Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

26/01/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod.

13:30
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Rŷn ni'n cychwyn ein gwaith heddiw gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant. 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi delio â COVID-19? OQ56202

Llywydd, mae gwasanaethau yn ardal y bwrdd yn parhau i fod o dan bwysau sylweddol gan mai dim ond yn araf y mae gostyngiadau i drosglwyddiad cymunedol yn cael eu teimlo mewn ysbytai. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn ddiolchgar am ymroddiad staff y bwrdd wrth iddyn nhw ymdrechu i ddarparu'r gofal gorau posibl i'w cleifion.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'r gaeaf hwn wedi bod yn un o'r cyfnodau anoddaf y gall unrhyw un ei gofio i'n GIG. Mae niferoedd staff wedi cael eu taro yn galed, mae nifer y cleifion wedi bod yn uchel, ac mae'r pwysau a'r straen ar ein staff rheng flaen wedi bod yn aruthrol. Er gwaethaf hyn i gyd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi sefydlu rhaglen frechu torfol sy'n cyflymu ar gyfradd uchel, gan hefyd addasu eu harferion a'u gwasanaethau hefyd. Un o'r addasiadau hyn fu cynnig dewisiadau amgen i drigolion lleol yn hytrach na mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae hyn wedi helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar y system ac wedi helpu i gadw cleifion a staff mor ddiogel â phosibl. Mae'r bwrdd iechyd a'r staff yn gwneud gwaith anhygoel o dan amgylchiadau eithriadol o anodd. A wnaiff y Prif Weinidog groesawu'r camau sy'n cael eu cymryd yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu'r holl gymorth posibl i helpu i gefnogi ein staff a'n cadw ni yn ddiogel?

Llywydd, diolchaf yn fawr iawn i Jayne Bryant am y cwestiwn atodol yna. Wrth gwrs, rwy'n croesawu yn fawr iawn yr holl ymdrechion a wneir gan ein staff yn Aneurin Bevan, a ledled Cymru, o dan y pwysau eithriadol y maen nhw wedi eu hwynebu'n ers bron i 12 mis llawn erbyn hyn. Ac, wrth gwrs, mae Jayne Bryant yn iawn—yr her ddiweddaraf yw brechu. Hanner can mil o frechlynnau wedi eu rhoi yn ardal Aneurin Bevan erbyn hyn, 69 o'r 74 o feddygfeydd teulu yn yr ardal yn rhoi'r brechlyn yr wythnos diwethaf, a dim ond un o'r heriau niferus y maen nhw'n eu hwynebu yw honno, wrth gwrs. Rhoddodd y bwrdd 19,000 o brofion i drigolion ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan yr wythnos diwethaf hefyd, ac eto, fel y mae Jayne Bryant yn ei ddweud, Llywydd, mae'r bwrdd yn parhau i arloesi, ac mae ei arloesedd diweddaraf, o'u treial cysylltu'n gyntaf, yn dangos llwyddiant gwirioneddol rwy'n credu.

Rydym ni'n deall y pryder y mae pobl yn ei deimlo am ddod i adrannau achosion brys ar adeg pan fo coronafeirws mewn cylchrediad o'r fath. Mae caniatáu i bobl ffonio yn gyntaf, i gael y sgwrs honno, ac yna cael eu cyfeirio at y rhan o'r gwasanaeth sydd fwyaf addas i'w helpu nhw yn fantais i'r defnyddiwr, ond mae'n fantais i'r gwasanaeth hefyd. A, Llywydd, fel yr awgrymodd Jayne Bryant, o'r bobl hynny a ffoniodd y gwasanaeth yn y pythefnos ar ddiwedd mis Rhagfyr, nid oedd angen i 81 y cant ohonyn nhw fynd i adran achosion brys, cyfeiriwyd 36 y cant o alwyr yn llwyddiannus at uned mân anafiadau, cyfeiriwyd 32 y cant at ganolfan gofal sylfaenol frys yn ardal y bwrdd. Ac rwy'n credu bod y rheini yn ffigurau rhyfeddol ac yn dangos nid yn unig yr ymdrechion anhygoel y mae staff yn eu gwneud, ond eu gallu i barhau i arloesi ac ymateb i amgylchiadau newydd hyd yn oed o dan y pwysau y mae'r bwrdd yn eu hwynebu.

Hoffwn innau, hefyd, ddiolch i bawb ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan am y gwaith ardderchog y maen nhw'n ei wneud yn darparu'r brechlyn, ond hefyd y ffyrdd adweithiol eithriadol, fel y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud, y maen nhw wedi ymdrin â'r pandemig hwn. Fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, mae canolfan y Fenni yn Sir Fynwy yn darparu brechlyn Rhydychen-AstraZeneca ar ddiwrnod neu ddau o'r wythnos yn unig, er bod Cyngor Sir Fynwy a meddygfeydd teulu, sydd i gyd wedi bod yn anhygoel wrth ddarparu'r brechlyn hwn, wedi cynnig sefydlu canolfan arall. Mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n gwneud synnwyr bod canolfan frechu'r Fenni naill ai'n dod yn ganolfan frechu Pfizer, fel y gallai weithredu saith diwrnod yr wythnos fel y mae Cwmbrân a Chasnewydd ar fin ei wneud, neu fod canolfan ddosbarthu Pfizer arall yn cael ei sefydlu yn Sir Fynwy, gan sicrhau bod y brechlyn yn cael ei gyflwyno yn gyflymach. Byddwn yn gwerthfawrogi eich safbwyntiau ar hynny, Prif Weinidog.

13:35

Diolchaf i Laura Anne Jones am yr awgrymiadau yna, yr wyf i'n siŵr y bydd y bwrdd yn gwybod amdanyn nhw, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n cynnwys hynny yn eu syniadau. Mae'r darlun, fel y gwnaeth Laura Anne Jones gydnabod, yn newid drwy'r amser. Mae byrddau'n datblygu canolfannau newydd ac mae meddygon teulu newydd yn ymuno â'r ymdrech. Mae'n ymdrech i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl ar lawr gwlad yn gallu cynnig brechiadau, ond mae hefyd yn ymdrech i geisio gwneud yn siŵr bod y posibiliadau hynny mor agos at gartrefi pobl ac mor gyfleus iddyn nhw â phosibl. Rwy'n credu, bythefnos yn ôl, Llywydd, i mi ddweud yn y cwestiynau hyn ein bod ni'n gobeithio y byddai 250 o feddygfeydd teulu yn brechu erbyn diwedd y mis; mae gennym ni bron i 330 erbyn hyn, felly rydym ni wedi rhagori yn helaeth ar yr hyn yr oeddem ni wedi ei ddisgwyl. Mae hynny yn rhan o'r patrwm newidiol y cyfeiriodd Laura Anne Jones ato. Rwy'n siŵr y bydd y bwrdd wedi clywed yr hyn a ddywedodd ac y bydd yn cymryd hynny i ystyriaeth wrth iddyn nhw gynllunio i ddarparu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i frechu, a'i wneud mor gyfleus â phosibl i'r bobl y mae'r Aelod yn eu cynrychioli.

Byddwn yn adleisio'r pwyntiau a wnaed am ddewrder ac ymroddiad staff bwrdd iechyd Aneurin Bevan—maen nhw'n glod i'n cymunedau. Roeddwn i eisiau codi mater ynghylch rhoi'r brechlyn yn yr ardal, os gwelwch yn dda. Mae rhai etholwyr wedi cysylltu â mi oherwydd eu bod nhw'n gofalu am berthynas oedrannus, ac mae'r perthynas oedrannus wedi cael ei alw i gael y brechlyn ond nid ydyn nhw fel gofalwr. Nawr, rwy'n sylweddoli bod hyn yn rhywbeth sy'n digwydd ledled Cymru ac nid yn ardal ein bwrdd iechyd ni yn unig, ond rwy'n credu ei fod yn mynd at wraidd y broblem, Prif Weinidog, er bod gweithwyr gofal cyflogedig yn yr un grŵp blaenoriaeth â'r rhai dros 80 oed, nad yw gofalwyr di-dâl, ac maen nhw'n agos yn gorfforol at y rhai y maen nhw'n gofalu amdanynt. Felly, does bosib na fyddai'n gwneud synnwyr iddyn nhw gael y brechlyn ar yr un pryd, i amddiffyn eu perthnasau agored i niwed. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn a wnewch chi ystyried gwneud y newid hwn i'r broses o gyflwyno'r brechlyn yn yr ardal fel bod gofalwyr di-dâl yn cael blaenoriaeth hefyd?

Wel, Llywydd, mae'r rheini yn bwyntiau pwysig, a bydden nhw wedi cael eu hystyried yn ofalus iawn gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio wrth iddo flaenoriaethu grwpiau. Bydd yr Aelod yn gwybod bod gofalwyr di-dâl wedi eu cynnwys yng ngrŵp blaenoriaeth 6. Felly, dydyn nhw ddim yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf yr ydym ni'n canolbwyntio arnyn nhw ar hyn o bryd, ond byddan nhw yn y gyfres nesaf o grwpiau blaenoriaeth. Mae'n rhaid i ni gadw at restr flaenoriaethu'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio. Mae llawer o ddadleuon y gall pobl eu gwneud yn unigol dros pam y dylid diwygio'r rhestr honno, ond fy marn i yw—a dyma farn yr holl Brif Weinidogion, gan gynnwys Prif Weinidog y DU, ledled y wlad—bod yn rhaid i ni gadw at y cyngor y mae'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio wedi ei roi i ni. Bydd gofalwyr di-dâl yn cael eu cynnwys yn y chweched grŵp hwnnw ac, felly, yng ngham nesaf y broses frechu. Rydym ni'n gweithio yn galed i sicrhau y bydd pobl sy'n ofalwyr di-dâl yn gallu gwneud eu hunain yn hysbys, fel y gallan nhw gael eu brechu yn y rhestr newydd honno. Rydym ni wedi diwygio'r cyngor ar wefan Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod gofalwyr di-dâl yn gwybod bod grŵp blaenoriaeth 6 yn eu cynnwys nhw. Ac, yn unol â'r hyn y mae'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio wedi ei ddweud wrthym ni, byddwn yn cyrraedd gofalwyr di-dâl pan fydd y pedwar grŵp cyntaf wedi eu cwblhau ac y byddwn yn gallu symud i'r gyfran nesaf.

Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi'r gwaith eithriadol y mae staff Aneurin Bevan ac mewn mannau eraill yn ei wneud gyda'r brechiad. Prif Weinidog, rwyf i wedi cael nifer o etholwyr sydd wedi dod ataf i yn dweud nad yw perthnasau sydd dros 80 oed, neu'n wir, mewn rhai achosion, mewn cartrefi gofal, wedi cael eu brechiad hyd yn hyn yn ardal Aneurin Bevan, ac eto mae ganddyn nhw deulu arall, dros y ffin yn Swydd Gaerloyw, a, phum niwrnod yn ôl, fe wnaethon nhw gyhoeddi yno eu bod nhw eisoes wedi brechu 85 y cant o bobl dros 85 oed. Dywedodd eich Gweinidog iechyd y byddem ni'n cyrraedd hynny yng Nghymru, a gobeithiaf hefyd yn Aneurin Bevan, 70 y cant o leiaf erbyn diwedd y penwythnos sydd newydd fynd heibio. A allwch chi gadarnhau pa un a yw hynny wedi digwydd, ac, os nad yw, pryd y bydd yn digwydd, a phryd y gallwn ni obeithio cyrraedd y lefel 85 y cant a mwy honno o frechu'r grŵp hwnnw yr ydym ni'n ei weld dros y ffin?

Llywydd, ein huchelgais yw brechu pawb—neu gynnig brechiad i bawb yn y 4 grŵp uchaf hynny erbyn canol mis Chwefror. Dyna yw ein huchelgais o hyd. Effeithiwyd ar y nod o gael 70 y cant o'r ystod oedran 80 a hŷn dros y penwythnos gan y tywydd garw. Rydym ni'n gwybod bod nifer fawr o bobl dros 80 oed nad oedden nhw'n teimlo ei bod hi'n ddiogel iddyn nhw adael eu cartrefi yn yr eira ac, yn wir, bore ddoe yn yr amodau oer a rhewllyd iawn, ac nad oedden nhw'n gallu mynd i apwyntiadau mewn clinigau meddygon teulu nac mewn canolfannau brechu torfol. Bydd pob un o'r bobl hynny wedi cael cynnig cyfle arall i gael eu brechu erbyn diwedd dydd Mercher yr wythnos hon. Felly, byddwn ni'n unioni'r rhif hwnnw yn gyflym iawn. Mae ffigurau'r bobl sy'n cael cynnig brechiad ac sy'n gallu manteisio arno yng Nghymru dros yr wythnos diwethaf wedi bod yn rhyfeddol, a dylai hynny roi hyder i ni i gyd y byddwn ni wedi cynnig brechiad i bawb yn y grŵp hwnnw yn unol â'r uchelgais a nodwyd gennym ni ar y cychwyn.

13:40
Meysydd Awyr

2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gefnogaeth Llywodraeth y DU i feysydd awyr ledled y DU? OQ56173

Llywydd, diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn yna. Mae cymorth Llywodraeth y DU wedi'i gyfyngu i feysydd awyr yn Lloegr. Rydym ni'n dal i alw arnyn nhw i gefnogi meysydd awyr rhanbarthol ledled y wlad. Mae effaith drychinebus coronafeirws yn parhau i gael effaith ar y diwydiant, nad yw wedi'i gyfyngu i un rhan o'r DU.

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb. Nid yw meysydd awyr, wrth gwrs, wedi'u datganoli. Ond, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn dewis pryd y mae'n dymuno bod yn Llywodraeth Lloegr neu'n Llywodraeth y DU yn ôl ei mympwy. Prif Weinidog, ers 2013, mae'r Torïaid yng Nghymru wedi methu â chefnogi ein meysydd awyr, yng Nghaerdydd ac Ynys Môn. Pan brynwyd y maes awyr yng Nghaerdydd yn 2013, dyfeisiwyd stori ganddyn nhw ei bod wedi cael ei brynu am bris a oedd yn llawer rhy uchel, a oedd yn gwbl anwir. Fe wnaethon nhw ganiatáu i'w hideoleg gyfrif mwy na swyddi. Nid oedden nhw'n hoffi'r ffaith ei fod mewn perchnogaeth gyhoeddus, ac roedd hynny yn bwysicach na diogelu swyddi'r bobl a oedd yn gweithio yno mewn gwirionedd. Byddai'r maes awyr hwnnw wedi cael ei droi yn ystâd o dai, mae'n siŵr. Byddai'r cynghorwyr, wedyn, wedi gwrthwynebu hynny hefyd. A yw'n wir, Prif Weinidog, nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn fodlon cefnogi'r diwydiant awyrennau yng Nghymru, a dyna sy'n eu gwneud nhw'n anaddas i lywodraethu Cymru, nawr ac yn y dyfodol?

Wel, Llywydd, mae methiant y Blaid Geidwadol yn amlwg yma yng Nghymru ac mae'n cael ei gynorthwyo a'i annog gan eu cymheiriaid yn Llywodraeth y DU hefyd. Ar bum gwahanol achlysur, Llywydd, ers dechrau mis Rhagfyr, ar lefel uwch swyddogion ac yn weinidogol, rydym ni wedi ceisio cael ateb gan Lywodraeth y DU am y gronfa gymorth o £100 miliwn ar gyfer meysydd awyr y maen nhw wedi ei hysbysebu dro ar ôl tro. Nawr, rydym ni'n gwybod y bydd £8 miliwn o hynny yn mynd i Faes Awyr Bryste—maes awyr y mae Llywodraeth y DU ei hun cyfeirio ato, pan fo wedi gwrthod datganoli'r doll teithwyr awyr i ni yma yng Nghymru, ar sail cystadleuaeth â Bryste. Ac eto, maen nhw'n pwmpio miliynau o bunnoedd o arian i mewn i Fryste ond yn gwrthod unrhyw gymorth i feysydd awyr yma yng Nghymru. Gweithredoedd Ceidwadwyr y DU sy'n tanseilio cefnogaeth i'r undeb ar draws y Deyrnas Unedig, a gweithredoedd y Ceidwadwyr Cymreig, yn y ffordd y maen nhw'n methu â chefnogi mentrau fel creu maes awyr cenedlaethol i Gymru, sy'n eu gwneud nhw, fel y dywed y cyn Brif Weinidog, yn anaddas i fod yn rhan o Lywodraeth yma yng Nghymru.

Rwy'n credu y gwnaf i ofyn fy nghwestiwn mewn ffordd ychydig yn wahanol. Roeddwn i'n falch iawn, Prif Weinidog, bod ymrwymiad diweddar Wizz Air i ddechrau gweithredu o'r maes awyr yn arbennig o dda i'r maes awyr—hwb gwirioneddol i'r maes awyr a'r sector hedfan ar adeg anodd iawn, yn amlwg. O'm safbwynt i, rwyf i eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi Maes Awyr Caerdydd er mwyn gallu sicrhau'r gwerth gorau pan fydd llywodraeth yn y dyfodol yn dychwelyd y maes awyr i'r sector preifat. Yn hynny o beth, efallai, Prif Weinidog, y gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar hyn o bryd i gefnogi'r maes awyr yn ei ddatblygiad yn y dyfodol, o ran strategaeth farchnata newydd, a hefyd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am welliannau i gysylltiadau trafnidiaeth â'r maes awyr ac yn arbennig pa fuddsoddiad cyfalaf y gellir ei roi ar waith o amgylch y maes awyr i helpu'r maes awyr i arallgyfeirio a chynhyrchu ffynonellau incwm newydd.

13:45

Wel, Llywydd, mae gweithredoedd Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn canolbwyntio yn syml ar helpu'r maes awyr i oroesi drwy effaith eithriadol coronafeirws ar y diwydiant awyrennau. Rydym ni wedi darparu £4.5 miliwn ychwanegol yn uniongyrchol mewn cyfleusterau benthyca i'r maes awyr, yr ydym ni'n gallu ei wneud. Rydym ni wedi cyflwyno hysbysiad cymorth gwladwriaethol i Gomisiwn yr UE am gymorth y gellir ei hawlio drwy'r Undeb Ewropeaidd tra'r oeddem ni'n dal yn aelodau ohono. Yr hyn y mae angen i ni ei weld yw cymorth gan Lywodraeth y DU—cymorth y mae'n ymddangos ei bod yn barod i'w ddarparu i feysydd awyr yn Lloegr, cymorth y mae'n ei wrthod i feysydd awyr yma yng Nghymru.

Rydym ni angen gwahanol ddull gweithredu gan Lywodraeth y DU. Pam na wnaiff hyd yn oed yn ystyried coridorau awyr a ariennir yn gyhoeddus rhwng Maes Awyr Caerdydd a mannau eraill yn y DU ac eithrio Llundain—llwybrau y byddai'n rhaid i ni dalu amdanyn nhw ond yr ydym ni'n credu y byddent yn ganolog i lwyddiant y maes awyr? Pam mae Llywodraeth y DU yn parhau i gymryd gwahanol agwedd i wledydd eraill yn Ewrop o ran cymorth a ganiateir ar gyfer costau diogelwch—costau diogelwch sy'n cael eu hysgwyddo yn fwy llym gan feysydd awyr rhanbarthol na meysydd awyr mawr yma yn y Deyrnas Unedig?

Mae sawl ffordd y gallai Llywodraeth y DU chwarae ei rhan i gynorthwyo'r maes awyr yma yng Nghymru i oroesi storm enfawr coronafeirws. Rydym ni'n gwneud pob ymdrech i gynorthwyo'r maes awyr hwnnw gan ein bod ni'n gwybod ei bod hi'n hanfodol cael maes awyr cenedlaethol i gefnogi diwydiant yma yng Nghymru, i gefnogi teithwyr yma yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys, fel y dywed Russell George, gwelliannau i seilwaith o amgylch y maes awyr, yn ogystal ag yn y maes awyr ei hun. Byddai'n ddefnyddiol dros ben pe byddai'r ymdrechion yr ydym ni'n eu gwneud yn cael eu cyfateb gan y rhai y mae Llywodraeth y DU yn eu gwrthod i ni ar hyn o bryd.

A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi mai'r ffordd orau y gallai Llywodraethau gynorthwyo meysydd awyr ledled y Deyrnas Unedig ac, yn wir—[Anghlywadwy.] —yw diddymu'r doll teithwyr awyr, sy'n dreth ar hedfan ac yn anghymhelliad enfawr i bobl ddefnyddio meysydd awyr? Mae'n ychwanegu £78 at bob tocyn teithiau byr ac yn y pen draw gall fod—[Anghlywadwy.]—o gyfanswm pris tocyn. Ond byddai hyn, wrth gwrs, yn gwrthdaro â pholisi Llywodraeth Cymru o frolio ei rhinweddau o ran polisi amgylcheddol, na all Cymru wneud unrhyw wahaniaeth sylweddol iddo o safbwynt byd-eang. Ond mae lleihau cost teithio awyr yn gwbl hanfodol i oroesiad cwmnïau awyrennau ac, yn wir, ffyniant meysydd awyr.

Wel, Llywydd, rwy'n anghytuno â'r Aelod, wrth gwrs, yn y ffordd ddidaro y mae'n bychanu unrhyw gyfrifoldeb y gallai fod gennym ni yng Nghymru o ran cyfrannu at y camau a fydd, gyda'i gilydd, yn gwneud gwahaniaeth i gynhesu byd-eang. Rydym ni'n benderfynol yma yng Nghymru y byddwn ni'n chwarae ein rhan. Nid oes a wnelo hynny ddim â brolio rhinweddau—dim ond mater o gydnabod ein cyfrifoldeb ydyw. Byddwn yn cyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw, yn union fel y mae'r Aelod yn ceisio ei osgoi yn y cwestiwn y mae wedi ei ofyn i mi.

Bydd yn gwybod ein bod ni wedi dadlau ers tro byd dros ddatganoli tollau teithio awyr. Cawsom ni ein cefnogi yn hynny o beth gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ganddyn nhw ar 11 Mehefin 2019, pan roedd y Gweinidog iau presennol yn Swyddfa Cymru yn cadeirio'r pwyllgor dethol hwnnw. Mae'n bryd—a dweud y gwir, Llywydd, mae'n hen bryd i Lywodraeth y DU ganiatáu i'r Senedd hon gael rheolaeth dros y dreth honno, yn union fel y mae'n caniatáu i Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon wneud yr un peth. Yna gallem ni gael dadl briodol yn y fan yma gyda'r Aelod ynglŷn â'r ffordd y gellid defnyddio'r grym hwnnw yn effeithiol i gynorthwyo'r maes awyr, heb danseilio'r ymdrechion y mae angen i ni eu gwneud i chwarae ein rhan i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Medi 2019 gofynnais i chi nodi cyfrifoldebau disgwyliedig arweinydd newydd yr adolygiad tlodi plant. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y canfyddiadau allweddol yn deillio o'u gwaith?

Wel, Llywydd, mae llawer iawn wedi digwydd ers i'r Aelod ofyn y cwestiwn hwnnw i mi, yn enwedig ymyrraeth argyfwng pandemig byd-eang. Yn yr argyfwng, mae'r Cabinet cyfan wedi cymryd diddordeb uniongyrchol mewn ymdrin â thlodi plant yma yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y camau ymarferol hynny y gallwn ni eu cymryd sy'n gadael arian ym mhocedi teuluoedd a fyddai fel arall yn cael eu tynnu oddi wrthyn nhw neu i ychwanegu arian at eu hincwm wythnosol. Mae hwnnw yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth gyfan. Fe'i harweinir gan fy nghyd-Weinidog Julie James, ond ar draws y Llywodraeth gyfan rydym ni wedi neilltuo'r cyfrifoldebau sydd gennym ni a'r cyllidebau sydd gennym ni i gynnig y cymorth ymarferol y gallwn ni ei ddarparu yma yng Nghymru.

13:50

Mae sefydliadau sy'n gweithio yn y maes hwn yng Nghymru wedi galw arnoch chi i gyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad tlodi plant, ac mae'n destun gofid mai dim ond nawr y maen nhw'n cael eu cyhoeddi o ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth. Fodd bynnag, maen nhw'n ddadlennol iawn. Nid yn unig y maen nhw'n groes i bolisi eich Llywodraeth eich hun, maen nhw'n cyd-fynd â'r hyn yr ydym ni ym Mhlaid Cymru ac eraill wedi bod yn ei argymell. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw, a dyfynnaf, nad yw llawer o'r rhai sydd mewn angen yn gymwys ar hyn o bryd i gael prydau ysgol am ddim, a'i ganfyddiad canolog, fel y mae'n mynd ymlaen i'w ddweud, yw:

Yr awgrym mwyaf cyffredin oedd yr angen i ehangu cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i ystod ehangach o blant a phobl ifanc.

Prif Weinidog, pam ydych chi'n dal i wrthsefyll yr argymhelliad hwn?

Wel, dydyn ni ddim yn gwrthsefyll yr argymhelliad. Llywydd, bydd y newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud i gymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn golygu y bydd miloedd yn fwy o blant yng Nghymru yn gallu manteisio ar brydau ysgol am ddim na'r hyn a oedd yn wir o dan y drefn gymhwysedd flaenorol. Felly, mae'n gwbl anwir i ddweud nad ydym ni wedi cymryd i ystyriaeth yr hyn a ddyfynnwyd yn gwbl deg gan yr Aelod fel rhywbeth nad yw'n bolisi gan y Llywodraeth, ond ein barn ar yr awgrymiadau a wnaed i ni yn ystod yr adolygiad. Nawr, daeth yr adolygiad i ben cyn i'r pandemig byd-eang ddechrau. Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu ar sicrhau'r incwm mwyaf posibl ar gyfer tlodi plant. Rhan o'r cynllun hwnnw a wnaeth ein harwain ni i fuddsoddi £52 miliwn ychwanegol mewn prydau ysgol am ddim yn y flwyddyn ariannol gyfredol i sicrhau bod prydau ysgol am ddim yn parhau i gael eu darparu yn ystod gwyliau ysgol yma yng Nghymru. Mae'n ymateb uniongyrchol iawn i'r sylwadau a gasglwyd yn ystod yr adolygiad.

Wrth gwrs, mae'r camau sydd wedi eu cymryd nawr yn ystod y pandemig i'w croesawu, ond mae'r comisiynydd plant wedi gwneud y pwynt bod angen i ni weld yr adolygiad, sy'n edrych ar yr hyn y gellir ei wneud y tu hwnt i'r uniongyrchol, yn cael ei droi yn gynllun gweithredu pendant. Mae llawer o bobl sy'n gweithio yn y maes hwn yn tynnu sylw at y ffaith mai Cymru sydd â'r ddarpariaeth leiaf hael o ran prydau ysgol am ddim ledled y DU. Mae polisi eich Llywodraeth, fel y nododd y grŵp gweithredu ar dlodi plant, yn golygu bod 70,000 o blant sy'n byw islaw'r llinell dlodi yng Nghymru wedi'u hallgáu ar hyn o bryd, a dyna pam yr ydym ni ym Mhlaid Cymru, ynghyd â llawer o'r rheini a ymatebodd i'r adolygiad hwn—elusennau, pobl ifanc, awdurdodau lleol—wedi dadlau dros ymestyn prydau ysgol am ddim ar unwaith i unrhyw blentyn mewn unrhyw deulu sy'n cael credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol. Rydym ni'n gwybod eich bod chi wedi cyfrifo costau hynny, Prif Weinidog, oherwydd dywedasoch wrthym ni yr wythnos diwethaf, ond beth yw'r gost hirdymor o ganiatáu i dlodi plant barhau? Bydd plant Cymru yn flaenoriaeth yn ein maniffesto ni—a allwch chithau ddweud hynny hefyd, Prif Weinidog?

Llywydd, mae'n amlwg yn hurt i awgrymu mai ein dull o ymdrin â phrydau ysgol am ddim yw'r lleiaf hael yn y Deyrnas Unedig. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf un yn y Deyrnas Unedig i sicrhau prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol. Rydym ni wedi gweld y ffordd y cafodd Llywodraeth y DU ei llusgo yn cicio ac yn sgrechian i'r un sefyllfa o ganlyniad i ymgyrchoedd, ymgyrchoedd yn nodi'r camau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd yn ôl yn yr hydref. Rwyf i wedi cael cyfle i drafod yn uniongyrchol gyda'r comisiynydd plant yr adroddiadau y mae hi ei hun wedi eu darparu ar, er enghraifft, costau'r diwrnod ysgol, gan gynnwys prydau ysgol am ddim. Mae ein cynllun gweithredu ar sicrhau'r incwm mwyaf posibl yn tynnu'n helaeth iawn ar argymhellion y comisiynydd. Dyna pam yr ydym ni wedi dyblu a dyblu eto nifer yr adegau yn ystod gyrfa ysgol person ifanc y gall plentyn gael yr hyn a arferai gael ei alw yn grant gwisg ysgol ac y gellir ei ddefnyddio bellach, wrth gwrs, at amrywiaeth lawer ehangach o ddibenion. Dyna'r camau ymarferol y gallwn ni eu cymryd, a phan fo'r Llywodraeth hon yn dweud y byddwn ni'n gwneud rhywbeth, byddwn ni'n gwneud yn siŵr ei fod yn ymarferol, y bod modd ei gyflawni a'i fod yn fforddiadwy, ac mae'r rheini'n rhwymedigaethau sydd, yn fy marn i, yn disgyn ar unrhyw blaid sy'n ceisio bod yn rhan o Lywodraeth. Edrychaf ymlaen at weld ei blaid ef yn gallu esbonio nid yn unig sut y maen nhw'n mynd i ddarparu prydau ysgol am ddim i unrhyw blentyn mewn unrhyw deulu sy'n cael credyd cynhwysol, ond ochr yn ochr â phopeth arall y mae ei blaid yn honni ei bod yn gallu ei ddarparu. Yna bydd pobl yn gwybod eu bod nhw'n cael cynnig cyfrifol, nid cynnig sydd wedi'i gynllunio dim ond i ddenu pennawd.

13:55

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roedd llawer o bwyslais yr wythnos diwethaf ar y targed o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed. Clywais eich ymateb i gwestiwn cynharach y prynhawn yma, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dros ben ein bod ni'n gwybod yn eglur pa un a ydych chi wedi cyflawni'r targed hwnnw ai peidio. Dywedasoch yr wythnos diwethaf y bydd gennych chi wybodaeth o ddydd i ddydd yn eich meddiant a allai roi'r darlun diweddaraf i chi. Nid oedd y Gweinidog iechyd yn gallu cadarnhau hynny ddoe yn y gynhadledd i'r wasg, ond a allwch chi roi ymateb syml i ni heddiw, os gwelwch yn dda? A ydych chi wedi cyflawni' targed o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed yng Nghymru?

Wel, Llywydd, rwyf i eisoes wedi rhoi ateb i'r cwestiwn hwnnw y prynhawn yma. Gwn fod llawer o bwyslais yr wythnos diwethaf ar bethau eraill hefyd, ond mae angen i'r Aelod wrando ac yna byddai'n gwybod bod ei gwestiwn wedi cael ei ateb eisoes. Mae'r data yn dal i ddod i mewn, ond mae'r ffigurau sydd gennym ni yn dangos bod 72 y cant o bobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal eisoes wedi cael eu brechu. Nid dim ond cynnig brechiad yw hynny—eisoes wedi'u brechu yw hynny. Ni fyddwn ni'n cyrraedd y 70 y cant ar gyfer pobl dros 80 oed oherwydd yr ymyriad i'r rhaglen frechu a ddigwyddodd ddydd Sul a bore dydd Llun. Nid wyf i'n fodlon gwneud pobl dros 80 oed i deimlo dan bwysau i ddod allan i gael eu brechu pan fyddan nhw eu hunain yn penderfynu nad yw'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny. Bydd pob un o'r bobl hynny wedi cael cynnig cyfle arall i gael eu brechu erbyn diwedd dydd Mercher. Rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r hyn y dywedasom y byddem ni'n ei gyflawni, sef gwneud cynnig o frechiad i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf erbyn canol mis Chwefror.

Dydych chi ddim wedi cyflawni eich ymrwymiad, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, dywedasoch yn hollol eglur, a dywedodd eich Gweinidog iechyd yn hollol eglur—gwybodaeth a gynigiwyd gennych chi fel Llywodraeth oedd honno—y byddai pawb dros 80 oed, 70 y cant o'r garfan honno, yn cael eu brechu erbyn diwedd yr wythnos. Clywais yn uchel ac yn eglur beth oedd yr ymateb, ond ni wnaethoch chi roi ateb eglur. Rydych chi wedi egluro hynny—rydych chi wedi methu eich targed. Mae hynny'n syml; mae pobl yn deall hynny. Ddoe, er enghraifft, gallwn ddweud bod Llywodraeth y DU wedi brechu pedwar o bob pump o bobl 80 oed—80 y cant. Maen nhw wedi cyflawni eu targed. Yr hyn yr ydym ni'n ei weld yn gyson yw targedau yn cael eu methu gan eich Llywodraeth chi, ac rydym ni'n gweld loteri cod post yn cychwyn yma yng Nghymru. Ddydd Gwener diwethaf, er enghraifft, roedd meddygfa yn y Barri a oedd â 350 o bobl dros 80 oed wedi'u cofrestru yno, ond dim ond 50 o unigolion oedd wedi cael cynnig y brechlyn ac wedi cael y pigiadau. Mae hynny yn dangos yn eglur bod gwahaniaeth o ran rhoi y brechlyn ac o ran i ba raddau y mae'r brechlyn ar gael mewn rhai ardaloedd, ac mewn ardaloedd eraill roedd y Gweinidog iechyd yn sôn am bobl dros 70 oed yn cael eu galw i gael y brechiad. A allwch chi gadarnhau pa fesurau yr ydych chi'n eu cymryd i ddal i fyny â chyflwyniad y brechlyn ac, yn y pen draw, i wneud yn siŵr nad oes loteri cod post yn dod i'r amlwg ledled Cymru?

Wel, mewn gwirionedd, Llywydd, bydd yn rhaid i'r Aelod wneud yn well na hynna. Dyma fe eto yn ei gyfrifoldebau y mae wedi ailafael ynddynt. Nid oes loteri cod post yma yng Nghymru; mae ymdrech enfawr ym mhob un rhan o Gymru, ar draws y gwasanaeth iechyd cyfan, i frechu cynifer o bobl â phosibl cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl. Mae'r ffigurau o'r wythnos diwethaf yn dangos pa mor llwyddiannus y bu'r ymdrech honno. Yn hytrach na beirniadu o'r ymylon, byddai'r bobl hynny yn gwerthfawrogi rhyw fymryn yn unig o gefnogaeth gan yr Aelod yn hytrach na thanseilio eu hymdrechion, sef ei nodwedd allweddol, wrth gwrs, drwy gydol yr argyfwng coronafeirws.

Wel, unwaith eto, nid yw'r Prif Weinidog yn edrych ar y ffeithiau sydd ger ei fron. Mae popeth yr wyf i wedi ei ddyfynnu iddo heddiw yn ffeithiau—am ymrwymiad y Llywodraeth ei hun i frechu oddeutu 70 y cant o bobl dros 80 oed erbyn diwedd yr wythnos; y ffaith fod y feddygfa honno yn y Barri wedi nodi bod 350 o bobl dros 80 wedi'u cofrestru â nhw a dim ond 50 sydd wedi cael y pigiadau; y gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr—mae 50,000 yn fwy o bobl wedi'u brechu yn Lloegr, fel cyfran o'r boblogaeth, nag yng Nghymru erbyn hyn. Mae hynny yn cyfateb i dref y Barri. Mae angen lefel o frys o ran cyflwyno'r brechlyn hwn. Rydych chi eich hun ar y cofnod yn sôn nad yw'n sbrint. Mae pobl Cymru eisiau gwybod bod y cyflymder a'r cyflwyniad yn dal i fyny â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a phan fyddwch chi'n pennu targed i'ch hunan, mae'n rhaid i chi gyflawni'r targed. Rwyf i wedi ymdrin â ffeithiau heddiw; rydych chi wedi ceisio tynnu sylw oddi wrth y rheini yn gyson, Prif Weinidog. Byddai'n llawer gwell pe byddech chi, pan eich bod chi wedi gwneud ymrwymiad, yn glynu ato. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i gau'r bwlch poblogaeth hwnnw sydd wedi agor gyda Lloegr o 50,000 o bobl? Fel y dywedais, mae hynny yn dref o faint y Barri yn cael ei brechu, ac mae hynny yn hollbwysig, Prif Weinidog.

14:00

Gadewch i mi roi ychydig o ffeithiau i'r Aelod. Ddydd Mawrth yr wythnos diwethaf, roeddem ni wedi llwyddo i frechu 162,000 o bobl yng Nghymru. Y dydd Mawrth yma, mae hynny wedi codi i 290,000 o bobl. Dyna'r gyfradd gyflymaf o gynnydd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Ddydd Llun diwethaf, fe wnaethom ni frechu 10,000 o bobl; y dydd Llun yma, fe wnaethom ni frechu bron i 20,000 o bobl. Dyna gyflymder y cyflwyniad yma yng Nghymru—cyflymder sydd ar frys, cyflymder sy'n ymroddedig, cyflymder sy'n llwyddo. Efallai y bydd ef eisiau ei fychanu. Mae'n arwain plaid Geidwadol yng Nghymru sydd wedi dychwelyd i'w theip pedwaredd ganrif ar bymtheg: ar gyfer Cymru, gweler Lloegr. Nid yw'n ddigon da, nid yw'n dderbyniol a bydd yn rhaid iddo ef wneud yn well na hynny.

Busnesau Hunanarlwyo

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau hunanarlwyo yng Ngogledd Cymru yn ystod y pandemig? OQ56166

Llywydd, ddydd Gwener 22 Ionawr, cafodd y pecyn cymorth i fusnesau sy'n cael eu heffeithio gan gyfyngiadau lefel 4 ei gynyddu ymhellach drwy roi £200 miliwn ychwanegol, gan godi ei gyfanswm i £650 miliwn. Bydd busnesau hunanarlwyo yn gymwys i gael elfennau o'r cymorth hwn, cyn belled â'u bod yn bodloni'r meini prawf angenrheidiol.

