OPIN-2022-0263 Rhannu cronfa bensiwn y sector cyhoeddus (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/02/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi mai Llywodraeth Cymru oedd y cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd.

2. Yn nodi bod cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil ac, ers blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau i ddadfuddsoddi.

3. Yn cydnabod, pe bai cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dadfuddsoddi, mai Cymru fyddai'r genedl gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i ddarparwyr yr angen i greu cynhyrchion buddsoddi nad ydynt yn gysylltiedig â thanwydd ffosil.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweinyddiaeth feiddgar a chynnwys buddsoddiadau cronfa bensiwn yn ei tharged sero net ar gyfer y sector cyhoeddus yn 2030.