o bryd dim ond 350 sy'n weddill mewn cyflogaeth yn Nantgarw, ac, fel y dywedais i, mae safleoedd eraill mewn perygl. Felly, rydym mewn perygl o golli sector cyfan, ac mae hon yn mynd yn sefyllfa argyfyngus a fydd yn cael effaith enfawr ar Gymru. Mae'n hanfodol ein bod ni'n ystyried sut mae modd cefnogi'r diwydiant yng Nghymru, ac yn hanfodol bod Llywodraeth y DU yn ymestyn y cynllun ffyrlo am o leiaf chwe mis. Nid estyniad am gwpwl o fisoedd, fel sydd wedi'i awgrymu, yw'r gefnogaeth benodol sydd ei hangen er mwyn i'r sector oroesi, o'i chymharu â'r gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'r sector hedfan mewn gwledydd eraill yn Ewrop. Ac rwy'n credu bod y mater hwn yn gofyn am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru.

Diolch am godi hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU yn gyson, drwy gydol yr argyfwng, i gyflwyno rhywfaint o gymorth wedi'i dargedu at y sector awyrofod. Ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi codi cefnogaeth y sector hon yn gyson, ac mewn gwirionedd y mater o ymestyn ffyrlo, yn ei gyfarfodydd rheolaidd â Gweinidogion y DU. Er gwaethaf y math o lobïo yr ydym ni wedi bod yn ei wneud, nid yw cymorth sy'n benodol i'r diwydiant wedi dod i law. Ond, fel y dywed Mick Antoniw, mae gwledydd eraill wedi dangos ei bod yn bosibl darparu'r cymorth sector-benodol hwnnw; mae Llywodraethau Ffrainc, yr Almaen ac UDA i gyd wedi llwyddo i ddod o hyd i ffordd o wneud hyn. Felly byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu yma. Ac, fel y gwyddom, bydd y gyllideb yfory yn gyfle delfrydol i Lywodraeth y DU ddangos y math hwnnw o ymrwymiad. O flaen cyllideb Llywodraeth y DU yfory, fe ysgrifennais i, fel y gwnaf i bob tro, at y Canghellor, cyn y gyllideb, yn nodi blaenoriaethau Cymru. Ac o fewn hynny, roeddwn i'n cynnwys yr angen am sicrwydd ychwanegol ar gyfer busnes, ac ymrwymiad y bydd Llywodraeth y DU yn parhau â'r cynllun ffyrlo cyhyd ag y bo angen. Ac rwy'n credu bod yr astudiaeth achos y mae Mick Antoniw newydd ei disgrifio yn rhoi achos cryf iawn i Lywodraeth y DU wneud yr union beth hwnnw. A byddem ni'n galw arnyn nhw i wneud rhai camau sylweddol yn y maes hwn yfory.

Trefnydd, a gaf i ategu cais Laura Anne Jones, a gofyn i'r Gweinidog Addysg wneud datganiad nawr ynghylch ailagor ysgolion ledled Cymru? Rwy'n sylweddoli bod plant wedi dechrau dychwelyd yn raddol i'r ysgol erbyn hyn, ond rwyf i hefyd yn cael sylwadau gan rieni yn fy etholaeth i sy'n teimlo'n rhwystredig nad yw rhai o'u plant yn gallu dychwelyd i'r ysgol, ac sy'n poeni, yn ddealladwy, am effaith absenoldeb hir o'r ystafell ddosbarth ar eu hastudiaethau. Mae’r rhieni yr wyf i'n siarad â nhw nawr eisiau cael eglurder ynghylch pryd y bydd eu plant yn gallu dychwelyd i'r ysgol, oherwydd, heb eglurder ychwanegol gan y Llywodraeth, mae yna bosibilrwydd na fydd rhai plant yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth tan ar ôl y Pasg. Ac o ystyried bod hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, yna siawns nad yw hynny'n ddigon da.

Nawr, fel y crybwyllwyd yn gynharach, mae meini prawf Llywodraeth Cymru ei hun yn ei system lefel rhybudd yn cadarnhau y gall ysgolion ar lefel 4 aros ar agor. Ac wrth i'r rhaglen frechu wneud cynnydd sylweddol, mae'n hanfodol bod plant a dysgwyr iau yn gallu dychwelyd i'r ysgol cyn gynted â phosibl. Clywais eich ymateb cynharach i'r mater hwn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig nawr bod y Llywodraeth yn rhoi eglurder ar y mater hwn. A byddwn i'n ddiolchgar, felly, os gallai'r Gweinidog Addysg roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar frys i'r Aelodau am gynlluniau penodol Llywodraeth Cymru i alluogi dysgwyr i ddychwelyd i'r ysgol, fel y gall rhieni gael rhywfaint o eglurder a dealltwriaeth ynghylch pryd y gall eu plant ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth.

Bydd y Gweinidog Addysg wedi clywed y cais hwnnw am y manylion pellach a'r eglurder, ac rwy'n gwybod, cyn gynted ag y bydd mewn sefyllfa i ddweud mwy am y camau nesaf, y bydd yn amlwg yn awyddus iawn i wneud hynny. Ond, fel y dywedais, bydd y Gweinidog yn gwrando, a byddaf i'n sicrhau fy mod i'n cael sgwrs arall yn dilyn y Cyfarfod Llawn, y prynhawn yma, i archwilio beth allai'r camau nesaf fod, o ran rhoi'r wybodaeth ddiweddaru i'n cydweithwyr.

14:40

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar frys ynglŷn â phenderfyniad cwmni Joloda Hydraroll i symud cymaint â 27 o swyddi o Gaerwen yn Ynys Môn i Lerpwl? Mae hwn yn gwmni sy'n gyflogwr pwysig iawn yn Ynys Môn ers degawdau, a dwi'n bryderus iawn dros y gweithwyr a'u teuluoedd nhw rŵan, sydd wedi clywed eu bod nhw'n wynebu colli'u swyddi. Mae nifer ohonyn nhw wedi cysylltu efo fi yn y dyddiau diwethaf.

Rŵan, ym mis Tachwedd, mi dderbyniodd y cwmni £80,000 gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn safle Gaerwen, hynny ar ben £26,000 o'r gronfa cadernid economaidd yn gynharach yn y flwyddyn. Dwi wedi ysgrifennu at y Gweinidog ers rhai dyddiau. Dwi'n gobeithio bydd o mor eiddgar â fi i sicrhau bod popeth posib yn cael ei wneud i drio cadw'r swyddi yma yn Ynys Môn.

Diolch am godi hyn ac, yn amlwg, mae'n peri pryder mawr iawn yn wir. Byddaf i'n gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth hwyluso ei ymateb i'ch gohebiaeth benodol ar y mater hwn, o gofio'r pwysigrwydd i'r gymuned leol a'r angen i ymateb yn gyflym iawn. Ond bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn ceisio rhoi ein pecynnau cymorth ar waith i weithwyr pan fyddan nhw'n eu cael eu hunain yn y sefyllfaoedd anodd hyn. Ond, fel y dywedais, byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog yn ymateb yn gyflym iawn i'ch gohebiaeth.

Darren Millar. Nid wyf i'n gallu eich clywed, Darren Millar. Mae'n edrych fel pe bai—

Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad ynghylch ailagor canolfannau garddio yng Nghymru? Byddwch chi'n ymwybodol bod canolfannau garddio yn Lloegr a'r Alban wedi cael eu hystyried yn wasanaethau hanfodol, oherwydd effaith garddio ar iechyd a lles corfforol a meddyliol. Ac rwy'n credu ei bod yn drueni mawr bod ein canolfannau garddio yma yng Nghymru yn dal i fod ar gau, yn enwedig o gofio bod llawer o archfarchnadoedd a siopau DIY yn gwerthu llawer o'r cynhyrchion a fyddai ar gael yn ein canolfannau garddio ledled y wlad. A allwch chi ddweud wrthym ni pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hyn ar hyn o bryd? Rwy'n credu y byddai'n ddoeth nawr gael datganiad am eu dyfodol, o gofio bod cynifer ohonyn nhw ar fin mynd yn fethdalwyr hefyd, oherwydd mae gan lawer ohonyn nhw staff sylweddol a chostau cynnal eraill, ac nid yw'r costau hyn yn cael eu talu'n llwyr gan raglenni cymorth y Llywodraeth hyd yma.

Diolch i chi am godi mater penodol canolfannau garddio. Gwn fod fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cynnal sesiwn Cwestiynau Llafar y Senedd yfory, ac efallai y bydd cyfle yno i godi hyn. Ond rwy'n gwybod bod hyn, ochr yn ochr â'r holl bryderon eraill sydd wedi'u codi y prynhawn yma ynghylch plant yn dychwelyd i'r ysgol, dosbarthiadau babanod ac yn y blaen, i gyd yn bethau yr ydym ni'n eu hystyried wrth symud drwy ein cyfnod adolygu tair wythnos nesaf. Felly, cyn gynted ag y gallwn ni ddweud unrhyw beth arall o ran ailagor canolfannau garddio, rwy'n gwybod y byddem ni'n awyddus i wneud hynny. Ond, yn y cyfamser, byddwn i'n eich annog chi i roi gwybod i'ch canolfannau garddio yn eich etholaeth ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n sylweddoli y byddai'n well ganddyn nhw fod ar agor na chael cymorth, fel sy'n wir am bob busnes, ond dylai'r cymorth fod yno i'w helpu am y tro. Ond, fel y dywedais i, mae hyn i gyd wedi'i gofnodi o fewn y cyfnod adolygu tair wythnos.

Rwy'n siŵr y bydd y Senedd gyfan yn ymuno â mi i longyfarch tîm rygbi Cymru am eu buddugoliaeth aruthrol yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn, mewn gêm wefreiddiol yng Nghaerdydd, ac ennill y Goron Driphlyg. Unwaith eto, fe wnaethon nhw ymgorffori ysbryd y genedl wrth ddangos cymeriad a phenderfyniad, ac ennill yn groes i'r disgwyl. Ac fe ddangoswyd ganddyn nhw, pan fyddwch yn ddisgybledig a phan allwch ddibynnu ar rai o'n sêr am eiliadau o ysbrydoliaeth, y gallwch chi greu'r amodau ar gyfer buddugoliaeth yn erbyn gwrthwynebiad o'r radd flaenaf.

Nawr, Trefnydd, rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig cefnogaeth a phecyn cymorth i rygbi Cymru, sydd yn amlwg wedi cael croeso mawr. Ond a oes modd, os gwelwch yn dda, gael datganiad yn nodi sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau y bydd y gêm, ar lawr gwlad, yn cael ei rhoi ar sylfaen gynaliadwy yn y dyfodol? Rwy’ ngwybod y gallai llawer o glybiau lleol ledled Cymru elwa ar sicrwydd yn y tymor hir, yn enwedig o ran ffioedd sylfaenol.

Ac yn olaf, Llywydd, tybed a fyddech chi hefyd yn dueddol o gytuno y dylem ni ailadrodd dathliad 2019 y tu allan i'r Senedd ar ôl i'n tîm ennill y Gamp Lawn—wrth gwrs, pan fydd yn ddiogel—pa un a ydyn nhw'n mynd ymlaen i ailadrodd y gamp honno ai peidio, oherwydd siawns bod ennill y Goron Driphlyg dan yr amgylchiadau hyn yn achos dathlu ynddo'i hun, er ein bod ni i gyd, wrth gwrs, yn gobeithio y byddan nhw'n mynd ymlaen i gael y Gamp Lawn.

14:45

Diolch i chi am godi hyn. Roedd hi'n braf gweld y wên ar lawer o wynebau a chyd-Aelodau'n clapio ar y sgrin yn ystod eich cyfraniad chi yno. Wrth gwrs, roedd diwrnod y gêm yn un gwahanol iawn i'r arfer i bob un ohonom ni. Ond rwy'n siŵr fod y tîm yn amlwg yn gwybod bod pawb ohonom ni, ar ein soffas, y tu ôl iddyn nhw gant y cant, felly, mae hwn yn ganlyniad rhagorol ac rwyf innau mor frwdfrydig â chi oherwydd hynny. Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon ar lawr gwlad wedi gwrando'n astud iawn ar eich pryderon am y clybiau lleol llai o faint a'r gefnogaeth y gallwn ni ei rhoi i'r gêm ar lawr gwlad. Ac fe wn i, wrth inni nawr ymlwybro tuag at ddiwedd y tymor, ein bod ni'n rhoi ystyriaeth i'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, ond gan ddefnyddio'r amser sydd ar gael inni yn y Cyfarfod Llawn hefyd. Gwn y bydd y Gweinidog yn ystyried yn fanwl iawn y ffordd orau y gall ef roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w gyd-Aelodau.

Ie. Da iawn, Cymru—rydych chi wedi codi calon y genedl, ac wedi ein gwneud ni i gyd yn hapus.

Diolch yn fawr. Da iawn, Cymru.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau COVID-19

Rydym am symud ymlaen nawr at ddatganiad ar frechu COVID, ac rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Roedd yr wythnos ddiwethaf yn wythnos o gynnydd gwirioneddol ac uchafbwyntiau yn ein rhaglen frechu lwyddiannus ni yma yng Nghymru. Mae'r Aelodau yn ymwybodol o'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais i ddydd Sadwrn ein bod ni wedi cyrraedd nod o weinyddu cyfanswm o 1 miliwn o ddosau, ac mae honno'n gamp anhygoel. Rydym ni wedi cyrraedd y garreg filltir hon mewn dim ond 12 wythnos. Rwy'n falch tu hwnt o'r tîm sydd wedi cyflawni'r gwaith nodedig hwn. Mae data a gyhoeddwyd yn gynharach y prynhawn yma yn dangos bod o leiaf 933,485 o bobl wedi cael eu dos cyntaf nhw o'r brechlyn erbyn hyn a bod 111,716 wedi gorffen eu cwrs nhw drwy gael eu hail ddos. Mae hwnnw'n gyfanswm o 1,045,201 o frechlynnau a weinyddwyd gan ein timau brechu gwych ni ledled y wlad. Fel y gwelwch chi, rydym ni'n nesáu at weinyddu 1 miliwn o ddognau cyntaf o'r brechlyn i bobl yng Nghymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ddydd Gwener, fe gyhoeddwyd diweddariad i'n cynllun cenedlaethol ni. Er mai dim ond dau fis sydd wedi bod ers inni gyhoeddi'r cynllun ei hun, mae yna lawer wedi digwydd gyda'n rhaglen ni. Rwy'n awyddus i fwrw golwg yn ôl ar y cynnydd a rhoi mwy o wybodaeth am ein blaenoriaethau ni ar hyn o bryd ac i'r dyfodol. Yn y diweddariadau, fe wnes i gadarnhau y bydd dau ddyddiad ar gyfer targedau allweddol yn digwydd yn gynt erbyn hyn. Y cyntaf yw'r dyddiad targed ar gyfer cynnig y brechlyn i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth presennol—sef grwpiau 5 i 9. Rwyf wedi dweud mai ein nod ni nawr yw gwneud hyn erbyn canol mis Ebrill. Mae hynny'n bosibl nawr oherwydd fe fydd rhywfaint o'r cyflenwad a ddyrannwyd yn ein cyrraedd yn gynt na'r disgwyl. Rwyf wedi cadarnhau hefyd ein bod ni'n bwriadu cynnig y brechlyn i bob oedolyn sy'n gymwys erbyn diwedd mis Gorffennaf yn hytrach na'n dyddiad gwreiddiol yn nhymor yr hydref. Fel y dywedais i o'r dechrau, y cyflenwad yw'r ffactor sy'n ein cyfyngu. Mae gennyf i hyder yng nghyflymder a chapasiti ein model cyflawni ni, ac yn y tîm ardderchog o bobl sy'n gwneud y gwaith. Serch hynny, mae cwblhau'r gwaith erbyn y dyddiadau hyn yn parhau i fod yn amodol ar gyflenwad brechlynnau a phryd y bydd y cyflenwad hwnnw'n cyrraedd.

Yn y diweddariad, rwyf wedi cadarnhau ein dull ni o weithredu ar gyfer cam 2 ein rhaglen hefyd. Fel gyda'r cam presennol, fe fydd yn seiliedig ar gyngor annibynnol ac arbenigol y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Mae ein dull gweithredu ni yng Nghymru yn debyg i bob un o wledydd eraill y DU ac mae cymeradwyaeth iddo gan y pedwar prif swyddog meddygol ym mhob gwlad yn y DU. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi argymell parhau i gyflwyno'r brechlynnau ar sail oedran. Y rheswm am hynny yw mai oedran sy'n parhau i fod yn ffactor risg mwyaf arwyddocaol ac oherwydd mai model sy'n seiliedig ar oedran sy'n galluogi'r cyflymder mwyaf wrth weinyddu'r brechiadau sy'n weddill. Wrth argymell dull sy'n seiliedig ar oedran, fe nododd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu bwysigrwydd rhai ffactorau eraill, sef, yn benodol, rhyw, ethnigrwydd a statws economaidd-gymdeithasol. Fe fyddwn ni'n rhoi ystyriaeth i'r angen am wybodaeth glir a  dibynadwy, sydd wedi'i thargedu, am y ffactorau hyn yn ein trefniadau ni ar gyfer cyfathrebu a gweinyddu yng ngham 2.

Wrth gwrs, mae'r Aelodau yn ymwybodol y bu llawer o ddiddordeb mewn blaenoriaethu ar sail galwedigaeth. Unwaith eto, fe roddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ystyriaeth i hyn. Eto i gyd, nid oedd digon o dystiolaeth gan y pwyllgor annibynnol ac arbenigol i'w argyhoeddi i gynghori pedair Llywodraeth y DU i flaenoriaethu galwedigaethau arbennig yn wahanol i'r boblogaeth yn gyffredinol. Fe gyfeiriodd hefyd at gymhlethdod gweithredu dull o'r fath a fyddai, yn anochel, yn arafu cyflymder y cyflwyniad.

Fe wyddom fod dros hanner y gweithwyr allweddol dros eu 40 oed. Felly, fe fydd dros hanner ein gweithwyr allweddol naill ai'n cael cynnig brechiad yn rhan o gam presennol y rhaglen, neu fe fyddan nhw'n cael eu galw i'w brechu yn rhan o'r grŵp blaenoriaeth cyntaf a argymhellwyd gan y cyd-bwyllgor ar gyfer cam 2—y rhai hynny sydd rhwng 40 a 49 oed. Rwy'n cydnabod y bydd rhywfaint o siom ynglŷn â hyn—y rhai sy'n gweithio ym maes addysg, gofal plant a gwasanaeth yr heddlu, ac yn y sector trafnidiaeth, er enghraifft. Rwyf hefyd wedi clywed rhai yn dadlau achos gweithwyr manwerthu a gweithwyr post, y mae pob un ohonyn nhw wedi bod wrth eu gwaith yn anterth y pandemig. Ond, yn syml, mae'r cyd-bwyllgor yn ein cynghori ni mai dull sy'n seiliedig ar oedran yw'r un symlaf, y cyflymaf i'w roi ar  waith a'i gyflawni, a hwn yw'r dull tecaf o ymdrin â'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd.

Roedd y diweddariad i'n strategaeth ni'n esbonio rhywfaint o'r dystiolaeth a ddaeth i'r amlwg ynglŷn ag effeithiolrwydd y brechlynnau hefyd. Mae'r ymchwil yn galonogol iawn ac mae hyn yn rhoi mwy o reswm inni obeithio ac ymlawenhau. Ond mae llawer mwy i'w wneud gyda'n rhaglen ni eto, gyda llawer mwy o ddosau cyntaf ac ail ddosau i'w gweinyddu. Rydym ni ar y trywydd cywir i raddau helaeth iawn, ond mae yna lawer o waith i'w wneud eto. Serch hynny, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau o bob ochr yn cydnabod cyflawniad campus ein rhaglen frechu ni yma yng Nghymru hyd yn hyn. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

14:50

Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n gweld eich bod chi'n siarad, Dirprwy Lywydd, ond nid oeddwn i'n clywed pwy oedd wedi ei alw'n gyntaf i ofyn cwestiynau. Oni bai nad oes yna unrhyw gwestiynau, wrth gwrs.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Weithiau, rwy'n ei chael hi'n anodd diffodd fy mudydd fy hunan, hyd yn oed. Rwy'n credu bod problem gyda'r sain gan Ann Jones ar hyn o bryd. Nid wyf wedi gadael yr ystafell, felly rwyf am gadeirio unwaith eto. Angela Burns.

Diolch yn fawr iawn wir, Llywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am yr wybodaeth ddiweddaraf. Roedd gennych chi newyddion calonogol tu hwnt. Rwyf i o'r farn mai camp enfawr yw gweinyddu miliwn o ddosau ac rwy'n diolch o galon i chi ac yn cydnabod yn llwyr y byrddau iechyd, y gwirfoddolwyr, a phawb sydd wedi bod â rhan yn y rhaglen hon. Rwy'n canmol Llywodraeth y DU i'r cymylau hefyd am eu strategaeth caffael brechlynnau. Roedd cael Kate Bingham i fod â rhan yn ergyd athrylithgar, ac rwy'n credu inni fod yn chwimwth ledled y pedair gwlad, ac mae pobl y DU yn elwa ar hynny. Fe hoffwn i ddweud, o waelod calon, llongyfarchiadau.

Rwy'n cytuno â chi fod yn rhaid i strategaeth frechu lwyddiannus fod yn seiliedig ar wyddoniaeth ac ar symledd. Rwy'n credu bod yn rhaid bod yn ofalus iawn ynghylch gwneud unrhyw beth a fyddai'n arafu cyflwyniad y rhaglen. Fe fyddai gallu brechu pob oedolyn yng Nghymru erbyn diwedd mis Gorffennaf yn gyflawniad enfawr, ac fe fyddwn i'n eich annog i gadw at yr uchelgais hwnnw.

Wedi dweud hynny, mae gennyf bedwar cwestiwn. 5.9 y cant yw'r gyfradd o ran profion cadarnhaol yng Nghymru erbyn hyn, sef meincnod allweddol ar gyfer cyfyngiadau lefel 3. Yn ogystal â hynny, mae nifer yr achosion fesul 100,000 yn aros ar feincnod cyfyngiadau lefel 2—newyddion rhagorol, ond a yw'r ffigurau hyn fel y maen nhw nawr yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddechrau codi'r cyfyngiadau lefel 4 cyffredinol? Nawr, nid wyf i'n argymell eich bod chi'n taflu'r enillion a gawsoch chi i'r gwynt ac yn mynd ar ruthr, ond rwyf i o'r farn y gallwn ni ddechrau codi rhai o'r cyfyngiadau hyn a fyddai'n helpu i liniaru'r gost anhygoel i unigolion o ran iechyd meddwl a chorff, i fusnesau ac i'r bobl sy'n perchnogi'r busnesau hynny ac yn rhedeg y busnesau hynny, sydd yn aml iawn yn gwmnïau llai ac yn unigolion preifat yng Nghymru sy'n gweithio'n eithriadol o galed i helpu i gefnogi ein heconomi ni. Felly, fe fyddai'n dda iawn gennyf i gael clywed a ydych chi'n teimlo y bydd y llwyddiant hwn o ran cyflwyniad y brechlyn yn eich galluogi chi i godi'r cyfyngiadau hyn yn gynt na'r disgwyl i helpu i liniaru'r costau personol ac ariannol hyn.

Fy ail gwestiwn i yw: wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau ar gam 2 y rhaglen frechu, mae'n amlwg bod angen ichi sicrhau bod yr ail ddos yn cael ei weinyddu mewn da bryd. Felly a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â'r cynnydd a fu o ran datblygu partneriaethau gyda sefydliadau fel Fferylliaeth Gymunedol Cymru, oherwydd fe fyddwn ni'n dibynnu ar y sefydliadau hynny i helpu gyda'r rhaglen enfawr hon?

Yn drydydd, fe wyddom ni fod y nifer sy'n manteisio ar y brechlyn yn isel iawn mewn rhai carfannau. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â datblygiadau yn hyn o beth, a sut gynnydd a fu gyda'r strategaeth gyfathrebu? A ydych yn cael adborth cadarnhaol ei bod yn gweithio wrth berswadio'r rhai sy'n amharod i gael y brechlyn i wneud hynny?

A chwestiwn bach iawn yw'r pedwerydd sydd gennyf. Ond mae yna ychydig iawn o bobl wedi gofyn imi, pobl sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, a bron pob un ohonyn nhw am eu bod naill ai'n darparu gofal preifat neu'n darparu gofal unigol y telir amdano i bobl oedrannus, ac mewn un achos, i unigolyn ifanc anabl, ond maen nhw'n preswylio yn Lloegr a'u meddygon teulu personol nhw yn ymarfer yn Lloegr. A ydyn nhw'n dal i allu cael eu brechu yma, oherwydd nid yw'n ymddangos yn briodol iawn anfon rhywun sy'n gofalu am unigolyn sy'n agored i niwed i gael eu brechlyn, ar y trên efallai, gyda phosibiliadau lluosog o fod yn fwy agored i COVID, ac yna ddod yn ôl a'i gario yn ôl gyda nhw?

Felly, dim ond ychydig o gymhennu oedd hynny. Ond rwyf i o'r farn mai newyddion da iawn sydd yma. Diolch. 

14:55

Diolch, a diolch i chi am eich geiriau o ddiolch a gwerthfawrogiad. Rwy'n gwybod y byddai'r tîm ledled Cymru yn gwerthfawrogi cefnogaeth gan bob plaid wleidyddol am y gwaith sy'n cael ei wneud ym mhob rhan o Gymru. Ac, mewn gwirionedd, ar draws y pedair gwlad, fe geir cyflymder da yn y rhaglenni brechu. Yn sicr, wrth gymharu gydag eraill yn rhyngwladol, rydym ni'n gwneud yn dda iawn ym mhob gwlad yn y DU, ac yng Nghymru yn arbennig rydym ni'n sicrhau ein bod ni'n gweinyddu ail ddosau i bobl. Fe fyddwch yn cofio bod rhai rhan ni, yn benodol y brechlyn Pfizer, i sicrhau ein bod ni'n gweinyddu ail ddos. Felly, dyna un o nodweddion allweddol ein hymateb ni.

Ac roeddech hi'n sôn yn benodol am bartneriaethau â fferyllfeydd cymunedol ac am yr her o ran gweinyddu ail ddos. Mewn gwirionedd, fe fydd angen inni gael fferyllfeydd cymunedol yn ymuno â ni nid yn gymaint ar gyfer ymdrin ag ail ddosau ond oherwydd ein bod ni'n disgwyl gweld mwy o gyflenwad yn dod i mewn. Mae hynny'n golygu y bydd angen i'n model presennol ni sydd dan arweiniad practisau cyffredinol, ynghyd â chanolfannau brechu torfol, fod yn gweld fferyllwyr a rhai eraill sy'n gallu chwistrellu nid yn unig yn bresennol mewn canolfannau brechu torfol, ond mae'n debygol y bydd angen mwy o fferyllfeydd arnom hefyd i rannu'r baich. Felly, fe fydd pob bwrdd iechyd dros y mis nesaf yn cynnwys mwy o fferyllfeydd cymunedol yn y gwaith i helpu i gyflawni'r rhaglen wrth i'r niferoedd gynyddu eto fel y byddwn ni'n gweld y cyflymder y byddem ni i gyd yn ei ddymuno.

Nawr, o ran eich cwestiwn chi am bobl sy'n byw yng Nghymru nad ydyn nhw wedi cofrestru yma fel rheol neu nad ydyn nhw wedi cofrestru gyda meddyg teulu yma. Rydym wedi bod yn eglur iawn y byddwn ni'n brechu unrhyw un sydd yng Nghymru, fel y gellir brechu myfyrwyr ymysg eraill. O ran eich enghraifft chi o bobl sy'n darparu gofal, mae'r enghraifft hon wedi dod ger ein bron o'r blaen, a'r man cychwyn yw y dylai pobl geisio cofrestru eu hunain yn breswylwyr dros dro gyda meddyg teulu lleol, oherwydd rhan o'r her i'r gwasanaeth iechyd yw, os nad ydym ni'n gwybod bod rhywun yma, yna ni allwn ni eu brechu nhw. Pan fyddwn ni'n gwybod eu bod nhw yma, yna fe fyddwn ni'n rhoi brechlyn iddyn nhw. Ni fydd yna unrhyw ymgais i geisio gwrthod pobl, ac mae'r enghraifft unigol honno gennych chi wedi cael ei rhoi i minnau hefyd cyn hyn. Nifer gymharol fach o bobl sydd dan sylw, ond mae'n bwysig eu bod nhw'n cael eu hamddiffyn, ac fe fyddai hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw hefyd.

O ran y cyfathrebu ar gyfer grwpiau sy'n llai brwdfrydig, nid ydym mewn sefyllfa i farnu pa mor llwyddiannus y bu hynny eto. Roeddwn i'n bresennol mewn cyfarfod a gynhaliwyd gan Aelodau etholaeth Casnewydd, Jayne Bryant a John Griffiths, gyda'r bwrdd iechyd ac eraill yr wythnos diwethaf. Roedd  cynrychiolaeth dda o arweinwyr ffydd lleol ac aelodau o gymunedau lleol yn bresennol hefyd, a'n her ni yw, gyda phob cam ymlaen, ein bod ni'n ennyn diddordeb mwy o bobl. Ac, mewn gwirionedd, yr adborth gan y bobl sy'n cyflwyno'r rhaglen yw bod yna gyfradd uchel iawn o lwyddiant o ran pobl sy'n dewis manteisio ar y brechlyn wedyn bob tro y gwnaethon nhw'n ymgysylltu â phobl sy'n anfoddog. Rwy'n wirioneddol gredu bod y gwaith a wneir gan nifer o'n meddygon a gweithwyr gofal iechyd eraill, drwy fynd yn ôl i'r cymunedau y maent yn perthyn iddynt fel bod yno wyneb proffesiynol sy'n ennyn ymddiriedaeth, yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol—mae Muslim Doctors Cymru yn enghraifft dda iawn. Mae enghreifftiau eraill hefyd. Ac mae'r gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth. Mae'n bwysig cydnabod hefyd fod lle mwy blaenllaw i ffydd yn rhai o'n cymunedau ni nag eraill. Felly, mae gweld clerigwyr lleol, Mwslimaidd neu Gristnogol, sy'n flaenllaw mewn llawer o gymunedau Affricanaidd ac Affro-Caribïaidd, yn dangos awydd a brwdfrydedd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran cael pobl i fynd am y brechlyn, yn union fel y gallai'r clerigwyr hynny sy'n mynegi petruster neu bryder helpu i symud pethau i'r cyfeiriad arall. Felly, nid wyf i o'r farn y gallwn ni farnu'r llwyddiant neu fel arall eto, ond mae hwn yn rhywbeth yr wyf i'n awyddus iawn i gadw llygad barcud arno, oherwydd rydym ni'n sôn yn bennaf am grwpiau sydd â chyfradd uwch o farwolaethau a niwed oherwydd COVID.

O ran eich cwestiynau ehangach am gynllun i reoli COVID, a'n trywydd ni gyda'n hadolygiadau bob tair wythnos, mae'n golygu cydbwyso bob amser, a phan wnaethom ni nodi cynllun i reoli COVID yn wreiddiol, roeddem yn ymdrin â'r sefyllfa cyn amrywiolyn Caint. Felly, rydym yn gwybod nawr fod gennym y ffurf gryfaf o'r amrywiolyn ledled Cymru sy'n llawer mwy heintus, ac mae hynny'n dylanwadu ar y ffigwr R sydd ar gyfradd o rhwng 10 y cant a 50 neu 60 y cant. Felly, mae'n rhaid inni ystyried y cyfraddau sydd gennym ni ar hyn o bryd a pha mor bosibl yw hi y gallen nhw gynyddu eto. Dyna hanfod y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor iechyd cyhoeddus a gawsom ni ynglŷn ag agor yr ysgolion fesul cam. Y dystiolaeth a'r cyngor sy'n pennu ein blaenoriaethau ni bob amser. Ond rydym wedi cael rywfaint o gyngor sy'n dweud wrthym fod yna elfen o hyblygrwydd ychwanegol ar gael, ac fe fydd angen inni ystyried sut i ddefnyddio hwnnw mewn ffordd ofalus iawn i ganiatáu meysydd eraill o weithgarwch, gan ein bod ni wedi ymrwymo i ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb mewn ysgolion a cholegau fesul cam. Ond rydym ni'n dymuno gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n peryglu ein gallu ni i weld pob dysgwr yn dychwelyd i ysgolion neu golegau yn syth ar ôl gwyliau'r Pasg, fel y clywsoch chi'r Gweinidog Addysg yn mynegi mai dyna fyddai ei dewis hi, a dewis y Llywodraeth. Felly, fe fyddwn ni'n parhau i nodi'r wybodaeth honno mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr, ac fe ddaw hynny gennyf fi, y Prif Weinidog a Gweinidogion eraill, ac fe allwch chi ddisgwyl diweddariad priodol ar ddiwedd yr adolygiad tair wythnos nesaf, i roi mwy o sicrwydd i chi a gweddill y wlad ynglŷn â'r camau nesaf o ran y cyfyngiadau symud.

15:00

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn a chroeso nôl, Dirprwy Lywydd. Os caf i ofyn am eglurder ar ddau faes yn benodol, y cyntaf o'r rheini ydy brechu ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mi gawsom ni rywfaint o eglurhad gan y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma—roeddwn i'n falch o gael hynny—ynglŷn â'r broses o bennu pa ofalwyr fydd yn gymwys am frechiad yn y grŵp blaenoriaeth 6. Mae'n amlwg y bydd y gofalwyr hynny yn gorfod gwneud cais eu hunain drwy ffurflen ar-lein rŵan i gael eu hystyried ar gyfer hynny. Dwi'n nodi bod yr onus yn fan hyn ar y gofalwyr eu hunain i wneud cais, lle mae grwpiau blaenoriaeth eraill yn cael y brechiad yn awtomatig, ac mae hynny yn anffodus, dwi'n meddwl. Dwi'n meddwl bod ein profiad ni yn rhyngwladol yn awgrymu y mwyaf mae pobl yn gorfod optio mewn, y lleiaf ydy'r gyfradd sydd yn cael y brechiad. Ond tybed a gawn ni ychydig yn rhagor o fanylion ynglŷn â sut mae'r broses yna'n gweithio, a pha mor gyflym ydych chi'n meddwl byddwch chi'n gallu delio efo apeliadau pan fo pobl yn cael eu gwrthod ar gyfer bod ar y rhestr blaenoriaeth?

Yr ail fater—. Dwi wedi colli'r ddadl yma, mae'n ymddangos. Fy nadl i ydy y dylai pobl mewn swyddi sy'n wynebu'r cyhoedd gael eu blaenoriaethu ochr yn ochr â phobl wrth i'r broses frechu fynd drwy bobl fesul oed. Dwi'n gwybod yr hynaf ydych chi y mwyaf tebyg ydych chi o fynd yn sâl iawn, ond mae yna eglurder yn fan hyn bod y JCVI wedi ystyried sawl ffactor. Oed ydy'r un mwyaf pwysig, medden nhw. Mae'n edrych ar gender, ethnicity, socioeconomic status, meddai'r datganiad. Ond mae cwestiwn arall yma i fi: lle mae'r sylw i exposure? Lle mae'r sylw i ba mor debyg ydy hi bod rhywun yn ei gael o? Dwi'n gwybod bod y rhan fwyaf o bobl sydd yn debyg o fynd yn sâl iawn neu waeth wedi cael eu brechu'n barod, ond ai dweud ydych chi, felly, does dim ots os ydy pobl ifanc yn cael COVID? Dwi'n meddwl bod ots, ac y dylen ni drio atal pobl ifanc hyd yn oed, mewn swyddi sydd yn wynebu'r cyhoedd, rhag cael COVID. Allech chi egluro a ydy long COVID ac effaith hwnnw wedi cael ei ystyried fel rhan o'r hafaliad yn fan hyn? Hefyd, wrth gwrs, mae yna ymchwil, sydd yn galonogol iawn, yn awgrymu bod y brechiad yn ei gwneud hi'n llai tebygol eich bod chi'n pasio'r feirws ymlaen i bobl. Wel, os felly, mae'n gwneud synnwyr eto i bobl sydd mewn swyddi sy'n wynebu pobl i fod wedi cael y brechiad yn gynharach, hyd yn oed os ydyn nhw ychydig bach yn ifengach. Diolch yn fawr.

15:05

Ie, diolch am y cwestiynau yna. Rwyf eisiau ymdrin â gofalwyr di-dâl yn gyntaf. Fe gyhoeddwyd canllawiau gennym ni'r wythnos diwethaf ar ofalwyr di-dâl ac rwy'n credu bod hynny wedi rhoi llawer iawn o eglurder, ynghŷd a'r ffurflen ar-lein. Rydym ni wedi gweithio gyda grwpiau'r gofalwyr cenedlaethol i gytuno arnynt, ac fe ddylai hynny ddarparu dealltwriaeth  ehangach o bwy sy'n ofalwyr di-dâl nag y gwnaeth rhai o'r canllawiau a roddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar y dechrau, ac fe gafodd y rheini eglurhad ychwanegol wedyn, wrth gwrs. Nid dim ond sôn am bobl sy'n cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig â bod yn ofalwyr yr ydym ni yma, oherwydd, wrth gwrs, nid yw gofalwyr di-dâl o reidrwydd yn cael y budd-daliadau hynny. Fe wyddom nad yw llawer o ofalwyr di-dâl yn dymuno bod yn hysbys, er gwaethaf y ffaith ein bod ni, yn y ddeddfwriaeth a basiwyd gennym, wedi rhoi argymhelliad penodol ar hawliau gofalwyr a'u hawl nhw i gael eu hasesiad eu hunain. Felly, mae'r wybodaeth sydd gan lywodraeth leol am y rhai sy'n cael eu hasesu fel gofalwyr yn fan cychwyn da i ni, ond, mewn gwirionedd, ni fyddai'r wybodaeth hon ynddi ei hun wedi bod yn ddigonol. Fe allem ni fod wedi wynebu sefyllfa o ymdrin â'r bobl a oedd eisoes ar y rhestr ac eithrio pawb arall, ac fe wyddom y byddai hynny wedi achosi anghyfiawnder sylweddol i ystod eang o bobl. Felly, rydym wedi datblygu trefn y gall pobl fynd trwyddi ar gyfer cael eu rhoi ar y rhestr. Pan fyddan nhw'n wedi llenwi'r ffurflen ar-lein, a fydd ar gael ledled Cymru erbyn dydd Llun fan bellaf, fe fydd hynny'n golygu y bydd eu henwau nhw'n mynd ymlaen wedyn i system imiwneiddio Cymru ac yna fe fyddant yn cael eu hapwyntiadau.

Mae gennym yr her hon—. Rwy'n deall y pwynt a awgrymwyd nad yw gofyn i bobl optio i mewn yn union yr un fath â chymryd gwybodaeth oddi ar restr. Wel, mewn gwirionedd, rhan o'n her ni yw nad yw'r GIG yn gwybod pwy yw pob un o'r gofalwyr di-dâl. Mae'r GIG yn gwybod pa mor hen ydych chi, ond, ar y cyfan, nid yw'n gwybod yn union beth ydych chi'n ei wneud i ennill eich cyflog neu, yn wir, o ran eich gweithgareddau gofalu di-dâl. Dyna pam mae angen inni fod â phroses optio i mewn. Ac ydym, wrth gwrs, rydym ni'n dibynnu ar bobl yn trin y broses fel dylen nhw, gyda gonestrwydd. Mae'r ffurflen yn gofyn ichi fynd trwy gyfres o gwestiynau am eich gwaith a'ch cyfrifoldebau chi wrth ofalu. Mae'n bosibl y gallai rhai pobl geisio llywio eu ffordd trwy hynny i ennill blaenoriaeth. Byddai hynny'n golygu bod yn rhaid iddynt fod yn gyson anonest. Os yw pobl yn dewis bod yn anonest, rwyf i o'r farn na ddylem gymryd agwedd mwy anghynhwysol a fyddai fel arall yn eithrio llawer o ofalwyr di-dâl rhag cael eu cynnwys ym mlaenoriaeth 6 i gael eu brechlynnau nhw. Fel y dywedais i, rydym wedi gweithio trwy hyn gyda sefydliadau'r gofalwyr.

O ran eich pwynt chi am y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a'r cyngor, rydym ni'n gwneud yr hyn y mae'r cyhoedd yn disgwyl inni ei wneud, yn fras, sef dilyn yr wyddoniaeth a'r dystiolaeth. Rydym ni wedi cael y cyngor arbenigol annibynnol hwn; rydym wedi ei ddilyn o'r blaen ar bob un o'n rhaglenni eraill ni ar gyfer imiwneiddio a brechu, ac fe fyddai'n beth rhyfedd iawn inni ddweud ein bod ni wedi clywed yr wyddoniaeth a'r dystiolaeth, a'n bod ni wedi cael cyngor clir ynglŷn ag iechyd y cyhoedd, ond ein bod ni wedi penderfynu peidio â'u dilyn nhw. Oherwydd y gwir amdani yw, pe byddem ni'n dewis blaenoriaethu gwahanol grwpiau o weithwyr, fe fyddai'n rhaid inni ddiystyru pobl eraill wedyn. Felly, nid oes ots pa grŵp o weithwyr yr ydych chi'n eu rhoi ar frig y rhestr ar gyfer y cam nesaf, fe fydd yn rhaid ichi ddweud wrth bobl eraill, 'Fe ddaw eich tro chi eto.' Ac mae'r cyngor a gawsom ni yn seiliedig yn glir iawn ar sut i gael yr effaith fwyaf posibl ar atal salwch difrifol a marwolaethau posibl oherwydd COVID.