Diolch. Wel, mae un cyngor yng ngogledd Cymru yn parhau i fynnu bod busnesau hunanarlwyo cyfreithlon nad ydyn nhw'n bodloni pob un o dri maen prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer talu grantiau ardrethi annomestig busnes a chyfyngiadau symud i fusnesau gosod ar gyfer gwyliau yn anghymwys, gan adael sawl un mewn trafferthion, gan ddweud wrthyf i fod eu sefyllfa yn seiliedig ar sgwrs ffôn gyda swyddog o Lywodraeth Cymru, er eu bod nhw'n cadarnhau nad oes gan y cyngor gofnod ysgrifenedig ffurfiol o'r sgwrs honno ac nad oedd unrhyw ohebiaeth ddilynol ychwaith i gadarnhau'r canlyniad. Fodd bynnag, rwyf i wedi cael cadarnhad gan dri Gweinidog Llywodraeth Cymru a phob un o'r pum cyngor sir arall yn y gogledd bod gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i dalu'r grantiau hyn i fusnesau hunanarlwyo nad ydyn nhw'n gallu bodloni'r tri maen prawf cymhwyso, ond sy'n gallu profi eu bod nhw'n fusnes cyfreithlon. Er enghraifft, cadarnhaodd Sir Ddinbych eu bod nhw'n talu'r grantiau allan yn yr achosion hyn, a chadarnhaodd swyddogion o Lywodraeth Cymru bod eu safbwynt yn ddilys a'u bod nhw'n iawn wrth ddyfarnu'r grantiau i'r busnesau hyn. A wnewch chi gofnodi felly bod gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i dalu'r grantiau hyn i fusnesau hunanarlwyo nad ydyn nhw yn gallu bodloni'r tri maen prawf cymhwyso, ond sy'n gallu profi eu bod nhw'n fusnes cyfreithlon i'w cyngor, a chadarnhau pa un a oes cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael ar gyfer ôl-daliadau yn unol â hynny?

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod yr Aelod wedi cyflwyno safbwynt Llywodraeth Cymru yn gywir: rydym ni wedi rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol gymhwyso'r meini prawf a nodwyd gennym ni o dan yr amgylchiadau penodol y maen nhw'n eu hwynebu. Bydd disgresiwn yn golygu bod rhai awdurdodau lleol yn mynd ati i wneud hynny mewn ffyrdd nad yw eraill yn ei wneud. Dyna natur disgresiwn. Mae'r Aelod wedi cyflwyno safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwnnw yn gywir.

Hawliau Gweithwyr y DU

4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau ar gyfer adolygiad ar ôl Brexit o hawliau gweithwyr y DU? OQ56170

Llywydd, mae unrhyw erydiad o hawliau gweithwyr yn annerbyniol, yn ddiangen ac yn niweidiol. Nid yw ras i'r gwaelod er budd gweithwyr, cyflogwyr na'r economi ehangach. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gadw ei haddewid i ddiogelu hawliau gweithwyr yn dilyn Brexit.

Prif Weinidog, diolch am eich ateb. Codais hyn, fel y gwyddoch, yr wythnos diwethaf yn ystod cwestiynau, ond yn ystod yr wythnos ddiwethaf, er gwaethaf y gwadu cychwynnol, rydym ni bellach wedi gweld Ysgrifennydd busnes y DU yn cadarnhau cynigion ar gyfer coelcerth o hawliau a thelerau ac amodau gweithwyr y gweithiwyd yn galed i'w hennill, er gwaethaf addewidion mynych gan Brif Weinidog y DU na fyddai hyn yn digwydd wrth adael yr UE. Mae'r cynigion hyn yn mynd i adael llawer o weithwyr, gan gynnwys gweithwyr allweddol ledled Cymru, gannoedd o bunnoedd ar eu colled ac yn gweithio oriau hwy am lai mewn gwaith anniogel. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi y gallai pobl sy'n gweithio sydd bellach yn wynebu'r posibilrwydd o weithio yn hwy am lai, gan golli eu hawliau y gweithiwyd yn galed i'w hennill, deimlo eu bod nhw wedi cael eu twyllo gan y Ceidwadwyr a'u haddewidion o ddyfodol newydd disglair ar ôl i ni adael yr UE?

14:05

Wel, Llywydd, roedd cwestiwn Huw Irranca-Davies yr wythnos diwethaf yn rhagweledol, oherwydd rhoddodd ei fys ar y mater hwn cyn i adroddiadau yn y wasg ymddangos o gynlluniau sy'n digwydd y tu mewn i Lywodraeth y DU. Dyma sut y cawsant eu hadrodd:

Byddai amddiffyniadau gweithwyr sydd wedi'u hymgorffori yng nghyfraith yr UE—gan gynnwys yr wythnos 48 awr—yn cael eu dileu'n llwyr o dan gynlluniau sy'n cael eu llunio gan y llywodraeth yn rhan o ailwampio marchnadoedd llafur y DU ar ôl Brexit.

Mae'r pecyn o fesurau dadreoleiddio yn cael ei lunio gan adran fusnes y DU gyda chymeradwyaeth Downing Street...gofynnwyd am farn arweinyddion busnes dethol ar y cynllun.

Nawr, ai'r Morning Star sy'n adrodd beth sy'n digwydd, Llywydd? Nage, y Financial Times sy'n dweud wrthym ni beth sy'n digwydd y tu mewn i Lywodraeth y DU. Mae'n warthus. Mae'n gwbl warthus bod Llywodraeth a wnaeth addewidion o'r fath i bobl y byddai eu hawliau yn cael eu diogelu pe bydden nhw'n pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn llunio, o fewn wythnosau i hynny ddigwydd, cynlluniau cyfrinachol i gael coelcerth o'r amddiffyniadau hynny.

Yn ystod y pandemig hwn, cadwyd ein gwlad yn rhedeg gan fyddin o weithwyr allweddol agored i niwed, gan gynnwys gweithwyr asiantaeth, y mae eu hawliau cyfyngedig yn aml iawn yn deillio o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw dileu'r hawliau hynny yn unrhyw ffordd o gwbl o'u gwobrwyo, ac ni fyddan nhw'n anghofio—ni fyddan nhw'n anghofio yr hyn sydd gan y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru ar y gweill iddyn nhw: fel y dywed Huw Irranca-Davies, dyfodol lle bydd gofyn iddyn nhw weithio yn hwy am lai. Ond rydym ni'n gwybod beth mae'r Blaid Geidwadol yn ei feddwl ohonyn nhw, Llywydd, onid ydym ni? Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol presennol yn yr adran fusnes yn gyfrannwr at y llyfr drwg-enwog hwnnw Britannia Unchained o lai na degawd yn ôl, pan ddisgrifiodd aelodau Ceidwadol y Cabinet weithwyr Prydain

ymhlith y diogynnod gwaethaf yn y byd.

Nawr, maen nhw'n gallu rhoi'r safbwynt ideolegol hwnnw o'r byd ar waith.

Prif Weinidog, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn eglur iawn nad oedd ein safonau uchel ar amddiffyniadau i weithwyr erioed yn ddibynnol ar ein haelodaeth o'r UE. Nawr, er y gallwn ni i gyd fod yn falch bod gan y DU un o'r hanesion gorau o ran hawliau gweithwyr yn y byd, mae'n wir y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy. Beth am gymryd, er enghraifft, eich cynllun cymorth hunanynysu, y'i bwriedir ar gyfer y rhai ar incwm isel nad ydyn nhw'n gallu gweithio gartref ac y mae'n rhaid iddyn nhw hunanynysu, ac eto rydych chi'n methu â gwneud taliadau i bobl Cymru y dywedwyd wrthyn nhw am ynysu gan ap olrhain y GIG. Felly, pam na wnewch chi esbonio heddiw pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau y bydd gweithwyr sy'n cael eu hysbysu gan ap y GIG i hunanynysu yn cael y taliad o £500, fel y maen nhw eisoes yn ei wneud yn Lloegr o dan Lywodraeth Geidwadol y DU? Diolch.

Llywydd, prin y gellid disgrifio ymgais yr Aelod i amddiffyn hanes Llywodraeth y DU yn y mater hwn fel tila hyd yn oed. Mae'n siŵr ei bod hi wedi cael ei briffio am y ffaith bod aelod ar ôl aelod o feinciau cefn y Torïaid, yn nadl Tŷ'r Cyffredin ar y mater hwn ddoe, wedi ciwio i ganmol manteision yr hyn y maen nhw'n ei alw yn hyblygrwydd a choelcerth o fiwrocratiaeth, ac rydym ni'n gwybod beth mae hynny yn ei olygu. Rydym ni'n gwybod bod hynny, yn nwylo'r Blaid Geidwadol, yn golygu coelcerth o hawliau gweithwyr, hawliau y gweithiwyd yn galed i'w hennill, y mae ei phlaid hi, wrth gwrs, wedi eu gwrthwynebu ar bob cyfle posibl.

Cyn belled ag y mae'r cynllun cymorth hunanynysu yn y cwestiwn, derbyniwyd oddeutu 20,000 o geisiadau, a chymeradwywyd ychydig o dan 10,000. Mae dros 6,000 o bobl eisoes wedi derbyn taliadau. Mae hynny'n dod i gyfanswm o dros £3 miliwn. Adran iechyd Lloegr sy'n gyfrifol am ap y GIG. Mae'n rhaid iddo helpu i wneud yn siŵr bod yr ap y mae'n ei ddarparu yn addas i'w ddefnyddio yng Nghymru. Yn y cyfamser, byddwn yn dod o hyd i ateb fel nad yw pobl sy'n cael eu hysbysu drwy'r ap ar eu colled o ran taliadau cymorth hunanynysu yma yng Nghymru, oherwydd byddwn ni'n cymryd y cyfrifoldeb hwnnw, hyd yn oed tra bod ei phlaid hi, sy'n gyfrifol mewn gwirionedd am y broblem y mae hi wedi ei nodi, yn methu â gwneud hynny.

14:10

Prif Weinidog, codi bwganod eto. Dyna'n union yr wyf i'n ei ddisgwyl. Roedd  yr ateb a roesoch y math o ateb yr wyf i bob amser yn ei ddisgwyl gennych chi—dinistr, digalondid a mwy o ofn. Mewn sawl maes o hawliau gweithwyr, fel y dywedodd Janet yn briodol, gan gynnwys lwfansau mamolaeth a gwyliau, mae gweithwyr y DU wedi mwynhau ac yn dal i fwynhau amodau llawer gwell na'r rhai a orfodir gan yr UE, ac mae Gweinidog perthnasol Llywodraeth y DU wedi addo na fydd ras i'r gwaelod. Felly, Prif Weinidog, gadewch i ni wrthdroi hyn: beth hoffech chi weld Llywodraeth y DU yn ei wneud yn y maes hwn a fyddai er lles gweithwyr yng Nghymru? Diolch.

Wel, Llywydd, gall yr Aelod geisio diystyru pryderon pobl fel codi bwganod. Darllenais iddi nid fy ngeiriau i, ond yr adroddiad a gyhoeddwyd am fwriadau'r Llywodraeth hon gan y Financial Times, a gadarnhawyd gan Kwasi Kwarteng wrth siarad â Phwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Tŷ'r Cyffredin dim ond ddydd Mawrth yr wythnos diwethaf, pan gadarnhaodd bod yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal y tu mewn i'r Llywodraeth. Mae Rhif 10 wedi gwrthod diystyru'r hyn a ddywedodd y Financial Times am ddiwedd yr wythnos waith o ddim mwy na 48 awr, am newidiadau i reolau am seibiannau yn y gwaith, ynghylch dileu tâl goramser wrth gyfrifo hawl i dâl gwyliau. Mae'r rhain yn ymosodiadau uniongyrchol, yn enwedig ar fywydau gwaith y rhai sydd â'r lleiaf o amddiffyniad eisoes. Bydd y Blaid Lafur bob amser yn parhau i sefyll dros y bobl hynny, i wneud yn siŵr bod eu hawliau yn cael eu mynegi a'u deall yn iawn, hyd yn oed wrth iddi hi esgus nad yw'r pethau hynny yn bwysig o gwbl.

Rhaglen Cyflwyno Brechiadau yn Arfon

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y rhaglen cyflwyno brechiadau yn erbyn COVID-19 yn Arfon? OQ56197

Llywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Ar 11 Ionawr, fe wnaethom gyhoeddi ein strategaeth frechu genedlaethol, gyda cherrig milltir a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni. Yn Arfon, mae pob un o’r practisau gofal sylfaenol yn barod i roi’r brechlyn. Mae un o’r tair canolfan brechu torfol yn y gogledd wedi’i lleoli ym Mangor.

Diolch ichi. Roedd hi'n fraint cael mynd â mam, sy'n 92 oed, am ei brechiad cyntaf i'r digwyddiad mawr ym Mhen Llŷn dros y Sul. O ganlyniad i ymdrechion gwych arweinwyr meddygol lleol ac er gwaethaf llu o rwystrau biwrocrataidd ac eira, fe lwyddwyd i frechu 1,200 o bobl. Mae meddygon teulu a gweithwyr iechyd yn gwneud gwaith arwrol ym mhob cwr o Gymru, a mawr ydy'n diolch ni iddyn nhw.

Gaf i gyfeirio'ch Llywodraeth chi at un broblem sylweddol sydd angen ei datrys? Dydy systemau technoleg gwybodaeth y gwahanol haenau ddim yn siarad efo'i gilydd, ac mae hyn yn creu dryswch. Er enghraifft, dydy meddygon teulu ddim yn gallu gweld pa rai o'u cleifion nhw sydd wedi cael apwyntiad brechu i un o'r canolfannau brechu mawr, ac mi all hynny olygu bod rhai pobl yn cael dau apwyntiad a bod brechlyn gwerthfawr yn cael ei wastraffu. Un enghraifft ydy hynny. Fedrwch chi ffeindio a oes yna ddatrysiad cyflym i'r problemau IT yma? Maen nhw wedi dod i'm sylw i yn Arfon, ond maen nhw'n debygol o fod yn gyffredin ar draws Cymru.

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiynau ychwanegol. Mae'n grêt i glywed bod ei mam hi wedi cael ei brechu, a dwi wedi bod yn darllen dros y penwythnos popeth sydd wedi bod yn digwydd yn Arfon ac ar y Llŷn. Dwi'n mynd i gyfeirio mewn munud at rywbeth dwi wedi ei weld gan Dr Eilir Hughes, y person sydd wedi bod yn arwain yr ymdrech ar y Llŷn. Ond, jest i ddweud ar y system technoleg gwybodaeth, mae pethau yn digwydd mor gyflym ac mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn trio datrys y problemau sydd wedi digwydd. Maen nhw'n digwydd achos mae pob un yn gwneud eu gorau glas i wneud popeth o fewn eu gallu i roi brechiad i bobl ledled Cymru. Mae pethau yn y gogledd wedi arwain yr ymdrech yna hefyd, so dwi'n gallu dweud wrth Siân Gwenllian ein bod yn ymwybodol o'r problemau, ac mae pobl yn gweithio'n galed i drio gwella pethau. Dwi jest eisiau defnyddio un o'r brawddegau a welais i gan Dr Eilir Hughes ar ddiwedd y penwythnos. Mae hi yn Saesneg, Llywydd, a dwi jest yn mynd i'w ddarllen e mas, achos mae'n dangos yr ysbryd a'r ymdrech y mae pobl yn ei wneud.

Dr Eilir Hughes oedd hwn, un o'r ymarferwyr y cyfeiriodd Siân Gwenllian atyn nhw, sydd wedi gwneud cymaint i ddarparu gwasanaethau arloesol yn y rhan honno o Gymru. Dyma a ddywedwyd: 'Roedd gweld y llawenydd yr oedd pobl yn ei deimlo o dderbyn y brechlyn yn brofiad gwirioneddol anhygoel a gostyngedig i'w weld. Mae gen i barch anhygoel at bawb a wnaeth i hyn ddigwydd a llwyddo. Tîm o 50 o bobl yn darparu dros 1,000 o frechlynnau mewn dau ddiwrnod; gwaith gwych gan y staff gweinyddol, yr heddlu, staff y cyngor a chymaint o rai eraill yn goresgyn eira annisgwyl ac ni wastraffwyd yr un dos. Pen Llŷn ar ei orau.'

14:15
Tlodi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i leihau tlodi yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ56198

Diolchaf i Helen Mary Jones am hynna. Rydym ni'n canolbwyntio ar y camau hynny sy'n ychwanegu at yr arian ym mhocedi'r rhai sydd ei angen fwyaf neu'n ei adael yn y pocedi hynny. Mae hynny yn cynnwys cynorthwyo dinasyddion Cymru i sicrhau hawl i fudd-daliadau DU gyfan. Cynorthwyodd ein gwasanaethau cynghori sengl bobl yn y canolbarth a'r gorllewin i hawlio dros £4.7 miliwn mewn incwm budd-daliadau lles ychwanegol y llynedd yn unig.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Bydd yn ymwybodol o'r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym mis Ebrill 2019 ac, yn wir, adroddiad un o bwyllgorau'r Senedd hon. Amcangyfrifodd Canolfan Llywodraethiant Cymru pe gallem ni sicrhau datganoli budd-daliadau lles ar yr un model ag sydd gan yr Alban, y gallem ni roi hwb o £200 miliwn y flwyddyn i gyllideb Cymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai o gymorth mawr i unrhyw ymdrechion gan Lywodraeth Cymru i leihau tlodi pe gallem ni reoli'r elfennau hynny o'r system fudd-daliadau yn y fan yma? A yw e'n deall pam mae fy etholwyr yn rhan dlotaf fy rhanbarth—trefi fel Llanelli—yn ei chael hi'n anodd deall pam na wnaiff Llywodraeth Cymru geisio cael y grym hwn, er mwyn gallu cymryd y camau ymarferol hynny y mae'r Prif Weinidog yn cyfeirio atyn nhw?

Rwy'n gyfarwydd iawn ag adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru y mae Helen Mary Jones yn cyfeirio ato, ac roedd yn ychwanegiad defnyddiol iawn at y llenyddiaeth ddatblygol ar yr hyn y dylai Cymru ei geisio o ran y system fudd-daliadau. Rwy'n amau bod gen i farn wahanol i'r Aelod. Rwyf i o blaid ceisio agweddau ar weinyddu'r system budd-daliadau lles; nid wyf i o blaid chwalu system nawdd cymdeithasol y DU. Y rheswm am hynny yw fy mod i'n credu bod y Deyrnas Unedig yn cynnig gwahanol gyfle i gyfuno adnoddau a rhannu gwobrau yn ôl yr angen, a bod hynny er budd dinasyddion Cymru, yn enwedig ein dinasyddion tlotaf yng Nghymru. Dywedodd adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, fel y dywed Helen Mary Jones, pe byddem ni'n cael cynnig datganoli ar yr un sail â'r Alban, y gallai hynny arwain at y symiau o arian a nodwyd gan yr adroddiad. Aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud ei bod hi'n annhebygol iawn y byddai datganoli ar y telerau hynny yn cael ei gynnig i ni, ac yn nodi'r rhesymau am hynny. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig rhoi cyfrif cyflawn o'r hyn yr oedd yr adroddiad hwnnw yn ei ddweud, ac mae gen i ofn fy mod i'n cytuno â'r adroddiad. Mae'n annhebygol iawn y byddai Llywodraeth y DU yn barod i ailadrodd y math o gytundeb a gynigiwyd ganddi i'r Alban, yn rhannol oherwydd eu bod nhw'n edifar eu bod nhw wedi gwneud hynny erbyn hyn. Mae datganoli'r broses o weinyddu budd-daliadau yn rhywbeth yr wyf i wedi cytuno â Helen Mary Jones yn ei gylch yn y gorffennol ac rwy'n hapus i ailadrodd hynny, oherwydd fy mod i'n credu y byddai hynny yn rhoi gwahanol gyfres o bosibiliadau i ni yng Nghymru heb chwalu mynediad pobl Cymru at y manteision a ddaw drwy fod yn rhan o'r system nawdd cymdeithasol ehangach honno.

14:20
Gweithwyr Allweddol

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn diogelu ac yn cefnogi'r holl weithwyr allweddol yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19? OQ56185

Diolchaf i Bethan Sayed am y cwestiwn yna. Ymhlith y mesurau diweddaraf a gymerwyd i amddiffyn a chynorthwyo gweithwyr allweddol yng Nghymru mae cryfhau ein rheoliadau coronafeirws yn y gweithle ac mewn lleoliadau manwerthu yn arbennig a wnaed yr wythnos diwethaf. Mae gweithwyr o'r fath wedi bod yn flaenllaw yn ein rhaglenni cyfarpar diogelu personol, profi a brechu erbyn hyn, drwy gydol cyfnod y pandemig.

Diolch am yr ateb yna. Hoffwn ddatgan buddiant, oherwydd mae fy mab mewn gofal dydd meithrin. Rwyf i wedi cael cryn dipyn o feithrinfeydd yn cysylltu â mi lle mae staff wedi dweud wrthyf nad yw'n ymddangos fel pe bydden nhw'n ymddangos ar unrhyw restrau ar gyfer y brechlyn. Maen nhw'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael ar ôl. Maen nhw'n gweithio o ddydd i ddydd mewn sefyllfa agored i niwed. Ni allan nhw wisgo cyfarpar diogelu personol pan fyddan nhw'n gweithio gyda phlant ifanc iawn, ac maen nhw'n teimlo y dylen nhw gael eu blaenoriaethu ar gyfer y brechlyn, ac eto dydyn nhw'n clywed dim gan eich Llywodraeth. A allwch chi ymrwymo heddiw i edrych ar hyn eto a rhoi brechiad i staff meithrinfeydd fel mater o flaenoriaeth? Dylai cymdeithas a Llywodraeth Cymru eu gwerthfawrogi drwy roi'r brechlyn iddyn nhw, gan eu bod nhw'n gweithio, a chan eu bod nhw'n gweithio mor galed. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Bethan Sayed. A gaf i, yn gyntaf oll, adleisio'n llwyr yr hyn a ddywedodd am y gwaith y mae staff yn y sector hwnnw yn ei wneud, natur y gwaith hwnnw a'i bwysigrwydd? Os oes angen i ni wneud mwy i gyfathrebu i bobl yn y sector hwnnw lle maen nhw ar restr blaenoriaeth frechu y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio, yna rwy'n siŵr bod ein cyd-Aelod Julie Morgan yn gwrando. Yn wir, gallaf ei gweld hi'n gwrando ar y sgwrs hon, a bydd yn mynd ar drywydd hynny o ganlyniad i hyn. Ni allaf wyro oddi wrth restr flaenoriaeth y Cydbwyllgor, am yr holl resymau yr ydym ni wedi eu trafod ar lawr y Senedd o'r blaen, ond lle mae pobl yn teimlo nad oes ganddyn nhw wybodaeth am ble maen nhw ar y rhestr flaenoriaeth a'r hyn y mae hynny yn ei olygu iddyn nhw, rwy'n siŵr y byddem ni eisiau gwneud mwy i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwybod ac yn deall hynny, yn enwedig o dan yr amgylchiadau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw.

Effaith Brexit ar y GIG

9. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit ar y GIG yng Nghymru? OQ56200

Diolchaf i Lynne Neagle. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dod ag amrywiaeth o oblygiadau andwyol i'r GIG, yn y byrdymor ac yn y tymor hir. Rydym ni'n gweithio yn agos gyda GIG Cymru i liniaru'r rhwystrau newydd hyn ar adeg pan fo'r gwasanaeth eisoes o dan bwysau enfawr o'r argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf, gwelsom ASau Torïaidd yn pleidleisio yn erbyn gwelliant Tŷ'r Arglwyddi i'r Bil Masnach a oedd yn eithrio data'r GIG o gwmpas unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol, gan adael y drws yn agored i'r posibilrwydd y gallai cwmnïau ddefnyddio'r data hynny i ddatblygu offer a meddyginiaethau i'w gwerthu yn ôl i'r GIG. Er bod Gweinidogion Torïaidd yn dweud wrthym ni yn gyson nad yw'r GIG ar werth mewn cytundebau masnach yn y dyfodol, mae eu ASau eu hunain yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant sy'n gwireddu hynny. A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, roi sicrwydd i ni nad yw ein GIG ar werth yng Nghymru? Pa gamau a wnewch chi eu cymryd i sicrhau bod hynny yn cael ei gyfleu yn gwbl eglur i Lywodraeth y DU?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Yn gwbl sicr, nid yw'r GIG yng Nghymru ar werth, ac ni fydd yn cael ei aberthu ychwaith, ar allor rhyw gytundeb masnach y DU. Roedd yn eithriadol o siomedig—byddwn yn mynd ymhellach na hynny, mewn gwirionedd—bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu gwrthdroi unwaith eto gwelliannau a basiwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi ar y mater hwn, gwelliannau a basiwyd gyda chefnogaeth tair gwahanol blaid a gynrychiolir yma yn y Senedd. Mae ein cydweithwyr yn Nhŷ'r Arglwyddi wedi paratoi i amddiffyn buddiannau'r GIG ac i amddiffyn buddiannau Cymru rhag ymosodiad Llywodraeth y DU. Yma yng Nghymru byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sefyll dros GIG Cymru, i wneud yn siŵr bod y rhai sy'n gweithio ynddo yn gwybod bod ganddyn nhw ein cefnogaeth lawn, i geisio goresgyn y rhwystrau newydd a fydd yno. Dywedodd adroddiad Cydffederasiwn y GIG a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym mis Tachwedd wrthym ni fod y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan rwystrau newydd i recriwtio yn cynnwys gyrwyr ambiwlans, gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymorth gofal iechyd a chynorthwywyr gofal iechyd. Mae'r holl bobl hynny yn hanfodol i GIG Cymru. Bydd yn fwy anodd recriwtio'r holl bobl hynny oherwydd gweithredoedd y Llywodraeth hon. Gallen nhw, yn hytrach na dweud geiriau gwresog, fod wedi cefnogi'r gwelliant hwnnw yr wythnos diwethaf, a fyddai wedi cynnig rhywfaint o gysur i bobl na fydd ein GIG yn cael ei aberthu gan y Llywodraeth hon sy'n cael ei gyrru gan ideoleg. Ni wnaethon nhw hynny; byddwn yn sefyll drostyn nhw a dros y GIG.

14:25
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Mi fyddaf i'n trosglwyddo'r gadair nawr i Ann Jones, ond yn gyntaf, galwaf ar y Trefnydd i wneud y datganiad busnes—Rebecca Evans. 

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn y man i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf o ran brechu COVID-19. Yn ail, mae teitl y datganiad ar hyrwyddo defnydd y Gymraeg mewn teuluoedd—y polisi trosglwyddo o fewn teuluoedd—wedi'i ddiweddaru. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ymddiheuriadau am hynny. Trefnydd, cafodd gogledd Cymru ei heffeithio'n wael iawn yr wythnos diwethaf, gan storm Christoph, ynghyd â chymunedau eraill ledled y wlad. Roedd Rhuthun yn fy etholaeth i wedi'i chynnwys ymhlith y cymunedau hynny a gafodd eu taro. A gaf i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar effaith y stormydd hynny a pha gymorth fydd ar gael nawr i gymunedau fel Rhuthun ac eraill ledled Cymru a gafodd eu heffeithio'n wael gan hyn? Ni allai'r llifogydd hyn fod wedi dod ar adeg waeth, o ystyried effaith pandemig COVID.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â'r iawndal sydd ar gael ar gyfer lleoliadau myfyrwyr nyrsio trydedd flwyddyn? Cysylltodd myfyriwr nyrsio â mi yr wythnos hon gan ddweud wrthyf fod myfyrwyr nyrsio yn Lloegr yn cael eu talu am yr oriau yn y lleoliad y maen nhw'n gweithio ynddo dan y mesurau safon argyfwng newydd sydd nawr wedi'u cyflwyno yn ystod y pandemig. Ond mae hi a'i chydweithwyr yng Nghymru wedi cael gwybod mewn llythyr gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru na fydd myfyrwyr yma yn cael eu talu am eu lleoliadau. Mae'n amlwg bod hyn yn ymddangos yn eithaf annheg i'r myfyrwyr hynny yma yng Nghymru sy'n teimlo eu bod nawr dan anfantais o'u cymharu â'u cyfoedion. A gaf i ofyn am ddatganiad ar y mater penodol hwn er mwyn i'r gweithlu myfyrwyr nyrsio y byddwn ni mor ddibynnol arno yn ystod y pandemig ac, yn wir, yn y dyfodol, gael iawndal priodol am y gwaith a wneir? Diolch.

Diolch i Darren Millar am godi'r ddau fater hyn. Y cyntaf yw storm Christoph, sy'n amlwg yn hollol ofnadwy i'r teuluoedd a'r busnesau dan sylw. Fel y mae Darren yn ei nodi, ni allai fod wedi dod ar adeg waeth, gan ein bod yng nghanol y pandemig ac yn y gaeaf hefyd. Rydym yn ymwybodol iawn o anghenion y bobl y mae'r stormydd wedi effeithio arnyn nhw, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y taliadau cymorth hynny o hyd at £1,000 ar gael i bob cartref. Ac wrth gwrs, byddwch chi'n cofio mai dyna'r un lefel o gefnogaeth a ddarparwyd gennym yn y stormydd a drawodd Gymru ym mis Chwefror a mis Mawrth y llynedd, yn wir ychydig cyn i'r pandemig ddechrau. Bydd y cymorth hwn hefyd ar gael i bobl sydd wedi dioddef llifogydd mewnol sylweddol wrth i'r cyfyngiadau fod ar waith, ac rydym wrthi'n cael trafodaeth â'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt o ran yr achos dros unrhyw gyllid ychwanegol. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn arbennig yn cael trafodaethau gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch pa gymorth arall y gallai fod ei angen ac, yn amlwg, byddem ni'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr ynghylch hynny.

Byddaf i'n gofyn i fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ddarparu ymateb ysgrifenedig i'r ymholiad penodol sydd gennych chi ynglŷn â myfyrwyr nyrsio a'r rhan y gallan nhw ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r pandemig ar hyn o bryd.

Roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn ynghylch ymwelwyr iechyd. Cefais i ateb gan y Gweinidog Iechyd heddiw i gwestiwn ysgrifenedig yr oeddwn i wedi'i gyflwyno, ac ni chefais ateb uniongyrchol o ran a oes unrhyw ymwelwyr iechyd wedi  eu hadleoli yn y gwasanaeth iechyd oherwydd y pandemig. Dywedodd ef yn yr ateb hwnnw i asesu risg unrhyw ystyriaethau ar gyfer adleoli gan y byrddau iechyd, ond ni ddywedodd a oedd yn digwydd ai peidio. Nawr, rwy'n gwybod bod llawer o rieni'n ei chael hi'n anodd cysylltu â'u hymwelwyr iechyd, felly hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog Iechyd a all fanylu a yw'r adleoliadau hynny wedi digwydd, a sut, ac a yw hynny'n golygu bod diffyg felly o ran helpu rhieni newydd yma yng Nghymru.

Mae fy ail gais am ddatganiad yn ymwneud â'r siafft lo a oedd wedi hollti yn Sgiwen yn fy rhanbarth i, a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf. Rwy'n nabod un o'r menywod, y digwyddodd hynny i'w thŷ hi, Samira Jeffreys, yn dda iawn, a chollodd hi bopeth. Rwy'n gwybod y byddwn ni'n cael sesiwn friffio fel ASau ddiwedd yr wythnos gan yr Awdurdod Glo, ond hoffwn i ddeall beth ydych chi'n ei wneud yn Llywodraeth Cymru i archwilio'r holl hen siafftiau glo hynny i sicrhau nad ydym ni'n gweld hyn yn digwydd ledled de Cymru, yn enwedig lle mae gennym hen gymunedau glofaol, ac i sicrhau eich bod yn helpu'r bobl hynny y mae'r drasiedi hon wedi effeithio arnyn nhw?

14:30

O ran y mater cyntaf a gafodd ei godi, a oedd yn ymwneud ag adleoli neu fel arall ymwelwyr iechyd, rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Iechyd wedi bod yn gwrando ar y cais hwnnw am ddatganiad, ond byddwn ni hefyd yn eich annog chi, ac rwy'n siŵr eich bod chi eisoes wedi ceisio gwneud hyn hefyd, i'w godi'n uniongyrchol gyda'r bwrdd iechyd lleol a fydd yn gallu rhoi'r lefel leol fwy manwl honno o ddata i chi a allai fod yn ddefnyddiol.

Ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r Awdurdod Glo ac yn ceisio gweithio hefyd gyda Llywodraeth y DU o ran y tipiau glo yr ydym ni wedi'u hetifeddu a'r holl faterion ehangach o ran y llifogydd a effeithiodd arnom y llynedd. Ond, yn amlwg, byddai'r hen gymunedau glofaol yn awyddus iawn i'r gwaith hwnnw gynnwys y siafftiau glo hefyd, ac rwy'n gwybod bod rhywfaint o waith eisoes yn mynd rhagddo i sicrhau bod y gwaith sydd eisoes wedi'i ddechrau yn gwbl ymwybodol o'r holl risgiau amrywiol sy'n effeithio ar y cymunedau. Ond gwn y bydd yr Awdurdod Glo yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf honno i chi ac Aelodau eraill sy'n cynrychioli'r ardal leol ddydd Gwener yr wythnos hon.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â Swyddfa'r Post a'r gwasanaethau post? Y rheswm y mae'n berthnasol yw bod polisi a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r stryd fawr a busnesau bach yn bwysig iawn, a chefais wybod yn ddiweddar pan wnes gais i Swyddfa'r Post ar ran swyddfa bost fach yn Efail Isaf a oedd wedi cau dros dro ac sydd ar fin ailagor nawr—mae'r siop wedi ailagor, yr unig siop ym mhentref Efail Isaf—ond yr hyn a ddywedwyd wrthyf i yw bod gan Swyddfa'r Post grant o £50 miliwn i gefnogi siopau bach a gwasanaethau post fel hyn. Nawr, mae'n ymddangos i mi ei bod yn hanfodol bwysig bod gan Lywodraeth Cymru ran yn y ffordd y mae'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau'r effaith fwyaf posibl. Nawr, rwy'n gwybod bod pobl Efail Isaf yn cefnogi eu siop, ond byddwn i'n croesawu unrhyw ymyriad y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau mai'r ffordd orau o ddefnyddio'r arian sydd ar gael gan Swyddfa'r Post yw ar y gwasanaethau hynny yn ein cymunedau, gan gefnogi'r cymunedau hynny.

Yn hollol. Ac fel y mae Mick Antoniw yn gwybod, nid yw materion swyddfeydd post wedi'u datganoli ac maen nhw'n gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ond serch hynny, fel y dywed Mick Antoniw, mae gennym ni ddiddordeb gwirioneddol ac uniongyrchol mewn sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o'r cronfeydd hynny yn y DU. Mae Swyddfa'r Post Cyf yn amlwg yn gweithio ledled y DU, ac nid yw'n neilltuo unrhyw ran o'i chyllideb ar wahân; mae wedi'i dyrannu ar sail anghenion, a gwn fod y dadleuon a'r achosion y mae cydweithwyr ar draws y Senedd wedi bod yn eu gwneud ar gyfer swyddfeydd post yn eu cymunedau eu hunain wedi bod yn eithaf ffrwythlon o ran sicrhau bod rhywfaint o'r cyllid hwnnw'n dod i Gymru.

Mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â Swyddfa'r Post Cyf i drafod materion fel y sefyllfa yn Efail Isaf, lle, yn anffodus, fel y nododd Mick Antoniw, fe wnaeth y swyddfa bost leol gau, ac, fel y soniodd, mae'r siop bellach wedi ailagor. Rwy'n gwybod bod Swyddfa'r Post Cyf wedi cynghori Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu siarad â pherchnogion newydd y siop yn Efail Isaf cyn gynted â phosibl i drafod contract posibl ar gyfer gwasanaethau swyddfeydd post, felly rwy'n gobeithio'n fawr y bydd datrysiad llwyddiannus yno.

Trefnydd, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cymorth sydd ar gael i rieni sy'n rheoli gweithio gartref ac addysgu gartref yn ystod y pandemig? Rwy'n siŵr bod hyn wedi'i godi gyda chi fel Aelod o'r Senedd, gan ei fod wedi'i godi gyda mi. Fel rhiant fy hun, sy'n aml â phlentyn bach gyda mi yn yr ystafell pan fyddaf yn bresennol mewn rhai cyfarfodydd Zoom, rwy'n ymwybodol o'r pwysau sydd ar rieni. Ni ddylid caniatáu i blant, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig, lithro ymhellach ar ei hôl hi'n addysgol, o'i gymharu â chenedlaethau blaenorol. Felly, a gawn ni ddatganiad gan—wel, rwy'n tybio, y Gweinidog Addysg, ar hynny?

Yn ail, gobeithio y bydd cyflwyno'r brechlyn yn golygu y byddwn ni'n troi'r gornel yn y pandemig cyn bo hir. Wrth i syniadau droi at geisio ailgodi’r economi, a gawn ni ddatganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd ynghylch strategaeth, neu strategaeth sy'n datblygu, ar gyfer buddsoddi mewn technoleg a diwydiannau gwyrddach? Rwy'n pryderu, er yr holl sôn ynghylch gwneud pethau'n wahanol ac ailgodi'n well, y bydd yn rhy hawdd inni fynd yn ôl i'r hen ffyrdd cyn COVID wrth inni ddod allan o hyn, wrth i bobl ymlacio. Felly, oes, mae'n rhaid inni gael busnesau'n ôl ar eu traed, ond ar yr un pryd mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar y cyfle i drawsnewid yr economi a'i gwneud yn wyrddach—Cymru wyrddach a mwy ffyniannus.

14:35

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn sicr yn rhannu'r pryder y mae Nick Ramsay wedi'i ddisgrifio, o ran effaith y pandemig ar blant, yn enwedig y rheini mewn cymunedau mwy difreintiedig. A dyna un o'r rhesymau pam yr ydym ni wedi buddsoddi'n gryf mewn cefnogi pobl ifanc a phlant i gael yr holl gymorth digidol sydd ei angen arnyn nhw. Byddwch chi'n ymwybodol o'r cyhoeddiad diweddar ynghylch bron £12 miliwn o gyllid ychwanegol i fynd â nifer y gliniaduron a'r tabledi a ddarparwyd ar gyfer plant a theuluoedd ledled Cymru i fyny y tu hwnt i 133,000. Ac rydym yn amlwg yn ymwybodol bod llawer o blant hefyd yn cael trafferth i fynd ar-lein yn y lle cyntaf, felly rydym wedi darparu bron 11,000 o ddyfeisiau MiFi i helpu plant i fynd ar y rhyngrwyd i ymgymryd â'u gwaith. Felly, mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo, ond nid wyf i'n bychanu'r heriau y mae hyn yn eu rhoi ar rieni a theuluoedd, a gwn y bydd y Gweinidog Addysg yn gwrando'n astud ar y cyfraniad hwnnw.

