Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd peidio â recriwtio bydwragedd newydd gymhwyso yn ei chael ar lefelau staffio mamolaeth diogel ledled GIG Cymru?
Disgwylir i bob bwrdd iechyd yng Nghymru gael ei staffio yn unol â safonau Birthrate Plus, sef model asesu a gydnabyddir yn genedlaethol ac a gymeradwywyd gan NICE ar gyfer lefelau staffio ym maes bydwreigiaeth.
Mewn ymateb i’r heriau presennol sy’n wynebu rhai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd newydd gymhwyso, cynhaliais Uwchgynhadledd Graddedigion ar 18 Mehefin, gan ddod â sefydliadau GIG Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, prifysgolion a chyrff proffesiynol ynghyd i gytuno ar gamau gweithredu ar fyrder a chamau gweithredu tymor hir.
Yn dilyn yr Uwchgynhadledd, cytunodd y partneriaid ar ddull gweithredu Cymru gyfan ar gyfer manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd gwaith i’r graddedigion yr effeithir arnynt, cryfhau’r trefniadau pontio a’r cymorth sydd ar gael iddynt, cynyddu’r hyblygrwydd o ran adleoli, a gwella gwaith cynllunio’r gweithlu a’r wybodaeth sy’n sail iddo er mwyn sicrhau bod trefniadau comisiynu hyfforddiant yn y dyfodol yn cyd-fynd yn well ag anghenion y gweithlu. Bwriad y camau gweithredu hyn yw cefnogi bydwragedd sydd newydd gymhwyso i fyd gwaith ac i helpu i sicrhau bod piblinell gynaliadwy o weithwyr ar gael ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn y blynyddoedd i ddod.