Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

09/02/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 14:57 gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Dirprwy Lywydd

Byddwn yn cynnull nawr, ac felly croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, a gaf i nodi ychydig o bwyntiau? Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 32.4 yn berthnasol ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw a nodir y rheini ar yr agenda. Hoffwn atgoffa'r Aelodau bod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn mewn Cyfarfodydd Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod hwn.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, eitem 1 yn y rhan hon o'r cyfarfod yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a daw'r cwestiwn cyntaf gan Rhianon Passmore.

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

1. Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn Islwyn yn ystod COVID-19? OQ56295

Dirprwy Lywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi iechyd meddwl plant a phobl ifanc fel gwasanaeth hanfodol drwy gydol y pandemig. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi defnyddio cyllid ychwanegol a ddarparwyd i ddatblygu amrywiaeth o wasanaethau arloesol sy'n cynnwys partneriaid statudol a thrydydd sector eraill.

Diolch. Prif Weinidog, roedd hi'n Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos diwethaf. Roeddwn i'n falch bod y Llywodraeth wedi ei nodi drwy addo cefnogi wythnos iechyd meddwl pobl ifanc, ac roeddwn i'n falch bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei nodi drwy addo cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl pobl ifanc. Gallai'r cyllid hwn fod yn achubiaeth wirioneddol i gynifer o bobl ifanc sydd wedi bod yn dioddef drwy gydol y pandemig hwn. Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu sut y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei fod yn cyrraedd y gwasanaethau rheng flaen sy'n darparu'r cymorth hwn yn Islwyn?

Diolchaf i Rhianon Passmore am y cwestiwn dilynol yna, Dirprwy Lywydd. Gallaf i ddweud wrthi, o'r £9.4 miliwn, bydd £5.4 miliwn yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, a bydd hynny yn cynnwys darpariaeth mewn ysbytai, gan gynnwys datblygu gwelyau sy'n briodol i'w hoedran mewn byrddau iechyd lleol pan fo hynny yn angenrheidiol, ond bydd cymorth yn cael ei gryfhau hefyd mewn timau iechyd meddwl cymunedol i ddarparu gwasanaethau mwy dwys i bobl ifanc yn y gymuned, gan eu tynnu i lawr o dderbyniadau cleifion mewnol. Bydd gweddill y cyllid, £4 miliwn, yn cynorthwyo'r gwaith o ehangu rhaglen arbrofol mewngymorth ysgolion CAMHS, a defnyddir hwnnw i ddatblygu capasiti rheng flaen yn ein hysgolion. Ac mae hynny, Dirprwy Lywydd, yn rhan o holl fyrdwn yr arian ychwanegol hwn, sef dad-ddwysáu ymyrraeth ym mywydau pobl ifanc. Ac atgyfnerthwyd hynny, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ymhellach ddoe gyda chyhoeddiad o £2.5 miliwn arall i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant yn ein colegau addysg bellach, wedi'i dargedu unwaith eto at lesiant ein pobl ifanc.

15:00

Prif Weinidog, rwyf innau hefyd yn croesawu unrhyw arian tuag at hyn. Yn amlwg, mae yn ein calonnau a'n meddyliau ni i gyd ar hyn o bryd, yr anawsterau y mae llawer o blant yn eu dioddef o ganlyniad i'r pandemig hwn, ac felly hefyd y rhieni a'r teuluoedd sydd hefyd yn gorfod jyglo ac ad-drefnu eu bywydau i'w cefnogi. Ond roeddwn i'n meddwl tybed, gan fod llawer o gynghorau yn gwneud gwahanol bethau yn gyffredinol yn Nwyrain De Cymru ond hefyd ledled Cymru, sut mae'r Llywodraeth hon yn dod o hyd i'r enghreifftiau o arfer gorau o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein i gynorthwyo ein plant sy'n agored i niwed ac estyn allan at y plant hynny sydd ei angen nawr a gwneud yn siŵr bod arfer gorau yn cael ei ledaenu ar draws Cymru gyfan. Diolch.

Wel, Llywydd, diolchaf i Laura Anne Jones am y cwestiwn yna. Rwy'n cytuno yn llwyr â'i gynsail. Rwy'n credu ei fod yn beth da iawn bod arloesedd yn digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Gwn y bydd yr Aelod yn ymuno â mi i longyfarch y tîm Cysylltu â Theleiechyd i Blant mewn Ysbytai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a enillodd wobr tîm y flwyddyn Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn ddiweddar am ddatblygu gwasanaethau teleiechyd, ac mae'r datblygiadau hynny bellach yn cael eu defnyddio gan fyrddau iechyd eraill mewn gwahanol rannau o Gymru. Ac rwy'n credu bod honno yn ffordd synhwyrol iawn i'r gwasanaethau hyn ddatblygu, gan annog arloesedd lleol ac, fel y mae Laura Anne Jones yn ei ddweud, lle dangoswyd eu bod nhw'n llwyddo, yna gwneud yn siŵr bod y llwyddiant hwnnw yn cael ei drosglwyddo i wasanaethau ehangach yng ngweddill Cymru. Dyna pam mae gennym ni becyn cymorth iechyd meddwl cenedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru, dyna pam mae gennym ni wasanaethau therapi ymddygiad gwybyddol ar gael ar-lein i bobl ifanc ym mhob rhan o Gymru, gan barhau, fel y dywedais, i annog arloesedd yn y trydydd sector ac mewn gwasanaethau statudol yn y cyfnod eithriadol hwn.

Statws Cyfansoddiadol Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â statws cyfansoddiadol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig? OQ56293

Dirprwy Lywydd, mae Cymru yn wlad ddatganoledig, sy'n cymryd rhan yn wirfoddol yn undeb y Deyrnas Unedig.

Diolch am y datganiad yna. Rydym ni'n mynd drwy argyfwng iechyd difrifol iawn a rhaglen frechu torfol hefyd erbyn hyn. Arweiniwyd y broses o gaffael y brechlynnau gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl synhwyrol yn cytuno ei bod wedi bod yn llwyddiant mawr a bod caffael y brechlynnau yn enghraifft dda o undeb y DU yn gweithio ar ei orau. Mae'n ymddangos erbyn hyn bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cael eu perswadio yn hwyr o fanteision y dull a arweinir gan y DU, er iddyn nhw fethu â chefnogi gwelliannau o blaid yr union ddull gweithredu hwnnw a gyflwynwyd gan fy mhlaid i, Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, yma yn y Siambr hon dim ond tair wythnos yn ôl, ond gwell hwyr na hwyrach. Tybed, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ei bod hi efallai yn bryd i chi roi'r gorau i hedfan eich barcud ynglŷn â'r DU yn dod yn ffederasiwn a nodi'r manteision mawr iawn a all ac sydd wedi deillio o ymateb y DU gyfan i'r argyfwng COVID.

Wel, Llywydd, nid wyf i'n gyfrifol am ddryswch Plaid Geidwadol Cymru, ond yr hyn yr wyf i'n gyfrifol amdano yw dod i gytundeb gyda gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig pan fyddaf i'n credu bod gwneud hynny er budd Cymru. Dyna pam y mae gennym ni gaffaeliad DU gyfan o gyflenwad o'r brechlyn, oherwydd, o'r cychwyn cyntaf, cytunodd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mai dyna'r ffordd orau ymlaen. Dyna'r hyn yr wyf i'n ei olygu wrth ddweud perthynas wirfoddol yn undeb y Deyrnas Unedig.

Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r adnodd gorau, ar gyfer dyfodol yr undeb, yw ein dinasyddion, a'i bod hi'n bryd i ddinasyddion ledled y Deyrnas Unedig fod yn rhan o gynulliadau dinasyddion i helpu i ddatblygu cynigion a fydd yn arwain at Ddeddf uno newydd a fydd yn arwain at Deyrnas Unedig sy'n gydlynol yn gyfansoddiadol am 300 mlynedd arall, rwy'n gobeithio?

15:05

Rwy'n sicr yn cytuno â Mr Melding bod cynnwys dinasyddion yn y broses o ail-lunio'r Deyrnas Unedig yn hanfodol mewn rhywbeth mor bwysig â dyfodol y wlad yr ydym ni i gyd yn byw ynddi. Clywais yr Aelod yn cael ei gyfweld nid mor bell yn ôl â hynny, pan ddywedodd—ac roeddwn i'n cytuno yn llwyr ag ef—bod yr undeb presennol ar ben. Does dim pwynt i ni geisio cadw rhywbeth i fynd yn y modd hwnnw, pan nad yw'r gefnogaeth a oedd ganddo ar un adeg yno mwyach. Mae angen i ni ei ail-lunio yn y ffordd y mae'r Aelod newydd ei ddisgrifio, ac, er mwyn gwneud hynny, mae cyfranogiad a chefnogaeth dinasyddion, wrth gwrs, yn hanfodol.

Prif Weinidog, a ydych chi'n rhannu fy anobaith yn gwrando ar bobl fel Gareth Bennett a rhai yn y Blaid Geidwadol sy'n dymuno i Gymru beidio â chael unrhyw fodolaeth o gwbl? Maen nhw eisiau dileu Cymru oddi ar y map, a'r cyfan oherwydd na allan nhw gael eu hethol i'r Llywodraeth yng Nghymru. Mae democratiaeth yn iawn iddyn nhw cyn belled â'u bod nhw'n ennill. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gondemnio eu hatgasedd cryf at ein gwlad a pharhau i wrthwynebu eu hymdrechion tila i droi ein gwlad yn sir?

Rwy'n cytuno yn llwyr â hynny, Dirprwy Lywydd. Nid yw Cymru yn gangen o Lywodraeth unrhyw un arall. Mae polisi'r Ceidwadwyr Cymreig yn eglur y dyddiau yma: mae'n bolisi 'ar gyfer Cymru, gweler Lloegr'. Mae'n bolisi llwfr, Dirprwy Lywydd. Mae'n siomi pobl Cymru, ac ni fydd fy mhlaid i yn y Llywodraeth hon byth yn rhoi ein hunain yn y sefyllfa honno.

Prif Weinidog, ers cael fy ethol i'r Senedd a gweithio ar wahanol bwyllgorau, gan gynnwys y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae fy marn ar ddatganoli wedi esblygu, ac rwyf i'n gwyro tuag at berthynas fwy aeddfed rhwng gwledydd y DU a symud tuag at strwythur mwy ffederal. Mae gen i ddiddordeb mewn gwybod, ar ôl clywed eich barn ar gyfeiriad datganoli yn y dyfodol, pa un a oes tir canol rhwng diddymu ac annibyniaeth mewn gwirionedd? Diolch.

Dirprwy Lywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna a hoffwn ei llongyfarch ar esblygiad ei barn. Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol galonogol pan fydd pobl yn defnyddio'r profiad sydd ganddyn nhw i feddwl am y materion pwysig iawn hyn. Ac mae yna, wrth gwrs: fy marn i yw y bu tir canol erioed rhwng y rhai sy'n dymuno ein gwahanu ni oddi wrth y Deyrnas Unedig a'r rhai sy'n dymuno ein rhoi ni yn ôl i San Steffan a Whitehall, a pholisi datganoli yw hwnnw, sy'n rhoi cymaint o annibyniaeth gweithredu i ni yma yn y Senedd i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl sy'n byw yng Nghymru yn unig, a dim ond pobl yng Nghymru a ddylai wneud y penderfyniadau hynny. Ond ar yr un pryd, pan fyddwn ni'n dewis gwneud hynny, cyfuno ein cymdeithas wirfoddol a bod yn rhan o gyfres o drefniadau y DU gyfan, dyna, yn fy marn i, yw'r gorau o'r ddau fyd i bobl yng Nghymru ac mae'n safbwynt sydd wedi ei gefnogi gan bobl Cymru ers ymhell dros 20 mlynedd erbyn hyn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Dirprwy Lywydd. O weld y stampiau 'gwireddwyd' mawr, beiddgar hynny ar dudalen agoriadol eich adroddiad blynyddol, Prif Weinidog, cefais fy atgoffa o bapur a ddarllenais yn ddiweddar am eich Llywodraeth, a oedd yn dweud hyn:

Tueddir i weld ymgyrch ticio blychau i sicrhau y gellir dweud bod addewidion Maniffesto a Rhaglen wedi eu cyflawni. Yr hyn nad wyf i erioed wedi ei weld yw ymgais gyffredinol i asesu a yw'r canlyniadau dymunol sy'n sail i'r Rhaglen...yn cael eu datblygu.

Nid ydych chi'n cydnabod eich methiannau mewn unrhyw ran o'ch adroddiad, y targedau a fethwyd, yr addewidion a dorrwyd. Dywedasoch y byddech chi'n dileu tlodi tanwydd erbyn 2018; wnaethoch chi ddim. Dywedasoch y byddech chi'n dileu tlodi plant erbyn 2020; wnaethoch chi ddim. Dywedasoch y byddech chi'n lleihau 40 y cant ar allyriadau erbyn y llynedd; wnaethoch chi ddim. I ddyfynnu'r papur hwnnw eto, am eich Llywodraeth:

Mae'r meddylfryd presennol yn gwneud cyflawni yn ail i gynnal y status quo.

Onid yw hynny yn crynhoi pethau yn berffaith, Prif Weinidog?

15:10

Wel, Dirprwy Lywydd, mae'n ymddangos bod yr Aelod wedi gafael yn yr araith anghywir. Ceir dadl ar yr adroddiad blynyddol yn ddiweddarach y prynhawn yma. Bydd yn gallu ailgylchu ei sylwadau, rwy'n siŵr, unwaith eto bryd hynny. Rwy'n credu nad yw pobl sy'n byw yng Nghymru yn rhannu ei agwedd ddirmygus at 20,000 o dai fforddiadwy newydd yma yng Nghymru. Ni fyddai'r bobl ifanc hynny sydd wedi cymryd rhan yn y 100,000 o brentisiaethau ychwanegol yn rhannu ei farn; ac ni fyddai'r miloedd hynny o bobl hŷn sydd wedi elwa ar y dull mwyaf blaengar o sicrhau bod pobl yn gallu cadw eu hasedau pan fyddan nhw'n mynd i ofal preswyl ychwaith, na'r bobl hynny sydd wedi elwa ar y gronfa driniaethau newydd, gan leihau'r amser yn aros am gyffuriau newydd yma yng Nghymru o 90 diwrnod i 13 diwrnod. Mae'r rheini yn wahaniaethau gwirioneddol ym mywydau pobl go iawn ar hyd a lled Cymru. Dyna yr wyf i'n sefyll drosto. Dyna mae'r Blaid Lafur yn sefyll drosto. Efallai y byddai'n well ganddo fe wacterau annibyniaeth a syniadau chwyddedig eraill. Byddwn ni'n ymdrin â'r pethau hynny sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl, a dyna pam maen nhw'n gwybod bod y Llywodraeth hon yn Llywodraeth sydd ar eu hochr nhw.

Prif Weinidog, nid fy safbwyntiau i yw'r sylwadau yr wyf i newydd eu darllen—safbwyntiau rhywun a oedd yn gyfarwyddwr anweithredol o'ch Llywodraeth am bron i ddegawd ydyn nhw. Mae'n anodd dod o hyd i gyhuddiad mwy damniol na'r datganiad hwn ganddo am y profiad hwnnw:

Nid wyf i erioed wedi bod yn rhan o Fwrdd â'r fath ddiffyg mesurau o gynnydd neu lwyddiant canlyniadau.

Rydych chi'n ymgyrchu mewn barddoniaeth ac yn llywodraethu mewn rhyddiaith, yn ôl y dywediad, ond rydych chi'n cyflawni mewn rhifau, oherwydd, heb fetrigau, rydych chi heb lyw ac yn ddigyfeiriad, ac mae hynny yr un mor wir am eich gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, Prif Weinidog, ag y mae am eich cyflawniad yn y gorffennol. Dyma oedd gan Lafur Cymru ar lawr gwlad i'w ddweud am eich cynigion polisi ar gyfer yr etholiad ym mis Mai: mae diffyg min trawsnewidiol iddyn nhw, maen nhw'n ochelgar ac yn ddi-fflach, maen nhw'n:

methu ag ymateb i faint yr heriau y bydd Cymru yn eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd i ddod.

Gallwch ddiystyru fy meirniadaethau i o'ch Llywodraeth, Prif Weinidog, ond a allwch chi ddiystyru geiriau'r union bobl sy'n ymgyrchu i'ch rhoi chi yn y swydd yr ydych chi ynddi ar hyn o bryd?

Wel, Llywydd, bydd ein cynigion ar gyfer tymor nesaf y Senedd yn cael eu cyhoeddi ym maniffesto'r Blaid Lafur. Pan fydd yr Aelod wedi ei weld, bydd yn gallu llunio barn arno. Nid yw wedi ei weld; nid yw'r bobl y mae'n ymddangos ei fod yn eu dyfynnu wedi ei weld ychwaith.

Wel, mae'r ymgyrchwyr Llafur yr wyf i wedi eu dyfynnu yn feirniadol o ddogfen bolisi derfynol eich plaid, yr wyf i wedi ei gweld, oherwydd nad yw'n ymrwymo i ymestyn prydau ysgol am ddim—yr union bolisi yr ydych chi wedi bod yn ymosod arnaf i yn ei gylch dros yr wythnosau diwethaf hyn. Mae'n ymddangos fy mod i'n nes at werthoedd Llafur nag ydych chi erbyn hyn.

Prin yw'r syniadau newydd y mae'r ddogfen yn eu cynnwys, ond rhai cyfaddefiadau newydd o leiaf. Ynddo, tynnodd aelodau'r Blaid Lafur, a dyfynnaf, sylw at yr

angen am fuddsoddiad a newid polisi i feithrin mwy o gadernid yn erbyn digwyddiadau tywydd garw,

sy'n gyfaddefiad mwy eglur nag a gawsom ni erioed gan Weinidogion eich bod chi wedi methu â gwario digon ar amddiffynfeydd rhag llifogydd, gyda chanlyniadau trychinebus. Mae'n anodd anghytuno ag aelodau Llafur pan fyddan nhw'n galw yn y ddogfen am fwy o fanylion am weledigaeth Llafur ar gyfer dyfodol ffermio, pan mai eich gweledigaeth ar hyn o bryd yw dim dyfodol o gwbl. Ond efallai mai'r frawddeg fwyaf trawiadol ohonynt i gyd yw hon: mae'r cynnig o ofal cymdeithasol am ddim ar y pwynt angen—polisi arall gan Blaid Cymru—yn ddymunol. Y cwestiwn yw, Prif Weinidog: a fydd hynny byth yn cael ei gyflawni gyda chi a'ch plaid wrth y llyw?

Wel, Llywydd, rwyf i wedi cynnig cyfle o'r blaen i'r Aelod gael ffurflen aelodaeth ar gyfer y Blaid Lafur, y mae'n cymryd cymaint o ddiddordeb ynddi, oherwydd, pe byddai'n gwneud hynny, byddai'n fwy cyfarwydd â phrosesau llunio polisi fy mhlaid. Felly, nid yw fy mhlaid wedi cwblhau ei phroses llunio polisi. Nid oes dogfen derfynol, y mae'n cyfeirio ati yn anghywir. Yn wir, rwyf i'n edrych ymlaen at dreulio dydd Sadwrn gydag aelodau o'm plaid yn edrych ar tua 700 o wahanol gynigion y mae unedau'r blaid ledled Cymru gyfan wedi eu cyfrannu at gamau olaf ein proses llunio polisi. Mae'r Aelod, mae arnaf ofn, wedi cael ei gamarwain wrth gredu ei fod yn deall y ffordd y mae'r Blaid Lafur yn gweithredu. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein polisïau. Byddwn yn eu rhoi nhw mewn maniffesto. Bydd ein maniffesto yn faniffesto y gellir ei gyflawni. Ni fydd yn rhestr o ddymuniadau heb ei chostio o'r math y mae ef wedi treulio misoedd lawer yn ei datblygu erbyn hyn—gofal cymdeithasol heddiw; cannoedd o filiynau o bunnoedd yn rhagor nad oes ganddo i'w gwario—byth ymgais i ddweud wrthym ni o ble y bydd yr arian hwnnw yn dod, wrth gwrs, yn dilyn rhestrau dymuniadau yr wythnosau diwethaf o ran pethau eraill y mae'n ei gredu, dim ond trwy eu siglo o flaen llygaid pobl, y bydd yn eu perswadio nhw i'w cefnogi. Mae'r cyhoedd yng Nghymru, yn anffodus iddo ef, yn fwy craff nag y mae'n rhoi clod iddyn nhw ar ei gyfer. Byddan nhw'n gwybod, pan fydd addewidion yn cael eu gwneud, bod yn rhaid dod o hyd i'r modd i'w cadw nhw hefyd. Dyna pam, yn ddiweddarach y prynhawn yma, y byddwn ni'n dangos bod yr addewidion a wnaed gan fy mhlaid i yn yr etholiad diwethaf wedi cael eu cyflawni yn ystod tymor y Senedd hon. Dyna y mae pobl yn ei ddisgwyl, nid y math o lunio polisïau ffantasi y mae'r Aelod yn parhau i'w gynnig i ni yn y fan yma.

15:15

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, hoffwn roi sylw i fater amseroedd aros yng Nghymru, ac rwy'n sylweddoli bod pwysau ar amseroedd aros ledled y Deyrnas Unedig ond, yng Nghymru, er enghraifft, maen nhw'n arbennig o ddifrifol, gyda 530,000 o gleifion ar restr aros i ddechrau triniaeth—yr uchaf erioed ers i ddata gael eu casglu gyntaf yn y fformat hwn ers 2011. Mae 231,000 o'r cleifion hynny wedi bod yn aros 36 wythnos neu fwy. Mae hynny yn gynnydd o bron i 1,000 y cant ers mis Tachwedd 2019, pan yr oedd 22,000 o gleifion yn aros am dros 36 wythnos. A rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd, roedd 20,000 yn llai o atgyfeiriadau canser brys o'i gymharu â'r un adeg yn flaenorol yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn destun pryder mawr rwy'n credu y byddwch chi'n cytuno, Prif Weinidog, felly pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn yma yng Nghymru?

Llywydd, rwy'n cytuno â'r Aelod bod amseroedd aros yn y GIG yn destun pryder gwirioneddol flwyddyn ar ôl dyfodiad y coronafeirws, ac mae e'n iawn bod honno yn sefyllfa gyffredin ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Y peth cyntaf y mae'n rhaid i ni ei wneud, a'r peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud, yw tynnu allan o'r gwasanaeth iechyd y baich y mae'n rhaid iddo ei ysgwyddo ar hyn o bryd o bobl sy'n dioddef o'r coronafeirws i'r fath raddau fel bod yn rhaid eu trin nhw y tu mewn i'r ysbyty, gyda'r holl effeithiau y mae hynny yn eu cael ar allu'r gwasanaeth iechyd i gyflawni'r holl bethau eraill yr ydym ni yn disgwyl yn gwbl briodol iddo eu gwneud.

Ac yn hynny o beth, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, rydym ni'n llwyddo ar hyn o bryd—cyfraddau positifrwydd i lawr yng Nghymru eto heddiw; y cyfraddau fesul 100,000 i lawr ledled Cymru eto heddiw. A'r wythnos hon rwy'n meddwl, am y tro cyntaf, gallwn weld gyda chryn hyder bod bwydo i mewn i leihad i bwysau yn y system ysbytai—am y tro cyntaf ers wythnosau lawer, llai na 1,000 o gleifion â coronafeirws wedi'i gadarnhau mewn gwely ysbyty, a nifer y bobl sydd angen gofal dwys wedi gostwng yn sylweddol yn ystod yr wythnos ddiwethaf hefyd.

Dyna'r sefyllfa sylfaenol y mae'n rhaid i ni ei chyrraedd er mwyn ail-greu'r gwasanaeth iechyd ar gyfer y dyfodol, ac yna pan fyddwn ni'n siŵr y gallwn ni greu'r capasiti hwnnw drwy fod â COVID-19 o dan reolaeth, yna bydd gan y gwasanaeth iechyd gynllun, a bydd y cynllun yn seiliedig ar flaenoriaethu clinigol. Bydd yn gynllun a arweinir gan glinigwyr, gan wneud yn siŵr y bydd y rhai y mae eu hanghenion fwyaf brys bob amser ar flaen y ciw yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae'n ffaith, fel y nodais yn fy sylwadau agoriadol, bod amseroedd aros yn faith ledled y Deyrnas Unedig—rwy'n derbyn hynny—ond yma yng Nghymru maen nhw'n arbennig o ddifrifol, gydag un o bob pump o bobl ar restr aros o'r boblogaeth gyfan. A lle mae fy mhryder yn dod i'r amlwg yn y fan yma yw'r brys y mae'r Llywodraeth yn ei neilltuo i hyn i gael cynllun adfer allan o COVID. Pan fo gennych chi brif weithredwr Gofal Canser Tenovus yn dweud eu bod nhw wedi wynebu gwrthwynebiad gan Weinidogion o ran cynlluniau adfer ar gyfer gwasanaethau canser, a'r adroddiad a nododd Cymorth Canser Macmillan yr wythnos diwethaf bod 3,500 sydd â chanser heb gael diagnosis oherwydd y coronafeirws, mae hyn yn sicr yn bryder enfawr i bob un ohonom ni, oherwydd yr effaith niweidiol y mae hyn yn ei chael ar ganlyniadau, a'r pwysau tymor hwy ar y gwasanaeth iechyd.

Felly, pam mae'r elusennau canser yn dweud eu bod nhw'n wynebu gwrthwynebiad gan Weinidogion pan ddaw'n fater o roi cynllun canser brys ar waith, ac, os nad yw'r gwrthwynebiad hwnnw yn bodoli, a wnewch chi ymrwymo i ddatblygu'r cynllun canser hwnnw y mae ei angen ar frys, fel y nododd Tom Crosby—arweinydd canser Cymru—y bydd yn rhaid i'r gwasanaethau canser yng Nghymru gyflawni ar 120 y cant i 130 y cant o'u capasiti i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn yr ydym ni'n eu hwynebu yma yng Nghymru?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno bod yr her sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd ar ôl coronafeirws yn real iawn, na fydd yn adferiad a fydd yn digwydd dros nos, ac rwy'n cytuno y bydd angen iddo fod yn adferiad sydd wedi'i gynllunio yn briodol, ac sydd wedi'i gynllunio gyda chlinigwyr. Nid oes unrhyw wrthwynebiad gan y Llywodraeth hon o ran gwneud yn siŵr bod ein gwasanaeth iechyd mewn sefyllfa i adfer. Ceir deialog, ac mae deialog yn golygu y bydd safbwyntiau sy'n cystadlu a gwahanol bwysau. Nawr, mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yn sgwrsio â buddiannau ym maes canser yn ddiweddar iawn er mwyn gallu cynllunio ymlaen llaw, fel y dywedais yn fy ateb i'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Rhianon Passmore. Mae gwasanaethau canser wedi cael eu dosbarthu fel gwasanaeth hanfodol gan Lywodraeth Cymru drwy'r pandemig cyfan. Mae'n rhaid i ni wneud mwy i roi'r hyder i gleifion, weithiau, i ddod ymlaen a chael triniaeth pan fyddan nhw'n ofni lefel y coronafeirws sydd mewn cylchrediad. Ac ategaf farn y Gweinidog iechyd, yr wyf i wedi ei glywed yn ei fynegi yn ddiweddar iawn, sef, pan fo gan bobl driniaethau ar gael iddyn nhw, yn enwedig pan fo angen y triniaethau hynny ar frys, ein bod ni'n annog y bobl hynny i ddod ymlaen, oherwydd mae ein gwasanaeth iechyd wedi trefnu ei hun i wneud yn siŵr y gellir darparu'r triniaethau hynny yn ddiogel ac yn llwyddiannus.

15:20

Yn anffodus, yn yr ateb yna, Prif Weinidog, ni chlywais i chi yn nodi'r cynllun ar gyfer datblygu gwasanaethau fel y gallan nhw ymgysylltu â rhai o'r 3,500 o bobl hynny nad ydyn nhw wedi cael diagnosis, yn ogystal â datblygu gwasanaethau ledled Cymru i ymateb i her yr amseroedd aros a gyfeiriais atoch chi yn fy nghwestiwn cyntaf. Rydym ni'n gwybod bod amseroedd aros yn broblem cyn y pandemig, pan roedd dwywaith cymaint o gleifion yn aros dros flwyddyn nag yng ngweddill Lloegr gyfan. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n deall lefel y gweithgarwch sy'n digwydd yn y GIG ar hyn o bryd. A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi'r data gweithgarwch sydd gan Lywodraeth Cymru ar lawdriniaethau yn y GIG yma yng Nghymru, ac a wnewch chi hefyd ymrwymo i gynnull bwrdd adfer cenedlaethol o'r proffesiynau i wneud yn siŵr, gan weithio gyda Gweinidogion y Llywodraeth, y gall cleifion a chlinigwyr yn y gwasanaeth iechyd fod yn ffyddiog bod y cynlluniau hyn yn cael eu datblygu ac y byddan nhw'n cael eu gweithredu fel na fyddwn ni'n parhau i gael adroddiadau fel adroddiad Macmillan yr wythnos diwethaf a nododd gymaint o achosion o ganser heb ddiagnosis ledled Cymru? Ac a allech chi ymrwymo i gyhoeddi eich ymateb i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Lloegr, pan gynigiwyd cynnig cymorth ar y cyd ganddyn nhw i gefnogi unrhyw ymdrechion y gellid eu cyflwyno yma yng Nghymru i fynd i'r afael ag amseroedd aros a mynd i'r afael â chael pobl drwy'r gwasanaeth iechyd?

Wel, Llywydd, mae'r pwynt olaf yn dipyn o lol, onid yw e? Rydym ni'n cyhoeddi ffigurau yn fisol. Anfonwyd y cynnig honedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol atom ar yr union adeg pan gafodd ysbytai Lloegr eu llethu gan lefel y coronafeirws yr oedden nhw'n ei wynebu. Nid oes unrhyw gynnig o gymorth ar y cyd mewn system lle mae ganddyn nhw ddwywaith lefel yr haint sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae wir—. A bod yn onest—a dweud y gwir, Llywydd, y cwbl yw hyn yw rhywfaint o chwarae gemau gwleidyddol ac mae'n tanseilio ymdrechion y rhai hynny ohonom ni sydd eisiau dull pedair gwlad o ddifrif i adfer yn sgil y pandemig hwn.

Rwyf i eisoes wedi cyflwyno'r cynllun, Dirprwy Lywydd. Rhan gyntaf y cynllun yw cael coronafeirws o dan reolaeth. Rwy'n sylwi, am yr ail wythnos yn olynol, nad oes yr un o ddau arweinydd y gwrthbleidiau eisiau gofyn unrhyw gwestiwn i mi am ran fwyaf hanfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru heddiw—y rhaglen frechu eithriadol o lwyddiannus yma yng Nghymru. Fel erioed, gyda'r gwrthbleidiau, pryd bynnag y bydd unrhyw beth yn mynd yn dda yng Nghymru, nid oes ganddyn nhw air da i'w ddweud amdano. Am bythefnos yn olynol, ni allen nhw ddod o hyd i unrhyw gwestiwn i'w ofyn am y llwyddiant ysgubol hwnnw. Bydd y llwyddiant hwnnw yn caniatáu i ni wneud yr hyn a esboniais i'r Aelod, sef ein helpu ni i reoli coronafeirws, i dynnu allan o'r gwasanaeth iechyd y pwysau y mae'n ei deimlo ar hyn o bryd wrth ymdrin â'r pandemig, ac yna adfer ac ailgyflwyno gwasanaethau y tu allan i coronafeirws ar sail angen clinigol. Bydd hynny, wrth gwrs, yn cael ei gynllunio gyda'r grwpiau proffesiynol yr ydym ni'n ddigon ffodus o'u cael yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae'r gwaith difrifol, yn hytrach na'r dull bychan, sgorio pwyntiau o adfer y gwasanaeth iechyd, yn waith y gall pobl yng Nghymru fod yn siŵr y bydd y Llywodraeth hon yn ei wneud ar eu rhan. 

15:25
Cyflwyno'r Brechlyn yn Alun a Glannau Dyfrdwy

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hynt y broses o gyflwyno'r brechlyn yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56255

Llywydd, mae'r broses o frechu yn Alyn a Glannau Dyfrdwy yn parhau i gyflymu, diolch i ymrwymiad ac ymroddiad pawb sy'n ymwneud â darparu'r rhaglen ragorol hon ledled yr etholaeth.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'r broses o gyflwyno'r brechlyn yng Nghymru yn parhau i gyflymu. Mae Cymru bellach wedi brechu mwy o'i phoblogaeth nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig. Gweithwyr sector cyhoeddus yn dangos unwaith eto y gallan nhw gyflawni a'u bod yn cyflawni pan fyddwn ni eu hangen. Prif Weinidog, pa mor ffyddiog ydych chi y byddwn ni'n bodloni'r terfyn amser canol mis Chwefror, fel yr addawyd? Yn ail, pa mor ffyddiog ydych chi y gallwn ni barhau i greu mwy o gapasiti wrth symud ymlaen i gam nesaf y rhaglen frechu? Ac yn olaf, Prif Weinidog, deallaf fod gweithwyr proffesiynol yn gweithio yn eithriadol o galed i ddiogelu'r GIG a phobl agored i niwed, drwy gyflwyno brechiad ffliw enfawr hefyd. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch pawb sy'n rhan o'r ddwy raglen?

Wel, Dirprwy Lywydd, diolchaf i Jack Sargeant am gyfle i'r Senedd gael siarad am yr hyn y mae pawb arall yng Nghymru yn siarad amdano, sef llwyddiant syfrdanol ein gwasanaeth iechyd gwladol a'r gweithwyr sector cyhoeddus eraill hynny, y swyddogion llywodraeth leol, sydd wedi ein helpu ni i agor canolfannau brechu torfol, a ddaeth o hyd i'r desgiau, a ddaeth o hyd i'r cadeiriau, a ddaeth o hyd i'r ystafelloedd; y gwirfoddolwyr hynny a groesawodd bobl wrth iddyn nhw gyrraedd; yr aelodau hynny o'r lluoedd arfog ym mhob rhan o Gymru i gyd yn rhan o'r ymdrech frechu enfawr honno.

A Dirprwy Lywydd, mae'n iawn ei roi ar y cofnod y prynhawn yma. Meddyliwch am y penwythnos diwethaf yn unig. Ddydd Gwener, aethom y tu hwnt i'r ffigur o 0.5 miliwn o ran nifer y bobl a frechwyd yng Nghymru. Ddydd Gwener a dydd Sadwrn, fe wnaethom frechu 1 y cant o boblogaeth gyfan Cymru ar y ddau ddiwrnod. A ddydd Llun, aethom y tu hwnt i 600,000 o bobl sydd bellach wedi cael eu brechu yn llwyddiannus. Mae'n deyrnged enfawr, ar adeg, fel y dywedodd Jack Sargeant, Dirprwy Lywydd, pan fo'n gweithwyr iechyd yn gwneud yr holl bethau eraill yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw eu gwneud, gan gynnwys y rhaglen brechu rhag y ffliw honno, sydd, gyda llaw, wedi bod yn llwyddiant ysgubol unwaith eto yn y gogledd yn arbennig, ac yn etholaeth yr Aelod, mae gennym ni rai o'r ffigurau gorau o ran manteisio ar y brechiad ffliw yn unman yng Nghymru. I wneud hynny i gyd ar yr un pryd wrth ymateb i bwysau'r gaeaf, gan wneud yr holl bethau eraill y siaradodd Andrew R.T. Davies â mi amdanyn nhw ar yr un pryd, mae'n ymdrech ryfeddol, ac mae arnom ni ddyled enfawr o ddiolchgarwch i'r bobl hynny, ac rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gofnodi hynny yn y fan yma y prynhawn yma.

A byddwn ni, Dirprwy Lywydd, yn gofyn hyd yn oed mwy ganddyn nhw yn yr wythnosau i ddod, oherwydd yn fuan iawn, nid yn unig y byddwn ni'n cynnig brechiad cyntaf i bawb yng grwpiau 5 i 9 y rhestr flaenoriaeth, byddwn yn cynnig ail frechlyn i bawb yng ngrwpiau 1 i 4. A gofynnodd yr Aelod i mi pa un a wyf i'n ffyddiog y byddwn ni'n cwblhau'r gwaith o frechu grwpiau 1 i 4 yn unol â'r amserlen a bennwyd ac a addawyd gennym ac rwy'n falch iawn o ddweud wrtho fy mod i'n ffyddiog iawn y byddwn ni'n cyflawni hynny yma yng Nghymru.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddydd Iau diwethaf 'Ni fydd unrhyw frechlynnau yn cael eu gwastraffu gan ein bod ni'n defnyddio rhestr wrth gefn a luniwyd yn unol â'r grwpiau blaenoriaeth cenedlaethol.' Fodd bynnag, mae llawer o drigolion Sir y Fflint wedi cysylltu â mi yn bryderus fel arall. Dywedodd un, 'Cafodd gymydog gnoc ar y drws gan breswylydd newydd a ddywedodd bob dydd bod brechiadau dros ben gan fod llawer o bobl nad oeddent yn dod, ac os oedd ganddi ddiddordeb mewn pigiad, byddai ei chyswllt hi yng nghanolfan frechu Glannau Dyfrdwy yn ei ffonio yn ddiweddarach yn y dydd.' Dywedodd un arall, 'Rwyf i wedi cael gwybod am berson sy'n cael ei gyflogi ar ddyletswyddau TG, sy'n 26 oed heb unrhyw gyflyrau iechyd sylfaenol, a frechwyd ar fyr rybudd. Dyma'r drydedd sefyllfa lle'r wyf i wedi clywed am rywun y tu allan i'r meini prawf cyflwyno yn cael eu brechu ar fyr rybudd.' Dywedodd un arall, 'Mae pobl nad ydyn nhw'n staff rheng flaen y GIG, dros 80, ac yn y blaen, yn cael apwyntiadau i gael y brechlyn. Nid oedd gan yr un ohonyn nhw gyflyrau iechyd sylfaenol.' Fe wnaethon nhw hefyd anfon copi ataf o ffurflen trefnu apwyntiad ar-lein canolfan frechu Glannau Dyfrdwy, gan ofyn, 'Pam mae hon yn cael ei rhannu a'i defnyddio gan bawb na ddylen nhw fod yn gymwys i gael y brechlyn?' Beth, felly, sy'n digwydd, pan nad oes posib na ddylai unrhyw restr wrth gefn flaenoriaethu pobl fel swyddogion heddlu rheng flaen ac athrawon?

15:30

Wel, Llywydd, nawr rydym ni wedi clywed yr unig gyfraniad gan y Ceidwadwyr at lwyddiant syfrdanol y broses frechu yma yng Nghymru: casgliad o anecdotau ar hap a heb eu priodoli nad ydyn nhw wir yn gyfystyr ag un darn o sylwebaeth ddifrifol. Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod: mae'r gwasanaeth iechyd ledled Cymru, ac yn Betsi Cadwaladr hefyd, yn gweithio mor galed ag y mae'n gallu i ddarparu brechiad yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Wrth gwrs bod gan fyrddau iechyd restrau wrth gefn, fel bod pobl eraill y gellir galw arnyn nhw pan na all pobl, am bob math o resymau, ddod i apwyntiad ar fyr rybudd, fel nad yw'r brechlyn yn cael ei wastraffu. Beth yn y byd y gellid gwrthwynebu iddo ynglŷn a hynny? Oni fyddai wedi bod yn fwy addas y prynhawn yma pe gallai'r Blaid Geidwadol fod wedi dod o hyd i'r gallu i longyfarch y bobl hynny am bopeth y maen nhw'n ei wneud? Yn hytrach, pan fo 628,000 o bobl wedi cael eu brechu yn llwyddiannus, mae ef eisiau siarad â ni am dri o bobl y mae wedi clywed ganddyn nhw y mae'n ymddangos bod ganddyn nhw gŵyn.

Brechlynnau COVID-19 yn Nwyrain De Cymru

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu brechlynnau COVID-19 yn Nwyrain De Cymru? OQ56297

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Dirprwy Lywydd. Mae dros 100,000 o frechiadau wedi eu rhoi yn Nwyrain De Cymru erbyn hyn, yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio.

Diolch. Prif Weinidog, hoffwn eich holi chi am frechiadau i bobl ag anableddau dysgu sy'n byw mewn cartrefi gofal, sy'n fater a godwyd gyda mi gan nifer o etholwyr. Roedd y teuluoedd hyn yn meddwl y byddai eu hanwyliaid yn cael eu brechu yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf, oherwydd addewid y Gweinidog iechyd yn y Siambr hon y byddai holl breswylwyr a staff cartrefi gofal wedi cael brechiad erbyn diwedd mis Ionawr. Ond, nid oedd cartrefi gofal i bobl ag anableddau dysgu wedi'u cynnwys.

Rwyf i wedi siarad ag aelodau teuluoedd preswylwyr ag anableddau dysgu difrifol, sy'n ofni am ddiogelwch eu hanwyliaid, gan fod pobl ag anableddau dysgu wedi bod chwe gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID oherwydd eu bod nhw'n agored i niwed. Rwy'n deall gan Mencap mai dim ond tua 3,500 o bobl sy'n byw mewn lleoliadau preswyl neu leoliadau byw â chymorth. O ystyried y ffigurau rhyfeddol yr ydych chi newydd fod yn eu dyfynnu—rhoddwyd 34,000 o frechiadau yng Nghymru ddydd Sadwrn yn unig—siawns mai dim ond effaith fechan iawn fyddai darparu'r brechiadau hyn yn ei chael ar y broses gyffredinol o roi'r brechlyn. Yn olaf, does bosib na ddylai hefyd fod yn ddefnydd cyfrifol o adnoddau cyhoeddus, gan y gall gofalu am bobl ag anableddau dysgu difrifol yn yr ysbyty fod yn arbennig o anodd oherwydd problemau ymddygiad a diffyg sgiliau iaith. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi felly roi ystyriaeth ddifrifol i newid y polisi hwn?

Wel, Llywydd, mae'n rhaid i mi ei gwneud yn eglur i'r Senedd unwaith eto bod y Llywodraeth Cymru hon yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Y cartrefi gofal sydd wedi'u cynnwys yn y pedwar prif grŵp blaenoriaeth yw'r cartrefi gofal a nodwyd gan y pwyllgor hwnnw. Pan fydd pobl ag anawsterau dysgu yn cael eu nodi yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf hynny, byddan nhw, wrth gwrs, wedi cael eu brechu. Pan nad ydyn nhw, yna byddan nhw'n ymddangos yn y gyfres nesaf o grwpiau blaenoriaeth.

Nawr, nid oes unrhyw bwrpas i Aelodau yn y fan yma feddwl eu bod nhw'n gwybod yn well na'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Rwyf i eisoes wedi clywed gan Mark Isherwood yn dymuno i mi wrthdroi cyngor y Cyd-bwyllgor a rhoi swyddogion yr heddlu ymhellach i fyny'r rhestr. Rwyf i wedi cael cwestiynau ar lawr y Senedd gan Aelodau eraill yn dymuno i mi roi athrawon ar frig y rhestr. Nawr, mae'r Aelod eisiau i mi wrthdroi cyngor y Cyd-bwyllgor ar gyfer grŵp arall yn y boblogaeth. Mae gan bob un o'r grwpiau hynny ddadl i'w gwneud, ac yn aml dadl sy'n gymhellol ar ei thelerau ei hun, ond ni all Llywodraeth Cymru wrthdroi'r cyngor y mae pob un o bedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei ddilyn.

Nawr, sylwais ar yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog yr Alban, o chwaer blaid yr Aelod, pan ofynnwyd iddi ar lawr Senedd yr Alban i wneud yr hyn y mae hi'n gofyn i mi ei wneud—i wrthdroi rhestr flaenoriaethu'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ac i roi pobl ymhellach i fyny nag a fyddai'n wir yn achos y Cyd-bwyllgor. A dywedodd hi, ar lawr Senedd yr Alban, 'Ein dyletswydd ni yw brechu yn unol ag argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.' Rwy'n cytuno â Phrif Weinidog yr Alban yn hynny o beth. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru. Dyna sy'n digwydd yn y rhan o Gymru y mae'r Aelod yn ei chynrychioli. Ac ni allaf ac ni wnaf i wneud yr hyn a fyddai, yn fy marn i, yn rhywbeth anghyfrifol a gwyro oddi wrth y cyngor yr ydym ni wedi ei gael.

15:35

Rwyf i wedi bod mewn cysylltiad ag etholwyr sydd wedi cael y brechlyn—brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca—a dau gwestiwn allweddol a godwyd gyda mi fu, yn gyntaf oll, ynglŷn â'r amseriad ar gyfer yr ail bigiad yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. A ydym ni'n hyderus y byddan nhw ar y trywydd iawn i dderbyn hwnnw yn yr amser sydd wedi'i ddynodi? A wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd ynglŷn â hynny? A hefyd o ran brechlyn AstraZeneca, a yw e'n ffyddiog na fydd amrywiolyn De Affrica ac amrywiolion eraill yn effeithio yn sylweddol ar effeithiolrwydd y brechlyn? Ac, os felly, a fyddai rhaglen ar gyfer rhoi pigiadau atgyfnerthu drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer pobl yn etholaeth Caerffili?