Ac eto, bydd fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, yn awyddus, rwy'n gwybod, maes o law, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr ynghylch yr ymateb i'r argyfwng economaidd, yr ydym ni hefyd yn ei wynebu fel rhan o'r pandemig, a'r hyn y gallwn ni ei wneud i ailgodi'n well—y math hwnnw o adferiad gwyrdd a theg yr ydym ni i gyd mor awyddus i'w weld. Rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa dda gyda'n contract economaidd, a'r ffaith bod hynny'n cynnwys gofynion penodol o ran datgarboneiddio. Felly, mae gennym ni rywfaint o waith sylfaenol da i fanteisio arno. Mae gennym ni gyllideb sydd, y llynedd ac eleni, wedi gwneud dyraniadau sylweddol o ran datgarboneiddio, a bioamrywiaeth. Felly, unwaith eto, rwy'n credu ein bod yn datblygu o le da, ond bydd y ddau gyd-Aelod wedi clywed y ceisiadau am ddatganiadau.

Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch chi'n dda, ar ei hymrwymiad parhaus i ddiogelu bioamrywiaeth. Mae erydu bioamrywiaeth yn achosi risgiau difrifol, wrth gwrs, i iechyd pobl, ac yn cynyddu risg pandemig, ac mae ganddo ran bwysig i'w chwarae i atal newid hinsawdd ar garlam. Mae sefyllfa benodol yn digwydd yn fy rhanbarth i, sy'n peri pryder ymhlith eiriolwyr bioamrywiaeth. Yn 2019, Trefnydd, penderfynodd y Prif Weinidog beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4, yn rhannol oherwydd yr effaith y byddai'n ei chael ar lefelau Gwent. Ond wrth inni siarad, mae lefelau Gwent yn wynebu bygythiad arall o ddatblygiad mawr—yn eironig, y tro hwn, o ganolfan ynni adnewyddadwy. Gosodiad panel solar yw'r prosiect y bwriedir ei adeiladu rhwng Maerun, Saint-y-Brid a Llan-bedr Gwynllŵg. Byddai'n defnyddio 155 hectar o dir lletem las a llain las, sy'n cyfateb i 290 o gaeau pêl-droed, a byddai angen 30 hectar yn fwy o dir nag a fyddai wedi bod yn ofynnol ar gyfer y llwybr du.

Rwy'n credu, Trefnydd, pan wrthododd y Prif Weinidog y llwybr du, ei fod wedi gosod cynsail ar gyfer parhau i ddiogelu lefelau Gwent a'r rhywogaethau bywyd gwyllt yno, gan gynnwys y gardwenynen fain, yr wyf i'n bencampwr rhywogaethau drosti. Siawns na all ein hymateb ni i'r argyfwng hinsawdd gefnogi ynni adnewyddadwy ar draul colli rhywogaethau. Mae lefelau Gwent yn adnodd gwerthfawr i'n cymunedau, ac i Gymru gyfan, ac os cânt eu colli ni fydd modd eu cael yn ôl. Felly, byddwn i'n annog y Llywodraeth i chwilio am ffyrdd o ddiogelu'r lefelau rhag bygythiadau o'r math hwn yn y dyfodol. Felly, a gawn ni ddatganiad os gwelwch chi'n dda, yn rhoi sicrwydd i ymrwymiad y Llywodraeth i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, oherwydd ei gwerth cynhenid, ac i sicrhau manteision parhaol i'r gymdeithas fel sydd wedi'i nodi yn ei chynllun gweithredu adfer natur ar gyfer Cymru? 

14:40

Rwy'n rhannu'n wirioneddol angerdd Delyth Jewell dros gefnogi bioamrywiaeth, ac mae llawer ohonom ni'n hyrwyddwyr rhywogaethau ac rydym yn cael llawer o bleser, rwy'n credu, yn y swyddogaethau penodol hynny hefyd. Bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr amgylchedd wedi gwrando, ond, hefyd, byddai'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi bod yn awyddus i glywed yr hyn yr ydych chi wedi'i ddisgrifio hefyd, o ystyried ei gwaith ar y cynllun datblygu cenedlaethol. A byddaf yn gwneud y pwynt hefyd o gael sgwrs gyda'r Gweinidog i weld beth allai fod y ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd.

Gweinidog, mae sôn eisoes wedi bod y prynhawn yma, am y llifogydd sydd wedi effeithio ar fy etholaeth i yn Sgiwen a llawer o drigolion a gafodd eu symud o'u cartrefi. Nid yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael dychwelyd i'w cartrefi eto ac efallai na fyddan nhw am sawl wythnos i ddod. Felly, rwyf i eisiau cael dau ddatganiad, yn y bôn, ar yr un mater: datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ar sut y mae hi'n mynd i ymdrin, mewn gwirionedd, â'r mewnlif o ddŵr sydd wedi mynd i mewn i'r pyllau glo. Roedd Storm Christoph wedi amlygu problem fawr a llenwi'r pwll glo ac mae'r dŵr yn dal i lifo allan ohono nawr, er bod y glaw wedi dod i ben sawl diwrnod yn ôl. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n mynd i'r afael â hynny. Felly, beth mae Gweinidog yr Amgylchedd yn ei wneud i sicrhau ein bod yn ymdrin â'r mater hwnnw'n llwyr, fel bod modd sicrhau'r trigolion na fyddan nhw'n cael mwy o ddŵr yn llifo drwy eu cartrefi?

Mater i Lywodraeth Cymru yw'r ail un mewn gwirionedd ynglŷn â'r hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i drafod hyn gyda Llywodraeth y DU? Bu sôn o'r blaen mai hen weithfeydd glo yw'r rhain. Mae cannoedd ledled y cymoedd yn fy etholaeth i, heb sôn am Gymoedd y de. Rwy'n ymwybodol ei fod eisoes wedi gwneud gwaith gyda Llywodraeth y DU ar dipiau glo. Ond mae hon yn agenda arall y mae angen ei bodloni a sut y dylai Llywodraeth y DU ymgymryd â'i chyfrifoldeb a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i leddfu pryderon llawer o drigolion sydd, ar hyn o bryd, yn poeni ynghylch eu heiddo yn cael ei danseilio o ganlyniad i hyn.

Mae hwn yn faes lle rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wneud gwaith ar y cyd, yn enwedig o gofio, fel y mae David Rees yn ei nodi, fod materion yr hen byllau glo yn effeithio'n anghymesur iawn ar Gymru, fel yr ydym ni'n naturiol—fel a ganlyn—â materion y tipiau glo ac ati Rwy'n credu bod y gwaith, sydd eisoes wedi'i wneud o ran tipiau glo gyda Llywodraeth y DU a'r Awdurdod Glo, yn darparu rhai sylfeini da ar gyfer y gwaith hwnnw, ond mae'n amlwg bod angen ei ehangu i sicrhau ei fod yn crynhoi'r holl bryderon y mae David Rees wedi'u disgrifio y prynhawn yma.

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r newyddion dinistriol y bydd siopau Debenhams nawr yn cau ledled ein gwlad? Mae cau'r siopau a'i gynlluniau i adfywio ein trefi a'n dinasoedd yn fater o frys nawr. Mae cau siopau Debenhams ledled ein gwlad, ar ôl iddyn nhw gael eu meddiannu gan Boohoo, yn golygu colli cannoedd o swyddi a bydd yn ergyd drom i ddinasoedd, fel Casnewydd, lle mae Debenhams yn gonglfain datblygiad dinas Friar's Walk, Caerdydd ac Abertawe, lle mae'r siop hefyd yn rhan o galon canolfan siopa Cwadrant y ddinas.

Mae hyn yn amlwg yn ddigon dinistriol, ond yn ddiau yn ystod y pandemig bydd canlyniadau effaith y siopau hyn yn cau yn golygu bod pobl yn cael eu heffeithio hyd yn oed yn galetach. Daw ar adeg pan fo busnesau yng Nghymru yn parhau mewn sefyllfa ansicr ac yn dioddef niwed aruthrol oherwydd y pandemig, er gwaethaf grantiau. Mae ffigurau wedi'u cynhyrchu gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru yn dangos bod un o bob pum siop yng Nghymru nawr yn wag; cynyddodd y nifer o swyddi gwag o 15.9 y cant i 18 y cant yn nhrydydd chwarter y llynedd, y naid fwyaf yn unman yn y DU.

Mae cau siopau mawr, fel Debenhams, yn cael effaith enfawr ar gymunedau lleol a bydd ein strydoedd mawr nawr yn edrych yn ddi-raen ac yn ddiobaith. Mae Friar's Walk yng Nghasnewydd yn ddatblygiad cymharol newydd a chafodd groeso mawr pan gyflwynwyd ef yno gyntaf gan Gyngor Dinas Casnewydd dan arweiniad y Ceidwadwyr. Ers hynny, mae wedi bod yn lleihau—

—a nawr maen nhw wedi colli eu trysor pennaf. Rwy'n annog y Llywodraeth i ryddhau cynlluniau ynghylch sut y byddan nhw'n gweithio gyda chyngor Casnewydd i adfywio canol y ddinas. Llawer o ddiolch.

Diolch yn fawr am godi'r mater hwn, ac mae'n wir yn bryder i Lywodraeth Cymru—colli cynifer o swyddi a siopau allweddol eithaf eiconig yn rhai o'n cymunedau hefyd. Bydd, fe fydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda'r holl awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnyn nhw. Byddwn ni hefyd yn sicrhau bod ein cynlluniau cymorth, megis ReAct ac yn y blaen, ar waith ar gyfer y gweithwyr yr effeithiwyd arnyn nhw. Ac, wrth gwrs, gwnaethom yr addewid hon i bobl, drwy gydol coronafeirws, y byddwn ni'n ceisio sicrhau bod pawb yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw, naill ai i ailhyfforddi neu i ddod o hyd i swydd newydd neu i ymgymryd â hunangyflogaeth, os yw hynny'n rhywbeth y bydden nhw'n dymuno ei wneud. Felly, mae angen inni sicrhau bod y pecynnau cymorth hynny yno i unigolion, ond hefyd fod gan y stryd fawr, serch hynny, ddyfodol iach a bywiog wrth inni ddod allan o'r pandemig. Bydd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud drwy ein cynllun benthyciadau canol tref, er enghraifft, yn bwysig iawn yn hynny o beth, ac mae rhai o'r dyraniadau yn benodol yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn mynd i'r afael â sicrhau bod gennym ni strydoedd mawr iach yn y dyfodol. Rwy'n credu bod dyfodol cadarnhaol i'n strydoedd mawr, ond yn sicr bydd angen llawer iawn o waith, gyda Llywodraeth Cymru ond hefyd gyda'r partneriaid a ddisgrifiodd Laura Anne Jones.

14:45

Gaf i ofyn am ddatganiad ynglŷn â chefnogaeth ariannol i Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Urdd Gobaith Cymru? Maen nhw i gyd yn wynebu heriau sylweddol ac mae angen gweithredu brys o fewn y gyllideb nesaf. Gaf i ofyn i chi, felly, fel y Gweinidog cyllid, i ddwys ystyried y sefyllfa, o gofio bod un o brif strategaethau eich Llywodraeth chi, sef creu miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn y fantol? Mae colli eisteddfod arall yn mynd i gael effaith bellgyrhaeddol ar y sefydliad. Maen nhw am orfod haneru'r tîm staff er mwyn gallu goroesi'r cyfnod nesaf. Mae'r Urdd hefyd yn wynebu argyfwng ariannol a cholled incwm o £14 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf, ac mae'r llyfrgell genedlaethol angen ychwanegiad o £1 filiwn i'w gwaelodlin. Dwi wedi bod yn tynnu sylw eich Dirprwy Weinidog chi at yr argyfwng yn y llyfrgell genedlaethol ers mis Tachwedd, a dwi'n siomedig tu hwnt nad oes cymorth ar gael i'r sefydliad pwysig yma. Mae angen i'ch Llywodraeth chi symud yn gyflym i gynnig help, a byddai datganiad ar y sefyllfa o gymorth mawr i ni i gyd.

Ydw, rwy'n ymwybodol o'r heriau sylweddol sy'n wynebu'r holl sefydliadau hynny. O ran y Llyfrgell, er enghraifft, mae'r gyllideb yn adlewyrchu setliad Llywodraeth Cymru oddi wrth Lywodraeth y DU, wrth gwrs, a rhaid ei gweld o fewn y cyd-destun cyffredinol, ond mae ein cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gafodd ei chyhoeddi ar 21 Rhagfyr, yn dangos ein bod wedi cynnal y refeniw ar gyfer y flwyddyn nesaf ac mae hynny'n aros yr un peth â 2020-21, ac rwy'n credu bod hynny ynddo'i hun yn gyflawniad, o ystyried yr holl bwysau a'r pandemig parhaus a'r angen dybryd am gyllid hyd a lled pob math o feysydd y Llywodraeth. Ond rydym yn cydnabod yn fawr heriau penodol cynnal adeilad hanesyddol y Llyfrgell, er enghraifft. Felly, rydym wedi darparu cyllideb cyfalaf uwch o £3.2 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae cyllid ar gael hefyd i gyflymu blaenoriaethau datgarboneiddio a digidol y Llyfrgell er mwyn sicrhau bod gan y Llyfrgell ddyfodol cryf yn hynny o beth. Rwyf i wedi cael trafodaethau eraill a byddaf i'n parhau i gael trafodaethau eraill gyda fy nghyd-Aelod Eluned Morgan ynglŷn â rhai o'r pryderon penodol hyn y mae Siân Gwenllian wedi'u disgrifio y prynhawn yma.

Mae llawer o rieni sydd â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol wedi cysylltu â mi ond sydd heb gael cynnig eu lleoli yn yr hybiau lleol. Nawr, mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud wrthyf i eu bod yn gweithredu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru, ond os yw plant ag anghenion dysgu ychwanegol, a chanddynt, mewn rhai achosion ddatganiadau hefyd, yn cael eu heffeithio'n andwyol gan addysg gartref, yna siawns nad oes raid i'r canllawiau newid. Mae nifer o sefydliadau'r trydydd sector yn cytuno nad yw'r canllawiau presennol yn ddigon eglur o ran bod angen i blant ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n cael trafferth gartref gael eu hystyried yn agored i niwed at ddibenion manteisio ar ddysgu wyneb yn wyneb, ac mae'n ymddangos bod y rheolau'n cael eu cymhwyso'n anghyson mewn gwahanol leoedd. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â'r ffordd orau o ddiogelu'r disgyblion mwyaf agored i niwed, gyda chanllawiau mwy cynhwysol yn ystod y cyfyngiadau symud, cyn i fwy o niwed gael ei achosi i ddisgyblion a fyddai'n cael eu gwasanaethu'n well drwy allu mynychu eu hybiau lleol?

Rwy'n ddiolchgar iawn i Leanne Wood am godi'r pryderon hynny, a byddaf i'n siŵr o'u codi ar ei rhan hi gyda'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Llywodraeth Leol i archwilio'r pwynt penodol a wnaeth am eglurder y canllawiau ac a oes angen rhoi mwy o eglurhad i awdurdodau lleol i'w helpu i ddehongli'r canllawiau er mwyn sicrhau bod y plant y mae angen iddyn nhw fod yn yr hybiau hynny yn cael y cyfle i wneud hwnnw. Felly, byddaf yn gwneud pwynt o fwrw ymlaen â hynny heddiw.

14:50
Cynigion i Ethol Aelodau i Bwyllgorau

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig. Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, rwy'n argymell bod cynigion i ethol yr Aelodau hyn i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer dadl a phleidlais. Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiad, felly, rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynigion yn ffurfiol. Trefnydd.

Cynnig NDM7563 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM7564 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM7565 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM7566 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM7567 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM7568 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM7569 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynigion. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19

Yr eitem nesaf ar yr agenda'r prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sef yr wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau COVID. Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, fe wnaethom ni gyhoeddi'r cyntaf o'n hadroddiadau ni yn rhoi crynodeb o'r cynnydd yn erbyn ein cynllun brechu COVID-19 cenedlaethol. Byddant yn cael eu cyhoeddi bob dydd Mawrth o hyn ymlaen. Mae'r adroddiadau hyn yn ychwanegol i'r data gwyliadwriaeth a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddyddiol ac yn wythnosol fel ei gilydd, a'r data gweithredol sy'n cael eu cyhoeddi gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru o heddiw ymlaen, y byddwn ni'n eu cyhoeddi bob dydd Mawrth o hyn ymlaen.

Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd am hanner dydd heddiw, mae GIG Cymru wedi brechu bron 290,000 o bobl ledled Cymru, sef ychydig dros 9 y cant o'r boblogaeth. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yng nghyflymder gweinyddu'r brechlyn yma yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf. Y rheswm am hyn yw ein bod wedi gweld cynnydd yn y cyflenwad o frechlynnau, yn enwedig ers gallu defnyddio brechlyn Rhydychen-AstraZeneca ddechrau'r mis, ac oherwydd bod ein seilwaith ni o ran gweinyddu brechiadau yn parhau i ehangu.

Fe wnaethom gyrraedd dau nod yn ein strategaeth frechu yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Fe wnaethom gynnig y dos gyntaf o'r brechlyn i bob aelod o staff rheng flaen Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac mae dros 65 y cant wedi manteisio ar hynny bellach. Fe wnaethom yn well na'r nod a oedd gennym ar gyfer mis Ionawr, sef mwy na 250 o bractisau cyffredinol yn gweinyddu'r brechlyn. Yr wythnos ddiwethaf, roedd dros 300 o bractisau yn ymroi i'r gwaith o redeg clinigau brechu, a hyd at ddoe roedd o leiaf 329 yn gwneud hynny. Rydym hefyd yn gwneud cynnydd mawr tuag at y nod terfynol, sef cynnig y brechlyn i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal erbyn diwedd y mis.

Ar hyn o bryd, rydym yn brechu tua 1,000 o breswylwyr mewn cartrefi gofal bob dydd ar gyfartaledd. Mae o leiaf dros 11,000 o breswylwyr cartrefi gofal, sef tua 67 y cant o'r grŵp blaenoriaeth hwn, wedi cael eu dos gyntaf nhw o'r brechlyn erbyn hyn. Mae dros 74 y cant o staff cartrefi gofal wedi derbyn eu dos gyntaf. Ar ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, fel y dywedais i, roedd yna dros 300 o bractisau cyffredinol yn rhedeg clinigau brechu. Rydym wedi rhagori ar ddisgwyliad y cynllun o 250 o bractisau. Mae ein dull ni'n cwmpasu pob ymarferwr gofal sylfaenol proffesiynol, gan gynnwys deintyddion, optometryddion a fferyllwyr, wrth weinyddu'r brechlyn. Mae hyn yn cynnwys cynllun peilot y fferyllfeydd cymunedol, canolfannau brechu cymunedol ac, o'r penwythnos diwethaf, glystyrau o bractisau meddygon teulu sy'n rhedeg clinigau mewn cymunedau lleol. Fe glywsom ni ychydig yn gynharach am yr enghraifft arbennig yn Nefyn ar Benrhyn Llŷn. Roedd hwnnw'n un o dri chlinig clwstwr meddygon teulu a oedd yn rhedeg y penwythnos diwethaf ac fe amcangyfrifwyd eu bod wedi rhoi 3,000 o frechlynnau dros y penwythnos rhyngddyn nhw, a llawer o'r rheini, wrth gwrs, i grŵp blaenoriaeth y bobl dros 80 oed.

Fe wn y bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn awyddus i gael gwybod a thrafod eto a wnaethom ni frechu 70 y cant o'r bobl dros 80 oed a'r rheini mewn cartrefi gofal erbyn y penwythnos. Nid ydym yn credu inni gyrraedd hynny'n union. Roedd cau canolfannau ac aildrefnu apwyntiadau oherwydd y tywydd mawr yn ffactor allweddol yn hynny. Yr hyn sy'n eglur a diamwys, serch hynny, yw'r ymdrech arwrol sydd ar gerdded, gyda nifer y bobl sy'n cael eu brechu yn cynyddu bob dydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen, ac rwy'n dymuno diolch i bob unigolyn sy'n gysylltiedig â hynny am ei ymrwymiad i'r ymgyrch genedlaethol gyfredol hon.

Mae'r Aelodau yn ymwybodol y bu'n rhaid cau canolfan oherwydd y tywydd garw dros y penwythnos yn ardal Cwm Taf, ac yn ardal bae Abertawe hefyd. Fe gaewyd canolfannau am resymau diogelwch ac fe ad-drefnwyd yr apwyntiadau brechu. Fe ohiriodd nifer o bractisau meddygon teulu apwyntiadau'r penwythnos hefyd tan ddechrau'r wythnos hon, a dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Mae'r Aelodau wedi clywed hefyd am giwiau yn ffurfio y tu allan i ganolfan frechu yn Abertawe nos Wener. Yn anffodus, roedd hyn o ganlyniad i rywun ag angen triniaeth feddygol frys yn syth ar ôl cyrraedd y ganolfan. Mae staff y GIG yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl giwio am eu hapwyntiadau i gael eu brechu, ond weithiau, fel rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn deall, fe all argyfyngau daro. Er bod y GIG yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod y seilwaith i frechu yn gadarn, mae'r materion hyn yn ein hatgoffa ni am ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni a all effeithio ar gyflawni ein hamcanion ni. Nid oes amheuaeth, er hynny, ein bod ni'n gweld cynnydd mawr ac mae pethau'n  cyflymu drwy'r amser.

14:55

Gweinidog, fe hoffwn i ddiolch i chi am eich datganiad. Fel chwithau, rwy'n gwerthfawrogi ac yn ddiolchgar iawn am waith caled pawb sy'n ceisio gweinyddu'r brechiadau hollbwysig hyn. Ond, er fy mod i'n ddiolchgar i'r rheng flaen, fe hoffwn i'n fawr allu herio rhai o'r ffigurau yr ydych chi newydd eu crybwyll, un ar ôl y llall, a gofyn ychydig o gwestiynau ichi am eich datganiad. Er mai newyddion da iawn yw clywed bod 290,000 o bobl wedi cael eu brechu, y gwir amdani yw nad oes yna ddigon o bobl dros 80 oed yn y gymuned sydd wedi cael cynnig y brechlyn. Rydych chi'n dweud bod 52.8 y cant o bobl dros 80 oed wedi cael eu brechu, ond fe fethwyd y targed yn ddifrifol iawn. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthym ni pa amserlen estynedig sydd gennych chi nawr? Beth am rai o'r byrddau iechyd lleol, fel Caerdydd a'r Fro neu Hywel Dda, yn wir, sydd eisoes yn anfon llythyrau at bobl dros 70 oed? A oes gennych chi ddadansoddiad canrannol BILl ar gyfer pob grŵp blaenoriaeth?

Roeddech chi'n dweud bod rhai o'r canolfannau ar gau oherwydd yr eira. A wnewch chi roi gwybod inni faint o ganolfannau a gaewyd neu nifer y brechlynnau arfaethedig a ohiriwyd, oherwydd er fy mod yn deall bod gan y tywydd ran yn hyn, a ydych chi'n dweud mewn gwirionedd na chafodd 42,115 o bobl dros 80 oed eu brechu oherwydd y tywydd? Y gwir amdani yw mai targed dyddiol o ryw 22,000 yw hynny, ond dim ond tair gwaith y gwireddwyd hynny yn y gorffennol, felly rwyf i o'r farn fod yna broblemau eraill hefyd.

O'r mewnflwch sydd gennyf i, fe wn, ac o fewnflychau Aelodau eraill y Senedd, mae yna lawer o bobl dros 80 oed nad ydyn nhw wedi clywed hyd yn oed, heb eu gwahodd am frechlyn hyd yn oed, heb sôn am fod wedi gorfod aildrefnu. Mae un o'm hetholwyr i, gwraig 96 oed sy'n byw ar ei phen ei hun yng Nghilgeti—heb glywed dim siw na miw gan neb ynghylch pryd y bydd hi'n cael y brechlyn—96 oed. Ac eto i gyd, mewn rhannau eraill o Gymru rydym ni eisoes yn ystyried brechu pobl dros 70 oed. Mae'n fratiog iawn, ac fe fyddai'n dda iawn gennyf gael gwybod sut y gallwch chi dynnu hyn at ei gilydd fel nad oes gennym loteri cod post, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog.

Mae pobl dros 80 oed yn grŵp agored iawn i niwed. Felly, Gweinidog, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallech chi ddweud wrthym pa gynnydd sydd wedi bod o ran cael timau symudol i ymweld â'r rhai mwyaf agored i niwed yn eu cartrefi.

Wrth edrych i'r dyfodol, ac, yn anffodus, mae'n debygol y bydd angen addasu'r brechlynnau yn lled reolaidd oherwydd yr amrywiolion newydd sy'n codi eu pennau, a wnewch chi roi gwybodaeth inni am ba ran all fod gan Gymru wrth ddatblygu unrhyw frechlynnau newydd yn y dyfodol?

Yn olaf, Gweinidog, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni beth sy'n cael ei roi ar waith i reoli anghysondebau mewn pentrefi a threfi ar y ffin, lle gall cleifion fyw yng Nghymru ond fod wedi eu cofrestru gyda meddygfa yn Lloegr neu i'r gwrthwyneb. Mae'r bobl hyn sy'n gymdogion i'w gilydd yn gweld wythnosau o wahaniaeth o ran cael eu gwahodd am frechlyn, ac rwy'n gwybod bod hynny'n achosi rhywfaint o anfodlonrwydd. Da o beth fyddai cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mae gennyf i restr faith arall o gwestiynau. Rwy'n ymwybodol o'r amser, felly rwyf am achub ar y cyfle i ofyn fy nghwestiynau eraill ichi yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar frechlynnau yfory. Diolch.

Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Mae'r ffigurau a gynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer pobl dros 80 oed yn ffigurau ar gyfer y bobl dros 80 oed hynny sydd yn y gymuned. Wrth gwrs, mae yna rai sydd dros 80 oed yng Nghymru sy'n byw mewn cartrefi gofal, ac mae'r data hynny'n cael eu diweddaru. Rydych chi wedi gweld yr erthygl gan y BBC yr wythnos diwethaf a oedd yn egluro'r oedi o ran adroddiadau data a'r ffaith bod Lloegr yn cyflwyno adroddiadau data yn gynharach na ni. Rydym ni'n cyhoeddi data sydd â lefel o sicrwydd ansawdd, ond, er hynny, mae bwlch yn y data ar hynny.

O ran dadansoddiad bwrdd iechyd lleol, nid oes gennyf ddadansoddiad ar gyfer pobl dros 80 oed i'w roi ichi. Wrth inni gael mwy o wybodaeth, fe fyddwn ni'n gallu rhoi mwy o wybodaeth. Fel y dywedais yn fy natganiad, fe fyddwn ni'n rhoi gwybodaeth bob dydd Mawrth, yn union fel y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei rhoi bob dydd Iau. Felly gallwch chi ddisgwyl y bydd yna fwy a mwy o ddata pan fyddan nhw ar gael, oherwydd rwy'n credu bod tryloywder ynglŷn â'r data yn bwysig iawn i ennill ymddiriedaeth y cyhoedd. Yn fy marn i, mae bod yn dryloyw gyda'r data, yn ogystal â'r cynnydd sylweddol, fel y gwelsom, yn y broses o weinyddu brechlynnau, yn allweddol er mwyn cynnal yr ymddiriedaeth a'r hyder gan y cyhoedd yr ydym ni i gyd yn awyddus i'w weld yn y rhaglen hon. Ymgyrch i'r genedl gyfan yw hon i raddau helaeth iawn.

Effeithiwyd ar o leiaf pump o ganolfannau brechu torfol gan y tywydd, ond fe amharwyd ar sawl clinig ychwanegol gan feddygon teulu hefyd ac, unwaith eto, am resymau sy'n ddealladwy, yn fy marn i. Hefyd, fel y nododd y Prif Weinidog ddoe, ac fe wnes innau nodi hynny yn y gynhadledd i'r wasg ddoe, rydym ni'n ymwybodol fod yna nifer sylweddol o bobl wedi methu eu hapwyntiadau. Ac mae hynny'n gwbl ddealladwy—mae'r tywydd garw wedi achosi peryglon mewn rhannau helaeth o Gymru yn ystod y ddau ddiwrnod diwethaf. Felly, fe fyddech chi'n deall pam nad yw pobl wedi gallu bod yn bresennol a pham mae'r apwyntiadau hynny wedi cael eu gohirio tan nes ymlaen yn yr wythnos. Felly, fe fydd rhywun yn cysylltu â'r bobl hynny a fethodd eu hapwyntiadau ac yn cynnig dyddiad arall iddyn nhw.

Y rheswm pam mae llythyrau wedi eu hanfon allan at rai dros 70 oed yw ein bod ni'n cynllunio ymlaen llaw ym mhob bwrdd iechyd pan fyddan nhw wedi gweld cynnydd da iawn gyda'r cam presennol o gyflwyno'r brechlyn. Bydd yn wir o hyd na fydd rhai pobl dros 80 oed mewn gwahanol rannau o Gymru wedi cael eu brechlyn eto, yn union fel y mae yng ngwledydd eraill y DU. Yr hyn na ddylid ei wneud, yn fy marn i, yw ffrwyno'r gallu yn y rhannau hynny o Gymru sy'n medru gwneud hynny ac sydd ar amser i wneud hynny nes bod pawb arall wedi dal i fyny. Fel y dywedais i dro ar ôl tro, yr amcan yw bod pob un ohonom yn mynd cyn gynted ag y gallwn drwy'r grwpiau blaenoriaeth a sicrhau ein bod yn amddiffyn y dinasyddion sy'n fwyaf agored i niwed. Ac rwy'n gwrthod yr awgrym yn llwyr fod yna loteri cod post yn ein darpariaeth ni. Rwy'n credu, os edrychwch chi ledled Cymru, y gwelwch chi fod cryn dipyn o gynnydd yn cael ei wneud, ac rwy'n credu mai cymharol ymylol yw'r gwahaniaethau, ac nid yw un neu ddau o hanesion yn rhoi fersiwn gywir o'r darlun cenedlaethol.

Mae gennym 14 o unedau symudol sydd eisoes yn mynd o gwmpas yn helpu i weinyddu brechiadau. Mae gennym aelodau o'r tîm gofal sylfaenol hefyd sy'n gweinyddu brechiadau i bobl sy'n gaeth i'r tŷ, ac unwaith eto mae hynny'n cael ei arwain i raddau helaeth gan ein cydweithwyr mewn practisau cyffredinol.  A dyna pam mae'n newyddion mor wych fod o leiaf 329 o bractisau cyffredinol ledled y wlad yn ymwneud â'r gwaith hwn. Ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r tîm gofal sylfaenol cyfan am gydweithio mewn ffordd mor anhygoel i gynnal y rhaglen frechu. Dyna pam mae gennym nid yn unig well hygyrchedd, ond fwy o gyflymder yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Mae'n werth nodi mai Cymru, yn ystod y saith diwrnod diwethaf, sydd â'r gyfradd gyflymaf o frechu fesul pen o'r boblogaeth o'i chymharu â phob gwlad arall yn y DU. Felly, o ran y galw ar Gymru i ddal i fyny â chenhedloedd eraill y DU, rydym ni yn dal i fyny â chenhedloedd y DU. Rydym yn mynd yn gyflymach na gweddill y DU ar hyn o bryd. Ac ychydig wythnosau yn ôl, pan oeddwn i'n wynebu cwestiynau ynghylch pam mai'r bedwaredd oedd Cymru o'r pedair gwlad—rydym ni'n ail erbyn hyn ac yn ennill tir ar Loegr—sydd, rwy'n gwybod, yn ofid sylweddol i lawer o bobl, ond mae hon mewn gwirionedd yn rhaglen sy'n llwyddo ac yn cyflawni yn gynt o lawer.

O ran brechlynnau newydd, mae Cymru yn gwneud gwaith campus o ran dilyniannu genomeg, gan ddeall beth sy'n digwydd gydag amrywiolion cyfredol a rhai newydd hefyd. Ac ar yr un pryd, yn union fel y gall pob un ohonom ymfalchïo yn ein rhaglen frechu ni a'r cyflymder a welsom yn ystod y dyddiau diwethaf, fe ddylem ni ymfalchïo hefyd yn y cyfraniadau a wneir gan ein gwyddonwyr o ran dealltwriaeth o'r amrywiolion newydd, y bygythiadau posibl newydd sy'n bodoli, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i allu ein gwyddonwyr ni, gan gynnwys y bobl hynny mewn ymchwil sector preifat, sy'n ceisio cael rhaglen frechu sy'n parhau i ymateb i'r heriau a ddaw o gyflwyno brechiadau newydd.

Ac o ran materion trawsffiniol, fe gawsom ni fater penodol pan awgrymodd un o Weinidogion Swyddfa Cymru yr wythnos ddiwethaf fod yna broblem gyda brechiadau yn cael eu cynnig i bobl sy'n byw yn Lloegr ond sydd wedi eu cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru. A dweud y gwir, rydym wedi cael sgwrs, a chefais sgwrs mewn cyfarfod o Weinidogion iechyd ar draws y pedair gwlad, ynglŷn â hyn i geisio datrys y mater. Fel rwyf i'n deall, o ran brechu trawsffiniol, rydym yn gwneud y peth gorau posibl, a gall pawb sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru gael eu brechu, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal. Ond rwy'n credu bod yna rai materion y mae angen sylw arnyn nhw eto, o bosibl gyda materion indemniad, ac ynghylch a all pobl sy'n preswylio mewn cartref gofal yma ond sydd â meddyg teulu yn Lloegr gael yr hyn sy'n cael ei gynnig iddynt gan eu meddyg teulu yn Lloegr neu beidio, ac rydym yn gwneud yn siŵr nad yw'r bobl hynny'n cael eu gadael ar ôl yn ein rhaglen ni ar gyfer cartrefi gofal.

O ran sut mae pobl yn teimlo ynglŷn â'r hyn sydd i'w gael dros y ffin, mae bron bob amser yn wir i ddweud pan welwch chi rywbeth ar yr ochr arall y byddwch yn meddwl ei fod yn well yno. Mewn gwirionedd, rwy'n credu y gall pobl ymfalchïo yn fawr iawn yn y ffaith ein bod ni, fel y dywedais i, yn mynd yn gweithredu'n gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y DU yn y saith diwrnod diwethaf. Rwy'n edrych ymlaen at gynnydd pellach ac wythnos arall i adeiladu ar y 130,000 o frechlynnau a ddarparwyd gennym yr wythnos hon. Rwy'n hyderus y gallwn gyflawni mwy eto yn yr wythnos i ddod. 

15:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y datganiad hefyd. Gaf i'n gyntaf ddiolch o waelod calon i bob un—yn feddyg, yn nyrs, yn weithiwr brechu arall, yn weinyddwr yn ein byrddau iechyd ni—sy'n gweithio mor galed i drio brechu y boblogaeth? Mae'n amlwg bod yna gyflymu wedi bod, ac rydym ni i gyd yn gallu croesawu hynny, ond mae yna gryn ffordd i fynd.

O ran y methiant yma i daro'r targed o frechu 70 y cant o bobl dros 80, ydych, rydych chi'n hollol iawn, Weinidog, ein bod ni eisiau gwybod a oeddech chi wedi taro'r targed. 'We didn't quite make it', meddech chi. Ond y ffigur gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth gwrs, ydy 52.8 y cant. Nid 'didn't quite make it' ydy hynny, gadewch inni fod yn onest, hyd yn oed os oes yna beth data yn dal angen eu bwydo i'r system. Ac os caf i ddweud, dwi ddim yn meddwl bod beio eira dros y Sul yn dal dŵr, waeth faint o broblem gwnaeth yr eira, wrth gwrs, greu mewn rhai ardaloedd; y broblem oedd eich bod chi yn dal ar 24 y cant o bobl dros 80 oed ganol yr wythnos diwethaf, ac mi oedd yna ormod o fynydd i'w ddringo. Ond, fel dwi'n ei ddweud, dwi'n falch bod pethau yn symud i'r cyfeiriad iawn.

Rydych yn dweud bod 67 y cant o breswylwyr cartrefi gofal wedi'u brechu. Dwi braidd yn bryderus am y ffigur yna, mae'n rhaid i fi ddweud. Mae e'n swnio'n isel i fi, o ystyried mor fregus ydy'r grŵp yna. Ac mae hefyd yn ymddangos bod yna gryn wahaniaeth o ardal i ardal. Mae o'n grŵp ddylai fod yn reit hawdd i'w gyrraedd. Yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, er enghraifft, roedden nhw'n dweud ddoe bod brechu wedi'i gwblhau mewn 180 allan o'r 200 cartref gofal yn y rhanbarth, a bod dros 90 y cant o'r preswylwyr wedi cael eu brechu. Maen nhw hefyd yn dweud bod dros 90 y cant o staff iechyd rheng flaen a staff gofal wedi'u brechu—eto, 74 y cant o staff gofal ydy'r canran Cymru gyfan rydych chi wedi'i ddyfynnu heddiw. Allwch chi ddweud beth ydych yn ei wneud i drio lefelu pethau ar draws Cymru i godi pethau i fyny i'r canrannau rydym ni wedi'u clywed gan Betsi Cadwaladr?

Dwi'n falch bod cymaint o feddygfeydd teulu yn rhan o'r broses rŵan, a'ch bod chi wedi pasio y 250 o feddygfeydd oedd yn darged gennych chi. Yn gyffredinol, rydych chi'n dweud bod capasiti wedi cynyddu, sy'n dda o beth. Mae'n dal yn gwestiwn gen i pam na adeiladwyd y capasiti dros y misoedd yn arwain at pan ddaeth y brechiad ar gael. Ac mi ddywedsoch chi wrth sôn am y gwahanol rannau o ofal sylfaenol sy'n cymryd rhan bellach:

'Mae hyn yn cynnwys cynllun peilot y fferyllfaoedd cymunedol'.

Cynllun peilot y fferyllfaoedd cymunedol.

Un—hwnnw ym Mhenllyn yr wythnos cyn diwethaf, dwi'n cymryd rydych chi'n cyfeirio ato fo. Mae gennym ni dros 600 o fferyllfeydd cymunedol. Mae'n rhaid sicrhau eu bod nhw'n dod yn rhan o'r broses frechu mor fuan â phosib. Maen nhw eisiau cymryd rhan. Mi wnaeth fferyllydd yn fy etholaeth i, yn y Fali, digwydd bod, gysylltu yn y dyddiau diwethaf yn dweud, 'Rydyn ni eisiau gwneud. Mae gennyn ni le, rydyn ni wedi ein hyfforddi i wneud, gadewch inni wneud.' Ac os caf i ddweud, y neges glir dwi yn ei chlywed ydy: 'Mi allwn ni wneud llawer mwy pe baen ni'n cael mwy o'r brechiad.' Rŵan, dwi wedi gofyn dro ar ôl tro ar ôl tro am ddata ar faint o'r gwahanol frechiadau sydd wedi cael eu rhannu i bedair cenedl y Deyrnas Unedig, faint wedyn sy'n cael eu rhannu o bob un i bob bwrdd iechyd yma. Dwi'n gofyn eto. Rydych chi wedi sôn am bwysigrwydd tryloywder yn eich cyflwyniad chi. Rhowch y tryloywder inni yn fan hyn fel ein bod ni'n gallu gweld unrhyw anghyfartaleddau neu flocs yn y system. Mae o'n wybodaeth, mae o'n ddata cwbl, cwbl sylfaenol.

