Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

12/01/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o Reolau Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Y cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf ar ein hagenda ni, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Bennett. 

Pandemig COVID-19

1. Pa werthusiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19? OQ56088

13:30

Llywydd, drwy gydol yr argyfwng digynsail hwn mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i achub bywydau a bywoliaethau. Rydym ni'n parhau i fonitro ac adolygu'r camau yr ydym ni'n eu cymryd i gadw Cymru yn ddiogel yn unol â'r cyngor clinigol a gwyddonol diweddaraf.

Diolch am yr ymateb yna. Mae ein cyfradd frechu wedi bod yn is na rhannau eraill o'r DU hyd yma. Mae'r gyfradd yn Lloegr tua 3.5 y cant o'r boblogaeth, ac yng Nghymru mae wedi bod yn 2.7 y cant. Er eich bod chi wedi ceisio bychanu'r gwahaniaeth hwn, mae'n gyfystyr â 25,000 o bobl ychwanegol y gellid bod wedi eu brechu yng Nghymru pe byddech chi a'ch Gweinidog iechyd wedi bod yn effro. O gofio nad yw eich Gweinidog iechyd hyd yn oed wedi camu i mewn ysbyty GIG yn y misoedd diwethaf gan ei fod yn poeni y bydd ar y ffordd, a oes angen iddo ymddiswyddo nawr fel nad yw ar y ffordd o ran brechu mwy o bobl, ac a oes angen i ni fabwysiadu dull o frechu a arweinir gan y DU bellach?

Prif Weinidog, mae'r rhaglen frechu yn rhaglen enfawr i'r Llywodraeth a phobl Cymru fynd i'r afael â hi, ac mae'n bwysig bod pobl yn cadw ffydd yn ei darpariaeth ym mhob rhan o Gymru. Pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i greu swydd o fewn y Llywodraeth i Weinidog brechu i helpu i sbarduno'r ymarfer logistaidd hwn ledled Cymru, i ddatrys unrhyw un o'r anawsterau a allai godi? Oherwydd rydym ni yn gwybod bod y GIG yn ei gyfanrwydd o dan bwysau aruthrol, ac mae'n rhaid i'r Gweinidog iechyd presennol dreulio cryn dipyn o amser yn ymdrin â'r materion hynny, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd, yn amlwg, mae llawdriniaeth ddewisol wedi ei gohirio mewn sawl ardal a bydd y pwysau hynny yn ddi-ildio yn yr wythnosau nesaf. Felly, a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i ddefnyddio rhywfaint o'r rhai talentog ar eich meinciau cefn, fel Carwyn Jones neu Alun Davies, a allai wneud swydd Gweinidog brechu o'r fath?

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am ei gydnabyddiaeth o faint yr ymdrech sydd ei hangen ac sy'n cael ei gwneud i gyflwyno'r rhaglen frechu ar y maint a'r raddfa sy'n angenrheidiol yma yng Nghymru, ac am ei gydnabyddiaeth o'r pwysau enfawr y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithredu oddi tano ar hyn o bryd wrth iddo gyflwyno'r rhaglen frechu.

Yn fy marn i, mae cysylltiad agos rhwng brechu a phopeth arall y mae'r gwasanaeth iechyd yn ceisio ei wneud—na allwch chi wneud penderfyniadau mewn un rhan o gyfrifoldeb y GIG wedi'i wahanu oddi wrth bopeth arall. Byddai'n well o lawer, rwy'n credu, caniatáu i'r Gweinidog iechyd, sy'n gyfarwydd iawn â phopeth sydd wedi digwydd yn ystod y 10 mis diwethaf gydag ymdrech coronafeirws y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys brechu, fod yn gyfrifol am yr ymdrech honno. Credaf fod hynny yn gweithio'n well na cheisio trosglwyddo rhan yn unig o'r hyn y mae'n rhaid i'r GIG ei wneud i un person arall, gan greu, yn anochel, rhwystrau a ffiniau newydd, ac yn y blaen. Mae ein Gweinidog iechyd wedi gweithio yn gwbl ddiflino dros y 10 mis diwethaf. Fe sydd yn y sefyllfa orau i wneud yn siŵr bod popeth y mae angen i ni ei wneud i frechu yn cael ei wneud yn unol â'r cynllun a gyhoeddwyd ddoe.

Rwy'n falch na ddangosodd y Prif Weinidog fawr o drugaredd tuag at yr holwr ar y mater hwn. Roedd hwn, wrth gwrs, yn rhywun a oedd eisiau gwahodd Donald Trump i agor ei swyddfa drwg ei thynged ym Mhontypridd, ac mae hefyd wedi cael popeth yn anghywir ar bob adeg dros y naw mis diwethaf.

Yr hyn sy'n bwysig nawr o ran adolygu sut yr ydym ni'n bwrw ymlaen yw sicrhau ein bod ni'n parhau i gynorthwyo pobl drwy'r pandemig hwn. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod y Ceidwadwyr yn hyrwyddo'r syniad bod £1 biliwn yn eistedd naill ai o dan ei soffa neu yn ei boced ôl yn rhywle. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei holl gyllid, ei holl adnoddau i gynorthwyo pobl Cymru a busnesau ledled y wlad wrth i ni symud ymlaen drwy'r pandemig ofnadwy hwn?

Wel, Llywydd, diolch i Alun Davies am y ddau gwestiwn yna. Mewn gwirionedd, anfonodd etholwr y dyfyniadau ataf gan y sawl a ofynnodd y cwestiwn pan wahoddodd Llywydd yr Unol Daleithiau i agor ei swyddfa ym Mhontypridd, swyddfa fel y cofiwch na wnaeth erioed agor, gan wastraffu miloedd lawer o bunnoedd o arian cyhoeddus yn y broses. Fe'm hatgoffwyd gan yr un etholwr hefyd fod Mr Bennett wedi gosod gwelliant gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr yn dweud ei fod yn credu bod y lefel newydd o gyfyngiadau a oedd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru yn anghymesur. Wel, bydd wedi gweld nawr bod gweddill y Deyrnas Unedig wedi dilyn ein hesiampl. Nid oedd yn anghymesur, ond yn hytrach yn angenrheidiol. Roedd yn anghywir am hynny, fel y mae'n anghywir am yr hyn y mae wedi ei ofyn i mi heddiw.

Ac o ran chwedl wag hon am £1 biliwn yn eistedd yn Llywodraeth Cymru, Llywydd, ym mis Tachwedd, roeddem ni ddwy ran o dair o'r ffordd drwy'r flwyddyn ariannol ac roeddem ni wedi gwario dwy ran o dair o'n cyllideb. Ddiwedd mis Rhagfyr, roeddem ni dri chwarter ffordd drwy'r flwyddyn ariannol, ac roeddem ni wedi treulio tri chwarter ein cyllideb. Rydym ni wedi gwario 80 y cant o'r gyllideb nawr ym mis Ionawr. A allwch chi ddychmygu unrhyw beth mwy anghyfrifol nag annog Llywodraeth Cymru i fod wedi gwario ein cyllideb yn llwyr gyda chwarter y flwyddyn ariannol yn dal yn weddill, a chwarter anodd a heriol iawn hefyd? Roeddwn i'n meddwl bod y pwyntiau a wnaed gan ASau Ceidwadol nid yn unig yn gyfeiliornus, Llywydd, roedden nhw'n ffôl ac fe'u bwriadwyd i gamarwain, ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle i unioni'r sefyllfa honno y prynhawn yma.

13:35
Batris Cerbydau Trydan

2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau buddsoddiad mewn cynhyrchu batris ar gyfer cerbydau trydan yng Nghymru? OQ56105

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae cynlluniau i ddefnyddio cryfder ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu'r sector yng Nghymru eisoes wedi sicrhau dau safle ar frig rhestr fer y DU ar gyfer mwy o gynhyrchiant mewn ffatrïoedd o fatris cerbydau trydan, a phedwar gwahanol brosiect ymchwil a masnacheiddio, yn rhan o her batri Faraday gwerth £380 miliwn.

Diolch yn fawr iawn am yr wybodaeth yna—mae hynny'n galonogol iawn. Efallai fod hwn yn ymddangos yn gwestiwn braidd yn rhyfedd yng nghanol y pandemig hwn, ond rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar adferiad gwyrdd, a bodloni ein targedau llygredd hinsawdd ac aer hefyd. Rydym ni'n gwybod y bydd angen i'r holl gerbydau newydd sy'n cael eu gwerthu yn y DU gael eu pweru gan dechnoleg adnewyddadwy erbyn 2030, ac felly mae cyfleusterau cynhyrchu cerbydau presennol sy'n defnyddio tanwydd ffosil yn ased sy'n lleihau, oni bai eu bod nhw'n newid i drydan neu hydrogen. Ac rwy'n falch iawn o glywed gan Hitachi eu bod nhw'n treialu'r defnydd o fatris ar drenau i redeg ar y prif reilffyrdd y mae Llywodraeth y DU wedi methu â'u trydaneiddio. Ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys y brif reilffordd sy'n rhedeg i'r gorllewin o Gaerdydd Canolog, felly gallai hyn fod yn berthnasol iawn i osgoi'r mygdarth diesel ar drenau sy'n teithio tuag at y gorllewin yn y dyfodol. Ond mae trenau yn gynnyrch arbenigol o'u cymharu â cheir, ac roeddwn i'n meddwl tybed beth ellir ei wneud i weithio o ddifrif gyda gweithgynhyrchwyr cerbydau presennol y DU i weld bod gan Gymru gynnig unigryw o ran ein harbenigedd peirianneg a lled-ddargludyddion cyfansawdd i leoli gwaith cynhyrchu batris cerbydau trydan ar raddfa fawr.

Llywydd, diolchaf i Jenny Rathbone am y cwestiwn pwysig iawn yna. Mae yn llygad ei lle wrth dynnu sylw at y ffaith, er bod coronafeirws yn mynd â'r rhan fwyaf o'n sylw fel argyfwng iechyd cyhoeddus uniongyrchol, nad yw'r argyfwng newid hinsawdd wedi diflannu a bod angen iddo fod yn flaenllaw yn ein meddyliau o hyd. Bydd yr Aelod yn falch o wybod, yn y gronfa trawsnewid modurol, na chyfeiriais ati yn fy ateb gwreiddiol, bod Cymru wedi llwyddo i gael cyllid ar gyfer tri phrosiect yn rownd gyntaf y gronfa honno. Mae'r tri ohonyn nhw yn y gornel dde-ddwyreiniol honno o Gymru—yng Nghasnewydd ac yng Nghil-y-coed—lle mae gennym ni'r clwstwr hwnnw o arbenigedd mewn lled-ddargludyddion. Ac rwy'n credu bod hynny yn gydnabyddiaeth o'r ffaith fod gennym ni'r ffynhonnell honno o arbenigedd sydd wedi datblygu yma yng Nghymru ac a fydd o fantais i'r DU gyfan. Ac, yn wir, ceir gweithgynhyrchwyr yn y DU sydd eisoes yn cyfrannu at yr ymdrech y cyfeiriodd Jenny Rathbone ati—Hydro Aluminium, er enghraifft, cwmni sy'n paratoi cydrannau ar gyfer fflyd tacsis cwbl drydanol Llundain. A dim ond un enghraifft yw honno; mae cwmnïau eraill yng Nghymru eisoes yn cyflenwi cydrannau yn y maes pwysig iawn hwn.

Ac o ran trenau, roeddwn i'n ddiolchgar iawn o gael y cyfle i gyfarfod ychydig cyn y Nadolig gydag uwch is-lywydd Hitachi, a oedd yn ymweld â'r Deyrnas Unedig, ac i archwilio gydag ef y diddordeb sydd gan Hitachi yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru yn y sector rheilffyrdd, yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n chwarae ein rhan yn yr ymdrech fawr y bydd ei hangen, fel y dywedodd Jenny Rathbone, Llywydd, i sicrhau bod ein trafnidiaeth a'n cludiant cyhoeddus yn y dyfodol yn ymateb i'r her y mae'r newid yn yr hinsawdd yn ei gosod i bob un ohonom ni.

13:40

Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol, gobeithio, fod Britishvolt wedi llofnodi memorandwm o gyd-ddealltwriaeth gyda chi a'ch Llywodraeth mewn ymgais i adeiladu ffatri batris cerbydau trydan graddfa fawr gyntaf y DU yma yng Nghymru. Nawr, er mai safle Bro Morgannwg yw'r ffefryn cynnar ac i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ein hysbysu ym mis Hydref ei fod yn cael galwadau rheolaidd gyda Britishvolt, mae ein gwlad wedi colli'r ras i fod yn ganolfan fyd-eang i'r diwydiant cerbydau wedi'u trydaneiddio. Yn drist, bydd Britishvolt yn mynd â'i fuddsoddiad o £2.6 biliwn, 3,000 o swyddi medrus iawn a hyd at 5,000 yn fwy yn y gadwyn gyflenwi ehangach i Northumberland. Pam wnaethoch chi, fel y Prif Weinidog, ganiatáu i'r batri hwn fynd yn fflat o ran Britishvolt yng Nghymru? A pham na wnaethoch chi gynnig unrhyw gymhellion ariannol o gwbl i wefru i'r eithaf diwydiant a datblygiad mor bwysig i Gymru? Diolch.

Llywydd, mae gen i ofn bod yr Aelod wedi darllen ei chwestiwn ond nad oedd yn wybodus iawn amdano. Rydym ni'n dal i fod mewn trafodaethau gyda Britishvolt. Y symudiad i Blyth yw eu ffatri gyntaf. Fel y dywedais yn fy ateb i Jenny Rathbone, mae gan Gymru ddau safle—safle Bro Tathan a safle Baglan—yn y pump uchaf ar restr fer Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cynhyrchiant gigaffatri o fatris trydan. Rydym ni'n parhau i drafod gyda Britishvolt. Mae ganddyn nhw uchelgeisiau y tu hwnt i Blyth, ac mae Cymru yn sicr ar eu rhestr ar gyfer cam nesaf eu datblygiad. Rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n parhau i fynd ar drywydd y posibiliadau hynny ac yn sicr i beidio â bychanu'r ymdrechion a wnaeth y cwmni gyda Llywodraeth Cymru i ddod â swyddi a gweithgarwch i Gymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roedd Mohamud Hassan yn ŵr ifanc 24 oed heini ac iach. Nos Wener, cafodd ei arestio mewn eiddo yng Nghaerdydd, lle y cyfeiriodd cymdogion yn ôl adroddiadau at gynnwrf sylweddol. Ar ôl cael ei gymryd i'r ddalfa yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd, cafodd Mr Hassan ei ryddhau heb gyhuddiad ddydd Sadwrn. Yn ddiweddarach y noson honno, bu farw'n drasig. Dywedwyd bod tystion wedi'u syfrdanu gan gyflwr Mr Hassan ar ôl iddo gael ei ryddhau, gan ddweud bod ei dracwisg wedi'i gorchuddio mewn gwaed a bod ganddo anafiadau a chleisiau difrifol. Nid oes amheuaeth nad yw hwn yn achos dirdynnol iawn a dylid gwneud pob ymdrech i ddarganfod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd. Pam gafodd Mohamud Hassan ei arestio? Beth ddigwyddodd yn ystod ei arestiad? A oedd ganddo gynrychiolaeth gyfreithiol? A oedd unrhyw ôl-ofal? Pam y bu farw'r gŵr ifanc hwn? Er na ddylem ni ragfarnu canlyniad unrhyw ymchwiliad, a wnewch chi ymrwymo, Prif Weinidog, i wneud popeth o fewn eich gallu i helpu'r teulu i ddod o hyd i'r atebion hynny? Ac a ydych chi'n cefnogi eu galwad am ymchwiliad annibynnol i'r achos hwn?

Wel, Llywydd, diolchaf i arweinydd Plaid Cymru am y cwestiwn yna. Rwyf i wedi darllen yr adroddiadau y cyfeiriodd atyn nhw. Maen nhw'n peri pryder mawr, wrth gwrs, ac mae'n rhaid i'n meddyliau fod gyda theulu'r gŵr ifanc, a oedd, fel y dywedodd Adam Price, yn unigolyn heini ac iach, ac mae'n rhaid ymchwilio yn briodol i'w farwolaeth o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd gan arweinydd Plaid Cymru. Nawr, rwy'n deall bod yr heddlu eisoes wedi cyfeirio'r mater hwn, fel y byddai'n rhaid iddyn nhw ei wneud, at wasanaeth ymchwilio annibynnol yr heddlu. Y cam cyntaf mewn unrhyw ymchwiliad fydd caniatáu iddyn nhw wneud eu gwaith. Rwy'n llawn ddisgwyl i hynny gael ei wneud yn drylwyr a chydag annibyniaeth lawn a gweladwy. Rwy'n falch bod y teulu wedi sicrhau cymorth cyfreithiol iddyn nhw fel y gallant fynd ar drywydd eu pryderon cwbl ddealladwy. Ac os oes pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud, yna byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi sylw priodol i'r rheini heb, fel y dywedodd yr Aelod, ragfarnu mewn unrhyw ffordd canlyniad yr ymchwiliadau annibynnol y mae angen iddyn nhw ddilyn nawr.

13:45

Ym 1990, yn dilyn yr achos llofruddiaeth mwyaf uchel ei broffil yn hanes Heddlu De Cymru, cafwyd tri gŵr du yn euog o lofruddiaeth Lynette White, ac, 11 mlynedd yn ddiweddarach, cafodd 12 o swyddogion yr heddlu eu rhyddfarnu ar dechnegoldeb yn yr achos llygredd heddlu mwyaf mewn hanes. Yn yr achos a adnabyddir fel y Butetown Three, disgyblwyd pum heddwas 11 mlynedd yn ôl yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd pan gafodd dau fyfyriwr du yr ymosodwyd arnyn nhw gan sginheads eu harestio eu hunain a'u cyhuddo o anhrefn treisgar. Yn 2019, disgrifiwyd marwolaeth Christopher Kapessa, a oedd yn 13 oed, a fu foddi yn Afon Cynon, fel damwain o fewn 24 awr gan Heddlu De Cymru. Dim ond ar ôl ymgyrch barhaus y cyfaddefodd Gwasanaeth Erlyn y Goron bod digon o dystiolaeth ar gyfer erlyniad dynladdiad. Dywedodd mam Christopher Alina bod yr heddlu yn 'sefydliadol hiliol'. O ystyried yr hanes a'u profiad dyddiol, a ydych chi'n deall, Prif Weinidog, pam y byddai cynifer o bobl groenliw yn cydymdeimlo i raddau â'r datganiad hwnnw?

Wel, Llywydd, gadewch i mi ddweud ar goedd, fel y gwn y byddai'r Aelod yn ei wneud ei hun, mae bywydau du o bwys ym mhob un agwedd ar wasanaethau cyhoeddus a bywyd cyhoeddus yma yng Nghymru, ac mae'r rhwymedigaeth honno yn gorwedd gyda'n gwasanaethau heddlu gymaint â chydag unrhyw ran arall o fywyd Cymru. Rwyf i wedi bod, serch hynny—i wneud y cofnod yn un teg, rwyf i fy hun wedi bod yn bresennol gydag uwch aelodau Heddlu De Cymru mewn mosgiau a chynulliadau eraill o gymunedau pobl dduon yma yng Nghymru ar adegau pan oedd y cymunedau hynny yn teimlo o dan fygythiad mawr, oherwydd, er enghraifft, ymosodiadau Christchurch yn Seland Newydd 18 mis yn ôl. Y noson honno, aeth Heddlu De Cymru ar draws eu hardal gyfan, gan wneud yn siŵr bod cymunedau mosgiau yn teimlo eu bod nhw'n cael eu hamddiffyn, eu bod nhw'n gwybod bod presenoldeb amlwg Heddlu De Cymru yno, a mynychais fy hun gyda'r prif gwnstabl nifer o gyfarfodydd gydag arweinyddion y cymunedau hynny, gan wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwybod bod eu gwasanaeth heddlu yno i ofalu amdanyn nhw ac i'w hamddiffyn.

Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych ar y cofnod yn ei gyfanrwydd. Pan fo materion sy'n peri pryder yn codi—ac roeddwn i'n aelod o Awdurdod Heddlu De Cymru yn ystod y blynyddoedd ofnadwy hynny tua 1990, pan oedd methiant i amgyffred arwyddocâd yr hyn a oedd wedi digwydd a'r dyfnderoedd y cymerwyd rhan mewn gweithredoedd cuddio tystiolaeth yr aethpwyd iddyn nhw, ond rwy'n credu, er ein bod ni'n cymryd y pethau hynny o ddifrif, ac mae'n bendant bod yn rhaid i ni wneud hynny, bod cofnod ehangach a llawer iawn o ymrwymiad gan bobl uchel iawn yn ein gwasanaethau heddlu yma ym mhob rhan o Gymru i wneud yn siŵr bod y pethau iawn yn cael eu gwneud, ac mae angen i ni eu cefnogi yn hynny hyd yn oed tra ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod yr enghreifftiau unigol hynny, o'r math y dechreuodd arweinydd Plaid Cymru ei gwestiynau â nhw heddiw, yn cael y sylw priodol, annibynnol ac agored sydd ei angen arnyn nhw i dawelu meddyliau'r bobl hynny sy'n cael eu cyffwrdd ganddyn nhw yn fwyaf uniongyrchol.

Prif Weinidog, rydych chi'n iawn, yn amlwg, i dynnu sylw at y camau cadarnhaol hynny y dylid eu cefnogi a'u hannog, ond a fyddech chi'n derbyn y gellir gwneud mwy a bod angen gwneud mwy? Rhoddaf un enghraifft i chi—dim ond 2.6 y cant o swyddogion Heddlu De Cymru sy'n ddu, yn Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, o'i gymharu â 6.7 y cant o'r boblogaeth yn ardal yr heddlu. Mae ystadegau a gynhyrchwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos bod poblogaeth ein carchardai yma yng Nghymru hyd yn oed yn fwy anghymesur yn hiliol nag yn yr Unol Daleithiau. Rydych chi bum gwaith a hanner yn fwy tebygol o fynd i'r carchar os ydych chi'n ddu na phe byddech chi'n wyn yn yr Unol Daleithiau; yng Nghymru, chwech a hanner yw'r ffigur. Ym mis Mehefin y llynedd, pan oeddem ni'n trafod achos George Floyd ac effeithiau hynny, gofynnais i chi ymrwymo i sefydlu ymchwiliad eang i wreiddiau ac atebion hiliaeth strwythurol ac anfantais hiliol yma yng Nghymru. Dywedasoch bryd hynny y byddech chi'n ystyried y cynnig hwnnw. A ydych chi wedi gwneud penderfyniad?

Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno y gellid ac y dylid gwneud mwy. Bydd llawer o hynny yn cael ei gynrychioli yn y cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi ymhen ychydig wythnosau yn unig. Mae'r cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol hwnnw wedi lywio gan yr adroddiad ar achosion strwythurol o hiliaeth yma yng Nghymru, sydd eisoes wedi'i gomisiynu ac sydd eisoes wedi adrodd. Felly, cafodd yr adroddiad hwnnw ei gadeirio a'i lunio gan yr Athro Emmanuel Ogbonna, academydd nodedig ac aelod o'r gymuned pobl dduon yma yng Nghymru. Mae ei ddarllen yn eich sobreiddio, fel y byddai'r Aelod rwy'n siŵr yn cytuno, ac nid oes unrhyw le y mae'n fwy brawychus nag yn y ffigurau y mae Adam Price wedi cyfeirio atyn nhw y prynhawn yma yn y system cyfiawnder troseddol. Mae'n rhaid i lefel y gwahaniaethu a wynebir gan bobl dduon yn y system cyfiawnder troseddol ehangach gael ei deall a'i hunioni, yn sicr. Dyma un o'r rhesymau pam mae bwrw ymlaen â chynigion comisiwn Thomas mor bwysig, oherwydd byddai'n rhoi cyfleoedd i ni nad oes gennym ni ar hyn o bryd i allu ymdrin yn uniongyrchol â rhai o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi yn gwbl briodol y prynhawn yma.

O ran ei gwestiwn olaf am adroddiad ar hiliaeth strwythurol yma yng Nghymru, mae'r adroddiad hwnnw wedi ei gomisiynu ac mae'r adroddiad hwnnw ar gael, a dyna fu sail y cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol. Rwy'n ddiolchgar iawn yn wir i'r Athro Ogbonna am ei ymgysylltiad parhaus â'r gwaith o lunio'r cynllun hwnnw, a fydd yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni yn y fan yma drwy ein pwerau datganoledig i fynd i'r afael â'r effeithiau niweidiol y mae arweinydd Plaid Cymru wedi cyfeirio atyn nhw yn ei gwestiynau y prynhawn yma.

13:50

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae strategaeth frechu Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod 280,000 dos o frechlyn Pfizer a 47,000 o frechlyn Rhydychen-AstraZeneca bellach wedi dod i law yma yng Nghymru, ac eto rydym ni'n gwybod mai dim ond tua 91,000 o ddosau sydd wedi eu rhoi. Ac rydym ni'n gwybod, ddoe, bod 2.7 y cant o boblogaeth Cymru wedi cael eu brechu, o'i gymharu â 3 y cant yn yr Alban a 3.5 y cant yn Lloegr. A allwch chi egluro i bobl Cymru pam mae cyflwyno'r brechlyn wedi cwympo y tu ôl i wledydd eraill y DU hyd yma, ac a allwch chi ddweud wrthym ni pam yr ydych chi'n credu nad sbrint yw hon, o gofio mai ras yw hon i guro'r feirws mewn gwirionedd?

Wel, Llywydd, mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn mai ras yn erbyn y feirws yw hon, ac nid yn erbyn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Bydd y ras honno yn cael ei rhedeg nid dros wythnos, ond dros fisoedd a misoedd i ddod. Byddwn yn dal i frechu pobl yma yng Nghymru ymhell i fisoedd olaf y flwyddyn galendr hon, a'r hyn yr oeddwn i'n ceisio ei egluro i bobl yw y bydd yn rhaid i honno fod yn ymdrech barhaus, nid yn rhywbeth sy'n cael ei gwblhau ymhen ychydig ddiwrnodau neu wythnos. Bydd yn rhaid i ni baratoi i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud ein gorau glas ar draws y system i frechu'r nifer fwyaf posibl o bobl cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl. 

Gadewch i mi ymdrin â'r pwynt cyntaf a wnaeth arweinydd yr wrthblaid, Llywydd, i wneud yn siŵr bod pobl yn deall y sefyllfa yn y fan yma. Rydym ni'n defnyddio pob diferyn o frechlyn Rhydychen yr ydym ni'n ei gael cyn gynted ag y byddwn ni'n ei gael—22,000 dos yr wythnos diwethaf; rydym ni'n disgwyl 25,000 dos yr wythnos hon; 80,000 ac efallai ychydig yn fwy na hynny yr wythnos nesaf; ac yna, maint cyflenwad a fydd yn cynyddu, a gadewch i ni obeithio, yn cynyddu'n gyflym. O ran brechlyn Pfizer, cawsom ni'r rhan fwyaf o'r 2,800 dos hynny o gwmpas adeg y Nadolig. Mae'n rhaid iddyn nhw bara tan ddiwedd wythnos gyntaf mis Chwefror. Nid ydyn nhw'n cael eu rhoi i ni eu defnyddio mewn ychydig ddiwrnodau; dyna'r cyflenwad sydd gan Gymru ar gyfer mis Ionawr ac wythnos gyntaf mis Chwefror hefyd. A dyna pam na fyddai erioed wedi bod yn gynnig synhwyrol awgrymu y dylem ni fod wedi defnyddio'r cyflenwad hwnnw i gyd yn ystod y diwrnodau cyntaf. Mae'n rhaid i'r cyflenwad hwnnw gael ei wasgaru dros yr wythnosau y mae ar gael ar eu cyfer, fel bod gennym ni frechyddion sydd â gwaith i'w wneud ym mhob wythnos sy'n gallu gwneud y mwyaf posibl o'r cyflenwad hwnnw. A bydd yr Aelod yn cofio, ar 31 Rhagfyr, bod cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio wedi newid. Bryd hynny, roeddem ni'n meddwl y byddai'n rhaid i ni haneru'r cyflenwad hwnnw, oherwydd roedd angen i ni allu darparu dau ddos ohono i bawb o fewn yr amser yr oedd y brechlyn hwnnw gennym ni i'w ddefnyddio. Ar 31 Rhagfyr, newidiwyd y cyngor hwnnw, ac rwy'n credu mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Rydym ni'n credu y bydd gallu defnyddio dos cyntaf o'r brechlyn hwnnw i bobl yn gyflymach yn atal 10,000 o bobl yma yng Nghymru rhag dal coronafeirws. Ond y rheswm pam nad yw'r cwbl wedi cael ei ddefnyddio yn ystod yr ychydig ddiwrnodau cyntaf yw oherwydd bod yn rhaid iddo bara i ni am chwe wythnos.

13:55

Wel, Prif Weinidog, roedd y Gweinidog iechyd yn llygad ei le wrth ddweud mai ras oedd hi, a dyna pam mae'n hanfodol, pan fydd dosau yn cael eu derbyn, eu bod nhw'n cael eu rhoi cyn gynted â phosibl i'r rhai mewn grwpiau blaenoriaeth ledled Cymru. Mae'n amlwg bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflymu'r broses o gyflwyno'r brechlyn yng Nghymru ar frys i ni fod ag unrhyw obaith gwirioneddol o atal y feirws hwn yn ein cymunedau. Mae hefyd yn amlwg bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried defnyddio'r holl ymarferwyr meddygol sydd ar gael i helpu i roi'r brechlynnau, gan gynnwys clinigwyr sydd wedi ymddeol a mwy o fferyllwyr cymunedol. Fodd bynnag, mewn llythyr agored, mae'r llawfeddyg ymgynghorol sydd wedi ymddeol, yr Athro John Fairclough, wedi ei gwneud yn glir y bydd y methiant i hwyluso'r dull o recriwtio clinigwyr sydd wedi ymddeol yn lleihau gallu'r GIG i gyflwyno'r brechiad.

Yn wir, yn ardal fy mwrdd iechyd i fy hun, fe wnaeth clinigwr sydd wedi ymddeol egluro i mi, a dyfynnaf, 'Ar ôl darllen cais am wirfoddolwyr gan ein bwrdd iechyd lleol, Hywel Dda, yn y papur newydd lleol, fe wnes i gais ychydig wythnosau yn ôl ond nid wyf i wedi clywed dim. Mae'n ymddangos nad fi yw'r unig un sydd wedi cael y profiad hwn. Mae'n fy mhoeni i weld fy nghyd-feddygon teulu yn ymlafnio gyda'u gwaith ac yn gorfod ymgymryd â'r cyfrifoldeb ychwanegol o roi'r brechlyn.' Diwedd y dyfyniad. Does bosib na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth posibl i recriwtio clinigwyr sydd wedi ymddeol i helpu i ddarparu'r brechlyn ledled y wlad. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio clinigwyr sydd wedi ymddeol i roi'r brechlyn? A allwch chi gadarnhau nifer y fferyllwyr cymunedol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu defnyddio i helpu i gyflwyno'r brechlyn? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa drafodaethau a gafwyd gyda byrddau iechyd ledled Cymru ynghylch defnyddio clinigwyr sydd wedi ymddeol fel gweithlu ychwanegol i roi'r brechlyn yng Nghymru a pha un a oes unrhyw rwystrau ar waith i atal clinigwyr sydd wedi ymddeol rhag helpu i roi'r brechlyn?

Llywydd, rwyf i wedi bod—[Anghlywadwy.]—rhwng y pigiad a'r haint, a dyna'r ras yr wyf i'n canolbwyntio arni ac y mae'r Gweinidog iechyd yn canolbwyntio arni: gwneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio i'r eithaf ar ein gallu i ddefnyddio pa gyflenwad bynnag o frechlyn a ddaw i ni o ganlyniad i gaffaeliad Llywodraeth y DU ohono. Gadewch i mi fod yn eglur, Llywydd—rwy'n ddiolchgar am y cyfleoedd a gafwyd i drafod hyn gyda Llywodraeth y DU. Fe'i trafodais gyda'r Prif Weinidogion eraill a Michael Gove ddydd Mercher yr wythnos diwethaf. Rwy'n disgwyl cael trafodaeth arall yfory. Cyfarfu'r Gweinidogion iechyd ddydd Iau yr wythnos diwethaf, ac rwy'n eithaf ffyddiog bod popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud gan bob un o'r pedair gwlad i gael cyflenwadau o'r brechlyn ac i'w gludo i ble mae eu hangen a'u defnyddio cyn gynted â phosibl. Dyna'r ras yr ydym ni'n rhan ohoni yma yng Nghymru.

Wrth gwrs, rydym ni eisiau defnyddio cynifer o gontractwyr cymwysedig â phosibl i'n helpu yn yr ymdrech honno, ac rwy'n hynod ddiolchgar am yr ymateb enfawr yr ydym ni wedi ei gael gan feddygfeydd teulu ar hyd a lled Cymru. Rwy'n credu bod pob un meddygfa deulu yn ardal Hywel Dda wedi cofrestru i ddarparu'r brechlyn, a byddwn yn defnyddio fferyllwyr cymunedol hefyd. Bydd y fferyllfa gymunedol gyntaf i ddarparu'r brechlyn yn gwneud hynny erbyn diwedd yr wythnos hon, a bydd hynny yn y gogledd. Fel y bydd Paul Davies yn deall, rwy'n siŵr, ceir rhai pethau ymarferol y mae'n rhaid eu datrys, ac mae'n rhaid i chi gael rhywfaint o gyfle i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud yn y ffordd orau a mwyaf diogel. Mae'n rhaid i chi roi rhywfaint o gyfle iddo i ganiatáu i hynny gael ei brofi. Byddwn yn profi hynny gyda fferylliaeth gymunedol yn y gogledd cyn diwedd yr wythnos hon, ac yna byddwn eisiau defnyddio fferyllwyr cymunedol ym mhob rhan o Gymru. Roedden nhw'n rhan bwysig iawn o'n hymdrech i ddarparu brechlyn ffliw dros yr hydref: cafodd 1,100,000 o bobl frechiad rhag y ffliw yng Nghymru dros gyfnod yr hydref, ac mae hynny'n dangos gallu'r system yma yng Nghymru i frechu ar raddfa fawr, gan ddefnyddio'r holl wahanol ysgogiadau sydd ar gael i ni. Rydym ni eisiau i bobl sydd wedi ymddeol ddod yn ôl i'n helpu gyda'r ymdrech honno. Dyna sut yr oedd y bobl y cyfeiriodd arweinydd yr wrthblaid atyn nhw yn gwybod am hynny. Roedden nhw wedi cael gwahoddiad. Roedden nhw wedi cael cais i ddod yn ôl. Nawr, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr o hyd bod staff sy'n dychwelyd wedi'u harfogi yn briodol ar gyfer y gwaith yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud. Hyd yn oed os ydych chi'n frechydd profiadol, dydych chi erioed wedi defnyddio'r brechlynnau hyn; mae'n rhaid i chi gael eich hyfforddi i ddefnyddio'r brechlynnau penodol hyn. Mae angen i chi wybod pa adweithiau ab posibl a allai fod iddo ac mae'n rhaid i hynny fod ar waith er mwyn i bobl allu gweithredu yn llwyddiannus, yn effeithiol ac yn ddiogel. Rwyf i eisiau i'r rhwystrau hynny fod cyn lleied â phosibl, ond mae'n rhaid iddyn nhw fod yno er hynny i ddiogelu'r sawl sy'n gwneud y gwaith ac i roi hyder i'r bobl sy'n cael eu brechu.

14:00

Prif Weinidog, mae strategaeth frechu COVID-19 Llywodraeth Cymru hefyd yn cadarnhau y bydd nifer y canolfannau brechu torfol ledled Cymru yn cynyddu i 35 dros yr wythnosau nesaf, gydag o leiaf un ym mhob sir. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi dechrau gyda saith canolfan bum wythnos yn ôl, mae o leiaf rhywfaint o gynnydd yn hyn o beth, fodd bynnag, mae'n gwbl hanfodol, ac rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi, bod gan bob rhan o Gymru ganolfan frechu yn eu hardal eu hunain.

Yn fy etholaeth i, sy'n gartref i boblogaeth oedrannus fawr, mae llawer o bobl yn dal i deimlo'n rhwystredig oherwydd diffyg canolfan frechu yn sir Benfro, ac eto nid ydym yn nes at weld un yn cael ei sefydlu. Felly, a allwch chi roi amserlen i bobl Cymru o ran pryd y bydd y canolfannau brechu torfol newydd hyn yn cael eu sefydlu, ynghyd â'u lleoliadau, fel y gallwn ni olrhain a monitro eu datblygiad? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa feini prawf a ddefnyddiwyd i benderfynu ar leoliad pob un o'r canolfannau hyn, fel y gall pobl Cymru ddeall y rhesymeg sy'n sail i benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn?

Diolchaf i Paul Davies am hynna, Llywydd. Mae e'n iawn ein bod ni wedi dechrau gyda saith canolfan frechu torfol; roedd gennym ni 14 cyn y Nadolig; mae gennym ni 22 heddiw; a bydd gennym ni 35 erbyn diwedd y mis. Rwy'n ffyddiog y bydd un, fel y dylai fod, yn Sir Benfro gan ein bod ni eisiau un ym mhob sir yng Nghymru. Mae'r meini prawf a ddefnyddiwyd i nodi'r canolfannau hynny yn gyfuniad o'r hyn sydd ar gael, hygyrchedd a chyflymder. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio lleoliadau sydd ar gael yn gyflym i ni. Rydym ni eu hangen nhw mewn mannau y gall pobl eu cyrraedd; bydd pobl yn gyrru iddyn nhw ac mae'n rhaid iddyn nhw allu parcio, mae'n rhaid bod gennym yr holl fathau hynny o bethau, ac mae angen iddyn nhw fod y lleoedd y gellir eu defnyddio gyflymaf. Felly, mae'r rheini ymhlith y meini prawf sydd wedi eu nodi wrth ddod o hyd i'r canolfannau brechu.

Dylwn i ddweud, oherwydd gwn y bydd gan yr Aelod ddiddordeb yn hyn, bod gennym ni 70 o staff y fyddin yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru erbyn hyn ar yr union faterion logistaidd hynny. Deuthum i'r gwaith yma ym Mharc Cathays y bore yma am 8 o'r gloch ac roedd y pedwar person cyntaf a aeth i mewn o fy mlaen i yn bobl a oedd wedi'u gwisgo yng ngwisgoedd y fyddin, ac rydym ni'n ddiolchgar dros ben am y cymorth yr ydym ni'n ei gael gan y lluoedd arfog—y 14 o frechwyr y fyddin sy'n ein helpu yn uniongyrchol gyda brechiadau, ond hefyd y 70 o aelodau staff eraill y fyddin sy'n ein helpu gyda chynllunio a darparu'r canolfannau sydd eu hangen arnom ni a'r cyfleusterau sy'n mynd ochr yn ochr â nhw ym mhob rhan o Gymru.

Clefydau Heintus

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwahaniaeth rhwng y ffigurau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'r rhai a ddarparerir yn adroddiadau wythnosol Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar hysbysiadau am glefydau heintus mewn perthynas â COVID-19? OQ56121

Llywydd, mae'r adroddiadau wythnosol yn hysbysu am glefydau heintus a gyhoeddir gan Public Health England yn dangos nifer yr achosion tybiedig o coronafeirws-19 yn unig, fel y nodwyd gan glinigwyr. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi cyfanswm yr achosion o COVID-19 a gadarnhawyd gan brofion labordy.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Fodd bynnag, Prif Weinidog, a wnewch chi roi ffigurau pendant i ni sy'n dangos bod hwn yn argyfwng iechyd sydd wedi'i achosi gan glefyd heintus fel dim un arall? Yn 2018, bu 32,000 o farwolaethau o dwymyn teiffoid; yn 2019, bu farw 17,000 o bobl o—[Anghlywadwy.] Ac unwaith eto, yn 2018, 91,000 oedd cyfanswm y marwolaethau cyfunol o glefydau trosglwyddadwy. Pam na chawsom ni unrhyw gyfyngiadau symud yn y blynyddoedd hyn, ac eto fe wnaeth 99.9 y cant o'r boblogaeth oroesi? A allwch chi ddweud wrthym ni pam mae ein gwasanaeth iechyd yn cael ei lethu gan 50 o bobl ychwanegol mewn gofal dwys—dyna'r ffigurau a roddwyd i ni gan Vaughan Gething yr wythnos diwethaf—yn enwedig o gofio bod nifer y derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gostwng gan 30 y cant? Onid yw'n wir bod y gwasanaeth iechyd, bob blwyddyn, yn ystod misoedd y gaeaf, dros y ddau ddegawd diwethaf, wedi bod mewn argyfwng ar yr adeg hon?

14:05

A glywsoch chi hynna yn iawn, Prif Weinidog? Rwy'n credu ein bod ni'n cael trafferth gyda'r sain oddi wrthych chi, David Rowlands. Os byddwch chi'n siarad yn nes ymlaen y prynhawn yma, a wnewch chi siarad â'r bobl TG am ansawdd eich sain. Prif Weinidog, a glywsoch chi ddigon o'r cwestiwn i allu ateb?

Rwy'n credu fy mod i, Llywydd, er, fel y dywedasoch, roedd hi braidd yn anodd clywed y rhan gyntaf. Rwyf i wedi clywed yr Aelod yn y gorffennol yn awgrymu rywsut ein bod ni'n gwneud ffwdan am ddim o ran coronafeirws, y bu clefydau eraill mewn cyfnodau eraill yr ydym ni wedi llwyddo i'w goroesi. Ni allaf ddeall yn onest yr hyn nad yw'n gallu ei ddeall am y clefyd hwn sy'n lladd pobl, sydd wedi achosi marwolaeth miloedd o bobl yma yng Nghymru erbyn hyn, a lle'r ydym ni'n gweld ar hyn o bryd, yn y don hon o'r feirws, hyd yn oed mwy o bobl yn marw, o wythnos i wythnos.

Nid yw'n gwneud dim ffafr ag unrhyw un o gwbl i ymddwyn fel pe na byddai hwn yr argyfwng iechyd cyhoeddus yr ydyw. Mae mwy na thraean o welyau ysbytai Cymru heddiw wedi'u meddiannu gan bobl sydd mor sâl gyda coronafeirws fel eu bod nhw angen gofal mewn ysbyty. Mae gennym ni bron cymaint o bobl mewn gofal critigol heddiw oherwydd coronafeirws ag ar unrhyw adeg yn ystod hynt y clefyd hwn. Lle mae David Rowlands yn iawn yw i ddweud bod y gwasanaeth iechyd yn ceisio mynd ati i wneud yr holl bethau eraill yr ydym ni angen iddo eu gwneud. Felly, mae cymaint o bobl mewn gwelyau gofal critigol am resymau eraill ag sydd oherwydd coronafeirws.