Wel, Dirprwy Lywydd, diolchaf i'r Aelod am y ddau gwestiwn pwysig yna. O ran amseriad ail ddos y brechlyn, mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi i ddweud wrthyf i pa mor falch oedden nhw wrth iddyn nhw adael y ganolfan frechu torfol lle'r oedden nhw wedi cael eu pigiad cyntaf, eu bod wedi cael y dyddiad a'r amser ar gyfer iddyn nhw ddod yn ôl i gael eu hail frechiad. Rwy'n credu bod hynny wedi rhoi llawer o hyder iddyn nhw bod y system yma yng Nghymru eisoes wedi ei pharatoi ar gyfer yr hyn a fydd, Dirprwy Lywydd, yn her fawr dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, oherwydd, o hyn ymlaen, nid yn unig y byddwn ni'n cynnig brechiad cyntaf i bobl yn y gyfres nesaf o grwpiau blaenoriaeth, ond byddwn yn cynnig ail frechiad i bobl yr ydym ni eisoes wedi cynnig y cyntaf iddyn nhw wrth i ni gwblhau grwpiau 1 i 4. Mae honno yn her fawr. Ond fel yr ydych chi wedi gweld, mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi ymateb yn wych i'r her gyntaf, ac rwy'n ffyddiog bod y cynlluniau ar waith i ganiatáu i'r ail ddos honno o frechlyn gael ei rhoi mewn pryd gyda'r cyngor sydd gennym ni gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

O ran effeithiolrwydd brechiad AstraZeneca ar gyfer amrywiolyn De Affrica, mae llawer iawn o waith yn dal i gael ei wneud gan wyddonwyr i asesu'r effeithiolrwydd hwnnw, ac rydym ni'n cael cyngor yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru drwy'r cymunedau gwyddonol hynny. Y ffordd orau o weithredu, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr nad yw amrywiolyn De Affrica mewn cylchrediad gennym ni yma yng Nghymru, ac mae ymdrech enfawr yn cael ei gwneud i wneud yn siŵr, yn y nifer fach honno o achosion a nodwyd, bod popeth yn cael ei wneud i atal trosglwyddo ymlaen.

Yr hyn y mae angen i ni ei weld, rwy'n credu, yw cyfres gryfach o amddiffynfeydd wrth ein ffiniau. Rhestr goch Llywodraeth y DU yw'r lleiaf posibl o ran yr hyn y mae angen ei wneud i wneud yn siŵr nad yw'r holl enillion sy'n cael eu gwneud o ran atal y feirws a brechu ein poblogaeth yn cael eu peryglu gan bobl yn dod i mewn i'r Deyrnas Unedig o rannau eraill o'r byd lle gallai amrywiolion newydd eraill eisoes fod yn cylchredeg. Felly, mae gwaith yn parhau ar effeithiolrwydd brechiad AstraZeneca, ond gellid gwneud mwy i liniaru'r risg y bydd yr amrywiolion newydd hynny yn dod i mewn i'r Deyrnas Unedig yn y lle cyntaf.

Llacio'r Cyfyngiadau Symud

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i lunio strategaeth i lacio'r cyfyngiadau symud? OQ56292

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bydd ein dull o lacio cyfyngiadau yn parhau i fod yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor meddygol diweddaraf. Byddwn yn llacio'r cyfyngiadau symud mewn ffordd raddol ac yn diweddaru ein cynllun rheoli coronafeirws i gymryd amrywiolion newydd a chyflwyniad y brechiad i ystyriaeth.

15:40

Diolch, Prif Weinidog. Yn amlwg, mae diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig, ac mae angen i ni wneud popeth y mae angen i ni ei wneud ar yr adeg iawn, ond mae angen cymaint o rybudd â phosibl ar ein busnesau ynghylch pryd y gallan nhw ddechrau paratoi i ddychwelyd i fusnes. Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar fap ffordd allan o'r cyfyngiadau symud fel y gall busnesau fod yn barod pan fydd yr amser yn iawn. Yn arbennig, maen nhw eisiau i chi gadarnhau'r hyn a fydd yn cael ei ystyried yn weithgarwch economaidd risg isel, canolig ac uchel fel y gall busnesau ddeall beth fydd ar agor yn gynharach ac yn hwyrach. Mae busnesau yr wyf i wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn galw am fwy o eglurder fel y gallan nhw fuddsoddi a chynllunio ar gyfer ailagor. A oes gennych chi strategaeth ymadael ar waith y gellir ei darparu, yn rhannol, i ddarparu'r eglurder hwnnw a'r wybodaeth y mae wir ei hangen ar gyfer ein busnesau? Diolch.

Wel, y cynllun rheoli coronafeirws yw ei enw. Fe'i cyhoeddwyd ar 14 Rhagfyr. Mae'n nodi ein fframwaith lefel rhybudd. Mae'n dweud wrth bobl yng Nghymru beth yw'r dangosyddion y byddwn ni'n eu defnyddio i benderfynu a yw Cymru ar gyfres lefel 4 o gyfyngiadau, lefel 3, lefel 2, ac mae'n esbonio beth fydd yn bosibl o ran ailagor yr economi, bywyd personol, chwaraeon a gweithgarwch diwylliannol ar bob un o'r lefelau hynny. Cyhoeddwyd y cynllun yn y ffordd honno yn union er mwyn cynnig y math o sicrwydd y mae'r Aelod wedi gofyn amdano. Rwy'n credu ei fod i gyd yno. Dywedais yn fy ateb gwreiddiol y byddwn ni'n diweddaru'r cynllun hwnnw, oherwydd fe'i lluniwyd cyn cael dealltwriaeth eang o amrywiolyn Caint a chyn i'r rhaglen frechu wedi cychwyn. Rwy'n awyddus i ni ddiweddaru'r cynllun i gymryd i ystyriaeth y datblygiadau cadarnhaol hynny ar y naill law a datblygiadau heriol ar y llaw arall. Ond pan fyddwn ni'n ei ddiweddaru, bydd yn parhau i wneud yr hyn y bwriadwyd iddo ei wneud, sef rhoi cymaint o sicrwydd ag y gallwn i bobl, o dan amgylchiadau hynod ansicr y pandemig, trwy roi synnwyr eglur i bobl o'r dangosyddion y byddwn ni'n eu defnyddio i symud rhwng lefelau a'r math o weithgarwch y gellid ei ailddechrau pan fyddwn ni mewn sefyllfa i symud allan o lefel 4, fel yr ydym ni heddiw, ac i symud i lawr y lefelau, gan adfer gwahanol fathau o ryddid wrth i ni wneud hynny.

Prif Weinidog, mae llawer iawn o bryder yng Nghymru ynghylch effaith y pandemig a'r cyfyngiadau ar blant a phobl ifanc, y gwn eich bod chi'n sicr yn ei rannu. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi o ran y flaenoriaeth o gael ein plant yn ôl i'r ysgol cyn gynted â phosibl, gan ddechrau o bosibl gyda phlant y cyfnod sylfaen. A wnewch chi gytuno hefyd bod angen i ni gael ein pobl ifanc, ein plant, yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon a'r gweithgareddau lu y maen nhw'n eu mwynhau am y manteision iechyd meddwl a chorfforol yn ogystal â'r rhyngweithio cymdeithasol sy'n gysylltiedig a hynny? Pan fydd rhywfaint o ryddid i wneud hynny, Prif Weinidog, a fyddai adfer y gweithgareddau hynny ymhlith, efallai, y syniadau cyntaf sydd gennych chi o ran sut y gallwn ni lacio'r cyfyngiadau?

Diolchaf i John Griffiths am y pwyntiau yna. Yn wir, maen nhw'n bwyntiau y mae Laura Anne Jones ei hun wedi eu gwneud i mi yn y gorffennol. Mae'r cynllun rheoli coronafeirws y cyfeiriais i ato yn dweud yn benodol iawn y caiff gweithgareddau plant dan oruchwyliaeth ailddechrau pan fyddwn ni mewn sefyllfa i symud tuag at lefel rhybudd 3. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod am yr effaith y mae'r 12 mis diwethaf i gyd wedi ei chael ar blant a phobl ifanc. Dyna pam mai ein prif flaenoriaeth yw cael y bobl ifanc hynny yn ôl i'r ystafell ddosbarth. Fel y mae mwy o le yn ymddangos, cyn belled â'i fod yn ymddangos, yna bydd cynnig cyfleoedd i'r bobl ifanc hynny y tu allan i'r ysgol, yn enwedig yn yr awyr agored, yn rhan bwysig iawn o feddylfryd y Llywodraeth hon.

Blaenoriaethau Rhyngwladol

6. Beth y mae blaenoriaethau rhyngwladol Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystod pandemig COVID-19? OQ56291

15:45

Yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, roedd ein gweithgarwch rhyngwladol yn cynnwys cael gafael ar gyfarpar diogelu personol a chynorthwyo Llywodraeth y DU i helpu dinasyddion Cymru i ddychwelyd adref o dramor. Roedd y cynlluniau gweithredu rhyngwladol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi ein blaenoriaethau o ran cefnogi adferiad Cymru yn sgil y pandemig.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Gan fod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, rwy'n credu yn sicr ei bod hi bellach yn hanfodol bod Cymru yn sefydlu ei rhan hi ei hun yn y byd fel gwlad ynddi ei hun. Mae Plaid Geidwadol Cymru wedi ei gwneud yn eglur y bydden nhw yn cyfyngu yn aruthrol ar allu Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â gwledydd eraill drwy dorri'r cyllid i'r meysydd hynny nad ydyn nhw wedi'u datganoli yn bendant, gan dawelu llais Cymru yn y byd i bob pwrpas a'n hatal ni rhag siarad dros ein gwlad a'n busnesau dramor. Mae'n amlwg i'r rhan fwyaf ohonom ni yn y fan yma y byddai'r dull hwn wedi llesteirio yn aruthrol y manteision y mae cydweithredu rhyngwladol wedi eu cynnig i Gymru, yn enwedig yn ystod pandemig y coronafeirws. Felly, Prif Weinidog, yn ystod y pandemig hwn, pa ran y mae Cymru wedi ei chwarae yn rhyngwladol a beth yw uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol a chydweithredu rhyngwladol yn y dyfodol?

Diolchaf i Mick Antoniw am y cwestiwn yna. Mae'n hollol iawn; ni fu erioed amser pwysicach i gynnal proffil ac enw da Cymru dramor. Rydym ni'n dal i fod yn wlad ryngwladol sy'n edrych tuag allan, ac mae hynny wedi bod yn bwysig iawn i ni yn ystod argyfwng y coronafeirws, yn uniongyrchol yn y cysylltiadau y mae'r prif swyddog meddygol wedi eu cael gyda chydweithwyr yn Ne Korea a Sweden ac yn Sefydliad Robert Koch yn yr Almaen, er enghraifft, ac yn y gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei wneud ochr yn ochr â Sefydliad Iechyd y Byd. Rwy'n credu ei bod hi wedi bod yn bwysig iawn cynnal ein cysylltiadau â rhwydweithiau rhyngwladol allweddol dros y 12 mis diwethaf.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am gynrychioli Cymru yng nghyfarfod diwethaf grŵp cyswllt Pwyllgor y Rhanbarthau yn y DU, ac yn ddiolchgar i David Rees ac i Russell George am gytuno i fod yn gynrychiolwyr Cymru yn y trefniadau hynny yn y dyfodol. Nid ydym ni wedi camu yn ôl yn ystod y 12 mis diwethaf o'n cyfranogiad o ran, er enghraifft, cadeirio Menter Vanguard, menter ymhlith cyfres o Lywodraethau rhanbarthol sy'n edrych ar arbenigo deallus a manteisio ar y cryfder sydd gennym ni yn y de-ddwyrain yn arbennig. Gwn y bydd Mick Antoniw wedi rhoi sylw arbennig o agos i'r camau parhaus yr ydym ni wedi eu cymryd drwy'r rhaglen Cymru ac Affrica, ar ôl i grŵp PONT yn ei etholaeth ef ei hun chwarae rhan mor bwysig yn hynny i gyd.

Disgwyliaf i hynny fod yn rhan o weddill y flwyddyn galendr hon hefyd. Yn ystod y mis neu ddau diwethaf, rwyf i wedi cyfarfod â llysgenhadon o Japan, Arlywydd Gwlad y Basg, y llysgennad o'r Almaen, cefais gyfarfod â Gweinidog tramor ac amddiffyn Gweriniaeth Iwerddon, byddaf yn cyfarfod ag uchel gomisiynydd Seland Newydd yfory—mae'r holl gysylltiadau hyn yn dangos bod awydd yng ngweddill y byd i gadw eu cysylltiad â Chymru. Mae hynny yn hanfodol i ni o ran cyfleoedd masnach a chyfnewid diwylliannol yn y dyfodol, ac o ran gwneud yn siŵr bod enw da Cymru yng ngweddill y byd yn cael ei gynnal yn rymus. Diolchaf i'r Aelod am y cyfraniad y mae wedi ei wneud at hynny i gyd drwy gydol tymor y Senedd hon.

Cefnogaeth i'r Economi Wledig

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r economi wledig yn ystod y pandemig? OQ56294

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd amrywiaeth o gamau i gefnogi'r economi gyfan, yn ogystal â rhoi cyllid penodol ar gael ar gyfer yr economi wledig yng Nghymru.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel yr ydych chi newydd ei amlygu, mae'r economi wledig yn wynebu heriau gwahanol ac amrywiol o'i chymharu ag ardaloedd trefol, ac mae hynny wedi digwydd erioed cyn y pandemig hefyd. Mae'r pandemig wedi amlygu pa mor agored i niwed y gall ein ffordd wledig o fyw fod. A wnaed unrhyw asesiad o faint o swyddi a gollwyd mewn cymunedau gwledig o'u cymharu ag ardaloedd trefol, a faint o gwmnïau sydd wedi eu colli? Sut mae cymorth yn cael ei deilwra yn benodol fel ei fod yn addas i'r problemau penodol y mae ardaloedd gwledig yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac, yn wir, wrth i ni ddod allan o'r pandemig a gobeithio tyfu yn ôl yn well?

15:50

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fe fydd yn gwybod, ar hyn o bryd, ei bod yn eithaf anodd ceisio dirnad lefel y swyddi wedi'u colli yn economi'r DU. Mae'r cynllun cadw swyddi, yr ydym ni wedi'i gefnogi, wedi atal lefel y golled, ac mae Banc Lloegr a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud wrthym na fyddwn yn gwybod yn union beth fydd effaith economaidd y coronafeirws a Brexit, gadael yr Undeb Ewropeaidd, ar ein heconomi ni tan ail neu drydydd chwarter y flwyddyn hon. Felly, ar hyn o bryd, rwy'n credu ei bod yn eithaf anodd nodi gydag unrhyw ddibynadwyedd lefel y swyddi a gollwyd mewn gwahanol rannau o economi Cymru, boed hynny'n sectoraidd neu'n ddaearyddol. Er hynny, mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi'i gyfeirio'n benodol iawn at sectorau o'r economi sy'n bwysig mewn rhannau o gefn gwlad Cymru. Mae'r gefnogaeth yr ydym ni wedi'i rhoi i'r sector twristiaeth, er enghraifft, yn elfen bwysig iawn o economi cymunedau gwledig mewn sawl rhan o Gymru, a bydd y cymorth ychwanegol yr ydym ni wedi'i gyhoeddi yn ystod yr wythnosau diwethaf yn parhau i gynnal y diwydiant hwnnw tan ddiwedd mis Mawrth. Rwy'n hapus iawn, fel yr awgrymodd yr Aelod, i sicrhau ein bod ni'n parhau i weithio gyda'r buddiannau hynny sy'n cynrychioli gwahanol rannau'r economi wledig yma yng Nghymru er mwyn gwneud yn siŵr, wrth inni symud y tu hwnt i coronafeirws ac i'r cyfnod adfer, y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i'w cefnogi ac y gallant ailddechrau'r gweithgarwch economaidd y maen nhw'n dymuno gallu ei gyflawni er mwyn creu dyfodol llwyddiannus yn y diwydiannau hynny.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol')

Eitem 2 ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol. Daw'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU ynghylch effaith Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar weithrediad y gyfraith yng Nghymru a Lloegr? OQ56266

Mae swyddogion yn mynychu cyfarfodydd misol gyda chymheiriaid Llywodraeth y DU ar ddatblygu polisi yn y maes hwn. Ni chafodd unrhyw faterion yn ymwneud â gweithredu'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr eu nodi o ran y rheoliadau hyn. Byddan nhw'n helpu i ddiogelu cyrsiau dŵr trawsffiniol, megis Afon Gwy, rhag canlyniadau llygredd amaethyddol.

Diolch. Yn unol â rheoliad 46,

mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored, wedi euogfarn ddiannod, neu euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol wedi cyfrifo y gallai'r gost cyfalaf ymlaen llaw gyrraedd £360 miliwn. Mae hynny £100 miliwn yn fwy na chyfanswm yr incwm diweddaraf o ffermio yng Nghymru, a dim ond 3.6 y cant o hynny yw'r £13 miliwn y mae eich Llywodraeth Cymru chi yn ei gynnig. Mae'n gwbl afresymol ac yn anobeithiol o anghymesur. Oherwydd gweithredoedd eich Llywodraeth Cymru chi, gallai ffermwyr o bob cwr o Gymru fod yn ymuno â'r llinell hir o unigolion sy'n aros am euogfarn mewn llysoedd ynadon.

Er bod Llywodraeth y DU yn sefydlu llysoedd Nightingale i helpu i sicrhau bod cyfiawnder yn parhau i gael ei ddarparu yn ystod y pandemig, gallai eich rheoliadau chi achosi pwysau ychwanegol. Yn hytrach na cheisio gweld ffermwyr yn lleihau llygredd ymhellach drwy fygythiad euogfarn, a rhoi baich ar ynadon, a wnewch chi annog Llywodraeth Cymru i wrando ar argymhellion is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol, megis 5.4, sy'n galw am sicrhau cefnogaeth i ddull gwirfoddol? Diolch. 

Mae'r rheoliadau yn gymesur, yn wahanol i'r hyn a awgrymir yng nghwestiwn yr Aelod—

Mae'r rheoliadau yn gymesur, yn wahanol i'r hyn a awgrymir yng nghwestiwn yr Aelod, gan eu bod wedi'u hanelu at weithgareddau penodol sy'n achosi llygredd. Byddan nhw'n cael eu cyflwyno dros gyfnod o dair blynedd. Hefyd, boed hynny drwy'r grant cynhyrchu cynaliadwy neu'r rhaglen datblygu gwledig a chynlluniau grant, mae cymorth ariannol ar gael i gefnogi ffermwyr i weithio tuag at y drefn newydd honno, sy'n bwysig ar gyfer cefnogi ein hamgylchedd. Ac er fy mod yn cydnabod y costau ariannol a ddaw yn sgil rheoleiddio newydd o unrhyw fath, hoffwn i atgoffa'r Aelod mai ei phlaid hi geisiodd dynnu £137 miliwn allan o bocedi'r ffermwyr eleni, a Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, sydd wedi dod o hyd i'r arian hwnnw o ffynonellau eraill i wneud yn iawn am y gwahaniaeth, i ddiogelu ffermwyr rhag wynebu'r ergyd ariannol honno.

15:55

Cwestiwn 2, Neil McEvoy. Na, nid wyf i'n credu bod yr Aelod yn bresennol. Felly, cwestiwn 3, Janet Finch-Saunders.

Ni ofynnwyd cwestiwn 2 [OQ56263].

Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn erbyn Arch Insurance (UK) Ltd ac Eraill

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU ynghylch effaith y dyfarniad yn achos yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (apelydd) yn erbyn Arch Insurance (UK) Ltd ac eraill (ymatebwyr)? OQ56265

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r eglurder y mae'r dyfarniad yn ei ddarparu ar gyfer busnesau a chwsmeriaid unigol. A byddwn ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraethau datganoledig, a'r diwydiant, i fonitro effaith y dyfarniad llys hwn ar fater hawliadau yswiriant dilys.

Diolch. Mae'n galonogol iawn clywed eich bod chi'n gweithio'n gadarnhaol gyda Llywodraeth y DU ar fater fel hwn. Mae'r apeliadau'n egluro a yw amrywiaeth ymadroddion polisïau yswiriant yn cwmpasu colledion oherwydd amharu ar fusnesau sy'n deillio o bandemig COVID-19, a mesurau iechyd cyhoeddus wedi'u cymryd gan awdurdodau'r DU, mewn ymateb i'r pandemig, o fis Mawrth 2020. Felly, fel yr ydych chi wedi'i ddweud yn gywir, mae'r dyfarniad yn newyddion da i fusnesau. Er enghraifft, cafodd cymalau clefydau eu dehongli fel rhai sy'n cwmpasu colledion oherwydd amharu ar fusnesau yn sgil COVID-19. Dywedodd y Goruchaf Lys y gallai cyfarwyddyd gan awdurdod cyhoeddus fod yn gyfyngiad a osodwyd mewn cymalau atal mynediad a hybrid. Ac mae hefyd yn ddigon i ddeiliad polisi ddangos, ar adeg unrhyw fesur perthnasol gan y Llywodraeth, fod o leiaf un achos o COVID-19 yn yr ardal ddaearyddol wedi'i chwmpasu gan y cymal. Roedd y materion a godwyd yn yr achos mor bwysig, wrth gwrs, fel yr aeth yn uniongyrchol i'r Goruchaf Lys o dan y weithdrefn naid. Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i helpu i wneud busnesau ledled Cymru yn ymwybodol o'r dyfarniad pwysig sydd wedi'i wneud, a'r effaith fwyaf cadarnhaol y gallai hyn ei chael arnyn nhw? Diolch.

Wel, gallaf sicrhau'r Aelod fy mod i a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ym mis Ebrill y llynedd, rwy'n credu, wedi cyfarfod am y tro cyntaf â'r ABI—Association of British Insurers—i drafod y mater penodol hwn, cyn ystyried ymgyfreitha. Ac mae i'w groesawu bod y 21 math o gymal polisi sydd wedi'u samplu gan y Goruchaf Lys wedi bod yn destun y canlyniad clir hwn. A'r effaith ymarferol yw y bydd y cymalau yswiriant, sy'n destun yr ymgyfreitha, yn darparu'r warchodaeth. Rydym ni'n parhau i gyfeirio busnesau y mae gan Lywodraeth Cymru gysylltiadau a pherthynas â nhw at yr wybodaeth sydd ar gael, ac at yr adnoddau sydd ar gael i'r cyhoedd, mewn cysylltiad â'r dyfarniad pwysig hwn. Oherwydd mae'n rhoi rhyw fath o eglurder y mae busnesau wedi bod yn gofyn amdano ers misoedd lawer.

Cydgrynhoi Cyfraith Cymru

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gydgrynhoi cyfraith Cymru yn y pumed Senedd? OQ56271

Mae'r Senedd wedi gweld cyhoeddi adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar ffurf a hygyrchedd cyfraith Cymru, ymrwymiad y Llywodraeth hon i raglen atgyfnerthu a chodio, a chyflawni Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, sy'n creu dyletswyddau newydd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo bellach ar y ddau Fil cydgrynhoi cyntaf, a fyddai ar gael i'r Llywodraeth yn y Senedd nesaf eu datblygu, os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny, ynghyd â phrosiectau eraill i atgyfnerthu a chodio cyfraith Cymru.

16:00

Diolch am yr ateb hwnnw, ac er fy mod i'n croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, rwy'n teimlo y byddai wedi bod yn well petaem ni wedi cymryd maes polisi cyhoeddus gwirioneddol bwysig ac wedi gweld rhywfaint o gynnydd sylweddol yn ystod y pumed Senedd, ac mae cyfraith tai yn faes allweddol lle gallem fod wedi gwneud hynny. Rwy'n credu ein bod ni wedi pasio pedwar Bil tai neu bedair Deddf tai. Ac a ydych chi'n rhannu fy siom i, am ba resymau bynnag, ac nid wyf yn rhoi bai yma, na fu'n bosibl efallai gwneud cymaint o gynnydd ag y byddem ni wedi ei hoffi, o ystyried ein bod bellach wedi cael ein pwerau deddfu ers bron 10 mlynedd?

Wel, rwy'n credu ei bod bob amser yn well, fel y mae cwestiwn David Melding yn ei awgrymu, i ddeddfu mewn ffordd sydd mor hygyrch â phosibl, ond weithiau mae'n wir, pan fydd diwygio mewn maes penodol yn arbennig o ddwys, gall hynny fod y pwynt lleiaf cyfleus weithiau i atgyfnerthu'r gyfraith. Ond rwy'n ei sicrhau bod o leiaf ddau Fil cydgrynhoi, a fydd, er nad ydyn nhw wedi cyrraedd y Senedd eto, ar gael i'r Llywodraeth mewn Senedd newydd i ddechrau gyda'i rhwymedigaethau statudol newydd. Ac rwy'n dathlu bod y Senedd hon wedi pasio'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer y broses atgyfnerthu honno, y gwn ei fod ef yn eiriolwr drosto ei hun. Ac mae'r mathau o heriau y mae'n eu gosod i ni, fel Llywodraeth, yn cael eu hwyluso gan y ffaith bod y Senedd wedi pasio'r ddeddfwriaeth honno.

Sylwebaeth ar Gyfraith Cymru

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymdrechion i wella ansawdd a chwmpas y sylwebaeth ar gyfraith Cymru yn ystod y pumed Senedd? OQ56272

Mae'r Senedd wedi gweld y Llywodraeth yn datblygu ei huchelgeisiau ar gyfer mwy o gynnwys ynghylch cyfraith Cymru, gan gynnwys camau i wella nodiadau esboniadol, i ddatblygu gwefan newydd Cyfraith Cymru ac i ddechrau'r gwaith o drefnu a chyhoeddi cyfraith fesul pwnc, yn hytrach nag yn gronolegol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ac rwy'n croesawu'r ymdrechion sydd wedi'u gwneud, sydd, yn fy marn i, yn eithaf sylweddol. Ac a ydych chi'n cytuno â mi fod llenyddiaeth gyfreithiol o ansawdd da yn wirioneddol bwysig, nid yn unig i'r dinesydd gwybodus, ond i'r cyfreithwyr niferus ar y stryd fawr? Y nhw fydd yn bwynt cyswllt cychwynnol i'r bobl sydd ag ymholiad o ran cyfraith Cymru mewn meysydd gwasanaeth cyhoeddus allweddol, ac fe allan nhw gyfeirio pobl ac yna weld ble y gallai fod angen iddyn nhw ddatblygu mwy o wybodaeth a cheisio'r cyngor hwnnw, ac y gallan nhw, o leiaf, gael y math hwnnw o borth, a fydd yn rhoi lle da i gael crynodeb o'r gyfraith bresennol?

Ie, yn wir. Rwy'n cefnogi'r uchelgais hwnnw. Roeddwn i wedi gobeithio erbyn hyn gallu sicrhau y byddai gwefan Cyfraith Cymru, yn ei fformat newydd, yn fyw, a hefyd wneud mwy o gynnydd o ran cyhoeddi deddfwriaeth yn ddwyieithog ar wefan legislation.gov.uk. Cafodd y ddau brosiect hynny eu gohirio i raddau yn ystod yr ymateb i COVID, os dymunwch chi. Ond rydym ni wedi gwneud cynnydd o ran datblygu safle newydd Cyfraith Cymru. Roedd gwaith ar drosglwyddo cynnwys iddi ar y gweill pan oedd yn rhaid dargyfeirio adnoddau yn anffodus i fynd i'r afael â COVID. Ond rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn ni mewn sefyllfa'n fuan iawn i wneud hynny'n fyw, ac i hynny fod yn ffordd o ddenu sylwadau, gan ymarferwyr, ond hefyd gan gyrff eraill y diwydiant ynghylch eu safbwyntiau cyfreithiol. Mae'n hanfodol, fel y dywed, sicrhau bod y sylwebaeth gyfoethog honno ar y gyfraith yr ydym ni'n ei phasio ar gael ac ar gael yn rhwydd, i'r aelod o'r cyhoedd sydd â diddordeb, ond hefyd, yn bwysig iawn, i ymarferwyr a chyfryngwyr. Ac rwy'n gobeithio y bydd gennym fwy i'w ddweud am hynny cyn diwedd tymor y Senedd.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Threfnydd, Rebecca Evans.

Diolch. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad llafar gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth o ran effaith COVID-19 ar dwristiaeth yng Nghymru a'r camau sy'n cael eu cymryd i gynllunio ar gyfer ailagor y sector?

Nawr, fel y gwyddoch chi, mae twristiaeth yn chwarae rhan enfawr yn fy etholaeth i, ac yn cefnogi llawer o swyddi lleol yn yr ardal. Yn anffodus, mae busnesau ledled Sir Benfro yn parhau i fod â phryderon ynghylch materion fel cymorth busnes, ac mae angen mwy o eglurder arnyn nhw hefyd, yn hollbwysig, ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ailagor y sector fel y gallan nhw ddechrau cynllunio a pharatoi eu busnesau eu hunain. Rwy'n sylweddoli y gall fod yn anodd i chi fel Llywodraeth ragweld cyfraddau heintio coronafeirws, hyd yn oed yn y dyfodol agos, o ystyried ein bod ni wedi gweld cymaint o droeon annisgwyl yn ystod y pandemig hwn. Byddai gosod map ffordd ar gyfer ein diwydiant twristiaeth o fudd enfawr i'n busnesau twristiaeth. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Llywodraeth ddod o hyd i beth amser i gynnwys datganiad yn yr agenda yn y dyfodol agos, gan amlinellu bwriadau'r Llywodraeth, fel y gall busnesau ddechrau cynllunio ymlaen llaw, o gofio bod y Pasg bellach ar y gorwel.

Yn ail, a gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gennych chi neu'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn â sicrhau bod gan bobl gyfle i fanteisio ar gyfleusterau arian parod yn eu cymuned leol, sy'n arbennig o bwysig, o gofio'r cyfyngiadau teithio sydd ar waith. Efallai eich bod chi, neu efallai nad ydych chi'n ymwybodol bod swyddfa bost Wdig yn fy etholaeth i mewn perygl o golli ei pheiriant arian parod ac, yn anffodus, fel yr wyf i'n siŵr y byddwch chi'n ei werthfawrogi, mae nifer o fanciau yn yr ardal leol eisoes wedi cau, sy'n golygu y bydd pobl leol heb gyfleuster arian parod yn y gymuned benodol honno. O ystyried pwysigrwydd cyfyngu ar symudiadau teithio yn ystod y pandemig, mae cael gafael ar arian parod yn lleol yn hanfodol, ac, felly, byddwn i'n ddiolchgar os gallai'r Llywodraeth ddarparu datganiad yn amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymgysylltu â banciau, swyddfeydd post ac, yn wir, fusnesau eraill, i sicrhau bod y mathau hyn o gyfleusterau ar gael yn ein cymunedau lleol.

16:05

Rwy'n ddiolchgar i Paul Davies am godi'r ddau fater pwysig hyn, ac mae Llywodraeth Cymru yn deall yn iawn bwysigrwydd y sector twristiaeth i rannau helaeth iawn o Gymru, ac rydym ni'n awyddus iawn i gefnogi'r sector yn y ffordd orau bosibl. Gwn i y bydd y Dirprwy Weinidog yn gwrando ac yn ystyried y cais am ddatganiad penodol ar gymorth, ond hoffwn i ystyried y pecyn cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar waith ar gyfer busnes. Dyma'r un mwyaf hael yn unrhyw fan yn y Deyrnas Unedig ac, mewn gwirionedd, mae'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i drosglwyddo i fusnesau yma yng Nghymru mewn gwirionedd yn fwy na'r cyllid canlyniadol yr ydym ni wedi'i gael gan Lywodraeth y DU o ran cymorth busnes. Rwy'n credu bod hynny'n dangos y flaenoriaeth yr ydym ni'n ei rhoi i'r sector. Ond rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ystyried yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud yn ofalus iawn.

Unwaith eto, rwy'n rhannu pryder Paul Davies ynghylch cyfleoedd i fanteisio ar gyfleusterau bancio ac arian parod mewn cymunedau lleol. Mae'r Prif Weinidog yn awyddus iawn i fynd ar drywydd y syniad o fanc cymunedol i Gymru, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Ken Skates wedi bod yn gweithio ar y syniad penodol hwn gyda Banc Cambria a Chanolfan Cydweithredol Cymru. Byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bob cyd-Aelod ynghylch y gwaith hwnnw, oherwydd rwy'n gwybod ei bod o ddiddordeb arbennig i bob un ohonom ni i sicrhau y gall ein hetholwyr ni fanteisio ar y cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw.

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, un datganiad ar ddynodi rhywbeth fel chwaraeon, neu a yw'n chwarae a hamdden. Byddwn i'n awgrymu y dylid dynodi unrhyw beth sy'n ddigwyddiad Olympaidd fel chwaraeon. Nawr, mae'r dynodi hwn yn cael effaith fawr ar yr adeg y gall cyfleuster ailagor a pha haen y mae'n ailagor ynddi, ac rwy'n credu bod llawer o bobl yn pryderu'n fawr eu bod yn chwaraeon sydd wedi eu trin fel pe baent yn chwarae a hamdden.

Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano, a gwnaeth Huw Irranca-Davies a minnau ei godi fis yn ôl, yw datganiad ynghylch athrawon cyflenwi a'r ffordd y maen nhw'n cael eu cyflogi. Rwy'n gwneud cais arall am ddatganiad ar athrawon cyflenwi. Mae fy marn i ynghylch triniaeth wael athrawon cyflenwi yn hysbys iawn, ac fe hoffwn i eu gweld yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan awdurdodau lleol neu grwpiau o awdurdodau lleol. Ond rwy'n credu bod angen datganiad gan y Llywodraeth i egluro pam nad yw'r Llywodraeth yn cefnogi hynny.

Wel, mae'r rheoliadau'n penderfynu a oes raid i fusnes neu safle aros ar gau ar y gwahanol lefelau o rybudd, ac mae Llywodraeth Cymru, yn ei chynllun rheoli, yn darparu canllawiau ar yr hyn sy'n cael agor neu sy'n gorfod aros ar gau. Ar lefel rhybudd 4, mae cyfyngiadau'n ei gwneud yn ofynnol i bob cyfleuster chwaraeon a hamdden aros ar gau, ac ar lefel rhybudd 3, mae cyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd a champfeydd, yn cael agor, ond rhaid i ganolfannau sglefrio ac aleau bowlio aros ar gau. Fel y dywed Mike Hedges, mae'n rhaid i ganolfannau chwarae dan do, a chanolfannau trampolîn a sglefrio aros ar gau ar lefel rhybudd 3 hefyd. Ond yn dilyn y sylwadau yr wyf i wedi'u cael a'r rhai y gwn i fod Mike Hedges wedi'u cael hefyd, pan fyddwn ni'n gallu symud i rybudd lefel 3, bydd Llywodraeth Cymru yn ailedrych ar y canllawiau i roi unrhyw eglurhad arall y gallai fod ei angen.

Ac o ran y cais ynghylch y datganiad yn ymwneud ag athrawon cyflenwi, gwn i fod y Gweinidog Addysg wedi ysgrifennu ddwywaith at Mike Hedges gyda rhywfaint o wybodaeth ychwanegol yn amlinellu'r gefnogaeth, yr arweiniad a'r cyngor y mae Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi'u darparu i athrawon cyflenwi yn ystod y pandemig. Ac rydym ni'n parhau i gysylltu â'n cymheiriaid o fewn Llywodraeth y DU a'r holl randdeiliaid i ddarparu'r cymorth a'r arweiniad diweddaraf. Ond, fel y dywedais i, bydd y Gweinidog Addysg wedi clywed y cais am ragor o wybodaeth y prynhawn yma.

16:10

Mae'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn ymwybodol o adroddiadau diweddar fod staff cartrefi gofal yn gorfod cymryd gwyliau blynyddol pan fydd yn ofynnol iddyn nhw hunanynysu, a'r rheswm dros hyn yw nad yw'r tâl salwch statudol o £96 yr wythnos yn ddigon i fyw arno, yn enwedig pan fydd llawer o bobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal wedi gorfod ynysu nifer o weithiau. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi fod hyn yn anghywir, a bod angen unioni'r sefyllfa? Ac a gawn ni felly ddatganiad mewn ymateb i'r ateb i'r broblem hon y mae Llywodraeth yr Alban yn mynd ar ei thrywydd, lle mae gan unrhyw un sy'n ennill £9.50 yr awr neu'n is yr hawl awtomatig i'r taliadau hunanynysu? Rwyf i o'r farn bod hyn yn hanfodol os ydym eisiau cadw nifer yr achosion o COVID sy'n cael eu trosglwyddo i lawr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo taliad o £500 ar gyfer yr unigolion hynny y mae'n ofynnol iddyn nhw hunanynysu o ganlyniad i amodau'r pandemig, ond gofynnaf i'r Gweinidog iechyd adolygu eich sylwadau y prynhawn yma gan roi sylw penodol i'r staff cartrefi gofal hynny y mae gofyn iddyn nhw nawr gymryd gwyliau blynyddol, o ystyried y swyddogaeth  benodol y mae'r gweithwyr cartrefi gofal hynny'n ei chwarae yn y pandemig.FootnoteLink

Mae angen ichi—. Mae'n ddrwg gennyf, dim ond newydd ddad-dawelu yr ydych chi, felly a wnewch ddechrau eto, os gwelwch chi'n dda?

Diolch. Roeddwn i eisiau codi digwyddiad difrifol ddiwedd y mis diwethaf ar safle Sipsiwn a Theithwyr Queensferry sy'n cael ei reoli gan Gyngor Sir y Fflint, a oedd yn ymwneud â cham-drin achosion o COVID. Cafodd tîm rheoli digwyddiadau ei sefydlu, a phenderfynodd rhywun yn rhywle—yn hytrach na gofyn i'r pum teulu lle'r oedd gan rywun COVID i hunanynysu, orfodi pawb sy'n byw ar y safle hwnnw i fynd i gwarantin, pa un a oedden nhw wedi profi'n negyddol ai peidio. Ac yn fwy na hynny, cafodd cwmni diogelwch ei apwyntio i orfodi'r penderfyniad hwn. A dweud y gwir, nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw achos arall lle mae stryd gyfan neu floc cyfan o fflatiau wedi'i rhoi mewn cwarantin, a hynny heb roi trefniadau ar waith i ddarparu arian i ddigolledu pobl am golli enillion, na darparu bwyd a meddyginiaethau hanfodol. Rwy'n eithaf sicr, pe bai'r tîm rheoli digwyddiadau sy'n ymdrin â'r achosion yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau wedi penderfynu bod yn rhaid cyfyngu eu holl staff i'r gweithle, fe fyddai dicter wedi'i fynegi am y tramgwyddo hyn ar hawliau dynol. Felly, hoffwn i ofyn, Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog, sy'n gyfrifol am gydraddoldeb, na fydd achos mor sylweddol o dorri Deddf Cydraddoldeb 2010 yn digwydd eto a bod awdurdodau lleol yn glir nad oes gan gwmnïau diogelwch unrhyw ran yn y gwaith o hyrwyddo rheolaeth dda ar y berthynas rhwng tenantiaid a landlordiaid, sydd beth bynnag yn hanfodol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth iechyd cyhoeddus â rheoliadau COVID.

Diolch. Rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi bod yn gwrando'n astud iawn ar y cyfraniad hwnnw. Rydym ni'n deall bod Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ei ymchwiliad ei hun ar hyn o bryd i'r digwyddiadau ar safle Glanyrafon, a byddwn ni'n awyddus i ddysgu o'u canfyddiadau. Er hynny, byddwn i'n sôn bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn awyddus iawn i roi cyngor da i awdurdodau lleol ers dechrau'r pandemig. Yn ôl ar 26 Mawrth, rhoddwyd cyngor i awdurdodau lleol ar y ffordd orau o gefnogi cymunedau Sipsiwn a Theithwyr ar safleoedd ac ar wersylloedd ar ochr y ffordd drwy'r pandemig. Ac mae ein cyngor yn glir iawn, gan fod yn rhaid i reoli digwyddiadau COVID-19 ar safleoedd fod yn seiliedig ar gyfathrebu clir, meithrin ymddiriedaeth a chymryd amser i ofyn pa gymorth sydd ei angen ar y preswylwyr hynny. Ond gwn i y bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi clywed y cais am y datganiad penodol.

16:15

A gaf i ddiolch i chi, Ddirprwy Lywydd? Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth? Y cyntaf yr hoffwn i ofyn amdano yw diweddariad ar y datblygiadau o ran metro gogledd Cymru. Sylwais fod rhywfaint o gyfeirio at fetro de Cymru yn y newyddion yr wythnos hon, a gwnaeth hynny fy atgoffa o'r ffaith y bydd buddsoddiad sylweddol ym metro de Cymru wrth gwrs—tua £0.75 biliwn, o'i gymharu â dim ond swm pitw o £50 miliwn yn cael ei wario a'i fuddsoddi ar fetro'r gogledd. Rwy'n credu, ni waeth os oes oedi yn y de ai peidio, yn sicr mae angen inni ddeall pam mae cymaint o wahaniaeth yn y cyllid rhwng y gogledd a'r de ar gyfer y ddau brosiect metro hyn, ac yn sicr mae angen cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yn y gogledd.

A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar effaith cynigion aer glân Llywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn a gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar? Byddwch chi'n ymwybodol, Trefnydd, fod y Papur Gwyn hwnnw'n awgrymu y gallem ni gyflwyno prisio ffyrdd yng Nghymru ar gefnffyrdd Cymru. Byddai hynny'n gwbl ddinistriol i'r bobl sy'n byw yn fy etholaeth i, sy'n defnyddio'r cefnffyrdd i fynd yn ôl ac ymlaen i'w man cyflogaeth, ac yn ôl ac ymlaen i fannau addysg fel ysgolion, ac, yn wir, i'r diwydiant twristiaeth, sy'n gwbl ddibynnol ar bobl yn cyrraedd o leoedd ar y rhwydwaith cefnffyrdd, megis yr A5, yr A55 a'r A494. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol nad ydym yn gwneud unrhyw beth i danseilio effaith y pandemig, ac ni allaf feddwl am ddim byd gwaeth na chyflwyno prisio ffyrdd yng Nghymru ar adeg fel hon.

Byddaf i'n gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd roi'r wybodaeth ddiweddaraf honno i Darren Millar am fetro'r gogledd.FootnoteLink

O ran y cynigion aer glân, byddwn i'n sicr yn annog pob cyd-Aelod i fanteisio ar y cyfle i geisio ymgysylltu'n adeiladol â'r Papur Gwyn a chyflwyno eu hawgrymiadau eu hunain ynghylch sut y gallwn ni sicrhau, yn y dyfodol, fod gennym yr aer glân yr ydym ni i gyd yn anelu ato ac a fydd yn gofyn am ymyriadau gan bob un ohonom mewn pob math o wahanol ffyrdd. Felly, yn y lle cyntaf, rwy'n credu y byddai ymgysylltu'n adeiladol â'r darn penodol hwnnw o waith yn gam cyntaf defnyddiol.

Trefnydd, ym mis Tachwedd, dathlwyd 20 mlynedd o Gronfa Ddysgu Undebau Cymru. Mae'n rhaglen sy'n caniatáu i undebau llafur gefnogi gweithwyr yn ôl i ddysgu, ac, ers mis Ebrill yn unig, yn 2020, mae'r gronfa wedi cefnogi mwy na 5,000 o weithwyr gyda dysgu, cyngor, arweiniad, ar sgiliau hanfodol a chynnydd gyrfaol. Felly, gyda'r newyddion pryderus bod y Ceidwadwyr yn torri cyllid Cronfa Ddysgu'r Undebau yn Lloegr flwyddyn yn gynharach na'r disgwyl, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru am ddatganiad ynghylch pwysigrwydd hyfforddiant yn y gweithle a swyddogaeth Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yng Nghymru?

A gaf i hefyd ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch trafodaethau Llywodraeth Cymru â Centrica, o ran anghydfod diwydiannol diweddar y cwmni, sy'n parhau gyda GMB? Nawr, fel y gwyddoch chi, mae'r undeb wedi cymryd camau diwydiannol yn erbyn y cwmni yn dilyn eu hymdrech i ddiswyddo ac ailgyflogi llawer o'r staff gweithgar sy'n gweithio i'r cwmni. Nawr, fel contractwr pwysig gyda Centrica, ac i gydnabod yr uchelgeisiau gwaith teg yma yng Nghymru, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu'n ddiweddar at fwrdd Centrica ynghylch yr union fater hwn, felly, Gweinidog, rwyf i eisiau gofyn a all Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r ymateb a gafodd gan y bwrdd, neu o leiaf roi diweddariad ysgrifenedig ar ymgysylltiad y Llywodraeth â'r cwmni. Diolch.

