Pa sicrwydd y gall y Gweinidog Cabinet ei roi y bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cydnabod a deall hanfodion y cynllun Mwy na Geiriau wrth adolygu darpariaeth ysbytai cymunedol Powys, o ystyried anghenion ieithyddol Bro Ddyfi ac Ystradgynlais?
Wrth wraidd Mwy na Geiriau mae ymrwymiad i ddarparu gofal diogel, sy'n canolbwyntio ar y person yn Gymraeg – gan gefnogi'r gwaith o gyflawni Safonau'r Gymraeg a sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn Gymraeg pan fydd eu hangen arnynt.
Mae dyletswydd ar gyrff iechyd i gydymffurfio â safonau llunio polisi sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ystyried effeithiau eu penderfyniadau polisi ar y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys pan fyddant yn llunio polisi newydd, neu adolygu neu ddiwygio polisi presennol.