Ond, er mwyn i'r gwasanaeth iechyd allu dychwelyd at ymdrin, yn y modd yr hoffem ni i gyd ei weld, âr holl anghenion iechyd eraill sydd yma yng Nghymru, mae'n rhaid i bob un ohonom ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal y cynnydd presennol yn y feirws yma yng Nghymru. Y cwbl y mae siarad am coronafeirws fel pe na byddai y bygythiad difrifol yr ydyw yn ei wneud yw tanseilio, yn hytrach na chefnogi, yr ymdrech genedlaethol fawr y mae pobl eraill yn ei gwneud.

Prif Weinidog, mae ffigurau yn bwysig. Mae'n bwysig bod aelodau'r cyhoedd ac Aelodau'r Senedd hon ac aelodau'r Llywodraeth yn cael cyfle i graffu ar gyflymder cynnydd y clefyd, a hefyd, wrth gwrs, cyflymder cyflwyniad y brechiad yma yng Nghymru, o ran y rhaglen. Mae llawer o bobl yn y gogledd wedi bod mewn cysylltiad â mi yn yr wythnosau diwethaf oherwydd, wrth gwrs, mae'n ymddangos bod y gogledd ar ei hôl hi braidd o ran cyflymder y cynnydd o ran cyflwyno'r rhaglen, er bod y bwlch rhwng y gogledd a rhannau eraill o'r wlad yn dechrau cau, ac rwy'n falch o fod wedi nodi hynny.

A ydych chi'n derbyn bod angen i ni gyhoeddi data pellach yn fwy rheolaidd, ac y dylem ni, yn ddyddiol, fod yn cyhoeddi, fesul bwrdd iechyd, nifer y dosau o frechiad a roddwyd, cyfran y rhai a roddwyd i bob un o'r grwpiau blaenoriaeth ac, yn wir, gwybodaeth am apwyntiadau a fethwyd, yr wyf i wedi bod yn cael adroddiadau ohonyn nhw yn rhai o'r canolfannau brechu, sydd wrth gwrs yn amddifadu pobl eraill sydd angen cael eu brechiadau yn gyflym er mwyn eu diogelu rhag y clefyd ofnadwy hwn?

Wel, Llywydd, rwy'n gobeithio y bydd yn helpu os rhoddaf gyfres gryno iawn o enghreifftiau o'r data a gyhoeddir drwy'r amser yng Nghymru. Ffigurau profi: fe'u cyhoeddir yn ddyddiol. Ffigurau brechlynnau: fe'u cyhoeddir yn ddyddiol. Ffigurau Profi, Olrhain, Diogelu: fe'u cyhoeddir yn wythnosol. Ffigurau cyfarpar diogelu personol: fe'u cyhoeddir yn wythnosol. Ffigurau cartrefi gofal: fe'u cyhoeddir bob pythefnos. Gweithgarwch y GIG: fe'i gyhoeddir bob pythefnos. Gallwn barhau. Ceir rhestr hir dros ben o ddata y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi drwy'r amser, a hynny oherwydd fy mod i'n cytuno â'r pwynt sylfaenol y mae'r Aelod yn ei wneud, sef y pwysigrwydd o roi cymaint o wybodaeth ag y gallwn ni i bobl am y cynnydd y mae'r GIG yn ei wneud.

Yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn croesawu'r ffaith, yn y ffigurau yr wyf i wedi eu gweld ar gyfer heddiw, mai nifer y brechiadau a roddir yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr erbyn hyn yw'r uchaf mewn unrhyw ran o Gymru. Felly, mae dros 16,000 o frechiadau wedi'u cwblhau yn y gogledd erbyn hyn. Nid oes unrhyw ran arall o Gymru sydd wedi mynd y tu hwn i'r ffigur o 16,000 hyd yma. Nawr, dros yr wythnosau, rwy'n hollol sicr y bydd rhai diwrnodau pan fydd byrddau iechyd eraill yn gwneud ychydig yn fwy na'r gogledd, a bydd diwrnodau pan fydd gogledd Cymru yn ôl ar frig y rhestr unwaith eto. Ond nid oes unrhyw ran o Gymru yn cael ei gadael ar ôl, nid oes unrhyw ran o Gymru yn cael ei hatal rhag cael ei chyfran o'r brechlyn, ac fel y mae'n digwydd, heddiw, y rhan o Gymru sydd wedi cyflawni'r mwyaf oll o frechiadau yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gwn y bydd yr Aelod yn croesawu hynny.

14:10
Credyd Cynhwysol

4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i dorri credyd cynhwysol o fis Ebrill ymlaen? OQ56123

Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig iawn yna. Rydym ni wedi a byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i gynnal y taliad credyd cynhwysol ychwanegol wythnosol o £20 ac i gyhoeddi hyn ar unwaith. Os na fyddan nhw'n gwneud hynny, bydd llawer o aelwydydd yng Nghymru—300,000 ohonyn nhw—yn colli dros £1,000 y flwyddyn. Mae'r ansicrwydd hwn yn achosi lefelau enfawr o bryder i rai o'n teuluoedd mwyaf agored i niwed.

Prif Weinidog, diolchaf i chi am yr ateb yna, ac mae'r ffigurau yn sicr, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, yn syfrdanol, o ran nifer y bobl a fyddai'n dioddef y gostyngiad hwn i'r hyn sydd, fe wyddom, yr incwm sylfaenol iawn y maen nhw ei angen i fodoli.

Rwy'n tybio, wrth gwrs, bod Llywodraeth y DU wedi seilio'r newid hwn ar ryw dystiolaeth bod pobl angen £20 ychwanegol yr wythnos dim ond i oroesi. Yr hyn sydd o ddiddordeb i mi nawr yw pa dystiolaeth y gallen nhw fod wedi ei darparu i'w hysbysu y gall y bobl hynny oroesi bellach ar £20 yn llai o fis Ebrill nesaf ymlaen. Nid wyf i wedi gweld y dystiolaeth. Tybed, Prif Weinidog, a ydych chi wedi gweld y dystiolaeth nad wyf i wedi ei gweld.

Rydym ni'n gwybod bod hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i bob teulu ym mhob rhan o'r DU. Mae'n ymddangos braidd yn annynol i mi gadw'r pwysau hwnnw ar y teuluoedd hynny sy'n ei chael hi'n anodd, mewn pob math o ffyrdd, a'r ansicrwydd y mae'n ei roi iddyn nhw, ymhen dim ond wyth wythnos, efallai y bydd eu harian yn cael ei dorri ymhellach fyth, a'r dewisiadau y mae'n rhaid iddyn nhw eu gwneud bob dydd yn cael eu gosod arnyn nhw. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, pan fyddwch chi'n siarad nesaf â'ch cymheiriaid yn Llywodraeth San Steffan, a allech chi ofyn iddyn nhw ddarparu'r dystiolaeth y mae'n ymddangos sydd ganddyn nhw i leihau'r incwm sylfaenol iawn hwn i'r teuluoedd mwyaf anghenus?

Wel, Llywydd, rwy'n hapus iawn i wneud yr union beth hwnnw. Ym mis Tachwedd, dywedodd y Canghellor y bydd yn gwneud penderfyniad ar y mater hwn yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Ar 8 Ionawr cawsom ateb o'r diwedd i lythyr yr oedd y Gweinidog Cyllid yn y fan yma wedi ei ysgrifennu gyda chymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn ôl ym mis Tachwedd, yn dweud bod y Canghellor yn mynd i aros am fwy o dystiolaeth cyn penderfynu. Wel, pa dystiolaeth sydd ei hangen arno, Llywydd? Mae'n debyg bod yr £20 yr wythnos yn gydnabyddiaeth o bedair blynedd o rewi budd-daliadau i bobl o oedran gweithio a diddymu elfen deuluol credydau treth a chredyd cynhwysol. Os oes angen rhagor o dystiolaeth arnyn nhw, Llywydd, rwy'n hapus i'w ddarparu fy hun.

Dywedaf wrthych chi am eiliad bod staff fy swyddfa etholaethol, yn ogystal â threulio'r cyfnod cyn y Nadolig yn gorfod dosbarthu talebau banc bwyd ar raddfa nad oeddem ni erioed wedi ei weld o'r blaen, ar Noswyl Nadolig cysylltodd teulu un rhiant â ni gyda phump o blant nad oedd ganddyn nhw ddim yn y tŷ, yn llythrennol, i fwydo'r plant hynny dros gyfnod y Nadolig. Mae pobl fy swyddfa i, fel eich rhai chithau i gyd, yn gweithio gartref ac maen nhw'n gorfod gwneud y gorau y gallan nhw o dan yr amgylchiadau hynny, a threuliasant Noswyl Nadolig yn rhedeg o gwmpas yn ceisio gwneud yn siŵr bod gan y pum plentyn hynny rywbeth i'w fwyta dros y Nadolig. Yn y pen draw, darparodd busnes lleol gwych y bwyd yr oedd ei angen arnyn nhw a llwyddwyd i'w gael atyn nhw.

Ond, Llywydd, ni allaf ddweud wrthych chi pa mor ddig y mae'n fy ngwneud, yn yr unfed ganrif ar hugain, bod gennym ni system sy'n gadael plant yma yng Nghymru yn y sefyllfa honno. Doedden nhw ddim yn y sefyllfa honno drwy ddamwain; roedden nhw yn y sefyllfa honno oherwydd bod polisi cap teuluol y Llywodraeth hon wedi gadael y teulu hwnnw yn yr amgylchiadau hynny. Mae'n bolisi creulon—polisi creulon—sy'n trosglwyddo canlyniadau ymddygiad rhieni i blant. Rwy'n hapus iawn i ddarparu'r dystiolaeth honno i Weinidogion y DU y tro nesaf y caf i gyfle, ac i ddweud wrthyn nhw bod y teuluoedd hynny angen gwybod nawr—nawr—na ofynnir iddyn nhw ymdopi gyda £1,000 yn llai ar ôl diwedd mis Mawrth eleni.

14:15

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi hwb o £7.4 biliwn i'r system les yn 2021, gan gynnwys y cynnydd dros dro o £20 yr wythnos i lwfans safonol credyd cynhwysol ac elfen sylfaenol credyd treth gwaith. Yn yr un ffordd â Llywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU yn parhau i adolygu ei holl fesurau coronafeirws wrth i sefyllfa'r pandemig newid. Fel y cadarnhaodd Prif Weinidog y DU unwaith eto yr wythnos diwethaf, mae ymestyn y cynnydd i gredyd cynhwysol y tu hwnt i fis Ebrill yn dal i gael ei adolygu. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau wedi datgan:

Fel y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud drwy gydol yr argyfwng hwn, bydd yn parhau i asesu'r ffordd orau o gynorthwyo teuluoedd incwm isel, a dyna pam y byddwn ni'n edrych ar y cyd-destun economaidd ac iechyd yn y flwyddyn newydd.

Nid oes ganddi felly gynlluniau i dorri credyd cynhwysol o fis Ebrill ymlaen. Fodd bynnag, o ystyried eich cyfrifoldebau datganoledig, sut ydych chi'n ymateb i alwadau Sefydliad Bevan, Cyngor ar Bopeth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru i Lywodraeth Cymru sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer cynlluniau budd-daliadau a chymorth a weinyddir yng Nghymru?

Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn ceisio bod yn ddiffynnydd ar ran Llywodraeth y DU yn hyn o beth; nid yw'n gwneud dim lles iddo o gwbl. Nid yw parhau i'w adolygu yn dda i ddim i'r teuluoedd hynny yn fy etholaeth i sy'n dibynnu ar yr £20 hwnnw bob wythnos i roi bwyd ar y bwrdd i'w plant. Nid adolygiad sydd ei angen arnyn nhw, Mr Isherwood; maen nhw angen gwybod bod yr arian yn dod iddyn nhw. Gofynnodd Alun Davies gwestiwn i mi yn gynharach, Llywydd, am y lol y mae gwleidyddion Ceidwadol yn ei ledaenu am yr £1 biliwn y dywedir sydd gan Lywodraeth Cymru ac y byddwn yn ei ddefnyddio yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol hon. Mae gan y Trysorlys £25 biliwn yn ei gronfa coronafeirws wrth gefn. Pam na wnawn nhw wneud penderfyniad a dweud wrth y teuluoedd hynny sy'n dibynnu arno bod yr arian hwnnw yn dod iddyn nhw? Dyna'r hyn yr hoffwn i ei weld.

Er fy mod i'n rhannu rhywfaint o'r dicter amlwg a gwirioneddol y mae'r Prif Weinidog yn ei deimlo am y ffordd y mae'r system fudd-daliadau yn effeithio ar bobl yma yng Nghymru, hoffwn awgrymu i'r Prif Weinidog bod rhywbeth y gallai ei wneud ar ran rhai o'r teuluoedd hynny. Mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn amcangyfrif bod oddeutu 70,000 o blant yng Nghymru y mae eu teuluoedd yn derbyn credyd cynhwysol ac eto nad ydyn nhw'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog heddiw, pe byddai Llywodraeth y DU yn gwneud y penderfyniad i ddiddymu'r cynnydd o £20—ac fel y Prif Weinidog, rwy'n gobeithio yn fawr na fyddan nhw'n gwneud hynny ac y byddan nhw'n rhoi sicrwydd i deuluoedd—ond os byddan nhw'n gwneud hynny, a yw'r Prif Weinidog yn derbyn bod rhywbeth wrth gwrs y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud,  ar ran y teuluoedd hynny o fewn ei phwerau datganoledig, sef rhoi hawl i'r plant hynny a'r teuluoedd hynny gael prydau ysgol am ddim?

Diolchaf i Helen Mary Jones am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, mae'n un pwysig. Bydd yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd o ran gwneud yn siŵr bod prydau ysgol am ddim ar gael i fuddiolwyr presennol trwy gydol gwyliau'r ysgol, nid yn unig tan ddiwedd 2020 bellach, ond ar gyfer 2021 i gyd. Mae'r polisi y mae'r Aelod yn ei argymell yn un y byddai'n rhaid edrych arno yn ofalus iawn. Rhoddaf y costau iddi: os tybiwn fod gan y 70,000 o deuluoedd hynny un plentyn yr un, yna byddai hynny'n costio £33 miliwn i ni. Os tybiwn bod ganddyn nhw ddau o blant yr un, byddai'n costio £67 miliwn i ni, a phe byddem ni'n credu bod ganddyn nhw, ar gyfartaledd, dri phlentyn yr un, byddai'n costio £101 miliwn i ni. Mae hynny'n arian difrifol iawn yn wir o dan yr amgylchiadau yr ydym ni ynddyn nhw, a bydd yn rhaid dod o hyd i'r arian hwnnw o rywle arall, oherwydd nid oes arian yn eistedd o gwmpas yn Llywodraeth Cymru yn gwneud dim. Felly, rwy'n credu bod dadl i'w gwneud—wrth gwrs bod—ac rwyf i wedi ei gweld yn cael ei gwneud gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant ac eraill. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod nad yw'n ddewis rhwng gwneud hynny a gadael i bopeth arall barhau; mae'n ddewis rhwng gwneud hynny a rhoi terfyn ar rywbeth arall sy'n sicr yn angenrheidiol ac yn bwysig i lawer o ddinasyddion eraill Cymru.

14:20
Hiliaeth mewn Chwaraeon

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â hiliaeth mewn chwaraeon? OQ56119

Nid oes unrhyw le i hiliaeth ar unrhyw ffurf yng Nghymru—uniongyrchol nac anuniongyrchol. Mae'n rhaid ennill llawer iawn o dir ar bob lefel o hyd cyn bod chwaraeon yng Nghymru yn adlewyrchu ac yn dathlu amrywiaeth ein gwlad yn llawn.

Diolch, Prif Weinidog. Dros gyfnod y Nadolig, cafodd asgellwr Rygbi'r Dreigiau Ashton Hewitt ei gam-drin yn hiliol ar gyfryngau cymdeithasol. Yn anffodus, nid yw hwn yn ddigwyddiad unigryw, a dim ond un ydoedd mewn cyfres faith o negeseuon y mae Ashton wedi eu cael oherwydd ei fod yn chwaraewr du. Nid yw wedi ei gyfyngu i un person neu gamp yn unig. Y llynedd, defnyddiodd Ashton ei lwyfan i dynnu sylw at gam-drin hiliol a chodi ymwybyddiaeth o hiliaeth. Mae Ashton wedi canmol y gefnogaeth y mae wedi ei chael gan ei glwb—y Dreigiau—a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru, ond mae wedi dweud:

Roedd yn bwysig i mi dynnu sylw at y ffaith ei fod yn digwydd yn fy nghamp i. Nid yw'n berffaith ac mae'n bwysig bod pobl yn cydnabod ac yn gweithredu.

Daw llawer o'r cam-drin ar gyfryngau cymdeithasol o gyfrifon dienw. Er bod Ashton wedi dweud yr hoffai gael sgwrs adeiladol gyda'r sawl a'i camdriniodd yn hiliol, mae anhysbysrwydd cyfryngau cymdeithasol yn broblem ag iddi atebion amlwg. Mae llawer o apiau a hysbysebion yn gofyn am brawf adnabod i greu cyfrif; gellid cynnal archwiliadau tebyg yn hawdd ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ganmol Ashton Hewitt am dynnu sylw at hiliaeth mewn chwaraeon, ac edrych ar sut y gallwn ni ei gefnogi ef ac eraill i roi terfyn ar bob math o hiliaeth? Ac a wnaiff y Prif Weinidog ddefnyddio ei lais i annog y cewri cyfryngau cymdeithasol i gryfhau eu rheoliadau ynghylch cyfrifon dienw, fel nad oes unman i bobl guddio?

Diolchaf i Jayne Bryant am hynna, ac wrth gwrs rwy'n awyddus iawn i ymuno â hi i ganmol y ffordd yr ymatebodd Mr Hewitt i'r cam-drin echrydus a ddioddefodd. Roeddwn i'n meddwl bod ei ymateb yn rhyfeddol, a dweud y gwir. Roedd yn urddasol ac fe'i cynlluniwyd i geisio cywiro'r camweddau a gyflawnwyd. Rwy'n ei gymeradwyo'n llwyr am hynny.

Mae'r pwynt cyffredinol y mae Jayne Bryant yn ei wneud yn un pwysig iawn. Yn ôl a ddeallaf, mae cyfrif y sawl a gamdriniodd Mr Hewitt wedi ei ddileu erbyn hyn. Ond, rydym ni wedi gweld, nid yn unig yn yr achos hwn—siawns ein bod ni wedi ei weld ar draws yr Iwerydd yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddar—y niwed sy'n cael ei wneud pan na fydd pobl sy'n camddefnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu herio. Ac rwy'n meddwl, efallai, mewn rhai ffyrdd, ein bod i gyd braidd yn dueddol o ddiystyru'r pethau hynny fel pethau sy'n perthyn rywsut i elfen ymylol, ac na ddylem ni gynhyrfu yn ormodol am yr holl beth. Ond rwy'n credu bod y digwyddiadau a welsom ni yn yr Unol Daleithiau yn dangos pa mor llechwraidd y mae'r meddiannaeth adain dde eithafol honno o gyfryngau cymdeithasol wedi dod, ac mae yma yng Nghymru hefyd. Mae'n lledaenu'r celwydd am coronafeirws, mae'n annog pobl i gredu na ddylid byth ymddiried mewn pobl sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo ac y dylid eu drwgdybio bob amser.

Rwy'n credu bod mwy—yn sicr mwy—y mae angen i'r platfformau eu hunain ei wneud i herio twyllwybodaeth, i herio pobl sy'n ceisio mynd ar drywydd eu safbwyntiau niweidiol mewn ffyrdd y mae'r rhyngrwyd, sydd mewn ffyrdd eraill yn gymaint o fendith a mantais—y ffordd y mae wedi creu lle i bobl sy'n dymuno ei ddefnyddio at ddibenion cwbl anghyfreithlon a dinistriol. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am yr angen i'w hannog i wneud mwy i wneud yn siŵr nad yw hynny yn digwydd.

Blwyddyn newydd dda, Prif Weinidog. Mae protest Black Lives Matter a digwyddiadau fel yr un y mae Jayne Bryant newydd ei godi wedi annog llywodraethau ar bob lefel bellach i edrych ar yr anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ym mhob agwedd ar fywyd, a bu gan chwaraeon broffil arbennig o uchel oherwydd mabolgampwyr fel Syr Lewis Hamilton a holl dimau pêl-droed uwch gynghrair Lloegr sy'n dal i fynd i lawr ar un ben-glin. Mae ymgyrchwyr wedi gwneud y pwynt, serch hynny, na fydd dim yn newid oni bai bod mwy o gynrychiolaeth o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn haenau uwch sefydliadau chwaraeon. Ym myd pêl-droed, er enghraifft, mae chwarter chwaraewyr pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr yn ddu, ond dim ond chwe rheolwr o gefndir pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sydd yn y gêm broffesiynol, a dim ond un cyfarwyddwr pêl-droed. Yn 2003, yn y National Football League yn America, cyflwynwyd rheol Rooney ganddyn nhw i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth hyfforddwyr Americanaidd-Affricanaidd mewn pêl-droed Americanaidd, lle mae o leiaf un ymgeisydd du ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad pan ddaw swydd rheolwr ar gael. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda chynghorau chwaraeon, sefydliadau chwaraeon, clybiau a chyrff llywodraethu cenedlaethol i adolygu cynrychiolaeth a llwybrau ar gyfer pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru?

14:25

Diolchaf i Laura Anne Jones am ei chyfarchiad blwyddyn newydd, ond hefyd am daflu goleuni ar y maes pwysig iawn hwn ac am rai o'r syniadau y mae hi wedi eu harchwilio. Yn sicr, nid ydym yn rhydd o'r anhawster hwn yma yng Nghymru. Nid oes unrhyw bobl dduon ar unrhyw un o'r 17 bwrdd chwaraeon yr ymchwiliwyd iddyn nhw yn ddiweddar, ac mae hynny'n cynnwys Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Nid oes gan naw o 17 o sefydliadau chwaraeon yng Nghymru unrhyw aelodau staff o blith pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac nid oes gan 10 o 17 o sefydliadau chwaraeon yng Nghymru unrhyw aelodau bwrdd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Nid yw'r rhain yn ffigurau derbyniol, Llywydd, ddim o gwbl, ac mae rheol Rooney yn un o'r ffyrdd y gellid mynd i'r afael â rhywfaint o hynny.

Hoffwn ddweud bod Chwaraeon Cymru wrthi'n ceisio yn ddiwyd iawn mynd i'r afael â hyn ei hun. Mae ymgyrchoedd Tell Your Story ac Our Stories Matter ill dau wedi eu cynllunio i sicrhau bod profiad pobl dduon mewn chwaraeon yng Nghymru yn cael ei ddeall a'i gydnabod yn iawn, ond mae angen i hynny fod yn wir ar frig y byd chwaraeon hefyd. Ar lefel bwrdd, mae angen i ni weld profiad mabolgampwyr duon gwrywaidd a benywaidd yn cael ei gynrychioli yn briodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hynny, bydd ein cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol yn ein helpu gyda hynny, a cheir ffyrdd eraill, Llywydd, hefyd.

Nododd yr archwiliad o goffáu yng Nghymru, a sefydlwyd gennym ni yn gynharach yn yr hydref, nifer o chwaraewyr du yn rygbi'r gynghrair a orfodwyd i adael Cymru oherwydd gwahaniaethu yng nghod yr undeb. Mae'n rhyfeddol i mi bod gan Billy Boston, sydd, rwy'n credu, yn dal yn fyw, gerflun iddo yn Wigan a cherflun iddo yn Wembley, ond dim cerflun iddo o gwbl yma yng Nghymru, a chymeradwyaf y camau y mae cyngor Caerdydd yn eu cymryd i geisio unioni hynny. Felly, diolchaf i'r Aelod am godi'r pwyntiau y gwnaeth hi, oherwydd maen nhw'n bwysig iawn ac mae agenda wirioneddol ddifrifol y mae chwaraeon yng Nghymru yn mynd i'r afael â hi ac mae angen iddyn nhw wneud cynnydd priodol i'w datrys.

Cyflwyno Brechlyn COVID-19

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth ar gyfer cyflwyno brechlyn COVID-19? OQ56102

Diolchaf i Angela Burns am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae cynlluniau ar gyfer cyflwyno brechlyn AstraZeneca wedi eu gwneud ac maen nhw'n cael eu gweithredu erbyn hyn. Bydd y cynlluniau hyn yn rhedeg ochr yn ochr â'r trefniadau presennol ar gyfer brechlyn Pfizer-BioNTech, yr ydym ni'n parhau i dderbyn cyflenwadau ohono.

Diolch am hynna. Y peth cyntaf y mae'n rhaid i mi ei ddweud yw bod y brechiadau yn olau mewn twnnel tywyll iawn, iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn, fel y gwn fod miliynau ohonom ni, i'r gwyddonwyr rhyfeddol hynny sydd wedi creu'r rhaglenni brechu o'r holl wahanol wledydd mewn cyfnod mor fyr. Mae mor bwysig cyflwyno'r brechlyn hwnnw i'r gymuned, oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod, drwy fynd i'r afael â'r gymuned, yna gallwn ni ddechrau lleihau'r coronafeirws ofnadwy hwn. Hoffwn ofyn dim ond dau gwestiwn i chi, lle'r wyf i wedi canfod rhwystrau neu bethau a allai fod yn rhwystrau posibl i gyflwyno'r brechlyn hwnnw yn ein cymuned, oherwydd rwy'n credu bod amser yn hanfodol, ac mae'n bwysig iawn eich bod chi a phawb arall yn ymwybodol iawn o hyn.

Y cyntaf yw fy mod i wedi cael meddygon teulu yn Sir Benfro yn dod ataf yn bryderus dros ben oherwydd bod nyrsys ardal wedi cael eu hysbysu bod angen iddyn nhw gael hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol, er mwyn gallu brechu. Mae'n fy nharo i, yn gyntaf oll, y bydd nyrsys ardal, o bob un ohonom ni, yn deall ac yn gwybod am gynnal bywyd sylfaenol. Mae'n swyddogaeth o fod yn weithiwr gofal iechyd rheng flaen. Yn ail, maen nhw'n brechu bob un dydd, ar gyfer y ffliw a phob math o bethau. Clywais eich ateb i Paul Davies, ac rwy'n deall bod gan rai o'r brechiadau sgil-effeithiau ac mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o bethau fel sioc anaffylactig ac yn y blaen. Ond tybed a wnewch chi gymryd golwg ar hyn a gweld a yw hwnnw a'r rhwystrau eraill hynny yn atal pobl sy'n weithwyr proffesiynol wedi'u hyfforddi, sydd eisoes yn y gwasanaeth iechyd, rhag gallu bod yn rhan o'r rhaglen frechu, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n allweddol ein bod ni'n cael cynifer o bobl allan yna yn brechu â phosibl.  

A'r ail ran yw: tybed a ydych chi'n ymwybodol neu'n gallu esbonio pam y dewisodd byrddau iechyd ac, yn ôl yr hyn a ddeallaf, Iechyd Cyhoeddus Cymru, beidio â dilyn y llwybr o gael trwydded ddosbarthu cyfanwerthu ar gyfer y brechlyn fel y gallen nhw ei brynu a'i werthu ymlaen wedyn, ei drosglwyddo yn syth i'r meddygfeydd teulu, a fyddai eto'n helpu i gyflwyno'r brechlyn yn gyflym yn y gymuned, yn hytrach na bod y meddygon teulu yn gorfod mynd drwy broses archebu eithaf dirgel, gan sefydlu rheolau a rheoliadau newydd. Mae'r ddau hyn wedi bod yn ymholiadau a godwyd gyda mi, a byddwn yn ddiolchgar iawn am eich barn arnyn nhw naill ai nawr neu mewn llythyr dilynol. 

14:30

Llywydd, diolchaf i Angela Burns am hynna, ac, wrth gwrs, byddaf yn edrych yn iawn ar y cwestiynau y mae hi wedi eu codi, ac os oes mwy i'w ychwanegu, byddaf yn ysgrifennu ati i roi gwybod iddi. 

Rwy'n credu ei bod yn bur debyg ei bod wedi ateb ei chwestiwn cyntaf ei hun. Mae pob brechlyn newydd yn dod â risgiau newydd gyda nhw. A hyd yn oed os ydych chi'n frechwr profiadol iawn mewn cyd-destunau eraill, mae'n gwbl briodol eich bod chi'n cael eich hyfforddi i wneud yn siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r risgiau a allai fod yn bodoli a'ch bod chi'n gymwys i ymateb iddyn nhw. Rwyf i eisiau i hynny gael ei wneud yn y modd hawddaf bosibl a'r modd cyflymaf posibl, ac yn sicr nid wyf i eisiau cael pobl sydd eisoes yn gymwys yn gorfod mynd dros bethau y maen nhw eisoes yn eu gwybod, ond gyda brechlyn newydd, a feirws newydd—yr adeg hon y llynedd, prin yr oeddem ni wedi clywed am y feirws, heb sôn am y brechlyn ar ei gyfer—mae gwneud yn siŵr bod y bobl yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw wneud y swyddi pwysig iawn hyn yn gymwys fel y mae angen iddyn nhw fod, rwy'n credu, yn bwysig, a bydd ychydig o fuddsoddiad yn hynny yn y cyfnod cynnar yn talu ar ei ganfed dros y cyfnod sydd o'n blaenau.

O ran y broses archebu, rwy'n credu ei bod hi yno dim ond i sicrhau tegwch. Dim ond 22,000 dos o frechlyn AstraZeneca oedd gennym ni yr wythnos diwethaf; dim ond 25,000 dos ohono sydd gennym ni yr wythnos hon. Pe byddem ni'n caniatáu yn syml i feddygon teulu fod mewn cystadleuaeth â'i gilydd i'w archebu, efallai na fyddai unrhyw frechlyn yn Sir Benfro o gwbl gan y byddai wedi ei fachu gan feddygon teulu a fyddai wedi llwyddo i gael ar y lein yn gyflymach a'i gael yn rhywle arall. Felly, mae ein proses archebu wedi ei chynllunio i wneud yn siŵr bod brechlyn ar gael ym mhob rhan o Gymru, ac wrth i ni eu cyflwyno, i bob meddygfa. Rydym ni'n gobeithio y bydd gan 34 o feddygfeydd yn Hywel Dda, er enghraifft, pob meddygfa yn etholaeth yr Aelod ei hun, frechlyn i'w ddefnyddio erbyn wythnos 24 Ionawr. A'r hyn sy'n sail i'r system sydd gennym ni yw bod â phroses archebu sy'n caniatáu i ni wneud yn siŵr  bod y cyflenwad cyfyngedig sydd gennym ni ar gael yn deg ym mhob rhan o Gymru. Os oes mwy i'r mater na hynny, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n ysgrifennu at yr Aelod gydag esboniad pellach.

Cyllid Ychwanegol i Gymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau diweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid ychwanegol i Gymru? OQ56110

Llywydd, er gwaethaf ein galwadau niferus, mae Llywodraeth y DU yn parhau i wneud cyhoeddiadau am gyllid ar yr unfed awr ar ddeg heb unrhyw ymgysylltiad â'r Llywodraethau datganoledig a heb unrhyw eglurder ar unwaith ynghylch y goblygiadau i Gymru. Dim ond yr enghraifft ddiweddaraf yw'r dryswch ynghylch cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ar gymorth busnes.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch iawn o ddarllen ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig bod Llywodraeth y DU yn darparu £220 miliwn—a dyfynnaf—o 'gyllid ychwanegol' i gefnogi swyddi a busnesau yng Nghymru. Byddai hynny yn sicr i'w groesawu yn fawr ac wir ei angen ar hyn o bryd, yn enwedig mewn ardaloedd fel fy etholaeth i, sef Merthyr Tudful a Rhymni. Disgrifiwyd y cyhoeddiad hefyd gan lefarydd economi y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, fel—ac eto, dyfynnaf—'£227 miliwn yn ychwanegol'. Yna, â chryn gywilydd, cywirodd Trysorlys y DU ei hysbysiad ei hun i'r wasg ar ôl honni yn anghywir bod cyhoeddiad y Canghellor yn golygu arian ychwanegol i Gymru. Rwy'n cofio, fis Gorffennaf diwethaf, i'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid rybuddio bod yr holl ddiffyg tryloywder yng nghyllidebau'r Trysorlys yn cyfrannu at y dryswch ynglŷn â'r cymorth ariannol sy'n cael ei roi i Lywodraethau datganoledig, gan ei gwneud yn fwy anodd craffu a dweud bod hyn yn niweidiol i ymddiriedaeth y cyhoedd. Wel, Prif Weinidog, agorais fy nghyfrifiannell, ac mae honno'n dweud wrthyf i fod £227 miliwn wedi'i luosi â dim yn gwneud dim. Felly, a yw fy nghyfrifiannell i yn anghywir, neu a ydym ni, mewn gwirionedd, wedi cael un o'r datganiadau mwyaf camarweiniol ac anonest a wnaed erioed gan Dorïaid Cymru? Ac onid yw hyn yn profi y dylai Llywodraeth y DU ddilyn dull mwy tryloyw Llywodraeth Cymru?

14:35

Wel, Llywydd, mae arnaf ofn bod cyfrifiannell yr Aelod yn gywir. Ac mae hi'n iawn wrth gwrs—amlinellodd yr hanes. Gwnaeth y Trysorlys gyhoeddiad—fe'i clywais fy hun ar y radio—fod £227 miliwn ychwanegol yn dod i Gymru. Roedd hynny, roeddwn yn credu, yn newyddion da iawn—byddem wedi gallu ei ddefnyddio i ychwanegu at y pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Ac yna daeth i'r amlwg ychydig oriau'n ddiweddarach nad arian ychwanegol oedd hwn o gwbl—mae'n debyg ein bod eisoes wedi'i gael. Wel, nid dyna'r ffordd i weithredu ar draws gwledydd y DU.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod cyllideb atodol arall, Llywydd, y byddwn yn ei chyflwyno gerbron y Senedd yn gynnar ym mis Chwefror. Dyma fydd y trydydd tro i Aelodau'r Senedd gael cyfle i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r arian sydd ar gael i ni yn y flwyddyn ariannol eithriadol hon. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn gallu ei hystyried, gofynnir cwestiynau ar lawr y Senedd, a bydd yr holl ffigurau ar gael, i'r holl Aelodau eu gweld. Nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi hyd yn oed un amcangyfrif atodol, yn y flwyddyn ariannol hon i gyd. Ac rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn am bwysigrwydd bod yn glir gyda phobl, o ble mae'r arian yn dod, yr hyn y mae'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Ceisiwn wneud hynny yma yn Llywodraeth Cymru, a byddai wedi bod o gymorth i ni, yn enwedig ynghylch y mater y mae Dawn Bowden wedi cyfeirio ato, pe bai mwy o gywirdeb a thryloywder wedi bod yn y ffordd y disgrifiodd Llywodraeth y DU yr arian, na ddaeth o gwbl i Gymru yn y pen draw.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol')

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd yn rhinwedd ei swydd fel swyddog cyfreithiol. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mandy Jones.

Mynediad at Gyfiawnder

1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith COVID-19 a'r cyfyngiadau symud cysylltiedig ar fynediad at gyfiawnder yng Ngogledd Cymru? OQ56080

Mae'r rhestrau ym mhob un o lysoedd ynadon y gogledd bellach yn debyg i'r hyn yr oedden nhw cyn COVID, ac mae pob un o lysoedd barn y Goron yn y gogledd wedi'u gwneud yn ddiogel ar gyfer achosion gyda rheithgor. Rydym yn ceisio sicrwydd gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi bod y mesurau presennol yn addas o ystyried pa mor drosglwyddadwy yw'r feirws ar hyn o bryd. Mae darparwyr sy'n darparu gwasanaethau cynghori drwy gronfa gynghori sengl Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i sicrhau bod modd cael cyngor o bell yn ystod y pandemig.

Diolch am yr ateb yna, Cwnsler Cyffredinol. Llynedd, awgrymodd llawer o adroddiadau bod rhestr hirfaith a chynyddol o achosion wedi cronni ar gyfer llysoedd troseddol a sifil, a chodwyd pryderon y gallai hyn fod yn peri i bobl sydd wedi dioddef trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol beidio â pharhau â'u hachosion, oherwydd eu bod nhw eisiau symud ymlaen gyda'u bywydau. Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â hyn, a beth yw'r sefyllfa yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Rydym ni wedi cael trafodaethau gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â chyfleusterau llys priodol ledled Cymru at y dibenion y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw heddiw. Cafwyd rhaglen i ailddechrau defnyddio llysoedd ynadon, a safbwynt y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw bod hynny'n gweithio i raddau helaeth i adfer capasiti ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys yn y gogledd. Ac yn system llysoedd y Goron, bu rhywfaint o waith adnewyddu a gwaith addasu at ddibenion gwahanol yn y llysoedd barn er mwyn ehangu capasiti, ac, fel y gŵyr yr Aelod, yn y de yn benodol, y defnydd o lysoedd Nightingale hefyd. Ond mae'r sylw y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn, gan y gellir teimlo effaith COVID mewn sawl agwedd wahanol ar ein cymdeithas, ac yn amlwg yn y system gyfiawnder hefyd. Ac rwy'n falch ei bod wedi tynnu sylw at y mater hwn yn y trafodion heddiw; mae'n fater yr ydym ni, y Llywodraeth, yn parhau i bwyso ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei gylch. 

Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau cyfreithiol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn erbyn Llywodraeth y DU mewn perthynas â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020? OQ56084

3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i herio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn y Goruchaf Lys? OQ56089

Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at yr Ysgrifennydd Gwladol ar 16 Rhagfyr i ddweud ein bod ni'n bwriadu cynnig sialens gyfreithiol i'r Bil, fel oedd e ar y pryd hwnnw. Rydyn ni wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw yn y dyddiau diwethaf, ac rydyn ni'n cysidro cynnwys y llythyr hynny ar hyn o bryd. Bydd Llywodraeth Cymru'n cymryd pob cam posibl i amddiffyn y Senedd rhag yr ymosodiad ar ei phwerau sydd yn y Mesur hwn.  

14:40

Diolch am yr ateb yna, achos, wedi'r cwbl, gwnaeth y Senedd hon wrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Ddeddf yma. Wfftio hynny wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rydyn ni'n colli pwerau, colli arian a cholli rheolaeth dros ein harian. Nid yw gwrthod cydsyniad wedi helpu o gwbl. Felly, sut fyddwch chi'n sicrhau na fyddwn yn colli pwerau ac arian yn gyfreithiol wrth herio'r Ddeddf marchnad fewnol yma? A pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael efo Llywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd hefyd wedi gwrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Ddeddf yma? 

Wel, o'r cychwyn cyntaf, gwnes i fe'n glir y byddai'r Llywodraeth yma yn cymryd pob cam posibl i amddiffyn pwerau'r Senedd. Rydyn ni wedi gwneud hynny o ran strategaeth gwelliannau yn y Senedd yn San Steffan yn gweithio gyda'r Arglwyddi. Rydyn ni wedi gwneud hynny o ran argymell gwrthod cydsyniad i'r Senedd, fel sydd wedi, wrth gwrs, digwydd. A'r drydedd elfen i'r strategaeth yw cymryd y camau cyfreithiol yr wyf wedi sôn amdanyn nhw eisoes. Fel rwy'n dweud, rydyn ni wedi derbyn llythyr yn ymateb i'r llythyr y gwnes i anfon. Mae hynny'n cael ei edrych arno fe ar hyn o bryd mewn manylder. Ond yr hyn ddywedwn i wrth yr Aelod yw hyn: rwyf wedi darllen y llythyr ac, yn fy marn i, dyw'r cwestiynau roeddwn i'n codi ddim wedi cael eu hateb ac, felly, rwy'n disgwyl y byddwn ni yn cymryd y camau nesaf i gychwyn achos llys, ac rwy'n disgwyl i fod mewn sefyllfa i wneud y datganiad ysgrifenedig i Aelodau'r wythnos nesaf i'w diweddaru nhw ar hynny. 

Dwi wedi cydsynio i gais i grwpio cwestiwn dau a thri ac, felly, mi wnaf ofyn i Delyth Jewell i ofyn ei chwestiwn atodol i'r Cwnsler Cyffredinol. 

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb yna a roddodd i'm cyd-Aelod, Dai Lloyd. Diolch iddo hefyd am wneud cynlluniau i gyflwyno'r her hon yn erbyn darpariaethau annerbyniol y Ddeddf mewn cysylltiad â datganoli, yr oeddwn i, wrth gwrs, wedi'i annog i'w wneud ym mis Medi. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae newydd ei ddweud o ran y datganiad ysgrifenedig y gallwn ei ddisgwyl yr wythnos nesaf. Ond tybed a fyddai mewn sefyllfa, naill ai nawr neu bryd hynny, i allu rhannu mwy o fanylion gyda ni yn y Senedd am y cynlluniau hyn. Byddai gennyf ddiddordeb dysgu am y sail ar gyfer yr her gyfreithiol, o ystyried bod y Ddeddf wedi'i llunio mewn modd sy'n ceisio atal cyflwyno her o'r fath, pa ddarpariaethau y mae'n bwriadu eu herio'n benodol. Hoffwn wybod hefyd beth yw'r amserlen dan sylw, o ystyried bod etholiad ar y gweill a hefyd y gallai Deddf y farchnad fewnol, ar ei ffurf bresennol, ei gwneud hi'n anodd i'r Senedd nesaf basio deddfwriaeth bwysig, megis lleihau'r defnydd o blastig untro. Felly, a gaf i ofyn, a yw'r Cwnsler Cyffredinol mewn sefyllfa i allu rhannu'r wybodaeth honno heddiw, neu, yn wir, yn y datganiad yr wythnos nesaf? Neu a oes rhesymau cyfreithiol pam na all wneud hynny ar hyn o bryd, os gwelwch yn dda?

Wel, a gaf i gydnabod yn gyntaf yn ddiolchgar y gefnogaeth y mae'r Aelod wedi'i rhoi i Lywodraeth Cymru yn ein bwriad i sefyll dros y Senedd? Rwy'n ymwybodol o'r ffaith bod yr Aelod, rwy'n credu, yn gynnar iawn ar ôl i mi wneud fy natganiad ein bod yn bwriadu gwneud hynny, yn gefnogol iawn. Felly, hoffwn gydnabod hynny os caf.