Diolch i Huw Irranca-Davies am godi'r materion hyn. Roedd yr un cyntaf yn ymwneud â Chronfa Ddysgu Undebau Cymru, ac wrth gwrs mae hynny'n gyfle delfrydol imi atgoffa fy nghydweithwyr ei bod yn Wythnos Caru Undebau, ac oni bai am yr undebau, ni fyddai gennym yr holl amddiffyniadau yn y gweithle yr ydym ni'n eu mwynhau ac sydd mor hawdd eu cymryd yn ganiataol. Felly, rydym ni'n falch iawn o'r gwaith y mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru wedi bod yn ei wneud, ac wrth gwrs ni fu erioed amser gwell i ymuno ag undeb, gyda'r holl fygythiadau o adael yr Undeb Ewropeaidd ac, wrth gwrs, bwysigrwydd aros yn ddiogel yn y gweithle yn ystod y pandemig.

O ran y mater penodol ynghylch Centrica, yn wir, fe wnaeth y Prif Weinidog ysgrifennu at fwrdd Centrica ar 1 Chwefror yn tynnu sylw at y pryderon sylweddol sydd gan Lywodraeth Cymru am y camau y mae'r cwmni wedi'u cymryd yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae'r llythyr hwnnw'n ailadrodd y gofyniad clir gan Lywodraeth Cymru bod y cwmni yn dychwelyd at y bwrdd trafod i geisio ffordd gytûn ymlaen gyda'r GMB. Rwy'n deall, fel y dywed Huw Irranca-Davies, fod ymateb wedi dod i law erbyn hyn. Yn amlwg, bydd yn rhaid inni ystyried a oes modd rhoi'r ymateb i'r cyhoedd yn llawn, ond byddwn yn sicr yn dod o hyd i gyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein hymgysylltiad â'r cwmni.

16:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, rydym ni i gyd yn deall y materion sy'n ymwneud â'r llifogydd a ddigwyddodd yn Sgiwen, ac rwy'n canmol yn fawr y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ariannu rhai o'r trigolion hynny i sicrhau eu bod yn cael rhywfaint o gefnogaeth. Ond neithiwr, ar Sharp End ar ITV, roedd yn ymddangos bod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn awgrymu ei fod yn gofyn i'r tasglu tipiau glo ystyried goblygiadau mwyngloddiau hefyd ar draws de Cymru, a beth mae hynny'n ei olygu i'n cymunedau. Tybed a allwn ni gael datganiad gan y Gweinidog i ddweud beth yn union y gofynnir i'r tasglu hwnnw ei wneud, pa drafodaethau y mae yn eu cael gyda Llywodraeth y DU o ran y  gweithfeydd hyn, a hefyd pa drafodaethau y mae yn eu cael gyda'r corff glo a Llywodraeth y DU i ystyried pa atebolrwydd sydd yna am lifogydd o'r gweithfeydd hyn. Gan ei fod yn honni nad yw'r atebolrwydd am ddŵr llifogydd yn gyfrifoldeb ar neb, ond, pan fydd yn deillio o strwythur o waith dyn y mae rhywun yn gyfrifol am ei gynnal, siawns na ddylai fod rhywfaint o atebolrwydd yn y fan yna, a dylem ni roi sylw pendant iawn i'r agenda honno. 

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog ynglŷn â'r lladradau cŵn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar? Rydym ni wedi gweld nifer cynyddol o gŵn a chŵn bach yn cael eu dwyn ar draws fy rhanbarth a'm hardal i, a ledled Cymru yn arbennig. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith sy'n cael ei wneud i geisio dod o hyd i'r lladron hynny a dychwelyd rhai o'r cŵn hynny, ond rydym ni bellach mewn sefyllfa lle ymosodir ar bobl sy'n mynd â'u cŵn am dro ar y strydoedd ac mae'r ci wedi'i ddwyn wrth fynd am dro. Mae'n amlwg bod angen inni gael datganiad ynghylch pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd gyda'r awdurdodau perthnasol, gyda'r heddlu a Llywodraeth y DU, a sut y gallwn ni efallai addasu cyfraith Lucy, pan gaiff ei chyflwyno, i sicrhau y caiff pobl sy'n gwerthu'r cŵn bach hyn yn anghyfreithlon eu cosbi'n llym oherwydd eu gweithredoedd.

A chais terfynol, mae Gweinidog yr economi—

Na, na—. Na, na, mae'n ddrwg gennyf. Mae eich amser chi wedi hen ddarfod. Bydd yn rhaid i chi roi cynnig arall arni yr wythnos nesaf. Trefnydd.

Diolch. Y mater cyntaf a godwyd gan David Rees oedd y tasglu tipiau glo, ac ymestyn y gwaith hwnnw nawr i fwyngloddiau, ac mae hynny'n dilyn yr achosion diweddar o lifogydd. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i weld rhaglen waith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar hyn, gan gydnabod bod gan Gymru 40 y cant o dipiau glo'r Deyrnas Unedig gyfan, ac mae'n amlwg y bydd materion ynglŷn â mwyngloddiau yn effeithio'n anghymesur ar Gymru hefyd, felly mae'n bwysig ein bod yn cael y gefnogaeth gywir i fynd i'r afael â hynny. Byddaf yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i David Rees am y trafodaethau sy'n digwydd yn hynny o beth, a hefyd o ran yr awdurdod glo yn benodol.

Ac yna'r ail fater oedd yr un pwysig o ddwyn cŵn, sy'n dod yn fwyfwy pryderus i ni ar draws ein holl gymunedau, rwy'n credu. Mae dwyn anifail anwes yn drosedd o dan Ddeddf Dwyn 1968, nad yw wedi ei datganoli, a'r gosb uchaf wrth gwrs yw saith mlynedd o garchar. Rwy'n gwybod fod Jane Hutt yn cyfarfod yn rheolaidd â'r heddlu, ac y bydd yn awyddus i godi'r mater yma gyda nhw ar ran David Rees a phob un ohonom ni sydd â phryderon am y maes hwn sy'n peri pryder arbennig.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19

Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—yr wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau COVID-19. Galwaf ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd. Rwy'n agor fy natganiad. Dyma ni. Doeddwn i ddim wedi cofio'r cyfan ohono eto.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw rydym ni wedi cyhoeddi'r trydydd adroddiad sy'n crynhoi cynnydd o ran ein strategaeth frechu COVID-19 genedlaethol. Cyhoeddir yr adroddiadau hyn bob dydd Mawrth, yn ogystal â'r data gwyliadwriaeth a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn feunyddiol ac yn wythnosol, a'r data gweithredol a gyhoeddir gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd am hanner dydd heddiw, mae'r rhaglen frechu a arweinir gan GIG Cymru bellach wedi brechu mwy na 628,000 o bobl ledled Cymru gyda'u dos cyntaf. Mae hynny yn ei hanfod yn un o bob pump o'r boblogaeth, ac mae dros 80 y cant o'r rheini wedi'u cynnwys yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf. Dros yr wythnos diwethaf, brechodd ein timau rywun yng Nghymru bob pedair eiliad. Roeddem yn disgwyl cyfnod pellach o weithgarwch dros yr wythnos diwethaf. Rwy'n falch o ddweud bod hynny wedi digwydd a bod y data cyhoeddedig yn tystio i hynny.

Dydd Gwener, 5 Chwefror oedd trigeinfed diwrnod y rhaglen frechu, a dyma hefyd oedd y diwrnod pan gyrhaeddodd nifer y bobl a gafodd eu dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru y marc 0.5 miliwn. Rhagorodd GIG Cymru hefyd ar y nifer beunyddiol o frechiadau a gofnodwyd ar ddau ddiwrnod yn olynol sef ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Rhoddwyd mwy na 30,000 o frechlynnau ar y ddau ddiwrnod, gyda bron i 34,000 yn cael eu cofnodi ddydd Sadwrn yn unig. Mae hynny'n golygu ar gyfer dydd Gwener a dydd Sadwrn, y gwnaethom ni frechu 1 y cant o boblogaeth Cymru bob dydd.

Mae'r rhaglen frechu yn parhau i fynd o nerth i nerth. Erbyn diwedd yr wythnos diwethaf, roeddem ni wedi brechu cyfran fwy o'r boblogaeth gyfan nag unrhyw ran arall o'r DU. Mae hynny'n dal yn wir heddiw gyda'r ffigurau sydd newydd gael eu rhyddhau. Yr wythnos diwethaf, nid yn unig yr oeddem ni yn brechu mwy o bobl bob dydd fel canran o'n poblogaeth nag unrhyw wlad arall yn y DU, ond bryd hynny roeddem ni yn drydydd yn y byd, y tu ôl i'r Emiraethau Arabaidd Unedig ac Israel yn unig. Mae hynny'n gyflawniad gwych ac yn tystio i ymdrechion pawb sy'n gysylltiedig—ein GIG, llywodraeth leol, y fyddin a'r holl wirfoddolwyr.

Fe wnaethom ni ddarparu mwy o frechlynnau i fyrddau iechyd nag ar unrhyw wythnos arall, a phobl yn cael eu brechu mewn 493 o leoliadau ledled Cymru. Rydym ni yn symud ymlaen yn dda drwy'r carfannau blaenoriaeth, ac rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni yn unol â'r garreg filltir fawr gyntaf honno yn unol â'n cynllun cenedlaethol. Disgwyliwn fod wedi cynnig y brechlyn i bawb yng ngharfannau 1 i 4 erbyn diwedd yr wythnos hon.

Hyd yn hyn, buom yn gofyn i bobl aros nes i'r GIG gysylltu â nhw. Fodd bynnag, wrth i gyflymder ein rhaglen frechu gynyddu, mae ein byrddau iechyd yn dechrau gofyn i bobl dros 70 oed gysylltu os na wahoddwyd nhw i gael eu brechu, ond dim ond pobl dros 70 oed yw hynny. Byddwn yn cyfleu'r trefniadau ar gyfer hyn dros yr wythnos nesaf drwy ein byrddau iechyd. Mae'n ddrwg gennym, byddwn yn cyfleu hyn drwy ein byrddau iechyd dros y dyddiau nesaf. Rhan allweddol o hyn i ni yw sicrhau na chaiff neb ei hepgor.

Yr wythnos hon, rydym ni hefyd wedi gweld mwy o newyddion da am y brechiadau. Rhyddhaodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, y rheoleiddiwr annibynnol, ymchwil yn dangos bod y brechlynnau presennol yn ddiogel dros ben, gyda dim ond sgil effeithiau ysgafn a disgwyliedig. Hefyd, mae astudiaeth ar frechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn awgrymu y gallai arwain at ostyngiad sylweddol yn y lledaeniad, yn nhrosglwyddiad y feirws, ac arhosodd yr amddiffyniad hwnnw ar 76 y cant yn ystod y tri mis cyntaf ar ôl y dos cyntaf, a chododd i 82 y cant ar ôl yr ail ddos.

Rwy'n hynod falch o'n cydweithwyr yn y GIG ledled Cymru, ac yn ddiolchgar am eu gwaith caled diflino nhw a'u partneriaid i gynnal cyflymder ein rhaglen frechu. Marathon yw hon mewn gwirionedd, ond rydym ni wedi dechrau'n wych. Gobeithio y bydd Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr yn rhannu'r ymdeimlad hwnnw o falchder yn ein cyflawniadau cenedlaethol. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

16:25

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, ac rwyf innau hefyd eisiau diolch ar goedd i bob un o'r timau o frechwyr, a phawb sy'n ymwneud â'r cyflwyno ledled Cymru. Mae'r niferoedd wedi cynyddu wythnos ar ôl wythnos bellach, ac mae'n braf gweld cynnydd o ran y targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynnar yn yr ymgyrch. Ac mae'r sylw yr ydych chi'n ei wneud ynghylch 60 diwrnod ers dechrau'r rhaglen frechu yn dangos yn glir pa mor addas a phriodol oedd hi i Lywodraeth y DU weithredu ar ei phen ei hun a phrynu brechlynnau'n gynnar, i ganiatáu inni fod yn rhan o'r ymgyrch a dechrau brechu pobl ledled y Deyrnas Unedig, ond yn enwedig yma yng Nghymru.

Hoffwn ofyn cyfres o gwestiynau, os caf i, Gweinidog. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith sy'n digwydd gyda'r gymuned ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig? Codais y mater hwn ynglŷn â phetruster ynghylch cael y brechlyn mewn rhai carfanau o bobl ledled Cymru, yn seiliedig ar dystiolaeth y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a ddangosodd amharodrwydd o 70 y cant i 75 y cant gan rai carfanau ynglŷn â bod yn rhan o'r rhaglen frechu. Mae'n bwysig iawn y caiff unrhyw gamddealltwriaeth neu straeon ffug sy'n lledaenu eu chwalu yn gynnar iawn, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ein goleuo gyda mwy o wybodaeth ar ôl i mi grybwyll hyn i chi pan oeddwn yn llefarydd iechyd y grŵp Ceidwadol fis yn ôl.

A wnewch chi hefyd dynnu sylw at y cynnydd sy'n cael ei wneud yn enwedig gyda'r ail ddos o frechlynnau, brechu, a rhoi gwybod i bobl am y broses galw'n ôl am yr ail ddos o frechlynnau, oherwydd ym mis Mawrth bydd hynny yn rhan fawr o'r rhaglen ac mae'n bwysig bod y ddwy elfen yn cyd-redeg heb unrhyw darfu? Gobeithio y cytunwch â hynny, Gweinidog.

A allwch chi hefyd amlinellu'r cyngor sy'n cael ei roi gan Lywodraeth Cymru o ran y garfan 70 i 74 oed? Yn sicr, mae gennyf dystiolaeth y caiff y garfan honno ei chyfeirio at y canolfannau brechu torfol yn hytrach nag, yn amlwg, cael y brechlyn yn y meddygfeydd, a phan gaiff y meddygfeydd teulu eu herio yn hyn o beth, maen nhw'n dweud mai'r rheswm am hynny yw'r cyngor a gafwyd gan Lywodraeth Cymru i gyfeirio pobl at y canolfannau brechu torfol. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael deall sut y mae'r cyngor hwnnw wedi'i ddosbarthu, oherwydd yn sicr i unigolion sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain yn y garfan honno—. Mae gennyf etholwyr sydd wedi crybwyll problemau o ran eu hatgyfeirio. 

Yn benodol, byddwch yn ymwybodol o'r ymgyrch ynghylch plant ag anableddau dysgu ac yn benodol am geisio blaenoriaethu'r brechlyn i'r rhai sy'n gyfrifol am ofalu am blant ag anableddau dysgu. Rwy'n sylweddoli bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at hyn, a'r dystiolaeth y mae'r Gweinidog a'r Llywodraeth yn gweithio ar ei sail yw argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, ond a ydych chi wedi holi'r pwyllgor am eglurhad ynglŷn â'r dystiolaeth y mae wedi'i rhoi i chi a'r cyngor y mae wedi'i roi i chi o ran grwpiau, yn enwedig pan soniwn ni am anableddau dysgu ac yn benodol sut y maen nhw'n fwy tueddol o fod yn agored i'r feirws? Rwy'n credu bod hynny'n ystyriaeth bwysig wrth ystyried y cyngor y maen nhw'n ei roi.

A allwch chi gadarnhau hefyd na fydd unrhyw darfu ar gyflenwadau o gwbl oherwydd bod y sylfaen gyflenwi bellach wedi ei ailsefydlu oherwydd y diffyg a fu gyda chynnal y brechlyn Pfizer rai wythnosau'n ôl? Byddai eich dealltwriaeth yn goleuo barn pobl yn fawr am unrhyw broblemau cyflenwi posibl a allai fod yn y system, oherwydd mae gennyf lythyr yn y fan yma gan feddygfa a eglurodd y dywedwyd wrthynt y gallai fod oedi wrth gyflenwi brechlynnau yr wythnos yn dechrau ar 15 Chwefror. Nid wyf yn gofyn i chi wneud sylwadau penodol ar y mater penodol hwnnw, ond byddwn yn ddiolchgar o ddeall y mater mwy cyffredinol ynghylch cyflenwi brechlynnau i Gymru. Diolch, Gweinidog iechyd.

16:30

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Dechreuaf gyda'ch sylw cyntaf a'ch sylw olaf gyda'i gilydd ar gyflenwi brechlynnau. Mae'n gyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU, ac mae'r contractau y maen nhw wedi'u caffael ar ran y DU gyfan wedi caniatáu i ni gyflawni, ac mae'n glod i'r ffordd y mae ein timau yng Nghymru wedi defnyddio'r cyflenwad hwnnw dros yr wythnosau diwethaf. Credaf o'ch sylwadau fod hyd yn oed rhywfaint o glod i'r Llywodraeth, yn ogystal â phobl y tu allan i'r Llywodraeth, am gyflawni hynny yma yng Nghymru mor aruthrol o gyflym. 

O ran y cyflenwad o frechlynnau, rwyf wedi siarad nid yn unig â Nadhim Zahawi yn rheolaidd, Gweinidog brechlynnau'r DU, ond rwyf hefyd wedi cael sgyrsiau gyda Pfizer ac AstraZeneca a'm swyddogion. Roedd Pfizer wedi cynllunio oedi yn eu cynhyrchu er mwyn ailgychwyn yn fwy effeithlon. Maen nhw'n ffyddiog bod hynny'n golygu y byddant yn cynhyrchu brechlyn ar gyfradd uwch, i gyflawni eu hymrwymiadau gyda'r contract sydd ganddyn nhw gyda Llywodraeth y DU ar gyfer pob un o'r pedair gwlad, ac yn wir eu hymrwymiadau drwy Ewrop. Mae hynny'n newyddion da ac maen nhw hefyd yn credu y byddant yn gallu negodi'r trefniadau newydd ar gyfer trosglwyddo nwyddau rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r DU, ac wrth gwrs mae hynny'n hynod bwysig i bob un ohonom ni hefyd.

O ran eich sylw am y niferoedd y bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sy'n cael y brechlyn a phetruster, mae'n fater yr wyf wedi bod yn pryderu amdano o'r cychwyn cyntaf. Rydym yn ymwybodol iawn bod amrywiaeth o newyddion a chyfryngau ffug yn gysylltiedig â grŵp eang o bobl ledled y wlad. Mae rhywfaint o hynny wedi'i dargedu'n benodol at gymunedau ffydd a rhai cymunedau penodol, cymunedau du ac Asiaidd yn arbennig. Felly, rydym ni yn gwneud gwaith, nid yn unig—. Mae Llywodraethau eraill hefyd yn gwneud rhywbeth tebyg hefyd, o ran negeseuon ledled y DU, ond hefyd, yn ddiweddarach heddiw, byddaf yn ymuno â chyfarfod bord gron gydag amrywiaeth o arweinwyr cymunedol i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r union bwyntiau hyn. Byddwch wedi clywed y sylwadau a wnes i ac a wnaeth y Prif Weinidog yn y gynhadledd i'r wasg ddoe, gan egluro sut yr hoffem ni fynd ati i wneud hyn mor agored â phosibl o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ond hefyd y ffordd y mae ein byrddau iechyd yn gwneud gwaith allgymorth uniongyrchol gyda rhai o'r cymunedau hyn. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i staff gofal iechyd unigol sy'n estyn yn ôl i'w cymunedau i dynnu sylw at y ffaith bod y brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol, ac nad oes unrhyw rwystr iddyn nhw ei gymryd o achos safbwynt crefyddol neu darddiad ethnig, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig i bob un ohonom ni, waeth beth fo ein gwleidyddiaeth ein hunain yn y Siambr, i ymdrin â'r newyddion ffug a fydd yn gadael pobl yn fwy agored i niwed.

O ran cynlluniau ar gyfer yr ail ddos, mae hynny'n rhan bwysig o'r hyn yr ydym ni yn ei wneud; fe welwch chi fwy a mwy o bobl yn cael eu hail ddos yn yr wybodaeth a gyhoeddir bob dydd. Byddwch hefyd yn gweld cyfradd yr ail ddos yn codi ychydig. Fe roesom ni bron iawn i 700 ail ddos ddoe a chyn bo hir byddwn yn rhoi ail ddos i filoedd o bobl bob wythnos ac yna degau o filoedd wrth i ni gyrraedd y bobl hynny y mae angen iddyn nhw gael eu hail ddos Pfizer hefyd. Mae angen i ni sicrhau bod y stoc ar gael i sicrhau ein bod yn rhoi'r ail ddos gywir i bobl dros yr wythnosau i ddod.

Nawr, o ran pobl 70 i 74 oed, nid wyf wedi rhoi cyfarwyddyd sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bobl 70 i 74 oed fynd i ganolfan frechu torfol. Mae'n debyg y byddai'n fwy defnyddiol pe gallwn i weld yr ohebiaeth neu'r awgrym yr ydych chi'n cyfeirio ato i geisio mynd i'r afael â hynny. Mae bob amser yn bosibilrwydd bod sïon ac awgrym bod Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd pan nad ydym ni wedi gwneud hynny, a byddaf yn glir iawn nad oes dewis polisi yr wyf wedi'i wneud sy'n rhoi rheidrwydd ar bobl 70 i 74 oed fynd i ganolfan frechu torfol. Rydym ni'n mynd ati mewn modd bwriadol amrywiol, gyda 438 o leoliadau gwahanol lle gellir brechu pobl.

O ran eich sylw am bobl ag anableddau dysgu, mae'n dibynnu a yw hi'n adeg iddyn nhw gael brechlyn yn y lle cyntaf, oherwydd mewn gwirionedd nid yw awdurdodiad yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn cynnwys pob plentyn, fel y gwyddoch chi, ac mae hefyd yn ymwneud wedyn â phobl sy'n ofalwyr a'r rhai sy'n ofalwyr yng ngrŵp 6, a'r rhai sy'n oedolion hŷn ag anableddau dysgu hefyd. Ac mae hynny'n rhan o'r heriau yr ydym ni'n eu hystyried, o ran ein hymwneud â'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a'n cynrychiolwyr o Gymru ar y fforwm hwnnw, ond hefyd o ran ein cyngor ehangach ar iechyd y cyhoedd hefyd. Wrth gyflwyno i grŵp 6 yn benodol, byddwn yn gwneud rhywfaint o gyfathrebu ynghylch hynny ac yn ceisio gwneud hynny mor glir â phosibl, a bydd hynny'n llywio nid yn unig yr hyn yr ydym ni, y Llywodraeth, yn ei wneud, a'r ymwneud rhwng y byrddau iechyd â chi, yn eich swyddogaethau lleol yn Aelodau, ond mae'n amlwg y byddaf yn parhau i sicrhau bod hynny ar gael i aelodau'r pwyllgor iechyd yn y sesiynau briffio rheolaidd yr ydym yn parhau â nhw. Credaf fod hynny'n ateb y cwestiynau a ofynnwyd ar hyn o bryd.

16:35

Buaswn innau'n licio diolch i bob un sy'n ymwneud â'r broses frechu yng Nghymru, sy'n amlwg ar y trywydd iawn ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Mi fues i draw yn y ganolfan frechu yn Ysbyty Enfys Bangor ddoe ar wahoddiad y bwrdd iechyd, ac mae'n ddefnyddiol gallu gweld drosom ni'n hunain er mwyn gallu cysuro pobl sy'n dal, o bosib, yn bryderus ynglŷn â'r broses. Ond mae'n drawiadol iawn, nid yn unig pa mor llyfn ac effeithiol ydy'r system, ond pa mor ymroddedig hefyd ydy'r staff sydd yn rhan o'r broses, ac rydyn ni gyd, dwi'n gwybod, yn ddiolchgar iddyn nhw.

Roeddwn i'n falch o glywed heddiw y bydd newid i'r system trefnu apwyntiadau, lle bydd pobl yn cael eu hannog, ar hyn o bryd y rhai dros 70 oed, i ffonio os ydyn nhw ddim wedi cael apwyntiad. Mae yna broblem o hyd efo'r system—[Anghlywadwy.]—a dwi'n gobeithio bod y Gweinidog yn gallu cydnabod hynny. Un ateb dwi wedi'i drafod yn lleol ydy'r angen am ragor o wirfoddolwyr i wneud y gwaith o ffonio i ofyn i bobl ddod i mewn. Mae yna waith yn digwydd o fewn y bwrdd iechyd yma yn y gogledd i greu'r fyddin yma o wirfoddolwyr. Ond pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn gallu'i chynnig ar lefel genedlaethol i sicrhau bod yna'r bobl yna ar gael i wneud y gwaith trefnu apwyntiadau, achos mae hynny'n mynd i fynd yn fwy a mwy dwys, wrth gwrs, wrth i ni estyn allan at wahanol grwpiau o bobl i gael eu brechu?

Dwi'n gofyn unwaith eto am y data llawn. Mae o yn bwysig, dwi'n meddwl, cael y data llawn ynglŷn â dyraniad y brechlyn i wahanol wledydd y Deyrnas Unedig ac wedyn o fewn Cymru, a'r gwahanol fathau o frechlyn hefyd. Un peth ydy dweud bod yna wybodaeth o sensitifrwydd masnachol, ond peth arall ydy cael clywed gan y Llywodraeth nad ydyn nhw'n gwybod faint sy'n cael ei ddyrannu i bob gwlad. Byddwn i'n awgrymu bod angen ichi fod yn gwybod hynny.

Eto, dwi'n gofyn hefyd am fuddsoddiad rŵan, neu ddechrau buddsoddi a chynllunio ar gyfer buddsoddi, yn yr isadeiledd sydd ei angen er mwyn delio â'r mathau newydd o frechiadau mRNA yma. Dwi ddim eisiau clywed am feddyg teulu, fel dwi wedi clywed, sy'n gwrthod tre o Pfizer oherwydd nad ydy o'n gallu delio efo'r 1,000 o ddosys, a'r diffyg isadeiledd yna oedd yn ei gwneud hi'n anodd i'r meddyg teulu yna dderbyn y tre yna yr oedd o eisiau gallu ei dderbyn. Felly, gadewch i ni weld y cynllun ar gyfer creu system iechyd a system frechu yng Nghymru sydd yn gallu ymdopi efo'r dechnoleg newydd yma o frechlyn.

Yn olaf, rŵan ein bod ni'n gweld tystiolaeth bositif iawn fod y brechiadau yn rhoi cryn warchodaeth, mae'n ymddangos, yn erbyn trosglwyddiad y feirws, onid ydy hi wir yn dod yn amser i edrych eto ar y rhestr o flaenoriaethau gan y JCVI a dod â phobl fel gweithwyr mewn ysgolion, gwasanaethau brys a thrafnidiaeth gyhoeddus i mewn i'r system yn gynharach yn hytrach na'n hwyrach, fel modd torri dolen drosglwyddiad o un person i'r llall? Rydyn ni mewn lle da, ond fel rydyn ni'n ei ddweud yn Gymraeg, nid da lle gellir gwell. 

16:40

Mae lle i wella bob amser, ac edrychaf ymlaen at yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Yn sicr, nid oes unrhyw hunanfodlonrwydd gan ein timau brechu gwych ledled y wlad o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a'r hyn yr ydym ni'n credu y byddwn yn gallu ei wneud, ac y mae angen i ni ei wneud, yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

O ran y system apwyntiadau, rydym ni eisoes yn ystyried sut arall i ddefnyddio staff a gwirfoddolwyr, ac, yn wir, system archebu ar-lein, wrth i ni gyflwyno'r brechlyn i grwpiau ehangach o'r cyhoedd, i'w gwneud yn haws i bobl gael lle. Bydd angen i ni hefyd sicrhau y caiff yr ail frechlyn ei gyflwyno yn effeithiol ac yn effeithlon, gan barhau i roi nifer fawr o ddosau cyntaf hefyd.

O ran y cyflenwad brechlynnau, disgwyliaf y byddwn ni, ym mhob un o'r gwledydd yr wythnos hon, yn gallu cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth am y cyflenwad o frechlynnau a gafwyd eisoes, a fydd, gobeithio, yn tawelu meddwl yr Aelod am y gyfran yr ydym yn ei chael, ond hefyd am y defnydd yr ydym ni'n ei wneud o'r cyflenwad hwnnw hefyd. Mae wedi cymryd mwy o amser nag y byddwn i wedi dymuno, ond rydym ni, rwy'n credu, wedi cyrraedd sefyllfa lle y gall pob un o'r pedair Llywodraeth—ac, yn wir, y gweithgynhyrchwyr—fod â rhywbeth y gallwn ni i gyd ei ddarparu i roi'r eglurder y mae rhai pobl yn chwilio amdano.

O ran eich sylw am yr wybodaeth sydd gennych chi am feddyg teulu nad yw'n gallu derbyn hambwrdd llawn o'r brechlyn Pfizer ar hyn o bryd, mae'n gyfuniad o wahanol bwyntiau yn yr achos yma, rwy'n credu. Mae'n ymwneud â'r ffordd y cawn yr hambyrddau, a maint y rhai sydd ar gael, a sut y gellir ac na ellir eu torri'n llai. Y gwir amdani hefyd yw nad ydym ni mewn sefyllfa i greu'r seilwaith hwnnw ar hyn o bryd. Rwy'n sylweddoli eich bod yn gofyn cwestiwn ar gyfer y dyfodol, ond mae'n gwestiwn ar gyfer y dyfodol. Ar hyn o bryd, gyda'r nifer o flaenoriaethau y mae'n rhaid inni ymdrin â nhw i gyflwyno'r rhaglen, rwy'n credu mai'r flaenoriaeth anghywir o ran yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud nawr yw meddwl sut y gallwn ni gael cyfleusterau storio a all gadw brechlynnau o dan 70 gradd canradd mewn practisau meddygon teulu lleol.

Mae'n rhaid inni feddwl am y gwersi yr ydym ni yn eu dysgu wrth inni fynd drwy'r pandemig, yn ogystal ag achosion yn y dyfodol, oherwydd mae'n gwbl bosibl y bydd pandemigau yn y dyfodol. Mewn sawl ffordd, roedd y DU yn ffodus gyda SARS gan na chyrhaeddodd SARS yma ac aros mewn niferoedd mawr. Roedd SARS hyd yn oed yn fwy angheuol o ran y gyfradd yr oedd yn ei ddal a'i gyfradd marwolaethau na'r pandemig presennol. Felly, rydym ni wedi bod yn hynod ffodus. Ond, oherwydd i SARS effeithio'n llawer mwy sylweddol ar rannau eraill o'r byd, bu'n rhaid iddyn nhw gael y trefniadau hynny ar waith. Nid oes gennyf amheuaeth, ar ddiwedd hyn, ym mhob gwlad yn y DU, y bydd gennym ni drefniadau gwahanol ar waith ar gyfer pandemigau yn y dyfodol, ac mae'n rhaid i hynny fod yn beth da i bob un ohonom ni.

O ran blaenoriaethau'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, mae'n gwestiwn a ofynnir yn gyson. Yn wir, fe'i gofynnwyd yng nghwestiynau’r Prif Weinidog. Mae gennym ni restr o flaenoriaethau'r Cyd-bwyllgor sy'n ymwneud ag achub y nifer fwyaf o fywydau ag sy'n bosibl. Rydym ni wedi gofyn, ac mae gennym ni gynrychiolwyr sy'n edrych yn gyson ar dystiolaeth gan y Cyd-bwyllgor a'r cwestiynau sydd gennym ni. Rydym ni yn edrych nid yn unig ar 1 i 9, ond ar y cam nesaf hefyd, ac ar y ffordd yr ydym ni'n parhau i achub y nifer fwyaf o fywydau ag sy'n bosibl. Mae'r cyngor hwnnw, ar hyn o bryd, yn rhoi ein grwpiau blaenoriaeth presennol inni. Dyna'r hyn yr ydym ni'n gweithio drwyddo ar gyflymder aruthrol, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Gweinidog, roeddwn mewn cyfarfod neithiwr yn Y Tŷ Cymunedol yn ardal Maendy yn Nwyrain Casnewydd, sydd â nifer o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cymryd rhan yn ei weithgareddau yn rheolaidd. Cafwyd cyflwyniad ar y rhaglen frechu, ynghylch amharodrwydd rhai o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan. Un o'r prif faterion oedd bod y cyflwyniad a gawsom ni gan iechyd y cyhoedd yn canolbwyntio ar ystadegau'r DU. Teimlai'r grŵp fod prinder gwybodaeth, o leiaf ganddyn nhw, ar lefel Cymru ynglŷn â'r amharodrwydd hwnnw sy'n ymddangos ei fod yn bodoli mewn cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gael y brechlyn. Felly, eu ple, mewn gwirionedd, oedd i'r wybodaeth honno fod ar gael ar lefel Cymru, fel eu bod yn gwybod sut orau i gyfeirio eu hymdrechion o ran negeseuon allgymorth cymunedol a chyfathrebu â'r grwpiau y mae angen i'r rhan fwyaf ohonyn nhw gael budd yr ymdrech honno. Tybed a allech chi ddweud wrthyf heddiw pa wybodaeth y gallai Llywodraeth Cymru ei chynhyrchu ar gyfer grwpiau fel y Tŷ Cymunedol i gryfhau eu hymdrechion i annog pobl i fanteisio ar y brechlyn yn y grwpiau hynny.

16:45

Rydym ni'n gwneud nifer o bethau ynglŷn â hyn. Nid yw'n ymwneud dim ond â chyhoeddi'r data sydd gennym ni; mae'n ymwneud â'r allgymorth bwriadol hwnnw i gymunedau y mae pob bwrdd iechyd yn ei roi. Maen nhw wedi penodi pobl i ymgymryd â'r swyddogaethau allgymorth hynny. Mae hefyd yn ymwneud â'r ymgysylltu y mae angen i ni barhau i'w wneud mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dim ond un rhan o hynny yw'r cyfarfod y bydd gennyf heno. Mae gwaith ein staff wrth estyn allan i gymunedau yn rhan o hynny hefyd. O ran y data, mae rhywfaint o ddata yr ydym yn bwriadu cael eglurder ac ychydig mwy o drefn yn eu cylch. Ni fydd byth yn berffaith. Y rheswm am hynny yw'r ffaith nad oes gennym ni ethnigrwydd pob aelod unigol o Gymru ar gael yng nghofnodion meddygon teulu. Mae gennym amrywiaeth o amcangyfrifon y gallwn eu gwneud gyda rhywfaint o'r data sydd gennym ni, a fyddai'n rhoi syniad ac amcan inni. Credaf y bydd hynny'n cadarnhau bod lefel y bobl sy'n cael y brechlyn yn wahaniaethol. Mae'n ymwneud nid yn unig â gallu cadarnhau hynny, ond rwy'n credu mwy na hynny, i ddeall beth sy'n sail i hynny, ac i allu mynd i'r afael ag ef. Mae a wnelo hynny, mae arnaf ofn, â mynd i'r afael â rhai o'r mythau cyfeiliornus a rhai elfennau o ddrwgdybiaeth rhwng cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus mwy y gwyddom eu bod yn bodoli. Po fwyaf y gallwn ni ei wneud, gorau oll i bob un ohonom ni, oherwydd gorau po gyntaf y bydd y boblogaeth wedi ei brechu, gorau po gyntaf y byddwn yn defnyddio ffordd wahanol o ymdrin â'r coronafeirws, na fyddwn ni, mae arnaf ofn, efallai yn cael gwared arno, ond efallai y gallwn ni gyd-fyw ag ef mewn ffordd lle mae'n gyflwr endemig y gallwn gael ein diogelu'n rheolaidd rhagddo, a chofiwch y niwed y mae wedi'i achosi yn y 12 mis diwethaf.

Gweinidog, da iawn chi am berfformiad trawiadol iawn dros yr wythnosau diwethaf. Rydych chi a phawb sy'n gweithio yn rhan o hyn wedi ymdrin â'r bwlch gyda chyfraddau brechu o gymharu â Lloegr y beirniadais i chi amdano o'r blaen, a chredaf y dylwn gydnabod pa mor dda y bu pethau dros y pythefnos diwethaf. Felly, da iawn chi. Oherwydd, ar gyfartaledd, mae pobl wedi cael eu brechu'n ddiweddarach yng Nghymru, oherwydd y dechrau arafach cynharach, a fydd hynny'n arwain at unrhyw un yn cael ei heintio neu o bosibl yn gorfod mynd i'r ysbyty neu'n waeth oherwydd y dechrau araf hwnnw? Neu a ydych chi'n credu bod unrhyw effaith o hynny bellach wedi'i dadwneud?

A ydych chi'n dweud eto ein bod wedi dal i fyny â'r sefyllfa oedd ohoni yn Lloegr o ran canran y grwpiau 1 i 4 mwyaf agored i niwed? Rydym ni wedi trafod o'r blaen fod gennym ni yng Nghymru strwythur oedran mwy oedrannus. Felly, a yw'r un canrannau wedi'u brechu eto yn y grwpiau mwyaf agored i niwed hynny? A ydych yn cael cyfran o'r boblogaeth yn unig o ran cyflenwad o'r DU, neu a oes cydnabyddiaeth yn hytrach yn y cyflenwad o'r gyfran uwch honno o bobl oedrannus, fel y gallwn ni nawr gael ychydig mwy na hynny?

Diolch am yr adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw. Wrth edrych drwy hwnnw, rydych chi'n siarad am gyflawni'r nodau a'r cerrig milltir. Rydych chi'n cyfeirio at dri nod drwy fis Ionawr ar gyfer staff ambiwlans, cartrefi gofal a darparu i feddygon teulu, ac yn dathlu eich bod wedi cyflawni hynny. Beth sydd wedi digwydd i'r nod o 70 y cant o'r rhai dros 80 oed erbyn 24 Ionawr? A oedd hwnnw'n nod o gwbl, neu a yw hwnnw wedi mynd i ebargofiant? Rydych chi'n tynnu sylw at y niferoedd da iawn ddydd Gwener, 30,000, a 34,000 ddydd Sadwrn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y niferoedd ar gyfer dydd Sul a dydd Llun, a sut mae'r rheini'n cymharu?

Ac yn olaf, mae'n dda gwybod y dylai'r rhai dros 70 oed fod yn cysylltu. Rwy'n credu y bydd hynny'n helpu Aelodau lle yr ydym ni wedi cael pobl sydd efallai wedi dweud nad oeddent wedi'i gael eto. Gallwn fynd yn ôl a dweud, os ydyn nhw dros 70 oed, fod angen iddyn nhw gysylltu. Ddoe ddiwethaf roeddwn yn gwrando ar raglen PM BBC Radio 4. Roedd yn esbonio y dylai pobl yn Lloegr gysylltu os oedden nhw dros 70 oed ac nad oedden nhw wedi'i gael, ond ni ddylai pobl yng Nghymru. Ac eto, heddiw, dywedir wrthym ni y dylen nhw. A oes mwy o waith i'w wneud o hyd i gydgysylltu cyfathrebu a cheisio cael gwell dull o gyfathrebu yn y DU pan fydd pethau'n wahanol neu'n newid, er mwyn inni geisio cydlynu'r rheini mewn ffordd gliriach i bobl?

Diolch am gydnabod cyflymder a graddfa sylweddol y gwelliant dros yr wythnosau diwethaf yn y rhaglen. Mae mwy i'w wneud bob amser, ond rwy'n credu y gall pawb ymfalchïo yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ledled y wlad.

O ran eich sylw am gyfraddau heintio'r dyfodol, ni ddarperir amddiffyniad llawn tan rai wythnosau ar ôl i'r pigiad cyntaf gael ei ddarparu, ac yna dylai'r ail ddos roi mwy fyth o ddiogelwch, ond hirhoedledd hefyd. Y gwir amdani yw na fyddwn yn gwybod mwy am hynny nes ein bod mewn gwirionedd mewn cyfnod o wyliadwriaeth a deall beth sy'n digwydd wedyn gyda'r boblogaeth. Dyna pryd y byddwn yn gwybod mwy am drosglwyddo, yn ogystal ag amddiffyn tymor hwy, a fydd angen i ni gael rhaglenni brechu yn y dyfodol, ac, o bosibl, amlder y rheini hefyd. Mae amrywiaeth o bethau anhysbys o hyd, ond yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod y brechlynnau sydd gennym ni yn effeithiol, maen nhw yn ddiogel, a dylai pawb fanteisio ar y cyfle i gael eu brechlyn pan gânt eu cynnig gan ein GIG.

O ran a ydym ni wedi dal i fyny â Lloegr ynghylch 1 i 4 a'ch cwestiwn ynghylch a yw'r gyfran o'r boblogaeth neu a yw'r sylfaen angen o fewn y grwpiau blaenoriaeth yn rheoli'r cyflenwad, gwnaed dewis pragmatig rhwng y pedwar Gweinidog iechyd yn y DU mai cyfran poblogaeth oedd y ffordd daclus a chyflymaf o sicrhau bod brechlynnau'n cael eu dosbarthu. Yna, cyflwynodd Prif Weinidog y DU darged gwahanol a oedd wedyn yn ailamlygu bod canrannau gwahanol o'r boblogaeth o fewn y grwpiau blaenoriaeth hynny. Rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda Nadhim Zahawi am y realiti fod hynny'n newid y darlun, ac yna mae angen sicrwydd arnom ni wedyn y bydd gennym ni gyflenwad digonol yn dod i Gymru i ddiwallu anghenion grwpiau blaenoriaeth 1 i 4. Rydym ni yn credu y bydd gennym ni gyflenwad digonol, ond nid ydym ni wedi gweld cynnydd yn ychwanegol at ein cyfran Barnett o ran poblogaeth. Mae hynny'n golygu ein bod yn credu y bydd gennym ni ddigon i gwmpasu grwpiau 1 i 4, ond mae'n rhaid i'r rhaglen yng Nghymru fod hyd yn oed yn fwy effeithlon na rhaglenni yng ngweddill y DU i gyrraedd y targed hwnnw, o ran nodi a gwahodd pobl yn briodol yng ngrwpiau 1 i 4 i ddod ymlaen, yn ogystal â'i gyflawni, yn ogystal â rheoli'r sefyllfa a sicrhau bod gennym ni ychydig iawn o wastraff hefyd. Gallwn wneud hynny, a dyna pam yr wyf yn credu bod gennym ni rywfaint o ffydd y byddwn yn cyrraedd y garreg filltir honno o ran grwpiau 1 i 4.

O ran y cwestiwn am bobl dros 80 oed, credaf ein bod wedi ateb y cwestiwn hwn droeon. Ni chyraeddasom y garreg filltir i bobl dros 80 oed ar y pryd, pan oeddem yn disgwyl gwneud hynny, ond erbyn hyn rydym ni wedi cyrraedd 86.1 y cant o bobl dros 80 oed, ac roedd y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn 79 y cant ar gyfer pobl 75 i 79 oed. O ran cartrefi gofal pobl hŷn, rydym ni wedi cwblhau 679 allan o 691. Yn llythrennol, mae llond llaw o gartrefi gofal pobl hŷn ar ôl, a hynny oherwydd y bu'r haint ar led ynddyn nhw. Felly, rydym ni'n gwneud yn hynod o dda. O ran y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw—fe wnaethoch chi holi am ein cymariaethau â Lloegr ac eraill, a sut y mae dydd Sul a dydd Llun yn cymharu; rydym ni wedi cyhoeddi'r ffigurau hynny. Fesul cyfran o'r boblogaeth, mae Cymru bellach wedi brechu 19.9 y cant, yn Lloegr y ffigur yw 19.1, yn yr Alban mae'n 17 y cant. Nid yw'r ffigurau yng Ngogledd Iwerddon ar gael eto. O ran y boblogaeth dros 16 oed, mae Cymru wedi brechu 24.3 y cant, Lloegr 23.7 y cant a'r Alban 20.4 y cant. Felly, ym mhob un o'r mesurau hynny, mae gennym ni gyfradd gyflawni uchel o'i chymharu â chenhedloedd eraill y DU. Ond, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i ni barhau â'r gwaith cyn gynted â phosibl hyd nes caiff y frwydr yn erbyn y feirws ei hennill. 

O ran cyfathrebu ledled y DU, byddai bob amser yn ddefnyddiol pe gallem ni gael sgwrs tymor hwy ac un am wybodaeth ymlaen llaw yn hytrach na gorfod ymateb i ddatganiadau a wneir mewn rhannau eraill o'r DU, ond mae hynny, fel arfer, yn waith sy'n mynd rhagddo.

16:50

Gweinidog, a gaf i ganmol Dr Sarah Medlicott o feddygfa Bron-y-Garn a meddygon teulu eraill a gysylltodd â mi dros wythnos yn ôl yn mynegi eu dymuniad i ddechrau brechu grŵp cymharol fach o feddygon heddlu rheng flaen, sydd mewn mwy o berygl o ddod i gysylltiad â'r feirws mewn maes gwaith arbenigol iawn? Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, daethom wyneb yn wyneb â phroblem rwystredig ar unwaith gan nad oedd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, bryd hynny yr wythnos diwethaf, yn cynnwys meddygon yr heddlu yn eu prif flaenoriaethau. Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi a'ch swyddogion a'ch cynghorwyr am y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud i ddadlau dros gynnwys meddygon yr heddlu yn y grŵp blaenoriaeth 2, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen? A gaf i ofyn ichi, Gweinidog, am yr wybodaeth ddiweddaraf am hyn fel y gall Dr Medlicott a chyd-feddygon teulu fwrw ymlaen nawr â brechu meddygon yr heddlu ar draws ardal bwrdd iechyd Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf Morgannwg, ond hefyd, er mwyn i bob bwrdd iechyd yng Nghymru sicrhau bod meddygon yr heddlu bellach yn cael eu cydnabod yn weithwyr gofal iechyd rheng flaen ac y gellir eu brechu'n gyflym yn rhan o grŵp blaenoriaeth 2? Ac yn olaf, Gweinidog, a gaf i ddweud da iawn wrth dîm Cymru a GIG Cymru, gan gynnwys staff meddygol a gwirfoddolwyr, am y llwyddiant wrth gyflwyno'r brechlyn? Mae wedi bod yn ymdrech aruthrol, ac rwyf wedi gweld hynny yn uniongyrchol. Rwy'n eu canmol nhw i gyd. 