Nid yw hyn yn golygu dweud nad yw pobl ifanc yn bwysig, ond mae'n ymwneud â chydnabod maint y ffactorau risg, sy'n cael eu nodi'nn eglur iawn yn y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor a gawsom ni gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Ac rwy'n tybio bod hynny'n dibynnu ar eich dymuniad chi i ddilyn y dystiolaeth a'r cyngor hwnnw neu a ydych chi'n dymuno mynd ar drywydd dull arall. Rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i ddilyn y dystiolaeth a'r cyngor, a'r rheswm yw, fel y dywedais i yn fy natganiad, fod y Cyd-bwyllgor wedi ystyried peryglon galwedigaethau amrywiol. Fe ystyriwyd hynny ac roedden nhw'n parhau i fynegi'r hyn sydd, yn fy marn i, yn gyngor clir iawn y dylem ni, wrth roi'r brechlynnau, gymryd dull sy'n seiliedig ar oedran, a'r ffordd gyflymaf o amddiffyn pobl trwy gwblhau rhaglen frechu'r boblogaeth o oedolion. Y perygl yw, rwy'n ofni, pe byddem yn dewis rhai grwpiau unigol, er gwaethaf y cyngor hwnnw, y byddem ni nid yn unig yn taflu'r wyddoniaeth i ffwrdd, ond fe fyddem ni'n gwneud penderfyniadau ar sail ein gwerthoedd ni o ran pa grwpiau o weithwyr hanfodol sy'n bwysicach nag eraill. Ac a ddylem ni ddweud nad yw swyddogion post, gweithwyr post, mor bwysig, neu nad yw gweithwyr manwerthu mor bwysig, pan nad oes unrhyw dystiolaeth yn bodoli, mewn gwirionedd, sy'n dweud na ddylid blaenoriaethu'r bobl hynny? A ddylem ni gynnwys gweithwyr allweddol eraill ond gwrthod gweithwyr trafnidiaeth sy'n wynebu'r cyhoedd, sydd wedi gweld cyfraddau uchel o farwolaethau oherwydd COVID? Felly, nid yw'n fater mor syml ag y mae rhan o'r ymgyrchu presennol yn ei awgrymu.

Rwy'n deall pam mae pobl yn ymgyrchu i bobl fel nhw gael blaenoriaeth yn y rhaglen frechu. Ond meddyliwch chi am y peth fel hyn: os ydych chi'n athro 25 oed, ac nad ydych chi yn un o'r grwpiau sydd â chyflwr iechyd sylfaenol a fyddai'n eich rhoi chi yn grwpiau 4 neu 6, yna mae eich risgiau chi'n sylweddol is nag athro 45 oed neu athro 55 oed. Mae athro 55 oed, ac mae yna lawer ohonyn nhw, wedi cael ei gynnwys eisoes yn grwpiau 5 i 9. Fe ddaw athro 45 oed yn gyntaf yn y garfan nesaf, pan fyddwn ni wedi cwblhau grwpiau 5 i 9. Nid yw hynny'n golygu nad yw athro 25 oed yn bwysig, ond mae ei risgiau ef yn llai, a dyna'r pwynt. O ran rhaglen i'r holl boblogaeth fel hon, mae angen inni weithredu ar sail sy'n ystyried y risgiau hyn ar draws y boblogaeth gyfan ar gyfer lleihau'r niwed a allai fod, ar gyfer sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf posibl a gaiff ei darparu gan y brechlynnau. Dyna'r dystiolaeth a roddir inni gan gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a dyna'r penderfyniad yr wyf i wedi ei wneud i helpu i gadw Cymru'n ddiogel.

15:10

Rwy'n credu y bydd pobl ar draws Blaenau Gwent ac mewn mannau eraill yn ymuno â chi i ddiolch i'r gwasanaeth iechyd gwladol ac am waith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhaglen frechu yn mynd rhagddi mor gyflym, mor effeithlon ac mor effeithiol â hyn, o ran dosau cyntaf ac ail ddosau; dyna yw ein profiad ni yma ym Mlaenau Gwent, mae hynny'n sicr.

Mae gennyf i ddau gwestiwn ichi, Gweinidog, yn gyntaf oll am ofalwyr di-dâl ac, yn ail, am y bobl hynny sy'n gaeth i'r tŷ. Mewn sawl ffordd, rydych chi wedi ateb y cwestiwn cyntaf yn barod, felly gadewch imi fynd i'r afael â mater cleifion sy'n gaeth i'r tŷ. Mae effaith y rhaglen frechu yn cael ei theimlo ym mhob un o'n cymunedau ni, ac rwy'n gweld ac yn siarad gyda phobl yma ym Mlaenau Gwent sydd wedi cael eu dos cyntaf, sy'n aros am, ac yn cael eu hail ddos, ac mae hynny'n cael effaith wirioneddol. Ond mae yna grŵp o bobl sy'n gaeth i'r tŷ, nad ydyn nhw'n gallu cyrraedd y feddygfa na chanolfan brechu torfol. Rwy'n clywed pryderon cynyddol gan deuluoedd, yn bennaf, am bobl sy'n aros, sydd mewn rhai achosion yn oedrannus iawn ac yn fregus iawn, nad ydyn nhw wedi cael cyfle i gael eu dos nhw eto am nad ydyn nhw'n gallu cyrraedd y feddygfa na'r ganolfan frechu. A wnewch chi sicrhau, Gweinidog, yn eich trafodaethau chi gydag arweinyddion y rhaglen frechu, ein bod ni'n gallu cyrraedd pawb yn ddiwahân, fel nad yw pobl sy'n gaeth i'r tŷ, sydd yn eu hanfod yn rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau ni, yn cael eu gadael ar ôl oherwydd esgeulustod?

Ydw, rwy'n hapus i roi sylw i gwestiwn yr Aelod, nid yn unig heddiw, ond rwy'n addo hefyd y byddaf i'n ymdrin â hyn yn benodol yn ystod fy natganiad yr wythnos nesaf am yr wybodaeth ddiweddaraf am frechu. Oherwydd, er enghraifft, fe es i â'm mam i gael ei brechlyn hi dros y penwythnos. Y gwirionedd yw n fyddai hi wedi gallu mynd i'r ganolfan frechu oni bai amdanaf i, ac roeddwn i'n hapus i wneud hynny; rwy'n fab iddi ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei wneud gan lawer o feibion a merched ledled y wlad. Wrth inni adael y ganolfan frechu, fe welais i rywun a oedd, mi dybiaf, yn ferch i rywun a oedd yn cerdded i mewn gyda chymorth ffon â phatrwm croen anifail trawiadol iawn arni, i gael ei brechlyn hithau hefyd. Felly, nid yw'n rhywbeth anarferol yw hyn, ac mae hwnnw'n rheswm cwbl dderbyniol dros deithio a bod yng nghwmni pobl na fydden nhw'n gallu bod yn eu cwmni fel arall.

Er hynny, rwy'n cydnabod, wrth aildrefnu apwyntiad fy mam, fe gymerodd gryn dipyn o amser i fynd trwyddo ac aildrefnu. Ond fel gydag unrhyw un sy'n cael cynnig apwyntiad yn ei feddygfa, neu mewn canolfan frechu torfol neu leol arall ac sy'n methu cyrraedd yno, mae cyfle i aildrefnu'r apwyntiad, ac rwy'n awyddus iawn i bwysleisio hynny. Os na all pobl gadw'r apwyntiadau a gynigiwyd iddyn nhw, ni ddylent ofidio neu feddwl bod eu cyfle wedi diflannu am byth gan nad oedden nhw'n gallu mynd yno. Ein hagwedd ni yw na ddylid gadael neb ar ôl, yn bendant. Felly, os bydd apwyntiad wedi'i fethu, a bod pobl yn awyddus i ffonio i aildrefnu—y nhw neu unrhyw aelod o'r teulu—mae hynny'n bosibl ac fe fyddwn ni'n trefnu cyfle arall iddyn nhw.

Mae gennym dimau o bobl sy'n gweinyddu brechiadau i bobl sy'n gaeth i'w tai. Wythnos nesaf, fe fyddaf i'n sicr o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y timau sy'n gwneud hynny, ond hefyd yn dweud eto wrth bobl sut y gallant fynd ati i drefnu hynny os ydyn nhw'n pryderu am deithio. Mae hwn yn bwynt teg iawn, yn fy marn i, ac rwy'n awyddus i roi sicrwydd i'r bobl sy'n eu cael eu hunain yn y sefyllfa y tynnodd yr Aelod dros Flaenau Gwent ein sylw ni ati.

Gweinidog, un o effeithiau mawr eraill y rhaglen frechu, sydd wedi bod mor llwyddiannus yma yng Nghymru a ledled y DU, fu'r gostyngiad yn nifer y bobl sydd yn ein hysbytai ni oherwydd COVID. Rwyf wedi sylwi, serch hynny, yn ôl y setiau diweddaraf o ddata sydd ar gael, ei bod yn ymddangos bod cyfran y gwelyau mewn ysbytai sy'n cael eu defnyddio gan gleifion COVID-positif yng Nghymru yn parhau i fod yn llawer uwch nag y maen nhw mewn rhannau eraill o'r GIG yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fe fyddai hyn yn awgrymu nifer o bethau, o bosibl. Efallai fod pobl yn aros yn yr ysbyty am gyfnod hwy gan eu bod yn hŷn neu'n fregus, neu ag anghenion mwy cymhleth efallai na'r cleifion mewn mannau eraill yn y DU. Fe allai hyn olygu hefyd, wedi rhoi ystyriaeth i hyn, ac os nad ydych chi'n gwybod yr ateb, a yw'n rhywbeth y gallech chi daflu rhywfaint o oleuni arno yn y dyfodol i'r Aelodau, o ystyried y ffaith nad yw'n ymddangos bod nifer y cleifion yn ein hysbytai ni sydd â COVID yn gostwng ar yr un gyfradd â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

15:15

Mae'n anodd imi roi ateb pendant i gwestiwn yr Aelod gan nad wyf i wedi adolygu'r data ar gyfer rhannau eraill y DU. Ac yn wir, fe fyddwch chi'n gweld amrywiad, yn arbennig felly yn Lloegr, oherwydd mae Lloegr yn wlad fawr, ac fe wyddom fod yna amrywiad sylweddol o fewn rhanbarthau Lloegr. De-orllewin Lloegr sydd wedi gweld yr effaith leiaf oherwydd COVID drwy gydol y pandemig; ond fe gafodd rhanbarthau eraill yn Lloegr eu taro'n galetach o lawer. Felly, rwy'n credu bod angen inni edrych, nid yn unig ar ddata cenedlaethol, ond, ar gyfer Lloegr yn benodol, rhanbarthau yn Lloegr, i ddeall sut fyddai'r gymhariaeth. Mae'n debyg y byddai'n well gwneud hynny drwy ofyn i'r ystadegwyr, sydd gan ein Llywodraeth ni yn y gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddol, edrych ar bethau, ac rwy'n siŵr y gallan nhw gyhoeddi rhywbeth sy'n cymharu'r darlun mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

Yng Nghymru, mae hyn yn newyddion da ar y cyfan, sef ein bod ni'n gweld gostyngiad yn nifer y rhai sy'n cael eu derbyn  mewn ysbytai. Y mwyafrif yw pobl sy'n gwella o COVID, ond sy'n parhau i fod ag angen gofal acíwt, ac rydym ni'n dal i weld 110 y cant o'n capasiti gofal critigol ni'n cael ei ddefnyddio. Mae canran y rhai sy'n cael eu trin ar gyfer COVID wedi bod yn lleihau, sy'n newyddion da iawn, ond mae hyn yn parhau i ddangos bod ein GIG ni dan bwysau sylweddol. Felly, nid ydym wedi cyrraedd y sefyllfa lle gallwn agor llwybr ar gyfer llawer o'r triniaethau arferol unwaith eto, oherwydd nid oes gennym y capasiti i ofalu am yr holl bobl hynny. Mae hwn yn ddarlun sy'n gwella ar y cyfan, sef ychydig dan 1,500 o bobl yn ein hysbytai ni sy'n gleifion COVID. Ond mae hynny, i raddau, yn amlygu arwyddocâd effaith a maint y capasiti sy'n parhau i danseilio'r ffordd y byddai ein GIG ni'n gweithredu fel rheol, hyd yn oed pe byddai'n rhaid inni fynd ymlaen wedyn i ystyried y dulliau ychwanegol o atal a rheoli heintiau. Ond fe roddaf i ystyriaeth ddwys i'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac fe welaf i wedi hynny sut y gallwn ni fynegi barn wirioneddol gymharol ynglŷn â'r mater hwn.

Diolch. Mae nifer o etholwyr mewn lleoedd fel Llangollen yn gofyn imi, 'Os cafodd y gostyngiad yn y cyflenwad o frechlynnau y cyfeiriodd y Gweinidog ato'r wythnos diwethaf ei deimlo ym mhob bwrdd iechyd, pam mae Lloegr a De Cymru'n gweld  niferoedd cyson a chynyddol yn y brechiadau wrth i'n niferoedd ni ostwng yn lleol?'. A sut fyddech chi'n ymateb i'r etholwr a ddywedodd, 'Mae fy ngwraig i'n cael ei chynnwys o fewn grŵp targed 6 a minnau o fewn grŵp targed 7 i gael y brechiad yn erbyn COVID. A fyddech cystal â gofyn i Lywodraeth Cymru pam, hyd yn hyn, mae 49,994 o bobl yn grŵp 8 a 43,648 yn grŵp 9 wedi cael eu brechu o'n blaen ni?'

Mae gofalwyr di-dâl sy'n gymwys i gael lwfans gofalwyr, neu'r rhai sy'n unig ofalwyr neu'n ofalwyr sylfaenol i berson oedrannus neu anabl sydd mewn mwy o berygl o farwolaeth oherwydd COVID-19, ac felly'n glinigol agored i niwed, wedi cael eu hychwanegu at grŵp blaenoriaeth 6, felly sut fyddech chi'n ymateb i'r etholwr sy'n gofyn, 'A wnewch chi sefydlu rhestr ar sail ystyriaethau meddygol ar gyfer y gofalwyr di-dâl a ychwanegir at grŵp 6, oherwydd gan nad yw pob gofalwr yn hawlio'r lwfans, naill ai am eu bod nhw'n gweithio, neu'n astudio neu heb fod yn ymwybodol ohono, fe fydd llawer o bobl yn cael eu gadael ar ôl?'

Iawn. Rwy'n awyddus i fod yn gwbl eglur fod y gostyngiad yn y cyflenwad y tynnwyd sylw ato gyda thryloywder, yr ydym yn disgwyl ei weld yn cael ei ddatrys o ganol yr wythnos hon ymlaen gan gyflenwadau cynyddol, wedi golygu ein bod ni wedi dyrannu'r cyflenwad o frechlynnau sydd ar gael inni ar sail gwbl gymesur i bob rhan o Gymru. Nid yw'n wir o gwbl fod unrhyw ranbarth yng Nghymru wedi cael ei ffafrio'n fwy nag un arall, nid yw'n wir o gwbl fod unrhyw ranbarth yng Nghymru rywsut wedi cael ei drin gyda llai o ffafriaeth. Mae'n fy nigalonni i, braidd, hyd yn oed ar y cam hwn o'r pandemig, fod rhai yn parhau i roi coel i'r syniad fod triniaeth arbennig yn cael ei rhoi i rannau eraill o'r wlad. Nid hynny fu ein dull ni o ymdrin â'r dewisiadau a'r heriau anodd iawn y bu'n rhaid inni eu gwneud a'u hwynebu drwy gydol y pandemig. Ac nid wyf yn credu ei fod o gymorth i unrhyw un ohonom i feio pobl ddrwg mewn gwahanol rannau o'r wlad a ffafrio eu trigolion nhw eu hunain yn hytrach nag anwesu dull cenedlaethol.

O ran her y lwfans i ofalwyr a gofalwyr di-dâl, rwy'n credu fy mod i wedi trafod yn fanwl heddiw sut yr ydym ni'n ymdrin â gofalwyr di-dâl, gyda'r canllawiau a gyhoeddwyd gennym yr wythnos ddiwethaf, gyda'r ffurflen ar-lein a fydd ar gael ledled y wlad erbyn dydd Llun fan bellaf, a'r ffaith bod hwnnw'n ddull haelfrydig, i ddeall pwy yw'r gofalwyr di-dâl. A phan fyddan nhw wedi ymuno â system imiwneiddio Cymru, fe fyddan nhw'n cael eu hapwyntiad wedyn, a fydd yn cynnwys eu hail apwyntiad hefyd.

Rydym ni mewn sefyllfa wahanol o ran y rhai sy'n cael lwfansau gofalwyr yn hyn o beth, a hynny yw, os ydych chi'n cael lwfans gofalwyr, yna mae hynny'n rhoi'r hawl ichi gael y brechlyn. Yr her sydd gennym ni, serch hynny—ac mae hyn yn achosi rhywfaint o anniddigrwydd a rhwystredigaeth i mi; nid wyf i'n credu bod y sefyllfa yn un dderbyniol—yr her sydd gennym yw bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi eu rhestr nhw o'r rhai sy'n cael lwfans gofalwyr i'w cydweithwyr nhw yn GIG Lloegr gyntaf cyn rhoi'r wybodaeth honno i Gymru. Nid wyf i'n credu bod hynny'n dderbyniol, ac fe wnes i hynny'n eglur iddyn nhw. Nid yw'r Adran Gwaith a Phensiynau, yn yr achos hwn, yn adran o Lywodraeth Lloegr; adran o Lywodraeth y DU yw hi, sydd â chyfrifoldebau tebyg am bob rhan o'r undeb y mae hi'n ei gwasanaethu, ac nid wyf i'n credu ei bod yn dderbyniol na fydd pobl yng Nghymru sy'n cael lwfans gofalwyr yn cael eu hapwyntiadau oherwydd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi dewis peidio â chyflwyno'r wybodaeth honno i Gymru yn ôl yr un amserlen â Lloegr. Yr hyn sy'n gadarnhaol, serch hynny, yw fy mod i'n credu, cyn gynted ag y bydd yr wybodaeth honno ar gael inni, y gallwn gynhyrchu'r apwyntiadau hynny'n gyflym iawn. Rwy'n deall y gallai pobl sy'n cael lwfans gofalwyr deimlo'n rhwystredig iawn oherwydd yr oedi byr o ychydig ddyddiau eto, hyd yn oed. Ond pan fydd yr wybodaeth honno ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, fe fyddwn ni'n cynhyrchu'r apwyntiadau hynny wedyn i'r bobl hyn i sicrhau eu bod yn cael eu brechlynnau nhw'n gyflym ac ar amser. Ac rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa dda i gwblhau grwpiau blaenoriaeth 1 i 9, gan gynnwys yr holl ofalwyr yr ydym ni wedi eu trafod heddiw, erbyn canol mis Ebrill. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

15:20
4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Tlodi Tanwydd

Fe symudwn ni ymlaen nawr at ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn â'r cynllun tlodi tanwydd, ac rwy'n galw ar y Gweinidog, Lesley Griffiths, i gynnig y datganiad.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae ein cynllun ni i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, a gyhoeddwyd heddiw, yn ailddatgan ein hymrwymiad ni i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yn y newid i economi sero net yng Nghymru.

Mae ein hymrwymiad ni i fynd i'r afael â thlodi tanwydd wedi bod yn gyson dros yr hirdymor, gyda'n rhaglen Cartrefi Cynnes yn buddsoddi mwy na £350 miliwn dros 10 mlynedd, gan fod o fudd i dros 60,000 o aelwydydd. Mae'r ymrwymiad hirdymor hwn wedi bod o'r pwys mwyaf yn ystod y cyfnod hwyaf o gyni yn ein hanes ni, a orfodwyd arnom ni oherwydd y penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth y DU.

Yn ystod y tymor Seneddol hwn, rydym ni wedi parhau i godi safonau o ran tai. Drwy'r rhaglen dai arloesol, rydym ni wedi buddsoddi mwy na £145 miliwn i siapio'r farchnad drwy greu datblygiadau tai newydd rhagorol, sy'n braf i fyw ynddyn nhw, sy'n garbon isel ac yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol. Yn wahanol i gostau ynni nodweddiadol o £1,300 y flwyddyn, mae biliau ynni blynyddol y cartrefi hyn wedi gostwng mor isel â £200. Mae'r hyn a ddysgwyd o'r cynllun hwn, ochr yn ochr â'n rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, yn cael ei integreiddio yn ein rhaglenni tai creiddiol i sicrhau mai hon yw'r ffordd y caiff pob cartref ei adeiladu a'i ôl-osod i'r dyfodol.

Mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd gennym yn 2018, wedi cefnogi'r gwaith o ehangu prosiectau ynni cymunedol sy'n caniatáu i ddinasyddion fod yn rhanddeiliaid yn eu cyflenwad ynni nhw eu hunain, yn ogystal â chynhyrchu trydan a gwres sy'n fforddiadwy, a charbon isel. Y flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni'n diweddaru safon ansawdd tai Cymru i'w gwneud yn ofynnol i berfformiad ynni mewn cartrefi cymdeithasol gyrraedd y safon uchaf, sef gradd A, gan weithio gyda busnesau, y sector addysg ac undebau llafur i sefydlu canolfannau rhagoriaeth ar gyfer ôl-osod tai, i gefnogi'r broses angenrheidiol o sefydlu gweithlu sy'n alluog iawn i osod systemau ynni i'r tŷ cyfan, ac a achredwyd yn briodol.

Fis Hydref diwethaf, fe gyhoeddais i'r cynllun peilot cyngor a chymorth ynni domestig, ac mae hwnnw ar waith ers cryn amser erbyn hyn. Mae hyn yn adeiladu ar ein profiad ni o gyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni ar gyfer gwella'r cymorth y gallwn ni ei gynnig, gan sicrhau y bydd pobl yn gweld y budd mwyaf posibl drwy fynd i'r afael â rhwystrau sy'n ymestyn y tu hwnt i berfformiad thermol eu cartrefi nhw eu hunain. Mae'r cynlluniau peilot hyn yn treialu dulliau o gefnogi aelwydydd sy'n agored i niwed ar gyfer sicrhau bod y bargeinion gorau o ran ynni ar gael, gan helpu pobl i roi'r gorau i ddefnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw a dechrau defnyddio mesuryddion deallus, a diogelu'r holl hawliau sydd ar gael iddyn nhw gan Lywodraeth y DU a chan gwmnïau ynni, yn ogystal â'r gefnogaeth a ddaw gan Lywodraeth Cymru. Mae'r holl fesurau hyn yn cynnal cyfiawnder cymdeithasol yn y newid i sero net. Maen nhw o fudd uniongyrchol i'r aelwydydd hynny sydd yn yr angen mwyaf, ac yn cyflawni mesurau ymarferol ar ran pawb yng Nghymru, a fyddai, fel arall, yn gorfod cael eu talu o gyllidebau cartrefi'r rheini na allant fforddio hynny o gwbwl.

Mae'r profiad a enillwyd o'r camau a gymerwyd dros yr hirdymor, a'r dulliau arloesol a ddatblygwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi llywio'r cynllun newydd a gyhoeddwyd gennym ni nawr i barhau i leihau cyfraddau o dlodi tanwydd dros y 15 mlynedd nesaf. Mae'r cynllun yn parhau i dargedu'r cymorth a ddarparwn ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn y cartref er lles aelwydydd incwm is sy'n byw mewn tlodi tanwydd, neu sydd mewn perygl o hynny. O fewn hyn, mae llawer o ganolbwyntio ar y cartrefi mwyaf aneffeithlon yn thermol, ac yn gyson â'n hymrwymiad ni i aer glân a chyfiawnder hinsawdd, gan weithio tuag at roi terfyn ar ein dibyniaeth ni ar losgi glo a gwresogi ag olew mewn dull sy'n cynnig cyfnod teg ar gyfer newid i'r rhai nad oes ganddyn nhw ddewis arall ar hyn o bryd.

Mae'r cynllun wedi elwa ar ymgynghoriad cyhoeddus eang, yn ogystal ag ymgysylltiad â sefydliadau trydydd sector yng Nghymru sy'n rhannu ein hymrwymiad cryf ni i'r mater hwn. Cafodd y cynllun ei lywio gan yr adroddiad tirwedd ar dlodi tanwydd yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru, a chan y gwaith a wnaeth ymchwiliad Pwyllgor y Senedd ar  Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i dlodi tanwydd. Fe fydd yr ymgysylltu sydd wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn yn parhau wrth inni ddatblygu panel cynghori newydd, a thargedau interim a fydd yn atgyfnerthu ac yn canolbwyntio ein hymdrechion tuag at gyflawni'r rhwymedigaethau a ymgorfforwyd yn y gyfraith yn Neddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000. Cafodd ymgynghoriad ffurfiol pellach ei drefnu ar gyfer yr haf eleni i lywio'r broses o lunio'r iteriad nesaf o'r rhaglen Cartrefi Cynnes gan Lywodraeth newydd y Senedd nesaf.

Mae costau ynni wedi effeithio fwy byth ar aelwydydd yn ystod y misoedd diwethaf, o ganlyniad i'r gaeaf oeraf ers 10 mlynedd, ynghyd â'r angen i aros gartref i gadw Cymru'n ddiogel rhag effaith pandemig COVID-19. Yn y cyd-destun hwn, roeddwn i'n siomedig iawn o glywed bod y rheoleiddiwr ynni wedi cyhoeddi codiad o 9 y cant yn y cap ar y tariff domestig o fis Ebrill. Er bod rhywfaint o'r cynnydd hwn yn cael ei briodoli i brisiau ynni cyfanwerthol sy'n uwch, mae cyfran sylweddol ohono yn lliniaru'r ddarpariaeth y bu'n rhaid i gyflenwyr ynni ei gwneud ar gyfer ôl-ddyled i gefnogi talwyr biliau sy'n agored i niwed drwy gwrs y pandemig.

Mae'n siŵr bod y cynnydd mewn ôl-ddyledion ynni yn arwydd o'r pwysau sydd ar aelwydydd yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU. Bydd rhoi mwy o gostau ar dalwyr biliau sydd ar incwm is yn ychwanegu at y pwysau sydd ar filoedd o deuluoedd sy'n methu newid eu cyflenwyr i gael bargen well tra byddan nhw mewn dyled. Rwyf wedi galw ar y rheoleiddiwr a Llywodraeth y DU i gymryd camau i wrthdroi'r penderfyniad hwn, fel nad yw'r adferiad yn ein cymdeithas ni wedi effaith y pandemig yn cael ei danseilio. Ni ddylai'r gost o ddarparu system ynni sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain gael ei thalu'n ormodol gan y teuluoedd hynny sydd dan bwysau ac sy'n lleiaf abl i'w thalu.

Mae'r mater hwn yn tynnu sylw at  ffaith mater o gyfiawnder cymdeithasol yw'r argyfwng hinsawdd. Mae'r cyngor a gawsom ni fis Rhagfyr diwethaf gan ein cynghorwyr statudol annibynnol ni, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yn pwysleisio hyd a lled y buddsoddiad sydd ei angen i ddarparu adeiladau di-garbon wrth gyflawni ein rhwymedigaethau i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Mae eu cyngor nhw'n cydnabod hefyd bod lleihad effeithiol mewn allyriadau yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan lle mae'r ysgogiadau a'r gallu ganddyn nhw i fuddsoddi ar raddfa o'r fath.

Mae'r cynllun gweithredu yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw yn nodi'r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael inni, gan wthio terfynau ein pwerau datganoledig i fod â swyddogaeth ragweithiol wrth sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yn y newid i sero net drwy ein camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru. Diolch.

15:25

Wel, ar ôl cyhoeddi eich cynllun tlodi tanwydd chi heddiw, 'Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035', mae'n ymddangos bod y cynllun hwn yn debyg i'r cynigion drafft, i raddau helaeth iawn, ac er ein bod ni'n sicr yn croesawu'r camau gweithredu tymor byr, rydym ni'n arbennig o siomedig nad oes yna gerrig milltir o hyd yn y cyfamser rhwng nawr a 2035. Sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad dilynol gan National Energy Action, NEA Cymru, fod Llywodraeth Cymru wedi methu yn ei dyletswyddau statudol, ac oni chaiff hynny sylw ar frys, efallai na fydd miloedd o bobl sy'n byw yn y cartrefi oeraf a drutaf i'w gwresogi yn cael cymorth am flynyddoedd i ddod eto? Fel maen nhw'n dweud, sawl blwyddyn ar ôl methu'r targedau blaenorol i gael gwared â chartrefi oer yng Nghymru, mae tlodi tanwydd yn parhau i fod yn broblem ddinistriol iawn. Ni all dros 150,000 o aelwydydd fforddio i wresogi na phweru eu cartrefi nhw ac mae COVID-19 wedi amlygu'r her hon yn fwy eto, gyda llawer o bobl yn aros gartref ac yn defnyddio mwy o ynni, yn mynd yn fwy i ddyled ac yn ennill llai o arian.

Yn ogystal â phennu targed terfynol ar gyfer gweithredu i roi diwedd ar dlodi tanwydd yng Nghymru, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno cerrig milltir ategol i sefydlu llwybr at y targed terfynol. Sut yr ydych chi'n ymateb, felly, i'w datganiad nhw, er bod Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn ystyried y targedau interim hyn yn 2023, nad yw'r cynllun heddiw yn cynnwys y gofyniad cyfreithiol hwn, a bod angen ymrwymiad clir i ddileu'r tlodi tanwydd mwyaf difrifol erbyn diwedd y degawd hwn fan bellaf, gyda'r garreg filltir hon a'r targed terfynol wedi eu rhoi ar sail statudol i sicrhau bod ganddyn nhw statws cyfreithiol ac na ellir eu diystyru gan lywodraethau'r dyfodol?

A ydych chi'n ymwybodol fod yna gefnogaeth lwyr bron hefyd yn ystod yr ymgynghoriad i weld Llywodraeth Cymru'n gwneud ei dyletswydd gyfreithiol i bennu targedau interim, a bod Clymblaid Tlodi Tanwydd Cymru a'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni wedi ysgrifennu atoch chi ynglŷn â'r mater hwn hefyd, gan bwysleisio pwysigrwydd mynd i'r afael â hyn yn y cynllun terfynol? A ydych chi'n deall y byddai methu â chyflwyno unrhyw dargedau interim yn golygu na fyddai yna ffordd effeithiol o sicrhau bod yr aelwydydd yr effeithir arnynt waethaf, y rhai sydd yn y tlodi tanwydd mwyaf difrifol, yn cael cymorth fel blaenoriaeth cyn dyddiad y targed terfynol, ac a wnewch chi fynd i'r afael, felly, â'r bwlch allweddol hwn yn y cynllun cyn gynted â phosibl?

Er bod y cynllun yn gwneud dau gyfeiriad byr at iechyd yng nghyd-destun ymdopi â'r gaeaf ac ymgynghori ar gymhwysedd i gael cymorth wedi mis Mawrth 2023, sef dwy flynedd arall i lawr y ffordd, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fesurau tymor hwy yn y cynllun ar gyfer gweithredu cydgysylltiedig ar dlodi tanwydd yn y sector iechyd, ochr yn ochr â'r ymrwymiad i gyrraedd sero net? Er bod eich cynllun yn dweud y bydd yn sicrhau y caiff pobl yn yr angen mwyaf y pecyn cymorth mwyaf addas iddyn nhw, fel y gallant barhau i wresogi eu cartrefi bob amser, sut mae'n ymdrin â galwad Clymblaid Tlodi Tanwydd Cymru, yn ei gyflwyniad i chi, i'r rheini sy'n ei chael hi waethaf gael y flaenoriaeth gyntaf, gan gyflymu camau gweithredu i'r rhai mwyaf anghenus yn unol â'r egwyddor eglur a ymgorfforir yn strategaeth 2010? Ble mae'r manylion? Ble mae'r camau gweithredu?

Sut ydych chi'n ymateb i'r sefyllfa wirioneddol, er bod trwsio tai oer a drafftiog yng Nghymru a lleihau costau ynni diangen yn hanfodol, fod Llywodraeth Cymru wedi colli'r cyfle hefyd i gyflwyno targedau tlodi tanwydd sy'n gysylltiedig ag uwchraddio effeithlonrwydd ynni cartrefi, lle mae helpu i wella cartrefi, yn enwedig i'r rheini sy'n byw ar yr incwm isaf, dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, ac fe ddylen nhw fod wedi bod yn flaenoriaeth eglur? Mae eich cynllun chi'n nodi y bydd methodoleg y weithdrefn asesu safonol ar gyfer rhoi tystysgrif perfformiad ynni i gartrefi yn parhau i ddarparu sail i Arolwg Cyflwr Tai Cymru a phennu targedau effeithlonrwydd o ran ynni domestig. Er hynny, sut ydych chi'n ymateb i ddatganiad Clymblaid Tlodi Tanwydd Cymru i chi y dylid cynnwys o leiaf un targed tystysgrif perfformiad ynni ychwanegol, o leiaf, i gyfateb i'r targed statudol yn Lloegr fod pob aelwyd sy'n dlawd o ran tanwydd yn cyrraedd band C y dystysgrif perfformiad ynni erbyn 2030?

Yn olaf, sut ydych chi'n ymateb i alwadau gan Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl Cymru i neilltuo cyllid grant i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn y sector rhentu preifat gan fod hynny wrth wraidd y broblem oherwydd oedran y stoc; i gefnogi awdurdodau lleol drwy ariannu personél i fonitro a gweinyddu ECO neu gyllid rhwymedigaeth cwmnïau ynni; i roi terfyn ar y loteri cod post yng Nghymru lle nad oes gan rai cynghorau'r adnoddau; ac, yn olaf, i atgynhyrchu grant cartrefi gwyrdd Llywodraeth y DU i uwchraddio cartrefi gan gynnwys y sector rhentu preifat yn Lloegr—y cartrefi nad oedd cynllun Cartrefi Cynnes presennol Llywodraeth Cymru yn eu cwmpasu nhw? Diolch. 

15:30

Diolch, Mark Isherwood, am y rhestr yna o gwestiynau. O ran y targedau dros dro, rwyf, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r alwad am dargedau dros dro, ond rhaid imi ddweud, croesawyd y rhan fwyaf o gynigion yn y cynllun heddiw gan ein rhanddeiliaid. Credaf y byddai gosod targedau dros dro nawr, dros gyfnod byrrach, yn ymarfer ofer iawn, nes y gallwn ni ddeall effaith y pandemig yn well. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd; mae'n amlwg ei fod wedi cynyddu, yn anffodus, nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Rwy'n cydnabod yn llwyr fod nifer o randdeiliaid wedi dweud y dylai'r cynllun gynnwys y targedau dros dro hynny er mwyn cyflawni ein rhwymedigaeth statudol.

Cafodd nifer o dargedau dros dro awgrymedig eu cyflwyno yn ystod yr ymgynghoriad, megis dileu tlodi tanwydd difrifol erbyn 2028, er enghraifft. Roedd un arall a awgrymodd erbyn 2030. Rydym ni wedi ystyried yr holl dargedau dros dro hyn. Heb amcangyfrifon tlodi tanwydd diwygiedig ac amcanestyniadau wedi'u diweddaru i benderfynu beth y gellir ei gyflawni erbyn 2035, byddai targedau dros dro a osodwyd yn yr hinsawdd bresennol yr ydym ni ynddi, rwy'n credu, yn ddamcaniaethol ac o bosibl yn afrealistig, tra bod y targedau yr ydym ni wedi'u gosod, rwy'n credu, yn gwbl realistig. Felly, yr hyn yr wyf wedi gofyn i'm swyddogion ei wneud yw gweithio gyda'r rhanddeiliaid—byddwch yn ymwybodol o'n grŵp cynghori newydd ar dlodi tanwydd—i ddatblygu'r targedau dros dro hynny. Yna gellir eu hystyried yng ngoleuni'r amcangyfrifon tlodi tanwydd newydd yr ydym ni yn eu paratoi. Bydd y targedau dros dro pan gânt eu datblygu wedyn yn cael eu hychwanegu at y cynllun.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at faterion iechyd, ac yn amlwg cawsom ein cynllun treialu cyflyrau iechyd, y byddwch yn ymwybodol ohono, ac ehangwyd hynny ym mis Gorffennaf 2019. Rydym ni wedi derbyn dros 8,600 o atgyfeiriadau gan Nest, ac mae mwy na 1,000 o gartrefi wedi elwa ar y cynllun. Yn rhan o'r cynllun treialu estynedig, ehangwyd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth hefyd i gynnwys pobl sy'n byw ar incwm is nad ydynt yn cael budd-dal prawf modd, sydd mewn perygl o salwch y gellir ei osgoi a achosir neu a waethygir drwy fyw mewn cartref oer, neu sy'n byw mewn cartref â sgôr tystysgrif perfformiad ynni o D neu waeth.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at gynllun talebau cartrefi gwyrdd Llywodraeth y DU, ac rydym ni'n cytuno'n llwyr fod buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn bwysig—yr allwedd i gefnogi'r adferiad economaidd wrth inni ddod allan o bandemig y coronafeirws, ynghyd â'r holl resymau eraill am hynny. Yr hyn nad ydym ni yn cytuno â Llywodraeth y DU yn ei gylch yw mai'r ffordd orau o wneud hynny yw drwy gynllun talebau tebyg i'r un y maen nhw wedi'i gyflwyno. Mae materion yn ymwneud ag ansawdd y gwaith y gellir ei gyflawni o fewn amserlen gyflenwi dynn iawn. Gallai hynny o bosibl beri helynt i ddeiliaid tai yn y dyfodol. Byddwch yn ymwybodol bod y cynllun talebau cartrefi gwyrdd wedi'i lansio yr haf diwethaf, gan y Canghellor, yn rhan o'r mesurau a gyflwynodd. Ond oherwydd oedi wrth brosesu ceisiadau a gallu'r gadwyn gyflenwi i gyflawni, mae'r cynllun bellach wedi'i ymestyn i fis Mawrth 2022.

Os edrychwch chi arno'n ofalus iawn, nid yw'r cynllun mor hael ag a adroddwyd gyntaf. Mae'n ofynnol i ddeiliaid tai, oni bai eu bod ar fudd-daliadau prawf modd, dalu traean o gost unrhyw fesur effeithlonrwydd ynni cartref a osodwyd o dan y cynllun. Mesurau eilaidd yn unig yw ffenestri a drysau, sydd wedi denu cymaint o sylw yn y cyfryngau, ac mae gwerth y cyfraniad wedi'i gyfyngu i'r gwerth a fuddsoddir mewn mesurau sylfaenol megis inswleiddio, er enghraifft, neu systemau gwresogi carbon isel. Felly, unwaith eto, byddai deiliad tŷ sy'n cael cyfraniad o ddwy ran o dair o £1,000 tuag at bwmp gwres ffynhonnell aer, er enghraifft, yn cael uchafswm o £1,000 tuag at ffenestri newydd. Felly, mae'n gynllun sy'n berthnasol i Loegr yn unig, ond byddwn yn eich annog i edrych yn fanylach arno, oherwydd, fel y dywedais, nid yw mor hael ag yr adroddwyd amdano yn gyntaf.

O ran y sector rhentu preifat, clywais eich galwadau chi ac eraill am neilltuo cyllid. Rydych chi yn llygad eich lle pan ddywedwch fod llawer—credaf ei fod tua 40 y cant—o stoc rhentu preifat yng Nghymru dros 100 mlwydd oed. Felly, gwyddom fod aelwydydd yn y sector rhentu preifat yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd. Yn amlwg, mae tenantiaid yn gymwys i wneud cais am gyngor effeithlonrwydd ynni drwy'r cynllun Nyth, ac mae tua chwarter yr aelwydydd yn elwa ar y cynllun Nyth ar hyn o bryd.

15:35

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ac am y cynllun a rannwyd gyda ni yn gynharach heddiw. Hoffwn ddechrau gyda lle'r wyf yn cytuno â'r Gweinidog. Mae'n llygad ei lle wrth wneud yr ymrwymiad hwnnw i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol, wrth inni drosglwyddo i economi sero-net yng Nghymru. Mae ganddi fy nghefnogaeth lawn i hynny. Ac fe hoffwn i ategu ei sylwadau yn ei datganiad am gap tariff domestig y rheoleiddiwr ynni o 9 y cant. Mae y tu hwnt i fy amgyffred i yn llwyr y dylai teuluoedd mewn cymunedau tlawd fel Llanelli, lle mae pobl yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau, gael eu cosbi gyda'r math hwnnw o gynnydd posibl, ac rwy'n falch iawn o glywed bod y Gweinidog yn parhau i gyflwyno sylwadau i geisio gwrthdroi'r penderfyniad milain posibl hwn.

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, serch hynny, yw ein bod yn siomedig yn y cynllun. Nid yw mor uchelgeisiol ag y byddem wedi hoffi iddo fod, ac mae'n amlwg y bydd yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru wneud yn well a mynd ymhellach. Un o'r pethau y byddem ni eisiau ei ystyried yw'r posibilrwydd o ddatblygu cwmni ynni cenedlaethol, yn debyg i Dŵr Cymru, ein cwmni dŵr cenedlaethol, i roi dewis i bobl sy'n prynu ynni yng Nghymru lle byddai gennym ni reolaeth anuniongyrchol dros y mathau o brisiau a gânt eu codi. Tybed a yw hynny'n rhywbeth y byddai'n ei ystyried pe bai'r Gweinidog yn rhan o'r Llywodraeth nesaf.

Mewn ymateb i Mark Isherwood, ni wnaeth y Gweinidog amlinellu'n hollol i mi, neu efallai imi golli hynny, lle mae'r gwahaniaethau yn y cynllun terfynol o'i gymharu â'r drafft gwreiddiol. Mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at yr ymdrechion sylweddol a wnaed, er enghraifft, gan sefydliadau'r trydydd sector, gan bartneriaid, i gyflwyno sylwadau, ac eto—rhaid imi gyfaddef mai hwn yw ein darlleniad cyntaf, Dirprwy Lywydd—nid yw'n ymddangos ei fod wedi cael effaith fawr iawn ar yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i benderfynu o'r diwedd. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni heddiw, ac efallai roi un neu ddwy enghraifft inni, lle mae wedi ystyried y syniadau hynny o'r ymgynghoriad.

Bydd y Gweinidog, wrth gwrs, yn ymwybodol o darged Llywodraeth Cymru i 30 y cant o bobl barhau i weithio gartref neu'n agos at eu cartrefi. Efallai y bydd y rhai sy'n gweithio gartref yn gweld cynnydd, wrth gwrs, yn eu biliau tanwydd, ac mae gennyf bryder y gallai hynny wthio rhai teuluoedd sy'n ennill fymryn yn fwy na chyflogau tlodi i dlodi tanwydd. Tybed a yw'r Gweinidog wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i hynny wrth iddi ddatblygu ei chynllun.

Tybed a all y Gweinidog esbonio wrthym ni pam ei bod hi wedi penderfynu gosod targedau llai uchelgeisiol na chynllun 2018. Efallai fod rhesymau da dros hynny, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol inni ddeall hynny. Ac a all hi ddweud wrthym ni sut y bydd yn sicrhau nad yw'r cynllun hwn yn gweithredu ar ei ben ei hun a'i fod yn cydweithio'n effeithiol ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru—ag adran yr economi, sgiliau, lle bydd angen i ni fod yn uwchsgilio pobl i wneud y gwaith hwn ar gartrefi, ac, wrth gwrs, yr adran dai, sy'n hanfodol mewn gwirionedd? 