Yn olaf, dwi eisiau tynnu sylw at y pryderon diweddaraf am y newid polisi hwnnw a fu fel bod hyd at 12 wythnos o oedi rhwng dau ddos y brechiad Pfizer yn hytrach na'r tair wythnos gwreiddiol. Mae yna fwy o bryderon wedi'u tynnu i'm sylw am hyn: poeni y gallai hynny fod yn effeithio a thanseilio effeithlonrwydd y brechiad i'r graddau eich bod chi'n gorfod dechrau o'r dechrau pan fo'n cyrraedd at y 12 wythnos. Dwi'n deall y syniad o roi rhywfaint o warchodaeth i fwy o bobl—wrth gwrs fy mod i'n deall hynny—ond ydych chi'n barod i wynebu'r posibilrwydd y gallai, i bob pwrpas, filiynau o frechiadau wedi cael eu gwastraffu oherwydd y newid polisi hwnnw?

15:05

Nid wyf i o'r farn ein bod wedi gwastraffu miliynau o frechlynnau oherwydd y dewisiadau polisi a wnaethom ni, ond rwyf am ddechrau gyda'ch pwynt chi am beidio â rhoi'r bai ar yr eira. Roedd yr eira'n elfen amlwg—elfen amlwg—ddydd Sul a dydd Llun, a chafodd effaith sylweddol. A'r ffigurau a gyhoeddwyd gennym, y 52.8 y cant y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfeirio ato—mae o leiaf cymaint â hynny wedi cael y brechlyn. Ac, fel y dywedais wrth roi ateb i Angela Burns, fe wyddom  fod bwlch cyn inni gael data sydd wedi eu diweddaru, ond mae'n amlwg ein bod yn annhebygol o gyrraedd—nad ydym yn mynd i gyrraedd y 70 y cant, pan gaiff hynny i gyd ei gysoni ar gyfer diwedd dydd Sul. Mae hynny'n fater o fod yn onest ac yn agored gyda phobl, ac rwy'n credu na fydd y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn synnu o gwbl fod yr eira a welsom mewn rhannau helaeth o'r wlad wedi cael effaith.

O ran preswylwyr cartrefi gofal, mae o leiaf 67 y cant wedi cael eu brechu eisoes—unwaith eto, yr un materion ynghylch data. Mae'n wir hefyd, o ran rhai cartrefi gofal—rydym ni wedi gorfod gweithio drwy rai o'n cwestiynau polisi am gartrefi gofal rhybudd coch, lle mae ganddyn nhw nifer o achosion cadarnhaol. Rydym mewn sefyllfa fwy sefydlog erbyn hyn sy'n cael ei chymhwyso bellach yn gyson ledled y wlad. Dyna pam y gallwn ni fod yn hyderus bod pob bwrdd iechyd yn gweithio drwy'r rhain fel y prif grŵp blaenoriaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr holl gartrefi hynny'n cael eu cynnwys erbyn diwedd y mis hwn—yr holl gartrefi hynny lle mae'n bosibl cael mynediad iddynt. Mae dull o asesu risg yn cael ei ddefnyddio, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, felly, pe byddai unrhyw achosion cyfredol, yn cynnwys cyfran sylweddol o blith staff a phreswylwyr y cartref, yna fe allai hynny olygu na all y rhaglen frechu ddigwydd yn y cartref hwnnw. Rwy'n credu y byddai pawb yn deall pam. Ond rydym wedi edrych ar asesiadau risg lle ceir un neu ddau achos mewn cartref a'r hyn a olygir gan hynny ar gyfer sicrhau bod y brechlyn yn cael ei ddarparu'n fwy cyffredinol. Felly, rydym wedi gweithio drwy hynny, ac rydym yn credu ein bod mewn sefyllfa erbyn hyn, unwaith eto, i gael cyfradd wirioneddol o hyder i gyflawni'r disgwyliad y cyfeiriais i ato erbyn diwedd y mis, sef cwblhau brechu'r rhan hon o'r boblogaeth.

O ran yr amser i gynyddu'r capasiti, wel, â phob parch, nid oedd modd ysgogi ein holl gapasiti pan oedd y cyflenwadau yn llawer llai, pan oedd gennym broblemau o ran defnyddio brechlyn Pfizer. Ar y dechrau, nid oeddem yn gallu gweinyddu'r brechlyn yn effeithiol mewn gofal sylfaenol, nid oeddem yn gallu gweinyddu'r brechlyn i breswylwyr cartrefi gofal. Ac rydych chi'n cofio'r achos anffodus pan ddywedodd cyn arweinydd y Ceidwadwyr ei fod ef yn credu bod preswylwyr wedi cael eu gadael ar ôl. Nid dyna ddigwyddodd o gwbl. Mae'n drueni na chafodd y sylwadau hynny eu cywiro. Rydym mewn sefyllfa erbyn hyn o fod â chyflenwad llawer mwy sylweddol, gyda chymysgedd o frechlynnau. Rydym mewn sefyllfa i wneud defnydd gwahanol a mwy hyblyg o frechlyn Pfizer, ac felly mae ein seilwaith ni'n wahanol ac mae'n well nawr. Mae'n llawer mwy sylweddol. Y cyflenwad yw'r ffactor sy'n llesteirio. Pe byddai gennym ni fwy hyd yn oed o frechlyn AstraZeneca nag sydd gennym ni heddiw, fe allem fanteisio i'r eithaf wedyn nid yn unig ar y capasiti sy'n bodoli o fewn practisau cyffredinol, ond fe allem ddefnyddio'r rhwydwaith sylweddol sydd mewn fferylliaeth gymunedol, fel rydym ni'n awyddus i'w wneud. Er hynny, mae practisau cyffredinol, gan weithio gyda'i gilydd, yn gallu darparu'r cyflenwadau o frechiadau sydd gennym ni ar hyn o bryd yn effeithiol. Ac felly rydym yn edrych ar sut y gallwn gael y cyfuniad hwnnw o ganolfannau brechu torfol sy'n defnyddio sgiliau pobl sy'n gallu gweinyddu brechiadau hefyd yn ein tîm gofal sylfaenol ehangach a sut y byddwn ni'n defnyddio llawer mwy ar ein gweithlu parod a phroffesiynol iawn—sy'n ddibynadwy, yn hollbwysig iawn—gweithlu dibynadwy mewn fferylliaeth gymunedol, gan ein bod yn disgwyl gweld cynnydd yn y cyflenwadau eto yn yr wythnosau i ddod.

Nawr, o ran ein cyfran ni o'r cyflenwad brechlynnau, mae'r cwestiwn hwn yn cael ei ofyn i mi'n rheolaidd gennych chi a chyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru, ac rwyf innau'n rhoi'r un ateb yn rheolaidd, sef ein bod ni'n cael ein cyfran ni yn ôl ein poblogaeth, ac mae hynny'n parhau i fod yn wir. Mae'n dal i fod yn wir ein bod ni'n cael ein cyfran ni yn ôl maint ein poblogaeth. Mae'n dal i fod yn wir, yn y cyfarfod wythnosol a gaf i erbyn hyn gyda Gweinidog brechlynnau'r DU, mai hwn yw'r pwnc cyson yn ein trafodaethau ni i wneud yn siŵr y ceir sicrwydd parhaol o ran lefel y brechlynnau y bydd ei hangen i gyrraedd carreg filltir canol mis Chwefror ar gyfer y pedwar grŵp blaenoriaeth—y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf. Er mwyn i hynny ddigwydd, fe wyddom y bydd angen mwy na'n cyfran ni yn ôl y boblogaeth os mai dim ond digon i wireddu hynny sydd o fewn y DU. Felly, dyna ran o'n her ni, dyna ran o'r hyn yr wyf i wedi ei godi'n rheolaidd, ac fe geir sicrwydd dro ar ôl tro y bydd yr holl gyflenwadau hynny ar gael mewn pryd i allu cyflawni'r garreg filltir erbyn canol mis Chwefror. Ac yng Nghymru, rydym ni'n  darparu ein cyflenwadau ni o'r brechlyn ar sail y gyfran o'r boblogaeth ym mhob un o'n byrddau iechyd.

Ac fe fyddwch wedi gweld rhai o'r sylwadau cyhoeddus a'r sylwebaeth gyhoeddus a adroddwyd yn eang am rai o'r materion  sensitif ynghylch cyflenwad a gweithgynhyrchu brechlynnau rhwng y DU a'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae yna elfen o sensitifrwydd masnachol, a dyna pam nad ydym wedi cyhoeddi mwy o wybodaeth heddiw am y stociau sydd gennym ni o frechlynnau. Ac rwyf i wedi egluro fy mod i'n dymuno bod mewn sefyllfa lle gallwn ni gael cyhoeddiad cyffredin rhwng gwahanol rannau'r DU i fod yn agored ynglŷn â'r cyflenwadau o frechlynnau sydd gennym yn ein meddiant. Rydym yn ystyried gweithredu hynny ar draws y pedair gwlad. Rwy'n parchu'r ffaith fod yna sensitifrwydd masnachol ar hyn o bryd sy'n golygu nad ydym mewn sefyllfa i wneud hynny heddiw. Ond rwy'n awyddus i wneud hynny cyn gynted â phosibl, oherwydd rwy'n cydnabod mai da o beth yw tryloywder er mwyn rhoi hyder i'r cyhoedd am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a pham.

15:10

Gweinidog, mae etholwyr wedi codi materion am y rhaglen frechu gyda mi o ran carcharorion yng ngharchardai Cymru. Nid yw rhai carcharorion sydd yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf, a'r grwpiau blaenoriaeth cyntaf sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd, wedi cael unrhyw wybodaeth ynghylch pryd y maen nhw'n debygol o gael eu brechu, ac, yn ddealladwy, maen nhw'n meddwl tybed a ydyn nhw wedi cael eu hanwybyddu neu a fyddan nhw'n clywed rhywbeth yn fuan. Mae materion hefyd sy'n ymwneud â charcharorion sydd newydd eu carcharu a'r drefn brofi sy'n berthnasol iddyn nhw, a phryderon nad yw honno mor drylwyr ag y dylai fod, a phryderon pellach ynghylch swyddogion carchardai o ran y flaenoriaeth iddyn nhw ar gyfer brechu, er fy mod i'n siŵr y bydd cydbwyllgor y DU yn ystyried hynny wrth ystyried grwpiau eraill a allai gael blaenoriaeth dros y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf. Yn amlwg, Gweinidog, rwy'n gwybod bod yna faterion yma sy'n croesi'r ffiniau â chyfrifoldebau Llywodraeth y DU, ond mae'r boblogaeth carchardai yn agored iawn i niwed, o ystyried y lle cyfyng a'r anawsterau o ran cadw pellter cymdeithasol, ac mae llawer o'r carcharorion mewn grwpiau agored i niwed o ran eu hiechyd a'u proffil cyffredinol. Felly, mae'r rhain yn faterion pwysig, a tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth heddiw ynglŷn â chyfraniad Llywodraeth Cymru i'r ystyriaeth o'r materion hyn a'i rhan wrth inni symud ymlaen.

15:15

Wel, fel y gwyddoch chi, Eluned Morgan, fy nghyd-Weinidog i, sy'n gyfrifol am ofal iechyd carcharorion erbyn hyn, ond o ran cyflwyniad y brechlyn, mae hwnnw'n aros dan fy ngofal i. Nawr, rydym ni'n gweithio drwy ein cyfrifoldeb ni am ofal iechyd carcharorion, ond cyfrifoldeb penodol hefyd am gyflwyniad y brechlyn, a'r carcharorion hynny sydd mewn grwpiau blaenoriaeth—mae'n ffaith fod y boblogaeth carcharorion yn dioddef llawer mwy o afiechyd na'r boblogaeth ehangach, gydag amrywiaeth o anghenion gofal iechyd ychwanegol. Mae gennym ni boblogaeth o garcharorion hŷn ym Mrynbuga hefyd, felly fe fydd yna amrywiaeth o bobl yn y fan honno sydd mewn grwpiau blaenoriaeth oherwydd eu hoedran nhw hefyd. Rydym wedi gweld achosion yn torri allan mewn carchardai, ac rydym wedi gweld marwolaethau mewn carchardai hefyd, felly mae hon yn rhan o'r boblogaeth y mae gennym gyfrifoldeb amdani, ac rydym yn gweithio ar hyn gyda chydweithwyr sy'n gyfrifol am redeg carchardai i weld sut y byddwn ni'n cyflawni o ran y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol mis Chwefror. Felly, ni chaiff y boblogaeth carcharorion ei gadael ar ôl. Mae'n fater o allu gweithio ar hynny a gallu cyflawni hynny wedyn gyda'r grŵp penodol hwnnw o boblogaeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio bod y sicrwydd hwnnw'n ddefnyddiol. Wrth inni gael mwy o fanylion, fe fyddaf yn hapus i ymrwymo i ysgrifennu datganiad pellach naill ai'n unigol neu ar y cyd â'm cyd-Weinidog Eluned Morgan.

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n gobeithio ac yn gweddïo y byddwch chi'n gallu cyrraedd pob un o'ch targedau. Gweinidog, a ydych chi wedi eich bodloni ein bod ni'n gweinyddu pob dos a gawn? Fe geir pryder cyffredinol bod yr amser rhwng y ddwy ddos yn rhy hir o lawer. A wnewch chi gyhoeddi'r cyngor gan y JCVI y gwnaethoch chi ei ddefnyddio i lywio eich penderfyniad i gynyddu'r amser rhwng y ddwy ddos? A wnewch chi amlinellu faint o amddiffyniad a roddir gan un ddos o bob un o'r brechlynnau sydd ar gael? Y prif rwystr i frechu'r boblogaeth yn gyflymach yw'r cyflenwad, felly, Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran cymeradwyo brechlynnau eraill, megis yr un gan Johnson & Johnson? Yn olaf, Gweinidog, ni allwn ni fforddio gwastraffu'r adnodd hwn sydd mor werthfawr. Rydych wedi dweud mai dim ond 1 y cant o'r brechlyn sydd wedi ei wastraffu hyd yn hyn, ond mae hyn yn gyfystyr â miloedd o ddosau, ac fe geir miloedd o bobl y gellid bod wedi eu brechu nad ydyn nhw wedi cael eu dos gyntaf. Felly, Gweinidog, pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau gwastraff i fod tua 0.1 y cant, yn hytrach na'r gyfradd ar hyn o bryd? Diolch yn fawr.

Diolch. Nid wyf i'n gwybod o ble y cawsoch chi'r targed o 0.1 y cant o ran gwastraff. Mewn gwirionedd, mae'r ffaith bod gennym gyfradd wastraff o lai nag 1 y cant yn dangos bod gennym raglen frechu sy'n hynod effeithlon, sy'n rhan o'r hyn y dylem ni fod yn ymfalchïo ynddo'n fawr, sef bod ein rhaglen ni a arweinir gan GIG Cymru yn cyflawni mewn gwirionedd. Rydym yn cyhoeddi cyfraddau gwastraff o heddiw ymlaen, felly fe gewch chi weld yn rheolaidd pa mor effeithiol ac effeithlon y yr ydym.

O ran cymeradwyo brechlynnau eraill, fe hoffwn i atgoffa'r Aelod ac unrhyw un arall sy'n gwylio nad gwaith i wleidyddion yw hynny ac mae'n rhan bwysig o'n system ni nad gwleidyddion sy'n cymeradwyo darpar frechlynnau. Y rheoleiddiwr annibynnol, sef Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yr MRHA, sy'n cymeradwyo brechlynnau i'w defnyddio ac yn pennu ar ba sail y gellir eu defnyddio nhw. Mae hwn yn amddiffyniad pwysig sydd yn ein system ni. Mae'n rhaid iddyn nhw adolygu'r data ac maen nhw'n penderfynu a ellir defnyddio brechlyn. Mater i wleidyddion yw gwneud dewisiadau wedyn o ran gweinyddu'r brechlynnau hynny. Dyna yw'r sefyllfa. Felly, fe fydd angen i unrhyw ddarpar frechlyn arall fynd drwy'r un broses fanwl, ac fe fydd angen i'r MHRA wneud y penderfyniad yn yr un modd. Mae trydydd brechlyn gennym ni, y disgwyliwn iddo fod ar gael yn ddiweddarach yn y gwanwyn, sef brechlyn Moderna. Mae wedi ei gymeradwyo, a dyna pryd yr ydym ni'n disgwyl i gyflenwadau gyrraedd y DU. Mae hynny ar gofnod cyhoeddus yn barod. Fe fydd unrhyw gymeradwyaeth bellach yn amodol ar gyhoeddiad cyhoeddus gan yr MHRA yn y ffordd arferol.

O ran eu defnydd nhw wedyn a chyngor y JCVI ar y bwlch rhwng y dos gyntaf a'r ail, cafodd hynny ei gyhoeddi eisoes. Nid mater i mi yw ei gyhoeddi, fe'i cyhoeddwyd yn barod ac mae aelodau'r JCVI wedi cynnal cyfweliadau rheolaidd dros yr wythnosau diwethaf, yn esbonio eu cyngor, sut y penderfynwyd ar y cyngor hwnnw, y rheswm pam mae'r cyngor a roddwyd yn cynnwys y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf, lle mae 99 y cant o'r derbyniadau i ysbytai a marwolaethau yn digwydd  oherwydd COVID-19, ond hefyd, yn benodol, y cyngor hwnnw ar y cyfnod rhwng y dosau, sef y cyngor iechyd cyhoeddus arferol ynglŷn â sicrhau ein bod ni'n rhoi cymaint o amddiffyniad â phosibl i'r grŵp mwyaf bregus yn ein poblogaeth a hynny cyn gynted â phosibl, yn hytrach na darparu lefel uwch o amddiffyniad i grŵp llawer llai o'r boblogaeth o fewn yr un amserlen. Dyna ran o'r rheswm pam mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i chydasiantaethau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cefnogi cyngor y JCVI ar ymestyn y cyfnod rhwng dosau i 12 wythnos. Dyna pam mae pob prif swyddog meddygol yn y Deyrnas Unedig yn cefnogi'r cyngor hwnnw hefyd. Ac fe fyddai'n beth rhyfedd iawn pe byddwn i'n penderfynu, yn rhinwedd swydd Gweinidog, i wrthdroi cyngor y prif swyddog meddygol, a gwrthdroi cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gwrthdroi cyngor y JVCI, yr arbenigwr annibynnol, ar y dull o ddarparu brechlyn. Nid wyf yn dymuno gwneud unrhyw beth o'r fath. Fe fyddwn i'n tanseilio barn y prif swyddog meddygol yn gyfan gwbl pe byddwn i'n gwneud felly. Ond, yn fwy na hynny, fe fyddwn i'n anwybyddu'r cyngor uniongyrchol iawn sy'n mynegi y bydd y dull hwn yn wir yn achub bywydau ac y byddai dull arall yn golygu colli bywydau. Ac nid wyf i am wneud hynny byth. 

15:20

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac mae'n briodol hefyd ganmol ymdrechion arwrol pawb sy'n ymwneud â chyflawni'r rhaglen frechu enfawr hon? Rwy'n gwybod bod fy nghydweithwyr i sy'n feddygon teulu yn ysu am wneud mwy, a phe gallen nhw gael mwy o frechlynnau, fe fydden nhw'n gosod pobl yn y ciw nawr. Felly, mae yna waith rhyfeddol yn digwydd wrth inni siarad yma.

Un cwestiwn, y cyfeiriais i ato'r bore yma yn y briff, a diolch—[Anghlywadwy.]—Frank Atherton hefyd, a Rob Orford, am eu rhan nhw. Ond a gaf i bwyso arnoch chi, yn y fan hon mewn fforwm cyhoeddus, ynglŷn â phwysigrwydd y genadwri sy'n ymwneud â'r brechlyn? Mae pawb ohonom wedi gweld y lluniau o bobl yn falch iawn o gael eu brechlyn, ac mae hynny'n rhywbeth gwirioneddol wych, ond mae'n cymryd tair wythnos ar ôl y pigiad i'ch corff chi fagu rhywfaint o amddiffyniad yn erbyn haint COVID difrifol. Yn amlwg, rydych chi'n fwy diogel byth ar ôl dau bigiad, ond fe allech chi ddal COVID o hyd, ond ni fyddech yn ddifrifol o sâl. Dyna fantais y brechlyn: ni fyddwch chi'n cael y salwch difrifol nac yn gorfod mynd i'r ysbyty. Felly, o gael y brechlyn, y neges bwysig yw peidiwch ag anghofio nac anwybyddu'r holl gymhellion i gadw pellter cymdeithasol, ac aros gartref, a gwisgo mygydau, oherwydd ar ôl brechu, fe allwch chi fod yn trosglwyddo'r coronafeirws i bobl eraill o hyd. Felly, mae dathlu ar ôl cael pigiad yn iawn, ond mae angen ichi aros gartref o hyd, a phopeth arall. Felly, a gaf i ofyn ichi nawr beth yn union ydych chi'n ei wneud i drosglwyddo'r genadwri bwysig iawn hon?

Diolch i chi am eich sylwadau, ac rwy'n cytuno â chi fod hwn wedi bod yn waith aruthrol gan gydweithwyr ym maes gofal sylfaenol ac ar draws ein tîm ni a gaiff ei arwain gan GIG Cymru i sicrhau'r cyflymder ychwanegol sylweddol i weinyddu'r brechlyn. Ac rwy'n falch eich bod chi a'ch cydweithwyr yn gweld gwerth y sesiynau briffio ar iechyd gyda'r prif swyddog meddygol, y prif gynghorydd gwyddonol a minnau. Fe fyddwn ni'n parhau i gynnal y rhain. 

O ran y genadwri am y brechlyn, rwy'n credu bod hwn yn gyfle defnyddiol i ailddatgan ei bod yn cymryd amser i fagu'r amddiffyniad ar ôl gweinyddu'r ddos gyntaf o'r brechlyn, ac felly ni all pobl gael eu brechu ac ymddwyn fel pe bai popeth yn normal wedyn a mynd ati i gymryd mwy o risgiau. Ni fyddai hynny'n golygu y bydden nhw'n elwa ar yr amddiffyniad o gwbl. Ond hyd yn oed gyda'r amddiffyniad, rydych chi'n iawn: mae'r brechlynnau wedi cael eu treialu ac wedi rhoi data am amddiffyn pobl rhag niwed. Mae hynny'n golygu eich bod chi'n llawer mwy tebygol o fod wedi eich amddiffyn rhag mynd yn ddifrifol wael ac mewn perygl o orfod mynd i ysbyty neu farwolaeth, pan fydd yr amddiffyniad wedi dechrau. Eto i gyd, nid yw hynny'n golygu na allech chi gael COVID; nid yw hynny'n golygu na allech chi drosglwyddo COVID i rywun arall, felly mae'n bwysig iawn bod pawb yn dal ati i ddilyn y mesurau amddiffynnol sydd ar waith er ein lles ni i gyd. Hyd yn oed gyda niferoedd sylweddol o bobl yn cael eu brechu a'u hamddiffyn, byddai modd gwneud niwed gwirioneddol o hyd pe byddai llai o gadw pellter cymdeithasol, mwy o bobl yn cymysgu dan do, a phobl yn anghofio arferion amddiffynnol fel golchi dwylo, neu wisgo gorchudd wyneb, a chael awyru da.

Yn fy marn i, mae'n arbennig o bwysig gwneud y pwynt hwn wrth gofio bod ein ffigurau ni o ran marwolaethau, yn drist iawn, yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn uchel iawn. Rydym yn dechrau gweld gwelliant o ran y pwysau ar ein GIG, rydym yn dechrau gweld lefelau'r derbyniadau i ysbytai yn sefydlogi ac yn gostwng ychydig, ond mae hynny yng nghyd-destun y lefelau uchaf erioed o gleifion yn ein hysbytai ni. Mae'n werth atgoffa pobl, er ein bod ni'n gweld gwelliant, fod y gwelliant hwnnw'n dal i olygu bod gofal critigol yn gweithio ar gyfradd o 140 y cant, i lawr o 150 y cant, ond mae'n parhau i fod ar 140 y cant o'i gapasiti arferol. Felly mae angen i bob un ohonom ni gadw at hyn am ryw hyd eto i sicrhau nad ydym yn colli pobl nad oes angen eu colli ar hyd y daith yr ydym arni tuag at ddiwedd y pandemig.

15:25

Gweinidog, fe hoffwn i ddiolch i chi am y diweddariad heddiw ac a gaf i ddiolch am bopeth arall yr ydych chi'n ei wneud hefyd? Er y byddai'n well gan fy mhlaid i weld Llywodraeth y DU yn arwain y rhaglen hon yn hytrach na Llywodraeth Cymru, nid yw hynny'n golygu nad ydym yn gwerthfawrogi maint y gwaith sy'n cael ei wneud. Mae'n ymddangos eich bod chi'n gweithio am oriau aruthrol dan bwysau aruthrol ac fe hoffwn i ddiolch i chi a phawb sydd o'ch cwmpas am hynny.

A gaf i holi ynglŷn â'r targed a osodwyd o 70 y cant o bobl dros 80 oed ar gyfer y penwythnos? Rwy'n credu ichi ddweud ein bod ni wedi cyrraedd 52.8 y cant gyda hwnnw. Roeddech chi'n dweud bod yr eira wedi cael effaith berthnasol; a allwch chi amcangyfrif beth oedd y canran o frechlynnau a allai fod wedi eu gohirio oherwydd hynny? Ac a wnewch chi ddweud wrthym hefyd pryd y byddech chi'n disgwyl cyrraedd y targed hwnnw o 70 y cant nawr ac, yn ogystal â hynny, pryd allem ni obeithio dal i fyny â chyfran y bobl dros 80 oed sydd wedi eu brechu yn Lloegr, sydd, fel rwyf i'n deall, ychydig yn llai na 79 y cant yn ôl y data diweddaraf?

A gaf i eich holi chi hefyd am frechlyn Pfizer yn benodol? Mae'n ymddangos bod brechu wedi cyflymu ar ddiwedd yr wythnos diwethaf, ac mae hynny'n rhywbeth y byddem ni'n ei gymeradwyo. Mae ein niferoedd ni, serch hynny, yn parhau i fod yn sylweddol is na'r hyn a gyrhaeddwyd yn Lloegr dros y cyfnod i gyd. A yw'r gyfradd Pfizer yn cyflymu? A ydym wedi symud oddi wrth y polisi a esboniwyd gan y Prif Weinidog ynghylch ymestyn amser y broses frechu fel na fyddai unrhyw berygl y byddai'r gweinyddwyr yn segur am unrhyw gyfnod o amser? A yw hynny wedi newid?

Ac rwy'n deall—yn sicr ni fyddwn i'n dymuno i Lywodraeth Cymru ddweud unrhyw beth fel y gwnaeth Llywodraeth yr Alban o ran rhyddhau gwybodaeth anaddas—ond pa mor hyderus ydym ni o ran cyflenwad parhaus o'r brechlyn hwnnw gan Pfizer, yn enwedig o ystyried bygythiadau neu awgrymiadau sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd ynghylch gweithgynhyrchu hwnnw yng Ngwlad Belg? A beth yw'r cynlluniau i—

Wrth gwrs; y tamaid bach olaf—roi ail ddos i'r rhai sydd eisoes wedi cael y ddos gyntaf yn hytrach na symud i lawr y proffiliau risg wrth ddarparu brechiadau gyda'r brechlyn Pfizer hwnnw?

Diolch am y cwestiynau. Ni allaf i roi amcangyfrif canrannol pendant i chi o effaith y tywydd mawr, ond rydym ni'n ymwybodol bod cryn dipyn o weithgarwch wedi cael ei dynnu'n ôl, ac yn hytrach na thynnu ffigurau o'r awyr, yr hyn yr wyf i'n ymrwymo i'w wneud yw sicrhau ein bod ni'n parhau i gyflwyno gwybodaeth yn ddyddiol, ein bod ni'n parhau i gyflwyno gwybodaeth ddwywaith yr wythnos ar ddydd Mawrth a dydd Iau sy'n rhoi rhagor o fanylion, fel y bydd pobl yn gallu gweld yn dryloyw y cynnydd a wnawn ni yn ôl pob un o'r grwpiau blaenoriaeth hyn, yng nghyd-destun sicrwydd y cyflymder uwch yr ydym ni wedi dangos y gallwn ei gyflawni pan fydd y cyflenwad ar gael i ni.

Rwy'n nodi eich bod wedi gofyn pryd y byddwn ni'n dal i fyny â Lloegr o ran pobl dros 80 oed. Mewn gwirionedd, o ran rhai o'r categorïau eraill o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, rydym ni, wrth gwrs, ar y blaen i Loegr, ond dim ond am y meysydd yr ydym ni y tu ôl i Loegr yr wyf i'n cael fy holi. Fe fydd yr holl wybodaeth honno am ein sefyllfa ni'n parhau i gael ei chyflwyno, ac fe welwch chi hynny eto yn yr wybodaeth a gaiff ei chyhoeddi'n ddyddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly, rwyf i o'r farn fod gennym ddull da o fod yn dryloyw gyda'n data ni a'n gwybodaeth ni, ac yn lefel y sicrwydd y gall pobl ei gael bod y data a gyhoeddir hynny'n gywir.

Mae ein defnydd ni o frechlyn Pfizer yn cyflymu. Fel yr wyf i wedi ei ddweud dro ar ôl tro, rydym ni'n gweinyddu cymaint ag y gall ein GIG ei gyflenwi. Fe wyddom fod gennym ddulliau newydd lle mae modd bod ychydig yn fwy hyblyg nawr wrth ddefnyddio brechlyn Pfizer, ac mae hynny'n beth da hefyd. Felly, nid adeiladu ar ein seilwaith yn unig a wnawn ni; mae gennym ffyrdd ychwanegol o ddefnyddio hwnnw hefyd. O ran sensitifrwydd masnachol, rwy'n credu imi ymdrin â hyn yn gynharach wrth roi ateb i Rhun ap Iorwerth, ac wrth agor hefyd. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod ni mor dryloyw ag y gallwn fod, ond gan gofio'r sensitifrwydd sy'n bodoli o ran niferoedd y stoc.

O ran ail ddos y brechlynnau, rydym ni eisoes, wrth gwrs, yn cynllunio ar gyfer y rhain, ac fe fydd yn rhaid inni ystyried bryd hynny beth mae hynny'n ei olygu o ran defnyddio ein stoc ni, yn enwedig o ran brechlyn Pfizer, oherwydd y grwpiau cyntaf o bobl a fydd yn gymwys i gael eu hail ddos fydd y bobl sydd wedi cael y brechlyn Pfizer ei hun. Felly, mae angen inni sicrhau bod gennym stociau o hwnnw i roi'r ail frechiadau wrth barhau â'r gwaith o fynd trwy nid yn unig y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf, ond y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf sydd gennym ni, gyda'r brechlynnau sydd ar gael. Dyna pam, yn rhannol, mae cyflenwadau ychwanegol o frechlyn AstraZeneca mor bwysig i ni. 

15:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog Iechyd, rwy'n croesawu eich datganiad chi'n fawr heddiw am effeithiolrwydd y rhaglen frechu yn Islwyn, a weinyddir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac sy'n arloesi ymhellach. Rwyf am ddiolch ar goedd hefyd yn ddiffuant i bawb sy'n peryglu eu bywydau ar y rheng flaen, a'r rhai sydd mewn swyddi arweinwyr yn y rhyfel hwn ar COVID-19. Mae agor y ganolfan frechu newydd yn Nhrecelyn wedi fy nghalonogi i'n fawr iawn, ac rwy'n croesawu'r rhaglen 'cyswllt yn gyntaf' arloesol ar gyfer Islwyn a thu hwnt. Erbyn ddoe, roedd dros 48,840 o bobl wedi eu brechu yn holl ardal y bwrdd iechyd, roedd 20,471 o bobl dros 80 oed wedi eu brechu, a 14,000 o staff rheng flaen, a phreswylwyr mewn 90 o gartrefi gofal. Mae'r rhaglen frechu wedi bod yn mynd cystal fel y bydd meddygon teulu yn cynnig y brechlyn i grŵp blaenoriaeth 3 pan fydd pawb dros 80 oed wedi eu brechu'r wythnos hon. Felly'n gyntaf, Gweinidog, beth sy'n gyfrifol am y llwyddiant wrth gyflwyno'r rhaglen frechu yn fy etholaeth i, a pha sicrwydd a gawsom y bydd y cyflenwad hanfodol iawn o frechlynnau yn parhau ar gyflymder fel y gall y rhaglen gyflymu yn fwy byth?

Mae'n braf clywed canmoliaeth i fyrddau iechyd, sydd, yn fy marn i, yn gwneud gwaith eithriadol wrth ymdopi â'r holl bwysau y mae ein gwasanaeth iechyd gwladol ni'n ei wynebu yn hyn o beth, y digwyddiad mwyaf anghyffredin y bu'n rhaid inni fyw trwyddo. Digwyddiad unwaith mewn canrif yw hwn, mae'n hollol wir dweud hynny. Nid oes unrhyw un wedi gorfod ymdrin â phandemig fel hwn, yn y cyfnod modern o leiaf.

O ran darparu brechlynnau, ac o ran y cyflenwad, fel y dywedais i, rwy'n cyfarfod yn wythnosol gyda Nadhim Zahawi. Ef yw'r Gweinidog cydlynol sy'n cydweithio â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a'r Adran Iechyd ar y brechlynnau, am yr her o ran y genadwri. Mae gennym berthynas â Pfizer am eu bod nhw â diddordebau ehangach yng Nghymru ac yn gwneud ymchwil yma. Rydych chi'n ymwybodol o'r bartneriaeth y maen nhw wedi ymrwymo iddi â Phrifysgol Abertawe a'u diddordeb nhw mewn gofal iechyd sy'n seiliedig werth; dyna ran o'r rheswm y gwnaethon nhw fuddsoddi yng Nghymru yn hytrach na rhan arall o'r Deyrnas Unedig, ar gyfer y bartneriaeth arwyddocaol  honno. Ac yn ogystal â hynny, mae'r berthynas sydd gennym ni ag AstraZeneca, sydd â'u gwaith llenwi a gorffen yn Wrecsam. Rydym ni'n cael sgyrsiau gyda nhw hefyd yn uniongyrchol. Mae wedi bod yn berthynas ymarferol iawn o weithio rhwng fy swyddogion i—a'r sgyrsiau a gefais i hefyd. Rydym mewn sefyllfa, yn sicr, lle mae maen nhw'n ceisio cynyddu eu cyflenwadau, nid yn unig i'r DU, ond i weddill Ewrop hefyd. Mae cyfle arwyddocaol i helpu i amddiffyn llawer iawn o ddinasyddion ledled nid yn unig y cyfandir ond yn fyd-eang, wrth gwrs, ac rwy'n falch iawn fod AstraZeneca wedi ymrwymo i ddarparu brechlynnau i rannau eraill o'r byd am y pris o'u cynhyrchu nhw.

O ran y rheswm am y fath gynnydd a fu yn Islwyn, a thrwy Went a Chymru gyfan, y rheswm gwirioneddol yw'r agwedd hon o 'fe allwn ni wneud hyn'. Mae yna ddull o weithredu fel tîm Cymru yn mynd trwy ein GIG ni, drwy bartneriaid mewn llywodraeth leol, drwy'r cymorth milwrol a gawsom, ac mae hwnnw'n ffactor allweddol yn hyn o beth. Mae ein timau ni'n cydnabod ein bod yn gwneud rhywbeth er mwyn y genedl a fydd yn amddiffyn ac yn achub llawer o fywydau, ac yn ein tywys ni i fan lle gallwn wneud dewisiadau mwy normal unwaith eto ac y gallwn adennill rhywfaint o'r rhyddid y bu'n rhaid i bawb ohonom ei hildio er mwyn ein cadw'n fyw. Rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd y rhaglen frechu wedi darparu'r lefel honno o ddiogelwch i'r cyhoedd ac fe allwn ni edrych ymlaen at weld ffigurau llawer gwell ar gyfer ein gwasanaeth iechyd gwladol ni, nid yn unig o ran COVID ond materion eraill hefyd nad ydynt yn ymwneud â COVID. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

15:35

Diolch, Gweinidog.

David Melding fydd yn cadeirio eitem 4 ac eitem 5. Felly, rwyf nawr yn trosglwyddo'r gadair i David Melding.

Daeth David Melding i’r Gadair.

4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Diweddariad ar Gymwysterau ar gyfer 2021

Symudwn at eitem 4, sef y datganiad gan y Gweinidog Addysg—diweddariad ar gymwysterau ar gyfer 2021. Galwaf ar y Gweinidog, Kirsty Williams.

Diolch, Llywydd dros dro. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais fy mwriad y byddai cymwysterau dysgwyr sy'n sefyll arholiadau TGAU, Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gymeradwywyd gan CBAC yn cael eu dyfarnu drwy fodel gradd a bennir gan ganolfannau. Mae'r penderfyniad hwn yn adlewyrchu fy mlaenoriaeth o gefnogi llesiant a chynnydd dysgwyr yn realiti'r cyd-destun iechyd cyhoeddus a pholisi yr ydym ni bellach yn gweld ein hunain ynddo. Er bod mwy o waith i'w wneud o hyd, gobeithiaf y bydd cyhoeddi'r dull gradd a bennir gan ganolfannau—lle caiff graddau dysgwyr eu pennu gan eu hysgol neu goleg, yn seiliedig ar asesiad o'u gwaith—yn helpu i ddileu pryder dysgwyr. Datblygwyd y ffordd hon ymlaen gan y grŵp cynghori dylunio a chyflawni, ac mae'n rhoi lles dysgwyr a hyder y cyhoedd wrth wraidd ein cynigion.