16:55

Diolch. Af i'r afael â'r ddau sylw. O ran Dr Medlicott a'r gwaith y mae'r meddygon teulu lleol wedi'i wneud o ran meddygon yr heddlu, rydych chi'n gyfredol iawn, oherwydd heddiw rwyf wedi cytuno, ac mae nodyn wedi'i ryddhau drwy ein system, bod meddygon yr heddlu i'w hystyried yn gyfatebol i grŵp 2, oherwydd y gwaith cyswllt uniongyrchol â chleifion sydd ganddyn nhw, ac mae'n cyfateb i amrywiaeth o weithgareddau eraill. Felly, mae hynny'n gwneud synnwyr. A dealltwriaeth debyg o gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu: nid yw bob amser yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar bob maes ymarfer unigol, a dyna pam y bu'n rhaid i ni adolygu rhai o'r rhain wrth fynd ymlaen—yr un pwyntiau am y ddarpariaeth gofal personol y mae rhai aelodau o staff mewn addysg yn ei darparu ar gyfer plant anghenion addysgol arbennig yn benodol. Felly, dylai hynny fod yn ddarlun cyson ledled Cymru, ac mae hynny wedi ei ryddhau i'r system heddiw, a diolch i Dr Medlicott a'i chydweithwyr am dynnu sylw at y mater, sydd wedi ein galluogi ni, gan gynnwys y cwestiynau yr ydych chi wedi'u gofyn, i sicrhau bod y mater hwnnw'n cael ei ddatrys.

O ran tîm Cymru, rwy'n credu ei bod yn ymdrech aruthrol gan dîm Cymru. Ac fel yr wyf wedi dweud dro ar ôl tro, rydym ni—. Ar ddechrau hyn, dywedais y byddem ni yn y pen draw mewn sefyllfa nad yw'n annhebyg i wledydd eraill y DU, ac na fyddem yn cael ein gadael ar ôl. Ar ôl dechrau arafach ar y cychwyn, rydym ni bellach wedi dal i fyny ac wedi rhagori ar wledydd eraill y DU. Er hynny, mae angen inni gynnal y cyflymder, nid yn unig dros yr wythnosau nesaf, ond am fisoedd lawer iawn i ddod. Dyna pam mewn sawl ffordd—. Dywedais ei fod yn farathon yn fy natganiad, ond mewn sawl ffordd mae'n uwch-farathon—un marathon ar ôl y llall ar ôl y llall, ac mae angen o hyd i gynnal yr un cyflymder di-ildio i sicrhau bod gennym ni ddewisiadau gwahanol i'w gwneud yn y dyfodol. Ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at allu gwneud hynny.

Cysylltodd llawer o ddarpar frechwyr, gan gynnwys nyrsys a meddygon teulu, â mi ar ddechrau'r broses gyflwyno, yn rhwystredig gyda'r dechrau araf bryd hynny, ond maen nhw wedi gweld canmoliaeth enfawr am y ffordd wych honno y maen nhw wedi ymateb i'r her ers hynny.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at ail frechlynnau. Credaf mai'r ffigurau diweddaraf yng Nghymru yw un o bob 909 o bobl; yn Lloegr mae'n un o bob 119 o bobl. Felly, mae bwlch o hyd, ond gallaf gydnabod bod y ffigur yng Nghymru wedi gwella'n sylweddol o hyd. Sut y byddwch yn sicrhau bod y broses barhaus honno o gyflwyno'r ail raglen frechu yn canolbwyntio ar yr hyn a nodir gennych chi fel anghenion y boblogaeth, ac nad yw'n tanseilio'r rhaglen frechu gyntaf lle mae ei hangen fwyaf?

Ac yn olaf, o ystyried bod pobl sy'n cael eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn gwarchod eu hunain, a wnewch chi ddarparu neu a allwch chi ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ba ganran o'r grŵp sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, fel pobl â ffeibrosis systig, sydd bellach wedi cael eu brechiad coronafeirws cyntaf yng Nghymru?

O ran eich sylw olaf, mae gwaith ar y gweill y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i ddarparu ffigur defnyddiol ar y grŵp o bobl sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol neu'r grŵp o bobl a arferid cyfeirio atyn nhw fel rhai a oedd yn gwarchod eu hunain, a nifer y bobl sydd wedi'u brechu. Nid wyf yn credu y byddwn yn gallu eu rhannu'n feysydd penodol i gyflwr, ond i'r boblogaeth ehangach honno, byddwch yn deall bod angen rhywfaint o waith ar hynny, oherwydd er bod gennym ni tua 130,000 o bobl yng Nghymru sydd yn y grŵp hwnnw sy'n eithriadol o agored i niwed, mae llawer o'r rheini wedi'u cynnwys yn rhai o'r meysydd eraill—bydd rhai ohonyn nhw yn breswylwyr cartrefi gofal, bydd rhai ohonyn nhw yn bobl dros 80, 70 neu 75 oed. Felly, mae angen i ni sicrhau nad ydym yn eu cyfrif ddwywaith, neu fel arall rwy'n siŵr y byddwch chi neu Aelodau eraill yn ein cyhuddo ni o or-rifo ein cyfradd llwyddiant.

O ran eich sylwadau—eich dau gwestiwn cynharach—am yr ail ddos, credaf fod y gymhariaeth â Lloegr yn gamarweiniol: yn y bôn, achubodd rhai rhannau o Loegr y blaen a chyflwyno eu hail ddos yn llawer cynt. Byddwch yn sylwi, os edrychwch yn ôl dros y ffigurau, fod talp sylweddol o'r ail ddos wedi'i ddarparu wythnosau lawer yn ôl pan oeddem ni wedi cytuno mewn gwirionedd ym mhob un o'r pedair gwlad i ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, ac yn wir ein holl brif swyddogion meddygol, am y cyfnod rhwng y ddau dos—y bwlch rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos. Dyna pam nad ydych ond yn gweld ail ddos yn cael ei roi nawr, ond gallwch ddisgwyl gweld llawer iawn mwy o ail ddosau'n cael eu rhoi yn yr ychydig wythnosau i ddod. Ac rwy'n ffyddiog, o ran y dos cyntaf a'r ail ddos, os oes gennym ni'r cyflenwad sydd ar gael i ni, yna byddwn yn parhau i fynd ar gyflymder gwirioneddol gyda'r dos cyntaf ac yn bodloni gofynion yr ail ddos hefyd.

Dyma lle rwy'n credu y byddwn yn gweld mwy o ddefnydd o fferylliaeth gymunedol, er enghraifft—dyna sylw a wnes i ddoe: gan fod angen inni gael hyd yn oed mwy o gapasiti, gallwn greu capasiti ychwanegol yn ein system. Ac i faint o gynllunio a wnaed ynglŷn â hyn dros fisoedd lawer y mae'r diolch am hynny, ond hefyd ymrwymiad eithriadol ein staff. Mae'n ymdrech tîm Cymru go iawn sy'n ymddangos yn llwyddiannus hyd yma. Bydd angen llawer mwy o hynny arnom ni yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod, ac rwy'n dal yn falch iawn o'r gwaith y mae pawb yn ei wneud ar ein rhan ni i gyd. 

17:00
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gweithio mewn Partneriaeth ar gyfer Gwaith Teg Cymru

Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gweithio mewn Partneriaeth ar gyfer Gwaith Teg Cymru, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y gwaith gwerthfawr yr ydym ni'n ei wneud mewn partneriaeth gymdeithasol i wireddu ein huchelgais ni ar gyfer Cymru o waith teg. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi newid y ffordd yr ydym ni'n edrych ar bopeth, bron, yn ein bywydau beunyddiol, gan gynnwys byd gwaith. Ac mae hynny wedi dod â'r heriau a oedd yn bodoli eisoes yn y gweithle fwyfwy i'r amlwg ochr yn ochr â gwerthfawrogiad a atgyfnerthwyd o'r gweithwyr sydd wedi ein cefnogi ni, o ddydd i ddydd yn ystod pandemig y coronafeirws.

Mae'r Llywodraeth hon yn llwyr gydnabod bod y mwyafrif llethol o gyflogwyr wedi gwneud cyfiawnder â'u gweithlu, gan eu cefnogi nhw a chymryd camau i'w cadw'n ddiogel. Ond, yn anffodus ac yn annerbyniol hefyd, fe wyddom nad dyma fu profiad pob gweithiwr. Mae'r coronafeirws wedi amlygu ac wedi chwyddo anghydraddoldebau a oedd wedi ymsefydlu yn y gweithle. Ac wrth inni ymlwybro tuag at adferiad, mae'n hanfodol nad ydym yn caniatáu i amodau economaidd heriol roi cyfle i waith annheg wreiddio ac ymledu. Nid yw'n ymwneud yn unig ag ailgodi'n gryfach, ond mae'n ymwneud â dewis y llwybr gorau i'n galluogi ni i lunio dyfodol tecach gyda'n gilydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi ein blaenoriaethau a'n huchelgeisiau ar waith ar gyfer Gwaith Teg Cymru, gan ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael inni ar gyfer helpu i wireddu canlyniadau o ran gwaith teg, ac rydym wedi gwneud cynnydd da yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, gan ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru ynghyd i ddyfeisio llwybr tuag at waith tecach yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Nid ydym  wedi bod yn fwy ymwybodol erioed o'n gweithwyr gofal cymdeithasol anhygoel ni a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud yn ystod pandemig coronafeirws. Mae'r fforwm hwn wedi sefydlu nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen yn gyflym i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â thâl a dilyniant, bargeinio ar y cyd, a sicrhau amgylchedd gwaith sy'n ddiogel, iach a chynhwysol.

Mae gwaith y fforwm iechyd a diogelwch wedi caniatáu'r cynnydd diweddar ar amddiffyniadau COVID yn y gweithle. Mae ystyriaethau ynghylch iechyd a diogelwch yn y gweithle wedi eu gweddnewid gan goronafeirws ac fe sefydlwyd y fforwm cenedlaethol yn yr hydref i roi ffordd i undebau llafur, y prif gyrff o gyflogwyr o'r sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghymru a'r asiantaethau gorfodi perthnasol yn y DU ddod at ei gilydd i rannu eu profiad cyfunol nhw a chydweithio i wella iechyd a diogelwch yn y gweithle yng Nghymru. Fe fydd y newidiadau a wnaethom ni i reoliadau a chanllawiau gyda'n gilydd nid yn unig yn helpu i gadw ein gweithwyr ni'n fwy diogel, ond ein cymunedau ni a'n gwlad ni hefyd. Maen nhw'n tystio i'r hyn y gellir ei wneud pan fydd y Llywodraeth, undebau llafur, a chyflogwyr yn cydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol.

Nid fu erioed yn bwysicach i weithwyr a chyflogwyr fod yn ymwybodol o'u hawliau nhw a'u cyfrifoldebau yn y gwaith. Yng nghyd-destun y pandemig ac yn dilyn un o argymhellion allweddol adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â'n partneriaid cymdeithasol ni, Cyngres Undebau Llafur Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach, y CBI, Siambrau Cymru a phartneriaid allweddol eraill yn Acas a Chyngor ar Bopeth, i lansio ymgyrch ym mis Rhagfyr i gryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle. Mae'r ymgyrch yn atgyfnerthu ein cefnogaeth ni i ehangu'r mynediad i undebau llafur a manteision cael cyflogwyr ac undebau llafur yn gweithio fel partneriaid mewn ysbryd o gydweithio, ymrwymiad a rennir a pharch at ei gilydd. Yn yr un modd, mae angen cefnogi'r cyflogwyr hefyd, a thrwy'r ymgyrch, rydym ni'n cysylltu cyflogwyr ledled Cymru â'r cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnyn nhw i gydymffurfio â'r gyfraith.

Rydym ni'n meithrin perthynas ag asiantaethau'r DU hefyd i wella rhwydweithiau, rhannu gwybodaeth a'n capasiti ni ein hunain i ddylanwadu ar bolisi na chafodd ei ddatganoli. Mae'r dull hwn yn talu ar ei ganfed eisoes. Mae ein gwaith ni gydag Acas wedi arwain at sesiynau briffio digidol rhad ac am ddim ychwanegol ganddyn nhw i gyflogwyr a gweithwyr yng Nghymru. Mae hyn wedi cysylltu â'n hymgyrch ni i helpu i godi ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle.

Gan weithio ar draws Llywodraeth Cymru, rydym ni'n defnyddio pwer pwrs y wlad a'n dull partneriaeth gymdeithasol ni i hyrwyddo arferion gwaith teg ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan ddefnyddio ysgogiadau fel y contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Yr her nawr yw cryfhau'r gweithredu drwy wella ein cyrhaeddiad ni a'n gallu ni i ysgogi a chefnogi newid o ran ymddygiad.

Mae'n iawn i ni roi cyfrif o'r hyn yr ydym ni'n ei drysori. A chan weithio gyda'n partneriaid cymdeithasol, rydym yn datblygu cyfres o ddangosyddion y byddwn ni'n eu defnyddio i fesur ac olrhain amrywiaeth o ganlyniadau gwaith teg yng Nghymru. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys olrhain cyfran y gweithlu sy'n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol.

Yn olaf, rydym ni'n cryfhau'r dull partneriaeth gymdeithasol a fu'n nodwedd bwysig a sefydlog o'n gwleidyddiaeth a'n heconomi ddatganoledig ni. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi dod yn ffordd Gymreig o wneud pethau ac mae partneriaeth gymdeithasol yn ffordd allweddol o wella'r modd y gallwn ni wella'r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu ar y cyd, a sicrhau gwaith teg a lles cymdeithasol ac economaidd yn fwy eang. Yn ddiweddarach y mis hwn, fe fyddwn ni'n ymgynghori ar Fil partneriaeth gymdeithasol drafft nodedig iawn, a fydd yn cryfhau ac yn hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol, yn datblygu canlyniadau o ran gwaith teg ac yn sefydlu caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.

Mae'r pandemig wedi golygu ein bod ni i gyd wedi gorfod newid y ffordd yr ydym ni'n byw ac yn gweithio. Nid dyma'r amser i ildio, lai byth i gwtogi ar amddiffyniadau yn y gweithle. Fel yr argymhellwyd gan adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, rydym ni'n ymgysylltu nawr â Llywodraeth y DU i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru. Mae unrhyw erydu ar hawliau gweithwyr yn annerbyniol, yn ddiangen ac yn niweidiol, ac rydym ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i gadw ei haddewid i ddiogelu hawliau gweithwyr yn dilyn Brexit. Wedi'r cyfan, nid yw ras i'r gwaelod o ran hawliau gweithwyr er budd y gweithwyr, y busnesau na'r economi yn ehangach. Mae gwaith diogel, sicr a gwerthfawr er budd diwydiant yn ogystal ag er budd yr unigolyn. Fe fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth i'r gweithle ond, yn fwy na dim ond hynny, i economi Cymru gyfan hefyd. Fe fydd gwell bargen i'r gweithwyr yn golygu adferiad cryfach i'n cymunedau a'n cenedl ni. Dyna pam mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio tuag at waith teg yng Nghymru, nid yn unig mewn egwyddor ond yn ymarferol, gan gydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau a bywoliaethau.

17:05

Fe hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad hi a chadarnhau bod yr un uchelgeisiau gennym ninnau ym Mhlaid Cymru â'r rhai sydd gan Lywodraeth Cymru o ran yr agenda bwysig iawn hon, a hoffwn ategu'r diolch a roddodd hi eisoes i bawb sy'n cydweithio ac yn cydweithredu o ran y gwaith pwysig hwn.

Mae gennyf i ychydig o bwyntiau penodol yr hoffwn i eu codi gyda'r Dirprwy Weinidog. Yn gyntaf, mae'n iawn dweud, wrth gwrs, fod y mwyafrif llethol o gyflogwyr wedi ymddwyn yn briodol iawn, ond fe wyddom nad yw pawb wedi gwneud felly, fel y dywedodd hi. Rwy'n awyddus i dynnu sylw Llywodraeth Cymru unwaith eto at y sefyllfa sy'n parhau yn y DVLA. Nawr, yn amlwg, nid cyflogwr a gafodd ei ddatganoli yw'r DVLA, ond mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am orfodi rheoliadau coronafeirws a sicrhau bod pobl yn gallu gweithio mewn diogelwch. Rwy'n parhau i dderbyn gohebiaeth gan bobl o ddwyrain fy rhanbarth i, mewn cymunedau fel Llanelli a Llangennech, sy'n gweithio yn y DVLA, ac maen nhw'n parhau i ofidio llawer iawn am y cymhelliad sydd arnyn nhw i weithio mewn amgylchiadau anniogel, i'r graddau nad yw rhai ohonyn nhw'n dymuno imi ddefnyddio eu henwau hyd yn oed, nid ydyn nhw'n dymuno imi gario straeon, hyd yn oed yn gyfrinachol, i Weinidogion Cymru, oherwydd eu bod yn poeni cymaint â hynny. Nawr, fe wn i fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU, ond mae'n ymddangos yn glir i mi, os rhoddir y sicrwydd hwnnw, ei fod yn anonest o leiaf, ac rwy'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog gynnal sgyrsiau pellach gyda'i chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a darganfod beth arall y gellir ei wneud i alluogi'r gweithwyr hynny i weithio mewn diogelwch. Ac rwy'n cyfeirio at hyn, Dirprwy Lywydd, fel enghraifft o gyflogwr mawr iawn nad oes ganddo esgus am beidio ag ymgysylltu â'r arfer gorau.

Roeddwn i'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at y fforwm gwaith gofal cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth gennyf i na fydd eu gwaith nhw yno'n werthfawr iawn, ond rwy'n pryderu am yr oedi wrth wneud yr hyn sy'n weddol amlwg i mi sy'n rhaid ei gyflawni. Rwy'n falch bod grŵp gorchwyl a gorffen yn edrych ar dâl a dilyniant, ond siawns bod y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, mae'n hen bryd i bawb sy'n gweithio yn y sector gofal, yn enwedig ar ôl popeth a gyflawnodd y llynedd, gael y cyflog byw gwirioneddol. Ac rwy'n credu y dylem anelu at symud y gweithwyr hynny ar yr Agenda ar gyfer Newid, at yr un cyflog ac amodau â gweithwyr y GIG. Felly, a yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol nad yw'r grwpiau gorchwyl a gorffen hyn yn oedi dim o ran gweithredu? Mae'n bwysig cyflawni hyn yn iawn, ond mae angen cymorth ar y gweithwyr hyn, menywod yn bennaf, ac mae angen cyfiawnder arnyn nhw, a hynny'n ddiymdroi.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at y contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, ac rwy'n gefnogol iawn i egwyddor y ddau beth yna. Ac mae hi'n siarad am wella gweithrediad ac ysgogi a chefnogi newid mewn ymddygiad. Ond a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith, pa fesurau y maen nhw'n eu rhoi nhw ar waith, i sicrhau, pan fydd cyflogwr, er enghraifft, wedi ymrwymo i'r contract economaidd, pan fyddan nhw wedi cael cymorth grant a chymorth neu fenthyciadau ffafriol, eu bod nhw'n dilyn y contract economaidd wedi hynny? Un peth yw cael rhywun i ymrwymo i rywbeth, peth arall yw sicrhau eu bod nhw'n cadw at yr ymrwymiadau hynny mewn gwirionedd. A tybed pa syniadau pellach sydd gan y Dirprwy Weinidog ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau, wrth gefnu ar y pandemig, y cedwir yn wirioneddol at yr ymrwymiadau hynny a wnaed. Diolch yn fawr. 

A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei sylwadau cefnogol hi a'i hymroddiad i'r maes hwn? Pe caf i ddechrau gyda'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod ynglŷn â'r contract economaidd, rydym yn ystyried ar hyn o bryd sut y cafodd y contract economaidd ei gymhwyso'n flaenorol, ac fe geir darn o waith dan arweiniad fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru o ran sut, fel y dywedais i, y gallwn ni gryfhau nid yn unig ei weithrediad o ran ysgogi'r newid hwnnw o fewn sefydliadau, ond yn gwneud yn siŵr ei fod yn cyflawni'r newid y bwriedir iddo ei wneud hefyd. Rwyf i o'r farn mai offeryn da iawn yw hwn o ran sut yr ydym yn rheoli'r cydberthnasau hynny, ac yn cefnogi cyflogwyr sy'n awyddus i wneud y peth iawn i gyrraedd y sefyllfa honno y byddem yn disgwyl iddynt fod ynddi gyda'u gweithlu, ac yn wir—faterion ynghylch meysydd sy'n ymwneud â gwaith teg hefyd, a lles eu gweithlu yn benodol.

O ran y DVLA a'r Aelod—[Anghlywadwy.]—nid wyf i'n gwybod. Mae'n frawychus ond nid yw'n syndod bod pobl—. Ni ddylai pobl fod yn ofni rhannu'r wybodaeth sydd ganddyn nhw ag Aelod ar gyfer dadlau eu hachos nhw, ac fe allaf i sicrhau'r Aelod y byddwn ni'n parhau i ddadlau'n gryf o blaid y gweithwyr yn y DVLA gyda Llywodraeth y DU, ac rydym hefyd—ac yn sicrhau, yn amlwg, ein bod ni mewn cysylltiad agos ac yn trafod â'r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, sy'n cynrychioli aelodau yn y fan honno. Fe fyddaf i'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Helen Mary Jones ac Aelodau eraill am hynny.

Fe fyddaf i'n rhoi ystyriaeth i'r hyn a ddywed yr Aelod ynglŷn â gwaith y fforwm iechyd a gofal cymdeithasol a'r grwpiau gorchwyl a gorffen. Yn amlwg, yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei weld yw gweithredu, ond y math cywir o weithredu, ac rwy'n credu—. Fel y dywedais i, os nad oeddem ni i gyd yn ymwybodol yn flaenorol o waith anhygoel y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hynny sy'n gofalu am lawer o'r rhai agosaf atom ni—ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi cael profiad personol hefyd, fel minnau—mae hyn wedi dod fwyfwy i'r amlwg gyda'r pandemig, sy'n achosi'r brys gyda'n gwaith ni, ond yn sicrhau ein bod ni'n gwneud hynny yn y ffordd briodol i wneud yn siŵr y caiff y proffesiwn hwnnw gyfiawnder, ond nid yn unig hynny, ei fod yn cael ei gydnabod yn deg hefyd am ei swyddogaeth yn ein cymunedau ni ledled y wlad. 

17:10

Mae'r Dirprwy Weinidog a minnau, wrth gwrs, o gefndiroedd tebyg iawn, felly nid yw'n syndod fy mod i'n cytuno â'i chefnogaeth a'i hegwyddorion hi sy'n sail i'n gwaith ni gyda phartneriaeth gymdeithasol. A gaf i groesawu ei datganiad hi'n fawr? Nid am ei bod yn hawdd; yn wir, yn fy mhrofiad i, mae'n galetach yn aml, ond mae adeiladu ymrwymiad a rennir i achos sy'n gyffredin inni o gymorth mawr, ac, mewn cyfnod anodd fel y bu'r 12 mis diwethaf, mae hynny'n talu ar ei ganfed—nid mewn gwerth ariannol, ond mewn gwerthoedd sy'n cael eu rhannu ac achos cyffredin i ni. Felly, wrth inni nodi Wythnos Caru Undebau, a gaf i fynegi fy ymrwymiad i waith partneriaethau cymdeithasol ac annog gweithwyr ledled Cymru i ymuno ag undeb a bod yn rhan o'r newid hwn yr ydym ni'n ei gyflawni i ailgodi'n decach yng Nghymru?

Ond, Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y bydd y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer partneriaethau cymdeithasol y gwnaethom ni ei ddatblygu yn wirfoddol dros lawer o flynyddoedd yng Nghymru yn ffactor allweddol wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar draws pob sector yn y sectorau preifat a chyhoeddus, ac y bydd yn dangos pa mor ymrwymedig y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn y dyfodol, fel y mae yn awr, i sicrhau tegwch i weithwyr Cymru? Ac mae hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn trin ei staff mewn lleoedd fel y DVLA, fel y clywsom ni gan Helen Mary Jones, ond gweithwyr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau yn fy etholaeth innau hefyd, sy'n cael eu gorfodi i symud o Ferthyr Tudful i leoliadau anhygyrch mewn mannau eraill yng Nghymru.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac ydy, mae'r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni yn rhannu cefndir gyda mi o ran ymgyrchu ar hawliau gweithwyr o fewn y mudiad undebau llafur, ac rwy'n credu ei bod yn amserol i gefnogi'r dull partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, gan ein bod ni'n nodi Wythnos Caru Undebau ledled y DU ac mae hwnnw'n rhywbeth yr wyf innau'n gefnogol iawn iddo hefyd.

Rwy'n credu, fel y dywedodd yr Aelod, dan yr amgylchiadau presennol, na fu erioed cyn bwysiced nid yn unig i ddiogelu ac ymestyn hawliau pobl yn y gweithle a gwneud pobl yn fwy ymwybodol o hynny, ond inni fod yn ceisio gweithio mewn partneriaeth. Ac fel y dywedodd hi, nid yw bob amser yn hawdd, ond dyma'r peth cyfiawn i'w wneud ac rydym wedi gweld hynny. Mae hyn yn tystio—dim ond yn ystod y misoedd diwethaf yn unig, i'r pethau yr ydym ni wedi gallu eu gwneud yng Nghymru i gefnogi pobl mewn gwaith a chefnogi busnesau ac i wneud y peth iawn hefyd, oherwydd y fforwm hwnnw sydd gennym ni ar gyfer partneriaeth gymdeithasol a'r gallu i ddod â'r holl randdeiliaid o gylch y bwrdd, er mai bwrdd rhithwir yw hwnnw ar hyn o bryd. Ac wrth symud ymlaen, yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw cryfhau hynny a ffurfioli'r ymrwymiad hwnnw a'r ymarfer o bartneriaeth gymdeithasol gyda'n Bil partneriaeth gymdeithasol. Fe fydd hwnnw mewn gwirionedd yn sbardun allweddol yn y dyfodol i'n galluogi ni i gyflawni'r newidiadau hynny yr ydym ni'n dymuno eu gwneud o fewn gweithleoedd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ond hefyd o ran llunio nod a rennir fel yr ydym ni'n awyddus i'w weld ynglŷn â Gwaith Teg Cymru, a fydd, mewn gwirionedd, er budd pob un o'r rhanddeiliaid o gylch y bwrdd partneriaeth gymdeithasol hwnnw.

17:15

Gweinidog, dyna wahaniaeth a welwn ni yng Nghymru yn ystod y coffâd o waith yr undebau llafur yn ystod yr wythnos undebau llafur hon, lle'r ydym ni'n ceisio gweithio mewn partneriaeth wirioneddol, yn wahanol i'r sefyllfa yn Llundain, lle mae deddfwriaeth yn cael ei hystyried yn ffordd o danseilio undebau llafur ymhellach byth. Felly, rwy'n croesawu'r datganiad amserol iawn hwn yn fawr iawn.

A gaf i gymeradwyo hefyd yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y pryderon sydd gennym ni am rai o'r corfforaethau mawr hynny—British Airways, Nwy Prydain—sydd wedi ceisio defnyddio COVID fel gorchudd i danseilio safonau moesegol cyflogaeth a hawliau gweithwyr? A gaf i groesawu eich ymrwymiad chi hefyd o ran y Bil partneriaeth gymdeithasol, a gofyn ychydig o gwestiynau i chi ynglŷn â hynny? Mae'r Bil, mae'n ymddangos i mi, yn un o'r darnau mwyaf blaengar o ddeddfwriaeth—yn union fel gwnaeth deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, fe allai hyn wneud felly ar gyfer safonau cyflogaeth moesegol. Ond mae'n ymddangos i mi mai un o'r swyddogaethau pwysig y mae'n rhaid inni ei chefnogi yw swyddogaeth undebau llafur o ran hyrwyddo bargeinio ar y cyd. Tybed i ba raddau y bydd y ddeddfwriaeth sydd gennych chi mewn golwg yn hyrwyddo bargeinio ar y cyd, oherwydd fe wyddom ni fod yna berthynas gref rhwng bargeinio ar y cyd a brwydro yn erbyn tlodi mewn gwaith. A hwyluso mynediad i undebau llafur hefyd—yn union fel y byddwn yn codi mater mynediad at gyfiawnder, mae'n rhaid i fynediad at hawliau gweithwyr drwy'r undebau llafur fod yn rhan bwysig o'r broses honno, Gweinidog.

Rwy'n croesawu sylwadau a chefnogaeth Mick Antoniw. Rwy'n gwybod bod hwn yn faes y mae Mick wedi ei hyrwyddo a gweithio arno ac ymgyrchu drosto ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n gwybod ei fod ef wedi ymddiddori llawer iawn yn y gwaith hwn. Ac rwy'n credu bod y pwynt a wnaethoch chi wrth ddechrau, Mick, wedi bwrw'r maen i'r wal o ran yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud—ein dull ni yng Nghymru yw bod y drws yn agored i gael sgwrs, ac eistedd o gylch y bwrdd a dwyn pethau ymlaen, ond dros y ffin mae'r drws yn aml efallai wedi cael ei gau yn glep ar bobl. Ond mewn gwirionedd mae'r pwyslais ar ein gwaith partneriaeth ni a dull cadarnhaol yng Nghymru, a mabwysiadu'r dull hwnnw nid er mwyn bod yn wahanol, ond oherwydd mai dyma'r peth cywir i'w wneud, ac nid gwneud gwahaniaeth i bobl mewn gwaith yn unig y mae hyn, ond mae'n gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau ni, yn ogystal â'n cenedl gyfan ni.

O ran y Bil partneriaeth gymdeithasol drafft, yn amlwg, un o argymhellion y comisiwn gwaith teg oedd pwysigrwydd gallu grymuso'r llais cyfunol hwnnw yn y gweithle a swyddogaeth hynny o ran sicrhau gwaith teg yng Nghymru. Y gobaith yw y bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol drafft hwn yn ein galluogi ni i ddod â'r holl randdeiliaid o amgylch y bwrdd i osod agendâu eglur ar gyfer yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei weld yng Nghymru o ran sut y caiff hynny ei gyflawni ledled y wlad. Fe wn i y bydd llawer o'n cydweithwyr ni mewn undebau llafur yn ymwneud yn helaeth â'r broses ymgynghori. Rwy'n awyddus iawn i gael proses ymgynghori arloesol ac agored iawn er mwyn llunio'r Bil hwn mewn partneriaeth gymdeithasol, i sicrhau bod llais cyfunol y mudiad undebau llafur a'r aelodau yn cael ei glywed, ac, ar yr un pryd, i sicrhau hefyd ein bod ni'n gwneud hynny mewn partneriaeth â'n rhanddeiliaid o'r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru.

Gan adeiladu ar sylwadau fy nghydweithwyr Dawn Bowden a Mick Antoniw, mae'n bendant yn wir, Gweinidog, fod y bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru yn batrwm i'r DU o sut y gall busnesau ac undebau, gweithwyr a Llywodraeth, gydweithio'n adeiladol â'i gilydd ynglŷn â swyddi, a'r economi, a'r agenda sgiliau, a llawer mwy na hynny. Nawr, nid wyf i'n dymuno bod yn rhy feiddgar, ond a gaf i ofyn a fyddai'r Gweinidog yn ystyried, gyda deddfwriaeth y Llywodraeth Lafur nesaf yng Nghymru, ymestyn y darpariaethau gwaith teg a'r contract economaidd yng Nghymru i gynnwys pob busnes sy'n derbyn unrhyw gymorth cyhoeddus ac o gronfeydd trethdalwyr? Fe allai hyn ymestyn ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a gwaith teg yn sylweddol, ynghyd â buddsoddi mewn dysgu yn y gweithle, ac fe ellid defnyddio hynny i ysgogi cynnydd tuag at weld nifer ehangach yn manteisio ar y cyflog byw gwirioneddol a, chwedl Mick, mwy o barodrwydd i fargeinio ar y cyd, y gwyddom ni ei fod yn rhywbeth sy'n gwella cyflogau a thâl ac amodau. Felly, Gweinidog, ai yn y chweched Senedd y byddwn ni'n deddfu i gryfhau ein gwaith ni o ran partneriaeth gymdeithasol ac y byddwn ni'n mynd ymhellach ac yn gyflymach i wneud gwaith yn rhywbeth tecach?

Rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn ef a'i ymrwymiad ef yn y maes hwn hefyd. Yn sicr, yr uchelgais yw i'r chweched Senedd fod yn Senedd pan fyddwn ni'n deddfu i gryfhau'r agenda partneriaethau cymdeithasol yng Nghymru i ddod â manteision nid yn unig i weithwyr, ond i fusnesau, a chymunedau yn gyffredinol. O ran y contract economaidd, fel y dywedais i o'r blaen, mae adolygiad yn cael ei lywio ar hynny ar hyn o bryd o ran sut y byddwn ni'n cryfhau ei weithrediad a'i allu i ysgogi'r math hwnnw o newid a chefnogi busnesau i wneud y peth cyfiawn. Fe fydd hynny—. Mae hwnnw'n waith sy'n cael ei arwain gan fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. Ond, yn amlwg, fe fydd y materion yr ydych chi'n eu codi ynghylch gwaith teg a'r hyn y gallwn ni ei wneud fel arall i gefnogi ac ysgogi hynny mewn busnesau ledled Cymru, a gallu pwrs y wlad i wneud hynny, yn hanfodol i waith y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn y dyfodol, a sut rydym ni'n defnyddio ein dulliau caffael ni o ran gallu pwrs y sector cyhoeddus nid yn unig i hyrwyddo gwaith teg, ond yr amcanion o ran gwaith teg yn gyffredinol, pe byddai hynny'n hyfforddiant mewn gwaith neu brentisiaethau i sicrhau bod pobl mewn gwirionedd—nid yw hyn ymwneud â thâl yn unig, mae'n ymwneud â dilyniant, a llunio'r Gymru honno o waith teg yr wyf i'n siŵr ein bod ni i gyd yn awyddus iawn i'w gweld.

17:20

A gaf i atgoffa'r Aelodau, os ydyn nhw'n dymuno cael eu galw ar gyfer y datganiadau, y dylen nhw fod â'u camerâu fideo yn gweithio fel y gellir gweld eu lluniau nhw ar y sgrin? Rwy'n galw ar Nick Ramsay, er nad oeddwn i'n gallu gweld ei lun ef ar y sgrin. Felly, nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi cael problem dechnegol, ond rwyf i am eich galw chi. Felly, Nick Ramsay.

Problemau di-ri—nid wyf i'n siŵr a fydden nhw'n cael eu hystyried yn rhai technegol neu beidio, ond—. [Chwerthin.] Nid oeddwn i'n disgwyl cael fy ngalw, mewn gwirionedd, ar gyfer hyn, Dirprwy Lywydd. Ond mae hwn wedi bod yn ddatganiad diddorol iawn, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog amdano? Nid wyf i'n anghytuno â llawer o'r pwyntiau a wnaed hyd yn hyn, ond pe caf i ofyn ychydig o gwestiynau yn sgil rhai pwyntiau a godwyd, yn gyntaf, mae'n amlwg bod y pandemig wedi taflu goleuni ar wendidau penodol ym maes hawliau gweithwyr, gwendidau y byddem ni'n cytuno eu bod nhw'n bresennol beth bynnag yn aml, rwy'n credu, ond mae'r pandemig wedi ychwanegu pwysau ychwanegol. Felly, wrth inni sôn am gefnu ar y pandemig, Gweinidog, ac ailgodi'n gryfach, rwy'n credu y gall hwnnw fod yn ymadrodd hawdd i'w ddefnyddio, yn aml, ond nid yw hynny'n aeddfedu i fod yn amddiffynfeydd ar lawr gwlad. Ac fe wn i eich bod chi wedi sôn am gaffael yn eich ateb blaenorol, ac mae hwnnw'n faes y gellir ei gryfhau, felly sut ydych chi am sicrhau bod hyn yn aeddfedu i fod yn amddiffynfa a gwelliant gwirioneddol i hawliau gweithwyr ar lawr gwlad wrth inni ailgodi'n gryfach, fel y dywedais i?

Ac yn ail, fe soniodd un o'r cyfranwyr am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gynharach. Mae hynny'n rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr wyf i'n ei gadeirio wedi bod yn gweithio arno fel rhan o'r gwaith a fydd yn etifeddiaeth i ni ar ddiwedd y tymor Seneddol hwn. Ac mae hwnnw'n faes arall y mae'n aml yn hawdd iawn siarad amdano ac yn sicr fe fydd rhan fawr iddo yn yr amddiffynfa i weithwyr ac wrth gael diogelwch mewn rhai agweddau ar yr economi. Ond nid yw'n gwbl eglur sut mae pethau fel cyllideb Llywodraeth Cymru yn cyflawni hynny mewn gwirionedd. Felly, pa ystyriaeth a wnaethoch chi ei rhoi i ddeddfwriaeth Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i sicrhau bod yr holl bethau hyn yn dod at ei gilydd, ein bod ni'n ailgodi'n gryfach, ein bod ni'n ailgodi'n wyrddach, a bod hawliau gweithwyr yn cael eu hymgorffori'n ganolog wrth lunio polisïau gan Lywodraeth Cymru? 

Dim ond i ddilyn ar hynny, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol, nid yn unig i weithwyr unigol ond i weithleoedd ledled Cymru, sicrhau bod yr hawliau hynny'n cael eu hymgorffori a'u bod nhw ar frig yr agenda, a chefnogi gweithwyr i fod yn fwy ymwybodol o'u hawliau a sut i'w gweithredu nhw a chefnogi busnesau hefyd i wybod beth yw eu cyfrifoldebau nhw. A dyna pam mae hyn wedi bod yn ganolog i'n hymgyrch ni ynglŷn â hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle. Rydym yn gobeithio mynd i'r cam nesaf nawr a cheisio rhoi hyn ar sail fwy parhaol wedyn fel bydd cyngor a chymorth ar gael.

Fe soniodd yr Aelod am y swyddogaeth sydd gennym ni—roedd yn sôn am yr ysgogiadau sydd ar gael inni yng Nghymru i fwrw ymlaen â'r agenda honno o ran gwaith teg a sicrhau gwahaniaeth gwirioneddol nid yn unig mewn egwyddor, ond yn ymarferol hefyd. Yn amlwg, mae caffael yn un o'r ysgogiadau sydd gennym ni yn hyn o beth. Felly, yn rhan o'r Bil partneriaeth gymdeithasol arfaethedig y byddwn ni'n ymgynghori arno—fe fyddwn ni'n dechrau ar yr ymgynghoriad yn ddiweddarach y mis hwn—fe fydd hyn yn cynnwys canolbwyntio ar gaffael sy'n dangos cyfrifoldeb cymdeithasol ac ar sut y byddwn ni'n adeiladu ar bethau sydd eisoes yn eu lle—y cynnydd o ran cefnogaeth a phethau fel manteision cymunedol—i sicrhau bod caffael yn sbardun allweddol i ymgorffori gwaith teg ym mhopeth a wnawn ni yng Nghymru. Yn amlwg, fe fydd y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i sicrhau ein bod ni'n ystyried profiadau gweithwyr a busnesau i wneud yn siŵr y gallwn ni gydweithio gyda chonsensws i ddatblygu'r agenda honno o ran gwaith teg yng Nghymru a dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol—neu i wneud gwahaniaeth mwy—ar lawr gwlad o ran gweld pobl nid yn unig yn cael gwaith teg a thâl ac amddiffynfeydd, ond mewn gwirionedd yn cael cyfle i ddod yn eu blaenau ym myd gwaith ledled Cymru.

17:25
6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Papur Gwyn Ailgydbwyso Gofal a Chymorth

Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Papur Gwyn, 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth'. Ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'n gweledigaeth ni o sicrhau llesiant i bobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth. Mae yna gynnydd sylweddol wedi bod yn ystod bron 10 mlynedd ers ein Papur Gwyn cyntaf ar ofal cymdeithasol, 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu', a oedd yn nodi cychwyn y daith hon. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi rhoi gwedd newydd ar y sector. Yn gyffredin â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae yma ganolbwyntio ar lesiant, ac ymdeimlad o atal ac ymyrryd yn gynnar, a gorchymyn i gydgynhyrchu a gweithio ar draws sectorau.

Er bod fframwaith deddfwriaethol cryf gennym ni, mae amrywiaeth o heriau yn wynebu gofal cymdeithasol, ac wrth gwrs yr her fwyaf sy'n wynebu'r sector gofal cymdeithasol yw'r sefyllfa o ran ariannu, yng nghyd-destun galwadau cynyddol a mwy cymhleth ar wasanaethau, ac mae blynyddoedd o gyni ledled y DU wedi gadael eu hôl ar gyllid cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynnydd o £172 miliwn i gyllidebau llywodraeth leol yn 2021-22, o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol, ond mae ansicrwydd ynghylch penderfyniadau cyllidebol i'r dyfodol ar lefel y DU. Hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a'r buddsoddiad sylweddol a wnaethom yn y sector i fynd i'r afael â chostau sy'n codi oherwydd y pandemig, mae'r angen a ragwelir o ran cyllid yn y dyfodol yn edrych yn heriol. Fe fydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn ystod yr wythnosau nesaf am waith y grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal.

Mae'r pandemig wedi rhoi gofal a chymorth dan straen pellach sylweddol, ac mae gwendid y sector yn fwy gweladwy byth. Mae'n anodd, ar hyn o bryd, rwy'n gwybod, edrych ymhell y tu hwnt i'r wythnos bresennol, heb sôn am edrych i'r dyfodol hirdymor, ond mae effaith y pandemig yn dangos bod yn rhaid inni weithio i roi gofal a chymorth ar sail hirdymor llawer cadarnach. Dyna pam mae'n rhaid inni gyflymu ein gwaith trawsnewidiol ni er mwyn gwneud gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy. Mae'n rhaid achub ar y cyfle pan fo ymwybyddiaeth y cyhoedd o ofal cymdeithasol wedi cyrraedd uchafbwynt, a cheisio creu consensws ledled Cymru ynglŷn â'r hyn y mae angen inni ei wneud i ailgodi'n gryfach. Mae'n rhaid inni ddysgu o'r ffordd y mae'r sector wedi gweithio gyda'i gilydd yn ystod y pandemig i gydlynu a darparu gwasanaethau, yn unol â'n gweledigaeth ni o Gymru iachach.

Rwyf wedi ymrwymo'n gryf i wneud penderfyniadau am wasanaethau lleol mor agos â phosibl at y bobl leol, ac felly at atebolrwydd democrataidd sy'n lleol. Wrth wneud y datganiad clir hwnnw ar atebolrwydd democrataidd lleol, nid peth anghydnaws yw tynnu sylw at gymhlethdod y tirlun gofal cymdeithasol. Rwy'n credu bod nifer o faterion y mae angen inni fynd i'r afael â nhw drwy ddull esblygol o ymdrin â chyfeiriad polisi a roddir gan Lywodraeth Cymru ar lefel genedlaethol.

Ym mis Ionawr, fe gyhoeddais ymgynghoriad Papur Gwyn ar 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth'. Rwy'n cynnig, er mwyn bod yn addas i'r dyfodol, fod angen mesurau deddfwriaethol arnom sy'n hanfodol, yn ein tŷb ni, i wireddu ein gweledigaeth. Yn ei hanfod, mae'r Papur Gwyn yn ceisio ailgydbwyso gofal a chymorth fel bod hynny'n seiliedig ar fframwaith cenedlaethol eglur, lle mae gwasanaethau yn cael eu trefnu'n rhanbarthol a'u darparu'n lleol. Rydym yn bwriadu datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal cymdeithasol a fydd yn lliniaru cymhlethdod ac yn sicrhau mai ansawdd yw'r prif ffactor sy'n dylanwadu ar lwyddiant yn y farchnad gofal cymdeithasol.

Fe wyddom fod dilyniant o ran y gweithlu gofal cymdeithasol yn cael effaith sylweddol ar gyflawni canlyniadau i bobl, ac felly fe fydd yna gysylltiad cryf rhwng y fframwaith cenedlaethol a'r camau gweithredu i gefnogi'r gweithlu. Fe gaiff swyddfa genedlaethol fach ei sefydlu i ddatblygu'r fframwaith yn gynhyrchiol gyda'n partneriaid, yn arbennig mewn llywodraeth leol a'r GIG. Ar wahân i hynny, fe fyddwn ni'n sefydlu llais proffesiynol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, ar lefel genedlaethol o fewn Llywodraeth Cymru.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ac rydym yn awyddus i'w cefnogi nhw i adeiladu ar eu llwyddiannau, ac i rymuso'r integreiddio ledled Cymru. Byddwn yn gwella byrddau partneriaeth rhanbarthol drwy roi cyfres fanylach o ddulliau iddynt eu defnyddio, i gyflawni eu nodau craidd nhw, er mwyn cynllunio a chomisiynu gofal a chymorth yn well lle mae gweithredu ar y cyd yn hanfodol i wella llesiant pobl.