Mae dwy neu dair agwedd ar gwestiwn yr Aelod. Yn gyntaf, o ran y cyngor yr wyf wedi'i roi i gyd-Aelodau eraill ynglŷn â sail yr honiad, mae'n amlwg y bydd y cyngor yn gyfrinachol yn y ffordd arferol, fel y gŵyr yr Aelod rwy'n siŵr. Ond mae'n amlwg y byddaf eisiau sicrhau y caiff sail yr honiad a'r ymateb gan Lywodraeth y DU eu hystyried yn llawn yn y datganiad a wnaf i'r Aelodau, fel bod gennych chi ddarlun clir o'r bwriad ac o ddadansoddiad y Llywodraeth o'r llythyr, a dderbyniwyd ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, rwy'n credu. O ran amserlen, mae'n amlwg bod gweithdrefn llys, a ddilynir pan ddaw'r amser. Yn amlwg, hoffwn roi syniad o'r amlinelliad o hynny yn y datganiad yr wythnos nesaf, a bwriadaf drwy gydol y broses roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau yn y mater hwn, o gofio ei arwyddocâd i Aelodau ac i'r sefydliad yn gyffredinol.

Mae deddfwriaeth fewnol y farchnad, fel y mae, yn tanseilio sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig a mandad y fan hon. Mae'r hyn y mae Boris a'i ffrindiau wedi'i wneud hyd yma wedi peri i hyd yn oed cyn-Weinidogion Torïaidd a Phrif Weinidogion Torïaidd wrthwynebu'n groch oherwydd bydd yn difreinio dinasyddion Cymru ac yn annog chwalu'r DU y maen nhw'n honni ei diogelu. Mae'r ffaith y gwrthodwyd fisâu i gerddorion rhyngwladol Cymru gan Lywodraeth y DU tra bod Boris yn beio Brwsel, neu fod Boris bellach wedi gwanhau amddiffyniadau amgylcheddol ac wedi caniatáu plaladdwyr peryglus yn ôl i'r DU sy'n lladd gwenyn ac ecosystemau yn dweud cyfrolau. Felly, Cwnsler Cyffredinol, gan fod Llywodraeth y DU bellach yn torri eu haddewidion ffug i roi arian Ewropeaidd i'r GIG neu na fydd Cymru ar ei cholled yn ariannol neu y bydd amddiffyniadau amgylcheddol yn parhau, nid yw hyn ond yn golygu ein bod yn dechrau gweld y canlyniadau hynny o adael yn dod i'r amlwg. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r Senedd y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pob llwybr cyfreithiol i sicrhau y gwasanaethir buddiannau gorau Cymru a'n dinasyddion?

14:45

Wel, rwy'n falch o roi'r sicrwydd y mae'r Aelod yn ei geisio. Yr enghraifft ddiweddaraf o hynny, wrth gwrs, yw Deddf y farchnad fewnol ei hun a'r hyn yr ydym ni'r Llywodraeth wedi amlinellu y byddwn yn ei wneud o ran yr holl ddewisiadau sydd ar gael inni i ddiogelu cymhwysedd y Senedd.

O ran yr agwedd ehangach y mae'r Aelod yn holi amdani, sy'n cynrychioli buddiannau Cymru yn y byd ar ôl inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, fel yr ydym ni wedi gwneud, a diwedd y cyfnod pontio, mae'n rhoi dwy enghraifft yn y fan yna. Roedd un yn ymwneud â defnyddio neonicotinoidau, rwy'n credu, a gwn y bydd fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr amgylchedd, eisiau imi ei sicrhau bod hyn, yng Nghymru, wedi'i ddatganoli i Gymru. Ac o ran y sylw arall y mae'n ei wneud, ynglŷn â gallu cael fisâu, rydym ni wedi parhau ar bob cam i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU o ran gweithrediad ei system fewnfudo newydd. Mae'n debyg mai dwy flynedd yn ôl, ganol 2019, oedd y cyfarfod rhynglywodraethol diwethaf rhwng Gweinidogion o ran polisi ymfudo. Ac ers hynny, nid ydym ni wedi llwyddo i allu ailsefydlu'r rheini. Maen nhw'n bwysig iawn. Er bod polisi ymfudo'n amlwg wedi'i gadw yn ôl, mae ymwybyddiaeth arbennig o effaith hynny yng Nghymru, yn y ffordd y mae cwestiwn yr Aelod yn ei amlygu ac mewn amrywiaeth o ffyrdd eraill, ac felly mae'n briodol iawn i Lywodraethau gydweithio ar rai o'r agweddau hyn, a galwn ar Lywodraeth y DU i adfer y gyfres ryng-weinidogol honno o drafodaethau fel y gallwn ni wneud hynny'n union

Ymgyrch Menywod yn erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth

4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch achos ymgyrch Menywod yn erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod o'r 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt? OQ56095

Wrth gwrs. Y tro diwethaf i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ysgrifennu at Lywodraeth y DU oedd ym mis Tachwedd. Mae eu hymateb yn amddiffyn y safbwynt i gynyddu oedran pensiwn y wladwriaeth ac yn tynnu sylw at y dyfarniadau o'r her gyfreithiol yn yr Uchel Lys a'r Llys Apêl, a oedd yn cefnogi gweithredoedd yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ond mae'r Llywodraeth yn parhau i gyflwyno'r achos ar ran y menywod yr effeithir arnyn nhw.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, a gwn y bydd aelodau grŵp Llanelli Menywod yn erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth a grwpiau WASPI eraill ar draws y canolbarth a'r gorllewin a ledled Cymru yn ddiolchgar am safbwynt parhaus Llywodraeth Cymru ar hyn. Tybed a oes gan y Cwnsler Cyffredinol unrhyw wybodaeth bellach am amseriad yr ymchwiliad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan ombwdsmon y Senedd a'r Gwasanaeth Iechyd i gamweinyddu posib. Rydym ni i gyd yn amlwg yn ymwybodol bod hynny wedi'i ohirio oherwydd yr achosion cyfreithiol, ond, nawr bod yr achosion cyfreithiol hynny wedi eu datrys, tybed a yw'r Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru yn teimlo y gallent wneud rhai ymholiadau gyda'r ombwdsmon i weld erbyn pryd y maen nhw'n disgwyl adrodd yn ôl ar y camweinyddu posib yn yr achos hwn.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Byddaf yn sicrhau bod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi clywed hynny, oherwydd mae'r mater sylweddol yn amlwg o fewn ei phortffolio. Ond o ran y trafodion i'r graddau y maen nhw'n ymwneud â'r ombwdsmyn ei hun, fy nealltwriaeth i yw bod yr ymchwiliad yn ymwneud â sampl o chwe chwyn am gyfathrebu'r Adran Gwaith a Phensiynau. Maen nhw wedi'u gohirio, yn ôl a ddeallaf, o ganlyniad i COVID, ond gwnaf yn siŵr fy mod yn trosglwyddo'r cwestiwn a'r sylw y mae'r Aelod wedi'i wneud i'm cydweithiwr gweinidogol a all sicrhau y cawn ni'r argoel gorau posibl o sut olwg allai fod ar y broses yn y dyfodol a'r amser a allai hynny gymryd. Mae'n gwbl hanfodol, fel y mae cwestiwn yr Aelod yn awgrymu, fod y menywod yr effeithir arnyn nhw yn cael eglurder canlyniad y trafodion hynny cyn gynted â phosib. 

14:50
Maes Milwrol Penalun

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch cyfreithlondeb rhoi llety i geiswyr lloches ym maes milwrol Penalun ger Dinbych-y-pysgod? OQ56093

Mae penderfyniadau sy'n ymwneud â'r system loches wedi'u cadw yn ôl ac felly maen nhw y tu hwnt i'n rheolaeth uniongyrchol ni. Fodd bynnag, o ystyried effaith y penderfyniad i ddefnyddio Penalun ar gydlyniant cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus, fe ddylid fod wedi ymgynghori'n â ni'n llawn, ac rydym yn dal i fod yn aneglur ynghylch y sail gyfreithiol ar gyfer cychwyn y datblygiad hwn gan Lywodraeth y DU.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. A yw ef yn credu bod y caniatâd cynllunio dros dro sydd wedi'i roi, sy'n dod i ben ym mis Mawrth eleni, mewn gwirionedd yn gyfreithlon ac y  bydd yn parhau i fod, a pha gamau eraill y gall ef a Llywodraeth Cymru eu cymryd drwy'r broses gyfreithiol honno mewn ymgais i sicrhau bod defnydd o'r safle hwn, sy'n amlwg yn anaddas i'r bobl hyn, yn dod i ben? Mae'n amlwg bod argyfwng COVID wedi gwneud y safle penodol hwnnw hyd yn oed yn llai addas nag yr oedd o'r blaen ar gyfer meddiannaeth gan yr unigolion bregus hyn. Felly, a oes rhagor y gall y Cwnsler Cyffredinol ei wneud, gan edrych ar gyfreithlondeb y broses gynllunio, i geisio dylanwadu ar ddychwelyd yr eiddo hwn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn cyn gynted â phosibl?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw, ac wrth gwrs mae hi yn llygad ei lle wrth ddweud bod y llety hwn yn amhriodol at y diben sydd wedi'i bennu iddo. Dyna safbwynt Llywodraeth Cymru ac rydym yn amlwg wedi gweithredu ar y sail honno ac wedi cyflwyno sylwadau yn y ffordd honno i Lywodraeth y DU. Fel y soniais wrthi, o ran y seilwaith cyfreithiol sylfaenol a'r fframwaith ynghylch y penderfyniad sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth y DU, nid ydym ni wedi cael cadarnhad ganddyn nhw o'r sail ddeddfwriaethol y maen nhw eu hunain yn seilio eu penderfyniad i ddefnyddio Penalun arno, felly nid yw'n glir a oes cydymffurfio priodol wedi bod â'r pwerau y maen nhw wedi bod yn eu defnyddio. Gallai ystod o bwerau ddod i rym—y Ddeddf Mewnfudo a Lloches yn benodol, ond hefyd bydd gofynion yn y Ddeddf Cydraddoldeb, dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, a'r confensiwn Ewropeaidd a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd, ac mae'n ymddangos yn ddigon posibl i ni nad ydyn nhw wedi'u cymryd. Bydd rhai o'r rheini wedi ymwneud â gweithio gyda—[Anghlywadwy.] —gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ac yn sicr nid oes cydymffurfio wedi bod â hynny. Felly, mae amrywiaeth o faterion cyfreithiol posibl a allai godi. Ond, fel yr wyf i'n ei ddweud, ar hyn o bryd nid oes gennym eglurder o hyd oddi wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â'r sail gyfreithiol y mae wedi bod yn gweithredu arni.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Felly, rŷn ni'n symud ymlaen i'r eitem nesaf, a honno yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae gennyf i sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Cyn bo hir, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar strategaeth frechu COVID-19. Er mwyn darparu ar gyfer hyn, gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes, rwyf i wedi lleihau'r amser sydd wedi'i neilltuo i'r ddadl ar fy natganiad cyllideb ddrafft i 60 munud. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Llywodraeth yn ceisio atal Rheolau Sefydlog i'n galluogi ni i drafod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020, a'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach. Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio'r ddadl yfory gan grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch rhoi blaenoriaeth i oedolion awtistig ar gyfer y brechlyn COVID. Fel yr ysgrifennodd un etholwr, 'Mae fy mrawd yn byw yn y gogledd ac mae ganddo anabledd dysgu ac awtistiaeth. Fe gyfeiriodd at ymchwil ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr a ganfu fod cyfradd y marwolaethau oherwydd COVID chwe gwaith yn uwch ymysg pobl ag anabledd dysgu na'r boblogaeth yn gyffredinol gyffredinol. Fe wyddom drwy'r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol fod llawer mwy o unigolion fel fy mrawd awtistig yng Nghymru, a byddai cael y brechlyn COVID yn help enfawr iddyn nhw a'u teuluoedd.'

Rwy'n galw hefyd am ddatganiad yn ymateb i alwadau Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru i blismona gael ei ystyried am rywfaint o flaenoriaeth ar raglen frechu COVID-19. Fel y gwnaethon nhw ei ddweud wrthyf i, 'O ddydd i ddydd, mae swyddogion yr heddlu yn peryglu eu diogelwch, eu hiechyd a'u lles nhw eu hunain wrth geisio amddiffyn pob un ohonom ni. Yn anffodus, yn y gogledd rydym wedi gweld llawer o gydweithwyr yn sâl gyda COVID-19, a rhai ohonynt angen triniaeth mewn ysbyty, a llawer mwy yn gorfod hunanynysu.' Rwy'n galw am ddatganiadau yn unol â hynny.

14:55

Diolch i Mark Isherwood am godi'r ddau fater hynny. Fel y nodais i yn y datganiad busnes, mae gennym ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nesaf ar yr agenda heddiw ac mae hynny'n ymdrin yn benodol â'n dull ni o frechu yng Nghymru. Gwn y bydd yn manteisio ar y cyfle hwnnw i ddweud rhagor am y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio a'r cyngor y mae'n ei roi i Lywodraeth Cymru o ran yr amserlenni blaenoriaeth. Felly, Llywydd, mae'r ddadl honno'n dod nesaf y prynhawn yma.

Rwyf i eisiau pwyso'r achos o blaid canolfan frechu COVID ar gyfer y Rhondda a hefyd i frechlynnau ar gyfer y gymuned ehangach fod ar gael ar sail yr angen. Mae COVID yn parhau i fod yn uchel yn fy etholaeth i, ac mae llawer ohonom ni bellach yn adnabod teuluoedd sydd wedi colli rhywun yn drasig i hyn. Mae'r bwrdd iechyd wedi trafod gyda'r awdurdod lleol ymhle i leoli'r canolfannau yn Rhondda Cynon Taf, ac mae Aberdâr wedi'i ddewis. Nid yw'n bosibl i lawer o bobl o'r Rhondda gyrraedd Aberdâr. Ychydig iawn o bobl sy'n berchen ar geir ac, wrth gwrs, mae pobl yn cael eu hannog i beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Nawr, rwy'n croesawu'r newyddion bod meddygfeydd meddygon teulu'n cymryd rhan yn hyn ac y byddan nhw'n brechu'r grwpiau risg uchel yn fuan, ac mae llawer o'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau. Ond cafwyd awgrym na fydd y Rhondda yn cael ein cyfranni o frechlynnau. Nawr, nid wyf i'n siŵr pa mor wir yw hyn, ond rwyf i eisiau cyflwyno'r achos dros yr ymdeimlad ychwanegol hwnnw o frys i fy etholaeth i, y Rhondda, o gofio'r lefel uchel o achosion a'r angen sydd gennym ni yma.

Diolch i Leanne Wood am godi hynny. Mae pawb ohonom yn teimlo'r ymdeimlad gwirioneddol hwnnw o frys ar ran y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli yma yn y Senedd. Unwaith eto, hoffwn i dynnu sylw at y ffaith y byddwn yn cael y datganiad gan y Gweinidog iechyd nesaf y prynhawn yma. Rwy'n sylweddoli mai dim ond newydd gael ei ychwanegu at yr agenda heddiw y mae, felly nid oedd yr Aelodau'n ymwybodol y byddai ar gael, ond, fel y dywedais, bydd unrhyw geisiadau am ddatganiadau ynglŷn â'r broses frechu yn cael eu cyflawni gan ddatganiad y Gweinidog y prynhawn yma.

Gweinidog, tybed a gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch cyflwyno'r cyffur fampridine yng Nghymru. Mae hwn yn gyffur sydd ar gael ar gyfer sglerosis ymledol. Cafodd datganiad gan y Gweinidog iechyd ei gyhoeddi flwyddyn yn ôl y byddai ar gael am ddim drwy'r GIG. Mae gennyf i etholwr sydd wedi bod yn talu £200 y mis am y cyffur. Mae ef wedi codi'r mater hwn. Rwyf i'n sicr wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn, ond nid oes unrhyw arwydd eto gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro ei fod yn gallu darparu'r cyffur hwn, y mae e'n parhau i dalu amdano, ac mae'n ymddangos i mi ei bod yn briodol ar hyn o bryd i gael asesiad dilys o'r graddau y mae'r cyffur hwn yn cael ei gyflwyno a'i fod ar gael yn rhad, yn hytrach na bod pobl yn dal i orfod talu amdano, os yw hynny'n wir.

Diolch i Mick Antoniw am godi hynny. Gwn ei fod wedi cael cyfle i godi hyn yn uniongyrchol â'r Gweinidog iechyd ar ran ei etholwr hefyd. Gallaf ddweud fy mod i'n deall ei bod yn wir fod argymhelliad Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru i ganiatáu i'r cyffur hwn gael ei ddefnyddio yng Nghymru wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru ar 12 Rhagfyr, a'i fod ar gael mewn byrddau iechyd. Ond rwy'n deall bod oedi penodol yng Nghaerdydd a'r Fro, ac rwy'n deall mai swyddi gwag meddygon ymgynghorol sy'n achosi hynny. Gallaf sicrhau Mick Antoniw fod Dr Andrew Goodall wedi ysgrifennu at brif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ym mis Rhagfyr yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf honno a'r hyn y mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu ei wneud i sicrhau y gall cleifion gael gafael ar y cyffur yn ddi-oed, a bydd y Gweinidog iechyd yn rhoi'r wybodaeth honno i Mick Antoniw cyn gynted ag y cawn ni ymateb gan y bwrdd iechyd ar hynny.

15:00

Diolch, Dirprwy Lywydd, a blwyddyn newydd dda, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddatganiad llafar, Trefnydd, ar gymorth ariannol ychwanegol i fusnesau Cymru yn ystod y pandemig? Rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr fod y rhaglen frechu yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, ond hefyd byddwn i'n awgrymu bod y cymorth busnes parhaus sydd ei angen yn flaenoriaeth. Mae pryder penodol o ran mwy o eglurder a gwybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael i'r sector lletygarwch, a gafodd ei orfodi i gau ar 20 Rhagfyr, ac a oedd dan gyfyngiadau sylweddol cyn y dyddiad hwnnw. Byddwn i'n ddiolchgar os gallech gyflwyno datganiad llafar fel y gallwn ni hefyd, fel Aelodau, ofyn cwestiynau am gynnydd y Llywodraeth. Byddwn i'n awgrymu mai'r meysydd penodol y mae angen mynd i'r afael â nhw yw'r gronfa cadernid economaidd a materion sy'n ymwneud â chymhwysedd ar gyfer y gronfa honno. Mae awgrym o ddyddiad 1 Medi, sydd wedi'i bennu gan Lywodraeth Cymru i'w gofrestru ar gyfer cyllid penodol, ac rwy'n credu bod angen ei gwestiynu. Ac rwy'n credu hefyd fod angen rhaglen dreigl o gymorth ar gyfer taliadau busnes yn fisol, a hoffwn weld hynny'n cael ei drafod hefyd yn ystod datganiad gan y Senedd. Byddwn i'n ddiolchgar os gallech chi ystyried datganiad naill ai gennych chi neu gan Weinidog yr economi.

Rwy'n ddiolchgar i Russell George am godi'r mater hwn, ac rwy'n rhannu ei farn bod yn rhaid i'r gefnogaeth i fusnes fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a gallaf sicrhau hynny. Bydd Russell George yn cofio i Lywodraeth Cymru gyhoeddi pecyn gwerth £450 miliwn o gymorth pellach i fusnesau ledled Cymru cyn y Nadolig, gan gynnal ein pecyn mwyaf hael o gymorth busnes yn unrhyw le yn y DU.

Rwy'n gallu dweud fy mod i wedi bod yn cael rhai cyfarfodydd gyda fy nghyd-weithiwr, Gweinidog yr economi, i drafod pa gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen pan fyddwn ni'n mynd y tu hwnt i ddiwedd y mis hwn o ran cymorth i fusnesau, yn dibynnu, wrth gwrs, ar y darlun o ran y pandemig. Ac fe fyddem ni, yn amlwg, yn rhoi'r eglurder hwnnw i fusnes cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny. Ond fe fyddaf, yn amlwg, unwaith eto'n sicrhau ei fod yn ymwybodol o'r cais hwnnw am ddatganiad llafar i gyd-fynd ag unrhyw fanylion ychwanegol o ran cymorth i fusnesau.

Hoffwn i ofyn, Trefnydd, am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar nifer o faterion yn ymwneud â sut mae'r system yn ymateb i'r argyfwng presennol. Yn gyntaf, mae'r cwestiwn o ddiffygion mewn ysgolion, dyledion ysgolion. Cyn COVID-19, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio'n galed iawn gydag arweinwyr ysgolion i leihau diffygion mewn ysgolion. Fodd bynnag, ers mis Mawrth 2020, mae ysgolion ac awdurdodau lleol wedi bod yn gorfod darparu cymorth ychwanegol i ddisgyblion, a hoffem ofyn i Lywodraeth Cymru am sicrwydd ynghylch sut y bydd y cyllid hwnnw'n gallu parhau, a bod cydymdeimlad yn cael ei ddangos tuag at yr ysgolion hynny nad ydynt wedi gallu datrys eu diffygion. 

Hoffwn i allu holi'r Gweinidog ynghylch cyllid ar gyfer adnewyddu ysgolion. Dywed Cyngor Sir Caerfyrddin wrthyf nad ydyn nhw'n gallu defnyddio cyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i adnewyddu adeiladau, ond gallan nhw adeiladu rhai newydd. Yn amlwg, mae'r pandemig wedi cael effaith ar y gallu i gyflwyno adeiladau ysgol newydd, ac mae hynny wedi arwain at rai materion, yn enwedig, er enghraifft, yn Ysgol Dewi Sant yn Llanelli, lle mae angen dybryd am adnewyddu ac nid yw'r awdurdod lleol yn teimlo bod ganddo ddigon o gyllidebau. 

Ac yn olaf, hoffwn i allu gofyn i'r Gweinidog am y prosesau ar gyfer ymgynghori ar newidiadau mewn ysgolion yn ystod cyfnod COVID. Mae nifer o awdurdodau lleol ar draws rhanbarthau'r canolbarth a'r gorllewin yn ymgynghori ar newidiadau, a llawer o'r rhain yn newidiadau cadarnhaol iawn yr wyf i'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o gynrychiolwyr eisiau eu cefnogi. Ond mae rhieni o Ysgol Mynydd y Garreg ger Cydweli wedi dweud wrthyf ei bod yn anodd iawn i gymunedau ymateb i newidiadau arfaethedig yn ystod COVID, pan na all pobl gyfarfod. Mae'n anodd iawn ymgyrchu, ac mae'n anodd iawn cael y trafodaethau gyda'ch cynrychiolwyr lleol. Felly, hoffwn i allu gofyn i'r Gweinidog a yw'n teimlo, o ystyried y cyfyngiadau newydd, fod angen inni ni adolygu ai dyma'r adeg iawn i'r ymgynghoriadau hynny fynd rhagddynt ai peidio, er mwyn sicrhau bod modd clywed pob llais lle mae newidiadau mawr i'w gwneud sy'n effeithio ar gymunedau.

15:05

Diolch i Helen Mary Jones am godi'r tri maes pryder penodol hynny y prynhawn yma. Felly, diffygion mewn ysgolion, adnewyddu ysgolion yng nghyd-destun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a'r broses ar gyfer ymgynghori ar unrhyw newidiadau yn ystod y cyfnod presennol o gyfyngiadau a chyd-destun y pandemig. Y tro hwn, rwy'n gofyn i Helen Mary anfon  llythyr at y Gweinidog Addysg, er mwyn iddi allu ymateb i bob un o'r pryderon hynny, oherwydd maen nhw'n feysydd eithaf manwl a chymhleth ac efallai y byddai'n dda gallu cyfeirio at y canllawiau perthnasol ac yn y blaen y tro hwn.

Mae'n ddrwg gennyf i, rwy'n credu fy mod i wedi dod yn ôl. Felly mae'n ddrwg gennyf am hynny. Methiant ar y rhyngrwyd oedd hynny. Y cylch tynged a aeth o amgylch. Alun Davies.

Rwy'n ddiolchgar o'ch gweld yn ôl, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu bod hynny'n wir am bob un ohonom ni. Rwy'n credu hefyd bod pob un ohonom ni wedi ein dychryn ac wedi ein syfrdanu o weld y golygfeydd o Washington yr wythnos diwethaf, ac mae ein meddyliau a'n gweddïau, wrth gwrs, gyda'r teuluoedd a gollodd anwyliaid yn yr ymgais honno i danseilio democratiaeth America. Nawr, nid damwain oedd yr hyn a welsom yr wythnos ddiwethaf. Roedd yn ymgais a oedd wedi'i gynllunio ymlaen llaw i danseilio democratiaeth etholiad America. Yn amlwg, cafodd ei annog gan Donald Trump, ond roedd wedi'i wreiddio'n fwy mewn celwyddau a gwybodaeth anghywir dros fisoedd a blynyddoedd lawer. Ac mae'n rhybudd, rwy'n credu, Gweinidog, Dirprwy Lywydd, i bawb sy'n credu mewn democratiaeth, ac rwy'n pryderu ynghylch gonestrwydd ein hetholiad ein hunain, i'w gynnal yn ystod y misoedd nesaf. Rydym eisoes wedi gweld yng Nghymru sut mae'r dde eithafol a'u ffrindiau sydd yn y blaid Diddymu ar hyn o bryd yn barod i danseilio ein democratiaeth ni ein hunain gyda'u defnydd o wybodaeth anghywir ac weithiau gelwydd noeth er mwyn cyrraedd pobl. Mae'n bwysig, felly, ein bod ni'n gallu cael dadl ar sut yr ydym ni'n cynnal ein hetholiadau a'n gwleidyddiaeth yn y wlad hon. Gweinidog, hoffwn i weld dadl yn amser y Llywodraeth ar y materion hyn. Hoffwn i hefyd ofyn i'r Llywodraeth a Chomisiwn y Senedd siarad â Facebook, â Twitter, â rheoleiddwyr fel Ofcom, a'r Comisiwn Etholiadol, i sicrhau nad yw ein democratiaeth yn cael ei thanseilio gan y rhai nad yw'n bosibl iddyn nhw ennill etholiad.

Diolch i Alun Davies am godi'r mater hwn y prynhawn yma. Fe wnes i a fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth rannu'r ymdeimlad hwnnw o sioc yn y golygfeydd a welsom yn datblygu yr wythnos ddiwethaf, ac yn amlwg mae'n drychinebus iddo arwain at golli bywydau hefyd. Rwy'n rhannu ei bryder mawr ynghylch camwybodaeth a'r effaith y gallai hynny ei chael ar ein democratiaeth. Felly rwy'n cymryd y cyfrifoldeb fy hun yn llwyr i gael y sgyrsiau hynny'n briodol o fewn y Llywodraeth i archwilio sut y gallwn ni ymgysylltu â'r cewri cyfryngau cymdeithasol ac eraill i sicrhau eu bod yn chwarae eu rhan i sicrhau yr eir i'r afael â chamwybodaeth. A byddwn i hefyd yn cyfeirio, yng nghyd-destun pandemig COVID, at y gwaith da y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud o ran mynd i'r afael â rhai o'r agweddau pryderus ar gamwybodaeth sy'n cylchredeg ynglŷn â'r feirws a'r brechlyn ac yn y blaen, ac felly byddwn i'n awyddus i annog cydweithwyr i rannu'r broses o chwalu'r mythau a chamwybodaeth honno y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio arni.

Trefnydd—rwy'n edrych am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda. Mae'r cyntaf yn ddatganiad ysgrifenedig brys ar y cyd gan y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog llywodraeth leol am y dryswch gwirioneddol y mae teuluoedd yn ei brofi ynglŷn â'r ysgolion neu'r lleoliadau hyb y mae cynghorau'n eu darparu yn ystod cyfnod cau ysgolion. Mae'r tri awdurdod lleol yng Ngorllewin De Cymru yn gwneud pethau'n hollol wahanol, neu o leiaf rwy'n tybio hynny, gan nad yw cyngor dinas Abertawe, yn anffodus, wedi cael y cwrteisi i ymateb i fy ymholiadau. Nid yw'r wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru yn datrys y dryswch ynghylch gweithwyr hanfodol a gweithwyr allweddol, gallu ymddangosiadol cynghorau i ddewis a dethol pwy sy'n cyfrif fel gweithiwr hanfodol neu allweddol, ac anwybyddu gofyniad Llywodraeth Cymru mai dim ond un rhiant sydd angen bod yn weithiwr hanfodol er mwyn i blentyn fod yn gymwys i fynychu'r ysgol neu ganolfan. Hoffwn i gael rhywfaint o wybodaeth ynghylch yr addysg benodol y bydd disgwyl ei chael yn yr hybiau hynny hefyd.

Ac yna, yn ail, dim ond datganiad byr gan Lywodraeth Cymru i egluro'n llawn y dryswch a ddigwyddodd dros y penwythnos ynglŷn â'r brechiad i rai aelodau o staff ysgol sy'n darparu gofal personol i blant mewn ysgolion arbennig. Nid oedd yn gyfathrebu gwych ar adeg pan oeddem ni i gyd yn siarad am frechlynnau beth bynnag, ond nid yw'n ymddangos bod yr eglurhad byr a ddaeth i'r amlwg yn ymdrin â'r sefyllfa i athrawon mewn ysgolion prif ffrwd, nid staff eraill yn unig, sy'n gorfod darparu lefel o ofal personol i blant sydd angen y gofal hwnnw. Rwy'n credu y gallem ni i gyd, mewn gwirionedd, elwa ar eglurhad pellach ar hynny. Diolch.

15:10

Diolch am godi'r materion hynny. Byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidogion Addysg a llywodraeth leol yn ymwybodol o'r cais cyntaf hwnnw o ran cael rhywfaint o eglurder ynghylch y lleoliadau hybiau. Yn ôl a ddeallaf i, mae problem o ran faint o blant sy'n gallu defnyddio'r lleoliadau hyb hynny, ond, wrth gwrs, byddaf yn siarad â'r ddau Weinidog i geisio cael y math o eglurder sy'n cael ei geisio.

Ac yna, o ran cyngor y JCVI, unwaith eto, gwn fod gennym ddatganiad gan y Gweinidog iechyd y prynhawn yma o ran brechiadau, felly efallai y bydd cyfle i'w egluro yno, ond, os na, gofynnaf i'r Gweinidog ysgrifennu at ei gyd-Aelodau gyda rhagor o wybodaeth am y cyngor yr ydym ni'n ei gael gan y JCVI.

Hoffwn i gael datganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Llywodraeth yn esbonio pam mae cynifer o bobl sydd yn eu 80au a'u 90au ac sy'n gaeth i'r tŷ wedi cael eu gwahodd i apwyntiadau ar gyfer brechiadau mewn canolfannau brechu torfol, pan nad oedden nhw byth yn mynd i allu cyrraedd yr apwyntiadau hynny. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi, yng Nghaerffili yn bennaf, ond byddwn i'n tybio ei bod yn debygol ei fod yn digwydd mewn cymunedau ledled Cymru, i ddweud bod aelodau o'u teuluoedd wedi cael gwahoddiadau i apwyntiadau na allan nhw eu cadw. Nawr, rwyf wedi codi hyn gyda'r bwrdd iechyd, ac rwy'n gwybod bod Aelodau eraill wedi gwneud hyn hefyd, ac rwy'n teimlo'n dawel fy meddwl y bydd unedau symudol yn ymweld â phobl sy'n gaeth i'r tŷ unwaith y bydd y gwaith o frechu preswylwyr cartrefi gofal wedi'i gwblhau. Nawr, rwy'n deall eu bod hefyd yn ystyried gweithio gyda nyrsys ardal i wneud hyn, ond siawns, Trefnydd, y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi sicrhau na chafodd neb y llythyrau hynny ar gyfer apwyntiadau na fyddent yn gallu'u cadw. Mae'r llythyrau hyn wedi achosi dryswch a phryder i lawer o bobl sy'n agored i niwed, ac mae'n debyg nad yw'r llinell gymorth sy'n ymdrin â hyn bob amser yn gweithio. Felly, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, yn ailadrodd beth yn union yw'r cynllun cenedlaethol, yn ogystal ag amserlen ar gyfer pobl sy'n gaeth i'r tŷ a sut y byddwch chi'n gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod pobl nad ydyn nhw'n gallu gadael eu tai, ond sydd yn y grwpiau blaenoriaeth, yn mynd i gael eu brechu. Byddwn i hefyd, i orffen, Trefnydd, yn hoffi cael esboniad pam na chafodd hyn ei gyfleu'n well o'r dechrau er mwyn osgoi dryswch a gofid diangen i bobl.

Felly, Llywodraeth Cymru oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i gyhoeddi cynllun brechu. Ddoe ddigwyddodd hynny ac fe allai ddarparu rhywfaint o'r wybodaeth sydd ei hangen. Roeddwn i'n bryderus o glywed y sylw nad yw'r llinell gymorth o reidrwydd ar gael, felly fe fyddaf i'n sicrhau ein bod ni'n ymchwilio i hynny. Ac yna byddwn i hefyd yn tynnu sylw eto at y ffaith mai'r eitem nesaf o fusnes y prynhawn yma yw'r datganiad ar frechiadau, felly rwy'n siŵr bod y Gweinidog wedi bod yn gwrando'n astud ar yr holl gyfraniadau yn ystod y datganiad busnes heddiw ac mae'n amlwg y bydd yn gwrando'n astud eto ar gyfraniadau yn ystod ei ddatganiad y prynhawn yma.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, ar weithrediad y cynnig gofal plant i Gymru yn ystod y trefniadau haen 4 hyn. Mae rhieni yn fy etholaeth i wedi cael gwybod, os byddan nhw'n penderfynu peidio ag anfon eu plant i'r feithrinfa, oherwydd eu bod yn ceisio dilyn cyngor Llywodraeth Cymru i aros gartref, y bydd yn rhaid iddyn nhw naill ai dalu'r arian eu hunain neu golli eu lle. Ac yn ychwanegol at hynny, rwy'n pryderu'n fawr am yr effaith y byddai hynny'n ei chael ar hyfywedd darpariaeth gofal plant, yn enwedig mewn ardaloedd fel y Cymoedd. Felly, rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod gennym ni eglurhad brys ar hyn a byddwn i'n ddiolchgar os byddai modd cyflwyno datganiad. Diolch.

Diolch i Lynne Neagle am godi hyn. Rwy'n gwybod ei bod hi eisoes wedi manteisio ar y cyfle, ar ran etholwyr, i godi hyn yn uniongyrchol gyda'r Dirprwy Weinidog gofal cymdeithasol hefyd. Gwn, o ganlyniad, fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol iawn o'r mater penodol hwn ac mae'n bwriadu ei ddatrys cyn gynted â phosibl, ac rwy'n gwybod y bydd yn awyddus i roi'r eglurder y mae Lynne Neagle yn ei geisio.

Roeddwn i eisiau dychwelyd at farwolaeth drasig Mohamud Mohammed Hassan, a oedd yn un o fy etholwyr i. Yn amlwg, rwy'n rhannu'n llwyr y pryderon a fynegodd y Prif Weinidog mewn ymateb i gwestiynau gan arweinydd Plaid Cymru, ond ni allai hyn fod wedi dod ar adeg waeth i'r gymuned, pan fydd pawb dan gyfyngiadau symud, pan fydd pawb yn ofidus iawn am y feirws yn ogystal â'r effaith y mae'n ei gael yn anghymesur ar bobl sy'n byw mewn llety gorlawn iawn. Tybed a yw'n bosibl cael datganiad gan y Dirprwy Weinidog ar sut y gallwn ni ymdrechu i dawelu meddwl y gymuned yn y sefyllfa bresennol, wrth inni aros am yr ymchwiliad annibynnol i'r materion sy'n ymwneud â marwolaeth y dyn ifanc hwn.

15:15

Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am godi hyn, brynhawn heddiw. Rwy'n ategu popeth yr oedd y Prif Weinidog yn ei ddweud ynglŷn â Mohamud a'r ffaith ein bod yn meddwl llawer iawn am ei deulu heddiw. Rydym yn annog y dylid cael ymchwiliad llawn i'w farwolaeth, ac rwy'n credu bod yr hyn y mae Jenny Rathbone newydd ei amlinellu yn dangos pam mae hwnnw'n fater pwysig iawn. Felly, fe fyddem ni'n gofyn i'r gwasanaethau dan sylw brysuro'r achos ac, yn amlwg, i ddangos bod bywydau pobl dduon yn wirioneddol bwysig.

Felly, fe fyddem ni'n disgwyl bod Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu a'r rhai sy'n ymwneud â chynnal y post-mortem, a'r holl waith arall sydd angen ei gyflawni, yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl er mwyn cwblhau eu gwaith. Ond, fe fydd y pwynt pwysig yr oedd Jenny yn ei wneud am gydlyniant cymunedol a sicrwydd ac yn y blaen yn rhywbeth y bydd y Dirprwy Weinidog yn ystyried y ffordd orau o ymateb iddo.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a blwyddyn newydd dda ichi gyd.

A gaf i ofyn, Trefnydd, am ddatganiad gan Weinidog yr amgylchedd ynglŷn ag unrhyw oblygiadau i Gymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU dros y penwythnos i ganiatáu trwydded dros dro ar gyfer defnydd plaladdwyr neonicotinoid mewn rhannau o'r DU? O fewn dyddiau i ddiwedd cyfnod pontio'r UE, mae Llywodraeth y DU wedi caniatáu mesur sydd â blas o'r dull hwnnw o ddadreoleiddio yr oeddem ni i gyd yn ofni y byddai'n dod i'r amlwg. Mae'n caniatáu defnyddio plaladdwyr neonicotinoid, er bod hynny'n gyfyngedig ar hyn o bryd i fetys siwgr yn Lloegr, pan ddywedodd adroddiad yn 2019 gan Sefydliad Iechyd y Byd

Mae corff o dystiolaeth sy'n tyfu'n gyflym yn awgrymu'n gryf bod y lefelau presennol o lygredd amgylcheddol—

gan blaladdwyr neonicotinoid—

yn achosi effeithiau andwyol ar raddfa fawr ar wenyn a thrychfilod buddiol eraill.

Felly, y pryder sydd gan lawer, Trefnydd, yw mai dim ond dechrau'r duedd o ddadreoleiddio yw hyn. Felly, fe allai datganiad helpu i egluro sut y gall y Senedd hon, a Llywodraeth Cymru, ddiogelu Cymru rhag y bygythiadau o lastwreiddio amddiffyniadau amgylcheddol a orfodir gan San Steffan. A hefyd fe allai datganiad helpu i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer cynllun gweithredu plaladdwyr cenedlaethol i Gymru er mwyn trosi'n briodol y defnydd cynaliadwy o gyfarwyddebau ar blaladdwyr i Gymru, a gwneud cyfiawnder, mae'n rhaid imi ddweud, â'r hyn sy'n nod gwirioneddol wych gan Weinidog yr amgylchedd, sef bod y safonau amgylcheddol yng Nghymru yn cyfateb i'r safonau mewn mannau eraill yn y DU, os nad yn well na nhw. Diolch, Trefnydd.

Diolch. Mae'n amlwg bod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi clywed eich pryderon chi'r prynhawn yma. Fe allaf i ddweud bod Gweinidogion Cymru yn gallu ystyried a chymeradwyo caniatáu awdurdodiadau brys ar gyfer Cymru lle mae angen y cynhyrchion hyn, pe bai angen yn cael ei amgyffred am y cynhyrchion hyn. Ond, mae'n rhaid imi ddweud mai nodi barn y gyfraith yn unig a wna hynny, ac mai mater datganoledig yw hwn i raddau helaeth iawn.

Yn yr achos hwn, yn amlwg, nid oedd yna benderfyniad i Weinidogion Cymru beth bynnag gan mai dim ond cais o ran Lloegr oedd hwn. Ond y peth pwysicaf un, mewn gwirionedd, yw cydnabod bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi gweithredu mewn dull gofalus a rhagofalus iawn yn y maes hwn, ac nid wyf yn gallu dychmygu y byddem yn newid ein hymrwymiad arbennig o gryf i'r dull hwnnw yn y dyfodol. Ond, fel y dywedais, mae'r Gweinidog yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd gennych ac fe fydd yn awyddus i gael trafodaeth bellach, rwy'n siŵr.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Strategaeth Frechu COVID-19

Eitem 4 ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â strategaeth frechu COVID-19. Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi'r datganiad. Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ddoe, fe gyhoeddais i'r cynllun brechu COVID-19 cenedlaethol sydd gennym ni i Gymru. Fe gyhoeddwyd y cynllun ar yr un diwrnod ag y dechreuwyd adrodd yn ddyddiol ar nifer y brechlynnau a weinyddir yng Nghymru. Fore heddiw, roedd yna dros 91,000 o bobl ledled Cymru wedi cael eu dogn cyntaf nhw o un o'r ddau frechlyn COVID sydd wedi cael eu cymeradwyo. Mae hynny'n nodi cynnydd sylweddol o gofio mai dim ond ychydig dros fis sydd yna ers i GIG Cymru sbarduno'r rhaglen frechu fwyaf a welwyd erioed yn ein gwlad ni.

Mae'r cynllun yn adlewyrchu misoedd o gynllunio manwl ar y ddarpariaeth, ac yn nodi ein strategaeth a'n blaenoriaethau cenedlaethol ni ar gyfer y misoedd nesaf. Mae'r cynllun yn nodi tair carreg filltir allweddol. Erbyn canol mis Chwefror, fe fydd pob un sy'n preswylio mewn cartrefi gofal yn ogystal â'r staff, holl staff rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol, pawb dros 70 oed a phawb sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol neu'r rhai sydd ar y rhestr warchod wedi cael cynnig y brechlyn. Erbyn y gwanwyn, fe fydd brechu wedi cael ei gynnig i'r holl grwpiau eraill o flaenoriaeth yng ngham 1. Mae hynny'n golygu pawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddyn nhw gyflwr iechyd sylfaenol. Fe fydd cwblhau hyn o ran pob grŵp a nodwyd yn flaenoriaeth yng ngham 1 yn diogelu'r grwpiau hynny y mae 99 y cant o'r holl farwolaethau y gellir eu hosgoi yn digwydd iddynt. Erbyn yr hydref, fe gaiff brechlyn ei gynnig i bob oedolyn arall sy'n gymwys yng Nghymru, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cyd-bwyllgor arbenigol annibynnol ar Frechu ac Imiwneiddio.

