Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith lleihau nifer y lleoedd hyfforddi Therapi Iaith a Lleferydd a gomisiynwyd yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2026-27 ar ymgeiswyr a'r gweithlu therapi iaith a lleferydd yn y dyfodol?
Mae penderfyniadau comisiynu o ran addysg yn cael eu llywio gan faterion cynllunio'r gweithlu, anghenion gwasanaeth ac ystyriaethau fforddiadwyedd. Er bod nifer y lleoedd hyfforddi Therapi Iaith a Lleferydd a gomisiynwyd ar gyfer 2026-27 wedi lleihau, mae lleoedd yn parhau i gael eu comisiynu i gefnogi anghenion gweithlu GIG Cymru yn y dyfodol.
Rwy'n cydnabod y pryderon y gallai'r penderfyniad hwn fod wedi'u hachosi i ymgeiswyr a'r proffesiwn. Am y rheswm hwnnw, mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd (RCSLT), i ddeall y goblygiadau posibl i'r gweithlu a'r cyflenwad yn y dyfodol.
Rwyf hefyd wedi cytuno i gwrdd â'r RCSLT ar ôl toriad yr haf i drafod y materion hyn ymhellach. Bydd hyn yn gyfle i glywed yn uniongyrchol gan y proffesiwn a thrafod sut y gallwn barhau i gefnogi gweithlu Therapi Iaith a Lleferydd cynaliadwy yng Nghymru.
Byddwn yn parhau i gadw gofynion y gweithlu dan adolygiad i sicrhau bod penderfyniadau comisiynu addysg yn y dyfodol yn cael eu llywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael ac yn cyd-fynd ag anghenion cleifion a gwasanaethau.