Fe fydd y cynigion a nodais yn lliniaru cymhlethdod, yn cryfhau cynaliadwyedd ac yn grymuso integreiddio. Fe fyddan nhw'n cynyddu tryloywder yn hytrach na chymylu atebolrwydd lleol. Mae'r cynigion yn allweddol ar gyfer sicrhau'r weledigaeth ar gyfer gofal cymdeithasol a nodir yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, gan gefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau o ran llesiant.

Mae'r Papur Gwyn yn lasbrint ar gyfer sector gofal a chymorth sy'n gryfach ac yn fwy cytbwys. Mater i'r Llywodraeth Cymru newydd fydd bwrw ymlaen â chanlyniadau'r ymgynghoriad ynglŷn â'm cynigion i. Ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Senedd i gyd yn annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, fel y gallwn gydweithio i gyflawni ein gweledigaeth o sicrhau llesiant i bobl.

17:30

Diolch, Dirprwy Weinidog. Rydych chi'n disgrifio'r cynigion yn y Papur Gwyn fel atebion hirdymor, ac rwy'n credu bod pawb ohonom ni'n chwilio am ateb hirdymor, ac eto i gyd nid yw hyn yn mynd i'r afael â'r broblem fwyaf, fe ellid dadlau, sef cyllid. Ydych, rydych chi wedi sôn am eich grŵp rhyng-weinidogol chi ar dalu am ofal cymdeithasol, ond faint o gynnydd a wnaethoch chi ers cyhoeddi adroddiad annibynnol Gerald Holtham 32 mis yn ôl?

Rydych chi'n ymwybodol fy mod i, yn fy mhortffolio blaenorol, wedi cynnal llawer o fforymau gofal cymdeithasol ac, o'r rheini, fe welwch chi bopeth y mae'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn ei ddwyn gerbron. Rydych chi wedi awgrymu o'r blaen hefyd, neu mae yna siarad wedi bod, am gyflwyno treth gofal cymdeithasol. Beth yw eich safbwynt chi ar hynny nawr? Rwy'n credu fy mod i wedi mynegi fy marn eglur bob amser y byddai'n well gennyf i weld cynnal ymchwiliad i effeithlonrwydd gofal cymdeithasol, oherwydd mae llawer o randdeiliaid bob amser wedi dweud bod llawer o arian mewn rhai meysydd, ond mewn gwirionedd nid yw'n bosibl bob amser ei gael allan yno lle mae'r angen ehangach. Felly, yn anffodus, mae'r Papur Gwyn yn codi mwy o gwestiynau nag atebion.

Roeddech chi'n chwilio am fframwaith cenedlaethol, ond er gwaethaf archwilio integreiddiad, rydych chi'n dweud na fydd unrhyw swyddogaethau presennol yn cael eu trosglwyddo oddi ar awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd. Pam hynny? Yn rhwystredig iawn, er bod y pryderon ynghylch byrddau partneriaeth rhanbarthol yn hysbys—ac yn ein hymholiad ni, fe welsom lawer o wendidau—rydych chi'n awyddus i'w cryfhau nhw ymhellach, felly pa waith a wnaethoch chi ynglŷn â hyn i gyfiawnhau hynny mewn gwirionedd, o ystyried o ble y gellir cyflawni'r neges hon? Sut allwch chi gyfiawnhau hynny pan fo eich Papur Gwyn chi eich hun yn datgan, ac rwy'n dyfynnu,

Fe ellid ystyried mai cyfyngedig yw gallu'r cyrff cynllunio rhanbarthol i gyflawni eu cyfrifoldebau

a

Mae'r cyrff cynllunio rhanbarthol yn pryderu am reoli amrywiol anghenion ar draws lleoliadau.

Mae hefyd yn egluro y byddai swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol yn darparu'r fframwaith. Felly, fel y byddwch chi'n cytuno, rwy'n gobeithio, fe ddylai hyn fod yn annibynnol ar y Llywodraeth. A wnewch chi'r ymrwymiad hwnnw i ni heddiw?

Er eich bod wedi amlinellu'r problemau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, mae angen ichi egluro sut y bydd y fframwaith yn gwella eu bywydau. A thros y 10 mlynedd nesaf, amcangyfrifir y bydd angen 20,000 o weithwyr gofal cymdeithasol ychwanegol ar Gymru i ymdopi â'n poblogaeth ni sy'n heneiddio. Felly, a fyddwch chi'n cyhoeddi cynllun gweithlu gofal cymdeithasol penodol sy'n cynnwys syniadau newydd a dull cyfannol o gadw staff, ac un sy'n hyrwyddo datblygiad proffesiynol parhaus i gydweddu â'r Papur Gwyn? Fe nododd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ym mis Rhagfyr yn benodol iawn mai un alwad fyddai bod y pwysau hynny'n parhau i gael eu cydnabod ac yn amlwg helpu cartrefi gofal i barhau'n hyfyw yn ystod hyn. Yn anffodus, rydym wedi gweld llawer iawn o gartrefi gofal yn colli gwelyau neu, yn wir, yn diflannu.

Felly, mae'r dystiolaeth yn dangos bod llawer mwy y gall eich Llywodraeth Cymru chi ei wneud. Yn wir, ddoe diwethaf, fe rybuddiodd Fforwm Gofal Cymru y bydd cartrefi gofal ledled y gogledd yn cael eu gorfodi i gau oni fydd y cynllun ariannu brys, y gronfa caledi, yn cael ei ymestyn. Felly, a wnewch chi ymestyn hwnnw? Ac a gaf i ddod i'r casgliad o fewn rheswm y byddwch chi'n ailystyried ac efallai'n dechrau cyflwyno rhai atebion sy'n mynd i'r afael yn wirioneddol â'r problemau cyfredol yn y sector hwn a'r rhai yr ydym ni i gyd yn gwybod amdanynt ers cryn amser? Diolch. 

Diolch yn fawr iawn, Janet, am y pwyntiau i gyd. Yn gyntaf oll, fe hoffwn i bwysleisio mai dim ond un darn o'r jig-so yw hwn, ac fe eglurais i ar ddechrau'r datganiad y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dod i'r Senedd i drafod canlyniadau'r grŵp rhyng-weinidogol. Fe gafodd llawer o waith ei wneud yn y grŵp hwnnw i ddarganfod beth fyddai'r gost o fwrw ymlaen â blaenoriaethau penodol, ac rwy'n credu mai ef sydd yn y sefyllfa orau i fynd drwy'r materion hynny gyda chi. Dim ond cyfran o'r ateb yr ydym ni'n ei gynnig yw'r hyn a gyflwynais i chi heddiw. Y mater a gododd Janet ynglŷn â threth gofal cymdeithasol, mae pob un o'r rhain wedi cael eu hystyried gan y grŵp rhyng-weinidogol ac fe fydd y Senedd yn clywed am hynny maes o law.

Mae'r cyrff cynllunio rhanbarthol yn dal i fod yn gymharol newydd, ond rwy'n credu ein bod ni wedi gweld arwyddion bod iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol yn cydweithio yn well yn y fforymau hynny. Yr hyn a ddywedwyd wrthym yw nad oes ganddyn nhw ddigon o offer i wneud yr hyn y maen nhw'n awyddus i'w wneud. Rydym ni o'r farn ei bod yn hanfodol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gydweithio'n agosach, ond gan gynnwys y trydydd sector hefyd. Fel y gŵyr yr Aelod, ar y cyrff cynllunio rhanbarthol, mae yna le i'r trydydd sector. Mae yna le i lais y dinesydd a lle i ofalwyr, ac rydym yn awyddus i gryfhau'r lleisiau hynny ar gyrff cynllunio rhanbarthol. Felly, rydym ni o'r farn fod y cyrff cynllunio rhanbarthol yn gyrff da i adeiladu arnyn nhw.

O ran y swyddfa genedlaethol, fe allai'r swyddfa genedlaethol fod yn rhan o'r Llywodraeth neu fe allai fod yn gorff hyd braich. Mae hwnnw'n rhywbeth sydd yn y papur ymgynghori, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ymateb i'r papur ymgynghori i fynegi eu barn am hynny. Bydd, fe fydd angen llawer o weithwyr gofal cymdeithasol ychwanegol arnom, oherwydd fe wyddom fod gennym boblogaeth sy'n heneiddio. Ond, un peth yr ydym ni'n awyddus i'w weld yw bod pobl yn aros yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y gallan nhw, oherwydd dyna yw dymuniad pobl. Felly, rydym eisiau rhoi cymaint ag y gallwn ni o gefnogaeth i bobl allu aros yn eu cartrefi. Dyna pam rydym ni'n credu hefyd mai llywodraeth leol yw'r lle gorau ar gyfer darparu gofal cymdeithasol, oherwydd mae llywodraeth leol yn agos at y gymuned.

Fe hoffem ni weld cartrefi preswyl, er enghraifft, yn rhan llawer mwy o gymunedau lleol. Mae llawer ohonyn nhw felly'n barod, ond, yn fy marn i, dyna sut yr hoffem weld pethau'n datblygu. Ond, oherwydd breuder y sector, ac oherwydd yr ystod enfawr o fewn y sector, o ran y ffioedd a godir a natur fregus y gweithlu, rydym ni o'r farn, drwy gael un corff bach canolog i geisio penderfynu sut y gwneir pethau o fewn fframwaith cenedlaethol—yn ein barn ni, dyna fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hynny. Felly, rwy'n diolch i'r Aelod am ei sylwadau hi.

17:35

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi gwneud cryn dipyn o waith drwy ein comisiwn gofal ni, a oedd yn dadlau'r achos dros wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol, ac am newid mawr tuag at atal afiechyd a galluogi pobl i barhau i fyw'n annibynnol. Ond, fe wnaeth ein comisiwn ni hynny o safbwynt yr hyn sydd orau i'r bobl sy'n derbyn y gwasanaeth. Felly, rwy'n synnu bod Papur Gwyn y Llywodraeth a'r datganiad, yn anad dim, wedi mynegi hyn yng nghyd-destun cyni a heriau ariannol.

Mae'n wir y bydd pobl iachach, sy'n byw'n annibynnol, yn costio llai o arian i wasanaethau iechyd a gofal na fel arall, ond mae arnaf i ofn y gall defnyddio cyni fel y prif gyfiawnhad dros hynny achosi rhywfaint o wrthdaro. Gwnewch hyn am mai dyna'r peth iawn i'w wneud, nid am fod y cyfrifon yn penderfynu yn eich lle chi.

Mae'r heriau a nodwyd yn y Papur Gwyn yn debyg i'r heriau a nodwyd gennym ni, mewn gwirionedd: diffyg cynnydd, yn gyffredinol, o ran yr agenda integreiddio; cynnydd cyfyngedig o ran rhannu data; problemau gyda chomisiynu. Ond, nid wyf i'n siŵr a yw'r Llywodraeth Lafur hon wedi sylweddoli hynny eto, mewn gwirionedd. Yn 2013, fe gyflwynodd Plaid Cymru welliannau i'r Bil gwasanaethau cymdeithasol i'w gwneud hi'n ofynnol sefydlu partneriaethau. Fe wrthodwyd y rhain a phleidleisiwyd o blaid cytundebau gwirfoddol. Rydych wedi bod yn rhoi un cyfle olaf i bartneriaethau gwirfoddol am y rhan fwyaf o'r degawd diwethaf.

Hefyd, yn fy marn i, mae'n eithaf dadlennol nad yw eich datganiad chi'n sôn am iechyd na'r GIG mewn gwirionedd. Felly, efallai y gwnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni sut mae hi'n gweld integreiddio yn gweithio nawr. Yn sicr, nid oes sôn am dai, na'r amgylchedd ehangach. Ydym, rydym yn gwybod bod angen addasu mwy o dai i helpu pobl i barhau i breswylio ynddynt. Mae angen mwy o gyfleusterau gofal lled-breswyl sy'n osgoi'r problemau gyda gofal preswyl llawn, wrth barhau i gefnogi'r bobl ynddyn nhw. Ond mae angen inni fynd i'r afael â thai fel rhan greiddiol o hyn. Mae'n ymddangos i mi mai gweithio mewn blychau ar wahân sydd gennym ni yma, a hynny'n eglur iawn i'w weld.

Gan droi at rywbeth y mae'r datganiad yn ei grybwyll, sef y gweithlu. Rwyf innau'n croesawu peth o'r gwaith a wnaed ar hyn, ond mae'n werth cofio pa mor aml y pleidleisiodd plaid y Llywodraeth yn erbyn ymdrechion i wahardd contractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol. Fel roedd comisiwn Plaid Cymru yn ei argymell, ein hymrwymiad cadarn ni yw y byddwn ni'n rhoi staff gofal cymdeithasol ar raddfeydd cyflog y GIG, gan wneud cyfiawnder, o'r diwedd, â'r dyhead i wneud gofal cymdeithasol yn yrfa werthfawr y gall pobl ymgyrraedd ati. Tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu ei safbwynt hi ar hynny.

Ac yn olaf, rwyf am droi at ymarferion comisiynu. Fe sonnir yn helaeth yn y Papur Gwyn am y problemau o ganolbwyntio ar bris yn hytrach nag ansawdd. Nawr, fe wyddom fod y Llywodraeth yn cynnig fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu, ond fe hoffwn i gael mwy o fanylion am sut y bydd fframwaith arfaethedig y Llywodraeth hon yn osgoi'r ras i'r gwaelod a adawodd ein cartrefi gofal ni mor agored i'r pandemig. Rwy'n eich atgoffa chi eto mai fy nghynnig i yw cyfres o fframweithiau cenedlaethol sy'n rhoi asgwrn cefn i ddarpariaeth leol mewn gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol i Gymru sy'n integredig fel y dylai fod.

17:40

Diolch yn fawr iawn, Rhun. Nid yw eich datganiad diwethaf chi'n swnio'n annhebyg iawn i'n cynnig ni.

Mae llawer o faterion yna. Os caf i ddechrau gyda'r gweithlu, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gydnabod gwerth y gweithlu gofal cymdeithasol. Yn sicr, mae'r pandemig hwn wedi hoelio ein sylw ni'n llwyr ar bwysigrwydd y gweithlu. Rwy'n credu bod y cyhoedd—a rhai am y tro cyntaf, efallai—yn sylweddoli pa mor hanfodol yw'r gwaith y mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn ei wneud. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cydnabod eu gwaith nhw drwy roi cydnabyddiaeth o £500 o fonws iddyn nhw, ac fe groesawyd hwnnw'n fawr iawn. Ond rwy'n credu hefyd, ei bod yn gydnabyddiaeth lwyr o'r gwaith y maen nhw'n ei wneud.

Yng ngwaith y grŵp rhyng-weinidogol, roedd cyflog y gweithlu gofal cymdeithasol yn un o'r prif faterion a drafodwyd. Ac, wrth gwrs, fel y dywedais i, fe fydd y Gweinidog yn dod i siarad â'r Senedd am yr amrywiaeth o ddewisiadau, a chostau'r rhain, a ddaeth i'r golwg drwy waith y grŵp rhyng-weinidogol. Fe ddywedodd rhai Aelodau na ddylem adael i gyni benderfynu ar hynny. Nid ydym ni'n gadael i gyni benderfynu ar yr hyn a wnawn ni; yr hyn yr ydym yn ei ddweud, mewn gwirionedd, yw mai un o ganlyniadau cyni yw bod y sefyllfa hon yn fwy difrifol byth.

Rydym eisoes yn meithrin proffesiynoldeb y gweithlu. Fel y gwyddoch, rydym wedi sefydlu cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol, a gafodd groeso eang gan y sector, ac mae'r cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol wedi cael croeso eang iawn hefyd. Yn ystod y pandemig, rydym wedi ceisio cael cymaint o gydraddoldeb ag y gallwn ni rhwng y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n credu bod heriau enfawr gyda gofal cymdeithasol, ac rwy'n cytuno â chi'n llwyr, Rhun, ei bod yn hanfodol i iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio'n agos â'i gilydd.

Rwy'n credu'n gryf iawn y dylai pobl sydd angen cymorth gofal cymdeithasol aros yn y gymuned cyn belled â bod hynny'n bosibl, oherwydd dyna lle maen nhw'n dymuno bod. Ond, wrth gwrs, mae angen y gefnogaeth arnom i sicrhau hynny. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle pan rydych chi'n sôn am dai. Mae tai yn un o'r materion allweddol yr ydym wedi edrych arno yn y grŵp rhyng-weinidogol, ac mae pethau fel tai ychwanegol a chymorth ychwanegol yn y gymuned yn un o'r meysydd y dylem ni'n bendant fynd ar eu trywydd, yn fy marn i, ac yn un o'r pethau y byddai'r Llywodraeth yn eu cefnogi.

17:45

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog, am eich ymrwymiad i benderfyniadau ynghylch gwasanaethau lleol yn cael eu gwneud gyda phobl leol, oherwydd rwy'n credu mai dyna yw ein man cychwyn. Oni bai fod gennym atebolrwydd democrataidd ac ymgysylltiad priodol â'r bobl y mae angen y fframwaith arnyn nhw, y gwasanaethau y mae angen inni eu darparu iddyn nhw, yna nid ydym mewn gwirionedd yn edrych ar y jig-so yr hoffwn gyfeirio ato, sef y ffeithlun nodau llesiant. Mae gwir angen i ni ymdrin â'r holl nodau llesiant pan fyddwn yn meddwl am bobl hŷn, nid pobl iau yn unig. Credaf mewn gwirionedd fod gennym her i roi sylw i'r agenda ataliol i sicrhau bod pobl hŷn yn byw'n hirach o lawer. Felly, rwy'n croesawu'n fawr eich dyhead i sicrhau bod pobl yn gallu byw cyhyd ag y bo modd yn eu cartrefi eu hunain. Tybed, os oes gennym wasanaethau sy'n cael eu rhedeg yn lleol, a yw byrddau partneriaeth rhanbarthol yn wirioneddol yn gallu rheoli'r rheini a chanolbwyntio'n wirioneddol ar gymunedau lleol.

Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y cynlluniau treialu a wnaethom o ran y timau nyrsio cymdogaeth. Nawr, mae'r adroddiad gennym, ac mae gennym ymrwymiad hefyd i gyflwyno'r timau nyrsio cymdogaeth hynny ledled Cymru. Byddai'n ofid i mi glywed nad ydym yn mynd i gael set o dimau iechyd a gofal cymdeithasol cydgysylltiedig sy'n mynd i gael eu rheoli'n lleol yn hytrach na gorfod cyfeirio'n ôl at ryw sefydliad biwrocrataidd bob tro. Dydw i ddim yn gweld ffordd arall iddyn nhw fod yn sensitif ac yn ymatebol i anghenion cymunedau lleol. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i'w gosod mewn llywodraeth leol, ond rwy'n credu bod hynny'n waith sy'n mynd rhagddo; ni allwn ni gymryd yn ganiataol eu bod yn canolbwyntio'n wirioneddol ar anghenion unigol cymunedau lleol iawn dim ond oherwydd eu bod yn wasanaethau llywodraeth leol. Un o'r pethau pwysicaf ynghylch y timau nyrsio cymdogaeth oedd defnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud rhai o'r tasgau sydd fel arall yn cymryd llawer iawn o amser rheoli, h.y. paru anghenion cymunedau lleol sy'n newid yn gyson â sgiliau'r tîm amlddisgyblaethol. Felly, tybed sut y bydd system technoleg gwybodaeth ddigonol a llawer mwy modern yn galluogi'r timau hyn sy'n rheoli eu hunain i gael y gwasanaethau mwyaf ymatebol y mae dinasyddion yn eu dymuno. Does dim amser i fanylu mwy nawr. Edrychaf ymlaen yn fawr at ymateb i'r Papur Gwyn.

Diolch, Jenny, am hynna. Yn amlwg, rwy'n credu bod mater y timau nyrsio cymdogaeth yn rhywbeth y gallem ni gael trafodaeth fanylach amdano y tu allan i'r Siambr. Rwy'n credu bod atebolrwydd lleol yn hollbwysig, a gwn fod ffordd bell i fynd o ran integreiddio ag iechyd a gofal cymdeithasol, ond dyna un o'n nodau absoliwt. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol, sy'n amrywiol ledled Cymru. Mae maint y cynnydd sydd wedi'i wneud wedi bod yn fwy mewn rhai ardaloedd nag eraill, ond rwy'n benderfynol y byddwn yn eu cryfhau ac y byddwn yn sicrhau bod gan y trydydd sector, er enghraifft, lais cryf yno, yn ogystal â llywodraeth leol a'r gwasanaethau iechyd.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog.

Y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 yw trafod eitemau 7 ac 8 ar ein hagenda gyda'u gilydd, ond cael pleidleisiau ar wahân. Ydw i'n gweld unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig hwnnw? Na, dim.

7. & 8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

Felly, a gaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynigion? Vaughan Gething.

Cynnig NDM7590 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2021.

Cynnig NDM7589 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2021.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynigion ger ein bron.

Mae dwy gyfres o reoliadau diwygio heddiw. Yn gyntaf, byddaf yn ystyried y rhai sy'n ymwneud â theithio rhyngwladol, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod gofynion ynysu llymach wedi'u cyflwyno ar gyfer pobl sy'n cyrraedd Cymru o wledydd lle nodwyd pryderon iechyd y cyhoedd mewn cysylltiad ag amrywiolyn o bryder o coronafeirws. Mae'n ofynnol bellach i bob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd sy'n destun gofynion ynysu llymach i ynysu am 10 diwrnod, a dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y byddan nhw'n gallu gadael eu man ynysu. Mae'r un gofynion ynysu yn berthnasol i bob aelod o'u haelwyd.

Yn dilyn yr adolygiad o asesiadau'r Gyd-ganolfan Bioddiogelwch, mae'r rheoliadau diwygio hyn yn ychwanegu Bwrwndi, Rwanda a'r Emiraethau Arabaidd Unedig at y rhestr goch o wledydd fel y'i gelwir. Mae'r gofynion hyn hefyd yn berthnasol i bobl a oedd eisoes wedi cyrraedd Cymru o'r gwledydd hyn, ac aelodau o'u haelwydydd, yn y 10 diwrnod cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud ar 29 Ionawr. Cyflwynwyd eithriadau newydd hefyd i'r gwaharddiad ar awyrennau a llongau sy'n teithio'n uniongyrchol o wlad rhestr goch i Gymru. Caniateir iddyn nhw gyrraedd nawr o dan yr amgylchiadau canlynol: glanio awyrennau at ddiben cael tanwydd neu gynnal a chadw lle nad oes unrhyw deithiwr yn mynd ar yr awyren nac yn dod oddi arni, ambiwlansys awyr yn glanio er mwyn cludo person i gael triniaeth feddygol, a llongau y mae'n ofynnol iddyn nhw angori yn unol â chyfarwyddyd diogelwch.

Cafodd yr adolygiad cyffredinol diweddaraf o gyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru ei gynnal ar 28 Ionawr. Daeth i'r casgliad, fel y gwyddoch chi, y dylai'r wlad gyfan aros ar lefel rhybudd 4, y lefel uchaf o gyfyngiadau, am o leiaf dair wythnos arall. Er ein bod yn gweld cwymp cyson a chalonogol ledled Cymru, maen nhw'n parhau i fod yn rhy uchel i ystyried llacio'r cyfyngiadau'n eang. Fodd bynnag, mae'r ail reoliad sy'n cael ei ystyried heddiw yn gwneud newidiadau bach ond pwysig i'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru yn dilyn yr adolygiad diweddaraf hwn.

Gall dau berson o wahanol aelwydydd ymarfer corff gyda'i gilydd erbyn hyn, er y dylent wneud pob ymdrech i gadw pellter cymdeithasol. Rhaid i bobl barhau i ddechrau a gorffen ymarfer corff yn eu cartref eu hunain, ar droed neu ar feic, oni bai fod angen i'r person deithio am resymau iechyd. Rydym hefyd wedi darparu ar gyfer newid swigod cefnogaeth, ar yr amod nad yw'r ddwy aelwyd yn gweld unrhyw aelwydydd eraill am gyfnod o 10 diwrnod cyn ffurfio'r swigod newydd. Er bod y gwelliant hwn yn cydnabod bod amgylchiadau pobl yn newid, mae canllawiau'n dal yn glir mai pan fydd popeth arall yn methu yn unig y ceir newid swigod. Yn olaf, mae safleoedd golchi ceir awtomatig bellach wedi'u rhestru ochr yn ochr â gorsafoedd petrol a garejys sy'n cael agor, er mwyn helpu i roi eglurder cyfreithiol. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, sy'n parhau i chwarae rhan bwysig wrth addasu'r rheolau coronafeirws yma yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gymesur. Diolch.

17:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Siaradaf ynghylch y ddwy gyfres o reoliadau; gwnaethom ni ystyried y rhain yn ein cyfarfod ddoe.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021 yn diwygio rheoliadau teithio rhyngwladol 2020 a rheoliadau cyfyngiadau Rhif 5. Mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt rhinweddau. Mae'r pwynt cyntaf yn nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth â hawliau dynol. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y memorandwm esboniadol, sy'n cadarnhau nad yw'r diwygiadau a wneir gan y rheoliadau hyn yn newid ymgysylltiad, o dan y rheoliadau teithio rhyngwladol na rheoliadau cyfyngiadau Rhif 5, hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Mae'r ail bwynt rhinweddau yn bwynt adrodd cyfarwydd a wnawn. Rydym wedi nodi na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau, ond am resymau y bydd yr Aelodau'n ymwybodol ohonynt.

Gan droi'n awr at yr ail gyfres o reoliadau, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021. Mae'r rhain yn gwneud newidiadau i reoliadau cyfyngiadau Rhif 5, sef, wrth gwrs, y prif reoliadau ar coronafeirws. Yn benodol, fel y dywedodd y Gweinidog, maen nhw'n caniatáu i berson sy'n byw mewn ardal lefel rhybudd 4, sef Cymru gyfan ar hyn o bryd, adael y man lle mae'n byw i ymarfer corff gydag un person arall. Maen nhw hefyd yn caniatáu i bobl ffurfio aelwydydd estynedig newydd, yn amodol ar fodloni amodau arbennig.

Mae ein dau bwynt adrodd cyntaf yn ymwneud â chyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. O ganlyniad i'r newidiadau hyn sy'n gysylltiedig ag ymarfer corff ac aelwydydd estynedig, mae'r memorandwm esboniadol yn rhoi sylwadau ar sut y mae'r rheoliadau hyn yn lleihau'r graddau y mae'r cyfyngiadau a'r gofynion yn y prif reoliadau yn ymyrryd â hawliau unigol. Ac mae ein hail bwynt adrodd unwaith eto'n nodi na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau.

17:55

Gan gymryd y ddwy eitem, eitem 7 ac eitem 8 ar yr agenda ar wahân, yr eitem gyntaf ynglŷn ag ymestyn y rheoliadau teithio rhyngwladol. Does gen i ddim sylwadau i'w gwneud ymhellach at y rheini, ond bod y sylwadau a'r rhesymeg dros y rheoliadau yma yn synhwyrol iawn yn ein tyb ni.

O ran eitem 8, mae nifer o newidiadau yn y fan yma. Does gen i ddim sylw arbennig i'w wneud ar y penderfyniad i ganiatáu i olchfeydd ceir awtomatig aros ar agor. Rydw i'n falch bod hyblygrwydd yn cael ei ganiatáu o ran ffurfio aelwydydd estynedig efo aelwydydd eraill, cyn belled â bod yna 10 diwrnod wedi pasio rhwng un bubble a'r llall. Ond, yn drydydd, rydw i'n falch iawn bod y Llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i'r apêl gen i ac eraill i ystyried pob ffordd posib o annog gweithgaredd awyr agored er lles corfforol a meddyliol. Mae eisiau i bobl gymryd gofal i gadw pellter ac ati wrth wneud hynny, ond mae'n bwysig cadw golwg ar bob cyfle yn fan hyn, oherwydd, fel rydw i'n dweud, rydyn ni'n dod â llesiant corfforol a meddyliol at ei gilydd, ac rydw i'n meddwl bod hyn yn ffordd synhwyrol o weithredu.

Diolch. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder am ystyried y rheoliadau. Rwy'n gweld eu gwaith craffu'n ddefnyddiol yn rheolaidd i sicrhau bod y gyfraith mewn trefn dda ac yn gyson â'r nodau a'r amcanion sydd ganddi.

O ran Rhun ap Iorwerth, croesawaf ei gefnogaeth i'r mesurau ac, yn benodol, y pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn ag annog pobl i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored. Wrth i amser fynd rhagddo, gobeithiaf y gall mwy ohonom ymgymryd â'r gweithgareddau hynny yn y dyfodol hefyd, wrth inni barhau i chwarae ein rhan i gyd wrth helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, dydw i ddim yn gweld gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Unwaith eto, nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021

Eitem 9 ar ein hagenda yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7588 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021. Mae'r Gorchymyn yn pennu'r lluosydd at ddibenion ardrethu annomestig ar gyfer 2021-22. Yn 2017, nododd Llywodraeth Cymru ei bwriad i newid y mesur chwyddiant a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r lluosydd yng Nghymru o'r mynegai prisiau manwerthu i'r mynegai prisiau defnyddwyr o 1 Ebrill 2018, ac mae hyn wedi'i gyflawni drwy Orchmynion blynyddol a gymeradwywyd gan y Senedd hon.

Ar 15 Rhagfyr, cyhoeddais y penderfyniad i symud i ffwrdd o'r sefyllfa hon ar gyfer 2021-22. Yn hytrach, bydd y lluosydd yn cael ei rewi. Effaith Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021 yw dirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020, a gymhwysodd y dull a oedd ar waith cyn 15 Rhagfyr o gynyddu yn ôl y Mynegai Prisiau Defnyddwyr. Mae angen cymeradwyo'r Gorchymyn cyn y bleidlais ar adroddiadau cyllid llywodraeth leol ar setliadau terfynol llywodraeth leol a'r heddlu ar gyfer 2021-22, neu cyn 1 Mawrth 2021, pa un bynnag ddaw gyntaf.

Bydd Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021 yn gosod y lluosydd fel ei fod yn parhau ar y lefel a bennwyd ar gyfer 2020-21. Bydd y Gorchymyn yn golygu na fydd cynnydd yn y biliau ardrethi sydd i'w talu gan fusnesau a pherchnogion eiddo annomestig eraill yn 2021-22. Bydd capio'r lluosydd drwy ddefnyddio mesur chwyddiant is y CPI rhwng 2018-19 a 2020-21, ochr yn ochr â rhewi'r lluosydd yn 2021-22, yn golygu y bydd talwyr ardrethi yng Nghymru yn arbed dros £90 miliwn ar eu biliau ardrethi ers 2018-19.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cynnwys darpariaethau i wneud newid parhaol i'r sail ar gyfer cynyddu'r lluosydd o 1 Ebrill 2022. Ein bwriad yw defnyddio'r CPI yn y dyfodol. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y Gorchymyn. Mae polisi ardrethi annomestig wedi'i ddatganoli i raddau helaeth. Byddai rhewi'r lluosydd yn atal cynnydd mewn biliau ardrethi y byddai talwyr ardrethi'n eu hwynebu fel arall. Bydd y newid hwn yn helpu busnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y pwysau y maen nhw wedi eu hwynebu, gan gynnal llif sefydlog o refeniw treth ar gyfer gwasanaethau lleol ar yr un pryd. Caiff y newid ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, ac ni fydd unrhyw effaith ar y cyllid a ddarperir ar gyfer gwasanaethau lleol. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r Gorchymyn heddiw.

18:00

Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr yn y ddadl, felly'r cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw wrthwynebiadau, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-2022

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Mark Isherwood, a gwelliant 4 yn enw Siân Gwenllian. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Mae eitem 10 ar ein hagenda y prynhawn yma yn ddadl ar gyllideb ddrafft 2021-2022, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7586 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 21 Rhagfyr 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae'n bleser gennyf agor y ddadl hon y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Ers inni gael y cyfle cyntaf i drafod y gyllideb ddrafft yn y Senedd, mae'r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Senedd wedi craffu ar ein cynlluniau gwariant. O ystyried yr amgylchiadau digynsail yr ydym wedi'u hwynebu, hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r pwyllgorau eraill am eu cydweithrediad wrth gynnal gwaith craffu mewn cyfnod wedi'i gwtogi.

Cyn imi roi myfyrdodau cynnar ar y themâu allweddol sy'n deillio o graffu, hoffwn amlinellu'r asesiad diweddaraf o'r cyd-destun sy'n llywio ein paratoadau ar gyfer y gyllideb. Er bod canlyniad 'dim cytundeb' wedi'i osgoi, mae'r cytundeb gyda'r UE yn creu rhwystrau masnach newydd i fusnesau Cymru, colli hawliau dinasyddion Cymru ac economi lai yng Nghymru hyd at 6 y cant dros 10 i 15 mlynedd, yn ôl arbenigwyr annibynnol. Ochr yn ochr â'r pandemig, mae hyn yn arwain at economi wannach ac yn gwaethygu rhagolygon cyllidol ar gyfer Cymru. Cytunwn â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol nad yw'n briodol tynhau polisi cyllidol yn y tymor byr, ond mae dull Llywodraeth y DU o ymdrin â hyn ac ailadeiladu cyllid cyhoeddus yn parhau i fod yn aneglur. Mae'r argyfwng hinsawdd hefyd yn parhau i fod yn her sylweddol. Er bod y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi nodi y bydd y sector preifat yn ysgwyddo costau sylweddol, mae'n anochel y bydd goblygiadau o ran gwariant cyhoeddus.

Mae'r setliad cyllideb siomedig o gylch gwariant blwyddyn Llywodraeth y DU a'r addewidion a dorrwyd o ran cyllid ar ôl yr UE hefyd wedi ein gadael yn waeth ein byd y flwyddyn nesaf, gyda'r risg y bydd penderfyniadau llywodraeth y DU munud olaf yn parhau. Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o broblemau parhaus dull anhrefnus Llywodraeth y DU o ymdrin ag amserlen ei chyllideb a'r effeithiau sylweddol ac afresymol y mae hyn wedi'u cael ar ein paratoadau cyllidebol ein hunain. Rwyf hefyd yn croesawu'r galwadau gan y pwyllgor i Lywodraeth y DU roi inni'r hyblygrwydd i'n galluogi i reoli ein cyllideb yn y ffordd fwyaf effeithiol i Gymru.

Mae'n anodd gweld adeg pan fyddai'r angen am yr hyblygrwydd ychwanegol hwn yn fwy, sydd hefyd wedi'i gefnogi gan alwadau annibynnol am yr hyblygrwydd hwn gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi'r tegwch, yr hyblygrwydd a'r eglurder sydd eu hangen arnom i Gymru, gan gynnwys mater ariannu ffermydd ar ôl yr UE, y gronfa ffyniant a rennir, llifogydd ac adferiad y tomenni glo. Ni fyddaf ychwaith yn gadael i'r cyd-destun anodd hwn dynnu sylw oddi ar ein hymrwymiad cyson i ddarparu tryloywder i gefnogi gwaith craffu ystyrlon ar ein cynigion gwariant. Byddwn yn ceisio adeiladu ar y camau ychwanegol yr ydym wedi'u cymryd eleni i ddarparu tryloywder llawn ac i barhau â'r mesurau hyn i'r flwyddyn i ddod. Mae hyn yn cynnwys rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl, yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth, sef y diwrnod ar ôl inni gyhoeddi ein cyllideb derfynol. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn canolbwyntio ar le y gallwn gael yr effaith fwyaf, gan gydbwyso'r angen i gadw hyblygrwydd i'r flwyddyn nesaf. Rwy'n falch ein bod wedi sicrhau'r manteision gorau gyda'r cyllid sydd ar gael i ddiogelu'r hyn sydd bwysicaf, a mynd ar drywydd y newid sydd nid yn unig yn bosibl, ond sy'n hanfodol.

Arweiniwyd ein paratoadau gan ein wyth blaenoriaeth ailadeiladu, wedi'u llunio gan fwy na 2,000 o ymatebion cyhoeddus ac arbenigwyr blaenllaw Cymru a rhai rhyngwladol. Mae'r cynllun uchelgeisiol hwn yn canolbwyntio ar ein blaenoriaethau tymor byr, ochr yn ochr â darparu'r sylfeini ar gyfer ein hadferiad tymor hwy.

Rydym yn buddsoddi mewn cyflogaeth ac yn y farchnad lafur, gan gynnwys hwb o £5.4 miliwn ar gyfer cyfrifon dysgu personol i helpu gweithwyr ar incwm isel i uwchsgilio ac ailhyfforddi. Rydym yn buddsoddi yn ein pobl ifanc, grwpiau difreintiedig, ac mewn addysg, gan gynnwys y £176 miliwn yr ydym yn ei ddarparu i awdurdodau lleol, £8.3 miliwn ar gyfer diwygio'r cwricwlwm, a £21.7 miliwn ar gyfer pwysau demograffig addysg uwch ac addysg bellach. Rydym yn buddsoddi mewn tai gyda £40 miliwn ar gyfer y grant cymorth tai i gyflawni ein huchelgais o roi terfyn ar ddigartrefedd a £37 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi'r gwaith o adeiladu cartrefi fforddiadwy a chynaliadwy. Rydym yn buddsoddi yng nghanol trefi, gan gynnwys £3 miliwn ychwanegol i gefnogi'r stryd fawr a chanol trefi a dinasoedd, a £5 miliwn i gefnogi ein gweithgareddau adfywio ehangach drwy ein rhaglen benthyciadau canol tref. Ac rydym yn buddsoddi yn ein hinsawdd, ein tir a'n hadnoddau naturiol, gan adeiladu ar y pecyn cyfalaf sylweddol gwerth £140 miliwn a ddarparwyd gennym yn 2020-21, gan gynnwys £5 miliwn ychwanegol ar gyfer bioamrywiaeth a'r goedwig genedlaethol, a £26.6 miliwn ychwanegol i'r economi gylchol i wella ailgylchu yng Nghymru a mynd i'r afael ag annhegwch cymdeithasol. Rydym yn buddsoddi mewn gweithio a theithio, gan gynnwys £20 miliwn ychwanegol ar gyfer prosiectau teithio llesol, a chyfanswm o £275 miliwn yn ein rheilffyrdd a'n metro. Rydym yn buddsoddi yn ein heconomi sylfaenol a busnesau Cymru, gan gynnwys £3 miliwn arall i ddarparu cronfa economi sylfaenol i gefnogi lledaenu a chynyddu arferion da yn gyflym, ac i ddarparu swyddi yng nghanol ein cymunedau lleol. Rydym yn buddsoddi yn ein GIG, gan ddarparu £420 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi twf y GIG ac adferiad ar ôl y pandemig.

Rwyf hefyd yn croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o'r camau cadarnhaol yr ydym wedi'u cymryd ar newid hinsawdd a'r diwygiadau i'n prosesau cyllideb a threth. Drwy ein cynllun gwella'r gyllideb, rydym eisoes wedi amlinellu sut y bwriadwn fwrw ymlaen â'r diwygiadau hyn dros y pum mlynedd nesaf, ac rwy'n croesawu'r ymgysylltu parhaus ar yr agenda bwysig hon. Roeddwn hefyd yn falch bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn ei gwaith craffu wedi croesawu ein hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ein buddsoddiad mewn adfywio canol trefi a dinasoedd, a'n buddsoddiad mewn tai a digartrefedd. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'r comisiynydd wrth inni ddatblygu ein cynlluniau uchelgeisiol.

Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o bwysigrwydd ariannu iechyd a llywodraeth leol; fel yr amlinellais o'r blaen, mae'r rhain yn feysydd sydd ar flaen fy ystyriaethau ar gyfer cyllid COVID-19 yn y gyllideb derfynol ar 2 Mawrth. Rwyf hefyd yn ystyried y meysydd eraill a godwyd gan y pwyllgor; byddaf i a'm cyd-Weinidogion yn y Cabinet yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac adroddiadau eraill pwyllgorau'r Senedd cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ar 9 Mawrth.

Felly, i gloi: a ninnau wedi wynebu'r amgylchiadau mwyaf heriol yr ydym wedi'u hwynebu ers datganoli, rwy'n falch bod y gyllideb ddrafft hon nid yn unig yn darparu sylfaen gadarn i'r weinyddiaeth nesaf, ond yn diogelu, yn adeiladu, ac yn newid, i sicrhau Cymru fwy llewyrchus, mwy cyfartal a gwyrddach. Diolch.

18:05

Daeth y Llywydd (Elin Jones) i’r Gadair.

Mae'n ddrwg gen i. Rôn i ar mute. Blwyddyn yn ddiweddarach, byddech chi'n meddwl y byddwn i wedi dysgu'r wers yna. A gaf i alw nawr ar Siân Gwenllian i siarad ar ran y Pwyllgor Cyllid? Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae’n bleser gen i wneud cyfraniad yn y ddadl bwysig hon ar ran y Pwyllgor Cyllid—y ddadl ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22. Hon, wrth gwrs, ydy cyllideb ddrafft olaf y Senedd hon ac, am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae hi wedi cael ei llunio ac mae hi wedi bod yn destun gwaith craffu o dan amgylchiadau eithriadol. Eleni, mae’r pandemig yn golygu bod digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig wedi cael eu hoedi, ac mae hynny wedi arwain at oedi i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Yn ei dro, mae wedi golygu bod gan y pwyllgorau lai o amser ar gyfer eu gwaith craffu, ac mae hynny’n peri pryder arbennig o ystyried y bydd COVID-19 yn cael effaith ar wariant cyhoeddus am flynyddoedd i ddod.

Drafft yn sicr yw’r gyllideb ddrafft hon. Mae diffyg ffigurau cyllido at y dyfodol a setliad cyllid refeniw am flwyddyn yn unig wedi gwneud y gwaith o osod cyllideb yn fwy heriol byth. Yn ogystal, mae gan Lywodraeth Cymru gronfeydd wrth gefn sylweddol gwerth oddeutu £800 miliwn, a’r rheini heb eu dyrannu. Y bwriad yw i gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael ei gosod ar 3 Mawrth, sy’n golygu na fydd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn gallu ystyried ei chynnwys. Felly, mi fedrwn ni fod yn sicr y bydd yna newidiadau sylweddol i ddyraniadau yn ystod y flwyddyn. Felly, rydym ni'n argymell bod y Gweinidog yn amlinellu goblygiadau cyllideb y Deyrnas Unedig cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol.

Mae gan y pwyllgor bryder ers cryn amser am y mecanwaith a’r tryloywder mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu defnyddio ar gyfer penderfyniadau cyllido, gyda’r Gweinidog yn dweud bod yr ymgysylltu ar lefel weinidogol rhwng y Trysorlys a Llywodraeth Cymru wedi bod yn 'wael'. Yn 2020-21, cafwyd symiau mawr o gyllid canlyniadol yn ystod y flwyddyn. Mae problemau hefyd gyda thryloywder y symiau canlyniadol hyn a’r ffordd maen nhw’n cael eu cyfrifo. Canlyniad hyn oedd gwybodaeth gyfyngedig i’r pwyllgor am gyllid ychwanegol a datganiadau croes i’w gilydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio ymrwymiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig yn cael eu cynnal fel arfer erbyn dyddiad penodol, ac y bydd setliadau cyllido aml-flwyddyn yn cael eu hadfer mewn pryd ar gyfer proses gyllideb y flwyddyn nesaf. 

Eglurodd y Gweinidog wrth y pwyllgor sut mae proses penderfyniadau cyllidebol wedi newid yn ystod y pandemig, gyda Gweinidogion yn cyfarfod yn aml i ymdrin â materion allweddol wrth iddyn nhw godi. Mae'r pwyllgor yn croesawu ymdrechion y Gweinidog i reoli'r broses flaenoriaethu yn fwy canolog eleni. Fodd bynnag, rydym ni'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi systemau ar waith i sicrhau, pan gaiff symiau canlyniadol, ei bod yn gallu blaenoriaethu a darparu cyllid yn gyflym ac yn effeithiol.

Mae'r pwyllgor yn croesawu’r dull sydd wedi cael ei ddefnyddio’r flwyddyn hon lle mae newidiadau i drethi Cymru wedi cael eu gwneud fel rhan o’r gyllideb ddrafft, o gofio bod newidiadau treth yn gysylltiedig ag ymrwymiadau gwariant. Pleidleisiodd y Senedd hon ar dair set o reoliadau treth ar 2 Chwefror. Fodd bynnag, rydym ni'n credu y byddai’n ddoethach i’r gyllideb a'r penderfyniadau treth gael eu hystyried ar yr un pryd.