Yn rhan o'r dull hwn, bydd canolfannau'n gallu defnyddio ystod o dystiolaeth yn ganllaw i'w penderfyniadau, gan gynnwys asesiadau nad ydynt yn arholiadau, ffug arholiadau a phapurau blaenorol wedi'u haddasu a ddarparwyd gan CBAC. Bydd fframwaith asesu i'w cefnogi i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer asesu. Bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion a cholegau wrth benderfynu pa wybodaeth asesu i'w defnyddio wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar ddysgu'r cynnwys craidd a fydd yn helpu dysgwyr wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy gamau nesaf eu haddysg. Caiff ansawdd y cynlluniau hyn eu sicrhau gan CBAC a byddant yn dangos sut mae'r ganolfan wedi pennu gradd dysgwr. Bydd hefyd yn ofynnol i bob ysgol neu goleg adeiladu ar brosesau sicrhau ansawdd neu eu datblygu, ac fe gânt eu cefnogi i wneud hynny drwy arweiniad gan CBAC.

Ar ôl i'r sicrwydd ansawdd hwn gael ei gwblhau yn y ganolfan, caiff y radd ei chyflwyno i CBAC. Rwyf hefyd wedi gofyn i'r grŵp cynghori dylunio a chyflawni ystyried sut i hyrwyddo mwy o gysondeb rhwng canolfannau wrth gyflawni ein dull gweithredu. Mae hyn yn cynnwys gofyn iddyn nhw gefnogi Cymwysterau Cymru a CBAC i ddatblygu a nodi'r fframwaith asesu a'r prosesau sicrhau ansawdd a gaiff eu mabwysiadu. Rwy'n cydnabod bod y broses apelio yn destun pryder a diddordeb i ddysgwyr ac ymarferwyr fel ei gilydd. Gallaf gadarnhau y bydd dysgwyr yn gallu apelio i'w hysgol neu goleg os ydyn nhw'n credu eu bod wedi cael gradd nad yw'n adlewyrchu eu cyrhaeddiad, ac i CBAC os ydyn nhw'n anhapus â'r broses a ddilynir gan eu canolfan. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod gwybodaeth glir a hygyrch am apeliadau ar gael, ac yn ystyried cynnig dysgu proffesiynol i ymarferwyr fel bod y prosesau a ddefnyddir yn gyson, yn gydradd ac yn deg.

Yn ogystal ag arbenigedd y prifathrawon a phenaethiaid colegau ar ein grŵp cynghori dylunio a chyflawni, sydd wedi neilltuo cymaint o amser i ddatblygu'r cynigion hyn, bydd y grŵp yn ehangu ei aelodaeth ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach i'w cefnogi yng ngham nesaf eu gwaith. Rhan o'r gwaith hwn fydd ystyried effeithiau unrhyw drefniadau newydd ar gydraddoldeb a llwyth gwaith, ochr yn ochr â datblygu canllawiau, cyfathrebu a dysgu proffesiynol a fydd yn cefnogi ysgolion a cholegau yn eu barn broffesiynol. Rwyf hefyd wedi gofyn i'r grŵp ystyried trefniadau ar gyfer ymgeiswyr preifat fel blaenoriaeth. Rwy'n cydnabod bod rhai ymgeiswyr preifat sy'n pryderu am ganolfannau’n graddio yn ôl eu trefn eu hunain, gan nad oedd pob ymgeisydd preifat yn gallu cael cymhwyster o dan y trefniadau a wnaed y llynedd. Felly, hoffwn ailadrodd fy ymrwymiad llwyr i sicrhau bod dewis clir iddyn nhw i gefnogi eu cynnydd.

I grynhoi, mae'r dull gradd a bennir gan ganolfannau yn ymddiried yn ymrwymiad athrawon a darlithwyr i flaenoriaethu addysgu a dysgu yn yr amser sydd ar gael, a'u gwybodaeth am ansawdd gwaith eu dysgwyr. Fodd bynnag, mae dysgu cynnwys craidd ac agweddau pob cwrs yn parhau i fod yn eithriadol o bwysig, fel y caiff pob dysgwr ei gefnogi i symud ymlaen gyda sicrwydd i'w camau nesaf a chyda hyder yn y graddau a ddyfarnwyd iddyn nhw. Rydym ni felly wedi ceisio gwneud y dull graddio mor glir â phosib o dan yr amgylchiadau, ond mor syml ac ymatebol â phosib ar yr un pryd.

Rydym yn gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i ystyried sut y gallan nhw gefnogi dysgwyr drwy'r cyfnod pontio hwn ac rwy'n ddiolchgar iawn am eu hymroddiad a'u cefnogaeth barhaus. Mae'n hanfodol bod y sector addysg ehangach yn parhau i ddod at ei gilydd fel hyn i gefnogi ein dysgwyr, gan gynnwys drwy gryfhau dyfarniadau proffesiynol drwy gymorth sy'n sicrhau trefniadau cyson a thryloyw. Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn ystyried y dull o ymdrin â chymwysterau eraill i Gymru'n unig, gan gynnwys y dystysgrif her sgiliau, Sgiliau Hanfodol Cymru a chymwysterau galwedigaethol cymeradwy. Mae hefyd yn gweithio'n agos â chyd-reoleiddwyr y DU i sicrhau dull gweithredu a thegwch cyson i ddysgwyr Cymru sy'n astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol sydd hefyd ar gael mewn gwledydd eraill.

Wrth i ni barhau i weithio'n gyflym i ddatblygu ein cynigion, rwy'n annog dysgwyr, athrawon a darlithwyr i barhau i ganolbwyntio ar ddysgu ym meysydd craidd eu cyrsiau yn ystod yr wythnosau nesaf. Y dysgu hwn a datblygu sgiliau a gwybodaeth gysylltiedig a fydd yn parhau i agor drysau i ddysgwyr yn y dyfodol, hyd yn oed ar ôl dyfarnu'r cymhwyster ei hun. Hoffwn ddiolch i bob dysgwr a gweithiwr addysg proffesiynol am barhau i fod mor hyblyg a pharod i addasu wrth ymateb i'r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Diolch, Llywydd dros dro. 

15:40

A gaf i ddiolch i'r grŵp cynghori dylunio a chyflawni hefyd? Dydw i ddim yn tybio eu bod wedi disgwyl gwneud y gwaith hwn. Credaf fod yr angen am eich cyhoeddiad yr wythnos diwethaf a'r datganiad hwn heddiw, Gweinidog, yn dangos pa mor agos ydym ni at y dibyn gydag addysg ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod eich bod yn gwneud penderfyniadau y byddai'n well gennych beidio â'u gwneud. Felly, nid yw fy nghwestiynau heddiw yn adlewyrchiad o athrawon a darlithwyr, sydd, mae'n rhaid imi ddweud, yn parhau i'm syfrdanu yn ystod y cyfnod hwn. Ond mae'r datganiad yna heddiw yn dystiolaeth nad yw dysgu ar-lein yn cyrraedd ei nod ac, rwy'n credu, erbyn hanner tymor, y byddem i gyd yn disgwyl i chi ddweud wrthym ni beth yw eich cynllun A, eich cynllun B a'ch cynllun C ar gyfer agor ysgolion erbyn diwedd y mis nesaf.

Yr hydref diwethaf, roedd Cymwysterau Cymru yn bendant na fyddai'n bosib creu a chyflwyno system gymedroli ddibynadwy ar gyfer yr hyn a oedd, bryd hynny, yn raddau wedi eu hasesu gan ganolfannau. Ni all y fframwaith yr ydych chi'n sôn amdano heddiw ond bod yn ddynwarediad gwan o rywbeth a oedd yn amhosib chwe mis yn ôl. Felly, pa mor agos at fethu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau statudol y mae'r penderfyniad hwn wedi gwthio Cymwysterau Cymru, ac, yn hynny o beth, CBAC? A pha mor ffyddiog ydych chi y bydd y ffordd newydd hon ymlaen yn sicrhau bod gan y cyhoedd ffydd yng nghyflawniad ein pobl ifanc, yn ogystal ag amddiffyn athrawon rhag cyhuddiadau o ragfarn anymwybodol, waeth pa mor ddi-sail yw'r rheini?

Os gall CBAC gynnig papurau blaenorol wedi'u haddasu i ysgolion—fe wnaethoch chi sôn amdanyn nhw heddiw, ac mae awgrym cryf yn y fan yna, onid oes, y dylid troi atyn nhw a'u defnyddio ar gyfer profion mewnol, wedi'u graddio yn unol â chanllawiau defnyddiol CBAC—pam y mae hi mor anodd i CBAC osod y papurau hyn yn ffurfiol ym mis Mai neu fis Mehefin, a'u marcio, gan gyflwyno arwydd clir ac allanol o gysondeb a thrylwyredd i'r system? Beth allwch chi ei ddweud wrthym ni ynghylch sut y gall CBAC sicrhau ansawdd proses fewnol pob ysgol neu goleg unigol ar gyfer asesu mewn pryd? Os yw'n penderfynu bod gan rai ysgolion broses gref eisoes, sy'n dod o fewn eu canllawiau, sut y bydd hynny'n grymuso person ifanc i herio ysgol ar ei phroses? Yn bwysicach na hynny, beth petai ysgol nad yw CBAC wedi'i gweld eto yn honni bod ei phroses yn gyfwerth neu'n well na fersiwn a gymeradwywyd gan CBAC?

Fe wnaethoch chi sôn am ddysgu proffesiynol. Pa ymarferwyr ydych chi'n rhagweld bydd angen yr hyfforddiant graddio hwn arnyn nhw? Ni allwch chi ddisgwyl o ddifrif i bob athro neu ddarlithydd ym mlynyddoedd 10 i 13 fod angen hynny. Ac o ran asesiadau nad ydyn nhw yn arholiadau, ni fyddan nhw eisoes yn cael eu cymedroli, ond rydych chi yn annog ysgolion i barhau i'w gwneud. Beth ydych chi'n ei gredu bydd canlyniad hyn? Ai ysgolion fydd yn gwneud y defnydd gorau ohonyn nhw, os yw'r pwysoliad a roddir iddyn nhw yn y fframwaith newydd yn annog hynny, neu ysgolion a cholegau yn defnyddio llai arnyn nhw i wneud mwy o addysgu er mwyn profi a chynyddu'r dystiolaeth o waith wedi'i raddio? Oherwydd nid pob ysgol sydd wedi bod yn ddigon hirben i gynnal profion pwnc rheolaidd eleni.

Ac yna, yn fyr gennyf fi, Safon Uwch Gyfrannol. Pam na fyddan nhw'n cyfrif tuag at radd derfynol myfyriwr? Naill ai mae gennych chi ffydd yn y system neu does gennych chi ddim. Credaf efallai y dylech chi ystyried cynnig y dewis iddyn nhw—y myfyrwyr sy'n gwneud Safon Uwch Gyfrannol eleni—boed hynny i fancio eu gradd neu beidio. Ac, os oes gennych chi eiliad, efallai y gallwch chi roi syniad i ni o'r amserlen pan fyddwn efallai'n clywed mwy o wybodaeth am ymgeiswyr preifat a'r cymwysterau galwedigaethol ar gyfer y DU gyfan. Diolch.

15:45

Diolch, Suzy Davies, am eich cwestiynau a'ch cydnabyddiaeth o waith caled y grŵp dylunio a chyflawni, fel y dywedais, sy'n cynnwys prifathrawon a phenaethiaid colegau sydd wedi gweithio'n gyflym iawn i roi cyngor ac arweiniad. Rwy'n ddiolchgar eu bod wedi cytuno i barhau i wneud y gwaith hwnnw gydag aelodaeth estynedig nawr, wrth i ni symud i'r cam nesaf o weithredu'r penderfyniadau a wnaed. 

Yn gwbl briodol, mae Suzy yn tynnu sylw at heriau'r system graddau a bennir gan ganolfannau. Mae manteision ac anfanteision i bob dull asesu, a'r gorchwyl yw, ar ôl penderfynu ar fecanwaith asesu, sut y gallwch chi liniaru'r anfanteision. Mae sicrhau bod cynllun cymedroli cyson pan fydd profiad pob ysgol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod mor wahanol yn cynnig heriau gwirioneddol o ran creu'r system gymedroli honno, yn enwedig os oes darnau o waith na fu'n bosib eu cwblhau mewn rhai ysgolion. Felly, fe allech chi fod mewn sefyllfa lle yr ydych chi'n cymharu tebyg ac annhebyg yn hytrach na chymharu tebyg a thebyg. Dyna'r her o gynllunio system gymedroli yn yr hinsawdd sydd ohoni, ond fe allwn ni fynd ati i liniaru hynny, a dyna fydd y grŵp dylunio a chyflawni yn bwriadu gweithio tuag ato.

O ran asesiadau CBAC, mae hwn yn offeryn a fydd ar gael i ysgolion. Mae'n bosib y bydd gan rai ysgolion lawer iawn o ddeunydd i seilio gradd a bennir gan ganolfannau arno. Efallai y byddai dosbarthiadau, athrawon, ysgolion eraill efallai yn hoffi rhywfaint o gymorth a help ychwanegol, ac yn hytrach na chynllunio eu rhai eu hunain, byddant yn gallu manteisio ar ddeunydd sydd wedi ei sicrhau o ran ansawdd, cydraddoldeb, ac sydd wedi mynd drwy'r holl brosesau y byddech yn disgwyl i asesiad CBAC fynd drwyddynt. Credaf y bydd hynny'n cynnig cyfle gwerthfawr i ysgolion fanteisio arno, ond mae'n amlwg mai mater i ysgolion unigol yw hynny. Ond rwy'n credu ei fod yn adnodd gwerthfawr y bydd CBAC yn ei ddarparu, a gall chwarae rhan bwysig wrth helpu athrawon i asesu plant a dynodi gradd.

O ran hyfforddiant, mater i athrawon unigol yw nodi'r anghenion hyfforddi yn eu gweithlu unigol, a pha unigolion yn eu hysgol efallai sy'n hanfodol o ran gweithredu'r system, a bydd hyfforddiant ychwanegol ar gael. Yr hyn yr ydym ni wedi'i ddysgu—un o'r ychydig iawn o agweddau cadarnhaol yr holl bandemig hwn—yw ein bod ni wedi trawsnewid y ffordd yr ydym ni wedi gallu cyflawni dysgu proffesiynol, ac rwy'n ffyddiog y byddwn ni mewn sefyllfa lle bydd yr ysgolion hynny sydd eisiau manteisio ar y cymorth ychwanegol hwn neu y mae angen iddyn nhw fanteisio arno yn gallu gwneud hynny.

Mae proses werthuso gweithdrefnau'r ysgol yn rhan bwysig o greu'r dull cenedlaethol hwnnw a'r cydraddoldeb a'r tegwch hwnnw. Dyna pam y byddwn yn gweithio i ddechrau ar yr offer asesu, a fframwaith asesu a fydd yn fframwaith cenedlaethol, ac yna mater i ysgolion yw penderfynu sut y byddant yn defnyddio'r fframwaith hwnnw yn eu lleoliad unigol, ac i CBAC sicrhau hynny. O ran y broses apelio, nid yw hi ond yn briodol, yn y lle cyntaf, os yw ymgeisydd yn anhapus â'r radd a roddwyd iddo, yna mae'n rhaid apelio i'r bobl a roddodd y radd. Mae'n amhosib apelio i CBAC, na fydd wedi chwarae rhan yn y gwaith o ddynodi'r radd honno. Ond yn amlwg, os yw CBAC yn sicrhau prosesau ysgol, os yw ymgeisydd yn teimlo nad yw prosesau'r ysgol wedi'u cymhwyso'n gywir, yna mae'n gwbl briodol yn yr achosion hynny mai CBAC fyddai'n gyfrifol am y broses apelio.

Yn olaf, o ran Safon Uwch Gyfrannol, mae'r dadleuon a wnaethom ni y llynedd ynglŷn â sut y mae sgoriau UCAS wedi'u dynodi gyda Safon Uwch Gyfrannol, a sut mae hynny'n cyfateb i Safon Uwch, yn dal yn wir. Yn absenoldeb gallu cynnal arholiadau neu, yn wir, ein gweithdrefnau cychwynnol, byddwn yn dychwelyd at y polisi a fodolai eleni. Bydd pob ymgeisydd Uwch Gyfrannol yn cael gradd. Mae hynny'n bwysig i'r ymgeiswyr hynny sy'n penderfynu peidio â pharhau â'r pwnc hwnnw, ond nid yw hi ond yn deg y cydnabyddir eu dysgu hyd yma ar gyfer y cymhwyster hwnnw ac, wrth gwrs, mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo ei bod yn werthfawr iawn cael y graddau hynny o ran eu cais UCAS, ond eu harholiadau A2—a gobeithio, bobl bach, ein bod ni mewn sefyllfa i gynnal yr arholiadau hynny—yr haen honno fydd y sail ar gyfer dyfarnu eu Safon Uwch gyfan. 

15:50

Diolch am y datganiad. Dwi am gymryd y cyfle y pnawn yma i sôn am adolygiad Louise Casella a gafodd ei gomisiynu gennych chi yn dilyn ffiasgo arholiadau y llynedd. O'r diwedd, pnawn dydd Gwener fe gyhoeddwyd adolygiad annibynnol o drefniadau haf 2020 ar gyfer dyfarnu graddau ac ystyriaethau ar gyfer haf 2021, teitl hir. Y fersiwn terfynol oedd hwn a dydy o ddim wedi cael llawer o sylw, felly dwi am gymryd y cyfle i roi rhai o'r prif gasgliadau ar y record heddiw, oherwydd dwi yn teimlo eu bod nhw yn hynod o bwysig. Dwi'n hynod ddiolchgar i Louise Casella a'r tîm am eu gwaith trwyadl ac am eu casgliadau di-flewyn-ar-dafod. Mae angen i Lywodraeth Cymru a'r gyfundrefn addysg drwyddi draw dalu sylw manwl i'r adolygiad.  

Mae'r adroddiad yn nodi fod nifer o gamgymeriadau wedi cael eu gwneud a allai fod wedi cael eu hosgoi, a hynny gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru a Cymwysterau Cymru. Roedd y camgymeriadau yn cynnwys methu rhagweld graddfa'r materion a fyddai'n codi, a'r risg o anghydraddoldeb i gymaint o ddysgwyr unigol o ganlyniad i'r diffyg gweithredu gan y ddau gorff. Yn benodol o ran cymedroli, mae'r adroddiad yn dweud hyn:

'Roedd Cymwysterau Cymru a CBAC wedi ystyried a ellid ymgymryd â rhyw fath o waith cymedroli graddau asesu canolfannau yn allanol cyn iddynt gael eu cyflwyno fel rhai terfynol, ond cafodd yr opsiwn hwn ei ddiystyru heb brofi'r rhagdybiaethau a ategodd y penderfyniad hwnnw yn llawn. Disgwyliodd canolfannau y byddai CBAC yn dychwelyd i ganolfannau a gyflwynodd raddau asesu canolfannau nad oeddent yn ymddangos eu bod yn cydfynd â'r disgwyl, gan barchu ei hawl i wneud hyn, ond ni ddigwyddodd hynny.

Yn absenoldeb cymedroli allanol o ran y penderfyniadau a wnaed wrth bennu graddau asesu canolfannau...ac yn absenoldeb hyfforddi aseswyr er mwyn osgoi unrhyw duedd wrth bennu graddau asesu canolfannau, dibynnwyd yn llwyr ar y prosesau safoni ystadegol i sicrhau tegwch rhwng canolfannau.'

Dwi wedi dyfynnu yn fanna o'r adroddiad ei hun, ac wrth bwyso a mesur yr hyn dwi newydd ddisgrifio, mae'r adolygiad yn dod i'r penderfyniad yma, a dwi'n dyfynnu eto,

'Mae hyn yn gyfystyr â methiant mewn arweinyddiaeth a llywodraethu mewn perthynas â'r trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau yn ystod haf 2020.'

Mae hyn yn ddamniol ond, eto, yr un bobl sydd wrth y llyw yn y ddau gorff yma, ac yn parhau i gael cryn ddylanwad ar y broses ers y ffiasgo yn 2020 wnaeth greu gymaint o bryder i gymaint o bobl ifanc. 

Hoffwn i, i gloi, ofyn i chi felly, Weinidog, a ydych chi wedi ystyried diswyddo rhai o'r bobl sydd yn rhedeg CBAC a Chymwysterau Cymru yn sgil canfyddiadau damniol adolygiad Casella, neu, o leiaf, ydych chi'n ystyried cynnal adolygiad pellach eich hun i weld a oes angen cymryd camau o'r math? Ac os nad ydych chi'n ystyried adolygiad pellach er mwyn canfod a oes angen gweithredu pellach, a wnewch chi egluro pam?

15:55

Diolch yn fawr iawn, Siân, am eich sylwadau. Rydym ni wedi cael adolygiad annibynnol. Rydych chi wedi dyfynnu'n helaeth o'i adroddiad. Nid wyf yn teimlo bod angen adolygiad pellach ar hyn o bryd, nac y byddai hynny yn wir o unrhyw gymorth. Yr hyn sydd ei angen arnom ni nawr yw sicrhau bod gwersi adroddiad Louise Casella yn cael eu dysgu. Pe bai'r Aelod yn bod yn deg, rwy'n siŵr y byddai'n cydnabod eisoes yn y ffordd yr ydym ni wedi ymdrin â'r sefyllfa hon, yn y Llywodraeth hon a'r tu allan i'r Llywodraeth, bod hynny yn adlewyrchu'r argymhellion, yn gyntaf oll, yn yr adroddiad cychwynnol gan grŵp Louise Casella, ac yn yr adroddiad llawn dilynol.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Louise a'i thîm am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud. Fel y dywedais, mae gwersi gwerthfawr i'w dysgu, sydd eisoes yn cael eu gweithredu gennyf fi a'r rhai sy'n gweithio gyda ni, i sicrhau nad yw dyfarnu cymwysterau eleni yn achosi'r trallod a'r anawsterau a wnaeth i ddysgwyr ac addysgwyr y llynedd.

Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwahaniaethu rhwng sut y cyrhaeddwyd graddau'r llynedd a sut y cyrhaeddwyd graddau eleni. Y llynedd, roedd y safoni, fel y nodwyd yn adroddiad Louise, yn dibynnu'n ormodol ar algorithm, i sicrhau tegwch ar draws y system, ac i geisio lliniaru'r pryderon y bydd yn rhaid inni geisio eu lliniaru eto eleni, sy'n bryderon dilys am ragfarn anfwriadol, ynghylch sut y gallai'r system hon effeithio ar gydraddoldeb, fel yr amlinellwyd mewn adolygiadau blaenorol o'r graddau a aseswyd gan y canolfannau y llynedd. Mae angen inni, nawr, liniaru rhag hynny, a dyna y mae pawb sy'n gweithio ar gymwysterau ar gyfer eleni wedi ymrwymo i'w wneud.

Diolch yn fawr am eich datganiad manwl. Mae'r ddau ohonom ni yn fenywod, felly mae'n amlwg nad ydym ni'n anghyfarwydd â'r cysyniad o wahaniaethu, felly rwyf eisiau mynd i'r afael â'r heriau y mae unrhyw system yn eu hwynebu wrth fynd i'r afael â rhyw, ethnigrwydd, ymddangosiad corfforol, anhawster dysgu blaenorol, y gall unrhyw fod dynol ei wneud, boed hynny'n ymwybodol neu'n isymwybodol. Mae gennym ni lawer o ymchwil i gefnogi hynny i gyd, a gwyddom hefyd fod rhai ysgolion yn llawer gwell am ragfynegi cyrhaeddiad yn gywir yn seiliedig ar ragfynegi canlyniadau arholiadau yn is neu ragfynegi yn uwch ac yna—. Ac mae hi'n bwysig iawn, wrth gwrs, gwneud hyn i gyd yn gywir, er mwyn sicrhau ein bod yn herio myfyrwyr ac athrawon yn effeithiol.

Felly, rwy'n falch iawn o weld eich bod yn ymdrechu cyn belled ag y bo modd i gael grŵp cynghori dylunio a chyflawni i fod yn gyfrifol am yr heriau y mae hyn yn sicr o'u cyflwyno, fel y gallwn ni sicrhau nid yn unig bod ein holl ganolfannau dysgu yn ceisio goresgyn y mathau hyn o broblemau, ond hefyd bod gennym ni bobl allanol yn sicrhau, lle mae'r trefniadau rhwystrau a gwrthbwysau hynny'n annigonol, bod gennym ni ffyrdd digonol o ddarparu yn erbyn y duedd honno, fel nad oes llwyth o apeliadau, sy'n achosi cymaint o alar i bobl ifanc. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am ba mor llwyddiannus ydych chi'n meddwl y byddwch chi, i ymrwymo'r proffesiwn mewn difrif i fynd i'r afael â phroblemau gwirioneddol.

Diolch, Jenny. Rhaid inni fod yn onest a chydnabod, wrth symud at y dull hwn, fod risgiau y bydd angen inni fynd ati i'w lliniaru, ac nid oes diben esgus fel arall. Weithiau, mae pwyslais mawr yn y ddadl hon am ddyfarnu cymwysterau ar yr awgrym mai dyma'r modelau symlaf a thecaf, ond, mewn gwirionedd, wrth siarad â phobl ifanc, mae llawer o bobl ifanc sydd â phryderon y gallai rhagfarn fwriadol neu anfwriadol effeithio ar eu canlyniadau, fel y dywedoch chi. A gwyddom o'r gwaith effaith ar gydraddoldeb a wnaed ar system y llynedd fod y rheini'n faterion gwirioneddol y bydd angen inni weithio'n galed i'w goresgyn.

Felly, os caf i amlinellu tair ffordd yn unig—y cyntaf o dair ffordd y byddwn yn ceisio gwneud hynny. Yn gyntaf, mabwysiadu fframwaith asesu cenedlaethol y bydd angen i bob ysgol weithio ynddo. Yn ail, hyfforddiant—felly, sicrhau bod canolfannau'n ymwybodol o'r heriau posib hyn o ran tegwch a chydraddoldeb a sicrhau y cymerir camau wrth hyfforddi staff a'u bod yn ymwybodol o hynny ac yn gallu gweithredu'n unol â hynny. Yn drydydd, mae ynglŷn â deunyddiau ar gael sydd wedi'u sicrhau gan CBAC o ran cydraddoldeb, y cyfeiriais atyn nhw yn gynharach. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn y Siambr hon yn ymwybodol, ond, wrth osod papur arholiad, fe roddir llawer iawn o sylw i gynllunio cwestiynau sy'n ceisio bod mor agored a chynhwysol â phosib, siarad am sefyllfaoedd y gall pob plentyn uniaethu â nhw, siarad am gysyniadau neu sefyllfaoedd y bydd plant o bob rhyw ac o bob cefndir yn gyfarwydd â nhw. Os gofynnir i chi ysgrifennu darn creadigol am wyliau tramor pan nad ydych chi erioed wedi cael y moethusrwydd o fod ar wyliau tramor—. Dyma'r pethau a'r prosesau meddwl sy'n sail i gynllunio papurau a chwestiynau arholiad, gan felly sicrhau bod cyfres o bapurau a deunyddiau asesu sydd wedi'u haddasu i sicrhau cydraddoldeb ar gael i bob ysgol y gall ysgolion eu defnyddio wedyn, gan wybod y buont drwy'r broses honno, yw un o'r ffyrdd y gallwn ni liniaru'r risgiau yr ydych chi yn briodol iawn yn cyfeirio atyn nhw. 

16:00

Diolch yn fawr iawn. Rwyf yn croesawu eich datganiad a'r penderfyniad anodd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ganslo arholiadau yn haf 2021 er mwyn caniatáu mwy o le ac amser ar gyfer dysgu ac addysgu. Mae'r penderfyniad hwn yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar ddysgwyr, eu teuluoedd a'u hathrawon ar adeg ansicr iawn. Bob dydd, mae plant a'u hathrawon yn parhau â'u haddysg o bell, ac rwy'n gwybod bod llawer o ysgolion, yn Islwyn, yn addasu eu dulliau addysgu a'u ffyrdd o gysylltu â'i gilydd, ac fe hoffwn i ddiolch i bawb ar draws y sector statudol ac mewn llywodraeth leol ac yn ein consortia am eu penderfyniad a'u harweinyddiaeth gref. Gweinidog, mae lles dysgwyr a sicrhau tegwch ar draws y system yn ganolog ym mhopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth benderfynu ar faterion o'r fath. Felly, ym mha ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru sicrhau, cyn belled ag y bo modd, fod pob dysgwr ledled Cymru yn cael profiad dysgu cymharol deg yn ystod y misoedd anodd iawn hyn o'r gaeaf a'r gwanwyn?

Diolch, Rhianon. Mae'n bwysig iawn, hyd yn oed yn yr adegau mwyaf heriol hyn, ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ddysgu cysyniadau craidd yn y pynciau hyn y caiff y plant eu harholi arnynt. Ond mae'n amlwg na allwch chi arholi plentyn ar gynnwys nad yw wedi ei astudio; ni ellir gwneud hynny, ac nid yw'n deg. Mae'r system hon yn caniatáu i ysgolion allu llunio barn ar gynnwys gwaith a chwrs y mae plentyn wedi gallu ei astudio. Ac eto, byddwn yn rhoi cyngor pellach i ysgolion i sicrhau mai cynnwys craidd mewn cymwysterau yw canolbwynt y gwaith wrth symud ymlaen. Ac roedd ysgolion yn gweithio'n galed iawn drwy gydol y tymor diwethaf i wneud hynny ac maen nhw'n parhau i ymdrechu i wneud hynny nawr. Ond, yn amlwg, mae cysyniadau craidd mewn pynciau yn bwysig iawn.

Rydym ni hefyd mewn trafodaethau cynnar gyda phrifysgolion a cholegau addysg bellach Cymru ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael o bosib ag unrhyw golled mewn dysgu—felly, gweithio gyda'n prifysgolion i sefydlu cyrsiau cyn-brifysgol y gellir eu cynnal o bell ac yn ddigidol yn ystod yr haf i sicrhau bod pawb yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gysyniadau craidd, sy'n eu galluogi i sicrhau eu bod yn trosglwyddo yn llwyddiannus i astudiaethau israddedig, ac, unwaith eto, gweithio gyda cholegau ac ysgolion lleol i helpu disgyblion i bontio'n llwyddiannus efallai o'u hysgol uwchradd leol i'w coleg gyda'r holl sgiliau angenrheidiol, neu, unwaith eto, rhaglen, ar ôl i'r cwrs ffurfiol hwnnw ddod i ben a bod y graddau wedi'u cyflwyno, sy'n ceisio cadw plant i ddysgu lle y bo'n bosib o gwbl i barhau i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwyseddau allweddol wrth inni symud ymlaen. Oherwydd dyna sydd ei angen arnom ni: dyfarnu cymwysterau, ie, ond hefyd cael pobl ifanc i deimlo'n hyderus ynghylch eu camau nesaf a theimlo y gallan nhw symud ymlaen yn llwyddiannus i beth bynnag y maen nhw'n penderfynu ei wneud.

16:05
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg mewn teuluoedd (polisi trosglwyddo yn y teulu)

Symudwn yn awr at eitem 5, sy'n ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, ac mae hyn yn ymwneud â hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn teuluoedd. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Gadeirydd. Dwi'n hapus iawn heddiw i allu cyhoeddi ein polisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd. Dywedais i yn ôl ym mis Chwefror, wrth gyhoeddi’r fersiwn drafft o’r polisi, ei bod hi'n bwysig inni ddeall bod yr iaith rŷn ni'n ei defnyddio gartref yn effeithio ar ba mor gyfforddus mae'n plant ni'n teimlo wrth ddefnyddio'r iaith honno nes ymlaen yn eu bywydau.

Ein nod ni gyda'r gwaith yma yw cefnogi ac annog pobl sydd â sgiliau Cymraeg, ond efallai sydd heb eu defnyddio'n ddiweddar, i siarad mwy o Gymraeg gyda'u plant nhw—hynny yw, i drosglwyddo'r iaith i'r genhedlaeth nesaf. Mae'r polisi yma yn canolbwyntio ar sut i ddylanwadu ar hyn. Wrth gwrs, mae'r iaith rŷn ni'n ei siarad gyda'n plant ni—yn wir, pob ymddygiad iaith—yn ganlyniad i lawer o ffactorau gwahanol. Dyw newid ein hymddygiad ddim yn hawdd, yn enwedig unwaith bod patrwm wedi'i sefydlu.

Fel mae'r ffigurau a'n hymchwil ni yn eu dangos, mae yna gartrefi ledled Cymru lle mae yna rieni yn medru siarad Cymraeg ond sydd am sawl rheswm—diffyg hyder, diffyg arfer, teimlad nad yw eu Cymraeg nhw, efallai, ddim yn ddigon da—ddim yn defnyddio’r Gymraeg gyda'u plant nhw. Felly, mae'n rhaid inni wneud popeth rŷn ni'n gallu i helpu iddyn nhw wneud hyn.

Yn ôl ym mis Chwefror, fe wnes i bwysleisio fy mod i am glywed gan deuluoedd fel rhan o'r ymgynghoriad ar y polisi yma—ar gyfer teuluoedd mae'r gwaith y byddwn ni'n ei wneud yn y maes yma wedi'r cwbl. Fel rhan o'r ymgynghoriad a'n hymchwil ni i drosglwyddo’r Gymraeg, rŷn ni wedi clywed gan deuluoedd lle mae rhieni wedi colli eu hyder nhw yn yr iaith. Rŷn ni hefyd wedi clywed barn a phrofiadau rhieni lle taw nhw yw'r unig oedolyn yn y teulu sy'n medru'r Gymraeg. Mae rhai o'r bobl rŷn ni wedi siarad gyda nhw wedi bod drwy’r system addysg Gymraeg eu hunain ond maen nhw eu hunain wedi'u magu mewn teuluoedd di-Gymraeg. Rŷn ni wedi clywed, wedi gwrando ac wedi bwydo'r safbwyntiau hyn i gyd mewn i’r gwaith.

Roedd un rhiant—fe wnaf i ei alw'n Steve—yn siarad Cymraeg ond yn sôn bod ei bartner e ddim. Roedd partner Steve yn teimlo bod rhywbeth ar goll o'i bywyd oherwydd bod dim Cymraeg gyda hi. Doedd hi na Steve ddim am i'w plentyn golli mas. Rŷn ni hefyd wedi clywed gan Lucy. Mae Lucy yn gallu siarad Cymraeg, ac, wrth edrych yn ôl ar ei hamser hi yn yr ysgol, mae'n cofio taw dim ond yn ei harddegau y gwnaeth hi ddechrau ddefnyddio’r Gymraeg oedd ganddi. Mae hi nawr yn oedolyn ac yn fam, ac mae ganddi bersbectif gwahanol ar ei Chymraeg hi. Roedd hi'n awyddus i ddefnyddio Cymraeg gyda'i phlentyn o'r cychwyn cyntaf. Mae'r safbwyntiau gwahanol yma, a llawer mwy, wedi cyfoethogi llunio'r polisi hwn.

Wrth gwrs mae angen i ni helpu rhieni i ddechrau ar eu taith nhw gyda'r iaith drwy roi cyfleoedd iddyn nhw ddysgu'r Gymraeg, a dyna pam ein bod ni'n cefnogi hynny eisoes drwy waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Mudiad Meithrin a'n partneriaid eraill ni. Ond ffocws y polisi yma yw dylanwadu ar gartrefi lle mae pobl eisoes yn gallu siarad Cymraeg er mwyn eu helpu nhw i ddefnyddio’r iaith gyda'u plant. Bydd hyn yn cyfrannu at gynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg ac, yn hollbwysig, dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg, sef dau brif darged Cymraeg 2050.

Does yna'r un peth ar ben ei hun yn mynd i wneud i ragor o bobl ddewis trosglwyddo'r Gymraeg. Mae'r polisi yma yn cyflwyno cyfres o gamau gweithredu i ni eu dilyn dros y ddegawd nesaf er mwyn creu cylch rhinweddol o rieni yn defnyddio'r Gymraeg gyda'u plant, a'u plant nhw wedyn yn yr un modd yn siarad Cymraeg gyda'u plant nhw.

Adeiladu ar sylfaen o waith rŷn ni wedi’i wneud yng Nghymru dros flynyddoedd lawer rŷn ni'n ei wneud, nid ail-greu'r olwyn. Nawr, mae angen inni wthio ffiniau ac arbrofi gyda dulliau newydd o weithio, gan gymryd risgiau o dro i dro, bod yn barod i fethu, ond gan ddysgu o’r methiannau hyn, a hynny heb fwrw bai ar neb. Dim ond drwy wneud hyn mae'n well ac mae ffordd i ni ddeall impact ein gwaith ni.

Rŷn ni am greu awyrgylch o gydweithio rhwng unigolion a sefydliadau lle mae cyfle i bawb rannu. Wedi'r cyfan, does gan neb chwaith fonopoli ar syniadau da. Welwn ni ddim o holl ganlyniadau'n gwaith ni dros nos. Mae beth rŷn ni'n dreial ei wneud yn digwydd dros genedlaethau—dyna holl bwynt y peth. Ond mae'r gwaith o sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol o siaradwyr Cymraeg yn y teulu yn dechrau heddiw. Diolch.

16:10

Diolch yn fawr, Weinidog, am y datganiad yma. Rwyf wedi bod yn dweud bod dewis iaith yn ddewis anymwybodol yn aml, yn bersonol iawn, ac yn bownd o barhau er gwaethaf unrhyw bolisi os dydyn ni ddim yn wynebu hynny. Felly, rwy'n falch o weld y symudiad hwn tuag at well ddealltwriaeth o le iaith mewn deinameg deuluol. Ac wrth edrych ar argymhellion y polisi, dwi'n troi at yr ail, y ddeinameg deuluol honno, yn hytrach na chaffael iaith strwythurol. Rwy'n amau bod y 'pwy' ym mhob teulu mor ddylanwadol â'r 'sut'. Mae yna nifer o argymhellion yn ymwneud â methodoleg ymchwil bellach. Yn sicr, mae angen carfan o fwy na 60 o deuluoedd arnoch chi ar gyfer hyn. Ond a yw hi o reidrwydd yn broses ymwthiol sy'n cael ei hawgrymu? Sut ydych chi'n bwriadu rheoli hynny mewn ffordd sensitif, a beth ydych chi wedi'i ddysgu yn barod am y broses o weithio gyda'r 60 o deuluoedd hyn?