Erbyn yr hydref, y nod yw y bydd 2.5 miliwn o bobl Cymru wedi cael cynnig eu himiwneiddio—y cyfan o fewn ychydig fisoedd. Mae hon yn dasg enfawr i GIG Cymru. Mae'n werth nodi nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud ar gam 2 eto a sut i flaenoriaethu proses cyflwyno'r brechiadau ar gyfer y cam hwnnw. Serch hynny, fe fydd y JCVI yn rhoi cyngor ar y cam nesaf i'w ystyried gan bedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae'r cerrig milltir hyn yn y cynllun ar yr amod fod yna gyflenwad digonol o frechlynnau ar gael. Rydym wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd y cyflenwadau ar gael. Eto i gyd, yn y pen draw, mae hwn yn fater sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r cynllun yn cynnwys tri nod hefyd, ar rydym yn bwriadu eu cyflawni nhw fel rhan o'r daith tuag at gyflawni carreg filltir 1. Erbyn 18 Ionawr, bydd holl staff ambiwlans rheng flaen Cymru wedi cael cynnig eu dos cyntaf o'r brechlyn. Mae hyn yn rhan o'n nod ni i frechu'r holl staff iechyd a gofal rheng flaen cyn gynted â phosibl, o ystyried y pwysau sydd ar ein GIG ni a swyddogaeth hollbwysig ein staff iechyd a gofal ni yn y pandemig hwn. Erbyn diwedd mis Ionawr, fe fydd holl breswylwyr a staff cartrefi gofal wedi cael cynnig eu dos cyntaf o'r brechlyn. Er bod llawer o staff cartrefi gofal wedi mynd i'n canolfannau brechu  am eu dos cyntaf o'r brechlyn yn ystod wythnosau cynnar y rhaglen, roedd allgymorth i gartrefi gofal yn anodd oherwydd yr heriau cyfarwydd iawn sy'n gysylltiedig â brechlyn Pfizer-BioNTech. Maen nhw'n destun blaenoriaeth nawr yn dilyn cyflwyno brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yr wythnos diwethaf. A hefyd, erbyn diwedd mis Ionawr, ein nod ni yw y bydd o leiaf 250 o bractisau cyffredinol ledled Cymru yn rhan o'r model cyflenwi. Mae swyddogaeth gofal sylfaenol yn elfen hanfodol yn ein rhaglen ni: mae'r 250 o bractisau a fydd yn gweithredu ymhen ychydig wythnosau yn amlygu'r cyfleoedd o ran niferoedd y mae gofal sylfaenol yn eu cyflwyno. Un peth yw niferoedd, ond ystyriaeth allweddol arall yw hygyrchedd, ac fe fydd datrysiadau o ran gofal sylfaenol yn sicrhau bod y brechiadau yn cael eu cynnig yn nes adref i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Mae'r cynllun yn nodi ein dull tymor canolig ni o frechu 2.5 miliwn o bobl yng Nghymru. Os yw'r flwyddyn ddiwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, gwyddom y gall pethau newid. Fe fydd ein cynllun ni'n cael ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd i adlewyrchu'r newidiadau hyn. Fe gaiff ei ddiweddaru hefyd wrth inni fynd o un garreg filltir i'r llall ac wrth i fwy o eglurder ddod i'r amlwg ar y camau nesaf, yn enwedig o ran cam 2 y rhaglen.

Serch hynny, mae angen imi atgoffa'r Aelodau a'r cyhoedd sy'n gwylio fod y sefyllfa yng Nghymru ar ddechrau 2021 yn parhau i fod yn un ddifrifol iawn. Mae achosion y feirws yn niferus iawn, ac mae'r math newydd, mwy heintus o goronafeirws—straen Swydd Caint—wedi dod i'r amlwg ledled y DU, ac mae'n ymledu ym mhob rhan o Gymru. Ras yn erbyn y feirws yw hon, ac mae'r rhaglen frechu yn destun gobaith mawr i ni. Bydd cyrraedd y llinell derfyn yn farathon o ymdrech dros y misoedd nesaf i ddod. Nid yw'r brechlyn yn ddatrysiad cyflym, ond rwy'n hyderus y bydd tîm GIG Cymru yn cyflwyno rhaglen frechu y bydd pawb ohonom ni'n ymfalchïo ynddi, ac fe fydd yn helpu i achub llawer o fywydau.

Yn union fel mae gan ein GIG ni, llywodraeth leol, cymorth y lluoedd arfog, a'n gwirfoddolwyr ni bob un eu rhan wrth ddarparu'r rhaglen frechu fwyaf erioed mewn hanes, mae gan bob un ohonom ni hefyd ein rhan wrth gadw Cymru'n ddiogel: dal ati i olchi ein dwylo'n rheolaidd, cadw pellter priodol oddi wrth bobl eraill nad ydynt yn byw ar ein haelwyd ni, a gwisgo masg wyneb lle bod angen, ac, ie, gwneud yn siŵr ein bod yn darparu awyru da lle bynnag y bo modd. Mae gan bob un ohonom ni ran wrth helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

15:25

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Fe hoffwn i ddiolch yn ddidwyll iawn ar goedd i bawb sy'n ymwneud â'r ymgyrch frechu, oherwydd mae'n rhaid bod hynny wedi golygu ymdrech enfawr, ac fe fydd hi'n parhau i fod yn enfawr ac yn anodd wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith.

A gaf i ofyn cyfres o gwestiynau, os gwelwch chi'n dda, Gweinidog, ynglŷn â'r cynllun y gwnaethoch chi ei gyflwyno ddoe a'r datganiad heddiw? Mae'r dystiolaeth yn hysbys iawn ein bod ni, yn anffodus, yma yng Nghymru, ar ei hôl hi o'n cymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Sut wnaiff y cynllun hwn ein galluogi ni i ddal i fyny a goddiweddyd rhannau eraill y Deyrnas Unedig wrth gyflwyno'r brechlyn, a pha wersi a ddysgwyd gennym ers dechrau'r ymgyrch? Fe glywsom ni ddoe fod dwy ran o bump o'r rhai sy'n 80 oed wedi cael eu brechu yn Lloegr. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni heddiw ynglŷn â nifer y rhai dros 80 oed sydd wedi cael eu brechu yma yng Nghymru? Oherwydd, yn sicr yn fy mlwch post i, rwy'n darllen am lawer o etholwyr o'r grŵp oedran penodol hwnnw yn mynegi eu pryderon oherwydd nad oes unrhyw un wedi bod mewn cysylltiad â nhw.

Ddoe, 5,121 o bobl yn unig oedd wedi cael brechiad yma yng Nghymru. Sut fydd y cynllun hwn yn caniatáu cyflymu cyflwyno'r brechlyn i gyrraedd niferoedd mwy na'r 5,121 yna sy'n digwydd yn feunyddiol? Ac a wnewch chi gadarnhau a yw gwasanaeth imiwneiddio Cymru ar waith erbyn hyn? Mae hyfforddiant i'r rhai sy'n gweinyddu'r brechlyn yn hollbwysig hefyd ac, wrth inni fwrw ymlaen, fe fydd yn hanfodol inni gael brechlynnau eraill ar waith i helpu yn yr ymdrech genedlaethol. A wnewch chi gadarnhau pa fesurau sydd wedi eu cymryd gennych i hwyluso'r gwaith o gyflymu hyfforddiant i'r rhai sy'n gweinyddu'r brechiadau ac, yn wir, a oes modd i weithwyr meddygol proffesiynol sydd wedi ymddeol ddychwelyd i'r gwasanaeth i helpu yn yr ymdrech genedlaethol?

Rydych chi'n cyfeirio at yr 'ail gam' yn eich datganiad. Rwy'n tybio mai ystyr hynny yw'r ail rownd o frechlynnau, ond fe hoffwn i'n fawr gael deall yn union beth yw ystyr yr 'ail gam' i chi. Rwy'n cymryd mai'r ystyr yw ail rownd o frechlynnau, a'r amseru o ran pryd y bydd pobl yn cael eu galw i gael y brechlynnau hynny. Felly, rwy'n tybio y bydd yn rhaid inni aros nes y bydd mwy o wybodaeth wedi dod i'r amlwg.

Fore heddiw, fe gysylltodd cartref gofal yn y Barri gydag Aelod etholaethol Bro Morgannwg a minnau, lle'r oedd y tîm brechu wedi cyrraedd heb fawr ddim cyfarpar diogelu personol ar gyfer gweinyddu'r brechiadau yn y cartref gofal hwnnw, ar wahân i fasgiau wyneb. A wnewch chi gadarnhau, o dan y cynllun, y bydd cyfarpar diogelu personol yn rhan annatod o fecanwaith cyflawni'r rhaglen frechu yng Nghymru a bod yna ddigonedd o gyfarpar diogelu personol, fel nad oes yna unrhyw reswm i dimau fod allan yn y gymuned yn gweinyddu'r brechiadau heb y cyfarpar hwnnw?

Mae'n bwysig, hefyd, deall faint o bobl mewn gwirionedd sy'n methu â bod yn bresennol ar ôl gwneud eu hapwyntiad eu hunain. A oes gennych rifau y gallech chi eu rhoi i'r Aelodau y prynhawn yma i ddangos y gyfradd honno sy'n methu eu hapwyntiadau mewn canolfannau brechu yma yng Nghymru? A phryd fydd yna ganolfan frechu ym mhob sir? Fe ofynnwyd i'r Prif Weinidog am hyn yn benodol yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac rwy'n nodi heddiw nad oes yna ganolfan yn y Barri, y dref fwyaf yng Nghymru, yn ardal cyngor Bro Morgannwg, ac nad oes canolfan ddynodedig yn sir Benfro. A ydych mewn sefyllfa i ddweud wrthym pryd y gellid llenwi'r bylchau ar y map fel y bydd gan bob sir yng Nghymru ganolfan frechu?

Ac yn olaf, fe gyfeiriwyd at hyn, y ffaith fod yna gyfle i frechu 24 awr y dydd er mwyn cyflymu'r rhaglen frechu. A yw hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd o dan y cynllun, Gweinidog, ac os felly, a wnewch chi ddweud wrthym sut y gallai hynny gyflymu'r broses o weinyddu brechiadau ledled Cymru? Diolch yn fawr iawn.

Diolch i'r Aelod am ei gyfres o gwestiynau. Mae'n ddrwg gennyf, mae problem wedi codi ar fy nghyfrifiadur i. Rwyf am gael gwared ar hwn.

Felly, o ran y gyfres o gwestiynau a ofynnodd ef, rwy'n credu ei fod wedi gofyn nifer o gwestiynau a oedd yn mynegi'r un cwestiwn mewn gwahanol ffyrdd. Fe fydd y cynllun a gyhoeddais i ddoe yn ein helpu ni, ac fe nodir ynddo sut y byddwn ni'n cyflymu'r broses o gyflwyno'r brechlyn, ac mae hynny, yn benodol, o ran defnyddio'r brechlyn Pfizer-BioNTech, ond brechlyn Rhydychen-AstraZeneca hefyd. Fe fydd y cynnydd sylweddol mewn gofal sylfaenol—ac fe ddylwn i ddweud fy mod wedi cael cyfarfod adeiladol iawn gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn gynharach heddiw—yn caniatáu inni ymestyn ein gallu ni'n sylweddol o ran hygyrchedd a chyflymder. Ac fe fydd hynny'n dod ochr yn ochr nid yn unig â phythefnos gyntaf y brechlyn Rhydychen-AstraZeneca sydd gennym ni—ac fe glywsoch y Prif Weinidog yn dweud ein bod ni wedi cael ychydig dros 20,000 ar gyfer pob un o'r ddwy wythnos gyntaf—ond rydym ni'n disgwyl cynnydd llawer mwy yn y cyflenwad o frechlynnau ar gyfer y drydedd wythnos. Mae rhoi gofal sylfaenol ar waith yn bwysig iawn ar gyfer y drydedd wythnos honno lle bydd gennym ni gyflenwad llawer mwy. Rwyf wedi gweld rhai o'r pryderon sydd wedi bod gan rai darparwyr gofal sylfaenol y gallen nhw wneud mwy pe bai ganddyn nhw fwy ohono, ond rydym ni mewn gwirionedd yn defnyddio'r cyflenwad hwnnw o frechlyn Rydychen-AstraZeneca, y cyflenwadau a gawsom ni. Rwy'n credu y dylai pobl ym mhob rhan o Gymru gael rhywfaint o gysur yn y ffaith ein bod yn aros am gyflenwad llawer mwy sylweddol i ddod i Gymru, a gaiff ei weinyddu wedyn yng Nghymru o'r wythnos nesaf yn benodol.

Ond nid yn unig y pwyntiau o ran hygyrchedd, rwy'n credu ei bod yn werth ymdrin â'ch pwyntiau chi ynglŷn â chanolfannau brechu. Rydym yn disgwyl y bydd gan bob awdurdod lleol ganolfan frechu torfol yn y pen draw, ond rwy'n credu efallai fod yna ddryswch rhwng y symbol a'r hygyrchedd gwirioneddol. Fe fydd darparu'r brechlyn drwy ofal sylfaenol gyda brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn golygu llawer mwy o hwylustod i bobl. Pan fydd gennych gannoedd o bractisau cyffredinol ar waith, os bydd hynny o'u hadeiladau nhw eu hunain, neu mewn mannau eraill yn gysylltiedig â nhw, yn enwedig gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd, fe fydd hynny'n golygu yn ymarferol y bydd hi'n haws o lawer. Nid wyf i o'r farn y bydd y cyhoedd yn poeni rhyw lawer a oes yna driongl ar fap yn eu hawdurdod lleol nhw neu a allan nhw gyrraedd lleoliad brechu yn hawdd pan fydd hi'n bryd iddyn nhw fynd i gael eu brechlyn. Bydd yn golygu pobl yn mynd i'r lleoliadau hynny, boed  mewn canolfan iechyd leol, neu westy neu fwyty a addaswyd, pafiliwn bowlio, neu yn wir ganolfan frechu torfol. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r cyhoedd am ei wybod yw, 'Pryd y caf i fynd yn ddidrafferth ac yn rhwydd?' Mae hynny'n cynnwys ein darpariaeth ni, wrth gwrs, mewn cartrefi gofal.

O ran eich cwestiwn chi am wasanaeth imiwneiddio Cymru, ydy, mae hynny ar waith. Ni allaf roi ichi'r ffigurau o ran nifer y rhai a fethodd apwyntiadau heddiw, ac nid oes gennyf ffigur i'w roi i chi ar bobl dros 80 oed, ond pan fyddwn ni'n cyhoeddi ein dangosfwrdd wythnosol, fe fyddwn ni'n rhoi mwy o wybodaeth am rai o'r manylion yr ydych chi wedi gofyn amdanynt. Ac o ran y diffyg cysylltu, fe fydd pawb yn dechrau cael eu llythyrau o heddiw ymlaen, gan fyrddau iechyd a phartneriaid llywodraeth leol, sy'n disgrifio'r dull o weithredu'n lleol ac yn rhoi rhywfaint o sicrwydd felly i bobl nad yw'r gwasanaeth iechyd wedi anghofio amdanyn nhw.

O ran hyfforddiant i roi brechiadau, rydym wedi gweithio gyda phobl ym maes Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac ar draws y gwasanaeth i sicrhau ein bod ni'n gwneud pethau mor hawdd â phosibl. Rwyf wedi gweld rhai o'r pryderon hyn ym mhob gwlad yn y DU, gan gynnwys, wrth gwrs, yn Lloegr, lle mae pobl yn pryderu bod y broses yn rhy fiwrocrataidd, gan gynnwys y broses ar gyfer staff sydd wedi ymddeol sy'n dychwelyd i gynorthwyo gyda'r rhaglen. Felly, rydym ni'n edrych eto ar yr hyn sy'n bosibl ei wneud. Nawr, mae'n gwbl bosibl nad oes angen imi wneud un penderfyniad ynglŷn â hynny. Rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'r gyfarwyddeb polisi i wneud hyn cyn gynted â phosibl ac mor hawdd â phosibl fel y gall staff dibynadwy, yn wirfoddolwyr neu beidio, weinyddu'r brechiadau. Pe byddai angen imi wneud dewisiadau gweinidogol, yna rwy'n fwy na pharod i wneud hynny i gyflymu'r rhaglen.

O ran cam 2, roeddwn i mewn gwirionedd yn cyfeirio at gam 2 o ran y rhestr flaenoriaethau. Rwy'n credu eich bod chi'n gofyn i mi am yr ail ddos yn eich cwestiwn chi, ac mae hynny'n ymwneud â'r cyflenwad yn rhannol. Felly, fe allwch chi ddisgwyl gweld yr ail ddos yn dechrau cael ei roi o ddifrif pan ddaw'n fis Mawrth, pan fydd mwy byth o bobl yn dechrau cael eu hail ddos, ac fe aiff hynny ymlaen i fis Ebrill hefyd, ac mae hyn yn rhan o'r hyn y byddwn ni'n ei wneud. Fe sylwch ein bod eisoes yn rhoi gwybod am faint o bobl sydd wedi cael eu dos cyntaf a'u hail ddos yn y cyfansymiau a ddarperir gennym. Felly, byddwn yn dryloyw o ran y cynnydd a wnawn ni.

Nid wyf yn ymwybodol o'r mater unigol am y cartref gofal yn y Barri yr ydych chi'n cyfeirio ato, ond mae cyflenwad o gyfarpar diogelu personol ar gael, mae digonedd ohono ar gael. Rwy'n credu y gall yr Aelodau o bob lliw gwleidyddol fod yn falch iawn o'r ffordd yr ydym ni wedi caffael a chyflenwi cyfarpar diogelu personol yma yng Nghymru drwy gydol y pandemig hwn, a chael gwerth da am arian, i bob un ohonom ni, i bob trethdalwr, heb unrhyw argoel o lwgrwobrwyo yn y dull o gyflenwi a chaffael y cyfarpar diogelu personol hwnnw. 

O ran yr awgrym am 24 awr y dydd, mae hwnnw'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried gan y byrddau iechyd. Nid wyf am osod nod ei bod yn rhaid i bawb gael model cyflawni 24 awr y dydd; fe hoffwn i weld y model gorau a chyflymaf sydd ar gael ar gyfer gwneud hynny. Pe byddem ni'n gosod nod i bawb ei gyflawni o ran 24 y dydd, efallai na fyddai hynny'n cyflawni'r diben. Rwy'n credu y bydd rhai byrddau iechyd yn treialu hyn i weld a fydd yn cyflymu'r gweinyddu yn ogystal â gwella hygyrchedd, ac rwy'n edrych ymlaen at ddysgu o hynny. Ni fyddwn ni'n gwybod yn y bôn nes inni roi prawf ar hynny, ond fel y dywedais, fy nghyfarwyddeb i i'r system yw gweithredu mor gyflym â phosibl, mor ddiogel â phosibl, ond gwneud hynny mewn modd y gallwn ni ofalu am ein staff a'n gwirfoddolwyr ni sy'n gweinyddu'r brechlynnau, a'i gwneud mor hawdd â phosibl i'r cyhoedd gael y brechlynnau hynny hefyd. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

15:30

Diolch i chi am y datganiad. Peth buddiol yw cael cyfle i roi ychydig o sylwadau a gofyn pedwar neu bump o gwestiynau hefyd. Rwy'n falch bod gennym ganllaw bras erbyn hyn o ran yr amserlen y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei dilyn. Fe ysgrifennais i at y Gweinidog nos Sadwrn a gofyn iddo ef am dargedau inni allu mesur perfformiad yn eu herbyn. Ond a gaf i ychydig mwy o fanylion, os gwelwch chi'n dda? Rydych chi'n sôn am daro'r targed ar gyfer y grwpiau blaenoriaeth erbyn y gwanwyn. Pryd yn y gwanwyn, dywedwch? A ydym ni'n sôn am ddechrau'r gwanwyn neu ddiwedd y gwanwyn? Rwy'n credu bod angen ychydig mwy o fanylion ynglŷn â hynny.

Fe ddywedodd y Gweinidog wrthym y bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am nifer y brechiadau dyddiol bellach yn cael eu rhoi, ond rwyf i o'r farn fod angen mwy na ffigur cyffredinol rheolaidd arnom ni. Fel y gofynnais i yn y llythyr hwnnw, mae angen diweddariad dyddiol o ran niferoedd pob math o'r brechlyn a dderbyniwyd, niferoedd pob math o'r brechlyn a ddosbarthwyd i bob bwrdd iechyd, y niferoedd a weinyddwyd, ac i ba grwpiau blaenoriaeth, ac ynglŷn ag ardaloedd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Rwy'n falch o glywed eraill yn galw am ddata manwl hefyd, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Ffisigwyr. Mae hyn yn bwysig iawn o ran rhoi canolbwynt i'ch gwaith chi ac wrth roi gwybod i'r cyhoedd, yn ogystal â ni, sydd â swyddogaeth wrth graffu ar y Llywodraeth—mae angen inni wybod ble rydym ni arni ac mae angen i ni fod yn hyderus ein bod ni ar y trywydd iawn.

A gaf i ofyn hefyd am dynhau'r blaenoriaethu o fewn y gweithlu iechyd a gofal, ar ôl adroddiadau bod rhai o'r staff nad ydyn nhw'n dod wyneb yn wyneb â chleifion wedi cael eu brechu? Fe wn i fod un bwrdd iechyd yn dweud mai'r rheswm am hynny yw bod brechlynnau wedi cael eu rhoi yn y diwedd i rai staff nad ydyn nhw'n wynebu cleifion fel nad oes unrhyw ddosau sy'n barod yn cael eu gwastraffu. Rwyf i wedi awgrymu efallai y dylem ni fabwysiadau model Israel, lle gellid cynnig dosau na ddefnyddiwyd i'r cyhoedd ar sail y cyntaf i'r felin, ar derfyn dydd. Rwyf wedi tynnu sylw hefyd at ddatblygiadau arloesol eraill yn Israel sydd wedi eu gwneud nhw'n arweinwyr byd-eang ym maes brechu, gan gynnwys gweithio saith diwrnod a chanolfannau brechu gyrru drwodd, er enghraifft. Rydych chi'n dweud efallai nad ydych chi'n dymuno gweld 24 awr y dydd; ond yn sicr mae angen saith diwrnod yr wythnos.

Fe hoffwn i wybod hefyd beth ydych chi'n ei wneud ar lawr gwlad i sicrhau bod eich rhestr flaenoriaethau chi eich hun yn cael ei defnyddio. Fe wn i, er enghraifft, fod meddygon teulu yn fy etholaeth i yn awyddus i ddilyn eich canllawiau chi, a sicrhau bod holl breswylwyr cartrefi gofal yn cael eu brechu mewn un diwrnod—i gyd ar yr un pryd, 500 ohonyn nhw; y nhw yw'r brif flaenoriaeth—ond yn hytrach, fe ddosbarthwyd dosau ar gyfer cyflawni rhyw gymaint o frechu cymunedol i bobl 80 oed a throsodd. Peidiwch â'm camddeall i, mae angen i'n dinasyddion hynaf ni yn y gymuned gael eu brechu ar fyrder mawr, ond nid yw hynny mewn gwirionedd yn cydymffurfio â'r rhestr flaenoriaethau y gwnaethoch chi ei rhoi inni. Efallai y gwnewch chi wneud sylw i ni ynghylch hynny. Os oes rhestr flaenoriaeth ar gael, mae angen strategaeth i gadw ati, siawns gen i.

Rwy'n clywed meddygon teulu eraill, mewn rhannau eraill o Gymru, yn mynegi eu rhwystredigaethau ynglŷn â'r hyn sy'n ymddangos iddyn nhw yn strategaeth wael—gan anfon brechlynnau i bob meddygfa yn ei thro, yn hytrach nag atgyfnerthu'r gallu drwy'r ardal i gyd. Rwy'n dyfynnu un sydd wedi gwneud sylwadau cyhoeddus yn ardal Hywel Dda:

Os ydych chi'n ddigon anlwcus i fod yn glaf yn un o'r cymorthfeydd sydd i gael ei dyraniad yn nes ymlaen yna fe fydd yn rhaid ichi aros am y brechlyn—hyd yn oed os ydych chi yn y grŵp blaenoriaeth uchaf.... Dylai hyn olygu grwpiau blaenoriaeth, nid codau post.

Ac yn olaf, fe geir blaenoriaethau eraill—gobeithio y byddech chi'n cytuno â mi yn hynny o beth—y tu hwnt i'r naw uchaf. Nid wyf i'n awgrymu diystyru unrhyw un o'r naw prif grŵp blaenoriaeth, ond o ran yr heddlu neu'r athrawon neu'r rhai eraill sy'n wynebu'r cyhoedd wrth weithio, a wnewch chi egluro sut ydych chi'n bwriadu ehangu'r rhestr flaenoriaeth honno i gynnwys rhai y mae angen eu hamddiffyn fwyaf, y tu allan i'r grwpiau blaenoriaeth sydd gennym ni nawr?

Rwyf am orffen gyda chymhariaeth o fyd chwaraeon. Mae pobl wedi cymharu sut mae pethau'n mynd gyda'r brechu yng Nghymru gyda gwledydd eraill y DU. Mae'n naturiol bod pobl yn gwneud hynny—rydym ni wedi bod ar ei hôl hi. Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud nad ras yw hon, mai marathon ydyw ac nid sbrint. Mae rhedwyr marathon eiddgar yn sbrintio o ddechrau'r ras, ac mae'r rhai sy'n fuddugol yn sbrintio am y 26 milltir i gyd, fwy neu lai. Nid sôn yr ydwyf i am ras i wneud yn well na gwledydd eraill—nid yw hynny yma nac acw—ond mae angen inni gael gwybod ein bod yn llamu ymlaen cyn gynted ag y gallwn ni, er lles dinasyddion Cymru, ac mae'r cyflymder yn hanfodol.

15:35

Diolch i chi am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Er eglurder, rwyf wedi dweud dro ar ôl tro mai ras yn erbyn y feirws yw hon; marathon o ymdrech yw hi, dros fisoedd lawer, ac rydym i gyd yn dyheu am symud cyn gynted â phosibl. Nid wyf i'n credu y gallaf i fod yn fwy eglur o ran dull gweithredu Llywodraeth Cymru na'r cyfeiriad y mae ein gwasanaeth iechyd gwladol ni'n ei gymryd. Rwy'n credu mewn gwirionedd y dylai'r hyn y mae ein staff ni'n ei wneud—staff sydd dan bwysau—fod yn destun balchder i ni i gyd. Fel ym mhob achos, mae yna adegau pan fydd beirniadaeth o'r rhaglen yn achos gofid personol i'r staff. Rwy'n sylweddoli y bydd y rhan fwyaf o'r Aelodau yn dweud nad ydynt yn beirniadu'r staff, fy meirniadu i fel Gweinidog y maen nhw, ond mae angen ystyried y cwestiwn cwbl ddilys sydd gan yr Aelodau i mi ac i arweinwyr y byrddau iechyd ac effaith hynny ar ein staff ni sy'n gweithio dan bwysau aruthrol.

Gan droi at eich pwynt cyntaf chi ynglŷn â'r gwanwyn, tymor yw'r gwanwyn ac nid yw'n dymor sydd byth yn darfod. Felly, ni fydd gennych chi syniad fel hyn, fel yr awgrymodd David Jones pan oedd ef yn y Swyddfa Gymreig, fod y gwanwyn a'r haf yn para wedyn, rywsut, tan yr hydref a'r gaeaf. Y rheswm pam rydym ni wedi nodi'r gwanwyn fel amserlen amlinellol yw bod hynny'n rhan wirioneddol o'n sefyllfa ni o ran cyflenwad y brechlynnau. Pe bai gennyf i sicrwydd llwyr o'r cyflenwad o frechlynnau hyd at ddiwedd mis Ebrill, mae'n debyg y gallwn ni roi amserlen lawer cliriach ichi. Ond fe geir peth ansicrwydd ynglŷn â hyn. A bod yn deg, nid wyf i'n credu y byddai Llywodraeth y DU yn gallu rhoi gwarant cwbl gadarn imi ar hyn o bryd o bob cludiad a ddaw cyn diwedd mis Ebrill. Fe fyddwn ni'n rhoi mwy o fanylion, wrth inni adolygu'r cynllun, ynghylch pryd yn y gwanwyn y byddwn ni'n credu y gallwn gwblhau'r holl flaenoriaethau yng ngham 1. Ond, er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd, rydym ni yn disgwyl gwneud hynny cyn diwedd y gwanwyn.

Pe byddai yna her gyda'r cyflenwad o frechlynnau, pe byddai her o ran y gweinyddu, rydym ni am fod yn gwbl agored ynglŷn â hynny. Rydych chi'n cofio i ni gael achos o COVID yng nghanolfan frechu torfol Caerdydd. Fe wnaethom ni golli mwy na dau ddiwrnod o weinyddu, oherwydd fe fu'n rhaid ymdrin â'r achos hwnnw, fe fu'n rhaid glanhau'r safle a bu'n rhaid dod â staff i mewn nad oedd â chysylltiadau er mwyn parhau i redeg y ganolfan. Felly, mae'n bosibl bob amser i ddigwyddiadau ymyrryd, mae'n bosibl bob amser y bydd toriad yn y cyflenwad, ond pe byddai yna unrhyw her fel hynny, rydym ni am fod yn gwbl agored ynglŷn â'r sefyllfa honno ac, yn hollbwysig, ynglŷn â'r hyn y gallwn ni ei wneud er hynny i sicrhau parhad y rhaglen.

O ran y manylion sylweddol yr ydych yn gofyn amdanyn nhw o ran ffigurau dyddiol, nid wyf i o'r farn mai honno yw'r flaenoriaeth i ni bob dydd ar hyn o bryd. Fe fydd gennym ni fanylion wythnosol a fydd yn rhoi llawer mwy o fanylion o ran cyflwyniad y rhaglen, ac rwy'n siŵr, pan fydd pobl wedi dod yn gyfarwydd â'r gyfres wythnosol honno o ddata, y byddant yn barod i ofyn cwestiynau a chraffu ar yr hyn y mae'r data hyn yn ei gyfleu yn fanwl. Pe byddwn i'n ceisio dweud fy mod i'n dewis gweld y gyfradd honno o fanylder bob dydd, fe fyddai angen rhoi mwy o amser, egni ac ymdrech i hynny wrth olrhain y data a'u dadansoddi nhw i wneud cyfiawnder â'r gwaith, ac rwy'n amau y byddai'n rhaid inni roi amodau sylweddol ynglŷn â'r wybodaeth yn y pen draw. Mae'n rhaid gofyn ai'r dewis cywir yw buddsoddi mewn cofnodi data i fodloni gofynion yr Aelod ynglŷn ag ystadegau pob diwrnod unigol, neu a ydym yn dymuno gweld mwy o ganolbwyntio a blaenoriaeth o ran gweinyddu'r brechlyn. Ond fe fydd yna wybodaeth reolaidd yn wythnosol y byddwn ni'n ei darparu i Aelodau a'r cyhoedd yn fwy eang.

O ran eich pwynt chi am flaenoriaethu—fe ofynnwyd y cwestiwn hwn i mi sawl tro—mae'n ymddangos mai rhyw ddyrnaid o enghreifftiau ydyn nhw y mae'r byrddau iechyd wedi edrych arnynt i ddeall beth sy'n digwydd, yn fy marn i. Nid oes gennyf i unrhyw broblem o gwbl gyda dosau ar derfyn dydd, i sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu gwastraffu, yn cael eu cynnig i staff iechyd neu ofal sydd o gwmpas, neu, yn wir, i'r cyhoedd. Nid wyf i o'r farn mai hwnnw yw'r cwestiwn mwyaf o ran polisi y mae angen imi fynd i'r afael ag ef fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am weinyddu brechlynnau. Fy ngwaith i yw sicrhau ein bod ni'n cadw at y rhestr flaenoriaethu sydd gennym ni, ein bod ni'n sicrhau nad oes gennym bobl yn sleifio i'r grŵp hwnnw, rywsut, drwy dwyllo'r system, sydd wedi bod yn ofid i mi. Mae rhai pobl wedi dweud wrthyf eu bod nhw, rywsut, wedi gallu neidio'r ciw mewn ffordd sydd â dim i'w wneud â dyrnaid o ddosau ar derfyn dydd, rhywbeth nad wyf i'n credu y bydd unrhyw un yn poeni'n arbennig amdano. Rwyf i wedi gofyn i'r byrddau iechyd unwaith eto, a'm dealltwriaeth i yw eu bod nhw'n dilyn y rhestr o flaenoriaethu mewn ffordd briodol. Ond mater i bob un ohonom ni yw ymddwyn yn egwyddorol, ac os oes yna ddolen yn cael ei chynnig ichi ar gyfer neidio'r ciw dros bobl eraill sy'n wynebu cleifion wrth eu gwaith, mae'r cyfrifoldeb arnoch chi i beidio â gwneud hynny a mynd o flaen pobl eraill sy'n rhoi eu hunain mewn perygl bob dydd ar ein rhan ni.

O ran gweithio am saith diwrnod yr wythnos, rydym yn gweld llawer o weithio dros benwythnosau eisoes, ac rwy'n disgwyl y bydd pob bwrdd iechyd yn gweithio am saith diwrnod o bryd i'w gilydd yn ystod y rhaglen gweinyddu brechlynnau. Rwy'n gobeithio bod hynny o fudd, i egluro hynny. Mae meddygon teulu yn gweithio gyda byrddau iechyd o ran cyflenwi o ran y blaenoriaethau. Maen nhw'n gweithio gyda llywodraeth leol hefyd. Fe fydd pob bwrdd iechyd a detholiad o bartneriaid llywodraeth leol yn cyfarfod dros y dyddiau nesaf, os nad ydyn nhw wedi cyfarfod yn barod, i fynd trwy fanylion eu rhaglen nhw. Fe fyddan nhw'n gallu mynd drwy'r hyn y gallan nhw ei wneud gyda gofal sylfaenol i sicrhau bod ganddyn nhw safleoedd sy'n addas, oherwydd, fel y dywedais i, fe fydd llawer o safleoedd gofal sylfaenol yn adeiladau addas at y diben o redeg canolfan frechu—un leol. Er hynny, efallai na fydd rhai ohonyn nhw—ac rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r meddygon teulu sy'n gweithio o feddygfa a addaswyd yn wreiddiol o res o dai teras—yn briodol fel lleoliad ar gyfer brechu. Ond mae hyn yn ymwneud â pha leoliadau addas sydd gennym ni mewn cymunedau lleol sy'n hygyrch i bobl fel y ceir cynnydd o ran niferoedd a chyflymder.

O ran y cwestiwn ynglŷn â grwpiau galwedigaethol a'r rhestr flaenoriaethau, rwy'n credu imi fod yn eglur iawn yn hyn o beth ac rwy'n hapus i egluro'r sefyllfa unwaith eto. Mae gennym ni restr o grwpiau blaenoriaeth oddi wrth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a gafodd ei gymeradwyo ganddo a fydd yn ein helpu ni o ran 99 y cant o'r marwolaethau y gellir eu hosgoi—dyna yw cam 1. Pe byddem ni'n ychwanegu at honno rai nad ydyn nhw ar y rhestr, yna fe fyddem ni'n amddifadu pobl sydd yn y grŵp mwyaf agored i niwed. Felly, o ran athrawon, swyddogion yr heddlu neu'n unrhyw grŵp arall, os rhoddir lle iddyn nhw ar gam 1, fe fyddai rhywun arall sydd â mwy o angen yn cael ei amddifadu. Meddyliwch chi am y peth fel hyn: os ydych chi'n drydydd ar ddeg yn y ciw, a'ch bod chi'n cael eich symud i'r degfed lle, ni allwch chi ddweud wedyn, 'Nid wyf i'n galw am amddifadu neb, dim ond i mi gael bod yn ddegfed.' Mae'r rhai a oedd o'ch blaen chi y tu ôl ichi erbyn hyn. A'r cyngor eglur iawn a gawsom ni yw pe byddem ni'n gwneud hynny, ar gyfer pa grŵp o weithwyr rheng flaen bynnag, yna fe fyddai hynny'n golygu y byddem ni'n gwneud dewis bwriadol a fyddai'n rhoi pobl eraill mewn perygl, ac fe fyddai hynny'n achosi anfon cleifion i'r ysbyty a marwolaethau y gellir eu hosgoi.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r pwynt, ac fe fyddwn innau'n ailadrodd mai dyna pam mai'r dull hwn sydd gennym ni. Nid penderfyniad mympwyol mohono, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â diogelu'r cyhoedd ac achub bywydau. Fe wn i fod yr Aelod yn deall hynny ac y bydd ef yn cefnogi'r dull hwn; mae yna leisiau eraill, wrth gwrs, sy'n mynegi safbwynt arall ac wedi mynnu ein bod ni'n defnyddio dull hollol wahanol. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau o bob lliw gwleidyddol yn deall mai hwnnw yw'r dewis yr ydym ni'n ei wneud. Dyna'r penderfyniad a wneuthum i yma yng Nghymru, ac nid wyf i'n mynd i wneud dewis arall a fyddai o bosibl yn cadw grŵp unigol o randdeiliaid yn hapus am ychydig funudau. Fe fyddai hynny, rwy'n siŵr, yn achosi llawer mwy o ofid a dryswch ac, a dweud y gwir, yn arwain at farwolaethau y gellid eu hosgoi.

15:45

Diolch. Rydym ni wedi cael dau gwestiwn ac mae dwy ran o dair o'r amser a neilltuwyd ar gyfer y datganiad wedi mynd, felly a gaf i atgoffa' pobl yn garedig am yr angen i gynnwys pawb. Mae gen i gryn dipyn o siaradwyr. Alun Davies.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Mae gennyf i ddau gwestiwn. Mae'r cyntaf yn ymwneud â pha mor gyflym y bydd y rhai dros 70 oed sydd â chyflwr sy'n eu gwneud nhw'n agored i niwed clinigol yn cael cynnig brechlyn oherwydd fe fyddan nhw, yn amlwg, mewn mwy o berygl, ac mae'n bwysig ein bod ni'n gallu ymdrin â'r rhain. Ond hefyd y bobl hynny sy'n rhannu aelwyd â'r bobl hynny na fydden nhw'n perthyn i un o'r grwpiau agored i niwed hynny, ond, yn amlwg, mae'r aelwyd yn un uned deuluol, ac os ydym am frechu un rhan o'r uned honno, mae'n ymddangos ei bod yn gwneud synnwyr yn reddfol i frechu'r uned deuluol gyfan honno er mwyn diogelu'r unigolyn sy'n agored i niwed.

Mae'r ail gwestiwn yn ymwneud â gofalwyr nad ydyn nhw'n cael eu talu. Mae pawb ohonom yn gwybod mai gofalwyr nad ydyn nhw'n cael eu talu yw'r fyddin enfawr o bobl sy'n gofalu am rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y wlad hon. Beth yw safle'r gofalwyr di-dâl? Yn fy marn i, os oes yna fwlch yn y strategaeth hon, mae'n golygu'r rheini sy'n gofalu bob dydd am oedolion a phlant sy'n agored i niwed.

Ac yn olaf, Gweinidog, aelodau staff mewn ysgolion arbennig. Fe nodais eich bod chi'n dweud y bydd y staff sy'n darparu gofal—gofal personol—a chymorth i blant a phlant sy'n arbennig o agored i niwed mewn ysgolion arbennig yn cael eu cynnwys ar y rhestr flaenoriaeth. Tybed beth fyddai eu safle nhw ar y rhestr honno, a phryd y gallen nhw ddisgwyl cael eu brechu. Diolch.

Diolch i chi am y cwestiynau.

Felly, ynglŷn ag amseriad y rhai dros 70 oed a'r rhai sy'n agored iawn i niwed yn glinigol, sef y bobl a warchodir, rydym ni'n disgwyl cynnig brechlyn i bawb ohonynt erbyn canol mis Chwefror. Mae hynny ar eu cyfer nhw yn hytrach na'u haelwyd gyfan. Rydym ni wedi holi, ac aeth nifer o gwestiynau yn ôl i'r JCVI ynglŷn â'r bylchau, gan gynnwys y cwestiwn am ofalwyr di-dâl. Fe fyddan nhw'n parhau i edrych ar y dystiolaeth o ran sut y gallwn ni wneud y buddiant mwyaf o ran osgoi niwed a marwolaethau. Ond rwy'n deall yn llwyr yr achos a wneir ynghylch gofalwyr di-dâl. Mae'n gwbl bosibl y byddwn ni'n gweld rhywfaint o gyngor diwygiedig, oherwydd dyna'n union a ddigwyddodd gyda staff ysgolion arbennig sy'n rhoi gofal personol: fe wnaethom ni ailystyried. Ac maen nhw'n gyfatebol, yn y bôn, i staff gofal cymdeithasol sy'n rhoi gofal personol hefyd. Felly, fe fyddan nhw'n cael blaenoriaeth o fewn y grŵp cam cyntaf hwn, ac fe fyddwn ni'n ceisio sicrhau eu bod nhw'n cael y cynnig i gael eu brechu. Mae hwn yn grŵp ar wahân o staff, a hynny oherwydd bod eu gofal nhw'n cyfateb yn uniongyrchol â'r gofal y byddech chi'n disgwyl i rai gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen ei roi.

Fe fyddaf i'n holi'r prif swyddog meddygol eto ynglŷn â'r ddau gwestiwn yr aethom yn ôl â nhw i'r JCVI, ond fy nealltwriaeth i yw y byddan nhw, o ran gofalwyr di-dâl, yn cael eu cynnwys mewn grwpiau blaenoriaeth; fe allan nhw gael blaenoriaeth wahanol ac fe fyddan nhw'n mynd i'r ail gam. Fe fydd nifer o'r gofalwyr hynny, os ydyn nhw'n perthyn i gategorïau eraill yn y cam cyntaf, yn cael eu brechu yn ôl y categori hwnnw. Fe wyddom fod nifer o ofalwyr di-dâl mewn gwirionedd o fewn y proffiliau oedran yr ydym ni'n ymdrin â nhw yng ngham 1 ar hyn o bryd, ond nid pob un ohonyn nhw. Felly, rydym yn ystyried a oes yna ffordd o'u disgrifio mewn modd y bydd pobl yn ei ddeall, ac y bydd y GIG yn gallu ei fodloni a'i ateb, a rhoi'r sicrwydd y gwn y mae'r Aelod yn ei geisio ac yn gofyn amdano ar ran ei etholwyr, a hynny'n briodol iawn.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac fe hoffwn i gymryd ennyd i ddiolch i'r holl wyddonwyr a'r gwirfoddolwyr sydd wedi ei gwneud hi'n bosibl inni allu trafod y rhaglen frechu hon. Ddoe, roedd yn flwyddyn i'r diwrnod ers y farwolaeth gyntaf erioed o COVID-19, ac mewn dim ond 12 mis rydym wedi cymeradwyo tri brechlyn. Mae hyn yn wirioneddol ryfeddol. Gweinidog, sut fyddwch chi'n monitro effeithiolrwydd y brechlyn dros amser, yn enwedig gan fod y cyfnod rhwng dosau yn wahanol iawn i'r hyn a gynhaliwyd yn ystod treialon cam 3?

Rwyf innau hefyd yn pryderu am wastraffu brechlynnau oherwydd nad yw pobl yn cadw at apwyntiadau, felly rwy'n pryderu o ran pa gynlluniau sydd gennych chi i leihau'r gwastraff. A ydych chi wedi ystyried cael rhestr o bobl, yn enwedig athrawon neu swyddogion yr heddlu, y gellid eu galw nhw i mewn i gael eu brechu ar derfyn dydd, gan sicrhau nad oes yr un dos o'r adnodd gwerthfawr hwn yn mynd yn wastraff?