Mae sawl her wedi dod yn sgil COVID-19 ac mae’r effaith ariannol ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi bod yn sylweddol. Rydym yn croesawu'r cynnydd ar gyfer iechyd sy'n adlewyrchu'r rôl bwysig y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ei chwarae wrth ymateb i'r pandemig. Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau bod bron i £700 miliwn o'r gronfa wrth gefn sydd heb ei ddyrannu yn ymwneud â COVID-19 a'i bod hi’n bwriadu gwneud dyraniadau ychwanegol rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol.

Dyw hi ddim yn glir faint o adnoddau sydd wedi cael eu nodi ar gyfer y codiad cyflog i staff y gwasanaeth iechyd ac, felly, ba gyllid ychwanegol fydd ar gael i ymateb i'r pandemig, yn ogystal â gwasanaethau nad ydyn nhw’n ymwneud â COVID. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth am sut y bydd y £385 miliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau craidd y gwasanaeth iechyd yn cael ei ddefnyddio, gan gynnwys dadansoddiad i ddangos faint sydd wedi'i neilltuo ar gyfer y dyfarniad cyflog i staff a gwasanaethau eraill. 

Fe glywsom ni fod yna broblemau sylweddol efo capasiti’r gweithlu cyn y pandemig a bod y pandemig wedi gwaethygu’r problemau hyn. Rydym ni hefyd yn pryderu am effeithiau tymor hir y pandemig ar ofal nad yw'n gysylltiedig â COVID. Rydym ni’n disgwyl gweld cynnydd yn y gofal nad yw'n gysylltiedig â COVID dros y flwyddyn nesaf, ond bydd pwysau parhaus ar y gwasanaeth iechyd gwladol a gweithwyr gofal iechyd oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol, a'r ffaith y bydd llai o staff ar wardiau, a gallai hyn fod yn gymaint o her â COVID. Rydym ni hefyd yn pryderu’n fawr am yr effaith ar staff y gwasanaeth iechyd ledled Cymru. Rydym fel pwyllgor wedi argymell bod y gyllideb ddrafft yn egluro sut mae dyraniadau'n mynd i'r afael â'r materion cyfredol sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd gwladol o ran nifer y staff a chapasiti, yn ogystal â'r materion y mae'n debygol o'u hwynebu o ystyried effaith barhaus y pandemig ar ei weithlu. 

Rydym ni hefyd yn argymell bod angen mwy o fuddsoddiad mewn staff a hyfforddiant i gefnogi gweithwyr y gwasanaeth iechyd. Mae'n hanfodol bod y gwaith o gyflwyno’r brechlynnau yn parhau yn gyflym, ac mae'r pwyllgor yn croesawu'r sicrwydd cyllid ar gyfer y rhaglen frechu ac ar gyfer profi, olrhain a diogelu. O ystyried bod cyllid ar gyfer y rhaglen frechu yn cynnwys cyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru a chyllid y Deyrnas Unedig, dylai Llywodraeth Cymru roi gwybodaeth bellach i wahaniaethu rhwng y costau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu talu a'r rhai yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sydd yn darparu ar gyfer y rhaglenni hynny.  

Bydd effaith y pandemig ar iechyd meddwl yn sylweddol dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Rydym ni’n croesawu safbwynt y Gweinidog y bydd gwasanaethau iechyd meddwl yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, wrth fynd i'r afael â lefelau uwch o broblemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â'r pandemig, rydym ni'n credu bod rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei wneud mewn mesurau ataliol sy'n ystyried penderfynyddion ehangach iechyd meddwl, megis sgiliau a chyflogadwyedd, addysg, tai, mynediad i fannau gwyrdd a gweithgaredd corfforol. 

Mae awdurdodau lleol hefyd o dan bwysau cynyddol a bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Mae’n destun pryder clywed na fydd y cyllid cynyddol yn setliad llywodraeth leol yn cwmpasu’r holl bwysau o ran costau, fel costau gofal cymdeithasol, gofal plant ac addysg. Mae hefyd yn destun pryder clywed bod darparwyr gofal cymdeithasol wedi dweud bod cronfa galedi’r awdurdodau lleol ar gyfer 2020-21 yn hanfodol er mwyn goroesi. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi croesawu'r cyllid ychwanegol sydd yn y gyllideb ddrafft, sef £172 miliwn, neu 3.8 y cant ychwanegol mewn cyllid craidd cyffredinol o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ond rydym ni'n gwybod bod arweinwyr y gymdeithas wedi ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gofyn am derfyn ariannu isaf.

Mae'r pwyllgor yn pryderu’n fawr am y risg y bydd ein plant a'n pobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig a phlant blynyddoedd cynnar, yn colli tir yn eu haddysg o ganlyniad i'r pandemig. Mae'r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro sut mae'r cyllid ar gyfer llywodraeth leol ac addysg yn cefnogi'r ffyrdd cyfredol o ddysgu, a sut mae’n darparu digon o adnoddau i ymdrin ag effaith negyddol y pandemig ar addysg.

Mae’r aflonyddwch economaidd a achoswyd yn sgil y pandemig wedi bod yn ddinistriol. O ystyried nad ydym ni’n gwybod beth yw llwybr y pandemig o hyd, ac efo llawer o fusnesau yn dal i fethu â masnachu, ac ansicrwydd ynghylch pa mor gyflym y bydd hyder busnes yn dychwelyd, mae'n synhwyrol caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd yn y gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor o'r farn y gallem ni weld mwy o uchelgais gan Lywodraeth Cymru yn ei chynllun ailadeiladu, a gwell pecynnau cymorth ar gyfer busnesau.

Yn ogystal â'r effeithiau a ragwelir ar gyflogaeth, gallai'r argyfwng newid yr economi am byth, gyda newidiadau sylfaenol mewn patrymau gwaith, ymddygiadau a'r farchnad lafur. Mae'r pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a yw'r rhaglenni adfywio presennol yn dal i gynrychioli'r gwerth gorau, ac y dylai ystyried yr angen i ganolbwyntio mwy ar gefnogi twf a buddsoddi mewn sgiliau a chyflogadwyedd, yn enwedig ar gyfer economi werdd, gynaliadwy. Mae'n debygol y bydd 2021-22 yn dal i gael ei reoli gan yr ymateb i'r pandemig, ac yn amlwg bydd llawer o waith i’r Llywodraeth nesaf, a'r Pwyllgor Cyllid nesaf, i'w wneud, ond rydym ni'n obeithiol y bydd modd symud i ganolbwyntio ar adferiad yn ystod y flwyddyn.

I gloi, felly, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ar bob cam o'r broses graffu, trwy ein hymgynghoriadau ni, ein harolygon a'n polau. Mae pob un o’r rhain wedi helpu i lunio ein casgliadau. Dwi'n edrych ymlaen at glywed ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad. Diolch, Llywydd.

18:20

Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig, ond, yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, dwi'n galw ar Mark Isherwood nawr i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw e. Mark Isherwood.

Gwelliant 1—Mark Isherwood

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn galluogi Cymru i adeiladu'n ôl yn well ac adfer yn dilyn pandemig COVID-19.  

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd. Mae ein gwelliant yn galw ar i'r Senedd hon gydnabod nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn galluogi Cymru i ailgodi'n gryfach ac adfer ar ôl pandemig COVID-19. Mae'r term 'ailgodi'n gryfach' yn cydnabod yr angen am strategaeth dwf yn sgil coronafeirws sy'n darparu swyddi, sgiliau a seilwaith ym mhob cwr o Gymru ac yn mynd i'r afael â heriau mawr heb eu datrys yn ystod y tri degawd diwethaf, gan gynnwys 22 mlynedd o Lywodraethau Llafur datganoledig Cymru. Fel y dywedodd Prif Weinidog y DU, pan gyhoeddodd hefyd fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cyllid i gyflymu prosiectau seilwaith yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r Llywodraethau datganoledig i nodi lle y gallwn ni roi rhawiau yn y ddaear, adeiladu ein cymunedau a chreu swyddi'n gyflymach i ddinasyddion ledled y Deyrnas Unedig. Mae'n destun gofid felly bod rhethreg gyhoeddus y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn hytrach wedi canolbwyntio'n gwbl negyddol ar fwrw'r cyfrifoldeb yn adweithiol, gan geisio diawleiddio Llywodraeth y DU a'i beio am eu holl fethiannau eu hunain.

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at fethiannau Llywodraethau Llafur Cymru un ar ôl y llall wrth reoli ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Yn y flwyddyn cyn y pandemig, dyblodd amseroedd aros y GIG yng Nghymru, ac mae Cymru wedi cadw'r cyfraddau tlodi uchaf a'r cyflog isaf o holl wledydd y DU drwy gydol datganoli ers 1999. Mae gwariant Llywodraeth Cymru wedi cynyddu 4.2 y cant i £22.3 biliwn, 83 y cant a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU. Er gwaethaf honiadau Llywodraeth Cymru i'r gwrthwyneb, nododd dadansoddiad cyllidol Cymru y mis hwn gan Brifysgol Caerdydd £655 miliwn o gyllid COVID-19, nad yw Llywodraeth Cymru wedi'i ymrwymo eto, gan godi i £760 miliwn, gan gynnwys y gwariant sy'n bodoli eisoes ac heb ei ddyrannu yn ei chynlluniau cyllideb derfynol.

O ran llywodraeth leol, er gwaethaf effaith COVID-19, bydd awdurdodau lleol yn cael cynnydd llai yn eu setliadau na'r flwyddyn ariannol hon. Unwaith eto, mae cynghorau'r gogledd yn cael cynnydd cyfartalog is na'r de, ac unwaith eto mae'r Llywodraeth Lafur hon yn gwrthod cyllid gwaelodol i ddiogelu cynghorau fel Wrecsam a Cheredigion, y disgwylir iddynt ymdopi â chynnydd o ddim ond 2.3 y cant ac 1.96 y cant yn y drefn honno. Fel y nododd arweinydd cyngor Sir Fynwy, mae'n bwysig mynd i'r afael â'r pwysau gwirioneddol mewn llywodraeth leol a bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r 

'arian canlyniadol sylweddol yn llifo o gyhoeddiadau cyllid Llywodraeth y DU, gyda chyfran ohono eto i’w ddyrannu o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru.'

Fel y nododd arweinydd cyngor Sir Ddinbych,

'mae heriau gwasanaeth cyhoeddus a chyllidebol yn parhau, yn enwedig i’r awdurdodau hynny a fydd yn derbyn cynnydd is na’r cyfartaledd.'

Mae'r trydydd sector ac elusennau yng Nghymru, sydd ar flaen y gad yn ymateb Cymru i'r pandemig, gan arbed miliynau i'r sector cyhoeddus, wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn incwm sy'n cefnogi gwasanaethau hanfodol. Dywedodd ymateb Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru fod

y sector gwirfoddol yn parhau i fod ag angen mwy o adnoddau i ymateb i'r galw cynyddol am ei wasanaethau.... Mae gan drydydd sector ffyniannus ran hanfodol i'w chwarae yn yr agenda atal,

yn arbed arian yn ogystal â gwella bywydau,

a bod yn rhaid i gydgynhyrchu gwasanaethau chwarae rhan allweddol yn hyn.

Wrth ymateb i'r gyllideb ddrafft hon, nododd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ansicrwydd ynghylch o ble y byddai cymorth ariannol i fusnesau yn dod, a disgrifiodd gyflwyno pecynnau cymorth busnes fel rhai 'tameidiog' a mynegodd bryder nad yw'r gyllideb ddrafft hon yn rhoi digon o gymorth i bobl hunangyflogedig.

Ar ôl imi arwain y ddadl ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd hwn £3 miliwn yn ychwanegol i gefnogi hosbisau yn ystod y flwyddyn ariannol hon—i'w groesawu, ond ble mae gweddill yr arian ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i fwy o gyllid ar gyfer hosbisau yn Lloegr? A beth am y flwyddyn nesaf?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £2.25 miliwn hwyr ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ond rhoi plastr ar friw yn unig yw hwn ac ni fydd yn atal diswyddiadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn honni'n ddrygionus fod Llywodraeth y DU wedi torri addewidion ynghylch cyllid amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru. Gwarantodd Llywodraeth y DU y gyllideb flynyddol bresennol i ffermwyr ym mhob blwyddyn Senedd y DU. Pan wnaed yr ymrwymiad hwn, cyfanswm y cymorth fferm a roddwyd i ffermwyr Cymru oedd £337 miliwn. Ar gyfer 2021-22, mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid newydd ar ben y £97 miliwn sy'n weddill o gyllid yr UE, gan sicrhau y gall Llywodraeth Cymru barhau i ddarparu £337 miliwn o gymorth i ffermwyr Cymru y flwyddyn nesaf, os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur i weithredu cynllun adfer i Gymru. Mae'n destun pryder mawr, felly, nad yw'r gyllideb ddrafft hon yn darparu'r chwyldro ariannol y mae mawr ei angen i gyflawni hyn.

18:25

Galwaf ar Rhun ap Iorwerth nawr i gynnig gwelliant 4, gyflwynyd yn enw Siân Gwenllian. 

Gwelliant 4—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Diolch, Lywydd. Mae'r rhain yn amgylchiadau eithriadol iawn. Mae COVID a'r pandemig yn rhoi pwysau digynsail ar wariant cyhoeddus yng Nghymru ac, i ychwanegu at y cymhlethdod sy'n cael ei wynebu o ran cyllido i ddelio efo hynny mae amseru cyhoeddiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddyraniadau ac ar benderfyniadau cyllidol yn ei gwneud hi'n anodd iawn i Lywodraeth Cymru, a ninnau fel Senedd, i gynllunio ymlaen, hyd yn oed am y flwyddyn sydd o'n blaenau ni, heb sôn am ein dymuniad ni i allu cynllunio ymhellach na hynny ac yn y tymor hirach.

Drafft sydd gennym ni yn fan hyn. Mae cyllido terfynol a chyflawn wedi mynd yn amhosib bron. Ychwanegwch at hynny y diffyg hyblygrwydd fiscal sydd gennym ni, y cyfyngiad hurt ar bwerau gwariant a benthyg, y diffyg hyblygrwydd ar ddefnyddio arian wrth gefn ac ati. Yn hyn o beth, mi ydw i a'r Gweinidog yn gweld lygad yn llygad, fel yr ydym ni wedi ei ddweud yn y Siambr a'r Siambr rithiol yma droeon. Ond gadewch inni alw'r diffyg hyblygrwydd yma beth ydy o: dyma enghraifft glir o'r Deyrnas Unedig yma ddim yn gweithio i Gymru ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n ystyried anghenion Cymru.

Nid ein cyllideb ni ym Mhlaid Cymru ydy hon, wrth gwrs. Cyllideb y Llywodraeth Lafur ydy hi. Rydym ni'n credu bod sawl blaenoriaeth yn cael eu colli a dyna pam na allwn ni ei chefnogi hi. Mae yna fethiant i gefnogi llywodraeth leol yn sicr. Oes, mae yna gynnydd yn y dyraniad, ond nid y math o gynnydd sydd yn tynnu pwysau oddi ar gynghorau sydd wedi perfformio yn arwrol dros y flwyddyn ddiwethaf ac sydd wedi wynebu pwysau digynsail, ac sy'n parhau i wneud hynny. Y realiti ydy bod yr arian ychwanegol wedi cael ei lyncu cyn cyrraedd y cynghorau i bob pwrpas. A rhowch lawr yn ei le ar gyfer y cynghorau hynny sydd yn gweld y cynnydd lleiaf. Mae yna golli cyfle yn y fan hyn yn sicr. Mae yna golli cyfle i dynnu pwysau oddi ar drethdalwyr lleol hefyd. O dan yr amgylchiadau yma dwi'n meddwl bod yr achos yn gryf i ystyried rhewi treth cyngor. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud hynny. Dydy o ddim yn rhywbeth i'w wneud yn ysgafn o ran, hynny ydy, mae yna gost i hynny. Ond rydym ni'n credu bod yr arian yno ar hyn o bryd i'w wneud, ac mai dyma'r amgylchiadau i ystyried gwneud hynny. Wrth gwrs, mae eisiau chwilio am ffyrdd llawer tecach o gyllido llywodraeth leol yn yr hir dymor. Y tlotaf sydd yn talu cyfran fwyaf o'u hincwm ar dreth cyngor.

Ac a gaf i droi at ein gwelliant ni yn benodol yn fan hyn? Eto, wedi ei anelu at helpu y tlotaf. Mae'r pandemig wedi dangos anghydraddoldebau ein cymdeithas ni yn glir iawn, iawn. Felly, dewch—cyllidwch ginio ysgol am ddim i bob plentyn mewn cartrefi sydd yn derbyn credyd cynhwysol. Mae yna arian sylweddol ar ôl o'r arian sydd wedi dod yn ychwanegol ar gyfer delio â'r pandemig yma—arian sydd heb gael ei glustnodi eto. Mi wnaeth grŵp gweithredu ar dlodi plant y Llywodraeth yma ei hun bwysleisio bod ehangu cinio ysgol am ddim yn un o'r gweithredoedd mwyaf effeithiol y gall Llywodraeth ei gael er mwyn lliniaru tlodi plant yma yng Nghymru. Felly, gweithredwch.

Mae'r Ceidwadwyr, wrth gwrs, yn dweud, 'Gwariwch bob dimai o'r arian sydd heb gael ei glustnodi eto yfory nesaf.' Does gen i ddim amheuaeth mai ei wario fo'n dda ydy'r flaenoriaeth, nid ei wario fo mor gyflym â phosib. Ond, wedi dweud hynny, mi ydym ni angen gweld yr arian yn llifo i helpu busnesau sydd wir ei angen o, i helpu efo'r pwysau ar y gwasanaethau iechyd a gofal, ac, ie, i helpu y mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni.

Dwi'n edrych ymlaen at gyfnod ar ôl yr etholiad lle gall Plaid Cymru, dwi'n gobeithio, roi cychwyn ar raglen fuddsoddi biliynau o bunnoedd mewn codi Cymru yn ôl ar ei thraed, yn gymdeithasol ac yn economaidd, ac nid yn ôl i le roeddem ni cynt, ond yn ein codi ni i lefel lle gallwn ni fod yn llawer mwy uchelgeisiol yn yr hyn rydym ni'n trio ei gyflawni fel gwlad. Ond i chi, rŵan, efo'r cyfyngiadau sydd gennych chi ar eich uchelgais chi yn hynny o beth, Lywodraeth Cymru, o leiaf cymerwch y cam yna dwi wedi ei grybwyll i dargedu yn benodol y rhai mwyaf bregus a'r plant mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni.

18:30

Diolch, Llywydd—daeth hynna'n gyflymach nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl.

Hoffwn ymdrin â dau faes: yn gyntaf, dewis amgen yn y gyllideb gyffredinol; yn ail, cyllid ar gyfer yr amgylchedd. Lle rwy'n cytuno â'r wrthblaid: gyda'r Ceidwadwyr, os byddwn yn lleihau cost Comisiwn y Senedd, yna byddai gennym fwy o arian i'w wario ar wasanaethau; gyda Phlaid Cymru, rwy'n cefnogi prydau ysgol am ddim i'r rheini sydd ar fudd-daliadau. Rwy'n falch eu bod wedi newid eu polisi oddi wrth brydau ysgol am ddim i bob disgybl, a oedd yn cynnwys y rhai mewn ysgolion preifat. Nawr y cyfan sydd ei angen arnaf yw ymrwymiad i ddarparu prydau am ddim am 52 wythnos o'r flwyddyn, fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru, nid dim ond darpariaeth yn ystod y tymor. Rwy'n chwilio am ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i edrych ar ariannu prydau ysgol am ddim i'r bobl hynny sydd ar fudd-daliadau. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen edrych arno. Efallai nad yw pasio penderfyniad heddiw yn ffordd gadarnhaol ymlaen, ond mae angen i'r Llywodraeth ymrwymo i edrych ar hynny ac edrych ar faint y bydd yn ei gostio ac o ble y daw'r arian.

Ymhen tri mis, bydd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, naill ai'n unigol neu gyda'i gilydd, yn gobeithio ffurfio Llywodraeth a gosod y gyllideb atodol gyntaf. Er bod y ddau wedi dweud sut y maen nhw am wario arian mewn gwahanol ardaloedd, mae'r cwestiynau o ble y daw'r arian a pha feysydd sydd i'w torri a pha drethi a godir yn dal yn ddirgelwch. A wnewch chi gyhoeddi eich cyllidebau, os gwelwch yn dda, fel y gall pobl eich cymharu â'r Llywodraeth Lafur, nid, 'Byddwn yn addo popeth i bawb oherwydd rydym yn gobeithio y bydd rhywbeth yn digwydd'? Er mwyn helpu Plaid Cymru, gall awdurdodau lleol fenthyca'n ddarbodus gan ddefnyddio'r gallu benthyca darbodus, a ddisodlodd gymeradwyaeth credyd atodol. Y gair allweddol yw 'darbodus', nid 'benthyca'. Gall awdurdodau lleol fenthyca os oes ganddynt y capasiti a ragwelir i drin eu dyledion. I ddefnyddio gallu awdurdodau lleol i fenthyca, byddai angen ymrwymiad hirdymor i ariannu benthyca o'r fath, a bernir hynny'n ddarbodus gan y prif swyddog ariannol, a'r person hwnnw'n unig. Hefyd, mae cap ar fenthyca ar gyfer yr holl awdurdodau lleol gyda'i gilydd, ac eithrio'r Trysorlys.

A gaf i ddweud—mae'r amgylchedd yn bwysig iawn i bawb nes iddi ddod yn amser y gyllideb? Cynnig cyflym, syml ac isel ei gost yw cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol ar raddfa fach. Yn rhan o'r gyllideb, mae arnom angen, yn ôl cais y pwyllgor ar y newid hinsawdd, i'r ail gynllun cyflawni carbon isel gynnwys asesiad o'i oblygiadau ariannol, gan gynnwys costau a manteision ac asesiad o effaith carbon pob polisi neu ymyrraeth—hefyd sut y byddai'r dyraniadau ychwanegol i wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio, ac a yw'n ddigonol a sut y bydd yn cyfrannu at sector cyhoeddus di-garbon net ac yn cynyddu ynni i 1 GW erbyn 2020. A oes digon o arian i ymdrin â thlodi tanwydd, sef yr hyn sy'n bodloni'r diffiniad a'r hyn nad yw, oherwydd mae pobl yn byw mewn cartrefi oer, yn methu â thalu'r gost o gadw hyd yn oed un ystafell yn gynnes? Mae angen egluro faint o arian sydd wedi'i ddyrannu yn 2021-22 i gyflawni'r camau gweithredu a nodir yn y cynllun aer glân ac a yw hynny'n ddigonol.

Un mater sy'n peri pryder i lawer ohonom yw lles anifeiliaid. A yw lefel y cyllid a ddarperir ar gyfer prosiectau treialu i wella capasiti ar draws arolygiadau lles anifeiliaid a gwasanaethau gorfodi awdurdodau lleol yn ddigonol? A yw yn y gyllideb, neu a fydd awdurdodau lleol yn cael gwybod ei fod eisoes wedi'i ddarparu yn rhan o'r cyllid allanol cyfanredol?

Gan droi at Cyfoeth Naturiol Cymru, mae fy marn am yr uno a'i creodd yn hysbys iawn, ac nid wyf am ei ailadrodd. A yw'n cael ei ariannu'n ddigonol i gyflawni'r hyn yr wyf fi a llawer o'm hetholwyr yn teimlo yw ei ddyletswyddau diogelu'r amgylchedd pwysicaf? Mae gennym broblemau o ran Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymdrin â digwyddiadau llygredd, ac, yn Aelod etholaeth, rwy'n ymdrin â dau beth: carthion yn dod trwodd o waith trin i Afon Tawe, ac mae'r clwb pysgota lleol yn dweud wrthyf fod hyn yn weddol reolaidd, a hefyd llosgi plastig oddi ar wifrau yn yr ardal—rhywbeth mae'n ymddangos nad oes ganddo ddiddordeb ynddo, Cyfoeth Naturiol Cymru, o gwbl, tra arferai hen Asiantaeth yr Amgylchedd ei orfodi, ac rwy'n credu bod pethau wedi mynd ar yn ôl yn ofnadwy. Ac os oes gan fwy o garthion yn yr afon a llosgi plastig oddi ar wifrau a'r llygredd sy'n deillio o hynny ddosbarthiad isel yn y system ddosbarthu yn CNC, nid wyf yn siŵr beth sydd â dosbarthiad uchel.

A gaf i orffen drwy ddweud rhywbeth am lywodraeth leol? Rwy'n credu mai un o'r problemau yw ein bod yn dal i siarad am y cynnydd canrannol. Mae'n rhaid inni edrych ar faint y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei wario, a rhywfaint o hynny yw'r arian y maen nhw'n ei godi eu hunain o'r dreth gyngor; rhywfaint ohono yw'r arian a gewch o renti a gwasanaethau eraill y maen nhw'n eu darparu. Nawr, mae cyngor fel Abertawe, a Chaerdydd mewn gwirionedd yn cael cryn dipyn o incwm o arian parcio ceir mewn amser arferol—mae awdurdodau eraill yn cael llawer llai. Felly, mae angen ichi edrych ar gyfanswm cyllid awdurdodau lleol a chynnydd canrannol—. A gaf i ddweud am Geredigion, efallai ei fod wedi cael cynnydd isel iawn, ond mae'n dal i fynd yn uwch na hanner uchaf yr awdurdodau lleol o ran cyllid allanol cyfanredol? Felly, os ydych chi'n mynd i edrych ar lywodraeth leol, mae angen i chi edrych ar y mater yn ei gyfanrwydd, am allu awdurdodau lleol i godi arian yn ogystal â'r hyn y maen nhw'n ei gael gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n credu bod angen dadl fawr a llawer o drafod ar gyfer hyn, a gobeithio y gallwn wneud hynny yn y dyfodol.

18:35

Diolch—diolch i'r Llywodraeth, am gyflwyno'r ddadl hon, yn amlwg, ond rwy'n hapus i siarad fy hun yn rhinwedd fy swydd o fod yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Yn gyntaf oll, byddwn i'n dweud—. Rwy'n ymbalfalu i ddod o hyd i'm nodiadau, fel y mae'n digwydd. Ymddiheuriadau am hynny. Dyna ni. Mae'n ddrwg gen i, Llywydd. O ran gwaith y pwyllgor, mae'n amlwg ein bod ni wedi edrych yn fanwl ar y gyllideb ddrafft, efallai ddim mor fanwl ag y gwnaethom ni mewn blynyddoedd blaenorol, oherwydd gofynion eraill gwaith y pwyllgor, ond fe wnaf sylw, rwy'n meddwl, yn bennaf yn fy nghyfraniad ar faterion sy'n ymwneud â chymorth busnes yn ystod y pandemig.

Byddwn i'n dweud, o'm safbwynt i a safbwynt y pwyllgor, yn gyffredinol, wrth gwrs, ein bod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhai y mae'r pandemig yn debygol o effeithio'n andwyol arnyn nhw fwyaf yn cael y lefel fwyaf o gefnogaeth. Dyna mae Llywodraeth Cymru yn ei honni, ac, wrth gwrs, byddem ni fel pwyllgor yn croesawu'r ymrwymiad hwnnw, ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud a'r hyn y byddai'r pwyllgor yn ei ddweud yw bod angen cynnal hynny drwy gydol unrhyw gymorth newydd a thrwy'r broses o gynllunio adfer hefyd.

Rwy'n credu mai'r pryder mawr i'r pwyllgor a minnau yw'r ffaith nad yw'r holl gyllideb sydd ar gael ar gyfer y pandemig o ran rhyddhad busnes wedi ei thynnu i lawr, mae hi'n ymddangos—os wyf i'n anghywir, gall y Gweinidog Cyllid amlinellu hynny. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a deall, os nad yw Llywodraeth Cymru yn tynnu' i lawr yr holl arian sydd ar gael iddi o ran cymorth busnes, os yw hynny'n gywir, pam mae hynny'n wir. Oherwydd, yn amlwg, rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth egluro ei dull gweithredu yn hynny o beth. O ran cynllunio a thynnu arian i lawr hefyd, y gellid ei ddefnyddio ar gyfer rowndiau pellach o'r gronfa cadernid economaidd, neu gylchoedd pellach o'r gronfa honno, rwy'n credu y byddai hefyd yn ddefnyddiol pe byddai'r Llywodraeth yn rhoi esboniad yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r arian hwn, ac yn sicrhau na fydd dim o'r arian hwn yn cael ei golli i Gymru.

Un o'r argymhellion a wnaethom oedd gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu rhagor o fanylion am y nifer sy'n manteisio ar y cyllid cymorth busnes i sectorau penodol, a lansiwyd ganol y mis diwethaf, gan gynnwys manylion am y nifer sy'n manteisio arno, oherwydd mae gennym ddiddordeb yn yr hyn oedd disgwyliadau'r Llywodraeth a'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb a oedd yn gymwys—pob busnes a oedd yn gymwys—i gael arian, yn ymwybodol o'r cynllun.

Mae pryder hefyd, rwy'n credu, ynglŷn â chynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gymorth busnes, ac yn sicr fel pwyllgor, roeddem ni o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru nodi pa werthusiadau cadarn a fu o effeithiolrwydd gwefan a gwasanaethau cymorth Busnes Cymru, i nodi pa un a oes unrhyw fesurau pellach eraill sydd eu hangen i helpu busnesau i ddeall y gyfres gyfan o gymorth busnes sydd ar gael.

Rwy'n credu mai'r hyn a oedd yn bwysig yw deall y pwynt hwn hefyd: mae Llywodraeth Cymru yn aml yn dweud ac yn ailadrodd ei bod yn cynnig y pecyn cymorth busnes gorau ledled y DU. Felly, rydym ni wedi cael cynnig rhywfaint o wybodaeth gymharol gan y Gweinidog droeon o ran cymorth Llywodraeth Cymru o'i gymharu â chymorth mewn rhannau eraill o'r DU; nid ydym wedi cael honno hyd yma, er bod un neu ddau o gynigion wedi'u gwneud. Nawr, byddai'n ddefnyddiol gweld y gymhariaeth honno. Rwy'n sylweddoli y bydd rhai anawsterau ynghylch hynny, oherwydd weithiau mae'n anodd cael gwybodaeth gyfatebol, yn enwedig pan fydd cynlluniau cymorth yn dechrau ac yn gorffen ar wahanol adegau, ond rwy'n credu pe byddai hynny'n rhoi hyder i'r busnesau bod hynny'n iawn, rwy'n credu bod angen cyflwyno'r gymhariaeth honno. Ac yn sicr, o'm mewnflwch fy hun, clywaf am siopau manwerthu ar y stryd fawr, caffis ar y stryd fawr, salonau gwallt a harddwch, yn credu pe byddai eu busnes wedi'i leoli yn rhywle arall yn y DU, y bydden nhw'n cael lefel uwch o gymorth, oherwydd y bydden nhw'n gallu cael gafael ar gyllid ychwanegol. Yr unig beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud yw, 'Na, mae gennym ni'r cyllid dewisol, mae gennym ni'r cyllid sy'n benodol i sector', ond yn aml nid yw'r mathau hyn o fusnesau yn gymwys am nad ydyn nhw ar gynllun talu wrth ennill, nid oes ganddyn nhw gyflogeion ar gynllun talu wrth ennill, nid ydyn nhw wedi cofrestru ar gyfer TAW. Felly, mae nifer o rwystrau sy'n atal busnesau rhag cael rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn y mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio ato. Ac rwy'n sicr yn credu—neu yr ydym ni fel pwyllgor yn credu—bod yn rhaid i'r Llywodraeth edrych ar y meini prawf cymhwysedd hynny eto.

A phan ddaw'n fater o'r gronfa ddewisol y mae gan awdurdodau lleol y gallu i'w defnyddio, mae cwestiwn ynghylch pa mor ddewisol yw hynny mewn gwirionedd. Gan ei bod yn ymddangos bod awdurdodau lleol yn adrodd yn ôl gan ddweud, 'Wel, mewn gwirionedd, na, nid oes gennym ni yr un lefel o ddisgresiwn—' neu, 'Rydym ni'n pryderu am ddefnyddio hynny gan nad ydym ni'n siŵr o ba un a allwn ni hawlio'r holl arian hwnnw yn ôl gan Lywodraeth Cymru.' Felly, a yw'n gronfa ddewisol mewn gwirionedd? A oes rhai meini prawf gwell y gellir eu rhoi i awdurdodau lleol i ganiatáu iddyn nhw fod yn fwy dewisol hefyd?

A'r pwynt olaf y byddwn i'n ei wneud yw y byddai gennyf ddiddordeb arbennig mewn cael y data hynny gan Lywodraeth Cymru o ran dadansoddi'r cymorth i fusnesau, ond hefyd edrych ar y dadansoddiad o'r nifer o grwpiau arbennig o bobl sy'n manteisio arno os hoffech chi, o ran y nifer sy'n manteisio arno, boed nhw yn fusnesau bach neu fawr, neu'n fenywod mewn busnes, oherwydd rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig cael y data hynny a chymharu hynny hefyd, a chyferbynnu hynny â rhannau eraill o wledydd y DU hefyd. Diolch Llywydd.

18:45

Bob blwyddyn, mae ein pwyllgor yn ystyried sut y mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Drwy gydol y Senedd hon, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth glir am sut y mae hi wedi asesu effaith ei phenderfyniadau ariannol ar blant a phobl ifanc. Nid oherwydd ein bod ni'n credu y dylai Gweinidogion wneud hyn, y rheswm yw bod y ddyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw asesu effaith eu penderfyniadau ar hawliau plant.

Eleni, mae ein galwadau am i blant fod yn amlwg mewn penderfyniadau cyllidebol yn fwy hanfodol nag erioed. Mae pandemig COVID wedi taro pawb yn galed, ond does dim dwywaith bod ein plant a'n pobl ifanc wedi cael eu taro'n arbennig o galed. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn gorfod dysgu gartref, nid ydyn nhw'n cael gweld eu ffrindiau, maen nhw'n wynebu amhariadau ar eu harholiadau a'u hasesiadau. Rydym ni'n gwybod nad oes neb ar fai am hyn, a gwyddom fod yr holl bethau hyn yn digwydd i geisio lleihau lledaeniad COVID yng Nghymru ac i achub bywydau, ond gwyddom hefyd fod hyn wedi effeithio arnyn nhw ac mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i leihau hynny. Mae gan y ffordd yr ydym ni'n gwario ein harian ran allweddol i'w chwarae, ac ar y sail honno mae nifer o'n hargymhellion eleni yn ymwneud â'r penderfyniadau ariannol y credwn y mae'n rhaid eu gwneud yng ngoleuni effaith COVID-19.

Yn gyntaf, nodwn fod dros £800 miliwn yn dal heb ei ddyrannu yn y gyllideb ddrafft. Gwyddom fod llawer o hyn yn debygol o gael ei ddefnyddio i liniaru effaith COVID. Mae ein hadroddiad yn glir bod yn rhaid i hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc fod yn ystyriaeth allweddol i holl Weinidogion Llywodraeth Cymru pan wneir penderfyniadau ynghylch sut y dyrennir yr arian hwn. Fel pwyllgor, rydym ni'n disgwyl gweld yr ystyriaeth hon yn cael ei dangos yn glir ac yn dryloyw pan wneir y penderfyniadau hyn. Hefyd, o ystyried yr amgylchiadau digynsail yr ydym yn canfod ein hunain ynddyn nhw, rydym ni wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau rheolaidd a manwl i'r Senedd a phwyllgorau perthnasol ar ddyraniadau yn ystod y flwyddyn, a hynny yn ystod y flwyddyn ariannol 2021-22. Credwn fod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael blaenoriaeth fel y dylen nhw ei chael.

Gan droi nawr at arian sydd eisoes wedi'i ddyrannu i gefnogi plant a phobl ifanc, rydym yn croesawu'r gwariant hyd yma ar y rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau, a'r dyraniadau ar ei chyfer yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r cyllid hwn yn hollbwysig ac mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod yn cyflawni ei effaith arfaethedig. O ystyried ei bwysigrwydd, rydym wedi gofyn am fwy o fanylion am sut y defnyddiwyd yr arian recriwtio, adfer a chodi safonau hyd yma. Rydym hefyd wedi galw am i ddata o'r fath gael ei gyhoeddi yn barhaus. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ein plant yn dychwelyd i addysg yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad y Llywodraeth dros y blynyddoedd i ddod. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod yr arian sy'n mynd i mewn yn cyflawni'r canlyniadau a fwriedir ar gyfer plant a phobl ifanc.

Rydym ni'n gwybod nad plant oedran ysgol yn unig sy'n dioddef oherwydd COVID. Mae ein pobl ifanc mewn addysg bellach ac uwch a hyfforddiant hefyd wedi bod ar reng flaen y pandemig hwn. Rydym ni'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar o £40 miliwn i'w ddarparu i fyfyrwyr sy'n dioddef caledi, ac rydym ni wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynghylch sut y bydd yn cael ei ddefnyddio.

Mae ein hadroddiad yn cyffwrdd â nifer o feysydd pwysig iawn eraill, yn enwedig y dyraniadau sydd ar waith ar gyfer ariannu cymorth iechyd a gofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc. Mae iechyd meddwl a llesiant wedi bod yn brif flaenoriaeth i'n pwyllgor yn ystod y Senedd hon. Rwy'n falch o weld bod ein galwadau parhaus am welliant yn dwyn ffrwyth o ran dyraniadau ariannol. Fodd bynnag, rydym yn dal yn bryderus bod dilyn yr arian fel y mae'n ymwneud ag iechyd plant a phobl ifanc yn her enfawr. Mae hyn yn achosi pryder arbennig i ni yng nghyd-destun COVID.

Mae ein pryderon am effaith y pandemig ar ofal iechyd arferol i blant wedi eu cofnodi'n glir yn ein hadroddiad. Disgrifiodd y Gweinidog iechyd ôl-groniad mawr yng ngwasanaethau arferol y GIG a chydnabu'r effaith y mae hyn yn debygol o'i chael ar blant a phobl ifanc. Ar y sail honno, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion iechyd arferol plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried yn llawn ochr yn ochr ag anghenion oedolion. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cyfran deg o gyllid pan ddatgelir cynlluniau gwario i fynd i'r afael ag ôl-groniadau. Rydym yn glir y dylid cyhoeddi asesiad o'r effaith ar hawliau plant ochr yn ochr â'r cynllun hwn a bod yn rhaid darparu gwybodaeth dryloyw am yr hyn a ddyrannwyd i wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn benodol.

Wrth gloi, Llywydd, hoffwn gyfeirio at y grant plant a chymunedau. Ddwy flynedd yn ôl, mynegodd ein pwyllgor bryder ynghylch cyfuno amrywiaeth o grantiau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phlant. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal yn siomedig ac yn bryderus ynghylch y diffyg tryloywder ynghylch gwariant ar blant ers i'r newid hwn gael ei wneud. Nid yw hwn, sef dros £138 miliwn, yn swm dibwys o arian. Rydym yn parhau i fod yn aneglur ynghylch sut y caiff gwerth am arian a chanlyniadau i rai o'n plant mwyaf difreintiedig eu monitro, ac rydym wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol i dawelu meddyliau'r pwyllgor ynghylch y maes pwysig hwn. Diolch yn fawr iawn. 

18:50

Mae'n anochel fod y gyllideb ddrafft a'r gwaith o graffu arni wedi'u llywio gan gyd-destun y pandemig, fel y mae eraill wedi crybwyll eisoes, ac mae'r pandemig yma'n gallu newid yn gyflym. Mae angen sylweddoli maint yr argyfwng iechyd cyhoeddus y mae Cymru yn ei wynebu, naill ai o ran ymateb i'r heriau uniongyrchol, neu'r angen i wneud yr hyn y gellir ei wneud i gynnal ac adfer y gwasanaethau hanfodol hynny y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw ac nad ydynt yn ymwneud â COVID. Credwn na fydd gwir faint yr effaith ar y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon yn dod yn gwbl glir am rai blynyddoedd. Ar ben hyn, mae'r argyfwng hefyd wedi dwysáu rhai problemau sylfaenol, gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd.

Rydyn ni'n cydnabod yn benodol y pwysau y mae'r byrddau iechyd lleol wedi'i wynebu yn ystod y flwyddyn diwethaf, ac rydym yn deall bod hyn yn debygol o barhau. Er hynny, mae'r ffaith nad yw rhai byrddau iechyd lleol yn gallu cyflawni eu dyletswyddau ariannol statudol yn parhau i fod yn destun pryder. Yn ogystal â hyn, nid ydym wedi ein darbwyllo eto fod digon o gapasiti yn y system i fwrw ymlaen efo'r broses o integreiddio a thrawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol mor gyflym ac i'r un graddau ag y bo angen, na bod y weledigaeth strategol ar gyfer y trawsffurfiad yn ddigon i sicrhau a chynnal y pwyslais ar symud tuag at wasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau ataliol.

Rydyn ni'n pryderu o hyd am y ffaith bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn dal i fod yn fregus. Mae gwasanaethau o'r fath nid yn unig yn hollbwysig i'r rhai sy'n eu derbyn, ond maen nhw hefyd yn hanfodol yn y modd y maen nhw'n ategu ac yn cyd-fynd â gwasanaethau iechyd. Rydyn ni wedi ein darbwyllo bod angen dybryd i ddiwygio'r system ac i ddatblygu trefniadau cyllido cynaliadwy a hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n bwysig sylweddoli faint o bwysau maen nhw wedi ei wynebu ac yn dal i'w wynebu, a'r trawma y maent wedi'i ddioddef dros y misoedd. Rydyn ni'n croesawu'r cynllunio i ddarparu cymorth iechyd meddwl i 60,000 o weithwyr gofal iechyd yng Nghymru, a'r cynlluniau i ehangu'r cynllun i gynnwys staff gofal cymdeithasol. Bydd angen ystyried effaith y pandemig ar unigolion a gwasanaethau hefyd wrth gynllunio'r gweithlu ac adnoddau ac wrth ddechrau ar y gwaith adfer yng Nghymru.

Yn ogystal â'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol cyflogedig, mae cannoedd ar filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru wedi bod, ac yn parhau i fod, yn dyngedfennol gan roi gofal a chymorth y mae mawr eu hangen i'w teuluoedd a'u ffrindiau. Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth a gaiff gofalwyr gan y trydydd sector, ond credwn bod angen eu cynorthwyo'n ddigonol drwy ddarparu gwasanaethau awdurdod lleol craidd a chyllid cynaliadwy. Drwy gydol eleni, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl briodol wedi buddsoddi symiau sylweddol i ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae cwrs y pandemig yng Nghymru yn parhau i fod yn ansicr, ond mae'n amlwg y bydd angen cyllid ychwanegol, mae'n debyg, ar y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. 

I gloi, bydd penderfyniadau anodd i'w gwneud am y modd y dylid blaenoriaethu adnoddau cyfyngedig. Rydyn ni'n disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol wrth gynllunio ac wrth ymgysylltu efo'u partneriaid i nodi unrhyw anghenion ychwanegol posib, ac i ystyried sut y gellid dyrannu a blaenoriaethu adnoddau i ymateb i'r pandemig, hybu'r gwaith tymor hwy o adfer y sector iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon, a buddsoddi yn iechyd a llesiant pobl Cymru. 

18:55

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y cyfraniad wrth agor y ddadl hon. Mae tri mater yr hoffwn ymdrin â nhw yn y cyfraniad hwn y prynhawn yma: strwythur ein harian, ac yna incwm a gwariant.

Gadewch i ni edrych ar y strwythur yn gyntaf. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn glir iawn yn ei adroddiad fod y ffordd y mae'r gyllideb wedi'i strwythuro a'r cyd-destun y mae'r gyllideb yn digwydd ynddo eleni yn anfoddhaol, ac rwy'n cytuno â hynny yn yr adroddiad hwnnw. Nid bai'r Gweinidog na'r Llywodraeth yw'r sefyllfa hon o reidrwydd; rydym yn cydnabod hynny. Ond 20 mlynedd ar ôl datganoli, mae pob un o'n Llywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig yn dibynnu gormod ar fympwyon a dyheadau Trysorlys y DU. Mae llawer o fethiannau y mae'r Prif Weinidog wedi'u hamlinellu droeon yn ystod yr wythnosau diwethaf lle mae gwladwriaeth y Deyrnas Unedig yn methu ymdrin â realiti datganoli. Yn sicr y llanastr ynghylch arian cyhoeddus ledled y DU yw un o'r enghreifftiau mwyaf arwyddocaol, ac rwyf yn gobeithio, pan ddeuwn yn ôl i drafod y materion hyn yn y Senedd nesaf—fod hwnnw'n fater y bydd angen inni allu mynd i'r afael ag ef gyda Llywodraeth y DU.

Ymdriniodd Siân Gwenllian â'r ail fater strwythurol yn ei chyfraniadau a hithau'n Gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid, a hynny yw bod gormod o arian y gyllideb hon heb ei ddyrannu, ac mae hynny'n gwneud craffu ac atebolrwydd democrataidd priodol ynghylch gwariant yn anodd iawn, ac yn llawer anoddach nag y dylai fod. Y tro hwn, rwy'n credu y dylid maddau i'r Llywodraeth am y sefyllfa hon, oherwydd rydym mewn sefyllfa gyfnewidiol iawn, rydym yn wynebu penderfyniadau anodd iawn, ac nid oes yr un ohonom yn gwybod beth fydd y sefyllfa ymhen chwe mis. Ond yr hyn a ddywedaf wrth y Llywodraeth yw na ddylid ystyried bod derbyn hynny yn gosod cynsail, ac yn y dyfodol, rwy'n credu ei bod yn hollol gywir a phriodol bod y Llywodraeth yn mynd yn ôl at sefyllfa lle mae gennym dryloywder agored wrth wneud y cynigion cyllidebol hyn.

