WQ99903 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/07/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth i sicrhau y gall pobl anabl gael mynediad dibynadwy at wasanaethau trên heb gyfyngiadau neu oedi?

Wedi'i ateb gan Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 05/08/2026

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru drwy’r strategaeth Teithio i Bawb i wella pa mor hygyrch a dibynadwy yw gwasanaethau trên ar gyfer pobl anabl. Mae hynny’n cynnwys gwella hygyrchedd gorsafoedd, lleihau’r rhwystrau i deithio, atgyfnerthu hyfforddiant i staff, a chynnwys pobl anabl wrth lunio gwasanaethau drwy’r Bwrdd Teithio Cynhwysol a’r Panel Teithio Pobl Anabl. Rydym wedi comisiynu ymchwil i gefnogi a gwella ymrwymiadau’r strategaeth Teithio i Bawb yn barhaus.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n gwella hygyrchedd ei gwasanaethau trên drwy drenau newydd yn ardal Metro’r De-ddwyrain, gan hwyluso mynediad gwastad awtomatig i drenau, a fydd yn cael gwared ar yr angen i osod ramp wrth fynd ar drên mewn cadair olwyn. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn bwrw ati â rhaglen gwella gorsafoedd ar Linellau Craidd y Cymoedd i sicrhau mynediad gwastad i drenau.

Gellir trefnu gwasanaeth Cymorth i Deithwyr Trafnidiaeth Cymru ymlaen llaw neu drwy siarad â gweithiwr gorsaf, mewn gorsaf sydd â staff, ar y diwrnod. Gall y gwasanaeth hefyd gydlynu â chwmnïau trenau eraill i drefnu cymorth wrth newid i wasanaeth trên a ddarperir gan weithredwr gwahanol hyd yn oed.