Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o faint y bydd ardoll arfaethedig Cyngor Caerdydd ar gyfer parcio yn y gweithle yn ei gostio i'r Comisiwn?
Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Mae'r Comisiwn yn ymwybodol o'r cynigion newydd gan Gyngor Dinas Caerdydd, i symud o gynnig tâl tagfeydd i un sy'n canolbwyntio ar godi tâl yn y gweithle. Mae Cyngor y Ddinas yn mynd i lansio ymgynghoriad yn fuan ar y sail hon a byddwn yn ymgysylltu yn y broses honno.
Mae’r Comisiwn wrthi’n datblygu ein cynlluniau ar gyfer rheoli capasiti a chostau meysydd parcio, yn seiliedig ar y lefelau defnydd newydd sy'n dod i'r amlwg yn y Seithfed Senedd. Bydd swyddogion yn ymgysylltu â'r holl randdeiliaid allweddol ynglŷn â hyn yn nhymor yr Hydref.