Yn olaf, Gweinidog, sut ydych chi am sicrhau y bydd pobl sy'n cael eu hail ddos yn cael yr un brechlyn â'u dos cyntaf? Mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym ddigon o gyflenwad o bob brechlyn unigol i warantu na fydd brechlynnau amrywiol yn cael eu cymysgu. Ac yn olaf, sut ydych chi am fonitro hyn a pha drefniadau a wnaethoch chi gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr fod yna ddosau ychwanegol o frechlyn penodol pe byddai angen? Diolch yn fawr. Diolch i chi.

15:50

Diolch am y cwestiynau. O ran bod yr ail ddos yn defnyddio'r un math o frechlyn â'r dos cyntaf, yn sicr dyna yw ein bwriad ni. Fe welais i awgrym braidd yn ddi-fudd yn y New York Times y gellid eu cymysgu nhw, ac ni fu hynny erioed yn fwriad yng Nghymru, ac ar hyn o bryd, nid oes gennym broblem gyda chyflenwad. Pe byddai angen gwneud felly, yna rwy'n fwy na bodlon, parod ac abl i fynd at Weinidog brechlynnau y DU i sicrhau ein bod yn cael y swm cywir o'r cyflenwad ar gyfer rhoi'r ail ddos. Fe fyddwn yn gallu cael yr wybodaeth honno, nid yn unig yn gyflym, ond i roi dosau o'r brechlyn yn ddiogel drwy wasanaeth imiwneiddio Cymru, unwaith eto, a adeiladwyd o'r newydd gan ein gweithwyr ni yma yng Nghymru.

O ran gwastraff, mae yna drefn galw i mewn eisoes yn bodoli, felly mae gan y byrddau iechyd ddull wrth gefn eisoes ar derfyn dydd pe bai yna wastraff diangen. Yn wir, mae ein ffigurau ni'n dda iawn o ran gwastraff, ac rwy'n disgwyl y bydd hynny'n rhan o'r wybodaeth wythnosol y byddwn ni'n ei rhoi. Rydym yn credu y gallwn ddarparu ffigur defnyddiol ar wastraff ac fe ddylai hwnnw ddangos lefelau gwastraff isel iawn, ac, unwaith eto, mae hynny'n glod i'r staff sy'n cyflwyno'r rhaglen.

O ran bod â mwy i'w ddysgu ac effeithiolrwydd y brechlynnau ymhen amser, wel, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n dysgu llawer wrth inni eu defnyddio. Rydym yn credu, o'r dystiolaeth a gawsom, pan fyddwn wedi rhoi'r brechlyn i bawb sydd yn y grŵp o bobl yn y cam cyntaf y bydd hynny'n ymdrin â 99 y cant o'r achosion o gleifion yn cael eu derbyn i ysbyty a'r marwolaethau y gellir eu hosgoi. Fe fydd hynny, ynddo'i hunan, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n sefyllfa ni. Fe fyddwn ni'n dysgu mwy wedyn am hirhoedledd y brechlyn a'r materion sy'n ymwneud â throsglwyddiad, os ydych chi wedi cael y brechlyn neu beidio, gyda threigl amser. Ond, fel bob amser, nid yw ein sylfaen wybodaeth yn gyflawn eto. Gallwn fod yn hyderus bod gennym  frechlynnau sy'n effeithiol, ac sy'n cynnig amddiffyniad uchel yn y dos cyntaf, ond mae gan bob un ohonom ni lawer i'w ddysgu eto yn y misoedd i ddod.

Gweinidog, rwyf am fynd â chi yn ôl at flaenoriaethu cam 2 os caf i, gan na wnaethoch ateb cwestiwn Andrew R.T. ynglŷn â hyn. Nid wyf yn credu bod unrhyw un ohonom ni'n awgrymu y dylid ail-flaenoriaethu'r broses o gyflwyno cam 1 mewn unrhyw ffordd, ond rwy'n awyddus i wybod a ydych chi'n bersonol yn cydymdeimlo â'r ddadl y dylai staff ysgol fod o fewn y blaenoriaethu cam 2 ochr yn ochr â'r rhai yr ydym eisoes wedi cael rhyw syniad ohonyn nhw. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedwch chi am y JCVI, ond tua diwedd y rhestr flaenoriaeth honno, mae'n ymddangos ei bod yn ymwneud ag oedran yn bennaf. Mae pob Llywodraeth yn dweud mai ysgolion ddylai fod y rhai diwethaf i gau a'r cyntaf i agor, felly fe fyddwn i'n falch o gael clywed rhywbeth gennych chi am hynny.

Ac yna'n ail, yn gyflym, gyda'r cwestiwn a gododd Alun Davies am staff yn rhoi gofal personol i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig, a wnewch chi ddweud wrthym a oedd yna reswm pam na chafodd hyn ei gyflwyno mewn ysgolion prif ffrwd lle mae'n rhaid i'r staff roi gofal personol i'r plant hynny sydd ei angen yn y fan honno hefyd? Diolch.

Diolch am y cwestiynau. A bod yn deg, rwy'n credu bod y cwestiwn am gyflwyno cam 2 yn ddryslyd ar y dechrau, ac o ran cyflwyno cam 2 a'r cwestiwn am staff ysgol, wrth gwrs rwy'n cydymdeimlo ag amrywiaeth o grwpiau galwedigaethol sy'n gweithio fel gweithwyr allweddol i gadw pob un ohonom yn ddiogel. Yn benodol, er ein bod ni'n aros gartref, rydym yn dibynnu ar grwpiau o bobl i gynnal rhywfaint o normalrwydd yn y cyfnod eithriadol hwn. Mae gennyf i gydymdeimlad hefyd â phobl sy'n gweithio yn yr heddlu a gwasanaethau eraill, ond mae'r rhestr flaenoriaeth yn ymwneud â sut yr ydym ni'n achub bywydau.

O ran cam 2, fel y dywedais i'n eglur yn fy natganiad i, nid ydym eto wedi cael cyngor gan y JCVI na'n prif swyddogion meddygol ni ar flaenoriaethu yn ystod yr ail gam hwnnw. Ac fe fydd y dystiolaeth ynglŷn â sut y gallwn ni osgoi'r niwed mwyaf, a sut y gallwn fwrw ymlaen cyn gynted â phosibl i ddiogelu'r boblogaeth oedolion o ddiddordeb mawr i mi. Ond i roi syniad i chi o'r cyfraddau gwahaniaethol yr ydym yn ymdrin â nhw ar hyn o bryd, fe ddywedodd y dirprwy brif swyddog meddygol, Jonathan Van-Tam, wrth Weinidogion ar draws y pedair gwlad mewn galwad nid mor bell yn ôl â hynny y byddai 43 o frechiadau i breswylwyr cartrefi gofal yn arbed un bywyd, mae'n debyg, a byddai tua 100 o frechiadau i bobl dros 80 oed yn achub un bywyd; i achub bywyd un athro sydd dan 30 oed heb fod yn agored i unrhyw niwed ychwanegol, mae angen brechu 62,000 o bobl. Felly, mae hyn yn tanlinellu pam mai'r grwpiau sydd gennym ni ar hyn o bryd sy'n cael eu blaenoriaethu. A phan fyddwn ni'n dechrau ar yr ail gam, gallwn fod yn hyderus ein bod ni'n brechu pobl lle mae risg yn bodoli o hyd, ond risg sy'n llawer llai. Ac felly dyna pam mae gennym restr flaenoriaeth a dyna pam rydym ni'n mabwysiadu'r dull o flaenoriaethu staff o fewn hwnnw.

15:55

Allaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a hefyd llongyfarch a thalu teyrnged i holl staff y gwasanaeth iechyd sy'n darparu'r gwasanaethau hollol sylfaenol yma sy'n mynd ymlaen? Diolch iddyn nhw i gyd. Mae'r sefyllfa'n ddifrifol, fel y mae'r Gweinidog wedi dweud, a dwi'n credu bod angen gwthio'r brechlyn i mewn i filoedd o bobl fel mater o argyfwng, fel mater o frys. Mae lefel y feirws yn parhau yn uchel iawn yn ein cymunedau. Mae angen gweithredu ar garlam, felly, a sicrhau bod Cymru yn cael ei chyfran deilwng o frechiadau hefyd, achos mae yna ddelwedd allan yna fod Cymru ar ei hôl hi efo'r brechlyn yma, a phobl yn poeni bod y lefelau uchel o'r feirws yn mynd i esgor ar amrywiadau newydd eto o'r feirws fel y mae'r amser yn mynd ymlaen a'r lefelau uchel o'r feirws yn parhau. Mae'n bwysig gweithredu ar garlam felly; a fyddai'r Gweinidog yn cytuno?

Byddwn, fe fyddwn i, diolch, a diolch yn arbennig i chi am sôn, unwaith eto, am ein staff ni, sy'n gweithio dan bwysau anhygoel i roi'r brechlyn a diogelu'r cyhoedd hefyd, ond, yn ogystal â hynny, o ran y gofal a'r triniaethau parhaus i bobl sy'n gleifion COVID ac afiechydon eraill hefyd heblaw am COVID. Ac yn sicr nid oes prinder o faterion brys o fewn ein gwasanaeth iechyd gwladol ni a'r sefydliadau partner ar gyfer y dasg dan sylw. Rwy'n deall fod yna rywfaint o bryder o ran 'A yw Cymru ar ei hôl hi neu beidio?' Rwyf i'n credu, pan edrychwch chi ar y cynnydd sydd wedi bod dros yr wythnos ddiwethaf, fe aethom ni ati'n gynt na'r Alban o ran niferoedd y pen yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ond nid mor gyflym â Lloegr na Gogledd Iwerddon. Pan ddown ni'n ôl i ystyried hyn eto ganol mis Chwefror ac yna cyn y Pasg, rwy'n credu y bydd pobl yn wirioneddol falch o'r hyn y bydd Cymru wedi ei gyflawni. Rwy'n hyderus y bydd tîm Cymru yn cyflawni dros bob un ohonom o ran diogelu'r cyhoedd yn fwy eang.

O ran eich pwynt chi am yr heriau sy'n codi ynghylch amrywiolion newydd, mae gennym amrywiolion De Affrica a Swydd Caint y gwyddom eu bod nhw'n ymledu'n llawer cyflymach, ac mae hynny wedi achosi problem ddirfawr ym mhob rhan o'r DU. Felly, rydych chi'n ymwybodol, fel y mae pob Aelod arall a oedd yn bresennol yn y briff ar gyfer aelodau'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol heddiw, fod yna filoedd o amrywiolion o'r coronafeirws wedi dod i'r amlwg, a'u bod nhw'n cael eu monitro rhwng y gwahanol asiantaethau iechyd cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Ac nid yw'r amrywiolyn yn peri pryder oni bai iddo fod ganddo agweddau anodd neu drafferthus. Dyna pam rydym ni mor bryderus am amrywiolyn De Affrica ac amrywiolyn Swydd Caint. Rydym yn trafod y rhain ac yn trafod amrywiolyn mincod Denmarc, ond nid ydym yn trafod y miloedd o amrywiolion eraill sydd wedi codi oherwydd eu bod wedi diflannu. Felly, ie, yr achosion mwy mynych, rwy'n deall pam y gall fod mwy o bryder oherwydd hynny, ond mewn gwirionedd mae gennym system gymharol dda o wyliadwriaeth, ac yn achos pob un  amrywiolyn sy'n peri pryder mae'r un mesur o reolaeth yn gweithio: cadw eich pellter, golchi eich dwylo, gwisgo gorchudd ar eich wyneb lle bo hynny'n bosibl, awyru digonol ac, yn hollbwysig, osgoi cymysgu ag aelwydydd eraill. Dyna'r mesur gorau o reolaeth y gallwn ni i gyd ei gymryd. Ac fe fydd hynny'n ein helpu ni i gael dyfodol gwahanol iawn gyda chymaint ohonom â phosibl ar ddiwedd y daith hon gyda'n gilydd, pan fydd y brechiadau yn darparu ar gyfer y boblogaeth gyfan yn cael ei chynnwys a'i hamddiffyn.

Diolch. Diolch yn fawr am fy ngalw i. Yn dilyn fy nghwestiwn i'r Trefnydd yn gynharach, pan awgrymodd hi y gallwn i godi'r rhain gyda chi nawr, yn gyntaf, o ystyried eich cyfeiriad chi at yr heddlu yn benodol, sut fyddech chi'n ymateb i alwad Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru am ystyried rhoi rhyw gymaint o flaenoriaeth i'r heddlu ar raglen frechu COVID-19. Fel y dywedodd eu hysgrifennydd wrthyf yn ysgrifenedig ddoe, 'O ddydd i ddydd, mae swyddogion yr heddlu yn peryglu eu diogelwch, eu hiechyd a'u lles nhw eu hunain wrth geisio amddiffyn pob un ohonom ni. Yn anffodus, yn y gogledd rydym wedi gweld llawer o gydweithwyr yn sâl gyda COVID-19, a rhai ohonynt angen triniaeth mewn ysbyty, a llawer mwy yn gorfod hunanynysu.'

Ac yn olaf, sut ydych chi'n ymateb i'r etholwr a ysgrifennodd ataf i yn galw am roi rhywfaint o flaenoriaeth i oedolion awtistig hefyd ar y rhaglen brechu COVID? Mae ei brawd hi'n byw yn y gogledd, ac mae ganddo anabledd dysgu ac awtistiaeth. Fe gyfeiriodd hi at ymchwil ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr a ganfu fod cyfradd y marwolaethau oherwydd COVID chwe gwaith yn uwch ymysg pobl ag anabledd dysgu na'r boblogaeth yn gyffredinol.

16:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Credaf, o ran eich pwynt olaf, fod hynny'n rhywbeth y gwn i fod y prif swyddog meddygol a'n prif nyrs yn pryderu'n benodol yn ei gylch, oherwydd mae ffigurau ar gael ynglŷn â chyfradd marwolaethau fwy sylweddol ymhlith pobl ag anabledd dysgu. Ein her yw canfod ai'r anabledd dysgu ei hun sy'n gyfrifol mewn gwirionedd neu a oes cyflyrau iechyd eraill sy'n bodoli eisoes, ac, mewn gwirionedd, pan fyddwch yn meddwl am hyn, ymhlith y rhan fwyaf o'n hoedolion ag anabledd dysgu mae mwy o bobl sydd â'r hawl i gael pigiad ffliw'r GIG, ac felly, mewn gwirionedd, byddant yn cael eu cynnwys yn y cyfnod cyntaf. Os ydych chi fel fi, ac mae gennych chi hawl i gael pigiad ffliw'r GIG oherwydd cyflwr iechyd sy'n bodoli'n barod, nid oherwydd eich oedran—er y daw'r amser hwnnw, gobeithio, maes o law—yna mae hynny'n golygu eich bod mewn lle gwahanol ar y rhestr o gymharu â ble byddwn i pe bawn i'n cael fy nhrin yn ôl fy mhroffil oedran. Felly, mae amrywiaeth o gategorïau eraill a fydd, yn fy marn i, yn amlygu eu hunain i sicrhau bod y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu gweld yn ôl trefn blaenoriaeth.

A phan ddaw'n fater o amddiffyn yr heddlu, rydym ni eisoes yn treialu profion llif unffordd fel amddiffyniad ychwanegol i'r heddlu i helpu pobl i hunanynysu os ydyn nhw'n asymptomatig ac i ddiogelu ein gweithlu yn yr heddlu. Mae hwnnw'n arbrawf y mae pob heddlu yng Nghymru gyfan yn ei gefnogi. O ran galwad ffederasiwn yr heddlu i gael eu gosod yn uwch ar y rhestrau blaenoriaeth, rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â hynny'n helaeth ddoe yn y gynhadledd i'r wasg ac yn gynharach heddiw. Mae effaith wirioneddol ar symud grwpiau staff galwedigaethol o gwmpas, ac effaith ar atal y nifer fwyaf bosibl o farwolaethau.

5. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2021-2022

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar ddatganiad ar y gyllideb drafft ar gyfer 2021-22, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid i wneud y datganiad yma. Rebecca Evans.

Rwy'n falch o wneud datganiad am y gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22, a gyflwynwyd ar 21 Rhagfyr. Yn dilyn degawd o gyni, mae'r gyllideb hon wedi'i gosod yng nghyd-destun y pandemig, sy'n parhau i gael effaith ddofn ar ein bywydau ni i gyd, gyda phobl sy'n agored i niwed yn economaidd ac yn gymdeithasol yn dioddef waethaf. Rydym ni hefyd wedi wynebu diwedd cyfnod pontio'r UE a'r argyfwng hinsawdd parhaus, ac roeddem yn wynebu setliad cyllideb siomedig gan Lywodraeth y DU yn eu cylch gwariant un flwyddyn. Bydd ein cyllideb refeniw graidd ar gyfer gwariant dydd i ddydd y pen yn 2021-22 yn parhau'n fwy na 3 y cant yn is mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11. Mae ein cyllideb gyfalaf wedi gostwng 5 y cant o'i chymharu â'r llynedd. Rydym ni wedi gweld torri addewidion o ran cyllid ar ôl gadael yr UE, gan ein gadael yn waeth ein byd y flwyddyn nesaf, gyda'r holl weinyddiaethau datganoledig yn cael eu gadael yn y niwl o ran eu cyfran o'r gronfa gydbwyso. Er ein bod yn croesawu'r £766 miliwn o gyllid COVID ar gyfer 2021-22, mae hyn yn llawer llai na'r £5 biliwn a ddyrannwyd i Gymru eleni, ac rwy'n pryderu y bydd penderfyniadau llywodraeth y DU ar y funud olaf un yn golygu unwaith eto ein bod yn dysgu am gymorth pellach heb ymgysylltu ymlaen llaw.

Gan droi at elfennau allweddol ein cyllideb, mae'r gyllideb hon yn gwneud defnydd llawn o'n pwerau trethu datganoledig. O 22 Rhagfyr, rwyf wedi dod â rheoliadau treth i rym i gynyddu refeniw i gynnydd o 1 pwynt canran yng nghyfradd breswyl uwch y dreth trafodiadau tir. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn cefnogi busnesau drwy gynyddu'r trothwy cychwynnol o 50 y cant ar gyfer cyflwyno treth trafodion tir ar drafodion eiddo busnes. Ni fydd y rhan fwyaf o fusnesau sy'n prynu eiddo dibreswyl sy'n costio llai na £225,000 bellach yn talu unrhyw dreth trafodion tir. Gyda'i gilydd, bydd y newidiadau hyn yn cynhyrchu tua £13 miliwn bob blwyddyn, sydd, y flwyddyn nesaf, yn cefnogi buddsoddiad mewn tai cymdeithasol.

O fis Ebrill 2021, bydd cyfraddau'r dreth gwarediadau tirlenwi yn cynyddu yn unol â chwyddiant i gefnogi ein nod o leihau gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi, yn gyson â chyfraddau'r DU i ddiogelu rhag trosglwyddo gwastraff dros y ffin. Yn unol â'n hymrwymiad i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod tymor y Senedd hon, bydd y cyfraddau ar gyfer 2021-22 yn aros yn ddigyfnewid, ar 10c ym mhob un o'r tair cyfradd.

Gan droi at fenthyca, mae ein setliad cyfalaf cyfyngedig yn golygu bod yn rhaid inni fanteisio i'r eithaf ar y dulliau cyflawni sydd ar gael inni. Byddwn yn benthyca £150 miliwn yn 2021-22—yr uchafswm y gallwn ei gael o dan y fframwaith cyllidol—gan ddefnyddio £125 miliwn o refeniw o gronfa wrth gefn Cymru hefyd.

Er gwaethaf yr amgylchiadau hyn, rydym yn manteisio i'r eithaf ar y cyllid sydd ar gael i ni i ddiogelu iechyd y cyhoedd a'r economi, i adeiladu dyfodol gwyrddach, a sbarduno newid i greu Cymru decach a mwy cyfartal. Mae ein hymrwymiad i ddiogelu iechyd a gwasanaethau cyhoeddus wrth wraidd ein dull gweithredu. Rydym yn darparu £420 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys hwb o £10 miliwn i grant y gweithlu gofal cymdeithasol a £33 miliwn ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Ynghyd ag ymyriadau eraill, mae hyn yn golygu ein bod yn buddsoddi mwy na £42 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl.

Rydym yn darparu'r setliad gorau posib i lywodraeth leol o dan yr amgylchiadau ariannol presennol, gyda £176 miliwn i gefnogi pwysau ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Rydym yn buddsoddi mewn addysg, gan gynnwys £20 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi'r cynnydd a ragwelir yn nifer y myfyrwyr sy'n cofrestru yn y chweched dosbarth ac addysg bellach. Rydym yn cynyddu buddsoddiad mewn tai fforddiadwy a thai cymdeithasol i £200 miliwn y flwyddyn nesaf, gan ddarparu 3,500 o gartrefi newydd ychwanegol, yn ogystal â £40 miliwn ychwanegol ar gyfer grantiau cymorth tai i gefnogi ein nod o roi terfyn ar ddigartrefedd.

Mae'r argyfwng hinsawdd yn parhau i fod â lle amlwg yn ein cynlluniau. Gan adeiladu ar y pecyn buddsoddi cyfalaf gwerth £140 miliwn a gyhoeddwyd y llynedd, rydym yn dyrannu £97 miliwn ychwanegol i hyrwyddo datgarboneiddio a gwella bioamrywiaeth ymhellach. Byddwn yn adeiladu dyfodol gwyrddach, gyda £40 miliwn ychwanegol ar gyfer seilwaith addysg fodern, gan gynnwys £5 miliwn ar gyfer cynllun treialu ysgolion sero-net a £5 miliwn arall i ddatblygu coedwig genedlaethol Cymru. Byddwn yn parhau i ddatgarboneiddio trafnidiaeth, gan roi hwb o £20 miliwn i gyllid teithio llesol a darparu cyfanswm buddsoddiad o £275 miliwn mewn rheilffyrdd a metro. Bydd £20 miliwn arall hefyd yn cael ei neilltuo i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a chefnogi rhaglenni ynni adnewyddadwy.

Mae'r gyllideb hon yn rhoi ein gwerthoedd o degwch a chydraddoldeb ar waith. Ochr yn ochr â chymorth wedi'i dargedu i'r rhai mwyaf agored i niwed, bydd £13.4 miliwn ychwanegol yn cefnogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys £8.3 miliwn i ddatblygu ein diwygiadau blaenllaw i'r cwricwlwm. Rydym yn buddsoddi mwy i helpu gweithwyr ar incwm isel i uwchsgilio ac ailhyfforddi, gyda hwb o £5.4 miliwn i'r cyrsiau rhydd a hyblyg a gynigir drwy gyfrifon dysgu personol.

Er bod gennym ni obaith nawr yn sgil y brechlynnau, mae llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch y dyfodol ac effaith y pandemig parhaus. Rydym yn darparu pecyn ymateb cychwynnol i COVID o £77 miliwn, i roi sicrwydd lle mae ei angen fwyaf. Rwy'n falch bod hyn yn cynnwys Cymru'n parhau i arwain y ffordd o ran prydau ysgol am ddim, gyda £23 miliwn ychwanegol i warantu prydau bwyd drwy'r gwyliau hyd at y Pasg, 2022. Fodd bynnag, o ystyried yr ansicrwydd sylweddol sydd o'n blaenau, rwy'n dal gafael ar weddill cyllid COVID, gyda dyraniadau eraill posib yn y gyllideb derfynol yn canolbwyntio'n benodol ar gymorth i'r GIG a llywodraeth leol.

Er gwaethaf yr amgylchiadau mwyaf heriol yr ydym ni wedi'u hwynebu ers dros 20 mlynedd o ddatganoli, rwy'n falch bod y gyllideb hon yn diogelu, yn adeiladu ac yn newid er mwyn sicrhau Cymru fwy ffyniannus, mwy cyfartal a gwyrddach. Diolch, Llywydd.

16:05

Nick Ramsay.

Mae'n ymddangos ein bod yn cael trafferth eich clywed chi, Nick Ramsay, er nad yw'n ymddangos eich bod wedi eich tawelu.

A dyna fi'n credu bod y cyfan yn mynd i redeg yn llyfn, a minnau wedi dad-dawelu, ac rwyf wedi curo fy hun.

Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog, am y datganiad.

Rwy'n sylweddoli bod y datganiad hwn wedi'i gwtogi heddiw oherwydd cyfyngiadau amser, felly byddaf yn gryno. Rydym yn amlwg yn mynd drwy gyfnod heriol iawn fel gwlad, o ran iechyd y cyhoedd ac yn ariannol, fel y mae'r Gweinidog Cyllid newydd gyfeirio ato, ac mae cyfnod heriol yn gofyn am gyllideb sy'n gwneud y mwyaf o bob punt yng Nghymru. Nawr, er gwaethaf barn eithaf negyddol y Gweinidog—ar un adeg, beth bynnag—ynghylch y ffaith bod gwariant refeniw wedi gostwng o'i gymharu â 2010-11, mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi golygu bod gwariant Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'n sylweddol, 4.6 y cant mewn termau arian parod, i dros £22 biliwn.

Rwyf yn credu, wrth ymateb i'r ddadl hon, y byddai'n dda cael rhywfaint o eglurder gan y Gweinidog ynglŷn â'r mater hwn ynghylch cyllid heb ei ddyrannu, sydd wedi'i godi'n gynharach heddiw a thros y dyddiau diwethaf. Nid yw'n glir i mi pam mai dim ond £77 miliwn o ddyraniad cyllid y flwyddyn i ddod sydd eto i'w ddyrannu, ac mae pryderon o hyd nad yw £1 biliwn o gyllid COVID-19 o eleni wedi'i wario ychwaith—fel y dywedais, mater a godwyd yn gynharach. Felly, pe baem yn clywed gan y Gweinidog ynghylch yr hyn sy'n digwydd, byddai hynny'n ddefnyddiol.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'n gyson am gynllun adfer i Gymru, nid yn unig i dywys Cymru drwy bandemig presennol COVID-19, ond hefyd i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen ar Gymru yn y dyfodol, ac i weld newid trawsnewidiol yn y gwasanaethau cyhoeddus hynny. Nawr, gwyddoch ein bod yn siarad llawer yn y Siambr hon—ac, yn wir, y Siambr rithwir hon, ac fe wnaeth y Gweinidog yn gynharach—ynghylch ailgodi'n well ac ailgodi'n wyrddach, ac rwy'n cytuno â phob un ohonyn nhw, ond mae yngan geiriau, wrth gwrs, yn hawdd. Y cwestiwn yw: a yw'r gyllideb hon yn darparu'r chwyldro ariannol a'r cynllun adfer y mae mawr eu hangen ar economi Cymru? Ac rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni aros am yr ateb.

Gan droi at y newidiadau trethiant yn y gyllideb ddrafft, mae ardrethi busnes yma yn parhau i fod yn rhai o'r uchaf yn y DU, gyda busnesau llai yn talu cyfrannau tebyg i fusnesau mwy. Mae treth trafodiadau tir ar gyfer eiddo annomestig yn aros yn ddigyfnewid, o'r hyn y gallaf ei gasglu, tra bod y penderfyniad i newid treth trafodiadau tir ar gyfer tai gwerth rhwng £180,000 a £210,000 yn ôl i'r lefelau cyn y pandemig o 3.5 y cant yn codi pryderon yn y sector tai. Ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog, fel fi, eisiau helpu prynwyr tro cyntaf—rydym ni eisiau helpu pobl i gael troedle yn y farchnad dai—felly hoffwn glywed gennych chi sut y bydd y gyllideb hon yn helpu i gyflawni hynny.

Fel y soniodd y Gweinidog yn ei datganiad, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £5.2 biliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â COVID-19 dros y naw mis diwethaf, ar ben codiadau blaenorol. Felly, credaf fod y blwch gwariant wedi'i dicio'n glir, ond credaf mai'r hyn sy'n dal i fod yn ddiffygiol i ryw raddau yw dull mwy creadigol wedi'i dargedu i gyflawni cynllun adfer i Gymru, a chredaf mai dyna yw ein hamcan hirdymor fel Senedd

Felly, mae arnom ni angen cyllideb a fydd yn galluogi Cymru i ailgodi'n well a sicrhau dyfodol mwy disglair. Oes, mae'n rhaid i'r broses o fynd i'r afael â newid yr hinsawdd fod yn ganolog i hyn. Hoffai'r Ceidwadwyr Cymreig weld y system drafnidiaeth well y soniodd y Gweinidog amdani, ac, wrth gwrs, mae'r pandemig wedi dangos nad oes angen i ni fod mor ddibynnol ar seilwaith trafnidiaeth ffisegol yn y dyfodol ag yr ydym ni wedi bod yn y gorffennol, gyda mwy o bobl yn gweithio gartref. Ond ni all hynny ond gweithio yn y tymor canolig a'r tymor hir os caiff seilwaith band eang Cymru ei uwchraddio, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

O ran busnes, er bod cymorth ariannol yn y gyllideb hon i'w groesawu, mae'n hanfodol ein bod yn cael cymorth i fusnesau'n gyflym. Effeithiodd y flwyddyn diwethaf yn arbennig o wael ar sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, fel y gwyddom ni i gyd, ac yn sicr nid ydym ni eisiau gweld unrhyw gronfa rhyddhad economaidd yn cael ei chyflwyno'n wael, fel grant datblygu cam 3, lle gwelsom y grant datblygu wedi'i atal oriau ar ôl ei agor, oherwydd nifer yr ymgeiswyr.

Felly, hoffwn i'r Gweinidog ystyried dulliau mwy arloesol o gefnogi busnesau yng Nghymru. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gweld buddsoddiadau yn ein busnesau bach a chanolig eu maint, sylfaen ein heconomi, ond mae'n hawdd beirniadu, onid yw, ac rwy'n cydnabod hynny. Beth yw'r dewisiadau eraill? Wel, gallwn gynnig rhaglen datblygu cymunedol COVID, parthau heb ardrethi busnes, a allai gynnwys tair blynedd o ardrethi am ddim, gan ganiatáu iddyn nhw fuddsoddi yn eu gweithlu. Felly, byddwn yn annog y Gweinidog i ystyried yr holl gyfleoedd hyn wrth i ni fynd rhagddom ni i geisio adeiladu economi fwy creadigol a deinamig wrth i'r cyfyngiadau symud lacio.

Rydych chi wedi sôn eich bod yn buddsoddi £5 miliwn, Gweinidog, i uwchsgilio ac ailhyfforddi gweithwyr incwm isel, ond a yw'n wir y bu toriad mewn termau real i rai cynlluniau addysg cyflogwyr? Rwy'n meddwl am y gyllideb cyflogadwyedd a sgiliau hefyd, sydd fel petai wedi cael ei thorri. Felly, onid yw hynny'n wrthgynhyrchiol? A beth am doriadau i'r gyllideb datblygu seilwaith economaidd, gan gynnwys toriadau mewn termau real i weithrediadau seilwaith TGCh? Os ydym ni eisiau ailgodi'n well ac ailgodi'n wyrddach, yna mae angen i ni sicrhau bod y seilwaith gwyrdd hwnnw yn bodoli.

Ac yn olaf, Llywydd, os oes gennyf rywfaint o amser, gan droi at gyfraddau treth incwm Cymru, rydych chi wedi ailadrodd y bydd cyfraddau treth incwm Cymru yn aros yr un fath ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon, felly mae hynny'n galonogol. Fodd bynnag, nid oes gennym ni sicrwydd o hyd na fydd y dreth honno'n newid ar ôl yr etholiad. Rwy'n siŵr na fyddwch yn dweud wrthym ni heddiw, oherwydd mae hynny i gyd ar y gweill ym maniffesto Llafur Cymru, rwy'n siŵr, ond pe gallem ni gael rhywfaint o arweiniad ynghylch pryd y gallwn ni ddisgwyl cyhoeddiadau am newidiadau treth yn y dyfodol. Mae hwn yn faes newydd ac arloesol i Lywodraeth Cymru, ac mae'n bwysig ein bod yn llwyddo gyda hyn ar y dechrau, fel nad ydym yn ceisio dal i fyny yn nes ymlaen. Ond, ie, gadewch i ni ailgodi'n wyrddach ac ailgodi'n well.

16:15

Diolch am y datganiad ar y gyllideb, sydd wrth gwrs yn dod mewn amgylchiadau anodd tu hwnt. Os ydym ni'n edrych ar y flwyddyn ryfeddol sydd wedi bod, mae hi wedi dod yn gliriach nag erioed, efallai, fod y cyfyngiadau mae Trysorlys y Deyrnas Unedig yn eu rhoi ar Lywodraeth Cymru a'i gallu i gynllunio ymlaen yn broblem ddifrifol iawn i ni yma yng Nghymru, a'r rhwystredigaethau o gwmpas hynny ydy nodwedd ffisgal fwyaf amlwg y pandemig yma heb os.

O edrych ar y gyllideb ddrafft o'n blaenau ni, mae yna nifer o bethau i'w croesawu, yn sicr, o ran gwariant. Os edrychwn ni ar rai o'r ffigurau pennawd: y £40 miliwn ychwanegol i'r grant cymorth tai; yr £20 miliwn i gefnogi teithio llesol dwi'n ei gefnogi a'i groesawu; dros £20 miliwn i ymateb i bwysau demograffeg ar addysg chweched dosbarth ac addysg bellach, sydd yn hanfodol; arian i gefnogi diwygiadau cwricwlwm, i wasanaethau iechyd meddwl cymunedol ac mewn ysgolion. Mae yna symiau sylweddol—rhyw £274 miliwn—wedi'u neilltuo ar gyfer y rhwydwaith rheilffordd a metro, er y buasai'n dda, os caf i ofyn hyn yn gynnar fel hyn, cael manylion gan y Gweinidog am sut y bydd hynny'n cael ei wario. 

Hefyd, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn sicr yn croesawu penderfyniad y Llywodraeth ar y dreth trafodion tir. Mae impact ail gartrefi ar ein cymunedau ni yn fater y mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu'n hir arno fo. Mi barhawn ni i wneud hynny. Dwi'n falch bod y Llywodraeth yn barod i drafod efo ni, ac yn trafod efo ni ar hyn o bryd, yr ystod o gamau rydym ni eisiau eu gweld yn cael eu cymryd i warchod ein marchnad dai ni, tu hwnt i'r newidiadau treth trafodion tir. Yn wir, mae angen gweithredu brys ar hyn, a dwi'n gwneud yr apêl yna eto i'r Gweinidog. 

Llywydd, gaf i droi at yr arian sydd wedi dod fel arian canlyniadol—arian consequential—i Gymru ar gyfer delio efo'r pandemig yn benodol? Cyn gwneud hynny, gaf i bwyntio allan bod pob gwlad annibynnol yn gallu gwneud ei phenderfyniadau ei hun ynglŷn â chynyddu gwariant ar adeg eithriadol fel yma? Does gan Gymru ddim yr hawl i gynyddu gwariant ar iechyd, er enghraifft. Rydym ni ond yn gallu cael arian ychwanegol i ddelio efo heriau iechyd y pandemig yma pan fo Lloegr yn penderfynu gwario mwy ac rydym ni'n cael arian canlyniadol. Mae hynny'n amlwg yn annerbyniol. Mae o'n wir ar gyfer pob maes o wariant cyhoeddus hefyd, wrth gwrs, ac mae'n bwysig bod pobl yn deall hynny, achos mae'n ddadl gwbl greiddiol o blaid annibyniaeth i Gymru, a does gennym ni prin ddim pwerau benthyg chwaith, a fuasai'n cynnig opsiwn arall o ran hyblygrwydd.

Ond yn ôl at y defnydd o'r arian canlyniadol yna sydd wedi dod i Gymru, yn y Pwyllgor Cyllid mi eglurodd y Gweinidog Cyllid sut bod £766 miliwn o arian canlyniadol wedi cael ei roi i'r Llywodraeth. Mae rhyw 10 y cant, dwi'n meddwl, o hynny—£77 miliwn—wedi cael ei glustnodi. Rŵan, nid fy ngwaith i ydy amddiffyn y Llywodraeth, ond dwi'n credu bod y Llywodraeth yn iawn i fod yn ofalus iawn wrth glustnodi'r arian yma a gwneud yn siŵr bod arian wrth gefn, os leiciwch chi, yn cael ei gronni i'w wario dros y flwyddyn nesaf. Mae yna bandemig sy'n taflu heriau newydd atom ni dro ar ôl tro, ac mae angen cronfa i allu troi ati hi, yn enwedig o ystyried ein diffyg hyblygrwydd ffisgal, fel dwi wedi cyfeirio ato fo. Dwi'n gweld y Ceidwadwyr yn dadlau y dylid clustnodi'r holl arian. Dwi ddim yn credu bod hynny'n beth synhwyrol i'w wneud ar y pwynt yma ac efallai y dylen nhw drio perswadio eu meistri nhw yn Llundain i roi setliad gwell i Gymru. Felly, ydy, mae'r Llywodraeth yn iawn i gronni arian. Ond, wedi dweud hynny, gadewch imi roi fy het ymlaen fel llefarydd iechyd Plaid Cymru am funud hefyd.

Dwi yn eiddgar iawn i weld sut mae'r £689 miliwn sy'n weddill yn cael ei dargedu'n effeithiol, yn enwedig pan mae'n dod at y rhaglen frechu. Does yna ddim sgimpo i fod ar y rhaglen honno. Ond mae hefyd, wrth gwrs, angen i ni fod â golwg clir, rŵan, ar y cyfnod ar ôl y pandemig a'r gwaith ailadeiladu sydd yna i'w wneud. Rydym ni angen sicrhau bod cronfa adfer werdd gynhwysfawr ac uchelgeisiol yn cael ei rhoi mewn lle. Efallai y gall y Gweinidog ddweud i ba raddau y gall peth o'r arian canlyniadol gael ei ddefnyddio i'r diben hwnnw.

Gair eto, i gloi, am yr hyn y gwnes i gyfeirio ato fo ar y dechrau, sef y rhwystredigaeth ar y cyfyngiadau sy'n cael eu gosod ar Lywodraeth Cymru gan Drysorlys y Deyrnas Unedig. Bydd y Gweinidog yn gwybod yn iawn o'r hyn dwi wedi bod yn galw amdano fo ers dechrau y cyfnod clo cyntaf, ac mi wnaf ei ailadrodd eto: mae'n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig godi, o leiaf dros dro, y cyfyngiadau sydd wedi'u gosod ar allu Llywodraeth Cymru i fenthyg, i dynnu arian i lawr o'r gronfa wrth gefn ac i allu defnyddio arian cyfalaf ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd. Rhowch y pwerau inni edrych ar ôl pobl Cymru. Dydy'r Trysorlys yn dal ddim wedi ymateb yn bositif i hynny, felly gawn ni ddiweddariad, os gwelwch yn dda, ar lle rydym ni arni o ran y trafodaethau hynny? Mi oeddem ni angen gweithredu brys ar ddechrau'r pandemig ac mi fydd angen gweithredu brys a'r hyblygrwydd i allu gweithredu ar frys pan awn ni i mewn i'r mode adfer. Dydy'r grant ddim yn ddigonol ac mae gwendidau'r setliad ffisgal wedi dod i'r amlwg hefyd. Mae angen ailhafalu ein heconomi a chodi plant allan o dlodi a chefnogi'n busnesau ni a hefyd, wrth gwrs, cydnabod cyfraniad amhrisiadwy ein gweithwyr ar y rheng flaen.

16:20

Mae'r gyllideb hon yn cyflawni tri pheth. Yn gyntaf, mae'n darparu'r cyllid angenrheidiol i ymdrin â'r pandemig; yn ail, mae'n cefnogi'r adferiad economaidd; ac yn drydydd, mae'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Nod y gyllideb ddrafft hon yw diogelu iechyd a'r economi, adeiladu dyfodol gwyrddach a chreu newid i sicrhau Cymru fwy cyfartal.

Mae'r pandemig wedi cyflymu tueddiadau sydd wedi bod yn digwydd dros nifer o flynyddoedd: mwy o weithio gartref; mwy o gyfarfodydd ar-lein gan arwain at lai o deithio i'r gwaith a chyfarfodydd; a mwy o fanwerthu ar-lein. Mae'r pandemig wedi rhoi hwb i'r newidiadau hyn. O ran yr economi, mae angen inni allu ymateb i'r byd newydd. Os yw pobl yn gweithio gartref yn bennaf, yna a oes angen iddyn nhw fyw o fewn cyrraedd gwasanaethau trafnidiaeth i'w gweithleoedd? Mae angen inni ddod yn fan lle mae pobl yn adleoli i weithio yma. Mae hyn yn golygu y gallem ni ddenu cyflogaeth â chyflog uwch ac y gallem ni ddatblygu'r economi'n sectorau â chyflog uwch. Mae ein heconomi'n wan mewn meysydd â chyflogau uwch fel TGCh, gwyddorau bywyd a gwasanaethau proffesiynol. Mae hwn yn gyfle i ddatblygu'r meysydd hyn yn ein heconomi. Os yw pobl yn teithio llai, a oes angen inni wella rhwydweithiau ffyrdd drwy ehangu ffyrdd ac adeiladu ffyrdd osgoi? Nid fi yw'r unig, un 'does bosib, i sylwi bod y rhybuddion traffig rheolaidd am broblemau ar yr A470 a'r M4 wedi diflannu, ac eithrio pan fu damweiniau, ers dechrau'r pandemig.

Rhaid i ailgodi'n well olygu bod gweithio gartref yn parhau, o bosib gydag ymweliad achlysurol â man canolog neu fan rhanbarthol. Mae Zoom a Teams ar gyfer cyfarfodydd bach yn gweithio, fel yr ydym ni i gyd wedi canfod, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n parhau. Rhaid inni wneud ein heconomi sylfaenol yn sectorau â chyflog uchel, nid sectorau cymorth lleol na sectorau cyflogau isel. Os edrychwch chi ar Silicon Valley, gwyddom beth yw eu heconomi sylfaenol. Cofiwch mai'r offeryn datblygu economaidd mwyaf effeithiol yw cyrhaeddiad addysgol. Sicrhewch fod ein pobl ifanc yn fwy cymwys ac yna bydd cwmnïau'n dod heb i ni orfod eu llwgrwobrwyo.

O ran iechyd, croesawaf y cynnydd mewn gwariant o £420 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, sy'n cynnwys hwb o £10 miliwn i'r grant gofal cymdeithasol sydd bellach yn £50 miliwn. Y flaenoriaeth gyntaf yw dileu lledaeniad y feirws. Rhaid i frechu fod y modd i ddod allan o hyn. Bydd angen i bobl, wrth gwrs, ddilyn y rheolau ynghylch cadw pellter, golchi dwylo a mygydau. Ar ôl y pandemig a brechu ar raddfa fawr, mae angen inni wella canlyniadau iechyd. Gwyddom fod disgwyliad oes, am y tro cyntaf ers yr ail ryfel byd, wedi dechrau lleihau cyn y pandemig. Gwyddom hefyd nad oes nifer o ymyriadau meddygol wedi digwydd oherwydd y pandemig. Rydym yn gwybod am y marwolaethau oherwydd COVID, rydym yn gwybod am nifer y marwolaethau bob blwyddyn oherwydd gwahanol gyflyrau meddygol, pa rai sydd wedi lleihau am na fu ymyriadau? Credaf fod hwnnw'n bwynt allweddol. Rydym bob amser yn credu bod ymyrraeth feddygol yn sicr o fod yn dda. Gellid gwneud dadansoddiad o enghreifftiau lle mae methu ymyrryd wedi arwain at well canlyniad iechyd.