Dywed y Gweinidog nad yw'n credu y byddai wedi bod yn ddichonadwy nac yn briodol gosod y targedau dros dro cyfamserol hynny, ond rwy'n siŵr y bydd yn cydnabod bod hynny'n rhwymedigaeth statudol. Nid yw hyn yn rhywbeth sydd wedi ei fynegi fel barn gan bobl yn y trydydd sector, fe ddylid gwneud hynny. Rwyf yn deall ei sylw ei bod yn anodd gosod y targedau dros dro hynny pan nad ydym ni'n gwybod effaith lawn y pandemig, ond a wnaiff hi ddweud ychydig mwy am beth fydd y broses ar gyfer sicrhau y caiff y targedau hynny eu gosod, a phryd mae hi'n disgwyl gallu eu gosod? Efallai y bydd rhai anawsterau yn hynny o beth, rwy'n sylweddoli, oherwydd nid ydym ni'n gwybod eto beth fydd y sefyllfa o ran y pandemig, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i bobl ddeall hynny.

Dau sylw arall yn fyr iawn, os caf i. A all hi amlinellu sut y defnyddiwyd y nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gynhyrchu'r cynllun hwn, a sut maen nhw wedi llywio gwaith y Llywodraeth yn y maes pwysig iawn yma? Ac yn olaf, o ran y tri amcan hirdymor, na ddylid amcangyfrif bod unrhyw aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol neu barhaus erbyn 2035 'cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol'. Nawr, rwy'n credu, ac fe wnaiff y Gweinidog yn fy nghywiro os ydw i'n anghywir, bod hwnnw'n derm sydd ag ystyr gyfreithiol iddo. Ond mae rhai yn y sector wedi'i dderbyn fel targed penodol ac yn dweud 'Wel, byddwn yn penderfynu a allwn ni wneud hyn ai peidio'. Nawr, nid wyf yn credu mai dyna yw bwriad y Gweinidog, ond tybed a wnaiff egluro wrthym ni pam y mae wedi penderfynu defnyddio'r ymadrodd hwnnw 'cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol' mewn dau o'r tri amcan hirdymor. Rwy'n siŵr bod rheswm da dros hynny. Rwy'n siŵr nad ei bwriad yw lleihau'r ymrwymiad, ond rwy'n gobeithio y gall roi—nid i mi, achos nid yw hynny o bwys—i'r rhai sydd â diddordeb yn y sector rywfaint o eglurder yn hyn o beth.       

15:45

Diolch, Helen Mary Jones, am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am sgiliau, ac yn sicr, wrth inni adfer o'r pandemig a bod gennym yr adferiad gwyrdd hwnnw a'r ailadeiladu hwnnw, mae'n bwysig iawn ein bod, yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, sydd wedi'u llesteirio dros y flwyddyn ddiwethaf yn arbennig, yn sicrhau bod sgiliau a swyddi'n rhan bwysig o'r adferiad hwnnw. Os edrychwch chi ar nifer y swyddi y mae Nyth ac Arbed, ein rhaglen Cartrefi Cynnes, wedi'u cyflwyno, fe welwch chi fod hynny'n amlwg yn faes lle yr ydym ni, rwy'n credu, wedi ychwanegu gwerth ychwanegol i'n rhaglen Cartrefi Cynnes.

Rydych chi'n iawn ynghylch bobl sy'n gweithio gartref, ac mae'n amlwg ei fod wedi gostwng incwm aelwydydd ymhellach, ac mae'n amlwg ein bod yn gwybod ei bod hi'n rhesymol dod i'r casgliad y bydd cost gynyddol ynni domestig, llai o incwm aelwydydd, pobl yn gweithio gartref, ac ati, wedi gwthio llawer o aelwydydd i dlodi tanwydd. Dyna un o'r rhesymau, fel y pwysleisiais wrth Mark Isherwood, ynghylch y targedau dros dro, ond unwaith y cânt eu datblygu—a soniais y byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid a chyda'r grŵp cynghori newydd ar dlodi tanwydd—defnyddir y targedau dros dro hynny yn rhan o'r cynllun.

Fe wnaethoch chi holi am agweddau trawslywodraethol, a chredaf fod hyn, mae'n debyg, yn gwbl drawslywodraethol, mae'n berthnasol i gynifer o bortffolios, ochr yn ochr â'm portffolio i. Rwyf newydd gyfeirio at sgiliau, ond mae'n debyg mai tai yw'r lle yr ydym ni wedi cael yr effaith fwyaf, a gwyddom mewn perthynas â datgarboneiddio, er enghraifft, y bydd hynny yn hanfodol o ran cyrraedd y targed sero-net erbyn 2050 yr ydym ni newydd—. Rwyf wedi cael a derbyn y cyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, felly rhoddodd y pwyllgor gyngor i ni ar foeleri, er enghraifft, am yr hyd oes 15 mlynedd gan gynghori cyfnod o derfynu graddol ar gyfer gosod boeleri tanwydd ffosil cyn 2035. Felly, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda'm cyd-Aelod Julie James ynglŷn â hynny. Mae hi a fi hefyd wedi derbyn adroddiad datgarboneiddio tai a luniodd Chris Joffe dros Lywodraeth Cymru, felly bydd hynny hefyd yn cael effaith.

Fe wnaethoch chi hefyd fy holi am—rwyf wedi gwneud nodiadau—y targedau, a chredaf y buom ni yn uchelgeisiol, ond mae'n rhaid i chi fod yn realistig ac yn bragmatig hefyd, a chredaf fod yr uchelgeisiau yn y cynllun gweithredu tlodi tanwydd yr ydym ni wedi'u nodi yn realistig, ac i mi, mae hynny'n bwysig wrth symud ymlaen ac yn rhan o'r—. Fe wnaethoch chi ofyn i mi beth oedd wedi newid, ac mae sawl peth a gyflwynwyd gan randdeiliaid ac aelodau'r grŵp. Felly, rwy'n ceisio meddwl am rai enghreifftiau i'w rhoi i chi, ond yn sicr un o'r pethau y credant y dylem ni ganolbwyntio arno mewn gwirionedd yw mesuryddion deallus, er enghraifft. Nawr, rwy'n credu, yn anffodus, nad yw Llywodraeth y DU yn cadw cyfrif o nifer y tai yng Nghymru sydd â mesuryddion deallus. Ni allaf ddweud wrthych chi beth yw'r rhif penodol, ond, yn sicr, o edrych ar y ganran ledled y DU, credwn ein bod ar yr un lefel â gwledydd eraill Prydain Fawr. Ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gallem ni wneud pobl yn fwy ymwybodol ohono. Dydw i ddim yn credu bod pobl yn ymwybodol o fesuryddion deallus yn y ffordd y gallen nhw fod, felly roedd hwnnw'n un maes yr oeddem ni yn sicr yn edrych arno, ac yn amlwg, effeithlonrwydd thermol cartrefi Cymru ac roedd parhau â'r dull ffabrig yn gyntaf hwnnw yn rhywbeth a gyflewyd yn gryf iawn yn yr ymgynghoriad a'r trafodaethau.

Rydym ni yn edrych ar yr amcangyfrifon o dlodi tanwydd, felly rwyf wedi gofyn i'r rheini gael eu diwygio, oherwydd credaf fod hynny'n wirioneddol bwysig, wrth fwrw ymlaen â hyn, a chaiff hynny ei adrodd yn yr haf i'r Llywodraeth newydd, ac, unwaith eto, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i wneud argymhellion y gellir eu mabwysiadu wedyn yn ystod y 12 mis nesaf. Felly, nid dyma ddiwedd hyn, dyma'r dechrau, mae mwy o waith i'w wneud o hyd mewn cysylltiad ag ef. 

Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Gweinidog, ond ni ellir ymdrin â thlodi tanwydd ar wahân i dlodi, mae'n rhan o dlodi, ac mae tlodi bwyd a thlodi tanwydd yn wahanol ochrau i'r un geiniog. Mae'r diffiniad o wario 10 y cant o'ch incwm sydd ar gael ar danwydd yn golygu na ellir cynnwys y rhai sy'n rheoli eu costau tanwydd yn y diffiniad o dlodi tanwydd, ond eu bod yn eithriadol o dlawd o ran tanwydd. Rwy'n adnabod pobl sy'n mynd i'r gwely am 6.30 neu 7 yn y nos er mwyn lleihau eu costau tanwydd. Maen nhw'n dlawd o ran tanwydd. Hefyd, efallai na fydd gwell effeithlonrwydd tanwydd yn lleihau faint yr ydych chi yn ei wario, ond bydd pobl yn gynhesach, yn llai sâl, a byddwn yn dadlau y byddai hynny'n llwyddiant.

Croesawaf ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd gyda'r rhaglen Cartrefi Cynnes, gan fuddsoddi mwy na £350 miliwn dros 10 mlynedd, gan fod o fudd i fwy na 60,000 o aelwydydd. Ond roeddwn i, fel y Gweinidog, yn siomedig iawn o glywed bod y rheoleiddiwr ynni wedi cyhoeddi cynnydd o 9 y cant mewn capiau tariff domestig o fis Ebrill. Deallaf fod rhywfaint o'r cynnydd yn cael ei briodoli i brisiau cyfanwerthu uwch, ond mae cyfran sylweddol ar gyfer lliniaru'r ddarpariaeth dyledion drwg y mae cyflenwyr ynni yn gorfod ei wneud i gefnogi talwyr biliau sy'n agored i niwed drwy'r pandemig, ac mae hyn ond yn debygol o waethygu ar ôl y pandemig. A oes unrhyw beth y gallwn ni Aelodau ei wneud i dynnu sylw at y cynnydd a phwyso ar Lywodraeth Dorïaidd San Steffan i wrthdroi'r penderfyniad hwn? Gan ein bod yn sôn am fod mewn tlodi tanwydd, a pho fwyaf y mae'n rhaid ichi ei dalu am eich tanwydd, mwyaf tebygol ydych chi o fod mewn tlodi tanwydd.

15:50

Dydw i ddim yn anghytuno â Mike Hedges o gwbl. Wrth gwrs, os ydych chi'n byw mewn tlodi tanwydd, mae'n debyg y byddwch mewn tlodi bwyd a mathau eraill o dlodi. Ac, ar ôl bod yn Weinidog trechu tlodi ychydig flynyddoedd yn ôl, unwaith eto, mae angen y dull trawslywodraethol hwnnw y cyfeiriodd Helen Mary Jones ato i sicrhau bod pob Gweinidog yn edrych ar eu polisïau a'u protocolau a'u portffolios eu hunain i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu. Ond, fel y dywedais, rydym ni wedi gweld degawd o gynni, yn anffodus, mae gormod o bobl yn dal i fyw mewn tlodi tanwydd a mathau eraill o dlodi yma yng Nghymru.

Roeddwn yn hynod siomedig o weld y cap tariff o 9 y cant a gyhoeddwyd gan Ofgem, ac fe wnaeth y Prif Weinidog a minnau gyfarfod ag Ofgem yr wythnos diwethaf, lle bu i ni sôn am ein pryderon wyneb yn wyneb, ac rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Ofgem ac at Lywodraeth y DU yn gofyn iddyn nhw ailystyried y penderfyniad hwnnw. Ond, fe wnaethoch chi holi beth y gall Aelodau ei wneud, wel fe allwch chi hefyd sicrhau nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw amheuaeth am ein pryder. Byddwn yn parhau i wneud popeth o hyd. Fel y dywedoch chi, mae'r rhaglen Cartrefi Cynnes wedi bod yn llwyddiannus iawn ers i ni ei lansio yn ôl yn 2011. Rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol, tua £366 miliwn mae'n debyg, sydd wedi gwella effeithlonrwydd ynni a gwres mwy na 61,400 o gartrefi, ac mae dros 144,000 o bobl wedi cael cyngor effeithlonrwydd ynni cartref drwy linell gymorth Nyth. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf wedi bod yn awyddus iawn i'w sicrhau, bod pobl yn ymwybodol o linell gymorth Nyth. Ac, unwaith eto, efallai y gallai Aelodau, yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau eu hunain, hyrwyddo'r llinell gymorth honno.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad yn rhoi'r diweddariad hwn inni y prynhawn yma. Nawr, byddwch yn ymwybodol o'r adroddiad ar dlodi tanwydd a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ym mis Ebrill y llynedd, ac un o argymhellion yr adroddiad hwnnw yw y dylai'r strategaeth tlodi tanwydd newydd gynnwys darpariaethau sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r heriau penodol a wynebir mewn ardaloedd gwledig. Ac mae'n mynd ymlaen i ddweud y dylai hyn gynnwys rhaglen bwrpasol gyda lefelau priodol o gyllid sy'n ystyried y mesurau mwy cymhleth a chostus sydd eu hangen i drechu tlodi tanwydd gwledig. Fe wnaethoch chi dderbyn, wrth gwrs, yr argymhelliad hwnnw ac aeth ymlaen i ddweud bod cartrefi sy'n aneffeithlon o ran ynni yn anghymesur mewn ardaloedd gwledig ac felly mae pobl sy'n byw yn yr ardaloedd hyn yn fwy tebygol o fyw mewn cartref oer. Felly, o gofio eich bod yn cydnabod y mater mewn ardaloedd gwledig, mewn ymateb i'r argymhelliad penodol hwnnw, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i drechu tlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig fel y rhai yr wyf yn eu cynrychioli? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa gymorth penodol sy'n cael ei ddarparu neu a ddarperir yn awr i fynd i'r afael â'r her hon, a pha raglen bwrpasol ydych chi'r Llywodraeth yn awr yn ei datblygu, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor?

Diolch, Paul. Yn sicr, croesawais yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y pwyllgor ym mis Ebrill, ac rwyf wedi derbyn pob un o'r 21 o'u hargymhellion. A chredaf fod y dystiolaeth a gymerodd y pwyllgor yn cyd-fynd o ddifrif â'r dystiolaeth a gymerwyd wrth i ni ddatblygu'r cynllun drafft. Ac rwy'n credu bod y cynllun a gyhoeddais heddiw yn dangos lle yr ydym ni wedi diwygio ein gweithredoedd fel y gallwn ni ystyried argymhellion y pwyllgor.

Rydych chi yn llygad eich lle am ardaloedd gwledig. Yn amlwg, mae llawer o gartrefi oddi ar y grid, ac mae'n amlwg eu bod yn dibynnu ar wahanol fathau o wresogi. Felly, mae'r ddarpariaeth i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i aelwydydd sydd oddi ar y grid ac mewn ardaloedd gwledig yn cael ei gwneud yn rhaglen bresennol Cartrefi Cynnes. Gellir rhoi cyllid o hyd at £12,000 i aelwydydd â sgôr tystysgrif perfformiad ynni is mewn ardaloedd oddi ar y grid i helpu i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi, a gwyddom fod cymunedau gwledig yn wynebu heriau gwahanol i'r rhai mwy trefol yng Nghymru, felly ar y sail honno, caiff y rhesymeg dros y dull gwahanol ar gyfer ardaloedd gwledig ei nodi yn yr ymgynghoriad y cyfeiriais ato, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer cyfres nesaf y rhaglen Cartrefi Cynnes. Mae gennym ni daliadau brys hefyd, dylwn bwysleisio yn ogystal, drwy ein cronfa cymorth dewisol ac maen nhw ar gael i bobl brynu nwy hylif ac olew yn ystod y gaeaf hwn, ac mae'r cynllun arbrofol hwn wedi cefnogi mwy na 43 o aelwydydd sydd wedi cael taliadau am fwy na £6,400 y gaeaf hwn.

15:55

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn am gyhoeddi y bydd Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei chodi i'r safon graddfa A uchaf, a fydd, rwy'n gwybod, yn newyddion da iawn i'r tenant yr oeddwn yn siarad ag ef yr wythnos diwethaf sy'n byw mewn cartref dim dirwyon—fe gofiwch fod hwn yn un heb geudod—ac yn ogystal, mae'n byw ar ddiwedd teras, felly nid yw'r gwres yn ymdopi â chynhesu'r cartref. Maen nhw'n byw'n barhaol mewn cartref oer, felly gobeithiaf mai dyma fydd y cyntaf o lawer o fentrau i ailgodi'n decach a hefyd lleihau ein hallyriadau carbon.

Yn benodol, yn yr adroddiad ar y newid yn yr hinsawdd y gwnaethoch chi gyfeirio ato, sylwais mai dim ond 8,000 o bympiau gwres ffynhonnell aer a gwres o'r ddaear oedd yn cael eu defnyddio yng Nghymru, sy'n ymddangos yn anhygoel o isel o ystyried pawb nad yw nwy ar gael iddyn nhw, ac yn amlwg, o ganlyniad, eu bod yn cael gwres llawer drutach na'r hyn sydd rhaid iddyn nhw ei gael, ac oherwydd eu bod mewn ardaloedd gwledig yn bennaf, pam nad ydym ni yn defnyddio mwy o'r dechnoleg honno, sydd ar ôl yr inswleiddio yn cynhyrchu trydan llawer rhatach?

Mae fy nghwestiwn arall yn ymwneud â'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud ynglŷn â'r trefniadau gwresogi gwarthus mewn llawer o'n cartrefi rhent preifat, ac mae Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl eisiau i rywun arall wneud rhywbeth am hyn, pan wyf i'n teimlo fod dyletswydd ar landlordiaid preifat i sicrhau bod eu cartrefi'n addas i'w rhentu. Felly, er ein bod yn codi'r sgôr A i dai cymdeithasol, pa gynigion sydd gennych chi i godi'r safonau gofynnol o ran effeithlonrwydd tanwydd ar gyfer cartrefi rhent preifat hefyd, yn rhan o'u trefniadau trwyddedu a hefyd i ehangu Arbed, nid yn unig i'r ardaloedd cynnyrch ehangach isaf sydd â sgoriau gwael iawn, iawn ar hyn o bryd, ond i bob cartref sydd â sgoriau gwael iawn, iawn oherwydd mae pobl yn dioddef ble bynnag y maen nhw'n byw?

Diolch. O ran pympiau gwres, mae un o'r materion a gawsom ni—ac fel y dywedwch chi, pam nad ydym ni'n defnyddio'r dechnoleg honno'n fwy—yn ymwneud â chyflenwad, a chredaf wrth inni weld mwy o gyflenwad yn dod i'r amlwg, byddwn yn gallu gwneud hynny, ac yn sicr soniais mewn ateb cynharach am wahanol foeleri'n cael eu dileu'n raddol, mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid inni geisio gwella arno.

O ran y sector rhentu preifat, unwaith eto—a chyfeiriais at hyn mewn ateb cynharach—mae dros 40 y cant o'n tai sector rhentu preifat yng Nghymru dros 100 mlwydd oed ac mae hynny'n amlwg yn dangos bod tua 20 y cant o'r aelwydydd hynny'n byw mewn tlodi tanwydd, felly mae'n amlwg bod angen inni ystyried hynny'n ofalus iawn. Mae gennym ni reoliadau; mae gennym ni'r safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol; fe'u gorfodwyd ar y sector rhentu preifat; mae'n amlwg bod y rheoliadau'n cael eu gorfodi gan awdurdodau lleol; mae ganddyn nhw bwerau gan Rhentu Doeth Cymru sy'n cyflawni hynny. Ac mae'n golygu, ers 2018, felly dair blynedd yn ôl, na chaiff landlordiaid preifat osod eiddo domestig ar denantiaethau newydd i denantiaid newydd neu denantiaid presennol os yw'r sgôr tystysgrif perfformiad ynni yn F neu G, oni bai bod eithriad yn berthnasol. Ac yna o'r llynedd, o fis Ebrill y llynedd, rwy'n credu mai mis Ebrill y llynedd ydoedd, bydd y gwaharddiad ar osod eiddo sydd â thystysgrif perfformiad ynni F a G yn berthnasol i'r holl eiddo perthnasol, hyd yn oed pan na fu unrhyw newid mewn tenantiaeth. Mae hyn yn rhywbeth—. Cyfeiriais mewn ateb cynharach at y tai enghreifftiol y mae Julie James wedi'u cyflwyno, ein rhaglen dai arloesol. Mae angen inni sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, bod pob rhan o'r sector tai yn cael eu cynnwys mewn effeithlonrwydd ynni gwell.

16:00
5. Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE), a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig hwnnw. Lesley Griffiths.

Cynnig NDM7602 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r rheoliadau'n diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, a oedd yn gyfrwng i weithredu Rheoliad (UE) 2016/2031 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fesurau amddiffynnol yn erbyn plâu planhigion a Rheoliadau (UE) 2017/625 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau materion gan gynnwys cymhwyso rheolau ynghylch iechyd planhigion.

Diben y rheoliadau hyn yw diogelu bioddiogelwch a chefnogi masnach drwy sicrhau bod rheolaethau iechyd planhigion yn parhau i weithredu ym Mhrydain Fawr, a rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr. Mae'n ategu'r polisi ar fynediad dilyffethair i'r farchnad ar gyfer nwyddau cymwys Gogledd Iwerddon, yn helpu i egluro sut mae'r mynediad hwn yn gweithredu ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion perthnasol, ac yn caniatáu cymryd camau gorfodi ym Mhrydain Fawr ble bo'n briodol. Mae Llywodraeth y DU yn gwneud diwygiadau sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau hyn ac sy'n cynnwys diwygiadau cyfatebol i is-ddeddfwriaeth gyfatebol sy'n berthnasol i Loegr yn Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021.

Diolch. Nid oes gennyf Aelodau sy'n dymuno siarad, ac nid oes yr un Aelod wedi nodi ymyriad. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, ac felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig hwnnw. Julie James.

Cynnig NDM7603 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Croesawaf y cyfle i gyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn heddiw. Bydd Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cynyddu'r amser a ganiateir ar gyfer absenoldeb mabwysiadu ar gyfer aelodau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru. Bydd y cynnydd o bythefnos i 26 wythnos yn cyd-fynd â'r trefniadau sydd eisoes ar waith ar gyfer absenoldeb mamolaeth, gan arwain at yr un cyfnod o absenoldeb ar gael i rieni biolegol a rhieni nad ydynt yn fiolegol.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno trefniadau absenoldeb teuluol ar gyfer cynghorwyr. Cyflwynodd Rhan 2 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yr hawl i gyfnodau o absenoldeb teuluol ar gyfer aelodau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, lle mae gan aelod hawl i fod yn absennol o gyfarfodydd. Creodd y ddeddfwriaeth honno uchafswm cyfnodau neu derfyn ar y cyfnod o absenoldeb y gellid ei gymryd ar gyfer gwahanol fathau o absenoldeb teuluol. Mae galluogi cynghorwyr i gymryd amser o'u dyletswyddau mewn amrywiaeth o amgylchiadau yn rhan bwysig o'r dull a ddilynir yng Nghymru. Mae cynghorwyr yn elwa ar gymryd amser o'u dyletswyddau i gefnogi eu teuluoedd, ac mae Cymru'n elwa ar gael corff mwy amrywiol o gynrychiolwyr etholedig. Mae absenoldeb teuluol yn sbardun sylfaenol i gynyddu amrywiaeth y rhai sy'n cymryd rhan mewn democratiaeth leol drwy alluogi unigolion i gydbwyso gofynion y swyddogaeth bwysig y maent yn ei chwarae mewn cymdeithas â'r gofynion a chyfrifoldebau sy'n dod gyda bondio, meithrin a datblygu perthynas â'u plant. Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn dileu'r cyfnodau hwyaf o absenoldeb o Fesur 2011 ac yn eu galluogi i gael eu pennu'n gyfan gwbl mewn rheoliadau. Roedd y newid hwn yn ei gwneud hi'n bosibl cyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn.

Yn ogystal â'r cynnydd yn y cyfnod o absenoldeb sydd ar gael i fabwysiadwyr, bydd newidiadau cysylltiedig i'r rheoliadau yn pennu'r amodau y mae'n rhaid i aelod eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael absenoldeb mabwysiadu, creu gweithdrefnau ar gyfer caniatáu i aelod o awdurdod lleol amrywio dyddiad dechrau a hyd cyfnod absenoldeb mabwysiadu, a darparu y gall cyfnod o absenoldeb mabwysiadu ddechrau ar y diwrnod y lleolir y plentyn gyda'r aelod awdurdod lleol i'w fabwysiadu, neu hyd at 14 diwrnod ymlaen llaw. Caiff aelod awdurdod lleol ddewis ar ba un o'r dyddiau hyn y bydd ei absenoldeb mabwysiadu yn dechrau, creu gweithdrefn i aelod awdurdod lleol ddod â'i absenoldeb mabwysiadu i ben, gwneud darpariaethau ynghylch y cyfnod o absenoldeb mewn sefyllfaoedd lle caiff mwy nag un plentyn ei fabwysiadu yn rhan o'r un trefniant, a chaniatáu i unigolion sy'n cymryd absenoldeb mabwysiadu barhau â rhai dyletswyddau gyda chydsyniad cadeirydd neu aelod llywyddol yr awdurdod lleol. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw. Diolch. 

16:05

Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr ac nid oes neb wedi nodi ymyriad. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ac nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021. A galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig. Vaughan Gething.

Cynnig NDM7601 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron. Adolygwyd rheoliadau Rhif 5, fel y gŵyr yr Aelodau, ar 18 Chwefror a daethpwyd i'r casgliad y dylai Cymru gyfan aros ar lefel rhybudd 4. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb barhau i aros gartref. Rhaid i bob lleoliad manwerthu nad yw'n hanfodol, safleoedd lletygarwch, safleoedd trwyddedig a chyfleusterau hamdden aros ar gau. Fodd bynnag, rydym wedi diwygio'r rheoliadau cyfyngu i ganiatáu i uchafswm o bedwar o bobl o ddwy aelwyd wahanol wneud ymarfer corff gyda'i gilydd. Dylai'r rhai sy'n ymarfer gyda'i gilydd o wahanol aelwydydd wneud pob ymdrech i gadw pellter cymdeithasol. Rhaid i bobl barhau i ddechrau a gorffen ymarfer corff o'u cartref ar droed neu ar feic, oni bai bod gan unigolyn anghenion ychwanegol, oherwydd anabledd neu am resymau iechyd eraill. Yn ogystal, diwygiwyd y dynodiad chwaraeon elît yn y rheoliadau i gydnabod pobl sy'n ennill bywoliaeth o chwaraeon a dynodiadau a wneir gan gyrff chwaraeon mewn rhannau eraill o'r DU.

Rydym ni wedi nodi'n glir mai blaenoriaeth gyntaf ein Llywodraeth yw cael cynifer o blant a myfyrwyr yn ôl i ddysgu wyneb yn wyneb cyn gynted â phosibl. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn falch o weld plant y cyfnod sylfaen a'r rhai sy'n sefyll cymwysterau galwedigaethol blaenoriaethol yn dychwelyd ar 22 Chwefror. Mae'r Gweinidog Addysg wedi nodi uchelgais y Llywodraeth ar gyfer yr holl blant ysgol gynradd sy'n weddill a'r rhai sydd i fod i sefyll arholiadau eleni i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb ar 15 Mawrth.

Er gwaethaf cynnydd enfawr o ran cyflwyno brechlynnau a'r gwelliant yn sefyllfa iechyd y cyhoedd, rydym ni i gyd wedi gweld pa mor gyflym y gall y sefyllfa ddirywio. Yn wyneb amrywiolion newydd o'r coronafeirws, ni allwn ni ddarparu cymaint o sicrwydd na rhagweld i'r graddau ag yr hoffem ni. Ein dull o weithredu bydd lliniaru'r cyfyngiadau mewn camau graddol, gwrando ar y cyngor meddygol a gwyddonol, ac asesu effaith y newidiadau a wnawn gydag amser. Nid ydym ni eisiau codi gobeithion a disgwyliadau pobl yn rhy gynnar ac yna gorfod eu siomi. Byddwn yn rhoi cymaint o rybudd i bobl a busnesau ag y gallwn ni. Pan fyddwn yn credu ei bod hi'n ddiogel ac yn gymesur i liniaru'r cyfyngiadau, yna byddwn yn gwneud hynny.

Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, sy'n parhau i chwarae rhan bwysig wrth addasu rheolau'r coronafeirws yma yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n effeithiol ac yn gymesur, a'u bod yn dal i fod yn rhan allweddol o sut y gallwn ni i gyd helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch.  

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?

Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws Rhif 5, sef y prif reoliadau ynglŷn â COVID, a daethant i rym ar 20 Chwefror. Nododd ein hadroddiad bedwar pwynt rhinwedd. Roedd a wnelo'r cyntaf â chyfeiriad anghywir yn nodyn esboniadol y rheoliadau; yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r camgymeriad. Mae ein tri phwynt rhinwedd olaf yn rhai cyfarwydd i holl Aelodau'r Senedd. Maent yn nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau, ac nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gynnal. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Mi fyddwn ni'n pleidleisio o blaid y rheoliadau yma heddiw. Dwi'n edrych ymlaen, serch hynny, i'n gweld ni'n gallu symud ymhellach o ran disgyblion yn dychwelyd i addysg, ac eto'n gwneud y pwynt y gall brechu staff chwarae rhan fawr mewn adeiladu hyder yn y gallu i ganiatáu hynny i ddigwydd yn ddiogel.

Ac efo'r cam o ganiatáu pedwar o bobl o ddau aelwyd gwahanol i gael ymarfer corff efo'i gilydd, eto, dwi'n croesawu hynny, a cham wrth gam rydym ni yn symud ymlaen. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod yn iawn fy mod i wedi annog y Llywodraeth yn gyson i wthio'r ffiniau, os liciwch chi, o beth sy'n gallu cael ei ganiatáu yn ddiogel i helpu efo llesiant pobl. Mae hynny, yn gobeithio, yn mynd i olygu gallu edrych ar ganiatáu teithio lleol ar gyfer ymarfer corff ac ati awyr agored, yn hytrach nac aros gartref, a hynny mor fuan â phosib. Mi fuasai hynny, dwi'n meddwl, yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i lawer ym mhob rhan o Gymru, yn enwedig, fel dwi'n dweud, pan ydyn ni'n sôn am ganiatáu gweithgaredd awyr agored, lle, wrth gwrs, mae'r risg yn llawer is.

16:10

Rydym ni hefyd yn bwriadu cefnogi'r rheoliadau lliniarol hyn. Fe hoffem ni gael mwy o gysondeb ar draws y Deyrnas Unedig ar un ohonynt, ond mae'r rheoliadau ar y rhai sy'n ymhél â chwaraeon yn broffesiynol yn ein taro'n amlwg yn synhwyrol, ac mae dibynnu ar reoliadau a wneir mewn mannau eraill a'u derbyn yng Nghymru yn hytrach na mynnu gwneud pethau ychydig yn wahanol yn gam i'r cyfeiriad iawn, rydym yn credu. Mae caniatáu i ddwy aelwyd, hyd at bedwar, gyfarfod y tu allan—credaf fod y diben yn briodol, yn hynny o beth, hyd yn oed os yw'r manylion ychydig yn wahanol.

Y maes yr hoffwn ganolbwyntio arno, serch hynny, yw'r hyn sy'n digwydd gydag ysgolion. A wnaiff y Gweinidog egluro pryd y cyhoeddir rhagor o fanylion fel y gall pobl baratoi'n ehangach ar gyfer dychwelyd i'r ysgol? Soniodd am ddyddiad ym mis Mawrth gynnau. A all gadarnhau beth yn union sy'n digwydd yn hynny o beth a phryd y byddwn yn gwybod mwy am yr hyn a fydd yn digwydd i eraill? Dim ond ychydig o grwpiau blwyddyn sydd gennym ni yn y cyfnod sylfaen yn ôl yn yr ysgol yng Nghymru, ac eto yn Lloegr ddydd Llun mae pob plentyn yn mynd yn ôl i'r ysgol. Nawr, dywedodd y Trefnydd yn gynharach fod yn rhaid anfon plant yn ôl i'r ysgol fesul cam. Wel, does dim rhaid ei wneud fesul cam, nac oes? Nid yw hynny'n cael ei wneud mewn lleoedd eraill. Pam, os gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael pawb yn ôl i'r ysgol yn Lloegr ddydd Llun, ydym yn dal i weld y mwyafrif llethol o blant yng Nghymru nad ydynt yn yr ysgol, gyda dysgu gartref, tarfu ar amserlenni eu rhieni, amharu ar eu dysgu eu hunain, ac effaith fawr ar iechyd meddwl a disgwyliadau a dyfodol cynifer o bobl. Rydym ni wedi gweld cyfraddau heintiau, marwolaethau, pobl sy'n mynd i'r ysbyty yn plymio, rydym ni wedi gweld llwyddiant eithriadol o ran brechu ledled y Deyrnas Unedig, ac eto rydym yn dal i fod ynghlwm wrth yr adolygiad tair wythnos yma, sydd braidd yn hamddenol. Oni ddylem ni fod yn cyflymu'r broses o ddychwelyd i'r ysgol? Dywedodd hyd yn oed Nicola Sturgeon heddiw y gallai fod yn bosibl cyflymu'r broses o lacio'r cyfyngiadau symud. Onid yw hi hefyd yn bryd i ni gael pob plentyn yn ôl i'r ysgol, yn hytrach na llusgo ar ei hôl hi?

Diolch. Galwaf nawr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r ddau siaradwr am fynegi eu cefnogaeth i'r rheoliadau a chydnabod y cwestiynau sydd ynddynt. Fel y gŵyr Rhun ap Iorwerth, rydym ni'n symud gam wrth gam, yn unol â'r dystiolaeth wyddonol a chyngor ar iechyd y cyhoedd. Deuaf at hynny eto wrth ymdrin ag un o gwestiynau Mark Isherwood—mae'n ddrwg gennyf, cwestiynau Mark Reckless; rwyf yn cydnabod bod y ddau Farc ychydig yn wahanol, er bod Mr Reckless yn aml yn fwy cyson ei gefnogaeth i ddull Llywodraeth y DU o liniaru.

O ran eich cwestiynau ynghylch brechu, Rhun, fel y gwyddoch chi, rydym wedi trafod hyn droeon yn y sesiynau briffio anffurfiol ac yn y pwyllgor ac yn wir yn y datganiad. Rwy'n cydnabod eich bod yn edrych yn wahanol ar ddull gweithredu'r Llywodraeth wrth ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, fel y mae gennych chi berffaith hawl i'w wneud.

O ran eich cwestiwn am wella lles pobl gyda lliniaru pellach, dyna yw amcan y Llywodraeth i raddau helaeth, ynghylch sut y gallwn ni, gyda lliniaru pellach, ystyried gwella iechyd meddwl a lles pobl a chael ymarfer corff, mynediad i'r awyr agored, gan fod y tywydd yn gwella'n gyffredinol—er fy mod yn byw mewn gobaith pan ddywedaf hynny; cofiaf ychydig yn ôl inni gael eira ym mis Ebrill. Ond rydym ni yn meddwl am yr hyn y gallai hynny ei olygu, ac rydym ni yn ystyried a allai'r cam nesaf gynnwys cyfnod o 'aros yn lleol'—byddwch yn cofio bod Lloegr eisoes wedi nodi ei bod hi'n debygol o ddechrau ar gyfnod o aros yn lleol hefyd—ac a allai hi fod yn bosibl cael rhagor o liniaru a fyddai'n caniatáu i bobl deithio ar gyfer gweithgarwch awyr agored yn benodol. Dyna un o'r pethau yr ydym ni yn ei ystyried, er nad yw dewisiadau wedi'u gwneud yn bendant, oherwydd rydym ni eisiau deall yr hyn y mae'r data'n ei ddweud wrthym ni ar ddiwedd yr adolygiad tair wythnos presennol cyn i ni wneud y dewisiadau am y dyfodol. 

O ran sylwadau Mark Reckless am gefnogi'r rheoliadau gan eu bod yn cynnig mwy o liniaru, o'u cymharu â'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi o'r blaen, mae hynny i'w groesawu. O ran eich sylw am gysondeb ledled y DU, efallai y bydd hi'n bosibl inni wneud mwy, ond byddai hynny'n ei gwneud hi'n ofynnol inni gael sgyrsiau'n gynharach. Mae mwy o sgwrsio ledled y DU nag a gafwyd yng nghanol yr haf—mae hynny'n wir ac mae hynny i'w groesawu mewn gwirionedd. Er nad ydym ni bob amser yn cytuno â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, nid ydym ni erioed wedi mynd ati—er gwaethaf ei ddadl—i ddim ond bod yn wahanol er mwyn gwneud hynny; rydym ni wedi gwneud pethau sy'n iawn yn ein barn ni, ac mae gan bobl eraill, wrth gwrs, hawl i anghytuno â'r dewisiadau rydym ni wedi'u gwneud. Ond er mwyn cael mwy fyth o obaith o gael dewisiadau cyffredin ledled y DU, byddai hynny'n gofyn am sgwrs fwy agored ac un y byddai angen iddi gynnwys Prif Weinidog y DU. Her y cyfarfodydd dan gadeiryddiaeth Michael Gove ar gyfer Llywodraeth y DU yw bod angen iddo ddychwelyd at y Prif Weinidog o hyd, ac mae adegau pan all fod yna wahaniaeth mewn mân bethau ac mewn pwyslais, ac mae hynny'n bwysig. Byddwn yn croesawu'n fawr ymgysylltiad llawer mwy rheolaidd rhwng Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond yn anffodus, nid dyna fel y bu hi ers misoedd lawer.

O ran eich sylw am ysgolion, rydych chi'n gywir wrth ddweud y gallem wneud dewis polisi i agor pob ysgol ar 8 Mawrth neu 15 Mawrth— mae rhwydd hynt i Weinidogion wneud hynny. Y pwynt yr ydym ni wedi'i wneud yn gyson yw nad yw hynny'n cael ei gefnogi gan y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor ynglŷn ag iechyd y cyhoedd. Rydym ni wedi cyhoeddi'r cyngor hwn, mae wedi'i gwneud hi'n glir iawn y dylid dychwelyd yn raddol oherwydd yr effaith y gall ysgolion sy'n agor ei chael ar y ffigur R. Ac rydym yn gweithredu gan bwyll gam wrth gam, fel y nododd Rhun ap Iorwerth, oherwydd bellach mae gennym ni amrywiolyn Caint fel amrywiolyn amlwg. Mae'n llawer mwy heintus na'r fersiynau blaenorol o'r coronafeirws. Ac mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ymwneud â bod yn wahanol i Loegr er mwyn gwneud hynny, mae Lloegr wedi gwneud dewis polisi sy'n ei gosod ar wahân i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rydym yn dilyn tystiolaeth a chyngor gwyddonol ac ynglŷn ag iechyd y cyhoedd; mae Lloegr wedi gwneud dewis polisi gwahanol, fel y mae ganddynt hawl i'w wneud. Byddwn i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at yr hyn a fydd yn digwydd o 8 Mawrth a byddwn yn parhau i graffu ar y data wrth wneud dewisiadau yn y dyfodol. Gall pob ysgol gynradd ddisgwyl dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb o 15 Mawrth a gall pob blwyddyn arholiad ddisgwyl dychwelyd wedyn, a bydd trafodaethau pellach ynghylch a oes pethau eraill a allai fod yn bosibl, ond bydd y Llywodraeth yn cadarnhau hynny ar ôl i'r Gweinidog Addysg gwblhau'r materion hynny. Naill ai'r Gweinidog Addysg neu'r Prif Weinidog fydd yn cyhoeddi'r safbwynt hwnnw i roi eglurder i ddysgwyr, i rieni, i ofalwyr ac, wrth gwrs, i'n staff. Ond rwy'n edrych ymlaen, dros yr wythnosau nesaf, at weld mwy a mwy o'n plant a'n pobl ifanc yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb.

Gyda hynny, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau a gobeithio y cawn gefnogaeth y Senedd heddiw i'r rheoliadau hyn.

16:15

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiad, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2)

Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2), a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7604 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am ystyried y memorandwm a chyflwyno adroddiad arno. Mae'r ddau bwyllgor o'r farn nad oes unrhyw rwystr i'r Senedd gytuno i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Rwyf wedi nodi'r pwyntiau defnyddiol y cododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ac yn cadarnhau fy mod i wedi dod i'r un penderfyniad ynghylch y dyddiad ailbrisio nesaf â Llywodraeth y DU.

Fodd bynnag, fe hoffwn i dynnu sylw at y rhaglen waith fanwl sydd gennym ni ar waith i ystyried y diwygiadau tymor hwy ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru. Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) (Rhif 2) ar 8 Medi i ddarparu ar gyfer newidiadau technegol i'r system ardrethi annomestig yng Nghymru a Lloegr. Bydd darpariaethau yn y Bil sy'n berthnasol i Gymru yn symud y dyddiad ailbrisio nesaf o 1 Ebrill 2022 i 1 Ebrill 2023. Mae'r Bil yn addasu hefyd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno rhestrau arfaethedig o 30 Medi yn y flwyddyn brisio flaenorol i 31 Rhagfyr. Y prif reswm dros newid y dyddiad yw ystyried effaith y pandemig ar y broses brisio a'r marchnadoedd eiddo. Mae'r Bil hefyd yn sicrhau bod cysondeb yn y dull o brisio a fabwysiadwyd ledled Cymru a Lloegr yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

Rwyf i o'r farn bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fodd bynnag, rwy'n fodlon y dylid gwneud y darpariaethau hyn mewn Bil o eiddo'r DU. Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol addas arall a fyddai'n ein galluogi i wneud y newidiadau angenrheidiol o fewn yr amserlenni angenrheidiol i ganiatáu i'r ailbrisio fynd yn ei flaen. Bil byr, technegol yw hwn i sicrhau newid y mae cefnogaeth eang iddo gan fusnesau a thalwyr ardrethi eraill ledled Cymru. Felly, cynigiaf y cynnig a gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

16:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2) ym mis Hydref y llynedd, a chyflwynwyd ein hadroddiad yn ôl yn nechrau mis Tachwedd. Mae ein hadroddiad yn nodi rhywfaint o gefndir y Bil ac yn tynnu sylw at y Biliau blaenorol na chawsant sêl bendith Senedd y DU am wahanol resymau.

Yn ein hadroddiad, rydym ni wedi nodi asesiad Llywodraeth Cymru o ba gymalau o'r Bil y mae angen cydsyniad y Senedd ar eu cyfer ac fe wnaethom nodi hefyd barn Llywodraeth y DU fod angen cydsyniad ar gymal 1(1) a chymal 2 hefyd, er ein bod ni'n cydnabod bod y darpariaethau hyn yn ategol eu natur.

