WQ99902 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/07/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatrys diffyg ddarpariaeth tacsi hygyrch, gan gynnwys absenoldeb dewisiadau priodol i ddefnyddwyr cadair olwyn trydan?

Wedi'i ateb gan Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 06/08/2026

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod swyddogaeth bwysig tacsis a cherbydau hurio preifat hygyrch o ran galluogi pobl anabl, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn modur, i deithio’n annibynnol.

Ar hyn o bryd awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat, a nhw sy’n gosod gofynion o ran trwyddedu. Er mwyn sicrhau mwy o gysondeb o ran safonau ac arferion ar draws Cymru mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol. Mae’r rhain yn cynnwys adnoddau ynghylch hygyrchedd a hyfforddiant ar gydraddoldeb ar gyfer gyrwyr er mwyn gwella’r gwasanaethau a gynigir i deithwyr ar draws Cymru.

Mae gan deithwyr anghenion amrywiol iawn o ran hygyrchedd ac mae angen addasiadau penodol iawn ar gyfer rhai cadeiriau olwyn modur er mwyn sicrhau y gall teithwyr fynd i mewn ac allan yn ddiogel. Mater i Lywodraeth y DU yw deddfwriaeth ehangach am gydraddoldeb, gan gynnwys rheoliadau ynghylch dylunio tacsis a cherbydau hurio preifat ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. O’r herwydd caiff gofynion allweddol o ran deddfwriaeth eu pennu ar lefel y DU. Mae Comisiwn y Gyfraith wrthi’n adolygu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer trafnidiaeth hygyrch yng Nghymru a Lloegr.   

Mae Llywodraeth Cymru, o fewn ei chyfrifoldebau datganoledig, yn gwella hygyrchedd ar draws y system drafnidiaeth drwy’r strategaeth Teithio i Bawb sy’n anelu at waredu rhwystrau o ran teithio a sefydlu hygyrchedd a chynhwysiant ar draws polisi, gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth. Mae pum egwyddor yn sail i’r strategaeth hon: teimlo’n ddiogel, teimlo croeso, hygyrchedd, cynnwys a sefydlu newid.

Er mwyn cyflawni’r strategaeth gwnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu Ymchwil Defnyddwyr Teithio i Bawb ym mis Ionawr 2026. Mae’r ymchwil yn ystyried profiadau pobl o drafnidiaeth ar draws Cymru, gan gynnwys gwasanaethau tacsis, a bydd yn helpu i bennu rhwystrau o ran teithio hygyrch a chynhwysol ac yn sail i waith datblygu polisi yn y dyfodol. Mae’r gwaith ymchwil yn parhau ac mae disgwyl i adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn Hydref 2026.