WQ99865 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/07/2026

Beth yw'r cyfanswm a wariwyd gan y Comisiwn ar ehangu'r Senedd hyd yma?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 28/07/2026

Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:

Mae costau ehangu'r Senedd i 96 o Aelodau wedi'u nodi ar wahân yn y gyllideb ar gyfer y 3 blynedd ariannol diwethaf. Mae’r costau gwirioneddol hyd at ddiwedd 2025-26 fel a ganlyn:

 

2023-24

2024-25

2025-26

Cyfanswm

 

£000

£000

£000

£000

Staff

£392

£517

£1,434

£2,343

Heb fod yn gysylltiedig â staff

£11

£20

£61

£92

Costau cyfalaf / prosiect

£66

£1,468

£4,466

£6,000

Cyfanswm

£469

£2,005

£5,961

£8,435

Recriwtiwyd staff i gyd-fynd â chynnydd clir a dangosadwy yn y galw o ganlyniad i gynnydd o 60% yn nifer yr Aelodau, er enghraifft o ran Cymorth Busnes i Aelodau a TGCh. Mae costau cyfalaf a phrosiect yn ymwneud yn bennaf â chreu 36 o swyddfeydd ychwanegol i Aelodau o fewn Tŷ Hywel ac ailunio’r Siambr.