WQ99696 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/07/2026

Ymhellach i WQ98713, a wnaiff y Comisiwn drafod ailgyflwyno GB News ar deledu'r Senedd yn ei gyfarfod nesaf?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 24/07/2026

Y Llywydd, ar ran Comisiwn y Senedd:

Ar hyn o bryd mae'r Comisiwn yn ystyried ei gyfeiriad strategol a'i flaenoriaethau ar gyfer y Seithfed Senedd.

Unwaith y bydd y blaenoriaethau hynny wedi’u cytuno, bydd rhaglen waith ar gyfer y dyfodol yn cael ei chynllunio.

Bydd penderfyniadau ynghylch a fyddai’r defnydd o system ddarlledu fewnol y Senedd yn cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol yn cael eu gwneud yn y cyd-destun hwnnw.