Fe wnaethom ni nodi hefyd rhesymau Llywodraeth Cymru pam, yn ei barn hi, y mae gwneud darpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil yn briodol. Wrth wneud hynny, rydym ni wedi cydnabod y byddai addasu swyddogaethau swyddogion prisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio drwy Ddeddf y Senedd yn gofyn am gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol. Fodd bynnag, rydym yn pryderu bod Llywodraeth Cymru wedi nodi yn rhan o'i chyfiawnhad dros gydsynio i fil y DU resymau 'cydlyniaeth' a'r

'cysylltiad rhwng systemau Cymru a Lloegr ar gyfer gweinyddu’r broses ailbrisio at ddibenion ardrethu'.

Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr esboniad a'r rhesymau a roddwyd gan y Gweinidog heddiw. Fe wnaeth y pwyllgor ddefnyddio ymagwedd wahanol, gan nad ydym ni yn ystyried y byddai cyfiawnhad o'r fath yn briodol.

Fel yr ydym ni wedi nodi o'r blaen wrth ystyried memoranda cydsyniad offerynnau statudol a datganiadau ysgrifenedig Rheol Sefydlog 30C, nid oes hygrededd i gyfiawnhad o'r fath, yn ein barn ni, yng nghyd-destun datganoli. Felly, fe wnaethom ni ddweud y byddem yn croesawu eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch a fyddai newidiadau tebyg yn y dyfodol yn cael eu gwneud drwy Fil Cymru, ac rydym ni wedi cael sylwadau'r Gweinidog heddiw. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch. Nid oes gen i unrhyw siaradwyr eraill. Wn i ddim a yw'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn dymuno ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.

Gwnaf, yn fyr; diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i glywed gan Gadeirydd y pwyllgor. Mae'r system ardrethi annomestig yn darparu refeniw hanfodol iawn i ariannu gwasanaethau llywodraeth leol yma yng Nghymru. Mae ailbrisiadau yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod biliau yn adlewyrchu amodau'r farchnad yn gywir a bod trethdalwyr annomestig yn cyfrannu eu cyfran deg tuag at gostau gwasanaethau llywodraeth leol. Wrth gwrs, nid mesur codi refeniw yw ailbrisio; ond mae'n cynnal tegwch y system drwy ailddosbarthu'r atebolrwydd am ardrethi annomestig i adlewyrchu'r newidiadau yn y farchnad eiddo a'r sectorau busnes.

O ran y cwestiwn pam y mae angen Bil y DU, gan gynnwys darpariaethau Cymru ym Mil y DU y tro hwn, i sicrhau bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cael cyfarwyddyd statudol amserol i ymgymryd â'i gwaith prisio. Nid oedd unrhyw gyfrwng deddfwriaethol addas arall yn rhaglen bresennol y Senedd a allai fod wedi arwain at newid dyddiad yr ailbrisio yn yr amserlenni tynn iawn sy'n ofynnol. Ond nid yw'r cam gweithredu hwn yn tanseilio datganoli, ac rwyf i yn dymuno ailadrodd fy mod i wedi gwneud penderfyniad ynghylch y dyddiad ailbrisio nesaf yn ofalus iawn, gan ystyried yr holl ddewisiadau. Fy mhenderfyniad bryd hynny oedd mai'r Bil hwn oedd y ffordd fwyaf effeithiol o weithredu ein newidiadau polisi i Gymru.

Diolch yn fawr iawn am gyfraniadau'r pwyllgorau i'r gwaith craffu ar hyn.

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau; felly, unwaith eto, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn awr yn gohirio'r cyfarfod cyn symud ymlaen i Gyfnod 3 o'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Felly, mae'r cyfarfod wedi ei ohirio. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:24.

16:30

Ailymgynullodd y Senedd am 16:30, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

10. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Croeso nôl. Dyma ni nawr yn cyrraedd y ddadl ar Gyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). 

Grŵp 1: Yr Argyfwng Hinsawdd a’r Argyfwng Ecolegol (Gwelliannau 51, 52, 53, 54, 55, 56, 57, 58)

Rydym yn cychwyn gyda grŵp 1 o welliannau, sydd yn ymwneud â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol. Gwelliant 51 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant yma a'r gwelliannau eraill sydd yn y grŵp. 

Cynigiwyd gwelliant 51 (Llyr Gruffydd).

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i siarad i'r gwelliannau yma yn y grŵp cyntaf.

Ddwy flynedd yn ôl, wrth gwrs, pan gefnogodd y Senedd hon y cynnig i ddatgan argyfwng hinsawdd, ni oedd y Senedd gyntaf yn y byd i wneud hynny. Ac roedd gwneud hynny yn ddatganiad clir nid yn unig bod argyfwng, ond, wrth gwrs, bod angen i ni ymateb i'r argyfwng hwnnw mewn ffordd sy'n adlewyrchu difrifoldeb yr argyfwng yr ydym ni yn ei wynebu. Nawr, nid yw'r camau hyn i ni fel gwleidyddion eu cymryd yn unig, ond, wrth gwrs, mae gan y gymdeithas gyfan ran i ymateb i hynny. Ond mae'n ddyletswydd arnom ni fel gwleidyddion i greu llawer o'r fframwaith deddfwriaethol sy'n hwyluso'r camau y mae eu hangen. Mae'r Bil hwn, a'r gwelliannau sydd ger eich bron heddiw yn y grŵp hwn, gen i, wedi eu rhifo o 51 i 58, yn cynnig cyfle i ni sicrhau bod ein system addysg yng Nghymru yn chwarae ei rhan yn hynny o beth.

Bwriad fy ngwelliannau, felly, yw ychwanegu 'argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol' at y rhestr o elfennau gorfodol yn y meysydd dysgu a phrofiad, ochr yn ochr ag addysg perthnasoedd a rhywioldeb, crefydd, gwerthoedd a moeseg, ac, wrth gwrs, Cymraeg a Saesneg. Maen nhw hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion gyhoeddi cod sy'n nodi'r themâu a'r materion sydd i'w cynnwys yn yr elfen orfodol o'r addysg am yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, ac rwyf i hefyd yn amlinellu'r weithdrefn ar gyfer cyhoeddi neu ddiwygio'r cod.

Maes arall y mae fy ngwelliannau yn cyffwrdd arno yw'r adran yn y Bil ar iechyd meddwl. Mae dyletswydd i ystyried iechyd meddwl a lles emosiynol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliant 57 o'm heiddo, sy'n cyfeirio'n benodol at yr angen i ystyried pryder ynghylch yr hinsawdd yn rhan o hynny. Bydd gwneud hynny yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy'n gofyn amdano, ac yn sicrhau, wrth gwrs, hefyd, y rhoddir addysg i athrawon i roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i athrawon gyflawni eu rhwymedigaethau o dan yr adran hon. Mae pryder ynghylch yr hinsawdd, fel y bydd yr Aelodau yn ei ddeall rwy'n siŵr, yn cael ei gydnabod yn fater cynyddol amlwg, ac mae hwn yn gyfle i ni adlewyrchu hynny yn y ddeddfwriaeth hon.

Rwyf i wedi bod yn gweithio ar y gwelliannau hyn gyda grŵp o'r enw Teach the Future. Rwy'n siŵr y bydd rhai ohonoch chi wedi cwrdd â'u cynrychiolwyr yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf. Maen nhw'n ymgyrchu i sicrhau bod myfyrwyr yng Nghymru yn cael eu haddysgu am yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol—sut y maen nhw'n cael eu hachosi, beth y gallwn ni ei wneud i'w lliniaru a pha fath o fywydau a swyddi fydd gennym ni yn y dyfodol oherwydd y rhain. Maen nhw'n dymuno gweld cynaliadwyedd a'r argyfyngau hyn yn dod yn gynnwys allweddol ym mhob maes pwnc. Maen nhw'n dymuno gweld addysgwyr yn cael eu hyfforddi ar sut i addysgu'r pynciau anodd hyn mewn ffordd, wrth gwrs, sy'n grymuso myfyrwyr, ac maen nhw'n ymgyrchu i gael y cyllid a'r adnoddau angenrheidiol i wneud hyn.

Er bod pobl yn ymwybodol, efallai, fod argyfwng hinsawdd, efallai nad ydyn nhw o reidrwydd yn ymwybodol o'r hyn y mae hynny'n ei olygu iddyn nhw a'u bywydau mewn gwirionedd. Bydd addysgu myfyrwyr, a rhoi'r ddealltwriaeth honno iddyn nhw, yn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ac yn arwain at y newid ymddygiad ehangach hwnnw y mae angen i ni ei weld os ydym ni am fynd i'r afael â'r argyfwng hwn yn llwyddiannus. Mae arolygon wedi dangos nad yw llawer o bobl yn sylweddoli pa mor ddifrifol neu ddybryd yw'r bygythiad, ac wrth i drychinebau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd gynyddu bob blwyddyn—a dyn a ŵyr, rydym ni wedi gweld llifogydd mawr yng Nghymru yn ddiweddar, onid ydym ni—nid yw hi erioed wedi bod yn bwysicach addysgu pobl ifanc yn iawn am y byd yr ydym ni ac y maen nhw, ac y byddan nhw, yn byw ynddo.

Nid Teach the Future yn unig, wrth gwrs, sydd wedi galw ar i addysg ar yr argyfwng bioamrywiaeth a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd i fod yn orfodol. Mae llu o sefydliadau amgylcheddol, yn fwyaf diweddar yn rhan o Gyswllt Amgylchedd Cymru, hefyd wedi bod yn ymgyrchu dros hyn. Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn ein hatgoffa, er mwyn magu cenhedlaeth yn y dyfodol sydd â'r adnoddau i ymdrin â'r heriau yn y degawdau i ddod, fod angen i ni sicrhau bod ecolythrennedd yn rhan greiddiol o gwricwlwm newydd Cymru a'r meysydd dysgu. Mae gennym ni gyfle i gyflawni hyn heddiw, a byddwn i'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliannau. Diolch.

Byddaf i'n cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Efallai mai'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol yw'r her fwyaf yr ydym ni yn ei hwynebu, ond y cenedlaethau iau a chenedlaethau'r dyfodol fydd yn gorfod ymdrin ag effaith a chostau ein diffyg gweithredu ni hyd yma. Ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, nid mater amgylcheddol yn unig yw'r effaith yr ydym ni wedi ei chael ar ein hinsawdd ac ar ein hecosystemau. Bydd yn rhaid iddyn nhw fod â'r gallu i ymdrin â'r diffyg economaidd, diwylliannol a gwleidyddol, a dyna pam yr wyf i'n cefnogi'r rhan fwyaf o'r gwelliannau yng ngrŵp 1. Dylai'r ffaith bod pobl ifanc eu hunain wedi helpu i ddrafftio'r gwelliannau hyn helpu i argyhoeddi'r rhai hynny nad ydyn nhw wedi penderfynu p'un a'u cefnogi ai peidio. Fy unig bryder i yw gwelliant 57. Er fy mod i'n cefnogi syniad y gwelliant hwn, rwy'n credu bod adran 62 eisoes yn ymdrin â'r bwriad heb fod angen cyfeirio at bryder ynghylch yr hinsawdd, y gellid ei ddefnyddio i gyfyngu ar gwmpas y cymorth. Cydnabyddir eisoes fod eco-bryder, a fyddai'n cynnwys pryder ynghylch yr hinsawdd, yn effeithio ar iechyd meddwl a lles. Felly, byddaf yn ymatal ar y gwelliant hwn, ond byddaf yn cefnogi'r holl welliannau eraill yn y grŵp hwn. Diolch yn fawr.

16:35

Diolch yn fawr iawn. Ymddiheuriadau, Llywydd, am beidio â gwisgo fy nghlustffon.

Rwyf i hefyd wedi cyfarfod â rhai o gynrychiolwyr Teach the Future, ac fel y rhan fwyaf o bobl ifanc, maen nhw'n pryderu'n fawr, fel y dylen nhw, am yr amgylchedd. Ond rwy'n credu bod gwelliant Llyr yn gyfeiliornus, oherwydd rwy'n credu ei fod yn camddeall yr hyn y mae Bil y cwricwlwm yn ei wneud mewn gwirionedd, sef darparu fframwaith ar gyfer yr hyn y mae angen i athrawon ei ddysgu, yn hytrach na dweud wrthyn nhw beth yn union y mae'n rhaid iddyn nhw ei ddysgu. Felly, roeddwn yn annog y bobl ifanc hynny i siarad â'r consortia, sy'n cynghori athrawon ynglŷn â sut maen nhw'n mynd i gyflawni'r rhwymedigaethau i greu cyfranwyr mentrus, creadigol y dyfodol, i sicrhau eu bod yn ddysgwyr uchelgeisiol sydd â dealltwriaeth foesegol a gwybodus o'n lle ni yn y byd. Credaf mewn gwirionedd fod y gwelliant yn glastwreiddio'r fframwaith uchelgeisiol hwnnw yr ydym ni wedi'i greu gyda'r Bil hwn, gan sicrhau bod athrawon yn gallu defnyddio eu haddysgeg i sicrhau bod y ffordd y maen nhw'n mynd i addysgu yn gweddu i anghenion eu disgyblion unigol. Rwy'n rhannu brwdfrydedd y bobl ifanc a'u hymrwymiad i sicrhau nad ydym ni yn cyfrannu at y problemau yr ydym ni yn eu hwynebu nawr, a'n bod yn mynd i'r afael â hwy'n effeithiol, ond credaf fod angen i lywodraethwyr ysgolion drafod y problemau hyn er mwyn sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw'r argyfwng hinsawdd.

Rwy'n synnu'n fawr at y gwelliannau hyn. Roedd brwdfrydedd Llyr Gruffydd wrth siarad o'u plaid yn ein hatgoffa o weinidogaethau propaganda a goleuo'r cyhoedd mewn oes a fu. Dylai addysg ymwneud ag addysgu plant i gwestiynu, meddwl a defnyddio eu barn, ac eto yr hyn y cawn ein gwahodd i'w wneud yma yw gosod ar blant rhyw fath o wirionedd a dderbynnir, ond mewn gwirionedd mae dadl boeth ymysg academyddion ac eraill sy'n gyfarwydd iawn â theori newid hinsawdd. Mae'n dipyn o syndod gweld cynrychiolydd o Blaid Cymru yn siarad fel hyn heddiw oherwydd mae genedigaeth ymwahaniaeth wleidyddol fodern, rwy'n credu, i'w chael yn y dadleuon mawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ynglŷn â gosod dogmâu diwinyddol yr eglwys wladol ar blant teuluoedd anghydffurfiol i raddau helaeth. Yr hyn yr ydym yn cael ein gwahodd i'w wneud heddiw yw'r union beth y byddai wedi'i wrthwynebu mewn cyd-destun arall 150 mlynedd yn ôl.

Rwy'n amau'r damcaniaethau y mae Llyr eisiau eu gorfodi ar blant heddiw, a chredaf mai'r hyn y dylem ni ei ddysgu yw dwy ochr y ddadl hon. Dyna ddylai gwir addysg fod. Nid ydym yn ymdrin â rhywbeth yma sy'n wirionedd dogmatig; rydym yn ymdrin â phwnc lle mae ansicrwydd a damcaniaethau sylweddol iawn. Mae'r rhan fwyaf o'r damcaniaethau wedi'u seilio, wrth gwrs, ar fodelau cyfrifiadurol, ac mae modelau cyfrifiadurol yn gweithio ar yr egwyddor o sbwriel i mewn a sbwriel allan. Yr hyn y dylem fod yn ei geisio yw cyflwyno nid yn unig damcaniaethau un ochr i'r ddadl hon, ond, mewn gwirionedd, damcaniaethau'r ddwy ochr, ac yna gwahodd y rhai sydd yn yr ystafell ddosbarth i feddwl ynghylch beth yw'r materion dan sylw.

Oes, mae'n siŵr, mae yna ymhlith lleiafrif bach iawn o bobl bryder ynghylch yr hinsawdd, ond yna mae pryderon am bob math o bethau. Fil o flynyddoedd yn ôl, roedd pobl yn poeni am ddiwedd y byd yn dod yn y flwyddyn 1000. Mae milflwyddiaeth apocalyptaidd wedi bod gyda ni cyhyd ag y bu bodau dynol ar y blaned. Yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, roedd byg y mileniwm yn nodwedd arall o hyn, digwyddiad apocalyptaidd na ddigwyddodd erioed. Rwy'n credu bod hon yn ffordd beryglus iawn o geisio defnyddio Bil Llywodraeth i osod barn wleidyddol benodol ym meddyliau plant sy'n hawdd eu perswadio. Rwy'n credu ei fod yn groes i addysg, mewn gwirionedd. Mae hynny'n rhywbeth na ddylem ni ei gefnogi yn y ddadl hon heddiw.

Nid yw newid hinsawdd yn debyg i ddeddfau ffiseg. Nid oes digon o ddata, yn un peth, i fod yn sicr ohono dros gyfnod digon hir, mae gormod o newidion, gormod o ansicrwydd, ac mae gennym ni wahaniaeth llwyr rhwng canlyniadau modelau cyfrifiadurol a'r hyn a wyddom ni o faes arsylwi. Dim ond ers rhyw 25 mlynedd y mae data lloeren gennym ni sy'n gallu rhoi data dibynadwy i ni, ac nid yw hynny'n ddigon hir i ddod i'r math o gasgliadau y mae Llyr yn ôl pob golwg yn credu eu bod yn ffeithiau sefydledig. Yr hyn a wyddom am newid hinsawdd yw bod newid wedi digwydd erioed. Ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod Rhufeinig, hyd y gallwn ni ddweud, roedd yr hinsawdd yn Ewrop beth bynnag yn gynhesach na heddiw. Yna, aethom trwy gyfnod oer yn yr oesoedd tywyll. Yn y cyfnod cynnes canoloesol, unwaith eto, aethom yn ôl i'r cyfnod Rhufeinig, ac yna yn yr ail ganrif ar bymtheg, fel y'i cofnodwyd yn helaeth drwy ddyddiaduron Samuel Pepys, aethom i oes iâ fach yr ydym ni wedi bod yn dod ohoni'n araf byth ers hynny.

Felly, nid oes neb yn gwadu, mewn gwirionedd, fod cynhesu byd-eang yn digwydd, ond mae'r hyn sy'n ei achosi yn rhywbeth sy'n destun dadl boeth, a'r ddadl honno, rwy'n credu, y dylem fod yn ei dysgu yn ein hysgolion heddiw, nid addysgu pobl yr hyn sy'n bropaganda yn fy marn i ac yn honni ei fod yn ffaith ddiamheuol. Does dim rhaid ichi ond edrych ar y llenyddiaeth sydd gennych chi, dim ond edrych ar yr enwau enwog sy'n gysylltiedig â'r safbwyntiau gwleidyddol yr wyf yn eu cyflwyno heddiw i weld bod dadl ddifrifol yna, a dyna yw gwir addysg. Felly, credaf fod hon yn gyfres o welliannau gwrth-addysg y dylid eu gwrthod heddiw. Cytunaf yn llwyr â'r hyn y mae Jenny Rathbone newydd ei ddweud, er bod ein barn am y pwnc hwn yn gwbl groes. Cytunwn yn aml iawn ar hanfodion yr hyn y dylem fod yn ei wneud ym maes addysg. Gwahoddaf y Senedd heddiw i'm dilyn i am newid, a phleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn.

16:40

O diar, Llywydd. Rwy'n cael fy nhemtio'n fawr i roi araith ar y cysyniad o gyfwerthedd ffug ac i ddadlau â Mr Hamilton am ei ebychiad y prynhawn yma. Yr hyn y gallaf ei sicrhau i Aelodau'r Senedd yw y bydd cysyniadau fel cyfwerthedd ffug, newyddion ffug a phropaganda yn wir yn rhan o Gwricwlwm newydd Cymru, a byddwn yn wir yn arfogi ein plant a'n pobl ifanc i drafod, os nad oes ots gennych imi ddweud, rhywfaint o'r nonsens yr ydym ni newydd glywed gan Mr Hamilton.

A gaf i groesawu Llyr Gruffydd yn ôl i drafod materion addysg gyda mi? Mae croeso mawr iddo yn wir. Gwn fod Llyr yn deall yn iawn y rhesymeg a'r cysyniadau a'r meddylfryd, y meddylfryd addysgeg, sy'n sail i'n hymagwedd tuag at ddiwygio'r cwricwlwm yma yng Nghymru, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am ei gefnogaeth, pan oedd yn llefarydd addysg Plaid Cymru, am y cyfeiriad yr oeddem yn mynd iddo i ddiwygio'r cwricwlwm. Mae'n deall yn iawn mai un o bedwar diben ein cwricwlwm newydd yw sicrhau bod gennym ni ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a'r byd o ganlyniad i'r amser y treuliodd plant yn y system addysg yng Nghymru. A gwn ei fod yn cefnogi hynny. Ac er fy mod yn falch iawn ei fod wedi codi'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol fel maes i'w gynnwys yn fframwaith newydd y cwricwlwm, ni chredaf fod angen y gwelliannau y mae wedi'u cyflwyno i gynnwys hynny ar wyneb y Bil.

Ac i fod yn gwbl glir, ac er mwyn osgoi amheuaeth, rwy'n cydnabod pwysigrwydd addysgu ein plant a'n pobl ifanc am newid hinsawdd, ei achosion, ei effaith, yma gartref yn ogystal ag yn fyd-eang, a'r camau y mae angen eu cymryd i ddiogelu ein holl ddyfodol. Ac wrth gwrs, yng Nghymru, mae gennym ni sail gref i adeiladu arni. Rydym ni wedi bod yn cefnogi dwy raglen allweddol ar gyfer addysg hinsawdd ac amgylcheddol ar gyfer ysgolion ledled ein gwlad ers sawl blwyddyn bellach, a bydd yr Aelodau'n gyfarwydd iawn â'r rhaglen Eco-Sgolion a menter Maint Cymru. Ac rydym ni eisoes yn cynnal trafodaethau gyda'r rhai sy'n cyflwyno'r rhaglenni hynny i sicrhau y gallant barhau i'n cefnogi ar ein taith i ddiwygio'r cwricwlwm a sicrhau'r pwynt pwysig iawn a gododd Llyr, y gallwn ni arfogi ein hathrawon gyda'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau bod y gwersi hyn yn cael eu cyflwyno'n dda iawn. Mae'r rhaglenni addysgol hyn wedi'u hen sefydlu, ac mae pob un o'n hysgolion yn gallu eu defnyddio am ddim, a thrwy'r rhaglenni hynny bob blwyddyn gallwn fynd ymhellach na'r ystafell ddosbarth ac ymgysylltu'n weithredol â phlant a phobl ifanc gyda datblygu polisi, y cysyniad o weithredu, yn ogystal â'r cyfle i wrando ar eu barn a chreu cyfleoedd i'r safbwyntiau hynny gyrraedd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol.

O ran gwelliannau 51 a 54 i 56, fel y gŵyr Llyr yn dda, mae'r Bil yn cyfyngu ar nifer yr elfennau gorfodol a restrir ar wyneb y Bil, ac mae sail resymegol dros hynny. Ac er fy mod yn cydnabod pwysigrwydd y mater, nid wyf yn derbyn y dylai'r rhain eistedd ochr yn ochr â'r pedair elfen orfodol a restrir. Mae dysgu am heriau hinsawdd ac amgylcheddol eisoes yn orfodol yn ein cwricwlwm newydd drwy ddatganiadau 'yr hyn sy'n bwysig'. Mae'r datganiadau hyn yn cadarnhau'r ystod o faterion y mae'n rhaid i ysgolion eu cynnwys yn eu cwricwlwm, ond hefyd yn darparu hyblygrwydd a chysylltiadau ar draws y cwricwlwm i feithrin dealltwriaeth o'r cysyniadau allweddol hyn. Mae'r dull hwn yn annog dulliau integredig ar draws y cwricwlwm ac yn caniatáu i faterion fel newid hinsawdd gael eu trafod mewn gwahanol bynciau.

Ac mae hynny eisoes yn digwydd yn ein hysgolion, yn ein hysgolion arloesi, sef y rhai sydd eisoes wedi mabwysiadu'r cwricwlwm a dechrau ei ddysgu. Rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwaith eithriadol sy'n digwydd. Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas ym Mro Morgannwg, a ddefnyddiodd y cysyniad o olew palmwydd a dinistrio cynefinoedd naturiol i dyfu palmwydd, a'r effaith ar yr orangwtang, a defnyddiodd yr ysgol y pwnc hwnnw nid yn unig i archwilio materion yn ymwneud â'r effaith uniongyrchol ar orangwtangiaid, ond roedden nhw'n ei ddefnyddio i ddatblygu eu hysgrifennu creadigol, yn ei ddefnyddio i ddatblygu sgiliau siarad a thrafod eu plant, yn ei ddefnyddio fel cysyniad ar gyfer prosiectau celf yn ogystal â phrosiectau cerddoriaeth. Felly, roeddent wedi defnyddio'r cysyniad o'r pwnc hwnnw, a oedd yn peri pryder mawr, dwfn i'r plant, i ddatblygu sgiliau ar draws y cwricwlwm. A dyna, yn Sain Nicolas, ymgorfforiad llwyr o'n hymagwedd tuag at y cwricwlwm.

Bydd aelodau wedi fy nghlywed yn siarad yn aml am Ysgol Uwchradd Crucywel yn fy etholaeth i, lle rhoddwyd dewis i flwyddyn 7 o ba bwnc i'w archwilio. Fe wnaethon nhw ddewis llygredd plastig, a gwelwyd pob un wers, ar draws y cwricwlwm, drwy brism y pwnc hwnnw. Roedd hynny'n cynnwys Cymraeg, Saesneg, lle'r oeddent yn gallu gweithio gyda'n siop ddi-blastig leol i wneud arwyddion dwyieithog a rhywfaint o hysbysebu dwyieithog ar gyfer y siop honno, oherwydd nid oedd gan y siop y rheini o'r blaen. Felly, roeddent yn datblygu eu sgiliau Cymraeg, i gyd drwy brism y cysyniad o lygredd plastig a newid hinsawdd a gweithredu amgylcheddol. Felly, mae ein hysgolion yn manteisio ar y cyfle i ymateb yn y ffordd honno.

Felly, yn yr un modd â gwelliant 52, mae'r cysyniadau allweddol sy'n ffurfio'r datganiadau o 'yr hyn sy'n bwysig' wedi'u datblygu mewn proses o gyd-adeiladu gyda'n hymarferwyr yn unol â set glir o feini prawf, ac mae Gweinidogion Cymru wedi gweithio gyda nhw i bennu'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn y codau 'yr hyn sy'n bwysig'. Felly, er mwyn osgoi amheuaeth, os nad yw Aelodau'n gyfarwydd â'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig', mae gennym ni bedwar cyfeiriad penodol yn y datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd a chodi ymwybyddiaeth ar draws ein meysydd dysgu a phrofiad sy'n cynnwys y dyniaethau, gwyddoniaeth a thechnoleg. Ac maen nhw'n cynnwys y datganiad:

'Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi'i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol',

ac

'Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu dynoliaeth ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol',

ac,

'Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau',

ac yn olaf,

'Mae'r byd o'n cwmpas yn llawn pethau byw sy'n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.'

Ac fel y dywedais, mae'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' eisoes yn rhan orfodol o'r cwricwlwm a chredaf y dylent roi'r sicrwydd i Llyr y darperir eisoes ar gyfer ei ddyhead y mae wedi siarad amdano y prynhawn yma a'i fod wedi'i sicrhau yn ein datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig'.

Felly, gan symud ymlaen at welliannau 53 a 58, fel y dywedais, nid wyf yn credu ei bod hi'n angenrheidiol cynnwys cod ychwanegol, oherwydd drwy ein datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig', rydym ni eisoes yn gweithredu yn hyn o beth.

A gaf i droi at fater gwelliant 57? Unwaith eto, rwy'n cydnabod difrifoldeb yr argyfwng sy'n wynebu ein hinsawdd, ac yn un sydd, rwy'n siŵr, ar flaen llawer o feddyliau ein pobl ifanc; gall arwain yn wir at bryder i rai dysgwyr. Ar ôl ymgynghori â'r sector, byddaf yn cymryd camau i sicrhau ein bod yn cryfhau'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' i sicrhau nad oes amwysedd o gwbl o ran yr angen i addysgu'r pynciau hyn. Ond o ran iechyd meddwl a lles emosiynol, mae amrywiaeth enfawr o faterion sy'n effeithio ar iechyd meddwl ac emosiynol ein plant a'n pobl ifanc. Ac yn hytrach na chymryd her benodol y mae ein pobl ifanc yn ei hwynebu, rydym ni wedi gweithio'n galed iawn yn dilyn adroddiad y pwyllgor a chyngor y pwyllgor plant a phobl ifanc wrth gyflwyno'r Bil hwn i sicrhau bod iechyd meddwl a lles ar flaen y gad o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud, ac rydym ni wedi gweithio gyda'r pwyllgor hwnnw i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i sicrhau, wrth gynllunio'r cwricwlwm, y dylai penaethiaid a chyrff llywodraethu ystyried cyfanswm iechyd a lles plant wrth gynllunio'r cwricwlwm hwnnw. Felly, unwaith eto, gobeithiaf fod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i Llyr fod iechyd ac iechyd meddwl a lles plant, wrth gynllunio cwricwlwm, yn egwyddor arweiniol bwysig yn ogystal â bod yn gynnwys o fewn y cwricwlwm ei hun i gefnogi iechyd a lles. Felly, byddwn yn annog aelodau i wrthod y gwelliannau yn y grŵp hwn. Diolch.

16:50

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? Mae'r ffaith bod pobl ifanc wedi bod yn rhan o'r broses yma o weithio ar welliannau ac edrych ar y Bil, dwi'n meddwl, yn rhywbeth sydd wedi bod yn rhan bwysig o'r broses yma o safbwynt pweru'r bobl ifanc hynny a'u harfogi nhw â set newydd o sgiliau gobeithio fydd yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny'n effeithiol yn y dyfodol, felly mae'n dda bod Caroline Jones wedi cydnabod hynny.

Rwy'n siomedig bod Jenny Rathbone yn teimlo bod y gwelliannau'n gyfeiliornus. Ydw, rwyf yn deall—. Cyfeiriodd y Gweinidog at fy ymgysylltiad cynnar, efallai, fel cyn-aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n deall yn iawn mai darn o ddeddfwriaeth fframwaith ydyw, ond wrth gwrs, roedd Jenny yn dweud wrthym, 'Nid oes angen i ni ddweud wrthynt am hyn, oherwydd mae wedi ei gynnwys.' Wel, mae'r Llywodraeth wedi penderfynu, mewn gwirionedd, fod angen inni ddweud wrth bobl am addysg perthynas ac addysg rhywioldeb a chrefydd a gwerthoedd a moeseg. Y cyfan rwy'n ei ddweud yw, 'Wel, o ystyried pwysigrwydd yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol yr ydym yn ei wynebu yn ein bywydau, yna dylem fod yn ychwanegu hynny hefyd.'

O ran sylwadau Neil Hamilton, dywedodd ei fod wedi synnu'n fawr, a byddwn i'n synnu'n fawr pe na bai'n synnu'n fawr at rai o'r pethau a ddywedaf, oherwydd mae'n gwbl amlwg ein bod yn anghytuno'n llwyr ar hyn. Ac iddo awgrymu bod y gwelliannau hyn o hen oes a fu, wel, efallai y byddai rhai'n awgrymu y byddai yntau'n gwybod hynny, mae'n debyg. Felly, rwy'n siomedig, mewn gwirionedd, ond nid wyf yn synnu at ei gyfraniad. 'Byg y Mileniwm'—er mwyn y nefoedd.

Beth bynnag, iawn—dim ond ymateb i'r Gweinidog, felly, rwy'n deall yr honiad bod llawer o'r hyn y mae arnaf eisiau ei gyflawni wedi'i gynnwys yn y Bil. Y gwahaniaeth, wrth gwrs, yw bod fy ngwelliannau yn ei gwneud hi'n glir ac yn sicrhau nad yw'r argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn cael eu colli ymhlith pethau eraill. Mae'n cael, yn fy marn i, y pwyslais manwl iawn o fewn y cwricwlwm y mae'n ei haeddu. Ac wrth gwrs, nid oes dim yn fy ngwelliannau a fyddai'n atal unrhyw beth y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud rhag cael eu cyflawni, felly nid oes rheswm dros wrthwynebu'r gwelliannau, yn fy marn i. Yn wir, rwy'n eu gweld yn cryfhau'n union yr hyn yr ydym ni i gyd eisiau ei weld.

Nawr, wrth gwrs, gwnaeth y Prif Weinidog rai datganiadau mawr am yr argyfwng hinsawdd yn ei araith yn y gynhadledd y penwythnos diwethaf. Wel, rydych chi'n gwybod mai dyma'r prawf cyntaf, onid yw, felly peidiwch â methu cyn cychwyn drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn. Apeliaf ar Aelodau. 

Mae'r plant ieuengaf sydd yn ein system addysg ar hyn o bryd yn dair oed, ac mae'n debyg na fydd y rhan fwyaf o'r myfyrwyr hyn yn gadael addysg amser llawn tan tua 2035 efallai. Erbyn 2035, mae'n ddigon posibl y byddwn eisoes wedi pasio'r targed 1.5 gradd mewn cysylltiad â chynhesu byd-eang, felly mae angen i ni newid ein ffordd o fyw yn gyflym. Gwyddom i gyd fod diddordebau'n cael eu meithrin o oedran ifanc iawn, ac mae'r blynyddoedd cynnar yn yr ysgol yn hanfodol ar gyfer datblygu cymeriad plentyn, a thrwy weithredu addysg yr hinsawdd nawr, yn y cwricwlwm hwn, gallwn sicrhau bod plant sy'n mynd i fyd gwaith ar ôl 2030 yn barod ar gyfer byd gwahanol iawn, ond byd, wrth gwrs, lle, diolch i'r system addysg yng Nghymru, y maen nhw'n ymwybodol o'r hinsawdd, ac maen nhw'n ddinasyddion sy'n ymwybodol o'r hinsawdd. Felly, byddwn yn annog Aelodau i gefnogi fy ngwelliannau, os gwelwch yn dda, ac, wrth wneud hynny, adlewyrchu'r gwir bwysigrwydd a phwysau a roddwn ar y maes penodol hwn. Diolch.

16:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 51? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe fyddwn ni'n symud at bleidlais ar welliant 51. Cyn i ni wneud hynny, fe fydd angen i ni gymryd toriad byr i baratoi ar gyfer y bleidlais. Felly, fe wnawn ni gymryd y toriad byr nawr. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:57.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:00, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

17:00

Reit, dyma ni'n symud felly i'n pleidlais gyntaf ni y prynhawn yma, ac fe fydd y bleidlais honno ar welliant 51 yn enw Llyr Gruffydd. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, tri yn ymatal, 31 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 51 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 51: O blaid: 20, Yn erbyn: 31, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 2: Sgiliau Achub Bywyd a Chymorth Cyntaf (Gwelliannau 1, 3)

Rŷn ni'n symud nawr at grŵp 2 o welliannau, y grŵp yma yn ymwneud â sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Suzy Davies i gynnig y prif welliant hwnnw ac i siarad i'r gwelliannau yn y grŵp. Suzy Davies. 

Cynigiwyd gwelliant 1 (Suzy Davies).

Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 1. Aelodau, rwy'n dod â'r gwelliannau hyn yn ôl gan mai dyma'r cyfle olaf y bydd gennyf i, neu, yn wir, y bydd gan y Gweinidog, i allu sicrhau bod disgyblion yng Nghymru yn caffael y sgiliau mwyaf gwerthfawr hynny, sef gwybod sut i achub bywyd dynol arall. Mae rhai pobl ifanc, wrth gwrs, wedi bod yn lwcus ac wedi dysgu rhai o'r sgiliau hyn yn yr ysgol yn barod, neu fel aelodau o St John Cymru neu'r Groes Goch neu'r Brownis neu'r Cybiau neu'r Urdd neu ein grwpiau cadetiaid hyd yn oed, yn union fel y gwnaeth Aneurin Metcalfe. Dim ond 22 oed, yr wythnos diwethaf achubodd fywyd Bobby Gamlin ar ôl camu i mewn a chyflawni dadebru cardio-anadlol, yr oedd wedi'i ddysgu gyda chadetiaid môr Torfaen. A bydd pob un ohonom ni'n ddiolchgar i Calon Cymru am ddod o hyd iddo ef, y dyn ifanc diymffrost hwn, i ddiolch iddo, ond, wrth gwrs, ni fydd neb yn fwy diolchgar na Mr Gamlin a'i deulu. 

Camodd Aneurin i mewn heb orfod meddwl dwywaith, a'r reddf honno i gamu i mewn sydd y tu ôl i'r gwelliannau hyn. Mae rhai ysgolion eisoes yn cynnig gwers mewn dadebru cardio-anadlol yn enwedig, efallai unwaith neu ddwy ym mywyd ysgol disgybl, ac ni allai'r sgil fod yn haws ei ddysgu, fel byddai'n wir am sgiliau cymorth cyntaf ac achub bywydau sylfaenol eraill ond nid yw'r gwersi ysbeidiol dewisol yn meithrin y reddf honno, ac mae gormod o straeon trist o ran oedolion sy'n gwybod sut i wneud CPR ond nad ydyn nhw'n camu i mewn oherwydd eu bod wedi cael braw, yn rhy ofnus neu'n anghofio yn yr eiliad honno beth i'w wneud, pan fo blynyddoedd o ymarfer gorfodol yn golygu bod camu i mewn mor reddfol ag adrodd eich tabl 10 heb feddwl amdano.

Felly, oes, mae gan Lywodraeth Cymru ei chynllun cardiaidd y tu allan i'r ysbyty, ac rwy'n diolch i'r parafeddygon a'r elusennau sydd wedi helpu i gynllunio hynny, ond mae eich cyfle o oroesi ataliad y galon y tu allan i ysbyty yn dal yn ystyfnig o isel, tua dim ond un o bob 10, ac mae'r un parafeddygon hynny a'r un elusennau hynny'n dal i gefnogi addysgu'r sgiliau hyn yn orfodol mewn ysgolion, fel y mae aelodau o'n Senedd Ieuenctid ein hunain, teuluoedd, disgyblion ac athrawon ledled Cymru, sydd wedi gweld eu cyfoedion yn yr Alban a Lloegr yn cael eu darbwyllo gan y dystiolaeth o wledydd eraill, lle mae'r hyfforddiant dadebru cardio-anadlol hwn ar lefel y boblogaeth yn golygu bod llai o farwolaethau o ataliad y galon. Felly, nid oes ideolegau pleidiau gwleidyddol yma, dim ond awydd am ffordd ymlaen i atal marwolaethau diangen.  

Felly, mae dau welliant yma, Gweinidog, i chi eu hystyried, ond mae llawer o ffyrdd o gael Wil i'w wely. Ac rwy'n gwybod eich bod chi eisiau cadw'r Bil hwn yn lân o rwymedigaethau ychwanegol ynghylch cynnwys y cwricwlwm, ond rwy'n cofio hefyd i chi gefnogi'r amcan polisi yn y gorffennol. Mae'r Alban a Lloegr wedi dod i'r un canlyniad drwy wahanol lwybrau ac, i mi, y diwedd sy'n bwysig, yn hytrach na'r modd. Nawr, rydym ni wedi trafod sut y mae modd cyflawni hyn, a byddwn i'n ddiolchgar iawn pe baech chi'n rhannu gydag Aelodau sut yr ydych chi'n credu y gallem ni fod wedi datrys hyn mewn ffordd wahanol i weld pa fath o ymateb a gawn ni. Diolch. 

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Bydd llawer o Aelodau'n sylweddoli fy mod i wedi ei chael hi'n eithriadol o anodd ystyried y gwelliannau hyn. Roeddwn i'n ddigon ffodus i ddysgu llawer o'r sgiliau hyn yn fy arddegau yn St John Cymru yn Nhredegar, ac, wrth gwrs, y sgiliau hyn a achubodd fy mywyd lai na blwyddyn yn ôl. Rwy'n gwbl glir yn fy meddwl fod y gwasanaeth iechyd gwladol, er gwaethaf yr holl wahanol bethau y gall eu gwneud, nid yw'n gallu, ni fydd yn gallu ac ni fydd byth yn gallu achub bywyd yn y ffordd a welwyd yr wythnos diwethaf yng nghanol Caerdydd. Mae fy nghardiolegydd fy hun ac arbenigwyr eraill yn y maes, rwy'n credu, yn gwbl glir mai'r sawl sy'n cerdded ar y stryd ac yn gweld rhywun yn cael ataliad y galon fydd yn achub bywyd y person hwnnw ac yna'n galluogi'r parafeddygon a'r holl amrywiaeth o wasanaethau'r gwasanaeth iechyd gwladol i gamu i mewn i sicrhau'r adferiad a'r driniaeth y bydd ei hangen er mwyn i'r person hwnnw fyw eto.

Ond yr un sy'n mynd heibio sy'n hollbwysig. Yr unigolyn yn y tŷ, yn y stryd, yn y Senedd, a fydd yn achub y bywyd hwnnw pan fydd ataliad y galon yn digwydd, a gwelais i hefyd, fel Suzy, y cyfweliadau ddoe a gwelais i adroddiadau ynghylch digwyddiad achub bywyd go iawn yng nghanol Caerdydd. Ond, fel yr ydych chi'n gwybod, rwyf i hefyd yn cael fy atgoffa o Justin Edinburgh, a oedd yn gyn-reolwr Clwb Pêl-droed Cymdeithas Sir Casnewydd. Cafodd ataliad y galon yn y gampfa, ac nid oedd neb yno a oedd yn gallu achub ei fywyd. Caf fy atgoffa hefyd o Noel Acreman, a oedd dim ond yn 25 oed pan gafodd ataliad y galon ym Mharc Bute, eto yng nghanol Caerdydd. Nid oedd neb yno'n gallu achub ei fywyd. Erbyn i'r parafeddygon gyrraedd, roedd eisoes yn rhy hwyr. Ac mae'n ddyletswydd arnom er eu mwyn nhw. Mae'n ddyletswydd arnom ni er mwyn y bobl hynny, nid yn unig yr achubwyr bywydau, ond y bobl a gollodd eu bywydau, i weithredu i sicrhau bod y sgiliau hyn sy'n achub bywydau ar gael ledled ein cymuned a ledled ein cymdeithas. Ond mae angen i ni hefyd sicrhau bod diffibrilwyr ar gael i bobl, fel eu bod ar gael yn ein cymunedau ledled ein gwlad. Felly, mae angen strategaeth i sicrhau bod ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn cael ei drin, ac mae angen, rwy'n credu, i'r strategaeth honno fod ar sail statudol. Diffibriliwr a ailgychwynnodd fy nghalon i—diffibriliwr a oedd wedi'i leoli yn y coleg—ac roeddwn i'n ddigon ffodus bod rhywun yn gallu beicio i'r coleg hwnnw a'i ddod ag ef yn ôl wrth i'r bobl a oedd yn rhoi CPR arnaf allu fy nghadw'n fyw er mwyn i hynny ddigwydd. Nid yw hynny'n digwydd ac ni allai ddigwydd ac ni fyddai'n digwydd mewn gormod o rannau o Gymru. 