Rwyf fi, wrth gwrs, yn croesawu'r £176 miliwn i lywodraeth leol i gefnogi ysgolion, gofal cymdeithasol a'r gwasanaethau lleol ehangach yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw, a'r £40 miliwn ychwanegol ar gyfer y grant cymorth tai i roi terfyn ar ddigartrefedd. Mae tai cymdeithasol fforddiadwy yn tyfu i £200 miliwn y flwyddyn nesaf, gan arwain at greu swyddi a chynyddu hyfforddiant, gan ddarparu 3,500 o gartrefi newydd ychwanegol. O ran yr amgylchedd, mae taer angen adnoddau ychwanegol ar Gyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni'r gwaith rheoli llygredd a ddarparwyd yn flaenorol gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae'n methu â gwneud yr hyn a arferai gael ei wneud yn effeithiol iawn gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Yn olaf, mae'r arian a wariwn ar wasanaethau'r Comisiwn yn arian nad yw felly ar gael ar gyfer gwasanaethau. Cytunaf ag arweinydd yr wrthblaid fod angen inni leihau cost gwasanaethau'r Comisiwn.

Soniodd Rhun ap Iorwerth am gael Cymru annibynnol. Nid oes gennyf broblem ynghylch hynny. A wnaiff lunio, er mwyn i bob un ohonom ni ei gweld, yr hyn yw cyllideb ddrafft ar gyfer Cymru annibynnol petaem yn cael Cymru annibynnol y flwyddyn nesaf? Dangoswch y peth i ni. Ac a wnewch chi ddweud wrth eich cefnogwyr beth yw'r gwahaniaeth rhwng cyllideb a datganiad o gyfrifon? Mae rhai ohonyn nhw wedi'u drysu'n lân gan y ddau. Yn wir, mae'n debyg bod hyn cystal â'r hyn a gawn ni gyda'r arian sydd gennym ni, ac edrychaf ymlaen at gefnogi'r gyllideb ar ei ffurf derfynol ar ddiwedd trafodaethau ein Pwyllgor Cyllid. Diolch.

16:25

Diolch i'r Gweinidog am amlinellu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Mae'r ffaith ein bod ni hyd yn oed yn gallu trafod y gyllideb hon yn rhyfeddol, o ystyried heriau'r 12 mis diwethaf. Gwn fod y Gweinidog wedi beirniadu diffyg cynllun gwariant tair blynedd gan Lywodraeth y DU, ond rhaid ichi dderbyn ei bod hi bron yn amhosibl cynllunio yn y cyfnod ansicr hwn.

Nid ydym yn gwybod beth fydd yn digwydd yr wythnos nesaf, heb sôn am y flwyddyn nesaf na'r flwyddyn wedyn. Mae'n ei gwneud hi'n anodd cynllunio ar gyfer gwariant yn y dyfodol. Fodd bynnag, o ystyried mai hon, mae'n debyg, yw cyllideb olaf y Senedd hon, gall, ac fe ddylai'r chweched Senedd fod yn gyfrifol am flaenoriaethau gwario ar gyfer y blynyddoedd i ddod, gan nad ydym ni yn gwybod pwy fydd Llywodraeth nesaf Cymru, na phwy fydd yn gyfrifol am bennu'r gyllideb honno ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Nid ar gyfer dyrannu gwasanaethau o ddydd i ddydd yn unig y mae cyllideb o tua £20 biliwn. Mae ynglŷn â sut rydym ni'n nodi polisïau strategol ar gyfer gwella ein cenedl. Gan edrych y tu hwnt i effaith COVID-19, mae Cymru'n wynebu heriau mawr, ac mae'n rhaid i ni ymdrin ag effaith newid hinsawdd. Dinistriodd llifogydd gymunedau Cymru yn ystod 2020, ac eto gwelwn rewi'r gyllideb i ddatblygu a gweithredu polisi newid hinsawdd, effeithlonrwydd ynni, twf gwyrdd a diogelu'r amgylchedd. Rydym hefyd yn gweld rhewi cyllidebau diogelu rhag llifogydd a thoriadau i'r cyllid ar gyfer y corff sy'n gyfrifol am atal llifogydd a diogelu ein hamgylchedd. Felly, sut y gallwn ni gyfiawnhau torri cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod argyfwng hinsawdd? Byddai hynny fel torri'r gyllideb iechyd yn ystod y pandemig hwn. Diolch byth, nid yw hyn yn digwydd, ac mae iechyd yn parhau i gynrychioli dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, fel sy'n digwydd yn aml, mae sut rydych chi'n gwario'r arian yr un mor bwysig â'r swm, os nad yn bwysicach na hynny.

Gwaddol pandemig COVID fydd ei effaith ddinistriol ar iechyd meddwl ein dinasyddion. Ac eto, mae iechyd meddwl yn dal i ddioddef yn wael o ran gwariant o'i gymharu ag iechyd corfforol, a chroesawaf y cynnydd yn ôl chwyddiant i'r hyn a neilltuir ar gyfer iechyd meddwl y GIG. Ond nid yw hyn hanner digon o hyd, ac roeddwn wedi gobeithio y byddai gan iechyd meddwl a llesiant ei brig grŵp gwariant ei hun, ac na fyddai'n cael ei chynnwys gyda'r Gymraeg. Dylai'r prif grwpiau gwariant adlewyrchu blaenoriaethau gwario, nid portffolios gweinidogol.

Rhan o'r rheswm pam mae angen mwy o ganolbwyntio ar iechyd meddwl yw'r dinistr y mae'r coronafeirws wedi'i achosi i'r economi. Rydym mewn perygl o fynd i ddirwasgiad mawr arall. Oni weithredwn ni ar frys i gynnal ein cadernid economaidd, byddwn yn wynebu dyfodol llwm, yn enwedig i genedlaethau'r dyfodol. Rwy'n croesawu'r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar ailgodi'n well. Mae gennym ni gyfle i drawsnewid economi Cymru i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd. Fodd bynnag, mae'n siomedig gweld toriad o bron i £2.5 miliwn yng nghyllideb twf cynhwysol a diogelu economi Cymru yn y dyfodol.

Mae'r coronafeirws nid yn unig wedi achosi niwed mawr i'n heconomi, mae hefyd wedi dargyfeirio cyllid y mae mawr ei angen, o ddiogelu economi Cymru tuag at gefnogi busnesau sydd wedi cau o ganlyniad i ymdrechion i atal lledaeniad y feirws. Fodd bynnag, ni allwn ni fforddio bod yn gibddall. Mae angen inni fuddsoddi mewn trawsnewid economi Cymru er mwyn ymdopi â'r newid hinsawdd, mwy o awtomeiddio a phandemigau yn y dyfodol. Ac er nad oeddem yn barod am COVID, mae'n rhaid inni fod yn barod y tro nesaf, neu fel arall ni fydd gennym ni gyllid ar gyfer ysgolion, ysbytai, athrawon a meddygon. Felly, mae angen i ni ymdrin â heddiw, ond mae angen i ni baratoi ar gyfer yfory, ac nid wyf yn credu bod y gyllideb hon yn gwneud digon o'r naill na'r llall. Diolch yn fawr.

16:30

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei chyflwyniad i'r ddadl hon. Dyma'r gyllideb fwyaf gwleidyddol yr wyf wedi'i hystyried yn fy amser yma. Mae gennym y cyfuniad nid yn unig o'r pandemig, ond effaith barhaus cyni, cawn effaith Brexit, gwyddom fod gennym ni effaith newid hinsawdd, a chredaf fod gennym ni hefyd argyfwng anghydraddoldeb sy'n golygu bod angen i anghenion y gyllideb hon ddiwallu nid yn unig Cymru fel gwlad, yn ei chyfanrwydd, fel cenedl, ond hefyd anghenion y bobl sydd wedi dioddef effaith cyni dros y degawd diwethaf hefyd, ac mae'r rheini'n heriau gwirioneddol.

Croesawaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru, dros flynyddoedd lawer, gan wneud hynny yn y gyllideb hon hefyd, wedi diogelu gwasanaethau lleol allweddol. Nid ydym ni wedi preifateiddio'r gwasanaeth iechyd gwladol, ac rydym ni wedi buddsoddi mewn pobl ac nid ydym ni wedi rhoi contractau i ffrindiau ac i roddwyr. Dyna werthoedd Llywodraeth sydd mewn cysylltiad â gwerthoedd Cymru a'r gwerthoedd y bydd eu hangen arnom ni i'n harwain wrth inni drafod y ffordd yr ydym yn dod allan o gysgod y pandemig hwn, y gwerthoedd sy'n golygu nad yw plant yng Nghymru yn cael gwerth £5 o fwyd am wythnos neu am dri diwrnod neu am bythefnos—sefyllfa echrydus sy'n pardduo'r Llywodraeth dros y ffin yn Lloegr.

Serch hynny, mae'r Llywodraeth hon yn wynebu rhai heriau gwirioneddol. Yr her gyntaf y mae'n ei hwynebu yw ei pholisi cyllid. Y peth hawsaf yn y byd yw creu'r llinellau sy'n rhannu, fel yr wyf newydd ei wneud, rhyngom ni a'r Llywodraeth yn San Steffan. Ond a yw'n ddigon os ydym am ailgodi Cymru mewn ffordd wahanol? A yw'r arian sydd ar gael inni yn rhoi inni'r arfau y mae arnom eu hangen er mwyn gwneud hynny? Yn bersonol, dydw i ddim yn credu hynny. Credaf fod cyfraddau trethiant y Torïaid wedi ceisio ysgafnu'r baich ar yr ysgwyddau lletaf ond nid ydyn nhw wedi darparu'r arfau y mae arnom ni eu hangen er mwyn mynd i'r afael ag argyfwng anghydraddoldeb. Yn bersonol, mae angen inni ddarparu mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac mae angen inni ddarparu mwy o gyllid a mwy o fuddsoddiad yn y gwannaf a'r di-rym yn ein cymdeithas, ac mae hynny'n golygu gwneud y penderfyniadau anodd ynghylch trethiant. Nid yw'r gyllideb hon yn gwneud hynny, a chredaf fod angen inni gael y sgwrs galed ac anodd honno, ac nid dim ond codi a rhoi rhestr siopa o hoff bynciau i'w hariannu.

Wrth fuddsoddi yn y sector cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus, ni all neb gefnogi strwythur presennol y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn ystod y 12 mis diwethaf rydym ni wedi gweld pŵer y sector cyhoeddus yn rym llesol ledled Cymru. Ni fyddem wedi gallu ymateb i'r pandemig yn y ffordd a wnaethom ni pe baem ni wedi cael sector cyhoeddus wedi'i breifateiddio. Ond gwyddom nad yw'r sector cyhoeddus hwnnw'n addas i'r diben, ac ni allwn ni roi arian i'r sector cyhoeddus hwnnw heb ddiwygio'r sector cyhoeddus hwnnw hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei wynebu ac y mae angen iddi ei wynebu.

Wrth fuddsoddi yn y cymunedau hynny sydd wedi cael eu taro galetaf gan gyni, mae angen i'r pecyn ymateb ar ôl COVID fod yn sail i gynllun adfer economaidd ar gyfer economi Cymru, ond hefyd i gynllun ailddatblygu economaidd. Soniaf am Flaenau Gwent oherwydd fy etholaeth i yw hi, ond mae holl ranbarth Blaenau'r Cymoedd wedi cael ei daro'n wael gan ganlyniadau economaidd dewisiadau gwael cyni dros flynyddoedd lawer. Rydym eisiau gweld adfywiad, dadeni ein trefi, ein trefi yn y Cymoedd, ond hefyd, mewn rhannau eraill o Gymru, ein trefi marchnad, ac ni fydd hynny'n digwydd oni bai ein bod yn buddsoddi yn ein pobl a'n lleoedd a'n cymunedau. Mae angen inni allu sicrhau—ac mae hwn yn un maes lle yr wyf yn cytuno â Mike Hedges—. Mae effaith y pandemig wedi dysgu ffordd wahanol i ni o weithio a ffordd wahanol o fyw, ac mae angen inni allu rhoi hynny ar waith. Beth mae hynny'n ei olygu i dref fel Tredegar neu dref fel Glynebwy neu dref fel Aberdâr neu Faesteg? Beth mae'n ei olygu i ni yn y dyfodol?

Ac yn olaf, Llywydd, hinsawdd. Dyma'r argyfwng hirdymor mwyaf sy'n ein hwynebu. Argyfwng ecoleg, argyfwng ein hamgylchedd ac argyfwng ein planed. Un o'r pethau yr ydym ni wedi'i weld dro ar ôl tro yw cyfres o adroddiadau sy'n dweud wrthym fod yr argyfwng hwn yn cyflymu. Nid ydym yn ymateb i'r argyfwng hwnnw gyda digon o frys a digon o bwyslais ar y camau y mae'n rhaid inni eu cymryd. Ac nid mater i'r Llywodraeth yn unig yw hynny; mae'n fater i bob un ohonom ni. Mae'n fater i ni fel cymuned, fel cymdeithas, fel gwlad. Os ydym ni am ganiatáu i genedlaethau yn y dyfodol etifeddu planed sydd naill ai'n blaned y gellid byw arni neu'n blaned y gellir ei hachub, yna mae'n rhaid inni weithredu heddiw. Nid yw'r camau a ddisgrifir yn ddigonol i wneud hynny, a chredaf fod y Llywodraeth yn cydnabod hynny. Felly, mae angen i ni fel cymuned, fel cymdeithas, ofyn y cwestiynau anodd iawn i ni'n hunain ynghylch nid yn unig y gyllideb hon ond yr hyn y mae'n ceisio'i gyflawni ar gyfer ein cenedlaethau ein hunain, ond hefyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

16:35

Mae cyllidebu effeithiol yn ymwneud â faint a pha mor dda y caiff arian ei wario. Yn anffodus, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at fethiannau naill Lywodraeth Lafur Cymru ar ôl y llall wrth reoli ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Yn y flwyddyn cyn y pandemig, dyblodd amseroedd aros y GIG yng Nghymru a chynyddodd wyth gwaith yn ystod y pandemig. Adroddodd Sefydliad Joseph Rowntree y llynedd fod Cymru wedi cadw'r gyfradd tlodi uchaf o holl wledydd y DU drwy gydol datganoli ers 1999. At hynny, canfu eu hadroddiad 'Tlodi yng Nghymru 2020' ddeufis yn ôl fod gan Gymru gyflogau is o hyd i bobl ym mhob sector na gweddill y DU, a hyd yn oed cyn y coronafeirws, fod bron i chwarter y bobl yng Nghymru mewn tlodi, yn byw bywydau ansefydlog ac ansicr. Fel y dywed Sefydliad Bevan:

Roedd tlodi yn broblem sylweddol yng Nghymru ymhell cyn dyfodiad Covid 19.

Mae'r ystadegau brawychus hyn yn tynnu sylw at fethiant naill Lywodraeth Lafur Cymru ar ôl y llall dros fwy na dau ddegawd i ddefnyddio eu hadnoddau a'u cyfrifoldebau datganoledig yn ddigonol i fynd i'r afael ag anghyfiawnderau cymdeithasol hirsefydlog yng Nghymru. Er enghraifft, er iddi wario £0.5 biliwn ar ei pholisi blaenllaw Cymunedau yn Gyntaf, ni wnaeth leihau'r prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif llethol o gymunedau a llai fyth yng Nghymru gyfan. At hynny, mae'r Centre For Towns wedi canfod mai Cymru yw'r ardal sy'n perfformio waethaf yn y DU o ran llesiant economaidd.

Mae'r gyllideb ddrafft hon yn rhoi cymorth cwbl annigonol i'r trydydd sector ac elusennau yng Nghymru sydd ar flaen y gad yn ymateb Cymru i'r pandemig, gan brofi gostyngiad sylweddol mewn incwm hanfodol i gefnogi gwasanaethau. Mae'n nodi y bydd £700,000 ychwanegol yn cael ei ddarparu ar ben y £3 miliwn i gefnogi'r sector yn ei ymateb i COVID-19 a'r gronfa ymateb COVID-19 gwerth £24 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn amcangyfrif bod elusennau yng Nghymru wedi colli tua 24 y cant o'u hincwm eleni, neu £1.2 biliwn ar gyfer elusennau wedi eu lleoli yng Nghymru. Felly, mae angen i'r gyllideb ddrafft hon ganolbwyntio mwy ar helpu ein cymunedau i ailgodi'n well.

Er enghraifft, mae Sefydliad Bevan wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio rhai o'r cannoedd o filiynau sydd heb eu dyrannu o'r £5.2 biliwn ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn rhan o strategaeth fuddsoddi aml-flwyddyn i gefnogi teuluoedd mewn tlodi. Wrth ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, dywedodd CGGC:

'Mae'n rhaid i'r sector gwirfoddol gael cefnogaeth ac adnoddau er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaeth ganolog yn y broses o adfer ar ôl y pandemig,'

a

'rhaid i gyd-gynhyrchu chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ataliol.'

Mae ymateb CGGC i gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach, gan ddweud: 

'Mae'r sector gwirfoddol yn parhau i fod angen mwy o adnoddau i ymateb i'r galw cynyddol ar ei wasanaethau'

'Mae gan drydydd sector ffyniannus ran hanfodol i'w chwarae yn yr agenda atal. Mae gan y sector lawer o grwpiau a sefydliadau sydd wedi datblygu i ddatrys problemau penodol neu eu hatal rhag gwaethygu.'

Mae hefyd yn gallu, meddai,

'dod â manteision ehangach i gymdeithas drwy ymgysylltu â'r gymuned a gwneud i gymunedau deimlo'n fwy grymus a chysylltiedig.'

ac meddai:

'Rhaid i gydgynhyrchu gwasanaethau chwarae rhan allweddol yn hyn.'

Am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, nid yw cyllideb ddrafft yn cynnig torri'r grant cymorth tai, a groesewir, fel y croesewir cyllid ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol. Fodd bynnag, mae Llafur Cymru wedi goruchwylio argyfwng cyflenwi tai fforddiadwy i Gymry, nad oedd yn bodoli pan ddaethant i rym gyntaf ym 1999. Ac er bod y sector yn dweud bod angen 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd arnom ni dros dymor pum mlynedd y Senedd, mae targed Llafur o 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn cynnwys amrywiaeth o fathau o dai, nid cartrefi cymdeithasol yn unig.

O ran llywodraeth leol, er gwaethaf effaith COVID-19 ar wasanaethau a chymunedau lleol yng Nghymru, bydd cynghorau'n cael llai o gynnydd yn eu setliad nag a geir yn y flwyddyn ariannol hon. Unwaith eto, mae cynghorau'r gogledd ar eu colled, gyda chynnydd o 3.4 y cant ar gyfartaledd, o'i gymharu â 4.17 y cant yn y de a 5.6 y cant ar gyfer Casnewydd sydd ar y brig. Ac unwaith eto, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn gwrthod cyllid gwaelodol i ddiogelu cynghorau fel Wrecsam a Cheredigion y disgwylir iddyn nhw ymdopi â chynnydd o ddim ond 2.3 y cant ac 1.96 y cant yn y drefn honno.

Rwyf wedi bod yn dweud wrth naill Lywodraeth Cymru ar ôl y llall, dro ar ôl tro ers blynyddoedd lawer y bydd gweithio gyda'r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol i gynllunio, darparu ac ariannu gwasanaethau allweddol ymyrryd ac atal yn gynnar yn golygu gwario arian yn well, yn cyflawni mwy, yn lleihau pwysau costau ar wasanaethau statudol, ac felly'n arbed mwy o gyllideb Llywodraeth Cymru hefyd.

16:40

Nid wyf yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, felly mae'r hyn yr wyf yn mynd i'w ddweud yn ymwneud mwy o lawer â'r effaith ar fy etholwyr a sut yr wyf yn credu y bydd y gyllideb hon yn gweithio. Mae'n gyllideb anodd iawn, fel y dywedodd Mike Hedges wrthym yn ei gyfraniad da iawn, fel y gwna Mike bob tro. Dywedodd, 'Mae hyn cystal â'r hyn a gewch chi gyda'r arian sydd gennych chi', ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Mae hyn yn anodd iawn. Byddai'n deg dweud bod gennym ni setliad cyllideb siomedig gyda chylch gwario un flwyddyn, a bydd hyn yn cael effaith fawr, nid yn unig ar Lywodraeth Cymru, ond ar lywodraeth leol, ar wasanaethau iechyd, ysgolion a cholegau. Y mae hyn, mae'n rhaid imi ddweud, fel yr oedd Mark Isherwood yn ei ddweud, yn anodd ar ein holl fudiadau trydydd sector a gwirfoddol hollbwysig. Ond rydym yn gorfod gwneud y gorau gyda'r hyn sydd gennym ni yma, gyda setliad cyllideb blwyddyn, gyda chyllideb refeniw graidd ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd fesul unigolyn i lawr 3 y cant o'i chymharu â'r hyn ydoedd yn 2010-2011, a chyllideb gyfalaf sydd wedi gostwng 5 y cant o'i chymharu â'r llynedd. Nid yw hyn yn newyddion da.

Yn anffodus, nid oes gennym ni hyd yn hyn yr eglurder y mae arnom ni ei angen ac yr ydym yn ei haeddu ac yr addawyd i ni ynghylch cyllid ar ôl gadael yr UE. Nid ydym yn gwybod y manylion am y gronfa gydbwyso. A ydym yn mynd i gael yr arian a addawyd inni sydd mor hanfodol i gymunedau fel fy un i, sydd wedi elwa ar y cyllid hwnnw o raglenni'r UE ers cynifer o flynyddoedd? Nid ydym yn gwybod. Ac, wrth gwrs, ar ben hynny, mae gennym ni yr ansicrwydd ynghylch y pandemig a chynllunio ariannol tymor hwy Brexit. Felly, nid yw pennu cynlluniau refeniw a chyfalaf ar gyfer un flwyddyn yn ddelfrydol, ond, fel y dywed Mike, mae hyn cystal â'r hyn a gawn ni gyda'r arian sydd gennym ni ar hyn o bryd a'r sicrwydd a gawsom ni gan Lywodraeth y DU.

Wedi dweud hynny, credaf ei fod yn fater o bennu blaenoriaethau, a chytunaf â'r prif flaenoriaethau sydd wedi'u pennu. Mae'r syniad, ar hyn o bryd, yng nghanol pandemig byd-eang a'r argyfwng sydd gennym ni, yn ymwneud â diogelu iechyd y cyhoedd ac mae'n ymwneud â diogelu swyddi. Ar y sail honno, mae hefyd yn ymwneud â defnyddio'r cyfle hwn i wneud pethau'n wahanol gyda'r dyfodol gwyrddach hwnnw—newidiadau ar gyfer cymdeithas decach a mwy cyfartal. Mae hynny'n golygu gweithio'n agosach at adref, mae'n golygu buddsoddi yng nghanol ein trefi, mae'n golygu rhoi'r cyfleoedd hynny fel nad oes rhaid i bobl gymudo'n bell, y gallant weithio o'u cartrefi eu hunain, gyda buddsoddiad mawr mewn seilwaith digidol, neu o ganol trefi wedi'u hadfywio. Mae'n ymwneud â chreu'r fyddin honno o osodwyr effeithlonrwydd ynni medrus iawn ym mhob cymuned, sy'n cael eu talu'n dda ac yn gwneud gwaith o ansawdd uchel, gan ddarparu nid yn unig cartrefi cynnes a swyddi lleol da, ond ein helpu i fynd i'r afael â'n hargyfwng hinsawdd, yn ogystal â'r argyfwng swyddi.

Ond o fewn y gyllideb hon, mae'n rhaid imi ganmol y Gweinidog am ddod o hyd i arian ar gyfer rhai pethau pwysig iawn, yr arian ychwanegol, gyda blaenoriaethu anodd, mae'r £420 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i'w groesawu'n fawr. Byddwn i'n gofyn i'r Gweinidog a all gadarnhau bod y trawsnewid parhaus a wnaethom ei roi ar waith ychydig flynyddoedd yn ôl, gan ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol mwy di-dor at ei gilydd fel ein bod yn cael mwy am ein harian yn dal i gael ei gyflawni ac na chaiff ei golli wrth inni ymdrin â'r pandemig presennol hwn sy'n parhau o hyd.

Croesawaf yn fawr y buddsoddiad, nid yn unig ym maes tai ac adeiladu cartrefi newydd, ond hefyd y buddsoddiad mewn digartrefedd ac yn y gwaith o fynd i'r afael â melltith cysgu allan hefyd. Gwyddom fod dros 4,000 o bobl wedi eu rhoi mewn llety dros dro y llynedd ers mis Mawrth. Dywedodd llawer ohonom ni mor rhyfeddol oedd hynny a'r ymgyrch bolisi a helpodd i gyflawni hynny, nid dim ond y buddsoddiad. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Gweinidogion eraill, nid yn unig ynghylch effaith yr adeiladu tai sy'n digwydd, gan gynnwys creu a chadw swyddi ar yr adeg bwysig hon, ond hefyd ynghylch sicrhau bod y cyllid hwn yn ddigonol i barhau â'r frwydr honno ac ennill y frwydr honno i roi terfyn ar gysgu allan a digartrefedd.

Rwy'n croesawu'r buddsoddiad mewn llywodraeth leol, bydd y £176 miliwn ychwanegol hwnnw'n helpu, yn ddi-os, nid yn unig mewn ysgolion a gofal cymdeithasol, ond yn y gwasanaethau lleol sydd wedi bod yn hollbwysig wrth ymateb i'r pandemig, ond rhaid imi ddweud hefyd, Llywydd, y 10 mlynedd o effaith andwyol cyni ar ein hawdurdodau lleol a'n gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Bydd yn helpu. Ond, wrth gwrs, y cwestiwn tyngedfennol i bob un ohonom ni wrth gynrychioli ein hetholaethau: a oes unrhyw obaith y bydd Llywodraeth y DU yn ein helpu i fynd ymhellach fyth i adfer ein gwasanaethau cyhoeddus y tu hwnt i'r pandemig, y tu hwnt i bontio ar ôl yr UE i'r lefelau yr ydym ni eisiau eu gweld, y lefelau y mae ein hetholwyr yn eu haeddu ar ôl iddyn nhw ddioddef ar ôl 10 mlynedd o gyni?

Rwyf yn croesawu hefyd, Llywydd, y buddsoddiad mewn addysg, y buddsoddiad nid yn unig mewn addysg, ond hefyd o ran ailhyfforddi ac ailsgilio, oherwydd gwyddom y bydd cenhedlaeth o bobl ifanc sy'n ansicr ynghylch amgylchedd eu hysgolion, ond sy'n ansicr ynghylch yr amgylchedd swyddi hefyd yr ydym ni yn ei wynebu ar hyn o bryd gyda'r argyfwng cyflogaeth. Felly, byddwn yn gofyn i'r Gweinidog—y buddsoddiad sydd yn y fan yna, y £12 miliwn i ddal i fyny ar ôl colli addysg, y £6 miliwn ar gymunedau a gwaith a mwy, a'r uwchsgilio a'r ailhyfforddi, a oes unrhyw obaith y byddwn yn gallu gweld mwy yn y blynyddoedd nesaf yn mynd i'r chweched Senedd mewn Llywodraethau yn y dyfodol os cawn yr ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth y DU, os daw mwy o arian i Gymru fel y gallwn ni fuddsoddi mwy yn y sgiliau a'r hyfforddiant hynny i bobl ifanc a fydd eisiau gweld gobaith ar gyfer y dyfodol hefyd?

Yn olaf, a gaf i ddweud, Llywydd, oherwydd nid wyf yn cadw llygad ar yr amser, ac rwy'n siŵr fy mod yn brin o amser nawr—

16:45

Rwy'n cadw llygad ar yr amser, ac mae eich amser yn dod i ben, felly os gallwch ddod â'ch casgliadau i ben.

Gadewch imi gloi felly drwy ddweud fy mod yn croesawu'n fawr y buddsoddiad ychwanegol yr ydym ni yn ei weld ym maes iechyd meddwl a llesiant eleni. Mae'n hollbwysig, nid yn unig oherwydd y sefyllfa yr ydym ni ynddi yn sgil COVID a'r effeithiau ar ein cymunedau, ond oherwydd y problemau etifeddol o ran iechyd meddwl a llesiant hefyd, a hefyd y gwariant ychwanegol ar COVID-19. Dywedodd Mike, a hynny'n gwbl briodol, 'Mae hyn cystal â'r hyn a gawn ni gyda'r arian sydd gennym ni', ond ni allwn ni golli golwg ar y gobaith tymor hwy, i'n holl gymunedau ac i'n pobl ifanc, y bydd dyfodol gwell. 

Diolch, Llywydd. Diolch i bawb am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma. Fe geisiaf ymateb i gymaint ag y gallaf yn ystod yr amser sydd gennyf, ond hoffwn atgoffa fy nghyd-Weinidogion hefyd fod fy nghydweithwyr gweinidogol yn edrych ymlaen at fynychu'r pwyllgor a darparu'r lefel fanwl honno o atebion i graffu hefyd yn y dyddiau nesaf.

Rwyf eisiau canolbwyntio yn fy ymateb i raddau helaeth ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond rhaid imi roi sylw i'r sylwadau hyn am y sefyllfa yn ystod y flwyddyn cyn imi wneud hynny. Byddwch wedi gweld, Llywydd, fel y byddai eraill, yr honiadau hurt hyn bod Llywodraeth Cymru rywsut yn eistedd ar £1 biliwn o gyllid. Wel, rydym ni wedi gwybod ers blynyddoedd lawer fod y Torïaid yn dda am greu rhaniadau, ond mae'n amlwg eu bod wedi profi eu bod yn eithaf gwael wrth dynnu, oherwydd sefyllfa'r gyllideb y maen nhw'n cyfeirio ati oedd yr un a oedd yn wir yn ôl yn y gyllideb atodol pan gafodd ei gosod y llynedd. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud dros £600 miliwn o ddyraniadau mewn cysylltiad â'n hymateb i bandemig y coronafeirws. Ac, wrth gwrs, rydym wedi cael rhywfaint o gyllid canlyniadol pellach o ganlyniad i wariant yn Lloegr, ond credaf fod arnom ni angen, ac mae dyletswydd arnom ni i bobl yng Nghymru, bod yn onest am y sefyllfa ariannol yr ydym ni ynddi. Pe bawn i yn eistedd ar £1 biliwn, yna byddai'r Canghellor yn eistedd ar £25 biliwn. Felly, mae'r ffaith bod y Ceidwadwyr wedi gwneud môr a mynydd o hyn yn ddiddorol iawn, ac mae'r ffaith bod Prif Weinidog y DU wedi ailadrodd yr honiadau hynny yn gwbl gywilyddus.

Ond dychwelaf nawr at y gwaith o ymateb i'r sylwadau ynglŷn â'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd rhywfaint o ddiddordeb yn enwedig yng nghyllid COVID a pham mai dim ond £77 miliwn yr ydym ni wedi'i ddyrannu ar hyn o bryd. Nawr, bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol ein bod wedi cael £776 miliwn o gyllid sy'n gysylltiedig â COVID. Mae'r cyllid yr ydym ni wedi'i ddyrannu wedi bod yn bwysig iawn o ran y meysydd hynny lle mae parhad gwasanaethau mor bwysig. Felly, rydym ni wedi rhoi cyllid ychwanegol, er enghraifft, o £10 miliwn i gynnal ein gwaith o ran y gweithlu olrhain cysylltiadau er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cadw'r bobl hynny mewn gwaith a sicrhau eu bod yn gwneud eu cyfraniad pwysig i'n hymateb i COVID. Rydym ni hefyd wedi cadw'r £4 miliwn hwnnw yn ei le ar gyfer y grant atal digartrefedd mewn cysylltiad â COVID, oherwydd byddwch wedi gweld dros y ffin yr effaith y mae penderfyniad y Ceidwadwyr i droi eu cefn ar bobl ddigartref yn ystod yr haf hwn wedi'i gael, ond wrth gwrs, yng Nghymru, mae'r sefyllfa'n wahanol iawn ac rydym ni wedi cynnal ein cefnogaeth a byddwn yn parhau i wneud hynny y flwyddyn nesaf hefyd. Byddwch hefyd yn gweld gwerth £18.6 miliwn o gyllid COVID yn gysylltiedig â'r diwydiant bysiau, ac mae hynny i sicrhau bod ganddyn nhw rywfaint o sefydlogrwydd ariannol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, a £6 miliwn ar gyfer Cymunedau am Waith a Mwy, ac mae hynny'n bwysig o ran darparu'r cymorth cynghori arbenigol hwnnw ar gyflogaeth a'r mentora dwys y bydd ei angen ar bobl ar yr adeg anodd iawn yma. Fy mwriad yw gwneud rhai dyraniadau pellach, o bosib mewn cysylltiad â'r GIG a llywodraeth leol rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, ac fel y mae rhai cyd-Aelodau wedi cydnabod, mae'n bwysig cadw'r hyblygrwydd hwnnw, oherwydd hyd yn oed ers inni gyhoeddi'r gyllideb ddrafft mae'r sefyllfa wedi newid gymaint ac mor gyflym o ran amrywiolyn diweddaraf y feirws. Felly, mae'r math hwnnw o hyblygrwydd yn bwysig.

Hoffwn symud ymlaen a sôn hefyd fod maes arall lle gallai fod rhywfaint o arian pellach wedi'i ddyrannu mewn cysylltiad â Brexit, gan ein bod bellach wedi dod i ddiwedd y cyfnod pontio. Unwaith eto, yn y gyllideb ddrafft, nid oeddwn mewn sefyllfa i wneud unrhyw ddyraniadau gan nad oeddem yn gwybod ym mha ffordd y byddai pethau'n dod i ben o ran diwedd y cyfnod pontio. Gwyddom nawr, gwyddom am y cytundeb, felly efallai y byddaf mewn sefyllfa i wneud rhai dyraniadau pellach yn hynny o beth hefyd.

Rwyf wir eisiau sôn am newid hinsawdd, oherwydd mae ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd wedi bod wrth wraidd ein cyllideb ddrafft. Er mwyn tawelu meddyliau cyd-Aelodau, ni fu unrhyw doriadau o ran y cyllid craidd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru; sydd wedi'i gynnal. Ac mae ein cyllid ar gyfer llifogydd wedi cynyddu £3.4 miliwn mewn gwirionedd, yn enwedig o ran y rhaglen rheoli risg arfordirol. Yr hyn a welwch chi yw symudiad o un prif grŵp gwariant i un arall. Felly, rwy'n credu y bydd hynny'n rhoi'r eglurder sydd ei angen a'r cadarnhad sydd ei angen yn hynny o beth. Y llynedd, yn ein cyllideb, roeddem yn falch iawn o allu cyhoeddi'r pecyn mwyaf erioed o ran cymorth i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac i gefnogi bioamrywiaeth. Mae'r mwyafrif helaeth o'r cyllid hwnnw wedi'i gynnal i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond yn ogystal, rydym yn dyrannu bron i £80 miliwn o gyllid cyfalaf ac £17 miliwn o arian refeniw i gefnogi ymyriadau newydd. Ac mae'r rheini'n cynnwys, er enghraifft, y gwaith o gefnogi cynllun cyflawni strategol datgarboneiddio ar gyfer y GIG, y mae'r Ymddiriedolaeth Garbon yn gweithio arno ac y bydd yn ei gwblhau yn gynnar eleni. Felly, mae'r gyllideb yn darparu £6 miliwn o gyfalaf ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r cyfleoedd effeithlonrwydd ynni hynny ar ystâd y GIG.

Mae rhai cyd-Aelodau wedi sôn am y cyllid ychwanegol o £20 miliwn i gefnogi teithio llesol, er enghraifft, ac mae hynny'n mynd â'n buddsoddiad i dros £50 miliwn yn 2021-22. Cymharwch hynny â'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi ar ddechrau'r Senedd hon, pan oedd y cyllid oddeutu £16 miliwn yn unig. Credaf fod hyn yn dangos nid yn unig y ffordd y mae'r agenda hon wedi tyfu, ond y gefnogaeth gynyddol a gwell y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi o flwyddyn i flwyddyn i deithio llesol.

Ac rwy'n gynhyrfus ynghylch y £5 miliwn o gyllid cyfalaf yr ydym ni wedi'i ddyrannu i ddatblygu'r gwaith o gyflawni prosiect treialu di-carbon i ddatgarboneiddio ysgolion a cholegau yng Nghymru. Credaf ei bod hi'n bwysig inni ymgysylltu â phobl ifanc ar yr agenda benodol hon. Gwyddom i gyd pa mor angerddol yw llawer o bobl ynghylch newid hinsawdd, ac mae'r ffaith y gallwn ni gefnogi eu hamgylcheddau dysgu i ddod yn llawer mwy ecogyfeillgar, mi gredaf, yn bwysig iawn hefyd.

Ac yna, maes mawr arall nad yw wedi diflannu, wrth gwrs, yw tlodi, ac, os rhywbeth, mae'r pandemig wedi amlygu hyn yn gliriach a gwyddom mai'r bobl a oedd eisoes yn cael trafferth cyn y pandemig yw'r rhai sydd wedi cael eu taro galetaf ganddo, a dyna lle y byddwch yn gweld rhai dyraniadau pwysig o fewn y gyllideb ddrafft hon a fydd yn ein helpu i barhau â'r gwaith o fynd i'r afael â'r materion hynny, gan ddyrannu, er enghraifft, £9 miliwn o gyllid cyfalaf i dasglu'r Cymoedd. Mae hynny'n rhan gwbl allweddol o'n hymateb i gefnogi cymunedau yng Nghymoedd y de i ddod yn fwy llewyrchus a chadarn, a chredaf fod yr ymrwymiad hwnnw'n ddyraniad pwysig.

A hefyd, fel yr wyf wedi sôn o'r blaen yn fy sylwadau agoriadol, y cyllid ychwanegol ar gyfer y grant cymorth tai, ac rydym hefyd yn darparu £20 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer ein rhaglen Cartrefi Clyd Arbed a chynllun Nyth Cartrefi Clyd fel y gallwn ni amlhau i'r eithaf ein hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a hefyd ein rhaglenni ynni adnewyddadwy. A byddwch yn gweld cyllid ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer gwasanaethau cynghori, oherwydd gwyddom y byddant yn wynebu mwy o bwysau wrth i ni symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf hefyd.

Ac yna, ochr yn ochr â'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud i sicrhau bod ein rhaglen prydau ysgol am ddim yn parhau drwy'r haf, nid ydym yn bodloni ar hynny'n unig; rydym mewn gwirionedd yn dyrannu £2.2 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol, ac mae hynny'n ymwneud â darparu llawer mwy na bwyd i bobl ifanc drwy'r gwyliau; mae'n ymwneud â rhoi cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu cyfeillgarwch, bwyta'n iach, dod yn fwy egnïol a pharhau i ddysgu, a pheidio â chael eu gadael ar ôl mewn unrhyw ffordd yn ystod gwyliau'r haf hefyd.

Felly, rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu mynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol hynny, ac eto, mae fy nghyd-Aelodau a minnau'n edrych ymlaen at fanylu mwy ar bwyllgorau, ond byddwn i'n gorffen drwy ddweud, er gwaethaf yr amgylchiadau mwyaf heriol yr ydym ni wedi'u hwynebu erioed, fod y gyllideb hon yn cyflawni ein gwerthoedd ac yn darparu rhai sylfeini cadarn i'r weinyddiaeth nesaf adeiladu arnyn nhw. Ein blaenoriaethau ni o hyd, fel y gwelwch chi, yw diogelu iechyd y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig pan fu cymaint o aberthu eleni, ond heb golli golwg ar ein huchelgais i adeiladu ar gyfer dyfodol gwyrddach a hyrwyddo'r newid yr ydym ni eisiau ei weld ar gyfer Cymru decach a mwy cyfartal.

Felly, wrth gloi, Llywydd, rwy'n falch iawn bod y gyllideb hon yn ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu gan hefyd ddiogelu ein huchelgeisiau a'n gwerthoedd i ddiogelu, adeiladu a newid ar gyfer Cymru fwy cyfartal, mwy ffyniannus a gwyrddach. Diolch.

16:55
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro, i alluogi dadl ar eitemau 7, 8 a 9. Dwi'n galw, felly, ar y Gweinidog iechyd i symud y cynnig yn ffurfiol.

Vaughan Gething, yn ffurfiol?

Cynnig NDM7538 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NDM7534, NDM7535 ac NDM7537 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 12 Ionawr 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid atal Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn? Nac oes. Dwi ddim yn gweld na chlywed gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae'r cynnig nesaf o dan Rheol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 6 i 9 gyda'i gilydd, ond gyda phleidleisiau ar wahân, ac felly mi fyddai'r cynigion wedi eu grwpio ar gyfer y ddadl. Mae'r cynnig yna yn cael ei wneud, ac felly dwi'n edrych i weld a oes unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig yna. Dwi ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiad.

17:00
6., 7., 8. & 9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020

Ac felly dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r ddadl. Vaughan Gething.

Cynnig NDM7536 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2020.

Cynnig NDM7534 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2020.

Cynnig NDM7537 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Rhagfyr 2020.

Cynnig NDM7535 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Rhagfyr 2020.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynigion sydd ger ein bron i gymeradwyo'r cyfresi hyn o reoliadau sydd ger ein bron heddiw. Af i'r afael â phob un o'r rheoliadau yn eu tro, gan ddechrau gyda Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.

Ar 14 Rhagfyr, cyhoeddodd y Llywodraeth ein cynllun rheoli'r coronafeirws wedi'i ddiweddaru. Roeddwn yn ddiolchgar i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl a gynhaliwyd ynglŷn â'r cynllun rheoli ar y diwrnod canlynol. Mae'r rheoliadau hyn yn gweithredu'r lefelau rhybudd sydd wedi eu cynnwys yn y fframwaith. Mae'r cynllun yn nodi pedair lefel rhybudd, sy'n cyd-fynd â lefel y risg, ac yn amlinellu'r mesurau sydd eu hangen ar bob lefel i reoli lledaeniad y feirws ac i ddiogelu iechyd pobl. Mae'r cynllun a'r rheoliadau hyn yn rhoi mwy o eglurder i bobl a busnesau ynghylch sut yr ydym ni'n symud drwy'r lefelau rhybudd, a dylent helpu pob un ohonom ni i gynllunio wrth i'r flwyddyn newydd hon dreiglo rhagddi. Rydym ni wedi defnyddio arbenigedd Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau, sef SAGE, a'n grŵp cynghori technegol ein hunain i nodi ymyriadau sy'n gweithio a'r hyn yr ydym ni wedi'i ddysgu o'r pandemig. Wrth gwrs, fe ddylem ni i gyd fyfyrio ar y ffaith ein bod yn dal i ddysgu drwy gydol y pandemig hwn, hyd yn oed ar ôl y 10 mis diwethaf.