Roeddwn hefyd yn falch o weld yn lansiad yr ymgynghoriad llynedd gydnabyddiaeth mai'r system addysg sy'n sicrhau caffael sgiliau'r Gymraeg, ond nid yw hynny'n sicrhau ei bod yn cael ei throsglwyddo, ac mae'r adroddiad yn dweud hynny. Dwi ddim am ailedrych ar brofiad dysgwyr heddiw, ond gallwn gytuno nad yw bob amser wedi bod yn un cadarnhaol. Ar gyfer ein cenhedlaeth bresennol o oedolion ifanc sydd wedi cael profiad gwael o ddysgu Cymraeg, neu sydd ddim wedi mwynhau eu hysgol cyfrwng Cymraeg, beth allwn ni ddweud wrthyn nhw nawr i'w helpu nhw dros y rhwystr emosiynol hwnnw, mewn ffordd? Achos mae'n ddigon i bobl fel fi sydd wedi bod yn benderfynol o'r cychwyn cyntaf y dylai fy mhlant i gael yr hyn na drosglwyddodd fy rhieni i fi, sef dwyieithrwydd—roeddwn i am lynu wrtho. Ond beth allwch chi ei newid nawr yn y tymor presennol, yn y neges i rieni newydd gydag amlygiad negyddol i'r Gymraeg fod dwyieithrwydd werth y gwaith caled, ac mae wedi bod yn arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n dysgu gartref ar hyn o bryd?

Hyfforddiant athrawon—rwy'n chwilfrydig iawn clywed mwy am le mae'r proffesiwn addysg yn mynd i ffitio i mewn fan hyn o safbwynt seicoleg trosglwyddo'r iaith, achos mae hyn yn fy nharo i fel achos o physician heal thyself weithiau. A gyda llawer mwy o athrawon yn ein hysgolion a cholegau sydd â sgiliau Cymraeg nag sy'n barod i ddysgu Cymraeg, neu ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, sut ydych chi'n gweld yr argymhelliad penodol hwn yn y polisi yn gweithio?

Ac, yn olaf, roeddwn yn siarad â rhywun sy'n arwain y cynllun mentora ieithoedd rhyngwladol sy'n cael ei redeg gan rai o'n prifysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd, a gwnaeth hi'r pwynt bod angen lleoedd diogel i oedolion sydd â rhywfaint o wybodaeth a sgil i wneud camgymeriadau, ac rŷch chi jest wedi canolbwyntio ar hynny yn eich sylwadau olaf yna. Gall y teulu fod yn un o'r lleoedd hynny, a dim ond ffordd arall o chwarae gyda'r iaith yw gwneud camgymeriadau. Mae chwarae gyda'r Gymraeg fel hyn yn gallu helpu plant â phatrymau iaith a'u hannog nhw i ofyn cwestiynau heb feirniadaeth, heb sôn am godi hyder oedolion. Felly, beth yw'ch meddyliau ehangach am leoedd diogel i oedolion chwarae gyda'r iaith y tu allan i'r cartref? Ac os gallaf, rwyf yn argymell ein polisi ni tipyn bach, os hoffech chi wybod mwy. Diolch.

16:15

Diolch yn fawr, Suzy. Jest yn gyntaf, dwi yn meddwl ei bod hi'n werth inni edrych nôl yn hanesyddol ar beth sydd wedi digwydd, achos rŷn ni'n gwybod, yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, gwnaeth lot o bobl oedd yn medru'r Gymraeg beidio â phasio'r Gymraeg ymlaen i'r genhedlaeth nesaf. Felly, mae'n rhaid inni ddysgu o beth ddigwyddodd yn fanna, beth oedd y cyd-destun hanesyddol. Roedd y capeli yn dechrau chwalu, roedd pob math o bethau yn newid. Roedd newidiadau cymdeithasol yn digwydd ac mae'n rhaid inni ddysgu o beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol. A hefyd, mae'n rhaid inni fod yn sensitif i'r ffaith bod ymyrryd yn y teulu yn rhywbeth sy'n anodd iawn, a dwi ddim yn meddwl bod lle i'r Llywodraeth. Mae'n rhaid inni fod yn rili, rili sensitif o ran sut mae'r Llywodraeth yn gallu ymyrryd yn y teulu. A dyna pam mae hwn—dŷn ni'n gorfod, dwi'n meddwl, jest cerdded yn rili ofalus yn y maes yma.

Beth sy'n glir yw, mewn rhai teuluoedd, mae dewis iaith yn rhywbeth sydd wedi'i benderfynu; mae wedi cael ei drafod. Ac yn sicr, yn fy nheulu i, roedd hi'n amod priodas bod yn rhaid i fy ngŵr i ddysgu Cymraeg fel ein bod ni'n gallu siarad Cymraeg â'r plant. Nawr, dŷn ni ddim yn mynd i ofyn i bobl Cymru ei gwneud hi'n amod priodas i siarad Cymraeg, ond dwi yn meddwl beth ŷn ni'n gobeithio ei wneud yw bod pobl o leiaf yn cael y drafodaeth, eu bod nhw yn gwneud dewis iaith yn rhywbeth maen nhw o leiaf wedi'i ystyried. Achos beth sydd wedi dod yn glir o beth ŷn ni wedi clywed yw ei bod hi'n rhywbeth mae pobl yn cwympo mewn iddi heb rili ystyried, a dim ond nes ymlaen, ar ôl i'r patrymau iaith gael eu sefydlu, maen nhw'n dechrau ystyried y peth, ac mae'n fwy anodd wedyn unwaith mae pobl wedi cwympo mewn i batrwm iaith.

Wrth gwrs, beth ŷn ni'n gwneud yn fan hyn yw adeiladu ar raglenni sydd wedi bod eisoes hefyd. Mae rhaglen Twf, wrth gwrs, 2001, a rhaglen Cymraeg i Blant, felly rŷn ni'n adeiladu ac wedi ystyried beth ŷn ni wedi'i ddysgu o'r rhaglenni rheini, ac mae'n bwysig bod y rhain yn cyd-dynnu gyda'i gilydd. Dyw hwn ddim wedi'i anelu at athrawon, ond dwi yn meddwl bod gwaith ymchwil yma efallai y gall athrawon ein helpu ni gyda. Dyna pam mae neges a thôn, y ffordd rŷn ni'n siarad, yn rili bwysig, ein bod ni'n cael y tôn yn iawn, ein bod ni ddim yn gwthio pobl i wneud rhywbeth lle maen nhw'n anghyfforddus. Ac mae lot o waith rŷn ni wedi'i wneud fel adran i fod i'n helpu ni gyda beth sy'n mynd i helpu pobl i ymgymryd â mwy o ddefnydd o'r iaith Gymraeg. Ac felly, dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni yn edrych i weld ble allwn ni ddysgu. Mae'r ffaith ein bod ni'n gallu methu, fel rŷch chi'n ei ddweud, Suzy, yn rhywbeth sy'n bwysig. A dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig bod yna le ble mae pobl ddim yn cael eu beirniadu, a byddwn i'n rili hapus, Suzy, i glywed rhai o'ch syniadau chi, achos un peth rŷn ni'n gwneud yn glir yn fan hyn yw bod dim monopoli gyda ni ar syniadau; rŷn ni'n fwy na hapus ac rŷn ni'n awyddus iawn i glywed os oes syniadau eraill gan bobl. Achos mae hwn yn faes eithaf newydd; does dim lot o bobl yn y byd yn gwneud hwn. Rŷn ni wedi edrych ar lefydd eraill. Mae ambell i beth efallai bod y Basgiaid wedi'i wneud, mae diddordeb gyda ni i edrych mewn i hynny, er enghraifft, fel camau ymlaen hefyd.

Diolch am y datganiad a'r adroddiad, a dwi'n edrych ymlaen at ei ddarllen yn fanwl. Ffocws y polisi, meddech chi, ydy dylanwadu ar gartrefi lle mae pobl eisoes yn gallu siarad Cymraeg er mwyn eu helpu nhw i ddefnyddio'r iaith efo'u plant. Ar ddiwedd y dydd, balchder yn y Gymraeg a hyder yn ei gwerth hi fydd yn creu y newid mawr sydd ei angen, a hoffwn i wybod beth fydd yn eich maniffesto chi ynglŷn â hyrwyddo hynny i holl deuluoedd Cymru mewn ffordd uchelgeisiol dros y blynyddoedd nesaf.

Fe ddywedoch chi nad oes yna'r un peth ar ei ben ei hun yn mynd i wneud i ragor o bobl drosglwyddo'r Gymraeg, a bod y polisi yma'n cyflwyno cyfres o gamau gweithredu. Fedrwch chi amlinellu beth ydy'r camau rheini'n fras, a sut gwnaethoch chi benderfynu ar y rhain? Beth ydy'r dystiolaeth sydd yna sydd y tu ôl i'r camau gweithredu rydych chi wedi'u dewis, a sut ydych chi'n mynd i fonitro llwyddiant y rhain i weld ydyn nhw'n cyrraedd y nod ai peidio? Ac fel rydych chi wedi sôn, mae yna beth gwaith wedi cael ei wneud ar hyd y blynyddoedd i helpu teuluoedd i ddefnyddio mwy o Gymraeg efo'u plant. Nod prosiect Twf, a oedd ar waith rhwng 2001 a 2016, oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith teuluoedd o fanteision magu plant yn ddwyieithog, a chael dylanwad cadarnhaol ar eu defnydd o'r Gymraeg. Dwi'n cofio'r cynllun Twf yn glir iawn pan oedd ar waith mewn rhannau o fy etholaeth i, ac mae'n rhaid imi ddweud mi oeddwn i'n siomedig iawn pan ddaeth o i ben oherwydd mi oedd o yn creu llwyddiant. Mi oeddwn i'n dyst i hynny fy hun o ran y teuluoedd a welais i yn cael budd o fod yn cael eu hannog drwy'r cynllun yna. Fe ddechreuodd Cymraeg i Blant fel olynydd i Twf yn 2016, ond heb fuddsoddiad digonol. A fyddech chi'n cytuno efo hynny, nad oedd dim buddsoddiad ar lefel ddigonol ar gyfer Cymraeg i Blant—neu yn parhau felly? Dwi'n credu mai'r nod ydy cynyddu nifer y plant sy'n derbyn addysg Gymraeg—felly mae'r sifft wedi symud rhyw ychydig—ac felly hefyd i gefnogi rhieni, gofalwyr, darpar rieni, darpar ofalwyr ac aelodau eraill o'r teulu i gyflwyno defnyddio'r Gymraeg gartref a throsglwyddo'r Gymraeg i'w plant, ond fel rhan o'r ymdrech i gael mwy o blant i fynd ymlaen i gael addysg cyfrwng Cymraeg. Ydych chi'n credu bod yna ddadl erbyn hyn dros ailgyflwyno cynllun Twf, o feddwl ei fod yn dal i gael ei ystyried fel cynllun llwyddiannus, ac sydd yn dal i gael ei arddangos fel esiampl o arfer da?

Ac yn olaf gen i, mae yna broblemau mawr wedi dod i'r amlwg yn sgil y pandemig, onid oes, o safbwynt rhieni sydd ddim yn hyderus yn eu Cymraeg, neu ddim yn siarad Cymraeg o gwbl, yn ceisio cefnogi eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. A gallaf i ddychmygu ei bod hi'n her anferth i geisio bod yn gwneud hynny. Mae Estyn wedi ei nodi fel risg mawr. A fydd hyn yn cael lle blaenllaw yng nghynllun adfer addysg y Llywodraeth? A pha drafodaethau ydych chi'n eu cael efo'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog cyllid i sicrhau cyllid ychwanegol er mwyn cefnogi'r gwaith adfer mawr sydd ei angen—ac a fydd ei angen—dros y misoedd nesaf ymhell heibio'r cyfnod pan fydd y feirws yn cilio?

16:20

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl eich bod chi'n eithaf reit: y ffordd rŷn ni'n sicrhau bod hwn yn gweithio yw sicrhau bod y rheini sydd yn siarad Cymraeg yn teimlo'n falch am y ffaith eu bod nhw'n siarad Cymraeg. Ond hefyd mae angen codi hyder pobl efallai sydd wedi bod drwy addysg Gymraeg, wedi stopio ei siarad hi am sbel, a bod angen inni jest ailgynnau'r tân yna ynddyn nhw, fel pan fyddan nhw'n cael plant, eu bod nhw eisiau sicrhau eu bod nhw'n siarad Cymraeg gyda'u plant nhw. A beth oedd wedi rhoi sioc imi yw ei fod e'n dal yn bwynt, er enghraifft, yn sir Fôn, lle'r oedd yna un unigolyn yn siarad Cymraeg, dim ond 38 y cant o'u plant nhw oedd yn siarad Cymraeg yn dair oed. Hyd yn oed lle roedd yna ddau riant yn y teulu, dim ond 76 y cant oedd yn pasio'r Gymraeg i'w plant nhw. Felly, mae yna broblem mae'n rhaid inni edrych arni, a hyd yn oed petasem ni'n dechrau yn fanna, byddem ni eisoes yn camu ymlaen gyda ble'r ydyn ni o ran cynyddu niferoedd. Felly, mae hwn yn rhan o'n rhaglen ni i gyrraedd y 2050 yna.

Wrth gwrs, bydd yn rhaid ichi aros i glywed y manylder yn ein maniffesto ni, ond byddwch chi yn ymwybodol, o ran y cwricwlwm, ein bod ni yn awyddus iawn i sicrhau bod ymwybyddiaeth o Gymru, o hanes Cymru, bod hwnna i gyd yn bwysig iawn, a bod jest ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg yn rhan o beth ŷn ni'n gobeithio bydd pobl yn ei ddysgu yn y dyfodol.

O ran y camau gweithredu, mae'n gymysgedd o bethau lle mae yna dystiolaeth o beth sy'n digwydd, achos rydym ni wedi edrych ar bethau fel Twf a Chymraeg i Blant ac wedi dysgu o'r rheini, ond hefyd rydym ni'n arbrofol a dŷn ni ddim eisiau ymddiheuro am fod yn arborfol yn y maes yma. Mae Cymraeg i Blant, wrth gwrs, wedi cael ei asesu, ac fel rhan o'r asesiad yna rydym ni wedi cymryd y gaps lle oeddem ni'n meddwl bod angen inni eu llenwi, wedi edrych ar Twf ac wedi gweld os yw'n bosibl i gael y gorau maes o Gymraeg i Blant a'r cynllun newydd yma. Wrth gwrs, mae tua £700,000 yn cael ei wario ar Gymraeg i Blant, felly mae'n eithaf lot o arian ac wrth gwrs mae hwnna'n helpu i wneud pethau fel sicrhau bod bydwragedd yn siarad gyda rhieni o'r cychwyn cyntaf.

O ran y pandemig, wrth gwrs, mae hi'n bwysig ein bod ni'n cadw hyder plant a rhieni, yn arbennig y rheini sydd yn anfon eu plant nhw o gartrefi di-Gymraeg. Rŷn ni wedi gwneud lot o waith gyda Phrifysgol Bangor i geisio sicrhau bod blogs ac ati ar gael i rieni fel eu bod nhw'n deall—mae lot o brofiad gennym ni yma yng Nghymru o aildanio ac o sicrhau bod plant yn gallu dysgu Cymraeg yn gyflym. Mae pobl sydd yn dod o'r tu fas, pan maen nhw'n cael eu boddi yn y Gymraeg unwaith y maen nhw'n cyrraedd cymuned lle mae yna Gymraeg, rŷn ni'n gwybod sut i wneud hwn, rŷn ni'n gwybod beth sy'n bosibl. Mae'r dystiolaeth yn dangos na fydd hi'n broblem, ond beth mae'n rhaid inni wneud yw codi hyder y rhieni hynny, jest i fod yn ymwybodol o'r gwaith yna sydd wedi cael ei wneud eisoes. Wrth gwrs, mi fyddwn ni'n gwneud lot o waith i sicrhau ein bod ni'n cyflymu'r broses yna a'n bod ni'n adfer y sefyllfa cyn gynted ag y bydd y plant nôl yn yr ysgol.

16:25

Diolch, Cadeirydd. Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog. Rwy'n gwybod o brofiad nad yw hi'n hawdd dysgu iaith fel oedolyn. Er mwyn i'r Gymraeg ddod yn iaith gymunedol, y lle gorau i'w defnyddio yw cychwyn yn y cartref, yn y crud.

I unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol y Gymraeg, roedd cyfrifiad 2011 yn siomedig iawn. Dangosodd ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ers cyfrifiad 2001, ac os bydd y dirywiad yn parhau ar y gyfradd hon, dim ond Gwynedd fydd â dros hanner ei phoblogaeth yn siarad Cymraeg yn 2051, a hynny ond o 1 per cent. Yr her yw hyrwyddo siarad Cymraeg i blant lle mae dim ond un rhiant yn gallu siarad Cymraeg, neu dim ond y fam-gu a thad-cu sy'n ei siarad. A yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod hi eisiau gweld y Gymraeg yn cael ei dysgu yn y cartref ac yna ei defnyddio yn y gymuned?

Diolch yn fawr, Mike, a dwi'n gwybod eich bod chi'n enghraifft o rywun sydd wedi dysgu Cymraeg, ond mae'ch merch chi wedi bod trwy ysgol Gymraeg a dwi'n siŵr y bydd hi, pan ryw ddydd efallai y caiff hi blant, bydd hi'n siarad Cymraeg â'i phlant hi. Felly, cyfraniad arbennig. Diolch yn fawr, Mike, un bach arall i gadw'r iaith yn fyw.

Beth sy'n bwysig, dwi'n meddwl, yw ein bod ni yn deall bod cychwyn Cymraeg yn y cartref, fel ŷch chi'n dweud, Mike, yn bwysig, a beth ŷn ni wedi darganfod yw bod y rheini sydd yn siarad Cymraeg gartref yn fwy hyderus yn eu Cymraeg nhw ac felly maen nhw'n fwy tebygol o ddefnyddio'r iaith pan maen nhw'n hŷn. Mae hwnna'n gwneud gwahaniaeth aruthrol, a dyna pam—. Beth mae'n rhaid inni drio cracio fan hyn yw'r genhedlaeth nesaf yna o blant sydd wedi cael eu haddysg nhw drwy'r Gymraeg, efallai wedi ei cholli hi am ychydig wrth eu bod nhw wedi mynd i'r gwaith neu wedi gadael Cymru am rywfaint ac wedi dod nôl, eu bod nhw yn ailgydio ynddi hi ac yn rhoi'r rhodd yna i'r genhedlaeth nesaf o'r iaith. Bydd hwnna, wrth gwrs, yn rhodd arbennig iddyn nhw ac yn rhodd i'r genedl, yn sicr. Dwi'n meddwl ei bod hi hefyd yn bwysig, Mike, i sôn am nain a taid a phobl eraill sy'n gallu helpu yn y maes yma, ac yn sicr mae hwnna'n rhywbeth sy'n werth inni ei ystyried hefyd.

16:30

Diolch yn fawr. Rhoddaf y gadair yn ôl i'r Dirprwy Lywydd nawr. Dydw i ddim yn siŵr bod gennym ni newid llyfn yma. A yw'r Dirprwy Lywydd wedi dychwelyd eto?

A gawn ni ddad-dawelu'r Dirprwy Lywydd? Wel, tra ein bod yn delio â'r anhawster technegol hwn, galwaf yr eitem nesaf.

6. Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Eitem 6 yw Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Phlanhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM7553 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 a Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020. Maen nhw hefyd yn dirymu elfennau o Reoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019 a Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) Rheoliadau 2019. Mae'r diwygiadau hyn er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth sy'n ymwneud â deunyddiau lluosogi planhigion a hadau yn parhau i fod yn weithredol ac yn rhoi cyfrif am faterion yn cynnwys y cytundeb ymadael a phrotocol Gogledd Iwerddon. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud diwygiadau cyfatebol yn Rheoliadau Anifeiliaid, Iechyd Anifeiliaid Dŵr, Rhywogaethau Goresgynnol Estron, Deunydd Lluosogi Planhigion a Hadau (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020. Mae rheoliad 2 o'r rheoliadau hefyd yn mynd i'r afael â gwallau a nodwyd yn y ddeddfwriaeth ymadael â'r UE ac yn cynnwys darpariaethau sy'n cyflawni dull newydd o ddrafftio. Mae'r gwelliannau'n dechnegol eu natur ac nid ydynt yn adlewyrchu newid polisi. Diolch.

Ymddengys fy mod yn dal yn y gadair felly galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Diolch. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn fore ddoe, ac mae ein hadroddiad wedi'i osod i lywio'r ddadl y prynhawn yma. Mae ein hadroddiad yn cynnwys un pwynt adrodd technegol. Rydym ni wedi codi'r pwynt adrodd hwn gan ein bod yn credu bod angen egluro un agwedd ar y rheoliadau ymhellach. Mae'r rheoliadau'n caniatáu i Weinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau llysiau nad ydynt wedi'u rhestru ar restr amrywogaethau Prydain Fawr, ar yr amod bod cais wedi'i wneud i ymuno â rhestr amrywogaethau Prydain Fawr neu restr amrywogaethau Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, o dan y rheoliadau, gall cais am awdurdodiad gael ei wneud gan y person sydd wedi cyflwyno cais i gynnwys yr amrywogaethau dan sylw ar restr amrywogaethau Prydain Fawr, rhestr amrywogaethau Gogledd Iwerddon neu restr o wlad gyfartal. Nid yw'n glir i ni ar yr olwg gyntaf pam y caniateir i berson sy'n cyflwyno cais i fod ar restr gyfatebol ofyn am awdurdodiad gan Weinidogion Cymru o dan yr amgylchiadau hyn. Y rheswm am hyn yw mai un o amodau'r awdurdodiad yw bod cais wedi'i wneud i ymuno â rhestr amrywogaethau Prydain Fawr neu restr amrywogaethau Gogledd Iwerddon ac nid rhestr gyfatebol. Felly, fe wnaethom ni ofyn am farn Llywodraeth Cymru ar yr anghysondeb amlwg hwn. Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru, yn dweud yr ymdrinnir â'n pryder, y bydd yn ymateb i ni ynghylch y mater hwn maes o law. Nodwn hefyd o ganlyniad fod Llywodraeth Cymru wedi agor trafodaethau gyda Llywodraeth y DU oherwydd bod y darpariaethau wedi'u cysylltu â threfn rhestru amrywogaethau sy'n berthnasol i Brydain Fawr. Diolch.

16:35

Diolch yn fawr iawn. Nid oes gennyf siaradwyr eraill. Galwaf ar y Gweinidog rhag ofn ei bod eisiau ymateb i unrhyw beth y mae Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth wedi'i ddweud. Gweinidog.

Diolch, Cadeirydd. Fe wnaf i ymateb i gwestiwn Cadeirydd y pwyllgor. Rwy'n credu ei fod yn sylw priodol iawn; rwy'n credu ei fod yn berthnasol i ddeddfwriaeth sy'n berthnasol y tu hwnt i Gymru, gyda darpariaeth sydd yr union yr un fath wedi ei gwneud i ddeddfwriaeth sydd hefyd yn berthnasol i Loegr. Er bod y darpariaethau wedi'u cysylltu â threfn rhestru amrywogaethau sy'n berthnasol i Brydain Fawr, rydym ni wedi dechrau trafodaeth gyda Llywodraeth y DU, fel y cyfeiriodd yr Aelod ati. Rydym ni wedi gofyn iddyn nhw ymchwilio i'w dull gwell o ryngweithio gyda'r drefn honno. Ymdrinnir â phryderon y pwyllgor ac mae'n amlwg y byddaf yn dychwelyd i'r pwyllgor cyn gynted ag y bydd ffordd ymlaen wedi'i phenderfynu arni. Diolch.

Diolch i chi Gweinidog. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

Symudwn nawr at eitem 7, rheoliadau rheolaethau swyddogol anifeiliaid, bwyd anifeiliaid a bwyd, ffioedd iechyd planhigion et cetera. Credaf y bydd y Gweinidog, mae'n debyg, yn rhoi iddo ei deitl priodol. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig. Lesley Griffiths.

Cynnig NDM7554 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Rhagfyr 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Cynigiaf y cynnig. Daeth Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020 i rym ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, a wnaed gan bwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, er mwyn gwneud y diwygiadau canlynol. Roedd angen mân ddiwygiadau technegol i sicrhau y byddai'r ddeddfwriaeth yn parhau yn weithredol ar ôl ymadael i weithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol a sicrhau bod rheolau bioddiogelwch a lles anifeiliaid yn cael eu cymhwyso. Yn ail, diwygiodd y rheoliad hwn hefyd Reoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 i gynnwys darpariaeth sy'n rhoi pŵer galluogi i ddatgymhwyso gwaharddiadau a chyfyngiadau penodol dros dro ar baratoadau cig a fewnforiwyd o'r UE o 1 Ionawr 2021. Cymhwyswyd y gosodiad wedyn drwy Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021, a ddaeth i rym ar 6 Ionawr. Bydd Prydain Fawr yn cyflwyno dull graddol o reoli mewnforion o'r Undeb Ewropeaidd yn unol â model gweithredu ffiniau Llywodraeth y DU. Bydd penderfyniadau ar yr amodau hynny ac ar y drefn fewnforio ar gyfer Prydain Fawr yn y dyfodol yn cael eu gwneud o fewn trefniadau llywodraethu'r fframwaith cyffredin ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi cynhyrchu adroddiadau ar gyfer y ddau reoliad heb unrhyw faterion a nodwyd, a byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i adolygu effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar bob maes, gan gynnwys rheolaethau swyddogol i sicrhau ein bod yn cyflawni'r canlyniad gorau i bobl Cymru. Diolch.

Diolch i chi Gweinidog. Nid oes gennyf siaradwyr. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld neb yn gwrthwynebu, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Nawr, cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod eitemau 8 a 9 gyda'i gilydd, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Ni welaf unrhyw wrthwynebiadau.

8. & 9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021

Dyma reoliadau diogelu iechyd coronafeirws 2021. Galwaf ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cynnig NDM7555 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2021.

Cynnig NDM7556 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2021.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Cynigiaf y cynnig ger ein bron ar y ddwy gyfres o reoliadau diwygio sydd ger ein bron heddiw, a'r cyntaf ohonyn nhw yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021. Mae'r rhain yn diwygio rheoliadau'r cyfyngiadau teithio rhyngwladol a'r cyfyngiadau coronafeirws mwy cyffredinol, sef rheoliadau Rhif 5. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod amrywiolyn newydd o COVID-19 wedi'i ganfod yn ddiweddar ym Mrasil. Mae hyn yn dilyn darganfyddiad cynharach o amrywiolyn newydd o straen o'r feirws yn Ne Affrica. Mae'r mathau hyn yn wahanol i amrywiolyn Caint y DU, ond gallant rannu nodweddion tebyg o ran bod yn fwy trosglwyddadwy. Er mwyn helpu i atal y mathau newydd hyn rhag dod i'r DU, mae'r rheoliadau diwygio hyn yn atal pob coridor teithio.

Bydd angen i'r rhai sy'n dymuno teithio i Gymru nawr ddarparu prawf negyddol cyn teithio, a bod o dan gwarantin am 10 diwrnod. Mae hyn yn cyd-fynd â'r camau tebyg sy'n cael eu cymryd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gan Frasil gysylltiadau teithio cryf â nifer o wledydd o bob rhan o dde America, gan gynnwys Wrwgwái, Paragwâi, yr Ariannin, Bolifia, Periw, Colombia, Chile, Swrinam a Gaiana Ffrengig. Mae'r rheoliadau hefyd yn dileu'r eithriadau sectoraidd i deithwyr sy'n cyrraedd o'r gwledydd hynny. Bydd yn ofynnol i bob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru sydd wedi bod yn y gwledydd hyn yn ystod y 10 diwrnod blaenorol ynysu am 10 diwrnod, a dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y gall rywun roi'r gorau i ynysu. Bydd y gofynion ynysu tynnach hyn hefyd yn berthnasol i bob aelod o aelwyd teithiwr. Ni fydd awyrennau uniongyrchol o'r gwledydd hyn yn gallu glanio yng Nghymru mwyach.

Yr ail reoliad yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021. Mae'r rhain yn sicrhau ei bod yn ofynnol nawr i fanwerthwyr gymryd camau i wneud eu hadeiladau mor ddiogel â phosibl i siopwyr a'u gweithwyr fel ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys cael mesurau ar waith ar gyfer rheoli mynediad a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd ar y safle, sicrhau bod cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo ar gael i gwsmeriaid, ac atgoffa cwsmeriaid o'r angen i gadw pellter o 2m a gwisgo gorchudd wyneb. Er bod y mesurau hyn eisoes yn ymddangos mewn canllawiau, bydd eu cynnwys ar wyneb y rheoliadau yn atgyfnerthu eu pwysigrwydd ac yn eu gwneud yn haws eu gorfodi. Mae llawer, wrth gwrs, eisoes yn gweithredu yn unol â'r safonau uchel hyn, ond mae angen inni godi'r safon ar gyfer y rhai a allai ac a ddylai wella.

Gwn y bydd Aelodau ar draws y Siambr wedi cael enghreifftiau anecdotaidd gan eu hetholwyr eu hunain yn codi pryderon am yr union faterion hyn. Mae hefyd yn ofynnol i bob busnes ac adeilad gynnal asesiad risg COVID penodol ac i hynny gynnwys ymgynghori â staff a chynrychiolwyr, a bod ar gael i staff. Bydd hyn yn ategu'r cyfreithiau iechyd a diogelwch galwedigaethol presennol. Mae'r rheoliadau diwygio hyn hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i berchenogion pob ysgol a sefydliad addysg bellach beidio â chaniatáu i ddysgwyr fynychu'r safle o 20 Ionawr. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau'n caniatáu i ddisgyblion barhau i fynychu ysgolion a sefydliadau addysg bellach mewn rhai amgylchiadau. Bydd gosod y gofyniad hwn ar sail statudol yn sicrhau cysondeb ac eglurder ledled Cymru. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, y mae'r Llywodraeth yn credu eu bod yn rhan hanfodol o'r ffordd y gallwn ni helpu i gadw Cymru'n ddiogel.

16:40

Rwy'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd dros dro. Rwy'n siarad mewn cysylltiad â'r ddwy eitem, 8 a 9. Gwnaethom ystyried y ddwy gyfres hyn o reoliadau fore ddoe, ac mae ein hadroddiadau wedi'u gosod i'r Aelodau eu gweld. Bydd yr aelodau'n gyfarwydd â'r cyfyngiadau a'r gofynion a osodir ar bobl yng Nghymru o dan reoliadau cyfyngiadau'r coronafeirws Rhif 5, a hefyd bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â'r rheoliadau teithio rhyngwladol sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws. Croesawaf yn fawr yr adroddiad manwl y mae'r Gweinidog wedi'i gyflwyno o ran y rheoliadau hyn.

Gwnaf sylwadau yn gyntaf ar reoliadau gwelliant 2 ar gyfer y coronafeirws, teithio rhyngwladol a chyfyngiadau. Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys tri phwynt rhinweddau. Bydd y cyntaf a'r trydydd pwynt yn gyfarwydd i'r Aelodau. Rydym ni wedi tynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau wedi dod i rym cyn iddyn nhw gael eu gosod gerbron y Senedd, ac rydym ni hefyd wedi nodi na fu ymgynghoriad ffurfiol, unwaith eto. Mae ein hail bwynt rhinweddau hefyd yn ymddangos yn aml yn ein hadroddiadau ac yn ymwneud â hawliau dynol. Rydym yn tynnu sylw at baragraff penodol yn y memorandwm esboniadol cysylltiedig sy'n esbonio cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros ymyrryd â hawliau dynol. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau cyfyngiadau Rhif 5 a rheoliadau teithio rhyngwladol 2020.

Nid oes cyfeiriad penodol yn y memorandwm esboniadol at sut y gallai diwygiadau i reoliadau Rhif 5 ymyrryd â hawliau dynol. Rydym ni yn cydnabod, fel gyda rheoliadau teithio rhyngwladol 2020 y cyfeirir atynt yn benodol yn y memorandwm esboniadol, y gallai'r rheoliadau gwelliant Rhif 2 hyn fod yn annhebygol o newid ymgysylltiad materion hawliau dynol. Serch hynny, yn ein hadroddiad, gofynnwyd a ellid egluro'r sefyllfa o ran cyfyngiadau Rhif 5, a chroesawaf gadarnhad Llywodraeth Cymru nad yw'r rheoliadau diwygio hyn yn newid ymgysylltiad materion hawliau dynol o dan y rheoliadau cyfyngiadau hyn.

Nodwn hefyd yn ein hail bwynt rhinweddau fod y paragraff perthnasol yn y memorandwm esboniadol yn cyfeirio at siarter hawliau sylfaenol Ewrop. Fodd bynnag, mae adran 5(4) Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn nodi nad yw'r siarter yn rhan o gyfraith ddomestig ar neu ar ôl 11 p.m. ar 31 Rhagfyr 2020. O'r herwydd, gofynnwyd am esboniad am y cyfeiriad at y siarter yn y memorandwm esboniadol, gan fod y mater hwn wedi'i grybwyll mewn nifer o'n hadroddiadau a osodwyd yr wythnos hon. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i ni yn dangos mai camgymeriad oedd hyn, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad i sicrhau y caiff unrhyw gyfeiriadau at y confensiwn eu cywiro'n briodol.

Gan droi'n awr at reoliadau diwygio Rhif 5, mae ein hadroddiad yn cynnwys un pwynt technegol a thri phwynt rhinweddau. Mae'r pwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at yr hyn sy'n ymddangos yn ddrafftio diffygiol mewn cysylltiad â pharagraff (4)(a) newydd, sy'n cael ei fewnosod yn rheoliad 16 o reoliadau cyfyngiadau Rhif 5. Mae'r diwygiad i reoliad 16 yn gosod gofyniad ar bobl sy'n gyfrifol am safleoedd penodol i gynnal asesiadau risg coronafeirws penodol. Fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, nid ydym o'r farn bod y paragraff newydd hwn yn cyflawni'r hyn a ystyriwn yr effaith a fwriedir. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'n hasesiad, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad i ymdrin â'r camgymeriad hwn cyn gynted â phosibl.

Unwaith eto, mae ein pwynt rhinweddau cyntaf yn gofyn am esboniad ynghylch pam yr oedd y memorandwm esboniadol yn cyfeirio at siarter hawliau sylfaenol Ewrop, felly rwy'n ddiolchgar am esboniad Llywodraeth Cymru, yr wyf eisoes wedi ymdrin ag ef. Mae ein hail bwynt rhinweddau yn nodi na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol. Ac mae ein trydydd pwynt rhinweddau yn nodi, er nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gynnal mewn cysylltiad â'r rheoliadau hyn, bod asesiad o'r effaith ar hawliau plant ac asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, mewn gwirionedd, wedi'u cwblhau. Diolch, Llywydd dros dro. 

16:45

Gweinidog, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r ddwy gyfres o welliannau i reoliadau 8 a 9 y coronafeirws. Fodd bynnag, gan fod gan y rheoliadau fwy na thuedd i—maen nhw bob amser yn dod i rym cyn eu gosod gerbron y Senedd, a gawn ni geisio achub y blaen y tro nesaf y byddwch chi efallai'n adolygu'r rheoliadau rhyngwladol hyn, a gofyn a allwch chi roi unrhyw ddiweddariad inni ynghylch newidiadau pellach a allai ddigwydd i'r rheoliadau teithio rhyngwladol? Mae llawer o adroddiadau yn y cyfryngau ar hyn o bryd ynglŷn â gwaharddiadau teithio llwyr, coridorau teithio neu gwarantin gorfodol mewn gwestai, a pha effaith y byddai hynny'n ei chael ar Gymru, yn ogystal ag ar y DU gyfan. A allwch chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n rhan o'r asesiadau sy'n cael eu gwneud er mwyn ein diogelu rhag y gwahanol amrywiolion o'r coronafeirws sy'n bodoli? Rwy'n sylweddoli nad yw hynny'n ymwneud yn uniongyrchol â'r rheoliadau teithio rhyngwladol sydd ger ein bron heddiw, ond gan droi at bwynt Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym cyn i'r Senedd gael cyfle i gytuno arnynt neu i'w trafod, ac felly pe baech chi'n rhoi unrhyw wybodaeth ymlaen llaw i ni am unrhyw beth y gallech chi fod yn ei wneud, byddai'n ddefnyddiol iawn.

Mi wnaf i ddechrau efo eitem 8, rheoliadau ynglŷn â theithio rhyngwladol. Mi gefnogwn ni'r rheoliadau yma, fel rydan ni wedi'i wneud bob tro wrth i swyddogion dderbyn ac ymateb i dystiolaeth newydd am y lefel risg mewn perthynas â theithio i Gymru o wahanol wledydd a thiriogaethau rhyngwladol. Felly, mi fyddwn ni'n pleidleisio dros y rheoliadau hynny, ac felly hefyd eitem 9, y rheoliadau sy'n gosod gofynion ar fanwerthwyr i gryfhau eu hasesiadau risg a chamau gwarchod y cyhoedd. Dwi'n croesawu hynny, ac y croesawu'r ymgynghori sydd wedi bod efo cynrychiolwyr busnes, ac ati, ond ar ddiwedd y dydd, mater o ddyrchafu egwyddorion gwarchod iechyd y cyhoedd sydd yn fan hyn. 

Mae'r rheoliadau hefyd yn tynhau rheolau i sicrhau bod ysgolion a sefydliadau addysg bellach ddim yn caniatáu i fyfyrwyr fynychu. Eto, dwi'n credu o dan yr amgylchiadau mai dyma'r cam cywir, a bod cyfiawnhad dros wneud hyn, ond a gaf i atgoffa, fel mae eraill wedi wneud—fel mae fy nghyd-Aelod Plaid Cymru, Siân Gwenllian, wedi wneud—mae'n rhaid i'r amgylchiadau yma weld llawer cryfach a chliriach arweiniad gan y Llywodraeth i awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod darpariaeth addysg o bell a dysgu o bell yn cael ei chefnogi a'i hwyluso? Mae yna enghreifftiau gwych o arloesi yn mynd ymlaen gan athrawon ac ysgolion unigol, ond dwi'n gwybod bod yna ddiffyg cysondeb difrifol hefyd.

Yn fwy cyffredinol, ac wrth edrych ymlaen—bachu ar y cyfle yma i edrych ymlaen—at y rheoliadau nesaf a'r penderfyniadau nesaf ar gyfyngiadau, dwi ddim yn meddwl bod pobl yn disgwyl llacio mawr yn fuan, oherwydd bod y sefyllfa yn dal yn ddifrifol efo'r feirws. Ond, dwi'n gwneud fy apêl arferol ar y Llywodraeth i ystyried beth all gael ei wneud i adlewyrchu'r pwysau ar bobl a'r effaith mae'r cyfyngiadau yn eu cael yn benodol ar eu lles a'u hiechyd meddwl nhw, a lle mae yna gyfleon i ganiatáu mwy o gyfarfod neu ymarfer corff i bobl fod yn gwmni a chefnogaeth i'w gilydd yn yr awyr agored, plis ystyriwch sut y gall hynny gael ei ganiatáu yn ddiogel.