Mae'r Aelodau'n ymwybodol fy mod i eisoes wedi cyflwyno fy neddfwriaeth fy hun ar y materion hyn, ac wrth wneud hynny, ni wnes i geisio rhoi'r materion hyn ar y cwricwlwm yn fwriadol. Y llwybr yr wyf yn ei ddewis yw gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod y sgiliau hyn ar gael ledled ein cymdeithas. Bydd hynny'n cynnwys ysgolion, ond nid wyf i o'r farn y dylai gael ei gyfyngu i ysgolion. Rwy'n gwybod o fy nhrafodaethau gyda'r Gweinidog ei bod yn cydymdeimlo'n fawr â'r dadleuon sy'n cael eu cyflwyno ac rwy'n cydnabod grym y ddadl a wnaeth yn y ddadl flaenorol ar y materion hyn, ac rwyf i hefyd yn cydnabod ei safbwynt nad oes modd ysgrifennu popeth sy'n bwysig ar wyneb y Bil. Rydw i'n cydnabod hynny.

Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb yn gadarnhaol i'r ddadl hon, ac wrth wneud hynny hoffwn i gofnodi fy niolch personol fy hun i Suzy Davies a'i hymgyrchu di-syfl ar y mater hwn. Mae pob un ohonom ni sydd wedi cael ataliad y galon yn gwerthfawrogi, Suzy, y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud ar hyn a'r ffordd yr ydych chi wedi sicrhau bod y mater hwn wedi'i drafod nid unwaith neu ddwy ond yn gyson yn y Senedd hon. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth, y Llywodraeth heddiw a'r Llywodraeth a gaiff ei hethol ym mis Mai, yn sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei rhoi ar y llyfr statud: deddfwriaeth gynhwysfawr sy'n galluogi nid yn unig dysgu'r sgiliau hyn drwy'r gymdeithas a ledled ein cymunedau, ond hefyd yn sicrhau bod diffibrilwyr wrth law pan fydd y pethau hyn yn digwydd, fel y bydd llawer mwy o fywydau'n cael eu hachub yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn gobeithio y bydd llawer mwy o adroddiadau am bobl ifanc, fel y gwnaethom ni ei weld ddoe, yn achub bywydau ac nid dim ond yn sefyll gerllaw wrth i fywyd bylu. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni, wrth bleidleisio y prynhawn yma, nid yn cymryd un cam yn unig, ond yn cydnabod yr hyn y mae'r Gweinidog yn ceisio'i wneud wrth ddiwygio'r cwricwlwm a chyflwyno diwygiad mwy sylfaenol o ymdrin ag ataliad y galon a'i drin y tu allan i'r ysbyty ar gyfer pawb yn y dyfodol. Diolch.

17:10

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ei gwneud yn gwbl glir i'r holl Aelodau fod sgiliau achub bywyd yn agwedd ar ddysgu sy'n rhan o'n Meysydd Dysgu a Phrofiad iechyd a lles newydd? Mae'r canllawiau statudol fel y maen nhw wedi'u drafftio yn pwysleisio pwysigrwydd dysgwyr yn datblygu'r gallu i ymateb i amrywiaeth o gyflyrau a sefyllfaoedd sy'n effeithio ar eu hiechyd corfforol, ac, yn wir, iechyd corfforol pobl eraill, er enghraifft, y gallu i ymateb mewn argyfwng, drwy wybod sut i gael cymorth ar gyfer argyfwng 999. Felly, mae llawer iawn o sefyllfaoedd lle mae angen i blant fod yn ddigon parod i allu cymryd y camau y mae angen iddyn nhw, fel y dywedais i, i'w hamddiffyn eu hunain ac eraill. 

Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae Alun Davies a Suzy wedi'u gwneud y prynhawn yma. Ac nid wyf i'n gwybod o ran cael Wil i'w wely, Suzy, ond rwy'n cytuno â chi mai'r hyn sy'n bwysig yn y pen draw yw sicrhau ein bod ni'n cael y canlyniad yr ydym ni i gyd eisiau ei gyflawni. Ac felly, i gydnabod eich ymgyrchu hynod ddarbwyllol, ac, fel y disgrifiodd Alun Davies, ymgyrchu di-syfl ar y mater hwn, rwyf i wedi cytuno i ddiweddaru geiriad canllawiau'r cwricwlwm statudol i Gymru fel y bydd, yn y dyfodol, yn darllen, ac rwy'n dyfynnu:

'Dylai ysgolion hefyd ystyried pa strategaethau y bydd angen ar eu dysgwyr i allu ymyrryd yn ddiogel i gefnogi eraill a allai fod mewn perygl. Dylai hyn gynnwys sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf.'

Rwy'n gobeithio y bydd y geiriad cryfach hwn a'r dull gweithredu hwn, a fydd, gobeithio, yn ei roi y tu hwnt i amheuaeth bod hon yn elfen statudol yn y cwricwlwm y mae'n rhaid ei darparu i blant a phobl ifanc, a fydd yn cyflawni'r hyn yr ydych chi wedi ymgyrchu drosto ers tro byd, Suzy, sef y bydd plant yn gadael ein hysgolion ni wedi cael y cyfle i feithrin y sgiliau hyn. Ac yn ysbryd, gobeithio, y cydweithrediad yr wyf i wedi ceisio'i greu drwy gydol proses y Bil cwricwlwm hwn, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gwrthod y gwelliant ar yr addewid, fel y dywedais i, o ganllawiau diwygiedig i adlewyrchu cryfder y farn y mae Suzy, Alun ac eraill, fe wn, yn y Siambr hon yn ei rhannu. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed gennych chi, Gweinidog, yw eich cytundeb i ddefnyddio canllawiau statudol—a chanllawiau statudol yw’r rheini—i orfodi ysgolion i addysgu sgiliau achub bywyd oni bai bod ganddyn nhw reswm da dros beidio â gwneud hynny. Dylen nhw eu haddysgu. Ac rwyf i mor ddiolchgar ynghylch hyn, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae hyn yn golygu na all ysgolion ddefnyddio esgusodion fel prinder arian neu ddiffyg sgiliau yng ngweithlu'r ysgol; fyddan nhw ddim yn tycio. Mae llawer o sefydliadau a ddaw i ysgolion i hyfforddi athrawon yn ogystal â disgyblion, a gallant ddarparu offer, naill ai am ddim neu am gost isel iawn. Wrth gwrs, er y bydd plant unigol na fyddai hyfforddiant yn briodol iddynt, rwy'n herio unrhyw ysgol nawr i gynnig rheswm credadwy pam na ddylen nhw addysgu ein plant ni i achub bywydau.

Gweinidog, roeddwn i'n gwylio wynebau rhai o'r Aelodau y gallaf i eu gweld ar y sgrin, ac rwy'n credu i mi sylwi ar ryddhad ar gryn dipyn ohonyn nhw; mae llawer iawn o Aelodau yn y Senedd hon sy'n cefnogi'r hyn yr wyf i wedi bod yn ceisio'i gyflawni gyda'r ymgyrch yr wyf i wedi bod yn ei harwain dros y 10 mlynedd diwethaf; gwnaethon nhw ddangos hynny drwy gefnogi fy nghynigion deddfwriaethol ychydig amser, rai blynyddoedd, yn ôl, ond maen nhw hefyd wedi dangos eu hymrwymiad i rymuso'r cyhoedd yn fwy yn y maes hwn drwy gefnogi cynigion mwy diweddar Alun Davies. Beth bynnag yr ydym ni'n ei wneud heddiw, rwy'n gobeithio na fydd Aelodau yn y chweched Senedd yn anghofio'r hyn y mae ef wedi'i wneud yma hefyd a'r hyn y mae'n gofyn amdano.

Felly, ar sail yr hyn yr ydych chi wedi'i addo heddiw, Gweinidog, nid wyf i'n mynd i roi unrhyw Aelodau yn y sefyllfa anodd lle mae angen iddyn nhw bleidleisio yn erbyn rhywbeth y maen nhw wedi'i gefnogi a hynny yw rhoi'r sgiliau hyn i'n plant. Gwnaethoch chi addo rhagdybiaeth statudol o blaid sgiliau achub bywyd, rhagdybiaeth y bydd yn cymryd rhywfaint o waith dychmygus iawn i'w oresgyn. Felly, Gweinidog, rwy'n credu eich bod chi wedi gwneud hynny; ni all ysgolion anwybyddu hyn, felly 'diolch' enfawr gennyf fi. Ar ôl 10 mlynedd o hyn, dyma'r anrheg adael orau y gallwn i fod wedi dymuno ei chael, rwy'n credu. Alun, os ydych chi yn ôl ym mis Mai, rwy'n gobeithio byddwch chi'n parhau i gefnogi'r ddeddfwriaeth arall honno yr ydych chi'n briodol, yn gofyn amdani. Diolch.

17:15

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylai gwelliant 1 gael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydych chi'n gwrthwynebu; iawn, felly byddwn ni'n mynd i bleidlais. Na—. Mae'n ddrwg gennyf i, Suzy.

Dirprwy Lywydd, mae'n ddrwg gennyf i am hyn, ond a gaf i ofyn a fyddai'r Senedd yn barod i beidio â phleidleisio ar y—?

 Ydw os gwelwch chi'n dda. Rwy'n gwybod fy mod i wedi'i gynnig, ond hoffwn i ei dynnu'n ôl. Diolch.

Iawn. Felly, dyna ni. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu tynnu gwelliant 1 yn ôl? Na, felly, mae gwelliant 1 wedi'i dynnu'n ôl.

Tynnwyd gwelliant 1 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Grŵp 3: Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (Gwelliannau 2, 4, 41, 6, 8, 9, 10, 42, 20, 21, 22, 40)

Symudwn ni ymlaen i grŵp 3, sef addysg cydberthynas a rhywioldeb. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 2, ac rwy'n galw ar Suzy Davies i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn. Suzy.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Suzy Davies).

Iawn, diolch, Dirprwy Lywydd, rwy'n ymbwyllo ychydig yma.

Ydw, rwy'n cynnig gwelliant 2, sef y prif welliant yn y grŵp hwn. Nawr, mae ein grŵp bob tro wedi cynnig pleidlais rydd ar faterion cydwybod a byddaf i'n bwrw fy mhleidlais i ar sail cydwybod hefyd. Mae fy un i'n cael ei rheoli gan yr egwyddor bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i gadw ein plant a'n pobl ifanc yn ddiogel, a byddaf i'n gwneud hynny ar sail tystiolaeth, nid dim ond yn y pwyllgor a'r cyfarfodydd niferus gyda phartïon â diddordeb, ond ar sail sefyllfaoedd diogelu gofidus yr wyf i'n credu y bydd llawer ohonom ni wedi dod ar eu traws yn ein gwaith achos. Rwyf i hefyd yn gwneud hynny ar sail fy ngwaith blaenorol fel cyfreithiwr, pryd yr oedd gennyf i rai achosion anodd iawn i ymdrin â nhw. Nid oes dianc rhag y ffaith bod cymaint o gam-drin yn digwydd o fewn teuluoedd. Nawr, yn sicr, lleiafrif yw hwn; nid wyf i'n awgrymu fel arall. Ond, sut y gall hi fod yn ddoeth gwrthod unrhyw beth a all helpu plentyn i ddysgu o ran diogelu ei hun neu eraill? Rwy'n credu yn oes y rhyngrwyd hon na fu erioed yn fwy o her.

Rhan o gadw ein plant yn ddiogel yw eu helpu nhw a'u cyfoedion i dyfu'n llai cyfforddus yn barnu eraill am fod yn wahanol, beth bynnag yw'r gwahaniaeth hwnnw; eu cael i feddwl yn gynyddol am gwestiynau anodd—cwestiynau cynyddol anodd—ynglŷn â pham y maen nhw'n datblygu rhagfarnau, pam mae rhai pobl yn arfer grym dros eraill drwy fwlio emosiynol yn ogystal â chorfforol a sut olwg sydd ar berthynas iach, oherwydd nid yw'r rhan hon o'r cwricwlwm yn ymwneud ag addysg rhyw yn unig.

Nid oes dim byd yn atal rhieni rhag addysgu a dylanwadu ar eu plant gartref ochr yn ochr â'r ysgol, wrth gwrs, a dylem ni hefyd ddisgwyl i gefndir diwylliannol a chrefyddol plentyn gael ei ystyried fel rhan o benderfynu beth sy'n briodol yn ddatblygiadol—gofyniad addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn yr ysgol; mae gwelliant 42 yn gwneud hynny'n glir. Ond ni allwn ni ddianc rhag y ffaith bod y Bil hwn yn dileu hawl rhiant, a dylai unrhyw ddeddfwrfa archwilio'n ofalus unrhyw ymgais gan y Bwrdd Gweithredol i ddileu hawl unrhyw un. Dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno gwelliannau 6, 8, 9 a 10. Mae'r rhain yn darparu i rieni disgyblion mewn meithrinfeydd ac ysgolion gael gwybod sut y caiff addysg cydberthynas a rhywioldeb ei haddysgu a phryd y bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyflwyno.

Mae'r rhain yn fersiynau wedi'u glastwreiddio o welliannau Cyfnod 2 na chawsant eu derbyn. Fodd bynnag, maen nhw'n dal i fod yn arwydd i rieni sydd wedi colli'r hawl hon fod ganddyn nhw statws parhaus yma, hyd yn oed os ychydig iawn o effaith sydd ganddyn nhw, gan y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn rhagnodol iawn, ar y maes dadleuol hwn o'r cwricwlwm. Os yw rhieni'n teimlo'n fwy gwybodus ac yn fwy o'r un fryd, byddem ni i gyd yn gobeithio y daw'n elfen lai dadleuol o'r cwricwlwm wedi'r cyfan, gyda mwy o gyfle i ddysgu gael ei atgyfnerthu gartref.

Felly, y ddadl yn erbyn y gwelliannau hyn yw y bydd eu bodolaeth yn creu ymdeimlad o wahaniaeth rhwng hwn a rhannau eraill o'r cwricwlwm, a bod ymgynghori lleol eisoes wedi'i gynnwys yn natblygiad y cwricwlwm. Ond mae'r gwelliannau hyn yn ymwneud â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i rieni, nid ymgynghori â nhw. Efallai y bydd hyn yn arafu normaleiddio'r pwnc, ond byddwn i'n dweud bod y gwahaniaeth hwnnw'n cael ei ymgorffori yn y Bil hwn, sy'n nodi addysg cydberthynas a rhywioldeb ar gyfer statws arbennig fel pwnc gorfodol gyda chod manwl y mae'n rhaid i ysgolion gadw ato.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei chymorth gyda gwelliant 40? Rwy'n credu y byddaf i'n rhoi llawer o ddiolch iddi hi yn ystod y ddadl hon. Roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi sylwi bod pobl ifanc ym mlynyddoedd 12 a 13, ar ôl i addysg orfodol ddod i ben, yn gallu dibynnu ar y Bil hwn i ofyn bod darpariaeth addysg crefydd, gwerthoedd a  moeseg yn parhau, ac nid oedd yn hawdd iawn gweld pam na allai'r un bobl ifanc ofyn am barhad o addysg cydberthynas a rhywioldeb ar adeg pan fydden nhw wir yn elwa arno. Gweinidog, gwnaethoch chi dderbyn y ddadl hon, ac rwy'n ddiolchgar am eich parodrwydd i gytuno i hyn.

Yn olaf, wrth gwrs, gwelliannau 2 a 4. Bydd Aelodau'n ymwybodol o'r ymgyrch hirsefydlog gan Driniaeth Deg i Fenywod Cymru ar gyfer gwell addysg am lesiant mislif, gyda chefnogaeth sefydliadau fel Endometriosis UK a sawl un arall. Ac efallai y byddwch chi'n gofyn, pan fo cynifer o agweddau eraill ar iechyd, pam yr ydym ni'n defnyddio'r Bil hwn i dynnu sylw at yr un agwedd benodol hon. A'r ateb, yn syml, yw oherwydd ei bod wedi bod yn dabŵ cyhyd. Mae hanner y boblogaeth yn cael y mislif am o leiaf hanner eu bywydau, a'r hanner arall yn aelodau o'r un teulu, ac felly mae eu mam, eu gwraig, eu chwaer, profiad eu merch yn effeithio arnyn nhw, ac mae'n ymddangos nad oes neb yn gwybod beth sy'n normal neu ddim. Mae menywod yn dioddef pob math o gyflyrau sy'n gysylltiedig â'r mislif gan nad ydyn nhw'n gwybod yn wahanol, yn ceisio cymorth mewn amgylchiadau eithafol, ac yn dod o hyd i ormod o ymarferwyr meddygol yn anwybodus o ran diagnosis posibl, ac weithiau'n ddiystyriol eu hagwedd. Mae'r cwricwlwm hwn yn rhoi cyfle i'n holl blant fod yn aeddfed ynghylch bod yn oedolyn, ac mae'r gwelliannau hyn yn ymwneud ag atal ysgolion rhag dianc rhag gorfod ei addysgu. Gobeithio y bydd hyn hefyd yn ysgogi mwy o alw am fwy o ymchwil i therapïau neu hyd yn oed iachâd.

Efallai mai'r lle amlycaf i geisio ymgorffori hyn fyddai ym maes iechyd a lles dysgu a phrofiad, ond rwyf i wedi cymryd fy arweiniad gan y Gweinidog ei hun yng Nghyfnod 2, pan eglurodd hi fod ganddi hi hefyd ddiddordeb mewn dod o hyd i ffordd o gynnig sicrwydd cryfach ar hyn. Rwy'n gwybod bod pawb sydd â diddordeb yn y maes hwn yn ddiolchgar iawn o glywed hynny. A, Gweinidog, chi a awgrymodd y gallai'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn ffordd o wneud hyn. Felly, gan ddarllen rhwng y llinellau, oherwydd bydd y cod yn orfodol, gan gynnwys llesiant mislif yno yn hytrach nag yn arweiniad meysydd dysg a phrofiad, mae'n ffordd o gynnig y sicrwydd hwnnw heb fod angen y gwelliannau hyn, neu hyd yn oed yn y datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig'. Mae'n debyg mai un gwahaniaeth yw y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn dod gerbron y Senedd hon i'w gymeradwyo, ac rwyf i'n cymeradwyo hynny. Dim ond gwneud yn siŵr ydw i— a ydw i ar y trywydd iawn ynglŷn â pham y gwnaethoch chi sôn am y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghyfnod 2? Diolch.

17:20

Rwy'n falch o siarad mewn dadl heddiw i gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon sy'n briodol yn ddatblygiadol, sy'n gynhwysol ac sy'n seiliedig ar gydraddoldeb ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Bydd yr Aelodau hynny sydd wedi darllen ein hadroddiad pwyllgor Cyfnod 1 yn gwybod bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi rhoi ein cefnogaeth unfrydol i'r cynlluniau, ar ôl gwrando'n astud ar y dystiolaeth yr oeddem ni wedi'i chlywed. Mae'r ffaith bod pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau'r Senedd wedi dod i farn mor glir a diamwys ar hyn yn dyst i bŵer y dystiolaeth yr oeddem ni wedi'i chael. Bydd y rhai ohonoch a oedd yn bresennol ar gyfer y ddadl Cyfnod 1, rwy'n siŵr, yn cofio cyfraniad pwerus Laura Jones, gan ddisgrifio sut, fel rhiant, yr oedd wedi bod yn poeni ynghylch y cynlluniau ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond ar ôl gwrando ar y dystiolaeth, mae hi nawr yn cydnabod y manteision y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon yn ei gynnig i blant a phobl ifanc, ac rwy'n ddiolchgar iawn am ymgysylltu adeiladol y pwyllgor cyfan ar hyn.

Hoffwn i gydnabod yr holl sefydliadau ac unigolion hynny a wnaeth achos mor gryf dros addysg cydberthynas a rhywioldeb i'r pwyllgor: NSPCC Cymru Wales, Cymorth i Fenywod Cymru, Stonewall Cymru, Brook Cymru, yr Athro E.J. Renold, a Chomisiynydd Plant Cymru. Mae llawer o'r sefydliadau hyn wedi ysgrifennu'n unigol at ASau yn y dyddiau diwethaf, gan gyflwyno achos dros addysg cydberthynas a Rhywioldeb o safbwynt mwy arbenigol nag y gallwn i honni ei fod wedi'i gael erioed.

Hoffwn i ddiolch hefyd i Kirsty Williams am ei hymrwymiad i wneud yr hyn sy'n iawn i blant a phobl ifanc yn hyn o beth. Nid yw hwn yn fater hawdd, a byddai wedi bod yn rhy hawdd iddi hi roi hyn yn y blwch 'rhy anodd'. Ond nid dyna'r Kirsty Williams yr wyf i'n ei hadnabod, ac rwyf i eisiau ei chanmol hi am ei dewrder a'i chadernid wrth ymdrin â hyn. Bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i blant a phobl ifanc.

Nawr, mae llawer o'r hyn y mae modd ei ddisgrifio'n gamwybodaeth, ar y gorau, yn cylchredeg ynghylch y cynlluniau hyn. Gobeithio y caiff yr Aelodau eu calonogi gan y pwyso a gwrthbwyso sydd ar waith, yn enwedig y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb statudol, y bydd yn rhaid i'r Senedd hon ei gymeradwyo. Rwy'n gobeithio hefyd bod Aelodau'n barod i ymddiried yn ein hathrawon, y gweithwyr proffesiynol y byddwn ni'n gofyn iddyn nhw ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Felly, nid wyf i eisiau canolbwyntio heddiw ar y gamwybodaeth na'r hyn nad yw addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ei wneud; rwyf i eisiau canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol, beth yw addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon.

Hawl plentyn yw addysg cydberthynas a rhywioldeb. Rydym ni yn llygad ein lle'n ymfalchïo yn y Senedd hon yn ein hymrwymiad i hawliau plant. Weithiau, rydym ni, gan gynnwys fi fy hun, yn manteisio ar y cyfle i ddweud yn y Senedd yr hoffem ni i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach. Wel, yr ymrwymiad i addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y Bil hwn yw hawliau plant ar waith. Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ymwneud â chadw ein plant yn ddiogel. Fel y dywedodd NSPCC Cymru wrth ein pwyllgor:

Rydym ni'n ymwybodol fod addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon yn gysylltiedig ag amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol i blant, ond fel ei swyddogaeth fwyaf sylfaenol, mae'n helpu i gadw plant yn ddiogel rhag niwed. Ac mae'r cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol newydd yng Nghymru wir yn dod â photensial cyffrous i sicrhau bod gan bob plentyn y wybodaeth a'r iaith sydd ei hangen arnyn nhw i ddeall bod ganddyn nhw'r hawl i ddiogelwch, i adnabod pob math o ymddygiad camdriniol neu reoli ac i'w grymuso i godi eu llais a chael cymorth cyn gynted â phosibl.

Ond mae hyn wrth gwrs yn fwy nag ymwneud â phlant; mae hefyd yn ymwneud ag adeiladu'r sylfeini i'r plant a'r bobl ifanc hynny dyfu i ffynnu mewn perthynas ddiogel a pharchus.

Yn olaf, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn ymwneud â diogelu iechyd meddwl ein plant. Perthnasoedd cryf a chadarnhaol yw'r sylfaen hanfodol ar gyfer iechyd meddwl da, ac rwy'n croesawu'n arbennig yr ymrwymiad y dylai addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn gynhwysol o ran pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol ac yn seiliedig ar gydraddoldeb. Nid oes dim sy'n bwysicach i mi na diogelu iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc, ac yn benodol, atal hunanladdiad pobl ifanc. Ac, yn drasig, mae yna bobl ifanc sydd wedi marw drwy hunanladdiad oherwydd bwlio homoffobig neu oherwydd nad oedd eu rhywioldeb wedi'i dderbyn. Pan gafodd y cynlluniau addysg cydberthynas a rhywioldeb eu cyhoeddi am y tro cyntaf, cysylltodd etholwr â mi i ddweud gymaint yr oedd yn croesawu'r cynlluniau. Dywedodd ef wrthyf i mai prin yr oedd wedi goroesi tyfu i fyny fel bachgen hoyw yn ei arddegau mewn teulu lle nad oedd ei rywioldeb yn cael ei dderbyn, a dywedodd ef wrthyf gymaint o wahaniaeth y byddai cael mynediad i addysg cydberthynas a rhywioldeb gynhwysol wedi'i wneud iddo. Felly, dywedaf i wrth yr Aelodau heddiw mai'r plant a'r bobl ifanc nad ydyn nhw'n cael negeseuon o gefnogaeth a chynwysoldeb gartref yw'r rhai sydd angen addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn fwy na neb arall. Heb unrhyw amheuaeth, i rai plant a phobl ifanc, mater o fyw neu farw yw hyn.

Rwy'n croesawu gwelliant 40 yn enw Suzy Davies, ac rwy'n diolch iddi hi am ei gyflwyno. Fel y dywedodd hi, mae'n gweithredu argymhelliad yn ein hadroddiad Cyfnod 1 ac yn sicrhau bod y manteision yr wyf i wedi'u disgrifio hefyd ar gael i'n dysgwyr ôl-16. Ond rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliannau Darren Millar yn y grŵp hwn a chefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb, a fydd yn newid bywydau cynifer o bobl ifanc, a hyd yn oed yn achub bywydau rhai. Diolch yn fawr.

17:25

Mae Plaid Cymru hefyd yn llwyr gefnogol i wneud addysg cydberthynas a rhyw yn statudol. Rydym ni'n cefnogi'r Llywodraeth yn llwyr ar y mater yma, a dwi hefyd yn canmol y Gweinidog am ei hymroddiad yn y maes yma. A dyma ni heddiw yn gweld Senedd Cymru ar ei gorau, yn bod yn flaengar, yn gweithio efo'n gilydd, yn bod yn gadarn ar fater hollbwysig. Rydym ni hefyd yn cefnogi ychwanegu addysg lles mislifol ac yn gweld synnwyr rhoi diweddariad i rieni, a bod disgyblion ôl 16 hefyd yn gallu cael mynediad at addysg cydberthynas a rhyw, ac yn diolch i Suzy am ddod â'r gwelliannau yna ymlaen.

Mae Aelodau etholedig ein plaid ni wedi dadlau yn gyson ers blynyddoedd lawer mai addysg ydy'r allwedd i greu newid yn y maes yma, a da gweld hyn yn dod yn realiti o'r diwedd. Bydd addysg cydberthynas a rhyw statudol, gorfodol yn galluogi ysgolion i rymuso pob dysgwr i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u gwerthoedd, a gwneud hynny mewn ffordd raddol, fel y gallan nhw fwynhau eu hawliau i gael perthnasoedd diogel ac iach drwy gydol eu hoes. Drwy fod yn berthnasol, yn sensitif ac yn briodol i alluoedd ac anghenion y plant eu hunain, mi fydd ysgolion rŵan yn gallu datblygu cynnwys o ansawdd uchel, gwireddu llu o ganlyniadau hollol gadarnhaol a ddaw yn sgil hyn, a gwarchod hefyd ein plant, ein pobl ifanc ni a'n cymunedau ni.

17:30

Rwy'n cytuno â phopeth y mae Lynne wedi'i ddweud, a hoffwn i ganmol y gwaith gwych a wnaed gan y pwyllgor plant a phobl ifanc i gael y consensws hwnnw ynglŷn â phwnc mor bwysig. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi fod hyn yn ymwneud â hawliau plant, ac yn arbennig yr hawliau i ddeall sut y mae eu cyrff eu hunain yn gweithio, yn ogystal â'u hawliau i sicrhau eu bod nhw dim ond yn cynnwys unrhyw un yn eu bywydau os byddan nhw eisiau, a dyma beth fydd yn eu hamddiffyn. Rwyf i hefyd yn cytuno â hi bod llawer o nonsens wedi'i ddweud ynglŷn â hyn. Rydym ni wedi ein cyhuddo o wneud gwaith rhieni, pan, mewn gwirionedd, mae'n hollol iawn ein bod yn sicrhau bod gan blant yr hawl i wybod sut y mae eu cyrff yn gweithio. Mae hyn yn gliriach mewn addysg mislif nag unrhyw le arall. Mae'n sgandal gwirioneddol nad yw o leiaf 30 y cant o'r holl ferched yn gwybod beth sy'n digwydd iddyn nhw pan fyddan nhw'n dechrau eu mislif. Mae hynny'n arwydd mor glir bod rhieni yn teimlo embaras ac yn ei chael yn anodd a'u bod nhw'n osgoi siarad am bwnc mor sylfaenol i'r merched yn eu teulu fel bod yn rhaid i ni sicrhau bod pob merch yn gwybod am hyn er mwyn osgoi'r trawma o waedu rhwng eu coesau heb sylweddoli beth ydyw.

Hoffwn i ganmol gwaith Suzy Davies wrth gael y dewrder a'r cryfder i barhau i weithio ar bwysigrwydd lles mislif—nid dim ond beth yw mislif, ond lles mislif—fel ein bod ni i gyd yn deall beth yw mislif arferol, ac y gallwn ni fynd am gymorth pan nad yw hynny'n digwydd. Mae mis Mawrth yn fis Mawrth endometriosis. Mae hwn yn rhywbeth sydd, yn anffodus, yn effeithio ar lawer iawn o ferched a menywod, a'r cynharaf y byddwn yn ei ganfod, y mwyaf tebygol y gallwn ei osgoi rhag bod yn glefyd erchyll iawn sy'n effeithio ar bobl drwy gydol eu hoes. Felly, rwy'n falch iawn, o ganlyniad i waith Suzy Davies, fod gennym ni yr agwedd orfodol honno ar y cod cydberthynas a rhywioldeb gan gynnwys lles mislif erbyn hyn. Mae'n ymddangos i mi fod hon hefyd yn garreg filltir wirioneddol, o ystyried y rhagfarn yn erbyn menywod a merched ledled y byd dim ond oherwydd ein bod yn cael y mislif. Diolch, Suzy Davies, am eich holl waith caled. Mae'n wych gweld yr ymateb gan y Gweinidog bod gennym ni les mislif yn y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb bellach.

Rwy'n ymddiheuro nad yw Darren Millar wedi ei alw i gynnig gwelliant yn y grŵp hwn. Fe'i galwaf yn awr. Darren.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf welliannau 41 a 42 a gwelliannau 20, 21 a 22, ac maen nhw i gyd wedi eu cyflwyno yn fy enw i. A gaf i ei gwneud yn glir ar ddechrau fy nghyfraniad at y ddadl hon fy mod i'n llwyr gefnogi'r egwyddor y dylai plant fod yn cael eu haddysgu ynglŷn â rhyw a pherthnasoedd sy'n eu cadw nhw'n ddiogel rhag niwed ac sy'n eu galluogi i fod â'r wybodaeth i wneud dewisiadau? Rwyf i hefyd yn cytuno y dylid cael addysg sy'n briodol iddyn nhw o ran addysg mislif ac yn y blaen. Ond rwy'n ofni y gallai'r Bil, fel y mae ar hyn o bryd, fod â llai o allu i gyflawni'r amcan hwn nag y gallai fod.

Mae fy ngwellianau 41 a 42 yn ceisio gosod gofynion ar wyneb y Bil ynglŷn â chynnwys cod addysg cydberthynas a rhywioldeb arfaethedig Llywodraeth Cymru—y cod RSE, fel y mae'r Bil yn ei ddisgrifio. Ar hyn o bryd, nid oes dim ar wyneb y Bil i bennu cynnwys y cod. Mae'r fframwaith deddfwriaethol presennol ynghylch addysgu'r pwnc sensitif hwn, addysg cydberthynas a rhywioldeb, sef Deddf Addysg 1996, yn cynnwys rhai mesurau diogelu sylfaenol ar gyfer addysgu addysg rhyw. Fe'u cyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur y DU yn ôl yn 2001, ac ymatebodd y mesurau diogelu hynny i angen gwirioneddol ar y pryd i roi cyfeiriad mwy cadarnhaol i'r pwnc. Ond mae Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn ceisio datgymhwyso'r mesurau diogelu hyn yma yng Nghymru heb roi unrhyw beth tebyg yn eu lle i sicrhau bod dibenion elfen orfodol addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael eu bodloni'n briodol.

Ar hyn o bryd, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol bod elfen orfodol addysg cydberthynas a rhywioldeb yn, ac rwy'n dyfynnu, 'briodol i ddatblygiad'. Ond, wrth gwrs, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Pe byddai'n dod yn gyfraith, byddai'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn nodi themâu a materion i'w cynnwys yn elfen orfodol addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghymru. Ond mae fy ngwelliant 41 i yn gosod gofynion ar wyneb y Bil o ran cynnwys y cod hwnnw er mwyn sicrhau bod yn rhaid i blant a disgyblion ddysgu am y pethau canlynol: yn gyntaf, natur cydberthynas hirdymor, gan gynnwys priodas, a'i phwysigrwydd i fywyd teuluol a magu plant—ac, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth sy'n efelychu yn union beth sydd eisoes yn Neddf Addysg 1996—ac yna, yn ogystal â hynny, pwysigrwydd diogelwch wrth ffurfio a chynnal cydberthynas, nodweddion cydberthynas iach, sut y gall cydberthynas effeithio ar iechyd a lles corfforol a meddwl, sut y mae gwerthoedd yn dylanwadu ar agwedd pobl at ryw a chydberthynas a phwysigrwydd parchu gwerthoedd pobl eraill o ran rhyw a chydberthynas.

Mae'r rhain i gyd yn bethau y mae siaradwyr eraill wedi sôn amdanyn nhw yn y ddadl hon, felly nid oes anghytuno rhyngom. Rwyf i'n dymuno sicrhau bod gan bobl berthynas iach â'i gilydd, a dyna pam rwyf i'n credu ei bod yn bwysig bod y pethau hyn ar wyneb y Bil. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi cyfeirio at y pethau hyn hefyd yn Siambr y Senedd, ac, yn wir, yn y pwyllgor pan ofynnwyd amdanyn nhw. Nid yw'r un o'r rhain yn ddadleuol, ac mae'r Gweinidog ei hun wedi awgrymu y dylai cod addysg cydberthynas a rhywioldeb effeithiol gynnwys cyfeiriadau at bob un ohonyn nhw. Ond, wrth gwrs, ar ddiwedd y tymor Senedd hwn, efallai na fydd hi yma i fod yn Weinidog, ac mae hynny'n golygu y bydd rhywun arall yn etifeddu'r swydd weinidogol a'r cyfrifoldeb am ddatblygu'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac efallai y bydd gan yr unigolyn hwnnw agweddau gwahanol i rai y sawl un ohonom sydd wedi ei ethol yn y Senedd hon yn awr. Dyna pam rwyf i'n credu ei bod yn ddoeth i bob un ohonom roi'r pethau hyn ar wyneb y Bil ynglyn â'r cod.

Mae fy ngwelliant 42 yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghymru ystyried cefndiroedd crefyddol a diwylliannol disgyblion. Mae hyn yn wir ar hyn o bryd yng Nghymru ac yn Lloegr oherwydd Deddf Addysg 1996, ond mae Llywodraeth Cymru yn ceisio datgymhwyso'r gofyniad hwn yng Nghymru gyda'r Bil newydd hwn. Rwyf i'n credu bod hynny yn gam yn ôl. Mae'n gam yn ôl mewn cymdeithas fel Cymru fodern, cenedl sy'n dyheu am fod yn oddefgar ac yn barchus tuag at bobl o bob ffydd a diwylliant. Rwy'n credu y bydd cyflwyno'r amddiffyniadau hyn yn cryfhau'r Bil ac yn cryfhau ein hymrwymiad yma yng Nghymru i roi gwybodaeth i blant am berthnasoedd sy'n parchu eu magwraeth, yn parchu eu diwylliant a'u ffydd.

Dywed y Gweinidog y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, nad oes neb, wrth gwrs, wedi ei weld eto, yn rhoi rhywfaint o eglurder a hyder i rieni ynglŷn â'r hyn y bydd ac na fydd yn cael ei addysgu, ond gan nad ydym ni wedi ei weld, ni allwn gael yr hyder hwnnw, ac oherwydd nad yw rhieni wedi ei weld, nid ydyn nhw wedi cael yr hyder hwnnw. Dyna'r hyn sydd wedi arwain, yn fy marn i, at rywfaint o'r wybodaeth anghywir y mae Lynne Neagle a Jenny Rathbone wedi cyfeirio ati. Rwyf i'n credu os gallwn ni roi mwy o wybodaeth ar wyneb y Bil am gynnwys y cod, fe fydd yn rhoi'r hyder hwnnw y mae angen i rieni ei weld.

Gan symud ymlaen yn fyr at fy ngwelliannau 20, 21 a 22, mae'r gwelliannau hyn yn ychwanegu adrannau newydd at y Bil i roi'r hawl i rieni dynnu eu plant yn ôl o wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb os ydyn nhw o'r farn ei bod yn amhriodol ar eu cyfer. Mae'r hawliau hyn i rieni, wrth gwrs, yn bodoli yma yng Nghymru ar hyn o bryd, ond bydd y Bil yn eu dileu ac yn tanseilio'r egwyddor bwysig mai rhieni, nid y wladwriaeth, yw prif addysgwyr eu plant. Mae methu â chynnwys hawl i rieni dynnu plant allan o wersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb hefyd yn ymddangos fel pe bai'n mynd yn groes i adran 9 o Ddeddf Addysg 1996, sy'n dweud bod plant

i gael eu haddysgu yn unol â dymuniadau eu rhieni.

Bydd y ddarpariaeth benodol honno yn Neddf Addysg 1996 yn dal i fod yn gyfraith yng Nghymru hyd yn oed os daw'r Bil sydd ger ein bron heddiw yn Ddeddf. Ni fydd y Bil yn gwneud unrhyw beth i ddileu erthygl 2 o brotocol 1 y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol ychwaith, sydd, wrth gwrs, wedi'i ymgorffori yng nghyfraith y DU gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae'r protocol hwnnw yn datgan bod yn rhaid i'r wladwriaeth barchu hawliau rhieni i gael addysg i'w plant sy'n cyd-fynd â'u hargyhoeddiadau crefyddol ac athronyddol. Bydd fy ngwelliannau, pe cytunir arnyn nhw, yn ceisio sicrhau bod y Bil hwn yn gydnaws â darpariaethau Deddf Addysg 1996 a'r Ddeddf Hawliau Dynol, sydd eisoes ar y llyfr statud.

Mae rhieni wedi bod â'r hawl ers tro byd i gael tynnu eu plant allan o'r ddau bwnc sy'n ennyn cwestiynau am farn teuluoedd yn y byd, sef wrth gwrs addysg rhyw ac addysg grefyddol. Mantais y defnydd posibl o'r hawl hon i dynnu'n ôl yw ei bod yn gymhelliant i ysgolion ymgysylltu'n rhagweithiol â rhieni ynglŷn ag addysg eu plant drwy ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr ysgolion eistedd a gwrando ar bryderon rhieni er mwyn lleihau'r achosion hynny o dynnu'n ôl. Ac, wrth gwrs, anaml iawn y maen nhw wedi eu harfer ledled Cymru dros y blynyddoedd lawer y maen nhw wedi bod ar waith, oherwydd yr ymgysylltiad mawr y maen nhw wedi'i arwain. Felly, Dirprwy Lywydd, anogaf yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliannau yn y grŵp hwn. 

17:40

Y rhan hon o'r Bil sydd wedi rhoi'r pryder mwyaf i mi. Pe na byddai'r Bil wedi dileu hawliau rhieni i gael tynnu eu plant allan o wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb, rwy'n credu y byddai wedi cael llai o wrthwynebiad. Meddyliais yn ofalus ac yn hir am gyflwyno gwelliannau i alluogi rhieni i dynnu eu plant allan o wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond dywedwyd wrthyf y byddai eithriad o'i fath yn anymarferol. Felly, dewisais, yn lle hynny, bleidleisio yn erbyn y Bil yn ei gyfanrwydd. Dywedir wrthyf mai'r ffordd y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb ac, yn wir, crefydd, gwerthoedd a moeseg, yn cael eu haddysgu yw ar draws y cwricwlwm cyfan, nid mewn gwersi ar wahân. Yr hyn y mae hyn yn ei olygu'n ymarferol yw y byddai'n anodd eithrio plant o wersi crefydd, gwerthoedd a moeseg gan y gallai arwain at blant yn colli allan ar ddiwrnodau cyfan o wersi.

Cefais gyngor hefyd y gallai cynnig ymeithrio o'r fath fod yn agored i her gyfreithiol o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol, gan ei fod yn amharu ar hawliau plant a phobl ifanc sydd â'r gallu i benderfynu drostyn nhw eu hunain. Rwy'n credu'n angerddol y dylai gwersi cydberthynas a rhywioldeb, yn enwedig i'r plant ieuengaf, fod yn fater i rieni benderfynu arno ac nid y wladwriaeth. Rydym ni wedi gweld rhieni'n gwrthod y syniad o ddileu gallu rhieni i ymeithrio, nid unwaith ond dwywaith. Felly, mae'n rhaid i chi feddwl tybed a yw'r ffaith ei bod yn amhosibl tynnu plant o wersi cydberthynas a rhywioldeb bellach yn bwrpasol. Nid wyf i'n gweld unrhyw ddewis ond gwrthod y Bil yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, hoffwn i gefnogi rhai o'r gwelliannau yn y grŵp hwn.