Yr ail fater yw incwm. Rwy'n canmol uchelgeisiau'r Llywodraeth ac rwyf yn rhannu eu huchelgeisiau. Rwyf am weld y Llywodraeth yn buddsoddi mwy yn ein pobl, rwyf am weld y Llywodraeth yn buddsoddi yn ein hamgylchedd a'n lleoedd, ond rwy'n pryderu nad oes gennym y grym i wneud hynny. Os wyf i'n gwbl onest â chi, Gweinidog, nid yw'n ddigon da treulio dydd ar ôl dydd yn ymosod ar y Torïaid am gyni ac yna'n ei gyflawni mewn gwirionedd yng Nghymru. A dyna'r realiti sy'n ein hwynebu mewn termau real. Mae'n rhaid inni fuddsoddi naill ai yn ein sylfaen drethi neu mae'n rhaid inni fuddsoddi mewn ehangu a dyfnhau'n sylfaen drethi. Nid wyf yn siŵr a yw'r gyllideb hon yn gwneud llawer o'r tri hynny, os wyf i'n gwbl onest â chi.

Ni allwn gyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym gyda'r cyllid sydd ar gael inni, ac mae angen inni allu mynd i'r afael â hynny. Ac mae hynny'n arbennig o wir ar hyn o bryd, nid yn unig oherwydd y pandemig ac effaith y pandemig—er bod hynny'n sbardun mawr—ond mae hefyd yn wir oherwydd y bradychiadau yr ydym wedi'u gweld gan Lywodraeth y DU ynghylch cyllid amaethyddol a chronfeydd strwythurol. Maen nhw wedi dweud celwyddau uniongyrchol wrth bobl Cymru, ac nid ydyn nhw wedi cyflawni'r addewidion a wnaethpwyd. Mae hynny'n broblem wirioneddol i ni, oherwydd mae'n rhaid i ni gasglu'r darnau ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod gennym y grym i wneud hynny.

Fy mhwynt olaf yw hyn, Gweinidog, ar wariant. Gobeithio pan ddaw'r Llywodraeth yn ôl ar gyfer dadleuon diweddarach ar y materion hyn y byddant yn mynd i'r afael â'r materion sylfaenol hyn. Cytunais â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am brydau ysgol am ddim. Rwy'n credu bod gwelliant Plaid Cymru y prynhawn yma'n iawn ar y cyfan, ac rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â hyn. Mae'r Llywodraeth ar ochr anghywir y ddadl hon. Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cydnabod hynny a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth, wrth ddychwelyd i'r Siambr, yn cydnabod nad yw ei safbwynt yn gynaliadwy nac yn gredadwy ar y mater penodol hwnnw.

Ond hefyd, mae angen i ni fuddsoddi mewn lleoedd sy'n dioddef yn anghymesur ar hyn o bryd, sef lleoedd fel Blaenau Gwent, lleoedd fel Blaenau'r Cymoedd, dyma rai o'n pobl dlotaf, lle bynnag y maen nhw'n byw, ac mae angen i'r gyllideb gydnabod hynny. Mae angen inni gydnabod mai'r unig ffordd y byddwn ni'n cyflawni ein huchelgeisiau a'n gweledigaethau, yr ydym i gyd yn cytuno â nhw ac yr ydym i gyd yn eu rhannu, yw trwy fuddsoddi yn y lleoedd hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r weledigaeth honno a'r uchelgais hwnnw. Rwyf yn cynrychioli un o'r lleoedd hynny, ac nid yw'n gredadwy dweud wrth y bobl hynny, a'r bobl yr ydym ni i gyd yn ceisio'u cynrychioli, 'A wyddoch chi beth? Gallwn gyflawni'r holl bethau gwahanol hyn, ac nid yw'n mynd i gostio ceiniog ychwanegol i chi.' Nid yw hynny'n gredadwy. Nid yw erioed wedi bod yn gredadwy. Nid yw wedi bod yn gredadwy yn y gorffennol, nid yw'n gredadwy heddiw, ac ni fydd yn gredadwy yn y dyfodol, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud hynny.

Fy mhwynt olaf yw: gadewch inni beidio â mynd i gylch cyllideb arall gan ddweud y gall strwythur y sector cyhoeddus yng Nghymru gyflawni unrhyw un o'r pethau hyn. Ni all o gwbl. Nid oes gennym y strwythurau ar waith i'w wneud, felly mae angen cyllideb ddiwygio arnom yn ogystal â chyllideb sy'n buddsoddi mewn pobl, lleoedd, yr amgylchedd a'r dyfodol. Gobeithio, wrth inni fynd drwy'r ddadl hon dros yr wythnosau nesaf, y byddwn yn gallu mynd i'r afael â'r holl bethau gwahanol hynny. Diolch yn fawr iawn.

19:00

Dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i ynglŷn â gwaith craffu'r pwyllgor ar ran diwylliant a'r iaith Gymraeg. [Anghlywadwy.]—y cyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu rhai argymhellion allweddol a amlygwyd yn yr adolygiad wedi'i deilwra a gynhaliwyd y llynedd, ac mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi bod yn tynnu sylw at yr angen am fwy o arian ar gyfer y llyfrgell genedlaethol a'r amgueddfa yn ystod y—[Anghlywadwy.]

Rwy'n mynd i'ch stopio chi yn y fan yna, Bethan. Byddaf yn eich galw chi yn nes ymlaen. Gadewch i ni weld a allwch chi gael llinell band eang fwy sefydlog. Byddaf yn dod yn ôl atoch chi. Roeddem ni'n cael tipyn o drafferth yn eich deall chi. Byddaf yn gofyn i rai o'n gweithredwyr TG siarad â chi am sut y gellir gwella hynny. Beth bynnag, gobeithio y byddwn yn gallu dod yn ôl atoch chi. Neil Hamilton.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r cyhuddiad yr ydym ni newydd ei glywed gan Alun Davies yn erbyn Llywodraeth Cymru ac, yn wir, Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y cyfyngiadau yr ydym yn eu hwynebu yn y ddadl hon. Mae'n debyg i ddadl ynglŷn â symud y cadeiriau haul ar y Titanic wrth i economi Cymru ruthro tuag at y mynydd iâ, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, mae cyllideb y Llywodraeth, wrth gwrs, wedi ei chyfyngu gan y cyfyngiadau a osodir gan Lywodraeth y DU, ond hefyd am fod iechyd ac addysg yn cymryd y gyfran fwyaf o bell ffordd o gyfanswm y gyllideb yng Nghymru, dros 75 y cant, felly mae terfyn ar y gwariant dewisol sydd ar gael i'r Llywodraeth y gallwn ni ei drafod y prynhawn yma.

Y realiti sylfaenol ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yw bod Cymru, yn ogystal â bod yn hŷn ac yn fwy sâl na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae hefyd yn dlotach. Rydym ni ar waelod tablau incwm y DU am godi refeniw er mwyn talu am y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir—llai na £10,000 y pen, o'i gymharu â bron i £20,000 y pen yn Llundain. Fel y nododd Adam Price yng nghwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma, roedd gan Lywodraeth Cymru uchelgais amlwg i roi terfyn ar dlodi tanwydd erbyn 2018 a rhoi terfyn ar dlodi plant erbyn 2020, ac mae wedi methu'n gyfan gwbl yn y ddau beth hynny.

Ar y naill law, mae'r gyllideb yn rhy fach i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni i gyd eu heisiau yng Nghymru, ac yn ail, nid oes gan Lywodraeth Cymru yr ysgogiadau treth a pholisi mewn cynifer o feysydd sy'n ofynnol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i faint yr economi, fel y nododd Alun Davies. Mae'n rhaid i ni naill ai godi mwy mewn trethi neu mae'n rhaid i ni dyfu'r economi, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd iawn, iawn i wneud y naill na'r llall. O fewn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddileu bron i £500 miliwn o ddyledion y GIG sydd wedi eu cronni ers 2013, neu fel arall byddai'r gwasanaeth iechyd wedi bod mewn cyflwr gwaeth fyth nag ydyw ar hyn o bryd.

Mewn ffyrdd eraill hefyd, mae gan Lywodraeth Cymru ysgogiadau pŵer y mae'n mynnu eu defnyddio mewn ffordd sy'n wrthgynhyrchiol o'i safbwynt ei hun o ran gwella'r economi a chynyddu lles pobl Cymru. Er enghraifft, o ran polisi amgylcheddol—polisi gwyrdd ar ynni adnewyddadwy, ac ati—effaith ei pholisi yw ei bod yn defnyddio ei phwerau i niweidio busnesau ac arwain y tlawd at fwy o dlodi ac, ar yr un pryd, yn arllwys arian i bocedi datblygwyr sy'n filiwnyddion, sydd wedi eu lleoli yn Lloegr yn ddieithriad. Ac yn y cyfamser, mae'n rhaid i bobl dlotach Cymru mewn lleoedd fel Blaenau Gwent dalu biliau trydan rhy uchel er mwyn cadw'n gynnes yn y gaeaf. Nawr, mae trethi a thaliadau gwyrdd yn cyfrif am gyfartaledd o £200 y cartref ar fil trydan pawb.

Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r ddadl hon yn ei ddangos yw nad yw'r datganoli rhannol hwn yn gweithio, ac rwyf i o'r farn na all weithio oherwydd na fydd gwariant cyhoeddus sy'n cael ei gyfyngu gan Drysorlys y DU byth yn ateb ymarferol i broblemau Cymru. Ar y naill law, ni fydd San Steffan yn rhoi mwy o arian i Gymru. Pam byddai Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan byth yn bwriadu rhoi mwy o arian i Lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd? Wel, yr ateb yw na fydd. Pan oedd gennym ni Lywodraeth Lafur yn San Steffan, ni welodd hynny yn newid fawr o ddim byd ychwaith. Mae fformiwla Barnett yn parhau fel yr oedd ym 1978 ac mae Cymru dan anfantais sefydliadol oherwydd hynny.

Ar y llaw arall, mae annibyniaeth, yn fy marn i, yn ffantasi cyllidol. Mae'r bwlch cyllidol yng Nghymru—y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae Cymru'n ei godi neu'n gallu ei godi mewn trethi a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wario mewn gwirionedd ar bob lefel yng Nghymru—yn 25 y cant o incwm cenedlaethol Cymru, £4,300 y pen. Pe byddai gennym ni annibyniaeth, byddai hynny yn arwain naill ai at gwymp ar unwaith yng ngwariant y Llywodraeth yng Nghymru neu gynnydd enfawr mewn trethi, er bod Rhun ap Iorwerth eiliad yn ôl yn lladd ar annhegwch Llywodraeth y DU yn gorfodi cyfyngiadau benthyca ar Lywodraeth Cymru. Wel, rwy'n gwybod bod ganddo awydd diddiwedd am arian trethdalwyr Lloegr, ond nid wyf i'n credu y byddai trethdalwyr Lloegr yn barod i'w fodloni. Felly, y realiti yw bod annibyniaeth Cymru yn sicr o arwain at y math hwnnw o wasgfa yr wyf i newydd ei chrybwyll.

Ar y llaw arall, mae yn ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o arian, mewn rhai ffyrdd, i'w wastraffu. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi gwario £114 miliwn ar ymchwiliad yr M4 o amgylch Casnewydd, er i'r Prif Weinidog ddweud y byddai wedi nacáu'r penderfyniad i weithredu gwelliannau i'r M4 ni waeth beth y byddai'r ymchwiliad wedi ei ddweud. Ac—

19:05

Mewn cynifer o feysydd eraill hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymroi i ddinistrio'r economi sy'n cynhyrchu cyfoeth yng Nghymru, yn union fel y mae Llywodraeth y DU ar ochr arall y ffin wedi ei wneud hefyd. Dim ond gwaethygu'r wasgfa y mae'r pandemig COVID wedi ei wneud. Ond nid yw hynny'n ddim byd—fe wnaf i orffen gyda'r sylw olaf hwn, Llywydd—o'i gymharu â'r wasgfa sydd i ddod, oherwydd nid yw hyn yn ddim byd os edrychwch chi yn ôl ar y polisïau cyni sydd wedi eu beirniadu gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dim ond ar ddechrau gwasgfa enfawr ar yr economi yr ydym ni, a fydd yn gwneud ein holl broblemau yn waeth o lawer oherwydd cyfyngiadau COVID.

Hoffwn i ddechrau drwy longyfarch Rebecca Evans ar lwyddo i lunio cyllideb sy'n cadw'r olwynion yn troi ar y gwasanaeth iechyd a'n heconomi yng nghanol pandemig. Nid cyflawniad bach yw hynny. Dim ond o wrando ar yr hyn y mae pawb arall wedi ei ddweud, nid oes unrhyw ran o gymdeithas Cymru nad yw'r pandemig yn effeithio arni. Felly, mae'r galwadau ar bwrs y wlad yn ymosod arni ar bob ochr, ac mae'n wych, er gwaethaf hynny i gyd, ei bod hi'n dal i lwyddo i neilltuo rhannau o'r gyllideb i sicrhau ein bod yn symud ymlaen i greu cymdeithas decach a gwyrddach yma yng Nghymru. Ond mae llawer iawn i'w wneud.

Rwy'n croesawu'n fawr yr ymrwymiad y mae Rebecca wedi ei wneud i sicrhau bod pob plentyn sy'n cael prydau ysgol am ddim, yn ystod tymor ysgol ac yn ystod y gwyliau, yn cael un pryd y dydd, hyd at y Pasg y flwyddyn nesaf. Mae hwn yn fater hynod o gymhleth, ac mae'n ymwneud â llawer mwy na'r un pryd hwnnw bob dydd. Er enghraifft, nid yw pwysigrwydd y rhaglen Bwyd a Hwyl yn ymwneud dim ond â phrydau o ansawdd da wedi eu llunio â chariad gan y staff, sydd wedi ymrwymo i fwyd da i bawb. Mae'n ymwneud â'r ffaith bod y plant yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i wybod beth sy'n dda iddyn nhw, i'w helpu i dyfu yn gryf ac yn heini, ac mae'n helpu i'w hamddiffyn rhag ffrwydrad y cwmnïau rhyngwladol sy'n hysbysebu pethau sy'n annog plant i fwyta pethau sy'n mynd i'w lladd nhw, neu o leiaf lleihau ansawdd eu bywyd pan fyddan nhw'n hŷn.

Fy nyhead hirdymor yw prydau ysgol am ddim i bawb ar gyfer pob plentyn ysgol gynradd, wedi ei gyflwyno i safonau achredu Bwyd am Oes, fel y pennir gan Gymdeithas y Pridd. Mae rhai awdurdodau lleol yn Lloegr yn dal i lwyddo i wneud hynny, er gwaethaf yr ergyd drom y mae cynghorau ac ardaloedd difreintiedig wedi ei chael yn sgil y polisi bwriadol o ailddyrannu darnau mawr o'u cyllideb i rannau mwy cefnog, deiliog o'r wlad, sydd, fel y noda Neil Hamilton, yn digwydd bod yn ardaloedd sy'n pleidleisio dros y Torïaid hefyd, neu felly maen nhw'n meddwl.

Fodd bynnag, rwyf i'n realydd. Mae angen i ni gael gafael ar gyfran fwy o lawer o gynhwysion ein prydau ysgol cyn i ni allu fforddio cyflawni'r dyhead hwnnw, felly rwy'n croesawu'r £3 miliwn ychwanegol ar gyfer yr economi sylfaenol, sy'n mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at yr angen hwnnw, ond mae ymhell o'r sefyllfa y mae angen i ni fod ynddi. Ni allwn fforddio gweld y gollyngiadau o wariant cyhoeddus yn mynd i gwmnïau y tu allan i Gymru ar y raddfa sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni barhau i brif ffrydio'r cynlluniau treialu economi sylfaenol sydd wedi profi eu gwerth, er mwyn bod â'r economi gylchol a'r rhwydweithiau bwyd lleol sydd eu hangen arnom ni.

Er fy mod i'n croesawu tröedigaeth Plaid at bwysigrwydd bwyd i blant, nid wyf i'n croesawu ymosodiadau Plaid yn fy nghyhuddo o fod yn gyfrifol rywsut am blant yn mynd yn llwglyd. Mae hyn yn llawer mwy cymhleth na sicrhau bod mwy o blant yn bwyta pryd o fwyd da unwaith y dydd. Mae'n fater diwylliannol yn gymaint ag un economaidd. Ni fyddai'r Eidal byth yn caniatáu i ansawdd y bwyd y mae rhai o'n plant ni yn ei dderbyn gael ei ddanfon atom ni, ac mae angen i ni fynd i'r afael â hynny.

Mae'n rhaid i ni wrando ar y ffaith nad oedd 20 y cant—20 y cant, un ym mhob pump—o'n plant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim wedi manteisio ar yr hawl honno yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Er y bu cynnydd mawr yn y niferoedd sy'n cael prydau ysgol am ddim, nid yw hynny'n golygu mewn unrhyw ffordd ein bod ni wedi gostwng yr un ym mhob pump o blant hynny nad ydyn nhw'n cael yr hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae'n llawer mwy cymhleth na hynny.

Un o'r materion yw'r ffordd y mae'r system fudd-daliadau'n gweithio, ac mae'r ffaith na fu unrhyw gynnydd yn y lwfans tai yn golygu bod diffyg enfawr yn yr hyn y mae'n rhaid i lawer o fy etholwyr i ei dalu pan fyddan nhw'n byw mewn llety rhentu preifat. A dyfalwch o ble mae'r diffyg hwnnw yn yr hyn y mae'r lwfans tai yn barod i'w dalu a'r hyn y mae'n rhaid iddyn nhw ei dalu mewn gwirionedd i gadw to uwch eu pen—o ble mae'r arian hwnnw yn dod? Mae'r arian hwnnw yn dod o'r hyn y dylen nhw fod yn ei wario ar fwyd. Felly, rwy'n credu yn llwyr mai un o'r pethau pwysicaf y mae'r gyllideb Llywodraeth hon yn ein hymrwymo ni iddo yw adeiladu cartrefi mwy fforddiadwy, wedi'u hinswleiddio'n llawn, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, â ffram bren ac wedi'i adeiladu ymlaen llaw. Dyna un o'r ffyrdd y bydd pobl na allan nhw fforddio byw yn y llety preifat hwn a gynhelir yn wael yn cael cymorth i drechu tlodi.

Mae ffyrdd eraill y gallwn ni helpu teuluoedd tlawd ar hyn o bryd hefyd: £20 miliwn ar gyfer teithio llesol. Dychmygwch y rhyddid y mae rhoi beic i blentyn gyrraedd yr ysgol yn ei roi iddo; gall gyrraedd ar amser a gadael pan fydd wedi gorffen cael yr holl weithgareddau cyfoethogi, a hefyd heb fod angen teithio ar gludiant i'r ysgol yng nghyfnod y pandemig. Dyma rai o'r pethau y mae angen i ni fod yn meddwl amdanyn nhw. Mae'n rhaid i ni fod â dull llawer mwy ataliol o ymdrin â holl agweddau ein cyllideb er mwyn sicrhau bod gennym ni ddinasyddion mwy heini, iachach, sy'n byw yn hirach ac i safon fyw well a hynny i'n holl ddinasyddion.

19:15

Sori am hynny. Gobeithio bydd e'n gweithio nawr.

Rwy'n credu y byddai'n esgeulus i mi, fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant, beidio â chofnodi rhai o'n meddyliau am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad am gyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu rhai argymhellion allweddol a amlygwyd yn yr adolygiad wedi'i deilwra a gynhaliwyd y llynedd, ond mae ein pwyllgor wedi bod yn gofyn am y pedair blynedd diwethaf am gymorth i'r llyfrgell genedlaethol ac i'r amgueddfa, ar bob cyfle posibl.

Daeth y Dirprwy Weinidog i'n cyfarfod ar 14 Ionawr ac fe wnaethom ni drafod y ffaith bod yr adolygiad wedi'i deilwra yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu gofynion ariannu'r llyfrgell genedlaethol gan nad oedd y panel yn credu bod y sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. Felly, dywedwyd wrthym y byddai'r Llywodraeth yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r llyfrgell genedlaethol i weld ble y gellir gwneud arbedion effeithlonrwydd a ble y gallan nhw geisio cyflawni'r gyllideb, ond mae hynny yn heriol dros ben. Ac rydym ni wedi mynd o 'heriol dros ben' i gyhoeddi £2.25 miliwn i dalu am anawsterau gweithredol uniongyrchol a diffygion ariannol i ddiogelu swyddi a sicrhau cynaliadwyedd tymor hwy ein cyrff cenedlaethol mewn llai na thair wythnos. Wel, mae'r pwyllgor wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i ryddhau'r cyllid y mae mawr ei angen ac wedi rhoi sicrwydd i weithwyr pryderus yn y llyfrgell na fyddan nhw'n wynebu diswyddiadau gorfodol. Ac eto, pan gyhoeddwyd cyllid, ni ddywedwyd wrthym ni, cawsom ni wybod drwy'r wasg, yn union fel y gwnaeth pawb arall, rwy'n credu, am y cyllid ychwanegol hwnnw. Dywed datganiad y Dirprwy Weinidog,

'Rydym wedi bod mewn cysylltiad parhaus â'r llyfrgell a gydag Amgueddfa Cymru ers cryn amser'.

Beth a'i rhwystrodd e' rhag trafod gyda ni fel pwyllgor i roi rhywfaint o barch i ni cyn y cyhoeddiad penodol hwnnw? Os bwriedir i'r arian ddiogelu swyddi, a yw hynny'n golygu bod pob sôn am ddiswyddiadau posibl yn y llyfrgell ar ben? A allwch chi gadarnhau hyn fel Llywodraeth ai peidio?

Rydym ni'n gwybod bod y cyllid ar gyfer y celfyddydau yn dod i ben ym mis Mawrth. Rydym ni eisiau gwybod a fydd y cyllid hwnnw, i unigolion yn arbennig, yn parhau ar ôl mis Mawrth, neu a yw hynny'n ddibynnol ar y Trysorlys? Mae'n hanfodol nid yn unig bod sefydliadau'n cael eu cefnogi, ond hefyd unigolion yn y celfyddydau sydd wedi ei chael yn anodd yn ystod y cyfnod hwn.

Cwpwl o sylwadau ar yr iaith Gymraeg. Dŷn ni'n gwybod bod lot o fudiadau'n stryglo ar hyn o bryd—yr Eisteddfod, yr Urdd ac yn y blaen—a gwnaethon ni ofyn i Weinidog yr iaith Gymraeg a oedd hi'n mynd i apelio at y pot COVID ehangach ar gyfer arian yn y maes yma. Roedd hi'n dweud bod hwn yn opsiwn, ond gwnaethon ni ddim clywed a oedd hynny'n mynd i ddigwydd. Dŷn ni'n gwybod bod rhai o'r digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod ddim yn gallu digwydd, ac felly byddem ni'n erfyn ar y Gweinidog yn y maes yma i edrych ar ba fath o gyllid ychwanegol sy'n gallu cael ei roi i'r mudiadau yma.

Ac i drafod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, maen nhw wedi dweud wrthym ni eu bod nhw eisiau £800,000 yn ychwanegol y flwyddyn yma ac mwy, wedyn, i ddilyn yn y blynyddoedd i ddod, oherwydd maen nhw eisiau rhoi strategaethau yn eu lle ar gyfer addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg. Maen nhw'n dweud bod angen mwy o arian yn y maes yma er mwyn gallu gweithredu. A yw'r Gweinidog dros yr iaith Gymraeg yn mynd i sicrhau ei bod hi'n cael y trafodaethau angenrheidiol hynny gyda'r Gweinidog Addysg er mwyn sicrhau bod y maes yma'n gallu ffynnu a datblygu i'r dyfodol?

A'r sylwad olaf, dwi'n credu bod pawb ohonom ni eisiau gweld mwy o athrawon yn addysgu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ond dŷn ni wedi gweld y niferoedd o ran recriwtio ddim yn mynd mor bell ag y byddem ni wedi hoffi gweld. Dŷn ni wedi gofyn i'r Gweinidog ar gyfer y strategaeth yn y maes yma i geisio ei helpu hi ar hyd y ffordd. Ond byddem ni eisiau gweld a oes ewyllys yn yr ardal yma i sicrhau bod y cynllun 2050 yn llwyddiannus, ac mae angen i ni recriwtio mwy o athrawon drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg er mwyn bod y strategaeth yna'n llwyddiannus. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n credu bod Cadeirydd pwyllgor arall a gafodd broblemau band eang wedi ailymddangos—John Griffiths.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac fe wnaethom ni gyhoeddi ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft yr wythnos diwethaf.

Pan siaradais y llynedd yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, neu yn hytrach pan siaradais ddiwethaf am y gyllideb ddrafft hon ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, canolbwyntiais ar bwysigrwydd dyraniadau'r gyllideb i'r grant cymorth tai a llinell y gyllideb i atal digartrefedd. Ac rwy'n siŵr na fydd yr Aelodau'n synnu o glywed y byddaf yn dweud yr un peth i raddau helaeth heddiw yn gysylltiedig â'r ddadl hon.

Mae pandemig COVID-19 wedi arwain at bwysau sylweddol ar ddigartrefedd a gwasanaethau tai. Rydym yn cymeradwyo'r gwaith rhagorol a wnaed ar ddechrau'r pandemig i roi pobl sy'n cysgu ar y stryd ac eraill y mae angen cartref arnyn nhw yn y llety dros dro yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd ag ef. Ond wrth gwrs, erbyn hyn mae'n rhaid cynnal yr ymatebion i'r heriau sydd wedi codi o ganlyniad i'r pandemig. Ac mae pwysigrwydd cartref diogel, a pha mor gyflym y gellir cyflawni gwelliannau gyda phwyslais ac adnoddau penodol wedi ei ddangos, rwy'n credu, yn yr ymateb i gysgu ar y stryd yn ystod y pandemig hwn. Ond mae'n rhaid i ni gynnal y cynnydd hwnnw a sicrhau nad yw'n cael ei golli yn y dyfodol.

Felly, rydym yn pryderu'n benodol ynglŷn â natur dros dro y cyllid datblygu sydd wedi ei ddarparu a'r ansicrwydd a ddaw yn sgil hynny i gynaliadwyedd gwasanaethau yn y tymor hwy. Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wrthym y bydd y cyllid ychwanegol yn y gyllideb ddrafft yn galluogi llety a chymorth brys hyd at ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Nid ydym yn credu y bydd hyn yn rhoi'r sicrwydd hirdymor angenrheidiol i'r rhai sy'n darparu ac sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn.

Mae'n rhaid parhau i adeiladu ar y gwelliannau sydd wedi eu cyflawni o ran ailgartrefu pobl i lety parhaol, os yw digartrefedd i gael ei ddileu neu mor agos at gael ei ddileu ag y gellir ei gyflawni. Rydym ni, felly, wedi argymell y dylai dyrannu adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn y gyllideb derfynol. 

Agwedd arall sydd wedi gweld cynnydd mawr yn y galw yw cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Bu gostyngiad sylweddol yng nghyfradd casglu'r dreth gyngor, o ganlyniad i incwm pobl yn gostwng yn sydyn neu'n dod i ben yn gyfan gwbl. Mae cynghorau wedi gweld ffynonellau incwm eraill yn diflannu yn ystod y pandemig. Felly, mae refeniw'r dreth gyngor yn bwysicach byth i ariannu gwasanaethau. Ni fu pwysigrwydd y cynllun gostyngiadau i gynorthwyo pobl ar incwm is erioed yn fwy, tra bod angen digolledu awdurdodau lleol am effaith y galw cynyddol am fudd-dal ar eu casgliad refeniw.

Rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog Cyllid i adolygu'r dyraniad ar gyfer cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor cyn y gyllideb derfynol, ac rydym wedi argymell y dylai hwn fod yn faes blaenoriaeth ar gyfer adnoddau ychwanegol. Ac mae'r gwaith ar effaith y pandemig wedi dangos bod yr effaith ar y rhai hynny ar incwm is yn fwy andwyol. Felly, mae'n rhaid i gamau pellach i liniaru'r anghydraddoldebau hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Diolch, Llywydd. 

19:20

Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr iawn i'r holl gyd-Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heno. Mae wedi bod yn ddefnyddiol clywed gan bob cyd-Aelod, a byddaf yn bendant yn ystyried y sylwadau hynny wrth i ni symud tuag at y gyllideb derfynol, a fy nghydweithwyr gweinidogol yn yr un modd, ac rwy'n gwybod eu bod wedi bod yn gwrando ar y ddadl hefyd.

Roedd nifer eithaf sylweddol o'r sylwadau'n ymwneud â gwariant yn ystod y flwyddyn a'n hymdrechion presennol i fynd i'r afael â'r pandemig. Byddaf yn cyhoeddi'r drydedd gyllideb atodol yn fuan iawn, a bydd gan fy nghyd-Aelodau gyfle i graffu ar honno a'i thrafod. Felly, byddaf yn cadw fy sylwadau ar wariant yn ystod y flwyddyn a dyraniadau yn ystod y flwyddyn nes i ni gael y ddadl honno, ond roeddwn i eisiau ymateb i un sylw yn unig, a wnaed ynglŷn â chyllid ar gyfer busnes. Ac rwyf i yn dymuno cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy ar gymorth busnes yma yng Nghymru nag yr ydym ni wedi ei gael mewn symiau canlyniadol gan Lywodraeth y DU, a dyna sut yr ydym ni wedi gallu darparu'r setliad mwyaf hael posibl i fusnesau unrhyw le yn y DU.

Felly, i roi rhywfaint o gyd-destun o ran ein sefyllfa ar hyn o bryd, bydd y gyllideb refeniw ar gyfer 2021-22 yn cynyddu £694 miliwn, ac mae hynny'n gynnydd o 4.6 y cant mewn termau arian parod, ond mae hynny hefyd yn golygu bod ein cyllideb graidd y pen mewn gwirionedd 3 y cant yn is mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos y cyfyngiadau yr ydym ni'n dal i weithredu oddi tanyn nhw. Yn ogystal â hyn, mae'r £766 miliwn o gyllid ychwanegol sy'n gysylltiedig â COVID, ac mae hynny'n llawer llai na'r £5.2 biliwn o gyllid a ddyrannwyd i ni eleni. Felly, rwy'n credu y dylem ni ganolbwyntio ar hynny yn ein meddyliau hefyd, o ran sut y gallwn ni ddyrannu'r cyllid hwnnw yn ddarbodus ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Nid ydym wedi ei drafod rhyw lawer yn y ddadl hon, ond bu llawer o graffu ar ein setliad cyfalaf, ac mae'n werth cydnabod yn y fan honno ein bod ni wedi cael cynnydd o £60 miliwn i'n cyllideb gyfalaf gyffredinol, ond hefyd gostyngiad o £191 miliwn o gyfalaf trafodiadau ariannol. Felly, yn gyffredinol, mae ein cyllid cyfalaf wedi gostwng £131 miliwn yn 2021-22. Felly, rwy'n credu bod hynny hefyd yn dangos rhai o'r heriau y byddwn ni'n eu hwynebu wrth symud ymlaen.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr fod y pandemig wedi tynnu sylw at ddatganoli. Wel, byddwn i'n sicr yn cytuno ag ef ynglŷn â hynny, ac, yn sicr, dyma'r tro cyntaf i lawer o Weinidogion Whitehall sylwi ar ddatganoli. Ac a dweud y gwir, nid ydyn nhw'n ei hoffi, oherwydd eu bod nhw'n gweld penderfyniadau'n cael eu gwneud yng Nghymru er lles pobl Cymru, a bod hynny'n cynnwys y penderfyniadau ariannol yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud drwy gydol y pandemig hwn. Mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw, wrth gwrs, at Lywodraeth y DU, ac mae llawer wedi dweud eu bod nhw wedi gweld lefel o ffrindgarwch y maen nhw'n anghyfforddus iawn ag ef, ac mae wedi tynnu sylw at wastraff gan Lywodraeth y DU hefyd. Felly, rwyf i'n credu y bu'n addysgiadol yn yr ystyr hwnnw—i gael y sylw hwnnw ar y Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU hefyd.

Ac roedd yn arbennig o sarhaus clywed gan lefarydd y Ceidwadwyr am ei bryderon ynglŷn â'r gymuned ffermio a'i awgrym nad yw Cymru wedi ei siomi gan Lywodraeth y DU, oherwydd, wrth gwrs, ein bod ni. Mae ffermwyr a'n cymunedau gwledig yng Nghymru wedi eu gadael yn brin o £137 miliwn o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU. Ar 27 Tachwedd, ysgrifennais at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i ofyn iddo am adolygiad o'r trosglwyddiad pileri, yn gofyn i'r cyllid ffermydd o £42 miliwn gael ei ddychwelyd i Gymru. Mae'n fis Chwefror, ac nid wyf i wedi cael ymateb ffurfiol i'r cais hwnnw o hyd, ac rwyf ar ddeall y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn amcangyfrifon atodol Llywodraeth y DU erbyn hyn. Ond rwyf i yn deall bod y cais hwnnw i'r £42 miliwn hwnnw gael ei ddychwelyd atom wedi ei wrthod, sy'n siomedig dros ben. Pe byddai Llywodraeth y DU wedi disodli cyllid yr UE yn llawn, byddai Cymru wedi bod mewn gwell sefyllfa i fuddsoddi yn ein rhaglen datblygu gwledig ddomestig. Mae'n drueni nad yw Llywodraeth y DU wedi manteisio ar y cyfle i gyflawni'r addewidion a wnaeth i Gymru wledig.

Cafwyd llawer o sylwadau ynglŷn â llywodraeth leol a'r setliad llywodraeth leol. Mae awdurdodau lleol eto eleni wedi cael setliad da. Dyma'r setliad gorau y gallem ni ei ddarparu—cynnydd o £176 miliwn. Mae hynny'n gynnydd cyfartalog o 3.8 y cant, ac rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac Archwilio Cymru i fonitro sefydlogrwydd y sector ac awdurdodau unigol. Er bod y rhan fwyaf o'n cyllid i lywodraeth leol yn mynd drwy'r grant wedi'i neilltuo, mae awdurdodau lleol hefyd yn elwa ar ryw £1 biliwn o gymorth i wasanaethau lleol drwy grantiau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hynny. Mae awdurdodau lleol a CLlLC wedi croesawu'r setliad, ac rwy'n credu bod angen i ni gydnabod hynny. Ond yn yr un modd, rwyf i bob amser yn dymuno cydnabod y ffaith bod awdurdodau lleol yn dal i fod o dan lawer iawn o bwysau, ac nid oes dim dianc rhag hynny o gwbl. Nid wyf i'n credu bod dwy flynedd o setliadau da yn gwneud iawn am y degawd o gyni sydd wedi taro awdurdodau lleol yn galed.

Rwyf i yn dymuno mynd i'r afael â'r materion difrifol y mae cyd-Aelodau, ar draws y Siambr, wedi gwneud sylwadau arnyn nhw o ran prydau ysgol am ddim. Rwyf i yn credu ei bod yn bwysig cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i brydau ysgol am ddim drwy fod y genedl gyntaf yn y DU i warantu cymorth drwy gydol y gwyliau ym mis Ebrill 2020, ac yna ni oedd y Llywodraeth gyntaf i ymestyn y cymorth hwn yr holl ffordd i Pasg 2022. Rwy'n gobeithio y bydd y cyd-Aelodau hynny sydd wedi siarad ar y mater hwn heddiw yn cefnogi ein cyllideb pan fyddwn yn dod at y gyllideb derfynol, gan roi cyfle i gyd-Aelodau ddangos eu cefnogaeth i hynny. Gan ategu'r £50 miliwn sydd eisoes wedi ei gyhoeddi hyd yma eleni, adlewyrchir y £23.3 miliwn ychwanegol yn y gyllideb i barhau â'r gefnogaeth drwy gydol gwyliau'r ysgol. Fe fyddaf i'n dweud ei bod yn bwysig ein bod ni yn parhau i archwilio'r holl opsiynau sydd ar gael i ni ac yn ceisio adeiladu ar y camau yr ydym ni wedi eu cymryd eisoes, ond rwy'n cydnabod hefyd bod yn rhaid iddo fod yng nghyd-destun y cyfyngiadau cyllidebol yr ydym ni oddi tanyn nhw.

Rwyf i bob amser yn hapus iawn i ymgysylltu ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn agweddau ar y gyllideb a pharhau i drafod gyda nhw, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n glir ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei ofyn. Gallai dod o hyd i arian ychwanegol o'r symiau canlyniadol sy'n gysylltiedig â COVID fod yn un opsiwn y sonnir amdano, ond rwyf i yn credu bod angen i ni ystyried y ffaith bod £766 miliwn wedi ei ddyrannu ar gyfer COVID y flwyddyn nesaf, o'i gymharu â £5.2 biliwn eleni. Felly, beth fydd yn talu am hwn? Ydym ni'n sôn am lai o gyllid ar gyfer ymateb y GIG i COVID? Ydym ni'n ystyried rhoi llai o arian i awdurdodau lleol am eu hymdrechion o ran cefnogi cymunedau drwy'r pandemig? Dyma'r penderfyniadau difrifol a'r dewisiadau difrifol y mae'n rhaid i ni eu gwneud pan fyddwn yn galw am gyllid ychwanegol ar gyfer rhannau o'r gyllideb. Ac, yn yr un modd, a fyddai'n awgrym i chwilio am gyllid ychwanegol o'r arian wrth gefn nad yw wedi ei ddyrannu? Fel arfer, rydym ni'n dechrau blwyddyn ariannol gyda rhyw £100 miliwn o arian wrth gefn, ac mae'r swm bach iawn hwnnw o arian ar gael i'n helpu ni i reoli pwysau sy'n dod i'r amlwg trwy gydol y flwyddyn ariannol gyfan. A phan fyddwch chi'n meddwl am £100 miliwn o arian wrth gefn i'ch helpu i reoli cyllideb o £20 biliwn, rwy'n credu y gallwn ni i gyd fyfyrio'n wirioneddol ar yr heriau yn y fan yna. Ac, wrth gwrs, dewisiadau eraill fyddai torri o'r gyllideb, ac rwy'n credu bod angen i ni gael sgyrsiau difrifol ynghylch o ble y byddai galwadau ychwanegol am gyllid yn cael eu talu.

Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, rwyf i wedi clywed Plaid Cymru yn benodol yn galw am wariant a fyddai'n arwain at gannoedd o filiynau, neu biliynau, o bunnoedd o gyllid ychwanegol. Felly, o ran yr eitem sydd dan sylw yn y gwelliant heddiw, ac yna £100 miliwn ar gyfer rhewi'r dreth gyngor y flwyddyn nesaf, gofal plant am ddim i bob plentyn o'i enedigaeth i bedair oed, y taliad wythnosol o £34 yr wythnos i blant Cymru a gofal cymdeithasol am ddim ar adeg ei ddefnyddio, rydym ni'n sôn am gannoedd o filiynau neu hyd yn oed, o bosibl, biliynau o bunnoedd, ac rwyf i'n credu ei bod yn bwysig, pan fyddwn ni'n cyflwyno syniadau—ac rwy'n credu ei bod yn wych ein bod ni yn cyflwyno syniadau—fod yn rhaid i ni fod yn ddiffuant wrth wneud hynny trwy ddangos sut y byddai'r pethau hynny'n cael eu talu.

Mae cyd-Aelodau wedi mynegi diddordeb arbennig mewn iechyd meddwl yn ystod y ddadl, ac roeddwn i yn dymuno gwneud sylwadau byr am hynny a hefyd am ofal cymdeithasol, oherwydd fy mod i'n gwybod bod y meysydd hynny yn rhai lle mae diddordeb arbennig. Mae'r gyllideb yn darparu £20 miliwn ychwanegol o gyllid ychwanegol ar gyfer cymorth iechyd meddwl ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys mwy o gymorth ar gyfer gwasanaethau anghlinigol rheng flaen, cymorth argyfwng i bob oed, gwasanaethau asesu cof, a chymorth ar gyfer y llwybr iechyd meddwl clinigol, trwy'r gwasanaeth ffôn 111. Ac mae arian ychwanegol yn y gyllideb i gefnogi'r gwaith o gyflwyno mewngymorth CAMHS ledled Cymru, ac mae hynny'n ategu'r cyllid ychwanegol a ddarperir yn y flwyddyn ariannol hon a'r £5.4 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl y GIG i blant a'r glasoed ar gyfer timau haen 4 a thimau cymunedol dwys. Unwaith eto, buddsoddiad pwysig iawn yn sgil y pandemig. Ac mae £13 miliwn ychwanegol i gyllid twf y GIG i gefnogi cynnydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Felly, bydd yr holl bethau hynny yn bwysig iawn yn ein cyllideb y flwyddyn nesaf.

Ac yna, o ran gofal cymdeithasol, rydym ni hefyd yn dyrannu £15.5 miliwn o gymorth ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n cynnwys cynnydd o £10 miliwn i £50 miliwn i grant y gweithlu gofal cymdeithasol, a dyrannu cyllid ychwanegol trwy grantiau'r trydydd sector a buddsoddi trwy Gofal Cymdeithasol Cymru. Felly, rydym ni wedi blaenoriaethu gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, o gofio pa mor bwysig fydd y ddau beth hynny o ran cefnogi pobl gyda'r adferiad.

Ac yna, dim ond ychydig o sylwadau ar fy null yn awr o lunio'r gyllideb derfynol. Yn amlwg, byddaf yn myfyrio ar y ddadl yr ydym ni wedi ei chael heddiw. Bydd cyd-Aelodau hefyd yn ystyried holl adroddiadau'r pwyllgorau a'r argymhellion y mae'r pwyllgorau wedi eu gwneud. Rwyf i eisoes wedi nodi y byddwn yn ceisio gwneud rhai dyraniadau ychwanegol o'r cyllid COVID hwnnw nad yw wedi ei ddyrannu, yn enwedig yn gysylltiedig â'r GIG ac awdurdodau lleol, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweld beth arall y gallwn ni ei wneud ym maes prentisiaethau hefyd, o ystyried y ffaith, fel y mae nifer o gyd-Aelodau wedi ei gydnabod, y bydd swyddi a sgiliau yn gwbl hanfodol o ran ein datblygiad ar ôl y pandemig ac i'r cyfnod adfer sydd o'n blaenau. Felly, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i'r holl gyd-Aelodau am eu holl sylwadau, ac edrychaf ymlaen at fyfyrio arnyn nhw gyda'r cyd-Aelodau yn y Cabinet.

19:35

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 1? [Gwrthwynebiad.] Oes. Fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio, felly.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a’r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Mark Isherwood. 

Daw hynny â ni at eitem olaf y noson, sef y ddadl ar adroddiad blynyddol y rhaglen lywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i gyflwyno'r cynnig yma—Mark Drakeford. 

Cynnig NDM7587 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi:

a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2020;

b) y Rhaglen Ddeddfwriaethol.

Cynigiwyd y cynnig.

Os caf fi eich atal chi, Prif Weinidog, dydw i ddim yn eich clywed chi. Triwch eto. Reit, mae'n edrych fel ei fod wedi cael ei 'unmute-o', ond a wnewch chi siecio a oes yna unrhyw hard mute ar y peiriant? Mae'n siŵr taw problem fach dechnegol yw hi. Fe wnawn ni gymryd toriad byr iawn tra'n bod ni'n ailgysylltu gyda'r Prif Weinidog. Toriad byr— 

Fe wnawn ni drial yn syth. Mae hwnna'n swnio'n llwyddiannus. Iawn, clatsiwch bant.

Llywydd, diolch yn fawr. Ychydig dros wythnos yn ôl, fe wnaethom ni gyhoeddi adroddiad blynyddol terfynol y tymor Llywodraeth hwn, yn nodi'r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a thros y cyfnod hwn o Lywodraeth. Yn ôl unrhyw fesur, bu hyn yn bum mlynedd hynod; prin yw'r cyfnodau o Lywodraeth fel hyn yng nghof byw. Ers i Gymru fynd i'r gorsafoedd pleidleisio ddiwethaf yn 2016 ar gyfer etholiadau'r Senedd, rydym ni wedi gweld chwyldro cymdeithasol a gwleidyddol digynsail. Bu dau etholiad cyffredinol, tri Phrif Weinidog ac un refferendwm. Mae'r DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan ddod ag undeb 40 mlynedd llwyddiannus i ben, ac nid yw eto wedi sefydlu perthynas fasnachu newydd ag Ewrop na gweddill y byd. Gartref, er iddi addo na fyddai'n ceisio cyfuno grym yn San Steffan, erbyn hyn mae Llywodraeth bresennol y DU yn ceisio troi'r cloc yn ôl ar ddatganoli gyda'i hymosodiadau lled amlwg ar awdurdod y Senedd i wneud penderfyniadau ar ran pobl Cymru. Llywydd, dyna pam y byddwn yn herio Deddf y farchnad fewnol ar bob cyfle sydd ar gael i ni.

