WQ99694 (d) Wedi’i gyflwyno ar 14/07/2026

Beth oedd amcangyfrif costau gweithredu dyfarniad cyflog o 4.25% i athrawon ac arweinwyr ysgolion, fel yr argymhellwyd gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, wedi’i fynegi fel: a) y costau o ddyddiad ei weithredu tan ddiwedd mis Mawrth 2027, a b) costau blynyddol blwyddyn lawn?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 23/07/2026

Gan fod y cwestiwn ynghylch rhyddhau cyngor yn gais am wybodaeth gofnodedig, mae'n cael ei drin gan swyddogion fel cais Rhyddid Gwybodaeth a byddant yn ymateb yn unol â'n rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae'r gost o weithredu dyfarniad cyflog o 4.25% wedi'i fodelu ar £48.38m o 1 Medi tan ddiwedd mis Mawrth 2027 a £82.94m ar gyfer y flwyddyn academaidd lawn.