Rwy'n cefnogi ychwanegu lles mislif at y cwricwlwm. Mae rhai plant yn dioddef symptomau gwanychol posibl o endometrosis am y rhan fwyaf o'u bywyd ysgol, a bydd dysgu am les mislif yn yr ysgol yn golygu na fydd yn rhaid i blant ifanc ddioddef yn dawel. Byddaf i'n cefnogi gwelliant Darren Millar sy'n ceisio adfer rhyw fath o ymeithrio gan rieni a'i ymgais i sicrhau bod y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ystyried natur perthnasoedd hirdymor, gan gynnwys priodas, a'u pwysigrwydd ar gyfer bywyd teuluol a magu eu plant. Felly, er fy mod i'n derbyn na fydd gwrthod penderfyniadau'r Llywodraeth ar addysg cydberthynas a rhywioldeb gen i yn dwyn fawr o bwys, rwy'n gobeithio y bydd eraill sy'n rhannu fy mhryderon hefyd yn cefnogi gwelliannau 20 i 22, 40 a 41. O leiaf gyda'r gwelliannau hyn, gallwn gyfyngu ar yr effaith. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hwn yn grŵp mawr o welliannau â chryn amrywiaeth o effeithiau posibl ar y ddeddfwriaeth, felly byddaf i'n ceisio mynd drwyddyn nhw nid o reidrwydd mewn trefn, ond mewn grwpiau, os yw hynny'n iawn, gan ddechrau gyda'r hawsaf yn gyntaf. Hynny yw gwelliant rhif 40 yn enw Suzy Davies, sy'n galluogi dysgwyr ym mlynyddoedd 12 a 13 mewn ysgolion i ofyn am addysg cydberthynas a rhywioldeb, a phan ofynnir amdani, mae'n ofynnol i bennaeth ysgol o'r fath ei darparu. Mae hyn yn cyfateb yn fras, fel y dywedodd Suzy, i'r system sydd ar waith ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg i ddysgwyr yn y chweched dosbarth mewn ysgolion, ac er mai ein barn ni erioed yw bod y Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm eang a chytbwys i'r grwpiau oedran 3 i 16 oed, mae'r pwyntiau y mae Suzy a'r pwyllgor wedi eu gwneud o ran plant hŷn yn rhai perswadiol yn fy marn i. Felly, byddwn i'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant rhif 40 a gyflwynir heddiw. Rwy'n credu ei bod yn iawn dweud bod rhai agweddau ar addysg cydberthynas a rhywioldeb a allai fod yn nes at brofiad byw y dysgwr yn ystod y rhan benodol hon o'u blynyddoedd tyfu i fyny, ac felly, mae cael y cyfle i gael lle diogel ac adeiladol i siarad am faterion y gallan nhw fod yn mynd drwyddyn nhw bryd hynny yn berthnasol, felly rwyf i yn gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi gwelliant 40.

Yna, gan droi at welliannau 2 a 4, sy'n ymwneud â mater iechyd mislif. A gaf i ddiolch i Suzy Davies a Jenny Rathbone am eu sylwadau yn y ddadl heddiw ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod ein holl blant, yn fechgyn ac yn ferched, yn hyddysg a bod ganddyn nhw'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddeall y broses gwbl naturiol hon? Ers gormod o flynyddoedd ac i ormod o blant, nid yw hynny wedi digwydd, ac mae canlyniadau hynny yn sylweddol. Ond soniodd Suzy a Jenny am yr anawsterau weithiau wrth nodi beth ddylai mislif arferol fod, ac oni bai ein bod yn trafod y materion hyn, sut y gall menyw lunio barn ar gyflwr ei hiechyd ei hun a chymryd y camau angenrheidiol i geisio cymorth ar gyfer cyflwr? Ac rydym ni'n gwybod, i lawer iawn, iawn o fenywod a merched, gallan nhw ddioddef yn dawel am flynyddoedd yn hytrach na cheisio triniaeth a all leddfu eu symptomau a negyddu'r effaith y gall rhai cyflyrau fel endometrosis, syndrom ofari polysystig neu fislif trwm iawn ei chael ar eu hiechyd corfforol, eu lles meddyliol, a'u gallu i wneud yr hyn y maen nhw eisiau ei wneud â'u bywydau.

Nawr, unwaith eto, mewn ymgais i geisio cadw at egwyddorion sut y caiff y Bil ei greu, ond gan ddymuno hefyd sicrhau bod sicrwydd ynghylch y mater hwn, yna rwyf i yn ymrwymo yn llwyr ac wedi cael sicrwydd y bydd lles ac iechyd mislif yn rhan o'n cod addysg cydberthynas a rhywioldeb statudol, ac fel y cyfeiriodd Suzy ato yn ei dadl, bydd y cod hwnnw yn ddarostyngedig—o ganlyniad i welliannau a gyflwynwyd gen i yng Nghyfnod 2—i bleidlais yn y fan yma yn y Senedd. Felly, Aelodau'r Senedd eu hunain fydd yn gallu pleidleisio ar y cod hwnnw mewn gwirionedd. Felly, rwy'n gobeithio, Suzy, bod hynny yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnoch y bydd y pynciau hyn yno, y bydd yn ofynnol eu haddysgu, ac y bydd materion sy'n ymwneud ag iechyd a lles rhywiol, ein cyrff a delwedd corff, yn rhan wirioneddol bwysig o'r cod hwnnw wrth symud ymlaen.

17:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Felly, os caf i droi at y gwelliannau eraill yn y grŵp, a gaf i ofyn i'r Senedd wrthod gwelliant 41? Mae pwyslais cryf ar ddatblygu perthnasoedd iach yn y cwricwlwm newydd, ac mae bod yn unigolion iach a hyderus wrth gwrs yn un o bedwar diben ein cwricwlwm newydd, er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r perthnasoedd iach hynny sydd mor hanfodol i bob un ohonom. Yn y cwricwlwm newydd, mae'r maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i lywio cyfleoedd bywyd a'i heriau, ac elfennau sylfaenol y maes hwn yw iechyd a datblygiad corfforol, iechyd meddwl a lles cymdeithasol emosiynol ac mae deall perthnasoedd iach yn amlwg yn greiddiol i hyn.

Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd uchel ran hanfodol i'w chwarae o ran cynorthwyo dysgwyr i gydnabod perthnasoedd iach a diogel, a deall a datblygu parch at wahaniaethau rhwng pobl, a'r amrywiaeth o berthnasoedd a welwn yn cael eu hadlewyrchu o'n cwmpas mewn Cymru fodern. Nawr, bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn galluogi ein plant a'n pobl ifanc yn raddol i ddatblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd y perthnasoedd hynny drwy gydol eu hoes, gan ddechrau, wrth gwrs, gyda'n plant ieuengaf, gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd, a chynnwys yr hyn sy'n gwneud perthynas hapus ac iach pan fyddan nhw'n hŷn. 

Yn ogystal, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i'w gydnabod yw bod y canllawiau drafft a gyhoeddwyd yn rhan o Gwricwlwm i Gymru yn glir iawn y dylid cynllunio'r cwricwlwm i ddiwallu anghenion dysgwr unigol ysgol. Yn rhan o hyn, dylid cynnal sgwrs barhaus â'r ysgol gyfan a thu hwnt, gan ymgysylltu â rhieni a gofalwyr a'r gymuned ehangach, a dylai gael ei lywio gan werthoedd ac ethos yr ysgol, yn ogystal â'i leoliad a'r cyffiniau. Felly, Suzy a Darren, ymhell o fod eisiau cwtogi dadl a thrafodaeth gyda rhieni, ein disgwyliad yw y bydd hynny yn digwydd. Dyma holl ethos y cwricwlwm newydd: ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach ar ei ddatblygiad. Mae hynny'n berthnasol i bob maes, nid addysg cydberthynas a rhywioldeb yn unig. Suzy, byddwch chi'n gwybod nad wyf i eisiau neilltuo addysg cydberthynas a rhywioldeb ar gyfer y driniaeth ddeddfwriaethol benodol hon, gan fy mod i'n credu y bydd hynny'n cyfrannu at y naratif niweidiol y mae rhai pobl yn benderfynol o'i ddilyn bod addysg cydberthynas a rhywioldeb ychydig yn wahanol ac yn beryglus. Nid yw'n beryglus. Mae'n gwbl gefnogol i iechyd meddwl ein dysgwyr, eu lles, ac, fel y nododd Lynne Neagle, eu diogelwch yn y pen draw. Dyna pam rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gwrthod y gwelliannau hynny.

Rwyf i hefyd yn gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliannau 8 a 10. Fel yr wyf wedi'i amlinellu o'r blaen, mae canllawiau'r cwricwlwm yn glir iawn y dylid cynllunio cwricwlwm i ddiwallu anghenion dysgwyr unigol ysgolion, ac yn rhan o hyn, dylid cael y sgyrsiau parhaus hynny. Mae hynny'n cynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Rwy'n gwrthod gwelliant 42. Nawr, rwy'n deall ac rwy'n cydnabod bod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn codi materion cymhleth sy'n treiddio drwy ein holl fywydau. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i sicrhau bod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei darparu mewn modd lluosog. Er enghraifft, mae newid yr enw i symud y pwyslais i ffwrdd o'r ochr ryw ohoni a'r pwyslais mawr iawn ar gydberthynas, yn dweud y cyfan y mae angen i chi ei wybod am ddull gweithredu'r Llywodraeth hon. Mae yna reswm y tu ôl i hynny. Mae'n dangos ehangder y pwnc a'r cysyniadau y dylid eu cynnwys. Sawl gwaith, pan wnaethom ni siarad mewn Senedd flaenorol am drais domestig, y gwnaethom ni sôn am yr angen i addysgu plant—unwaith eto, y bechgyn a'r merched—am beth yw perthynas iach, a beth yw ein cyfrifoldebau personol ein hunain o fewn perthynas i drin unigolion eraill â pharch?

Fel y dywed Darren, mae'n darparu ar gyfer cod, ac rwy'n derbyn eich pwynt, Darren. Nid wyf i wedi ei gwneud yn haws i mi fy hun. Pe byddai'r cod yma, efallai y gellid bod wedi osgoi rhai o'r pethau hyn, ac rwy'n derbyn hynny. Nid oes dim dianc rhag y peth. Nid wyf i wedi ei gwneud yn haws i mi fy hun. Ond rwy'n gobeithio, trwy gyflwyno'r gwelliannau yng Nghyfnod 2, sy'n rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd—boed yn y Senedd hon, ond yn debygol, yr un newydd—bleidleisio ar y cod, y dylai roi sicrwydd nad ydym yn ceisio sleifio unrhyw beth drwodd yma, na bod yn ymrannol, na pheidio â bod yn gwbl dryloyw—. Fe fydd cyfle i'r Aelodau bleidleisio, craffu ar y cod hwnnw, a phleidleisio arno, ac os nad ydyn nhw'n cymeradwyo yr hyn sydd yn y cod hwnnw, yna bydd yr Aelodau hynny yn gallu pleidleisio yn ei erbyn. Felly, nid yw'r pŵer eithaf yma yn fy nwylo i, fel y Gweinidog presennol, nac yn wir yn nwylo Gweinidog y dyfodol. Bydd y pŵer gydag Aelodau'r Senedd.

Wrth gwrs, bydd hefyd yn ofynnol i'r cod fod yn briodol yn ddatblygiadol ar gyfer oedran y disgyblion. Rwy'n gwybod bod pobl yn dweud weithiau, 'Wel, sut gall hynny ddigwydd, oherwydd yn yr ystafell ddosbarth, bydd gennych chi blant ar wahanol gamau o'u datblygiad?' Mae gan ein hathrawon sgiliau gwahaniaethu da. Maen nhw'n gwneud hyn bob un dydd o'u bywydau gwaith. Mae angen i ni eu cynorthwyo i wneud hynny o fewn addysg cydberthynas a rhywioldeb, a dyna beth fydd y cod yno, a bydd y canllawiau statudol yno, i'w wneud.

O ran gwelliannau 20, 21 a 22, a fyddai'n caniatáu i ddysgwyr gael eu heithrio rhag derbyn addysg cydberthynas a rhywioldeb gan eu rhieni, mae gan rieni, wrth gwrs, ran ganolog i'w chwarae fel addysgwyr eu plant, ac nid oes dim yn y ddeddfwriaeth hon sy'n eu hatal rhag parhau i wneud hynny, ac i allu cael y sgyrsiau hynny gyda'u plant eu hunain. Ond rydym ni hefyd wedi dweud bod gan ysgolion swyddogaeth hefyd, ac rwy'n credu bod y swyddogaeth honno yn bwysicach nag erioed bellach. Mae gan ysgolion y potensial i greu amgylchedd diogel a grymusol i adeiladu ar ddysgu a phrofiadau ffurfiol ac anffurfiol y dysgwyr. Ac fel y dywedodd Lynne Neagle, weithiau, y plant y mae angen y cymorth hwn arnyn nhw fwyaf yw'r plant hynny nad ydyn nhw, am ba bynnag reswm, yn gallu cael y cymorth hwnnw gartref, ac mae'r ysgol yn dod yn bwysicach fyth wrth greu'r man diogel hwnnw iddyn nhw.

Rydym ni i gyd wedi dweud y prynhawn yma ei bod yn bwysig iawn bod plant yn cael dysgu am y pynciau hyn, ond yna mae rhai ohonom wedi dweud, 'Oni bai bod y rhieni'n penderfynu nad yw hynny'n wir.' Wrth i ni ystyried effaith COVID-19, des i'n ymwybodol yn ddiweddar o athro a ddaeth, wrth gynnal archwiliadau llesiant, yn ymwybodol o grŵp o ddynion ifanc a oedd wedi magu'r dewrder yn ystod gwyliau'r haf ac wedi bod yn ddigon dewr i gyfaddef i'r athro hwnnw eu bod wedi datblygu arfer pornograffi. Ac roedden nhw wedi estyn allan i'r athro hwnnw i allu mynegi eu gofidiau a'u pryderon ynglŷn â hynny, ac roedd yr athro hwnnw yn estyn allan, yn chwilio am gymorth i allu helpu'r dynion ifanc hynny o dan yr amgylchiadau hynny. Os oes ganddyn nhw'r dewrder i ddod ymlaen a siarad am y materion hynny, rwyf i'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ddigon dewr i ymateb i hynny'n gadarnhaol, ac i sicrhau bod gan bob un o'n plant yr hawl i allu bod yn y man diogel hwnnw yn eu hysgolion i gael y cymorth yr ydym yn sôn amdano heddiw.

Darren, rydych chi'n sôn am hawliau, ac fe wnaeth Lynne Neagle hynny hefyd. Mae hwn yn sicr yn ddull gweithredu hawliau plant ar waith. Nawr, nid yw'r hawl i fynegi dewis o ran sut y dylid addysgu eich plant yn hawl absoliwt, ac mae'r Bil yn gwbl gydnaws â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, gan gynnwys erthygl 2 ac erthygl 9.

Dirprwy Lywydd, rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â'r gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno. Fel y dywedais i, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi gwelliant 40. Rwy'n gobeithio y bydd Suzy Davies yn derbyn fy sicrwydd ynglŷn â chynnwys iechyd mislif ac yn tynnu gwelliannau 2 a 4 yn ôl, ac rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y lleill yn y grŵp. Diolch yn fawr. 

17:55

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Gobeithio na fydd ots gan yr Aelodau os cymeraf y cyfle hwn i roi clod mawr iawn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awr—i Lynne ac i'r tystion a ddaeth ger ein bron â thystiolaeth o bob safbwynt gwahanol ac, wrth gwrs, i staff y pwyllgor, oherwydd ni allaf orbwysleisio ymrwymiad pawb ar y pwyllgor hwnnw i fod yn gwbl ofalus ac yn sensitif trwy'r amser wrth holi'r dystiolaeth y gwnaethom ei chlywed wrth ystyried hyn. A daethom, wrth gwrs, i gasgliad unfrydol ar ôl craffu difrifol, a gyda'r hollbwysigrwydd o ran lles plant ar flaen ein meddwl trwy'r amser. A gaf i nodi unwaith eto pa mor barod oedd y Gweinidog i gytuno i'r pwynt ynghylch addysg cydberthynas a rhywioldeb ôl-16, ac rwy'n ddiolchgar iddi am ei chymorth gyda hynny?

Yn fyr iawn, soniodd Caroline Jones a Darren Millar am hawliau dynol yn gyffredinol. Fe wnaethom ni dreulio llawer o amser yn ystyried hawliau dynol ar y pwyllgor hwn, lle protocol 1, erthygl 2 y cyfeiriodd Darren ato, sut y mae hynny yn cyd-fynd â hawliau eraill plant ac, wrth gwrs, cael gwybod ein bod yn siarad drwy'r amser am hawliau amodol yn hytrach na hawliau absoliwt. Ac roeddwn i'n gallu gweld bod Caroline Jones wedi cael cyngor tebyg iawn i'r cyngor y gwnaethom ni ei glywed gan ein cyfreithwyr.

Bydd pobl yn gwylio hwn a fydd yn cael eu siomi os na fydd y gwelliannau ar les mislif yn cael eu cymeradwyo. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae mor bwysig i fechgyn yn ogystal â merched wybod am hyn. Ac rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf, o leiaf hyd y gallaf i gofio, fod iechyd menywod, ar wahân i ganser, wedi cael y lefel hon o sylw cyhoeddus. Mae ewyllys gwirioneddol yn ein cymdeithas erbyn hyn i gymryd camau gwell ar hyn. Mae'r ysgogiad hwn yn atgyfnerthu sut y mae rhoi sylw i hyn, fel yr ydym yn ei wneud yn awr, yn effeithio ar gynifer o feysydd polisi eraill—pethau fel darparu toiledau cyhoeddus, dylunio adeiladau, canllawiau i gyflogwyr, cyllidebu. Felly, nid dim ond menywod yn ystod eu mislif fydd yn elwa ar y ddealltwriaeth well hon o'r profiad bywyd naturiol hwn. Ond bydd yr Aelodau yn sicr o fod wedi sylwi, ac rwyf i yn mynd i ddweud hyn, Llywydd, gan fy mod i'n gallu, mai Aelodau Senedd benywaidd sydd wedi gwneud hyn yn bwynt deddfwriaeth, ac nid fi yn unig, Llywydd. Rydym ni wedi clywed gan Jenny, ond mae Aelodau benywaidd eraill yn y Siambr hon heddiw a wnaeth wthio ar yr agenda hon yn wirioneddol, ac ni fyddai manteision yr addysg hon i ddynion erioed wedi gweld golau dydd pe na byddai gan y Senedd hon fenywod sy'n barod i lusgo hyn i'r amlwg a'i wneud yn flaenoriaeth, a dangos bod yr hyn a allai edrych fel pwnc menywod ar yr olwg gyntaf yn bwnc cymdeithas mewn gwirionedd.

Rwy'n falch iawn o glywed yr hyn yr oedd gan y Gweinidog i'w ddweud. Fodd bynnag, yn wahanol i'r sefyllfa o ran sgiliau bywyd, nid ydym yn gwybod, heddiw, beth yn union y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ei ddweud am iechyd mislif. Dibynnodd Darren Millar ar y cam coll hwnnw i gefnogi rhai o'i welliannau ef hefyd. Felly, ychydig yn wrthreddfol, rwy'n mynd i wthio'r gwelliannau hyn i bleidlais heddiw nid oherwydd nad yw'r Gweinidog wedi cynnig sicrwydd, ac rydym ni i gyd yn ddiolchgar am hynny yma heddiw, gobeithio, ond i atgoffa'r Aelodau, pan fyddan nhw'n cael pleidleisio ar y cod yn y Senedd nesaf, bod angen iddyn nhw graffu'n ddigon agos arno er mwyn sicrhau ei fod yn ddigon cryf, wedi ei lywio'n dda gan yr ymgyrchwyr, a'i fod yn gwneud yr hyn y mae angen iddo ei wneud er mwyn iddo gael ei addysgu'n effeithiol mewn ysgolion. Ond dyna'r unig reswm rwy'n mynd i'w cyflwyno i bleidlais, Llywydd. Diolch.

18:00

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad. [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni gynnal pleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal a 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Gwelliant 2: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cyn i ni symud ymlaen i grŵp 4, dim ond i ddweud fy mod i'n ymwybodol bod un Aelod, Neil McEvoy, wedi ceisio gwrthwynebu i'r cynnig i dynnu gwelliant 1 yn ôl, ac felly mae hynny'n fater o record. Ni welwyd Neil McEvoy gan y Dirprwy Lywydd ar y pryd. Os caf i eich atgoffa chi i gyd—pob un ohonoch chi—i gadw'ch camera ymlaen cyn gymaint ag y gallwch chi. Yn sicr, os ydych chi yn cymryd rhan naill ai yn y ddadl, y drafodaeth, neu eisiau cymryd rhan yn y cyfnod pleidleisio, plîs cadwch eich camera ymlaen a pheidio â'i gadael hi'n rhy hwyr i fynegi barn a throi'r camera ymlaen.

18:05
Grŵp 4: Hanes ac amrywiaeth Cymru (Gwelliannau 43, 44, 46, 47, 48)

Felly, dwi'n symud nawr i grŵp 4, ac mae grŵp 4 o welliannau yn ymwneud â hanes ac amrywiaeth Cymru. Gwelliant 43 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Siân Gwenllian i gyflwyno'r gwelliant yma ac i siarad am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Siân Gwenllian.

Cynigiwyd gwelliant 43 (Siân Gwenllian).

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i agor y drafodaeth ar grŵp 4. Mi fyddai cefnogi gwelliant 43 yn ychwanegu'r frawddeg

'Hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys Hanes Pobl Dduon a Phobl Groenliw'

i'r rhestr o elfennau gorfodol o fewn yr ardaloedd dysgu a phrofiad. Byddai'n ychwanegol at yr hyn rydym ni newydd fod yn ei drafod, sef addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac mi fyddai'n ychwanegol at grefydd, gwerthoedd a moeseg fel elfennau mandadol ar wyneb y Bil.

Mi fyddai cefnogi gwelliant 44 yn ei gwneud hi'n ofynnol i god 'yr hyn sy'n bwysig' nodi sut y bydd dealltwriaeth o ddigwyddiadau hanesyddol allweddol Cymru a'r byd yn cael ei sicrhau ar draws meysydd dysgu a phrofiad. Yn ystod ein trafodaeth ni yng Nghyfnod 2, fe dynnodd y Gweinidog sylw'n ddigon teg at y ffaith nad mater i'r dyniaethau yn unig ydy hanes Cymru, ac mae gwelliant 44 yn cydnabod hynny, gan wneud dealltwriaeth o brif ddigwyddiadau hanes, yn eu holl amrywiaeth, yn fater trawsgwricwlaidd.

Mi fyddai gwelliannau 46, 47 a 48 yn rhoi rheidrwydd ar i bob cwricwlwm ym mhob ysgol gael eu cynllunio i alluogi disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o hanes amrywiol, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau a safbwyntiau Cymru. Felly, yn dilyn Cyfnod 2, fe welwch ein bod ni wedi gwrando ar gyngor y Gweinidog Addysg ac wedi penderfynu newid ein dull ni o geisio cael Wil i'w wely. O wrthod y gwelliannau yma, fydd hi ddim yn bosib rhoi cysondeb a sicrwydd y bydd pob plentyn yng Nghymru yn cael y profiad o ddysgu am hanes cyfoethog ac amrywiol ein gwlad ni.

Mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, yn ei adroddiad ar y Bil, wedi nodi bod angen i'r Llywodraeth daro'r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd lleol a chysondeb cenedlaethol. Byddai sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn cael dysgu am ddigwyddiadau hanesyddol allweddol o arwyddocâd cenedlaethol yn eu helpu nhw i ddod yn ddinasyddion gwybodus gyda gwybodaeth ddiwylliannol a gwleidyddol hanfodol, a dwi'n credu y byddai cynnwys hyn ar wyneb y Bil yn taro'r cydbwysedd cywir yna rhwng yr angen am gysondeb cenedlaethol a'r angen am hyblygrwydd lleol.

Mi fyddai'r gwelliannau hefyd yn sicrhau mynediad cyfartal i addysg hanes, sy'n hanfodol i sicrhau cydraddoldeb addysg ar draws Cymru. Er mwyn helpu mynd i'r afael ag anghyfiawnderau strwythurol a hiliaeth a hyrwyddo amrywiaeth hiliol a diwylliannol, mae'n rhaid gwarantu addysg i bob disgybl ar hanes pobl dduon a phobl o liw. A drwy sicrhau bod gan hanes Cymru sylfaen statudol yn y Bil, fe allwn ni sicrhau bod athrawon yn gallu cael gafael ar y wybodaeth angenrheidiol am hanes Cymru, gan ddarparu canllawiau angenrheidiol a defnyddiol i gefnogi athrawon a meithrin eu hyder nhw mewn addysgu pwnc sy'n gallu bod yn gymhleth, yn anghyfarwydd, ond eto yn hanfodol, yn union fel rydym ni wedi ei ddadlau efo addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae angen newid strwythurol mawr i daclo hiliaeth, ac mae angen dyrchafu hunaniaethau ac amrywiaeth Cymru i fod yn thema addysgol drawsgwricwlaidd sy'n haeddu'r un statws a chysondeb â meysydd eraill.

Dadl y Gweinidog, mae'n debyg, ydy mai fframwaith heb fanylder ydy'r Bil yma, ac eto mae hi'n dadlau bod angen i rai materion gael eglurder a ffocws penodol, a dyna'i dadl hi dros gynnwys addysg cydberthynas a rhyw ar wyneb y Bil. Fy nadl i ydy bod hynny yn hollol briodol hefyd o ran ychwanegu hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth. Mae'r ffaith bod addysg cydberthynas a rhyw, a chrefydd a moeseg, wedi cael eu cynnwys ar wyneb y Bil yn agor y drws at ychwanegu materion o bwys cenedlaethol eraill hefyd—materion sydd yn gallu bod yn drawsffurfiol eu natur, ac am union yr un rhesymau rydyn ni wedi bod yn eu trafod efo addysg cydberthynas a rhyw. Felly, dwi'n honni heddiw fod yna ddiffyg rhesymegol yn y dadleuon dros wrthod cynnwys hwn fel elfen fandadol ac, felly, fod y Bil yn ddiffygiol oherwydd nad ydy o'n gyson. Diolch, Llywydd. Fe wnaf i edrych ymlaen at glywed y dadleuon a'r ymateb.

18:10

Diolch, Llywydd, am hynny. Ac a gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am agor y ddadl ar y grŵp hwn o welliannau, a hefyd am gefnogaeth Siân yn y grŵp blaenorol, sydd wedi bod yn gyson drwy gydol y broses gyfan hon? Felly, rwy'n ddiolchgar i Siân a Plaid Cymru am eu hymrwymiad yn hynny o beth.

A gaf i ddechrau gyda gwelliant 43? Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y gwelliant hwn. Fel yr wyf i wedi'i egluro o'r blaen yn y ddadl hon, mae cyfeiriadau yn y datganiad 'yr hyn sy'n bwysig' eisoes yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Felly, rwyf i eisiau ei gwneud yn gwbl glir na all unrhyw ysgol osgoi'r materion hyn. Rwyf i wedi gwrando ar farn yr Aelod yn nadl Cyfnod 2, ac rwyf i wedi ymrwymo i ehangu'r geiriad yn y datganiad 'yr hyn sy'n bwysig', a fydd yn dod yn god 'yr hyn sy'n bwysig', i wneud hyn hyd yn oed yn gliriach. Rwyf i wedi trafod hyn gyda'r Athro Charlotte Williams, sy'n fodlon y dylem ni roi'r materion hyn y tu hwnt i unrhyw amheuaeth drwy gyfeirio'n benodol ac yn glir at straeon pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cod 'yr hyn sy'n bwysig'. Mae'r Athro Williams wedi bod yn glir iawn yn ei chefnogaeth i'r Bil a'r dull hwn o ymdrin â straeon pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac rwyf i hefyd yn ymwybodol o'r gefnogaeth ehangach i waith yr Athro Williams gyda ni ar draws cymunedau a phobloedd Cymru. Rwy'n falch iawn bod yr Athro Williams wedi cytuno i barhau i weithio gyda ni ar ôl cyhoeddi ei hadroddiad terfynol i weithredu'r argymhellion—gan ddal y Llywodraeth hon yn atebol. Weithiau mewn Llywodraeth, mae adroddiadau yn cael eu cyhoeddi gan arbenigwyr amlwg, ond yna mae rhywbeth yn ddiffygiol yn y gweithredu. Rwy'n gobeithio y bydd cael yr ymrwymiad hwnnw gan yr Athro Williams i barhau i weithio gyda ni ar y gweithredu yn rhoi hyder i'r Aelodau na fyddwn yn siarad amdano'n unig, y byddwn yn ei wneud mewn gwirionedd.

Gan symud ymlaen, felly, at welliant 44, mae'n rhaid i mi ddweud, unwaith eto, fod hyn eisoes yn orfodol. Mae angen i ysgolion fod yn wrth-hiliol yn ogystal â hyrwyddo amrywiaeth a dealltwriaeth o straeon pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a bydd yr ymgynghoriad sydd ar y gweill ar y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn nodi pa mor bwysig y mae'r ymrwymiad hwn i hyrwyddo dealltwriaeth o amrywiaeth mewn dysgu ac addysgu, a sut y mae hynny'n cyd-fynd â pholisïau gweithredol i fynd i'r afael â hiliaeth. Mae'r cysyniadau allweddol sy'n ffurfio'r cod 'yr hyn sy'n bwysig' arfaethedig wedi'u datblygu drwy broses o gyd-lunio sy'n eiddo i ymarferwyr, gan ddefnyddio cyfres glir o feini prawf. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, er fy mod i'n derbyn bod Siân Gwenllian yn dweud ei bod hi wedi cael rhywfaint o gyngor o ran drafftio gwelliant 44, byddai'r hyn y mae'r gwelliant yn ei awgrymu yn cyfyngu ac yn lleihau'r astudiaeth o faterion hanes a hunaniaeth Cymru a straeon pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig nad ydyn nhw, erbyn hyn, o fewn pwnc hanes—felly, rydym ni wedi symud ymlaen o hynny, ac rwy'n falch o hynny—ond y cyfan rydym ni wedi'i wneud yw symud i'r mater o gadw hynny ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau, ac rwy'n credu bod perygl yn hynny. Rwyf i wedi bod yn glir drwy gydol y broses hon fod amrywiaeth, hanes Cymru a'i holl ddiwylliannau, drwy ganllawiau statudol, yn rhywbeth y dylai ysgolion ei ymgorffori ar draws pob un o'r chwe maes dysgu a phrofiad.

Felly, mae'r hyn y mae Siân Gwenllian yn sôn amdano yn gwbl bwysig, a byddwn i'n dadlau bod natur orfodol y cod 'yr hyn sy'n bwysig' yn golygu y bydd y pynciau hynny yn cael eu haddysgu, ond nid wyf i eisiau gweld y pynciau hyn yn cael eu cynnwys ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn unig. Pam na ddylid archwilio straeon Cymru drwy wersi llythrennedd a chyfathrebu, yn y testunau y mae ysgolion yn dewis eu hastudio? Onid oes lle i'n straeon yn ein celfyddydau mynegiannol, wrth gynhyrchu drama, cerddoriaeth a dawns? Onid oes gan y profiadau hyn o'n cymunedau amrywiol ac effaith ein profiad o fewn y cymunedau amrywiol hynny ran i'w chwarae wrth addysgu iechyd a lles? Felly, byddwn i'n dadlau mai'r hyn sydd gennym ni yn y fan hyn yn y Bil yw'r cyfle i hanesion Cymru â'u holl amrywiaeth gael eu harchwilio, nid yn unig o fewn un pwnc, nid yn unig o fewn un maes dysgu a phrofiad, ond i atgyfnerthu'r hanesion a phrofiadau hynny mewn gwaith trawsgwricwlaidd ar draws holl elfennau'r cwricwlwm mewn gwirionedd. Mae hynny wedi bod yn ddarn pwysig iawn o gyngor gan Charlotte Williams, sy'n dweud, yn rhy aml, pan fyddwn ni wedi siarad am y materion hyn, eu bod wedi'u cyfyngu i un topig o fewn un pwnc, ac nid yw'n adlewyrchu cyfraniad ein cymunedau amrywiol ar draws pob agwedd ar ein bywydau.

Fel y dywedais i, byddwn yn diwygio'r geiriau i'w gwneud hyd yn oed yn fwy eglur, er mwyn rhoi'r hyder sydd ei angen arnyn nhw. Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir, mae'r ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw yn disgwyl, yn mynnu ac yn sicrhau yn llwyr fod hanesion Cymru a phrofiadau ein cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu haddysgu ym mhob ysgol yng Nghymru, ac rwyf i eisiau bod yn gwbl glir mai dyna yw ein disgwyliad, ac mae'r ddeddfwriaeth sydd ger ein bron yn darparu ar gyfer hynny.

18:15

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gwelliant 44 yn gwneud yr hyn rydych chi'n honni nad ydy o'n gwneud. Mae gwelliant 44 yn darllen fel hyn:

'Rhaid i God yr Hyn sy'n Bwysig nodi sut y bydd dealltwriaeth o ddigwyddiadau hanesyddol allweddol Cymru a’r byd, gan gynnwys ―

'(a) hanes Pobl Dduon a Phobl Groenliw,

'(b) profiadau a chyfraniadau pobl Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac

'(c) hanes hiliaeth ac amrywiaeth,

'yn cael ei sicrhau ar draws meysydd dysgu a phrofiad.’

Fedraf i ddim bod yn fwy clir, dydw i ddim yn meddwl, mai'r bwriad efo'r gwelliant yma ydy dyrchafu'r maes allan o'r dyniaethau i fod yr hyn ydych chi'n ei ddadlau amdano fo. Felly, yn fwriadol, efallai, rydych chi'n mynd â ni i lawr rhyw gyfeiriad gwahanol i'r hyn rydym ni'n bwriadu ceisio ei wneud efo'r gwelliannau yma yn fan hyn.

Os ydy'r maes yma yn mynd i fod yn fandadol, fel rydych chi'n dweud y bydd o, ac y bydd o yn fandadol drwy'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig', wel, beth ydy'r broblem efo cefnogi'r gwelliannau sydd gerbron heddiw yma? Dydy hynna ddim yn mynd i wneud unrhyw fath o wahaniaeth, felly. Fe fydd o ar wyneb y Bil os ydych chi'n cefnogi'n gwelliannau ni, ac mi fydd y cwbl rydych chi'n ei ddisgrifio yn deillio ac yn llifo i lawr o hynny. I mi, dyna ydy pwrpas deddfwriaeth: rydych chi'n rhoi rhywbeth yn hollol, hollol glir os ydych chi'n dymuno i bopeth arall wedyn raeadru i lawr ohono fo, ac, os ydy o'n mynd i fod yn y canllawiau beth bynnag, dydw i ddim yn deall y ddadl dros beidio â'i ddyrchafu i fod yn fater ar wyneb y Bil.

Dwi'n mynd yn ôl at y pwynt yma: rydych chi yn penderfynu rhoi addysg cydberthynas a rhyw yn fater mandadol ar wyneb y Bil—gwych, gwych—er mwyn i bopeth arall lifo o hynny. Dwi'n methu â deall rhesymeg pam ddim rhoi maes sydd yn gwbl allweddol ar gyfer datblygu ein cenedl ni wrth inni symud ymlaen ac i barchu'r amrywiaeth ac i waredu ein cymdeithas ni o hiliaeth. Mae angen i hynny hefyd fod ar wyneb y Bil er mwyn i'r trawsffurfiad yma sydd angen digwydd fod yno a chael y statws hollol ddilys sydd angen iddo fo ei gael. Felly, dwi yn gofyn ichi gefnogi ein gwelliannau ni yn y maes yma. Diolch yn fawr. 

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 43? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 43, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. [Anglywadwy.] O blaid 20, dau yn ymatal, 31 yn erbyn.

Gwelliant 43: O blaid: 20, Yn erbyn: 31, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 5: Y Gymraeg a’r Saesneg (Gwelliannau 34, 45, 35, 36, 37, 39, 49, 50, 38)

Rydyn ni'n symud nawr i grŵp 5. Mae grŵp 5 o welliannau yn ymwneud â'r Gymraeg a'r Saesneg. Gwelliant 34 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Gareth Bennett i gyflwyno'r gwelliant hwnnw ac i siarad i'r grŵp o welliannau. Gareth Bennett. 

Cynigiwyd gwelliant 34 (Gareth Bennett, gyda chefnogaeth Mark Reckless).

Diolch, Llywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i ac a gefnogir gan Mark Reckless, sy'n cael eu cynnig gyda chefnogaeth Plaid Diddymu Cynulliad Cymru hefyd. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn ymdrin ag addysgu Cymraeg. Mae'r gwelliannau yr wyf i'n eu cynnig heddiw yn ceisio adlewyrchu'r ffaith bod gan Gymru lawer o wahanol rannau ac nad oes gan bob un ohonyn nhw yr un lefel o siarad Cymraeg. Yn hytrach na cheisio creu un polisi ar gyfer Cymru gyfan, a fyddai'n wastraff adnoddau gwerthfawr, rydym ni o'r farn y dylai darpariaeth Gymraeg fod yn briodol i anghenion y boblogaeth leol. Rydym ni'n credu, ar y cyfan, y byddai'n well canolbwyntio adnoddau ar achub a chadw ysgolion gwledig yng ngorllewin Cymru sy'n siarad Cymraeg ar agor, yn hytrach na gadael i'r ysgolion hynny gau, sef yr hyn sydd wedi bod yn digwydd a'r hyn sy'n parhau i ddigwydd. Ond ni allwn ni wneud unrhyw beth i gadw'r ysgolion hynny ar agor os ydym ni'n gwastraffu arian ar bolisi Cymru gyfan sydd wedi'i gynllunio i gyrraedd rhyw darged mympwyol o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, oherwydd yn y pen draw beth mae 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ei olygu mewn gwirionedd? Beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd os ydych yn dysgu 1 miliwn o bobl i ddweud 'bore da' a 'noswaith dda'? A yw hynny yn gyflawniad ystyrlon mewn gwirionedd ac a yw'n ddefnydd defnyddiol o adnoddau cyfyngedig? A yw'n well cael yr holl bobl hynny i allu gwenu a dweud 'bore da' a dim llawer arall, neu a yw'n well i dargedu cymunedau lleol yng Nghymru Gymraeg, cadw ysgolion ar agor, cadw canolfannau cymunedol ar agor a chadw'r Gymraeg yn iaith fyw, oherwydd dyna beth yr ydym mewn perygl o'i golli?

Nawr, gan droi at ein gwelliannau penodol heddiw, mae gwelliannau Llywodraeth Cymru i'w Bil eu hunain, a osodwyd yng Nghyfnod 2, yn caniatáu i rai ysgolion cyfrwng Cymraeg beidio ag addysgu unrhyw Saesneg tan wyth oed. Felly, mae'r pwyslais yma ar ganiatáu i ysgolion ddewis beth yw'r dull gorau i'w disgyblion. Mae ein gwelliant 35 heddiw yn caniatáu hawl debyg i ganiatáu i ysgolion cyfrwng Saesneg beidio ag addysgu unrhyw Gymraeg tan wyth oed, a fydd, unwaith eto, yn caniatáu i'r ysgolion benderfynu ar y dull gorau. I ryw raddau, gellir ystyried hyn yn welliant treiddgar. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn credu, am ba reswm bynnag, mai dyma'r dull cywir, yna efallai y bydd angen iddi ailystyried ei brwdfrydedd tuag at eu gwelliannau eu hunain i ganiatáu i ysgolion cyfrwng Cymraeg optio allan o addysgu disgyblion Saesneg.

Mae ein gwelliant 37 yn ceisio mewnosod Atodlen newydd i'r Bil sy'n dirprwyo i awdurdodau lleol y pŵer i benderfynu a ddylai'r Gymraeg fod yn orfodol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg rhwng blynyddoedd 4 ac 11 ac i ba raddau—mewn geiriau eraill, rhwng wyth ac 16 oed. Byddai cynghorau lleol yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain ar y mater hwn ar ôl ymgynghori priodol â'u pobl leol eu hunain ac o ran cyfran y siaradwyr Cymraeg yn eu hardal eu hunain. 

Mae angen gwelliannau 38 a 39 pe cytunir ar welliannau 35 i 37. Os na chytunir ar welliannau 35 a 37, yna ni fyddwn yn pwyso am bleidlais ar gyfer y ddau welliant arall.

I grynhoi, yr hyn sydd ei angen arnom yw dull lleol, yn hytrach nag un polisi sy'n addas i bawb, a'r hyn sydd ei angen arnom hefyd yw elfen o ddewis, yn hytrach na gorfodaeth, ynghylch sut yr ydym yn penderfynu addysgu'r Gymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru. I'r perwyl hwnnw, cymeradwyaf y gwelliannau hyn i'r Siambr heddiw. Diolch yn fawr iawn.

18:25

Mae ein gwelliannau ni yn grŵp 5 yn ymwneud â dysgu'r Gymraeg yn ein hysgolion, ac fe fyddai eu pasio nhw yn sicrhau llawer mwy o fanylder, ac yn rhoi cysondeb a sicrwydd y bydd pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i gaffael iaith ein gwlad. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu un continwwm ar gyfer dysgu Cymraeg a dileu Cymraeg ail iaith, a hynny ers 2015. Bydd y continwwm yn sicrhau dilyniant a pharhad yn y dysgu ac addysgu ar draws y cwricwlwm, ac yn arbennig wrth drosglwyddo o ysgolion cynradd i uwchradd. Ond, er eu bod nhw wedi ymrwymo i sefydlu continwwm, dydy o ddim wedi digwydd, a realiti'r sefyllfa ydy na fydd y Bil yma chwaith ddim yn creu un continwwm dysgu Cymraeg. Beth fyddai'r Bil yma yn ei wneud bydd ail-greu ac ail-wreiddio'r sefyllfa bresennol—sefyllfa sydd yn methu. Dwy system gyfochrog sydd gennym ni, a dyna fydd gennym ni oni bai eich bod chi'n derbyn gwelliannau Plaid Cymru heddiw yma. 

Mae Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn cytuno â hynny, ac yn dweud fframwaith cyffredinol y cwricwlwm yw symbylu'r newidiadau, yn dweud—. Mae o'n dadlau na fydd fframwaith cyffredinol y cwricwlwm fel mae o yn symbylu'r newidiadau sy'n angenrheidiol. Os bydd y cwricwlwm yn gosod disgwyliadau clir a phendant, bydd gweddill y gyfundrefn addysg yn dilyn ac yn ymaddasu. Ond ni fydd y cwricwlwm yn arwain ar hyn. Y tebygrwydd ydy y bydd y diffygion o safbwynt sgiliau athrawon, o ran capasiti ysgolion, o ran cymwysterau ac adnoddau, yn arwain at gylch diddiwedd fydd yn parhau i lesteirio gwelliant mewn sgiliau Cymraeg disgyblion Cymru.

