WQ99904 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/07/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod barn pobl anabl yng Nghymru yn cael eu cynrychioli'n ystyrlon yn Adolygiad Timms, o ystyried y nifer gyfyngedig o gyfleoedd ymgynghori?

Wedi'i ateb gan Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb | Wedi'i ateb ar 05/08/2026

Mae Llywodraeth Cymru yn manteisio ar ei chysylltiadau hirsefydlog â phobl anabl a’u sefydliadau i sicrhau bod eu barn yn llywio Adolygiad Timms. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu ag aelodau’r Bwrdd Cynghori Allanol a’r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, cynrychiolaeth o Gymru ar grŵp llywio’r adolygiad, ac ymgysylltu rheolaidd â Llywodraeth y DU.