WQ99927 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/07/2026

A wnaiff y Llywodraeth gynnal adolygiad o'r cyfleon i gael gwartheg sugno ar dir uchel gan ddefnyddio bridiau traddodiadol, a dysgu gwersi o gynllun tebyg yn yr Alban o ran sut y gellir atal tannau mynydd drwy gael stoc yn pori arnynt?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd | Wedi'i ateb ar 11/08/2026

Rydym yn cydnabod fod da byw sy’n pori yn gallu chwarae rôl bwysig yn y gwaith o reoli llystyfiant a chefnogi tirweddau ucheldir gwydn. Mae hyn yn cynnwys y potensial i bori er mwyn lleihau tanwydd llosgadwy, ac felly lleihau’r risg o danau gwyllt. Byddwn yn trafod hyn, a ffyrdd eraill o leihau’r risg o danau gwyllt yn yr uwchgynhadledd y bydd y Prif Weinidog yn ei chynnal yn ddiweddarach eleni.

Mae’r Grŵp Technegol ar Gynhyrchu Cynaliadwy yn ystyried systemau cynhyrchiant ac effeithiolrwydd da byw o ran cyflawni canlyniadau rheoli tir yn gynaliadwy, sy’n cynnwys edrych ar ba gymorth sy’n cael ei gynnig mewn gwledydd eraill.