Mae ein gwelliannau ni yn cynnig dwy ffordd bosib ymlaen. Yn ystod Cyfnod 2, fe wrthododd y Gweinidog ein gwelliant a fyddai wedi sefydlu cod ar ddysgu'r Gymraeg ar un continwwm. Dwi'n dal yn argyhoeddedig mai dyna ydy'r ffordd orau ymlaen, ac mai cod fyddai'r ateb gorau i'r broblem rydym ni'n ceisio ei datrys. Dyna, felly, ydy byrdwn gwelliant 45.

Mae gwelliant 49 yn ychwanegu adran newydd, ac mae gennych chi ddewis yn fan hyn—medrwch chi gefnogi hwn, os hoffech chi, os dydych chi ddim eisiau cefnogi'r cod, neu fedrwch chi gefnogi'r ddau. Ond mi fyddai gwelliant 49 yn ychwanegu adran newydd fyddai'n sefydlu fframwaith y Gymraeg statudol a fyddai'n rhoi arweiniad clir a chanllawiau pellach ar weithredu'r continwwm. Mae dirfawr angen cynnig cefnogaeth ac arweiniad clir i'r sector cyfrwng Saesneg, yn ogystal â'r awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol ac eraill o fewn y system addysg ar sut i weithredu dull continwwm sy'n datblygu sgiliau disgyblion yn y Gymraeg i'r eithaf, fel sy'n digwydd ym mhob maes a phwnc arall. Fe wnaeth y Gweinidog gyfeirio at hyn yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 29 Ionawr, ac mi wnaeth hi gyfeirio a rhyw led awgrymu bod yna bosibilrwydd y byddai hi o blaid creu fframwaith statudol. Dwi'n edrych ymlaen i weld os ydy hi'n dal o'r un farn. Mi fyddai pasio gwelliant 49 yn sicrhau hynny. Mae'r mudiadau addysg Cymraeg i gyd yn cefnogi sefydlu fframwaith o'r fath, ac maen nhw'n dadlau bod angen hynny ar wyneb y Bil er mwyn sicrhau statws statudol, ac er mwyn rhoi arwydd clir i'r sector addysg ynghylch difrifoldeb Llywodraeth Cymru am sicrhau gweithredu'r continwwm yn effeithiol.

Mae yna gyfle yma i sicrhau bod gwahanol agweddau ar strategaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r system addysg i sicrhau 1 miliwn o siaradwyr yn cydgysylltu'n glir ac yn drefnus, a bod yna ffordd ymlaen i sicrhau bod 55 y cant o ddisgyblion yn gallu siarad Cymraeg ar ddiwedd eu haddysg statudol yn 2027, a 70 y cant ohonyn nhw erbyn 2050, sef union nod y Llywodraeth hon, wrth gwrs. Mi fyddai fframwaith yn ein galluogi ni i symud tuag at hynny, ac yn arwain at newidiadau sylfaenol i ddulliau dysgu, cynllunio, dilyniant a datblygiad sylweddol o ran addysgeg a sgiliau ieithyddol y gweithlu addysg. Mae angen canllaw clir statudol ynghylch yr hyn sy'n ddisgwyliedig dros y tymor byr, canolig a hir o ran camau gweithredu a deilliannau, a dyna ydy byrdwn ein gwelliannau ni er mwyn ceisio sicrhau hynny. Diolch. 

18:30

Diolch i chi am eich ateb, Llywydd. Roeddwn i'n falch iawn o allu ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i wneud Saesneg yn orfodol o saith i 16 mlwydd oed, tra bod y Gymraeg yn parhau i fod yn orfodol o dair i 16 mlwydd oed. Yng Nghyfnod 2, gosodais welliannau gan y Llywodraeth a fydd yn caniatáu arfer addysg drochi Cymraeg i barhau heb unrhyw broses o ddatgymhwyso. Gosodais welliant hefyd sy'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo mynediad at gyrsiau astudio a sicrhau eu bod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg sy'n arwain at gymhwyster neu gyfres o gymwysterau o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015. Mae hyn er mwyn disodli'r ddyletswydd bresennol ar awdurdodau lleol na fydd yn berthnasol pan fydd fframwaith y cwricwlwm newydd yn disodli'r cwricwla lleol ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed.

Mae'r gwelliannau Cyfnod 2 a osodais ac a dderbyniwyd yn rhoi pwyslais clir ar ddysgu Cymraeg o fewn y cwricwlwm newydd. Maen nhw hefyd â'r nod o ddiogelu, cefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg drwy gael gwared ar unrhyw rwystrau a ganfyddir i'r defnydd o drochi Cymraeg yn ein hysgolion—trochi sydd wedi rhoi yr iaith i'm tri phlentyn.

Fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni fod yn gwbl glir, ac rydym ni wedi bod yn glir, ein bod ni eisiau cynyddu nifer y rhai sy'n gallu siarad Cymraeg, nid ei leihau. A pheidiwch ag amau o gwbl, gyd-Aelodau, byddai gwelliant 34 yn lleihau nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae'n gwneud hynny o dan haenen o gydraddoldeb, ond mae'r rhai hynny ohonom sy'n deall yr iaith yn gwybod nad ydym yn ymdrin â dwy iaith sy'n cael eu siarad gan niferoedd cyfartal, a bydd y gwelliant yn ymwreiddio'r anghydraddoldeb sydd eisoes yn bodoli rhwng ein dwy iaith genedlaethol ac yn amddifadu ein plant—amddifadu ein plant—o'u genedigaeth-fraint, y gallu i siarad y ddwy.

Nid yn unig y mae hyn yn mynd yn groes i'n polisi ni fel Llywodraeth a'r consensws o gefnogaeth y credaf oedd yn arfer bodoli yn y Senedd hon ac, yn wir, y wlad, mae hefyd yn mynd yn groes i dystiolaeth arbenigwyr ym maes caffael iaith. Mae'n hanfodol bwysig bod dysgwyr, yn enwedig y rhai cyfrwng Saesneg, yn cael sylfaen gadarn yn y Gymraeg, a dyna pam yr ydym ni wedi gwneud y Gymraeg yn orfodol o dair oed ymlaen. Ac rwy'n annog yr Aelodau yn gryf i wrthod y gwelliant niweidiol hwn.

Ym mis Ionawr eleni, cyhoeddais gynllun gweithredu'r cwricwlwm, sy'n nodi ein camau nesaf i weithio gyda'n rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu fframwaith iaith Gymraeg. Bydd hwn yn rhoi cymorth arbennig i'r rhai sy'n addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a bydd hefyd yn symud ymlaen pob dysgwr ar hyd continwwm un iaith. 

Ni allaf dderbyn gwelliannau 45 a 50 i gyflwyno cod addysgu Cymraeg ar un continwwm. Fel yr eglurais wrth y pwyllgor yn nhrafodion Cyfnod 2, byddai cod o'r math hwn yn berthnasol i bob ymarferydd, gan gynnwys athrawon Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Credaf y byddai hyn yn cyfyngu ar eu creadigrwydd a'u hasiantaeth mewn modd nad yw eu cydweithwyr sy'n addysgu yn Lloegr yn ddarostyngedig iddo, ac ni fyddwn yn meiddio dweud wrth addysgwyr cyfrwng Cymraeg sut i addysgu eu dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac nid wyf yn credu nac yn ystyried bod hynny'n angenrheidiol o gwbl.

Mae canllawiau ychwanegol ar gyfer addysgu Cymraeg eisoes yn bodoli yn y fframwaith llythrennedd, a gall athrawon mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ddefnyddio hyn i addysgu Cymraeg. Mae'n amlwg i mi, a dyma lle rwy'n cytuno â Siân Gwenllian, nad addysgu Cymraeg yw'r prif fater yn y fan yma, fel y cyfryw, ond gwelliant mewn addysgu Cymraeg yn rhai o'n hysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu a gweithredu fframwaith iaith Gymraeg a all gynorthwyo athrawon mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i helpu eu dysgwyr i symud ymlaen ar hyd y continwwm iaith yn gyflym ac yn llwyddiannus. Felly, anogaf yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn gwelliannau 45 a 50.

O ran gwelliannau 35, 36, 37 a 39, sy'n ceisio cyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyhoeddi cynllun gofynion iaith Gymraeg, mae'n rhaid i mi ofyn y cwestiwn, Llywydd, 'Pam?' Mae gennym gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg eisoes, lle mae awdurdodau lleol yn nodi sut y maen nhw'n mynd i gynyddu nifer y lleoedd darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ardal, ac mae gennym gwricwlwm lle mae'r Gymraeg yn orfodol o dair i 16 mlwydd oed ym mhob un o'n hysgolion. Felly, pam mae angen y cynllun hwn arnom ni?

Y gwirionedd yw, wrth gwrs, oherwydd bod y cynigwyr eisiau lleihau faint o Gymraeg a addysgir yn ein hysgolion, a gwadu, fel y dywedais, hawl ein pobl ifanc i gael dysgu eu dwy iaith genedlaethol. Mae gennyf weledigaeth wahanol iawn ar gyfer y Gymraeg o'i chymharu â'r cynigion hyn sy'n edrych i'r gorffennol. Rwyf eisiau gweld ein pobl ifanc yn siaradwyr balch a hyderus yn ein dwy iaith, ac yn wir llawer mwy, ac felly rwy'n annog yr Aelodau yn gryf iawn i wrthod y gwelliannau hyn sydd eisiau mynd â ni yn ôl i'r gorffennol yn hytrach nag ymlaen i ddyfodol dwyieithog mwy disglair.

Soniais yn gynharach am fframwaith iaith Gymraeg i gynorthwyo ymarferwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog wrth drafod dysgu Cymraeg ar un cod continwwm. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o fynd i'r afael ag addysgu'r Gymraeg yn rhai o'n hysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog yw fframwaith ar gyfer addysgu Cymraeg sy'n ddigon hyblyg i gael ei dargedu at yr ysgolion hynny y mae angen y cymorth ychwanegol hwn arnyn nhw, ond nad yw'n cyfyngu ar asiantaeth a chreadigrwydd athrawon nad oes eu hangen arnynt. Rwyf yn deall y bwriad y tu ôl i welliant 49, i'w gwneud yn ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi fframwaith o'r fath, ond ar hyn o bryd ni allaf gefnogi'r gwelliant hwnnw.

Yn gyntaf, mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r bobl hynny a restrir i roi sylw i'r fframwaith ym mhopeth a wnânt yn y Bil hwn, a chredaf fod hynny'n ofyniad rhy feichus, gan na fydd gan rai o'r penderfyniadau a wneir yn ymwneud ag addysgu'r Gymraeg. Yn ail, mae'n fframwaith a fyddai'n berthnasol i bob ysgol, felly unwaith eto byddem yn dweud wrth bob ymarferydd, gan gynnwys athrawon Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, fod angen dweud wrthyn nhw sut i addysgu Cymraeg, ac rwyf eisoes wedi datgan fy safbwynt ar hynny. Yn olaf, hoffwn gyfeirio sylw'r Aelodau at bwerau sydd gan Weinidogion Cymru o dan adran 69 i gyhoeddi canllawiau—canllawiau y mae'n rhaid i'r personau a restrir yn y gwelliant roi sylw iddynt. Gellir defnyddio'r pwerau hyn i gyhoeddi canllawiau i gynorthwyo addysgu a dysgu Cymraeg yn y modd y mae'r Aelod yn ei ragweld, ac rwyf eisiau i'r canllawiau hynny gael eu targedu at ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog, lle credaf y mae fwyaf ei angen.

Felly, mae nifer o resymau pam na allaf gefnogi'r gwelliant hwn, ond rwyf, wrth gwrs, yn cefnogi'r meddylfryd y tu ôl iddo, ac rwyf yn fodlon dweud unwaith eto heddiw y byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu fframwaith o'r fath i gefnogi'r gwaith o wella addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Gwneir hyn, fel bob amser gyda'r cwricwlwm, yn yr ysbryd o gyd-adeiladu sy'n cynnwys ymarferwyr, rhanddeiliaid ac arbenigwyr, ac rwy'n falch iawn o fod wedi derbyn cais gan y rhai sydd ag arbenigedd yn y maes hwn, yn dangos eu parodrwydd ac yn wir eu brwdfrydedd i gymryd rhan mewn gwaith o'r fath. A chredaf y dylai Gweinidogion ddefnyddio eu pwerau o dan adran 69 i gyhoeddi hynny ar sail statudol.

Yn olaf, deuwn at welliant 38, sy'n ceisio diffinio beth yw ysgol cyfrwng Saesneg. Nid yw'r gwelliant yn dweud sut y caiff faint a gaiff ei addysgu yn Saesneg ei fesur ac yn ymarferol bydd hynny'n arwain at anawsterau sylweddol. Rydym, wrth gwrs, fel Llywodraeth, yn ymgynghori ar wahân ar gategorïau iaith anstatudol ar gyfer pob ysgol, nid rhai cyfrwng Saesneg yn unig. Os bydd Senedd yn y dyfodol eisiau eu gwneud yn statudol, y dull cywir fyddai gwneud hynny ar gyfer pob categori o bob ysgol, fel ei fod yn cael ei wneud yn iawn. Mawr obeithiaf y bydd pwy bynnag fydd yn ddigon ffodus i gael y swydd hon ar fy ôl i yn rhoi'r categorïau hynny ar sail statudol. Mae'r gwelliant hwn yno unwaith eto dim ond er mwyn lleihau faint o  Gymraeg a geir mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ochr yn ochr â'r gwelliannau eraill yr ydym wedi clywed Gareth Bennett yn sôn amdanyn nhw heddiw, a gofynnaf i'r Aelodau eu gwrthod yn y modd mwyaf pendant posibl. Diolch.

18:40

Diolch, Llywydd. Diolch i Siân ac i Kirsty am eu cyfraniadau i'r ddadl.

Roedd sylwadau Siân yn ymwneud yn bennaf â'r angen i ddatblygu un continwwm ar gyfer addysgu'r Gymraeg, sydd, ynddo'i hun, yn gysyniad clodwiw, ond wrth gwrs mae'n cyd-fynd â cheisio cyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, yr ydym ni, fel plaid—fy mhlaid i fy hun, Plaid Diddymu Cynulliad Cymru—yn reddfol amheus ynglŷn â'r targed hwn. Rydym yn poeni na fydd, mewn gwirionedd, yn llawer mwy nag ymarfer ticio blychau ac y bydd diffyg ystyrlonrwydd yn ansawdd y Gymraeg a ddarperir i lawer o'r 1 miliwn hyn o bobl sydd wedi'u targedu, a dyna'r hyn y ceisiais fynd i'r afael ag ef yn fy nghyfraniad. Datblygodd Siân, wrth gwrs, ei phwyntiau gyda'i huodledd arferol, felly alla i ddim tynnu oddi ar hynny, ond serch hynny, wrth gwrs, ni fydd fy mhlaid yn cefnogi'r union bwyntiau hynny. Rydym yn bwriadu ymatal ar ei gwelliannau.

Gan droi at sylwadau'r Gweinidog, defnyddiodd lawer o iaith emosiynol neu gynyrfiadol am amddifadedd a gwadu genedigaeth-fraint pobl. Yr amddifadedd gwirioneddol yw colli iaith fyw, ac nid yw gwthio rhywbeth sy'n wastraff adnoddau ac yn ymarfer ticio blychau yn mynd i wneud unrhyw beth i ddatblygu'r Gymraeg fel iaith fyw ac i'w chadw i fynd fel iaith fyw. Yr hyn y mae arnom ei angen yw targedu'r adnoddau hynny, sef yr hyn yr oeddwn yn sôn amdano yn fy nghyfraniad; nid llwyth o lol emosiynol, sef yr hyn y mae'r Gweinidog yn tueddu i arbenigo ynddo ar y pwnc hwn. Y gwir wadiad, er gwaethaf y ffaith ei bod hi'n sôn am ddyfodol mwy disglair, yw colli'r Gymraeg yn y dyfodol fel iaith gymunedol fyw, oni bai bod adnoddau prin yn cael eu targedu yn y ffordd gywir, sef yr hyn y mae ein gwelliannau yn ceisio mynd i'r afael ag ef.

Felly, diolch yn fawr iawn am wrando, pawb, a diolch am eich cyfraniadau a gobeithio y byddwn yn symud ymlaen i'r bleidlais. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 34 yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, dau yn ymatal a 47 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 34 wedi'i wrthod.

Gwelliant 34: O blaid: 5, Yn erbyn: 47, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Ni chynigiwyd gwelliant 3 (Suzy Davies). 

Cynigiwyd gwelliant 44 (Siân Gwenllian).

Symud gwelliant 44. Felly, pleidlais ar welliant 44 yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, dau yn ymatal, a 32 yn erbyn. Mae gwelliant 44 wedi'i wrthod.

18:45

Gwelliant 44: O blaid: 20, Yn erbyn: 32, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 52 (Llyr Gruffydd).

Pleidlais ar welliant 52, felly, yn enw Llyr Gruffydd. A oes gwrthwynebiad i welliant 52? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, ac felly pleidlais ar welliant 52. Agor y bleidlais. O blaid 20, dau yn ymatal, a 32 yn erbyn. Felly mae gwelliant 52 wedi'i wrthod.

Gwelliant 52: O blaid: 20, Yn erbyn: 32, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 4 (Suzy Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Mae yna wrthwynebiad, felly, i dderbyn gwelliant 4. Pleidlais ar welliant 4. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 29 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 4 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 4: O blaid: 25, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 41 (Darren Millar).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 41? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, ac felly cynhaliwn ni bleidlais ar welliant 41 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, ac mae 39 yn erbyn. Felly mae gwelliant 41 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 41: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 6: Mân welliannau a gwelliannau technegol (Gwelliannau 30, 32, 33)

Grŵp 6 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â mân welliannau a gwelliannau technegol. Gwelliant 30 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg i gyflwyno’r gwelliant hwnnw ac i siarad i'r gwelliannau eraill.

Cynigiwyd gwelliant 30 (Kirsty Williams).

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae gwelliannau 30 a 32 yn fân newidiadau technegol i ddiweddaru'r Bil. Rwyf wedi cyflwyno gwelliant 33 i ddiwygio adran 68 y Bil. Fel y'i drafftiwyd, nid yw'r Bil yn caniatáu i reoliadau addasu darpariaethau'r Bil wrth eu cymhwyso i blant a phobl ifanc a gedwir yn y ddalfa. O ystyried eu hamgylchiadau, gallai rhai addasiadau fod yn angenrheidiol. Bydd y mân welliant hwn yn darparu'r hyblygrwydd priodol hwnnw. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Senedd dderbyn gwelliannau 30, 32 a 33. Diolch.

Does gyda fi ddim siaradwyr eraill. Dwi'n cymryd nad yw'r Gweinidog ddim eisiau ymateb i'r ddadl. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 30? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly dwi'n galw am bleidlais ar welliant 30. Agor y bleidlais. O blaid 48, pedwar yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae gwelliant 30 wedi'i gymeradwyo.

18:50

Gwelliant 30: O blaid: 48, Yn erbyn: 1, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 45 (Siân Gwenllian).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 45? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 45, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, dau yn ymatal, 33 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 45 wedi'i wrthod.

Gwelliant 45: O blaid: 19, Yn erbyn: 33, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 53 (Llyr Gruffydd).

Oes gwrthwynebiad i welliant 53? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 53, yn enw Llyr Gruffydd. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, naw yn ymatal, 32 yn erbyn, felly mae gwelliant 53 wedi'i wrthod.

Gwelliant 53: O blaid: 13, Yn erbyn: 32, Ymatal: 9

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 46 (Siân Gwenllian).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 46? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 46, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, dau yn ymatal, 32 yn erbyn, felly mae gwelliant 46 wedi'i wrthod.

Gwelliant 46: O blaid: 20, Yn erbyn: 32, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 7: Gweithredu a chyngor (Gwelliannau 5, 7, 11, 12)

Grŵp 7 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â gweithredu a chyngor. Gwelliant 5 yw'r prif welliant y tro yma. Dwi'n galw ar Suzy Davies i gyflwyno'r gwelliant hwnnw, ac i siarad i'r grŵp. Suzy Davies.

Cynigiwyd gwelliant 5 (Suzy Davies).

Diolch, Llywydd. Cynigiaf welliant 5. Gweinidog, bydd pwyslais y gwelliannau hyn yn gyfarwydd i chi o Gyfnod 2, ond rydym wedi eu haddasu ychydig i weld a allwn wneud cynnydd yn y fan yma. Mae gwelliannau 5 a 7 i'w darllen gyda'i gilydd, ac yn caniatáu i ysgolion allu gohirio gweithredu'r cwricwlwm am hyd at flwyddyn, ar yr amod—ac mae'n amod mawr—nad oes unrhyw ddisgybl dan anfantais oherwydd y penderfyniad. Yn y bôn, bydd yn rhaid i ysgolion wneud iawn am yr amser coll hwnnw. Nid yw'r gwelliannau hyn yn ceisio gohirio gweithredu'r cwricwlwm fel y cyfryw, a dylai'r ysgolion hynny sy'n gallu gwneud hyn fwrw ymlaen ag ef, ond mae'r gwelliant ar gyfer ysgolion na fyddant yn gallu gwneud hynny. Rwyf yn ymwybodol o'ch pryder y gallai rhai arweinyddion ysgolion weld hyn fel caniatâd i arafu, ac, a dweud y gwir, credaf fod gennym rai penaethiaid sydd mor agos at chwythu'u plwc y byddan nhw o bosibl angen yr amser ychwanegol hwnnw.

Er i chi gytuno yng Nghyfnod 2 fy mod wedi nodi, ac rwy'n dyfynnu yn y fan yma 'problem wirioneddol', eich ateb oedd mwy o gefnogaeth yn hytrach nag oedi byr i'r rhai a allai fod ei angen. Felly, nid yw wedi bod yn syndod bod y galw am hyfforddiant wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf. Ond yr un peth na all ymrwymiad o fwy o gymorth ei wneud yw creu amser. Mae'r tarfu oherwydd y pandemig wedi ysgogi athrawon i feddwl am bethau mewn ffordd wahanol a bydd llawer wedi galw ar syniadau yn y cwricwlwm newydd i gyflymu cynnydd ar eu sgiliau newydd eu hunain—cymhwysedd digidol a dealltwriaeth o les yw'r rhai amlwg—a bydd eich cynllun gweithredu hefyd yn rhoi rhywfaint o arweiniad newydd. Ond y gwir amdani yw y bydd athrawon yn wynebu 'recriwtio, adfer a chodi safonau' am y dyfodol y gellir ei ragweld. Bydd rhai ysgolion a fydd â niferoedd uchel o'r plant yr effeithir arnynt fwyaf, a bydd angen amser arnyn nhw, nid cymorth yn unig. Mae gormod o'r pryderon hynny a leisiwyd gan athrawon nad oedden nhw yn yr ysgolion cynllun arbrofol, os mynnwch chi, yn dal i fod yno.

Mae gwelliant 12 yn welliant treiddgar syml sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r cwricwlwm. Yng Nghyfnod 2, Gweinidog, fe wnaethoch gadarnhau y bydd adolygiadau rheolaidd. Felly, mae'r gwelliant hwn yma fel cyfle ar gyfer dau beth, mewn gwirionedd: yn gyntaf, fel y gallwch roi rhywfaint o fanylion i ni neu roi sicrwydd i ni sut yr adroddir ar adolygiadau, ac yna, yn bwysig i ni—codwyd hyn yn y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—sut y gallai Aelodau ddylanwadu ar y cwestiynau gwerthuso. Nid yw adroddiadau ar berfformiad y Llywodraeth o fawr o ddefnydd i ni os nad ydyn nhw yn ateb y cwestiynau y mae Aelodau yn ei gredu sydd bwysicaf i etholwyr, ac felly byddai gennyf ddiddordeb yn yr hyn y mae'r Gweinidog ac, mewn gwirionedd, Aelodau eraill yn ei feddwl ynglŷn â'r ffordd ymarferol ymlaen, yn bennaf oherwydd y gallai ddechrau gosod cynsail ar gyfer y ffordd y gellid cynnal adolygiadau mewn meysydd polisi eraill yn y dyfodol. Mae swyddogaeth Aelodau'r Senedd yn eithaf pwysig yn y fan yma, rwy'n credu. Rwy'n gwybod yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mwy neu lai fy mod i wedi eistedd ar ddatganiadau neu wedi gwrando ar ddadleuon ar adroddiadau pryd y meddyliais, 'Doedd dim angen i mi wybod y pethau hyn mewn gwirionedd, ond nid yw'r hyn yr oeddwn i eisiau ei wybod wedi ei gynnwys.' Felly, dyna'r cwbl y mae gwelliant 12 yn ymdrin ag ef. Diolch.

18:55

Diolch, Llywydd, a diolch i Suzy Davies. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliannau 5 a 7. Rwy'n ymwybodol iawn ac yn cydymdeimlo'n fawr â'r pwysau sydd ar ysgolion ar hyn o bryd a'r effaith enfawr y mae COVID wedi'i chael ar eu gweithrediadau a'u gallu i addysgu fel yr hoffen nhw ei wneud. Y blaenoriaethau i ni wrth symud ymlaen, yn rhan o'n hadferiad dysgu, yw hyrwyddo a galluogi addysgu a dysgu o ansawdd uchel, a mynd i'r afael â'r heriau i ddysgwyr difreintiedig a'r rhai mewn carfannau allweddol. Dylid dweud bod y rhain hefyd yn flaenoriaethau ar gyfer diwygio'r cwricwlwm, ac fel y nodais yn fy natganiad ysgrifenedig ochr yn ochr â chynllun gweithredu'r cwricwlwm ar 27 Ionawr, mae adfer dysgu yn lwybr tuag at ddiwygio'r cwricwlwm. Nid yw'n mynd â ni i ffwrdd oddi wrtho. Nid ydyn nhw yn ddewisiadau amgen, nid ydyn nhw yn naill neu'r llall, ac nid oes 'busnes fel arfer' yn awr, felly mae'n rhaid i ni symud ymlaen a manteisio ar y cyfle y mae'r cwricwlwm newydd yn ei roi i ni.

Fy mhryder ynglŷn â'r gwelliant hwn yw yr hyn y gallai arwain ato mewn gwirionedd yw mai'r ysgolion hynny sydd ymhellach ar ei hôl hi wrth symud ymlaen gyda diwygio'r cwricwlwm fydd y rhai sy'n gohirio gweithredu, ac nid wyf yn credu bod hynny yn iawn nac yn deg. Dyma'r ysgolion lle dylem ni ymdrechu i'w cynorthwyo, a'u galluogi i symud yn hyderus tuag at ddiwygio'r cwricwlwm. Rwy'n credu y byddai perygl i'r gwelliant hwn greu system ddwy haen, a fyddai'n ddryslyd i ysgolion, rhieni a dysgwyr ac â'r perygl o greu annhegwch rhwng ysgolion a dysgwyr. Yr ateb, rwyf i'n wirioneddol gredu, yw sicrhau bod ysgolion yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i weithredu'r cwricwlwm. Rwyf i wedi nodi hyn yng nghynllun gweithredu'r cwricwlwm, a fydd yn cael ei adolygu'n barhaus. Mae cynllun ar adferiad hefyd yn cael ei ddatblygu i nodi'r cymorth i ysgolion y byddwn ni'n ei roi ar waith wrth i ni symud ymlaen i gam nesaf y pandemig hwn. Rwyf felly yn annog Aelodau i wrthod gwelliannau 5 a 7.

O ran gwelliant 12, unwaith eto, hoffwn dynnu sylw at y ffaith fod cynllun gweithredu'r cwricwlwm yn nodi'n glir ein meysydd gwaith blaenoriaeth ar gyfer gwireddu'r cwricwlwm. Mae hefyd, yn unol â'r asesiad o effaith rheoleiddiol, yn nodi ein bwriadau o ran gwerthuso a deall cynnydd. Mae ein cynllun gweithredu'r cwricwlwm eisoes yn ymrwymo i adroddiadau blynyddol gan Lywodraeth Cymru ar gynnydd gweithredu ac effeithiau ehangach ein diwygio ar ein nodau llesiant fel cenedl. Hynny yw, bydd yn canolbwyntio ar y gwahaniaeth y mae ein diwygiadau'n ei wneud i ddysgwyr a'n nod y dylent ymgorffori'r pedwar diben ac, fel cenedl, y dylem sicrhau rhagoriaeth mewn addysg a chau'r bwlch cyrhaeddiad.

Ochr yn ochr â hyn, wrth gwrs, bydd gwaith ein partneriaid, y gwaith a wnânt gydag ysgolion a lleoliadau i ddatblygu diwygio'r cwricwlwm, gan gynnwys yn arbennig swyddogaeth Estyn mewn arolygu a'r consortia rhanbarthol mewn helpu i ddatblygu capasiti a gallu yn y system ysgolion. Bydd y broses adrodd flynyddol yn rhoi cyfle i drafod ar lawr y Senedd, a bydd yn galluogi Aelodau i rannu eu blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a darparu adborth ar faterion allweddol neu unrhyw bryderon.

Felly, gofynnaf, felly, i Aelodau wrthod gwelliant 12, er fy mod i'n cytuno â chi, Suzy, y byddai'n ddiddorol archwilio—yn anffodus, nid yr un ohonom ni fydd yn gwneud yr archwilio hwnnw—sut y gall y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn arbennig fynegi eu barn ar agweddau penodol ar adrodd ar weithredu yr hoffen nhw weld adborth arnynt, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth cwbl ddilys y dylai'r pwyllgor gael barn arno, er fy mod yn amau y bydd y sawl a fydd yn ymgymryd â'r swydd hon ar fy ôl i yn gresynu'r ffaith fy mod wedi rhoi hyn ar y cofnod o gwbl. Ond dyna fy rhodd arbennig iddyn nhw wrth adael, oherwydd rwy'n credu bod swyddogaeth ddilys i'r Senedd allu llunio rhai o'r gofynion adrodd hyn. Diolch yn fawr iawn.

19:00

Diolch yn fawr. Diolch, Gweinidog, am ddod yn ôl at rai o'r pwyntiau hyn. Rwy'n sylweddoli na fydd eich safbwynt wedi newid yn sylweddol o Gyfnod 2 ar y cyfleoedd i nifer fach o ysgolion, efallai, i ohirio gweithredu'r cwricwlwm, ac rwy'n deall y dadleuon yr ydych chi'n eu cyflwyno ynghylch pam, efallai, o ran y gwelliant hwn, na fyddech chi'n barod i'w gefnogi. Yr hyn nad wyf i'n glir yn ei gylch, mae'n debyg, yw'r hyn sy'n digwydd ar ddiwrnod 1 gweithredu'r cwricwlwm. Mae rhai ysgolion, er gwaethaf unrhyw gymorth y maen nhw wedi ei gael, mor bell ar ei hôl hi fel eu bod mewn gwirionedd yn torri amodau'r Bil hwn. Rwy'n gobeithio mai'r ateb diffuant i hynny fydd, 'Wel, yn amlwg, byddan nhw ar flaen y rhes i gael rhywfaint o ddal i fyny cyflym eu hunain', os y caniateir i chi ddefnyddio'r geiriau 'dal i fyny' yng nghyd-destun addysg y dyddiau hyn. Ond mae'n ystyriaeth, ac rwy'n siŵr y bydd ein holynwyr, yn ymdrin â hynny fel y dywedir, os bydd y broblem honno'n codi.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich sylwadau terfynol ar hyn. Rwy'n deall ei bod yn eithaf anodd ceisio cyflwyno rhywbeth penodol yn ystod Bil fel hwn, ond mae rhan y pwyllgor yn fwy nag y gallai fod. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle, y Senedd yw'r corff sy'n cynrychioli etholwyr, ac mae angen i ni allu gofyn y cwestiynau y maen nhw'n disgwyl atebion iddyn nhw. Felly, gobeithio y bydd eich olynydd yn edrych ar hyn yn yr un modd ag yr ydych chi wedi ei wneud. Rwy'n eithaf sicr y bydd fy olynydd i wrth ei fodd eich bod chi wedi rhoi hyn ar y cofnod, ac os ydyn nhw'n digwydd bod yn Llywodraethu, gorau oll. Diolch. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 5 yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais.

Caewch y bleidlais.

O blaid 14, tri yn ymatal, 37 yn erbyn. Gwelliant 5 wedi ei wrthod.

19:05

Gwelliant 5: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 6 (Suzy Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 6 yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Gwelliant 6 wedi ei wrthod.

Gwelliant 6: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 7 (Suzy Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant Suzy Davies, gwelliant 7. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, tri yn ymatal, 37 yn erbyn. Gwelliant 7 wedi ei wrthod.

Gwelliant 7: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 8 (Suzy Davies). 

Oes gwrthwynebiad i welliant 8 i gael ei dderbyn? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Pleidlais ar welliant 8 yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 8 wedi ei wrthod.

Gwelliant 8: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 9 (Suzy Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 9 yn enw Suzy Davies. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Gwelliant 9 wedi ei wrthod.

Gwelliant 9: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 10 (Suzy Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 10 yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 10: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 54 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 54? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 54. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, naw yn ymatal, 31 yn erbyn, felly mae gwelliant 54 wedi'i wrthod.

19:10

Gwelliant 54: O blaid: 14, Yn erbyn: 31, Ymatal: 9

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 42 (Darren Millar).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 42? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Pleidlais, felly, ar welliant 42 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 39 yn erbyn, felly mae gwelliant 42 wedi'i wrthod.

Gwelliant 42: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 35 (Gareth Bennett, gyda chefnogaeth Mark Reckless).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 35? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 35 yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid tri, ymatal tri, 48 yn erbyn. Mae gwelliant 35 wedi'i wrthod.

Gwelliant 35: O blaid: 3, Yn erbyn: 48, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 36 (Gareth Bennett, gyda chefnogaeth Mark Reckless).

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 36 yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid tri, yn ymatal tri, yn erbyn 48. Mae gwelliant 36 wedi'i wrthod.

Gwelliant 36: O blaid: 3, Yn erbyn: 48, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Diolch. Felly, dyw gwelliant 37 ddim yn cael ei symud a dyw gwelliant 39 yn enw Gareth Bennett ddim chwaith yn cael ei symud. 

Ni chynigiwyd gwelliannau 37 a 39 (Gareth Bennett, gyda chefnogaeth Mark Reckless).

Grŵp 8: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (Gwelliannau 13, 23, 14, 24, 25, 26, 15, 27, 16, 28, 29, 17, 18, 19)

Iawn. Felly, mae hynny'n dod â ni at grŵp 8, ac mae'r grŵp yma o welliannau'n ymwneud â chrefydd, gwerthoedd a moeseg. Gwelliant 13 yw'r prif welliant yn y grŵp, ac dwi'n galw ar Suzy Davies i gynnig y prif welliant yma ac i siarad i'r gwelliannau yn y grŵp. Suzy Davies. 

Cynigiwyd gwelliant 13 (Suzy Davies).

Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 13 ac yn gofyn i'r Aelodau fod yn amyneddgar â mi ar hyn. Rwy'n gwerthfawrogi ei bod hi'n mynd yn hwyr. 

Unwaith eto, mae'r grŵp hwn yn cynnwys gwelliannau sy'n codi o faterion cydwybod, a bydd gan y Ceidwadwyr Cymreig bleidlais rydd ar y rheini. Fodd bynnag, rydym ni'n cytuno â'r honiad, pe byddai safbwynt y Llywodraeth yn cario'r dydd, a bod ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn dal i ganfod eu hunain yn y sefyllfa o orfod darparu dau faes llafur os gofynnir iddyn nhw wneud hynny, yna mae'n rhaid i'r wladwriaeth dalu cost y gwaith ychwanegol hwnnw. Fel arall, rydych chi'n gwahaniaethu yn erbyn rhai ysgolion a gynhelir o'u cymharu ag eraill, ond byddaf i'n gadael i Darren Millar siarad yn fwy manwl ynghylch y gwelliannau hynny. 

Gan symud ymlaen at welliannau 13, 14 a 15, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog unwaith eto am ei hystyriaeth fanwl o ddadleuon a gafodd eu gwneud cyn Cyfnod 2, ac am iddi gyflwyno wedyn welliannau a olygai fod gan bob ysgol a gynhelir, boed hynny o fath crefyddol ai peidio, yr un berthynas â'r maes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg y cytunwyd arno, sef bod yn rhaid iddyn nhw i gyd roi sylw i'r maes llafur hwnnw? Yn wreiddiol, roedd torri a gludo geiriau presennol o ddeddfwriaeth arall wedi gosod mwy o orfodaeth i ufuddhau i'r maes llafur cytunedig ar ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir nag ar eraill, ac roedd hynny'n gwahaniaethu. 

Fy mhryder nesaf, nad yw wedi'i leddfu, fodd bynnag, oedd bod gwahaniaethu yn erbyn yr ysgolion hynny yn parhau drwy osod dyletswydd arnyn nhw i ddarparu dau faes llafur os gofynnid am hynny. Gan fod yn rhaid i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir roi sylw i'r maes llafur cytunedig wrth benderfynu ar eu maes llafur sy'n anochel yn fwy enwadol, mae hynny wedi bod yn gam tuag at osgoi sefyllfa lle y gallai cais am faes llafur ar wahân gael ei wneud, ac rwyf i wedi derbyn y ddadl sydd yn aml yn cael ei gwneud gan ysgolion Catholig yn arbennig nad ydyn nhw erioed wedi cael problem o ran darparu maes llafur addysg grefyddol eang a chytbwys er gwaethaf cymeriad crefyddol eu hysgol, ac maen nhw'n ffyddiog y byddan nhw'n dal i allu gwneud hynny, oherwydd bydd y maes llafur cytunedig y mae'n rhaid iddyn nhw roi sylw iddo, o dan ddiwygiadau blaenorol y Gweinidog, wedi'i gytuno yn lleol gan grŵp o bobl sy'n dal i gael eu dominyddu gan y rhai â chred ac egwyddor dduwlywodraethol. Ac ni ddylai'r ffaith bod pobl eraill yn y byd sydd â chredoau cryf yn peri unrhyw syndod i ddisgyblion y dyddiau hyn, a dylen nhw wybod amdanyn nhw. A gaf i ddweud ar y pwynt hwn fy mod i wedi cael sicrwydd yn y ddadl Cyfnod 2 ein bod ni'n sôn am bobl yn ymarferol yn cadw at gredo, os mynnwch chi, yn hytrach na'r boblogaeth anghrefyddol ddifater oddefol sydd ohoni?

Ond nid wyf i'n credu bod fy ffydd bersonol mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn gallu gwneud penderfyniadau synhwyrol yn ddigon. Yr hyn nad yw 'rhoi sylw' yn ei wneud yw rhoi unrhyw arweiniad i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ar sut i gydbwyso'r ddyletswydd honno i roi sylw i'w perthynas â'u gweithredoedd a'u hegwyddorion eu hunain. Ac mae angen i ni gofio ei bod yn anodd dadlau eich bod chi wedi ystyried y maes llafur cytunedig os gallwch chi ddal i guddio y tu ôl i'ch gweithredoedd a'ch egwyddorion i'w anwybyddu i bob pwrpas, ac nid wyf i'n credu mai dyna y mae ysgolion o gymeriad crefyddol eisiau ei wneud. Y rheswm na fyddan nhw eisiau ei wneud yw nad ydyn nhw'n mynd i fod eisiau i blentyn ddod ymlaen a honni nad oes sylw wedi'i roi i'r maes llafur cytunedig ac felly yn gofyn am faes llafur ar wahân. Felly, mae er budd ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir i ddod o hyd i ffordd o osgoi hynny. 

Fy nghynnig i yw sicrhau bod ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn defnyddio'r un egwyddor o 'roi sylw' i'r maes llafur cytunedig a'u gweithredoedd a'u hegwyddorion, ac mae hynny'n dileu'r demtasiwn a'r cyfle i gwyno bod arweinwyr ysgolion yn trin y ddau bwysau hyn ar eu proses o wneud penderfyniadau mewn ffordd sy'n llai na chyfartal. Nid yw'n faich ychwanegol ar yr ysgolion hyn, oherwydd eu bod yn ystyried eu gweithredoedd a'u hegwyddorion beth bynnag wrth benderfynu ar gwricwlwm addysg grefyddol yr ysgol. Felly, ynghyd â gwelliant 16, mae'r gwelliannau hyn yn helpu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir i lywio'r newidiadau yn y rhan hon o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd mewn ffordd sydd â llai o risg.

Nawr, rwy'n deall bod y gweithredoedd a'r egwyddorion yn hanfodol i ethos ysgol o gymeriad crefyddol, neu fel arall ni fydden nhw gennym ni. Nid yw hyn yn ymwneud â lleihau hyn; mae'n ymwneud â dileu'r cyfle i hepgor rhannau o addysg plentyn y byddai yn eu cael yn rhywle arall, mae'n ymwneud â pheidio ag amddifadu plentyn o wybodaeth am y byd, a pheidio â rhoi taw ar gwestiynau, neu, os yw ysgol yn ceisio gwneud hynny, i'w rhoi mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddyn nhw, yn blwmp ac yn blaen, ddangos eu gwaith ynghylch sut y maen nhw wedi dod i'w penderfyniad ar yr hyn y byddan nhw'n ei addysgu. Ac ni allaf weld y byddai'r ffordd hon ymlaen yn cyfyngu ar addysgu enwadol. Bydd plant mewn ysgol grefyddol yn naturiol yn disgwyl hynny, ond mae'r gwelliannau hyn yn golygu na all addysgu enwadol fynd mor bell â rhwystro gwybodaeth neu ymholiad plant, oherwydd ni allai hynny fod yn ganlyniad rhesymegol i ddyletswydd 'rhoi sylw' wedi'i arfer yn gywir o ran y maes llafur cytunedig. Gofynnais i i chi geisio aros gyda hyn—mae'n gymhleth. 