Llywydd, Canghellor Ceidwadol presennol y Trysorlys yw'r pedwerydd i honni bod cyni ar ben—a dim ond pedwar ohonyn nhw sydd wedi bod—ond mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, fel yr wyf i wedi clywed y Gweinidog Cyllid yn esbonio, yn dal i fod 3 y cant y pen yn is mewn termau real na degawd yn ôl. A phan gyhoeddodd y Canghellor presennol ym mis Tachwedd mai nawr yw'r amser i fuddsoddi yn seilwaith y DU yn y dyfodol, beth oedd hynny'n ei olygu mewn gwirionedd i Gymru? Wel, rydych chi'n gwybod yr ateb: dim un geiniog.

Nawr, yn ogystal ag ansefydlogrwydd gwleidyddol, chwyldro cenedlaethol a rhyngwladol a chyni di-baid, mae'r tymor Senedd hwn hefyd wedi gweld yr argyfwng hinsawdd yn parhau i waethygu. Ac eto, mae hyn i gyd wedi ei roi i'r cysgod gan yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol. Ers bron i flwyddyn, mae Cymru a gweddill y byd wedi bod yng ngafael feirws sy'n parhau i fod yn llawn pethau annisgwyl annymunol. Ym mhob tymor, mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi bywydau a bywoliaeth pobl yn gyntaf. Rydym ni wedi gweithio gyda'n gwasanaethau cyhoeddus, nid gyda chwmnïau preifat drud a heb eu profi, i ymateb i fygythiad eithriadol y coronafeirws. Mae ein hadroddiad blynyddol yn tynnu sylw at yr £1.5 biliwn o adnoddau ychwanegol yr ydym ni wedi eu darparu i'r GIG yng Nghymru, dros 600 miliwn o eitemau PPE a ddarparwyd i staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, a'r 145,000 o achosion cadarnhaol a gyflawnwyd yn llwyddiannus gan ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu. Mae'n dangos ein bod ni wedi darparu £1 biliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol, y ffordd yr ydym ni wedi cefnogi miloedd o sesiynau cwnsela ychwanegol i blant a phobl ifanc, ac wedi chwyldroi ein hymagwedd at ddigartrefedd, gan sicrhau llety i 5,000 o bobl. Rydym ni wedi cydnabod cyfraniad hanfodol gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen, nid gyda bathodyn neu eiriau cynnes, ond gyda thaliad o £500—polisi sydd wedi ei weithredu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ers hynny.

Ac amlygodd yr adroddiad mai ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymestyn cymorth prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol, ymrwymiad yr ydym ni wedi ei ymestyn hyd at Basg 2022 bellach. Mae ein cronfa cadernid economaidd gwerth £3.2 biliwn wedi darparu'r cynnig mwyaf hael o gymorth i fusnesau unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, wedi'i lunio gan gyngor ein cyngor partneriaeth gymdeithasol. A chyn gynted ag y bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella, wrth gwrs ein bod ni'n dymuno gweld ein busnesau'n masnachu ac yn ffynnu eto.

Llywydd, rwy'n falch iawn o adrodd bod ein timau brechu gwych wedi rhoi'r dos cyntaf o'r brechlyn i fwy na 600,000 o bobl mewn ychydig dros ddau fis. Mae hyn yn gynnydd gwirioneddol ryfeddol mewn cyfnod mor fyr a byddwn yn cefnogi'r gwelliant cyntaf a gyflwynwyd i'r ddadl y prynhawn yma, ond yn gwrthod y ddau arall.

Cyni, Brexit, newid hinsawdd a'r coronafeirws: byddai'r cyfuniad hwn o heriau wedi bod yn ddigon i arafu cynnydd unrhyw Lywodraeth, ond mae'r Llywodraeth hon wedi cyflawni'r addewidion a wnaeth i bobl yng Nghymru bum mlynedd yn ôl. Yn 2016, fe wnaethom ni addo y byddem yn torri trethi i fusnesau bach ac rydym ni wedi gwneud hynny; y byddem yn darparu gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed ac rydym ni wedi gwneud hynny hefyd; buddsoddi £100 miliwn mewn safonau ysgolion, ac mae hynny wedi ei wneud; creu cronfa triniaethau newydd gwerth £80 miliwn i wella mynediad at feddyginiaethau newydd, sydd wedi ei wneud hefyd; dyblu'r terfyn cyfalaf i £50,000, wedi ei wneud ddwy flynedd yn gynharach nag a addawyd; creu 100,000 o brentisiaid o bob oed, ac mae hynny wedi ei gyflawni hefyd; adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy. Mae pob un o'r addewidion hynny wedi ei gyflawni. A dim ond y cynigion mwyaf amlwg a wnaethom i bobl Cymru oedd hyn. Rydym wedi cyflawni rhaglen waith lawer ehangach i ddiogelu a meithrin ffyniant ac i wneud Cymru yn wlad fwy cyfartal a gwyrddach.

Fe wnaethom ni greu'r banc datblygu, sy'n destun cenfigen i weddill y DU. Buddsoddodd dros £100 miliwn yn 2019-20, gan ddiogelu neu greu bron i 4,000 o swyddi yng Nghymru. Erbyn hyn, mae'n rheoli mwy nag £1.2 biliwn o arian Llywodraeth Cymru—graddfa ddigynsail o fuddsoddiad yn ein heconomi. Llywydd, bu'r tymor hwn yn dymor yr economi sylfaenol, y nwyddau a'r gwasanaethau bob dydd sydd eu hangen arnom ni i gyd, y swyddi sy'n aros yn y cymunedau sy'n eu creu. Rydym ni'n cefnogi prosiectau arloesol ledled Cymru i brofi ffyrdd newydd cyffrous o weithio yn y sector hollbwysig hwn.

Ac wrth sôn am y rhai hynny sydd â'r lleiaf, rydym yn parhau i fuddsoddi yng nghynllun gostwng y dreth gyngor i Gymru yn unig, gan helpu dros 270,000 o aelwydydd mewn angen i gael dau ben llinyn ynghyd, gyda 220,000 o aelwydydd yn talu dim treth gyngor o gwbl. Rydym ni wedi rhoi £27.6 miliwn, sef y mwyaf erioed, i'n cronfa cymorth dewisol unigryw eleni yn unig. Rydym ni wedi lansio ein cronfa gynghori sengl, sy'n dod â miliynau o bunnoedd i deuluoedd y mae angen cymorth arnyn nhw fwyaf. Rydym ni wedi dyblu a dyblu eto sawl gwaith y gall plentyn gael cymorth gyda chostau'r diwrnod ysgol. Rydym ni wedi creu, ehangu ac ariannu ein rhaglen genedlaethol i fynd i'r afael â newyn gwyliau—yr unig enghraifft yn y Deyrnas Unedig gyfan o gynllun cenedlaethol, wedi ei ariannu yn genedlaethol.

Llywydd, trof at argyfwng mawr arall hwnnw ein cyfnod ni, yr argyfwng hinsawdd y datganodd y Senedd hon yn 2019, gan ddod yn Senedd gyntaf unrhyw le yn y byd i wneud hynny. Ar yr ochr hon i'r Senedd, rydym yn rhyngwladolwyr nid cenedlaetholwyr, sy'n canolbwyntio ar gyd-ddibyniaethau'r blaned fregus hon, nid lledrith annibyniaeth. Rydym yn gwneud ein cyfraniadau o ddifrif ac yn ymarferol ar draws yr ystod gyfan o gyfrifoldebau'r Llywodraeth hon. Mae Cymru yn parhau i fod yn un o'r gwledydd ailgylchu gorau yn y byd i gyd, ond rydym yn dal i fod eisiau bod yn well. Rydym ni wedi buddsoddi mwy na £40 miliwn yn yr economi gylchol, gan ein helpu i ddefnyddio ac ailddefnyddio ac yna ailgylchu deunyddiau a allai gael eu taflu fel arall, gan gefnogi ein nod o fod yn Gymru ddi-garbon.

Ym mis Awst, fe wnaethom ni gyhoeddi ein cynllun aer glân, yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i wella ansawdd aer, a, fis diwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi Papur Gwyn hefyd i gryfhau ein dull gweithredu. Rydym ni wedi nodi cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer coedwig genedlaethol, ac mae ein rhaglen lleoedd lleol ar gyfer natur wedi creu bron i 400 o erddi cymunedol a mannau gwyrdd eraill lle mae pobl yn byw, gan ddod â natur i garreg drws pobl mewn blwyddyn pan fo'i hangen arnom fwyaf. Yn 2020, am y tro cyntaf yn ein hanes, cafodd mwy na hanner anghenion trydan Cymru eu diwallu gan ynni adnewyddadwy, ac mae dros 72,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gan ein symud yn nes at gynhyrchu ynni carbon isel cynaliadwy.

Llywydd, dyma'r ail dymor llawn pan fo'r Senedd wedi arfer pwerau deddfu llawn. Mewn tymor o bum mlynedd sydd wedi ei ddominyddu gan Brexit a'r pandemig, mae ein llwyth gwaith deddfwriaethol wedi adlewyrchu'r cymysgedd hwnnw. Rydym ni wedi gwneud 72 o offerynnau statudol ymadael â'r UE yng Nghymru ac wedi cydsynio i 219 o offerynnau statudol yr UE eraill yn y DU, wrth i ni sicrhau bod ein llyfr statud yn barod ar gyfer Brexit. Mae effaith ddeddfwriaethol y coronafeirws wedi dominyddu gwaith y Senedd am bron i 12 mis, gan roi galwadau enfawr ar adnoddau cyfreithiol Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi gwneud ac adnewyddu'r ddeddfwriaeth sydd wedi cadw Cymru'n ddiogel ar fwy na 120 o adegau. A hyn i gyd wrth hefyd basio 17 o gyfreithiau newydd, a thri arall yn dal i fod gerbron y Senedd. O'i ystyried gyda'i gilydd, mae ein rhaglen ddeddfwriaethol wedi ehangu'r fasnachfraint mewn etholiadau llywodraeth leol, wedi rhoi mwy o sicrwydd i rentwyr, wedi gosod y sylfeini ar gyfer ein cwricwlwm newydd, wedi amddiffyn plant drwy wahardd defnyddio cosb gorfforol, wedi cyflwyno isafswm pris alcohol, wedi diddymu'r hawl i brynu, wedi diddymu cyfreithiau gwrth-undebau llafur gormesol, ac wedi creu'r trethi cyntaf yng Nghymru am bron i 800 mlynedd, trwy ddefnyddio'r pwerau hynny at ddibenion blaengar.

Llywydd, mae'r adroddiad blynyddol yn nodi'n glir sut y mae'r Llywodraeth Cymru hon wedi gweithio trwy'r amgylchiadau anoddaf i wella bywydau pobl yng Nghymru mewn ffyrdd ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae'r cyflawniadau hyn yn fuddsoddiad mewn Cymru well yn awr ac yn y dyfodol, ac maen nhw wedi helpu i gadw ein pobl yn ddiogel yn wyneb heriau eleni. Nid yw'r heriau hynny wedi diflannu, nac ychwaith flaenoriaethau'r Llywodraeth hon i amddiffyn y gwasanaeth iechyd, diogelu swyddi a gweithio'n galed bob dydd dros Gymru fwy cyfartal. Dyna sut yr ydym yn dechrau edrych ymlaen at ailadeiladu, dyna sut y gallwn ni greu dyfodol sy'n decach, ac yn well am ei fod yn decach. Mae cofnod y Llywodraeth hon yn destun balchder, ac, yn bwysicaf oll, yn ffynhonnell gobaith. Gwahoddaf y Senedd i ystyried yr adroddiad blynyddol.

19:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch, Prif Weinidog. Rwyf i wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliannau 1 i 3, a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood.

Gwelliant 1—Mark Isherwood

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod ymdrechion yr holl weision cyhoeddus a'r cyhoedd i fynd i'r afael â COVID-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac yn rhoi diolch iddynt am yr ymdrechion hynny.

Gwelliant 2—Mark Isherwood

 Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun adfer cenedlaethol, yn enwedig o ystyried y posibilrwydd y gallai 3,500 o bobl golli allan ar driniaeth canser yng Nghymru.

Gwelliant 3—Mark Isherwood

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ymhellach y diffyg uchelgais yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn enwedig yr oedi o ran cyflwyno Deddf aer glân i Gymru cyn diwedd tymor y Senedd, er bod cefnogaeth drawsbleidiol ar ei chyfer.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolchaf i'r Prif Weinidog am gyflwyno'r ddadl bwysig hon i'r Senedd heddiw i fyfyrio ar yr adroddiad blynyddol a nodi ei gynnwys. Mae'r gwelliant cyntaf, yn fy marn i, yn gwbl briodol, ac rwy'n falch o glywed am gefnogaeth y Prif Weinidog i'r gwelliant hwnnw, gan ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'r ymdrechion eithriadol gan y Llywodraeth, ond gan y gymdeithas yn gyffredinol, mae'n rhaid i ni ystyried hynny, oherwydd y bobl yn gyffredinol sydd wedi ymrwymo i'r mesurau i geisio atal y feirws ar hyd a lled Cymru, ond gweision cyhoeddus yn arbennig a'r rhan y maen nhw wedi ei chwarae, boed hynny mewn awdurdodau lleol, byrddau iechyd—neu yn y Llywodraeth ei hun, a bod yn deg. Hoffwn i ddiolch—efallai fy mod i'n anghytuno â rhai o'r polisïau y mae'r Llywodraeth wedi eu cyflwyno, ond rwy'n gwybod bod llawer o'r penderfyniadau polisi hyn wedi eu trafod yn egnïol yn y Llywodraeth, a llawr y Siambr yw'r lle i ni drafod y gwahaniaethau, ond rwy'n gwybod am y pwysau y mae'r Prif Weinidog a Gweinidogion wedi eu hwynebu hefyd, ac, er fy mod i'n anghytuno â rhai o'r safbwyntiau polisi, rwy'n gwybod eu bod nhw wedi gweithio bob awr o'r dydd i geisio mynd i'r afael â rhai o'r diffygion y mae pobl wedi eu teimlo yn eu bywydau bob dydd ledled Cymru. Dyna pam rwy'n credu ei bod yn bwysig—rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad cyfan yn gallu cymeradwyo'r gwelliant cyntaf, oherwydd yn rhy aml o lawer, mae'n hawdd dweud diolch, ond mae'n rhaid i chi ei olygu.

Ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn siarad ag un llais wrth sôn am welliant 1. Ac rwy'n credu mai'r ffordd orau o fyfyrio ar hynny, oherwydd gwn fod y Prif Weinidog yn ei sylwadau ynghylch cwestiynau'r Prif Weinidog wedi cynhyrfu, ddywedwn ni, nad oedd arweinwyr y pleidiau wedi sôn am gyflwyno'r brechiad—wel, pe byddai wedi clywed y datganiad yn gynharach yn y prynhawn, roedd y diolch hwnnw yn llwyr ac yn ddiffuant, yn sicr yn dod o feinciau'r Ceidwadwyr, o ran yr ymdrechion gyda'r brechu. A hoffwn i gofnodi hefyd fy mod i'n credu bod cyflwyno'r brechlyn wedi dangos yn wirioneddol, ble mae Llywodraethau yn gweithio orau, maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau cymaint o lwyddiant wrth gyflwyno brechlynnau. Yr oedd yn iawn o safbwynt gwrthblaid i ni dynnu sylw at ddiffygion rhan gyntaf y brechlyn yma yng Nghymru, ond yn y pen draw mae'r rhaglen benodol honno wedi ennill momentwm ac erbyn hyn rydym yn symud ymlaen â niferoedd uwch. Nid oes neb yn dymuno gweld y rhaglen honno yn methu, ond mae camau cynnar Llywodraeth y DU, gan weithio gyda'r Llywodraethau datganoledig i fynd i mewn i'r farchnad i brynu'r dosau brechu hynny, wedi golygu ein bod, ar hyn o bryd, yn arwain y byd o ran sicrhau bod ein poblogaeth yn ddiogel, gyda rhaglen frechu sy'n cyrraedd targedau nas clywir mewn rhannau eraill o'r byd.

Mae gwelliant 2 yn sôn am yr angen i gael cynllun adfer, a chynllun adfer clir, oherwydd ein bod yn gwybod am y niwed y mae argyfwng COVID wedi ei wneud i'r economi, ond, yn bwysig, i'r sector iechyd. Wrth ddarllen yr adroddiad blynyddol, mae'n anodd ei ddeall, ac o weld y Prif Weinidog a chlywed ymatebion y Prif Weinidog yng nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, yr oedd yn heriol, a dweud y lleiaf, sylweddoli bod cyn lleied o wybodaeth ar gael am sut y gallai'r cynlluniau hynny edrych pan fyddwn ni ben draw i argyfwng COVID, pan fo gennym ni amseroedd aros lle mae un ym mhob pump o bobl ar restr aros yma yng Nghymru—bron i 240,000 o bobl yn aros 36 wythnos neu fwy. A phan fo gennych chi bobl fel prif weithredwr Tenovus yn dweud eu bod yn cael eu gwthio'n ôl gan y Llywodraeth pan fyddan nhw'n pwyso am gynllun adfer canser, mae hynny yn peri pryder gwirioneddol. A dyna yw ein gwaith ni fel gwrthblaid—i dynnu sylw at y pryderon hyn. A gobeithio, pan fyddwn yn dechrau ymgyrch yr etholiad cyffredinol yma yng Nghymru, y byddwn yn gallu trafod a chyd-drafod y dewisiadau eraill yr ydym ni, yn sicr gan Geidwadwyr Cymru, yn dymuno eu rhoi gerbron pobl Cymru i weld y trawsnewid radical hwnnw sydd, yn ein barn ni, yng ngafael pobl Cymru pan fyddan nhw'n llenwi'r papurau pleidleisio, trwy newid y Llywodraeth ar ôl 6 Mai. Felly, rwyf i yn annog y Prif Weinidog, yn yr amser sy'n weddill i'r Llywodraeth hon, i weithio dydd a nos mewn gwirionedd i gyflwyno'r paratoadau hynny fel y gallwn fod yn hyderus nad oes diffyg cynnydd wrth wraidd y Llywodraeth o ran y cynlluniau adfer, a gallwn fod yn hyderus y byddwn yn mynd i'r afael â'r niferoedd enfawr hyn yn y sector iechyd yn benodol. Dyna pam mae gwelliant 2 wedi ei gyflwyno, a byddwn i'n annog Aelodau'r Cynulliad i gefnogi gwelliant 2, oherwydd credaf ei fod yn ychwanegu sylwedd at y prif gynnig.

Mae gwelliant 3 yn canolbwyntio ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Ac i mi, yr hyn sy'n crynhoi methiant yn y rhaglen ddeddfwriaethol yw anallu'r Prif Weinidog ei hun i gyflawni ymrwymiad maniffesto arweinyddiaeth, sef y Ddeddf aer glân. Roedd cefnogaeth gyffredinol o amgylch y Siambr i hyn ddigwydd mewn gwirionedd, ac rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog, wrth grynhoi, yn myfyrio ar gyfle a gollwyd yma. Gwyddom am ffaith y bu o leiaf 2,000 o farwolaethau cynamserol y flwyddyn oherwydd yr aer budr sy'n cael ei anadlu yng nghymunedau Cymru. Ac, fel y dywedais, os oedd yn ymrwymiad arweinyddiaeth, dylid bod wedi ei gyflawni, oherwydd yr oedd consensws ar y llawr yn y Cyfarfod Llawn i hyn ddigwydd. Ac, fel y gwelwn heddiw gyda'r Bil etholiadau, mae'n bosibl cyflwyno deddfwriaeth frys a all fod yn effeithiol ac a all wneud gwahaniaeth, ac rwy'n gresynu'n fawr nad oedd y Prif Weinidog yn gallu cyflawni ei ymrwymiad maniffesto yn ei gais am arweinyddiaeth a chyflwyno Deddf aer glân o'r fath i lawr y Cyfarfod Llawn, a fyddai wedi cael cefnogaeth gyffredinol.

A byddaf yn cau gyda hyn ynghylch addewidion: mae'n hanfodol bod Gweinidogion y Llywodraeth o unrhyw liw, pryd bynnag y byddan nhw'n sefyll mewn Senedd, mewn siambr drafod seneddol ac yn ymrwymo i rywbeth, yn glynu wrth yr ymrwymiad hwnnw. Mae'r gwyrdroi diweddar yn hynny o beth o ran parthau perygl nitradau yn arwydd clir i bobl Cymru wrth sôn am ymddiriedaeth. Gallwn ddadlau ynghylch rhinweddau'r cynigion, ac rydych chi a mi wedi trafod hyn, Prif Weinidog. Nid yw'n ymwneud â rhinweddau'r cynigion, oherwydd rwyf wedi dweud sawl gwaith fod un digwyddiad llygredd un yn ormod, ond y saith ymrwymiad—o leiaf saith ymrwymiad—ar lafar a roddodd y Gweinidog na fyddai'r rheoliadau hyn, yn ystod y pandemig, yn cael eu dwyn ymlaen oherwydd yr effaith y bydden nhw'n ei chael ar y sector amaethyddol. Ac eto, er gwaethaf y saith ymrwymiad hynny—addewidion, byddwn i'n ei ddweud—a wnaed ar y llawr yn y Cyfarfod Llawn, mae'r Llywodraeth yn benderfynol o'u gwthio trwyddo. Felly, pan fydd y Prif Weinidog yn sôn am wneud addewidion ac ymrwymiadau i bobl Cymru, efallai hoffai fyfyrio ar yr addewid a wnaeth ac a dorrodd i'r economi wledig a'r gymuned wledig o ran parthau perygl nitradau. A sut ar y ddaear, os byddan nhw'n taflu ymaith addewidion o'r fath mor rhwydd, y gall pobl ymddiried yn Llywodraeth Lafur Cymru pan fyddan nhw'n ceisio cael eu hail-ethol ar 6 Mai? Felly, rwy'n annog y Cynulliad hwn i gefnogi'r tri gwelliant a gyflwynir yn enw Mark Isherwood, oherwydd fy mod i o'r farn eu bod yn ychwanegu'n sylweddol at y ddadl ac yn gwella'r cynnig.

19:55

Dwi'n falch o gael y cyfle am yr ail waith heddiw i graffu ar adroddiad blynyddol y rhaglen llywodraethu. Wnaf i ddim ailadrodd y pwyntiau wnes i'n gynharach am ddiffyg delifro systemig y Llywodraeth yma mewn meysydd allweddol fel tlodi plant a thlodi tanwydd. Ond fe ddywedaf i ein bod ni wedi dod yn llawer rhy gyfarwydd â'r patrwm ailadroddus hwnnw dros dymor y Llywodraeth yma a'r rhai blaenorol: targedau'n cael eu gosod, targedau'n cael eu methu, targedau'n cael eu gollwng, targedau'n cael eu hailosod ymhellach fyth i'r dyfodol, fel y gwelon ni gyda'r targed diweddaraf yn y maes amgylcheddol heddiw.

Mewn meysydd eraill fel y maes tai, mae'r targedau mor ddiystyr, mor bell o realiti bywydau pobl ar lawr gwlad o dan y Llywodraeth yma, fel bod yn rhaid cwestiynu gwerth yr ymarfer o gwbl. Tra bo'r Llywodraeth yn clochdar yn y ddogfen yma am wireddu ei hymrwymiad maniffesto i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy, realiti bywyd i ormod o bobl yng Nghymru—yn arbennig pobl ifanc Cymru—ydy methu fforddio prynu tai mewn cymunedau sydd ar eu gliniau yn sgil gormodedd o ail gartrefi ac mewn cymunedau lle mae tai honedig fforddiadwy y Llywodraeth Lafur yma yn gwerthu am £250,000 a mwy, ac yn gwneud mwy i gynyddu elw datblygwyr preifat nag y maent i ddiwallu'r angen lleol am dai. Mae hyd yn oed y Gweinidog tai ei hun wedi cydnabod bellach nad ydy'r diffiniad a phwyslais y Llywodraeth yma ar dai fforddiadwy yn ffit i bwrpas o ran mynd i'r afael â'r creisis digartrefedd yng Nghymru.

Ar lefel wleidyddol, mae'r diffyg ewyllys i ymateb yn ddigon cyflym a chadarn i faterion dyrys fel yr argyfwng ail gartrefi, sy'n llythrennol yn gweithio yn erbyn cymaint o flaenoriaethau strategaethau eraill y Llywodraeth, o'r Gymraeg i gynaliadwyedd, yn llesteirio cyflawniad. A thra bod cyllidebau'n dynn, mae'r methiant i weithio yn greadigol ac i weithredu polisïau fel ehangu prydau ysgol am ddim—fel clywon ni eto yn y drafodaeth ar y gyllideb—fyddai'n dod â buddion clir mewn sawl maes ac arbedion posib hefyd, hyd yn oed ar ôl i'r adolygiad tlodi plant ddweud mai dyma'r un peth allai wneud y gwahaniaeth mwyaf i weddnewid bywydau plant sy'n byw mewn tlodi, jest yn esgeulus.

Ond dyw'r diffygion o ran ewyllys ac uchelgais wleidyddol ynddo'i hun ddim yn esbonio'r hyn sydd wrth wraidd y diffyg deliferi systemig. Mae'n amlwg nad yw'r peiriant sy'n cefnogi llywodraethiant yng Nghymru yn ei ystyr ehangaf yn ddigonol ac wedi'i alinio'n iawn, fel roedd Alun Davies yn cyfeirio gynnau, i weithredu'r agenda cynhwysfawr o ran cynaliadwyedd, agenda ataliol, mae yna gonsensws eang o'i blaid. Mae'r fframwaith statudol mae'r Senedd yma wedi ei roi ar waith yn ei le ar bapur, ac mewn egwyddor beth bynnag, ond fel mae ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid yn ei ddarganfod ar hyn o bryd, ar rwystrau i gyflawniad Deddf cenedlaethau'r dyfodol, mae angen newidiadau sylfaenol os ydym am gyflawni cynnydd hir dymor.

Yn eironig ddigon, efallai mai'r pandemig yn fwy na dim byd arall, a'r angen i weithredu'n gyflym gyda'n gilydd fel un tîm, fel un genedl, fel un gwasanaeth cyhoeddus, fydd y sbardun fydd wedi gwneud y mwyaf i wireddu'r nodau yma, yn fwy na dim byd arall mae'r Llywodraeth wedi ei wneud yn ystod y tymor hwn. So, sut felly ydyn ni'n mynd i'r cam nesaf o ran gweithredu fel un gwasanaeth cyhoeddus, fel un genedl, wrth adfer o'r pandemig ac osgoi hen ffyrdd o weithio? O ran y Llywodraeth a'r gwasanaethau cyhoeddus yn eu cyfanrwydd, rhaid i ni fod yn fwy disgybledig a cheisio lleihau nifer y dangosyddion ac amcanion a strategaethau sydd jest yn pentyrru, a ffocysu ar y prif nodau llesiant sydd yn y Ddeddf llesiant; un fframwaith o ran rhaglen lywodraethu i waith yr holl gyrff hyd-braich a chynghorau sir ac yn y blaen, a grymuso staff ac arbenigwyr ar lawr gwlad yn eu sectorau gwahanol i wneud eu gwaith heb fan reolaeth o'r canol. Gwobr fawr annibyniaeth yn y pen draw ydy medru datganoli ac ymrymuso ymhellach o fewn Cymru law yn llaw.

Ni all unrhyw Lywodraeth, boed hi'n ganol neu leol, ddim cynnal asesiad wirioneddol annibynnol o'i pherfformiad ei hun. Felly, mae angen gwell atebolrwydd a gorolwg allanol i fesur perfformiad, a does bosib bod gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol rôl fwy penodol i fod yn ei chwarae, a'r Senedd ei hun hefyd, o ran cryfhau atebolrwydd a deliferi yn y tymor nesaf. A fyddai'r Prif Weinidog, efallai, yn cytuno y byddai creu pwyllgor gweinyddiaeth gyhoeddus gwirioneddol o fewn y Senedd hon yn pontio rhwng rôl arweinwyr gwleidyddol ac arweinwyr o fewn y sector gyhoeddus? Yn sicr, mae'r darpar Prif Weinidog yma—

20:00

—yn credu hynny. Ac yn credu hynny oherwydd bod yna rôl i bawb wrth greu'r Gymru newydd. Mae e'n waith y mae'n rhaid i ni i gyd greu strwythurau er mwyn ei gyflawni.

Prif Weinidog, a gaf i groesawu'r adroddiad blynyddol ar gyflawni'r rhaglen lywodraethu? Ar ôl y 12 mis diwethaf yr ydym ni i gyd wedi eu cael, mae'n ein hatgoffa'n wych fod yr oriau lawer a dreuliwyd ar-lein wedi bod yn amser a dreuliwyd yn dda yn cefnogi Llywodraeth Cymru drwy'r pandemig, ac wrth barhau i gyflawni'r addewidion yn y maniffesto a wnaethom yn etholiad 2016. Gan fy mod i'n gwybod, ar wahân i'r camau angenrheidiol i'n harwain drwy'r pandemig, fod cymunedau Merthyr Tudful a Rhymni wedi eu gwasanaethu'n dda gan rai o bolisïau craidd y Llywodraeth Cymru hon, boed hynny, fel yr ydych wedi ei amlinellu eisoes, Prif Weinidog, trwy ymestyn prydau ysgol am ddim, cymorth y dreth gyngor, presgripsiynau am ddim, gofal plant am ddim, prentisiaethau i bobl o bob oed, cymorth i fusnesau bach, mynediad i'r gronfa driniaethau newydd, a chymaint mwy.

Mae fy etholwyr i hefyd wedi elwa ar fuddsoddiad cyfalaf mewn addysg, ym maes iechyd, o ran adfywio canol trefi ac ym maes trafnidiaeth. Rwyf wedi cael y pleser o fynychu agoriad ysgolion newydd ac ysgolion wedi'u hadnewyddu yn Ysgol Idris Davies yn Rhymni, ac Ysgol Afon Tâf yn Nhroed-y-rhiw, ac mae ysgolion newydd eraill ar y gweill. Cyn bo hir byddwn yn agor gorsaf fysiau newydd ym Merthyr Tudful, sydd â'r potensial i fod yn ganolfan drafnidiaeth newydd i'r ardal. Mae ein rheilffyrdd a'n gorsafoedd yn cael eu gwella, a chyn bo hir byddwn yn gweld pedwar trên yr awr rhwng Merthyr, Rhymni a Chaerdydd, gan agor cyfleoedd i bobl fyw a gweithio yn haws yn y cymunedau hyn yn y Cymoedd, a bydd hyn i gyd mor bwysig yn yr adferiad ar ôl COVID os ydym am ail adeiladu yn decach.

Byddwn yn cwblhau'r gwelliannau i ffordd Blaenau'r Cymoedd, sydd â'r potensial i sicrhau ysgogiad economaidd gwirioneddol i Gymoedd y gogledd ar hyd coridor yr A465, a bydd buddsoddiad parhaus yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, wrth i £220 miliwn arall gael ei gyhoeddi fis Hydref diwethaf, gan sicrhau, yn ogystal â darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf gan weithlu GIG anhygoel, y bydd cyfleusterau o'r radd flaenaf i wneud hynny hefyd.

Nawr, nid wyf i yma i ddweud bod y gwaith wedi ei wneud, oherwydd nid yw byth wedi ei wneud, ac er gwaethaf yr holl fanteision polisïau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflawni, a'r gwahaniaeth yr wyf i wedi ei weld i gynifer o fywydau yn eu sgil, gwn fod gennym ni fwy i'w wneud bob amser, ac ni ellir tanbrisio'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau ar ôl COVID. Ond am y tro, rwyf i'n falch o gynrychioli plaid y Llywodraeth yng Nghymru sydd wedi cyflawni ei haddewidion i fy etholaeth i. Diolch.

Dirprwy Lywydd, am 30 mlynedd bues i'n gweithio yn gyfreithiwr mewn deddfwriaeth cyflogaeth ac undebau llafur, a blwyddyn ar ôl blwyddyn gwelais i ganlyniadau gostyngiadau'r Torïaid i hawliau gweithwyr a llais pobl sy'n gweithio. Nid oes dim wedi newid ers hynny, ac eithrio pan ddes i i'r Senedd hon, a chawsom ni bwerau deddfu, ac fe wnaethom ni ddechrau datblygu cyfres o gyfreithiau a deddfwriaeth a ddechreuodd geisio adfer rhai o'r amddiffyniadau hynny, hyd yn oed o fewn y cymhwysedd cyfyngedig a oedd gennym ni. Fe wnaethom ni gefnogi'r gronfa ddysgu undebau. Fe wnaethom ni roi hawliau i weithwyr amaethyddol pan oedden nhw'n cael eu diddymu yn Lloegr. Fe wnaethom ni wrthwynebu rhoi enw drwg i aelodau undebau llafur ar adeg pan oedd llawer yn canmol y gweithgaredd hwnnw yn Lloegr. Fe wnaethom ni ddiddymu contractau dim oriau ar gyfer gweithwyr gofal ac, yn fwy diweddar, rydym ni wedi gwrthwynebu cyfyngiadau undebau llafur a oedd yn cael eu gorfodi yn Lloegr, ac yn ffodus, rydym ni wedi gallu eu hatal yng Nghymru.

Felly, yn bwysig iawn yn y ddeddfwriaeth hon, yn dilyn y datganiad a wnaed gan Hannah Blythyn yn gynharach, mae dau ddarn pwysig iawn o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol, a bydd yn rhaid i rai o'r rhain barhau, sef y Bil partneriaeth gymdeithasol, ond hefyd gweithredu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'n rhaid i ni beidio â thanbrisio pwysigrwydd y rhain yn ein hamgylchedd COVID ar hyn o bryd ac wrth i ni ddod allan o COVID, oherwydd yr un peth yr ydym ni i gyd yn ei ddweud yn gyffredin yw na all pethau fynd yn ôl i'r ffordd yr oedden nhw, sy'n golygu na allan nhw fynd yn ôl i'r ffordd yr oedden nhw o ran swyddi, contractau dim oriau, hunangyflogaeth ffug a chyni i bobl sy'n gweithio. Felly, mae'r Bil partneriaeth gymdeithasol, sy'n cael ei gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad, yn un o uchafbwyntiau rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth hon, yn fy marn i. Mae bron yn ein galluogi ni yn wirioneddol i weithredu deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol ar gyfer pobl sy'n gweithio, er mwyn i weithleoedd sefydlu safonau cyflogaeth moesegol.

Felly, rwyf i'n croesawu hynny yn fawr, oherwydd rwyf i'n gwybod dau beth am Lywodraethau Torïaidd, y ddau beth y maen nhw'n eu gwneud bob amser: un yw eu bod yn torri trethi i'r cyfoethog a'r ail yw eu bod nhw bob amser yn tawelu llais pobl sy'n gweithio. Felly, mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhywbeth radical ac yn gyfle i ddeddfwriaeth Cymru wneud marc gwirioneddol ar gyfer y dyfodol. A byddwn i'n ddiolchgar, Prif Weinidog, pe gallech chi ymhelaethu efallai ar yr ymgynghoriad a fydd yn digwydd a'r math o amserlen yr ydych yn ei rhagweld, gan fynd drwodd i'r Senedd nesaf i'r Llywodraeth Lafur nesaf.

20:05

Diolch yn fawr iawn. Nid oes gennyf i unrhyw Aelodau sydd wedi gofyn am ymyriad, felly rwy'n galw ar y Prif Weinidog i ymateb i'r ddadl.

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn. A gaf i ddiolch i Andrew R.T. Davies am ei sylwadau agoriadol hael? Rwy'n gwybod ei fod ef wedi cofnodi'r prynhawn yma, ei werthfawrogiad o'r ymdrechion brechu sydd wedi'u gwneud gan weithwyr rheng flaen yma yng Nghymru, ac fel y dywedais i, bydd y Blaid Lafur a'r Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant cyntaf y mae ei blaid wedi'i osod yn y ddadl y prynhawn yma. Diolch iddo am ei gefnogaeth i benderfyniad y Llywodraeth hon i gytuno i'r ymdrech ledled y DU i gaffael brechiadau.

Rwy'n rhannu ei ofid na fu'n bosibl cyflwyno Bil aer glân yn ystod blwyddyn olaf tymor y Senedd hon, yn union fel yr wyf i'n edifar y ffaith nad yw'r Bil partneriaeth gymdeithasol wedi bod yn bosibl, nad yw'r Bil addysg drydyddol wedi bod yn bosibl, a bod llawer o agweddau pwysig eraill ar ein rhaglen ddeddfwriaethol wedi gorfod cael eu haberthu oherwydd y galwadau y mae coronafeirws wedi'u rhoi ar adnoddau Llywodraeth Cymru, ac ar adnoddau'r ddeddfwrfa hon hefyd. 

Mae ein hymrwymiad i Ddeddf aer glân mor gryf heddiw ag y bu drwyddi draw. Dyna pam y gwnaethom ni gyhoeddi'r ddogfen y gwnaethom ni—cafodd hi ei lansio yn yr Eisteddfod ym mis Awst—a pham yr ydym ni wedi cyhoeddi Papur Gwyn. Mae'n ymrwymiad clir i'n penderfyniad i gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno os ydym ni mewn sefyllfa i wneud hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at ei gefnogaeth pan fyddwn ni'n gwneud hynny.  Byddai'n dda gennyf i pe byddai modd cael ei gefnogaeth dros lygredd yn y diwydiant amaethyddol hefyd, ond rydym ni'n ymwybodol nad ydym ni'n mynd i gael hynny, a bydd pobl yn dod i'w casgliadau eu hunain.  

Dywedodd Adam Price, Llywydd, na fyddai'n ailadrodd ei gyfraniad yn gynharach heddiw cyn iddo ef fynd ymlaen i wneud hynny. Pan na allai ddweud nad oedd ein targedau wedi'u cyrraedd, ceisiodd ddadlau nad y targedau oeddynt. Nid wyf i'n credu bod yr 20,000 o deuluoedd sydd bellach yn gallu byw mewn cartrefi na fydden nhw fel arall wedi bod ar gael iddyn nhw—cartrefi gweddus, cartrefi fforddiadwy, cartrefi ym mhob rhan o Gymru—nid wyf i'n credu y bydden nhw'n rhannu'r agwedd ddiystyriol at yr hyn a ailadroddodd am yr eildro'r prynhawn yma.

A gaf i ddiolch i Dawn Bowden am ei chefnogaeth i Lywodraeth Cymru drwy gydol cyfnod heriol iawn y 12 mis diwethaf? Diolch iddi hi hefyd am sôn am raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, y rhaglen adnewyddu ein hystâd addysg fwyaf am 50 mlynedd—rhaglen heb ei hail nid yn unig yn y cyfnod datganoli ond am 30 mlynedd cyn hynny. Wrth gwrs, mae hi'n iawn i dynnu sylw at yr holl bethau eraill hynny yr ydym ni'n eu gwneud a fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth yng nghymunedau'r Cymoedd. Pan gyfeiriodd hi at gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd, mae hynny'n cwblhau, unwaith eto, brosiect sydd wedi bod yn brosiect Llafur drwy gydol cyfnod datganoli, prosiect, fel y gwyddom ni, wedi ymosod arno'n arw ar lawr y Senedd gan Blaid Cymru wrth i ni symud tuag at ei gwblhau, ond prosiect a fydd yn dod â ffyniant a chyfle economaidd newydd i'r cymunedau hynny yn y Cymoedd sydd gan y Llywodraeth Lafur hon wrth wraidd yr hyn yr ydym ni'n ei ystyried yn bwysig ar gyfer dyfodol Cymru.

Diolch i Mick Antoniw hefyd am dynnu'r llinyn hwnnw sydd wedi rhedeg drwy dymor y Senedd hon o adfer amddiffyniadau i bobl a fyddai fel arall wedi cael eu dwyn oddi wrthyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi Bil partneriaeth gymdeithasol drafft. Byddwn ni'n gwneud hynny cyn diwedd tymor y Senedd hon. Bydd ganddo agweddau y byddwn ni eisiau ymgynghori â'n partneriaid yn eu gylch. Dyna natur partneriaeth gymdeithasol. Dyna sut yr ydym ni eisiau i'r Bil ei hun gael ei ddatblygu, mewn partneriaeth â'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, ein cydweithwyr yn yr undebau llafur a gyda chyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yng Nghymru hefyd. Os ydw i'n edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf, yna rwy'n credu bod y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn un o'r cryfderau craidd sydd wedi bod gennym ni i'w ddefnyddio yn y dyddiau anoddaf hyn. Mae'r cyngor hwnnw wedi cyfarfod bob pythefnos drwy gydol yr argyfwng. Mae wedi canolbwyntio ar rai o'r penderfyniadau anoddaf y bu'n rhaid i Lywodraethau eu gwneud. Mae wedi datrys rhai materion dadleuol iawn mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol a bydd y Bil yn sicrhau y bydd y ffordd unigryw Gymreig honno o gynnal ein dadl gyhoeddus a chyflawni ein cyfrifoldebau cyhoeddus yn cael ei hategu gan rym y gyfraith os ydym ni mewn sefyllfa i ddod â hynny o flaen y Senedd ar ôl yr etholiad nesaf.

Mae'r adroddiad o flaen y Senedd heddiw yn adlewyrchu'r cyfnod mwyaf rhyfeddol yn ein hanes. Mae'n dangos, os gallwn ni ddweud hynny, nid yn unig y cryfder sydd gennym ni yma yng Nghymru, y gefnogaeth sydd gennym ni gan y cyhoedd, y ffordd yr ydym ni wedi gallu tynnu sefydliadau at ei gilydd, ond mae wedi dangos cryfder y Senedd hefyd, y ffordd y mae'r ddeddfwrfa hon wedi addasu i'r ffyrdd y mae'n rhaid i ni weithio yn awr. Mae wedi dod o hyd i ffyrdd o graffu ar rai o'r darnau mwyaf sylweddol o ddeddfwriaeth sydd erioed wedi'u rhoi o flaen deddfwrfa yng nghyfnod datganoli. Diolch i'r holl Aelodau o bob plaid am y cyfraniad y maen nhw wedi'i wneud at yr ymdrech genedlaethol eithriadol hon. Wrth gwrs, nid ydym ni'n cytuno ar bopeth, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, ac ni ddylem ni chwaith, ond pan fydd pethau wedi bod ar eu mwyaf difrifol, y gallu i ddod at lawr y Senedd, i glywed y dadleuon, i gasglu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnom ni—rwy'n credu bod hynny wedi dangos cryfder ein sefydliadau datganoledig yn ogystal â'r ymateb yr ydym ni wedi gallu ei wneud yma yng Nghymru. Wrth gloi'r ddadl hon, rwy'n diolch i bawb sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r ymdrech genedlaethol enfawr honno. 

20:10

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld unrhyw wrthwynebiad. Felly, mae gwelliant 1 yn cael ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn gwelliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld bod gwrthwynebiad i welliant 2. Iawn. Rydym ni nawr yn gohirio pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

20:15

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod cyn inni symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 20:15.

Ailymgynullodd y Senedd am 20:17, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

12. Cyfnod Pleidleisio

Y cyfnod pleidleisio, felly. Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar y gyllideb ddrafft 2021-22. Dwi'n galw am y bleidlias gyntaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

Eitem 10 - Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-22 - Gwelliant 1 (cyflwynwyd yn enw Mark Isherwood): O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Y bleidlais nesaf yw gwelliant 4, a gyflwynwd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, tri yn ymatal ac mae 30 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi'i wrthod hefyd.

Eitem 10 - Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-22 - Gwelliant 4 (cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian): O blaid: 17, Yn erbyn: 30, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Pleidlais nawr ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.

Eitem 10 - Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-22 - Cynnig heb ei ddiwygio (cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 30, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlias nesaf ar eitem 11, a'r eitem hynny yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol y rhaglen lywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, dau yn ymatal ac mae 26 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi cael ei wrthod. 

20:20

Eitem 11 - Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a’r Rhaglen Ddeddfwriaethol - Gwelliant 2 (cyflwynwyd yn enw Mark Isherwood): O blaid: 22, Yn erbyn: 26, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Y bleidlais nesaf yw gwelliant 3 a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, un yn ymatal ac mae 30 yn erbyn, ac felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod hefyd.  

Eitem 11 - Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a’r Rhaglen Ddeddfwriaethol - Gwelliant 3 (cyflwynwyd yn enw Mark Isherwood): O blaid: 19, Yn erbyn: 30, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, naw yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

Cynnig NDM7587 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi:

a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2020;

b) y Rhaglen Ddeddfwriaethol.

Yn cydnabod ymdrechion yr holl weision cyhoeddus a'r cyhoedd i fynd i'r afael â COVID-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac yn rhoi diolch iddynt am yr ymdrechion hynny.

Eitem 11 - Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a’r Rhaglen Ddeddfwriaethol - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 42, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio a dyna ddiwedd ar ein gwaith am y dydd heddiw. Nos da, bawb. 

Daeth y cyfarfod i ben am 20:21.