16:50

Diolch. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder am ei adroddiad ar waith craffu'r pwyllgor, ac fel arfer, byddwn yn rhoi sylw, fel y nododd, i bob un o'r meysydd, i sicrhau y caiff y gyfraith ei datgan yn gywir. Fel y dywedais, rwy'n credu ei fod bob amser yn swyddogaeth ddefnyddiol, yn enwedig o ystyried ein bod yn gorfod deddfu'n rheolaidd drwy gydol y pandemig.

Hoffwn groesawu Angela Burns yn ôl i'w swydd yn Weinidog iechyd a gofal cymdeithasol yr wrthblaid. Ymdriniaf â'i chwestiynau—. Dechreuaf gyda theithio rhyngwladol, oherwydd bob wythnos rydym yn adolygu trefniadau teithio rhyngwladol ar sail pedair gwlad. Mae Gweinidogion o bob un o'r Llywodraethau cenedlaethol datganoledig, ynghyd â Gweinidogion y DU, swyddogion a'r prif swyddog meddygol, yn edrych ar y dystiolaeth o ran lle yr ydym ni arni, ac mae'r darlun newidiol nid yn unig o'r sefyllfa o'i chymharu â gwledydd eraill, ond yn enwedig o ran amrywiolion newydd, wedi arwain at newid sylweddol mewn trefniadau teithio rhyngwladol. Hoffwn allu rhoi rhybudd cynharach iddi ynghylch yr hyn sy'n debygol o godi, ond nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny gan fod hon yn dal i fod yn sefyllfa hynod ddeinamig. Rydym yn cyfarfod bob wythnos. Bron bob tro mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau gyda'r gwaith papur a ddarperir a'r sgyrsiau sy'n digwydd mewn cyfnod byr iawn. Felly, er fy mod yn deall y cais am wybodaeth ymlaen llaw, nid wyf yn credu, yn ymarferol, y gallwn wneud hynny, ac nid wyf yn credu y bydd unrhyw Weinidog arall, boed hynny yn Llywodraeth y DU, gweinyddiaethau'r Alban neu Ogledd Iwerddon mewn sefyllfa i wneud hynny chwaith. Rydym ni'n gwneud dewisiadau. Rydym yn eu gwneud cyn gynted â phosibl. Yna darperir datganiadau rheolaidd, a byddwn yn parhau i'ch diweddaru, tra bo'n rhaid i ni ddiwygio'r rheoliadau mor aml.

O ran y cwestiwn ehangach a ofynnodd am y dyfalu ynghylch gwaharddiadau teithio a gwestai cwarantin ac ati, mae arnaf ofn na allaf fod yn gyfrifol am friffio gan Lywodraethau eraill yn y DU. Rwyf wedi gweld straeon yn y wasg ac rwyf wedi clywed sylwadau gan Weinidogion eraill mewn Llywodraethau eraill nad ydynt yn faterion y bu trafodaeth gyda mi yn eu cylch, ac nad ydynt yn faterion y mae swyddogion wedi cael eu briffio'n briodol yn eu cylch chwaith. Rwyf wedi'i gwneud hi'n glir fy mod eisiau i hynny gael ei wneud yn iawn, fel y dylai gael ei wneud, rhwng ein swyddogion, ac i'r sgwrs a fydd wedyn yn digwydd ar lefel weinidogol gael ei llywio gan gyfnewid gwybodaeth yn briodol rhwng swyddogion. Ar y naill law, oherwydd y sefyllfa yr ydym ni ynddi ac y mae rhannau eraill o'r byd ynddi, nid yw teithio rhyngwladol yn sylweddol ar hyn o bryd beth bynnag. Fodd bynnag, ni fyddai ond yn cymryd ychydig o deithio i amrywiolion sy'n peri pryder ddod i'r wlad. Rydym ni wedi gweld hynny, er enghraifft, gyda'r nifer gymharol fach o bobl ag amrywiolyn De Affrica ledled y DU, ond mae hynny ynddo'i hun yn broblem, ac mae'n ein hatgoffa pam y mae angen inni barhau i siarad a gweithio cyn belled ag y bo modd ar sail pedair gwlad, a pham y mae angen inni gael perthynas briodol ac adeiladol â Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon hefyd.

O ran pwyntiau ehangach Rhun ap Iorwerth, o ran darpariaeth addysg o bell, credaf fod y Senedd newydd gael cyfle i gwestiynu a chael rhai atebion i gwestiynau gyda'r Gweinidog addysg, a chwestiynau ehangach am ddarparu dysgu o bell, oherwydd mae arnaf ofn ein bod yn annhebygol o weld tarfu ar ddysgu wyneb yn wyneb yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod adolygu hwn. Rydym ni wedi gwneud hynny'n glir iawn ymlaen llaw, ond wrth gwrs byddwn yn parhau i edrych ar yr hyn sy'n bosibl ei wneud o ran darpariaeth addysg o bell, tra byddwn yn chwilio am gyfnod pan ellir dychwelyd at rywfaint o ddysgu wyneb yn wyneb, ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt yr ydym yn gobeithio eu cwblhau gyda CLlLC ac arweinwyr undebau athrawon ac undebau addysg eraill yn hynny o beth.

O ran eich pwynt ehangach am y cyfyngiadau ehangach, nad wyf yn credu eu bod yn destun y pleidleisiau heddiw, ond, wrth gwrs, bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau'r rheini ddydd Gwener yr wythnos hon unwaith y bydd y Cabinet wedi cwblhau'r rheini. Rydym bob amser yn edrych ar gyfleoedd i ystyried lle y gallem wneud newidiadau'n ddiogel, ond rwyf eisoes wedi dweud na ddylai neb ddisgwyl unrhyw newid sylweddol, o ystyried faint o bryder sydd yna, o ran faint o bwysau sydd ar ein GIG, gyda chapasiti o 140 y cant mewn gofal critigol heddiw, ond hefyd, er gwaethaf y newyddion da iawn bod pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o'r coronafeirws yn yr adroddiad heddiw, y sefyllfa o hyd yw tua 216 o achosion fesul 100,000, sy'n dal yn gymharol uchel. Felly, rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir ond mae angen cynnydd pellach arnom ni i gyd cyn y gallwn ni wneud dewisiadau mwy sylweddol ynghylch llacio llawer mwy sylweddol yn y dyfodol. Gyda hynny, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw.

16:55

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, a diolch i David Melding am gamu i'r adwy, tra oedd gennyf broblemau technegol.

Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig hwnnw.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 9. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiad i'r cynnig o dan eitem 9 ac felly, byddwn yn pleidleisio ar hwnnw pan ddeuwn i'r cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod eitemau 10 ac 11 gyda'i gilydd, ond eto gyda phleidleisiau ar wahân. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cynigiaf y dylid grwpio'r ddau gynnig o dan eitemau 10 ac 11 i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes.

10. & 11. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth a Chynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

Cynnig NDM7557 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn:

Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.

Cynnig NDM7558 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn:

Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel ag y mae yn yr Amserlen ar gyfer ystyried Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) a osodwyd gerbron y Senedd ar 19 Ionawr 2021.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi blino ar ddweud a chlywed y gair 'digynsail', ond mae'n wir serch hynny bod pandemig y coronafeirws yn parhau i'n hwynebu gyda dewisiadau a phenderfyniadau na fyddem, mewn amgylchiadau eraill, yn sicr wedi'u hystyried ac y byddem wedi gorfod dod i arfer â byw gyda'r ansicrwydd hwnnw.

Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar 6 Mai. Rwyf eisiau bod yn gwbl glir mai polisi'r Llywodraeth yw y dylai ddigwydd fel y trefnwyd ac rwyf eisiau i bawb sy'n ymwneud â'r etholiad baratoi ar y sail honno. Mae ar y Senedd angen Llywodraeth sydd â mandad newydd ar frys, yn enwedig i sefyll gydag awdurdod newydd yn erbyn ymdrechion digynsail Llywodraeth San Steffan i danseilio datganoli. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ymdrechion enfawr sy'n cael eu gwneud gan swyddogion canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol i sicrhau y gellir cynnal y bleidlais yn ddiogel ym mis Mai, a hoffwn fynegi fy niolch iddyn nhw. Serch hynny, er gwaethaf y ffaith bod lefelau'r haint yn dechrau gostwng, ni allwn ni heddiw fod yn sicr y bydd modd cynnal pleidlais ym mis Mai. Mae'r pandemig yn peri risg a allai atal pleidleiswyr rhag pleidleisio, boed hynny oherwydd salwch neu'r angen i gydymffurfio â'r gofynion i hunanynysu, neu oherwydd yr ofnau sydd ganddyn nhw ynghylch diogelwch mynd i orsaf bleidleisio i bleidleisio'n bersonol. Yn yr un ffordd, mae lefelau uchel o salwch hefyd yn peri'r risg o beidio â chael digon o staff ar gael i weinyddu'r bleidlais, gyda hynny yn ei dro yn peryglu uniondeb yr etholiad ei hun.

Dirprwy Lywydd, dyna pam y gwnaethom ni sefydlu'r grŵp cynllunio etholiadau, a adroddodd ym mis Tachwedd yn cynnig addasiadau i ymateb i effeithiau'r feirws. Rydym yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau y gweithredir y rhain a mesurau eraill i wneud etholiadau'n fwy diogel. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno dulliau cadw pellter cymdeithasol a hylendid mewn gorsafoedd pleidleisio, yn ogystal ag annog cofrestru ar gyfer pleidleisio absennol fel nad oes angen i bleidleiswyr fod yn bresennol yn bersonol os nad ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Ond gan fod y rheolau ar gyfer ein hetholiadau wedi'u nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol, rydym ni wedi dod i'r casgliad bod angen i ni roi deddfwriaeth ar waith a fydd yn galluogi gohirio'r etholiad os—a dim ond os—yw'r Senedd yn cytuno bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ei gwneud hi'n amhosibl bwrw ymlaen.

Mae'r Bil hwn, os caiff ei basio, yn galluogi cytuno ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer gohirio'r etholiad pan fetho popeth arall pe bai'r pandemig yn fygythiad difrifol i gynnal yr etholiad yn ddiogel ac yn deg. Mater i'r Llywydd fydd cynnig dyddiad ar gyfer y bleidlais os bydd cynnig gan y Prif Weinidog i'w ohirio. Rhaid i'r dyddiad newydd a bennir ar gyfer yr etholiad fod o fewn chwe mis i 6 Mai ac mae angen cymeradwyaeth y Senedd drwy fwyafrif o ddwy ran o dair o gyfanswm seddi'r Senedd. Fel amddiffyniad pellach, mae'r Bil yn cynnig swyddogaeth i'r Comisiwn Etholiadol mewn cysylltiad â gohirio. Os bydd y Llywydd neu'r Prif Weinidog yn gofyn, rhaid i'r Comisiwn Etholiadol roi cyngor iddyn nhw ar fater gohirio.

Felly, mae'r Bil hwn yn cynnwys llawer o fesurau diogelu i sicrhau bod gohirio nid yn unig yn cael ei ystyried mewn amgylchiadau gwirioneddol ddigynsail, ond os na fyddwn yn cyflwyno'r darpariaethau hyn, byddwn yn colli dewis wrth gefn pwysig wrth ymateb i'r pandemig. Rwyf i a'm cyd-Weinidogion yn credu'n gryf mewn gwneud pleidleisio'n haws ac yn fwy hyblyg, a byddwn wedi hoffi cyflwyno darpariaethau ar gyfer pleidleisio cynnar er mwyn rhoi mwy o ddewis i bobl o ran pryd i bleidleisio'n bersonol, ond rydym wedi derbyn cyngor y gymuned etholiadol y bydd etholiad y Senedd, fel y mae pethau, ac o dan yr amgylchiadau lle bydd etholiad y Senedd yn digwydd ar yr un pryd ag etholiadau comisiynwyr yr heddlu a throseddu, sy'n gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ni ellir cyflawni hyn ar gyfer 6 Mai. Byddwn yn parhau i adolygu pleidleisio cynnar os caiff yr etholiad ei ohirio. Mewn amgylchiadau eithriadol o'r fath, rhaid inni ystyried pob dewis i alluogi pleidleiswyr i gymryd rhan yn yr etholiad. Felly, efallai y byddwn yn dychwelyd at hyn yng Nghyfnod 2.

Er bod y pwyslais yn y cyfryngau wedi bod ar ddyddiad yr etholiad ei hun, mae'r Bil hwn hefyd yn cynnwys newidiadau deddfwriaethol pwysig eraill a fydd yn cynyddu'r hyblygrwydd ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy ac yn darparu amser ychwanegol o fewn yr amserlen ar ôl yr etholiad os bydd oedi yn y cyfrif.

Mae'r Bil yn byrhau cyfnod y diddymiad er mwyn sicrhau y gellir galw'r Senedd yn ôl hyd yn oed ar ôl i'r ymgyrch etholiadol ddechrau os yw'n hanfodol iddi gyfarfod i ystyried busnes iechyd cyhoeddus brys ynglŷn â'r coronafeirws neu bennu'r dyddiad ar gyfer yr etholiad os bydd yn rhaid gohirio'r etholiad yn y pen draw. Mae diddymiad byrrach yn golygu y gellir gwneud penderfyniadau ar ohirio yn nes at ddyddiad yr etholiad arfaethedig ac y gall y Senedd barhau i ymateb i'r pandemig, os bydd amgylchiadau'n mynnu bod hynny'n digwydd. Rydym i gyd yn rhy gyfarwydd â natur anrhagweladwy'r pandemig sy'n datblygu. Byddwn yn trafod gyda'r Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer busnes y Senedd yn ystod y cyfnod pan fyddai'r Senedd fel arfer yn cael ei diddymu, ond byddwn yn rhagweld na fyddem yn cyfarfod ar gyfer busnes arall ac eithrio gohirio'r etholiad nac ystyried newidiadau brys i ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â COVID.

Hyd yma, mae'r pandemig wedi gofyn am ddull cyflym a phragmatig, a fydd yn gofyn i ni gyd yn gynrychiolwyr etholedig ganolbwyntio'n fanwl er mwyn ymdrin â'r sefyllfa sy'n newid yn gyflym. Dyna pam yr ydym ni hefyd yn cynnig bod darpariaethau, wrth gefn, yn cael eu cynnwys i ohirio isetholiadau llywodraeth leol ymhellach.

Natur anrhagweladwy'r pandemig sy'n fy arwain i alw arnoch i gytuno i'r cynnig hwn heddiw a chaniatáu inni fwrw ymlaen â'r Bil hwn o dan weithdrefn y Bil brys. Fel Llywodraeth, byddai'n well gennym allu defnyddio proses arferol y Bil i ganiatáu i'r Senedd graffu'n llawn ar y Bil hwn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymarferol yn yr amser sydd ar gael.

Gyda'r etholiad yn prysur agosáu, mae'n well rhoi unrhyw newidiadau i gyfraith etholiadol ar waith ymhell cyn y diwrnod pleidleisio. Mae hyn yn bwysig o ran cynorthwyo gweinyddwyr etholiadol i baratoi ar gyfer yr etholiad a rhoi eglurder iddyn nhw gyflawni eu swyddogaeth hanfodol. Er ein bod yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, rhaid inni ganiatáu cymaint o amser ag y gallwn iddyn nhw wneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol. Nid yw'r amser a adawyd rhwng nawr a'r diwrnod pleidleisio ym mis Mai yn ddigon i ganiatáu ar gyfer y broses graffu lawn ac i weinyddwyr wneud paratoadau.

Nod y Bil hwn yw cyflwyno newidiadau dros dro mewn ymateb i'r heriau uniongyrchol a gyflwynir gan y pandemig, ac ni fwriedir iddo wneud newidiadau parhaol i'n cyfreithiau etholiadol. Dim ond yn 2021 y bydd y darpariaethau yn y Bil yn berthnasol ac ni fyddant yn cael unrhyw effaith ar etholiadau yn y dyfodol. Mae cyfraith etholiadol yn bwnc cymhleth, ac fe ddylid craffu'n drwyadl ar newidiadau parhaol yn y maes hwn.

Ein hamserlen arfaethedig ar gyfer y Bil yw ei gyflwyno yfory, ac yna dadl Cyfnod 1 yr wythnos ganlynol. Bydd Cyfnod 2 a Chyfnodau 3 a 4 yn cael eu cynnal ar ddiwrnodau olynol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 8 Chwefror. O dan yr amserlen hon, gellir cael Cydsyniad Brenhinol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 15 Chwefror. Felly, anogaf yr Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig hwn a chaniatáu inni ddefnyddio proses y Bil brys ar gyfer y Bil hwn. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

17:00

Pan fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cyflwyno Bil brys ar y sail bod angen ei ddeddfu'n gyflymach nag y mae proses ddeddfwriaethol arferol y Senedd yn ei ganiatáu, mae hyn yn ei hanfod yn symleiddio prosesau deddfu ac atebolrwydd y Senedd. Felly, dim ond pan fydd argyfwng gwirioneddol ac anrhagweladwy y dylid ei defnyddio.

Dim ond dwywaith o'r blaen y mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r dull hwn o ddeddfu, gyda Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 a Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018. Gellid dadlau bod eu cymhellion yn wleidyddol ar y ddau achlysur, ac ni ddylai hyn fod yn wir yn achos Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) y maen nhw bellach yn ceisio caniatâd gan y Senedd i'w gyflwyno.

Cyflwynwyd Bil Etholiad Cyffredinol yr Alban (Coronafeirws), sy'n galluogi Gweinidogion Llywodraeth yr Alban i ohirio etholiad cyffredinol yr Alban y tu hwnt i 6 Mai, yn amodol ar bleidlais o Senedd gyfan yr Alban, yn Senedd yr Alban am y tro cyntaf ar 16 Tachwedd 2020. Er iddo gael ei basio drwy amserlen ar garlam, roedd gan Aelodau Senedd yr Alban dros bum wythnos o hyd i ystyried y Bil. Bydd amserlen arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil hwn, mewn cyferbyniad, yn rhoi ychydig dros bythefnos o graffu i Aelodau'r Senedd tan Gyfnod 3.

Er bod yr argyfwng pandemig wedi bod yma ers mis Mawrth 2020 ac y buom yn ymwybodol o'r dyddiad ar gyfer etholiad nesaf Senedd Cymru ers pum mlynedd, ni wnaeth y Prif Weinidog awgrymu newid mewn rheoliadau tan fis Tachwedd. Felly, rhaid i ni ofyn pam y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa lle mae angen iddi fod yn defnyddio gweithdrefnau brys o'r fath. Ble mae'r rhagwelediad, pan roedd hi'n amlwg y byddai'r pandemig yn dal i fod ar frig yr agenda? Gallai rhai ddweud y gallai'r gostyngiad yn ffydd y cyhoedd yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig fod wedi dylanwadu ar eu cymhellion dros geisio'r Bil brys hwn nawr, ond does dim dichon i mi wneud sylw. Er y byddwn yn pleidleisio heddiw i gytuno y gall Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel Bil brys yn y Senedd, gan gydnabod yr angen posibl am oedi yn seiliedig ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n dirywio'n gyflym, dim ond rhoi benthyg ein pleidlais a wnawn. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud pa sefyllfa y mae angen i'r pandemig fod ynddi cyn gofyn am oedi yn yr etholiad, a byddai ein cefnogaeth barhaus yn ei gwneud hi'n ofynnol i Lywodraeth Cymru nodi beth fyddai'r sefyllfa honno a fyddai'n peri i'r Prif Weinidog ofyn yn ffurfiol am oedi. Nodwn hefyd y byddai mwy o gynnwys yn y Bil, ac rydym yn cydnabod bod rhinwedd i rywfaint o hyn, gan gynnwys y gostyngiad yn y diddymiad i saith diwrnod calendr cyn etholiad. Fodd bynnag, rydym yn pryderu mai dim ond yn ddiweddarach y gellir cyflwyno rhywfaint o gynnwys arfaethedig fel gwelliannau Llywodraeth Cymru.

Fe wnaethom ni gymryd rhan yng ngrŵp cynllunio etholiadau Llywodraeth Cymru yr haf diwethaf, ac mae gennym ni nifer o bryderon o hyd o'r grŵp cynllunio hwnnw, gan gynnwys ymestyn pleidleisio dros nifer o ddiwrnodau, pan fydd pleidleiswyr yn cael eu difreinio pe baen nhw'n credu y byddai pleidleisio ar ddiwrnod arall i Senedd Cymru yn dal yn eu galluogi i bleidleisio dros y comisiynydd heddlu a throseddu; ymestyn oriau pleidleisio o 6.00 a.m. hyd 11:00 p.m. pan na chredir y byddai hyn yn cynyddu nifer y pleidleiswyr; a chynyddu nifer y pleidleisiau dirprwyol, lle na fyddem ni eisiau gweld unrhyw newidiadau a fyddai'n caniatáu i unigolyn weithredu fel dirprwy ar gyfer aelwyd gyfan lle nad ydyn nhw'n perthyn i'w gilydd. 

Byddai oedi etholiad cyffredinol Cymru sydd wedi'i amserlennu ar gyfer 6 Mai yn arwain at oblygiadau enfawr, gyda llawer yn teimlo eu bod wedi'u difreinio, yn enwedig gan fod y pandemig wedi taflu goleuni mor ddisglair ar Lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Cynhaliwyd etholiadau mewn nifer o wledydd yn ystod y pandemig, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Sbaen, Ffrainc, Canada, Seland Newydd a De Corea. Fel y dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol polisi iechyd cyhoeddus De Corea wedi hynny, ni nodwyd yr un achos yn ymwneud â'r etholiad yn ystod cyfnod magu'r clefyd o 14 diwrnod. Ac er bod Mr Trump yn honni bod hyn wedi caniatáu i bleidleisiau'r UD gael eu camgyfrif, nid yw hon yn farn eang yn y fan yma. Er nad yw'r Bil arfaethedig yn cynnwys llawer am bleidleisio drwy'r post, byddem yn croesawu rhagor o fanylion ynghylch sut y bydd pobl yn cael eu hannog i gofrestru.

O ystyried bod etholiadau seneddol yr Alban, etholiadau maerol, etholiadau cynghorau Lloegr ac etholiadau'r comisiynydd heddlu a throseddu hefyd i fod i gael eu cynnal y gwanwyn hwn, a wnaiff y Gweinidog ddweud hefyd a oes trafodaethau parhaus ynghylch dull cydgysylltiedig ledled y DU o ymdrin â'r etholiadau hyn? Mae'r Ceidwadwyr Cymreig bob amser wedi honni y dylai etholiadau Senedd Cymru gael eu cynnal ar 6 Mai 2021 ac eithrio mewn amgylchiadau brys eithriadol. Diolch. 

17:05

Mae etholiadau teg a rhydd yn sylfaen unrhyw ddemocratiaeth iach, ac mae'n hen bryd, i siarad yn blaen, i bobl Cymru gael y cyfle i roi chwistrelliad o egni newydd i'r Senedd yma ac i ddewis Llywodraeth newydd ar ôl tymor pum mlynedd o hyd, sy'n barod yn dymor hir iawn mewn termau cymharol—rhy hir yn fy marn i, ond nid yma i drafod hynny ydw i heddiw. Nid ar chwarae bach, felly, mae'r Senedd yma yn cael cais i gydsynio i'r Llywodraeth gyflwyno darn o ddeddfwriaeth fyddai'n galluogi oedi dyddiad etholiadau y Senedd. Wrth drafod adroddiad y grŵp cynllunio etholiadau yn ôl ym mis Tachwedd, mi ddywedodd Adam Price,

'mae'n anodd rhagweld sefyllfa lle byddai'n rhaid gohirio etholiadau'r Senedd erbyn hyn.'

Er hynny, mae profiad y misoedd diwethaf wedi dangos i ni na allwn ni ddim cymryd dim byd yn ganiataol, ac mae hynny mor wir. Ers hynny, mi gafodd amrywiolyn newydd o'r feirws ei ganfod, rydym ni'n ôl mewn cyfnod clo llym, a thra bod yr ymdrech frechu'n cynnig gobaith, mae yna gryn ffordd i fynd. Ac er ein bod ni wir eisiau i'r etholiad yma all cael ei chynnal ar 6 Mai, yn sydyn reit mae 6 Mai yn teimlo yn agos iawn. Rydym ni yn cefnogi cais y Llywodraeth i'r Senedd drin y Bil arfaethedig dan y weithdrefn frys, ond nid yn ddiamod. Er gwaethaf yr amserlen dynn, mae'n bwysig bod y craffu ar y Bil yn gadarn a chynhwysfawr. Mae eisiau i'r ddeddfwriaeth ddrafft gael ei chyhoeddi ar y cyfle cynharaf. Mae'r Aelod sydd yng ngofal y Bil eisoes wedi estyn allan at y gwrthbleidiau. Rydym ni'n disgwyl i hynny barhau, ac efo Comisiwn y Senedd hefyd, er mwyn llawn cydnabod y ffaith nad Bil arferol yw hwn a bod angen gwneud popeth i warchod integriti'r broses ddemocrataidd. Iechyd cyhoeddus ac iechyd ein democratiaeth fydd flaenaf yn ein meddyliau ni fel plaid a phob plaid arall, gobeithio, wrth ymdrin â hyn.

Roeddwn i'n sylwi bod datganiad y Llywodraeth sydd ynghlwm â'r cynnig yma yn dweud bod y pandemig yn cynrychioli dau risg i integriti yr etholiad: un i allu etholwyr i gymryd rhan yn yr etholiad ei hun; yr ail i weinyddwyr allu cynnal yr etholiad. Dwi'n meddwl bod yna drydydd risg mawr: nid dyddiad 6 Mai sydd yn bwysig mewn gwirionedd, ond y cyfnod cyn hynny o ymgysylltu â phobl Cymru. Rydyn ni'n sôn am ethol Llywodraeth genedlaethol fydd yn ein tywys ni fel gwlad yn y cyfnod ar ôl COVID. Mae angen cael y drafodaeth honno yn llawn. Ar wahân i'r ffaith mai'r etholiad, tybiwn i, ydy'r peth olaf ar feddyliau llawer o bobl—rhai yn sâl, yn dioddef yn economaidd, rhai wedi colli anwyliaid hyd yn oed—mae yna ystyriaethau ymarferol iawn yn deillio o'r diffyg democrataidd, gwendid cymharol y wasg yng Nghymru, a'r diffyg gallu, hyd yn oed, i ddosbarthu taflenni yn rhannu gwybodaeth am yr etholiad, sy'n beth pwysig iawn mewn etholiad yng Nghymru oherwydd y diffyg yna yn y wasg.

Mae angen eglurder ar y pwynt olaf hwnnw. Mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Siân Gwenllian, mi ddywedodd y Prif Weinidog bod dosbarthu taflenni etholiad yn anghyfreithlon dan reoliadau cyfyngiadau lefel 4. Mi glywais i sôn, rhywun yn dweud, 'Allwch chi rannu faint fynnir o bamffledi gwerthu pitsa ond dim taflenni yn ymwneud â phroses ddemocrataidd mor bwysig.' Ar y llaw arall, mae un o heddluoedd Cymru, dwi'n meddwl, wedi dweud y dylid ei ganiatáu, oherwydd bod rhannu taflenni yn waith na ellir ei wneud o gartref. Felly, mae eisiau eglurder ar hynny. Dwi'n deall bod gwledydd sydd wedi cynnal etholiadau yn y pandemig, fel America, hyd yn oed wedi caniatáu peth ymgyrchu drws i ddrws. Felly, mae eisiau gwybod yn union beth fyddai'n gallu cael ei ganiatáu.

Rŵan, tra bod y cyfryngau cymdeithasol yn opsiwn, dydy pawb ddim yn defnyddio y cyfryngau cymdeithasol—mae'n bwysig iawn cofio hynny. Mae'r post brenhinol yn ddrud iawn. Yn Arfon ar hyn o bryd dwi'n meddwl bod pobl wedi bod heb bost oherwydd COVID yn taro gweithwyr post. Ac o ran y gost, mi oedd y Siartwyr, wrth gwrs, o flaen eu hamser ar un adeg, ar flaen y gad yn eu galwad am wneud etholiadau yn rhydd ym mhob hanfod, nid dim ond i'r cyfoethog. Felly, er gwaethaf cyfyngiadau dealladwy iawn y pandemig, mae'n rhaid diogelu yr egwyddor hwnnw.

Rŵan, i gloi, yn aros efo'r thema tegwch ac integriti'r etholiad, mae yna degwch cynhennid, allwch chi ddadlau, yn y cyfnod diddymu er mwyn diogelu adnoddau cyhoeddus rhag y canfyddiad o gamddefnydd ac i beidio â ffafrio rhai ymgeiswyr dros y lleill. Mi fyddwn ni'n craffu'n ofalus ar y bwriad i gwtogi'r cyfnod diddymu o 21 diwrnod i saith, gan ystyried goblygiadau hynny i ganllawiau purdah y gwasanaeth sifil, trefniadau'r darlledwyr ac ati, ond, yn bwysicach na dim, wrth gwrs, y gafael ar ledaeniad yr haint. Y gwaethaf o'r ddau fyddai Llywodraeth a Senedd sy'n delio â'r don waethaf eto o'r pandemig ar y naill law ond ym merw ymgyrch etholiad ar y llall. Fel dwi'n dweud, mae'n hen bryd cael etholiad. Mi ddylai fo fod ar 6 Mai. Ein dymuniad ni fyddai iddo fo fod bryd hynny, ond, wrth gwrs, mae'r feirws yma wedi profi dros y flwyddyn ddiwethaf ei fod o'n gryn feistr arnom ni—

17:10

Gwnaf mewn eiliad. Mae'r feirws wedi profi ei fod o'n gallu bod yn feistr arnom ni; mae o'n dal yn ddylanwadol iawn, iawn ar ein bywydau a'n dewisiadau democrataidd ni ar hyn o bryd.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Credaf, os yw'n bosibl o gwbl, y dylem gael etholiad ar 6 Mai. Ond ni fyddai gohirio etholiad yn unigryw. A ydych chi'n cofio bod disgwyl i etholiad cyffredinol 2001 fod ar 3 Mai i gyd-fynd ag etholiadau lleol? Ond, ar 2 Ebrill, gohiriwyd pleidleisiau tan 7 Mehefin oherwydd y cyfyngiadau symud gwledig a gyflwynwyd mewn ymateb i'r achosion o glwy'r traed a'r genau a ddechreuodd ym mis Chwefror.

Rheswm posibl arall yw na ellir casglu'r post, felly ni fyddai pleidleisiau post yn cyrraedd—rhywbeth y soniodd Rhun ap Iorwerth amdano ynglŷn â phost pan oedd yn gwneud ei ddatganiad—neu fod blychau post wedi eu cau. Mae pobl yn cofio streiciau post—pan oedd blychau'n llawn, cawsant eu cau. Credaf y dylem ni gael y cyfnod diddymu byrraf posibl ar gyfer y Senedd cyn diwrnod y bleidlais, a fydd yn galluogi'r Senedd i gyfarfod pe bai angen, er mwyn trafod a chytuno ar ddeddfwriaeth newydd yn ymwneud â'r pandemig, neu ystyried argymhellion gan y Llywydd i ohirio'r bleidlais. Hoffwn i'r diddymiad fod am 5 o'r gloch ar y dydd Mercher cyn y diwrnod pleidleisio, gan alluogi deddfu ar unrhyw ddeddfwriaeth pandemig newydd cyn yr etholiad. Cyn i gyfreithwyr y Llywodraeth ddweud ei fod yn amhosibl, pa newidiadau deddfwriaethol fyddai eu hangen i'w alluogi?

Mae'n rhaid inni gofio i etholiad yr Unol Daleithiau gael ei gynnal yn ystod y pandemig. Byddwn yn siomedig iawn pe na bai modd cynnal etholiad y Senedd. Os bydd y Ceidwadwyr yn gohirio etholiadau comisiynwyr yr heddlu a throseddu ac etholiadau cynghorau Lloegr, ni fyddai hynny'n rheswm i ni ohirio etholiad y Senedd. Un peth y gallem ni ofyn i bob plaid ei ystyried yw dychwelyd at dymor etholiadol pedair blynedd—mae pum mlynedd yn rhy hir. Fe'i cyflwynwyd am y rhesymau gorau i gydweddu â Deddf Seneddau Tymor Penodol 2011. Yn fy marn i, nid oes unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth erioed wedi bod yn fwy diystyr. Mae'n rhaid i hwn fod y tymor pum mlynedd olaf.

Rwyf nawr eisiau troi at fy nghais yr wy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ei weithredu: sef bod swyddogion canlyniadau yn ysgrifennu at bawb ynghylch y bleidlais bost yn cynnig un iddyn nhw. Un o'r problemau ynghylch pleidleisiau post yw'r gyfradd uchel o rai sy'n cael eu gwrthod. Achosir hyn gan ddau beth: pobl yn rhoi dyddiad llofnodi yn hytrach na'u dyddiad geni, a llofnodion nad ydyn nhw'n cyfateb. Y cynigion yw y cysylltir dros y ffôn â'r rhai sydd wedi nodi dyddiad postio yn hytrach na'u dyddiad geni, os yw'n bosibl, i gadarnhau eu dyddiad geni; ac y cysylltir â'r rhai sydd â llofnodion nad ydyn nhw'n cyfateb i gadarnhau eu bod wedi dychwelyd eu pleidlais. Un o'r prif resymau pam nad yw'r llofnodion yn cyfateb yw bod yr etholwr wedi cael problemau iechyd, megis strôc neu glefyd Parkinson, ers iddyn nhw wneud cais am y bleidlais bost, sy'n effeithio'n wirioneddol ar lofnodion pobl. Rydym ni eisiau cael etholiad teg lle gall pawb sydd eisiau pleidleisio wneud hynny, ac y cyfrifir eu pleidlais.

Gan droi at bleidleisiau drwy ddirprwy, ar hyn o bryd mae'n rhaid i fyfyrwyr gael ffurflen wedi'i llofnodi gan diwtor y cwrs. Credaf y byddai pobl yn cytuno bod hynny bron yn amhosibl ar hyn o bryd. Roeddwn yn ffodus bod fy merch wedi gwneud ei un hi yn ôl ym mis Tachwedd; ychydig iawn o bobl oedd yn meddwl am etholiadau Senedd mis Mai ym mis Tachwedd. Byddwn yn annog y Llywodraeth i ystyried deddfwriaeth i alluogi aelodau uniongyrchol o'r teulu, sy'n golygu priod, rhiant neu blentyn, i gael pleidlais drwy ddirprwy ar alw. Mae hyn yn gydbwysedd rhwng atal casglu pleidleisiau a chaniatáu cyfrif pleidleisiau pawb.

Yn olaf, ynglŷn â'r cyfrif. Rwy'n cefnogi cyfrif y diwrnod wedyn, er fy mod yn disgwyl cysgu'r nos rhwng y diwrnod pleidleisio a'r diwrnod wedyn. O ran y cyfrif, unwaith eto, a allwn ni ddysgu wrth edrych ar America, lle mae'r nifer o bleidleisiau a fwriwyd yn y llyfr pleidleisio a phleidleisiau post dilys a dderbynnir erbyn diwedd y diwrnod pleidleisio yn cael eu cyfrif ar y dydd Gwener, gydag estyniad ar gyfer pleidleisiau post os oes problemau o ran eu dychwelyd oherwydd problemau post, a phenodir barnwr i benderfynu pa mor hir y dylai'r estyniad hwnnw fod? Credaf ein bod i gyd eisiau etholiadau rhydd a theg. Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried fy awgrymiadau, ond, os nad ydy hi, yna y bydd yn esbonio pam.

A chanfûm broblem dros y penwythnos: talu'r blaendal. Maen nhw eisiau i'r blaendal gael ei dalu—yn Abertawe, o leiaf—drwy drosglwyddiad electronig, ond rhaid iddo ddigwydd ar yr un pryd yn union ag y derbynnir y ffurflen enwebu. Nawr, os ydyn nhw'n dilyn y dehongliad yn fanwl, bydd hynny bron yn amhosibl. Felly, credaf eich bod yn y diwedd—. Rydych chi'n ciwio—. A gwyddom beth sy'n digwydd wrth gyflwyno ein papurau enwebu. Byddwn yn annog y Gweinidog i gael rhai trafodaethau gyda swyddogion canlyniadau ynghylch hynny, oherwydd credaf ei bod yn bwysig bod pobl yn talu eu blaendal. Awgrymais eich bod yn ei dalu cyn i chi gyflwyno eich papurau enwebu, ond dywedwyd wrthyf na allai hynny ddigwydd. Credaf fod gwir angen inni ddatrys rhywfaint o fecanwaith hyn cyn i bethau ddechrau mynd o chwith.

17:15

Rhaid imi ddweud ar y dechrau mai fy newis i yw i etholiadau'r Senedd fynd rhagddynt fel y bwriadwyd ar 6 Mai, ond dim ond os yw'n ddiogel gwneud hynny, oherwydd rydym ni yng nghanol pandemig anrhagweladwy sy'n lladd cannoedd o bobl yng Nghymru bob wythnos. Mae miloedd o bobl wedi marw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae miloedd yn fwy yn cael trafferth anadlu neu'n brwydro yn erbyn blinder ofnadwy am fisoedd lawer, ac mae'r cyfan oherwydd y clefyd ofnadwy hwn—clefyd sydd wedi arwain at sefyllfa lle mae hanner ein gwelyau critigol a chwarter ein hysbytai yn llawn cleifion â COVID-19. Mae wedi arwain at ganslo arholiadau ar gyfer plant ysgol am yr ail flwyddyn yn olynol, a rhieni ar draws y wlad yn ei chael hi'n anodd addysgu eu plant gartref. Ac mae wedi arwain at lyffetheirio rhannau helaeth o'n heconomi, miloedd o fusnesau'n methu a degau o filoedd yn colli eu swyddi. Mae feirws SARS-CoV-2 wedi mwtadu, mae wedi dod yn fwy ffyrnig ac mae'n dal i heintio cannoedd o'n dinasyddion bob dydd. Ond mae gennym ni obaith, gobaith nad oedd gennym ni yr adeg hon y llynedd. Mae gennym ni ddau frechlyn yn cael eu darparu, gyda mwy ar y ffordd gobeithio. Er ein bod wedi dechrau'n dda, dim ond i tua 8 y cant o'r boblogaeth yr ydym ni wedi darparu'r dos cyntaf. Nid ydym ni yn disgwyl i bawb gael eu brechu tan ddiwedd eleni. Felly, yng ngoleuni hyn i gyd, sut y gallwn ni gynnal etholiadau rhydd a theg?