Er mwyn helpu ysgolion i wybod sut i ddefnyddio'r ddyletswydd 'rhoi sylw' hon, mae gennym ni welliant 16, ac mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth gyflwyno rheoliadau sy'n nodi'r gofynion tystiolaethol lleiaf sydd eu hangen i ddangos bod y ddyletswydd i roi sylw wedi'i harfer yn briodol. A gallai hyn fod yr un mor hawdd â chanllawiau statudol, ond hoffwn i gadw at reoliadau at ddibenion y ddadl. Mae hyn yn angenrheidiol gan fod gwelliant 18 yn rhoi'r hawl i rieni, a'r plant eu hunain, wrth gwrs, herio eu hysgol o gymeriad crefyddol ai peidio ar y sail nad ydyn nhw wedi cael maes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg priodol oherwydd nad yw'r ysgol honno, pa fath bynnag o ysgol ydyw hi, wedi arfer eu dyletswydd 'rhoi sylw' yn iawn. Felly, yn ogystal â sicrhau nad yw disgyblion mewn ysgolion anghrefyddol yn cael eu tynnu i ganol nonsens gwallgof gan nad yw eu hysgol wedi ystyried y maes llafur cytunedig, mae'n ffordd well ymlaen i ysgolion o gymeriad crefyddol hefyd. Mae'n llawer gwell cael mecanwaith sy'n addasu eu maes llafur na darparu ar gyfer sefyllfa lle mae gan blentyn hawl i fynnu un newydd ar wahân. 

Nawr, Llywydd, nid wyf i'n disgwyl i'r Llywodraeth gytuno â hyn, oherwydd maen nhw wedi treulio amser diddiwedd yn ceisio cynnig ateb i'r un broblem ag sydd gennyf i—cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg cytbwys ym mhob ysgol gan barchu ethos craidd ysgol o gymeriad crefyddol yn llawn. Ond yr hyn yr hoffwn i ei weld, Gweinidog, yw deall a ydych chi wedi ystyried y llwybr yr wyf i wedi'i gynnig ac, os felly, pam yr ydych chi wedi'i ddiystyru o blaid dewis mwy, a dweud y gwir, cosbol a beichus.

Rwy'n credu y gallai fod yn werth nodi hefyd fod fy ngwelliannau i yma wedi dod i sylw'r Athro Sandberg o ysgol y gyfraith a gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd. Nid wyf i erioed wedi cyfarfod ag ef, felly rwy'n hynod ddiolchgar iddo am sylwi arnyn nhw, a'r rheswm ynghylch hynny yw ei fod yn gyfreithiwr, ac felly mae'n effro i effeithiau ymarferol deddfwriaeth a'i gwerth i ymarferwyr sy'n gorfod ei chymhwyso wrth roi cyngor neu ddatrys anghydfodau. Yn ei ddarn ar gyfer Law & Religion UK, mae'n dweud bod fy ngwelliannau'n werth eu hystyried, gan eu bod yn sicrhau bod pob disgybl yn cael:

cyfle i fanteisio ar faes llafur sy'n cael ei lywio gan grefydd, gwerthoedd a moeseg nad ydyn nhw'n enwadol

ond nid i eithrio crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol mewn ysgolion o gymeriad crefyddol, lle mae crefydd, gwerthoedd a moeseg yn cyfateb i'r ddau. I bob pwrpas, mae'n dweud eu bod yn cysoni'r cylch, ac mae'n argymell eich bod chi'n cefnogi'r gwelliannau hyn, ac felly, yn amlwg, yr wyf fi. Diolch yn fawr iawn.

19:20

Rydyn ni'n cytuno fel grŵp efo'r Llywodraeth fod rhaid i grefydd, gwerthoedd a moeseg fod ar wyneb y Bil fel elfen orfodol er mwyn helpu creu cymdeithas gynhwysol sy'n parchu pob barn a diwylliant a chrefydd. Fyddwn ni, felly, ddim yn cefnogi gwelliannau Darren Millar, a fyddai'n tanseilio hynny, ac ni fyddwn ni chwaith ddim yn cefnogi gwelliannau grŵp 8 Suzy Davies. Mae hon yn ddadl gymhleth, fel rydyn ni wedi clywed, ond rydyn ni'n ymwybodol iawn fod yna lawer o drafod wedi digwydd ynghylch hyn, a dwi'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi ceisio cael consensws ar hyn yn barod ac, felly, yn cefnogi'r safbwynt maen nhw'n ei gymryd heddiw.

Fe ddaru i welliannau Suzy ysgogi trafodaeth ddwys o fewn ein grŵp ni, ac mi fuon ni'n ystyried materion dwfn ac ysbrydol am le ffydd ym mywydau pobl Cymru heddiw. Mae Cymru'n wlad gynhwysol sy'n dathlu amrywiaeth. Mae arfogi ein pobl ifanc ni drwy addysg i ddeall yr amrywiaethau, i ddeall yn llawn natur y gwahanol grefyddau a diwylliannau sy'n rhoi cyfoeth anhygoel i'n gwlad ni, yn gwbl allweddol, ac yn y ffordd hynny fedrwn ni wreiddio gwerthoedd sy'n parchu amrywiaeth crefyddol a diwylliannol yn y Gymru fodern. Diolch, Llywydd.

Rwy'n cynnig gwelliannau 23 i 29, a gwelliant 19, y mae pob un ohonyn nhw wedi'u cyflwyno yn fy enw i. Mae'r Bil ar ei ffurf bresennol yn wahaniaethol, yn anffodus, gan ei fod yn gosod beichiau ar ysgolion â chymeriad crefyddol ledled Cymru nad ydyn nhw'n berthnasol i'r ysgolion hynny heb gymeriad crefyddol. Ar hyn o bryd, mae ysgolion ledled Cymru naill ai'n darparu cwricwlwm addysg grefyddol cytunedig  gan y pwyllgor cynghori sefydlog lleol ar addysg grefyddol, neu CYSAGau, fel y mae'n cael ei alw, hefyd—caiff ei alw'n 'gwricwlwm y cytunwyd arno'n lleol'—neu eu bod yn darparu cwricwlwm addysg grefyddol wedi'i ddarparu gan yr enwad y mae'r ysgol ffydd yn perthyn iddo. Mae'r trefniadau hyn wedi gwasanaethu ysgolion yn dda ledled Cymru ers amser maith, ac ni fu unrhyw alw mawr am newid, ond mae'r Bil yn cynnig, yn y dyfodol, fod yn rhaid i ysgolion ffydd, os bydd gofyn iddyn nhw wneud hynny gan un rhiant, ddarparu'r cwricwlwm sydd wedi'i gytuno arno'n lleol ar gyfer y pwnc newydd crefydd, gwerthoedd a moeseg ochr yn ochr â'r cwricwlwm y mae eu henwad yn ei ddarparu. Ni fydd cyflwyno cwricwlwm deuol yn fater syml. Yn wir, bydd yn her sylweddol i ysgolion ffydd, felly byddai'n well gennyf i pe na bai gofyniad o'r fath o gwbl, yn enwedig o ystyried y ffaith bod rhieni'n gwybod cymeriad crefyddol ysgol pan fyddan nhw'n dewis anfon eu plentyn i'r ysgol honno.

Nawr, os caiff fy ngwelliannau 23, 24 a 25 eu cytuno, byddan nhw'n sicrhau, os yw'n mynd i fod yn ofynnol i ysgolion ffydd gyflwyno cwricwlwm deuol, yna ni fydd costau darparu'r ail gwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg hwnnw'n disgyn naill ai ar yr ysgol unigol na'r awdurdod addysg lleol y mae wedi'i lleoli ynddo. Llywydd, os bydd rhieni mewn ysgolion ffydd yn gallu gofyn am y cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg sydd wedi'i gytuno arno'n lleol ar gyfer eu plant—hynny yw, y cwricwlwm sydd wedi'i bennu gan y pwyllgor cynghori sefydlog—yna mae'n deg y dylai rhieni mewn ysgolion nad ydyn nhw'n rhai ffydd, yr ysgolion hynny nad oes ganddyn nhw gymeriad crefyddol, allu gofyn bod cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol ar gael i'w plant. Byddai fy ngwelliannau 26, 27, 28 a 29 yn cyflawni hyn. Bydden nhw'n mynd i'r afael â'r gwahaniaethu rhwng ysgolion ffydd ac ysgolion eraill yng Nghymru drwy ddarparu chwarae teg er mwyn rhoi'r un hawliau i rieni â phlant yn y ddau fath o ysgol ofyn am gwricwlwm o'u dewis. Hefyd, bydden nhw'n sicrhau na fydd y gost o sicrhau bod cwricwlwm ychwanegol ar gael i ddysgwyr yn disgyn ar yr ysgolion na'r awdurdod addysg lleol, boed yn ysgolion ffydd neu rai nad ydyn nhw'n ysgolion ffydd, o ganlyniad i rieni'n arfer y dewis hwnnw.

Yn olaf, os gaf i siarad yn fyr ar welliant 19, fel sy'n wir am addysg cydberthynas a rhywioldeb, bydd Bil Llywodraeth Cymru yn dileu'r hawliau y mae rhieni'n eu mwynhau ar hyn o bryd i allu tynnu eu plant allan o wersi addysg grefyddol. Nawr, mae'r hawliau rhieni hyn yn bwysig iawn. Fel y dywedais i yn y ddadl ar y gwelliannau addysg cydberthynas a rhywioldeb yn gynharach, maen nhw'n cydnabod mai rhieni, ac nid y wladwriaeth, yw prif addysgwyr eu plant, ac maen nhw hefyd yn sicrhau y bydd deddfwriaeth addysg yng Nghymru yn gydnaws ac yn cydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Addysg 1996, y cyfeiriais at y ddwy yn gynharach ac mae'r ddwy ohonyn nhw'n cydnabod hawliau rhieni i sicrhau bod addysgu'n cydymffurfio â daliadau gwleidyddol ac athronyddol y rhieni ac y dylai plant gael eu haddysgu yn unol â dymuniadau eu rhieni. Nawr, dywedodd y Gweinidog yn gynharach y prynhawn yma fod y ddeddfwriaeth, yn ei barn hi ac ym marn cyfreithwyr ei Llywodraeth, yn cydymffurfio â'r Ddeddf hawliau dynol, ac rwy'n tybio y bydd yn cymryd achos llys i benderfynu a yw hynny'n wir yn y dyfodol, ond ni chyfeiriodd hi yn gynharach y prynhawn yma at y gwrthdaro amlwg sydd gan y Bil ar hyn o bryd â Deddf Addysg 1996 o ran plant yn cael eu haddysgu yn unol â dymuniadau eu rhieni. Felly, byddwn i'n gobeithio y bydd hi'n gallu ymateb i'r pwynt penodol hwnnw yn y ddadl hon.

Nawr, fel y dywedais i'n gynharach, mae rhieni wedi mwynhau'r hawl ers tro byd i dynnu eu plant yn ôl o wersi addysg rhyw ac addysg grefyddol, ac felly nid yw'n syndod bod mwyafrif sylweddol o'r ymatebwyr i ddau ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a gafodd eu cynnal cyn y Bil hwn—. Yn y ddau ymgynghoriad hynny, roedd gwrthwynebiad llethol i ddileu hawl y rhieni i dynnu'n ôl o naill ai addysg cydberthynas a rhywioldeb neu grefydd, gwerthoedd a moeseg: roedd 88.7 y cant o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad 'Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol' eisiau cadw'r hawl i dynnu'n ôl. Ac roedd 60 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r ddogfen ymgynghori ar sicrhau'r cyfle i fanteisio ar y cwricwlwm llawn hefyd eisiau cadw hawl y rhieni i dynnu'n ôl, ac mae hynny er gwaethaf y ffaith nad oedd cwestiwn ar y pwnc penodol hwn yn yr ail ymgynghoriad. Rwy'n credu bod hynny'n dangos cryfder y teimlad. Os ydym ni'n sefydlu ymgynghoriadau, fel Llywodraeth neu sefydliad, yna dylem ni wrando ar y safbwyntiau sy'n cael eu mynegi.

Nawr, bydd y ddeddfwriaeth hon, os bydd yn mynd rhagddi heb ei diwygio, yn newid yn sylfaenol y cydbwysedd rhwng hawliau rhieni a hawliau'r wladwriaeth—rhywbeth nad oes gan yr un ohonom ni yn y Senedd hon yng Nghymru fandad i'w wneud. Ni chafodd ei grybwyll ym maniffesto neb yn etholiadau diwethaf y Senedd, a phan gaiff pobl eu holi ynghylch eu barn, fel y dywedais i yn gynharach, maen nhw'n dweud eu bod eisiau cadw'r hawliau hyn. Dyna pam mae fy ngwelliant 19, ynghyd â gwelliannau 20, 21 a 22 a drafodwyd gennym ni yn gynharach, yn ceisio sicrhau nad yw'r hawliau rhieni hyn yn cael eu herydu o ran addysg grefyddol neu addysg rhyw yn y dyfodol, ac felly rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliannau i yn y ddau grŵp.

19:25

Fel addysg Gydberthynas a Rhywioldeb, cynhyrchodd addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg lawer iawn o ohebiaeth gan rieni pryderus, yn enwedig gan y rhai y mae eu plant yn mynychu ysgolion ffydd. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu dymuniadau rhieni a oedd eisiau gallu tynnu eu plant allan o wersi a oedd yn mynd yn groes i'w crefydd, eu gwerthoedd a'u moeseg. Ac nid gwaith y wladwriaeth yw—nid gwaith y wladwriaeth yw pennu beth ddylai'r crefyddau hynny fod.

Fel Cristion, rwy'n falch o dreftadaeth Gristnogol ein cenedl. Ddydd Llun, buom ni'n dathlu Dydd Gŵyl Dewi, diwrnod cenedlaethol Cymru, sy'n nodi diwrnod gŵyl esgob o'r chweched ganrif. Mae Cristnogaeth yn rhan annatod o'n diwylliant a'n treftadaeth, ond nid yw hynny'n golygu y dylai pawb yng Nghymru fod yn Gristion. Traddodiad balch arall yn ein cenedl yw'r rhyddid i ddewis unrhyw grefydd neu, yn wir, dim un, a dyna pam mae ysgolion ffydd yn bodoli. Ni ddylai'r ysgolion ffydd hynny gael eu gorfodi i addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg seciwlar ac felly ni fyddaf i'n cefnogi gwelliant 13. Yn anffodus, ni all pob rhiant anfon ei blentyn i ysgol ffydd, a dyna pam yr oedd y cyfle i rieni ymwrthod â chrefydd, gwerthoedd a moeseg mor bwysig. Rhieni yw'r prif addysgwyr, a dylen nhw gael yr hawl i dynnu eu plant allan o wersi sydd yn groes i'w credoau diwylliannol a chrefyddol, ac felly byddaf i'n cefnogi gwelliannau Darren Millar. Fodd bynnag, rwy'n gwybod y bydd y ffordd y mae'r cwricwlwm newydd hwn wedi'i gynllunio yn ei gwneud yn anodd cynnal y cyfle i optio allan, a dyna pam, yn anffodus, na fydd gennyf i ddewis ond pleidleisio yn erbyn y Bil, hyd yn oed os bydd y gwelliannau hyn, drwy ryw wyrth, yn cael eu derbyn. Diolch. Diolch yn fawr.

19:30

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac a gaf i, yn gyntaf oll, ddiolch i Siân Gwenllian am ei chydnabyddiaeth o'r gwaith aruthrol sydd wedi mynd i mewn i'r rhan hon o'r cwricwlwm, ac am iddi hi a Phlaid Cymru ddeall pam y mae'r gwersi hyn mor angenrheidiol os ydym ni am gyflawni dibenion ein cwricwlwm? Mae'n gwbl briodol bod plant yn dysgu am fyd lle bydd gan bobl amrywiaeth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol ac y byddan nhw, o bosibl, yn byw eu bywydau drwy lynu wrth gyfres o werthoedd neu foesau. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gan bob un o'n plant fynediad at addysg o'r math hwn.

A gaf i ddechrau gyda gwelliannau 13 i 17? Byddai'r rhain yn diwygio'r Bil fel y byddai'n rhaid cynllunio crefydd, gwerthoedd a moeseg mewn ysgol o gymeriad crefyddol gan roi sylw i weithredoedd ymddiriedolaeth yr ysgol, yn hytrach na bod yn unol â hwy, a byddai hyn o bosibl yn galluogi ysgolion o gymeriad crefyddol i ddarparu un cwrs astudio ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n rhoi sylw i faes llafur cytunedig a gweithredoedd ymddiriedolaeth yr ysgol. Wrth ddileu'r gofyniad ar yr ysgolion hyn i ddylunio crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol sy'n cyd-fynd â'u gweithredoedd ymddiriedolaeth, fodd bynnag, mae'r gwelliant yn creu'r posibilrwydd y bydd ysgolion o'r fath yn torri eu gweithredoedd ymddiriedolaeth. Mewn geiriau eraill, efallai y bydd tensiwn rhwng yr hyn y mae gweithred ymddiriedolaeth yn gofyn amdano a'r hyn y gallai fod y maes llafur cytunedig yn gofyn amdano. Gellir datrys y tensiwn hwnnw os caiff dau faes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg eu cynllunio ar wahân ac yn unol â gofynion presennol y Bil, ond ni ellir datrys y tensiynau o reidrwydd o fewn maes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg unigol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gweld y gweithredoedd ymddiriedolaethau ysgolion hynny ac felly ni allwn fod yn sicr beth sy'n ofynnol arnynt. O'r herwydd, ni allwn ddeddfu i'w gwneud yn ofynnol i ysgolion sydd â chymeriad crefyddol baratoi un maes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n ystyried maes llafur cytunedig a gweithredoedd ymddiriedolaeth yr ysgol, gan na allwn fod yn sicr y byddai'n bosibl i'r ysgolion gydymffurfio â'r math hwn o ofyniad. Byddai'r gwelliant hwn yn cyflwyno disgresiwn nad oes gan ysgolion o'r fath o dan y ddeddfwriaeth bresennol, nac o dan y Bil fel y'i drafftiwyd, i wyro oddi wrth eu gweithredoedd ymddiriedolaeth wrth addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg. Gallai hynny olygu bod ysgolion o'r fath yn darparu crefydd, gwerthoedd a moeseg yn groes i'w gweithredoedd ymddiriedolaeth, ac nid yw hyn yn rhywbeth y byddwn yn dymuno ei hwyluso. Cyflwynwyd gwelliannau'r Llywodraeth i Atodlen 1 y Bil yng Nghyfnod 2 ar ôl trafodaethau hir iawn gyda'n partneriaid yn yr Eglwys yng Nghymru a'r Gwasanaeth Addysg Gatholig i fynd i'r afael â'u pryderon yn y maes hwn, ac mae'r partneriaid hyn wedi hysbysu Llywodraeth Cymru bod y gwelliannau hyn yn mynd i'r afael â'u prif bryderon. Felly, byddwn yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y gwelliannau penodol hynny.

Gan symud at welliannau 23, 25, 27 a 29, nod y rhain yw sicrhau nad oes rhaid i ysgol neu awdurdod lleol dalu'r costau ar gyfer darparu crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol mewn ysgolion ffydd gwirfoddol a reolir pan ofynnir am hynny gan rieni, na maes llafur cytunedig crefydd, gwerthoedd a moeseg mewn ysgolion ffydd gwirfoddol a gynorthwyir pan ofynnir am hynny gan y rhieni. Fodd bynnag, nid ydynt yn esbonio sut y dylid talu'r costau hyn. Nid wyf yn cytuno y dylai costau'r math hwn o ddarpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg gael eu trin yn wahanol i gostau mathau eraill o ddarpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg.

Mae'r Bil yn parchu swyddogaeth ysgolion sydd â chymeriad crefyddol mewn addysg wedi'i mandadu gan y wladwriaeth, ac yn sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu crefydd, gwerthoedd a moeseg yn unol â'u gweithredoedd ymddiriedolaeth neu ddaliadau eu ffydd. Nid oes rheidrwydd ar y wladwriaeth i ddarparu crefydd, gwerthoedd a moeseg seiliedig ar ffydd yn unol â dymuniadau rhieni yng nghyfraith y DU nac yn y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Mater i ysgolion o gymeriad crefyddol yw hwn.

Fodd bynnag, mae'r Bil yn sicrhau y bydd gan bob dysgwr fynediad at grefydd, gwerthoedd a moeseg amlblwyfol pan fo eisiau hynny, ac mae rhwymedigaeth ar y wladwriaeth i wneud hynny, a dyna sy'n ofynnol gan y gyfraith bresennol. Fel y dywedais, rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gwasanaeth Addysg Gatholig a'r Eglwys yng Nghymru ynghylch y ddau faes llafur wrth ddatblygu'r Bil, a chytunais yng Nghyfnod 2 y bydd y maes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg anenwadol y bydd angen i ysgolion o gymeriad crefyddol ei ddarparu erbyn hyn yn un sydd wedi'i gynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig, yn hytrach nag yn unol ag ef. Mae hyn yn caniatáu i ysgolion o gymeriad crefyddol gael mwy o hyblygrwydd wrth ddatblygu eu maes llafur. Mae hefyd yn rhoi dewis i ysgolion o gymeriad crefyddol weithio gydag ysgolion cyfagos i gyflwyno crefydd, gwerthoedd a moeseg anenwadol os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. 

Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at ddata a ddarparwyd imi gan y Gwasanaeth Addysg Gatholig, pryd y cawsom wybod mai dim ond un oedd nifer y disgyblion a dynnwyd yn flaenorol o addysg grefyddol enwadol yn 2020. Felly, dylai costau ychwanegol disgwyliedig y newid arfaethedig hwn fod yn fach iawn. Fodd bynnag, bydd fy swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa dros y blynyddoedd nesaf, gan weithio'n agos gyda'n partneriaid yn y Gwasanaeth Addysg Gatholig a'r Eglwys yng Nghymru. Fel y dywedais, mae'r ddau ohonyn nhw wedi bod yn glir eu bod yn fodlon ar y newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2 gan y Llywodraeth, ac maen nhw o'r farn mai'r rhain yw eu blaenoriaethau allweddol. Felly, rwyf yn gofyn i'r Senedd bleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn.

Gan symud nawr, at welliannau 19, 24, 26 a 28, mae crefydd, gwerthoedd a moeseg, rwy'n cytuno, yn codi materion cymhleth, y gall ysgol chwarae rhan hanfodol wrth helpu dysgwyr i'w deall, ac mae'r Bil yn sicrhau y bydd gan bob dysgwr fynediad at grefydd, gwerthoedd a moeseg amlblwyfol, a fydd yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol. Nid oes hawl absoliwt i blentyn gael ei addysgu yn unol â chredoau crefyddol neu athronyddol y rhieni, naill ai yng nghyfraith y DU nac o dan y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Yn yr un modd, nid oes hawl i gael addysg wedi ei darparu gan y wladwriaeth yn ôl credoau crefyddol rhywun ei hun. Felly, er bod y wladwriaeth yn cydnabod bod lle i ysgolion crefyddol, ei rhwymedigaeth o dan yr hawliau a ddiogelir gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 yw rhoi'r cyfle i gael darpariaeth addysg amlblwyfol yn unig.

Nid yw'r Bil yn atal rhieni rhag trochi nac addysgu eu plant mewn unrhyw ffydd a ddewisant, naill ai gartref neu mewn man addoli, ond mater i'r rhieni yw ei drefnu ac nid mater i'r ysgol yw hynny. Wrth sicrhau bod gan bob dysgwr ym mhob ysgol yr hawl i gael mynediad i faes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg sydd wedi'i gynllunio gan ystyried maes llafur cytunedig, rydym yn cefnogi dysgwyr i ennyn gwerthfawrogiad o grefyddau eraill ac i ddatblygu goddefgarwch a chydlyniant cymunedol. Mae'r mater o ddileu'r hawl i dynnu allan o grefydd, gwerthoedd a moeseg wedi'i ystyried yn ofalus ac wedi'i ymgynghori arno, ond rwy'n derbyn bod barn gref. Gan na fydd y Bil bellach yn caniatáu i rieni dynnu eu plant allan o wersi crefydd, gwerthoedd a moeseg, mae'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion o gymeriad crefyddol weithredu cais rhieni am ddarpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg amgen, boed hwnnw'n faes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg a gynlluniwyd gan roi sylw i'r maes llafur neu'r crefydd, gwerthoedd a moeseg y cytunwyd arno sy'n cyd-fynd â gweithredoedd ymddiriedolaeth yr ysgol.

Yn y cwricwlwm newydd, bydd ysgolion o gymeriad crefyddol yn parhau i allu darparu crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol yn unol â'r gweithredoedd ymddiriedolaeth hynny, ac rwyf wedi bod yn glir iawn na fwriedir i unrhyw beth a gynigir yn y Bil hwn atal ysgolion o gymeriad crefyddol rhag addysgu eu maes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol eu hunain. Drwy gydol y broses o ddatblygu'r cwricwlwm newydd, rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid fel y Gwasanaeth Addysg Gatholig ac wedi ymgynghori'n eang. Mae eu hysgolion yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r system addysg, ac, fel yr wyf wedi sôn o'r blaen, maen nhw a'r Eglwys yng Nghymru wedi cadarnhau bod gwelliannau Cyfnod 2 wedi mynd i'r afael â'u prif bryderon.

Yn olaf, gan droi at welliant 18, nid wyf yn credu bod angen y gwelliant hwn, oherwydd mae proses gwyno eisoes ar waith ar gyfer pob elfen o reolaeth ysgol, gan gynnwys y cwricwlwm. Mae darpariaeth eisoes yn adran 409 o Ddeddf Addysg 1996 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sefydlu proses gwyno mewn cysylltiad â chwyn ynghylch darparu cwricwlwm, neu pan fo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi gweithredu neu'n bwriadu gweithredu yn afresymol mewn cysylltiad â phŵer sydd ganddo neu'r dyletswyddau y mae'n ddarostyngedig iddynt.

Mae'n rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir hefyd fabwysiadu polisi cwynion o dan adran 29 o Ddeddf Addysg 2002, ond dylid gwneud cwynion sy'n ymwneud â'r cwricwlwm i'r awdurdod lleol yn gyntaf. Yn y pen draw, os bydd unigolyn yn parhau i fod yn anhapus ac yn teimlo bod yr ysgol wedi arfer ei phwerau mewn modd afresymol, caiff ofyn i'r awdurdod lleol yn y lle cyntaf, ac o bosibl wedyn, i Weinidogion Cymru, arfer eu pwerau cyfarwyddo o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Gan ychwanegu proses gwyno arall, rwy'n credu y byddai hyn yn ddyblygu diangen, a byddai'n faich ychwanegol i ysgolion ymdopi ag ef, pan fo'r gofyniad am weithdrefn gwyno eisoes wedi ei nodi mewn deddfwriaeth. Ac nid wyf yn credu y dylid nodi crefydd, gwerthoedd a moeseg ar ei ben ei hun ar gyfer ei broses gwyno ei hun; Nid wyf yn credu bod sail resymegol dros wneud hynny. Felly, rwyf yn annog yr Aelodau i wrthod y gwelliant hwn a pheidio ag ychwanegu baich ychwanegol ar ysgolion. Diolch Llywydd.

19:40

Diolch, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Mae'n ddadl lawn ac yn un eithaf cymhleth, fel y trafodwyd gennym yn gynharach. A gaf i ddechrau drwy gytuno â Siân Gwenllian, ac, mewn gwirionedd, y Gweinidog, fod angen i'n plant dyfu nid yn unig i barchu ond i ddeall pob math o grefyddau. Rhan o ddiben y Bil hwn yn y lle cyntaf yw magu plant i fod yn llai beirniadol ac yn llai gwahaniaethol, yn llai rhagfarnllyd. Dyna pam yr wyf wedi bod yn falch bod crefydd, gwerthoedd a moeseg ei hun yn rhan orfodol o'r cwricwlwm.

Ar gyfer Caroline Jones, rwyf eisiau dweud nad ydym ni'n sôn am sefyllfa yn y fan yma lle mae'n rhaid i bob ysgol ddysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg seciwlar yn unig. Nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae'r Gweinidog eisoes wedi nodi bod crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol yn rhan greiddiol o'r hyn a addysgir mewn ysgolion crefyddol, ac mae'n rhaid i mi dynnu sylw at y ffaith bod y CYSAGau y cyfeiriodd Darren Millar atyn nhw yn ei gyfraniad yn cynnwys cynrychiolwyr crefyddol yn bennaf. Felly, nid yw'n faes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg seciwlar, pa faint bynnag yr ydych chi  eisiau meddwl amdano yn y modd hwnnw.

Y tensiwn rhwng y gweithredoedd a'r maes llafur y cytunwyd arno, Gweinidog—clywaf yr hyn a ddywedwch am hyn, ond dyna holl ddiben gwelliant 16 mewn gwirionedd, wrth ddiffinio ystyr 'rhoi sylw' mewn gwirionedd a'i gysylltu'n benodol â chrefydd, gwerthoedd a moeseg, oherwydd nid yw 'rhoi sylw' yn golygu bod yn rhaid i chi fabwysiadu yr un faint yn union o bob math o gwricwlwm, nid yw'n golygu bod yn rhaid i chi fabwysiadu y cyfan o'r ddau fath o gwricwlwm yr ydym yn sôn amdanyn nhw yn y fan yma. Ond yr hyn y mae'n ei olygu yw, os ydych chi'n penderfynu nad yw rhan o gwricwlwm i'w haddysgu, mae'n rhaid i chi egluro pam—mae'n rhaid i chi ddangos sut yr aethoch chi ati i gyrraedd y penderfyniad.

Mewn gwirionedd, os ydych chi eisiau i mi beidio â chynnig gwelliant 18, er enghraifft, ac rwy'n deall eich rhesymau hollol ddilys dros wneud hynny, byddai hynny'n gwneud llawer mwy o synnwyr pe byddech yn cefnogi gwelliant 16, sy'n rhoi'r arfau i'r ddwy ysgol amddiffyn safbwynt, ac i blant, nid dim ond rhieni, wrth gwrs, i ddod â chwyn drwy'r gweithdrefnau cwyno yr ydych chi wedi eu disgrifio mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth , oherwydd ar hyn o bryd nid yw'n glir beth fyddai angen iddyn nhw ei ddangos er mwyn i gŵyn gael ei chynnal, neu mewn gwirionedd i'r gŵyn gael ei hamddiffyn.

Mae'r sylwadau, mae arnaf ofn, Darren, a wnaethoch chi ynghylch hawliau rhieni a hawliau'r wladwriaeth, bod y berthynas honno'n newid—er y gallai hynny fod yn wir, yr hyn yr ydym yn ei ystyried yn y fan yma yw hawliau plant, ac wrth gwrs mae ganddyn nhw yr hawl i gael eu haddysgu yn unol â chredoau teuluol o dan brotocol 1 erthygl 2, ond mae hwnnw'n hawl amodol, fel y clywsom eisoes, ac nid yw'n hawl sy'n cael ei arfer ar wahân. Ni all byth fod yn hawl sy'n cyfyngu ar yr hyn y mae plentyn yn ei ddysgu, a dyna y gallaf weld y cwricwlwm hwn yn ceisio ei wneud, ac, er fy mod i wedi ceisio cefnogi ysgolion o gymeriad crefyddol yn y modd yr wyf wedi mynd ati, ac yn sicr gyda'r gwelliannau yr wyf wedi bod yn eu cyflwyno, plant yn gyntaf yw hi, ac maen nhw mewn byd nad yw'n edrych fel y byd a fu gennym ni erioed. O'r safbwynt hwnnw, mae'n rhaid i'r cyfle hwn ar gyfer cyd-ddealltwriaeth fod yr hyn sy'n bwysicach na phopeth arall. Diolch yn fawr, Llywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, awn ni i bleidlais ar welliant 13, yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 42 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 13 wedi ei wrthod.

Gwelliant 13: O blaid: 9, Yn erbyn: 42, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

19:45

Cynigiwyd gwelliant 23 (Darren Millar).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 23. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, dau yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 23 wedi ei wrthod.

Gwelliant 23: O blaid: 15, Yn erbyn: 37, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 14, ac os ydy gwelliant 14 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 24 yn methu. Suzy Davies, ydych chi'n symud gwelliant 14?

Cynigiwyd gwelliant 14 (Suzy Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 14 yn enw Suzy Davies. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, pedwar yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 14 wedi ei wrthod.

Gwelliant 14: O blaid: 8, Yn erbyn: 42, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 24 (Darren Millar).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 24? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais ar welliant 24 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, un yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 24 wedi ei wrthod.

Gwelliant 24: O blaid: 14, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 25 (Darren Millar).

A ddylid derbyn gwelliant 25? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais ar welliant 25 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, dau yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 25 wedi ei wrthod.

Gwelliant 25: O blaid: 15, Yn erbyn: 37, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 26 (Darren Millar).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 26 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, un yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 26 wedi ei wrthod.

Gwelliant 26: O blaid: 14, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 15 (Suzy Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly pleidlais ar welliant 15 yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, dau yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 15 wedi ei wrthod.

19:50

Gwelliant 15: O blaid: 8, Yn erbyn: 44, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 27, Darren Millar. Gwelliant 27. 

A yw'n cael ei gynnig, Darren Millar?

Cynigiwyd gwelliant 27 (Darren Millar).

Ocê. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 27 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, dau yn ymatal, 37 yn erbyn. Gwelliant 27 wedi ei wrthod.

Gwelliant 27: O blaid: 15, Yn erbyn: 37, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 16 (Suzy Davies).

Os derbynnir gwelliant 16, bydd gwelliant 28 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly pleidlais ar welliant 16 yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid saith, tri yn ymatal, 44 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 16 wedi ei wrthod.

Gwelliant 16: O blaid: 7, Yn erbyn: 44, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 28 (Darren Millar).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe gymrwn bleidlais ar welliant 28 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 28 wedi ei wrthod.

Gwelliant 28: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 29 (Darren Millar).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 29? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 29. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Felly, o blaid 15, dau yn ymatal, 37 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 29 wedi'i wrthod.

19:55

Gwelliant 29: O blaid: 15, Yn erbyn: 37, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 17 (Suzy Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 17 yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, dau yn ymatal, 41 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 17: O blaid: 11, Yn erbyn: 41, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 18 (Suzy Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 18 yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, dau yn ymatal, 37 yn erbyn, felly mae gwelliant 18 wedi'i wrthod.

Gwelliant 18: O blaid: 15, Yn erbyn: 37, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 19 (Darren Millar).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 19. Cau'r bleidlais, felly. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 19 wedi'i wrthod.

Gwelliant 19: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 20 (Darren Millar).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 20. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 20 yn cael ei wrthod.

Gwelliant 20: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 47 yw'r gwelliant nesaf yn enw Siân Gwenllian. Ydy e'n cael ei symud?

Cynigiwyd gwelliant 47 (Siân Gwenllian).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 47? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais felly ar welliant 47 yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, dau yn ymatal, 32 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 47 wedi'i wrthod.

Gwelliant 47: O blaid: 20, Yn erbyn: 32, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 55 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 55? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Agor y bleidlais, felly. Oes, roedd yna wrthwynebiad, gyda llaw. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 55. Cau'r bleidlais. O blaid 20, dau yn ymatal, 32 yn erbyn. Mae gwelliant 55 wedi'i wrthod.

20:00

Gwelliant 55: O blaid: 20, Yn erbyn: 32, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 21 (Darren Millar).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 21 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 21: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 48 (Siân Gwenllian).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 48? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly cawn ni bleidlais ar welliant 48 yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, dau yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 48 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 48: O blaid: 20, Yn erbyn: 32, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 56 (Llyr Gruffydd).

A oes gwrthwynebiad i welliant 56? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 56. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, dau yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 56 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 56: O blaid: 20, Yn erbyn: 32, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 22 (Darren Millar).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 22 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 22 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 22: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 40 (Suzy Davies).

Oes gwrthwynebiad i welliant 40? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 40 yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, pedwar yn ymatal, pedwar yn erbyn, felly mae gwelliant 40 wedi'i dderbyn. 

Gwelliant 40: O blaid: 46, Yn erbyn: 4, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 57 (Llyr Gruffydd).

A oes gwrthwynebiad i welliant 57? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 57 yn enw Llyr Gruffydd. Agor y bleidlais.

[Anghlywadwy.] —ar y bleidlais yna. Mae'r bleidlais ar welliant 57 yn enw Llyr Gruffydd. Rwy'n mynd i ddechrau'r bleidlais eto. Agorwch y bleidlais.

Cau'r bleidlais. O blaid 13, pedwar yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

20:05

Gwelliant 57: O blaid: 13, Yn erbyn: 37, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 9: Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig (Gwelliant 31)

Grŵp 9 yw'r grŵp nesaf, ac mae'r grŵp yma'n ymwneud â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig. Gwelliant 31 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant ac i siarad arno fe. Gweinidog.

Cynigiwyd gwelliant 31 (Kirsty Williams).

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno gwelliant 31, sy'n gosod dyletswydd i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau i'r rhai sy'n darparu addysgu a dysgu ar gyfer cwricwlwm a grëwyd o dan y Bil hwn. Bydd y ddyletswydd yn disgyn ar y cyd ar gyrff llywodraethu a phenaethiaid ysgolion a gynhelir a meithrinfeydd a gynhelir; ar berchenogion darparwyr addysg feithrin nas cynhelir a ariennir; ar y cyd ar yr athrawon sy'n gyfrifol am unedau cyfeirio disgyblion, pwyllgorau rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion a'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am Unedau Cyfeirio Disgyblion; ac ar awdurdodau lleol wrth gomisiynu addysg heblaw mewn ysgol neu Uned Cyfeirio Disgyblion.

Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg. Mae'r gwelliant hwn yn ymateb i argymhelliad 12 yn eu hadroddiad ar ddiwedd Cyfnod 1, i Lywodraeth Cymru ystyried sicrhau bod hawliau dynol, gan gynnwys hawliau plant, yn ddiogel yng Nghwricwlwm Cymru, ac mae hefyd yn berthnasol i adroddiad y pwyllgor ar hawliau plant yng Nghymru, a gyhoeddwyd fis Awst diwethaf. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant iddynt am eu gwaith.

Mae hyn, rwy'n credu, yn welliant ystyrlon ac arloesol a fydd yn cael effaith wirioneddol ar ein plant a'n pobl ifanc ac yn rhoi amlygrwydd dyledus i'r confensiynau hyn yn y Bil. Dyma'r unig ddarpariaeth o'i bath yn y Bil, ac rwyf yn falch o roi i'r mater hwn yr amlygrwydd y mae'n ei haeddu. Ond mae'r gwelliant hwn yn fwy na geiriau 'braf eu cael' neu eiriau cynnes sy'n esgus cydnabod hawliau plant; ei fwriad yw hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau'r confensiwn mewn staff addysgu fel y gallan nhw ddefnyddio hyn yn eu harfer dyddiol wrth gynllunio a chyflwyno eu cwricwlwm. Bydd y ddyletswydd yn gefnogol i'r staff hynny sy'n darparu addysgu a dysgu yn y cwricwlwm, gan helpu i roi iddynt yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnyn nhw i brif ffrydio'r hawliau a ddiogelir gan y confensiynau i'w harfer addysgu bob dydd. Bydd yr wybodaeth honno hefyd yn helpu i gyflawni'r darpariaethau addysg cydberthynas a rhywioldeb a chrefydd, gwerthoedd a moeseg yn y Bil a phwysigrwydd iechyd a lles drwy'r cwricwlwm cyfan. Y ffordd allweddol y bydd hyn yn cael ei weld yn ymarferol yn ein hysgolion a'n lleoliadau fydd trwy ddysgu proffesiynol. Yn yr un modd â diwygio'r cwricwlwm yn gyffredinol, gallaf sicrhau'r Aelodau y bydd ymagwedd a chynnwys y dysgu proffesiynol a ddarperir i athrawon ac ymarferwyr eraill yn cael eu cyd-adeiladu.

Hoffwn, i gloi, Llywydd, ailadrodd y pwyntiau a wnaeth Suzy Davies yn ddiweddar yn y grŵp o welliannau a geisiodd ymdrin â chrefydd, gwerthoedd a moeseg. Conglfaen y ddeddfwriaeth hon yw dull 'plant yn gyntaf', gan gydnabod bod eu hawliau i addysg a'u hawliau yn gyffredinol mor bwysig. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu hargymhelliad a'r gwaith yn y maes hwn. Heb gefnogaeth y pwyllgor a heb awydd a dycnwch y pwyllgor ar y pwynt hwn, nid wyf i'n credu y byddem wedi cyrraedd y gwelliant hwn heddiw. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am eu gwaith yn y maes hwn. Diolch.

Does gen i ddim siaradwyr yn y ddadl yma, ac felly dwi'n cymryd nad yw'r Gweinidog eisiau cyfrannu eto. Felly, dwi'n gofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn gwelliant 31? A oes gwrthwynebiad i hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni gynnal pleidlais ar welliant 31. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, a phump yn erbyn, felly mae gwelliant 31 wedi'i dderbyn.

20:10

Gwelliant 31: O blaid: 48, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 32 (Kirsty Williams).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 32. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, tri yn ymatal, un yn erbyn. Mae gwelliant 32 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 32: O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 49 (Siân Gwenllian).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 49? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 49 yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, dau yn ymatal, 33 yn erbyn, felly mae gwelliant 49 wedi'i wrthod.

Gwelliant 49: O blaid: 19, Yn erbyn: 33, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 33 (Kirsty Williams).

Wedi'i symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 33. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, saith yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae gwelliant 33 wedi'i dderbyn. 

Gwelliant 33: O blaid: 46, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Tynnwyd gwelliant 11 yn ôl. 

Cynigiwyd gwelliant 12 (Suzy Davies).

A oes gwrthwynebiad i welliant 12? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 12 yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, un yn ymatal, 31 yn erbyn. Mae'r gwelliant felly wedi'i wrthod.

Gwelliant 12: O blaid: 22, Yn erbyn: 31, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Wel, gan fod gwelliant 53 wedi'i wrthod yn gynharach, Llywydd, does dim diben i welliant 58 yn y Bil, felly wnaf i ddim symud y gwelliant. 

20:15

Ni chynigiwyd gwelliant 58 (Llyr Gruffydd). 

Cynigiwyd gwelliant 50 (Siân Gwenllian).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 50? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 50. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, dau yn ymatal, 33 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 50 wedi'i wrthod.

Gwelliant 50: O blaid: 19, Yn erbyn: 33, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Ni chynigiwyd gwelliant 38 (Gareth Bennett, gyda chefnogaeth Mark Reckless). 

Felly, dyna oedd y gwelliant olaf, ac felly fydd yna ddim pleidlais ar welliant 38, sy'n golygu ein bod ni wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Dwi'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen nawr wedi'u derbyn. Ac felly, dyna ddiwedd ar ein trafodion ni ar y Cyfnod 3, a dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am y dydd heddiw. Noswaith dda ichi.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Daeth y cyfarfod i ben am 20:16.