Mae ein grŵp cynghori technegol yma yng Nghymru wedi ei gwneud hi'n glir iawn bod dull cenedlaethol o ymdrin â chyfyngiadau yn llawer mwy tebygol o gael ei ddeall gan y cyhoedd yn ehangach ac, yn hollbwysig, o fod yn effeithiol. Ond os oes tystiolaeth glir o amrywiad parhaus rhwng rhannau o Gymru, mae'r rheoliadau'n caniatáu i'r lefelau rhybudd gael eu cymhwyso'n rhanbarthol.

Yr ail gyfres o reoliadau a ystyrir heddiw yw diwygiad i'r rheoliadau hynny, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, ar 19 Rhagfyr, fod gwybodaeth newydd a phryderus am y math newydd a heintus iawn o COVID wedi'i thrafod gan Brif Weinidog Cymru, ynghyd â Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon a Michael Gove ar ran Llywodraeth y DU. Mewn ymateb yma yng Nghymru aethpwyd ati ar unwaith i gyflwyno'r cyfyngiadau rhybudd lefel 4, ein cyfyngiadau llymaf, y noson honno. Trefnwyd yn wreiddiol i'r cyfyngiadau hyn ddod i rym dros gyfnod y Nadolig. Roedd hyn yn golygu bod gwasanaethau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos, campfeydd, canolfannau hamdden, lletygarwch a lletai ar gau, a daeth y cyfyngiadau aros gartref i rym.

Nawr, rwy'n cydnabod y bu cryn feirniadu gan rai ar y mesurau cenedlaethol hyn. Yn anffodus, mae cyfnod byr o amser wedi atgyfnerthu pam mai ein dull gweithredu cenedlaethol ni oedd y dull cywir, yn enwedig felly yn y gogledd, lle gwnaethom ni gyflwyno'r amddiffyniad ar yr adeg iawn, neu byddai'r sefyllfa a welwn ni yn awr ar draws gogledd ein gwlad yn sicr wedi bod yn waeth o lawer. Yn ogystal, gwnaethom newidiadau pellach i drefniadau'r Nadolig, a oedd yn caniatáu i ddwy aelwyd ddod at ei gilydd i ffurfio swigod Nadolig, ac roeddent yn berthnasol i Ddydd Nadolig yn unig.

Gwnaed cyfres arall o reoliadau diwygio ar 22 Rhagfyr—Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020. Roedd y gwelliant technegol hwn i raddau helaeth yn ceisio sicrhau bod gwerthu alcohol ar ôl 10 yr hwyr yn parhau i fod yn drosedd.

Yn olaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau pellach i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020. Mae math newydd o COVID-19 wedi'i ganfod yn Ne Affrica sy'n wahanol i'r math Prydeinig sy'n destun pryder, sef math Caint, ond gall rannu nodweddion tebyg o ran bod yn haws i'w drosglwyddo. Mae hynny'n sicr yn ymddangos yn wir. Ers 24 Rhagfyr, mae'n ofynnol bellach i bob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru o Dde Affrica ynysu am 10 diwrnod ac ni fyddant ond yn gallu gadael y lleoliad lle maen nhw'n hunanynysu mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, ac nid oes unrhyw eithriadau o ran sector. Er bod y rhan fwyaf o ymwelwyr o Dde Affrica yn cyrraedd drwy Loegr, mae cyfyngiadau pellach yn golygu nad llongau ac awyrennau teithwyr yn uniongyrchol o Dde Affrica a nwyddau gyda'u danfonwyr yn gallu glanio na docio ym mhorthladdoedd Cymru.

Fel yr wyf wedi'i nodi'n gynharach heddiw, mae Cymru'n ymgymryd â phroses frechu ar raddfa fawr mor gyflym ag y gall hi. Fodd bynnag, mae hyn yn ymdrech enfawr na welwyd ei bath erioed o'r blaen. Mae'r sefyllfa'n parhau'n ddifrifol iawn ym mhob rhan o'n gwlad. Rwy'n gwbl ymwybodol o'r heriau sylweddol y mae cyfyngiadau rhybudd lefel 4 yn eu gosod ar bobl a busnesau ledled Cymru. Fel y nododd yr adolygiad o'r cyfyngiadau hynny yr wythnos diwethaf, mae'n dal yn llawer rhy fuan i symud i lefel rhybudd is. Rhaid i ni aros gyda rhybudd lefel 4 i ddiogelu ein GIG ac i achub bywydau. Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau hyn, sy'n hanfodol os ydym ni i gyd eisiau parhau i wneud ein rhan i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch, Llywydd. 

17:05

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch. A gaf i nawr alw ar Mick Antoniw yn rhinwedd ei swyddogaeth yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad? Mick Antoniw.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a gwnaf yr adroddiad hwn eto yng nghyswllt eitemau 6, 7, 8 a 9. Mae rheoliadau Rhif 5 y cyfyngiadau coronafeirws, fel y mae'r Gweinidog wedi adrodd, yn gosod nifer o gyfyngiadau a gofynion mewn ymateb i'r risg i iechyd y cyhoedd sy'n deillio o'r coronafeirws, cyfyngiadau a fydd bellach yn gyfarwydd i Aelodau. Ers eu llunio, mae rheoliadau Rhif 5 eisoes wedi'u diwygio ac mae'r rheoliadau diwygio perthnasol hefyd yn rhan o'r ddadl heddiw. Bydd yr Aelodau'n gwybod, yn wreiddiol, fod rheoliadau Rhif 5 i fod i ddod i rym, fel y dywedwyd, ar 21 Rhagfyr, ond, yn rhinwedd y rheoliadau diwygio, daethant i rym, mewn gwirionedd, ar 20 Rhagfyr 2020, am y rhesymau y mae'r Aelod wedi'u hamlinellu. A bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod y dônt i ben ddiwedd y dydd ar 31 Mawrth.

Nawr, fel y dywedodd y Gweinidog, mae rheoliadau Rhif 5 yn cymhwyso pedair lefel rhybudd, ac mae cyfyngiadau gwahanol yn berthnasol ym mhob lefel rhybudd. Mae ein hadroddiadau ar reoliadau Rhif 5 a'r ddwy gyfres o reoliadau diwygio yn codi pwyntiau rhinwedd cyfarwydd, sef cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosib â hawliau dynol, y mae'r pwyllgor yn amlwg yn ei ystyried yn ofalus iawn; y mater o beidio ag ymgynghori'n ffurfiol, ond, unwaith eto, am resymau a amlinellwyd yn flaenorol; ac nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gynnal—unwaith eto, am resymau tebyg. Fe wnaethom ni nodi hefyd fod y dystiolaeth wyddonol wedi'i defnyddio i asesu peryglon i iechyd y cyhoedd wrth wneud y rheoliadau. At hynny, rydym ni hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod y ddwy gyfres o reoliadau diwygio wedi dod i rym cyn eu cyflwyno gerbron y Senedd. Nawr, o ran y gyfres gyntaf o reoliadau sy'n diwygio rheoliadau Rhif 5, fe wnaethom ni sylwi ar wall drafftio. Fel y nododd Llywodraeth Cymru yn ei hymateb, a dderbyniwyd ddoe, mae darpariaethau perthnasol rheoliadau Rhif 5 bellach yn amherthnasol, ar ôl cael eu dirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio a Chyfyngiadau Rhyngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2021, a wnaed ar 8 Ionawr 2021.

Os trof yn awr at Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020, sy'n diwygio'r rheoliadau teithio rhyngwladol o dan reoliadau Rhif 5, maen nhw'n gwneud newidiadau sy'n ofynnol oherwydd y peryglon iechyd sy'n dod i'r amlwg a adroddwyd o Dde Affrica y mae'r Gweinidog wedi sôn amdanyn nhw o ran y math newydd o'r coronafeirws ac, unwaith eto, fel y mae wedi sôn amdano, rhwyddineb trosglwyddo’r math hwnnw. Nodwyd pedwar pwynt adrodd technegol yn ymwneud â gwallau drafftio ac anghysondebau rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r rhain a bydd yn gwneud cywiriadau yn ôl yr angen. Unwaith eto, mae pedwar pwynt rhinwedd ynglŷn â'r rheoliadau hyn yn tynnu sylw at y materion cyffredin a chyfarwydd a ystyriwn: yr ymyrraeth â hawliau dynol, diffyg ymgynghori ffurfiol, a diffyg asesiad effaith rheoleiddiol, oherwydd, unwaith eto, y rhesymau a nodwyd, yr ydym ni yn gyfarwydd â nhw. Ac eto, hefyd, daeth y rheoliadau hyn i rym cyn eu cyflwyno. Diolch, Dirprwy Lywydd.

[Anghlywadwy.]—Rhoddaf sylw iddyn nhw yn eu trefn. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid y rheoliadau fel y'u cyflwynwyd y prynhawn yma. O ran eitem 6 ar yr agenda, ac yn benodol o ran ceisio cael rhywfaint o wybodaeth gennych chi ynglŷn â sut y gallem ni gyrraedd sefyllfa lle gellid dechrau lliniaru'r cyfyngiadau hyn yn araf, a oes gennych chi wybodaeth y gallwch chi, yn Weinidogion a'r Llywodraeth, ei chyhoeddi heddiw i ddangos pa gynnydd y mae angen i ni fod yn ei wneud i symud i lawr y system haenau y mae eitem 6 ar yr agenda yn ei gwmpasu? Rwy'n sylweddoli, wrth i ni edrych ar y niferoedd mewn ysbytai a niferoedd yr achosion, fod hynny'n edrych ymhell ar y gorwel ar hyn o bryd, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn deall, o ystyried, gyda chyfyngiadau blaenorol a roddwyd ar waith, fod ffordd glir o ddod allan o'r cyfyngiadau hynny. Ar hyn o bryd, nid yw hynny'n ymddangos yn amlwg.

A wnewch chi hefyd wneud sylwadau ar adroddiadau heddiw—? Mae'r cynllun brechu a gyflwynwyd gennych chi yn ffordd bwysig o helpu i atal y feirws rhag lledaenu yn ein cymunedau ledled Cymru, ond sylwais heddiw fod adroddiadau'n cylchredeg sy'n sôn am basbortau brechlynnau a threialon y mae Llywodraethau yn eu cynnal mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. A fydd y pasbortau brechu yn rhan o unrhyw becyn y bydd ei angen i ddad-wneud rhai o'r cyfyngiadau hyn a gostwng lefelau rhybudd ledled Cymru, ac a oes gennych chi, y Llywodraeth, safbwynt ar basbortau brechu? Ac, yn bwysig, o ran y mwtanu sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda'r feirws, rydym ni wedi gweld sut y mae hyn wedi effeithio ar niferoedd ledled Cymru ac yn wir ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. A allwch chi gadarnhau heddiw fod pob labordy sy'n cynnal profion ar gyfer y coronafeirws yn profi am y mwtaniad, fel y gallwn ni gadw golwg ar sut mae'r mwtaniad yn lledaenu ledled Cymru, ac, yn wir, amddiffyn rhag mwtaniadau'r feirws yn y dyfodol, mewn profion labordy?

Mae eitem 7 ar yr agenda yn ymwneud â'r trefniadau ynglŷn â Dydd Nadolig, ac yn amlwg, fel yr ydym ni i gyd yn deall, mae Dydd Nadolig wedi ein cyrraedd a'n gadael ni. Rwy'n credu y bydd pobl sy'n dilyn ein trafodion yn ei gweld hi ychydig yn rhyfedd ein bod yn pleidleisio ar y rheoliadau hyn nawr, ond dyna'r sefyllfa. Eitem 8 ar yr agenda ynghylch cyfyngiadau alcohol—byddwn yn cefnogi'r mesur hwn. Ac mae eitem 9 ar yr agenda yn ymwneud â chyfyngiadau teithio o ran De Affrica. Unwaith eto, byddwn yn cefnogi'r cyfyngiadau a osodwyd ar deithio i Dde Affrica. A oes gennych chi unrhyw wybodaeth y gellid ei darparu i'r Senedd heddiw o ran mwtaniadau eraill efallai o'r feirws mewn gwledydd eraill lle gellid bod angen cyflwyno cyfyngiadau teithio tebyg, oherwydd, yn amlwg rwy'n tybio bod rhannu gwybodaeth, ac, yn benodol, gyda'r achos o'r haint yn Nenmarc cafwyd trafodaethau agos, fel y dywedoch chi wrth y Senedd, rhwng eich swyddogion a'r Llywodraeth yn Nenmarc? A oes pryderon ar hyn o bryd mewn gwledydd eraill lle gallwn weld y feirws yn mwtanu a allai olygu cyflwyno mwy o gyfyngiadau ar deithio o'r gwledydd hynny? Diolch, Gweinidog.

17:10

Dwi am gadw fy sylwadau i'n gymharol fyr. Mi gyfeiriaf i yn sydyn at eitemau agenda 7, 8 a 9. Yn gyntaf, y rheoliadau ynglŷn â newid y dyddiad cyflwyno cyfyngiadau mis Rhagfyr ydy rhif 7. Mae'r ail yn cyflwyno trosedd yn gysylltiedig â gwerthiant alcohol ar ôl 10 y nos, a newid i'r rheoliadau o ran teithio o Dde Affrica ydy eitem 9. Does gen i ddim sylwadau i'w gwneud am y rheini, mewn difrif. Maen nhw'n synhwyrol. Mi fyddwn ni'n eu cefnogi nhw.

Byddwn ni hefyd yn cefnogi'r prif reoliad sydd gennym ni o'n blaenau o dan eitem 6, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Dyma'r rheoliadau, fel mae'r memorandwm esboniadol yn nodi, sydd yn nodi'r cyfyngiadau a'r gofynion sy'n gymwys o dan bedair lefel, sef cyflwyno'r system pedair lefel newydd, a'r cyd-destun sydd gennym ni ydy'r cyfyngiadau presennol. Cyfyngiadau lefel 4 sydd gennym ni ar hyn o bryd ar gyfer Cymru gyfan.

Dwi'n gwbl gyfforddus, o edrych ar le rydym ni arni heddiw, ei bod hi'n iawn ein bod ni i gyd o dan y cyfyngiadau lefel 4. Rydym ni i gyd mewn lle hynod o fregus ar hyn o bryd. Mae hynny ar ei amlycaf yn nwyrain Cymru, yn y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain, ond mae pob rhan o Gymru yn profi nifer o achosion lle mae angen gweithredu yn llym iawn. A dwi yn gwneud y pwynt eto yn fan hyn wrth y Gweinidog: nid patrwm de/gogledd mae'r pandemig wedi ei ddilyn, ond dwyrain/gorllewin. Dydy cyfeirio, dro ar ôl tro, at 'north Wales' fel petasai fo'n un lle homogenous ddim yn ddefnyddiol iawn. Mae heriau'r gogledd-ddwyrain a'r gogledd-orllewin yn gallu bod yn wahanol iawn yn nhermau'r pandemig yma, fel mae heriau'r de-orllewin a'r de-ddwyrain. Ond fel dwi'n dweud, mae'r perig sydd gennym ni rŵan yn wynebu pawb ar hyn o bryd, er gwaethaf y gwahaniaethau o hyd mewn lefelau.

Ond dwi yn gofyn i'r Llywodraeth eto, pan ddaw hi yn amser, gobeithio, i allu edrych ar lacio cyfyngiadau, i ddefnyddio'r gallu sydd yna o fewn y rheoliadau yma, ac fel mae'r Prif Weinidog ei hun wedi dweud ei fod o'n fodlon gwneud, i weithredu drwy amrywio'r gefnogaeth sydd angen ei rhoi i wahanol ardaloedd. Mae'r rheoliadau yn iawn. Rydym ni'n pleidleisio drostyn nhw heddiw. Sut maen nhw'n cael eu gweithredu sy'n bwysig yn y fan hyn, ac, wrth i ni edrych ymlaen a gobeithio am ddyddiau gwell o ran lefel yr achosion ac ati, mae eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cyflwyno mwy o ryddid i bobl er eu lles corfforol a meddyliol eu hunain, ac i fusnesau ac ati mor fuan â phosibl. Ac efallai na fyddwn ni'n gallu gwneud hynny i bawb ar hyn o bryd; mae'n bosib mai'r dwyrain fydd â'r sefyllfa fwy difrifol ymhen mis neu ddau—pwy a ŵyr?

Gaf i hefyd ofyn, oherwydd bod y rheoliadau'n ymwneud â chyfyngiadau ar ein gweithgareddau ni o bob math, ynglŷn ag awyr iach a gweithgareddau yn yr awyr iach? Mae yna gyfyngiadau sylweddol ar allu pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, sydd yn gymharol ddiogel. Mae pobl yn cysylltu efo fi yn dweud, 'Pam na chawn ni ddim chwarae golff?', 'Pam na chawn ni ddim mynd ar daith fer i rywle awyr agored er mwyn llesiant?' Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae pobl o wahanol dai yn cael treulio amser yn ymarfer corff efo'i gilydd yn yr awyr agored, ac mae'n bwysig iawn dweud hynny, wrth gwrs, sydd eto yn dda iawn o ran llesiant unigolion. Felly, i ba raddau, hyd yn oed dan yr amgylchiadau heriol iawn o ran nifer yr achosion sydd gennym ni ar hyn o bryd, mae'r Llywodraeth yn dal yn edrych yn ofalus i weld tybed beth all gael ei ganiatáu ymhellach mewn ffordd ddiogel? Nid gofyn am ryw lacio mawr o gwbl ydw i dan y sefyllfa rydym ni ynddi hi, ond edrychwch drwy'r amser a oes yna fwy y mae'n bosib ei roi er mwyn rhoi rhagor o gyfle i bobl edrych ar ôl eu llesiant eu hunain, ac ati. Diolch.

17:15

Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sydd wedi dweud y dymunent ymyrryd, felly, galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad ar y rhinweddau a'r craffu technegol. Mae hi wastad yn swyddogaeth bwysig sicrhau bod y gyfraith mor gyson â phosib, a hyd yn oed lle nad ydym yn cytuno, mae'n sicr, rwy'n credu, yn swyddogaeth bwysig o hyd i sicrhau bod y gyfraith yn briodol.

Gan droi at lefarydd iechyd y Ceidwadwyr, rwy'n falch o gael cefnogaeth i'r rheoliadau a nodwyd, a'r her ynglŷn â sut yr ydym yn defnyddio'r hyblygrwydd y mae'r lefelau rhybudd yn ei roi i ni o ran sut o bosib i liniaru'r rheolau yn y dyfodol, wel, mae rhai metrigau yn y lefelau rhybudd yn y cynllun y gwn y bydd yr Aelod wedi edrych arnyn nhw. Er hynny, rhaid inni hefyd gael dealltwriaeth ehangach o'r pwysau yr ydym ni yn ei wynebu yn y system a'r symudiad a welwn ni. Dyna pam yr ydym ni'n chwilio am welliant parhaus cyn ceisio dod lawr o lefel rhybudd 4, naill ai ar draws y wlad gyfan neu o bosib, fel yr wyf i a'r Prif Weinidog wedi awgrymu, mewn rhanbarthau o'r wlad hefyd.

Nawr, ni ellir disgrifio hynny'n daclus ar ddarn o bapur yn y ffordd y gellir disgrifio rhai o'r metrigau yn y cynllun. Ond rydym yn gwybod, ar hyn o bryd, mai'r gwir anffodus amdani yw bod ein hunedau gofal critigol yn gweithredu ar dros 150 y cant ledled Cymru. Gwyddom fod gennym ni'r nifer mwyaf erioed o bobl sy'n defnyddio gwelyau ysbyty ar hyn o bryd. Gwyddom fod gennym ni ysbytai maes ar agor mewn gwahanol rannau o Gymru. Gwyddom fod gennym ni her wirioneddol o ran cael cleifion sy'n gwella allan o welyau acíwt, ac mae hynny'n rhannol oherwydd, i raddau sylweddol, bod gennym ni bwysau gwirioneddol yn ein system gofal cymdeithasol. Felly, heb weld adferiad o ran niferoedd staff yn y maes gofal cymdeithasol a'n gallu i roi pobl mewn gwahanol rannau o'r system lle gellir gofalu amdanyn nhw'n briodol, mae gennym y pwysau yna ar yr holl system y bydd cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol yn ei weld yn eu gwaith beunyddiol hefyd. Ac nid yw hynny mor hawdd ei ddisgrifio yn y math o fetrigau sydd gennym ni eisoes yn y cynllun.

Ond, wrth i ni fynd drwy bob un o'r adolygiadau rheolaidd a wnawn—rwy'n credu bod hyn yn ymdrin â rhai o'r pwyntiau yr oedd Rhun ap Iorwerth yn eu gwneud—mae gennym ni gyngor rheolaidd gan ein prif swyddog meddygol, ein cynghorydd gwyddonol a'r grŵp cynghori technegol, ac rwy'n credu ei fod yn beth da ein bod wedi arfer â phatrwm rheolaidd nawr o gyhoeddi cyngor y prif swyddog meddygol, ochr yn ochr ag unrhyw ddewisiadau a wnaiff Gweinidogion o ran y cyfyngiadau sydd ar waith. Felly, gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod ac i eraill sy'n gwylio. Nid mater o Weinidogion yn dewis gwneud pethau ar fympwy yw hyn; mae'n seiliedig ar dystiolaeth uniongyrchol. Mae hefyd yn seiliedig ar y cyngor iechyd cyhoeddus gorau sydd ar gael a byddwn yn parhau i fod yn dryloyw ynglŷn â hynny.

O ran sylw'r Aelod am basbortau brechu, mater o friffio yn y cyfryngau yn hytrach na pholisi yw hwn. Ni chafwyd trafodaeth ddifrifol o gwbl. Yn wir, nid wyf wedi cael un drafodaeth gyda Gweinidogion iechyd mewn rhannau eraill o'r DU ynglŷn â phasbortau brechu. Caiff y materion hyn yn aml eu codi cyn bod trafodaeth ddifrifol ac nid yw'n fater difrifol am y tro. Efallai fod rhywbeth tebyg i hynny, yn enwedig ar gyfer teithio rhyngwladol. Gallaf ragweld adeg yn y dyfodol, pan nad y dewisiadau polisi yn unig sy'n cael eu gwneud ledled y DU i gynnal profion cyn teithio, ond y potensial ar gyfer brechu yn y ffordd y mae rhai ohonom ni wedi arfer â hi sef yr angen i gael stamp brechlyn i deithio i rannau eraill o'r byd, rhywbeth yr ydym wedi arfer ag ef.

O ran eich cwestiwn, unwaith eto, am brofion labordai goleudy ar gyfer amrywiolyn Caint yn y DU, labordai goleudy yw'r rhain sy'n profi amdano. Dim ond llond llaw o'r rheini sydd yn y DU. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, fel y dywedais, yn gweithio gyda chydweithwyr yn Lloegr i gael sampl mwy cynrychioliadol o dde Cymru. Mae gennym ni ddealltwriaeth dda yn y gogledd.

Fel rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi gweld yn adroddiad y grŵp cynghori technegol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'n dewisiadau ysgolion, rydym ni wedi darparu map o le mae'r amrywiolyn newydd eisoes wedi ymsefydlu ac yn cael ei ddeall yng Nghymru. Mae'r map yn y gogledd yn fwy cynhwysfawr na'r un yn y de, ond mae'r darlun cyffredinol yn dangos ei fod ar led ym mhobman. Fodd bynnag, mae'r holl amrywiolynnau, gan gynnwys yr amrywiolynnau sy'n peri pryder, yn dal i ymddangos yn rhai positif yn y profion coronafeirws positif. Felly, gall pobl gael sicrwydd, os cânt brawf positif, hyd yn oed os yw'n amrywiolyn newydd o'r feirws sy'n destun pryder, y byddant yn cael prawf positif cywir.

Rwy'n gwybod nad oedd yr Aelod yn gallu bod yn bresennol yn y sesiwn friffio i'r pwyllgor heddiw gyda mi, y prif swyddog meddygol a'r prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd. Ond, unwaith eto, rydym ni wedi cael ar ddeall bod miloedd o amrywiadau o'r coronafeirws eisoes wedi'u nodi. Nid yw hynny, mewn sawl ffordd, yn broblem mewn gwirionedd. Fel y dywedodd y dirprwy brif swyddog meddygol yn gyhoeddus, mae pob feirws yn mwtadu ac yn newid ac mae ganddo amrywiadau.

Y broblem yw lle mae amrywiadau yn destun pryder a'r rhesymau dros hynny. Yn union fel y gwnaethom ni gyda'r amrywiad mincod yn Nenmarc, yn union fel sydd gennym ni gydag amrywiad De Affrica, yn union fel sydd gennym gydag amrywiolyn Caint, mae'r rhain yn fathau sy'n peri pryder oherwydd bod nodweddion penodol. Ymddengys bod gweithredu prydlon yn Nenmarc wedi osgoi'r niwed y gallai amrywiad mincod Denmarc fod wedi'i achosi wrth aildrosglwyddo i bobl, lle gallai fod wedi effeithio ar effeithiolrwydd brechlynnau. Mae hynny'n beth da. Rydym ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd, nid yn unig yn y DU ond ledled Ewrop, i rannu gwybodaeth.

O ran amrywiolynnau Caint a De Affrica, y natur fwy heintus, yn sicr, sy'n gyfrifol am ledaeniad amrywiolyn Caint ledled y DU. Mae cyfraddau llawer mwy o bobl yn yr ysbyty ym mhob gwlad yn y DU, a dyna pam y dywedodd Chris Whitty ddechrau'r wythnos hon mai dyma'r dyddiau anoddaf i'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ystod y pandemig. Wrth i amrywiolynnau sy'n peri pryder gael eu nodi, caiff gwybodaeth ei rhannu'n brydlon rhwng swyddogion a rhwng prif swyddogion meddygol. Yn wir, ceir sgyrsiau priodol ac aeddfed rhwng Gweinidogion iechyd pob un o bedair rhan y DU, waeth beth fo'n gwahanol bleidiau gwleidyddol.

Rwy'n falch o gael cefnogaeth eang Rhun ap Iorwerth a Phlaid Cymru i'r rheoliadau hefyd. Unwaith eto, y dull rhanbarthol ar gyfer y dyfodol: mae hyn yn wir ar gyfer y dyfodol. Nid ydym yn y sefyllfa yna eto, a bydd angen gwelliant sylweddol i gael gobaith realistig o ddod i lawr o lefel 4 ddiwedd y mis yma. Ond, rydym yn ystyried y sylw, os yw'r amrywiad rhanbarthol sylweddol hwnnw yn parhau, yna efallai y gallwn ni wneud dewisiadau gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru. 

Rwy'n cydnabod y sylwadau y mae wedi'u gwneud ynghylch a ddylid caniatáu ymarfer corff os yw pobl yn gyrru neu'n teithio ychydig ymhellach i wneud ymarfer corff. Ond, i ailadrodd, a bod yn deg, mae'r Aelod wedi mynychu pob un—neu bron pob un—o'r sesiynau briffio yr ydym ni wedi'u darparu gyda mi a'r Prif Swyddog Meddygol i aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Yn y rheini, mae cyfle i ofyn cwestiynau ynghylch ble yr ydym ni arni ac am y cyngor a roddir am natur y bygythiad i iechyd y cyhoedd, ac a oes rhywbeth i'w gyflawni wrth newid rhannau o'r rheoliadau neu'r drefn yr oedd gennym ni ar waith.

Y rheswm pam y mae gennym ni ofyniad 'aros gartref'—nid canllawiau, ond gofyniad ar hyn o bryd—yw oherwydd y difrifoldeb sydd gennym ni. Bydd hynny'n parhau'n wir hyd y gellir rhagweld, a gan ein bod yn gallu gwneud dewisiadau gwahanol—. Byddwch yn cofio, wrth lacio cyfyngiadau symud y gwanwyn, ein bod wedi gallu gwneud rhai dewisiadau gwahanol am allu pobl i symud o 'aros gartref' i 'aros yn lleol'. Nid ydym mewn sefyllfa i symud i 'aros yn lleol' ar hyn o bryd, felly mae'n bwysig iawn bod neges glir iawn gan y Llywodraeth ac, yn wir, yr holl Aelodau o bob cefndir gwleidyddol, fod y rheolau'n ei gwneud hi'n ofynnol i ni aros gartref.

Dylai ymarfer corff ddechrau a gorffen yn eich cartref p'un a ydych chi'n cerdded neu ar feic. Felly, dyna'r gofyniad. Pan fydd dewisiadau gwahanol ar gael i ni, byddwn yn awyddus i ni allu gwneud hynny, oherwydd byddai hynny'n arwydd ein bod mewn sefyllfa wahanol eto gyda chwrs y pandemig a'r amddiffyniad y gallwn ei ddarparu, gyda chyfres wahanol o ffyrdd i ni gyd wneud ein rhan i helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

17:20

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad. Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem honno tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem honno tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 8 ar yr agenda. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad. Felly, gohiriwn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 9. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig o dan eitem 9.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

17:25
10. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021

Symudwn ymlaen nawr at eitem 10 ar ein hagenda, sef Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7533 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Rhagfyr 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn heddiw. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn diwygio rheoliadau cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor 2013. Mae'r cynllun yn rhoi cymorth uniongyrchol i aelwydydd ledled Cymru drwy leihau eu biliau treth gyngor. Diddymodd Llywodraeth y DU fudd-dal y dreth gyngor ar 31 Mawrth 2013 a throsglwyddodd y cyfrifoldeb am ddatblygu trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Ynghyd â phenderfyniad Llywodraeth y DU, roedd toriad o 10 y cant i'r cyllid ar gyfer y cynllun.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy lenwi'r bwlch cyllido i gynnal hawliau i gymorth yn 2013, ac rydym ni wedi parhau i gynnal hawliau bob blwyddyn ers hynny. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun yn cynorthwyo oddeutu 280,000 o'r aelwydydd tlotaf yng Nghymru. Wrth i'r pandemig barhau i roi mwy o bwysau a chaledi ar bobl Cymru, mae'n bwysicach fyth ein bod yn sicrhau bod y systemau sydd ar waith i'w cynorthwyo mor deg ag y gallant fod ac yn cael eu cadw'n gyfredol.

Mae angen diwygio deddfwriaeth bob blwyddyn i sicrhau bod y ffigurau sy'n cael eu ddefnyddio i gyfrifo hawl bob aelwyd i ostyngiad yn cael eu cynyddu er mwyn ystyried cynnydd yng nghostau byw. Mae rheoliadau 2021 yn gwneud yr addasiadau hyn ac yn cynnal yr hawliau presennol i gael cymorth. Mae'r ffigurau ariannol ar gyfer 2021-22 sy'n ymwneud â phobl oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr yn cael eu cynyddu yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr—0.5 y cant. Mae ffigurau sy'n ymwneud ag aelwydydd pensiynwyr yn parhau i gael eu cynyddu yn unol â gwarant isafswm safonol Llywodraeth y DU ac yn adlewyrchu'r uwchraddio o ran budd-dal tai.

Rwyf hefyd wedi achub ar y cyfle i gynnwys mân newidiadau technegol ac i wneud diwygiadau ychwanegol i adlewyrchu newidiadau eraill i fudd-daliadau cysylltiedig. Er enghraifft, rwyf yn diwygio'r rheoliadau i sicrhau y bydd y taliadau iawndal Windrush a gafwyd gan bobl yn cael eu diystyru fel nad ydyn nhw'n newid hawl unigolyn i gael cymorth drwy gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.

Mae'r rheoliadau hyn yn cynnal hawliau i ostyngiadau ym miliau'r dreth gyngor ar gyfer aelwydydd yng Nghymru. O ganlyniad i'r cynllun hwn, bydd yr aelwydydd o dan y mwyaf o  bwysau sy'n derbyn y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn parhau i beidio â thalu dim treth gyngor yn 2021-22. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.

Diolch. Nid oes gennyf i siaradwyr, felly y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig hwnnw.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Symudwn at gynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i eitem 11 gael ei thrafod, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gynnig y cynnig hwnnw. Jeremy Miles.

Cynnig NDM7540 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NDM7541 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 12 Ionawr 2021. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, nid wyf i'n gweld gwrthwynebiad.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach

Felly, symudwn nawr i drafod eitem 11, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach, ac rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i wneud y cynnig hwnnw. Jeremy Miles.

Cynnig NDM7541 Jeremy Miles

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol a chynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol yn berthnasol i Fesur Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar fasnach.

Cafodd y fersiwn hon o'r Bil ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Mawrth 2020 ac mae iddi lawer o debygrwydd i'r fersiwn flaenorol o'r Bil a drafodwyd yn y Senedd ddiwethaf—y Bil Masnach yn 2017-19. Cwblhaodd Bil 2019-20 y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn ddiweddar ar 6 Ionawr, ac mae'r fersiwn bresennol o'r Bil yn cynnwys gwelliannau a gafodd eu gwneud yn ystod cyfnodau Tŷ'r Arglwyddi yn ogystal â'r Tŷ Cyffredin.

Yn dilyn ei gyflwyno yn ôl ym mis Rhagfyr 2017, aeth fersiwn 2017-19 o'r Bil drwy lawer o gylchoedd craffu. Cymeradwyodd y Senedd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn gyntaf ar 12 Mawrth 2019 ac wedyn ar 21 Mai 2019, yng ngoleuni dau femorandwm atodol. Rwyf i yn ôl ger eich bron heddiw ynglŷn â'r fersiwn 2019-2021 gyfredol, sy'n cynnwys rhai darpariaethau a oedd yn y Bil gwreiddiol, ynghyd â rhai gwelliannau ychwanegol y mae angen i'r Senedd eu hystyried ymhellach.

Gosododd Eluned Morgan, ar ran Llywodraeth Cymru, gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar 2 Ebrill 2020 yn ymwneud â'r darpariaethau canlynol yn Rhan 1 o'r Bil. Mae cymal 1 yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU mewn awdurdodau datganoledig, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, weithredu darpariaethau'r cytundeb ar gaffael y Llywodraeth, i adlewyrchu'r ffaith bod y DU bellach yn barti annibynnol i'r cytundeb Sefydliad Masnach y Byd hwn, yn dilyn diwedd y cyfnod pontio. Mae cymal 2 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ac awdurdodau datganoledig, gan gynnwys Gweinidogion Cymru yn benodol, weithredu cytundebau masnach rhyngwladol gyda thrydydd gwledydd, sy'n cyfateb i fathau penodol o gytundebau trydydd gwledydd presennol yr UE. Mae cymal 3 bellach wedi'i gynnwys yng nghymal 11 y Bil; mae'r cymal hwn yn darparu ar gyfer gwahanol fathau o ddarpariaeth y byddai'n bosibl eu gwneud mewn rheoliadau a wnaed o dan gymalau 1 a 2.

Mae cymal 11 hefyd yn rhoi effaith i Atodlenni 1 i 3. Mae Atodlen 1 yn gosod cyfyngiadau ar arfer pwerau Gweinidogion Cymru. Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn a fydd yn berthnasol i reoliadau a wnaed o dan gymalau 1 a 2. Mae Atodlen 3 yn cynnwys eithriadau i gyfyngiadau yn y setliad datganoli. Cafodd cydsyniad ei geisio hefyd ar gyfer cymal 4, sydd bellach wedi'i gynnwys yng nghymal 12 y Bil. Mae'r ddarpariaeth hon yn amlinellu sut y dylai telerau penodol yn Rhan 1 y Bil gael eu dehongli. Gan fod angen ystyried y ddarpariaeth hon ochr yn ochr â chymalau 1, 2 ac 11, mae'r Llywodraeth o'r farn fod angen cydsyniad ar gyfer y ddarpariaeth hon. Mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig â Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Ebrill 2020.

Rwyf i wedi gosod dau femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol. Roedd y cyntaf ar 4 Tachwedd 2020 ar gyfer y darpariaethau canlynol sy'n ymwneud â chasglu a rhannu gwybodaeth fasnach ac a oedd wedi'u cynnwys yn Rhan 3 y Bil. Mae'r rhain bellach wedi'u cynnwys yn Rhan 4 y fersiwn gyfredol. Mae cymal 21 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus penodedig, gan gynnwys porthladdoedd ac awdurdodau iechyd Cymru, ddatgelu gwybodaeth i un o Weinidogion y Goron at ddibenion hwyluso arfer swyddogaethau Gweinidog y Goron yn ymwneud â masnach. Mae cymal 22 yn ei gwneud yn drosedd i berson ddatgelu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy yn groes i'r gofynion yng nghymal 21.

Cafodd memorandwm atodol arall ei osod ar 11 Ionawr ar gyfer Rhan 3 y Bil, fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi. Mae cymalau 15 i 18 ac Atodlen 6 yn darparu ar gyfer sefydlu'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth fel corff statudol, a'i swyddogaeth yw rhoi cyngor annibynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ar ddarpariaethau perthnasol mewn cytundebau masnach rydd newydd. Hefyd, mae nifer o welliannau nad ydyn nhw'n welliannau i'r Llywodraeth wedi eu pasio yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi a allai gael eu gwrthdroi pan fydd y Bil yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin i ystyried gwelliannau.

Mae cydsyniad y Senedd hefyd yn cael ei geisio ar gyfer y darpariaethau hyn; mae Llywodraeth Cymru yn fodlon ar bob un o'r gwelliannau a byddai'n well ganddi os gallai'r Bil gynnwys y cymalau hyn yn ei ffurf terfynol, ond mae'n argymell cydsynio i'r Bil pa un ai ydyn nhw'n cael eu cadw ai peidio: cymal 3, sy'n ymwneud â chymeradwyaeth seneddol; cymal 6 sy'n ymwneud  â gwasanaethau prosesu data iechyd, gofal neu wasanaethau prosesu data wedi'u hariannu yn gyhoeddus; a chymal 8 sy'n ymwneud â safonau. Y rhain, gyda'i gilydd, yw'r darpariaethau y mae cydsyniad yn cael ei geisio ar eu cyfer.

Mae'r Senedd eisoes wedi cydsynio i ddarpariaethau sy'n sylweddol debyg yng nghymalau 1 a 2 y Bil hwn yn y fersiwn wreiddiol ohono, a gafodd ei drafod yn y Senedd ar 21 Mawrth a 12 Mai 2019. Fodd bynnag, ceir rhai gwahaniaethau allweddol. Er enghraifft, gellir bellach ddefnyddio'r pŵer i weithredu cytundeb caffael y Llywodraeth yng nghymal 1 i wneud darpariaeth o ganlyniad i anghydfod. Mae hyn yn ymddangos yn welliant synhwyrol. Mae rhai o'r cyfyngiadau a oedd wedi'u gosod ar awdurdodau datganoledig wedi'u dileu, sy'n golygu y bydd gan Weinidogion Cymru y pŵer o hyd i ddiwygio cyfraith yr UE a gedwir mewn amgylchiadau pan ei bod o fewn cwmpas unrhyw reoliadau rhewgell, y gallai Gweinidogion y DU ei wneud o dan adran 109A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac a fyddai fel arall yn cyfyngu ar gymhwysedd Gweinidogion Cymru i ddiwygio'r categori hwn o ddeddfwriaeth. Mae hynny hefyd yn welliant o ran y Bil gwreiddiol. 

Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am graffu'n fanwl ar y Bil. Mae'n amlwg bod nifer o femoranda cydsyniad deddfwriaethol wedi'u gosod yn erbyn gwahanol fersiynau y Bil hwn, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau am eu hystyried. Rwy'n cydnabod bod heriau sylweddol wrth gydgysylltu amserlenni Senedd Cymru a Senedd y DU, ac er bod fy rhagflaenydd a minnau wedi gwneud pob ymdrech i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r Bil fynd rhagddo ar ei wahanol ffurfiau drwy'r Senedd, rwy'n barod iawn i gydnabod yr her. Mae amserlen y Bil wedi bod yn anodd, gyda nifer o welliannau Llywodraeth y DU yn gofyn am ystyriaeth ar fyr rybudd, ac oedi yn digwydd, yn anffodus, ar bron bob cam.

Er nad yw rhai o'r argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgorau craffu wedi'u derbyn, hoffwn sicrhau'r Senedd fy mod i wedi gweithredu i fynd i'r afael ag argymhellion pryd y bu'n bosibl gwneud hynny. Un o'r prif bryderon fu ein parodrwydd i dderbyn ymrwymiadau ar lafar yn Nhŷ'r Cyffredin. Rydym ni wedi cael rhywfaint o lwyddiant cyfyngedig mewn sicrhau newid i wyneb y Bil o ran darpariaethau rhannu data yng nghymal 8, sydd bellach yn cynnwys yr awdurdodau datganoledig yn benodol fel un o'r cyrff y caiff Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi rannu'r data perthnasol sy'n gysylltiedig â masnach â hwy. Ond, yng ngoleuni'r anhawster cyffredinol i gyflawni newidiadau i wyneb y Bil, rydym ni wedi ystyried dewisiadau eraill i sicrhau sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Cyfaddefir bod ystyried ymrwymiadau ar lafar yn Nhŷ'r Cyffredin yn dechneg amherffaith, ond, er hynny, yn dechneg ddilys a ddefnyddir gan Weinidogion ym mhob Llywodraeth ddatganoledig i ddwyn Llywodraeth y DU i gyfrif, ac mae'r sefyllfa hon, wrth gwrs, fel y mae'r Aelodau yn ymwybodol, wedi ei derbyn o'r blaen gan y Senedd. Cymeradwyaf y cynnig i'r Senedd.

17:35

A gaf i nawr alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees? David Rees, ydych chi yna? Na. Mae'n ymddangos ein bod wedi colli Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Felly, a gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn sicr, mae'r Bil Masnach hwn wedi bod yn broses hir yn hytrach na digwyddiad, mae'n deg dweud. Gwnaethom ni adrodd ym mis Gorffennaf 2020 ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, gan wneud naw argymhelliad, ac yna, fis diwethaf, gwnaethom ni adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol, gan wneud tri argymhelliad arall. Roedd hyn yn dilyn tri adroddiad a wnaethom ni eu paratoi ar y Bil Masnach blaenorol, a ddigwyddodd cyn etholiad cyffredinol y DU yn 2019. Nid ydym ni wedi gallu ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach a gafodd ei osod ddoe gan y Llywodraeth am resymau amlwg. Yn ein hadroddiadau, rydym ni wedi mynegi pryderon sylweddol, nid yn unig ynghylch y Biliau, ond hefyd ynghylch dull Llywodraeth Cymru o ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar faterion sy'n peri pryder, ac mae'r rhain yn faterion yr ydym ni wedi'u codi yn ystod sesiynau tystiolaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol, fel y mae ef yn ymwybodol.

