WQ99928 (d) Wedi’i gyflwyno ar 29/07/2026

Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i fabwysiadu'r model cyflawni AquaClusters a ddatblygwyd drwy gynllun peilot Nofio Ysgol Caerdydd, gan gynnwys trefniadau cludiant a rennir a darparu pyllau ar sail clwstwr, fel rhan o gyflwyno'r rhaglen Nofio Ysgol yn genedlaethol?

Wedi'i ateb gan Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 05/08/2026

Mae’r gwersi a ddysgwyd oddi wrth gynllun peilot Nofio Ysgol Caerdydd, gan gynnwys dull Aqua Clusters, trefniadau rhannu cludiant a darpariaeth pyllau ar sail clwstwr wedi cael eu defnyddio i lywio’r gwaith o ddatblygu rhaglen newydd Nofio Ysgol.

Bydd dull sy’n seiliedig ar le – wedi’i ddatblygu o fewn y fframwaith cenedlaethol – yn hanfodol ymhob un o’r naw awdurdod lleol arweiniol, gan gynnwys Caerdydd, yng Ngham un o Nofio Cymru, a byddwn yn parhau i fonitro’r cynnydd er mwyn nodi’r arferion gorau ar gyfer cam dau.