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi clywed eraill yn tynnu sylw at y ffaith bod democratiaethau mwy wedi cynnal etholiadau, gan gyfeirio'n bennaf at yr Unol Daleithiau, ond nid yw eu hetholiadau fel ein hetholiadau ni, ac mae gan ddinasyddion yr Unol Daleithiau wythnosau i bleidleisio. Mae gennym ni 15 awr. Dibynna dinasyddion yr Unol Daleithiau ar ddadleuon ar y teledu i gael gwybodaeth am eu hymgeiswyr, ac rydym ni yn curo ar ddrysau pobl i gyflwyno ein hunain. Felly, oni bai ein bod yn newid y ffordd yr ydym ni'n cynnal etholiadau'n sylweddol, mae'n anodd gweld sut y gallem gynnal etholiadau'n ddiogel tra bo'r pandemig yn parhau i fod yn rhemp.

Rhaid inni hefyd ystyried a oes gennym y gweithlu i gynnal etholiad hyd yn oed. A ddylem fod yn dargyfeirio adnoddau o'r gwaith o geisio dod â'r pandemig i ben yn gyflym tuag at gynnal etholiad? Wrth gwrs, gallem weld gwelliannau enfawr dros yr ychydig fisoedd nesaf, a fyddai'n caniatáu inni gynnal etholiadau rhydd a theg, ond yn yr un modd, gallem weld pethau'n gwaethygu. Pwy a ŵyr beth a ddaw yn sgil yr amrywiolion newydd? Wrth i fwy o bobl gael eu heintio, mae mwy o siawns gan y feirws hwn i fwtadu. Felly, Duw a'n gwaredo os gwelwn ni amrywiolyn sy'n gwrthsefyll y brechlynnau.

Felly, os yw'r flwyddyn ddiwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae'r pandemig hwn yn anrhagweladwy. Felly, mae'n gwneud synnwyr inni obeithio am y gorau, ond paratoi ar gyfer y gwaethaf. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni gynnal etholiadau ym mis Mai, ond mae'n rhaid i ni gyflwyno'r Bil brys hwn fel y gallwn ni eu gohirio os nad yw'n ddiogel eu cynnal ymhen 14 wythnos, ac mae diogelwch y cyhoedd o'r pwys mwyaf. Diolch yn fawr iawn.

17:20

Byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth y prynhawn yma, a hefyd yn cefnogi'r Llywodraeth pan ddaw'r ddeddfwriaeth sylwedd ger ein bron yr wythnos nesaf. Yn un o'r Gweinidogion a gyflwynodd ddeddfwriaeth frys, rwyf wedi ystyried hyn o ddifrif, oherwydd mae'n fecanwaith na ddylid ond ei ddefnyddio pan fydd yr amgylchiadau'n mynnu hynny. Cawsom wybod heddiw ein bod wedi colli mwy o bobl i COVID yn ystod yr wythnos ddiwethaf nag a wnaethom ni ar unrhyw adeg arall yn y pandemig. Byddai wedi bod yn anghyfrifol pe na bai'r Llywodraeth wedi cymryd y camau hyn, heb gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon na chynnal y ddeddfwriaeth yn y ffordd y mae'n bwriadu gwneud.

Fel eraill, rwyf eisiau gweld yr etholiad yn cael ei gynnal ar 6 Mai. Rwyf wedi gwneud y pwynt hwn nifer o weithiau mewn gwahanol ddadleuon ac mewn cwestiynau. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y Senedd hon yn cael ei hadnewyddu a'i hadfywio. Mae angen mandad ar bob Llywodraeth, ond mae angen mandad newydd arnom ni i gyd, ac, fel Mike Hedges, hoffwn weld y Llywodraeth yn cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 yn mynd yn ôl i dymhorau pedair blynedd, yn hytrach na pharhau â'r tymor pum mlynedd presennol.

Ond mae gennyf i dri chwestiwn yr hoffwn eu gofyn i'r Gweinidog wrth gefnogi'r Llywodraeth y prynhawn yma. Y pwynt cyntaf yw tryloywder a bod yn agored. Mae'n iawn ac yn briodol bod pob Aelod yn ymwybodol o'r meini prawf y bydd y Llywodraeth yn eu defnyddio wrth ddod i gasgliadau ar hyn. A fydd y Llywodraeth yn edrych ledled Cymru ar y rhif R, ar nifer yr achosion? A fydd materion yn ymwneud â thwf neu ddirywiad y pandemig mewn gwahanol rannau o'r wlad? Er enghraifft, ym Mlaenau Gwent, mae'r niferoedd wedi bod yn gostwng dros yr wythnosau diwethaf, ond nid yw hynny yr un fath â Sir y Fflint na Wrecsam, lle maen nhw wedi bod yn cynyddu mewn termau cymharol. Felly, beth yw'r meini prawf y bydd y Llywodraeth yn eu defnyddio er mwyn penderfynu a ellir cynnal etholiad yn ddiogel?

Roedd y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth hefyd yn gwbl hanfodol, oherwydd mae gan y Llywodraeth ddyletswydd i sicrhau bod etholiad yn cael ei gynnal yn ddiogel, ond mae dyletswydd arni hefyd i sicrhau bod yr etholiad yn ddemocrataidd ac yn deg. Gwyddom i gyd ac rydym ni i gyd yn cydnabod, rwy'n credu, a ninnau'n Aelodau, fod gennym ni fantais gan ein bod ni eisoes wedi cael cyfnod yn y swydd, ac y bydd gan y prif bleidiau fanteision pellach sef adnoddau a fydd yn eu galluogi i ymladd etholiad electronig, ar-lein, mewn ffordd na all pleidiau llai, a byddai ymgeiswyr unigol yn ei chael yn anoddach. Mae'n bwysig bod yr etholiad nid yn unig yn ddiogel, ond yn deg, yn rhydd ac yn ddemocrataidd, ac mae angen inni ddeall beth yw'r meini prawf i'r Llywodraeth o ran dod i'w chasgliadau o ran democratiaeth, o ran tegwch, yn ogystal ag o ran diogelwch.

Byddwn hefyd, felly—. Mae'r ail gwestiwn o ran amserlen. Mae nifer o Aelodau wedi awgrymu bod angen i ni adael y penderfyniad hwn mor hir â phosibl, ac mae gennyf gydymdeimlad â hynny. Ond rwy'n credu hefyd bod angen i ni ddeall beth sydd gan y misoedd nesaf i'w gynnig i bobl. A hoffwn ddeall gan y Llywodraeth pryd y mae hi'n bwriadu neu pryd y mae hi'n credu y gall hi wneud rhai penderfyniadau ar y materion hyn. Beth yw'r amserlen ar gyfer dod i benderfyniad ar y materion hyn? Sut y bydd yn pennu'r amserlen honno, a phryd y gallwn ni ddisgwyl bod yn rhan o'r ymgynghoriad a'r sgwrs honno?

A'r cwestiwn olaf yw hwn, Gweinidog: mewn etholiad diogel, mewn etholiad teg ac mewn etholiad democrataidd, mae'n bosibl gwneud pethau'n wahanol. Er enghraifft, rydym ni wedi clywed grŵp cynllunio'r etholiad yn dweud y byddai'n well ganddynt gyfrif y diwrnod ar ôl yn hytrach na dros nos, a chytunaf â hynny. Ond pe baem yn defnyddio peiriannau cyfrif pleidleisiau etholiadol, fel y defnyddiwyd yn yr Alban ac sy'n cael eu defnyddio mewn mannau eraill, yna gallem ymdrin â'r materion hyn mewn ffordd fwy amserol ond gan ddefnyddio llai o adnoddau hefyd. Ac rwy'n credu hefyd fod angen i ni edrych ar bleidleisio ar ddydd Sul neu benwythnos, etholiadau aml-ddiwrnod, ac edrych ar wahanol ffyrdd o gynnal ein democratiaeth. Mae ein democratiaeth yn beth gwych a gwerthfawr. Gwelsom sut y cafodd democratiaeth ei gohirio yn 2001 o ganlyniad i glwy'r traed a'r genau, ac roedd hynny'n angenrheidiol a'r penderfyniad cywir. Byddwn yn cefnogi, rwy'n credu—y byddai dwy ran o dair o'r Aelodau yma'n cefnogi oedi, pe baem yn gallu deall pam yr oedd yr oedi hwnnw'n digwydd, a phe baem yn egluro i'r bobl yr ydym yn ceisio eu cynrychioli pam y mae'r oedi hwnnw'n digwydd. Ond mae angen i ni wneud hynny hefyd mewn ffordd sy'n dryloyw, sy'n agored ac sy'n atebol, a phryd y gallwn ni sicrhau y caiff ein democratiaeth werthfawr ei diogelu a'i dyfnhau. Diolch.

17:25

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Nid ydym ni ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon gan Lywodraeth Cymru oherwydd, yn syml iawn, nid ydym yn credu ei bod hi'n angenrheidiol. Mae etholiadau rhydd a theg yn nodwedd ddiffiniol o ddemocratiaeth sy'n gweithio, felly wrth gwrs mae'n rhaid inni gymryd y broses o ddifrif. Ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fod yn etholiadau rheolaidd, ac os yw tymor y ddeddfwrfa yn bum mlynedd, yna byddai'n rhaid inni gael rheswm da iawn dros ddymuno gwneud y tymor hwnnw'n hwy na phum mlynedd.

Nawr, sylweddolaf, wrth gwrs, ein bod yng nghanol argyfwng byd-eang, ac mae iechyd pobl Cymru o'r pwys mwyaf, ond os edrychwn ledled y byd, mae etholiadau wedi'u cynnal mewn llawer o wledydd heb unrhyw broblemau gwirioneddol. Manylodd Mark Isherwood ar rai o'r etholiadau hyn yn ei gyfraniad. Felly, credaf fod angen inni fwrw ymlaen ar y sail bod etholiad y Cynulliad yn cael ei gynnal ar ddydd Iau cyntaf mis Mai, yn ôl y bwriad, oni bai bod perygl gwirioneddol i iechyd y cyhoedd bryd hynny a fyddai'n gorfodi newid. Ond hyd yn oed os oes perygl, gwyddom fod pŵer eisoes o fewn y Cynulliad hwn, gan y Llywydd, i ohirio etholiad hyd at fis, o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Felly, o'n safbwynt ni, mae'r ddeddfwriaeth newydd arfaethedig hon yn eithaf diangen.

Nawr, efallai fod gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru resymau ei hun dros ddymuno gohirio unrhyw etholiad. Tybed a yw'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ofni'r etholwyr? Tybed a yw eisiau gohirio etholiad oherwydd ei bod yn ofni ei bod ar fin colli ei mwyafrif? Tybed a yw'n arswydo oherwydd y gallai rhyw blaid leiafrifol godi ei phen sydd eisiau siglo'r cwch a chael gwared ar y pot mêl o'r enw Cynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru? Bydd pleidleiswyr yn sicr o ddod i'w casgliadau eu hunain. Wrth gwrs, nid wyf yn gwneud unrhyw honiadau yma, dim ond nodi'r posibiliadau. Ond a gaf i ddweud hyn hefyd: mae pum mlynedd bron ar ben ac mae Cymru bellach wedi cael mwy na digon o'r Llywodraeth Lafur anghymwys hon. Am ba hyd y mae'n rhaid inni barhau i'w dioddef? Mae ein tymor bron ar ben, mae hynny'n berthnasol i bob un ohonom ni, ac mae'n bryd inni gael ein dwyn i gyfrif gan yr unig bobl sy'n cyfrif, pleidleiswyr Cymru. Rhaid inni roi'r gorau i ohirio ac oedi, a chynnal yr etholiad. Diolch yn fawr.

Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sy'n dymuno ymyrryd, felly galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl. Julie James.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl. Ac, fel y dywedais ar y dechrau, nid ein bwriad yw gohirio dyddiad yr etholiad, dyna fydd y dewis olaf ac i'w ddefnyddio dim ond lle mae'n gwbl angenrheidiol oherwydd y bygythiadau i iechyd y cyhoedd a achosir gan y coronafeirws. Ond, fel y mae llawer o Aelodau wedi cytuno, a ninnau yn Llywodraeth gyfrifol, mae'n rhaid i ni baratoi i'n galluogi i ymateb i sut allai'r coronafeirws danseilio uniondeb yr etholiad. Gwnaeth nifer o Aelodau bwyntiau ynghylch y trefniadau ar gyfer diddymu, y trefniadau ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad o ran y Llywodraeth bresennol, a nifer o faterion eraill sydd o bwys ymarferol.

Yn hytrach nag ymdrin â'r holl bwyntiau niferus hynny nawr, hoffwn gynnig i holl arweinwyr a llefarwyr y gwrthbleidiau, ac i Aelodau fy mhlaid fy hun fel grwpiau o feincwyr cefn, os hoffen nhw gael cyfres o gyfarfodydd un i un gyda mi i drafod rhai o fanylion cymhleth hynny, rwyf yn fwy na pharod i gynnig hynny yn ystod y dyddiau nesaf, oherwydd bod gan y Bil amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol, ac rydym ni eisiau i bobl gael cymaint o ymgysylltu ag sy'n bosibl. Felly, gwnaf y cynnig hwnnw i unrhyw un sydd eisiau ei dderbyn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn yn wir i'r Comisiwn a swyddfa'r Llywydd a chithau am ymgysylltu â ni ynghylch hyn hyd yma hefyd.

Fel y mae pawb wedi dweud, heb y Bil hwn, byddwn yn colli dewis wrth gefn pwysig yn ein paratoadau ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai. Ein gobaith, wrth gwrs, yw y gall yr etholiad fynd yn ei flaen yn ôl y bwriad a bod yr etholwyr yn gallu pleidleisio'n rhydd ac yn ddiogel ar 6 Mai. Ond fel y cydnabu pawb yn y ddadl, nid yw cwrs y pandemig wedi bod yn llyfn ac mae'n iawn i ni yn Llywodraeth gyfrifol roi cynllun wrth gefn ar waith, hyd yn oed os yw'n un yr ydym ni'n gobeithio na fydd byth yn rhaid ei ddefnyddio. Os yw'r Bil am gyflawni'r swyddogaeth honno fel mesur wrth gefn, mae'n hanfodol y caiff ei gyflwyno fel Bil brys er mwyn ei basio mewn pryd ar gyfer yr etholiad ym mis Mai.

Cyn imi orffen, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddweud—wrth Mark Isherwood yn benodol—fy mod yn cael cyfarfod bob pythefnos gyda'r Aelod Seneddol Chloe Smith, y Gweinidog etholiadau yn Llywodraeth y DU. Rydym wedi bod yn trafod drwy gydol y paratoadau hyn yr angen am ddull tawel, digyffro ac anwleidyddol o ymdrin â'r etholiadau hyn, a byddwn yn argymell y dull hwnnw iddo'n benodol. Ac ar y nodyn hwnnw, Dirprwy Lywydd, anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr.

17:30

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 10. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n gohirio y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 11. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiadau yn y fan yna, felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon eto tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Dadl: Adroddiad Effaith Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019-20

Nawr rwy'n bwriadu trosglwyddo'r cadeirio yn ôl i David Melding ar gyfer eitem 12, sy'n ddadl ar adroddiad effaith pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2019-20. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig y cynnig—Jane Hutt.

Daeth David Melding i’r Gadair.

Cynnig NDM7496 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Effaith Cymru 2019-20 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon ar adroddiad effaith Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ar gyfer 2019-20. Mae hwn yn gyfnod digynsail ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU ac mae cymunedau wedi bod yn wynebu heriau eithriadol o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Rydym ni i gyd yn ymwybodol bod rhai pobl yn cael eu heffeithio'n anghymesur ac yn anffafriol yn fwy nag eraill. Hoffwn ddiolch i'r cadeiryddion dros dro, Dr Alison Parken a Martyn Jones, a staff a bwrdd Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am eu gwaith parhaus yn tynnu sylw at anghydraddoldebau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac ar gyfer yr adroddiad effaith hwn.

Yn eu hadroddiad, tynnodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sylw fel un o'u meysydd blaenoriaeth at bwysigrwydd addysg wrth greu cymdeithas fwy cyfartal a theg. Yn y cwricwlwm newydd, bydd dysgwyr yn archwilio'r cyd-destun lleol, cenedlaethol a byd-eang i bob agwedd ar ddysgu. Byddan nhw'n dysgu sut i wneud cysylltiadau a datblygu dealltwriaeth o fewn cymdeithas amrywiol. Fis Gorffennaf diwethaf, penododd y Gweinidog Addysg yr Athro Charlotte Williams i gadeirio'r gweithgor cymunedau, cyfraniadau a chynefin pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm newydd. Mae gwaith y gweithgor yn cynnwys—ond yn mynd y tu hwnt i—hanes pobl dduon, i ystyried amrywiaeth o ethnigrwydd lleiafrifol yn rhan o stori Cymru. Mae'r aelodau yn cynnwys ymarferwyr profiadol a chyfranwyr i hanes pobl dduon, Asiaidd a hanes lleiafrifoedd ethnig a Chymru.

Mae trafnidiaeth hefyd yn thema polisi allweddol. Mae'n hanfodol i gyflogaeth, addysg a'r cyfle i fanteisio ar wasanaethau, ac mae'n effeithio ar ein lles a'n hiechyd cymdeithasol a chymunedol. Rwy'n ddiolchgar i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ddarparu cyngor a gwybodaeth amhrisiadwy i lywio datblygiad y strategaeth drafnidiaeth, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch profiadau pobl hŷn a phobl anabl o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Daeth yr ymgynghoriad ffurfiol i ben ddoe, ond mae 'Llwybr Newydd' yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch a chynaliadwy.

Er bod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn sôn am gyfiawnder troseddol, mae hwn yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl, ond mae llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i gefnogi troseddwyr, cyn-droseddwyr a hyrwyddo adsefydlu wedi'u datganoli, ac yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Y llynedd, cyhoeddodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ei adroddiad, 'Cyfiawnder yng Nghymru i Bobl Cymru', ac yn arbennig o berthnasol yw'r canfyddiad bod ariannu gwasanaethau cyngor cyfreithiol drwy gymorth cyfreithiol yn golygu nad yw'r cyfle i fanteisio ar gyfiawnder ar gael i bawb ledled Cymru. Tynnodd y comisiwn ar gyfiawnder sylw at heriau cyngor cynyddol mewn rhai meysydd, risgiau difrifol i gynaliadwyedd hirdymor llawer o bractisau cyfreithiol. Ond wrth gydnabod hyn, gall darparwyr cyngor a gweithwyr y sector cyhoeddus gael eu hyfforddi gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i godi ymwybyddiaeth o wahaniaethu fel y gallant ymateb yn well i anghenion eu cleientiaid.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r gronfa gynghori sengl i helpu i ateb y galw cynyddol am gyfle i fanteisio ar wasanaethau cynghori. Mae deg miliwn o bunnoedd o gyllid grant ar gael ar gyfer darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor o fis Ionawr y llynedd tan fis Mawrth eleni. Mae'n bwysig i ni gydnabod bod gwasanaethau cynghori wedi gorfod newid, gyda darparwyr y gronfa gynghori sengl yn trosglwyddo eu gwasanaethau cynghori wyneb yn wyneb i sianeli o bell—ffôn, e-bost, sgwrs ar y we—ymrwymiad enfawr gan y darparwyr i drosglwyddo eu gwasanaethau, ond estyn at gynifer.

Bwriad y Llywodraeth hon o hyd yw cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, a ddaw i rym erbyn 31 Mawrth. Bydd y ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i rai cyrff cyhoeddus ystyried yr effaith economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol, ac rwy'n falch bod ein Llywodraeth yn bwrw ymlaen â hyn. Ond rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i baratoi ar gyfer y cychwyn, ac i sicrhau bod y ddyletswydd yn cyflawni ei heffaith arfaethedig. Mae'n bwysig hefyd ein bod ni wedi cymryd camau mewn nifer o feysydd eraill lle mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi ymgysylltu â ni: cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru, y cynllun gweithredu LGBT+, ymchwil i effaith COVID-19 ar bobl anabl—rydym ni'n aros am adroddiad sydd wedi'i gomisiynu gan yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd ar y pwnc penodol hwnnw—ond hefyd, yn bwysig, ymchwil i gyfleoedd i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol nodi ein bod ni wedi gweithio i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Cymru sydd wedi'u cyd-ddatblygu, yn enwedig y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, sy'n cynnwys grwpiau ar lawr gwlad, pobl ifanc, pobl hŷn, ynghyd â rhwydweithiau staff Llywodraeth Cymru, gyda staff du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cymryd rhan yn y weledigaeth ar gyfer y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi chwarae rhan yn ein grŵp llywio, yn yr ymchwil i gyfleoedd i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Rydym ni wedi cael llawer o alwadau am weithredu i gryfhau a gwella ein cydraddoldeb a'n hawliau dynol yng Nghymru. Rydym ni wedi comisiynu ymchwil i lywio trafodaethau yn y dyfodol, a disgwylir adroddiad drafft fis nesaf.

Mae adroddiad effaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n cael ei drafod heddiw yn rhoi blas byr i ni o waith y comisiwn yng Nghymru, ac mae'n parhau i bwysleisio pwysigrwydd cyfraniad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i fywyd Cymru, i wella bywydau a diogelu hawliau ac i helpu i greu Cymru fwy cyfartal. Diolch yn fawr.

17:35

Rwy'n croesawu'r ddadl hon y prynhawn yma ar yr adolygiad blynyddol o gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r adolygiad yn nodi pum nod blaenoriaeth ar gyfer cryfhau'r cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a'r pethau hynny yr hoffwn i fynd i'r afael â nhw yn fy sylwadau heddiw.

Eu nod cyntaf yw hyrwyddo cyfle cyfartal i fanteisio ar y farchnad lafur. Y ffaith drist yw bod menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli yn y gweithlu. Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn gweithio mewn swyddi rhan-amser, ar gyflog isel, ac yn aml mae'n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd ynghylch p'un ai gweithio neu ymgymryd â'r cyfrifoldeb o ofalu am eu plant. O ganlyniad, mae cyfraddau tlodi yng Nghymru yn dal yn ystyfnig o uchel. Mae cysylltiad agos rhwng risg menywod o dlodi a'u sefyllfa yn y farchnad lafur ac o fewn aelwydydd. Fel ail enillwyr cyflog neu brif ofalwyr, mae llawer o fenywod nad oes ganddynt fawr o incwm annibynnol, gan eu gadael yn arbennig o agored i dlodi pe byddai eu perthynas yn chwalu. Mae gan hyn effaith uniongyrchol ar dâl a chynnydd ac mae'n cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan TUC Cymru ym mis Mawrth yn dangos bod bylchau cyflog rhwng y rhywiau mor uchel â 25 y cant mewn rhai rhannau o Gymru. Mae gan Chwarae Teg weledigaeth i Gymru ddod yn arweinydd byd-eang ym maes cydraddoldeb rhywiol, lle gall pob menyw gyrraedd ei llawn botensial, ac rwyf i'n rhannu'r weledigaeth honno'n fawr. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nod blaenoriaeth arall—hybu cydraddoldeb yn y system addysg. Rwy'n pryderu bod cyngor gyrfaoedd, yn rhy aml o lawer, yn tueddu i arwain menywod tuag at brentisiaethau mewn sectorau lle mae cyflog yn llai nag yn y rhai sy'n cael eu dominyddu gan ddynion. Mae prentisiaethau'n aml yn llwybr at yrfaoedd mewn sectorau anhraddodiadol, ac mae'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau hyd yn oed yn fwy amlwg yma. Menywod oedd yn cyfrif am ddim ond 2.4 y cant o'r rhai a dechreuodd brentisiaethau ym maes adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu yn 2017-18. Fel y gwnaeth Ysgol Economeg Llundain ei ddarganfod, er mwyn atal anghydraddoldeb rhwng y rhywiau drwy ysgolion, yn ogystal â mynd i'r afael â'i fodolaeth mewn cymdeithas yn gyffredinol, mae mentrau i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol mewn ysgolion a drwy ysgolion yn hanfodol. Mae gan ysgolion botensial enfawr i sicrhau newid mewn cysylltiadau, safbwyntiau ac arferion rhywedd. 

Llywydd dros dro, hoffwn i ddweud ychydig eiriau am y nod blaenoriaeth o gefnogi cynhwysiant economaidd a chymdeithasol pobl anabl a phobl hŷn drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Er bod gwelliannau wedi'u gwneud, nid oes gan 21 y cant o orsafoedd rheilffordd Cymru fynediad heb risiau o hyd, sy'n golygu nad ydyn nhw'n hygyrch i deithwyr hŷn ac anabl. Roedd pob trên yn y DU i fod yn gwbl hygyrch erbyn mis Ionawr 2020, ond nid yw rhai cerbydau'n cydymffurfio â'r gyfraith o hyd, ac mae gan nifer o orsafoedd risiau serth a dim lifftiau na rampiau i bobl gael mynediad i lwyfannau. Mae'r elusen Leonard Cheshire wedi honni bod bywydau pobl anabl yn cael eu difetha gan orsafoedd lleol anhygyrch, ac nad yw trenau'n addas i'r diben. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom ni nodi diwrnod rhyngwladol pobl anabl. Roedd hyn yn gyfle i ni ailadrodd ein hymrwymiad i greu cymunedau cynhwysol, hygyrch a chynaliadwy i'r anabl yma yng Nghymru. Bydd mynd i'r afael â phroblem hygyrchedd trafnidiaeth i'n pobl anabl a'n pobl hŷn yn ein galluogi i wneud hynny. 

Llywydd dros dro, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n croesawu'r adroddiad hwn a'r nodau y mae'n eu nodi i ddileu rhwystrau i gyfle cyfartal wrth i ni symud ymlaen i greu Cymru deg, gyfartal a chynhwysol. Diolch.  

17:40

Hoffwn i ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon gyda dyfyniad gan gadeirydd pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Martyn Jones: 'Y tu ôl i'r ystadegau mae pobl go iawn sydd â phrofiadau byw o wahaniaethu ac anghydraddoldeb. Mae angen i ni daflu goleuni ar y cyfraniad cadarnhaol a wneir gan bob grŵp mewn cymdeithas o ddydd i ddydd. Rhaid inni newid y naratif o un o faich a negyddoldeb i un sy'n grymuso unigolion i fod yr hyn y maent am fod waeth beth fo'u hoedran, eu rhyw neu eu cefndir economaidd-gymdeithasol. Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin ag urddas a pharch.'

Byddem ni ym Mhlaid Cymru yn cytuno. Rydym ni eisiau i Gymru fod yn gymdeithas deg a chyfiawn lle mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal ac yn mwynhau'r un hawliau, waeth beth fo'u rhywedd, ethnigrwydd, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae'n rhaid cydnabod profiadau byw go iawn o wahaniaethu ac anghydraddoldeb wrth lunio polisïau ar draws holl adrannau'r Llywodraeth. Dyna pam rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i rym ym mis Mawrth 2021, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn arwain at ddull traws-Lywodraeth o leihau anghydraddoldeb a thlodi drwy fodel canlyniadau cenedlaethol. Mae'r cynnydd da hwn yn wahanol i'r Torïaid yn San Steffan, sy'n ymddangos yn benderfynol o danseilio hawliau dynol, ac mae honno'n ddadl gref o blaid ceisio'r cyfrifoldeb dros ddatganoli deddfwriaeth cydraddoldeb i Gymru.

Er i'r rhan fwyaf o'r gwaith sydd wedi'i amlygu yn yr adroddiad hwn gael ei wneud cyn pandemig y coronafeirws, ni allwn ni anwybyddu'r cyd-destun presennol o safbwynt cydraddoldeb. Mae COVID wedi effeithio'n anghymesur ar bobl hŷn a phobl anabl, ac mae'r effeithiau yn cynnwys marwolaethau, bod wedi'u hynysu o deulu a ffrindiau, yn ogystal ag effeithiau sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol. Mae llai o ofal ar gael ac mae cyflwyno mesurau ynysu wedi arwain at bron i 200,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu di-dâl ers dechrau'r pandemig.

Mae tua chwarter poblogaeth oedolion Cymru—700,000 o bobl—yn gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind ar hyn o bryd. Rwyf i eisiau gweld y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i roi cydraddoldeb wrth wraidd gwaith cynllunio adfer o'r pandemig Llywodraeth Cymru, datblygu polisi a gweithredu, gan gynnwys asesu'r effaith ar gydraddoldeb a chyhoeddi'r asesiadau hyn. Dylai cymunedau a grwpiau sydd wedi'u heffeithio gael eu hannog a'u galluogi i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae gennym ni gyfle i gydraddoli ar ôl COVID. Gadewch i ni wneud yr hyn a allwn ni i gyflawni hynny.

17:45

Rwy'n croesawu'r adroddiad a'r ddadl rydym ni'n ei chael yn y Senedd heddiw. Mae'n ddadl braidd yn rhyfedd, oherwydd mae'n ymwneud â sefydliad yn y DU, ar swyddogaethau nad ydyn nhw wedi'u datganoli, sydd wedi adrodd i'r Senedd hon, y byddwn ni'n pleidleisio arno, ac ychydig iawn o lais sydd gennym ni yn y mandad a'r fframwaith y mae'n gweithredu oddi mewn iddyn nhw. Felly, hoffwn i fynegi fy anfodlonrwydd â'r hyn sydd, yn fy marn i, yn adroddiad dihyder a'i gynnwys, ac, yn wir, cyflwr hawliau dynol yng Nghymru a'r DU, sydd, yn fy marn i, yn ganlyniad uniongyrchol i weithredoedd y Llywodraeth Dorïaidd hon yn San Steffan.

Nawr, nid wyf i'n beirniadu staff y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ond rwy'n beirniadu cyfeiriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sydd, ers 2010, wedi'i israddio flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn 2007, pan gafodd ei sefydlu, roedd ganddo gyllideb o £70 miliwn. Eleni, tua 13 mlynedd yn ddiweddarach, mae ganddo gyllideb o £17 miliwn. Felly, nid yw'n syndod ei fod mor gyfyngedig yn yr hyn y gall ei wneud ac, o fy amcangyfrif i, mae wedi cael rhywbeth tebyg i doriad o 500 y cant a mwy yn ei adnoddau. Ni ddylai hynny fod yn syndod i ni, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi israddio hawliau dynol yn union fel y mae wedi israddio, er enghraifft, yr awdurdod gweithredol iechyd a diogelwch. Mae'r cyrff hyn a ddylai fod ar flaen y gad o ran hawliau dynol a hawliau diogelwch gweithwyr wedi'u gwanhau yn fwriadol i bob pwrpas. Mae Prif Weinidog y DU a'i ragflaenwyr, o'r diwrnod cyntaf, wedi ymosod ar Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, ac, fel y gwyddom ni i gyd, hyd yn oed wedi ceisio pasio deddfau i ganiatáu i Lywodraeth y DU dorri cyfraith ryngwladol, ac mae Ceidwadwyr Cymru wedi cydweithio yn yr agenda honno.

Gan droi at yr adroddiad ei hun, yn fy marn i, mae'n gwbl annigonol a siomedig. Mae'r manylion yn gyfyngedig ac nid yw'n adrodd ar rai o'r heriau mawr sy'n wynebu Cymru. Yn wir, mae mwy o fanylion yn adroddiad y DU sy'n ymwneud â Chymru nag sydd yn adroddiad Cymru. Nid yw'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â lleihau’r cyfle i fanteisio ar gyfiawnder yng Nghymru, y llysoedd yn cael eu cau. Nid yw'n cyfeirio mewn unrhyw ffordd at y ffordd y mae nawr gan ein cymunedau cyfleoedd cyfyngedig o ran manteisio ar gyfiawnder ac, mewn gwirionedd, oni bai am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i rwydweithiau cyngor ar bopeth i ddinasyddion, ni fyddai braidd dim cyfle i fanteisio ar gyfiawnder i gynifer o bobl yng Nghymru. Nid yw'n gwneud unrhyw sylw defnyddiol ar effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar anghydraddoldeb a thlodi, ac nid oes sôn hyd yn oed am gyflwyniad trychinebus credyd cynhwysol. Rhan o'r broblem yw bod ei mandad yn awr gan Lywodraeth y DU wedi'i leihau gymaint fel ei bod bron yn anweledig. Rwy'n credu ei bod yn bryd datganoli swyddogaethau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru yn llawn, ac rwy'n dweud yr un peth o ran yr awdurdod gweithredol iechyd a diogelwch. Ni allaf i weld sut y gall y cyrff hyn weithredu'n effeithiol mwyach nes bod eu sefydliad a'u mandad wedi'u datganoli a'u bod yn dod yn gwbl atebol i'r Senedd hon a thrwy hynny i bobl Cymru. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Senedd am gymryd rhan heddiw, gan ddangos yn glir pam y mae'n bwysig bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i fod â phresenoldeb cryf a phendant yng Nghymru, gan dderbyn, wrth gwrs, heriau Mick Antoniw, o ran hynny, eu gallu i gyflawni o ran y cyfyngiadau nid yn unig ar eu cyllideb ond hefyd o ran eu perthynas a'n pwerau yma yng Nghymru o ran cydraddoldeb a hawliau dynol. Wrth gwrs, dyna y mae'r ymchwil yr ydym yn ei gwneud yn ein galluogi i edrych arno, i brofi o ran cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol, er mwyn i ni ystyried a oes angen i ni ddeddfu yn y maes hwn. Rwy'n ddiolchgar am y cyfraniadau sydd wedi'u gwneud yn y ddadl heddiw, ac yn enwedig Laura Anne Jones, y ffaith eich bod chi wedi canolbwyntio ar rywedd, hawliau menywod, mynediad cyfartal i'r farchnad lafur a'r anawsterau a'r rhwystrau y mae menywod yn dal i'w hwynebu. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol bod gennym y cynllun treialu cyllidebu ar sail rhywedd yn awr o ran cyfrifon dysgu personol, a thrafodwyd hynny gennym yn y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr wythnos diwethaf, oherwydd mae hynny, mewn gwirionedd, yn nodi lle mae angen i ni dargedu a chanolbwyntio ar rwystrau penodol sy'n wynebu menywod, a'r gwahanu rhwng y rhywiau yn y farchnad lafur o hyd. Ond, wrth gwrs, mae adolygiad Chwarae Teg o gydraddoldeb rhywiol yn rhoi llwybr i ni barhau i fynd i'r afael â llawer o'r materion hynny.

Wrth gwrs, hefyd, mae Leanne yn siarad yn rymus iawn am bwysigrwydd dysgu ac ymgysylltu, fel y mae Martyn Jones wedi'i ddweud, o ran profiad byw y rhai sy'n wynebu anghydraddoldeb ac anfantais. Ac rwy'n credu mai un o'r pwyntiau yr hoffwn i ei wneud—fe wnes i roi ychydig o oleuni ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Dylai'r cynllun hwn ddangos ein hymrwymiad fel Llywodraeth wrth-hiliol a rhaid iddo wneud hynny. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn dysgu drwy brofiad byw y rhai sy'n ymgysylltu â ni, drwy gynlluniau mentora, er enghraifft, a grantiau i sefydliadau bach ar lawr gwlad, fel y dywedais i, ond hefyd yn cydnabod bod angen i ni wneud newid diwylliannol gwirioneddol er mwyn cyflawni'r amcanion hynny. Ac rydym wedi treialu llawer o ddulliau drwy'r cynllun gyda'r grŵp llywio, er enghraifft, dan gadeiryddiaeth yr Athro Emmanuel Ogbonna a'r Ysgrifennydd Parhaol, sydd, wrth gwrs, yn newid sylweddol iawn yn y ffordd yr ydym yn gwneud busnes yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, mae Leanne ac, yn wir, Mick Antoniw yn gwbl glir ynglŷn â'r her sydd gennym o ran anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, a ddaeth drwodd yn glir iawn o ran y gwaith a wnaed gan ein grŵp cynghori ar COVID-19 du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig—bod angen i ni edrych ar effeithiau economaidd-gymdeithasol y coronafeirws ar bobl a chymunedau o ran y ffactorau economaidd-gymdeithasol ac nid ffactorau clinigol yn unig a allai fod yn effeithio'n anghymesur ar gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Felly, unwaith eto, mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yr ydym ni'n ei deddfu yn arwydd hollbwysig o ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddeddfu hynny.

Mae gennyf ddiddordeb hefyd fod llawer o alwadau yn Lloegr i hyn gael ei ddeddfu—Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn benderfynol o'i ddeddfu ac rwy'n credu bod cefnogaeth gref yn y Senedd hon hefyd, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gewch yn eich pwyllgorau. Unwaith eto, tynnwyd sylw'n glir at hynny yn y pwyllgor dan gadeiryddiaeth John Griffiths fel ffordd hollbwysig ymlaen o ran mynd i'r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol o ran anghydraddoldeb.

Felly, o ran ymateb i adroddiad effaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yr ydym wedi cael rhywfaint o fewnwelediad i'w gwaith a'u blaenoriaethau yng Nghymru, a hefyd yn cydnabod, fel yr wyf i wedi nodi, ffyrdd y gallwn gydweithio i gyflawni'r cyfleoedd y gallwn ni eu rhannu o ran cryfhau cydraddoldeb a hyrwyddo hawliau dynol. Ond o heddiw ymlaen, mae'n ymwneud â'r cyfle sydd gennym i gyflawni dros bobl Cymru o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, gan ganolbwyntio, fel yr ydym yn awr, ar effaith y coronafeirws ar gydraddoldeb a hawliau dynol.

Ac yn olaf, dweud, fel y gwyddoch chi ac fel y dywedwyd yn glir iawn gan Lywodraeth Cymru a chan y Prif Weinidog, ac, yn wir, y Cwnsler Cyffredinol o ran adferiad, bod cydraddoldeb a hawliau dynol wrth wraidd cynlluniau adfer a pharhad. Ac mae'n rhaid i'r asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, fel y gofynnodd Leanne Wood, arwain a llywio pob penderfyniad a wnawn yn Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr.

17:50

Diolch, Gweinidog. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n credu bod gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Nawr, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod cyn i ni symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:55.

17:55

Ailymgynullodd y Senedd am 17:59, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

13. Cyfnod Pleidleisio

Felly, byddwn ni'n symud at y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf heno ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021, a galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Pawb yn hapus? Caewch y bleidlais. Ar gyfer y cynnig 46, mae dau yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, derbynnir eitem 9.

18:00

Eitem 9 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021: O blaid: 46, Yn erbyn: 4, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn ni yn awr i bleidleisio ar eitem 10, sef y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 y dylid trin Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel Bil brys y Llywodraeth, a galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Iawn. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 10.

Eitem 10 - Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth: O blaid: 47, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn yn awr i bleidleisio ar eitem 11, sef y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98 i gytuno ar amserlen i'r Bil gael ei alw'n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), a galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Ar gyfer y cynnig 47, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 11.

Eitem 11 - Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws): O blaid: 47, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:02.