A wnaiff y Comisiwn nodi costau, cyllideb a strwythur staffio Tîm Llesiant y Senedd?
Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Mae llesiant gweithwyr yn faes blaenoriaeth i'n staff, a gefnogir drwy waith ehangach y Comisiwn ac a ystyrir yn gyfrifoldeb a rennir ar draws y sefydliad, gan gynnwys gan uwch arweinwyr, rheolwyr a gweithwyr.
Nid oes gan Gomisiwn y Senedd ‘dîm llesiant’ pwrpasol. Mae gweithgaredd penodol y Comisiwn yn y maes hwn yn syrthio oddi fewn i’r tîm Gweithrediadau Adnoddau Dynol, ac mae'n rhan o gylch gorchwyl un swydd (0.8 cyfwerth ag amser llawn). Amcangyfrifir bod cost cyflogaeth flynyddol y swydd 0.8 cyfwerth ag amser llawn yn £56,374.44; felly bydd y gweithgaredd 'llesiant' yn ffurfio cyfran o’r gost gyffredinol honno, ond nid y gost gyfan.
Yn yr un modd, nid oes cyllideb bwrpasol ar gyfer ‘llesiant’. Ar gyfer 2026/27, y cyllidebau perthnasol a all gefnogi gweithgarwch sy'n gysylltiedig â llesiant yw'r un sy'n cwmpasu ystod o iechyd galwedigaethol, rhaglen gymorth i weithwyr a gofynion gweithredol cysylltiedig, sef £65,538, a'r gyllideb ar gyfer offer o £20,000, at ddibenion darparu offer DSE ac addasiadau ffisegol rhesymol.