WQ99780 (d) Wedi’i gyflwyno ar 16/07/2026

Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod bydwragedd sydd newydd gymhwyso sydd wedi'u hyfforddi yng Nghymru yn gallu cael cyflogaeth yn y GIG yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal | Wedi'i ateb ar 30/07/2026

Rwy’n cydnabod pryderon bydwragedd newydd gymhwyso sy’n ceisio sicrhau gwaith yn y GIG yng Nghymru, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth sy’n rhesymol bosibl i’w cefnogi i ymuno â’r gweithlu a chadw eu sgiliau yng Nghymru.

Mae’r heriau presennol sy’n wynebu rhai bydwragedd newydd gymhwyso yn bodoli yn sgil penderfyniadau comisiynu addysg a wnaed yn 2022. Bryd hynny, roedd GIG Cymru yn wynebu nifer sylweddol o swyddi nyrsio gwag a dangosodd gwaith modelu’r gweithlu fod angen parhaus am gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n hyfforddi. Ers hynny, mae lefelau cadw bydwragedd wedi gwella ac mae lefelau swyddi gwag wedi gostwng mewn rhai meysydd, gan arwain at lai o gyfleoedd lefel mynediad nag a ddisgwyliwyd pan ddechreuodd y myfyrwyr hyn eu hyfforddiant. Mae hyn yn adlewyrchu amgylchiadau’r gweithlu sy’n newid dros amser yn hytrach na gostyngiad yn yr angen hirdymor am fydwragedd yng Nghymru.

Mewn ymateb i’r sefyllfa hon, cynhaliais Uwchgynhadledd Graddedigion ar 18 Mehefin, gan ddod â sefydliadau GIG Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, prifysgolion a chyrff proffesiynol ynghyd i gytuno ar gamau gweithredu ar fyrder a chamau gweithredu tymor hir. Yn dilyn yr Uwchgynhadledd, cytunodd y partneriaid ar ddull gweithredu Cymru gyfan ar gyfer manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd gwaith i’r graddedigion yr effeithir arnynt, cryfhau’r trefniadau pontio a’r cymorth sydd ar gael iddynt, cynyddu’r hyblygrwydd o ran adleoli ar draws amryw o leoliadau gofal, a gwella gwaith cynllunio’r gweithlu a’r wybodaeth sy’n sail iddo er mwyn sicrhau bod trefniadau comisiynu hyfforddiant yn y dyfodol yn cyd-fynd yn well ag anghenion y gweithlu.

Mae cadw bydwragedd newydd gymhwyso yng Nghymru yn flaenoriaeth. Bwriad penodol y camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn sgil yr Uwchgynhadledd Graddedigion yw cynyddu’r cyfleoedd i raddedigion sy’n dymuno byw a gweithio yng Nghymru ac i helpu’r rhai nad ydynt, hyd yma, wedi sicrhau swyddi parhaol. Mae gwaith tymor hir hefyd ar y gweill i gryfhau’r wybodaeth ynghylch y gweithlu a gwella’r cysoni rhwng comisiynu addysg a’r galw am y gweithlu i leihau’r risg o heriau tebyg yn codi yn y dyfodol.

Mae penderfyniadau recriwtio, gan gynnwys nifer a math y swyddi nyrsio gwag sydd ar gael, yn faterion i sefydliadau unigol y GIG. Mae’r byrddau iechyd yn parhau i adolygu cynlluniau’r gweithlu a nodi swyddi gwag wrth i anghenion gwasanaethau a chynlluniau ariannol ddatblygu. Caiff bydwragedd newydd gymhwyso eu hannog i wneud cais am gyfleoedd a hysbysebir drwy brosesau recriwtio arferol y GIG. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda chyflogwyr GIG Cymru drwy eu Grŵp Goruchwylio Cyflenwad y Gweithlu i annog y gwaith o nodi a rhyddhau cyfleoedd addas lle bynnag y bo gwneud hynny’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy, gan gynnwys drwy’r camau y cytunwyd arnynt yn dilyn yr Uwchgynhadledd Graddedigion.

Fy mlaenoriaeth yw cefnogi bydwragedd newydd gymhwyso i fyd gwaith lle bynnag y bo modd, cadw eu sgiliau yng Nghymru, a sicrhau bod y gwersi sydd wedi’u dysgu o’r profiad eleni yn cryfhau trefniadau cynllunio’r gweithlu ar gyfer y dyfodol.