Er enghraifft, mae cymal 1 yn ymwneud â phwerau eang i Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU weithredu'r cytundeb ar gaffael y Llywodraeth. Felly, cawsom ni ein synnu o gael gwybod nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael sgyrsiau penodol gyda Gweinidogion y DU, o ystyried y gall Gweinidogion y DU arfer y pŵer i wneud rheoliadau eu hunain, heb ofyniad deddfwriaethol i ymgynghori â Gweinidogion Cymru na'r Senedd. Rydym ni'n disgwyl i Weinidogion Cymru sicrhau bod democratiaeth Cymru yn cael ei diogelu drwy sicrhau nad yw'r pwerau sydd wedi'u darparu mewn Bil y DU yn ormodol. Dyma un o swyddogaethau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Gwnaethom ni dri argymhelliad ynghylch cymal 1, gan geisio cymhwyso adolygiad o'r weithdrefn a lleihau ehangder y pŵer. Nid yw'r argymhellion hyn wedi'u hystyried.

Bydd yr Aelodau'n gwybod bod cymal 2 y Bil yn ymwneud â chytundebau masnach rhyngwladol, fel yr amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol. Mae'r rhain yn gytundebau a allai gwmpasu amrywiaeth eang o feysydd polisi sy'n dod o fewn cydsyniad deddfwriaethol y Senedd, gan gynnwys amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mae cymal 2(6)(a) y Bil yn caniatáu i Weinidogion y DU wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gwnaethom ni fynegi braw nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch y pŵer hwn. Felly, gwnaethom ni argymell yn ein hadroddiad cyntaf y dylai'r Gweinidog ofyn am welliant i'r Bil i'r perwyl na all Gweinidogion y DU ei ddefnyddio i wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn ein hail adroddiad, gwnaethom ni ddweud nad oeddem ni'n glir pam na chododd Llywodraeth Cymru y mater hwn yn uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU, ac fe wnaethom ofyn i Lywodraeth y DU gyflwyno'r gwelliant angenrheidiol. Gwnaethom ni argymell ein bod ni'n cael esboniad am hyn cyn y ddadl heddiw, ac yr oeddem ni'n siomedig nad yw hyn wedi digwydd.

Rydym ni'n credu bod yr egwyddor gyfansoddiadol na ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd gael ei haddasu gan reoliadau wedi'u gwneud gan Weinidogion y DU yn un bwysig iawn y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei hamddiffyn. Byddai cymal 2(7) y Bil yn galluogi rheoliadau wedi'u gwneud gan Weinidogion y DU i ymestyn yr amser y caiff y DU a Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau cymal 2 am gyfnod pellach, hyd at bum mlynedd heb fod angen ymgynghori â Gweinidogion Cymru na cheisio cydsyniad y Senedd. Gwnaethom ni argymell hefyd y dylai'r Bil gael ei ddiwygio fel y byddai'n rhaid cael cydsyniad y Senedd cyn bod gallu Gweinidogion Cymru i arfer pwerau gweithredol yng Nghymru yn cael ei ymestyn, a theimlodd y pwyllgor ei bod yn destun gofid bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad.

Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu, fel yr amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol yn ddiweddar, ar ymrwymiad llafar yn Nhŷ'r Cyffredin y bydd proses o ymgynghori â hi cyn i'w phwerau gweithredol gael eu hymestyn. Rwy'n croesawu'r consesiynau lle y cafwyd hwy, ond, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol, ac mae'n bwynt yr ydym ni wedi'i wneud yn gyson iawn, mae'r safbwynt hwn yn anfoddhaol yn ein barn ni, yn ogystal â'r diffyg diweddariad amserol ar statws yr ymrwymiad llafar hwn yn Nhŷ'r Cyffredin. Rwy'n credu mai'r pwynt yr ydym ni'n ei wneud ynghylch yr ymrwymiadau llafar yn Nhŷ'r Cyffredin, wrth gwrs, yw ein bod yn deall y confensiwn a'i ddefnydd o bryd i'w gilydd; effaith gyffredinol, gronnol y rheini ar y ddeddfwriaeth hon ac ar ddeddfwriaeth arall yw'r hyn sy'n peri pryder sylweddol i ni.

Daw hynny â mi at rai sylwadau cyffredinol ynglŷn â chymalau 1 a 2 y Bil a dibyniaeth Llywodraeth Cymru ar ymrwymiadau llafar yn Nhŷ'r Cyffredin wedi'u gwneud gan Lywodraeth y DU ynghylch sut y bydd pwerau'n cael eu harfer gan Weinidogion y DU. Nid ydym ni'n fodlon â dull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â diffygion cymalau 1 a 2 drwy geisio'r ymrwymiadau anneddfwriaethol hyn gan Lywodraeth y DU. Yn ein barn ni, credwn ni ei fod yn ddull risg uchel ac yn un sy'n ddiffygiol yn gynyddol ac yn y pen draw hefyd. Bydd gan y Bil, ar ôl ei ddeddfu, oblygiadau sylweddol a allai fod yn hirdymor i sectorau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, iechyd a gweithgynhyrchu. Nawr, rydym ni'n cydnabod bod negodi cytundebau masnach ledled y DU yn parhau i fod yn bŵer a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU, fodd bynnag, Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am weithredu'r cytundebau masnach hynny mewn meysydd datganoledig yng Nghymru, ac nid ydym ni'n credu bod cytundebau rhynglywodraethol anghyfrwymol yn ffordd effeithiol o ddiogelu buddiannau Cymru.

O ran perthynas yr UE-DU yn y dyfodol, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 18 Mehefin 2020 fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod

'yn rhwystredig iawn yn sgil absenoldeb unrhyw ymgysylltu ystyrlon.'

Os oes gan Lywodraeth Cymru bryderon o'r fath ynghylch ansawdd yr ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'i bod yn credu bod camau diweddar Llywodraeth y DU wedi methu â pharchu sefyllfa'r Llywodraethau datganoledig, yna rydym ni'n ei chael yn anodd deall pam ei bod yn fodlon parhau i ymrwymo i gytundebau rhynglywodraethol anghyfrwymol gyda'r un Llywodraeth—

17:40

Rwyf i'n dirwyn i ben nawr. Bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â'r pryderon hyn sydd gennym ni. Felly, wrth gloi, os gaf i ddweud pa mor siomedig ydoedd clywed un o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud, wrth wrthod un o'n hargymhellion, ei bod yn annhebygol iawn y byddai Llywodraeth y DU yn ystyried y rhain o ddifrif. Nid ydym ni'n credu bod hwn yn ddull priodol.

Rwy'n gweld bod Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ôl gyda ni, felly fe wnaf i alw ar David Rees.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ymddiheuro, rhoddodd fy Wi-Fi y gorau iddi ar yr adeg bwysig, fel y digwyddodd hi. Felly, fe wnaf i gadw fy sylwadau mor fyr â phosibl. Ar un ystyr, mae Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi adlewyrchu llawer o'r safbwyntiau sydd gennym ni, a bydd fy sylwadau byr yn canolbwyntio ar y prism y mae'n ein gorfodi ni i ystyried cydsyniad deddfwriaethol drwyddo.

Cyn i mi symud ymlaen, rwy'n deall y sefyllfa y mae'r Gweinidog wedi'i gael ei hun ynddi gyda'r memoradmwm cydsyniad deddfwriaethol a gafodd ei osod yn wreiddiol yn ôl ym mis Ebrill, un atodol ym mis Tachwedd a'r ail un atodol dim ond ddoe, ac roedd hynny'n seiliedig ar y ffaith mai dim ond ddydd Mercher diwethaf y cafodd gwelliannau eu gwneud. Mae'n tynnu sylw at y ffaith mai dim ond drwy gyfrwng y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol hwnnw a gafodd ei osod ddoe y cafodd ein sylw ei dynnu at ddarpariaethau sylweddol ar gyfer y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth, ac felly mae'n bwysig i ni gael cyfleoedd i graffu'n iawn ar y Bil.

Rwy'n credu bod y Bil hwn wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw'r broses cydsyniad deddfwriaethol yn caniatáu i ni'r math o ryngweithio â deddfwriaeth yr ydym ni'n ei chael o dan y broses graffu, ac rwy'n credu, mae hwn, yn fwy nag mewn unrhyw Fil arall, wedi'i hamlygu, oherwydd mae hyn wedi bod ar waith cyhyd, ond dyma ni, yn dal i'w drafod ar ddiwrnod pan gafodd y gwelliannau diweddaraf eu gwneud ddydd Mercher diwethaf ac nid ydym ni hyd yn oed yn gwybod a fyddan nhw'n cael eu derbyn yn Nhŷ'r Cyffredin eto, oherwydd nad yw'r cam hwnnw wedi'i orffen. 

Ond mae ystyried y Bil a oedd gennym ni yn amlwg yn tynnu sylw at y sefyllfa anodd iawn sydd gennym ni a'r weithred o gydbwyso sy'n ofynnol arnom ni pan y byddem ni'n ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, oherwydd ar y naill law mae yna fater y gallem ni fod â phryderon yn ei gylch, fel yn ein hadroddiad cyntaf, a dynnodd sylw at fater nad yw'r Bil, mewn gwirionedd, wedi mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau hynny; ond, ar y llaw arall, rydym ni'n cydnabod yr angen am ddeddfwriaeth o'r math hwn ar gyfer rhywfaint o barhad i fusnesau, gweithwyr a defnyddwyr gan ein bod bellach wedi gadael y cyfnod pontio. Felly, mae'n erfyn di-awch sy'n rhoi dewis du a gwyn i ni: derbyn y cyfan neu wrthod y cyfan, ac rwy'n credu bod hynny'n tynnu sylw at y pryderon ynghylch cynigion cydsyniad deddfwriaethol, ar un ystyr. 

Nawr, heb ailymweld â'n pryderon yn fanwl, rwy'n atgoffa'r Aelodau—a thynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sylw at hyn—o'r ddibyniaeth ar ymrwymiadau ar lafar yn Nhŷ'r Cyffredin, yn hytrach na diwygio'r Bil mewn gwirionedd, fel y gwnaethom ni alw amdano mewn gwirionedd, i sicrhau na fydd y pwerau y mae'r Bil yn eu rhoi yn cael eu defnyddio yn y ffyrdd yr oeddem ni wedi'u rhagweld. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Rydym ni'n dibynnu'n ormodol ar ymrwymiadau o'r fath wedi’u gwneud gan Weinidogion San Steffan heb weld y newidiadau hynny yn y Bil ei hun, y gellid bod wedi'u cyflawni. Nawr, dyna beth mae'r confensiwn cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ei roi i ni, yn anffodus. Nid yw'n mesur swyddogaethau parhaus fel y dylai, mae'n cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru a'r Senedd i ddylanwadu ar bolisïau'r DU fel y cyfryw a'r ddeddfwriaeth sy'n effeithio arnom ni yn y gweinyddiaethau datganoledig. Ac rwy'n credu, efallai y gwnaf ymestyn ychydig, ein bod yn ochelgar iawn oherwydd y modd y gwnaeth Llywodraeth y DU ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol diwethaf y Senedd, y gwnaethom ni ei wrthwynebu, ac a gafodd ei wrthod yn llwyr gan Lywodraeth y DU a'r rhan fwyaf o Aelodau yn San Steffan a bleidleisiodd i gefnogi'r Bil yr oeddem ni wedi dweud 'na' iddo mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod hyn yn tynnu sylw at y mater ynglŷn â'r weithdrefn cynnig cydsyniad deddfwriaethol. 

Nawr, mae angen mesurau diogelu cyfansoddiadol newydd a chadarn arnom ni er mwyn llywodraethu'r DU gyfan yn dda, rhywbeth y gwn i fod Aelodau wedi'i glywed droeon yn y Siambr hon. Ond i fod yn glir, ar nodyn mwy cadarnhaol, gerbron y pwyllgor ddoe, tynnodd y Cwnsler Cyffredinol sylw at y ffaith bod dulliau gweithredu gwahanol wedi bod ar yr agenda ac yn yr arena fasnach, ac yn fy marn i, yn y cytundebau masnach rhyngwladol a fydd yn y dyfodol, mae angen dilyn y math hwnnw o ddull gweithredu yn llawer mwy, ac edrychwn ymlaen at weld concordat, ac fe wnaf dynnu sylw at y ffaith y dylai fod wedi'i lofnodi 12 mis yn ôl, ond rydym ni'n dal i aros iddo gael ei lofnodi. Felly, mae'n bwysig ac mae angen ei wneud, ond rydym ni'n cydnabod bod symudiad wedi bod i gyfeiriad gwahanol. Felly, mae anghysondeb hyd yn oed o fewn dull gweithredu Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, ac mae angen i'r anghysondeb hwn ddod i ben. 

Rydym ni'n gweld rôl i'r Senedd hefyd wrth graffu ar gytundebau rhyngwladol yn y dyfodol, ac mae'r gwelliannau sydd wedi'u gosod—y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u hamlygu heddiw—hefyd yn cynnwys, os meddyliwch chi amdano, y dylai rheoliadau a wnawn ar gyfer newidiadau i unrhyw safonau yr ydym ni eisiau'u gwneud gael eu hystyried hefyd, fel eu bod yn cael eu hystyried mewn unrhyw gytundeb rhyngwladol. Ac nid oes unrhyw fyfyrdod ar hynny, dim ond safonau'r DU, nid safonau Cymru na'r Alban. Felly, mae angen i ni sicrhau hynny. Rydym ni'n gweld rôl i'r Senedd, ond o ran ystyried y Bil hwn a'r cwestiynau am gydsyniad deddfwriaethol y mae'n ei ofyn, mae'n ein hatgoffa ni bod angen mwy nag ymrwymiadau llafar arnom ni gan Weinidogion Llywodraeth y DU, mae angen gwelliannau i Filiau arnom ni. A byddwn i'n gobeithio, yn y dyfodol, y byddem ni'n cael anfon neges gref iawn at Lywodraeth y DU mai dyna y mae ei eisiau. Diolch.

17:45

Rwy'n credu bod hon yn ddadl o safon uchel, ac a gaf i gymeradwyo cyfraniadau dau Gadeirydd rhagorol y pwyllgorau yr wyf i'n aelod ohonyn nhw, Mick Antoniw a David Rees? Maen nhw wedi gosod y materion yn daclus ger ein bron, oherwydd mae gan Fil Masnach y DU lawer o ddiffygion, yn bennaf ei fod yn gofyn llawer gan y Seneddau datganoledig ond eto'n methu â chydnabod ein hawl ddemocrataidd i gymeradwyo cytundebau masnach sydd wedi'u gwneud ar ein rhan ac y byddem ni'n llywodraethu eu gweithredu. Mae'n rhaid ceisio cymeradwyaeth Seneddau Datganoledig a'r hawl i roi feto arnyn nhw, ond ni fydd y Bil hwn yn rhoi'r hawl honno i ni. O ganlyniad, bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

Mae argyfwng COVID-19 wedi profi bod angen i ni gymryd agwedd newydd at bolisi masnach ar gyfer ein gwlad. Mae'n rhaid i ni ystyried nid yn unig ein blaenoriaethau rhyngwladol a'n hymrwymiad dwfn i'n hamgylchedd ond hefyd fuddiannau ein cymunedau, ein busnesau a'n sefydliadau. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i bolisi masnach ddod yn nes at adref. Mae'n rhaid bod mwy o rôl i'n Senedd i'w gwneud yn bolisi masnach i ni, yn fwy cadarn a gydag ymrwymiadau cryfach i weithredu ar yr hinsawdd. Nid yw Bil Masnach y DU sydd dan sylw heddiw yn gwneud hynny. Mae San Steffan yn dal i lynu wrth ei pholisi sy'n addas i bawb, yr un sy'n gweddu i dde-ddwyrain Lloegr. Y dull gweithredu hwn sydd wedi creu'r anghydraddoldebau rhanbarthol mwyaf yn Ewrop, ac sydd wedi cynyddu'r rhaniadau rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig.

Gyda gwerth allforion nwyddau o Gymru yn unig yn dod i gyfanswm o £17.7 biliwn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2019, masnach ryngwladol yw anadl einioes ein heconomi, sy'n caniatáu i gwmnïau, sefydliadau a chyrff cyhoeddus o Gymru gael mynediad i farchnad fyd-eang sy'n denu buddsoddiad, incwm a swyddi. Ac eto, mae Llywodraeth y DU, er gwaethaf ei record echrydus o ran negodi â'r UE—yr allforiodd Cymru £10 biliwn o nwyddau a gwasanaethau iddo yn 2019—yn gwadu'r hawl i'n Senedd ni gymeradwyo cytundebau masnach sydd wedi eu gwneud yn ein henw ni. Ein swyddogaeth, mae'n ymddangos, yw dim ond ceisio rheoli canlyniadau'r cytundebau masnach hyn; mae'n rhaid i ni eu dioddef.

Nid yw'r Bil hwn yn mynd i'r afael â'r pryderon y gallai masnach effeithio'n negyddol ar yr hinsawdd a'r amgylchedd. Yn wir, gwrthododd Llywodraeth y DU greu safonau masnach sy'n ymrwymo yn gyfreithiol i ddiogelu cynhyrchu ac ansawdd mewn meysydd fel amaethyddiaeth, fel yr ydym ni wedi clywed. Dylem ni fod yn cymryd camau cryfach i sicrhau nad yw masnach yn dod ar draul y byd naturiol drwy gynnwys amodau cytundebau masnach sy'n ymwneud â diogelu ecosystemau a thargedau hinsawdd. Ynghyd â mwy o ganolbwyntio ar ddatblygu economi gylchol ddomestig i leihau'r galw am ddeunyddiau crai wedi'u mewnforio, gallai mesurau fel y rhain leihau ôl troed carbon masnach Cymru yn sylweddol. Mae'n rhaid i'n Senedd ni gael dweud ei dweud os ydym ni eisiau bod ag unrhyw obaith o drafod cytundebau masnach sy'n mynd i'r afael â'r bwlch cynyddol yn ein cymdeithas sy'n ymateb i fusnesau Cymru ac yn eu hannog ni i allforio a sicrhau y gall ein heconomi ddomestig wella o COVID-19. Mae unrhyw beth heblaw am ran gyfartal yn rhagor o dystiolaeth nad yw'r DU wedi dysgu dim gan raniadau'r blynyddoedd diwethaf a'i bod yn anwybyddu eu hachosion yn fwriadol.

Er hynny, mae agwedd Llywodraeth Cymru tuag at y Bil hwn, a sicrhau diddordeb Cymru, wedi bod yn frawychus o annigonol. Yn wir, gwrthododd y Gweinidog dros gysylltiadau rhyngwladol ar y pryd, fel yr ydym ni wedi clywed, a oedd gynt yn gyfrifol am y Bil hwn, lawer o'r argymhellion a gafodd eu cyflwyno gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ei adroddiad cyntaf ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn a'r daith arteithiol y bu arno. Un o'r rhesymau a gafodd ei roi am hyn oedd bod y Gweinidog o'r farn bod Llywodraeth y DU mewn sefyllfa gryfach gyda'i mwyafrif o 80 sedd ers etholiad mis Rhagfyr. Yr oedd, felly—ac rwy'n dyfynnu'n uniongyrchol yma—yn

'eithriadol o annhebygol y byddai unrhyw sylwadau y byddem yn eu cyflwyno i Lywodraeth y DU ar y mater hwn yn cael eu hystyried o ddifrif.'

Felly, ni wnaethon ni drafferthu i'w gwneud. Dyna ni, mewn du a gwyn: Llafur Cymru yn codi'r faner wen cyn hyd yn oed gwneud unrhyw ymdrech i ymladd yn ôl yn erbyn San Steffan i sefyll dros fuddiannau Cymru. Pa hysbyseb well ar gyfer annibyniaeth i Gymru?

Nawr, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn cyfaddef yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol—ac rwy'n dyfynnu eto—

'Gallai trefniadau masnachu yn y dyfodol effeithio’n sylweddol ar feysydd datganoledig'.

Os felly, pam mae Llywodraeth Cymru yn fodlon sicrhau ymrwymiadau, fel yr ydym ni wedi clywed gan Lywodraeth y DU, hynny yw, yng ngeiriau Llywodraeth Cymru ei hun, yn aneddfwriaethol ac yn anghyfrwymol? Mae'n amlwg bod confensiwn Sewel yn cael ei anwybyddu, nid yw cytundebau rhynglywodraethol ac addewidion ar lafar yn Nhŷ'r Cyffredin yn werth dim byd, fel y dywedodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a phwyllgorau materion allanol, ac rydym ni wedi clywed yn y cyflwyniadau huawdl gan y ddau Gadeirydd y prynhawn yma. Am faint yn hwy y bydd Llafur Cymru yn parhau i roi eu ffydd yn y Torïaid a San Steffan, y mae eu hanes o dorri addewidion yno i bawb ei weld? Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach. Diolch yn fawr.

17:50

Rwy'n croesawu'r cynnig hwn heddiw ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Bil Masnach yn gam deddfwriaethol arall tuag at ymwreiddio Brexit, sef y newid cyfansoddiadol mwyaf, wedi'r cyfan, ar unrhyw bapur pleidleisio yng Nghymru ers y bleidlais dros ddatganoli. Rwy'n sylwi mai dyma'r ail dro i Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach ddod gerbron y Siambr hon, gan adlewyrchu, rwy'n credu, sefyllfa sy'n esblygu'n gyflym yn Senedd y DU ac sy'n adlewyrchu'r broses negodi masnach gyda'r UE. Diolch i'r pwyllgorau am eu hystyriaethau manwl o'r Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol, ac rwy'n nodi rhywfaint o anesmwythyd yn yr adroddiad ynglŷn â defnyddio cytundebau rhynglywodraethol ac ymrwymiadau ar lawr y Senedd, ac rwy'n rhannu y pryder hwnnw, nid oherwydd bod unrhyw weledigaethau o Gymru'n cael eu hanfanteisio mewn unrhyw ffordd, ond oherwydd bod y dull yn anniben ac yn dibynnu ar ormod o newidynnau. Rwy'n deall y gallem ni glywed—wel, rydym ni fel arfer wedi clywed y term 'cipio pŵer' gan Blaid Cymru, ond ni wnaethon nhw ei ddefnyddio heddiw—ond hoffwn atgoffa'r rhai sydd â themtasiwn i ddefnyddio'r mathau hynny o eiriau, pan oeddem ni o dan awdurdodaeth yr UE, roedd y lle hwn a Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn berffaith hapus i dderbyn unrhyw dermau yr ystyriwyd eu bod yn angenrheidiol gan yr UE heb unrhyw lwybr democrataidd ystyrlon i gwestiynu na dylanwadu. Ac yn awr, yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym yn gweld bargen yn cael ei tharo rhwng yr UE a Tsieina. A fyddem ni, neu ein hetholwyr, yn fodlon ar y datblygiad hwnnw? Heblaw am COVID, mae cofnod hawliau dynol y Blaid Gomiwnyddol Tsieineaidd yn gwbl resynus ac ni ddylid ei gwobrwyo mewn unrhyw ffordd.

Fel y gallech chi fod wedi rhagweld, byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig cysyniad deddfwriaethol hwn heddiw, ond cyn i mi gloi, hoffwn gofnodi fy niolch i'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol blaenorol am ei gwaith caled a'i phragmatiaeth wrth gyrraedd y pwynt hwn. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. A Mr Miles, diolch i chi am gefnogi hyn hefyd heddiw. Diolch yn fawr.

17:55

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw bobl a oedd eisiau ymyrryd ar y ddadl, ac felly a gaf alw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i ymateb i'r ddadl? Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl? Rwy'n credu bod llawer o'r cyfraniadau'n gyfraniadau pwysig i fyfyrdodau'r Siambr hon ar rai o'r heriau sy'n rhan annatod o'r broses gydsynio wrth geisio cysoni yr amserlen seneddol yn San Steffan ag anghenion ein Senedd ni yma yng Nghymru. Gobeithio y gallaf roi sylw i rai o'r pwyntiau allweddol hynny, o leiaf, yn y sylwadau cloi.

O ran pwynt Mick Antoniw am swyddogaeth y Llywodraeth wrth sefyll dros atebolrwydd democrataidd y Senedd, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef mai dyna un o swyddogaethau Llywodraeth, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cydnabod na fu'r Llywodraeth hon erioed yn amharod i beidio ag argymell bod y Senedd yn cydsynio i ddeddfwriaeth nad ydym ni yn credu ei bod er budd y Senedd a phobl Cymru, ac yn wir, yn fwyaf diweddar gwrthod cymryd rhan yn yr hyn a oedd yn ddirmyg, yn nhermau seneddol, yn San Steffan, sef y cydsyniad o ran y cytundeb ar y berthynas yn y dyfodol. Rydym ni wastad wedi bod o'r farn y dylid ceisio caniatâd pan fo'n synhwyrol gwneud hynny, a bod amgylchiadau pan gaiff deddfwriaeth ei chyflwyno yn y Senedd yn ystyriaeth briodol yn y broses honno.

Gwnaeth Mick Antoniw y pwynt hefyd am ehangder rhai o'r pwerau yn y Bil, ac rwy'n derbyn yn llwyr fod yr iaith yn rhai o'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r pwerau i Weinidogion yn San Steffan ac yn y Llywodraethau datganoledig yn ehangach nag y byddem ni yn dymuno ei gweld fel arfer. Byddwn i fy hunan yn fodlon ag iaith llawer tynnach. Wedi dweud hynny, rwy'n credu bod amgylchiadau penodol yr ansicrwydd ynghylch y sail yr ydym ni wedi bod yn gweithredu arni ym maes Brexit, yn y trafodaethau ac ar ddiwedd y cyfnod pontio, rwy'n credu, yn rhoi rhywfaint o gyfiawnhad dros ddull ychydig yn wahanol o ran hyn, ond nid yw hynny'n golygu cilio rhag yr ymrwymiad cyffredinol i sicrhau bod pwerau'n cael eu diffinio'n briodol mewn deddfwriaeth.

O ran y pwyntiau a gododd Mick Antoniw am gymal 2.6, mae'r pwynt a wnaeth yn ymwneud â cheisio gwelliannau i'r Bil er mwyn diogelu Deddf Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth gyfansoddiadol arall. Gwnaeth Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, geisio gwelliannau i'r Bil o ran hynny, er yn Nhŷ'r Arglwyddi yn hytrach nag yn Nhŷ'r Cyffredin, ar sail yr hyn sydd, yn fy marn i, yn farn synhwyrol mai dyna oedd y llwybr gwell at lwyddiant. Yn amlwg, ni lwyddodd y llwybr hwnnw chwaith, yn anffodus. Rwyf, mewn gwirionedd, wedi ysgrifennu at y pwyllgor gydag esboniad o hynny. Rwy'n credu i mi gymryd o sylwadau Mick Antoniw nad yw'r llythyr hwnnw wedi dod i law o bosibl, felly fe wnaf wirio i sicrhau bod hynny'n wir, ond yn sicr rhoddwyd esboniad i'r pwyllgor ynglŷn â'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â chymal 2.6.

Mae Mick Antoniw a David Rees wedi gwneud pwyntiau o bwys mawr, rwy'n credu, ynghylch swyddogaeth ymrwymiadau ar lawr y senedd a dulliau anneddfwriaethol, os hoffech, i roi eglurder a sicrwydd. Soniodd David Rees y caiff rheini eu ceisio pan fu'n bosibl cyflawni gwelliannau; mewn gwirionedd, yr hyn sy'n arferol yw mai dim ond pan fyddwn ni wedi methu, i bob pwrpas, i gael ymrwymiadau ar wyneb y Bil y cânt eu rhoi. Felly, mae cydnabyddiaeth lwyr, rwy'n dychmygu, ymhlith yr holl Lywodraethau datganoledig, eu bod nhw'n ateb amherffaith i'r broblem, a byddai'n well gennym, yn amlwg, weld gwelliannau ar wyneb y Bil. Ond roedd ei gyfraniad yn cydnabod, rwy'n credu, nad yw hynny bob amser yn bosibl.

Fel un pwynt olaf os caf i, Dirprwy Lywydd, ynglŷn â'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol a gyflwynwyd ddoe, yn amlwg, yr oedd hynny'n fuan iawn cyn y ddadl hon. Nid wyf i fy hun yn credu bod y gwelliannau y cyfeirir atynt yn y Bil yn bodloni'r trothwy y mae'r Rheol Sefydlog yn ei gyflwyno, ond gellid dadlau eu bod yn cyrraedd y trothwy is y mae Gweinidogion weithiau'n ei ystyried wrth gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Teimlais, ar y cyfan, o gofio bod y ddadl yn digwydd yng nghyswllt cwestiynau eraill am gydsyniad, ei bod er budd ystyriaeth lawn gan y Senedd i gyflwyno'r gwelliannau pellach hynny, er y gellid dadlau eu bod ychydig yn fwy dadleuol o ran a ydynt yn sbarduno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ond roeddwn i'n meddwl ei bod er budd y Senedd i gael y rheini o'i blaen heddiw wrth ystyried y cynnig hwn, a gobeithio y bydd y Senedd yn cymeradwyo'r cynnig o dan y telerau a osodwyd. Diolch yn fawr. 

18:00

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu? Ie, iawn. Felly, byddwn yn gohirio y bleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol

Eitem 12 ar ein hagenda yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw—Vaughan Gething.

Cynnig NDM7542 Vaughan Gething

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gynnig y cynnig ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol ac i egluro pam rwy'n credu y dylai'r Senedd ei gymeradwyo. Diben y Bil yw dod â meddyginiaethau, meddyginiaethau milfeddygol a dyfeisiau meddygol a oedd yn arfer bod yn destun rheoleiddio gan yr Undeb Ewropeaidd o dan gyfraith y DU yn dilyn Brexit. Mae'n ddeddfwriaeth sy'n galluogi a fydd wedyn yn cael ei gweithredu'n fanwl drwy reoliadau.

Mae pwyslais ein dadl heddiw yn ymwneud â chymal 18 o'r Bil, sy'n galluogi sefydlu un neu fwy o systemau gwybodaeth dyfeisiau meddygol a weithredir gan NHS Digital i gasglu data o bob un o wledydd y DU. Hefyd, cymal 43, sy'n welliant y ceisiais ei sicrhau er mwyn cryfhau'r pwerau cyffredinol i ymgynghori â Llywodraethau datganoledig, yn enwedig ar y system dyfeisiau meddygol, cyn gwneud unrhyw reoliadau heb ystyried a yw'r rheoliadau arfaethedig yn cael eu gweld fel rhai sy'n ymwneud yn bennaf â materion diogelwch dyfeisiau penodol neu'n cefnogi'r system gofal iechyd ehangach.  

Er bod diogelwch a rheoleiddio dyfeisiau meddygol wedi'i gadw yn ôl, mae systemau gwybodaeth diogelwch cleifion a data iechyd yn gyfrifoldebau datganoledig sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Mae system wybodaeth y ddyfais feddygol yn ymateb i argymhelliad adroddiad Cumberlege a byddai'n caniatáu ar gyfer ymchwilio'n brydlon, nodi cleifion, gwaith dilynol a galw dyfeisiau yn ôl, a newidiadau yn y technegau clinigol a ddefnyddir. Byddai hefyd yn caniatáu i gleifion a chlinigwyr nodi'r risgiau sy'n gysylltiedig â dyfeisiau penodol, eu galluogi i ddewis y triniaethau gorau a rhoi eu caniatâd gwybodus cyn ymgymryd â thriniaethau clinigol. 

Manteision cydweithio a gweithio ochr yn ochr â gwledydd eraill y DU i Gymru, yn hytrach na'i wneud ar eu pennau eu hunain, fydd y nifer fwy o gleifion, dyfeisiau a gweithdrefnau dan sylw i alluogi darganfod problemau'n gynharach a gwella'r potensial ar gyfer dysgu. Mae manteision amlwg i gleifion o weithredu a chydweithio ar draws pedair gwlad y DU. Mae hefyd, wrth gwrs, yn adlewyrchu'r realiti nad yw cleifion bob amser yn aros yn un rhan o'r Deyrnas Unedig. 

Mae dull gweithredu ledled y DU hefyd, yn ymarferol, yn debygol o fod yn rhatach ac yn gyflymach i'w weithredu, yn hytrach na datblygu trefniant ar wahân ar gyfer Cymru gyda'n pwerau datganoledig ac yna bod â pherthynas wahanol â'r materion hynny a gadwyd yn ôl. Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi ymrwymo i'r system wybodaeth ac wedi rhoi cydsyniad deddfwriaethol i gynnig y Bil. 

Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r memorandwm atodol. Gofynnodd y pwyllgorau am ragor o wybodaeth am y sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU, ac anfonais fanylion y rheini at y pwyllgorau ac Aelodau'r Senedd yr wythnos diwethaf. Cawsant eu cynnwys yn llythyr yr Arglwydd Bethell ataf ar 14 Rhagfyr y llynedd yn dilyn fy nghyfarfod ag ef ychydig ddyddiau ynghynt. Mae llythyr ac ymrwymiad yr Arglwydd Bethell i waith pellach ar y cyd, gwelliant cymal 43 ac eraill, yn gwneud llawer i ateb fy mhryderon cynharach am y system wybodaeth. Rwy'n cynnig y cynnig ac yn gofyn i'r Aelodau ei gefnogi.

18:05

Diolch. A gaf i alw'n awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cafodd y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol ei gyfeirio at y pwyllgor iechyd ym mis Gorffennaf y llynedd. Cynhaliodd y pwyllgor alwad agored am dystiolaeth ysgrifenedig, ac fe glywon ni yn ôl gan Gymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru, Conffederasiwn GIG Cymru a Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru. Hefyd, fe ysgrifennon ni at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am sawl pryder gafodd eu nodi yn y memorandwm ei hun, ac fe gawson ni sesiwn graffu gyda’r Gweinidog ar 30 Medi.

Ar adeg llunio'n hadroddiad, roedd y Gweinidog wedi gallu sicrhau cytundeb gan Weinidog y Deyrnas Unedig oedd yn arwain ar y Bil i gyflwyno gwelliant a fyddai'n galw am ymgynghori gyda Gweinidogion Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill wrth wneud rheoliadau ar gyfer cyflwyno system wybodaeth am ddyfeisiau meddygol. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog ei fod yn awyddus am rywbeth mwy na hyn. Roedd ei swyddogion wrthi'n gweithio ar set o egwyddorion eang a fyddai'n siapio'r rheoliadau mewn ffordd a fyddai'n dderbyniol i'r gweinyddiaethau datganoledig gyda'i gilydd. Pe bai pawb yn gallu cytuno ar yr egwyddorion hyn a'u hadlewyrchu yn y rheoliadau, dywedodd y Gweinidog y byddai hyn yn datrys ei bryderon i raddau helaeth, fel mae o wedi dweud eto heddiw.

Pan wnaethom ni gyhoeddi ein hadroddiad, roedd y trafodaethau ar yr egwyddorion hyn yn y camau cynnar, gyda llawer o'r manylion i'w datrys o hyd. Gan nad oedd yr holl wybodaeth angenrheidiol gennym ni i ffurfio barn ar rinweddau'r memorandwm, ni wnaethom argymhelliad i'r Senedd ynglŷn ag a ddylem gefnogi'r memorandwm ai peidio. Ers yr adroddiad hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r memorandwm atodol sydd ger ein bron ni heddiw. Yn ogystal â hynny, yr wythnos diwethaf, fel rydym ni wedi clywed, ysgrifennodd y Gweinidog ataf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ac i rannu memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft sy’n cynnwys sicrwydd yn ymwneud â gweithrediad a llywodraethiant y system wybodaeth am ddyfeisiau meddygol. Yn yr amser a oedd ar gael, nid yw'r pwyllgor wedi gallu trafod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol na llythyr y Gweinidog yn ffurfiol. Felly, nid ydym wedi diweddaru ein hadroddiad cynharach ac nid ydym yn gallu cynnig unrhyw farn bellach, heblaw nodi safbwynt Llywodraeth Cymru, fel sydd wedi'i nodi yn y memorandwm atodol, ei bod yn cefnogi'r polisi y tu ôl i'r Bil, a safbwynt y Gweinidog, sydd wedi'i nodi yn ei lythyr ataf i, fod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft yn cynrychioli dull cyfaddawdu cadarnhaol sy’n rhoi sicrwydd digonol iddo allu argymell bod y Senedd yn cymeradwyo’r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol, er nad yw’r trefniadau o ran llywodraethu’r system wybodaeth arfaethedig am ddyfeisiau meddygol yn mynd cyn belled ag y byddai’n dymuno o ran llywodraethu gweinidogol ar y cyd. Diolch yn fawr.

Diolch. A gaf i yn awr alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?

Diolch, unwaith eto, Dirprwy Lywydd. Gosodwyd ein hadroddiad ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol y Bil yn y Senedd ym mis Hydref y llynedd, a gosodwyd ein hadroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil ychydig cyn toriad y Nadolig. Nododd ein hadroddiad cyntaf asesiad Llywodraeth Cymru bod cymal 16, sydd, fel y crybwyllwyd, bellach yn gymal 18 y Bil, yn gofyn am gydsyniad, a rhesymau Llywodraeth Cymru ynghylch pam, yn ei barn hi, y mae gwneud darpariaeth i Gymru yn y Bil yn briodol. Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod y pŵer yng nghymal 18 yn eang. Mae'r Gweinidog wedi cadarnhau hynny. Gellid ei ddefnyddio i wneud rheoliadau ynghylch systemau gwybodaeth at ddibenion diogelwch cleifion, neu ddiben gwella canlyniadau cleifion, y mae'r ddau ohonynt yn faterion datganoledig. Mae'r Aelodau hefyd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno y dylid ceisio cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer yr achos hwn, a chydnabu ein hadroddiad cyntaf bryderon eithriadol Llywodraeth Cymru o ran nifer o feysydd o'r Bil ac, yn benodol, o ran rhai agweddau ar yr hyn sydd bellach yn gymal 18. O'i herwydd, rhagwelwyd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol. 

Yn ein hail adroddiad, ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol, cydnabuom fod gwelliant wedi'i wneud i gymal 41, cymal 43 bellach, y Bil, gan ddisodli'r pŵer cyffredinol blaenorol i ymgynghori, gyda gofyniad penodol y dylid ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig cyn i unrhyw reoliadau gael eu gwneud yn y DU gan Weinidogion o dan yr hyn sydd, unwaith eto, yn gymal 18.

Yn ogystal â hyn, roedd ein hail adroddiad yn croesawu'r ffaith bod y safbwyntiau a nodir gennym yn ein hadroddiad cyntaf yn cael eu cydnabod yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol gan nodi hefyd bod trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau. Nawr, ar y pwynt olaf hwn, rydym yn croesawu'r llythyr diweddar—cyfeiriodd y Gweinidog ato—a gawsom ganddo, sy'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau penodol hynny. Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw at y ffaith, unwaith eto, fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn datblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth fel ffordd o ddatrys anghydfod gyda Llywodraeth y DU. At hynny, yn ei lythyr atom, dywedodd y Gweinidog nad yw'r trefniadau y cytunwyd arnynt wedi mynd mor bell ag y byddai wedi dymuno ond ei fod yn ystyried bod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn gyfaddawd cadarnhaol. Serch hynny, rwy'n credu y dylem groesawu'r ffaith bod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth wedi bod ar gael i'r cyhoedd cyn i'r Senedd ystyried y cynnig cydsyniad hwn. Mae hyn yn bwysig ac yn aml nid yw hyn wedi digwydd yn y gorffennol. Diolch, Dirprwy Lywydd.

18:10

Nid oes gen i sylwadau pellach. Mae'n ddrwg gen i. Does gen i ddim sylwadau pellach i'w wneud at y rhai gafodd eu gwneud gan Gadeirydd y pwyllgor iechyd yr ydw i'n aelod ohono. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

Diolch yn fawr iawn. Nid oes gennyf unrhyw bobl sydd eisiau ymyrryd, felly, rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.

Diolch i'r Aelodau am eu sylwadau, sydd, yn fy marn i, yn adlewyrchu'n deg yr ohebiaeth a'r trafodaethau sydd wedi'u cynnal ar y mater hwn. Fel arfer, mae gennym ystyriaeth ymarferol. Pe gallem gael ein fformat delfrydol, yna byddai gennym drefniant gwahanol o flaen y Senedd, ond mae'n rhaid i ni gydbwyso'r hyn sydd, yn fy marn i, yn fanteision amlwg i'r cyhoedd ac i gleifion o gael gwell system wybodaeth am ddyfeisiau meddygol ledled y DU yr ydym yn cymryd rhan ynddi mor llawn â phosibl. Ac rwy'n credu y dylem symud ymlaen ar y sail sydd gennym yn awr.

Mae'n bosibl, wrth gwrs, y gallem wneud mwy, ond fel y dywedais yn fy ngohebiaeth, yr oedd Gogledd Iwerddon a'r Alban eisoes wedi rhoi eu cydsyniad cyn i'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth gael ei ddatblygu—daeth hynny'n uniongyrchol o'r sgyrsiau a gefais gyda Llywodraeth y DU. Felly, mae cynnydd wedi bod. Rydym ymhellach ymlaen ar hyd y ffordd o weithredu nag yr oeddem ni rai misoedd yn ôl, ac rwy'n credu ei bod yn briodol i'r Senedd roi ei chydsyniad ac i ni nid yn unig gymryd rhan mewn ymgysylltu rhyng-lywodraethol, ond, fel y dywedais mewn gohebiaeth â'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, byddai hyn yn caniatáu adrodd yn rheolaidd i'r Senedd yn ogystal â swyddogaeth y system newydd, ac rwy'n credu bod goruchwyliaeth o'r ochr graffu seneddol yr un mor bwysig yma ag ydyw mewn unrhyw Senedd arall o fewn y Deyrnas Unedig. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod cyn i ni symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Felly, mae'r cyfarfod wedi'i atal.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:13.

18:20

Ailymgynullodd y Senedd am 18:20, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

13. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, a'r eitem gyntaf i bleidleisio arni yw eitem 6, sef Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Eitem 6: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020: O blaid: 45, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 7 yw'r bleidlais nesaf. Eitem 7 yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma o dan eitem 7 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, tri yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae eitem 7 a'r cynnig hwnnw wedi'i gymeradwyo.

Eitem 7: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020: O blaid: 46, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 8 yw'r bleidlais nesaf. Y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 yw'r rhain, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, tri yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae eitem 8 a'r cynnig hwnnw wedi'i gymeradwyo.

Eitem 8: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020: O blaid: 46, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 11 yw'r bleidlais nesaf, a hynny ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, naw yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Eitem 11: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach: O blaid: 43, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

A dyna ni'n gorffen y cyfnod pleidleisio a gorffen ein gwaith am y dydd. Diolch yn fawr i chi i gyd. Pob hwyl.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:23.