Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i gynyddu nifer y bobl sy'n gweithio i'r Senedd er mwyn delio â'r 36 Aelod ychwanegol o'r Senedd?
Y Llywydd, ar ran Comisiwn y Senedd:
Mae'n ofynnol i Gomisiwn y Senedd ddarparu'r staff a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Senedd i gyflawni ei holl swyddogaethau.
Mae'r Comisiwn wedi ymgymryd â rhaglen waith fanwl i sicrhau bod y Seithfed Senedd yn gallu gweithredu'n effeithiol. Mae’r gofynion adnoddau ar gyfer y ffrwd waith “Diwygio’r Senedd” wedi’u hamlinellu’n llawn yng nghyflwyniadau cyllideb blynyddol diweddar y Comisiwn ac wedi cael eu cymeradwyo gan y Senedd.
Mae'r Seithfed Senedd wedi sefydlu model busnes dros dro a disgwylir penderfyniadau pellach ar hyn yn yr Hydref. Mae'r Comisiwn yn asesu opsiynau manwl mewn perthynas ag unrhyw gymorth staffio ychwanegol a allai fod ei angen bellach o ganlyniad i ffyrdd newydd o weithio’r Senedd. Disgwylir y bydd angen nifer gymharol fach o swyddi ychwanegol ar hyn o bryd, ond nid cynnydd sylweddol cyffredinol yn nifer staff y Comisiwn.